OPIN-2018-0102 Cydraddoldeb i bobl draws (e) Wedi’i gyflwyno ar 18/07/2018

Mae’r Cynulliad hwn:

1. Yn nodi’r ymgynghoriad presennol gan Lywodraeth y DU ar ddiwygio’r Ddeddf Cydnabod Rhywedd.

2. Yn cydnabod bod y system bresennol i gael tystysgrif cydnabod rhywedd yn gymhleth, drud a diraddiol.

3. Yn gresynu at godi bwganod a thrawsffobia ynghylch diwygio cydnabod rhywedd gan elfennau o’r cyfryngau a’r rhai sydd yn erbyn cydraddoldeb traws.

4. Yn cefnogi diwygio’r Ddeddf Cydnabod Rhywedd, yn unol ag arfer da mewn gwledydd eraill megis Iwerddon a Norwy.

5. Yn cydnabod bod pobl draws yng Nghymru’n profi anghydraddoldeb a gwahaniaethu difrifol, ac yn credu bod gan yr holl bobl draws hawl i urddas, cydraddoldeb a pharch.

Cyflwynwyd gan