OPIN-2018-0100 Cyfreithloni canabis meddygol (e) Wedi’i gyflwyno ar 27/06/2018

Mae'r Cynulliad hwn:

1. Yn galw am gyfreithloni canabis meddyginiaethol ar bresgripsiwn.

2. Yn nodi'r dystiolaeth glinigol sy'n dangos y gall meddyginiaethau sy'n seiliedig ar ganabis leddfu symptomau o gyflyrau sy'n cynnwys epilepsi, sglerosis ymledol, dystonia a chanser.

3. Yn nodi'r gwaith ymchwil sy'n nodi potensial meddyginiaethau sy'n seiliedig ar ganabis ar gyfer lleddfu poen.

4. Yn pwysleisio y pleidleisiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru ar 17 Ionawr i gydnabod tystiolaeth glinigol o effeithiolrwydd canabis at ddibenion meddyginiaethol.

5. Yn mynegi pryder, o dan ddeddfwriaeth bresennol, fod llawer o bobl sy'n byw gydag amrywiaeth o gyflyrau yng Nghymru yn defnyddio canabis a gafwyd yng anghyfreithlon at ddibenion meddyginiaethol, gan wynebu'r risg o gael eu herlyn a dod i gysylltiad â chyffuriau eraill.