OPIN-2018-0087 Symud llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau i Jerwsalem
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 15/05/2018
Mae'r Cynulliad hwn:
1. Yn gwrthwynebu penderfyniad gweinyddiaeth Trump i adleoli llysgenhadaeth yr Unol Daleithiau yn Jerwsalem, gan fynd yn groes i nifer o benderfyniadau'r Cenhedloedd Unedig.
2. Yn condemnio gweithredoedd llywodraeth Israel ac IDF sy'n defnyddio trais yn erbyn Palestiniaid sy'n protestio yn erbyn symud y llysgenhadaeth.
3. Yn nodi bod polisïau gweinyddiaeth Trump a llywodraeth Israel mewn perthynas â Jerwsalem yn mynd yn groes i gytundebau rhyngwladol a allai achosi ansefydlogrwydd sylweddol i ranbarth ehangach y dwyrain canol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynegi ei hundod gyda'r Cenhedloedd Unedig ac eraill i ganfod ateb dwy-wladwriaeth parhaol ar gyfer Israel a Phalesteina.