OPIN-2018-0072 Rhoi terfyn ar dlodi mislifoedd yng Nghymru (e) Wedi’i gyflwyno ar 06/02/2018

Mae'r Cynulliad hwn:
1. Yn nodi nad yw 10 y cant o fenywod ifanc yn y DU yn gallu fforddio cynnyrch mislif a bod yn rhaid i 12 y cant o ferched ddyfeisio deunyddiau amgen i ymdrin â'u mislifoedd o ganlyniad i hynny.
2. Yn croesawu'r camau y mae sefydliadau yng Nghymru wedi'u cymryd i fynd i'r afael â mater hwn, gan gynnwys Periods in Poverty, Wings Cymru, The Red Box Project, Ymddiriedolaeth Trussell ac eraill.
3. Yn croesawu'r gwaith gan rai awdurdodau lleol i sicrhau bod cynhyrchion mislifoedd ar gael mewn ysgolion a allai fel arall effeithio ar bresenoldeb ysgol merched.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ganfod ffyrdd o sicrhau bod cynhyrchion mislifoedd ar gael i fanciau bwyd Cymru a sefydliadau addysgol i roi terfyn ar dlodi mislifoedd.