OPIN-2018-0070 Diwrnod Amser i Siarad 2018
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 24/01/2018
Mae'r Cynulliad hwn:
1. Yn nodi mai dydd Iau 1 Chwefror yw Diwrnod Amser i Siarad.
2. Yn cydnabod mai bwriad y diwrnod yw i leihau stigma drwy ein hannog i siarad am ein hiechyd meddwl.
3. Yn croesawu'r ffaith bod Amser i Newid Cymru yn cydweithio ar draws y DU eleni i hyrwyddo'r diwrnod.
4. Yn cydnabod bod un o bob pedwar o bobl yn profi problem iechyd meddwl a bod hon yn fenter bwysig i helpu i frwydro yn erbyn teimladau o unigrwydd a stigma.
5. Yn cefnogi diwrnod Amser i Siarad i helpu i roi terfyn ar y gwahaniaethu a wynebir gan bobl â phroblemau iechyd meddwl.