OPIN-2017-0066 Llygredd aer (e) Wedi’i gyflwyno ar 28/11/2017

Mae'r Cynulliad hwn:

1. Yn nodi'r effaith andwyol y caiff llygredd aer ar iechyd y cyhoedd.

2. Yn croesawu'r mesurau arloesol y mae Llywodraeth y DU yn eu rhoi ar waith i fynd i'r afael â lefelau llygredd aer, fel cael gwared ar bob injan diesel a phetrol yn raddol erbyn 2040 a chyflwyno parthau aer glân.

3. Yn annog Llywodraeth Cymru i weithio'n agosach gydag awdurdodau lleol sydd wedi mynd yn groes i lefelau llygredd aer 'PM2.5'.

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i dreialu parth aer glân yng Nghaerdydd sydd wedi ei enwi fel un o'r llefydd gwaethaf yn y DU ar gyfer llygredd aer.