OPIN-2017-0061 Uwch garchar arfaethedig ym Mhort Talbot (diwygiedig)
(e)
Mae hwn yn welliant ar gyfer OPIN-2017-0059
Wedi’i gyflwyno ar 18/10/2017
Mae'r Cynulliad hwn:
1. Yn gresynu at gynnig Llywodraeth y DU i adeiladu carchar mawr newydd ym Mhort Talbot.
2. Yn siomedig bod Llywodraeth Cymru wedi gwrthod diystyru y gallai'r Weinyddiaeth Gyfiawnder ddefnyddio tir Llywodraeth Cymru ym Mhort Talbot ar gyfer carchar.
3. Yn nodi bod y safle arfaethedig mewn ardal fenter ac ardal sydd mewn perygl o lifogydd.
4. Yn nodi'r diffyg tystiolaeth bod defnyddio uwch garchardai yn lleihau cyfraddau aildroseddu ac yn galw am atal eu datblygu yng Nghymru.
5. Yn galw am ddatganoli cyfiawnder troseddol i'r Cynulliad Cenedlaethol fel y gall penderfyniadau ynghylch carchardai newydd adlewyrchu anghenion Cymru.