OPIN-2017-0033 Wythnos Newyddion Lleol o Bwys
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 16/03/2017
Mae'r Cynulliad hwn:
Yn galw am:
a. Trin papurau lleol fel asedau cymunedol;
b. Rheolau newydd i rwystro swyddfeydd cyfryngau lleol rhag cau dros nos - dylid eu cynnig i berchnogion newydd posibl, gan gynnwys cwmnïau cydweithredol lleol, gydag amser i gyflwyno cais am berchnogaeth cyfryngau arall cyn eu cau;
c. Gweithredu ar ran y llywodraeth a chyflogwyr i atal y toriadau didrugaredd i swyddi;
d. Cynyddu buddsoddiad, o amrywiaeth o ffynonellau, ar gyfer newyddiaduraeth leol o safon.