OPIN-2017-0031 Condemnio gwaharddiad Llywydd yr Unol Daleithiau ar deithio gan Fwslemiaid i’r Unol Daleithiau (e) Wedi’i gyflwyno ar 31/01/2017

Mae'r Cynulliad hwn:

Yn condemnio'r gwaharddiad teithio 90 diwrnod gan Arlywydd yr Unol Daleithiau ar wladolion llawer o wledydd lle mae'r rhan fwyaf o bobl yn Fwslemiaid a gwaharddiad parhaol ar ffoaduriaid o Syria.

Yn pryderu am effaith y gwaharddiad hwn ar les a bywoliaeth dinasyddion cenedligrwydd deuol o Gymru.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i godi llais yn erbyn y gwaharddiad anghyfansoddiadol, anfoesol, gwahaniaethol ac aneffeithiol ar symudiad mwslemiaid o wledydd penodol i'r Unol Daleithiau.

Yn gwrthod y gwahaniaethu hwn ac yn pwysleisio bod y Cynulliad Cenedlaethol yn gwerthfawrogi holl ddinasyddion Cymru, waeth beth yw eu crefydd neu gefndir ac y byddwn oll yn cydsefyll i ddiogelu ac amddiffyn ein gilydd.