OPIN-2017-0030 Diwrnod Cofio'r Holocost 2017: Sut all bywyd barhau?
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 18/01/2017
Mae'r Cynulliad hwn:
a) yn cymeradwyo'r digwyddiadau ledled Cymru i nodi Diwrnod Cofio'r Holocost 2017 (27/01/17);
b) yn croesawu'r cyfle i bobl ddysgu gwersi o'r Holocost, erledigaeth y Natsïaid a'r hil-laddiad a ddilynodd hynny, er mwyn creu dyfodol gwell a mwy diogel;
c) yn cefnogi gwaith Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost, sy'n ceisio creu dyfodol heb beryglon casineb, rhaniadau ac erledigaeth; a
d) yn cefnogi'r thema eleni, "Sut all bywyd barhau?" - Helpu goroeswyr a chymunedau i ailadeiladu.