OPIN-2016-0028 Llefarydd a Llywydd Senedd Catalan (e) Wedi’i gyflwyno ar 12/12/2016

Mae'r Cynulliad hwn:

a) yn pryderu am benderfyniad Uchel Lys Catalonia i barhau a'r bwriad i erlyn Carme Forcadell, Llefarydd a Llywydd Senedd Catalan, am dorri cyfraith Sbaen, yn ôl yr honiadau, drwy ganiatáu dadl seneddol ar addasu cyfansoddiad Sbaen, yn benodol ar gynnal refferendwm ar annibynniaeth Sbaen;

b) yn galw ar Lywodraeth Cymru i godi'r mater hwn gyda Llywodraeth y DU a cheisio ei ddatrys; ac

c) yn annog Llywodraeth Sbaen i ailystyried yr erlyniad a chwilio am ddatrys ei hanghydfod â chynrychiolwyr pobl Catalonia drwy gyd-drafod.