OPIN-2016-0025 Trosedd o anfon gohebiaeth rywiol at blentyn drwy’r Ddeddf Troseddau Difrifol (e) Wedi’i gyflwyno ar 23/11/2016

Mae'r Cynulliad hwn:
• Yn nodi, yn dilyn deiseb gan NSPCC, wedi'i llofnodi gan dros 50,000 o bobl, bod Llywodraeth y DU wedi cyflwyno trosedd newydd o anfon gohebiaeth at blentyn drwy'r Ddeddf Troseddau Difrifol ym mis Mawrth 2015;
• Yn mynegi pryder nad yw Llywodraeth y DU wedi pennu dyddiad eto ar gyfer gweithredu'r gyfraith hon ac yn credu bod plant yn wynebu risg bob dydd tra rydym yn dal i aros;
• Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU i gychwyn y drosedd cyn gynted â phosibl a sicrhau bod yr offeryn hanfodol hwn ar gael i'n heddlu i ddiogelu plant rhag cael eu cam-drin.

Cyflwynwyd gan