OPIN-2016-0007 Cydsefyll â dioddefwyr casineb homoffobig yn Orlando
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 14/06/2016
Mae'r Cynulliad hwn:
Yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd â phobl lesbiaidd, hoyw, deurywiol a thrawsrywiol ledled Cymru wrth inni gydsefyll â dioddefwyr casineb homoffobig yn Orlando.
Yn credu na ddylid rhoi lle i homoffobia, deuffobia a thrawsffobia yn ein cymdeithas, a bod gan bob un ohonom gyfrifoldeb i herio casineb o'r fath.