OPIN-2016-0006 Gwasanaethau Canser yng Nghymru
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 09/06/2016
Mae'r Cynulliad hwn:
Yn cymeradwyo adroddiad ymchwil Cancer Research UK Gwasanaethau Canser yng Nghymru: Ble Nesaf ac yn diolch i bawb a gynorthwyodd i gyfrannu ato;
Yn cydnabod yr heriau anferth ar draws GIG Cymru ac ymrwymiad ac ymroddiad enfawr yr holl staff sy'n rhan ohono; ac
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar bob un o'r 10 o argymhellion yn yr adroddiad i sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i gleifion canser ym mhob rhan o Gymru.