OPIN-2016-0005 Dileu Swydd Cynrychiolydd y Daily Post
(e)
Wedi’i gyflwyno ar 08/06/2016
Mae'r Cynulliad hwn:
Yn cydnabod pa mor bwysig ydyw i bobl Cymru gael eu hysbysu'n iawn am benderfyniadau a gaiff eu gwneud gan y Cynulliad a Llywodraeth Cymru;
Yn gresynu at benderfyniad y Daily Post i ddileu swydd eu cynrychiolydd yn y Senedd;
Yn rhannu pryderon Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr bod y cam hwn yn cadarnhau y gall Grŵp Trinity Mirror fod yn symud oddi wrth newyddiadura sy'n herio'r pwerus yn lleol a dwyn cyrff cyhoeddus i gyfrif; ac
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud sylwadau cadarn i olygydd y Daily Post a phrif weithredwr Trinity Mirror gyda'r bwriad o wyrdroi'r penderfyniad.