OPIN-2016-0001 Nodi Wythnos Gofal Arthritis, 14-21 Mai 2016 (e) Wedi’i gyflwyno ar 17/05/2016

Mae'r Cynulliad hwn:

Yn croesawu Wythnos Gofal Arthritis a gynhelir rhwng 14 a 21 Mai 2016. Y thema eleni yw #arthritismatters;

Yn cydnabod y gall arthritis effeithio ar bobl o bob oedran, gan gynnwys plant, ac yr amcangyfrifir bod 480,000 o bobl yn byw gydag arthritis yng Nghymru;

Yn cydnabod bod arthritis a chyflyrau cyhyrysgerbydol ymhlith y prif achosion o namau corfforol ac absenoldeb gwaith yng Nghymru ac eto yn aml nid yw pobl yn sylweddoli beth yw eu heffaith ac yn eu hanwybyddu; ac

Yn edrych ymlaen at ymgysylltu â'r elusen Gofal Arthritis i wella dealltwriaeth, cydnabyddiaeth, cefnogaeth a gwasanaethau i bobl sy'n byw gydag arthritis yng Nghymru.