Atebion i gwestiynau nas cyrhaeddwyd yn y Cyfarfod Llawn

10/11/2026

Cyhoeddir atebion yn yr iaith y'u darparwyd, gyda chyfieithiad Saesneg o atebion yn y Gymraeg.

Cwestiynau ar gyfer - Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad

OQ64854 Wedi’i gyflwyno ar 03/11/2026

Beth yw safbwynt presennol Llywodraeth Cymru ar y setliad datganoli?

The Welsh Government believes that the devolution settlement is in need of radical reform. We are seeking powers over policing and justice, the Crown Estate, and rail infrastructure as immediate priorities, to deliver better outcomes for people and communities.  

Wedi'i ateb gan Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad | Wedi'i ateb ar - 11/11/2026
 
OQ64864 Wedi’i gyflwyno ar 03/11/2026

A wnaiff y Gweinidog Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiad Arwain?

Heddiw (10 Tachwedd), lansiais Arwain, yr ysgol lywodraethu genedlaethol i Gymru. Gan adeiladu ar Academi Wales, bydd Arwain yn cryfhau datblygiad arweinyddiaeth ac yn helpu arweinwyr presennol ac arweinwyr y dyfodol i weithio ar draws gwasanaethau cyhoeddus i wella canlyniadau i bobl yng Nghymru.

Wedi'i ateb gan Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad | Wedi'i ateb ar - 11/11/2026
 
OQ64866 Wedi’i gyflwyno ar 03/11/2026

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod cynllun British Growth Partnership newydd Llywodraeth y DU yn parchu pwerau datganoledig y Senedd a Llywodraeth Cymru?

Yn y Cyngor Economaidd Cenedlaethol, cynigiodd y Prif Weinidog bartneriaeth rhwng Cymru a’r DU ar gyfer twf. Trafododd hyn â Phrif Weinidog y DU, a bydd swyddogion yn datblygu opsiynau gyda ‘No. 10 North’. Bydd parch at ddatganoli yn ganolog: rhaid i gyllid a phenderfyniadau datganoledig aros gyda Llywodraeth Cymru.

Wedi'i ateb gan Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad | Wedi'i ateb ar - 11/11/2026
 
OQ64870 Wedi’i gyflwyno ar 03/11/2026

Pa drafodaethau mae'r Gweinidog Cabinet wedi'u cael gyda theuluoedd mewn profedigaeth yn sgil Covid am yr adolygiad Covid?

I met with representatives of bereaved families in August to discuss their proposed approach to a review. We also met again in September and have continued to engage through correspondence.

Wedi'i ateb gan Gweinidog Cabinet dros Effeithiolrwydd Llywodraeth a’r Cyfansoddiad | Wedi'i ateb ar - 11/11/2026