Atebion i gwestiynau nas cyrhaeddwyd yn y Cyfarfod Llawn
21/10/2026Cyhoeddir atebion yn yr iaith y'u darparwyd, gyda chyfieithiad Saesneg o atebion yn y Gymraeg.
Cwestiynau ar gyfer - Comisiwn y Senedd
Pa fesurau diogelu sydd gan y Comisiwn ar waith i sicrhau bod deunyddiau addysgol, arddangosfeydd a chyhoeddiadau sydd ar gael i ymwelwyr, yn enwedig plant, yn adlewyrchu amrywiaeth o safbwyntiau gwleidyddol yn hytrach na hyrwyddo unrhyw ideoleg benodol?
Rhaid i ddeunyddiau a chyhoeddiadau addysgol ar gyfer ystâd y Senedd fod yn briodol i’r oedran, yn wleidyddol niwtral ac yn berthnasol i'r Senedd. Maen nhw’n amrywio o egluro hanes datganoli i helpu'r cyhoedd i ddeall beth mae'r Senedd yn ei wneud, pwy yw eu Haelodau a'u hetholaethau. Mae Comisiwn y Senedd wedi ymrwymo'n gadarn i hyrwyddo amrywiaeth a chynhwysiant, gan sicrhau bod y Senedd yn groesawgar, yn hygyrch ac yn gynrychiadol o bobl Cymru.
Mae arddangosfeydd yn y Senedd yn adlewyrchu dadleuon cyfredol, ac yn gweithio fel man cychwyn ar gyfer sgyrsiau am fywyd yng Nghymru, democratiaeth Cymru a gwaith y Senedd. Rhaid iddyn nhw fodloni meini prawf penodol. Gall hyn olygu adlewyrchu cyfrifoldebau'r Senedd, arddangos treftadaeth ddiwylliannol Cymru neu atgyfnerthu statws y Senedd fel atyniad i ymwelwyr. Rhaid i bob arddangosfa gael ei noddi gan Aelod o'r Senedd neu gael caniatâd gan Gomisiwn y Senedd.
Mae arwyddion digidol yn y Senedd, a staff y Senedd, yn atgoffa ymwelwyr bod rhaid i blant bob amser gael eu goruchwylio.
Beth mae'r Comisiwn yn ei wneud i wella cyfleoedd dysgu i'r cyhoedd ar ystad y Senedd?
Drwy’r adeilad, mae gosodiadau, sy’n cynnwys mapiau o’r etholaethau, amserlen datganoli ac amrywiaeth o lyfrynnau ar waith y Senedd ar gael i'r cyhoedd. Mae llyfrynnau hefyd ar gael i gynulleidfaoedd iau gymryd rhan mewn tri llwybr thema.
Gwnaeth arddangosfa ddiweddar Eich Senedd, Eich Pleidlais egluro’r newidiadau i’r Senedd cyn yr etholiad, a gwnaeth arddangosfa Eich Llais amlygu’r ffordd mae unigolion a chymunedau wedi dylanwadu ar newidiadau drwy’r Senedd yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, cymerodd dros 5,500 o bobl ran yn y teithiau dyddiol o amgylch y Senedd, sy’n cael eu teilwra i wahanol ddiddordebau a lefelau gwybodaeth i roi cyd-destun i rôl a chyfrifoldebau'r Senedd a'i Haelodau. Mae adborth yn dangos bod 98 y cant wedi nodi cynnydd yn eu dealltwriaeth ar ôl cymryd rhan mewn taith o’r fath.
Mae ein tîm addysg hefyd yn cynnal sesiynau addysg yn rheolaidd gydag ysgolion o bob cwr o Gymru ar ystâd y Senedd.
Pa gynnydd y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o ran defnyddio deallusrwydd artiffisial ac offer digidol eraill i wella effeithlonrwydd y gwasanaethau a ddarperir i'r Aelodau ac i leihau costau gweinyddol?
Mae'r Comisiwn yn cynnal profion ar ddeallusrwydd artiffisial cynhyrchiol drwy Microsoft Copilot, gydag Aelodau'n cael trwyddedau fel rhan o'u dyraniad TGCh. Mae'r Comisiwn wedi cynnig canllawiau, hyfforddiant a chymorth i Aelodau a'u staff ar sut i gael y gorau o AI.
Rydym yn datblygu'r achos busnes ar gyfer defnydd ehangach, tymor hwy ac yn archwilio manteision AI asiantaidd. Ochr yn ochr â hyn, mae awtomeiddio, trawsgrifio â chymorth AI, darlledu a gwasanaethau seneddol digidol yn cael eu datblygu'n barhaus i ysgafnhau’r baich gweinyddol a gwella gwasanaethau i Aelodau.
Pa waith allgymorth y mae'r Comisiwn yn ei wneud i ymgysylltu â chymunedau o bob oed yn Sir Fynwy Torfaen?
Mae'n dda gweld ambell gwestiwn am ymgysylltu cymunedol heddiw, gan fod hyn yn rhywbeth rwy'n awyddus i ni barhau i'w gryfhau yn ystod y Senedd hon. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae’r tîm addysg ac ymgysylltu â phobl ifanc wedi cynnal 19 o sesiynau allgymorth mewn ysgolion, colegau a grwpiau ieuenctid, gan weithio gyda mwy na 1,900 o bobl ifanc o etholaeth yr Aelod. Ar ben hynny, cafodd 13 sesiwn fewnol eu cynnal yn y Senedd gyda grwpiau o'r ardal, sydd wedi gweld 364 o bobl ifanc yn cymryd rhan mewn sesiynau addysg ym Mae Caerdydd. Mae gan y tîm sesiynau wedi'u trefnu gydag Ysgol Panteg a fforwm ieuenctid Torfaen dros yr wythnosau nesaf.
Mae'r tîm ymgysylltu â dinasyddion hefyd wedi ymgysylltu â phobl yn etholaeth yr Aelod mewn perthynas â chymryd rhan mewn grwpiau ffocws i lywio gwaith pwyllgorau'r Senedd ar eu hymchwiliadau i Cymraeg i bawb? a'r Bil Diogelwch Adeiladau.
Cwestiynau ar gyfer - Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni
Pa amcangyfrif y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i wneud o'r effaith y bydd gwahardd defnyddio peilonau dellt dur mawr ar gyfer llinellau 11-132 kV newydd yn ei chael ar filiau ynni cartrefi?
The Welsh Government is committed to delivering our manifesto pledge and, in the coming weeks, I will launch a consultation on a new policy relating to 11-132 kV lines. The evidence gathered through this consultation will inform an assessment of the potential impacts of the proposed policy.
Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru o ran trafnidiaeth ar gyfer Casnewydd ac Islwyn?
Our priorities are to improve everyday journeys, tackle congestion and connect people to jobs and services. In Casnewydd Islwyn, that means acting on the M4, delivering the regional transport plan, investing through the regional transport fund, and improving rail, bus, walking and cycling links.
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella canlyniadau economaidd yng Nghasnewydd Islwyn?
The south-east Wales investment zone and the south-east Wales AI growth zone are prime examples of how we continue to work with key partners, including Cardiff capital region and local authorities, on the infrastructure and skills needed to deliver economic growth to Casnewydd Islwyn and across the whole region.
Pa gynlluniau strategol sydd gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu a buddsoddi mewn galluoedd digidol?
Bydd strategaeth ddigidol Cymru yn nodi ein huchelgais i dyfu galluoedd digidol ac AI i gefnogi twf economaidd yn ogystal â sbarduno’r gwaith o drawsnewid gwasanaethau cyhoeddus. Rydyn ni hefyd wedi ymrwymo i ddatblygu strategaeth sgiliau i Gymru i sicrhau bod y ddarpariaeth sgiliau a chymwysterau yn cyd-fynd â'r anghenion economaidd presennol ac yn y dyfodol.
Cwestiynau ar gyfer - Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg
Pa asesiad y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i wneud o effaith y gostyngiad yn nifer y disgyblion mewn ysgolion ym Merthyr Tudful?
We recognise the impact of demographic changes across our system. Falling pupil numbers are a key consideration in school planning across Wales. The assessment of their local impact in Merthyr Tydfil is primarily a matter for the local authority, which is responsible for reviewing school provision and ensuring it remains sustainable and meets community needs.
Pa gyllid cyfalaf y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddyrannu ar gyfer yr ad-drefnu arfaethedig o ysgolion Catholig yn Sir y Fflint?
No Welsh Government funding has been allocated to the proposed reorganisation of Catholic schools in Flintshire. The proposal is subject to an ongoing statutory consultation, and any award of Welsh Government funding would be subject to the outcome of this process and approval of any three-stage business case.
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella canlyniadau addysgol i ddysgwyr anabl?
We are committed to supporting disabled learners to participate fully in school life and achieve their full potential. Schools should provide appropriate adjustments, support, equipment and teaching approaches to meet the needs of disabled learners, and have access to learning environments that allow them to achieve the best outcomes possible.
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi ysgolion gwledig?
We know how important schools are to our rural communities. That is why our school organisation code includes special provisions for rural schools. Proposals to close them must follow a more detailed process.