Atebion i gwestiynau nas cyrhaeddwyd yn y Cyfarfod Llawn

01/07/2026

Cyhoeddir atebion yn yr iaith y'u darparwyd, gyda chyfieithiad Saesneg o atebion yn y Gymraeg.

Cwestiynau ar gyfer - Comisiwn y Senedd

OQ64244 Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2026

Pa asesiad y mae'r Comisiwn wedi'i wneud o gost ac effeithiolrwydd ei gyhoeddiadau dwyieithog ar gyfer gwybodaeth gyhoeddus ac ymgysylltu â'r cyhoedd?

Mae ein cyhoeddiadau gwybodaeth i’r cyhoedd ac ymgysylltu â’r cyhoedd dwyieithog yn rhan o ddull aml-gyfrwng ehangach o gyfathrebu â phob rhan o Gymru.

Mae cyhoeddiadau yn arbennig o ddefnyddiol pan all cynulleidfaoedd elwa o gael deunydd cryno, hygyrch, dwyieithog y gellir ei ddefnyddio mewn digwyddiadau, drwy bartneriaid, neu fel sbardun i ymgysylltu rhagor ar-lein.

Cyn etholiad y Senedd yn ddiweddar bu swyddogion yn gweithio gyda sefydliadau eraill megis y Comisiwn Etholiadol, a llywodraeth leol, i gynyddu ymwybyddiaeth o newidiadau i'r Senedd yn ogystal â'r bleidlais ei hun. Mae'r adolygiad o'r ymgyrch honno'n parhau.

Rydym yn asesu cost ac effeithiolrwydd ochr yn ochr ag anghenion y gynulleidfa, gan gydnabod y gall cyhoeddiadau print greu cyfleoedd hygyrch i bobl gael gweld gwybodaeth am y Senedd.

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar - 08/07/2026
 
OQ64278 Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2026

Sut y mae'r Comisiwn yn cefnogi Aelodau a staff sy'n dal i fwydo ar y fron i ddychwelyd i'r gwaith?

Mae Comisiwn y Senedd wedi ymrwymo i sicrhau y gall Aelodau, eu staff a staff y Comisiwn ddychwelyd i'r gwaith mewn ffordd sy'n gefnogol, yn gynhwysol ac yn ystyriol o deuluoedd. Mae croeso i fwydo ar y fron yn unrhyw le ar ystad y Senedd, ac mae hyn yn cael ei hyrwyddo'n weithredol drwy arwyddion 'croeso i fwydo ar y fron' clir, ac mae hyn yn helpu i sicrhau bod Aelodau, staff ac ymwelwyr yn teimlo'n hyderus ac yn cael eu cefnogi.

Ar gyfer staff y Comisiwn, mae rheolwyr a’r adran Adnoddau Dynol yn cefnogi gwaith cynllunio dychwelyd i'r gwaith ar ôl absenoldeb mamolaeth, gan gynnwys diwrnodau Cadw mewn Cysylltiad (KIT), trafodaethau unigol a, phan fo'n briodol, asesiad risg rhiant newydd a darpar riant sy'n cwmpasu trefniadau ymarferol, er enghraifft ystafelloedd tawel, cyfleusterau hylendid a man storio diogel mewn oergell.

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar - 08/07/2026
 
OQ64314 Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2026

Pa gamau y bydd y Comisiwn yn eu cymryd i sicrhau bod tarfu ar ddigwyddiadau'r Senedd yn cael ei leihau yng ngoleuni'r tywydd eithafol diweddar?

Iechyd, diogelwch a llesiant pawb sy'n bresennol ar ystad y Senedd yw ein blaenoriaeth. Mewn ymateb i'r tywydd eithafol diweddar, cymerodd y Comisiwn gamau ymarferol i leihau'r aflonyddwch i ddigwyddiadau, gan gynnwys adolygu asesiadau risg o ran digwyddiadau, darparu canllawiau clir i staff a’r rhai sy’n dod i ddigwyddiadau, sicrhau bod dŵr yfed a mannau oerach yn hawdd i’w canfod, ac ystyried addasiadau i batrymau gwaith neu drefniadau digwyddiadau pan fo angen.

Rydym hefyd yn gweithio'n agos ledled tîm yr Ystad, y Tîm Diogelwch, y Tîm Iechyd a Diogelwch a’r tîm Digwyddiadau i fonitro amodau, i asesu risgiau ac i ymateb mewn modd priodol. Byddwn yn parhau i adolygu'r trefniadau fel y gall busnes y Senedd a gwaith ymgysylltu â'r cyhoedd barhau'n ddiogel pryd bynnag y bo modd.

Wedi'i ateb gan Comisiwn y Senedd | Wedi'i ateb ar - 08/07/2026

Cwestiynau ar gyfer - Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni

OQ64274 Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2026

A wnaiff y Gweinidog Cabinet ddatganiad ar y materion penodol sy'n gysylltiedig â'r tywydd poeth a arweiniodd at ganslo gwasanaethau trên Trafnidiaeth Cymru yn ystod yr wythnos a ddechreuodd ar 22 Mehefin 2026?

Transport for Wales put in place proactive measures to maintain the safe and reliable operation of their services during the extreme weather event. This minimised disruption to passengers as far as reasonably possible. With changes to our climate we need to prepare for further disruption to our transport infrastructure.

Wedi'i ateb gan Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth | Wedi'i ateb ar - 02/07/2026
 
OQ64293 Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2026

Pa asesiad mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i wneud o fanteision economaidd a chymdeithasol grwpiau ynni cymunedol yng Ngwynedd Maldwyn?

Mae nifer o grwpiau lleol o fewn Gwynedd Maldwyn sy’n dangos yr hyn y gall ynni cymunedol ei gyflawni. Mae’r manteision economaidd a chymdeithasol yn glir: mae grwpiau ynni cymunedol yn cadw buddion yn lleol, yn lleihau costau ynni, yn meithrin sgiliau ac yn atgyfnerthu gwydnwch. Bydd cwmni ynni cyhoeddus Cymru yn creu mwy o’r cyfleoedd hyn ledled Cymru.

Wedi'i ateb gan Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni | Wedi'i ateb ar - 02/07/2026
 
OQ64294 Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2026

Pa asesiad y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i wneud o'r angen i gefnogi busnesau bach a micro-fusnesau?

Small businesses and microbusinesses drive Wales’s economy, driving local jobs, innovation and community prosperity. In 2025 they accounted for 27.7 per cent of business turnover, 48.5 per cent of employment and 98.4 per cent of enterprises, underlining the importance of these firms to Wales’s overall economic success.

Wedi'i ateb gan Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni | Wedi'i ateb ar - 02/07/2026
 
OQ64303 Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2026

Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddiogelu Purfa Penfro a'r swyddi medrus y mae'n eu cefnogi?

Pembroke refinery is one of Wales’s most strategically important industrial assets. We support carbon pricing, but climate policy must cut emissions without exporting jobs or investment. As part of the UK emissions trading scheme authority, I will ensure Welsh refineries are considered, reviewing carbon leakage risks and engaging industry and unions closely.

Wedi'i ateb gan Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni | Wedi'i ateb ar - 02/07/2026
 
OQ64306 Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2026

Pa asesiad y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i wneud o effaith datblygiadau ffermydd gwynt ar y tir ar raddfa ddiwydiannol, ar gymunedau lleol a thir amaethyddol yng Ngwynedd Maldwyn?

This Government is committed to ensuring that the scale, siting and cumulative impact of energy developments are properly considered through the planning system, including the protection of productive agricultural land.

Wedi'i ateb gan Gweinidog Cabinet dros Fenter, Cysylltedd ac Ynni | Wedi'i ateb ar - 02/07/2026

Cwestiynau ar gyfer - Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg

OQ64282 Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2026

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella presenoldeb ysgol yng Ngŵyr Abertawe?

Mae presenoldeb rheolaidd yn yr ysgol yn hanfodol ar gyfer llwyddiant a lles y dysgwyr. Rŷn ni'n gweithio i wella presenoldeb drwy adnabod rhwystrau a rhoi sylw iddyn nhw'n gynnar, drwy gymorth wedi’i gydlynu, gan wneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc yn gallu mynd i'r ysgol, yn cymryd diddordeb mewn dysgu ac yn cyflawni eu potensial.

Wedi'i ateb gan Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg | Wedi'i ateb ar - 02/07/2026
 
OQ64287 Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2026

Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ysbrydoli mwy o bobl i ddefnyddio'r Gymraeg yng Ngheredigion Penfro?

Byddwn ni’n ysbrydoli pobl i ddefnyddio’r Gymraeg yng Ngheredigion Penfro drwy weithredu Deddf y Gymraeg ac Addysg (Cymru) 2025, gweithio gyda’r awdurdodau lleol, y mentrau iaith, cydweithio ar waddol Eisteddfod y Garreg Las, a gweithio gyda’r Urdd, y ffermwyr ifanc, busnesau ac ysgolion i droi’r Gymraeg yn ddewis naturiol bob dydd.

Wedi'i ateb gan Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg | Wedi'i ateb ar - 02/07/2026
 
OQ64301 Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2026

Pa asesiad y mae'r Gweinidog Cabinet wedi'i wneud o addasrwydd polisïau gwisg ysgol?

The Welsh Government encourages all governing bodies to have a school uniform, and to develop a uniform policy after consultation with parents, pupils and stakeholders. Properly developed and appropriately implemented, school uniform can provide a sense of identity, community and cohesion within the school and support positive behaviour and school discipline.

Wedi'i ateb gan Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg | Wedi'i ateb ar - 02/07/2026
 
OQ64308 Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2026

Beth yw blaenoriaethau'r Gweinidog Cabinet ar gyfer ysgolion yn Sir Fynwy Torfaen?

My priority is a connected education system that works in both languages, supporting children from their earliest years through to employment. We will raise standards for every child, ensuring more young people achieve strong qualifications, build secure literacy and numeracy skills and leave education with the foundations to thrive in life.

Wedi'i ateb gan Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg | Wedi'i ateb ar - 02/07/2026
 
OQ64312 Wedi’i gyflwyno ar 24/06/2026

Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cyflog a datblygiad proffesiynol staff cymorth ysgolion?

I recognise the vital role of school support staff in Wales and appreciate their significant contribution to our education system. I am engaging with our social partners to ensure support staff are treated consistently and fairly. 

Wedi'i ateb gan Gweinidog Cabinet dros Addysg a’r Gymraeg | Wedi'i ateb ar - 02/07/2026