Atebion i gwestiynau nas cyrhaeddwyd yn y Cyfarfod Llawn

20/01/2026

Cyhoeddir atebion yn yr iaith y'u darparwyd, gyda chyfieithiad Saesneg o atebion yn y Gymraeg.

Cwestiynau ar gyfer - Prif Weinidog

OQ63699 Wedi’i gyflwyno ar 15/01/2026

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau diogelwch menywod a merched?

The Welsh Government remains wholly committed to tackling violence against women, domestic abuse and sexual violence. We are delivering on our national strategy and the groundbreaking VAWDASV Act through strong partnership working and robust governance focused on outcomes.

Wedi'i ateb gan Prif Weinidog Cymru | Wedi'i ateb ar - 21/01/2026
 
OQ63706 Wedi’i gyflwyno ar 15/01/2026

A wnaiff y Prif Weinidog ddarparu diweddariad am raglen gyweirio y Llywodraeth i ddiogelu adeiladau yng Nghymru yn dilyn trasiedi tân Grenfell wyth mlynedd yn ôl?

Mae trychineb Tŵr Grenfell yn dal i lywio ein ffocws ar sicrhau diogelwch preswylwyr, a dwi’n falch iawn bod Bil Diogelwch Adeiladau (Cymru) yn mynd drwy’r broses graffu ar hyn o bryd. Rydyn ni’n dal i wneud popeth posib i gael gwared ar unrhyw rwystr sy’n atal cynnydd, ac mae’n dda cael nodi bod gwaith naill ai ar y gweill neu wedi cael ei gwblhau ar 214 o’r 459 o’r adeiladau yn y rhaglen. Dim ond 24 o adeiladau sydd heb ddechrau'r broses asesu eto.

Wedi'i ateb gan Prif Weinidog Cymru | Wedi'i ateb ar - 21/01/2026
 
OQ63707 Wedi’i gyflwyno ar 15/01/2026

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymrwymiad Llywodraeth Cymru i gynnal presgripsiynau am ddim?

As we set out clearly in our programme for government, we are very proud to have abolished prescription charges more than 18 years ago. I am very pleased to reaffirm the Welsh Government’s commitment to keeping prescriptions free for the people of Wales.

Wedi'i ateb gan Prif Weinidog Cymru | Wedi'i ateb ar - 21/01/2026