Atebion i gwestiynau nas cyrhaeddwyd yn y Cyfarfod Llawn

25/03/2025

Cyhoeddir atebion yn yr iaith y'u darparwyd, gyda chyfieithiad Saesneg o atebion yn y Gymraeg.

Cwestiynau ar gyfer - Prif Weinidog

OQ62516 Wedi’i gyflwyno ar 20/03/2025

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ddarpariaeth gofal diwedd oes yn Nwyfor Meirionnydd?

Mae datganiad ansawdd Llywodraeth Cymru yn nodi ein gweledigaeth lefel uchel ar gyfer gofal lliniarol a diwedd oes. Rŷn ni’n buddsoddi dros £13 miliwn bob blwyddyn i sicrhau mynediad teg at y gofal a’r cymorth gorau posib i unrhyw un sydd angen y math yma o ofal yng Nghymru.

Wedi'i ateb gan Prif Weinidog Cymru | Wedi'i ateb ar - 26/03/2025
 
OQ62524 Wedi’i gyflwyno ar 20/03/2025

Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei rhoi i reoleiddio sefydliadau twtio anifeiliaid anwes yng Nghymru?

The regulation of pet groomers was included as part of our consultation on the licensing of animal welfare establishments, activities and exhibits. The summary of responses was published on 18 December and our next steps will be set out this spring.

Wedi'i ateb gan Prif Weinidog Cymru | Wedi'i ateb ar - 26/03/2025
 
OQ62526 Wedi’i gyflwyno ar 20/03/2025

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael â rhywiaeth a chasineb at ferched mewn ysgolion er mwyn sicrhau amgylchedd cynhwysol i bob myfyriwr?

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod pob dysgwr yn teimlo'n ddiogel ac yn cael ei gefnogi yn yr ysgol. Mae'r cod addysg cydberthynas a rhywioldeb sy’n rhan orfodol o’r Cwricwlwm i Gymru a'n 'Aflonyddu rhywiol rhwng cyfoedion mewn lleoliadau addysg: cynllun gweithredu' yn fesurau sydd gyda ni ar waith i gyflawni hyn.

Wedi'i ateb gan Prif Weinidog Cymru | Wedi'i ateb ar - 26/03/2025