Atebion i gwestiynau nas cyrhaeddwyd yn y Cyfarfod Llawn
11/12/2024Cyhoeddir atebion yn yr iaith y'u darparwyd, gyda chyfieithiad Saesneg o atebion yn y Gymraeg.
Cwestiynau ar gyfer - Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi pobl a busnesau y mae eu heiddo wedi cael ei ddifrodi gan lifogydd yn ddiweddar?
Following storm Bert, the Welsh Government is funding eligible local authorities to provide grants of £1,000 for flooded households without insurance cover, or £500 to households with existing insurance cover. Meanwhile, Business Wales can provide post-flood recovery support to affected businesses.
A yw Llywodraeth Cymru ar y trywydd iawn i gyflawni’r ymrwymiad maniffesto i greu parc cenedlaethol newydd i Gymru?
NRW is taking forward a designation programme that includes detailed assessment, consideration of the evidence, engagement and consultation. This will inform a final decision on any new designation. That designation programme is on track, and NRW’s findings will be presented to the Welsh Government by the end of 2025.
Pa gamau y mae’r Ysgrifennydd Cabinet wedi'u cymryd i wella synwyryddion rhybudd cynnar ar hyd Afon Conwy, er mwyn sicrhau bod trigolion Dyffryn Conwy a'r ardaloedd cyfagos yn cael rhybuddion cynharach o lifogydd?
The Welsh Government has provided approximately £6 million to Natural Resources Wales to support the development of their new flood warning information service for Wales, which launched in July. The service includes faster flood warning and has already sent 343,000 warnings to 40,000 people, including those at risk from River Conwy flooding.
Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i leihau effaith llifogydd yng Nghonwy a Sir Ddinbych?
Since 2021, Welsh Government has already invested almost £31 million in Conwy and more than £21.5 million in Denbighshire to support completed flood and coastal defence schemes. We have also committed further funding of almost £105 million for the continued development of other schemes in these areas under our flood programme.
Cwestiynau ar gyfer - Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a’r Gymraeg
A wnaiff Llywodraeth Cymru gynnal asesiad o gost darparu lleoedd parcio ceir am ddim i staff ar draws y sector cyhoeddus?
I recognise the importance of considering climate change and social justice when discussing subsidised car parking. Practical decisions regarding car parking are matters for individual public sector organisations, who we require to consider factors like financial constraints, operational needs, alignment with net-zero goals, and alignment to sustainable transport priorities.
Sut mae'r Llywodraeth yn sicrhau ei bod yn cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg?
Mae 'Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr' yn cynnwys amrywiol gamau i gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg o’r blynyddoedd cynnar hyd at faes ôl-16 a thu hwnt. Bydd Bil y Gymraeg ac Addysg (Cymru) yn sicrhau bod pob plentyn yng Nghrymu yn cael cyfle i ddod yn siaradwr Cymraeg.
Pa drafodaethau mae'r Llywodraeth wedi eu cael efo Llywodraeth y DU ynghylch sut y bydd unrhyw arian o'r gronfa ffyniant cyffredin yn cael ei ddosbarthu yn y dyfodol?
Mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi dweud y bydd y gronfa ffyniant gyffredin ar waith am flwyddyn arall yn 2025-26, gyda £900 miliwn ar gael ledled y Deyrnas Unedig. Bydd hyn yn rhoi cysondeb i awdurdodau lleol a buddiolwyr cyn cyflwyno dull newydd ar gyfer buddsoddi rhanbarthol yn 2026. Bryd hynny, rydyn ni’n disgwyl i’r broses benderfynu ddod yn ôl i Gymru yn unol â’n setliad datganoli.
A wnaiff yr Ysgrifennydd Cabinet ddatganiad am y gwasanaeth y mae siaradwyr Cymraeg yn ei gael yn y gwasanaeth iechyd?
Mae ein cynllun 'Mwy na geiriau' yn dangos ein bwriad i gryfhau’r defnydd o’r Gymraeg mewn iechyd a gofal cymdeithasol. Y nod yw sefydlu’r cynnig rhagweithiol mewn gwasanaethau fel ei bod yn hawdd i gleifion ac unigolion Cymraeg gael y gofal maen nhw’n ei haeddu a’i angen.