Atebion i gwestiynau nas cyrhaeddwyd yn y Cyfarfod Llawn

08/10/2024

Cyhoeddir atebion yn yr iaith y'u darparwyd, gyda chyfieithiad Saesneg o atebion yn y Gymraeg.

Cwestiynau ar gyfer - Prif Weinidog

OQ61631 Wedi’i gyflwyno ar 03/10/2024

Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi teuluoedd sy'n cael eu heffeithio gan ganser yng Nghymru?

Our approach to supporting people affected by cancer was set out in the quality statement for cancer in 2021 and the NHS has set out its response in the Cancer Improvement Plan for Wales.

Wedi'i ateb gan Prif Weinidog Cymru | Wedi'i ateb ar - 08/10/2024
 
OQ61660 Wedi’i gyflwyno ar 03/10/2024

A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am bolisi Llywodraeth Cymru ar ddewis cleifion yn y GIG?

Decisions related to a patient’s treatment plan in Wales are made following a clinical assessment based on the individual’s needs and available pathways. The patient and/or their families are an integral part of the clinical decision making process.

Wedi'i ateb gan Prif Weinidog Cymru | Wedi'i ateb ar - 08/10/2024
 
OQ61671 Wedi’i gyflwyno ar 03/10/2024

Sut mae'r Prif Weinidog yn sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu mynd i'r afael a'r argyfwng tai?

Mae darparu mwy o gartrefi yn elfen allweddol o fy mlaenoriaeth i ddarparu cyfleoedd i bob teulu. Ry’n ni’n taclo pob math o ddigartrefedd, gan weithio i atal pobl rhag colli eu cartref a gweithio i ddarparu mwy o dai fforddiadwy. Dim ond trwy wneud y ddau beth yma y gallwn ni gyflawni ein huchelgeisiau.

Wedi'i ateb gan Prif Weinidog Cymru | Wedi'i ateb ar - 08/10/2024
 
OQ61673 Wedi’i gyflwyno ar 03/10/2024

Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi teuluoedd gyda plant sy’n cael triniaeth canser gyda chostau teithio i fynychu apwyntiadau?

Mae Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru yn cynnig cludiant am ddim i gleifion sydd ag apwyntiad oncoleg, fel rhan o'r gwasanaeth cludiant ar gyfer achosion sydd ddim yn rhai brys.

Wedi'i ateb gan Prif Weinidog Cymru | Wedi'i ateb ar - 08/10/2024