Atebion i gwestiynau nas cyrhaeddwyd yn y Cyfarfod Llawn
07/02/2024Cyhoeddir atebion yn yr iaith y'u darparwyd, gyda chyfieithiad Saesneg o atebion yn y Gymraeg.
Cwestiynau ar gyfer - Gweinidog yr Economi
Pa asesiad sydd wedi ei wneud gan y Gweinidog o effaith economaidd a chymdeithasol y diswyddiadau posib yn Tata Steel ym Mhort Talbot?
Os caiff cynlluniau presennol Tata Steel eu gweithredu, byddant yn cael yr effaith economaidd a chymdeithasol waethaf ers blynyddoedd lawer. Bydd y cynlluniau hyn yn effeithio ar unigolion, y gadwyn gyflenwi ac ar y cymunedau ehangach, yn enwedig ar draws de Cymru.
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gamau gweithredu Llywodraeth Cymru i gefnogi busnesau yng nghanol trefi?
We are providing £125 million of funding over three years to Welsh local authorities through our Transforming Towns programme. Last year, we published our town centres position statement, which sets out the challenges facing towns in Wales and a series of interrelated, cross policy actions to address those challenges.
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i wella cysylltedd band eang yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Our full-fibre roll-out has delivered gigabit-capable broadband to 12,635 properties, plus further consequential premises. Access Broadband Cymru has provided £2.24 million since February 2021 to improve connectivity at 2,887 premises. The local broadband fund is contributing £1.81 million to improve connectivity to homes, businesses and public sector sites.
Pa asesiad mae’r Gweinidog wedi ei wneud o’r nifer o fusnesau sydd yn debyg o fethu o ganlyniad i’r Llywodraeth yn gostwng lefel lliniaru ardrethi busnes o 75 y cant i 40 y cant?
Mae sawl ffactor yn effeithio ar hyfywedd busnesau. Nid oes disgwyl i fusnesau hyfyw fethu yn sgil y penderfyniad i ddarparu rhyddhad ychwanegol dros dro, gan estyn cynllun nad oedd erioed yn un a fyddai’n parhau am gyfnod penagored. Mae rhwymedigaeth o ran ardrethi annomestig yn gyfraniad a ragwelir at wasanaethau lleol, ac mae busnesau yn cynllunio ar ei chyfer.
Cwestiynau ar gyfer - Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r effaith y bydd ddeddfwriaeth yr UE i wahardd amalgam deintyddol o 1 Ionawr 2025 yn ei chael ar ddeintyddiaeth yng Nghymru?
The EU is pursuing the phasing out of dental amalgam or fillings that use mercury. We agree in the Welsh Government that this is a sensible thing to do. There are other available, cost-effective, safe and equally effective materials available to use in its place.
Pa gefnogaeth fydd Llywodraeth Cymru yn ei roi i’r sector gofal plant i sicrhau eu bod yn gallu codi cyflogau staff yn unol a’r isafswm cyflog newydd o fis Ebrill ymlaen?
Mae gan Lywodraeth Cymru nifer o bolisïau ar waith, gan gynnwys estyn y rhyddhad ardrethi busnes o 100 y cant. Nod hyn yw rhoi cefnogaeth i’r sector â heriau economaidd, gan gynnwys cynnydd yng nghyflogau a phensiynau staff a chostau gweithredu eraill.
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r ddarpariaeth gwasanaethau brys yn y canolbarth?
We expect all patients who require emergency care to receive it in a timely manner and in order of clinical priority to support optimal outcomes. Last year, we invested £3 million to recruit 76 more ambulance staff, and £33 million in the last three years to update the ambulance fleet.
Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi pobl ag anghenion iechyd heb eu diwallu?
Health boards are responsible for delivery of health services for their local population. The Welsh Government is holding them accountable for the services they deliver and working with them to ensure that patients are supported to access high-quality services.