Atebion i gwestiynau nas cyrhaeddwyd yn y Cyfarfod Llawn

26/04/2023

Cyhoeddir atebion yn yr iaith y'u darparwyd, gyda chyfieithiad Saesneg o atebion yn y Gymraeg.

Cwestiynau ar gyfer - Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

OQ59391 Wedi’i gyflwyno ar 19/04/2023

A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am wasanaethau iechyd meddwl amenedigol ar gyfer merched a’u babanod yn Arfon?

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau iechyd meddwl amenedigol yn y gogledd. Mae’r gwasanaethau hyn wedi cael eu cefnogi gan gyllid ychwanegol i’w gwella. Fe fyddwn yn rhoi diweddariad ar wasanaethau amenedigol i’r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn fuan.

Wedi'i ateb gan Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant | Wedi'i ateb ar - 28/04/2023
 
OQ59395 Wedi’i gyflwyno ar 19/04/2023

Pa gamau mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael ag anghydraddoldeb o ran trin cleifion du, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig o fewn y GIG?

The priority actions for health within the Welsh Government's 'Anti-racist Wales Action Plan', published in July 2022, seek to catalyse change and provide a strong evidence base for organisations to take targeted action to address inequalities, discrimination and barriers for black, Asian and minority ethnic patients.

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol | Wedi'i ateb ar - 26/04/2023