Atebion i gwestiynau nas cyrhaeddwyd yn y Cyfarfod Llawn
13/12/2022Cyhoeddir atebion yn yr iaith y'u darparwyd, gyda chyfieithiad Saesneg o atebion yn y Gymraeg.
Cwestiynau ar gyfer - Prif Weinidog
Sut mae Llywodraeth Cymru yn hybu defnydd o’r iaith Gymraeg yng Ngorllewin De Cymru?
Rydym yn ariannu 26 o fudiadau amrywiol i gefnogi’r Gymraeg yn genedlaethol a lleol. Er enghraifft, mynychodd 230,000 jambori yr Urdd yn ddiweddar ac rydym yn rhoi dros £300,000 i gefnogi mudiadau Cymraeg yng Ngorllewin De Cymru.
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad at wasanaethau deintyddol y GIG ar gyfer plant a phobl ifanc?
In the first 7 months of the 2022-23 financial year, 200,529 children have been treated in general dental services, and 44,003 of these are new patients.
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yng Nghanol De Cymru?
Rydym yn ariannu 26 o fudiadau amrywiol i gefnogi’r Gymraeg yn genedlaethol a lleol. Er enghraifft, mynychodd 230,000 jambori yr Urdd yn ddiweddar ac rydym yn rhoi dros £314,000 i gefnogi mudiadau Cymraeg yng Nghanol De Cymru.
Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg?
Rŷn ni wedi buddsoddi dros £80 miliwn i ehangu neu agor mwy o ysgolion cyfrwng Cymraeg newydd ar draws Cymru. Dwi eisiau gweld pob plentyn yn gadael yr ysgol, pa bynnag ysgol yw hynny, yn siaradwyr Cymraeg. Dyma fydd ein ffocws dros y degawd nesaf.
Sut mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi busnesau bach yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
We continue to support new and existing businesses in mid and west Wales through the Business Wales service. We are committed to delivering a greener, more equal and prosperous economy for all parts of Wales.