Atebion i gwestiynau nas cyrhaeddwyd yn y Cyfarfod Llawn

10/05/2022

Cyhoeddir atebion yn yr iaith y'u darparwyd, gyda chyfieithiad Saesneg o atebion yn y Gymraeg.

Cwestiynau ar gyfer - Prif Weinidog

OQ57999 Wedi’i gyflwyno ar 05/05/2022

A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar gynllun ar gyfer ysgol feddygol y Gogledd?

Ar 4 Ebrill cynhaliwyd cyfarfod cyntaf bwrdd annibynnol rhaglen ysgol feddygol y gogledd, dan gadeiryddiaeth yr Athro Iwan Davies. Mae wedi cyfarfod am yr ail waith heddiw. Fy nisgwyliad yw y bydd bwrdd y rhaglen yn gweithio i sicrhau’r garfan gyntaf o israddedigion ym mis Medi 2023. 

Wedi'i ateb gan Prif Weinidog Cymru | Wedi'i ateb ar - 11/05/2022
 
OQ58005 Wedi’i gyflwyno ar 05/05/2022

A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gyllid ar gyfer cartrefi gofal yng Ngogledd Cymru?

Care homes in north Wales, as in the rest of Wales, receive income from a range of sources including local authorities. The Welsh Government budget for 2022-23 includes an additional £180.5 million local government allocation for social care, a £45 million reform fund and a £50 million capital fund for social care.

Wedi'i ateb gan Prif Weinidog Cymru | Wedi'i ateb ar - 11/05/2022
 
OQ58009 Wedi’i gyflwyno ar 05/05/2022

Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i hyrwyddo cyflogaeth yn y sector cyhoeddus?

We promote employment opportunities within the public sector through a range of different activities such as: jobs fairs, careers interviews and particularly through the young person's guarantee. 

Wedi'i ateb gan Prif Weinidog Cymru | Wedi'i ateb ar - 11/05/2022
 
OQ58031 Wedi’i gyflwyno ar 05/05/2022

Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella lefelau'r nifer sydd yn pleidleisio mewn etholiadau lleol?

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i wella lefelau’r nifer sy’n pleidleisio mewn etholiadau lleol. Dangosir yr uchelgais hon yn ein cynlluniau peilot ar gyfer pleidleisio hyblyg, a’r ffaith ein bod yn ddiweddar wedi ymestyn yr hawl i bleidleisio i bobl ifanc 16 a 17 oed a dinasyddion tramor cymwys.

Wedi'i ateb gan Prif Weinidog Cymru | Wedi'i ateb ar - 11/05/2022