Atebion i gwestiynau nas cyrhaeddwyd yn y Cyfarfod Llawn
25/01/2022Cyhoeddir atebion yn yr iaith y'u darparwyd, gyda chyfieithiad Saesneg o atebion yn y Gymraeg.
Cwestiynau ar gyfer - Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut mae canllawiau presennol COVID-19 yn effeithio ar ysgolion?
Our national guidance focuses on enabling schools to secure the best outcomes for all learners by considering both their educational needs and wellbeing while managing ongoing risks of COVID-19. We continue to take action to minimise disruption to learners and ensure schools are safe places to learn and work.
Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r pwysau sy’n wynebu staff y GIG yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru?
Mae absenoldeb staff, ar ben pwysau'r gaeaf, wedi achosi heriau sylweddol i'n staff ymroddedig yn y gwasanaeth iechyd. Mae cefnogi'r gweithlu yn rhan ganolog o'n cynllun adfer ar ôl COVID a'n cynllun diogelu ar gyfer y gaeaf. Mae swyddogion mewn cysylltiad rheolaidd â sefydliadau'r gwasanaeth iechyd er mwyn deall y cymhlethdodau rhanbarthol yn llawn a sicrhau bod eu staff yn cael eu cefnogi.