Atebion i gwestiynau nas cyrhaeddwyd yn y Cyfarfod Llawn
28/09/2021Cyhoeddir atebion yn yr iaith y'u darparwyd, gyda chyfieithiad Saesneg o atebion yn y Gymraeg.
Cwestiynau ar gyfer - Prif Weinidog
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad ar ariannu llywodraeth leol?
Bydd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol yn cyhoeddi cyllideb ddrafft Cymru a’r setliad llywodraeth leol ar gyfer 2022-23, sy’n manylu ar y dyraniadau cyllid craidd ar gyfer awdurdodau lleol, ym mis Rhagfyr.
A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i ddynodi Bryniau Clwyd a Dyffryn Dyfrdwy yn barc cenedlaethol?
We are committed to creating a new national park for Wales covering the breathtaking Clwydian range and Dee valley. Work is under way with Natural Resources Wales to develop a comprehensive designation programme that will include all the necessary assessment, engagement and consultation.
A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am fynediad at wasanaethau meddygon teulu yn y gogledd?
Mae meddygon teulu’n wynebu pwysau aruthrol o ran ymdrin â’r pandemig ochr yn ochr â lefel uchel y galw gan gleifion o ganlyniad i salwch nad yw’n ymwneud â COVID. Mae gwella mynediad at wasanaethau meddyg teulu yn brif flaenoriaeth ar gyfer Llywodraeth Cymru.