Atebion i gwestiynau nas cyrhaeddwyd yn y Cyfarfod Llawn

23/06/2021

Cyhoeddir atebion yn yr iaith y'u darparwyd, gyda chyfieithiad Saesneg o atebion yn y Gymraeg.

Cwestiynau ar gyfer - Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

OQ56633 Wedi’i gyflwyno ar 16/06/2021

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut mae'r dreth ar ail gartrefi yn cael ei weithredu?

Cafodd cyfraddau’r dreth trafodiadau tir ar gyfer y rheini sy’n prynu ail gartrefi, a phob traddodiad cyfradd uwch, eu newid fis Rhagfyr diwethaf. Cafodd y newidiadau hyn eu cymeradwyo gan y Senedd. Maen nhw bedwar pwynt canran yn uwch na’r prif gyfraddau preswyl. Awdurdod Cyllid Cymru sy’n gyfrifol am weithredu a gweinyddu’r dreth. 

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol | Wedi'i ateb ar - 24/06/2021
 
OQ56652 Wedi’i gyflwyno ar 16/06/2021

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau'r dreth gyngor yng Ngorllewin De Cymru?

The average band D council tax in South Wales West for 2021-22 ranges between £1,754 and £1,996. Local authorities in Wales are given the flexibility to set their annual budgets and council tax levels to reflect local priorities. They are accountable to their residents for these decisions.

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol | Wedi'i ateb ar - 24/06/2021
 
OQ56654 Wedi’i gyflwyno ar 16/06/2021

Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i'r ddarpariaeth o wasanaethau digartrefedd gan lywodraeth leol wrth ddyrannu cyllid i'r portffolio newid hinsawdd?

In 2020-21 local government received an additional £600 million for the hardship fund, which included £10 million ring-fenced for homelessness. For 2021-22, the hardship fund received £206 million, which includes £4 million for the homelessness prevention grant, which now stands at £21.9 million in this financial year.   

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol | Wedi'i ateb ar - 24/06/2021
 
OQ56660 Wedi’i gyflwyno ar 16/06/2021

Pa gymorth ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i awdurdodau lleol cyn etholiadau lleol 2022?

We are working with local authorities as they plan for local elections in May 2022. Education and communications campaigns will encourage citizens to understand the critical role local government plays and why voting matters. We will also work to tackle the barriers which prevent individuals’ active participation in local democracy.

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol | Wedi'i ateb ar - 24/06/2021

Cwestiynau ar gyfer - Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd

OQ56631 Wedi’i gyflwyno ar 16/06/2021

Pryd mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno Bil amaeth i Gymru?

Cyhoeddais Bapur Gwyn ar amaethyddiaeth ym mis Rhagfyr y llynedd, gan gyflwyno fy nghynigion ar gyfer Bil amaethyddiaeth (Cymru). Bydd Prif Weinidog Cymru yn gwneud cyhoeddiad ynghylch y rhaglen ddeddfwriaethol cyn toriad yr haf.

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd | Wedi'i ateb ar - 24/06/2021
 
OQ56643 Wedi’i gyflwyno ar 16/06/2021

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyfodol cynllun Glastir?

Wrth i gyllid rhaglen datblygu gwledig yr UE ddod i ben rydym yn ystyried dyfodol Glastir o fewn cyd-destun cronfeydd domestig newydd a fydd yn cymryd ei le a’r trosglwyddiad i’n cynllun ffermio cynaliadwy arfaethedig.

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd | Wedi'i ateb ar - 24/06/2021
 
OQ56648 Wedi’i gyflwyno ar 16/06/2021

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion i wella lles anifeiliaid ar ffermydd Cymru?

Animal health and welfare is a priority for the Welsh Government and the Wales animal health and welfare framework Group. The Wales animal health and welfare framework, launched in 2014, sets out our 10-year overarching plan for making improvements in standards of animal health and welfare.

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd | Wedi'i ateb ar - 24/06/2021
 
OQ56662 Wedi’i gyflwyno ar 16/06/2021

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer arallgyfeirio ar ffermydd yng Nghymru?

The Welsh Government is committed to supporting all businesses in Wales. Business Wales and Farming Connect supports farm businesses to become more efficient, profitable and resilient. Support is tailored according to customer need and the different regions of Wales, dependant on requirements.

Wedi'i ateb gan Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd | Wedi'i ateb ar - 24/06/2021