Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

25/11/2020

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:29 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. A chyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, lle bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y cyfarfod yma heddiw, ac fe nodir y rhain yn eich agenda chi. Hoffwn atgoffa'r Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma, ac yr un mor berthnasol i Aelodau yn y Siambr ag ydyn nhw i'r Aelodau sy'n ymuno drwy gyswllt fideo.

13:30
1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Russell George.

Dyrannu Cyllid

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyrannu cyllid ar draws Llywodraeth Cymru yn sgil cyhoeddiad y Canghellor ynghylch £600 miliwn o symiau canlyniadol ychwanegol gan Lywodraeth y DU? OQ55901

Hyd yn hyn yn y flwyddyn ariannol hon, rwyf wedi dyrannu mwy na £4 biliwn fel rhan o'n hymateb i COVID-19. Byddaf yn parhau i wneud penderfyniadau cyllido darbodus pellach ac yn dyrannu adnoddau pellach pan fydd eu hangen i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, yr economi ac unigolion.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Ychydig wythnosau yn ôl, gofynnais y cwestiwn i’ch cyd-Aelod, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, ac awgrymodd, yn ddefnyddiol iawn, mai chi sydd yn y sefyllfa orau i ateb y cwestiwn. Rwy'n siŵr y byddech, wrth gwrs, yn croesawu'r £600 miliwn a ddyrannwyd gan y Canghellor y mis diwethaf mewn cyllid canlyniadol gwarantedig i Lywodraeth Cymru, ac mae hynny’n ychwanegol, wrth gwrs, at yr £1.1 biliwn a warantwyd gan Lywodraeth y DU yn gynharach eleni. Daw hynny â chyfanswm y cyllid ychwanegol gan Lywodraeth y DU i £5 biliwn i ymladd y pandemig yma yng Nghymru. Mae rhywfaint o bryder wedi bod ynghylch dosbarthiad amserol y cyllid hwn i fusnesau. A allwch ddweud wrthyf faint o'r cyllid hwn sy'n dal i fod yng nghoffrau Llywodraeth Cymru, yn hytrach na’n darparu'r gefnogaeth hanfodol honno i fusnesau a sefydliadau ledled Cymru yn ystod y pandemig hwn? Fe ddywedoch chi eich bod wedi dyrannu £4 biliwn hyd yn hyn, felly rwy'n cyfrif bod £1 biliwn arall eto i’w wario. A ydych yn cytuno â'r dadansoddiad hwnnw, a phryd y bydd yr arian hwnnw'n cyrraedd busnesau ar y rheng flaen?

Roeddwn yn falch iawn o allu negodi’r warant honno gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â chyllid ychwanegol ar gyfer COVID-19. Ond yr hyn nad ydym wedi'i dderbyn eto gan Lywodraeth y DU yw'r ymarfer cysoni hwnnw, a fydd yn ein cynorthwyo i ddeall beth yn union y mae'r warant honno ar ei gyfer. Oherwydd gadewch inni gofio, mae'r holl arian hwn yn cyfateb i’r gwariant ar fynd i'r afael â COVID-19 dros y ffin yn Lloegr—nid yw'n driniaeth arbennig na’n ffafr arbennig i Gymru. Ond mae'n rhaid i mi ddweud ein bod wedi pleidleisio a derbyn ein hail gyllideb atodol yr wythnos diwethaf er mwyn sicrhau cymaint o dryloywder â phosibl mewn perthynas â’r penderfyniadau a'r dyraniadau a wnawn yng Nghymru. A Chymru yw'r unig ran o'r DU sydd wedi cyhoeddi ail gyllideb atodol hyd yn hyn, i ddangos y cyllid sy'n cael ei ddarparu i unigolion, i fusnesau, ac i gymunedau, y GIG ac i lywodraeth leol hefyd.

Yn yr ail gyllideb atodol, cafwyd cynnydd o £2.5 biliwn i adnoddau cyffredinol Cymru. Mae cyllid pellach i'w ddyrannu, ond wrth gwrs, nid ydym ond dwy ran o dair o'r ffordd drwy'r flwyddyn ariannol. Mae’r posibilrwydd o Brexit 'dim cytundeb' ar y gorwel, ac nid ydym yn gwybod eto beth fydd llwybr y pandemig rhwng nawr a'r gwanwyn. Felly, bydd dyraniadau pellach i'w gwneud, ond byddant yn amserol ac yn ymateb i'r amgylchiadau penodol y byddwn yn eu hwynebu.

Weinidog, ychydig fisoedd yn ôl yn unig, gwelsom aelodau Cabinet Ceidwadol Llywodraeth y DU, a Phrif Weinidog y DU yn wir yn curo dwylo ac yn diolch i weithwyr allweddol bob dydd Iau am 8 p.m. ar garreg y drws—y tu allan i Rif 10 yn wir. Erbyn heddiw, gwyddom bellach fod y Canghellor yn bwriadu rhewi cyflogau rhai o'r gweithwyr allweddol hynny. Diolch byth na fydd hynny’n digwydd i weithwyr y GIG, a rhai gweithwyr eraill, ond bydd cyflogau llawer iawn o weithwyr y sector cyhoeddus sydd wedi bod ar y rheng flaen yn cael eu rhewi y flwyddyn nesaf. A yw'r Gweinidog yn cytuno â mi, os gall Llywodraeth Dorïaidd y DU ddod o hyd i'r arian i roi cannoedd o filiynau o bunnoedd mewn contractau i’w ffrindiau am gyfarpar diogelu personol anaddas, does bosibl na allant ddod o hyd i arian i roi'r codiad cyflog y maent yn ei haeddu i weithwyr ein sector cyhoeddus—pob un ohonynt—y buont yn diolch iddynt bob wythnos, i gydnabod y ffordd y maent wedi cadw'r wlad i fynd yn ystod y pandemig?

Mae Huw Irranca-Davies yn llygad ei le, yn yr ystyr fod y dyraniadau a’r penderfyniadau a wneir gan Lywodraeth y DU yn adlewyrchiad o werthoedd Llywodraeth y DU i raddau helaeth, a’r pethau sydd bwysicaf iddynt. O'm rhan i, cyn adolygiad o wariant y Canghellor heddiw, ysgrifennais at y Canghellor yn ei annog i gadw rhag rhewi cyflogau'r sector cyhoeddus, ac i ddarparu’r cyllid sydd ei angen arnom yma yng Nghymru er mwyn diogelu iechyd, swyddi a chefnogi adferiad teg. Ac mae gwir angen i'r Trysorlys ddefnyddio'r holl ysgogiadau sydd ar gael iddo i gefnogi’r gweithwyr ar y rheng flaen sydd wedi gwneud cymaint drosom ni yng Nghymru a ledled y DU drwy gydol y pandemig hwn. Ac mae'r penderfyniad heddiw yn gosod gwahanol rannau o'r sector cyhoeddus yn erbyn ei gilydd, sy'n peri cryn bryder, ond yn amlwg, mae’n siomedig iawn ac yn ddiangen.

13:35

Weinidog, mae Canghellor Trysorlys y DU nawr yn cyhoeddi cynlluniau gwariant Llywodraeth Dorïaidd y DU ar gyfer y flwyddyn i ddod, gyda'r adolygiad cynhwysfawr o wariant a ohiriwyd cyhyd. A ninnau'n ceisio sicrwydd a chynllunio ar gyfer tymor hwy ar draws asiantaethau rhynglywodraethol a llywodraeth leol yn ystod y cyfnod hwn, mae'n siomedig mai cynllun blwyddyn yw hwn o hyd. Ac wrth gwrs, yn naturiol, fel rhan o'r undeb, bydd Llywodraeth Cymru yn disgwyl cael arian sy'n gymesur ag unrhyw arian i Loegr, diolch i fformiwla Barnett, ac edrychaf ymlaen at weld y cyllid canlyniadol hwnnw’n dod i Gymru, er fy mod yn parhau i fod mewn penbleth ac yn methu deall pam nad yw Cymru ar hyn o bryd yn cael unrhyw beth o HS2.

Weinidog, mae'n bwysig fod cynnig diwylliannol a cherddorol Cymru yn cael ei ddiogelu a'i gynnal dros y gaeaf COVID anodd hwn, ac er bod y gronfa adferiad diwylliannol wedi'i chroesawu ac wedi’i dihysbyddu, mae'n dal i hepgor categorïau eang, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio llenwi’r bylchau hynny. Felly, Weinidog, pa sylwadau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i'r Trysorlys ynglŷn ag incwm ychwanegol mawr ei angen i Gymru? A sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu rhoi rhagor o gefnogaeth ariannol i berfformio cerddoriaeth fyw yng Nghymru?

Mae'n bwysig iawn, fel y dywedais wrth Russell George, fod Llywodraeth Cymru yn cael canlyniadau'r ymarfer cysoni hwnnw, fel y gallwn ddeall ar gyfer beth yn union y mae'r cyllid canlyniadol rydym wedi’i dderbyn hyd yma, ac yna gallwn ddeall yn well p’un a fydd cyllid pellach yn cael ei ddarparu cyn diwedd y flwyddyn ariannol. Gwn fod rhai trafodaethau yn mynd rhagddynt ar hyn o bryd ynglŷn â chefnogaeth bellach i'r sector diwylliannol, ac yn sicr, bydd hynny'n rhywbeth y byddwn yn awyddus i gael trafodaethau pellach yn ei gylch gydag Eluned Morgan a Dafydd Elis-Thomas.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Felly, fe symudwn ni nawr i gwestiynau'r llefarwyr. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf—Nick Ramsay 

Diolch, Lywydd. Weinidog, fel y gwyddom, mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi rhoi barn amodol ar gyfrifon Llywodraeth Cymru am y tro cyntaf erioed, gan i wariant o £739 miliwn gael ei hepgor mewn perthynas ag ymateb Llywodraeth Cymru i’r coronafeirws. Roedd hyn yn rhywbeth a drafodwyd gyda swyddogion yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ddydd Llun. Pe bai cost y cynlluniau cymorth i fusnesau wedi'i chynnwys yng nghyfrifon Llywodraeth Cymru, byddai hyn, i bob pwrpas, wedi troi'r tanwariant o £436 miliwn yn orwariant o £303 miliwn. Mae'n amlwg fod yma nifer o faterion cyfrifyddu sydd angen eu tacluso. Pa gamau sy'n cael eu cymryd i osgoi'r math hwn o beth rhag digwydd yn y dyfodol?

Wel, fel y gŵyr Nick Ramsay, drwy'r briff y mae wedi'i gael fel rhan o waith y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, anghytundeb technegol yw hwn rhwng Llywodraeth Cymru a'r archwilydd o ran sut y dylid dosbarthu cyllid ar gyfer eleni, yn yr ystyr fod y cyllid wedi’i gyhoeddi a’i ddosbarthu mewn gwahanol flynyddoedd o bosibl. Felly, mae'n anghytundeb o ran sut y dylid codio pethau. Ond mae'n rhaid i mi ddweud, nid ni yw'r unig rai yn y sefyllfa hon. Credaf fod pob un o'r pedair Llywodraeth ledled y DU yn wynebu'r un penderfyniad. Ac yn sicr, nid ydym yn difaru gwneud y cyhoeddiad cynnar hwnnw ynghylch cymorth i fusnesau, fel y gallent gynllunio a pharatoi wrth i'r cyfyngiadau symud cyntaf ddod i rym yn ôl ym mis Mawrth.

Diolch, Weinidog. Fel y dywedwch, ac rwy’n cytuno, nid oes unrhyw amheuaeth fod Llywodraeth Cymru wedi gwneud y peth iawn yn ymrwymo’r cyllid hwnnw i gefnogi busnesau ledled Cymru yn ystod y pandemig. Ond rwy'n siŵr y byddech yn cytuno ei bod yn bwysig rhoi cyfrif priodol o'r arian sy'n cael ei wario gan y Llywodraeth. Rwyf hefyd yn derbyn bod hwn yn fater technegol fel y dywedoch chi, ac yn fater technegol iawn i'r rhai ohonom a fu’n trafod ei fanylion ddydd Llun, ond serch hynny, mae’n fater digynsail, ac yn sicr yng nghyd-destun gweinyddiaethau datganoledig y DU, er, fel y dywedoch chi, efallai y bydd eraill yn wynebu hyn hefyd. Felly, fel rwyf wedi’i ddweud eisoes, mae angen tacluso hyn a sicrhau cytundeb cadarn gyda'r swyddfa archwilio. Tybed a allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn ag unrhyw drafodaethau a gawsoch gydag Archwilio Cymru ynglŷn â sut y gallem fynd ati yn y dyfodol i sicrhau nad yw'r mathau hyn o anghydfodau'n codi eto, neu i sicrhau bod gennym fecanwaith, yn wir, lle gall yr anghydfodau hynny gael eu datrys yn hawdd?

13:40

Yn bersonol, nid wyf wedi cael trafodaethau gydag Archwilio Cymru ynglŷn â’r mater hwn. Fel y dywedwch, mae'n fater technegol, a chredaf mai’r ffordd fwyaf addas o ymdrin ag ef yn yr achos hwn yw drwy swyddogion. Ond gwn fod swyddogion wedi cael trafodaethau sylweddol a hirfaith ynglŷn â’r mater, ac yn amlwg, byddem yn awyddus i osgoi ei weld yn digwydd eto yn y dyfodol.

Diolch, Weinidog. Gwn fod swyddogion wedi bod yn gweithio'n galed, fel y gwnaethom ddarganfod ddydd Llun, i geisio mynd i’r afael â hyn. Credaf fod hwn yn fater technegol, ond er lles enw da Llywodraeth Cymru yng nghyswllt cyfrifyddu, ac yn wir, er lles enw da’r gweinyddiaethau datganoledig eraill, os oes problem gyda'u cyfrifon hwythau hefyd, mae angen inni ymrwymo i gytundeb er mwyn sicrhau nad yw hyn yn digwydd eto.

Hefyd, ac yn olaf, o gofio y bydd y £739 miliwn eleni yn ymddangos yn helaeth yng nghyfrifon y flwyddyn nesaf o ystyried nad oedd yn y cyfrifon eleni, a oes tebygolrwydd cryf y bydd cyfrifon y flwyddyn nesaf yn rhai amodol hefyd, ac a gafwyd trafodaethau gyda'r archwilydd cyffredinol ynglŷn â beth y gellid ei wneud am hyn?

Rwy'n deall na fydd hynny'n digwydd y flwyddyn nesaf, a bod llinell wedi'i thynnu, os mynnwch, o dan y bennod hon. Ond cytunaf fod angen trafodaethau da rhwng swyddogion ac Archwilio Cymru, a bod rhai wedi’u cynnal eisoes, er mwyn egluro'r sefyllfa a sicrhau bod gan y ddwy ochr yr un ddealltwriaeth o'r rheolau a'r elfennau technegol rydym yn gweithredu oddi mewn iddynt.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mi fydd y Gweinidog yn cytuno efo fi pa mor annigonol ydy pwerau fiscal Llywodraeth Cymru, a bod hynny wedi cael ei amlygu yn y pandemig presennol. A all y Gweinidog amlinellu pa opsiynau mae Llywodraeth Cymru wedi'u hystyried i gynyddu'r cyllid refeniw a chyllid cyfalaf sydd ar gael iddyn nhw i ddelio efo materion presennol yn ymwneud â'r pandemig, ac i adeiladu yn ôl yn well, fel rydyn ni i gyd yn dymuno ei weld yn digwydd?

Wel, fel y gŵyr Rhun ap Iorwerth, nid yw ein taith tuag at godi trethi yng Nghymru ond megis dechrau i raddau helaeth. Fodd bynnag, rydym wedi gallu defnyddio'r offer sydd ar gael inni yn ystod y pandemig, ac un enghraifft fyddai'r ffordd y gwnaethom drin cyhoeddiad diweddar y Canghellor ynghylch y dreth trafodiadau tir, neu dreth dir y dreth stamp fel y'i gelwir dros y ffin. Drwy wneud set wahanol o benderfyniadau yma yng Nghymru, bu modd inni ryddhau £30 miliwn o gyllid ychwanegol i’w dargedu at ddigartrefedd, sy'n bryder penodol yn ystod y pandemig. Felly, mae rhai pethau rydym wedi gallu eu gwneud. Gwnaethom benderfyniad bwriadol i beidio â chodi cyfraddau treth incwm Cymru. Pe byddem wedi eu codi un geiniog, byddai hynny wedi codi oddeutu £200 miliwn. Gwnaethom y penderfyniad i beidio â gwneud hynny gan inni wneud ymrwymiad i bobl Cymru ar ddechrau tymor y Senedd hon na fyddem yn codi cyfraddau treth incwm Cymru yn ystod y cyfnod hwnnw.

 ninnau heb yr hyblygrwydd y byddwn i yn dymuno ei gael fel Cymru, fel gwlad annibynnol, hynny ydy, mi fydd angen i ni fod yn ddyfeisgar ynglŷn â sut i gynyddu ein capasiti ni i fuddsoddi yn nyfodol Cymru. 

Os gallaf i fynd â'r Gweinidog yn ôl i'w datganiad hi ar MIM yr wythnos diwethaf, dwi'n meddwl bod yna ambell gwestiwn heb ei ateb o bryd hynny. Mae trylowder yn gwbl, gwbl allweddol mewn perthynas â MIM. Mae o yn ymrwymiad hirdymor, mae yna gostau uwch yn ymwneud â nhw, a dydy cuddio tu ôl i bethau fel sensitifrwydd masnachol, commercial sensitivity, ddim yn ffordd i stopio sgrwtini o gontractau ac ati. Felly, mi fyddwn i'n licio gofyn, yn enw trylowyder, beth ydy'r cap elw, er enghraifft, sydd ar y cytundeb ysgolion efo Meridiam? Ac o gofio bod MIM yn esblygiad o PFI—mae'n dal i fod yn ffordd ddrud o wario; y Scottish Futures Trust yn sôn am ryw 23 y cant yn fwy na chyllido prosiectau drwy fenthyg yn y sector gyhoeddus—pa sicrwydd all y Gweinidog ei roi bod MIM yn esblygiad digon effeithiol o PFI, lle roedd yna lawer gormod o elw yn cael ei wneud am rhy ychydig o risg? Sut ydych chi'n gallu rhoi y sicrwydd nad ydyn ni'n talu dros yr odds am y cytundebau y mae'r Llywodraeth yn mynd i'w harwyddo ar ffurf MIM hefyd?

Fel y dywedais wrth Rhun ap Iorwerth yr wythnos diwethaf, gan fod y contract yn cynnwys gwybodaeth fasnachol sensitif, mae arnaf ofn nad ydym yn bwriadu ei gyhoeddi. Ond mae elfen o elw bob tro pan fyddwn yn caffael seilwaith. Yn yr achos hwn, fodd bynnag, bydd union swm yr elw hwnnw'n cael ei bennu gan berfformiad y cwmni dros oes y contract, a dyna un o fanteision cynllun y model buddsoddi cydfuddiannol, yn yr ystyr fod y tâl yn gysylltiedig i raddau helaeth â pherfformiad.

Cafodd ansawdd a phris cyflwyniadau pob un o’r tri chynigydd ar y rhestr fer eu profi drwy’r ymarfer caffael, a chyflwynodd Meridiam y tendr mwyaf buddiol yn economaidd yn unol â Rheoliadau Contractau Cyhoeddus 2015, felly gallaf yn sicr ddarparu’r sicrwydd hwnnw, ac fel y gŵyr Rhun ap Iorwerth, mae gan Lywodraeth Cymru ran yn yr ymarfer hwn hefyd, sy'n golygu y byddwn yn elwa ar unrhyw elw a wneir ynghyd â'r partneriaid eraill hynny.

13:45

Os caf droi, i gloi, at fath arall o fenthyca, cyhoeddodd Canghellor y Trysorlys gynlluniau ar 9 Tachwedd i'r DU gyhoeddi ei bondiau gwyrdd cyntaf y flwyddyn nesaf, fel rhan o ymdrech i hyrwyddo statws dinas Llundain fel canolbwynt ariannol byd-eang ac i ariannu ymdrechion i ddatgarboneiddio. Pe bai Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi ei bondiau ei hun, rwy'n derbyn y byddai hynny’n cyfrif tuag at ei chap ar fenthyca, sy’n rhywbeth yr hoffem ei gynyddu, wrth gwrs; rwyf wedi gwneud fy sylwadau i'r Gweinidog ynglŷn â hynny. Maent hefyd yn derbyn y dystiolaeth a roddwyd gan Gerry Holtham i adolygiad y Pwyllgor Cyllid o ffynonellau cyllid cyfalaf Llywodraeth Cymru yng nghyswllt bondiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Ond credaf fod pwynt pwysig i'w wneud yma ynglŷn ag adeiladu cenedl a Llywodraeth Cymru yn dynodi ei hymrwymiad nid yn unig i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd ond hefyd ei huchelgais i sicrhau bod Cymru mewn sefyllfa i fod yn rhan o farchnad fyd-eang y bondiau hyn, sy’n werth biliynau o bunnoedd ac sy’n tyfu. A yw Llywodraeth Cymru wedi archwilio’r defnydd o fondiau gwyrdd, a rôl bosibl banc datblygu Cymru yn hyn? Gallwn weld KfW yr Almaen fel enghraifft—banc datblygu dan berchnogaeth gyhoeddus sy’n un o'r gweithredwyr pwysicaf yn y farchnad bondiau gwyrdd ar hyn o bryd.

Wel, fel y dywed Rhun ap Iorwerth, byddai unrhyw fondiau’n cyfrif tuag at ein benthyca fel Llywodraeth Cymru, ac wrth gwrs mae gennym y terfyn cyfanredol hwnnw o £1 biliwn ac uchafswm benthyca o £150 miliwn mewn unrhyw flwyddyn, sy’n swm cymharol fach o arian rhwng popeth. Bydd hefyd yn ymwybodol o'r trafodaethau rydym eisoes wedi’u cael, y bydd Llywodraeth Cymru bob amser yn ceisio defnyddio'r mathau rhataf o fenthyca yn gyntaf, ac wrth gwrs, mae bondiau ar y pen drutach, a dyna pam nad yw'n rhywbeth rydym wedi mynd ar ei drywydd hyd yn hyn. Ond rwy'n rhannu ei awydd i gael mwy o hyblygrwydd o ran benthyca, a chynyddu'r swm y gallem ei fenthyca bob blwyddyn, ond gan gynyddu'r ffigur cyfanredol cyffredinol hwnnw hefyd.

Trethi Newydd

3. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i greu trethi newydd cyn diwedd y Senedd hon? OQ55933

Gwnaf. Nid oes unrhyw gynlluniau i greu trethi newydd cyn diwedd tymor y Senedd hon.

Roeddwn i'n amau efallai fyddai yna ddim amser, ond mae yna un dreth newydd, gweddol newydd, yn cael ei gweithredu yng Nghymru ers tua thair blynedd erbyn hyn, sef y dreth trafodiadau tir. Y bore yma, fe glywodd y Prif Weinidog a finnau gyflwyniadau dirdynnol a phwerus iawn gan drigolion o Ben Llŷn sydd yn cael eu prisio allan o'u cymunedau oherwydd cynnydd anferth mewn pryniant ail gartrefi. Fe allai cynyddu’r raddfa uwch o'r dreth trafodion tir gael ei ddefnyddio fel ffordd fechan o geisio lliniaru'r argyfwng ail gartrefi. Fedrwch chi esbonio pa gamau fyddai angen i'r Llywodraeth a chithau fel Gweinidog eu cymryd er mwyn cynyddu'r raddfa uwch yma—proses eithaf syml y gellid ei rhoi ar waith yn syth?

Diolch i Siân Gwenllian am ei chwestiwn, a hefyd am gael y cyfarfod gyda’r Prif Weinidog yn gynharach heddiw, ac edrychaf ymlaen at gael clywed ganddo yn nes ymlaen y prynhawn yma ynglŷn â’r cyfarfod penodol hwnnw hefyd. Mewn egwyddor, wrth gwrs, gallwn wneud newidiadau yn ystod y flwyddyn i'n treth trafodiadau tir. Rwy'n awyddus iawn—. Mae gennym drothwyon a chyfraddau’r dreth trafodiadau tir a gyhoeddwyd ychydig fisoedd yn ôl bellach, ac mewn perthynas â'r farchnad dai, credaf ei bod yn bwysig rhoi rhyw fath o sicrwydd, hyd at 31 Mawrth o leiaf. Felly, ni chredaf y byddwn am wneud newidiadau ar unwaith yn ystod y flwyddyn. Rwyf hefyd yn ymwybodol iawn o effaith ymddygiadol cyhoeddi newidiadau a fyddai’n cael eu cyflwyno yn nes ymlaen. Mae'r newidiadau ar hyn o bryd, sy'n ei gwneud yn fanteisiol i bobl brynu tai ar hyn o bryd, yn golygu, gobeithio, ein bod yn dod â thrafodiadau tir ymlaen o'r flwyddyn nesaf i'r flwyddyn ariannol hon, a fydd yn rhoi hwb i ni ac yn rhoi hwb i'r farchnad dai ac yn rhoi hwb i'r holl fusnesau sy'n dibynnu ar symud tŷ hefyd. Felly, ni fyddwn yn bwriadu rhoi cyfnod arweiniol hir ar gyfer unrhyw newidiadau yn y dreth trafodiadau tir am y rheswm penodol hwnnw.

13:50

Weinidog, mae Aelodau, wrth gwrs, wedi codi cymorth i dwristiaeth yn amlach nag unrhyw sector arall ers mis Mawrth, ac a bod yn deg, mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod yr heriau hynny ac wedi ceisio ymateb i sawl un ohonynt. Ond mae'n amlwg fod unrhyw ddadl y byddai treth dwristiaeth yn codi arian i'w roi yn ôl yn y sector yn chwalu nawr. Os oes gennym fusnesau’n cau a darpar ymwelwyr yn peidio â dod—yn amlwg, byddant yn poeni am eu harian eu hunain beth bynnag—wel, mae'n amlwg na fydd unrhyw un yma i dalu'r dreth honno. Felly, os gwelwch yn dda, peidiwch â rhoi rheswm arall iddynt beidio â dod. Ni chredaf y byddwch yn mynd yn bell iawn gyda threthi yn ystod y tymor hwn, fel y dywedoch chi, ond a fydd eich cais i ddychwelyd i'r Llywodraeth yn cynnwys ymrwymiad i beidio â chodi treth dwristiaeth?

Wel, Lywydd, ni fyddaf yn gwneud unrhyw gyhoeddiadau maniffesto yn y Siambr y prynhawn yma, ond credaf fod cryn dipyn i'w ystyried mewn perthynas â’r dreth dwristiaeth. Mae'n sicr yn rhywbeth sy'n boblogaidd iawn gydag awdurdodau lleol, yn enwedig mewn ardaloedd twristaidd, sydd am wella eu cynnig twristiaeth. Ac er nad yw'r polisi wedi'i ddatblygu'n llawn eto, nid ydym wedi cynnal ymgynghoriad llawn arno, mae'n rhywbeth rydym yn ei ystyried mewn perthynas â'r pedwar maes trethiant a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog beth amser yn ôl. Felly, nid oes unrhyw gynlluniau ar gyfer y dyfodol agos. Fodd bynnag, credaf ei fod yn faes sy'n haeddu rhywfaint o ystyriaeth bellach. Rwy'n ymwybodol iawn o sefyllfa'r sector twristiaeth ar hyn o bryd a'r anawsterau y maent wedi'u hwynebu. Felly, yn amlwg, ni fyddai’n rhywbeth i’w ystyried ar unwaith, ond ni chredaf fod hynny’n golygu na ddylem gael y sgyrsiau hynny ynglŷn â beth allai fod yn briodol yn y dyfodol, pan fydd y sefyllfa'n well.

Weinidog, ymddengys i mi fod angen i economi'r DU ymadfer, ac yn bwysicach, mae angen iddi dyfu. Mae’n rhaid i'r ymagwedd yn y dyfodol ymwneud i raddau mwy ag annog gwariant a thwf a hyder, a pheidio â rhwystro pob un o'r rhain drwy orfodi unrhyw feichiau treth uwch yng Nghymru. A ydych yn cytuno â'r datganiad hwnnw?

Byddwn wrth fy modd yn annog gwariant a thwf a hyder, ond credaf fod y Canghellor wedi tywallt ychydig o ddŵr oer ar hynny heddiw drwy gyhoeddi y bydd cyflogau gweithwyr y sector cyhoeddus yn cael eu rhewi—gweithwyr yn y sector cyhoeddus sy'n gwario eu harian yn yr economi leol ac a fydd yn poeni mwy fyth yn awr am eu harian yn y dyfodol hefyd. Felly, credaf y bydd hyn yn atal unrhyw wario y gallent fod wedi bwriadu’i wneud.

Ond mae fy ymagwedd at drethiant yn un gwbl dryloyw a chynhwysol. Ac fe wyddoch fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei hegwyddorion treth, ac mae’r rheini’n ymwneud â chreu trethi yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, creu trethi sy'n deg, a chreu trethi sy'n syml i'w gweinyddu ac ati. Felly, mae ein hymagwedd yn glir iawn ac ni chredaf fod unrhyw beth i bobl ei ofni, gan ein bod yn canolbwyntio'n bendant ar greu agenda flaengar.

Rwy’n derbyn y byddai’n anodd iawn cyflwyno trethi newydd cyn diwedd tymor y Senedd hon, sydd bedwar neu bum mis i ffwrdd yn unig, ond gall Llywodraeth Cymru wneud newidiadau i drethi presennol. A wnewch chi ystyried ychwanegu mwy o fandiau uwch at y dreth gyngor? Credaf ei bod yn warthus fod rhywun sy'n talu £400,000 am dŷ, neu rywun sydd â thŷ gwerth oddeutu £400,000, yn talu'r un dreth gyngor â rhywun sydd â thŷ sy’n werth £2.5 miliwn neu £3 miliwn. Hefyd, thema sy'n codi dro ar ôl tro—atal eiddo a adeiladir fel eiddo preswyl rhag cael eu cofrestru fel busnesau bach a chael rhyddhad ardrethi busnesau bach.

Diolch i Mike Hedges am godi hynny. Mae'r ddau fater hyn yn rhai y mae wedi'u codi gyda mi yn y gorffennol hefyd. Archwiliais yr awgrym cyntaf ynghylch ychwanegu bandiau ychwanegol i’r dreth gyngor, ond fe'm cynghorir na ellid gwneud hynny'n iawn heb gynnal ymarfer ailbrisio llawn ar ein holl anheddau domestig yma yng Nghymru, ac ni ellid cyflawni hynny cyn tymor nesaf y Senedd, felly nid yw'n rhywbeth y gallem ei wneud ar unwaith. Ac yn amlwg, ni ellid cynnig y newidiadau hynny i fandiau’r dreth gyngor heb ymgynghoriad llawn a sylweddol â thalwyr y dreth gyngor, awdurdodau lleol ac eraill a fyddai’n cael eu heffeithio.

Mae ymarferion ailbrisio’n galw am waith sylweddol iawn ac maent yn costio degau o filiynau o bunnoedd, a deallaf eu bod yn cymryd oddeutu tair blynedd i'w cwblhau, gan ddefnyddio'r fethodoleg gyfredol. Ond wedi dweud hynny, gwnaethom gomisiynu'r ymchwil annibynnol gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a gyhoeddwyd yn gynharach eleni, ac mae honno’n edrych ar beth fyddai effaith ailbrisio’r dreth gyngor, ac yn sicr, gallai sicrhau system fwy blaengar. Felly, byddwn yn edrych ar ganfyddiadau'r ymchwil a gomisiynwyd gennym ar gyfer y dreth gyngor ac ardrethi annomestig gyda'i gilydd yn y flwyddyn newydd, a chredaf mai mater i'r Llywodraeth nesaf fyddai penderfynu ar y ffordd ymlaen. Ond mae'n gynnig diddorol iawn. Ac yn yr un modd, byddai'r awgrym am gynyddu—credaf mai awgrym am gynyddu sydd y tu ôl i gwestiwn Mike—nifer y nosweithiau y mae'n rhaid gosod eiddo a’i hysbysebu os yw'n mynd i gael ei ddosbarthu’n eiddo gwyliau ar osod yn galw am ddeddfwriaeth hefyd. Felly, credaf y bydd yn anodd inni gymryd unrhyw gamau pellach sy'n galw am ddeddfwriaeth, o ystyried y pwysau ar ein hamserlen ddeddfwriaethol dros yr ychydig fisoedd nesaf.

13:55
Cefnogi Ardal Pontypridd

4. Pa gyllid ychwanegol y bydd y Gweinidog yn ei ddyrannu yn y gyllideb i gefnogi ardal Pontypridd yn sgil COVID-19? OQ55926

Byddwn yn parhau i ymateb i heriau'r pandemig ac yn adeiladu ar y cyllid rydym eisoes wedi'i ddarparu eleni, gan gynnwys £70 miliwn i fusnesau yn Rhondda Cynon Taf, £50 miliwn i'r awdurdod lleol, a chyllid a ddarparwyd i'r trydydd sector a sefydliadau celfyddydol ym Mhontypridd.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwyf newydd fod yn gwrando ar ddatganiad ariannol y Canghellor, ac yn y bôn, mae’r rhan gyntaf yn torri addewid ynglŷn â darparu arian yn lle arian yr UE, ac rydym yn cofio'r addewid, sef 'ni fydd Cymru'n colli ceiniog.’ Wel, mae'n wir—nid ydym wedi colli ceiniog, rydym wedi colli cannoedd o filiynau o bunnoedd. Yr ail ran yn amlwg yw'r sarhad ar lawer o weithwyr y sector cyhoeddus, gan fod eu cyflogau’n cael eu rhewi. Ond yn drydydd, gwnaeth Prif Weinidog y DU addewid i basio cyllid i ni ar gyfer difrod llifogydd i'r seilwaith. Weinidog, a allwch ddweud wrthym, a ydym wedi cael y cyllid a addawyd, neu a yw hwnnw’n addewid arall y mae’r Torïaid wedi’i dorri?

Mae arnaf ofn fod yn rhaid imi roi gwybod i Mick Antoniw nad ydym wedi cael yr arian a addawyd ar lawr Senedd y DU gan Brif Weinidog y DU i fynd i’r afael ag effaith y llifogydd a gawsom yn gynharach eleni yng Nghymru, llifogydd a effeithiodd arnom yn anghymesur o gymharu ag unrhyw le arall yn y DU. Cyn yr adolygiad o wariant heddiw, ysgrifennais at y Canghellor i ddweud bod hwn yn gyfle gwych iddo nodi ei ymateb i'r llifogydd yn ei gynlluniau ar gyfer buddsoddi mewn seilwaith dros y blynyddoedd i ddod, a'n galluogi i gael sicrwydd o gyllid dros y blynyddoedd i ddod. Ond yn anffodus, syrthiodd hynny ar glustiau byddar. Mae gennyf gyfarfod wedi'i drefnu gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys ym mis Rhagfyr i drafod yr union fater hwn, ond credaf ei fod yn gyfle a gollwyd heddiw.

Yn amlwg, cyfle a gollwyd i lawer o fusnesau yn Rhondda Cynon Taf, ac yn enwedig ardal Pontypridd, oedd y gallu i gael mynediad at gyllid Llywodraeth Cymru, a gaeodd ar ôl 24 awr. Mae Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru wedi dweud ei fod yn obeithiol y bydd rownd gyllido newydd ar gael. Pan gaeodd y cyllid ar ôl 24 awr, dywedodd fod y pot hwnnw o arian wedi’i ddihysbyddu’n llwyr, Weinidog cyllid. A ydych wedi cael cais gan Weinidog yr economi i ryddhau arian ychwanegol i'w adran fel y gallai’r nifer o fusnesau a fethodd gael y cymorth hwn wneud cynnig yn y dyfodol i gael y gefnogaeth honno i gynnal eu busnesau?

Wel, mae'n rhaid imi ddweud wrth yr Aelod fod 2,379 o daliadau gwerth dros £7 miliwn wedi'u gwneud o'r gronfa i fusnesau dan gyfyngiadau, gan gefnogi dros 22,000 o swyddi. Dyfarnwyd cyllid i gyfanswm o 750 o ficrofusnesau a mentrau bach a chanolig drwy'r gronfa cadernid economaidd, sef cyfanswm o £11.6 miliwn, ac mae 707 o daliadau gwerth cyfanswm o dros £1.9 miliwn wedi’i gwneud hyd yn hyn o gronfa cam 3 y gronfa cadernid economaidd i fusnesau dan gyfyngiadau. Ac mae pob un o’r rhain yn berthnasol i fusnesau yn RhCT. A thrwy grant ardrethi busnes annomestig COVID-19, mae cyfanswm o 3,767 o ddyfarniadau wedi'u prosesu i fusnesau, sef cyfanswm o £43.8 miliwn. Ac wrth gwrs, mae Banc Datblygu Cymru wedi bod yn brysur yn benthyca i fusnesau yn RhCT ac wedi darparu dros £6 miliwn i 66 o fusnesau, gan ddiogelu 900 o swyddi. Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn effeithiol ac yn brysur iawn yn cefnogi busnesau yn RhCT, fel y gwelwch o'r ffigurau yno. Yn amlwg, rydym am wneud mwy, ac rydym am ddeall yr heriau penodol sy'n ymwneud â cham 3 y gronfa cadernid economaidd yn well, ac rwy'n cael trafodaethau cyson gyda Gweinidog yr economi a thrafnidiaeth ynghylch cyllid yn y dyfodol a chymorth i fusnesau yn y dyfodol.

14:00
Trafnidiaeth Cymru

5. Pa ddyraniadau cyllidebol ychwanegol y bydd y Gweinidog yn eu darparu i gefnogi Trafnidiaeth Cymru gan ei bod bellach wedi cymryd rheolaeth dros fasnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r gororau? OQ55928

Rydym wedi sicrhau bod £113 miliwn yn ychwanegol, a gymeradwywyd gan y Senedd yr wythnos diwethaf yn yr ail gyllideb atodol, ar gael ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd. Rydym yn parhau i fonitro pa gyllid pellach y gallai fod ei angen ar gyfer gweithredu gwasanaethau tan ddiwedd y flwyddyn.

Felly, mae Llywodraeth Cymru bellach, yn uniongyrchol, neu o leiaf drwy Trafnidiaeth Cymru, sy’n eiddo 100 y cant i Lywodraeth Cymru, yn talu arian eithaf sylweddol i sybsideiddio gwasanaethau yn Lloegr, gan gynnwys gorsafoedd nad oes mwy na llond llaw o deithwyr yn eu defnyddio o bosibl. Yn ogystal, Trafnidiaeth Cymru yw perchennog cyfleuster yr orsaf mewn gorsafoedd eithaf mawr yn Lloegr, fel Henffordd, Amwythig a Chaer. Mae Adran Drafnidiaeth y DU yn ystyried trosglwyddo’r cyfrifoldeb am y gorsafoedd hynny oddi wrth Trafnidiaeth Cymru. A yw hynny'n rhywbeth y byddai'r Gweinidog cyllid yn ei gefnogi, ac oni ddylai Llywodraeth y DU fod yn gwneud mwy yn y maes hwn nawr?

Dylai Llywodraeth y DU fod yn gwneud mwy o lawer yn y maes hwn. Rydym yn ymwybodol iawn fod Cymru, ers gormod o amser, wedi bod yng nghefn y ciw pan oedd Llywodraeth y DU yn buddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd, ac mae llawer o’r cerbydau rydym yn eu defnyddio ar hyn o bryd bron yn 40 oed. Ar sail yr ymrwymiadau sy'n hysbys ar gyfer y cyfnod rhwng 2019 a 2029, rydym yn amcangyfrif diffygion o hyd at £5.1 biliwn dros y cyfnod hwn.

Mae’n rhaid imi ddweud fy mod hyd yn oed yn fwy pryderus nag erioed bellach am gyllid rheilffyrdd yng Nghymru o ganlyniad i'r adolygiad o wariant heddiw. Bydd yr Aelod yn gwybod bod fformiwla Barnett yn gweithio ar yr hyn a elwir yn ffactorau cydweddoldeb rhwng adrannau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru mewn perthynas â phwy sy'n gyfrifol am beth, a fy nealltwriaeth i, er nad ydym wedi edrych eto ar y taenlenni yn dilyn datganiadau'r Canghellor, yw y bydd y ffactor ar gyfer yr Adran Drafnidiaeth yn cael ei dorri'n helaeth o ganlyniad i HS2. Felly, mae hynny'n peri cryn bryder. Yn anffodus, nid wyf wedi gweld y taenlenni sydd bob amser yn cael eu rhannu ar ôl i'r Canghellor wneud ei ddatganiad, gan fy mod wedi bod yma y prynhawn yma, ond cyn gynted ag y cawn gyfle ar ôl ateb cwestiynau, bydd gennym well dealltwriaeth o beth fydd y goblygiadau real i ni.

Weinidog, bydd Trafnidiaeth Cymru, wrth gwrs, yn ysgwyddo cryn dipyn o gyfrifoldebau ychwanegol dros y blynyddoedd i ddod. Nodaf fod Trafnidiaeth Cymru yn parhau i gyflogi nifer sylweddol o ymgynghorwyr allanol yn hytrach na defnyddio adnoddau mewnol Trafnidiaeth Cymru. Pan ofynnwyd iddo ynglŷn â hyn yr wythnos diwethaf, yr hyn a ddywedodd James Price, prif swyddog gweithredol Trafnidiaeth Cymru, oedd pe bai ganddynt lythyr cylch gwaith ar gyfer y tymor hwy, gallent i bob pwrpas ariannu sgiliau mewnol ychwanegol yn Trafnidiaeth Cymru, gan leihau’r angen am ymgynghorwyr allanol. Credaf mai’r awgrym yno yw y gellid arbed cryn dipyn o arian. A yw hyn yn rhywbeth rydych wedi'i drafod â'ch cyd-Aelod, Gweinidog yr economi a thrafnidiaeth?

Byddem bob amser wrth ein boddau’n rhoi sicrwydd mwy hirdymor i bartneriaid ynglŷn â’u cyllid, ac yn sicr, mae'n rhywbeth y mae'r Canghellor wedi gallu ei gynnig i ysgolion a'r GIG dros y ffin yn Lloegr, yn ogystal â phrosiectau seilwaith, ond nid yw wedi gallu cynnig yr un math o sicrwydd i ninnau. Felly, mae adolygiad o wariant un flwyddyn, yn dilyn rownd wariant un flwyddyn arall a gawsom y llynedd, yn golygu bod y sefyllfa'n anodd iawn o ran darparu unrhyw lefel o sicrwydd.

Felly, ydw, rwy'n cael trafodaethau am drefniadau cyllido’r dyfodol gyda fy nghyd-Aelod Ken Skates, ac yn amlwg, bydd yn awyddus i gael mwy o syniad ynglŷn â chyllid ar gyfer y blynyddoedd i ddod, ac rydym yn ystyried model a allai ddarparu hynny, ond rwy'n ymwybodol iawn y byddai'n rhaid cael llawer iawn o hyblygrwydd yn hwnnw i ganiatáu inni ymateb i sefyllfaoedd annisgwyl. Er enghraifft, yn gynharach eleni, bu’n rhaid inni ddefnyddio'r hyblygrwydd mwyaf posibl gyda chyllidebau Llywodraeth Cymru i ailddyrannu cyllid er mwyn ymateb i COVID-19. Felly, mae'n drafodaeth rydym yn ei chael yn y cyd-destun hwnnw, a hefyd, mae'n rhaid i mi ddweud, yng nghyd-destun dyfodol cyllido rhanbarthol, ond unwaith eto, mae llawer yn dibynnu ar ganlyniad yr adolygiad o wariant heddiw o ran faint y byddwn yn gallu ei ddyrannu ar gyfer hynny.

14:05
Y Gwyliau Treth Trafodion Tir

6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwyliau treth trafodion tir sydd ar waith yng Nghymru tan 31 Mawrth 2021? OQ55938

Yr effaith y bwriedir i’r newidiadau dros dro i’r dreth trafodiadau tir ei chael oedd annog trafodiadau yn y farchnad dai yn ystod gweddill y flwyddyn ariannol hon. Mae'r data diweddaraf ar gyfer y dreth trafodiadau tir yn dangos tueddiadau cadarnhaol mewn trafodiadau a refeniw trethi o gymharu â misoedd cynnar y flwyddyn ariannol hon.

Datgelodd adroddiad yn gynharach y mis hwn gan Halifax fod cyfartaledd prisiau tai yn y DU bellach yn £250,000. Daeth hyn ar ôl adroddiad y mis diwethaf gan Nationwide a ganfu fod prisiau tai’r DU yn codi ar eu cyfradd gyflymaf ers pum mlynedd, ac mae hyn wedi’i briodoli’n rhannol i ruthr i brynu cyn diwedd y seibiant rhag talu'r dreth stamp yn Lloegr y gwanwyn nesaf, tra'n bod ni yng Nghymru wedi mabwysiadu dull llawer tecach a mwy blaengar drwy'r dreth trafodiadau tir, sy'n adlewyrchu natur ein marchnad dai yn well. Gyda hynny mewn golwg, wrth inni agosáu at ddiwedd y seibiant rhag talu'r dreth trafodiadau tir yma yng Nghymru, a all y Gweinidog gadarnhau heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn nodi ei chynlluniau i ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol drwy gydol y broses er mwyn osgoi cynnydd mewn prisiau a fyddai’n rhoi pwysau ar dai fforddiadwy yn ardaloedd gogleddol yr etholaeth rwy’n ei chynrychioli?

Diolch i Hefin David am godi'r mater penodol hwnnw. Wrth inni agosáu at ddiwedd y flwyddyn, yn amlwg, byddaf yn awyddus i glywed barn fy nghyd-Aelodau yn y Siambr, ac i ymgysylltu hefyd â rhanddeiliaid ynghylch dyfodol posibl y dreth trafodiadau tir. Yn amlwg, rwy'n awyddus i beidio â gwneud cyhoeddiadau yn rhy bell ymlaen llaw, gan fod hynny'n arwain at sefyllfaoedd lle mae pobl yn ceisio rhagbrynu a newid amseriad eu pryniant er mwyn cael y fargen orau, sy'n beth cwbl ddealladwy i'w wneud, ond os ydych yn defnyddio trethi i geisio hybu ymddygiad penodol, mae'n amlwg fod rhai problemau ynghlwm wrth hynny.

Felly, yn amlwg, rydym wedi ymrwymo'n llwyr i dryloywder mewn perthynas â'n polisi trethi, ac rwy’n awyddus i gael trafodaethau pellach gyda Hefin David ynghylch goblygiadau ac effeithiau penodol newidiadau i drethi yn ei etholaeth ef, yn enwedig yng ngogledd ardal Caerffili.

Weinidog, rydym wedi croesawu'r toriad i’r dreth trafodiadau tir, er ei fod yn doriad dros dro ac yn llai hael na’r hyn sy'n digwydd yn Lloegr. Ein polisi ers peth amser, wrth gwrs, yw codi trothwy’r dreth trafodiadau tir i £250,000 ar gyfer prynwyr tro cyntaf yn barhaol, yn hytrach na dros dro yn unig. Pa ystyriaeth rydych wedi'i rhoi i sicrhau bod hwn yn newid parhaol yn y dreth trafodiadau tir?

Mae rhesymau da iawn dros gael trothwyon gwahanol yng Nghymru o gymharu â Lloegr, ac maent yn ymwneud, yn fwyaf nodedig, â’r ffaith bod prisiau tai ar gyfartaledd yn wahanol iawn yma yng Nghymru. Felly, mae cyfartaledd prisiau tai yn Lloegr ar hyn o bryd yn £262,000, ac yng Nghymru, mae’n llawer llai na hynny, oddeutu £165,000. Felly, maent yn amlwg yn farchnadoedd tai gwahanol iawn, a chredaf ei bod yn gwbl briodol cael trothwyon gwahanol ar gyfer y dreth trafodiadau tir i adlewyrchu hynny.

Datblygu Economaidd ym Mlaenau'r Cymoedd

7. Pa ystyriaeth y bydd y Gweinidog yn ei rhoi i hyrwyddo datblygiad economaidd trefi ym Mlaenau'r Cymoedd wrth ddyrannu cyllid i bortffolio'r economi, trafnidiaeth a gogledd Cymru? OQ55929

Mae trawsnewid trefi, cefnogi'r economi sylfaenol, uwchraddio seilwaith mawr a thargedu buddsoddiad newydd ar gyfer Blaenau’r Cymoedd yn flaenoriaethau pwysig i Lywodraeth Cymru. Yn ystod y pandemig, rydym wedi darparu dros £150 miliwn mewn cymorth i fusnesau i ddiogelu swyddi a busnesau ar draws Blaenau’r Cymoedd.

Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei hateb. Un maes lle rwy'n cytuno â Changhellor Trysorlys y DU, wrth iddo siarad heddiw yn Nhŷ'r Cyffredin, yw pan ddywedodd mai megis dechrau y mae'r argyfwng economaidd rydym yn ei wynebu o ganlyniad i'r pandemig coronafeirws. Pryd bynnag y ceir argyfwng economaidd, un o'r gwersi rydym wedi'u dysgu ym Mlaenau’r Cymoedd yw mai ni sy'n dwyn baich yr argyfwng hwnnw. Gwelsom hynny yn y 1980au wrth i Lywodraethau Thatcher ddinistrio’r diwydiannau trwm, fe’i gwelsom eto o ganlyniad i'r argyfwng ariannol byd-eang, ac rydym wedi dioddef 10 mlynedd o gyni Torïaidd sydd wedi rhwygo'r galon allan o'n cymunedau.

Credaf fod pobl ar draws Blaenau’r Cymoedd yn ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am y gefnogaeth a ddarparwyd gan Lywodraeth Cymru, ar lefel uwch o lawer nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig. Ond wrth ymadfer wedi'r argyfwng hwn, a allwn sicrhau bod dyfodol trefi wrth wraidd y ffordd y mae'r Llywodraeth yn symud ymlaen, a sicrhau y ceir ffocws ar drefi fel Tredegar neu Lynebwy, Abertyleri neu Fryn-mawr, sydd wrth wraidd nid yn unig ein cymunedau lleol, ond ein heconomïau lleol hefyd, ac wrth hybu twf economaidd o ganlyniad i'r argyfwng hwn, y gallwn sicrhau ffocws cryf ar ddyfodol trefi?

14:10

Cytunaf yn llwyr y bydd angen inni adeiladu, yn y dyfodol, ar raglen Trawsnewid Trefi a sicrhau bod gennym ffocws cryf iawn ar drefi. Bydd canol trefi’n edrych yn wahanol yn y dyfodol, ond rwyf am iddynt edrych fel lleoedd bywiog serch hynny. Ac mae angen inni ystyried mwy o adfywio a arweinir gan dreftadaeth, ac mae rhai enghreifftiau gwych o hynny ar draws y Cymoedd. Mae adfywio a arweinir gan dai, yn fy marn i, hefyd yn bwysig iawn.

Mae peth o'r gwaith y buom yn ei wneud eisoes sy'n ymwneud yn benodol â'r darlun adfer yn cynnwys darparu cyllid tuag at gynllun gwerth £1.3 miliwn i greu lleoliad gweithio hyblyg ar safle’r Gweithfeydd yng Nglynebwy. Credaf y bydd gweithio hyblyg yn bwysicach nag erioed yn awr. Ac rydym yn darparu cyllid tuag at gynllun gwerth £5.1 miliwn a fydd yn dod â busnesau newydd i Fryn-mawr. Ac mae rhywfaint o gyllid pellach hefyd i gefnogi prosiectau newydd yn Nhredegar, Bryn-mawr a Nant-y-glo. Credaf y bydd yr holl bethau hyn yn bwysig wrth inni geisio ymadfer wedi'r pandemig.

Buddsoddi Strategol ym Mhreseli Sir Benfro

8. Beth yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer buddsoddi strategol ym Mhreseli Sir Benfro? OQ55914

Rydym yn buddsoddi ym mhob rhan o Gymru i gefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus, ein busnesau a'n cymunedau. Ymhlith y buddsoddiadau yn Sir Benfro mae £48.7 miliwn ar gyfer ysgol uwchradd newydd yn Hwlffordd a £40 miliwn ar gyfer gwelliannau i'r A40. Mae Cyngor Sir Penfro hefyd wedi derbyn dyraniad o £6.9 miliwn o gyllid targedu buddsoddiad mewn adfywio.

Weinidog, rwy'n ddiolchgar i chi am eich ateb. Nawr, rwy'n parhau i dderbyn sylwadau gan drigolion yng Nghwm Abergwaun yn fy etholaeth ynglŷn â diogelwch ar y ffyrdd yn eu cymuned leol. Ac er gwaethaf ymrwymiadau cadarnhaol gan Weinidogion blaenorol ar y mater hwn, nid yw’r gwelliannau i'r A487 yn yr ardal benodol hon wedi’u rhoi ar waith o hyd. Weinidog, pa sicrwydd y gallwch ei roi i bobl Cwm Abergwaun y bydd gwelliannau i'r gefnffordd yn cael eu cyflawni, ac a wnewch chi ymrwymo i weithio gyda Chyngor Sir Penfro a thrigolion lleol i sicrhau ateb parhaol i'r ardal leol, fel bod y rhan hon o Gymru'n cael y buddsoddiad strategol y mae'n ei haeddu?

Diolch i Paul Davies am ei gwestiwn. I gychwyn, credaf y dylwn ymrwymo i gael trafodaeth gyda Gweinidog yr economi a thrafnidiaeth, fel y gallaf gael gwell dealltwriaeth o’r materion sydd wedi rhwystro’r cynllun penodol hwnnw ar gyfer Cwm Abergwaun a'r A487 rhag mynd yn ei flaen.

Portffolio'r Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gostyngiad yng nghyfanswm y dyraniad refeniw a chyfalaf ar gyfer portffolio'r amgylchedd, ynni a materion gwledig yn yr ail gyllideb atodol ar gyfer 2020-21? OQ55909

Yn yr ail gyllideb atodol, gostyngodd cyllideb cyfalaf y portffolio amgylchedd, ynni a materion gwledig £10.8 miliwn o ganlyniad i'r ymarfer i nodi'r cyllidebau cyfalaf a oedd yn debygol o danwario eleni oherwydd yr argyfwng coronafeirws ac y gellid, yn y lle cyntaf, eu haddasu at ddibenion gwahanol.

Weinidog, mae'n ddrwg gennyf, ond credaf ei bod yn echrydus ac yn siomedig iawn eich bod wedi cytuno i ostyngiad o bron i £11 miliwn yn y dyraniad refeniw a chyfalaf ar gyfer yr amgylchedd a materion gwledig. Hoffwn gyfeirio at sefyllfa hyd yn oed yn waeth sy'n peri cryn bryder i mi a'r sector amaethyddol. Fel y gwyddoch, mae gan yr amgylchedd, ynni a materion gwledig adnoddau cronnus o £97 miliwn. Mae hyn yn cynnwys incwm o'r UE i gefnogi ffermwyr a chymunedau gwledig yng Nghymru. Mae ymdriniaeth hanesyddol Llywodraeth Cymru o arian ar gyfer cymorth i ffermwyr yn fethiant difrifol. Mewn gwirionedd, efallai eich bod yn cofio mai £828 miliwn oedd y gyllideb ar gyfer y cynllun datblygu gwledig yng Nghymru ar gyfer 2014-20. Nawr, er fy mod yn cydnabod y gellir gwario yn ystod y tair blynedd ar ôl cyfnod y rhaglen, roedd y cyllid hwnnw ar gyfer 2014-20 yn unig. Pam, felly, fod oddeutu £160 miliwn heb ei wario o hyd, a pha gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd ar frys i fynd i’r afael â’r camreoli cyllidebol hwn a’r methiant i fonitro, er mwyn sicrhau bod yr holl arian ar gael, ac ar gael yn awr, i’n holl ffermwyr sydd cymaint o angen cefnogaeth? Diolch.

Wel, dau beth pwysig yma. Mae'r cyntaf yn ymwneud â'r cyllid o £10.8 miliwn y nodwyd y gellid ei addasu at ddibenion gwahanol. Cyllid cyfalaf yn unig yw hwnnw—nid oedd yn refeniw—ac mae £9.5 miliwn ohono'n ymwneud ag atal ymbelydredd a llygredd. Mae'n ymwneud â llithriant eleni mewn perthynas â chynllun ansawdd aer glân cyngor Caerdydd i gadw at derfynau cyfreithiol ar gyfer nitrogen deuocsid o dan y cyfarwyddiadau ansawdd aer yr amgylchedd a roddwyd i gyngor Caerdydd a chyngor Caerffili. Amcangyfrifir fod llithriannau'r cynghorau hynny oddeutu £9.5 miliwn, ac mae hynny o ganlyniad i’r pandemig, a olygodd na fu modd bwrw ymlaen â gwaith ar yr un cyflymder.

Roedd yr £1.3 miliwn arall tuag at alluogi adnoddau naturiol yng Nghymru, sef grant a ganolbwyntiai ar weithgareddau a chamau gweithredu cydweithredol i ddarparu gwelliant a gwytnwch amgylcheddol. Unwaith eto, oherwydd y pandemig coronafeirws, bu’n rhaid atal y prosiectau hynny yn ystod y cyfyngiadau symud. Felly, mae'r rhain i raddau helaeth yn ganlyniadau effaith y pandemig yn hytrach na dewisiadau bwriadol i oedi gwaith o fewn y portffolio pwysig hwnnw. Credaf fod yn rhaid inni gydnabod bod y pandemig wedi effeithio ar ein gallu i gyflawni mewn sawl maes, ac rydym wedi gallu addasu cyllid at ddibenion gwahanol. Fe fyddwch yn gyfarwydd â'r pecyn £320 miliwn a gyhoeddais yn ddiweddar iawn ar gyfer canolbwyntio ar geisio cychwyn ein hadferiad.

Ond os ydym am sôn am fethiannau difrifol mewn perthynas â chyllid i ffermydd, cadarnhaodd y Canghellor heddiw mai £242 miliwn yn unig y bydd Cymru yn ei gael o gyllid yn lle’r polisi amaethyddol cyffredin, a golyga hyn fod Cymru £137 miliwn yn brin o'r cyllid roeddem yn disgwyl ei gael, sy'n dangos eu bod yn bradychu cefn gwlad Cymru. Wrth gwrs, yn eu maniffesto ar gyfer etholiad cyffredinol 2019, ymrwymodd Llywodraeth y DU i ddarparu cyllid llawn i ffermwyr wedi inni adael yr UE, a byddai Cymru fel arfer yn derbyn oddeutu £337 miliwn y flwyddyn drwy’r polisi amaethyddol cyffredin. Felly, os ydych yn chwilio am fethiant difrifol i reoli cyllid ac os ydych yn chwilio am enghraifft o fradychu’r diwydiant ffermio, rwy'n credu y gallwch ei weld yn yr union fan honno.

14:15
2. Cwestiynau i'r Gweinidog Addysg

Yr eitem nesaf yw cwestiynau i'r Gweinidog Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Andrew R.T. Davies.

Prifysgolion

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y cynlluniau ar gyfer myfyrwyr yn dychwelyd i brifysgolion Cymru yn y flwyddyn newydd? OQ55924

Diolch, Andrew. Mae Llywodraeth Cymru'n adolygu'r rheoliadau a'r canllawiau mewn perthynas â theithio yn ystod cyfnod y Nadolig a thu hwnt wrth inni barhau i fonitro cyfraddau trosglwyddiad yng Nghymru. Mae'n rhy gynnar i gadarnhau unrhyw drefniadau a fydd ar waith mewn perthynas â phrifysgolion yn y flwyddyn newydd.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n derbyn bod prifysgolion yn sefydliadau annibynnol, ond yn amlwg, bu cryn dipyn o symud ymhlith fyfyrwyr ar ddechrau'r flwyddyn academaidd ym mis Medi, a hwn fydd yr ail gyfle i ailadrodd symud myfyrwyr yn y fath fodd, nid yn unig yng Nghymru, ond ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig, ac yn wir, myfyrwyr rhyngwladol. Clywais yr hyn a ddywedoch—rydych o’r farn ei bod yn rhy gynnar i gyhoeddi unrhyw beth pendant ar hyn o bryd—ond a allwch nodi unrhyw themâu sy'n dod i'r amlwg y gallai fod angen eu rhoi ar waith i groesawu myfyrwyr yn ôl ym mis Ionawr, yn enwedig o ran gofal bugeiliol? Yn amlwg, gwyddom fod mis Ionawr yn tueddu i arwain at bwysau wrth i fyfyrwyr ddychwelyd o dan amgylchiadau arferol, ond gyda'r sefyllfa eithriadol y mae myfyrwyr yn ei hwynebu ar hyn o bryd, bydd gofal bugeiliol i fyfyrwyr yn hollbwysig, a bydd y gwaith y gall y Llywodraeth ei wneud i gefnogi prifysgolion, drwy iechyd y cyhoedd ac ati, yn hanfodol bwysig yn fy marn i.

Diolch, Andrew. Fe ofynnoch chi am themâu sy'n dod i'r amlwg; rwy'n benderfynol o sicrhau cyn lleied â phosibl o darfu ar addysg myfyrwyr wrth gwrs, ond yn amlwg, mae angen inni fonitro hynny fel rhan o ymateb cyffredinol y Llywodraeth i'r pandemig yng nghyswllt iechyd y cyhoedd. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'n prifysgolion ac undebau myfyrwyr, ac mae llawer o'r elfennau a fydd yn caniatáu i fyfyrwyr ddychwelyd adref ar gyfer y Nadolig yn elfennau pwysig yn ein cynlluniau ar gyfer dychwelyd yn y flwyddyn newydd, fel trefnu dyddiadau gwahanol i fyfyrwyr adael y campws. Yn amlwg, mae trefnu dyddiadau gwahanol ar gyfer dychwelyd yn rhywbeth rydym yn ei ystyried, yn ogystal â rôl hanfodol profion llif unffordd. Mae pob prifysgol yng Nghymru yn cymryd rhan yn y cynllun peilot ar gyfer profion llif unffordd. Yn amlwg, rydym am ddysgu'r gwersi o'r cynllun peilot hwnnw. Bydd y profion hynny'n parhau i gael eu cynnal yn y flwyddyn newydd, ac felly byddant yn cynorthwyo gydag unrhyw gynlluniau i sicrhau bod myfyrwyr yn dychwelyd yn ddiogel i'r campws.

Weinidog, a gaf fi ganmol y gwaith a wnaed ym Mhrifysgol De Cymru, nid yn unig ar arloesi gyda datblygiad offer profi a allai fod yn fasnachol hyfyw yn gynnar yn y flwyddyn newydd ac a allai wneud gwahaniaeth, ond hefyd y ffordd y mae'r brifysgol wedi datblygu cefnogaeth fugeiliol i'r myfyrwyr, yn sicr yn nhref Pontypridd, ac yn Nhrefforest, lle mae'r brifysgol wedi'i lleoli? Yn dilyn y cwestiwn diwethaf, yn amlwg, wynebwyd heriau mawr o ran cynnal profion ar fyfyrwyr wrth iddynt ddychwelyd adref, ac un o'r pryderon ac un o'r materion sy'n codi wrth i fyfyrwyr ddychwelyd, a chyda llawer o fyfyrwyr rhan-amser a myfyrwyr tramor, yw a fydd y gallu i brofi a chadw rheolaeth ar y pandemig COVID yn dal i fod yno. Pa fath o fesurau fydd ar waith, pa sgyrsiau sy'n mynd rhagddynt gyda Phrifysgol De Cymru er enghraifft, a phrifysgolion eraill, ac a oes unrhyw oblygiadau cyllidol a fyddai’n cynorthwyo prifysgolion i alluogi hyn i ddigwydd er lles pawb?

14:20

Diolch, Mick. Yn wir, hoffwn gofnodi fy niolch i'r prifysgolion—Prifysgol De Cymru, ac yn wir, ein holl sefydliadau addysg uwch—sydd wedi gweithio'n anhygoel o galed dros ddechrau'r flwyddyn academaidd hon i gynnal profiadau addysgol o safon, i ofalu am les eu myfyrwyr, ac i chwarae eu rhan yn rheoli’r perygl i iechyd y cyhoedd ynghanol pandemig byd-eang. A hoffwn ddiolch i'r myfyrwyr eu hunain, sy'n chwarae eu rhan drwy ddilyn y rheolau, gan gadw eu hunain a'u ffrindiau'n ddiogel. Rydym yn gweld cyfraddau'r achosion o'r feirws yn gostwng yn y rhan fwyaf o'n prifysgolion, ac mae hynny i’w groesawu’n fawr, a gobeithiwn y bydd y duedd honno'n parhau. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'n his-gangellorion; yn wir, cyfarfûm â phob un ohonynt ddechrau’r wythnos hon i ystyried y profiadau hyd yn hyn ac i wneud yn siŵr fod mesurau ar waith i sicrhau diwedd llwyddiannus i’r tymor hwn ac i ddechrau cynllunio ar gyfer dychwelyd yn ddiogel ym mis Ionawr. Ac yn amlwg, rydym hefyd yn gweithio gyda’n cymheiriaid mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, o gofio bod llawer o'n myfyrwyr yn teithio i mewn ac allan o Gymru i Loegr, i'r Alban ac i Ogledd Iwerddon. Lle bo modd, rydym yn ceisio sicrhau bod gennym ddull cyffredin o reoli'r broses honno.

Athrawon Cyflenwi

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer athrawon cyflenwi? OQ55916

Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i sicrhau bod cefnogaeth ar gael i athrawon cyflenwi. Mae hyn yn cynnwys cymorth ariannol, cyfleoedd cyflogaeth drwy raglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau, ac ariannu gwasanaeth i hyrwyddo iechyd meddwl a lles yn ystod pandemig COVID-19.

Rwy'n ddiolchgar i chi am hynny, Weinidog. Rwy'n ymwybodol fod Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n galed i sicrhau bod fframwaith o gymorth ar gael i athrawon cyflenwi ledled y wlad a thrwy gydol y flwyddyn. Ond bydd y Gweinidog hefyd yn ymwybodol fod athrawon cyflenwi wedi cael cyfnod anodd iawn drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf gyda'r pandemig a'r effaith y mae wedi'i chael ar eu gallu i gael gwaith. Ond mae hyn yn atgyfnerthu problem fwy sylfaenol gyda’r system athrawon cyflenwi. Gwyddom fod system dameidiog o asiantaethau preifat yn golygu nad oes system i athrawon cyflenwi gael gwaith digonol drwy gydol y flwyddyn. Efallai mai'r ffordd symlaf o sicrhau ein bod yn gallu cefnogi a chynnal gweithlu o athrawon cyflenwi yw sicrhau bod gan bob awdurdod lleol gofrestr leol o athrawon cyflenwi i sicrhau bod athrawon yn gallu dod o hyd i waith a bod ysgolion yn gallu dod o hyd i athrawon, a gwneud hynny mewn ffordd fwy cydlynol a strwythuredig.

Diolch, Alun. A gaf fi ddweud bod athrawon cyflenwi yn rhan bwysig iawn o'r gweithlu addysg yng Nghymru? Ond o dan reolaeth leol ar ysgolion, mae gan gyrff llywodraethu hyblygrwydd i benodi a defnyddio athrawon cyflenwi fel y gwelant orau. Nid oes unrhyw beth o gwbl i atal awdurdodau lleol ac ysgolion, fel cyflogwyr athrawon, rhag gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol eraill—gan gynnwys consortia rhanbarthol, o bosibl—i gefnogi model cydweithredol. Penderfyniad i’r awdurdodau lleol unigol fel cyflogwyr staff ysgolion fyddai gweithredu unrhyw restr awdurdod lleol, ac fel y dywedais, nid oes unrhyw beth i'w hatal rhag gwneud hynny nawr. Rydym yn parhau i gael trafodaethau gyda'n holl awdurdodau addysg lleol—neu eu hysgolion unigol, os ydynt yn defnyddio asiantaethau—i sicrhau nad ydynt yn tanseilio'r trefniadau fframwaith sydd gennym ar waith gyda'r asiantaethau hynny i dalu'r cyflogau cywir. Rwy'n ddiolchgar am ymrwymiad gan yr holl gyfarwyddwyr addysg, drwy Gymdeithas Cyfarwyddwyr Addysg Cymru, y byddant yn cymryd camau i sicrhau bod ysgolion yn ymwybodol o'r cyfrifoldeb hwn ac na ddylent geisio tanseilio'r fframwaith rydym wedi’i roi ar waith.

14:25

Weinidog, clywais eich sylw agoriadol am y cymorth ariannol rydych yn ei roi i athrawon cyflenwi. A allech roi ychydig mwy o fanylion i ni yn ei gylch? Oherwydd mae un neu ddau wedi mynegi pryderon wrthyf ynglŷn â’r ffaith, os ydynt wedi bod mewn un ysgol—efallai eu bod wedi gwneud prosiect tymor byr am wythnos neu ddwy—nid ydynt wedi dechrau yn yr ysgol newydd eto, a'u bod wedi gorfod hunanynysu, nid oherwydd eu bod wedi cael COVID, ond oherwydd eu bod wedi bod mewn cysylltiad â rhywun yr amheuir eu bod wedi cael COVID, felly bu’n rhaid iddynt fynd drwy'r broses o hunanynysu—roeddent yn ei chael hi'n anodd iawn cael unrhyw fath o gymorth ariannol, ac roeddent yn poeni am yr hyn a fyddai’n digwydd i'w hincwm. Felly, pe gallech naill ai amlinellu hynny i ni nawr neu fy nghyfeirio at y lle iawn—oherwydd rwyf wedi edrych, ac ni allaf ddeall sut rydym yn cefnogi'r bobl sy'n cwympo drwy'r rhwyd yn y ffordd honno. Hoffwn gael golwg ar hynny a rhoi'r ateb i fy etholwyr.

Yn sicr. Gweithiodd Llywodraeth Cymru a'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol gydag asiantaethau ar ddechrau'r pandemig hwn i sicrhau y gallai pob un ohonynt roi eu staff ar ffyrlo o dan y cynllun cadw swyddi. Cadarnhaodd pob asiantaeth ar y fframwaith eu bod yn gallu cael mynediad at y cynllun ar gyfer staff cymwys, ac rydym yn deall eu bod wedi gwneud hynny tan ddiwedd yr haf. Rydym yn parhau i weithio ochr yn ochr â'n hasiantaethau i ddeall yr anawsterau y gallai athrawon cyflenwi fod yn eu hwynebu ar hyn o bryd, a byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod gyda manylion ychwanegol am gymorth a allai fod ar gael yn y sefyllfa bresennol.FootnoteLink Dylwn ddweud ein bod yn annog y rheini sy'n barod i weithio fel athrawon cyflenwi i achub ar gyfleoedd. Mae rhai o'r ysgolion sydd wedi cael eu gorfodi i gau wedi gorfod gwneud hynny oherwydd anallu i ddod o hyd i staff asiantaeth i gadw’r ysgolion ar agor. Rwy'n deall y gallai pobl fod yn amharod i gael gwaith mewn ardal lle maent yn teimlo bod cyfraddau trosglwyddiad COVID yn uchel, ond mae gwir angen staff cyflenwi arnom i weithio gyda ni ac i ddeall y rhesymau pam nad ydynt, o bosibl, yn teimlo y gallant, ar y pwynt hwn, ymgymryd ag aseiniadau os ydynt ar gael.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefaryddion y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Suzy Davies.

Diolch, Lywydd. Prynhawn da, Weinidog. Clywsom neithiwr fod Cymwysterau Cymru wedi cael gwared ar arholiadau uned mis Ionawr mewn TGCh, llenyddiaeth Saesneg a llenyddiaeth Gymraeg, er y bydd arholiadau eraill—nid arholiadau sy’n cael eu hailsefyll yn unig—yn dal i gael eu cynnal. Tybed a allwch ddweud pam yr ystyrir bod cau ysgolion a cholegau yn cael llai o effaith ar ddysgu'r myfyrwyr sy'n sefyll arholiadau uned lefel 2 a 3 mewn iechyd a gofal cymdeithasol na'r rheini sy'n sefyll arholiadau llenyddiaeth a TGCh.

Mae Cymwysterau Cymru wedi gwahaniaethu rhwng cymwysterau etifeddol—dyma'r tro olaf i'r papurau hynny gael eu sefyll; ni fyddant yn cael eu cynnig mwyach—a'r papurau hynny y bydd cyfle gwahanol iddynt gael eu hasesu mewn ffordd wahanol.

Diolch am eich ateb. Fy nealltwriaeth i yw y byddai rhai o'r TGAU etifeddol yn cael eu sefyll, ond dim ots.

Hoffwn symud ymlaen yn awr at gau ysgolion, a gallaf weld bod pob grŵp blwyddyn ond un yn fy hen ysgol yn Aberdâr wedi’u hanfon adref i hunanynysu y diwrnod o'r blaen. Mae ysgolion yng Ngheredigion, wrth gwrs, yn cau am bythefnos, gan gynnwys ysgolion cynradd, a chefais fy synnu gan hynny, rhaid i mi ddweud, pan ddywedir wrthym dro ar ôl tro fod y risg o drosglwyddiad yn isel yn y lleoliadau hyn. Rydych wedi dweud wrthyf nad ydych yn casglu data ynglŷn ag a yw achosion positif mewn ysgolion wedi dod yno o'r gymuned, neu a ydynt o ganlyniad i drosglwyddiad yn yr ysgol, ac nid yw hynny'n helpu penaethiaid ysgolion i asesu’r perygl o drosglwyddiad yn yr ysgol. Mae'n amlwg nad yw’r diweddariad a gyhoeddwyd gennych i’r canllawiau—tua thair wythnos yn ôl bellach mae'n rhaid—i helpu ysgolion wedi cael unrhyw effaith ar leihau'r niferoedd sy’n cael eu hanfon adref y naill ffordd neu'r llall, ac nid yw'r rhaglen brofi ac olrhain wedi cael unrhyw effaith ychwaith. Felly, rwy’n deall pam eich bod wedi rhoi’r canllawiau newydd ar waith ar orchuddion wyneb mewn mannau cymunedol mewn ysgolion, ond pam eich bod wedi cymryd bod y cyngor yn y ddogfen a gawsoch gan y grŵp cyngor technegol yn golygu y dylai disgyblion eu gwisgo yn yr awyr agored ar dir yr ysgol?

Diolch, Suzy. Fel rydych wedi nodi’n gwbl gywir, rydym yn parhau i weld cyfnod o darfu sylweddol ar ein haddysg oherwydd y pandemig. Rydym yn gweithio gydag ysgolion i leihau'r tarfu hwnnw gymaint ag y gallwn. Rwy'n falch iawn fod ysgolion Sir Benfro a oedd ar gau ddechrau'r wythnos hon bellach mewn sefyllfa i ailagor. Cyfarfûm ddoe gyda’r prif swyddog addysg a phrif weithredwr Ceredigion i ddeall y broses o wneud penderfyniadau sydd wedi arwain at gau ysgolion yn yr ardal benodol honno.

Mae'n hynod siomedig, onid ydyw, ac mae'n dangos yn amlwg iawn sut y gall dewisiadau a gweithredoedd unigolion yn y gymuned, a dewisiadau gwael, gael effaith ddinistriol, yn yr achos hwn, ar gynaliadwyedd addysg yn yr ardal benodol honno, ac yn ôl yr hyn a ddeallaf, Lywydd, ac fe fyddech yn ymwybodol iawn o hyn, ar y gwasanaeth tân ac achub sydd ar gael yn yr ardal honno. Mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb—pob un ohonom—os ydym yn dymuno gweld ysgolion yn parhau ac addysg yn parhau, i wneud y peth iawn.

Nawr, o ran masgiau wyneb ar gyfer disgyblion ysgolion uwchradd y tu allan i’r ystafell ddosbarth, gwyddom fod cyfathrebu a negeseuon clir yn elfen hanfodol o roi unrhyw fesurau lliniaru ar waith yn llwyddiannus. A chyda hyn mewn golwg, rydym yn awyddus i wneud mwy i gefnogi ein penaethiaid, i sicrhau bod y negeseuon yn glir, ac i sicrhau bod masgiau’n cael eu gwisgo a’u diosg mor anaml â phosibl. Felly, mae'r neges yn glir iawn: pan fyddwch mewn ystafell ddosbarth, nid oes raid i chi wisgo masg wyneb; os ydych y tu allan i'r ystafell ddosbarth, gwisgwch fasg wyneb.

14:30

Wel, diolch am yr ymateb, ond nid oedd yn ateb fy nghwestiynau mewn gwirionedd ynghylch pam y dylech wisgo masg yn yr awyr agored. Pe baech wedi dweud wrthyf fod llawer o dystiolaeth fod disgyblion yn hel at ei gilydd ar iard yr ysgol ac yn camymddwyn, efallai y byddwn wedi bod yn barod i glywed eich tystiolaeth ynglŷn â hynny. Ond ddoe, er enghraifft, cysylltodd rhywun â mi—rhiant—i gwyno bod 30 o blant y tu allan ar iard, fel y'i galwodd, iard maint cae hoci, a dywedwyd wrthynt i gyd am wisgo gorchuddion wyneb. Nawr, yn amlwg, nid yw hynny'n syniad gwych. Felly, roeddwn yn gobeithio clywed rhywbeth am yr anawsterau, efallai, roedd athrawon yn eu profi wrth orfodi disgyblion i gadw pellter ar yr iard, a pham eu bod yn cael trafferth gwneud hynny, oherwydd nid wyf yn gweld pam y dylent.

Yr awgrym yn awr, wrth gwrs, yw mai profion llif unffordd yw'r ffordd ymlaen. Nid wyf eisiau siarad am brofion yn gyffredinol, ond rwyf wedi cael gwybod am un achos penodol. Cefais weld ffurflen caniatâd rhieni un ysgol, yn gofyn i'w plentyn gael ei brofi. Nid yw'n dweud a fyddai'r plentyn hwnnw'n dal i gael mynychu'r ysgol pe na bai'r rhieni'n rhoi eu caniatâd. Felly nid wyf eisiau siarad am brofion yn gyffredinol, ond mewn perthynas â rhieni'n gwrthod rhoi caniatâd, a fyddwch yn gadael y penderfyniad hwn i ysgolion, neu a fyddwch chi'n dangos arweiniad ar hyn, ac yn gwneud y sefyllfa'n glir ynglŷn â'r hyn y dylai ysgolion ei wneud o dan yr amgylchiadau hynny?

Yn sicr. Ac a gaf fi ddweud wrth yr Aelod, mae'n sôn am ddisgyblion yn hel at ei gilydd—mae gennym lawer o ddisgyblion yn hel at ei gilydd mewn ysgolion. Fel y gallwch ddychmygu, rydym wedi derbyn nifer o adroddiadau gan ein hawdurdodau lleol am oedolion yn hel at ei gilydd wrth gatiau ysgol. Ac yn wir, ar yr iard chwarae, mae'r syniad fod pob plentyn yn rhedeg o gwmpas ac yn cadw 2 fetr oddi wrth ei gilydd, mae hwnnw'n syniad hyfryd, mae'n syniad hardd, ond gadewch i ni wynebu'r peth, nid dyna'n union sy'n digwydd. Mae disgyblion yn hel at ei gilydd mewn meysydd chwarae neu ar gaeau. Mae pob un o'n hysgolion yn wahanol. Mae gan rai ddigon o le yn yr awyr agored i gadw eu swigod mewn rhannau penodol y tu allan i'w hysgol; mae ysgolion eraill yn gorfod dod â swigod at ei gilydd yn yr awyr agored. Ac mae hwn yn fesur lliniarol arall rydym yn ei gyflwyno i geisio lleihau'r tarfu a chadw plant mewn ysgolion cyhyd ag y bo modd. Dylai pob un ohonom, hyd yn oed pan fyddwn y tu allan, geisio cadw pellter cymdeithasol, ac os na allwn gadw pellter cymdeithasol, neu os ydym yn dewis peidio—mae angen i bob un ohonom wisgo masgiau. Ac yn anffodus, rydym mewn sefyllfa nawr, lle rydym yn gweld y tarfu, ac rydym yn teimlo mai dyma'r prawf priodol.

Mae profion llif unffordd yn ddatblygiad pwysig. Rydym yn bwriadu cyflwyno profion llif unffordd yn ein hysgolion o ganlyniad i gynllun peilot Merthyr Tudful. Ac o dan yr amgylchiadau hynny, nid ydym yn gorfodi neb i gael prawf. Maent yn gwbl wirfoddol, ac ni fyddem yn gorfodi plentyn, nac oedolyn, i gael prawf llif unffordd os nad ydynt yn dymuno gwneud hynny. Ond yn amlwg, wrth inni fynd drwy'r peilot a dysgu'r gwersi ar gyfer hynny, byddwn mewn gwell sefyllfa i wneud datganiadau polisi pan fyddwn yn gweld y dechnoleg honno, gobeithio, yn cael ei chyflwyno'n ehangach.

Diolch yn fawr iawn. Dwi am ddechrau lle roeddech chi'n gorffen yn fanna, sef efo'r profion ar raddfa eang. Dwi'n ymwybodol eich bod chi'n gwneud gwaith ac yn ystyried cyflwyno rhaglen ar raddfa eang mewn ysgolion a cholegau, i ddisgyblion ac athrawon, ac yn cytuno'n llwyr bod angen rhaglen gynlluniedig o brofion i fynd rhagddi. Mae yna brofion mewn ysgolion yn ardal Lerpwl, a rydych chi newydd sôn am y cynllun peilot ym Merthyr. Mae'r undebau athrawon, yn gyffredinol, o blaid, dwi'n credu, a rhannau eraill o'r byd yn cynnal profion eang ar ddisgyblion a staff—Efrog Newydd, Vienna, Berlin, Nashville, Montreal. Oes yna rwystrau penodol i atal profi asymptomatig mewn ysgolion yng Nghymru? Hynny yw, pam fod o'n cymryd bach gormod o amser cyn bod hwn yn cael ei rowlio allan? A fyddwch chi'n targedu ardaloedd arbennig? Beth fydd eich meini prawf chi wrth rowlio'r rhaglen brofi eang yma allan? A beth yn union ydy'r amserlen? 

14:35

Wel, rydym yn cyflwyno profion llif unffordd yn y gymuned addysg cyn gynted ag y byddant ar gael yn ehangach i Gymru. Felly, mae pob un o'n prifysgolion yn cymryd rhan yn y rhaglen beilot, cyn diwedd y flwyddyn academaidd, ac erbyn hyn mae gennym raglen Merthyr Tudful, lle rydym yn ceisio cynnal profion llif unffordd yn yr ysgol, yn ein hysgolion uwchradd ac yn y coleg lleol, a chyfathrebu â rhieni sy'n byw yn ardal Merthyr Tudful, ond y mae eu plant yn mynychu'r ysgol y tu allan i Ferthyr Tudful, i'w hannog i gymryd rhan yn rhaglen gymunedol y profion llif unffordd. Rydym yn ystyried ymestyn honno i gynnwys ardaloedd yn Rhondda Cynon Taf, o gofio bod honno, unwaith eto, yn ardal lle ceir nifer fawr o achosion, ac rydym yn dysgu'r gwersi a'r rhwystrau posibl a'r anawsterau o ran cyflwyno'r rhaglen hon yn yr ysgol.

Ar ôl cyfarfod yr wythnos diwethaf â phenaethiaid yr ysgolion uwchradd ym Merthyr Tudful, pennaeth y coleg a'r prif swyddog addysg ym Merthyr Tudful, a gaf fi ddweud eu bod i gyd wedi ymrwymo'n llwyr i sicrhau bod y dechnoleg hon ar gael yn eu hysgolion? Mae'n rhan bwysig o ddeall yr hyn y mae'r clefyd yn ei wneud yn y gymuned, a gallai ein helpu hefyd, gyda'r sefyllfa y cyfeiriodd Suzy Davies ati, i ganiatáu i blant ddychwelyd i'r ysgol yn gynt, yn hytrach na chyfnod ynysu o 14 diwrnod os ystyrir eu bod wedi dod i gysylltiad â'r haint. Gall prawf dyddiol ganiatáu iddynt barhau i fod yn yr ysgol neu ganiatáu i athro barhau i fod yn yr ysgol, yn hytrach na chyfnod ynysu o 14 diwrnod. Felly, rydym yn edrych arno, nid yn unig o ran budd cymunedol ehangach, ond fel ffordd o gyfyngu ar darfu wrth symud ymlaen.

Diolch yn fawr, a dwi'n siŵr eich bod chi'n cytuno gorau po gyntaf mae'r rhaglen yma'n cael ei rhowlio allan, yn enwedig o gofio bod yna lacio rhywfaint yn mynd i ddigwydd dros y Nadolig, ac mi fydd yr agwedd yma—y profi yma—yn hollbwysig ym mis Ionawr, wrth i ni symud ymlaen. 

Yn ogystal â'r profion ar raddfa eang, a'r gwisgo mygydau yr oeddem ni'n ei drafod yn gynharach, pa fesurau pellach ydych chi'n ystyried er mwyn cadw'r ysgolion ar agor, ond hynny mewn ffordd ddiogel? Er enghraifft, awyru adeiladau'n well. A oes yna ganllawiau manwl ynglŷn â hynny? Ac a fedrwch chi sôn am unrhyw fesurau arbennig i ddiogelu staff ysgolion sy'n fregus—y clinically vulnerable employees—? Mae'r ddau faes yma—mae'r undebau'n gofyn am eglurder yn eu cylch nhw.

Ac wedyn, mae yna alw hefyd am ddosbarthiadau llai a rhoi system rota ddysgu ar waith, os bydd yr achosion yn cynyddu, wrth gwrs. Beth ydy eich barn chi am hynny? Ac, os ydy hwnnw'n mynd i ddod i mewn, yn amlwg, mi fydd angen cymorth ychwanegol ar gyfer dysgu o bell efo mwy o ddisgyblion adref. 

Mae canllawiau gweithredol ar gael i bob ysgol a phob awdurdod addysg lleol, sy'n cynnwys cyfeiriad at awyru adeiladau. Dylai pob aelod o staff fod yn destun asesiad risg. Felly, dylai unrhyw wendidau sy'n gysylltiedig â'r unigolyn gael eu hystyried gan yr asesiad risg unigol a chan y cyflogwyr.

O ran y system rota y mae'r Aelod wedi'i hawgrymu, yn amlwg, rydym wedi gofyn i ysgolion ac awdurdodau lleol baratoi ar gyfer nifer o senarios a allai gynnwys system rota, pe teimlid mai dyna'r cam angenrheidiol sydd ei angen i gadw rheolaeth ar y pandemig. Felly, mae'n cael ei adolygu'n barhaus, rhag ofn y bydd angen gwneud hynny.

Diolch yn fawr. Ac, yn olaf, a gaf i droi at y COVID catch-up scheme? Mae yna amheuon ynglŷn â'r cynllun yma. Dydy o ddim yn glir iawn sut mae'r help yn cael ei dargedu, sut mae anghenion yn cael eu mesur, pa fonitro sydd yn digwydd. Yn amlwg, mae angen sicrhau bod yr arian yn cael ei ddefnyddio yn bwrpasol i ddelio efo'r colli addysgol sydd yn rhwym o fod yn digwydd ar hyn o bryd, ac sydd yn mynd i bara am rai misoedd. Felly, mi wnes i ofyn, y tro diwethaf yr oedd y sesiwn yma ymlaen, am ddiweddariad, a dydw i ddim wedi cael hwnna. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig i ni gael gwybod yn union sut mae'r cynllun yma'n gweithredu, ac os oes yna unrhyw rwystrau efo fo, bod ni'n cael gwybod hynny hefyd.

14:40

Wel, rwy'n sicr yn cytuno â'r Aelod fod yr adnoddau'n cael eu gwario mewn ffordd bwrpasol, ac mae gennyf bob ffydd y bydd y penaethiaid sy'n gwneud penderfyniadau ar sut i wario'r arian hwn, oherwydd mater iddynt hwy yw penderfynu ar y ffordd orau o ddefnyddio'r arian sydd ar gael iddynt, hefyd wedi bod yn gwneud penderfyniadau i sicrhau bod yr adnoddau'n cael eu gwario mewn ffordd bwrpasol.

O ran casglu data, rydym yn aros am y ffurflenni terfynol gan rai ysgolion unigol, a rhai awdurdodau addysg lleol unigol, ond rwy'n falch iawn o ddweud wrth yr Aelod fy mod yn fodlon iawn ein bod wedi cyrraedd ein targedau cychwynnol o tua 900 cyfwerth ag amser llawn.

Ysgolion Arbennig

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lefelau presenoldeb mewn ysgolion arbennig yn ystod argyfwng iechyd cyhoeddus COVID-19? OQ55920

David, mae'r ansicrwydd sy'n deillio o'r pandemig coronafeirws yn arbennig o heriol i blant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol a'u teuluoedd, a'r rhai sy'n eu cefnogi ac yn gofalu amdanynt. Rwyf wedi ymrwymo i wneud popeth posibl i gefnogi'r dysgwyr, y rhieni a'r gofalwyr hyn yn ystod y cyfnod anodd hwn.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Tybed a ydych wedi cael cyfle i ystyried sylwadau'r Athro Sally Holland, y comisiynydd plant, i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn gynharach y mis hwn, a ddywedodd fod y gwasanaethau a gâi eu darparu o'r ysgolion a oedd yn cynnig presenoldeb amser llawn neu allgymorth gweithredol i hybiau nad oeddent prin yn bodoli, yn amrywio'n enfawr, yn ystod y cyfyngiadau symud yn sicr, a bod trefniadau teithio'n chwalu'n fynych fel nad oedd y myfyrwyr hyn yn gallu cyrraedd yr ysgol na'r hyb, a bod yn rhaid i ni sicrhau nad ydym yn gweld hyn yn digwydd eto mewn unrhyw aflonyddwch yn y dyfodol, a'n bod yn rhoi pwyslais mawr ar lefelau presenoldeb mewn ysgolion arbennig, oherwydd mae angen adennill llawer o dir.

Diolch, David. Rwy'n credu ei bod yn bwysig nodi, yn wahanol i awdurdodaethau eraill, na wnaethom ddiwygio unrhyw un o'n rheoliadau na'n cyfreithiau presennol sy'n ymwneud â gwasanaethau i blant ag anghenion dysgu ychwanegol. Ond rwy'n cytuno â chi, roedd y sefyllfa ar lawr gwlad yn dameidiog o ran gwahanol lefelau o gefnogaeth. Rwy'n ymwybodol o arferion rhagorol, ysgolion na wnaeth gau ac roedd y myfyrwyr yn eu mynychu bob dydd. Oherwydd yr union ystyriaethau hynny o'r profiadau yn y cyfnod cyntaf o gyfyngiadau symud yr arhosodd pob un o'n hysgolion arbennig ar agor yn ystod y cyfnod atal byr.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Anhwylder Diffyg Canolbwyntio a Gorfywiogrwydd

4. Sut mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod ysgolion yn cefnogi disgyblion ag anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd? OQ55908

Diolch, Jack. Mae creu ysgolion cryf a chynhwysol sydd wedi ymrwymo i ragoriaeth, tegwch a llesiant yn un o amcanion allweddol y genhadaeth genedlaethol. Bydd ein diwygiadau i anghenion dysgu ychwanegol yn sicrhau y bydd pob dysgwr yn gallu cael mynediad at addysg o safon uchel er mwyn sicrhau eu bod yn cyrraedd eu potensial llawn.

A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw? Yr wythnos diwethaf, ymwelais ag Ysgol Tŷ Ffynnon yn fy etholaeth i'w llongyfarch ar ddod yn ysgol gyntaf Cymru i ennill y wobr 'ysgol gyfeillgar i ADHD' gan y Sefydliad ADHD, sy'n gyflawniad gwych iawn. Weinidog, a wnewch chi fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch yr ysgol, a dweud sut y gall ysgolion ledled Cymru ddilyn arweiniad Ysgol Tŷ Ffynnon?

Diolch, Jack, am roi'r cyfle i mi gofnodi fy llongyfarchiadau diffuant i bawb sy'n ymwneud ag Ysgol Tŷ Ffynnon yn Sir y Fflint, sef yr ysgol gyntaf un yng Nghymru i gael y wobr hon. Mae'n dyst i waith caled ac ymroddiad tîm yr ysgol honno i ddod yn ymgorfforiad byw o'r addewid yng nghenhadaeth ein cenedl i sicrhau ysgolion cwbl gynhwysol sy'n ymdrechu i ddiwallu anghenion eu holl blant.

Gwnaeth argraff fawr arnaf hefyd pan ymwelais â'r ysgol honno fy hun. Mae'n esiampl y mae angen i eraill ei dilyn, oherwydd mae anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd, ADHD, yn gallu cuddio mewn amgylchedd addysg. Nid yw ADHD, neu gyflyrau cysylltiedig eraill, yn deillio o ganlyniad i faterion amgylcheddol na rhianta gwael. Sut felly rydych yn ymateb i etholwyr yn Sir y Fflint sydd â phlant mewn ysgolion eraill, y mae eu negeseuon e-bost yn ystod y mis diwethaf yn unig yn cynnwys hyn: 'Ni roddwyd cyfle i fy mab wneud penderfyniadau a oedd yn ei gwneud hi'n bosibl i'w ymddygiad gael ei archwilio'n llawn a chael ei roi ar restr aros am asesiad. Yn hytrach, unwaith eto, penderfynwyd mai mater rhianta ydoedd, ac nid ADHD, awtistiaeth na chyflyrau sy'n gysylltiedig â'r sbectrwm'; ac, 'Rwy'n gofalu am fachgen yn ei arddegau gydag anhwylderau yn y sbectrwm awtistig (ASD) ac ADHD. Mae'r ysgol wedi ein labelu fel rhai sydd â phroblemau rhianta ac wedi rhoi gwybod i'r gwasanaethau cymdeithasol amdanom, ac yn fy mhrofiad i, nid yw CAMHS yn darparu asesiad digonol yn amlinellu anghenion y plant, ac maent yn cyfaddef yn agored na fyddant yn ystyried ADHD tan o leiaf saith mlwydd oed. Y broblem sydd gennyf gyda hyn yw hanes genetig cryf o ASD ac ADHD yn ein teulu, a bod y ddau gyda'i gilydd i'w gweld yn wahanol iawn i'r naill gyflwr neu'r llall ar eu pen eu hunain'?

14:45

Wel, Mark, fel y clywsom gan Jack Sargeant, mae rhagoriaeth yn y maes hwn yn gyraeddadwy, ac rwy'n falch iawn o glywed eich bod chi eich hun wedi manteisio ar y cyfle i fynd i weld y rhagoriaeth honno drosoch eich hun. Mae hyfforddiant i weithwyr proffesiynol mewn perthynas ag amrywiaeth o anghenion dysgu ychwanegol yn rhan bwysig o'n rhaglen drawsnewid gwerth £20 miliwn ar gyfer ADY, ac rydym hefyd wedi comisiynu adolygiad capasiti annibynnol ar gyfer gwasanaethau niwroddatblygiadol. Mae eisoes wedi'i gomisiynu a bydd hwnnw'n ein helpu i lywio'r gwaith o ddatblygu gwasanaethau pellach, mewn lleoliadau addysgol, a'r tu allan iddynt, a bydd yr adolygiad hwnnw'n dechrau yn gynnar yn 2021.

Y Cwricwlwm Newydd

5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am weithredu'r cwricwlwm newydd? OQ55941

Diolch, David. Cyhoeddais ddogfen 'Y daith i 2022' fis diwethaf i helpu ysgolion i baratoi ar gyfer cynllunio a gweithredu'r cwricwlwm newydd. Bwriadaf gyhoeddi cynllun gweithredu'r cwricwlwm yn gynnar yn 2021 i nodi'r camau ehangach y byddwn yn eu cymryd i gefnogi ysgolion.

Diolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw, ond rwy'n siŵr y bydd yn cytuno â mi fod rôl athrawon yn hollbwysig wrth weithredu'r cwricwlwm hwn. Felly, a yw'n wir, Weinidog, mai 30 y cant yn unig o'r athrawon a weithredodd y treial cwricwlwm newydd a'i cefnogai? Mae'r rhan fwyaf o'r athrawon rwyf wedi siarad â hwy'n dweud, os yw'r cwricwlwm yn cael ei lywio'n gyfan gwbl gan y pedwar diben, fod llawer o'r cynnwys sy'n gysylltiedig â phynciau traddodiadol yr ysgol yn y meysydd dysgu a phrofiad yn ddiangen i raddau helaeth. Os bydd athrawon, ar y llaw arall, yn blaenoriaethu'r meysydd dysgu a phrofiad, mae'r pedwar diben yn annhebygol o gael eu hateb. Felly, a all y Gweinidog roi sylwadau ar y broblem ymddangosiadol honno? Ac a allai'r Gweinidog ddweud wrthyf a yw'n bwriadu ymgynghori â'r cyhoedd ynglŷn â'r elfen addysg rhyw o fewn y cwricwlwm newydd?

Yn gyntaf oll, a gaf fi awgrymu bod yr Aelod yn darllen y Bil cwricwlwm ac asesu drafft os nad yw eisoes wedi gwneud hynny? Nid oes unrhyw broblem o gwbl. Ni all athrawon flaenoriaethu meysydd dysgu a phrofiad unigol, ac ni fydd ysgolion yn gallu gwneud hynny, oherwydd bod iddynt statws cyfartal o fewn y gyfraith. O ran ymgynghori, mae'n rhaid i mi ddweud eto wrth yr Aelod fod digon o gyfleoedd wedi bod i wneud sylwadau ar y Papur Gwyn sydd wedi arwain at y Bil, ac mae ymgynghoriadau penodol wedi bod mewn perthynas  ag addysg rhyw a chydberthynas—nifer ohonynt, mewn gwirionedd, a mwy nag y byddwn yn ei hoffi, mae'n debyg. Felly, mae digon o gyfleoedd wedi bod i bobl gyfrannu at y broses hon.

Rwy'n cydnabod, i rai athrawon—yn enwedig y rheini sydd dim ond wedi dysgu o dan egwyddorion cwricwlwm cenedlaethol, lle mae'r hyn sy'n rhaid iddynt ei addysgu wedi'i bennu ar eu cyfer, p'un a ydynt yn teimlo bod hynny er budd gorau'r plant sydd o'u blaenau neu beidio—gallai'r cwricwlwm newydd hwn fod yn her. Dyna pam fod y Llywodraeth hon yn buddsoddi'r symiau mwyaf erioed yn natblygiad proffesiynol ein hathrawon i'w paratoi ar gyfer newidiadau'r cwricwlwm. Nid wyf yn gwybod pa athrawon y mae'n cyfarfod â hwy, ond rwy'n siarad â phenaethiaid bob wythnos pan fyddaf yn gwneud y gwaith hwn, ac mae'n rhaid i mi ddweud wrtho fod cyffro mawr ynglŷn â chyflwyno'r cwricwlwm newydd hwn.

Weinidog, bydd llwyddiant y cwricwlwm newydd yn dibynnu'n helaeth ar ba mor dda y mae athrawon ac aelodau eraill o staff ysgolion wedi gallu paratoi ar gyfer ei gyflwyno. O gofio bod bron i hanner blwyddyn academaidd wedi'i cholli yn gynharach eleni, a'n bod bellach yn gweld grwpiau blwyddyn cyfan yn cael eu tynnu o'r ysgol ar raddfa fawr—. Er enghraifft, gellid dadlau bod tynnu 1,000 o ddisgyblion o Ysgol Gyfun Caerllion ar hyn o bryd mewn grwpiau blwyddyn cyfan—7, 8, 9, 12 a 13—yn ddiangen, pan fo cynghorau eraill yn defnyddio systemau olrhain yn fwy effeithiol, ac nid yw hyn yn anghyffredin mewn rhannau eraill o ranbarth de-ddwyrain Cymru. Pa asesiad rydych wedi'i wneud o golli amser ysgol ar baratoadau ar gyfer cyflwyno'r cwricwlwm newydd, ac a ydych yn pryderu ynglŷn ag adroddiadau fod rhai undebau athrawon a chynghorau bellach yn trafod cau ysgolion wythnos yn gynnar i alluogi cyfnod ynysu o bythefnos cyn y Nadolig o gofio mai blaenoriaeth y Llywodraeth hon, yn amlwg, yw cadw plant yn yr ysgol gymaint â phosibl?

14:50

Wel, Laura, rydych yn llygad eich lle—blaenoriaeth y Llywodraeth hon yw lleihau'r ymyrraeth i addysg plant yn sgil y pandemig hwn. Yn ddiau, bu'r effaith ar ysgolion yn sylweddol yn ystod y cyfnod hwn, ond fel y mae Estyn wedi'i gadarnhau, mae llawer iawn o frwdfrydedd a chefnogaeth i ddiwygio'r cwricwlwm o hyd, ac maent hefyd yn dweud bod ysgolion wedi gwneud enillion pwysig wrth gynllunio a darparu dysg. Nawr, yn amlwg, rydych hefyd yn gywir yn dweud bod llawer o hyn yn dibynnu ar sgiliau ein hathrawon, ac yn sicr bu'n rhaid cyflwyno'r rhaglen datblygiad proffesiynol mewn ffordd wahanol i'r hyn roeddem wedi'i ddisgwyl yn wreiddiol. Ond fel y dywedais, mae'r dyddiau pan oedd pawb yn teithio i Gaerdydd i gael datblygiad proffesiynol drwy eistedd mewn darlithfa i wrando ar arbenigwr ar lwyfan, cyn mynd yn ôl i'r ysgolion yn brydlon ac anwybyddu popeth roeddent wedi'i glywed y diwrnod hwnnw—. Mae'n rhaid inni wneud pethau'n wahanol, ac rydym yn gwneud pethau'n wahanol, ac unwaith eto, o siarad â phenaethiaid, mae'r ffaith ein bod wedi gorfod cynnal ein holl gyfarfodydd ar-lein yn golygu eu bod bellach yn gallu cydweithio mewn ffordd sy'n eu cadw yn eu hysgolion ac yn caniatáu iddynt gysylltu'n haws, ac oherwydd ein bod wedi cael gwared ar rywfaint o faich gwaith papur i ysgolion ar hyn o bryd, mae'n rhoi cyfle iddynt ymgysylltu o ddifrif â'r cwricwlwm newydd.

Weinidog, credaf fod y cynlluniau i bob plentyn yng Nghymru gael hawl orfodol i addysg rhyw a chydberthynas sy'n briodol i'w datblygiad yn un o gryfderau mawr y cwricwlwm newydd. A wnewch chi fanteisio ar y cyfle hwn i gytuno â mi fod cael y ddarpariaeth honno'n hanfodol o safbwynt hawliau plant, a hefyd ei bod yn allweddol er mwyn sicrhau y gall plant a phobl ifanc gadw eu hunain yn ddiogel, ni waeth beth yw eu hoed?

Lynne, rwyf mor falch eich bod wedi gofyn y cwestiwn hwnnw heddiw o bob diwrnod, Diwrnod y Rhuban Gwyn, lle mae pawb yn y Siambr, gobeithio, yn uno yn eu penderfyniad i drechu trais yn erbyn menywod. Rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom heddiw eisiau cofio'r menywod a gollodd eu bywydau yn sgil trais erchyll a'r menywod sy'n parhau i fyw gyda chanlyniadau'r trais hwnnw o ddydd i ddydd. A dyna'n union pam y mae angen inni sicrhau bod gan bob plentyn—pob plentyn—hawl i addysg cydberthynas yn ein cwricwlwm. Mae'n rhan annatod o'r ffordd y gallwn sicrhau y cyflawnir y dibenion hynny yn y cwricwlwm, gan gynnwys unigolion iach a hyderus sy'n barod i fod yn ddinasyddion gweithgar ac i fyw bywydau hapus a llwyddiannus. Mae cyfyngu ar hynny a dweud mai i rai plant yn unig y dylai'r ddarpariaeth honno fod ar gael yn esgeuluso ein dyletswydd yn fy marn i.

Lledaeniad Coronafeirws yn Asymptomatig

6. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i atal y coronafeirws rhag lledaenu mewn ysgolion yn asymptomatig er mwyn amddiffyn athrawon a disgyblion? OQ55940

Diolch, Leanne. Rwy'n parhau i gael fy arwain gan y cyngor gwyddonol a meddygol diweddaraf. Rydym wedi cytuno'n ddiweddar â sefydliadau addysg uwch ledled Cymru y byddwn yn manteisio ar y cyfle i dreialu profion asymptomatig ar fyfyrwyr a staff, ac rydym hefyd yn bwriadu cynnig profion i fyfyrwyr a staff mewn ysgolion uwchradd, yn ogystal â'r coleg lleol, fel rhan o'r rhaglen profi torfol ym Merthyr Tudful.

Rwy'n croesawu'r argymhelliad y dylai pob disgybl ysgol, myfyriwr coleg, athro ac aelod o staff gael prawf coronafeirws o ystyried y niferoedd uchel o bobl sy'n asymptomatig, yn enwedig yn y grwpiau oedran iau. Dylai hyn fod wedi bod yn flaenoriaeth allweddol pan ailagorodd yr ysgolion cyn yr haf. Nawr, nid yw'r sefyllfa bresennol yn gynaliadwy. Fel y dywedodd un athro wrthyf, yr wythnos diwethaf, 'Mae disgwyl i ni gadw at ganllawiau COVID, sy'n hollol iawn, ond nid ydym wedi cael cynnig unrhyw brofion ac rwy'n dal i aros am y prawf gwrthgyrff hud a addawyd i ni. Rwyf wedi bod yn addysgu ers 12 mlynedd ac nid wyf erioed wedi teimlo mor syrffedus, mor flinedig ac wedi ymlâdd yn gorfforol ac yn emosiynol i'r fath raddau. Rwy'n ceisio dal y cyfan at ei gilydd er mwyn fy mhlant, ond ni allaf oddef llawer mwy. Rwyf ar fin torri.' Mae cymaint o athrawon yn ofnus ac yn bryderus am eu diogelwch eu hunain. Nawr, clywais yr hyn a ddywedoch chi'n gynharach am Ferthyr Tudful a'r gobeithion a oedd gennych ynglŷn â chyflwyno profi torfol yn Rhondda Cynon Taf, ond a wnewch chi roi atebion pendant a sicrwydd i athrawon a rhieni yn fy ardal ynglŷn â pha bryd y bydd profi torfol a phrofion rheolaidd yn debygol o fod ar gael mewn ysgolion yn Rhondda Cynon Taf ac mewn ardaloedd lle ceir nifer fawr o achosion?

14:55

Diolch, Leanne. Rwy'n cydnabod y straen aruthrol sydd wedi bod ar athrawon ers i ysgolion ailagor yn llawn ym mis Medi, yn union fel y straen aruthrol y mae pob un o'n gweithwyr sector cyhoeddus wedi'i wynebu. Hoffwn ddweud bod y dystiolaeth hyd yma o bapur diweddaraf y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau a phapur y gell cyngor technegol yn dweud, wrth edrych ar y boblogaeth addysgu fel rhan o'r boblogaeth ehangach, fod addysgu'n cael ei ystyried gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn broffesiwn risg isel. Wedi dweud hynny, mae gennym achosion o drosglwyddo mewn ysgolion, yn enwedig rhwng aelodau staff, ac mae hynny'n peri pryder, a dyna pam ei bod yn wirioneddol bwysig fod uwch dimau rheoli a llywodraethwyr yr ysgol mewn ysgolion penodol yn sicrhau bod yr holl gamau'n cael eu cymryd yn ddigonol i ddilyn y canllawiau gweithredu sydd ar gael.

O ran profion gwrthgyrff, cynhaliwyd profion gwrthgyrff ymhlith sampl sylweddol briodol o athrawon, yn enwedig y rhai a oedd wedi bod yn gweithio mewn hybiau, gan gofio, wrth gwrs, na chafodd 500 o ysgolion yng Nghymru eu cau o gwbl. Felly, gwnaed hynny a chynhaliwyd profion gwrthgyrff dilynol ar yr unigolion hynny i'n helpu i ddeall yr epidemioleg y tu ôl i'r clefyd.

Mae'n ddyddiau cynnar ar gyfer profion llif unffordd. Mae angen inni sicrhau bod y peilot yn ysgolion a cholegau Merthyr Tudful yn mynd yn dda. Mae trafodaethau gweithredol ar y gweill i symud y peilot hwnnw i ardaloedd yn Rhondda Cynon Taf, a chyn gynted ag y byddwn mewn sefyllfa i allu gweithio gydag awdurdodau addysg lleol ein hysgolion i gynnal profion llif unffordd pellach fel ffordd o ddiogelu a rhoi sicrwydd a chyfyngu ar aflonyddwch, byddaf yn dychwelyd i'r Siambr i roi manylion llawn ar hynny. Nid ydym mewn sefyllfa i wneud hynny heddiw.

Diolch i chi, Weinidog. Rwy'n llwyr werthfawrogi'r mesurau sydd wedi'u cymryd i atal lledaeniad COVID mewn ysgolion a pha mor anodd yw hi i benaethiaid a staff gadw swigod mor fach â grwpiau blwyddyn gyfan hyd yn oed. Fodd bynnag, yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydym yn dechrau gweld y broblem hon ar draws ysgolion uwchradd mwy o faint yn enwedig, ac yn fy etholaeth i ceir nifer o ysgolion lle mae un achos positif yn golygu bod cannoedd o blant yn gorfod hunanynysu am bythefnos. Mewn un achos, dychwelodd grŵp blwyddyn am ddau ddiwrnod yn unig cyn i achos arall gael ei nodi a bu'n rhaid iddynt ddechrau hunanynysu eto. Rwyf wedi cael nifer cynyddol o rieni'n cysylltu sy'n poeni'n ddealladwy am yr effaith y mae cyfnodau ynysu dilynol yn ei chael ar les ac addysg eu plant. Rwy'n llwyr ddeall y risg o drosglwyddiad ar draws swigod grwpiau blwyddyn, a'r gobeithion am brofion llif unffordd, a fyddai'n helpu. Fodd bynnag, mae'r sefyllfa bresennol yn peri pryder mawr gyda nifer yr achosion ar y lefelau presennol ac aflonyddwch yn cynyddu. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â hyn cyn gynted â phosibl?

Wel, Jayne, y peth gorau y gallwn ei wneud i leihau'r tarfu ar addysg yw gostwng lefelau trosglwyddo cymunedol ym mhob un o'n cymunedau, oherwydd trosglwyddo cymunedol sy'n arwain at achosion yn ein hysgolion a'r aflonyddwch rydych yn cyfeirio ato. Rydym yn gweithio ac yn darparu'r cyngor a'r enghreifftiau gorau o arferion da i bob ysgol mewn perthynas â swigod a'r hyn a olygir wrth gysylltiad agos er mwyn ceisio lleihau nifer y plant y gofynnir iddynt hunanynysu am y cyfnodau hyn. Weithiau, mae'n dibynnu ar y cyngor y mae timau profi, olrhain, diogelu lleol unigol yn ei roi i benaethiaid, ac weithiau mae'n dibynnu ar y ffordd y mae ysgolion wedi gweithredu eu swigod. Fel y dywedais, rydym yn rhoi cyngor parhaus i ysgolion ac i dimau profi, olrhain, diogelu lleol i leihau nifer y plant y gofynnir iddynt aros gartref.

Yn wir, mae profion llif unffordd yn cynnig gobaith inni leihau'r aflonyddwch hwnnw, yn enwedig i'r rhai sy'n cael eu hystyried yn gysylltiadau ac nad oes ganddynt symptomau eu hunain, fel ffordd bosibl o weinyddu prawf dyddiol dros nifer o ddyddiau a fyddai wedyn yn caniatáu iddynt fynd i'r ysgol. Ond fel y dywedais, mae papur y Gell Cyngor Technegol yn gofyn i ni archwilio pa mor ymarferol fyddai cynnig rhaglen brofi asymptomatig. Nid yw'n syml, ac fel y dywedais, rydym yn awyddus i ddysgu'r gwersi gan ein prifysgolion a'n hysgolion cyn y gallwn gyflwyno hynny ymhellach.

Gweithredu'r Cwricwlwm Newydd

7. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith y pandemig ar weithredu'r cwricwlwm newydd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ55923

Diolch, Helen Mary. Eleni, fel y dywedais, mae pob un o'n hysgolion wedi wynebu heriau na welwyd eu tebyg o'r blaen, ond mae llawer yng nghanolbarth a gorllewin Cymru'n gwneud defnydd da o'r canllaw cwricwlwm newydd ac yn meddwl am eu datblygiadau cwricwlwm yn y dyfodol. Rwy'n deall bod mynediad ysgolion at gymorth a dysgu proffesiynol yn cynyddu yn y rhanbarth wrth i ni symud tuag at 2022.

15:00

Rwy'n ddiolchgar i chi am eich ateb, Weinidog. Mae athrawes ifanc o Lanelli wedi cysylltu â mi, yn fy rhanbarth, yn frwdfrydig iawn am y cwricwlwm newydd mewn gwirionedd. Yr hyn a ddywedodd oedd 'Ni allaf aros.' Ond mae'n bryderus iawn na fydd hi wedi paratoi'n briodol, ac ar yr un pryd, yn poeni y bydd pethau eraill yn mynnu ei sylw, drwy orfod gweithio gymaint yn galetach gyda disgyblion, yn enwedig pan fyddwch yn gorfod ymdopi â dysgu cyfunol a phobl ifanc sydd angen dal i fyny. Os byddwn yn dilyn yr amserlen fel y mae, mae'n poeni'n fawr na fydd yn barod i gyflwyno'r cwricwlwm newydd yn y ffordd y mae eisiau ei wneud ar yr un pryd â pharatoi a darparu cymorth i'w phobl ifanc, gyda llawer ohonynt—. Mae yna broblemau emosiynol; mae'n athrawes ddosbarth, felly mae'n ymwneud yn helaeth â'r gefnogaeth honno. Mae wedi gofyn i mi godi hyn gyda chi'n uniongyrchol, Weinidog, nid oherwydd ei bod eisiau tanseilio proses y cwricwlwm newydd mewn unrhyw ffordd, ond oherwydd ei bod mor awyddus i wneud pethau'n iawn, ac nid yw'n siŵr, fel gweithiwr proffesiynol cymharol ifanc, y bydd yn gallu gwneud y ddau beth ar unwaith. Beth hoffech chi i mi ei ddweud wrthi?

Wel, yn gyntaf oll, a gaf fi ofyn i chi ddweud 'diolch' wrthi am yr hyn y mae'n ei wneud ar hyn o bryd? Mae ein GIG a'n staff gofal cymdeithasol wedi gwneud gwaith aruthrol ar ein rhan yn ystod y pandemig hwn, ac mae pobl yn aml yn anghofio bod ein haddysgwyr a gweithwyr addysg proffesiynol a'n gweithwyr ieuenctid hefyd ar y rheng flaen. Felly, dywedwch 'diolch' wrthi gennyf fi a 'diolch' am ei brwdfrydedd a'r addewid a ddaw yn sgil y cwricwlwm newydd. Ac rwy'n credu bod ei phryder yn nodweddiadol o'r proffesiynoldeb sydd gennym o fewn y gweithlu addysg yng Nghymru. Maent eisiau gwneud pethau'n iawn ac maent yn ofni'r canlyniadau os na fyddant yn llwyddo, oherwydd nid ydynt am wneud cam â'u disgyblion. Fel y dywedais, mae cymorth ariannol ar gael ar gyfer datblygiad proffesiynol. Rydym wedi darparu canllawiau ychwanegol fis diwethaf i ysgolion ddechrau meddwl sut y gallant gynllunio eu rhaglen wrth symud ymlaen. Bydd cyngor a chymorth pellach ar gael yn y flwyddyn newydd, a byddwn yn parhau i adolygu amserlen gweithredu'r cwricwlwm. Oherwydd y peth olaf y mae unrhyw un ohonom ei eisiau, gan fy nghynnwys i, a'r gweithiwr proffesiynol ymroddedig dan sylw, yw methu cael pethau'n iawn. Dyma gyfle unwaith mewn oes, y tro cyntaf erioed i'n cenedl gael ei chwricwlwm ei hun, ac rydym i gyd, gyda'n gilydd, eisiau cael pethau'n iawn.

Weinidog, mewn tystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar Fil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru), dywedodd Mind Cymru yn gywir fod y cwricwlwm newydd yn gyfle unigryw i osod iechyd meddwl ein holl bobl ifanc ynghanol eu profiad dysgu a'u profiad ysgol. O gofio bod y pandemig hefyd wedi cael cymaint o effaith ar iechyd meddwl plant, a allwch chi ddweud wrthym sut y bydd Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu iechyd meddwl a llesiant yn y cwricwlwm newydd yn awr?

Yn sicr, Paul, ac yn wir, mae'r union bwynt a wnaethoch, fod rhoi sylw i lesiant plant, eu llesiant corfforol a'u llesiant meddyliol, yn awr yn fwy nag erioed, yn flaenoriaeth, a dyna pam fod llawer o ysgolion yn awyddus i barhau i ddilyn y cwricwlwm newydd, oherwydd o dan y maes dysgu a phrofiad 'iechyd a llesiant', a'r datganiadau 'yr hyn sy'n bwysig' sy'n sail iddo, mae hynny'n rhoi llawer iawn o le inni allu cyflwyno cwricwlwm i gefnogi iechyd meddwl a llesiant plant, er mwyn deall beth sy'n effeithio ar eu hiechyd meddwl a'u llesiant, a datblygu diwylliant o ymddygiad sy'n ceisio cymorth os yw pobl yn cael trafferth ac i chwalu rhywfaint o'r stigma a'r rhwystrau sydd, yn y gorffennol efallai, wedi atal plant a phobl ifanc rhag gofyn am gymorth. Ond wrth gwrs, nid yw gwersi eu hunain yn ddigon, a dyna pam y mae gennym agwedd ysgol gyfan tuag at iechyd meddwl a llesiant, lle mae angen i iechyd meddwl a llesiant pawb yn yr amgylchedd ysgol, gan gynnwys y staff sy'n gweithio yno, fod yn ystyriaeth allweddol. Sicrhau ein bod yn cael llesiant yn iawn yw'r bloc adeiladu allweddol cyntaf i wneud i ddysgu weithio ac i gael ysgol wirioneddol lwyddiannus. Felly, mae'n ymwneud â'r cwricwlwm, ond mae hefyd yn ymwneud â'r amgylchedd sy'n amgylchynu ein plant a'n gweithlu sy'n hybu llesiant ac yn cefnogi pobl os ydynt yn dechrau cael trafferth.

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

Yr eitem nesaf ar yr agenda yw cwestiynau i Gomisiwn y Senedd, a bydd y cwestiwn cyntaf y prynhawn yma yn cael ei ateb gan y Comisiynydd Suzy Davies. Andrew R.T. Davies.

Gwyliau Blynyddol

1. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am faint o wyliau blynyddol a gronnwyd gan staff a'r effaith a gaiff hyn ar ei gyllid? OQ55925

Diolch yn fawr iawn, Andrew. Rheolir gwyliau blynyddol yn weithredol er mwyn sicrhau bod staff yn cymryd cymaint o wyliau â phosibl er mwyn eu llesiant eu hunain ac er mwyn sicrhau bod busnes y Senedd yn parhau i fod yn gadarn. Fodd bynnag, fel y gallech ei ddychmygu, ers mis Mawrth eleni, mae effaith y pandemig wedi cynyddu'r galw ar staff yn sylweddol, gan gynnwys drwy'r toriadau, ac mae'r cyfleoedd i lawer o'r rheini gymryd gwyliau wedi lleihau'n sylweddol.

Mae safon gyfrifyddu ryngwladol yn ei gwneud yn ofynnol i'r Comisiwn roi cyfrif am gost gwyliau blynyddol nas defnyddiwyd ac a gronnwyd gan staff y Comisiwn ar 31 Mawrth, a gofyniad cyfrifyddu yw hwn, nid gofyniad am arian ychwanegol o gronfa gyfunol Cymru. Ac felly, yn fyr, er bod y Comisiwn yn ystyried y gofyniad am gyllideb atodol ar gyfer 2020-21 i dalu am y cynnydd hwn ar ôl 7 Rhagfyr, ni fydd iddo unrhyw effaith ariannol.

15:05

Diolch am yr ateb hwnnw, Gomisiynydd, a byddwn yn ategu'r sylwadau rydych wedi'u cofnodi—pa mor bwysig yw hi i les staff eu bod yn cymryd eu gwyliau, ac yn bwysig, yr ymroddiad a'r gwaith caled y mae'r holl staff ar draws y Comisiwn wedi'i wneud i gefnogi Aelodau yn y cyfnod anodd hwn. Fe'm trawyd gan y datganiadau a wnaethoch adeg y gyllideb, pan gafodd ei gosod, fod hwn yn fater roedd y Comisiwn yn gorfod ymdrin ag ef, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech roi syniad a fyddech chi, fel Comisiynydd, yn gallu dweud wrth yr Aelodau faint o amser gwyliau cronedig y mae'n rhaid gweithio drwyddo, oherwydd, yn amlwg, bydd hynny, yn y pen draw, ar ryw bwynt, yn cael effaith ar y gallu i gefnogi Aelodau yn eu rôl, ond yn bwysig, i Aelodau ddeall y pwysau y mae staff yn eu hwynebu pan nad ydynt wedi gallu cymryd y gwyliau y maent wedi'i gronni dros y pandemig.

Diolch, Andrew. Ie, a gallwn roi'r ymrwymiad hwnnw. Wrth osod cyllideb atodol, yn amlwg, byddai'n rhaid inni egluro'r rheswm dros wneud hynny, a byddai hynny'n esbonio lefel y gwyliau cronedig a'r gwerth sydd ynghlwm wrth hynny. Ond a gaf fi ddiolch i chi am fanteisio ar y cyfle hwn i longyfarch, os hoffech, aelodau'r Comisiwn a'u staff, sydd, yn wir, wedi mynd y tu hwnt i'r galw, fel rydym ni fel Aelodau wedi'i wneud mewn gwirionedd, yn ystod cyfnod anodd iawn i sicrhau ein bod yn gwasanaethu pobl Cymru'n dda? Diolch.

Cylchrediad Aer

2. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am gylchrediad aer yn y Senedd ac adeiladau Tŷ Hywel? OQ55936

Mae'r Senedd yn adeilad sy'n cael ei awyru'n naturiol, gan ddefnyddio ffenestri sy'n agor yn awtomatig ar gyfer y mannau agored a system bibellau awyr iach ar gyfer y Siambr, ystafelloedd pwyllgora a mannau caeedig eraill. Mae gan Dŷ Hywel system awyru sy'n dod ag aer ffres i fannau mewnol a system ar wahân sy'n echdynnu aer mewnol i'r tu allan. Mae gan Dŷ Hywel ffenestri y gellir eu hagor ar gyfer awyru hefyd.

Rwy'n siŵr fod gan Dŷ Hywel ffenestri y gellir eu hagor mewn rhai mannau; nid wyf wedi fy argyhoeddi fod hynny'n wir am bob ystafell yn Nhŷ Hywel. Yr hyn yr hoffwn ei awgrymu yw bod y Comisiwn yn sicrhau bod pob ffenest yn agor fel y gall pobl agor ffenestri ac fel y gallwn osgoi'r sefyllfa a oedd yn arfer cael ei alw'n syndrom adeilad sâl, lle mae rhywun yn tisian ar un llawr a hwnnw'n cael ei gylchdroi o amgylch yr adeilad, a'n bod yn sicrhau bod y ffenestri'n agor a bod aer ffres yn dod i mewn a hen aer yn mynd allan.

Wel, mewn gwirionedd, rydym wedi comisiynu rhai pethau o ran gosod ffenestri newydd yn y Senedd ym mhob rhan o Dŷ Hywel, ac rwy'n siŵr y bydd hynny'n cael ei ystyried pan fydd yn digwydd. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig nodi, ar yr adeg hon, ers inni ddod yn ôl ym mis Medi, fod defnydd o'r ystâd wedi aros yn isel yn ystod y pandemig, gydag oddeutu 15 y cant o bobl yma ar ddiwrnodau gwaith. Mae hyn wedi sicrhau ein bod yn gallu cydymffurfio'n effeithiol â rheoliadau cadw pellter cymdeithasol a systemau eraill sydd ar waith i atal trosglwyddiad COVID yn unol â chanllawiau ac arferion gorau.

Diolch. Bydd y cwestiynau canlynol yn cael eu hateb gan y Llywydd. Cwestiwn 3, Janet Finch-Saunders. 

Ymgysylltiad â Phlant a Phobl Ifanc

3. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am ei ymgysylltiad presennol â phlant a phobl ifanc yng Nghymru? OQ55913

Diolch am y cwestiwn. Mae'r pandemig wedi ei gwneud hi'n heriol i ymgysylltu â phlant a phobl ifanc, yn enwedig trwy ysgolion a grwpiau ieuenctid. Mae rheoliadau yn ei gwneud hi'n amhosib inni groesawu ysgolion i'r Senedd neu i ymweld â nhw. Am ran o'r flwyddyn, felly, bu'r tîm yn canolbwyntio ar greu adnoddau y gall gweithwyr addysg proffesiynol eu defnyddio eu hunain. Fodd bynnag, ers mis Hydref, rydym wedi profi galw cynyddol am sesiynau rhithwir i ysgolion, a byddwn ni'n cynnig mwy o'r rheini yn yr wythnosau sydd i ddod. Rydym wedi cefnogi Senedd Ieuenctid Cymru i symud ei gweithgareddau ar-lein. Fe wnaethon nhw gyhoeddi adroddiadau ar wastraff sbwriel a phlastig, a chymorth iechyd emosiynol a meddyliol, ac fe wnes i gadeirio eu Cyfarfod Llawn diwethaf ar Zoom ar 14 Tachwedd. Fel rhan o'n cyfres o ddigwyddiadau GWLAD, fe wnaethom ni gynnal cyfarfod rhithwir yn edrych ar y dyfodol i bobl ifanc yng Nghymru a'u profiadau nhw o'r pandemig. Mae staff y Comisiwn wedi gweithio gyda phobl ifanc a gweithwyr addysg proffesiynol hefyd i gyd-gynhyrchu ystod o ddeunyddiau i hyrwyddo pleidleisio ar 16 ar gyfer etholiad fis Mai nesaf.

15:10

Diolch, Lywydd. Fe fyddwch yn ymwybodol fy mod wedi codi pryderon o'r blaen ynghylch ymgysylltiad allanol â'n hetholwyr, ac yn wir aelodau iau o'n cymuned, heb ein cynnwys ni fel Aelodau etholedig yn wir, a heb ein cyfranogiad, ac mae hynny wedi parhau. Fodd bynnag, yng ngoleuni'r pandemig, rwy'n croesawu'r ffaith bod y Senedd yn cynnig sesiynau ar-lein i helpu pobl ifanc i ddeall yn well sut y mae ein democratiaeth yn gweithio, ac mae rhai o'r sesiynau'n swnio'n rhagorol, megis 'Cyflwyniad i'ch Senedd', 'Sut i fod yn ddinesydd gweithredol', ac 'Ein Senedd'. Mae sesiynau 'Fy mhleidlais gyntaf', sy'n canolbwyntio ar etholiadau'r Senedd a fydd yn digwydd ym mis Mai, lle bydd pobl ifanc 16 ac 17 oed yn gallu pleidleisio am y tro cyntaf yng Nghymru, yn swnio'n sesiynau da iawn, ac er fy mod yn cydnabod bod angen addysg cyn hyn—rwy'n credu ei bod yn hen bryd, mewn gwirionedd—rwy'n ei chael yn anodd gweld sut y gellir cyflawni hyn yn effeithiol heb gyfeirio at, a chynnwys ein holl bleidiau gwleidyddol yng Nghymru, a hoffwn weld Aelodau'n cymryd rhan. Felly, a allech chi egluro a yw'r swyddogion addysg sy'n cynghori'r myfyrwyr hyn yn y sesiwn 'Fy mhleidlais gyntaf'—? Sut y cânt eu haddysgu ynglŷn â'r gwahanol bleidiau gwleidyddol a'r system wleidyddol yn wir? Hefyd, pa fwriadau sydd gan y Senedd i gynorthwyo Aelodau sydd eisoes wedi'u hethol i fod yn rhan o rai o'r sesiynau hyn? Diolch.

Wel, rwy'n siŵr y byddech yn cytuno, Janet Finch-Saunders, cyn yr etholiad, cyfnod rydym i gyd yn ei wynebu ar ôl y Nadolig, ei bod yn bwysig fod y sesiynau y mae'r Comisiwn yn eu cynnal, ac y mae ysgolion ac eraill yn eu cynnal mewn ysgolion, yn wleidyddol gytbwys ac yn cynnwys yr holl gynrychiolaeth wleidyddol at y diben hwnnw. Dyna pam fod y Senedd, wrth gynllunio ein hadnoddau ac adnoddau Llywodraeth Cymru sydd ar gael i bobl ifanc, gan weithio gyda'r Comisiwn Etholiadol hefyd, yn sicrhau bod cydbwysedd gwleidyddol teg yn y ddadl sy'n arwain at etholiadau. Rydym i gyd yn gwybod, fel Aelodau unigol, ein bod yn aml iawn yn cael ein gwahodd i ysgolion i gynnal hustyngau gwleidyddol yn y cyfnod sy'n arwain at etholiadau, a gobeithiwn y bydd y posibilrwydd hwnnw'n digwydd ar lefel leol hefyd. Mater i'r ysgolion yw cychwyn eu trafodaeth eu hunain, ond rwy'n gobeithio y bydd ysgolion mewn sefyllfa i wneud hynny. Mae'n ddigon posibl y bydd hynny'n digwydd mewn cyd-destun rhithwir o hyd erbyn mis Mai y flwyddyn nesaf, ond mae sicrhau bod gan ein pobl ifanc yr holl wybodaeth y maent ei hangen i'w hysbrydoli, ac yn ymarferol i fwrw eu pleidlais ym mis Mai y flwyddyn nesaf yn rhywbeth sy'n ein huno ni i gyd fel Aelodau etholedig, rwy'n credu, nawr ac yn y dyfodol.

Trafodion y Senedd

4. Pa fesurau sydd ar waith i hyrwyddo rhith-fynediad at drafodion y Senedd gan y cyhoedd? OQ55921

Er nad yw'n bosib i'r cyhoedd yn gyffredinol gael mynediad i gyfarfodydd ar hyn o bryd, rydym wedi gwneud pob ymdrech i sicrhau bod gwaith y Senedd yn fwy hygyrch nag erioed drwy ddulliau eraill. Mae trafodion y Senedd sy'n cael eu dangos ar y teledu yn cael eu hyrwyddo ar draws ystod o sianeli. Rydym yn darparu llif darlledu i allfeydd newyddion, a bydd cwestiynau i'r Prif Weinidog yn aml yn cael eu darlledu ar BBC 2 Cymru ac ar BBC Parliament. Rydym hefyd yn ffrydio cwestiynau i'r Prif Weinidog ar gyfrifon Twitter y Senedd, ac yn trefnu bod modd gwylio cwestiynau i'r Prif Weinidog gydag iaith arwyddion ar y diwrnod canlynol hefyd. Mae Gwasanaeth Ymchwil yr Aelodau yn parhau i ddarparu blogiau o safon uchel i egluro materion allweddol o ran dadleuon sydd ar ddod yn y Senedd er mwyn gwneud y dadleuon yn fwy hygyrch, ac mae staff y Comisiwn wedi bod yn datblygu ffyrdd newydd o ymgysylltu yn rhithwir â'r cyhoedd. Mae hyn yn cynnwys rhith-deithiau newydd o amgylch yr adeilad, arddangosfeydd rhithwir a sesiynau cyflwyniad i'r Senedd ar-lein a gawsant eu lansio yn gynharach yn y mis yma.

15:15

Diolch i'r Llywydd am yr ateb hwnnw, ac rwy'n cymeradwyo'r arloesedd a welsom, rwy'n credu ei bod yn deg dweud, drwy gydol y cyfnod datganoli yng Nghymru, ac yn sicr yn ystod y pumed Senedd hon. Ac rwy'n gobeithio y byddwn yn adeiladu ar y llwyddiant hwn, oherwydd mae pob un ohonom eisiau dinasyddiaeth weithredol, fel y clywsom mewn atebion blaenorol. Ac mae'n ymddangos i mi, yn ogystal â gwylio ein trafodion, fod mwy o gyfleoedd drwy ddulliau rhithwir i ganiatáu i ddinasyddion gymryd rhan, i ryw raddau, mewn modd nad yw, efallai, mor fygythiol â rhoi tystiolaeth o flaen pwyllgor yn ffurfiol er enghraifft. Ac mae llawer rydym wedi'i wneud, ond yn y chweched Senedd, mae'n debyg bod llawer mwy y gallem ei wneud, a byddwn yn annog pwy bynnag a fydd wrth y llyw bryd hynny i edrych ar hyn yn ofalus iawn.

Wel, yn bendant iawn, rwy'n credu bod profiad y chwe mis diwethaf, o ran sut rydym wedi cynnal ein sesiynau yma fel Siambr, trafodion y Senedd, ond yn bwysicaf oll yng ngwaith ein pwyllgorau, a'n defnydd o'r dull rhithwir o weithredu wedi galluogi ystod ehangach, mwy amrywiol, a mwy gwasgaredig yn ddaearyddol, o dystion a sesiynau tystiolaeth, ac mae'n bosibl ei fod wedi chwalu rhai o'r rhwystrau ffisegol a mathau eraill o rwystrau sy'n atal pobl rhag rhoi tystiolaeth neu gymryd rhan yn nhrafodion ein pwyllgorau. Felly rwy'n gobeithio'n fawr, ac yn fy nhrafodaethau gyda'r Fforwm Cadeiryddion, rydym i gyd wedi bod yn ymwybodol iawn o'r profiadau cadarnhaol niferus iawn a gawsom drwy ddefnyddio dull mwy rhithwir o weithredu dros y chwe mis diwethaf, ac mae'n rhaid i ni beidio â cholli golwg ar y rheini wrth i ni feddwl sut rydym yn llunio busnes ar gyfer y Senedd nesaf.

Senedd Ieuenctid Cymru

5. A wnaiff y Comisiwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ei gefnogaeth ar gyfer gwaith Senedd Ieuenctid Cymru? OQ55904

Diolch. Mae Senedd Ieuenctid Cymru wedi cael hydref prysur, wrth i Aelodau nesáu at ddiwedd eu tymor yn y swydd. Cefnogodd y Comisiwn Aelodau o'r Senedd Ieuenctid i gynhyrchu a chyhoeddi dau adroddiad yn seiliedig ar waith eu pwyllgorau. Roedd un yn edrych ar gymorth iechyd emosiynol a meddwl a'r llall ar wastraff sbwriel a phlastig.

Roedd cyfarfod olaf y Senedd Ieuenctid ar 14 Tachwedd, a fi gadeiriodd y sesiwn hynny. Roedd hefyd yn cynnwys cyfraniadau gan Weinidogion Llywodraeth Cymru, Cadeiryddion pwyllgorau'r Senedd a chomisiynwyr cenedlaethau'r dyfodol a phobl ifanc. Yn ychwanegol at hynny, mae Aelodau o'r Senedd ieuenctid wedi cael cefnogaeth i gynnal sesiynau craffu gydag ystod o Weinidogion, gan gynnwys y Prif Weinidog a'r Gweinidog iechyd i rannu eu profiad o'r coronafeirws yn ystod yr haf. Ac yn fwy diweddar, cynhaliodd rhai Aelodau sesiwn gyda'r Gweinidog Addysg i rannu eu barn, a barn pobl ifanc eraill, cyn cyhoeddiad y Gweinidog ar arholiadau. Ac fe fydd yna sesiwn bellach gyda rhai o'r seneddwyr ieuenctid yn cwrdd â'r Prif Weinidog nos Lun nesaf.

Rwy'n gwybod y bydd y Senedd Ieuenctid yn parhau am ychydig fisoedd eto, ond hoffwn dalu teyrnged i waith caled yr Aelodau ifanc hynny ac i ddiolch am waith rhieni, ysgolion, sefydliadau partner a'n staff ni ein hunain wrth helpu i ddod â thri llinyn eu gwaith i gasgliad llwyddiannus. 

Dwi'n ddiolchgar iawn i'r Llywydd am yr ateb.

Diolch yn fawr am yr ateb hwnnw. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni i gyd fod yn falch iawn o'r bobl ifanc a'r hyn y maent wedi'i gyflawni yn yr amgylchiadau anodd hyn, ac rwy'n credu y byddem i gyd eisiau diolch yn fawr iawn i'r staff sydd wedi eu galluogi i barhau â'u gwaith yn yr un ffordd, wrth gwrs, ag y mae staff y Senedd wedi ein galluogi i barhau â'n gwaith ninnau.

Rwyf wedi bod yn bryderus, er hynny, am lesiant emosiynol yr Aelodau ifanc. Ni fydd eu profiad o fod yn Aelodau ifanc o'r Senedd fel roeddent wedi'i ddisgwyl. Felly, a allwch chi gadarnhau, Lywydd, fod aelodau o staff yma wedi bod mewn cysylltiad â'r gweithwyr proffesiynol—gweithwyr ieuenctid ac eraill—sy'n cefnogi'r bobl ifanc i wneud yn siŵr eu bod yn iawn? Yn ogystal â hynny, fel y dywedoch chi, mae'r tymor cyntaf wedi dod i ben, mae wedi bod yn hynod gynhyrchiol, maent wedi gwneud llawer iawn o waith ac rwy'n siŵr yr hoffem i gyd ddiolch iddynt. A allwch chi ddweud ychydig mwy wrthym am y camau sydd ar waith i baratoi ar gyfer yr etholiadau nesaf ar gyfer ein seneddwyr ifanc nesaf? Mae'n bosibl y bydd hynny'n cael ei wneud, wrth gwrs, mewn cyfnod heriol lle mae gan ysgolion a grwpiau ieuenctid lawer o gyfrifoldebau na fyddent fel arfer yn gorfod ymdopi â hwy. Felly, rwy'n gobeithio bod ystyriaeth a chynllunio'n digwydd mewn perthynas â'r ffordd y gallwn sicrhau bod ein Senedd Ieuenctid nesaf mor effeithiol ag y mae hon wedi bod.

Wel, mae wedi bod yn un o uchafbwyntiau fy nghyfnod fel Llywydd i gadeirio digwyddiadau a chyfarfodydd Senedd Ieuenctid Cymru. Maent yn bobl ifanc ysbrydoledig sydd wedi bod eisiau cynrychioli pobl ifanc eraill a gwneud yn siŵr fod barn pobl ifanc yng Nghymru yn cael dylanwad arnom ni fel Senedd, ac mae wedi bod yn daith ysbrydoledig iddynt hwy ac i minnau hefyd, yn bendant. Felly, wrth gynllunio ar gyfer dyfodol hynny, dysgwn o brofiad y Senedd gyntaf, a byddwn yn llunio adroddiad etifeddiaeth, fel rydym yn ei wneud ar gyfer sawl agwedd ar waith y Senedd, i symud ymlaen i'r Senedd nesaf ac i baratoi i ethol y Senedd Ieuenctid nesaf yn ystod yr hydref y flwyddyn nesaf.

Fel y dywedwch, mae'r 60 Aelod ifanc o'n Senedd Ieuenctid wedi profi'r pandemig, fel y gwnaeth pawb ohonom, ac maent wedi cael eu profiadau eu hunain o hynny. Mae staff ein Comisiwn, sydd wedi gweithio gyda hwy ar y pwyllgorau ac yn y Senedd yn Senedd Ieuenctid Cymru ei hun, wedi bod yn ymwybodol iawn o'r ffaith eu bod yn dod o wahanol amgylchiadau—pob un ohonynt—ac maent wedi cael cymorth, cymaint ag y gallwn, i'w galluogi i barhau â'u gwaith ym mha ffordd bynnag y gallent fel seneddwyr ieuenctid. Felly, mae wedi bod yn brofiad hynod gadarnhaol, ac rwy'n gobeithio bod hynny'n wir i'r 60 Aelod a gafodd eu hethol. Roeddent yn arloeswyr, a byddwn yn ethol ein hail Senedd Ieuenctid cyn bo hir, a chredaf ein bod wedi gwneud gwaith da fel Senedd yn cefnogi ein pobl ifanc a chaniatáu iddynt gael llais, ond yn arbennig hefyd, drwy wrando ar yr hyn roedd ganddynt i'w ddweud.

15:20
Cylch Etholiadol y Senedd

6. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am unrhyw gynlluniau i newid cylch etholiadol y Senedd? OQ55942

Does dim cynlluniau o'r fath gan Gomisiwn y Senedd i newid hyn ar hyn o bryd. Heblaw bod darpariaeth yn cael ei gwneud i'r gwrthwyneb, mae adran 3 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn rhagnodi bod yn rhaid cynnal etholiadau cyffredinol arferol i'r Senedd ar y dydd Iau cyntaf ym mis Mai, bum mlynedd yn dilyn yr etholiadau diwethaf i'r Senedd. O ganlyniad, dylid cynnal yr etholiad nesaf i'r Senedd ym mis Mai 2021.

Rwy'n ddiolchgar i'r Llywydd am yr ateb hwnnw. Credaf y bydd yn cytuno â mi ein bod angen mwy o ddemocratiaeth ac nid llai o ddemocratiaeth yng Nghymru, ac mae gwraidd y newid i'n cylch etholiadol, wrth gwrs, yn Neddf Seneddau Tymor Penodol 2011, ac mae'r ddeddfwriaeth ofnadwy honno wedi bod ar y llyfr statud ers degawd bellach. Yn y degawd hwnnw, wrth gwrs, rydym wedi cael tri etholiad cyffredinol yn y DU, sy'n ei gwneud yn gwbl ddiystyr, a'r unig ran o faniffesto'r Ceidwadwyr roeddwn yn ei groesawu y llynedd oedd ei ymrwymiad i ddiddymu'r Ddeddf Seneddau Tymor Penodol. Mae hynny'n dileu'r cyfiawnhad dros newid ein cylchoedd etholiadol wrth gwrs, ac mae'n dileu'r angen i wneud hynny.

Mae llawer ohonom yma'n teimlo bod y lle hwn wedi eistedd yn rhy hir. Rydym angen etholiad yma, ac rydym angen cylch etholiadol sy'n darparu ar gyfer etholiadau rheolaidd bob pedair blynedd, fel y rhagwelwyd gan y rhai a luniodd gyfansoddiad Cymru. Mae'n bwysig, felly, fod y bobl sy'n sefyll etholiad l fis Mai nesaf yn deall mai am bedair blynedd yn unig ac nid pum mlynedd y dylai'r Senedd honno eistedd. Byddwn yn ddiolchgar pe bai comisiwn yn gweithio gydag Aelodau ar bob ochr i'r Siambrau—gallaf weld cefnogaeth arbennig o swnllyd oddi ar feinciau'r Ceidwadwyr, ac rwy'n croesawu hynny gyda llaw—a sicrhau ein bod yn gallu llunio deddfwriaeth i sicrhau ein bod yn dychwelyd at gylch pedair blynedd ar gyfer y Senedd hon, ar gyfer holl etholiadau Cymru, cyn gynted ag y caiff y Ddeddf Seneddau Tymor Penodol ei lluchio, yn briodol iawn, i fin hanes.

Diolch am y cwestiwn atodol. Rwy'n credu y gallwn i gyd anadlu ochenaid o ryddhad nad oedd y Senedd hon yn eistedd am dymor pedair blynedd, neu fel arall byddem wedi gorfod cynllunio etholiad ar gyfer mis Mai 2020, ac nid wyf yn siŵr y byddem wedi gallu gwneud hynny ar y pryd, neu fe fyddai wedi dargyfeirio ein hegni y pryd hwnnw oddi wrth rywbeth arall a oedd yr un mor bwysig os nad yn bwysicach.

O ran y dyfodol, fel y dywedais yn fy ymateb, mae angen newid deddfwriaethol i newid i dymor pedair blynedd. Clywaf y prynhawn yma, ac rwyf wedi gweld llawer o gyfeiriadau gan Aelodau at y ffaith y byddai'n well gan rai gael tymor pedair blynedd yn hytrach na thymor pum mlynedd, ac rwyf wedi eich clywed chi, Alun Davies, yn ei ddweud o'r blaen. Yn yr un ffordd, rwy'n agored i'r syniad hwnnw, yn bersonol yn sicr. Ond mater i'r broses wleidyddol yn y Senedd hon ac yn y Senedd nesaf fydd ymgymryd â'r ddeddfwriaeth honno os gwelir bod angen. Edrychaf ymlaen, felly, at ddarllen maniffestos pob plaid wleidyddol i weld a oes rhai ohonynt yn ei roi yn eu maniffestos ar gyfer Llywodraeth ac ar gyfer etholiad y Senedd fis Mai nesaf.

15:25
4. Cwestiynau Amserol
5. 90 Second Statements

Felly, symudwn at eitem 5, sef y datganiadau 90 eiliad. Daw'r datganiad cyntaf yr wythnos hon gan Vikki Howells.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Tachwedd 2020 yw canmlwyddiant geni Elaine Morgan. Cyflawnodd Elaine, a aned i deulu glofaol, ryfeddodau yn ystod gyrfa hir, amrywiol a disglair. Enillodd ysgoloriaeth i Brifysgol Rhydychen, llwyddiant aruthrol i ferch glöwr yn y 1930au. Ar ôl graddio, gweithiodd Elaine i Gymdeithas Addysg y Gweithwyr, ac yna priododd â Morien, a oedd wedi ymladd yn erbyn y ffasgwyr yn Sbaen. Cafodd tri mab eu magu yng nghartref y teulu yn Aberpennar, wrth i Elaine gychwyn ar yrfa fel awdur i'r BBC. Ysgrifennodd addasiadau clodwiw o How Green was my Valley, The Life and Times of Lloyd George, a Testament of Youth ymhlith pethau eraill. Enillodd wobr Awdur y Flwyddyn am yr olaf, i fynd gyda sawl BAFTA, sawl Gwobr Urdd Awduron Prydain Fawr, ac ambell dlws rhyngwladol hyd yn oed. Hefyd, datblygodd a hyrwyddodd Elaine y ddamcaniaeth chwyldroadol ynghylch epa'r dŵr, gan gyhoeddi llawer o lyfrau ar y pwnc ac ennill gwobrau am ei chyfraniad at wybodaeth wyddonol. Yn ei 80au, ymgymerodd Elaine â her newydd fel colofnydd arobryn i'r Western Mail.

Bu farw Elaine yn 2013. Saith mlynedd yn ddiweddarach, ceir bywgraffiad newydd o Elaine, a ysgrifennwyd yn ddiweddar gan yr hanesydd lleol Dr Daryl Leeworthy, a bwriad i godi cerflun i'w hanrhydeddu yn Aberpennar, yng nghanol y Cymoedd a'r cymunedau y llwyddodd i'w disgrifio mor fyw. Fel y nododd y newyddiadurwr Carolyn Hitt, newidiodd Elaine y byd o'i desg yn Aberpennar.

Eisiau dathlu gwirfoddolwyr ydw i. Fel Aelod Ynys Môn ac un o Gomisiynwyr y Senedd, dwi’n falch iawn bod y Senedd yn trefnu oriel o arwyr COVID sydd wedi gweithio’n ddiflino dros eu cymunedau. Mae pob Aelod wedi cael dewis pwy ddylai fod yn yr oriel, a beth wnes i oedd gofyn i bobl Ynys Môn ddewis, ac efo dros 40 o enwebiadau, mae’n amlwg faint o waith da sydd wedi cael ei wneud.

Llongyfarchiadau i’r tri ddaeth i’r brig: y Gwalchmai Hotel, grŵp Caru Amlwch a Chippy Chippy yng Nghaergybi. Ond dwi’r un mor falch o waith Stayce Weeder a Matthew Southgate am helpu i ddarparu PPE; Gwyneth Parry a gwirfoddolwyr Rhosneigr; Eirian Huws a grwp cymunedol Bryngwran; Steve MacVicar a’r Seiriol Good Turn Scheme. Llinos Wyn yn Amlwch; Lisa Hall a gwirfoddolwyr Llangaffo; Roy Fyles a banc bwyd Môn; Julie Parkinson, Vaughan a Louise Evans, Pam Gannon a Delyth Jones-Williams o Sgowtiaid Llanfairpwll; a Sophie Mae Roe, saith oed, am ei gwaith codi arian.

Roedd yna weithwyr iechyd a gofal: parafeddygon Amlwch; cartref Plas Garnedd; Dr Nia Allen, Llanfairpwll; Dr Claire Kilduff o Ysbyty Gwynedd. Mudiadau Neges, Medrwn Môn, Menter Môn, cyngor sir Môn, Môn CF, Cyngor ar Bopeth, Gwasanaeth Ieuenctid Môn a COVID-19 Mutual Aid Môn.

Busnesau: Dylan’s; Mojo’s; Catch 22; The Codmother, Niwbwrch; yr Holland Hotel, Llanfachraeth; y cigydd Raymond Jones; Blas Mwy y Black Lion; yr Oyster Catcher; Siop Elis a Spar Beaumaris; ac Anglesey Outdoors am roi llety i weithwyr allweddol. I Môn FM; grwp Facebook Côr-ona; clwb gymnasteg Môn; ac ysgol ddawns Helen Barton, mae’ch gwaith chi wedi’i werthfawrogi. A’n olaf, i’r postmon Ben Williams a fu’n codi calonnau yn ei wisg ffansi. Diolch.

Diolch, bawb ym Môn. Ond, ar ran y Senedd gyfan, diolch i bawb ledled Cymru am ddangos ein bod yn genedl o gymwynaswyr.

Rhwng 30 Tachwedd a 6 Rhagfyr, rydym yn dathlu Wythnos Diogelwch Trydanol Cymru. Elusen Diogelwch Trydanol yn Gyntaf yw'r unig elusen yng Nghymru sy'n ymroddedig i leihau nifer yr anafiadau a'r marwolaethau a achosir gan drydan. Maent yn defnyddio Wythnos Diogelwch Trydanol i hyrwyddo diogelwch tân trydanol yn y cartref, gan godi ymwybyddiaeth o'r ffaith bod dros hanner yr holl danau damweiniol mewn tai yn cael eu hachosi gan drydan.

Eleni, mae COVID-19 yn cyflwyno heriau newydd o ran diogelwch trydanol. Mae tystiolaeth fod pryderon COVID yn gwthio defnyddwyr Cymru o'r stryd fawr ac i farchnadoedd ar-lein, a gall hynny olygu eu bod yn prynu rhoddion peryglus. Mae ymchwil newydd gan Diogelwch Trydanol yn Gyntaf yn awgrymu y bydd 57 y cant o drigolion Cymru yn siopa ar-lein eleni, a dywedodd y rhan fwyaf o'r bobl hyn eu bod yn bwriadu siopa ar-lein oherwydd eu bod yn credu bod y gwefannau hyn yn fwy diogel na mynd i'r stryd fawr yn ystod y pandemig. Fodd bynnag, mae Diogelwch Trydanol yn Gyntaf yn pryderu bod defnyddwyr yn cyfnewid un risg am un arall, gan fod nifer o ymchwiliadau ar ran yr elusen wedi datgelu bod cynhyrchion trydanol peryglus ar werth ar y safleoedd hyn drwy drydydd partïon, a daeth ymchwiliadau Diogelwch Trydanol yn Gyntaf o hyd i eitemau trydanol anniogel ar werth dro ar ôl tro ar safleoedd yn cynnwys Amazon Marketplace, eBay, Wish.com ac eraill. Nid yw galwadau mynych ar farchnadoedd ar-lein i gymryd cyfrifoldeb am y cynhyrchion a werthir wedi arwain at gamau gweithredu sylweddol eto. Felly, mae'r elusen yn annog defnyddwyr i leihau eu perygl o brynu eitemau peryglus drwy gadw at siopau a gwefannau gweithgynhyrchwyr a manwerthwyr cyfarwydd y gellir ymddiried ynddynt, fel y rhai ar ein strydoedd mawr. Felly, yn ystod Wythnos Diogelwch Trydanol Cymru, gofynnwch i Siôn Corn ddod ag anrhegion trydanol diogel i chi eleni—ho, ho, ho!

15:30

Cafodd Jan Morris fywyd eithriadol, yn chwilota ac agor ffenestri ar fydoedd eraill gyda'i hysgrifennu, yn arloesi a chroesi tiroedd newydd ac agor drysau ar bosibiliadau. Bydd cynifer ohonom yn gyfarwydd â'i llyfrau atgofus am Fenis a Trieste, ond ei gwaith gwych The Matter of Wales a arweiniodd ddarllenwyr i ddarganfod trysorau cudd ein gwlad ein hunain, ei hanobaith a'i herfeiddiwch. Gan ysgrifennu pan sefydlwyd y Senedd hon am y tro cyntaf, mae Jan yn ein gwahodd i fwrw cipolwg ar y wlad hon ar drothwy ei chyflawniad newydd, gyda lle a phobl yn dod at ei gilydd.

Cymuned oedd Cymru i Jan—cymuned a unwyd gan drasiedi a gobaith. Mewn erthygl a ysgrifennwyd yn 2011 i alarnadu dros y bywydau a gollwyd yng nglofa'r Gleision, dywedodd bod ei llygaid yn llawn dagrau wrth iddi estyn ei chariad o un pen o Gymru i'r llall—o Lanystumdwy ger afon Dwyfor i gyfeillion dieithr a oedd yn galaru yng nghwm Tawe. Teimlir y galar am golled Jan Morris ar draws Cymru—y fenyw anhygoel hon wnaeth dorri'r newyddion i'r byd bod Edmund Hillary wedi cyrraedd gwersyll cychwyn Everest. Nawr, yng ngeiriau ei mab Twm, mae hi wedi cychwyn ar ei siwrnai fwyaf. Hedd, perffaith hedd i chi, Jan, o un pen o Gymru i'r llall—o'r gwersyll cychwyn i gopa'r mynydd.

Diolch. Rydym yn atal y trafodion nawr i ganiatáu newidiadau yn y Siambr. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n gyflym. Bydd y gloch yn cael ei chanu ddwy funud cyn inni ailgychwyn ein trafodion. Diolch.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:33.

15:40

Ailymgynullodd y Senedd am 15:42, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

6. Cynnig Deddfwriaethol gan Aelod: Bil cynllun dychwelyd ernes a lleihau gwastraff

Dyma ni yn ailgychwyn, a'r eitem nesaf yw'r ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod. Bil cynllun dychwelyd ernes a lleihau gwastraff yw hwnnw, a dwi'n galw ar Janet Finch-Saunders i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7481 Janet Finch-Saunders

Cefnogwyd gan Llyr Gruffydd

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi cynnig ar gyfer Bil a fyddai'n gwneud darpariaethau i gyflwyno cynllun dychwelyd ernes a lleihau gwastraff yng Nghymru.

2. Yn nodi mai diben y Bil hwn fyddai:

a) sefydlu cynllun dychwelyd ernes ar gyfer cynwysyddion diodydd yng Nghymru, a fyddai'n golygu bod defnyddwyr yn talu ernes, yn ad-daladwy ar ôl dychwelyd y cynhwysydd;

b) lleihau nifer y poteli plastig a gwydr untro, yn ogystal â caniau dur ac alwminiwm;

c) ymateb i wastraff ailgylchadwy cynyddol, fel cyfarpar diogelu personol sy'n cael ei ddefnyddio yn y frwydr yn erbyn COVID-19, lle mae nifer cynyddol o eitemau'n cael eu taflu ac yn effeithio ar ein bywyd gwyllt a morol; a

d) cynyddu atebolrwydd drwy sefydlu dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i osod adroddiad blynyddol gerbron Senedd Cymru yn manylu ar bolisïau penodol yr ymgymerwyd â hwy i leihau'r gwastraff ailgylchadwy a gaiff ei daflu i ffwrdd a'r effaith y mae'r rhain wedi'i chael o ran gwella amgylchedd naturiol Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Wrth wneud y cynnig deddfwriaethol hwn, hoffwn ddiolch i fy nghyd-Aelod yng ngogledd Cymru, Llyr Gruffydd, am gefnogi hyn.

Y llynedd, disgrifiodd Syr David Attenborough lygredd plastig fel trychineb sy'n datblygu. Mae ef, wrth gwrs, yn llygad ei le, gan y gallwn ac y dylem wneud mwy i osgoi'r broblem sy'n ein hwynebu. Amcangyfrifir ar hyn o bryd mai dim ond 77 y cant o boteli gwydr, 66 y cant o ganiau alwminiwm a 65 y cant o boteli diod plastig sy'n cael eu hailgylchu. Yn wir, mae taflu sbwriel yn bla ar Gymru gyfan. Rhwng mis Gorffennaf 2019 a mis Mehefin 2020, roedd 1,034 o achosion o dipio anghyfreithlon ar draws Sir Fynwy, 2,281 ar draws Caerffili a 2,816 ar draws Rhondda Cynon Taf.

Plastig yw'r prif ddeunydd yn ein problem lygredd. Mae capiau poteli a chaeadau bellach o fewn y pum eitem a welir amlaf ar draethau Cymru, a chanfu dadansoddiad o'r ymgyrch casglu sbwriel a gynhaliais yn eithaf diweddar gyda'r Gymdeithas Cadwraeth Forol fod 55.9 y cant o'r eitemau a gasglwyd wedi'u gwneud o blastig neu bolystyren. Poteli ac eitemau cludfwyd oedd y mwyafrif llethol wrth gwrs. Gallwn fynd i'r afael â hyn drwy gyflwyno cynllun dychwelyd ernes. Mae llawer o'r Aelodau yma wedi trafod hyn ac wedi dweud eu bod wedi bod eisiau hyn ar hyd y ffordd, ond dyma ni yn dal i siarad am y peth ac yn dal i fod yn awyddus i'w weld.

Yn wir, mae'r Alban yn arwain y ffordd, gan y bydd cynllun dychwelyd ernes yn cael ei gyflwyno yno o 1 Gorffennaf 2022. A gwn fod gan Lafur Cymru ddiddordeb, oherwydd roedd cynllun dychwelyd ernes yn rhan o'r ymgynghoriad ar 'Mwy nag Ailgylchu', a dynnodd sylw at bryderon megis yr honiad na ellid cymhwyso'r cynllun yn effeithlon yng Nghymru, yr ôl troed carbon posibl o sefydlu cynllun dychwelyd ernes, ac effeithiau ar ein awdurdodau lleol yn cyrraedd targedau ailgylchu. Ond nid ydynt yn cyfiawnhau unrhyw oedi pellach.

Gallai'r cynllun dychwelyd ernes gynorthwyo awdurdodau lleol i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon. Canfu Pwyllgor Amgylchedd, Newid Hinsawdd a Diwygio Tir yr Alban fod manteision effeithlonrwydd casglu a chostau is am waredu deunyddiau yn gorbwyso costau cynllun dychwelyd ernes i awdurdodau lleol. Ac yn Ne Awstralia, golygodd y cynllun dychwelyd ernes fod ailgylchu ymyl y ffordd yn fwy proffidiol. Felly, byddai manteision mawr i'n hamgylchedd. Dywedodd Zero Waste Scotland y bydd cynllun yr Alban yn lleihau allyriadau cyfwerth â thua 4 miliwn tunnell o garbon deuocsid dros y 25 mlynedd nesaf. Mae gwneud caniau alwminiwm o hen rai yn defnyddio un rhan o ddeuddeg o'r ynni a ddefnyddir i gynhyrchu o ddeunydd crai, caiff 315 kg o garbon deuocsid ei arbed am bob tunnell o wydr a ailgylchir, a dangosodd arolwg gan Lywodraeth Cymru hyd yn oed fod tri chwarter yr oedolion yn cefnogi'r syniad o gynllun dychwelyd ernes, ac maent yn iawn i wneud hynny. Gallai'r cynllun dorri hyd at draean oddi ar gyfanswm sbwriel yng Nghymru.

Nawr, rwy'n sylweddoli bod Llywodraeth Cymru yn gweithio ar y cyd â Lloegr a Gogledd Iwerddon, a bod paratoadau'n cael eu gwneud ar gyfer ail ymgynghoriad. Ond a oes angen un arall arnom i ddatblygu'r cynllun dychwelyd ernes yng Nghymru, cynllun rydym i gyd wedi cytuno arno o'r blaen? Bydd yr Aelodau'n gwybod bod yr eitem hon wedi bod yn bwnc sy'n codi'n gyson ers 2016—cyn hynny mewn gwirionedd—a dylent nodi llwyddiant y cynlluniau mewn mannau eraill, megis y Ffindir, yr Iseldiroedd, Norwy, Sweden, Denmarc a Croatia. Gwelodd Gwlad yr Iâ gyfradd ddychwelyd o 90 y cant yn 2014; yr Almaen 98 y cant yn 2016; a Lithwania, 92 y cant yn 2017.

Felly, nod fy nghynnig yw adlewyrchu her arall sy'n perthyn i'n cyfnod ni: cyfarpar diogelu personol. Roedd ei angen arnom, ond yn sicr nid ydym wedi bod angen y gwastraff ohono. Mae menig Latex yn cymryd hyd at 100 mlynedd i fioddiraddio, ac eto ledled y byd, mae timau ymateb COVID angen dros 80 miliwn o fenig bob mis. Mae lle i arloesi, ac mae Meditech Gloves a Phrifysgol Cranfield wedi datblygu latecs naturiol, a fyddai ond yn cymryd ychydig wythnosau i fioddiraddio. Mae cwmni rheoleiddio gwastraff TerraCycle wedi creu rhaglen ailgylchu i gadw'r amgylchedd yn rhydd o gyfarpar diogelu personol, ac mae tîm o dan arweiniad Abertawe yn datblygu proses newydd o'r enw ffotoailffurfio, sy'n defnyddio golau'r haul i droi gwastraff na ellir ei ailgylchu yn danwydd hydrogen glân. 

Nawr, rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynllun Abertawe, ond mae angen inni wneud mwy i harneisio arloesedd o'r fath, yn enwedig gan ein bod bellach yn gweld mwy o fenig, masgiau a photeli diheintio yn addurno ein hamgylchedd. Rwyf hefyd yn rhannu pryderon Dŵr Cymru ynghylch gwaredu cadachau gwlyb plastig untro, sy'n cyfrannu at flocio tua 2,000 o carthffosydd bob mis. Ie, 2,000 bob mis. Dylai Llywodraeth Cymru gynnwys cadachau gwlyb yn y rhestr o eitemau sydd i'w gwahardd. Mae arnom angen camau pendant i sicrhau bod Cymru'n ddiwastraff erbyn 2050, ac mae arnom angen deddfwriaeth sy'n dangos bod y Senedd hon yn ymateb yn brydlon i alwadau gan y cyhoedd a'r argyfwng hinsawdd sy'n esblygu, a dyna'r rheswm dros fy nghynnig i sefydlu dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno adroddiad blynyddol. 

Lywydd, Aelodau o'r Senedd, agorais drwy gyfeirio at Syr David Attenborough, ac rwyf am gloi gyda'r sylwadau a wnaeth y llynedd:

Mae'n hen bryd i ni droi ein sylw'n llawn at un o'r problemau mwyaf dybryd sy'n ein hwynebu heddiw—

sef—

osgoi'r argyfwng llygredd plastig, nid yn unig er lles iechyd ein planed, ond er lles pobl ledled y byd.

Mae angen i bob un ohonom weithredu ar ei alwadau yn awr. Ac rwyf wedi dangos heddiw fod mwy y gallwn ac y dylem ei wneud yn awr yng Nghymru i helpu i osgoi'r argyfwng presennol. Diolch yn fawr. 

15:45

Rwyf wedi cefnogi'r cynnig deddfwriaethol hwn am ddau reswm. Yn gyntaf, rwy'n cytuno y bu oedi annerbyniol cyn cyflwyno camau gweithredu ar yr agenda hon, ond hefyd, rwyf am i Gymru fynd ymhellach na'r hyn sy'n cael ei gynnig. Mae wedi bod yn rhwystredig iawn, mewn gwirionedd. Mae Llywodraeth Cymru wedi siarad llawer ers nifer o flynyddoedd ond nid yw wedi gweithredu. Mae'r Llywodraeth wedi bod yn siarad am hyn ers dros ddegawd. Cefais fy ethol yn 2011, a bryd hynny roedd sôn am weithredu ar gynllun dychwelyd ernes. Bron i ddegawd yn ddiweddarach, rydym yn dal i aros i'r ymyriadau hynny gael eu gwireddu.

Nawr, rwy'n deall dymuniad y Llywodraeth i weithio ar y cyd â Llywodraeth y DU, ond wrth gwrs, mae wedi golygu oedi a gohirio difrifol. Rwy'n ystyried bod Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU yr un mor euog o fethiant i weithredu'n gynt. Nawr, gwyddom o brofiadau diweddar wrth gwrs, pan fydd Cymru'n mynd ei ffordd ei hun, yn aml iawn gallwn wneud yn llawer gwell. Mae'r Alban, fel y clywsom, wedi mynd ei ffordd ei hun ar hyn, ac mae ganddi gynlluniau manwl eisoes ar waith ar gyfer 2022, gyda thargedau wedi'u pennu ar gyfer 2025. Felly, pam aros am San Steffan, dyna rwy'n ei ddweud.

Roedd cynllun dychwelyd ernes, ymhlith pethau eraill, yn ymrwymiad clir ym maniffesto Plaid Cymru yn etholiad 2016, a phe baem ni wedi ffurfio Llywodraeth, rwy'n argyhoeddedig y byddai gennym gynllun ar waith eisoes. Ond mae penderfyniad Llafur i ddilyn y Torïaid yn San Steffan ar hyn yn amlwg wedi ein dal yn ôl. Nawr, mae Plaid Cymru wedi bod yn gyson glir ynglŷn â'n hymrwymiad i leihau gwastraff. Rydym am roi Cymru ar flaen yr economi gylchol, ac rydym am sicrhau Cymru ddiwastraff erbyn 2026, drwy gyfuniad o ddeddfwriaeth, mentrau polisi megis y cynllun dychwelyd ernes wrth gwrs, cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr, rhywbeth rydym yn dal i siarad amdano yn y Senedd, a'r defnydd o gyfreithiau cynllunio, ardollau a phwerau i godi trethi, ac ati ac ati.

Gwyddom fod manteision cynllun dychwelyd ernes yn glir, fel y clywsom eisoes. Mae poteli, caniau a chaeadau diodydd yn cyfrannu at tua 10 y cant o'r holl sbwriel, ac mae tystiolaeth yn dangos mai cynllun dychwelyd ernes yw'r ffordd orau o leihau'r math hwnnw o wastraff ac wrth gwrs, i godi lefelau ailgylchu o safon. Nawr, y llynedd, roedd 45 o wledydd o gwmpas y byd eisoes wedi mabwysiadu'r system hon. Bu Norwy ac Awstralia yn ei wneud ers blynyddoedd lawer, gyda'r canlyniadau profedig yn dod i'r amlwg yn fuan iawn ar ôl ei gyflwyno i'r cyhoedd.

Mae ymchwil gan WRAP Cymru yn amcangyfrif bod 400,000 tunnell o wastraff plastig yn cael ei gynhyrchu yng Nghymru bob blwyddyn, ac mae tua dwy ran o dair ohono'n wastraff deunydd pacio. Fel y clywsom, gallwch ychwanegu at hynny bellach yr epidemig newydd sy'n datblygu, sef gwastraff cyfarpar diogelu personol, yn enwedig masgiau wyneb a menig. Ymunais innau hefyd â'r Gymdeithas Cadwraeth Forol yn ddiweddar i lanhau traethau, lle daeth yn amlwg ar unwaith fod hon bellach yn broblem enfawr sy'n mynd i blagio ein hamgylchedd am flynyddoedd lawer.

Felly, gwyddom i gyd beth sydd angen ei wneud. Mae'n fater o fwrw iddi i'w wneud. Yn hytrach na threulio degawd arall yn sôn am leihau gwastraff, a dim ond anelu at Gymru ddiwastraff, mae angen gweithredu pendant ar ailgylchu a lleihau gwastraff. Wrth ymateb i'r ddadl hon, dylai Llywodraeth Cymru o leiaf gydnabod y dylai'r camau y soniwyd amdanynt cyhyd fod ar waith eisoes. Ac wrth gwrs, yn hynny o beth, mae'r Llywodraeth hon yn sicr wedi gwneud cam â'n hamgylchedd.

15:50

A gaf fi ddweud cymaint rwy'n croesawu'r cynnig hwn gan Janet Finch-Saunders? Roeddwn yn cytuno â phob elfen o'r cyfraniad a wnaeth wrth gyflwyno'r ddadl hon y prynhawn yma. Nid wyf am geisio ailadrodd ei sylwadau a'i harsylwadau. Roeddwn yn cytuno â chyfraniad Llyr hefyd. Mae e'n hollol gywir. Mae yna un peth yn bendant rydym wedi'i ddysgu dros y blynyddoedd diwethaf, sef: pam aros am San Steffan? Gwyddom y byddant yn ein siomi. Dysgasom hynny'n gynharach heddiw, ac nid am y tro cyntaf.

Mae rheoli ein gwastraff yn gwbl hanfodol os ydym am gyflawni ein huchelgeisiau ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, a chyflawni'r weledigaeth sydd gennym ar gyfer ein cymunedau, ein trefi, ein pentrefi, ein gwlad a'n planed. Rydym i gyd wedi gweld y golygfeydd torcalonnus o lygredd, o ddyfnderoedd y cefnfor i uchelfannau Everest—fel y clywsom yn ystod yr wythnos ddiwethaf—lle mae plastigau'n llygru'r blaned ac yn llygru ac yn dinistrio ein bywyd gwyllt.

Rhaid inni dderbyn cyfrifoldeb am hyn. Ni allwn ddweud, 'Fe arhoswn i'r Torïaid wneud rhywbeth', er fy mod, yn yr achos hwn, yn falch fod Ceidwadwr yn gwneud rhywbeth. Ac ni allwn ddweud nad ein cyfrifoldeb ni yw hyn. Rhaid inni weithredu ein hunain. Ond rwyf am i ni fynd ymhellach na'r hyn sy'n cael ei gynnig y prynhawn yma. Rwyf am weld Bil Cymru lân yn cael ei gyflwyno yn y Senedd nesaf i gynnwys deddfwriaeth—ac wedi'i wreiddio yn y cynllun dychwelyd ernes sy'n cael ei gynnig y prynhawn yma—ar gyfrifoldeb cynhyrchwyr, a ddylai fod wrth wraidd yr hyn rydym am ei weld, nid yn unig o ran glanhau ein gwlad ein hunain, ond hefyd yn y gwaith o ddarparu economi gylchol.

Ond ceir problemau ehangach eraill hefyd. Mae angen inni sicrhau ein bod yn gwahardd allforio gwastraff trefol o'r Deyrnas Unedig ac nad oes unrhyw wastraff trefol yng Nghymru yn mynd i gefnforoedd y blaned hon. Nid yw'n ddigon da i ni ganmol ein hunain yma yn y Siambr hon ac mewn mannau eraill, a dweud bod gennym gyfraddau ailgylchu uchel, dweud ein bod yn dda iawn am reoli gwastraff, a gwybod drwy'r amser ein bod yn allforio gormod o'r gwastraff hwnnw i rannau eraill o'r byd. Rhaid inni wahardd hynny'n llwyr.

Yn olaf, y pwynt y daeth Janet Finch-Saunders a Llyr Gruffydd i ben arno yw tipio anghyfreithlon. Mae hyn yn rhywbeth sy'n effeithio ar fy etholaeth, fy nghymuned, ac ar bob etholaeth a chymuned yn y wlad hon. Mae'n dorcalonnus cerdded drwy rai o'r ardaloedd gwledig harddaf yn y wlad hon a gweld effaith tipio anghyfreithlon. Rwyf wedi siarad â ffermwyr yn fy etholaeth fy hun sy'n anobeithio am yr hyn y maent yn ei weld. Siaradaf â phobl sy'n cerdded y bryniau o amgylch Blaenau Gwent bob wythnos o'r flwyddyn yn clirio'r sbwriel oddi yno. Mae'n amlwg i mi fod y fframweithiau statudol presennol sydd gennym ar waith i wahardd tipio anghyfreithlon yn aneffeithiol ac nad ydynt yn rhoi'r ateb rydym ei angen. Felly, mae angen inni edrych eto ar y fframwaith statudol sy'n ymwneud â thipio anghyfreithlon. Mae angen inni godi'r dirwyon, ac mae angen inni sicrhau ein bod yn gallu darparu'r math o wlad rydym i gyd am ei gweld i genedlaethau'r dyfodol. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr ac yn cymeradwyo a byddaf yn cefnogi'r cynnig deddfwriaethol y prynhawn yma.

15:55

Byddaf yn cefnogi cynigion Janet Finch-Saunders a Llyr y prynhawn yma. Nid oes amheuaeth nad ydym i gyd yn ymwybodol o bla poteli a chaniau plastig sy'n sbwriel ar ein strydoedd ac a welir yn rhy aml o lawer yn rhai o'n lleoliadau harddaf, a mannau gwledig a glan môr. Credaf y byddai sbwriel o'r fath yn cael ei leihau'n sylweddol drwy gyflwyno cynllun dychwelyd ernes, yn enwedig ar gyfer poteli a chaniau plastig. Fodd bynnag, mae swm y blaendal a delir yn hanfodol i'w lwyddiant. Ni fydd pobl, yn enwedig yr ifanc, yn trafferthu dychwelyd yr eitemau hyn am 5c, dyweder. Rhaid i'r ernes a ddychwelir fod oddeutu 25c er mwyn i'r cynllun lwyddo. Bydd y rheini ohonom sy'n cofio ernes yn cael ei rhoi ar botel o lemonêd yn nodi y gallech brynu potel lawn am tua 11c—hen arian, hynny yw—a chael ernes o dair ceiniog yn ôl sef tua 25 y cant. Gobeithio na fyddaf yn colli'r rhai iau ohonoch gyda'r cysyniad hwn o hen arian. Felly, byddwn yn annog pwy bynnag sy'n cyflwyno deddfwriaeth ar gynlluniau dychwelyd ernes i ystyried y ffigurau hyn. Gyda rhywbeth fel 25c yr eitem, hyd yn oed pe bai nifer o bobl yn parhau i daflu eu caniau a'u poteli, byddai nifer yn fodlon casglu eitemau o'r fath am y gwobrau ariannol a fyddai'n dod yn sgil hyn. Os yw Llywodraeth Cymru am gyflwyno unrhyw ddeddfwriaeth yn y chweched tymor, gadewch iddo fod yn gynllun dychwelyd ernes. Gwyddom pa mor llwyddiannus oedd y tâl am fagiau plastig, felly gadewch i ni gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon gyda'r brys mwyaf. Diolch.

Mae'r rhan fwyaf o fy etholwyr yn teimlo'n gryf iawn am y sbwriel sy'n anharddu ein cymunedau, ac rwyf am dalu teyrnged i'r holl wirfoddolwyr sy'n cymryd rhan mewn ymgyrchoedd casglu sbwriel yn rheolaidd i glirio'r llanast a grëwyd gan ychydig o bobl ddifeddwl. Roeddwn allan yn Llanedeyrn yr wythnos diwethaf gyda staff o gampws Cyncoed Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, a diolch iddynt am ddod allan yn y glaw. Ni fyddwch yn synnu clywed ein bod wedi codi llawer iawn o boteli a chaniau. Gobeithio y byddai cynllun dychwelyd ernes yn annog pobl i beidio â thaflu eitemau y gallant gael arian yn ôl amdanynt, ac yn benodol, byddai'n ennyn archwaeth entrepreneuraidd ein pobl ifanc, gobeithio. Dyna'n sicr sut yr ychwanegwn i at fy arian poced yn y gorffennol pell yn ôl. Fy nghwestiwn i'r sawl a wnaeth y cynnig yw hwn: gwyddom y byddai Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2019-21 yn atal y Senedd hon rhag gallu dileu plastig untro yn ystyrlon, gan na allem gymhwyso unrhyw fesur ar gyfer cwmnïau y tu allan i Gymru, a byddai hynny ar unwaith yn hepgor y brandiau diodydd swigod byd-eang hollbresennol sydd i'w gweld yn sbwriel ar ein tirwedd yn ogystal ag ar hysbysfyrddau.

Felly, sut y byddai'r Bil marchnad fewnol yn llyffetheirio cynnig yr Aelod? A fyddech cystal â fy hargyhoeddi na fyddai'n arwain at ganlyniad gwrthgynhyrchiol a fyddai'n golygu bod diodydd sy'n cael eu potelu yng Nghymru ar hyn o bryd yn cael eu hadleoli dros y ffin er mwyn osgoi gorfod cymryd rhan mewn cynllun dychwelyd ernes. Sut y byddai eich deddfwriaeth arfaethedig yn goresgyn y Bil marchnad fewnol anghyfiawn ar y ffurf y mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi'i lunio?

16:00

Hoffwn gofnodi fy nghefnogaeth i'r cynigion hyn hefyd. Ategaf yr hyn a ddywedodd Llyr am ymrwymiadau tebyg sy'n ymddangos mewn maniffestos a dogfennau polisi ers 2016, a chyn hynny. Felly, nid wyf yn credu ei bod yn annheg i mi dynnu sylw at y ffaith nad oes penderfyniad wedi'i wneud gan Lywodraeth Cymru yn y blynyddoedd a fu yn y cyfamser. Ac er y gallai cyfranwyr eraill fod eisiau beio hyn i gyd ar Lywodraeth y DU a chymaint o amser y maent yn ei gymryd, nid yw hynny'n osgoi'r ffaith mai Llywodraeth Cymru sy'n llusgo ar ôl pob un ohonynt. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi byrdwn y cynigion hyn ac yn anfon neges gref i'n hetholwyr y byddwn yn ceisio deddfwriaeth sylfaenol ar hyn yn y chweched Senedd, a gobeithio mai Janet fydd â'r ddeddfwriaeth sylfaenol honno.

Mae gennyf fy marn fy hun ar ba mor dda y mae Llywodraeth Cymru wedi blaenoriaethu ei rhaglen ddeddfwriaethol dros hyn yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Cawsom amser ar gyfer Bil ar hyn. Ond yn y cyfamser, rwy'n ddiolchgar i'r Dirprwy Weinidog am ei hymweliad rhithwir â RPC Tedeco-Gizeh, ffatri yn fy rhanbarth sy'n cynhyrchu cwpanau plastig untro i'r GIG ledled y DU—nid dyma'r cwpanau sy'n ymddangos yn y sbwriel roedd Jenny Rathbone yn sôn amdano. Roedd yn ymweliad pwysig, oherwydd dangosodd fod deddfwriaeth yn bodoli'n barod sy'n cyfyngu ar ailgylchu mathau penodol o blastig sydd wedi bod mewn cysylltiad â bwyd a diod. Ac felly rwy'n credu bod angen i ni fod yn glir mai dim ond sicrhau bod modd ailgylchu hwnnw ar hyn o bryd y mae'r cynllun hwn gan annog ymchwil ar yr un pryd i wahanol fathau o blastig y gellid eu defnyddio ar gyfer bwyd a diod. Yn sicr, roedd yr ymgynghoriadau'n ymwneud yn benodol â dau fath gwahanol o blastig.

Mae'r cynnig yn cyfeirio at y nod ehangach o leihau gwastraff hefyd, a'r her newydd ynglŷn â sut rydym yn ymdrin â'r holl gyfarpar diogelu personol tafladwy. Credaf mai masgiau wyneb wedi'u taflu yw'r sbwriel stryd newydd ac wrth gwrs, maent yn cynnwys plastig. Sylwais yn arbennig ar gyfeiriad Janet at fywyd morol, ac rwy'n gobeithio y bydd cronfa planed las £0.5 biliwn y DU yn cynnwys ystyriaeth o'r math newydd hwn o sbwriel.

Ond mae angen i Lywodraeth Cymru hefyd fwrw iddi ar ei chamau cyntaf ei hun i gyflawni unrhyw beth o dan y strategaeth ddiwastraff. Felly, fel y dywedodd Alun Davies rwy'n credu, rwy'n hapus i groesawu sgôr dda a chyfradd casgliadau ailgylchu uchel Cymru, ond dim ond casglu yw hynny; nid ydym yn clywed am yr hyn sy'n digwydd i'r deunydd ailgylchu ac mae gennym gyfrifoldeb yn hynny o beth, mwy hyd yn oed nag am gasglu'r deunydd ailgylchu yn y lle cyntaf.

Yn olaf, mae cynllun ernes yn annog cyfrifoldeb personol a chredaf y byddai'n gweithio'n dda ochr yn ochr â chymhellion eraill y mae darparwyr diodydd yn eu cynnig ar hyn o bryd—felly, mynd â'ch cwpan eich hun i'w ddefnyddio ar gyfer diodydd tecawê, er enghraifft. Gair bach sydyn am gaffi gwych Hideout yng ngwarchodfa natur Cynffig, sy'n gwerthu coffi am bris rhatach os gwnewch hynny, ac mae'n cyd-fynd â rhyw fath o ddiwylliant ail-lenwi sy'n dechrau magu stêm, gydag ail-lenwi cynwysyddion llaeth yn edrych yn arbennig o boblogaidd ar hyn o bryd.

Ac yn olaf, wrth gwrs, mae'n rhaid i Gomisiwn y Senedd gyhoeddi adroddiad blynyddol ar ei gamau polisi a weithredwyd i gyrraedd targedau cynaliadwyedd, oherwydd mae mwy iddo na chael gwared ar blastig untro yn unig, ac os gallwn wneud hynny, ni welaf pam na all Llywodraeth Cymru wneud hynny ar gyfer polisïau wedi'u cynllunio ar gyfer y wlad gyfan. Diolch.

Weinidog, rwy'n croesawu'r cynnig hwn. Mae'n ddadl rydym wedi'i chael droeon ar gynlluniau dychwelyd ernes, cynlluniau rwy'n eu cymeradwyo a'u cefnogi'n llwyr. Gwneuthum sylwadau droeon am fy mhlentyndod, lle roeddem, i bob pwrpas, yn cyfateb yn y 1960au i'r cod bar—hynny yw, roeddem yn casglu'r poteli, yn eu dychwelwyd a byddem yn cael yr arian, a byddai hwnnw'n mynd i'n pocedi. Mae'n ddiddorol iawn gweld sut y maent wedi cyflwyno peiriannau cod bar mewn gwledydd fel yr Almaen, lle byddwch yn dychwelyd y botel ar ôl ei phrynu a'i defnyddio, yn cael cod bar wrth i chi ei dychwelyd ac mae'n ad-dalu i'ch cyfrif banc yn syth gyda'r swm cyfatebol o ernes. Felly, ceir ffyrdd o'i wneud ac rwy'n cefnogi hynny'n fawr. 

A gaf fi hefyd wneud sylw ar dipio anghyfreithlon, oherwydd gwneuthum y pwynt yn y Senedd hon beth amser yn ôl, rwy'n credu, nad yw'r dirwyon yn ddigonol? Mae gennych gynghorau sy'n gwneud gwaith da yn erlyn y rhai sy'n cael eu dal yn tipio'n anghyfreithlon ac yn olrhain y rhai sy'n cael eu dal yn tipio'n anghyfreithlon, ond mae'r dirwyon yn chwerthinllyd a dweud y gwir. Yn fy marn i, dylid cynyddu'r dirwyon yn sylweddol a dylid cael mecanwaith hefyd ar gyfer adfer y gost o glirio'r safle lle mae'r tipio anghyfreithlon yn digwydd.

Ond rwyf am ddod at y pwynt a gododd Jenny Rathbone, a chredaf ei fod yn un difrifol iawn. I bob pwrpas, nid yw cynllun dychwelyd ernes yn un y gallwn ei weithredu nawr os aiff y Bil marchnad fewnol drwodd, a chredaf fod yn rhaid i Janet Finch-Saunders gadarnhau y bydd hi a'r grŵp Ceidwadol yn gwrthwynebu'r Bil marchnad fewnol, a'r darpariaethau ynddo a fyddai mewn gwirionedd yn ein hatal rhag cyflwyno hyn. Oherwydd mae'n ddigon hawdd i ni sôn am gyflwyno rhywbeth y mae pawb ohonom yn ei gefnogi ac am ei weld yn digwydd, ac ar yr un pryd yn San Steffan, fod gennym Lywodraeth sy'n cyflwyno deddfwriaeth gaethiwus a fyddai'n ein hatal rhag gwneud yr hyn y mae pawb ohonom yn gwybod ein bod i gyd am ei wneud a bod gennym fandad i'w wneud yng Nghymru. Diolch, Lywydd.

16:05

Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i Janet Finch-Saunders am ddod â hyn ger ein bron? Rwy'n gefnogwr i gynllun dychwelyd ernes ers tro byd. Cofiaf y blaendal 5c a 10c ar botel wydr o bop Corona, a gâi ei golchi a'i hailddefnyddio wedyn. Byddai honno'n ffordd wych o symud ymlaen. Roedd yn gweithio. Roedd pobl yn eu gadael; byddem ni fel plant yn eu casglu ac yn cael yr arian. Rydym yn dioddef o blastig rhad, sydd wedi arwain at gymdeithas sy'n taflu pethau, ac mae'r byd yn dioddef yn sgil hynny. Mae plastig yn rhad i'w weithgynhyrchu ac mae wedi cael ei ddefnyddio ar gyfer mwy a mwy o gynwysyddion. Ychydig flynyddoedd yn ôl yn unig, deuai saws a finegr mewn poteli gwydr. Mae angen gwneud rhywbeth i atal plastig rhag bod yn gynnyrch rhad. Rwy'n cofio'r tro cyntaf i mi godi potel finegr blastig; roedd yn rhyfedd ei weld yn symud pan fyddwn yn ei gwasgu. Un ffordd o'i atal rhag bod mor rhad yw treth ar blastig, a gwn nad ydym yn sôn am hynny heddiw, ond rwy'n credu ei fod yn rhywbeth arall y mae angen edrych arno.

Rydym wedi gweld yr ymddygiad yn newid yn sgil codi 5c am fag plastig untro, gan arwain at ostyngiad o dros 70 y cant yn nifer y bagiau plastig untro a ddarperir. Rwy'n cefnogi cyflwyno cynllun dychwelyd ernes, ar gyfer poteli diod plastig i ddechrau, ond wedyn gallech ei ehangu i gynnwys pob potel a chynhwysydd plastig, ac yna i bob cynhwysydd. Ni ellir caniatáu i blastig rhad tafladwy barhau. Mae gan bob un ohonom ddyletswydd i weithredu nawr i gefnogi'r blaned a chenedlaethau'r dyfodol. Er fy mod yn cefnogi cynllun dychwelyd ernes, byddai'n llawer gwell gennyf gael cynllun ledled y DU. Mae pobl sy'n prynu poteli yn Lloegr ac yn hawlio blaendal yng Nghymru yn amlwg yn destun pryder—ac rwy'n gweld y Gweinidog yno—pobl yng Nghaer yn dod â nifer fawr o boteli i Wrecsam, a allai olygu dim ond croesi'r ffordd mewn rhai achosion. Mae'r ateb syml o nodi poteli fel rhai Cymru neu Loegr yn annhebygol o ddigwydd. Nid oes unrhyw fudd i gynhyrchydd y botel na'r cynnyrch wneud hynny. Rwy'n cefnogi hyn heddiw, ond rwy'n gobeithio'n fawr y bydd yn cymell Llywodraeth San Steffan i weithredu. Mae'n rhaid inni wneud rhywbeth.

Diolch, Lywydd. Mae lleihau gwastraff, ailgylchu, taflu sbwriel a phlastig untro yn bwysig iawn i'n dinasyddion ac i bob un ohonom yn y Senedd hon. Mae ailgylchu wedi dod yn rhan o bwy ydym ni fel cenedl, ac mae'r ffaith ein bod wedi codi i'r trydydd safle yn y byd o ran ein cyfraddau ailgylchu yn deillio o'r gwaith partneriaeth rhwng y Llywodraeth, llywodraeth leol a phobl Cymru. Fel Llywodraeth, mae gennym gynlluniau uchelgeisiol i wneud mwy, felly rwy'n croesawu'r amcanion a'r teimladau sy'n sail i'r cynnig hwn.

Ugain mlynedd yn ôl, dim ond 7 y cant oedd cyfradd ailgylchu Cymru, a thrwy ein gweithredoedd fel cenedl gyda'n gilydd, rydym wedi cyflawni cyfradd sydd bellach yn fwy na 60 y cant, ar ein ffordd tuag at y 100 y cant o ailgylchu rydym am ei weld erbyn 2050. I wneud hynny, mae gennym gynlluniau eang ar waith a fydd yn cyflawni llawer o newidiadau. Rydym newydd gwblhau ymgynghoriad ar wahardd naw eitem blastig untro, gan fynd ymhellach na chynigion tebyg yn Lloegr, a chyhoeddir y crynodeb o'r ymatebion i'r ymgynghoriad cyn bo hir, a'n nod yw dod â'r gwaharddiad i rym y flwyddyn nesaf. Rydym hefyd yn datblygu gwaith ar gynllun dychwelyd ernes ar gynwysyddion diodydd, ac unwaith eto, byddwn yn cyhoeddi cynigion yn gynnar y flwyddyn nesaf. Ac rydym hefyd yn bwriadu cyhoeddi cynigion ar sut rydym yn mynd i'r afael â gwastraff deunydd pacio, drwy gynllun cyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig.

Mae pwerau i Weinidogion Cymru gyflwyno'r ddau gynllun ochr yn ochr â rhai gwledydd datganoledig eraill wedi'u cynnwys ym Mil Amgylchedd y DU, sydd ar hyn o bryd yn y Cyfnod Pwyllgor yn Senedd y DU. Mae'r pwerau hefyd yn cynnwys y gallu i gyflwyno taliadau am eitemau plastig untro, lle bo'n briodol, er mwyn lleihau'r defnydd ohonynt. At hynny, er mwyn cynyddu lefelau ailgylchu ymhlith busnesau a sefydliadau eraill, rydym eisoes wedi ymrwymo i gyflwyno deddfwriaeth a fydd yn galw am wahanu eu gwastraff erbyn hydref 2021. A bydd hyn nid yn unig yn ei wneud yn haws ei ailgylchu, ond hefyd yn gwahardd deunydd ailgylchadwy rhag mynd i safleoedd tirlenwi ac i'w losgi.

Fel eraill, rwy'n bryderus iawn ynglŷn â sbwriel eitemau defnydd sengl, ac mae'r defnydd ohonynt wedi cynyddu o ganlyniad i bandemig COVID. Mae tystiolaeth o arolwg sbwriel traeth blynyddol Prydain yn dangos gorchuddion wyneb a menig untro ar ein traethau hardd. Er mwyn mynd i'r afael â'r mater hwn, byddwn yn lansio ymgyrch ar y cyfryngau cymdeithasol i annog pobl i wisgo gorchuddion wyneb y gellir eu hailddefnyddio lle bo'n bosibl, neu dylent gael gwared ar rai untro mewn modd cyfrifol.

Soniodd Janet Finch-Saunders am y gwaith sy'n mynd rhagddo gyda Dŵr Cymru ar hyn o bryd yng nghyswllt cadachau gwlyb, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion drafod hyn i weld beth y gallwn ei wneud, oherwydd mae'n amlwg yn dod yn broblem enfawr ac yn rhywbeth y credaf fod yn rhaid inni ymdrin ag ef fel mater o frys.

Mewn perthynas ag adroddiadau gorfodol, rydym wedi cyhoeddi cyfraddau ailgylchu ar gyfer Cymru bob blwyddyn ers datganoli, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Bydd y cynlluniau newydd ar gyfer dychwelyd ernes a chyfrifoldeb cynhyrchwyr estynedig hefyd yn cynnwys adroddiadau gorfodol, fel y gall pawb farnu llwyddiant y polisïau hyn.

Ar dipio anghyfreithlon, mae hon yn agwedd sydd newydd ddod yn ôl yn rhan o fy mhortffolio, ac rwyf wedi gofyn eto i swyddogion barhau i edrych ar dipio anghyfreithlon, oherwydd mae'n sicr yn falltod ar ein cymunedau, a'r fframwaith y cyfeiriodd yr Aelodau ato. Nid wyf yn hollol siŵr pam fod cysylltiad rhwng hyn a photeli, oherwydd yn gyffredinol, mae tipio anghyfreithlon i'w weld yn ymwneud ag eitemau mwy o faint, ond unwaith eto, mae'n rhywbeth y mae'n rhaid inni barhau i wneud mwy yn ei gylch.

Felly, er fy mod yn cytuno â'r amcanion sy'n sail i'r cynnig hwn, nid wyf yn credu bod angen Bil ar wahân, gan fod y pwerau perthnasol wedi'u cynnwys ym Mil Amgylchedd y DU, fel y dywedais. Yn anffodus, fodd bynnag, mae effaith gadarnhaol cynnwys y pwerau hyn ar gyfer Cymru yn cael ei leihau gan y darpariaethau ym Mil marchnad fewnol y DU, ac mae hyn yn golygu, heb ei ddiwygio, y bydd ein gallu i weithredu er budd Cymru yn gyfyngedig, ac mae perygl y bydd yn ein clymu wrth y safon gyffredin isaf yn y DU. Mae gennym hanes llwyddiannus iawn yn y maes hwn, sydd wedi golygu ein bod wedi symud ymlaen yn gyflymach nag unrhyw wlad arall yn y DU, ac mae bellach yn destun balchder, nid yn unig ymysg ein gilydd, ond ymhlith ein dinasyddion hefyd. Felly, nid wyf yn credu y dylid lleihau gallu Cymru i barhau i weithredu yn y maes hwn mewn unrhyw ffordd.

Felly, rwy'n croesawu'r ddadl heddiw, Lywydd, a byddwn yn parhau i wrando ar farn yr Aelodau o'r Senedd wrth i'r cynigion a amlinellais gael eu datblygu ymhellach a'u gweithredu. Diolch.

16:10

Diolch, Lywydd, a diolch i'r Aelod am ymateb i'r ddadl—a chredaf ein bod yn croesawu'r ymatebion i'r ymgynghoriad sydd ar y ffordd—ac i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau rhagorol, lle roedd pawb yn cytuno, mewn gwirionedd, fod hyn yn rhywbeth y mae mawr ei angen ers cryn amser. Roedd rhai o'r sylwadau bachog a ddaeth o rai o'r cyfraniadau hynny, megis cyfrifoldeb personol, sgiliau entrepreneuraidd pobl ifanc, a nodwyd gan Jenny Rathbone—sgwarnog oedd y pwynt am y Bil marchnad fewnol yn fy marn i oherwydd, yn y pen draw, mae hyn yn ymwneud â Llywodraeth ddatganoledig a'r pwerau sydd gennym yma yng Nghymru. Rwy'n credu na allwn guddio—neu ni ddylai Llywodraeth Cymru yma fod yn cuddio—y tu ôl i'r Bil marchnad fewnol.

Mae'r pwyntiau a gododd Alun Davies am dipio anghyfreithlon yn bwyntiau rhagorol. Nid yw'r fframwaith statudol yn ddigon cryf, ac mae angen i ni fynd ychydig pellach.

Llyr Gruffydd yn dweud am y siarad, a nawr mae angen gweithredu—a hoffwn gofnodi fy niolch aruthrol am y gwaith y mae Syr David Attenborough yn ei wneud, ei angerdd, ei dosturi, a'i allu i gyfleu i'r byd pa mor bwysig yw gweithredu ar frys mewn perthynas â llygredd plastig. Hoffwn ofyn, ac mae Aelodau yn y Senedd hon yma heddiw—David Rowlands—hoffwn ofyn i'r holl Aelodau gefnogi'r cynnig deddfwriaethol hwn heddiw, rhowch eich cefnogaeth iddo, a gadewch inni symud ymlaen yn gadarnhaol. Wrth inni ddod i ddiwedd blwyddyn ofnadwy, gadewch inni gamu ymlaen yn gadarnhaol, gyda'n gilydd, fel un Senedd, a gadewch inni gyflwyno'r cynllun dychwelyd ernes hwn. Diolch yn fawr iawn.

Y cwestiwn yw: a ddylid nodi'r cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, ac felly derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 2 yn enw Siân Gwenllian. 

Y ddadl nesaf yw dadl y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gweledig ar y fframwaith datblygu cenedlaethol. Dwi'n galw ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Mike Hedges.

Cynnig NDM7487 Mike Hedges

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft, a osodwyd ar 21 Medi 2020.  

2. Yn nodi, yn unol ag Adran 3 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, fod cyfnod ystyried 60 diwrnod y Senedd wedi dechrau ar y diwrnod y gosodwyd drafft y Fframwaith yn y Senedd. 

3. Yn nodi, yn unol ag Adran 3 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, fod yn rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i unrhyw benderfyniad a basiwyd gan y Senedd ac unrhyw argymhelliad a wnaed gan un o bwyllgorau'r Senedd mewn perthynas â'r drafft yn ystod y cyfnod hwnnw o 60 diwrnod.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rwy'n falch o allu siarad yn y ddadl hon dan arweiniad pwyllgor ar y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft, a elwir bellach yn 'Cymru'r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040'. Bydd Aelodau o'r Senedd yn ymwybodol fod Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn nodi gweithdrefnau craffu ar gyfer y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft. Mae'r Ddeddf yn cyfeirio at gyfnod ystyried yn y Senedd sy'n para am 60 diwrnod ar ôl gosod y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft. Rhaid i Weinidogion Cymru roi sylw i unrhyw benderfyniad a gaiff ei basio gan y Senedd ac unrhyw argymhelliad a wneir gan bwyllgor Senedd yn ystod y cyfnod hwnnw.

Daw'r cyfnod o 60 diwrnod i ben yfory. Y ddadl hon yw'r ail y byddwn wedi'i chael ar y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft, yn dilyn dadl gan Lywodraeth Cymru yn gynnar iawn yn y cyfnod o 60 diwrnod. Diben y ddadl heddiw yw rhoi cyfle olaf i'r Senedd a'r Aelodau ystyried y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft. Nid dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yw hon, er fy mod yn gobeithio y caiff ei llywio gan ein hargymhellion. Fel Cadeirydd y Pwyllgor, ni fyddaf yn mynd i'r afael â'r gwelliannau a gyflwynwyd gan yr Aelodau. Mae'n fwy priodol i'r Gweinidog wneud hynny.

Cyhoeddodd y pwyllgor ein hadroddiad ddydd Llun. Ynddo, gwnaethom 26 o argymhellion ar draws sawl maes polisi. Cyn i mi fynd ymhellach, hoffwn ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i gyfrannu at waith y pwyllgor, naill ai drwy gyflwyniadau ysgrifenedig neu drwy ymddangos ger ein bron yn rhithwir. Hoffwn ddiolch hefyd i gynghorydd arbenigol y pwyllgor, Graeme Purves, am ei gymorth yn ystod y broses graffu.

Mae 'Cymru'r Dyfodol' yn ddogfen bwysig; mae'n nodi fframwaith 20 mlynedd ar gyfer cynllunio a datblygu yng Nghymru. Os caiff ei wneud yn iawn, mae ganddo botensial i fynegi gweledigaeth feiddgar, hirdymor ar gyfer y wlad hon. Fel pwyllgor, rydym yn fodlon â 'Cymru'r Dyfodol' at ei gilydd. Gall pob aelod o'r pwyllgor dynnu sylw at elfennau y byddent am eu cryfhau, neu hyd yn oed eu dileu, ond yn gyffredinol, roeddem yn fodlon. Fodd bynnag, mynegodd un Aelod o'r pwyllgor ei wrthwynebiad i rai o'r polisïau yn 'Cymru'r Dyfodol' ac o ganlyniad, i agweddau ar gasgliadau ac argymhellion y pwyllgor. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn egluro ei resymau'n llawn cyn bo hir.

Yr her gyffredinol y mae Llywodraeth Cymru yn ei hwynebu ar hyn o bryd yw sicrhau bod y fframwaith cynllunio 40 mlynedd hwn yn ddigon gwydn i allu ymateb i'r tair her fwyaf sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd: COVID ac unrhyw feirysau yn y dyfodol, Brexit, ac effeithiau newid hinsawdd. Mae'r Gweinidog wedi sicrhau'r pwyllgor bod 'Cymru'r Dyfodol' yn ddigon hyblyg a gwydn i ymateb i newidiadau cymdeithasol sy'n deillio o bandemig COVID-19.

Ond credwn ei bod yn rhy gynnar i farnu effeithiau tymor canolig a hirdymor penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yng ngoleuni'r pandemig. Er enghraifft, mae Gweinidogion Cymru wedi sôn am hyd at 30 y cant o weithwyr Cymru'n gweithio gartref. Gallai hyn newid yn sylfaenol y ffordd y mae ardaloedd fel canol trefi a chanol dinasoedd yn gweithredu. A bydd hyn yn effeithio ar seilwaith, tai a chysylltedd, ac yn sicr, y busnesau sy'n seiliedig ar ddarparu gwasanaethau i'r rhai sy'n gweithio mewn swyddfeydd yng nghanol dinasoedd. Mae angen i 'Cymru'r Dyfodol' allu adlewyrchu'r holl newidiadau hyn. Rydym wedi argymell y dylai 'Cymru'r Dyfodol' gynnwys datganiad clir i adlewyrchu'r gwersi a ddysgwyd o COVID-19 ac egluro sut y bydd yn cefnogi adferiad ôl-COVID-19.

Roedd un o'n prif bryderon yn ymwneud â chynlluniau datblygu strategol. 'Cymru'r Dyfodol' fydd y lefel uchaf o gynllun strategol, i ddarparu fframwaith cynllunio cenedlaethol. Bydd cynlluniau datblygu strategol yn mynd rhwng y cynllun datblygu cenedlaethol a'r cynllun datblygu lleol. O ran hierarchaeth dogfennau cynllunio strategol, mae hyn yn gwneud synnwyr. Ond mae'r dull o weithredu'n cael ei lesteirio gan absenoldeb yr haen ganol o gynlluniau datblygu strategol. A dweud y gwir, nid yw awdurdodau lleol wedi dangos llawer o ddiddordeb mewn datblygu'r cynlluniau hyn hyd yma. Ond er mwyn i ddull Llywodraeth Cymru weithio, mae angen iddynt ddod yn weithredol cyn gynted â phosibl. 

Ceir un cymhlethdod ychwanegol. Bydd angen i awdurdodau lleol ddod at ei gilydd i ddatblygu'r cynlluniau hyn o dan Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), a basiwyd gan y Senedd hon yr wythnos diwethaf. Mae'r Bil yn darparu ar gyfer sefydlu cydbwyllgorau corfforaethol a fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o fwy nag un awdurdod lleol i ddatblygu cynlluniau datblygu strategol. Wrth gwrs, mae mwy o gydweithredu rhwng awdurdodau lleol yn beth da mewn egwyddor, ond yr hyn nad ydym am ei gael yw cyfyngu anfwriadol ar atebolrwydd tuag at gymunedau lleol. Un feirniadaeth a glywsom am 'Cymru'r Dyfodol' oedd ei bod yn ymddangos, mewn mannau, fel pe bai'n ymestyn i dir y byddech yn disgwyl iddo gael ei gynnwys mewn cynlluniau datblygu strategol. Gobeithiwn y bydd hyn yn cael ei ailgydbwyso dros amser, wrth i gynlluniau datblygu strategol gael eu cyflwyno.

Rwyf am droi yn fyr yn awr at rai o'r meysydd allweddol eraill rydym wedi ymdrin â hwy yn ein hadroddiad. Ynni: rydym wedi gwneud nifer o argymhellion manwl yn ein hadroddiad, ond mae'r prif bwynt rwyf am ei wneud yn un strategol. Credwn fod diffygion y grid yn rhwystro datblygiad strategol yng Nghymru. Os ydych am adeiladu fferm wynt neu os ydych am gael fferm solar, gwyddom fod angen i chi wneud hynny lle roedd gorsaf bŵer yn arfer bod, fel bod gennych fynediad at y grid. Mae hynny'n achosi problemau enfawr mewn llawer o ardaloedd.

Mae'r Gweinidog wedi dweud y bydd 'Cymru'r Dyfodol' yn darparu sail ar gyfer trafodaethau pellach gyda'r Grid Cenedlaethol a chwmnïau dosbarthu. Rhaid i'r trafodaethau hyn ddigwydd fel mater o frys, neu fel arall mae 'Cymru'r Dyfodol' yn cael ei lesteirio o'r dechrau mewn perthynas ag ynni. Mae angen strategaeth i wella'r seilwaith trosglwyddo a dosbarthu trydan, gan gynnwys unrhyw seilwaith newydd sydd ei angen yng nghanolbarth Cymru. Rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda'r Grid Cenedlaethol, cwmnïau dosbarthu trydan a'r diwydiant ynni adnewyddadwy i ddatblygu hyn ar fyrder.

Ar dai, roeddem yn fodlon ar y cyfan â'r polisïau a nodir yn 'Cymru'r Dyfodol', ond rydym am gofnodi ein siom fod gwelliannau i Ran L y rheoliadau adeiladu wedi'u gohirio unwaith eto. Mae angen y gwelliannau hyn, ond mae parhau i ohirio'r newidiadau anochel yn destun pryder. Rydym wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru ddatblygu Rhan L ddiwygiedig y rheoliadau adeiladu fel y gall Llywodraeth nesaf Cymru, pwy bynnag y bydd, gyflwyno is-ddeddfwriaeth cyn gynted â phosibl yn dilyn etholiad 2021.

Mae 'Cymru'r Dyfodol' yn sôn llawer am gysylltedd. Yn ein hadroddiad a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2019, dywedasom fod angen i 'Cymru'r Dyfodol' fynd i'r afael â'r cysylltedd gwael rhwng gogledd a de Cymru. Er iddo gael ei dderbyn gan Lywodraeth Cymru, nid yw'n mynd yn ddigon pell. Mae gennym bryderon hefyd ynghylch cysylltedd â gorllewin Cymru, sy'n aml yn cael ei anghofio, ac eithrio gan y rhai sy'n gorfod teithio o sir Benfro i dde-ddwyrain Cymru. Credwn fod cysylltedd trafnidiaeth yn broblem strategol barhaus ar draws rhannau o Gymru. Mae 'Cymru'r Dyfodol' yn rhoi gormod o'r cyfrifoldeb am hyrwyddo gwell cysylltiadau rhyngranbarthol ar y rhanbarthau eu hunain. Rhaid i'r strategaeth drafnidiaeth genedlaethol newydd y mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori arni ar hyn o bryd fynd i'r afael â hyn.

Yn olaf, gwnaethom nifer o argymhellion manwl am fioamrywiaeth a seilwaith gwyrdd, y goedwig genedlaethol a'r parciau cenedlaethol. Ar fater lleiniau glas, dywedodd cyfranwyr wrthym y dylai fod gan awdurdodau lleol fwy o ddisgresiwn na'r hyn a nodwyd yn 'Cymru'r Dyfodol' o ran pennu lleoliad a maint y lleiniau glas yn eu rhanbarthau. Fel pwyllgor, mae arnaf ofn na allem gytuno. Credwn fod lleiniau glas yn arf hanfodol i gyfyngu ar flerdwf trefol. Rydym wedi argymell y dylid cryfhau eu swyddogaeth, ac y dylid pwysleisio eu manteision yn 'Cymru'n Dyfodol'.

I gloi, hoffwn orffen drwy ddiolch i'r Gweinidog am y ffordd adeiladol y mae hi a'i swyddogion wedi ymgysylltu â'r pwyllgor a'r ffordd ddefnyddiol y mae'r dogfennau niferus sy'n ymwneud â 'Cymru'r Dyfodol' wedi cael eu cyflwyno a'u hegluro. Pan gyhoeddodd y pwyllgor ei adroddiad ar 'Cymru'r Dyfodol' ym mis Tachwedd 2019, gwnaethom nodi 50 o gasgliadau gyda'r nod o wella'r fframwaith datblygu cenedlaethol. Derbyniwyd y rhan fwyaf o'n hargymhellion. Yn yr adroddiad hwn, rydym wedi gwneud 26 o argymhellion pellach. Edrychaf ymlaen at glywed ymateb y Gweinidog. Diolch.

16:20

Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Dwi'n galw ar Llyr Gruffydd i gynnig gwelliannau 1 a 2, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Llyr Gruffydd.

Gwelliant 1—Siân Gwenllian

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu o ran y model pedair rhanbarth diwygiedig yn Cymru'r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040:

a) ei fod wedi cael ei ysbrydoli gan agenda Geidwadol, unoliaethol sy'n seiliedig ar gytundebau dinas a thwf Llywodraeth y DU;

b) y byddai'n gyrru hollt drwy Gymru, gan rannu gogledd ein gwlad o'r de ac ni fyddai'n gwneud fawr ddim yn rhagweithiol i wella cysylltedd rhwng y gogledd a'r de; ac

c) y byddai'n esgeuluso rhai o'r rhannau hynny o Gymru y mae angen eu hadfywio a'u datblygu fwyaf, sef yr arfordir gorllewinol a chymoedd y de.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddisodli'r model pedwar rhanbarth a gynigir yn Cymru'r Dyfodol: cynllun cenedlaethol 2040 gan, yn lle hynny, gael map rhanbarthol amgen o Gymru sy'n canolbwyntio ar wneud Cymru'n genedl gysylltiedig, cynaliadwy, ffyniannus a hunangynhaliol ym mhob ystyr.

Gwelliant 2—Siân Gwenllian

Ychwanegu pwyntiau newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn nodi bod Dr Neil Harris o Brifysgol Caerdydd, mewn tystiolaeth i Bwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Senedd, wedi crynhoi'r dull sy'n sail i Cymru’r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040 fel un sy'n seiliedig ar dwf sy'n canolbwyntio ar ardaloedd trefol a sefydlogrwydd mewn mannau eraill. 

Yn credu o ran y dull sy'n sail i Cymru'r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040:

a) ei fod mewn perygl o sefydlu'r methiant i ddosbarthu cyfoeth, twf a datblygiad mewn modd cyfartal ledled Cymru fel nodwedd barhaol o lywodraethu Cymru yn y cynllun hirdymor hwn; a

b) y bydd yn arwain at orddatblygu yn yr ardaloedd sydd eisoes wedi'u blaenoriaethu fel lleoliadau a ffefrir ar gyfer datblygiadau preswyl sylweddol a datblygiadau sylweddol eraill, heb wneud fawr ddim i fynd i'r afael â'r angen am ddatblygu cynaliadwy mewn meysydd eraill gan gynnwys yr angen am dai cymdeithasol a fforddiadwy i gwrdd â'r argyfwng tai.

Yn credu bod yn rhaid i'r system gynllunio yng Nghymru adlewyrchu'r angen am ddatblygiad addas yn y mannau cywir yn ôl angen lleol; rhoi mwy o lais i gymunedau mewn datblygiadau yn eu hardaloedd a bod yn rhaid i'r system gynllunio ganiatáu cynllunio cyfannol ar y lefel briodol, ond yn credu ei bod yn debygol y bydd trosglwyddo pŵer ac atebolrwydd dros gynllunio o awdurdodau lleol i gyd-bwyllgorau corfforaethol drwy gynlluniau datblygu strategol yn cyfyngu ymhellach ar y llais lleol mewn prosesau cynllunio.

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddisodli'r dull sy'n sail i Cymru'r Dyfodol: y cynllun cenedlaethol 2040 ar hyn o bryd gan sefydlu dull amgen sy'n canolbwyntio ar ddosbarthu cyfoeth, pŵer a buddsoddiad yn gyfartal ledled Cymru drwy dargedu ymyrraeth a thwf yn yr ardaloedd mwyaf anghenus.

Cynigiwyd gwelliannau 1 a 2.

Wel, diolch yn fawr iawn, Llywydd. Mi allem ni dreulio, wrth gwrs, llawer o amser yn mynd drwy argymhellion unigol yn adroddiad y pwyllgor—llawer ohonyn nhw dwi'n cytuno â nhw—ond mae gen i broblemau mwy sylfaenol am gynsail y fframwaith datblygu, sydd, wrth gwrs, wedi eu hamlygu yn y gwelliannau y mae Plaid Cymru wedi eu cyflwyno, ac yn y ffaith bod adroddiad y pwyllgor, wrth gwrs, yn y pen draw, yn adroddiad lleiafrifol.

Un o'r problemau sydd gyda fi, wrth gwrs, yw bod ôl-troed gofodol y fframwaith datblygu cenedlaethol yn wallus. Mae'n rhoi ar waith, yn fy marn i, weledigaeth Llywodraeth Geidwadol y Deyrnas Unedig, y weledigaeth unoliaethol honno sy'n ymwreiddio neu'n 'entrench-io' dibyniaeth Cymru ar economi Lloegr. Mae yna bedair rhanbarth, wrth gwrs, wedi eu modelu ar ardaloedd bargeinion twf Boris Johnson, ac mae'n siom fod map Cymru'r dyfodol yn seiliedig, wrth gwrs, ar wasanaethu'r Northern Powerhouse, y Bristol and Western Gateway a'r Midlands Engine—yr acsis gorllewin-dwyrain yma sy'n golygu, wrth gwrs, fod dyfodol economaidd Cymru yn mynd i fod yn seiliedig ar friwsion o fwrdd rhywun arall. Oes, mae angen cydweithio yn drawsffiniol i ddenu budd i Gymru o'r endidau hyn, wrth gwrs bod e, ond nid seilio holl weledigaeth 'Cymru'r Dyfodol' ar hynny. Ac mae'r methiant i flaenoriaethu adeiladu economi Cymru ynddo'i hun—in its own right—yn creu, wrth gwrs, mwy o ddibyniaeth ar benderfyniadau'r Ceidwadwyr yn Llundain a llai o debygolrwydd y bydd Cymru, wrth gwrs, yn gallu tyfu'n gryfach a sefyll ar ei thraed ei hun. 

Nawr, yn lle cynnig gweledigaeth sy'n dod â Chymru ynghyd, felly, mae Llafur, drwy wneud hyn, yn risgio gwthio de, canolbarth a gogledd Cymru ymhellach oddi wrth ei gilydd. Mae'n esgeuluso'r angen, yn fy marn i—yr angen dybryd—am well cysylltedd de a gogledd. Mi ddywedodd y Gweinidog yn ei thystiolaeth fod y fframwaith yn ddigon hyblyg i ymateb i bolisïau trafnidiaeth de-gogledd. Wel, nid ymateb i bolisïau sydd angen, ond gyrru'r weledigaeth a'r polisïau uchelgeisiol yna sydd eu hangen arnon ni i uno Cymru. Ac mae hynny, wrth gwrs, yn cael ei adlewyrchu yn un o argymhellion y pwyllgor sy'n cyfeirio at y diffyg ffocws ar gysylltedd oddi fewn i Gymru.

Yr ail broblem sylfaenol sydd gen i, wrth gwrs, yw'r modd y mae'r fframwaith datblygu cenedlaethol yma yn canoli twf mewn rhai ardaloedd penodol, a hynny'n anochel, wrth gwrs, wedyn, ar draul ardaloedd eraill. Ac mi dynnodd Dr Neil Harris, arbenigwr o Brifysgol Caerdydd, ein sylw ni yn y pwyllgor, yn ei dystiolaeth, at y ffaith bod y cynllun yn seiliedig ar dwf sy'n canolbwyntio twf ar ardaloedd trefol, ond wedyn dim ond yn sôn am sefydlogrwydd mewn mannau eraill. Nawr, nid dyna'r weledigaeth o rannu cyfoeth a chyfleodd yn gyfartal ar draws Cymru fyddem ni am ei weld. A'r methiant hwnnw i ddosbarthu cyfoeth, twf a datblygiad mewn modd cyfartal ledled Cymru yw un o'r nodweddion dwi am ei weld yn cael ei wyrdroi. Gallech chi ddadlau mai dyna yw un o fethiannau datganoli yn yr 20 mlynedd ddiwethaf. Ond yr hyn sy'n digwydd nawr, wrth gwrs, yw bod hynny'n cael ei wreiddio fel nodwedd barhaol o weledigaeth Llywodraeth Cymru hyd 2040.

Does dim digon o bwyslais ar Arfor a'r angen am dwf yn y gorllewin, fel dwi wedi'i godi'n flaenorol gyda'r Gweinidog, na chwaith ar y Cymoedd fel endid penodol sydd angen ffocws cryfach arni, yn fy marn i. A'r risg hefyd yw, wrth gwrs, y bydd yr ardaloedd twf yma, yn y pen draw, yn wynebu gorddatblygiad. Rydym ni'n ei weld e'n digwydd mewn rhai rhannau o Gymru yn barod. Pan rydych chi'n edrych ar yr ardaloedd sydd wedi eu blaenoriaethu fel lleoliadau a ffefrir ar gyfer datblygiadau preswyl sylweddol, wel, wrth gwrs fod yna risg o orddatblygiad yn fanna, tra bod yna'n fawr ddim wedyn, wrth gwrs, ar y llaw arall, i fynd i'r afael â'r angen am ddatblygiad cynaliadwy mewn rhannau eraill o Gymru, yn enwedig pan mae'n dod, wrth gwrs, i'r angen am dai cymdeithasol a thai fforddiadwy i gwrdd â'r argyfwng tai.

Mae yna broblemau hefyd, wrth gwrs, ynglŷn â'r natur o'r top i lawr pan mae'n dod i'r gyfundrefn gynllunio. Fe gawsom ni'r drafodaeth hynny adeg pasio Deddf Cynllunio (Cymru) 2015 rai blynyddoedd yn ôl. Ond, wrth gwrs, mae hwn yn mynd â'r broblem i'r lefel nesaf drwy'r cynlluniau datblygu rhanbarthol, drwy ddibyniaeth ar y cydbwyllgorau corfforaethol yma sydd yn mynd â'r penderfyniadau allweddol yma yn bellach i ffwrdd o'r cymunedau fydd yn cael eu heffeithio gan y penderfyniadau.

Felly, i gloi, gall Plaid Cymru ddim cefnogi y cynllun yma sy'n chwarae i ddwylo yr agenda unoliaethol ac i ddwylo agenda'r Ceidwadwyr yn Llundain, ac a fydd, wrth gwrs, yn gwanhau yn lle cryfhau Cymru fel endid economaidd, cymdeithasol, diwylliannol a gwleidyddol, ac yn sgil hynny, rŷn ni'n teimlo'n gryf fod yn rhaid cyflwyno newidiadau sylweddol i fframwaith cynllunio cenedlaethol Cymru.

16:25

Dyma'r ail dro i mi siarad am y fframwaith datblygu cenedlaethol, ac yn ystod y ddadl ddiwethaf amlinellais yn glir nifer o wendidau yn y fframwaith datblygu cenedlaethol. Yn ystod y pwyllgor, mae fy mhenderfyniad fod angen mynd i'r afael â'r rhain wedi cryfhau.

Fel y dywedais o'r blaen, mae'r dull rhanbarthol presennol yn ddiffygiol, yn enwedig wrth edrych ar ogledd a chanolbarth Cymru. Argymhellais y dylid diwygio polisi 20, fel bod gogledd Cymru i gyd yn elwa, ac y dylid rhannu'r prif ffocws rhwng Wrecsam a Glannau Dyfrdwy a Chaernarfon, Bangor ac ardal y Fenai. Felly, erfyniaf arnoch i sicrhau bod gan ogledd-orllewin Cymru ardal dwf genedlaethol. Mae Plaid Cymru yn anghywir i alw am rywbeth yn lle'r model rhanbarthol—y broblem mewn gwirionedd yw lle mae'r ardaloedd twf cenedlaethol i fod. Felly, rhaid i mi fynegi fy rhwystredigaeth eto nad yw polisi 25 wedi'i ddiwygio i gyflwyno Aberystwyth fel prif ffocws ar gyfer buddsoddi.

Mae 'Cymru'r Dyfodol' yn parhau i fethu sbarduno buddsoddiad i orllewin Cymru yn gyfan, a daw hyn â mi at fy nghefnogaeth i argymhelliad 10, fod angen datganiad clir yn awr ynglŷn â sut y bydd y strategaeth yn helpu i wella adferiad ôl-COVID. Oes, mae datganiad am y pandemig ynddo, ond mae gwir angen i chi ddangos sut y mae'r ddogfen wedi esblygu oherwydd y pandemig erchyll hwn. Er enghraifft, pe baech yn diwygio polisi 20 ac yn gweld mwy o ymdrech i fuddsoddi yng ngogledd-orllewin Cymru, gellid dweud eich bod yn ymateb i'r angen i hybu twf economaidd yn y rhanbarth yn dilyn y cynnydd o 114 y cant yn nifer yr hawliadau credyd cynhwysol yng Nghonwy, 117 y cant yn Ynys Môn a 147 y cant yng Ngwynedd.

Yn yr un modd, mewn ymateb i COVID-19, rhoddir cryn bwyslais ar y cyfle i sicrhau adferiad gwyrdd. Nawr, mae'r Prif Weinidog, y Gwir Anrhydeddus Boris Johnson AS, wedi rhoi hwb gwych i feithrin chwyldro gwyrdd yn y DU. Nid yw'r strategaeth hon yn adlewyrchu unrhyw uchelgais o'r fath. Nawr, rwy'n cytuno ag argymhelliad 11 y pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda'r Grid Cenedlaethol, cwmnïau dosbarthu trydanol a'r diwydiant ynni adnewyddadwy i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o'r gwelliannau strategol y mae angen eu gwneud i seilwaith trosglwyddo a dosbarthu trydan. Byddwn yn mynd ymhellach hyd yn oed, ac yn gofyn i chi gynnwys ymrwymiad ym mholisi 17, os oes seilwaith grid newydd i gael ei adeiladu ar draws canolbarth Cymru, y bydd hwnnw'n cael ei osod o dan y ddaear. Dylid rhoi sylw hefyd i dystiolaeth lafar Hedd Roberts, a dynnodd sylw at yr angen i ddiogelu'r nifer gyfyngedig o safleoedd sy'n addas ar gyfer glanfeydd cebl. Byddai hynny'n helpu i sicrhau bod 'Cymru'r Dyfodol' yn gyson â'r cynllun morol cenedlaethol. Fel y mae cangen Trefaldwyn o Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig wedi nodi, mae angen rhoi mwy o bwyslais ar amrywiaeth o ynni adnewyddadwy, gan gynnwys ynni morol.

Mae polisi 22 yn cyfeirio at yr angen am lain las o amgylch Wrecsam a Glannau Dyfrdwy, ac fe fyddwch yn ymwybodol fod ein pwyllgor wedi argymell y dylid cryfhau eu swyddogaeth. Rwy'n cytuno, ond rwy'n dal yn bryderus, y gallai nodi diogelwch polisi cryf ar gyfer y llain las mewn un gornel o Gymru gael effaith negyddol mewn mannau eraill. Er enghraifft, os ydych yn dymuno bod yn uniongyrchol, beth am ddiwygio polisi 22 fel ei fod yn diogelu'r ardal werdd o amgylch Llan-rhos yn Aberconwy? Unwaith eto, ymddengys mai dim ond dau gyfeiriad a geir at safleoedd tir llwyd yn y ddogfen gyfan. Dylem gael polisi sy'n rhoi blaenoriaeth i ddatblygu yn y mannau hynny.

Dywedwyd wrthym yn glir fod parciau cenedlaethol yn wynebu heriau mawr, felly rwy'n cytuno ag argymhelliad 25 y dylid cael polisi penodol ar y mater, a dyma mae Cymdeithas Eryri eu hunain wedi'i argymell. Rwy'n cytuno y dylai polisi 12 gynnwys blaenoriaeth ychwanegol: cymorth ar gyfer mesurau i leihau dibyniaeth ar geir a hwyluso dulliau mwy gwyrdd o gael mynediad i'n cyrchfannau angori ar gyfer ymwelwyr mewn tirweddau dynodedig sy'n profi tagfeydd cronig ar y ffyrdd ar hyn o bryd, gan brofi'n fwy felly yn ystod cyfnod codi'r cyfyngiadau symud yn y pandemig COVID. Er eich bod yn derbyn argymhelliad y pwyllgor y dylai'r fframwaith fynd i'r afael â'r cysylltedd gwael rhwng gogledd a de Cymru, nid yw yno eto, gan fod llawer o gyfrifoldeb yn cael ei roi i'r rhanbarthau eu hunain.

Yn olaf, hoffwn nodi fy siom fod 'Cymru'r Dyfodol' ym mholisïau 4 a 5 yn gadael dyfodol ardaloedd gwledig i gynlluniau datblygu strategol a lleol. Mae arwyddocâd cenedlaethol i faterion sy'n effeithio ar y Gymru wledig, ac fel y cyfryw, rwyf am ailadrodd galwadau i ddiwygio'r polisïau hynny fel eu bod yn hyrwyddo achub ein hysgolion a'n cyfleusterau gwledig, gwella ein ffyrdd B, arallgyfeirio ein ffermydd, a Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda darparwyr cyfathrebu digidol i fynd i'r afael ag anghenion ardaloedd gwledig. Rwy'n eich annog i weithredu ar y galwadau adeiladol hyn, ac i fynd yn ôl i'r dechrau ar y fframwaith datblygu cenedlaethol hwn. Diolch.

16:30

Mae llawer o bethau da yn y fersiwn ddiwygiedig o 'Cymru'r Dyfodol'. Mae llun yn dweud cymaint ag y gall mil o eiriau ei wneud, felly mae'r mapiau o barthau arfaethedig ar gyfer gwahanol weithgareddau i'w croesawu'n fawr, ac yn llawer haws i ddinasyddion ddeall sut y mae 'Cymru'r Dyfodol' yn berthnasol i'w gweledigaeth hwy ar gyfer llesiant cenedlaethau'r dyfodol. Felly, rwy'n credu bod gwelliant sylweddol wedi bod ers yr iteriad cyntaf. Diolch yn fawr iawn am hynny, Weinidog.

Hoffwn wneud dau bwynt. Yn gyntaf oll, mae'n hanfodol fod gan 'Cymru'r Dyfodol' neges gref a chlir fod yn rhaid inni gael lleiniau glas i atal y blerdwf trefol sy'n uno gwahanol gymunedau. Er enghraifft, rhaid inni gael llain las rhwng Caerdydd a Chaerffili, oherwydd fel arall, bydd datblygwyr bob amser am adeiladu ar gyrion Caerdydd, oherwydd gallant wneud mwy o arian drwy wneud hynny na thrwy adeiladu yng Nghaerffili, ac os nad oes gennym y math hwnnw o drefniant, mae'n tanseilio ein strategaeth ar gyfer datblygu cymunedau'r Cymoedd a sicrhau nad yw Caerdydd yn dod yn anghenfil o ddinas orlawn heb unrhyw fannau gwyrdd hygyrch. Yn yr un modd, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn diogelu'r gorlifdiroedd rhwng Caerdydd a Chasnewydd, i'w diogelu rhag archwaeth datblygwyr i adeiladu lle bynnag y gallant, cyhyd â'i fod ar safle maes glas, hyd yn oed os yw ar orlifdir. Ac mae'r ansicrwydd ynghylch ein cyflenwadau bwyd yn y dyfodol a fewnforir o gyfandir Ewrop yn ei gwneud yn bwysicach fyth ein bod yn gallu diogelu'r gorlifdir hwn fel man lle gallwn gynhyrchu bwyd ar gyfer Casnewydd a Chaerdydd, a gwella diogelwch ein cyflenwad bwyd drwy wneud hynny.

Hoffwn hefyd i'r Gweinidog egluro graddau'r diogelwch a roddir i safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig. Dywedodd Ymddiriedolaethau Natur Cymru wrth y pwyllgor fod yn rhaid i SoDdGA fod yn gysegredig neu o leiaf gael yr un amddiffyniad ag y maent yn ei gael ar gyfandir Ewrop. A allem roi'r un camau asesu i SoDdGA Cymru â safleoedd Natura 2000, fel bod SoDdGA yn cael yr amddiffyniadau angenrheidiol rhag datblygu? Mae hyn yn ymddangos yn arbennig o bwysig, o ystyried y rhywogaethau a gollir ledled Cymru yn sgil llu o weithgareddau gan fodau dynol. Felly, a gawn ni nodi yn 'Cymru'r Dyfodol' fod asesiad rheoleiddio cynefinoedd yn ffordd reolaidd o brofi effaith unrhyw ddatblygiad arfaethedig ac ymchwilio i amcanion cadwraeth unrhyw gynnig penodol? Os barnir eu bod yn cael effaith sylweddol, gellid dilyn hyn drwy gynnal asesiad priodol i benderfynu a fyddai integriti'r safle yn cael ei niweidio. Os yw'r asesiad hwn, felly, yn dweud na fyddai modd osgoi effaith o'r fath, er gwaethaf ymdrechion lliniaru, mae'n ymddangos i mi mai'r unig ffordd y gallai datblygiad fynd rhagddo yw os nad oes atebion amgen i'w cael a bod rhesymau cymhellol dros ddiystyru budd y cyhoedd.

Yn fwyaf diweddar, gwelsom gynnig i adeiladu ffordd liniaru i'r M4 yn mynd ar draws lefelau Gwent, a fyddai, wrth gwrs, wedi golygu bod y safle hwn a warchodir yn amgylcheddol yn cael ei oresgyn gan gerbydau, a fyddai wedi dinistrio rhinweddau'r safle. Os bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu safonau diwygiedig a mwy trwyadl, rwy'n gobeithio y gallant sicrhau nad ydym byth yn gweld cynnig o'r fath yn cael ei ystyried eto. Mae'n wych, wrth gwrs, fod y Prif Weinidog wedi penderfynu bod yr effaith ar yr amgylchedd yn y cynnig hwnnw yn llawer rhy fawr i ganiatáu iddo allu digwydd ac mae llawer o gynigion amgen eraill yn cael eu llunio nawr. Diolch.  

16:35

Rwy'n codi i gyfrannu at y ddadl hon fel Cadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu. Roeddem yn teimlo ei bod yn ddyletswydd arnom i gymryd tystiolaeth ar effeithiau posibl y fframwaith datblygu cenedlaethol ar y Gymraeg ac ar darged y Llywodraeth ei hun i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg. Cawsom dystiolaeth ar 15 Tachwedd ac rydym wedi ysgrifennu at y Gweinidog. Wrth gwrs, rydym yn aros am ei hymateb ffurfiol maes o law. Mae'n wir, ar lefel strategol genedlaethol, fod y fframwaith yn gwneud nifer o gyfeiriadau at y Gymraeg, ond ar lefel ranbarthol a gofodol, mae'r cyfeiriadau'n llawer mwy cyffredinol, ac at ei gilydd mae ein pwyllgor yn credu, a dangosodd y dystiolaeth a gyflwynwyd inni, fod perygl i hwn fod yn gyfle a gollwyd mewn perthynas â defnyddio ein cynlluniau gofodol fel gwlad i ddiogelu a sicrhau dyfodol ein hiaith genedlaethol. 

Mynegodd tystion nifer o bryderon ac rwyf am gyffwrdd â rhai ohonynt yn fyr. Roedd un pryder yn ymwneud ag atebolrwydd ar lefel ranbarthol. Mae'r fframwaith yn gwneud llawer iawn o'r angen i weithredu ar lefel ranbarthol, ac mae rhywfaint o reswm dros hynny, er bod gennyf fi'n bersonol bryderon am y rhanbarthau fel y'u nodir yn y fframwaith. Ond er enghraifft, nododd swyddfa Comisiynydd y Gymraeg fod ei goruchwyliaeth o ddyletswyddau statudol yn ymwneud ag endidau cyfreithiol a chyrff unigol, ac mae ymhell o fod yn glir i Gomisiynydd y Gymraeg sut y mae ei gyfrifoldebau cyfreithiol dros sicrhau bod y cyrff hynny'n gweithredu'n briodol yn y ddeddfwriaeth iaith Gymraeg—sut y bydd hynny'n cael ei gyflawni pan fyddant yn cydweithredu ar lefel ranbarthol. Ble mae'r cyfrifoldeb? Os oes rhaid iddo gyflwyno sylwadau am fethiant, ymhle ac i bwy y mae'n gwneud y sylwadau hynny? Nid yw'n glir sut y bydd y dull rhanbarthol, fel y'i nodir yn y fframwaith, yn cefnogi ac yn hyrwyddo'r Gymraeg, a hoffai'r pwyllgor i Lywodraeth Cymru ddangos yn llawer mwy eglur sut y mae'n bwriadu sicrhau mwy o dryloywder yng ngwaith y cyrff rhanbarthol a sut y gallant fod yn atebol. 

Maes arall lle cawsom dystiolaeth helaeth oedd tai a'r Gymraeg. Er mwyn i'r iaith gael dyfodol, gwyddom fod angen iddi gael cymunedau byw lle caiff ei siarad yn rheolaidd o ddydd i ddydd. Ac yn y cymunedau yn y gogledd a'r gorllewin, gwyddom fod mynediad at dai yn broblem enfawr. Bydd yr Aelodau'n cofio stori pennaeth ysgol gynradd y llynedd na allai fforddio prynu tŷ yng Ngwynedd a oedd o fewn 40 milltir i'r ysgol lle roedd yn byw—fod rhywun yn y swydd broffesiynol uwch honno'n methu fforddio cartref yn ei chymuned. Nawr, nid ydym yn teimlo bod hyn yn cael sylw digonol fel problem yn y fframwaith, a bydd effaith methu cael mynediad at dai fforddiadwy, ac yn hollbwysig, at dai cymdeithasol, yn rhwystro'r cymunedau hynny rhag gallu goroesi fel cymunedau byw, a'r effaith ar ddyfodol yr iaith. Rydym yn argymell y dylai'r cysylltiad rhwng tai cymdeithasol a thai fforddiadwy mewn ardaloedd Cymraeg, a'r effaith ar y Gymraeg, gael ei nodi'n llawer mwy trylwyr yn y ddogfen fframwaith.

Rydym yn pryderu am y ffordd y cyfeirir at gymunedau gwledig yn y fframwaith fel cefnwlad i drefi a dinasoedd. Yn y cymunedau gwledig hynny y mae'r Gymraeg yn aml ar ei chryfaf, ac mae gweld cymunedau gwledig fel rhywbeth sy'n bodoli'n unig yng nghyd-destun y dref y maent yn ei hamgylchynu yn gamgymeriad go iawn yn ein barn ni. Hoffem i'r Llywodraeth fabwysiadu agwedd fwy cytbwys tuag at helpu canol trefi a chanolfannau gwledig i ffynnu, yn hytrach nag un sy'n canolbwyntio ar ganolfannau trefol gyda'u cefnwlad, fel pe bai'r ardal wledig, rywsut, yn perthyn i'r ddinas neu'r dref. Hoffem weld y fframwaith yn cael ei ddiweddaru i ystyried yr angen mwy am fynediad cyflym a dibynadwy at fand eang—unwaith eto, mae hwnnw'n hanfodol i alluogi pobl i weithio yn y cymunedau hynny. A mwy o wybodaeth gan y Llywodraeth am eu syniadau ynghylch hybiau lleol.

Ac yn olaf, Lywydd, os caf sôn am faterion prif ffrydio'r iaith, mae angen cydnabod effaith y polisïau hyn ar y Gymraeg ar bob lefel o'r ddogfen, nid ar lefel strategol genedlaethol yn unig. Credwn hefyd fod angen gweld cysylltiadau cryfach â strategaethau eraill. Er enghraifft, ble mae'r cysylltiadau â'r cynlluniau Cymraeg mewn addysg? Sut y bydd y fframwaith yn cyfrannu at strategaeth 'Cymraeg 2050'? Mae angen nodi hyn i gyd, ac yna mae angen ei fonitro. Rydym wedi gofyn i'r Llywodraeth nodi sut y caiff y cyfraniad tuag at ganlyniadau 2050 ei fesur a'i fonitro os caiff y fframwaith ei gyflwyno, ac rydym wedi gofyn i lefel ranbarthol cynllunio gofodol yn y fframwaith fod yn ddigon hyblyg i ganiatáu twf partneriaethau sy'n mynd i'r afael â materion penodol. Er enghraifft, dylai'r siroedd lle mae'r Gymraeg yn iaith gymunedol allu cydweithio y tu hwnt i'r fframwaith fel y mae.

Edrychwn ymlaen fel pwyllgor at ymateb ffurfiol y Gweinidog. Mae amser o hyd i fynd i'r afael â'n pryderon. Os na chânt sylw, bydd hwn yn gyfle a gollwyd i'r Llywodraeth roi cig go iawn ar esgyrn eu hymrwymiad i 'Cymraeg 2050', a bydd angen i Lywodraeth newydd ddiwygio'r fframwaith yn sylweddol os nad eir i'r afael â hyn. 

16:40

Fel Aelod o'r pwyllgor a fu'n craffu ar y Bil hwn, rwyf yma i wneud rhai sylwadau. Nid oes amheuaeth fod arnom angen cynllun datblygu cenedlaethol, ac o dan hynny, nid oes amheuaeth fod arnom angen cynllun datblygu strategol, mae'n debyg. Ond rwy'n mynd i godi fy llais i gefnogi cymunedau a allai deimlo eu bod wedi'u heithrio i ryw raddau o'r broses honno.

Sylwaf fod gan y Bil llywodraeth leol ac etholiadau fecanwaith ar gyfer datblygu a sefydlu cynllun datblygu strategol, ac y byddai'n cael ei ddarparu gan gydbwyllgorau corfforaethol wedi'u cyfansoddi o gynrychiolwyr o fwy nag un awdurdod lleol. Er fy mod yn cefnogi hynny, rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol ein bod yn rhoi system a phroses ar waith i sicrhau bod y cynrychiolwyr hynny yn adlewyrchu barn ac egwyddorion y cymunedau lleol y maent yn eu gwasanaethu. A chredaf ei bod yn eithriadol o bwysig nad yw rhwystredigaethau'r Ddeddf gynllunio bresennol yn cael eu hailadrodd. Dro ar ôl tro gwelsom ddatblygiad yn methu mynd rhagddo am nad oedd cynllun datblygu lleol yn bodoli, ac mae'n amlwg nad yw hwnnw'n lle da i fod wrth geisio cael unrhyw fuddsoddiad i'r ardal honno.

Rwyf am groesawu'r ffaith bod yr awdurdodau lleol cyfagos yn cael eu hystyried pan gaiff cynlluniau strategol eu llunio. Pan roddodd y Gweinidog dystiolaeth, nododd Ystradgynlais fel enghraifft yng nghanolbarth a gorllewin Cymru o ardal lle mae cysylltedd ag ardal bae dinas Abertawe cystal â'i chysylltedd yn ôl i'r ardal honno. Yn enwedig pan soniwn am Bowys a Cheredigion yn ymuno â'i gilydd mewn ardal datblygu economaidd, sydd, unwaith eto, yn rhywbeth rwy'n ei gefnogi, mae'n ymwneud â'r ardaloedd ymylol hynny sy'n ymuno ag ardaloedd eraill. Mae Powys yn enghraifft arbennig lle bydd, ar hyd ei hymylon hir iawn, yn ffinio â llawer o ardaloedd eraill, gan gynnwys rhannau o Loegr. Felly, mae'n bwysig iawn fod hynny'n cael ei nodi.

Mae'r her fwyaf, wrth gwrs, wedi'i hamlinellu gydag adeiladu gwyrdd a glas yn ôl yn rhan o'r economi. Pan edrychwn ar yr ynni amgen sy'n rhan fawr o hyn, os edrychwn yn benodol ar y datblygiadau ynni ar y môr, bydd yn rhaid cael mynediad yn ôl i'r tir ym mhob achos. Gwn fod y Gweinidog wedi dweud yn gwbl glir fod yn rhaid darllen hyn ochr yn ochr â Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir (2009). Er hynny, mae'n rhaid i'r ddau weithio gyda'i gilydd. Fel arall, ni allwn gael yr ynni rydym i gyd yn gobeithio ei gael—yr ynni gwyrdd newydd—heb y cydgysylltiad hwnnw.

Rhaid i mi ddweud fy mod yn cefnogi'r hyn y mae Jenny Rathbone, ac eraill, rwy'n credu, wedi'i ddweud yma heddiw, fod yn rhaid inni sicrhau integriti safleoedd Natura 2000 yn llwyr. Rhaid inni osgoi dirywiad bioamrywiaeth o ganlyniad i weithredu polisïau yn 'Cymru'r Dyfodol'. Nid yw byth yn mynd i fod yn ddigon da ein bod yn cynnal pethau fel y maent, oherwydd er mwyn cynnal pethau fel y maent, o ran bioamrywiaeth, dim ond ein cadw ar y droed ôl fydd hynny'n ei wneud, pan fo angen inni adfer yr hyn sydd gennym i gyflwr a arferai fodoli mewn gwirionedd, cyn iddo gael ei ddiraddio yn y lle cyntaf. Diolch. 

16:45

A gaf fi ddiolch, yn gyntaf oll, i'r pwyllgor newid hinsawdd a materion gwledig am eu gwaith ar y fframwaith datblygu cenedlaethol? Mae gennyf rai sylwadau fy hun i'w gwneud, ac rwyf hefyd yn mynd i gyfeirio at Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, a fu'n craffu ar agweddau perthnasol ar y fframwaith datblygu cenedlaethol a oedd yn berthnasol i'r pwyllgor hwnnw. Ond dylwn ychwanegu nad wyf yn siarad yn rhinwedd fy swydd fel Cadeirydd y pwyllgor hwnnw heddiw.

Cafwyd nifer o rowndiau o ymgynghoriadau, ac yn gyffredinol rwy'n croesawu nifer o newidiadau a gwelliannau sylweddol iawn a wnaed hyd at y pwynt hwn. Mae 'fodd bynnag' mawr yn dod yn ddiweddarach yn fy nghyfraniad. O ran Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, at ddibenion y fframwaith datblygu cenedlaethol, teimlem yn gryf mai'r ffordd orau o rannu Cymru yw'n bedwar rhanbarth, nid tri. Felly, roeddwn yn falch iawn fod y Llywodraeth wedi nodi hynny ac wedi cyflwyno model pedwar rhanbarth. Roedd hynny'n wirioneddol gadarnhaol.

Yn ymateb y Llywodraeth i'r broses ymgynghori, sylwaf eu bod wedi gwrthod yn gryf farn y pwyllgor nad oedd uchelgais i'w weld yn y fframwaith datblygu cenedlaethol. Rwy'n credu bod hyn yn ddigalon. Credaf fod angen i ddogfen gynllunio genedlaethol allweddol fel hon osod agenda, ac mae angen iddi egluro'r llwybr y gallwn ei ddilyn i fynd i'r afael â heriau cenedlaethol fel anghydraddoldeb cymdeithasol ac economaidd. Rwy'n falch hefyd o weld bod y fframwaith datblygu cenedlaethol a ddiweddarwyd yn cynnwys cyfeiriad at yr economi sylfaenol. Nid oedd drafftiau cynharach yn cynnwys unrhyw gyfeiriad at yr economi sylfaenol, ac fe wnaeth dogfennau diweddarach hynny, felly newid cadarnhaol arall.

Rwy'n dod nawr at y rhan a grybwyllais—y darn 'fodd bynnag'. Rwyf fi, fel llawer o bobl ledled canolbarth Cymru, yn siomedig tu hwnt ei bod yn ymddangos bod y sylwadau o bob rhan o gefn gwlad canolbarth Cymru wedi'u hanwybyddu, ac mai mewn ymgyrch ymddangosiadol i gynyddu gwynt ar y tir yn unig y cryfhawyd yr adran ynni adnewyddadwy. Rwy'n atgoffa'r Gweinidog am y protestiadau ym mis Mehefin 2011 a gynhaliwyd y tu allan i'r Senedd hon fis ar ôl i mi gael fy ethol. Daeth miloedd o bobl i brotestio, mewn dwsinau o fysiau a deithiodd o ganolbarth Cymru. Mae hyn yn arwydd fod Llywodraeth Cymru, unwaith eto, o'r farn fod y niwed enfawr i'n tirweddau yn dderbyniol, ond nid yw'n dderbyniol. Nid yw'n dderbyniol i mi ac nid yw'n dderbyniol i bobl canolbarth Cymru, ac mae'n amlwg fod Llywodraeth Cymru yn rhoi llawer mwy o goel ar lobïo gan ddatblygwyr ffermydd gwynt ar y tir na phoblogaeth cefn gwlad canolbarth Cymru, y bobl y maent i fod i'w cynrychioli.

Gwrandewais yn astud iawn ar sylwadau Jenny Rathbone pan soniodd am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn cael gwared ar ffordd liniaru'r M4 oherwydd ffactorau amgylcheddol. Onid yw'n ddiddorol fod hynny'n bwysig i'r Prif Weinidog mewn perthynas â'r prosiect penodol hwnnw, ond mae canolbarth Cymru'n stori wahanol? Yn y fframwaith datblygu cenedlaethol, ni chaiff unrhyw dystiolaeth nac amcan na rhesymeg ei hamlinellu ynglŷn â'r ardal ddynodedig, ac nid yw tirwedd yn nwydd y gellir ei wario, a phan gaiff ei difetha, caiff ei golli ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Unwaith eto, mae Llywodraeth Cymru wedi dewis rhoi llawer gormod o bwyslais ar wynt ar y tir.

Gwn fod Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig wedi cyflwyno sylwadau cryf yn hyn o beth. Rwy'n mynd i dynnu sylw at rai ohonynt yn yr amser sydd gennyf ar ôl, ond mae twristiaeth yn hanfodol i'r economi wledig. Ym Mhowys, dyma'r cynhyrchydd cynnyrch domestig gros uchaf ond un, ar tua 11 y cant. Ni ellir anwybyddu pwynt gwerthu unigryw'r Gymru wledig fel tirwedd wych, ac nid mater o barciau cenedlaethol neu ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol yn unig yw hyn, ond yr amrywiaeth wych o dawelwch a golygfeydd panoramig helaeth heb eu difetha. Mae'r Gymru wledig yn denu twristiaeth drwy'r flwyddyn.

Ac wrth gwrs, ceir barn negyddol am dyrbinau a llinellau trosglwyddo, sydd wedi'i dogfennu'n dda iawn. Yna ceir perygl llifogydd, sydd hefyd wedi'i nodi'n fanylach gan Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig, a maint yr hyn a gynigir, sut y byddai hynny'n newid llif dŵr ac yn arwain at ddifrod ehangach. Yna ceir cludiant tyrbinau, hefyd i ardaloedd gwledig anghysbell, ac mae hynny'n creu problemau logistaidd enfawr gyda ffyrdd cul a ffyrdd troellog serth a phontydd isel. Wedyn, wrth gwrs, ceir mater lleoliadau anghysbell sy'n galw am seilwaith trosglwyddo helaeth ar draws ardaloedd sylweddol o gefn gwlad hardd. Anwybyddir goblygiadau hyn i'r dirwedd yn y fframwaith datblygu cenedlaethol.

Felly, rwy'n eich annog, Weinidog, i ystyried yn ofalus iawn eto yr hyn rwyf wedi'i amlinellu heddiw a safbwyntiau Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig. Mae angen inni gael mwy o bwyslais ar amrywiaeth lawer ehangach o ynni adnewyddadwy, gan gynnwys gwynt ar y môr yn hynny. Ddeng mlynedd yn ôl, galwodd pobl fy etholaeth am ddileu 'Nodyn Cyngor Technegol (Cymru) 8: Cynllunio ar gyfer Ynni Adnewyddadwy', a dywedodd Llywodraeth Cymru 'na'. Nawr maent yn cael gwared ar TAN 8, ond maent i bob pwrpas yn mabwysiadu rhywbeth sy'n waeth mewn perthynas â'r adran benodol hon o'r fframwaith datblygu cenedlaethol.

16:50

Fel Russell George, rwy'n pryderu'n fawr am effaith bosibl—effaith debygol yn wir—y fframwaith datblygu cenedlaethol ar dirweddau canolbarth a gorllewin Cymru. Rwy'n aelod brwdfrydig o Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig, a gwelaf yn y ddogfen hon nod sylfaenol Llywodraeth Cymru, sef dinistrio tirweddau canolbarth a gorllewin Cymru er mwyn cynnal ymarfer ymffrostio mewn rhinweddau mewn perthynas ag ynni adnewyddadwy.

Mae darnau enfawr o Geredigion, Sir Gaerfyrddin a Phowys wedi'u dynodi ar gyfer solar a gwynt, ac ardaloedd mawr o Sir Benfro ar gyfer ffermydd solar. Rydym newydd dreulio peth amser y prynhawn yma yn trafod effeithiau llygredd plastig. Wel, gyda phlastig gallwch o leiaf ei godi a chael ei wared, ond pan fydd bryniau Cymru wedi'u gorchuddio â ffermydd gwynt a pharciau paneli solar, byddant yno am genhedlaeth neu fwy, ac fel y mae Russell George newydd ddweud, mae canolbarth a gorllewin Cymru yn dibynnu ar ei thirwedd i greu llawer iawn o'r gweithgarwch economaidd yn y rhanbarth. Mae twristiaeth yn hanfodol i economi Cymru yn yr ardaloedd hyn. Rwy'n credu ei bod yn erchyll y bydd Llywodraeth Cymru, sy'n bennaf drefol o ran ei chynrychiolaeth a'i buddiannau, yn diystyru buddiannau a barn pobl canolbarth a gorllewin Cymru.

Yr hyn rydym yn ei weld yma yw canoli cynlluniau a phenderfyniadau cynllunio yn strategol. Bydd y fframwaith datblygu cenedlaethol a 'Polisi Cynllunio Cymru Argraffiad 10' yn diystyru unrhyw gynllun datblygu strategol y gellid ei ddatblygu a'r cynlluniau datblygu lleol sy'n bodoli ar hyn o bryd. Rydym eisoes wedi gweld hyn mewn nifer o achosion dadleuol. Mae Llywodraeth Cymru wedi diystyru'r farn leol mewn perthynas â fferm wynt yr Hendy ger Llandrindod, er enghraifft, lle gwrthododd yr awdurdod lleol y cynnig, gwrthododd yr arolygydd cynllunio a benodwyd gan y Gweinidog y cynnig ac mae'r Gweinidog newydd ei gymeradwyo serch hynny.

Bydd y datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol sydd wrth wraidd hyn oll a nodir yn y fframwaith datblygu cenedlaethol yn golygu na fydd y bobl leol a'u cynrychiolwyr yn yr ardaloedd hyn yn cael gwneud unrhyw benderfyniadau ar lefel leol, a byddant yn cael eu gwneud yng Nghaerdydd yn y pen draw. Wyddoch chi, pan gyflwynwyd datganoli, roedd i fod i ddod â'r Llywodraeth yn nes at y bobl, ond nid wyf yn credu bod pobl canolbarth a gorllewin Cymru, a llai fyth o bobl gogledd Cymru, yn teimlo'n agosach at Gaerdydd nag at San Steffan. Ac felly, credaf y bydd canlyniad y fframwaith datblygu cenedlaethol hwn yn tanseilio ymhellach y gefnogaeth i ddatganoli, sydd wedi bod yn gwanhau beth bynnag yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Datblygiadau o arwyddocâd cenedlaethol yw datblygiadau ffermydd gwynt o dros 10 MW, er enghraifft. O'i gymharu â Lloegr, mae hynny'n eithriadol o fach, oherwydd y ffigur trothwy yn Lloegr yw 50 MW. Beth y mae hyn yn ei olygu? Mae'n golygu bod rhagdybiaeth o blaid datblygu ar gyfer y mathau hyn o gynlluniau, a derbyn newid i'r dirwedd yn gysylltiedig â hynny. Wel, dyna ymadrodd da, onid e—'newid i'r dirwedd'. Wel, mae'n newid, onid yw, o gefn gwlad gogoneddus i ddatblygiadau tyrbinau gwynt enfawr a allai fod hyd at 250m o uchder. Ni allwch osgoi gweld y pethau hyn ac mae'n dinistrio unrhyw fwynhad o gefn gwlad yn llwyr ac rwy'n credu y bydd yn gyllell wedi'i hanelu at galon y diwydiant twristiaeth yng nghanolbarth a gorllewin Cymru.

Mae'n drech na phwysigrwydd tirwedd, amwynder, treftadaeth, cadwraeth natur ac yn wir, y diwydiant twristiaeth ei hun. Ac fel y mae cangen Brycheiniog a Maesyfed o Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig, cangen rwy'n aelod ohoni, wedi nodi, mae deddfwriaeth flaenllaw ddiweddar wedi ymrwymo cyrff cyhoeddus Cymru i reoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, datblygu cynaliadwy a gwella ecosystemau gwydn, a hefyd i weithio tuag at nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, saith ohonynt. Wel, nid yw hyrwyddo datblygiadau ynni adnewyddadwy ar raddfa ddiwydiannol, gan gynnwys tyrbinau gwynt o hyd at 250m o uchder ar draws llawer o'r Gymru wledig, ynghyd â pholisi caniataol a fydd yn lleihau'r pwysau a roddir ar bryderon lleol, yn gydnaws ag amcanion Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 na Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol ei hun, na'r cynllun adfer natur yn wir. 

Felly, rwy'n credu bod gennym hadau trychineb gwirioneddol enfawr yma. Ac rydym wedi gweld cam-drin difrifol ar y system yn barod. Mae yna fferm wynt arall ger Llangurig o'r enw Bryn Blaen, y bydd yr Aelodau'n gyfarwydd iawn â hi rwy'n siŵr. Rhoddwyd caniatâd cynllunio ar ei chyfer yn 2016 ac nid yw wedi cynhyrchu un watt o drydan, ond mae cyfrifon U and I Group PLC, y cwmni sy'n berchen arni yn y pen draw, ar gyfer 2019 yn dangos eu bod wedi cynhyrchu gwerth £4.7 miliwn o arian—arian trethdalwyr yw hwnnw yn y bôn, arian sydd wedi mynd i'w pocedi, allan o Gymru ac i Loegr, heb greu unrhyw fudd o safbwynt achub y blaned ychwaith. Camdriniaeth bur o'r farchnad ydyw. A dyna sy'n fy mhoeni am y cyfan—

16:55

Iawn, Lywydd. Diolch yn fawr iawn.

A dyna sy'n fy mhoeni am y polisi hwn; nid oes cymesuredd ynddo o gwbl. Gallwch gredu eich bod yn achub y blaned drwy ynni adnewyddadwy, ond nid ydych yn mynd i wneud hynny mewn ffordd dderbyniol yn fy marn i, ar draul llawer o amcanion dymunol eraill—yn bennaf oll, cadw a diogelu tirweddau Cymru wyllt.

Mae tair rhan i'r cynnig hwn. Mae'r gyntaf yn nodi'r fframwaith datblygu cenedlaethol a osodwyd ar 21 Medi 2020. Mae'r ail yn nodi bod adran 3 o Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015 yn rhoi cyfnod o 60 diwrnod i'r Senedd ei ystyried. Felly, mae heddiw'n 25 Tachwedd, mae'n debyg ein bod y tu allan i'r cyfnod statudol hwnnw, neu fod hynny'n dweud nad ydym yn nodi, neu, os nad ydym wedi deall y sefyllfa'n iawn, rwy'n gobeithio y bydd Mike yn rhoi gwybod i ni'n ddiweddarach beth yw'r sefyllfa ar hyn. A'r trydydd pwynt am Weinidogion Cymru yn gorfod ystyried unrhyw benderfyniad a basiwyd—gan mai dim ond cynnig 'i nodi' yw hwn, hyderaf y bydd y Gweinidog yn gwrando ar y ddadl ac yn rhoi ystyriaeth briodol i'r hyn a ddywedir.

Wrth edrych drwy'r fframwaith hwn, rwy'n mwynhau ansawdd y ddogfen a rhai o'r mapiau; mae'n eithaf diddorol i'w ddarllen. Ond fe wnaeth ambell beth fy nharo. Un peth yr hoffwn ei ddyfynnu. Mae'n dweud:

'Dylid gwneud penderfyniadau clir ynghylch maint a lleoliad twf drwy lunio Cynllun Datblygu Strategol'.

Mae'n ddatganiad gwladoliaethol iawn. Mae'n tybio mai'r hyn a wnawn, drwy'r cynllun hwn, yw sbarduno twf a phenderfynu ble y mae, ond mewn gwirionedd, mae llawer, os nad y rhan fwyaf, o hynny'n mynd i adlewyrchu penderfyniadau a wneir yn y sector preifat. A chredaf y byddai mwy o ostyngeiddrwydd wrth ysgrifennu hyn a dealltwriaeth o ba mor bwysig yw gweithredwyr preifat a'u hymdrechion i wneud elw, o'u cymharu â'r hyn yr hoffem ei roi mewn dogfen fel hon—yn ddelfrydol, dylai'r ddau weithio gyda'i gilydd.

Yn yr adran ar dde-ddwyrain Cymru, gan gynnwys rhanbarth canol y de at y diben hwn, mae gennym ddatganiadau fel:

'Caerdydd fydd y prif anheddiad yn y rhanbarth o hyd, gyda’i thwf strategol yn y dyfodol yn cael ei lywio gan ei marchnadoedd tai a chyflogaeth cryf a bydd yn parhau â’i rôl fel prifddinas'.

Nid wyf yn siŵr i ble mae hynny'n mynd â ni. Mae'r adran nesaf, serch hynny, yn dweud:

'Bydd angen i Gynlluniau Datblygu Strategol a Lleol ystyried y rhyngddibyniaeth rhwng Caerdydd a’r rhanbarth ehangach.'

Ac mae hynny'n sicr yn iawn. A'r hyn a'm trawodd yn bennaf oedd y cynllun datblygu lleol, i ddechrau o leiaf, gyda Chaerffili a'r holl dai a godwyd tuag at y ffin â Chaerdydd, a dim ond trafnidiaeth ffyrdd ar gael i fynd â'r bobl hynny i swyddi yng Nghaerdydd, ac nid oedd hynny'n gydgysylltiedig. Yna cawn ddatganiad:

'Mae Caerdydd yn dibynnu ar bobl o bob rhan o’r rhanbarth ac mae sicrhau bod cymunedau o amgylch y Brifddinas yn fywiog, yn ffyniannus ac yn gysylltiedig yn helpu i gefnogi Caerdydd.'

Wel ie, efallai, ac mae'n amlwg y bydd hynny'n cefnogi Caerdydd i'r graddau y mae'r ardaloedd hynny'n gysylltiedig â Chaerdydd a'n bod yn atgyfnerthu hynny ymhellach. Ond os yw'r cysylltiadau hynny mewn mannau eraill yn y rhanbarthau, efallai na fyddant yn gwneud hynny, ac os ydynt y tu allan i'r rhanbarth, ac nid i Gaerdydd, mae'n ddigon posibl na fyddant yn cefnogi Caerdydd, neu hyd yn oed yn mynd â thwf oddi wrthi. Felly, un enghraifft o hynny fyddai rheilffordd Glynebwy, ac a ddylai gwasanaethau arni ddod i Gaerdydd yn unig neu a ddylem hefyd gael o leiaf un yr awr i Gasnewydd. Ac os aiff hwnnw ymlaen wedyn i Gaerdydd, yn amlwg—os gwnewch un penderfyniad, mae'n cefnogi twf Caerdydd yn fwy nag un arall, lle gallech helpu i gael mwy o dwf yng Nghasnewydd a allai fod wedi bod yng Nghaerdydd fel arall.

Yn yr un modd, mae'r cysylltiadau yn y rhanbarth y tu allan i'r rhanbarth hefyd yn bwysig, ac os cymerwn Gasnewydd fel enghraifft, gallai gwella'r cysylltiadau â Bryste fod o fudd mawr iawn i Gasnewydd. Ond mae'n annhebygol o gefnogi Caerdydd i'r un graddau os yw'n arwain at fwy o ffocws ar economi Casnewydd tuag at Fryste yn hytrach na Chaerdydd, er y byddai'n well gennym iddynt ategu ei gilydd wrth gwrs. Awn ymlaen i ddweud y dylai buddsoddiadau fod wedi'u

'lleoli yn y lleoedd mwyaf hygyrch a chynaliadwy yng nghyd-destun y rhanbarth cyfan',

ond beth am y rhanbarthau eraill, beth am ardaloedd dros y ffin yn Lloegr? Clywais Siân Gwenllian yn cwyno yn gynharach am y ffordd roedd hyn yn canolbwyntio llawer gormod ar gysylltiadau rhwng y dwyrain a'r gorllewin a chrynoadau trawsffiniol, ac mewn gwirionedd, nid wyf yn gweld cymaint o hynny. Ac yn sicr, yn y rhan ar dde-ddwyrain Cymru, nid yw'n ymddangos ei fod yn cael ei grybwyll. Er enghraifft, dywedwn,

'Ar hyn o bryd mae Caerdydd yn mynd drwy gyfnod o dwf sylweddol o ran ei phoblogaeth a chyflogaeth, ond ni all y ddinas barhau i ehangu’n ddiderfyn heb effeithio’n sylweddol ar yr amgylchedd. Mae’n ddinas gryno sy’n agosáu at ei therfynau ffisegol',

ac yn y cyd-destun hwnnw awn ymlaen wedyn i ddweud am Gasnewydd—neu mae'r Llywodraeth yn dweud—yn y ddogfen hon:

'Mae Llywodraeth Cymru yn benderfynol o weld datblygu a thwf yng Nghasnewydd, a fydd yn galluogi’r ddinas i gyflawni ei photensial fel yr ail ganolbwynt i’r rhanbarth.'

Felly, wrth gwrs, un rheswm y gallai Casnewydd dyfu yw oherwydd cyfyngiadau ar dwf yng Nghaerdydd, ond mae'n siŵr fod angen inni hefyd ystyried beth yw'r cyfyngiadau ar dwf ym Mryste. Ac fe welwch lain las lawer tynnach o amgylch Bryste, fe welwch lefelau llawer uwch o brisiau tai a chyfyngiadau sylweddol iawn ar ddatblygu. Felly, o leiaf ar gyfer Casnewydd ac ardaloedd eraill ger y ffin â Lloegr, mae angen inni ganolbwyntio ar sut rydym yn denu busnes oddi yno er mwyn cynyddu cyfoeth a ffyniant yn rhanbarth y de-ddwyrain, ac nid wyf yn credu ein bod yn gwneud digon o hynny ar hyn o bryd. Fodd bynnag, rwy'n canmol Llywodraeth Cymru yn yr ardaloedd lle—felly, Cymorth i Brynu, mae tua chwarter y gwariant, o leiaf hynny rwy'n credu, wedi bod ar eiddo o amgylch Casnewydd, gyda llawer ohono'n cartrefu pobl sydd wedyn yn cymudo i Fryste, er eu bod yn cefnogi sylfaen treth incwm Cymru. Yn yr un modd, credaf fod Ken Skates wedi gweithio'n galed iawn ar lobïo i wella gwasanaethau o Gaerdydd drwy Gasnewydd i Fryste, ac unwaith eto, byddai hynny o fudd i'r rhanbarth cyfan.

Felly, er fy mod yn credu bod pethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud sy'n gweithio'n drawsffiniol i gefnogi'r twf hwnnw, nid yw'n ymddangos bod y ddogfen hon ei hun yn gwneud hynny i'r un graddau, ac mae'n ymddangos ei bod yn canolbwyntio'n rhanbarthol iawn o fewn yr is-rannau, yn hytrach na chwilio am y cyfleoedd i weithio'n drawsffiniol ac ysgogi ffyniant i Gymru. Diolch.

17:05

Diolch, Lywydd. Rwy'n croesawu'r ddadl hon yn fawr a'r cyfraniadau a wnaethpwyd gan yr Aelodau heddiw. Nid dyma'r tro cyntaf inni drafod 'Cymru'r Dyfodol' na'r fframwaith datblygu cenedlaethol, felly bydd yr Aelodau'n gwybod fy mod o'r farn fod y cynllun hwn yn hanfodol i sicrhau bod ein system gynllunio'n canolbwyntio ar y materion mawr sy'n ein hwynebu. Mae'r ddadl hon unwaith eto'n profi bod gan bob un ohonom syniadau ynglŷn â sut y dylai'r system gynllunio weithredu, beth ddylai ei blaenoriaethau fod ac a fydd 'Cymru'r Dyfodol' yn cyflawni ein huchelgeisiau.

Mae Aelodau wedi tynnu sylw at amrywiaeth o faterion yr eir i'r afael â hwy yn 'Cymru'r Dyfodol', gan gynnwys yr argyfwng hinsawdd, tai cymdeithasol a fforddiadwy, trafnidiaeth, yr economi, seilwaith gwyrdd, yr iaith Gymraeg, seilwaith digidol a'n cyflenwad ynni. Byddaf yn treulio'r ychydig fisoedd nesaf wrth gwrs yn myfyrio'n fanwl ar argymhellion y Senedd, ac oherwydd cyfyngiadau amser, ni allaf ymdrin â hwy i gyd yma, ond rwyf am roi sylw i ychydig o'r pwyntiau a godwyd hyd yma.

Mynegodd Mike Hedges a nifer o rai eraill bryderon am allu'r cynllun i ymateb i COVID, ac er ei bod yn bwysig peidio â bod yn hunanfodlon wrth gwrs, mae hwn yn gynllun sydd wedi ymrwymo i wella iechyd a lles drwy'r system gynllunio gyfan. Bydd y polisïau ar seilwaith gwyrdd, teithio llesol a chanol y dref yn gyntaf yn hanfodol i helpu'r adferiad. Mewn perthynas â nifer o'r cyfraniadau, mae hefyd yn bwysig cofio nad 'Cymru'r Dyfodol' yw holl bolisi'r Llywodraeth. Nid yw'n disodli ein strategaethau mawr eraill, ond yn hytrach mae'n gweithio gyda hwy.

Hefyd, Lywydd, mae'r Bil a basiwyd gennym yr wythnos diwethaf yn sefydlu cyd-bwyllgorau corfforedig fel cyrff corfforaethol, felly gallaf sicrhau'r Aelodau eu bod yn dod o dan holl bolisïau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys y Gymraeg.

Mae'n wych gweld y pwyllgor a Jenny Rathbone yn cydnabod gwerth cyflwyno'r llain las, yn y de-ddwyrain a'r gogledd-ddwyrain. Bydd y lleiniau glas, wrth gwrs, yn helpu i gyflawni amcanion creu lleoedd mewn lleoedd fel Casnewydd, Cas-gwent a Chwmbrân, yn Wrecsam a Glannau Dyfrdwy, a byddant yn sicrhau ein bod yn osgoi datblygu blerdwf anghyfrifol ar dir amaethyddol cynhyrchiol. Ac wrth gwrs, mae darparu tai fforddiadwy a thai cymdeithasol yn greiddiol i 'Cymru'r Dyfodol'. Yn wir, comisiynwyd data anghenion newydd gennym yn benodol ar gyfer cefnogi'r elfen honno.

Lywydd, byddaf yn gwrthwynebu gwelliannau Plaid Cymru heddiw. Ymddengys nad ydynt wedi sylwi bod newidiadau wedi'u gwneud ar ôl ymgynghori ar y cynllun drafft, nac yn cydnabod rôl pwyllgorau trawsbleidiol a'u Haelodau eu hunain wrth iddynt ddadlau dros y newidiadau hynny. Cytunais o'r cychwyn cyntaf y dylai unrhyw ôl troed cynllunio rhanbarthol adlewyrchu ôl troed sy'n bodoli eisoes, yn hytrach na chreu un newydd. Fy marn yn wreiddiol oedd defnyddio ôl troed tri rhanbarth y cynllun gweithredu economaidd, ond cytunais i newid i'r ôl troed pedwar rhanbarth a ffafriai pwyllgorau'r Senedd ac awdurdodau lleol. Os caf, Lywydd, hoffwn dynnu sylw at ddau ymateb i'r ymgynghoriad ar y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft. Dywedodd cyngor Ceredigion o dan arweiniad Plaid Cymru, ac rwy'n dyfynnu, 'Rhaid i'r fframwaith datblygu cenedlaethol gydnabod canolbarth Cymru fel rhanbarth ar wahân, gan ddefnyddio datblygiad pedwar bargen twf ar draws Cymru'. Yn y cyfamser, dywedodd Partneriaeth Twf Canolbarth Cymru, sydd, wrth gwrs, yn ymdrech ar y cyd rhwng cyngor Ceredigion a chyngor Powys, 'Y ffordd orau o fynd i'r afael â materion cynllunio strategol ledled canolbarth Cymru yw drwy gydweithio rhwng awdurdodau cynllunio lleol Ceredigion a Phowys.' Felly, Lywydd, rydym wedi gwrando'n astud ar yr hyn y mae'r rhanbarthau wedi'i ddweud wrthym. Ofnaf y byddai gwelliannau Plaid Cymru yn gwrth-ddweud barn y rhanbarthau, a byddwn yn eu gwrthwynebu am y rheswm hwnnw.

Lywydd, mae'n debygol mai hon fydd y ddadl olaf ar y cynllun cyn ei gyhoeddi, felly mae'n ymddangos yn gyfle da i fyfyrio ychydig ar fy mhrofiad o ddatblygu 'Cymru'r Dyfodol' a dod ag ef i'r cam hwn. Teimlaf fod y broses wedi bod yn gyfuniad o weithio o fewn strwythurau presennol ac o allu cyflwyno syniadau newydd ac uchelgais newydd. Nid yw'r cynllun yn gosod polisi trosfwaol y Llywodraeth, ond yn hytrach mae'n nodi sut y gall y system gynllunio helpu i'w gyflawni. Er enghraifft, mae arnom eisiau poblogaeth ac amgylchedd iach, felly bydd y cynllun yn darparu mwy o fannau gwyrdd a lleoedd sy'n ein denu allan o'n ceir. Mae angen inni ddatgarboneiddio, ac felly mae'r cynllun yn canolbwyntio'r datblygiadau mwyaf ar yr ardaloedd lle ceir, neu lle gellir gwneud trafnidiaeth gyhoeddus a theithio llesol yn fwyaf gwydn. Rydym eisiau economi deg a ffyniannus, felly mae gennym ardaloedd twf mawr ac rydym yn ceisio lledaenu datblygiad swyddi ar eu traws, yn hytrach na chanolbwyntio ar ganol y dinasoedd mwyaf.

Mae ysgrifennu cynllun cenedlaethol yn weithred o gydbwyso rhwng gweithredu ar bob pwnc posibl a chofio mai cynllunio lleol yn aml yw'r lle gorau i fynd i'r afael â'r heriau. Mae hefyd yn gydbwysedd rhwng ailadrodd dogfen arall a pheidio ag anwybyddu pwnc. Rwyf hefyd wedi canfod bod pobl yn croesawu'r amserlen 20 mlynedd ar gyfer y cynllun, ond yn disgwyl atebion ar unwaith cyn gynted ag y cyhoeddir y cynllun. Mae llawer o bobl am gael cynllun sy'n hyblyg, ond yn anghyfforddus pan fydd canlyniadau'n ansicr. Mae ein polisïau ynni yn enghraifft wych o hyn. Rydym wedi datblygu polisïau sy'n seiliedig ar dystiolaeth a fydd yn helpu i gyflawni targedau cenedlaethol ar gyfer trydan o ffynonellau glân sy'n diogelu ein tirweddau dynodedig. Rydym wedi gwneud hyn tra'n gweithio gyda chymunedau a'r sector datblygu. Rydym wedi ystyried ein daearyddiaeth, wedi meddwl am yr hyn y bydd ei angen ymhen 20 mlynedd, a sut y gallai cymdeithas fod yn wahanol erbyn hynny. Edrychwyd ar ble mae'r seilwaith presennol, a lle ceir gweithlu medrus yn barod i fanteisio ar gyfleoedd newydd. Buom yn edrych ar ble y mae'n wyntog neu'n heulog ac yn meddwl am yr hyn y byddai cerbydau trydan yn ei olygu i'r galw. Roeddem yn cydnabod bod y system gynllunio a'i dyletswydd i weithredu er budd y cyhoedd yn codi materion nas rhagwelwyd, felly rydym wedi sicrhau bod mwy o opsiynau ar gael i ddatblygwyr nag y bydd eu hangen. Ac eto, dywedir wrthyf y dylai'r cynllun hwn fod yn fwy penodol o ran ble y bydd tyrbinau gwynt newydd yn mynd, canolbwyntio mwy ar wynt ar y môr, ar gynhyrchiant lleol a microgynhyrchu, ac y bydd prosiectau'n cymryd gormod o amser i ddwyn ffrwyth.

Lywydd, potensial mawr y cynllun hwn yw'r ffaith bod y system gynllunio'n edrych ar ein holl faterion mawr—iechyd, yr economi, yr iaith Gymraeg, yr amgylchedd, yr argyfwng hinsawdd—ac yn credu y gall wneud rhywbeth i wella'r sefyllfa mewn ffordd gyfannol. Boed eich bod yn cytuno â chynnwys 'Cymru'r Dyfodol' neu beidio, mae pob penderfyniad a wnaed gennym wedi'i brofi drwy ymgynghori ffurfiol mewn digwyddiadau ymgysylltu â rhanddeiliaid a defnydd o asesiadau effaith. Mae gennym hefyd fframwaith monitro a fydd yn ein helpu i ystyried a mireinio'r cynllun dros amser. Mae cynnwys y cyhoedd mewn gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid wedi ein helpu i gyflawni cynllun yr ydym yn hyderus y bydd yn cael dylanwad mawr a chadarnhaol ar ein system gynllunio.

Rwy'n croesawu'r craffu a wnaethpwyd ar y cynllun hwn, ac rwy'n edrych ymlaen at ystyried argymhellion y Senedd. Ym mis Chwefror byddaf yn cyhoeddi adroddiad yn nodi sut yr ymatebais i'r holl argymhellion, yn ogystal â fersiwn derfynol 'Cymru'r Dyfodol'. Diolch yn fawr.

17:10

Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl? A hoffwn ddiolch eto i'r Gweinidog.

Nid wyf yn credu bod neb yn cytuno â 100 y cant ohono, ond mae llawer ohonom yn hoffi darnau ohono, a chredaf mai dyna'r hyn y byddwch yn ei gael yn y pen draw gyda dogfen o'r maint hwn. Mae'n bwysig i bawb yng Nghymru.

I ymateb i Mark Reckless, mae gennym un diwrnod ar ôl, oherwydd, nid yw'r cyfnod yn ystod toriad yn cyfrif yn erbyn y 60 diwrnod.

Mae'r weledigaeth o bedwar rhanbarth yng Nghymru yn cael ei llywio gan yr awdurdodau lleol yng Nghymru, nid gan San Steffan. Fel y dywedodd Julie James, mae hyn yn cynnwys Ceredigion a reolir gan Blaid Cymru. Maent yn gweld cymuned fuddiant o ran eu datblygiad lleol. Nod y bargeinion dinesig a'r bargeinion rhanbarthol yw gwella'r economi leol ac mae'n rhaid i'r cynllun datblygu strategol eu cefnogi. Rydym am i hyn weithio. Rydym yn sôn am swyddi ein plant a'n hwyrion.

Mae Cymru wedi'r rhyfel wedi gweld twf ar arfordir gogledd a de Cymru. Mae hynny wedi'i ysgogi gan y sector preifat. Y tebygolrwydd yw mai'r sector preifat fydd yn ysgogi unrhyw dwf yn y dyfodol. Rwy'n siomedig nad yw pobl y byddwn yn eu disgrifio fel unoliaethwyr Cymreig yn derbyn rhanbarthau Cymru—rwy'n siomedig iawn am hynny, oherwydd rwy'n credu'n gryf ym mhwysigrwydd rhanbarth de-orllewin Cymru, nad yw'n annhebyg i un o'r teyrnasoedd hynafol. Mae lleiniau glas yn eithriadol o bwysig, ond roeddwn yn mynd i ddweud bod lletemau gwyrdd, sy'n atal cymunedau rhag uno, yn bwysicach mewn llawer o ardaloedd lle nad ydych am i'r gwahanol bentrefi uno, neu mewn ardaloedd trefol, lle nad ydych am i'r gwahanol gymunedau uno gyda'i gilydd.

Roedd y dynodiad safle o ddiddordeb gwyddonol yn diogelu rhag datblygu; rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y ceir cytundeb cyffredinol yn ei gylch. Mae arnom angen i bob cynllun gwmpasu'r un ardaloedd. Mae gennym hanes yng Nghymru o bob Gweinidog yn datblygu eu hôl troed eu hunain, ac nid yw hynny o reidrwydd wedi gweithio er budd neb. Arferwn ddisgrifio Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot fel mannau Ianwsaidd, oherwydd weithiau byddem yn edrych tua'r dwyrain ac weithiau byddem yn edrych tua'r gorllewin.

Credaf fod Helen Mary Jones wedi gwneud rhai pwyntiau da iawn am y Gymraeg, a dylai'r holl gynlluniau hyn gyd-fynd â'i gilydd. Ni ddylem gael y cynllun hwn mewn un man a chynllun arall mewn man arall, a 'Wel, nid oes a wnelont ddim â'i gilydd am eu bod yn dod o wahanol seilos o fewn Llywodraeth Cymru.' Dylent i gyd gyd-fynd â'i gilydd.

Mae angen i'r cynllun datblygu cenedlaethol a'r cynlluniau datblygu strategol gyd-fynd â'i gilydd hefyd, ond mae rhywbeth arall sy'n bwysig iawn i mi—ein bod yn sylweddoli mewn gwirionedd fod y môr a'r tir yn cyffwrdd â'i gilydd. Rwy'n gwybod ein bod wedi siarad cryn dipyn am hynny yn ein pwyllgor, ond mae'n bwysig iawn fod y cynllun morol yn cyd-fynd â'r cynllun datblygu cenedlaethol yn hytrach na chael ei ystyried yn rhywbeth cwbl ar wahân.

Mae ynni bob amser yn ddadleuol: gwynt ar y tir neu wynt ar y môr, pŵer niwclear neu nwy—mae gan bob un gefnogwyr a gwrthwynebwyr, o fewn yr un blaid yn aml. Mae angen inni gael dadl ar ynni, a chredaf weithiau y gallai pleidiau wneud gyda'u dadleuon ynni eu hunain, ond credaf fod angen inni weld i ble rydym yn mynd gydag ynni. Yn gyffredinol, rwy'n credu bod hon yn ddogfen dda ac mae'r pedwar rhanbarth yn gweithio, ac rwy'n credu y bydd yn gweithio er budd economaidd Cymru. Efallai na fyddant yn cyd-fynd â syniad pawb o sut yr hoffent i bethau fod, ond maent yn cyd-fynd â fy marn i ar sut y bydd pethau. Diolch. 

17:15

Diolch. Y cwestiwn, felly, yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, mae yna wrthwynebiad i hynny. Felly, dwi'n gohirio'r pleidleisio ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Cyn inni dorri am seibiant, a gaf fi hysbysu'r Aelodau fy mod wedi cael deall fod Aelodau wedi ceisio gwrthwynebu yn y ddadl flaenorol ar eitem 6, y cynnig deddfwriaethol? O ystyried bod llawer o'r Aelodau'n ceisio gwrthwynebu, ond fy mod wedi methu eu gweld i gyd ar Zoom, byddaf yn caniatáu pleidlais yn awr ar eitem 6 yn ystod y cyfnod pleidleisio. Ond am y tro, fe gawn seibiant byr.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:16.

17:20

Ailymgynullodd y Senedd am 17:23, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.

8. Dadl y Ceidwadwyr: Effaith COVID-19 ar Wasanaethau Iechyd

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2, 3, 4 a 5 yn enw Rebecca Evans, a gwelliant 6 yn enw Siân Gwenllian.

O'r gorau. Felly, rydym yn ailymgynnull gydag eitem 8 ar ein hagenda, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig: effaith COVID-19 ar wasanaethau iechyd. A galwaf ar Andrew R.T. Davies i gyflwyno'r cynnig.

Cynnig NDM7489 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi adroddiad BBC Wales Investigates a ddangosodd bod 10 gwaith yn fwy o gleifion yn aros am bob triniaeth yn GIG Cymru o gymharu â mis Medi 2019.

2. Yn nodi ymhellach y rhybudd gan arbenigwyr ac elusennau canser blaenllaw y gallai 2,000 o bobl farw oherwydd oedi sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn GIG Cymru.

3. Yn cydnabod gwaith caled, ymroddiad ac ymrwymiad staff yn y sector gofal iechyd sy'n cefnogi cleifion nid yn unig â'r coronafeirws ond ag amrywiaeth o gyflyrau.

4. Yn gresynu at y ffaith bod y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi amcangyfrif y byddai'n cymryd tymor seneddol llawn i ailddechrau gwasanaethau arferol ac y byddai'n ffôl cael cynllun ar waith i fynd i'r afael â'r ôl-groniad mewn rhestrau aros.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) rhoi hwb i'r defnydd o ysbytai sy’n rhydd o COVID-19 ar unwaith, fel yr argymhellwyd gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon a'r  Coleg Brenhinol Meddygaeth Frys;

b) cynnal adolygiad brys o sut mae cleifion ysbyty yng Nghymru yn cael eu rhyddhau yn ystod y pandemig a gweithredu'r canfyddiadau hynny i fynd i'r afael â thagfeydd mewn ysbytai, fel yr argymhellwyd gan Goleg Brenhinol y Ffisigwyr;

c) gwella ei threfn brofi'n sylweddol er mwyn cynyddu capasiti a sicrhau bod COVID-19 yn cael ei ynysu a'i gadw allan o ysbytai Cymru;

d) cyflwyno cynllun adfer canser, fel y gwelir mewn rhannau eraill o'r DU, a chynyddu'r buddsoddiad yn y gwaith o gyflwyno canolfannau diagnostig cyflym ledled Cymru;

e) gweithredu ymgyrch genedlaethol i sicrhau bod pobl sy'n amau bod ganddynt ganser, neu y mae angen iddynt fynd i'r ysbyty mewn argyfwng, yn parhau i wneud hynny.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac rwy'n croesawu'r cyfle i gyflwyno'r cynnig yn enw Darren Millar ar y papur trefn y prynhawn yma. I'r rheini nad ydynt yn ymwybodol o drefniadau cyflwyno Cynulliad Cenedlaethol Cymru, neu Senedd Cymru fel y dylwn ei galw bellach, efallai y bydd y bobl hynny'n meddwl tybed pam nad ydym wedi rhoi'r amseroedd aros a gyhoeddwyd ddydd Iau diwethaf yn y cynnig. Ond fel y byddai pobl sy'n gwybod am y trefniadau cyflwyno'n gwybod, mae'n rhaid iddynt fod i mewn ar y prynhawn dydd Mercher.

Felly, credaf ei bod yn werth inni ystyried yr hyn a ddywedodd y ffigurau hynny wrthym ddydd Iau diwethaf. Ac mae'r rhain yn ffigurau ledled y DU hefyd—rydym yn derbyn y pwynt fod pob GIG ledled y DU wedi gweld cynnydd enfawr yn yr amseroedd aros—ond yma, yng Nghymru, cynyddodd yr amseroedd aros 36 wythnos a mwy 597 y cant i 168,000 o bobl, a chynyddodd 26 i 36 wythnos 250 y cant, o 54,000 o bobl i 116,000. Dyna faint yr her sy'n ein hwynebu yma yng Nghymru, ni waeth pa Lywodraeth a ffurfir ar ôl mis Mai y flwyddyn nesaf. Mae hynny'n fwy na 0.5 miliwn o bobl ar restr aros yma yng Nghymru: mae 517,000 o bobl bellach ar restr aros. Ac wrth gwrs, ar gyfer triniaeth y mae hynny.

Pan edrychwch ar amseroedd aros diagnostig a therapïau hefyd, bu naid sylweddol yn yr amseroedd aros hynny, a gwelwyd cynnydd mawr o rhwng 30,000 a 35,000 o bobl rhwng mis Mawrth a mis Hydref. Erbyn hyn mae 143,000 o bobl yn aros am apwyntiadau diagnostig a therapi yn GIG Cymru. Ac yn ddiddorol, ar y mathau hynny o rifau, mae'r niferoedd wedi tyfu'n sylweddol ers mis Mehefin a mis Gorffennaf eleni. Bu gostyngiad gwirioneddol yn rhai o'r ffigurau hynny ar ddechrau'r pandemig, gan nad oedd pobl yn symud ymlaen drwy'r gwasanaeth iechyd i gael yr apwyntiadau cychwynnol hynny.

Felly, dyna faint yr her sy'n ein hwynebu, a dyna pam ein bod wedi cyflwyno'r cynnig y prynhawn yma, fel y gallwn, gobeithio, gael dadl, trafodaeth, ac ymdeimlad o'r hyn y mae Llywodraeth bresennol Cymru yn bwriadu ei wneud i fynd i'r afael â'r amseroedd aros hyn. Byddai'n hawdd treulio'r holl ddadl yn sôn am niferoedd a chynnydd canrannol a mynd ar goll yn y ffigurau hynny, ond mae'n bwysig pan fyddwn yn canolbwyntio ar y niferoedd fod pob un o'r pwyntiau canran roeddwn yn sôn amdanynt yn unigolyn, unigolyn yn eistedd ar restr aros nad yw, yn anffodus, wedi llwyddo i symud ymlaen drwy'r system.

Mae'n hanfodol nad yw ein gwasanaeth iechyd yn dod yn wasanaeth COVID yn unig yn y pen draw. Rhaid iddo barhau i fod y gwasanaeth iechyd gwladol rydym yn ei drysori ac yn ei garu gymaint. Ac ar y pwynt hwn, rwy'n credu ei bod yn werth i bawb ohonom dalu teyrnged i ymroddiad ac ymrwymiad a phroffesiynoldeb y staff yn ein gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru sydd wedi mynd y tu hwnt i alw dyletswydd drwy gydol y pandemig, ac sydd eu hunain eisiau dychwelyd at y gwaith arferol o drin pobl yn y ddisgyblaeth iechyd y maent wedi'i hyfforddi ar ei chyfer ers cyhyd, er mwyn sicrhau ymdeimlad cymunedol fod y gwasanaeth iechyd yn cyflawni ar gyfer pob dyn, dynes a phlentyn yng Nghymru, a'n bod yn gwneud cynnydd gyda'r amseroedd aros.

Byddai'n anghywir hefyd i mi beidio ag ymdrin â'r gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig, oherwydd roeddwn wedi gobeithio y gallem fod wedi cael cefnogaeth ehangach i'r cynnig sydd ger ein bron, ond rwy'n croesawu'r pwynt na chyflwynwyd unrhyw welliannau 'dileu popeth' i'r cynnig y prynhawn yma. Ond yn anffodus, ni fyddwn yn gallu derbyn gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, oherwydd credwn fod pwynt 1, sy'n sôn am yr amseroedd aros a'r cynnydd ddengwaith cymaint a amlygwyd gan BBC Wales, yn ffaith. Mae'n ffaith y bu cynnydd ddengwaith cymaint yn yr amseroedd aros hynny, a chredwn fod angen i hynny fod ar flaen y cynnig ac yn ganolog iddo.

Mae gwelliant 2, a gyflwynir eto yn enw Rebecca Evans, yn ceisio dileu pwynt 4, ac mae'n ffaith bod y Gweinidog iechyd, yn anffodus, wedi dweud y byddai'n ffôl cael cynllun ar waith i fynd i'r afael ag ôl-groniad y rhestrau aros. Wel, fel rwyf wedi nodi yn yr ystadegau a gyflwynais heddiw, mae taer angen cynllun i ymdrin â'r amseroedd aros. Rwy'n derbyn y pwynt ein bod yn dal ynghanol y pandemig a bod misoedd lawer, yn anffodus—blynyddoedd efallai hyd yn oed—cyn y daw i ben, ond mae angen inni gynllunio ac mae angen inni sicrhau bod hyder gan y GIG, ynghyd â'r sector gofal, fod y canol yn cynnal y GIG mewn unrhyw ran o Gymru er mwyn sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu cychwyn eto a'n bod yn gallu dechrau mynd i'r afael â'r amseroedd aros hyn.

Mae'n bwysig ein bod yn cael ysbytai COVID-ysgafn ar waith, ac mewn amgylchedd diogel, fod llawdriniaethau'n gallu mynd rhagddynt yn y pen draw o fewn GIG Cymru, a dyna pam na allwn gefnogi gwelliant 3 sy'n ceisio dileu'r pwynt hwnnw o'r cynnig y prynhawn yma.

Ac yn anad dim felly, credwn fod angen cynllun adfer canser, fel y mae rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig wedi'i ddarparu ar gyfer eu GIG, er mwyn cael llwybr clir i wasanaethau canser yma yng Nghymru allu symud ymlaen a dychwelyd at y trywydd iawn. Oherwydd un peth y gwyddom am ganser yw bod ymyrraeth amserol yn hollbwysig—yn hollbwysig—i sicrhau canlyniad llwyddiannus i'r claf canser, i gael y canlyniad cywir o'r driniaeth a gawsant. Mae tystiolaeth ac adroddiadau newyddion Macmillan ei hun wedi tynnu sylw yn ddiweddar at y ffaith bod tua 2,900 o bobl yn cerdded o gwmpas gyda chanser heddiw am eu bod heb gael diagnosis, ac yn anffodus bydd hyd at 2,000 o bobl yn marw'n gynamserol am nad ydynt wedi gallu cael y driniaeth a mynd i mewn i'r system i gael diagnosis a mynd i'r afael â'r cyflwr y gallent fod yn ei wynebu. Mae hynny ynddo'i hun yn galw am weithredu ar frys gan y Gweinidog iechyd, ac felly dyna pam na fyddwn yn cefnogi gwelliant 4 yn enw'r Llywodraeth sy'n galw am ddileu pwynt (d) ein cynnig.

Byddwn yn cefnogi gwelliant Plaid Cymru, oherwydd credwn ei fod yn ychwanegu at y cynnig ac rydym yn croesawu'r dadansoddiad o amseroedd aros 10 mlynedd a'r gallu i ddeall yr hyn y mae angen inni ei wneud wrth symud ymlaen i wella gallu'r GIG i fynd i'r afael ag amseroedd aros fel y disgrifiais yn fy sylwadau agoriadol. Ond mae'n ymwneud â chomisiynu mwy o gapasiti; mae'n ymwneud ag edrych ar ffyrdd newydd o weithio; mae'n ymwneud â sefydlu ysbytai COVID-ysgafn; ac mae'n ymwneud â gwneud mwy o ddefnydd o wasanaethau cymunedol, yn hytrach na symud pobl i mewn i'r sector acíwt, lle gallwn fynd i'r afael â'r mater cyn gynted ag y bo modd drwy gynyddu gwariant ar adnoddau iechyd yn y gymuned yma yng Nghymru.

Mae dadl a thrafodaeth i'w cael bob amser ynglŷn â pha arian sydd ar gael i'r GIG, a gwyddom fod symiau canlyniadol sylweddol—. Ac rwy'n derbyn bod y symiau canlyniadol hynny wedi dod, nid oherwydd ein bod yn achos arbennig a'n bod yn eu haeddu, ond oherwydd gwariant a ddigwyddodd mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig sydd wedi ysgogi fformiwla Barnett. Mae gwerth £1.6 biliwn o arian yn gorwedd yng nghyllideb Cymru eisoes, heb ei wario a heb ei ddyrannu. A heddiw, gyda'r adolygiad cynhwysfawr o wariant, bydd arian ychwanegol yn cyrraedd dwylo'r Gweinidog cyllid, a fydd, gobeithio, yn cael ei drosglwyddo i'r Gweinidog iechyd, fel y gellir comisiynu a chreu capasiti ychwanegol, a bod modd cynnwys y ffyrdd newydd hyn o weithio yn y GIG i ddechrau mynd i'r afael â'r amseroedd aros ofnadwy y mae llawer o bobl ledled Cymru yn eu hwynebu—y 0.5 miliwn o bobl ledled Cymru sydd ar restr aros y GIG heddiw. Pan wneir y dyraniad hwnnw, mae'n bwysig fod digon o gymorth staff cymorth yn cael ei roi ar waith i sicrhau bod y staff, ar ba lefel bynnag y maent o fewn y GIG, boed yn borthorion, yn lanhawyr neu'n feddygon ymgynghorol a niwrolegwyr, yno ac yn cael eu hystyried, oherwydd heb y staff, ni fydd gennych GIG sy'n cyflawni. A'r hyn rydym eisiau ei weld yw GIG sydd heb gael ei droi'n GIG adfer COVID yn unig ac sy'n GIG i ni i gyd, ym mha bynnag ran o Gymru rydym yn byw.

Mae'n ffaith bod arolwg staff diweddar y Coleg Nyrsio Brenhinol wedi nodi bod 34 y cant o'r staff—nyrsys yn enwedig—yn teimlo nad oedd Llywodraeth Cymru yn eu gwerthfawrogi'n ddigonol. Dylwn ychwanegu mai dyna oedd y ffigur uchaf o dan unrhyw Lywodraeth yn y Deyrnas Unedig. Ac roedd 75 y cant o'r staff yn credu eu bod wedi gweld cynnydd yn y lefelau straen. Felly, bydd strategaeth staff i sicrhau bod cadw staff yn ganolog i'r hyn y mae ein byrddau iechyd yn ei wneud yn hanfodol i sicrhau ein bod yn darparu strwythur staffio a all ymateb i argyfwng COVID, yn ogystal ag ailagor ac ail-beiriannu gwasanaethau ar draws GIG Cymru yn ei gyfanrwydd. A chan adeiladu ar y cymorth hwnnw i staff, mae angen inni sicrhau bod gennym adnoddau profi ar waith i wneud yn siŵr, lle mae heintiau mewn ysbytai—. Yn anffodus, mae fy ardal ranbarthol i, ardal sy'n dod o dan fwrdd iechyd Cwm Taf, wedi gweld cynnydd enfawr yn nifer yr achosion a ddaliodd COVID yn yr ysbyty. Mae angen mwy o egni y tu ôl i'r cyfundrefnau profi yn ein hysbytai a chyda'n lleoliadau gofal, fel y gallwn ddychwelyd at amgylchedd gweithredol yn yr ysbytai hynny ac yn y cartrefi gofal. A chyda'r profion cyflym sydd bellach ar gael, mae'n ymddangos bod hyn yn newid sylfaenol o ran beth y gallwn ei wneud. Hoffwn annog y Gweinidog i sicrhau bod y profion hynny ar gael i GIG Cymru.

Ond yn anad dim, rhaid i'r arweinyddiaeth ganolog y gall Llywodraeth Cymru ei darparu, gyda'r gwasanaeth sifil yma yng Nghaerdydd, a'r mynediad at adnoddau, gael ei sbarduno a'i pheiriannu i sicrhau bod y byrddau iechyd yn mynd ati'n weithredol i gynllunio er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau'n cael eu hail-beiriannu a'u hailagor. A dim ond yr adnodd canolog hwnnw—capasiti'r adnodd canolog hwnnw—fydd yn caniatáu i hyn ddigwydd. Mae angen inni sicrhau bod gennym ymgyrch negeseuon iechyd cyhoeddus gref fel bod pobl yn gwybod bod y GIG yn agored ac yn barod ar eich cyfer os bydd ei angen arnoch. Oherwydd gyda'r negeseuon a'r hyn rydym wedi mynd drwyddo yn y chwech i saith mis diwethaf, mae'n ffaith bod llawer o bobl—o'i roi'n blwmp ac yn blaen—yn ofni ymgysylltu â gwasanaethau, ac ni ddylai hynny ddigwydd. Mae angen inni ailadrodd yn gyson y neges fod y GIG yno ar eich cyfer, i chi gael y diagnosis hwnnw, i gael y driniaeth honno ac yn y pen draw, i ddychwelyd at ffordd arferol o fyw. Yn anffodus, mewn perthynas â gwasanaethau canser, mae Macmillan wedi nodi, er enghraifft, na fu ymgyrch gydgysylltiedig yma yng Nghymru ar wahân i ymgyrch fer ym mis Mehefin, yn wahanol i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Felly, mae gwaith i'w wneud yn y maes penodol hwnnw. Yn anad dim, yr hyn yr hoffwn ei weld hefyd yw cynllun cyflawni ar gyfer canser wedi'i ddarparu gan Lywodraeth Cymru, rhywbeth y maent wedi gwrthod ei wneud yn anffodus, yn ôl ateb ysgrifenedig ataf. Gwyddom fod y cynllun canser presennol yn dod i ben ddiwedd mis Rhagfyr eleni, a nododd yr ateb a gefais ddoe nad oes gwaith wedi'i wneud ar fformat ei gynllun olynol o hyd.

Felly, pan fyddwn yn ystyried datblygu model mwy canolog yn y pen draw i gynorthwyo'r GIG yma yng Nghymru i gyflawni ar amseroedd aros, darparu cymorth i staff cymorth, darparu adnoddau, a'n bod yn edrych wedyn ar un rhan allweddol o'r gwasanaeth iechyd—yr adrannau canser yn ein hysbytai—bydd eu cynllun cyflawni eu hunain yn dod i ben ym mis Rhagfyr, ac nid oes cynllun olynol ar waith ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru. Mae angen i'r Llywodraeth ysgwyddo ei chyfrifoldeb, oherwydd, fel y dywedais, o ran gwasanaethau canser, gwyddom fod amser yn allweddol. A dyna pam rwy'n galw am gefnogaeth y prynhawn yma i'r cynnig fel y'i cyflwynwyd. Mae'n ffaith bod pob rhan o'r GIG, mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig, yn wynebu amseroedd aros hir. Nid ydym yn anghytuno â hynny, ac nid ydym yn beio'r Llywodraeth am eiliad am atal y gwasanaethau hynny yn ôl ym mis Mawrth. Ond mae ailweithredu'r gwasanaethau hynny wedi bod yn arafach yma yng Nghymru nag mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, a'r arafwch hwnnw sydd wedi gwaethygu'r amseroedd aros a amlygwyd y glir gan y niferoedd y soniais amdanynt ar ddechrau'r ddadl hon—yn gyntaf oll yr wythnos diwethaf, pan gawsant eu cyhoeddi gyntaf, ac eto drwy eu hailadrodd yma yn y ddadl y prynhawn yma. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n gallu cefnogi'r cynnig fel y'i cyflwynwyd, heb ei ddiwygio, fel ei fod mor gryf ag y gall fod ac yn y pen draw yn crisialu difrifoldeb yr her sy'n ein hwynebu. Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.

17:35

Rwyf wedi dethol chwe gwelliant i'r cynnig. A gaf fi alw ar Vaughan Gething i gynnig gwelliannau 1 i 5, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol?

Gwelliant 1—Rebecca Evans

Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:

Yn nodi bod yr ystadegau ar gyfer Cymru a gyhoeddwyd ar 19 Tachwedd yn dangos cynnydd o 11 y cant yng nghyfanswm y niferoedd sy’n aros am driniaeth rhwng mis Medi 2019 a mis Medi 2020, ac mai nifer yr arosiadau dros y targed cenedlaethol o 36 wythnos sydd naw gwaith yn fwy, tuedd sydd i’w gweld ym mhob rhan o’r DU.

Gwelliant 2—Rebecca Evans

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn gresynu y bydd Cymru, y DU, a’r byd yn byw gydag effeithiau COVID-19 am flynyddoedd lawer.

Yn nodi bod cynlluniau’r GIG, tra mae COVID yn dal i fod yn ein cymuned, yn canolbwyntio ar gydbwyso darparu gwasanaethau COVID a gwasanaethau eraill yn ddiogel.

Gwelliant 3—Rebecca Evans

Dileu is-bwynt 5(a) a rhoi yn ei le: 

gweithio gyda chlinigwyr lleol i ddarparu modelau cyflawni sy’n gwneud y mwyaf o’r holl adnoddau i ddarparu gofal diogel o safon ar gyfer llwybrau COVID a llwybrau eraill ar gyfer cymunedau lleol.

Gwelliant 4—Rebecca Evans

Dileu is-bwynt 5(d) a rhoi yn ei le:

parhau i weithio gyda’r rhwydwaith canser a’r GIG i sicrhau y gall gwasanaethau canser ateb galwadau newydd a’r galw presennol, a chytuno sut i fuddsoddi yn y dyfodol i wireddu’r ymrwymiad y cytunwyd arno ar gyfer profion diagnostig cyflym.

Gwelliant 5—Rebecca Evans

Yn is-bwynt 5(e) dileu 'gweithredu ymgyrch' a rhoi yn ei le 'parhau â’n hymgyrch'.

Cynigiwyd gwelliannau 1, 2, 3, 4 a 5.

Cynigiwyd yn ffurfiol, Ddirprwy Lywydd.

Gwelliant 6—Siân Gwenllian

Ychwanegu is-bwyntiau newydd ar ddiwedd pwynt 5:

'cynnal adolygiad o berfformiad yn erbyn targedau amseroedd aros dros y degawd diwethaf i sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu am reoli rhestrau aros;

ystyried defnyddio'r ysbytai Nightingale lle y bo'n bosibl i ddarparu capasiti ychwanegol i gleifion sy'n gwella yn dilyn llawdriniaeth er mwyn helpu i gynyddu llif drwy'r system.'

Cynigiwyd gwelliant 6.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Dwi'n falch o gael y cyfle i ymateb i'r cynnig yma. Mae o'n gynnig rydyn ni ym Mhlaid Cymru yn cyd-fynd â fo yn gyffredinol. Dwi'n anghytuno efo'r geiriad mewn ambell i le—ardaloedd COVID-lite, er enghraifft, yn hytrach na COVID-free y mae Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yn galw amdanyn nhw, sy'n fater eithaf pwysig. Ond, rydyn ni'n sicr yn cytuno efo'r bwriad yn y cynnig yma yn gyffredinol. Wrth gwrs, mi fyddwn ni'n pleidleisio yn erbyn y cynnig gwreiddiol er mwyn caniatáu pleidlais ar ein gwelliant ninnau.

Ymhell cyn y pandemig, roeddem ni'n poeni am restrau aros hir. Fel llefarydd iechyd, mae o wedi bod yn un o destunau trafod mwyaf y blynyddoedd diwethaf. Fel cynrychiolydd etholaeth, dwi'n gwybod am wn i ddim faint o etholwyr sydd wedi cael gwybod bod yn rhaid iddyn nhw aros ymhell dros flwyddyn am driniaeth frys, hyd yn oed. Mi fydd o'n brofiad sy'n gyffredin i bawb ohonom ni yn y Senedd yma, dwi'n siŵr.

Mae'r effaith ar gleifion yn fawr—nid yn unig yr effaith uniongyrchol o orfod byw efo salwch, yn aml iawn mewn poen, neu'n anghyfforddus, â'r pryder bod yr amser hir heb driniaeth yn creu difrod mwy, gan wneud y driniaeth yn y pen draw yn debyg o fod yn llai llwyddiannus—ond hefyd achos bod yr aros ei hun yn arwain at broblemau eraill. Mi gawsom ni adroddiad gwerthfawr gan y cynghorau iechyd yn ôl yn 2018, 'Ein bywydau ar stop', yn edrych ar effaith amseroedd aros ar ansawdd bywydau cleifion. Mae teitl yr adroddiad yn dweud y cyfan, mewn difrif. Rydyn ni'n sôn am effaith yr aros, nid yn unig ar iechyd corfforol, ond ar iechyd meddwl, ar unigrwydd, ar symudedd, y teimlad o golli urddas, yr effaith ar fywyd teulu, lle mae pobl hŷn a chyfrifoldebau gofal plant, er enghraifft, ac yn methu â gwneud hynny.

Yn hynny o beth, dwi'n meddwl bod y Llywodraeth braidd yn annidwyll yn eu gwelliannau nhw. Mae angen i'r Llywodraeth gydnabod bod rhestrau aros yng Nghymru yn llawer rhy hir cyn yr argyfwng yma. Mae angen iddyn nhw beidio, mewn unrhyw ffordd, drio osgoi'r realiti bod perfformiad yn erbyn y mesurau am amseroedd aros wedi bod yn broblem ers amser maith. Ond, mae'r pandemig, wrth gwrs, wedi gwaethygu pethau. I lawer o bobl a oedd wedi bod yn aros yn barod cyn dechrau'r flwyddyn gythryblus yma, mi ddaeth pethau i stop. Pan wnaeth rhai triniaethau elective ailddechrau, mi glywsom bryderon bod yna anghysondeb ar draws Cymru yn nhermau mynediad at wasanaethau llawfeddygol.

Ond, cofiwch nad dim ond aros am driniaethau am salwch neu anhwylder sydd wedi cael ei adnabod yn barod ydy'r broblem. Rydyn ni hefyd, yn allweddol, wedi gweld oedi mawr—ac atal yn llwyr ar adegau—yn y gwasanaeth diagnosis, sydd mor, mor bwysig. Ar ben hynny, wrth gwrs, mae llawer o bobl wedi dewis peidio â chwilio am gymorth meddygol oherwydd nerfusrwydd am ddal y feirws, neu am nad ydyn nhw eisiau bod yn fwrn ar y gwasanaeth iechyd mewn amser o argyfwng.

Y canlyniad? Rydyn ni wedi clywed mudiadau canser fel Macmillan yn dweud wrthym ni eu bod nhw'n meddwl y gallai fod yn agos at 3,000 o bobl yng Nghymru yn debyg o fod yn byw efo canser heb ddiagnosis oherwydd effaith y coronafeirws. Felly, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn edrych ar sut i ddelio efo'r backlog yn y system, a delio efo'r ffaith bod llawer o bobl yn teimlo eu bod nhw wedi cael eu hanghofio. Mae o'n bwysig nid yn unig er mwyn y cleifion, ond er mwyn ein staff ymroddedig, yr ydym ni'n cael cyfle unwaith eto heddiw i ddiolch iddyn nhw.

Mae angen safleoedd COVID-lite pwrpasol ar frys, efo profion rheolaidd ar staff a chleifion a stoc ddigonol o PPE i gadw capasiti elective i fynd drwy'r misoedd tyngedfennol nesaf. Eto, dwi'n defnyddio'r term 'COVID-lite' yn hytrach na 'rhydd o COVID', fel mae Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yn ei ddweud, achos mewn difri does dim modd rhoi gwarant y gallwch chi gael gwared ar y feirws yn gyfan gwbl. Mae profion aml yn hanfodol er mwyn cynnal gwasanaethau llawfeddygol dewisol, cynllunio'r gweithlu, a diogelu safleoedd COVID-lite. Rhaid i staff gael eu profi'n rheolaidd hyd yn oed pan fyddan nhw'n asymptomatic.

Rydyn ni wedi cyflwyno ein gwelliant ni mewn ysbryd o symud ymlaen, ac o basio hwnnw mi fyddwn ni, fel dwi wedi awgrymu, yn cefnogi'r cynnig ei hun. Rydyn ni yn meddwl bod angen adolygu'r targedau—

17:40

Ymddengys ein bod wedi colli Rhun. Nid ydym wedi cael yr Aelod yn ôl, a chan ei fod yn brin o amser beth bynnag, rwy'n meddwl y dof â'i gasgliadau i ben ar ei ran a galw ar Janet Finch-Saunders.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Wrth ddechrau'r ddadl hon, hoffwn gofnodi eto'n bersonol, ac ar ein rhan ni fel Ceidwadwyr Cymreig, y diolch enfawr i holl staff y sector gofal iechyd am y gwaith caled, yr ymroddiad a'r ymrwymiad y maent yn parhau i'w dangos i gleifion Cymru. Nawr, gadewch inni fod yn onest, ni wnaeth y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru o dan y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru ddechrau'r pandemig ar y droed flaen. Ni chyrhaeddwyd y targed o 95 y cant o gleifion yn treulio llai na phedair awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys erioed. Nid oedd amseroedd aros canser wedi'u cyrraedd ers 10 mlynedd. Roedd gan 42 y cant o bobl yng Nghymru angen nas diwallwyd am ffisiotherapi o'i gymharu â 30 y cant yn Lloegr, ac roedd gan Betsi Cadwaladr, fy mwrdd iechyd fy hun, amseroedd aros erchyll ym mis Chwefror: 508 o lwybrau cleifion yn aros dros 36 wythnos i ddechrau triniaeth clustiau, trwyn a gwddw, 903 ar gyfer wroleg, a 3,192 ar gyfer triniaeth trawma ac orthopedeg. Fel y dywedodd Andrew R.T. Davies yn hollol gywir, unigolion yw'r rhain. Mae eu bywydau'n cael eu effeithio'n ddyddiol. Yn anffodus, er gwaethaf ymdrechion diflino ein gweithwyr rheng flaen, mae effaith y pandemig ar yr unigolion hyn yn ddinistriol. Mae amseroedd aros i'r rhai sy'n aros mwy na 36 wythnos wedi cynyddu wyth gwaith; mae 168,944 o bobl wedi bod yn aros mwy na 36 wythnos am driniaeth. Yn wir, roedd cyfanswm y cleifion a oedd yn aros i ddechrau triniaeth erbyn diwedd Medi 2020 dros 0.5 miliwn.

Nawr, fel y gŵyr y Gweinidog, rwyf wedi ysgrifennu ato droeon gydag etholwyr y cofnodwyd eu bod bellach wedi aros blynyddoedd am lawdriniaeth orthopedig, a rhaid inni nodi adroddiad BBC Wales, sy'n dangos cynnydd ddengwaith cymaint yn nifer y cleifion sy'n aros am driniaeth o unrhyw fath yn GIG Cymru o'i gymharu â mis Medi 2019. Nawr, nid canfyddiadau newydd yw'r rhain, ac nid ydym yn diystyru effaith COVID-19, ond mewn gwirionedd, cafwyd rhybuddion ynglŷn ag ôl-groniadau yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf. Dywedodd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol fod cynnydd sylweddol yn nifer y marwolaethau o ganlyniad i strôc yn ystod yr epidemig ffliw yn y DU yn 2009. Felly, mae perygl y bydd y pwyslais amlwg ar gleifion COVID yn arwain at oedi triniaeth ar gyfer cyflyrau iechyd eraill os na chaniateir i gleifion droi at ofal sylfaenol. Tynnodd Asthma UK a Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint sylw at bryderon difrifol fod pobl â chlefyd cronig yr ysgyfaint mewn mwy o berygl o waethygiad y gellid ei atal yn eu hiechyd.

Nododd Sefydliad Prydeinig y Galon y gallai'r gostyngiad o 20 y cant yn nifer y bobl a welir mewn ysbytai ledled Cymru yr amheuir eu bod wedi cael trawiad ar y galon ers y cyfyngiadau symud egluro'n rhannol y cynnydd yn nifer y marwolaethau na ellir eu priodoli i COVID-19 ar hyn o bryd. Nawr, er fy mod yn cytuno bod llawer o driniaethau wedi'u cau ar ddechrau'r cyfyngiadau symud, yn amlwg, er mwyn sicrhau diogelwch cleifion, mae angen gweithredu ar frys yn awr i ailddechrau rhai o'r gwasanaethau hyn. Yn wahanol i'r Gweinidog, credaf y byddai'n synhwyrol rhoi cynllun ar waith i fynd i'r afael ag ôl-groniad y rhestrau aros. Dylech roi hwb ar unwaith i'r defnydd o ysbytai sy'n rhydd o COVID. Fel yr argymhellwyd gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon a Choleg Brenhinol Meddygaeth Frys ledled y DU, gallai sefydlu ardaloedd ysbytai sy'n rhydd o COVID-19 atal 6,000 o farwolaethau diangen yn gysylltiedig â COVID-19—hyn ar ôl llawdriniaeth canser—dros y flwyddyn nesaf.

Ar 31 Gorffennaf, cyhoeddodd GIG Lloegr drydydd cam ei ymateb i COVID-19, a oedd yn canolbwyntio'n benodol ar y capasiti sydd ar gael i sicrhau bod lefelau agos i'r arfer o wasanaethau iechyd nad ydynt yn rhai COVID yn dychwelyd. Ond o'i gymharu â hyn, rydym wedi gweld Llywodraeth Cymru yn ei chael hi'n anodd gweithredu'n gyflym. Felly, erbyn 28 Awst, nid oedd gwelyau cyffredinol ac acíwt ar gael mewn ysbytai maes. Roedd hyn yn wir am bron i ddau fis tan 15 Hydref, pan ddaeth 115 o welyau ar gael. Mae hynny'n llai na hanner y capasiti a welwyd ar anterth y pandemig. Mae'r methiant hwnnw i beidio â defnyddio capasiti ysbytai annibynnol a maes yn gyson, cyn yr ail don, wedi rhoi pwysau ar ein hysbytai presennol yn ystod yr ail don. Mae difrifoldeb y sefyllfa hon yn glir wrth inni ystyried y gallai 2,000 o bobl farw oherwydd oedi sy'n gysylltiedig â COVID yn GIG Cymru. Mae gan yr Alban a Lloegr gynlluniau adfer canser ar waith ers sawl mis, ond nid yma. Felly, rwy'n llwyr gefnogi'r galwadau am gynllun ac ymgyrch genedlaethol i sicrhau bod pobl sy'n amau bod ganddynt ganser a bod angen iddynt fynd i'r ysbyty yn gwneud hynny. Argymhellodd hyd yn oed Cymorth Canser Macmillan y mis diwethaf fod yn rhaid i chi ymrwymo i gynllun clir ac adnoddau i gefnogi'r gwaith o ddarparu capasiti ymchwydd.

Hoffwn gloi drwy nodi bod y camau brys rydym yn gofyn amdanynt yn rhai ymarferol. Gwrthwynebiad adeiladol yw hwn. Caiff ei gefnogi gan sefydliadau iechyd, a gallwn roi hwb ymarferol hefyd i'r defnydd o ysbytai sy'n rhydd o COVID ledled Cymru drwy sicrhau bod gan fyrddau iechyd bolisïau clir ar fynd i'r afael â gofynion profi a'u hamlder ar gyfer staff a chleifion; cyflenwadau o gyfarpar diogelu personol a chyflenwadau llawfeddygol digonol a pholisïau clir ar ba bryd a sut i'w defnyddio; cydgysylltu lleol i sicrhau bod llwybrau gofal cleifion yn cael eu rheoli'n briodol; defnyddio ysbytai y sector annibynnol i hybu capasiti; ac ysbytai Nightingale i barhau'n weithredol. Os gwelwch yn dda, Weinidog, gadewch i bawb ohonom weithio gyda'n gilydd ym mhob man yn awr i ymdrin â'r sefyllfa sy'n ein hwynebu gyda COVID, ond gadewch i driniaethau arferol ysbytai y mae'r cyhoedd yng Nghymru eu hangen barhau a gadewch iddynt gael triniaethau mawr eu hangen. Diolch.

17:45

Ddirprwy Lywydd, rwy'n croesawu'r ffordd adeiladol a difrifol y mae'r Ceidwadwyr wedi cyflwyno'r ddadl hon heddiw. Pan gaiff dadl ei chyflwyno yn y ffordd hon, dywedaf wrth yr Aelodau ar feinciau'r gwrthbleidiau fod hynny'n rhoi pwysau ar Aelodau meinciau cefn y Llywodraeth i gyfiawnhau pam y byddent yn cefnogi gwelliannau'r Llywodraeth. Ac mae cymaint â hynny'n bwysicach ein bod yn cyflwyno dadl gref pan gynhelir dadl yn y ffordd hon, ac mae'n ffordd dda o graffu.

Ond mae'n rhaid i mi ddweud, wrth wraidd y ddadl hon mae angen i reoli'r feirws ac atal lledaeniad y feirws i leoliadau ysbytai, a dyna wrth gwrs oedd diben y cyngor SAGE a roddwyd i Lywodraeth y DU a Llywodraethau datganoledig cyn cyfyngiadau'r cyfnod atal byr a ddigwyddodd ddechrau mis Tachwedd. O edrych ar bwynt Rhif 4 yn y cynnig, sy'n sôn am ateb clir a gonest iawn y Gweinidog iechyd am y broblem sy'n wynebu rhestrau aros o ganlyniad i COVID, diben y cyngor hwnnw gan SAGE i gyflwyno cyfyngiadau cyfnod atal byr oedd mynd i'r afael â'r union broblem honno. A chredaf y byddai'r Ceidwadwyr yn cydnabod bellach wrth edrych yn ôl eu bod wedi gwneud camgymeriad yn peidio â chefnogi'r cyfnod atal byr ar y pryd, oherwydd, fel y gwelsom yn Lloegr, cyflwynwyd cyfyngiadau symud hirach a llymach er mwyn mynd i'r afael â'r broblem honno. A dyna sydd wrth wraidd y ddadl hon—cymryd y mesurau a chymryd y strategaethau a fydd yn caniatáu i'r feirws gael ei reoli. Ac mae'n ddrwg gennyf ddweud wrth Andrew R.T. Davies, pe caniateid i mi adael i chi ymyrryd, fe fyddwn yn gwneud hynny—fe wyddoch y byddwn—ond nid yw'r rheolau'n caniatáu hynny ar hyn o bryd.

Felly, wrth edrych ar y sefyllfa, beth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud? Wel, yr wythnos diwethaf, cawsom ddatganiad ysgrifenedig gan y Gweinidog iechyd am y llwybr canser sengl a gyflwynwyd ym mis Tachwedd 2018. A'r hyn y mae'n ei wneud yw sicrhau bod pob claf, ni waeth beth fo graddau'r amheuaeth, pob claf sy'n cael eu gweld fel achosion canser posibl, yn cael eu trin ar lwybr canser sengl. Felly, fel y dywedodd y Gweinidog iechyd yn ei ddatganiad, mae

'yn ffordd lawer cywirach o fesur yr amser y mae cleifion yn aros i gael triniaeth yn ein system iechyd.'

Ond un o'r pethau a ddywedodd yn ei ddatganiad oedd,

'Bydd y Llwybr Canser Sengl yn ein galluogi i fynd i’r afael ag amrywiadau, a gwella canlyniadau a phrofiad y claf.'

Rwy'n credu mai dyletswydd y Gweinidog iechyd nawr yw ymhelaethu ar hynny a rhoi mwy o wybodaeth i ni ynglŷn â sut y mae'r pethau hynny'n cael eu cyflawni, ac mae hwnnw'n bwynt allweddol yr hoffwn i'r Gweinidog iechyd fynd i'r afael ag ef.

Ac o ran cymorth a thriniaeth canser, rhaid i mi ddweud, yn 2016, pan gefais fy ethol gyntaf, cyfarfûm â phrif weithredwr bwrdd iechyd Aneurin Bevan, a'i huchelgais oedd cyflwyno canolfan ragoriaeth canser y fron yn Ysbyty Ystrad Fawr. Rwy'n falch iawn o ddweud bellach y byddwn yn gweld honno'n agor y flwyddyn nesaf, a bydd honno ynddi'i hun—y ganolfan ragoriaeth—yn darparu gwasanaethau sy'n seiliedig ar dystiolaeth, gan sicrhau'r canlyniadau clinigol gorau, yn cynnwys triniaeth ddiagnostig bwrpasol ac ystafelloedd cwnsela a fydd yn gwneud diagnosis cyflymach yn bosibl. Ac yn wir, mae'r achos busnes a gyflwynwyd gan fwrdd iechyd Aneurin Bevan yn dweud y bydd y ganolfan newydd yn cynyddu'r ystod o lawdriniaeth y fron y gellir ei chyflawni fel achosion dydd o 30 y cant i 70 y cant. Mae hynny'n digwydd yn Ysbyty Ystrad Fawr—maent yn gorfod ymestyn yr ysbyty i'w wneud. Dyna gyllid Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi cleifion sydd â chanser y fron. Ac rwy'n meddwl, felly, yr hoffwn gyflwyno fy nghyfraniad heddiw i etholwr, Dawn Wilson.

Roedd Dawn Wilson yn byw yn Ystrad Mynach a chafodd ddiagnosis o ganser y fron yn 2017. Bu farw Dawn ar ddechrau Mis Ymwybyddiaeth Canser y Fron ar 1 Hydref eleni, a threuliodd y blynyddoedd ers iddi gael y diagnosis terfynol yn ymgyrchu dros eraill i'w hatal rhag gorfod wynebu'r sefyllfa roedd hi ynddi. I gefnogi'r ymgyrch, rwy'n gwisgo fy nhei binc heddiw. Fe gymerodd yr ymgyrch Know Your Lemons, a ddeilliodd o waith Corrine Beaumont yn America—cymerodd yr ymgyrch honno fel ymgyrch godi ymwybyddiaeth a'i chyflwyno i Gymru. Y syniad yw bod yna boster gyda chyfres o lemonau a gallwch edrych ar y lemonau ac maent yn dangos y math o ganser y fron y gellid gwneud diagnosis ohono o edrych ar siâp y lemwn. Ac mae'n ganllaw gweledol clir iawn. Llwyddodd Dawn i gael GIG Cymru i fabwysiadu hynny. Ymgyrch Dawn ym mlynyddoedd olaf ei bywyd a lwyddodd i gael GIG Cymru i fabwysiadu'r ymgyrch honno, a lansiodd Llywodraeth Cymru yr ymgyrch oherwydd Dawn Wilson. Felly, i gloi fy sylwadau, hoffwn inni gydnabod y cyfraniad a wnaeth, ei chyfraniad anhunanol ym mlynyddoedd olaf ei bywyd. Cyfarfûm â hi yma yn y Senedd ddwy flynedd yn ôl, ac euthum i'w thŷ yn Ystrad Mynach i siarad â hi am yr ymgyrch. Felly, mae'n bleser cyflwyno'r cyfraniad hwn iddi hi heddiw.

17:50

Mae'r pandemig wedi tynnu sylw at lawer o bethau am ein GIG—gwydnwch ein staff, eu hymrwymiad i gleifion yn yr oriau ychwanegol niferus y maent wedi gweithio, a'r hyblygrwydd y mae cynifer o staff wedi'i ddangos i helpu i roi'r ymateb i'r pandemig ar waith. Mae'r pandemig hefyd wedi tynnu sylw at rai o'r gwendidau mewn system sydd wedi bod yn gwegian ers peth amser. Yn ei chyfraniad, dywedodd Janet Finch-Saunders fod rhestrau aros ar gynnydd cyn i'r argyfwng iechyd cyhoeddus hwn ddechrau, a gwyddom fod yr ôl-groniad mor fawr erbyn hyn fel y bydd angen gweithredu am flynyddoedd i'w gael yn ôl i'r hyn ydyw'n arferol. Yn wir, cyfaddefodd prif weithredwr GIG Cymru y pwynt hwnnw yr wythnos diwethaf.

Wrth i ni nesáu at y gaeaf, rwy'n pryderu y bydd rhestrau aros yn tyfu'n hirach, fel y maent bob amser yn ei wneud ar yr adeg hon o'r flwyddyn, yn enwedig wrth i'r GIG ganolbwyntio ar bwysau COVID-19 a phwysau'r gaeaf. Mae hyn ar ei fwyaf amlwg yn fy ardal i yn ne-ddwyrain Cymru. Bydd angen i'r bobl wybod nawr pryd y gallant ddisgwyl triniaeth nid yn unig ar gyfer materion arferol ond mynediad at driniaethau sy'n achub bywydau hefyd. Ym mis Medi eleni, roedd 26,974 o bobl yn aros am fwy na 36 wythnos i ddechrau eu triniaeth yn ne-ddwyrain Cymru, pan fo'r targed yn sero, o'i gymharu â dim ond 1,313 flwyddyn yn ôl. Mae'n amlwg yn gynnydd aruthrol. Amlinellodd Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, yn eu tystiolaeth ddiweddar i'r ymchwiliad a gynhaliwyd gan y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, fod ôl-groniad sylweddol o lawdriniaethau dewisol yn bodoli yng Nghymru cyn y pandemig COVID-19, ac y byddai wedi cynyddu'n anochel. Ym mis Ionawr 2020, dangosodd yr ystadegau diwethaf ar amseroedd aros cyn y pandemig fod bron i hanner miliwn o bobl yn aros i ddechrau triniaeth, gyda 76,862 yn aros mwy na 26 wythnos. Y perygl yw y bydd angen llawdriniaethau cymhleth ar lawer o gleifion os nad yw eu triniaeth yn digwydd yn amserol, gan arwain yn rhy aml, fel y gwyddom, at symptomau sy'n gwaethygu a dirywiad yn eu cyflwr.

Ddirprwy Lywydd, ar sawl achlysur yn y Siambr hon, rwyf wedi croesawu'r gwaith o adeiladu ac agoriad ysbyty newydd yn ddiweddar, Ysbyty Prifysgol Grange yng Nghwmbrân. Dylem i gyd fod yn uchelgeisiol ynglŷn â diwygio'r modd y darperir gwasanaethau er mwyn diwallu anghenion cleifion yn well, gyda chyfleusterau newydd, ffocws ar fodelau gofal arloesol a'r diweddaraf mewn technoleg ac offer. Mae'r prosiect hwnnw wedi bod yn cael ei ddatblygu bellach ers ymhell dros 10 mlynedd—cyn i mi gael fy ethol i'r lle hwn rwy'n credu, cofiaf gymryd rhan yng nghyfarfodydd dyfodol clinigol Gwent ar y pryd—ac o'r diwedd mae gennym y cyfleuster rhagorol hwn. Ond os yw cyfleusterau newydd yn mynd i fod yn effeithiol, rhaid iddynt gael adnoddau priodol gyda'r lefel gywir o staff. Mae angen osgoi unrhyw risg o brinder, ac mae angen i bobl wybod bod modd cyrraedd yr ysbyty mewn car ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, oherwydd mae'r materion hyn wedi'u dwyn i fy sylw yn ystod yr wythnosau diwethaf. Y broblem yw, mae croesawu capasiti newydd yn ddigwyddiad rhy anghyffredin, ac mae'r gwrthwyneb yn wir am broblem amseroedd aros a rhestrau aros cynyddol—nid ydynt yn anghyffredin, ac maent yn  rhywbeth y bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru ymateb iddynt yn y gorffennol.

Yn yr ail Gynulliad, cyflwynodd y Gweinidog iechyd ar y pryd gynllun yr ail gynnig i leihau'r rhestrau aros a'r amseroedd aros drwy gynnig triniaeth mewn mannau eraill yn y GIG a thu allan i Gymru yn y sector annibynnol. Bryd hynny, cafodd llawer o bobl eu trin yn gyflymach. Yn wir, rhwng mis Ebrill a mis Medi 2005, cynigiwyd ysbytai amgen yn y sector preifat i gyfanswm o 495 o bobl o Went gael eu llawdriniaethau. A bod yn deg â'r Llywodraeth ar y pryd, dangosodd barodrwydd i edrych y tu hwnt i safbwyntiau gwleidyddol cul ynglŷn â thrin pobl y tu allan i Gymru a thu allan i'r GIG, a sicrhau ateb ymarferol i gleifion bryd hynny. Yng ngoleuni'r ffaith bod capasiti theatr ledled Cymru heb fod cystal ag y gallai fod ers peth amser, a yw Llywodraeth Cymru wedi archwilio'r opsiwn o gynyddu capasiti tymor byr, gan weithio efallai gyda darparwyr y tu allan i Gymru a allai fod â chapasiti i fynd i'r afael â hyn?

Er y bydd holl gyrff y GIG ledled y DU yn rheoli'r ymateb i'r pandemig, byddwn yn gofyn i'r Gweinidog nodi a oes capasiti'n bodoli mewn mannau eraill ac os yw'n bosibl, i gwmpasu rhyw fath o gynllun ail gynnig efallai—cam 2, os hoffech—i fynd i'r afael â'r argyfwng pwysig hwn. Os na, beth arall y gellir ei wneud i archwilio'r gallu i gynyddu'r capasiti ymchwydd blaenorol a gyflwynwyd yn ystod y cyfyngiadau symud ledled y DU i ddiogelu'r GIG rhag ofn y bydd niferoedd COVID-19 yn dechrau tanseilio capasiti'r GIG o ddifrif? Mae angen capasiti ychwanegol nawr i fynd i'r afael â chanlyniadau'r pandemig i filoedd o bobl y mae eu hangen am ofal y GIG yr un mor bwysig ag y bu yn y gorffennol.

17:55

Mae'r pandemig COVID wedi effeithio'n gwbl drychinebus ar lawer iawn o bobl. Collwyd bywydau o COVID ac am resymau heb gysylltiad â COVID, ac mae bywydau eraill wedi cael eu newid am byth, wedi'u cyffwrdd gan alar, colled a thrychineb. Mae eraill yn parhau i ddioddef effaith wanychol COVID hir, ac mae hyn i gyd yn berthnasol i gleifion a phobl ym mhobman, ond hefyd i staff y GIG a staff gofal. Mae rhai staff wedi colli eu bywydau drwy fynd i'r gwaith.

Mae'r cynnig yn cydnabod gwaith caled, ymroddiad ac ymrwymiad staff yn y sector gofal iechyd, ond weithiau, mae'r geiriau hyn yn llithro allan heb oedi. Realiti COVID: yr arswyd ar y wardiau yn y dyddiau cynnar heb gyfarpar diogelu personol digonol a phrofion annigonol a pheidio â gwybod, wardiau'n llawn ofn, staff yn teimlo'n agored i niwed ac mewn perygl. Gwelsom wasanaeth iechyd a oedd eisoes dan bwysau yn mynd y tu hwnt i ddyletswydd, gweithlu blinedig yn ceisio dal i fyny gyda galw rheolaidd yn ystod misoedd tawel yr haf fel y'u gelwir, cyn cael eu hymestyn eto nawr wrth i nifer yr achosion godi, wrth i ddefnydd gwelyau mewn ysbytai godi ac wrth i welyau mewn unedau gofal dwys lenwi eto. Y tro hwn, ymdrinnir ag achosion COVID ac achosion nad ydynt yn rhai COVID, ond nid yw'r capasiti yno. Mae trosglwyddiad feirysol asymptomatig yn golygu ymdrechu i gael wardiau sy'n rhydd o COVID, ond mae wardiau sy'n rhydd o COVID yn her enfawr ac mae'n debyg na ellir cyflawni hynny ar hyn o bryd. COVID-ysgafn yw'r gorau y gellir ei gael. Oherwydd yr angen i newid yr holl gyfarpar diogelu personol drwy'r amser, rhwng pob claf, mae'r ergyd i lif cleifion wedi bod yn enfawr.

Felly, mae yna restr hir o bethau i'w gwneud, ac mae'r gwahanol golegau brenhinol yn dweud wrthym beth i'w wneud. Mae 'n dal i fod angen i ni gael rheolaeth ar COVID, ac mae gan lawer o feddygon bryderon enfawr o hyd am wasanaeth profi ac olrhain a breifateiddiwyd Llywodraeth y DU, gyda rhai meddygon yn ei alw'n gamgymeriad angheuol. Creu system brofi ac olrhain o'r dechrau gan ddefnyddio cwmnïau preifat, heb fod unrhyw brofiad ym maes iechyd y cyhoedd gan yr un ohonynt, ynghanol pandemig, ar wahân i system brofi ac olrhain iechyd y cyhoedd y GIG a oedd yn bodoli eisoes—hynny yw, beth allai fynd o'i le?

Mae system gysylltu hynod effeithlon yn hanfodol, ac mae ynysu â chymorth yn allweddol. Talu £800 i bobl hunanynysu, cysylltu â phobl sy'n hunanynysu yn rheolaidd bob dydd, trefnu llety mewn gwesty lle bo'n briodol—mae'n gweithio mewn gwledydd eraill. Rhaid cefnogi a galluogi'r hunanynysu er lles pob un ohonom. Mae profion ac olrhain cysylltiadau iechyd y cyhoedd a GIG lleol yn gweithio'n hynod o dda. Mae angen inni ymdrechu nid yn unig i wneud hynny, a diddymu system breifat y DU sydd wedi'i llesteirio gan oedi, camgymeriadau a methiant, gan arwain at olrhain oddeutu 20 i 30 y cant yn unig o bobl sy'n gysylltiadau, pobl a ddylai fod yn hunanynysu, hunanynysu go iawn. Mae'r gweddill yn lledaenu'r feirws o gwmpas heb wybod. Mae angen i ni ailgyfeirio adnoddau i iechyd y cyhoedd y GIG a meddygon teulu, gan brofi ac olrhain cysylltiadau fel rydym bob amser wedi'i wneud ar gyfer unrhyw glefyd heintus hysbysadwy arall dros y blynyddoedd—TB, malaria, salmonela, y frech goch ac yn y blaen ac yn y blaen. Cynnwys meddygon teulu yn y drefn brofi ac olrhain, cyflenwi ocsifesuryddion pwls i bobl a gofal sylfaenol. Gellir mynd i'r afael â COVID yn y gymuned yn ddiogel y tu allan i ysbytai, mae profi ac olrhain yma ar gyfer y tymor hir, felly gadewch i ni gynllunio'n iawn ar gyfer y tymor hir.

Yn olaf, mae effaith drychinebus COVID yn gyffredin i'r holl wasanaethau iechyd. Gwyddom am yr amseroedd aros hirach yma yng Nghymru. Dros y ffin, nid yw'r sefyllfa yn Lloegr dan arweiniad y Ceidwadwyr yn well—mae'n waeth, os rhywbeth. Cyrhaeddodd nifer y bobl yn Lloegr a oedd yn aros mwy na 52 wythnos am driniaeth ddewisol 139,545 ym mis Medi 2020. Nid yw hynny'n 10 gwaith yn fwy na'r flwyddyn flaenorol, nid yw'n 20 gwaith yn fwy na'r flwyddyn flaenorol, nid yw'n 50 gwaith yn fwy na'r flwyddyn flaenorol, mae'n 107 gwaith yn fwy na'r nifer ym mis Medi 2019.

Mae brechlynnau'n ddarganfyddiad gwych, yn newid pethau'n llwyr, ond nid yw hynny'n digwydd eto. Mae gennym dymor salwch y gaeaf o hyd a phandemig COVID rhemp i fynd i'r afael ag ef yn gyntaf, gyda staff blinedig o dan bwysau ym mhobman. Gallwn i gyd wneud ein rhan. Mae angen i Lywodraeth Cymru roi trefn ar brofi ac olrhain cysylltiadau nawr, a chael hunanynysu â chymorth yn weithredol cyn gynted â phosibl.

18:00

Er fy mod yn derbyn nifer fawr o negeseuon e-bost ynglŷn ag oedi sy'n gysylltiedig â COVID yn GIG Cymru, mae pob un ohonynt yn cydnabod gwaith caled, ymroddiad ac ymrwymiad staff yn y sector gofal iechyd. Mae Llywodraeth Lafur Cymru yn disgrifio'r cynnydd yn nifer y cleifion sy'n aros am bob triniaeth yn GIG Cymru o'i gymharu â mis Medi 2019 fel tuedd a welwyd ym mhob rhan o'r DU. Mae hyn yn wir wrth gwrs ac yn anochel. Fodd bynnag, er gwaethaf y gwaith gwych a wnaethpwyd gan GIG Cymru yn gofalu am bobl sydd wedi dal COVID-19, mae'r pandemig wedi tynnu sylw at broblemau yn ein GIG yng Nghymru o ganlyniad i dros ddau ddegawd o bolisïau Llafur Llywodraeth Cymru.

Roedd niwroleg eisoes yn cael ei danariannu'n helaeth yng Nghymru cyn y pandemig, gyda bylchau mawr yn y gwasanaethau a ddarperir yn arwain at oedi o fisoedd, a blynyddoedd weithiau cyn cael diagnosis, diffyg gofal dilynol a chymorth cymunedol, yn ogystal â lefelau isel o fynediad at ofal arbenigol a gofal diwedd oes. O ran mynediad at wasanaethau a thriniaethau, dangosodd arolwg gan y Gymdeithas MS yn 2019 fod Cymru eisoes ar ei hôl hi o gymharu â gweddill y DU cyn y pandemig, gyda 42 y cant o bobl yng Nghymru ag angen nas diwallwyd am ffisiotherapi o'i gymharu â 30 y cant yn Lloegr, a bod 70 y cant o'r bobl yng Nghymru sy'n byw gydag MS heb gael unrhyw gymorth emosiynol na seicolegol , o'i gymharu â 13 y cant ledled y DU. Datgelodd arolwg Cynghrair Niwrolegol Cymru ar effaith y pandemig coronafeirws fod iddo oblygiadau mawr o ran darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i bobl sy'n byw gyda chyflyrau niwrolegol, gyda gwasanaethau a thriniaethau wedi eu gohirio neu eu hatal. Ar ôl i mi ofyn i'r Prif Weinidog yn gynharach y mis hwn pryd y bydd llawdriniaethau hanfodol yn ailddechrau ar gyfer plant neu oedolion ag epilepsi sy'n agored iawn i niwed, ysgrifennodd i ddweud nad yw llawdriniaethau epilepsi wedi dod i ben. Fodd bynnag, mae ystadegau episodau ysbyty yn dangos niferoedd llawer is ac amseroedd aros hwy ar gyfer llawdriniaethau a llawfeddygaeth i ysgogi'r nerf fagws yng Nghymru o'i gymharu â Lloegr. Dywedwyd wrthyf na fu unrhyw feddygfeydd ysgogi'r nerf fagws i oedolion, naill ai mewnblaniadau newydd neu ailosod batri, ers i'r pandemig ddechrau ym mis Mawrth, gan arwain at amddifadu pobl o'r llawdriniaeth a'r therapi hanfodol sydd eu hangen arnynt.

Ym mis Awst, cyfarfûm ag ymgyrchwyr Cymorth Canser Macmillan ar-lein i drafod eu profiad o'r effaith ofidus y mae'r pandemig coronafeirws yn ei chael ar wasanaethau canser yng Nghymru. Mae Cymorth Canser Macmillan wedi nodi y bydd ôl-groniad Lloegr o gleifion canser yn cymryd llai o amser i fynd drwyddo nag yng Nghymru, lle roedd yr amser aros canolrifol i gleifion sy'n aros i ddechrau triniaeth ddiwedd mis Medi yn Lloegr yn llai na hanner yr hyn ydoedd yng Nghymru. Erbyn 29 Ebrill, sefydlwyd 21 o hybiau canser rhydd o COVID yn Lloegr, sy'n cael eu rhedeg gan gynghreiriau canser. Mae GIG yr Alban a GIG Gogledd Iwerddon hefyd wedi defnyddio capasiti ysbytai annibynnol i sefydlu hybiau canser rhydd o COVID. Fodd bynnag, fel y dywedodd Cymorth Canser Macmillan, mae Cymru ar ei hôl hi o gymharu â Lloegr mewn perthynas â sefydlu hybiau rhydd o COVID-19 i drin cleifion canser yng Nghymru. 

Mae gan yr Alban a Lloegr gynlluniau ar waith ers sawl mis i sicrhau bod cleifion canser yn cael eu gweld ac yn cael llawdriniaeth yn gyflym. Fodd bynnag, fel y dywedodd Cymorth Canser Macmillan, mae angen i Lywodraeth Cymru sefydlu cynllun adfer COVID-19 llawn ar gyfer gwasanaethau canser a mynd i'r afael ag ôl-groniad gofal canser na fydd ond yn parhau i dyfu bob tro y bydd tarfu ar wasanaethau canser yng Nghymru yn sgil y pandemig hwn. Mae eu hymchwil yn dangos y gallai tua 2,900 o bobl yng Nghymru fod yn byw gyda chanser heb gael diagnosis oherwydd y pandemig. Fel y dywedasant, mae'n gwbl amhriodol i Lywodraeth Cymru awgrymu y byddai cynllun ar gyfer clirio'r ôl-groniad canser sydd eisoes yn sylweddol yn 'ffôl'. Ni all canser aros i'r pandemig ddod i ben, meddant, ac mae Macmillan am sicrhau nad canser yw'r 'c' a anghofiwyd yn sgil y pandemig. 

Mae Ymchwil Canser Cymru wedi rhybuddio y gallai fod canser ar lawer o'r bobl na chafodd wahoddiad oherwydd yr oedi i wasanaethau sgrinio am ganser, pobl sy'n gohirio gweld eu meddyg teulu oherwydd eu bod ofn COVID-19 neu bobl sy'n pryderu ynglŷn ag ychwanegu at bwysau'r GIG. Oni chaiff hyn sylw'n gyflym, roeddent yn dweud y bydd y canlyniadau i gleifion yng Nghymru yn llai cadarnhaol, fod gan Gymru enw gwael eisoes mewn perthynas â chanlyniadau canser ac y bydd yn cael ei niweidio'n sylweddol yn y blynyddoedd i ddod, ac mai drwy gynllun adfer COVID-19 ar gyfer gwasanaethau canser y bydd Cymru'n gallu deall maint yr her ac yn gallu dwyn ynghyd y dulliau o bob rhan o Gymru. Fel y dywed ein cynnig felly, mae angen cynllun adfer canser ar Gymru, fel y gwelir mewn mannau eraill ledled y DU. 

18:05

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl heddiw ac ymdrin â gwelliannau a sylwadau'r Llywodraeth a wnaethpwyd yn ystod y ddadl. Mae'n ffaith ein bod, cyn y pandemig COVID, wedi gweld pedair blynedd o welliant parhaus mewn amseroedd aros ledled Cymru. Yn y flwyddyn ddiwethaf, dilynodd cyflymder y gwelliant o ganlyniad uniongyrchol i'r materion treth a phensiwn ledled y DU. Fel pob gwlad, mae'r pandemig wedi effeithio ac yn parhau i effeithio ar ein gallu i drin pob claf mor effeithlon ag yr hoffem—pwyntiau a gafodd eu cydnabod a'u nodi'n dda yng nghyfraniad Dai Lloyd. 

Fel y dengys ystadegau mis Medi, mae llawer o gleifion bellach yn aros yn hwy o lawer. Mae'r ystadegau hynny'n dangos bod yr amseroedd aros dros 36 wythnos wedi cynyddu chwe gwaith rhwng mis Chwefror a mis Medi eleni. Fel rhannau eraill o'r DU, byddwn yn gweld cynnydd pellach wrth i ni ymateb i'r coronafeirws yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus hwn. Efallai y dylwn fynd i'r afael ar y pwynt hwn â rhai o'r sylwadau am y capasiti yn Lloegr neu'r sector annibynnol. Mae gennym eisoes drefniadau ar waith gyda'r sector annibynnol drwy gydol y pandemig. Rydym eisoes yn defnyddio gweithgarwch y sector annibynnol o bryd i'w gilydd i ymdrin â chynlluniau rhestrau aros. Nid oes dim yn newydd yn hynny. Fodd bynnag, mae'n annhebygol y bydd y capasiti a ddefnyddir yn rheolaidd yn system Lloegr ar gael i ni oherwydd maint sylweddol yr ôl-groniad y bydd yn rhaid iddynt ymdrin ag ef. 

Yn anffodus, fel yr amlygwyd yn ddiweddar yn adroddiad y cyngor iechyd cymuned ddoe, bydd cyflwr rhai cleifion yn gwaethygu tra byddant yn aros. Mae hyn yn atgyfnerthu'r angen i reoli lledaeniad y coronafeirws ac i gynyddu nifer y llawdriniaethau a gynlluniwyd mor ddiogel a chyflym â phosibl. Mae'r coronafeirws wedi effeithio ar bron bob agwedd ar ofal iechyd, o ddysgu sut i drin a gofalu am bobl sy'n ddifrifol wael gyda COVID, trin COVID hir—rydym yn dal i ddysgu mwy am y cyflwr—i wneud newidiadau ffisegol i glinigau, meddygfeydd a theatrau llawdriniaethau er mwyn diogelu staff a chleifion rhag y risg o ddal y feirws hynod heintus hwn. Ac rwy'n parhau i fod yn hynod ddiolchgar i'n GIG ymroddedig a'n staff gofal cymdeithasol am eu hymrwymiad a'u tosturi yn ystod y cyfnod digynsail hwn. 

Yn y cyfweliad diweddar ar BBC Wales Investigates, disgrifiais yn glir pam mai ein blaenoriaeth o reidrwydd yw ymateb i'r pandemig mewn ffordd strwythuredig a phwyllog. Mae hyn yn golygu datblygu dulliau i gefnogi'r cleifion sydd â'r angen mwyaf am driniaeth wedi'i chynllunio, a nodais hefyd ein bod eisoes yn edrych ar gamau ehangach i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Mae gennym ffordd ymlaen wedi'i chytuno ar lefel bwrdd iechyd ar gyfer trin COVID-19 a chynnal gwasanaethau hanfodol fel canser, ac yn sicr nid dyna'r 'c' a anghofiwyd yn ystod y pandemig hwn. Nodir y disgwyliadau hynny yn y fframwaith cynllunio chwarterol a drafodwyd gennym eto yn y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon heddiw. Mae canllawiau manwl o fewn hynny ar ganser a gwasanaethau cysylltiedig eraill, megis endosgopi. Felly, mae gan y byrddau iechyd gynlluniau ar waith i ymateb i hyn, ac rydym yn parhau i weithio'n agos gyda hwy wrth inni ddeall a monitro'r ddarpariaeth.

Er hynny, mae'r pandemig wedi cael effaith dorcalonnus ar wasanaethau sy'n gofalu am bobl â chanser a thriniaethau eraill sy'n effeithio ar fywyd, ac mae ein prif swyddog meddygol wedi bod yn glir iawn fod sawl ffordd y bydd y pandemig yn achosi niwed, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol. A dylwn nodi sylwadau Hefin David am ei etholwr, Dawn Wilson, ar y pwynt hwn. Cyfarfûm â Dawn cyn cymeradwyo a chefnogi ymgyrch Know Your Lemons, ac rwy'n cydnabod yr effaith a gafodd, ac roedd yn weithred gwbl anhunanol ar ei rhan i dreulio gweddill ei hoes yn ymgyrchu dros eraill. Un neges allweddol yn ein cyfathrebiad cenedlaethol sydd ar y ffordd fydd parhau i amlygu ac atgyfnerthu'r angen i gleifion gysylltu â'n GIG gydag unrhyw arwyddion neu symptomau canser. Bydd hyn yn parhau yn yr ymgyrch newydd, Helpwch Ni i'ch Helpu Chi. Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid, fel Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac Undeb Rygbi Cymru i gefnogi ein negeseuon, gyda fideos ffocws, gan gynnwys rhai gan ffigyrau o'r byd pêl-droed a staff go iawn y GIG. 

Mae byrddau iechyd yn gorfod ymdrin â sefyllfa na welwyd ei thebyg o'r blaen, ac nid oes atebion gweithredol na moesegol syml i hyn. Mae popeth y gellir ei wneud yn cael ei wneud. Mae popeth y gellir ei ddarparu yn cael ei ddarparu. Ac rydym yn dal i ddysgu ac mae angen i ni addasu wrth i'n sylfaen dystiolaeth newid, wrth i'n gwybodaeth newid. Felly, mae'r Llywodraeth yn parhau i ganolbwyntio ar fynd i'r afael â'r maes pwysig hwn. Mae fy swyddogion yn parhau i weithio gyda chlinigwyr i nodi opsiynau ar gyfer sut y gall arian ychwanegol a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan Lywodraeth y DU ein helpu i fynd i'r afael â'r heriau sylweddol a ddaw yn sgil oedi cyn cael triniaeth, nid yn unig dros y misoedd nesaf, ond dros dymor Senedd Cymru cyfan. Ein blaenoriaeth fydd lleihau'r risg o oedi a chefnogi blaenoriaethu clinigol. Fel y nododd prif weithredwr GIG Cymru yr wythnos diwethaf, mae angen mesurau diogelwch ychwanegol i ddiogelu cleifion a staff, ac maent yn parhau i fod yn flaenoriaeth gan fod nifer y cleifion sydd â COVID yn parhau i fod yn uchel ym mhob un o'n lleoliadau gofal iechyd mewn gofal sylfaenol ac eilaidd. Mae hyn yn effeithio ar y math o wasanaethau sydd ar gael i drin cleifion eraill yn ogystal â'u maint. Felly, rydym yn parhau i archwilio ffyrdd o sicrhau'r llif mwyaf posibl o gleifion i mewn ac allan o driniaeth. Mae hynny'n cynnwys adolygu trefniadau rhyddhau diogel o'r ysbyty a'r ffordd orau o ddefnyddio ein hystâd ysbytai a gofal sylfaenol, gan gynnwys ysbytai maes.

Rwyf am ymdrin â'r opsiwn o ysbytai gwyrdd, neu fel y dywed y cynnig—ymadrodd gwahanol—ysbytai  sy'n rhydd o COVID. Mae'n swnio'n syniad deniadol, ond nid yw'n hawdd ei wneud, ac rwy'n cytuno â Dai Lloyd nad wyf yn credu ei fod yn ateb ymarferol mewn gwirionedd. Er enghraifft, mae angen inni wybod pa effaith y byddai hyn yn ei chael ar fynediad lleol at wasanaethau brys, gan gynnwys gwasanaethau mân anafiadau, amseroedd teithio a straen ar adnoddau ambiwlans yn ystod y gaeaf. Yr ysbytai sy'n rhydd o COVID, fel y'u gelwir, a gefnogir gan y Torïaid—. Ac os ydynt o ddifrif am wneud hynny, mae angen inni fod yn glir ynglŷn â'r hyn y mae hynny'n ei olygu: felly, pa ysbyty yng ngogledd Cymru na fyddai ag adran damweiniau ac achosion brys mwyach? Ai Llwynhelyg neu Glangwili fyddai'n colli eu hadran damweiniau ac achosion brys neu fân anafiadau, neu lawdriniaeth frys, a sut y byddai mynediad mamolaeth yn cael ei drefnu? Oherwydd ym mhob un o'r pethau hyn, nid ydynt yn gydwedd ag ysbyty sy'n rhydd o COVID. Mae arnaf ofn nad yw'r slogan 'rhydd o COVID' yn ateb difrifol ac ymarferol i GIG Cymru nawr, ac mewn gwirionedd, mae Coleg Brenhinol y Llawfeddygon yng Nghymru wedi dweud yn glir fod ganddynt ddiddordeb mewn parthau COVID-ysgafn o fewn ein hystâd fel ateb ymarferol, fel y nododd Richard Johnson yn ddiweddar. A dylwn ei gwneud yn glir wrth gwrs, mewn perthynas â sylwadau Dr Lloyd am olrhain cysylltiadau, mae profi, olrhain, diogelu yng Nghymru yn gyhoeddus ac mae'n cyflawni i safon uchel.

Mae gan ein hysbytai maes rôl i'w chwarae yn cefnogi capasiti a llif, ond nid yw'n bosibl darparu llwybrau dewisol mewn ysbyty maes. Ac rwy'n credu o bosibl nad oedd sylwadau ar y mater gan Janet Finch-Saunders yn ystyried nac yn deall yn llawn y rôl y gallant ei chwarae ac y byddant yn ei chwarae ar y cam hwn o'r pandemig. Er enghraifft, mae llawer o driniaethau'n galw am ofal ôl-lawfeddygol a chyfleusterau ychwanegol wrth gefn, gan gynnwys gofal dwys. Wrth gwrs, nid oes theatrau llawdriniaethau ar gael mewn ysbytai maes.

Mae'r GIG wedi ymateb yn wych i'r argyfwng iechyd cyhoeddus mawr a digynsail hwn. Mae ein staff wedi dangos hyblygrwydd aruthrol i ddarparu gwasanaethau, i gleifion COVID a chleifion nad ydynt yn rhai COVID. A chredaf fod ein staff GIG a'u cydweithwyr ar draws y sector cyhoeddus yn haeddu codiad cyflog priodol i adlewyrchu hyn. Mae hynny'n golygu athrawon, cynorthwywyr addysgu, glanhawyr, cogyddion, swyddogion iechyd yr amgylchedd, a'u cydweithwyr ar draws llywodraeth leol, yr heddlu, a'r lluoedd arfog, sydd wedi helpu cymaint yn ein hymateb i COVID yma yng Nghymru a ledled y DU. Mae'r holl weision cyhoeddus hyn, a'u cydweithwyr, yn haeddu cymaint gwell na'r gic a gawsant heddiw gan y Canghellor. Byddwn ni yma yng Nghymru yn dal ati i weithio gyda'n GIG a'u partneriaid ac yn parhau i'w gwerthfawrogi, wrth inni barhau i wynebu heriau digynsail y pandemig hwn yn y misoedd nesaf, ac yn y blynyddoedd nesaf, a'r adferiad a fydd yn digwydd pan fydd y pandemig ar ben o'r diwedd.

18:15

Diolch. Bwriadaf alw yn awr ar yr Aelodau sydd wedi gofyn am gael ymyriad. Rhun ap Iorwerth, sylwaf eich bod yn ôl gyda ni bellach; a ydych chi eisiau gwneud gwerth munud o ymyriad?

Diolch yn fawr iawn. Mae'n rhyfeddol ei bod hi wedi cymryd cymaint â saith neu wyth mis i golli trydan yn y tŷ ar ryw bwynt yn ystod sesiwn yn y Senedd, ond dwi'n falch o allu dod yn ôl.

Yr oll oedd gen i ar ôl i'w wneud yn fy nghyfraniad i oedd cyfeirio at yr hyn roeddem ni'n trio ei wneud drwy'n gwelliant ni. Rydyn ni'n meddwl bod angen adolygu y targedau sy'n cael eu defnyddio i ystyried sut maen nhw'n annog ymddygiad yn y byrddau iechyd, ac os ydyn nhw'n mesur y pethau iawn. Roeddwn i hefyd am ddweud ein bod ni hefyd yn meddwl, am bod yr ysbytai enfys gennym ni i ddarparu capasiti, y dylem ni ddefnyddio hynny i hybu llif drwy'r system. Ac i wneud y pwynt i gloi, mae COVID yn argyfwng ynddo fo'i hun, ond mae o wedi creu argyfwng arall, wrth gwrs, allan o'r pwysau oedd eisoes yn y system. Mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni weld mwy o frys a gweithredu mwy pwrpasol i ymateb iddo fo. Ond, Dirprwy Lywydd, diolch am y cyfle i gau pen y mwdwl yn y ffordd yna.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Roeddwn am ailadrodd fy mod yn credu bod safbwynt y Ceidwadwyr ar gyfyngiadau'r cyfnod atal byr yn safbwynt cyson, a phe bai'r bleidlais honno'n dod heddiw, byddem yn sefyll wrth y bleidlais honno ac yn pleidleisio yr un ffordd. Oherwydd roedd cyngor SAGE ddiwedd mis Medi hefyd yn tynnu sylw at y ffaith nad oedd effeithiolrwydd a chanlyniadau cyfnod atal byr o'r fath, neu'r cyfyngiadau symud—beth bynnag y dymunwch ei alw—yn wybyddus, ac mewn gwirionedd mae'r niwed hwnnw'n llawer mwy. Rydym yn cefnogi cyfyngiadau i atal y feirws—nid ydym yn dweud na ddylid cael cyfyngiadau; rydym yn cefnogi hynny. Ac rydym yn cefnogi'r cyfyngiadau lleol, a fyddai wedi cael mwy o effaith na rhai o'r mesurau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyflwyno hyd yma. Felly roeddwn eisiau cofnodi hynny, oherwydd yn anffodus nid yw'r amodau gweithredu'n caniatáu'r ymyriad. [Torri ar draws.]

Na, ni allwch wneud hynny, mae arnaf ofn; ni all neb ymateb i unrhyw ymyriad, mae arnaf ofn. Rwy'n mynd i alw ar Angela Burns i ymateb i'r ddadl. Angela.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Nid oes gennyf lawer o amser, felly nid wyf yn mynd i allu crybwyll cyfraniadau unigol pawb. Hoffwn ddweud fy mod yn ddiolchgar iawn am y cywair y cynhaliwyd y rhan fwyaf o'r ddadl hon ynddo—yn anffodus nid y cyfan.

Nid yw hyn yn ymwneud ag anelu cic at y GIG a'r bobl sy'n gweithio mor eithriadol o galed ynddo, na'r meddygon a'r nyrsys. Yn wir, nid yw hyd yn oed yn gic wedi'i hanelu at y Llywodraeth fel y cyfryw, oherwydd, gadewch inni fod yn glir, roedd y pandemig hwn yn rhywbeth na welodd yr un ohonom erioed mohono'n dod, ac mae llawer o bobl mewn llawer o sefydliadau, cyhoeddus a phreifat, wedi camu i'r adwy mewn ffordd na welwyd ei thebyg o'r blaen. Ac i bob un ohonynt, mae fy niolch yn enfawr.

Ond y gwir bryder y tu ôl i hyn i gyd yw bod gennym fwy na COVID yn ein bywydau, mae gennym lawer o afiechydon eraill, llawer o glefydau eraill. Ac nid yw'n ymddangos bod gennym gynllun, a dyna'r hyn rydym yn galw amdano, ac rydym wedi galw amdano'n glir iawn yn ein gwelliant heddiw. Mae gan wahanol fyrddau iechyd ffyrdd gwahanol o ymdrin â'u rhan hwy ohono. Nid yw'n glir i gleifion. Felly, rwyf am nodi'n gyflym iawn pam y credaf fod angen cynllun arnom.

Mae arnom angen cynllun i roi gobaith i gleifion. Mae gormod o bobl yn ysgrifennu at ormod ohonom yn rhy aml i ddweud na allant gael mynediad at driniaeth, maent yn poeni'n fawr, ni allant gael y diagnosis sydd ei angen arnynt, dywedwyd wrthynt y gallai fod canser arnynt, nad yw eu calon mewn cyflwr gwych, cawsant brawf coluddyn flwyddyn yn ôl ac maent i fod i gael prawf dilynol. Mae'r bobl yn ofnus, maent angen gwybod bod gan y Llywodraeth gynllun clir.

Mae angen inni gael cynllun i gefnogi'r staff ymroddedig, a blinedig a dweud y gwir. Mae angen iddynt wybod bod yna ffordd ymlaen, nad COVID, COVID, COVID yn unig fydd hi. Mae angen inni gael cynllun i sicrhau bod yr holl fyrddau iechyd yn y lle iawn ar yr adeg iawn—nad oes gennym loteri cod post. Mae rhai byrddau iechyd wedi cyflawni'n eithriadol o dda yn ystod y pandemig hwn, ac eraill yn llai felly. Bydd cynllun clir ar sut rydym yn mynd i ddal i fyny gyda'r amseroedd aros hyn, gyda'r ôl-groniad hwn, yn helpu i godi pawb i'r un lefel a sicrhau tegwch. Mae arnom angen cynllun i fanteisio i'r eithaf ar sgiliau ac ymrwymiad y timau arbenigol, er mwyn rhoi hyder i'r gweithwyr proffesiynol.

Rhaid inni gael cynllun i ateb pryderon ac ofnau'r sefydliadau niferus. Ni allaf eu rhestru i gyd, ond mae gennym Gynghrair Canser Cymru, mae gennym Goleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, Asthma UK, Sefydliad Prydeinig yr Ysgyfaint, Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi, Sefydliad Prydeinig y Galon, Coleg Brenhinol y Llawfeddygon, y Gymdeithas Sglerosis Ymledol a Choleg Brenhinol y Seiciatryddion. Mae'r bobl hyn yn gwybod eu gwaith, ac maent yn codi pryderon am y diffyg cynllun.

Mae angen inni gael cynllun i sicrhau ein bod yn gwneud cystal â'r gwledydd cartref eraill. Ac mae angen cynllun arnom i sicrhau bod y cydweithio rhanbarthol yn gweithio'n effeithiol iawn—os na allwch gael eich triniaeth yn Hywel Dda, fod modd i chi fynd i fyny'r ffordd. Os na allwch gael eich triniaeth yn Betsi Cadwaladr, gallwch fynd i fwrdd iechyd arall. A hyd yn oed yn bwysicach, Weinidog, os na allwch gael eich triniaeth yng Nghymru, y bydd eich porthgeidwaid yn camu lawr ac yn caniatáu i chi fynd i wledydd eraill lle gallai peth o'r driniaeth arbenigol hon fod ar gael o hyd.

Mae fy amser ar ben, Weinidog, fel y mae fy amserydd—gall pawb ohonoch ei glywed mae'n debyg, ac nid wyf yn gwybod sut i'w ddiffodd—yn dweud. Hoffwn ddweud, nid yw'n fater o ddweud wrth y GIG, 'Nid ydych yn ei wneud yn dda.' Rydych chi wedi bod yn rhyfeddol. Ond mae'n ymwneud â dweud, 'Nid dim ond cadw ein llygaid ar dân mawr COVID yw ein dyletswydd ni nawr', oherwydd os nad edrychwn ar yr holl danau bach eraill sy'n parhau i losgi, hwy fydd y rhai a fydd yn llosgi ein hadeilad i'r llawr yn y pen draw, ac ni allwn fforddio hynny, ac nid yw ein dinasyddion yn haeddu hynny. Felly, gofynnaf i chi gefnogi'r cynnig heddiw.

18:20

Diolch yn fawr iawn. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Clywais hynny, diolch. Rwy'n gohirio'r pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. Ac yn unol â Rheol Sefydlog 12.18, rwy'n atal y cyfarfod am bum munud cyn symud ymlaen at y cyfnod pleidleisio, ac yn ystod y cyfnod hwnnw bydd cymorth TG wrth law i helpu gydag unrhyw broblemau.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:23.

18:25

Ailymgynullodd y Senedd am 18:29, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.

9. Cyfnod Pleidleisio

Rydym yn awr wedi cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac mae'r bleidlais gyntaf heno ar y ddadl ar gynnig deddfwriaethol gan Aelod, Bil cynllun dychwelyd ernes a lleihau gwastraff. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Janet Finch-Saunders. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 34, mae 18 yn ymatal, un yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig.

18:30

Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod - Bil Cynllun Dychwelyd Ernes a Lleihau Gwastraff: O blaid: 34, Yn erbyn: 1, Ymatal: 18

Derbyniwyd y cynnig

Symudwn yn awr at bleidlais ar ddadl y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ar y fframwaith datblygu cenedlaethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant naw, un yn ymatal, 43 yn erbyn. Gan hynny, gwrthodir gwelliant 1.

Dadl y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Gwelliant 1 (cyflwynwyd yn enw Sian Gwenllian): O blaid: 9, Yn erbyn: 43, Ymatal: 1

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant naw, 10 yn ymatal, 34 yn erbyn. Gan hynny, gwrthodir gwelliant 2.

Dadl y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Gwelliant 2 (cyflwynwyd yn enw Sian Gwenllian): O blaid: 9, Yn erbyn: 34, Ymatal: 10

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 41, tri yn ymatal, naw yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig.

Dadl y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 41, Yn erbyn: 9, Ymatal: 3

Derbyniwyd y cynnig

Trown yn awr at bleidlais ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar effaith COVID-19 ar wasanaethau iechyd, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os gwrthodir y cynnig, pleidleisiwn ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 13, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, gwrthodir y cynnig.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Effaith Covid-19 ar Wasanaethau Iechyd - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 13, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Pleidleisiwn ar y gwelliannau a galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 29, tri yn ymatal, 21 yn erbyn. Gan hynny, derbynnir gwelliant 1.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwelliant 1 (Cyflwynwyd yn enw Rebecca Evans): O blaid: 29, Yn erbyn: 21, Ymatal: 3

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 29, dau yn ymatal, 22 yn erbyn. Gan hynny, derbynnir gwelliant 2.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwelliant 2 (Cyflwynwyd yn enw Rebecca Evans): O blaid: 29, Yn erbyn: 22, Ymatal: 2

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 3 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 29, tri yn ymatal, 21 yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 3.

18:35

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwelliant 3 (Cyflwynwyd yn enw Rebecca Evans): O blaid: 29, Yn erbyn: 21, Ymatal: 3

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 4 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 28, un yn ymatal, 24 yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 4.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwelliant 4 (Cyflwynwyd yn enw Rebecca Evans): O blaid: 28, Yn erbyn: 24, Ymatal: 1

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 5, a gyflwynwyd yn yr enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 29, tri yn ymatal, 21 yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 5.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwelliant 5 (Cyflwynwyd yn enw Rebecca Evans): O blaid: 29, Yn erbyn: 21, Ymatal: 3

Derbyniwyd y gwelliant

Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 6 a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 19, pedwar yn ymatal, 30 yn erbyn. Felly, gwrthodir gwelliant 6.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwelliant 6 (Cyflwynwyd yn enw Sian Gwenllian): O blaid: 19, Yn erbyn: 30, Ymatal: 4

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynnig NDM7489 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi bod yr ystadegau ar gyfer Cymru a gyhoeddwyd ar 19 Tachwedd yn dangos cynnydd o 11 y cant yng nghyfanswm y niferoedd sy’n aros am driniaeth rhwng mis Medi 2019 a mis Medi 2020, ac mai nifer yr arosiadau dros y targed cenedlaethol o 36 wythnos sydd naw gwaith yn fwy, tuedd sydd i’w gweld ym mhob rhan o’r DU.

2. Yn nodi ymhellach y rhybudd gan arbenigwyr ac elusennau canser blaenllaw y gallai 2,000 o bobl farw oherwydd oedi sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn GIG Cymru.

3. Yn cydnabod gwaith caled, ymroddiad ac ymrwymiad staff yn y sector gofal iechyd sy'n cefnogi cleifion nid yn unig â'r coronafeirws ond ag amrywiaeth o gyflyrau.

4. Yn gresynu y bydd Cymru, y DU, a’r byd yn byw gydag effeithiau COVID-19 am flynyddoedd lawer.

Yn nodi bod cynlluniau’r GIG, tra mae COVID yn dal i fod yn ein cymuned, yn canolbwyntio ar gydbwyso darparu gwasanaethau COVID a gwasanaethau eraill yn ddiogel.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gweithio gyda chlinigwyr lleol i ddarparu modelau cyflawni sy’n gwneud y mwyaf o’r holl adnoddau i ddarparu gofal diogel o safon ar gyfer llwybrau COVID a llwybrau eraill ar gyfer cymunedau lleol;

b) cynnal adolygiad brys o sut mae cleifion ysbyty yng Nghymru yn cael eu rhyddhau yn ystod y pandemig a gweithredu'r canfyddiadau hynny i fynd i'r afael â thagfeydd mewn ysbytai, fel yr argymhellwyd gan Goleg Brenhinol y Ffisigwyr;

c) gwella ei threfn brofi'n sylweddol er mwyn cynyddu capasiti a sicrhau bod COVID-19 yn cael ei ynysu a'i gadw allan o ysbytai Cymru;

d) parhau i weithio gyda’r rhwydwaith canser a’r GIG i sicrhau y gall gwasanaethau canser ateb galwadau newydd a’r galw presennol, a chytuno sut i fuddsoddi yn y dyfodol i wireddu’r ymrwymiad y cytunwyd arno ar gyfer profion diagnostig cyflym;

e) parhau â’n hymgyrch genedlaethol i sicrhau bod pobl sy'n amau bod ganddynt ganser, neu y mae angen iddynt fynd i'r ysbyty mewn argyfwng, yn parhau i wneud hynny.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 29, dau yn ymatal, 22 yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig fel y'i diwygiwyd.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig fel y'i diwygiwyd: O blaid: 29, Yn erbyn: 22, Ymatal: 2

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

10. Dadl Fer: Gwasanaethau canser: Cynllun adfer ar ôl COVID-19

Symudwn yn awr at y ddadl fer. Galwaf ar David Rees i siarad am y pwnc y mae wedi'i ddewis. David.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Diolch i chi am hynny. Yn amlwg, daw'r ddadl hon ar adeg pan ydym newydd orffen dadl yn sôn am bwnc tebyg iawn, ond nid wyf yn ymddiheuro am hynny. Clywais y Gweinidog ac rwy'n siŵr y byddaf yn clywed rhagor o'r un atebion eto, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig inni fynd i'r afael â'r mater penodol hwn.

Mae canser wedi cyffwrdd â phob un ohonom mewn rhyw ffordd, naill ai ni ein hunain neu rywun annwyl. Nid yw'n syndod pan ystyriwch fod un o bob dau ohonom yn debygol o ddatblygu canser ar ryw adeg yn ein bywydau. Bob blwyddyn mae tua 19,300 o bobl yn cael diagnosis o ganser yng Nghymru, ac yn anffodus mae tua 8,800 o farwolaethau canser. Dyma'r lladdwr mwyaf yng Nghymru, ac mae'n parhau i gael effaith aruthrol ar lawer o bobl. Fodd bynnag—. Mae'n ddrwg gennyf. Pan siaradais â'r Gweinidog—. Ymddiheuriadau, Ddirprwy Lywydd. Mae rheswm dros optimistiaeth, fodd bynnag, oherwydd mae cyfraddau goroesi canser wedi dyblu ers y 1970au, fel bod oddeutu ein hanner heddiw yn goroesi ein canser am 10 mlynedd neu fwy, ond gwyddom y gallwn, a bod rhaid inni, wneud yn well. Mae astudiaethau rhyngwladol fel y Bartneriaeth Ryngwladol Meincnodi Canser yn parhau i weld Cymru'n tangyflawni o gymharu â gwledydd tebyg. Pe gallem ddal i fyny â'r gwledydd gorau, gellid achub llawer mwy o fywydau.

Pan siaradais ddiwethaf yn y Senedd am ganser, roedd y byd yn wahanol iawn. Roeddwn yno'n siarad yn y cnawd, yn hytrach na thrwy dechnoleg; gallwn eistedd yn agos at ffrindiau a chydweithwyr i gael pryd o fwyd. Nawr, mewn byd ôl-bandemig, rydym wedi gweld llawer o newidiadau i'n bywydau bob dydd o gymharu â'r hyn y byddem wedi bod yn ei wneud fisoedd yn unig yn ôl; bellach nid yw'n gyfrifol i wneud hynny. Fodd bynnag, nid yw canser wedi mynd i guddio yn ystod y pandemig hwn. Yn union fel y feirws, mae'n parhau i fod yn fygythiad i'n hiechyd. Yn yr un modd, nid yw'r dulliau a ddefnyddiwn i drin canser wedi newid, ac nid yw pwysigrwydd diagnosis cynnar wedi newid ychwaith. Mae effaith COVID-19 wedi bod yn wirioneddol ddifrifol ar ganser miloedd o bobl, ac efallai nad ydynt hyd yn oed yn gwybod hynny. Fis diwethaf, rhyddhaodd Cymorth Canser Macmillan adroddiad llwm iawn ar effaith COVID-19 ar ofal canser. Tynnodd sylw at y ffaith bod 31 y cant yn llai o gleifion nag arfer wedi mynd ar y llwybr canser sengl pan oedd y pandemig ar ei anterth. Dengys data gan Cancer Research UK fod tua 18,200 yn llai o atgyfeiriadau brys gan feddygon teulu yng Nghymru rhwng mis Mawrth a mis Awst 2020 ar gyfer achosion lle ceir amheuaeth o ganser, gyda'r gostyngiad mwyaf mewn atgyfeiriadau brys yn digwydd ym mis Ebrill—ar anterth y cyfyngiadau symud—pan oedd nifer yr atgyfeiriadau 63 y cant yn is nag ym mis Ebrill 2019.

Mae'r amseroedd aros diweddaraf ar gyfer canser a ryddhawyd ar 19 Tachwedd yn dangos bod tua 7,100 o bobl a oedd wedi cael diagnosis o ganser wedi dechrau triniaeth rhwng mis Ebrill a mis Medi yng Nghymru—ffigur sydd tua 1,500 yn llai o bobl nag yn yr un cyfnod y flwyddyn flaenorol. Nododd yr un data mai dim ond 74 y cant o gleifion ag atgyfeiriad brys yn sgil amheuaeth o ganser a gafodd brawf a dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod ym mis Medi, a'r targed oedd 95 y cant. Mae hyn yn cymharu â'r 80 y cant o gleifion ag atgyfeiriad brys lle ceir amheuaeth o ganser a ddechreuodd y driniaeth ar yr un adeg y llynedd. A chanser yr ysgyfaint oedd yr arafaf i wella, o ran nifer yr atgyfeiriadau brys lle roedd amheuaeth o ganser—gostyngiad o bron 72 y cant ym mis Ebrill, a oedd yn dal i fod yn ostyngiad o 26 y cant ym mis Awst. Rhwng mis Mawrth a mis Awst, golygodd oedi rhaglenni sgrinio am ganser ledled y DU na wahoddwyd 3 miliwn o bobl i un o'r tair rhaglen sgrinio am ganser—y coluddyn, y fron, serfigol. Mae modelu gan Cancer Research UK yn awgrymu y byddai 55,600 o bobl fel arfer yn cael eu gwahodd bob mis i gymryd rhan yn un o'r tair rhaglen sgrinio ar gyfer canser yng Nghymru, gan arwain at ddiagnosis o 80 o ganserau fan lleiaf, ynghyd â newidiadau ychwanegol cyn-ganseraidd a gaiff eu canfod a'u trin. Nawr, dywedodd 40 y cant o ymatebwyr o Gymru fod profion canser y byddent fel arfer yn eu disgwyl wedi cael eu gohirio, eu canslo neu eu newid. Dywedodd tua 27 y cant fod eu triniaeth ar gyfer canser wedi'i heffeithio.

Fel Aelodau eraill, rwyf wedi clywed llawer o brofiadau pobl yr effeithiwyd ar eu profion a'u triniaethau canser mewn rhyw ffordd gan COVID-19. Mae wedi achosi cryn bryder ac yn fwyaf gofidus, mae wedi achosi pryderon y gallai fod wedi effeithio'n negyddol ar y gobaith o oroesi canser. Yn ystod ton gyntaf y pandemig, cynyddodd nifer y bobl a oedd yn aros am endosgopi diagnostig o tua 11,900 erbyn diwedd mis Mawrth i tua 15,700 ddiwedd mis Gorffennaf. Fel y gwyddom i gyd, mae diagnosis cynnar yn hanfodol i wella cyfraddau goroesi canser yng Nghymru. Er enghraifft, pan wneir diagnosis o ganser y coluddyn cam 1, mae dros naw o bob 10 claf yn goroesi, ond mae'n gostwng i lai nag un o bob 10 os gwneir diagnosis ohono yng ngham 4. Amcangyfrifir y bydd hyn yn arwain at ôl-groniad o tua 2,900 o bobl heb gael diagnosis dros y cyfnod hwn o chwe mis. Mae'n hanfodol ein bod yn cynyddu capasiti diagnostig canser i o leiaf y lefel cyn y pandemig, rhag i ormod o gleifion fynd ar y llwybr ond gorfod aros am ddiagnosteg, a fydd—[Anghlywadwy.]

18:40

[Anghlywadwy.]—yn dal i fod â'r symptomau hynny, a allai fod yn ganser. Pan fyddant yn mynd i weld rhywun, y pryder yw os yw'n ganser, y byddai eu diagnosis yn canfod canser ar gam diweddarach, pan fydd llai o allu i'w drin. Bydd lleihau'r ôl-groniad hwn cyn gynted ac mor ddiogel â phosibl yn ychwanegu mwy o straen ar y gwasanaethau diagnostig. Mae angen capasiti ychwanegol a llenwi bylchau yn y gweithlu ar frys.

Ddirprwy Lywydd, yr wythnos diwethaf cyhoeddodd y grŵp trawsbleidiol ar ganser yma yn y Senedd adroddiad ar amseroedd aros canser a gychwynnwyd ganddo cyn y pandemig. Yn dilyn uchafbwynt cyntaf y pandemig, ehangwyd cylch gorchwyl cychwynnol yr ymchwiliad i gynnwys dealltwriaeth o effaith y pandemig ar ddiagnosis a thriniaeth canser. I ddechrau, ceisiodd yr adroddiad asesu'r llwybr canser sengl, ac mae'n dal yn bwysig cadw golwg ar y llwybr canser sengl fel mesur sy'n gynhenid gadarnhaol. Byddai ailddechrau adrodd ar y llwybr canser sengl yn gyfle i ailgychwyn ac aildrefnu, yn enwedig ar gyfer y sgyrsiau ynglŷn â lle gellir a lle dylid gwneud gwelliannau ar gyfer llwybrau diagnostig.

Rwy'n croesawu'n fawr y cyhoeddiad yr wythnos diwethaf gan y Gweinidog ar ailgyflwyno'r llwybr canser sengl, ynghyd â ffigur targed y mae'n rhaid i fyrddau iechyd ei gyflawni. Mae hwn yn amlwg yn gam cadarnhaol i'r cyfeiriad cywir. Fodd bynnag, rwy'n galw ar Lywodraeth Cymru i dderbyn holl argymhellion yr adroddiad, ac yn arbennig i flaenoriaethu gofal a thriniaeth canser drwy ddarparu adnoddau ychwanegol i ymdopi â'r ôl-groniad. Mae'r adroddiad yn galw am gyhoeddi cynllun adfer canser COVID-19, yn nodi sut y bydd Llywodraeth Cymru yn cefnogi darparu gwasanaethau canser yn well, ac yn benodol, sut y byddai gwasanaethau diagnostig yn cael eu cefnogi i leihau'r ôl-groniad canser sy'n bodoli. Gallai hyn ei gwneud yn ofynnol i safleoedd gwyrdd sy'n ddiogel rhag COVID hybu capasiti a chynnal gwasanaethau, er fy mod yn cydnabod y sylwadau a wnaeth y Gweinidog yn y ddadl flaenorol nad oes sicrwydd o safleoedd rhydd o COVID oherwydd natur y feirws hwn.

Mae angen profion COVID digonol ar gyfer staff a chleifion er mwyn cynnal safleoedd o'r fath a'u cadw mor rhydd o COVID â phosibl, a rhoi hyder i gleifion. Ochr yn ochr â hyn, mae angen ymgyrch gyfathrebu eang ar y cyfryngau torfol i annog pobl sydd â symptomau sy'n peri gofid i geisio cymorth gan feddyg teulu. Ac unwaith eto, gwn fod y Gweinidog wedi dweud y byddant yn gwneud hynny ac maent wedi cytuno ar hynny. Mae ei angen i annog pobl sydd â'r symptomau i barhau i geisio cymorth gan eu meddygon teulu, yn ogystal â rhoi sicrwydd y gellir gweld a thrin pobl yn ddiogel. Mae cynllun adfer ar ôl COVID ar gyfer gwasanaethau canser yn hanfodol er mwyn mynd i'r afael â'r sefyllfa yn y tymor byr, ond mae hefyd yn hanfodol fod hyn yn gweithredu fel rhagflaenydd i'r newid tymor hwy sydd ei angen ar gyfer diagnosteg canser.

Bwriadwyd i'r cynllun cyflawni ar gyfer canser ar gyfer 2016 ddod i ben eleni, ac er bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi ei bwriad i ddatblygu olynydd i'r cynllun hwn, ni chafwyd rhagor o fanylion eto. Nawr, rwy'n sylweddoli bod y pandemig wedi cael blaenoriaeth gan swyddogion a bod yn rhaid i gynllun cyflawni newydd ystyried yn awr sut y byddai'n adeiladu ar y cynllun cyflawni presennol a'r cynllun adfer. Fodd bynnag, mae arnom angen strategaeth ganser newydd gynhwysfawr ar frys, gyda'r llwybr canser sengl yn elfen ganolog, strategaeth a fydd yn hanfodol i yrru'r agenda drawsnewid yn ei blaen ar adeg pan fo'r Gweinidog wedi cydnabod ein bod yn annhebygol o weld amseroedd aros ar gyfer llawer o wasanaethau'n dychwelyd i lefelau cyn COVID am flynyddoedd lawer. 

Nid wyf yn cuddio rhag y ffaith bod yr her sy'n wynebu gwasanaethau canser yn aruthrol. Roedd hi'n amlwg fod angen gwella diagnosis, triniaeth ac achosion canser cyn i'r pandemig daro. Ni fydd neb yn anghytuno bod COVID-19 wedi ein gwthio'n ôl ymhellach. Felly, mae angen i strategaeth ganser newydd fod yn feiddgar ac yn uchelgeisiol wrth fynd i'r afael â'r heriau hyn. Weinidog, fel fy nghyd-Aelodau i gyd, rwyf am sicrhau bod y GIG a byrddau iechyd lleol yn cael eu cefnogi gan Lywodraeth Cymru i ymateb i'r heriau hyn. Mae'r coronafeirws wedi gafael yn y wlad ac wedi rhoi pwysau ar ein gweithwyr iechyd rheng flaen, ond yn anffodus, mae clefydau fel canser yn parhau i ymddangos drwy amrywiaeth eang o symptomau.

Rhaid i bawb ohonom gofio bod angen cymorth emosiynol ar gleifion sy'n dioddef o ganser neu sy'n wynebu'r posibilrwydd o ddiagnosis o ganser hefyd, yn ogystal â thriniaeth ar gyfer y clefyd. Mae angen inni gynorthwyo ein byrddau iechyd lleol i gymryd camau i sicrhau bod yr egwyddorion personol hyn yn parhau i fod wrth wraidd gofal canser. Mae angen clustnodi arian ar gyfer yr holl ofal canser, yr agendâu iechyd corfforol a meddyliol, a sicrhau nad yw'n cael ei gyffwrdd wrth ystyried llif gwaith a threfniadau staffio.

Mae canfod canser yn gynnar yn golygu trin canser yn gynnar. I bawb ledled Cymru, peidiwch ag anwybyddu eich symptomau; peidiwch ag ofni mynd i weld eich meddyg teulu; peidiwch ag oedi cyn ceisio cymorth. Hoffwn eich atgoffa bod llawer o adnoddau, ar-lein drwy wefan y GIG ac eraill, i'ch helpu yn eich penderfyniad i fynd at y meddyg. Ni fyddwch yn gwastraffu amser y GIG drwy gael diagnosis o'ch symptomau. Mae'r GIG yno i'ch cefnogi drwy ddiagnosis, hyd at driniaeth. Os nad yw eich symptomau newydd yn diflannu, mae angen i chi weld eich meddyg, a nodi unrhyw newidiadau sydd wedi digwydd neu gwestiynau a allai fod gennych ar bapur fel eich bod yn deall y sefyllfa'n glir.

Rwyf am gloi fy nghyfraniad heddiw drwy fynegi fy niolch parhaus i'r staff ar draws y GIG yng Nghymru y mae eu hymdrechion aruthrol wedi anelu i gynnal gwasanaethau canser gymaint â phosibl yn yr amgylchiadau anoddaf y maent wedi'u hwynebu erioed mae'n debyg. Mae'r wyth mis diwethaf wedi bod yn annhebyg i unrhyw gyfnod arall iddynt hwy, a heb eu gwaith caled, eu hymroddiad i'w cleifion a'u hymrwymiad parhaus i sicrhau canlyniadau cadarnhaol ar gyfer y cleifion hynny, byddai'r effaith andwyol ar gleifion canser wedi bod hyd yn oed yn waeth. Felly, gyda'n gilydd, gadewch inni sicrhau bod ein GIG yn cael ei gefnogi; gadewch inni sicrhau bod ein gwasanaethau cymorth canser yn cael eu cefnogi; a gadewch inni sicrhau ein bod yn cynorthwyo ein gilydd i gael y diagnosis cynnar hwnnw. Diolch.

18:45

Diolch. A gaf fi alw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl? Vaughan Gething.

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i David Rees am gyflwyno'r ddadl fer hon.

Rwy'n croesawu gwaith y grŵp trawsbleidiol a'i adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Mae'r adroddiad yn nodi'r heriau sy'n wynebu gofal a chanlyniadau canser yng nghyd-destun y pandemig. Rwy'n falch o weld bod llawer yn gyffredin rhwng argymhellion yr adroddiad a'n bwriadau ein hunain ar gyfer gwasanaethau canser. Er enghraifft, yr wythnos diwethaf, gwnaethom ailddechrau adrodd ar y llwybr canser sengl, fel roedd yr adroddiad yn galw amdano ac fel y crybwyllwyd gan David Rees yn ei gyflwyniad i'r ddadl.

Mae'r ymrwymiadau a osodwyd gennym yn 2013 a 2017 yn ein cynlluniau cyflawni ar gyfer canser i wella gwasanaethau a chanlyniadau canser yn dal i sefyll heddiw. Nid ydym yn camu'n ôl o'r ymrwymiad hwnnw. Bydd ein dull newydd wedi'i gyhoeddi erbyn mis Mawrth, o ystyried effaith y pandemig. Mae cryn dipyn o gynnydd wedi'i wneud yn ystod y blynyddoedd diwethaf, a hoffwn dynnu sylw at y gwelliant cyson yn y canlyniadau. Unwaith eto, cydnabu David Rees y bu gwelliant yn y canlyniadau yma yng Nghymru. Ceir lefelau uchel iawn o brofiad cadarnhaol i gleifion. Rydym wedi cyflwyno llwybr canser sengl cyntaf y DU ac wedi gweld canolfannau diagnosteg cyflym yn datblygu. Ond mae llawer mwy i'w wneud o hyd. Mae maint her a chymhlethdod y newidiadau sydd eu hangen arnom yn sylweddol.

Mewn blynyddoedd arferol, rydym yn gwneud diagnosis ar oddeutu 19,000 o achosion newydd yng Nghymru, caiff dros 450,000 o bobl eu sgrinio, ac rydym yn archwilio dros 120,000 o atgyfeiriadau lle ceir amheuaeth o ganser. Rydym yn dibynnu ar ein darparwyr gofal sylfaenol i nodi symptomau; ein gwasanaethau radioleg, endosgopi a phatholeg i wneud diagnosis; ein timau llawfeddygol, radiotherapi a chemotherapi i drin y clefyd; a'n timau nyrsio arbenigol gofal lliniarol a phartneriaid yn y trydydd sector i gefnogi a gofalu am bobl yn ystod y cyfnod anoddaf yn eu bywydau.

Mae darparu gwasanaethau canser yn cynnwys nifer o arbenigeddau ac ymyriadau, gyda llwybrau cleifion ar draws ffiniau sefydliadol. Mae hyn yn galw am berthynas waith agos, llwybrau gofal integredig a sylw arbennig i gynnal gofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae'n bwysig fod gennym ddealltwriaeth gyffredin o sut i wella gwasanaethau a chanlyniadau canser. Gwyddom fod angen inni leihau cyfraddau ysmygu a gordewdra er mwyn canfod canser yn gynharach ac ar gam lle gellir ei drin yn haws, er mwyn darparu'r ymyriadau a'r therapïau diweddaraf sy'n seiliedig ar dystiolaeth yn gyson, a chefnogi pobl yn iawn ar hyd y llwybr triniaeth. Mae'r rhain yn agweddau sylfaenol ar ein dull o weithredu. Cânt eu cefnogi neu eu galluogi gan fodelau gwasanaeth sy'n newid, datblygu gweithlu cynaliadwy ac wrth gwrs, y defnydd gorau o systemau digidol a data.

Gwnaed gwaith pwysig a manwl ar yr agenda hon gan randdeiliaid ers blynyddoedd lawer yng Nghymru, ac mae llawer o gonsensws ynglŷn â'r ffordd orau ymlaen. Yr her yn awr yw manteisio ar hynny yn y blynyddoedd i ddod a gwneud y gwelliant sylweddol rydym i gyd am ei weld yn y canlyniadau. Er hynny—ac unwaith eto, mae David Rees yn cydnabod hyn a bod yn deg—nid oes dianc rhag effaith y pandemig. Mae'r prif swyddog meddygol wedi bod yn glir fod y pandemig yn achosi niwed mewn sawl ffordd. Mae mynediad at ofal iechyd arferol, gan gynnwys gofal canser yn yr achos hwn, yn un o'r ffyrdd lle mae niwed anuniongyrchol yn cael ei achosi. O'r cychwyn cyntaf, ein dull o weithredu fu ceisio diogelu cymaint o ofal canser â phosibl. Gweithiodd GIG Cymru yn eithriadol o galed i wneud hynny a darparu'r gofal brys sydd ei angen ar gynifer o bobl â phosibl. Fodd bynnag, rydym wedi gweld capasiti a chynhyrchiant mewn diagnosteg a thriniaeth canser yn lleihau'n sylweddol. Mae hyn wedi golygu bod nifer y bobl sy'n aros am driniaeth yn cynyddu ac mae'n debygol y bydd yna effaith ar ganlyniadau yn y blynyddoedd i ddod.

Ymhlith yr argymhellion yn yr adroddiad mae datblygu cynllun adfer canser ar gyfer gweddill y pandemig. Rwy'n deall yr awydd am eglurder ar lefel genedlaethol, gan nodi faint o lawdriniaethau y mae angen eu gwneud, faint fydd yn cael eu gwneud, a pha mor hir y bydd yn ei gymryd i drin y rhai sy'n aros. Serch hynny, cyn gynted ag y byddwn yn rhoi'r ffigurau hynny ar bapur, y realiti yw bod y pandemig yn newid yr hyn sy'n bosibl. Mae'r gwahaniaeth rhwng pandemig wedi'i reoli'n dda a phandemig a reolir yn wael o ran faint o bobl y mae'n bosibl eu trin yn un arwyddocaol. Mae'n amlygu lle mae rheolaeth effeithiol ar y pandemig yr un mor bwysig i ganser a chyflyrau difrifol eraill sy'n bygwth bywyd.

Rwy'n gwybod bod rhai wedi galw am glustnodi capasiti ar gyfer gofal canser, ac rwy'n deall hynny, ond fel y gwyddom i gyd, ac rwyf fi'n sicr yn deall mai Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wyf fi ac nid y Gweinidog gofal canser yn unig. Nid wyf am oruchwylio na byw mewn system iechyd lle mae'r Llywodraeth yn dweud, 'Os mai canser yw eich salwch sy'n bygwth bywyd, yna fe gewch eich trin, ond os mai'r salwch sy'n bygwth eich bywyd yw clefyd y galon neu rywbeth arall, mae llai o werth i'ch bywyd.' Dyna'r union gyfyng-gyngor moesegol a olygai ein bod wedi gwrthod yr ymdrechion blaenorol i gael gwarant canser benodol a fyddai wedi rhoi blaenoriaeth i ganser ar draul cyflyrau eraill. Ni chredaf mai dyna fyddai clinigwyr canser eu hunain am ei weld ychwaith. Felly, rwyf am fod yn glir, mae gan fyrddau iechyd gynlluniau manwl ar gyfer y gaeaf ynglŷn â sut y byddant yn cydbwyso'r anghenion sy'n cystadlu y bydd rhaid iddynt eu rheoli. Byddant yn blaenoriaethu cleifion yn ôl eu hanghenion clinigol, boed yn COVID neu'n rhywbeth heblaw COVID, canser neu rywbeth heblaw canser. Rhaid inni, ac fe fyddwn, yn parhau i edrych yn deg ac yn gyfartal i weld sut y defnyddiwn y capasiti sydd ar gael gennym i ofalu am bobl ledled Cymru.

Ymrwymodd y Llywodraeth hon, ym mis Mawrth eleni, i gael cynllun cyflawni newydd ar gyfer canser, yn ogystal â chynlluniau ar gyfer y galon a strôc, gyda darpariaeth olynol erbyn mis Rhagfyr. Nawr, yn amlwg, mae'r pandemig wedi gwneud hynny'n amhosibl. Er na fu'n bosibl datblygu dull mor fanwl ag a nodir yn ein cynllun canser presennol, rydym wedi parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i nodi ein dyheadau ar gyfer cam nesaf y gwaith o ddatblygu a gwella gwasanaethau.

Rwy'n awyddus inni ddysgu gwersi dull y cynllun cyflawni o fynd ati a chyflymder gweithredu yn enwedig. Rhaid inni barhau i esblygu ac adeiladu ar ein dull blaenorol, yn hytrach na chadw at yr un model yn union o reidrwydd. Mae'r ymrwymiad a wnaed yn 'Cymru Iachach' i fframwaith clinigol cenedlaethol ac i ddatganiadau ansawdd yn rhoi cyfleoedd newydd inni a all wthio agenda canser ymhellach ac yn gyflymach, a byddai ymgorffori dull yn yr ymrwymiadau hyn yn caniatáu i wasanaethau canser elwa o ddatblygiadau ehangach a gwella perfformiad cymharol llwybrau clefyd mewn cynlluniau ar gyfer y GIG.

Nid yw hyn yn gam yn ôl o ran dull gweithredu, ond yn hytrach, yn fy marn i, mae'n naid ymlaen yn ein huchelgais. Byddai'n cynnwys datblygiadau newydd cyffrous o amgylch y gweithlu canser a chynllunio gwasanaethau canser, i'w hategu gan ddatblygiad y system gwybodaeth canser newydd a pharhau i wreiddio'r llwybr canser sengl.

Rydym am gryfhau ein gwaith gyda gofal sylfaenol, ac yn fwy cyffredinol, ar ganfod canser yn gynharach. Mae gwaith hanfodol i'w wneud drwy ein rhaglenni endosgopi a delweddu. Rwyf am gyflwyno ein dull o gyflawni ymchwil canser, a gwireddu ein huchelgais ar gymorth cyfannol, ac mae'r rhain i gyd, wrth gwrs, yn gyson â'r argymhellion yn yr adroddiad trawsbleidiol.

Ond fe gymerodd naw mis i adnewyddu'r cynllun cyflawni canser blaenorol y tro diwethaf, ac ni allwn fforddio aros am gyfnod tebyg yn awr cyn i ni roi cyfeiriad a pharhau i wella ar yr un cyflymder. Mae'n hanfodol ein bod yn nodi'r uchelgeisiau hyn ac yn symud yn gyflym i benderfynu sut y cânt eu cyflawni. Roedd maint yr her a'n hwynebai cyn y pandemig yn ddigon sylweddol, a rhaid inni ganolbwyntio ein sylw yn awr ar yr achos dros gyflymu a ffocws ar weithredu.

Felly, unwaith eto, hoffwn ddiolch i'r rhai a weithiodd mor galed ar yr adroddiad, ac fel arfer, diolch i'r holl bobl sy'n gweithio ar draws ein system iechyd a gofal, yn ein GIG, ym maes gofal cymdeithasol a'n partneriaid yn y trydydd sector hefyd, am y cyfan y maent yn parhau i'w wneud i ddiwallu anghenion pobl y mae canser yn effeithio arnynt. Byddaf yn rhoi ystyriaeth ofalus i'r argymhellion yn yr adroddiad, ac rwy'n hapus i ysgrifennu at y grŵp trawsbleidiol i roi ymateb llawn i'w argymhellion. Diolch yn fawr am y cyfle i ymateb heno, a diolch am eich amser heno, Ddirprwy Lywydd.

18:55

Daeth y cyfarfod i ben am 18:57.