Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
24/11/2020Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:29 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Cynhelir y cyfarfod yma ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rhain wedi'u nodi ar eich agenda. Dwi eisiau atgoffa Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma, ac yr un mor berthnasol i'r Aelodau sydd yn y Siambr ag i'r rhai sy'n ymuno drwy gyswllt fideo.
Felly, yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan John Griffiths.
1. Beth yw dadansoddiad diweddaraf Llywodraeth Cymru o nifer yr achosion o COVID-19 yn Nwyrain Casnewydd? OQ55943
Lywydd, diolchaf i John Griffiths am y cwestiwn yna. Mae etholaeth Dwyrain Casnewydd, fel llawer o ardaloedd yng Nghymru, wedi gweld nifer fawr o achosion o haint coronafeirws. Cyflwynwyd cyfnod atal byr cenedlaethol i leihau cyfraddau digwyddedd ledled Cymru. Mae rhai o'r enillion a gyflawnwyd eisoes yn cael eu gwrthdroi yn y cyfnod ar ôl y cyfnod atal byr.
Prif Weinidog, rwy'n credu bod pryder ynglŷn â'r ystadegau diweddaraf, ac, yn amlwg, bydd angen i ni edrych ar hynny—bydd angen i Lywodraeth Cymru edrych yn fanwl ar hynny. Un agwedd sy'n peri pryder mawr i'm hetholwyr i yw'r amser ysgol sy'n cael ei golli. Mewn ysgolion uwchradd. er enghraifft, mae grwpiau blwyddyn cyfan yn parhau i hunanynysu pan fydd gan un o'r grŵp COVID-19, ac nid yw dysgu gartref yn gwneud iawn am yr amser coll hwnnw, a'r bobl fwyaf agored i niwed sy'n dioddef fwyaf. Mae'n ymddangos bod arferion yn wahanol o un ysgol ac un awdurdod lleol i'r llall. Felly, Prif Weinidog, a wnaiff Llywodraeth Cymru weithio gydag awdurdodau lleol, ysgolion ac undebau i geisio lleihau'r amser ysgol hwn a gollir, er enghraifft drwy edrych ar ddiogelwch mewn ysgolion, cyfyngu ar gyswllt rhwng disgyblion fel bod yn rhaid i lai ohonyn nhw ynysu pan fydd gan rywun y feirws, a threfn brofi well mewn ysgolion, i gyfyngu ar y niwed i addysg ein plant a dyfodol y genedl?
Wel, Llywydd, gadewch i mi ddiolch i John Griffiths am hynna. Ac, wrth gwrs, rwy'n cytuno ag ef—mae'r ffaith ein bod ni'n gweld rhai o'r enillion a gyflawnwyd gennym ni drwy'r cyfnod atal byr yn cael eu gwrthdroi yn peri pryder, ac mae'n peri pryder arbennig gan ein bod ni'n gwybod po'r uchaf yw nifer yr achosion o coronafeirws yn y gymuned, y mwyaf yw'r effaith y mae hynny yn ei chael ar ysgolion, oherwydd y mwyaf o coronafeirws sydd o gwmpas, y mwyaf tebygol yw hi y bydd oedolion yn cael eu heintio, a phlant hefyd. Nawr, mae'n iawn bod gan awdurdodau lleol ac, yn wir, penaethiaid a chyrff llywodraethu rywfaint o hyblygrwydd i allu ymateb i amgylchiadau lleol, ond serch hynny mae hefyd yn bryder ei bod yn ymddangos bod gwahaniaeth rhwng y ffordd y mae rhai ysgolion yn trefnu eu hunain i atal yr angen i grwpiau blwyddyn gyfan fod wedi eu hynysu a bod gwahanol lefelau o risg yn dderbyniol mewn gwahanol ysgolion yng Nghymru. Nawr, mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi gwneud llawer iawn i sicrhau bod staff rheng flaen a phobl sy'n gyfrifol am ysgolion yn gallu cael cyngor drwy eu timau rheoli digwyddedd lleol, drwy Iechyd Cyhoeddus Cymru, i geisio cael dealltwriaeth fwy cyffredin o'r ffordd y gellir lliniaru'r risgiau hyn.
Mae'n bosibl, Llywydd, y gellir defnyddio'r profion llif ochrol newydd, gyda'u canlyniadau mwy uniongyrchol, mewn ysgolion yn y dyfodol mewn ymdrech arall i atal plant rhag gorfod hunanynysu pan ellid gwneud pethau i atal hynny rhag digwydd, am yr holl resymau a nodwyd gan John Griffiths, sydd yr un gyfres o resymau, Llywydd, pam mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi blaenoriaeth i wneud yn siŵr bod addysg ein plant yn cael ei diogelu hyd yn oed yn ystod y cyfnod anodd dros ben hwn.
Prif Weinidog, yn dilyn cwestiwn John Griffiths, hoffwn ddweud bod nifer o rieni pryderus yn ardal etholaeth Casnewydd wedi cysylltu â mi hefyd, oherwydd, ar hyn o bryd, fel y mae pethau'n sefyll, mae 1,000 o ddisgyblion yn ynysu o Ysgol Gyfun Caerllion, fy hen ysgol i. Mae Blynyddoedd 7, 8, 9, 12 a 13 i gyd i ffwrdd ar hyn o bryd, sydd y tu hwnt i ddealltwriaeth mewn gwirionedd. Yn amlwg, mae'n rhaid i grwpiau blwyddyn aros i ffwrdd os oes digon o achosion a bod rheswm dros aros i ffwrdd, ond ceir ysgolion mewn siroedd eraill sydd ag un achos yn unig, fel sy'n wir yn y grwpiau blwyddyn hyn sydd i ffwrdd, lle maen nhw'n dilyn y drefn olrhain, fel yng Nghyngor Sir Fynwy, ac yn cadw 15 disgybl yn unig i ffwrdd yn hytrach na grwpiau blwyddyn cyfan. Yn amlwg, mae rhieni yn pryderu'n fawr am hyn, oherwydd mae'n amlwg ei fod yn effeithio ar eu swyddi, mae'n effeithio ar lesiant y plant, eu hiechyd meddwl, a'u haddysg, yn amlwg. Felly, byddwn yn gwerthfawrogi'n fawr pe gallech chi wneud popeth o fewn eich gallu ac efallai gwneud canllawiau'r Llywodraeth yn fwy pendant i ysgolion oherwydd ar hyn o bryd, fel y dywedasoch, mae loteri cod post enfawr mewn addysg yn digwydd yng Nghymru nawr. A hefyd, tra byddwch chi'n gwneud hynny, pe gallech chi hefyd—. Rydych chi wedi dweud wrth ysgolion yn ddiweddar, ynglŷn â gwisgo masgiau, 'Y cewch chi eu gwisgo nhw os ydych chi'n dymuno.' Efallai y dylai canllawiau'r Llywodraeth fod yn gryfach fel bod cysondeb, ym mhopeth, yn gyffredinol yng Nghymru yn ein hysgolion; mae'n ddryslyd iawn iddyn nhw. Diolch.
Wel, Llywydd, rwy'n credu bod y canllawiau ar wisgo masgiau mewn ysgolion newydd gael eu cryfhau yn ystod yr wythnos ddiwethaf, a rhoddodd y Gweinidog Addysg fwy o gyfarwyddyd i ysgolion, yn enwedig ysgolion uwchradd, ynghylch sut y gellir gwisgo masgiau mewn coridorau ac mewn mannau prysur eraill. Ond rwy'n rhannu llawer o bryderon cwestiwn yr Aelod—bod gwahanol benderfyniadau yn cael eu gwneud mewn gwahanol rannau o Gymru, er gwaethaf y cymorth cryfach y mae Llywodraeth Cymru wedi ei ddarparu fel y gall penaethiaid ac eraill gael cyngor yn uniongyrchol gan arbenigedd iechyd y cyhoedd wrth wneud y penderfyniadau anodd a heriol iawn y maen nhw'n eu gwneud; nid wyf i'n bychanu'r her y mae ysgolion yn ei hwynebu.
Mae cydberthynas rhwng i ba raddau y mae coronafeirws mewn cylchrediad mewn unrhyw gymuned a'r effaith ar ysgolion, ac mae hynny yn helpu i esbonio rhywfaint o'r gwahaniaeth, ond nid yw'n esbonio'r cyfan, yn fy marn i. Rwy'n awyddus iawn bod ysgolion yn gwneud pob ymdrech yn y ffordd y maen nhw'n trefnu eu hunain yn fewnol ac yn y penderfyniadau y maen nhw'n eu gwneud i roi blaenoriaeth i gadw cynifer o bobl ifanc mewn ysgolion ag y mae'n ddiogel i'w wneud. Oherwydd fel arall, fel y dywedodd John Griffiths yn ei gwestiwn, mae eu haddysg yn dioddef, ac mae'r rhai sydd angen y cymorth hwnnw fwyaf, yn ei golli fwyaf pan nad yw ar gael iddyn nhw.
2. A wnaiff y Prif Weinidog lunio cynllun ar gyfer dod â chwaraeon tîm amatur yn ôl yng Nghymru? OQ55907
Llywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer gweithgareddau chwaraeon i ddod yn ôl gam wrth gam. Mae cyrff llywodraethu cenedlaethol yng Nghymru, fel Cymdeithas Bêl-droed Cymru ac Undeb Rygbi Cymru, yn darparu canllawiau a chynlluniau gweithredu penodol ar gyfer eu campau ac yn goruchwylio'r gweithgareddau a drefnir hynny.
Rwy'n siarad fel rhywun sy'n treulio llawer o'i ddydd Sadwrn, fel rheol, yn gwylio pêl-droed a rygbi—timau lleol yn bennaf. A gaf i sôn am ddwy gamp tîm mwyaf poblogaidd y gaeaf—pêl-droed a rygbi? Pryd mae Llywodraeth Cymru yn credu y gallan nhw ddisgwyl yn realistig allu cychwyn gemau cystadleuol? Ac rwy'n sylweddoli y bydd pêl-droed yn gallu dechrau cyn rygbi, oherwydd ceir llawer mwy o gyswllt corfforol wrth chwarae rygbi.
Llywydd, gwn ein bod ni i gyd yn edrych ymlaen—a gwn fod Mike Hedges yn edrych ymlaen, yn yr holl bethau y mae'n eu gwneud yn lleol i gefnogi timau yn ardal Abertawe—i'r diwrnod y bydd y timau hynny yn gallu ailddechrau. Rydym ni wedi sefydlu grŵp chwaraeon cenedlaethol, drwy Chwaraeon Cymru, gan ddod â Llywodraeth Cymru, y cyrff llywodraethu ac eraill at ei gilydd, i ystyried ceisiadau gan y cyrff llywodraethu cenedlaethol i ganiatáu i gynghreiriau cystadleuol ailddechrau. Bydd y grŵp yn cyfarfod eto yfory i ystyried y gyfres gyntaf o geisiadau. Mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi gofyn y dylai haen 2 cynghreiriau Cymru—sef y gogledd a'r de—ddychwelyd i gystadleuaeth gyntaf. Felly, mae gennym ni ddull yng Nghymru bellach i ddatgloi chwaraeon, pan ei bod yn ddiogel i wneud hynny. A'r cymal olaf hwnnw yw'r un pwysicaf oll, Llywydd—mai'r sefyllfa o ran coronafeirws, y sefyllfa o ran argyfwng iechyd cyhoeddus, yw'r lens y mae'n rhaid i ni ystyried yr holl geisiadau a gyflwynir ar gyfer ailagor chwaraeon amatur drwyddi. Ond mae gennym ni ddull bellach i sicrhau bod y ceisiadau hynny yn cael eu hystyried yn briodol ac yn gytbwys.
Prif Weinidog, roeddwn i'n falch o'ch clywed chi'n dweud eich bod chi'n edrych ar ffyrdd o—rwy'n credu mai dyma'r ymadrodd a ddefnyddiwyd gennych chi—'ddatgloi chwaraeon' yn ystod y cyfnod hwn o'r pandemig. Fel y gwyddom, yn ystod cyfyngiadau symud a chyfnodau atal byr, mae gweithgarwch corfforol a chwaraeon i gyd yn bwysig. Felly, mewn ymateb i gwestiwn cychwynnol Mike Hedges, ac os gallwn i fynd ar drywydd hyn mewn dwy ffordd, yn gyntaf oll, beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod pobl iau, yn arbennig, yn gallu cymryd rhan mewn chwaraeon ar hyn o bryd? Maen nhw wedi cael eu taro yn arbennig o galed, ac rydym ni'n gwybod bod materion iechyd meddwl yn effeithio ar bobl iau yn yr un modd â phobl hŷn hefyd. Ac yn ail, cefais gyfarfod diweddar yng nghwrs rasio Cas-gwent, yn fy etholaeth i, ac roedden nhw'n bryderus iawn ynghylch pryd y bydd cyrsiau rasio yn cael caniatâd i weithredu, o leiaf mewn rhyw ffordd gyfyngedig, yn y dyfodol. Felly, tybed a allech chi ateb y ddwy elfen hynny. Diolch.
Wel, diolch, Llywydd, a diolchaf i Nick Ramsay am hynna. Mae gan chwaraeon i blant dan 18 oed gyfres fwy haelfrydig o reolau ac mae'n fwy posibl i hynny ddigwydd, ac rydym ni wedi gwneud ein gorau i geisio sicrhau cymaint o gyfleoedd â phosibl i barhau â chwaraeon ieuenctid, hyd yn oed yn y cyfnodau anoddaf o coronafeirws.
O ran ailagor cyrsiau rasio, cafwyd nifer fach o ailagoriadau arbrofol o gyrsiau rasio yn Lloegr yn gynharach yn y flwyddyn, fel y gwn y bydd Nick Ramsay yn ei wybod, a byddwn yn gweithio gyda'r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon, ar lefel Llywodraeth y DU, mewn unrhyw raglen o gynlluniau arbrofol a allai ailddechrau yn Lloegr bellach. Fe wnaethom edrych yn ofalus i weld a oedd unrhyw rinwedd o gael cynllun arbrofol yng Nghymru ym maes rasio ceffylau, ond y casgliad oedd na fyddem ni, yn ôl pob tebyg, yn dysgu unrhyw beth gwahanol iawn na allem ni ei ddysgu o'r cynlluniau arbrofol a oedd yn cael eu cynnal mewn mannau eraill. Felly, byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'r Adran dros Dechnoleg Ddigidol, Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Ceir rhai cynlluniau arbrofol newydd sydd yn yr arfaeth ac, os byddan nhw'n dod o hyd i lwybr i ailagor mwy o rannau o fywyd chwaraeon yn ddiogel i dorfeydd sy'n dod ac yn mwynhau rasio ceffylau a chwaraeon eraill, yna byddwn ni eisiau bod yn rhan o hynny, pan fo'n ddiogel i ni wneud hynny.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, yn y flwyddyn anoddaf mewn cof byw i gynifer ohonom ni, rwy'n siŵr ein bod ni i gyd yn edrych ymlaen at flwyddyn newydd hapusach a, chyn hynny, at dreulio amser gyda ffrindiau a theulu dros y Nadolig. Mae dull tosturiol ond cyfrifol o lacio cyfyngiadau ar sail gyfyngedig dros gyfnod y gwyliau yn ymddangos yn synhwyrol. Fodd bynnag, mae'n hanfodol hefyd nad ydym ni'n colli'r enillion y gweithiwyd mor galed i'w sicrhau dros y misoedd diwethaf dim ond er mwyn cael pedwar neu bum diwrnod, ac felly mae'n rhaid i bobl wybod bod risg yn gysylltiedig ag unrhyw lacio hefyd, yn enwedig yng nghyd-destun y gwrthdroi, o bosibl, yr oeddech chi'n cyfeirio ato yn gynharach. A allwch chi ddweud pa fodelu gwyddonol sy'n cael ei ddefnyddio i lywio'r trafodaethau ar ddull pedair gwlad o ymdrin â chyfnod y Nadolig, a beth yw eich dealltwriaeth o effaith debygol unrhyw lacio cyfyngiadau? O gofio y bydd ymddygiad unigolion yn ffactor hollbwysig o ran penderfynu ar yr hyn fydd yn dilyn gwyliau'r Nadolig, a wnaiff Llywodraeth Cymru lansio ymgyrch gwybodaeth i'r cyhoedd, fel yr ymgyrchoedd grymus yr ydym ni'n eu gweld bob blwyddyn ar yfed a gyrru dros gyfnod yr ŵyl, gan annog pobl i ddilyn y canllawiau fel y gallwn ni i gyd fwynhau gwell 2021?
Wel, Llywydd, diolchaf i Adam Price am hynna, ac rwy'n credu ei fod wedi cyfleu yn dda iawn, er bod cael cyfle, i lawer o bobl, i gyfarfod â theulu a ffrindiau dros gyfnod yr ŵyl yn bwysig iawn, bod yn rhaid i ni gydbwyso cynifer o bethau wrth ganiatáu i hynny ddigwydd. Nawr, bydd cyfarfod COBRA yn ddiweddarach y prynhawn yma, sef y cyfarfod diweddaraf rhwng pedair gwlad y Deyrnas Unedig, i lunio dull cyffredin o ymdrin â'r Nadolig, ac rwy'n obeithiol iawn y byddwn ni'n gallu gwneud cynnydd pellach ar hynny y prynhawn yma. Mae'r modelu sydd ar gael i ni yno yn dod drwy SAGE.
Pan gawsom ni gyfarfod ddydd Sadwrn, fe wnaethom ni ofyn yn benodol i'r pedwar prif swyddog meddygol gyfarfod rhwng y cyfarfod dydd Sadwrn a'r cyfarfod yn ddiweddarach heddiw i roi cyngor pellach i ni ar nifer o agweddau ar lacio posibl dros y Nadolig a drafodwyd gennym ni yn y cyfarfod ddydd Sadwrn, a bydd hynny ar gael i ni y prynhawn yma. Ond, rwy'n cytuno â'r pwynt a wnaeth Adam Price y bydd yn rhaid i bobl ddefnyddio pa bynnag ryddid ychwanegol y gallwn ni ei gynnig dros gyfnod y Nadolig yn gyfrifol. Nid yw'r ffaith bod llacio yn bosibl yn gyfarwyddyd i fynd i dreulio'r holl gyfnod hwnnw yn gwneud pethau peryglus, a gofynnodd arweinydd Plaid Cymru beth fyddai effaith unrhyw lacio dros y Nadolig, ac er nad oes gen i ateb mesuradwy i hynny ar hyn o bryd, mae'r ateb cyffredinol yn eglur iawn: bydd yn arwain at fwy o ledaenu coronafeirws, oherwydd mae coronafeirws yn ffynnu pan fydd pobl yn dod at ei gilydd, a'r mwyaf o bobl sy'n dod at ei gilydd, y mwyaf o coronafeirws fydd yno. Dyna pam, Llywydd, yr wyf i wedi bod yn dadlau yn y cyfarfodydd yr ydym ni wedi eu cael dros bwyslais nid yn unig ar nifer fach o ddyddiau adeg y Nadolig ei hun, ond ar benderfyniadau y mae angen i ni eu gwneud yn y cyfnod cyn y Nadolig, a sut y byddwn ni'n ymdrin â'r canlyniadau, ac i geisio gwneud hynny ar sail gyffredin ar y cyfan hefyd.
O ran yr ymgyrch wybodaeth—y cwestiwn olaf—mae gan Lywodraeth Cymru ymgyrch wybodaeth wedi'i chynllunio. Bydd yn gwneud llawer o'r pethau y soniodd Adam Price amdanyn nhw o ran ceisio gwneud pobl yn gwbl ymwybodol o ganlyniadau ymddygiad pobl, a'r ffyrdd y gallwn ni i gyd, drwy wneud y pethau iawn, wneud cyfraniad at gael Nadolig y gallwn ni ei fwynhau heb gymryd y risgiau gormodol hynny.
Ddydd Sadwrn, Merthyr Tudful oedd y sir gyntaf yng Nghymru i dreialu profion torfol, ond ar yr un diwrnod, roedd yr achosion COVID fesul 100,000 o'r boblogaeth mewn cyfnod o saith diwrnod yn uwch ym Mlaenau Gwent a Chastell-nedd Port Talbot. Mae hyn yn tynnu sylw at anghysondeb ar hyn o bryd yn y ffordd yr ydym ni'n ymdrin ag ardaloedd lle ceir trosglwyddiad uchel o COVID. Pan wnaethom ni gefnogi'r cyfnod atal byr, roedd hynny ar yr amod y byddai'r system brofi ac olrhain yn cael ei huwchraddio, ei chyflymu a'i hehangu i gynnwys profi unigolion asymptomatig.
Mae gwledydd annibynnol bach, fel yr ydym ni wedi sôn yn gynharach, fel Slofacia, wedi llwyddo i gyflwyno rhaglen profion torfol genedlaethol. Mae Tsieina wedi bod yn cynnal profion torfol mewn tair dinas dros y penwythnos. Hoffem ni ei weld yn cael ei gyflwyno mewn mwy o ardaloedd targed, wedi'i ategu gan daliad ynysu uwch o £800. Pryd, Prif Weinidog, fyddwn ni'n gallu troi cynllun arbrofol Merthyr yn rhaglen ehangach o brofion cyflym torfol yng Nghymru?
Wel, Llywydd, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig atgoffa'r Aelodau, pan nodwyd Merthyr fel y man cyntaf lle byddem ni'n cynnal arbrawf profi torfol yng Nghymru, dyna oedd yr ardal â'r mwyaf o achosion o coronafeirws o bell ffordd—ac roedd hynny yn wir am fifer o ddyddiau. Mae eraill wedi ei goddiweddyd yn y cyfamser ond, wrth gynllunio, mae'n rhaid i chi ddechrau gyda'r ffigurau sydd o'ch blaen chi ar yr adeg honno.
Gwn y bydd cwestiwn yn ddiweddarach y prynhawn yma, Llywydd, ond dim ond i ddweud bod dyddiau cynnar profion torfol ym Merthyr wedi mynd yn dda iawn a'u bod nhw'n deyrnged i weithredoedd sefydliadau lleol, ond hefyd dinasyddion, yn yr ardal honno. Byddwn ni'n dysgu llawer o'i wneud; gallwn fod yn siŵr o hynny. Rydym ni eisoes yn dysgu pethau o'r dyddiau cynnar iawn hyn. Ceir cynigion eisoes ar gyfer ehangu profion torfol i ardaloedd eraill. Bydd dewisiadau i'w gwneud, Llywydd, ac ni fyddan nhw'n ddewisiadau hawdd ychwaith.
Cyfeiriais yn fy ateb i'r cwestiwn cyntaf at y ffaith y gallem ni efallai ddefnyddio profion llif ochrol i gynorthwyo i atal plant rhag cael cais i hunanynysu yn yr ysgol. Buom yn siarad, rwy'n credu, yr wythnos diwethaf ar lawr y Senedd am ddefnyddio dyfeisiau llif ochrol i ganiatáu ymweliadau â chartrefi gofal, a gallem ni ddefnyddio dyfeisiau llif ochrol i gael mwy o gyfle i gynnal profion torfol yng Nghymru.
Ond nifer cyfyngedig sydd gennym ohonynt. Rydym ni'n disgwyl y bydd gennym ni tua 90,000 ohonyn nhw y dydd ar gael i ni yma yng Nghymru, ond bydden nhw'n cael eu defnyddio yn fuan iawn o nifer o'r dibenion yr wyf i newydd eu hamlinellu. Felly, bydd yn fater o gydbwyso. Bydd yn fater o geisio blaenoriaethu lle'r ydym ni'n eu defnyddio. Bydd mwy o gyfleoedd ar gyfer profion torfol pellach, ond bydd dibenion pwysig eraill y gellir defnyddio'r cyflenwad cyfyngedig hwnnw o brofion o'r fath ar eu cyfer yng Nghymru hefyd.
Gan droi at faterion sy'n gysylltiedig â brechlynnau, lle'r ydym ni wedi cael rhagor o newyddion da yn ddiweddar, dim ond 10 diwrnod ar ôl i ni glywed y darn cyntaf o newyddion calonogol o ran y ffaith fod brechlyn Pfizer a BioNTech 90 y cant yn effeithiol mewn treialon, cyflwynodd Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth yr Alban gynllun cyflwyno cynhwysfawr i Senedd Holyrood. Yn y datganiad hwnnw, cadarnhawyd y byddai'r brechiadau cyntaf ar gael i staff iechyd a gofal cymdeithasol, preswylwyr cartrefi gofal hŷn, a'r rhai dros 80 oed sy'n byw yn y gymuned. Y cam nesaf wedyn fyddai ar gyfer y rhai dros 65 oed a'r rhai o dan 65 oed sydd mewn perygl clinigol ychwanegol, ac yna'r boblogaeth ehangach dros 18 oed.
Maen nhw'n gobeithio cael 320,000 dos o'r brechlyn hwnnw i'w defnyddio yn ystod pythefnos cyntaf mis Rhagfyr, yn amodol ar gymeradwyaeth reoleiddiol, gydag uchelgais i frechu 1 filiwn o ddinasyddion erbyn diwedd mis Ionawr. Dywedodd yr Ysgrifennydd iechyd yno bod yr Alban yn barod ar gyfer mis Rhagfyr. Dim ond wythnos i ffwrdd yw mis Rhagfyr. A all y Prif Weinidog gadarnhau bod Cymru hefyd yn barod, ac os felly, pryd gallwn ni ddisgwyl gweld manylion rhaglen cyflwyno brechiadau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys llinell amser o bwy fydd yn cael eu brechu a phryd?
Llywydd, o ran pwy fydd yn cael eu brechu a phryd, rydym ni eisoes wedi dweud y byddwn ni'n dilyn cyngor y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio o ran blaenoriaethu. Mae'r cyngor hwnnw yn dal i gael ei fireinio ar sail y dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg o ba rai o'r brechlynnau sy'n cael eu hadrodd sydd fwyaf addas ar gyfer gwahanol grwpiau o fewn y boblogaeth. Mae gennym ni grŵp cynllunio gweithgar iawn a ddechreuodd weithio yn ôl ym mis Mai eleni ac mae wedi cyfarfod yn rheolaidd drwy gydol yr argyfwng i wneud yn siŵr ein bod ni mewn sefyllfa dda i ddefnyddio'r brechlynnau wrth iddyn nhw ddod ar gael i ni yng Nghymru. Rydym ni wedi ceisio, yn ystod yr holl argyfwng, Llywydd, dilyn y rhagosodiad sylfaenol hwn yng Nghymru, ein bod ni'n cynllunio yn gyntaf a phan fydd gennym ni gynllun yr ydym ni'n credu sy'n ddefnyddiol ac yn ymarferol, yna rydym ni'n ei gyhoeddi i bobl ei weld, yn hytrach na chyfres o uchelgeisiau nad oes modd eu cyflawni wedyn gan fod yr uchelgeisiau wedi eu seilio yn anochel ar wybodaeth nad yw mor ddibynadwy ag y mae ei hangen arnoch ar gyfer cynllun pwrpasol y gallwch chi ei gyflawni yn ymarferol.
Yn y pen draw, rwy'n amau'n fawr y bydd rhestr flaenoriaethu'r Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio yn wahanol iawn i'r un y cyfeiriodd Mr Price ato gan Lywodraeth yr Alban, ond byddwn yn aros am gyfnod byr—dim ond am gyfnod byr—tan i ni gael yr wybodaeth bellach a dibynadwy honno am nifer y brechlynnau fydd ar gael i ni, natur y brechlynnau hynny, y grwpiau blaenoriaeth y byddan nhw'n cael eu darparu ar eu cyfer, ac yna, wrth gwrs, byddwn yn gwneud yn siŵr bod hynny yn cael ei gyhoeddi cyn gynted ag y gallwn ni fel nad yw pobl yng Nghymru, fel y dywedais, yn cael cyfres o uchelgeisiau ond cynllun ymarferol y gallan nhw ddibynnu arno.
Arweinydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, cadarnhaodd y Gweinidog iechyd ddoe bod Llywodraeth Cymru yn ystyried cyfyngiadau COVID llymach yn y cyfnod cyn y Nadolig. A allwch chi gadarnhau pa gyfyngiadau yr ydych chi'n eu hystyried nawr, o gofio eich bod chi eisoes wedi cyflwyno cyfyngiadau ar sail awdurdodau lleol, cyfyngiadau o ran cyfyngiadau symud hyperleol, a chyfyngiadau cenedlaethol erbyn hyn?
Wel, Llywydd, mae'r sail ar gyfer yr hyn a ddywedodd y Gweinidog iechyd ddoe i'w chanfod yn y ffigurau, ac rwy'n siŵr bod arweinydd yr wrthblaid wedi bod yn eu dilyn, fel yr wyf innau'n ei wneud bob dydd. Yn dilyn pythefnos a mwy o ffigurau yn gostwng ledled Cymru, rydym ni bellach wedi cael tri diwrnod yn olynol lle mae'r ffigur ar gyfer Cymru gyfan wedi codi, ac yn ffigurau heddiw, mae 17 o'r 22 awdurdod lleol yn adrodd cynnydd yn yr ystod oedran o dan 25 oed. Nawr, mae'r niferoedd yn parhau i ostwng yn yr ystod oedran dros 60 oed, ac mae hynny yn newyddion da, oherwydd o ran effaith ar y gwasanaeth iechyd gwyddom mai dyna lle mae pobl yn fwyaf tebygol o gael eu heffeithio waethaf gan y feirws. Ond rydym ni hefyd yn gwybod, o adeg gynharach yn yr hydref, bod y cynnydd cyflym a welsom ym mis Medi ac i fis Hydref wedi dechrau gyda chynnydd yn y boblogaeth iau. Felly, y cefndir hwnnw a oedd yno pan ddywedodd y Gweinidog iechyd yr hyn a ddywedodd ddoe, ac mae'n rhan o'r hyn a ddywedais wrth Adam Price, fy mod i wedi bod yn dadlau'r achos yn y cyfarfodydd yr ydym ni wedi eu cael gyda gwledydd eraill y Deyrnas Unedig am ddull gweithredu sydd wedi'i gyfochri yn fras nid yn unig ar gyfer cyfnod byr y Nadolig ond yn y cyfnod cyn y Nadolig ac yn y cyfnod ar ôl y Nadolig.
Felly, rydym ni wedi dilyn yn ofalus yr hyn y mae Llywodraeth y DU wedi ei ddweud hyd yma yr wythnos hon am ddychwelyd at system haenau wedi'i had-drefnu yn Lloegr. Byddwn yn aros i gael rhagor o wybodaeth am hynny, y prynhawn yma o bosibl, ac eto ddydd Iau, ac yna, yr wythnos hon, bydd y Cabinet yn cyfarfod yn eithaf rheolaidd. Cawsom gyfarfod ddoe. Cawsom gyfarfod y bore yma. Byddwn yn cyfarfod eto cyn diwedd yr wythnos i weld a oes mesurau ychwanegol y mae angen i ni eu cyflwyno yng Nghymru, i ganolbwyntio ar natur y cynnydd yr ydym ni'n ei weld ac a fyddai'n rhoi'r aliniad bras hwnnw i ni â'r dull sy'n cael ei ddilyn gan rannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn rhan o greu'r lle hwnnw sydd ei angen ar bob un ohonom ni i ganiatáu llacio dros gyfnod y Nadolig.
Rwy'n cymryd o'r ateb yna, felly, Prif Weinidog, eich bod chi efallai'n edrych ar y posibilrwydd o gyflwyno rhyw fath o system haenau yma yng Nghymru. Wrth gwrs, ceir rhai gwahaniaethau rhwng y dulliau haenau yn yr Alban a Lloegr ac mae'n bwysig felly bod Llywodraeth Cymru yn edrych ar effaith y ddwy gyfres o gyfyngiadau seiliedig ar haenau cyn cadarnhau ei dull gweithredu ar gyfer Cymru.
Nawr, mae eleni wedi bod mor anodd i gymaint o bobl, fel sydd newydd gael ei ddweud yn gynharach, a dyna pam mae hi'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn eglur i bobl Cymru sut yn union y bydd dull gweithredu newydd yn edrych a sut y bydd y cyfyngiadau hynny yn effeithio ar fywydau pobl o ddydd i ddydd. Felly, efallai y gallwch chi roi syniad i ni, Prif Weinidog, pryd y byddwch chi'n cyflwyno'r mesurau newydd hyn. A allwch chi ddweud wrthym ni hefyd pa adnoddau ychwanegol y byddwch chi'n eu darparu i gefnogi'r mesurau newydd a'r cyfyngiadau newydd hyn?
Wel, Llywydd, rwy'n credu fy mod i wedi rhoi rhyw syniad, gystal ag y gallaf, i arweinydd yr wrthblaid eisoes am y llwybr gwneud penderfyniadau yr ydym ni'n ei weld o'n blaenau. Mae cyfarfod COBRA y prynhawn yma. Rwy'n cytuno â'r pwynt a wnaeth Paul Davies ynglŷn â chymryd i ystyriaeth y gwahanol ddulliau yn yr Alban yn ogystal ag yn Lloegr. Siaradais â Phrif Weinidog yr Alban unwaith eto ddoe. Ar ôl y cyfarfod heddiw, ceir cyhoeddiadau pellach y byddwn ni'n eu disgwyl yng nghyd-destun Lloegr ddydd Iau yr wythnos hon, dywedir wrthym, a fydd yn cynnig rhagor o wybodaeth i ni am weithrediad eu dull haenau. Ni fyddwn yn neidio ar unwaith, fel y gwnaeth arweinydd yr wrthblaid, i gasgliad, oherwydd bod gennym ni ddiddordeb yn y mesurau sy'n cael eu cymryd mewn mannau eraill, bod hynny o reidrwydd yn golygu y byddwn ni'n mabwysiadu dull haenau yma yng Nghymru. Cynnwys y mesurau, nid dim ond eu trefn, y bydd gennym ddiddordeb ynddo.
Bydd y Cabinet yn cyfarfod unwaith eto cyn diwedd yr wythnos hon i weld a oes gwersi i ni eu dysgu o'r hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill a dull cyffredin ledled y Deyrnas Unedig yn y cyfnod cyn y Nadolig, ac yn bwysig hefyd, yn y modd y bydd yn rhaid i bob un ohonom ni ymdrin â chanlyniadau anochel llacio, a fydd yn sbarduno cynnydd yn y coronafeirws. Mae hynny'n anochel, ac mae angen i ni baratoi gyda'n gilydd i ymdopi â'r canlyniadau.
Wrth gwrs, nid unigolion a theuluoedd yn unig sy'n awyddus i gael gwybod a fydd unrhyw newidiadau i'r cyfyngiadau yng Nghymru. Mae'n sicr y bydd busnesau ledled Cymru hefyd yn bryderus ynghylch y posibilrwydd o gyfyngiadau pellach. Mae'r cyfnod cyn y Nadolig yn gyfnod prysur, wrth gwrs, i fusnesau ym mhob sector, ac yn sgil blwyddyn anodd iawn, mae'n ddealladwy y bydd llawer yn pryderu, efallai, o glywed am gyfyngiadau pellach.
Felly, mae'n gwbl hanfodol bod adnoddau a chymorth yn cael eu rhoi ar waith o flaen unrhyw newidiadau fel bod busnesau yn gallu cynllunio ac addasu eu gweithrediadau yn unol â hynny. A wnewch chi gadarnhau felly, Prif Weinidog, y bydd Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn hysbysu busnesau ledled Cymru cyn bod unrhyw gyfyngiadau newydd yng Nghymru fel bod ganddyn nhw amser i gynllunio ar gyfer unrhyw newidiadau? Ac, a allwch chi hefyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y trafodaethau yr ydych chi wedi eu cael gydag awdurdodau lleol yng Nghymru ynglŷn â chyflwyno cyfyngiadau newydd a pha adborth yr ydych chi wedi ei gael gan awdurdodau lleol hyd yn hyn gydag unrhyw gyfyngiadau posibl?
Wel, Llywydd, rwy'n ymwybodol iawn o effaith y penderfyniadau yr ydym ni'n eu gwneud ar fusnesau yng Nghymru ac ar fywoliaeth pobl. Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi swm sylweddol iawn o arian at ei gilydd yr ydym ni wedi ei fuddsoddi i geisio amddiffyn busnesau yng Nghymru rhag effaith coronafeirws—mae hynny yn ychwanegol at unrhyw gymorth sydd wedi dod gan Lywodraeth y DU. Ac mae angen i Lywodraeth y DU, gyda'r adolygiad cynhwysfawr o wariant yfory, wneud yn siŵr ei bod yn gwneud popeth o fewn ei gallu i wneud yn siŵr bod busnesau yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig mewn sefyllfa i wrthsefyll effaith barhaus coronafeirws, ac mae angen iddi wneud hynny mewn modd mwy brwdfrydig. Nid yw'r ail-gyhoeddiadau mynych gan Ganghellor y Trysorlys o'r pecyn cymorth sy'n dod gan Lywodraeth y DU wedi bod o gymorth, yn fy marn i. Rydym ni'n gwneud y gorau y gallwn ni yng Nghymru i helpu busnesau; rwy'n credu mai dull gweithredu'r Canghellor yw gwneud y lleiaf posibl y gall ei wneud heb gael ei feirniadu, a dyna'r gwahaniaeth gwirioneddol rhyngom ni.
Mae trafodaethau gydag awdurdodau lleol, wrth gwrs, yn cael eu cynnal drwy'r amser. Bydd cyfarfodydd heddiw yn cynnwys y Gweinidog iechyd, y Gweinidog llywodraeth leol, y Gweinidog addysg, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac arweinyddion eraill awdurdodau lleol yng Nghymru, a'r dull partneriaeth hwnnw yw'r un sydd, yn ein barn ni, wedi llwyddo i'n cynnal ni drwy'r argyfwng hyd yma, a byddwn yn sicr, yng Nghymru, y byddwn ni'n parhau i fod wedi ymrwymo iddo.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith COVID-19 ar yr economi ym Mhontypridd a Thaf-Elái? OQ55944
Llywydd, diolchaf i Mick Antoniw am hynna. Mae'r rhagolygon cyflogaeth a thwf diweddaraf yn dangos yn eglur yr effaith niweidiol y mae pandemig y coronafeirws yn ei chael ar economi Cymru a thu hwnt. Hyd yma, mae ein cronfa i fusnesau dan gyfyngiadau wedi darparu dros £7 miliwn o gymorth i 2,379 o fusnesau, sy'n cwmpasu dros 22,000 o swyddi yn Rhondda Cynon Taf yn unig.
Diolch am yr ateb yna,Prif Weinidog. Yn fy etholaeth i ym Mhontypridd, rydym ni wedi brwydro gyda llifogydd, sy'n taro ein heconomi a'n seilwaith yn galed, ac, wrth gwrs, rydym ni'n brwydro gyda COVID, gyda rhai o'r cyfraddau uchaf o'r haint yng Nghymru. Ac, fel miloedd lawer o bobl eraill, rwyf i wedi sefyll y tu allan i'm cartref ac wedi clapio a chymeradwyo ein gweithwyr sector cyhoeddus fel cymuned, ac rydym ni wedi cydnabod y cyfraniad hanfodol y maen nhw wedi ei wneud yn ystod y pandemig. Mae llawer ohonyn nhw wedi dioddef COVID; mae rhai wedi marw. Mae ein meddyliau gyda theulu Mark Simons, cynorthwy-ydd gofal iechyd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg a chynrychiolydd iechyd a diogelwch Unite. Bu farw ar 10 Tachwedd ar ôl dal coronafeirws. Prif Weinidog, mae ein holl weithwyr sector cyhoeddus wedi mynd y tu hwnt i'r disgwyliad i'n cadw ni'n ddiogel ac i'n hamddiffyn ni a'n teuluoedd. Nawr, ddydd Mercher, tra bod ffrindiau'r Llywodraeth Dorïaidd yn gwneud miliynau o bunnoedd o elw o gontractau cyfarpar diogelu personol amheus, mae'r Canghellor, Rishi Sunak, yn bwriadu dweud wrth ein gweithwyr sector cyhoeddus mai eu gwobr am eu haberth fydd tair blynedd o rewi cyflogau degau o filoedd o weithwyr Cymru—dychweliad i gyni cyllidol y Torïaid.
Prif Weinidog, nid yw'n rhy hwyr i ofyn i Lywodraeth y DU wneud tro pedol. Felly, a wnewch chi gysylltu â Phrif Weinidog y DU fel mater o frys a gwneud popeth o fewn eich gallu i'w annog i anrhydeddu a chydnabod cyfraniad ein holl—a phwysleisiaf 'holl'—weithwyr sector cyhoeddus yn ystod y pandemig hwn?
Wel, diolchaf i Mick Antoniw am hynna, Llywydd. Diolch iddo am ein hatgoffa—gwn nad yw'r Aelodau yma yn anghofio o gwbl, ond dim ond am ein hatgoffa—bod bywydau pobl go iawn y tu ôl i bopeth yr ydym ni'n ei drafod yn y fan yma. Adroddwyd dros 3,300 o farwolaethau yng Nghymru gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol heddiw, ac mae llawer o'r bobl hynny wedi bod yn weithwyr rheng flaen yn ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac mewn mannau eraill. Felly, wrth gwrs, nid yw'n rhy hwyr i annog Canghellor y Trysorlys i ddiystyru rhewi cyflogau sector cyhoeddus a darparu'r cyllid, ledled y Deyrnas Unedig, sydd ei angen arnom i ddiogelu ein hiechyd, ein swyddi, ac i gynorthwyo adferiad teg. Mae gweithwyr ar draws ein gwasanaethau cyhoeddus wedi parhau i chwarae eu rhan hanfodol yng nghanol pandemig byd-eang, gan helpu i achub bywydau a chadw gwasanaethau i fynd. Dylid eu cydnabod am yr ymdrech hon ac nid eu gorfodi i dalu'r bil.
Mae'r Canghellor yn dweud nad oes unrhyw ddychweliad i gyni cyllidol. Wel, rwy'n sicr yn gobeithio bod hynny'n wir o ran gweithwyr sector cyhoeddus sydd wedi bod ar flaen y gad yn yr argyfwng hwn ac sy'n haeddu cael eu cydnabod am hynny. Yn anffodus, Llywydd, dywedir wrthyf na fydd Prif Weinidog y DU yn mynychu'r cyfarfod COBRA eto y prynhawn yma. Efallai y byddech chi'n meddwl, o ystyried arwyddocâd y penderfyniadau y mae'n rhaid i ni eu gwneud yno, y gallai Prif Weinidog y DU feddwl bod honno yn sgwrs y byddai'n dewis cymryd rhan ynddi. Ond, os bydd cyfle yn codi—bydd Gweinidogion eraill Llywodraeth y DU yno, ac, os bydd y cyfle hwnnw yn codi, byddaf yn sicr yn gwneud y pwyntiau y mae'r Aelod wedi eu gwneud yn y fan hon y prynhawn yma.
Prif Weinidog, rwy'n pryderu yn arbennig am bobl ifanc yng Nghanol De Cymru, gan gynnwys Pontypridd, sy'n ymuno â'r farchnad lafur neu'n ceisio ymuno â hi yn ystod y cyfnod hwn, ac rwy'n credu bod gennym ni brofiad gwael iawn yn y gorffennol o bobl ifanc yn ymuno â'r farchnad lafur yn ystod cyfnod o adfyd economaidd. A byddwn yn eich annog i edrych ar y pecynnau hyfforddi a hefyd y cyllid sydd ar gael ar gyfer astudio ôl-raddedig, er enghraifft, yn ystod y blynyddoedd nesaf, oherwydd rwy'n credu y bydd angen defnyddio'r mathau hyn o raglenni, sydd o dan reolaeth Llywodraeth Cymru i raddau mwy helaeth nag yr oeddem ni wedi ei gynllunio efallai, ond bydd hyn hefyd yn helpu ein colegau addysg bellach a'r sector prifysgolion. Ond mae gwir angen cynorthwyo pobl ifanc gymaint ag y gallwn yn ystod y cyfnod hwn.
Wel, Llywydd, rwy'n cytuno â'r pwynt y mae David Melding yn ei wneud. Mae gennym ni brofiad anodd iawn yng Nghymru o genedlaethau o bobl ifanc heb ddyfodol wedi'i fapio o'u blaenau, ac yn sicr nid ydym ni eisiau dychwelyd i hynny yn yr argyfwng hwn. Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd yr Aelod—y bydd pobl ifanc a fydd yn dewis defnyddio'r cyfnod hwn i fuddsoddi ymhellach mewn datblygu eu sgiliau a'u haddysg eu hunain, fel eu bod, pan fydd pethau'n gwella, yn fwy parod i fanteisio ar hynny, a byddwn ni eisiau eu helpu nhw i wneud yn siŵr bod hynny'n digwydd.
Gwn y bydd yr Aelod wedi gweld y cyhoeddiad ar 11 Tachwedd, pan ddarparwyd rhagor o fanylion gennym am y cymorth y gall busnesau ei gael—a cholegau addysg bellach, wrth gwrs, o ganlyniad—i hyrwyddo prentisiaethau yma yng Nghymru. Mae busnesau yn gallu hawlio £3,000 erbyn hyn ar gyfer pob prentis newydd o dan 25 oed pan ei fod yn cael ei gyflogi am o leiaf 30 awr, a gwn y bydd David Melding yn croesawu yn arbennig y ffaith bod £1,500 ychwanegol ar gyfer unrhyw fusnes sy'n gallu cyflogi person ifanc anabl newydd fel prentis. Ar 18 Tachwedd, cyhoeddwyd y gronfa rhwystrau dechrau busnes gennym, swm o £1.2 filiwn, wedi ei thargedu yn benodol ar gyfer y bobl ifanc hynny a adawodd y coleg a'r brifysgol yn 2019 a 2020 y gallai fod ganddyn nhw syniadau eu hunain am fusnesau yr hoffen nhw geisio eu cychwyn, ond sydd angen y cymorth a'r gefnogaeth ychwanegol hynny gan y Llywodraeth er mwyn gallu gwneud hynny, a bydd y gronfa rhwystrau dechrau busnes honno wedi'i thargedu yn arbennig at y math o bobl ifanc y mae David Melding wedi tynnu sylw atyn nhw y prynhawn yma.
4. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynllun peilot ar gyfer profion torfol COVID-19 ym mwrdeistref sirol Merthyr Tudful? OQ55945
Diolchaf i'r Aelod am hynna, Llywydd. Dechreuodd y cynllun arbrofol ddydd Sadwrn 21 Tachwedd. Mae'n cynnwys pawb sy'n byw, yn gweithio neu'n astudio yn yr ardal a'u bod i gyd i gael cynnig prawf COVID-19 yn rhan o'r profion torfol cyntaf o ardal gyfan yng Nghymru.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog, ac rwy'n siŵr yr hoffech chi ymuno â mi i ddiolch i bawb sy'n gysylltiedig â logisteg, darparu a dadansoddi'r rhaglen profion torfol hon. Euthum fy hun, am brawf negyddol diolch byth, ddydd Sadwrn, a gallaf ddweud bod pawb sy'n ymwneud ag ef wedi bod yn gwbl eithriadol wrth weithio i sicrhau bod y cynllun arbrofol yn llwyddiant, ac mae hynny'n cynnwys diweddaru cwestiynau cyffredin yn gyflym, gan wneud yn siŵr y gwnaed darpariaeth arbennig ar gyfer pobl sy'n amddiffyn a phobl ag anableddau nad ydynt yn eu hamddiffyn, yr henoed, pobl fregus ac yn y blaen drwy gydol y broses hon, er ei bod yn debyg bod angen i ni roi ychydig o ystyriaeth o hyd i reoli profion ar gyfer y rhai sydd ag anableddau dysgu. Byddwn hefyd yn eich annog i ystyried profi yn y gweithleoedd mwy o faint hefyd, mae'n debyg. Ond, yn ystod y dyddiau cyntaf hyn, rydym ni wedi gweld miloedd o brofion yn cael eu cymryd gan bobl sy'n awyddus i helpu'r broses, a'r bobl hynny sydd â rheswm da dros ddod. Hyd yma, mae tua 1 y cant wedi bod yn ganlyniadau positif gan bobl sy'n asymptomatig. Yn ystod y cynllun arbrofol hwnnw, bydd hynny yn rai cannoedd o bobl a fyddai fel arall yn lledaenu'r feirws heb wybod yn y gymuned. Nawr, rydych chi eisoes wedi ateb cwestiynau cynharach am yr hyn sy'n digwydd ar ôl y cynllun arbrofol hwn a thu hwnt, felly nid wyf i'n mynd i drafod y pwyntiau hynny eto, ond, fel y gwyddoch, Prif Weinidog, mae gan fy etholaeth i ardaloedd sylweddol o dlodi ac amddifadedd, sy'n aml yn gysylltiedig â gwaith ansicr a chontractau dim oriau, sydd, fel y gwyddom, wedi bod yn rhwystr i lawer rhag dod ymlaen i gael profion. Felly, a gaf i ofyn am sicrwydd gennych chi y bydd Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda phartneriaid lleol i sicrhau bod profion torfol hefyd yn cael eu cynnal ymhlith y cymunedau anos eu cyrraedd hyn, gan y bydd hwn yn ffactor hollbwysig o ran sicrhau llwyddiant y cynllun arbrofol?
Llywydd, diolchaf i Dawn Bowden am hynna. Clywais gyfweliad llawn gwybodaeth a roddodd hi yn ystod y penwythnos, yn adrodd o reng flaen y profion ym Merthyr, ac rwy'n cytuno'n llwyr â hi am yr ymdrech tîm enfawr a gafwyd gan yr awdurdod lleol, gan y bwrdd iechyd lleol a gwasanaethau iechyd cyhoeddus, y cymorth yr ydym ni wedi ei gael drwy'r lluoedd arfog. Bu'n ymdrech ryfeddol mewn gwirionedd, ac, yn y dyddiau cynnar hyn, mae wedi cael ymateb rhyfeddol gan drigolion Merthyr Tudful hefyd.
Llywydd, cododd Dawn Bowden nifer o bwyntiau, yn gyntaf oll am weithleoedd a phwysigrwydd gwneud yn siŵr bod cyflogwyr yn cyd-fynd â hyn i gyd. Mae cynnig o brawf ar gael i unrhyw un sy'n gweithio yn y fwrdeistref sirol—pa un a ydyn nhw'n byw yn rhywle arall ond yn gweithio ym Merthyr, mae prawf ar gael iddyn nhw. Byddaf yn trafod hyn yn y cyngor partneriaeth gymdeithasol, sydd i fod i gyfarfod nesaf ddydd Iau yr wythnos hon. Gwnaeth Dawn Bowden bwynt pwysig, Llywydd, am y bobl hynny sy'n fregus neu'n agored i niwed, yn amddiffyn neu sydd ag anableddau dysgu, a sut yr ydym ni'n gwneud yn siŵr eu bod nhw'n cael eu cynnwys yn y rhaglen. Rwy'n falch o ddweud fy mod i'n credu bod yr awdurdod lleol wedi ysgrifennu at bawb ar y rhestr amddiffyn heddiw yn cynnig prawf cartref iddyn nhw, sy'n golygu nad oes angen iddyn nhw adael eu cartrefi a mynd i ganolfan profi torfol. Felly, rwy'n credu bod hynny yn arwydd cryf iawn arall o'r ffordd flaengar y mae'r drefn brofi yn cael ei darparu yn yr ardal, ac wrth gwrs, Llywydd, mae Dawn Bowden yn gwneud y pwynt pwysig iawn am gyrraedd y cymunedau hynny lle mae gwasanaethau, yn gonfensiynol, yn cael yr anhawster mwyaf i gael yr effaith yr ydym ni eisiau iddyn nhw ei chael. Rydym ni'n mynd i fod yn defnyddio dulliau gwyliadwriaeth dŵr gwastraff ym Merthyr, fel y gwnaethon nhw yn Lerpwl—gwyliadwriaeth dŵr gwastraff, y bydd yr Aelodau yn cofio, a arweiniwyd gan Brifysgol Bangor wrth ei chreu. Bydd gennym ni saith gwahanol bwynt profi yn ardal bwrdeistref sirol Merthyr, a bydd hynny yn caniatáu i ni weld ein bod ni'n cael ymateb mewn gwahanol rannau o'r fwrdeistref, ac yn gwneud ymdrechion ychwanegol mewn mannau os nad ydym ni'n cael yr ymateb sydd ei angen. Fel y gwn y bydd yr Aelod lleol yn gwybod, mae'n rhan o'r ffordd y mae'r profion torfol yn cael eu darparu, os bydd rhywun yn cael prawf cadarnhaol, yna maen nhw'n cael cyngor gweithredol am y cymorth sydd ar gael iddyn nhw naill ai drwy'r taliad hunanynysu neu drwy'r gronfa cymorth dewisol, lle'r ydym ni wedi cyfrannu £5 miliwn yn fwy i helpu yn y modd hwn fel bod pobl yn gallu gwneud y peth iawn, fel y maen nhw eisiau ei wneud, a ddim yn canfod eu hunain â rhwystrau yn eu ffordd y gallwn ni eu helpu i'w datrys.
Diolch, Prif Weinidog, am yr atebion hyd yn hyn i gwestiynau’r arweinyddion a hefyd i'r cwestiwn penodol hwn am y treial ym Merthyr. A ydych chi mewn sefyllfa i gadarnhau pryd y gellir gwneud y dadansoddiad, os bydd y treial hwn yn llwyddiannus—a'r arwyddion cychwynnol yw ei fod wedi bod yn llwyddiannus—y bydd hyn yn cael ei gyflwyno ledled gweddill Cymru, ac, yn arbennig, yn Rhondda Cynon Taf, ardal yr wyf i'n ei chynrychioli yn y fan yma yr wyf i'n credu y byddai'n elwa'n fawr ar y drefn brofi hon?
Gwn y bydd gan Andrew R.T. Davies ddiddordeb mewn gwybod bod cyngor Rhondda Cynon Taf eisoes wedi gwneud cynnig i gael ehangu trefn brofi Merthyr i ardal Cwm Cynon yr awdurdod lleol hwnnw, a bod cyfarfodydd, rwy'n credu, wedi'u trefnu ar gyfer yfory i archwilio'r cynnig hwnnw ac i weld sut y gellid ei gyflawni. Mae hwn yn ymarfer logistaidd enfawr, fel y gwn y bydd ef yn ei gydnabod, a dyna pam yr ydym ni mor ddiolchgar o gael cymorth y lluoedd arfog yn hynny o beth, oherwydd mae'n rhaid i wasanaethau lleol geisio cadw popeth arall y maen nhw'n ei wneud drwy'r amser i fynd, ac mae rhyddhau pobl i fod yn rhan o ymdrech profi torfol yn gofyn am gryn dipyn o baratoi. Felly, os ydym ni'n mynd i allu ehangu cynllun Merthyr i ardal Rhondda Cynon Taf, bydd angen gwneud paratoadau gofalus, gan ryddhau staff lleol o wasanaethau lleol. Mae gennym ni gymorth pellach gan y lluoedd arfog sy'n ymuno â ni ym Merthyr dros yr ychydig ddyddiau nesaf, ac efallai y bydd angen i ni weld a oes unrhyw gymorth pellach a allai fod ar gael er mwyn cynorthwyo gyda'r agweddau ymarferol pur sy'n gysylltiedig â chynnal ymarfer profi torfol o'r math hwn.
5. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â chamwybodaeth am frechlynnau? OQ55947
Llywydd, a gaf i ddiolch i Joyce Watson am y cwestiwn pwysig yna? Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i gynorthwyo byrddau iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru i sicrhau bod gwybodaeth am imiwneiddio yn gywir ac yn hygyrch a bod pawb sy'n darparu brechiadau wedi'u hyfforddi'n dda ac yn hyderus wrth ddarparu gwybodaeth am imiwneiddio.
Diolchaf i chi am hynna, Prif Weinidog. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Pfizer a BioNTech eu bod nhw wedi datblygu brechlyn ar gyfer COVID-19 a'i fod yn dangos canlyniadau addawol, ond bron ar unwaith roedd negeseuon yn cylchredeg ar sianeli cyfryngau cymdeithasol yn awgrymu y byddai'r brechlyn yn niweidiol, heb unrhyw dystiolaeth a brofwyd. Rwy'n deall ei bod hi'n naturiol y bydd gan bobl bryderon a chwestiynau am ddiogelwch brechlynnau newydd a chyfredol, ond rwy'n credu bod gan y gamwybodaeth yr ydym ni wedi ei gweld ar blatfformau cyfryngau cymdeithasol y potensial i wneud niwed sylweddol. Prif Weinidog, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gyda sianeli cyfryngau cymdeithasol ynghylch camwybodaeth am frechlynnau a sut y gallwn ni fynd i'r afael â hynny? A pha gamau sy'n cael eu cymryd i annog pobl i gael gafael ar wybodaeth mewn fformat dibynadwy?
Wel, Llywydd, diolchaf i Joyce Watson am y cwestiynau dilynol yna. Mae hi'n iawn i dynnu sylw at y perygl o gamwybodaeth am frechlynnau—camwybodaeth fwriadol, faleisus. Mae'n rhan o grŵp o agweddau sydd, yn anffodus, wedi cael hygrededd mewn rhannau eraill o'r byd. Mae'r agweddau hyn yn deillio o'r un grŵp o bobl sy'n gwadu coronafeirws, sy'n ceisio perswadio pobl i amau canlyniadau etholiadau, ac, o ganlyniad, mae ganddyn nhw gyrhaeddiad i leoedd trwy gyfryngau cymdeithasol a allai, pe byddai pethau'n mynd o chwith, wneud yr hyn a ddywedodd Joyce Watson ac annog pobl a fyddai'n elwa ar gael eu brechu rhag dod ymlaen. Rydym ni'n gweithio gyda Swyddfa'r Cabinet yn Llundain. Mae ganddyn nhw uned ymateb cyflym, sydd yno yn benodol i ymateb i gamwybodaeth am y coronafeirws. A, chan weithio gyda phlatfformau cyfryngau cymdeithasol, cafwyd rhywfaint o lwyddiant, ac rwy'n awyddus i'w gydnabod, o ran perswadio'r platfformau cyfryngau cymdeithasol hynny i ddileu camwybodaeth lle gellir nodi'n eglur mai dyna ydyw.
Rwy'n credu bod yn rhaid i ni gymryd rhywfaint o gysur, fodd bynnag, Llywydd, o'r dystiolaeth wirioneddol o'r hyn sydd wedi digwydd mewn rhaglenni brechu dros y cyfnod diwethaf. Rydym ni wedi ennill tir mewn rhaglenni imiwneiddio plant yn ystod cyfnod y pandemig. Cynyddodd nifer y bobl a fanteisiodd ar y dos cyntaf o MMR yn ystod chwarter cyntaf eleni, er gwaethaf yr holl anawsterau y byddai rhieni wedi eu cael yn ceisio cyflwyno'r plentyn i gael ei frechu. Mae'r trydydd dos a drefnwyd o frechiad grŵp B meningococaidd ar y lefel uchaf erioed yng Nghymru. Ac, wrth gwrs, rydym ni'n cyrraedd mwy o bobl gyda'r brechiad rhag y ffliw nag erioed o'r blaen, ac mae 70 y cant o bobl yn y grŵp oedran dros 60 oed wedi cael eu brechu erbyn hyn. Roedd yn llai na 60 y cant yr adeg hon y llynedd. Mae tri deg saith y cant o bobl dan 65 oed sydd mewn perygl wedi cael eu brechu, ac roedd yn 27 y cant yr adeg hon y llynedd. Mae saith deg tri y cant o blant rhwng pedair a 10 oed wedi cael eu brechu. Felly, er fy mod i'n rhannu pryderon yr Aelod, mae ymddygiad gwirioneddol pobl yng Nghymru yn awgrymu, pan fydd brechlyn ar gael iddyn nhw a bod ganddyn nhw ffydd ynddo, eu bod yn dod ymlaen mewn niferoedd mawr, a dyna y byddwn ni eisiau ei annog pan fydd brechlynnau ar gael ar gyfer coronafeirws hefyd.
Prif Weinidog, rwy'n cytuno â chi y bu gwelliannau i'r niferoedd sy'n manteisio ar frechlynnau, ond hoffwn nodi hefyd, yn ôl adroddiad blynyddol diweddaraf ffliw tymhorol Cymru 2019-20, mai dim ond 56 y cant oedd nifer y bobl a fanteisiodd ar y brechlyn ffliw ymhlith staff y GIG eleni, a byddech chi'n meddwl y byddai staff y GIG, yn fwy na bron neb arall, yn sicr o ddeall gwerth brechlyn a pha fanteision y gallwn ni i gyd eu cael ohono. Mae gennym ni hefyd ein pobl anodd iawn eu cyrraedd, y bobl nad ydyn nhw'n siarad Cymraeg na Saesneg, pobl sy'n newydd i'n gwlad, pobl mewn ardaloedd ymylol dros ben, neu bobl mewn ardaloedd gwledig iawn, lle, eto, mae'r holl syniad hwnnw o ddod allan a chael eu brechu—. Hefyd, mae angen i'r brechlyn ar gyfer COVID fod yn stop dau frechlyn, lle efallai y bydd gennych chi sefyllfa lle mae rhywun yn cael un ac yn meddwl, 'O wel, dyna ni, rwyf i wedi gorffen', pan mewn gwirionedd mae angen yr ail un hwnnw arnynt i wneud yn siŵr eu bod yn cael gofal gwirioneddol. Felly tybed pa gynlluniau y bydd y Llywodraeth yn eu llunio, naill ai fel Cymru ei hun neu fel endid yn y DU, i geisio cyfleu neges gref nad oes dim i'w ofni mewn gwirionedd.
Ac a gaf i ddweud yn gyflym iawn hefyd bod yn rhaid i ni fod yn ofalus iawn sut yr ydym ni'n cyfleu'r negeseuon hynny? Rwy'n siarad fel rhiant y cafodd ei phlentyn cyntaf yr holl MMRs yn unigol gan fod Andrew Wakefield ar anterth ei ŵyl frawychu, a dim ond yr MMR a gafodd fy ail blentyn, oherwydd gall pobl normal, gyffredin gael eu dychryn yn hawdd iawn pan fydd yr holl negeseuon anghywir yn cael eu cyfleu. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n eithriadol o bwysig ein bod ni'n llunio polisi cyfathrebu cydlynol a rhesymegol iawn, a byddai gen i ddiddordeb mawr cael gwybod beth mae eich Llywodraeth yn ei wneud i sicrhau hynny ac, yn wir, sut y gallai pob un ohonom ni helpu i ledaenu'r neges honno.
Diolchaf i'r Aelod am hynna. Llywydd, rwy'n cytuno ag Angela Burns nad oedd canran staff y GIG a fanteisiodd ar frechiad rhag y ffliw y llynedd yn ddigon da. Roedd yn well nag mewn blynyddoedd blaenorol, ac rwy'n cofio llawer o drafodaethau gyda Darren Millar yma yn y Siambr hon, pan oeddwn i'n Weinidog iechyd ac yntau yn llefarydd ar iechyd, ynglŷn â'r graddau y gallem ni fynnu a'i gwneud yn ofynnol bod staff yn manteisio ar frechiadau.
Y newyddion da yw bod y niferoedd yn llawer uwch nag yr oedden nhw y llynedd ar yr adeg hon, felly mae'r gwelliannau yr ydym ni wedi eu gweld yn y boblogaeth gyffredinol yn cael eu hadlewyrchu ymhlith staff gofal iechyd hefyd. Ond rwy'n credu bod ganddyn nhw rwymedigaeth broffesiynol i amddiffyn eu hunain rhag y risgiau y maen nhw'n eu peri fel arall i'r bobl hynny sy'n defnyddio eu gwasanaeth. Felly, i'r staff hynny, nid mater o amddiffyn eich hun yn unig ydyw; mae'n ddyletswydd broffesiynol, rwyf i wedi dadlau erioed, i sicrhau eich bod chi'n osgoi risg y gallech chi ei pheri i bobl eraill fel arall, ac mae angen i ni wneud mwy. Mae angen i ni wneud hynny gyda'r colegau brenhinol a chyda'r undebau llafur yn y maes hwnnw i godi'r ffigur hwnnw ymhellach fyth.
Fe'm hatgoffwyd yng nghwestiwn atodol Angela Burns, Llywydd, pan welsom yr achosion o'r frech goch yn Abertawe rai blynyddoedd yn ôl, nad oedd y teuluoedd y gwnaethom fethu â'u cyrraedd, mewn gwirionedd, yn deuluoedd a oedd yn osgoi brechu. Nhw oedd y teuluoedd y cyfeiriodd Angela Burns atyn nhw—pobl nad Cymraeg na Saesneg yw eu hiaith gyntaf, sy'n symudol ac y mae eu cyfeiriadau yn newid yn gyflym, ac nad yw ffyrdd confensiynol o'u cyrraedd yn gweithio. Ond rwy'n credu bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dysgu llawer o'r profiad hwnnw, ac rydym ni mewn sefyllfa well erbyn hyn i wneud yn siŵr y gallwn ni ymateb i'r anawsterau hynny.
Ac yn olaf, a gaf i gytuno â'r pwynt olaf a wnaeth Angela Burns, Llywydd, ein bod ni angen yr ymdrech y gall pob un ohonom ni ei gwneud? Mae gan bob Aelod o'r Senedd hon rywfaint o statws yn eu cymunedau lleol. Rydym ni i gyd yn siarad â chryn awdurdodau â grwpiau yn ein hardaloedd ein hunain, ac ychwanegu ein lleisiau ein hunain, yn ogystal â rhai gwasanaethau cyhoeddus, at yr ymdrech gyffredinol honno y bydd ei angen arnom ni pan fydd brechlyn ar gael i berswadio pobl o'i ddiogelwch, o'i effeithiolrwydd, ac o'r rhesymau da niferus iawn pam y dylai pobl ddod ymlaen i'w dderbyn.
Rwy'n ddiolchgar i Joyce am gyflwyno'r cwestiwn pwysig iawn hwn. Prif Weinidog, nid ar-lein yn unig y mae camwybodaeth am COVID yn cael ei rhannu. Tynnwyd fy sylw yr wythnos diwethaf, at daflen arbennig o niweidiol a oedd yn cael ei rhoi drwy ddrysau pobl. Roedd hyn yn sir Benfro, ond cefais wybod hefyd ei fod yn digwydd yng Nghaerffili. Roedd olwg swyddogol iddi—gallech chi fod wedi ei chamgymryd am ohebiaeth swyddogol gan y Llywodraeth. Mae camwybodaeth, yn fy marn i, Prif Weinidog, ar-lein yn ddigon drwg, ond o leiaf mae gan bobl ryw fath o ddewis ynglŷn â'r grwpiau Facebook y maen nhw'n ymuno â nhw a pha ffrydiau Twitter y maen nhw'n eu dilyn. Roedd y daflen hon yn dod trwy ddrysau pawb heb fod ganddyn nhw unrhyw hawl i'w gwrthod. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn y Siambr hon yn cefnogi rhyddid i siarad, ond mae angen arfer rhyddid i siarad yn gyfrifol. A oes unrhyw beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, gan weithio gyda gwasanaeth yr heddlu yn yr ardaloedd y mae'r daflen hon wedi effeithio arnyn nhw a chydag awdurdodau lleol, i geisio gwrthwynebu'r neges hon? Ac a oes unrhyw gamau unioni cyfreithiol yn erbyn pobl sy'n rhannu gwybodaeth yn fwriadol a allai fod yn frawychus iawn i bobl ac yn niweidiol dros ben, gan ein bod ni eisoes wedi trafod meysydd fel perswadio pobl i fanteisio ar y brechiad?
Llywydd, rwy'n credu bod Helen Mary Jones yn iawn: mae rhywbeth arbennig o ddichellgar am rywbeth yn cael ei roi trwy eich drws eich hun a'r ymgais fwriadol ac, fel y byddwn i'n dweud, maleisus honno i gamarwain pobl gyda gwybodaeth anghywir. Gwn fod pobl leol sydd wedi derbyn y daflen honno yn Sir Benfro wedi hysbysu'r heddlu ac wedi edrych i weld a oes unrhyw bosibilrwydd o wneud iawn. Dyma'r un daflen, yn ôl yr hyn a ddeallaf, sydd wedi bod yn cael ei dosbarthu mewn sawl rhan, nid yn unig o Gymru, ond yn ehangach. Ymhlith y pethau y gallwn ni eu gwneud y mae'r pethau y cyfeiriodd Angela Burns atyn nhw, sef ymgasglu lleisiau a fydd yn cael rhywfaint o barch mewn cymunedau lleol. A gwn, nos yfory, fod Steve Moore, sy'n brif weithredwr bwrdd iechyd Hywel Dda, a'r comisiynydd heddlu a throseddu ar gyfer yr ardal, yn cynnal sesiwn fyw ar Facebook ar y cyd, yn rhannol mewn ymateb i gylchrediad y daflen honno, fel y gallan nhw fod gyda'i gilydd i ddarparu gwybodaeth awdurdodol i'r boblogaeth leol a'i wneud yn uniongyrchol yn y modd hwnnw.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am yr amcangyfrif o nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd yng Nghymru? OQ55919
Mae'r amcangyfrifon diweddaraf yn awgrymu y daethpwyd o hyd i lety ar unwaith i 974 o bobl a gyflwynodd eu hunain yn ddigartref yn ystod mis Awst; Darparwyd llety hirdymor addas i 476 o bobl ddigartref; ac roedd 101 o bobl ddigartref yn cysgu ar y stryd. Bydd data misol o'r math hwnnw yn cael eu cyhoeddi ar gyfer gweddill tymor y Senedd hon.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ateb? A byddai ef hefyd wedi clywed y drafodaeth yn y Siambr yr wythnos diwethaf gyda'r Gweinidog tai, ac mae'r o 100 neu 101 o bobl sy'n cysgu ar strydoedd trefi a dinasoedd Cymru erbyn hyn yn peri gofid mawr. Gwn fod mwy na 3,000 neu 3,500, rwy'n credu, wedi cael cymorth yn ystod COVID i gael llety brys o ryw fath neu'i gilydd, ac mae hynny'n gyflawniad gwirioneddol, ond rhan o'r broblem yw na fu gennym, ers blynyddoedd lawer, amcangyfrif dibynadwy iawn o nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd, ac mae hyn wedi bod yn broblem ledled y Deyrnas Unedig, ond mae angen i ni wybod beth yw lefel y broblem, fel y gallwn ni gymryd camau priodol i ymateb i'w maint. Ond a allwch chi roi'r sicrwydd i ni ar unwaith bod yr allgymorth pendant i helpu'r 101 o bobl hynny sy'n cysgu ar y stryd ar hyn o bryd yn cael effaith?
Llywydd, rwy'n credu y gallwn ni roi'r sicrwydd hwnnw. Mae'n ddau beth gyda'i gilydd, mae'n ymddangos i mi. Allgymorth grymusol ac yna lefel briodol o gefnogaeth i'r bobl hynny ar ôl iddyn nhw gael eu cyrraedd ac ar ôl iddyn nhw gael eu rhoi mewn llety. Rydym ni'n gwybod, ymhlith y 101 o bobl a oedd yn cysgu ar y stryd ym mis Awst, y bydd rhai pobl y mae eu lefel o ddibyniaeth ar alcohol neu ar gyffuriau wedi mynd â nhw yn ôl i'r strydoedd unwaith eto. Byddwn yn gwybod, mewn rhai lleoliadau, lle mae pobl a oedd yn ddigartref gynt wedi cael eu cartrefu dros dro, bod lefel o ymddygiad gwrthgymdeithasol sy'n cael effaith ar staff ac ar denantiaid eraill hefyd ac y mae rhai pobl yn canfod nad ydyn nhw'n gallu ymdopi ag ef. Felly, yn ogystal â chyrraedd pobl trwy wasanaethau allgymorth pendant, mae'n rhaid i ni hefyd wneud yn siŵr bod gennym ni'r cymorth sy'n angenrheidiol wedyn i gadw pobl mewn llety dros dro i ddechrau, ac yna i lety parhaol yn y ffordd yr ydym ni'n dymuno ei weld. Gwn y bydd David Melding yn ymwybodol o'r ffaith bod bron i £10 miliwn o gam nesaf gwerth £50 miliwn ein hymateb i ddigartrefedd ar gyfer y cymorth cofleidiol hwnnw ym maes iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau, i geisio gwneud yn siŵr nad yw pobl yn teimlo mai'r ateb sy'n iawn iddyn nhw yw dychwelyd i gysgu ar y stryd y bydden nhw wedi cael eu rhyddhau ohono fel arall.
7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau y gall greu swyddi a chyfleoedd hyfforddi i bobl o bob oed yn Ogwr yng nghyd-destun dirywiad economaidd? OQ55900
Ym mis Gorffennaf, fe wnaethom gyhoeddi pecyn gwerth £40 miliwn i helpu cyflogwyr ledled Cymru i gyflogi a hyfforddi gweithwyr newydd. Yn gynharach y mis hwn, yn rhan o'r pecyn hwnnw, lansiwyd cymorth penodol gennym i annog recriwtio prentisiaid, yn ogystal â chronfa rwystrau i helpu unigolion sy'n ystyried hunangyflogaeth.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. A, Prif Weinidog, byddwch yn gwybod bod Centrica wedi dechrau trafodaethau gydag undeb y GMB yn gynharach eleni am newidiadau i delerau ac amodau swyddi, ond fe wnaethon nhw ddechrau'r trafodaethau hynny yng nghanol y pandemig gyda'r bygythiad i ddiswyddo ac ailgyflogi ei weithlu o 20,000 yn y DU, ac mae'r gyfran fwyaf o'r swyddi hyn fesul pen o'r boblogaeth yma yng Nghymru, ac mae llawer yn fy etholaeth i, mewn gwirionedd. Cwmni yw hwn, Prif Weinidog, sydd wedi elwa ar gontract gwerth £200 miliwn i redeg rhaglen effeithlonrwydd ynni Nyth yng Nghymru. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi nad dyma'r hyn y dylem ni ei ddisgwyl gan sefydliad yr ydym ni'n cyflawni busnes gydag ef yma yng Nghymru ac nad dyma'r ffordd yr ydym ni'n disgwyl iddyn nhw drin eu gweithwyr? A wnaiff ef, felly, alw arnyn nhw i dynnu eu bygythiadau oddi ar y bwrdd, camu yn ôl o'r dibyn, a gweithio i sicrhau cytundeb synhwyrol, wedi'i negodi sydd er budd cyffredin enw da Centrica plc a'u cyfranddalwyr, ac, yn bwysicaf oll, er budd eu gweithlu medrus a ffyddlon iawn a'u teuluoedd?
Rwy'n sicr yn ymwybodol o fater Centrica, ar ôl cael trafodaethau'n uniongyrchol gydag arweinwyr y GMB yn ei gylch. Ysgrifennodd fy nghyd-Aelod Ken Skates at Centrica yn ôl ym mis Awst pan oeddem yn trafod hyn ddiwethaf gyda'r undeb. Gadewch imi fod yn glir, Llywydd: nid oes esgus i unrhyw sefydliad neu gwmni ddefnyddio argyfwng y coronafeirws i erydu hawliau a breiniau ei weithlu. Ac ategaf yn fawr iawn y sylw olaf a wnaeth Huw Irranca-Davies; rwy'n credu y byddai'n ddoeth iawn i'r cwmni dynnu'r bygythiad yn ôl, i ailddechrau trafod ac i weithio gyda'r GMB i negodi cytundeb.
Ac yn olaf, cwestiwn 8, Siân Gwenllian.
8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wasanaethau deintyddol yn Arfon? OQ55946
Diolch yn fawr i Siân Gwenllian am y cwestiwn. Mae'r bwrdd iechyd yn gweithio i sicrhau bod mwy o bobl yn gallu cael gafael ar wasanaethau deintyddol. Mae hyn yn cynnwys cynlluniau i gynnig darpariaeth newydd yn lle’r hyn sydd wedi ei golli, a hynny ar frys.
Dwi'n deall hefyd bod yna uned hyfforddi deintyddion yn mynd i gael ei sefydlu yn y gogledd, ac mae hynny yn newyddion da, wrth gwrs, ond mae o ddwy neu dair blynedd i ffwrdd, ac yn y cyfamser, mae yna argyfwng gwirioneddol yn digwydd yn fy etholaeth i. Mae rhan o'r broblem yn codi o'r ffordd mae'r cytundebau yn gweithio rhwng deintyddion a'r byrddau iechyd, ac mae yna addewid wedi bod ers tro y byddai'r Llywodraeth yma yn edrych yn fanwl ar beth sydd angen ei wneud er mwyn gwella'r sefyllfa yna. Fedrwch chi symud ymlaen efo'r gwaith yna rŵan os gwelwch yn dda? Ar y funud, mae pobl yn fy etholaeth i yn cael eu gadael i lawr. Mae yna ddeintyddfa arall yn cau y flwyddyn nesaf, ac mae yna wirioneddol angen gweithredu buan yn y maes yma.
Diolch yn fawr i Siân Gwenllian. Dwi wedi gweld y ffigurau o ran beth sydd wedi digwydd yn ei hardal hi. Dŷn ni ddim wedi sôn am Brexit eto heddiw, ond mae Brexit wedi cael effaith negyddol ar wasanaethau deintyddol. Mae 17 y cant o'r deintyddion sy'n cael eu cyflogi gan y cwmnïau mawr—a'r cwmnïau mawr sy'n cwympo mas o ardaloedd fel y gogledd-orllewin—yn cael eu recriwtio o'r Undeb Ewropeaidd, ac mae Brexit yn tanseilio hynny. Fel roedd Siân Gwenllian yn ei ddweud, bydd yr uned addysgu deintyddol newydd ym Mangor yn helpu. Bydd ymdrech y bwrdd iechyd i gynyddu mynediad i ofal deintyddol brys yn helpu. Mae'r Athro Paul Brocklehurst, y dirprwy brif swyddog deintyddol, wedi ei leoli yng ngogledd Cymru, a bydd yn cynnig cymorth arbennig wrth ymateb i'r her a wynebir yn etholaeth yr Aelod.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol ar ei gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Helen Mary Jones.
1. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ohebiaeth rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ynghylch achos ymgyrch Menywod yn erbyn Anghyfiawnder Pensiwn y Wladwriaeth i fenywod a anwyd yn y 1950au y gwrthodwyd eu pensiynau iddynt? OQ55902
Rydym ni, y Llywodraeth, wedi mynegi pryderon dro ar ôl tro i Lywodraeth y DU ynghylch menywod y cynyddwyd eu hoedran pensiwn gwladol heb hysbysiad effeithiol na digonol. Ysgrifennodd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn ddiweddar at Lywodraeth y DU i bwyso am ateb teg a chlir i'r menywod.
Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. A yw'n cytuno â mi fod rhesymau penodol yng nghyd-destun COVID pam y dylai Llywodraeth y DU fynd i'r afael â'r anghyfiawnder hwn fel mater o frys? Mae cyngor swyddogol i bobl dros 60 oed yn awgrymu y dylai pobl leihau eu cysylltiad ag eraill, ac eto, mae llawer o fenywod y 1950au yn gweithio mewn swyddogaethau sy'n gofyn am ymwneud â'r cyhoedd megis gofal cymdeithasol, y GIG a manwerthu. Maen nhw'n dweud wrthyf eu bod yn ofni mynd i'r gwaith, ond na allan nhw fforddio peidio â gwneud hynny. Ac mae'n bosib y gellid rhyddhau 1.5 miliwn o swyddi pe caniateid i'r menywod hynny godi eu pensiynau nawr a chael rhywfaint o iawndal am yr hyn y maen nhw wedi'i golli. Effeithir ar dros 5,000 o fenywod yn Llanelli yn fy rhanbarth i yn unig. Mae Llywodraeth y DU wedi gallu darganfod adnoddau pan fo angen, i ymateb i argyfwng COVID, ac rwy'n siŵr ein bod i gyd yn gwerthfawrogi hynny. Ond a yw'r Cwnsler Cyffredinol yn cytuno â mi y dylen nhw edrych eto yn y cyd-destun hwn lle gofynnir i fenywod weithio mewn sefyllfaoedd lle nad ydyn nhw efallai'n ddiogel, a lle mae gennym ni bobl ifanc, fel y clywsom ni mewn ymateb i gwestiynau cynharach, yn chwilio'n daer am waith—onid yw'n bryd i Lywodraeth y DU weithredu? Ac a wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ystyried gohebu ymhellach â Llywodraeth y DU, yn y cyd-destun ar ôl COVID hwn, ar ran y menywod?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol pwysig yna. Rwy'n credu ei fod yn taflu goleuni sylweddol iawn ar y sefyllfa. Rwy'n credu ei bod hi'n briodol dweud, wrth gwrs, fod menywod yn cael eu gorgynrychioli, os mynnwch chi, mewn sectorau sydd wedi cael eu taro'n arbennig o galed yn ystod argyfwng COVID, sydd, yn fy marn i, yn dangos yn glir iawn yr her y mae llawer o'r menywod hyn yn ei hwynebu. Mae llawer ohonyn nhw wedi bod yn gweithio mewn swyddogaethau nad oedden nhw efallai yn talu'n dda ers blynyddoedd lawer cyn wynebu'r pwysau ariannol y maen nhw yn ei wynebu o'r newydd o ganlyniad i weithredoedd Llywodraeth y DU. Rwy'n gwybod y bydd yr un mor siomedig â minnau nad yw'r strategaeth ymgyfreitha yr oedd y grwpiau ymgyrchu yn ei dilyn wedi gallu dwyn ffrwyth. Ond mae hynny bellach, rwy'n credu, yn rhoi cyfrifoldeb penodol ac arbennig ar Lywodraeth y DU i ymgysylltu â'r grwpiau sydd wedi bod yn dadlau ar ran menywod yr effeithir arnyn nhw. Rwyf i, a dychmygaf fod llawer o Aelodau eraill yn y Siambr, wedi cael gohebiaeth gan fenywod yr effeithiwyd arnyn nhw yn cyflwyno cynigion synhwyrol a phragmatig iawn ar gyfer sut y gellid mynd i'r afael â'r her a'r anghyfiawnder hwn. Ac yn y goleuni hwnnw y mae fy nghyd-Aelod Jane Hutt wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU, i'w hannog i ymgysylltu â'r grwpiau hyn a thrafod datrysiad.
2. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o gymal 49 o Fil Marchnad Fewnol y DU? OQ55917
Byddai cymal 49 o'r Bil fel y'i cyflwynwyd yn gwneud Deddf Marchnad Fewnol gyfan y DU yn ddeddfiad gwarchodedig. Dim ond pan ellir cyfiawnhau hynny y dylid defnyddio statws deddfiad gwarchodedig. Rydym ni wedi cynnig hepgor y ddarpariaeth hon; mater i Lywodraeth y DU nawr yw cyflwyno'r achos dros ei chynnwys.
Diolch, Cwnsler Cyffredinol. Pleidleisiodd y cyhoedd yng Nghymru o blaid datganoli yn 1997. Ar ôl y mandad cychwynnol hwnnw, rydym ni wedi cael 12 digwyddiad democrataidd pellach sydd wedi caniatáu i bobl Cymru gadarnhau'r farn honno—ar ffurf refferendwm pellach yn 2011, pum etholiad yn y Senedd, a chwe etholiad cyffredinol. Yn y refferenda a'r holl etholiadau cafwyd mwyafrif clir o blaid datganoli. Nawr, byddwch yn gwybod y bydd cymal 46 o Fil y farchnad fewnol yn galluogi Llywodraeth y DU i wario arian mewn meysydd datganoledig yng Nghymru. Byddai hynny'n caniatáu iddyn nhw, er enghraifft, wario arian ar gynlluniau trafnidiaeth a allai gael effaith andwyol ar feysydd sydd wedi'u datganoli, megis iechyd y cyhoedd, yr amgylchedd a chadwraeth. Fel yr ydych chi wedi bod yn ei nodi, Cwnsler Cyffredinol, mae cymal 49 o'r Bil yn atal y Senedd rhag gallu cyflwyno her gyfreithiol i gynlluniau o'r fath, er eu bod yn effeithio ar feysydd datganoledig. Rydym ni wedi gwybod o'r dechrau bod Boris Johnson yn elyniaethus i ddatganoli, sydd bellach wedi'i gadarnhau o lygad y ffynnon. Mae'r cipio grym hwn yn cadarnhau'r elyniaeth honno. Felly, a ydych chi'n cytuno â mi nad oes gan Lywodraeth Dorïaidd y DU fandad democrataidd i basio darpariaethau o'r fath, yn enwedig o gofio bod y mwyafrif o Aelodau Seneddol Cymru wedi pleidleisio yn eu herbyn a bod y Senedd hon yn gwrthwynebu?
Credaf fod yr Aelod yn gywir i dynnu sylw at effaith dynodi'r Bil yn ddeddfiad gwarchodedig, gan ei fod yn atal y Senedd hon rhag addasu effeithiau'r Ddeddf. Ond mae'n cyfeirio hefyd at ddarpariaeth lawer ehangach yn y Bil, sydd yr un mor anghyfiawn—os gallaf ei fynegi yn y termau hynny—sef y darpariaethau sy'n rhoi pwerau o feysydd datganoledig i Weinidogion Llywodraeth y DU i wario yng Nghymru. Nawr, clywsom y cyfraniadau yn Nhŷ'r Cyffredin yn ystod y dadleuon ar y Bil yn gynharach yn y flwyddyn ac roedd hi'n amlwg o'r cyfraniadau hynny mai'r hyn rwy'n credu sy'n ysgogi rhai o'r penderfyniadau hyn yw nad yw Llywodraeth y DU yn fodlon ar y blaenoriaethau y mae Llywodraeth Cymru, a etholwyd gan bobl Cymru, wedi eu gosod drosti eu hun yn rhan o fandad democrataidd. Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig ar hyn o bryd yw i Lywodraeth y DU gydnabod nad yw hi'n rhy hwyr iddi newid ei meddwl o ran y ddarpariaeth hon. Byddem yn sicr yn ei gwahodd i wneud hynny. Pan ydym yn trafod hyn gyda Llywodraeth y DU, yn amlwg, caiff ei ddisgrifio fel cyfle i gydweithio. Wel, os yw hynny'n wir, mae'n ymddangos i mi ei fod yn gyfle i weithio o amgylch Llywodraeth Cymru, yn hytrach na gweithio gyda Llywodraeth Cymru. Ond, fel y dywedais, nid yw hi'n rhy hwyr i Lywodraeth y DU newid ei safbwynt yn hynny o beth a chydnabod y setliad datganoli democrataidd.
Rwy'n pryderu'n benodol am hyn, oherwydd, ar ôl cael gwybod bod gadael yr UE yn ymwneud ag adfer rheolaeth, nid wyf yn credu bod llawer ohonom ni wedi sylweddoli bod hynny'n golygu Llywodraeth y DU yn adfachu rheolaeth a'r arian sy'n mynd gyda hynny er mwyn i'r canol allu targedu seddi at eu dibenion gwleidyddol eu hunain. Ac o roi anallu Llywodraeth y DU dros brofi, olrhain a diogelu a'u hawydd i roi arian i'w ffrindiau o'r neilltu, holl ddiben y llywodraeth ddatganoledig yw bod Llywodraeth Cymru yn deall y gwahaniaeth rhwng Caerdydd, Caernarfon a Chaersws, yn ogystal â nodweddion unigryw cymunedau fel fy un i, fel Adamsdown a rhannau o Bentwyn, sy'n ardaloedd o amddifadedd sylweddol, ac y mae eu hanghenion yn gwbl wahanol i anghenion Cyncoed neu Ben-y-lan, dyweder, er nad ydyn nhw ond ychydig filltiroedd ar wahân. Felly, beth ellir ei wneud i atal Llywodraeth Dorïaidd y DU rhag herwgipio'r arian hwn at eu dibenion eu hunain, yn hytrach na mynd i'r afael â thlodi ac amddifadedd yn ein cymunedau?
Mae'r Aelod, wrth gwrs, yn gywir i ddweud mai bwriad y Bil—mai diben y Bil, yn sicr—yw cyfyngu ar allu'r Senedd a Gweinidogion Cymru i weithredu yn unol â'r setliad datganoli. Nid oedd yn rhaid iddo fod fel hyn, ac nid oes rhaid iddo fod fel hyn o hyd. Rydym ni wedi cynnig dewis amgen i'r Bil sy'n parchu'r setliad datganoli, ond sydd hefyd yn cyflawni'r safonau uchel mewn ystod o feysydd, y gwn i ei bod yn teimlo'n angerddol iawn yn eu cylch ac yn ymgyrchydd brwd iawn drostynt. Fel y dywedais, rydym ni wedi dilyn strategaeth o gyflwyno dewisiadau adeiladol amgen, ac wedi cael cefnogaeth sylweddol yn Nhŷ'r Arglwyddi, fel rwy'n gwybod ei bod yn ymwybodol, i lawer o'r safbwyntiau hynny, o amrywiaeth o leisiau gwleidyddol a lleisiau anwleidyddol, ac o amrywiaeth o wahanol gefndiroedd. A chafwyd thema gref iawn, iawn bod angen parchu'r setliad datganoli ac os yw Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen ar y sail mai bwriad y Bil hwn yw cryfhau'r undeb, bydd yn canfod ei bod yn camgymryd, oherwydd y ffordd orau o wneud hynny yw drwy amddiffyn ac ymestyn datganoli, yn hytrach na cheisio ei sathru dan draed.
3. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith ynghylch goblygiadau cyfreithiol Brexit heb gytundeb? OQ55903
Mae Llywodraeth Cymru wedi ei gwneud hi'n glir i Lywodraeth y DU fod cytundeb masnach gyda'r UE yn hanfodol bwysig i ddinasyddion a busnesau Cymru. Fodd bynnag, gan ein bod yn Llywodraeth gyfrifol rydym yn cynllunio ar gyfer y posibilrwydd. Mae hyn yn cynnwys gwneud yr holl ddeddfwriaeth angenrheidiol yng Nghymru i allu gweithredu canlyniad o 'dim cytundeb masnach' erbyn 31 Rhagfyr.
Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. A gaf i ofyn pa mor ffyddiog ydyw y bydd gennym ni fframwaith cyfreithiol ymarferol, y bydd modd gweithio ag ef, mewn meysydd pwysig, fel yr amgylchedd ac amaethyddiaeth, a oedd gynt yn deillio o gyfraith Ewrop? Mae'n siarad, yn ei ymateb i Delyth Jewell, am ddewis adeiladol arall yn lle Bil y farchnad fewnol, ac, wrth gwrs, dyna'r ffordd gywir o fynd ati, ond sut mae Llywodraeth Cymru yn ystyried y dylid gweithredu i ddiogelu'r setliad datganoli os caiff y ddeddfwriaeth hon ei phasio heb ei diwygio? A yw'n rhannu fy mhryder, a phryder a fynegwyd yn ddiweddar gan yr Athro Emyr Lewis ym Mhrifysgol Abertawe, y gallwn ni, os caiff y Bil hwn ei basio heb ei ddiwygio, wynebu Llywodraeth y DU sy'n cael blas ar ddeddfu mewn ffordd sy'n rhoi ei hun y tu hwnt i gwmpas arferol y gyfraith? A yw'r Cwnsler Cyffredinol wedi cael unrhyw drafodaethau gyda swyddogion y gyfraith yn y gweinyddiaethau datganoledig eraill ynghylch pa gamau cyfreithiol, os o gwbl, y gellid eu cymryd pe cai'r Bil hwn ei basio heb ei ddiwygio? Gobeithio y byddai'n cytuno â mi y byddai'n beryglus iawn yn wir i Lywodraeth y DU gael blas ar basio deddfwriaeth sy'n rhoi ei hun y tu hwnt i gwmpas y gyfraith.
Byddai nid yn unig yn beryglus, ond byddai'n gwbl anghywir yng nghyd-destun y setliad datganoli. Felly, ategaf y sylw y mae'r Aelod yn ei wneud yn ei chwestiwn ynglŷn â hynny. Credaf fod y sylw yr oedd Delyth Jewell yn ei wneud yn ei chwestiwn ynghylch y deddfiad gwarchodedig yn estyniad o'r egwyddor arferol. Felly, rydym ni wedi derbyn y gall fod adegau pan gaiff deddfiadau eu diogelu, ond o ran y Bil hwn, mae gwaharddiad cyffredinol ar addasu i bob pwrpas, y byddech yn disgwyl ei weld mewn deddfwriaeth gyfansoddiadol sylweddol iawn, nid un sydd, ar yr wyneb, yn ymdrin â materion sy'n ymwneud â'r economi a masnach. Felly, credaf fod hynny'n rhoi'r syniad sydd ei angen arnoch chi am faint y tresmasu ar y setliad datganoli y mae'r Bil hwn yn ei gynrychioli. A chytunaf â hi y byddai'n beryglus iawn gweld hynny'n dod yn batrwm ac, yn wir, byddai'n gwbl annerbyniol, hyd yn oed yn y Bil hwn.
Ynghylch y cwestiwn o fod â llyfr statud gweithredol ar ddiwedd y cyfnod pontio, yr hyn y gwnaf i ei ddweud yw y bu llawer iawn o waith ar y gweill o ran cael cysondeb yn llyfr statud Cymru, drwy is-ddeddfwriaeth, i ystyried y newidiadau y bydd angen eu gwneud ar ôl diwedd y cyfnod pontio. Mae wedi bod yn dasg enfawr, a chaiff offerynnau statudol pellach eu cyflwyno i'r Senedd dros yr wythnosau nesaf. Nid ydym yn gwybod eto beth fydd canlyniad y trafodaethau rhwng Llywodraeth y DU a'r Comisiwn Ewropeaidd, yn amlwg, ond os cytundeb fydd y canlyniad, mae'n debyg y bydd angen gweithredu deddfwriaeth, ac mae'n debyg y bydd hynny—mae'n debyg, byddwn yn awgrymu—yn gofyn am gydsyniad y Senedd hon os yw'n ymwneud â materion sydd fel arall wedi'u datganoli. Ni wyddom ni eto sut olwg fydd ar y ddeddfwriaeth honno. Ni wyddom ni faint y dasg o fynd i'r afael â hi eto. Ni wyddom ni eto faint o weithredu is-ddeddfwriaeth y bydd hynny'n ei olygu. Mae'n debyg y bydd angen gwneud y cyfan erbyn diwedd eleni. Felly, mae'r her, rwy'n credu, yn amlwg pan fyddaf yn ei chyflwyno felly. Er y bu cynnydd da a, byddwn yn dweud, cydweithio da iawn gyda Llywodraeth y DU a Llywodraethau datganoledig eraill o ran y rhaglen waith hyd yma, mae'n amlwg pan ddywedaf fod her sylweddol yn union o'n blaenau. A chredaf fod hynny'n dweud ychydig wrthych chi am faint yr her yr ydym ni i gyd yn ei hwynebu yn ystod y misoedd nesaf.
4. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r ddeddfwriaeth sy'n sail i fabwysiadu ffyrdd o fewn datblygiadau tai newydd yng Nghymru? OQ55915
Sefydlodd Gweinidogion Cymru dasglu yn gwerthuso atebion posibl o ran ffyrdd heb eu mabwysiadu. Daeth i'r casgliad nad oedd angen newidiadau deddfwriaethol, ond cyhoeddwyd canllaw arfer da, gan leihau'r risg o greu ffyrdd pellach heb eu mabwysiadu. Cyn bo hir, byddwn yn cyhoeddi canfyddiadau o'n galwad am dystiolaeth ynglŷn â thaliadau ystadau ar ddatblygiadau newydd.
Yn dilyn y ddadl gan Aelodau, a gynigiais yn y Cyfarfod Llawn ar 14 Chwefror 2018, roeddwn yn falch o weld yr adroddiad gan y tasglu ffyrdd sydd heb eu mabwysiadu. Fodd bynnag, mae un elfen yn fy siomi, ac mae hynny'n ymwneud â'r diffyg pwysau cyfreithiol y tu ôl i rai o'r argymhellion. Yn benodol, mae canllaw model mabwysiadu ffyrdd y tasglu yn nodi, os caiff pum eiddo neu fwy eu gwasanaethu gan ffordd mewn datblygiad tai newydd, y dylai awdurdodau priffyrdd gyflwyno hysbysiad cod talu uwch i ddatblygwyr, sydd yn ei hanfod yn sicrhau bod bond ariannol ar waith i dalu unrhyw gostau yn y dyfodol o godi'r ffordd i safon y gellir ei mabwysiadu, fel y gwyddoch chi. Fodd bynnag, nid yw canllawiau ac argymhelliad, byddwn yn awgrymu, yn ddigon cryf, yn fy marn i, yn yr achos hwn. A wnewch chi, felly, ymrwymo i gynnal trafodaethau pellach gyda'r Gweinidog trafnidiaeth i archwilio a ddylid cyflwyno deddfwriaeth yn y maes hwn er mwyn gosod dyletswydd ar awdurdodau lleol i gyflwyno hysbysiad i ddatblygwyr mewn amgylchiadau o'r fath?
Diolch i Dai Lloyd am ei gwestiwn pellach ynglŷn â hynny. Credaf y gwnaeth Gweinidog yr economi, a gomisiynodd waith y tasglu, ddatganiad ynglŷn â hyn ddiwethaf ychydig wythnosau'n ôl, ddiwedd mis Hydref. Roedd argymhellion y tasglu, sydd, yn amlwg, wedi'i gyfansoddi er mwyn rhoi cyngor, o'r farn bod y ffordd orau ar hyn o bryd yn sicr yn ymwneud â defnyddio Deddf Priffyrdd 1980, a'r pwerau o dan adran 38 yn benodol, ac y gellid cyflawni gweddill ei argymhellion, yn wir, heb ddeddfwriaeth sylfaenol. Fel y dywedais, mae galw pellach am dystiolaeth ynglŷn â materion sy'n ymwneud â thaliadau ystadau. Mae'r sylw y mae'n ei wneud am y rhwymedigaethau talu, yn amlwg, yn peri pryder arbennig. Bydd yn rhaid parhau i weld a fydd unrhyw ystyriaethau deddfwriaethol yn codi yng nghyd-destun taliadau ystadau pan fydd gennym ni'r argymhellion a chanlyniad yr alwad am dystiolaeth.
5. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith yn y Deyrnas Unedig ynghylch cefnogi pysgodfeydd Cymru ar ôl i'r cyfnod pontio'r UE ddod i ben? OQ55911
Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gyda Llywodraeth y DU a'r Llywodraethau datganoledig eraill ar Fil Pysgodfeydd y DU ac ar is-ddeddfwriaeth ymadael â'r UE i sicrhau cyfres o bwerau a fydd yn ein galluogi i gefnogi pysgodfeydd Cymru ar ôl diwedd cyfnod pontio'r UE.
Diolch. Er fy mod yn sicr yn gobeithio am gytundeb, yn enwedig yng ngoleuni y sôn gan Ursula von der Leyen am gynnydd ddydd Sadwrn diwethaf, fodd bynnag, mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i baratoi ar gyfer y sefyllfa waethaf. Dim ond 37 diwrnod o bontio sydd gennym ni ar ôl, felly mae'n hanfodol bod pawb yng Nghymru yn paratoi hyd eithaf eu gallu, gan gynnwys holl bysgodfeydd Cymru. Yn ddiau, cafwyd newyddion rhagorol, gan y bydd y cytundeb â Chanada yn golygu y gellir allforio pysgod yn rhad ac am ddim. Ond, wrth gwrs, ni allwn ni anghofio pwysigrwydd marchnad yr UE. Er enghraifft, aiff dros 60 y cant o allforion bwyd môr Cymru i Sbaen. Er mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw cymorth pysgodfeydd, rwy'n croesawu'r ffaith eich bod yn ymdrechu i gael cynllun ymyrraeth ledled y DU. Yn ôl cynllun gweithredu diwedd y cyfnod pontio, y sefyllfa ddiweddaraf oedd eich bod yn cyfathrebu â Llywodraeth y DU. Allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd a'i Haelodau heddiw ynglŷn â phryd yr ydych chi'n gobeithio y bydd y cymorth hwn ar gael rhag ofn y gallai fod ei angen?
Bu bron imi wirio i weld o ba feinciau yr oedd y cyflwyniad yna'n dod am eiliad. Byddaf bob amser yn croesawu cydnabyddiaeth gynyddol gan feinciau ar bob rhan o'r Siambr hon o effaith yr her sydd o'n blaenau. Dywedaf ei bod yn gyfres sylweddol iawn o heriau y mae'r Llywodraeth hon wedi bod yn ceisio ymgodymu â hwy, ac rwy'n falch bod cydnabyddiaeth o'r risgiau sydd yn y cyfnod i ddod o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd o bosib heb gytundeb.
Yr hyn a ddywedaf o safbwynt polisi—. Rwy'n siŵr y bydd fy nghydweithiwr, y Gweinidog sy'n gyfrifol am bysgodfeydd, yn cyflwyno rhagor o wybodaeth maes o law. Cyfeiriaf Janet Finch-Saunders at ddatganiad Lesley Griffiths ychydig wythnosau'n ôl ynglŷn â chynlluniau ar gyfer cefnogi pysgodfeydd yn y dyfodol o ran yr ymgynghoriad 'Brexit a'n Moroedd', a amlinellodd rai o'n cynigion. Ond, hoffwn ddweud wrthi y bu cydweithio agos iawn â rhannau eraill o'r DU yn hyn o beth, fel bod gennym ni yr offer ar gael er mwyn gallu gofalu am fuddiannau pysgotwyr yng Nghymru, o ran deddfwriaeth, paratoi ar gyfer cymorth ariannol yn y dyfodol o ddechrau'r flwyddyn nesaf, a chynlluniau maes o law ar gyfer Bil pysgodfeydd i Gymru.
Cwestiwn 6, Janet Finch-Saunders.
Diolch, Llywydd, a dim ond er mwyn eglurder, nid proffwyd gwae oeddwn i yn y fan yna—
Na, dydych chi ddim yn cael ail gyfle gyda chwestiwn 5. Rydych chi, mewn gwirionedd, yn cael cyfle gyda chwestiwn 6 nawr. Janet Finch-Saunders.
6. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith yn y Deyrnas Unedig ynghylch darparu cymorth i'r sector cig coch ar ôl i'r cyfnod pontio'r UE ddod i ben? OQ55912
Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU a Llywodraethau datganoledig i gyflwyno'r achos dros gyllid gan Drysorlys Ei Mawrhydi i gefnogi'r sector cig coch os na fydd cytundeb masnach ar gyfer ymadael â'r UE.
Diolch. Byddwch yn ymwybodol, wrth gwrs, fod cynllun gweithredu diwedd y cyfnod pontio yn cydnabod y byddai gennym ni gytundeb yn y sefyllfa orau, ac rwyf eisiau gweld cytundeb masnach. Ond, mae'n rhaid i ni baratoi, a, gadewch i ni fod yn onest, rydych chi Lywodraeth Cymru, wedi cael amser hir ers y bleidlais honno i wneud y paratoadau hyn. Rydych chi wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU, gobeithio, i ddatblygu cynllun wrth gefn ledled y DU mewn ymateb i'r effeithiau posibl ar y sector defaid. Yn ôl y cynllun ar gyfer diwedd y cyfnod pontio, roedd y dyluniad gweithredol eto i'w gwblhau ar 11 Tachwedd 2020. A gafwyd y cytundeb hwn bellach ac, os felly, a wnewch chi amlinellu inni fel Aelodau sut y bydd y cynllun ymyrryd mewn argyfwng yn gweithio?
Mae NFU Cymru wedi codi pryderon bod sector llaeth Cymru yn agored i niwed o ganlyniad i'w faint a'i allu i brosesu llaeth, a dibyniaeth ar farchnad nwyddau llaeth nad yw'n talu'n rhy dda, fel y gwyddom ni i gyd. Beth ydych chi'n ei wneud, Gwnsler Cyffredinol, i ddiogelu ein diwydiant llaeth cyn y flwyddyn nesaf hefyd?
Wel, mae'n ddrwg gennyf siomi Janet Finch-Saunders, ond credaf fod y cwestiynau hynny'n canolbwyntio'n bennaf ar ymateb polisi'r Llywodraeth o ran cefnogi'r sector cig coch, ac rwy'n credu mai mwy priodol mae'n debyg fyddai cyflwyno'r cwestiynau hynny i Lesley Griffiths y Gweinidog sy'n gyfrifol. Ond, o safbwynt cyfreithiol, bydd yn ymwybodol, yn Neddf Amaethyddiaeth 2020, er enghraifft, fod Gweinidogion Cymru wedi cymryd pwerau'n benodol i ymdrin ag amodau marchnad eithriadol, y byddai'r amodau hyn yn amlwg yn eu cynrychioli, ac yn rhoi pwerau i ni gefnogi'r sector o dan yr amgylchiadau hynny.
Fel y mae hi ei hun yn ei gwneud yn glir, mae'n hanfodol bwysig i'r sector cig coch y dylid dod i gytundeb. Allforir 35 y cant o'n cig oen, ac allforir 90 y cant o hynny i farchnad yr UE. Felly, os na sicrhawn ni gytundeb sy'n diogelu buddiannau ffermwyr Cymru yn hynny o beth, yn sicr bydd angen ymyrraeth ledled y DU, a byddwn yn gofyn i'r Trysorlys ariannu'r ymyriad hwnnw. Ond, fel y dywedais, mae gennym ni'r fframwaith cyfreithiol ar waith i alluogi hynny i ddigwydd.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hynny—Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Mae gennyf dri newid i fusnes yr wythnos hon. Bydd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn gwneud datganiad heddiw ar yr wybodaeth ddiweddaraf am drefniadau mesurau arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. O ganlyniad, mae'r datganiad am dasglu'r Cymoedd wedi'i ohirio tan 8 Rhagfyr. Yn olaf, mae'r ddadl ar Reoliadau Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 1) 2020 wedi'i symud i'r eitem olaf ar yr agenda heddiw. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi ar y datganiad a'r cyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.
Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog priodol yn y Llywodraeth ynghylch cyfyngiadau ar ganu yn eglwysi Cymru a mannau addoli eraill? Yn amlwg, mae gennym ni dymor y Nadolig ar ein gwarthaf. Mae llawer o bobl yn mwynhau mynd i wasanaethau carolau a chymryd rhan mewn gwasanaethau addoli yr adeg benodol hon o'r flwyddyn, ac mae Llywodraeth y DU wedi gwneud cyhoeddiad yn ddiweddar am egwyddorion ar gyfer canu mwy diogel, gan gynnwys mewn addoldai, a fydd yn galluogi pobl i ddod at ei gilydd, ar yr amod eu bod yn ymwybodol o reolau cadw pellter cymdeithasol ac yn cymryd rhagofalon eraill, er mwyn ymgynnull ar gyfer addoliad o'r fath. Hoffwn gael y cyfle i bobl yng Nghymru fwynhau'r un breintiau, a tybed a allem ni gael datganiad am hyn cyn gynted ag y bo modd. Diolch.
Diolch i Darren Millar am godi'r mater hwn y prynhawn yma, ac wrth gwrs rydym wrthi'n gyson yn adolygu pob agwedd ar ein rheoliadau a'n canllawiau. Rwyf yn deall yr heriau y mae'r cyfyngiadau ar ganu mewn addoldai yn eu gosod ar eglwysi a mannau ffydd eraill yn ein cymunedau, a deallaf y siom y mae llawer o bobl yn ei theimlo wrth beidio â chael canu ar hyn o bryd. Gofynnaf i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg—i arddel ei theitl newydd—ystyried y sylwadau yr ydych chi wedi'u gwneud, ac yn amlwg, wrth inni barhau i adolygu'r pethau hyn, fe gaiff eich sylwadau eu hystyried yn briodol.
Hoffwn dynnu sylw at rwystredigaethau busnesau'r Rhondda sydd wedi'u gadael heb unrhyw gymorth ariannol ers dechrau'r pandemig. Gwyddom am fusnesau ledled Cymru a esgeuluswyd ar ôl gwneud cais i'r gronfa cadernid economaidd. Mae busnes newydd yn y Rhondda yn dweud wrthyf nad ydyn nhw wedi cael unrhyw gefnogaeth, er iddyn nhw golli'r mwyafrif o'u derbyniadau gwerthiant. Fe wnaethon nhw gais am grant dewisol cyfyngiadau symud a weinyddir drwy'r awdurdod lleol, a chafwyd ymateb yn dweud y bu eu cais i gronfa arall, nad oedden nhw wedi gwneud cais iddi, yn aflwyddiannus. Mae gyrwyr tacsis yn grŵp arall nad oes darparu ar ei gyfer, a threfnwyd gwrthdystiad gan undeb llafur Unite heddiw yng nghanol dinas Caerdydd, yn galw am gefnogaeth, ac rwy'n cefnogi'r ymgyrch hon. Nawr, rwy'n cydnabod ein bod yn byw mewn cyfnod na welwyd ei debyg o'r blaen a bod cynlluniau wedi'u llunio'n gyflym, ond oni ddysgir gwersi o'r hyn sydd wedi mynd o'i le hyd yn hyn, yna caiff camgymeriadau eu hailadrodd a bydd cymorth wedi'i dargedu yn parhau i esgeuluso'r busnesau sydd ei angen. Felly, a allwn ni gael datganiad gan y Llywodraeth yn amlinellu sut y gallwch chi adolygu'r system grantiau fel y gellir helpu'r achosion hynny yr wyf wedi eu crybwyll heddiw ac y gallwn ni sicrhau nad yw busnesau a phobl yn methu hawlio cymorth ariannol angenrheidiol pan fo gwir angen hynny arnyn nhw nawr?
Rwy'n ddiolchgar, unwaith eto, i Leanne Wood am godi'r mater hwn y prynhawn yma, ac rwy'n gwybod y bydd hi'n codi'r achos penodol cyntaf hwnnw gyda'r cyngor yn Rhondda Cynon Taf er mwyn sefydlu beth sydd wedi digwydd gyda'r cais grant penodol hwnnw. Mae'n wir, wrth gwrs, mai gan Gymru o hyd y mae'r pecyn cymorth mwyaf hael i fusnesau yn unrhyw le yn y DU, ac mae trydydd cam y gronfa cadernid economaidd eisoes wedi gweld dros 35,000 o fusnesau'n cael cynnig dros £106 miliwn hyd yma, ac, yn ogystal, mae dros £20 miliwn wedi cyrraedd busnesau twristiaeth, lletygarwch a manwerthu sydd â gwerth manwerthu o rhwng £12,000 a £50,000, ar ffurf y cyllid brys hwnnw. Felly, mae busnesau yn bendant yn cael y cyllid yna, er yn anochel ni fyddwn yn gallu cefnogi pob busnes unigol yng Nghymru. Ond rydym yn awyddus iawn i ddysgu o brofiadau trydydd cam y gronfa cadernid economaidd wrth i ni ddatblygu ein cefnogaeth i fusnesau yn y dyfodol.
Ac rwyf yr un mor bryderus ynghylch gyrwyr tacsis yn benodol. Credaf fod elfen cyfiawnder cymdeithasol yn y fan yma. Cefais drafodaeth dda gyda'r Athro Ogbonna, sydd wedi bod yn gwneud rhywfaint o waith i Lywodraeth Cymru ynglŷn â sut y mae'r coronafeirws wedi effeithio'n wael ar bobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yn arbennig. Ac mae gyrwyr tacsis yn gymwys i wneud cais am yr elfen ddewisol honno o'r gronfa cadernid economaidd, ac rwy'n awyddus iawn i ni gyfleu'r neges honno i yrwyr tacsi. Ond rwy'n gwybod y bu Ken Skates hefyd yn trafod materion penodol sy'n effeithio ar yrwyr tacsis ac eraill, gydag Unite ac eraill yr effeithir arnyn nhw.
Os caf i, fe hoffwn i ofyn i'r Llywodraeth am ddatganiad am argaeledd gwasanaethau argyfwng, gan gynnwys rhaglenni cymorth ariannol, drwy gydol y Nadolig a chyfnod y flwyddyn newydd.
Llywydd, rydym ni i gyd, ar bob ochr i'r Siambr, yn ymwybodol o'r ffordd y mae pobl wedi dioddef eleni, a gwyddom hefyd fod llawer o deuluoedd yn wynebu argyfwng gwirioneddol yr adeg hon o'r flwyddyn. Mae gennym ni ddadl am y Nadolig a'r angen i bobl ddod at ei gilydd a mwynhau cyfnod yr ŵyl, ond weithiau, rwy'n credu, rydym yn anghofio, i lawer o deuluoedd, y byddant yn ofni'r Nadolig ac na fyddant yn edrych ymlaen at gyfnod y gwyliau oherwydd y pwysau ariannol y maen nhw yn ei hwynebu fel teulu. A gwyddom fod grwpiau o bobl, neu wirfoddolwyr a chymunedau yn dod at ei gilydd i gefnogi a chynnal teuluoedd yn ystod y cyfnod hwn, fel y buont yn ei wneud drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf yn fy etholaeth i. Ond mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru, rwy'n teimlo, yn gwneud datganiad gwirioneddol ynglŷn â sut y byddant yn ceisio cefnogi gwasanaethau argyfwng drwy'r cyfnod hwn.
Hoffwn ofyn hefyd am ddadl ar y gronfa ffyniant gyffredin. Deallwn o'r papurau Sul y bydd Llywodraeth y DU yn gwneud datganiad ar hyn yfory. Hyd y gwn i, ni fu ymgynghori ar hyn, ac mae'n ymddangos—unwaith eto drwy ddarllen adroddiadau mewn papurau newydd—fod Llywodraeth y DU yn bwriadu peidio â dysgu gwersi cyllid Ewropeaidd, ond ailadrodd rhai o'r camgymeriadau a wnaethpwyd. Pan oeddwn yn Weinidog rhaglenni ariannu Ewropeaidd, arweiniais adolygiad o sut y gwnaethom ni ddyrannu ffrydiau ariannu bron i ddegawd yn ôl, ac fe wnaethom ni ddysgu llawer o wersi bryd hynny, y mae pob un ohonyn nhw yn cael eu dadwneud yn awr gan Lywodraeth sy'n benderfynol o chwarae gwleidyddiaeth gyda dyfodol ein gwlad. Gobeithio y gallwn ni gael dadl frys ar y mater hwn cyn toriad y Nadolig er mwyn sicrhau y gall y lle hwn drafod y materion hyn a chyflwyno ei farn ei hun.
Diolch i Alun Davies am roi'r cyfle i mi fynegi diolch Llywodraeth Cymru i'r unigolion a'r gwirfoddolwyr hynny sydd wedi gweithio mor galed drwy gydol pandemig y coronafeirws i gynnig y math hwnnw o gymorth argyfwng i deuluoedd ac unigolion sydd wirioneddol yn ei chael hi'n anodd o ganlyniad i'r argyfwng ac o ganlyniad i 10 mlynedd o gyni.
Mae Llywodraeth Cymru wedi rhoi cyllid sylweddol i'r Gronfa Gynghori Sengl, ac mae gan y gronfa honno record benodol a thrawiadol, rwy'n credu, o ran sicrhau bod teuluoedd ac unigolion yn hawlio'r budd-daliadau y mae ganddynt yr hawl iddynt—miliynau o bunnoedd yn ôl i bocedi pobl sy'n haeddu hynny yng Nghymru, a hynny'n gwbl briodol. Felly, rwy'n credu y bu hynny yn llwyddiannus iawn. Ac, yn rhan o'r ymateb i'r pandemig, rydym ni hefyd wedi rhoi £10 miliwn yn fwy o gefnogaeth i'r gronfa cymorth dewisol, ac eto, mae hynny'n gyfle pwysig iawn i bobl sy'n ei chael hi'n anodd iawn ac sydd mewn sefyllfa enbyd, i allu cael gafael ar gyllid yn gyflym iawn. Felly, rydym yn falch iawn o'r ffordd y caiff y gronfa honno ei gweithredu, ac wrth gwrs, byddwn yn annog Aelodau i gyfeirio unrhyw etholwyr y mae angen y cymorth hwnnw arnyn nhw at y gronfa honno.
Rwyf yr un mor bryderus ag Alun Davies am y gronfa ffyniant gyffredin. Mae ymgysylltiad Llywodraeth y DU wedi bod yn gwbl druenus—ni fu unrhyw ymgynghori, mewn gwirionedd—ar y mater penodol hwn. Nid ydym yn gwybod eto i ba raddau y byddwn yn gwybod unrhyw beth defnyddiol yfory yn yr adolygiad o wariant, ond fy mwriad, yn gynnar ar ôl cyhoeddi'r adolygiad o wariant, yw gallu darparu datganiad cynnar—yn y lle cyntaf, datganiad ysgrifenedig—i gyd-Aelodau gyda'n hymatebion cychwynnol, ac yna, yn amlwg, byddwn yn dod o hyd i'r cyfle priodol i ddarparu mwy o wybodaeth am unrhyw newyddion a allai fod ar gael neu beidio ynglŷn â'r gronfa ffyniant gyffredin.
Rwy'n galw am ddatganiad brys ar gefnogaeth i fusnesau gwely a brecwast bach. Pan ofynnais i chi am ddatganiad ar hyn chwe wythnos yn ôl, dywedais fod Llywodraeth Cymru unwaith eto wedi'u heithrio rhag cymorth ariannol i'w helpu i oroesi'r pandemig, y tro hwn wedi eu gwahardd o drydedd rownd y gronfa cadernid economaidd. Fe'u barnwyd hefyd yn anghymwys mewn camau blaenorol ac fe wrthodwyd grantiau busnesau bach iddyn nhw, yn wahanol i'w cymheiriaid yn Lloegr a'r Alban. Mewn ymateb, fe ddywedsoch chi y dylen nhw siarad â chynghorwyr Busnes Cymru i weld a allant eu cyfeirio at fathau eraill o gymorth. Ar ôl rhoi cynnig ar hyn, maen nhw wedi dweud wrthyf mai dim ond benthyciadau oedd ar gael, a byddai'r rhain yn eu gwthio i ddyled na ellir ei rheoli.
Ers hynny maen nhw wedi dweud wrthyf nad ydyn nhw ychwaith yn gymwys i gael eich grant dewisol cyfyngiadau symud ac yn gofyn a oedd Llywodraeth Cymru yn mynd i'w helpu cyn i'r gaeaf hwn gyrraedd, gan ddweud, 'Ni all ein sector oroesi heb gymorth ychwanegol'. Felly, mae angen datganiad gennych chi, yn manylu ar y gefnogaeth y byddwch yn ei rhoi iddyn nhw nawr, neu'n esbonio pam ar y ddaear eich bod wedi cefnu ar y sector allweddol hwn a'i gefnogaeth i'n heconomïau lleol.
Wel, byddwn i'n ddiolchgar iawn pe byddai Mark Isherwood yn anfon rhagor o fanylion ataf am y rhesymau pam nad oedd y perchnogion gwely a brecwast y mae'n cyfeirio atyn nhw yn gymwys i elwa ar y gronfa ddewisol. Mae'n dweud ei fod wedi gwneud hynny, ond nid oes dim wedi fy nghyrraedd eto. Felly, byddwn yn awyddus i ddeall y rhesymau am hynny, oherwydd rydym ni, fel yr wyf wedi sôn mewn ymateb i Leanne Wood, yn ceisio archwilio'r hyn y gallwn ni ei ddysgu o'r cam 3 presennol hwn o ran ein pecyn cymorth wrth inni symud ymlaen ar gyfer busnes. Felly, rwy'n awyddus i ddeall pam nad oedden nhw'n gallu cael gafael ar gyllid drwy'r gronfa ddewisol, sy'n fwriadol yn hyblyg ac yn eang iawn er mwyn diwallu anghenion y busnesau hynny nad ydyn nhw eto wedi gallu cael cymorth.
Hoffwn i wybod efo pwy yn union o fewn Llywodraeth Cymru mae'r sector theatrau angen bod yn trafod ynglŷn ag ailagor mewn ffordd ddiogel? Efo neuaddau bingo, sinemâu a chasinos ac yn y blaen yn cael ailagor, mae'r rhai sydd yn gweithio mewn theatrau, a'r rhai ohonom ni sydd yn hoffi mynychu theatrau, angen gwybod pryd gallan nhw ailagor yn ddiogel. Y broblem ydy nad ydyn nhw ddim yn gwybod efo pwy yn union o fewn Llywodraeth Cymru maen nhw angen bod yn trafod. Mae'n debyg eu bod nhw mewn trafodaethau sy'n cael eu cynnal gan yr uned digwyddiadau mawr, ond nid dyna'r lle priodol ar gyfer y drafodaeth achos rydych chi'n medru sôn am ddigwyddiadau bychain iawn yn gallu digwydd o fewn theatrau. Felly, a fedrwch chi roi eglurder: efo pwy yn union maen nhw angen bod yn trafod?
Wel, yng ngoleuni'r cyd-destun iechyd cyhoeddus ehangach, mae'n ofynnol i theatrau a neuaddau cyngerdd, fel y dywed Siân Gwenllian, aros ar gau i'r cyhoedd. Ac, wrth gwrs, maen nhw, fodd bynnag, yn rhan annatod o'n dull o brofi digwyddiadau, na fyddan nhw, yn anffodus, bellach yn gallu ailddechrau tan fis Chwefror ar y cynharaf. Felly, mis Chwefror fydd hi, ar y cynharaf, o ran pryd y byddwn ni'n cloriannu'r profion hynny. Rydym ni wedi dechrau ailagor mewn ffordd gyfyngedig. Felly, rydym ni wedi bod yn ystyried caniatáu cynnal ymarferion a pherfformiadau ar-lein, er enghraifft, ac mae ein cronfa adfer diwylliannol gwerth £63 miliwn yno i gefnogi theatrau a neuaddau cyngerdd yn y cyfamser.
O ran gyda phwy y dylen nhw sgwrsio ymhellach, Eluned Morgan neu Dafydd Elis-Thomas fyddai'r person priodol i gael y trafodaethau hynny.
Mae gennyf ddau gais byr, Trefnydd: yn gyntaf, a gawn ni amser yn y Siambr i drafod adroddiad blynyddol y cynghorwyr cenedlaethol ar drais a cham-drin domestig, os gwelwch yn dda? Yfory yw'r Diwrnod Rhyngwladol ar gyfer Dileu Trais yn erbyn Menywod a Phlant, a'r llynedd, bu marwolaethau 1,300 o fenywod, a phump o'r rheini yng Nghymru. Fel arfer, byddwn yn gofyn i Aelodau gefnogi cronfa'r Rhuban Gwyn. Felly, a gaf i fanteisio ar y cyfle hwn i ofyn i gyd-Aelodau ystyried cefnogi eu prosiectau lleol yn eu hetholaethau? Oherwydd mae modd iddyn nhw achub bywydau yn enwedig nawr pan nad yw aros gartref, i lawer o fenywod, yn golygu aros yn ddiogel.
Ac yn ail, byddwn yn falch o gael yr wybodaeth ddiweddaraf gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru am y Ganolfan Fyd-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd yng Nghymru. Dyma gyfle gwych i Bowys a chwm Tawe uchaf sydd wedi'i gyflwyno gan Lywodraeth Cymru. Byddai'n dda iawn cael rhywfaint o eglurder ynghylch y sefyllfa sydd ohoni, yn enwedig gan fod yr Aelod Seneddol Ceidwadol dros Frycheiniog a Sir Faesyfed wedi creu dryswch drwy honni'n anghywir mai Llywodraeth Cymru sydd i fod i roi sêl ei bendith, ond fy nealltwriaeth i yw mai'r rheswm dros yr oedi yw nad yw Llywodraeth y DU wedi gwneud penderfyniad rhwng safle Powys a'r safle Siemens yn Scunthorpe sy'n cystadlu am y ganolfan.
Llywydd, a gaf i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i Joyce Watson am y gwaith anhygoel y mae'n ei wneud, flwyddyn ar ôl blwyddyn, o ran ymgyrch y Rhuban Gwyn ac o ran bod yn llais i fenywod a merched sy'n dioddef trais neu sydd mewn perygl o ddioddef trais? Rwy'n credu ei bod hi'n ysbrydoliaeth i bob un ohonom ni, ac rwy'n ddiolchgar iawn i Joyce am yr wylnos a drefnodd ddoe. Roedd yr wylnos ar-lein, ond ddim yn llai grymus oherwydd hynny, a hefyd y digwyddiad y bûm yn rhan ohono yn y bore, a oedd yn canolbwyntio'n benodol ar fenywod a merched sy'n wynebu trais domestig mewn cymunedau gwledig, nad yw eu lleisiau bob amser yn cael eu clywed ac sy'n aml yn ei chael hi'n anoddach estyn allan am y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Felly, roeddwn yn credu bod hwnnw'n ddigwyddiad hynod o rymus.
Bydd y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip yn cyhoeddi datganiad yfory sy'n sôn am gyhoeddi cynllun y cynghorwyr cenedlaethol, ac mae eu blaenoriaethau dros y flwyddyn nesaf yn cynnwys sefydlu dull iechyd cyhoeddus o ymdrin â thrais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol; a hefyd gweithio gyda'r grŵp sy'n arwain ar gam-drin ar sail anrhydedd fel dau o'r pethau y byddant yn canolbwyntio arnynt dros y 12 mis nesaf.
O ran y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd, Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, a ddatblygodd y cynigion arloesol ar gyfer y Ganolfan Ragoriaeth Fyd-eang ar gyfer Rheilffyrdd ar ôl gweld fod angen am gyfleuster o'r fath, ac rydym ni wedi dangos yr arweiniad yr oedd ei angen i'w ddatblygu i'r cam yma. Mae'n fenter a luniwyd yn gadarn iawn yma yng Nghymru, gan greu'r cyfleuster newydd ar gyfer holl ddiwydiant rheilffyrdd y DU, ac rydym yn bwriadu iddo fod yn atyniad ar gyfer swyddi, sgiliau a thwf yn yr ardal. Mae'n wir ein bod, ddechrau mis Gorffennaf, wedi cyflwyno achos busnes i Lywodraeth y DU yn amlinellu'r camau nesaf i wireddu'r ganolfan honno, ac rydym yn aros am gymeradwyaeth ffurfiol gan Lywodraeth y DU i'r achos busnes, ac, yn amlwg, gobeithiwn gael cyhoeddiad cadarnhaol am hynny yn yr adolygiad cynhwysfawr o wariant yfory.
Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog addysg yn egluro safbwynt Llywodraeth Cymru ar gadw plant mewn ysgolion gymaint â phosibl hyd at ddiwedd y tymor hwn? Roedd yn galonogol clywed y Prif Weinidog yn rhannu fy mhryderon ynghylch grwpiau blwyddyn mewn rhai ysgolion mewn rhai awdurdodau y gellid dadlau eu bod gartref yn ddiangen oherwydd nad oedden nhw'n defnyddio'r system profi ac olrhain yn iawn. Tybed sut—o fewn y datganiad hwnnw, pe gellid ei ymgorffori—y mae'r Llywodraeth hon yn bwriadu gweithio gyda'n hysgolion a'n awdurdodau lleol i sicrhau bod cysondeb ledled Cymru yn ymagwedd ein hysgolion tuag at y coronafeirws.
Hefyd, soniodd y Prif Weinidog am brofion llif ochrol, pe gellid ymgorffori hynny hefyd yn y datganiad, yr amserlenni, y symiau, y math hwnnw o beth. Ac yn olaf, Llywydd, hefyd, rwyf wedi bod yn clywed y gallai rhai ysgolion yn y de-ddwyrain fod yn cau wythnos yn gynnar yn nhymor y Nadolig, felly tybed a all y Llywodraeth roi rhywfaint o eglurder ar hynny, oherwydd, o'r ddealltwriaeth sydd gennyf, roedd ysgolion am gau wythnos yn gynnar oherwydd byddai hynny'n golygu cyfnod ynysu o bythefnos ar gyfer Noswyl Nadolig, yn amlwg. Felly, tybed a allai roi rhywfaint o eglurder ynglŷn â hynny a beth yw safbwynt gwirioneddol y Llywodraeth, o ystyried mai blaenoriaeth y Llywodraeth yw cadw ein plant yn yr ysgol gymaint ag sy'n bosibl. Diolch.
Diolch i Laura Anne Jones am godi'r mater pwysig yna. Mae gan y Gweinidog Addysg gwestiynau yn y Siambr yfory, felly gallai hynny fod yn gyfle i ystyried rhywfaint o hyn yn fanylach, ond, ochr yn ochr â hynny, gofynnaf iddi ysgrifennu atoch gyda rhywfaint o wybodaeth bellach am y cynllun ar gyfer profi plant yn yr ysgol, a hefyd y cyngor sy'n cael ei roi i ysgolion yn benodol o ran anfon plant adref i hunanynysu ac ati, a hefyd y math o feddylfryd o ran y dull o ymdrin â'r Nadolig a sicrhau ein bod yn cadw plant a'u teuluoedd mor ddiogel ag y gallwn ni.
Gweinidog, rwy'n gofyn am gynnal dadl ar frys ar ddiwedd cyfnod pontio Brexit a'r hyn y mae'n ei olygu'n benodol i borthladdoedd Cymru. Rydym bellach ar yr unfed awr ar ddeg, ac mae rhybuddion a godwyd gennyf fi ac eraill ynghylch y diffyg paratoi yng Nghaergybi yn swnio'n uwch byth. Nawr, gyda'r angen am ddatganiadau a gwiriadau'r tollau ar gludo nwyddau allan o 1 Ionawr, nid yw'r system tollau electronig newydd sydd i'w defnyddio wedi ei threialu hyd yn hyn, rwy'n deall. Bydd y Gweinidog wedi darllen am bryderon a fynegwyd heddiw gan gludwyr o Iwerddon am anhrefn yn y porthladd. Rwyf wedi siarad â Nick Bosanquet, athro polisi iechyd yn y Coleg Imperial, sy'n poeni y gallai oedi ym maes porthladdoedd hyd yn oed gynyddu'r risg o COVID.
Nawr, ddoe ymwelodd Taoiseach Iwerddon â'r seilwaith eithaf trawiadol sydd wedi'i ddatblygu ym mhorthladd Dulyn. Does dim byd yng Nghaergybi ar gyfer y cyfnod pan fydd angen y gwiriadau hynny ym mis Gorffennaf y flwyddyn nesaf ar gludo nwyddau yn dod i mewn. Mae safle yn Warrington wedi'i ddynodi ar gyfer man gwirio nwyddau a fewnforiwyd yng Nghaergybi, o leiaf dros dro. Allech chi ddim dyfeisio'r fath stori. Mae'n amlwg bod yn rhaid i'r safle hwnnw fod yng Nghaergybi neu gerllaw. Nawr, mae Llywodraeth y DU wedi gwneud traed moch go iawn yma, ond mae angen inni hefyd glywed yn union beth arall y mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio ei wneud, ac yn ceisio ei wneud i achub pethau, o gofio mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am ddatblygu canolfan ar gyfer y ffin yn ne-orllewin Cymru, a Llywodraeth y DU ar gyfer yr un sy'n ymwneud â Chaergybi. Nawr, fy ofn i, fel yr wyf wedi rhybuddio dro ar ôl tro, yw y bydd unrhyw beth sy'n effeithio ar lif rhydd masnach drwy Gaergybi yn tanseilio'r porthladdoedd ac yn tanseilio swyddi sy'n gysylltiedig â'r porthladdoedd, felly a allwn ni ddod â'r holl faterion hyn gerbron y Senedd eto, ar yr awr hwyr hon hyd yn oed, fel y gallwn ni bwysleisio beth yn union sydd yn y fantol?
Diolch i Rhun ap Iorwerth am grybwyll yr hyn sy'n bryderon difrifol a sylweddol. Gwnaf yn sicr fy mod yn siarad â Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth am eich cais am y datganiad brys hwnnw. Os na ellir gwneud hynny yn y dyfodol agos iawn, byddaf yn sicr yn gofyn iddo ysgrifennu atoch chi ynghylch y materion hynny yn y cyfamser.
Hoffwn ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar y broses gynllunio, yr amserlenni a'r ffordd o fynd ati i lunio strategaeth ailgychwyn gyfyngedig a graddol ar gyfer lleoliadau perfformiad a chelfyddydau ledled Cymru, ond i nodi bod ymchwil wyddonol a fframweithiau lliniaru gweithredu diogel hanfodol bellach ar waith ledled y DU ac yn rhyngwladol, ein bod ni yng Nghymru wedi agor ac yn gweithredu sinemâu a neuaddau bingo, y cynhelir ymarferion cerddorfa ac opera diogel ledled Cymru, ac y cyhoeddwyd pryd y bydd lleoliadau Lloegr yn ailagor a bod rhai lleoliadau, theatrau a chanolfannau celfyddydol llai bellach yn barod i wirfoddoli fel cynlluniau arbrofol i allu agor yn ddiogel nawr gyda mesurau lliniaru llym priodol tebyg ar waith. Felly, Gweinidog, mae'r lleoliadau llai hyn nid yn unig yn hanfodol i les ein cymunedau o ran ymgysylltu a chyfranogi, ond, os nad ydyn nhw yn agor yn fuan, efallai y bydd yn rhaid iddyn nhw gau, ac ni all llawer ohonyn nhw hawlio nawr o gronfa cadernid economaidd COVID-19. Felly, a all y datganiad hwn gan Lywodraeth Cymru nodi llwybr clir ymlaen i'r sector ac amlinellu'r mesurau i gefnogi ein lleoliadau celfyddydol a pherfformio fel y gallan nhw agor mewn modd cynlluniedig, cyfyngedig a diogel, fel y cynghorir yn glir gan yr adroddiad ynglŷn â cherddoriaeth fyw i ymateb Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu Llywodraeth Cymru? Diolch.
Unwaith eto, diolch i Rhianon Passmore am grybwyll y mater hwn y prynhawn yma. Rwy'n gwybod ei bod wedi cael cyfle i gyflwyno'r sylwadau cryf hynny ar ran lleoliadau llai, yn enwedig yn uniongyrchol i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg yn gynharach heddiw. Mae'n wir, yn sicr o ran y digwyddiadau prawf—ac rwy'n sylweddoli bod y rhain fwy na thebyg yn ddigwyddiadau mwy na'r rhai y mae Rhianon Passmore yn meddwl amdanyn nhw—na fydden nhw'n ailddechrau tan fis Chwefror ar y cynharaf, ond rwy'n sylweddoli ein bod fwy na thebyg yn siarad yn yr achos hwn am leoliadau llai. Byddaf yn siŵr eto o sicrhau bod y Gweinidog yn ystyried hynny ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi fel bo'n briodol.
Diolch i'r Trefnydd. Egwyl fydd nesaf nawr, er mwyn gwneud rhai o'r newidiadau sy'n angenrheidiol yn y Siambr. Felly, egwyl fer.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:19.
Ailymgynullodd y Senedd am 15:26, gyda'r Dirprwy Lywydd (Ann Jones) yn y Gadair.
Felly, rydym ni'n ailymgynnull gydag eitem 4 ar yr agenda, sef datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: yr wybodaeth ddiweddaraf am Fesurau Arbennig ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Besti Cadwaladr. Ac rwy'n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fel y gŵyr yr Aelodau, caiff ystyriaeth ei rhoi i statws uwchgyfeirio ac ymyriad y byrddau iechyd a'r ymddiriedolaethau yng Nghymru fel rhan o'r trefniadau uwchgyfeirio ac ymyrryd sydd gennym ni ar y cyd. Mae hyn yn golygu bod swyddogion Llywodraeth Cymru yn cyfarfod ag Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ddwywaith y flwyddyn i drafod sefyllfa gyffredinol sefydliadau GIG Cymru o ran ansawdd, perfformiad gwasanaethau a rheolaeth ariannol. Rhoddir ystyriaeth i ystod eang o wybodaeth a hysbysrwydd ar gyfer nodi unrhyw faterion i lywio eu hasesiad a'u cyngor i mi fel Gweinidog Iechyd. Mae cyfle hefyd i gynnal cyfarfodydd ychwanegol, pe byddai'r grŵp o'r farn bod angen hynny.
Yn y cyfarfod tairochrog llawn diwethaf a gynhaliwyd ym mis Medi, fe gytunwyd i gynnal cyfarfod pellach cyn diwedd y flwyddyn galendr, yn benodol ynglŷn â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Rwy'n falch o gael dweud y cynhaliwyd cyfarfod tairochrog arbennig yn gynharach y mis hwn. Y cyngor a'r argymhelliad clir i mi oedd y dylid newid statws uwchgyfeirio'r bwrdd iechyd. Rwyf wedi derbyn y cyngor hwnnw. Rwyf wedi penderfynu y bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn dod allan o fesurau arbennig a hynny ar unwaith. Mae statws uwchgyfeirio'r bwrdd iechyd bellach wedi newid i ymyriad wedi'i dargedu.
Fe adolygodd y grŵp tairochrog dystiolaeth ychwanegol a gyflwynwyd gan y bwrdd iechyd a oedd yn dangos cynnydd dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys mewn meysydd a nodwyd yn wreiddiol yn bryderon a oedd yn teilyngu mesurau arbennig. Fe nododd y grŵp fod y bwrdd iechyd wedi dangos ymgysylltiad gwell gyda phartneriaid, yn enwedig yn ystod y pandemig presennol. Roedd hefyd yn cydnabod dealltwriaeth y bwrdd iechyd o'r heriau y mae'n eu hwynebu o hyd, ynghyd â'r penderfyniad a ddangoswyd gan y bwrdd a'r prif weithredwr newydd i sicrhau cynnydd pellach.
Nododd y grŵp tairochrog yr effaith andwyol yr oedd bod mewn mesurau arbennig wedi'i chael ar allu'r bwrdd iechyd i recriwtio a chadw staff, yn enwedig ar lefel uwch. Mae hyn wedi arwain at lenwi nifer o swyddi cyfarwyddwyr gweithredol dros dro ar hyn o bryd. Mae'n amlwg nad yw hyn yn fuddiol iawn i'r bwrdd iechyd wrth symud ymlaen. Roedd mesurau arbennig yn cael effaith hefyd ar allu'r bwrdd iechyd i wneud y cynnydd pellach sy'n angenrheidiol.
Mae pryderon o hyd ynghylch rhai agweddau ar berfformiad, yn enwedig mewn gwasanaethau iechyd meddwl a gallu'r bwrdd iechyd i baratoi cynllun tymor canolig y gellir ei gymeradwyo. Wrth symud ymlaen, er mwyn darparu eglurder a sicrwydd o'r pwysigrwydd angenrheidiol, fe ddefnyddir dull matrics aeddfedrwydd, sy'n debyg i'r prosesau a fu ar waith ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Ar 3 Tachwedd, fe gyhoeddais i becyn cymorth i'r bwrdd iechyd. Mae'r cymorth hwn yn gyfanswm o £82 miliwn ychwanegol y flwyddyn dros dair blynedd a hanner i gefnogi'r bwrdd iechyd wrth iddo ddechrau ar gyfnod newydd o dan ymyriad wedi'i dargedu, ac mae'n dal ati â'i waith parhaus i wireddu gwelliannau. Mae cadeirydd y bwrdd iechyd wedi ymateb eisoes gan amlinellu sut y defnyddir y cymorth hwn i wella gofal heb ei gynllunio, i feithrin gofal a drefnir mewn modd cynaliadwy, gan gynnwys orthopedeg, i sicrhau y bydd gwelliannau mewn gwasanaethau iechyd meddwl ac, wrth gwrs, er lles iechyd poblogaeth y gogledd.
Fe ddylid cofio bod ymyriad wedi'i dargedu yn parhau i fod yn lefel fwy dwys o uwchgyfeirio. Mae hyn yn gofyn am weithredu sylweddol gan y sefydliad, ac fe fydd yna lefel o oruchwyliaeth barhaus gan fy swyddogion i sy'n cyd-fynd â hyn. Er hynny, mae symud allan o fesurau arbennig heb os nac oni bai yn gam ymlaen i staff y bwrdd iechyd sydd wedi gwireddu a chynnal y cynnydd i ddod â'r mesurau arbennig i ben. Mae hwn yn gam cadarnhaol ymlaen hefyd i bob cymuned yn y gogledd sy'n cael ei gwasanaethu gan y bwrdd iechyd.
Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau ar draws y Senedd yn ymuno â mi i longyfarch staff yn y bwrdd iechyd wrth iddyn nhw symud i gam nesaf eu taith nhw o ran gwelliant.
A gaf i fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch ar goedd ar ran pawb ar feinciau Ceidwadwyr Cymru i'r aelodau hynny o staff rheng flaen y GIG yn y gogledd sydd wedi bod yn gweithio mor galed, yn enwedig yn ystod y pandemig hwn?
Trueni mawr, Gweinidog, na fuoch chi mor gwrtais â briffio unrhyw Aelodau ar feinciau'r gwrthbleidiau heddiw ynglŷn â'ch penderfyniad, ac mewn gwirionedd, fe fuoch chi mor anghwrtais, hyd yn oed, â pheidio â rhannu eich datganiad nes yn union cyn ichi ei ddarllen yn gyhoeddus. Y gwir amdani yw ei bod hi'n ymddangos bod gan y cyhoeddiad heddiw fwy i'w wneud â rhagolygon y Blaid Lafur yn y gogledd yn etholiadau'r Senedd y flwyddyn nesaf nag ydyw ag unrhyw dystiolaeth o welliant gwirioneddol ar lawr gwlad yn y gogledd. Ni ellir cyfiawnhau eich penderfyniad i ddiddymu mesurau arbennig ac ni allwch dwyllo na chamarwain pobl y gogledd i feddwl bod popeth yn iawn. Nid yw eich disgrifiad chi o welliant yn debyg o gwbl i realiti profiadau cleifion ledled y rhanbarth.
Gadewch inni edrych ar y ffeithiau. Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ei chweched flwyddyn o fesurau arbennig. Yn y cyfnod hwn, mae'r bwrdd wedi gweld newidiadau parhaus o ran ei uwch dîm arwain, gyda nifer fawr o brif weithredwyr, nifer fawr o gyfarwyddwyr cyllid, a nifer fawr o gyfarwyddwyr iechyd meddwl. Yn wir, mae'r cyfarwyddwr iechyd meddwl presennol yn gadael ei swydd ddiwedd y mis hwn, rhicyn arall ym mhostyn gwely Betsi.
Ers 2015, mae perfformiad adrannau damweiniau ac achosion brys wedi gwaethygu, mae rhestrau aros ac amseroedd aros wedi dirywio ac wedi mynd yn hwy, ac mae sefyllfa ariannol y bwrdd iechyd wedi dirywio hefyd. Mae'r ffigurau diweddar yn dangos mai gan Betsi y mae'r adrannau achosion brys sy'n perfformio waethaf o hyd yng Nghymru gyfan, gydag un o bob 10 o bobl yn aros mwy na 12 awr cyn y gellir eu rhyddhau nhw ar ôl cyrraedd yr adran damweiniau ac achosion brys, ac ni ellir rhyddhau dros hanner, bron hanner y boblogaeth sy'n cyrraedd yno o fewn pedair awr.
Fe wyddom fod gwasanaethau meddygon teulu yn parhau i fod yn fregus yn y rhanbarth, gyda mwy o bractisau a reolir yn unrhyw ardal bwrdd iechyd arall yng Nghymru. Ac, wrth gwrs, fe wyddom ni bellach fod gwasanaethau deintyddiaeth yn fregus ledled y gogledd hefyd, gydag 20,000 o gleifion wedi cael rhybudd y bydd eu gwasanaethau GIG nhw'n dod i ben ddechrau'r flwyddyn nesaf. Nid yw hwn yn fwrdd iechyd sy'n barod ar gyfer dod allan o'r trefniadau mesurau arbennig.
Roeddech chi'n cyfeirio at nifer o resymau pam aeth y bwrdd iechyd hwn i fesurau arbennig, ac roedd llywodraethu, arweinyddiaeth a goruchwyliaeth yn un ohonyn nhw. Fe wyddom fod gwendidau yno o hyd oherwydd fe gafwyd achosion diweddar o'r coronafeirws yn torri allan mewn dau o'r ysbytai yn y gogledd, ac ni ddaeth yr un ohonyn nhw i'r amlwg oherwydd sefyllfa'r bwrdd iechyd, ond oherwydd bod Aelodau lleol o'r Senedd wedi ysgrifennu i godi pryderon.
Nid yw gwasanaethau iechyd meddwl wedi dod trwy'r gwaethaf eto chwaith. Er gwaethaf addewidion o adeiladau newydd a gwych, mae'r diwylliant yn yr adrannau hynny'n parhau i fod yr un peth. Mae gennym 1,600 o gleifion a gafodd eu rhyddhau o wasanaethau yn gynharach eleni yn ddiarwybod iddyn nhw, heb i neb eu hysbysu nhw. Mae nifer y gwelyau yn parhau i fod yn broblem aruthrol. Nid yw gwasanaethau plant a'r glasoed na'r gwasanaeth iechyd meddwl byth yn ddigonol, gyda chleifion yn parhau i gael eu hanfon gannoedd o filltiroedd i ffwrdd i gael triniaethau fel cleifion mewnol. Ac mae chwarter—chwarter—yr holl achosion diogelwch iechyd meddwl yn GIG Cymru yn achosion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Nid yw hwn yn fwrdd iechyd sy'n addas i ddod allan o fesurau arbennig.
Ychydig wythnosau yn ôl, y mis diwethaf, roeddech chi'n dweud bod yna heriau mawr yn parhau yn y gogledd. Ychydig wythnosau yn ôl, roeddech chi'n dweud, ac rwy'n dyfynnu,
Yn benodol, roedd y grŵp yn dymuno cael rhywfaint o sicrwydd pellach gan y bwrdd iechyd o ran y cynnydd mewn gwasanaethau iechyd meddwl.
Dim ond ychydig wythnosau yn ôl yr oedd hyn. Nawr, ai dyma'r adferiad mwyaf gwyrthiol ers i Lasarus gael ei gyfodi o blith y meirw neu a ydych chi'n ceisio twyllo pobl gogledd Cymru i feddwl bod gwasanaethau wedi gwella, a'r gwirionedd yw nad ydyn nhw wedi gwella?
Felly, rwy'n gofyn i chi, Gweinidog, sut allwch chi gyfiawnhau eich safbwynt chi o gofio bod llawer o'r materion ar y rhestr wreiddiol honno—ac rwy'n dyfynnu un, er enghraifft: ailgysylltu â'r cyhoedd ac adennill hyder y cyhoedd. Dyna un o'r rhesymau y cafodd y bwrdd ei roi mewn mesurau arbennig. Fe allaf i ddweud wrthych chi nad oes gan y cyhoedd yn y gogledd hyder o gwbl yn eich gallu chi i wella eu gwasanaethau. Dim ond dirywiad a welwyd ganddyn nhw yno, fel y dywedais i wrthych chi nawr, o ran rhai o'r ffeithiau hynny ar lawr gwlad. Felly sut y gallwch chi ddweud eich bod wedi ymdrin â'r mater hwnnw?
Sut allwch chi ddweud, pan mae cynifer o wasanaethau meddygon teulu yn fregus, a chymaint o wasanaethau yn destun ymyriad a rheolaeth gan y bwrdd iechyd, yr ymdriniwyd â'r pryderon hyn am wasanaethau meddygon teulu a gofal sylfaenol, yn arbennig gyda'r argyfwng sydd ar y gorwel nawr ym maes gofal deintyddol hefyd? A sut ar y ddaear allwch chi ddweud yr ymdriniwyd â llywodraethu pan nad oedd y bwrdd iechyd ei hun yn gwybod beth oedd cyfradd yr heintiau a welwyd mewn ysbytai o ran COVID nes i mi dynnu eu sylw nhw at hynny? A sut ar y ddaear allwch chi ddweud bod gwasanaethau iechyd meddwl yn well pan maen nhw, a dweud y gwir, gyn waethed nawr ag yr oedden nhw nôl yn 2015?
Wel, siomedig, ond nid anarferol efallai, yw'r ymateb afresymol a oedd i'w ddisgwyl gan Mr Millar. Mae'n anffodus ei fod yn gwrthod rhoi unrhyw glod i'r staff am y cynnydd a wnaed yn ystod y blynyddoedd diwethaf sydd wedi arwain at ddod â'r mesurau arbennig i ben. Yn benodol, rwy'n atgoffa'r Aelodau, yn y Siambr hon ond yn allanol hefyd, nid yn unig o'r cynnydd a enillwyd yn sgil y broses dairochrog, y byddaf i'n dod yn ôl ati, ond yn benodol yr ymateb i'r pandemig, sef argyfwng gofal iechyd a ddaw unwaith mewn can mlynedd. Rwyf i o'r farn fod Betsi Cadwaladr a'i staff yn haeddu clod enfawr am yr ymateb. Rhyfedd iawn fyddai dweud y cafwyd ymateb o'r radd flaenaf i'r pandemig ac eto mae'n rhaid i'r sefydliad aros mewn mesurau arbennig, oherwydd byddai hynny'n cyd-fynd â safbwynt Mr Millar.
O ran sail y penderfyniad i ddiddymu mesurau arbennig ar gyfer y sefydliad hwn, fe gyfeiriais i'n amlwg iawn ac yn eglur iawn at hyn yn y datganiad, yn union fel y gwnaethom ni o'r blaen wrth gyfeirio at ddiweddariadau ynglŷn â mesurau arbennig, am y cyngor o'r broses gynghori wrthrychol dairochrog. Mae prif weithredwr GIG Cymru, ynghyd â swyddogion Llywodraeth Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Archwilio Cymru, yn rhoi cyngor imi yn rhinwedd fy swydd fel Gweinidog. Eu cyngor amlwg nhw oedd nad yw hwn bellach yn sefydliad sy'n teilyngu mesurau arbennig. Ac fe ddylwn i ddweud nad yw prif weithredwr GIG Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru nac Archwilio Cymru yn gwneud dewisiadau o ran eu cyngor nhw i mi ar sail gwleidyddiaeth y pleidiau. Mae'r awgrym gan Mr Millar i'r gwrthwyneb yn sen ar eu cywirdeb nhw ac mae'n fater y dylai ei dynnu'n ôl a'i ailystyried.
Y cyngor tairochrog yw'r cyngor; ond fi sy'n gwneud y penderfyniad. Nid yw ymyrryd wedi'i dargedu yn gyfystyr â dihangfa lwyr; mae angen mwy o gynnydd, fel yr eglurais i. Rwy'n credu y bydd pobl resymol yn cydnabod hynny, ond fe fyddan nhw hefyd yn cydnabod mai rhywbeth cadarnhaol o ran gofal iechyd yn y gogledd yw hyn, sy'n glod gwirioneddol i staff y bwrdd iechyd, ac rwy'n edrych ymlaen at weld cynnydd pellach yn digwydd.
Diolch, Gweinidog. Diolch am ddatganiad sy'n cadarnhau bod Betsi Cadwaladr am aros ar lefel o ymyrraeth am gyfnod arall yn nwylo Llywodraeth Cymru, sydd wedi methu, yn ystod cyfnod o bum mlynedd a hanner, â datrys y problemau a'i rhoddodd mewn mesurau arbennig.
Rwy'n awyddus bob amser i ganmol staff rheng flaen y GIG, yng ngogledd Cymru, fel y gwnaf i yng ngweddill Cymru. Mae eu hymateb nhw i'r pandemig hwn wedi bod heb ei ail. Rwy'n falch o ddweud fy mod i'n adnabod llawer ohonyn nhw, ac rwy'n falch o'r gwaith a wnaeth pob un ohonyn nhw, a hynny'n ddiflino. Wrth ein gwahodd ni i'w canmol nhw'n benodol am ddod â'r bwrdd allan o fesurau arbennig, a ydych chi'n dweud wrthym ni nad oedd ganddyn nhw ran i'w chwarae wrth ddod â'r mesurau arbennig yn y bwrdd i ben yn ystod y pum mlynedd a hanner diwethaf? Yr hyn a welais i yw Llywodraeth Cymru yn methu â chymryd camau digonol, a chamau y gallech chi fod wedi eu cymryd nhw o'r blaen. Mae'r datganiad hwn, y fy marn i, yn dweud yn y bôn, 'Wyddoch chi beth? Ni allwn gael cynnydd, fe ymddengys, wrth inni aros mewn mesurau arbennig.' A yw wedi cymryd pum mlynedd a hanner i chi ddod i'r safbwynt hwnnw?
A sut wnaethoch chi gyrraedd y pwynt hwn ymhen ychydig wythnosau? Rydym ni nawr—ble rydym ni? 24 o fis Tachwedd. Roeddech chi'n dweud wrthym ar 7 Hydref fod yna broblemau mawr i'w hwynebu o hyd, ym maes iechyd meddwl yn arbennig. Ond nid heddiw yr oeddech chi'n penderfynu; yn gynharach y mis hwn, fe ymddengys, erbyn hynny, roedd y cyfarfod tairochrog wedi dweud wrthych chi, 'Mae popeth yn iawn'. Felly, mewn mater o dair neu bedair wythnos roedd pethau wedi trawsnewid yn llwyr. Ac mae hynny, i mi, yn ymddangos yn rhyfedd iawn, iawn.
Rydych chi'n dweud bod mesurau arbennig yn effeithio ar allu'r bwrdd iechyd i recriwtio a chadw staff. Unwaith eto, ai dim ond nawr yr ydych chi'n sylweddoli hynny, ar ôl cyfnod estynedig o fod â swyddi na ellir eu llenwi'n niweidiol ar y gallu sydd gennym i ddenu'r bobl orau i weithio ym maes iechyd yng ngogledd Cymru?
Wrth gwrs, ar ryw ystyr, rwy'n falch o weld symud ymlaen oddi wrth fesurau arbennig i gyfradd arall o ymyrryd. Ond rwyf i o'r farn o hyd, fel llawer o gleifion ac aelodau staff ym mwrdd Betsi Cadwaladr, fod angen dechrau newydd ar Ogledd Cymru. Mae wedi cymryd gormod o amser i gyrraedd y pwynt hwn ac ychydig iawn o ffydd sydd yn y ffordd y byddwn ni'n cyrraedd y pwynt nesaf, pryd y gallwn ni ddweud mewn gwirionedd fod gennym ni, yng ngogledd Cymru, wasanaeth iechyd sy'n gweithio ac a gynlluniwyd mewn ffordd y mae'r staff a'r cleifion yn ei haeddu. Mae angen byrddau iechyd newydd ar gyfer gogledd Cymru, cychwyn newydd, ac ni chefais i fy argyhoeddi heddiw fod Llywodraeth Cymru yn deall y problemau gwirioneddol, yn enwedig ym maes iechyd meddwl, a oedd wrth wraidd rhoi'r bwrdd mewn mesurau arbennig yn y lle cyntaf, i'r graddau y gallaf i ddweud bod y broblem yn agos at gael ei datrys.
Diolch am y cwestiynau a'r sylwadau. Rwy'n croesawu yn arbennig gydnabyddiaeth yr Aelod fod yr ymateb i'r pandemig gan staff a sefydliadau yn y gogledd wedi bod heb ei ail. Fe fu hwn yn ymateb cadarnhaol a thrawiadol iawn. Ac, unwaith eto, mae honno'n sylfaen i sefydliad lle byddai eraill wedi bod yn pryderu am allu'r sefydliad i weithio yn effeithiol yn wyneb pandemig unwaith mewn can mlynedd. Ac eto i gyd, mewn gwirionedd, maen nhw wedi ymateb yn sylweddol i'r her, nid yn unig gyda chreu ysbytai enfys, ond y ffordd y maen nhw wedi gweithio ar draws eu system gofal iechyd yn ei chyfanrwydd. Ac rwy'n credu y dylai hynny roi mwy o hyder i fwy o bobl yn ystod gweddill y pandemig sy'n parhau y mae pob un ohonom ni'n dal i'w wynebu.
Ac, unwaith eto, i fynd yn ôl at y pwynt ynglŷn â'r cyngor a roddir a'r sicrwydd o'r diweddariad blaenorol a roddais i o'r cyfarfod tairochrog rheolaidd, yn y cyfarfod hwnnw, yn y drafodaeth ynghylch y gogledd, roedden nhw'n cydnabod bod cynnydd pellach wedi digwydd ac fe ofynnwyd am gyfarfod pellach am eu bod nhw'n ceisio cael sicrwydd pellach ar feysydd y cynnydd. Maen nhw wedi ystyried yr wybodaeth ychwanegol a roddwyd, ac mae'r grŵp hwnnw o bobl—prif weithredwr GIG Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ac Archwilio Cymru—wedi rhoi cyngor clir y dylai mesurau arbennig Betsi Cadwaladr ddod i ben, a dyna sail fy mhenderfyniad i.
Nid wyf i o'r farn ei bod yn anodd nac yn gymhleth deall hyn, ac, wrth gwrs, mae gan bobl eraill yr hawl i ddweud eu bod nhw'n diystyru cyngor Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Archwilio Cymru a phrif weithredwr GIG Cymru. Mae ganddyn nhw yr hawl i ddweud hynny. Ac rwy'n credu bod gan bobl yr hawl i farnu ai dyna'r peth iawn i'w wneud yn eu barn nhw, fy mod i'n gwneud fy newis ar sail hynny, fel Gweinidog, neu am resymau mwy pleidiol i beidio â newid statws y sefydliad, ond ei gadw mewn mesurau arbennig pan mai'r cyngor gwrthrychol clir yw nad hwnnw yw'r peth iawn i'w wneud mwyach ar gyfer y sefydliad na'r bobl y mae hwnnw'n eu gwasanaethu.
Rwy'n cydnabod mai—. Mae gan yr Aelod farn glir a fynegodd ar fwy nag un achlysur, sef ei fod o'r farn y byddai ad-drefnu gyda mwy nag un bwrdd iechyd yn y gogledd yn cynnig dyfodol gwell. Nid wyf i o'r un farn ag ef. Rwyf i o'r farn y byddai'r colli'r ffocws, yr arian y byddech chi'n ei wario, a'r ffwdan, yn golygu cost wirioneddol ac yna fe fyddai'n rhaid ichi ail-wneud yr holl drefniadau partner hynny sydd wedi symud ymlaen yn bendant dros y misoedd a'r blynyddoedd diwethaf. Felly, nid wyf i o'r un farn ag ef, ond rwy'n cydnabod bod ganddo berffaith hawl i fynegi ei farn i'r bobl. Fe fydd yr Aelodau yn penderfynu, ond fel y dywedais i, mae hwn yn gam cadarnhaol ymlaen i holl staff y bwrdd iechyd ac yn wir i bob cymuned yn y gogledd a wasanaethir gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi. Rwy'n croesawu'n fawr iawn y buddsoddiad sylweddol a'r newyddion heddiw fod y bwrdd iechyd allan o fesurau arbennig erbyn hyn. Er hynny, mae rhai pryderon yn dal gennyf yr hoffwn i eu codi nhw heddiw, ac fe fyddwn i'n ddiolchgar am eich sylwadau chi ar y rhain. Rwy'n dal i bryderu am wasanaethau iechyd meddwl yn benodol, ac fe fyddwn i'n croesawu eich barn chi ynglŷn â'r gwelliant sy'n digwydd yn y gwasanaeth. Yn ail, a wnewch chi amlinellu hefyd sut rydych chi'n teimlo y mae'r bwrdd iechyd yn perfformio o ran llawdriniaethau dewisol? Ac yn olaf, mae angen gwell darpariaeth o feddygon teulu ar rannau o Alun a Glannau Dyfrdwy yn benodol; mae lleoedd fel Saltney, yn enwedig, heb wasanaeth digonol. Felly pa mor hyderus ydych chi, Gweinidog, y bydd y bwrdd iechyd yn mynd i'r afael â hyn yn iawn? Ac os caf i, wrth gloi, Dirprwy Lywydd, ddiolch ar goedd i'r holl staff ledled y gogledd yn y GIG, a ledled Cymru, nid am yr hyn y maen nhw'n ei wneud nawr yn unig ac yn parhau i'w wneud, ond am yr hyn y maen nhw wedi ei wneud bob amser i'n cynorthwyo ni drwy gyfrwng y system gofal iechyd yng Nghymru? Diolch.
Fe hoffwn i ddiolch i'r Aelod am y tri maes penodol hyn o gwestiynau. Rwyf am ymdrin â nhw o'r tu ôl ymlaen. O ran practis cyffredinol, a Saltney yn benodol, fel y crybwyllodd ef, mae newyddion da gan fod pob cynllun yn y gogledd ar gyfer hyfforddi meddygon teulu wedi recriwtio neu or-recriwtio i'w gapasiti, felly rydym yn denu pobl i weithio ledled y wlad. Mae hyn yn newyddion da i Gymru gyfan, gan gynnwys y gogledd. Fe welsom ni rai heriau penodol ar ddechrau ein gwaith ni ar 'Hyfforddi. Gwaith. Byw.' i gael pobl i fanteisio ar y lleoedd hyfforddi sydd yn y gogledd. Rydym mewn sefyllfa erbyn hyn lle mae gennym nifer dros ben, sy'n sefyllfa dda iawn i fod ynddi o ran ein lleoedd arferol, ond rydym yn awyddus i gadw'r holl bobl hyn sy'n cael eu hyfforddi yn y gogledd, oherwydd rydym yn awyddus i annog pobl i ystyried y gogledd yn lle deniadol i hyfforddi, gweithio a byw ynddo. Ac os yw'r Aelod yn dymuno cael sgwrs benodol ynglŷn â Saltney neu ardaloedd eraill yn ei etholaeth ef, yna fe fyddaf i'n hapus i drefnu hynny gyda'r bwrdd iechyd a/neu rhyngddo ef a minnau, ac fe edrychaf ymlaen at glywed mwy gan ei swyddfa i gael gwybod sut yr hoffai fwrw ymlaen â hynny.
O ran capasiti dewisol, fel yn achos Cymru gyfan, cafwyd her arbennig. Mae'r gogledd yn wynebu mwy o her na rhannau eraill o Gymru o ran gofal dewisol a gofal wedi ei gynllunio, yn rhannol oherwydd y ffordd y mae gofal iechyd arferol yn digwydd, ac fe fydd ef yn gwybod hyn, am fod ei etholaeth ef ar y ffin. Mae llawer o bobl yn gyfarwydd â theithio dros y ffin i dderbyn peth o'u gofal iechyd nhw. Yn y dyfodol, fe allwn ni fod yn hyderus y bydd system Lloegr yn dal i fyny'n aruthrol o ran ei chapasiti dewisol hefyd. Rydym yn annhebygol o weld llawer iawn o gapasiti gofal wedi ei gynllunio yn system Lloegr. Dyna pam mae'r her orthopedig a nodais i a'r cyllid yr ydym ni'n ei ddarparu yn bwysicach byth, i weld sefyllfa â mwy o gysondeb ynddi ar gyfer llawdriniaethau wedi eu cynllunio—orthopedig ac eraill—yn y gogledd cyn belled ag y bo modd cael hynny, yn ogystal â'r sgwrs y mae angen inni ei chael am ofal iechyd rheolaidd dros y ffin.
Ac o ran iechyd meddwl, mae yna bryder penodol y tynnais sylw ato yn fy natganiad i—unwaith eto, oherwydd y cynnydd o ran iechyd meddwl, ond yn sicr mae rhagor i'w wneud eto. Ac felly mae'r strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yng Ngogledd Cymru' a gynlluniwyd gyda defnyddwyr gwasanaethau yn y gogledd—mae'n bwysig iawn gweld y trawsnewid hwnnw'n parhau, ac fe fydd hwnnw'n bryder arbennig y byddwn yn ceisio sicrwydd a chynnydd pellach arno yn y trefniadau ymyrryd wedi'i dargedu sydd ar waith. Felly, fe hoffwn i sicrhau'r Aelod a phawb arall sy'n gwylio fod iechyd meddwl yn bwysig iawn yn ein golwg ni—unwaith eto, o ran y daith anorffenedig tuag at welliant sy'n ofynnol o hyd. Ond yn ddiamau, mae gwasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd mewn gwell cyflwr nawr nag yr oeddent pan gafodd y sefydliad ei roi mewn mesurau arbennig bum mlynedd yn ôl.
Mae Betsi Cadwaladr, yn ôl yr hyn a ddywedwch chi, allan o fesurau arbennig erbyn hyn. Iawn. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd Rhun a Darren, ond fe fyddwn ni'n gweld yn y dyfodol sut y bydd hyn yn gweithio, ac fe fydd fy nghyfraniad i heddiw'n dal i sefyll. Rwyf i wedi bwrw golwg, Gweinidog, ar fy natganiad blaenorol i pan oedd y bwrdd mewn mesurau arbennig, ac ar fy ymatebion i, ac maen nhw i gyd ar yr un trywydd. Felly, fe allwn i, pe byddwn i'n dymuno gwneud hynny, gyflwyno'r union araith a roddais i ym mis Mehefin 2019. Er hynny, o ystyried y flwyddyn yr ydym ni i gyd wedi ei chael, lle mae'r GIG a gwasanaethau cysylltiedig ar y rheng flaen i raddau mawr iawn, credaf ei bod yn fwy priodol i fod mor adeiladol â phosibl.
Yn gyntaf, fe hoffwn i ddiolch ar goedd i bawb yn y GIG sydd wedi cyfrannu at gadw gwasanaethau ar waith yn wyneb ofn, pwysau, salwch a marwolaeth. Mae'n ymddangos ein bod ni'n ennill brwydr COVID. Wrth i nifer yr achosion trwy'r byd godi yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, nid yw marwolaethau wedi codi o'u cymharu â'r niferoedd hyn. Gweinidog, ni allaf i ond dychmygu pa mor aruthrol o fawr yw'r pwysau ar eich ysgwyddau chi. Mae'r ffaith eich bod chi'n dal i sefyll yn dystiolaeth i'ch dycnwch unigol chi. Er y gall unrhyw un o'r gwrthbleidiau anghytuno â'r dull a gymerir, rwy'n amau a fyddai unrhyw un yn y Siambr hon yn awyddus i gyfnewid lle â chi mewn gwirionedd—o leiaf yn ystod 2020. Fe wyddom ni fod Betsi Cadwaladr wedi bod mewn mesurau arbennig am y cyfnod hwyaf erioed ac, fel y dywedais i, a chan groesi bysedd, fe fydd eich dull chi o weithredu yn gweithio nawr. Ac roedd y cynnydd yn y cyllid o'r mis diwethaf i'w groesawu yn fawr iawn.
Yn eich tŷb chi, Gweinidog, pa wahaniaeth y mae bod mewn mesurau arbennig yn ei wneud i lefel y gwasanaeth a gynigir i'n hetholwyr ni, a sut fydd hynny'n newid nawr? Rwy'n ceisio cael gwybod a oedd mesurau arbennig yn golygu amseroedd aros hwy, mwy o anhawster i gael apwyntiad gyda meddyg teulu a gwasanaethau deintyddol sy'n fwy anodd cael atyn nhw? Oherwydd mae'n ymddangos i mi, yn ein byd ni sy'n adfer wedi COVID, y bydd pob dinesydd yng Nghymru yn cael anhawster ym mhob un o'r meysydd hyn oherwydd effaith y pandemig. Wedi gofyn y cwestiwn hwn, mae'n rhaid imi ddweud fy mod i, am un, wedi syrffedu ar y defnydd o'r gwasanaeth iechyd fel cocyn hitio gwleidyddol, sy'n digwydd o hyd. Rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi sylweddoli bod iechyd yn bwysicach na dim byd arall. Fe wyddom fod y gwasanaeth iechyd yn cymryd dros 50 y cant o ddyraniad y gyllideb ar gyfer yr holl wasanaethau datganoledig, ac fe gafodd ymateb COVID ledled y DU ei yrru gan y GIG—ei gapasiti, ei gyllid—ar draul pob maes arall o gymdeithas sifil, mae'n debyg.
Yn fy sylwadau i'ch datganiad chi am gefnogaeth strategol i Betsi Cadwaladr, fe soniais y gallai fod angen dull hollol wahanol i ddatrys yr hyn a welaf i yn broblem strwythurol gyda bwrdd iechyd y gogledd. Dyma'r bwrdd mwyaf yng Nghymru, felly efallai fod angen edrych ar hynny—y strwythur. Efallai ei bod hi'n bryd rhoi'r gorau i ddefnyddio'r gwasanaeth iechyd yn gocyn hitio gwleidyddol. Mae'n bryd nawr ystyried pa fath o gomisiwn trawsbleidiol all gymryd cyfrifoldeb am iechyd y genedl a GIG Cymru. Wedi'r cyfan, ni cheir monopoli ar syniadau da na chyfrifoldeb gwleidyddol ar y cyd, ac mae'n siŵr bod elfen o gytundeb yn well na'r ddadl yr ydym ni wedi ei chael, neu y byddwn ni'n ei chael heddiw. Diolch, Gweinidog.
Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Fe ddylwn i ddweud, o ran eich pwynt olaf chi, y gwnaethom ni, wrth gwrs, ar ddechrau'r tymor Cynulliad hwn, fel yr oedd hi bryd hynny, y tymor Seneddol hwn bellach, ddechrau gydag adolygiad seneddol. Rhoddodd y grŵp UKIP ar y pryd gefnogaeth i greu'r grŵp hwnnw ac, yn wir, i'w aelodaeth hefyd. Felly, roedd gennym ni grŵp annibynnol o arbenigwyr a gyflwynodd adroddiad ar yr heriau sylweddol yr oeddem ni'n eu hwynebu a syniadau am ddyfodol iechyd a gofal cymdeithasol, ac fe arweiniodd hynny at 'Cymru Iachach', sef ein cynllun hirdymor ni ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol.
Felly, rydym yn ceisio cyflawni'r trawsnewid y cawsom yn amlwg ein cynghori y byddai angen iddo ddigwydd, ac mae hynny'n golygu rhywfaint o grynhoad o wasanaethau arbenigol mewn ysbytai, yn ogystal â symudiad pellach tuag at ddarparu mwy o wasanaethau yn y gymuned. Ac mae'r symudiad hwnnw a'r diwygio at ddiben ym maes gofal iechyd yn bwysig iawn, ynghyd â'r camau bwriadol y gwyddom fod angen inni eu cymryd i greu system iechyd a gofal cymdeithasol sy'n fwy integredig. Dyna pam rydym wedi rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gronfa drawsnewid ac adeiladu'r gwasanaeth newydd hwnnw. Ac mewn gwirionedd mae'r pandemig wedi atgyfnerthu'r angen i wneud hynny. Mae wedi atgyfnerthu'r cynnydd a wnaethom eisoes hefyd o ran gwella'r berthynas rhwng iechyd a gofal cymdeithasol.
Unwaith eto, rwy'n cydnabod y pwynt y mae'r Aelod yn ei wneud ynglŷn â'r posibilrwydd o ad-drefnu gofal iechyd yn y gogledd. Nid wyf i'n credu bod cyflawni'r weledigaeth yn 'Cymru Iachach' yn gofyn am ad-drefnu'r bwrdd iechyd yn y gogledd, ond mae honno'n farn y mae gan yr Aelodau yr hawl iddi. Nid honno yw fy marn i, ond rwy'n edrych am y canlyniadau a'r cynnydd yr ydym ni'n bwriadu eu cael. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelod yn gweld hynny yn y camau gweithredu, oherwydd fe wnaeth hi ddechrau trwy groesawu'r symudiad a chydnabod y byddai'n dymuno gweld y canlyniadau ar lawr gwlad. Ac i rywun sy'n byw yn y gogledd, mae hwnnw'n safbwynt cwbl resymol.
O ran mesurau arbennig, y rheswm dros fynd i fesurau arbennig oedd—. Roedd ein hasesiad ni o'r ddarpariaeth, yr ansawdd a statws parhaus mesurau arbennig yn ymwneud â'n hasesiad ni o'r cynnydd a wnaeth y sefydliad yn erbyn yr heriau hynny, ond hefyd yr hyder i'r dyfodol ynglŷn â chynnal y gwelliant. Oherwydd rwyf wedi adrodd yn rheolaidd bod rhywfaint o welliant wedi bod, ond rhaid cael hyder y bydd hwnnw'n cael ei gynnal a'i barhau yn y dyfodol. Rydym ni heddiw nawr wedi cyrraedd y pwynt lle maen nhw'n hyderus, ynghyd â'r cyngor tairochrog, nad hwn yw'r lle iawn i'r sefydliad erbyn hyn. Dyna pam y symudais i'r bwrdd allan o fesurau arbennig, ar sail y cyngor clir a gwrthrychol hwnnw.
Fe fydd canolbwyntio a chraffu ychwanegol yn parhau o hyd ar y bwrdd iechyd drwy ymyrryd wedi'i dargedu. Rwyf eisoes wedi cyhoeddi'r cymorth ariannol fydd yn cyd-fynd â hynny i'w helpu nhw ar eu taith tuag at welliant. Rwy'n credu mai da o beth i bawb sy'n byw yn y gogledd yw bod y bwrdd iechyd bellach yn y sefyllfa hon o symud allan o fesurau arbennig, ac rwy'n gobeithio y bydd pobl yn gweld hyn yn y ffordd honno. Yn olaf, fe hoffwn i ddiolch i'r Aelod am ei geiriau caredig am realiti ymdrin â'r pandemig. Mae llawer mwy o ddiwrnodau anodd o'n blaenau ni bob un.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad chi. Fel arfer, wrth gwrs, fe fyddwn i wedi bod wrth fy modd o glywed eich bod chi'n cymryd bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig. Yn wir, mewn cyfarfod diweddar yn y gogledd gydag Aelodau'r ddwy Senedd, roedd y cadeirydd ei hun yn edrych ymlaen at gael symud allan o fesurau arbennig oherwydd, fel y nodwyd yn gywir yma heddiw, recriwtio—wyddoch chi, mae hwn bron fel brand gwenwynig nawr, onid yw e, bwrdd Betsi, sy'n drist iawn. Ond, fe hoffwn gymeradwyo ar goedd sylwadau fy nghyd-Aelod Darren Millar a fynegodd ei ddiolch, ei ddiolchgarwch, ei werthfawrogiad yn huawdl i bawb sy'n gweithio yn y GIG ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr ar draws pob lefel, nid yn unig am eu gwaith nhw dan densiynau mesurau arbennig, ond am eu hymdrechion arwrol hefyd yn ystod pandemig COVID-19. Felly, unwaith eto, roedd yn gywilyddus iawn, Gweinidog, eich bod yn diystyru hynny.
Nawr, mae'r bwrdd iechyd hwn wedi bod mewn mesurau arbennig yn hwy nag unrhyw fwrdd iechyd arall ym Mhrydain. Ers mis Mehefin 2015, mae bron i £100 miliwn wedi cael ei wario gan Lywodraeth Cymru dan eich cyfarwyddwyd chi ar gymorth ymyrryd a gwella, ond ni chyflawnwyd hynny. Nawr, fe wariwyd £1.7 miliwn ar sicrhau gwasanaethau cyhyrysgerbydol ac orthopedig cynaliadwy y llynedd. Ac eto i gyd, yn gynharach y mis hwn, fe gyhoeddwyd £30 miliwn gennych ar gyfer gwella gofal heb ei drefnu ac adeiladu rhaglen gofal wedi ei gynllunio sy'n gynaliadwy, gan gynnwys ar gyfer orthopedeg. Nawr, er fy mod i'n deall ac yn gwerthfawrogi'n fawr fod yr argyfwng mewn orthopedeg wedi gwaethygu o ganlyniad i COVID-19, pan nad oes gennym gynllun cynaliadwy o hyd ar ôl buddsoddiad o £1.7 miliwn?
Ychydig wythnosau nôl, roeddech chi'n sôn am rai o'r heriau sy'n ein hwynebu ni. Wel, fe allaf i ddweud wrthych, ar 3 Tachwedd eleni, sef 15 diwrnod gwaith mewn gwirionedd, fe wnaethoch ddatgan bod angen nifer o gamau gweithredu i wella arweinyddiaeth a llywodraethu ymhellach: bod angen datblygu strategaeth gwasanaethau clinigol integredig hirdymor, bod angen inni gryfhau ymhellach y capasiti i arwain o fewn iechyd meddwl i wella sefydlogrwydd a chydnerthedd, bod angen datblygu cynllun ariannol cadarn am dair blynedd i gyflawni dyletswyddau ariannol yn rhan o'r cynllun tymor canolig integredig, bod angen cwblhau a gweithredu fframwaith atebolrwydd a pherfformiad diwygiedig, a bod angen cyflawni gwelliannau mewn perfformiad, yn enwedig yn y sector acíwt. Dyna oedd—
A wnewch chi roi pen ar y mwdwl, os gwelwch chi'n dda?
—ar 3 Tachwedd, Dirprwy Lywydd. Felly, sut ydych chi, mewn 15 diwrnod, wedi llwyddo i oresgyn yr holl bethau hynny yr oedd angen eu gwella? Nawr, gan eich bod chi'n tynnu'r bwrdd iechyd allan o fesurau arbennig—
A wnewch chi roi pen ar y mwdwl, os gwelwch chi'n dda?
Gwnaf, rwyf i'n gwneud hynny—
Rydych chi wedi cael ymhell dros eich munud.
Fel y cafodd llawer Aelod arall.
Mae'n flin gen i. Fi sy'n penderfynu pwy sy'n cael gofyn beth, ac rwy'n gofyn ichi roi pen ar y mwdwl, os gwelwch chi'n dda.
Iawn, rwy'n gwneud hynny. A wnewch chi gadarnhau bod y bwrdd iechyd wedi ymateb i bob un o'r meysydd hynny? Ac a wnewch chi addo i'r Siambr hon nad oes cymhelliad gwleidyddol i'r symudiad hwn heddiw, a'i fod er budd cleifon y gogledd, ac nid er budd—
Na. Mae'n flin gen i. Diolch i chi. Y Gweinidog i ymateb. Cyn ichi wneud hynny, a gaf i atgoffa'r Aelodau o bleidiau sydd i ddilyn mai munud sydd ganddyn nhw, ac y dylai eich rheolwyr busnes orfodi hynny arnoch er mwyn i'r Siambr hon gael ei rhedeg yn ddiogel? Gweinidog.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwyf am ymdrin â'r pwyntiau penodol, ac yna fe fyddaf i'n dod nôl at y cyhuddiad ar y diwedd. Mae'n werth nodi ar gyfer—. Rwy'n credu bod elfen o gamddealltwriaeth yma o ran y sylwadau am y gwasanaeth cyhyrysgerbydol a'i gysylltiad ag orthopedeg. Mewn gwirionedd, y Gogledd gymerodd yr awenau o ran y dull gweithredu 'ffisio yn gyntaf' gan edrych ar ddull a oedd yn cael ei gyflwyno ac yn lleihau'r galw o fewn y gwasanaeth orthopedig. Lle'r oedd angen llawdriniaethau dewisol wedi eu cynllunio, mae hyn wedi bod o fudd mawr, ac mewn gwirionedd, mae'r gogledd wedi arwain ar rywfaint o'r gwaith hwnnw ac mae gweddill Cymru wedi elwa ar y profiad hwnnw. Felly, trwy fuddsoddi o amgylch y gwasanaeth hwn, rydym wedi osgoi'r angen am rai llawdriniaethau diangen, ac mae'n ymwneud hefyd â helpu pobl i ymdopi os oes angen iddyn nhw gael llawdriniaeth yn y dyfodol.
Fodd bynnag, mae'r cynllun orthopedig y cyfeiriais ato, mae hwnnw'n ymwneud â buddsoddi ar gyfer yr angen parhaol i amrywiaeth o bobl gael llawdriniaeth serch hynny. Felly, mae'n ymwneud â sut mae gennym ni gynllun y mae'r holl ganolfannau yn y gogledd yn ei dderbyn. Oherwydd ar ddechrau'r flwyddyn hon fe gefais i sylwadau gan Aelodau mewn gwahanol bleidiau a oedd wedi siarad â chlinigwyr mewn gwahanol rannau o'r gogledd, ac roedd gan bob un ohonyn nhw gynllun cystadleuol yr oedden nhw'n dymuno ei hyrwyddo. Rydym mewn sefyllfa erbyn hyn lle y gwelwn ni rywfaint o undod yn y grŵp clinigol. Maen nhw'n barod i ymrwymo i gynllun cyffredin, ac mae hyn yn ymwneud â chydymffurfio â'r cynllun hwnnw. Nid yw'n ymwneud yn unig â sut y byddwn yn gwneud y gwasanaeth yn fwy effeithlon; fe fydd angen rhywfaint o fuddsoddiad cyfalaf arno hefyd, ar hyd y daith, yn fy marn i. Felly, rwy'n edrych ymlaen at achos busnes unedig, terfynol sy'n ein galluogi ni i helpu'r gogledd i symud ymlaen gyda chynllun orthopedig i ymdrin â natur wirioneddol yr angen a'r galw. Mae'r gwasanaeth cyhyrysgerbydol y buddsoddwyd ynddo yn enghraifft dda iawn o'r gogledd yn cymryd yr awenau ac yn edrych ar sut y bydd yn diwygio ei wasanaeth mewn ffordd gadarnhaol.
Ac yna'r cyhuddiadau ehangach a wnaed. Rwy'n gwybod bod yr Aelod wedi dechrau trwy ddweud y byddai hi 'fel arfer' 'wrth ei bodd' gyda chynnydd y tu allan i fesurau arbennig, ac rwy'n credu bod yna fater yma, na chaiff ei gydnabod yn y Siambr hon yn unig, ond y tu allan hefyd, o wrthod cydnabod newyddion da a chynnydd da. Y cyhuddiad uniongyrchol a wnaeth y siaradwr Ceidwadol cyntaf oedd bod hyn rywsut yn ymarfer gwleidyddiaeth bleidiol. Nid yw prif weithredwr GIG Cymru yn rhoi cyngor trwy'r dull hwn. Nid yw Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru nac Archwilio Cymru yn darparu eu cyngor nhw trwy'r dull hwn—drwy drefniadau uwchgyfeirio ac ymyriad tairochrog. Ac mae Aelodau yn y Siambr hon yn gwybod hynny'n dda iawn. Nid yw'r awgrym fel arall, nad yw hyn yn ddim mwy nag ymarfer gwleidyddiaeth bleidiol, yn adlewyrchu'n dda ar unrhyw un o'r Aelodau Ceidwadol sydd wedi ceisio gwneud hynny. Fy mhenderfyniad i ar sail cyngor clir yw hwn. Rwy'n falch iawn o fod wedi gwneud y dewis hwn, ac rwy'n croesawu'r cynnydd sy'n digwydd yn y gogledd.
Ni allaf ond canmol y staff meddygol arwrol, sy'n gweithio'n galed yn ein hysbytai yn y gogledd. Mae'r pryderon mewn mannau eraill. Ym mis Ionawr, ysgrifennodd cyngor iechyd cymuned gogledd Cymru atoch, gan atodi'r adolygiad annibynnol o therapïau seicolegol yn y gogledd, a ddisgrifiodd sut roedd y gwasanaeth yn methu mewn sawl ardal, a dweud, ar ôl bron i bum mlynedd yn destun mesurau arbennig, gyda llawer o hynny ymwneud â materion iechyd meddwl, fod y canfyddiadau hyn yn siomedig iawn. Nid yw cyngor iechyd cymuned gogledd Cymru yn cydnabod y darlun a geir yn adroddiad y fframwaith gwella mesurau arbennig. Nid yw hyn yn cael ei adlewyrchu yn ein llwyth achosion o gwynion ac eiriolaeth nac yn adroddiadau timau ymweld y cyngor iechyd cymuned. Ddydd Gwener diwethaf, fe wnaethant gyhoeddi y byddant yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau ar Zoom, gan wahodd staff y GIG, cleifion, gofalwyr a theuluoedd i siarad am wasanaethau iechyd meddwl. Fel y dywedont,
Mae'n hanfodol ein bod yn cyflwyno profiadau ac awgrymiadau pawb sy'n defnyddio gwasanaethau iechyd meddwl i'r rhai sy'n gwneud penderfyniadau a pholisïau.
Heddiw, dywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr y byddant yn ystyried trefniadau ar gyfer arwain iechyd meddwl ac anableddau dysgu gyda'u prif weithredwr newydd Jo Whitehead pan fydd yn dechrau yn ei swydd yn y flwyddyn newydd. Pam nad ydych chi'n aros i'r pethau hyn ddigwydd, gan roi cleifion o flaen gwleidyddiaeth, yn hytrach na chamu i'r tywyllwch?
Mae'r penderfyniad hwn heddiw yn rhoi cleifion o flaen gwleidyddiaeth wrth wneud yr hyn sydd bob amser yn ddewis anodd, ond yn ddewis sy'n cael ei yrru gan y cyngor clir iawn a gawsom ni yn y broses driphlyg. Rwy'n cydnabod bod siaradwyr Ceidwadol wedi rhagbenderfynu peidio â derbyn na chydnabod y penderfyniad didwyll hwn. Mater iddyn nhw yw hynny, a bydd pobl sy'n gwylio yn gwneud eu penderfyniadau eu hunain ynghylch a ddylen nhw ymddiried ym marn gwleidyddion Ceidwadol y gogledd, neu'r cyngor clir, gwrthrychol gan brif weithredwr GIG Cymru, Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru sy'n sail i'm penderfyniad i dynnu Betsi allan o fesurau arbennig.FootnoteLink
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.
Eitem 5 ar yr agenda yw datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ar ddiwygio'r drefn ar gyfer tacsis a cherbydau hurio preifat. Galwaf ar Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru—Ken Skates.
Dirprwy Lywydd, hoffwn yn gyntaf gydnabod y rhan hollbwysig y mae'r diwydiant tacsis a cherbydau hurio preifat yn ei chwarae yn ystod pandemig COVID. Mae llawer wedi parhau i weithio drwyddi draw ac wedi darparu cludiant i weithwyr allweddol, yn ogystal â darparu gwasanaethau sy'n amlwg wedi galluogi darparu nwyddau, bwyd a chyflenwadau meddygol hanfodol. Rydym yn cydnabod bod hwn yn gyfnod anodd yn ariannol i'r diwydiant, gyda chyfyngiadau'n golygu bod y galw arferol gan gwsmeriaid yn eithriadol o isel.
Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm ag undebau llafur a roddodd yr wybodaeth ddiweddaraf i mi am yr heriau presennol a wynebir gan y diwydiant tacsis a cherbydau hurio preifat yn sgil y pandemig. Rydym wedi ceisio darparu cymorth drwy gydol y cyfnod hwn lle bo hynny'n bosibl. Yn ogystal â chynlluniau cymorth ariannol Llywodraeth y DU, rwyf wedi darparu cyllid drwy gam 3 ein cronfa cadernid economaidd gwerth £200 miliwn, sy'n cynnwys cynllun grant dewisol o £25 miliwn wedi ei weinyddu gan awdurdodau lleol ar gyfer cyfyngiadau symud.
Mae nifer o'r diwydiannau tacsis a cherbydau hurio preifat eisoes wedi elwa ar gronfa fusnes y cyfyngiadau symud a hefyd y gronfa cymorth dewisol. Hefyd, gallaf ddweud bod swyddogion yn archwilio dewisiadau ar frys i ddarparu cyfarpar diogelu personol o ansawdd uchel i gynorthwyo'r diwydiant i ddiogelu'r gyrwyr eu hunain a'u teithwyr rhag COVID-19. Rydym ni hefyd wedi sefydlu tudalen bwrpasol ar ein gwefan i roi cyngor i'r diwydiant ar ffyrdd o leihau trosglwyddiad y coronafeirws a'r cymorth ariannol sydd ar gael.
Mae swyddogion, Dirprwy Lywydd, wrthi'n datblygu nifer o gynlluniau treialu gydag awdurdodau lleol a fydd yn caniatáu i yrwyr brofi cerbydau dim allyriadau cyn eu prynu, fel y gallan nhw ddeall yn well y manteision ariannol ac amgylcheddol posibl. Ac maen nhw hefyd yn archwilio dewisiadau ar gyfer cynlluniau cymhelliant i gynorthwyo'r gyrwyr hynny sydd â diddordeb mewn defnyddio'r cerbydau hyn yn y tymor hwy.
Heb os, mae cerbydau tacsis a cherbydau hurio preifat yn fath hanfodol o drafnidiaeth gyhoeddus. Maen nhw'n cynnig ateb ar gyfer trafnidiaeth ymarferol ac uniongyrchol ac maen nhw'n darparu gwasanaeth hanfodol i bobl sy'n byw mewn cymunedau gwledig lle gall mathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus fod yn annigonol neu'n absennol yn wir; i economi'r nos, gan gefnogi llawer o'n busnesau lletygarwch; ac, wrth gwrs, i deithwyr ag anableddau, yn ogystal â chwarae rhan bwysig yn y gwaith o hwyluso cynhwysiant cymdeithasol. Am y rhesymau hyn mae ein Llwybr Newydd, strategaeth drafnidiaeth newydd Cymru, a lansiwyd yr wythnos diwethaf, yn cynnwys cynllun ategol ar gyfer tacsis a cherbydau hurio preifat.
Er hynny, mae'r ddeddfwriaeth bresennol ar dacsis a cherbydau hurio preifat wedi dyddio, gyda'r prif fframwaith yn dyddio'n ôl i 1847 a 1976. Mae'r fframwaith hwn wedi arwain at bolisïau, safonau ac amodau trwydded anghyson ar draws awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr. Mae rheoleiddio tacsis a cherbydau hurio preifat, wrth gwrs, bellach yn fater datganoledig o dan Ddeddf Cymru 2017. Rydym yn atebol ar hyn o bryd, ond hyd nes y byddwn yn deddfu, ni allwn orfodi unrhyw newid. Nawr, mae nifer o broblemau'n gysylltiedig â'r ddeddfwriaeth drwyddedu bresennol, sy'n cynnwys pryderon diogelwch i yrwyr a theithwyr, safonau trwyddedu anghyson, sy'n cyfrannu at broblemau llogi trawsffiniol, gwasanaeth cwsmeriaid gwael a dryswch cyhoeddus ynghylch mathau o gerbydau a strwythurau tocynnau. Ac mae'r problemau presennol, mae arnaf ofn, yn mynd i barhau i gynyddu wrth i'r diwydiant barhau i esblygu.
Nododd Llywodraeth y DU am y tro cyntaf fod angen diwygio yn ôl yn 2011 pan gynhaliodd Comisiwn y Gyfraith adolygiad o'r drefn bresennol. Ac yna hefyd, yn 2018, adroddodd grŵp gorchwyl a gorffen argymhellion ar gyfer gwella'r drefn trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat. Mae'r adolygiadau hyn wedi creu, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud, disgwyliadau uchel iawn ymhlith rheoleiddwyr a'r diwydiant tacsis a cherbydau hurio preifat y bydd newid. Fodd bynnag, ar wahân i ychydig o welliannau bach a chyhoeddi safonau tacsis a cherbydau hurio preifat statudol yr Adran Drafnidiaeth yn ddiweddar, nid yw Llywodraeth y DU wedi diwygio deddfwriaeth tacsis mewn gwirionedd.
Ers datganoli rheoleiddio tacsis a cherbydau hurio preifat i Lywodraeth Cymru, rydym ni wedi cynnal dau ymgynghoriad mawr. Mewn ymateb i'r Papur Gwyn 'Gwella trafnidiaeth gyhoeddus', roeddem yn cydnabod bod cefnogaeth gyffredinol i'r cynigion yn ymwneud â safonau cenedlaethol, i bwerau gorfodi a rhannu gwybodaeth gwell. Ond, roeddem hefyd yn derbyn, o ganlyniad i'r ymgynghoriad, fod teimlad cryf nad oedd y cynigion yn mynd yn ddigon pell i fynd i'r afael yn effeithiol â'r heriau presennol a wynebir gan y diwydiant a rheoleiddwyr.
Felly, yn sgil hyn, fe wnes i ymrwymiad y byddai'r cynigion ar gyfer tacsis a cherbydau hurio preifat yn cael eu datblygu ymhellach ac mae gwaith eisoes wedi dechrau ar ddrafftio cynigion polisi sy'n adeiladu ar y gwaith a wnaed yn y Papur Gwyn. Canolbwyntiwyd y cynigion hyn ar wella pedwar maes: yn gyntaf oll, diogelwch, yn ail, cydraddoldeb, yn drydydd, safonau amgylcheddol ac yna, yn bedwerydd, gwasanaeth cwsmeriaid. A'n nod yw cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol sy'n cefnogi teithwyr yn ogystal â chefnogi'r diwydiant ei hun. Mae angen deddfwriaeth newydd i wneud tacsis a cherbydau hurio preifat yn ddiogel ac yn rhan o system drafnidiaeth integredig ledled Cymru ac i broffesiynoli'r diwydiant a sicrhau y gall gyrwyr wneud bywoliaeth dda a theg. Rydym yn ceisio cyflawni hyn drwy ddatblygu ac ymgynghori ar gynigion deddfwriaethol newydd a byddwn yn disodli'r cyfundrefnau cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat dwy haen dryslyd gydag un gyfundrefn dacsis.
Byddwn yn parhau i weithio gyda llywodraeth leol i archwilio rhinweddau newidiadau i awdurdodau trwyddedu pan gaiff cerbydau weithredu'n genedlaethol, ac eithrio mewn parthau cyfyngedig lle mae tystiolaeth o orgyflenwad, er enghraifft, yma yng Nghaerdydd, a byddwn yn creu safonau trwyddedu cenedlaethol ar gyfer gyrwyr, cerbydau a gweithredwyr, gyda phwyslais ar sicrhau'r diogelwch cyhoeddus mwyaf posibl a phroffesiynoli'r diwydiant. Yn ogystal, bydd pwerau gorfodi yn cael eu cynyddu a'u cynorthwyo gan gronfa ddata a chofrestr genedlaethol.
Fel man cychwyn, cyn newid deddfwriaethol, mae swyddogion wedi gwneud gwaith gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a chynrychiolwyr awdurdodau lleol ledled Cymru i nodi meysydd polisi trwyddedu y gellir eu gwella a'u gwneud yn fwy cyson. Mae hyn wedi arwain at gytundeb ar gyfres o argymhellion ar gyfer alinio polisi tacsis. Mae cyfyngiadau ar y gwaith hwn, gan fod polisïau trwyddedu'n amrywio'n fawr ledled Cymru, ac roedd swyddogion yn ofalus i sicrhau na fyddai mabwysiadu'r argymhellion yn golygu unrhyw gost sylweddol i awdurdodau lleol nac, yn wir, i'r diwydiant cyn newid deddfwriaethol ehangach. Serch hynny, bydd yr argymhellion hyn yn gam tuag at safonau trwyddedu cenedlaethol a phroffesiynoli'r diwydiant, a byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am gynnydd.
Gweinidog, a gaf i ddiolch ichi am eich datganiad heddiw? Rwy'n gyffredinol o blaid y diwygiadau a'ch dull gweithredu, os ydyn nhw, wrth gwrs, yn llwyddiannus o ran symleiddio ac addasu'r systemau rheoleiddio tacsis a hurio preifat. Yn gyffredinol, nid wyf yn cefnogi Llywodraeth Cymru pan fydd yn canoli pwerau a'u tynnu oddi wrth awdurdodau lleol, ond yn hyn o beth, credaf fod achos dros hyn, am nifer o resymau, ond fe wnaethoch chi nodi llawer ohonyn nhw yn eich datganiad eich hun.
Tybed pa adborth, cadarnhaol a negyddol, a gawsoch chi gan awdurdodau lleol, gyrwyr, gweithredwyr a theithwyr o ran eich cynigion i ganoli trwyddedu yng Nghymru. Byddai'n ddefnyddiol clywed y safbwyntiau hynny a gawsoch chi. Er bod creu'r awdurdod trafnidiaeth ar y cyd yn welliant, rydych wedi mynd ymhellach nag argymhelliad Comisiwn y Gyfraith a'r grŵp gorchwyl a gorffen wrth ymgynghori ar gyflwyno safonau cenedlaethol. Felly, pam ydych chi wedi dewis mynd y tu hwnt i argymhellion Comisiwn y Gyfraith a'r grŵp gorchwyl a gorffen yn hyn o beth?
Roedd papur ymgynghori Llywodraeth Cymru yn cynnig diddymu'r gwahaniaeth hwn rhwng cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat, ond mae'n ymddangos bod y cynnig hwn wedi ei dynnu'n ôl. Rwy'n deall bod 45 y cant o'r ymatebwyr wedi mynegi barn a oedd yn cytuno ag argymhellion Comisiwn y Gyfraith, gan ddweud y dylid cadw'r gwahaniaeth rhwng cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat. Nid oedd Comisiwn y Gyfraith ychwaith yn cefnogi cyflwyno gofynion cadw cofnodion ar gyfer gyrwyr tacsis, ac eithrio mewn cysylltiad â thacsis yn casglu teithwyr y tu allan i'w hardal drwyddedu. Fodd bynnag, mewn egwyddor, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r gwaith o gadw cofnodion cywir ar gyfer gyrwyr tacsis, a tybed pam ydych chi wedi gwyro oddi wrth farn Comisiwn y Gyfraith, a pha anawsterau ymarferol ydych chi'n eu rhagweld wrth gofnodi'r data.
Mae yna hefyd fater ynghylch tacsis a cherbydau hurio preifat yn gweithio ar hyd y ffin â Lloegr; byddwch chi a fi'n gyfarwydd â hynny, drwy gynrychioli etholaethau ar y ffin. Ac mae'r materion yno yr un fath â'r rheswm pam rydych chi eisiau cymryd ymagwedd ganolog ledled Cymru, rwyf hefyd yn cytuno â'r ymagwedd honno, ond wedyn dyna fater y ffin. Felly, tybed a wnewch chi ehangu, yn hynny o beth, o ran pa drafodaethau yr ydych wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU a'r Adran Drafnidiaeth.
Ac yn olaf, deallaf eich bod wedi cynnig pennu ffioedd trwyddedu llogi preifat yn genedlaethol ond y bydd ffioedd trwyddedu tacsis yn parhau i gael eu pennu'n lleol. Roedd hwn yn gynnig amhoblogaidd yn ystod y broses ymgynghori ac roedd yn well gan awdurdodau trwyddedu lleol allu pennu ffioedd ar gyfer trwyddedu tacsis a cherbydau hurio preifat yn lleol, ond, gan arfer y swyddogaeth, i roi sylw dyledus i ganllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru. Tybed beth yw eich ymateb o ran yr adborth penodol hwn.
A gaf i ddiolch i Russell George am ei sylwadau, ei gwestiynau a dweud fy mod yn credu bod ei gyfraniad yn cyfeirio at y ffaith bod cytundeb cyffredinol ar draws y Siambr bod angen diwygio, bod angen moderneiddio a bod angen deddfwriaeth? Mae'r fframwaith presennol yn fwy na 150 mlwydd oed; fe'i diweddarwyd 44 mlynedd yn ôl. Mae'n hen bryd cyflwyno deddfwriaeth newydd sy'n cydnabod yr oes yr ydym bellach yn byw ynddi, y technolegau newydd sy'n cael eu cynnwys a'r gwahanol ffyrdd y mae pobl yn gweithredu.
O ran y cynigion, fe'u croesawyd yn gyffredinol, ac yn benodol o ran safonau cenedlaethol. Credaf eu bod yn gwneud synnwyr ac maen nhw'n mynd i'r afael â phryderon a godwyd drwy'r broses ymgynghori ar y Papur Gwyn. Mae dileu'r system ddwy haen yn angenrheidiol i Gymru yn fy marn i. Yn amlwg, gallai'r sefyllfa fod yn wahanol mewn mannau eraill. Yn Llundain, mae amgylchedd gwahanol iawn i gerbydau hacni weithredu ynddo, ond, yma yng Nghymru, credaf y byddai'r rhan fwyaf o bobl yr ydym yn eu gwasanaethu yn ei chael yn anodd nodi'r gwahaniaethau rhwng cerbydau hacni a cherbydau hurio preifat, ac mae cael system un haen yn gwneud synnwyr perffaith i'r teithiwr. Mae hefyd yn gwneud synnwyr perffaith i'r diwydiant ei hun. Byddem wedyn yn gallu defnyddio setiau cyson o gyfundrefnau ar draws pob math o gerbydau a gwasanaethau.
Wrth gwrs, bydd angen i ni fynd i'r afael â materion yn ymwneud â'r ffin rhwng Cymru a Lloegr. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'r Adran Drafnidiaeth ynglŷn â'r mater hwn, a byddwn yn cytuno â Russell George fod llawer o bobl sy'n gweithio ar ochr Lloegr i'r ffin sy'n dod â phobl i Gymru ac i'r gwrthwyneb. Mae yna bobl sy'n byw yng Nghymru sydd wedi'u cofrestru fel gyrwyr tacsis, gyrwyr cerbydau hurio preifat, dros y ffin yn Lloegr, ac, felly, fel rhan o'r gwaith ar y ddeddfwriaeth, byddwn yn cysylltu â'r Adran Drafnidiaeth, ac, yn wir, â rhanddeiliaid lleol dros y ffin yn Lloegr, i sicrhau bod cyflwyno deddfwriaeth yma yng Nghymru yn gydnaws â sut mae gwasanaethau tacsis a cherbydau hurio preifat yn gweithredu dros y ffin.
Ac yna o ran ffioedd, rwy'n credu ei bod hi'n hanfodol bod y gyfundrefn ffioedd yn dryloyw, ei bod mor gyson â phosibl, a'i bod yn deg—sef nad yw'n arwain at ystumio ceisiadau i ffwrdd o un ardal benodol a ffafrio ardal arall oherwydd bod y ffioedd yn is, neu, yn wir, oherwydd bod y safonau'n is. Mae llawer o'r problemau presennol a welwn gyda'r system fel y mae'n gweithredu ar hyn o bryd yn ymwneud â'r anghysondebau hynny ymysg awdurdodau lleol, y gwahaniaethau hynny. Mae'r gofynion trwyddedu ledled Cymru yn wahanol am wahanol resymau, gan gynnwys yr hynaf y gall cerbyd trwyddedig fod, amlder profion cerbydau, y safonau profi cerbydau, y profion gwybodaeth gyrwyr a safonau meddygol gyrwyr, i enwi ond ychydig o wahanol ddulliau anghyson ledled Cymru. Felly, mae cael cymaint â phosib o gysondeb ledled Cymru yn gwneud synnwyr perffaith, yn enwedig i'r ardaloedd hynny lle mae cryn dipyn o weithgarwch yn y farchnad, megis yng Nghaerdydd a Chasnewydd, hefyd Abertawe ac yn Wrecsam a'r cyffiniau hefyd.
Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad, ac, fel bob amser, am y copi ymlaen llaw, ac i roi cefnogaeth gyffredinol iddo gan Blaid Cymru am sylwedd y datganiad. I wneud fy sylwadau agoriadol, hoffwn gefnogi'r hyn y mae'r Gweinidog wedi'i ddweud am bwysigrwydd tacsis a cherbydau preifat. Mewn rhai cymunedau nhw yw'r unig fath o drafnidiaeth gyhoeddus, mewn gwirionedd, ac ni allai pobl ymdopi hebddyn nhw, ac rwy'n gwybod bod llawer o ddarparwyr tacsis a cherbydau hurio preifat wedi gwneud gwaith ychwanegol yn ystod y cyfyngiadau symud. Gwn fod cwmni tacsis cydweithredol Drive yng Nghaerdydd yn casglu presgripsiynau ac yn dosbarthu bwyd i bobl, a gwn fod hynny wedi'i adlewyrchu ledled Cymru.
Rwy'n gobeithio y byddai'r Gweinidog yn cytuno â mi ei bod yn bwysig iawn iddo gael cydweithrediad a chefnogaeth y sector er mwyn gallu cyflawni'r uchelgeisiau a nodir yn ei ddatganiad. Bydd, wrth gwrs, yn ymwybodol o'r gwrthdystiad heddiw, y gwrthdystiad gan undebau llafur heddiw—ac un o'r arwyddion yn cyfeirio atyn nhw eu hunain, y diwydiant tacsis, yn fasnach anghofiedig weithiau, yn enwedig drwy'r pandemig. Nawr, mae'r Gweinidog wedi crybwyll bod cymorth ariannol ar gael drwy'r gronfa cadernid economaidd, y gronfa cymorth dewisol i fusnesau yn ystod y cyfyngiadau symud, ond tybed a all ddweud ychydig mwy am ei dybiaeth ynghylch faint o hynny sydd wedi cyrraedd pobl sy'n gweithio yn y diwydiant tacsis a hurio preifat. Efallai y bydd problemau, er enghraifft, o ran cael gafael ar wybodaeth. Mae llawer o'r bobl sy'n gweithio yn y diwydiant, er enghraifft, yng Nghaerdydd a Chasnewydd, yn bobl o wledydd eraill nad oes ganddyn nhw'r Gymraeg na'r Saesneg fel eu hiaith gyntaf o bosibl; efallai nad ydyn nhw'n gwybod ble i fynd i chwilio am y math hwn o gymorth. Croesawaf yr hyn a ddywedodd y Gweinidog heddiw am gyfarpar diogelu personol ar gyfer gyrwyr tacsis, ond wrth gwrs gwyddom, i lawer o bobl sy'n gweithio yn y sector hwnnw, ei bod yn llythrennol yn rhy hwyr. Mae hwn wedi bod yn sector lle mae llawer iawn o bobl sy'n gweithio ynddo wedi mynd yn sâl, felly a wnaiff roi amserlen inni ynghylch y gwaith hwnnw o ran cyfarpar diogelu? Oherwydd rwy'n credu bod hynny'n gwbl hanfodol i'r bobl hynny, fel y dywedodd ei hun, allu gweithio'n ddiogel ac er diogelwch eu teithwyr, wrth gwrs.
Cytunaf yn bendant fod angen deddfwriaeth, ac, fel y dywedodd y Gweinidog, mae'r fframwaith presennol yn hen ffasiwn iawn. Yn fy nhrafodaethau â chynrychiolwyr y sector, credaf eu bod, yn gyffredinol, yn gwerthfawrogi'r angen i ddiwygio, ond mae rhai pryderon. Dydw i ddim yn hollol siŵr a fyddwn i'n cytuno â'r Gweinidog pan ddywed nad yw pobl yn gwybod y gwahaniaeth rhwng tacsis a cherbydau hurio preifat. Rwy'n adnabod, er enghraifft, llawer o fenywod a fydd bob amser yn defnyddio tacsi yn hytrach na cherbyd hurio preifat oherwydd y canfyddiad, boed yn wir ai peidio, bod y safonau fetio yn golygu bod tacsi yn lle mwy diogel i fenyw os yw'n teithio ar ei phen ei hun. Mae'n rhaid i mi ddweud ei fod yn rhywbeth yr wyf bob amser yn argymell bod fy merch i yn ei wneud. Felly, mae pryder, drwy ddileu'r gwahaniaeth rhwng tacsis a cherbydau hurio preifat—. A all y Gweinidog fy sicrhau heddiw nad yw hynny'n mynd i arwain at leihad mewn safonau, a'n bod mewn gwirionedd yn mynd i weld y cerbydau hurio preifat yn cael eu codi i'r un safonau ag sy'n ofynnol yn awr i'r hyn yr ydym yn eu hystyried yn dacsis go iawn—mae'n debyg nad dyna'r ffordd gywir o'i ddisgrifio—oherwydd yn sicr ni fyddem am weld safonau'n gostwng? Felly, gobeithio y gwnaiff y Gweinidog ddweud ychydig mwy heddiw am y cyfiawnhad dros y newidiadau un haen. Credaf fod symlrwydd yn amlwg yn un ohonyn nhw, ond a all fod yn siŵr na chaiff safonau eu gostwng?
Nawr, mae'r syniad o gronfa ddata a chofrestr genedlaethol yn rhywbeth y byddem yn ei groesawu ym Mhlaid Cymru, ac mae cryfhau pwerau gorfodi er budd diogelwch a safonau'r cyhoedd yn bwysig. Mae lleiafrif o bobl yn gweithio yn y maes hwn nad ydyn nhw'n cadw eu cerbydau'n lân, nad ydyn nhw'n bodloni'r safonau y byddem yn eu disgwyl, ac mae hynny wrth gwrs yn ddrwg i bawb sy'n gweithio yn y diwydiant. Ond rwyf wedi clywed pryderon ynghylch dileu unrhyw elfen leol yn gyfan gwbl. Siawns nad oes angen i awdurdodau lleol wybod faint o gerbydau sydd ar y ffordd yn eu hardal, ac os yw tacsis a cherbydau hurio preifat i fod yn rhan o'n cynlluniau trafnidiaeth gyhoeddus cyffredinol, mae angen inni wybod ble maen nhw ar lefel leol hefyd. Yn ei ymateb i Russell George, credaf fod y Gweinidog wedi sôn am y risg o orgyflenwi mewn rhai ardaloedd, ond byddwn hefyd yn awgrymu i'r Gweinidog fod perygl hefyd o dangyflenwi—sef os caiff tacsis eu cofrestru'n genedlaethol, byddant yn mynd i weithio lle mae'r gwaith, a gallai hynny olygu bod rhai cymunedau'n cael eu hamddifadu o wasanaeth. Felly, tybed a all y Gweinidog ddweud ychydig mwy am sut y mae'n bwriadu sicrhau bod gwasanaeth yn parhau i fod ar gael ledled y wlad. Un fantais o gofrestru fesul sir yw mai dyna'r sir y mae'n rhaid i chi weithio ynddi.
Felly, yn olaf, i ddod at y materion di-garbon, yn y strategaeth drafnidiaeth yr wythnos diwethaf fe wnaethoch chi sôn am yr angen i drosglwyddo i dacsis dim allyriadau, a chroesawais yr hyn a oedd gennych i'w ddweud am alluogi pobl i roi cynnig ar hynny, ond a wnewch chi ddweud ychydig mwy wrthym, Gweinidog? Byddwn yn ddiolchgar pe baech yn dweud ychydig mwy am y cynllun cymhellion sy'n cael ei ystyried. A fyddai, er enghraifft, o bosibl yn rhoi cymorth i alluogi gyrwyr i brynu cerbydau dim allyriadau, sydd, wrth gwrs, yn ddrutach ar hyn o bryd? Diolch.
A gaf i ddiolch i Helen Mary Jones am ei chyfraniad, a oedd, fel arfer, yn adeiladol? Rwy'n falch iawn o ateb y cwestiynau a gododd.
Byddaf yn dechrau gyda'r cwestiwn olaf hwnnw am y cymorth a allai fod ar gael ar gyfer tacsis gwyrdd yn y dyfodol. Wrth gwrs, cynllun treialu yw hwn, yn bennaf oll, a fydd yn galluogi gyrwyr tacsis, gweithredwyr, i brofi cerbydau gwyrdd cyn iddyn nhw eu prynu. Bydd cyllid cerbydau allyriadau isel iawn yn cael ei ddarparu ar gyfer nifer o gynlluniau treialu tacsis gwyrdd yn y flwyddyn ariannol hon. Rydym yn cynnig y bydd y cynlluniau treialu yn cael eu cynnal ym mhrifddinas-ranbarth Caerdydd, yn sir Ddinbych, yn sir Benfro ac yng Ngheredigion, ac yna'n ymgorffori llawer o'r meysydd blaenoriaeth sydd wedi'u cynnwys yn y fenter trawsnewid trefi hefyd. Felly, rydym yn ceisio cysoni cryn dipyn o feysydd polisi yn hyn o beth.
Bydd cynlluniau tymor hwy ar gyfer cymell pobl i ddefnyddio tacsis a cherbydau dim allyriadau yn cael eu hymchwilio, megis cyfleoedd i gael grantiau, cyfleoedd ar gyfer gwella telerau cynlluniau prydlesu, ond mae'n mynd i ddibynnu'n fawr ar werthuso'r cynlluniau treialu, ac, wrth gwrs, mae'n rhaid i mi ddweud y bydd y graddau y gallwn gynnig cymorth yn dibynnu ar yr adnoddau ariannol sydd ar gael. Ond rwy'n frwd iawn o ran y maes gwaith penodol hwn, a chredaf y gall y cynlluniau treialu hynny gynnig rhywfaint o wybodaeth werthfawr a fydd wedyn yn llywio maint yr ymyriad sydd ei angen.
Byddwn yn cytuno'n llwyr â Helen Mary Jones fod llawer o bobl yn dibynnu'n eithriadol o drwm ar dacsis a cherbydau hurio preifat, yn enwedig pobl nad oes mathau eraill o drafnidiaeth gyhoeddus ar gael iddyn nhw mewn ardaloedd gwledig, er enghraifft, a hefyd, yn hollbwysig, pobl sy'n wynebu rhwystrau anablu mewn cymdeithas. Ac eto hefyd, ochr yn ochr â hyn, gwyddom, mewn rhai ardaloedd awdurdodau lleol, fod cyn lleied â 5 y cant o dacsis a cherbydau hurio preifat sy'n gallu cynnig mynediad i ddefnyddwyr cadeiriau olwyn. Ac yn aml, gwyddom o'r adroddiadau a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, fod pobl sy'n wynebu rhwystrau oherwydd anableddau mewn cymdeithas yn aml yn wynebu heriau ychwanegol o ran gordalu, ac weithiau nid yw'r profiad gwasanaeth cwsmeriaid yr hyn y byddem yn sicr yn ei ddisgwyl. Ac felly mae llawer o rwystrau y mae'n rhaid i ni naill ai eu dileu neu eu goresgyn er mwyn sicrhau bod y diwydiant tacsis a cherbydau hurio preifat yn diwallu anghenion pobl anabl.
O ran y sector ei hun a'n hymgysylltiad ni, fel y dywedais ychydig yn gynharach, cyfarfûm â TUC Cymru, ag Unite, â'r GMB yr wythnos diwethaf i drafod yr heriau y mae gyrwyr tacsis yn eu hwynebu ar hyn o bryd yn ystod y pandemig. Ac, o ganlyniad i'r cyfarfod hwnnw, gofynnais i nifer o ddarnau o waith brys gael eu gwneud—un i gasglu'r data ynghylch trydydd cam y gronfa cadernid economaidd, oherwydd datblygwyd y trydydd cam gyda gyrwyr tacsis mewn golwg yn fwy na dim. Dyna pam wnaethom ni ddatblygu'r elfen grant dewisol honno o £25 miliwn. Ac felly rwyf wedi gofyn am adborth gan awdurdodau lleol ynghylch faint o grantiau y gwnaed cais amdanyn nhw gan yrwyr tacsis, ac i'r undebau eu hunain sicrhau bod eu haelodau'n cael gwybodaeth am y gwahanol gynlluniau cymorth sydd ar gael—y cynlluniau dewisol hynny, cynllun y gronfa cymorth dewisol, er enghraifft, y cynllun cymorth hunangyflogaeth, nad yw miloedd a miloedd o bobl hunangyflogedig yng Nghymru yn ei ddefnyddio o hyd. Felly fe gaiff y data hynny ei gasglu. Rwyf hefyd wedi gofyn i wahanol ddarnau eraill o waith gael eu gwneud, gan gynnwys wrth gwrs sut y gallwn ni gyflenwi cyfarpar diogelu personol gwerthfawr i yrwyr tacsi. Yr her fawr o ran cyfarpar diogelu personol yw nid yn gymaint sut yr awn ati i sicrhau digon ohono i'r diwydiant a gyrwyr, ond mewn gwirionedd sut ydym ni'n sicrhau bod y gyrwyr yn derbyn y cyfarpar yna—sut y maen nhw yn cael y cyfarpar diogelu personol hwnnw, y caiff ei ddefnyddio gan weithredwyr tacsis.
Ac mae'n bwynt diddorol y mae Helen Mary Jones yn ei wneud am y gwahaniaeth rhwng cerbydau hurio preifat a thacsis. Credaf fod Helen Mary Jones yn gwneud pwynt pwysig—y bydd rhai pobl yn amlwg yn gwybod beth yw'r gwahaniaethau ac y caiff safonau ar gyfer tacsis eu hystyried yn uwch nag ar gyfer cerbydau hurio preifat, ac yn enwedig o ran diogelwch y cyhoedd. Mae pryderon difrifol sy'n deillio o rai o'r adroddiadau a gomisiynwyd ynglŷn â'r ffordd y mae rhai pobl wedi cael eu trin. Er enghraifft, amlygodd adroddiadau Jay a Casey ar gamfanteisio ar blant yn rhywiol yn Rotherham bod enghreifftiau o yrwyr tacsis yn cael eu cysylltu'n uniongyrchol â phlant a oedd yn cael eu cam-drin, gan gynnwys achosion lle yr oedd plant yn cael eu casglu o ysgolion, cartrefi plant neu o gartrefi teuluol a'u cam-drin neu eu hecsbloetio'n rhywiol yn gyfnewid am deithiau tacsis am ddim. Ac felly gallaf sicrhau Helen Mary Jones a phob Aelod heddiw mai dim ond un ffordd y bydd y safonau'n mynd—cânt eu gwella. Ac mae hynny'n gwbl hanfodol er budd diogelwch y cyhoedd, yn enwedig y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.
Cododd Helen Mary Jones y cwestiwn hefyd am y gronfa ddata genedlaethol a'r safonau cenedlaethol. Rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol y caiff safonau eu cynnal ar y lefel uchaf bosibl ar sail genedlaethol fel nad ydym yn cael y math o broblemau trawsffiniol a brofwn yn awr. A chredaf y bydd elfen leol gref iawn i weithrediad y gyfundrefn fel yr ydym yn ei chynnig, yn enwedig ar lefel awdurdod lleol ond hefyd ar lefel cydbwyllgor corfforaethol. Ac mae awdurdodau lleol yn ymgysylltu'n llawn â'n hymgynghoriadau ac wrth lunio'r ddeddfwriaeth, ac wrth gwrs maen nhw wedi cymryd rhan lawn. Maen nhw wedi bod yn cyd-ysgrifennu'r argymhellion, yr enillion cyflym hynny a amlinellais. A chredaf, o ran cynnal gweithrediadau tacsis a hurio preifat mewn ardaloedd gwledig, fod rhywfaint o fethiant yn y farchnad eisoes mewn sawl rhan o'r Gymru wledig, a dyna pam mae cynlluniau trafnidiaeth gymunedol yn sicr wedi bod mor bwysig yn yr ardaloedd hynny. A byddwn yn parhau â'n hymrwymiad i drafnidiaeth gymunedol mewn ardaloedd gwledig fel ffordd hanfodol o alluogi pobl i gael gwaith a chael mynediad at wasanaethau hanfodol.
Rwy'n croesawu'n fawr y datganiad gan y Gweinidog y prynhawn yma a chroesawaf yn fawr y cynigion y mae'n eu trafod ar gyfer diwygio'r sector. Credaf fod llawer o bobl yn edrych ymlaen at hyn, a gwn fod llawer o yrwyr tacsis eisiau gweld y math hwnnw o sicrwydd hefyd—maen nhw eisiau cael y fframwaith y gallant gynllunio eu busnesau oddi mewn iddo dros y blynyddoedd nesaf.
Mae hon wedi bod yn flwyddyn eithriadol o anodd i yrwyr tacsis. Mae wedi bod yn flwyddyn eithriadol o anodd i'r diwydiant cyfan, ac rydym ni wedi gweld llawer o bobl yn gadael gan na allan nhw fforddio parhau drwy'r pandemig hwn. Croesawaf yn fawr yr hyn a ddywedsoch chi, Gweinidog, am y gronfa ddewisol a'r gronfa cadernid economaidd, a gobeithiaf y gall cymaint o'r cyllid hwnnw ag sy'n bosibl gyrraedd gyrwyr tacsis sy'n cael, mae'n debyg, flwyddyn waethaf eu gyrfaoedd proffesiynol.
O ran bwrw ymlaen â hyn, credaf fod dau beth y mae angen inni eu gwneud er mwyn sicrhau bod tacsis yn rhan o'r darlun trafnidiaeth yn y dyfodol. Yn gyntaf oll, credaf fod angen i'r Llywodraeth wneud mwy i gydnabod tacsis fel rhan o'r rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus cyffredinol o amgylch gwahanol gymunedau. Rydych chi wedi siarad am ardaloedd gwledig a chymunedau gwledig yn yr ateb blaenorol, ond mae hyn yn wir yn y Gymru drefol hefyd. Er enghraifft, rydym ni wedi agor Ysbytu Athrofaol y Faenor yng Nghwmbrân dros yr wythnos ddiwethaf, a byddai'n ddefnyddiol pe bai tacsis, er enghraifft, yn rhan o'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus cydnabyddedig sy'n cysylltu ein cymunedau a'n cleifion â'r ysbyty hwnnw, a hoffwn weld mwy ynghylch sut y bydd y Llywodraeth yn gwneud i hynny ddigwydd.
Ac yn ail, ac efallai'n bwysicach o ran y tymor hir, hoffwn weld cronfa datblygu tacsis yn cael ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru i alluogi gyrwyr tacsis lleol i gystadlu â'r cewri technolegol sy'n dod yn flaenllaw yn y diwydiant. Mae'n mynd i fod yn amhosibl i yrwyr tacsi lleol gystadlu ag Uber yn y dyfodol oni bai bod ganddyn nhw gymorth a chefnogaeth, ac mae hynny'n golygu cronfa ddatblygu sy'n galluogi gyrwyr tacsis i fuddsoddi yn eu cerbydau, ond hefyd i fuddsoddi yn y math o dechnoleg a fydd yn eu cysylltu â'u cwsmeriaid yn y dyfodol hefyd.
Felly, gobeithiaf y gallwn ni ddatblygu'r ddau beth hyn a sicrhau bod gennym ni'r amgylchedd rheoleiddio, yr arian ar gael i sicrhau bod gyrwyr tacsis yn gallu goroesi'r pandemig, ac yna hefyd y datblygiad a fydd yn eu galluogi i ffurfio rhan o rwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus y dyfodol. Diolch.
A gaf i ddiolch i Alun Davies am ei gyfraniad? Unwaith eto, yn anhygoel o adeiladol—ni allwn anghytuno â dim o'r hyn y mae Alun Davies wedi'i amlinellu. Gwnaeth dri phwynt cryf iawn. Un, mae angen cymorth tymor byr i gael y sector drwy'r pandemig. Yn ail, mae angen cymorth pontio i sicrhau ein bod yn diogelu'r diwydiant yn y dyfodol, i'w wneud yn gystadleuol, er mwyn sicrhau y gall bontio a chystadlu ag elfennau sy'n amharu ar y diwydiant. Ac yna, yn drydydd, mae Alun yn gwneud y pwynt pwerus hwn, fod yn rhaid inni gydnabod bod tacsis a gwasanaethau cerbydau hurio preifat yn rhan annatod o'r rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yma yng Nghymru, a byddwn yn cytuno'n llwyr fod angen dangos hynny, a chaiff ei ddangos drwy'r ddeddfwriaeth y byddwn yn ei chyflwyno yn ail flwyddyn tymor nesaf y Senedd.
Ac o ran y gefnogaeth uniongyrchol i'r diwydiant, wel, hyd yma, rydym wedi sicrhau mwy na 100,000 o swyddi drwy'r gronfa cadernid economaidd, ac mae hynny'n ychwanegol at gefnogaeth Llywodraeth y DU i'r cynllun cymorth hunangyflogaeth a'r cynllun cadw swyddi, y gwn y bu o gymorth i'r sector, ond mae'n ymddangos, mewn llawer o achosion, yn enwedig yma yng Nghymru, mewn gwirionedd, nad yw gyrwyr unigol yn elwa ar hynny am ryw reswm neu'i gilydd. Yn seiliedig ar y trafodaethau yr ydym ni wedi'u cael gyda'r TUC a chydag undebau, credwn y gallai methu cael gafael ar wybodaeth fod yn ffactor allweddol o ran gyrrwyr ddim yn elwa ar gymorth priodol. Ac felly, fel y dywedais mewn ymateb i Helen Mary Jones, rydym yn gweithio gyda'r undebau i sicrhau y gellir dosbarthu a lledaenu gwybodaeth briodol ar draws y diwydiant, a bod yr undebau'n gweithio gydag awdurdodau lleol, ac wrth gwrs gyda Llywodraeth Cymru, i rannu gwybodaeth briodol. Oherwydd, fel y dywedais, fe wnaethom ni sefydlu'r trydydd cam hwnnw o'r Fframwaith, yn enwedig yr elfen gronfa grant dewisol o £25 miliwn, i gefnogi unig fasnachwyr megis gyrwyr tacsis, er mwyn goroesi'r cyfnod atal byr diweddar. Mae gyrwyr tacsis wedi gallu cael cymorth gan y cynllun grant dewisol hwnnw hyd yn oed os ydyn nhw wedi defnyddio'r cynllun cymhorthdal incwm hunangyflogaeth. Felly, mae'r arian wedi bod ar gael, mae'n ymddangos nad yw unigolion o fewn y sector wedi manteisio arno ar raddfa ddigonol, a dyna pam yr wyf wedi gofyn am atebion ynghylch pam mae hynny'n wir.
Ac yna, yn y tymor hwy, credaf fod Alun Davies yn gwneud pwynt eithriadol o bwysig sef ein bod yn wynebu nifer o ffactorau tarfu: y newid i gerbydau trydan; y newid tuag at gerbydau cwbl annibynnol o bosibl; gwahanol fodelau o drafnidiaeth gyhoeddus—felly, defnyddio ceir a rennir ac ubereiddio trafnidiaeth gyhoeddus; yr angen i ddatgarboneiddio; a gwahanol ffyrdd o weithio yn ogystal â mewn amgylchedd ôl-COVID, gyda chanolfannau gweithio o bell. Fe wnaethom ni sefydlu, drwy'r cynllun gweithredu economaidd, y galwadau i weithredu. Felly, rhaid i fusnesau sy'n ceisio cyllid o gronfa dyfodol yr economi wneud hynny ar sail un o'r pum pwynt yn y galwadau i weithredu, ac mae dau o'r rheini'n ymwneud â datgarboneiddio ac ymateb i her tarfu technolegol. Mae'n ffordd berffaith i'r sector allu cael gafael ar gyllid er mwyn goresgyn a herio'r technolegau aflonyddgar hynny a'r newid i economi sero-net. Unwaith eto, byddwn yn annog y sector i edrych ar y gronfa benodol honno fel cyfrwng priodol ar gyfer defnyddio cymorth ariannol er mwyn cael y cerbydau y bydd eu hangen arnyn nhw ar gyfer y dyfodol.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Ac rwy'n gwbl sicr ein bod i gyd yn cytuno ei bod yn hen bryd diwygio tacsis a cherbydau hurio preifat.
Y prif bwynt yr hoffwn i ei wneud yw y dylid cael system unffurf ar draws y 22 o awdurdodau lleol Cymru. Byddai hyn yn sicrhau y byddai gan deithwyr well dealltwriaeth o'r taliadau a'r rheolau sy'n rheoli tacsis pe baen nhw'n unffurf ledled Cymru. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau mai hyn hefyd sydd bwysicaf yn ei feddwl?
Rwy'n argyhoeddedig y byddai symud i system un haen o fudd i deithwyr ac awdurdodau lleol fel ei gilydd. Dylid gosod mesurydd gyda thariffau cywir ac unffurf ar bob cerbyd, ac mae angen iddi fod yn glir mai dim ond o'r man codi i'r man gollwng y caiff y mesurydd weithredu. Dylai hyn atal gordaliadau. Ar hyn o bryd, mae cwmnïau ac unigolion sy'n rhedeg busnesau hurio preifat yn codi'r hyn a fynnant, cyn belled â bod y cwsmer yn derbyn hynny, ond rwy'n siŵr bod y Gweinidog yn gwybod, mewn gwirionedd, ei fod yn 'fait accompli' o ran y teithiwr, gan ei fod ef neu hi wedi ymrwymo cyn gynted ag y mae'n mynd i mewn i'r tacsi.
Dylai'r rheolau newydd gynnwys y rheol y dylid cofnodi pob taith. Mae cadw cofnod o deithiau, yn y gorffennol, wedi bod o fudd i yrwyr dilys, awdurdodau lleol a'r heddlu. Mae hefyd yn bwysig, Gweinidog, y dylai cwmnïau sy'n ymdrin â manylion teithwyr fod yn destun rhyw fath o graffu o ran sut maen nhw'n casglu, rhoi a chadw gwybodaeth. Byddai hyn yn golygu y byddai llawer llai o berygl y cai data o'r fath ei gamddefnyddio. A wnewch chi gynnwys hyn yn y rhan hon o'ch deddfwriaeth?
Dylid glynu'n llymach wrth y prawf cymwys a phriodol ac, o bosibl, dylid datgelu pob euogfarn, gan hyd yn oed symud y tu allan i Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Ein dyletswydd ni yw sicrhau bod pob teithiwr sy'n mynd i dacsi yn teimlo y bydd yn cyrraedd ei gyrchfan yn ddiogel. Rhaid i'r rhai sy'n dewis teithio mewn tacsi allu teithio heb ofni y byddant mewn perygl oherwydd unrhyw unigolyn sy'n darparu'r gwasanaeth hwnnw.
Yn ogystal â'r system tariff genedlaethol, dylid cael prawf ansawdd cerbydau cenedlaethol hefyd. Fe wnaethoch chi sôn am hyn yn gynharach, Gweinidog. Mae'n dda darllen yn y datganiad fod gan y Gweinidog yr holl agweddau hyn mewn golwg, ac edrychaf ymlaen at yr adeg pan weithredir y rheoliadau newydd drwy ddeddfwriaeth. Felly, a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei waith ar y mater trafnidiaeth pwysig hwn? A hoffwn ychwanegu bod llawer o gynnwys fy sylwadau yn dod o'r diwydiant ei hun.
A gaf i ddiolch hefyd i David Rowlands am ei sylwadau a'i argymhellion yn ei gyfraniad adeiladol heddiw?
O dan y ddeddfwriaeth bresennol, fel yr amlinellais eisoes, mae gennym ni 22 o awdurdodau lleol sy'n gweithredu gwahanol bolisïau trwyddedu ledled Cymru, ac mae hynny'n cynnwys, fel yr amlinellais, uchafswm oedran y cerbyd trwyddedig, hyd y drwydded, gwiriadau yswiriant y drwydded, a hefyd archwiliadau'r drwydded yrru. Credaf fod cael dull cenedlaethol cyson yn gwneud synnwyr perffaith i'r diwydiant ac i deithwyr, ac mae llawer o'r pwyntiau y mae David Rowlands wedi'u codi heddiw yn ymwneud nid yn unig â'r cynigion deddfwriaeth newydd, ond hefyd â'r argymhellion a ddaeth o'n gwaith gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac mae'r argymhellion yn anelu at wella safonau a chysondeb polisïau trwyddedu heb orfod creu costau afresymol i'r diwydiant tacsis nac awdurdodau lleol.
Felly, mae'r argymhellion yn cynnwys—a chredaf y byddai David Rowlands yn croesawu hyn—amodau gyrwyr a gweithredwyr safonol; protocolau gorfodi ar gyfer awdurdodiadau trawsffiniol; yn hollbwysig, hyfforddiant diogelu gyrwyr a chod ymddygiad gyrwyr; a hefyd meini prawf cymhwyso gyrwyr wedi'u safoni. Felly, gan y bydd mabwysiadu'r argymhellion yn sicrhau cydymffurfiaeth â llawer o safonau'r Adran Drafnidiaeth, bydd Llywodraeth Cymru yn monitro cydymffurfiaeth awdurdodau lleol â'r ddwy ddogfen, a chytunwyd ar y dull hwn, yn amlwg, gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Drafnidiaeth.
Ond yna wrth fynd ymlaen i'r tymor hwy, rhagwelir y bydd y Bil tacsis yn cael ei gyflwyno ym mlwyddyn 2 y Senedd nesaf ar hyn o bryd ac, fel y dywedais, mae gwaith eisoes wedi dechrau ar ddrafftio cynigion polisi sy'n adeiladu ar yr ymatebion i'r Papur Gwyn 'Gwella trafnidiaeth gyhoeddus'. Mae mwy o fanylion yn cael eu datblygu ynghylch safonau cenedlaethol, y cyfeiriodd David Rowlands atynt gan ddweud eu bod yn gwbl hanfodol, cofrestr genedlaethol a gwell gorfodaeth, a gynigir o dan y Papur Gwyn, ac, yn ogystal, mae cynigion newydd yn cynnwys cyflwyno system drwyddedu un haen symlach i ddileu'r gwahaniaeth hwnnw y soniais amdano'n gynharach, ac i greu'r awdurdod trwyddedu sengl ac i ganiatáu i dacsis weithredu ledled Cymru.
Mae'n rhaid i mi atgyfnerthu'r pwynt a wnes yn gynharach fod deddfwriaeth newydd yn gwbl hanfodol er mwyn mynd i'r afael yn effeithiol â'r materion a godwyd gan y diwydiant a rheoleiddwyr. Mae arnaf ofn na all newid effeithiol ddigwydd drwy ddefnyddio'r ddeddfwriaeth bresennol na thrwy fabwysiadu mesurau gwirfoddol.
Yn gyntaf oll, hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am estyn allan at yr undebau i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r cynllun grant dewisol ar gyfer cyfyngiadau symud, oherwydd mae hyn yn rhywbeth yr oeddwn wedi'i godi gyda'r Dirprwy Weinidog sy'n gyfrifol am leiafrifoedd ethnig a chydraddoldeb cyn diwedd y cyfyngiadau symud, ac, fel y crybwyllodd Helen Mary, nid oes gan lawer o'r gyrwyr tacsi hyn y Gymraeg na'r Saesneg fel eu hiaith gyntaf. Ac felly, ddiwedd yr wythnos diwethaf, gwn fod Unite wedi cyflwyno 1,000 o geisiadau y buon nhw'n helpu gyrwyr tacsis i'w cwblhau am eu bod yn ei chael hi'n anodd gwneud hynny ar eu pennau eu hunain; oeddent yn wir. Ac yn anffodus, mae llawer iawn o angen. Yng Nghaerdydd, bu llawer mwy o alw ar y gronfa nac o arian a oedd ynddi, felly rwy'n gobeithio bod rhywbeth y gallwn ei wneud ynglŷn â sicrhau nad yw'r ddeddf gofal gwrthgyfartal yn berthnasol i yrwyr tacsis, ac na fydd y rhai mwyaf anghenus, sydd angen y rhan fwyaf o gymorth i gael y dogfennau gyda'i gilydd, yn cael eu heithrio, heb unrhyw gymorth o gwbl.
Rwy'n cefnogi'n frwd eich ymdrechion i annog gyrwyr tacsis i fanteisio ar gerbydau di-garbon, fel y gallan nhw ddeall bod hyn mewn gwirionedd yn ffordd lawer glanach ac, yn y diwedd, yn ffordd fwy cost-effeithiol o redeg eu busnes. Ond, yn amlwg, bydd angen rhai cynlluniau benthyca wedi'u llunio'n ofalus iawn sy'n fforddiadwy, o ystyried bod y rhan fwyaf o yrwyr tacsis wedi gweld eu hincwm eleni yn plymio. Ond, yn amlwg, mae angen inni symud tuag at hynny, o gofio y bydd cerbydau petrol a cherbydau diesel yn cael eu dileu'n raddol beth bynnag.
A wnewch chi—? A wnewch chi derfynu, os gwelwch yn dda?
Gwnaf. Ni chaiff unffurfiaeth safonau olygu sefyllfa afreolus a dilywodraeth i bob gyrrwr tacsi mewn rhai ardaloedd a phrinder gyrwyr tacsis mewn ardaloedd eraill, ac mae gor-gyflenwad eisoes yng Nghaerdydd. Felly, sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu rheoleiddio nifer y tacsis sy'n gweithredu mewn unrhyw ardal benodol, gan ddefnyddio ffonau symudol o bosibl—
A wnewch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
—i sicrhau nad ydym yn cael y sefyllfa afreolus hon sy'n achosi'r gorgyflenwad enfawr hwn?
A gaf i ddiolch i Jenny Rathbone am y cwestiynau y mae wedi'u codi, a hefyd am ei chyfraniad ehangach o ran tynnu sylw at yr effaith anghymesur y mae'r coronafeirws wedi'i chael ar rai o'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, gan gynnwys, o ran y diwydiant tacsis a cherbydau hurio preifat, pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig? Rydym yn cydnabod bod y pandemig wedi effeithio'n ddifrifol ar y diwydiant, yn enwedig pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig yng Nghaerdydd, Casnewydd ac Abertawe yn bennaf, sy'n cynrychioli cyfran uchel o'r diwydiant.
Fel yr wyf wedi'i ddweud wrth gyfranwyr eraill y prynhawn yma, mae'r wybodaeth sydd ar gael, o ran cymorth, yna ar-lein. Rydym wedi gofyn i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru rannu'r wybodaeth honno â gyrwyr tacsis; rydym ni hefyd wedi gofyn i undebau llafur wneud hynny yn yr un modd. Credaf fod swyddogion wedi gweithio'n agos iawn gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac awdurdodau lleol i ddarparu atebion i faterion fel addasrwydd sgriniau diogelwch dros dro ar gyfer cerbydau. Ac, fel y dywedais eisoes, rydym yn ymchwilio i'r posibilrwydd o ddarparu cyfarpar diogelu personol o ansawdd uchel i yrwyr tacsi a cherbydau hurio preifat.
Ac, wrth gwrs, mae gennym y grŵp cynghori, a sefydlwyd ac sydd wedi bod yn cyfarfod ers mis Ebrill eleni, i ystyried y nifer anghymesur o farwolaethau sy'n gysylltiedig â COVID-19 ymhlith pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig. Mae gwaith yn mynd i barhau i ddatblygu argymhellion i sicrhau bod diogelwch gweithwyr o'r pwys mwyaf, a'n bod yn helpu i leihau nifer y marwolaethau, yn enwedig o fewn sectorau allweddol lle mae pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig wedi eu cynrychioli'n fawr. Felly, yn amlwg, bydd y diwydiant tacsis a cherbydau hurio preifat yn un o'n pryderon allweddol ni.
Byddwn yn dweud eto wrth Jenny Rathbone ei bod yn llygad ei lle wrth ddweud mai mater trawsffiniol yw'r mater pwysicaf y mae angen inni ei oresgyn efallai, y mae angen inni ei herio. Oherwydd o ganlyniad uniongyrchol i faterion trawsffiniol roedd llawer o yrwyr tacsis, yn enwedig yng Nghaerdydd lle mae gorgyflenwi, yn cael taliadau isel—cyflogau isel—cyn y pandemig, ac o ganlyniad, hyd yn oed os oedden nhw'n gallu sicrhau cyllid drwy'r cynllun cymorth hunangyflogaeth, ar 80 y cant yn unig, prin ei fod yn ddigon i fyw arno. Dyna pam y mae'r gronfa cymorth dewisol wedi bod mor bwysig. Dyna pam y mae'r cynllun grant dewisol wedi bod mor bwysig—y £25 miliwn. Ond rydym ni eisiau parhau i edrych i weld sut y gallwn ni helpu'r sector mewn unrhyw ffordd bosibl.
Ac yn olaf, o ran tacsis gwyrdd, rwyf eisoes wedi amlinellu'r cynlluniau treialu sy'n cael eu cynnal a sut y bydd y cynlluniau treialu hynny wedyn yn llywio maint y cymorth y bydd ei angen er mwyn trawsnewid y diwydiant tuag at ein huchelgeisiau sero-net. Ac, wrth gwrs, bydd rhan i'w chwarae, yn amlwg, gan Lywodraeth y DU yn hyn o beth. Mae wedi cyhoeddi bod y dyddiad ar gyfer dod â chynhyrchu cerbydau motor tanio mewnol i ben wedi'i ddwyn ymlaen i 2030, felly rydym yn aros hefyd—yfory o bosibl—am unrhyw arian ychwanegol y gellir ei gyhoeddi gan Lywodraeth y DU i helpu i sicrhau y gellir bodloni'r uchelgais hwnnw, y targed hwnnw.
Yn olaf, Mick Antoniw.
Gweinidog, cytunaf â llawer o'r sylwadau sydd eisoes wedi'u gwneud, ac nid ailadroddaf y rheini. A gaf i ddweud ar goedd, yn gyntaf, fy mod yn cydnabod bod y gwasanaeth tacsis, yn enwedig yn y Cymoedd, wedi gwneud cyfraniad mor bwysig wrth ymdrin â phandemig COVID, wrth gludo, er enghraifft, staff y GIG i'r gwaith mewn ardaloedd lle mae gwasanaethau bysiau'n wael beth bynnag? Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod hynny—a'r sylw a wnaeth Alun Davies am y gwasanaeth tacsis yn rhan bwysig iawn o wasanaeth trafnidiaeth integredig. Mae'r pwynt a wnaeth am ffiniau gweithredu yn bwysig, yn enwedig, er enghraifft, i gymunedau'r Cymoedd, oherwydd i ryw raddau mae'r gorgyflenwad, fel y gwnaethoch chi grybwyll, mewn lleoedd fel Caerdydd mewn gwirionedd yn tanseilio datblygiad gwasanaeth tacsis yn rhai o gymunedau'r Cymoedd, oherwydd gorfodir gyrwyr tacsis i fynd i un ardal a thanseilio'r sail economaidd y mae'r gallu i ddarparu'r gwasanaeth tacsis wedi ei seilio arni mewn gwirionedd.
Mae dwy agwedd ar safonau a diogelwch. Mae un safon, yn amlwg, yn cynnwys hyfforddiant hefyd. Mae diogelwch ar gyfer teithwyr, ond mae hefyd ar gyfer gyrwyr tacsis, y mae llawer ohonyn nhw'n dioddef ymosodiadau yn ystod eu gwaith. Pe bai gweithwyr eraill yn y sector cyhoeddus yn profi ymosodiadau i'r fath raddau, byddem yn ei ystyried yn fater difrifol iawn. Felly, rwy'n credu ei fod yn ymwneud â chydnabod y sefyllfa honno a'r swyddogaeth. Un o'r materion y mae'r cwmnïau tacsis wedi'i godi gyda mi yw nifer y platiau a'r angen i roi cap ar blatiau i sicrhau nad oes gorgyflenwad. Mae hynny'n amlwg yn gorgyffwrdd â'r mater ffiniau hefyd. A gaf i wedyn godi mater—
Na. Allwch chi ddirwyn i ben, os gwelwch chi'n dda?
Byddaf i'n ddirwyn i ben—o ran Uber, sydd, yn y bôn, wedi datblygu ras i'r gwaelod o ran y gwasanaethau tacsi. Mae'n bwysig mewn unrhyw ddatblygiad nad ydym yn caniatáu i'r gwasanaeth tacsis ddilyn yr un drefn ag Uber—bod yn rhaid iddo gael sail fasnachol gadarn i oroesi a bod yn rhan o wasanaeth trafnidiaeth integredig.
A gaf i ddiolch i Mick Antoniw am y pwyntiau y mae wedi'u codi a'r cwestiynau y mae wedi'u gofyn? Mae'n hollol iawn i ddweud bod angen inni osgoi unrhyw ras i'r gwaelod. Wrth wneud hynny, rhaid inni sicrhau bod y safonau hynny y soniais amdanyn nhw'n gynharach o'r ansawdd uchaf, a sicrhau y gallwn ni gystadlu â'r newydd-ddyfodiaid hynny i'r farchnad ar sail safonau a diogelwch. Rhaid dweud bod gormod o gyflenwyr tacsis wedi achosi cyflogau is. Felly, o ran gweithredu'n groesffiniol, nid oes amheuaeth nad yw'r ddeddfwriaeth a fydd yn cael ei chyflwyno yn y tymor nesaf, yn hanfodol bwysig o ran codi lefelau cyflog gyrwyr tacsis a cherbydau hurio preifat.
Wrth gwrs, mae Mick Antoniw yn tynnu sylw at y rhan hanfodol y mae tacsis a gyrwyr cerbydau hurio preifat wedi'i chwarae yn ystod y pandemig cyfan, gan sicrhau bod modd i weithwyr allweddol ac offer y GIG gael eu cludo'n ddiogel ac yn ddibynadwy. Rwyf i'n hynod ddiolchgar i'r diwydiant am chwarae ei ran wrth ymateb i'r ymdrech genedlaethol. Rwy'n gwybod bod Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i fod i wneud datganiad heddiw ynghylch gweithgareddau o fewn tasglu'r Cymoedd. Bydd hynny'n digwydd ar 8 Rhagfyr, ac rwy'n siŵr y bydd ganddo rywbeth i'w ddweud bryd hynny am rai o'r cynlluniau peilot sydd wedi bod yn digwydd o ran trafnidiaeth gyhoeddus. Gan gydnabod y rhan hanfodol y mae tacsis a cherbydau hurio preifat yn ei chwarae yn y Cymoedd, rwy'n siŵr y bydd ganddo rywbeth i'w ddweud am y gwasanaethau y maen nhw'n eu gweithredu yn y cymunedau hynny y mae Mick Antoniw ac Aelodau eraill yn eu cynrychioli mor dda.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.
Mae eitem 6 ar yr agenda wedi'i gohirio tan 8 Rhagfyr.
Eitem 7 yw Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio a Chyfyngiadau Rhyngwladol) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2020. Mae'n gyffrous iawn. Rwy'n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol—Vaughan Gething.
Cynnig NDM7484 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol a Chyfyngiadau) (Diwygio) (Rhif 2) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 13 Tachwedd 2020.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y cynnig ger ein bron. Mae'r rheoliadau sydd ger ein bron heddiw yn darparu na fydd awyrennau a llongau teithwyr sy'n teithio'n uniongyrchol o Ddenmarc, a nwyddau sy'n cael eu cludo gan bobl, yn gallu glanio na docio ym mhorthladdoedd Cymru mwyach. Fe ddaethant i rym ddydd Sadwrn 14 Tachwedd. Mae'r rheoliadau'n dilyn y camau brys a gafodd eu cymryd ledled y DU gan bob un o'r pedair Llywodraeth yn dilyn adroddiadau gan awdurdodau iechyd yn Nenmarc bod achosion o amrywiolyn newydd o COVID wedi'u canfod ar ffermydd mincod, gyda rhai achosion o drosglwyddo dynol.
Cyflwynodd diwygiadau blaenorol i'r cyfyngiadau teithio gyfyngiadau ar Ddenmarc. O 7 Tachwedd, roedd yn ofynnol i unrhyw un a oedd yn cyrraedd y DU o Ddenmarc dros nos ynysu am 14 diwrnod. Roedd hyn yn berthnasol i unigolion a'u haelwydydd hefyd. Roedd hyn yn cyd-fynd â Llywodraeth y DU yn gweithredu pwerau mewnfudo. Mae hynny'n golygu bod holl deithwyr cenedlaethol neu breswyl nad ydyn nhw'n Brydeinig sydd wedi bod yn Nenmarc, neu sydd wedi teithio drwodd, yn ystod y 14 diwrnod diwethaf wedi cael gwrthod mynediad i'r DU. Roedd y rhain yn fesurau rhagofalus yn seiliedig ar dystiolaeth gynnar gan awdurdodau iechyd yn Nenmarc. Drwy weithredu, ein nod yw atal risg i Gymru a'r DU rhag y math newydd hwn o COVID. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi bod yn cysylltu â thrigolion Cymru sydd wedi bod yn Nenmarc, i egluro y byddwn ni'n ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw a'u haelwydydd ynysu fel mesur rhagofalus ychwanegol.
Yn amlwg, mae'r sefyllfa yn Nenmarc yn parhau i fod yn sefyllfa sy'n esblygu y byddwn i'n parhau i'w monitro'n ofalus, ac, wrth gwrs, byddwn ni'n gweithio gyda Llywodraethau eraill yn y DU ac Ewrop wrth inni wneud hynny. Nid yw'r Senedd wedi trafod diwygiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 o'r blaen, a gaiff ei wneud, fel arfer, o dan y weithdrefn negyddol. Gan fod y rheoliadau hyn yn diwygio'r cyfyngiadau teithio rhyngwladol a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru) 2020 ar wahân ac yn fwy cyffredinol, maen nhw, yn yr achos hwn, o dan y weithdrefn gadarnhaol.
Mae arwyddion calonogol bod y cyfnod atal byr yng Nghymru wedi gweithio, gan arwain at ostyngiad sydyn yn nifer yr achosion cadarnhaol. Mae hyn yn arbennig o glir mewn ardaloedd lle mae nifer fawr o achosion fel Rhondda Cynon Taf a Merthyr Tudful. Rydyn ni hefyd yn gweld bod nifer y derbyniadau i ysbytai yn lefelu, ac o bosibl yn gostwng. Fodd bynnag, mae'r sefyllfa yng Nghymru yn parhau'n ddifrifol iawn. Fel y nododd y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, yn dilyn ein hadolygiad o'r rheoliadau, mae'n rhy gynnar i lacio unrhyw un o'r cyfyngiadau. Mae hyn yn cyd-fynd â'r dull gofalus a graddol yr ydym ni wedi'i gymryd erioed. Mae'n werth ystyried, wrth wneud hynny, y cynnydd diweddar mewn achosion cadarnhaol newydd yn ystod y dyddiau diwethaf. Mae'r rheoliadau yma yng Nghymru yn dilyn y cyfnod atal byr wedi'u cynllunio i fod yn glir, yn sefydlog ac yn syml i'w deall. Felly, nid ydym yn gwneud newidiadau sylweddol ar hyn o bryd.
Wrth inni nesáu at gyfnod yr ŵyl ym mis Rhagfyr, bydd teuluoedd ac anwyliaid yn naturiol yn dymuno bod gyda'i gilydd. Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â gweinyddiaethau eraill y DU i geisio dull cydgysylltiedig o gynllunio ar gyfer cyfnod yr ŵyl. Mae'r Prif Weinidog yn cyfarfod y prynhawn yma, os nad wrth inni siarad, fel rhan o gyfarfod COBRA i drafod yr hyn a allai fod yn bosibl ledled y pedair gwlad dros gyfnod y Nadolig. Ac yn amlwg ni allaf i achub y blaen ar ganlyniad y sgyrsiau hynny.
Fel y nodais i yng nghynhadledd Llywodraeth Cymru ddoe, yn anffodus efallai y bydd mabwysiadu dull cyffredin ledled y DU yn dal i olygu bod angen tynhau'r cyfyngiadau yng Nghymru yn ystod yr wythnosau cyn cyfnod yr ŵyl. Efallai mai dyma'r unig ffordd y gallwn ni gyflawni'r hyblygrwydd sydd ei angen i ddarparu ar gyfer y rhyddid ychwanegol y mae llawer ohonom ni'n gobeithio ei fwynhau dros gyfnod cyfyngedig yr Ŵyl. Dylwn i bwysleisio nad oes penderfyniad wedi'i wneud eto ar unrhyw gyfyngiadau newydd. Mae'r gyfraith yng Nghymru yn ei gwneud yn ofynnol i'r cyfyngiadau gael eu hadolygu eto erbyn 3 Rhagfyr. Fel rhan o'r adolygiad hwnnw, rwy'n disgwyl inni ystyried a oes angen gofynion ychwanegol yng Nghymru, a bydd hyn yn cynnwys y trefniadau haen newydd yn Lloegr a'r Alban, fel y cafodd ei godi yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog gan arweinydd yr wrthblaid yn gynharach heddiw.
Rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau, fel minnau, wedi'u calonogi gan y newyddion cadarnhaol ynghylch datblygu brechlynnau, gyda'r newyddion ychwanegol ddoe am frechlyn Rhydychen. Er hynny, hoffwn i atgoffa pawb unwaith eto nad yw'r brechlyn yn ateb syml. Mae'r coronafeirws yn dal gyda ni. Mae'n dal yn heintus iawn, ac yn dal i fod yn debygol o achosi niwed mawr yn y misoedd i ddod, gan gynnwys, mae arnaf ofn, ragor o farwolaethau. Yn anffodus, mae'r cyfyngiadau'n dal yn angenrheidiol iawn. Rydym fisoedd i ffwrdd o'r posibilrwydd realistig o ddiogelu'r boblogaeth gyda chyfuniad o frechlynnau. Mae angen i bob un ohonom feddwl am yr hyn y dylem ei wneud i ofalu amdanom ni ein hunain a'n gilydd. Unwaith eto, fodd bynnag, hoffwn i ddiolch i bobl ym mhob rhan o Gymru am eu hymdrechion parhaus, ar dipyn o gost i bob un ohonom ni, i helpu i gadw Cymru'n ddiogel. Rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi'r cynnig sydd ger ein bron.
Diolch. Rwy'n galw nawr ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfau, Cyfiawnder a Chyfansoddiad, Mick Antoniw.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Gan fy mod yn hanner Danaidd, mae gennyf ddiddordeb arbennig yn y set benodol hon o reoliadau. Fe wnaethom ni adrodd fel pwyllgor ar y rheoliadau hyn ddoe. Fel y gwŷr yr Aelodau, daethon nhw i rym am 4 a.m. ddydd Sadwrn 14 Tachwedd 2020. Fel yr eglurodd y Gweinidog, mae'r rheoliadau'n diwygio'r rheoliadau coronafeirws, teithio rhyngwladol a chyfyngiadau gwreiddiol, gan gynnwys drwy ychwanegu mesur newydd yn gwahardd llongau awyrennau a llongau morwrol, mai Denmarc oedd eu man gadael olaf, rhag cyrraedd Cymru. Mae'r cyfyngiad hwn yn amodol ar eithriadau cyfyngedig.
Mae'r rheoliadau hefyd yn diwygio Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 4) (Cymru), fel y soniodd y Gweinidog. Fe wnaethom ni fel pwyllgor nodi un pwynt adrodd technegol ynglŷn â gwahaniaeth rhwng y testunau Cymraeg a Saesneg o ran ystyr 'cyrraedd Cymru', o ran llong yn dod yn uniongyrchol o Ddenmarc. Roeddem ni hefyd wedi nodi tri phwynt teilyngdod. Mae'r pwynt cyntaf yn nodi'r cyfiawnhad dros unrhyw ymyrraeth wleidyddol â hawliau dynol, a'r ail nid oes ymgynghoriad ffurfiol wedi bod ar y rheoliadau hyn. Mae ein pwynt adrodd terfynol yn croesawu'r ffaith bod y rheoliadau hyn yn cywiro materion yn rheoliadau Rhif 4 a'r rheoliadau coronafeirws, teithio rhyngwladol a chyfyngiadau gwreiddiol y mae ein pwyllgor wedi'u codi mewn adroddiadau blaenorol. Diolch, Llywydd.
Byddwn ni'n cefnogi'r rheoliadau sy'n cael eu cyflwyno y prynhawn yma. Hoffwn ofyn am ddau bwynt o eglurhad gan y Gweinidog, os caf i. Ynghylch rhan Denmarc o'r rheoliadau sydd wedi'u symud gan y Llywodraeth, a wnaiff y Gweinidog, er iddo roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni at ryw bwynt, nodi a oes unrhyw wybodaeth am y gyfradd drosglwyddo y tu allan i Ddenmarc? Rwy'n nodi bod damcaniaethu yn y wasg sydd wedi sylwi ar yr amrywiolyn newydd o haint COVID fel sy'n ymddangos nawr mewn gwledydd eraill yn Ewrop.
Nid wyf yn credu fy mod i wedi clywed am unrhyw drosglwyddo o fewn y Deyrnas Unedig, nac, yn wir, yng Nghymru, ond byddai'n ddefnyddiol deall. A all y Gweinidog gadarnhau bod hynny'n wir ac, yn benodol, y ddeialog reolaidd y mae swyddogion Iechyd Cyhoeddus Cymru ac awdurdodau Denmarc yn ei chael i sicrhau bod yr wybodaeth honno'n cael ei rhannu? Oherwydd, unwaith eto, yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'r achosion hyn yn Nenmarc wedi arwain at ymddiswyddiadau yn y Llywodraeth hefyd. Felly, roedd yr wybodaeth ddiweddaraf a roddodd inni yr wythnos diwethaf o ran perthynas dda yn braf i'w chlywed, ond mae'n amlwg bod rhai ystyriaethau gwleidyddol domestig yn Nenmarc, a rhaid inni sicrhau bod y llwybrau cyfathrebu hynny'n cael eu cynnal.
Yn ail, o ran y rheoliadau rhyngwladol ar gyfyngiadau teithio a osodwyd ar ymwelwyr sy'n dychwelyd o Wlad Groeg, heddiw rydym ni wedi cael y newyddion am brofion posibl—y gallu i brofi ar ôl dychwelyd a fyddai'n byrhau'r cyfnod ynysu. A yw'r Gweinidog mewn sefyllfa i gadarnhau a fydd cyfleoedd profi o'r fath ar gael yma mewn pwyntiau mynediad i Gymru, neu ai menter i Loegr yn unig yw hon ar hyn o bryd, ac a allai fod ar gael, o bosibl, yma yng Nghymru?
Mi fyddem ninnau hefyd yn cefnogi'r rheoliadau yma heddiw. Mae'r sefyllfa yn Nenmarc yn bryderus, wrth gwrs, ac mae'n synhwyrol i gymryd camau i ddiogelu'r cyhoedd yng Nghymru yn sgil y datblygiadau hynny. Mae'r rheoliadau yma hefyd yn tynnu nifer o wledydd oddi ar y rhestr o diriogaethau sy'n esempt o waharddiadau ac yn y blaen, ac yn ychwanegu gwledydd eraill ati. Mae hynny'n dweud wrthym ni, onid ydy, fod stori'r feirws yn stori o feirws sy'n ddeinamig o hyd ar hyd a lled y byd, ac mae hynny'n ein hatgoffa ni nad ydy pethau drosodd o bell ffordd eto.
Mae o'n ddeinamig yma yng Nghymru hefyd, wrth gwrs, ac mi wnaf i ychydig o sylwadau ynglŷn â hynny. Do, mi gawsom ni'r cyfnod clo dros dro ac roeddwn innau, ynghyd ag Aelodau Plaid Cymru, wedi galw am hynny. Mi oedd hi'n amser am y cyfnod hwnnw. Ond rydym ni'n gallu gweld, onid ydym, fod yna arwyddion pryderus mewn sawl rhan o Gymru—mewn llawer o rannau o Gymru, a dweud a gwir—ynglŷn â'r ffordd mae patrwm y feirws yn mynd. Ac mi ddywedaf i yn fan hyn ein bod ni'n barod i weithio efo'r Llywodraeth ar reoliadau newydd gallai fod angen eu cyflwyno, a'r rheoliadau hynny efo pwyslais ar gefnogi.
Mi drafodon ni yma yn y Senedd brynhawn dydd Mercher diwethaf y pwysigrwydd o gefnogi pobl i helpu cymunedau i'w helpu eu hunain i reoli'r feirws yma. Mi glywson ni yn y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yr wythnos diwethaf mor bwysig ydy cefnogi cymunedau, cefnogi pobl i hunan-ynysu ac yn y blaen, fel un o'r prif arfau yn erbyn y feirws yma. Felly, gadewch i ni edrych yn enwedig ar yr ardaloedd hynny o Gymru lle mae'r feirws ar gynnydd a gweld sut y gallen ni drio newid ymddygiad pobl ac arferion pobl drwy eu helpu nhw. Mae yna lawer rhy ychydig o bobl, nid dim ond yng Nghymru, ond yn yr ynysoedd yma, sydd yn methu â gwneud yr hyn sydd ei angen er mwyn hunan-ynysu yn llym. Mae gwledydd eraill yn llawer gwell am gael pobl i hunan-ynysu, a'r rheswm ydy bod yna fwy o gefnogaeth yn y gwledydd hynny—nid dim ond cefnogaeth ariannol, fel rydym ni wedi pwysleisio sydd ei angen, ond cefnogaeth ymarferol, cefnogaeth emosiynol hefyd, i bobl allu gwneud y penderfyniadau iawn.
Dwi'n annog y Llywodraeth i ystyried y mathau yna o gamau yng Nghymru dros yr wythnosau nesaf—meddwl amdanyn nhw fel cefnogaeth yn hytrach na chyfyngiadau. Mae pawb wedi cael llond bol ar gyfyngiadau. Ond mae yna ardaloedd sydd angen mwy o help nag eraill, a rydym ni'n barod i gefnogi'r Llywodraeth os ydyn nhw am ystyried hynny wrth inni symud ymlaen i'r cyfnod nesaf.
Diolch. Nid oes gennyf i unrhyw un sydd wedi gofyn am wneud ymyriad. Felly, rwy'n galw ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl.
Diolch, a diolch i'r Aelodau am eu sylwadau. Yn wahanol i Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad, nid wyf i'n hanner Danaidd, ond mae gennyf i deulu yn Nenmarc—mae gennyf frawd, chwaer yng nghyfraith a dau nai. Nid wyf yn credu bod hynny'n effeithio'n sylweddol ar fy mhenderfyniadau yn hyn o beth, yn enwedig gan fod y rhain yn gyfyngiadau ychwanegol yr ydym ni'n eu trafod. Fe ddylwn i ddweud hefyd fod y cyfyngiadau gwreiddiol wedi'u llofnodi ar ôl 3 a.m. y bore, cyn dod i rym am 4 a.m. Roedd hynny'n fore cynnar, neu'n noson hwyr i mi, ond hefyd hoffwn i ddiolch i'r swyddogion, yr wyf i o'r farn nad ydyn nhw bob amser yn cael eu gwerthfawrogi. Maen nhw yn aros i fyny'n hwyr iawn gyda'r nos, yn gweithio drwy fanylion y rheoliadau ac yn trosglwyddo'r mesurau brys, y bu'n rhaid i ni eu cymryd ac sy'n symud yn wirioneddol gyflym iawn, a hynny ar gryn gost iddyn nhw eu hunain a'u teuluoedd am weithio hyd at yr amser hwnnw.
O ran y cwestiynau gan Andrew R.T. Davies a rhai o'r pwyntiau, wel, nid ydym yn hollol glir am yr amrywiolyn arall mewn gwledydd eraill yn Ewrop, oherwydd mae gan wledydd eraill Ewrop rywfaint o ffermio mincod masnachol. Nid ydym yn siŵr a oes trosglwyddo o Ddenmarc neu amrywiolion newydd mewn gwledydd eraill. Byddwn yn cyfarfod unwaith eto ledled gweinyddiaethau eraill y DU ddydd Iau, pan fyddaf yn disgwyl cael yr wybodaeth ddiweddaraf. Byddaf i hefyd yn cael sgwrs gyda'n prif swyddog meddygol ni cyn hynny, ac wrth inni gael y darlun mwy datblygedig, byddwn yn parhau i'ch diweddaru. Ond mae hwn, unwaith eto—er gwaethaf yr holl wahaniaeth ar wahanol adegau rhwng y pedair Llywodraeth yn y DU yn ystod y pandemig, mae hwn yn faes lle cawn sgwrs ddilys ac agored rhwng y Llywodraethau, gan rannu gwybodaeth a thystiolaeth. A phan gawn ni ddiweddariad priodol arall, byddaf i'n hapus i ddarparu hynny i'r Aelodau, gan gynnwys, os yw hynny y tu allan i amser y Cyfarfod Llawn, wneud hynny mewn datganiad ysgrifenedig.
Rydym ni yn y sefyllfa, serch hynny, o fod â pherthynas dda iawn nid yn unig â Llywodraeth Denmarc ond â system gofal iechyd Denmarc, ac nid oes unrhyw bryderon wedi'u codi gyda mi ynglŷn â lefel y cydweithredu a rhannu gwybodaeth o Ddenmarc. Er hynny, rydym yn disgwyl, ar yr ail bwynt a ofynnodd yr Aelod—nid yw'n fanwl gywir yn rhan o'r rheoliadau i ni heddiw, ond, o ran y trefniadau teithio rhyngwladol a gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth ar gyfer Lloegr heddiw, nid ydym wedi diystyru gwneud rhywbeth tebyg. Fodd bynnag, rydym eisiau gallu deall mwy o'r wybodaeth fanwl sydd, mae'n debyg, yn sail i'r dewis sy'n cael ei wneud gan Weinidogion Lloegr. Felly, rwy'n falch o ddweud eu bod wedi cytuno i rannu'r wybodaeth honno a gweithio gyda'n prif swyddog meddygol ni a'n cell cyngor technegol i roi cyngor i Weinidogion Cymru. O ystyried na fydd y gweithredu yn Lloegr yn digwydd tan ganol mis Rhagfyr, efallai y gallwn ni symud tua'r un amser, os dewiswn wneud hynny. Ond, fel y dywedais, byddwn ni'n cael y papurau hynny, byddwn ni'n cael y cyngor hwnnw gan ein cell cyngor technegol, ac yna, yn ôl y drefn arferol, byddem ni'n disgwyl nid yn unig allu gwneud penderfyniad ond hefyd gyhoeddi crynodeb o'r cyngor hwnnw yng nghyhoeddiadau rheolaidd y gell cyngor technegol sy'n ymddangos bob wythnos.
Rwy'n credu bod hynny'n symud at y pwyntiau a wnaed gan Rhun ap Iorwerth ar gefnogi pobl a hunanynysu yn benodol. Cyfeiriwyd at bapurau SAGE yn adroddiad y gell cyngor technegol yr wythnos diwethaf, ac mae'n sôn eto nid yn unig am gymorth ariannol, y mae peth eisoes yn ei le, ond hefyd am gymorth anariannol a'r pwynt ehangach ynghylch annog pobl i wneud y peth cywir i eraill yn ogystal ag iddyn nhw eu hunain. Felly, mae yna her yma, drwy anfon negeseuon, drwy bwysleisio pam mai hwn yw'r peth iawn i'w wneud, a chefnogi pobl i wneud hynny. O'r adolygiad cynhwysfawr o wariant yfory, fe fyddwn yn clywed am ein sefyllfa o ran a fydd unrhyw adnodd ychwanegol i'r Llywodraeth yma ei ddefnyddio, ac, os felly, ar ba bwynt.
Fodd bynnag, mae gennym eisoes alwadau cymorth rheolaidd, sy'n nodwedd o'n gwasanaeth profi, olrhain a diogelu. Rwyf wedi cael etholwyr, a phobl o bob rhan o Gymru y tu allan i'm hetholaeth i, yn cysylltu â mi i ddweud pa mor ddefnyddiol y mae'r galwadau cymorth rheolaidd hynny o'r gwasanaeth profi, olrhain a diogelu wedi bod iddyn nhw, o ran gweld sut y maen nhw a sut maen nhw'n ymdopi â theimlo'n unig yn dilyn cyfnod o ynysu, naill ai fel achos cyfeirio neu, yn wir, fel cyswllt. Felly, mae yna ragor o bethau y byddem eisiau eu dysgu o rannau eraill o'r DU, meddwl am y cyngor yr ydym ni'n ei gael, a helpu pobl i wneud y peth iawn yn ymarferol. Mae hyn yn rhan fawr o wneud y peth iawn wrth ofalu amdanom ni ein hunain a'n gilydd. Hoffwn i ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau heddiw a gofyn i'r Aelodau barhau i gefnogi'r rheoliadau i helpu i gadw Cymru'n ddiogel. Llawer o ddiolch.
Diolch. Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Byddwn ni nawr yn atal y trafodion i ganiatáu newid yn y Siambr. Os ydych yn gadael y Siambr, gwnewch hynny'n brydlon, a bydd y gloch yn cael ei chanu ddwy funud cyn i'r trafodion ailgychwyn. Dylai'r Aelodau aros y tu allan i'r Siambr nes i'r gloch gael ei chanu. Diolch.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:09.
Ailymgynullodd y Senedd am 17:15, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.
Felly, rydym ni'n ailymgynnull ar eitem 8, sef Rheoliadau Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2020, a galwaf ar y Gweinidog Addysg i wneud y cynnig. Kirsty Williams.
Cynnig NDM7482 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cydlynydd Anghenion Dysgu Ychwanegol (Cymru) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Tachwedd 2020.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod y Llywodraeth hon, mewn ymateb i nifer o adroddiadau ar ddiffygion y system bresennol, wedi cyflwyno deddfwriaeth newydd yn 2016 a oedd yn paratoi y ffordd ar gyfer system lawer gwell i gefnogi plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol. Cafodd y ddeddfwriaeth uchelgeisiol hon ei chyd-ddatblygu â rhanddeiliaid allweddol a'i phrofi drwy broses graffu'r Bil gan Aelodau'r Senedd. Daeth Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) 2018, a elwir fel arall yn Ddeddf ADY, yn Ddeddf Cyfraith ym mis Ionawr 2018 ac mae'n ganolbwynt i'r rhaglen drawsnewid ADY ehangach.
Ers 2018, rwyf wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid i helpu i lunio'r cod ADY a'r rheoliadau drafft sy'n nodi sut y bydd y system newydd yn gweithio'n ymarferol. Ym mis Medi, cyhoeddais fod yr amserlen ar gyfer dechrau cyflwyno'r system ADY newydd yn aros yr un peth, a bod swyddogaethau statudol y cydlynydd anghenion dysgu ychwanegol—y CADY; y swyddog arweiniol clinigol addysgol dynodedig—y SACDA; a swyddogion arweiniol anghenion dysgu ychwanegol y blynyddoedd cynnar—y CADY blynyddoedd cynnar—yn dal i ddechrau ym mis Ionawr 2021. Bydd hyn yn galluogi gweddill y system newydd i fynd rhagddi fesul cam o fis Medi 2021.
Yn gynharach y mis hwn, cymeradwyais y Gorchymyn a fydd yn caniatáu ar gyfer cychwyn y swyddogaethau statudol hyn o 4 Ionawr 2021, ac i gefnogi hyn rwy'n falch o gyflwyno cyfres bwysig o reoliadau sy'n nodi carreg filltir allweddol yn y gwaith o ddiwygio'r ADY yng Nghymru, y rheoliadau ADY drafft. Bydd y rheoliadau hyn yn helpu i godi safonau a chydgysylltu darpariaeth addysg, ac yn hyrwyddo dull ysgol gyfan o ymdrin â'r rhai ag ADY drwy ragnodi'r cymwysterau a phrofiad y mae'n rhaid i ADY eu cael. Maen nhw'n nodi tasgau clir y mae'n rhaid i ADY ymgymryd â nhw. Bydd y rhain yn sicrhau bod ein cyrff statudol yn defnyddio dull cyson o ddynodi'r swyddogaeth, yn ogystal â galluogi darparu gwell darpariaeth addysgol i blant a phobl ifanc ag ADY.
I gefnogi'r swyddogion CADY, rwy'n darparu cyllid ar gyfer hyfforddiant ychwanegol fel rhan o raglen hyfforddi broffesiynol genedlaethol ADY. Mae gwaith ar y gweill i ddatblygu cynnig dysgu proffesiynol penodol ar gyfer CADYau i'w galluogi i ddarparu swyddogaeth arwain strategol, gan weithredu fel y pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cyngor ac arweiniad proffesiynol i eraill.
Cafodd y rheoliadau ADY drafft eu gosod yn y Senedd ar 3 Tachwedd. Gyda chefnogaeth yr Aelodau heddiw daw i rym ar yr un pryd ag y bydd swyddogaeth y CADY yn dechrau, sef ar 4 Ionawr 2021. Bydd pasio'r rheoliadau hyn yn gam sylweddol ymlaen o ran darparu ein system ADY newydd yng Nghymru a bydd yn cyfrannu rhywfaint at wella cyfleoedd bywyd ein dysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Mae Plaid Cymru yn croesawu'r bwriad i wella'r gefnogaeth i ddisgyblion gydag anghenion ychwanegol, ond dwi'n nodi, fodd bynnag, fod yna nifer o heriau yn codi efo cyflwyno'r newidiadau, yn enwedig yn sgil COVID ac o gofio'r diwygiadau cwricwlwm pellgyrhaeddol sydd ar y gorwel hefyd.
Mae'r newidiadau i addysg disgyblion anghenion ychwanegol yn cario pris efo nhw, ond dydy hi ddim yn glir faint fydd hyn i gyd yn ei gostio—ddim yn glir faint fydd o'n gostio mewn termau staffio na mewn termau hyfforddiant. Ond dwi'n meddwl bod yna gytundeb yn gyffredinol y bydd o'n golygu pwysau ariannol ychwanegol ar ein hysgolion ni er bod cyllidebau yn crebachu. Mae cryn waith i'w wneud i uwch-sgilio staff, hefyd. Felly, tra'n croesawu'r rheoliadau newydd yma, mae'n rhaid i'r Llywodraeth gydnabod bod yna gryn heriau wrth gyflwyno'r newidiadau mewn ffordd ystyrlon a fydd wir yn gwneud gwahaniaeth i'r cohort arbennig yma o blant.
Diolch. Nid oes unrhyw Aelodau wedi dweud eu bod eisiau ymyrryd, felly, a gaf i alw ar y Gweinidog Addysg i ymateb i'r ddadl? Kirsty Williams. Mae angen ichi gael eich dad-dawelu.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i Siân Gwenllian am ei sylwadau? Mae hi yn llygad ei lle wrth siarad am yr heriau sylweddol o wireddu addewid y Ddeddf ADY. Ac yn sicr, nid yw effaith COVID-19 ar waith y Llywodraeth ac, yn wir, ar waith ysgolion yn ddibwys. Fodd bynnag, rwy'n siŵr y byddai hi'n cytuno â mi bod yn rhaid inni wneud cynnydd ac mae'r rheoliadau sydd ger ein bron heddiw yn caniatáu inni wneud hynny.
O ran adnoddau ariannol, bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod ni wedi neilltuo rhaglen gwerth £20 miliwn i gefnogi'r gwaith o weithredu'r Ddeddf. Bydd y rhan fwyaf o hynny'n cael ei wario ar ddarparu'r cyfleoedd dysgu proffesiynol ac uwchsgilio angenrheidiol y bydd y ddeddfwriaeth yn gofyn amdanyn nhw. Ond rwy'n ddiolchgar am ei sylwadau a'i hymrwymiad parhaus i'r maes diwygio pwysig hwn.
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nid wyf i'n gweld unrhyw wrthwynebiadau. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Mae eitem 9 ar ein hagenda yn ddadl, a dyma adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer 'Cymraeg 2050' ar gyfer 2019-20, ac adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg yn 2019-20. Rwy'n galw ar y Gweinidog Iechyd Meddwl, Lles a'r Gymraeg i wneud y cynnig. A yw'r Gweinidog yno? Iawn, cawn rai munudau o seibiant nes y gall y Gweinidog ymuno â ni yn rhithiol.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:22.
Ailymgynullodd y Senedd am 17:23, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.
Fel y dywedais, rydym ni ar y ddadl ar adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer 'Cymraeg 2050' ac adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg, ac rwy'n gofyn nawr i'r Gweinidog Iechyd Meddwl, Lles a'r Gymraeg gynnig y cynnig. Eluned Morgan.
Cynnig NDM7485 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) Adroddiad Blynyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymraeg 2050 (2019-20);
b) Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg (2019-20).
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, ac ymddiheuriadau fy mod i wedi cyrraedd yn hwyr. Dwi yma heddiw i gyflwyno dau adroddiad blynyddol gerbron y Senedd sydd, gyda'i gilydd, yn dangos y camau a gafodd eu cymryd yn 2019-20 i gyrraedd ein nod llesiant cenedlaethol o weld y Gymraeg yn ffynnu. Yr adroddiadau sydd dan sylw yw adroddiad blynyddol Llywodraeth Cymru ar gyfer 'Cymraeg 2050' ac adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg, eto ar gyfer 2019-20.
Dwi am ddechrau trwy drafod ein hadroddiad blynyddol ni ar ein strategaeth iaith, sef 'Cymraeg 2050'. Mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar flwyddyn ariannol 2019-20, ac mae'n dangos y cynnydd rydym ni wedi ei wneud wrth weithredu 'Cymraeg 2050' yn ystod y flwyddyn.
Fe gofiwch fod 'Cymraeg 2050' yn cynnwys dau brif nod, sef cynyddu nifer y siaradwyr a chynyddu'r defnydd a wneir o'r iaith hefyd. Mae'r adroddiad hwn, felly, yn dangos y gwaith sydd wedi'i wneud mewn ymateb i'r nodau hyn yng nghalon ein cymunedau, gan ein partneriaid grant, a gennym ni fel Llywodraeth. Fe welwch fod yr adroddiad yn dangos ein gwaith o'r blynyddoedd cynnar, trwy ddarpariaeth addysg statudol, i addysg ôl-orfodol a Chymraeg i oedolion. Mae hefyd yn sôn am brosiectau i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn ein cymunedau.
Mae'r adroddiad yn un amrywiol iawn am fod y gwaith yn perthyn i bob un o feysydd gwaith y Llywodraeth, gan adlewyrchu pwysigrwydd prif ffrydio a gwreiddio 'Cymraeg 2050' yn eang. Mae'r adroddiad hwn yn arddangos tystiolaeth dda iawn o hynny.
Does dim amser gyda fi i fynd drwy bopeth heddiw, felly dwi am sôn am rai o uchafbwyntiau'r flwyddyn cyn troi at beth sydd wedi digwydd ers hynny yn sgil COVID-19. Un o uchafbwyntiau'r llynedd oedd cymryd rhan ym Mlwyddyn Ryngwladol UNESCO ar gyfer Ieithoedd Brodorol. Roedd yn gyfle gwych i ni godi proffeil Cymru yn rhyngwladol, fel gwlad ddwyieithog a gwlad sy'n arwain yn y maes adfywio ieithyddol.
Yn ystod yn flwyddyn adrodd, mi wnes i gyhoeddi ein bwriad i sefydlu Prosiect 2050. Uned newydd sbon yw hon sy'n cydlynu ein gwaith o gynllunio ein llwybr tuag at yr 1 filiwn. Bydd hefyd yn creu mentrau newydd i ddyblu defnydd o'r iaith ac yn cefnogi adrannau polisi ar draws y Llywodraeth i weithredu 'Cymraeg 2050'. Bydd yn gweithio gydag amrywiol bartneriaid ledled Cymru a thu hwnt, a dwi'n edrych ymlaen at weld y gwaith arloesol y bydd y prosiect yma yn ei gyflawni.
Mae annog teuluoedd i ddewis defnyddio'r Gymraeg yn un o'r pethau pwysicaf y gallwn ni ei wneud ar ein taith tua'r 1 filiwn, felly roeddwn i'n falch dros ben o lansio ymgynghoriad ar y polisi drafft cenedlaethol ar drosglwyddo'r Gymraeg a'i defnydd mewn teuluoedd. Byddwn yn cyhoeddi'r polisi terfynol yma yn y Senedd ar 15 Rhagfyr.
Hefyd, rydym wedi lansio'r gwasanaeth Helo Blod, sef gwasanaeth cymorth a chyfieithu sydd ar gael ar-lein a dros y ffôn i fusnesau bach a'r trydydd sector. Rhaid cofio hefyd am y gwaith bara menyn fel cynyddu nifer y cylchoedd meithrin, cynyddu'r lleoedd sydd ar gael mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg a'r niferoedd sy'n eu mynychu, cynnig darpariaeth i hwyrddyfodiaid, cryfhau'r gweithlu addysg, cynnal defnydd iaith yn y sector ôl-16 a datblygu adnoddau addysgol o safon, hefyd, cynyddu nifer yr oedolion sy'n dysgu, a chynnig dewis da o brentisiaethau cyfrwng Cymraeg, a chreu cyfleoedd i ddefnyddio'r iaith mewn gweithleoedd, cefnogi partneriaid grant, rhaglen Arfor, rôl y cyfryngau, treftadaeth, diwylliant, twristiaeth, seilwaith ieithyddol a manteisio i'r eithaf ar dechnoleg.
Fe welwch chi fod y data yn yr adroddiad yn dangos ein bod ni'n dal i wynebu heriau mewn rhai meysydd, er enghraifft, recriwtio athrawon a sicrhau bod pobl ifanc yn parhau i ddefnyddio'r Gymraeg ar ôl 16 oed. Ond, rŷn ni'n gweithio'n galed ar draws y Llywodraeth a gyda phartneriaid ac yn parhau i gadw llygad ar y data er mwyn addasu ein cynlluniau os bydd gofyn.
Mae'n bwysig cofio mai ciplun ar y cyfnod penodol a ddaeth i ben ddiwedd mis Mawrth eleni sydd yn yr adroddiad hwn a rhaid ystyried, wrth gwrs, fod y byd wedi newid yn llwyr ers hynny. Mae'r Gymraeg, fel pob un o feysydd polisi eraill y Llywodraeth, wedi wynebu heriau mawr yn sgil COVID-19, ond gyda phob her, daw cyfleoedd cyffrous. Mae arloesedd, agwedd benderfynol a chreadigrwydd ein partneriaid wedi creu argraff fawr arnaf i. Roedd hi'n bleser gwylio Eisteddfod T, Eisteddfod Amgen a chlywed am waith gwirfoddol gwych y ffermwyr ifanc a Merched y Wawr, yn ogystal â gweld pob math o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal ar-lein gan y mentrau iaith. Mae mwy o ddysgwyr wedi manteisio ar gyrsiau blasu ar-lein y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol ers mis Mawrth eleni na chyfanswm dysgwyr y tair blynedd flaenorol gyda'i gilydd. Ac mae'r mwyafrif o'n partneriaid wedi llwyddo i barhau i weithredu amcanion 'Cymraeg 2050' yn ystod cyfnod mor anodd. Dwi am ddiolch iddyn nhw am eu hymdrechion aruthrol.
Fel Llywodraeth, rŷn ni wedi ymateb i'r pandemig trwy gefnogi partneriaid, gan geisio rhagweld sefyllfaoedd ac ymateb iddyn nhw, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Er enghraifft, mae ymgyrch Llond Haf o Gymraeg wedi ei lansio i gefnogi rhieni plant sy'n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg. Rŷn ni hefyd wedi cynnal awdit o ddefnydd iaith yn ein cymunedau, er mwyn deall effaith COVID ac adnabod cyfleoedd newydd i bobl ddefnyddio eu Cymraeg. Bellach, mae pecyn Cysgliad ar gael am ddim i ysgolion a sefydliadau bach, ac mae hyn yn ei gwneud hi'n haws i fwy o bobl ddefnyddio'r Gymraeg.
Rŷn ni hefyd wedi bod yn ystyried beth fydd effaith COVID-19 a hefyd Brexit ar y canlynol: defnydd o'r Gymraeg yn y gweithleoedd; yr economi wledig, gan gynnwys y sector amaeth; a sefyllfa ail gartrefi a thai fforddiadwy. Bydd ein hadroddiad blwyddyn nesaf yn cynnwys mwy o fanylion am y materion hyn ac unrhyw ganfyddiadau am effaith y pandemig ar y Gymraeg, a bydd hyn oll yn cael ei ystyried hefyd wrth inni baratoi ar gyfer rhaglen waith nesaf 'Cymraeg 2050' ar gyfer y Llywodraeth nesaf.
Dwi am droi nawr at adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2019-20, sef blwyddyn lawn gyntaf Aled Roberts fel comisiynydd. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch eto am ei waith. Dwi eisiau nodi fy mod i'n gwerthfawrogi parodrwydd y comisiynydd a'i staff i addasu'r ffordd maen nhw wedi gweithio, yn arbennig wrth ystyried goblygiadau COVID-19 ar gyrff sy'n darparu gwasanaethau Cymraeg.
Cychwynnodd y comisiynydd ar ei waith drwy gwrdd â thrawstoriad o bobl mewn cymunedau a sefydliadau ar draws Cymru, a hynny er mwyn iddo gael deall sefyllfa'r Gymraeg ar hyd a lled y wlad yn well. Bu'r daith yn sail i weledigaeth y comisiynydd ar gyfer y ffordd ymlaen. Dwi'n falch bod Aled yn rhannu'n gweledigaeth ni fel Llywodraeth Cymru, sef bod rheoleiddio a chreu cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg yn mynd law yn llaw. Mae angen gwneud y ddau beth er mwyn llwyddo gyda'n gilydd i weithredu 'Cymraeg 2050'.
Mae'r adroddiad blynyddol yn cyfeirio at waith sydd wedi'i wneud yn unol â blaenoriaethau'r comisiynydd, sef parhau i reoleiddio'n effeithiol, tra hefyd yn cydweithio â phartneriaid i hybu'r Gymraeg. Mae'r comisiynydd yn parhau i weithredu safonau'r Gymraeg. Daeth y safonau i'r sector iechyd i rym yn ystod y cyfnod adrodd, ac mae'r comisiynydd hefyd wedi bod yn gweithio gyda chyrff i'w cefnogi i roi safonau ar waith. Dwi'n ddiolchgar iawn i'r comisiynydd am ei barodrwydd i gydweithio gyda fy swyddogion i i adolygu'r broses o wneud safonau yn dilyn argymhellion Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu.
Dwi'n awyddus i gydweithio i wthio cyrff yn eu blaenau i ddarparu gwasanaethau Cymraeg. Rŷn ni hefyd am greu sefyllfa lle mae hawliau siaradwyr Cymraeg yn glir er mwyn cynyddu'r defnydd o wasanaeth. Mae'r adroddiad hefyd yn amlygu rôl y comisiynydd wrth sicrhau bod y Gymraeg wrth galon gwaith y Llywodraeth gyfan. Eleni, mwy nag erioed o'r blaen, mae'r her allanol yn hollbwysig wrth i ni ystyried effeithiau hirdymor COVID-19 a'r ansicrwydd i'r Gymraeg yn sgil ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.
A dyna ni. Dau adroddiad cynhwysfawr iawn yn cyflwyno llawer o wybodaeth am y gwaith hollbwysig sy'n cael ei wneud o dan faner 'Cymraeg 2050'. Diolch yn fawr.
Diolch, Weinidog. A gaf i ddechrau trwy fynegi fy siom ein bod ni'n trafod y ddau adroddiad hyn gyda'i gilydd? Pum munud i graffu ar y ddau. Does dim digon o amser i graffu ar eich llwyddiant i gymharu â'ch gweithgaredd. Does dim amser i fynd drwy'r byd gwaith, y gymuned, y maes addysg, ac yn y blaen, a does dim digon o amser i edrych ar swyddogaethau a chyfrifon y comisiynydd, i archwilio a oes ganddo ddigon o adnoddau, i archwilio ymhellach pam ei fod wedi gorfod gwario mwy ar ffioedd cyfreithiol a phroffesiynol na'r disgwyl. Ac mae yn bwysig, achos i mi, mae hyn yn awgrymu bod y broses gwynion yn dal yn rhy gymhleth ar gyfer rhai cwynion. Mae llawer ohonynt heb eu profi, fel y gwelwn. Ac mae'n lleihau'r arian sydd ar gael ar gyfer y gwaith arall y mae'n rhaid i'r comisiynydd ei wneud, sef helpu i greu mwy o siaradwyr Cymraeg a mwy o ddefnydd o'r Gymraeg.
Gaf i groesawu'r cod ymarfer a gyhoeddwyd ym mis Chwefror, sy'n helpu sefydliadau i ddeall sut i gydymffurfio â safonau? Dylai, wrth gwrs, fod mwy o safonau i gydymffurfio â nhw erbyn hyn. Dywedasom yr un peth llynedd, ac roedd diffyg brwdfrydedd dros safonau yn amlwg iawn cyn COVID. Ni allwn feio'r feirws am hyn. Ond mae gen i, hefyd, fwy o frwdfrydedd dros weld gwelliant ar y gwaith ar hyrwyddo a pherswadio a llwybrau eraill i gyflawni'r targed o filiwn o siaradwyr. Gan fod Llywodraeth Cymru yn benderfynol o ddod â mwy o gyfrifoldeb am hyn yn ôl yn fewnol, gawn ni weld faint o amser bydd gan y Gweinidog i gyflawni ar hyn, o ystyried ei chyfrifoldebau heriol a phwysig newydd.
Rwy'n awyddus iawn i weld beth sy'n digwydd i ganfyddiadau arolwg y comisiynydd o awdurdodau cynllunio, achos, mae'n debyg i fi, bod gorfodaeth y sylw dyledus ar effaith y Gymraeg yn cael ei ddehongli fel blwch ticio yn hytrach na meddwl am gyfleoedd cytundebau—section 106, er enghraifft—fel ffordd o gynyddu'r galw am addysg Gymraeg. Ac rwy'n falch iawn o weld y comisiynydd yn cyflwyno'r achos dros god ymarfer o dan y cwricwlwm newydd. Ni fydd prif-ffrydio'r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg yn hawdd, ond dyma'r ffordd orau ymlaen, yn fy marn i, i greu cenedlaethau mwy dwyieithog. Mae'n llawer gwell na chynigion lletchwith ar drosi ysgolion dwy ffrwd yn ysgolion cyfrwng Cymraeg, pan nad oes mynediad i ddewis arall am ddegau o filltiroedd. Nid yw rhannu cymunedau a chwarae gwleidyddiaeth hunaniaeth yn dda i'r iaith. Ar ben hynny, rydym yn dal i gael trafferth recriwtio athrawon, fel y dywedoch, yn enwedig ar y lefel uwchradd. Felly, anogaf Llywodraeth Cymru i ystyried cod ymarfer continwwm o ddifri, a chadw ffocws ar ddarpariaeth blynyddoedd cynnar, i'w gwneud hi'n hawdd i ddewis Cymraeg, ac rwy'n golygu dewis er hwylustod a gyda hyder.
Efallai y gallwch chi ddweud wrthym ni, Weinidog, a yw COVID wedi torri ar draws eich cynlluniau i gael 40 o feithrinfeydd newydd erbyn 2021, a sut y byddwch chi'n dal lan. A allwch hefyd ddweud a yw'r 800 o blant ychwanegol mewn meithrinfeydd cyfrwng Cymraeg wedi eu gwasgaru ledled Cymru, neu ydyn nhw mewn ardaloedd Saesneg eu hiaith neu Gymraeg eu hiaith yn bennaf? Neu dim ond yn adlewyrchiad o'r cynnydd yn niferoedd y boblogaeth ar gyfer y grŵp oedran hwn yw hyn? A gofynnaf yr un peth am y cynnydd yng nghanran y plant sy'n symud i ysgolion cynradd Cymraeg. A allaf i ofyn hefyd: pam niferoedd ar gyfer un, a chanrannau ar gyfer y llall? Dydy hynny ddim yn dryloyw o gwbl. Ac er fy mod yn credu bod rhaglen Camau yn syniad gwych, a allwch ddweud a oes gan bob lleoliad Dechrau'n Deg erbyn hyn un person, o leiaf, â sgiliau trosglwyddo'r iaith Gymraeg ar lefel briodol?
Jest i ddod i ben, mae yna, fel y dywedais i, ormod o gwestiynau i mi eu cyfro heddiw, ond rwyf eisiau troi at y ffigurau TGAU. Mae'n gynnydd cymedrol, ac rwy'n croesawu unrhyw gynnydd, fel rydych chi'n gwybod, ond efallai y byddai gweld graddau disgyblion wedi ein helpu i ddeall rhywbeth arall—a ddylid eu croesawu ymhellach, neu a oes unrhyw broblem gyda chyrhaeddiad yn y pwnc gorfodol hwn. Ac, ie, dylai fod yn orfodol, achos mae dal angen inni ddangos i nifer o bobl, sy'n crebachu, fod hwn yn gymhwyster gwerthfawr. Mae'n hanfodol, hefyd, i wrthdroi'r cwymp yn y galw am safon uwch os oes unrhyw obaith o gael yr athrawon sydd eu hangen arnom. Diolch.
'Ymlaen tua'r dyfodol y mae edrych, nid am yn ôl'
meddai'r Gweinidog yn ei rhagair i'w hadroddiad blynyddol ar strategaeth 'Cymraeg 2050'. A'n gwaith ni yn y Senedd heddiw ydy adolygu gweithgarwch y 12 mis o 1 Ebrill 2019 i 30 Mawrth eleni, sef yr hyn sy'n cael ei gofnodi a'i grisialu yn y ddau adroddiad sydd o'n blaenau ni heddiw—cyfnod bron yn gyfan gwbl cyn yr argyfwng COVID, wrth gwrs. Mae'r comisiynydd a'i dîm eisoes wedi ymddangos o flaen pwyllgor y Gymraeg i ymateb i'r adroddiad blynyddol ac adroddiad sicrwydd y comisiynydd, felly dwi am ganolbwyntio fy ngyfraniad y prynhawn yma ar gyfrifoldebau'r Gweinidog.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Mae'n gywir i ddweud bod COVID wedi newid ein cymdeithas dros nos, ond dim ond erbyn pythefnos olaf cyfnod adrodd yr adroddiad, felly fedrith COVID ddim esgusodi na chuddio'r diffyg cynnydd amlwg sydd i'w weld yn record y Llywodraeth. Ac un enghraifft wnaeth neidio allan ataf fi'n syth oedd datganiad ysgubol yn yr adroddiad, wrth gyfeirio at prosiect 2050, fod pennaeth prosiect 2050 bellach wedi'i benodi ac yn ei swydd, yn dilyn oedi yn sgil COVID-19. Ond nid COVID oedd y bai am yr oedi. Cyhoeddi'r un swydd newydd yma yn y gwasanaeth sifil oedd cyhoeddiad mawr y Gweinidog yn ôl yn Eisteddfod Llanrwst yn Awst 2019, a oedd i fod i hoelio sylw ar weithredu'r strategaeth. Roeddwn i'n gweld pethau'n mynd yn araf deg, ac ysgrifennais i at yr Ysgrifennydd Parhaol ym mis Ionawr 2020 yn gofyn am ddiweddariad. Siomedig iawn, iawn oedd yr arafwch hwn—nodweddiadol, efallai—a collwyd llawer gormod o amser efo'r penodiad ac felly efo'r strategaeth.
Mae strategaethau hirdymor yn bwysig, ond mae'r prawf o'u gweithrediad o flwyddyn i flwyddyn yn bwysicach fyth, a'r prawf pennaf bod dim lot o gynnydd yn digwydd ydy pan fo Gweinidog yn bodloni ar wneud cyhoeddiadau yn hytrach na gallu tystio cyflawniad go iawn. Un fenter o'r fath a gyhoeddwyd oedd Helo Blod, gwasanaeth cymorth a chyfieithu i fusnesau bach a'r trydydd sector—cyhoeddiad sy'n swnio'n dda a menter digon clodwiw mor belled ag y mae hi'n mynd, ond cwbl, cwbl annigonol os ydyn ni o ddifri am gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg. Dim ond camau breision yn y gweithlu, y gyfraith a'r gyfundrefn addysg fydd yn sicrhau hynny. Mae gan addysg rôl hollol allweddol wrth greu'r miliwn, ond mae'r adroddiad yn dweud bod llai o athrawon cynradd Cymraeg yn y cyfnod dan sylw nag oedd hyd yn oed yn 2015-16—llai. Mae hynny'n anhygoel. Hyfforddwyd 11 o athrawon uwchradd cyfrwng Cymraeg—11—sydd 367 o athrawon yn brin o'r targed. Mae hi'n argyfyngus, ac wrth edrych ymlaen, mae COVID yn bygwth yr hyn sydd gennym ni yn barod. Ond beth rydym ni'n ei gael? Helo Blod, ta-ta rhaglen cyflwyno safonau. Helo Blod, ond ta-ta i'r Urdd. Helo Blod, ond ta-ta cymunedau hyfyw Cymraeg lle mae ail gartrefi allan o reolaeth. Dwi'n siwr eich bod chi'n clywed y coegni a'r rhwystredigaeth yn fy llais i, a dydw i ddim yn mynd i ymddiheuro am hynny.
Mae yna le i gydnabod ambell lygedyn o obaith. Diolch i bwyllgorau cyfrifon cyhoeddus a diwylliant y Senedd, fe lwyddwyd i ddal traed yr Ysgrifennydd Parhaol i'r tân, ac fe gafwyd ymrwymiad a chynllun gweithredu i wneud y Gymraeg yn iaith weinyddol gweithlu'r Llywodraeth dros amser. Cafwyd dyfarniad y Barnwr Fraser yn y llys gweinyddol yn ddiweddar, sy'n cadarnhau, i bob pwrpas, hawl pawb i barhau ar lwybr addysg Cymraeg. A llygedyn arall o obaith ydy gwaith manwl Comisiynydd y Gymraeg, sy'n dangos lle mae deddfwriaeth ar y cwricwlwm yn rhoi cyfle gwirioneddol i wneud cynnydd go iawn ar y continwwm ieithyddol, os ddown ni â chod statudol i symud y sefyllfa ymlaen. A dwi'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn fodlon manteisio ar y cyfle, wrth ymateb i'r ddadl, i roi ei chefnogaeth i waith ardderchog y comisiynydd o ran Bil y cwricwlwm. Ond beth sy'n bwysig am y llygedyn o obaith yma, y tri pheth yma dwi wedi sôn amdanyn nhw, ydy nid y Llywodraeth sydd wedi bod yn gyfrifol am ddod â nhw ymlaen. Mae'r pethau yma wedi digwydd er gwaethaf y Llywodraeth, nid o'i herwydd o. Mae angen symud ymlaen.
'Ymlaen tua'r dyfodol y mae edrych, nid am yn ôl'
meddai'r Gweinidog, a fydd hi ddim yn syndod ichi fy mod i'n hapus iawn i edrych ymlaen at ddyfodol newydd i'r gwaith o adfywio'r Gymraeg, ac mae gen i a Phlaid Cymru syniadau clir iawn am y cyfeiriad newydd, yr arweiniad newydd a'r egni newydd sydd eu hangen ar gyfer yr ymdrechion hynny. Mi fyddai Llywodraeth Plaid Cymru yn dyrchafu statws uned y Gymraeg yn gyfarwyddiaeth drawslywodraethol bwerus. Mi fyddem ni'n cyflwyno Deddf addysg Gymraeg i'w gwneud yn wirioneddol iaith i bawb. Mi fyddem ni'n achub ein sefydliadau cenedlaethol sy'n gwneud cymaint dros yr iaith ac yn creu dyfodol cynaliadwy i holl gymunedau Cymru. Diolch.
Diolch i'r Gweinidog am ddod â'r adroddiad hyn.
Pan fydd Llywodraeth yn ceisio gweithredu polisi, mae gwahanol ddulliau y mae modd eu defnyddio yn yr achos hwnnw. Weithiau mae'n bosibl rhannu'r rhain yn ddwy elfen sylfaenol, sef y foronen a'r ffon. Rwy'n credu bod y Gweinidog wedi bod yn eithaf cyson yn argymell y foronen yn hytrach na'r ffon wrth hyrwyddo'r ymgyrch o hybu defnydd y Gymraeg, ac rwyf wedi fy nghalonogi, ar ôl darllen adroddiad 'Cymraeg 2050', ei bod yn ymddangos mai dyna yw ei dull sylfaenol o hyd.
Rwy'n credu bod annog grwpiau a sefydliadau i dyfu'r defnydd o'r Gymraeg yn fesur llawer gwell na dulliau gorfodi, felly byddwn i'n gyffredinol yn cymeradwyo'r dulliau y mae'r Gweinidog yn eu dilyn, sydd wedi'u hamlinellu yn adroddiad 'Cymraeg 2050' eleni, drwy gefnogi'r gwahanol fentrau a nodwyd. Barn Plaid Diddymu Cynulliad Cymru yw ein bod ni, yn gyffredinol, yn cefnogi'r mesurau cadarnhaol hyn i annog twf y Gymraeg. Weithiau, nid yw gwneud rhywbeth yn orfodol yn gweithio mewn gwirionedd. Fe wnaeth Llywodraeth Cymru benderfynu ychydig flynyddoedd yn ôl i wneud addysgu'r Gymraeg mewn ysgolion yn orfodol hyd at 16 oed. Mae'r penderfyniad hwnnw wedi bod yn ddadleuol. Tybed a yw'n wirioneddol wedi llwyddo i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg i unrhyw lefel ystyrlon? Gan hynny, rwy'n golygu cynyddu nifer y bobl yng Nghymru sy'n defnyddio'r Gymraeg bob dydd.
Fy sylw i fy hun, yn seiliedig ar brofiad amrywiol berthnasau a pherthnasau ffrindiau sydd wedi mynd drwy'r system ysgolion yn ystod y blynyddoedd diwethaf yw bod gennym ni garfan sylweddol o bobl ifanc o hyd sy'n weddol ddifater am y Gymraeg a hefyd yn weddol anwybodus ohoni, er iddyn nhw ei hastudio mewn theori hyd at 16 oed. Felly, ar un ystyr, ychydig sydd wedi newid ers i mi fod yn yr ysgol 30 mlynedd yn ôl. Ar ôl gweld y ffigurau a nodwyd, nid wyf yn siŵr a yw cyfran y bobl ifanc sy'n defnyddio'r Gymraeg yn sylweddol wedi cynyddu o ganlyniad i orfodi mwy o bobl i astudio'r iaith yn yr ysgol am dair blynedd ychwanegol. A gaf i gyfeirio at y diffyg cynnydd yn nifer y bobl sy'n manteisio ar Gymraeg Safon Uwch yn yr ysgol, a nodwyd yn yr adroddiad? Nid oes cynnydd parhaol sylweddol wedi bod yn nifer y myfyrwyr ysgol sy'n dilyn Cymraeg Safon Uwch, felly mae hyn, ynddo'i hun, yn dangos, i raddau helaeth, fod y polisi o orfodi disgyblion ysgol i gymryd y Gymraeg hyd at 16 oed wedi methu. Rwy'n credu bod hyrwyddo nosweithiau rhieni i annog mwy o bobl i fanteisio ar Gymraeg Safon Uwch yn syniad da. Byddai modd defnyddio'r un dull gyda TGAU Cymraeg yn fy marn i, ond efallai fod hynny'n drafodaeth ar gyfer diwrnod arall. Fy mhrif ddadl yw y gall dysgu Cymraeg fod yn brofiad cadarnhaol iawn, ond rhaid ei wneud gyda chydsyniad a mewnbwn gweithredol y dysgwr. Rhaid i'r dysgwr fod eisiau dysgu, felly'r prif beth yw annog mwy o bobl ifanc i gymryd y pwnc cyn belled ag y bo modd. Mae nosweithiau rhieni'n iawn, ond, hyd yn oed yno, rhaid inni sicrhau bod y myfyrwyr ifanc eu hunain hefyd yn cymryd rhan yn y trafodaethau ar ba Safon Uwch y maen nhw’n eu cymryd.
Mae yna broblemau cysylltiedig â'r nifer sy'n manteisio ar gymryd Safon Uwch, megis y prinder athrawon ysgol gynradd a'r prinder mwy o ran athrawon ysgol uwchradd—materion a godwyd eisoes heddiw gan siaradwyr cynharach. Mae yna gynllun trosi, a ddisgrifir yn yr adroddiad, ond yr anhawster yw nad yw llawer o athrawon ysgol gynradd o bosibl eisiau troi at yr ysgol uwchradd a hefyd mae gennych chi brinder athrawon ysgol gynradd beth bynnag. Felly, mae anawsterau wrth symud ymlaen tuag at y dyhead da iawn o wella'r defnydd o'r Gymraeg. Er hynny, rwy'n cymeradwyo'r Gweinidog am ei dull cyffredinol o weithredu.
Diolch i'r Gweinidog eto am ei hadroddiad.
Y Gweinidog, nawr, i ymateb i'r ddadl—Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, a diolch am yr ymatebion hynny. I ddechrau gyda Suzy, wrth gwrs, ers i ni benderfynu peidio â bwrw ymlaen gyda Deddf yr iaith Gymraeg, mi roeddem ni wedi dechrau symud ymlaen gyda rhai safonau newydd, ond, wrth gwrs, roedd COVID, wedyn, wedi torri ar draws. Ond, rŷn ni yn gobeithio cael o leiaf un grŵp newydd o safonau i mewn cyn diwedd y sesiwn yma.
Dwi'n meddwl bod y ffaith bod gen i swydd newydd, mewn ffordd, yn fy helpu i roi tamaid bach o oleuni ar y maes yna o ran iechyd meddwl a’r Gymraeg, ac eisoes dwi wedi mynd ati i ofyn am waith i gael ei wneud ar y mater yma. Felly, dwi ddim yn gweld eu bod nhw’n cystadlu; dwi’n meddwl bod yna le i ni gydweithio ar y pynciau yna.
O ran prif-ffrydio’r Gymraeg,i fod yn glir, does dim diddordeb gen i i weld tensiwn rhwng yr ieithoedd sydd yn ein cymunedau ni. Mae’n bwysig ein bod ni’n cydweithredu a’n bod ni’n deall bod yna gyfrifoldeb nid jest ar y bobl sy’n mynd i ysgolion Cymraeg ond ar y rheini sydd ddim yn mynd i ysgolion Cymraeg—bod cyfrifoldeb arnyn nhw hefyd i ddysgu digon o iaith y wlad hefyd. Ac, wrth gwrs, mae’n bwysig ein bod ni’n gwneud mwy o waith ar hynny, ac rŷn ni eisoes wedi bod yn siarad â llefydd fel y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i weld sut maen nhw’n gallu, efallai, helpu, gyda’u profiad newydd nhw o weithio ar-lein.
O ran meithrinfeydd, rŷn ni’n dal ar darged i gyrraedd y 40 o feithrinfeydd roedden ni wedi gobeithio eu rhoi mewn lle, a, jest i fod yn glir, rŷn ni wedi gofyn iddyn nhw roi’r ffocws ar yr ardaloedd lle nad oes yn draddodiadol gyfleusterau yn yr ardal. Mae’r Gymraeg yn gymhwyster a hefyd o werth o ran beth mae’n rhaid inni gael pobl i’w ddeall—ei bod hi’n gymhwyster ar ben yn ffordd o gyfathrebu. Wrth gwrs, rŷn ni wedi ceisio rhoi arian ar y bwrdd—mae £150,000 wedi cael ei roi ar y bwrdd—i geisio annog mwy o bobl i ymgymryd â lefel A ac, fel roedd Gareth Bennett yn nodi, mae angen mwy o waith arnom ni yn yr ardal yna. Rŷn ni’n gwneud ein gorau yn fan hyn. Mae lot o ysgogiadau gyda ni mewn lle, ac, felly, os oes syniadau eraill gan bobl, rŷn ni’n fwy na hapus i wrando arnyn nhw. Ond yn arbennig pan fo’n dod i geisio cael mwy o athrawon i ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg, mae o leiaf 10 o fesurau mewn lle sydd eisoes yn ceisio cael mwy o bobl i ymgymryd â’r gwaith yma. Dwi’n gwybod bod hwn yn rhywbeth mae Siân Gwenllian â diddordeb mawr ynddo.
Dwi ddim yn derbyn nad ydym wedi symud pethau ymlaen yn ystod y cyfnod yna. Mae pennaeth Prosiect 2050 nawr mewn lle. Roedd y gwaith oedd yn cael ei wneud yn waith sydd yn cario ymlaen nawr, oedd yn dechrau cyn i’r penodiad yna ddigwydd. Felly, doedd e ddim fel petai'r gwaith ddim yn digwydd. Er enghraifft, ar drosglwyddo Cymraeg yn y teulu, roedd lot o waith yn cael ei wneud ar hwnna. Roedd lot o waith yn cael ei wneud ar y Gymraeg a thechnoleg. Felly, roedd y pethau yna sydd mor bwysig, dwi’n meddwl, i sicrhau bod y mesurau mewn lle i sicrhau bod yna gyfle i bobl ddefnyddio’r iaith, eisoes wedi symud ymlaen cyn bod y pennaeth yna wedi cael ei benodi.
O ran Cymraeg Gwaith, dwi’n meddwl bod gwaith aruthrol wedi cael ei wneud yn fan hyn, ond, wrth gwrs, roedd lot o hwnna wedi dod i ben gyda COVID. Ond mae’n bwysig ein bod ni’n ailgydio yn hynny unwaith fod cyfle, fel bod cyfle i bobl fynd mewn i’r gweithle eto i sicrhau bod mwy yn ymgymryd â dysgu’r iaith Gymraeg a defnyddio’r iaith Gymraeg yn y gweithle.
Rŷch chi’n dweud nad ydym wedi rhoi cefnogaeth i’r Urdd. My goodness, rŷn ni wedi sefyll ar bwys yr Urdd mewn ffordd aruthrol, dwi’n meddwl. Wrth gwrs mae angen gwneud mwy i gefnogi’r Urdd, ond rŷn ni’n gwneud ein gorau glas gyda nhw, o bob mudiad, achos rŷn ni’n gwerthfawrogi’r gwaith aruthrol a phwysig maen nhw’n ei wneud o ran cynnal y Gymraeg gyda’n hieuenctid ni. Dwi wedi cadw mewn cysylltiad agos gyda’r comisiynydd a’r Gweinidog Addysg i sicrhau bod y cwricwlwm yn y lle iawn o ran y Gymraeg, ac, wrth gwrs, mae’n drueni nad oedd Siân wedi clywed beth wnes i gyfeirio ati ynglŷn â’r gwaith rŷn ni’n ei wneud gydag ail gartrefi.
Dwi’n falch o glywed bod Gareth Bennett, fel rhan o’r Abolish the Welsh Assembly Party, yn cefnogi’r syniad o gefnogi’r Gymraeg. Beth rŷn ni’n ceisio ei wneud—jest i edrych ar ychydig o bwyntiau a wnaeth e—o ran defnyddio’r iaith ar ôl i bobl gadael ysgol, mae'n rhaid inni roi'r cyfleoedd i wneud hynny, a dyna pam mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi cael ei sefydlu. Dyna pam mae mwy o brentisiaethau mewn lle trwy gyfrwng y Gymraeg, a dyna pam mae modiwlau nawr o ran cyrsiau addysg bellach yn rhannol trwy gyfrwng y Gymraeg i’r rheini sydd wedi mynychu ysgolion Cymraeg.
Jest i orffen, felly, mae’n debyg y bydd adroddiad y flwyddyn nesaf yn wahanol iawn o ystyried faint mae'r byd o'n cwmpas ni wedi newid. Ac er bod y cyd-destun i'n gwaith ni wedi newid yn ddramatig ers lansio 'Cymraeg 2050', mae'n blaenoriaethau ni wedi aros yn yr un lle. Ein bwriad ni o hyd yw cynyddu nifer y siaradwyr a chynyddu defnydd yr iaith a gwella'r seilwaith, a dyna pam dwi wedi nodi rhai o'r pethau hynny. Mae lot o waith eisoes wedi ei wneud ac mae sylfaen gref yno i sicrhau bod y Llywodraeth nesaf yn parhau â'r weledigaeth yna o gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, does neb yn gwrthwynebu. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r Rheoliadau Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 1) 2020. Dwi'n galw ar y Cwnsler Cyffredinol i wneud y cynnig—Jeremy Miles.
Cynnig NDM7483 Rebecca Evans
Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:
1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 1) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 3 Tachwedd 2020.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Rwy'n cynnig yn ffurfiol y rheoliadau sydd ger ein bron ni heddiw. Rwy'n argymell bod y Senedd yn cefnogi'r Rheoliadau Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 (Diwygio Atodlen 1) 2020, ac rwy'n gofyn yn ffurfiol i Aelodau gefnogi'r rheoliadau ger eu bron. Mae'r rheoliadau hyn yn diwygio Atodlen 1 i Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019, sydd, fel y dywedais i mewn dadl yr wythnos diwethaf, yn cyflwyno diffiniadau cyffredinol ar gyfer termau a ddefnyddir yn Neddfau Senedd Cymru ac offerynnau statudol Cymru.
Mae'r rheoliadau hyn yn mewnosod diffiniadau yn Neddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 ar gyfer y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a'r cod dedfrydu. Maen nhw hefyd yn diwygio diffiniad y raddfa ddirwyon safonol ar gyfer troseddau diannod o ganlyniad i'r cod dedfrydu er mwyn caniatáu i ddeddfwriaeth Cymru sy'n cyfeirio at y raddfa barhau i weithredu'n gywir. Mae'r cod dedfrydu yn ben y daith i brosiect hirfaith a gafodd ei gynnal ar ran Llywodraeth y DU gan Gomisiwn y Gyfraith a geisiodd greu un statud yn cynnwys yr holl gyfraith ar weithdrefn ddedfrydu. Drwy ddwyn ynghyd y ddeddfwriaeth bresennol mewn un cod dedfrydu gyda strwythur clir a rhesymegol, mae'r gyfraith wedi'i gwneud yn fwy hygyrch i'r cyhoedd ac i'r farnwriaeth ac ymarferwyr. Nid yw'r cod yn cyflwyno unrhyw gyfreithiau sylweddol newydd nac yn newid uchafswm neu isafswm cosbau am droseddau, ac mae'r cod wedi'i gymeradwyo gan Senedd y DU, wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar 22 Hydref, a daw i rym ar 1 Rhagfyr. Mae'n cynrychioli ymarfer cydgrynhoi a moderneiddio pwysig, ac mae'n enghraifft o'r math o gamau y mae angen i Lywodraethau ledled y DU eu cymryd i wella hygyrchedd ein cyfreithiau. Rwy'n falch ein bod ni eisoes wedi cychwyn ar ymarferion cydgrynhoi a moderneiddio tebyg i Gymru ac wedi gosod y sylfeini ar gyfer gwneud gwaith o'r fath drwy Ddeddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019.
Bydd yr Aelodau yn cofio bod Deddf 2019 yn cyflawni dwy swyddogaeth allweddol. Yn gyntaf, mae'n darparu'r sylfaen honno i ni wella hygyrchedd cyfraith Cymru, ac, yn ail, mae'n darparu Deddf ddehongli i Gymru.
Er mwyn i'r ddarpariaeth ddehongli weithio'n gywir, mae'n bwysig sicrhau bod pob term a diffiniad perthnasol wedi eu cynnwys. Dyna pam y cytunodd y Senedd hon roi pwerau i Weinidogion yn adran 6(2) o'r Ddeddf i'w galluogi i ddiweddaru'r Ddeddf drwy ddeddfwriaeth eilradd. Y rheoliadau hyn yw'r tro cyntaf rydyn ni'n defnyddio'r pwerau hynny. Mae deddfwriaeth ambell waith yn cael ei phasio, fel yn yr achos hwn, gan Senedd San Steffan, ac mae angen wedyn cysoni'r diffiniadau mewn deddfwriaeth Gymreig. Yn yr achos hwn, daeth yn amlwg bod angen diwygio'r diffiniadau yn y ddeddfwriaeth ar ôl i'r Mesur Dedfrydu gwblhau'r camau gwelliannau yn San Steffan, ond mae'n anorfod y bydd hyn yn rhywbeth sy'n digwydd o bryd i'w gilydd ar brosiectau cymhleth fel y cod dedfrydu.
Wrth gloi, Llywydd, rwy'n diolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad am ei waith yn craffu ar y rheoliadau a'r memorandwm esboniadol yn ddiweddar. Mae wastad yn bleser i gael adroddiad sy'n cymeradwyo.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol. Does gyda fi ddim siaradwyr, ac felly dwi'n cymryd nad yw'r Cwnsler eisiau ymateb i'r diffyg sylwadau wnaethpwyd. Ac felly, gwnaf i ofyn y cwestiwn: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, does yna ddim, felly mae'r cynnig yna wedi ei dderbyn o dan Reol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Mae hynny'n golygu ein bod ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ond heb fod angen pleidleisio y prynhawn yma. Does yna ddim pleidlais, felly, a dyna ddiwedd y cyfarfod. Prynhawn da ichi.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:00.