Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

03/11/2020

Cynnwys

Contents

Datganiad gan y Llywydd
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog
2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Mesurau Diogelu Iechyd ar ôl y Cyfnod Atal Byr
4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cymorth Strategol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
5. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Dyfodol Gwasanaethau Rheilffyrdd—Manylion y trefniadau newydd
6. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Blwyddyn 4 y Rhaglen Tai Arloesol—Dulliau Adeiladu Modern/Modiwlar Arbennig
7. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Y Cynllun Adfer Economaidd
8. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Diweddariad ar Ddigartrefedd
9. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: Diweddariad ar Ddatblygiadau ym Mholisi Masnach y DU
10. Cynnig i amrywio trefn ystyried diwygiadau Cyfnod 3 y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)
11. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2020
12. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020
13. Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020
14. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus)
15. Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol, Rheoliadau Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd (Addasiadau Canlyniadol) (Ymadael â'r UE) 2020
16. Dadl: Ail Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru
17. Cyfnod Pleidleisio

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rhain wedi'u nodi ar eich agenda chi. A dwi eisiau atgoffa'r Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn gymwys i'r cyfarfod yma.

13:30
1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni ar gyfer y prynhawn, felly, yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Gareth Bennett. Ydy Gareth Bennett yna?

A yw Gareth Bennett yna? Ni allaf ei weld na'i glywed. Iawn, nid yw Gareth Bennett yna i ofyn ei gwestiwn.

Ni ofynnwyd cwestiwn 1 [OQ55782].

Cwestiwn 2, felly, David Rees.

Rwy'n gallu eich gweld chi. Gofynnwch eich cwestiwn, David Rees. Diolch.

Gweithlu'r GIG

2. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi gweithlu GIG Cymru? OQ55808

Llywydd, mae popeth yr ydym ni'n ei wneud i leihau lledaeniad y coronafeiws wedi'i gynllunio i gefnogi gweithlu ein GIG. Mae'r rhai hynny sy'n tanseilio'r ymdrechion hyn yn ychwanegu at y pwysau sy'n wynebu staff rheng flaen sydd o dan gryn bwysau yn ystod y gaeaf unigryw o heriol hwn.

Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Fel y gwyddom, mae ein nyrsys a'n staff y GIG wedi bod ar y rheng flaen yn ymdrin â'r pandemig hwn ers dechrau'r flwyddyn. Bob dydd Iau, roeddem ni'n arfer mynd allan a chlapio a dweud 'diolch' wrthyn nhw. Er bod hynny wedi dod i ben erbyn hyn, mae arnom ni ddyled enfawr o hyd i'r rhai sy'n rhoi eu hunain mewn perygl bob dydd pan fyddan nhw'n mynd i weithio i ofalu am aelodau ein teuluoedd sydd angen eu gofal. Ac mae'n hollbwysig ein bod yn parhau i ddweud 'diolch' trwy ddarparu cymorth yn awr ac yn y dyfodol. Ac wrth ddweud 'diolch', mae'n rhaid i ni sicrhau eu bod nhw'n cael eu cadw'n ddiogel ac nad oes ganddyn nhw unrhyw bryder ynghylch cefnogi eu teuluoedd eu hunain. Rwy'n clywed geiriau cynnes y Torïaid am gefnogi ein staff ni yma, ac yn San Steffan, ond mae eu gweithredoedd diweddar yn dweud stori wahanol wrthym ni. Er enghraifft, maen nhw wedi ailgyflwyno treth ar werth lawn ar gyfarpar diogelu personol, gan dynnu'r arian oddi ar y GIG a'i roi yn ôl i'r Trysorlys. Nid ydyn nhw wedi gwobrwyo ein staff GIG gyda'r dyfarniadau cyflog y maen nhw'n eu haeddu am bopeth y maen nhw wedi ei wneud i ni ac y byddan nhw yn ei wneud i ni. A wnewch chi a'ch Gweinidog gefnogi'r alwad gan staff y GIG, ac annog y Llywodraeth, yn enwedig y Canghellor, sydd fel pe byddai'n gallu dod o hyd i arian pan fo seddi Gweinidogion Torïaidd mewn perygl, i roi'r gorau i siarad a dechrau gweithredu er budd ein staff GIG gwych?

Wel, Llywydd, a gaf i ddiolch i David Rees am y cwestiynau atodol yna? Ac rwy'n cytuno'n llwyr ag ef—rydym ni wedi dibynnu cymaint ar ein gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod y pandemig hwn. Maen nhw'n mynd i mewn i'r gaeaf hwn ar ôl gweithio yr holl ffordd drwodd, o'r gwanwyn drwy'r haf, i adfer gwasanaethau'r GIG i barhau i ddarparu ar gyfer y rhai hynny sy'n mynd yn sâl, ac maen nhw'n haeddu ein cefnogaeth ym mhob ffordd.

Mae'r penderfyniad i roi TAW yn ôl ar gyfarpar diogelu personol yn mynd yn groes i unrhyw synnwyr neu resymeg yn fy marn i. Bydd yn creu biliau newydd enfawr i'r GIG a darparwyr gofal cymdeithasol. Bydd yn creu biliau newydd i'r busnesau niferus hynny sy'n awyddus i wneud y peth iawn, sy'n buddsoddi mewn cyfarpar diogelu personol i amddiffyn eu staff a'u cwsmeriaid—busnesau y gwyddom eu bod wedi ei chael hi'n anodd drwy gydol y pandemig. A nawr, mae'n rhaid iddyn nhw ddod o hyd i arian ychwanegol—20 y cant yn ychwanegol at yr hyn yr oedden nhw'n dod o hyd iddo ychydig wythnosau yn ôl. Nawr, ysgrifennodd ein Gweinidog cyllid ar 30 Hydref at y Trysorlys, gan annog Gweinidogion i ailystyried diweddu cyfradd sero. Roedd hwnnw yn gyngor da iawn, ac mae'n drueni mawr nad yw'n ymddangos bod neb yn gwrando arno.

O ran dyfarniadau tâl, wrth gwrs, mae David Rees yn iawn. Rydym ni'n dod at ddiwedd cytundeb cyflog tair blynedd gyda staff yr Agenda ar gyfer Newid yn y GIG. Rydym ni wedi ymrwymo fel erioed i weithio mewn partneriaeth—partneriaeth gymdeithasol â chyflogwyr ac undebau iechyd. Ac rwy'n ategu'r sylwadau y mae David Rees wedi eu gwneud. Llywodraeth y DU sy'n pennu amserlenni'r adolygiadau cyflog a'r cwantwm sydd ar gael i wobrwyo'r gweithwyr hyn. Gallwn ni wneud penderfyniadau gwahanol yng Nghymru ynglŷn â sut yr ydym ni'n defnyddio'r cwantwm hwnnw. Dyna sut y gwnaethom ni ddod i gytundeb y byddai GIG Cymru yn gyflogwr cyflog byw. Ond mae'r amserlen a'r cwantwm yn nwylo Llywodraeth y DU, ac rwy'n gobeithio y byddan nhw'n talu rhywfaint o sylw i'r hyn y mae ein cyd-Aelod David Rees wedi ei ddweud y prynhawn yma. 

13:35

Diolch, Prif Weinidog, am yr atebion hyd yn hyn. Hoffwn i gyfeirio fy nghwestiwn atoch chi ynglŷn â chais Coleg Brenhinol y Ffisigwyr yr wythnos diwethaf am i'r Llywodraeth ystyried y rheolau yn ymwneud â rhyddhau cleifion. Rydym ni'n gwybod am y pwysau y mae staff y GIG yn ei wynebu, yn amlwg, pan nad ydyn nhw'n gallu rhyddhau cleifion a derbyn cleifion newydd i'r ysbytai. Mae rhai o'r rheoliadau a gyflwynodd Llywodraeth Cymru ym mis Ebrill, a ddiwygiwyd ym mis Gorffennaf, yn ei gwneud yn ofynnol i gleifion dreulio cyfnod ynysu o 14 diwrnod pan fyddan nhw'n cael eu hanfon adref. Mae Coleg Brenhinol y Ffisigwyr yn credu y dylid rhoi sylw i hyn. A allwch chi roi unrhyw galondid i ni o ran pa un a yw Llywodraeth Cymru yn ystyried y gweithdrefnau rhyddhau i liniaru peth o'r pwysau yn yr ysbytai?

Llywydd, diolchaf i Andrew R.T. Davies am y cwestiwn yna. Fe wnes i drafod yr adroddiad hwn gyda'r cyfarwyddwr cyffredinol dros iechyd a gwasanaethau cymdeithasol a phrif weithredwr GIG Cymru, Dr Andrew Goodall, yn gynharach yn yr wythnos. A byddwn yn sicr yn ystyried yr adroddiad o ddifrif. Ond fe fydd e'n cofio adeg yn gynharach yn y pandemig pan oedd Llywodraeth Cymru yn cael ei holi'n sylweddol ynghylch rhyddhau pobl o ysbytai heb iddyn nhw fod yn glir o'r coronafeirws. Dyna pam y sefydlwyd y cyfnod o 14 diwrnod—i sicrhau nad oedd pobl yn gallu cael eu rhyddhau i gartrefi gofal, er enghraifft, tan ein bod yn gwbl siŵr nad oedden nhw'n cario'r coronafeirws i'r lleoliadau hynny. Felly, mae'r 14 diwrnod yno at ddiben clinigol penodol. Ond mae Coleg Brenhinol y Ffisigwyr yn gwneud pwyntiau pwysig iawn ynghylch iechyd y boblogaeth ehangach—y boblogaeth ehangach mewn ysbytai, hynny yw—a sut y gellid gwasanaethu hynny yn well trwy fod â chyfnod byrrach. A byddwn yn sicr yn trafod hynny gyda nhw a gyda chydweithwyr eraill yn GIG Cymru.

Gweinidog, rwy'n gwybod bod llawer o sicrwydd wedi ei roi bod GIG Cymru ar agor i'r cyhoedd. Fodd bynnag, rwyf i'n clywed gan etholwyr na all hyd yn oed y rhai hynny sy'n gweithio ar reng flaen y GIG gael gafael ar driniaethau arferol, fel pigiadau steroid ar gyfer arthritis. Os na all y GIG ofalu am ei bobl ei hun, Gweinidog, sut y gall ofalu am y cyhoedd yn ehangach? Diolch.

Llywydd, ni fu gennym ni erioed bolisi yng Nghymru o symud gweithwyr y GIG i flaen y ciw o ran triniaethau arferol. Nawr, yr hyn y gallaf ei ddweud wrth yr Aelod yw bod y GIG wedi gweithio'n galed iawn i adfer triniaethau arferol yn GIG Cymru. Mae gwasanaethau canser wedi eu hadfer i fwy neu lai yr hyn oedden nhw yn ôl ym mis Ebrill. Mae gennym ni 70 y cant o weithgarwch cleifion allanol wedi ei adfer yn GIG Cymru. Byddwn ni ond yn gallu—byddwn ni ond yn gallu—cynnal y lefel honno o weithgarwch yn y GIG ar gyfer cleifion nad ydyn nhw â'r coronafeirws os ydym ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i atal llif y clefyd hwn yma yng Nghymru. A'r cyfraniad unigol mwyaf y gall unrhyw un ei wneud i sicrhau bod y GIG yno ar gyfer yr holl bethau eraill yr ydym ni angen iddo fod yno ar eu cyfer yw bod pob un ohonom ni yn gwneud pob dim o fewn ein gallu i atal lledaeniad y feirws marwol hwn yma yng Nghymru.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, wrth i Lywodraeth Cymru ddechrau ystyried effeithiolrwydd ei chyfnod atal byr, mae'n hollbwysig ei bod hefyd yn asesu lefel y cymorth sy'n cael ei gynnig i fusnesau Cymru, y mae llawer ohonyn nhw wedi bod o dan ryw fath o gyfyngiadau gan y Llywodraeth am lawer yn hwy na dim ond pythefnos, wrth gwrs. A allwch chi ddweud wrthym ni pa un a ydych chi'n credu bod pecyn cymorth Llywodraeth Cymru wedi diwallu anghenion busnesau ledled y wlad, ac a ydych chi'n credu bod eich systemau cyllid grant wedi darparu yn ddigonol ar gyfer busnesau?

Wel, Llywydd, Llywodraeth Cymru sy'n darparu'r pecyn cymorth mwyaf hael i fusnesau o'i gymharu ag unrhyw le yn y Deyrnas Unedig. A yw hynny'n golygu ein bod ni wedi gallu ymateb i bob effaith y coronafeirws ar bob busnes yng Nghymru? Wel, wrth gwrs nad ydyw, gan fod y cyfnod hwn yn gyfnod eithriadol, ac mae busnesau yma yng Nghymru wedi bod yn wynebu heriau eithriadol. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrth yr Aelod yw, yn ystod cam 1 ein cronfa cadernid economaidd—cronfa gwerth £500 miliwn—y rhoddwyd cyfanswm o bron i 7,000 o grantiau i ficrofusnesau, gan ddod i gyfanswm o bron i £125 miliwn. Yng ngham 2, 5,000 o grantiau eraill, yn dod i gyfanswm o dros £58 miliwn. Ac, yng ngham 3, pan aeth ein gwiriwr cymhwysedd yn fyw ar 19 Hydref, archwiliodd bron i 160,000 o ddefnyddwyr y cymorth a oedd ar gael iddyn nhw drwy Lywodraeth Cymru. Nawr, fe fyddem ni'n hoffi gwneud mwy, ac fe fydd yn dda pan fyddwn ni'n meddu ar y ffeithiau llawn, ynghylch y cynllun ffyrlo a'r cymorth a fydd ar gael i Gymru oherwydd newidiadau mewn cymorth i fusnesau yn Lloegr. Rwy'n siŵr bod yr Aelod yn edrych ymlaen at annog ei Lywodraeth, er nad yw'n ei chefnogi mwyach, yn ôl pob tebyg, i wneud yn siŵr ein bod yn cael popeth sydd ei angen arnom ni yma yng Nghymru.

13:40

Wel, Prif Weinidog, mae'n dal yn ffaith fod busnesau yn y rhan fwyaf o'r de a'r gogledd wedi bod o dan gyfyngiadau'r Llywodraeth ers sawl wythnos, ac mae llawer ohonyn nhw nad ydyn nhw wir wedi gallu cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, a chyn y cyfyngiadau symud Cymru gyfan, fe'i gwnaethoch yn glir y byddai busnesau yn cael grantiau yn awtomatig. Fodd bynnag, nid yw hynny wedi digwydd. Nid yn unig y bu'n rhaid i fusnesau wneud cais am grantiau, darperir y cyllid ar sail y cyntaf i'r felin, yn hytrach nag ar angen gwirioneddol. Ac, yr wythnos diwethaf, ataliwyd grant datblygu busnes cam 3 y gronfa cadernid economaidd, yr ydych chi newydd gyfeirio ato, dim ond 24 awr ar ôl ei agor, ac mae busnesau yn dal i boeni ac yn bryderus ynghylch sut y gallan nhw oroesi a darparu swyddi i bobl leol. A hyd yn oed yn awr, mae busnesau lletygarwch yn dal i fod yn ansicr a fydd mesurau newydd Llywodraeth Cymru yn ei olygu iddyn nhw o ddydd Llun nesaf ymlaen. Felly, prif Weinidog, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i roi hyder i fusnesau Cymru y byddan nhw'n gallu cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw, pan fydd ei angen arnyn nhw? Ac a ydych chi mewn sefyllfa erbyn hyn i roi rhywfaint o'r eglurder y mae mawr ei angen ar fusnesau lletygarwch ledled Cymru er mwyn iddyn nhw allu cynllunio ymlaen llaw ar gyfer y mesurau newydd yr wythnos nesaf? Ac a wnewch chi ddweud wrthym ni a fydd cam 3 y gronfa cadernid economaidd yn cael ei ailagor, a pha bryd y bydd hyn yn digwydd?

Wel, Llywydd, y ffordd gyntaf o roi hyder i fusnesau Cymru yw bod yn fanwl gywir ynglŷn â'r hyn yr ydym ni'n ei ddweud wrthyn nhw. Felly, fe wnaf i geisio rhoi trefn ar nifer o'r anghywirdebau yn y cwestiynau y mae arweinydd yr wrthblaid newydd eu gofyn i mi. Gadewch i ni fod yn glir, bydd eiddo yn gymwys yn awtomatig i gael cymorth o'r agwedd honno ar y gronfa sy'n ymdrin â phobl sydd ar y statws ardrethi annomestig ar gyfer eu hawdurdodau lleol. Wrth gwrs, mae'n rhaid iddyn nhw wneud cais amdano; nid ydym ni yn y busnes o gynnig cymorth i fusnesau nad ydyn nhw'n dymuno ei gael. Ond y cyfan y mae'n rhaid iddyn nhw ei wneud yw dangos eu bod ar y rhestr statws ardrethi annomestig a byddan nhw'n cael y cymorth hwnnw yn awtomatig.

Nid yw'r Aelod yn gywir ychwaith wrth ddweud bod pob agwedd ar drydydd cam y gronfa gadernid economaidd wedi'i chau mor gyflym â hynny. Mae'r elfen cronfa i fusnesau dan gyfyngiadau symud gwerth £200 miliwn yn parhau i fod ar agor ac mae'n dal i dderbyn ceisiadau. Mae'n wir bod un elfen o'r gronfa wedi derbyn llawer iawn o geisiadau yn gyflym iawn. Byddwn ni yn edrych, Llywydd, i weld a oes unrhyw bosibilrwydd arall o ailagor yr agwedd honno ar y gronfa, ac, fel y dywedais i wrth Paul Davies, bydd o gymorth mawr i ni yn hynny o beth pan fydd y Trysorlys yn gallu dweud wrthym ni am y cyllid canlyniadol a fydd yn dod i Gymru o ganlyniad i'r cymorth sydd eisoes wedi ei warantu i fusnesau yn Lloegr.

Rwy'n gwneud datganiad yn ddiweddarach y prynhawn yma, Llywydd, ynghylch y trefniadau ar ôl y cyfnod atal byr yma yng Nghymru, a bydd gen i bethau i'w dweud am y sector lletygarwch bryd hynny.

Wel, rwy'n falch y byddwch chi'n dweud rhywbeth ychydig yn ddiweddarach y prynhawn yma, oherwydd bod busnesau wir eisiau eglurder gennych chi, Prif Weinidog. Nawr, nid busnesau yn unig sydd angen cymorth; ond pobl hefyd, wrth gwrs. Ar 30 Hydref, fe wnaethoch chi gadarnhau unwaith eto y gellir dyfarnu grantiau hunanynysu i bobl ar incwm isel yng Nghymru y mae'n ofynnol iddyn nhw hunanynysu. Roeddech chi wedi gwneud ymrwymiad tebyg yn flaenorol ar 22 Medi. Nawr, Prif Weinidog, rydym ni'n gwybod bod awdurdodau lleol yn yr Alban a Lloegr wedi bod yn darparu'r grantiau ers rhai wythnosau ac yn eu hôl-ddyddio i 28 Medi, ond er hynny nid ydym ni'n gweld yr un lefel o weithredu yn cael ei sicrhau i gefnogi'r bobl hynny sydd mewn mwyaf o angen yng Nghymru, a gallai hyn arwain at risg y byddan nhw'n rhoi diwedd ar eu hynysu yn rhy fuan er mwyn talu eu biliau. Felly, a wnewch chi ddweud wrthym ni pam nad yw pobl ar incwm isel ledled Cymru wedi cael eu taliadau hunanynysu hyd yma? A wnewch chi hefyd roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y trafodaethau diweddaraf yr ydych chi wedi eu cael gydag awdurdodau lleol yng Nghymru ynghylch darparu'r grantiau hynny? Ac a allwch chi roi amserlen realistig i ni yn awr ar gyfer pryd y bydd pobl yng Nghymru yn derbyn eu grant hunanynysu mewn gwirionedd?

Wel, Llywydd, rydym ni eisoes wedi nodi ein cynlluniau i gefnogi pobl sy'n hunanynysu. Bydd y taliadau gwerth £500 hynny ar gael i bobl yng Nghymru. Byddan nhw ar gael drwy awdurdodau lleol, sydd yn y sefyllfa orau i allu ymateb yn gyflym i anghenion pobl ac, ar yr un pryd, i sicrhau bod gan y system sydd gennym ni yng Nghymru rai mesurau i ddiogelu rhag twyll mewn system lle yr ydych chi eisiau i'r cymorth gyrraedd y bobl yn gyflym ond mae'n rhaid i chi ddal i sicrhau bod y cymorth yn mynd i'r lle iawn. Rwy'n ddiolchgar iawn i'n hawdurdodau lleol am dderbyn y gyfres ychwanegol hon o gyfrifoldebau ar ben popeth arall yr ydym ni wedi dibynnu arnyn nhw i'w wneud i gefnogi eu poblogaethau lleol. Bydd y cymorth y byddwn ni yn ei roi i bobl i'w cefnogi wrth hunanynysu yn cael ei baru â chyfres o gosbau i'w gorfodi ar y bobl hynny sy'n methu yn fwriadol ac yn bwrpasol â dilyn y cyngor a roddir iddyn nhw gan ein system profi, olrhain a diogelu. Ar yr un pryd, byddwn yn ei gwneud yn drosedd i gyflogwyr annog pobl yn fwriadol i fynd i'r gwaith pryd y dylen nhw fod yn hunanynysu. Mae'n gytundeb pecyn y mae Llywodraeth Cymru wedi ei lunio gydag elfennau annog a chosbi, ac mae hynny i gyd wedi ei gynllunio i sicrhau bod ein system profi, olrhain, diogelu yn parhau i fod mor effeithiol ag y bu eisoes, ac yn llawer mwy effeithiol nag mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig.

13:45

Prif Weinidog, fe wnaethoch chi ddweud ddoe, pe na byddem ni yn rhan o'r DU, na fyddem ni'n cael trafodaeth ynglŷn â ffyrlo oherwydd, fe wnaethoch chi awgrymu, na allem ni ei fforddio. Pam mae hynny?

Llywydd, dim ond ei gwneud yn glir oeddwn i bod pobl yng Nghymru yn talu i mewn i'r cynllun yswiriant, sef y Deyrnas Unedig. Roeddwn i'n anghytuno â sylwadau Ysgrifennydd Gwladol Cymru fod cymorth wedi ei roi rywsut i Gymru o haelioni Llywodraeth y DU. Yr hyn sydd wedi digwydd yw bod Cymru, sy'n gwneud mwy o ymdrech o ran y dreth—mae ei dinasyddion yn gwneud mwy o ymdrech o ran y dreth nag unrhyw ran arall o'r Deyrnas Unedig—yn defnyddio'r polisi yswiriant hwnnw. Rydym ni wedi talu i mewn ac yn awr rydym ni yn tynnu allan o'r cynllun pan fydd yn diwallu ein hanghenion. Ond pe na byddem yn rhan o gynllun, pe na byddem yn talu i mewn, yna ni fyddem yn gallu tynnu allan, a dyna'r pwynt yr oeddwn i'n ei wneud.

Mae'r Swistir, Norwy, Denmarc, Latfia, Estonia, Iwerddon a hyd yn oed Lwcsembwrg, sydd â phoblogaeth o'r un faint â Chaerdydd, i gyd yn ariannu cynlluniau cymhorthdal cyflog sy'n cyfateb i'r ffyrlo a hwythau yn wledydd bach, annibynnol, felly pam y byddai Cymru annibynnol yn wahanol? Yn wir, fel gwlad annibynnol gallem ni hyd yn oed benderfynu mynd gam ymhellach na hynny, a chyflwyno incwm sylfaenol cyffredinol fel y gallem ni helpu'r traean o bobl hunangyflogedig nad ydyn nhw'n cael unrhyw gymorth o gwbl ar hyn o bryd. Pe byddai Cymru yn wlad annibynnol, byddai gennym ni ein Trysorlys a'n banc canolog cwbl weithredol ein hunain, sy'n golygu y gallem ni wneud yr hyn y mae pob gwlad arall yn y byd yn ei wneud ar hyn o bryd i dalu cost y pandemig, sef benthyca ar y marchnadoedd cyfalaf a defnyddio dulliau esmwytho meintiol. Mae Trysorlys y DU yn talu am y cynllun ffyrlo trwy fenthyca a thrwy gyllido ariannol. Beth sy'n eich argyhoeddi, Prif Weinidog, na fyddai Cymru annibynnol yn gwneud yr un fath neu na allai wneud yr un fath, fel y gwledydd bach eraill yr wyf i wedi sôn amdanyn nhw? Pam ydych chi'n credu na allwn ni wneud penderfyniadau economaidd drosom ni ein hunain?

Llywydd, mae gennym ni safbwynt hollol wahanol. Mae'r Aelod o blaid gwahanu. Mater iddo ef yw gwneud yr achos dros hynny, nid i mi egluro pam yr wyf i'n credu ei fod e'n anghywir. Rwyf i'n gwneud yr achos cadarnhaol dros fod yn aelod o'r Deyrnas Unedig. Mae Cymru, sydd â'n pwerau annibynnol ein hunain yma yn y Senedd, sydd wedi arfer y pwerau hynny yn annibynnol drwy gydol argyfwng y coronafeirws, ar yr un pryd yn gallu defnyddio'r gronfa ehangach honno o adnoddau sydd gennym ni trwy fod yn aelod o'r Deyrnas Unedig, lle mae anghenion pobl sy'n gweithio yng Nghymru yn debyg iawn i anghenion pobl sy'n gweithio mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, a lle mae'r ymdeimlad hwnnw o undod yn ymestyn y tu hwnt i'n ffin. Nid yw'r Aelod o blaid hynny. Mae'n dymuno tynnu Cymru allan o'r Deyrnas Unedig, i'n gwahanu ni oddi wrth bopeth yr ydym ni'n ei wneud gydag eraill, rwyf i'n credu, yn fy mhlaid i, yn y mudiad llafur ehangach. Caiff ef gyflwyno ei achos a bydd pobl Cymru yn penderfynu, ond rwyf i'n anghytuno yn sylfaenol ag ef.

Prif Weinidog, rydych chi'n dweud bod bod yn rhan o'r DU yn golygu bod gan Gymru y fantais o gymryd rhan mewn polisi yswiriant ar raddfa fawr, ond onid yw'r wythnosau diwethaf newydd ddangos ei fod yn bolisi nad yw'n talu allan pan fydd fwyaf ei angen arnom ni yng Nghymru? Mae'r Torïaid wedi honni ein bod ni wedi cael £4 biliwn gan San Steffan yn ystod y pandemig, ond dim ond ein cyfran Barnett ni yw hynny o'r arian y mae'r Trysorlys wedi ei fenthyg ar ein rhan oherwydd ei fod wedi ein hatal ni rhag ei fenthyg ein hunain. Pe byddem ni'n gallu benthyg ein hunain, heb lyffethair fel gwlad annibynnol, yna gallem ni wneud cymaint mwy. Gallem ni fuddsoddi yn ein gallu profi ein hunain, fel y mae Slofacia wedi gallu ei wneud, gan ei galluogi i brofi dwy ran o dair o'i phoblogaeth gyfan dros y penwythnos. Pan fyddwch chi'n cymharu hynny â system fethedig labordy goleudy y DU, sy'n rhoi Cymru ar ei cholled, a oes unrhyw syndod bod pobl yn ymuno ag ymgyrch YesCymru yn eu miloedd?

13:50

Wel, Llywydd, rwyf i'n cyflwyno achos nad yw'r Aelod byth yn ei wneud dros undod cymdeithasol ledled y Deyrnas Unedig, i ni rannu ein risgiau a chael ein gwobrau pan fydd eu hangen nhw arnom ni. Rwyf i'n credu y bu hynny o fantais i Gymru erioed. Mater i'r Aelod yw esbonio i Gymru pam y mae e'n credu, o golli popeth yr ydym yn ei gael trwy fod yn rhan o'r cyfan ehangach, y byddai Cymru yn fwy llwyddiannus ar ei phen ei hun yn y byd. Nid wyf i erioed wedi derbyn y ddadl honno. Nid oeddwn i eisiau i ni adael yr Undeb Ewropeaidd; nid wyf i eisiau i ni adael undeb y Deyrnas Unedig.

Achosion o COVID-19 yng Nghaerffili

3. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i ddelio â chynnydd posibl yn nifer yr achosion lle ceir canlyniadau positif mewn profion COVID-19 yng Nghaerffili yn y dyfodol? OQ55803

Llywydd, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Yr hyn sy'n cyfrannu fwyaf at ymdrin â chynnydd posibl yn y dyfodol yw gwneud popeth o fewn ein gallu yn ein bywydau ein hunain i atal hynny rhag digwydd. Diolchaf i bobl Caerffili am bopeth y maen nhw wedi ei wneud eisoes, ac am bopeth yr wyf i'n gwybod y byddan nhw'n dymuno ei wneud yn ystod yr wythnosau anodd sydd o'n blaenau.

Ac rwyf i'n cydnabod hefyd, gyda'r Prif Weinidog, fod pobl Caerffili wedi gwneud ymdrechion aruthrol dros y ddau fis diwethaf i gael y gyfradd o dan reolaeth, ond bydd ef yn ymwybodol—mor ymwybodol ag unrhyw un arall—bod Caerffili wedi bod dan gyfyngiadau o ryw fath am fwy o amser na neb arall yng Nghymru, ers 8 Medi. O gofio hynny, rydym ni wedi dysgu rhai gwersi yng Nghaerffili, ac mae'r ffiniau sydd gennym ni â bwrdeistrefi sirol wedi peri problemau i aelwydydd sengl a oedd, o dan y cyfyngiadau lleol, yn cael cysylltu â phobl o fewn ffiniau'r sir yn unig. I lawer, mae honno'n ffin ffug—pobl a oedd yn dymuno cysylltu ymhellach i'r gogledd yn Rhymni, pobl sy'n dymuno cysylltu yn Nantgarw—ac mae'n ei gwneud yn anodd iawn. A cheir nifer fawr o broblemau cysylltiedig eraill o ran y ffiniau sirol hynny. Felly, pe byddai angen rhagor o gyfyngiadau, a fyddai'r Prif Weinidog, os gwelwch yn dda, yn cadw hynny mewn cof a meddwl efallai am sut y gallwn ni sicrhau bod pobl sy'n byw ar eu pennau eu hunain yn arbennig, ond mwy o bobl y mae cyfyngiadau yn effeithio arnyn nhw, yn gallu cysylltu y tu hwnt i'r ffiniau sirol hynny yn ystod cyfyngiadau lleol?

Llywydd, a gaf i ddiolch i Hefin David am y pwyntiau pwysig yna? Fe fydd e'n gwybod ein bod ni wedi ei gwneud yn glir ddoe, yn y cyfnod ar ôl y cyfnod atal byr, pan fydd gennym ni gyfres newydd, symlach o reolau cenedlaethol i Gymru, na fydd pobl yn cael eu cyfyngu i'w hardaloedd bwrdeistref sirol eu hunain o ran teithio. Ac mae hynny yn rhannol i gydnabod y pwyntiau pwysig y mae Hefin David wedi eu gwneud: oherwydd eu heffaith ar grwpiau penodol mewn cymdeithas, ond hefyd oherwydd y cymhlethdod anochel a gafodd ei greu yn sgil ymdrin â materion ar sail bwrdeistref sirol gyfan. Felly, bydd pobl yng Nghaerffili yn cael teithio y tu hwnt i ffin y sir ar ôl 9 Tachwedd, a bydd hynny yn arbennig o ddefnyddiol, rwy'n gwybod, yn yr achosion afreolaidd hynny lle mae'r bobl y byddai pobl yn dymuno bod mewn cysylltiad â nhw yn byw ychydig filltiroedd yn unig dros y ffin honno. Rwy'n gwybod pa mor anodd y mae hi wedi bod, i bobl ddilyn y rheolau ac weithiau i ddeall y rheolau, ac rwy'n cymeradwyo yr Aelod yn fawr iawn am yr ymdrechion yr wyf yn gwybod ei fod wedi eu gwneud—yr ymdrechion enfawr y mae wedi eu gwneud—mewn pob math o ffyrdd i sicrhau bod pobl Caerffili yn cael y cyngor gorau posibl a'r wybodaeth ddiweddaraf a oedd ar gael iddyn nhw yn y ffyrdd mwyaf defnyddiol.

Iawn. Cefais i rai problemau gyda fy motymau yn y fan yna.

Prif Weinidog, er mwyn i bobl yng Nghaerffili a Chymru allu paratoi, mae'n ymddangos bod rhyw fath o ddryswch yr wyf i'n gobeithio y gallwch chi ei egluro i ni y prynhawn yma. Mae un o'ch Gweinidogion chi wedi llefaru gan ddweud y bydd cyfnod atal byr arall ym mis Ionawr a mis Chwefror—cyfyngiadau symud cyfnod atal byr arall. A wnewch chi gadarnhau neu egluro safbwynt y Llywodraeth ynglŷn â hyn, os gwelwch yn dda?

Llywydd, ar yr amod ein bod ni i gyd yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud y gorau o'r cyfnod atal byr hwn, nid ei danseilio fel y mae cynifer o Aelodau ei phlaid hi wedi treulio'r 10 diwrnod diwethaf yn ceisio ei wneud, ac ar yr amod ein bod ni i gyd yn gwneud y pethau iawn yn y cyfnod y tu hwnt i'r cyfnod atal byr, yna mae gennym ni lwybr yng Nghymru hyd at y Nadolig na fydd yn galw am orfodi cyfnod arall o'r math hwn ar bobl yng Nghymru.

Y tu hwnt i'r flwyddyn galendr hon, nid oes yr un ohonom ni mewn sefyllfa i syllu i mewn i'r bêl grisial honno. Bydd llawer o bethau yn newid rhwng nawr a'r adeg honno, gan gynnwys hynt y clefyd ei hun, ond hefyd posibiliadau eraill a ddaw i'n rhan wrth ymdrin â'r clefyd. Yn ddiweddarach yr wythnos hon, bydd fy nghyd-Aelod Vaughan Gething yn cyhoeddi datganiad ar ddatblygiadau newydd mewn profi, sy'n cael eu harwain mewn sawl ffordd yma yng Nghymru. Ac os bydd y posibiliadau hynny yn dwyn ffrwyth ac y bydd y profion hynny yn dod ar gael—profion y gall pobl eu defnyddio eu hunain, gyda chanlyniadau cyflym yn cael eu rhoi iddyn nhw heb orfod mynd i ganolfan na'u hanfon i ffwrdd i gael canlyniadau—yna bydd hynny yn rhoi cyfres wahanol o gamau gweithredu y gallem ni eu cymryd i fynd i'r afael â'r clefyd yn y flwyddyn newydd. Nid oes neb doeth mewn sefyllfa i ddweud y dylid ystyried unrhyw gamau gweithredu neu y dylid eu diystyru, ond mae gennym ni lwybr hyd at ddiwedd y flwyddyn galendr, ar yr amod bod pob un ohonom ni yn gwneud y pethau yn ein bywydau ein hunain sy'n amddiffyn ein hunain ac eraill orau, ac mae angen cefnogaeth pob un Aelod etholedig yn y Senedd hon i wneud hynny.

13:55
Gweithwyr y GIG

4. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i weithwyr y GIG yn ystod y pandemig COVID-19 hwn? OQ55797

Llywydd, diolchaf i Jayne Bryant am y cwestiwn yna. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol â chyflogwyr ac undebau iechyd i sicrhau bod cymorth ar gael i'n staff iechyd a gofal cymdeithasol ymroddedig. Mae'r ymdrechion eithriadol y maen nhw'n eu gwneud ar ein rhan yn haeddu cefnogaeth pob un ohonom ni.

Diolch i chi am yr ateb yna, Prif Weinidog. Yn ystod y misoedd diwethaf, rydym ni wedi gweld staff rheng flaen y GIG yn sôn am realiti ymladd y pandemig hwn. Mae meddygon ymgynghorol uchel eu parch yn ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan, fel David Hepburn, Tim Rogerson ac Ami Jones, i gyd wedi mynegi eu profiadau a disgrifio'r pwysau y maen nhw a'u cydweithwyr yn ei wynebu o ddydd i ddydd. Mae'r staff wedi gweithio yn ddiflino drwy gydol y cyfnod. Yn gynnar yn y pandemig, roedden nhw yn aml yn cyflawni swyddogaethau newydd. Mae llawer yn treulio oriau lawer mewn haenau o gyfarpar diogelu personol. Maen nhw hefyd yn teimlo poen anwyliaid nad ydyn nhw'n cael ffarwelio â chleifion ar ddiwedd eu hoes. Ychydig iawn o gyfle y mae staff y GIG wedi ei gael i orffwys wrth i fwy o wasanaethau arferol ailddechrau. Maen nhw wedi bod yn arwrol drwy gydol y pandemig hwn, ond wrth i ni nesáu at y gaeaf, mae angen i bob un ohonom ni gofio nad ydyn nhw'n uwchddynol. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru wedi gallu ei roi ar waith i helpu'r rhai hynny sydd ar y rheng flaen i sicrhau ein bod ni yn gofalu am y rhai sy'n parhau i ofalu amdanom ni?

Wel, Llywydd, a gaf i ddiolch i Jayne Bryant am y cwestiwn atodol trawiadol iawn yna? A gaf i dalu teyrnged i'r clinigwyr y mae hi wedi sôn amdanyn nhw yn y cwestiwn atodol hwnnw, am y ffordd y maen nhw wedi siarad ar ran profiad rheng flaen cynifer o'u cydweithwyr? Ac a gaf i fanteisio ar y cyfle hwn i gondemnio'r gamdriniaeth yr wyf i'n gwybod y mae nifer o'r clinigwyr hynny wedi ei dioddef o ganlyniad i'r gwaith y maen nhw wedi ei wneud wrth gyfathrebu yn uniongyrchol â phobl yng Nghymru ynghylch sut brofiad yw bod yn glinigydd rheng flaen yn y GIG yn ystod cyfnod y coronafeirws? Mae'n frawychus ac yn gwbl annerbyniol y ffordd y mae rhai pobl wedi dewis cam-drin y bobl hynny sydd wedi esbonio yn syml i'r gweddill ohonom ni y profiad o ddarparu'r gwasanaethau yr ydym ni i gyd yn dibynnu arnyn nhw.

Rydym ni yn parhau, fel y dywedais, Llywydd, i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol â phawb sydd â budd yn ein GIG. Rwyf i'n credu ei bod yn rhyfeddol ein bod ni, yn gynharach yn y pandemig, wedi gallu darparu hyfforddiant sgiliau clinigol ychwanegol i 950 o unigolion er mwyn gallu eu dyrannu i helpu ei gilydd ac i atgyfnerthu'r rhai yn y rheng flaen wrth ymdrin â gwasanaethau gofal brys ac mewn argyfwng. Ac rwyf i'n falch iawn ein bod ni wedi gwneud penderfyniad cynnar i ddarparu £1 miliwn o gyllid ychwanegol i Brifysgol Caerdydd er mwyn iddyn nhw allu darparu'r gwasanaeth iechyd i weithwyr proffesiynol, a oedd wedi bod ar gael i feddygon yn unig yn y GIG cyn hynny, i sicrhau ei fod ar gael i weithlu cyfan y GIG. Mae'r effaith y mae'r pandemig hwn yn ei chael ar ein staff rheng flaen nid yn unig yn gorfforol, ac mae'n real iawn yn ei ystyr corfforol—cyfeiriodd Jayne Bryant at bobl yn gweithio'r sifftiau hir hynny mewn cyfarpar diogelu personol—ond mae'n emosiynol hefyd. Mae'r ymdeimlad o ymlâdd o fod ar y rheng flaen yn cael effaith ar iechyd meddwl a lles pobl, a dyna pam y gwnaethom ni ymestyn y gwasanaeth iechyd hwnnw i weithwyr proffesiynol i bawb sy'n gweithio yn y GIG yma yng Nghymru. 

14:00

Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Prif Weinidog, mae'r Ysbyty Athrofaol y Faenor newydd yng Nghwmbrân ar fin agor; rwy'n credu y bydd hynny yn ystod y mis hwn. Mae'n mynd i fod yn gyfleuster newydd gwych. Rwy'n gwybod bod llawer o Aelodau Cynulliad—Aelodau Senedd ydym ni erbyn hyn—wedi cael cyfle i edrych o gwmpas y cyfleuster hwnnw yn ystod cyfnod ei adeiladu. Ond mae hefyd yn hanfodol bwysig ei fod wedi ei staffio'n dda, yn enwedig wrth i ni fynd drwy ail don pandemig COVID-19. Mae Nevill Hall ac Ysbyty Brenhinol Gwent, wrth gwrs, yn ymdrin hefyd ar y rheng flaen â COVID-19 ac achosion o hynny, felly a allwch chi ddweud wrthym ni pa gamau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod gan y cyfleuster newydd gwych hwn yng Nghwmbrân, sy'n gwasanaethu sir Fynwy, Torfaen a'r de-ddwyrain, nid yn unig yr adeilad a'r cyfleusterau sydd eu hangen arno, ond hefyd staff sydd wedi eu hyfforddi'n dda ac sy'n gallu ymateb i'r heriau a'r straen enfawr sydd wedi eu gosod arnyn nhw ar hyn o bryd, fel yr ydym ni newydd ei glywed gan Jayne Bryant?

Diolch i Nick Ramsay am y cwestiwn yna ac am ei ddiddordeb parhaus yn natblygiad Ysbyty Athrofaol y Faenor, a oedd, ac rwy'n gwybod y bydd yn cofio hyn, yn ffrwyth gwaith Dyfodol Clinigol dan arweiniad staff yn ardal Gwent. Wrth gwrs, nid yn unig yr ydym ni angen y cyfleusterau gwych y bydd yn eu darparu, ond byddwn hefyd angen yr unigolion ymroddedig, medrus yr ydym ni'n dibynnu arnyn nhw  i wneud y mwyaf o'r cyfleusterau hynny.

Rwy'n gwybod y bydd Nick Ramsay yn cydnabod y ffaith, Llywydd, bod gweithlu cyffredinol y GIG wedi cynyddu gan 4.8 y cant yng Nghymru rhwng mis Ionawr a mis Mehefin eleni—4,000 o staff cyfwerth ag amser llawn ychwanegol. Y ffigur cymharol ar gyfer yr un cyfnod yn y flwyddyn flaenorol oedd cynnydd o 0.5 y cant yn nifer y staff, ac rwy'n credu bod hynny'n dangos graddau'r llwyddiant a gawsom wrth ddenu pobl i reng flaen y GIG yng Nghymru yn ystod argyfwng y pandemig. Yr adegau arferol ar gyfer recriwtio staff yw mis Hydref a mis Medi, wrth i fyfyrwyr ddod oddi ar gyrsiau ac yn y blaen, ond rydym ni wedi llwyddo, yn ystod cyfnod tawelach y flwyddyn fel arfer, i gyflawni cynnydd o dros 4,000 i staff yng Nghymru. Bydd hynny yn sicr yn cael effaith ar ein gallu i ddarparu staff yn Ysbyty Athrofaol y Faenor.

Llywydd, mae'r Llywodraeth hon wedi buddsoddi nid yn unig yn y staff sydd eu hangen arnom yn awr, ond yn y staff y bydd eu hangen arnom ni yn y dyfodol. Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, bu cynnydd o 89 y cant yn nifer y lleoedd hyfforddi i nyrsys, cynnydd o 57 y cant mewn lleoedd hyfforddi radiograffeg a chynnydd o 71 y cant mewn hyfforddiant bydwreigiaeth a ffisiotherapi. Bydd hynny yn caniatáu i ni fynd ati i dyfu gweithlu'r GIG yma yng Nghymru er mwyn i gyfleusterau newydd gwych fel ysbyty'r Faenor gael eu staffio yn briodol, ond hefyd y bydd gennym ni'r staff sydd eu hangen arnom ni ym mhob rhan o'r GIG ledled Cymru. 

Cwestiwn 5, Neil Hamilton. 

Mae angen i chi ddad-fudo eich hun, Neil Hamilton. Dyna chi.

Cysylltiadau Rhynglywodraethol

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am effaith cysylltiadau rhynglywodraethol ar bolisi cyhoeddus yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ55799

Llywydd, fe wnes i ddatganiad ac fe gyhoeddais adroddiad blynyddol cyntaf Llywodraeth Cymru ar gysylltiadau rhynglywodraethol yr wythnos diwethaf. Rydym ni'n parhau i weithio gyda'r Llywodraethau eraill yn y Deyrnas Unedig i sicrhau bod ein strategaethau a'n polisïau yn cyflawni ar gyfer pobl Canolbarth a Gorllewin Cymru a'r wlad yn ei chyfanrwydd.

Diolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Roedd Llywodraeth Cymru yn iawn i brotestio i Lywodraeth y DU bod gwersyll byddin segur mewn pentref bach fel Penalun yn sir Benfro yn lle anaddas i adael 140 o fewnfudwyr anghyfreithlon o lannau Caint, ond ymddengys bod protestiadau Llywodraeth Cymru wedi eu hanwybyddu. Onid yw'n fwy tebygol y bydd Llywodraeth Cymru yn cael gwrandawiad os bydd yn gweithio i feithrin cysylltiadau da â Llywodraeth y DU yn hytrach na bod yn wrthdrawiadol ac yn rhwystrol, fel y gwnaeth ynglŷn â Brexit, ac onid yw Llywodraeth Cymru hefyd wedi dwysáu'r broblem hon drwy ei pholisi ymddangosol rinweddol bod Cymru yn genedl noddfa i geiswyr lloches anghyfreithlon? Mae'n ymddangos bod Llywodraeth y DU wedi cymryd geiriau Llywodraeth Cymru o ddifrif ym Mhenalun. Onid yw'n wir bod y ddwy Lywodraeth, oherwydd eu perthynas wael â'i gilydd, wedi gwneud cam â phobl sir Benfro?

14:05

Llywydd, rwyf i'n gwrthod yn llwyr y geiriau ymfflamychol bwriadol y mae'r Aelod yn eu defnyddio. Nid mewnfudwyr anghyfreithlon sydd wedi eu gadael yw'r rhain; maen nhw'n fodau dynol sydd â hawl i fywyd llawn gymaint ag sydd ganddo fe, neu sydd gan unrhyw un ohonom ni yn y Senedd hon hefyd. Mae'n gwbl annerbyniol i mi ei fod yn ceisio pardduo pobl sydd, heb fod o'u dewis eu hunain, yn cael eu symud i lety hynod anaddas. Trwy'r cyfan, mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio dylanwadu ar benderfyniad sydd yn nwylo Llywodraeth y DU yn gyfan gwbl—i ddylanwadu arni i beidio â defnyddio'r lleoliad hwnnw, ac os ydyw am gael ei ddefnyddio, bod y gwasanaethau ar gael i sicrhau y gellir gofalu'n briodol am yr unigolion sy'n cael eu cartrefu yno, a bod pryderon dilys y gymuned leol yn cael sylw priodol. Ffordd gwbl ansensitif y Swyddfa Gartref o ymdrin â'r sefyllfa sydd wrth wraidd yr anawsterau sy'n cael eu hamlygu, a dyna ble mae'r cyfrifoldeb yn dechrau ac yn gorffen. Bydd y Llywodraeth hon yn siarad dros bobl sy'n canfod eu hunain yn y sefyllfa honno, oherwydd ein bod ni yn genedl noddfa. Byddwn yn parhau i fod yn genedl noddfa, ac mae hynny'n ymestyn nid yn unig i bobl yr ydym yn digwydd eu hoffi, ond i bobl pwy bynnag yr ydyn nhw ac o ble bynnag y maen nhw'n dod, a dyna'r gwahaniaeth rhwng athroniaeth fy mhlaid i a'r ffordd galon-galed honno o weld y byd y mae'r Aelod yn ei fynegi yn barhaus ger ein bron pa bryd bynnag y caiff y cyfle.

Prif Weinidog, rwy'n credu, mewn gwirionedd, na fyddaf yn gofyn y cwestiwn yr oeddwn i'n mynd i'w ofyn, ond rwyf i'n credu bod angen i mi fynd ar drywydd y sylwadau a wnaed gan yr Aelod blaenorol. Rydym ni i gyd yn cydnabod ein bod ni mewn byd anodd iawn. Rydym ni i gyd yn deall bod llawer o bobl yn dianc i'n glannau am bob math o resymau, boed hynny oherwydd eu bod yn eithriadol o dlawd, neu fod eu bywydau mewn perygl. Rwyf i'n teimlo cydymdeimlad mawr â Llywodraeth y DU gan fod yn rhaid iddi ddod o hyd i gartrefi i'r bobl hyn, lleoedd iddyn nhw aros. Maen nhw'n brin ac mae'n rhaid i ni gamu i'r adwy. Hoffwn i fanteisio ar y cyfle hwn, Prif Weinidog, i ddiolch i bobl sir Benfro sydd wedi bod mor garedig ac mor groesawgar i'r ceiswyr lloches sydd wedi eu rhoi yng ngwersyll Mhenalun. Hoffwn ddiolch i'r sefydliadau lleol sydd wedi camu ymlaen i geisio helpu lle bynnag y gallan nhw wneud hynny. Byddwn i'n annog Llywodraeth y DU i geisio dod o hyd i lety gwell cyn gynted â phosibl, gan gydnabod bod gennym ni nifer digynsail o geiswyr lloches yn chwilio am noddfa yn y DU. A hoffwn i wrthod yn llwyr bob awgrym ac unrhyw awgrym bod y rhain yn bobl y dylid eu gadael, y dylid eu gwthio i'r cyrion ac y dylid eu trin yn wael. Nid eu bai nhw yw eu bod yn y sefyllfa y maen nhw ynddi, ac rwy'n credu bod pobl sir Benfro wedi profi eu bod yn eithriadol o groesawgar. Hoffwn i ofyn yn olaf i bobl nad ydyn nhw'n byw yn sir Benfro sy'n mynnu gorymdeithio a phrotestio y tu allan i wersyll Penalun ymatal rhag gwneud hynny.

Llywydd, a gaf i ddiolch yn fawr iawn i Angela Burns am y cyfraniad yna ac am bopeth yr wyf i'n gwybod y mae hi wedi ei wneud yn lleol i geisio sicrhau bod pobl—? Fel y dywedais i, mae angen mynd i'r afael â phryderon dilys y bobl sy'n byw yn lleol, ond mae angen mynd i'r afael â nhw yn yr union ysbryd y mae Angela Burns, fel yr Aelod lleol, newydd ei arddangos y prynhawn yma. Rwyf i'n cytuno yn llwyr â hi; mae sefydliadau ac unigolion gwych yn sir Benfro sy'n dymuno estyn allan, sy'n dymuno sicrhau bod gan bobl sy'n canfod eu hunain—nid drwy unrhyw benderfyniad a wnaethant eu hunain—yn y gymuned honno ymdeimlad o garedigrwydd ac o groeso. A'r union fath o gwestiwn a gawsom gan Neil Hamilton yw'r hyn sy'n arwain at bobl yn dod o fannau eraill, oherwydd ei fod wedi ei gynllunio yn fwriadol i gam-fanteisio ar ofnau pobl. Y mae wedi ei gynllunio yn fwriadol i ddenu pobl o fannau eraill i wneud bywydau'r bobl yn y gwersyll ac yn y gymuned leol yn fwy anodd nag y bydden nhw fel arall. Rwyf i'n cysylltu fy hun yn llwyr â'r hyn a ddywedodd Angela Burns am wrthod popeth y mae'r bobl hynny yn ceisio ei wneud yn y modd cryfaf bosibl.

14:10
Prydau Ysgol am Ddim

6. Faint o arian y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddarparu ar gyfer prydau ysgol am ddim y tu allan i'r tymor ar draws Canolbarth a Gorllewin Cymru? OQ55790

Ers mis Mawrth, mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cyllid ychwanegol o dros £52 miliwn i'r holl awdurdodau lleol yng Nghymru, er mwyn parhau â'r ddarpariaeth prydau ysgol am ddim yn ystod y pandemig. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth ar gyfer gwyliau ysgol hyd at a chan gynnwys Pasg 2021.

Diolchaf i chi am hynna. Gyda chymaint o ansicrwydd yn bodoli, o leiaf mae'r teuluoedd hynny yn gwybod bellach y bydd y ddarpariaeth gwyliau yn parhau, fel yr ydych chi wedi ei ddweud, dros gyfnod y Nadolig, a hyd at fis Ebrill nesaf. Nawr, nid oes diolch am hynny, wrth gwrs, i'r ASau Ceidwadol yn fy rhanbarth i, gan gynnwys Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Simon Hart, a bleidleisiodd yn erbyn rhoi'r un sicrwydd i deuluoedd yn Lloegr. Nid yw ychwaith yn cyd-fynd â barn Philip Davies, AS Torïaidd, sy'n credu mai rhinwedd ymddangosiadol yn unig yw hyn ac mai cyfrifoldeb rhieni, nid y wladwriaeth, yw bwydo plant llwglyd. Ond, rwyf i yn pryderu o hyd, serch hynny, y gallai mwy o deuluoedd nad oes ganddyn nhw hawl i arian cyhoeddus ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd y gaeaf hwn. Rwy'n gwybod bod gan awdurdodau lleol ddisgresiwn i ddarparu prydau ysgol am ddim i unrhyw ddisgybl y maen nhw'n gwybod ei fod mewn angen, ond rwyf i'n gofyn i chi, Prif Weinidog, a wnewch chi annog awdurdodau lleol yng Nghymru, cyn gwyliau'r Nadolig, i sicrhau bod yr anghenion yn eu hardal yn cael eu diwallu, ac nad oes unrhyw blentyn yn mynd heb fwyd. Ac unwaith eto, diolch am y ddarpariaeth fwyaf hael ar gyfer prydau ysgol am ddim o'i gymharu ag unrhyw ran o'r DU.

Diolch yn fawr iawn i Joyce Watson am hynna. Bydd ASau Ceidwadol Cymru yn atebol am wrthod cymorth i blant sy'n mynd yn llwglyd mewn rhan o'r Deyrnas Unedig nad ydyn nhw'n ei chynrychioli. Yma yng Nghymru, diolch byth, caiff plant eu hamddiffyn rhag camau gweithredu'r ASau Ceidwadol hynny, oherwydd, fel y dywedodd Joyce Watson, ni oedd y Llywodraeth gyntaf yn y Deyrnas Unedig i warantu y byddai plant yn parhau i gael prydau ysgol am ddim ac rydym yn darparu'r lefel fwyaf hael o gymorth i awdurdodau lleol fynd ati i wneud hynny. Yn ysbryd cwestiwn diwethaf Angela Burns, gadewch i mi ddweud hefyd, Llywydd, fy mod i'n awyddus i dalu teyrnged i'r holl fusnesau hynny a sefydliadau eraill yng Nghymru sydd wedi mynd y tu hwnt i'r hyn y gallwn ni ei ddarparu drwy'r gwasanaeth prydau ysgol am ddim, i sicrhau bod plant sydd ag anghenion eraill yn eu bywydau yn cael cymorth. Bydd llawer ohonom ni wedi gweld yr enghraifft yn etholaeth fy nghyd-Aelod Alun Davies o grŵp gwych o bobl sydd wedi bod yn helpu cannoedd ar gannoedd o deuluoedd yn ychwanegol at yr hyn y gall ysgolion eu hunain ei roi ar waith. Rwyf i'n credu bod hynny yn dweud wrthym ni fod ysbryd greddfol pobl yng Nghymru yn lle cwbl wahanol i'r ffordd y mae'r Blaid Geidwadol wedi ymdrin â'r mater sylfaenol hwn. Yn ôl pob tebyg, roeddem ni'n gallu fforddio cymhorthdal i bobl fwyta allan i helpu allan, ond nid yw'n bosibl darparu ar gyfer plant sy'n mynd heb fwyd yn ystod gwyliau'r ysgol. Mae hynny'n dweud wrthych chi y cyfan y mae angen i chi ei wybod. Rwy'n hynod ddiolchgar i'n hawdurdodau lleol am y ffordd y maen nhw'n gwneud hyn, ac rydym ni wir yn siarad â nhw, fel y dywedodd Joyce Watson, am y disgresiwn ychwanegol sydd ganddyn nhw. Rwy'n gwybod bod ein hawdurdodau lleol yn aml yn cymhwyso'r disgresiwn hwnnw i sicrhau bod plant sydd ar ymylon y rheolau yn cael cymorth, ac i ddefnyddio hynny i sicrhau nad oes unrhyw blentyn yn dioddef o ran ei addysg dim ond oherwydd nad oes ganddo fwyd yn ei stumog.

Prif Weinidog, rydych chi wedi sôn am yr angen i gefnogi'r rhai hynny ar incwm is. Mae 42 diwrnod wedi mynd heibio erbyn hyn ers i'ch Llywodraeth gyhoeddi y byddai'n cyflwyno taliadau o £500 yr wythnos i'r rhai hynny ar incwm isel y gofynnir iddyn nhw hunanynysu, ond nid yw'r taliadau wedi dod i law eto. Nawr, mae pobl yn Lloegr a'r Alban wedi bod â hawl i daliadau o £500 ers 28 Medi, gyda grantiau yn cael eu talu o 12 Hydref. Yn gynharach heddiw, gofynnodd Paul Davies i chi, yn ei gwestiynau ef, pryd y bydd pobl yng Nghymru yn cael y grantiau hunanynysu gwerth £500. Ni wnaethoch chi ateb ei gwestiwn, felly a wnewch chi ddweud wrthym ni yn awr pryd y bydd y gwneir y taliadau hyn?

14:15

Llywydd, mae'r taliadau hyn ar gael yng Nghymru a byddan nhw'n cael eu hôl-ddyddio yng Nghymru hefyd; mae hynny i gyd eisoes wedi ei gyhoeddi. Mater i Aelodau Ceidwadol yw cadw llygad ar y diweddaraf o ran polisi yng Nghymru, nid defnyddio cwestiynau'r Prif Weinidog fel rhyw fath o wasanaeth ymchwil personol.

Os caf i ddychwelyd, Prif Weinidog, at brydau ysgol am ddim, hoffwn i gysylltu fy hun â llawer o'r hyn a ddywedodd Joyce Watson am ba mor gadarnhaol yw hi ein bod ni'n parhau i'w darparu, yn enwedig yn ystod gwyliau ysgol. Bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol o adroddiad Sefydliad Joseph Rowntree a gyhoeddwyd ddoe, yn galw am system fudd-daliadau yng Nghymru. Un o'r problemau sydd gennym ni o hyd o ran prydau ysgol am ddim yw bod oddeutu 20 y cant o'r teuluoedd hynny sydd â hawl iddyn nhw yn dal i beidio â manteisio arnyn nhw.

Nawr, dywedwyd wrthyf i y gallai fod problem, yn enwedig mewn rhai cymunedau llai—er enghraifft, cymunedau pentrefi yn y Gwendraeth, lleoedd fel Pontyberem, Pont-iets a'r Tymbl—lle mae pobl yn dal i deimlo rhywfaint o stigma wrth wneud cais am y cymorth hwn. A gaf i wahodd y Prif Weinidog heddiw i ailbwysleisio nad elusen yw hyn mewn unrhyw ystyr? Mae hwn yn hawliad yr ydym ni i gyd yn awyddus i bob un teulu sydd â hawl iddo ei ddefnyddio. Beth arall y gall Llywodraeth Cymru ei wneud, trwy weithio gyda chymunedau a gydag awdurdodau lleol, i sicrhau bod pob un plentyn sydd â hawl i gael cymorth fel nad yw'n llwglyd yma yn ein gwlad ni yn cael y cymorth hwnnw?

Rwyf i'n cytuno'n llwyr â Helen Mary Jones: wrth gwrs, mae hwn yn gymorth y mae gan blant hawl i'w gael. Does bosib nad yw'r hen ddyddiau pryd y tynnwyd sylw at blant pe bydden nhw'n cael pryd ysgol am ddim wedi hen fynd heibio yma yng Nghymru, er y gall cynffon hir stigma gymryd amser hir i ddiflannu. Ond mae gennym ni gyfres gyfan o ffyrdd newydd y mae ysgolion yn eu defnyddio i sicrhau na wahaniaethir rhwng plant sydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim â phlant eraill, ac na thynnir sylw atyn nhw, a gwn fod ymdrechion enfawr yn cael eu gwneud.

Mae rhai awdurdodau lleol yng Nghymru yn llwyddo yn fwy nag eraill i sicrhau bod yr hawl i gael prydau ysgol am ddim yn awtomatig—ei fod yn gysylltiedig â budd-daliadau eraill y mae'r awdurdod lleol yn gwybod eisoes y mae'r teulu yn eu cael. Po fwyaf y gallwn ni wneud prydau ysgol am ddim yn fater, nid o deuluoedd yn gorfod gwneud cais amdano, ond ei fod yn digwydd trwy'r systemau eraill sydd gan awdurdodau lleol ar gael iddyn nhw, y mwyaf o bobl a fydd yn manteisio arnyn nhw. Mae uchelgais Llywodraeth Cymru yn union fel y nododd Helen Mary Jones: y dylai pob plentyn sydd â hawl i gael y budd-dal hwn fod mewn sefyllfa i fanteisio arno.

Rydym ni wedi bod yn gweithio gydag awdurdodau lleol—fel y dywedais i, mae rhai ohonyn nhw eisoes yn bellach ar hyd y llwybr hwn nag eraill—i ddod o hyd i ffyrdd, yn ogystal â phrydau ysgol am ddim, o sicrhau bod ystod gyfan o gymorth arall y mae gan deuluoedd hawl iddo yn eu cyrraedd o ganlyniad i bethau y mae'r awdurdod lleol eisoes yn ei wybod amdanyn nhw oherwydd gwybodaeth y maen nhw wedi ei darparu, yn hytrach na'i gwneud yn ofynnol i bobl wneud ceisiadau mynych am gymorth a ddylai fod ar gael yn ddidrafferth iddyn nhw.

Y Sector Treftadaeth

7. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi sector treftadaeth Cymru cyn yr etholiad seneddol nesaf? OQ55800

Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i helpu i liniaru effeithiau'r pandemig ar y sector treftadaeth trwy ddarparu pecynnau cymorth ariannol, canllawiau a chyngor. Bydd y cymorth hwnnw yn parhau drwy weddill y tymor Senedd hwn, gan gynnwys pwyslais ar adferiad yn y tymor hwy.

Diolch, Prif Weinidog. Mae'n amlwg bod pandemig COVID wedi taro'r sector treftadaeth yn galed. Mae Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru ill dau yn sefydliadau sydd wedi gweld gostyngiad sylweddol mewn refeniw oherwydd diffyg ymwelwyr, neu ddim ymwelwyr, ond mae hyn ar ben gostyngiadau sylweddol mewn cyllid cymorth grant cyn dechrau'r pandemig. Mae'r amgueddfa genedlaethol a'r llyfrgell genedlaethol yn rhannau hanfodol o dreftadaeth a diwylliant Cymru, ac mae angen eu cefnogi mewn modd digonol. Pa gynlluniau sydd gennych chi i roi sylfaen fwy cynaliadwy i'r ddau sefydliad, ynghyd â threfniadau cyllid hirdymor, i sicrhau y gallan nhw barhau i wasanaethu a bod o fudd i genedlaethau'r dyfodol yng Nghymru?

Llywydd, rwy'n diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae'n dod gyda'r amnesia dethol arferol gan y Blaid Geidwadol, oherwydd bod y rheswm dros y gostyngiadau mewn cymorth i'r sefydliadau hynny yng Nghymru yn ganlyniad degawd o gyni a orfodwyd ar bobl yng Nghymru gan ei phlaid hi, gyda gostyngiadau bob blwyddyn i'r cyllid sydd ar gael i Lywodraeth Cymru at yr holl ddibenion yr ydym ni'n eu darparu. Felly, y ffordd orau y gallwn ni sicrhau bod digon o gyllid, ar gyfer ein sefydliadau treftadaeth ac ar gyfer gweddill ein gwasanaethau cyhoeddus, yw sicrhau na chaiff y polisi hwnnw ei ailgyflwyno pan fydd cyfnod y pandemig ar ben. Bydd unrhyw beth y gall yr Aelod ei wneud i ddwyn perswâd ar ei chydweithwyr yn Llundain o fanteision y camau gweithredu y mae hi'n eu hargymell yn rymus iawn gyda nhw rwy'n siŵr.

14:20

Prif Weinidog, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi lansio'r gronfa adferiad diwylliannol gwerth £53 miliwn a'r ffrwd cyllid â blaenoriaeth gwerth £18 miliwn. Ers mis Medi mae sefydliadau diwylliannol a threftadaeth wedi gallu gwneud cais am gyllid wrth i ni ddechrau'r adferiad hir ac araf o argyfwng iechyd cyhoeddus mwyaf y ganrif ddiwethaf, ac nid oes unrhyw sector o'n cymdeithas nad yw wedi dioddef effaith y pandemig hwn. Yn wir, y dirwedd ddiwylliannol yw gwead sylfaenol bywyd Cymru. Felly, Prif Weinidog, sut y bydd Llywodraeth Cymru yn asesu'r angen, wrth symud ymlaen i 2021, i gynorthwyo sefydliadau diwylliannol a threftadaeth Cymru fel na fyddan nhw'n cael eu colli i genedlaethau'r dyfodol?

Llywydd, diolchaf i Rhianon Passmore am hynny. Mae elfen treftadaeth y gronfa adferiad diwylliannol—bydd Aelodau yn gwybod bod pedair elfen i'r gronfa gwerth £53 miliwn—denodd y maes treftadaeth dros 120 o geisiadau, a hyd yn hyn mae dros £380,000 wedi ei gynnig mewn grantiau a'i dderbyn gan sefydliadau yn y sector. Rydym yn parhau i asesu, arfarnu a—lle bynnag y bo'n bosibl—cymeradwyo ceisiadau i'r gronfa. Mae'n rhaid i hynny gael ei wneud drwy broses banel. Mae rhai ceisiadau sylweddol gan sefydliadau mawr fel yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Nghymru sy'n dal i fynd drwy'r broses honno, felly rwy'n falch iawn o roi sicrwydd i Rhianon Passmore nad yw'r £380,000 sydd wedi ei gytuno eisoes yn ddiwedd y stori, bod y paneli hynny yn parhau i gyfarfod, ac y bydd grantiau a dyfarniadau ychwanegol yn cael eu rhoi i'r sector treftadaeth yma yng Nghymru o'r gronfa gwerth £53 miliwn honno.

COVID-19 mewn Ysbytai

8. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i atal COVID-19 rhag lledaenu mewn ysbytai yng Nghymru? OQ55809

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn yna. Rydym ni'n gweithio yn agos gyda byrddau iechyd i'w cefnogi i reoli lledaeniad y coronafeirws mewn ysbytai. Caiff pob achos ei adolygu a chaiff gwersi eu rhannu rhwng byrddau iechyd wrth iddyn nhw ddod i'r amlwg.

Diolch, Prif Weinidog. Mae'r ffaith fod COVID-19 wedi cael ei adael i ledaenu yn ein hysbytai yn arwydd o fethiant clir ym mholisi'r Llywodraeth ac o esgeuluso dyletswydd Llywodraeth Cymru i amddiffyn ein pobl fwyaf agored i niwed. Prif Weinidog, pam nad oes ffin glir rhwng cleifion sydd â COVID a chleifion nad oes ganddyn nhw COVID? Pam ydym ni'n profi ychydig dros hanner yr holl dderbyniadau i'r ysbyty? A, Prif Weinidog, siawns eich bod yn cytuno â mi mai'r ffordd orau o ddiogelu ein GIG yw profi pawb a neilltuo ysbytai penodol ar gyfer trin y rhai sydd wedi eu heintio â COVID-19? Diolch.

Wel, Llywydd, mae'n rhaid i mi anghytuno â'r hyn a oedd yn gyflwyniad hurt i'r hyn a oedd yn gwestiwn synhwyrol ar ei ddiwedd. Roedd y pwynt synhwyrol y llwyddodd yr Aelod i'w wneud yn ymwneud â'r ffordd y mae safleoedd y GIG yng Nghymru yn creu cyfleusterau ar wahân i bobl sy'n dioddef o'r coronafeirws er mwyn gallu diogelu cyfleusterau ar gyfer y bobl hynny y mae angen iddyn nhw ddefnyddio'r GIG am bob rheswm arall. Yn gynharach heddiw, Llywydd, cynhaliodd cyfarwyddwr cyffredinol a phrif weithredwr y GIG gynhadledd Llywodraeth Cymru i'r wasg ac ymdriniodd yn uniongyrchol â'r mater o ledaeniad y coronafeirws mewn ysbytai. Dywedodd ei fod, wrth gwrs:

yn gresynu at bob achos o Covid a gafwyd mewn ysbytai. Ond rwyf i eisiau bod yn glir,

Meddai Dr Goodall,

nid yw hyn mor syml â methiant gweithdrefnau golchi dwylo neu weithdrefnau rheoli heintiau gwael.

Aeth ymlaen i egluro'r ffyrdd y gall y coronafeirws barhau, er gwaethaf popeth y mae ein staff yn ei wneud i ddiogelu'r lleoliadau caeëdig hynny a'r bobl hynny sy'n gweithio ac sy'n cael eu trin ynddyn nhw—er gwaethaf yr holl ymdrechion hynny, nododd y ffyrdd y gall y feirws hynod heintus hwn barhau i fynd i mewn i'r lleoedd hynny, a pha mor anhygoel o anodd y gall hi fod i atal ei ledaeniad mewn amgylcheddau gofal iechyd prysur, yn enwedig pan ein bod yn gweld 100 o bobl sydd â'r coronafeirws yn cael eu derbyn i'n hysbytai bob dydd erbyn hyn. Ac rwyf i'n credu y byddai ychydig mwy o ddealltwriaeth, ar ran yr Aelod, o bopeth y mae'r staff rheng flaen hynny yn ei wneud i ymdrin â'r amgylchiadau gwirioneddol anodd hynny wedi bod yn ddefnyddiol, o ystyried y cwestiynau yr ydym ni wedi eu cael yn gynharach heddiw wrth nodi'r ymdrechion parhaus y mae'r bobl hynny yn eu gwneud i'n cadw ni i gyd yn ddiogel.

14:25

Mae pobl yn Lloegr sy'n agored i niwed yn glinigol ac nad ydyn nhw'n gallu gweithio gartref wedi cael cyngor gwarchod newydd, ac mae pobl dros 60 oed wedi cael cyngor i leihau cysylltiad ag eraill gymaint â phosibl. Yng Nghymru, y cyngor i'r grŵp sy'n agored i niwed yn glinigol, gan gynnwys pobl dros 60 oed, yw i barhau i weithio os na allwch chi weithio gartref. Mae eich cyngor yn dweud y dylai eich cyflogwr allu egluro wrthych chi y mesurau y maen nhw wedi eu rhoi ar waith i'ch cadw chi'n ddiogel yn y gwaith. Nawr, rwy'n siŵr y gallwch chi ddychmygu nad yw hyn yn dderbyniol i'r holl rai hynny sy'n wynebu dewis amhosibl. Fel y dywedodd un etholwr o'r Rhondda, mae'n fater o naill ai gwarchod a pheidio â chael cymorth ariannol, neu weithio ac wynebu cymhlethdodau hirdymor gyda'n hiechyd neu farwolaeth hyd yn oed. Nid oes modd gorbwysleisio'r pwysau iechyd meddwl sy'n dod gyda'r math hwn o ddewis. Mae angen i'r rhai sy'n agored i niwed yn glinigol gael eu diogelu yn well yn y gwaith ac mae hyn yn arbennig o wir os yw pobl yn gweithio mewn lleoliadau risg uchel fel ysbytai, ysgolion, carchardai a lleoliadau caeëdig eraill. Nawr, rwy'n deall bod manylion rheoliadau'r dyfodol yn dal i gael eu llunio, ond a wnewch chi roi ymrwymiad i ni heddiw y byddwch chi'n addo rhoi'r amddiffyniad hwn i bobl sydd mewn gwaith ac sy'n agored iawn i niwed yn glinigol?

Wel, Llywydd, fe ddylwn i ei gwneud yn glir i'r Aelodau nad fy nghyngor i oedd yr Aelod yn ei ddyfynnu; roedd hi'n dyfynnu cyngor Prif Swyddog Meddygol Cymru yn y llythyr y mae ef wedi ei anfon at bob un o'r 130,000 o bobl a oedd ar y rhestr warchod, ac mae'n rhoi'r cyngor clinigol gorau y gall ef ei roi iddyn nhw.

Gwn i y bydd Leanne Wood yn cydnabod effaith gwarchod ar iechyd meddwl hefyd. Dyma un o'r pethau a ddywedodd y boblogaeth sy'n gwarchod wrthym ni yn rymus iawn yn gynharach yn y flwyddyn yn ystod y cyfnod hir hwnnw pryd y gwnaethom ni ofyn iddyn nhw beidio â mynd i'r gwaith, peidio â mynd allan i siopa, peidio â gadael eu cartrefi ar gyfer ymarfer corff. Y neges yn ôl ganddyn nhw oedd bod hynny wedi cael effaith ddofn, mewn llawer o achosion, ar ymdeimlad pobl o iechyd meddwl a lles. Ac mae hynny i gyd wedi'i grynhoi yn y cyngor y mae'r prif swyddog meddygol yn ei roi i bobl, gan geisio cydbwyso'r gwahanol fathau o niwed a ddaw o ofyn i bobl fyw eu bywydau yn y ffordd gyfyngedig iawn honno.

Ond rwyf i yn cytuno â Leanne Wood ynglŷn â'r pwyntiau y mae hi'n eu gwneud o ran pobl sydd mewn gwaith pan eu bod nhw'n agored iawn i niwed. Rwy'n credu bod y llythyr yn ymdrin â hynny mewn ffordd fwy sensitif nag y mae hi wedi ei awgrymu efallai, ond rwyf i'n hapus iawn i ddweud wrthi bod hwnnw'n fater y byddwn ni'n ei adolygu yn barhaus, ac os oes modd rhoi gwell cyngor i bobl ac i gyflogwyr ynglŷn â'r ffordd y maen nhw'n ymateb i bobl sydd yn yr oedran hwnnw ac sy'n agored i niwed yn glinigol—y ffordd y cânt eu hamddiffyn yn y gweithle—yna wrth gwrs, rydym ni'n falch iawn o barhau i wneud hynny.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw—Rebecca Evans.

Diolch, Llywydd. Mae gennyf i newidiadau niferus i'w hadrodd o ran agenda heddiw. Wedi eu hychwanegu i agenda y prynhawn yma mae datganiadau ar fesurau diogelu iechyd y cyhoedd ar ôl y cyfnod atal byr, cymorth strategol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, dyfodol y rheilffyrdd—manylion y trefniadau newydd—a blwyddyn 4 y rhaglen dai arloesol—dulliau modern o adeiladu/modiwlar arbennig.

Mae'r datganiad ar y cynllun adfer economaidd, y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Ardrethi Annomestig (Toiledau Cyhoeddus) a'r memorandwm cydsyniad offeryn statudol ar y Rheoliadau Ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (Addasiadau Canlyniadol) (Ymadael â'r UE) 2020 a'r ddadl ar ail adroddiad blynyddol llywydd Tribiwnlysoedd Cymru wedi eu gohirio tan 17 Tachwedd. Mae'r ddadl ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2020 a'r datganiad llafar ar ddigartrefedd wedi eu tynnu'n ôl. Yn olaf, bydd y datganiad ar yr wybodaeth ddiweddaraf ynghylch datblygiadau ym mholisi masnach y DU yn cael ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig.

Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei nodi ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, y gellir eu gweld ymhlith y papurau cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

14:30

Diolch, Llywydd. A gaf i alw am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru os gwelwch yn dda, Gweinidog busnes? Mae'r cyntaf yn ymwneud ag adroddiad diweddar Cyfoeth Naturiol Cymru ar eu hymateb i lifogydd y llynedd. Byddwch chi'n gwybod bod yr adroddiad wedi nodi rhai diffygion sylweddol yn ymateb Cyfoeth Naturiol Cymru i'r llifogydd a gafodd eu hachosi gan stormydd Ciara, Dennis a George. A chafodd rhai o'r diffygion hynny effaith ar lawer yn fy etholaeth i, yn anffodus. Bydd llawer o bobl yn cofio bod cymuned yn Llanfair Talhaearn a ddioddefodd lifogydd ddwywaith yn yr un nifer o flynyddoedd ac, yn anffodus, nid oedden nhw wedi gweld gwelliannau sylweddol yn ei hamddiffynfeydd rhag llifogydd, er i hynny gael ei addo iddyn nhw yn 2012. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gael yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am yr amgylchedd o ran y camau y mae hi'n mynd i'w cymryd yn awr i sicrhau bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gallu camu i'r adwy ar ran y cymunedau hynny a deimlodd effaith y diffygion hynny fwyaf, ac, yn anffodus, a ddioddefodd golledion sylweddol a tharfu ar eu bywydau oherwydd y llifogydd a ddigwyddodd.

A gaf i hefyd alw am ddatganiad gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am drafnidiaeth mewn cysylltiad â beicio diogel? Bu nifer o ddigwyddiadau yn ystod y misoedd diwethaf yn fy etholaeth i fy hun, o unigolion yn cael eu taro gan feicwyr, weithiau wrth ddefnyddio beiciau trydan, ond yn aml beicwyr dan eu pŵer a'u cyflymder eu hunain, ar lwybr yr arfordir yn arbennig, ar y promenâd ym Mae Colwyn, ac yn wir, yma ym Mae Cinmel, yn y gymuned yr wyf i'n byw ynddi. Yn amlwg, nid yw'n dderbyniol i bobl fod yn mynd yn rhy gyflym mewn ardaloedd sy'n cael eu rhannu â cherddwyr, ac mae hwn yn fater y mae'n rhaid rhoi gwell sylw iddo, yn fy marn i, yn y dyfodol.

Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad ar y ddau beth hynny, er mwyn i ni allu osgoi anafiadau diangen yn y dyfodol i unigolion sydd wedi eu taro gan feicwyr? Diolch.

Diolch i Darren Millar am godi'r ddau fater hynny y prynhawn yma. Wrth i chi siarad, roeddwn i'n edrych trwy fusnes y Senedd yn y dyfodol, ac nid wyf i'n gweld unrhyw gyfleoedd amlwg i fynd i'r afael â'r materion hynny. Felly byddaf i'n gwneud yn siŵr fy mod i'n gwneud y cais am y ddau ddatganiad hynny—y cyntaf am ddifrod sylweddol y llifogydd ac adroddiad Cyfoeth Naturiol Cymru a ddilynodd hynny, a'r ail am feicio diogel—gyda'r Gweinidogion perthnasol ar eu cyfer i ystyried y ffordd orau o fynd i'r afael â'r pryderon hynny.FootnoteLink

A gaf i ddatganiad am y taliad ynysu newydd o £500? Rwy'n gwybod y cafodd y cwestiwn ei ofyn yn gynharach, ond fe wnaeth y Prif Weinidog ei ddiystyru. Rwyf i eisiau gwybod a fydd cyfran ohono yn cael ei hadfachu gan San Steffan ar ffurf treth, yswiriant gwladol a didyniadau at ddibenion credyd cynhwysol, yn union fel yn achos y bonws o £500 i ofalwyr. Mae angen i'r wybodaeth am y taliad hwn gael ei chyfleu yn well nag a gafodd yn sefyllfa'r bonws i ofalwyr, gan fod hynny wedi rhoi llawer o bobl mewn sefyllfa anodd iawn, lle maen nhw wedi gwario'r arian yr oedden nhw wedi ei gael o'r bonws, ac wedyn cael yr arian wedi ei dynnu oddi wrthyn nhw mewn credyd cynhwysol.

Hoffwn i wybod hefyd pam mai dim ond am wythnos i 23 Hydref y cafodd y taliad ynysu hwn ei ôl-ddyddio, er iddo gael ei gyhoeddi ym mis Medi, pan fo pobl yn Lloegr wedi gallu cael y taliad hwn ers diwedd mis Medi. Felly pam mae pobl ar eu colled yng Nghymru?

14:35

Diolch i Leanne Wood am godi materion y taliad o £500 i bobl y mae'n ofynnol iddyn nhw hunanynysu. Fel y bydd y cyd-Aelodau yn ymwybodol o'r datganiad a wnaeth y Prif Weinidog ychydig ddyddiau yn ôl ar y mater penodol hwn, mae rhai manylion terfynol yn cael eu cwblhau. A byddaf i'n sicrhau y bydd datganiad neu lythyr yn cael ei anfon at bob cyd-Aelod gyda'r wybodaeth ddiweddaraf, ar ôl i'r manylion terfynol hynny gael eu hegluro, er mwyn, cymaint ag unrhyw beth, i ni allu rhoi'r cyngor gorau i'n hetholwyr ar sut i fynd ati i gael y taliad hwnnw, pe bydden nhw'n gymwys i'w gael. Felly, byddaf i''n sicrhau bod y manylion hynny yn cael eu rhannu â chyd-Aelodau cyn gynted ag y byddan nhw wedi eu cwblhau.

Tybed a gaf i ofyn am un datganiad, Gweinidog. Hoffwn i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru i egluro cyfreithlondeb a moesoldeb cyflogwyr sy'n defnyddio dychweliad gweithwyr i'r gwaith ar ôl dyddiau i ffwrdd o'r gwaith oherwydd ynysu fel sbardun awtomatig ar gyfer camau disgyblu ar absenoldeb oherwydd salwch, a hefyd cyflogwyr sy'n gwrthod cydnabod galwad ffôn gan y gwasanaeth profi ac olrhain i unigolyn fel rheswm dilys dros ynysu oherwydd nad oes trywydd ysgrifenedig nac e-bost na neges destun i gadarnhau pan fydd galwad ffôn wedi ei gwneud. Hyd yn oed pan fydd neges destun yn cadarnhau bod y person wedi bod mewn cysylltiad â rhywun sydd wedi ei brofi ac y mae angen iddo ynysu, mae'r cyflogwr yn gwrthod derbyn hyn ac yn mynnu mwy o dystiolaeth, nad oes modd ei chael. A gallai datganiad, Gweinidog, hefyd egluro'r cosbau ariannol clir a chosbau eraill i gyflogwyr—y cyflogwyr prin, y cyflogwyr gwael prin—sy'n ceisio bwlio pobl yn ôl i'r gwaith pan ddylen nhw fod yn ynysu neu, yn wir, yn dangos symptomau. Felly, byddwn i'n croesawu datganiad ar hyn, er fy mod i'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud hyn yn glir o'r blaen.

Rwyf i'n cytuno â Huw Irranca-Davies fod y rhan fwyaf o'r staff—y rhan fwyaf o gyflogwyr—yn dymuno gofalu am eu staff yn wirioneddol. Ond mae nifer—nifer bach—o gyflogwyr nad ydyn nhw'n gwneud yr hyn y mae angen iddyn nhw ei wneud er mwyn cadw eu staff yn ddiogel, ac, o ganlyniad, gweddill y gymdeithas yn ddiogel. Felly, dyna pam mae Llywodraeth Cymru yn cryfhau'r rheoliadau coronafeirws drwy osod gofyniad cyfreithiol ar bobl i hunanynysu os bydd gwasanaeth profi, olrhain, diogelu GIG Cymru yn dweud wrthyn nhw am wneud hynny. Ond, ochr yn ochr â hynny, bydd dyletswydd ar gyflogwyr i sicrhau nad ydyn nhw'n atal cyflogai rhag dilyn cyngor profi, olrhain, diogelu GIG Cymru i hunanynysu, er enghraifft. Ac wrth gwrs, mae hyn yn cysylltu â'r mater y mae Leanne Wood newydd ei godi ynghylch y cymorth ariannol y gallwn ni ei gynnig i bobl sy'n gymwys er mwyn eu helpu i hunanynysu hefyd. Felly, mae'n becyn cymorth—y cymorth ariannol, ond, ochr yn ochr â hynny, y dyletswyddau pwysig ar unigolion a chyflogwyr.

Gweinidog busnes, ar gefn rhywbeth y mae fy arweinydd eisoes wedi ei grybwyll heddiw, ac ar sail y ffaith fy mod i wedi fy llethu gan negeseuon e-bost a galwadau ers dydd Iau diwethaf, rwyf i'n gofyn i chi, ac yn erfyn ar y Llywodraeth, i ddwyn ymlaen y datganiad yr oedden nhw i fod i'w wneud heddiw ar y cynllun adferiad economaidd. Mae'n gwbl hanfodol bod busnesau yn gwybod yr hyn maen nhw'n ei wneud yn ystod y pandemig hwn. Yn amlwg, maen nhw'n ei chael yn anodd ac maen nhw o dan straen enfawr ar hyn o bryd, ac mae llawer o fusnesau yn poeni y bydd yn rhaid iddyn nhw gau. Mae un busnes wedi cysylltu â mi—wel, busnesau niferus, ond mae un yn arbennig yn westy ym Mrynbuga. Ac fe wnaethon nhw dreulio wythnosau yn gwneud cais am gam 3 y gronfa cadernid economaidd, ac yna, o fewn 24 awr, cafodd ei chau, hyd yn oed ar ôl llawer iawn o waith arni, ac yna daeth cyngor newydd, y bu'n rhaid iddyn nhw lynu ato ac addasu eu ffurflenni ar ei gyfer, yr un pryd ac y cafodd ei hagor ddydd Mercher. Felly, yn amlwg, cymerodd hynny amser, ac yna, erbyn iddyn nhw orffen hynny, cafodd ei chau. Nid yw'n ddigon da, Gweinidog.

Rwy'n gwybod bod pot bach o arian, a dywedodd y Prif Weinidog heddiw ei fod yn aros i'r DU ddarparu mwy o arian. Ond mae gan y Llywodraeth filiynau o bunnoedd yn weddill i'w gwario. Mae'n amlwg bod angen yr arian hwn ar lawer o fusnesau, ac, o fewn y datganiad hwnnw, mae angen i'r Llywodraeth amlinellu sut y maen nhw'n mynd i roi mwy o arian yn y pot a'i ailagor, a phryd y byddan nhw'n ei ailagor. Nid yw'n ddigon da, Gweinidog busnes. Mae angen ei ddwyn ymlaen—17 Tachwedd, ni all busnesau aros mor hir â hynny. Nid yw Busnes Cymru yn ateb eu negeseuon e-bost, nid yw busnesau yn gwybod beth i'w wneud. Felly, rwyf i'n erfyn arnoch chi, Rebecca, i weld beth y gallwch ei wneud â hyn. Diolch.

14:40

Mae Llywodraeth Cymru wedi cael rhai trafodaethau gyda Llywodraeth y DU a'r Trysorlys yn ystod y dyddiau diwethaf, ac rwy'n gobeithio y byddaf i'n cael mwy o wybodaeth yn y dyddiau nesaf gan Brif Ysgrifennydd y Trysorlys o ran unrhyw symiau canlyniadol ychwanegol a allai fod yn dod i Lywodraeth Cymru o ganlyniad i'r newidiadau diweddar dros y ffin yn Lloegr. Ac, wrth gwrs, os gallwn ni ddweud mwy am hynny fe fyddwn ni, ac mae gennym ni ddatganiad y cynllun adferiad economaidd, sydd, yn anffodus, wedi gorfod cael ei ohirio, ond fe fydd hynny yn cael ei ddwyn ymlaen.

Dim ond fel pwynt o eglurder, nid oes gennym ni biliynau o bunnoedd nad ydym ni wedi eu dyrannu. Yn anffodus, mae'r gronfa wrth gefn yn llawer llai na hynny, ond, fel y dywedais i, rydym ni'n awyddus i barhau i gefnogi busnesau cystal ag y gallwn ni. Ac, wrth gwrs, mae'r Prif Weinidog wedi gwneud y pwynt bod gan fusnesau yng Nghymru gyfle i fanteisio ar y pecyn cymorth mwyaf hael. Nawr, rwy'n sylweddoli nad ydym ni wedi llwyddo i gynnwys pob busnes, ac nid ydym ni'n mynd i allu cefnogi pob busnes, ond rwy'n credu bod angen cydnabod ein bod ni wedi mynd y tu hwnt i'r hyn sydd ar gael mewn mannau eraill i geisio cefnogi cynifer o fusnesau ag y gallwn ni.

Hoffwn i ychwanegu fy llais i at rywfaint o'r hyn sydd wedi ei ddweud, oherwydd hoffwn i hefyd alw am ddatganiad ar frys gan Weinidog yr economi sy'n mynd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i berchnogion busnes am hyn, Trefnydd, a sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu darparu cymorth dros dro i'r cwmnïau hynny a oedd yn dibynnu ar gyllid cam 3 y gronfa cadernid economaidd. Nawr, rwy'n gwybod bod hyn yn rhywbeth sydd wedi ei godi sawl gwaith eisoes yn y Siambr rithwir heddiw, ond nid wyf i'n ymddiheuro am ychwanegu fy llais i at hyn, oherwydd yr oedd cynifer o gwmnïau a oedd wedi bod yn gweithio'n galed ar y broses gymhleth o wneud cais dim ond i gael gwybod bod yr arian wedi ei rewi o fewn llai na 48 awr i'r ceisiadau hynny agor.

Rwyf i wedi cael llawer o negeseuon e-bost dig a gofidus—rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau eraill wedi eu cael hefyd—gan bobl nad ydyn nhw wedi cael unrhyw gymorth hyd yn hyn gan gynlluniau'r Llywodraeth ac a oedd, fel y dywedais i, wedi gweithio mor galed ar y ceisiadau hyn ar gyfer grant datblygu busnes cam 3: roedden nhw'n mynd ar drywydd dyfynbrisiau, roedden nhw'n gweithio drwy'r holl waith papur cymhleth, roedden nhw'n ddiwyd iawn yn ei gylch. Nid wyf i'n credu ei bod yn mynd dros ben llestri i ddweud eu bod nhw wedi eu syfrdanu gan y newyddion bod y ceisiadau wedi cau mor gynnar. Dywedodd un perchennog busnes yn fy rhanbarth i wrthyf i hefyd fod cyngor Busnes Cymru wedi dweud yn gynharach y byddai'r ceisiadau yn aros ar agor tan 25 Tachwedd neu hyd nes bod yr holl arian wedi ei neilltuo. Ni fydd llawer o hawliadau dilys bellach yn cael eu hystyried yn ôl eu rhinweddau oherwydd terfyn uchaf mympwyol sydd wedi ei gyrraedd, ac nid yw'n ddigon da, ac rwyf i'n ychwanegu fy llais at hynny. Rwy'n gwybod beth—

Iawn, Llywydd. Rwy'n gwybod bod y Prif Weinidog wedi dweud yn gynharach fod angen eglurder arno ynghylch symiau canlyniadol Barnett ar hyn, ond byddwn i'n croesawu mwy o eglurder ynghylch yr hyn yr oedd yn ei olygu, gan ei fod yn ymddangos bod hon yn fformiwla ar gyfer arian sydd eisoes wedi ei ddarparu. Felly, hoffwn i gael y datganiad hwnnw, os gwelwch yn dda, ar frys gan y Gweinidog, gan fod y busnesau hyn yn haeddu gwell.

Wel, mae sawl cyd-Aelod wedi cyflwyno'r un achos erbyn hyn y prynhawn yma o ran cydnabod y lefel enfawr o angen sydd yn bodoli o ran y busnesau y mae angen cymorth arnyn nhw, ac rydym ni'n ymwybodol iawn o hynny ac yn awyddus i gefnogi cynifer o fusnesau ag y gallwn ni. Yn amlwg, bydd Gweinidog yr economi wedi clywed eich sylwadau chi, sylwadau Laura Anne Jones a'r sylwadau hynny a gafodd eu gwneud yn ystod cwestiynau'r Prif Weinidog hefyd, wrth iddo ystyried pa gymorth arall a allai fod ar gael i fusnesau ac, yn amlwg, cyn gynted ag y gall ef ddweud mwy, rwy'n gwybod y bydd yn dymuno gwneud hynny.

Trefnydd, hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynglŷn â'r sefyllfa barhaus yn fflatiau Henllys yn Abertawe. Yn dilyn y problemau llifogydd, bu'n rhaid rhoi rhai trigolion mewn llety dros dro ac mae'r rhai sydd wedi aros yn eu heiddo wedi cael gwybod na fydd y lifftiau yn weithredol am bythefnos neu fwy, ac mae hyn yn cael effaith ddifrifol ar lawer o drigolion anabl, yn enwedig y rhai hynny ar y pumed llawr, gan gynnwys trychedigion, yn ogystal ag effeithio'n andwyol ar eu hiechyd meddwl. Nid ydyn nhw'n gallu gadael eu heiddo heb gymorth, a bu'n rhaid i un preswylydd ddibynnu ar y gwasanaeth tân ac achub i gyrraedd y llawr gwaelod. Mae preswylwyr wedi dweud wrthyf i nad ydyn nhw'n gallu cael nwyddau o archfarchnadoedd wedi eu dosbarthu y tu hwnt i'r ail lawr. Mae Coastal Housing wedi dweud wrth drigolion anabl y gallan nhw ofyn i symud, ond, fel y dywedodd un fenyw wrthyf i, mae hi wedi bod ar y rhestr aros am hyn ers pum mlynedd, i symud o'r pumed llawr i'r llawr gwaelod. Trefnydd, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi fod hyn yn annerbyniol, ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog tai yn ymyrryd ac yn hysbysu'r Senedd hon o'r camau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau nad yw sefyllfaoedd fel hyn yn digwydd yn y dyfodol. Diolch yn fawr.

14:45

Diolch. Yn amlwg, mae'r sefyllfa yr ydych yn ei disgrifio yn un ofidus iawn i'r trigolion dan sylw. A gaf i awgrymu, fel y ffordd orau ymlaen yn y lle cyntaf, eich bod chi'n ysgrifennu at y Gweinidog tai er mwyn iddi hi allu ystyried yr achos yr ydych chi newydd ei wneud?

Rwy'n galw am ddatganiad brys gan Lywodraeth Cymru ynghylch cyfyngiadau COVID-19 ar ymweliadau â chartrefi gofal yng Nghymru. Fel yr ysgrifennodd un etholwr,

Dim ond ers mis Chwefror y mae ein mam ni wedi byw yn y cartref nyrsio. Daeth yr ymweliadau i ben yn llwyr yn ystod ton gyntaf y pandemig, ac fe wnaethon nhw ailddechrau gydag ymweliadau awyr agored ganol mis Awst. Fodd bynnag, daeth pob ymweliad i ben unwaith eto ar 1 Hydref. Mae'r cyfyngiadau ar ymweliadau ar hyn o bryd yn niweidiol i iechyd a lles Mam ac yn torri ei hawliau sifil. Rwy'n gobeithio y byddwch chi'n annog Llywodraeth Cymru i ddweud, pan fo modd i ymweliadau â phreswylwyr mewn cartrefi gofal ddigwydd yn ddiogel, y dylen nhw gael eu hadfer cyn gynted â phosibl.

Fel yr ysgrifennodd merch preswylydd cartref gofal arall,

Rwy'n erfyn arnoch chi i siarad ar ran fy mam hyfryd sydd ar gyfnod hwyr dementia ac mae ei hiechyd meddwl a'i hiechyd corfforol yn dirywio'n gyflym oherwydd nad yw'n gallu cael ei theulu o'i chwmpas. Mae llawer o bethau y byddai modd eu rhoi ar waith i ganiatáu i ymweliadau allu digwydd. Helpwch ni cyn ei bod hi'n rhy hwyr ac mae'r rhan fwyaf o'r hen bobl ddiymadferth hyn yn marw o unigrwydd a thor calon.

Rwyf i'n galw am ddatganiad brys yn unol â hynny.

Diolch i Mark Isherwood am godi'r materion hynny ar ran ei etholwyr, ac, yn amlwg, mae'n gyfnod eithriadol o anodd i'r rhai hynny ac eraill sydd ag anwyliaid mewn cartrefi gofal nad ydyn nhw'n gallu eu gweld fel y bydden nhw'n ei ddymuno. Rwyf i yn cofio bod y Prif Weinidog wedi ateb rhai cwestiynau eithaf manwl ynghylch hyn yn ddiweddar iawn i'r Senedd, a byddaf i'n siarad â fy nghyd-Aelod, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith diweddaraf sy'n mynd rhagddo i sicrhau ein bod ni yn y sefyllfa orau i gefnogi pobl sydd mewn cartrefi gofal, ond hefyd cydnabod nad yw'r anghenion yn ymwneud a diogelu pobl rhag COVID-19 yn unig, ond hefyd â hybu eu hiechyd meddwl a'u lles a sicrhau eu bod yn cadw'r cysylltiadau teuluol hynny yn fyw. Felly, byddaf i, fel y dywedais i, yn siarad â'r Dirprwy Weinidog gyda'r nod o archwilio'r ffordd orau o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i fy nghyd-Aelodau am hynny.

Rwy'n credu y byddem ni i gyd yn ddiolchgar o glywed yr wybodaeth ddiweddaraf yr ydych chi newydd ei haddo i Mark Isherwood, Trefnydd.

Tybed a gaf i ofyn am ddatganiad gan Weinidog yr economi, datganiad llafar os oes modd, ond byddai un ysgrifenedig yn iawn, rwy'n credu, i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y gwaith ar y pecyn gwerth £40 miliwn sydd wedi ei addo i bobl dros 16 oed y mae angen cymorth arnyn nhw i ddod o hyd i waith, hyfforddiant neu addysg, neu i fynd ar drywydd hunangyflogaeth. Mae gennym ni eisoes y gyfran uchaf ymysg gwledydd y DU o bobl ifanc nad ydyn nhw'n ymwneud â dim o hynny, ac, fel y gwnaethom ni i gyd glywed o'r blaen, mae diweithdra ymhlith pobl ifanc yn debygol o gynyddu yn fwy. Felly, gan y bu hi'n dri mis bellach ers i'r cyhoeddiad gael ei wneud, rwy'n credu y byddai'n ddefnyddiol, mewn gwirionedd, pe byddai'r Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Senedd am y sefyllfa o ran cadw a recriwtio 5,000 o brentisiaid, pa un a yw graddedigion yn cael profiad gwaith, a pha fath o gyflogwyr sy'n cyflwyno eu hunain i wneud cais am y cymhellion a gafodd eu mynegi yn y datganiad pan gafodd ei wneud. Ac, yn benodol, pe byddai modd dwyn datganiad o'r fath ymlaen, mae angen ei gwneud yn glir a yw'r arian yn cael ei ddyrannu ar sail y cyntaf i'r felin, fel yr ydym ni newydd fod yn siarad amdano yn y sesiwn hon ynghylch yr anawsterau gyda thrydedd rownd y gronfa cadernid economaidd. Yn sicr, nid ydym ni eisiau i hynny ddigwydd i'r pecyn hwn gwerth £40 miliwn. Diolch.

Diolch. Oedd, roedd y pecyn gwerth £40 miliwn hwnnw yn rhan bwysig iawn o'n hymateb i'r pandemig coronafeirws o ran yr argyfwng economaidd. Ac, yn ogystal â cheisio cefnogi pobl ifanc yn arbennig, yr ydym ni'n gwybod eu bod wedi teimlo'r effaith yn galed iawn, i gyflogaeth, mae hefyd yn ceisio cefnogi pobl sy'n aelodau o'r gymuned pobl dduon, Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig, pobl sydd eisoes ar gyflogau isel, er enghraifft, a phobl sydd â lefelau sgiliau isel, i sicrhau nad ydyn nhw'n colli cyfleoedd i gael gwaith ar hyn o bryd. Felly, unwaith eto, byddaf i'n sicrhau bod y Gweinidog, sy'n gwrando beth bynnag rwy'n siŵr, yn ymwybodol o'ch cais am y datganiad penodol hwnnw a'r math o fanylion y mae gennych chi ddiddordeb arbennig ynddyn nhw.

14:50

Diolch, Llywydd. Trefnydd, mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd hyd at 15 o bobl yn cael cymryd rhan mewn digwyddiadau sydd wedi eu trefnu dan do, yn gynnwys chwaraeon, o ddydd Llun nesaf ymlaen. Rwyf wedi cael nifer o negeseuon e-bost gan rieni sy'n pryderu y gallai hyn rwystro eu plant rhag defnyddio clybiau gymnasteg, gan na fydd modd i'r clybiau weithredu gyda nifer mor fach ac fe allen nhw fynd i'r wal yn y pen draw. Tybed a gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog chwaraeon am y cymorth sydd ar gael i glybiau gymnasteg ledled Cymru ar hyn o bryd, ac a oes modd caniatáu i'r clybiau hyn allu derbyn mwy o unigolion ar y tro i'w gwneud nhw'n hyfyw drwy gydol y cyfnod anodd hwn.

Diolch. Mae'r Gweinidog yma, rwy'n gweld, i glywed eich cais am fanylion am gymorth i glybiau gymnasteg yn benodol. Ond yn y cyfamser, fe wnaf innau sicrhau bod unrhyw gwestiynau ac atebion sy'n cael ei ddiweddaru ynglŷn â'r drefn wedi'r cyfnod atal byr yn cynnwys manylion am nifer y bobl sy'n cael cymryd rhan mewn digwyddiadau a drefnir dan do, a'r ffordd y caiff plant yn benodol eu cynnwys yn y rhif hwnnw, fel bod eglurder ar gyfer pob clwb a mudiad sy'n trefnu'r digwyddiadau hyn o dan do. Ond, wrth gwrs, mae gennym ddatganiad gan y Prif Weinidog yn syth ar ôl y datganiad busnes, a bydd hwnnw'n edrych ymlaen at y sefyllfa wedi'r cyfnod atal byr, ac felly gallai hynny fod yn gyfle inni gael clywed mwy.

3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Mesurau Diogelu Iechyd ar ôl y Cyfnod Atal Byr

Y datganiad yna sydd nesaf, sef y datganiad gan y Prif Weinidog ar fesurau diogelu iechyd ar ôl y cyfnod atal byr. Dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wneud ei ddatganiad. Prif Weinidog.

Diolch yn fawr, Llywydd. Carwn ddiolch i chi am y cyfle i gyflwyno adroddiad i’r Senedd ar y camau nesaf ar ôl y cyfnod clo byr presennol. Gallaf gadarnhau y bydd y cyfyngiadau presennol yn dod i ben ddydd Llun nesaf, 9 Tachwedd. Fel y gwyddom ni i gyd, rydym yn wynebu cyd-destun newydd yn sgil penderfyniadau Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar ddydd Sadwrn.

Llywydd, dydw i ddim am feirniadu penderfyniadau Llywodraeth arall yn y Deyrnas Unedig. Mae pob un ohonom yn gwneud ein gorau glas wrth ymateb i’r argyfwng presennol. Mae'n rhaid i ni ystyried effaith y feirws ar unigolion, ar y gwasanaeth iechyd ac ar yr economi, mae'n rhaid pwyso a mesur tystiolaeth sy’n newid yn ddyddiol, ac mae pob Llywodraeth yn y Deyrnas Unedig yn atebol i’r Senedd benodol rydym ni yn ei gwasanaethu.

Llywydd, fe ddylwn i roi'r penderfyniadau am y cyfnod y tu hwnt i'r cyfnod atal byr yng nghyd-destun y ffigurau diweddaraf sydd gennym ynglŷn â'r coronafeirws yng Nghymru. Maen nhw'n dangos mai nifer yr achosion o'r feirws am saith diwrnod yng Nghymru gyfan yw 259 fesul 100,000 o bobl, gyda'r niferoedd yn cynyddu ym mhob un heblaw am ddyrnaid o'n hardaloedd awdurdodau lleol ni. Mae'r darlun hwn ar gyfer Cymru gyfan yn gynsail i'r angen am fesurau cenedlaethol wrth inni ymadael â'r cyfnod atal byr.

Yn gynharach heddiw, Llywydd, fe adroddodd prif weithredwr GIG Cymru am effaith y feirws ar ein gwasanaeth iechyd ni. Ar hyn o bryd mae 1,275 o gleifion sy'n gysylltiedig â COVID yn yr ysbytai yng Nghymru, 18 y cant yn fwy na'r wythnos diwethaf, a'r nifer fwyaf ers diwedd mis Ebrill. Rydym yn disgwyl i'r duedd gynyddol hon barhau hyd nes y bydd effaith y cyfnod atal byr yn cael ei theimlo. Er gwaethaf y pwysau cynyddol hwn, mae ein hysbytai'n parhau i gynnig gweithgarwch a gynlluniwyd, gydag atgyfeiriadau canser yn dychwelyd i'r lefelau disgwyliedig a nifer y cleifion allanol newydd 75 y cant yn uwch ym mis Medi nag ym mis Ebrill. Cafodd ein camau ni eu cynllunio nid yn unig i ddiogelu gallu'r GIG i ddarparu gofal ar gyfer cleifion COVID, ond i ddal ati i wneud yr holl bethau eraill hyn sydd mor bwysig i gleifion ledled Cymru.

Yn ystod y cyfnod atal byr, rydym wedi cymryd camau i gryfhau ein hymateb ni i'r feirws a gwireddu ein cynllun i ddiogelu'r GIG trwy'r gaeaf. Fe gaiff datblygiadau arloesol megis y gwasanaeth archebu ar gyfer adrannau damweiniau ac achosion brys yma yng Nghaerdydd a'r Fro eu cyflymu mewn rhannau eraill o Gymru, ac mae ein byrddau iechyd lleol ni'n parhau i weithio ar gynlluniau i wneud y defnydd gorau o'n capasiti o ran ysbytai maes. Mae ein gwasanaeth profi, olrhain, diogelu ni'n parhau i wneud gwaith da wrth ymdrin â niferoedd yr achosion, sydd wedi codi'n sylweddol, a gwelwyd cynnydd yn yr adnoddau. Fe agorwyd canolfannau prawf lleol newydd i'w gwneud nhw'n fwy hygyrch, gan gynnwys i fyfyrwyr, ac mae mwy o ganolfannau lleol o'r fath yn yr arfaeth. Mae gwaith arloesi yn cael ei ddatblygu i gynyddu capasiti'r labordai a galluogi profion pwynt gofal, a allai fod yn arbennig o werthfawr mewn ysbytai a chartrefi gofal. Fel y dywedais i'n gynharach y prynhawn yma, fe fydd y Gweinidog iechyd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am dechnolegau profi newydd yn y dyddiau nesaf.

Llywydd, yn ystod yr wythnos ddiwethaf rydym wedi parhau â'r dull ymgynghorol yr ydym wedi bod yn ei ddefnyddio drwy gydol y pandemig hwn, gan siarad â phartneriaid cyn inni wneud penderfyniadau, nid eu hysbysu nhw'n unig pan fydd y penderfyniadau wedi eu gwneud. Rwy'n ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu at y trafodaethau hyn: y cyngor partneriaeth gymdeithasol, sydd wedi cyfarfod ddwywaith mewn cyfarfodydd eithriadol, gan gynnwys undebau llafur, busnesau a phartneriaid eraill; y fforwm rhyng-ffydd; Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac arweinwyr awdurdodau lleol; Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a chyngor y trydydd sector; comisiynwyr yr heddlu a throseddu a phrif gwnstabliaid heddluoedd Cymru; a phobl ifanc o Blant yng Nghymru, a llawer iawn o rai eraill hefyd. Llywydd, fe fydd y rheoliadau a wnawn ni'r wythnos hon yn effeithio'n uniongyrchol ar yr holl bartneriaid hyn ac mae pob un wedi cyfrannu at eu llunio nhw. Fe fyddwn ni'n cwblhau'r rheoliadau pan fyddwn ni wedi clywed gan Aelodau'r Senedd o ganlyniad i'r datganiad hwn heddiw.

Canlyniad hyn yw y byddwn ni, o 9 Tachwedd, yn cyflwyno ymateb cenedlaethol, gydag un gyfres o reolau ar gyfer Cymru gyfan. Fe fydd y rhain yn ein galluogi ni i ailddechrau gydag agweddau ar fywyd Cymru, ond nid yw'r feirws wedi diflannu a dim ond drwy ymddwyn yn gyfrifol a diogelu ein gilydd y byddwn ni'n sicrhau'r cynnydd angenrheidiol wrth gefnu ar yr argyfwng hwn. Llywydd, o ddydd Llun, rydym yn cynnig newid y gyfraith yng Nghymru yn y ffyrdd canlynol: fe fydd eglwysi, temlau, synagogau a mannau addoli eraill yn gallu ailagor fel yr oedden nhw cyn y cyfnod atal byr. Fe fydd canolfannau cymunedol yn ailagor hefyd. Fe fydd prifysgolion yn parhau i weithredu fel y buon nhw yn ystod y cyfnod atal byr, ac fe fydd ysgolion a cholegau yn gallu croesawu pob disgybl a myfyriwr yn ôl. Fe fydd siopau, canolfannau ffitrwydd a phob safle arall sydd ar agor i'r cyhoedd, y bu'n ofynnol iddyn nhw gau yn ystod y cyfnod atal byr, yn ailagor. Ond, ym mhob un o'r safleoedd hyn ac mewn gweithleoedd, fe fydd y gofyniad cyfreithiol i gymryd pob cam rhesymol i leihau'r risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws yn parhau i fod yn gymwys er mwyn diogelu staff a chwsmeriaid fel ei gilydd. Mae hyn yn cynnwys tafarndai, caffis a bwytai. Fe fydd y rhain yn ailagor, ond ein cyngor clir ni i bobl Cymru yw y dylem ymweld â'r lleoedd hyn mewn grwpiau mor fach â phosibl ac, i lawer, bydd hynny'n golygu y bobl yr ydym ni'n byw gyda nhw. Ond rydym wedi gwrando'n ofalus ar yr hyn y mae pobl ifanc a phobl sengl yn arbennig wedi ei ddweud wrthym ni o ran pa mor bwysig yw gallu cwrdd â ffrindiau ac aelodau eraill o'r teulu. Ein bwriad ni yw y bydd y rheoliadau yn caniatáu i grwpiau o hyd at bedwar o bobl gyfarfod mewn lleoliad sy'n cael ei reoli, fel bwyty, caffi neu dafarn, ond y bydd hyn yn amodol ar fesurau diogelu caeth a drafodir gyda'r sector lletygarwch, gan gynnwys archebu ymlaen llaw, slotiau amser cyfyngedig a gallu profi hunaniaeth. Llywydd, fel ym mhob agwedd ar ein bywydau ni, fe fydd cadw at hanfodion hylendid da a chadw pellter yn hanfodol yn y lleoliadau hyn hefyd.

Dyma un o'r newidiadau mwyaf heriol o safbwynt iechyd y cyhoedd, ac fe fyddwn ni'n ei adolygu drwy'r amser. Fe fydd ei lwyddiant yn dibynnu ar yr hyn a wna'r sector a phob un o ddinasyddion Cymru wrth ddefnyddio'r ailagor hwn mewn ffordd gyfrifol a chall. Ac fe fyddwn ni, Llywydd, yn parhau i ddod â gwerthu alcohol i ben am 10 p.m. yng Nghymru.

Llywydd, o ganlyniad i'r trafodaethau lawer a gynhaliwyd dros y 10 diwrnod diwethaf, rydym ni'n ymwybodol iawn o'r angen i roi cyfle i bobl gael cyswllt cymdeithasol yn ystod misoedd y gaeaf. Fe fydd gweithgareddau a drefnir i grwpiau o hyd at 15 o bobl dan do a 30 o bobl yn yr awyr agored yn cael eu caniatáu eto pan ddaw'r cyfnod atal byr i ben. Ond, unwaith eto, fe fydd angen cynnal asesiadau risg ymlaen llaw, a chymryd pob cam rhesymol i leihau'r risg o ddal neu ledaenu'r feirws, ac ni fydd y gweithgareddau hyn yn gallu cynnwys gwerthu nac yfed alcohol. Fe fydd eithriad ar wahân ar gyfer hyd at 15 o bobl i allu bod yn bresennol mewn gwledd briodas neu bartneriaeth sifil neu de angladd, ac ni fydd plant dan 11 oed yn cael eu cyfrif yn rhan o'r cyfyngiadau ar gwrdd ag eraill yn y lleoliadau rheoledig hyn.

Rwyf am droi nawr, Llywydd, at faes heriol iawn arall, sef i ba raddau y dylem gwrdd â'n gilydd yn ein cartrefi ni ein hunain, sy'n lleoliad y gwyddom fod y coronafeirws yn parhau i ledu a ffynnu ynddo. O ganlyniad, y tu hwnt i'r cyfnod atal byr, yn y cartref, gan gynnwys mewn gerddi, ni all pobl gwrdd â neb oni bai am y rhai sydd o'r un aelwyd estynedig, ac fe fydd yr aelwyd estynedig honno'n cael ei chyfyngu i ddwy aelwyd sy'n dod at ei gilydd a neb arall. Os ydym ni am wneud yn fawr o'r enillion a greodd y cyfnod atal byr, fe fydd yn rhaid inni osgoi'r mathau mwy peryglus hyn o ymddygiad yn gyfan gwbl y tu hwnt i'r cyfnod hwnnw. Fe fydd partïon mewn tai, digwyddiadau mwy o faint ac ymgynnull dan do yn anghyfreithlon, ac fe fyddwn ni'n gwneud hyn yn gwbl glir yn ein rheoliadau ni.

Llywydd, er mwyn inni allu cadw'r rheolau cenedlaethol newydd hyn mor syml â phosibl, ni fyddwn yn cael cyfyngiadau teithio lleol eto. Fe fydd pobl yn gallu teithio i unrhyw le yng Nghymru, ond, unwaith eto, rydym ni'n gofyn i bobl fod yn gyfrifol wrth deithio, gan aros yn agos i gartref a pharhau i gyfyngu ar eu cysylltiadau nhw â phobl eraill. Nid yw caniatâd i deithio yn gyfarwyddyd i deithio, ac fe fydd y ffordd yr ydym ni'n ymddwyn o ran yr agwedd hon ar ein bywydau yn cael ei hadolygu hefyd yn yr wythnosau sy'n dilyn y cyfnod atal byr.

Pan fydd y cyfnod clo'n weithredol yn Lloegr, fe fydd rheoliadau Lloegr yn gwahardd teithio i Loegr ac oddi yno oni bai bod hynny am reswm hanfodol fel gwaith neu addysg. A chan gydnabod y bydd Cymru'n dod allan o'r cyfnod atal byr hwn fel ardal o'r DU sydd â nifer fawr o achosion, fe fyddwn ni hefyd yn rhoi cyfyngiadau teithio ar bobl sy'n ymadael neu'n dod i Gymru hyd nes i'r cyfraddau hynny ostwng. Ni chaniateir teithio rhyngwladol heb reswm digonol.

Llywydd, gan ein bod ni ar fin dechrau ar y cam nesaf yn ein hymdrech genedlaethol i reoli'r feirws, fe fydd y ffordd y mae pob un ohonom yn ymddwyn ym mhob agwedd ar ein bywydau ni wrth wraidd yr ymdrech honno. Mae angen i bob un ohonom gymryd camau i gadw ein gilydd yn ddiogel. Fe wn i'n iawn fod mwyafrif llethol pobl Cymru wedi aberthu llawer iawn ar gyfer byw yn ôl y rheolau a fu cyn y cyfnod atal byr. Rwy'n hynod ddiolchgar i bob un ohonyn nhw. A thros gyfnod y gaeaf hwn, mae'n rhaid i bob un ohonom ni fod yn barod i fyw ein bywydau mewn ffordd wahanol fel nad yw'r ymdrech a wnaethom gyda'n gilydd yn mynd yn ofer ac nad ydym yn cael ein hunain yn y sefyllfa hon unwaith eto. Fe fydd yn rhaid i bob un ohonom gadw ein cysylltiadau â'n gilydd mor ysgafn â phosibl, a chadw'r cylch o bobl yr ydym ni'n cyfarfod â nhw mor fach â phosibl, a rhoi ystyriaeth i'r holl ffyrdd eraill o barhau i gadw mewn cysylltiad â nhw.

Llywydd, yn ystod yr wythnosau ar ôl 9 Tachwedd fe fydd gennym ni fwy o dystiolaeth o effaith y cyfnod atal byr. Fe fyddwn ni'n adolygu'r mesurau hyn i sicrhau eu bod nhw'n gymesur ac yn effeithiol. Ond mae'n rhaid inni beidio â bod dan unrhyw gamargraff. Wedi i'r cyfnod atal byr ddod i ben, ni fydd y feirws wedi darfod o'r tir. Yn ystod yr wythnosau i ddod fe fydd yn rhaid inni ofyn i ni ein hunain nid, 'Beth alla i ei wneud?', ond, 'Beth ddylwn i ei wneud?' er mwyn ein cadw ni a phobl eraill yng Nghymru yn ddiogel rhag yr hyn sy'n parhau i fod yn glefyd difrifol. Llywydd, diolch yn fawr.

15:05

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad cynhwysfawr ef y prynhawn yma? Mae'r mesurau newydd a gyhoeddwyd ddoe gan Lywodraeth Cymru i ddilyn y cyfnod clo presennol ledled Cymru, wrth gwrs, yn rhoi rhywfaint o eglurder, ac mae'r hyn a glywsom ni gan y Prif Weinidog y prynhawn yma wedi rhoi mwy o eglurder, ond mae yna rai materion a phryderon sy'n weddill y mae angen rhagor o wybodaeth amdanyn nhw fel y gallwn ddeall yn well yr hyn y dylem ac na ddylem ei wneud o'r wythnos nesaf ymlaen.

Yn gyntaf, rwy'n gwerthfawrogi'r camau y mae'r Llywodraeth yn eu cymryd i ganiatáu i ddwy aelwyd fod mewn swigen yng Nghymru. I laweroedd o gymunedau ledled y wlad, fe fydd yna groeso mawr i allu cwrdd ag aelwyd arall ac mae hynny o rywfaint o gysur i'r rhai nad ydyn nhw wedi gweld aelodau o'u teuluoedd ers cryn amser.

Nawr, mae eich cyhoeddiad chi'n eglur iawn ynglŷn ag ysgolion ledled Cymru yn ailagor o ddydd Llun, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi ei bod yn hanfodol bwysig fod plant a myfyrwyr yn gallu dychwelyd i'r ystafell ddosbarth, ar yr amod bod y dystiolaeth yn dangos ei bod hi'n ddiogel iddyn nhw wneud hynny. Wrth gwrs, mae'n bwysig ein bod ni'n deall mwy am sut y gall y feirws fod yn cael ei drosglwyddo neu beidio mewn ysgolion a phrifysgolion. Felly, gan fod y darparwyr addysg ar agor unwaith eto, fe fyddwn i'n ddiolchgar pe byddech chi'n dweud ychydig mwy wrthym am yr asesiad a wnaed o drosglwyddiad y feirws yn y lleoliadau hynny a sut mae hynny wedi effeithio ar bolisi'r Llywodraeth.

Mae datganiad Llywodraeth Cymru yn egluro hefyd y bydd gweithio o gartref yn mynd i fod yn bwysicach eto, ac fe wn i fod Llywodraeth Cymru eisoes wedi bod yn ystyried symud tuag at fwy o weithio o gartref ledled Cymru. Er bod manteision i weithio o gartref, fe geir canlyniadau economaidd i'r stryd fawr a chanol trefi, ac mae rhai pryderon dilys ynghylch effaith gweithio o gartref ar iechyd meddwl rhai pobl hefyd. Gan hynny, a wnewch chi ddweud wrthym ni pa drafodaethau a gafodd Llywodraeth Cymru hyd yn hyn gyda darparwyr gwasanaethau cyhoeddus, arweinwyr awdurdodau lleol ac eraill ynglŷn â pholisi gweithio o bellter Llywodraeth Cymru a'r effaith economaidd, ac yn wir yr effaith y gallai gweithio o gartref ei chael ar iechyd meddwl yn y tymor hwy?

Mae'n gwbl hanfodol, wrth symud ymlaen, fod y flaenoriaeth yn cael ei rhoi gan Lywodraeth Cymru i iechyd meddwl, boed hynny mewn cysylltiad â'r gofalwyr, plant a phobl ifanc, neu yn wir, bobl hŷn. O gofio bod y feirws yn parhau i fod yn gyfredol mewn llawer o gymunedau ledled Cymru, ac o ganlyniad, y cyfyngwyd ar ryddid llawer o bobl ers peth amser, a wnaiff Llywodraeth Cymru nawr ddatblygu strategaeth iechyd meddwl ar gyfer y tymor hwy sy'n adlewyrchu'r heriau y mae'r feirws yn eu cyflwyno?

Wrth gwrs, yn sail i'r mesurau newydd sy'n dilyn y cyfnod atal byr, mae angen i fusnesau ledled Cymru allu cael gafael ar y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Rydym ni i gyd yn gwybod am fusnesau sy'n ei chael hi'n anodd goroesi'r pandemig ac mae'n amlwg y bydd angen mwy o gymorth ar lawer ohonyn nhw yn ystod y misoedd nesaf. Nawr, fel y dywedais i'n gynharach heddiw, mae llawer o fusnesau wedi bod o dan ryw fath o gyfyngiad gan y Llywodraeth nid yn unig am y cyfnod atal byr o bythefnos, ond mewn rhai achosion am gyfnod llawer hwy. Felly mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn gwrando ar eu pryderon nhw ac yn eu helpu i ddod o hyd i'r cymorth sydd ei angen arnyn nhw'n gyflym. A wnewch chi gadarnhau, Prif Weinidog, pa newidiadau a wneir i sicrhau bod busnesau yn ymwybodol o'r cymorth sydd ar gael iddyn nhw ac yn cael y cymorth angenrheidiol yn ystod y cyfnod hwn?

Fe wn i fod trafodaethau wedi parhau rhwng Gweinidogion â'r sector lletygarwch ynglŷn â'r rheolau ar gyfer ailagor, ac rwy'n croesawu'r newyddion y bydd lletygarwch yn ailagor er mwyn caniatáu i grwpiau o hyd at bedwar o unigolion gyfarfod mewn lleoliad sydd dan reolaeth. Fe ddywed y datganiad heddiw y caiff hyn ei adolygu'n gyson, ac rwy'n sylweddoli y bydd yn rhaid monitro hyn yn ofalus iawn. Serch hynny, a wnewch chi gadarnhau pryd y byddwch chi'n adolygu'r mesur hwn ac a wnewch chi ddweud wrthym ni sut y byddwch chi'n ymgysylltu â busnesau ledled y wlad i sicrhau mai'r mesur yw'r un priodol wrth symud ymlaen?

Pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y cyfnod atal byr, fe fynegwyd yn eglur bod y cyfnod o bythefnos yn gwbl hanfodol er mwyn sicrhau gwelliannau sylweddol i'w phrosesau, ac er fy mod i'n derbyn bod gennym ni wythnos i fynd eto, mae'n bwysig iawn y gall pobl Cymru weld y gwelliannau hynny a deall sut mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio'r amser yn ystod y cyfnod clo i gyflawni'r newidiadau angenrheidiol. Mae rhywfaint o wybodaeth wedi cael ei rhoi eisoes am y gwaith a wnaed o ran y system brofi, sydd i'w groesawu'n fawr, ac rydych chi wedi cadarnhau heddiw yn eich datganiad fod canolfannau prawf newydd wedi eu hagor a bod mwy ar y gweill. Ond a wnewch chi ddweud ychydig mwy wrthym am hynny a pha waith arall sydd wedi digwydd yn barod yn ystod y cyfnod atal byr o ran rhaglen brofi Llywodraeth Cymru, a beth arall y gallwn ni ei ddisgwyl dros y dyddiau nesaf ac yn yr wythnosau nesaf?

Prif Weinidog, rydych chi wedi clywed y newyddion gofidus am 30 o farwolaethau eraill yn gysylltiedig â haint COVID-19 a drosglwyddwyd y tu mewn i bedwar ysbyty, ac mae'n amlwg bod angen cymryd camau ar fyrder i fynd i'r afael â hynny. Fe ddywed datganiad heddiw bod byrddau iechyd lleol yn parhau i weithio ar gynlluniau i wneud y defnydd gorau o'n gallu ni mewn ysbytai maes. A wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni felly am ddatblygiad y gwaith hwnnw a phryd y cawn ni ddechrau gweld y capasiti hwnnw ar waith?

Ac yn olaf, Llywydd, fe hoffwn i ddiolch yn ddiffuant ar goedd i staff ardderchog ein GIG ni a'n sefydliadau a'n helusennau trydydd sector sydd wedi parhau i gyflawni cymaint i gefnogi pobl ledled Cymru mewn cyfnod sydd wedi bod yn anodd iawn. Ac fe wn i, Prif Weinidog, y gwnewch chi ymuno â mi i ddiolch iddyn nhw am eu hymdrechion dros y misoedd diwethaf. Diolch.

15:10

Llywydd, rwy'n diolch i Paul Davies am y cwestiynau yna ac rwy'n llwyr ategu ei sylwadau diwethaf. Fe roddaf i gynnig ar ateb nifer o'r cwestiynau penodol a gododd mor gyflym ag y gallaf.

O ran ysgolion yn ailagor, mae'r dystiolaeth yn parhau i esblygu drwy'r amser, ac mae hwn yn faes arall lle mae'n rhaid inni fod yn barod i addasu ein hymateb pe bai angen, pe bai tystiolaeth wahanol yn dod i'r amlwg. Ond ar hyn o bryd, y dystiolaeth sydd gennym o hyd yw nad yw plant iau, yn enwedig, yn dioddef o'r coronafeirws eu hunain nac yn ei drosglwyddo i bobl eraill mewn niferoedd sylweddol. Rydym wedi cael hanner tymor llawn o'r ysgolion yn eu holau yng Nghymru ac, unwaith eto, y dystiolaeth yn bennaf yw, lle cafwyd achosion mewn ysgolion, mai'r rheswm am hynny yw bod pobl wedi cael y feirws y tu allan i'r ysgol, ac nad yw trosglwyddo o fewn yr ysgol wedi bod yn nodwedd bwysig o brofiad yr ysgolion yng Nghymru yn ystod y chwe wythnos diwethaf. Teyrnged yw honno i'r holl waith a gafodd ei wneud gan staff addysgu a staff nad ydyn nhw'n addysgu yn yr holl leoliadau hynny, i'w cadw nhw eu hunain a'u myfyrwyr yn ddiogel. Ac er mai dyna'r dystiolaeth sy'n aros, rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Paul Davies am wneud plant a'u haddysg nhw'n brif flaenoriaeth inni, a cheisio sicrhau, beth bynnag fydd y cyfyngiadau eraill y bydd yn rhaid inni eu rhoi ar fywyd yma yng Nghymru, ein bod ni'n rhoi plant a'u dyfodol ar frig ein rhestr ni.

Fe gyfeiriodd Paul Davies at effaith barhaus yr argyfwng ar iechyd meddwl, ac mae hynny'n wir ym mhob rhan o'n bywydau ni, ac mae hyn yn effeithio ar bobl, a rhai pobl sy'n gweithio o gartref. Dyna pam rydym wedi bod yn awyddus i bwysleisio nad ein dull ni o weithredu gweithio o bell yw y bydd canran benodol o bobl bob amser i mewn yn y gwaith yn llawn amser ac y bydd pobl eraill bob amser yn gweithio o gartref; ond mae gennym ni ddull cyfunol lle gall pobl dreulio rhywfaint o'r wythnos waith yn gweithio o bell ac ar adegau eraill o'r wythnos gallant weithio yn eu man gwaith arferol. A phan fyddwch chi'n ychwanegu hyn i gyd at ei gilydd, fel y gŵyr ef, yn nhŷb Llywodraeth Cymru, rydym wedi ystyried 30 y cant yn rhagdybiaeth ymarferol ar gyfer nifer y bobl sy'n gallu gweithio'n llwyddiannus o gartref, gan eu bod nhw yn eu cartrefi yn ystod yr argyfwng hwn. Ac fe gafodd hynny ei gynllunio, yn fy marn i, i ymateb i'r ffaith bod gweithio o gartref, i rai pobl, heb gyfle i gael bod yn y gweithle weithiau yn gallu effeithio ar iechyd meddwl a lles pobl. Fe fydd fy nghyd-Aelod i, Eluned Morgan, sy'n gyfrifol am wasanaethau iechyd meddwl yng Nghymru erbyn hyn, yn siarad ag Aelodau, fel y bu hi, fel y gwn i, yn siarad ag ystod eang iawn o fuddiannau, am sut y gallwn ni ymateb yn yr hirdymor i effaith yr argyfwng ar iechyd meddwl, na fydd yn dod i ben yn ystod yr argyfwng ei hun. Fel y gwyddom, fe geir rhai effeithiau hirdymor yn sgil coronafeirws, yn gorfforol, ond o ran lles pobl hefyd.

O ran cymorth i fusnesau, rwy'n cydnabod wrth gwrs, fel y dywedodd Paul Davies, fod llawer o fusnesau yng Nghymru wedi bod yn byw gyda chyfyngiadau ers mwy na phythefnos. Dros y ffin yn Lloegr, mae Caerlŷr wedi bod dan gyfyngiadau am fwy neu lai tri mis, ac erbyn hyn mae'r ddinas yn wynebu cyfnod clo o bedair wythnos arall. Nid oes yr un Llywodraeth yn gwneud y penderfyniadau ynglŷn â hyn ar chwarae bach. Mae pob Llywodraeth—fel y dywedais i ar ddechrau fy natganiad—yn gorfod jyglo'r cyfyng-gyngor amhosibl hwn rhwng bywydau a bywoliaeth, rhwng ein hiechyd ni a'n dyfodol economaidd ni. Yma yng Nghymru, fe fyddwn ni'n parhau i ddatblygu ein cynnig ni o gymorth i fusnesau a sicrhau ei fod ar gael drwy wefan Busnes Cymru. Ac yn yr holl sgyrsiau a gawn ni, boed hynny drwy'r cyngor partneriaeth gymdeithasol neu drwy—fel y bûm i'n ei wneud ddoe—siarad yng nghynhadledd flynyddol y Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, rydym ni'n manteisio ar yr holl gyfleoedd sydd ar gael i siarad â'r gymuned fusnes a sicrhau ein bod ni'n deall eu safbwyntiau ac yn cael eu cefnogaeth nhw. Fe fyddwn ni'n adolygu'r mesurau a roddwn ar waith yn ystod y cyfnod wedi'r cyfnod atal byr ar ôl pythefnos. Rwy'n hapus i roi'r cadarnhad hwnnw i fusnesau lletygarwch ac eraill.

Rydym wedi defnyddio'r cyfnod hwn, fel y dywed Paul Davies, i gyflwyno newidiadau mewn nifer o'r gwasanaethau, gan gynnwys cryfhau ymhellach ein gwasanaethau profi, olrhain, a diogelu. Am resymau amser yn unig, Llywydd, fe wnaf i sôn am un ffordd arall o wneud hynny. Rydym yn mynd i greu capasiti canolog a fydd yn ymdrin ag ymchwydd mewn achosion—tîm y gellir ei ddefnyddio mewn unrhyw ran o Gymru pan fydd y system dan bwysau arbennig oherwydd achosion lleol. Ac o ran capasiti ysbytai maes, fe ddefnyddir hyn eisoes yng Nghwm Taf Morgannwg, lle mae Ysbyty'r Seren yn agored ac yn derbyn cleifion. Fe wnawn ni ddysgu, ym mhob rhan o Gymru, o'r ffyrdd y gellir defnyddio'r profiad cynnar hwnnw yn y ffordd orau mewn mannau eraill.

15:15

Diolch, Llywydd. Diolch, Prif Weinidog, am y datganiad ac am gyhoeddiad ddoe yr wyf i'n gwybod y byddai croeso mawr iddo gan lawer iawn o bobl ledled Cymru, nid yn lleiaf fy rhieni i fy hun, sy'n edrych ymlaen at gael cysylltiad â'u hŵyr unwaith eto. Rwy'n siŵr bod hynny i'w deimlo ymhlith llawer iawn o deuluoedd ledled Cymru.

Mae Gweinidog yr economi a thrafnidiaeth eich Llywodraeth chi wedi dweud ei bod hi'n annhebygol mai'r cyfnod atal byr presennol fydd yr un olaf yng Nghymru, a bod cyfnod clo arall ledled Cymru yn ymddangos yn debygol yn y flwyddyn newydd. A fyddech chi'n cytuno y dylem ni gael nod y cytunir arno, cyn belled ag y bo hynny'n bosibl, mai'r cyfnod clo hwn ddylai fod yr un olaf genedlaethol? Nawr, wrth gwrs, fel yr oeddech chi'n iawn i'w bwysleisio, mae gan bob un ohonom ni ran, fel unigolion a chymdeithas, i wneud hynny'n bosibl, ond mae yna rai pethau, wrth gwrs, na ellir eu gwneud nhw ond gan Lywodraeth. Rydych chi wedi cyfeirio at y system brofi ac olrhain, sy'n gwbl ganolog i hyn, ac rydych chi wedi dweud ychydig am yr hyn yr ydych chi wedi bod yn ei wneud yn ystod y cyfnod atal byr. Ond tybed a wnewch chi ddweud pa welliant yr ydych chi'n bwriadu ei wneud o ran y targed hanfodol o 24 awr ynglŷn â dychwelyd canlyniadau'r profion i bobl, sy'n gwbl ganolog er mwyn gwneud hyn yn amddiffyniad effeithiol i atal cynnydd cyflymach eto mewn achosion.

Hefyd, tybed a wnewch chi ddweud a ydych chi wedi ailystyried mater profi cysylltiadau asymptomatig, fel y gwna gwledydd eraill eisoes, oherwydd fe wyddom oddi wrth dystiolaeth wyddonol nawr fod trosglwyddo asymptomatig yn elfen bwysig iawn yn ymlediad y feirws. A phryd ydych chi'n tybio y byddwn ni mewn sefyllfa lle gallem weld profion ledled y boblogaeth, fel y cyfeiriais i atyn nhw'n gynharach sydd wedi bod yn digwydd dros y penwythnos yn Slofacia, ac sy'n cael eu cynnig yn ninas Lerpwl? O ran olrhain cysylltiadau hefyd, a ydym ni'n debygol o weld pwyslais cynyddol ar olrhain cyswllt yn ôl yn ogystal ag ymlaen, sy'n bwysig o ran nodi ffynonellau unrhyw haint, ac a ydych chi wedi ystyried mabwysiadu'r system olrhain tair haen, sydd wedi profi i fod yn elfen lwyddiannus iawn yn Fietnam?

O ran brechlynnau, mae'r Alban, fel yr adroddwyd, yn paratoi i ddechrau brechu ymhen chwe wythnos. A ydych chithau hefyd yn gweithio'n galed i gwtogi'r amserlen cyn belled ag y bo modd er mwyn inni allu rhoi brechlynnau ar waith ym mis Rhagfyr o bosibl? Rwy'n ymwybodol, Prif Weinidog, o fethiant neu lanast y labordy goleudy. A ydym ni'n gwneud ein cynlluniau annibynnol ni yng Nghymru fel nad ydym yn dibynnu ar dasglu'r DU, o dan arweiniad penodiad gwleidyddol arall gan Boris Johnson? Ac o ran sylwadau Prif Weinidog y DU ddoe—oherwydd mae angen i bolisi economaidd, wrth gwrs, weithio'n gyfochrog â pholisi iechyd—y byddai ffyrlo a chymorth economaidd arall ar gael i'r gweinyddiaethau datganoledig pan oedd eu hangen arnynt, ond a gafodd ei wrthddweud heddiw gan yr Ysgrifennydd tai a llywodraeth leol, Robert Jenrick, a ddywedodd mai mater i'r Canghellor fyddai hynny. Beth yw eich dealltwriaeth chi o sefyllfa ddiweddaraf Llywodraeth y DU yn hyn o beth?

Yn olaf, wrth inni gefnu ar y cyfnod atal byr, rydym wedi argymell dull pwyllog a chyson, yn hytrach na llacio'r cyfyngiadau yn ddisymwth, i sicrhau ein bod ni'n diogelu'r hyn a enillwyd trwy aberth. A wnewch chi ddweud, Prif Weinidog, beth yw'r cyngor gwyddonol presennol o ran beth fydd y gyfradd heintio, yr R, ddydd Llun nesaf? Beth yw'r ddealltwriaeth ddiweddaraf o'r ffigur R? A ydych chi o'r farn, neu a yw'r cyngor gwyddonol ar gael ichi ar hyn o bryd, y bydd y fframwaith presennol a gyhoeddwyd gennych heddiw yn ddigon i gadw'r gyfradd R hollbwysig honno o dan 1 fel na fyddwn yn y pen draw mewn sefyllfa o orfod cael cyfnod pellach o glo a datglo?

15:20

Diolch yn fawr i Adam Price am y cwestiynau yna.

Rwy'n diolch iddo am fynegi ei gefnogaeth yn gyffredinol dros y dyddiau diwethaf ac am y cyfle i drafod rhai o'r mesurau a gyhoeddwyd ar y cyd ag Aelodau o'i blaid ef. Y cyfan y gallaf i ei ddweud wrtho ef yw'r hyn a ddywedais i wrth bobl eraill o ran yr hyn a fydd yn digwydd yn y dyfodol, sef nad ydym ni mewn sefyllfa i allu diystyru unrhyw beth. Mae'r dyfodol mor ansicr drwyddo draw fel bod unrhyw un sy'n dweud wrthych chi y bydd angen rhywbeth yn bendant neu na fydd angen rhywbeth yn bendant ymhen wyth wythnos yn dibynnu ar ddim amgen mewn gwirionedd na dewiniaeth, ac nid wyf i'n credu y byddai pobl yng Nghymru yn diolch inni pe byddem ni'n ceisio bwrw ymlaen yn y ffordd honno.

Roeddwn i o'r farn fod Adam Price wedi gwneud pwynt pwysig, Llywydd, pan ddywedodd mai dim ond Llywodraethau a all wneud rhai pethau ac mae yna bethau eraill na all neb eu gwneud ond pob un ohonom ni yn ein bywydau ni ein hunain, ac mae'n rhaid inni wneud y gorau o'r ddeubeth hynny. Rydym wedi bod yn gwneud nifer o bethau i ymateb i rai o'r pwyntiau y soniodd Adam Price amdanyn nhw. Rydym ni'n rhan o'r arbrawf profi tref gyfan sy'n cael ei gynnal yn Lerpwl, yn yr ystyr y byddwn ni'n gallu casglu'r hyn a ddysgwyd o hynny'n uniongyrchol. Rwy'n credu y bydd yna lawer i'w ddysgu o gylchu'r trac hwnnw am y tro cyntaf a gweld a allwn ni ddefnyddio'r dull sy'n deillio o'r arbrawf hwnnw wedyn mewn rhannau o Gymru lle byddai'n ddefnyddiol i ni.

Rwy'n credu bod y profion asymptomatig a'r profion ledled y boblogaeth yn cysylltu'n agos iawn â'r genhedlaeth nesaf o brofion a allai fod ar gael ac y bydd Vaughan Gething yn adrodd arnyn nhw eto yn ddiweddarach yr wythnos hon. Yr hyn nad wyf i'n dymuno ei wneud yw syrthio i'r fagl yr wyf i'n gweld eraill yn ei syrthio iddi o ddweud wrth bobl yng Nghymru, 'Mae yna ryw ddatrysiad hud a lledrith rownd y gornel, mae yna brawf, mae yna frechlyn, mae yna rywbeth a fydd yn ein gollwng ni'n rhydd o'r carchar.' Rwyf i o'r farn fod pobl wedi syrffedu ar gael clywed, 'O, fe fydd y cyfan drosodd ymhen 12 wythnos', 'Fe fydd y cyfan drosodd erbyn y Nadolig', 'Fe fydd y cyfan drosodd erbyn y gwanwyn', 'Mae yna rywbeth ar fin digwydd; arhoswch chi, ac fe fydd popeth yn iawn.' Nid yw pobl yn coelio hyn ac maen nhw'n iawn i beidio â'i goelio. Mae'n frwydr hir a chaled y bydd yn rhaid i bob un ohonom fod â rhan ynddi, nid yn unig am y dyddiau nesaf neu'r wythnosau nesaf, ond ymhell i'r flwyddyn nesaf.

Ac yna, pan ddaw'r cyfleoedd newydd hyn i'n rhan ni, fe fyddwn ni, wrth gwrs, yn awyddus i'w defnyddio nhw, a'u defnyddio nhw i wneud bywyd yn haws i bobl—drwy olrhain cyswllt yn ôl, sy'n digwydd eisoes yn ein system profi, olrhain, diogelu ni yng Nghymru, am yr union reswm a grybwyllodd Adam Price. Fe wyddom ni fod yna unigolion a digwyddiadau a all fod yn gyfrifol am nifer anghymesur iawn o achosion o heintio o'r newydd, a dyna pam rydym ni'n gwneud hynny i gyd. Mae gennym ni gynlluniau annibynnol ar gyfer gweinyddu brechlyn pan fydd hwnnw ar gael, ond, unwaith eto, nid wyf eisiau awgrymu i bobl Cymru mai'r brechlynnau cyntaf a fydd ar gael fydd y math y maen nhw'n fwyaf cyfarwydd â nhw—brechlyn ffliw sy'n para am flwyddyn gyfan neu frechlyn MMR sy'n para am oes gyfan. Fe fydd y brechlynnau cynnar sy'n debygol o fod ar gael yn rhoi rhywfaint o imiwnedd am gyfnod o amser, ond ni fyddan nhw yr hyn y mae pobl yn ei ddisgwyl, o ystyried eu profiadau blaenorol mewn bywyd.

O ran ffyrlo, siomedig iawn yw ein bod ni yn ôl mewn dryswch unwaith eto, wedi inni gael eglurder, fel yr ymddangosodd ddoe, gan Brif Weinidog y DU. Fe gafodd Gweinidogion Llywodraeth y DU eu siarsio gan yr Alban, Gogledd Iwerddon a Chymru mewn cyfarfod COBRA ddoe i sicrhau bod yr eglurder sydd ei angen ar gael inni, ac nad yw'n bosibl i Weinidogion Lloegr, ar eu pennau eu hunain, ddatgan argyfwng iechyd cyhoeddus a galw cynllun ffyrlo. Roeddwn i o'r farn fod yr hyn a ddywedodd Prif Weinidog y DU ddoe yn Nhŷ'r Cyffredin yn ddefnyddiol iawn yn hynny o beth, ac ynglŷn â hyn, mae gwir angen cyflawni'r hyn y mae Prif Weinidog y DU yn ei ddweud.

Ni fyddwn ni'n gwybod beth yw'r ffigur R ar gyfer dydd Llun nesaf am ychydig wythnosau ar ôl dydd Llun nesaf, oherwydd mae yna oedi gyda'r dangosydd R. Dyna pam rwyf i bob amser wedi dweud na fyddwn ni'n gwybod pa mor effeithiol fu'r cyfnod atal byr am rai wythnosau eto. 'A fydd hynny'n ddigon?', fel mae Adam Price yn ei ofyn yn gwbl briodol. Wel, Llywydd, fy ateb i yw hyn: bydd hynny'n ddigon dim ond os bydd pob un ohonom yn gwneud yr hyn sy'n ofynnol inni ei wneud, yr hyn y gall y Llywodraeth ei wneud, ond hefyd y pethau y gallwn ni eu gwneud yn ein bywydau ni ein hunain, oherwydd ni all Llywodraethau ddatrys yr argyfwng hwn ar eu pennau eu hunain. Yn y pen draw, sut rydym ni'n ymddwyn ar ein haelwydydd ein hunain, yn ein gweithleoedd, pan fyddwn ni tu allan ac mewn lleoliadau eraill sy'n cael eu rheoli, dyna sy'n ysgogi'r feirws hwn ac yn rhoi pobl eraill mewn perygl. Fe all pob un ohonom ni wneud pethau i leihau'r perygl hwnnw. Fe all pob un ohonom ni wneud pethau i gynyddu'r perygl hwnnw. Os ydym ni'n gwneud y pethau iawn ac yn gofyn i ni ein hunain, fel y dywedais i, 'Beth ddylwn i ei wneud?', fe all hynny fod yn ddigon.

15:25

Os caf i, Prif Weinidog—rwy'n ddiolchgar ichi am eich datganiad chi'r prynhawn yma—barhau â thema cymorth i fusnesau. Mae llawer o bobl, wrth gwrs, yn croesawu'r hyn yr ydych chi wedi ei ddweud dros y dyddiau diwethaf, ac yn croesawu'r ymdeimlad o gyfrifoldeb personol a'r ysbryd hwnnw yr ydych chi wedi ei gyflwyno i'r ddadl gyhoeddus ynglŷn â hyn, ond rwyf i'n clywed gan lawer o fusnesau bach a phobl hunangyflogedig sy'n awyddus iawn i ddod o hyd i'r cydbwysedd rhwng cynnal eu busnesau, cynnal cyflogaeth, cynnal y gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu i bobl leol, ond i wneud hynny mewn ffordd sy'n ddiogel drwy'r cyfnod anodd iawn hwn hefyd. Mae'r anhrefn a welsom ni yn San Steffan dros y dyddiau diwethaf—y Prif Weinidog yno'n dweud ddoe bod ffyrlo ar gael, a hwnnw'n cael gwybod gan ei Weinidogion heddiw ei fod wedi gwneud camgymeriad ddoe—yn golygu, wrth inni siarad heddiw, nad ydym yn gwybod beth yw polisi'r Trysorlys, ac a ydyn nhw wedi dweud wrth Brif Weinidog y DU eto beth yw eu polisi nhw. Felly, mae angen rhywfaint o gydlyniad yn ogystal ag ymdeimlad o gefnogaeth ddi-dor i bobl, ac mae cefnogaeth y gronfa cadernid economaidd gan Lywodraeth Cymru wedi cynnig hynny. Rwyf i o'r farn y byddai llawer ohonom ni'n ddiolchgar o weld cymorth gan y gronfa cadernid economaidd yn ailddechrau ac ar gael i fusnesau cyn gynted â phosibl.

Yr ail bwynt, Prif Weinidog, yw hwn: rydych chi newydd ateb Adam Price ynglŷn â mater profi ac olrhain, ac mae'n hwnnw'n un o lwyddiannau mawr, os mynnwch chi, y ffordd y mae'r Llywodraeth wedi ymdrin â hyn. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud bod y Llywodraeth wedi gwario tua £102 miliwn yng Nghymru ar hyn, sy'n cynrychioli £32 y pen, ac sydd ar gael i 80 y cant a 90 y cant o'r bobl hynny sydd ei angen. Dros y ffin yn Lloegr, lle cafodd ei breifateiddio, wrth gwrs, maen nhw'n gwario £12 biliwn, £1,700 y pen, ac nid yw ar gael yn yr un niferoedd yn y fan honno. Felly, mae hynny'n dangos pa mor rymus yw rhoi gwerthoedd ar waith. Mae hynny'n dangos grym y sector cyhoeddus—byrddau iechyd, Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol—yn cydweithio â'i gilydd. A wnewch chi egluro i ni, Prif Weinidog, beth yw eich gweledigaeth o ran sut y bydd profi ac olrhain yn rhoi cyfle inni reoli trosglwyddiad y feirws, a thorri ar drosglwyddiad y feirws, a chaniatáu inni fod â rheoliadau sy'n cydnabod bod profi ac olrhain yn gallu, trwy ei rymuster, sicrhau y gallwn reoli ymlediad y feirws? Diolch yn fawr iawn i chi, Llywydd.

Llywydd, diolch yn fawr i Alun Davies. Rwy'n cydnabod yr hyn a ddywedodd ef yn llwyr am y ffordd y mae cynifer o fusnesau wedi gweithio mor galed i sicrhau y gallan nhw barhau yn ystod y cyfnod anodd hwn, ond i wneud hynny mewn ffordd sy'n ddiogel i'w staff a'u defnyddwyr nhw, a dyna brofiad y rhan fwyaf o fusnesau yng Nghymru. Lle ceir busnesau nad ydyn nhw'n gwneud felly, fe fydd Llywodraeth Cymru yn cymryd camau yn eu herbyn, oherwydd mae hynny'n annheg, i'w staff a'u defnyddwyr, ac mae'n annheg â busnesau eraill hefyd, sydd wedi gwneud yr ymdrech y gofynnwyd iddyn nhw ei gwneud.

Ac o ran tegwch hefyd, gadewch imi ddweud, nid yn unig y mae'r ansicrwydd ynglŷn â'r cynllun ffyrlo wedi bod yn gwbl ddi-fudd, ond y ffaith inni ofyn i Ganghellor y Trysorlys roi rhywfaint o hyblygrwydd i fusnesau yng Nghymru wrth inni ddechrau ar ein cyfnod atal byr ni ac fe ddywedwyd wrthym fod hynny'n amhosibl, ond pan benderfynodd Llywodraeth Lloegr, yn y swyddogaeth honno, gyflwyno cyfnod clo, yn sydyn iawn roedd hynny'n gwbl bosibl wedi'r cyfan. A'r hyn sy'n taro pobl yng Nghymru ynglŷn â hynny yw nad yw'n deg pan wrthodir cymorth i un rhan o'r Deyrnas Unedig a bod hwnnw ar gael i ran arall. Mae'r Trysorlys yn Drysorlys y Deyrnas Unedig gyfan, nid dim ond un rhan ohoni'n unig, ac mae angen iddo ailgipio rhywfaint o dir a gollwyd ganddo oherwydd y ffordd bleidiol honno o ymddwyn yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Rwy'n cytuno'n llwyr gydag Alun Davies fod y system profi, olrhain, diogelu wedi bod yn llwyddiant mawr yma yng Nghymru. Mae pob punt a roddwn ni ynddi yn mynd i'r gwasanaeth cyhoeddus. Nid oes unrhyw arian yn cael ei ddihysbyddu i wneud elw preifat, fel sy'n digwydd yn anochel yn Lloegr. Ac mae hynny oherwydd ein gwerthoedd ni, oherwydd ein bod ni'n credu mai gwasanaeth cyhoeddus yw hwn y mae'n well iddo gael ei ddarparu gan bobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth cyhoeddus, a chyda'r ethos hwnnw o roi gwasanaeth i'r cyhoedd, ond mae'n rhoi gwerth am arian i ni hefyd, fel y clywsoch chi. Nawr, fe fyddwn ni'n parhau i recriwtio mwy o bobl i'n timau lleol ni. Fe fyddwn ni'n atgyfnerthu'r capasiti hwnnw i ymdrin â'r  ymchwydd mewn achosion, a grybwyllais i'n gynharach. Ac wrth inni ymadael â'r cyfnod atal byr, fe fyddwn ni'n rhoi sylw eto i'r ymdrechion enfawr a wnaeth ein timau profi, olrhain, diogelu ni, gan wneud mwy o ran olrhain tuag yn ôl, gyda chyfres newydd o arfau, i berswadio pobl i hunanynysu, ac esbonio canlyniadau peidio â gwneud hynny iddyn nhw, a pharatoi ar gyfer yr amser pan, fel y dywedais i, fydd yna genhedlaeth newydd o brofion ar gael efallai a allai ganiatáu inni gwtogi'r amser y byddwn ni'n gofyn i bobl hunanynysu ac a allai ganiatáu inni wneud mwy o ran profion asymptomatig, fel y soniodd Adam Price yn gynharach. Ac mae hynny i gyd yn cael ei ystyried, wrth inni siarad, yn ein system profi, olrhain, diogelu fel ein bod ni'n defnyddio'r 17 diwrnod hwn o gyfnod atal byr nid yn unig i gael ein gwynt atom ni gyda phrofi, olrhain, diogelu, ond i baratoi hefyd ar gyfer posibiliadau newydd a'r cyfraniad mwy hyd yn oed y gallai hyn ei wneud yma yng Nghymru yn y dyfodol. 

15:30

Diolch am eich datganiad chi, Prif Weinidog. Rydym wedi gweld bod cyfnodau clo yn difrodi bywyd a bywoliaeth y cyhoedd yng Nghymru yn aruthrol, a'r tlotaf yn ein cymdeithas ni'n arbennig felly, oherwydd cafodd llawer o bobl sy'n agored i niwed mewn cymdeithas eu gadael ar ôl. Mae pobl wedi colli eu gwaith ac mae busnesau wedi cau. Ac er fy mod i'n sylweddoli bod yn rhaid inni wneud yn siŵr bod y cydbwysedd yn gywir, wrth symud ymlaen, Prif Weinidog, a wnewch chi addo gwneud popeth o fewn eich gallu i osgoi cyfnodau clo ledled y wlad yn y dyfodol, oherwydd mae'n rhaid inni ddysgu byw gyda feirws SARS-CoV-2 os yw Cymru am osgoi dirwasgiad a dyled andwyol a fydd yn cymryd cenedlaethau i'w hadfer wedyn? Ni ddylid caniatáu i'r rhai tlotaf yn y gymdeithas fod yn dlotach eto ar ddiwedd y cyfnod clo hwn ychwaith, a'r ffordd orau o fyw gyda'r feirws yw cael gwell profion, fel y gallwn ni ynysu'r cleifion yn hytrach nag ynysu'r bobl iach hefyd yn ystod cyfnod clo.

Felly, Prif Weinidog, a ydych chi'n bwriadu cynyddu'n ddramatig nifer y profion, o rai miloedd y dydd i ddegau o filoedd? Mae gwledydd sydd wedi ffrwyno'r clefyd wedi mabwysiadu profion torfol, ac fe hoffwn i ofyn ai dyma yw nod Llywodraeth Cymru hefyd. Ac fe hoffwn innau hefyd ddiolch ar goedd i bawb yn y GIG sydd wedi ein cadw ni'n ddiogel yn ystod y cyfnod hwn, ond i'r nifer fawr o siopwyr, gyrwyr cyflenwi, a staff mewn gwasanaethau eraill hefyd, fel y gwasanaeth carchardai, sydd wedi darparu prydau bwyd a llawer iawn o wasanaethau angenrheidiol i bobl sy'n llai ffodus na ni. Diolch yn fawr.

15:35

Mae Caroline Jones yn llygad ei lle yn ein hatgoffa ni bod yna weithwyr rheng flaen mewn sawl agwedd ar fywyd yma yng Nghymru, pobl sydd wedi dal ati i weini bwyd, pobl a fu wrthi'n casglu ein sbwriel, gweithwyr cymdeithasol sy'n parhau i fynd allan a sicrhau bod plant a phobl hŷn sy'n agored i niwed yn cael gofal. Ym mhob rhan o'r gwasanaeth cyhoeddus, mae pobl wedi bod yn barod i roi eu hunain mewn perygl er mwyn amddiffyn pobl eraill, ac mae'n briodol ein bod yn cydnabod hynny y prynhawn yma. Ac rwyf hefyd yn cydnabod sylw agoriadol Caroline Jones, wrth gwrs, fod mwy nag un math o niwed yn deillio o'r coronafeirws. Ac mae popeth yr ydym ni'n ei wneud yn fater heriol iawn, iawn o geisio sicrhau'r cydbwysedd hwnnw. Nid wyf fi fy hun yn cytuno â'r cynnig mai'r ffordd o ymdrin â'r coronafeirws yw ynysu pobl sâl, na cheisio eithrio pobl sy'n agored i niwed o gymdeithas, fel y gall pawb arall barhau â'u bywydau. Yn bersonol, nid wyf yn credu bod hwnnw'n safbwynt moesegol i'w arddel. Ond hyd yn oed os nad oes gennych chi bryderon moesegol ynghylch hynny, nid yw'n ffordd ymarferol o fynd ati chwaith, oherwydd mae gan y bobl hynny gynifer o gysylltiadau â phobl eraill yn eu bywydau. Nid yw'n gweithio, yn ogystal â bod yn annerbyniol.

Rwyf wedi cyfeirio sawl gwaith y prynhawn yma at y posibilrwydd bod cyfleoedd newydd o'n blaenau o ran profion. Ac fe hoffwn i bwysleisio eto fod hynny'n bosibilrwydd, nid yn sicrwydd gwirioneddol. Mae llawer o waith yn mynd rhagddo o hyd, o ran dibynadwyedd y profion hynny, o ran sut y gellir gweinyddu'r profion hynny'n llwyddiannus, sut y gellid eu defnyddio. Ni ddylai neb feddwl ein bod o fewn trwch blewyn o daro ar ryw fath o ddatblygiad hud, fel y dywedais. Ond yn ddi-os bydd posibiliadau newydd yn y dyfodol, a bydd yn caniatáu i ni, fel y dywedodd Caroline Jones, wneud dewisiadau gwahanol ac amddiffyn pobl mewn ffyrdd newydd. Ac mae dau ddiben i bopeth yr ydym ni, Lywodraeth Cymru, yn ei wneud. Mae ein gweithredoedd wedi eu cynllunio i ymdrin â'r presennol—dyna pam ein bod ni yn ehangu nifer y profion cyfredol, dyna pam mae gennym ni labordai sydd nawr yn gweithio 24 awr y dydd yma yng Nghymru—ond hefyd i baratoi ar gyfer y dyfodol, ac i sicrhau ein bod yn gyfredol gyda'r holl ddatblygiadau posib hynny, ac i sicrhau, pan fyddant mewn gwirionedd ar gael, ein bod yn barod i fanteisio arnyn nhw yng Nghymru.

Diolch, Prif Weinidog, am eich datganiad. Tri phwynt cyflym yn deillio o'r datganiad, os caf i. Fe wnaethoch chi sôn am ysbytai'n gallu ymgymryd â gwaith arferol y GIG. Mae'n bwysig ein bod yn deall beth yw'r amseroedd aros a beth yw'r targedau perfformiad. A wnewch chi ymrwymo i ailgychwyn cyhoeddi'r amseroedd targed hyn, fel y gallwn ni asesu'r amseroedd aros a'r amseroedd targed y mae'r GIG yn cymharu eu perfformiad â nhw?

Yn ail, o ran Ysbyty Calon y Ddraig a oedd yn Stadiwm Principality, a'r ysgubor ym Mro Morgannwg, i drigolion Caerdydd a'r Fro, mae'n amlwg na chaiff y ddau gyfleuster yma eu defnyddio nawr, ac ni fydd yr ysbyty maes a fydd yn eu disodli ar gael tan fis Chwefror. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro i sicrhau bod capasiti yn y maes hwn fel nad oes diffyg?

Ac, yn drydydd, fe wnaethoch chi sôn ar ddiwedd eich datganiad am fwytai a chyfleusterau cymdeithasol gan ddefnyddio ffyrdd dilys o adnabod pobl. I'r rhan fwyaf o bobl, byddai hynny'n golygu naill ai pasbort neu drwydded yrru. Ond a allwch chi egluro beth fyddai'n dderbyniol ynghylch y derminoleg y gwnaethoch chi ei defnyddio o ran ffyrdd dilys o brofi hunaniaeth? Ac i bwy ddylid dangos hynny—ai i berchennog y sefydliad, neu wrth archebu lle, neu wrth fynd i mewn i'r sefydliad? Diolch.

Mae'n ffaith anochel, mae arnaf ofn, nad yw amseroedd aros ar gyfer llawer math o driniaeth yn y GIG, ym mhob rhan o'r Deyrnas Unedig, yr hyn yr oedden nhw cyn dyfodiad y pandemig hwn. Ac rwy'n gresynu'n fawr at hynny, oherwydd yr ymdrech enfawr a fu yng Nghymru, drwy'r cyllid y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddarparu, ond gan weithwyr rheng flaen hefyd. Roeddem yn ein sefyllfa orau ers 2014 pan drawodd y pandemig, a bydd cymaint o'r cynnydd hwnnw wedi'i golli nawr a bydd yn anodd iawn ei adfer os na allwn ni wneud yr holl bethau yr ydym ni wedi sôn amdanyn nhw y prynhawn yma i gadw'r coronafeirws draw. Oherwydd bob dydd y mae mwy o welyau yn ein hysbytai yn cael eu defnyddio gan gleifion sy'n dioddef o'r coronafeirws, bob dydd mae mwy o bobl mewn gwelyau gofal critigol â'r coronafeirws arnyn nhw, mae hynny'n anochel yn lleihau'r cyfle i gynnig triniaethau i bobl ar gyfer yr holl bethau eraill sydd mor angenrheidiol. Byddwn ni'n ystyried gydag eraill ledled y Deyrnas Unedig pryd fydd hi'n synhwyrol ailgyflwyno disgwyliadau ar y GIG, ond nid wyf yn credu ein bod yn y sefyllfa honno lle yr ydym ni heddiw, lle yr ydym ni yn ddwfn—yn ddwfn—mewn argyfwng iechyd cyhoeddus y bydd hi'n ddoeth i bob Aelod yn y Siambr hon ei gydnabod a'i gyfleu yn y datganiadau cyhoeddus a wnânt ar y mater hwn.

O ran Calon y Ddraig, yna mae modd canfod tua hanner y 5,000 o welyau ychwanegol yr ydym ni wedi'u cynllunio ar gyfer y gaeaf hwn o fewn y GIG drwy ehangu capasiti sydd ar gael o fewn ein system bresennol. Felly, daw oddeutu eu hanner o gapasiti newydd mewn ysbytai maes a daw oddeutu hanner mewn ffyrdd eraill, ac mae ein cynlluniau ar waith, wrth gwrs, gyda Chaerdydd a'r Fro i sicrhau bod ffyrdd y bydd yn gallu ymateb pe bai'r niferoedd yn parhau i godi.

Mae'r pwynt olaf y mae Andrew R.T. Davies yn ei wneud yn un pwysig. Wrth gwrs, mae ein lleoliadau sy'n cael eu rheoleiddio, ein tafarndai, wedi hen arfer â gwirio hunaniaeth pobl. Maen nhw'n gwneud hyn drwy'r amser er mwyn gwneud yn siŵr bod rhywun mor hen ag y maen nhw'n dweud eu bod er mwyn gallu archebu diod. Felly, dyma'r math o adnabod yr ydym ni'n chwilio amdano, ac mae rhan o hyn yn seiliedig, fel y bydd Andrew, rwy'n siŵr, yn deall, ar y mater newydd o ran y ffin sydd wedi'i greu drwy gau'r sefydliadau hyn am bedair wythnos yn Lloegr pan fo nhw ar agor yn y fan yma, fel yr ydym ni eisiau iddyn nhw fod ar agor yma, yng Nghymru. Mae'n rhaid inni ddod o hyd i ffyrdd o gefnogi ein cymheiriaid yn Lloegr i atal nifer fawr o bobl rhag ceisio croesi'r ffin er mwyn gallu cael diod pan fo hynny yn erbyn y gyfraith yn Lloegr. Ac mae gallu archebu ymlaen llaw, ac yna gwirio pwy ydych chi, yn un o'r ffyrdd y byddwn yn gallu cefnogi ein cyd-Aelodau mewn mannau eraill yn eu hymdrechion nawr i oresgyn y feirws mewn rhannau eraill o'r DU.

15:40

Diolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad ac, fel y mae Adam Price eisoes wedi'i ddweud, mae'r Prif Weinidog yn ymwybodol bod Plaid Cymru wedi cefnogi'n gyffredinol yr angen am y cyfnod atal byr ac wedi dadlau o blaid dull gofalus wrth inni adael y cyfnod hwnnw.

Cyfeiriodd y Prif Weinidog at ymgynghori yn y broses hon, a chredaf y bydd yn deall bod rhai sectorau o'r sector lletygarwch nad ydynt efallai wedi teimlo eu bod wedi'u cynnwys yn yr ymgynghoriad hwnnw gymaint ag y gallent fod. Gofynnaf iddo heddiw a all roi ystyriaeth bellach, gan fod angen i reolau a rheoliadau newid, er mwyn sicrhau yr ymgynghorir â'r ystod ehangaf bosib o'r busnesau hynny yr effeithir arnynt fwyaf cyn gynted â phosib wrth inni symud ymlaen, ac wrth iddo adolygu'n briodol effaith y cyfnod atal byr ac effaith llacio'r mesurau hynny.

Yn benodol, mae'r Prif Weinidog wedi cyfeirio at ddarparu canllawiau manwl i'r sector lletygarwch ar ôl heddiw, ac mae hi'n gwbl briodol, wrth gwrs, y dylid cynnal y trafodaethau hyn yn y Senedd ac y dylai'r Llywodraeth gwblhau canllawiau ar ôl hynny. Ond a all ddweud wrthym ni heddiw pryd y bydd y canllawiau manwl hynny ar gael i fusnesau lletygarwch fel y gallan nhw fod yn glir ynghylch beth yn union a ddisgwylir ganddynt? Ac yn benodol yn hynny o beth, a gaf i ofyn iddo yntau a Llywodraeth Cymru sicrhau y caiff manylion cwsmeriaid, pan gânt eu cymryd, eu cadw'n ddiogel a'u defnyddio at ddibenion priodol yn unig? Rwyf wedi clywed am fenywod, yn enwedig menywod ifanc, yn cael eu holi am eu manylion cyswllt, a'r rheini wedyn wedi eu defnyddio gan aelodau o staff neu reolwyr mewn busnesau lletygarwch ar gyfer dulliau amhriodol. Gwn fod hyn wedi'i godi gyda Llywodraeth Cymru fel risg, felly a gaf i ofyn iddo sicrhau yr eglurir i fusnesau yn union yr hyn sydd ei angen wrth ofyn am hunaniaeth ac y rhoddir pwyslais pellach ar gadw'r wybodaeth honno'n ddiogel a'i defnyddio'n briodol? 

Bydd yn rhaid i chi ddod â'ch cyfraniad i ben nawr; mae eich amser ar ben. Diolch, Helen Mary.

A gaf i ofyn, felly, yn olaf, o ran cymorth busnes pellach, a all y Prif Weinidog ystyried a ddylid targedu hynny'n well efallai yn y dyfodol at y busnesau hynny yr effeithir arnynt fwyaf, yn hytrach na mynd ati mewn modd lle mai'r cyntaf i'r felin sy'n elwa?

Diolch i Helen Mary Jones am y cwestiynau yna, ac, fel y dywedais, rwy'n ddiolchgar am y gefnogaeth eang y mae Plaid Cymru wedi'i chynnig i'r ffordd yr ydym ni wedi mynd ati yma yng Nghymru. Ac rwy'n cydnabod yr hyn a ddywedodd Helen Mary Jones am natur amrywiol iawn y sector lletygarwch. Fel Llywodraeth, rhaid inni ddibynnu'n gyffredinol ar y cyrff cynrychioliadol hynny sy'n bodoli yn y sector, ac rydym ni yn sicr wedi bod yn siarad â nhw, ond, mewn sector mor amrywiol â lletygarwch, nid yw pob busnes yn cael ei gynrychioli yn y math hwnnw o fforwm. Mae'n anochel bod pa mor gyflym y mae'n rhaid inni weithredu yn golygu ein bod yn dibynnu ar y rhwydweithiau presennol y gallwn fanteisio arnynt. A hwnnw, mewn ffordd, yw'r tensiwn yr ydym ni yn ei wynebu wrth ateb cwestiynau mewn canllawiau yn y ffordd y mae Helen Mary wedi gofyn yn eithaf priodol, oherwydd mae pa mor gyflym y gallwn ni ddarparu canllawiau, i raddau, yn adlewyrchiad o nifer y cwestiynau y mae'r sector yn eu holi gan ofyn i ni allu dod o hyd i ateb iddynt. Felly, po fwyaf y cwestiynau sydd yna, yr arafaf y mae'n tueddu i fod, ond byddwn yn ceisio cael y canllawiau, wrth gwrs, cyn gynted â phosib.

Llywydd, rwy'n bryderus iawn am yr hyn a ddywedodd Helen Mary Jones am gamddefnyddio gwybodaeth sy'n cael ei darparu, a byddaf yn sicr yn gwneud yn siŵr, ar ddiwedd y datganiad hwn, y byddaf yn gwneud rhai ymholiadau fy hun am hynny. Hoffem i bobl ddefnyddio ap y GIG fel sail i'r ffordd y maen nhw'n casglu gwybodaeth, oherwydd yna mae'n sicr o fod yn ddiogel, a pho fwyaf y gallwn hyrwyddo hynny a pho fwyaf y gallwn sicrhau ei fod ar gael, y lleiaf y byddwn yn wynebu'r risg y soniodd Helen Mary Jones amdani. Ac, wrth gwrs, byddwn yn parhau i edrych bob amser i weld a ellir sicrhau rhagor o gymorth i fusnesau. Ac mae'r dull cyntaf i'r felin yn ddull cyntefig iawn, rwy'n deall hynny, ond, fel y bydd hi'n gwybod, gwnaeth miloedd o bobl, miloedd o fusnesau gais, hyd yn oed ar y sail honno, a gwelwn beth arall y gellir ei wneud.

15:45

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad a dweud fy mod i, yn amlwg, hefyd yn edrych ymlaen at gyfle i ailgysylltu rywbryd â'm pedwar o wyrion ac wyresau, a hefyd, mae'n debyg, at ymweld â'm tafarn leol a chael fy holi am brawf hunaniaeth? Mae yfed o dan oed yn bla ar ein cymdeithas.

A gaf i grybwyll yn arbennig faterion llesiant, lles meddyliol ein cymunedau? Ac a gaf i ddweud bod rhai o'r mesurau sydd wedi eu gweithredu nawr, yn enwedig o ran campfeydd, o ran cynulliadau crefyddol, a chwaraeon, dawns, canolfannau hamdden a chanolfannau cymunedol rwy'n credu—pa mor bwysig ydynt? Gan eu bod ymhlith rhai o'r sefydliadau sydd wedi cael eu rheoleiddio'n eithriadol o dda, ond maen nhw hefyd yn cyfrannu'n sylweddol iawn at les corfforol ac, rwy'n credu, meddyliol, ein cymunedau. Credaf fod lles meddyliol yn rhywbeth sy'n wirioneddol ganolog i rai o'n hystyriaethau wrth i fisoedd o gyfyngiadau amrywiol ddod ar ein gwarthaf yn y dyfodol.

A gaf i ofyn yn arbennig i'r Prif Weinidog am ei gysylltiadau â'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch a'r undebau llafur, yn enwedig o ran lles y degau ar filoedd o'r bobl hynny sydd bellach yn gweithio gartref, na fyddent wedi bod yn gweithio gartref o'r blaen, yn aml mewn amgylcheddau pur anaddas, ond hefyd y risgiau gwirioneddol i iechyd meddwl sydd bellach yn bodoli oherwydd yr oriau hir sylweddol a'r ffaith yr ymddengys hi bellach fel pe baem yn cael ein rheoleiddio, neu ein rheoli, yn helaeth iawn gan Zoom a Teams a mathau eraill o dechnoleg, yn hytrach na fel arall? Mae'n ymddangos i mi na roddwyd ystyriaeth ddigonol i hynny. A gaf i ofyn a ydych chi'n credu mai dyma'r adeg y dylai'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, mae'n debyg, gael ei ddatganoli yng Nghymru, oherwydd mae'n rhan mor bwysig o'n hiechyd cyhoeddus ni?

Ac a gaf i grybwyll hefyd un mater arall, sef caethiwed i gamblo? Byddwch yn ymwybodol o'r ohebiaeth ddiweddar yn The Lancet yn awgrymu y dylem ni gael clinigau caethiwed i gamblo erbyn hyn. Mae cyfran fawr o'n poblogaeth bellach yn agored i niwed ac yn agored i ymosodiad parhaus hysbysebion gamblo, ac mae gan hyn ganlyniadau sylweddol, rwy'n credu. Credwn ei bod hi'n haws nag erioed i lawer o bobl ledled Cymru ddechrau gamblo ac mae canlyniadau hyn ar gyfer y dyfodol, rwy'n credu, yn eithaf arwyddocaol ac mae angen mynd i'r afael ag ef fel mater iechyd cyhoeddus difrifol, yn enwedig mewn cysylltiad â COVID nawr. Diolch, Prif Weinidog.

Llywydd, diolch, ac rwy'n diolch i Mick Antoniw am y cwestiynau yna. Rwy'n gwybod fod Mick Antoniw wedi dechrau drwy dynnu coes braidd, ond, mewn gwirionedd, Llywydd, rydym ni i gyd, pob un ohonom ni, rwy'n credu, yn osgoi dweud rhyw lawer am effaith y coronafeirws ar ein bywydau ein hunain ac ar fywydau'r staff yr ydym ni i gyd yn eu cyflogi yn rhinwedd ein cyfrifoldebau etholaethol ein hunain, ac y gwn i eu bod wedi ysgwyddo baich enfawr yr ymdrechion yr ydym ni i gyd yn ceisio eu gwneud o ran ein cyfrifoldebau lleol i ateb cwestiynau pobl, a sicrhau bod yr wybodaeth fwyaf cyfredol ganddyn nhw. Ond mae yna oblygiadau iechyd meddwl a lles yn hynny i gyd i'n cynrychiolwyr etholedig yn ein swyddogaethau etholaethol, ac i'n timau hefyd. Felly, rwyf wastad wedi meddwl, Llywydd, mai un o'r pethau gwych am ddatganoli yng Nghymru yw bod y bwlch rhwng y bobl hynny sy'n cael eu hethol a'r bobl hynny sy'n ein hethol yn llawer culach nag ydyw mewn llawer o ddeddfwrfeydd eraill, a'n bod yn byw bywydau sydd mor llawn o'r profiadau y mae'n rhaid i'n cyd-ddinasyddion eu profi ag unrhyw un arall, a chredaf ei fod yn dod â math gwahanol o gyfoeth i'r math o drafodaeth y buom ni yn ei chael y prynhawn yma.

O ran yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch ac undebau llafur, mae gennym ni, wrth gwrs—bydd Mick Antoniw yn gwybod—fforwm iechyd a diogelwch cenedlaethol newydd yng Nghymru tan yr adeg y mae'r awdurdod wedi'i ddatganoli. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r fforwm am gytuno i gymryd rhan yn y fforwm hwnnw a sicrhau bod staff ar gael i gyfrannu at y trafodaethau hynny, gan gynnwys trafodaethau ynglŷn ag iechyd a lles pobl sy'n gweithio gartref. Rwy'n sicr nad fi yw'r unig un sydd, ar ddiwedd dyddiau lawer, yn dioddef o flinder Zoom, ac nid wyf yn golygu hynny o ran dim ond ei effaith arnoch chi, ond yn llythrennol, pan fo eich llygaid yn llosgi a'r teimlad y buoch yn syllu ar y sgrin honno am fwy o amser nag sy'n synhwyrol i unrhyw un ei wneud. Ac mae pobl eraill sy'n gweithio gartref yn profi hynny hefyd. Dyna pam y bydd gan y fforwm iechyd a diogelwch ddiddordeb yn hynny; dyna pam yr ydym ni yn cyflymu ein rhaglen o greu canolfannau lleol, lle gall pobl weithio o bell, ond nid yn eu cartrefi eu hunain.

A bydd Eluned Morgan wedi clywed y sylw am gaethiwed gamblo, y mae Mike Antoniw wedi'i wneud yn rheolaidd iawn drwy gydol yr amser y bu'n Aelod Cynulliad, ac rwy'n siŵr y bydd hi'n hapus i drafod yn uniongyrchol ag ef effaith benodol argyfwng y coronafeirws ar bobl sydd gartref ac yn cael eu peledu, fel y dywedodd, gan wahoddiadau a hysbysebion sy'n ceisio eu cymell, pobl sydd weithiau'n agored i niwed, i wario arian yn y ffordd honno.

15:50

Mae gennym ni dri o wyrion newydd, i gyd yn byw gerllaw, ond dau yn Lloegr. Gallwch ddychmygu sut yr ydym ni'n teimlo. Dywed Epilepsi Cymru nad oes llawdriniaeth epilepsi ar gyfer plant nac oedolion yng Nghymru ar hyn o bryd, ac ni fu am y saith mis diwethaf. A all y Prif Weinidog ddweud wrthym ni pryd y bydd hyn yn newid fel y gellir darparu llawdriniaeth hanfodol i'r bobl hynny sy'n hynod o agored i niwed ac sy'n byw gyda ffitiau na ellir mo'u rheoli, gyda'r holl risg gysylltiedig i iechyd a bywyd, pan fo'r rhan fwyaf o ganolfannau arbenigol eraill ledled y DU wedi ailddechrau llawdriniaeth epilepsi hanfodol i'w cleifion sydd ag epilepsi sy'n gwrthsefyll cyffuriau?

Fis diwethaf, cyhoeddodd Asthma UK a British Lung Foundation Wales adroddiad ynglŷn ag ailddechrau gofal sylfaenol. Roedd 70 y cant o'u buddiolwyr yn gyfrifol eu hunain am reoli symptomau a oedd yn gwaethygu, megis pwl o asthma. Dywed dros 40 y cant fod eu gofal anadlol naill ai wedi'i ohirio neu ei ganslo yn ystod y cyfnod cyfyngiadau symud, ac mae bron i chwarter yn osgoi'r GIG yn gyfan gwbl, sy'n golygu nad ydyn nhw bellach yn rheoli eu cyflwr. Wrth inni nesáu at y gaeaf nawr, pan fydd cyfraddau atgyfeirio hanesyddol ar gyfer derbyn cleifion i ysbytai oherwydd clefydau'r ysgyfaint yn cynyddu 80 y cant, beth fyddwch chi yn ei wneud nawr, yn seiliedig ar argymhellion yr adroddiad, fel ei bod hi'n rhwyddach i filoedd o bobl ledled Cymru sydd â chyflwr ar yr ysgyfaint gael gofal sylfaenol eto fel ag o'r blaen?

Yr wythnos diwethaf, lansiodd Cymorth Canser Macmillan eu hadroddiad newydd, 'The Forgotten 'C'? The impact of Covid-19 on cancer care', a oedd yn manylu ar y cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sydd nawr yn aros am ddiagnosis a thriniaeth. Sut felly ydych chi'n ymateb i ddatganiad yr adroddiad bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru flaenoriaethu a neilltuo gwasanaethau canser yn ystod ail don y pandemig?

Ac, yn olaf, yn dilyn eich cyhoeddiad y bydd y ffin ar gau nes i'r cyfnod cyfyngiadau symud newydd yn Lloegr ddod i ben ar 2 Rhagfyr, pa sicrwydd y gallwch chi ei roi i fyfyrwyr Cymru sy'n preswylio yn ystod y tymor mewn prifysgolion yn Lloegr y gallan nhw ddod adref i Gymru ar gyfer y Nadolig a thymor y gwyliau ar ôl i'r tymor prifysgol ddod i ben ddechrau Rhagfyr?

15:55

Wel, Llywydd, byddaf, wrth gwrs, yn ymchwilio i'r sylw penodol y mae Mark Isherwood yn ei wneud am epilepsi ac fe ysgrifennaf ato ynghylch hynny. Mae'n siŵr mai dyma'r ateb cyffredinol i'w holl ymholiadau: bod ein gallu i ail fwrw iddi yng Ngwasanaeth Iechyd Gwladol Cymru gyda gwasanaethau heblaw am rai sy'n ymwneud â'r coronafeirws yn gwbl ddibynnol ar y graddau y gallwn ni droi llanw y coronafeirws ei hun yn ei ôl. Ac mae pethau y gall pob un ohonom ni eu gwneud i helpu i berswadio'r cyhoedd i gymryd y mater hwn o ddifrif a chadw at y cyfyngiadau yr ydym ni yn gofyn iddyn nhw gadw atyn nhw, oherwydd, os na wnawn ni, ac os byddwn ni yn gwneud pethau sy'n annog pobl i beidio â chymryd hyn o ddifrif ac i beidio â chadw at y rheoliadau, yna'r cyfan a wnawn yw gwarantu y bydd mwy o bobl yn dal y clefyd hwn a bydd yr holl gyfleoedd y mae Mark Isherwood wedi fy holi yn eu cylch yn lleihau yn hytrach na chynyddu. Felly, edrychaf ymlaen at ei gefnogaeth, ei gefnogaeth lwyr, a chefnogaeth ei blaid, yn ein hymdrechion yma yng Nghymru. Bydd fy mhlaid yn Llundain yn pleidleisio dros y cyfyngiadau y mae'r Prif Weinidog yn eu hymestyn yn Lloegr. Byddai'n dda iawn pe gallem ni ddibynnu ar yr un math o gefnogaeth i'r hyn yr ydym ni yn ei wneud yng Nghymru gan ei blaid ef.

O ran y mater sy'n ymwneud â'r Nadolig, roeddwn yn falch o gytuno, yn y cyfarfod COBRA ddoe, y dylid cael cyfarfod cyflym arall rhwng pedair gwlad y Deyrnas Unedig er mwyn cynllunio gyda'n gilydd ar gyfer cyfnod y Nadolig er mwyn ymdrin â'r union fath o faterion a gododd Mark Isherwood am fyfyrwyr sy'n byw ar y naill ochr a'r llall i'r ffin yn ystod y tymor sydd â chartrefi y maen nhw'n dymuno dychwelyd iddyn nhw. Mae hwnnw'n fater y credaf fod dull pedair gwlad yn synhwyrol er mwyn ymdrin ag ef, ac rwy'n falch bod Llywodraeth y DU wedi cytuno y bydd gennym ni y math o batrwm ymgysylltu rheolaidd yr wyf wedi bod yn galw amdano ers misoedd lawer er mwyn gallu gweithio tuag at gynllun ac ymagwedd gyffredin o'r fath.

Mae'n ddrwg gen i, roeddwn yn aros am yr arwydd. Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Diolch am y datganiad, Prif Weinidog. Diolch yn benodol am gydnabod materion llesiant, boed a wnelo hynny â chaniatáu i gampfeydd ailagor, sydd mor bwysig i iechyd corfforol a meddyliol, ac yn benodol, yn ogystal, rwy'n credu, caniatáu i bobl sengl ddod at ei gilydd mewn amgylchiadau rheoledig iawn. Mae sawl mater—fe wnaf i eu crybwyll yn gyflym iawn. Rwy'n poeni'n fawr am drosglwyddo'r feirws mewn ysbytai—ar hyn o bryd, rwy'n credu y bu tua 200 o achosion o drosglwyddo mewn ysbytai yng Nghymru dros yr wythnos ddiwethaf. Faint o flaenoriaeth yw hi i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â hynny, sydd mor bryderus o ran tanseilio'r hyder y mae angen inni ei feithrin mewn pobl y dylen nhw barhau i geisio triniaeth ar gyfer afiechydon ac ati?

O ran profi, byddaf yn pwysleisio eto fy nymuniad ein bod yn clywed mwy am y datblygiadau y mae arnom ni eu hangen ar ôl y cyfnod clo byr hwn er mwyn gwneud ein system brofi'n fwy cadarn. Mae datblygiadau cyffrous mewn technoleg y mae angen eu paru â datblygiadau cyffrous mewn polisi hefyd. Cafodd fy merch brawf COVID yr wythnos diwethaf, cafodd ganlyniad y prawf mewn 18 munud. Mae hynny'n newid sylweddol, ac mae angen i ni wybod mai dyna'r sefyllfa yr ydym ni eisiau ymgyrraedd ati o ran profi ar raddfa sylweddol yng Nghymru.

Triniaethau—byddwch yn gwybod fy mod wedi treulio llawer o amser yn ystod misoedd cyntaf y pandemig yn ceisio dadlau'r achos dros ymyrraeth gynharach. Roeddwn yn credu bod pobl yn marw oherwydd dywedwyd wrth bobl i beidio â dod i gael triniaeth nes eu bod yn rhy sâl. Mae gennym ni driniaethau gwell nawr—mae hynny'n dda—gan gynnwys pethau y buom yn dadlau drostyn nhw—pwysedd positif parhaus yn y llwybr anadlu a thriniaeth ocsigen ac yn y blaen. Ydych chi'n meddwl bod modd ymyrryd yn gynharach fyth fel nad yw pobl yn mynd mor sâl?

O ran lletygarwch, rwy'n falch bod gennym ni eglurder ynghylch yr hyn sy'n digwydd ym maes lletygarwch. Mae twristiaeth yn gysylltiedig â lletygarwch, wrth gwrs. Nawr, a allwch chi roi syniad inni o'r hyn y gallwn ni ei ddisgwyl neu beth y dylid ei ganiatáu o ran llety ac atyniadau? Mae'n amlwg nad ydym yn gwahodd pobl i deithio'n bell at ddibenion twristiaeth, ond rydych chi yn cydnabod wrth agor y diwydiant lletygarwch fod hamdden yn bwysig. Beth all pobl ei ddisgwyl ym maes twristiaeth? Ac rwy'n cyflwyno'r achos eto, boed yn dwristiaeth neu'n feysydd eraill nad ydynt yn cael unrhyw gymorth gan y Llywodraeth o hyd o ran cymorth ariannol, ceisiwch lenwi'r bylchau hynny. Credaf fod yr hyn a ddigwyddodd gyda'r gronfa yr wythnos diwethaf, a'r ffaith iddi gau o fewn diwrnod neu ddau yn hytrach na bod ar agor am fis, wedi tanseilio hyder. Edrychwch eto ar hynny, a gwnewch yn siŵr bod busnesau'n cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.

16:00

Yr un mor gyflym, fel y dywedais, dywedodd prif weithredwr y GIG bethau'n gynharach heddiw ynglŷn â throsglwyddo'r haint mewn ysbytai, a gofynnaf i Aelodau edrych ar yr hyn a ddywedodd. Rwyf yn bryderus—dylwn fod wedi dweud hynny wrth ateb cwestiwn Mark Isherwood pan soniodd am bobl yn osgoi'r GIG. Dydw i ddim am i ni fynd yn ôl i'r man lle yr oeddem ni yn ôl ym mis Ebrill, pan oedd cymaint o achosion o'r coronafeirws yn ein hysbytai fel nad oedd pobl yn teimlo'n ddigon diogel i fynd yno at ddibenion eraill. Dyna reswm arall eto pam y mae angen i ni wneud y gorau o'r cyfnod atal byr hwn a pherswadio pobl i ymddwyn mewn gwahanol ffyrdd y tu hwnt i hynny.

O ran y technolegau, fel yr wyf wedi dweud, bydd y Gweinidog iechyd yn cyhoeddi datganiad yn ddiweddarach yr wythnos hon ynghylch rhai o'r posibiliadau technolegol hynny a sut yr ydym ni yn paratoi ar eu cyfer. Rwyf innau hefyd yn cydnabod yr hyn a ddywedodd Rhun ap Iorwerth ynghylch bod gwell triniaethau ar gael yn yr ail don hon nag yn y gyntaf, a gallwch weld hynny, rwy'n credu, eisoes, i raddau, yn nhreigl arafach pobl o welyau ysbyty i ofal critigol. Mae gennym ni fwy o bobl mewn gwelyau gofal critigol yng Nghymru nag oedd gennym ni dair wythnos yn ôl, mae hynny'n anochel, ond nid yw'r gyfradd y mae cleifion ysbyty'n troi'n gleifion gofal critigol yr hyn yr oedd yn y don gyntaf, a'r rheswm am hynny yw bod gennym ni y triniaethau ychwanegol hynny.

Wrth gwrs fy mod yn cydnabod y sylwadau a wnaeth Rhun am dwristiaeth yn ogystal â lletygarwch. Bydd modd i dwristiaeth ailddechrau yng Nghymru, ond mae'n anochel y bydd ar y raddfa lai sy'n dod heb ein marchnad fwyaf, yn yr ystyr bod y nifer fwyaf o bobl sy'n teithio i Gymru ar gyfer twristiaeth yn dod o Loegr, ac ni fydd hynny'n digwydd dros y pedair wythnos nesaf.

Prif Weinidog, a yw pandemig y coronafeirws wedi cyflymu'r gwaith o adeiladu gwladwriaeth Gymreig? Cyn iddo ddechrau, nid oedd gan lawer yng Nghymru fawr o syniad o'r grym a oedd gennych chi drostyn nhw. Yn wir, doedd llawer ddim yn gwybod pwy oeddech chi. Nawr cewch eich taflunio i mewn i'w hystafell fyw a byddwch yn penderfynu pryd y gallant adael eu tŷ. Yn y cyfamser, mae ffin a oedd gynt prin yn weladwy rhwng Cymru a Lloegr yn gadarnach fyth. O ddydd Llun, rydych chi yn adfer rhyddid i symud yn fewnol yng Nghymru ond yn atal symud i mewn ac allan o Gymru, fel petai Adam Price eisoes yn Brif Weinidog.

Rydych yn honni bod hyn oherwydd COVID, ond mae nifer yr achosion o COVID yn amrywio llawer iawn mwy yng Nghymru nac yn Lloegr. Ni fydd gennych chi unrhyw broblem gyda'm hetholwyr ym Merthyr, lle mae nifer yr achosion o COVID yn uchel, yn ymweld â sir Fynwy, lle mae'n isel, ac eto rydych yn gwahardd fy etholwyr yn sir Fynwy rhag teithio i ardaloedd lle mae nifer yr achosion yn uchel, dim ond oherwydd bod yr ardaloedd hynny yn Lloegr. Prif Weinidog, rydych chi yn cyhuddo Adam Price o fod eisiau ein gwahanu, ond onid dyna yr ydych chi yn ei wneud?

Llywydd, y cyfan yr wyf yn ei wneud yw canolbwyntio ar y coronafeirws. Nid wyf yn rhannu'r obsesiynau sydd gan yr Aelod â'r holl gyfraniadau cwbl amherthnasol a chyfeiliornus eraill hyn. Gadewch iddo am funud yn unig, rwy'n credu, yn un o'r pethau y mae'n ei ddweud wrth y Senedd, ganolbwyntio ar y bywydau sy'n cael eu colli, y dyfodol sy'n cael ei ddifetha yma yng Nghymru, oherwydd y clefyd enbyd hwn. Gadewch iddo am unwaith ddweud rhywbeth wrthym ni am hynny yn hytrach na'n diddanu yn y ffordd y mae'n ei wneud gyda'r damcaniaethau hyn sy'n perthyn ar gyrion eithaf bywyd cyhoeddus Cymru, a gobeithio, cyn bo hir, y tu hwnt i'r cyrion.

Rwyf newydd wneud hynny. Diolch.

Yn gyntaf, diolch, Prif Weinidog, am eich datganiad, a diolch i chi, Llywydd, am adael imi ddweud pwt ar y diwedd fel hyn. Ceisiaf gadw'r cyfraniad yn fyr. Hoffwn ddweud yn gyntaf, Prif Weinidog, rwy'n falch iawn bod Alun Davies a Delyth Jewell ill dau hefyd wedi cydnabod yr angen dybryd i ailagor cam 3 y gronfa cadernid economaidd ar gyfer busnesau a oedd yn gwneud cais am £150,000 ac y dywedir wrthynt nawr am wneud cais am grantiau o £2,000 yn unig. Mae'n amlwg nad yw'n ddigonol, felly rwy'n diolch i chi gan eich bod nawr yn ystyried ailagor hwnnw.

Mae fy nghwestiwn, yn gyflym, yn ymwneud â phêl-droed ar lawr gwlad. Byddai eich rheol ar ôl y cyfnod atal byr o 30, o ran pêl-droed, yn golygu 14 yn erbyn 14 ar y naill ochr a'r llall mewn gêm, gydag un dyfarnwr ac un person cymorth cyntaf, sy'n golygu un chwaraewr wrth-gefn a dim llumanwyr. At ddibenion hyfforddi, mae hynny'n iawn, Prif Weinidog; ar gyfer gemau cyfeillgar, mae'n amlwg nad yw hynny gystal. Ond, o'r rheol hon o 30, a wyf yn tybio nad oes bwriad i ddechrau tymhorau pêl-droed ar lawr gwlad yma yng Nghymru? Yn Lloegr, yn amlwg, fel y gwyddoch chi, mae tymhorau pêl-droed ar lawr gwlad wedi dechrau ac maen nhw bellach wedi'u gohirio ond gyda'r bwriad o'u hailgychwyn. Felly, a allai'r Prif Weinidog egluro pa drafodaethau y mae wedi'u cael gyda Chymdeithas Bêl-droed Cymru ynghylch hyn, ac ai'r bwriad yw dechrau'r tymhorau hynny, ai peidio, oherwydd yn amlwg mae angen i'n clybiau ni gael gwybod? Diolch.

16:05

Llywydd, efallai nad oeddwn i yn dilyn cwestiwn yr Aelod yn ddigon manwl; roeddwn yn credu bod pêl-droed yn cael ei chwarae ag 11 bob ochr a, gyda 30, y byddai'n bosib felly cynnal gêm bêl-droed. Felly, efallai fy mod wedi camddeall y pwynt yr oedd yr Aelod yn ei wneud, ac rwy'n ymddiheuro os wyf wedi gwneud hynny. 

Yr hyn yr hoffwn i ei ddweud wrthi yw ein bod ni wedi addo adolygiad ar ôl tair wythnos; sef adolygiad o bopeth yr ydym yn ei weithredu y tu hwnt i'r cyfnod atal byr. Os yw pethau'n llwyddiannus, os gallwn ni ddangos bod y cyfnod atal byr wedi cael yr effaith y mae angen iddo ei chael o ran troi'r llanw'n ôl ac atal pobl rhag mynd i'r ysbyty ac ati, yna byddwn yn edrych i weld beth arall y gallwn ni ei wneud. Os nad ydym ni yn y sefyllfa honno, yna, yn anochel, ni fyddwn ni'n gallu cynnig rhagor o lacio yn y ffordd yr hoffem ni. Ond, yn y maes hwn, fel ym mhob un arall, byddwn yn ei adolygu'n barhaus, byddwn yn siarad â'r cyrff llywodraethu yn y ffordd yr awgrymodd Laura Anne Jones ac, fel y dywedais, yn y pen draw mae hyn yn dibynnu ar bob un ohonom ni. Gall bob un ohonom ni wneud pethau a fydd yn golygu, bythefnos y tu hwnt i'r cyfnod atal byr, y gallwn ni roi sylw i rai o'r pwyntiau y mae'r Aelod yn eu gwneud. Neu, fe allwn ni i gyd ystyried terfyn y cyfnod atal byr fel cyfle i anghofio bod y coronafeirws yn bodoli ac ymddwyn mewn ffyrdd a fydd yn gwarantu ei fod yn dychwelyd mewn modd nerthol iawn ac yna ni fydd hi'n bosib cefnogi unrhyw rai o'r pethau y mae hi'n sôn amdanyn nhw. 

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cymorth Strategol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr

Symudwn ymlaen at eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma, sef datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: cymorth strategol i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. A galwaf ar Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau heddiw am y cynnydd y mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi'i wneud i fynd i'r afael â'r materion a arweiniodd at ei roi mewn mesurau arbennig yn 2015. Ynghyd â'm swyddogion a'r bwrdd iechyd, rwy'n parhau i ganolbwyntio ar y gwaith i sicrhau gwelliannau cynaliadwy parhaus.

Mae'r bwrdd iechyd wedi cyflwyno adroddiad cynhwysfawr a chytbwys yn ddiweddar ynghylch y cynnydd a wnaed yn ystod y cyfnod pan oedd mesurau arbennig yn dwysáu. Mae hyn yn dangos cynnydd gwirioneddol ond hefyd dirnadaeth gan dderbyn bod meysydd i weithredu arnynt a lle mae angen gwelliant parhaus. Mae'r meysydd cynnydd yn cynnwys y gallu i ysgogi gwelliant fel bod rhai gwasanaethau yn dod allan o fesurau arbennig. Mae gwasanaethau mamolaeth a gwasanaethau y tu allan i oriau wedi cyflawni hyn ac maen nhw bellach yn rhan o ymgyrch wella barhaus y bwrdd. Mae mesurau ansawdd, megis ymateb i bryderon ac atal a rheoli heintiau, yn dangos bod materion perfformiad hanesyddol wedi cael sylw. Erbyn hyn, mae gan y bwrdd ddull mwy strwythuredig o barhau i sicrhau a gwella.

Mae'n bwysig cydnabod yr ymateb cadarnhaol a pharhaus i COVID-19 gan y bwrdd iechyd yn yr amgylchiadau anoddaf. Mae hyn yn adlewyrchu'r cydnerthedd a'r gallu gwell i gyflawni. Mae'r bwrdd iechyd wedi darparu asesiad gonest o feysydd i weithredu arnynt a'u gwella'n barhaus sy'n cyd-fynd â barn cyfarfod diweddar y bartneriaeth deirochrog, gan gynnwys: yr angen i wella arweinyddiaeth a llywodraethu ymhellach; datblygu strategaeth gwasanaethau clinigol integredig hirdymor; cryfhau'r gallu i arwain ymhellach ym maes iechyd meddwl er mwyn gwella sefydlogrwydd a chydnerthedd; datblygu cynllun ariannol tair blynedd cadarn i gyflawni ei ddyletswyddau ariannol yn rhan o'r cynllun tymor canolig integredig; yr angen i gwblhau a gweithredu fframwaith atebolrwydd a pherfformiad diwygiedig, a sicrhau gwelliannau mewn perfformiad, yn enwedig yn y sector acíwt.

Er bod gan lawer o sefydliadau iechyd eraill faterion cysylltiedig i fynd i'r afael â nhw, fel y gŵyr Aelodau, maen nhw yn fwy hirsefydlog yn y gogledd ac mae perfformiad yn anghymesur o wael o ran meysydd pwysig, megis atgyfeirio cleifion i gael triniaeth neu i unedau damweiniau ac achosion brys, gan ddangos bod angen galluogi atebion rheolaidd a thymor hwy. Er mwyn mynd i'r afael â'r heriau hirsefydlog hyn rwyf wedi penderfynu bod angen dull gwahanol ar gyfer y cam gwella nesaf. Felly, byddaf yn darparu cyllid strategol tymor hwy ar gyfer materion allweddol yn ymwneud â gwasanaethau a pherfformiad. Bydd hyn yn galluogi'r bwrdd iechyd i symud oddi wrth gamau gweithredu tymor byr a gwneud cynnydd o ran cynllunio tymor canolig a thymor hwy sy'n trosi'n gynllun y gellir ei weithredu.

Rwyf eisoes wedi cadarnhau'r sefyllfa o ran diffygion hanesyddol a chymorth ariannol y GIG a fydd o fantais i'r bwrdd iechyd. Er mwyn gallu gwneud cynnydd pellach, rwyf heddiw yn cyhoeddi pecyn o gymorth cefnogaeth strategol ar gyfer y tair blynedd a hanner nesaf. Bydd y cymorth hwn yn darparu cyfres wahanol o ffiniau a fydd yn galluogi'r bwrdd iechyd i ailosod a chynllunio'n gynaliadwy ar gyfer y dyfodol, er mwyn diwallu anghenion iechyd pobl y gogledd. Bydd yn cynnwys: cyflenwi ar gyfer y diffyg o hyd at £40 miliwn y flwyddyn; cyllid i wella gofal heb ei drefnu ac adeiladu rhaglen gofal wedi'i gynllunio gynaliadwy, gan gynnwys orthopedeg, o £30 miliwn y flwyddyn; £12 miliwn y flwyddyn i gefnogi'r gwaith o wella perfformiad a gweithredu'r strategaeth iechyd meddwl mewn partneriaeth; a chymorth i feithrin gallu a chapasiti ehangach yn y sefydliad.

Bydd y gefnogaeth i'r dull strategol hwn ar y sail bod y bwrdd iechyd yn parhau i adeiladu ar gydberthnasau gyda phartneriaid presennol ac yn ymgysylltu'n llawn â'r cyhoedd, staff, undebau llafur a phartneriaid ehangach. Y cam cyntaf hanfodol fydd gweithio mewn partneriaeth i feithrin gweledigaeth gynaliadwy ar gyfer y dyfodol, gan arwain at gynllun tymor canolig, gan ganolbwyntio ar atal, lles corfforol a meddyliol, iechyd y boblogaeth ac, wrth gwrs, gwasanaethau gofal sylfaenol ac eilaidd.

Rwy'n cydnabod bod hwn yn faes blaenoriaeth ar gyfer buddsoddi. Fy mwriad felly yw parhau â'r gefnogaeth hon ar gyfer y blynyddoedd 2021-22 hyd at 2023-24, a chan gynnwys 2023-24. Bydd yn cynnwys fframwaith gwella diwygiedig a datblygu dull matrics aeddfedrwydd i asesu cynnydd. Yn ogystal, bydd Aelodau'n ymwybodol imi gyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn hysbysu'r Aelodau y byddaf yn sefydlu grŵp gorchwyl a gorffen i wneud argymhellion imi ynglŷn â chynnig ar gyfer ysgol feddygol yn y gogledd.

Bydd y cymorth hwn rwy'n ei gyhoeddi heddiw yn helpu i sicrhau trawsnewid ac arloesi, gan arwain at well canlyniadau, profiad cleifion a pherfformiad ariannol o flwyddyn i flwyddyn. Mae'n arwydd clir o'n hyder cynyddol yng ngallu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i wella a darparu ymhellach y gwasanaethau a'r gofal o safon uchel y mae gan bobl y gogledd bob hawl i'w disgwyl. Diolch, Dirprwy Lywydd.

16:10

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad ac am rannu copi ymlaen llaw gyda ni. A gaf i yn gyntaf, Dirprwy Lywydd, dalu teyrnged ar goedd i staff y GIG yn y gogledd, sydd wedi bod yn gwneud gwaith clodwiw iawn, rwy'n credu, i allu ymdopi dan rai amgylchiadau anodd iawn o ganlyniad i'r pandemig COVID? Nid yw bob amser yn hawdd, yn enwedig ar adegau fel y rhain, ond maen nhw wedi ysgwyddo'r cyfrifoldeb ac yn cyflawni mewn gwirionedd ar ran fy etholwyr ac etholwyr cynrychiolwyr eraill yn y Senedd hon, ac fe hoffwn i eu cymeradwyo am eu gwaith.

Mae hi wedi bod dros bum mlynedd bellach—rydym ni yn chweched flwyddyn y gyfundrefn mesurau arbennig yma yn y gogledd—ac mae llawer o bobl yn anhapus iawn ei bod hi wedi cymryd cyhyd i geisio datrys y problemau. Gwyddom fod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi, pan roddwyd y bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig, y byddai cyfres o gynlluniau 100 diwrnod i geisio newid perfformiad. Wel, mae'n teimlo ychydig yn fwy tebyg i'r rhyfel 100 mlynedd o ran gwneud cynnydd yn hynny o beth. Cyfeiriodd y Gweinidog at y ffaith nad yw'r gyfundrefn mesurau arbennig yn berthnasol bellach i'r gwasanaethau mamolaeth na'r gwasanaethau meddygon teulu y tu allan i oriau arferol, a chroesawaf y ffaith nad yw'n berthnasol mwyach, ond rhaid inni beidio ag anghofio mai o ganlyniad i'r cyhoedd yn gorymdeithio ar y strydoedd y gwelsom y gwelliannau yn y gwasanaethau mamolaeth hynny a diogelwch y gwasanaethau mamolaeth, yn enwedig yn Ysbyty Glan Clwyd, yr ysbyty sy'n gwasanaethu fy etholaeth fy hun ac, yn wir, etholwyr eich etholaeth chi, Dirprwy Lywydd.

O ran arweinyddiaeth hefyd yn y bwrdd iechyd, bu cryn newid dwylo. Rydym ni wedi gweld prif weithredwyr yn mynd a dod, rydym ni wedi gweld cyfarwyddwyr cyllid yn mynd a dod, rydym ni wedi gweld arweinwyr iechyd meddwl yn mynd a dod, a bu hi'n dipyn o draed moch mewn gwirionedd. Felly, rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y prif weithredwr newydd, pan fydd yn cyrraedd yn y flwyddyn newydd, yn rhywun a fydd yn medru aros yn ei swydd, mynd i'r afael â'r problemau hyn a dod â nhw i fwcwl unwaith ac am byth.

Nawr, os gallaf hefyd fanteisio ar y cyfle heddiw i groesawu'r buddsoddiad ychwanegol hwn yn y gogledd gan Lywodraeth Cymru. Rwyf wastad wedi dweud fy mod yn credu y bu diffyg strwythurol, a etifeddwyd gan y sefydliad yn y gogledd pan unodd â'r sefydliadau iechyd eraill yn y rhanbarth, pan gafodd ei sefydlu. Rwy'n credu y bydd y £40 miliwn ychwanegol y flwyddyn dros y tair blynedd nesaf yn ei helpu i fynd i'r afael â rhai o'r problemau hynny nad yw wedi gallu mynd i'r afael â nhw oherwydd diffyg adnoddau a chyllid. A gaf i ofyn i'r Gweinidog a yw'r cyllid hwn o £40 miliwn yn gydnabyddiaeth bod diffyg strwythurol, ac os ydyw, a yw hynny'n rhywbeth a fydd yn parhau y tu hwnt i'r tair blynedd hyn? Gwyddom y canfuwyd diffygion strwythurol mewn byrddau iechyd eraill o gryn faint—Hywel Dda yn arbennig—ac y bu cyllid ar gael yn barhaol yn y fan yna, a chredaf fod achos dros sicrhau bod y £40 miliwn ychwanegol hwn ar gael yn barhaol yn hytrach na dim ond am gyfnod o dair blynedd.

Unwaith eto, rwy'n croesawu'r £30 miliwn sy'n cael ei ddarparu i geisio helpu perfformiad o ran gwasanaethau brys, ac yn wir i fynd i'r afael â'r rhestrau aros amser atgyfeirio i driniaeth hefyd, ond eto, nid wyf yn siŵr a fydd £30 miliwn mewn gwirionedd yn ymdrin yn llwyr â'r broblem honno nac yn ei dileu. Rwy'n gwybod bod gan y bwrdd iechyd gynigion y mae'n eu cyflwyno a fydd yn gofyn am rywfaint o fuddsoddiad cyfalaf er mwyn mynd i'r afael â rhai o'r materion hyn, yn enwedig gydag amseroedd aros am driniaeth, y collwyd pob rheolaeth arnyn nhw dros y misoedd diwethaf oherwydd y pandemig, ond a oedd eisoes yn sylweddol iawn hyd yn oed cyn hynny, gyda phobl yn aros dwy flynedd fel arfer am lawdriniaeth orthopedig. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni, Gweinidog, yn ogystal â'r adnodd hwn o £30 miliwn i gefnogi llawdriniaethau heb eu cynllunio a dewisol, a fyddwch yn gallu gwneud peth buddsoddiad cyfalaf ychwanegol hefyd mewn pethau fel llawdriniaeth robotig, nad oes gennym ni ar hyn o bryd ar gyfer cleifion wroleg yn y gogledd, ac yn wir o ran helpu i glirio'r rhestr aros honno, efallai gyda chanolfannau diagnostig a thriniaeth sydd ar wahân i'r gwasanaethau a ddarperir ar hyn o bryd ar ein safleoedd ysbytai presennol?

Ac yn olaf, os gallaf droi at ran iechyd meddwl y datganiad heddiw, mae'n amlwg ein bod yn gwybod y bu pryderon difrifol am wasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd ers peth amser. Rydym ni wedi gweld y diffyg crebwyll ar ran y bwrdd iechyd gyda 1,600 o gleifion yn cael eu rhyddhau o wasanaethau gofal sylfaenol. Rwy'n gwybod y bydd rhywfaint o newid—ac y bu rhywfaint o newid—yn arweinyddiaeth y gyfarwyddiaeth iechyd meddwl o fewn y bwrdd, ond mae'n amlwg yn hanfodol ein bod ni'n cael rhywfaint o ffydd, wrth symud ymlaen bod y gwasanaethau hyn yn flaenoriaeth bendant. Mae'n amlwg bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu buddsoddi mewn uned iechyd meddwl newydd yn Ysbyty Glan Clwyd, ac rwy'n falch iawn o'i gweld ac mae bellach ar waith, ond rwy'n pryderu nad arian i'w wario ar adeiladau yn unig sydd ei angen yma yn amlwg; mae angen inni newid y diwylliant o fewn y bwrdd iechyd er mwyn sicrhau y gall pobl gael y gwasanaethau y mae arnyn nhw eu hangen. Pa mor ffyddiog ydych chi y byddwch yn gallu sicrhau'r math o arweinyddiaeth a fydd yn trawsnewid ein gwasanaethau iechyd meddwl yn y gogledd y mae angen dybryd inni ei gweld? Diolch, Llywydd.

16:15

Diolch am y cwestiynau. Dechreuaf gyda'ch sylw olaf am iechyd meddwl. Mae gan y bwrdd iechyd ei strategaeth ei hun y mae wedi ei datblygu ynghyd â phartneriaid y tu allan i'r gwasanaeth iechyd, 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl yng Ngogledd Cymru'. Mae'r ddogfen honno yn amlinellu dull o barhau i drawsnewid a gwella gwasanaethau iechyd meddwl ac rydym ni wedi cael adborth da gan sefydliadau partner bod y bwrdd iechyd mewn gwirionedd yn ceisio llunio'r strategaeth honno ar y cyd, ac mae hynny'n digwydd oherwydd y newid mewn arweinyddiaeth a fu ar ôl cyflwyno mesurau arbennig. Felly, bu cynnydd a gwelliant mewn gwasanaethau iechyd meddwl a diben yr arian yr wyf wedi'i gyhoeddi ar gyfer y tair blynedd a hanner nesaf yw hyrwyddo'r gwelliant hwnnw ymhellach. Byddwn yn parhau i fesur a monitro'r cynnydd; mae'n ffactor allweddol yn yr holl sgyrsiau teirochrog sy'n digwydd, fel y gŵyr yr Aelod, rhwng Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru a phrif weithredwr GIG Cymru, nid yn unig i ystyried y gogledd, ond pob sefydliad wrth ystyried eu statws uwchgyfeirio.

O ran y cwestiynau eraill, mae'n gadarnhaol clywed Darren Millar yn croesawu'r penderfyniad buddsoddi heddiw. O ran yr awgrym bod diffyg strwythurol o £40 miliwn, nid dyna'r sefyllfa yr ydym ni ynddi. Mae hyn yn gydnabyddiaeth o'r ffaith bod angen inni alluogi'r bwrdd iechyd i symud ymlaen a chynllunio ar gyfer y dyfodol. Maen nhw wedi gwneud mwy o gynnydd o ran dod yn sefydliad mwy effeithlon, felly maen nhw wedi gwneud cynnydd o ran eu rheolaeth ariannol, ond er mwyn caniatáu iddyn nhw fwrw ymlaen â'r cynllunio tymor hwy y mae angen iddyn nhw ei wneud, rydym ni yn datrys rhai o'r problemau. Ac wrth gyfeirio at Hywel Dda, fe wnaethom ni roi cefnogaeth sylweddol i Hywel Dda mewn pecyn amlflwyddyn a ganiataodd i'r sefydliad hwnnw symud ymlaen, ac mae bellach mewn gwell sefyllfa nag yr oedd dair i bedair blynedd yn ôl. Felly, mae'r dewis a wnaethom ni gyda hynny mewn golwg wedi talu ar ei ganfed nid yn unig i arweinyddiaeth y gwasanaeth iechyd, ond yn bwysicach o lawer i'r staff a'r cyhoedd y maen nhw yn eu gwasanaethu, ac rydym ni bellach mewn sefyllfa i wneud dewis buddsoddi tebyg dros nifer o flynyddoedd i bobl y gogledd.

Rydym ni eisoes wedi cynnal adolygiad o'r fformiwla ddyrannu i ddiweddaru fformiwla Townsend, ac felly rydym ni mewn sefyllfa lle byddwn yn ei defnyddio ar gyfer dyraniadau yn y fformiwla gyffredinol yn y dyfodol, a bydd hynny'n adlewyrchu'r asesiad angen sy'n bodoli mewn gwahanol rannau o Gymru. Mae hynny'n ystyried amrywiaeth o ffactorau, a buom yn trafod â'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon o'r blaen ynglŷn â'r adolygiad hwnnw, felly gallwch ddisgwyl gweld y twf o ran y newid mewn gofal iechyd yn unol â'r fformiwla ddyrannu honno sydd wedi'i diweddaru.

O ran eich sylw am gyfalaf, mae hi eisoes yn wir fod y bwrdd iechyd yn datblygu cynlluniau ar gyfer canolfan driniaeth ddiagnostig ac amrywiaeth o feysydd gwasanaeth eraill, ond fel gyda phob bwrdd iechyd, mae gennym ni broses o asesu unrhyw achos busnes, mae angen i ni adolygu pob achos busnes yn unigol yn rhan o'r cynllun cyffredinol ar gyfer y sefydliad. Felly, rwyf yn rhagweld y gallai rhywfaint o'r trawsnewid ar y gwasanaethau olygu y bydd angen gwario arian cyfalaf. Ond mewn gwirionedd, rydym ni wedi dangos ein parodrwydd i wario symiau sylweddol o gyfalaf ar y gwasanaeth iechyd yn y gogledd. Byddwch yn cofio'r adroddiad diweddar ar yr arian sylweddol sy'n cael ei wario ar Ysbyty Glan Clwyd, ond ar brosiectau eraill hefyd. Mae hynny wedi tynnu sylw at welliannau yr ydym ni wedi'u gwneud yn ein proses asesu achosion busnes ac mae angen inni barhau i wneud hynny. Felly, nid wyf mewn sefyllfa i roi ymrwymiad penagored i gyfalaf, ond fel y dywedais, mae cydnabyddiaeth wrth wneud y penderfyniad hwn ei bod hi'n ddigon posib y bydd angen gwariant cyfalaf i gyd-fynd â'r cynlluniau gwella gwasanaethau a'r arian yr wyf wedi'i ddyrannu ar sail refeniw am y tair blynedd a hanner nesaf.

16:20

Diolch i'r Gweinidog am y datganiad hwn heddiw. Y peth cyntaf a ddywedaf yw fy mod yn falch iawn pan glywaf am unrhyw welliannau ym mherfformiad byrddau iechyd, lle bynnag y bo hynny yng Nghymru. Ond rhaid i mi ddweud, mae hyn yn debyg i raddau helaeth i unrhyw un o'r datganiadau yr ydym ni wedi'u clywed dros y pum mlynedd a hanner diwethaf ers rhoi'r bwrdd mewn mesurau arbennig. Credaf fod templed yn rhywle sydd wedi'i estyn oddi ar y silff; unwaith eto, bu rhai gwelliannau, ond mae materion pwysig o hyd y mae angen mynd i'r afael â nhw gyda Betsi Cadwaladr, ac nid wyf yn gweld yn y datganiad hwn, yn sicr, y dystiolaeth hyd yn oed i gefnogi'r honiadau bod gwelliannau gwirioneddol, felly byddwn yn gwerthfawrogi mwy o eglurder ynghylch yr hyn sy'n digwydd. Ac wrth gwrs, pan glywch chi fod problemau sylweddol o hyd yn y cyfnod rhwng atgyfeirio a thriniaeth ac o ran unedau damweiniau ac achosion brys, rydym yn sôn am elfennau hynod bwysig o'r bwrdd iechyd yn y gogledd sy'n dal yn broblem bum mlynedd a hanner ers cyflwyno mesurau arbennig.

Rwyf wedi gwneud fy safbwynt yn glir: rwy'n credu y bu digon o gyfle i geisio trawsnewid pethau ar gyfer Betsi Cadwaladr. Rwy'n credu ei bod hi'n bryd dechrau o'r newydd gyda strwythur newydd ar gyfer iechyd yn y gogledd. Rwy'n adnabod llawer gormod o weithwyr iechyd yn y gogledd; rwy'n eu parchu a'r gwaith y maen nhw yn ei wneud mewn amgylchiadau anodd, a'r negeseuon a gaf ganddyn nhw yn dweud, 'Diolch yn fawr am ddweud bod angen i ni ddechrau o'r newydd.' Dyna fy nghred i. Ond, am y tro, wrth gwrs rwy'n croesawu cyllid ychwanegol. Rwyf hefyd yn amau a yw'n gwneud synnwyr rhoi terfyn amser ar rai o'r codiadau sylfaenol sy'n cael eu hawgrymu yn y fan yma, a gofynnaf i'r Gweinidog: a yw'n credu'n awr, yn dilyn yr adolygiad sydd wedi arwain at y datganiad hwn heddiw, y bu camgymeriad sylfaenol o ran pennu'r llinell sylfaen ar gyfer ariannu'r gwasanaeth iechyd yn y gogledd? Rwy'n sicr o'r farn honno a hoffwn glywed syniadau diweddaraf y Gweinidog am hynny.

Yn olaf, mae gennym ni newyddion am grŵp gorchwyl a gorffen i wneud argymhellion ynglŷn â chynnig ar gyfer ysgol feddygol y gogledd. Os bydd pobl dda Ynys Môn yn penderfynu nad ydyn nhw eisiau i mi eu cynrychioli yn y Senedd ar ôl mis Mai nesaf, mae'n debyg mai dyna'r un ymgyrch y byddaf yn falch iawn y buom yn llwyddiannus ynddi—i sicrhau ein bod yn symud yn agosach at gyflwyno hyfforddiant meddygol i israddedigion ym Mhrifysgol Bangor. Gadewch i ni beidio â llaesu gormod ar ein dwylo nawr. Rwy'n gwybod bod y Llywodraeth hon yn hoffi ei grwpiau gorchwyl a gorffen, ond gadewch i ni sicrhau mai grŵp yw hwn sy'n penderfynu ar fanylion sut yr ydym yn bwrw iddi i sefydlu ysgol feddygol lawn ar gyfer y gogledd. Mae arnom ei hangen ar gyfer dyfodol y gweithlu yma yn y gogledd, ac mae'n rhywbeth y gallwn ni i gyd gytuno, gobeithio, fod angen mynd ar ei drywydd nawr gyda rhywfaint o frys.

16:25

Nid wyf yn cytuno â'r datganiad agoriadol y mae'r Aelod yn ei wneud bod hyn yn ymdebygu i unrhyw un o'r datganiadau eraill a wnaed yn ystod y pum mlynedd a hanner diwethaf. Bu amryw o adegau pryd y bu datganiadau dros y pum mlynedd a hanner diwethaf yn llawer mwy digalon ynghylch ein sefyllfa. Y gwir amdani yw bod mamolaeth a'r gwasanaeth y tu allan i oriau wedi dod allan o fesurau arbennig ar wahanol adegau, sy'n dangos y bu hyn yn gynnydd dros amser. Rydym ni hefyd wedi gweld heriau o ran rheolaeth ariannol a pherfformiad dros y cyfnod hwn, felly nid yw'n wir ein bod yn tynnu datganiad oddi ar y silff. Ac nid yw'n adlewyrchu'r datganiad uwchgyfeirio teirochrog a gyflwynwyd mewn gwirionedd, lle cafodd safbwyntiau allanol AGIC a Swyddfa Archwilio Cymru eu hystyried, a'u hasesiad yw bod y bwrdd iechyd wedi gwneud cynnydd gwirioneddol a diffiniadwy. 

Nid wyf yn cytuno â'r Aelod ynglŷn â'i gynllun i ddarnio'r gwasanaeth iechyd yn y gogledd. Credaf, dros y tymor nesaf, y byddai hi'n gwbl anghywir dweud bod angen i fwrdd iechyd sydd wedi ymdrin yn dda â'r pandemig COVID graffu ar ei hun i ystyried sut y byddai'n ailddyrannu gwahanol swyddi a gwasanaethau. Ond mae gan yr Aelod hawl i'w farn a bydd pobl yn penderfynu pa weledigaeth y mae arnyn nhw ei heisiau ar gyfer gofal iechyd yn y gogledd a gweddill y wlad.

O ran y sylw am y terfyn amser ac a oes camgymeriad sylfaenol yn y llinell sylfaen, wrth ateb cwestiynau Darren Millar, dywedais ein bod ni eisoes wedi adolygu'r fformiwla ddyrannu. Dylai'r Aelod fod yn ymwybodol o hynny, ar ôl iddo gymryd rhan yn y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon. Rwy'n hapus i ddosbarthu nodyn arall i'r pwyllgor hwnnw i gadarnhau ble yr ydym ni arni gyda'r fformiwla ddyrannu, os yw hynny'n ddefnyddiol i roi eglurder. Ac o ran y terfyn amser, aethom ati mewn ffordd debyg yn Hywel Dda ym Mhowys o'r blaen, ond hefyd gyda Chaerdydd a'r Fro ac, yn wir, bwrdd iechyd Bae Abertawe, lle darparwyd arian gennym ni am gyfnod cyfyngedig o amser i helpu sicrhau gwelliant. Mae'r dull 'rhywbeth ar gyfer rhywbeth' hwnnw wedi gweithio'n dda yn yr ardaloedd hynny, ac felly nid wyf yn credu ei bod hi'n gamgymeriad nodi terfyn amser o ran am ba hyd y bydd y cymorth strategol hwn ar gael.

O ran yr ysgol feddygol, credaf fod y ffaith y gallwn ni fwrw ymlaen â hyn, y ffaith inni gael cynnig llawer mwy credadwy ac ystyrlon rhwng Prifysgol Bangor yn arbennig a'r bwrdd iechyd, ond hefyd gyda chefnogaeth ac ymrwymiad partneriaid arwyddocaol eraill yn y gogledd, yn arwydd gwirioneddol o'r cydweithio gwell. Nid gymaint â hynny yn ôl ni fyddech wedi disgwyl y byddai partneriaid yn y gogledd wedi dod ynghyd i gyflwyno cynllun gwirioneddol yn y gogledd gyda'r ardal gyfan yn ymrwymo i ddatblygiad sylweddol fel hwn. Mae'n arwydd da o well gweithgarwch gan y bwrdd iechyd a'i bartneriaid, a chredaf fod hynny'n argoeli'n dda ar gyfer y dyfodol. Ac, wrth gwrs, fe hoffwn i glywed barn grŵp gorchwyl a gorffen a fydd yn caniatáu imi wneud dewisiadau yn nhymor y Senedd hon, felly gallwn ddarparu rhyw fath o gynllun ar gyfer y dyfodol, ond bydd angen imi weld beth yw argymhellion y grŵp gorchwyl a gorffen hwnnw. Ac, wrth gwrs, rwyf eisoes wedi cyhoeddi hynny, Dirprwy Lywydd, mewn datganiad ysgrifenedig blaenorol.

16:30

Hoffwn ddechrau'r cyfraniad hwn drwy estyn fy nghydymdeimlad i staff Ysbyty Maelor Wrecsam a gollodd eu cydweithiwr Wilbert Llobrera yn ddiweddar mewn damwain taro a ffoi y tu allan i'r ysbyty. Rwy'n meddwl am ei wraig a'i ferch yn eu galar.

Rwyf wedi sôn o'r blaen ynglŷn â sut mae mesurau arbennig yn amlwg wedi dod yn rhan o drefn feunyddiol pethau i fwrdd iechyd gogledd Cymru. Fe wadoch chi nhw bryd hynny, mae'n debyg y byddwch yn eu gwadu eto heddiw. O ran diddordeb, rwyf wedi cael golwg ar y datganiadau cyhoeddedig sy'n ymwneud â Betsi dros flynyddoedd tymor y Senedd hon. Yn 2016, cynnydd cadarnhaol; 2018, dwysáu, adolygu a chymorth ychwanegol; hefyd yn 2018, £6.8 miliwn i wella perfformiad. Ac felly mae'n parhau.

Hoffwn ddweud fy mod yn croesawu'r datganiad hwn heddiw a'r defnydd o'r gair 'strategol'—mae hwnnw'n un newydd, wedi'r cyfan. Fodd bynnag, nid oes gennyf fawr o ffydd y bydd unrhyw beth yn newid mewn gwirionedd. Dim ond dau gwestiwn i chi ar gyfer heddiw, Gweinidog—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gen i am hynny. Dau gwestiwn ichi heddiw, Gweinidog: pryd byddwch yn rhoi cynnig ar rywbeth sy'n sylfaenol wahanol i gael y bwrdd hwn ar ei draed a phryd bydd pobl y gogledd yn cael y gwasanaeth y maen nhw'n ei haeddu ac yn talu amdano? Diolch.

Diolch ichi am eich sylwadau, ac rwy'n edmygu eich gallu i beidio â rhegi'n iawn pan dorrwyd ar eich traws. O ran yr her y mae'r bwrdd iechyd yn ei hwynebu, credaf y dylem fod â mwy o ffydd yn eu gallu i gyflawni. Daw hynny o'r adolygiad teirochrog, ac ni fyddwn i'n mabwysiadu'r dull gweithredu gwahanol a sylweddol hwn wrth gyhoeddi pecyn buddsoddi o'r math hwn dros dair blynedd a hanner os nad oedd mwy o hyder y byddant yn gallu cyflawni'r cynllun sydd ganddyn nhw. Mae'n ymwneud ag i ba raddau maen nhw'n dirnad, yn deall ac yn derbyn bod angen iddyn nhw wella. Mae hefyd yn ffaith bod sefydliadau partner yn y gogledd mewn lle llawer gwell o ran eu ffydd yn y bwrdd iechyd. Nid oes dim yn berffaith mewn unrhyw bartneriaeth neu berthynas, o ran hynny, fel yn achos y rhai ohonom ni sydd â barn arall am gydweithio mewn meysydd eraill o fywyd, mae angen i bartneriaid ddod at ei gilydd i weithio drwy anawsterau yn ogystal â chytuno ar faterion. Maen nhw mewn sefyllfa sy'n llawer mwy aeddfed yn y gogledd, ac maen nhw wedi gwneud hynny dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, felly mae hynny'n beth da. Mae mwy o hyder. Mae hwn yn ddull gweithredu sylfaenol wahanol. O ran y sylw ynghylch pryd y bydd gan bobl y gwasanaeth y maen nhw'n ei haeddu, dyna'n union yw diben gwneud y dewis hwn heddiw a chyflwyno'r datganiad hwn i'r Senedd. Credaf fod pobl yn y gogledd yn haeddu gwasanaethau iechyd a gofal o ansawdd uchel, ac mae hyn yn ymwneud â galluogi'r bwrdd iechyd i wneud ei ran yn fwy hyderus gyda mwy o gapasiti i ddarparu'r gofal y mae pob dinesydd yng Nghymru yn ei haeddu.

Rwyf eisiau gorffen, Dirprwy Lywydd, drwy rannu fy nghydymdeimlad fy hun yn achos y nyrs o'r Maelor a gollodd ei fywyd mewn damwain taro a ffoi yn ddiweddar. Mae'n dangos bod heriau bob amser, ond nid ydym yn disgwyl i'n staff golli eu bywyd o dan yr amgylchiadau hyn. Rwy'n gwybod ei fod wedi cael effaith ar ffrindiau a chydweithwyr yn y gwaith a'r tu allan hefyd. Felly, fy nymuniadau gorau a'm cydymdeimlad dwysaf i'r teulu a phawb sy'n galaru yn sgil y golled ar hyn o bryd.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

5. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Dyfodol Gwasanaethau Rheilffyrdd—Manylion y trefniadau newydd

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru ar ddyfodol gwasanaethau rheilffyrdd a'r manylion am y trefniadau newydd. A dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Ken Skates.

Diolch, Llywydd. Hoffwn roi rhagor o wybodaeth i'r Aelodau am y trefniadau newydd ar gyfer gwasanaeth rheilffyrdd Cymru a'r gororau a'r model cyflenwi y bydd Trafnidiaeth i Gymru yn ei weithredu.

Mae COVID-19 wedi creu heriau difrifol i gwmnïau trafnidiaeth gyhoeddus, heriau nad yw'r system fasnachfraint rheilffyrdd gyfan ledled y Deyrnas Unedig wedi gallu eu gwrthsefyll. Er gwaethaf yr heriau hyn, rydym ni wedi ymrwymo'n llwyr o hyd i gyflawni ein gweledigaeth uchelgeisiol ar gyfer rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus integredig, carbon isel o ansawdd uchel ledled Cymru. Byddwn yn nodi mwy o fanylion am y weledigaeth hon drwy lansio'r ymgynghoriad ar ein strategaeth drafnidiaeth newydd i Gymru, a'm bwriad yw i hynny ddigwydd ar 16 Tachwedd.

Rydym ni wedi darparu, a byddwn yn parhau i ddarparu, cymorth ariannol sylweddol i'r sector i sicrhau bod gwasanaethau'n parhau i weithredu fel bod y rhai sy'n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus yn gallu parhau i ddefnyddio'r gwasanaethau hyn.

Mae'r effaith ar refeniw teithwyr, a ddarparodd tua hanner yr arian sydd ei angen i weithredu ein gwasanaethau cyn COVID-19, yn golygu y bydd yn rhaid i ni weithredu ar frys. Mae angen inni sicrhau bod gennym ni sail gytundebol sefydlog i gyflawni ein hymrwymiadau allweddol i greu'r metro, darparu cerbydau newydd sbon a datgarboneiddio ein rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus.

Mae Trafnidiaeth Cymru bellach wedi cytuno ar hanfodion perthynas newydd rhyngddyn nhw a Keolis ac Amey, a fydd yn darparu model darparu cadarn newydd. Rydym yn cymryd y camau brys sydd eu hangen i ddiogelu gwasanaethau, i ddiogelu swyddi ac i gyflawni'r rhaglen metro uchelgeisiol. Ar hyn o bryd, serch hynny, mae angen i mi bwysleisio ein bod yn dal i drafod manylion y contract gyda'n partneriaid, felly rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n deall na allaf fod yn rhy benodol ynghylch manylion masnachol sensitif ar hyn o bryd.

Bydd y gwasanaethau rheilffyrdd y bydd teithwyr yn eu defnyddio, o fis Chwefror y flwyddyn nesaf, yn cael eu gweithredu gan is-gwmni newydd Trafnidiaeth Cymru sy'n eiddo i'r cyhoedd. Mae'r cwmni cyhoeddus newydd wedi sicrhau ei drwydded ddiogelwch ei hun a bydd yn destun rheoliadau ac amodau diogelwch y Swyddfa Rheilffyrdd a Ffyrdd, yn yr un ffordd yn union â phob cwmni trên arall. Rydym yn cymryd rheolaeth sector cyhoeddus dros weithredu a darparu gwasanaethau rheilffyrdd o ddydd i ddydd, i gydbwyso'r angen am y gwerth gorau am arian i'r trethdalwr ac i sicrhau parhad ein gwasanaethau rheilffyrdd hanfodol.

Yn ogystal â diogelu'r gwaith o ddarparu gwasanaethau rheilffyrdd, rydym ni hefyd wedi cymryd camau i sicrhau bod rheilffyrdd craidd y Cymoedd yn parhau i drawsnewid a sicrhau y caiff metro'r de ei adeiladu. Bydd Amey Keolis Infrastructure Ltd yn parhau i wneud y gwaith hwn, a bydd partneriaeth newydd gyda KeolisAmey, dan arweiniad Trafnidiaeth Cymru, yn cael ei sefydlu i helpu i gyflawni ymrwymiadau pwysig megis system docynnau integredig a'r gwaith parhaus o gyfuno rheilffyrdd ysgafn a thrwm. Mae hwn yn gam angenrheidiol y mae'n rhaid inni ei gymryd nawr i sicrhau sefydlogrwydd a gweithrediad parhaus ein gwasanaethau rheilffyrdd. Byddwn yn parhau i weithredu ein gwasanaethau rheilffyrdd fel hyn, gyda'n model cyflenwi sector cyhoeddus newydd, hyd y gellir rhagweld.

Rydym yn dal i aros i Lywodraeth y DU gyhoeddi adolygiad Williams o'u heiddo ynglŷn â'r rheilffyrdd, a addawyd ers amser maith. Rwy'n disgwyl i hwn argymell mwy o gyfranogiad gan y sector cyhoeddus yn y rheilffyrdd, a'n bod o'r diwedd yn cael y pwerau a'r setliad ariannu teg sydd eu hangen arnom ni i ddarparu gwasanaethau rheilffyrdd a seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru. Mae'r argyfwng presennol yn golygu bod yr angen hwn yn fwy nag erioed nawr.

Fel y gŵyr yr Aelodau, y mis diwethaf ysgrifennais at Ysgrifennydd Gwladol y DU yn nodi'r tanfuddsoddi hanesyddol yn y rheilffyrdd ac effaith bosibl HS2 ar economi Cymru. Mae angen sylfaenol i ailystyried y ffactor cymharedd o dan Barnett ar gyfer y symiau canlyniadol yn y dyfodol mewn cysylltiad â HS2. Mae ein gallu i ddatrys helyntion y diwydiant rheilffyrdd yng Nghymru ac annog teithwyr newydd i ddefnyddio gwasanaethau yn y dyfodol yn dibynnu ar fuddsoddiad teg a digonol yn y seilwaith, agor llwybrau newydd, cynyddu amlder gwasanaethau a gwella capasiti.

Bydd Aelodau hefyd yn cofio mai honiad Llywodraeth y DU yw bod HS2, yn wahanol i Crossrail, sy'n brosiect i Loegr yn unig, mewn gwirionedd yn brosiect i Gymru a Lloegr. Ni fydd Cymru yn manteisio ar wasanaethau HS2 uniongyrchol. Yn ôl ffigurau HS2 ei hun, bydd HS2 yn achosi niwed blynyddol net o £150 miliwn i economi Cymru. Yn sgil y ffaith bod y prosiect yn cael ei ddosbarthu'n brosiect i Gymru a Lloegr, ni fyddwn yn cael dim o'r £100 biliwn o wariant trethdalwyr y DU ar brosiect sy'n niweidio Cymru. Bydd yr Alban, a fydd yn cael budd uniongyrchol o'r prosiect, yn cael cyfran o'r £100 biliwn. Byddai cyfran deg o'r £100 biliwn yn sicr yn caniatáu inni drawsnewid y rheilffyrdd yng Nghymru.

Nawr, rhaid imi fod yn glir ein bod yn disgwyl y bydd effaith a graddau'r argyfwng hwn o ran ein cyllid cyhoeddus yn cael eu teimlo am gryn amser. Rydym ni eisoes wedi darparu hyd at £105 miliwn o gyllid ychwanegol i redeg ein gwasanaethau rheilffyrdd yn ystod y cyfnod brys hwn, ac mae'n debyg y bydd angen i ni ddarparu £62 miliwn arall o gyllid ar gyfer gweithredu gwasanaethau hyd at ddiwedd mis Mawrth y flwyddyn nesaf. Mae'r cyllid ychwanegol hwn yn hanfodol er mwyn darparu digon o wasanaethau a chapasiti o fewn amserlen lai i ddiwallu anghenion teithio gweithwyr allweddol a'r rhai ag anghenion teithio hanfodol eraill, megis disgyblion a myfyrwyr sy'n dychwelyd i ysgolion a cholegau.

Yn y tymor hwy, tra bod llawer llai o alw gan deithwyr o hyd, mae'n debygol y bydd yn rhaid inni barhau i wneud rhai dewisiadau anodd. Nawr, bydd gweithredu gwasanaethau rheilffyrdd yn parhau i ddioddef gostyngiad sylweddol mewn refeniw nes y gallwn ni groesawu teithwyr yn ôl i'n rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus yn llawn. Bydd angen i ni wneud penderfyniadau ynghylch sicrhau bod adnoddau ar gael, costau gweithredol a'r potensial o barhau i gynnig gwasanaeth llai cynhwysfawr nes bydd y galw a refeniw teithwyr yn cynyddu eto. Fodd bynnag, byddwn yn cymryd y camau angenrheidiol i sicrhau y bydd gweithwyr allweddol a'r rhai sy'n dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus yn parhau i allu gwneud y teithiau y mae angen iddyn nhw eu gwneud. Gallaf sicrhau'r Aelodau y byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddyn nhw am y gwaith yr ydym ni yn ei wneud a'r dewisiadau y byddwn yn eu hwynebu wrth ddarparu gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru.

16:40

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma, ac am y copi o flaen llaw hefyd yr oeddwn yn dra diolchgar amdano? Rwyf braidd yn siomedig, Gweinidog, nad ydych chi wedi cyflwyno datganiad ar y dydd Mercher olaf cyn hanner tymor. Yn hytrach, bu'n rhaid i mi ac Aelodau ddarllen amdano yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw yn y cyfryngau. Ond byddai'n ddefnyddiol pe gallech chi ddweud pam nad oeddech chi'n gallu cyflwyno datganiad i'r Senedd cyn y cyfnod hanner tymor.

O'm safbwynt i, yn gyffredinol nid yw pobl yn poeni pwy sy'n rhedeg gwasanaeth trên, na pha enw sydd ar ochr trên; maen nhw'n tueddu i boeni mwy am y gwasanaeth, maen nhw'n tueddu i boeni pa un a yw'r trên yn mynd i gyrraedd yn brydlon, neu a yw'n mynd i gyrraedd o gwbl, a fydd Wi-Fi ar gael iddyn nhw, a ydyn nhw'n gallu dod o hyd i dŷ bach glân neu dŷ bach o gwbl ar y trên. Dyma rai o'r materion y mae teithwyr yn tueddu i boeni amdanyn nhw, yn hytrach na phwy sy'n rhedeg y gwasanaeth. Ond nid yw penderfyniad Llywodraeth Cymru i gymryd rheolaeth dros y gweithredu, er gwell neu er gwaeth yn gwneud imi deimlo'n obeithiol iawn. Rwy'n meddwl am Faes Awyr Caerdydd a'r goblygiadau o ran cost i'r Llywodraeth a'r risg sy'n gysylltiedig â hynny, ac mae hyn ar lefel hollol newydd o ran ymgymryd â gweithredu'r rheilffyrdd.

Nawr, rwy'n credu mai ar oblygiadau o ran cost y mae angen atebion yn eu cylch, ac rwy'n meddwl yn benodol am gostau hirdymor y penderfyniad yr ydych chi wedi'i wneud. Gan roi'r ddadl er gwell neu er gwaeth o'r neilltu, rydych chi wedi gwneud y penderfyniad a bydd goblygiadau enfawr o ran cost nid yn unig i adran eich Llywodraeth, ond ar draws y Llywodraeth gyfan. Pan godais hyn gyda chi 10 diwrnod neu bythefnos yn ôl yn y Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog, fe ddywedsoch chi y byddwch yn gweithio drwy'r goblygiadau o ran costau yn rhan o'r trafodaethau manwl hynny, a phan wnaethoch chi'r datganiad llafar ymhen pythefnos, sef nawr, y byddech chi'n gallu rhoi'r costau i ni wrth symud ymlaen. Rwy'n deall bod eich datganiad heddiw'n dweud na allwch chi wneud hynny ar hyn o bryd, oherwydd mae trafodaethau'n dal i fynd rhagddyn nhw ac rydych yn gofyn i Aelodau fod yn amyneddgar ynghylch y broses honno oherwydd y sensitifrwydd masnachol, ond efallai y gallech chi ddweud wrthym ni pryd y byddwch chi mewn sefyllfa i gwblhau'r trafodaethau hynny ac ateb cwestiynau am y costau. Yn y pen draw, dywedwch wrthym ni, Gweinidog, am yr hyn na fyddwch chi'n gwario arian arno yn y dyfodol i dalu costau'r penderfyniad hwn bythefnos yn ôl.

Efallai y gallech chi ddweud wrthym ni hefyd, Gweinidog, pa ddewisiadau eraill yr oedd Llywodraeth Cymru a chithau'n eu hystyried cyn dod i'r penderfyniad hwn—beth arall oedd yn mynd drwy eich meddwl? Beth oedd y dewisiadau eraill ar y bwrdd? Efallai y gwnewch chi siarad am y rheini. Hefyd, beth yw dyheadau hirdymor Llywodraeth Cymru o ran perchnogaeth gyhoeddus ar wasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru? A yw'n wir eich bod, yn y pen draw, yn credu y bydd yn parhau i fod mewn perchnogaeth gyhoeddus ac yn cael ei weithredu gan Lywodraeth Cymru, neu yn hytrach a ydych yn rhagweld y bydd y gweithredu yn dychwelyd i ddwylo preifat ryw bryd yn y dyfodol?

Ac yn olaf, a dychweled at fy sylwadau agoriadol, mewn gwirionedd, mae teithwyr yn poeni am oblygiadau'r gwasanaeth iddyn nhw, felly beth yw'r goblygiadau o ran cerbydau newydd a gwelliannau i orsafoedd, sef, wrth gwrs, yr hyn y mae teithwyr a'r cyhoedd yn poeni amdanyn nhw'n benodol?

16:45

Wel, a gaf i ddiolch i Russell George am y gwahanol gwestiynau y mae wedi'u codi heddiw? Rwy'n sylweddoli y gallai Aelodau fod yn siomedig na ellid gwneud datganiad i Siambr y Senedd ar ddydd Mercher yr wythnos pan wnaethpwyd y cyhoeddiad. Gadewch imi amlinellu i'r Aelodau y rhesymau pam, ac maen nhw'n niferus. Yn gyntaf oll, bu trafodaethau masnachol sensitif yn ystod yr haf ac i mewn i'r hydref gyda KeolisAmey ynglŷn â dyfodol gwasanaethau rheilffyrdd, ond, wrth gwrs, dim ond am 6 p.m. ar y nos Fawrth y cafodd penawdau'r telerau eu cytuno a'u cymeradwyo, a oedd yn golygu nad oedd hi'n bosibl wedyn i gyflwyno hyn i'w drafod neu ar gyfer datganiad ar y dydd Mercher cyn y toriad diweddaraf. Hefyd, o ystyried yr ansicrwydd ynghylch a fyddai'r dyddiad hwn yn cael ei gyflawni ac y byddai angen ychydig mwy o amser ar gyfer sesiynau briffio, yn amlwg, i staff, y 2,500 o staff, fe wnaethom ni benderfynu felly fod ei amserlennu ar gyfer dydd Iau yn ddoeth. Dydd Iau'r wythnos honno hefyd oedd y dyddiad olaf i sicrhau y gellid briffio'r holl staff ac y gellid cychwyn cyfnod ymgynghori 90 diwrnod ar Reoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981, ac felly nid oedd hi'n bosibl i wneud y datganiad yr wythnos hon. Nawr, o ystyried ein hawydd i sicrhau nid yn unig bod cwsmeriaid ond staff wrth wraidd popeth a fyddwn ni'n penderfynu arno o ran gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a'r gororau, credaf nad yw hi ond yn briodol i weithwyr glywed yn gyntaf am ddyfodol eu swyddi a'r gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu. A gallaf ychwanegu, yn olaf, reswm pwysig arall pam roedd yr amseru fel ag yr oedd, a'r rheswm yw bod Keolis ac Amey yn ddau gwmni preifat rhyngwladol arwyddocaol iawn, mae ganddyn nhw gyfranddalwyr, ac mae gofynion ynghylch cyhoeddiadau sy'n sensitif i'r farchnad a sut mae angen cyfleu'r rhain i gyfranddalwyr, ac felly nid oeddem yn gallu dweud dim cyn i'r cyfranddalwyr hynny gael eu hysbysu.

Nawr, byddwn yn cytuno â Russell George fod pobl yn poeni llai am y brand sydd ar ochr trên nag y maen nhw am y ffordd y mae trên yn gweithredu—a yw'n brydlon, a yw'n lân, pa un a oes toiledau ar gael, pa fath o wasanaethau arlwyo sydd ar gael—ond rwy'n anghytuno â Russell George a'i honiad bod y sector cyhoeddus yn llai abl na'r sector preifat i ddarparu gwasanaethau dibynadwy rheolaidd. Does dim eisiau inni edrych yn bellach na chwmnïau fel Northern i weld y byddai Llywodraeth y DU yn cytuno â mi ar y pwynt hwn. Ymyrrodd Llywodraeth y DU â Northern Rail, ei gymryd o dan ei reolaeth, a'i roi o dan berchnogaeth gyhoeddus. Felly, mae'r hyn yr ydym ni yn ei wneud, i raddau, yn gyson â'r hyn y mae Llywodraethau eraill yn ei wneud. A chredaf y byddai'r Aelodau hefyd yn cydnabod, mewn meysydd eraill o ddarparu trafnidiaeth gyhoeddus—bysiau, er enghraifft—fod y sector cyhoeddus yn chwarae rhan ragorol mewn rhai rhannau o Gymru, a byddem ni'n dymuno i gynghorau chwarae mwy o ran ym mhob un o'n hawdurdodau lleol wrth ddarparu gwasanaethau bysiau.

Ac o ran cymharu'r penderfyniad yr ydym ni wedi'i wneud ynglŷn â gwasanaethau rheilffyrdd â'n rheolaeth dros Faes Awyr Caerdydd, hoffwn atgoffa'r Aelodau, cyn y pandemig byd-eang hwn, nad wyf yn credu bod unrhyw Aelod yn y Siambr a oedd yn cwestiynu llwyddiant maes awyr rhyngwladol Caerdydd yn ystod y blynyddoedd diwethaf—roedd nifer y teithwyr wedi cynyddu i'r niferoedd mwyaf erioed ers inni gymryd yr ased penodol hwnnw drosodd; roeddem yn gwireddu gweledigaeth uchelgeisiol iawn ar gyfer y maes awyr. Ond, wrth gwrs, mae meysydd awyr rhanbarthol ar hyd y DU, ac ymhellach draw, yn dioddef yn ofnadwy o ganlyniad i'r coronafeirws, a rhaid dweud bod llawer mwy o feysydd awyr rhanbarthol o dan fwy o fygythiad na maes awyr rhyngwladol caerdydd, a hynny oherwydd bod gan faes awyr rhyngwladol Caerdydd gefnogaeth Llywodraeth, sy'n gallu ei ddiogelu.

Nawr, o ran costau sy'n gysylltiedig â'n penderfyniad, bydd costau ar gyfer y trafodaethau a chanlyniad y trafodaethau ar gael cyn y trosglwyddo ym mis Chwefror. Ond mae llawer o gostau eraill y mae angen inni eu hystyried—un yw cost cynnal gwasanaethau ar y lefelau y maen nhw'n gweithredu er gwaethaf y gostyngiad mewn arian tocynnau, a beth bynnag fo'r model perchnogaeth, byddai angen ymyrryd o hyd ag arian cyhoeddus ychwanegol er mwyn cadw trenau i redeg. O ran costau sefydlu, yr hyn y gallaf ei ddweud wrth yr Aelodau yw bod Trafnidiaeth Cymru eisoes wedi nodi y bydd angen cael gwybod am rai asedau gan KeolisAmey er mwyn sicrhau pontio llyfn a darpariaeth barhaus o wasanaethau, ond y pwynt pwysig yw mai asedau yw'r rhain ac, felly, mae ganddyn nhw werth, yn hytrach na chost yn unig. Ar ôl canfod beth yw union werth yr asedau hyn, gofynnaf i Trafnidiaeth Cymru roi diweddariad cynhwysfawr i'r Aelodau.

Mae'n amlwg y bydd costau gweinyddol untro o ran rheoli'r broses TUPE a—[Anghlywadwy.]—o unrhyw gontractau gofynnol. Bydd hyn yn sylweddol is, rhaid dweud, na'r ffi reoli a pherfformiad parhaus sy'n cael ei thalu o dan y trefniadau argyfwng. Ac yna bydd costau hyn yn llai, ar y cyfan, na'r ffi perfformiad a rheoli sy'n cael ei thalu gan yr Adran Drafnidiaeth i weithredwyr trenau o dan eu cytundeb rheoli adferiad brys, sy'n dod â fi at y pwynt pwysig nesaf yr oedd Russell George yn gofyn amdano, a dyna'r dulliau eraill o fwrw ymlaen â rheoli a darparu gwasanaethau rheilffyrdd a ystyriwyd gan Lywodraeth Cymru. Wel, ystyriwyd pob dewis, ac, ar lefel Llywodraeth y DU, drwy'r Adran Drafnidiaeth, nid oes un dewis na model sydd wedi'i ddatblygu ar gyfer pob cytundeb masnachfraint. Mae rhai gweithredwyr trenau wedi cael y cytundeb rheoli brys gwreiddiol wedi'i ymestyn, ac mae eraill wedi cael cytundeb newydd am hyd at 18 mis, a gelwir y cytundebau hynny'n gytundebau rheoli adferiad brys. Mae rhai, wrth gwrs, fel y gŵyr Aelodau, wedi cael dyfarniadau uniongyrchol, tra bo rhai yn gweithio ar fodel y gweithredwr pan fetha popeth arall.

Nid yw llawer ohonyn nhw yn rhoi sicrwydd i deithwyr yn Lloegr. Yr hyn yr ydym ni wedi'i wneud yw cynnig amserlen glir ar gyfer pontio llyfn, sicrwydd i deithwyr ac i staff. Y gwahaniaeth allweddol yn ein cytundeb masnachfraint ni, a lofnodwyd gennym ni yn 2018, oedd ei fod yn ymgorffori nid yn unig gwasanaethau rheilffyrdd, ond hefyd trawsnewid yr ased, rheilffyrdd craidd y Cymoedd. Roedd hynny'n ei wneud yn wahanol iawn. Felly, er inni allu ystyried yr holl fodelau hynny sy'n cael eu mabwysiadu mewn gwahanol gytundebau masnachfraint yn Lloegr, fe wnaethom ni benderfynu mai'r model a wnaethom ni ei ddewis oedd yr un mwyaf addas i Gymru.

O ran y cwestiwn a ofynnwyd am ba hyd y gall hyn barhau, wel, rydym yn aros am safbwynt y DU o ran Deddf Rheilffyrdd 2005 a pha un a fydd angen diwygio honno mewn unrhyw ffordd. Ond ein safbwynt ni yw y byddwn yn bwrw ymlaen â'r model gweithredu newydd hwn cyhyd ag y gallwn ni, a hoffem sicrhau ein bod yn defnyddio'r cytundebau sydd gennym ni ar waith, y penawdau telerau y byddwn yn trafod eu manylion, er mwyn sicrhau bod gennym ni delerau pontio gwasanaethau rheilffyrdd, ond ein bod hefyd yn cyflawni'r rhaglen metro uchelgeisiol a hefyd ein bod yn defnyddio'r fenter ar y cyd â Keolis ac Amey i warantu y gallwn ni ddarparu tocynnau integredig a gwelliannau eraill yn y ffordd y mae gwasanaethau rheilffyrdd yn gweithredu yn ardaloedd Cymru a'r gororau.

Ac yna, yn olaf, Llywydd, gofynnodd Russell George y cwestiwn gwirioneddol bwysig am ein hymrwymiad i gerbydau, yr ymrwymiad hwnnw o £800 miliwn i gerbydau. Rydym yn parhau i ymrwymo i ddarparu'r rhaglen uwchraddio honno gwerth £800 miliwn, trenau newydd—trenau newydd rhagorol—sy'n gweithredu ar ein rheilffyrdd. Rydym ni wedi ymrwymo i hynny, ac, wrth gwrs, bydd Llywodraethau'r dyfodol yn dymuno edrych ar flaenoriaethau gwario yn y tymor hwy o ran uwchraddio gorsafoedd, ond, ar hyn o bryd, rwy'n dal yn ymrwymo i fuddsoddi lle bynnag y gallwn ni yn y gwaith o uwchraddio'r gorsafoedd hynny. Ond mae'n rhaid i mi ddweud bod angen i Lywodraeth y DU unioni'r cam o danfuddsoddi hanesyddol yn seilwaith y rheilffyrdd a hefyd buddsoddi mewn rheilffyrdd ac mewn gorsafoedd.

16:50

Diolch yn fawr iawn i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Rwy'n deall yr amgylchiadau a arweiniodd at gyhoeddi'r datganiad hwn cyn ei gyflwyno gerbron y Senedd, ac rwy'n derbyn bod y Gweinidog ei hun o'r farn nad oedd hynny'n ddelfrydol ac nad felly y byddai fel arfer yn dymuno gweithredu. 

Fel y gŵyr y Gweinidog, mae Plaid Cymru yn falch o'i gefnogi yn y dull gweithredu hwn. Pan ddaeth y cyfle i'r amlwg ychydig flynyddoedd yn ôl, teimlem nad oedd achos arbennig o glir dros yr angen i gyfranddalwyr y sector preifat wneud elw o'n gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus, ac ychydig iawn o dystiolaeth sydd bod gwneud hynny'n eu gwneud yn fwy effeithlon neu'n fwy dymunol i'w defnyddio. Byddwn ni'n cefnogi'r Gweinidog i gynnal y trefniant hwn cyhyd ag sy'n bosibl, ac os oes angen iddo geisio unrhyw ddiwygiadau i ddeddfwriaeth ar lefel San Steffan, byddwn yn ei gefnogi i wneud hynny.

Hoffwn ofyn rhai cwestiynau penodol. Gweinidog, rydych yn sôn am y posibilrwydd o'r angen i wella gorsafoedd—er enghraifft, mae'r orsaf yn Llanelli mewn cyflwr pur druenus ar hyn o bryd. A fydd y trefniant newydd hwn yn ei gwneud hi'n haws i'r gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru ymateb i flaenoriaethau cyhoeddus Cymru? A fydd, er enghraifft, hefyd yn ei gwneud hi'n haws cael amserlenni cysylltiedig? Mae'n rhwystredigaeth arbennig i bobl sy'n dod o orllewin Cymru ac yn cyrraedd gorsaf Abertawe ar yr union adeg y mae'r trên i Lundain neu'r trên i Fanceinion yn gadael, am nad yw'r amserlenni hynny'n gweithio gyda'i gilydd. Lleoedd fel Cydweli, lle mae taith gerdded hir iawn o'r orsaf reilffordd i'r orsaf fysiau—a fydd y trefniant newydd hwn yn ei gwneud hi'n fwy effeithiol ac yn haws ichi arwain trafnidiaeth gyhoeddus i fodloni blaenoriaethau gwasanaethau cyhoeddus?

A wnewch chi gadarnhau i ni, Gweinidog—ac rwy'n cymryd, o'ch cyfeiriad at drefniadau TUPE—na fydd dim effeithiau negyddol ar delerau ac amodau staff sy'n darparu ein gwasanaethau rheilffordd ar bob lefel? Rydych chi wedi rhoi'r sicrwydd hwnnw inni'n breifat, a gwn eich bod wedi cael y trafodaethau hynny gydag undebau llafur ac eraill, ond credaf y byddai'n ddefnyddiol petaech chi'n dweud ar goedd na fydd effaith negyddol ar staff.

Tybed a ydych chi wedi cael unrhyw arwydd, Gweinidog, pryd y bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi adolygiad Williams, oherwydd, ar un ystyr, heb wybod hynny, ac unrhyw fesurau a allai ddeillio o hynny, rydych chi i raddau yn gweithredu gydag un llaw wedi'i chlymu y tu ôl i'ch cefn o ran gwasanaethau rheilffyrdd yng Nghymru. Byddwn i a'm plaid yn cefnogi popeth yr ydych chi wedi'i ddweud, Gweinidog, am y swm canlyniadol a ddylai fod ar gael o ganlyniad i HS2. Mae'n gwbl annerbyniol nad yw'n cael ei ddarparu, ac, unwaith eto, byddwn yn eich cefnogi o ran unrhyw sylwadau a wnewch chi.

Yn olaf, sylweddolaf na allwch chi, fel y dywedsoch chi wrth Russell George ac fel y dywedsoch chi yn eich datganiad, roi manylion y trefniadau ariannol inni, ac rwy'n deall y materion cyfrinachedd masnachol dan sylw, ond ar wahân i'r costau gweinyddol yr ydych chi wedi'u crybwyll o ran TUPE a'r costau sy'n deillio'n uniongyrchol o'r pandemig, y byddid wedi gorfod eu talu pe cai'r fasnachfraint ei throsglwyddo i berchnogaeth gyhoeddus neu pe bai yn aros mewn dwylo preifat, a allwch chi roi sicrwydd inni mai eich bwriad yw na fydd unrhyw gostau tymor hwy ychwanegol yn cael eu hysgwyddo gan y pwrs cyhoeddus heblaw'r rhai a fyddai wedi bod yn berthnasol o dan yr amgylchiadau pe bai'r fasnachfraint wedi aros mewn dwylo preifat?

16:55

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

A gaf i ddiolch i Helen Mary Jones am ei chwestiynau, a hefyd am ei chefnogaeth o ran y camau yr ydym yn eu cymryd? Dylwn i fod wedi ychwanegu yn fy ymateb i Russell George, o ran amseriad y cyhoeddiad, fod newyddion, wrth gwrs, wedi ei ddatgelu'n answyddogol ar y nos Fercher, nid o ganlyniad i unrhyw weithred gan un o swyddogion Llywodraeth Cymru, nac ychwaith gweithredoedd unrhyw un yn Trafnidiaeth Cymru neu Keolis neu Amey. Yn anffodus, datgelwyd y manylion yn answyddogol, a dyna pam roedd pobl yn darganfod canlyniad ein trafodaethau cyn inni allu ei gyhoeddi'n ffurfiol ar y dydd Iau.

O ran amserlennu, wel, efallai y bydd gwell cyfuno ag amserlenni bysiau o ystyried y rhan gynyddol y bydd gan y sector cyhoeddus wrth reoli gwasanaethau bysiau yn y dyfodol. Felly, o ystyried hyn ochr yn ochr â'r diwygiadau sy'n digwydd ynglŷn â gwasanaethau bysiau, credaf fod stori gadarnhaol iawn i'w hadrodd am sut y bydd y sector cyhoeddus yn gallu rheoli amserlenni'n well ac, ar ben hynny, trefniadau gwerthu tocynnau hefyd. Mae tocynnau integredig yn hanfodol bwysig i lawer o weithrediadau rheilffyrdd a bysiau gorau'r byd, ac fe hoffem ni weld datblygu tocynnau integredig cyn gynted â phosibl ac yna cyflwyno hynny ar draws y fasnachfraint ac ar draws y rhwydwaith bysiau. Dyna un o'r rhesymau pam rydym ni eisiau cadw arbenigedd Keolis. Mae ganddyn nhw brofiad anhygoel yn fyd-eang ym maes tocynnau integredig, a thrwy'r fenter ar y cyd byddwn yn gallu manteisio ar eu profiad a'u harbenigedd a darparu system docynnau integredig debyg yma yng Nghymru.

Gallaf sicrhau'r Aelodau a'r 2,500 o'r aelodau staff hynny yng Ngwasanaethau Rheilffyrdd Trafnidiaeth Cymru y bydd y trosglwyddiad i TfW Rail Limited ar yr un telerau ac amodau. A hoffem sicrhau bod staff yn parhau'n fodlon ac yn teimlo'n ddiogel o wybod y bydd perchnogaeth gyhoeddus yn darparu'r un telerau ac amodau, os nad rhai gwell, os gallwn eu gwella yn y blynyddoedd i ddod, â'r rhai y byddid wedi eu cynnig gan berchnogaeth breifat.

Nid oes gennym ni ddyddiad eto gan Lywodraeth y DU ynghylch cyhoeddi adolygiad Williams a'r ymateb iddo, ond mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi fy sicrhau na fydd yr adolygiad 'cysylltu'r undeb' yn atal cyhoeddi adolygiad Williams. Ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn oherwydd, er y caiff adolygiad 'cysylltu'r undeb' ei gynnal mewn cyfnod byr, rwy'n credu y byddai pawb yn cydnabod ei bod hi'n hen bryd cyhoeddi adroddiad Williams ac na ellir oedi mwy.

Ac o ran y costau, credaf fod angen i ni wahaniaethu rhwng dau fath o gostau: un, y costau sy'n gysylltiedig â darparu gwasanaethau yng nghyd-destun COVID, ac yna'r gyfres arall o gostau yw'r rhai sy'n gysylltiedig â darparu gwasanaethau rheilffyrdd yn y model gweithredu newydd. Gan na fyddwn yn talu elw, mae gennym y potensial bryd hynny i wneud arbedion neu ailfuddsoddi'r holl refeniw yr ydym ni'n ei dderbyn yn ôl i wasanaethau gwell. Rwy'n benderfynol o sicrhau mai'r olaf ydyw, ein bod yn gwella gwasanaethau gydag unrhyw refeniw ychwanegol yr ydym yn ei godi, yn hytrach na thalu elw, fel y byddai wedi digwydd.

17:00

Rwy'n ddiolchgar i chi, Gweinidog, am y datganiad yr ydych chi newydd ei wneud yn ogystal, a hefyd rwy'n ddiolchgar iawn i chi am y camau yr ydych chi wedi'u cymryd i gynnal gwasanaethau yn y cyfnod anodd hwn, o ran darparu'r cyllid, a'r sector cyhoeddus yn gweithredu fel catalydd ar gyfer gweithredu i warantu gwasanaethau a swyddi hefyd. Ac rwy'n credu, o ystyried y datganiad a gawsom ni yn gynharach gan y Prif Weinidog a'r datganiad yr ydym ni wedi'i glywed gennych chi y prynhawn yma, rydym ni wedi dangos y gall pŵer sector cyhoeddus unedig yng Nghymru fod yn sail i wasanaethau cyhoeddus, ac rwy'n gobeithio bod honno'n wers y byddwn yn parhau i'w dysgu i'r dyfodol.

Mae dau fater na fyddwch yn synnu y byddwn i eisiau eu codi gyda chi y prynhawn yma. Mae'r cyntaf yn ymwneud â buddsoddi ac mae'r ail yn ymwneud â gwasanaethau sy'n gwasanaethu fy etholaeth fy hun. O ran buddsoddi, dywed Russell George nad yw teithwyr yn poeni ynghylch pa enw sydd wedi'i ysgrifennu ar ochr trenau. Mae'n ddigon posibl bod hynny'n wir, ond maen nhw'n poeni am fuddsoddi. Maen nhw'n poeni'n fawr am gerbydau, maen nhw'n poeni'n fawr am wasanaethau, maen nhw'n poeni'n fawr am y seilwaith, ac mae Cymru wedi ei hamddifadu o'r buddsoddiad hwnnw'n am amser rhy hir o lawer. Golwg syml ar y fathemateg—gallai fy mhlentyn 10 mlwydd oed egluro i'r Ceidwadwyr sut  mae Cymru wedi cael ei thrin yn wael gan y strwythurau presennol, ac mae'n bryd iddyn nhw newid. Rydych chi eisoes wedi cyfeirio at adolygiad Williams yn y datganiad, a byddwn i'n ddiolchgar pe baech yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynghylch lle yr ydych chi'n credu ein bod ni arni ar hyn o bryd, oherwydd mae angen dybryd am y buddsoddiad sy'n bosibl i sicrhau bod gennym ni'r gwasanaethau gorau posibl ledled Cymru. 

Ac yn ail, o ran rheilffordd Glynebwy, rydych chi a fi wedi trafod droeon drwy gydol y pedair blynedd diwethaf y buddsoddiad sydd ei angen o ran cerbydau, ac rydym ni wedi gweld buddsoddiad sylweddol yn hynny dros y ddwy flynedd ddiwethaf, ond hefyd o ran gwasanaethau. A yw'r sefyllfa bresennol—? Rwy'n credu bod hwn yn bwynt pwysig iawn. A yw'r amgylchiadau presennol yn golygu bod rhywfaint o oedi o ran y posibilrwydd o gael gwasanaethau ychwanegol o Lynebwy i Gaerdydd? Bwriad yr amserlen bresennol yw cael gwasanaethau ychwanegol o Lynebwy y flwyddyn nesaf. A yw hynny'n dal ar y gweill neu a effeithiwyd ar hynny? Yna mae angen y buddsoddiad arnom ni i ganiatáu pedwar trên yr awr i deithio i lawr o Lynebwy i Gaerdydd, ac rydym ni hefyd eisiau gweld, wrth gwrs, buddsoddi yn y seilwaith sy'n gwasanaethu Abertyleri, o ran gorsaf newydd yno. Felly, mae'r rheini'n fuddsoddiadau gwirioneddol allweddol i sicrhau nad ydym ni, yng Nglynebwy, ar ein colled o ran manteision y system metro. Ac er mwyn sicrhau bod hynny'n digwydd, mae angen gwarant arnom ni neu'n sicr arwydd y prynhawn yma bod Llywodraeth Cymru yn parhau i wneud y buddsoddiad hwnnw, a ninnau i gyd yn gwybod y bydd Llywodraeth y DU yn troi ei chefn ar ei chyfrifoldebau.

17:05

Wel, a gaf i ddiolch i Alun Davies am ei gyfraniad drwy ei gwestiynau ac am ei gefnogaeth i benderfyniadau Llywodraeth Cymru ynglŷn â gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a'r gororau?

Rwy'n credu bod Alun Davies yn gwneud pwynt pwysig iawn gan fod un o bob pump o bobl yng Nghymru yn dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus. Nid oes ganddyn nhw gar, ac felly mae trafnidiaeth gyhoeddus yn cynnig cyfle i gannoedd o filoedd o bobl fyw eu bywydau heb ddibynnu ar gerbydau preifat. Ac oni fyddem ni wedi cynnal gwasanaethau yn ystod y cyfnod anhygoel o anodd hwn, a gwn ei fod wedi costio swm sylweddol o arian trethdalwyr, ond oni fyddem ni wedi gwneud hynny, byddem wedi bod yn amddifadu un o bob pump o ddinasyddion Cymru o'r cyfle i fyw bywyd sylfaenol a digonol, ac mae elfen enfawr o gyfiawnder cymdeithasol wrth wraidd yr hyn y buom ni yn ei wneud yn ystod y pandemig. Nid ydym ni wedi dymuno gadael neb ar ôl. Nid ydym ni wedi dymuno gadael neb o dan fwy o anfantais o ganlyniad i'r hyn yr ydym ni yn ei brofi, a byddwn yn cynnal yr egwyddor honno drwodd i'r adferiad. Yn draddodiadol, yn ystod dirwasgiadau ac yna drwy'r adferiad ar ôl dirwasgiadau, mae'r bobl hynny sy'n cael eu gwthio fwyaf i'r cyrion, sydd bellaf o'r farchnad swyddi, sydd fwyaf agored i niwed ac sy'n aml yn byw bywydau mewn ffordd y byddai rhai ohonom yn ei chael hi'n anodd ei dychmygu, yn aml yn cael eu gadael hyd yn oed ymhellach ar ôl yn ystod yr adferiad, ac nid ydym ni eisiau gweld hynny'n digwydd yma yng Nghymru. Dyna pam rydym yn parhau'n gwbl ymrwymedig i fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus ac yn y gwasanaethau y mae cynifer o bobl yn dibynnu arnyn nhw.

Rwy'n mynd i siarad yn fyr am argymhellion Williams a Burns hefyd, oherwydd mae ganddyn nhw oblygiadau o ran gwasanaethau Ebwy. Yn gyntaf oll o ran Williams, ac mae Alun Davies yn llygad ei le fod angen cyllid teg arnom ni ar gyfer seilwaith, wel, mae ein safbwynt yn glir iawn. Yn ein cyflwyniad i adolygiad Williams, fe wnaethom ni ddadlau'r achos dros ddatganoli cyfrifoldeb dros seilwaith rheilffyrdd ac am setliad ariannu teg. Ac o ran gwaith Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru, rydym yn aros i adroddiad terfynol Burns gael ei gyhoeddi, ond gallaf ddweud wrth yr Aelodau heddiw fy mod wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru ddechrau datblygu strategaeth ar gyfer uned gyflawni ar y cyd i sicrhau y bydd y sgiliau a'r adnoddau angenrheidiol ar gael i sicrhau y gallwn ni gyflawni argymhellion Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru. A gallaf sicrhau Alun Davies ein bod yn parhau'n gwbl ymrwymedig i fwrw ymlaen â'r prosiectau rheilffyrdd hynny, megis gwella amlder gwasanaethau Glynebwy, a fydd yn darparu rhwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus integredig gwell ar gyfer y rhanbarth ac yn cynnig dewis arall dichonadwy yn lle gorfod dibynnu ar yr M4. Felly, gallaf sicrhau Alun Davies na ddylid bod dim oedi o ran sicrhau'r amlder cynyddol y soniodd amdano, ond rhaid imi gynnwys amod sef y pwynt amlwg ein bod hefyd yn dibynnu ar Network Rail wrth inni gyflawni'r gwelliannau hynny'n brydlon.

Prynhawn da, Dirprwy Lywydd, mae arnaf ofn na chefais arwydd i ddad-dawelu yn y fan yna.

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am eich diweddariad heddiw ac am eich datganiad? Mae'n newyddion rhagorol, wrth gwrs, eich bod wedi gallu sefydlu'r ymyriadau a amlinellwyd, nid yn unig i'r rhai sy'n defnyddio'r rhwydwaith rheilffyrdd, ond hefyd i'r rheini y mae eu swyddi'n cael eu sicrhau drwy eich gweithredoedd. Ac a gaf i sicrhau'r Gweinidog heddiw fod fy ngrŵp yn gwbl gefnogol i'ch ymyriadau, ac nid yn unig hynny, byddwn yn cefnogi unrhyw sylwadau a wnewch i Lywodraeth y DU i helpu ariannu'r rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru wrth fwrw ymlaen?

Er gwaethaf eich sicrwydd, Gweinidog, rhaid inni fod yn bragmatig ynglŷn â hyn, ac efallai y bydd rhywbeth yn tarfu ar y broses o uwchraddio'r rhwydwaith rheilffyrdd a ragwelwyd yn flaenorol. Felly, a wnewch chi roi syniad i ni ynghylch pa rannau o'r uwchraddio hynny y gallai'r newidiadau yr ydych chi wedi'u hamlinellu heddiw effeithio arnyn nhw?

Nawr, fe wnaethoch chi sôn am y gwasanaethau tocynnau integredig, ac mae'r rhain yn hanfodol i sicrhau bod teithio yng Nghymru yn parhau yn ddi-dor ac mor rhwydd â phosibl. Felly, a wnewch chi ein sicrhau eto wrth ddefnyddio'r mentrau preifat yr ydych chi yn cymryd yr awenau oddi arnynt, y byddwch yn gallu cyflawni'r gwasanaethau integredig hynny?

Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn credu, mewn gwirionedd, nad oedd dewis arall i chi oni bai am weithredu fel y gwnaethoch chi, ac rwyf yn eich cymeradwyo am gymryd y camau hynny. Rwy'n siŵr mai dyma'r unig ffordd y gallem ni fod wedi cadw'r gwasanaethau teithio yng Nghymru ar gyfer y dyfodol.

17:10

A gaf i ddiolch i David Rowlands am ei gwestiynau ac eto am ei gefnogaeth i'r penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru? Rwy'n croesawu ei sylwadau'n fawr, a byddwn i'n cytuno â David Rowlands fod 2,500 o bobl yn teimlo'n llawer mwy diogel yn eu swyddi nawr, ac edrychwn ymlaen at weithio gyda'r aelodau staff ymroddedig hynny i wella gwasanaethau ledled Cymru ac ardaloedd y gororau yn y blynyddoedd i ddod.

O ran uwchraddio seilwaith, ac yn bennaf uwchraddio rhaglen y metro, wel, dechreuodd y gwaith ar drawsnewid y metro dros yr haf a bydd yn parhau yn ôl y bwriad, yn ddi-dor er gwaethaf y newidiadau hyn. Ni fydd unrhyw effaith o ran y model gweithredu newydd; byddwn yn bwrw ymlaen yn ôl y bwriad. Ond dylid dweud hefyd, Llywydd, efallai na fyddai hynny wedi digwydd pe baem wedi gadael y contract heb i'r broses gael ei rheoli, pe baem wedi gweld cwymp trychinebus. Yna, byddem, rwy'n gwbl sicr, wedi gweld oedi sylweddol wrth gyflawni'r gwaith o uwchraddio'r metro, a byddai hynny, wrth gwrs, wedi creu goblygiadau; byddai wedi wynebu heriau o ran sicrhau arian Ewropeaidd. Felly, nid cam angenrheidiol yw hwn i ddarparu'r sicrwydd i weithwyr ac i gwsmeriaid yn unig; mae hwn hefyd yn gam angenrheidiol i sicrhau'r metro a'r amserlen ar gyfer cyflawni'r metro.

O ran cyflawni gwelliannau a chyflawni'r seilwaith y mae David Rowlands wedi amau a wyf yn ffyddiog bod gennym yr arbenigedd, bod gennym y capasiti a'r gallu i gyflawni hynny, wel, gogoniant yr hyn yr ydym ni wedi ei gytuno â Keolis ac ag Amey yw, er y byddwn yn rhoi'r gwaith o weithredu a rheoli gwasanaethau rheilffyrdd dan reolaeth gyhoeddus, byddwn yn dal i gadw eu harbenigedd o ran gallu cyflawni'r metro a gallu cyflawni gwelliannau mewn gwasanaethau rheilffyrdd, ac fel y dywedais eisoes, o ran integreiddio ac o ran sefydlu cyfundrefn brisiau decach ac integredig.

Gweinidog, a gaf i ddweud pa mor falch yr wyf ein bod wedi gallu cymryd y cam hwn? Mae preifateiddio rheilffyrdd a dadreoleiddio bysiau wedi bod yn un o'r trychinebau mawr mewn gwirionedd, un o waddolion trychinebus mawr cyfnod Thatcher, ac mae wedi arwain at un o'r systemau trafnidiaeth gyhoeddus sydd â'r tanfuddsoddiad mwyaf yng ngorllewin Ewrop gyfan. Ac weithiau rydym ni yn anghofio hanes hyn: 1947, pan roddwyd y rheilffyrdd mewn perchnogaeth gyhoeddus, y rheswm am hynny oedd eu bod wedi methdalu mewn dwylo preifat. Fe wnaethoch chi gyfeirio'n gynharach at Network Rail, sef Railtrack cyn hynny, a breifateiddiwyd ac a aeth yn fethdalwr wedyn yn 2001, ac rydym ni wedi gweld hynny'n duedd gyson oherwydd dylai trafnidiaeth gyhoeddus fod yn y sector cyhoeddus, yn atebol i'n heconomi leol ac yn atebol fel gwasanaeth cyhoeddus.

A gaf i ddweud mor falch yr wyf fi hefyd fod pencadlys Trafnidiaeth Cymru a'r corff newydd hwn wedi'i leoli ym Mhontypridd, lle mae'n cyfrannu hefyd at adfywio'r dref? A hefyd y gwahaniaeth y mae'n dechrau ei wneud pan fyddwch yn dechrau edrych ar asedau cyhoeddus, fel gorsafoedd ym Mhontypridd, fel ased cymunedol: mae'r holl adeiladau ar yr orsaf honno bellach yn cael eu hystyried ar gyfer y posibilrwydd o'u defnyddio gan grwpiau cymunedol a sefydliadau yn y gymuned, a dyna'r gwahaniaeth, rwy'n credu, mae perchnogaeth gyhoeddus yn ei wneud mewn gwirionedd.

A gaf i ofyn ychydig o gwestiynau ynglŷn â'r buddsoddiad yn hynny a'r gwahaniaeth y bydd yn ei wneud? Yn gyntaf, y buddsoddiad yn yr holl orsafoedd newydd sy'n digwydd ar hyd rheilffyrdd y Cymoedd, ac wrth gwrs bydd hynny'n parhau. A gaf i holi hefyd am y cynnydd sy'n cael ei wneud o ran integreiddio a datblygu'r gwasanaethau rheilffyrdd nawr, a'r cyfleoedd i integreiddio â thrafnidiaeth bysiau? A gaf i ofyn hefyd am eich barn ar y cyfle nawr i ailagor hen reilffyrdd? Rydym ni eisoes wedi ymrwymo, mi gredaf, i roi dros £0.5 miliwn ar gyfer y cynllun busnes ar gyfer ailagor rheilffordd y gogledd-orllewin, Caerdydd i Lantrisant, hen reilffordd sy'n cynnig cyfle newydd ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus mewn gwirionedd. Ac yn olaf—

17:15

O ran y dyfodol hirdymor, bydd adran 25 o'r Ddeddf Rheilffyrdd, a gyflwynwyd gan y Torïaid i atal perchnogaeth gyhoeddus ar drafnidiaeth gyhoeddus—a wnewch chi ymgyrchu dros ddirymu honno? Mae'n rhwystr ac yn llestair o'r gorffennol o ran dyfodol trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru.

A gaf i ddiolch i Mick Antoniw am ei gefnogaeth i'r camau yr ydym ni wedi'u cymryd? Byddwn yn cytuno â phopeth a ddywedodd, mewn gwirionedd. Nid oes ond angen inni edrych ar berchnogaeth gyhoeddus dros rai o'r meysydd awyr rhyngwladol mwyaf llwyddiannus ledled y byd i gydnabod bod perchnogaeth gyhoeddus yn gweithio, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n synnu'n fawr o glywed bod rhai o'r meysydd awyr rhyngwladol mwyaf llwyddiannus yn nwylo'r sector cyhoeddus. Mae hynny'n dangos pa mor bwysig yw cael rhywfaint o berchnogaeth gyhoeddus nid yn unig dros wasanaethau, ond yr asedau diriaethol gwirioneddol hefyd—y seilwaith—a dyna pam yr ydym yn dymuno gweld seilwaith rheilffyrdd yn cael ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru, ac i setliad cyllido teg gyd-fynd ag ef.

Nawr, o ran pencadlys Pontypridd, rwy'n falch iawn bod Trafnidiaeth Cymru wedi dewis Pontypridd ar gyfer eu pencadlys. Bydd yn gwneud gwahaniaeth enfawr o ran creu lleoedd, o ran gwella bywiogrwydd y gymuned, ac rwy'n falch o allu dweud wrth Mick Antoniw ein bod yn gweld y lleoliad penodol hwnnw ymhlith y cyntaf o'n canolfannau gweithio o bell. Bydd ein dull 'canol trefi yn gyntaf' sy'n cael ei arwain gan Hannah Blythyn yn bwysig o ran adfywio, ond hefyd o ran darparu cyfleoedd eraill fel nad oes yn rhaid i bobl weithio mewn blociau swyddfeydd mawr yng nghanol dinasoedd, a gweithio yn hytrach yn eu cymunedau, gan gyfrannu o fewn cymunedau'r Cymoedd at yr agenda bwysig Swyddi Gwell yn Nes at Adref hefyd. Ac rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu edrych ar orsafoedd eraill ar draws llwybrau Cymru fel cyfleoedd i agor canolfannau gweithio o bell, cyfleoedd a fydd yn galluogi pobl i adael eu ceir gartref, defnyddio llwybrau teithio llesol neu drafnidiaeth gyhoeddus i fynd a dod o'r gwaith, ac wrth wneud hynny, cyfrannu hefyd at adfywio cymunedau ar hyd a lled Cymru.

O ran ailagor rheilffyrdd, rydym yn parhau'n ymrwymedig i'r holl brosiectau hynny y buom ni'n gweithio arnyn nhw. Rydym yn dal wedi ymrwymo i'r gorsafoedd yr ydym ni eisiau eu gweld yn cael eu hailagor, y gorsafoedd hynny yr ydym ni eisiau eu gweld yn cael eu hadeiladu, ond wrth gwrs, mae'n angen cyllid yr Adran Drafnidiaeth er mwyn i'r prosiectau hynny gael eu cyflawni, ac rydym yn dadlau'r achos yn rheolaidd dros ddod â'r gwelliannau seilwaith a'r cyllid angenrheidiol i Gymru. Byddwn yn cytuno â Mick Antoniw ynglŷn â'r Ddeddf Rheilffyrdd; yn amlwg, mater i Lywodraeth y DU yw hynny, ond rwy'n credu y bydd angen dirymu'r adran benodol honno, oherwydd ar hyn o bryd, dim ond ar gyfer yr hyn a ddisgrifir fel cyfnod dros dro y gellir defnyddio gweithredwr pan fetha popeth arall. Wel, gadewch i ni gydnabod hyn, bydd nifer enfawr o gytundebau masnachfraint yn destun rhai pan fetha popeth arall am beth amser i ddod, ac felly credaf ei fod yn gwneud synnwyr perffaith i Lywodraeth y DU ystyried y mater hwn ar frys, ac ymdrin ag adran 25 mewn ffordd briodol, ac mae hynny'n golygu dirymu.

Gweinidog, byddwch yn gwybod fy mod yn cadeirio grŵp cydweithredol y Senedd—criw da o bobl yn y fan yna. Felly, a gaf i ofyn, gan ein bod bellach, yn gwbl briodol mae'n rhaid i mi ddweud, yn cymryd mwy o reolaeth dros y fasnachfraint rheilffyrdd yng Nghymru, a fydd Llywodraeth Cymru nawr yn ceisio ymgorffori egwyddorion cydfuddiannol wrth lywodraethu masnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r gororau, rhoi mwy o lais i ddefnyddwyr rheilffyrdd a gweithwyr rheilffyrdd, ac edrych ar gwmnïau cydfuddiannol llwyddiannus fel Cartrefi Cymoedd Merthyr am egwyddorion arfer gorau a Chanolfan Cydweithredol Cymru ar gyfer arbenigedd llywodraethu wrth wneud hynny? Byddai hynny i'w groesawu'n fawr, a byddem yn croesawu trafodaeth ar hynny.

Gweinidog, un pwynt arall. Er ein bod yn croesawu'r gwasanaeth ar y Sul a gawsom ar reilffordd Llynfi, y cydweithrediad aruthrol a gawsom gan Lywodraeth Cymru a chyllid i archwilio dewisiadau o amgylch Pencoed, a lliniaru'r tagfeydd sydd gennym ni yn y fan yna, a gaf i ofyn a ydym yn debygol o weld, nawr, unrhyw ddatblygiad o ran yr wybodaeth ddiweddaraf i'm hetholwyr am y gwelliannau i amlder y gwasanaethau rheilffyrdd ar linell Maesteg i Ben-y-bont ar Ogwr? Byddai'n wych clywed mwy am hynny rywbryd yn fuan.

17:20

A gaf i ddiolch i Huw Irranca-Davies am ei gwestiynau? Hoffwn ei sicrhau o'r cychwyn cyntaf nad yw Maesteg yn sicr wedi ei hanghofio yn ystod trafodaethau eithaf dwys. Gallaf ddweud wrth Huw Irranca-Davies mewn gwirionedd fy mod yn falch y bydd Trafnidiaeth Cymru yn bwrw ymlaen â gwaith ar broses cam 2 yr arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru ddiwedd y mis nesaf neu ddechrau mis Ionawr. Credaf fod hynny'n hanfodol bwysig, oherwydd mae angen inni allu dangos, yn ystod y cyfnod pontio, y bydd gwaith yn parhau er mwyn gwella amlder gwasanaethau'r rheilffyrdd ac i gyflawni'r math o uwchraddio sydd ei angen i ddarparu gwasanaethau amlach.

O ran y gwaith y mae Huw yn ei wneud yn y grŵp cydweithredol, hoffwn ei longyfarch am y gwaith rhagorol hwnnw, a byddwn yn cytuno bod yr egwyddorion cydfuddiannol yn hanfodol bwysig o ran y model gweithredu newydd. Rydym eisoes wedi cynnig cynrychiolaeth gweithwyr ar fwrdd Trafnidiaeth Cymru, ac rwy'n awyddus i ymestyn egwyddorion cydfuddiannol i sefydlu TfW Rail Ltd, a fydd yn gyfrifol am ddarparu gwasanaethau rheilffyrdd sydd o dan berchnogaeth gyhoeddus o dan y model gweithredu newydd.

Diolch; nid yw'n dangos. Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad heddiw sy'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Senedd Cymru am fater hanfodol dyfodol y rheilffyrdd yng Nghymru. Croesawaf yr uned gyflawni ar y cyd a'r hyn a ddywedwyd am egwyddorion cydfuddiannol.

Gŵyr pawb yn y Siambr hon a ledled Cymru y bu'r misoedd diwethaf yn heriol iawn i drafnidiaeth gyhoeddus yng Nghymru a ledled y Deyrnas Unedig. Mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar refeniw teithwyr, ond mae'n parhau'n gwbl hanfodol i'r gweithlu a'n heconomi. Gweinidog, gadewch inni beidio bod â diffyg hyder wrth gefnogi eich ymyrraeth gyflym a'ch gwaith yn cynnal gwasanaethau, oherwydd gwyddom fod y rhan fwyaf o'r cyhoedd yng Nghymru a Phrydain yn cefnogi egwyddorion gwladoli'r system reilffyrdd ym Mhrydain. A gadewch inni beidio ag anghofio mai preifateiddio ar ran Llywodraeth Dorïaidd John Major oedd hyn ar ddechrau'r 1990au, gan barhau â gwaddol Thatcher o werthu asedau cyhoeddus Prydain—unwaith eto, cam yn ormod—neu, fel y mae'r Gweinidog yn ein hatgoffa ni, cyllid canlyniadol seilwaith Cymru, gyda miliynau wedi'u colli, neu ladrad trên mawr parhaus HS2, unwaith eto'n amddifadu Cymru o'i chyllid haeddiannol a chyfiawn.

Gweinidog, rydych chi a Llywodraeth Cymru, er gwaethaf hyn, wedi ymrwymo £1 biliwn i adeiladu trenau newydd a metro de Cymru. Felly, pryd ydych chi'n rhagweld y bydd y llinell newydd o Lynebwy sy'n rhedeg drwy Islwyn i Gasnewydd yn dod yn weithredol? Ac yn ail, Gweinidog, onid yw prif weithredwr Trafnidiaeth Cymru, James Price, yn llygad ei le pan ddywed fod hyn yn ein galluogi ni i leihau'r elw a dalwn i'r sector preifat yn aruthrol dros amser, a sicrhau, pan ddaw'r refeniw hwnnw'n ôl, ei fod yn dychwelyd at y trethdalwr, ac oni ddylai pob Aelod o'r Senedd groesawu hynny? Diolch.

Hoffwn ddiolch i Rhianon Passmore am ei sylwadau ac am ei chefnogaeth i'r hyn yr ydym ni wedi'i wneud. A byddwn, fe fyddwn yn cytuno â James Price, prif swyddog gweithredol Trafnidiaeth Cymru, a'r hyn a ddywedodd; rwy'n credu iddo ddweud yr hyn sy'n amlwg, mae'n hollol gywir. O ran y gwasanaeth rhwng Glynebwy a Chasnewydd, rwyf eisoes wedi dweud wrth Alun Davies fod gwaith yn mynd rhagddo yn ôl y bwriad, gyda'r amod ein bod yn amlwg yn dibynnu ar Network Rail i gyflawni yn unol â'n hamserlen gyhoeddedig. Byddwn yn cytuno â phopeth a ddywedodd Rhianon Passmore am ein penderfyniad i weithredu'n gyflym a rhoi ein gwasanaethau o dan berchnogaeth gyhoeddus, ond byddwn hefyd yn dweud nad yw'r penderfyniad a wnaethom yn adlewyrchu perfformiad y gweithredwr o bell ffordd. Yn wir, roedd perfformiad yn gwella'n sylweddol iawn o dan y gweithredwr. A dyna un o'r rhesymau pam roeddwn yn benderfynol o sicrhau ein bod yn cadw eu harbenigedd a'u profiad. Maen nhw'n un o weithredwyr gorau'r byd, ac rydym yn falch o fod wedi sicrhau eu partneriaeth am flynyddoedd i ddod drwy'r fenter ar y cyd.

Mae COVID, yn amlwg, wedi torri'r model yn y DU. Ni fyddai unrhyw fusnes preifat wedi gallu ysgwyddo'r costau enfawr sy'n gysylltiedig â gweithredu yn ystod y pandemig. Rhaid imi hefyd rybuddio'r Aelodau bod perchnogaeth gyhoeddus yn cynnig cyfleoedd, ond nid yw'n rhoi'r ateb a fyddai'n ein galluogi i oresgyn y coronafeirws heb orfod ateb cwestiynau anodd am ddarparu gwasanaethau yn y dyfodol. Byddwn yn dioddef cyfnod hir o her ariannol yn y sector cyhoeddus, ni waeth pwy sy'n gweithredu gwasanaethau rheilffyrdd yn unman yn y DU. Bydd y costau'n cynyddu o ganlyniad i'r pandemig. Bydd hynny'n arwain at orfod gwneud penderfyniadau anodd, yn amlwg. Ond y gwir amdani yw ein bod, gyda pherchnogaeth gyhoeddus, yn rheoli'r hyn a wnawn yn llawnach, ac mae hynny'n rhywbeth y credaf, yn gyffredinol, y byddai Aelodau ar draws y Siambr yn ei gymeradwyo.

17:25
6. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Blwyddyn 4 y Rhaglen Tai Arloesol—Dulliau Adeiladu Modern/Modiwlar Arbennig

Eitem 6 ar ein hagenda y prynhawn yma yw datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar flwyddyn 4 y rhaglen tai arloesol—dulliau adeiladu modern/ modiwlar arbennig. Galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf i'n falch iawn o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am flwyddyn 4 y rhaglen tai arloesol, sydd wedi canolbwyntio ar gyflwyno mwy o gartrefi sydd wedi'u hadeiladu trwy ddefnyddio dulliau adeiladu modern, neu gartrefi MMC, fel y'u gelwir.

Eleni, yn fwy nag erioed, bydd y rhaglen tai arloesol ar flaen y gad o ran adeiladu cannoedd o gartrefi i gefnogi ein hadferiad gwyrdd, gan fuddsoddi mewn busnesau bach a chanolig yng Nghymru, cadwyni cyflenwi yng Nghymru a swyddi lleol yng Nghymru. Dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, mae'r rhaglen wedi arwain y ffordd o ran gweddnewid trefn arferol adeiladu tai ledled y DU. Eleni, mae'r rhaglen wedi ei chynllunio i herio sut yr ydym ni'n adeiladu cartrefi yn draddodiadol—mewn caeau mwdlyd, gwlyb—drwy eu hadeiladu mewn ffatrïoedd diogel, sych yn hytrach.

Rwyf i felly wedi creu'r ymadrodd 'MMC/modwlar arbennig' i grynhoi thema'r rhaglen ar gyfer eleni. Yn ymarferol, mae'n golygu bod y rhaglen yn gronfa fuddsoddi wedi ei thargedu, sy'n profi prosesau gweithgynhyrchu tai fforddiadwy ar raddfa a chyflymdra cynyddol. Eleni, yn fwy nag mewn unrhyw flwyddyn arall, rydym ni'n cydnabod y cyfraniad hanfodol a ddaw i'n cymunedau yn sgil adeiladu tai gwyrdd wedi eu hariannu'n gyhoeddus. I'r perwyl hwn, rwyf i'n falch o ddweud ein bod ni wedi llwyddo i sicrhau cyllid ychwanegol ar gyfer cartrefi MMC yn rhan o'n cynlluniau adfer cenedlaethol ar ôl y pandemig.

Rydym ni'n benderfynol y bydd cartrefi a ariennir drwy'r rhaglen yn ymdrechu i sicrhau'r manteision cymdeithasol, economaidd a lles mwyaf posibl o bob un bunt y mae'r rhaglen yn ei buddsoddi. Un ffordd o gyflawni hyn yw sicrhau bod fy MMC arbennig yn creu sicrwydd llyfrau archebion i gynhyrchwyr o Gymru. Mae hyn yn hanfodol os yw'r busnesau hyn am fuddsoddi'n hyderus mewn creu mwy o swyddi—mwy o swyddi lleol—mwy o brentisiaethau a mwy o gyfleoedd hyfforddi. Bydd traweffeithiau buddsoddiad y rhaglen yn cael eu teimlo mewn cadwyni cyflenwi adeiladu a gweithgynhyrchu lleol yng Nghymru, gan gefnogi economi sylfaenol Cymru a chadw buddion cadarnhaol ein buddsoddiad yn ein cymunedau.

Gan droi at geisiadau eleni, mae'r rhaglen tai arloesol wedi ei gordanysgrifio yn sylweddol unwaith eto, sy'n dangos yr awydd cryf sy'n parhau gan landlordiaid cymdeithasol i adeiladu cynlluniau tai fforddiadwy gyda MMC ym mhob cwr o Gymru. Eleni, bydd £35 miliwn o fuddsoddiad drwy'r rhaglen yn darparu 400 o gartrefi fforddiadwy MMC newydd, gan ychwanegu at y 1,400 o gartrefi sydd wedi eu hariannu drwy'r rhaglen hyd yn hyn. Yng Nghymru, rydym yn ffodus o gael cadwyn cyflenwi MMC a gwaith adeiladu profiadol a medrus i adeiladu'r cartrefi sydd eu hangen arnom ni. Felly, rwyf i wrth fy modd yn arbennig bod yr holl gynlluniau llwyddiannus y rhaglen tai arloesol eleni yn cefnogi busnesau Cymru trwy ddefnyddio cynhyrchwyr MMC o Gymru a'u cadwyni cyflenwi lleol i ddarparu cartrefi'r rhaglen.

Mae'r math o gynlluniau yr ydym yn eu hariannu yn cynnwys £3.5 miliwn i Tai Tarian. Byddan nhw'n adeiladu 55 o gartrefi newydd ac yn ôl-ffitio 72 o gartrefi presennol ym Mhort Talbot i gynyddu effeithlonrwydd ynni a lleihau biliau tanwydd tenantiaid. Bydd y cartrefi newydd yn cael eu hadeiladu'n lleol yng Nghastell-nedd Port Talbot gan eu partner MMC lleol sy'n gwmni teuluol. Mewn mannau eraill, mae £3 miliwn o gyllid y rhaglen wedi ei ddyfarnu i Grŵp Pobl i adeiladu dros 90 o gartrefi cymdeithasol ym Mlaenau Gwent gan gynhyrchydd MMC sydd wedi ei leoli yn y Cymoedd, sy'n defnyddio dyluniad ffrâm bren ac yn cynnwys mesurau i sicrhau y bydd y tai yn ddi-garbon.

Rwyf i'n teimlo cyffro arbennig o gael cyhoeddi cyllid ar gyfer cais cydweithredol gan gonsortiwm o landlordiaid cymdeithasol i ddarparu dros 100 o gartrefi cymdeithasol newydd y mae mawr eu hangen ar draws pedwar safle yn y gogledd. Mae'r cais hwn yn bodloni ein huchelgais ar gyfer adferiad gwyrdd a arweinir gan dai, gan ddefnyddio coed Cymru a gwneuthurwr MMC o Gymru, gan arwain at gyfleoedd i greu swyddi lleol ac ehangu busnesau. Mae hon yn enghraifft berffaith o sut y bydd awydd y Llywodraeth hon i adeiladu'n ôl yn wyrddach yn darparu gwaith gwarantedig i fusnesau, yn creu swyddi medrus newydd mewn rhannau o Gymru wledig ac yn cyfrannu at ein huchelgeisiau o ran llesiant cenedlaethau'r dyfodol.

Yn ei grynswth, cyflwynodd landlordiaid cymdeithasol geisiadau i'r rhaglen tai arloesol yn cynnwys dros 850 o gartrefi MMC. Mae hyn yn cynrychioli lefel o alw am dai a allai dorri tir newydd yn y diwydiant MMC yng Nghymru. Felly, gyda golwg ar fanteisio ar gyfleoedd cyllid yn y dyfodol, bydd swyddogion yn gweithio dros y misoedd nesaf gyda chynigwyr aflwyddiannus i ddatblygu eu cynlluniau ac i gyflawni mwy o dai MMC. Mae sicrhau bod cartrefi MMC yn yr arfaeth yn bwysig. Mae gweithgynhyrchu cartrefi mewn ffatrïoedd yn golygu bod modd parhau i adeiladu cartrefi fforddiadwy newydd, er gwaethaf tywydd Cymru neu effaith pandemig, gan sicrhau bod cyflenwad sefydlog o gartrefi yn cael ei ddarparu mewn cyfnod economaidd ansefydlog.

Rydym ni'n gweld newid oddi wrth wneud pethau fel yr ydym ni wedi eu gwneud erioed a herio'r norm: meddylfryd y mae'r rhaglen tai fforddiadwy wedi ei hyrwyddo dros y blynyddoedd. Fy mwriad i yw rhoi MMC yn y brif ffrwd a'i normaleiddio yn rhan sylfaenol sydd wedi profi ei hun o gynlluniau datblygu safonol yn y dyfodol. A dyma sy'n gwneud yr 'MMC arbennig' hwn yn arbennig iawn, gan fod adeiladu mwy o MMC yn gwella ein gallu i gaffael a chadw mwy o'r manteision cymdeithasol ac economaidd yn sgil adeiladu tai yng Nghymru, yn ogystal â helpu i adeiladu cartrefi gwyrddach, sy'n well i'n pobl ac yn well i'n planed. Diolch.

17:30

Diolch am y datganiad, Gweinidog. O ran adeiladu modiwlar, er bod bron i 50 y cant o gleientiaid y diwydiant adeiladu yn disgwyl cynnydd yn nefnydd adeiladu oddi ar y safle  yn ystod y pum mlynedd nesaf, mae'n drueni bod y nifer sy'n manteisio ar gyfleoedd newydd wedi'i gyfyngu gan y diffyg cyffredinol o ran adeiladu tai. Mae'r DU bellach ar ei hôl hi o'i chymharu â Sweden, yr Almaen a'r Iseldiroedd o ran cyfuno gweithgynhyrchu ac adeiladu, ac yn Japan mae mwy na 15 y cant o gartrefi newydd a gaiff eu hadeiladu bob blwyddyn yn rhannol barod o leiaf.

Nawr, mae rhai prosiectau adeiladu tai arloesol rhagorol ar y gweill, fel Cartrefi Conwy yma yn y gogledd, ond mae angen i ni weld mwy o atebion wedi'u sbarduno gan dechnoleg a chynnydd yn natblygiad cartrefi oddi ar y safle. A wnewch chi roi rhagor o fanylion o ran sut yr ydych chi'n gweithio i gynorthwyo'r nod rhesymol o symud adeiladu cartrefi oddi wrth gaeau gwlyb a mwdlyd? Mae'r cynllun hwn yn gweld rhai prosiectau sylweddol, megis 55, 72 a 90 o gartrefi. Fodd bynnag, beth am gynlluniau llai neu ddatblygiadau un uned? Rydych chi wedi dweud bod adeiladu 100 o gartrefi cymdeithasol newydd ar bedwar safle yn y gogledd yn bodloni eich uchelgais ar gyfer adferiad gwyrdd a arweinir gan dai, gan ddefnyddio pren Cymru a gwneuthurwr dulliau adeiladu modern o Gymru, ond beth am gynnwys deunyddiau eraill o Gymru, megis llechi a gwlân? Dylai 400 o dai dulliau adeiladu modern fforddiadwy gael eu cyflenwi eleni, ond rwy'n deall bod landlordiaid cymdeithasol wedi cyflwyno ceisiadau rhaglen tai arloesol yn cynnwys dros 850 o gartrefi dulliau adeiladu modern. Felly, a ydw i'n iawn Gweinidog, i ddeall nad ydych chi felly ddim ond yn cefnogi llai na hanner y cartrefi hynny, ac os felly, pam nad yw nifer y ceisiadau llwyddiannus yn uwch?

Mae'n dda eich bod chi'n buddsoddi mewn gwahanol ddulliau adeiladu tai. Rwyf innau o'r farn mai dyna'r ffordd ymlaen hefyd, ond mae'r angen yn parhau i ni adeiladu mwy o gartrefi. Mae ystadegau C3 yn dangos, yma yng Nghymru, y bu gostyngiad o 17 y cant o ran nifer y cartrefi newydd a gofrestrwyd o'i gymharu â'r un cyfnod y llynedd, ac y bu gostyngiad o 5 y cant ar gyfer cwblhau cartrefi newydd wrth gymharu o flwyddyn i flwyddyn. Felly, sut yr ydych chi'n mynd i ymdrin â hyn? A allai'r uchelgais, fod efallai, eich bod yn cefnogi pob un o'r 850 o gartrefi dulliau adeiladu modern? Fel y gwyddoch chi, mae'r grant rhaglen tai arloesol ar gael i adeiladau, yn amodol ar newid defnydd, nad ydyn nhw wedi'u defnyddio fel eiddo preswyl o'r blaen. Yn nhrydydd chwarter 2020, cynyddodd cyfraddau gwacter Cymru i 18 y cant o 15.9 y cant yn C2. Gan werthfawrogi na allai canolfannau siopa, sydd wedi dioddef waethaf, ddefnyddio'r grant, pa ystyriaeth ydych chi wedi ei rhoi i ganiatáu i landlordiaid preifat fanteisio ar y rhaglen tai arloesol, er mwyn helpu i fynd ar drywydd newid defnydd ac efallai creu rhai swyddi lleol? Gwyddom ni i gyd fod y pandemig wedi achosi anawsterau difrifol o ran gallu dod o o hyd i grefftwyr. Felly, a wnewch chi gyflwyno rhywfaint o hyblygrwydd i'r gofyniad bod yn rhaid i bob cais gadw at y dyddiad dechrau ar y safle, erbyn 30 Ebrill 2021 fan bellaf?

Yn olaf, mae'r pandemig yn effeithio'n wael iawn ar ein hoedolion ifanc a'n prentisiaid. Fe wnaethoch chi sôn am gefnogi busnesau i greu mwy o brentisiaethau. Mae Sefydliad Tai Siartredig Cymru wedi galw am strategaeth gweithlu i ddiogelu'r sector tai yn y dyfodol—a wnewch chi gyflawni ar hyn? Diolch. Diolch.

17:35

Diolch, Janet. Rwy'n credu ein bod ni'n cytuno'n fras gyda'n gilydd ei fod yn ddatblygiad arloesol da iawn o gael tai wedi'u hadeiladu mewn ffatrïoedd sy'n garbon niwtral neu'n oddefol, ac roeddem ni'n sicr yn argyhoeddedig ill dwy o ran y syniad nad oedd adeiladu tai mewn cae gwlyb, mwdlyd yn ddelfrydol

Byddwn ni'n cyhoeddi argymhellion y panel asesu annibynnol ar y ceisiadau rhaglen tai arloesol ar ôl i bob ymgeisydd gael gwybod beth yw'r penderfyniadau a'n bod ni wedi gallu mynd ymlaen â nhw. Ac fel y dywedais yn y datganiad, byddwn ni wedyn yn gweithio gyda'r holl geisiadau aflwyddiannus i sicrhau ein bod yn gallu eu codi i'r safon yr ydym ni'n ei ddisgwyl er mwyn iddyn nhw lwyddo. Felly, nid yw'n fater o ni ddim yn dymuno adeiladu'r tai eraill, mae'n fater o sicrhau bod y ceisiadau, fel y maen nhw'n cael eu cyflwyno, yn bosibl eu cyflawni mewn gwirionedd, ac wedi eu hadeiladu i'r safon gywir ac yn y blaen, ac mewn gwirionedd, eu bod nhw yn y mannau cywir hefyd, oherwydd nid yw'n ymwneud dim ond gydag adeiladu tai mewn unrhyw le. Rwy'n credu eich bod chi'n cytuno â mi ei fod yn ymwneud ag adeiladu'r tŷ cywir yn y lle cywir i'r unigolyn cywir.

Fe wnaethoch chi ofyn yn benodol hefyd am gadwyni cyflenwi Cymru ar gyfer deunyddiau eraill, ac wrth gwrs rydym ni'n edrych ar hynny. Rwy'n awyddus iawn i ddefnyddio llechi Cymru a gwlân Cymru a nifer o gynhyrchion eraill, mewn gwirionedd. Mae hefyd modd ail-lunio cryn dipyn o ddeunyddiau ailgylchu a gynhyrchir yng Nghymru i fod yn ddeunyddiau inswleiddio neu ddewisiadau eraill yn hytrach na sment ac yn y blaen. Felly, rydym ni'n awyddus iawn i sicrhau bod holl ganfyddiadau'r Rhaglen Tai Arloesol o flynyddoedd blaenorol yn ogystal ag ar gyfer yr un bresennol yn defnyddio'r holl gadwyni cyflenwi lleol hynny er mwyn i ni allu gwneud y mwyaf o'r math o waith economi sylfaenol hwnnw yr ydym ni'n ei ystyried. Felly, gallaf eich sicrhau ein bod yn gweithio'n galed iawn i wneud hynny. Rydym ni hefyd wedi bod yn gwneud dadansoddiad o'r gadwyn gyflenwi ar gyfer y Raglen Tai Arloesol gyfan i sicrhau, pan fo pethau sy'n dod o'r tu allan i gadwyn gyflenwi Cymru, ein bod ni'n deall ble mae hynny a'n bod ni'n deall pa un a allwn ni gael busnes newydd neu fusnes bach i gamu i mewn i'r gofod hwnnw. Felly, mae hyn i gyd yn ymwneud â sicrhau bod y tai carbon goddefol, carbon niwtral, hyfryd hyn hefyd yn cael eu hadeiladu gan ddefnyddio cadwyni llafur lleol a chadwyni cyflenwi lleol i'r graddau y mae hynny'n bosibl. Felly, rwy'n credu ein bod ni'n rhannu'r holl uchelgeisiau hynny—yn sicr.

Felly, rydym ni'n gweithio'n galed iawn gydag amrywiaeth o wahanol LCCau a chynghorau ledled Cymru i sicrhau eu bod yn deall beth oedd canfyddiadau'r cynlluniau rhaglen tai arloesol wreiddiol a beth yw'r adborth fel y gallwn ni eu helpu nhw i gyflwyno'r ceisiadau newydd fel ein bod ni'n cyflwyno yr hyn sydd wedi'i ddysgu ym mlynyddoedd cynharach y rhaglen. Un o'r pethau braf am y rhaglen hon yw ein bod ni'n gallu adeiladu hyn ar raddfa fawr erbyn hyn. Ac mae hyn ar raddfa sylweddol, o'i gymharu â'r ddau neu dri a oedd yn cael eu hadeiladu mewn mannau eraill, oherwydd mae gennym ni ddata yn dod yn ôl o'r tai hynny o'r blynyddoedd cyntaf hynny a gwyddom eu bod nhw'n gwneud yr hyn a ddywedasant y bydden nhw'n ei wneud—wel, mae bron pob un ohonyn nhw wedi gwneud yr hyn a ddywedasant y bydden nhw'n ei wneud. Felly, mae hynny'n wych hefyd. Mae'n wir yn stori o lwyddiant mawr iawn ac rwyf i'n bendant eisiau gwneud yn siŵr ein bod ni'n gweithio gyda chymaint o bobl berthnasol ag y gallwn ni i sicrhau bod y diwydiant hwnnw'n goroesi a bod y diwydiant hwnnw'n tyfu. 

Ac yna, o ran y sgiliau, rydych chi'n hollol gywir. Fe wnaethoch chi asesu'n gywir mai'r hyn y bydd angen i ni ei wneud yw sicrhau ein bod yn gweithio gyda'n holl ddarparwyr hyfforddiant a Thai Cymunedol Cymru a'r gweddill ohonynt i sicrhau ein bod ni'n cyflwyno'r sgiliau hynny yn ôl yr angen er mwyn i ni sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o grefftwyr yn fedrus wrth i ni fynd ymlaen, fel y gallwn ni gyflwyno hyn i farchnad y sector preifat hefyd. Ar hyn o bryd, adeiladu cymdeithasol yw hi i raddau helaeth a phobl gyfoethog iawn. Un o'r pethau eraill yr ydym ni'n ei wneud yw sicrhau ein bod yn dad-beryglu hyn i'r pwynt lle mae'r benthycwyr a'r yswirwyr yn hapus i roi morgais i chi neu i yswirio eich tŷ, er ei fod wedi ei adeiladu gyda'r dechneg adeiladu newydd iawn hon, ac mae hynny'n bwysig iawn hefyd, fel y gall Mr a Mrs Jones cyffredin ddefnyddio'r dechneg hon hefyd i adeiladu eu tŷ yn y dyfodol. Felly, dyna lle'r ydym ni'n bwriadu mynd gydag ef.

Felly, rwy'n credu, yn fras, ein bod ni ar yr un dudalen ac rwy'n fwy na hapus, ar ôl i ni gael y sgwrs iawn gyda'r holl ymgeiswyr a fu'n llwyddiannus ac yn aflwyddiannus, i gyhoeddi'r adroddiad fel y gallwch chi weld ble'r ydym ni ag â phwy rydym ni'n gweithio wrth i ni symud ymlaen.

Diolch, Gweinidog, am y datganiad. 

Rydym ni'n amlwg yn croesawu adeiladu mwy o dai cymdeithasol a dulliau mwy arloesol o wneud hynny. Mae llawer yn y datganiad yr ydym ni'n ei groesawu. Rwyf i hefyd yn falch o weld bod hwn wedi'i ddefnyddio wrth ôl-ffitio, gan fod hwnnw hefyd yn faes pwysig iawn i fynd iddo. Efallai, Gweinidog, y gallech chi amlinellu pa un a fyddai modd defnyddio dull tebyg i sicrhau bod cartrefi gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto a'u gwneud yn addas i bobl fyw ynddyn nhw. Mae hynny'n dal yn ffynhonnell o gyflenwad tai sydd heb ei wireddu ac rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi ynglŷn â hynny.

Nawr, mae rhai cynlluniau lleol addawol yn parhau i fodoli, ond siawns mai'r hyn y mae arnom ni ei angen yn awr yw cynllun i gynyddu cynhyrchu er mwyn sicrhau lefelau uwch o dai cymdeithasol, a allai olygu bod angen swyddogaeth gryfach i Lywodraeth Cymru. A allwch chi amlinellu pa un a oes gan Lywodraeth Cymru gynllun o'r fath, yn ogystal â'r hyn yr ydych chi eisoes wedi'i ddweud, a nodi'r niferoedd y gallech chi eu disgwyl o hwnnw? Ond, wrth gwrs, mae'r niferoedd yn bwysig, ond mae ansawdd y tai hefyd yn bwysig iawn, a gwn fod hynny'n rhywbeth yr ydym ni eisoes wedi bod yn ei glywed. Rydych chi wedi cytuno y gallai rhai o'r ystadau sydd wedi'u hadeiladu yn ystod y blynyddoedd diweddar fod yn getoau'r dyfodol, a byddwch chi'n ymwybodol o'n barn ein hunain ar y system gynllunio—mae wedi codi yn eithaf aml mewn trafodaethau diweddar. A allwch chi roi sicrwydd i ni mai dim ond i brosiectau lle mae'n debygol y bydd yr ansawdd a safonau amgylcheddol o'r lefel uchaf bosibl y caiff cyllid ei roi ac na fydd unrhyw gyfaddawdu ar hynny?

Ac yn olaf, Gweinidog, mae'n gysylltiedig â'r pwynt yna: rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod ni, yn y rhuthr i gynyddu tai cymdeithasol, a hynny'n gwbl briodol, hefyd yn mabwysiadu dulliau adeiladu mwy arloesol—unwaith eto yn ychwanegol i'r hyn sydd wedi ei ddweud—ac nad ydym ni eisiau gwneud yr un camgymeriadau ag yn y gorffennol. Sut ydych chi'n sicrhau bod yr ystadau newydd hyn o fewn cyd-destun cymunedau cymysg o bob deiliadaeth a'u bod yn cael eu cefnogi'n dda gan wasanaethau cyhoeddus?

17:40

Diolch, Delyth. Yn sicr, rydych chi'n iawn, mae nifer o bethau yr ydym ni eisiau amlygu eu gwendidau i ddechrau. Felly, yn gyntaf oll, rydym ni eisiau chwalu'r holl gamargraffiadau ynghylch ansawdd a defnyddioldeb pren Cymru ar gyfer adeiladu. Felly, siaredir llawer o lol ynglŷn â nad yw pren Cymru yn iawn ar gyfer adeiladu tai ac yn y blaen, a'r hyn y mae'r rhaglen hon wedi'i ddangos yw nad yw hynny'n wir. Felly, tai yw'r rhain sy'n cael eu hadeiladu gyda fframiau pren o Gymru a phaneli pren o Gymru a phren o Gymru wedi'u rwygo fel deunydd inswleiddio, ac unrhyw faint o bren y gallech chi ei ddychmygu o Gymru. Felly, gallwch chi weld bron pob defnydd o bren y gallwch ei ddychmygu wrth adeiladu'r gwahanol fathau o gartref.

Mae gennym ni obsesiwn llwyr, mewn gwirionedd, i'r tai hyn fod o'r ansawdd uchaf. Felly, rwyf i wrth fy modd yn dweud wrth y bobl sy'n symud i mewn iddyn nhw, fel tenantiaid cymdeithasol yng Nghymru, eu bod yn byw yn y tai gorau yn Ewrop ac o bosibl y byd. Nid yw hyn mewn unrhyw ffordd yn arbrawf ail orau ac yn y blaen. Rwy'n meddwl, wedi dweud hynny, fod rhai o'r cartrefi yn fwy arbrofol nag eraill—mae ganddyn nhw systemau gwresogi unigryw iawn ac yn y blaen—ac felly mae'n rhaid i chi sicrhau bod y tenant cywir yn mynd i mewn iddyn nhw, tenant sy'n barod i edrych ar sut i fyw ei fywyd gyda'r mathau hynny o wres ac yn y blaen, oherwydd nid yw’r un fath â dim ond troi eich rheiddiadur ymlaen—mae'n rhaid i chi ddod i arfer ag ef. Ond rydym ni'n gweithio'n galed gyda LCCau a chynghorau i sicrhau bod gennym ni denantiaid sy'n hapus iawn i wneud hynny. Yn wir, rwyf i wedi siarad â llawer ohonyn nhw sy'n falch iawn o'r hyn sydd ganddyn nhw. Yn ddiweddar iawn yn etholaeth Rebecca Evans, siaradais â nifer o bobl sy'n byw mewn byngalos wedi'u hôl-ffitio a oedd wedi mynd o fod yn rhan o'r stoc dai dlotaf a oedd gennym i ran o'r stoc dai orau, a oedd wedi'u hinswleiddio, wedi'u gosod â phaneli solar, wedi'u ffitio â phympiau gwres o'r ddaear a batris Tesla, ac a oedd bellach â biliau a oedd yn llai mewn blwyddyn nag yr oedden nhw wedi bod yn eu talu mewn mis o'r blaen. Roedd y bobl hynny wir wrth eu boddau. Yn wir, mae'n gwneud i mi wenu dim ond wrth feddwl am y sgwrs a gawsom ni gyda nhw am ba mor falch yr oedden nhw â hynny. Felly, yr ydym ni'n bendant yn ei ddefnyddio ar gyfer ôl-ffitio hefyd, ac rydym ni'n dysgu o'r rhaglen drwy'r amser—yr hyn sy'n gweithio, yr hyn nad yw'n gweithio, sut y gallwn ni adeiladu tai newydd a gwneud yr ôl-ffitio.

Ac, wrth gwrs, rydym ni hefyd yn gwneud yn siŵr, fel yr oeddwn ni'n ei ddweud mewn ymateb i Janet Finch-Saunders, bod y tai yn y man cywir. Felly, yn sicr, rydym ni'n dysgu o gamgymeriadau'r gorffennol. Rydym ni eisiau adeiladu tai cymdeithasol ar raddfa fawr a chyflymder, ond fe wyddom hefyd fod arnom ni angen ystadau deiliadaeth gymysg da gyda chysylltiadau teithio llesol ar eu cyfer, seilwaith gwyrdd da, agosrwydd at ysgolion, gwaith ac iechyd, ac yn y blaen. Felly, mae gennym ni nifer o safleoedd enghreifftiol ledled Cymru lle'r ydym ni'n dangos yr hyn y mae'n bosibl ei wneud drwy ddad-beryglu rhywfaint o hynny gydag arian y Llywodraeth, oherwydd mae'n angenrheidiol gwneud hynny hefyd, ac annog adeiladwyr BBaChau i ddod ar y safleoedd hynny a dysgu gyda ni yr hyn y mae'n bosibl ei wneud a dysgu'r premiwm a gewch chi yn y sector preifat i adeiladu rhai o'r cartrefi hynny hefyd. Rwyf i wedi bod i rai mannau lle y byddwn i wir yn rhoi fy mraich dde i fod ar y rhestr o bobl sy'n mynd i fyw yno wedyn, oherwydd maen nhw wir yn hardd iawn ac wedi'u hadeiladu gyda chadwyni cyflenwi Cymru. Felly, mae llawer i'w ddweud am hynny.

Ac yna o ran y raddfa, fel y dywedasoch chi, wrth gwrs ein bod ni eisiau gweithredu yn gyflym ar raddfa fawr hefyd, ond mae'n rhaid i ni hefyd fod yn siŵr bod y tai o'r ansawdd cywir. A'r hyn sy'n hyfryd, os edrychwch chi ar y rhaglen tai arloesol dros bedair blynedd ei bodolaeth, yw ein bod yn ei gwylio'n gwneud hynny'n union. Felly, rydym ni'n adeiladu ar bob ton. Bob tro y mae gennym ni dechnoleg sydd wedi profi y gall wneud yr hyn sydd wedi'i honni ar ei chyfer, rydym ni'n cynyddu hynny yn y flwyddyn nesaf ac yn y blaen. Felly, rydym ni'n cynyddu'n gyflym. Felly, y bedwaredd flwyddyn hon yw graddfa fwyaf hynny ac mae'r cyflwyno wedi bod yn wych iawn, ac, fel yr oeddwn i'n ei ddweud yn gynharach, mae wedi'i ordanysgrifio. Rydym ni'n mynd i weithio gyda'r holl bobl sy'n cyflwyno ceisiadau nad ydyn nhw wedi llwyddo i sicrhau y gallwn ni ddeall yr hyn sydd ei angen iddyn nhw ei wneud i gael y rheini i fod yn llwyddiannus fel y gallwn ni gynyddu unwaith eto. Felly, rydym ni'n bendant yn y lle hwnnw hefyd.

Y peth olaf yr oeddwn i eisiau ei ddweud oedd rhywbeth yr wyf yn gwybod sy'n agos at eich calon chithau hefyd, sef, pan fyddwch chi'n mynd i weld y ffatrïoedd sy'n adeiladu'r rhain, fe welwch chi fod y cymysgedd o gyflogaeth yno yn wahanol iawn. Felly, mae mwy o fenywod yno, mae pobl ag anableddau mewn cyflogaeth â chymorth ac yn y blaen, oherwydd mae'n haws gwneud hynny mewn ffatri ddiogel a glân, nag ydyw i'w wneud ar uchder neu mewn cae mwdlyd anhygyrch. Felly, mae llawer mwy o gyfle i amrywiaeth fwy o bobl gymryd rhan, ac mae gennym ni ein darparwyr sgiliau yn cymryd rhan yn y gwaith o sicrhau bod yr hyfforddiant gennym ni hefyd.

17:45

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch yn gyntaf i'r Gweinidog am ei datganiad? A gaf i ddechrau gyda dau o'm safbwyntiau hirsefydlog? Mae angen mwy o dai arnom ni, yn enwedig tai cyngor, i ddiwallu'r angen, ac, yn ail, mae angen i ni ddychwelyd at safon Parker Morris neu safon debyg iawn i honno, sy'n seiliedig ar y rhagdybiaeth nad yw hi byth yn bosibl gwneud tŷ neu fflat da allan o safleoedd sy'n rhy fach. Hefyd, mae eu cartref, i lawer o bobl, bellach yn dod yn weithle iddyn nhw hefyd.

Rwy'n croesawi barn y Llywodraeth bod dyddiau cysylltu dulliau adeiladu modern gyda thai parod o safon gwael, dros dro, wedi mynd heibio. Mae dulliau adeiladu modern bellach yn cynhyrchu tai fforddiadwy dymunol o safon uchel, sy'n defnyddio ynni mewn modd effeithlon, y gall tenantiaid ymfalchïo ynddyn nhw.

Rwy'n siŵr bod y Gweinidog yn cofio, oherwydd mae wedi effeithio ar ei hetholwyr hi yn ogystal â fy etholwyr innau, tai dur ac adeiladau anhraddodiadol eraill fel sment alwmina uchel mewn ysgolion fel Olchfa a oedd naill ai'n gorfod cael eu dymchwel neu eu hadnewyddu'n llwyr oherwydd problemau gyda'r adeiladu.

Mae gennyf i ddau gwestiwn: beth yw disgwyliad oes yr adeiladau hyn a sut y cafodd hynny ei gyfrifo? Ac, yn ail, sut ydych chi'n cyfrifo effeithlonrwydd ynni tai adeiladu modiwlar?

Diolch, Mike. Felly, rwyf i'n sicr yn cofio'r tai dur. Byddwch chi'n gwybod, wrth gwrs, fy mod i wedi treulio llawer iawn o fy mhlentyndod mewn un, ar ystâd Gendros, ac rwy'n cofio'n dda bod fy mam-gu wrth ei bodd o fod yn symud i'r tŷ hwnnw, oherwydd bod ganddi ystafelloedd mawr, mawr a gardd hyfryd, cegin braf ac ystafell ymolchi y tu mewn i fyny'r grisiau. Rwy'n dal i allu cofio ei llawenydd di-ben-draw, mewn gwirionedd, o gael tŷ o'r fath wedi ei roi iddi. Wrth gwrs, mae'r tai hynny, er na wnaeth y rhan ddur ohonyn nhw bara, wedi para, a byddwch chi'n gwybod eu bod wedi cael eu hôl-ffitio gyda defnydd inswleiddio da ac yn y blaen, ac maen nhw'n dal i fod yn dai hyfryd, mawr ar ystadau braf, mawr gyda mannau gwyrdd yno, felly mae'n dal i fod yn lle hyfryd i fyw, mewn gwirionedd, ar ystâd dai Gendros, ble y treuliais gryn dipyn o'm blynyddoedd cynnar.

Rydych chi yn llygad eich lle o ran y safonau gofod, felly rydym ni'n bodoli'n llwyr ar DQL da fel y'i gelwir nawr, safonau gofod da, fel bod gan bobl le i fyw ac anadlu. Cefais i ymweliad safle gwych gyda'n cydweithiwr Huw Irranca-Davies yn ei etholaeth ef i edrych ar yr hyn a alwyd yn dŷ am oes yno, lle'r ydych chi'n gweld adeilad modiwlar sydd â drysau mawr llydan—gallwch chi gael pram drwyddyn nhw pan fydd teulu ifanc gennych chi; gallwch chi gael cadair olwyn drwyddynt yn ddiweddarach mewn bywyd. Gallech chi ychwanegu modiwlau ato, felly gallech chi ychwanegu ystafelloedd gwely a mwy o fan byw pan fo angen, ac yna, yn wir, gallech chi eu tynnu i ffwrdd unwaith eto pan nad oes eu hangen arnoch chi rhagor a'ch bod chi eisiau cartref llai o faint. Felly, yn llythrennol, roedd gennych chi dŷ am oes ar un safle, yn hyblyg iawn ac yn gallu cael ei addasu er mwyn i bobl aros yn y cymunedau y maen nhw yn eu caru, lle mae ganddyn nhw eu holl gysylltiadau ac yn y blaen. Dyna nod y rhaglen yn union, ein bod ni'n adeiladu tai am oes y gall pobl gael teulu sy'n tyfu ynddyn nhw, byw'r bywyd y maen nhw eisiau ei fyw, gweithio, byw, chwarae mewn ardal gyda'r holl bethau hynny. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud gyda'r rhaglen yw profi bod modd gwneud hynny, ac rwy'n hapus iawn i fynd gydag unrhyw Aelod o'ch dewis, oherwydd mae nhw gennym ni nhw ym mhob ran o Gymru erbyn hyn, i fynd i weld y rhai yn eich etholaethau chi, a byddwch chi'n gallu gweld llawenydd llwyr y bobl sy'n byw yno hefyd. Cafodd Huw a minnau olwg fanwl oddi mewn i'r tŷ yr oeddem ni ynddo, oni chawsom ni Huw, gyda'r grisiau mawr llydan. Rwy'n cofio yn arbennig yr holl le yn y cypyrddau dillad ac yn y blaen, felly yr oedd yn lle braf iawn i fyw ynddo.

Felly, yn sicr, Mike, rwy'n cytuno'n llwyr â chi—mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr eu bod yn lleoedd da, o ansawdd uchel, braf i fyw ynddyn nhw a bod oes hir iddyn nhw. Mae'r rhan fwyaf ohonyn nhw yn rhagamcanu oes o 100 mlynedd o leiaf, ond mae'n anodd dweud, onid yw hi? Byddwch chi i gyd yn cofio rhai o'r tai parod yn y rhyfel a oedd i fod i bara 10 mlynedd ac mae pobl yn ymladd droson nhw yn fy etholaeth i, gan fod pobl wir eisiau byw ynddyn nhw o hyd. Felly, rydym ni'n credu y byddan nhw'n para'n hwy na hynny, ond dyna'r rhagamcan ar gyfer y rhan fwyaf ohonyn nhw, ac mae pawb yng Nghymru yn awr—cynghorau, landlordiaid cymdeithasol cofrestredig ac yn y blaen—yn eu croesawu fel y ffordd ymlaen. Felly, byddwn ni'n gallu gweld y raddfa honno a'r cyflymder hwnnw wrth symud ymlaen, ochr yn ochr â'r wybodaeth wirioneddol mai dyma'r tai gorau yn y byd.

17:50
7. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Y Cynllun Adfer Economaidd
8. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Diweddariad ar Ddigartrefedd
9. Datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd: Diweddariad ar Ddatblygiadau ym Mholisi Masnach y DU
10. Cynnig i amrywio trefn ystyried diwygiadau Cyfnod 3 y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)

Felly, symudaf yn awr at eitem 10, sef cynnig i amrywio trefn ystyried gwelliannau Cyfnod 3 i Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru). Galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig hwnnw—Julie James.

Cynnig NDM7446 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:
 
Yn cytuno i waredu’r adrannau a’r atodlenni i’r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn canlynol:

1) Adrannau 2 - 24;

2) Atodlen 2;

3) Adran 1;

4) Adrannau 25 - 38;

5) Atodlen 3;

6) Adrannau 40 - 50;

7) Atodlen 4;

8) Adran 51;

9) Adran 39;

10) Adran 53;

11) Atodlen 5;

12) Adrannau 54 - 56;

13) Atodlen 6;

14) Adran 57;

15) Atodlen 7;

16) Adrannau 58 - 63;

17) Atodlen 8;

18) Adrannau 64 - 66;

19) Adran 52;

20) Adrannau 67 - 87;

21) Atodlen 9;

22) Adrannau 88 - 114;

23) Atodlen 10;

24) Adrannau 115 - 135;

25) Atodlen 11;

26) Adran 136;

27) Atodlen 12;

28) Adran 137;

29) Atodlen 1;

30) Adrannau 138 - 160;

31) Atodlen 13;

32) Adrannau 161 - 163;

33) Atodlen 14;

34) Adrannau 164 - 174;

35) Teitl hir.   

Cynigiwyd y cynnig.

Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbynnir y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

11. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2020

Symudwn ymlaen yn awr at—. Mae eitem 11, sef Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2020, wedi ei thynnu yn ôl.

12. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020

Ac felly symudwn at eitem 12, sef Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.

Cynnig NDM7445 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 22 Hydref 2020.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf i'n cynnig y cynnig ger ein bron i gymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020.

Erbyn hyn, rydym yn ail wythnos y cyfnod atal byr, a hoffwn i ddechrau drwy atgoffa'r Aelodau pam y gwnaethom ni gyflwyno y mesurau eithriadol hyn ar 23 Hydref. Rydym yn parhau i wynebu bygythiad gwirioneddol a chynyddol i iechyd y cyhoedd. Ar yr adeg pan wnaethom ni gyflwyno'r rheoliadau roedd y feirws yn lledaenu yn gyflym ym mhob rhan o Gymru, ac roeddem ni newydd gael wythnos fwyaf angheuol y pandemig ers yr uchafbwynt ym mis Ebrill. Fe wnaethom ni wrando ar gyngor SAGE a'n cell cynghori technegol ein hunain a phwyso a mesur y cyngor hwnnw yn ofalus wrth wneud y penderfyniad hwn. Roedd gennym ni 17 o ardaloedd diogelu iechyd lleol ar waith, a wnaeth wahaniaeth sylweddol ond nid oedden nhw'n ddigon ar eu pen eu hunain. Roedd y gyfradd mynychder dreigl saith diwrnod ar gyfer Cymru yn fwy na 130 o achosion ym mhob 100,000 o bobl. Ers hynny y mae wedi cynyddu i dros 250 o achosion ym mhob 100,000. Erbyn hyn, mae gan bedair ardal awdurdod lleol dros 300 o achosion ym mhob 100,000, ac roedd achosion mewn ardaloedd fel sir Benfro a Cheredigion yn cyrraedd neu'n mynd y tu hwnt i 50 o achosion ym mhob 100,000. Roedd methu â gweithredu yn creu perygl o lethu ein GIG. Roedd nifer y bobl a oedd yn mynd i'r ysbyty gyda'r coronafeirws yn cynyddu ac mae'n dal i gynyddu bob dydd. Roedd yn rhaid i ni sicrhau y gallai ein hunedau gofal critigol barhau i ofalu am bobl sy'n ddifrifol wael.

Nid ni yw'r unig rai, wrth gwrs, sydd wedi cyflwyno cyfyngiadau cenedlaethol. Rydym ni'n gweld cyfyngiadau yng Ngogledd Iwerddon a'r Alban, ac, mewn newid polisi mawr y penwythnos hwn, cyhoeddodd y Prif Weinidog gyfyngiadau symud cenedlaethol am bedair wythnos yn Lloegr o ddydd Iau. Ddoe, cyfeiriodd y Prif Weinidog at drychineb feddygol a moesol pe na byddai camau yn cael eu cymryd yn Lloegr. Fe wnaethom ni weithredu yn gynharach yng Nghymru, ond rydym yn croesawu'r cyfyngiadau yn Lloegr, sy'n atgyfnerthu difrifoldeb y bygythiad yr ydym yn ei wynebu ym mhob gwlad yn y DU. Nid oes bwled hud, ond ein huchelgais yw cyrraedd y Nadolig heb fod angen cyfnod atal byr cenedlaethol arall.

Dylai trafodaethau y pedair gwlad a ddechreuodd o ddifrif yn COBRA ddoe helpu pob un ohonom ni i gyflawni'r uchelgais hwnnw a rennir. Mae gan bawb ran i'w chwarae yn ein hymdrech genedlaethol i sicrhau bod y cyfnod atal byr yn llwyddiannus. Mae'n parhau i fod yn hanfodol bod pobl yn dal i gadw pellter cymdeithasol, golchi dwylo'n rheolaidd a gwisgo gorchudd wyneb pan fo'n ofynnol gwneud hynny. Po fwyaf o bobl yr ydym yn cwrdd â nhw, y mwyaf o bobl sydd mewn perygl o'r coronafeirws. Rydym yn gofyn i bobl ystyried, yn ogystal ag os oes hawl gwneud rhywbeth, ond hefyd a yw'n angenrheidiol ac yn synhwyrol—beth ddylem ni fod yn ei wneud? Mae'n ofynnol o hyd i bawb yng Nghymru aros gartref a gweithio gartref lle bynnag y bo modd.

Rydym ni wedi ceisio lleihau'r tarfu ar addysg plant, felly dychwelodd ysgolion cynradd, ysgolion arbennig a dwy flynedd gyntaf ysgolion uwchradd fel arfer ddoe, a disgyblion hŷn sydd angen sefyll arholiadau yn yr un modd. Mae disgyblion hŷn a myfyrwyr addysg bellach yn dysgu o gartref yr wythnos hon. Bydd ein prifysgolion yn parhau i ddarparu cymysgedd o ddysgu wyneb yn wyneb ac ar-lein.

17:55

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Mae pob busnes manwerthu, hamdden, lletygarwch a thwristiaeth nad yw'n hanfodol wedi cau—felly hefyd canolfannau cymunedol, llyfrgelloedd a chanolfannau ailgylchu. Mae addoldai wedi cau, ac eithrio ar gyfer angladdau neu seremonïau priodas. Ac nid yw pobl yn cael cwrdd ag eraill nad ydyn nhw'n byw gyda nhw, boed hynny dan do neu yn yr awyr agored. Er hynny, mae oedolion sy'n byw ar eu pen eu hunain, a rhieni sengl, yn parhau i gael ymuno ag un aelwyd arall, am resymau yr ydym ni wedi eu hadrodd o'r blaen yn y gorffennol.

Rydym ni wedi darparu pecyn newydd gwerth £300 miliwn o gymorth ariannol i helpu busnesau drwy'r cyfnod heriol hwn. Rydym yn gwybod bod busnesau bach wedi eu taro'n arbennig o galed, ac rydym ni wedi cyflwyno taliad untro o £5,000 i'r rhai sy'n gorfod cau. Mae hyn yn ychwanegol at y cymorth sydd ar gael bellach gan Lywodraeth y DU. Fel yr ydym ni'n gwybod erbyn hyn, yn dilyn y dirywiad yn ne Lloegr, mae Llywodraeth y DU wedi ailgyflwyno'r cymorth ffyrlo a hunangyflogaeth fwy hael ledled y DU.

Rydym ni'n defnyddio'r amser hwn i gynllunio ymlaen llaw a pharhau i gryfhau ein paratoadau ar gyfer y gaeaf, ein cynlluniau wrth gefn a'n gwasanaeth profi, olrhain a diogelu llwyddiannus ar hyn o bryd. Hoffwn i ddiolch i bobl Cymru unwaith eto am eu hymdrech enfawr ar y cyd. Mae heddluoedd yng Nghymru yn parhau i ddweud bod y mwyafrif helaeth o bobl yn cydymffurfio â rheoliadau'r cyfnod atal byr. I'r lleiafrif bach nad ydyn nhw'n cydymffurfio, mae'r heddlu ac asiantaethau gorfodi eraill yn gorfodi'r rheoliadau lle bo angen.

Erbyn hyn mae llai nag wythnos i fynd. Bydd y cyfnod atal yn dod i ben, yn ôl y bwriad, ddydd Llun, 9 Tachwedd. Fel yr ydym ni wedi dweud droeon o'r blaen, ni fydd y cyfraddau trosglwyddo is i'w gweld am ddwy neu dair wythnos ar ôl y cyfnod atal. Mae angen i bob un ohonom ni chwarae ein rhan ym mhob cymuned ledled Cymru i sicrhau bod y cyfnod atal byr yn gweithio, i ddiogelu ein GIG ac i achub bywydau.

Ddoe, nododd y Prif Weinidog y rheolau cenedlaethol syml y byddwn yn eu rhoi ar waith ar ôl y cyfnod atal byr, a rhoddwyd rhagor o fanylion yn y datganiad heddiw i'r Senedd. Byddwn ni, wrth gwrs, yn eu trafod eto yn y dyfodol, ond mae angen i bob un ohonom ni gymryd cyfrifoldeb personol am ein dewisiadau a'n gweithredoedd. Mae hyn yn bwysicach na rheolau, rheoliadau neu ganllawiau newydd. Mae angen i bawb newid ein hymddygiad yn gadarnhaol er mwyn amddiffyn pobl rhag niwed y feirws. Bydd siopau, busnesau lletygarwch, addoldai a champfeydd yn ailagor a bydd yr holl ddisgyblion yn dychwelyd i'r ysgol yr wythnos nesaf. O ddydd Llun nesaf ymlaen, dim ond gyda'u swigod yn eu cartref eu hunain y dylai pobl gyfarfod, a dim ond dwy aelwyd fydd yn cael ffurfio swigod. Ni fydd unrhyw gyfyngiadau teithio y tu mewn i Gymru, ond yn ystod y mis o gyfyngiadau symud yn Lloegr, ni chaniateir teithio i Loegr ac oddi yno heb esgus rhesymol. Fodd bynnag, dylai pawb ystyried yn ofalus a oes angen iddyn nhw deithio i rannau eraill o Gymru.

Byddwn yn parhau i ddilyn dull gofalus a graddol o ddod allan o'r cyfnod atal byr, a byddwn yn adolygu'r sefyllfa yn gadarnhaol o fewn pythefnos. Fel y dywedodd y Prif Weinidog, mae hyn yn arbennig o angenrheidiol er mwyn ystyried effaith y cyfyngiadau symud mis o hyd yn Lloegr. Mae'r cyfnod atal byr yn rhoi cyfle i bob un ohonom ni adennill rhywfaint o reolaeth dros ledaeniad y feirws er mwyn achub bywydau a, gyda'r Nadolig yn nesáu, er mwyn osgoi cyfyngiadau symud cenedlaethol llawer hirach a llawer mwy niweidiol. Rwyf i'n gofyn i'r Aelodau gefnogi ein gwlad a chefnogi'r cynnig. 

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, Mick Antoniw. 

Adroddodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad ar y rheoliadau hyn ddoe. Fe wnaethon nhw ddod i rym am 6 p.m. ddydd Gwener, 23 Hydref 2020, ac maen nhw'n dod i ben ar ddiwedd y dydd ar 8 Tachwedd 2020, ac ar yr adeg honno byddan nhw wedi bod mewn grym yng Nghymru am gyfanswm o 17 diwrnod.

Mae'r rheoliadau hyn yn dirymu Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 19) 2020 a'i holl reoliadau diwygio, sy'n cynnwys y mesurau a gafodd eu rhoi ar waith ar gyfer cyfyngiadau lleol yng Nghymru. Mae'r rheoliadau yn gwneud darpariaeth mewn pedwar maes allweddol, fel y mae'r Gweinidog wedi ei amlinellu. Maen nhw'n cyfyngu ar symud a theithio drwy ei gwneud yn ofynnol i bobl aros gartref oni bai bod ganddyn nhw esgus rhesymol. Maen nhw'n cyfyngu ar ymgynnull â phobl eraill. Maen nhw'n ei gwneud yn ofynnol i gau mathau penodol o fusnesau a lleoliadau, ac maen nhw'n gosod rhwymedigaethau ar y bobl sy'n gyfrifol am leoliadau sy'n agored i'r cyhoedd, neu am waith sy'n cael ei wneud mewn unrhyw leoliad.

Adroddodd y pwyllgor wyth pwynt rhinwedd. Nododd ein pwynt cyntaf gyfiawnhad Llywodraeth Cymru dros unrhyw ymyrraeth bosibl â hawliau dynol o ganlyniad i'r cyfyngiadau sy'n cael eu cyflwyno. Amlygodd ein hail bwynt y diffyg ymgynghori ffurfiol a wnaed, ond nododd fod Llywodraeth Cymru wedi cynnal cyfres o drafodaethau brys gyda sectorau a rhanddeiliaid allweddol. Oherwydd yr adroddiadau eang yn y cyfryngau am anfodlonrwydd ynghylch y rhybudd byr a gafodd ei roi i gyflwyno'r rheoliadau hyn, rydym ni wedi gofyn am ragor o fanylion ynghylch pwy yr ymgynghorodd Llywodraeth Cymru â nhw, a phryd, cyn gwneud y rheoliadau. 

Mae rheoliad 16 yn gosod cyfyngiadau ar fusnesau cymysg sy'n rhedeg busnesau a ganiateir a rhai sydd wedi eu gwahardd ar yr un safle. Fe wnaethom ni nodi'r feirniadaeth eang o'r polisi penodol hwn a'r dryswch y mae wedi ei achosi ymhlith rhanddeiliaid. O gofio bod eglurder yn hanfodol wrth wneud deddfwriaeth, gofynnodd ein trydydd pwynt adrodd i Lywodraeth Cymru a yw'n bwriadu diwygio'r ddarpariaeth benodol hon, neu a fydd yn rhoi rhagor o ganllawiau i fusnesau ac aelodau o'r cyhoedd. Yn ystod ein cyfarfod ddoe, fe wnaethom ni ystyried ymhellach i ba raddau y mae'r rheoliadau yn effeithio ar fusnesau ac aelwydydd estynedig. O ganlyniad, mae pwyntiau adrodd 6, 7 ac 8 yn gofyn am eglurhad ar bwyntiau penodol yn y rheoliadau a sut y mae cymhwyso darpariaethau penodol yn ymarferol. Er enghraifft, mae pwynt adrodd 6 yn gofyn am esboniad o ble a sut y mae'r rheoliadau yn gwahardd archfarchnad rhag gwerthu eitemau nad ydyn nhw'n hanfodol, ac yn gofyn i Lywodraeth Cymru egluro ystyr y gair 'busnes' pan gaiff ei ddefnyddio yn rheoliadau 11, 15 ac 16. Mae ein seithfed pwynt adrodd yn gofyn am eglurhad ynghylch effeithiau'r rheoliadau ar aelwydydd estynedig. O ran pwyntiau adrodd 6 a 7, byddai'n ddefnyddiol pe gallai Llywodraeth Cymru, yn y mannau yr ydym yn eu hawgrymu, ddarparu rhai enghreifftiau ymarferol i ddangos y pwyntiau y maen nhw'n dymuno eu gwneud mewn ymateb.

Gan droi at fater canllawiau, mae ein pedwerydd pwynt adrodd yn gofyn i'r Llywodraeth ddarparu manylion ynghylch pryd y cafodd canllawiau ar y cyfnod o 17 diwrnod eu cyhoeddi er mwyn rhoi cyfle i randdeiliaid gydymffurfio â'r newidiadau deddfwriaethol hyn. Mae ein pumed pwynt rhinwedd yn nodi bod asesiad effaith integredig wedi ei gyhoeddi. Rydym ni'n croesawu hynny. Mae hyn yn ystyried effaith y rheoliadau mewn cysylltiad â chydraddoldeb a hawliau plant yn benodol, ac rydym ni'n croesawu hynny. 

Wrth gloi, rwyf i'n annog Llywodraeth Cymru i ystyried yr holl bwyntiau yr ydym yn eu codi, a'r egwyddorion sy'n sail iddyn nhw, wrth baratoi'r rheoliadau newydd a gafodd eu cyhoeddi ddoe a bydd hynny yn disodli'r gyfres yr ydym yn ei thrafod heddiw. Diolch, Llywydd.

18:00

Andrew R.T. Davies. Andrew R.T. Davies, a oes modd dad-fudo'r meicroffon? Ie, dyna ni.

Diolch, Llywydd. Diolch, Gweinidog, am eich sylwadau. Rwyf i yn credu bod y sylw diwethaf a wnaethoch ychydig yn ddichwaeth a dweud y lleiaf, drwy alw i gefnogi eich gwlad, fel pe baech, drwy bleidleisio yn erbyn y rheoliadau hyn, yn rhyw fath o fradwr. Rwyf i yn credu bod hynny yn ffordd arbennig o ddichwaeth o gloi eich sylwadau agoriadol. Mae gwahanol safbwyntiau i ymdrin â nhw. Rydym ni wedi cyflwyno ein barn ni. Mae gennych chi'r pleidleisiau yn y Senedd hon i ennill, ond mae cwestiynu teyrngarwch pobl i'w gwlad yn ffordd arbennig o ddichwaeth o estyn allan a cheisio ffurfio consensws wrth symud ymlaen ar ôl i ni ddod allan o'r cyfnod atal byr.

Ac rwyf i am wneud ychydig o bwyntiau ar y materion. Mae rhai ardaloedd yn y mesurau lleol wedi bod o dan y mesurau lleol hynny ers pump neu chwe wythnos. Maen nhw wedi cael problemau difrifol o ran, yn amlwg, gweithgarwch economaidd, a phethau eraill sydd wedi bod yn digwydd yn eu hardal, er gwaethaf y cyfyngiadau symud am bythefnos yr ydych chi wedi eu gorfodi arnyn nhw, ac mae hynny wedi ei bwysleisio gan y diffyg cymorth busnes. Ar ôl 24 awr, cafodd cymorth busnes y Llywodraeth ei ddefnyddio'n llwyr yr wythnos diwethaf, ac mae hynny'n dangos lefel y niwed sy'n digwydd i'r economi.

Rydym ni i gyd yn sefyll gyda'n gilydd wrth sôn am sicrhau bod iechyd y cyhoedd yn cael ei ddiogelu, ac rydym ni i gyd eisiau sicrhau bod y feirws yn cael ei waredu, ond nid yw'r cyfathrebu ynghylch y cyfnod atal byr, y cyfyngiadau symud—galwch ef beth fynnwch chi—wedi bod yn arbennig o lwyddiannus, yn enwedig o ran y rheoliadau siopa hanfodol a gafodd eu cyhoeddi sydd wedi arwain at y ddeiseb fwyaf hyd yma i'r Cynulliad, neu, dylwn i ddweud, Senedd Cymru, gyda bron i 70,000 o lofnodion. Ac mae'r newyddion heddiw am heintiau a gafodd eu caffael mewn ysbytai a nifer y marwolaethau sy'n gysylltiedig â heintiau a gafodd eu caffael mewn ysbytai yn destun pryder mawr, rwyf i'n awgrymu, i bob Aelod. A'r un ffigur sydd wedi fy nharo i, yn fwy nag unrhyw ffigur arall, rwyf i'n awgrymu, yw'r ffigur sy'n ymwneud â'r cyfraddau hunanladdiad, sydd wedi mynd trwy'r to. Mewn rhai ardaloedd, maen nhw wedi cynyddu'n sydyn—mae'r gwasanaethau ambiwlans wedi ymdrin â bron i ddwy ran o dair yn fwy o hunanladdiadau bob dydd mewn rhannau o'r wlad. Nid wyf i wedi gweld ffigurau Cymru eto. Ond dyna'r niwed gwirioneddol sy'n digwydd. Ac rwyf i'n credu bod cwestiynu teyrngarwch pobl i'w gwlad oherwydd nad ydyn nhw'n pleidleisio dros reoliadau eich lliw Llywodraeth chi oherwydd nad ydyn nhw o reidrwydd yn cytuno â nhw islaw chi, Gweinidog, yn wir i chi, ac rwyf i'n credu y dylech chi fyfyrio ar hynny heno. Ni fyddwn yn pleidleisio ar y rheoliadau hyn, oherwydd y dadleuon yr ydym ni wedi eu cyflwyno o'r blaen. Rwy'n parchu eich safbwynt, rwy'n parchu'r ffaith bod gennych chi'r pleidleisiau, ond nid oes gennych fy mharch o ran y sylwadau yr ydych wedi eu gwneud y prynhawn yma.

18:05

Rydyn ni wedi trafod a phleidleisio ar nifer fawr o reoliadau erbyn hyn, ac mae hwn yn un o'r mwyaf arwyddocaol, yn sicr. Rydyn ni'n sôn, wrth gwrs, am reoliadau pellgyrhaeddol iawn—cyfyngiadau cenedlaethol sydd yn llym ac sydd yn effeithio ar bawb. Mi fyddwn ni'n pleidleisio dros y rheoliadau yma heddiw, sydd bellach wrth gwrs mewn grym ers dros 11 diwrnod. Mi wnes i a Phlaid Cymru ddadlau bod angen cyfyngiadau o'r fath—os rhywbeth, ychydig yn gynharach y dylen nhw fod wedi cael eu cyflwyno. Rydyn ni'n gweld yn Lloegr y goblygiadau o beidio â gweithredu cweit mor gyflym, wrth iddyn nhw ddechrau ddydd Iau ar gyfnod clo hirach, ond dwi yn dymuno'n dda i'r Llywodraeth yn Lloegr yn eu hymdrechion nhw rŵan i gael rheolaeth ar ledaeniad y feirws. Felly, rydyn ni'n sôn am reoliadau hynod arwyddocaol ac ystod eang o gyfyngiadau. Rydyn ni'n cyd-fynd â nhw, yn gweld bod yna suite, os liciwch chi, o gyfyngiadau yn y fan hyn a oedd yn amserol iawn.

Mae'n rhaid i fi gyfeirio at Ran 3, sy'n cyfeirio at fusnesau a gwasanaethau—llawer yn gorfod cau. Dyma'r Rhan a wnaeth arwain at y drafodaeth genedlaethol fwyaf bywiog. Mae trafodaeth a beirniadaeth, a dal Llywodraeth i gyfrif, yn bwysig iawn. Dwi wedi cwestiynu llawer iawn o agweddau o ymateb Llywodraeth Cymru i'r pandemig yma, a dwi wedi trio gwneud hynny mewn ffordd adeiladol. Ac, i mi, mi oedd hi'n hynod siomedig gweld y Ceidwadwyr yn trio'u gorau i greu ac annog rhaniadau dros y cwestiwn o werthu nwyddau angenrheidiol yn unig. Oni bai eich bod chi am gael eich cysylltu efo'r math o conspiracy theorists sy'n gwadu perygl y feirws o gwbl, ac ati, byddwch yn ofalus iawn wrth chwarae gemau fel yna. Yn anffodus, dyna'r dôn rydyn ni newydd ei chlywed gan lefarydd iechyd y Ceidwadwyr rŵan, sy'n cyferbynnu'n fawr efo tôn arweinydd y Ceidwadwyr yn gynharach heddiw. Mi wnaf i wneud y sylw hwnnw.

Fel mae'n digwydd, rydw innau wedi dweud yn glir fy mod innau yn credu bod y Llywodraeth wedi gwneud camgymeriad ar y mater o werthiant rhai nwyddau—mewn archfarchnadoedd. Dwi'n deall beth roedden nhw'n trio'i wneud, dwi'n credu. Yn wir, mi oedd y Ceidwadwyr eu hunain wedi galw am sicrwydd na fyddai archfarchnadoedd mawr yn gallu tanseilio siopau bach, ac ati. Ond mi oedd y ffordd y cafodd hynny ei wneud gan y Llywodraeth—y negeseuo, yr effaith ymarferol fel y cafodd o'i deimlo, pobl yn methu deall pam roedd y Llywodraeth yn gwneud hyn, ei fod o'n teimlo nad oedd o'n gwneud synnwyr i bobl—mi oedd hynny'n anffodus, dwi'n meddwl, ac mi ofynnais i i'r Llywodraeth feddwl eto. Mi gafwyd negeseuon rywfaint yn gliriach, ond dwi'n gobeithio bod gwersi wedi eu dysgu, a dwi'n sicr yn cyd-fynd â'r hyn glywson ni gan Mick Antoniw, fel Cadeirydd y pwyllgor deddfwriaeth, fod angen edrych eto ar y math o ganllawiau sydd yn cael eu cyflwyno o gwmpas rheoliadau fel hyn. Os dwi ddim yn hapus yn llwyr efo cynnwys y rhan yna o'r rheoliadau. pam ydyn ni'n pleidleisio dros hwn heddiw? Wel, dwi ddim yn meddwl mai efo rheoliadau y mae'r broblem, o bosibl, ond y ffordd y cafodd o'i weithredu a'r diffyg eglurder yn y canllawiau, dwi'n credu. Ac, yn ail, mi oedd hi'n bwysig iawn, iawn bod y cyfnod clo dros dro yma yn cael ei gyflwyno.

Ond mi wnaf i gloi yn y fan hyn. Dwi wedi gwneud y pwynt droeon fod yn rhaid i'r cyfnod clo dros dro yma fod yn ddechrau ar gyfnod newydd o strategaeth newydd. Rydyn ni wedi clywed am rai o'r cyfyngiadau newydd—yr haen is a fydd yn dod i mewn yn genedlaethol o'r wythnos nesaf ymlaen. Dwi'n annog bod yn bwyllog. Yr egwyddor graidd gennyf fi ydy cael y lleiaf posib o gyfyngiadau ond eu gweithredu nhw yn effeithiol. Wrth gwrs, mae'n rhaid i'r nifer lleiaf o gyfyngiadau fod yn sylweddol ar rai adegau, ond dyna'r egwyddor sydd gen i. Ond nid yn unig mae'n rhaid cael y cyfyngiadau yn iawn o'r wythnos nesaf ymlaen, mae'n rhaid cryfhau yn arbennig y broses o brofi, ei gwneud hi'n fwy gwydn a sicrhau bod gan bobl hyder yn y broses honno. Dwi'n siomedig iawn o glywed bod y ganolfan brofi yn Llangefni, er enghraifft, yn cau ddydd Sul. Wel, nid rŵan ydy'r amser i gau canolfannau profi; rŵan ydy'r amser i gryfhau a sicrhau bod technolegau newydd a bod sgiliau newydd mewn profi, ac ati, yn rhoi system sydd yn fwy gwydn i ni ac yn dod â chanlyniadau yn gynt. Ond rydym ni'n cefnogi'r rheoliadau yma beth bynnag.

18:10

Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn dweud mai dim ond pan fydd popeth arall wedi methu y dylid defnyddio cyfyngiadau symud ac y dylid eu hosgoi. Bydd y niwed y bydd y mesurau hyn yn ei achosi i iechyd, cyfoeth a lles pobl yn ddifrifol, ac rydym yn gweld nifer syfrdanol o fusnesau yn methu, niferoedd di-ri o bobl yn colli eu swyddi, niferoedd enfawr o bobl ifanc methu â dod o hyd i waith, ac addysg plant yn cael ei rhwystro. Mae llawer o fy etholwyr i eisoes yn byw mewn tlodi. Ac am beth y mae'r cyfyngiadau hyn wedi bod? Rydych chi'n gwybod na fydd y cyfyngiadau hyn yn rhoi terfyn ar y bygythiad a achosir gan feirws SARS-CoV-2. Pe byddai pawb yn gwisgo mwgwd, yn cadw 2m i ffwrdd o'i gilydd ac yn golchi eu dwylo'n rheolaidd, ni fyddai'r clefyd hwn ar gynnydd. Pe byddai pawb yn cadw at y rheolau hyn, gallem ni ddysgu byw gyda'r clefyd hwn. Ond nid yw pobl yn cadw at y rheolau ac oherwydd gweithredoedd ychydig o bobl hunanol, rydym ni i gyd mewn perygl.

O ran profi, pam mai dim ond llai na thraean o 1 y cant o'n poblogaeth sy'n cael eu profi am y feirws hwn o hyd? Mae angen i ni fod yn fwy uchelgeisiol o ran profi. Profodd Slofacia, gwlad â phoblogaeth bron i ddwywaith ein poblogaeth ni, hanner eu poblogaeth ddydd Sadwrn ac fe wnaethom ni gynnal ychydig dros 7,000 o brofion. Er mwyn curo'r feirws hwn mewn ffordd nad yw'n gwneud niwed hirdymor i'n hiechyd a'n lles, mae'n rhaid i ni ddysgu byw gyda'r clefyd hwn. Rwyf i'n dal i fod o'r farn mai profi'r boblogaeth gyfan yw'r ffordd orau ymlaen a gallwn sicrhau bod y rhai hynny sy'n profi'n bositif yn cael eu rhoi mewn cwarantin priodol ac yn cael yr holl gymorth sydd ei angen arnyn nhw, yn hytrach na rhoi pawb dan glo. Gallem ni ddefnyddio'r arian sy'n cael ei ddefnyddio i ariannu cyfyngiadau symud a chau busnesau i dalu pobl sâl i aros gartref. Dyna sut yr ydym ni'n ymdrin â'r clefyd hwn ac yn byw ynddo.

Rwy'n cytuno bod yn rhaid i ni wneud popeth o fewn ein gallu i atal pobl rhag marw o COVID neu orfod byw gydag anabledd hirdymor o ganlyniad iddo, ond nid dyma'r ffordd. Ac rwyf i wedi cefnogi cyfyngiadau symud y Llywodraeth yn flaenorol, ond dyma'r adeg pan fo'n rhaid i ni ddod o hyd i ddewis arall. Bydd ein heconomi'n dioddef a bydd y rhai hynny yng nghenedlaethau'r dyfodol yn dal i dalu amdano. Diolch yn fawr.

Diolch am gyflwyno'r ddadl heddiw, Gweinidog. Byddai wedi bod yn well gen i pe byddem ni wedi gallu pleidleisio ar y rheoliadau hyn cyn iddyn nhw ddod i rym, fel y mae Senedd San Steffan yn cael y cyfle i'w wneud dros Loegr yfory. O leiaf ein bod ni'n pleidleisio arnyn nhw cyn i'r cyfnod atal byr ddod i ben, sydd o leiaf yn welliant ar rai o'r amseriadau yr ydym ni wedi eu cael o'r blaen.

Tybed a wnaiff y Gweinidog ddweud unrhyw beth o ran lefel y gydymffurfiaeth â'r rheoliadau hyn. Mae'n amlwg bod unrhyw gonsensws gwleidyddol y tu ôl iddyn nhw wedi methu a tybed beth fu effaith hynny ar y cyhoedd. Bu rhywfaint o rethreg eithaf rhwygol, nid cyn waethed â Nicola Sturgeon yn yr Alban, a oedd fel pe bai'n awgrymu y byddai'r Alban wedi dileu'r feirws, fel yn Seland Newydd, pe na byddai wedi ei ailhadu o Loegr. Fodd bynnag, yr oedd sylwadau nad oedden nhw mor bell â hynny gan y Prif Weinidog, a gyfeiriodd at bobl o ogledd-orllewin Lloegr yn dod i Ddinbych-y-pysgod a sut y dylai pobl leol fod yn annymunol o dan yr amgylchiadau hynny. Fe wnes i dreulio rhan o fis Awst yn cefnogi'r diwydiant twristiaeth yn Ninbych-y-pysgod, ac yn sicr yr oedd llawer o bobl o Loegr, gan gynnwys gogledd-orllewin Lloegr, yno. Ond, yn sir Benfro, arhosodd nifer yr achosion o'r feirws yn isel ar ôl hynny, ac rwyf i'n meddwl tybed sut mae hynny'n gyson â gwneud yr ymwelwyr o Loegr y bychod dihangol yr ydym ni wedi ei weld gan Lywodraeth y Gweinidog.

A gaf i ofyn hefyd am yr wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn sydd wedi bod yn digwydd gyda'r arolygiadau hyn o'r draeniau a'r profion carthion? Fe wnaeth y Gweinidog sioe fawr o'r blaen o astudiaeth a oedd, yn ôl y sôn, yn dangos amrywiad Seisnig o'r feirws a oedd wedi dod i'r gogledd o ardaloedd lle mae llawer o achosion yng ngogledd-orllewin Lloegr. A fu arolygiadau tebyg o'r carthffosydd o ran de Cymru a Bryste a de swydd Gaerloyw, lle'r oedd nifer yr achosion yn eithaf isel yn flaenorol, ond ers i ni fod ag ardaloedd uwch yn y Cymoedd a Chasnewydd a Chaerdydd, a oes tystiolaeth o amrywiad Cymreig o feirws COVID yn symud i dde-orllewin Lloegr? Neu a ydym ni dim ond yn profi am y pethau hyn neu'n ymddiddori mewn ymchwil o'r fath pan fydd posibilrwydd o wneud Lloegr y bwch dihangol am fethiannau ein Llywodraeth ein hunain yma yng Nghymru?

18:15

Diolch, Llywydd. Diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau amrywiol i'r ddadl. Diolch i'r aelod o'r pwyllgor; byddwn yn ymateb yn fanwl i'r pwyntiau y mae wedi eu gwneud, felly bydd ymateb ysgrifenedig fel arfer i'r pwyllgor i ymdrin â phob un o'r pwyntiau rhinwedd sy'n cyfeirio at y gwaith craffu. Wrth gwrs, fel y soniodd un o'r cyfranwyr diweddarach, rydym ni'n cael y ddadl hon heddiw, ond roedd y pwyllgor, yn ôl yr hyn yr wyf i'n ei ddeall, yn glir iawn eu bod nhw'n dymuno gallu craffu ar y rheoliadau a oedd wedi eu cyflwyno a darparu adroddiad i gynorthwyo yn y ddadl heddiw. Ac mae dewisiadau i ni eu gwneud wrth wneud hynny. Gallem ni fod wedi cael y ddadl hon yn llawer cynharach, ond ni fyddem ni wedi rhoi'r cyfle i'r pwyllgor graffu ar y rheoliadau, ac mae hynny yn fater sydd yn nwylo'r sefydliad mewn gwirionedd, o ran amserlennu pryd y bydd y dadleuon hyn yn digwydd a'r broses drwy'r Pwyllgor Busnes.

Fe wnaf i ymdrin â sylwadau Caroline Jones. Mae'r Llywodraeth hon yn cydnabod nad ymateb cyntaf yw ymyriad o'r math hwn. Rydym ni wedi rhoi amrywiaeth o fesurau eraill ar waith, gan gynnwys cyfyngiadau lleol, a gyfrannodd, ond na wnaeth y gwahaniaeth yr oedd ei angen arnom, yn union fel yr oedd gan y Llywodraeth yn Lloegr ystod o gyfyngiadau lleol a rhanbarthol dros gyfnod o sawl mis mewn rhai rhannau o Loegr ac maen nhw wedi gwneud eu penderfyniad eu hunain bod angen dull gweithredu cenedlaethol arnyn nhw yn awr ar gyfer y mis nesaf. Rydym yn profi, ar gyfartaledd, dros 10,000 o bobl y dydd. Rydym ni'n profi llawer mwy na 70,000 o bobl yr wythnos yn rheolaidd. Felly, mae gennym ni raglen brofi fawr. Ond mae profion a'r olrhain cysylltiadau a'r cais a'r cymorth a'r gofynion cyfreithiol ar gyfer hunanynysu yn arfau i'n helpu ni i ymdrin â chanlyniadau heintio ac i geisio atal rhagor o heintio. Mewn gwirionedd, ein prif bwynt yw sut yr ydym yn byw yn wahanol, a'r pwynt hwnnw ynghylch sut yr ydym yn gofyn, 'Beth ddylem ni ei wneud?' yn hytrach na cheisio dod o hyd i gyfres o reolau i geisio gweithio o'i chwmpas.

Fel y dywedais i, fe wnes i ymdrin â phwynt Mark Reckless ynghylch cefnogaeth y cyhoedd yn fy agoriad, ynghylch tystiolaeth yr heddlu, ond mae tystiolaeth eang hefyd o gefnogaeth gyhoeddus eang. Mae'r holl dystiolaeth o arolygon barn sydd ar gael yn cefnogi'r dewis yr ydym ni wedi ei wneud. Ac o ran monitro dŵr gwastraff, yn sicr nid ydym ni'n defnyddio hynny i geisio gwneud rhannau eraill o'r DU yn fychod dihangol—mae'r math hwnnw o iaith yn arbennig o ddi-fudd a hynny'n fwriadol.

Hoffwn i ddiolch i Rhun ap Iorwerth am y gefnogaeth eang y mae Plaid Cymru wedi parhau i'w darparu ar gyfer y mesurau a'r ffordd adeiladol yr ydym ni wedi trafod, cyd-drafod ac nid cytuno bob amser ar rai o'r dewisiadau yr ydym ni wedi eu gwneud. Serch hynny, rydym ni wedi myfyrio, fel Llywodraeth, ar gyfnod anodd iawn o ran y negeseuon ynghylch manwerthu nad yw'n hanfodol, ond fe wnaethom ni ddewisiadau ynghylch cau yn sylweddol mewn rhannau eraill o'r economi oherwydd ein bod ni wedi blaenoriaethu buddiannau plant a phobl ifanc o ran cadw ein hysgolion ar agor, ac roedd hynny'n golygu bod yn rhaid i ni fod yn galetach ac yn ddyfnach mewn gweithgarwch arall i gael y math o effaith yr ydym ni'n dymuno ei chael. Mae dewis gwahanol yn cael ei wneud bellach mewn rhannau eraill o'r DU; mae gan Ogledd Iwerddon gyfres lawer hirach o gyfyngiadau; mae Lloegr erbyn hyn wedi dewis ymyriad hwyrach, ond ymyriad hirach hefyd. Ac, felly, byddwn ni'n dysgu mwy oddi wrth ein gilydd, a dyna un o'r pwyntiau a ddaeth o COBRA ddoe, lle rydym ni wedi egluro ein bod ni, yn ogystal ag adrodd i bobl Cymru, yn dymuno rhannu'r gwersi yr ydym yn eu dysgu ar ôl y cyfnod atal byr â Llywodraethau eraill yn y DU, gan fod gennym ni lawer i'w ddysgu o hyd, gan fydd y feirws yn ein plith am lawer mwy o fisoedd cyn i ni gael ateb effeithiol a thymor hwy.

O ran yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud, wel, bydd gen i fwy i'w ddweud am yr hyn y mae'r cyfnod atal byr wedi caniatáu i ni ei wneud: y mae wedi rhoi'r lle a'r amser i ni fyfyrio ar yr hyn y mae angen i ni ei wneud wrth symud ymlaen, felly bydd gen i fwy i'w ddweud, fel yr awgrymodd y Prif Weinidog, am dechnoleg profi newydd, ond hefyd am yr hyn yr ydym yn mynd i'w wneud i gryfhau ein gwasanaeth profi, olrhain, diogelu.

Ac o ran y sylwadau uniongyrchol gan Andrew R.T. Davies, nid wyf i erioed wedi awgrymu bod pobl yn fradwyr. Nid wyf i'n credu fy mod i wedi dweud unrhyw beth amhriodol o gwbl yn fy nghyfraniadau heddiw. O ran y cyfeiriad at gyfraddau hunanladdiad yn Lloegr, rwy'n credu ei fod yn cyfeirio at raglen am wasanaeth ambiwlans Llundain, ffigurau sy'n hanesyddol, yn hytrach na chyfredol, ac, wrth gwrs, nid ydym yn gwybod am yr effaith ar gyfraddau hunanladdiad yng Nghymru. Yr hyn yr ydym ni'n ei wybod, serch hynny, yw bod yr holl fesurau yr ydym ni'n eu cymryd yn ystyried cydbwysedd rhwng gwahanol fathau o niwed: mae canlyniadau gwirioneddol a sylweddol iawn yn gysylltiedig â gwneud dim. Nid fy marn i yn unig yw hynny, ond barn Prif Weinidog y DU hefyd. Rydym ni yn gwybod y bydd effaith ar iechyd meddwl a lles, a dyna pam yr ydym ni wedi dewis yn fwriadol cael cyfnod byrrach yn y cyfnod atal byr hwn.

Rwy'n dal i gredu mai hwn oedd yr unig ddewis cyfrifol i'w wneud. Pan wnaethom ni ddechrau, roedd 775 o gleifion mewn gwelyau ysbyty. Heddiw, fel y mae prif weithredwr GIG Cymru wedi adrodd, mae 1,275, dim ond 9 y cant yn is na'r uchafbwynt ym mis Ebrill gyda'r coronafeirws. Yr hyn y mae'r cyfnod atal byr a'r cyfyngiadau symud am bedair wythnos yn Lloegr wedi ei wneud yw pwysleisio nad yw'r feirws yn diflannu, ac mai ein hymddygiad ni sy'n gallu gwneud y gwahaniaeth mwyaf. Nid yw hwn yn benderfyniad yr oedd Gweinidogion wedi ei wneud yn ddihid nac ag unrhyw fwynhad. Rydym ni'n gwybod pa mor anodd y mae wedi bod ac yn parhau i fod i bobl ledled Cymru.

Hoffwn i ddiolch unwaith eto i bawb am eu hymdrech a'u haberth gyfunol sydd i'w weld ym mhob rhan o Gymru. Fodd bynnag, rwyf i'n gofyn i arweinwyr y Ceidwadwyr Cymreig yn arbennig i fyfyrio ar eu dewisiadau ac arfer cyfrifoldeb yn eu hiaith. Wrth gwrs, mae gan y Ceidwadwyr hawl i anghytuno â Llywodraeth Cymru, Prif Weinidog Ceidwadol y DU, a barn bob prif swyddog meddygol yn y DU, fel y maen nhw'n ei wneud. Fodd bynnag, mae'r iaith y maen nhw wedi ei defnyddio droeon i anghytuno wedi bod yn hynod bersonol, yn rhwygol, ac yn mynd y tu hwnt i sgarmesoedd arferol gwleidyddiaeth. Nid yw'r rhain yn amseroedd arferol. Yn y cyfnod eithriadol hwn, mae'r sylwadau rhwygol, personol ac, ar adegau, heb fod yn ffeithiol gan yr wrthblaid swyddogol yng Nghymru yn creu mwy o le i bobl ar gyrion gwleidyddiaeth. Nid yw'r safbwyntiau ymylol hynny yng nghanol pandemig yn ddoniol; maen nhw'n beryglus. Mae'n siŵr y byddwn ni'n parhau i anghytuno, ond rwy'n gobeithio y gall y ffordd yr ydym yn anghytuno fod yn gadarn ac yn gyfrifol yn y dyfodol. Rwyf i'n gofyn i'r Aelodau gefnogi'r cynnig sydd ger ein bron.

18:20

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes. Dwi'n gweld gwrthwynebiad, felly dwi'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

13. Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020

Yr eitem nesaf, felly, yw'r Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020. Dwi'n galw ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i wneud y cynnig. Lesley Griffiths. 

Cynnig NDM7444 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Orchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Gorffennaf 2020.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Cynigiaf y cynnig. Rwy'n falch o allu cyflwyno Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020. Hoffwn i ddiolch i'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad a'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig am graffu ar y Gorchymyn hwn a'r gwaith parhaus ar y fframwaith ehangach.

Mae Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020 yn sefydlu polisi newydd yn y gyfraith ar gyfer cyfranogiad y DU yn system masnachu allyriadau'r UE. Gan ddechrau ar 1 Ionawr 2021, bydd y cynllun yn cymell allyrwyr carbon mwyaf Cymru i ddatgarboneiddio eu gweithrediadau wrth sicrhau chwarae teg ledled y DU.

Mae'r cynllun wedi ei gynllunio i weithredu fel system annibynnol os oes angen, ond y mae wedi ei gynllunio hefyd i hwyluso'r broses o gysylltu â system yr UE, ar yr amod bod y DU a'r UE yn dod i gytundeb. Dyma fyddai orau gan Lywodraeth Cymru a dyma'r canlyniad gorau i bob parti.

Mae'r cynllun yn gweithredu drwy osod terfyn cyffredinol ar gyfanswm yr allyriadau o weithfeydd diwydiannol, gorsafoedd pŵer a gweithredwyr awyrennau sy'n cymryd rhan. Mae'n ofynnol i gyfranogwyr y cynllun adrodd ar eu hallyriadau ac ildio nifer cyfatebol o lwfansau allyriadau yn flynyddol. Gellir prynu lwfansau allyriadau o arwerthiant y Llywodraeth neu ar y farchnad eilaidd. Caiff rhai lwfansau eu dyrannu heb daliad i ddiwydiannau sydd mewn perygl o ollwng carbon. Trwy bennu uchafswm absoliwt ar allyriadau, mae sicrwydd y bydd y polisi yn cyflawni ei ganlyniadau amgylcheddol.

Mae'r Gorchymyn hwn yn un o gyfres o ddeddfwriaeth, y byddaf i'n disgrifio yn gryno. Mae'r Gorchymyn yr ydym ni'n ei drafod heddiw yn sefydlu strwythur cynllun masnachu allyriadau'r DU ac elfennau polisi sylweddol, fel cwmpas, y terfyn uchaf a'r taflwybr, diffiniad lwfansau allyriadau, gorfodi a swyddogaeth rheoleiddwyr. Rydym ni hefyd yn cwblhau Gorchymyn arall, a fydd yn cael ei wneud trwy ddefnyddio'r weithdrefn negyddol. Bydd hwn yn ymdrin â dyrannu lwfansau am ddim a materion sy'n ymwneud â'r gofrestrfa. Yn ogystal, bydd is-ddeddfwriaeth o dan Ddeddf Cyllid 2020 yn ymdrin â phob agwedd ar ddewisiadau lwfansau allyriadau a dulliau sefydlogrwydd y farchnad. Mae'r Senedd wedi rhoi ei chydsyniad i Lywodraeth y DU ddeddfu ar gyfer yr agwedd hon ar y cynllun.

Yn olaf, mae deddfwriaeth sy'n defnyddio pwerau sylfaenol o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 a Deddf Gwasanaethau Ariannol a Marchnadoedd 2000 yn cael ei gosod gan Lywodraeth y DU i ganiatáu i'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol barhau â'i swyddogaeth fel y corff rheoleiddio ar gyfer y farchnad lwfansau allyriadau.

Mae pwyllgorau'r Senedd wedi bod yn ceisio eglurder ynghylch agweddau ar y fframwaith nad ydyn nhw'n rhai deddfwriaethol, a gofynnodd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn benodol i mi yn ei lythyr diweddar ynghylch datrys anghydfod. Rydym ni'n bwriadu uwchgyfeirio anghydfodau i Gyd-bwyllgor y Gweinidogion, o gofio mai hwn yw'r unig ddewis sydd ar gael i ni nes i'r adolygiad cysylltiadau rhynglywodraethol ddod i ben. Bryd hynny, byddwn yn adolygu'r trefniadau. Fodd bynnag, dylai ein hymdrechion ganolbwyntio yn bennaf ar osgoi anghydfod. Mae ein concordat drafft, fel y cafodd ei gyflwyno i Weinidogion i'w gymeradwyo, yn disgrifio nifer o strategaethau i wneud hyn, gan gynnwys comisiynu tystiolaeth sydd wedi ei chwmpasu ar y cyd a phenodi cynghorwyr arbenigol i gynnal adolygiad cymheiriaid o'r dystiolaeth sy'n ffurfio penderfyniadau. Mae Deddf Newid Hinsawdd 2008 yn ei gwneud yn ofynnol hefyd i ni gael cyngor gan y pwyllgor newid hinsawdd cyn deddfu ar gyfer cynlluniau masnachu carbon newydd a chyn gwneud diwygiadau penodol, er enghraifft i gwmpas neu hyd y cynllun.

Bydd gan bwyllgorau'r Senedd gyfle i graffu ar y cytundeb fframwaith amlinellol dros dro a'r concordat cysylltiedig, a byddwn yn ystyried eich barn cyn cwblhau'r dogfennau. Bydd sicrhau pontio cynaliadwy i sylfaen ddiwydiannol Cymru yn hanfodol os ydym ni am gyflawni ein huchelgeisiau hinsawdd mewn modd cymdeithasol gyfiawn. Mae'r cynllun hwn yn cynnig cymhelliad ariannol i fusnesau reoli'r broses bontio mewn ffordd gost-effeithiol a hyblyg, wrth gynnal sicrwydd ynghylch yr amcan amgylcheddol cyffredinol. Felly, rwyf i'n cymeradwyo'r cynnig i'r Siambr. Diolch.

18:25

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a Chyfansoddiad, Mick Antoniw.

Diolch, Llywydd. Wrth siarad heddiw, rwyf i'n tynnu sylw at ein dau adroddiad ar y Gorchymyn yn y Cyfrin Gyngor drafft hwn. Yn gyntaf, yn unol â'n cyfrifoldebau o dan Reol Sefydlog 21, ac yn ail, o ran ein swyddogaeth gyfansoddiadol a'r Gorchymyn drafft yn rhan o'r fframwaith cyffredin ar gyfer cynllun masnachu allyriadau ledled y DU.

Fe wnaeth ein hadroddiad cyntaf, a gafodd ei osod ar 28 Medi 2020, un pwynt adrodd technegol, gan nodi bod y Gorchymyn drafft yn cael ei wneud yn Saesneg yn unig. Mae memorandwm esboniadol Llywodraeth Cymru yn nodi

'ni ystyrir ei bod yn rhesymol ymarferol i’r offeryn hwn gael ei greu na’i osod yn ddwyieithog'

gan y bydd yn destun craffu gan Senedd y DU. Nododd ein hunig bwynt rhinwedd gefndir polisi'r Gorchymyn drafft fel elfen ddeddfwriaethol o fframwaith cyffredin cynllun masnachu allyriadau'r DU ac fe wnaeth gydnabod llythyr y Gweinidog atom ni dyddiedig 18 Medi a oedd yn cynnwys rhestr ddiffiniol o'r gosodiadau yng Nghymru a oedd wedi eu cynnwys yn y Gorchymyn drafft.

Ystyriodd ein hail adroddiad, a gafodd ei osod yr wythnos diwethaf, y Gorchymyn drafft yn rhan o'r fframwaith cyffredin ehangach ar gynllun masnachu allyriadau'r DU, a hoffwn i dynnu sylw at rai pwyntiau pwysig o'r adroddiad hwnnw. Er ein bod ni'n derbyn egwyddor cynllun ledled y DU, fe wnaethom ni nodi ein siom ein bod ni wedi gorfod craffu ar y Gorchymyn drafft heb fod yr holl ddogfennau cysylltiedig, gan gynnwys y cytundeb fframwaith amlinellol dros dro a'r concordat llywodraethu, ar gael mewn modd amserol. Arweiniodd y siom a'r pryder hwn ynghylch y dull a gafodd ei fabwysiadu at nifer o argymhellion gennym ni sy'n ymwneud â'r ddadl heddiw a datblygiad y fframwaith yn y dyfodol.

Ychydig o wybodaeth sydd ar gael am sut y bydd y dull yn gweithredu ar gyfer newidiadau yn y dyfodol, wrth i'r broses o ddatrys anghydfodau rhwng y Llywodraethau gael ei chynnwys yn y concordat llywodraethu. Felly, fe wnaethom ni argymell y dylai'r Gweinidog, yn ystod y ddadl hon, egluro sut y bydd yr anghydfodau yn cael eu datrys, ac yn fwy cyffredinol, fe wnaethom ni argymell hefyd y dylai'r Gweinidog egluro sut y bydd dulliau yn gweithredu ar gyfer newidiadau i'r fframwaith cyffredin yn y dyfodol, gan gynnwys y Gorchymyn, er mwyn caniatáu i bwyllgorau'r Senedd a rhanddeiliaid gymryd rhan. Rwyf i'n nodi sylwadau'r Gweinidog heddiw. Fe wnaethom ni nodi'r posibilrwydd y gallai Llywodraeth y DU gyflwyno treth garbon ar gyfer y DU gyfan a fyddai'n disodli cynllun masnachu allyriadau'r DU. Rydym yn rhannu pryderon y Gweinidog ynglŷn â'r pwynt hwn, ac fe wnaethom ni argymell ei bod hi'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am ddatblygiadau yn rheolaidd.

Ac yn olaf, fel y cyfeiriais ato'n gynharach, rydym ni wedi siomi ein bod ni wedi gorfod craffu ar y Gorchymyn drafft yn absenoldeb elfennau eraill o'r fframwaith cyffredin. Mae hwn yn hepgoriad difrifol ac yn tanseilio'r broses graffu. Felly, rydym ni wedi argymell y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau, yn y dyfodol, nad yw'n gofyn i'r Senedd ystyried is-ddeddfwriaeth sy'n gysylltiedig â fframwaith cyffredin cyn sicrhau bod y ddogfen fframwaith dros dro ar gael i'r Senedd graffu arni. Diolch, Llywydd.

18:30

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, Mike Hedges.

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o allu cyfrannu at y ddadl heddiw ar ran y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. Mae'r pwyllgor wedi ystyried y Gorchymyn drafft yng nghyd-destun ei waith ehangach ar fframwaith cyffredin cynllun masnachu allyriadau'r DU. Ni fydd ein gwaith ar y fframwaith cyffredin yn cael ei gwblhau tan yn llawer diweddarach y tymor hwn pan fydd yr holl gytundebau perthnasol ar waith. Er nad wyf i'n dymuno achub y blaen ar gasgliad y pwyllgor, mae nifer o faterion pwysig wedi dod i'r amlwg, y mae gwerth tynnu sylw Aelodau'r Senedd atyn nhw i helpu i lywio'r ddadl heddiw.

Mae cynllun masnachu allyriadau'r UE yn arf allweddol i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac yn gonglfaen i bolisi Cymru i fynd i'r afael â newid hinsawdd. Er mwyn i Gymru wireddu ei huchelgeisiau newid hinsawdd ar gyfer y cyfnod ar ôl Brexit, mae cynllun credadwy ac ymarferol yn lle cyfranogiad y DU yng nghynllun masnachu allyriadau'r UE yn hanfodol. Cyn troi at fanylion cynllun y DU, hoffwn i fynegi ein siom bod gofyn i Aelodau'r Senedd gymeradwyo'r Gorchymyn drafft, sy'n sefydlu cynllun masnachu allyriadau'r DU, heb gael cyfle i ystyried y cytundeb fframwaith dros dro. Y cytundeb hwn fydd yn nodi'r trefniadau llywodraethau o ran cynllun masnachu allyriadau'r DU, gan gynnwys prosesau ar gyfer gwneud penderfyniadau a datrys anghydfodau yn y dyfodol. Rydym yn deall bod amseriad cyhoeddi'r cytundeb fframwaith dros dro hwn y tu hwnt i reolaeth Llywodraeth Cymru. Fodd bynnag, rydym yn disgwyl i Lywodraeth Cymru geisio sicrhau, yn y dyfodol, na fydd gofyn i Aelodau'r Senedd gymeradwyo na chytuno ar elfennau deddfwriaethol fframweithiau cyffredin heb weld yr holl ddogfennau fframwaith cysylltiedig.

Gan symud ymlaen i gynllun masnachu allyriadau'r DU sy'n cael ei sefydlu gan y Gorchymyn drafft, mae cynllun y DU yn adlewyrchu'n agos dyluniad cynllun presennol yr UE. Yn ôl y Gweinidog, mae hyn er mwyn lleihau unrhyw rwystrau neu rwystrau canfyddedig i gytundeb cysylltu â'r UE. Mae'n ymddangos bod hwn yn ddull synhwyrol, o ystyried y dewis y mynegodd llywodraethau ar gyfer cynllun cysylltiedig yr UE-DU. Ar yr un pryd, mae wedi arwain at feirniadaeth bod diffyg uchelgais yng nghynllun y DU a bod cyfle wedi ei golli i sefydlu system newydd ar ôl Brexit sy'n dangos bod y DU yn arwain y byd o ran lleihau allyriadau.

Fe wnaf i ganolbwyntio fy sylwadau ar y darpariaethau allweddol sydd wedi eu cynnwys yn y Gorchymyn drafft sydd o'r diddordeb mwyaf i'r pwyllgor: cwmpas y cynllun a'r terfyn uchaf—cyfanswm lefel yr allyriadau a fydd yn cael eu caniatáu. Bydd cwmpas cynllun y DU yn cyfateb i gwmpas cynllun yr UE, o ran y sectorau a'r nwyon tŷ gwydr a gaiff eu cwmpasu. Bydd hyn yn sicrhau bod modd cysylltu'r cynlluniau, ond nid yw'n glir sut y bydd hyn yn effeithio ar effeithiolrwydd cynllun annibynnol yn y DU. Mae tua 11,000 o gyfranogwyr yng nghynllun yr UE; bydd hyn yn gostwng i ryw 1,000 mewn cynllun annibynnol. Yn gyffredinol, po fwyaf yw'r farchnad, y mwyaf llwyddiannus yw'r cynllun. Fe wnaethom ni glywed bod perygl, heb gynnydd yn ei gwmpas, y gallai cynllun annibynnol yn y DU fod yn anwadal. Os na chaiff cytundeb cysylltu ei gyflawni, bydd angen edrych eto ar gwmpas y cynllun, cyn gynted â phosib. Mae'r pedair Llywodraeth wedi ymrwymo i ystyried y dewis i ehangu cwmpas, ond, yn realistig, gall unrhyw ehangu posibl ar gwmpas y cynllun fod flynyddoedd i ffwrdd.

Gan symud ymlaen at y terfyn uchaf ar allyriadau, bydd y terfyn cychwynnol neu dros dro yn cael ei osod 5 y cant yn llai na chyfran dybiannol y DU o gynllun masnachu allyriadau'r UE. Mae'r terfyn hwn, fel y nododd y Gweinidog, yn dynnach ac felly yn fwy uchelgeisiol nag y byddai wedi bod o dan gynllun yr UE. Yn llythyr Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd at y pedair Llywodraeth dyddiedig Mawrth 2020, dywedodd fod cynigion interim y Llywodraethau ar gyfer y cynllun yn anghyson ag uchelgais sero net y DU, yn benodol o ran y lefel uchel o allyriadau a gaiff eu caniatáu o dan y terfyn arfaethedig. Mae'n mynd ymlaen i ddweud bod perygl wrth fabwysiadu'r cynllun masnachu arfaethedig o anfon neges niweidiol yn rhyngwladol, ac os caiff y terfyn ei osod yn rhy uchel, mae perygl iddo danseilio'r cynllun fel cynllun masnachu. Ac eto, nid yw'r Llywodraethau wedi ystyried y rhybudd hwn wrth gwblhau eu cynigion. Yn hytrach, maen nhw wedi ymrwymo i adolygu'r terfyn yng ngoleuni cyngor pwyllgor newid hinsawdd y DU ar dargedau carbon yn y dyfodol y mae disgwyl iddyn nhw gael eu cyhoeddi fis nesaf. Ond heb unrhyw ddisgwyl o ddiwygio'r terfyn tan fis Ionawr 2023 os nad hwyrach, bydd y cynllun yn gweithredu ar lefel is nag y gallai yn ei flynyddoedd cynnar. Fe wnaeth yr Arglwydd Deben, cadeirydd pwyllgor newid hinsawdd y DU bwysleisio i ni fel pwyllgor bwysigrwydd gwneud pethau yn iawn a'u gwneud yn iawn o'r dechrau. Nid ydym ni wedi ein hargyhoeddi hyd yn hyn y bydd y cynllun sydd wedi ei sefydlu gan y Gorchymyn drafft yn gwneud hyn.

Llywydd, rydym yn tynnu sylw at y materion hyn gan wybod yn iawn fod y bleidlais heddiw yn benderfyniad 'derbyn neu wrthod'. Bydd ein hadroddiad ar fframwaith cyffredin cynllun masnachu allyriadau'r DU yn nodi ein barn ar y cynllun, fel y mae wedi ei sefydlu gan y Gorchymyn drafft, ac unrhyw welliannau yr ydym ni'n credu y mae angen eu gwneud, wrth symud ymlaen. Yn olaf, er bod gofyn i ni gymeradwyo'r Gorchymyn drafft sydd ger ein bron heddiw, nid oes sicrwydd a fydd cynllun y DU yn dwyn ffrwyth. Mae'n anffodus iawn, â dim ond ychydig wythnosau cyn diwedd y cyfnod gweithredu, nad yw Llywodraeth y DU wedi egluro hyd yn hyn a fyddai'n well gan Lywodraeth y DU, os nad oes modd dod i gytundeb cyswllt, gael cynllun annibynnol yn y DU neu dreth allyriadau carbon a gadwyd yn ôl. Ar hyn o bryd, efallai y bydd Llywodraeth y DU yn dal i gymryd camau unochrog i gyflwyno treth a gadwyd yn ôl. Nid wyf i'n dymuno agor y ddadl heddiw ar y da a'r drwg sy'n gysylltiedig â phenderfyniad o'r fath. Fodd bynnag, os caiff penderfyniad o'r fath ei wneud, bydd y Gorchymyn drafft sydd ger ein bron, ar ôl ei wneud, yn ddi-werth. Gweinidog, os felly, a wnewch chi egluro a fydd gan y Senedd ran mewn diddymu'r Gorchymyn hwn? Diolch, Llywydd.

18:35

Fel rŷn ni wedi clywed, mae'r Gorchymyn yma wedi cael ei gyhoeddi ar ei ben ei hun, i bob pwrpas—in isolation fel maen nhw'n ei ddweud yn Saesneg. Mae e i fod yn rhan o becyn o bum darn o ddeddfwriaeth oddi fewn i fframwaith cyffredin a bod hwnnw'n cael ei weld ochr yn ochr â'r concordat yma sydd i fod i gael ei gytuno ar sut mae Llywodraethau'n mynd i ddod at ei gilydd i wneud iddo fe weithio. Nawr, mae gofyn i ni basio'r Gorchymyn yma heddiw heb i ni allu gweld y Gorchymyn yma yn y cyd-destun ehangach yna o holl ddarnau eraill y jig-sô, i fi, yn gamgymeriad. Ac, wrth gwrs, mae hwnna'n rhywbeth a ddywedwyd wrthym ni y byddwn ni yn cael ei weld cyn ein bod ni'n gwneud y penderfyniad. Ond dyma ni, fel rŷn ni wedi clywed gan Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad a Chadeirydd y pwyllgor newid hinsawdd, yn gorfod gwneud y penderfyniad heb weld y cytundeb fframwaith cyffredin, sydd, i fi, yn gamgymeriad.

O ganlyniad i hynny, wrth gwrs, does gyda ni ddim eglurder ynglŷn â pha brosesau gwneud penderfyniad fydd yna yn y dyfodol ar draws y pedair gwlad. Dŷn ni ddim yn ddigon eglur, yn fy marn i, ynglŷn â sut fydd unrhyw anghydweld rhwng y Llywodraethau'n cael ei ddatrys yn y tymor hir. A dwi'n meddwl bod y ffaith bod y Gweinidog wedi cyfeirio, yn ei sylwadau agoriadol, at ryw drefniant dros dro yn dweud cyfrolau am ble ydyn ni o safbwynt y berthynas rhwng y Llywodraethau yn cyd-ddatblygu'r cynllun sydd ger ein bron. Does dim eglurder, chwaith, o ran ble fydd y pres yn mynd—ble fydd y refeniw o'r cynllun yn mynd? Fydd e'n mynd yn ôl i boced y Trysorlys yn Llundain, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd, neu a fydd yna gronfa dadgarboneiddio diwydiannol, fel y mae'r Gweinidog yn awyddus i'w weld? Os bydd y pres yn cael ei rannu ar draws y Deyrnas Unedig, sut fydd e'n cael ei rannu? Dŷn ni ddim yn gwybod os bydd e, wrth gwrs, ond sut fydd e'n cael ei rannu? Mae yna gymaint o gwestiynau sylfaenol heb eu hateb.

Os caiff y refeniw ei rannu, a fydd yn cael ei rannu ar sail poblogaeth? A yw'n mynd i ddod drwy fformiwla Barnett? A yw'n mynd i adlewyrchu'r ffaith bod 9 y cant o'r gosodiadau sy'n ddarostyngedig i'r cynllun wedi eu lleoli yng Nghymru, neu fod 15 y cant, rwy'n credu, o allyriadau'r DU o fewn y cynllun yn dod o Gymru? Mae cyfranogwyr cynllun masnachu allyriadau yn cyfrif am 46 y cant o gyfanswm allyriadau Cymru a 30 y cant o allyriadau'r DU. Felly, heb atebion i'r cwestiynau hyn, mae perygl y byddwn ar ein colled yn anghymesur yma yng Nghymru.

Nawr, cynllun masnachu allyriadau'r DU sy'n gysylltiedig â chynllun masnachu allyriadau'r UE yw'r ffordd gywir ymlaen, ond rwyf i'n rhannu llawer o'r pryderon, yn enwedig y pryderon y mynegodd Cadeirydd y pwyllgor newid hinsawdd, ynghylch lefel yr uchelgais yn y fan yma, yn enwedig o ran y terfyn uchaf ar allyriadau a chwmpas y cynllun. Mae Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd, fel yr ydym ni wedi clywed, yn dweud wrthym ni fod y cynigion yn anghyson â'n huchelgeisiau sero net. Ac eto, dyma ni heddiw, yn symud ymlaen beth bynnag, yn cymeradwyo hyn, o bosibl, yn ystod wythnos yr hinsawdd, o bob wythnos—pa mor eironig yw hynny?

Nawr, rwy'n sylweddoli nad bai Llywodraeth Cymru yw hyn i gyd; mae'n fwy o adlewyrchiad o'r ffordd draed moch y mae Llywodraeth y DU yn ymdrin â'i pharatoadau ar gyfer diwedd y cyfnod pontio. Ond mae hyn yn cael ei ruthro drwodd. Mae'n cael ei ddwyn ger ein bron mewn modd tameidiog. Ac, wrth gwrs, fel yr ydym ni wedi clywed, mae'n debygol iawn na fydd cynllun masnachu allyriadau beth bynnag, oherwydd bod Llywodraeth y DU erbyn hyn yn awgrymu mai'r dewis y maen nhw'n ei ffafrio yw treth allyriadau carbon. Felly, gallai hyn i gyd fod yn ddi-werth ymhen ychydig wythnosau. Ac, wyddoch chi, er ein bod ni'n cefnogi egwyddor cynllun masnachu allyriadau cysylltiedig, mae hyn mewn gwirionedd yn cynrychioli popeth sy'n anghywir am y broses, ar lefel rynglywodraethol, yn sicr, ond ar lefel y Senedd hefyd. Nid yw'n ddelfrydol; dadl 15 munud yw hon, ac, wrth gwrs, y mae wedi ei chyflwyno cyn i'r pwyllgor newid hinsawdd gael cyfle i ystyried a chwblhau ei drafodaethau ar y mater. Felly, mae'n destun rhwystredigaeth, ac mae arnaf ofn nad oes dewis gan Blaid Cymru ond ymatal.

18:40

Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ymateb i'r ddadl—Lesley Griffiths.

Diolch, Llywydd. Diolch i'r Aelodau am eu cyfraniadau at y ddadl. Fel y gwnes i ddisgrifio yn gynharach, bydd cynllun masnachu allyriadau'r DU yn bolisi eithriadol o bwysig os yw Cymru am sicrhau sylfaen ddiwydiannol lwyddiannus a di-garbon yn y dyfodol. Rwyf i'n amlwg yn ymwybodol o'r pryderon ynghylch lefel gychwynnol y terfyn uchaf a chwmpas y diwydiannau sydd i'w cynnwys. Rwy'n credu ei bod yn bwysig gwneud y pwynt y bydd gosod y terfyn uchaf a'r taflwybr yn broses dau gam. Felly, mae lefel gychwynnol y terfyn uchaf eisoes yn fwy uchelgeisiol na phe byddem ni wedi aros yn system yr UE, a byddaf i'n cael rhagor o gyngor gan Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd ym mis Rhagfyr. Byddaf i hefyd yn gweithio gyda fy nghymheiriaid yn Llywodraethau eraill y DU i ymgynghori ar ddiwygiadau i'r terfyn, ac, yn sicr, y pwynt a gododd Mick Antoniw ynghylch sut y mae pwyllgorau yn cyflawni eu swyddogaeth graffu—mae hynny'n rhywbeth y byddaf i'n ei drafod hefyd i weld sut y mae gwledydd eraill yn ymdrin â'r broses hon hefyd. Rwy'n ymwybodol iawn o'r pryderon y mae'r Aelodau wedi eu codi ynglŷn â'r swyddogaeth graffu.

Bydd estyniad i'r cwmpas yn cael ei ystyried yn ystod yr adolygiad cyntaf o'r system gyfan, a fydd yn dod i ben erbyn diwedd 2023, fel y crybwyllodd Mike Hedges, a'n nod yw bod y cynllun masnachu allyriadau cyntaf yn y byd i osod taflwybr sy'n gyson â'r llwybr tuag at sero net. Yn y cyfamser, mae'r cynllun presennol yn darparu cyfnod pontio esmwyth i fusnesau sy'n wynebu cryn ansicrwydd yn sgil ein hymadawiad â'r UE, ac mae hefyd yn hwyluso'r gallu i gysylltu â system yr UE, sef yr hyn yr ydym ni'n ei ffafrio yn gryf. Ac mae'n rhaid i mi ddweud ei fod yr hyn y mae'r pedair gwlad yn ei ffafrio yn gryf ar y lefel yr ydym ni'n ymdrin â hi, ar lefel weinidogol; hwn yw'r canlyniad gorau i bob parti. Ond, fel y cyfeiriodd yr Aelodau ato, yn anffodus, mae Llywodraeth y DU—adran wahanol yn Llywodraeth y DU i'r un yr wyf yn ymdrin â hi—wedi bwrw ymlaen â'r ymgynghoriad ynglŷn â'r dreth garbon. Ond rwyf i yn awyddus i sicrhau'r Aelodau fy mod i wedi ei gwneud yn glir iawn mai hwn yr ydym ni'n ei ffafrio, a'r gwledydd eraill hefyd yn yr un modd.

O ran y fframwaith ehangach, fel yr addewais i, byddaf i'n rhannu'r cytundeb fframwaith amlinellol dros dro a'r concordat â'r pwyllgorau perthnasol cyn gynted ag y byddan nhw ar gael. Yn ddelfrydol, bydden nhw wedi bod ar gael nid yn unig cyn y ddadl heddiw, ond cyn y craffu gan bwyllgorau ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth. Fodd bynnag, mae'r dogfennau, yn anffodus, yn dal i fod yn y broses glirio. Fel y cyfeiriodd Mike Hedges ato, mae hyn y tu hwnt i fy rheolaeth i. Mae'r prif benderfyniadau polisi ar gyfer sefydlu'r cynllun wedi eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth. Ni fyddwn yn gwneud unrhyw benderfyniadau polisi sylweddol eraill ar y cynllun masnachu allyriadau nes bod pob un o'r pedair deddfwrfa wedi craffu ar y cytundeb fframwaith amlinellol a'r concordat a'u cwblhau. Mae'n bwysig cytuno ar y Gorchymyn a'i ddwyn i'r Cyfrin Gyngor er mwyn sefydlu cynllun masnachu allyriadau'r DU ar 1 Ionawr 2021. Felly, y tro hwn, gofynnaf i'r Aelodau gytuno ar y Gorchymyn cyn craffu ar y dogfennau fframwaith ehangach cysylltiedig. Diolch.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n gweld gwrthwynebiad, ac felly dwi'n gohirio'r bleidlais ar y cynnig yna tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

14. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Ardrethu Annomestig (Toiledau Cyhoeddus)
15. Memorandwm Cydsyniad Offeryn Statudol, Rheoliadau Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd (Addasiadau Canlyniadol) (Ymadael â'r UE) 2020
16. Dadl: Ail Adroddiad Blynyddol Llywydd Tribiwnlysoedd Cymru

Mae eitemau 14, 15 ac 16 wedi'u tynnu nôl neu eu gohirio, ac felly, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14D, bydd yna bum munud o egwyl nawr cyn ein bod ni'n cychwyn y cyfnod pleidleisio. Pum munud o egwyl, felly.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:44.

18:50

Ailymgynullodd y Senedd am 18:51, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

17. Cyfnod Pleidleisio

Dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf ar y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 37, neb yn ymatal, 17 yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig wedi ei gymeradwyo.

Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 3) (Cymru) 2020: O blaid: 37, Yn erbyn: 17, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar y Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 44, wyth yn ymatal, dau yn erbyn. Ac felly mae'r cynnig wedi ei gymeradwyo.

Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020: O blaid: 44, Yn erbyn: 2, Ymatal: 8

Derbyniwyd y cynnig

Dyna ni'n cyrraedd diwedd y cyfnod pleidleisio a diwedd ein trafodaethau ni am y prynhawn. Diolch yn fawr.

Daeth y cyfarfod i ben am 18:53.