Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
30/09/2020Cynnwys
Contents
Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.
Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Jest nodi ychydig o bwyntiau, cyn cychwyn: cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Bydd yr holl Aelodau sy'n cymryd rhan yn nhrafodion y Senedd, ble bynnag y bônt, yn cael eu trin yn gyfartal. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rhain wedi'u nodi ar eich agenda chi. A dwi eisiau atgoffa Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod, ac yr un mor berthnasol i Aelodau yn y Siambr ag ydyn nhw i'r rhai sy'n ymuno drwy gyswllt fideo.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynawn yma, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Addysg, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Suzy Davies.
1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynt yr adolygiad annibynnol o'r trefniadau ar gyfer dyfarnu graddau yn haf 2020, a'r ystyriaethau ar gyfer haf 2021? OQ55603
Diolch, Suzy. Ar hyn o bryd, mae'r panel adolygu'n casglu tystiolaeth ac yn cyfweld â rhanddeiliaid. Byddaf yn derbyn y casgliadau interim, a fydd yn cynnwys ystyriaethau allweddol ar gyfer 2021, fis nesaf.
Diolch. Rwyf ond yn codi'r pwynt na chysylltwyd â rhai yn y sector tan yr wythnos hon, er gwaethaf casgliadau’r adolygiad, sydd i fod i gael eu cyhoeddi erbyn diwedd mis Hydref, felly nid wyf yn siŵr pryd y mae'r un interim i fod i gael ei gyhoeddi. Mae'r hyn a ddywedant yn bwysig os yw’r paratoadau ar gyfer yr haf yn mynd i fod yn ymarferol. Mae grŵp rhanddeiliaid haf 2021 Cymwysterau Cymru i fod i gyfarfod rhwng nawr a mis Rhagfyr. Felly, a allech ddweud wrthym sut y bydd y gwaith hwnnw a gwaith yr adolygiad yn cysylltu â'i gilydd? A pha bryd y bydd ysgolion a cholegau yn gwybod beth yn union fydd angen iddynt ei addysgu a sut yr asesir gwaith disgyblion? Oherwydd ni fydd gwaith Cymwysterau Cymru ar ben tan un rhan o dair o’r ffordd drwy'r flwyddyn academaidd.
Diolch, Suzy. Bydd yr adroddiad interim gan y corff adolygu ar gael i mi fis nesaf, a bydd eu hadolygiad terfynol yn cael ei roi i mi cyn diwedd y flwyddyn. Yn amlwg, yn y cyfamser, mae Cymwysterau Cymru yn gwneud eu gwaith eu hunain yn wir, ond maent eisoes wedi rhoi tystiolaeth i'r panel adolygu, rwy'n credu, a bydd angen iddynt fod yn ymwybodol o unrhyw gasgliadau a roddir i mi gan y panel adolygu annibynnol ac unrhyw benderfyniadau a wnaf o ganlyniad i waith Louise Casella.
Weinidog, fe wyddoch fy mod wedi ysgrifennu atoch ym mis Awst i ofyn am adolygu'r system, yn dilyn cyhoeddi'r canlyniadau, ac rwy'n falch iawn fod yr adolygiad yn mynd rhagddo. Ond rwy'n poeni am arholiadau, neu arholiadau posibl, yr haf nesaf. Ar hyn o bryd, nid ydym yn gwybod beth fydd yn digwydd yr haf nesaf. Ond gwn hefyd fod llawer o athrawon a disgyblion yn poeni beth fydd yn digwydd gydag arholiadau’r haf nesaf. A ydych yn paratoi cynllun B, a allai fod yn seiliedig ar waith a aseswyd gan athrawon unwaith eto, ond y tro hwn, wedi'i gymedroli i sicrhau bod tegwch yn y system a bod pawb yn cael graddau sy'n gyfartal ac yn gyfwerth ledled Cymru?
Diolch, David. Rwy'n cydnabod bod ymarferwyr, rhieni a disgyblion yn poeni beth fydd yn digwydd yn y gyfres o arholiadau yr haf nesaf. Rwyf wedi dweud o'r blaen mai fy ngobaith diffuant yw y bydd arholiadau'n bosibl, ond yn amlwg, mae'n rhaid inni gael cynllun wrth gefn os byddwn mewn sefyllfa, am ba bynnag reswm, lle nad yw'n bosibl cynnal arholiadau. Fel y dywedais mewn ymateb i Suzy Davies, mae panel yr adolygiad interim nid yn unig yn ystyried y gyfres o arholiadau ar gyfer yr haf diwethaf, ond byddant yn gwneud argymhellion ar gyfer yr haf nesaf. Ac fel y dywedais, bydd yr adroddiad interim ar gael i mi ym mis Hydref.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddarparu addysg ôl-16 yn ddiogel yn ystod pandemig COVID-19? OQ55616
Diolch, Jayne. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau ar gyfer darparwyr addysg ôl-16 i'w helpu i weithredu'n ddiogel ar yr adeg hon. Mae’n rhaid i golegau a phrifysgolion gynnal asesiadau risg i sicrhau bod mesurau priodol yn cael eu rhoi ar waith i reoli'r risg o drosglwyddo COVID-19 yn eu sefydliadau.
Diolch, Weinidog. Mae sicrhau bod ein pobl ifanc yn gallu mynychu'r ysgol neu'r coleg yn gam calonogol, a gwn fod y Gweinidog ac athrawon ledled Cymru wedi gweithio'n anhygoel o galed i sicrhau bod hyn wedi digwydd, ac yn parhau i ddigwydd, hyd yn oed yn yr amgylchiadau anodd a newidiol a welwn. Fodd bynnag, mae un pryder a fynegwyd wrthyf gan athrawon a disgyblion yn ymwneud ag addysg ôl-16 mewn ysgolion. Mae'r bobl ifanc sydd yn yr ysgol yn fwy tebygol o weithio'n rhan-amser a chysylltu’n gymdeithasol â phobl y tu allan i'w hysgol. Fodd bynnag, mae'r canllawiau a’r rheolau cadw pellter cymdeithasol yr un fath â'r hyn ydynt ar gyfer plant 11 oed. Ceir canfyddiad fod dosbarthiadau chweched dosbarth yn cynnwys llai o ddisgyblion, ond mewn rhai pynciau, mewn rhai ysgolion, deallaf fod dros 30 o fyfyrwyr mewn dosbarth. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynglŷn â’r canllawiau ar gyfer myfyrwyr ôl-16 yng Nghymru, a beth a ddysgwyd, yn dilyn y mis cyntaf, a allai lywio cynlluniau ar gyfer y dyfodol?
Diolch yn fawr iawn, Jayne. Rydych yn llygad eich lle—mae gennym ddosbarthiadau chwech o bob lliw a llun, a gall maint dosbarthiadau amrywio'n sylweddol, ond mae'n wir, weithiau, mewn pynciau poblogaidd mewn ysgolion mawr, y gall dosbarthiadau chweched dosbarth gynnwys nifer o ddisgyblion. Rydym wedi dweud yn glir iawn yn ein canllawiau i ysgolion a cholegau y dylem geisio lleihau cysylltiadau rhwng grwpiau o fyfyrwyr ar yr adeg hon, ac mae'n bwysig iawn fod addysgwyr yn gallu cadw pellter cymdeithasol oddi wrth eu dosbarth.
Yn amlwg, rydym yn parhau i adolygu gweithrediad ysgolion a cholegau yn ofalus iawn, yn dilyn y mis cyntaf, mewn gwirionedd, o weithgarwch. Rwy'n falch o ddweud nad yw'r rhan fwyaf o ysgolion wedi cael achos, a lle rydym wedi cael achosion o COVID mewn disgyblion neu athrawon, achos unigol mewn un sefydliad ydyw fel arfer. Rydym wedi cael achosion yn ein colegau addysg bellach, ond rwy'n falch o ddweud, wrth weithio gyda thimau profi, olrhain a diogelu lleol, fod hynny wedi arwain at gyn lleied o darfu â phosibl ar ddysgu. Ond yn amlwg, rydym yn parhau i adolygu'r canllawiau i ysgolion a cholegau yn gyson o ganlyniad i'r profiadau dros y pedair wythnos ddiwethaf, ac rydym yn bwriadu adolygu’r canllawiau yng ngoleuni'r hyn rydym wedi'i ddysgu hyd yma. Yr hyn sy'n bwysig iawn i'w gofio yw mai'r cyngor hyd yn hyn gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yw nad oes unrhyw dystiolaeth fod ysgolion neu golegau'n fectorau ar gyfer lledaenu'r feirws, ac mae’r achosion a welsom mewn ysgolion yn adlewyrchiad o'r hyn a welwn yn ein cymunedau.
Weinidog, a gaf fi ofyn i chi pa gymorth ychwanegol sydd ar waith i ddysgwyr a chanddynt bobl hynod agored i berygl COVID yn eu cartrefi? Mae gennyf ddysgwr yn fy etholaeth a hoffai barhau gyda'i haddysg ôl-16, ond yn anffodus mae ei choleg lleol wedi dweud wrthi fod yn rhaid iddi fynychu safle'r coleg er mwyn dilyn pynciau Safon Uwch o'i dewis. O ganlyniad i hynny, ni all gymryd rhan mewn addysg ar hyn o bryd. A ydych wedi gallu rhoi cyngor i golegau fel y gallant oresgyn y rhwystr y mae rhai pobl ifanc bellach yn ei wynebu o ganlyniad i fod â brodyr a chwiorydd neu eraill yn eu teuluoedd a allai fod yn hynod agored i berygl?
Diolch, Darren. Rydym wedi cael trafodaethau rheolaidd gydag ysgolion a cholegau ynghylch pa addasiadau rhesymol y gellir eu gwneud i gefnogi myfyrwyr a allai fod yn agored iawn i niwed neu'n teimlo'n agored iawn i niwed ar hyn o bryd. Byddai'n bwysig i'r myfyriwr dan sylw gael trafodaeth gyda'i choleg, ond os hoffech ysgrifennu ataf, Darren, am yr achos penodol hwnnw, fe wnaf ymchwiliadau pellach.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, Suzy Davies.
Os gallech chi roi eich meicroffon ymlaen, Suzy Davies—iawn, dechreuwch eto.
Sori am hynny.
Ie, Weinidog, roeddwn yn gwrando ar eich ymateb i Jayne Bryant a'r sylw hwnnw nad yw ysgolion a cholegau yn fectorau ar gyfer lledaeniad COVID. Serch hynny, rydym wedi gweld niferoedd sylweddol yn cael eu hanfon adref o rai ysgolion—200 mewn un achos, dros 400 mewn un arall. Rydych yn dweud eich bod yn monitro'r hyn sy'n digwydd ar hyn o bryd, ond a ydych wedi dysgu unrhyw beth eto ynglŷn â pham yr ymddengys bod colegau addysg bellach yn gwneud yn well o ran sicrhau llai o addysg wyneb yn wyneb? Maent yn colli llai o fyfyrwyr nag ysgolion. Pam hynny?
Diolch, Suzy. Fel y dywedoch chi, rydym yn cadw mewn cysylltiad agos â'n hawdurdodau addysg lleol a'n cyfarwyddwyr addysg. Ac yn yr achos y sonioch chi amdano—400 o ddisgyblion yn gadael ysgol—rwyf wedi siarad â'r pennaeth yn yr amgylchiadau hynny i ddeall pam y cododd y sefyllfa honno. Fel y dywedais yn fy ymateb i Jayne Bryant, dyna pam ein bod yn dysgu gwersi'r pedair wythnos hyn, lle mae ysgolion wedi gweithio'n anhygoel o galed i roi’r canllawiau rydym wedi eu darparu iddynt ar waith. Ond yn amlwg, yng ngoleuni'r profiadau hynny, mae angen inni ddeall beth arall y gallwn ei wneud, sut y gallwn wella ein canllawiau mewn ysgolion, fel y gallant gyfyngu ar nifer y cysylltiadau uniongyrchol, a pha gymorth arall y gallwn ei roi i ysgolion drwy ein timau profi, olrhain a diogelu, er mwyn gallu eu helpu i wneud penderfyniadau i sicrhau y gall myfyrwyr aros yn yr ysgol yn ddiogel, a pheidio ag amharu ar eu haddysg, a pha fyfyrwyr, yn wir, fydd yn gorfod ynysu. Felly rydym yn awyddus i adolygu ein canllawiau, ac fel y dywedais, i weithio'n agos gyda'n cydweithwyr yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a’r timau profi, olrhain a diogelu i sicrhau bod y cyngor a roddir i benaethiaid cystal ag y mae angen iddo fod, a bod gennym gysondeb ar draws y timau profi, olrhain a diogelu yng Nghymru.
Diolch. Credaf y byddai'n ddefnyddiol hefyd pe bai colegau mewn ardal benodol yn barod i siarad â rhai o'r penaethiaid mewn ysgolion yn eu hardal ynglŷn â rhai o'r syniadau da y maent wedi'u cael.
Mae addysg bellach ac addysg uwch wedi derbyn dros £20 miliwn yr un o bot COVID Llywodraeth Cymru, er gwaethaf y bwlch cyllido a ragwelir o fwy na £400 miliwn ar gyfer addysg uwch. Nodwyd gennych yn nadl y Ceidwadwyr Cymreig yr wythnos diwethaf mai dyna un o'r rhesymau pam nad ydych yn cefnogi gostyngiad rhannol mewn ffioedd i fyfyrwyr sydd wedi colli peth o'r y profiad y maent wedi talu amdano. Ond fel y clywsom, mae rhai myfyrwyr yn gorfod aros yn eu hystafelloedd drud i fewngofnodi pan allent fod wedi gwneud hynny mewn amgylchedd mwy cyfarwydd a rhatach gartref—cartref y bydd llawer o fyfyrwyr yn ei adael am y tro cyntaf. Nid oes ceiniog o'r £27 miliwn ar gyfer addysg uwch wedi'i neilltuo ar gyfer cymorth i fyfyrwyr. Beth y mae prifysgolion yng Nghymru yn ei ddweud wrthych yn awr ynglŷn â faint o'r arian hwnnw sy'n cael ei ddarparu ar gyfer cymorth annisgwyl a chymorth emosiynol a lles meddyliol amserol i fyfyrwyr, ac a fyddant yn gofyn i chi ychwanegu at y £27 miliwn oherwydd hynny?
Suzy, fe fyddwch yn ymwybodol y bydd y £27 miliwn o arian ychwanegol rydym wedi'i roi i Gyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn cael ei ddarparu i'n sefydliadau gan y cyngor cyllido. Cyfarfûm â chadeirydd a phrif weithredwr ein cyngor cyllido ddoe ddiwethaf. Ac yn fy llythyr cylch gwaith atynt, mae cymorth iechyd meddwl ac emosiynol i fyfyrwyr yn flaenoriaeth i mi, a byddwn yn disgwyl i beth o'r £27 miliwn hwnnw gael ei ddefnyddio i gynorthwyo prifysgolion i ddarparu cymorth iechyd meddwl a lles cadarn i fyfyrwyr ar yr adeg hon, a hefyd, o bosibl, i ddefnyddio peth o'r cyllid hwnnw i sicrhau bod y trallod ariannol y gallai rhai myfyrwyr ei wynebu hefyd yn cael ei ystyried. Yn amlwg, mae gan fyfyrwyr o Gymru sy'n byw yng Nghymru ac sy'n astudio—wel, ble bynnag y maent yn astudio—hawl i'n rhaglen gymorth. Ond rwy'n cydnabod y byddai llawer o fyfyrwyr fel arfer yn ychwanegu at eu hincwm drwy swyddi rhan-amser, a allai fod yn anoddach i’w cael ar yr adeg hon. Felly, mae cymorth ariannol a chymorth iechyd meddwl yn flaenoriaeth i mi, ac yn flaenoriaeth i'r cyngor cyllido, ac rydym yn aros am gynigion gan sefydliadau Cymru i'r pot hwnnw o arian, er mwyn sicrhau bod y cymorth hwnnw ar gael.
Diolch. Mae honno’n neges dda a chryf i brifysgolion, felly rwy'n sicr yn gobeithio eu bod yn ei chlywed, oherwydd ar ryw adeg, wrth gwrs, byddwn yn craffu arnoch mewn perthynas â gwariant y £27 miliwn hwnnw, ac rwy'n siŵr y byddwch am gael y sicrwydd hwnnw yn yr adroddiadau a gewch yn ôl gan brifysgolion maes o law.
Ar fater cysylltiedig—fe fyddwch yn ymwybodol o hyn—mynegwyd pryderon wrthyf, yn fy rhanbarth ac mewn mannau eraill, yn ymwneud â dryswch ynglŷn â myfyrwyr sy'n byw mewn tai amlfeddiannaeth mawr, oddi ar y campws. Nawr, mae peth eiddo yn amlwg yn aelwydydd un person mewn un adeilad, ond gall eraill ddweud yn gwbl onest eu bod yn un cartref dilys o ffrindiau, a’u bod yn rhannu'r holl gyfleusterau a'r costau fel teulu. Bydd hyn yn effeithio ar sut y gall deiliaid yr adeiladau hynny ymateb i gyfyngiadau symud, ac mae’n sicr fod gan y rhai yn y sefyllfa ddiwethaf fantais. Rwy'n derbyn bod hyn yn berthnasol i bobl nad ydynt yn fyfyrwyr hefyd. Ond a allwch ddweud wrthym pa mor bell y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd o ran caniatáu i fyfyrwyr unigol gael cartref estynedig cyfyngedig er lles eu hiechyd meddwl? Ac yn fwy cyffredinol, pa bryderon rydych wedi eu dwyn i sylw'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynglŷn â dealltwriaeth myfyrwyr ynghylch beth yw ystyr aelwyd estynedig, gan gofio bod gan bob un ohonynt eu teuluoedd eu hunain, a allai fod yn fwy na pharod i dderbyn eu plentyn eu hunain mewn swigen ond nid aelwyd gyfan o ffrindiau?
Diolch yn fawr. A gaf fi hysbysu'r Aelod nad oddi wrth sefydliadau unigol na'r cyngor cyllido yn unig rwy'n ceisio sicrwydd ynglŷn â lefelau’r cymorth y mae sefydliadau yn ei roi tuag at iechyd meddwl? Cyfarfûm yr wythnos hon ag Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru i ddeall ganddynt sut y mae eu haelodau'n teimlo. Byddaf yn cyfarfod â hwy eto yr wythnos nesaf, a byddaf yn parhau i gyfarfod â hwy yn wythnosol er mwyn imi allu cael adroddiadau ganddynt ynglŷn â sut y mae eu haelodau'n teimlo. Felly, mae llawer o wirio a chydbwyso ynghlwm wrth sut rydym yn deall yr hyn sy'n digwydd ar lawr gwlad.
Credaf ei bod yn bwysig iawn, Suzy, ein bod yn nodi'n glir na fydd myfyrwyr yn cael eu trin mewn ffordd lai ffafriol na thrigolion parhaol Cymru. Cymru yw eu cartref bellach. Ein disgwyliad yw eu bod yn cadw at reoliadau a chanllawiau Cymru, ond yn sicr, ni fyddwn yn rhoi cyfyngiadau ychwanegol ar waith. Yn wir, mewn rhai achosion, gan gydnabod rhai o'r heriau sydd ynghlwm wrth ddarpariaethau llety i fyfyrwyr—ar y campws ac oddi ar y campws—mae'r gallu i rannu cyfleusterau wedi'i wneud yn eithriad i rai o'r materion sydd ynghlwm wrth aelwydydd un person. Ond yn amlwg, byddwn yn parhau i weithio gyda'r Gweinidog tai i sicrhau bod y myfyrwyr y gellid eu disgrifio fel aelwydydd un person yn cael yr un ystyriaeth wrth edrych ar y materion ehangach sy'n gysylltiedig ag unigolion sy’n byw ar eu pen eu hunain yn ystod y pandemig—rhai a allai fod yn agored i niwed, rhai nad ydynt yn agored i niwed. Ond mae angen y cyswllt dynol hwnnw ar bob un ohonom, ac fel Llywodraeth, rydym yn ceisio dod o hyd i ffyrdd o ganiatáu i hynny ddigwydd yn ddiogel, gan gydnabod y gall cyfnodau o ynysu i'r rheini sy'n byw ar eu pen eu hunain fod yn arbennig o heriol.
Llefarydd ar ran Plaid Cymru nawr. Helen Mary Jones.
Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Ddoe, Weinidog, dywedodd y Prif Weinidog mewn ymateb i gwestiwn gan Adam Price ynglŷn â myfyrwyr yn dychwelyd adref dros y Nadolig na fyddai’n trin myfyrwyr yn wahanol i unrhyw un arall. Nawr, rwy'n falch iawn o glywed yr hyn rydych newydd ei ddweud wrth Suzy Davies—na fyddwch yn eu trin yn llai ffafriol—ond byddwn yn awgrymu i'r Llywodraeth fod hwn yn grŵp unigryw iawn o ddinasyddion. Ni all fod llawer o grwpiau eraill o ddinasyddion a fydd yn symud mewn niferoedd mor fawr o un gymuned i'r llall ar adegau penodol.
Os bydd myfyriwr mewn sefyllfa lle byddant mewn prifysgol o dan gyfyngiadau symud dros y Nadolig, a yw hynny'n golygu na allant fynd adref? Mae popeth rydych newydd ei ddweud wrth Suzy Davies am les myfyrwyr a'u llesiant meddyliol ac emosiynol yn galonogol iawn, ond byddwn yn awgrymu i'r Llywodraeth fod angen trin myfyrwyr yn wahanol, ac efallai mai'r hyn sydd ei angen arnom yw system lle gellir profi pob myfyriwr cyn iddynt ddychwelyd adref ar gyfer y Nadolig, fel y gallent ynysu’n gymdeithasol ar ôl cyrraedd adref, os mai dyna fydd angen iddynt ei wneud—os cânt brawf positif. Fel arall, byddwn yn wynebu'r posibilrwydd o grwpiau o bobl ifanc neu bobl ifanc ar eu pen eu hunain dros wyliau'r Nadolig, a gwn na fyddech am weld hynny fwy nag y byddwn i.
Diolch, Helen Mary. Hoffwn roi sicrwydd i’r Siambr, ac yn wir, hoffwn roi sicrwydd i fyfyrwyr a rhieni fod sicrhau y bydd myfyrwyr sy’n preswylio ac yn astudio ym mhrifysgolion Cymru yn gallu dychwelyd adref ar gyfer y Nadolig yn flaenoriaeth i mi, ac yn flaenoriaeth i’r Llywodraeth hon. Dywedaf hynny fel Gweinidog, a dywedaf hynny fel mam sydd newydd anfon fy merch hynaf i’r brifysgol nos Sul. Credwch fi, efallai fod ganddi ei barn ei hun ynglŷn â dod adref ar gyfer y Nadolig, ond rwy’n hynod o awyddus iddi fod gartref gyda mi dros y Nadolig.
Felly, byddwn yn gweithio gyda'n Gweinidog iechyd, yn gweithio gyda'n sefydliadau unigol, ac yn wir, yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau y gellir rhoi'r amgylchiadau ar waith i ganiatáu i hynny ddigwydd. Mae SAGE, yn eu cyngor i Lywodraeth y DU, wedi dweud yn glir iawn fod angen mynd i’r afael â hyn ledled y DU gyfan oherwydd llif y myfyrwyr ar draws ein ffiniau. Bydd myfyrwyr unigol yn dymuno croesi ffiniau siroedd a gwledydd, felly mae angen i Lywodraethau weithio gyda'i gilydd i greu'r amgylchiadau a fydd yn caniatáu i hynny ddigwydd. Trafodais y mater hwn gyda’r Gweinidog prifysgolion yn Llywodraeth y DU ddoe. Byddaf yn ei drafod eto yfory gyda Gavin Williamson, ac rydym yn benderfynol o sicrhau y bydd myfyrwyr yn gallu dychwelyd adref pan fyddant yn dymuno gwneud hynny. Ond yn amlwg, mae angen inni roi'r amgylchiadau ar waith er mwyn iddynt allu gwneud hynny'n ddiogel.
Diolch, Weinidog. Felly, rydych yn dweud wrth y Siambr heddiw y byddwch yn trin myfyrwyr, o bosibl, yn wahanol i grwpiau eraill o bobl. Os yw hynny'n wir, rwy'n falch iawn o'i glywed. Rwy’n llwyr gefnogi eich pwynt ynglŷn â cheisio datblygu ymateb i hyn ar sail y DU gyfan, oherwydd yn amlwg, mae gennym gryn dipyn o lif trawsffiniol. Fodd bynnag, os bydd Llywodraeth y DU, gan weithredu fel Llywodraeth Lloegr, yn methu rhoi trefn ar eu hunain mewn perthynas â hyn, rwy'n dweud wrthych fy mod yn gobeithio y bydd cynllun B gan Lywodraeth Cymru.
Os caf droi, felly, at fyfyrwyr sydd yn y brifysgol ar hyn o bryd ond nad ydynt yn cael unrhyw addysgu wyneb yn wyneb neu ond ychydig o addysg wyneb yn wyneb, bydd rhai o'r myfyrwyr hynny'n dymuno dychwelyd adref a dysgu o bell oddi yno. Beth yw barn y Llywodraeth ar hynny ar hyn o bryd? Er enghraifft, os ydych, gadewch inni ddweud, yn fyfyriwr yn Aberystwyth a bod eich cartref yn RhCT, a oes gan y cyfryw fyfyriwr hawl i ddod o Aberystwyth i RhCT i astudio am gyfnod o wythnosau os ydynt yn teimlo bod angen iddynt wneud hynny, ac a oes ganddynt hawl wedyn i ddychwelyd i'r brifysgol pan fydd modd i ddysgu cyfunol a dysgu wyneb yn wyneb ailgychwyn? Credaf ei bod yn sefyllfa eithaf cymhleth i fyfyrwyr, a chredaf y byddent yn gwerthfawrogi mwy o eglurder.
Tybed a allwch roi syniad inni hefyd y prynhawn yma, Weinidog, gan y gwn y bydd eich bys ar y pwls mewn perthynas â hyn, faint o ddysgu cyfunol sy'n mynd rhagddo, faint o ddysgu wyneb yn wyneb y mae myfyrwyr yn ei wneud. Fel y gwyddoch, nid wyf yn cefnogi safbwynt y Ceidwadwyr sy’n awyddus i weld ffioedd yn cael eu had-dalu i fyfyrwyr, gan nad wyf yn credu y gall ein sefydliadau fforddio hynny, ond os yw myfyrwyr yn cael fawr iawn o addysg wyneb yn wyneb, os o gwbl, rwy'n credu y dylid caniatáu iddynt fynd adref i fod gyda’u teuluoedd, os gallwn wneud hynny’n ddiogel, er mwyn iddynt gael y cymorth emosiynol hwnnw. Bydd llawer ohonynt, yn enwedig myfyrwyr ar eu blwyddyn gyntaf wrth gwrs, yn hunanynysu gyda phobl nad ydynt erioed wedi cyfarfod â hwy o'r blaen o bosibl, ac nid yw hwnnw'n lle hapus i unigolyn 18 oed fod.
Yn gyntaf, o ran atal dysgu wyneb yn wyneb yn Aberystwyth, gwnaed y penderfyniad hwnnw yn hwyr nos Sul; bydd yn cael ei adolygu ddydd Gwener a gwn fod y brifysgol yn gobeithio gallu newid yn ôl i ddull dysgu cyfunol. Bydd cipolwg ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos i chi fod ein sefydliadau ledled Cymru eisoes yn darparu dull dysgu cyfunol, boed yn fyfyrwyr meddygol sydd yn ôl yn dysgu wyneb yn wyneb ym Mhrifysgol Caerdydd, neu fyfyrwyr peirianneg ym mhrifysgol y Drindod Dewi Sant, neu fyfyrwyr hanes yn Abertawe, neu'n wir, rhywbeth sydd o ddiddordeb arbennig i mi, ein haddysg gychwynnol i athrawon, ein myfyrwyr addysg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd, sydd allan yn dysgu yn yr awyr agored fel rhan o'u cyfnod sefydlu yn y brifysgol ac yn datblygu eu sgiliau'n darparu gweithgareddau dysgu awyr agored. Felly, mae prifysgolion yn gweithio'n anhygoel o galed i ddarparu’r dull dysgu cyfunol hwnnw.
Yr hyn sy'n bwysig iawn i mi, Helen Mary, ac rwy'n siŵr ei fod yn bwysig i chithau, yw bod angen iddo fod yn brofiad o safon. Mae’n rhaid i ddarlithoedd a ddarperir ar-lein fod yn ddarlithoedd da ac yn brofiadau da, yn ogystal â'r cyswllt wyneb yn wyneb hwnnw. Dyna pam fy mod wedi cael sicrwydd gan CCAUC ddoe y byddant yn monitro ansawdd y dull dysgu cyfunol yn ofalus iawn. A gadewch imi ddweud, nid yng nghyd-destun dysgu yn unig y mae dysgu cyfunol a chyswllt wyneb yn wyneb yn bwysig. Mae'n rhan bwysig o sut y gall prifysgolion gadw llygad ar les eu myfyrwyr, drwy gael cyfle i'w gweld wyneb yn wyneb, a gwn fod llawer iawn o amser, ymdrech ac adnoddau wedi’u rhoi, er enghraifft, i ehangu ystadau prifysgolion a chreu mwy o le i ganiatáu i hynny ddigwydd yn ddiogel. Felly, er enghraifft, yn achos Aberystwyth, maent wedi ailgomisiynu adeiladau nad oeddent yn cael eu defnyddio mwyach fel y gallant ddarparu'r cyswllt wyneb yn wyneb hwnnw mewn grwpiau tiwtorial bach, a gwn eu bod yn awyddus i barhau i wneud hynny cyn gynted â phosibl.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth i ddysgwyr sy'n derbyn eu haddysg yn y cartref yng Nghymru? OQ55597
Rwyf wedi dyrannu £400,000 o gyllid i awdurdodau lleol eleni i roi cymorth i deuluoedd sy'n darparu addysg yn y cartref, gan gydnabod y costau ychwanegol y gallai'r teuluoedd hyn eu hwynebu wrth ddarparu adnoddau a chyfleoedd sydd fel arfer ar gael am ddim yn yr ysgol. Mae'r ddarpariaeth hon o gyllid yn unigryw i Gymru.
Rwy'n ddiolchgar iawn am eich ymateb, Weinidog, ac yn ddiolchgar iawn am yr arian sydd ar gael i bobl ifanc sy'n derbyn eu haddysg yn y cartref. Un o'r heriau y mae llawer o'r rheini sy’n derbyn eu haddysg yn y cartref wedi eu hwynebu dros y cyfnod arholi diwethaf, yn amlwg, yw nad ydynt mewn canolfannau lle gallai graddau fod wedi cael eu rhoi iddynt, ac o ganlyniad, mae llawer yn gorfod wynebu'r posibilrwydd o arholiadau y flwyddyn nesaf. A allwch ddweud wrthym pa sicrwydd y gallwch ei roi i rieni dysgwyr sy'n derbyn eu haddysg gartref y byddant yn cael cyfle i sefyll eu harholiadau y flwyddyn nesaf, fel na fydd yn rhaid iddynt fod ar eu colled o gymharu â'u cyfoedion o ran gallu cael y graddau y credant y dylent fod wedi'u cael eleni?
Diolch, Darren, am gydnabod yr adnoddau ariannol sydd wedi’u darparu. Fel y dywedais wrth ateb cwestiynau cynharach, fy ngobaith yw y bydd modd cynnal arholiadau y flwyddyn nesaf. Fodd bynnag, gwyddom fod y feirws hwn a'r pandemig yn anrhagweladwy, felly mae angen inni gael darpariaeth arall ar waith, a bydd angen inni sicrhau y tro hwn—gan fod gennym fwy o amser i gynllunio—fod anghenion penodol plant nad ydynt yn gysylltiedig â chanolfan benodol yn cael cyfle i gael gradd. Felly, gwn fod hyn dan ystyriaeth ar hyn o bryd.
Weinidog, gall addysg yn y cartref fod yn ddewis gwybodus a chadarnhaol i deuluoedd a phlant, felly mae'r cyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i’w groesawu’n fawr. Ond ym mis Mehefin, fe gyhoeddoch chi, yn sgil pwysau ymateb i argyfwng COVID, na fyddai modd bwrw ymlaen â'r cynigion a nodwyd yn yr ymgynghoriad ar ganllawiau statudol ar gyfer addysg yn y cartref a rheoliadau drafft y gronfa ddata addysg. Fe ysgrifennoch chi at sefydliad Diogelu Addysg yn y Cartref Cymru i’w darbwyllo eich bod yn gobeithio y byddai’r Llywodraeth nesaf yn bwrw ymlaen â hwy ar y cyfle cyntaf, ac y byddai cynigion newydd neu ddiwygiedig yn destun ymgynghoriad cyhoeddus. Felly, a gaf fi ofyn, Weinidog, a fyddai'r ymgynghoriad hwnnw hefyd yn ystyried unrhyw sylwadau pellach gan Gomisiynydd Plant Cymru neu gan sefydliadau plant a diogelu ar sut y gall y cynigion hyn—gan gydnabod eu bod yn canolbwyntio'n bennaf ar gymorth addysgol—gynorthwyo gwaith diogelu plant yng Nghymru yn ogystal?
Huw, gallaf roi'r sicrwydd i chi y bydd unrhyw ymgynghoriad pellach ar y cynigion hyn yn ystyried barn pob un a chanddynt rywbeth y maent yn teimlo y gallant ei gyfrannu. Mae'n siomedig ein bod mewn sefyllfa lle na allwn fwrw ymlaen yn y ffordd roeddwn wedi bwriadu; mae'n anffodus iawn. Ond er gwaethaf yr anallu ar hyn o bryd, oherwydd pwysau COVID, i fwrw ymlaen â deddfwriaeth newydd, dylwn bwysleisio bod awdurdodau addysg lleol yn dal i fod dan rwymedigaeth gyfreithiol i sicrhau bod pob plentyn yn cael addysg addas, ni waeth ble y darperir yr addysg honno, ac nid yw hynny wedi newid. Fe gyhoeddwyd canllawiau gennym i awdurdodau lleol yn gynharach eleni ynglŷn â sut y gallent barhau i gyflawni'r swyddogaeth honno a chefnogi teuluoedd sy'n darparu addysg yn y cartref yn ystod y pandemig, ac rydym yn awyddus i rannu arferion da ar draws awdurdodau lleol yn hynny o beth, er mwyn sicrhau, lle gall gwelliannau ddigwydd, a lle mae angen iddynt ddigwydd, fod enghreifftiau i’w cael o sut y gellir cyflawni hynny.
4. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i gefnogi iechyd meddwl myfyrwyr addysg uwch yng Nghymru? OQ55617
Rwyf wedi nodi y dylai cylch gwaith CCAUC gynnwys gweithio gyda phartneriaid yn y sector addysg uwch i fynd i'r afael ag iechyd meddwl a lles myfyrwyr. Er mwyn cefnogi'r gwaith hwn, dyrannais £3.5 miliwn i CCAUC y llynedd i gefnogi iechyd a lles mewn addysg uwch, gan gynnwys iechyd meddwl myfyrwyr.
Diolch, Weinidog. Gwn eich bod yn ymwybodol iawn fy mod yn rhannu’r pryderon a godwyd gan Aelodau eraill ynghylch iechyd meddwl myfyrwyr addysg uwch ar yr adeg anodd hon, a hefyd fod y pwyllgor wedi ysgrifennu at bob is-ganghellor yng Nghymru i ofyn am sicrwydd ynghylch cymorth i fyfyrwyr. Ond yr hyn roeddwn am ofyn amdano’n benodol heddiw oedd atal hunanladdiad. Roeddwn yn ddiolchgar iawn i chi am gyfarfod â mi a James Murray, y bu farw ei fab Ben mewn amgylchiadau trasig drwy hunanladdiad ym mhrifysgol Bryste ddwy flynedd yn ôl. A gaf fi ofyn, yn dilyn y cyfarfod hwnnw, pa ddiweddariad sydd i’w gael o ran annog prifysgolion i ymgorffori canllawiau rhagorol Papyrus, 'Suicide-safer Universities’, yn eu gwaith? Diolch.
Diolch am eich cwestiwn, Lynne, a diolch hefyd am y cyfle i gyfarfod â chi a Mr Murray, ac roedd ei dystiolaeth yn bwerus iawn. Amlinellodd yn glir iawn y camau y gall pob sefydliad eu cymryd i sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl i bobl ifanc. Fel y gwyddoch, gwneuthum ymrwymiad yn y cyfarfod hwnnw y byddem yn mynd i’r afael â mater cyngor Papyrus, i weld pa gamau roedd prifysgolion yn eu cymryd i weithredu'r cyngor hwnnw. Hoffwn sicrhau pob Aelod ein bod wedi gofyn i bob prifysgol baratoi cynlluniau COVID cyn dechrau'r flwyddyn academaidd, ac un o'r cwestiynau roeddem yn eu gofyn yn y cynlluniau hynny yw pa gamau y byddant yn eu cymryd i gefnogi iechyd meddwl ar yr adeg hon. Felly, er bod COVID yn peri heriau newydd, mae'n agwedd arbennig o bwysig ar waith prifysgolion ar hyn o bryd, gan gydnabod y gallai pobl deimlo’n fwy agored i niwed ac yn fwy ynysig, a wynebu pryderon yn ychwanegol at yr hyn y byddem fel arfer yn ei weld ar ddechrau’r flwyddyn academaidd. Byddwn yn parhau i fonitro eu cynnydd drwy'r cyngor cyllido, ac yn wir, drwy fy nghyfarfodydd rheolaidd ag Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr Cymru.
Weinidog, mewn cwestiynau cynharach, fe ddywedoch chi fod yn rhaid i hwn fod yn ddull DU gyfan o sicrhau bod myfyrwyr yn cyrraedd adref ar gyfer y Nadolig, a byddwn yn cytuno ar y sail honno, o ystyried y llif trawsffiniol sy'n digwydd gyda myfyrwyr. Fe wnaeth y Gweinidog addysg—yr Ysgrifennydd Gwladol dros Addysg, dylwn ddweud, mae'n ddrwg gennyf, yn Llundain, ddweud wrth Dŷ'r Cyffredin ddoe y gallai weld y bydd amser darlithoedd a thiwtorialau wyneb yn wyneb yn cael eu hatal yn ffurfiol, ac y byddai popeth yn symud ar-lein fel y gallai myfyrwyr ynysu am bythefnos cyn iddynt adael eu prifysgolion i fynd adref cyn y Nadolig. A yw hwnnw'n gam gweithredu rydych yn cytuno ag ef?
Andrew, fel y dywedwch, mae'n bwysig fod gennym ddull ar gyfer y DU gyfan, os oes modd; dyna sydd wedi'i argymell gan SAGE. Ac fel y dywedoch chi, ceir llif trawsffiniol sylweddol o fyfyrwyr—myfyrwyr o Gymru i mewn i Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, a’r ffordd arall, ac felly dull cydgysylltiedig sydd orau yn fy marn i. Byddaf yn trafod ystod o opsiynau gyda Gavin Williamson pan fyddaf yn cyfarfod ag ef yn ddiweddarach yr wythnos hon.
5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i sicrhau nad yw addysg plant a phobl ifanc yn cael ei tharfu arni yn ystod y chwe mis nesaf? OQ55604
Cyhoeddais ganllawiau dysgu yn yr haf a oedd yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer pob senario, gan gynnwys dysgu cyfunol. Rwyf hefyd wedi cyhoeddi rhaglen Recriwtio, Adfer a Chodi Safonau a chymorth ychwanegol i fyfyrwyr Safon Uwch, ac rwyf wedi addasu gofynion y cwricwlwm i leddfu’r pwysau ar ysgolion.
Diolch, Weinidog. Yn anffodus, yn ystod yr wythnosau diwethaf, rydym wedi darganfod pa mor anodd yw cadw rheolaeth ar y coronafeirws. Yn anffodus, mae rhagor o achosion yn y dyfodol yn anochel. Yr hyn y bydd yn rhaid inni ei wneud yw sicrhau nad yw'r achosion hynny'n tarfu ar un diwrnod o addysg. Weinidog, rydym wedi gweld grwpiau blwyddyn cyfan yn cael eu hanfon adref o ganlyniad i heintiau, ac er ein bod yn gwneud popeth a allwn i atal yr heintiau ac i atal camau o'r fath rhag bod yn angenrheidiol, mae'n rhaid inni hefyd baratoi ar gyfer y gwaethaf. Weinidog, pa gamau y gallwch eu cymryd i sicrhau trosglwyddiad di-dor o ddysgu wyneb yn wyneb i ddysgu ar-lein, ac a wnewch chi sicrhau bod ysgolion yn barod i ddarparu dosbarthiadau rhithwir yn hytrach na bod y dysgwyr yn dysgu ar eu cyflymder eu hunain?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn atodol? Er ein bod wedi gweld tarfu ar addysg y tymor hwn, a gaf fi ddweud yn gwbl glir wrth yr Aelod nad oes 1,299 o’r ysgolion gwladol yng Nghymru wedi cael achos o COVID hyd yn hyn? Felly, credaf fod angen inni gofio hynny, a diolch i'r athrawon, staff cymorth, cyrff llywodraethu ac awdurdodau addysg lleol sy'n gwneud popeth a allant i sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl ar blant ar yr adeg hon.
Bydd yr Aelod yn ymwybodol ein bod wedi buddsoddi'n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf mewn dysgu digidol, o ran y seilwaith ar gyfer ysgolion unigol, darparu darnau ychwanegol o offer ar gyfer myfyrwyr unigol a chysylltedd i fyfyrwyr nad oes cysylltedd ganddynt gartref. Un enghraifft i chi o sut y mae ysgolion yn paratoi i ymdopi â tharfu yw ein bod wedi gweld, ym mis Medi hyd yma, ers i’r ysgolion ailgychwyn, 25,000 o ystafelloedd dosbarth Google yn cael eu sefydlu; mae hynny'n fwy o ystafelloedd dosbarth Google wedi’u sefydlu mewn cyfnod o fis nag a welsom dros gyfnod o flynyddoedd. Mae athrawon ac ysgolion yn rhoi pob cam angenrheidiol ar waith i allu newid i ddysgu di-dor cydamserol ac anghydamserol os ceir tarfu ar grŵp unigol o fyfyrwyr fel y gallant barhau i ddysgu ar yr adeg hon.
Weinidog, prynhawn da. Rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i gydnabod dewrder a gwytnwch ein plant wrth iddynt ddychwelyd i'r ysgol mewn cyfnod sy'n peri cryn ofid iddynt hwy a'u rhieni. Pa ystyriaeth rydych wedi’i rhoi i ddarparu mwy o gymorth a gofal bugeiliol i blant yng Nghymru, yn enwedig mewn ysgolion cynradd a meithrinfeydd ar yr adeg hon? Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, cafwyd galw cynyddol am wasanaethau cwnsela ymhlith plant ysgol, mater a drafodir yn aml yn y Siambr hon. Yn enwedig gan ein bod bellach yn wynebu pandemig COVID-19, rydym yn gweld rhagor o darfu ar addysg plant. Felly, sut rydych yn bwriadu cynyddu capasiti cwnsela yn ein hysgolion, meithrin gwytnwch a chefnogi plant?
Prynhawn da i chi, Nick. Fel chithau, rwy’n llawn edmygedd at ddewrder a gwytnwch ein pobl ifanc ar yr adeg hon. Mae eu cefnogi gyda'u hiechyd meddwl a'u lles yn bwysig, ac mae hynny'n rheswm pwysig pam ein bod yn benderfynol o ailagor ysgolion yn llawn ar gyfer pob plentyn yn y flwyddyn academaidd hon a'u cadw ar agor, gan ein bod yn deall yr effaith y mae’r cyfyngiadau symud a pheidio â bod yn yr ysgol wedi’i chael ar lawer o blant.
Ond yn amlwg, i rai plant, mae dychwelyd i'r ysgol, er bod hynny’n braf—gallent, yn wir, fod yn bryderus o ganlyniad i'r pandemig neu'r sefyllfa y gallent hwy neu eu teuluoedd fod ynddi. Dyna pam rwyf wedi gweithio'n galed gyda fy nghyd-Aelod y Gweinidog iechyd i ddarparu adnoddau ychwanegol ar gyfer cwnsela mewn ysgolion eleni, gyda phwyslais arbennig ar allu ehangu cymorth yn y sector cynradd, nid drwy ddulliau cwnsela traddodiadol, nad ydynt yn addas ar gyfer ein plant iau mewn gwirionedd, ond gyda ffocws cryf ar therapi teulu a gwaith grŵp fel y gellir cefnogi ein plant ieuengaf ar yr adeg hon.
Tybed a allech ddweud ychydig mwy wrthym am gyfraddau presenoldeb mewn ysgolion, gan y credaf y bydd hynny'n rhoi syniad inni o ba mor effeithiol y mae ysgolion wedi bod wrth estyn allan at bobl ifanc a allai fod yn teimlo'n bryderus iawn ynglŷn â dychwelyd i'r ysgol a’u darbwyllo eu bod yn mynd i fod yn ddiogel, ac y dylent ddychwelyd i'r ysgol er mwyn eu lles?
Diolch, Jenny. Yn gyffredinol, yn genedlaethol, mae cyfraddau presenoldeb oddeutu 80 y cant—ychydig dros 80 y cant—er bod rhai amrywiadau sylweddol o fewn hynny. Nid yw'n syndod fod lefelau presenoldeb uwch yn yr ardaloedd lle mae lefelau trosglwyddiad y feirws yn is. Felly, rydym yn gweld lefelau presenoldeb arbennig o uchel yn Sir Fynwy, yn Sir Benfro ac yn yr ardaloedd hynny, fel y dywedais, lle rydym yn gweld lefelau is o drosglwyddiad. Ond hyd yn oed mewn ardaloedd â throsglwyddiad uwch, mae’r rhan fwyaf o blant yn parhau i fynychu'r ysgol.
Heb os, lle ceir achos, gall hynny gael effaith. Brynhawn ddoe, cefais y fraint a'r pleser o siarad â'r pennaeth yn Ysgol Gynradd Parc Ninian yma yng Nghaerdydd. Fe ddechreuon nhw'r tymor yn gadarnhaol iawn gyda phresenoldeb uchel. Yn anffodus, cawsant un achos, a gostyngodd eu lefelau presenoldeb yn syth ar ôl yr achos hwnnw. Ond erbyn ddoe, roedd eu presenoldeb yn ôl i oddeutu 86 y cant, a hynny oherwydd bod yr athrawon, y pennaeth a'r corff llywodraethu wedi gweithio'n galed iawn i roi'r sicrwydd angenrheidiol i rieni ei bod yn ddiogel i'w plant fod yn ôl yn yr ysgol hyd yn oed gydag achos.
Byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn eu cefnogi hwy a'r proffesiwn addysgu i roi sicrwydd. Mewn rhai achosion, gwyddom fod rhieni'n bod yn hynod o ofalus ac yn ceisio eu gorau glas. Mae'n dymor annwyd, felly gwn fod ein prif swyddogion meddygol yn gweithio gyda'i gilydd ledled y Deyrnas Unedig i allu darparu mwy o gyngor i rieni i'w helpu i wneud penderfyniadau ynglŷn â pha bryd y mae'n iawn anfon plentyn i'r ysgol a pha bryd y dylid cadw plentyn gartref, efallai, a rhoi prawf iddynt os oes angen. Gwn fod athrawon yn gweithio'n galed iawn i gael y sgyrsiau hynny gyda rhieni ac i roi'r sicrwydd angenrheidiol.
6. Pa asesiad diweddar sydd wedi'i wneud o'r galw am addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OQ55607
Diolch yn fawr, Helen Mary. Mae cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg awdurdodau lleol yn amlinellu sut y caiff y galw am addysg cyfrwng Cymraeg ei ateb. Mae ein gwaith blynyddol yn monitro cynlluniau yn awgrymu bod cynnydd yn nifer y dysgwyr sy'n cael mynediad at ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y rhan fwyaf o Ganolbarth a Gorllewin Cymru. Mae rheoliadau newydd y cynllun strategol Cymraeg mewn addysg yn nodi disgwyliad uwch o ran targedau, ac mae hynny'n cyd-fynd â Cymraeg 2050.
Diolch ichi am eich ateb, Weinidog. Gwn y byddwch am ymuno â mi i longyfarch Cyngor Sir Powys, sydd wedi gosod tendr eto yn ddiweddar i adeiladu Ysgol Gymraeg y Trallwng, sydd â lle i 150 o blant. Fel rhywun a fagwyd yn Sir Drefaldwyn ac a gafodd eu haddysg yno, er bod hynny amser maith yn ôl, rwy'n croesawu'r buddsoddiad hwn yn fawr.
Hoffwn eich holi ynglŷn â’r camau nesaf ar gyfer ysgol Gymraeg newydd Dewi Sant yn Llanelli. Rwy'n ymwybodol fod problemau o hyd gyda dod o hyd i safle priodol. Yn y cyfamser, mae fy mewnflwch yn llawn o bryderon gan bobl sy'n poeni am anawsterau darparu dysgu gan gadw pellter gymdeithasol yn ddiogel ar y safle presennol. A gaf fi eich gwahodd unwaith eto, Weinidog, i ddarbwyllo teuluoedd a staff yr ysgol, pan ddynodir safle newydd, y bydd cyllid ar gael ar gyfer adeilad newydd ac na fydd yn cael ei golli oherwydd yr anallu anffodus iawn, heb fynd i ailadrodd yr amgylchiadau, i fwrw ymlaen ar y safle gwreiddiol?
Fel chithau a llawer o bobl eraill, Helen Mary Jones, mae ailddarparu ysgol newydd ar gyfer y gymuned honno’n parhau i fod yn flaenoriaeth i mi. Edrychaf ymlaen at dderbyn cais gan gyngor Sir Gaerfyrddin fel y gallwn fwrw ymlaen â'r prosiect hwnnw.
Weinidog, dangosodd adroddiad gan Estyn yn gynharach eleni fod angen gwella safonau llythrennedd, rhifedd a Chymraeg ail iaith mewn oddeutu hanner yr ysgolion cynradd a'r holl ysgolion uwchradd a arolygwyd ers 2017 yn Sir Benfro. O gofio bod gwasanaethau addysg llywodraeth leol Sir Benfro yn peri pryder ac yn galw am weithredu dilynol, a allwch chi ddweud wrthym pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda'r awdurdod lleol, a chonsortia rhanbarthol yn wir ynglŷn â chodi safonau a gwella canlyniadau, yn enwedig mewn perthynas ag addysgu Cymraeg fel ail iaith?
Diolch, Paul. Mae gwelliannau wrth addysgu Cymraeg fel ail iaith yn bwysig ledled Cymru, nid yn Sir Benfro yn unig, a bydd yn rhan bwysig o'n cwricwlwm diwygiedig, ein cyfleoedd dysgu proffesiynol a'n darpariaeth newydd addysg gychwynnol i athrawon. Cyfarfûm â chynrychiolwyr, gyda fy swyddogion a chynrychiolwyr o Sir Benfro cyn toriad yr haf i drafod pa gymorth ychwanegol y gall Llywodraeth Cymru ei roi i'r awdurdod addysg lleol hwnnw i helpu i wella safonau yn gyffredinol.
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y dystiolaeth a ddefnyddiwyd i gynnwys Saesneg yn Adran 3(2) o'r Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)? OQ55588
Mae'r Senedd yn craffu ar y Bil ar hyn o bryd ac felly nid wyf yn bwriadu gwneud datganiad annibynnol ar y mater. Er, fel rwyf eisoes wedi’i nodi wrth yr Aelodau, rwy'n agored i drafodaethau ac fe wrandawaf ar bryderon.
Roeddwn ar fin dweud, 'Diolch, Weinidog', ond ni chredaf y gallaf mwyach, a dweud y gwir, gan ei fod yn gwestiwn syml iawn am dystiolaeth. Yr hyn y byddwn wedi’i werthfawrogi fyddai rhywfaint o sôn am dystiolaeth, fel y gallwn gael trafodaeth aeddfed am hyn, o leiaf.
Ar ôl siarad â gweithwyr proffesiynol yn y maes—y bore yma, mewn gwirionedd—unwaith eto, un cwestiwn sy'n dod i'm meddwl yw, 'Os nad yw wedi torri, peidiwch â'i drwsio.' Credaf mai'r hyn sydd ei angen arnom yw dealltwriaeth o'r Gymraeg, yr amodau arbennig sydd eu hangen i ddysgu iaith mewn amgylchiadau trochi. A chredaf fod gwir angen inni roi rhywfaint o sylw, o leiaf, sylw go iawn, i’r ffigur honedig o filiwn o siaradwyr, nad yw’n ddim ond geiriau gwag ar hyn o bryd, gan na welaf unrhyw dystiolaeth.
Rwy'n siomedig ynglŷn â'r diffyg ymgysylltu â'r cwestiwn. Yr unig beth y gofynnais amdano oedd rhywfaint o dystiolaeth, ac mae'n amlwg nad oes gennych unrhyw dystiolaeth. Diolch.
Gallaf roi sicrwydd i’r Aelod, Lywydd, fod digon o sgyrsiau aeddfed yn digwydd ynglŷn â sut y gallwn gyflawni targedau Cymraeg 2050. Rwy’n gwbl ymwybodol o lwyddiant y model trochi yn helpu plant i ddysgu Cymraeg. Mae fy mhlant fy hun wedi elwa ohono. Nid oes unrhyw beth yn y Bil ar hyn o bryd a fydd yn atal trochi rhag digwydd, ond rwy’n ymwybodol o bryderon ynglŷn â sut y gallai’r Bil, yn anfwriadol, wneud trochi neu’r cynnydd mewn trochi yn anoddach ac felly, fel y dywedais, rwy’n barod i wrando ar y pryderon hynny ac i ymgysylltu'n gadarnhaol â'r bobl sy'n ymgysylltu'n gadarnhaol â mi.
Diolch am eich ateb i Mr McEvoy ac am eich atebion blaenorol i'r un neu ddau o gwestiynau diwethaf, gan fod y cyfan yn ymwneud â’r un thema. Ond credaf mai'r gwir rwystr rhag gallu darparu a chyflawni targed Cymraeg 2050 yw'r anhawster o gael mwy o athrawon sy'n siarad Cymraeg. Mae arnom angen mwy ohonynt, ac mae arnom eu hangen yn yr holl wahanol ardaloedd yng Nghymru. Ceir rhai rhannau o Gymru lle mae'n eithriadol o anodd cael athrawon sy'n siarad Cymraeg. Ar y llaw arall, mae gennym bobl ifanc hefyd sy'n hyfforddi fel athrawon nad ydynt yn siarad Cymraeg eto, ac maent yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i swyddi weithiau lle nad oes angen gallu yn y Gymraeg. Felly, sut rydych yn mynd i fynd i'r afael â'r cydbwysedd hwnnw er mwyn cyflawni targed Cymraeg 2050? A sut y gallwn annog mwy o bobl i ddod yn athrawon sy’n siarad Cymraeg fel y gallwn nid yn unig ddarparu addysg drochi, ond dysgu hefyd yn yr ysgolion nad ydynt yn ysgolion Cymraeg?
Diolch yn fawr, Angela. Y peth cyntaf y mae'n rhaid inni ei wneud yw cynyddu nifer y myfyrwyr sy'n astudio'r Gymraeg ar lefel Safon Uwch, gan y gwyddom fod y cymhwyster hwnnw'n aml yn arwain at bobl yn mynd yn eu blaenau i astudio'r Gymraeg ar lefel uwch a mynd yn eu blaen wedyn i mewn i addysgu Cymraeg, ac rydym yn hyrwyddo cynllun i annog pobl i wneud Safon Uwch yn y Gymraeg er mwyn hyrwyddo'r pwnc hwnnw fel bod mwy o fyfyrwyr yn ei astudio. Ym maes addysg gychwynnol i athrawon, rydym yn darparu cyfleoedd i'r myfyrwyr nad oes ganddynt sgiliau Cymraeg ar hyn o bryd allu dysgu’r sgiliau hynny fel rhan o'u haddysg gychwynnol i athrawon, felly, hyd yn oed os nad ydynt yn bwriadu mynd i addysgu mewn ysgol Gymraeg, gallant ddarparu gwersi Cymraeg o safon yn y sector cyfrwng Saesneg.
I athrawon sy’n bwriadu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, rydym wedi darparu cyllid—er, mae'n rhaid i mi gyfaddef bod COVID wedi tarfu ar y rhaglen hon i raddau—a fydd yn caniatáu i athrawon ysgolion cynradd cymwysedig newid i allu addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn y sector uwchradd, gan mai dyna lle mae gennym brinder penodol—yn y sector uwchradd. Ac yn wir, mae'r rheini sy'n dymuno dilyn gyrfa yn addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn parhau i ddenu'r lefel uchaf o gymhellion ariannol addysg gychwynnol i athrawon os ydynt yn dewis astudio am gymhwyster addysgu yn y Gymraeg.
Yr wythnos diwethaf, cyfarfûm â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol i drafod beth arall y gallant ei wneud, gan ddysgu o'r arbenigedd sydd ganddynt eisoes yn ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y sector addysg uwch—beth arall y gallant ei wneud i weithio gyda'n gwahanol sefydliadau addysg uwch a Chyngor y Gweithlu Addysg i sicrhau y gallwn gynyddu nifer y bobl sy'n dysgu’r sgiliau sy'n angenrheidiol i addysgu'r Gymraeg yn llwyddiannus mewn ysgol cyfrwng Gymraeg neu mewn ysgol cyfrwng Saesneg.
Rwy'n falch o ddweud bod gennym gynnydd yn nifer y recriwtiaid i addysg gychwynnol i athrawon eleni, ond un wennol ni wna wanwyn, ac mae angen inni barhau i roi pwyslais ar yr agenda hon.
Yn olaf, cwestiwn 8, Rhianon Passmore.
8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am nifer yr achosion o blant yn Islwyn yn cael eu hanfon adref o'r ysgol i hunanynysu ar ôl cael canlyniad positif mewn prawf ar gyfer COVID-19? OQ55586
Ar gyfer yr wythnos 14 i 18 Medi, deallaf fod lefel presenoldeb mewn ysgolion a gynhelir yng Nghaerffili yn 77 y cant.
Diolch, Weinidog. Diolch am eich ateb. Mae Prif Weinidog Llafur Cymru, Mark Drakeford, wedi nodi bod cadw ysgolion ar agor yn brif flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. I'r rhieni a'r plant yn Islwyn, mae'n hanfodol er eu lles cymdeithasol a meddyliol eu bod yn gallu parhau â'u haddysg yn yr ysgol gyda'r holl ragofalon angenrheidiol. O Ysgol Gynradd Rhisga yn y sector cynradd i Ysgol Gyfun y Coed Duon yn y sector uwchradd, mae plant wedi gorfod gadael yr ysgol i hunanynysu am gyfnod o amser.
O ddata Llywodraeth Cymru a welais ddydd Mercher, roedd wyth o bob 10 plentyn yng Nghymru yn yr ysgol, o gymharu â chwech o bob 10 yn yr wythnos flaenorol. Felly, Weinidog, gyda lefelau presenoldeb yn codi, sut y gall Llywodraeth Cymru bwysleisio'r neges i'n cymunedau, er mwyn i’n plant gael eu haddysgu, fod angen sicrwydd ar sail iechyd y cyhoedd? Pryd y bydd gofyn iddynt gadw draw o'r ysgol, a pha gamau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i annog lefelau uwch o bresenoldeb yn yr ysgol ymysg plant Islwyn?
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn? Ac a gaf fi roi sicrwydd iddi fy mod i fel Gweinidog addysg Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn cymryd yr holl gamau gweithredu angenrheidiol i sicrhau cyn lleied o darfu â phosibl ar addysg plant, yng Nghaerffili, neu'n wir, yn unrhyw le arall yng Nghymru?
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Jayne Bryant.
1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r rhai a oedd ar restr warchod gynt yn sgil y cyfyngiadau COVID-19 diweddaraf yng Nghymru? OQ55615
Diolch am eich cwestiwn. Er ein bod wedi gweld cynnydd sydyn yn nifer yr achosion mewn rhai ardaloedd, nid yw'r cyngor penodol i bobl sydd wedi bod ar y rhestr warchod yn flaenorol wedi newid ar hyn o bryd. Nid oes angen iddynt roi camau gwarchod caeth ar waith yn awr. Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru yn ymgysylltu â phrif swyddogion meddygol ledled y DU ynglŷn â chyngor i'r grŵp hwn ar leihau eu risg o niwed, a byddwn yn ysgrifennu at y rheini sydd wedi bod ar y rhestr warchod yn y gorffennol yn y dyddiau nesaf.
Diolch, Weinidog. Gwn fod y mesurau a roddwyd ar waith gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r rhai mwyaf agored i niwed wedi eu croesawu’n fawr. Fodd bynnag, rwyf bellach yn cael gohebiaeth gan y rheini sydd wedi bod ar y rhestr warchod yn y gorffennol, ac maent yn gofyn am arweiniad pellach. Felly, rwy'n falch o glywed y bydd rhywfaint o ohebiaeth. Nid yw'r rheini sy'n cysylltu â mi yn gofyn am gael ailgychwyn gwarchod, ond yn hytrach, pan wneir cyhoeddiadau ar unrhyw gyfyngiadau, maent am weld cyfathrebu'n digwydd hefyd gyda'r rheini sydd wedi bod ar y rhestr warchod yn y gorffennol. Yn benodol, gan fod y cyfyngiadau lleol ar waith, mae pobl yn dymuno cael cysur eu bod yn gwneud y peth mwyaf diogel a’r peth iawn. Er fy mod yn deall ein bod yn dysgu mwy am y feirws drwy'r amser, pa drafodaethau rydych chi'n eu cael gydag eraill ynglŷn â chyfathrebu â'r bobl fwyaf agored i niwed?
Diolch am eich cwestiwn dilynol. Wrth gwrs, cawsom gyfle i drafod rhywfaint o hyn yn y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon yn gynharach y bore yma. Felly, yn ogystal â’r cyswllt uniongyrchol rydym yn ei ddisgwyl o ohebiaeth y prif swyddog meddygol â phobl yn y categori hwnnw o bobl sydd wedi bod ar y rhestr warchod yn y gorffennol, byddwn yn defnyddio ein sianeli amrywiol, ac a bod yn deg, mae cymaint o ddiddordeb wedi bod yn y grŵp o bobl sydd wedi bod ar y rhestr warchod yn y gorffennol fel fy mod yn disgwyl y cawn gryn dipyn o sylw yn y cyfryngau cenedlaethol a lleol pan fyddwn yn ailddatgan ble rydym arni.
Credaf ei bod yn bwysig pwysleisio'r gwersi rydym wedi'u dysgu o'r chwe mis cyntaf. Credwn ein bod wedi atal niwed sylweddol i bobl ar y rhestr honno o grwpiau i’w gwarchod, ond nid oedd hynny heb gost. Bu cost o ran iechyd meddwl a lles pobl, gan fod llawer o'r bobl yn teimlo'n unig, hyd yn oed gyda'r gefnogaeth a roddwyd. Felly, nid yw gwarchod yn ddiben ynddo'i hun heb unrhyw niwed ynghlwm wrtho; mae bob amser yn gydbwysedd. Gwyddom hefyd nad yw'r dull blaenorol o gael rhestr o gyflyrau meddygol yn ystyried yr holl dystiolaeth o niwed yn sgil COVID. Os ydych yn llai cyfoethog, gwyddom eich bod yn fwy tebygol o ddioddef niwed mwy sylweddol—cafodd y pwynt ynglŷn ag anghydraddoldebau iechyd ei ailbwysleisio’n ddiamwys yng nghyfnod cyntaf y pandemig. A hefyd, os ydych yn edrych yn debyg i fi, rydych yn fwy tebygol o ddioddef niwed, felly nid yw'r pwynt am darddiad ethnig yn cael ei ystyried mewn rhestr o gyflyrau meddygol. Ac yn yr un modd, os ydych chi'n edrych yn debyg i fi, a phe bawn yn pwyso tair neu bedair stôn yn drymach, byddwn innau hefyd mewn mwy o berygl eto. Nid yw'r holl bethau hynny’n cael eu nodi mewn rhestr o gyflyrau meddygol, felly rydym yn dysgu o'r hyn sydd wedi digwydd. Bydd yn rhaid inni gymhwyso hynny, gyda'r cyngor a gawn gan y prif swyddogion meddygol, wrth gynghori pobl ar y ffordd orau i ofalu amdanynt eu hunain. Ond bydd hynny'n bendant yn golygu cyswllt uniongyrchol â phobl sydd wedi bod ar y rhestr warchod yn y gorffennol.
Prynhawn da, Weinidog. Gwnaeth grwpiau cymorth a chefnogaeth coronafeirws lleol, fel Feed Newport ym Mhillgwenlli, a’r rhai a sefydlais yn Wyesham a Brynbuga, waith gwych yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol wrth amddiffyn pobl agored i niwed, gan sicrhau nad oeddent yn teimlo’n ynysig, a dosbarthu bwyd a phresgripsiynau i'r rheini a oedd ar y rhestr warchod yn y gorffennol ac yn hunanynysu. Mae'r bobl agored i niwed hyn bellach mewn perygl gan fod y feirws ar gynnydd eto. Cyflwynwyd gwarchod ar gyfer pobl hynod agored i niwed ar ddechrau'r pandemig ym mis Mawrth, a dim ond yn ddiweddar y codwyd y mesurau hyn. Fodd bynnag, cyngor eich Llywodraeth, fel rydych newydd ddatgan, yw nad oes angen i'r bobl hyn warchod ar hyn o bryd. A allwch chi egluro eich rhesymau dros y penderfyniad hwnnw ymhellach, Weinidog? Ac ym mha amgylchiadau y byddech yn teimlo'r angen i ailystyried y cyngor hwn i'r rheini sy'n gwarchod, gan ei fod yn peri dryswch i bobl, fel y nodwyd gan Jayne Bryant? Mae angen mwy o gyfathrebu a chyfathrebu manylach, ac rwy'n croesawu'r ffaith eich bod yn mynd i anfon llythyrau allan, ond hefyd er mwyn i grwpiau COVID baratoi i gynorthwyo’r bobl sy'n gwarchod unwaith eto. A Weinidog, a wnewch chi achub ar y cyfle hwn yn awr i ymuno â mi i ddiolch am yr holl waith gwych a wnaed gan grwpiau gwirfoddol drwy gydol y pandemig yn cynorthwyo’r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas?
Rwy'n fwy na pharod i ailadrodd y diolch rwyf fi a Gweinidogion eraill, ac arweinwyr awdurdodau lleol ym mhob rhan o Gymru, wedi'i roi i'r holl bobl sydd wedi gwirfoddoli i helpu pobl eraill, wrth frwydro yn erbyn unigrwydd ac ynysigrwydd a helpu gyda gwasanaethau, o'r cynlluniau penodol rydym wedi'u cael i ddarparu meddyginiaeth fferyllol i gyfeillio mwy cyffredinol, os mynnwch, a rhyw fath o gyswllt cymdeithasol, er nad y cyswllt corfforol rydym wedi arfer ag ef ac yn ei werthfawrogi. Gwn fod hwn hefyd yn fater lle mae teuluoedd a ffrindiau yn gofalu am ei gilydd y tu allan i weithgarwch wedi'i drefnu. Rwyf wedi parhau i siopa i fy mam, at ei gilydd, a mynd ag ef iddi bob wythnos. Ni chaf fynd i mewn i'w chartref, am fy mod yn creu mwy o risg iddi nag y mae fy chwaer, sy’n dod i gysylltiad â llai o bobl, ac mae'r holl gyfrifiadau unigol hynny ynglŷn â rheoli risgiau'n digwydd mewn teuluoedd a chymunedau ledled y wlad.
Fel y dywedais wrth ateb Jayne Bryant, mae angen inni ystyried yr hyn a ddysgwyd yn ystod chwe mis cyntaf y pandemig, o'n dealltwriaeth o fanteision ac anfanteision rhestr o gyflyrau meddygol, a byddwn yn nodi hynny ar gyfer pobl sydd wedi bod ar y rhestr warchod yn y gorffennol, ond ar gyfer y wlad yn gyffredinol, oherwydd, er ein bod yn gweld cynnydd yn nifer yr achosion o’r coronafeirws, rydym wedi dweud yn glir iawn y dylai pobl sydd wedi bod ar y rhestr warchod yn y gorffennol fod yn arbennig o wyliadwrus a dilyn y cyngor ar gyfyngu ar nifer y cysylltiadau sydd ganddynt, oherwydd mewn gwirionedd, mae rheoli eich cysylltiadau eich hunan, eu cyfyngu i gyn lleied ag sydd angen, cadw at y rheolau, sicrhau eich bod yn dilyn mesurau hylendid dwylo da a dilyn y gofynion ar gyfer y wlad gyfan yn arbennig o bwysig i'r grŵp hwnnw o bobl sy’n agored i niwed yn feddygol. Ond fel y dywedaf, mae angen inni fabwysiadu ymagwedd fwy cyflawn, a daw hynny o ddysgu nid yn unig o'r ffigurau, ond hefyd o'n cyswllt uniongyrchol â phobl sydd wedi bod ar y rhestr warchod yn y gorffennol, ac rwy'n fwy na pharod i roi’r wybodaeth ddiweddaraf nid yn unig i’r Siambr ond i’r wlad am y cyngor sy'n newid a'r penderfyniadau a wnawn.
Weinidog, diolch am eich atebion i'r cwestiynau ar hyn eisoes. Credaf y byddwch yn cytuno â mi mai un o'r prif bethau sydd wedi bod o gymorth i bobl wrth iddynt gael eu gwarchod yw'r slotiau dosbarthu siopa blaenoriaethol y mae archfarchnadoedd wedi'u cynnig iddynt. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, o siarad ag etholwyr, mae llawer o archfarchnadoedd bellach yn rhoi’r gorau i ddarparu slotiau blaenoriaethol, ar adeg pan fo’r coronafeirws ar gynnydd mewn cymaint o’n cymunedau. Mae hyn yn rhywbeth sy'n peri pryder nid yn unig i fy etholwyr, ond i minnau hefyd, felly a gaf fi ofyn pa drafodaethau a gawsoch gyda Gweinidogion eraill ynglŷn â'r slotiau dosbarthu hyn ar gyfer bobl sy’n gwarchod, a’ch annog i weithredu ar hyn?
Credaf fod hwnnw'n bwynt pwysig gan Vikki Howells am y gefnogaeth ymarferol y mae pobl wedi'i chael. Mewn gwirionedd, ni chyrhaeddodd y cynllun dosbarthu bwyd niferoedd enfawr o bobl, am nad oedd ei angen arnynt. Cafodd pawb oedd eu hangen nwyddau wedi’u dosbarthu iddynt drwy’r cynllun bwyd am ddim, ond ar ôl i archfarchnadoedd ehangu eu slotiau dosbarthu ar-lein eu hunain yn sylweddol, a blaenoriaethu pobl ar y rhestr warchod, roedd yr angen am gynllun dosbarthu bwyd am ddim yn llai na'r hyn a ragwelwyd yn wreiddiol. Felly, mae angen i'r cynnydd sylweddol a welwyd yn nifer y slotiau ar-lein barhau, a byddaf yn sicr yn mynd i’r afael â hyn ac yn cael sgwrs gyda fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths, sy’n cysylltu’n rheolaidd â manwerthwyr archfarchnadoedd ar ystod o fesurau, ac mae'n ddefnyddiol iawn eich bod wedi dwyn hyn i fy sylw heddiw, oherwydd yn sicr, mae'n rhywbeth i fwrw ymlaen ag ef, gan nad wyf wedi derbyn gwybodaeth uniongyrchol o'r blaen fod gostyngiad yn nifer y slotiau. Rydym yn sicr am weld hynny'n parhau, wrth inni wynebu'r hyn a fydd, yn ddi-os, yn aeaf a hydref heriol iawn.
2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y rhaglen frechu rhag y ffliw y gaeaf hwn? OQ55595
Diolch. Y gaeaf hwn, gyda phresenoldeb parhaus, neu atgyfodiad COVID-19 yn wir, rydym am sicrhau bod mwy o bobl nag erioed yn derbyn brechlyn ffliw. Dyna pam ein bod wedi ymestyn y meini prawf cymhwysedd. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid allweddol i sicrhau'r nifer fwyaf sy'n bosibl o frechlynnau ffliw, a bydd cyflenwad ychwanegol o'r brechlyn ar gael i gefnogi'r galw cynyddol a ragwelir.
Diolch am eich ateb. Yn ei sesiwn dystiolaeth gyda phwyllgor iechyd y Senedd yr wythnos diwethaf, dywedodd Dr Quentin Sandifer o Iechyd Cyhoeddus Cymru
mewn cyfnod cyffredin byddem yn anelu at ddarparu brechlyn ffliw i 75 y cant o'r bobl sydd mewn grwpiau cymwys
ac y byddai hynny'n ‘ymestyn yr effaith amddiffynnol i'r eithaf’. Felly, yn amlwg, hoffem gyflawni o leiaf hynny eleni. Felly, beth sy'n cael ei wneud i sicrhau ein bod yn cyflawni'r gyfradd fwyaf sy'n bosibl? A yw'r GIG wedi cysylltu â phawb sy'n gymwys i gael y brechlyn ffliw am ddim, ac a yw'r stociau a'r trefniadau logistaidd ar waith i ddarparu'r nifer uchaf erioed o ddosau mewn pryd? O ystyried y cynnydd a welsom yn nifer y profion coronafeirws ac absenoldebau ar ddechrau'r tymor ysgol newydd, ac o ystyried y perygl cynyddol o gael y coronafeirws a'r ffliw ar yr un pryd, ble rydym arni o ran y niferoedd sy'n manteisio ar y brechlyn ffliw drwy chwistrelliad trwynol a'i ddarparu mewn ysgolion cynradd?
Diolch am y cwestiynau hynny. Ac mae'n ymgyrch wirioneddol bwysig, eleni yn fwy nag erioed. Mewn tymor ffliw cyfartalog, mae 8,000 i 10,000 o bobl ledled y DU yn colli eu bywydau o ganlyniad i ffliw, felly mae'n achos marwolaeth sylweddol ar adegau arferol. O ystyried risg ychwanegol y coronafeirws, mae'n bwysicach nag erioed i bobl fanteisio ar y cynnig i gael pigiad ffliw am ddim gan y GIG, ac yn wir i aelodau eraill o'r cyhoedd ddiogelu eu hunain, os gallant wneud hynny.
Gyda gwledydd eraill y DU, rydym wedi caffael mwy o'r brechlyn ffliw nag erioed o'r blaen—tua 50 y cant yn fwy. Bydd hynny'n sicrhau bod y nifer fwyaf sy'n bosibl o bobl yn manteisio ar y cynnig yn y grwpiau risg, a hysbysir y bobl hynny'n rheolaidd drwy eu darparwyr gofal iechyd a byddant yn cael yr un hysbysiad. Er hynny, rydym eisoes yn gweld tystiolaeth gadarnhaol o gynnydd yn y galw am bigiad ffliw y GIG, felly mae hynny'n newyddion da. Ond mae hynny'n golygu bod angen sicrhau bod pobl yn gallu cael y pigiad boed mewn practis cyffredinol neu fferyllfeydd cymunedol—ein dwy brif system gyflenwi ar gyfer y pigiad rhag y ffliw i oedolion a phobl ifanc—ac mae'n bwysig bod hynny'n parhau.
Ar y chwistrell drwynol i blant iau, yn y cyfnod cyn-ysgol ac mewn addysg gynnar, unwaith eto mae mwy o gyflenwadau ar gael i ni, ac mae hynny'n cael ei gyflwyno ym mhob bwrdd iechyd wrth inni siarad. Felly, dros yr wythnosau nesaf—. Cawsom lythyr ar fy aelwyd fy hun yn gofyn am ein cydsyniad i'n plentyn oedran ysgol gynradd gael y chwistrell drwynol ar gyfer y ffliw yn ystod y tymor.
Mae'n bwysig ein bod yn gwneud cymaint ag y gallwn cyn dechrau mis Rhagfyr. Felly rydym am i gynifer o bobl gael eu brechu ag sy'n bosibl erbyn mis Tachwedd, os oes modd o gwbl, oherwydd mae'r ffliw'n tueddu i ledaenu'n fwy eang, i fwy o niferoedd, o fis Rhagfyr ymlaen. Felly rwy'n hyderus y bydd y proffil uwch sydd i'r ymgyrch hon eleni yn arwain at alw cyson o gryf am y brechlyn, ac os gallwn gael y lefel uchel honno o frechu ymhlith ein categorïau sy'n wynebu fwyaf o risg, byddwn yn cyflwyno ymgyrch arall ar gyfer pobl dros 65 oed a rhai dros 50 oed wedyn.
Ond mae wedi bod yn ddechrau da hyd yma ac rwy'n credu o ddifrif ein bod wedi gweld proffil llawer uwch i'r ymgyrch brechu rhag y ffliw. Fel arfer gwelir cyfnod o ddiddordeb am gyfnod byr o wythnosau ac yna mae'n tueddu i leihau, ond gyda bygythiadau ychwanegol coronafeirws, rwy'n credu y gwelwn fwy a mwy o bobl yn awyddus i fanteisio ar y cynnig.
Weinidog, mae'r cynnydd yn y galw i'w groesawu'n fawr iawn, fel y mae ymestyn y meini prawf cymhwysedd, ond yn anffodus, mae gennyf bobl yn fy etholaeth sydd wedi cael clywed na allant drefnu apwyntiad i gael pigiad rhag y ffliw yn eu meddygfeydd am fis arall, sy'n amlwg yn gwbl annerbyniol, yn enwedig i'r rheini yn y categorïau agored i niwed rydych eisoes wedi cyfeirio atynt. Ac wrth gwrs, nid dim ond y brechlyn ffliw y mae pobl am ei gael; ceir brechlyn niwmococol hefyd i ddiogelu pobl rhag niwmonia, ac rwy'n ymwybodol fod yna brinder o'r brechlyn hwnnw ledled Cymru a rhannau eraill o'r DU ar hyn o bryd. Pa gamau rydych chi'n eu cymryd i sicrhau bod digon o gapasiti yn y system i allu diwallu'r galw am frechiad i bawb sydd ei angen?
Mae'r ddarpariaeth yn gymysg. Felly mae Llywodraeth y DU fel arfer yn caffael cyflenwadau o'r brechlyn ffliw ar gyfer y DU gyfan, a dyna lle rydym wedi cytuno i gael ymarfer caffael mwy eang yn y DU, ac mae amryw o bractisau meddygon teulu hefyd yn caffael eu brechlyn eu hunain. Rydym yn ymwybodol o heriau yn y cyflenwad a phroblemau yn y tymor byr yw'r rheini yn ôl ein dealltwriaeth ni. Felly, er enghraifft, mae un o'r prif weithgynhyrchwyr wedi penderfynu rhyddhau'r brechlyn ffliw fesul cam eleni, a dyna pam y bydd rhai fferyllfeydd cymunedol a rhai practisau'n profi oedi ac yn mynd ati i ddarparu'r brechlyn fesul cam.
O ran yr hyn sy'n dderbyniol neu'n annerbyniol, rwy'n credu ei bod yn wir, fel y dywedais, oherwydd bod lledaeniad y ffliw yn tueddu i ddigwydd yn ddiweddarach yn y gaeaf, drwy fis Rhagfyr, y pwynt pwysig yw defnyddio mis Medi, mis Hydref a mis Tachwedd i gael cynifer o bobl â phosibl wedi'u brechu er mwyn darparu lefel o ddiogelwch cyn i'r tymor ffliw gyrraedd ei anterth. Byddwn yn parhau i weithio gyda meddygon teulu a fferylliaeth gymunedol. A byddwn yn dweud, os oes heriau gwirioneddol yn y cyflenwad, yn hytrach na bod y cyflenwad yn cael ei ryddhau fesul cam, oherwydd mae'r ddau'n wahanol, fel bob amser byddwn yn parhau i weithio ar hynny mewn ffordd adeiladol ledled y DU. Mae'n un o'r meysydd lle mae gan bob un o'r pedair Llywodraeth, waeth pwy yw'r arweinwyr gwleidyddol, ffordd aeddfed ac effeithiol iawn o weithio gyda'i gilydd yn fy marn i.
Teimlaf fod cwestiwn Joyce Watson yn eithriadol o bwysig, yn enwedig yng ngoleuni'r argyfwng COVID, lle mae ffigurau'n dangos bod y nifer sy'n manteisio ar frechlynnau ffliw yn llawer llai ymhlith y rhai mwyaf agored i niwed. Efallai mai'r rheswm am hyn yw bod pobl yn ofni mynychu meddygfeydd—rhywbeth a allai ddeillio o amharodrwydd meddygon i ymgysylltu â phawb heblaw pobl sy'n ddifrifol wael. Mae'r nifer isel sy'n manteisio ar y brechlyn yn peri pryder arbennig o gofio bod y ffliw wedi lladd 10 gwaith cymaint o bobl â COVID yn ystod y 14 wythnos diwethaf. A yw hyn yn rhan o'r ystadegau a fyddai'n annog rhai gwyddonwyr i ddweud y gallai'r cyfyngiadau ladd 75,000 o bobl? Weinidog, o gofio'r effeithiau dinistriol y mae cyfyngiadau symud yn eu cael ar gymdeithas yn gyffredinol, a allwch chi sicrhau pobl Cymru mai dim ond ar ôl cael yr holl gyngor gwyddonol sydd ar gael y bydd y cyfyngiadau'n digwydd ac y byddant yn dod i ben cyn gynted ag y ceir data nad yw'n cefnogi'r cyfyngiadau?
Ofnaf fod llawer iawn o gamddealltwriaeth yn rhan gyntaf y cwestiwn hwnnw. Mae cwestiwn Joyce Watson yn bwysig iawn oherwydd y risgiau ychwanegol y gwyddom eu bod yn dod, nid yn unig mewn tymor ffliw arferol, lle mae 8,000 i 10,000 o bobl ledled y DU, fel y dywedais, yn colli eu bywydau o ganlyniad i'r ffliw a'i effeithiau bob blwyddyn, ond mewn gwirionedd rydym mewn sefyllfa lle rydym eisoes yn gweld mwy o bobl yn manteisio ar y brechlyn. Nid yw pobl yn amharod i gael y brechlyn ffliw eleni—i'r gwrthwyneb. Mae pobl yn awyddus, nid yn unig yng Nghymru, ond yn ôl yr hyn a ddeallaf o rannu gwybodaeth rhwng y pedair gwlad, mae pobl ym mhob un o bedair gwlad y DU yn awyddus i fanteisio ar y brechlyn ffliw ac am ei gael yn gynnar, sy'n newyddion da i bob un ohonom.
O ran y cyfyngiadau a roddwyd ar waith, y mesurau lleol presennol sydd gennym ac yn wir y cyfyngiadau symud llawnach a gyflwynwyd ym mis Mawrth, cânt eu cyflwyno'n unig ar sail y wybodaeth sydd ar gael i ni: ar sail y wybodaeth feddygol a gwyddonol am ledaeniad y feirws, ar ei effaith a'i effaith debygol os na chaiff mesurau eu cymryd i atal ei ledaeniad. Ni fyddwn ond yn cyflwyno'r mesurau hyn lle ceir sylfaen dystiolaeth i'w cefnogi a bydd yn lleihau niwed coronafeirws, a byddwn yn eu codi pan fydd y dystiolaeth yno nad ydynt bellach yn ymyrraeth gymesur yn y ffordd y mae pobl yn byw eu bywydau.
Rydym yn gweithredu nawr i osgoi'r math o niwed a welsom yn y don gyntaf o'r coronafeirws. Nid wyf am aros nes bydd ein hysbytai'n llawn a minnau'n gorfod adrodd ar ffigurau marwolaethau sy'n sylweddol uwch bob dydd cyn inni fod yn barod i weithredu. Mae gweithredu yn awr yn osgoi gosod cyfyngiadau hyd yn oed yn fwy llym ar y ffordd y mae pobl yn byw eu bywydau, ac yn osgoi niwed mwy sylweddol eto i deuluoedd a chymunedau ledled y wlad.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Llywydd, a gwnaf innau bigo i fyny ar y cwestiynau pwysig yna ynglŷn â brechlyn y ffliw. Gaf i dynnu eich sylw chi at astudiaeth ddiweddar yn yr Eidal sydd wedi nodi perthynas rhwng cyfraddau brechu'r ffliw a chyfraddau symptomau a goroesi coronafeirws? Mewn rhanbarthau lle'r oedd mwy o bobl dros 65 oed wedi manteisio ar y brechlyn ffliw y llynedd, mi oedd yna lai o farwolaethau neu bobl yn gorfod mynd i'r ysbyty oherwydd coronafeirws eleni. Gallwn ni ddim ond dyfalu ar y pwynt yma beth ydy'r rheswm am hynny, ond gan ein bod ni yn eiddgar i gyfyngu ar ledaeniad y ffliw beth bynnag, mi oedd yn fy nharo i y gallai gwneud yn siŵr bod y brechlyn ffliw ar gael i bawb sydd eisiau ei gael o, nid dim ond grwpiau targed, yn fuddsoddiad gwerthfawr iawn, nid yn unig wrth fynd i'r afael â phwysau arferol y gaeaf ar yr NHS, ond hefyd i leihau effaith coronafeirws. Felly, yn ogystal â'r ymrwymiad i gael mwy o bobl i gael y brechlyn, a fyddech yn fodlon ymrwymo i rywbeth pellach, sef ei ehangu fo i bawb gan y gallai hynny fod yn fuddsoddiad da?
Wel, yn gyntaf, er mwyn cynllunio a chyflwyno ymgyrch brechlyn ffliw tymhorol effeithiol, a hon fydd ein hymgyrch ffliw tymhorol fwyaf erioed—rydym yn disgwyl y byddwn yn darparu mwy o frechlynnau ffliw nag erioed o'r blaen i bobl Cymru y gaeaf hwn—mae angen inni wneud dewisiadau cyn y tymor er mwyn gallu gwneud hynny, ac rydym wedi dewis targedu a chynyddu'n sylweddol faint o frechlynnau ffliw rydym yn eu caffael i bobl Cymru, brechlynnau y byddwn yn eu darparu yn sgil hynny wedyn.
Mae'r cwestiwn a ddylem ymestyn ymgyrch y GIG i gynnwys y boblogaeth gyfan ychydig y tu hwnt i gwmpas yr hyn y gellir ei wneud yn ein sefyllfa ar hyn o bryd, ond mae'n rhywbeth y gallwn ei ystyried yn y dyfodol. Nid yw'n cael ei gefnogi ar hyn o bryd gan y cydbwyllgor sy'n cynghori Llywodraeth Cymru a holl Lywodraethau'r DU ar ddarparu rhaglenni brechu. Ond fel arfer, wrth i'r sylfaen dystiolaeth newid, rydym yn barod i addasu a newid ein safbwynt wrth gwrs, gan mai'r amcan yma yw sut rydym yn diogelu cynifer o fywydau â phosibl, ac osgoi cymaint o niwed â phosibl, boed yn sgil COVID, y ffliw neu'n wir, ystod o glefydau a chyflyrau heintus eraill y gwyddom eu bod yn her reolaidd i'r ffordd rydym yn byw ein bywydau heddiw.
Diolch. Mi symudaf i ymlaen. Wrth i fwy o gyfyngiadau gael eu rhoi ar bobl ledled Cymru, mae hi'n bwysig iawn dangos ein bod ni wedi dysgu gwersi o'r cyfnod clo llawn gwreiddiol. A dwi wedi gweld un adroddiad sy'n dweud bod cymaint â 50 y cant o bobl jest ddim eisiau mynd i weld gweithwyr iechyd proffesiynol ynglŷn â chyflwr meddygol yn ystod y cyfnod clo yna, achos yn syml iawn doedden nhw ddim eisiau poeni yr NHS. Rŵan, er bod y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon y bore yma wedi clywed bod niferoedd ymweliadau at feddygon ac i adrannau brys, ac yn y blaen, wedi codi erbyn hyn—mae hynny'n beth da—mae Tenovus Cancer Care yn amcangyfrif y gallai fod yna 2,000 o bobl yn byw efo canser heb ddiagnosis yn dal ddim wedi mynd at y meddyg teulu eto o ganlyniad i'r pandemig. Pa sicrwydd allwch chi ei roi i'r bobl hynny—pobl sydd, wrth gwrs, yn teimlo'n fwy nerfus rŵan wrth i'r cyfyngiadau newydd ddod i mewn—fod yr NHS yn dal ar agor i bawb, ac annog y cleifion hynny sydd ar goll yn y system i fynd i chwilio am gyngor meddygol?
Wel, rwy'n credu ein bod wedi bod yn glir ac yn gyson iawn ynglŷn â'r pryder a oedd gennym am y niwed a achosir o ganlyniad i gyflyrau nad ydynt yn rhai COVID. Mae hynny'n cynnwys y niwed y gellid bod wedi'i achosi pe bai ein system iechyd a gofal cymdeithasol yn cael ei llethu—ac ni chafodd ei llethu; roedd o dan bwysau sylweddol mewn gwahanol rannau o Gymru, ond ni chafodd ei llethu—a hefyd y niwed a achosir gan gyflyrau nad ydynt yn rhai COVID am nad yw pobl yn cael triniaeth, naill ai am eu bod yn optio allan o driniaeth oherwydd y pryderon sydd ganddynt, a gwelsom hynny yn sicr, neu'n wir am nad yw'n bosibl oherwydd bod y system yn cael ei llethu.
Fe fyddwch wedi fy nghlywed yn dweud droeon dros y misoedd diwethaf am y pryderon a oedd gennym ynglŷn â gostyngiad yn nifer y derbyniadau brys. Mae hynny'n rhannol oherwydd nad oedd ac nad oes gwir angen i rai pobl—ac rydym yn trafod hyn bob blwyddyn—fynd i adran achosion brys, ceir llwybrau eraill ar gyfer eu gofal, ond y pryder llawer mwy oedd bod pobl sydd angen gofal brys yn peidio â throi at y gwasanaeth iechyd. Ac nid canser yn unig yw hynny; strôc, gwyddom fod gostyngiad sylweddol yn nifer y bobl sy'n troi at y gwasanaeth iechyd gwladol oherwydd cyflyrau strôc. Nawr, nid wyf yn credu bod hynny'n golygu'n sydyn fod gostyngiad sylweddol yn nifer yr achosion o strôc ar draws Cymru, ac nid oes tystiolaeth i gefnogi hynny. Mae'n ymwneud â sut roedd pobl yn ymddwyn, a'u pryderon.
Rydym yn bendant wedi dysgu o'r chwe mis cyntaf. Ac felly mae gennym ffrydio yn awr i barthau lle na cheir achosion o COVID neu barthau COVID gwyrdd, a pharthau COVID coch lle cafwyd achosion positif neu achosion posibl o COVID. Mae hynny'n bwysig er mwyn rhoi hyder i bobl, a'r ffordd rydym yn rheoli cleifion sy'n dod i mewn i'n gwasanaeth iechyd drwy un o'r llwybrau hynny, yn bennaf ar gyfer ysbytai, ond rydym wedi gorfod newid y ffordd y mae gofal sylfaenol wedi gweithio hefyd. Felly, bu cynnydd sylweddol yn y gallu i gynnal ymgyngoriadau rhithwir â phobl, i siarad â phobl dros y ffôn, a dylai hynny roi mwy o hyder i bobl. Ond y neges gennyf fi, a'n system gofal iechyd gwladol yn ei chyfanrwydd, yw ein bod ar agor, rydym wedi dysgu o'r chwe mis cyntaf, ac os oes gennych gyflwr gofal iechyd difrifol, dylech ddal i ddod i ofyn am gyngor, cymorth a thriniaeth, boed drwy ofal sylfaenol neu ofal ysbyty yn wir, oherwydd yn sicr nid yw'r GIG wedi cau ac edrychwn ymlaen at weld pobl yn dychwelyd mewn niferoedd mwy. Caiff yr achos dros ddiwygio ein system gofal iechyd ei ail-wneud ynghylch yr angen i newid y ffordd y gweithiwn, ond mae hynny'n golygu bod angen i bobl ofyn am gymorth cyn gynted â phosibl i ganiatáu inni allu rhoi'r driniaeth leiaf ymyrrol sy'n bosibl.
Ond mae yna bobl sydd eisoes yn y system ac sydd wedi wynebu taith lawer hwy nag y byddai wedi bod. A byddwch wedi fy nghlywed yn gwneud galwadau mynych am yr angen i strwythuro gwasanaethau mewn ffordd a fydd yn caniatáu i driniaethau ailddechrau, i wasanaethau diagnosis ailddechrau, ac yn y blaen, yn llawer cyflymach nag ar hyn o bryd. Unwaith eto yr wythnos hon rwyf wedi clywed pryderon gan lawfeddygon—un o'r colegau brenhinol—nad yw hyn yn digwydd i'r graddau sydd ei angen o hyd.
Efallai ei bod yn ddealladwy fod camau i gyhoeddi data rhwng atgyfeirio a thriniaeth wedi'u gohirio ar ddechrau'r pandemig, ond dyma ni bellach ar ddiwrnod olaf mis Medi a chyhoeddwyd y data diwethaf a oedd ar gael ym mis Mawrth, a ffigurau ar gyfer mis Ionawr oedd y rheini. Mae data rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn rhoi cipolwg hollbwysig ar ba mor hir y mae pobl yn y system, am ba hyd y maent yn aros, ar draws pob bwrdd iechyd, ym mhob arbenigedd. Ac fel y gwyddom, gyda gwasanaethau dewisol ledled Cymru wedi'u cyfyngu'n aruthrol gan y pandemig, heb y data nid oes gennym unrhyw ffordd o wybod maint yr ôl-groniad rydym yn ei wynebu yn GIG Cymru. Ac mae pob ystadegyn yn glaf yn aros mewn poen yn aml iawn. Felly, gan ein bod bellach dros chwe mis i mewn i'r pandemig, a wnewch chi sicrhau bod y data ar gael i'r cyhoedd ar fyrder?
Yn y pwyllgor iechyd y bore yma, darparais i a phrif weithredwr GIG Cymru, Dr Goodall, ystod o wybodaeth am faint yr ôl-groniad sydd wedi datblygu ac amrywiaeth yr ôl-groniad hwnnw. Byddaf yn sicr yn edrych i weld sut a phryd y byddwn yn rhyddhau gwybodaeth i roi mwy o fanylion am hynny. Rwy'n credu y byddai dychwelyd at gyhoeddi ffigurau a chanrannau rhwng atgyfeirio a thriniaeth yn hynod o ddi-fudd am y byddai'n rhoi'r argraff bod y GIG rywsut yn methu, pan fo'n ymwneud mewn gwirionedd â sut rydym yn llwyddo i ymdopi â'r galw a ffordd wahanol iawn o weithio. Nid ydym mewn sefyllfa lle byddwn yn gallu lleihau'r ôl-groniad hwnnw drwy'r gaeaf. Rydym yn dal i fod yn ceisio goroesi'r pandemig a chynnal cymaint o weithgarwch â phosibl, ond rwyf wedi bod yn agored iawn fod hynny'n golygu na fyddwn yn ymgymryd â'r un lefel o weithgarwch. Byddai'n gwbl afrealistig, ac yn gosod tasg amhosibl o annheg i'r GIG, i fynnu eu bod yn paratoi ar gyfer y pandemig ac yn ei reoli, er nad yw wedi dod i ben, ac yn lleihau'r amseroedd aros sydd wedi datblygu. Nid y darlun yma yng Nghymru yn unig yw hwnnw; mae'n digwydd ar draws y DU, ac rwy'n siŵr y byddwch wedi nodi sylwadau gan Goleg Brenhinol y Llawfeddygon mewn ymateb i adroddiad Cydffederasiwn y GIG am Loegr a'r heriau y maent yn eu hwynebu, lle maent wedi bod yn feirniadol iawn o ymgais i leihau'r ôl-groniad pan nad yw eu staff wedi cael seibiant yn dilyn cyfnod cyntaf y pandemig.
Felly, rwy'n dal i gredu y bydd yn cymryd tymor Senedd Cymru llawn i ymdrin â'r gweithgarwch nad yw wedi digwydd, a'r ffaith na all pobl sy'n gwisgo cyfarpar diogelu personol ychwanegol gyflawni'r un faint o weithgarwch ag y byddem wedi'i ddisgwyl ym mis Chwefror eleni. Felly, rwy'n hapus i edrych eto ar sut rydym yn darparu gwybodaeth i roi gwybod i bobl ynglŷn â maint y sefyllfa rydym ynddi, nid dim ond y bobl sydd am ddarllen y trawsgrifiad o'r sesiwn dystiolaeth y bore yma gyda'r pwyllgor, ond i aelodau'r cyhoedd, a chynrychiolwyr etholedig wrth gwrs, allu gweld sut rydym yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n rheolaidd ac yn ddibynadwy.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Lywydd. Weinidog, yn y newyddion heddiw rydym wedi gweld y clwstwr o achosion yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ac yn drasig dywedwyd bod wyth o bobl wedi colli eu bywydau. Anfonwn ein cydymdeimlad at deuluoedd y rhai sydd wedi colli eu bywydau. Mae 83 o achosion o COVID yn yr ysbyty hwnnw. Yn gynharach yn y flwyddyn, cawsom nifer o achosion yn Ysbyty Maelor Wrecsam. Mae gan y ddau ysbyty adrannau damweiniau ac achosion brys mawr ar gyfer eu hardaloedd, ac mae gennym 13 o adrannau o'r fath ledled Cymru. A allwch ddweud heddiw p'un a oes unrhyw debygrwydd rhwng y ddau glwstwr o achosion ac os oes tebygrwydd, sut y gallwch sicrhau na fydd hyn yn digwydd mewn ysbytai eraill sydd ag adrannau damweiniau ac achosion brys? Oherwydd wrth inni nesu at fisoedd y gaeaf, mae'n amlwg ein bod yn gwybod beth y mae pwysau'r gaeaf yn ei wneud, ond gyda'r aflonyddwch y mae clwstwr o achosion fel hyn yn ei achosi, yn ogystal â thrasiedi colli bywyd a'r gofid cyffredinol y mae'n ei achosi, mae hyn yn rhywbeth rydym am ei osgoi yn yr ysbytai eraill ledled Cymru.
Rwy'n credu bod yna wahaniaethau yn ogystal â thebygrwydd. Nodasom y problemau yn Ysbyty Maelor Wrecsam, ac yn sicr, fe wnaethom ddysgu o'r hyn a ddigwyddodd yn Ysbyty Maelor Wrecsam, am yr angen am arweinyddiaeth weithredol glir a chefnogaeth y grŵp staff yn ei gyfanrwydd i'r mesurau y byddai angen eu cymryd, ynglŷn ag ynysu prydlon ac atgyfnerthu mesurau estynedig ar gyfer atal a rheoli heintiau. Felly, dysgodd ein system gyfan lawer o'r hyn a ddigwyddodd yn Ysbyty Maelor Wrecsam, ac mae'r gwersi hynny'n cael eu cymhwyso yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Dyna pam ein bod, er enghraifft, yn cynnal profion ar y staff sy'n gweithio ar y safle hwnnw, dyna pam y caewyd nifer o wardiau, dyna pam y cafodd gweithgarwch ei ddargyfeirio'n gynnar o'r ysbyty, i ganiatáu i'r ysbyty reoli ac ymadfer, a dyna pam yr atgyfnerthwyd yr angen i gynnal profion ar gleifion wrth eu derbyn, boed yn gleifion triniaeth frys neu driniaeth ddewisol.
Mae hefyd yn wir fod rhywfaint o'r trosglwyddiad yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, fel gydag Ysbyty Maelor Wrecsam, yn deillio o drosglwyddiad o fewn yr ysbyty, rhwng cleifion neu staff. Yr hyn sy'n wahanol, serch hynny, am Ysbyty Brenhinol Morgannwg yw bod gennym gronfa fwy o'r coronafeirws yn y gymuned gyfagos. Felly, mae nifer o bobl wedi dod i mewn i'r ysbyty ac angen triniaeth oherwydd coronafeirws, a gwyddom hefyd fod rhywfaint o drosglwyddiad wedi digwydd yn yr ysbyty ei hun. Mae risgiau ym mhob ysbyty ac amgylchedd caeedig os yw'r coronafeirws yn lledaenu ymhlith y staff neu'r grŵp o bobl sydd naill ai'n derbyn gofal neu'n byw yn yr amgylchedd hwnnw. Dyna pam ein bod yn parhau â'n rhaglen brofi mewn cartrefi gofal. Rwy'n disgwyl y cawn fwy o wybodaeth gan y bwrdd iechyd, ac y bydd ffocws parhaus hefyd ar weld a fydd y gyfradd heintio'n cyrraedd penllanw, fel y gwnaeth yn Ysbyty Maelor Wrecsam, ac yn gwella, a pha mor hir y bydd hynny'n para. Felly, rwy'n disgwyl cael y wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd gan y bwrdd iechyd ei hun am y darlun yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg bob dydd. A gwn fod prif weithredwr y bwrdd iechyd yn disgwyl gwneud datganiadau pellach i'r wasg am y mesurau sydd wedi'u cymryd a'r camau gweithredu, gan gynnwys dargyfeirio cleifion o'r safle hwnnw fel y dywedais.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Fel y dywedoch, mae cronfa'r haint yn y gymuned leol yn amlwg yn un mater y mae angen ei ddeall, a'i drosglwyddiad i'r ysbyty yn ogystal ag o fewn yr ysbyty ei hun. Y prynhawn yma, rydym wedi cael gwybodaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru eu bod wedi dod yn ymwybodol o 2,000 o ganlyniadau profion nad oeddent yn ymwybodol ohonynt o gwbl, ac yn amlwg, pan fyddwch yn ceisio deall data lleol, mae gallu deall canlyniadau profion yn elfen hanfodol o allu olrhain y feirws mewn cymunedau. Heddiw, rwy'n croesawu'r newyddion wrth gwrs fod gan Rhondda, er enghraifft, a Merthyr Tudful eu mapiau lleol eu hunain yn awr sy'n dangos lefel y cyfraddau heintio yn y cymunedau hynny—rhywbeth y bûm yn galw arnoch i'w gyflwyno ar gyfer gweddill Cymru. Felly, mae'n amlwg fod y wybodaeth honno gennych. Mae dwy ran i hyn, os caf ofyn am sicrwydd gennych: a allwch ein goleuo ynglŷn â'r 2,000 o ganlyniadau y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cael gwybod amdanynt, pam na wnaeth y system dynnu sylw Iechyd Cyhoeddus Cymru at y canlyniadau hynny, o ystyried eu pwysigrwydd; ac yn ail, a wnewch chi ymrwymo i sicrhau bod y data y mae Merthyr Tudful a Rhondda yn tynnu sylw ato heddiw ar gael ynglŷn â chyfraddau heintio mewn cymunedau lleol fel y gall pobl ddeall pa mor gyffredin yw'r feirws yn eu cymunedau?
Ar yr ail bwynt, rwyf eisoes wedi dweud fy mod yn edrych i weld sut y gallwn sicrhau bod y wybodaeth honno'n cael ei darparu'n rheolaidd fel nad ar sail ad hoc yn unig y mae'n digwydd. Ac rydym yn edrych ar yr hyn y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru eisoes yn ei gyhoeddi i adael i bobl wybod beth sy'n digwydd ar lefel leol. Ac nid ardal Rhondda'n unig; rwy'n credu bod Rhondda Cynon Taf i gyd yn cynhyrchu mapiau sy'n dangos y cyfraddau sy'n bodoli, yn ogystal â Merthyr Tudful. Credaf y byddai'n ddefnyddiol darparu'r wybodaeth honno ar sail reolaidd yn ôl y disgwyl. Felly, rwyf eisoes yn edrych ar sut y gwnawn hynny ac i weld beth y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru eisoes yn ei ddarparu.
Ar eich pwynt cyntaf, yn anffodus gwelwyd nam yn y data o'r labordai goleudy. Nid yw'r data wedi dod i mewn i Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru i'w ddarparu i Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac felly mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ein hysbysu eu bod yn aros am yr oddeutu 2,000 o ganlyniadau profion o'r labordai goleudy. Mae'n fater a godwyd drwy ein trefniadau rheoli a gwybodaeth arferol gyda chydweithwyr yn rhaglen brofi'r DU. Cyn gynted ag y bydd y ffigurau hynny ar gael, bydd angen inni sicrhau ein bod yn deall ble maent a pha mor bell yn ôl y mae'r canlyniadau hynny'n mynd hefyd, gan ein bod wedi gweld peth gwelliant o ran yr oedi cyn darparu canlyniadau'r labordai goleudy, ac felly byddaf am ddeall sut y mae hynny'n mynd yn ôl ac yn newid ein dealltwriaeth o'r darlun sy'n newid o achosion positif o'r coronafeirws ledled Cymru. Felly, yn sicr nid yw'n ddelfrydol, ond fel y dywedais, rwy'n disgwyl y gwnawn ni ddatrys hynny gyda'r bobl sy'n gyfrifol am raglen brofi'r labordai goleudy.
Yn gynharach yn yr ymateb i fy nghwestiynau, fe wnaethoch dynnu sylw, ac fe wnes innau dynnu eich sylw chi at yr aflonyddwch y mae'r clwstwr o achosion yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn ei achosi i wasanaethau, a heddiw yn y newyddion clywn fod miliwn o apwyntiadau sgrinio canser y fron wedi'u colli oherwydd y pandemig COVID ledled y Deyrnas Unedig. Yn amlwg, pan fydd gan feddygon teulu bryderon a'u bod yn atgyfeirio cleifion at y system iechyd, mae'n bwysig iawn fod pobl yn cael y profion diagnostig sydd eu hangen arnynt ac yna'r driniaeth o fewn y GIG. Yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae canolfan ddiagnosteg gyflym eisoes ar gael ar gyfer gwasanaeth o'r fath, ond mae'n amlwg fod angen canolfannau o'r fath ledled gweddill Cymru. A wnewch chi ymrwymo heddiw i ehangu'r canolfannau diagnosteg cyflym ar fyrder, er mwyn i feddygon teulu gael yr opsiwn hwnnw ac fel bod cleifion, pan amheuir bod angen archwiliadau pellach arnynt mewn perthynas â thriniaethau canser, yn gallu mynd i mewn i'r system, cael y diagnosis a chael gwybod naill ai nad oes canser arnynt neu symud ymlaen o fewn y gwasanaeth iechyd, ble bynnag y maent yn byw yng Nghymru? Oherwydd rydym i gyd yn gwybod, mewn perthynas â chanser, fod amser yn hollbwysig, ac os ceir aflonyddwch yn y gwasanaeth, fel y gwyddom sy'n digwydd yn sgil COVID, mae angen inni ddefnyddio'r arferion gorau sydd ar gael i ni, a byddwn yn awgrymu bod canolfannau diagnosteg cyflym yn un o'r llwybrau y mae angen eu hagor.
Dau bwynt: y cyntaf yw ein bod eisoes wedi ailgychwyn gwasanaethau sgrinio, fel y soniais wrth yr Aelodau eisoes. Yr ail yw: efallai nad ydych wedi nodi hyn, ond mae Tom Crosby wedi cadarnhau y cafwyd cytundeb o fewn GIG Cymru i gyflwyno rhaglen genedlaethol o ganolfannau diagnosteg, yn dilyn y treialon a gynhaliwyd yng Nghastell-nedd Port Talbot, ac yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg mewn gwirionedd, yn y ganolfan ddiagnosteg yno hefyd. Felly, byddaf yn rhoi manylion priodol i'r Aelodau am y rhaglen gyflwyno honno, ond mae'n gyfle da i ddweud bod y treial y buom yn ei gynnal yng Nghymru wedi bod yn llwyddiannus, ac rydym yn disgwyl i hynny ddigwydd yn genedlaethol. Felly, rwy'n meddwl efallai ein bod eisoes hanner cam ar y blaen i'r cwestiwn a ofynnwyd heddiw.
3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ailddechrau gwasanaethau yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda? OQ55587
Gwnaf. Rydym yn cydnabod yr her o ddarparu gwasanaethau hanfodol a llawdriniaethau rheolaidd yn ystod pandemig COVID-19. Mae gwybodaeth reoli yn dangos bod gweithgarwch triniaeth tua 40 i 50 y cant o'r hyn ydoedd cyn y pandemig COVID. Mae gweithgarwch cleifion allanol wyneb yn wyneb ychydig dros hanner yr hyn ydoedd ond mae'n cynyddu bob mis. Rydym yn parhau i weld newidiadau yn y modd y caiff gwasanaethau eu darparu, ac mae arolygiadau rhithwir mewn apwyntiadau newydd ac apwyntiadau dilynol i gleifion allanol wedi cynyddu'n sylweddol, 700 y cant, o gymharu mis Mawrth 2020 â'n dealltwriaeth bresennol o ffigurau mis Medi 2020.
Weinidog, rwy'n falch o glywed, wrth gwrs, fod lefelau ailddechrau gwasanaethau'n cynyddu mewn gwirionedd, ond mae etholwr wedi cysylltu â mi i ddweud ei bod yn aros i'w mab gael triniaeth ddeintyddol ac wedi cael gwybod gan y bwrdd iechyd lleol mai 81 wythnos yw'r amser aros yn fras, er iddo gael ei ychwanegu at restr flaenoriaethol ar gyfer cael triniaeth theatr. Nawr, rwy'n siŵr y cytunwch fod aros 81 wythnos yn gwbl annerbyniol. Felly, a allwch ddweud wrthym pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda byrddau iechyd ynglŷn ag archwilio ffyrdd eraill i gleifion gael triniaeth, megis rhoi triniaethau ar gontract allanol, fel nad yw etholwyr fel fy un i'n wynebu amser aros o 81 wythnos?
O ran y manylion, credaf y byddai'n helpu—a byddwn yn fodlon edrych ar hyn—i gael manylion y mater y mae'r Aelod yn ei godi am ei etholwr, i ddeall y manylion sy'n sail i hynny ac i allu rhoi ateb mwy defnyddiol am yr etholwr hwnnw. Rwyf am gynorthwyo gyda hynny.
Ar y pwynt ehangach am yr amseroedd aros, nid oes capasiti enfawr o fewn y sector annibynnol yma yng Nghymru, a'r her o hyd, wrth inni symud drwy'r pandemig, yw sut y mae'r sector annibynnol eisoes yn ceisio gwneud cymaint o waith ag y gall yn unigol, ac yn wir, mae gennym ddarpariaeth o hyd gyda'r sector annibynnol i'n helpu fel rhan o'n cynllun diogelu'r gaeaf a'r gallu i gael capasiti ymchwydd. Bydd yn cymryd cyfnod sylweddol o amser i adfer yr holl weithgarwch sydd wedi'i ohirio o ganlyniad i'r pandemig COVID. Fel y dywedais wrth ateb cwestiynau cynharach, mae adroddiad Cydffederasiwn y GIG ar gyfer Lloegr yn nodi darlun tebyg iawn yn y wlad honno am yr ystod o weithgarwch a'r amser y bydd yn ei gymryd i wella.
Credaf mai'r farn wrthrychol fyddai fod pawb yn deall mai dyna sydd wedi digwydd, gyda'r nifer sylweddol o fywydau a gollwyd eisoes a'r risg o golli cryn dipyn yn rhagor o fywydau hyd yn oed os na chaiff camau eu rhoi ar waith i sicrhau nad ydym yn dioddef yng nghyfnod nesaf y pandemig coronafeirws. Ond mae hynny'n creu canlyniadau i weddill ein gweithgarwch gwasanaeth iechyd gwladol. Efallai mai dyna'r farn wrthrychol, ond os ydych yn rhywun sy'n aros am gyfnod hir am driniaeth, ac yn byw gydag anghysur, efallai na fydd hynny o lawer o gysur i chi'n bersonol. Dyna pam y bydd gennym dasg sylweddol o'n blaenau yng Nghymru ac ym mhob gwlad arall yn y DU i ddeall sut y gallwn adfer hynny'n llwyddiannus ar ôl inni oroesi'r pandemig a chael dealltwriaeth o'r hyn y gallwn ei wneud i ddarparu brechlyn, gobeithio, neu driniaeth wrthfeirysol effeithiol. Ac fel y dywedaf, dyna pam rwy'n credu y bydd yn cymryd tymor Senedd Cymru llawn i ymdopi â hynny. Nid codi bwganod yw hynny; dyna fi'n bod yn ddidwyll ac yn onest gyda phobl am lefel yr her y gallwn i gyd ei hwynebu.
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am farwolaethau o ganlyniad i COVID-19 o fewn ysbytai yn y gogledd? OQ55618
Diolch am y cwestiwn. Mae data a gynhyrchwyd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn adrodd bod 460 o farwolaethau'n gysylltiedig â COVID-19 wedi'u cofrestru ymhlith trigolion Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr mewn ysbytai hyd at 29 Medi. Dyna'r ffigurau diweddaraf sydd gennyf.
Wrth i rannau helaeth o'r gogledd symud i gyfyngiadau lleol yfory wrth gwrs, mae arnom angen sicrwydd yn awr gan y Llywodraeth hon fod gwersi wedi'u dysgu o'r clystyrau o achosion a gafwyd yr haf hwn mewn ysbytai megis Ysbyty Maelor Wrecsam. Cafwyd 32 o farwolaethau'n gysylltiedig â COVID mewn chwe wythnos—nawr, nid yw'n feirniadaeth o staff y rheng flaen sydd wedi gweithio'n ddiflino drwy gydol y pandemig, ond mae'n codi cwestiynau difrifol am y ffordd y mae Llywodraeth Cymru a'r uwch reolwyr yn ymdrin â'r mater. Mae angen i bobl wybod pam yr anfonwyd staff ar wardiau COVID yn ôl i weithio ar wardiau eraill heb gael eu profi, pam y gosodwyd cleifion a dderbyniwyd i adrannau damweiniau ac achosion brys ar wardiau cyn i ganlyniadau eu profion COVID gael eu dychwelyd, pam y rhyddhawyd cleifion yn ôl i'r gymuned cyn cael gwybod beth oedd canlyniad eu profion, pam y gosodwyd cleifion COVID a chleifion heb COVID ar yr un ward. Rydych chi'n mynd i'r ysbyty i wella, Weinidog, ond yn sicr nid oedd hynny'n wir yn achos rhai o'r bobl yn Ysbyty Maelor Wrecsam dros yr haf. Felly, o gofio bod bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr wedi bod dan reolaeth uniongyrchol eich Llywodraeth dros y pum mlynedd diwethaf, a wnewch chi dderbyn eich rhan yn y methiant hwn, a pha gamau a gymerwch yn awr i sicrhau nad yw hynny'n digwydd eto?
Wel, wrth gwrs, fi sy'n gyfrifol am y gwasanaeth iechyd gwladol yma yng Nghymru, ac rwy'n falch o wneud hynny. Pan fydd y gwasanaeth iechyd yn gwneud pethau'n anghywir, fi yw'r Gweinidog sy'n gyfrifol am y gwasanaeth iechyd, yn union fel pan fydd y gwasanaeth iechyd yn gwneud gwahaniaeth enfawr yn achub bywydau a gofalu am bobl yn y ffordd dosturiol rydym wedi dod i'w disgwyl fel realiti arferol bob dydd yr hyn y mae ein gwasanaeth iechyd yn ei wneud am y mwyafrif helaeth o'r amser.
Fel y dywedais wrth ateb cwestiynau Andrew R.T. Davies yn gynharach, rydym yn bendant wedi dysgu o'r achosion yn Ysbyty Maelor Wrecsam yn gynharach yn yr haf, ac mae'r gwersi hynny'n cael eu cymhwyso yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar hyn o bryd. Mae'n bwysig ein bod yn parhau i ddysgu wrth i'r pandemig coronafeirws barhau. Felly, roedd yr arweinyddiaeth gan Gill Harris yn benodol, fel y cyfarwyddwr nyrsio, sydd bellach yn brif weithredwr dros dro nes i'r prif weithredwr newydd gyrraedd yn ddiweddarach yn y flwyddyn, yn arbennig o bwysig, fel roedd y ffordd y daethpwyd â rhanddeiliaid at ei gilydd—nid y tîm arwain yn unig, ond y staff a chynrychiolwyr undebau llafur hefyd—a'r modd y cyfathrebwyd â theuluoedd.
Mae risgiau'r feirws hwn yn real ac yn sylweddol, ac mae pob un o'r clystyrau hyn—boed mewn cartref gofal, ysbyty neu drwy drosglwyddiad cymunedol—yn amlygu'r risgiau a pham ei bod yn bwysig i'n gweithwyr gofal iechyd proffesiynol gadw at y cyngor gorau ar atal a rheoli heintiau, a hefyd pam y mae angen i aelodau o'r cyhoedd eu helpu i wneud hynny. Felly, wrth gwrs, mae gwersi i'w dysgu, a chredaf y gallai fod yn ddefnyddiol, nid yn unig mewn perthynas â chwestiwn yr Aelod, ond wrth ymwneud â'r pwyllgor o bosibl, inni nodi ac amlygu'r hyn y credwn yw rhai o'r gwersi a ddysgwyd wrth inni fynd drwy'r heriau y mae Cwm Taf Morgannwg yn eu hwynebu yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar hyn o bryd, a deall lle credwn fod lle i wella a beth y mae hynny'n ei olygu. Fe fyddwch eisoes yn gweld, serch hynny, fod adran y prif swyddog meddygol eisoes wedi ysgrifennu at bob bwrdd iechyd yn ailadrodd amrywiaeth o ganllawiau a chyngor, ac yn wir mae'r prif swyddog nyrsio hefyd wedi ailadrodd y cyngor a'r disgwyliadau mewn perthynas ag atal a rheoli heintiau ar draws y gwasanaeth cyfan.
Mae staff ambiwlans yng ngogledd-ddwyrain Cymru wedi cysylltu â mi i fynegi pryder y gallai diffyg profion i staff ambiwlans gyfrannu at farwolaethau COVID-19 mewn ysbytai yng ngogledd Cymru. Pan euthum ar drywydd hyn gydag ymddiriedolaeth ambiwlans GIG Cymru, dywedodd y prif weithredwr nad ystyrir bod cynnal profion ar bersonél ambiwlans asymptomatig yn briodol nac yn ddibynadwy. Dywedodd eu dirprwy brif weithredwr, 'Os a phan fo'r dystiolaeth wyddonol yn cefnogi profion mynych i unigolion asymptomatig, bydd yn dod yn bolisi Llywodraeth Cymru a chaiff ei fabwysiadu gennym bryd hynny'. Felly, sut rydych chi'n ymateb i'r hyn a ddywedodd y staff ambiwlans wrthyf, sef, er ei bod o'r pwys mwyaf fod criwiau ambiwlans yn cael eu diogelu rhag trosglwyddiad y feirws COVID-19, nad yw'r rhan fwyaf o griwiau ambiwlans wedi cael unrhyw brawf rheolaidd, ac mai staff sy'n dangos symptomau yn unig sydd wedi cael profion? Does bosibl na fyddai'r dystiolaeth wyddonol sy'n mynnu bod angen cynnal profion ar staff cartrefi gofal yn berthnasol i griwiau ambiwlans, sydd hefyd yn gweithio'n agos at bobl hŷn, pobl agored i niwed a chleifion â phroblemau iechyd isorweddol difrifol a allai farw yn yr ysbyty?
Mae datganiadau'r prif weithredwr a'r dirprwy brif weithredwr yn gywir. Nid yw'r dystiolaeth wyddonol a meddygol bresennol yn cefnogi cynnal profion cyffredinol ar staff ambiwlans asymptomatig. Pe bai'n gwneud hynny, byddem yn newid ein safbwynt ac yn sicrhau bod y capasiti'n cael ei ddefnyddio gennym yn unol â'r cyngor hwnnw. Mae profion cadw golwg ar gyfer staff cartrefi gofal wedi sicrhau hyder yn y sector, ac wedi golygu ein bod wedi gallu darparu profion i bobl sy'n mynd i mewn i ofal preswyl, yn enwedig pan gânt eu rhyddhau o'r ysbyty, a bod y staff eu hunain yn teimlo eu bod wedi'u diogelu a'n bod wedi gallu deall ble mae achosion yn digwydd. Mae natur arbennig o fregus preswylwyr cartrefi gofal yn ffactor gwahanol i'r ffordd y mae parafeddygon yn gwneud eu gwaith a'r amrywiaeth o bobl y dônt i gysylltiad â hwy. Mae hefyd yn ffaith nad ydym yn gweld yr un lefel o newid staff o fewn cysylltiad uniongyrchol yn y gwasanaeth ambiwlans ac o ymdrin â phobl yn y gymuned. Nid yw honno'n sefyllfa y gellir ei chymharu mewn gwirionedd â'r timau rheolaidd o bobl sydd eu hangen i ofalu am bobl mewn cartrefi gofal. Os bydd y dystiolaeth yn newid byddwn yn hapus i newid ein safbwynt wrth gwrs. Nid oes dim sy'n anghyson â'r penderfyniad polisi presennol a'r dystiolaeth a'r cyngor gwyddonol gorau a diweddaraf.
5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru'n eu cymryd i fynd i'r afael â phroblem unigrwydd ymhlith pobl hŷn? OQ55583
Y Dirprwy Weinidog i ymateb.
Rydym wedi darparu £400,000 i Age Cymru i sefydlu gwasanaeth cyfeillio cenedlaethol dros y ffôn i ddarparu cymorth emosiynol i bobl hŷn. Rydym hefyd wedi gweithio gyda llywodraeth leol a'r trydydd sector i sicrhau bod cymorth ymarferol ac emosiynol ehangach ar waith, megis cynlluniau cynhwysiant digidol a chyfeillio.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am ei hymateb? Mae llawer o bobl hŷn, yn enwedig rhai sy'n byw ar eu pen eu hunain, yn dioddef o unigrwydd. A wnaiff y Llywodraeth hyrwyddo sesiynau Zoom i'r rhai sy'n byw ar eu pen eu hunain er mwyn iddynt allu gweld a siarad â'u ffrindiau pan fydd TGCh ar gael iddynt? A hefyd, a ellir gwneud mwy i gynyddu nifer y bobl sy'n cael budd o wasanaeth cyfeillio dros y ffôn ardderchog Age Cymru?
Diolch yn fawr iawn i Mike Hedges am y cwestiwn hwnnw. Gwn fod llawer o bobl, gan gynnwys pobl hŷn, yn unig. Ceir llawer o bobl hefyd nad ydynt yn hyderus yn ddigidol, nid ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd ac nid oes ganddynt fynediad at y dyfeisiau priodol, a dyna pam y gwnaethom ariannu Age Cymru i sefydlu gwasanaeth cyfeillio dros y ffôn, ac fel y dywedais, rydym wedi rhoi £400,000 iddynt ar gyfer y gronfa. Teimlwn fod y gwasanaeth Ffrind mewn Angen yn wasanaeth rhagorol, fel y dywed Mike Hedges, ac mae ein swyddogion yn Llywodraeth Cymru wedi gweithio gydag Age Cymru i sicrhau bod cysylltiadau'n cael eu gwneud ym mhob awdurdod lleol i sicrhau bod yr hyn y mae Ffrind mewn Angen yn ei ddarparu yn cyd-fynd â'r hyn y mae'r awdurdodau lleol yn ei wneud hefyd. A thrwy Cymunedau Digidol Cymru, rydym yn cydlynu mentrau mewn cymunedau lleol i bobl, gan gynnwys pobl hŷn, allu meithrin sgiliau a chael ysgogiad a hyder i gymryd rhan mewn cyfarfodydd Zoom, fel y dywed Mike Hedges. Ond rwy'n credu ei fod wedi gofyn cwestiwn pwysig iawn ac rydym yn sicr yn gweithio i'r perwyl hwnnw.
Ddirprwy Weinidog, dywedant mai'r lle mwyaf unig i fod ynddo yn aml iawn yw mewn torf ac fe fyddwch yn gwybod am adroddiad y comisiynydd pobl hŷn a gyhoeddwyd yn gynharach ar gartrefi gofal ac unigrwydd, ynysigrwydd, yr holl waharddiadau cyffredinol rydym yn eu cael mewn cartrefi gofal a pha mor anodd yw hi gyda'r holl gyfyngiadau symud. Cyn inni fynd ar y trywydd hwnnw eto, sut y gall Llywodraeth Cymru sicrhau y gallwn fod yn llawer mwy tosturiol y tro hwn a thargedu'n well y modd rydym yn trin pob un o'r unigolion sy'n rhan o'r senario hon? Oherwydd efallai fod gennym bobl mewn cartrefi gofal, ond mae llawer iawn o'r bobl yno'n ei chael hi'n anodd iawn ymgysylltu â'r staff, yn eithriadol o anodd ymgysylltu â chyd-breswylwyr yn y cartrefi gofal—pobl sydd o gwmpas eu pethau, pobl sy'n deall beth sy'n digwydd, ond nad yw eu cyrff yn gryf; mae eu meddyliau'n hollol iawn. Rwyf wedi cael un hanes gofidus ar ôl y llall yn dweud wrthyf am bobl a oedd yn teimlo eu bod wedi'u anghofio yn ystod y cyfnod diwethaf o gyfyngiadau symud a'r gwaharddiadau cyffredinol yn dweud, 'Ni chewch weld y bobl rydych chi'n eu caru, a dyna ddiwedd ar y mater', pan oeddent dan glo, neu pan oeddent yn teimlo'u bod dan glo, yn eu hystafelloedd ar eu pen eu hunain, heb fawr ddim cysylltiad cymdeithasol ag unrhyw un.
Diolch am y cwestiwn hwnnw, Angela. Yn sicr, rydym yn ymwybodol iawn o'r mater pwysig hwn ynglŷn â sut i alluogi pobl hŷn mewn cartrefi gofal i gael cysylltiad â'u hanwyliaid. Mae'n fater o droedio ffin anodd iawn rhwng diogelu iechyd pobl hŷn yn y cartrefi gofal a'r staff, a'u hiechyd meddwl o ran cael y cysylltiad y maent ei angen a'i eisiau â'u hanwyliaid. Felly, yn sicr nid ydym yn cefnogi unrhyw waharddiadau cyffredinol; rydym yn disgwyl i awdurdodau lleol geisio ymdrin â hyn ar sail unigol a gweld ble y gellir ymweld yn ddiogel. Credwn hefyd ei bod yn bwysig iawn defnyddio'r holl dechnoleg sydd ar gael i breswylwyr cartrefi gofal allu cadw mewn cysylltiad â'u hanwyliaid. Darparwyd £800,000 gennym tuag at ddyfeisiau digidol ar gyfer cartrefi gofal a hosbisau i alluogi hynny i ddigwydd, ond rwy'n derbyn y pwynt yn llwyr fod yna lawer o drigolion na fyddant yn gallu manteisio ar y dyfeisiau digidol hynny. Felly, rydym wedi rhoi canllawiau ynglŷn ag ymweld yn yr awyr agored, ac yn ystod y cyfnod byr hwn—yn sicr nid heddiw—ond am beth amser cyn y daw'r gaeaf, gallai ymweliadau awyr agored barhau. Yn amlwg, mater i'r darparwr a'r awdurdod lleol yw hwn, ond gyda'n canllawiau, rydym am annog cymaint o hyblygrwydd â phosibl ac rydym yn derbyn yn llwyr ei bod yn bwysig iawn i drigolion cartrefi gofal weld eu hanwyliaid pryd bynnag y bo'n bosibl iddynt wneud hynny'n ddiogel.
6. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith cyfyngiadau coronafeirws ar iechyd meddwl a lles yng Nghymru? OQ55601
Weinidog, eich meicroffon.
Dyna ni. Mae'r ffordd arall rownd fel arfer.
Rydym yn parhau i fonitro effaith y pandemig ar iechyd meddwl a lles drwy amrywiaeth o arolygon a thystiolaeth arall, yng Nghymru a ledled y DU. Byddaf yn gwneud datganiad manwl am ein camau gweithredu i ymateb i anghenion iechyd meddwl sy'n newid yn y dyfodol agos.
Weinidog, edrychwn ymlaen at y datganiad hwnnw, oherwydd po hiraf y bydd y coronafeirws gyda ni a pho hiraf y bydd yn rhaid inni addasu ein bywydau, y mwyaf dwys yw'r effaith bosibl ar iechyd meddwl a lles. Ond effeithiwyd yn fwy difrifol ar rai oherwydd ynysigrwydd cymdeithasol gorfodol a'r angen i warchod, oherwydd colled ariannol neu golli swyddi, a'r pryder parhaus ynglŷn â dod i gysylltiad â'r haint, yn enwedig ymhlith y rhai sy'n gweithio yn ein sectorau iechyd a gofal a'n sectorau manwerthu hefyd. Ychwanegwch at hyn ymosodiad dyddiol y cyfryngau cymdeithasol a'r cyfryngau traddodiadol—mae'n golygu, hyd yn oed pan fyddwch yn ymlacio yng nghysur eich cartref eich hun, fod y feirws fel pe bai'n sleifio i mewn i'ch ystafell fyw hefyd. Mae clybiau a sefydliadau fel corau, rygbi, clybiau gwau, bingo cymunedol, chwaraeon a'r celfyddydau, sydd fel arfer yn darparu rhwyd ddiogelwch o ffrindiau a chymorth i bob oedran, wedi tawelu hefyd. Felly, Weinidog, wrth i gyfyngiadau COVID fygwth ymestyn i mewn i'r misoedd i ddod, sut y gall Llywodraeth Cymru a phartneriaid ddarparu adnoddau a chymorth i wrthsefyll y storm gynyddol o unigrwydd ac ynysigrwydd a phroblemau iechyd meddwl sy'n ein hwynebu?
Diolch. Byddwn yn parhau i weithredu ein strategaeth unigrwydd ac ynysigrwydd cymdeithasol i bob oed a gyhoeddwyd gennym ym mis Chwefror, ond yn fwy penodol, rydym yn ystyried arolygon a thystiolaeth gennym ni a'n partneriaid am effaith uniongyrchol unigrwydd ac ynysigrwydd ar iechyd meddwl a lles, sy'n rhan o realiti'r mesurau y bu'n rhaid inni eu cymryd i gadw Cymru'n ddiogel ac i ddiogelu'r nifer fwyaf posibl o fywydau. Y mesurau rydym wedi'u cymryd mewn cyfyngiadau lleol, lle bu'n rhaid inni, yn anffodus, ddileu swigod yr aelwydydd estynedig—rwy'n cydnabod bod canlyniad i hynny. Felly, mae'r hyn a wnaethom o ran gweithio gyda phartneriaid yn ymateb yn uniongyrchol i'r pandemig ac yn cynllunio ar gyfer y dyfodol mewn gwirionedd. Mae ein gwaith wedi canolbwyntio yn y cam uniongyrchol ar fynediad at gymorth haen 0 a haen 1—sef ymyrraeth a chymorth lefel isel—ac mae'r gwelliannau presennol yn cynnwys cryfhau'r llinell gymorth iechyd meddwl graidd, lansio pecyn cymorth iechyd meddwl pobl ifanc, a SilverCloud, sef rhaglen therapi gwybyddol ymddygiadol ar-lein. Rydym hefyd yn darparu cyllid ychwanegol i'r trydydd sector i helpu i lenwi bylchau yn y cyfnod hwn.
Rydym hefyd yn edrych ymlaen at y dyfodol ac yn deall ein bod yn disgwyl lefel uwch o bryder ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol y gallai fod angen inni wneud rhywbeth yn ei gylch, a'r hyn y byddwn yn gallu ei wneud o ran mynediad at wasanaethau iechyd meddwl arbenigol, ond hefyd, mae angen inni fwrw ati i feddwl beth y gallwn ei wneud o ran anghenion iechyd meddwl ac anghenion cymorth ein staff, yn enwedig staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen. Mae effaith yr hyn y bu'n rhaid i'n staff ei wneud i gadw pobl yn fyw, yn ddiogel ac yn iach yn rhywbeth sy'n effeithio ar bobl nawr, ond gŵyr pawb ohonom fod yna sylfaen dystiolaeth amlwg na fydd rhywfaint o'r effaith honno'n amlygu ei hun am gyfnod o amser. Felly, dros y cyfnod nesaf, tymor nesaf y Senedd hon yng Nghymru, bydd angen inni fod wedi cynllunio ar gyfer ein staff, a deall sut y gallwn helpu i'w cefnogi, a dyna pam ein bod eisoes wedi cyflwyno mecanweithiau cymorth ychwanegol ledled Cymru ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol.
7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gyfyngiadau symud COVID-19 yn Rhondda Cynon Taf? OQ55605
Diolch am y cwestiwn. Yn dilyn cynnydd sydyn yn nifer yr achosion yn Rhondda Cynon Taf, cyflwynwyd cyfyngiadau newydd ar 17 Medi i leihau lledaeniad coronafeirws a diogelu iechyd y cyhoedd. Adolygodd Gweinidogion Cymru y cyfyngiadau hyn ar 24 Medi, a bryd hynny cytunwyd i gadw'r cyfyngiadau am o leiaf saith diwrnod arall.
Weinidog, diolch ichi am yr ateb hwnnw. Bydd trigolion yn fy etholaeth yn pryderu'n fawr ynglŷn â'r newyddion am y nifer fawr o achosion o COVID-19 yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, sydd, gwaetha'r modd, wedi arwain at farwolaeth wyth claf, gyda chwech arall yn yr uned gofal dwys, Weinidog. Hoffwn fynegi fy nhristwch a fy syndod o glywed y newyddion hwn, ond wrth gwrs, mae ein meddyliau gyda'u teuluoedd yn awr.
Cyfarfûm â chadeirydd y bwrdd iechyd heddiw, ac rwy'n cefnogi'r camau sy'n cael eu cymryd gan y bwrdd iechyd i sicrhau bod y clwstwr o achosion wedi'i gyfyngu'n llawn. Weinidog, a allech roi'r wybodaeth ddiweddaraf i mi am y sefyllfa ddiweddaraf o safbwynt Llywodraeth Cymru, ac yn arbennig, a allwch chi roi manylion y cymorth a ddarperir gan Lywodraeth Cymru i helpu i reoli'r achosion? A allech chi hefyd roi unrhyw fanylion am y goblygiadau i'r rheini y bu'n rhaid gohirio eu llawdriniaethau? Ac yn olaf, Weinidog, byddwn yn ddiolchgar am y wybodaeth ddiweddaraf am y ffordd y mae'r cyfyngiadau lleol yn Rhondda Cynon Taf yn mynd rhagddynt o ran y cyfraddau heintio, a chan gadw'r achosion yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg mewn cof, a ydych chi'n gweld angen i dargedu adnoddau profi pellach ar gyfer RhCT?
Diolch am y gyfres honno o gwestiynau. O ran y camau y mae'r bwrdd iechyd yn eu cymryd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, cawsant gyfarfod ddoe â phartneriaid lleol, a'r awdurdod lleol yn fwyaf pwysig, lle trafodwyd ac y cytunwyd ar yr ystod o fesurau sy'n cael eu cymryd, a chredaf fod lleihau gofal rheolaidd yn fesur diogelwch synhwyrol a hwythau'n wynebu clwstwr o achosion o'r haint. Mae hynny'n golygu y bydd llawdriniaethau'n cael eu gohirio a'u hail-drefnu ar gyfer dyddiad diweddarach, ond mae hynny er lles gorau'r cleifion hynny—peidio â'u derbyn ar safle ar gyfer llawdriniaethau rheolaidd lle deallwn fod clwstwr o achosion yn peri niwed. Ac mae hwnnw'n fesur dros dro tra bo'r achosion yn cael eu rheoli.
Ar hyn o bryd, mae prif weithredwr GIG Cymru mewn cysylltiad rheolaidd â'r bwrdd iechyd i gael dealltwriaeth briodol o'r mesurau sy'n cael eu cymryd, a throsolwg, fel y nodwyd yn gynharach, ar y mesurau a'r camau rheoli i ddeall yr hyn sy'n digwydd, gyda'r profion sydd ar waith i staff, i ddeall a oes angen gwneud mwy. Yn sgil canlyniadau profion staff, gallwn weld ble mae'r clwstwr o achosion mewn gwirionedd, a gweld pa mor dda y mae'n cael ei reoli. Felly, rydym yn dysgu ac yn cymhwyso'r mesurau o Ysbyty Maelor Wrecsam.
Ar eich pwynt ehangach ynglŷn â mesurau yn y gymuned, credaf ei bod yn bwysig ystyried, er nad ydym wedi gweld yr un gostyngiad yn nifer yr achosion a welsom, yn ffodus, yng Nghaerffili—ac mae Casnewydd hefyd yn gwneud cynnydd da—fod rhywfaint o dystiolaeth ofalus dros feddwl y gallem fod yn gweld lefelau mwy gwastad. Mae'n dal ar lefel uchel iawn, ond byddwn eisiau deall a yw hynny'n wir mewn gwirionedd, a bydd hynny'n rhoi rhywfaint o obaith pellach inni ar gyfer y dyfodol. Ond tystiolaeth Caerffili yw ei bod yn bosibl gweld gostyngiad yn y cyfraddau, ac nad yw'n esgyn un ffordd tuag at fwy a mwy o gyfyngiadau. Byddwn yn parhau i bwyso a mesur a oes angen gwneud mwy i helpu i reoli lledaeniad y feirws ar draws ardal Rhondda Cynon Taf.
Y pwynt allweddol yw mai mater i bobl yn eu cymunedau yw gofalu am ei gilydd, ac mae'r rheolau yno er budd pawb. Os cawn lefel uchel o gydymffurfiaeth â hynny, gallwn ddisgwyl gweld gostyngiad yn lledaeniad coronafeirws a'r niwed y gwyddom ei fod eisoes wedi'i achosi ac yn debygol o'i achosi. Byddwn yn parhau i adolygu materion yn rheolaidd; mae hynny'n cynnwys darparu gwasanaethau profi. Rydym wedi gweld gostyngiad yn nifer y bobl sy'n manteisio ar y gwasanaethau profi sydd ar gael, felly nid yw'r bwrdd iechyd yn pryderu nad oes gennym ddigon o brofion fel y cyfryw, ond yn hytrach, nad yw pobl a ddylai gael prawf yn cael un. Felly, unwaith eto, mae'n apêl ar bobl i ddefnyddio'r adnoddau profi sydd ar gael yn Rhondda Cynon Taf, a byddwn yn parhau i adolygu sut a ble y cânt eu darparu i sicrhau eu bod ar gael yn rhwydd i'r cymunedau a ddylai gael mynediad atynt.
Weinidog, mae'n amlwg fod y digwyddiad yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn un difrifol iawn. Mae'n fis Medi—pan wynebwn bwysau'r gaeaf ddiwedd mis Tachwedd, mis Rhagfyr a mis Ionawr, gallem fod dan bwysau mwy difrifol eto. Nawr, ledled Cymru, gwn mai rhan o'r broses o reoli risg COVID yw symud rhai llawdriniaethau i gyfleusterau eraill—llawdriniaethau canser, er enghraifft, i ysbyty Vale ac yng Nghaerdydd i ysbyty Spire. Ac mae triniaethau canser yn mynd rhagddynt, yn ôl yr hyn a ddeallaf—bydd triniaethau brys yn parhau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ond mae'r holl ofal dewisol arall bellach wedi dod i ben. Rhaid diogelu cleifion canser yn enwedig rhag cael eu heintio—gall arwain at ganlyniadau gwael iawn os ydych wedi cael llawdriniaeth a'ch bod ar gyffuriau imiwnoataliol. Felly, a allwch chi ein sicrhau bod creu parthau mewn ysbytai, neu symud mathau penodol o ofal i safleoedd penodol, yn digwydd ac y byddant yn ffordd o sicrhau y gellir darparu lefelau uwch o ofal canser na fel arall pan fyddwn yn wynebu'r mathau hyn o argyfyngau?
Gallaf, rwy'n hapus i roi'r sicrwydd uniongyrchol hwnnw—dyna'n union y mae'r bwrdd iechyd yn cynllunio ar ei gyfer gyda'u partneriaid. Maent wedi gweithio gyda phartneriaid awdurdod lleol ynglŷn â'r angen i gael pobl i adael yr ysbyty er mwyn creu mwy o le yn gyffredinol, ond ar eich pwynt ehangach a mwy penodol am wasanaethau canser, maent eisoes yn gweithio gyda phartneriaid eraill hefyd i weld beth y gellir ei symud er mwyn sicrhau bod triniaethau'n parhau cyn belled ag y bo modd. Felly, rwy'n hapus i roi'r sicrwydd uniongyrchol y mae'r Aelod yn gofyn amdano.
Rwy'n pryderu'n fawr am y clwstwr o achosion a'r marwolaethau o COVID-19 yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg a beth fydd hyn yn ei olygu i gleifion a staff. Yn amlwg, rwy'n cydymdeimlo â phawb yr effeithiwyd arnynt.
Mae llawer o lawdriniaethau dewisol eisoes wedi'u gohirio yn ystod y pandemig, ac yn awr mae'r ôl-groniad yn mynd i waethygu. Bydd cleifion brys yn cael eu trosglwyddo mewn ambiwlans yn awr i ysbytai eraill, gan ychwanegu oedi a allai fod yn dyngedfennol o ran cael triniaeth sy'n achub eu bywyd.
Rwyf am wybod beth y gall y Llywodraeth ei wneud i ddod â'r argyfwng hwn yn yr ysbyty i ben yn gyflym a chreu amgylchedd diogel i gleifion a staff. Gallwch wella'r rhaglen brofi. A allwch chi roi hwb i'r capasiti profi ar y safle fel y gallwn olrhain y feirws yn well? A allwch chi wella'r amser ar gyfer dychwelyd canlyniadau er mwyn i bobl gael y canlyniadau hynny'n gyflymach? Mae staff angen gweld gwelliannau yn y rhaglen brofi a phrofion cyflymach, felly beth allwch chi ei wneud i helpu gyda hynny? Yn olaf, a oes gennych unrhyw hyder ar ôl yn y labordai goleudy bellach?
Rwy'n credu bod amrywiaeth o bethau i'w trafod, a rhoi rhywfaint o sicrwydd i'r Aelod, gobeithio, ac i unrhyw bobl sy'n gwylio. O ran clystyrau o achosion a rheoli achosion, fe fyddwch wedi gweld o'r achosion blaenorol yn Ysbyty Maelor Wrecsam ein bod wedi cynnal profion ar staff ac ar gleifion pan gafodd y clwstwr o achosion ei ddatgan drwy ein labordai Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac fe wnaethant ddarparu canlyniadau'n gyflym iawn. Mae'r profion ar gyfer clwstwr o achosion yn cael eu blaenoriaethu, felly daw'r canlyniadau'n ôl yn gyflym iawn, a gallwch ddisgwyl y lefelau o 90 y cant a mwy a gyflawnwyd gennym yn Wrecsam o ran darparu canlyniad o fewn diwrnod.
Felly, rydym yn defnyddio profion GIG Cymru ar gyfer hyn, ar gyfer rheoli'r clwstwr o achosion, a dyna'n union yw'r bwriad, gyda'r capasiti ychwanegol a'r capasiti ymchwydd sy'n bodoli yn ein system. Dylai hynny roi sicrwydd i staff ac yn wir, i bobl sy'n mynd ar y safle hefyd. Os oes angen triniaeth arnynt o hyd ac mai dyna'r lle iawn iddynt gael eu triniaeth, dylid eu profi. Unwaith eto, gallant ddisgwyl i hynny ddigwydd drwy labordai Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd.
O ran y sicrwydd ynglŷn â phobl yn cael eu trosglwyddo i safleoedd eraill, bydd pobl yn cael eu trosglwyddo gan weithwyr proffesiynol yn ymddiriedolaeth gwasanaethau ambiwlans Cymru, a gallant ddisgwyl cael gofal o ansawdd uchel. Rydym yn y sefyllfa ffodus fod yna ysbytai sy'n gymharol agos at safle presennol Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ac nid wyf yn credu bod sail i bobl boeni y gallai'r trosglwyddiad arwain at oedi gormodol yn y driniaeth achub bywyd. Fel bob amser, mae'n gydbwysedd rhwng trosglwyddo pobl o'r safle hwnnw os oes angen, a'r risg i'r bobl hynny o'u derbyn fel arall, a dyna'r risg sy'n rhaid ei chydbwyso a'r penderfyniad sy'n rhaid ei wneud. Mae gennyf hyder yn arweinyddiaeth y bwrdd iechyd; mae gennyf hyder yn y ffordd y maent wedi gweithio gyda phartneriaid i wneud hynny. Rwy'n credu y gallwn edrych ymlaen at weld y clwstwr o achosion yn cael ei reoli. Yn sicr, ni cheir diffyg o ran profi ac argaeledd profion ar y safle i bobl y mae gwir angen iddynt gael prawf, a chredaf inni ddangos hynny gyda'r ymateb blaenorol i'r clwstwr o achosion yn Ysbyty Maelor Wrecsam.
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am drefniadau llywodraethu a rheoli prosiectau cyfalaf Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr? OQ55602
Gwnaf, rhoddais groeso i adroddiad diweddar Archwilio Cymru ar y cynllun ailddatblygu yn Ysbyty Glan Clwyd. Fel y cydnabyddir yn yr adroddiad hwnnw, mae gweithdrefnau llywodraethu a sicrwydd gwell ar gyfer prosiectau cyfalaf wedi'u cyflwyno ac maent bellach wedi'u hymgorffori ym mhrosesau'r byrddau iechyd a Llywodraeth Cymru.
Cawn weld am hynny eto, Weinidog, oherwydd yn 2012 cymeradwyodd Llywodraeth Cymru brosiect i gael gwared ar asbestos ac adnewyddu Ysbyty Glan Clwyd. Cwblhawyd y prosiect yn 2019, ar gost o £170 miliwn—55 y cant yn fwy na'r gyllideb wreiddiol. Nawr, yn adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru, mae'r canfyddiadau'n frawychus: ni chymeradwyodd Llywodraeth Cymru achos busnes amlinellol y bwrdd iechyd yn ffurfiol; cyhoeddodd archwilwyr farn 'dim sicrwydd' ar drefniadau'r bwrdd iechyd ar gyfer llywodraethu a rheoli'r prosiect; ac wrth gymeradwyo'r achosion busnes, ni wnaeth Llywodraeth Cymru ystyried y risgiau a oedd ynghlwm wrthynt yn ddigonol gyda'u cynghorwyr; pryderon hefyd nad oedd cynllun a chostau prosiectau wedi'u datblygu'n ddigonol. Nawr, fel y sonioch chi, rwy'n sylweddoli bod camau wedi'u cymryd i wella trefniadau ar gyfer cymeradwyo achosion busnes, ond gadewch inni fod yn onest, chi oedd, a chi yw'r Gweinidog sy'n gyfrifol. Felly, pa sicrwydd allwch chi ei roi i'r Senedd hon na fyddwch yn caniatáu rheolaeth ariannol mor wael yn y bwrdd iechyd hwn eto? Diolch.
Wel, pan gytunwyd ar y prosiect yn 2012, nid oeddwn yn Weinidog yn y Llywodraeth. Mae'n bwysig gwneud y pwynt ffeithiol hwnnw er cywirdeb. Mewn gwirionedd, mae'r modd y mae'r Aelod yn disgrifio'r adroddiad yn unochrog. Mae'r sylwadau a wneuthum mewn ateb uniongyrchol ar y dechrau yn dod o gasgliadau adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru ei hun. Roedd yn cydnabod gwendidau ar y pryd, roedd yn cydnabod mai'r rhesymeg dros hynny oedd awydd i weld y gwaith unioni'n cael ei wneud, mae hefyd yn cydnabod bod amgylchedd clinigol llawer gwell i gleifion a staff weithio ynddo o ganlyniad i'r gwaith a wnaed, ac mae hefyd yn cydnabod bod gwelliannau yn y broses ac yn y trefniadau llywodraethu ar gyfer prosiectau cyfalaf, nid yn unig o fewn Betsi Cadwaladr ar gyfer gogledd Cymru, ond ar draws y gwasanaeth hefyd. Mae hwnnw'n arolwg mwy gonest a chyflawn o'r adroddiad, yn hytrach na'r fersiwn unochrog a roddodd yr Aelod yn ei hail gwestiwn.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf nawr fydd y datganiadau 90 eiliad, gan nad oedd yna unrhyw gwestiynau amserol wedi cael eu cytuno.
Felly, y datganiad 90 eiliad cyntaf y prynhawn yma yw'r un gan Mike Hedges.
Daeth David Melding i'r Gadair.
Diolch, Lywydd. Tua'r adeg hon bob blwyddyn, bydd yr Aelodau o'r Senedd o bob plaid yn gwisgo eitemau pinc fel rhan o ymgyrch Gwisgwch Binc canser y fron. Mae'r ffotograffau hyn yn mynd ar y cyfryngau cymdeithasol ac i bapurau lleol. Eleni, oherwydd y pandemig, ni allwn gymryd rhan mewn digwyddiad yn y Senedd, ond nid wyf am golli'r cyfle i ddangos fy nghefnogaeth i ymgyrch canser y fron. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn.
Er bod gennym bandemig COVID, nid yw canser y fron wedi diflannu. Ers ei lansio yn 2002, mae Gwisgwch Binc wedi codi dros £33 miliwn ar gyfer ymchwil canser y fron, sy'n gyflawniad ardderchog yn fy marn i. Rwy'n annog pawb i gefnogi ymgyrch Gwisgwch Binc a helpu tuag at ymchwil sy'n achub bywydau i ganser y fron a chymorth sy'n newid bywyd i'r rhai y mae'r clefyd yn effeithio arnynt.
Bob blwyddyn yng Nghymru, mae tua 3,000 o fenywod yn cael diagnosis o ganser y fron ac mae dros 550 o fenywod yn marw o'r clefyd. Dyna pam rwy'n annog pawb heddiw i gefnogi diwrnod ymwybyddiaeth canser y fron. Ni allwn wisgo pinc i gyfarfod â goroeswyr canser y fron, ond gallwn ddangos ein cefnogaeth i elusennau canser y fron, ac rwy'n ceisio gwneud hynny heddiw.
Diolch. Nawr, gyda phleser arbennig, galwaf ar Elin Jones, y Llywydd.
Radio Bronglais yw gorsaf radio ysbyty Bronglais, yn darlledu drwy'r dydd, bob dydd, a'r wythnos yma mae Radio Bronglais yn dathlu ei phen-blwydd yn 50 oed. Dechreuodd yr orsaf yn 1970 pan gyflwynodd aelodau o glwb ieuenctid Bow Street raglen geisiadau ar nos Sul i'r cleifion. Ers hynny, mae'r orsaf wedi mynd o nerth i nerth. Agorwyd stiwdio barhaol gyda chefnogaeth y loteri yn 2001, ac ers 2013 mae Radio Bronglais yn ffrydio dros y we i bedwar ban y byd.
Mae'r orsaf yn cael ei rhedeg gan dîm mawr o wirfoddolwyr ac yn cynnig platfform i dalent newydd lleol. Y mwyaf adnabyddus o'r rhain, siŵr o fod, yw Aled Haydn Jones, a gyfrannodd yn gyntaf i'r orsaf pan oedd e'n ddisgybl 14 oed yn ysgol Penweddig. Mae Aled bellach newydd ei benodi yn bennaeth ar BBC Radio 1. O Radio Bronglais i Radio 1. Da iawn ti, Aled, mae Aberystwyth yn browd iawn ohonot ti.
Mae'r orsaf wedi'i henwebu am lith o wobrau ar hyd y blynyddoedd. Mae rhai o'r cyfweliadau anoddaf, ac yn sicr rai o'r rhai hiraf, dwi wedi eu cael erioed wedi bod ar Radio Bronglais. Ac, wrth gwrs, mae'r orsaf yn cael ei gwerthfawrogi gan gleifion a staff yr ysbyty.
Yn nwyster y pandemig iechyd yma, dewch inni ddiolch a dathlu cyfraniad pob radio ysbyty, ac yn benodol dymuno pen-blwydd hapus i Radio Bronglais.
Diolch yn fawr. Bydd egwyl am 10 munud yn awr i ganiatáu ar gyfer newid staff yn y Siambr.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 15:30.
Ailymgynullodd y Senedd am 15:39, gyda David Melding yn y Gadair.
Trefn, trefn. Dyma ailddechrau trafodion y Senedd.
Symudwn at eitem 5, sef dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar effaith COVID-19, a'r modd y mae'n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, a galwaf ar gadeirydd y pwyllgor i gyflwyno'r cynnig. Dai Lloyd.
Cynnig NDM7401 Dai Lloyd
Cynnig bod Senedd Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar ei Ymchwiliad i effaith Covid-19, a'r modd y mae'n cael ei reoli, ar iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Gorffennaf 2020.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Dwi'n falch iawn o gael agor y ddadl yma heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar COVID-19.
Cyn imi siarad am ein canfyddiadau, hoffwn dalu teyrnged i ymrwymiad ac ymroddiad pawb sydd wedi cyfrannu at y gwaith o sicrhau bod ein gwasanaethau rheng flaen yn parhau i weithredu o dan amgylchiadau anodd dros ben. Er y byddwn yn meddwl yn awtomatig am y sector iechyd a gofal cymdeithasol, rhaid cydnabod hefyd ymdrechion diflino cynifer o sectorau a phroffesiynau eraill, a hynny'n aml y tu ôl i'r llenni.
Mae'r cyhoedd hefyd wedi aberthu llawer, ac mae angen cydnabod hynny. Cafodd teuluoedd a chyfeillion eu gwahanu, a chafodd y rhai mwyaf agored i niwed eu hynysu oddi wrth eu rhwydweithiau cymorth ehangach. Mae eu hymdrechion i gadw at y cyfyngiadau symud wedi atal y feirws rhag lledaenu'n sylweddol. Yn anffodus, rydyn ni'nawr yn wynebu heriau tebyg eto, ac rydyn ni'n gofyn i bobl Cymru ddangos yr un ysbryd eto i gyd-ymdrechu i helpu i ffrwyno'r feirws llechwraidd yma unwaith eto.
Pan gadarnhawyd yr achos cyntaf o'r coronafeirws yng Nghymru ym mis Mawrth eleni, ychydig iawn ohonom, gredwn i, oedd yn sylweddoli y byddai'r feirws yn cael effaith mor ddinistriol a hirhoedlog arnom ni i gyd. Mae wedi bod yn greulon ac yn ddidostur ac mae wedi cipio cyfeillion ac anwyliaid oddi arnom. Fel pwyllgor, roeddem yn teimlo ei bod yn bwysig ystyried effaith y coronafeirws, a'r modd y cafodd ei reoli, ar y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rydyn ni wedi ystyried ymateb Llywodraeth Cymru a chyrff cyhoeddus perthnasol, yn ogystal â’r effaith ar staff, cleifion ac eraill sy'n cael gofal neu driniaeth yn y gymuned neu mewn lleoliadau clinigol. Ein diben wrth ymgymryd â'r gwaith hwn oedd ceisio helpu i ddangos beth weithiodd yn dda a beth na weithiodd cystal, a hynny er mwyn dysgu gwersi a'u cymhwyso'n gyflym, efo'r cynnydd yn y gyfradd heintio sy'n digwydd nawr.
Rydyn ni wedi cael tystiolaeth gan amrywiaeth eang o weithwyr proffesiynol ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, cyrff cyhoeddus a rhanddeiliaid, ac rydyn ni'n parhau i wneud hynny. Cynhaliwyd arolwg o staff rheng flaen, cleifion, gofalwyr, a'r rhai sy'n derbyn gofal neu driniaeth, i ddeall yr effaith y mae'r pandemig wedi ei gael arnynt. Hefyd, roedd gwahoddiad agored i unrhyw rai a oedd yn dymuno rhannu eu profiadau efo ni. Hoffem ddiolch i bawb a roddodd o'u hamser i gyfrannu at ein gwaith.
Mae ein hadroddiad yn cynnwys 28 o argymhellion, ac mae 21 ohonynt wedi'u derbyn yn llawn, a hoffwn ddiolch i'r Gweinidog yn fawr am ei ymateb manwl. Ni fydd gennyf amser i ymdrin â phob argymhelliad, ond byddaf yn ceisio ymdrin â rhai o'r negeseuon allweddol, gan droi yn gyntaf at gyfarpar diogelu personol, PPE. Nawr, yn ystod dyddiau cynnar y pandemig, rhoddwyd cryn dipyn o sylw i'r pryder ynglŷn â sicrhau cyflenwad digonol a pharhaus o gyfarpar diogelu personol. Roedd llawer o'r dystiolaeth gynnar a gawsom yn tanlinellu ofnau a phryderon staff rheng flaen ynghylch cyfarpar diogelu personol priodol. Yn ôl arolwg a gynhaliodd Cymdeithas Feddygol Prydain, nid oedd 67 y cant o feddygon yng Nghymru yn teimlo eu bod wedi'u diogelu'n llawn rhag COVID-19 yn y gwaith, ac roedd 60 y cant ohonyn nhw wedi gorfod prynu eitemau o gyfarpar diogelu personol yn uniongyrchol, neu wedi derbyn cyflenwadau fel rhodd allanol, oherwydd nad oedd y gwasanaeth iechyd yn gallu caffael cyflenwadau digonol.
Dywedodd y Coleg Nyrsio Brenhinol hefyd fod nifer fawr o'u haelodau, yn enwedig timau nyrsio cymunedol, wedi ffonio am eu bod yn poeni nad oeddent yn gallu cael gafael ar gyfarpar diogelu personol. Dywedodd fod 74 y cant o staff nyrsio wedi dweud eu bod yn poeni am brinder cyfarpar diogelu personol, a bod dros hanner wedi teimlo dan bwysau i ofalu am glaf heb amddiffyniad digonol. Yn wir, dywedodd y Gweinidog iechyd wrthym fod y sefyllfa yn peri pryder gwirioneddol i'r Llywodraeth hefyd ar y pryd.
Mae'r sefyllfa hon wedi gwella, ac rydyn ni'n falch iawn o hynny, ond ni allwn orffwys ar ein rhwyfau. Mae angen sicrwydd arnom y bydd cyflenwadau PPE yn parhau, yn enwedig o gofio'r cynnydd yn y gyfradd heintio'n ddiweddar. Gwnaethom, felly, argymell y canlynol: rhaid i Lywodraeth Cymru fynd ati ar fyrder i gyhoeddi strategaeth i sicrhau cyflenwad gwydn o gyfarpar diogelu personol; i gasglu ynghyd lefelau digonol o gyfarpar diogelu personol priodol ar gyfer unrhyw achos yn y dyfodol; i adolygu’r cyfarpar diogelu personol y mae wedi’i gasglu ynghyd i sicrhau ei fod yn parhau i fod o ansawdd digonol a’i fod yn addas at y diben; i gyhoeddi strategaeth ar gyfer sicrhau gwydnwch y trefniadau dosbarthu; i weithio gyda phartneriaid i sicrhau bod canllawiau ar gyfarpar diogelu personol yn cael eu diweddaru yng ngoleuni’r cyngor gwyddonol diweddaraf, a chyfathrebu’r cyngor hwn yn glir i’r staff. Dyna argymhelliad 1. Dwi'n falch iawn o ddweud bod yr argymhelliad hwn wedi’i dderbyn a bod cynllun strategol ar gyfer caffael cyfarpar diogelu personol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn cael ei ddatblygu.
O gofio bod Cymru, yn draddodiadol, yn dibynnu’n gryf ar gyflenwadau o Tsieina a gwledydd eraill yn Asia, mae’n hanfodol ein bod yn cefnogi cynhyrchwyr yng Nghymru i ddatblygu ein cyflenwad cartref ein hunain. Gwnaethom argymell felly fod Llywodraeth Cymru yn adolygu ei systemau i sicrhau bod y mecanweithiau ar waith i alluogi gweithgynhyrchwyr yng Nghymru i ymateb yn gyflym wrth gyflenwi cyfarpar diogelu personol priodol pe bai unrhyw achosion yn y dyfodol. Dyna argymhelliad 2. Wrth dderbyn yr argymhelliad hwn, roedd y Gweinidog yn cydnabod rôl bwysig busnesau Cymru yn y gwaith o gryfhau ein gallu i wrthsefyll ail don o COVID-19. A dywedodd y bydd y cynllun caffael PPE ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yn gyfuniad o gyflenwadau lleol a rhyngwladol.
I droi at gartrefi gofal rŵan, roedd cynnal profion mewn cartrefi gofal yn fater dadleuol, a chafodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru eu beirniadu, fel rydym ni'n gwybod, am fethu â chynnal digon o brofion mewn lleoliadau gofal. Mae ffigurau’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos y bu 663 o farwolaethau oherwydd COVID-19 yng nghartrefi gofal Cymru.
Yn ôl Fforwm Gofal Cymru, roedd y drefn o ryddhau cleifion o’r ysbytai i gartrefi gofal wedi cyfrannu’n sylweddol at y ffaith bod yr haint wedi lledaenu mor frawychus o gyflym mewn cartrefi gofal. Dywedodd Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru ei bod yn pryderu nad oedd hawliau pobl hŷn wedi’u diogelu’n ddigonol. Roedd nifer y marwolaethau yn gysylltiedig â COVID mewn cartrefi gofal yn peri pryder mawr i ni. Rydym ni'n credu bod agwedd gychwynnol Llywodraeth Cymru tuag at gynnal profion mewn cartrefi gofal yn ddiffygiol ar y dechrau, ac roedd ei hymateb i’r argyfwng cynyddol yn rhy araf wedyn. O ganlyniad, roedd nifer y marwolaethau mewn cartrefi gofal yn cyfrif am 28 y cant o’r holl farwolaethau cysylltiedig â choronafeirws yng Nghymru.
Roedd argymhelliad 9 yn ein hadroddiad yn galw ar i Lywodraeth Cymru sicrhau bod pob claf sy’n cael ei ryddhau o’r ysbyty yn uniongyrchol i gartref gofal wedi cael prawf, yn unol â’r arfer gorau diweddaraf, i sicrhau bod preswylwyr a staff yn cael eu diogelu cystal ag y bo modd. Cafodd yr argymhelliad hwn ei dderbyn mewn egwyddor. Dywedodd y Gweinidog fod yn rhaid cael canlyniadau’r profion cyn rhyddhau cleifion o’r ysbyty. Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am y sicrwydd hwn ac am dderbyn ein hargymhelliad.
I droi at brofi, olrhain a diogelu yn olaf, cyn imi orffen ar y dechrau yma, hoffwn sôn am y strategaeth profi, olrhain a diogelu—system olrhain cysylltiadau Llywodraeth Cymru. Mae gan y rhaglen profi ac olrhain o dan y strategaeth nifer o ddibenion allweddol, gan gynnwys: gwneud diagnosis o'r clefyd; cadw golwg ar iechyd y boblogaeth; olrhain cysylltiadau; a pharhad busnes, gan alluogi gweithwyr allweddol i ddychwelyd i’r gwaith yn gyflymach ac yn fwy diogel.
Mae nifer o dystion wedi tynnu sylw at bwysigrwydd dychwelyd canlyniadau profion yn gyflym er mwyn sicrhau llwyddiant y strategaeth profi, olrhain a diogelu. Fel y dywedodd Syr David King, aelod o SAGE Annibynnol, mae’n hanfodol bwysig bod canlyniadau’r profion ar gael yn gyflym.
Dwi'n dyfynnu: 'Os daw’r canlyniad bum niwrnod ar ôl cynnal y prawf, ac mae’r person hwnnw’n dal yn crwydro o amgylch ei gymuned, dychmygwch faint o bobl y gall eu heintio yn ystod y cyfnod hwnnw.'
Rydym ni'n cytuno y bydd cyflymder y profi, yr amser mae’n ei gymryd i brosesu canlyniadau, a chywirdeb y canlyniadau hynny yn hanfodol i lwyddiant y strategaeth profi, olrhain a diogelu. Po hiraf yw’r amser prosesu o’r dechrau i’r diwedd, o gasglu sampl i roi canlyniadau i unigolion, po fwyaf yw’r oedi ar yr adeg pan mae’r clefyd ar ei fwyaf heintus, neu po fwyaf tebygol yw hi y bydd pobl—[Anghlywadwy.]
[Anghlywadwy.]—argymell felly fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru, gan weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, geisio sicrhau bod canlyniadau pob prawf yn cael eu dychwelyd o fewn 24 awr. Dyna argymhelliad 19, a chafodd yr argymhelliad hwnnw hefyd ei dderbyn mewn egwyddor.
Clywsom hefyd y byddai cefnogaeth y cyhoedd yn allweddol i lwyddiant y strategaeth. Mae angen i bobl fod yn barod i fod yn onest wrth rannu manylion am eu symudiadau a'u cysylltiadau, a hunanynysu os gallent fod mewn perygl, a hynny er budd y gymuned ehangach. Gwnaethom argymell, felly, fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru, gan weithio gyda’i phartneriaid, sicrhau ei bod yn cyflwyno negeseuon cyhoeddus clir, a’u hailadrodd yn gyson ar lefel genedlaethol a lleol, yn tanlinellu cyfrifoldeb unigolion i hunanynysu os oes ganddynt symptomau a phwysigrwydd gofyn am brawf ar unwaith. Dyna argymhelliad 25, a derbyniwyd yr argymhelliad hwnnw.
Wrth gwrs, os bydd y broses o olrhain cysylltiadau yn llwyddiannus, mae’n bosib y bydd yn rhaid i bobl hunanynysu sawl gwaith, ac mae hyn yn bryder arbennig i bobl sydd mewn swyddi cyflog isel, gan na fyddant yn gallu fforddio aros gartref o'r gwaith. Yn ôl y canllawiau presennol, mae gan unrhyw un sy'n hunanynysu hawl i dâl salwch statudol, sef £95 yr wythnos, ond nid yw hwn yn gyflog cynaliadwy nac yn gyflog byw. Mae’r demtasiwn i anwybyddu symptomau a chyngor a mynd i’r gwaith yn bryder gwirioneddol, felly, ac yn faes y mae angen i Lywodraeth Cymru roi sylw brys iddo, yn enwedig o ystyried nad yw trefniadau tâl salwch statudol wedi’u datganoli. Rydym felly wedi galw ar i Lywodraeth Cymru fynd ati, fel mater o frys, i holi Llywodraeth y Deyrnas Unedig am y trefniadau tâl salwch statudol ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol ac eraill yng Nghymru sy’n gorfod hunanynysu. Rwy’n croesawu’r ffaith bod y Gweinidog yn derbyn yr argymhelliad yma a’i sicrwydd ei fod yn parhau i dynnu sylw Gweinidogion y Deyrnas Unedig at y pryderon am effaith ariannol hunanynysu.
I gloi, hoffwn gydnabod bod maint yr her sy’n wynebu Llywodraethau a’u partneriaid wrth iddynt ymdopi ag effeithiau COVID-19 wedi bod yn ddigynsail hollol. Gwnaed ymdrechion aruthrol yn gyffredinol a llwyddwyd i gyflawni gwyrthiau. Yn anffodus, mae cyfraddau heintio yn codi unwaith eto. Rhaid inni ddefnyddio'r profiad a gawsom a’r cyfan a ddysgwyd wrth frwydro yn erbyn y don gyntaf o'r clefyd i sicrhau bod unrhyw fesurau newydd a gyflwynir i reoli'r feirws yn effeithiol yn amserol ac yn gymesur. Diolch yn fawr.
Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu at y ddadl hon heddiw. Rwy'n sylweddoli nad oeddwn ar y pwyllgor pan gynhaliwyd yr adolygiad hwn, neu’r ymchwiliad hwn, ond hoffwn dalu teyrnged i fy rhagflaenydd, Angela Burns, am y gwaith a wnaeth yn ystod ei hamser ar y pwyllgor, a hefyd i Gadeirydd y pwyllgor, y staff a'r Aelodau eraill sydd wedi cynhyrchu gwaith manwl a chryno, gyda rhai argymhellion allweddol, a dweud y lleiaf. Ac mae'r Llywodraeth, ar y cyfan, wedi ymgysylltu â'r argymhellion hynny, er fy mod, a minnau’n wleidydd ers oddeutu 13 mlynedd, bob amser ychydig yn betrus wrth glywed 'cytunwyd mewn egwyddor' oherwydd yn aml iawn, yn anffodus, yn aml iawn ni chaiff hynny ei gyflawni, a byddai llawer, os nad pob un o'r argymhellion hyn, o'u derbyn yn eu cyfanrwydd, yn ychwanegu’n aruthrol at gynnig gwell, ymateb gwell, a ninnau bellach, fisoedd ar ôl cyhoeddi'r adroddiad hwn, yn gweld yr hyn y byddai llawer yn ei galw'n ail don o COVID yn taro llawer o'n trefi a'n dinasoedd a'n cymunedau ledled Cymru.
Yn yr adroddiad, bron â bod fel trydydd person yn dod ato, o’i ddarllen o glawr i glawr, credaf fod y mynegai o’r dyddiadau yn y cefn yn atgoffa'n amserol o ba mor gyflym rydym wedi teithio eleni, o fis Ionawr hyd at pan gyhoeddwyd yr adroddiad hwn ym mis Gorffennaf, a'r lefel, y nifer, y trawsnewidiad llwyr mewn gwasanaethau, yn y ffordd y mae'r Llywodraeth yn ymateb—nid oes ond angen i chi edrych ar ein gwaith yma heddiw a ddoe i weld sut y mae COVID wedi llyncu popeth a wnawn gan ei fod yn hollgwmpasol.
Wrth ddarllen rhai o'r sylwadau ynghylch cyfarpar diogelu personol a'r argymhellion ynghylch cyfarpar diogelu personol, roedd yn atgof amserol o'r heriau gwirioneddol y mae'r sectorau’n eu hwynebu, yn enwedig y sector iechyd a'r sector gofal. Ac wrth ei ddarllen, roedd yn pwysleisio'r pwynt ynglŷn â sut y mae angen ystyried y sector iechyd a'r sector gofal yn bartneriaid cyfartal, yn hytrach na bod un sector yn cael darpariaeth o gyfarpar diogelu personol yn y lle cyntaf, a bod y sector gofal yn cael yr hyn sydd dros ben ac efallai’n gorfod dal i fyny. Mae angen cywiro hynny, os bydd y sefyllfa honno’n codi eto gyda chyflenwadau cyfyngedig. Ac rwy'n falch o glywed sicrwydd y Gweinidog fod y cyflenwad o gyfarpar diogelu personol wedi'i gynyddu’n helaeth ers dechrau'r argyfwng, ond mae'n bwysig iawn clywed a deall y parch cydradd hwnnw. Yn benodol, pe gallai’r Gweinidog dynnu sylw yn ei ymateb at y cynnydd a wnaed mewn perthynas â’r gwaith y mae’r Llywodraeth wedi’i gomisiynu gan Deloitte ar fapio’r galw am gyfarpar diogelu personol, unwaith eto, byddai hynny’n dda er mwyn deall sut y ceir tegwch ledled Cymru yn y gadwyn gyflenwi cyfarpar diogelu personol pe bai'r pwysau'n cynyddu yn ystod misoedd y gaeaf.
Mae profi, fel y clywn yn aml y dyddiau hyn, a'r pryderon ynglŷn â phrofi—yn absenoldeb brechlyn, profi yw ein hunig amddiffyniad i gadw rheolaeth ar y feirws ac i ddeall ble mae'r achosion o'r feirws, ac yn y pen draw, sut y mae'n lledaenu drwy ein cymunedau. Mae darllen rhai o'r argymhellion a wnaed, ac yn bwysig iawn, sut y cânt eu rhoi ar waith yn hanfodol bwysig, yn enwedig pan feddyliwch am gynyddu nifer y profion a fydd ar gael. Mae braidd yn ddigalon gweld, ym mis Gorffennaf eleni, fod capasiti profi Llywodraeth Cymru yn 15,000; yma, tua deufis yn ddiweddarach, ym mis Medi, mae'n dal i fod yn 15,000, a'r sylwadau a wnaeth y Prif Weinidog ei hun—rwy’n ei ganmol am ei onestrwydd—y byddem, efallai'n gallu ymdrin â hynny ar sail ddyddiol, ond na fyddai defnyddio’r capasiti llawn hwnnw’n gynaliadwy dros unrhyw gyfnod hirdymor o amser. Ac felly, gweithio ar y cyd ar draws y Deyrnas Unedig, er gwaethaf problemau’r labordai goleudy, fydd yr unig ateb er mwyn dod â lefel go iawn o brofion yma i Gymru, ac yn wir, i rannau eraill o’r Deyrnas Unedig. Rwy'n gobeithio'n fawr y gellir datrys llawer o'r namau sydd wedi amharu ar y system.
Rwy'n gobeithio y gall y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â sut y defnyddir y nifer o brofion, oherwydd yn aml iawn, fel gwleidyddion, fel y noda’r adroddiad, rydym yn canolbwyntio ar gapasiti, ond mae a wnelo hyn â gallu'r system gyfan i weithio, o'r capasiti i nifer y profion a gyflawnir, a'r gyfradd ymateb, fel y nododd y Cadeirydd, a phwysigrwydd cael yr ymateb yn ôl o fewn 24 awr. Mae’n rhaid i unrhyw system brofi effeithiol sicrhau bod o leiaf 90 y cant o'i chanlyniadau yn ôl o fewn 24 awr. Os na all wneud hynny, rydym yn methu'r nod o sicrhau bod y gyfundrefn brofi mor effeithiol ag y bo modd.
Rwy'n sylweddoli bod fy mhum munud bron ar ben ar y cloc. Profi, olrhain, diogelu: mae graddfa’r cynllun profi, olrhain a diogelu’n enfawr, fel y noda’r adroddiad, a soniodd tystiolaeth Cymdeithas Feddygol Prydain yn benodol am y rhaglen enfawr hon y bydd ei hangen, o rhwng 7,500 ac 8,000 o gysylltiadau mewn diwrnod, i hyd at 0.5 miliwn o bobl ar un adeg yn y system. Mae hynny'n rhoi syniad o raddfa'r gwaith rydym yn sôn amdano, a phe bai pobl wedi dweud wrth wleidyddion ddechrau'r flwyddyn hon, 'Beth y credwch fydd eich pum prif her?', ni chredaf y byddai unrhyw un wedi crybwyll argyfwng COVID a'i natur hollgwmpasol.
Felly, rwy'n cymeradwyo'r adroddiad i'r cyhoedd yn gyffredinol, ac rwy'n cymeradwyo gweithgarwch y pwyllgor yn cyflawni'r adroddiad hwn, ac edrychaf ymlaen at barhau â gwaith y pwyllgor pan fydd yn ailedrych ar rai o'r argymhellion i weld eu bod wedi'u rhoi ar waith yn y dyfodol. Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Unwaith eto, mae ein Cadeirydd wedi rhoi cyflwyniad trylwyr a chryf iawn i’r adroddiad yn ei gyfraniad y prynhawn yma, a hoffwn ategu ei deyrnged i holl staff y GIG a’r gweithwyr gofal cymdeithasol ledled Cymru am yr hyn a wnaethant pan oedd y pandemig ar ei anterth ac ers hynny, a'r hyn y maent yn parhau i’w wneud yn awr ac y byddant yn ei wneud drwy'r gaeaf rwy'n siŵr. Buom yn curo dwylo iddynt bob wythnos bryd hynny, ond maent yn haeddu cymaint mwy na hynny. Mae eu hymrwymiad yn ddiamheuol ac yn ddi-ben-draw.
Credaf fod angen inni atgoffa ein hunain hefyd pam y gwnaethom gyflwyno'r adroddiad, gan ei fod yn ymwneud ag effaith y feirws a pha wersi y byddem yn eu dysgu o hynny. Mae'n dal i fod cymaint o deuluoedd wedi eu dinistrio gan y feirws hwnnw ac ar ôl colli anwyliaid, mae eraill wedi dioddef cyflyrau iechyd difrifol o ganlyniad i ddal y feirws ac wedi treulio amser maith yn yr ysbyty, ac mae’n rhaid inni beidio ag anghofio'r bobl hynny ym mhopeth a wnawn.
Ond rydym wedi dod yn bell ers dechrau'r pandemig, ac wedi dysgu llawer gobeithio. Mae llawer i'w ddysgu, oherwydd os edrychwn ar yr adroddiad a rhai o'r materion a godir, ac rwy'n ailadrodd rhai o'r sylwadau a wnaeth Dai Lloyd, ond os edrychwch arnynt, maent yn dal yn berthnasol heddiw, nid ydynt wedi diflannu. Y cwestiwn ynghylch cyfarpar diogelu personol: rwy'n falch iawn fod gennym gyfarpar diogelu personol digonol bellach, ond pan ddaeth hwn allan, nid oedd hynny’n wir. Ni waeth faint o eitemau y credem oedd gennym, nid oedd hynny'n wir. Rwy'n falch iawn hefyd fod busnesau lleol bellach yn defnyddio cyfleoedd i greu a datblygu cyfarpar diogelu personol—mae gennyf un yn fy etholaeth fy hun, Rototherm, sydd wedi trawsnewid ei hun. Mae gwaith rhagorol yn mynd rhagddo i sicrhau bod gan Gymru gyflenwad o fusnesau lleol yn cynhyrchu'r cyfarpar diogelu personol.
Ond hefyd, gadewch inni beidio ag anghofio’r hyn y mae gwisgo'r cyfarpar diogelu personol yn ei wneud i staff, oherwydd pe baem yn darllen ein harolwg o'r staff, a rhai o'r sylwadau a wnaethant, roeddent yn ei chael yn anodd iawn gweithio o dan yr amgylchiadau hynny, a chafodd hynny effaith arnynt. Weithiau, mae angen inni fyfyrio ar hynny, fel ein bod yn sicrhau ein bod yn diogelu ein staff hefyd, a'n bod yn gwneud pethau’n iawn mewn perthynas â’r cyfarpar diogelu personol hwn. Nid ydym am roi pobl mewn sefyllfa lle maent yn wynebu sefyllfaoedd lle mae eu bywydau yn y fantol pan fyddant yn mynd i ofalu am bobl am nad oes gennym gyfarpar diogelu personol ar eu cyfer. Mae'n rhaid inni gael hynny'n iawn. Gwn y bydd y Gweinidog yn dweud ein bod yn gwneud hynny; mae gennym fwy o gyfarpar diogelu personol bellach, ac rwy'n gwerthfawrogi hynny'n fawr. Ond hoffwn ofyn iddo hefyd, efallai—oherwydd hanner ffordd drwy’r pandemig, newidiwyd y canllawiau ar gyfer cyfarpar diogelu personol, a hoffwn ofyn a oes mwy o newidiadau i ddod i’r canllawiau hynny oherwydd y gwersi a ddysgwyd yn ystod y pandemig hwnnw, a gallu pobl—. Oherwydd mae parafeddygon yn dweud eu bod weithiau'n mynd i sefyllfa'n gwisgo ffedog a menyg yn unig, ac nid yw hynny’n ddigonol ar brydiau. Mae angen inni sicrhau bod ein staff yn cael eu diogelu.
A gaf fi hefyd godi mater cartrefi gofal? Gwyddom yn iawn eu bod, ar y cychwyn, yn agored i niwed, ac yn anffodus, roedd preswylwyr, sy'n agored i niwed eu hunain, yn dal y feirws. Gwelsom lawer iawn o breswylwyr yn mynd i’r ysbyty, ac yn anffodus, ni oroesodd rhai o'r rheini. Mae Dai wedi nodi bod dros 600 ohonynt. Rydym mewn sefyllfa bellach lle rydym wedi rhoi gwell mesurau diogelwch ar waith, ond gwnaethom ofyn am gynnal profion yn rheolaidd. Gwn fod hynny'n digwydd, ac rwy'n falch iawn am hynny, ac mae’n rhaid inni sicrhau bod hynny’n parhau, ond rwy'n dal i bryderu ynglŷn â’r agenda profi gartref ac ansawdd yr hyfforddiant a roddir i bobl wneud hynny. Mae gormod o ganlyniadau negatif ffug a chanlyniadau positif ffug yn dod drwy'r system brofi, ac mae'n rhaid inni gyfyngu ar y rheini. Un o'r ffyrdd o leihau hynny yw drwy ddilyn argymhelliad 10, pwynt bwled 2, sy'n dweud y dylid sicrhau 'bod profion o’r fath yn cael eu gwneud gan unigolion sydd wedi cael hyfforddiant addas'. Mae llawer o nyrsys eisoes yn cael eu cyflogi mewn cartrefi gofal, a gallai fod rhai eraill yn cael eu defnyddio yn y rheini sydd heb gael hyfforddiant o'r fath, felly ni chredaf ei fod yn rhywbeth y dylai'r Llywodraeth fod wedi'i wrthod. Credaf y dylai'r Llywodraeth fod wedi derbyn hynny, a sicrhau bod pobl sydd wedi cael hyfforddiant addas yn gwneud y profion hynny i sicrhau cyn lleied â phosibl o ganlyniadau negatif ffug a chanlyniadau positif ffug, gan fod hynny'n rhoi gwybodaeth gamarweiniol, ac yn rhoi hyder camarweiniol ar brydiau, felly mae angen inni fynd i'r afael â hynny.
Y mater arall, yn amlwg, yw profi—mae pobl wedi sôn am brofi—yn gyffredinol, a chodwyd y cwestiwn hwn gennym am brofi a pharatoi. Mewn gwirionedd, dywedasom, yn argymhelliad 8 rwy'n credu, fod angen inni baratoi ar gyfer ail don, ac y dylem weithio gyda phartneriaid i gymryd camau i sicrhau capasiti digonol. Serch hynny, rydym yn dal i sôn am gapasiti. Rydym yn dal i drafod a ydym yn defnyddio labordai goleudy ai peidio. Mae cwestiwn yno sy’n dal i gael ei godi. Rwy'n derbyn bod y Gweinidog wedi clywed hyn sawl tro yn barod, ond gobeithio ei fod yn ystyried y ffaith na fydd profion yn rhywbeth a fydd yn diflannu—mae'n rhywbeth a fydd yn gyrru'r agenda yn ei blaen, ac mae'n rhaid inni sicrhau ein bod yn mynd i’r afael â mater capasiti, o ran y gallu i gymryd y prawf, ond y gallu i ddadansoddi’r profion hefyd. Oherwydd dyna ble mae pobl yn drysu; maent yn meddwl, 'O, gallaf gael prawf', ond peidiwch ag anghofio bod yn rhaid ei ddadansoddi a bod yn rhaid i’r canlyniadau gael eu darparu. Roeddem yn dweud bryd hynny ein bod am gael rhagor o fewn 24 awr, ac nid ydym yn gweld rhai o'r ffigurau hynny’n cynyddu o hyd. Mae angen inni fynd i'r afael â'r pwynt hwnnw.
Rwyf am gloi drwy ddiolch yn fawr i staff y pwyllgor. Nid yw llawer o bobl yn sylweddoli hyn bob amser, ond mae staff y pwyllgor wedi gweithio'n ddi-baid drwy gydol y cyfnod, a thros yr haf, i sicrhau bod gennym y dystiolaeth roedd ei hangen arnom i ddarparu'r adroddiad hwn. Mae'n rhaid inni ddiolch iddynt ac i'r tystion a roddodd y dystiolaeth i ni. Mae'r tystion hynny'n cynrychioli'r bobl ar y rheng flaen, ac ni allwn anghofio hynny, chwaith. Felly, diolch yn fawr iawn. Ac os gwelwch yn dda, Weinidog, rwy'n sylweddoli ein bod wedi dod yn bell, ac rwy'n sylweddoli nad ydym lle roeddem yn ôl ym mis Mawrth, ond gadewch inni sicrhau bod y gwersi’n cael eu dysgu a bod y cyngor yn cael ei ddilyn. Diolch.
Un siaradwr arall yn unig sydd gennyf cyn i mi alw ar y Gweinidog, a Rhun ap Iorwerth yw'r siaradwr hwnnw.
Diolch yn fawr iawn, Gadeirydd. Mi fuaswn i'n licio ategu'r diolch yna i waith rhyfeddol tîm y pwyllgor, y tîm clercio ac ymchwil ac yn y blaen, sydd wedi gweithio mor ddiflino drwy'r cyfnod yma. Dwi wedi bod yn falch iawn o allu bod yn rhan o'r ymchwiliad yma—ymchwiliad sy'n parhau, wrth gwrs, a pharhau fydd o am sbel. Yr adroddiad cyntaf mewn cyfres ydy hwn, yn canolbwyntio ar nifer o feysydd penodol. Af fi drwy'r rheini. Un o'r elfennau mawr, wrth gwrs, y buon ni'n edrych arno fo oedd profi, sy'n rhan mor, mor allweddol o'r frwydr yn erbyn y feirws. Rydyn ni'n gwybod bod y system ddim mor gadarn ag y dylai fo fod. Mae yna nifer fawr o fy etholwyr i wedi bod yn cysylltu efo fy swyddfa i—pobl yn methu cael profion cartref ac yn gorfod teithio'n bell i ganolfannau profi; pobl yn methu cael profion oherwydd bod ganddyn nhw ddim cyfeiriad e-bost a ffôn symudol—does gan bawb ddim o hyd—pobl sy'n cael trafferth gyrru, hyd yn oed, i ganolfannau profi. Mae'n rhaid inni sicrhau bod yr elfen yma yn cael ei chryfhau.
Dwi yn falch bod y Llywodraeth wedi derbyn argymhelliad 8, sef y dylen nhw asesu'n ofalus y galw tebygol am brofion yn y dyfodol a chymryd camau i sicrhau bod yna ddigon o allu i brofi, fel y bydd unrhyw un sydd angen prawf yn gallu cael un yn gyflym ac yn hawdd. Ond y gwir amdani ydy bod yna fethiant i gyrraedd y galw presennol, wrth gwrs, heb sôn am y galw cynyddol y bydd yna dros y gaeaf. Ac mae eisiau gwahaniaethu'n bendant rhwng capasiti a faint o brofi sy'n digwydd yn ymarferol. Mi soniodd y Prif Weinidog yr wythnos yma am gapasiti o 15,000 o brofion y dydd yng Nghymru, ond yn aml iawn 2,500 i 3,000 o brofion oedd yn cael eu gwneud.
Dwi'n gwybod bod problemau cael prawf wedi dod i'r amlwg fwyaf wrth i ysgolion ailagor. Mi aeth capasiti yn brin ar yr union amser oedd angen iddo fo gynyddu. Mi fuaswn i wedi disgwyl y buasai yna fwy o baratoi wedi bod am hynny, mwy o adeiladu gwytnwch yn y system erbyn dechrau y tymor ysgol. Ac er gwaethaf addewidion y bydd pethau'n well mewn ychydig wythnosau o ran labordai lighthouse, dydy o ddim yn rhoi llawer o ffydd i rywun o ran y gwytnwch fydd ei angen dros y gaeaf, wrth i'r ail don barhau i dyfu.
Dwi'n falch bod y Llywodraeth hefyd yn derbyn ein hargymhelliad 7 ni, fod angen datblygu cynllun clir ar gyfer profion rheolaidd ac ailadroddus ar gyfer staff iechyd a gofal cymdeithasol, yn cynnwys staff ansymptomatig—rhywbeth dwi wedi bod yn galw amdano fo yn gyson. Mae yna dal gormod o bobl ar y rheng flaen sy'n nerfus iawn. Dwi'n clywed straeon am nyrsys cymunedol, er enghraifft, sydd ddim yn cael cynnig profion yn bryderus iawn am fynd i gartrefi cleifion, rhag ofn iddyn nhw basio'r feirws ymlaen. Mae'n rhaid inni ehangu sgôp y profi ansymptomatig i gynnwys gofalwyr yn y cartref hefyd, er enghraifft.
Mater arall y buon ni'n sbio arno fo oedd y goblygiadau ariannol ar lywodraeth leol gydol y pandemig yma. Dwi'n croesawu'r gydnabyddiaeth bod angen i'r Llywodraeth gadarnhau fel mater o flaenoriaeth y pecyn cymorth ariannol i awdurdodau lleol i gefnogi'r gwaith o gyflogi gweithwyr olrhain proffesiynol, yn dibynnu beth maen nhw wedi bod yn ei wneud dros y misoedd o ran adleoli staff. Argymhelliad 24 ydy hwnnw. Mi oedd hwn yn rhywbeth y gwnes i godi efo'r Gweinidog cyllid ym mis Gorffennaf. Timau gwirfoddol oedd yna o fewn y cynghorau sir bryd hynny yn gwneud y gwaith—gweithwyr oedd wedi cael eu tynnu o adrannau eraill i mewn i'r tîm olrhain. Dwi'n meddwl ei bod hi'n amlwg, er bod y nifer o staff olrhain wedi tyfu'n arw erbyn hyn, fel y clywon ni yn y pwyllgor y bore yma, y bydd angen cefnogaeth bellach gan ein cynghorau ni ar y ffrynt yma.
Gwaith arall pwysig y mae llywodraeth leol wedi bod yn arwain arno fo ydy helpu pobl a fu'n gwarchod neu'n 'shield-o'. Mi welwch chi sawl cyfeiriad yn yr adroddiad am gefnogi pobl oedd yn cael eu gwarchod, a gwneud yn siŵr bod pobl yn cael bwyd, ac yn y blaen. Ac ar y pwynt hwnnw, mae'n rhaid imi ddweud, roeddwn i'n siomedig efo'r ymateb y ces i yr wythnos yma i lythyr gen i yn gofyn am sicrhau cymorth i lywodraeth leol allu cynllunio ar gyfer darparu bwyd ac ati i bobl fregus yn ystod ail don. Roedd yna bartneriaeth wych yn Ynys Môn, yn cael ei arwain gan y cyngor, efo Menter Môn, Medrwn Môn a busnesau lleol fel bwyty Dylan's, ac ati, i wneud yn siŵr bod pecynnau bwyd yn cael eu dosbarthu. Mi oedd Dylan's yn awyddus i weld bod paratoadau mewn lle i allu ymateb yn gyflym i'r ail don. Roedd yr ymateb yn gyflym iawn yn Ynys Môn y tro cyntaf, ond wrth gwrs mi oedd yn rhaid dysgu wrth fynd. Y tro yma, mae'r wybodaeth a'r cefndir gennym ni. Mae angen gwneud yn siŵr bod yna well paratoi, a doeddwn i ddim yn clywed hynny yn y llythyr yma, felly mi liciwn i glywed sicrwydd bod gwaith cynllunio yn mynd ymlaen.
Ac yn olaf, dwi'n ategu'r argymhellion am gael cyfarpar diogelu PPE digonol yn ystod y pandemig yma. Mi glywsom ni'r gair 'diolch' yn cael ei ddweud dro ar ôl tro i'n gweithwyr iechyd a gofal ond, wrth gwrs, beth maen nhw'n chwilio amdano fo, beth mae angen iddyn nhw wybod rŵan ac yn y dyfodol ydy bod yr adnoddau yno sy'n eu galluogi nhw wneud eu gwaith yn ddiogel.
Diolch yn fawr. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething.
Diolch, Ddirprwy Lywydd dros dro. A gaf fi ddechrau yn gyntaf drwy ddiolch i'r pwyllgor am eu hamser yn ystyried y pwnc pwysig hwn, a’r hyn sy'n adroddiad interim? Mae'r craffu’n parhau; cefais y pleser o dreulio mwy na dwy awr yng nghwmni’r pwyllgor heddiw yn ateb cwestiynau am y gwaith parhaus a wnawn ar sut rydym yn cadw Cymru’n ddiogel, ac ymateb ein system iechyd a gofal cymdeithasol. Hoffwn gofnodi fy niolch i'r staff ar draws ein sector iechyd a gofal cymdeithasol, nid yn unig am eu gwaith caled anhygoel a'u hymroddiad i ofalu am bobl sydd â COVID-19 a'u tosturi a'u gwytnwch anhygoel—maent yn glod i bob un ohonom—ond hefyd y gwaith y maent wedi'i wneud gydag eraill wrth fynd i'r afael ag anghenion iechyd a gofal brys i ddiogelu'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymuned.
Rwy'n cefnogi ac yn derbyn, neu'n derbyn mewn egwyddor, y rhan fwyaf o argymhellion y pwyllgor. Mae cynllun diogelu’r gaeaf bellach wedi'i gyhoeddi ac mae hwn yn gynllun trosfwaol sy'n nodi ein disgwyliadau ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn llywio ymgysylltiad â phartneriaid a rhanddeiliaid ehangach. Bydd y cynllun uchelgeisiol hwn yn ceisio ymgorffori’r hyn rydym wedi’i ddysgu o'r adroddiad i gryfhau ein dull o weithredu dros y gaeaf sydd i ddod.
Ar brofi, mae'r strategaeth brofi a gyhoeddwyd ar 15 Gorffennaf yn amlinellu ein cynllun ar gyfer profi staff iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn ddiweddar rwyf wedi darparu datganiad ysgrifenedig ar y blaenoriaethau ar gyfer profi ar ddechrau'r wythnos hon. Mae ein strategaeth yn seiliedig ar y dystiolaeth ddiweddaraf. Fel erioed, gallai newid gan y gallai'r sylfaen dystiolaeth newid yn ystod y pandemig. A byddwn yn dweud yn ofalus wrth y pwyllgor y byddant yn clywed, ac y byddant yn parhau i glywed, galwadau anecdotaidd am brofion asymptomatig. Ni all y pwyllgor fynnu dull eang sy'n seiliedig ar dystiolaeth a mynnu ymlyniad at y dystiolaeth wyddonol a meddygol i helpu i gadw Cymru'n ddiogel, a dewis wedyn pryd i ddewis a dethol, a chwyddo galwadau a wneir i wrthdroi'r dystiolaeth rydym yn dibynnu arni i helpu i gadw Cymru’n ddiogel.
Rydym wedi nodi'n agored y sylfaen dystiolaeth gan y grŵp cyngor technegol, ac mae'r pwyllgor wedi cael cyfle i glywed tystiolaeth gan gyd-gadeiryddion y grŵp cyngor technegol, gan gynnwys y prif gynghorydd gwyddonol ar iechyd yn ogystal â mynediad at y prif swyddog meddygol. Rydym yn parhau i gyhoeddi'r dystiolaeth honno'n agored ac i wneud dewisiadau yn seiliedig arni.
Rydym yn ymwybodol iawn o'r heriau a achosir gan oedi yn y profi gan labordai goleudy; amlygwyd hynny eto heddiw yn y cwestiynau gan Andrew R.T. Davies a dynnodd sylw at yr oedi cyn cael 2,000 o ganlyniadau yn ôl o labordai goleudy i lifo i mewn i'n system, ac mae hwnnw'n ffactor pwysig. Yn rhaglen brofi'r labordai goleudy yn gyffredinol, nid yw'r 2,000 o brofion hynny yn swm sylweddol, ond mewn gwirionedd, o ran y niferoedd cyffredinol ar gyfer Cymru, gallent wneud gwahaniaeth sylweddol i’n dealltwriaeth o ba mor gyffredin yw'r haint mewn cymunedau ledled Cymru. Felly, rwy'n cydnabod bod honno'n her wirioneddol i ni ac, fel y dywedaf, mae'n rhywbeth rydym yn bwriadu gweithio'n adeiladol arno gyda gwahanol swyddogion a gwahanol Weinidogion yn wir a byddaf yn parhau i gael y trafodaethau hynny nid yn unig gydag Ysgrifennydd Gwladol y DU dros iechyd, ond hefyd gyda Gweinidogion cyfatebol yn yr Alban a Gogledd Iwerddon.
Pan roddais dystiolaeth i'r pwyllgor, roeddem yn disgwyl i'r labordy goleudy yng Nghasnewydd agor dros yr haf; mae oedi mewn perthynas â hwnnw bellach a disgwylir iddo agor ym mis Hydref. Dylai hynny ein helpu i gynyddu nifer y profion sydd ar gael ond mae rhywbeth yma hefyd am drylwyredd a’r mynediad at y sylfaen boblogaeth fwyaf yng Nghymru. Felly, dylai hwnnw fod yn gam cadarnhaol ymlaen i ni. Ond mae capasiti labordai Cymru eisoes yn cael ei ddefnyddio ar gyfer profi pobl yn gyflym yn dilyn clystyrau o achosion a digwyddiadau, ac ar gyfer GIG Cymru. Rydym yn parhau i weithio ar frys gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a'n GIG i adeiladu ar y gwaith sydd eisoes yn digwydd i ychwanegu at gapasiti labordai goleudy â'r labordai sy'n cael eu gweithredu gan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Unwaith eto, llwyddais i sôn am rywfaint o hyn gyda’r pwyllgor y bore yma, gyda'r diweddariad, er enghraifft, am y cynnydd yn argaeledd profion a fydd gennym yng ngogledd Cymru lle rydym yn disgwyl cynyddu capasiti profi oddeutu 40 y cant yr wythnos hon. Mae hynny i raddau helaeth oherwydd ein defnydd o brofion labordai Iechyd Cyhoeddus Cymru. Byddwn yn defnyddio ac yn blaenoriaethu capasiti labordai Cymru wrth inni weld pwysau a galw yn cynyddu ledled y DU ac wrth gwrs, i ymdrin â mannau lle ceir llawer o achosion yma yng Nghymru. Rwy’n cydnabod bod amseroedd dychwelyd canlyniadau profion yn hollbwysig i weithrediad effeithiol ein system profi, olrhain a diogelu. Ac mae profi, olrhain a diogelu yn system ac yn ddarpariaeth arloesol a llwyddiannus yng Nghymru, wedi'i chynllunio a'i darparu gan iechyd a llywodraeth leol mewn partneriaeth, ar draws daearyddiaeth a gwleidyddiaeth wahanol llywodraeth leol, gan weithio gyda gwasanaeth iechyd lleol a gwladol. Cyhoeddais gyllid ychwanegol o £32 miliwn yn ddiweddar i gynyddu'r capasiti i brosesu profion yn labordai Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae hynny'n cynnwys chwe labordy gwib newydd sydd i fod i agor ym mis Tachwedd, ac ymestyn labordai rhanbarthol i weithredu ar sail 24 awr a ddylai ddigwydd cyn diwedd mis Hydref. Ac yn yr wythnos ddiweddaraf rydym wedi gallu cyhoeddi ffigurau ar ei chyfer, olrheiniwyd 94 y cant o achosion newydd yn llwyddiannus drwy ein gwasanaeth profi, olrhain a diogelu, yn ogystal ag 86 y cant o'u cysylltiadau.
Rwy'n cydnabod y sylwadau a wnaed gan aelodau'r pwyllgor am gefnogaeth i bobl sy'n hunanynysu. Mae ein gwasanaeth profi, olrhain a diogelu yn cysylltu â phobl sy'n ynysu. Dyma sut y maent yn deall i ba raddau y mae pobl yn llwyddo i ynysu. Rwyf wedi cael adborth gan fy etholwyr fy hun ac eraill am y gwahaniaeth y mae'r alwad honno iddynt wedi'i wneud o ran eu llwyddiant i barhau i hunanynysu. Ond rwy'n cydnabod y materion a godwyd nid yn unig yn adroddiad Cronfa'r Brenin ond hefyd gan y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) ac eraill am y pryder nad yw pobl yn hunanynysu'n llwyddiannus. Felly, roedd yn rhywbeth i'w groesawu pan gadarnhaodd Michael Gove, mewn galwad gyda'r Prif Weinidogion ledled y DU, y dylai fod arian newydd ar gael i gyfateb i'r cynnig polisi a gyhoeddwyd eisoes yn Lloegr—sef taliad ychwanegol o £500 ar ben tâl salwch statudol i weithwyr ar gyflogau isel. Rydym yn awr yn disgwyl i Drysorlys y DU anrhydeddu'r ymrwymiad hwnnw, felly mae Prif Weinidog Cymru wedi bod mewn sefyllfa i gadarnhau y byddwn yn cyflwyno'r taliad hwnnw i sicrhau y gall pobl hunanynysu'n llwyddiannus.
Mae darparwyr cartrefi gofal, yn ogystal â phobl sy'n byw ac yn gweithio mewn cartrefi gofal, wedi wynebu her na welwyd ei thebyg o'r blaen eleni, ac rwy'n cydymdeimlo â'r rheini sydd wedi wynebu misoedd o fod ar wahân oddi wrth deulu a ffrindiau, ac yn enwedig i'r rhai sydd wedi colli anwyliaid. Gwnaethom gefnogi'r sector drwy'r cyfnod eithriadol o anodd hwn, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Byddwn yn cyhoeddi'r cynllun gweithredu ar gyfer cartrefi gofal y mae'r Dirprwy Weinidog wedi ymrwymo iddo. Bydd hwnnw'n nodi'r camau rydym yn eu cymryd i sicrhau bod y sector cartrefi gofal yn cael cefnogaeth dda cyn heriau'r gaeaf.
Rydym wedi cael ein herio—clywsom hyn eto heddiw—ynglŷn â'n dull o ryddhau pobl o'r ysbyty i gartrefi gofal yn ystod cyfnod cychwynnol y pandemig. Ac os caf fanteisio ar y cyfle hwn i dynnu sylw'r pwyllgor at waith ymchwil diweddar a wnaed gan Iechyd Cyhoeddus Cymru mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe. Ni chanfu'r gwaith hwnnw unrhyw dystiolaeth fod rhyddhau cleifion o'r ysbyty yn gysylltiedig â risg sylweddol o achosion newydd mewn cartref gofal mewn gwirionedd. Fodd bynnag, canfuwyd bod maint cartrefi gofal yn gysylltiedig â risg o'r fath. Mae ymchwil i sut y gallai ffactorau eraill, gan gynnwys polisïau'n ymwneud â staff ac ymwelwyr, effeithio ar risg yn parhau i gael blaenoriaeth i gefnogi ein hymdrechion i leihau neu ddileu achosion mewn cartrefi gofal.
Mae cyfyngu ar ymweliadau â chartrefi gofal wedi bod yn eithriadol o anodd, ac yn dorcalonnus mewn gwirionedd, a chlywsom hyn eto heddiw yn y pwyllgor. Ond mae wedi bod yn un o'r mesurau angenrheidiol y bu'n rhaid inni eu gweithredu ar wahanol gamau yn y pandemig i leihau'r risg o haint i gartrefi gofal. Rydym wedi cydweithio â'r sector i gynhyrchu canllawiau i gynorthwyo darparwyr i ailgyflwyno ymweliadau'n ddiogel wrth i gyfyngiadau symud gael eu llacio dros yr haf. Mae'r gwaith hwnnw'n parhau, a gwn fod y grŵp wedi cyfarfod eto yr wythnos hon i ystyried sut y mae'r canllawiau'n gweithio'n ymarferol, ac unwaith eto, y ddealltwriaeth na ddylid mabwysiadu polisi cyffredinol—dylid gwneud penderfyniadau yn ôl amgylchiadau unigol bob amser lle gellid neu lle dylid diwallu anghenion gofal yr unigolyn hwnnw drwy ymweliadau.
Mae cyfyngiadau lleol diweddar yn golygu bod awdurdodau lleol unwaith eto wedi gorfod gwneud rhai penderfyniadau anodd iawn ynglŷn ag ymweliadau â chartrefi gofal, gan sicrhau cydbwysedd rhwng llesiant parhaus pobl a'r risg o gynyddu trosglwyddiad cymunedol. Ac unwaith eto, rwy'n annog ein partneriaid yn yr awdurdodau lleol i ymgysylltu ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan weithio gyda'u timau rheoli digwyddiadau lleol i wneud y penderfyniadau hynny. Rwy'n disgwyl i gyfyngiadau fod yn rhai dros dro, i gyfyngu cyn lleied ag sy'n ddiogel, ac i gael eu hadolygu'n barhaus. Mae system ymateb cyflym ar waith i fyrddau iechyd lleol fynd ag unedau profi symudol i gartrefi gofal lle ceir achos positif, ac mae porth profi cartrefi gofal penodol ar gael i brofi staff cartrefi gofal yn barhaus.
Mewn perthynas â chyfarpar diogelu personol, mater y treuliodd y cadeirydd amser yn ei gyflwyno, mae'n werth nodi bod Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru wedi dosbarthu 342.3 miliwn o eitemau ar draws ein system iechyd a gofal cymdeithasol ers 9 Mawrth, ac mae 167 miliwn o eitemau wedi'u rhoi i ofal cymdeithasol—sef 48 y cant o gyfanswm yr eitemau. Ac rydym yn dal i ddosbarthu tua 13 miliwn o eitemau yr wythnos. Mae maint y gweithgarwch yn dal i fod yn sylweddol, ac ers dyddiau cynnar iawn y pandemig, rydym wedi darparu’r eitemau’n rhad ac am ddim i ddarparwyr cartrefi gofal. Cyfrifoldeb cyfreithiol cyflogwyr yw darparu cyfarpar diogelu personol ar gyfer eu gweithlu. Bu'n rhaid i Bartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru gamu i mewn oherwydd fel arall byddai risg annerbyniol o niwed wedi bod i staff a'r bobl y maent yn gofalu amdanynt, ac rwy'n falch o weld bod Lloegr wedi cyhoeddi'n ddiweddar y byddant yn dilyn yr arweiniad rydym wedi'i roi drwy sicrhau bod cyfarpar diogelu personol ar gael yn rhad ac am ddim i'r sector cartrefi gofal.
Hefyd, rydym wedi gallu darparu cymorth cilyddol i wledydd eraill y DU, mae gennym gadwyn gyflenwi iach o archebion yn y dyfodol, rydym mewn sefyllfa lawer mwy cadarn ac rydym yn pentyrru stoc ar gyfer y gaeaf sydd i ddod ac ar gyfer darpariaeth yn y dyfodol. Mewn gwirionedd, rwy'n credu bod ein system wedi llwyddo'n dda i wrthsefyll y pwysau eithriadol arni a'r tynhau sydyn iawn a welsom yn y farchnad ryngwladol. Mae hynny'n wir o ran archebu a darparu mwy o gyfarpar diogelu personol i'r wlad, ac mewn gwirionedd, rydym wedi darparu rhywfaint o gymorth yn y sgyrsiau â Lloegr lle bu'n rhaid iddynt ailadeiladu gweithgarwch prynu a chaffael canolog a gollwyd yn niwygiadau Lansley. Ond yn fwy na hynny, fel y soniodd Dai Rees, rydym hefyd wedi gweld busnesau a gweithgynhyrchwyr Cymru yn ymateb yn sylweddol i'r her o greu mwy o gyfarpar diogelu personol. Ac yn y dyfodol, bydd angen inni gael cydbwysedd gwahanol yn yr hyn rydym yn ei gaffael o wledydd eraill a'r hyn rydym yn parhau i'w ddarparu gan wneuthurwyr yma yng Nghymru. Efallai y bydd cost ychwanegol fesul eitem i hynny, ond dyna'r peth iawn i'w wneud i sicrhau bod gennym system fwy cadarn ar waith.
Weinidog, rydych wedi cymryd 11 munud bellach. Nid ydym dan bwysau—[Torri ar draws.] Gan bwyll. Nid ydym dan bwysau o ran amser ac mae hon yn ddadl bwysig, felly os cymerwch funud neu ddwy i gloi, mae hynny'n iawn, ond mae'n rhaid inni roi rhywfaint o sylw i'r terfynau amser.
Diolch. Yn ffodus, rwy'n tynnu at ddiwedd fy sylwadau, sef yr hyn rydym wedi'i ddysgu o'r chwe mis cyntaf. Rydym wedi dysgu am weithio'n agos gydag awdurdodau lleol ac arbenigwyr iechyd y cyhoedd ar yr holl fesurau cyfyngu lleol. Rydym wedi cyfarfod ag arweinwyr awdurdodau lleol ni waeth ble maent yng Nghymru na beth fo'u lliwiau gwleidyddol, ac mae hynny'n gryfder gwirioneddol o ran y safbwynt rydym wedi'i gymryd yma yng Nghymru, yn wahanol i rai o'r dewisiadau lle mae arweinwyr wedi canfod hynny mewn rhannau eraill o'r DU, yn enwedig yn Lloegr.
Ond mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae i gadw Cymru'n ddiogel: y Llywodraeth, iechyd, gofal cymdeithasol, gwasanaethau cyhoeddus, busnesau, ac yn hollbwysig, ni fel aelodau unigol o'n teuluoedd a'n cymunedau. Mae'r rheolau ar waith i bob un ohonom, maent yn berthnasol i bob un ohonom, maent er budd pob un ohonom, ac os yw pob un ohonom yn chwarae ein rhan, gyda'n gilydd gallwn gadw Cymru'n ddiogel. Diolch.
Galwaf ar Dai Lloyd i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ymwybodol o'r amser. A gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon yn gyntaf oll? Cyfraniadau rhagorol gan bawb, yn gwneud amrywiaeth o bwyntiau sy'n deillio o'n dadansoddiad yn ein hadroddiad cyntaf ar COVID-19 fel pwyllgor iechyd, gan gyflawni ein rôl graffu fel pwyllgor ac fel aelodau o'r pwyllgor. Mae adroddiadau eraill i ddilyn.
Nawr, mae'n deg dweud, yn amlwg, ei bod wedi bod yn flwyddyn gwbl ddinistriol. Roedd ofn gwirioneddol ar ein wardiau ysbytai yn ystod y dyddiau cynnar hynny ym mis Chwefror, Mawrth—ofn gwirioneddol—ac mae'n amlwg ein bod wedi clywed am yr heriau hefyd, heriau a amlinellwyd gan ein cyd-Aelodau, Andrew R.T. Davies, David Rees a Rhun ap Iorwerth: heriau'n ymwneud â phrofi yn y dyddiau cynnar hynny ac mae'r heriau hynny'n ein hwynebu o hyd mewn perthynas â phrofi, ac yn yr un modd gyda chyfarpar diogelu personol, er bod y sefyllfa'n ymddangos yn llawer iachach gyda chyfarpar diogelu personol.
Rydym wedi cael llawer o dystiolaeth am ofal cymdeithasol a sut rydym ni fel cymdeithas yn gweld gofal cymdeithasol. Ac os nad yw argyfwng y pandemig hwn wedi gwneud unrhyw beth arall, rhaid ei fod wedi crisialu ein barn fod angen inni wneud rhywbeth ynglŷn â'r ffordd rydym yn trefnu ac yn gweld gofal cymdeithasol yn gyffredinol. Os ydym yn credu ei fod yn haeddu'r un parch â'r gwasanaeth iechyd, oni ddylem geisio ad-drefnu gofal yn yr un ffordd ag y trefnwn iechyd? Yn ogystal, mae problemau iechyd meddwl wedi bod yn amlwg mewn llawer o'r dystiolaeth a gawsom, ac nid yw'n syndod, a dyna fydd sail yr adroddiad nesaf gan y pwyllgor iechyd.
Ond wrth gloi, a gaf fi dalu teyrnged enfawr, fel y gwneuthum ar y dechrau ac fel y mae eraill wedi'i wneud, i'r ymateb enfawr, arwrol ac epig i'r pandemig hwn, nid yn unig yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol, ond hefyd, fel y clywsom gan Rhun, mae awdurdodau lleol wedi bod ar eu gorau yn ystod hyn—mae awdurdodau lleol wedi disgleirio yn wir. Yn ogystal â miloedd o wirfoddolwyr yn y cefndir sydd wedi bod yn gwneud popeth o ddarparu bwyd a meddyginiaethau, gwnïo gynau, gwnïo masgiau, a hefyd y miloedd o ofalwyr di-dâl sydd wedi teimlo straen y chwe mis diwethaf yn fawr. Bu'n gyfnod erchyll i lawer, ac mae rhai sydd wedi gwella wedi'u gwanychu gan COVID hirdymor yn awr, wrth inni siarad—cronig, gwanychol ac maent yn dal i ddioddef. Bydd gwasanaethau adsefydlu'n allweddol wrth i amser fynd yn ei flaen, a bydd hynny'n sail i adroddiad pellach gan y pwyllgor iechyd hwn. Hoffwn ddiolch hefyd i glercod ac ymchwilwyr a gweithwyr cymorth cyfreithiol, a phawb sy'n gwneud i'r pwyllgor iechyd hwn weithredu mor dda. Mae'n adroddiad rhagorol, fel rwyf wedi clywed llawer yn ei ddweud, ac mae llawer o'r diolch am hynny i waith ymchwil rhagorol a gwaith clercio rhagorol.
Felly, i gloi, dywedwn hyn: sefwch yn gadarn a gwnewch y pethau sylfaenol drwy gadw pellter cymdeithasol, golchi dwylo, gwisgo masg a chyfyngu ar eich cysylltiadau cymdeithasol—dyna sydd angen i ni barhau i'w wneud—a chefnogwch y cynnig. Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr, Dai. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 6 yw'r ddadl Aelod o dan Reol Sefydlog 11.21, a'r testun yw incwm sylfaenol cyffredinol. Galwaf ar Jack Sargeant i gyflwyno'r cynnig.
Cynnig NDM7384 Jack Sargeant
Cefnogwyd gan Adam Price, Alun Davies, Bethan Sayed, Dai Lloyd, Dawn Bowden, Helen Mary Jones, Huw Irranca-Davies, Jenny Rathbone, John Griffiths, Leanne Wood, Mick Antoniw, Mike Hedges, Rhianon Passmore, Siân Gwenllian
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) y niwed y mae tlodi'n ei wneud i gyfleoedd bywyd ac nad yw gwaith bellach yn llwybr gwarantedig allan o dlodi;
b) bod y pandemig wedi gorfodi mwy o bobl i mewn i dlodi gyda niferoedd cynyddol o breswylwyr yn gorfod troi at gymorth elusennol fel banciau bwyd;
c) yr oedd twf y DU, hyd yn oed cyn y pandemig, yn wael a'n bod yn wynebu'r her gynyddol o awtomeiddio, sy'n gosod niferoedd cynyddol o swyddi mewn perygl;
d) bod incwm sylfaenol cyffredinol yn rhoi mwy o reolaeth i bobl dros eu bywydau, yn lleddfu tlodi ac, yn ogystal, yn cael effaith gadarnhaol ar iechyd meddwl;
e) y byddai incwm sylfaenol cyffredinol yn creu swyddi ac yn annog pobl i fanteisio ar gyfleoedd hyfforddi;
f) bod incwm sylfaenol cyffredinol yn rhoi'r lle i bobl gymryd mwy o ran yn eu cymuned a chefnogi eu cymdogion.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru:
a) i sefydlu treial incwm sylfaenol cyffredinol yng Nghymru;
b) i lobïo Llywodraeth y DU am gyllid i sefydlu incwm sylfaenol cyffredinol ledled Cymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd dros dro. Rwy'n ddiolchgar iawn i Bwyllgor Busnes y Senedd ac i'r rhai a gefnogodd y cynnig hwn gan ganiatáu i'n Senedd fod yn rhan o'r sgwrs gynyddol ynghylch incwm sylfaenol cyffredinol. Nid syniad newydd yw'r incwm sylfaenol cyffredinol, ond mae'n syniad sy'n dechrau codi ei lais. Fel bob amser, mae gwrthwynebiad i newid a bydd rhai bob amser yn mynnu nad yw ceisio gwella bywydau pobl yn bosibl. Codwyd y lleisiau hyn o'r blaen i wrthsefyll newid, gan ddweud na allwn fforddio gwneud yn well: pan roddwyd y gorau i anfon plant i lawr y pyllau glo, pan soniwyd am gyflwyno'r wladwriaeth les a phensiynau ac wrth gwrs, pan ddaeth ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol anhygoel i fodolaeth.
Wrth ddadlau'r achos dros dreial incwm sylfaenol cyffredinol yng Nghymru fel cam cyntaf tuag at fabwysiadu'r polisi yng Nghymru, roeddwn yn meddwl y byddwn yn rhannu'r hyn a sbardunodd fy niddordeb fy hun yn y pwnc gyda chi. Roedd yn gwestiwn sylfaenol iawn i ddechrau: sut rydym yn osgoi problemau tlodi mewn byd mor gythryblus a newidiol? Sut y mae creu llwyfan o ddiogelwch sy'n caniatáu i bobl dyfu, dysgu, astudio a chyflawni eu potensial mewn oes o ansicrwydd cynyddol? Yr hyn y mae COVID wedi'i ddangos i ni yw y gallwn ac y dylem ymyrryd i sicrhau y gall pawb chwarae rhan mewn economi marchnad. Fel bob amser, y bobl sydd ar flaen fy meddwl yw trigolion gwych Alun a Glannau Dyfrdwy. Mae fy nghymuned wedi gweld trychineb economaidd o'r blaen. Magwyd fy nghenhedlaeth i yng nghysgod y colli swyddi enfawr a welwyd yng ngwaith dur Shotton, a dyma yw'r diswyddiad unigol mwyaf a welwyd yng ngorllewin Ewrop o hyd. Gallai'r digwyddiad dinistriol hwn ddigwydd eto ar draws ystod eang o ddiwydiannau oherwydd colli swyddi yn sgil awtomatiaeth. Y tro hwn, mae angen i'r Llywodraeth fod yn gweithio gyda ni ac nid yn ein herbyn.
Disgwylir y bydd deallusrwydd artiffisial yn cael gwared ar fwy fyth o swyddi, a gallem wneud iddo wasanaethu'r ddynoliaeth a'i groesawu, neu gallwn ganiatáu iddo arwain at golli swyddi niferus heb ddim i'w rhoi yn eu lle. Nodwyd mai Alun a Glannau Dyfrdwy yw'r etholaeth sydd â'r mwyaf i'w golli. Nid gweithgynhyrchu, manwerthu a thrafnidiaeth yw'r unig feysydd a welodd newidiadau; bydd miloedd o swyddi coler wen yn y proffesiwn cyfreithiol, cyfrifyddu a gofal iechyd yn cael eu gwneud gan ddeallusrwydd artiffisial cyn bo hir. Ceir newidiadau enfawr eraill rydym eisoes yn mynd drwyddynt neu sy'n rhuthro tuag atom, sy'n golygu efallai y bydd angen inni ymyrryd i sicrhau bod gan bobl sefydlogrwydd rhwyd ddiogelwch a sbardun go iawn.
Lywydd, mae'r ffactor cyntaf gyda ni eisoes, a gellir ei weld o'n cwmpas: tlodi. Mae tlodi'n prysur ddod yn endemig—digartrefedd a thlodi bwyd yw'r arwyddion mwyaf gweladwy. Mae Marcus Rashford, y pêl-droediwr, wedi taflu goleuni ar y mater hwn yn ddiweddar, gan ddefnyddio ei stori bersonol ei hun i egluro pa mor ofnadwy yw mynd i'r ysgol yn llwglyd. Gall effeithiau hyn bara am oes, a byddant yn gwneud hynny'n aml. Nawr, rydym yn aml yn twyllo ein hunain mai problem i bobl eraill yw tlodi, ond gyfeillion, ystyriwch y ffaith hon: mae traean o aelwydydd un cyflog mis i ffwrdd o fod yn ddigartref. Nawr, mewn byd lle mae bywydau pobl yn fwyfwy ansicr, pa ateb y credwch y byddem yn ei gael pe baem yn ymestyn y ffigur hwnnw i bedwar mis? Cyfrannwr pwysig arall i'r angen i edrych ar incwm sylfaenol cyffredinol yw natur gynyddol ansicr gwaith, a'r gwastatáu yn nhwf cyflogau i bawb ond ychydig o bobl gyfoethog. Nododd adroddiad diweddar gan Gyngres yr Undebau Llafur fod llawer o'r gyflogaeth a grëwyd yn y DU yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi bod yn waith am gyflog isel ac o natur ansicr, fel yr adlewyrchir yn y defnydd cynyddol o gontractau dim oriau a'r cynnydd mewn swyddi yn yr economi gìg.
Y ffactor olaf yw cynhesu byd-eang, a'r risg wirioneddol, os na fyddwn yn newid y ffordd rydym yn meddwl am dwf, na fydd neb o gwmpas i elwa ohono. Bydd ffyniant anghynaliadwy lle nad ydym yn ystyried yr angen i fod yn garbon niwtral yn drychinebus. Nawr, er bod angen y newid hwn, ni fydd yn ddi-boen, a bydd rhai ar eu colled yn ogystal â rhai ar eu hennill. Felly, sut rydym yn eu cefnogi drwy hyn? Mae'r Prif Weinidog Jacinda Ardern yn crynhoi fy safbwynt mewn gwirionedd: mae twf yn ddibwrpas os nad yw pobl yn ffynnu. Dywedodd Ardern y dylai Llywodraethau ganolbwyntio yn hytrach ar les cyffredinol dinasyddion a buddsoddi mewn meysydd sy'n datgloi'r potensial dynol. Cyfeiriodd at gyllideb llesiant newydd Seland Newydd, sy'n ceisio ehangu gwasanaethau iechyd meddwl, lleihau tlodi plant a digartrefedd, ymladd newid yn yr hinsawdd a gwella cyfleoedd.
Nid llwyddiant yw twf economaidd a ddaw â chanlyniadau cymdeithasol sy'n gwaethygu yn ei sgil—
meddai Ardern—
methiant ydyw.
Felly, beth yn union rwy'n gofyn amdano? Wedi'r cyfan, mae treial yn ymddangos yn eithaf niwlog. Ond Aelodau, mae'n eithaf syml mewn gwirionedd. Rwyf eisiau i Lywodraeth Cymru ddewis grŵp o bobl a gweld a yw eu canlyniadau'n gwella drwy gael incwm sylfaenol cyffredinol. Gallai grŵp o'r fath fod yn bobl sy'n gadael gofal neu'n bobl a ddiswyddwyd yn ddiweddar mewn diwydiant sydd wedi dioddef yn fawr yn sgil COVID. Byddem yn cefnogi'r grŵp hwn wedyn tra'n gweld a yw ein treial yn ailadrodd canlyniadau cadarnhaol treialon mewn mannau eraill. Dangosodd treial yng Nghanada fod pobl ifanc yn fwy tebygol o aros mewn hyfforddiant; dangosodd astudiaeth yn y Ffindir fod pobl sy'n cael incwm sylfaenol cyffredinol yn fwy tebygol o weithio. Nawr, mae hyn yn wahanol i gredyd cynhwysol, sy'n mynd ati'n weithredol i gosbi gwaith.
Rwy'n deall y bydd llawer, yn enwedig ar yr asgell Geidwadol, 'gwladwriaeth fach' mewn gwleidyddiaeth, yn dweud na allwn fforddio cefnogi pobl mewn cyfnod cythryblus. Ond rwy'n aml yn meddwl tybed pam nad yw'r lleisiau hyn yn codi pan fydd costau credyd cynhwysol yn cynyddu allan o reolaeth, pan roddir biliynau i gwmnïau allanol sy'n darparu gwasanaethau gwarthus, neu pan welwn gostau prosiectau seilwaith mawr, fel HS2, yn mynd drwy'r to. Ac rwy'n gwybod hefyd nad yw llawer ar fy ochr i o'r sbectrwm gwleidyddol wedi'u hargyhoeddi, nid oherwydd nad ydynt eisiau cefnogi pobl, ond am eu bod yn poeni am yr adnoddau cyfyngedig mewn gwlad sydd eisoes wedi gweld y Torïaid yn torri cymaint o'r hyn rydym i gyd yn ei ystyried yn werthfawr. Felly, yr hyn y byddwn yn ei ddweud wrthynt yw: edrychwch ar y rhestr o broblemau rwyf wedi'u trafod heddiw—pa bwysau fydd canlyniadau'r newidiadau hyn yn ei roi ar wasanaethau cyhoeddus?
Nawr, Lywydd, rwy'n edrych ymlaen at glywed cyfraniadau'r Aelodau heddiw, felly rwyf am orffen gyda hyn: os yw economi marchnad yn mynd i ffynnu, mae angen i'w holl ddinasyddion allu cymryd rhan ynddi. Mae angen iddynt allu amsugno'r ergydion sydd i ddod a bod yn berchnogion cartrefi, yn ddefnyddwyr, yn grewyr ac yn entrepreneuriaid. Os ydym am roi lle iddynt gymryd cyfrifoldeb a sicrhau y gallant wneud hyn, bydd angen sbardun llawer gwell arnom—sbardun llawer mwy caredig—a'r sbardun hwnnw yw incwm sylfaenol cyffredinol. Diolch yn fawr.
Diolch. Mae gennyf wyth siaradwr sy'n gobeithio cael eu galw, neu wyth Aelod sy'n gobeithio siarad, felly pum munud ar y mwyaf, os gwelwch yn dda, a byddwn yn gwerthfawrogi'n fawr pe gallai rhai Aelodau fod yn fwy cryno na hynny. Mark Isherwood.
Diolch. Yn ôl ystadegau Llywodraeth Cymru, mae 721,000 neu 23 y cant o'r holl unigolion—plant, oedolion o oedran gweithio a phensiynwyr—yn byw mewn tlodi incwm cymharol yng Nghymru, sy'n uwch nag unrhyw wlad arall yn y DU. Yn ôl rapporteur arbennig y Cenhedloedd Unedig ar dlodi eithafol a hawliau dynol, Cymru sydd â'r gyfradd tlodi cymharol uchaf yn y DU, ac mae 25 y cant o swyddi yng Nghymru yn talu llai na'r isafswm cyflog.
Mae incwm sylfaenol cyffredinol wedi ennyn diddordeb sylweddol yn ddiweddar. Fodd bynnag, fel y dywed Sefydliad Bevan:
Fel gyda llawer o gynlluniau sy'n effeithio ar incwm pobl, mae cynllun a gwerth yr argymhellion yn wirioneddol bwysig.
Er y byddai incwm sylfaenol cyffredinol yn helpu i gyrraedd pobl sydd y tu allan i'r system fudd-daliadau ar hyn o bryd, ac y gallai leihau stigma, daethant i'r casgliad fod anghenion pobl yn gwahaniaethu'n fawr. Roeddent yn dweud nad yw'r rhain yn debygol o gael eu bodloni gan gyfradd uchel hyd yn oed o incwm sylfaenol cyffredinol, ac roeddent yn dweud:
Mae'r rhan fwyaf o astudiaethau'n dangos mai effaith gyfyngedig ar y cyfan y mae incwm sylfaenol cyffredinol yn ei chael ar ymgysylltiad pobl â'r farchnad lafur... Yn fwyaf arbennig, canfuwyd bod menywod â phlant a phobl hŷn sy'n derbyn incwm sylfaenol cyffredinol yn lleihau rhywfaint ar eu cyfranogiad mewn cyflogaeth.
Maent hefyd yn gofyn a fyddai cyfradd uchel o incwm sylfaenol cyffredinol mor ddrud fel y byddai'n anodd buddsoddi mewn gwasanaethau hanfodol eraill, megis adeiladu tai cymdeithasol newydd a darparu mwy o drafnidiaeth gyhoeddus cost isel.
Dadleuodd adroddiad y Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol, 'Universal Basic Income: An Effective Policy for Poverty Reduction?', hefyd nad yw incwm sylfaenol cyffredinol yn fforddiadwy, gan beryglu'r gallu i ddarparu gwasanaethau pwysig mewn gofal iechyd ac addysg, gan ychwanegu:
Nid yw'n diwallu anghenion aelwydydd incwm isel sy'n wynebu problemau cymhleth fel dibyniaeth ar gyffuriau, dyledion peryglus, a chwalfa deuluol; mae'n ddatgymhelliad mawr i ddod o hyd i waith...ac nid yw'n fwy hael i'r aelwydydd mwyaf difreintiedig na darpariaethau'r credyd cynhwysol.
Fel y dywedodd Ysgrifennydd Gwladol y DU dros fusnes, Alok Sharma:
Yr hyn sy'n bwysig iawn yn y ffordd rydym yn darparu cymorth, yn enwedig yn fwy cyffredinol yn y system les, yw ein bod yn ei dargedu at bobl, ac mae incwm sylfaenol cyffredinol yn cael ei brofi mewn gwledydd eraill ac nid yw wedi cael ei ddatblygu.
Y llynedd, ni wnaeth Llywodraeth y Ffindir fwrw ymlaen ag incwm sylfaenol cyffredinol ar ôl treial dwy flynedd, gan ddod i'r casgliad ei fod wedi methu helpu pobl ddi-waith i ailymuno â'r gweithlu. Er bod math o incwm sylfaenol cyffredinol ar waith yn Alaska, nid yw lefel y taliad yn ddigonol i gymryd lle incwm pobl ac felly nid yw ond yn gweithredu fel atodiad. Er bod Sbaen wedi cyflwyno cynllun isafswm incwm yn ddiweddar, mae'n ymddangos bod ganddo fwy'n gyffredin â system nawdd cymdeithasol y DU na'r fersiwn o incwm sylfaenol cyffredinol sydd dan sylw.
Ni ellir lleihau nifer y bobl sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru gydag un weithred. Mae Sefydliad Bevan yn galw am ddatblygu strategaeth gwrthdlodi sy'n nodi'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu eu cymryd i leihau nifer y bobl sy'n byw mewn tlodi yng Nghymru. Fel y dywed Oxfam Cymru, nid yw'n wir nad yw strategaethau gwrthdlodi yn gweithio; mae'n ymwneud â sut y caiff y strategaethau hynny eu targedu.
Yn ddiweddar, mae Sefydliad Bevan wedi galw ar Lywodraeth Cymru i annog awdurdodau lleol i sefydlu un pwynt mynediad ar gyfer prydau ysgol, y grant datblygu disgyblion a chynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, gan ddweud y byddai hyn yn ei gwneud yn haws i deuluoedd mewn tlodi gael mynediad atynt. Lle bo modd, dywedant, dylid darparu'r cymorth hwn ar sail pasbort. Fel y dywed National Energy Action Cymru, dylai Llywodraeth Cymru ddynodi tlodi tanwydd yn flaenoriaeth seilwaith.
Mae atal yn hanfodol os yw pobl a sefydliadau yng Nghymru am fynd i'r afael â'r heriau mawr a wynebwn, a rhoi camau ymarferol ar waith i atal problemau rhag codi yn y lle cyntaf. Nid yw plastr yn ddigon; mae angen inni ddod o hyd i'r achosion sylfaenol a gwneud rhywbeth i fynd i'r afael â hwy. Os yw pobl yn disgyn i mewn i afon o hyd, oni fyddai'n well codi ffens yn uwch i fyny i'w harbed rhag syrthio i mewn, yn hytrach na'u hachub dro ar ôl tro cyn iddynt foddi? Fel y nododd Sefydliad Joseph Rowntree, nid yw incwm sylfaenol cyffredinol
yn fforddiadwy, mae'n annymunol i'r rhan fwyaf o'r cyhoedd oherwydd ei dag "arian am ddim" ac efallai'n bwysicaf oll—mae'n cynyddu tlodi oni bai ei fod yn cael ei addasu'n rhywbeth hollol wahanol.
Dyfyniad uniongyrchol ganddynt hwy oedd hwnnw. Ni fydd camau i fynd i'r afael â thlodi'n ehangach ond yn llwyddo drwy sicrhau bod ymwneud dinasyddion yn ganolog iddynt. Rydym angen troi geiriau'n gamau gweithredu go iawn yn awr, gan wneud pethau gyda phobl yn hytrach nag iddynt. O'r diwedd, mae angen inni roi croeso llawn i gydgynhyrchu, gan symud y tu hwnt i rethreg ac ymgynghori i wneud pethau'n wahanol yn ymarferol, gyda gweithwyr proffesiynol gwasanaethau, defnyddwyr gwasanaethau a'u cymunedau yn gweithio ochr yn ochr i ddarparu atebion. Diolch yn fawr.
Rwy'n falch o gefnogi'r cynnig ac yn ddiolchgar i Jack Sargeant am ei gyflwyno a rhoi cyfle i ni gefnogi ac am ei araith agoriadol rymus. Ac wrth gwrs, fel y dywedodd Jack, mae cyfraniad Mark Isherwood i'r ddadl newydd ddangos y bydd yna bobl bob amser yn ceisio awgrymu bod syniadau newydd ac arloesol yn amhosibl eu cyflwyno. Byddwn yn dweud bod angen inni fod yn fwy uchelgeisiol na hynny.
Rwyf wedi dweud yn y Siambr hon o'r blaen, a byddaf yn dal i'w ddweud tra bydd yn parhau i fod yn wir, mae'n warth cenedlaethol ein bod yn byw mewn gwlad lle mae traean o'n plant yn dlawd. Mae'r system fudd-daliadau bresennol yn gymhleth, mae'n gosbol ac mae'n cadw teuluoedd mewn tlodi. Mae hefyd yn gostus i'w gweinyddu ac yn gwbl annheg. Fel y mae'r cynnig hwn yn nodi, nid yw gwaith, fel y mae pethau ar hyn o bryd, yn llwybr allan o dlodi bellach. Mae gormod o deuluoedd yng Nghymru lle mae'r ddau riant yn gweithio dan gontract dim oriau mewn swyddi economi gìg yn dal i fod yn dlawd.
Nid oes amheuaeth na fydd COVID-19 yn taro ein heconomi'n galed, ond hyd yn oed cyn COVID roedd ein heconomi'n newid. Mae heriau awtomatiaeth a deallusrwydd artiffisial, ymhlith pethau eraill, yn debygol o drawsnewid y byd gwaith dros amser. Efallai nad oes gennym ddigon o'r hyn a ystyriwn yn draddodiadol yn waith i fynd o gwmpas. Mae llawer o gamau y gallwn ac y dylem eu cymryd i fynd i'r afael â'r heriau hyn, ac ni fyddwn yn anghytuno â phopeth a ddywedodd Mark Isherwood, ond mae'n rhaid i archwilio incwm sylfaenol cyffredinol fod yn un ohonynt.
Mae'r cynnig yn amlinellu llawer o'r manteision yn glir, a hoffwn ychwanegu at y rhestr honno drwy sôn am gapasiti incwm sylfaenol cyffredinol i ganiatáu i bobl dreulio mwy o amser gyda'u teuluoedd, ac yn enwedig gyda phlant. Rwy'n adnabod gormod o deuluoedd yn y rhanbarth rwy'n ei gynrychioli lle mae'r ddau riant yn gweithio oriau hir mewn gwaith cyflog isel. Gallai incwm sylfaenol cyffredinol ganiatáu iddynt leihau eu horiau, gwella ansawdd eu bywydau yn aruthrol yn ogystal ag ansawdd bywydau eu plant.
Rwy'n gyfforddus yn cefnogi'r cynnig fel ag y mae, ond mae 'ond'—bydd yn anodd iawn sefydlu hyd yn oed treial incwm sylfaenol cyffredinol cyfyngedig yng Nghymru heb ddatganoli'r system fudd-daliadau. Efallai y gallem dreialu gyda theuluoedd ar incwm isel sy'n uwch na'r trothwy budd-daliadau, ac rydym yn gwybod bod gormod o'r rheini yn ein gwlad, ond yn sicr ni fyddai diben o gwbl darparu incwm sylfaenol cyffredinol i unigolion a theuluoedd o gronfeydd Cymru os byddai hynny'n peri iddynt golli eu budd-daliadau gan Lywodraeth y DU.
Ac er na fyddwn yn gwrthwynebu lobïo Llywodraeth y DU i ariannu incwm sylfaenol cyffredinol drwy Gymru, gyda Llywodraeth bresennol y DU mewn grym, rhaid i mi gyfaddef nad wyf yn dal fy ngwynt. Onid gwell fyddai dilyn cyngor gofalus, ystyriol y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau a cheisio datganoli'r broses o weinyddu budd-daliadau i Gymru? Yna, gallem fynd ati o ddifrif i dreialu incwm sylfaenol cyffredinol. Ac os yw'n gweithio, gallai drawsnewid bywydau pobl. Diolch yn fawr.
Bob hyn a hyn, daw syniad, syniad dychmygus ac arloesol, a chredaf fod gennym ddyletswydd, yn enwedig yn y Senedd hon, i groesawu'r syniadau hynny a'r cyfleoedd y gallant eu cynnig i ni. Mae'r syniad o incwm sylfaenol wedi bod o gwmpas am amser hir. Bu economegwyr, athronwyr a gwleidyddion yn trafod ers tro byd sut i drechu tlodi. Cychwynnodd Llywodraeth Lafur 1945 ar y daith hon o ddifrif drwy sefydlu'r wladwriaeth les, ac fe weithiodd am ddegawdau lawer. Cododd y di-waith, y rheini nad oeddent yn gallu gweithio a'r rhai mewn gwaith ar gyflogau isel allan o dlodi. Ac roedd yn gweithio'n eithaf da mewn cymdeithas lle roedd cyflogaeth lawn bron iawn, undebaeth lafur gref ac ymrwymiad cyhoeddus i'r lles cyffredin.
Nawr, yn ystod y 1980au a'r degawdau dilynol, mae'r tri rhagofyniad hwnnw, sy'n sail i'r wladwriaeth les, wedi cael eu herydu a'u tanseilio fwyfwy gan arwain yn y pen draw at ddeddf warthus y Torïaid, Deddf Diwygio Lles 2012. Dechreuodd yr ymgais i greu credyd cynhwysol newydd ar y trywydd cywir, gyda chefnogaeth drawsbleidiol, ond ochr yn ochr â'r dreth ystafell wely, bwriwyd amheuaeth ar y syniad yn sgil obsesiwn y Llywodraeth Dorïaidd â chyni. Ers dyddiau Margaret Thatcher hefyd, mae agweddau gwleidyddol tuag at bobl ar fudd-daliadau wedi tyfu'n fwyfwy gelyniaethus. Credaf fod penawdau cyson am dwyllwyr budd-daliadau, lloffwyr taliadau lles, a mantra diweddaraf y Torïaid, y tlawd haeddiannol, wedi cuddio'r tlodi a'r anghydraddoldeb sydd wedi ansefydlogi ein cymdeithas fwyfwy.
Felly, mae'n bryd cael meddylfryd newydd a syniadau newydd. Mae ymddangosiad y syniad o incwm sylfaenol cyffredinol yn amserol ac yn rhywbeth i'w groesawu. Yr egwyddor sylfaenol ar gyfer incwm sylfaenol cyffredinol yw y dylid talu swm o arian i bob oedolyn sy'n ddigonol i gael safon byw sylfaenol rhesymol. Nawr, dyna'r pwynt. Beth a olygir wrth rhesymol? Beth a olygir wrth sylfaenol? Beth sy'n ddigonol? Yn ychwanegol at hynny ceir llawer o heriau eraill. Rydym eisoes wedi cael rhai budd-daliadau cyffredinol, megis presgripsiynau am ddim a budd-daliadau plant, a oedd tan y newidiadau diweddar yn mynd i bawb ac mae pawb yn talu amdanynt. Byddai incwm sylfaenol cyffredinol yr un fath. Nid yw'n wahanol mewn rhai ffyrdd i'r cysyniad o lwfans sylfaenol di-dreth, ar wahân i'r ffaith ei fod yn mynd gam ymhellach ac yn dod yn daliad heb brawf modd i bob oedolyn. Nawr, wrth gwrs, gall fod taliadau ychwanegol arbennig ar gyfer anghenion arbennig a dyna un o'r cysyniadau. Ond mae yna lawer o amrywiadau. Felly, gwneud iddo weithio ac ennill cefnogaeth yw'r her wirioneddol. A fydd cymdeithas yn ei dderbyn? A fydd y rhai sy'n gweithio yn barod i dderbyn y cysyniad hwn? Sut y bydd yn effeithio ar gyflogau a'r rheini sydd mewn gwaith? Pa rwymedigaethau y bydd yn eu rhoi ar gymdeithas i sicrhau bod gwaith cymdeithasol defnyddiol a phriodol ar gael a bod pobl yn cyflawni'r gwaith hwnnw? Beth yw cyfrifoldebau'r derbynwyr? Sut rydych yn gorfodi'r cyfrifoldebau hynny? Ac mae llawer o gwestiynau eraill.
Nawr, os oes gan y syniad o incwm sylfaenol cyffredinol botensial i ddileu tlodi, mae'n rhaid inni ei ystyried a'i drafod a dod i gasgliad yn ei gylch. Mae Jack Sargeant wedi dechrau'r broses gyda'r ddadl Aelod unigol hon. Mae'n ddadl gyffrous. Gadewch inni barhau â'r ddadl gyda meddwl agored, oherwydd mae gennym lawer i'w ennill a fawr ddim i'w golli. Diolch, Lywydd dros dro.
Bydd cael incwm sylfaenol cyffredinol, fel gyda'r syniadau mwyaf arloesol, yn debygol o greu canlyniadau cadarnhaol a negyddol. Yn y lle cyntaf, os edrychwn ar fanteision taliad o'r fath, byddai pobl yn rhydd i ddychwelyd i addysg, gan roi mwy o obaith iddynt gael gwell cyfleoedd gwaith. Byddai mwy yn gallu aros gartref i ofalu am berthynas. Mae gan hyn botensial i greu arbedion sylweddol i'r gost enfawr sydd ynghlwm â gofal cymdeithasol. Gallai dynnu miloedd lawer o bobl o'r fagl tlodi a gaiff ei chreu gan fathau mwy traddodiadol o raglenni lles. Gallai pobl gael taliad syml, uniongyrchol a allai leihau biwrocratiaeth. Unwaith eto, arbediad cost a fyddai'n helpu i dalu am unrhyw gostau ariannu ychwanegol a fyddai'n gysylltiedig â'r polisi incwm sylfaenol, oherwydd gwyddom i gyd fod gweinyddu'r system les bresennol yn ddrud ofnadwy ac yn gymhleth iawn. Byddai gan gyplau ifanc fwy o ryddid i ddechrau teulu a byddai ganddynt incwm gwarantedig, gan wella'r cyfraddau geni isel mewn rhai sectorau o boblogaeth y DU o bosibl. Gallai incwm gwarantedig helpu i sefydlogi'r economi yn ystod cyfnodau o ddirwasgiad, gan liniaru effaith dirwasgiadau economaidd. Fodd bynnag, fel gyda phopeth, mae'n rhaid sicrhau'r cydbwysedd cywir.
Os yw'r taliad sylfaenol cyffredinol wedi'i osod yn rhy uchel, gall fod yn ddatgymhelliad i bobl ymuno â'r farchnad swyddi. Os caiff ei osod yn rhy isel, bydd yn parhau i gadw cyfran o'r boblogaeth mewn tlodi cymharol. Unwaith eto, os caiff ei osod yn rhy uchel, gallai'r galw am nwyddau a gwasanaethau sbarduno chwyddiant, a allai, yn y pen draw, negyddu'r safon byw uwch i'r rhan fwyaf o bobl a fyddai'n derbyn yr incwm sylfaenol. Ni fydd rhaglen lai gyda thaliadau llai, ar y llaw arall, yn gwneud gwahaniaeth go iawn i deuluoedd sy'n byw mewn tlodi.
Os ydym eisiau i'r incwm sylfaenol cyffredinol gael ei dderbyn yn gyffredinol, mae'n rhaid inni brofi'r manteision posibl i'r nifer fawr o bobl sy'n gwrthwynebu'n llwyr yr hyn y maent yn ei deimlo sy'n arian am ddim o unrhyw fath. Ym mhob rhan o'r byd, mae gwledydd naill ai'n awyddus i arbrofi gydag incwm sylfaenol cyffredinol neu eisoes yn ei gynnig. Mae'r rhain yn cynnwys rhai o daleithiau America, y Ffindir, Kenya, Canada a Thaiwan. Gallai monitro'r cynnydd roi cyfle i'r Senedd feincnodi effaith taliad sylfaenol cyffredinol.
Mae llawer o academyddion, economegwyr a diwydianwyr hyd yn oed bellach yn credu, os ydym am greu cymdeithas decach, fwy cyfartal, fod rhyw fath o incwm sylfaenol cyffredinol nid yn unig yn ddymunol ond yn anochel. Mae awtomatiaeth wedi newid strwythur economi'r byd yn sylfaenol, gyda deallusrwydd artiffisial yn ein harwain at chwyldro diwydiannol arall yn y ffordd rydym yn cynhyrchu ac yn marchnata nwyddau a gwasanaethau. Bydd yr effaith sy'n deillio o hynny ar yr angen am waith llaw ac ymyrraeth pobl mewn swyddfeydd yn lleihau'r farchnad swyddi'n sylweddol. Credaf y byddem i gyd yn cytuno na ddylai'r chwyldro diwydiannol hwn ddyblygu rhai'r gorffennol, a amlygai'r bwlch gwarthus rhwng y cyfoethog a'r tlawd. Os ydym am greu cymdeithas deg a chyfartal, rhaid i bawb ohonom dderbyn bod incwm sylfaenol cyffredinol nid yn unig yn ddymunol ond yn hanfodol. Fodd bynnag, ni ddylem dwyllo ein hunain: rhaid cyflawni'r broses o'i gymell gyda gofal mawr.
Cyflwyniad rhagorol gan Jack, a dadl ddiddorol iawn gan bobl o bob plaid, a dyna sut y dylai fod. Mae'n ymddangos i mi mai'r pandemig COVID, a'r cydweithredu sy'n rhaid ei gael i'w drechu, yw'r hyn sydd wedi dod ag ymatebion radical o dan y chwyddwydr. Pwy fyddai wedi meddwl y byddai Canghellor y Trysorlys, yn un o'r Llywodraethau rhyddewyllysol mwyaf asgell dde y mae'r DU wedi'i chael ers cyn cof, yn cytuno i dalu 80 y cant o holl gyflogau'r wlad hon er mwyn achub swyddi pobl?
Rwyf wedi cefnogi'r egwyddor o incwm sylfaenol cyffredinol ers tro byd. Roeddwn yn un o gefnogwyr cynnar Wages for Housework, ymhell cyn i lawer o'r Aelodau, gan gynnwys Jack, gael eu geni. Mae angen inni gofio mai nod y lwfans teulu gwreiddiol, a ddaeth yn fudd-dal plant yn ddiweddarach, oedd cydnabod y gwaith pwysig o fagu'r genhedlaeth nesaf. Yn anffodus, mae wedi cael ei adael i ddihoeni ac mae'n gyfraniad cwbl annigonol gan gymdeithas at y gost o fagu ein plant. Ond tan yn ddiweddar, nid oeddwn yn teimlo mai nawr oedd yr amser i bwyso am incwm sylfaenol cyffredinol, oherwydd roeddwn yn credu, yng nghanol pandemig, fod llawer gormod o broblemau uniongyrchol eraill roedd angen i Lywodraethau fynd i'r afael â hwy. Ac yn ogystal â hynny, nid oes gan Lywodraeth Cymru adnoddau, na phwerau yn wir, i wneud iddo ddigwydd. Ond rwy'n credu bod dyfnder yr argyfwng a wynebwn yn awr, yr argyfyngau sy'n hel at ei gilydd, yn gwneud hyn yn rhywbeth y mae gwir angen inni edrych arno ar fyrder yn awr, oherwydd nid pandemig yn unig rydym yn ei wynebu, rydym hefyd yn wynebu'r posibilrwydd gwirioneddol y bydd y DU yn torri ei chysylltiadau â'n cymdogion Ewropeaidd ar ôl 40 mlynedd heb gael cytundeb masnach dichonadwy. Ac ar ben hynny, mae gennym argyfwng hinsawdd cynyddol, a fydd, os na wnawn unrhyw beth yn ei gylch, yn gwaethygu'n gyflym iawn.
Felly, rwy'n argyhoeddedig mai dyma sydd ei angen arnom yn awr: incwm sylfaenol cyffredinol i ddiogelu ein gwlad rhag y lefel o chwalfa economaidd a chymdeithasol sy'n llawer mwy ac yn fwy dinistriol nag unrhyw beth a welsom yn 1973, 1982, 1989 a 2008. Yn anad dim, mae'n rhaid inni osgoi'r newidiadau gwleidyddol treisgar sy'n aml yn cael eu sbarduno gan fethiant i reoli ysgytiadau economaidd. Dyn a ŵyr beth fyddai wedi digwydd yn 2008 pe na bai Gordon Brown ac Alistair Darling wedi llwyddo i atal ein holl fanciau rhag mynd i'r wal.
Felly, cyn COVID, roedd Cymru eisoes yn dioddef o lefelau uchel iawn o ansicrwydd, fel y mae eraill wedi'i ddweud eisoes. Gwyddom fod un o bob wyth o bobl mewn gwaith ansicr, ac mae gan Gymru un o'r lefelau uchaf o gontractau dim oriau, sef y ffordd fwyaf ansicr, mae'n debyg, i unrhyw un orfod ceisio jyglo cyfrifoldebau cartref a gwaith. Ond yn sail i'r ystadegyn gwarthus hwnnw mae'r ffaith bod traean o blant yn y wlad hon yn byw ar aelwydydd sy'n ei chael yn anodd rhoi digon o fwyd ar y bwrdd heb wneud arbedion ar hanfodion eraill fel gwres a theithiau ysgol, ac mae hyn yn digwydd yn y chweched economi gyfoethocaf yn y byd.
Hefyd, mae gennym system fudd-daliadau gosbol a gwastraffus, a gynlluniwyd i gosbi pobl am fethu dod o hyd i swydd, hyd yn oed os nad oes swyddi'n bodoli. Fel y mae Mick eisoes wedi'i ddweud, pe bai budd-daliadau cyffredinol wedi cael eu hariannu'n briodol a'u gweithredu mewn ffordd wahanol, gallent fod yn rhwyd ddiogelwch ddibynadwy y mae unrhyw gymdeithas wâr ei hangen pan fydd pobl yn mynd i drafferthion, ond ni ddigwyddodd hynny, ac nid yw hynny'n wir. Y cyfan a wnaethant yw cynyddu diflastod a thlodi'r rhai mwyaf agored i niwed. Ar y cyfryngau cymdeithasol, gallwch ddarllen am rai o'r pethau gwarthus sy'n digwydd i bobl cyn gynted ag y bydd unrhyw newid yn digwydd i'w budd-daliadau cyffredinol. Mae gorfodi pobl i aros pum wythnos am unrhyw fudd-daliadau cyffredinol yn sicr o arwain at fenthycwyr arian didrwydded a dyled gynyddol. Mae budd-daliadau cyffredinol yn costio—
Bydd angen i chi ddod â'ch cyfraniad i ben—. Dewch â'r cyfraniad i ben, os gwelwch yn dda.
Felly, yn y bôn, rwyf eisiau dweud bod gwir angen inni edrych ar ddyfodol y ffordd rydym yn rheoli'r holl newidiadau hyn, ac mae'r syniad na fydd digon o waith i fynd o gwmpas yn gwbl anghywir, yn fy marn i. Ond mae angen y sail honno arnom i alluogi pobl i bontio yn y set radical iawn hon o newidiadau y byddwn yn eu dioddef.
Yn amlwg, fel y clywsom yn y ddadl, y sbardun ar gyfer y drafodaeth ar incwm sylfaenol cyffredinol yw'r don enfawr o newid technolegol sy'n datblygu o flaen ein llygaid. Mae yna ddadl economaidd ynglŷn ag i ba raddau y bydd awtomatiaeth, deallusrwydd artiffisial a thechnolegau cysylltiedig yn creu diweithdra technolegol torfol yn barhaol. Mae yna economegwyr difrifol sy'n credu bod yr hyn rydym yn sôn amdano'n awr yn rhywbeth sylfaenol wahanol i gamau cynharach o fecaneiddio, ac sy'n credu y bydd graddau'r awtomatiaeth, mewn gwirionedd, yn cyrraedd rhannau o'r economi gwasanaethau. Nid ydym yn sôn yn unig am awtomatiaeth, robotiaid ar lawr y ffatri weithgynhyrchu; rydym yn sôn am wasanaethau proffesiynol coler wen, gwasanaethau cyfreithiol, yn cael eu hawtomeiddio i bob pwrpas, gan arwain at system economaidd gwbl wahanol lle mai lleiafrif yn unig fydd â swyddi o gwbl. Byddai eraill yn dadlau, yn y pen draw, oherwydd bod gan fodau dynol amrywiaeth ddiderfyn o ddymuniadau, y bydd swyddi newydd yn cael eu creu na allwn ni hyd yn oed eu dychmygu yn awr. Ond mae hyd yn oed yr economegwyr hynny'n derbyn y byddwn, dros y 10, 15, 20 mlynedd nesaf, yn wynebu ton enfawr o newid strwythurol cyflym a bydd hynny bron yn anochel yn creu lefelau o ansicrwydd economaidd i nifer fawr o bobl. Felly, beth bynnag yw eich safbwynt, ceir dadl gref dros greu incwm sylfaenol cyffredinol fel ffordd o reoli'r newid hwnnw i ddyfodol economaidd gwahanol iawn.
A cheir dadl arall gysylltiedig. Bydd llawer o bobl wedi dilyn y ddadl ynghylch gwaith Thomas Piketty sy'n dangos bod y saeth, yn sicr o dan gyfalafiaeth, tuag at anghydraddoldeb yn y tymor hir. Un o'r rhesymau am hynny, wrth gwrs, yw oherwydd bod perchnogaeth ar gyfalaf yn nwylo nifer gymharol fach o bobl mewn gwirionedd ac os cysylltwch hynny wedyn ag awtomatiaeth, gallwch weld beth fydd ein sefyllfa yn y pen draw. Oni bai ein bod yn creu system ar gyfer ailddosbarthu incwm sy'n llawer mwy effeithiol na'r un sydd gennym ar hyn o bryd, byddwn yn gweld yr anghydraddoldeb cynyddol sydd wedi bod yn nodwedd o'r gorllewin datblygedig dros yr holl ddegawdau diwethaf—ac yn wir, mae Piketty yn dadlau, dros ganrifoedd—yn cynyddu'n gynt ac yn gynt dros y blynyddoedd i ddod.
Un o fanteision incwm sylfaenol cyffredinol, wrth gwrs, oherwydd ei fod yn rhoi dewisiadau i bobl, oherwydd ei fod yn rhoi dewisiadau i weithwyr, yw ei fod yn golygu y gallant wrthod yr hyn a alwodd y diweddar David Graeber—a dyfyniad yw hwn, Ddirprwy Lywydd—yn 'bullshit jobs', a gallant wrthod swyddi incwm isel. Felly, mae'n creu'r hyn y mae economegwyr yn ei alw'n daliad cadw newydd, oherwydd nid oes rhaid i bobl dderbyn cyflogau a swyddi ar unrhyw lefel, ac mae'n newid craidd disgyrchiant yr economi mewn gwirionedd o ran pŵer economaidd.
Credaf y byddai incwm sylfaenol cyffredinol yn rhyddhau ton o greadigrwydd, oherwydd byddai—a ydych chi'n cofio'r cynllun lwfans menter? Roedd yn un o'r ychydig bethau a wnaeth Llywodraeth Thatcher y byddwn yn ei gefnogi mewn gwirionedd. Yr hyn a olygai oedd, os oeddech mewn band, ac yn y blaen, neu'n artist sy'n ei chael yn anodd, roeddech yn cael lefel sylfaenol o incwm, pe baech yn defnyddio'r cynllun hwnnw o leiaf, a allai ganiatáu i chi wneud pethau eraill mwy diddorol. Felly, mewn ystyr entrepreneuraidd, mae hon yn ddadl a fyddai'n apelio at rai ar yr ochr dde i'r sbectrwm gwleidyddol—mae creu incwm sylfaenol cyffredinol mewn gwirionedd yn caniatáu i bobl gymryd rhai risgiau yn eu bywydau oherwydd bod ganddynt sicrwydd economaidd sylfaenol sy'n eu galluogi i wneud hynny.
Yn olaf, mae hefyd yn caniatáu i bobl wneud dewisiadau eraill o ran dewis rhwng gwaith cyflogedig neu dreulio amser gyda'u teuluoedd, fel y dywedodd Helen Mary, ond hefyd dewis rhwng gwaith cyflogedig a gwaith di-dâl, gwaith gwirfoddol, ac yn y blaen, a chaniatáu i gymdeithas elwa o'r buddion hynny. Rwyf o blaid archwilio treial. Credaf y gallai diswyddiadau—yn anffodus, rydym wedi gweld y rheini'n ddiweddar yng Nghymru—fod yn un maes. Mae incwm sylfaenol ieuenctid yn rhywbeth y mae gwledydd eraill wedi'i wneud, ond mae pwynt canolog Helen Mary yn hollol wir—os ydym am wneud hyn fel cenedl, mae'n rhaid inni ddatganoli pwerau lles. Felly, gadewch inni gael cefnogaeth drawsbleidiol i hynny hefyd.
Diolch. Dawn Bowden.
Diolch, Ddirprwy Lywydd dros dro, ac a gaf fi ddiolch hefyd i Jack Sargeant am gyflwyno'r cynnig gwirioneddol bwysig hwn rwy'n hapus iawn i'w gefnogi? Hoffwn ddechrau drwy roi rhywfaint o gyd-destun i fy nghyfraniad, gan obeithio peidio ag ailadrodd yr hyn y mae eraill wedi'i ddweud, ac egluro pam rwy'n credu bod hwn yn syniad y mae ei amser yn dod, a pham y byddai o fudd i gymunedau fel y rhai rwy'n eu cynrychioli ym Merthyr Tudful a Rhymni.
Felly, rhywfaint o gyd-destun yn gyntaf. Ym mis Ebrill 2018 cyhoeddais ddarn trafod i Fabians Cymru am Gymru'n bod yr hyn a ddisgrifiais fel gwladwriaeth lesiant, ac yn y darn hwnnw ymchwiliais i'r awgrym y gallai rhwyd ddiogelwch ein gwladwriaeth les draddodiadol esblygu'n wladwriaeth lesiant fwy cyfannol. Roedd y syniad wedi dod i'r amlwg o ddarn a awdurdodwyd yn wreiddiol gan ein Cwnsler Cyffredinol bellach, Jeremy Miles, a ddywedodd, ac rwy'n dyfynnu,
'Roedd Bevan yn un o benseiri'r wladwriaeth les. Yr orchwyl yfory fydd Gwladwriaeth Lesiant.'
Ond roedd angen i mi ofyn i mi fy hun sut beth yn union fyddai gwladwriaeth lesiant Gymreig, ac i mi, yn ganolog i ymagwedd o'r fath, rhaid cynnwys llesiant yn ein holl bolisïau, yn debyg iawn i'r ffordd rydym yn sicrhau bod ein polisïau'n bodloni'r prawf cydraddoldeb, a'r ffordd y dylem, yn fy marn i, sicrhau bod polisïau'n bodloni'r prawf tlodi. Felly hefyd, dylem sicrhau bod polisïau'n bodloni'r prawf llesiant. Ac yna nodais amryw o syniadau a allai helpu i adeiladu gwladwriaeth lesiant, ac roeddent yn cynnwys gwarant isafswm incwm i ddinesydd yng Nghymru sy'n cyfateb i gyflog byw go iawn, gan wella amgylchiadau nifer o bobl o fewn arbediad cost-effeithlonrwydd cysylltiedig, ac ychwanegu at daliadau gwladwriaeth les â thaliadau llesiant personol, i'w talu mewn cyfnodau byr i wrthbwyso straen a chyflyrau gwanychol megis argyfyngau iechyd meddwl. Mae'n dilyn, felly, y dylai symud o fod yn dderbynnydd lles i fod yn gyfranogwr mewn llesiant fod yn sail i wladwriaeth lesiant. Byddai hyn yn cydnabod rhwymedigaeth i fod yn ddinesydd gweithgar yn y gymuned lle rydym yn rhannu cyfrifoldeb cyffredin i wella llesiant.
Felly, beth yw mantais ymarferol y syniad hwn i gymunedau fel Merthyr Tudful a Rhymni? Wel, gallai herio a newid rhai o'r amgylchiadau ofnadwy sydd wedi plagio rhai o'n cymunedau mwyaf difreintiedig ac sydd wedi'u dwysáu yn ystod yr argyfwng COVID presennol. Fel y mae eraill eisoes wedi sôn, mae pethau fel cyflogaeth ansicr gyda chontractau dim oriau, amodau ac arferion gwaith camfanteisiol a chyflogau isel a dibyniaeth ar fudd-daliadau yn falltod ar ormod o fy etholwyr, ac maent yn haeddu gwell. Mae incwm sylfaenol cyffredinol yn ateb, ac mae'n ateb synhwyrol yn awr, o ystyried yr hyn sydd wedi digwydd o ganlyniad i'r pandemig ofnadwy hwn.
Mewn argyfyngau, mae cyfleoedd yn codi, a chredaf fod yr hyn a nodwyd yn 2018 a'r hyn sy'n cael ei ddatblygu yn y ddadl bresennol hon yn ymateb synhwyrol a rhesymegol i'n hamgylchiadau presennol. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn feiddgar ac yn ymatebol, ac yn ystyried y galwadau yn y cynnig hwn, oherwydd nid yw bellach yn ddigon da i barhau i wneud yr hyn a wnawn a disgwyl i bethau newid. Mae fy etholwyr wedi aros yn rhy hir am hynny, a rhaid inni edrych ar ddull gwahanol o weithredu. Gallai incwm sylfaenol cyffredinol fod yn floc adeiladu yn yr adferiad ôl-COVID, ac mae'n rhywbeth y dylem ei groesawu. Diolch.
A'r siaradwr olaf sydd gerbron y Gweinidog yw Mandy Jones.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Jack Sargeant am gyflwyno'r ddadl hon a'r aelodau niferus o'r Senedd sy'n cefnogi'r cynnig. Rwyf wedi clywed rhai pethau am incwm sylfaenol cyffredinol, ond mae'n rhaid i mi gyfaddef fod fy ymennydd fel arfer yn diffodd cyn gynted ag y sonnir amdano. Mae bob amser wedi'i gloi i ffwrdd yn y rhan o fy mhen sy'n dweud, 'Rhywbeth am ddim? Nid wyf yn credu hynny.' Felly, er mwyn agor fy meddwl fy hun, gwirfoddolais i gymryd rhan yn y ddadl hon ac rwyf wedi gwneud rhywfaint o ddarllen a rhywfaint o ymchwil.
Rwyf wedi gweithio drwy gydol fy oes, ers fy arddegau cynnar. Rwyf wedi ennill fy holl arian fy hun, ac rwyf wedi magu pedwar o blant heb fawr o gymorth ariannol nac emosiynol gan y ddau dad. Roeddwn yn gofalu am fy nhad oedrannus yn ystod ei flynyddoedd olaf hefyd. Rwyf wedi gwneud pob math o swyddi—swyddi diraddiol yr oeddwn yn ddiolchgar iawn amdanynt. Rwyf wedi gwneud swyddi am £1 yr awr, ac roeddwn yn falch o gael y rheini. Yr unig adeg yr hawliais unrhyw fath o fudd-dal oedd pan gefais anaf i fy asgwrn cefn. Roedd arnaf angen y rhwyd ddiogelwch honno, ac roeddwn yn ddiolchgar amdani. Wedi dweud hynny, os byddaf byth yn wynebu adegau anodd eto, os bydd un o fy meibion yn colli ei waith, os daw fy merch yn ôl i Gymru a methu dod o hyd i swydd yn ein byd ôl-COVID, rwyf am weld rhwydwaith cymorth ar waith ar eu cyfer, ar gyfer pawb, sy'n dosturiol ac yn realistig, ac yn gallu ymateb i anghenion yr unigolyn.
Rwy'n credu bod system fudd-daliadau'r DU yn llanast, wedi'i gweinyddu gan wasanaeth sifil diysgog sy'n rhoi pwyslais ar dicio blychau ac yn methu ei gael yn iawn. Fodd bynnag, mae'r ffaith bod y rhan fwyaf o'r budd-dal yn cael ei dalu i bobl mewn gwaith y tu hwnt i mi. Pam y mae'r trethdalwr i bob pwrpas yn rhoi cymhorthdal i gyfranddalwyr corfforaethau mawr na fyddant yn talu cyflog teilwng i bobl am waith gweddus? Tra bydd hyn yn parhau, bydd cyflogau'n aros lle maent, ac rwy'n credu eu bod wedi aros yn eithaf gwastad ers y cwymp ariannol. A bydd angen cymorth budd-daliadau ychwanegol ar bobl a banciau bwyd tra bo hyn yn parhau. Mae'n gwbl warthus.
Darllenais gyda diddordeb adroddiadau ynglŷn â threialu incwm sylfaenol cyffredinol yn y Ffindir yn 2018-19, ond y peth sy'n peri pryder i mi yw mai'r canlyniad net oedd bod y di-waith wedi mynd i ddioddef llai o straen ac ychydig yn hapusach. Yn ystod y cyfnod hwn, ni wnaethant chwilio am gyfleoedd gwaith a hyfforddiant. Byddai honno'n broblem fawr. A does bosibl mai'r nod i'r rhai sy'n gallu gweithio—ac rwy'n derbyn na all rhai pobl wneud hynny, ond i'r lleill—yw dihoeni yn eu cartrefi. Rhaid eu hannog i ddod o hyd i waith neu i uwchsgilio. A gadewch inni beidio ag anghofio bod pawb mewn gwaith yn cael £12,500 yn ddi-dreth ac yn osgoi talu yswiriant gwladol o dan £9,500.
Fel rhan o fy ymchwil, edrychais ar fyd y credyd cynhwysol, wedi'i adeiladu ar sail un taliad ar gyfer pob budd-dal sy'n ddyledus. Nid wyf fi'n bersonol yn cael unrhyw anhawster gyda'r cysyniad o gredyd cynhwysol, ond rwy'n anghytuno â'r ffordd y mae wedi'i weinyddu, gan achosi tlodi dyfnach a straen diddiwedd i hawlwyr. Onid yw credyd cynhwysol yr un math o beth ag incwm sylfaenol cyffredinol? Mae hwn yn gwestiwn dilys i'r rhai sy'n gwybod mwy am hyn na mi. Rydym yn cynrychioli cenedl o weithwyr, a dylai pob un ohonynt ymfalchïo'n fawr yn y cyfraniad a wnânt i gymdeithas, beth bynnag a wnânt, ac maent hwy, yn fwy na dim rwy'n credu, am weld chwarae teg. Beth fyddent yn ei feddwl o gynnig o blaid incwm sylfaenol cyffredinol? Nid wyf yn siŵr y bydd yn gyfrwng i ennill pleidleisiau er, yn sicr, nid yw hynny'n rhwystr i'w drafod yn helaeth, ac nid wyf yn siŵr fod pobl gyffredin yn barod amdano. Er fy mod yn deall bod rhai o'r teimladau sy'n sail i'r cynnig yn gwbl ganmoladwy, mae rhai o'r datganiadau ysgubol sydd ynddo yn amheus.
Ni fydd fy ngrŵp yn cefnogi'r cynnig hwn fel y mae. Credwn fod gan yr ymdeimlad o bwrpas, hunan-werth a disgyblaeth y mae swydd yn eu cynnig lawer mwy o werth na'r Llywodraeth yn rhoi arian i'r rhai nad oes ei angen arnynt o reidrwydd. Fel y soniais yn gynharach, mae problemau strwythurol gwirioneddol gyda'r system les yn y wlad hon, yn enwedig y modd y cynhelir busnesau mawr nad ydynt eisiau talu cyflogau gweddus. Er fy mod bellach yn gwybod mwy am incwm sylfaenol cyffredinol, ac am hynny diolch i chi am y ddadl hon, nid wyf yn credu mai incwm sylfaenol cyffredinol yw'r ateb i'r broblem ar hyn o bryd. Diolch yn fawr iawn.
Galwaf ar y Gweinidog cyllid, Rebecca Evans.
Diolch. Rwy'n falch iawn o allu ymateb i'r hyn a fu'n ddadl ddiddorol iawn. Mae gan y syniad o incwm sylfaenol cyffredinol lawer o rinweddau. Pe bai'n cael ei gyflwyno o fewn cyfres gydlynol o ddiwygiadau i'r system dreth a lles, mae gan ei fanteision botensial i sicrhau enillion economaidd i fenywod ac i grwpiau difreintiedig yn arbennig. Mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, yn gwbl gefnogol i'r amcanion hynny a gallai treial, mewn egwyddor, helpu i ganfod i ba raddau y gellid gwireddu'r amcanion hyn yn ymarferol.
Wrth gwrs, ni waeth pa mor ddeniadol yw polisi mewn egwyddor, mae yna gymhlethdodau, cyfyngiadau neu ganlyniadau anfwriadol bob amser a allai greu risg o danseilio'r cyfraniad y gall ei wneud i'r nod o drechu tlodi ac anghydraddoldeb os na chânt sylw llawn a'u hasesu. Pe bai incwm sylfaenol cyffredinol yn cael ei dalu ar lefel a fyddai'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i safonau byw pobl, byddai hyn yn anochel yn golygu cost uchel, ac yn hytrach na bod yn feirniadaeth o incwm sylfaenol cyffredinol, dim ond cydnabyddiaeth yw hyn o'r realiti mai bwriad incwm sylfaenol cyffredinol fyddai gwneud gwahaniaeth trawsnewidiol i fywydau pobl.
Er enghraifft, pe bai incwm sylfaenol cyffredinol llawn yn cael ei dalu yng Nghymru i bob oedolyn o oedran gweithio ac wedi'i osod ar lefel y cyflog byw swyddogol, byddai'r gost yn fras iawn oddeutu £35 biliwn y flwyddyn. Os caiff ei bennu ar lefel y cyflog byw go iawn, byddai'r gost oddeutu £40 biliwn. Ac unwaith eto, i ddarlunio'r hyn a olyga, mae'r ffigurau tua dwywaith maint cyllideb Llywodraeth Cymru ac fel cymhariaeth bellach, mae treth incwm yng Nghymru'n codi cyfanswm o ychydig dros £5 biliwn. Wrth gwrs, gellid lleihau'r costau'n fawr pe bai incwm sylfaenol cyffredinol yn cael ei dalu ar gyfradd is, ond wrth gwrs, byddai hynny wedyn yn lleihau ei apêl.
Yn naturiol, byddai cyflwyno incwm sylfaenol cyffredinol hefyd yn cynyddu refeniw treth ac yn dileu neu'n lleihau'r angen am rai budd-daliadau. Felly, byddai angen ailgynllunio'r system dreth a budd-daliadau gyfan yn gynhwysfawr ac wrth gwrs, nid yw'r rhan fwyaf o'r elfennau yn y system hon wedi'u datganoli. Hyd yn oed pe bai incwm sylfaenol cyffredinol llawn o'r math y buom yn sôn amdano yn cael ei gyflwyno, mae'n bwysig cydnabod bod ymchwil yn dangos y gallai rhai o'r bobl fwyaf difreintiedig fod yn waeth eu byd oni bai bod rhai o elfennau'r system fudd-daliadau'n cael eu cadw, ar ffurf wedi'i haddasu o leiaf. Felly, yn amlwg, byddai'n rhaid inni fod yn effro iawn i hynny. Byddai'r rhai a allai fod yn waeth eu byd yn cynnwys teuluoedd mawr ac yn enwedig, teuluoedd lle mae rhai o'r aelodau'n anabl.
Yn ogystal, byddai angen i lefel a strwythur y trethi newid er mwyn sicrhau bod y system gyffredinol mor flaengar â phosibl, a hefyd i godi'r refeniw ychwanegol y byddai ei angen. Felly, byddai angen gwneud gwaith cynllunio gofalus iawn i leihau'r risgiau i grwpiau difreintiedig, ac i sicrhau fforddiadwyedd.
Wrth wynebu newid mor gymhleth, credaf y dylem hefyd ystyried a ellid sicrhau'r amcanion a ddymunir yn gyflymach neu'n fwy effeithiol drwy ddiwygiadau eraill i drethi a budd-daliadau sy'n bodoli eisoes. Lle da i ddechrau fyddai gwrthdroi'r toriadau trychinebus i fudd-daliadau lles a gyflwynwyd gan Lywodraethau presennol a blaenorol y DU dan arweiniad y Ceidwadwyr, ac adfer y toriadau a wnaed i ariannu'r gwasanaethau cyhoeddus y mae'r rheini sydd ar yr incwm isaf yn dibynnu fwyaf arnynt.
Pan fydd gwasanaethau cyhoeddus wedi'u hadfer yn llawn, dylem hefyd ystyried a allai model sy'n seiliedig ar ddatblygu gwasanaethau sylfaenol cyffredinol, gyda ffocws ar y gwasanaethau a ddefnyddir fwyaf gan bobl ar incwm isel, gynnig gwell canlyniadau na darparu incwm ar ffurf ariannol. Gallai treialu incwm sylfaenol cyffredinol wneud llawer i'n helpu i asesu manteision a risgiau gwneud newid mor sylfaenol, gan ei gymharu â'r dewisiadau amgen a phenderfynu beth fyddai angen inni ei wneud i leihau'r risgiau. Ym marn Llywodraeth Cymru, byddai treial mor fawr a thrylwyr yn hanfodol cyn ymrwymo i ail-lunio'r system dreth a budd-daliadau'n llwyr.
Byddai Llywodraeth Cymru yn agored i dreial o'r fath gael ei gynnal yng Nghymru, ond rhaid inni fod yn realistig na fyddai treial felly'n bosibl heb gydweithrediad gweithredol Llywodraeth y DU, a hynny oherwydd y rhyngweithio rhwng incwm sylfaenol cyffredinol a'r system dreth a budd-daliadau, fel rwyf newydd ddisgrifio. Pe bai treial o'r fath yn cael ei gynnig, byddem hefyd yn mynnu bod amodau'n cael eu bodloni i sicrhau bod Llywodraeth Cymru a'r Senedd hon yn gallu chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gynllunio, llywodraethu a sicrhau atebolrwydd unrhyw gynllun. Pe bai Llywodraeth Cymru yn gwneud taliadau i unigolion heb gydweithrediad Llywodraeth y DU, gallai hynny olygu na fyddent yn gymwys i gael budd-daliadau presennol neu eu bod yn talu mwy mewn treth. Ar wahân i'r ffaith na fyddai hyn wedyn yn brawf priodol o effaith taliad diamod i bob pwrpas, byddai'n arwain at drosglwyddo adnoddau o Lywodraeth Cymru i Lywodraeth y DU. Ac yn anffodus, nid yw ein profiad diweddar o ymagwedd Llywodraeth y DU tuag at drethu ein taliadau i weithwyr gofal cymdeithasol yn awgrymu y dylem ddisgwyl eu cydweithrediad gweithredol. Er ein bod wedi gallu gwneud taliadau tebyg i ddioddefwyr llifogydd heb orfod cael y didyniadau hynny, mae'n amlwg na allwn ddisgwyl ymateb cyson a dibynadwy gan Lywodraeth y DU ar y materion hyn.
Dylid datblygu unrhyw dreial hefyd gyda phartneriaid cymdeithasol, ac rwy'n cydnabod bod rhai safbwyntiau cymysg ymhlith y partneriaid hynny ynglŷn ag effaith unrhyw gynllun incwm sylfaenol cyffredinol ar ddiogelwch swyddi a chyflogau. Dywedir wrthyf mai un canlyniad anfwriadol fyddai cynnydd mewn arferion cyflogaeth ansicr, neu gyfraddau cyflog nad ydynt yn cydnabod tâl teg am waith. Felly, yn gwbl briodol, byddai cefnogwyr incwm sylfaenol cyffredinol yn dadlau y byddai angen i unrhyw gynllun gael ei gefnogi gan isafswm cyflog uwch a rheoliadau cryfach ar gyfer contractau dim oriau i warchod rhag y risgiau hyn.
Felly, er bod Llywodraeth Cymru yn agored i egwyddor treialu, rhaid i amseriad unrhyw dreial a chyflwyno incwm sylfaenol cyffredinol yn ehangach wedyn fod yn ddibynnol ar sefydlu Llywodraeth y DU sy'n bartner gwirioneddol yn ein hamcanion mewn perthynas â thlodi, anghydraddoldeb a gwaith teg, ond wrth gwrs, rwy'n fwy na pharod i barhau â'r sgwrs. Diolch ichi am ddadl wirioneddol ddefnyddiol.
Diolch. Galwaf ar Jack Sargeant i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Lywydd dros dro. Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei chyfraniad ar ran Llywodraeth Cymru a hefyd yr holl Aelodau sydd wedi cyfrannu heddiw o bob ochr i'r ddadl, a'r rhai sydd wedi cefnogi'r cynnig sydd gerbron heddiw. Os caf, hoffwn gloi drwy fynd i'r afael â rhai o'r heriau mwyaf sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd a sut y gallai incwm sylfaenol cyffredinol leddfu'r rhain.
Yn gyntaf, mater iechyd meddwl gwael. Mae'r elusen Mind wedi adrodd bod mwy na hanner yr oedolion a dwy ran o dair o bobl ifanc wedi dweud bod eu hiechyd meddwl wedi gwaethygu yn ystod y cyfyngiadau symud. Nawr, fel rhywun sydd wedi cydnabod yn agored fy mod yn cael trafferth gyda fy iechyd meddwl, mae hyn yn peri gofid mawr, ond yn anffodus, nid yw'n syndod. Nawr, rwy'n deall na all incwm sylfaenol cyffredinol ddatrys y pandemig presennol, ond byddai o leiaf yn gwarantu sylfaen gadarn o sefydlogrwydd ariannol i bawb allu ymdopi â'r argyfwng, sicrhau to dros eu pennau a rhoi bwyd ar y bwrdd.
Enghraifft arall o'r problemau a wynebwn fel cymdeithas yw tlodi mislif, ac er fy mod yn croesawu mentrau Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â hyn, ni allant ddatrys y broblem yn y gwraidd. Golyga tlodi eang fod un o bob saith merch yn ei chael hi'n anodd fforddio cynhyrchion mislif—rheidrwydd dynol sylfaenol. Nawr, o ystyried bod hanner y merched yn teimlo embaras oherwydd eu mislif, dim ond un enghraifft yw hon o sut y mae ein diffyg mynediad at anghenion sylfaenol iawn yn achosi straen diangen a chywilydd i aelodau ieuengaf ein cymdeithas. Byddai incwm sylfaenol cyffredinol yn sicrhau mynediad i bawb at y pethau mwyaf sylfaenol.
Nawr, i'r rheini sy'n dadlau nad incwm sylfaenol cyffredinol yw'r ateb i'r problemau, ac yn enwedig y rheini sydd wedi cefnogi Llywodraeth Geidwadol y DU dros y 10 mlynedd diwethaf lle mae tlodi wedi cynyddu, byddwn yn dweud hyn: mae'r system bresennol wedi torri. Roedd Helen Mary Jones yn llygad ei lle pan ddywedodd nad yw'r system bresennol yn gweithio. Rhaid inni fod yn feiddgar a dyma'r amser ar gyfer newid.
Mae'r system hon, y system bresennol hon, yn un sylfaenol angharedig. Mae credyd cynhwysol nid yn unig yn anodd ei ddeall ac yn gostus, mae'n gosbol, yn gorfodi sancsiynau am resymau mympwyol ac yn achosi ansefydlogrwydd ariannol i filiynau ledled y DU. Yn wir, mae'r system bresennol, ac yn enwedig credyd cynhwysol, yn methu amddiffyn pobl agored i niwed o gwbl. Er enghraifft, gan fod taliadau'n cael eu gwneud i aelwydydd ac nid i unigolion, gall y rhai sydd wedi'u dal mewn perthynas gamdriniol yn hawdd fod yn agored i reolaeth ariannol, gan ofni y gallant fod yn ddigartref neu'n methu cynnal eu hunain pe baent yn gadael partner camdriniol. Byddai incwm sylfaenol cyffredinol yn adfer galluedd ariannol y menywod hyn, gan ddarparu'r rhwyd ddiogelwch sy'n eu grymuso i adael sefyllfaoedd peryglus ac anwadal.
Lywydd, mae gennym gyfle yn awr i wneud newid sydd nid yn unig yn mynd i'r afael â'r heriau anoddaf y mae ein cymdeithas yn eu hwynebu heddiw ond sy'n diogelu cenedlaethau'r dyfodol rhag y newidiadau economaidd anochel a ddaw i'n rhan. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gwrando'n ofalus ar y pwyntiau a wnaed heddiw ar bob ochr i'r Siambr, ac a gefnogwyd gan alwadau am dreial incwm sylfaenol cyffredinol a allai helpu i drawsnewid bywydau ein dinasyddion mwyaf agored i niwed yma yng Nghymru, oherwydd mae David Rowlands yn llygad ei le, mae incwm sylfaenol cyffredinol yn ddymunol ac yn hanfodol ond mae angen ei gyflwyno'n ofalus. Ac mae'n bwysig—ac fe ddof i ben yn awr, Lywydd—fel y dywedodd Mick Antoniw yn ofalus iawn yn ei gyfraniad pwerus, mae'n bwysig ein bod yn parhau i archwilio'r ddadl hon yn y Senedd oherwydd mae'n iawn ein bod yn siarad amdani yn y Senedd Gymreig hon. Felly, rwy'n falch o gyflwyno hyn yma heddiw. Felly, diolch yn fawr iawn, Lywydd. Diolch yn fawr iawn i chi, yr Aelodau sydd wedi cefnogi'r cynnig hwn eisoes, a byddwn yn annog eraill, ar ôl dilyn y ddadl, i bleidleisio dros y cynnig hwn heddiw. Diolch.
Diolch yn fawr iawn. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Rwy'n gohirio'r pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Bydd toriad o 10 munud yn awr tra byddwn yn newid personél. Diolch.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:22.
Ailymgynullodd y Senedd am 17:33, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, gwelliant 2 yn enw Caroline Jones, gwelliant 3 yn enw Gareth Bennett, a gwelliant 4 yn enw Neil McEvoy. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol.
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig am werth am arian i drethdalwyr, a dwi'n galw ar Angela Burns i wneud y cynnig. Angela Burns.
Cynnig NDM7404 Darren Millar
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod rheoli arian trethdalwyr yn llwyddiannus yn dibynnu ar amcanion clir, llywodraethu da a gwaith craffu effeithiol.
2. Yn gresynu at y ffaith bod dros £1 biliwn wedi'i wastraffu gan Lywodraethau olynol Cymru ar bolisïau di-rym, prosiectau y cefnwyd arnynt a gorwario yn erbyn cyllidebau ers 2010.
3. Yn gresynu ymhellach at y ffaith y caniatawyd i bolisïau Cymreig a allai fod wedi bod yn rhai da edwino oherwydd diffyg cefnogaeth a phenderfyniadau a wnaed gan ganolbwyntio ar y tymor byr.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu swyddfa drawsadrannol sydd wrth wraidd y llywodraeth i sbarduno newid diwylliant, herio'r broses o wneud penderfyniadau a sicrhau bod gwerth am arian yn cael ei ddarparu i drethdalwyr.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd. Mae'r cynnig a gyflwynwyd gan y Ceidwadwyr Cymreig heddiw yn glir iawn: peidiwch â gwastraffu arian y trethdalwyr. Ac mae'r cynnig yn glir oherwydd mai'r Ceidwadwyr Cymreig yw'r blaid sy'n deall gwir werth arian y trethdalwyr—arian y mae pobl Cymru a'r Deyrnas Unedig wedi gweithio'n galed i'w ennill—y gwaith caled sydd y tu cefn iddo a'r gobaith y mae'n ei roi am ffordd o fyw sy'n weddus. Rydym am i'n trethi dalu am system iechyd a gofal cymdeithasol dda, system addysg drawsnewidiol a thai gweddus i'r rheini sydd angen lloches. Rydym am i'n trethi helpu i adeiladu economi ffyniannus, i gyflawni'r prosiectau seilwaith sydd eu hangen arnom ac i gefnogi twf diwylliannol a chymdeithasol. Mae punt y trethdalwr yn nwydd gwerthfawr, ac yn un na ddylai'r Llywodraeth ei chymryd yn ganiataol, ac eto mae'r Llywodraeth hon, Llywodraeth Lafur Cymru, wedi mynd yn fwyfwy di-ofal gyda'r nwydd gwerthfawr hwnnw, sef punt y trethdalwr.
Mae'r dystiolaeth yn glir ac yn ddiamwys: mae dros £1 biliwn wedi'i wastraffu gan lywodraethau Llafur olynol yng Nghymru yn ystod y degawd diwethaf. Nid yw'n gwneud unrhyw wahaniaeth a ydynt ynghlwm wrth Blaid Cymru neu'r Democratiaid Rhyddfrydol—mae'r gwastraff yn parhau.
Fel y byddaf yn ei ddangos yn ystod y cyfraniad hwn, mae gormod o brosiectau, polisïau a chynlluniau'n ei chael hi'n anodd—ac rwy'n ei chael hi'n anodd gyda fy awtociw yma, mae'n ddrwg gennyf—diffinio amcanion clir neu gytuno ar ganlyniadau, ac anaml y bydd hyd yn oed y rhai sy'n gwneud hynny'n ddarostyngedig i'r gwaith craffu trwyadl y mae'r defnydd o bunt y trethdalwr yn galw amdano.
Yr hyn sy'n waeth byth, Lywydd—yn waeth byth—yw bod cynifer o'r prosiectau sydd â photensial—y rhai a ddechreuodd fel cynlluniau peilot—yn chwalu ac yn methu, oherwydd, ar ôl i'r cyllid cychwynnol ddod i ben, nid oes neb ag arian yn barod i fabwysiadu a bwrw ymlaen â'r prosiect. Felly, mae'r Llywodraeth Lafur hon yn ailddyfeisio'r olwyn yn dragywydd, fel bochdew'n mynd rownd a rownd, yn brysurach nag erioed ond heb allu mynd i unman.
Rwyf wedi darllen adroddiadau pwyllgor diddiwedd, adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru, adroddiadau byrddau iechyd, adroddiadau sefydliadau allanol, adroddiadau'r trydydd sector, adroddiadau melinau trafod ac adroddiadau ymchwil. Dro ar ôl tro, daw'r un themâu i'r amlwg: diffyg capasiti, diffyg gallu, diffyg cynaliadwyedd, diffyg cysondeb, diffyg ffocws, diffyg amcanion, diffyg craffu, diffyg gwerth am arian. Mae'r stori'n mynd ymlaen ac ymlaen ac ychydig fel y thema yn Titanic, mae'r Llywodraeth hon yn methu codi ei phen uwchben y dŵr, ac mae punt y trethdalwr yn suddo'n is.
Oherwydd yr angerdd sydd gennyf fi a fy nghyd-Aelodau i wella pethau yng Nghymru er mwyn sicrhau bod yna ymdeimlad dwfn o gyfrifoldeb ariannol, rwy'n gwrthod y rhan fwyaf o'r gwelliannau a gyflwynwyd; gwelliant y Llywodraeth am ei fod yn gwbl ddibwrpas ac yn ddigywilydd, dim cydnabyddiaeth o bunt y trethdalwr y maent wedi'i gwastraffu'n gyson, a dim ymdeimlad o gyfrifoldeb—bai rhywun arall bob amser—gwelliant Gareth Bennett am nad ydym am gladdu ein pennau yn y tywod—symudwch ymlaen, Gareth, mae'r oes wedi gwneud hynny. Mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â gwelliant Neil McEvoy, ond byddai angen i mi gael fy argyhoeddi mai gwthio popeth drwy awdurdodau lleol yw'r ateb.
Rwy'n derbyn gwelliant Caroline Jones. Ni cheir fawr o hyder, a chredaf fod y gwastraff arian y mae'r cyhoedd yn ei weld—y gorwariant, y diffyg cyfrifoldeb—wedi cyfrannu at y ffaith bod pobl Cymru'n rhoi'r ffidil yn y to ac yn gwrthod cymryd rhan. A fyddech chi'n ymddiried yn rhywun a wastraffodd £1 biliwn o'ch arian? Rydym i gyd wedi clywed am yr hen enghreifftiau: £221 miliwn ar ardaloedd menter anghystadleuol; dros £9 miliwn ar y cyllid cychwynnol diffygiol i Cylchffordd Cymru; bron i £100 miliwn ar oedi a gorwario ar ffordd Blaenau'r Cymoedd; £157 miliwn—mawredd, mae'r swm hwnnw wedi'i serio yn ein meddyliau, onid yw—ar ymchwiliad ffordd liniaru'r M4; dros £100 miliwn yn cynnal Maes Awyr Caerdydd.
Ond fel arfer, yn y manylion y ceir hyd i'r gwir. Ceir hyd i fethiannau llai hysbys lle na chafwyd unrhyw amcanion clir, lle nad oedd unrhyw allu gwirioneddol i ehangu llwyddiant, lle nad oedd unrhyw ymrwymiad i gynaliadwyedd hirdymor, lle na chafodd prosiectau a oedd yn methu eu dirwyn i ben yn ddigon buan, lle'r oedd gwaith craffu'n digwydd ar sail ad hoc neu lle nad oedd yn digwydd o gwbl, neu lle na châi ei adolygu gan bobl â'r awdurdod a'r dewrder i wneud y penderfyniadau anodd.
Gwelir un enghraifft o anallu cyllidol pur yn adroddiad Archwilio Cymru ym mis Mehefin 2020 ar gynllun grant datblygu gwledig Llafur. Canfu'r adroddiad fod £53 miliwn o grantiau wedi'u gwneud heb sicrhau gwerth am arian. Ac rwy'n dyfynnu adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru: o'r £598 miliwn a ddarparwyd eisoes o dan y cynllun, dyfarnodd Llywodraeth Cymru
'£68 miliwn o arian grant drwy broses ‘ceisiadau uniongyrchol’ lle bu i swyddogion wahodd ceisiadau i gael arian heb gystadleuaeth.'
Yn fyr, canfu'r archwilydd cyffredinol nad oedd agweddau allweddol ar gynllun, gweithrediad a throsolwg ar fesurau rheoli Llywodraeth Cymru ar gyfer y rhaglen yn ddigon effeithiol i sicrhau gwerth am arian. Mewn geiriau eraill, rhoddodd Llywodraeth Cymru arian heb gystadleuaeth, ni ddogfennodd pam y dewiswyd ymgeiswyr a dyfarnodd grantiau unigol heb ddangos digon o ystyriaeth i werth am arian. Os nad oedd hynny'n ddigon di-ofal â phunt y trethdalwr, rhoddodd y Llywodraeth Lafur arian i brosiectau a oedd yn bodoli'n barod heb edrych i weld a oeddent yn llwyddiannus. Ni chafwyd unrhyw drosolwg ystyrlon ar y rhaglenni a'r prosiectau.
Gadewch i mi droi oddi wrth Swyddfa Archwilio Cymru at enghreifftiau gan Bwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd. Cyhoeddodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ddau adroddiad yn ystod y tymor hwn yn tynnu sylw at bryderon ynghylch cyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru. Saith mlynedd yn ôl, cyhoeddwyd bod creu Cyfoeth Naturiol Cymru drwy uno asiantaeth yr amgylchedd, y cyngor cefn gwlad a'r comisiwn coedwigaeth yn ffordd o ddarparu dull mwy atebol, syml ac effeithlon o reoli a diogelu amgylchedd ac adnoddau naturiol y genedl. Ac eto, mae adroddiadau'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi tynnu sylw at y ffaith bod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi methu cyflawni'r nodau hyn.
Roedd y pwyllgor yn ddamniol yn ei gondemniad o Cyfoeth Naturiol Cymru yn dilyn contractau roedd wedi'u cytuno ar gyfer gwerthu pren. Tynnwyd sylw at ganfyddiadau'r archwilydd cyffredinol fod y contractau'n newydd, yn arwain at sgil-effeithiau ac yn ddadleuol, ac atgyfnerthodd y farn fod yna ansicrwydd a oedd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cydymffurfio ag egwyddorion cyfraith gyhoeddus a rheolau cymorth gwladwriaethol.
Yr hyn sy'n gwneud y canfyddiadau'n waeth yw na ddysgwyd y gwersi, oherwydd 18 mis yn ddiweddarach ailadroddodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ei feirniadaeth. Canfu fod nifer o bryderon yn codi ynghylch dyfarnu'r contractau pren nad oedd esboniad iddynt, gan arwain y pwyllgor i ddod i'r casgliad y bu methiant diwylliannol o fewn y sefydliad mewn perthynas â llywodraethu a bod galw am ailwampio difrifol.
Weinidog, a ydych chi wedi sylwi ar y tebygrwydd i'r Titanic eto? Fel amryw o gyrff cyhoeddus a phrosiectau cyhoeddus eraill yng Nghymru, nid oedd digon o drosolwg ac atebolrwydd, dim ymrwymiad i ddefnyddio punt y trethdalwr yn ddoeth a cheisio gwerth am arian, ac anallu llwyr i ddysgu o fethiant. Roedd y camgymeriadau'n dal i ddigwydd dro ar ôl tro.
Tynnwyd sylw at ganfyddiadau tebyg pan archwiliodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y rhaglen Cefnogi Pobl. Canfu arafwch i wneud cynnydd wrth fynd i'r afael â materion a godwyd gan adolygiadau blaenorol, er enghraifft mewn perthynas â'r fformiwla ariannu a monitro effaith y rhaglen. Roedd anghysondebau parhaus hefyd wrth reoli'r rhaglen ar lefel leol. Weinidog, roedd hon yn rhaglen a oedd wedi bod ar waith ers 14 mlynedd, ac am 14 mlynedd, ni allodd eich rhaglen weithredu fel y dylai. Faint o amser ddylai hynny ei gymryd?
Ni wnaeth y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ymatal ychwaith yn ei waith craffu ar Wasanaeth Gwybodeg GIG Cymru. Gadewch i mi roi dyfyniad uniongyrchol arall i chi:
'Mae ein hymchwiliad wedi codi cwestiynau difrifol am gymhwysedd, gallu a
chapasiti ar draws y system iechyd i gyflawni gweddnewidiad digidol yng ngofal iechyd Cymru. Ac eto canfuwyd diwylliant o hunan-sensoriaeth a diarddeliad ymhlith y rhai sy’n gyfrifol am fwrw ymlaen â’r agenda'.
A dweud y gwir, nid yw hynny'n syndod. Rwyf wedi gweld diwylliant o hunansensoriaeth a gwadiad yn agos bob mis dros y degawd diwethaf neu fwy.
Mae pwyllgorau eraill yn gwneud yr un pwyntiau mewn ymchwiliadau i bortffolios penodol, gan gynnwys sawl un ar iechyd, yn amrywio o gartrefi gofal i glystyrau meddygon teulu, addysg a gwariant cymunedol. Weinidog, nid adroddiadau pleidiol yw'r rhain a ysgrifennwyd gan felinau trafod anghyfeillgar neu wleidyddion y gwrthbleidiau, ond canfyddiadau pwyllgorau craffu Senedd Cymru sydd â chynrychiolaeth drawsbleidiol, yn aml yn dilyn adroddiadau gan yr archwilydd cyffredinol.
Rwy'n dweud wrth bobl Cymru: peidiwch ag anobeithio, mae bad achub ar y gorwel. Oherwydd byddai Llywodraeth Geidwadol yng Nghymru yn sicrhau, o'r diwrnod cyntaf, ei bod yn atebol ac yn dryloyw. Byddwn yn rhoi swyddfa cadernid ac effeithlonrwydd Llywodraeth (OGRE) ar waith ar unwaith, a byddai ar wahân i'r Llywodraeth a chanddi gyfrifoldeb traws-bortffolio i sicrhau bod penderfyniadau polisi a gwariant yn dilyn amcanion cyffredinol y Llywodraeth ac yn cydblethu â'i gilydd. Wedi'r cyfan, gwelsom drychineb polisi newid hinsawdd Llywodraeth Lafur Cymru. Roedd yn croes-ddweud llanast ffordd liniaru'r M4 yn llwyr. Cymerodd £157 miliwn cyn i Lafur sylweddoli hynny.
Bydd y swyddfa cadernid ac effeithlonrwydd Llywodraeth yn newid y diwylliant o hunansensoriaeth a gwadiad. Ni fydd arnom ofn herio a newid. Dyna pam ein bod angen chwyldro datganoli. Bydd y swyddfa cadernid ac effeithlonrwydd Llywodraeth nid yn unig yn craffu ar wariant, bydd yn craffu ar ein holl bolisïau ac yn sicrhau cydlyniant, boed yn newid yn yr hinsawdd a chynaliadwyedd, hawliau dynol, codi safonau addysgol, amddiffyn pobl sy'n agored i niwed ac yn dlawd, diogelu cyflenwad bwyd, darparu gofal cymdeithasol wedi'i ariannu'n briodol, neu ddiogelu'r GIG.
Byddwn ni, y Ceidwadwyr Cymreig, yn cofio ein bod yma i wasanaethu dinasyddion Cymru. Byddwn yn gwario punt y trethdalwr yn ddoeth. Byddwn yn cael gwared ar yr haenau diangen o fiwrocratiaeth ac yn sicrhau ein bod yn darparu Llywodraeth fwy syml a thryloyw. Mae gan bolisïau'r Ceidwadwyr Cymreig amcanion clir, canlyniadau clir a rheolaeth drwyadl, lle rhoddir pob cyfle i bolisïau lwyddo, ond lle cânt eu gwerthuso a'u dirwyn i ben os nad ydynt yn gweithio. Dim mwy o bunnoedd trethdalwyr yn mynd i dwll diwaelod.
Gadewch imi orffen drwy ei gwneud yn glir fod pwynt olaf ein cynnig wedi ei seilio'n fwy ar obaith na phrofiad. Gobeithiwn y bydd Llafur yn camu i'r adwy ac yn atal y gwastraff, ond y realiti ar ôl oddeutu 20 mlynedd ac ymhell dros £1 biliwn o arian trethdalwyr wedi'i wastraffu dros y degawd diwethaf, yw nad wyf yn credu bod Llywodraeth Lafur Cymru yn gallu sbarduno newid diwylliant, darparu gwerth am arian, herio'r broses o wneud penderfyniadau. Byddwn yn galw am hynny, ond nid wyf yn obeithiol iawn. Ond fe ddylech, Weinidog. Mae'r Titanic yn suddo.
Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i’r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gynnig gwelliant 1 yn ffurfiol.
Yn ffurfiol, Rebecca Evans?
Gwelliant 1—Rebecca Evans
Dileu popeth a rhoi yn ei le
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod rheoli arian trethdalwyr yn llwyddiannus yn dibynnu ar amcanion clir, llywodraethu da a gwaith craffu effeithiol ac yn cydnabod bod economeg cyni yn cynnig gwerth gwael am arian.
2. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi tanariannu a / neu wedi rhwystro nifer o brosiectau, gwasanaethau a seilweithiau heb eu datganoli yng Nghymru, gan gynnwys ymchwil a datblygu, rheilffyrdd, cysylltiad band eang ac ynni’r llanw ers 2010.
3. Yn croesawu’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni polisïau arloesol Llywodraeth Cymru sydd wedi’u cynllunio ar gyfer pobl Cymru, gan gynnwys: presgripsiynau am ddim, Twf Swyddi Cymru, system caniatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau, un llwybr canser, y cynnig gofal plant, dyblu’r terfyn cyfalaf, Ysgolion yr 21ain Ganrif a’r Gronfa Cadernid Economaidd.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i roi mwy o hyblygrwydd cyllidol i Lywodraeth Cymru er budd rheoli cyllidebau yn dda.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Ie, yn ffurfiol.
Diolch. Galwaf ar Caroline Jones i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn ei henw. Caroline Jones.
Gwelliant 2—Caroline Jones
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ailrifo'n unol â hynny:
Yn credu bod methiant Llywodraeth Cymru i gyflawni ei pholisïau wedi helpu i gyfrannu at y diffyg ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth sydd wedi golygu na chymerodd dros hanner etholwyr Cymru ran yn etholiadau'r Senedd.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn fy enw i yn ffurfiol. Mae ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth ar ei isaf erioed ac fe'i gwaethygir gan res o addewidion a dorrwyd. Mae pobl yn colli ffydd mewn datganoli am fod datganoli wedi methu sicrhau'r manteision a addawyd. Mae methiannau polisi a gwastraff Llywodraeth wedi cyflymu'r broses o erydu ymddiriedaeth yn ein sefydliad.
Fel y noda'r Ceidwadwyr Cymreig yn eu cynnig, gwastraffwyd dros £1 biliwn o arian yn ystod y degawd diwethaf; arian a allai fod wedi gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl Cymru. Faint o bobl sydd wedi marw o ganser am na ellid gwneud diagnosis cynnar o ganlyniad i ddiffyg adnoddau? Faint o gyn-filwyr digartref sydd wedi marw am nad oedd digon o lety fforddiadwy? Faint o blant y cyfyngwyd ar eu cyfleoedd bywyd am fod system addysg Cymru wedi gwneud cam â hwy? Dychmygwch y gwahaniaeth y gallai £1 biliwn fod wedi'i wneud i'r holl fywydau hynny. Dychmygwch faint o feddygon neu nyrsys y gellid bod wedi'u cyflogi. Dychmygwch faint o dai fforddiadwy y gallem fod wedi'u hadeiladu. Yn hytrach, diflannodd yr arian hwnnw gyda gobeithion a breuddwydion llawer o bleidleiswyr Cymru.
Mae Llywodraethau olynol yng Nghymru wedi addo llawer ond wedi methu cyflawni. Addawsant drawsnewid economi Cymru. Fe wnaethant osod targed i gyrraedd 80 y cant o gynnyrch domestig gros y DU, targed a gafodd ei anghofio pan ddaeth hi'n amlwg na ellid ei gyrraedd. Er gwaethaf miliynau o bunnoedd o gymorth gwladwriaethol, Cymru yw'r rhanbarth tlotaf yng ngorllewin Ewrop o hyd. Gwastraffwyd cronfeydd strwythurol yr UE a addawodd drawsnewid gorllewin Cymru a'r Cymoedd—addewid a dorrwyd ar ôl methu sicrhau ffyniant economaidd. Methiannau polisi a fethodd sicrhau swyddi mawr eu hangen yn fy rhanbarth i.
Mae Gorllewin De Cymru wedi colli swyddi dirifedi dros y degawd diwethaf a mwy na hynny. Gwelsom y cyflogwyr mwyaf yn lleihau eu gweithgarwch. Cawsom addewid y byddai cyflogwyr newydd yn dod yn lle'r swyddi gweithgynhyrchu ar gyflogau uchel a gollwyd yn Sony, Ford, Visteon, 3M, Tata a llu o weithgynhyrchwyr byd-eang eraill. Yr hyn a gawsom oedd ffrwd o gynlluniau aflwyddiannus, buddsoddiad a wastraffwyd a rhesi o swyddi ar gyflogau isel mewn canolfannau galwadau. Rhoddodd pobl Cymru y gorau i wrando ar yr addewidion a dorrwyd. A oes unrhyw ryfedd mai llai na thraean o etholwyr Gorllewin De Cymru a aeth i'r drafferth i bleidleisio yn 2016? Ledled Cymru, ailadroddir y darlun. Mae hyn wedi arwain at lefelau enfawr o ddiffyg ymddiriedaeth mewn gwleidyddiaeth, ac ni thrafferthodd dros hanner y pleidleiswyr cymwys i gymryd rhan yn etholiadau diwethaf y Senedd. A oes unrhyw ryfedd pan fo'r Weithrediaeth a'r ddeddfwrfa yn treulio llawer mwy o amser yn trafod materion cyfansoddiadol haniaethol nag y maent yn ei dreulio'n trafod pethau sy'n effeithio ar fywydau pobl gyffredin yng Nghymru?
Ond mae'n rhaid i ni adfer ffydd mewn gwleidyddiaeth a ffydd yn y sefydliadau. A gallwn ddechrau gwneud hynny pan fyddwn yn cyflawni'r addewidion a roddwyd i bobl Cymru; pan fyddwn yn gwella bywydau pobl; pan fyddwn yn dileu gwastraff. Rwy'n cytuno â'r Ceidwadwyr Cymreig fod angen inni sefydlu swyddfa drawsadrannol sydd wrth wraidd y Llywodraeth i sicrhau gwerth am arian, dileu gwastraff a gwneud Llywodraeth Cymru'n agored ac yn dryloyw. Mae'r mwyafrif helaeth ohonom yma i sicrhau gwelliannau i fywydau pobl Cymru, ac yn anffodus nid yw llawer gormod o'r bobl hynny yn ymddiried ynom mwyach ac mae'n rhaid i ni ailadeiladu'r ymddiriedaeth honno.
Credaf mewn datganoli a chredaf yn y Senedd y pleidleisiodd pobl Cymru drosti. A chredaf mewn gweithio gyda phob plaid i roi i bobl Cymru yr hyn y maent am ei gael i ailadeiladu eu bywydau ac i ddarparu'n well ar eu cyfer. Ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi fy ngwelliant a chefnogi'r cynnig. Diolch yn fawr iawn.
Galwaf ar Gareth Bennett i gynnig gwelliant 3, a gyflwynwyd yn ei enw. Gareth Bennett.
Gwelliant 3—Gareth Bennett
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn galw am refferendwm cyfrwymol ynghylch a ddylid cadw neu ddiddymu llywodraeth a senedd datganoledig Cymru, yn sgil methiannau Llywodraeth Cymru.
Cynigiwyd gwelliant 3.
Diolch, Lywydd. Diolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl heddiw, a thrwy hyn cyflwynaf y cynnig ar ran Plaid Diddymu Cynulliad Cymru.
Credaf fod Angela Burns wedi rhoi cyfrif diddorol inni o'r arian trethdalwyr a wastraffwyd dros yr 21 mlynedd diwethaf. Mae hyd yn oed yn fwy diddorol o gofio bod y Ceidwadwyr o blaid datganoli, ac eto mae'r dystiolaeth ynglŷn â methiannau datganoli yn amlwg iawn. Bydd y Ceidwadwyr yn dweud mai methiannau plaid wleidyddol benodol ydynt—Llafur Cymru—yn hytrach na methiannau sefydliad, ac eto y perygl yw eu bod, drwy gyflwyno'r cynnig hwn, yn ddiarwybod yn rhoi beirniadaeth lawn o ddatganoli ei hun i ni. Mae'n debyg ei fod yn dibynnu pa mor ddifrifol rydym yn cymryd ateb datganedig y Ceidwadwyr i'r broblem o wastraffu arian trethdalwyr, sef sefydlu'r hyn y maent yn ei alw'n swyddfa drawsadrannol. Wel, ni chawsom lawer o fanylion yn ei chylch, ac rwy'n meddwl tybed pwy fyddai ynddi. A yw'r Ceidwadwyr yn dychmygu o ddifrif y byddai'r bobl sy'n rhedeg y swyddfa hon yn wahanol o ran meddylfryd i'r bobl y maent yn craffu ar eu gwariant? Credaf i mi glywed Angela yn dweud y byddai'r swyddfa newydd yn cael ei galw'n OGRE, ac rwy'n ofni mai tipyn o fwgan fyddai hi. Mae'n debyg i'r hen jôc am wleidyddion yn ceisio datrys sut i leihau nifer y pwyllgorau drwy sefydlu pwyllgor i ymchwilio i'r mater. A dyna'r cyfan fyddai'r swyddfa drawsadrannol hon: pwyllgor arall. Mae gennym ormod o'r rheini yn barod.
Felly, a yw datganoli wedi cyflawni unrhyw beth? Wel, mae gwelliant y Llywodraeth Lafur yn rhoi rhestr o gyflawniadau i ni, rhestr nad yw'n hir iawn yn fy marn i. Mae eu gwelliant heddiw'n cyfeirio at bresgripsiynau am ddim, er enghraifft. Oes, mae gennym bresgripsiynau am ddim, ond mae gennym wasanaeth iechyd sydd prin yn weithredol. Mae pump o'r saith bwrdd iechyd yng Nghymru dan ryw fath o fesurau arbennig, gyda Betsi Cadwaladr yng ngogledd Cymru wedi bod yn y sefyllfa honno ers pum mlynedd hir. Gwn fod problemau gan y gwasanaeth iechyd yn Lloegr hefyd, ond nid yw'n ymddangos eu bod ar yr un raddfa ag yma yng Nghymru. Mae'r holl dystiolaeth yn dangos bod datganoli wedi rhoi gwasanaeth iechyd inni sy'n waeth o lawer na'r un a oedd gennym o'r blaen. Mewn un achos, roedd gennym gleifion na allent fynd i'w hysbyty lleol hyd yn oed, Ysbyty Iarlles Caer, oherwydd bod yr ysbyty'n gwrthod derbyn rhagor o gleifion o Gymru nes bod Llywodraeth Cymru wedi talu'r bil. Ni fyddai'r math hwnnw o beth wedi digwydd cyn i ni gael datganoli.
Beth am y manteision economaidd yr addawyd i bobl Cymru y byddai datganoli'n eu cynnig? Wel, yn 2003, dywedwyd wrthym gan Edwina Hart, Gweinidog Llafur blaenllaw ar y pryd, y byddai tlodi yng Nghymru yn cael ei ddileu drwy ei chynlluniau Cymunedau yn Gyntaf. Bymtheg mlynedd yn ddiweddarach, rhoddwyd y gorau i'r cynlluniau hyn o'r diwedd. Nid oedd Llywodraeth Cymru yn gallu nodi unrhyw dystiolaeth fod yr ardaloedd a gafodd eu cynnwys yn y cynlluniau wedi cael unrhyw fantais economaidd ohonynt. Mae'n wastraff o filiynau o bunnoedd o arian trethdalwyr. Ac ar ddileu tlodi, wel, beth am yr addewid i godi cynnyrch domestig gros Cymru i 90 y cant o gynnyrch domestig gros cyfartalog y DU erbyn 2010? Ni fuom erioed yn agos at gyflawni hyn, a bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud yr hyn y mae'n ei wneud fel arfer gyda'i thargedau—mae'n rhoi'r gorau iddynt.
Un maes lle'r ydym yn bendant wedi mynd tuag yn ôl yw mewnfuddsoddi. Pan oedd gennym Awdurdod Datblygu Cymru, roedd Cymru'n gwneud yn well na'r disgwyl a denai fwy nag 20 y cant o holl fewnfuddsoddiad y DU. O dan ddatganoli, cafodd Awdurdod Datblygu Cymru ei ddiddymu er mwyn inni allu gael pwyllgor o fiwrocratiaid yn lle hynny sy'n uniongyrchol atebol i Lywodraeth Cymru. Y canlyniad yw bod mewnfuddsoddi wedi plymio a dim ond 2 y cant o fewnfuddsoddiad y DU mae'n ei ddenu erbyn hyn. Mae hon yn enghraifft berffaith o'r ffordd y mae datganoli wedi arwain at ddirywiad yng Nghymru yn hytrach nag atgyfodiad.
A gaf fi sôn hefyd am ffordd liniaru'r M4 y soniodd Angela amdani? Roedd dewis rhwng dau lwybr, ond ni ddewisodd Llywodraeth Cymru y naill na'r llall, a dewis peidio ag adeiladu'r ffordd o gwbl yn lle hynny. A hynny ar ôl gwastraffu mwy na £150 miliwn o arian trethdalwyr ar y prosiect. Yn rhyfedd iawn, un o'r rhesymau a roddwyd gan Lywodraeth Cymru dros ddiddymu'r cynllun oedd ei gost, ac eto gyda Llywodraeth y DU bellach yn cynnig dod yn rhan o hyn, mae Llywodraeth Cymru mor obsesiynol ynglŷn â diogelu ei hawliau fel Llywodraeth ddatganoledig fel ei bod yn gwrthod y cynnig o gymorth. Yn y pen draw, yr hyn a gafodd pobl Cymru oedd £100 miliwn o arian wedi'i wastraffu a system ffordd sy'n dal i fethu dod â hwy allan o dwnelau Bryn-glas. Gofynnwch i chi'ch hun: a yw datganoli wedi gwneud unrhyw beth o gwbl i wella economi Cymru? Y cyfan y mae wedi'i wneud yw gwastraffu arian.
Na, er fy mod yn cytuno â llawer o'r teimladau yng nghynnig y Ceidwadwyr, teimlaf mai dull haws fyddai rhoi cyfle i'r cyhoedd yng Nghymru werthuso'r hyn sydd wedi digwydd dros yr 21 mlynedd diwethaf a phleidleisio dros roi'r gorau i holl brosiect aflwyddiannus datganoli. Yr hyn sydd ei angen yw refferendwm arall, gyda phobl Cymru'n cael dewis i ddiddymu Senedd a Llywodraeth Cymru. Diolch yn fawr iawn.
[Anghlywadwy.]—i gynnig gwelliant 4 a gyflwynwyd yn ei enw. Neil McEvoy.
Gwelliant 4—Neil McEvoy
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau gwerth am arian drwy:
a) cydnabod bod adnoddau cyhoeddus yn cael eu gwastraffu yn y trydydd sector preifat, drwy ddyblygu a rheoli pendrwm;
b) democrateiddio'r gwasanaethau a ddarperir drwy ailgyfeirio cyllid i lywodraeth leol yng Nghymru.
Cynigiwyd gwelliant 4.
Diolch, Lywydd. Ymgyrchais dros Senedd Cymru drwy gydol fy mywyd fel oedolyn oherwydd fy mod yn credu yn y sefydliad hwn, rwy'n credu yn y potensial sydd gennym yma. Rwyf newydd wrando ar Blaid Diddymu Cynulliad Cymru, ac ni chafwyd un syniad yn yr araith gyfan, dim ond beirniadaeth o'r sefydliad, pan ddylai'r feirniadaeth fod wedi'i chyfeirio at y Llywodraethau ers 1999. Rwy'n ei chael yn rhyfedd iawn y byddai'n well gan rai pobl gael eu llywodraethu gan wlad arall.
Fe ddywedaf wrth y bobl sy'n eistedd ar law dde'r Llywydd mai Margaret Thatcher a wnaeth i mi droi at fyd gwleidyddiaeth pan oeddwn yn iau, oherwydd fy mod yn anghytuno â bron bob peth a wnâi. Cwangos: roedd gennym wladwriaeth gwango yng Nghymru, ac roedd yn fater o bwy roeddech chi'n ei adnabod yn hytrach na'r hyn roeddech chi'n ei wybod. Roeddwn yn y Blaid Lafur yn y dyddiau hynny, yn ymgyrchu gyda chydweithwyr yn erbyn y system annemocrataidd o benodi pobl i swyddi y credai'r rhan fwyaf ohonom nad oeddent yn eu haeddu mewn gwirionedd. Ac yna cawsom Gynulliad Cymru yn 1999, Senedd Cymru erbyn hyn, ac mae rhai o'r bobl yr ymgyrchwn gyda hwy wedi cefnogi gwneud yr un peth yn union, lle mae gennych y cartel ym Mae Caerdydd dan arweiniad Llafur, wedi'i gynnal o bryd i'w gilydd gan Blaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol fel eu cynorthwywyr, ac maent wedi creu biwrocratiaeth hunanlesol.
Dyma bwynt ein gwelliant, oherwydd rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau gwerth am arian drwy gydnabod bod adnoddau cyhoeddus yn cael eu gwastraffu yn y trydydd sector preifat—mae hwnnw'n air allweddol—drwy ddyblygu a rheoli pendrwm. Yr hyn rydym yn ei gynnig yw democrateiddio gwasanaethau drwy ailgyfeirio cyllid i lywodraeth leol yng Nghymru.
Os edrychwch ar y trydydd sector tra chwyddedig, fe welwch brif weithredwr ar ôl prif weithredwr ar gyflogau enfawr. Os edrychwch ar y sector tai, y tro diwethaf i mi edrych, roedd 48 o wahanol sefydliadau'n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, pobl sy'n honni eu bod yn ymladd digartrefedd, ac eto mae eu cyflogau £90,000 y flwyddyn yn dibynnu ar bobl ddigartref, felly a ydynt am ddatrys y broblem mewn gwirionedd? Byddwn yn dadlau nad ydynt, oherwydd yr hyn y mae Llafur wedi'i greu yng Nghymru yw diwydiant tlodi. Diwydiant tlodi. Os edrychwch ar ofal, y diwydiant gofal yn awr, lle mae'n ddiwydiant gofalu am blant, ac mae Llafur wedi bod yn eithaf clyfar yn wleidyddol, oherwydd maent wedi preifateiddio'r maes gwasanaeth hwnnw yn ei gyfanrwydd. Mae 80 y cant o blant bellach yn derbyn gofal gan gwmnïau preifat yng Nghymru.
Yr hyn sydd ei angen yw diwedd ar y diwylliant canapés yn y Senedd. Fe welwch y bobl yn dod i mewn, y bechgyn Llafur a'r merched Llafur—swyddi i'r bechgyn, swyddi i'r merched, haelioni a ffrindgarwch Llafur. Gwelwn yr union beth yr ymgyrchais yn ei erbyn fel plentyn yn y 1980au yn digwydd yn awr yn Senedd Cymru. A phan soniaf am y trydydd sector, gadewch i mi fod yn gwbl glir, nid wyf yn sôn am y gweithwyr rheng flaen, sy'n aml iawn ar gyflogau isel—tâl tlodi mewn rhai amgylchiadau—gyda llai o hawliau nag a fyddai ganddynt wrth weithio i awdurdod lleol.
Nid oes raid iddi fod fel hyn. Ym Mhlaid Genedlaethol Cymru, credwn mewn meritocratiaeth, credwn mewn cyfle cyfartal, pobl yn gweithio'n galed ac yn llwyddo. Rhaid inni ail-ddemocrateiddio ein gwlad a phleidleisio yn erbyn y consensws cysurus hwn. Mae angen inni roi adnoddau a chyllid i'n cymheiriaid llywodraeth leol a etholwyd yn ddemocrataidd i ddarparu gwasanaethau i'n pobl, a rhaid inni roi'r gorau i wneud elw yng Nghymru ar draul y rhai sy'n agored i niwed. Rwy'n meddwl am adrannau gwasanaethau plant, lle gwelwch weithwyr cymdeithasol wrthi fel lladd nadredd, gyda mynydd o waith, diffyg arian, ac yna fe welwch filiynau ar filiynau'n cael ei wastraffu ar reoli pendrwm, prif weithredwr ar ôl prif weithredwr, elusennau honedig sy'n cael eu hariannu'n gyhoeddus ac eto, yn rheng flaen llywodraeth leol, mae pobl yn ei chael hi'n anodd dros ben.
Mae'r bobl wedi cael eu twyllo gan y Blaid Lafur yng Nghymru, ac mae'n bryd rhoi stop ar y trên grefi. Dyna'n union yw nod Plaid Genedlaethol Cymru. Diolch yn fawr.
Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl hon. Wrth wraidd unrhyw Lywodraeth, rhaid cael ymrwymiad i adolygu ei strwythurau a'i phrosesau ei hun yn barhaus er mwyn sicrhau eu bod yn addas at y diben ac yn sicrhau gwerth am arian i'r trethdalwr. Rhaid i bob Llywodraeth allu edrych arni'i hun yn feirniadol a meddwl sut y gall ddarparu gwasanaethau'n effeithlon ac yn effeithiol. I weld y gwelliannau yn ein gwasanaethau cyhoeddus y mae pawb ohonom am eu cael, rhaid inni gwestiynu sut y gwneir penderfyniadau, sut y dyrennir adnoddau, ac mae angen inni nodi gwastraff. Nawr, yn gynharach eleni, gwneuthum ymrwymiad i bobl Cymru, pe bawn yn arwain Llywodraeth Cymru yn y dyfodol, fel y dywedodd Angela Burns, y byddwn yn sefydlu swyddfa cadernid ac effeithlonrwydd Llywodraeth. Holl bwynt sefydlu'r swyddfa honno yw creu corff annibynnol hyd braich a allai nodi lle mae adnoddau'n cael eu gwastraffu a lle mae prosesau Llywodraeth yn methu sicrhau gwelliannau i'n gwasanaethau cyhoeddus.
Gall yr Aelodau i gyd nodi enghreifftiau o brosiectau a chynlluniau Llywodraeth lle gwelwyd oedi a gorwario. Er enghraifft, eleni, mae Archwilio Cymru wedi cyhoeddi nifer o adroddiadau ar orwariant Llywodraeth Cymru ar brosiectau seilwaith, gan gynnwys ffordd yr A465 Blaenau'r Cymoedd a'r gorwariant o £60 miliwn ar gael gwared ar asbestos yn Ysbyty Glan Clwyd. Mae'r adroddiadau hyn unwaith eto'n tynnu sylw at ddiffyg mecanweithiau digonol o fewn Llywodraeth Cymru i gynllunio a chyflawni prosiectau hirdymor yn briodol. Nid oes neb yn anghytuno â rhinweddau darparu ffordd yr A465 Blaenau'r Cymoedd, er enghraifft. Yn wir, weithiau gallwn fethu gweld manteision cymdeithasol ehangach datblygu prosiectau seilwaith ledled Cymru, ac felly mae'n werth ailadrodd bod datblygu seilwaith da, pan gaiff ei gyflawni'n iawn, yn gallu trawsnewid y ffordd rydym yn byw ac yn gweithio mewn cynifer o ffyrdd. Gall seilwaith sydd wedi'i lunio a'i ddatblygu'n dda ein cysylltu'n well â nwyddau a gwasanaethau hanfodol, gall ddarparu gwell amodau byw, gwell ysgolion i'n plant, a gall hefyd ddarparu swyddi drwy gydol y cyfnod adeiladu ac ar hyd y gadwyn gyflenwi. Felly, wrth ymateb i'r ddadl heddiw, efallai y gall y Gweinidog ddweud wrthym sut y mae Llywodraeth Cymru yn mesur manteision cymdeithasol pob prosiect unigol sydd ar y gweill, ac efallai y gall y Gweinidog ddweud wrthym hefyd sut y mae Llywodraeth Cymru yn mesur manteision cymdeithasol prosiect pan fo'n dyrannu'r cyllid hwnnw.
Mae fy nghyd-Aelod Angela Burns eisoes wedi sôn am filiynau a miliynau o bunnoedd y flwyddyn o arian a wastraffwyd y gellid bod wedi'i wario'n darparu seilwaith i gefnogi cymunedau'n well ledled y wlad. Mae hwnnw'n gyllid gwerthfawr y gellid ei ddefnyddio i ledu ffyrdd, gwella ysgolion neu adeiladu tai. Yn anffodus, cafwyd adroddiadau di-rif dros y blynyddoedd am brosiectau sydd wedi dangos gwastraff ar ffurf gorwario, colledion buddsoddi ac afreoleidd-dra ariannol. Un peth yw gwastraff ariannol, ond dim ond un darn o'r jig-so ydyw, ac mae angen inni archwilio ein systemau'n well hefyd. Mae caffael wedi bod yn her ers tro byd i ymgynghorwyr ac adeiladwyr, ac rwy'n ymwybodol iawn o'r drafodaeth a gefais dros y blynyddoedd fod angen symleiddio'r broses honno, ac ar adegau fod y galw am wybodaeth wedi bod yn anghymesur â gwerth y cais. Felly, rhaid inni edrych o ddifrif ar ddatblygu dull cyfannol o sicrhau gwelliannau yn y broses gaffael fel y gallwn, fel Llywodraeth, wneud y mwyaf o'n gwariant. Rwyf hefyd yn ymwybodol fod angen ymgysylltu a chyfathrebu rheolaidd rhwng partneriaid ar bob cam datblygu. A yw Llywodraeth Cymru yn gofyn iddi hi ei hun a yw'r broses dendro'n gweithio cystal ag y gall? Pa ôl-gymorth dilynol a thrafodaeth a geir i'r rhai sydd wedi gweithio'n galed ar brosiectau'r Llywodraeth cyn i'r prosiect gael ei ddiddymu? Dyma'r math o faterion y mae angen i'r Llywodraeth eu deall yn well fel y gellir gwella'r system er gwell. Felly, rwy'n gobeithio, wrth ymateb i'r ddadl heddiw, y bydd y Gweinidog yn manteisio ar y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro effeithiolrwydd ei pholisïau caffael, a sut y mae'n gwerthuso'n feirniadol y ffordd y mae'n cyflawni prosiectau seilwaith.
Lywydd, credaf fod angen newid diwylliannol i sicrhau gwelliannau go iawn yn y modd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu yma yng Nghymru. Rwyf wedi dweud yn glir fy mod wedi ymrwymo i ddiwygio'n sylweddol y modd y mae'r Llywodraeth yn gweithredu a sut y caiff gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru eu darparu, ac yn y pen draw yr hyn y mae pobl Cymru am ei weld yw diwedd ar weithio mewn seilos, ymdrech lawer mwy ymwybodol i ddileu gwastraff, a gweld eu harian y maent wedi gweithio'n galed amdano'n cael ei ddefnyddio'n effeithiol i gyflawni prosiectau trawsnewidiol.
Nawr, ceir digon o enghreifftiau o drosolwg sector cyhoeddus ledled y byd, ac mae angen inni ddysgu o'r ffordd y mae Llywodraethau eraill wedi gweithredu a gweld ble y gallwn addasu'r arferion hynny yma. Er enghraifft, yn Seland Newydd, sefydlwyd y grŵp cynghori ar bolisi i roi cyngor gwleidyddol diduedd, di-dâl a gonest i'r Prif Weinidog a Gweinidogion eraill. Yn yr un modd, byddai gan swyddfa cadernid ac effeithlonrwydd Llywodraeth yr un rôl wrth wraidd y broses o wneud penderfyniadau, ond hefyd byddai ganddi ddannedd i weithio ar draws gwasanaethau cyhoeddus a chyda rhanddeiliaid allweddol eraill i gael gwared ar aneffeithlonrwydd.
Felly, wrth gloi, Lywydd, er mwyn bwrw ymlaen â gwelliannau yn ein gwasanaethau cyhoeddus a chyflawni prosiectau seilwaith llwyddiannus ledled Cymru, rhaid inni ymrwymo i ailedrych ar ein gwariant a'n prosesau. Credaf mai'r ffordd orau o wneud hynny yw drwy greu swyddfa cadernid ac effeithlonrwydd Llywodraeth—swyddfa a all helpu i drawsnewid y ffordd y caiff ein gwasanaethau eu darparu a sbarduno'r math o newid diwylliannol y mae pobl Cymru am ei weld. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig.
Siaradaf yn y ddadl hon i gefnogi gwelliant 1, a gyflwynwyd gan Rebecca Evans, ac yn benodol am bwynt 1, sy'n nodi'r gwerth gwael am arian a gynigir gan economeg cyni, fel yr amlygwyd ym meirniadaeth y Cenhedloedd Unedig o dlodi'r DU.
Byddai angen sgiliau Jackanory, nid rhai Job, ar Angela Burns a'i chyd-Aelodau Ceidwadol i egluro sut y mae prosiect cyni dinistriol Cameron ac Osborne, ochr yn ochr â choeden arian hud May, rywsut wedi troi'n Llywodraeth Dorïaidd y DU yn benthyg ychydig o dan £174 biliwn rhwng mis Ebrill a mis Awst. Ni fyddwn ni ar feinciau Llafur Cymru yn cymryd unrhyw wersi ar economeg gan y Ceidwadwyr. Mewn degawd, maent wedi symud o gynildeb economaidd Ebenezer Scrooge at bolisïau economaidd enillydd loteri cenedlaethol yn Las Vegas. Felly, gall y Torïaid roi'r gorau iddi—rhowch y gorau i'ch pregethu wrth bobl Cymru ac wrth yr Aelodau o'r Senedd hon am eich uwchraddoldeb a'ch ymrwymiad i werth am arian i drethdalwyr oherwydd—[Torri ar draws.]
Rwy'n tynnu sylw'r Aelodau at welliant 1, pwynt 3, sy'n croesawu'r cynnydd a wnaed wrth gyflawni polisïau arloesol Llywodraeth Cymru—presgripsiynau am ddim, Twf Swyddi Cymru, caniatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau, un llwybr canser, y cynnig gofal plant, dyblu'r terfyn cyfalaf, ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, a'r gronfa cadernid economaidd. Gallwn fynd ymlaen, ond gadewch i mi fod yn gryno: mae'r Torïaid yn deall pris popeth a gwerth dim byd, a Llafur Cymru yw'r blaid y mae pobl Cymru yn ymddiried ynddi gyda'r sector cyhoeddus a phriodoldeb cyllidol i ddiogelu, meithrin a thyfu Cymru oherwydd bod y ddisgyblaeth a'r weledigaeth ariannol gref i Gymru a gyflawnwn yn mynd yn groes i ddegawd cyfan o bolisi Llywodraethau Torïaidd y DU, wrth iddynt barhau i wasgu cyllideb gyhoeddus Cymru i'r eithaf. Mae Cymru bellach £4 biliwn yn waeth ei byd ers iddynt ddod i rym, a gweithiwn i wrthsefyll hyn bob dydd, a dyna pam y maent mor awyddus i wanhau datganoli a gwanhau'r lle hwn.
Hyd yma, mae Llywodraeth Dorïaidd y DU wedi gwario £57 miliwn a mwy mewn contractau ymgynghori—gormod i sôn amdanynt. Mae Deloitte yn gwneud yn dda iawn—£6.7 miliwn mewn contractau, £3 miliwn arall am ddarparu ar gyfer Swyddfa'r Cabinet, a £2.5 miliwn mewn contractau gan Drysorlys y Torïaid—a PricewaterhouseCoopers, £3 miliwn mewn ymgynghoriaeth. Gallwn fynd ymlaen. Felly, mae dull y Torïaid o oruchwylio arian trethdalwyr yn peri pryder mawr, ond nid yw'n wahanol i'r ffordd y mae Llywodraethau Torïaidd olynol bob amser wedi ymddwyn, gyda gwerthu ein diwydiannau cenedlaethol, chwalu ein sector cyhoeddus a'n gwasanaethau cyhoeddus, ac awydd i erydu llywodraeth leol a gwasgu arni i breifateiddio. Mewn cyferbyniad, yma, mae Llywodraeth Lafur Cymru yng Nghymru yn cryfhau ac yn cynnal ein hethos gwasanaeth cyhoeddus. Mae wrth wraidd ac yn ganolog i'n bodolaeth. Yng Nghymru, mae 'di-elw' yn golygu rhywbeth.
Yn olaf, gadewch imi ddychwelyd at fenthyciadau Llywodraeth Dorïaidd y DU o ychydig o dan £174 biliwn rhwng mis Ebrill a mis Awst. Yn y pedwar mis byr hynny yn yr haf, benthycodd y Torïaid fwy nag a fenthycwyd gan Lywodraeth Lafur y DU drwy gydol y flwyddyn ariannol pan achubodd y Llywodraeth Lafur y banciau ac achub yr economi rhag dinistr. Ac mae hynny'n bwysig, oherwydd, a gofiwch chi, yn yr union le hwn, y gwawdio diddiwedd oddi ar feinciau'r Torïaid am drwsio'r to pan oedd yr haul yn gwenu, a'r ffordd roeddent yn dweud bod Llafur wedi gwario'r holl arian, ac mai dyma'r unig reswm, gyfeillion, a ddefnyddiwyd i gyflawni eu hawydd ideolegol dwfn i grebachu'r wladwriaeth â degawd o gyni, ac i beth? Ymhen pedwar mis, fe wnaethant fenthyg mwy nag y gwnaeth y Llywodraeth Lafur mewn blwyddyn gyfan. Unwaith eto, dyma ragrith nodweddiadol y Torïaid. Lywydd, maent yn ceisio hawlio'r monopoli ar gymhwysedd economaidd, ac eto mae pobl Cymru'n gwybod na fyddent yn ymddiried yn y Torïaid i werthu car ail law iddynt, heb sôn am ymddiried ynddynt i reoli ein harian cyhoeddus. Diolch.
Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl y prynhawn yma, ac mae'n rhaid i mi ddweud,wrth wrando ar y cyfraniad olaf gan Rhianon Passmore, rwy'n synnu at y ffordd y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi galw'n gyson ar Lywodraeth y DU i ddarparu mwy o arian i'r lle hwn a mwy o gyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ar yr union adeg y cawsant £4 biliwn ychwanegol i gefnogi gwasanaethau cyhoeddus ac economi Cymru. Cawn gyfraniadau sy'n dweud wedyn bod y Blaid Geidwadol yn anfedrus yn economaidd. Ni allwch chi ei chael hi'r ddwy ffordd, Rhianon Passmore. Ni allwch alw ar y naill law am fwy o fenthyca a mwy o gymorth a beirniadu'r llaw sydd wedi rhoi'r arian hwnnw i chi pan gaiff ei ddarparu. Felly, yn bersonol, rwyf i a'r Ceidwadwyr Cymreig ar yr ochr hon i'r Siambr, yn fwy na bodlon fod Llywodraeth y DU yn benthyca arian ar hyn o bryd. Mae'n cefnogi economi'r DU, ac mae'n cefnogi economi Cymru a phobl yng Nghymru, ac yn etholiad y Senedd y flwyddyn nesaf, credaf y bydd pobl Cymru'n gweld bod y cymorth hwnnw wedi'i gynnig.
Mae pwynt 1 y cynnig yn mynd at ddiben canolog y cynnig hwn: mae rheoli arian trethdalwyr yn llwyddiannus yn dibynnu ar amcanion clir, canlyniadau cytûn a chraffu trwyadl. Pa mor aml yn y Siambr hon a dros y misoedd diwethaf bron yn llwyr y buom yn sôn am bwysigrwydd adeiladu'n ôl yn well ar ôl y pandemig, a datblygu economi a seilwaith trafnidiaeth mwy cynaliadwy? Wel, rhaid i'r broses honno o adeiladu'n ôl yn well olygu cael gwared ar wastraff, cynyddu effeithlonrwydd a sicrhau gwerth am arian i'r trethdalwr. A gadewch i mi fod yn glir beth rwy'n ei olygu wrth 'werth am arian', oherwydd nid yw hynny'n golygu mynd am yr opsiwn rhataf bob amser a bodloni ar lai na'r gorau. Ond mae'n golygu ymgorffori a datblygu diwylliant gwrth-wastraff wrth wraidd y Llywodraeth, gan sicrhau bod trosolwg bob amser ar wariant y Llywodraeth ar draws adrannau, ac un sy'n tynnu sylw at wastraff y Llywodraeth cyn gynted â phosibl.
Yn sicr, nid wyf yn gweld ein cynigion ar gyfer adran newydd fel rhywbeth sy'n gwrthdaro yn erbyn y mecanweithiau craffu presennol—ymhell o fod. Credaf eu bod yn ategu'r mecanweithiau sydd gennym yn barod, gan gynnwys Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Senedd ei hun y cyfeiriodd Angela Burns ato, Archwilio Cymru a Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru. Ym mis Mehefin 2020, cynhyrchodd Archwilio Cymru adroddiad ar gynllun grant datblygu gwledig Llywodraeth Cymru, a chanfu fod £53 miliwn o grantiau wedi'u gwneud heb sicrhau gwerth am arian na chystadleuaeth effeithiol. Canfu Archwilydd Cyffredinol Cymru nad oedd agweddau allweddol ar gynllun, gweithrediad a throsolwg ar fesurau rheoli Llywodraeth Cymru dros y rhaglen yn ddigon effeithiol i sicrhau gwerth am arian. Roedd y methiannau a restrwyd yn cynnwys gwahodd ceisiadau am gyllid gan sefydliadau penodol heb ddogfennu pam, rhoi arian ychwanegol i brosiectau presennol heb wirio eu llwyddiant yn gyntaf, a dim digon o drosolwg ar brosiectau.
Wrth gwrs, cafwyd enghreifftiau cynharach o ddiffyg effeithlonrwydd y cyfeiriodd Aelodau eraill atynt—Cymunedau yn Gyntaf, er enghraifft. Roedd cryfderau Cymunedau yn Gyntaf, gan gynnwys brand cryf a gweithwyr dibynadwy, yn beth da, ond yn anffodus, cawsant eu bwrw i'r cysgod gan ddiffyg cydgysylltiad a dyblygu gwaith. Nid oedd angor digonol i'r prosiect, a chafwyd rhaglenni tebyg ers hynny. Yn syml iawn, nid oedd yn rhoi gwerth am arian ac ni sylwyd ar hynny'n ddigon cyflym.
Nid problem i Lywodraeth Cymru'n unig yw hi; mae'n ymestyn i gynnwys cyrff sector cyhoeddus yng Nghymru hefyd, fel y soniodd Angela Burns. Adroddodd Archwilio Cymru mai barn amodol a roddwyd ar gyfrifon Cyfoeth Naturiol Cymru o ganlyniad i'w ffordd o drin contractau pren, fel y nodwyd yn gynharach unwaith eto, a dywedodd yr archwilwyr Grant Thornton fod hynny wedi eu gwneud yn fwy agored i'r risg o dwyll. Ac ym mis Ionawr 2020, rhoddodd yr archwilydd cyffredinol farn amodol ar gyfrifon y sefydliad am y bedwaredd flwyddyn yn olynol oherwydd amheuon ynglŷn ag a weithredodd Cyfoeth Naturiol Cymru yn unol â'u dyletswyddau statudol a'u hegwyddorion cyfraith gyhoeddus.
Mae angen inni feithrin mwy o gadernid yn y system, ac nid yw hynny'n golygu cadernid ariannol yn unig; mae'n golygu cadernid wrth ymdrin â data hefyd. Yn ddiweddar daeth diffygion i'r amlwg yn y modd y mae Llywodraeth Cymru'n ymdrin â data personol gyda'r tri digwyddiad mawr o dorri cyfrinachedd data yn arwain at osod manylion 18,000 o unigolion ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru am 24 awr. Fel y gwyddom, roedd hyn yn cynnwys manylion bron i 2,000 o breswylwyr cartrefi gofal.
Felly, nid cwestiwn o gadernid ariannol yn unig ydyw; mae'n fater o gadernid ar draws Llywodraeth Cymru, ac ar draws y sector cyhoeddus, a dyna pam ein bod yn cynnig rhai o'r newidiadau a gyflwynwyd gennym. Mae hwn yn gynnig sy'n ymwneud yn y bôn â rhoi hyder i bobl Cymru—hyder, pan fyddant yn pleidleisio, pa blaid neu bleidiau bynnag sy'n ffurfio Llywodraeth Cymru y bydd cadernid a gwerth am arian yn cael eu hadeiladu'n rhan o'r broses honno a'r system honno o'r dechrau, ac na chânt eu hychwanegu fel ôl-ystyriaeth. Mae angen inni feithrin cadernid, sicrhau gwerth am arian i'r trethdalwr, ac yn hollbwysig, hyrwyddo diwylliant newydd o effeithlonrwydd. Ymwneud â hynny y mae'r cynnig hwn: cynyddu gwaith craffu a bwrw goleuni ar rai o gorneli tywyllach y Llywodraeth, wrth inni ddechrau ar y daith hir o adeiladu'n ôl yn well.
Ac i gloi, Lywydd, dywedodd Neil McEvoy—ac rwy'n cytuno ag ef—fod angen inni ailadeiladu; rwy'n credu i chi ddweud bod angen inni newid diwylliant y Llywodraeth, drwy gael gwared ar y tywyllwch—. Rwy'n eich dyfynnu'n hollol anghywir yno, mewn gwirionedd, gyda llaw, Neil McEvoy; ni ddylwn byth geisio eich dyfynnu—rydych yn ei wneud yn llawer mwy huawdl eich hun. Ond fe ddywedoch chi na all pethau barhau fel roeddent o'r blaen, ac yn fy marn i, mae angen inni sicrhau nad ydym yn dileu'r union ddemocratiaeth sy'n rhoi'r cyfle i newid rydym yn ei geisio.
Hoffwn ganolbwyntio fy sylwadau ar yr economi a'r seilwaith a pham y mae creu swyddfa drawsadrannol ar gyfer cadernid ac effeithlonrwydd Llywodraeth yn hanfodol os ydym am weld diwedd ar weithio mewn seilos fel sydd wedi nodweddu perfformiad Llywodraethau olynol yng Nghymru dros yr 20 mlynedd diwethaf. Bydd sefydlu'r swyddfa wrth wraidd y Llywodraeth, fel yr amlinellwyd yn gynharach gan Angela Burns, yn sicrhau bod holl adrannau'r Llywodraeth ganolog yn canolbwyntio ar weithio mewn ffordd drawsadrannol, gan gyflawni prosiectau sy'n galw am fuddsoddiad sylweddol mewn trafnidiaeth a seilwaith a hynny ar amser ac o fewn y gyllideb—rhywbeth sydd heb ddigwydd mor aml â hynny hyd yma. Does bosibl nad yw hwn yn uchelgais a all ennyn cefnogaeth drawsbleidiol.
Mae angen buddsoddiad sylweddol ar lawer o brosiectau, ac mae trafnidiaeth a seilwaith yn enwog fel y gwyddom i gyd am wario mwy na'r gyllideb, tra'n cymryd mwy a mwy o amser i'w cwblhau. Mae'r rhestr yn hir: Cylchffordd Cymru, Maes Awyr Caerdydd, ardaloedd menter, £157 miliwn wedi'i wastraffu ar ffordd yr M4 sy'n mynd i unman. Soniodd Angela Burns am y £157 miliwn hwnnw. Beth am y £15 miliwn a wariwyd ar eiddo ar hyd ffordd liniaru'r M4 a brynwyd yn orfodol? Maent yn parhau i fod yn asedau i Lywodraeth Cymru. Ond beth am y costau cyfreithiol a'r ffioedd proffesiynol sydd wedi'u gwastraffu ar brynu'r eiddo hwnnw? Ac rydym yn meddwl am y ddau eiddo a brynwyd y llynedd, ddau fis cyn i Lywodraeth Cymru ddileu'r prosiect cyfan. Felly mae un adran o'r Llywodraeth yn prynu dau eiddo; ddeufis yn ddiweddarach, mae adran arall o'r Llywodraeth—swyddfa'r Prif Weinidog—yn diddymu'r union brosiect y prynwyd yr eiddo ar ei gyfer. Onid yw hynny'n enghraifft o pam fod angen y swyddfa hon arnom?
Soniodd Paul Davies am nifer o adroddiadau gan Swyddfa Archwilio Cymru, neu Archwilio Cymru fel y'i gelwir bellach—y gorwariant ar ffordd yr A465 Blaenau'r Cymoedd, y gorwariant o £60 miliwn ar gael gwared ar asbestos yn ysbyty Glangwili—a thynnodd sylw at brinder mecanweithiau digonol o fewn Llywodraeth Cymru i gynllunio a chyflawni prosiectau hirdymor yn briodol. Geiriau Archwilio Cymru yw'r rheini, nid fy ngeiriau i: 'prinder mecanweithiau digonol o fewn Llywodraeth Cymru'. Fel y dywedais o'r blaen yn y Siambr hon, Lywydd, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn euog o fethu cynllunio'n briodol ar gyfer darparu cynlluniau seilwaith ffyrdd a gwella ffyrdd yn y tymor hir, o fethu rheoli'r broses o gaffael a darparu cynlluniau ffyrdd yn briodol, ac o fethu cynnal rhwydwaith ffyrdd Cymru gyda lefelau priodol o gyllid.
Rwy'n dal yn bryderus ynghylch y diffyg cynllunio parhaus i gyflawni prosiectau seilwaith yn brydlon. Ac er gwaethaf digonedd o sicrwydd i'r gwrthwyneb, nid ydym yn gweld unrhyw newid yn y maes hwn o hyd. Mae angen inni ddechrau darparu gwasanaethau cyhoeddus o ansawdd uchel sy'n ymatebol, yn effeithlon, yn hygyrch ac sy'n darparu gwerth am arian i drethdalwyr Cymru, drwy sefydlu swyddfa i sicrhau effeithlonrwydd trawslywodraethol a thrawsnewid o fewn y sector cyhoeddus, swyddfa sy'n gyfrifol am sicrhau gwerth cyhoeddus, cynllunio, perfformiad a chefnogi caffael. Yn fy marn i, Lywydd, byddai swyddfa newydd yn Llywodraeth Cymru ar gyfer cadernid ac effeithlonrwydd Llywodraeth yn ffrind beirniadol. Byddai'n darparu'r trosolwg clir, trawsadrannol a'r gwaith craffu trylwyr sy'n ofynnol ac sy'n angenrheidiol i sicrhau bod arian trethdalwyr yn cael ei wario'n briodol ac nad yw'n cael ei wastraffu gan Lywodraeth Cymru. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig heddiw.
Y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Rebecca Evans.
Lywydd, mae sicrhau gwerth am arian yn flaenoriaeth gyson i Lywodraeth Cymru. Roedd hynny'n wir cyn y pandemig ac mae ein hymateb a dargedwyd i ymdrin ag argyfwng COVID-19 wedi'i ysgogi gan yr un ymrwymiad. Mae ein hamcanion fel Llywodraeth yn canolbwyntio ar sicrhau Cymru sy'n fwy ffyniannus, yn fwy cyfartal ac yn fwy gwyrdd. Er mwyn cyflawni'r nod hwnnw, rydym yn mabwysiadu dull hirdymor, wedi'i ategu gan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 oherwydd ein bod yn gwybod sut y gall ymagwedd tymor byr niweidio cyfleoedd bywyd, gan gynyddu costau gwastraffus y gellir eu hosgoi i bwrs y wlad. Wrth wneud penderfyniadau, mae Llywodraeth Cymru yn dilyn gofynion llywodraethu a nodir yn 'Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru'. Mae hyn yn sicrhau bod ystyriaethau gwerth am arian yn rhan annatod o'r gwaith o baratoi a chraffu ar yr holl gyngor gweinidogol ac o brosiectau mawr a gwaith rheoli rhaglenni Llywodraeth Cymru.
Mae tryloywder ac atebolrwydd hefyd yn chwarae rhan hanfodol wrth gefnogi'r gwaith craffu sy'n profi'r defnydd cyfrifol o arian cyhoeddus. Credaf fod hyn yn rhan annatod o'n dull o weithredu. Yn wahanol i Lywodraeth y DU, cyflwynwyd cyllideb atodol gyntaf gennym ym mis Mai i ddarparu mwy o dryloywder ynghylch manylion yr addasiadau i'r gyllideb a wnaed ers dechrau pandemig COVID-19. Ac wrth gwrs, bydd yr Aelodau'n cofio'r dryswch a grëwyd gan ddiweddariad economaidd y Canghellor yn yr haf, ac ar ôl hynny galwodd y Sefydliad Astudiaethau Cyllid annibynnol ar Drysorlys y DU i ddilyn ein harfer ni drwy gyhoeddi addasiadau tebyg er mwyn darparu mwy o dryloywder. Ein bwriad yw bod mor dryloyw ag y gallwn fod ynglŷn â'r adnoddau sydd ar gael i Gymru o ganlyniad i'r addasiadau canlyniadol i grant bloc Cymru ac ynglŷn â dyraniadau o gronfeydd wrth gefn.
Mewn ymateb i adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar y gyllideb atodol gyntaf, ysgrifennais at y pwyllgor i roi rhagor o fanylion am gyllid canlyniadol. Rwyf wedi ymrwymo i gyhoeddi cyllideb atodol arall maes o law yn manylu ar ddyraniadau pellach, a byddwn yn defnyddio datganiadau llafar ac ysgrifenedig i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y sefyllfa ariannol yn ystod y flwyddyn wrth iddi ddatblygu. Rydym bob amser wedi bod o ddifrif ynglŷn â defnydd cyfrifol o arian cyhoeddus oherwydd y rôl bwerus y gwyddom y gall ei chwarae yn trawsnewid bywydau. Rwy'n falch fod rheolaeth gadarn ar gyllidebau wedi cefnogi'r gwaith o wneud penderfyniadau yng Nghymru sy'n ein gosod ar wahân, gan gynnwys presgripsiynau am ddim, Twf Swyddi Cymru, un llwybr canser, y cynnig gofal plant, dyblu'r terfyn cyfalaf y gall pobl ei gadw cyn talu am ofal cymdeithasol a datblygiad parhaus ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain ledled Cymru.
Yn ystod yr argyfwng, rydym wedi symud yn gyflym i sefydlu cronfa ymladd, a gedwir mewn cronfa wrth gefn ganolog a'i neilltuo ar gyfer ein hymateb i COVID. Yn ogystal â defnyddio symiau canlyniadol newydd, cafodd y gronfa wrth gefn hwb gan gyllidebau a addaswyd at ddibenion gwahanol, fel y nodwyd yn y gyllideb atodol gyntaf. A diolch i'r dull strategol hwn o weithredu, rydym wedi bod mewn sefyllfa i gadarnhau dyraniadau, gan gynnwys bron i £0.5 biliwn i awdurdodau lleol, £800 miliwn i gronfa sefydlogi'r GIG a thros £800 miliwn mewn grantiau i fusnesau. Creffir yn drylwyr ar ddyraniadau o'r gronfa wrth gefn drwy broses a sefydlwyd yn gynnar yn y pandemig. Rwy'n ystyried materion cyllid sy'n gysylltiedig â COVID-19 yn rheolaidd, gan gynnwys dyraniadau o'r gronfa wrth gefn, gyda chymorth gan Weinidogion eraill ac amrywiaeth o swyddogion. Ac ers mis Mawrth, mae bron i 100 o'r cyfarfodydd hyn wedi'u cynnal, gan gefnogi ein gallu i gyflymu'r broses o wneud penderfyniadau i gydnabod y pwysau dwys sy'n ein hwynebu.
Gwn fod yr Ysgrifennydd Parhaol hefyd o ddifrif ynglŷn â'i chyfrifoldebau personol fel prif swyddog cyfrifyddu. Gyda'r Ysgrifennydd Parhaol, rwy'n cadeirio bwrdd effeithlonrwydd, sy'n ystyried ffyrdd y gall Llywodraeth Cymru ddefnyddio ei hadnoddau ei hun yn y ffordd fwyaf effeithiol. Mae'r broses hon wedi ailddiffinio ein perthynas â chyrff a noddir yn sylweddol, gan sicrhau dull mwy effeithiol a strategol o weithredu, ac arbedion effeithlonrwydd. Rydym hefyd wedi sefydlu canolfan lywodraethu i sicrhau y gall Llywodraeth Cymru i gyd gael cyngor a her profiadol a phroffesiynol. Mae gwaith craffu gan Archwilio Cymru a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, wrth gwrs, yn ffynhonnell ddefnyddiol o her ac arolwg allanol. Caiff yr argymhellion a gynhyrchir eu monitro i'w gweithredu gan bwyllgorau archwilio a sicrwydd risg Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod gwersi'n cael eu dysgu a bod camau'n cael eu cymryd. Mae Archwilio Cymru yn aelod sefydlog o'r pwyllgor hwn.
Mae'n bwysig nodi bod y gyfran o weithgarwch y Llywodraeth a gynrychiolir gan yr achosion a godwyd yn ystod y ddadl hon—. Ac mae'n iawn, wrth gwrs, i'r rheini gael eu harchwilio a bod y gwersi hynny'n cael eu dysgu. Ac fel y nodais yn fanwl, mae gennym broses ar waith i sicrhau bod hynny'n digwydd. Fodd bynnag, bob blwyddyn, rydym yn cyhoeddi tua 11,000 o lythyrau dyfarnu grantiau i drydydd partïon o tua 400 o gynlluniau grant gwahanol. Ychydig iawn o'r dyfarniadau grant hynny sy'n arwain at faterion sy'n galw am graffu gan yr archwilydd cyffredinol ac adroddiad i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus.
Felly, mae'n iawn ein bod yn cydnabod yr achosion y cyfeiriwyd atynt heddiw, ond eithriadau yw'r rhain, yn hytrach na'r rheol. Nid wyf yn credu ei bod yn gredadwy i awgrymu bod yr adroddiadau, sy'n nodi adborth heriol a beirniadol, a hynny'n briodol, yn cefnogi casgliad cyffredinol nad yw Llywodraeth Cymru yn defnyddio arian cyhoeddus yn gyfrifol. Mae sicrhau gwerth am arian yn dibynnu yn y pen draw ar reoli cyllidebau'n gadarn, rhywbeth a danseilir fwyfwy gan wrthodiad Llywodraeth y DU i fod o ddifrif ynglŷn â'r pryderon a godir gan y gweinyddiaethau datganoledig. Disgrifiais nifer o enghreifftiau i fy nghyd-Aelodau o fethiant Llywodraeth y DU i gydymffurfio â'r datganiad o bolisi ariannu, sydd wedi gwneud Llywodraeth Cymru yn waeth ei byd—o ostyngiadau cyfalaf ar yr unfed awr ar ddeg i ddiffygion cyllid pensiwn.
Mae'n destun pryder fod Llywodraeth y DU yn dal i wrthod gweithredu o fewn y fframwaith cyllidol i ganiatáu mwy o fynediad at, a rheolaeth ar gronfa wrth gefn Cymru er mwyn cynllunio'n well ar gyfer ein hymateb i'r pandemig eleni. Yn hytrach na chwilio am haelioni newydd o Whitehall, mae'r cais hwn yn ymwneud yn syml â chaniatáu i Lywodraeth Cymru wneud penderfyniadau ynglŷn â sut i ddefnyddio'r cyllid rydym wedi'i neilltuo i allu ymdopi yn ystod cyfnodau ansicr. Byddwn yn parhau i dargedu ein hadnoddau mewn modd sy'n hyrwyddo gwerth am arian i bobl Cymru a byddwn yn parhau i annog Llywodraeth y DU i ddarparu'r hyblygrwydd ariannol sydd ei angen i gefnogi'r nod hwnnw.
Galwaf ar Darren Millar nawr i ymateb i'r ddadl. Darren Millar.
Diolch, Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at yr hyn a fu'n ddadl bwysig iawn yn fy marn i am yr angen i sicrhau gwerth am arian i drethdalwyr Cymru, oherwydd, fel y dywedodd un fenyw wych, Margaret Thatcher, unwaith,
Nid oes y fath beth ag arian cyhoeddus, dim ond arian trethdalwyr.
Ac rydym ni yn y lle hwn yn gyfrifol am sicrhau ei fod yn cael ei wario'n ddoeth iawn. Mae'n ddrwg gennyf glywed nad yw'r Gweinidog yn derbyn yr angen am welliannau o ran craffu ar y ffordd y caiff arian cyhoeddus ei wario, oherwydd clywsom restrau hir gan siaradwr ar ôl siaradwr yn nadl y Senedd heddiw am fethiannau ym mhrosesau Llywodraeth Cymru ei hun, sydd wedi arwain at wastraffu gwerth dros £1 biliwn o arian trethdalwyr.
Wrth gwrs, rhaid inni gofio, pan gaiff arian trethdalwyr ei wastraffu, ceir costau cyfle, fel y dywedodd Caroline Jones yn gwbl briodol. Mae'n arian na allwch ei fuddsoddi yn ein gwasanaeth iechyd, na allwch ei fuddsoddi yn ein system addysg ac na allwch ei fuddsoddi yn seilwaith Cymru. Felly, mae'n hollol iawn, pan ddywedodd fod angen inni ailadeiladu ymddiriedaeth; mae angen inni ailadeiladu ymddiriedaeth mewn Llywodraeth Cymru yn y dyfodol i reoli'r pethau hyn yn iawn.
Rwy'n anghytuno'n llwyr â Gareth Bennett pan ddywedodd fod hyn yn dystiolaeth o fethiant datganoli. Nid yw hynny'n wir. Mae'n dystiolaeth fod angen i weinyddiaeth sy'n methu dan arweiniad Llafur Cymru, a'i phartneriaid iau hefyd, ysgwyddo rhywfaint o'r bai hwnnw. Mae Plaid Cymru, wrth gwrs, wedi bod yn anarferol o absennol yn y ddadl ar y mater hwn yn y Siambr heddiw, sy'n eithaf rhyfeddol.
Dechreuodd cyfraniad Neil McEvoy mor dda gyda chyfeiriad at Margaret Thatcher, ond dirywiodd yn gyflym, a gorau po leiaf a ddywedaf am y diwedd. Ond fe ddywedaf hyn, mewn ymateb i gyfraniad Neil: mae'n llygad ei le i nodi'r ffrindgarwch sydd ond yn rhy amlwg yma yng Nghymru. Ond rwyf am ddweud mewn ymateb iddo, ar ei sylwadau am y trydydd sector: nid ydym yn brwydro yn erbyn y trydydd sector fel Plaid Geidwadol yma yng Nghymru, rydym yn brwydro yn erbyn gwastraff ac aneffeithlonrwydd, a dyna pam y mae arnom angen chwyldro datganoli, fel y mae Paul Davies wedi dweud droeon—chwyldro sy'n diwygio ac yn ail-lunio ac yn ailfywiogi Llywodraeth Cymru yn sylweddol i greu'r system wydn ac effeithiol y mae pobl Cymru yn ei disgwyl.
Mae angen inni allu cael system nad yw'n araf i dynnu'r plwg ar brosiectau nad ydynt yn gweithio, ac sy'n gyflym i fuddsoddi mewn prosiectau sy'n gweithio, fel nad oes gennym y broses ddiddiwedd o beilot i brosiect sydd gennym yng Nghymru lle ceir gwelliannau gweladwy, fel y dywedodd Angela Burns ar ddechrau ei chyfraniad agoriadol, lle mae gennym brosiectau y profwyd eu bod yn gweithio, ond nad yw Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno ymhellach. Mae yna lawer o enghreifftiau rhyngwladol. Cyfeiriodd Paul Davies at un yn Seland Newydd. Gwyddom fod gan Lywodraeth y DU y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol hefyd, sy'n cyfrannu at brosesau craffu Llywodraeth y DU a'r ffordd y mae'n trefnu ei chyllid.
Cefais fy siomi'n fawr gan gyfraniad Rhianon Passmore—dallbleidiol a ddiangen. Wrth gwrs, daeth o dan lach Nick Ramsay yn ei ymateb, a chafodd Rhianon Passmore ei cheryddu ganddo'n gynnil a dweud y gwir.
Canolbwyntiodd Russell George ei sylwadau ar ffyrdd a seilwaith, a'r gorwariant sylweddol a gawsom ar y rheini, a chredaf ei bod yn gwbl briodol iddo sôn am y sefyllfa hurt lle'r oedd gennym nifer o gartrefi ac eiddo wedi'u prynu o fewn ychydig wythnosau i gyhoeddiad y Prif Weinidog. Mwy o arian trethdalwyr i'r twll diwaelod. Wrth gwrs, nid dyna'r unig enghraifft, o hynny—gwelsom hynny hefyd gyda safle prosiect Pinewood.
Felly, erfyniaf ar yr Aelodau o'r Senedd i gefnogi ein cynnig ar y papur trefn heddiw. Mae arnom angen swyddfa cyfrifoldeb cyllidebol annibynnol hyd braich, un drawsadrannol ac annibynnol, neu swyddfa cadernid ac effeithlonrwydd Llywodraeth yn hytrach, i sicrhau y gall trethdalwyr gael gwerth am arian yma yng Nghymru. Bydd yn ategu'r systemau eraill sydd gennym ar waith gydag Archwilio Cymru a'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a gwaith y Senedd hon yn ei chyfanrwydd, ac rwy'n cymeradwyo'r cynnig i'r Aelodau.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Oes yna wrthwynebiad i'r cynnig heb ei ddiwygio? [Gwrthwynebiad.] Oes, dwi'n clywed gwrthwynebiad, ac felly rŷn ni'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Ac yn unol â'r Rheolau Sefydlog, bydd yna egwyl nawr o bum munud cyn cynnal y cyfnod pleidleisio hynny. Felly, egwyl.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:32.
Ailymgynullodd y Senedd am 18:39, gyda'r Llywydd yn y Gadair.
Felly, mae'r bleidlais gyntaf yn y cyfnod pleidleisio ar ddadl Aelod o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar incwm sylfaenol cyffredinol. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Jack Sargeant. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, 10 yn ymatal, 13 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi'i gymeradwyo.
Dadl Aelod o dan Reol Sefydlog 11.21 (iv) Incwm Sylfaenol Cyffredinol: O blaid: 28, Yn erbyn: 13, Ymatal: 10
Derbyniwyd y cynnig
Mae'r gyfres o bleidleisiau nesaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar werth am arian i drethdalwyr. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, pedwar yn ymatal, 37 yn erbyn, felly mae'r cynnig wedi'i wrthod.
Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Gwerth am Arian i Drethdalwyr - cynnig heb ei ddiwygio, cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 10, Yn erbyn: 37, Ymatal: 4
Gwrthodwyd y cynnig
Bydd y bleidlais nesaf ar welliant 1, ac os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais, felly, ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 24 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 1 wedi cael ei gymeradwyo ac mae gwelliant 2 a gwelliant 3 yn cael eu dad-ddethol.
Gwelliant 1 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - cyflwynwyd yn enw Rebecca Evans: O blaid: 27, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.
Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Neil McEvoy. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid chwech, neb yn ymatal, 45 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 4 wedi'i wrthod.
Gwelliant 4 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - cyflwynwyd yn enw Neil McEvoy: O blaid: 6, Yn erbyn: 45, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Pleidlais nawr ar y cynnig wedi'i ddiwygio.
Cynnig NDM7404 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi bod rheoli arian trethdalwyr yn llwyddiannus yn dibynnu ar amcanion clir, llywodraethu da a gwaith craffu effeithiol ac yn cydnabod bod economeg cyni yn cynnig gwerth gwael am arian.
2. Yn gresynu at y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi tanariannu a / neu wedi rhwystro nifer o brosiectau, gwasanaethau a seilweithiau heb eu datganoli yng Nghymru, gan gynnwys ymchwil a datblygu, rheilffyrdd, cysylltiad band eang ac ynni’r llanw ers 2010.
3. Yn croesawu’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni polisïau arloesol Llywodraeth Cymru sydd wedi’u cynllunio ar gyfer pobl Cymru, gan gynnwys: presgripsiynau am ddim, Twf Swyddi Cymru, system caniatâd tybiedig ar gyfer rhoi organau, un llwybr canser, y cynnig gofal plant, dyblu’r terfyn cyfalaf, Ysgolion yr 21ain Ganrif a’r Gronfa Cadernid Economaidd.
4. Yn galw ar Lywodraeth y DU i roi mwy o hyblygrwydd cyllidol i Lywodraeth Cymru er budd rheoli cyllidebau yn dda.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, neb yn ymatal, 24 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.
Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Gwerth am Arian i Drethdalwyr - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 27, Yn erbyn: 24, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Yr eitem nesaf ar ein hagenda ni, felly, yw'r ddadl fer, ac mae'r ddadl fer heddiw i'w chyflwyno gan Rhun ap Iorwerth. Dwi'n galw ar Rhun ap Iorwerth i gyflwyno'r pwnc y mae wedi dewis ei gyflwyno. Rhun ap Iorwerth.
Diolch yn fawr iawn, Llywydd, am y cyfle yma i roi sylw i rai o'r heriau a'r cyfleoedd sy'n wynebu'r etholwyr rydw i'n eu cynrychioli yn Ynys Môn ac, a ninnau'n rhan bwysig o economi rhanbarthol ehangach, yr heriau a'r cyfleoedd sy'n berthnasol y tu hwnt i'r pontydd hefyd. Mae rhai ohonyn nhw'n hen ffactorau, ffactorau sydd ynghlwm â'n lleoliad ni neu nodweddion daearyddol; eraill yn ffactorau mwy newydd—canlyniadau i gyd-destun gwleidyddol neu economaidd heriol.
Mi dria i roi rhyw drosolwg o le rydw i'n meddwl rydyn ni arni. Rydw i'n edrych ymlaen at weld a ydy'r Gweinidog yn cytuno efo fi ar rai os nad y cyfan o fy argraffiadau i, ac yn barod i ymrwymo i'n cefnogi ni ym Môn ymhob ffordd bosib i ddelifro ar ein dyheadau ni fel cymuned ar yr ynys. Bydd, mi fydd yr hyn sydd gen i i'w ddweud yn swnio'n ddigalon, o bosib, ar brydiau. Mi fydd yna faterion sy'n peri pryder go iawn yn cael eu crybwyll gen i. Pa mor aml ydw i wedi clywed pobl yn dweud, 'Does yna ddim swyddi yma. Does yna ddim byd i gadw'n pobl ifanc ni yma', ac mae yna ddigwyddiadau diweddar sydd wedi atgyfnerthu'r math yna o deimladau. Ond dwi'n berson optimistaidd hefyd, a dwi'n gallu gweld cymaint o gyfleon ar hyn o bryd—cyfleon sydd yma'n barod sydd angen eu meithrin, a chyfleon eraill newydd sy'n egino ar hyn o bryd, ac rydyn ni angen mynd ar eu holau nhw efo'n holl nerth.
Daeth David Melding i'r Gadair.
Mi ges i fy magu yn Ynys Môn. Roedd gan yr ynys wastad dynfa arna i, ond am wn i, pan wnes i gyfarfod y ferch o Fôn fuasai'n dod yn wraig i fi maes o law y cafodd y berthynas ei selio unwaith ac am byth, a dyna wnaeth yn eithaf siŵr mai mynd yn ôl i Fôn fuaswn i i fagu fy mhlant innau. Ac ie, mynd yn ôl oedd o, achos fel cymaint o'n pobl ifanc ni, mi adawais i i brifysgol, i waith yng Nghaerdydd, Llundain am gyfnod, ond dwi'n gwybod nad ydy pawb ddim yn teimlo bod yr un cyfle ganddyn nhw i fynd yn ôl, neu i beidio â gadael yn y lle cyntaf.
Cyfle i gadw'n pobl ifanc ni, neu i ddenu rhai yn ôl oedd y brif apêl yn Wylfa Newydd yn lleol. Wrth gwrs, doedd o ddim yn cael ei gefnogi gan bawb, o bell ffordd. Cannoedd o swyddi hirdymor, cyfnod llewyrchus iawn yn ystod yr adeiladu, ond cyfnod hynod, hynod heriol hefyd—cyfnod a allai, heb fesurau lliniaru cadarn iawn, iawn, gael effaith drom ar ein cymunedau ni. A gwthio am y lliniaru yna, i ddyrchafu y budd lleol, cyfleon am swyddi lleol—dyna oedd yn flaenoriaethau i fi, wastad, wrth ddelio efo'r datblygiad hwnnw, a hynny'n gweithio'n agos iawn efo'r cyngor sir. Ac mi oedd y datblygwr yn deall pwysigrwydd y pethau yna; dwi'n grediniol yn hynny. Ond rŵan, wrth gwrs, mae'r datblygiad yna ar stop—ergyd economaidd fawr o ran y swyddi a'r refeniw lleol oedd yn cael eu haddo. Does dim dianc oddi wrth hynny. Ac mi fydda i'n cario ymlaen, wrth gwrs, i weithio, trafod efo cwmni Horizon wrth iddyn nhw ystyried a oes yna fodd, neu sut, i atgyfodi'r cynllun. Ond mae'n rhaid inni fod yn barod i ystyried bod gennym ni gyd-destun newydd rŵan, cyd-destun lle dydy dibynnu ar un buddsoddiad enfawr fel hyn ddim yn gallu cael ei weld fel yr ateb i'r holl gwestiynau, ac yn sicr, mae yna beryglon mawr mewn codi gobeithion pobl eto, heb fod yna seiliau cadarn iawn i wneud hynny, a dwi'n gwybod bod y Gweinidog yn cytuno efo fi yn hynny o beth.
Felly, mae eisiau edrych ar ein cryfderau eraill ni a'r cyfleon eraill. Dwi wedi clywed rhai yn dweud bod yna flynyddoedd wedi'u colli, wedi'u gwastraffu—blynyddoedd a allai fod wedi eu defnyddio yn datblygu cynlluniau newydd amgen. Wel, y newyddion da—a dwi wastad wedi dadlau hyn—ydy nad oedd pob wy yn yr un fasged yn Ynys Môn. Efallai nad oedden nhw'n hawlio'r un penawdau, cweit, efallai eu bod nhw'n llawer llai, o edrych arnyn nhw'n unigol—llawer llai—ond o'u cymryd efo'i gilydd, mae yna fentrau eraill hynod gyffrous sydd ar y gweill ym Môn sydd wedi bod yn ddistaw bach yn codi momentwm yn y blynyddoedd diwethaf, a rŵan, fwy nag erioed, mae angen cefnogaeth i'w gwireddu nhw.
Felly, ymhle y dechreuaf i? Dwi am ddechrau efo ynni. Mae'r rhaglen ynys ynni yn un sy'n dal yn fyw ac yn iach; rydyn ni'n ynys sydd wedi arloesi dros y canrifoedd mewn ynni adnewyddol. Mae pawb yn gwybod mai Môn ydy mam Cymru, ond er mwyn darparu bwyd ar gyfer ei phlant, mi oedd yna bron i hanner cant o felinau gwynt yn malu gwenith ar draws yr ynys dros y blynyddoedd. Wrth ddatgan budd anuniongyrchol, nid yn unig bod fy mam-yng-nghyfraith i'n arfer rhedeg bwyty yn un o felinau enwocaf Môn, Melin Llynon, a bod fy nheulu-yng-nghyfraith wedi bod yn rhan o ddatblygu ynni gwynt ar yr ynys yn y 1990au, rydyn ni fel ynys rŵan yn edrych tua'r môr—mae'n golygon ni tua'r môr. Mae'r archwaeth am ynni glân yn tyfu, a phan fydd y ffermydd gwynt nesaf yn y môr oddi ar arfordir y gogledd yn datblygu, i'r gorllewin o'r rhai presennol, wel, gadewch inni wneud yn siŵr mai Caergybi fydd y porthladd i'w gwasanaethu nhw, fel mae Mostyn wedi gwasanaethu'r ffermydd gwynt mwy dwyreiniol mor effeithiol.
Ac o dan y môr, gadewch inni helpu i gael cynllun barcudion gwynt Minesto dros y llinell, i droi eu gwaith ymchwil nhw yn fenter fasnachol lwyddiannus fydd yn creu swyddi da eto yng Nghaergybi. Mae eisiau sicrhau bod cynllun ynni Morlais yn cael bwrw yn ei flaen—ardal brofi technoleg ynni cerrynt fydd yn dod â budd lleol o ran swyddi a buddsoddiad, a chaniatáu ymchwil o bwysigrwydd rhyngwladol. Ac mae'n cael ei redeg fel menter gymdeithasol, gan Fenter Môn, fydd yn cyfeirio'r budd economaidd at ein cymunedau a'n pobl ifanc ni. Oes, mae eisiau ei ddatblygu fo'n ofalus, yn bwyllog—mae'n wir am bob technoleg newydd—ond mae angen i Lywodraeth Cymru wneud popeth i helpu sicrhau'r buddsoddiad angenrheidiol yma iddo fo allu mynd ymlaen i'r cam nesaf, ac felly, hefyd, Llywodraeth Prydain.
Fel cymaint o ddatblygiadau ynni môr, mae'n cael ei gefnogi gan arbenigedd ysgol eigioneg Prifysgol Bangor, ysgol sydd ag enw da am ragoriaeth ryngwladol, ac ysgol sydd wedi'i lleoli ym Mhorthaethwy ym Môn. A gaf i ddiolch yn fan hyn i'r Llywodraeth am ymateb yn bositif i fy ngalwadau i am gytundeb newydd efo'r brifysgol i sicrhau dyfodol eu llong ymchwil nhw y Prince Madog? Mi fydd angen mwy o gefnogaeth i sicrhau dyfodol yr adnodd yma mewn blynyddoedd i ddod—adnodd sy’n bwysig nid yn unig i ddatblygiadau Môn, ond i’n huchelgeisiau cenedlaethol ni o ran ynni môr.
Awn ni'n ôl i'r tir. Dewn ni i Gaerwen, lle mae parc gwyddoniaeth M-Sparc, eto'n rhan o Brifysgol Bangor, yn dangos beth mae uchelgais yn gallu ei wneud—mae fy nheyrnged i yn fan hyn i'n rhagflaenydd i, Ieuan Wyn Jones, am ddelifro hwnnw. Mae'r ffaith bod M-Sparc wedi llenwi mor sydyn efo arloeswyr sydd wedi penderfynu mai yn Ynys Môn mae eu dyfodol nhw yn ysbrydoliaeth. Dwi'n edrych ymlaen i weld cymal nesaf y datblygiad, a'r cymal nesaf wedyn, yn digwydd fel datganiad o hyder yn ein dyfodol uwch-dechnolegol ac arloesol ni ar yr ynys.
Un datblygiad nad oes gennym ni ddim lleoliad corfforol iddo fo eto, ond un dwi'n edrych ymlaen i'w ddelifro gan Lywodraeth Plaid Cymru, ydy pencadlys y corff ynni cyhoeddus newydd Ynni Cymru, corff fydd yn gallu cynnig cymaint i ni, dwi'n meddwl—yn cydlynu datblygiadau ynni, yn arwain ar y gwaith o greu Cymru wirioneddol wyrdd, yn cynnwys rhaglen retroffitio cartrefi cenedlaethol, ac yn ceisio gyrru prisiau ynni glân hefyd i lawr i bobl Cymru. A lle gwell na'r ynys ynni i fod yn gartref i'r corff newydd yma?
Dyma i chi ddatblygiad ynni arall y byddai Ynni Cymru am helpu ei ddelifro. Mae yna waith hynod o gyffrous wedi bod yn digwydd, dan arweiniad Menter Môn eto, dan y teitl 'ynys hydrogen'. Mi arweiniais i ddadl yn y Senedd ym mis Chwefror yn amlinellu manteision hydrogen o ran yr agenda datgarboneiddio, a hynny ar y diwrnod y cafodd cymdeithas newydd Cymdeithas Masnach Hydrogen Cymru ei lansio. Wel, yn barod, drwy waith hydrogen Môn, rydym ni'n gweld sgôp mawr i ddatblygu hydrogen ar yr ynys, a hynny yn defnyddio ynni glân i'w gynhyrchu o, wedi'i gynhyrchu yn lleol. Eto, dwi'n gofyn i chi, Weinidog, ystyried sut all Llywodraeth Cymru helpu delifro hyn, ac mae yna res o bartneriaid yn barod i'w gefnogi hefyd.
Ond tra bod yna botensial mawr ym maes ynni, gadewch i fi ddod â ni'n ôl at y melinau gwynt yna. Mae traddodiad cynhyrchu bwyd Môn yn un arall sydd yn gryf—mae o'n gryf iawn o hyd, ac yn cryfhau. Dwi wedi bod yn trio pwyso ar y Llywodraeth dros y blynyddoedd diwethaf i ddatblygu parc cynhyrchu bwyd ym Môn—mae'n ddatblygiad perffaith i ni. Ac er mai efo Gweinidog yr amgylchedd a materion gwledig dwi wedi bod yn trafod hyn, mi liciwn i'ch tynnu chithau i mewn fel Gweinidog economi. Beth sydd yn digwydd ar hyn o bryd ydy bod nifer fawr, impressive iawn, a dweud y gwir, o gwmnïau—mwy a mwy o gwmnïau—wedi bod yn gwario ar droi eiddo busnes arall yn llefydd addas i gynhyrchu bwyd. Dwi'n dal yn grediniol y byddai'n well paratoi eiddo pwrpasol ar eu cyfer nhw, a chreu hyb, neu hybs hyd yn oed, cynhyrchu bwyd allai fod yn ffenest siop gyhoeddus hefyd i'r sector yma. Mae'r ganolfan technoleg bwyd yng Ngholeg Menai yn ganolfan eithriadol, wedi'i thyfu'n ddiweddar, ac mi ddylen ni yn lleol fod yn creu y gofod a darparu'r gefnogaeth i fusnesau sy'n dechrau eu taith yno i dyfu a datblygu a chyflogi ym Môn.
Mae'r diwydiant cynhyrchu bwyd yn mynd law yn llaw wrth gwrs efo'r sector amaeth ym Môn, sydd heb ei ail. Mae'n helpu i greu'r ddelwedd werdd yna—delwedd sydd mor bwysig o ran twristiaeth hefyd. Does gen i ddim amser i ganolbwyntio gormod ar dwristiaeth yn fan hyn, ond i ddweud ei fod e mor, mor bwysig i ni. A beth wnaf i ei ddweud ydy mor bwysig ydy hi ein bod ni yn creu diwydiant twristiaeth sydd yn wirioneddol gynaliadwy yn economaidd, yn amgylcheddol ond hefyd yn ddiwylliannol, ac yn gynaliadwy o ran bod yn sensitif i mor fregus ydy'n marchnad dai ni, testun cyfoes iawn ar hyn o bryd. Dwi'n wirioneddol falch o weld beth sy'n teimlo fel trafodaeth go iawn yn dechrau ar hynny o fewn y sector dwristiaeth ym Môn ac yn ehangach. Rŵan, dwi'n meddwl, ydy'r amser i wneud hyn.
Os caf i fynd yn ôl at amaeth, rydym ni'n dod at un o'r heriau mawr sy'n ein wynebu ni, a'r her honno ydy ein hymadawiad ni o'r Undeb Ewropeaidd. Roeddwn i'n rhyfeddu gweld Aelod Seneddol Ceidwadol Ynys Môn yn pleidleisio yn erbyn gwelliannau i'r Bil Amaeth yn Nhŷ'r Cyffredin yn ddiweddar fyddai wedi helpu i warchod buddiannau ffermwyr ym Môn wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Mi fyddai'r gwelliannau wedi gwneud yn siŵr bod mewnforion amaethyddol dan gytundebau masnach newydd yn gorfod cyrraedd yr un safonau uchel â ffermwyr Môn. Mae gwrthod gwelliannau felly yn tanseilio'r ffermwyr y mae hi yn eu cynrychioli. Ac mae hynny, wrth gwrs, ar ben pryderon am golli marchnad oherwydd Brexit.
Ac mae Brexit yn dod â fi at borthladd Caergybi. Mi dyfodd masnach drwy'r porthladd yn rhyfeddol ar ôl creu'r farchnad sengl. Caergybi ydy'r ail borthladd roll-on, roll-off prysuraf ym Mhrydain. Mae wedi siapio economi a chymeriad yr ardal—dros 1,000 yn cael eu cyflogi'n uniongyrchol, a llawer mwy'n anuniongyrchol. Ac mae yna nerfusrwydd go iawn o edrych ar gymal 4 o'r Bil masnach fewnol a'r effaith mae hynny'n debyg o'i gael ar symud llif masnach sy'n dod o Ogledd Iwerddon ar hyn o bryd—rhyw draean o'r traffig i gyd—a symud hwnnw o bosib yn fwy uniongyrchol o Ogledd Iwerddon i Loegr neu i'r Alban.
Os ydy trafferthion, gwaith papur, arafwch yn digwydd—. Maen nhw'n sôn am ddatblygiadau yn Kent ar y newyddion drwy'r amser; prin oes yna sôn am ddatblygu adnoddau yng Nghaergybi. Wythnosau sydd yna i fynd. Mae o'n dweud popeth am agwedd Llywodraeth Prydain tuag at borthladd Caergybi. Mae'r pethau yma'n fy llenwi i a phobl Môn ag ofn, ac mae angen datrysiad. Ond mi wnaf i bopeth i wthio ar Lywodraethau Cymru a'r Deyrnas Unedig i sicrhau bod gennym ni ddyfodol ffyniannus, er gwaethaf Brexit.
I gloi, Llywydd, newyddion da iawn ym Môn y penwythnos diwethaf—rydym ni wedi llwyddo i ddenu Gemau yr Ynysoedd i Ynys Môn yn 2025, neu o bosib rhyw flwyddyn neu ddwy yn hwyrach erbyn hyn, yn dibynnu ar COVID. Maen nhw'n gemau sydd yn gemau hapus iawn, yn tynnu cystadleuwyr—miloedd ohonyn nhw—o ynysoedd ar draws y byd yn un o'r campau mwyaf o'i fath yn y byd o ran multisports. Dwi'n ddiolchgar iawn i'r Llywodraeth am addo cefnogaeth i hwnnw, ac yn ddiolchgar i gyngor Môn. Mae yna griw bach ohonom ni fel pwyllgor wedi bod yn gweithio'n galed i gyrraedd at y pwynt yma, ac yn enwedig, wrth gwrs, mae fy niolch i i wirfoddolwyr Gemau yr Ynysoedd, sy'n gweithio mor galed.
Ond, mewn dyddiau llwm, mae'n dda cael rhywbeth i edrych ymlaen ato fo, ac mi fydd o yn rhywbeth i ni fel cymuned ym Môn edrych ymlaen ato fo. A'r neges heddiw yma, efo'r gefnogaeth iawn gan y Llywodraeth, ac efo ysbryd o fenter oddi mewn: mae yna ddyfodol disglair iawn yn economaidd i edrych ymlaen ato fo yn Ynys Môn heddiw.
Galwaf ar Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru, Ken Skates.
Diolch, Ddirprwy Lywydd dros dro. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i Rhun ap Iorwerth am gyflwyno'r ddadl fer hon heddiw, a diolch hefyd i'r Aelod am gymryd rhan yn y drafodaeth bord gron yr wythnos diwethaf ynghylch dyfodol safle'r Wylfa?
Nid oes dianc rhag difrifoldeb y sefyllfa economaidd ehangach sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd ledled Cymru, ledled y byd, ac yn enwedig ar Ynys Môn, lle mae nifer o gyhoeddiadau anffodus wedi'u gwneud yn ddiweddar. Serch hynny, ar Ynys Môn, rydym eisoes wedi darparu £4.1 miliwn o gymorth i fwy na 250 o fusnesau drwy ddau gam cyntaf y gronfa cadernid economaidd wrth inni geisio ymladd effaith economaidd y feirws, a bydd y cyllid hwnnw'n helpu'r busnesau hynny drwy'r pandemig.
Nawr, mae'r cyllid yn ychwanegol at yr hyn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU, a ddydd Llun, cyhoeddais gam nesaf y gronfa cadernid economaidd, £140 miliwn arall i fusnesau ledled Cymru i'w helpu i ymdopi â heriau economaidd COVID-19 a hefyd—hefyd—ymadawiad arfaethedig y DU o gyfnod pontio'r UE.
Nawr, elfen allweddol o economi Ynys Môn, fel y nododd Rhun, yw twristiaeth a lletygarwch. Felly, bydd yr £20 miliwn sydd wedi'i neilltuo fel rhan o drydydd cam y gronfa cadernid economaidd yn hanfodol bwysig i lawer o fusnesau ar yr ynys. Rydym hefyd yn edrych ar sut y gallwn ddefnyddio trydydd cam y gronfa cadernid economaidd i ysgogi cyfleoedd cyflogaeth i rai dan 25 oed. Bydd cymhelliad i gyflogi pobl ifanc a fyddai fel arall yn cael eu gwthio i'r cyrion ymhellach a'u gadael ar ôl wrth inni edrych tuag at adferiad.
Nawr, rhaid imi ddweud wrth yr Aelodau fy mod yn croesawu penderfyniad diweddar y Canghellor i ymestyn y gostyngiad TAW i'r sector lletygarwch a thwristiaeth tan fis Mawrth y flwyddyn nesaf. Roeddwn hefyd yn croesawu ei benderfyniad i ymestyn terfynau amser ad-dalu i fusnesau sydd wedi gohirio TAW a rhoi mwy o hyblygrwydd i fusnesau sydd wedi cael benthyciadau a gefnogir gan y Llywodraeth. Yn gyffredinol, serch hynny, mae'r mesurau a gyhoeddwyd ar 24 Medi yn annhebygol o fod yn ddigonol i atal cynnydd mawr mewn diweithdra yn y misoedd i ddod.
Yma, yng Nghymru, rydym wedi addo cynorthwyo pawb i ddod o hyd i waith, addysg neu hyfforddiant neu i ddechrau eu busnesau eu hunain, ac rydym yn cefnogi'r addewid hwnnw gyda £90 miliwn o gyllid. Mae'r grŵp adferiad economaidd ar gyfer rhanbarth gogledd Cymru hefyd yn ystyried sut y gallwn ddarparu cymorth ar y cyd i fusnesau ar draws gogledd Cymru yn unol â'r cymorth sylweddol rydym eisoes yn ei ddarparu ym mhob rhan o Gymru drwy wasanaeth Busnes Cymru.
Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i roi camau mwy beiddgar ar waith er mwyn sicrhau ein hadferiad economaidd a chefnogi ffyniant busnesau a phobl ledled y DU yn y dyfodol. Yn naturiol, roeddem yn hynod siomedig ynghylch y cyhoeddiad gan Hitachi ganol mis Medi. Ac rwy'n ymwybodol iawn o sut roedd pobl yr ynys yn teimlo am y cyhoeddiad, ac yn enwedig yng ngogledd Ynys Môn. Fel y nododd Rhun, bydd yn effeithio nid yn unig ar gymunedau Ynys Môn, ond hefyd ar ogledd-orllewin Cymru ac yn wir ar ranbarth ehangach gogledd Cymru. Er hynny, Wylfa yw'r safle gorau yn y DU ac Ewrop o hyd. Mae'n safle gwych, mae'n un o'r goreuon ar gyfer adweithyddion niwclear ar raddfa gigabeit neu adweithyddion modiwlar bach, ac rwy'n dal i fod yn hyderus nad dyma ddiwedd y daith.
Ni allwn fynd i'r afael â'r heriau sy'n ein hwynebu yn awr heb gydweithio er budd pobl, busnesau a chymunedau gogledd Cymru ac Ynys Môn. Mae cydlynu a chydgynllunio ein gweithredoedd a'n blaenoriaethau tymor byr, tymor canolig a hirdymor yn allweddol a dyna pam y cynhaliais y digwyddiad bord gron a grybwyllais eisoes, cyfarfod a fynychwyd gan Rhun ap Iorwerth. Roeddwn o'r farn ei fod yn gyfarfod adeiladol, lle buom yn pwyso a mesur cyhoeddiad Hitachi, yn naturiol, ond daethom i gytundeb hefyd ynglŷn â'n priod rolau a chyfrifoldebau ar y camau nesaf. Codwyd nifer o faterion yn y cyfarfod hwnnw ac yn wir, mewn cyfarfodydd ymlaen llaw gydag arweinydd cyngor Ynys Môn. Mae llawer o bethau eisoes wedi cael sylw gan Rhun ap Iorwerth, gan gynnwys dyfodol safle Wylfa, yn amlwg, ond materion pwysig eraill hefyd, megis yr angen i sefydlu safle rheoli ffiniau ar yr ynys. Felly, byddaf yn awr yn cynnal cyfarfodydd teirochrog rheolaidd gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru ac arweinydd cyngor Ynys Môn i drafod y cynnydd y mae pawb ohonom yn ei wneud ar ddatblygu'r materion pwysig hyn.
Yn y cyfamser, wrth gwrs, byddwn yn parhau i ddarparu pob cymorth posibl i fusnesau ar Ynys Môn, a heddiw, nododd Rhun ap Iorwerth nifer o gyfleoedd ar yr ynys rydym ni fel Llywodraeth Cymru yn buddsoddi ynddynt. Ar hyn o bryd rydym yn gweithio gyda Menter Môn a chyngor sir Ynys Môn ar gyllid gogyfer ag astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer gwaith cynhyrchu hydrogen gwyrdd a chanolfan ddosbarthu tanwydd ar yr ynys, a bydd yn datblygu cynlluniau pellach i sefydlu economi hydrogen embryonig ar Ynys Môn ac ar gyfer gogledd-orllewin Cymru fel rhanbarth.
Rydym hefyd yn cefnogi busnesau eraill, megis Joloda Hydraroll yn ardal gymunedol Gaerwen, Rondo yn Llangefni ac wrth gwrs, Boxed Solutions ym Mharc Cybi yng Nghaergybi. Mae'r tri busnes, naill ai gyda, neu'n dilyn cyllid cychwynnol gan Lywodraeth Cymru, bellach yn cynllunio eu rhaglenni ehangu yn y dyfodol, ac rydym yn falch o allu cynnig ein cefnogaeth i'r prosiectau pwysig hyn.
Rydym yn parhau i gydweithio'n rheolaidd â'r awdurdod lleol i wella'r seilwaith parod ar gyfer busnes, megis cysylltiadau trafnidiaeth a manteision eraill y gellir eu gwireddu yn ardal fenter Ynys Môn. Rydym wedi buddsoddi £1.6 miliwn yn ddiweddar fel rhan o fenter ar y cyd â'r awdurdod lleol i ddarparu 30,000 troedfedd sgwâr o unedau cychwynnol diwydiannol newydd ym Mhenrhos, sydd i'w cwblhau fis nesaf.
Ar ynni, sy'n eithriadol o bwysig fel y mae Rhun wedi'i nodi, nid yn unig o ran darparu cyflogaeth, ond er mwyn rhoi delwedd gadarnhaol wych i'r ynys, ac yn wir i ogledd Cymru. Mae Ynys Môn yn arwain y ffordd; mae'n arwain y ffordd o ran arloesi, gan sicrhau hyblygrwydd a rhwydweithiau trydan clyfar. Mae'r ynys hefyd yn dod yn ganolbwynt ar gyfer datblygu llif llanw, ond bydd datblygiad pellach yn dibynnu ar gymorth refeniw gan Lywodraeth y DU. Gallaf sicrhau'r Aelodau y byddwn yn darparu rhagor o dystiolaeth o'r angen am gymorth refeniw gan Lywodraeth y DU ar gyfer technolegau morol yn yr alwad gyfredol am dystiolaeth. Ac rwy'n falch fod gan Gymru ddau barth ar gyfer arddangos araeau tonnau a llanw, gan leihau peth o'r ansicrwydd sy'n arwain at gost uchel cyfalaf a darparu cyfleoedd i ddatblygwyr. Cefnogir y ddau â chyllid yr UE, ac un ohonynt yw safle Morlais yn Ynys Môn.
Soniodd Rhun ap Iorwerth hefyd am sector allweddol arall ar Ynys Môn, sef y sector cynhyrchu bwyd, ac roeddwn wrth fy modd fod un o'r cynigion mwyaf arloesol i gronfa her yr economi sylfaenol yn dod o Ynys Môn, sef rhaglen pysgod cregyn Môn, sy'n ceisio cyflwyno mwy o bysgod cregyn i ysgolion, canolfannau cymunedol, a chyflwyno pobl i'r hyn sydd, mewn gwirionedd, yn ffordd gymharol syml o goginio—gwn hynny, oherwydd cymerais ran yn un o'u dosbarthiadau coginio—ac rwy'n obeithiol y bydd y cynllun hwn o dan y gronfa her yn llwyddiant mawr. Mae'r holl arwyddion yn dynodi ei fod eisoes wedi bod yn llwyddiant mewn llawer o gymunedau ar draws Ynys Môn.
Ac wrth gwrs, llwyddiant Gemau'r Ynys y cyfeiriodd Rhun ato. Am gyfle gwych; roedd taer angen newyddion da arnom, a chafodd ei roi i ni gan Dîm Ynys Môn. Ac roeddwn wrth fy modd ein bod, fel Llywodraeth Cymru, wedi gallu cyfrannu £400,000 i helpu i sicrhau'r digwyddiad gwych hwn.
Rhaid i mi sôn am y fargen twf, wrth gwrs, bargen twf gogledd Cymru. Mae'n mynd rhagddo'n dda a bydd yn elfen bwysig yn adferiad gogledd Cymru yn y dyfodol. Bydd nifer o gyfleoedd, fel y gwn fod yr Aelodau'n gwybod, ar gyfer prosiectau ar Ynys Môn drwy'r fargen twf. Mae'n rhoi cyfle i ogledd Cymru gyflwyno prosiectau ynni adnewyddadwy a charbon isel arloesol, ac rydym yn archwilio potensial ehangach porthladd Caergybi fel porth gwych i ogledd Cymru ac i'r DU. Felly, gallaf sicrhau'r Aelodau fy mod yn dal i anelu at lofnodi'r cytundeb terfynol hwnnw, y fargen twf, erbyn diwedd eleni, gyda Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru a Llywodraeth y DU, fel y gall buddsoddiad cyfalaf ddechrau llifo drwy'r rhanbarth ac i Ynys Môn yn 2021. Felly, byddaf yn naturiol yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau, a byddaf yn gweithio ar draws rhaniadau pleidiol mewn ymdrech ar y cyd ac yn gydweithredol i gryfhau economi a chymunedau Ynys Môn.
Diolch yn fawr. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 19:08.