Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

23/09/2020

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:31 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Croeso, bawb, i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Mae'r cyfarfod yma mewn fformat hybrid, gyda rhai Aelodau yn y Siambr yn y Senedd, ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo, yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru, yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar yr agenda. A dwi eisiau atgoffa'r Aelodau hefyd fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfodydd Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma, ac yn llawn mor berthnasol i'r Aelodau sydd yn y Siambr ag ydynt i'r rhai sydd yn ymuno drwy gyswllt fideo.

1. Datganiad gan y Prif Weinidog: Cadw Cymru'n Ddiogel rhag Coronafeirws

Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r datganiad gan y Prif Weinidog ar y coronafeirws. Diolch i'r Prif Weinidog am gytuno i gyflwyno'r datganiad, ond gaf i atgoffa pawb taw disgwyliad Aelodau'r Senedd a fi fel Llywydd yw bod datganiadau o'r arwyddocâd yma i'w gwneud ar y cyfle cyntaf posibl i'r Senedd, ar bob achlysur? Y Prif Weinidog i gyflwyno ei ddatganiad—Mark Drakeford.

Llywydd, diolch yn fawr. Heddiw, byddaf yn adrodd i’r Senedd ar y datblygiadau diweddaraf wrth i ni weithredu i reoli’r coronafeirws yng Nghymru. Gwaetha’r modd, wedi cyfnod hir pan oedd nifer yr achosion yn cwympo’n raddol, rydym unwaith eto yn gweld cynnydd sylweddol. Mae’n rhaid i ni ymateb yn gadarn. Mae nifer o fesurau pwysig mewn lle ledled Cymru yn barod. Yn ogystal, yn yr wythnosau diweddar rydym wedi cyflwyno cyfyngiadau lleol mewn ardaloedd lle mae’r cynnydd ar ei waethaf. Ddoe, cyhoeddais fesurau ychwanegol ar lefel genedlaethol, yn dilyn trafodaethau gyda Llywodraethau eraill y Deyrnas Unedig.

Lywydd, rwyf am ddechrau drwy nodi'r dystiolaeth ddiweddaraf am ledaeniad y coronafeirws yng Nghymru. Yn ffodus, nid ydym yn wynebu'r un pwysau helaeth â rhai rhannau eraill o'r DU eto. Mae hyn, yn rhannol, o ganlyniad i’n dull mwy gofalus a’r mesurau rydym wedi’u rhoi ar waith ers dechrau'r pandemig, megis ein cyngor i bobl weithio gartref lle bo modd. Mae hefyd o ganlyniad i waith caled ac ymdrechion pawb yng Nghymru sydd wedi dilyn y rheolau ac wedi helpu i reoli lledaeniad y feirws.

Serch hynny, rydym wedi gweld cynnydd amlwg mewn achosion o’r coronafeirws ers wythnosau olaf mis Awst. Y gyfradd gyffredinol yng Nghymru bellach yw 46.8 achos ym mhob 100,000 o bobl. Serch hynny, mae'r darlun ledled Cymru'n gymysg. Mewn rhannau o dde Cymru, rydym wedi gweld clystyrau mawr ac achosion o'r feirws sydd wedi arwain at drosglwyddiad cymunedol. Lywydd, bydd yr Aelodau'n ymwybodol ein bod wedi ymateb i'r cynnydd sydyn hwn ym Mlaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, bwrdeistref Caerffili, Merthyr Tudful, Casnewydd a Rhondda Cynon Taf drwy gyflwyno cyfyngiadau lleol dros y pythefnos diwethaf. Daeth y diweddaraf o’r rhain i rym neithiwr, fel y nododd y Gweinidog iechyd yn ei ddatganiad i’r Aelodau ddoe. Ond mewn rhannau eraill o Gymru, yn y gorllewin ac mewn rhannau o ogledd Cymru er enghraifft, mae'r cyfraddau'n parhau i fod yn is o lawer.

Mae'n drist nodi, Lywydd, ein bod unwaith eto, fodd bynnag, yn gweld pobl yn cael eu derbyn i'r ysbyty ac arnynt angen triniaeth ar gyfer effeithiau difrifol y coronafeirws, ac yn arbennig o drist, yn ystod yr wythnos ddiwethaf, rydym wedi gweld pobl yn marw o'r afiechyd hwn unwaith eto. Nawr yw'r amser i gymryd camau pellach ar y cyd i geisio atal y coronafeirws rhag ailgydio yn ein cymunedau lleol, ein trefi a'n dinasoedd.

Ddoe, trafodais gyfres o argymhellion ar gyfer camau cydlynol ledled y DU gyda Phrif Weinidogion yr Alban, Gogledd Iwerddon a'r DU. Mae llawer o'r argymhellion a drafodwyd yno eisoes ar waith yng Nghymru. Rydym wedi dilyn trywydd gwahanol sy'n addas i'n hanghenion a'n hamgylchiadau ni. Rydym wedi bod yn fwy gofalus wrth lacio cyfyngiadau, rydym wedi llacio’r cyfyngiadau gam wrth gam ac rydym wedi parhau i ddarparu cyngor drwy gydol y pandemig—camau a chyngor y mae rhannau eraill o'r DU bellach yn eu mabwysiadu.

Mae pob un ohonom wedi gwneud cymaint yn barod, ond os ydym am barhau i wneud gwahaniaeth cadarnhaol i'r feirws hwn, mae angen i holl ddinasyddion Cymru barhau i ddilyn y trywydd hwnnw. Mae'n golygu gweithio gartref lle bo modd—neges sydd yr un mor berthnasol i gyflogwyr ag ydyw i weithwyr. Mae’n rhaid i bob un ohonom gadw at y rheolau ynglŷn â chyfarfod dan do. Os ydych yn byw mewn ardal sydd eisoes dan gyfyngiadau lleol, dim ond yn yr awyr agored y gallwch gyfarfod â phobl nad ydych yn byw gyda hwy am y tro. Mewn rhannau eraill o Gymru, gall hyd at chwech o bobl gyfarfod dan do, ar yr amod fod pob un ohonynt yn dod o un aelwyd estynedig, ac nid yw plant dan 11 oed yn cyfrif tuag at y chwech hwnnw yng Nghymru.

Mae bellach yn ofynnol inni wisgo gorchuddion wyneb ar drafnidiaeth gyhoeddus, mewn siopau, ac mewn mannau cyhoeddus eraill dan do. Ac rwy’n gofyn i bobl yng Nghymru feddwl yn ofalus ynglŷn â ble rydym yn mynd a chyda phwy rydym yn cyfarfod, oherwydd po fwyaf o lefydd yr awn iddynt, a pho fwyaf o bobl y down i gysylltiad â hwy, y mwyaf yw'r perygl o ddal y coronafeirws a'i ledaenu i eraill.

Lywydd, er mwyn helpu i gryfhau ein hymateb i’r coronafeirws ac i atal argyfwng newydd yng Nghymru, rydym yn cyflwyno mesurau newydd i fod ar waith yn genedlaethol, gan gynnwys yn yr ardaloedd sydd o dan gyfyngiadau lleol. Er mwyn cynorthwyo pobl y gofynnir iddynt hunanynysu, byddwn yn darparu taliad o £500 i gefnogi pobl ar incwm isel, a byddwn yn newid y gyfraith yng Nghymru i atal cyflogwyr rhag ei ​​gwneud yn anodd i weithwyr hunanynysu pan fydd angen iddynt wneud hynny.

Ac ochr yn ochr â gwledydd eraill y DU, byddwn yn cyflwyno camau wedi'u targedu yn y sector lletygarwch. Mae’r rhan fwyaf o fusnesau lletygarwch wedi gwneud newidiadau i'w hadeiladau ac wedi cyflwyno protocolau newydd i ddiogelu cwsmeriaid a staff. Ac rwy’n hynod ddiolchgar am yr holl ymdrechion y maent wedi’u gwneud i gydymffurfio â’r gofynion cyfreithiol sydd gennym yma yng Nghymru. Yn anffodus, rydym wedi gweld rhai enghreifftiau prin o arferion gwael, ac rwy’n falch iawn o weld awdurdodau lleol yn rhoi camau gorfodi ar waith pan fo’r rheoliadau’n cael eu torri. Rydym yn gofyn i'r sector lletygarwch fynd ymhellach yn awr. O 6 p.m. yfory, bydd yn rhaid i fusnesau lletygarwch yng Nghymru, gan gynnwys tafarndai, caffis, bwytai a chasinos, roi'r gorau i werthu alcohol am 10 p.m. Bydd yn rhaid iddynt hefyd ddarparu gwasanaeth wrth y bwrdd yn unig. Bydd yn rhaid i siopau diodydd trwyddedig, gan gynnwys archfarchnadoedd, roi'r gorau i werthu alcohol am 10 o'r gloch yr hwyr.

Lywydd, hoffwn achub ar y cyfle hwn hefyd i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am gyfarfod a gynhaliais ddoe gydag arweinwyr yr awdurdodau lleol ledled de Cymru, ynghyd â'r GIG, yr heddlu, a’r comisiynwyr heddlu a throseddu. Buom yn trafod y cyfyngiadau lleol sydd eisoes ar waith, eu heffaith ar awdurdodau cyfagos ac a ddylid ymestyn y cyfyngiadau lleol hynny i ardaloedd cynghorau lleol eraill. Cytunwyd fod angen inni allu gweithredu'n gyflym a rhoi camau ataliol ar waith lle bo modd, ond hefyd, fod yn rhaid i hyn fod yn gymesur â'r risg. Dim ond lle mae'n gymesur inni wneud hynny y dylem roi cyfyngiadau newydd ar fywydau a bywoliaeth pobl. Lywydd, cytunodd yr holl bartneriaid fod ein dull partneriaeth yng Nghymru yn hollbwysig wrth ymateb i'r feirws—addysgu, hysbysu ac yna gorfodaeth gadarn lle mae hynny'n angenrheidiol.

Mae 2020 wedi bod yn flwyddyn anhygoel o anodd i gynifer o bobl yng Nghymru, ond rydym wedi llwyddo orau pan fyddwn wedi gweithredu gyda'n gilydd i ddiogelu ein teuluoedd ac i edrych ar ôl ar ein cymdogion. Nawr, mae angen i bob un ohonom wneud hynny gyda'n gilydd unwaith eto. Mae angen i bawb yng Nghymru gadw at y rheolau, gweithredu yn unol â'r canllawiau a chymryd y camau hynny i ddiogelu ein hunain a'n hanwyliaid. Gyda'n gilydd, gallwn barhau i gadw Cymru’n ddiogel. Lywydd. diolch yn fawr.

13:40

Diolch, Brif Weinidog, am eich datganiad y prynhawn yma. Mae’n rhaid imi ddweud fy mod yn gresynu'n fawr nad oeddech mewn sefyllfa i wneud y datganiad hwn ddoe cyn eich darllediad ar y teledu, fel y Prif Weinidogion eraill ledled y DU a siaradodd â'u Seneddau. Ac rwy'n gobeithio y byddwch yn ymddiheuro am yr anghwrteisi hwnnw, gan i’r BBC gynnwys stori am 6 o’r gloch, er mai am 5.30 p.m. y cafodd yr Aelodau wybod, nad oedd y Llywodraeth wedi gwneud unrhyw benderfyniad, a dywedwyd wrthym ychydig cyn 8 o’r gloch. Mae angen inni fynd yn ôl at weld democratiaeth seneddol yn gweithio yma, lle mae'r Senedd yn dadlau ac yn trafod y rheoliadau hyn ac yna'n pleidleisio arnynt, a chredaf fod angen i chi ymddiheuro heddiw, gan fod ddoe yn weithred warthus ar eich rhan, yn peidio â dod gerbron y Cynulliad a thrafod y peth mewn modd a fyddai’n addas i Senedd genedlaethol.

A gaf fi ofyn i chi hefyd am y llinell amser chwe mis y mae Prif Weinidog y DU, yr Alban a Gogledd Iwerddon wedi sôn amdani? A yw'n llinell amser ar gyfer y cyfyngiadau hyn ac yn ffordd rydych chi ac arweinwyr eraill mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig yn cytuno â hi o edrych ymlaen at yr adeg pan allem weld rhywfaint o seibiant rhag y feirws, neu a oes gennych farn wahanol?

A gaf fi ofyn hefyd pam nad ydych wedi ailddechrau'r trefniadau gwarchod, o ystyried y cynnydd yn nifer yr achosion o'r feirws mewn rhai rhannau o Gymru, a pha fesurau sydd wedi'u rhoi ar waith i ddiogelu cartrefi gofal, o ystyried y cynnydd yn nifer yr achosion o'r feirws?

Hoffwn hefyd geisio deall y wyddoniaeth y tu ôl i'r terfyn amser o 10 o'r gloch ar gyfer gweini alcohol mewn adeilad trwyddedig yn hytrach na chau adeilad trwyddedig am 10 o'r gloch. Mae hyn, yn amlwg, yn wahanol i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig, ac nid oes unrhyw beth i atal rhywun rhag archebu rownd fawr o ddiodydd am ddwy funud i 10 ac aros mewn adeilad trwyddedig i yfed y diodydd hynny. Felly, hoffwn ddeall y wyddoniaeth a'r cyngor rydych wedi'i gael am y gwahaniaeth hwnnw yn y dehongliad o'r terfyn amser o 10 p.m. yma yng Nghymru.

Hefyd, a allech gadarnhau p'un a ofynnwyd am unrhyw bwerau neu reoliadau ychwanegol yn y cyfarfod amlasiantaethol a gadeiriwyd gennych ddoe ar gyfer y sefydliadau partner rydych yn gweithio gyda hwy o bob rhan o Gymru? Ac yn bwysig, a allech ailddatgan fod y GIG yn weithredol yma yng Nghymru, a’i bod yn hanfodol fod pobl, pan fydd angen iddynt geisio cymorth a chefnogaeth ychwanegol gan y GIG, yn rhyngweithio â'r gwasanaeth, ac yn y pen draw, y dylem fod yn newid i ysbytai nad ydynt yn canolbwyntio cymaint ar COVID fel y gall llawdriniaethau ddechrau ar raddfa fawr ac fel y gallwn ddechrau mynd i'r afael â rhai o'r amseroedd aros erchyll sydd wedi cronni dros fisoedd yr haf? Yn gynharach yn yr wythnos, soniais fod dirywiad o 60 y cant wedi bod yn nifer y llawdriniaethau dros y chwe mis ers y cyfnod cyntaf o gyfyngiadau symud cenedlaethol, ac rwy'n gobeithio y byddwch yn cytuno â mi ei bod yn hanfodol bwysig ein bod yn dechrau mynd i'r afael â phryderon pobl ynglŷn â mynediad a gwasanaethau o fewn y GIG yng Nghymru.

A fy mhwynt olaf i chi, Brif Weinidog, wrth i fyfyrwyr ddychwelyd i brifysgolion, colegau addysg bellach a chyfleusterau eraill ledled Cymru, mae'n hanfodol fod prifysgolion yn gwarchod ac yn diogelu iechyd meddwl myfyrwyr, gan y bydd llawer o bobl ifanc yn gadael cartref am y tro cyntaf yn yr hyn a fyddai fel arfer yn achos dathlu ac yn dipyn o antur, ond gyda llawer o'r rheoliadau, mae risg wirioneddol o unigedd ar y campws os na roddir cymorth ar waith. A byddwn yn falch o ddeall pa ymgysylltiad y mae'r sector yn ei gael â Llywodraeth Cymru i sicrhau nad yw myfyrwyr yn torri rhai o'r rheoliadau a roddir ar waith i'w diogelu hwy yn ogystal â’r cymunedau y mae prifysgolion wedi’u lleoli ynddynt. Diolch, Brif Weinidog.

13:45

Lywydd, cododd Andrew R.T. Davies bwynt teg gyda mi ddoe ynglŷn â gwneud datganiad i’r Senedd cyn gynted ag y bo modd i mi wneud hynny. Dywedais yn fy ateb iddo bryd hynny na allwn warantu y byddai’r holl benderfyniadau angenrheidiol wedi’u gwneud mewn pryd i wneud datganiad o’r fath tra bo’r Senedd yn dal i eistedd ddoe.

Mae'r penderfyniadau a wnawn drwy'r amser yn Llywodraeth Cymru yn benderfyniadau hollbwysig sy'n cael effaith ar fywydau cymaint o'n cyd-ddinasyddion. Roedd y penderfyniadau hynny’n dal i gael eu gwneud yn hwyr neithiwr. Nid wyf yn ymddiheuro am ddod gerbron y Senedd am 1.30 p.m. heddiw, gan mai dyma’r cyfle cyntaf y gallaf adrodd i chi am benderfyniadau a gafodd eu gwneud ddoe, ac a gafodd eu gwneud mewn ymgynghoriad â'n partneriaid a chyda'r difrifoldeb y byddai Aelodau o'r Senedd yn disgwyl inni ei arfer mewn cyfnod anodd a heriol dros ben.

Wedi dweud hynny, rwy'n fwy na pharod i ymateb i'r pwyntiau eraill y mae Andrew R.T. Davies wedi’u gwneud y prynhawn yma. Rydym yn adolygu ein rheoliadau bob tair wythnos. Nid yw hynny'n wir ym mhob rhan arall o'r Deyrnas Unedig. Golyga hynny ein bod yn gallu gweithredu'n gyflym ac yn hyblyg wrth i amgylchiadau newid. Er fy mod yn ofni y bydd nifer o'r mesurau cenedlaethol y bu'n rhaid inni eu rhoi ar waith yn para am rai wythnosau neu fisoedd hyd yn oed o bosibl, nid wyf am roi terfyn amser artiffisial ar ba mor hir y byddant yn para, gan y byddwn yn eu hadolygu bob tair wythnos a byddwn yn rhoi gwybod bob tair wythnos i'r cyhoedd yng Nghymru ac i'r Senedd i ba raddau y maent yn dal i fod yn angenrheidiol. A phe baem yn y sefyllfa ffodus o allu llacio’r cyfyngiadau hynny ymhen llai na chwe mis, dyna fyddwn i'n hoffi ei weld, a dyna'r ffordd rydym wedi mynd i'r afael â'r mater hwn drwy gydol yr argyfwng a dyna sut rwy’n bwriadu parhau i lywio drwy'r cyfnod anodd hwn.

O ran y boblogaeth sy'n gwarchod, ni chafwyd trafodaeth yng nghyfarfod COBRA ddoe—dim cyngor newydd i unrhyw un o Lywodraethau'r DU ynglŷn ag ailddechrau gwarchod. Mae gwarchod yn gam sy'n gallu achosi niwed yn ogystal â chynnig diogelwch. Gwyddom fod llawer o'r bobl y gwnaethom ofyn iddynt hunanynysu yn y ffordd honno wedi dioddef unigedd ac effaith ar eu hiechyd meddwl a'u lles. Gwn fod Prif Swyddog Meddygol Cymru yn ystyried ysgrifennu eto at yr holl bobl sy'n parhau i fod ar ein rhestr warchod yng Nghymru i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt ynglŷn â'r sefyllfa bresennol a rhoi cyngor pellach iddynt. Ond nid yw dychwelyd yn gyfan gwbl i'r sefyllfa a oedd gennym yn gynharach yn y flwyddyn o dan ystyriaeth ar hyn o bryd mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig hyd y gwn i. Byddwn yn parhau i adolygu hynny’n ofalus iawn hefyd.

O ran y terfyn amser o 10 o’r gloch, cefais fy nylanwadu yn y trafodaethau, a aeth rhagddynt tan yn hwyr y nos, fel y dywedais, gan wybodaeth roeddwn yn ei chael o'r sector lletygarwch, yn enwedig y bwytai sydd wedi gweithio’n galed i roi model busnes ar waith yng Nghymru lle gallant gael dau grŵp o bobl mewn bwyty gyda'r nos: y grŵp cyntaf am 7 o'r gloch yr hwyr, seibiant ar gyfer y gwaith glanhau a’r mesurau diogelwch coronafeirws angenrheidiol, ac yna set arall o bobl sy'n dod i'r bwyty rhwng 8.30 a 9 o'r gloch yr hwyr. Gallem fod wedi cael sefyllfa yng Nghymru lle byddai gofyn i holl bobl adael am 10 o'r gloch a sefyll ar y palmant. Credaf y byddai hynny wedi achosi niwed gwirioneddol i'r model busnes y mae pobl wedi gweithio mor galed i'w roi ar waith.

A phob tro y gwnawn y penderfyniadau hyn, rydym yn cydbwyso anghenion pobl yn y byd busnes ac mewn gwaith â'r angen i ddiogelu iechyd y cyhoedd. Credaf fod y sector wedi hen arfer â pheidio â chaniatáu i bobl ymddwyn yn anghyfrifol yn yr ychydig funudau cyn iddynt gau am 10 o'r gloch. Bydd ein system yn caniatáu i bobl orffen eu diodydd, gorffen eu bwyd, dod â'u noson i ben a gwneud eu ffordd adref. Dyna'r ffordd y mae’r rhan fwyaf o bobl sy'n mynd allan am noson yma yng Nghymru yn ymddwyn yn barod. Nid oeddwn yn dymuno gwneud eu bywydau’n anoddach wrth inni barhau i fynd i’r afael â’r lleiafrif o bobl yng Nghymru sydd, wrth i'r noson fynd yn ei blaen, wedi bod yn yfed alcohol i'r fath raddau fel na allant gofio ble maent wedi bod, a phwy y maent wedi'u cyfarfod, ac sydd, drwy hynny, yn achosi effaith gwbl anghymesur ar eraill.

Yn ein cyfarfod neithiwr, buom yn trafod, wrth gwrs, a oedd angen dull rhanbarthol yng Nghymru bellach. Roedd yn gyfarfod defnyddiol iawn; roeddwn yn ddiolchgar iawn i'r holl asiantaethau a roddodd amser i'w fynychu. Fel y dywedais yn fy natganiad, Lywydd, y farn gyffredinol oedd nad ydym wedi cyrraedd y pwynt hwnnw eto, fod gan yr awdurdodau lleol fesurau lleol y gallant eu rhoi ar waith ochr yn ochr â'r mesurau cenedlaethol newydd a amlinellais yn fy natganiad i'r Aelodau. Ond roedd y pwyslais hefyd ar yr angen inni gadw llygad ar y ffigurau, gan roi camau ar waith ar unwaith os oes angen, ac os bydd angen camau pellach i ddiogelu iechyd y cyhoedd, ni fyddwn yn oedi rhag eu cymryd.

Gadewch i mi gadarnhau'r pwyntiau pwysig a wnaeth Andrew R.T. Davies ynglŷn â’r GIG yn parhau ar agor. Mae cymaint o waith caled wedi’i wneud yn y GIG i greu mannau diogel rhag COVID-19, i roi mesurau diogelwch newydd ar waith fel y gall pobl sydd angen triniaethau ar gyfer cyflyrau eraill deimlo’n hyderus wrth ddod i’w cael, a dyna’n sicr yw’r neges gan y GIG yng Nghymru. Os oes angen triniaeth arnoch, cofiwch fod y GIG yn dal yno i chi yng Nghymru.

Yn olaf, ar bwynt Andrew R.T. Davies ynglŷn â myfyrwyr, mae'n llygad ei le; pan fo pobl 18 oed yn mynd i'r brifysgol, mae'n antur wych yn eu bywydau. Yn anffodus, bydd yr antur honno'n wahanol iawn eleni. Rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'r holl sefydliadau addysg uwch yma yng Nghymru i sicrhau y bydd y myfyrwyr sy'n dod o rannau eraill o'r Deyrnas Unedig ac o dramor yn dal i gael profiad cystal ag y gallwn ei roi iddynt, er bod angen iddynt hwythau chwarae eu rhan yn cadw eu hunain yn ddiogel a pheidio â chreu risgiau diangen i bobl eraill yn yr ardaloedd y byddant yn byw ynddynt, ac yn anochel, bydd ganddynt eu pryderon eu hunain ynghylch yr hyn a allai ddigwydd yn y dyfodol.

13:50

Rwy'n croesawu'r cyfle hwn i drafod y mesurau ar gyfer Cymru gyfan a gyhoeddwyd ddoe gan y Prif Weinidog. Fodd bynnag, hoffwn innau gofnodi pa mor annerbyniol yw’r ffaith na chawsom gyfle i wneud hyn ddoe. Mae'r Senedd wedi cael ei gwthio i'r cyrion dro ar ôl tro o blaid llywodraethu drwy friffiau i'r wasg. Nid oedd yn wir, fel y dywedwyd wrthych, Lywydd, na allem drafod hyn neithiwr gan nad oedd y Prif Weinidog wedi penderfynu bryd hynny, oherwydd o fewn munudau yn llythrennol i adael y Siambr ar ôl i'r trafodion ddod i ben, dywedwyd wrthyf mewn cryn fanylder gan y BBC beth oedd y Llywodraeth wedi'i benderfynu. Yn ogystal â dangos diffyg parch tuag atoch chi, Lywydd, mae hyn yn tanseilio'r sefydliad hwn a'n rolau fel Aelodau etholedig, mae'n atal craffu democrataidd priodol ac mae'n erydu hyder. Ac os yw'r Prif Weinidog am ddadlau’n groes, efallai y gall ddweud wrthym pa bryd y recordiodd y neges a recordiwyd ymlaen llaw a ddarlledwyd wedyn i'r genedl.

Gan droi at gynnwys y cyhoeddiad, rwy'n cytuno'n llwyr â'r Prif Weinidog pan ddywed fod posibilrwydd gwirioneddol fod yn rhaid i bob un ohonom fod o ddifrif ynglŷn â'r ffaith y gallai’r feirws ailgydio unwaith eto yn ein cymunedau yng Nghymru. Ymddengys i ni, fodd bynnag, yn y cyhoeddiad neithiwr o leiaf, fod y Llywodraeth yn anghytuno â'r cyngor a roddwyd i Weinidogion gan y gell cyngor technegol, sy'n nodi yn eu hadroddiad diweddaraf a gyhoeddwyd ddoe y gall ymateb cynharach a mwy cynhwysfawr atal cyfnodau hir o gyfyngiadau symud. Ac mae'r dystiolaeth sydd ger ein bron, y rheswm pam ein bod yn cael y datganiad hwn, yn awgrymu nad yw'r ymateb hyd yma wedi bod yn gynnar nac yn gynhwysfawr. Fel y dywed cyn brif swyddog meddygol Cymru heddiw, mae’r don gynyddol o achosion yng Nghymru yn awgrymu efallai nad yw’r ymateb yng Nghymru wedi bod yn ddigon gofalus. Roedd gennych system goleuadau traffig, Brif Weinidog, ond mae'n edrych fel pe bai'r goleuadau wedi diffodd. Nid oedd unrhyw sôn am y system goleuadau traffig honno na'r map ffordd yn y datganiad ddoe. Ac os ydym am gymryd beirniadaeth y Fonesig Deirdre Hine o ddifrif, fel y dylem yn sicr, ni allwn fod yn llugoer wrth ymateb i ail don lawn o COVID mewn llawer o’n cymunedau, ac ni allwn ychwaith gael dull un maint addas i bawb o weithredu, gan nad yw hynny’n ystyried y map COVID dargyfeiriol o Gymru, fel y dywedasoch.

Lle mae angen mesurau arbennig, mae angen iddynt greu gwahaniaeth, nid pennawd. Arweiniodd yr amser cau o 10 p.m. ar gyfer tafarndai a bwytai a gyflwynwyd yn Antwerp i fynd i'r afael â chynnydd graddol mewn achosion o’r coronafeirws at ostyngiad parhaus ym mis Awst, ond fe’i cyflwynwyd ochr yn ochr â chyrffyw cyflawn, cyfyngiadau symud dros nos i bob pwrpas, o 11 p.m. ymlaen. Beth yw'r dystiolaeth y bydd y mesur a gyhoeddwyd neithiwr ar gyfer Cymru gyfan yn cael yr effaith rydych yn dymuno’i gweld? Lle mae gennym gyfyngiadau lleol ar waith yng Nghymru, dylem yn sicr fynd ymhellach—ymhellach o lawer—drwy gau tafarndai a chlybiau dros dro, neu'n gynharach o leiaf, gyda chymorth cysylltiedig sector benodol. Ac yn yr ardaloedd hyn, dylid cyfyngu ar werthiant alcohol mewn siopau diodydd trwyddedig yn gynharach o lawer, i 6 p.m. neu 7 p.m., sef yr hwyraf y gellir prynu alcohol mewn siopau diodydd trwyddedig yn Sweden.

Nid yw'r canllawiau ar deithio yn glir nac yn gyson ar hyn o bryd. Ar raglen Today y bore yma, dywedasoch nad oeddech yn atal pobl rhag mynd ar wyliau, ond mai'r apêl gyffredinol yw i bobl beidio â gwneud siwrneiau nad ydynt yn hanfodol. Sut y mae eu diffinio? A all pobl ymweld â'u teulu, gyrru i fannau prydferth, i'r dafarn, neu deithio yn y car i chwarae rownd o golff? Mae'n ben-blwydd arnaf heddiw, Brif Weinidog, ac roeddwn yn bwriadu mynd gyda fy mhartner i fwyty lleol—a ddylwn i ganslo nawr? Dyma'r cwestiynau y mae pobl yn eu gofyn i’w hunain ledled Cymru. Yn amlwg, mae'n gwneud synnwyr i roi'r gorau i deithio o ardaloedd risg uchel, ond mae'n rhaid i hynny gynnwys ardaloedd nad ydynt yng Nghymru. Ni allwch fynd i Ddinbych-y-pysgod o Flaenau Gwent, ond gallwch fynd yno o Bolton.

Nawr, mae cyfyngiadau symud cenedlaethol yn rhywbeth y dylai pob un ohonom fod yn awyddus i’w hosgoi. Os oes ffenestr, mae'n rhaid i ni fanteisio arni nawr, yn ddi-oed a chyda chamau llym wedi’u targedu, wedi’u hategu gan strategaeth gyfathrebu gynhwysfawr, a ddylai gynnwys adfer cynadleddau newyddion dyddiol. Dylai Gweinidogion fabwysiadu'r dull Gwyddelig clir ond addasadwy, sy'n cynnwys cymhwyso pum lefel ar sail leol. Mae'n bryd troi'r system goleuadau traffig honno yn ôl ymlaen, Brif Weinidog, cyn y bydd Cymru gyfan yn fflachio'n goch unwaith eto.

13:55

Wel, Lywydd, fe welaf a oes unrhyw beth yn yr hyn y mae'r Aelod wedi'i ddweud y gallaf ymateb yn gadarnhaol iddo. Rwy’n gwadu unrhyw ddiffyg parch yn llwyr. Mae'r Llywodraeth hon wedi ateb cwestiynau ar lawr y Senedd drwy gydol argyfwng y coronafeirws, gan gynnwys drwy gydol y toriad. Rydym wedi bod ar gael i'r Senedd hon i raddau mwy nag unrhyw Senedd arall yn y Deyrnas Unedig o ran eu gallu i holi’r Gweinidogion sy'n gyfrifol yn y gwahanol fforymau democrataidd hynny. Buom yn gwneud penderfyniadau yma, fel y dywedais, hyd nes yn hwyr neithiwr. Nid wyf yn gyfrifol am yr amser y mae'r BBC yn mynnu bod deunydd yn cael ei ddarparu iddynt; nid yw hwnnw'n benderfyniad rwy'n ei wneud, mae'n benderfyniad y mae darlledwyr yn ei wneud oherwydd eu rhwymedigaethau amserlennu, a gwnaethom wthio hynny i'r eithaf er mwyn ceisio gwneud penderfyniadau yn y ffordd y credaf fod angen eu gwneud yng Nghymru. Ac rwy’n falch iawn o fod yma y prynhawn yma, ar y cyfle cyntaf, yn ateb cwestiynau’r Aelodau.

O ran gweddill cyfraniad Adam Price, nid wyf yn hollol siŵr beth i'w wneud ohono, Lywydd. Gofynnodd imi ddilyn cyngor prif swyddog meddygol a oedd yn brif swyddog meddygol 20 mlynedd yn ôl pan fo gennyf brif swyddog meddygol yma heddiw y gallaf gael ei gyngor a gwneud fy ngorau i'w ddilyn.

Mae'n cwyno am bobl yn clywed pethau mewn cynadleddau newyddion yn hytrach nag yn y Senedd, ac yna'n fy annog i ailgyflwyno cynadleddau newyddion bob diwrnod o'r wythnos. Dywed nad yw un maint yn addas i bawb, ac yna mae’n fy annog i fynd ymhellach o lawer wrth gyfyngu ar y rhyddid sydd ar gael i bobl yn eu bywydau bob dydd yng Nghymru. Wel, nid wyf yn cytuno ag ef. Ni chredaf ei fod yn cydymffurfio â'r rhwymedigaeth sydd gennym o dan y rheoliadau yng Nghymru i fod yn gymesur ym mhob cam a gymerwn, i bwyso a mesur y risg i iechyd y cyhoedd, ac yna i weithredu mesurau y credwn eu bod yn gymesur â'r risg honno. Dyma pam y bydd gennym ddull gweithredu yng Nghymru sy'n parhau i fod yn ofalus. Sawl gwaith ar lawr y Senedd y mae'r Aelodau wedi fy annog i beidio â bod mor ofalus, i beidio â llusgo ar ôl—fel y mae pobl wedi’i ddweud wrthyf—pan fo rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig wedi mynd ymhellach, gan gynnwys gan arweinydd Plaid Cymru ei hun, pan oedd yn nodi’r Alban fel enghraifft? Mae ein dull gofalus, pwyllog wedi ein rhoi mewn sefyllfa dda. Byddwn yn parhau i fod yn gymesur i’r graddau mwyaf posibl yn y penderfyniadau a wnawn.

Mae'r model Gwyddelig y cyfeiriodd yr Aelod ato, ymhlith ei lu o gyfeiriadau eraill at leoedd nad oes gennyf gyfrifoldeb o gwbl amdanynt, yn Antwerp a Sweden a rhannau eraill o'i brosbectws teithio rhyngwladol—. Yn Iwerddon, maent wedi gorfod adolygu eu model mor aml fel ei bod yn anodd iawn, rwy'n credu, i bobl ddal i fyny â'r newidiadau sy'n cael eu gwneud. Er symlrwydd ac er mwyn galluogi pobl yng Nghymru i gael unrhyw obaith o ddeall y rheolau rydym yn gofyn iddynt gadw atynt, rydym yn ceisio gwneud y newidiadau hynny mor anaml â phosibl. Dyna'r trywydd rydym yn parhau i'w ddilyn yma yng Nghymru, ac mae'r cyhoeddiadau a wnaed ac yr adroddwyd amdanynt i'r Senedd heddiw yn gyson â'r dull hwnnw o weithredu.

14:00

Brif Weinidog, fe ddywedodd Andrew R.T. Davies, yn hael iawn yn fy marn i, ei fod yn gresynu'n arw nad oeddech mewn sefyllfa i wneud y cyhoeddiad i'r Senedd ddoe. Onid y realiti, fel y'i disgrifiwyd gan Adam Price, oedd ei bod yn well gennych beidio â gwneud hynny? Yn hytrach, roedd yn well gennych roi'r cyfweliad a recordiwyd ymlaen llaw, gan ddweud yr hyn rydych newydd ei ddweud yn awr, sef, fwy neu lai yr hyn y gallech fod wedi'i ddweud wrth y Senedd ddoe. Roedd yn well gennych roi'r cyfweliad hwnnw  i'r BBC oherwydd eich bod eisiau gwneud eich cyhoeddiad i'r genedl drwy'r BBC yn hytrach na'r Senedd. Ac os nad yw hynny'n wir, a allwch chi ateb ei gwestiwn ynglŷn â pha bryd yr anfonoch chi'r fideo o'ch araith a recordiwyd ymlaen llaw at y BBC?

Nawr, nid ydych eisiau crybwyll yr amcanestyniad o chwe mis a roddwyd, rwy'n credu, gan Lywodraeth y DU ar gyfer Lloegr, ac onid y rheswm am hynny yw oherwydd bod y cyfyngiadau hyn yn amhenodol i raddau helaeth? Onid yw eich strategaeth i beidio â pharhau i gadw'r economi—a chymdeithas i raddau mwy neu lai—dan gyfyngiadau symud am gyfnod amhenodol, gan atal y feirws i bob golwg, yn gwbl wahanol i'r hyn a ddywedwyd wrthym pan osodwyd y cyfyngiadau symud am y tro cyntaf, sef mai diogelu capasiti yn y GIG oedd y bwriad? A ydych yn bwriadu parhau i wneud hynny hyd nes y ceir brechlyn—os yw'n gweithio, os yw'n ddibynadwy—neu hyd nes y ceir y profion dyddiol ar gost ragamcanol o £100 biliwn? Onid y realiti yw bod costau'r hyn rydych wedi'i wneud yn uwch na'r hyn rydych wedi bod yn ceisio'i gyflawni drwyddynt? Clywsom Andrew R.T. Davies yn dweud bod gostyngiad o 62 y cant wedi bod yn nifer y llawdriniaethau yng Nghymru. Rydym wedi gweld 16,000 yn llai o atgyfeiriadau canser. Yn ôl data Cymru a Lloegr ar gyfer yr wythnosau diwethaf, rydym wedi gweld llawer mwy o bobl yn cyflawni hunanladdiad na'r nifer sy'n marw o COVID. Am ba hyd y mae hyn yn mynd i barhau? Ni allwch roi ateb i ni ar hynny. Ac rydych yn dweud eich bod eisiau dibynnu ar grebwyll pobl, rydych eisiau i bobl fod yn gyfrifol, ond mewn gwirionedd rydych yn dweud pethau wrthynt wedyn—. Rydych yn beirniadu Iwerddon am amrywio pethau fel na all pobl ddal i fyny, ond beth ar y ddaear y credwch sydd wedi bod yn digwydd yma gyda'r niferoedd enfawr o reoliadau a chanllawiau amrywiol, sy'n aml yn anghyson â'i gilydd, yn ogystal â'r gwahaniaethau ymylol iawn yn aml rhyngom a Lloegr, pan fyddai wedi bod yn llawer haws cyfathrebu pe bai dull cyson wedi'i fabwysiadu? Felly, mae gwrthdaro rhwng hynny a dweud, mewn gwirionedd, eich bod eisiau i bobl fod yn gyfrifol. Sut y gall pobl fod yn gyfrifol pan fo'n rhaid iddynt gydymffurfio ag ystod eang o bethau sy'n anodd iawn dal i fyny â hwy, hyd yn oed i'r rhai sy'n canolbwyntio'n galed ar hynny?

Ac yn olaf gennyf fi ar bobl a warchodir, fe ddywedwch y gallai'r prif swyddog meddygol fod yn ysgrifennu at bobl eto. Nid yw'n glir beth y bydd yn ei ddweud wrthynt, ond y realiti yw iddo ddweud wrthynt am barhau i warchod tan 16 Awst ac mae nifer yr achosion o'r feirws bellach yn sylweddol uwch na'r hyn ydoedd bryd hynny. Rwy'n credu eich bod wedi dweud bod y llythyr hwnnw'n rhoi ychydig wythnosau o rybudd i bobl a oedd wedi parhau i warchod tan 16 Awst, a'r rheswm pam y mae'n anodd iawn i bobl warchod eto yn awr yw oherwydd eu bod wedi gorfod parhau i wneud hynny am sawl wythnos pan oedd nifer yr achosion o'r feirws yn isel, ac yn llawer is na'r hyn ydyw ar hyn o bryd. Felly, oni fyddai'n fwy synhwyrol i'r bobl dan sylw farnu drostynt eu hunain ynglŷn â risgiau ac ystyried drostynt eu hunain a ddylent fod yn gwarchod?

14:05

Lywydd, gofynnodd y Prif Weinidog i'r BBC ddoe am amser i annerch y wlad o ystyried y sefyllfa roeddem yn ei hwynebu. Awgrymodd y BBC y dylai arweinydd y Llywodraeth yma yng Nghymru wneud anerchiad tebyg i bobl yng Nghymru. Credaf fod hynny'n deyrnged i'r Senedd ac i ddatganoli: y ffaith bod y BBC yn credu y byddai pobl yng Nghymru, gyda Llywodraeth ein hunain, eisiau clywed gan arweinydd y Llywodraeth. Ac yn bell o fod yn gystadleuaeth rhwng y Senedd a ffyrdd eraill o roi gwybod i'n cyd-ddinasyddion ynglŷn â newidiadau, rwy'n credu o ddifrif y dylai'r Aelodau ei ystyried yn arwydd o'r ffordd y mae datganoli, gwaith y Senedd, y ffaith bod gennym ein democratiaeth ein hunain yma yng Nghymru, wedi bwrw gwraidd yma yng Nghymru, fod y BBC o'r farn mai dyna'r peth iawn i'w wneud. Rwyf wedi dod yma i ateb eich cwestiynau cyn gynted ag y gallwn wneud hynny ac ni welaf fod yn rhaid i mi ymddiheuro am ddim o gwbl yn hynny o beth.

Nid yw'r Aelod wedi deall y sefyllfa mewn perthynas â'r mater o chwe mis. Y rheswm nad wyf yn dweud chwe mis yw oherwydd fy mod eisiau adolygu'r mesurau hyn bob tair wythnos, ac os yw'n bosibl eu codi'n gynt, dyna rwyf eisiau ei wneud. Mae'r gwirionedd fwy neu lai'n gwbl groes i'r hyn y mae'n ei awgrymu: rwyf eisiau codi'r cyfyngiadau ar fywydau pobl cyn gynted ag y gallwn ei wneud yn ddiogel, ac nid wyf eisiau dweud wrth bobl y gallai hynny fod chwe mis i ffwrdd os gellid gwneud hynny'n gynt rhwng yr ymdrechion y gallwn ni i gyd eu gwneud gyda'n gilydd. Dyna fy uchelgais ac mae hynny wedi bod yn wir ers y cychwyn. Rwy'n bryderus iawn bob tro y byddwn yn gwneud penderfyniad i gyfyngu ar ryddid pobl, ac nid ydym ond yn gwneud hynny oherwydd yr amseroedd eithriadol rydym yn byw ynddynt a'r risgiau i eraill. :Po gynharaf y gallwn adfer y rhyddid hwnnw i bobl, gorau oll fydd y sefyllfa yn fy marn i. Dyna'r strategaeth rwy'n ei dilyn ac nid dyna oedd yr Aelod yn ei awgrymu o gwbl.

Mewn ffordd nad wyf yn credu y gall ef ei chydnabod, pwyntiai ei ddau gwestiwn olaf i mi i gyfeiriadau hollol wahanol i'w gilydd. Dechreuodd ar sail y byddwn yn cytuno â hi: mae coronafeirws yn achosi mwy nag un math o niwed ac mae peidio â mynd i gael archwiliad neu driniaeth yn y GIG at ddibenion nad ydynt yn ymwneud â COVID wedi bod yn un o'r mathau o niwed a achoswyd gan y coronafeirws. Fel y dywedais yn fy ateb i Andrew R.T. Davies, mae'r GIG yng Nghymru ar agor i bobl ac rwy'n gobeithio'n fawr y byddant yn ei ddefnyddio. Ar ôl cydnabod bod mwy nag un math o niwed, roedd eisiau i mi ailosod set gyffredinol o gyfyngiadau y gwyddom eu bod wedi achosi niwed i bobl yn ogystal â'r amddiffyniadau roedd y cyfyngiadau hynny'n eu cynnig, ar unigolion a warchodir. Felly, rydym wedi rhoi cyngor i unigolion a warchodir yn unol â'r cyngor a gawsom gan ein prif swyddog meddygol a'r holl brif swyddogion meddygol eraill ledled y Deyrnas Unedig.

Ein cyngor ni o hyd i unigolion a warchodir yw y dylent gymryd gofal arbennig, y dylent ofyn cwestiynau hyd yn oed yn fwy treiddgar i'w hunain ynglŷn â phwy y maent yn eu cyfarfod a lle maent yn mynd, ond ni chredwn ei bod yn gymesur yn awr inni ddweud wrthynt na ddylent adael eu cartrefi i wneud unrhyw ymarfer corff, ac os ydynt yn teimlo'n ddigon hyderus i wneud hynny, gallent fynd, er enghraifft, i gasglu eu presgripsiynau eu hunain, a hynny oherwydd ein bod yn ceisio cydbwyso'r mathau gwahanol o niwed. Mae'r niwed a ddaw o ganlyniad i bobl â chyflyrau iechyd bregus yn cael eu hamlygu i'r coronafeirws yn real iawn. Mae'r niwed a ddaw o ddweud wrth bobl na ddylent byth adael eu cartrefi'n real hefyd, o ran yr effaith ar ymdeimlad y bobl hynny o lesiant ac unigedd. Mae'r cyngor rydym yn ei roi i unigolion a warchodir, ac y gallai'r prif swyddog meddygol fod eisiau ei ailadrodd a'i ddiweddaru mewn unrhyw lythyr newydd y gallai ei anfon, wedi'i gynllunio i gadw cydbwysedd rhwng y pethau hynny, yn yr un modd ag y mae angen cadw cydbwysedd—ac rwy'n cytuno â'r Aelod yn hyn o beth—yn ein cyngor ni i bobl ynglŷn â defnyddio'r GIG hefyd.

14:10

Diolch yn fawr iawn, ac rwy'n croesawu'r ffaith bod y Prif Weinidog wedi dod yma y prynhawn yma i wneud y datganiad hwn. Brif Weinidog, ym Mlaenau Gwent, mae pobl yn deall ac yn cefnogi'r camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hargymell, ond mae'n amlwg fod ganddynt rai cwestiynau. Efallai mai'r cyntaf o'r cwestiynau hynny yw un am y cyfyngiadau teithio, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech egluro pam eich bod yn cyfyngu ar deithio o'r fwrdeistref i rannau eraill o Gymru, ac i ardaloedd eraill. Byddai hynny'n ddefnyddiol iawn.

Rydym hefyd wedi trafod profion droeon yn y Senedd hon yn ystod yr wythnosau a'r misoedd diwethaf, ac roedd y Gweinidog iechyd yn glir iawn ddoe y bydd adnoddau pellach yn cael eu rhoi tuag at brofi ar hyn o bryd. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu sut y gwelwch unedau symudol neu gyfleusterau profi galw i mewn yn cael eu datblygu mewn ardaloedd lle ceir y cyfyngiadau ychwanegol hyn.

Ac roeddech yn cyfeirio at orfodaeth yn eich datganiad: mae'n hanfodol bwysig fod y cyfyngiadau hyn yn cael eu gorfodi'n briodol. A yw'n bosibl cael mwy o adnoddau gan Lywodraeth Cymru i alluogi a helpu llywodraeth leol gyda gorfodaeth, fel y gallwn sicrhau bod pawb yn chwarae'n deg a bod pawb yn gyfartal yma? Oherwydd credaf fod pobl wedi cael chwe mis o gyfyngiadau ar eu bywydau bellach, ac maent eisiau teimlo bod pawb yn gwneud eu rhan.

Ac yn olaf, Brif Weinidog, hoffai pobl wybod pa bryd y bwriadwch adolygu'r cyfyngiadau a'r rheoliadau hyn, fel y gall pobl edrych ymlaen at ddeall y strwythur y mae'r rheoliadau hyn yn gweithredu ynddo. Diolch.

Lywydd, a gaf fi ddiolch i Alun Davies am yr holl gwestiynau perthnasol iawn hynny, a diolch i'r boblogaeth y mae'n ei chynrychioli yma yn y Senedd am eu hymrwymiad i chwarae eu rhan yn yr ymdrechion sydd eu hangen i atal y feirws hwn ac adfer rheolaeth arno yn ne-ddwyrain Cymru unwaith eto? Lywydd, mae Blaenau Gwent—fel y gŵyr Aelodau—yn un o'r ardaloedd sy'n ddarostyngedig i gyfyngiadau mwy helaeth ar fywydau pobl na gweddill Cymru, ac mae hynny'n gofyn llawer gan bobl, ac nid wyf yn bychanu hynny o gwbl. Mae'r rheolau'n ei gwneud yn ofynnol i bobl beidio â mynd i un o'r ardaloedd bwrdeistref sirol hynny na'i gadael, a hynny er mwyn ceisio atal lledaeniad y feirws hwn. Mae'r feirws yn lledaenu pan fydd pobl yn cyfarfod a phan fydd pobl yn teithio, ac mae ein hymdrechion wedi'u hanelu at gyfyngu'r coronafeirws i ardal ddaearyddol mor fach ag y gallwn ei rheoli, ac mae'r gofyniad mawr i bobl yn yr ardaloedd hynny gyfyngu ar eu teithio ac eithrio at ddibenion a nodwyd yn benodol yn rhan o'r cyfraniad rydym yn gofyn iddynt ei wneud.

Gwelais ffigurau ddoe, Lywydd, sy'n dangos y bu gostyngiad o 8 y cant yn nifer y teithiau a wnaed i Gaerffili ac oddi yno yn ystod yr wythnos gyntaf o gyfyngiadau yn y fwrdeistref sirol honno, ac mae hynny'n dangos y ffordd y mae pobl yn barod i wneud eu rhan, ac rwy'n siŵr y bydd pobl ym Mlaenau Gwent yn barod i wneud hynny ac eisiau gwneud hynny hefyd.

Ar brofi, bydd yr Aelodau wedi clywed gan y Gweinidog iechyd ddoe am y camau rydym yn eu cymryd i gynyddu capasiti yn system Cymru i symud profion i mewn i system Cymru, i ddefnyddio unedau symudol yn y mannau lle mae eu hangen fwyaf, i weld a allwn ddod â mwy o gapasiti symudol i Gymru er mwyn gallu cynnal profion lle mae eu hangen fwyaf. 

Lywydd, a gaf fi gytuno'n llwyr ag Alun Davies ynglŷn â mater gorfodi? Mae'n fater o chwarae teg, fel y dywedodd. Mae'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru eisoes yn cydymffurfio â'r rheolau a'r canllawiau, ac yn gwneud hynny'n gydwybodol. Lle ceir pobl nad ydynt yn deall y rheolau neu sy'n ei chael hi'n anodd eu dilyn, rwy'n llwyr gefnogi'r dull a fabwysiadwyd gan ein heddluoedd a'n hawdurdodau lleol sef addysgu, darparu gwybodaeth a pherswadio yn gyntaf. Ond i'r bobl sy'n torri'r rheolau y mae pawb arall yn eu dilyn, yn gyson yn ymwybodol ac yn fwriadol, mae arnaf ofn ei bod hi'n iawn, ar ran pawb arall sy'n dilyn y rheolau, fod camau gorfodi priodol yn cael eu cymryd. Ddoe, gyda'n cymheiriaid yn yr awdurdod lleol, trafodasom ffyrdd y gallwn eu helpu gydag adnoddau i wella'r broses orfodi. Fe'i gwneuthum yn glir unwaith eto i'n cydweithwyr yn yr heddlu, os oes unrhyw beth pellach y gallem ei wneud i'w cynorthwyo yn y gwaith anodd hwnnw, y byddem yn gwneud hynny. Dewis olaf yw cymryd y camau hynny i ni yng Nghymru, ond lle mae angen y camau hynny, dyna'r camau y byddwn yn eu cymryd.

Ac yn olaf, i ateb y cwestiwn am yr amserlen, bydd y cyfyngiadau symud lleol yn cael eu hadolygu bob pythefnos yn yr ardaloedd hynny; bydd y cyfyngiadau ledled Cymru—y darlun cenedlaethol—yn parhau i gael ei adolygu bob tair wythnos yma yng Nghymru.

14:15

A gaf fi ddiolch i chi am eich datganiad, Brif Weinidog? Mae'n dod ar adeg bryderus iawn i lawer o bobl gyda'r cynnydd diweddar yn nifer yr achosion positif. Rwyf braidd yn bryderus, serch hynny, ynglŷn â rhai o'r manylion yn eich datganiad. Rydych yn cyfeirio at gyfradd bresennol o 46.8 o achosion o heintiau positif ym mhob 100,000 o'r boblogaeth yn eich datganiad, ac eto mae'r data a gyhoeddwyd heddiw gan Iechyd Cyhoeddus Cymru ar eu tudalen Tableau sydd ar gael i'r cyhoedd, yn dweud mai 32.1 achos yn unig ym mhob 100,000 yw'r gyfradd heintio. A gaf fi ofyn pam fod anghysondeb yn y data, ac os yw'n uwch, pam nad yw'r wybodaeth honno ar gael i'r cyhoedd? Rwy'n siŵr y cytunwch â mi fod angen inni gael hyder yn y ffigurau hyn os ydym am annog y cyhoedd i weithio gyda'r awdurdodau cyhoeddus er mwyn cael y canlyniad rydym ei eisiau sef gostyngiad yn y cyfraddau heintio hyn.

A gaf fi ofyn hefyd, ar ran busnesau a thrigolion yn fy etholaeth sy'n dibynnu'n drwm ar dwristiaeth fel rhan o'r economi, pa neges yr hoffech ei hanfon at ymwelwyr posibl â'n cymunedau? Oherwydd fe ddywedoch chi'n glir iawn yn y Senedd ddoe, yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog, eich bod eisiau i bobl wneud yn siŵr fod eu teithiau'n hanfodol mewn gwirionedd. Nawr, rwyf wedi clywed ac wedi derbyn yr hyn rydych wedi'i ddweud wrth Aelodau eraill yn y Siambr hon, ond rwy'n credu ei bod yn ddryslyd iawn i bobl eich bod yn dweud mai dim ond teithiau hanfodol y dylai pobl eu gwneud, ac eto rydym yn caniatáu i bobl a allai fod yn dod o ardaloedd sydd â niferoedd uchel o achosion o'r haint y tu allan i Gymru fynd i rai o'r cymunedau hyn sydd â llawer o bobl hŷn yn byw ynddynt. Felly, pa neges yr hoffech i ni ei chyfleu i fusnesau ac i ymwelwyr?

Lywydd, unwaith eto, a gaf fi ddiolch i Darren Millar am y cwestiynau pwysig hynny? Rwy'n cytuno â'i sylwadau agoriadol fod hwn yn gyfnod pryderus, ac mae arnaf ofn ei fod yn iawn y dylem boeni o ystyried y ffigurau rydym yn eu gweld.

Y ffigur a ddyfynnais, Lywydd—y 46.8 y cant—yw'r ffigur diweddaraf sydd gennyf. Cynigir gwybodaeth reoli i mi sydd ar gael cyn y ffigurau a ddefnyddir yn gyhoeddus, ac maent yn cael eu profi ymhellach cyn iddynt gael eu cyhoeddi, a hynny oherwydd fy mod eisiau rhoi'r wybodaeth orau a mwyaf diweddar sydd gennyf i Aelodau'r Senedd. Mewn rhai ffyrdd, fel y gwn y bydd Darren Millar yn cydnabod, y duedd yw'r peth pwysicaf, yn hytrach na'r nifer absoliwt, ac mae'r duedd ar i fyny yma yng Nghymru. Ddeng niwrnod yn ôl, pan wnaethom y penderfyniad i wneud gorchuddion wyneb yn orfodol mewn siopau a mannau cyhoeddus dan do, roeddem newydd gyrraedd 20 achos ym mhob 100,000 yng Nghymru. Mae arnaf ofn fod y ffigur hwnnw wedi codi ers hynny. Mae cornel de-ddwyrain Cymru wedi effeithio arno. Nid yw'n adlewyrchiad o rai rhannau o Gymru, ond mae'r duedd yn bwysig i'w nodi.

Mae twristiaeth yn fater anodd. Rwyf wedi ei drafod yn uniongyrchol â'r Aelod droeon oherwydd, fel y dywed, mae twristiaeth yn rhan mor bwysig o economi leol yr ardal y mae'n ei chynrychioli yng Nghymru. Y newyddion da yw ein bod wedi cael twristiaid yn dod i Gymru o rannau eraill o'r Deyrnas Unedig ers rhan gyntaf mis Gorffennaf, ac nid oes tystiolaeth fod hynny wedi arwain at gynnydd sydyn yn nifer yr heintiau yn y rhannau o Gymru y mae pobl yn ymweld â hwy amlaf. Yn wir, mae'r coronafeirws yn parhau i fod ar ei isaf yn y lleoedd y mae twristiaid yn ymweld â hwy amlaf. Serch hynny wrth gwrs, rwy'n deall bod pobl leol yn bryderus pan ddaw ymwelwyr o rannau eraill—boed yng Nghymru neu'r tu hwnt—lle mae cyfraddau coronafeirws yn uwch. Felly, mae ein neges yn parhau i fod yr un peth ar hyn o bryd: dewch i Gymru'n ddiogel. Os ydych yn dod i Gymru, gwnewch yn siŵr eich bod yn gwneud yr holl bethau y byddem yn disgwyl i'n cyd-ddinasyddion eu gwneud i gadw eu hunain a phobl eraill yn ddiogel. Drwy wneud hynny, gall pobl fwynhau Cymru a gwneud cyfraniad i economïau lleol ac i swyddi heb greu perygl.

Ddoe, gofynnais i Brif Weinidog y DU adleisio neges yn gofyn i bobl feddwl yn ofalus am deithiau, yn enwedig o'r lleoedd yn Lloegr lle mae coronafeirws hyd yn oed yn fwy cyffredin na'r hyn ydyw yn ne-ddwyrain Cymru. Mae arnaf ofn nad oedd yn fodlon gwneud hynny. Fy neges i bobl yng Nghymru yw nad yw'n ymwneud â rheol; nid yw'n ymwneud â phobl yn ceisio profi ffiniau'r hyn a ganiateir. Nid dyna'r ffordd gywir o feddwl am hyn. Y cyfan rwy'n gofyn i bobl yng Nghymru ei wneud yw meddwl yn ofalus am deithiau y gallant fod yn eu gwneud. Os yw'n bosibl ymweld â bwyty, er enghraifft, neu fynd i dafarn yn agos at adref, mae hynny'n fwy doeth na theithio pellter i wneud yr un peth ymhellach i ffwrdd. Dyna'r cwestiynau rwy'n eu gofyn i bobl mewn ffordd sy'n apelio at eu synnwyr cyffredin, wrth iddynt wneud penderfyniadau y gall pobl eu gwneud yn eu bywydau eu hunain, oherwydd po fwyaf o bobl y down i gysylltiad â hwy a'r pellaf y byddwn yn teithio, y mwyaf yw'r risg. Rwy'n credu bod hwnnw'n argymhelliad syml iawn, ac rwy'n teimlo'n hyderus fod ein cyd-ddinasyddion yng Nghymru yn gallu gwneud penderfyniadau o'r fath yn eu bywydau eu hunain.

14:20

Brif Weinidog, mae'r pandemig wedi cael effaith fawr ar iechyd meddwl pawb, ac mae llawer ohonom wedi goroesi oherwydd bod nifer yr achosion yn gostwng, ac roeddem yn gallu gweld golau ym mhen draw'r twnnel. Rwy'n poeni'n fawr am effaith gaeaf hir ac anodd ar iechyd meddwl pawb, yn enwedig y rhai sy'n cael eu gwahanu oddi wrth gymorth teulu a ffrindiau, a'n GIG a'n staff gofal cymdeithasol.

Fe ddywedoch chi eto heddiw fod coronafeirws yn achosi mwy nag un math o niwed. Pa gamau y byddwch yn eu cymryd i liniaru'r niwed i iechyd meddwl pawb y gaeaf hwn, a pha sicrwydd y gallwch ei roi y bydd pawb sydd angen cymorth gan wasanaethau iechyd meddwl, boed yn bobl ifanc neu'n oedolion, yn cael y cymorth hwnnw? Gwyddom na ddigwyddodd hyn yn y cyfnod cyntaf o'r pandemig hwn.

A gaf fi hefyd ofyn am bobl sy'n byw gyda dementia? Mae ffigurau ofnadwy marwolaethau gormodol ymhlith pobl sy'n byw gyda dementia wedi dangos effaith unigrwydd ac ynysu yn rhan gyntaf y pandemig hwn. Credaf fod angen cynllun clir i liniaru effaith cyfnod nesaf y pandemig ar bobl sy'n byw gyda dementia. Pa gamau a gymerwch i gyflwyno un? Diolch.

Lywydd, diolch i Lynne Neagle am y pwyntiau pwysig hynny, pwyntiau y mae'n eu codi'n rheolaidd iawn ar lawr y Senedd i sicrhau nad oes yr un ohonom yn anghofio am y dimensiwn pwysig hwnnw. Fe fydd yn gwybod ein bod eisoes yn cymryd camau. Mae ein penderfyniad i beidio â chyfyngu ar allu pobl i gyfarfod yn yr awyr agored yn rhan o'n penderfyniad i barhau i ddefnyddio'r wythnosau sydd ar ôl gennym, pan fo'n bosibl gwneud hynny yn ein hinsawdd ni, er mwyn i bobl allu elwa ar y manteision iechyd meddwl a ddaw o wneud hynny. Roeddwn yn falch tu hwnt yr wythnos diwethaf, o ystyried y tywydd gwych a gawsom, nad oedd pobl Cymru yn yr un sefyllfa â phobl dros y ffin, lle ceir cyfyngiadau sylweddol ar allu pobl i fanteisio ar yr awyr agored. Fe fydd yn gwybod hefyd fod ein rheol chwech yn parhau, y tu allan i'r ardaloedd lle ceir cyfyngiadau symud lleol, i ganiatáu i chwech o bobl o'n haelwyd estynedig gyfarfod â'i gilydd. Unwaith eto, mae anghenion iechyd meddwl a lles yr aelwyd estynedig yn gymhelliant pwerus wrth ddod i'r penderfyniad i beidio â chyfyngu'r aelwydydd hynny ymhellach. Er gwaethaf y pryderon gwirioneddol sydd gennym, rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu cynnal y sefyllfa honno'n hirach yma yng Nghymru.

Mae effaith coronafeirws ar iechyd meddwl pobl ifanc wedi bod yn arbennig o bwysig wrth i'r prifysgolion ailddechrau yma yng Nghymru, fel y dywedodd Andrew R.T. Davies yn ei gwestiwn agoriadol. Rydym wedi gweithio'n galed iawn gyda'r sector addysg uwch yma yng Nghymru a chydag Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, sydd, mae'n rhaid i mi ddweud, wedi cyfrannu'n adeiladol tu hwnt i'r gwaith o sicrhau bod lles a llesiant myfyrwyr sy'n dod yn ôl i Gymru neu sy'n dod i Gymru i astudio yn cael eu diogelu'n briodol, er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau ar waith i'r graddau mwyaf sy'n bosibl. Pan ymwelais ag ysgol yma yng Nghaerdydd yr wythnos diwethaf roedd yn galonogol clywed gan staff a myfyrwyr am y ffordd y mae'r buddsoddiad ychwanegol mewn gwasanaethau cwnsela yn ein hysgolion yn sicrhau bod mwy o hynny ar gael i fyfyrwyr yn ein hysgolion y tymor hwn nag ar unrhyw adeg arall yn hanes ein gwasanaeth cwnsela mewn ysgolion.

Yn olaf, i droi at gwestiwn Lynne Neagle ynglŷn â dementia—mater heriol dros ben—mae arnaf ofn nad oes atebion syml ar gael i ni. Rydym yn ei chael hi'n anodd drwy'r amser gyda mater ymweliadau â chartrefi gofal, gan wybod pa mor bwysig ydynt i bobl â dementia yn enwedig, ond gan wybod pa mor agored i niwed yw'r bobl hynny i feirws yn cael ei gludo i amgylchedd sydd wedi'i warchod mor ofalus mewn ffyrdd eraill i ddiogelu iechyd corfforol pobl. Felly, yr hyn rydym yn ei wneud yw gweithio'n agos gyda'r trydydd sector, gyda'n partneriaid yn yr awdurdodau lleol, a'r rheini sy'n cynrychioli barn teuluoedd a phobl sydd â dementia, i sicrhau'r cydbwysedd gorau posibl rhwng diogelu iechyd corfforol y bobl hynny a gwanhau effaith y cyfyngiadau angenrheidiol ar iechyd meddwl a llesiant y boblogaeth honno. Byddai'n dda gennyf pe bai ateb syml i'r broblem, ond gwn nad oes. Mae'n fater o ddeialog gyson a cheisio dod i'r cyfaddawd gorau sy'n bosibl rhwng ein rhwymedigaethau i'r boblogaeth honno, rhwymedigaethau sy'n gwrthdaro'n enbyd.

14:25

Brif Weinidog, mae gennyf ychydig o bwyntiau. Yn gyntaf, roeddwn yn gwerthfawrogi'r anerchiad i'r genedl yn fawr. Credaf ei fod yn garreg filltir bwysig iawn yn ystod y pandemig hwn.

Tybed a allem gael canllawiau cliriach i'r tafarndai a'r clybiau yn ein hetholaethau. Mae llawer ohonynt yn gofyn cwestiynau. Maent yn awyddus iawn i weithredu o fewn y canllawiau ac i weithredu'n ddiogel ar ran eu cymuned. Mae pethau fel gwasanaeth wrth y bwrdd, dartiau, bingo, lleoliad cadeiriau ac yn y blaen yn faterion pwysig iddynt hwy, a chredaf y byddai unrhyw beth sy'n rhoi mwy o eglurder iddynt yn cael ei werthfawrogi'n fawr.

A gaf fi ofyn am y £500? Pan roesom y swm o £500 i weithwyr gofal, fe fyddwch yn gwybod na allem berswadio Llywodraeth y DU i beidio â didynnu treth arno a'i eithrio rhag effeithio ar fudd-daliadau. A fydd wedi'i eithrio'n llwyr o unrhyw un o'r rheini? Os felly, byddai hynny o leiaf yn gam i'w groesawu y tro hwn.

Ac yn olaf, mewn perthynas â'r rhai sy'n gweithio gartref a gweithwyr sy'n gorfod—pa drafodaethau a gafwyd gyda'r undebau llafur ar hyn? Ac a allwch chi roi ychydig mwy o wybodaeth i ni am y gyfraith Gymreig a fyddai'n cael ei chyflwyno i ddiogelu'r gweithwyr sy'n dewis hunanynysu? Gwyddom o brofiad yn y gorffennol fod rhai wedi bod dan bwysau yn yr amgylchiadau hynny i fynd i'r gwaith. Mae hyn nid yn unig yn tanseilio ymdrechion i fynd i'r afael â'r pandemig, ond mae hefyd yn achosi straen a phryder difrifol iawn ymhlith llawer o'n gweithwyr sydd eisiau gwneud y peth iawn. Ac efallai y gallech egluro'r rhan y gallai undebau llafur ei chwarae yn hyn hefyd. Diolch, Brif Weinidog.

14:30

Lywydd, a gaf fi ddiolch i Mick Antoniw am yr hyn a ddywedodd am y wybodaeth y gallasom ei darlledu neithiwr, a'i phwysigrwydd i ddinasyddion Cymru, ond fel y dywedais, rwy'n credu ei bod yn nodi arwyddocâd datganoli ym mywydau pobl yma yng Nghymru? Mae ei gwestiwn am fanylion ar gyfer tafarndai a chlybiau yn dynodi peth o'r cyfyng-gyngor yr atebais rai cwestiynau yn ei gylch y prynhawn yma, ynglŷn â disgwyl y gallwn fod wedi darparu'r holl fanylion hynny, a llawer mwy, tra bod y Senedd yn dal i eistedd ddoe. Rydym wedi treulio'r bore cyfan, a byddwn yn parhau i dreulio mwy o amser eto, yn gweithio gyda'r sectorau hynny er mwyn sicrhau bod gennym yr atebion sydd eu hangen ar y bobl mewn tafarndai a chlybiau a bwytai, ac mewn rhannau eraill o'n heconomi, sydd am wneud y peth iawn. A rhan o'r ffordd rydym wedi gwneud hynny yng Nghymru yw drwy'r dull partneriaeth gymdeithasol, lle rydym yn gweithio gyda phobl i ddod i gasgliadau ac yna'n cyhoeddi'r canlyniadau. A hyd yn oed nawr, nid oes gennyf rai o'r atebion i'r pwyntiau y mae Mick Antoniw wedi'u codi. Ond rwy'n rhoi sicrwydd iddo ein bod yn parhau i weithio gyda'r sector i roi'r holl gymorth y gallwn ei ddarparu i'r bobl sydd am ddilyn y rheolau, sydd am wneud y peth iawn.

Ar y £500, y wybodaeth ddiweddaraf a welais oedd nad oedd Llywodraeth y DU yn bwriadu ei eithrio rhag treth incwm. Rwy'n gresynu at hynny. Credaf fod hwnnw'n benderfyniad arall sy'n gwrth-ddweud, os yw'n wir—ceisio rhoi incwm i bobl fel nad ydynt yn teimlo o dan bwysau i fynd i'r gwaith a mynd ag arian oddi arnynt gyda'r llaw arall. Gadewch inni obeithio nad dyna fydd y canlyniad terfynol. Byddwn yn siarad â Llywodraeth y DU am y mecanweithiau gorau. Bydd Mick Antoniw yn gwybod bod gennym rai manteision yng Nghymru, ac ni wnaethom erioed roi'r gorau i'r gronfa gymdeithasol yma yn y ffordd y gwnaethant droi cefn arni dros y ffin. Defnyddiwyd ein cronfa cymorth dewisol gennym, yn ei etholaeth ei hun i raddau helaeth iawn, yn ôl ym mis Chwefror, i roi'r cymorth gwerth £501,000 y gallasom ei ddarparu i bobl a oedd wedi dioddef llifogydd. A byddwn yn edrych i weld ai'r gronfa cymorth dewisol, sydd wedi gwneud dros 73,600 o daliadau coronafeirws brys i bobl yng Nghymru, gan ddarparu mwy na £4.6 miliwn o gymorth i bobl yn ystod y pandemig hwn, yw'r cyfrwng gorau ar gyfer cael y £500 i bobl cyn gynted â phosibl a chyda chyn lleied o fiwrocratiaeth â phosibl.

Ar weithio gartref, trafodasom hyn y bore yma yn y cyngor partneriaeth gymdeithasol, gyda TUC Cymru a chydweithwyr o'r undebau llafur unigol yn bresennol, ac mae eu cefnogaeth i hynny'n parhau'n bwysig iawn, a byddwn yn gweithio ymhellach gyda hwy i sicrhau bod yr aelodau a chyflogwyr yn deall y rheolau hynny'n iawn. Lywydd, gadewch i mi orffen drwy ddweud fy mod yn credu bod y mwyafrif helaeth o gyflogwyr yng Nghymru wedi gweithio'n galed iawn i ddiogelu eu gweithwyr, ac nid ydynt wedi dymuno eu rhoi o dan bwysau i ddychwelyd i'r gwaith lle gallent weithio'n llwyddiannus o'u cartrefi. Mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, cafwyd enghreifftiau, er enghraifft, lle mae pobl y gofynnwyd iddynt hunanynysu wedi cael eu diswyddo gan eu cyflogwyr. Bydd y rheoliadau y byddwn yn eu rhoi ar waith yng Nghymru yn atal hynny rhag digwydd yma, oherwydd rydym am ei gwneud yn glir ei bod yn ddyletswydd ar gyflogwyr a gweithwyr i hunanynysu pan roddir y cyngor hwnnw iddynt. Rydym am gefnogi'r holl gyflogwyr da yng Nghymru sydd eisoes yn helpu eu gweithwyr i wneud yn union hynny, a lluniwyd ein rheoliadau, fel bob amser, i gefnogi undebau llafur da a chyflogwyr da sydd am wneud y peth iawn. 

14:35
2. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Joyce Watson. 

Cyllideb Hydref 2020

1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cyllideb hydref 2020? OQ55560

Ers dechrau'r pandemig, cafwyd saith cyfarfod pedairochrog rhwng y Gweinidogion cyllid, lle buom yn trafod amrywiaeth o faterion, gan gynnwys yr ymateb cyllidol i'r argyfwng, cyllideb hydref Llywodraeth y DU a'r adolygiad cynhwysfawr o wariant sydd ar y ffordd.

Diolch am eich ateb. Ond ar ddechrau pandemig COVID-19, capiodd Llywodraeth Cymru y cynllun cymhwysedd ar gyfer seibiant ardrethi busnes a hepgor pob safle manwerthu, lletygarwch a hamdden gyda gwerth trethadwy o fwy na £0.5 miliwn. Ac roedd dull wedi'i dargedu o'r fath yn galluogi Llywodraeth Cymru i ychwanegu £100 miliwn at y gronfa cadernid economaidd a helpodd, yn ei thro, i ddiogelu miloedd o swyddi a chefnogi miloedd o fusnesau bach a chanolig eu maint yn ystod y cyfnod hwnnw. Ni ddigwyddodd hynny yn Lloegr, ac nid oes ganddynt gronfa cadernid economaidd gyfatebol, felly roedd llawer o'u busnesau ar eu colled. Felly, a gaf fi ofyn ichi, Weinidog, pan fyddwch yn cael eich cylch o drafodaethau gyda Changhellor y DU, a wnewch chi ofyn iddo fabwysiadu ymateb wedi'i dargedu'n well yng nghyllideb yr hydref er mwyn achub y swyddi a'r busnesau sydd fwyaf mewn perygl mewn cynllun dal popeth, lle mae gennych sefyllfa sydd wedi golygu bod archfarchnadoedd mawr, a welodd eu helw'n cynyddu, wedi elwa ar draul y busnesau llai hynny?

Diolch i Joyce Watson am y cwestiwn hwn ac am ei phryder parhaus ac amlwg am fusnesau bach a chanolig eu maint, yn enwedig, rhaid imi ddweud, yn y rhannau mwy gwledig o Gymru. Ac mae Joyce yn llygad ei lle wrth dynnu sylw at y ffaith bod gan fusnesau yng Nghymru fynediad at y pecyn cymorth mwyaf hael yn unman yn y Deyrnas Unedig. Felly, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi cyhoeddi data yn ddiweddar sy'n dangos bod 34 y cant o fusnesau yng Nghymru wedi elwa o gymorth, o'i gymharu â 21 y cant yn yr Alban a 14 y cant yn Lloegr. Felly, mae hynny'n dangos yn glir y gwerth ychwanegol y mae datganoli wedi'i gyfrannu at yr ymateb i'r argyfwng hwn.

Ac unwaith eto, mae Joyce yn iawn fod arnom angen dull o weithredu sy'n targedu'n llawer gwell yn awr, wrth inni symud i'r cam nesaf o fynd i'r afael â'r argyfwng, gan edrych yn benodol ar y sectorau mewn cymdeithas sydd wedi dioddef yn fawr ac sy'n parhau i ddioddef o ganlyniad i'r argyfwng. Mae lletygarwch a thwristiaeth, er enghraifft, yn amlwg, fel y mae awyrofod—nododd Jack Sargeant y sector hwnnw yn y Siambr ddoe ddiwethaf—ac wrth gwrs, y diwydiant modurol, y diwydiant dur ac yn y blaen—yr holl ddiwydiannau sy'n gwbl hanfodol i Gymru, a'r diwydiannau y mae gennym gyfran uwch ohonynt nag mewn mannau eraill yn y DU. Felly, rwy'n rhoi sicrwydd y byddaf yn parhau i bwyso am ddull wedi'i dargedu'n well wrth inni symud drwy ein hymateb i'r argyfwng.

Weinidog, rwy'n chwilio am fanylion gennych am yr hyn rydych yn ceisio'i sicrhau ar ffurf symiau canlyniadol pellach yn y gyllideb o wariant ar addysg bellach. Mae'n amlwg y bydd addysg bellach yn un o'r sectorau rydym yn dibynnu arno i'n helpu i ymadfer ar ôl COVID, er mai mater i Weinidog arall yw'r pwysau penodol wrth gwrs, ac er mor dda yw ei gael, dim ond yn rhannol y mae'r £23 miliwn a ddaeth o gronfa COVID Llywodraeth Cymru yn gwneud iawn am y toriad o £47 miliwn i'r gyllideb addysg, toriad a achoswyd er mwyn helpu i fwydo'r pot COVID hwnnw, ac nid yw'n adlewyrchu'n llwyr y symiau canlyniadol COVID ychwanegol gan Lywodraeth y DU. A wnewch chi ymrwymo i ddweud yn glir ble y cafwyd symiau canlyniadol ar gyfer addysg bellach o ganlyniad i gyllideb yr hydref, a dweud yn glir hefyd inni allu gweld a yw Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i swm net sydd yr un fath, yn fwy, neu'n llai?

Rwy'n hapus iawn i fod yn hynod dryloyw ynglŷn â'r data ar symiau canlyniadol a gawn gan Lywodraeth y DU. Felly, yn ddiweddar iawn ysgrifennais at y Pwyllgor Cyllid yn rhoi manylion diweddaraf y symiau canlyniadol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael, ac mewn perthynas â'r hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wario. Er hynny, rwy'n gwneud y pwynt, wrth gwrs, nad cangen weinyddol o Lywodraeth y DU yw Llywodraeth Cymru, ac mae'r arian a ddaw o ganlyniad i symiau canlyniadol yn cael ei ddefnyddio mewn perthynas â phwysau penodol ar Gymru a blaenoriaethau a phryderon Cymreig. Ychwanegaf hefyd ein bod wedi gallu negodi cytundeb gyda Thrysorlys y DU y byddem yn cael symiau canlyniadol cyn y cyhoeddiadau a wnaed dros y ffin yn Lloegr. Felly, mae cyfanswm ein symiau canlyniadol hyd yma wedi bod yn £4 biliwn, ond nid ydym yn gwybod eto ar gyfer beth y mae rhan o'r symiau canlyniadol hynny, ac roedd hynny'n rhywbeth y bu'n bosibl i ni ei negodi am ei fod yn ein galluogi ni yng Nghymru i ddarparu cyllid ychwanegol i iechyd, cyllid ychwanegol i lywodraeth leol, i roi sicrwydd iddynt a'u galluogi i gynllunio, yn hytrach nag aros am bob cyhoeddiad bach gan Lywodraeth y DU. Felly, mae hynny wedi bod yn enghraifft dda iawn o weithio da rhwng Llywodraeth Cymru a Thrysorlys EM, er fy mod yn credu bod cryn dipyn o ffordd i fynd eto i gael yr hyblygrwydd a geisiwn.

14:40

Weinidog, mae 2020 wedi amlygu pa mor agored i niwed yw ein heconomi mewn gwirionedd—agored i COVID ac agored i hinsawdd sy'n newid. Nid ydym yn barod o gwbl ar gyfer ymdopi â'r fath sioc i'n systemau. Pa drafodaethau a gawsoch gyda chydweithwyr ar draws y pedair gwlad ynglŷn â sicrhau bod cyllid yn mynd tuag at liniaru risgiau pandemig yn y dyfodol a'r heriau sy'n ein hwynebu yn sgil newid yn yr hinsawdd?

Rwy'n ddiolchgar iawn i Caroline am nodi, er inni fod yn ymdrin â phandemig sydd wedi mynnu ein holl sylw mewn cynifer o ffyrdd, nad yw problem enfawr newid yn yr hinsawdd wedi diflannu, ac yn sicr, rhaid inni barhau i fynd i'r afael â'r broblem honno. Felly, wrth inni barhau i fynd i'r afael â phen acíwt y pandemig, rydym yn rhoi cryn dipyn o ffocws hefyd ar edrych ymlaen at yr adferiad a'r ailadeiladu. Ac mae'r trafodaethau rydym yn eu cael ar draws y Llywodraeth wedi'u fframio'n bendant gan ein Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, ond gyda ffocws penodol ar sut y gallwn greu adferiad gwyrdd a theg.

Gwn fod Jeremy Miles wedi bod yn gweithio'n galed iawn dros yr haf yn ymgysylltu â rhanddeiliaid ym mhob agwedd ar fywyd yng Nghymru i ddeall yn well y pryderon a'r syniadau sydd i'w cael, a bydd yn sôn mwy am y camau penodol y byddwn yn eu cymryd tuag at yr adferiad hwnnw maes o law. Ond gallaf roi sicrwydd i chi fod yr agenda datgarboneiddio, yr agenda werdd, yn ganolog i hynny.

Llywodraethiant Prosiectau Cyhoeddus

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am lywodraethiant prosiectau cyhoeddus a gaiff eu hariannu gan Lywodraeth Cymru? OQ55573

Arfarnu, rheolaeth a sicrwydd cadarn yw egwyddorion llywodraethu craidd y prosiectau a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn cynnwys asesu a rheoli'r risgiau a achosir i'r prosiect, sy'n seiliedig ar fecanwaith adolygu annibynnol o berfformiad y prosiectau ar gyfnodau allweddol yn eu cylch bywyd.

Wel, diolch i chi am yr ateb, ond mi fyddwch chi, wrth gwrs, yn ymwybodol o adroddiad Archwilio Cymru i waith adnewyddu yn Ysbyty Glan Clwyd yn ddiweddar. Roedd e'n waith a aeth £60 miliwn dros gyllideb. Nawr, mae yna gerydd amlwg i'r bwrdd iechyd yn yr adroddiad hwnnw, ond dyw Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, ddim yn dod allan ohoni'n dda chwaith. Mae'r adroddiad yn feirniadol iawn o'r trefniadau llywodraethiant, ac er gwaethaf bod pryderon clir wedi'u mynegi am y cynllun busnes, ac nad oedd yr achos busnes yn ddigon cryf—er gwaethaf hynny, fe gafodd y cynllun ei gymeradwyo beth bynnag. 

Nawr, pe byddai'r Llywodraeth a'r bwrdd iechyd, wrth gwrs, wedi dilyn y rheolau o gael cynllun busnes clir cyn cymeradwyo'r project, yna mae yna le i gredu y byddai'r cynllun efallai ddim wedi gorwario i'r graddau y gwnaeth e. Felly, fy nghwestiwn i, Weinidog, yw: pwy sy'n cymryd y cyfrifoldeb am y methiant yna?

Mae Llyr Gruffydd yn iawn i dynnu sylw at adroddiad beirniadol gan Swyddfa Archwilio Cymru. Ond mae'n bwysig cydnabod ar yr un pryd fod Llywodraeth Cymru eisoes wedi cymryd camau i wella ei threfniadau ar gyfer cymeradwyo achosion busnes cyn i'r problemau ariannu yn Ysbyty Glan Clwyd ddod i'r amlwg. Ac mae gwelliannau pellach ym mhrosesau Llywodraeth Cymru wedi'u hymgorffori, gan adlewyrchu canlyniadau'r adolygiad o'r prosiect.

Felly, nododd gwaith archwilio mewnol pellach a wnaeth Llywodraeth Cymru yn 2014 nad oedd unrhyw dystiolaeth i awgrymu nad oedd yr ystadau a chyfleusterau cyfalaf yn cyflawni eu swyddogaeth o ran monitro'r prosiect, ac mae'n bwysig iawn cydnabod hefyd fod Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn 2017, wedi cyhoeddi adroddiad o'r enw 'Gweithredu Deddf Cyllid y GIG (Cymru) 2014' , ac yn yr adroddiad hwnnw, cydnabuwyd y camau a roddwyd ar waith yn Llywodraeth Cymru, a'r camau a gymerwyd gan dîm ystadau a chyfleusterau cyfalaf y GIG i gryfhau ei adolygiad o brosiectau cyfalaf yn sylweddol. A dywedodd yr adroddiad fod cryn dipyn o wersi ac arferion da y gellir eu dysgu o'r dull o weithredu a fabwysiadwyd yn rhaglen gyfalaf y GIG Llywodraeth Cymru. Felly, er y byddwn yn llwyr gydnabod y materion y tynnwyd sylw atynt yn yr adroddiad, credaf ei bod hefyd yn bwysig cydnabod y cynnydd a'r gwelliant sydd wedi digwydd ers hynny.

14:45

Yn anffodus, Weinidog, nid un waith y digwyddodd hyn oherwydd mae swyddfa archwilio Cymru wedi tynnu sylw dro ar ôl tro at feysydd gwariant cyhoeddus lle roedd yr arian naill ai'n cael ei wastraffu neu ei fod wedi methu sicrhau canlyniad a nodwyd? Felly, gallwn gyfeirio, er enghraifft, at y grant datblygu gwledig neu Cymunedau yn Gyntaf—mae'r rheini'n ddau sy'n dod i'r meddwl ar unwaith. Nawr, rwy'n deall ac yn derbyn mai mater i Weinidogion unigol yw penderfynu ar eu portffolios gwario, ond o'ch rhan chi, fel Gweinidog cyllid, onid eich rôl chi yw sicrhau bod gwerth am arian yn cael ei gyflawni ac nad yw arian cyhoeddus yn cael ei wastraffu? Felly, os gwelwch yn dda, a allech amlinellu'r rôl rydych chi'n ei chwarae yn sicrhau bod deiliaid portffolios yn gwario eu cyllidebau'n briodol ac yn gyfrifol, a sut rydych chi a'ch adran yn helpu i lywio'r llong honno'n ôl i'r cyfeiriad cywir os gwelwch nad ydynt yn gwneud hynny?

Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfle hwn i dynnu sylw at rywfaint o'r gwaith y buom yn ei wneud yng nghyd-destun COVID i sicrhau gwerth am arian a fforddiadwyedd ym mhob cynnig a gyflwynwyd drwy gronfa wrth gefn COVID-19, sef wrth gwrs, y cyllid sy'n sail i bopeth y buom yn ei wneud i ymateb i'r argyfwng. Felly, bob dydd ar ddechrau'r argyfwng, deuthum â thîm at ei gilydd i edrych ar bob cais unigol a gâi ei gyflwyno gan gyd-Aelodau ar draws Llywodraeth Cymru—felly, cyllid ychwanegol i'r GIG, cyllid ar gyfer prydau ysgol am ddim, cyllid i gefnogi awdurdodau lleol a oedd yn colli incwm. Daeth pob cais unigol a oedd yn gysylltiedig â'n hymateb i COVID drwy'r grŵp penodol hwnnw, lle rydym yn darparu'r haen ychwanegol honno o sicrwydd a'r haen ychwanegol honno o graffu cadarn i sicrhau ein bod yn gwneud penderfyniadau sydd â gwerth am arian, a fforddiadwyedd hefyd wrth gwrs, yn ganolog iddynt.

Felly, mae'n debyg fod y grŵp hwnnw wedi cyfarfod yn agos at 100 gwaith bellach ers dechrau'r argyfwng, ac mae hynny i gyd wedi ymwneud ag archwilio pob cais unigol a gyflwynir o unrhyw ran o'r Llywodraeth am gyllid ychwanegol i ymateb i'r argyfwng ac i ddarparu'r haen ychwanegol honno. Felly, credaf fod honno'n broses a fydd yn rhoi hyder i bobl, pan fydd y penderfyniadau hyn yn cael eu gwneud, ac yn cael eu gwneud yn gyflym iawn, fod haen ychwanegol o uniondeb ynghlwm wrth y penderfyniadau hynny.

Weinidog, fel rydym eisoes wedi clywed o'r cwestiynau hyn, un o fanteision llywodraethu prosiectau cyhoeddus yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru yw bod atebolrwydd uniongyrchol yma ar lawr y Senedd ac yn agos at bobl Cymru, a dyna'r ffordd y dylai fod. Mae hefyd yn golygu bod prosiectau'n cael eu gweld drwy baradeim polisi Cymreig, gan gynnwys Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Felly a oes ganddi unrhyw bryderon ynglŷn â'r syniad o Weinidogion eithaf pell i ffwrdd yn Whitehall a mandariniaid Whitehall yn sathru ar draws Cymru yn eu hesgidiau maint 10 ac yn gwasgaru eu haelioni yn y dyfodol, heb atebolrwydd agos at y bobl a heb ystyried y fframwaith polisi yng Nghymru?

Rwy'n rhannu'r pryderon hynny'n llwyr ac mae'n anodd iawn dychmygu sut y gallai dim ond dau gymal mewn Bil fod yn fwy niweidiol i Gymru o safbwynt gwariant cyhoeddus datganoledig. Mae'n rhoi pwerau enfawr yn nwylo Gweinidogion Llywodraeth y DU i wario yng Nghymru mewn meysydd sydd wedi'u datganoli ar hyn o bryd ac sydd wedi'u datganoli ers 20 mlynedd. Mae gennym y rhwydweithiau yma yng Nghymru; rydym yn deall ble bydd yr arian yn gwneud gwahaniaeth. Mae gennym gysylltiadau lleol a fydd yn gwneud defnydd da o'r arian.

Mae cwestiynau mawr yn codi yma. Hynny yw, yr hyn sy'n digwydd yw y bydd Llywodraeth y DU, mae'n debyg, yn tynnu arian oddi ar gyllideb Llywodraeth Cymru; nid gwariant ychwanegol yw hwn. Os yw Llywodraeth y DU yn chwilio am feysydd i wario arnynt o fewn ei chyfrifoldebau ei hun, rwy'n siŵr y bydd gan lawer ohonom restr cyn hired â'n breichiau o syniadau y gallent wario arnynt, gan ddechrau gyda phethau fel trydaneiddio'r brif reilffordd i Abertawe, buddsoddi yn y morlyn llanw yn Abertawe a buddsoddi mewn band eang fel nad oes raid i Lywodraeth Cymru dalu'r bil am bethau sy'n rhan o gyfrifoldebau'r DU, gan gynnwys y rheilffyrdd yn ehangach, a dyna faes arall lle bu'n rhaid inni weithredu oherwydd nad yw Llywodraeth y DU am wneud hynny. Felly, dylent ddechrau drwy ganolbwyntio eu gwariant yn y meysydd y maent yn gyfrifol amdanynt a gadael i Lywodraeth Cymru ymgymryd â'i chyfrifoldebau ei hun.

14:50
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Weinidog, caffael yw un o'r ffyrdd allweddol y mae angen i gyrff cyhoeddus allu dangos eu bod yn sicrhau gwerth am arian, rhywbeth y clywsom dystiolaeth gennych arno'n ddiweddar yn y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Daeth dau o adroddiadau Archwilydd Cyffredinol Cymru yn hydref 2017 i'r casgliad y gellid cryfhau trefniadau llywodraethu cenedlaethol ar gyfer caffael ac y dylid eu cryfhau. Sut y bwriadwch wneud hyn?

Diolch yn fawr am godi'r mater hwnnw, a chredaf mai un peth allweddol yn ein harfogaeth o ran caffael yw datganiad polisi caffael Cymru. Nawr, y tro diwethaf y'i diweddarwyd yn llawn oedd yn 2015, ac mae'n darparu'r strategaeth a'r fframwaith i'r sector cyhoeddus yng Nghymru ymgymryd â chaffael cyhoeddus. Ac mae ei gymhwyso'n effeithiol wedi sicrhau effeithiau cadarnhaol, ond gwn y gallwn wneud mwy, gallwn fynd ymhellach, felly mae datganiad polisi caffael diwygiedig yn cael ei ddatblygu ar hyn o bryd i edrych ac adeiladu ar y berthynas waith agosach a ddatblygwyd gyda Llywodraeth Cymru a'r sector cyhoeddus ehangach yng Nghymru yn ein hymateb i bandemig COVID. Rwy'n credu bod ein perthynas waith yn yr ystyr honno yn well nag erioed, felly mae'n gyfle inni sicrhau bod ein gwaith caffael yn elwa o'n ffyrdd newydd o weithio.

Diolch, Weinidog, ac rwy'n falch o glywed bod y gwaith hwnnw'n mynd rhagddo, oherwydd mae angen edrych ar fframweithiau'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a'u hailwampio. Mae cyrff cyhoeddus yng Nghymru wedi bod yn gwario tua £6 biliwn yn caffael nwyddau a gwasanaethau, felly ni ddylai fod gennym unrhyw amheuaeth ynghylch pwysigrwydd caffael i sicrhau bod economi Cymru'n symud eto. Yn anffodus, fel y gwyddoch, daeth adroddiadau'r archwilydd cyffredinol i'r casgliad nad yw cyrff cyhoeddus yn defnyddio fframweithiau'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol gymaint ag y rhagwelwyd yn wreiddiol, tra bo'r broses gaffael a ganslwyd ar gyfer Cymorth Swyddi Cymru yn fethiant proffil uchel o ran caffael a oedd yn bwrw amheuaeth ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru i fod yn batrwm o arferion caffael gorau. Felly, a allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni, yn gyntaf, pryd y caiff eich adolygiad o hyn ei gyhoeddi a'i gwblhau, a sut rydych chi'n datrys y problemau fel y gellir sicrhau cwmnïau ledled Cymru fod Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â'r problemau hyn ac yn newid holl ddiwylliant caffael yng Nghymru?

Rwy'n hapus i ddarparu'r diweddariad hwnnw. Felly, mae fy nghyd-Aelod Lee Waters wedi bod yn arwain ar waith gwirioneddol bwysig ar yr economi sylfaenol, ac fel rhan o'r gwaith hwnnw, comisiynwyd y Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol gennym i weithio gyda ni i sicrhau y gallwn nodi clystyrau o fyrddau gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru a gweithio gyda hwy i ystyried ffyrdd newydd o weithio a sut y gallant fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd caffael mewn economïau lleol. Nawr, mae COVID wedi effeithio ar y gwaith hwnnw, ond bydd cynlluniau gweithredu'n cael eu cytuno erbyn diwedd y mis hwn. A'r amcan sylfaenol ar gyfer hynny yw nodi meysydd caffael sy'n llifo allan o'r rhanbarth ar hyn o bryd neu allan o Gymru yn wir, a sicrhau bod hynny'n cael ei ddefnyddio fel y llinell sylfaen i ddatblygu'r dulliau newydd, er mwyn cynyddu cyfranogiad cyflenwyr lleol mewn gwariant. Felly, gwaith gwirioneddol bwysig a ffordd newydd o weithio ac fel y dywedais, dylem allu dweud mwy ynglŷn â chytuno ar gynlluniau ar gyfer datblygu hynny yn ddiweddarach y mis hwn.

Diolch, ac edrychaf ymlaen at glywed y wybodaeth honno yn ddiweddarach y mis hwn. Rwy'n sylweddoli bod amser swyddogion a'ch amser eich hun ac amser y Llywodraeth dros y cyfnod diweddar wedi'i neilltuo'n bennaf ar gyfer y pandemig ac ymdrin â hynny, ond yn fy nghwestiwn olaf i chi, os caf ofyn sut y gellir gweld holl fater caffael yn nhermau adeiladu'n ôl yn well, ac adnewyddu'r diwylliant sydd gennym yng Nghymru. Mae'n sicr fod gan gaffael ran enfawr i'w chwarae yn y broses o adeiladu'n ôl well, o gofio'r symiau enfawr o arian rydym yn sôn amdanynt yma—y £6 biliwn y soniais amdano yn flaenorol, ond ceir arian ychwanegol hefyd. Rwy'n siŵr y cytunwch ei bod hefyd yn bwysig fod polisi caffael yn cyd-fynd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Mae'r comisiynydd wedi galw ar Lywodraeth Cymru i ystyried y Ddeddf ar ddechrau'r broses gaffael, neu hyd yn oed, yn bwysig, ar gam cyn caffael. Mae hyn, fel y dywedais o'r blaen, Weinidog, yn ymwneud â newid holl ddiwylliant y ffordd rydym yn ymdrin â chaffael yng Nghymru. Mae'n faes enfawr, ond a ydych yn cytuno, ynghyd â pholisi treth—newid mawr arall yn ddiweddar i'r ffordd y mae'r lle hwn yn gweithredu—y gall fod yn un o'r prif ysgogiadau at eich defnydd o ran darparu gwerth am arian i'r trethdalwr, cefnogi economi Cymru a helpu yn y broses o adeiladu'n ôl yn well?

14:55

Ydw. Mawredd, dyma fi'n cytuno â llefarydd y Ceidwadwyr ar y mater hwnnw. Yn sicr, gall caffael chwarae rhan enfawr yn y broses o adeiladu'n ôl yn well drwy sicrhau bod gwariant yn cael ei gadw yn ein cymunedau lleol.

Fe fyddwch yn gyfarwydd â chronfa her yr economi sylfaenol. Mae wedi bod yn bwysig iawn wrth nodi meysydd lleol lle gellir gwella. Felly, un enghraifft fyddai canolfan cenedl y goedwig, sy'n profi'r cysyniad o ddefnyddio dulliau gweithgynhyrchu medrus i ychwanegu gwerth er mwyn cynyddu'r defnydd o bren o Gymru mewn tai, ac mae hynny o ddiddordeb i sawl portffolio yn y Llywodraeth. A hefyd y cynllun peilot amaethyddiaeth amgylchedd rheoledig, sy'n archwilio datblygiad hen gyfleusterau amaethyddol cymunedol. Felly, llawer o wahanol ffyrdd y gallwn sicrhau bod gwariant yn cael ei gadw'n fwy lleol er budd pobl leol, ac rwy'n credu bod y gronfa her honno wedi bod yn allweddol wrth gyflwyno ffyrdd newydd arloesol o weithio y byddwn yn anochel yn awyddus i adeiladu arnynt wrth inni ddod allan o'r argyfwng.

Diolch, Llywydd. Efo chwarter poblogaeth Cymru erbyn hyn dan gyfyngiadau uwch yn sgil y pandemig ar hyn o bryd, mi roeddwn i'n falch o weld mesurau newydd yn cael eu cyhoeddi neithiwr i gefnogi pobl yn ariannol. Dwi'n cyfeirio'n bennaf at y taliad o £500 i bobl ar incwm isel a chefnogaeth hefyd i gyflogwyr allu parhau i gyflogi pobl sydd yn sâl. Dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig iawn ein bod ni'n cael manylion y cynllun yma cyn gynted â phosib. Oes posib cael y manylion hynny rŵan? Ac, a ydyn ni'n debyg o gael rhagor o gyhoeddiadau am gefnogaeth yn benodol i ardaloedd sydd yn cael eu hadnabod fel y rhai sydd angen bod mewn mesurau mwy cyfyng?

Diolch. Fel y dywedwch, neithiwr, cyhoeddodd y Prif Weinidog y bydd taliad o £500 yn cael ei roi i bobl ar incwm isel a fydd yn gorfod hunanynysu. Fel y dywedodd yn gynharach yn natganiad y Prif Weinidog, rydym yn dal i weithio ar fanylion hynny, gan edrych ar y mecanweithiau darparu. Soniodd y Prif Weinidog am y potensial i ddefnyddio'r gronfa cymorth dewisol fel mecanwaith ar gyfer gwneud hynny. Mae opsiynau eraill ar gael ac yn cael eu hystyried hefyd. Ac rydym hefyd yn edrych yn fanwl ar beth fydd y meini prawf cymhwysedd. Felly, mae arnaf ofn na allaf roi'r holl fanylion hynny i chi heddiw gan fod gwaith modelu ar y gweill gan Drysorlys Cymru ar hynny, ond cyn gynted ag y bydd gennym fwy o fanylion am y cynllun, yn amlwg, byddaf yn awyddus iawn i rannu hynny.

Dwi'n gwerthfawrogi bod yna waith gweithio ar y manylion, ond dwi'n cofio taliad arall o £500 a gafodd ei gyhoeddi rai misoedd yn ôl i weithwyr yn y sector gofal, ac mi gymerwyd amser hirfaith i weithio allan sut i wneud y taliad hwnnw, a dyw'r broses ddim drosodd eto.

Mae awdurdodau lleol, os caf i symud ymlaen, wedi gwneud gwaith arwrol yn ystod y pandemig yma. Dwi yn bryderus o glywed am gryn ansicrwydd ymhlith arweinwyr llywodraeth leol ynglŷn â chyllid i gynghorau wrth inni wynebu'r gaeaf, sy'n mynd i fod yn straen, wrth gwrs. Yn ôl un cyngor yn benodol, mi lwyddwyd i hawlio colledion chwarter 1 yn ôl yn ddigon rhwydd, ond mae'r stori'n wahanol iawn efo chwarter 2. Felly, gaf i gadarnhad o'r gefnogaeth ychwanegol sy'n barod i fynd i goffrau cynghorau i'w digolledu nhw, a chadarnhad bod prosesau'n cael eu prysuro i sicrhau bod colledion sydd wedi cael eu gweld yn barod yn cael eu talu nôl ar fyrder, neu fe fydd cynghorau'n wynebu'r straen yn fuan iawn, iawn?

Wel, gweithiodd Llywodraeth Cymru yn agos iawn ochr yn ochr â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chymdeithas Trysoryddion Cymru drwy ddechrau'r haf i ddeall yn well y perygl o golli incwm ar draws gweddill y flwyddyn ariannol. Gallai incwm a gollwyd ddeillio o bethau fel diffyg gwasanaethau y byddai'r cyngor yn eu darparu fel arfer—er enghraifft, parcio ceir, theatrau, ac yn y blaen. Felly, aeth llawer iawn o waith manwl rhagddo ar hynny a dyna pam y bu modd i mi gyhoeddi'n ddiweddar iawn fod cyllid ychwanegol i'w roi i awdurdodau lleol mewn perthynas ag eitemau, gan gynnwys enillion a gollwyd, gan olygu bod cyllid ychwanegol i lywodraeth leol bellach bron yn £500 miliwn. Felly, credaf ein bod wedi gweithio gyda hwy y tu hwnt i'r gyfran gyntaf honno o gyllid y cofiaf ei fod oddeutu £70 miliwn. Ond nawr rydym wedi darparu cyllid a ddylai bara tan ddiwedd y flwyddyn ariannol. Felly, mae'n destun pryder fod awdurdod lleol wedi awgrymu bod hon yn broblem barhaus, ond os ysgrifennwch ataf, efallai y gallwn gael ychydig mwy o fanylion ynglŷn â hynny.

15:00

Y pryder ydy, wrth gwrs, ei fod o'n mynd i fod yn fater sydd yn parhau am amser maith, ac mae yna bryderon, yn sicr, dros beth ddigwyddiff dros y gaeaf.

Yn olaf, dwi eisiau cael rhywbeth ar y cofnod, mewn difrif. Wrth inni wynebu dod allan o'r twll economaidd rydym ni ynddo fo ar hyn o bryd, mae wedi dod yn glir yn ystod y pandemig yma bod trefniadau ffisgal Cymru yn gwbl, gwbl annigonol. Gaf i sicrwydd gennych chi bod trafod efo Llywodraeth y Deyrnas Unedig y rheolau a'r amgylchiadau ffisgal newydd yr hoffech chi eu gweld yn mynd i fod yn flaenoriaeth i chi? A wnewch chi gytuno â fi dyw hyn yn sicr ddim yn rhywbeth sy'n gallu cael ei roi o'r neilltu oherwydd COVID, mae o'n rhywbeth sydd angen ei wneud yn gyflymach a'i brysuro oherwydd COVID a'r problemau economaidd sydd wedi dod yn sgil hynny?

Yn bendant, rwy'n rhoi sicrwydd i chi y bydd mecanweithiau rhynglywodraethol mewn perthynas â chyllid, yn ogystal â hyblygrwydd cyllidol yn arbennig, yn parhau i fod yn ganolog i'r sgyrsiau a gaf gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys. Felly, fe fyddwch yn cofio'n gynharach yn yr haf fod un o'n pryderon mawr yn ymwneud â gallu newid cyfalaf yn refeniw—roedd hynny'n rhywbeth roeddem yn awyddus i'w wneud. Ond mewn gwirionedd, o ganlyniad i'r cyllid ychwanegol ymlaen llaw y llwyddais i'w negodi gyda'r Trysorlys, mae mwy o ddiddordeb gennyf erbyn hyn mewn gwahanol fathau o hyblygrwydd. Felly, un math o hyblygrwydd, er enghraifft, fyddai’r gallu i dynnu mwy i lawr o gronfa wrth gefn Cymru pe bai ei angen arnom, neu i gario mwy ymlaen ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, pe baem yn teimlo ei bod yn ddoeth inni wneud hynny hefyd. Oherwydd yn amlwg, nid yw'r argyfwng yn parchu blynyddoedd ariannol, a gall pethau ddigwydd ar ddiwedd blwyddyn ariannol, neu ar y dechrau, ac mae'n gwneud y gwaith o reoli’r gyllideb yn anodd iawn.

Nawr, mae'r holl bethau hyn yn bethau y gallai Llywodraeth y DU gytuno iddynt yn hawdd iawn. Nid ydynt yn cynnwys cyllid ychwanegol; maent yn golygu caniatáu inni ddefnyddio'r cyllid sydd gennym yn y ffordd orau. Felly, byddaf yn parhau i gael trafodaethau o'r fath. Gwn fod gwahanol rannau o'r Senedd—a thu hwnt—yn gefnogol i hynny, felly os gallwn weithio ar y cyd arnynt, byddwn yn croesawu'r cyfleoedd hynny.

Gofynnwyd i'r Prif Weinidog, ychydig wythnosau yn ôl rwy'n credu, ynglŷn â'r posibilrwydd o godi treth incwm y flwyddyn nesaf, a chredaf iddo ymateb drwy ddweud bod yr economi mor wan yn sgil COVID fel y byddai'n anghywir inni ystyried unrhyw godiadau treth incwm. A yw hynny'n golygu mai dim ond pan fydd yr economi'n gryf y dylid ystyried codiadau treth incwm?

Fel y dywedwch, cynhaliwyd cyfweliad gyda'r Prif Weinidog ar yr union fater hwn, a dywedodd na fyddai’n ystyried codi trethi incwm i bobl pan fo'r economi mewn sefyllfa anodd iawn, ac o bosibl, mewn dirwasgiad. Wrth gwrs, rydym wedi edrych ar y data rydym wedi'i gael gan Fanc Lloegr, a chan eraill, o ran sut olwg fyddai ar yr economi. Yn amlwg, ceir anawsterau mawr mewn perthynas â’r argyfwng beth bynnag, ond wrth inni agosáu at ddiwedd y flwyddyn a wynebu'r posibilrwydd o Brexit heb gytundeb, yn amlwg bydd hynny'n gwaethygu'r problemau sy'n ein hwynebu. Felly, dywedodd y Prif Weinidog yn eithaf clir nad oes unrhyw fwriad i gynyddu trethi incwm pan fo'r economi mewn sefyllfa arbennig o anodd. Ac wrth gwrs, gwn fod pob un ohonom yn ystyried hyn wrth inni feddwl beth y byddwn yn ei gynnig i bobl Cymru yn yr etholiad sydd ar y gorwel, ac rwy'n edrych ymlaen at ddadl ar dreth incwm yn y Siambr yn nes ymlaen y prynhawn yma hefyd.

O ystyried effaith sylweddol iawn yr argyfwng COVID ar gyllid Llywodraeth Cymru, ac yn benodol, y gostyngiad tebygol mewn arenillion treth oherwydd y mesurau llymach yng Nghymru o gymharu â’r hyn y mae Llywodraeth y DU wedi’i wneud yn Lloegr, sut y mae’r Gweinidog yn y pen draw yn disgwyl rhoi cyllid cyhoeddus yn ôl ar sylfaen gynaliadwy unwaith eto? A fydd yn torri gwariant? A fydd yn cynyddu cyfraddau treth incwm Cymreig? Neu a fydd yn disgwyl i Lywodraeth y DU ei hachub?

Ni chredaf y bydd y gwahaniaeth o ran pa mor gyflym yr aeth Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU ati i godi’r cyfyngiadau symud yn cael effaith fawr ar arenillion treth. Treth trafodiadau tir a’r dreth gwarediadau tirlenwi yw ein dwy dreth yng Nghymru, ac mae'r ddwy ohonynt yn gyfran gymharol fach o gyllideb Llywodraeth Cymru, ac wrth gwrs, er i’r cyfyngiadau symud gael eu codi mewn ffyrdd gwahanol ar ddwy ochr y ffin, amharwyd yn sylweddol ar y rhain yn y ddwy wlad am nifer fawr o fisoedd eleni. Felly, ni chredaf y bydd yr effaith ar gyllideb Llywodraeth Cymru yn fawr.

15:05
Ffordd Liniaru'r M4

3. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o gynigion Llywodraeth y DU i ddarparu cyllid i gwblhau ffordd liniaru'r M4? OQ55554

Roedd y penderfyniad ynglŷn ag a ddylid bwrw ymlaen â ffordd liniaru’r M4 yn fater cwbl ddatganoledig, ac mae’n parhau i fod felly.

Nid dyna y mae pawb yn Llywodraeth y DU yn ei ddweud, nage? Fe gyfeirioch chi'n gynharach, Weinidog, at yr hyn a alwoch yn ddau gymal na allent fod yn fwy niweidiol i Gymru. Os wyf wedi deall yn iawn, dau gymal oedd y rheini a oedd yn galluogi, neu o leiaf yn cadarnhau gallu Llywodraeth y DU i wario arian mewn meysydd datganoledig yn ychwanegol at arian a ymrwymwyd eisoes gan Lywodraeth ddatganoledig. I'r rhan fwyaf o bobl y tu allan i swigen Bae Caerdydd, does bosibl na fyddai hynny’n ddiamheuol yn beth da, pe bai Llywodraeth y DU yn gwario arian y tu hwnt i'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wario. O gofio i chi ddweud yn eich maniffesto etholiad y byddech yn adeiladu ffordd liniaru’r M4, os yw Llywodraeth y DU yn barod i dalu amdani yn eich lle, a'n bod yn ei chael heb orfod talu amdani, oni fyddai hynny'n beth da?

Nid yw'r Bil marchnad fewnol yn dweud unrhyw beth am wario ar wasanaethau cyhoeddus yn ychwanegol at gyllideb Llywodraeth Cymru. Rwy’n siŵr, pe baem i gyd yn onest, y byddem yn deall y byddai hyn yn golygu gostyngiad yng nghyllideb Llywodraeth Cymru. Ac wrth gwrs, nid wyf am fynd i ddadansoddi’r penderfyniad a wnaed gan y Prif Weinidog beth amser yn ôl bellach, ond roedd fforddiadwyedd yn rhan ohono. Y pryder mawr arall a oedd ganddo oedd effaith amgylcheddol y cynlluniau. Ond fel rwy'n dweud, mae hwn yn dal i fod yn fater i Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd.

Weinidog, a gaf fi ofyn—a gaf fi ofyn i chi am y 29 tŷ a brynwyd am dros £15 miliwn drwy orchmynion prynu gorfodol i baratoi ar gyfer adeiladu ffordd liniaru’r M4, ac yn benodol, y ddau eiddo a brynwyd am ychydig o dan £1 filiwn ym mis Ebrill y llynedd, ddeufis yn unig cyn i’r Prif Weinidog wneud y penderfyniad i roi’r gorau i gynllun ffordd liniaru’r M4? Yn sicr, credaf y bydd pobl sy'n edrych ar hyn o'r tu allan yn teimlo bod y penderfyniadau hyn ar wariant yn ddi-drefn. Erbyn hyn, rydym wedi gweld £157 miliwn o arian y trethdalwyr yn cael ei wastraffu. O ran yr eiddo a brynwyd, byddai arian wedi cael ei wario ar ffioedd proffesiynol wrth gwrs. Mae'r eiddo eu hunain yn parhau i fod yn asedau. A allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â sefyllfa’r eiddo hyn? A ydynt wedi cael eu gwerthu? A ydynt yn cael eu rhoi ar y farchnad? A faint o gyfalaf sydd wedi'i ryddhau yn ôl i Lywodraeth Cymru i ganiatáu iddi wario ar brosiectau cyfalaf eraill?

Bydd yn rhaid i mi gael sgwrs gyda fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr amgylchedd—mae’n ddrwg gennyf, Gweinidog yr economi a thrafnidiaeth—ynglŷn â'ch cwestiwn am yr eiddo, a ydynt yn cael eu gwerthu, a ydynt wedi'u gwerthu ac ati. Mae arnaf ofn nad yw'r ateb hwnnw gennyf, ond byddaf yn sicrhau eich bod yn ei gael.

Weinidog, a fyddech yn cytuno â mi, os oes gan Lywodraeth y DU arian ar gael ar gyfer y seilwaith trafnidiaeth yn ne-ddwyrain Cymru, mai Llywodraeth Cymru a ddylai benderfynu sut y dylid ei wario? Ac yn unol â chomisiwn yr M4, dylid ei wario ar seilwaith trafnidiaeth gyhoeddus, er enghraifft, gorsaf rodfa newydd ym Magwyr, sy’n syniad y mae’r gymuned leol yn ei gefnogi’n fawr.

Ie, rwy'n cytuno'n llwyr â John Griffiths ar hyn. Mae ef a minnau'n croesawu’r adroddiad diweddaraf gan yr Arglwydd Burns a’i dîm a’r sylfaen dystiolaeth sylweddol sy’n sail iddo, ac wrth gwrs, mae’n argymell gwaith uwchraddio sylweddol ar reilffyrdd lliniaru de Cymru fel rhan o rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus aml-ddull integredig. Mae hyn, wrth gwrs, yn rhywbeth y mae John Griffiths wedi bod yn ei hyrwyddo ar gyfer ei ardal ers peth amser, ac mae'n gam tuag at ddewis amgen mwy cynaliadwy a hirdymor na cheir yn y rhan honno o'r byd. Credaf mai dyma'r ffordd iawn ymlaen, ac rydym yn fwy na pharod i weithio gyda John Griffiths ac eraill i sicrhau y gallwn chwarae ein rhan i wireddu hynny.

15:10
Adfer Adeiladau sydd â Deunydd Cladin nad yw'n Alwminiwm

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am unrhyw gyllid canlyniadol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gael o ganlyniad i gronfa Llywodraeth y DU ar gyfer adfer adeiladau sydd â deunydd cladin nad yw'n alwminiwm? OQ55537

Fel y nodwyd yn fy llythyr at y Pwyllgor Cyllid ar 24 Ebrill, derbyniodd Llywodraeth Cymru gyllid canlyniadol o £58 miliwn o gyfalaf a £1.2 miliwn o refeniw o ganlyniad i gronfa diogelwch adeiladu Llywodraeth y DU a gyhoeddwyd ym mis Mawrth.

Diolch. Mae miloedd o bobl yng Nghymru yn byw mewn fflatiau sydd mewn perygl o fynd ar dân. Mae'r eiddo'n ddiwerth. Mae Grenfell Cymreig yn anochel. Bûm yn ymweld â Victoria Wharf a gwneuthum fideo i ddangos yr effaith aruthrol y mae hyn yn ei chael ar breswylwyr, ac mae 750,000 o bobl wedi gwylio’r fideo, ac wedi gweld a chlywed preswylwyr yn dweud eu bod wedi ysgrifennu atoch chi a’r Prif Weinidog, ac rwy'n dyfynnu, nid ydynt wedi clywed gair yn ôl. Cawsant ymateb gan Lynda Thorne, yr aelod cabinet dros dai yng Nghaerdydd, a ddywedodd, ac rwy'n dyfynnu unwaith eto:

Y broblem yw y bydd Aelodau Llywodraeth Cymru yn sefyll etholiad ym mis Mai y flwyddyn nesaf, ac felly er bod

y Gweinidog tai

yn ymroddedig, mae popeth yn dibynnu ar ganlyniadau'r etholiadau hynny.

Mae'n warthus eich bod yn ôl pob golwg yn ceisio blacmelio pobl i bleidleisio dros Lafur yn lle mynd i'r afael â'r problemau difrifol hyn. Mae'r Ceidwadwyr yn Llundain wedi cyflwyno cronfa gwerth £1 biliwn i ddechrau unioni’r problemau yn Lloegr, ond mae gwas sifil yng Nghymru wedi nodi:

Er y bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn rhywfaint o gyllid canlyniadol, mater i Weinidogion Cymru yw penderfynu sut y bydd yr arian hwn yn cael ei wario yng Nghymru.

Felly, a ydych wedi penderfynu bellach, ac a all y miloedd o bobl—miloedd—sy'n byw mewn fflatiau anniogel nad ydynt yn werth unrhyw beth ddisgwyl rhyw fath o gymorth gan y Llywodraeth a chamau gweithredu gan y Llywodraeth, ac ymateb, ni waeth a oes etholiad ai peidio?

Wel, yr hyn sy'n warthus, Lywydd, yw’r perfformiad hwnnw, mae'n rhaid i mi ddweud. Fe fyddwch wedi clywed gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ddydd Mercher diwethaf fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i archwilio ffyrdd o symud ymlaen. Yn ddiweddar, gwnaethom gyhoeddi ein datganiad sefyllfa, ac mae hwnnw’n cynnig cyfundrefn diogelwch adeiladu newydd sy'n rhoi lle canolog i ddiogelwch a lles preswylwyr er mwyn sicrhau bod pobl yn teimlo'n ddiogel yn eu cartrefi ni waeth beth fo'u deiliadaeth, a bod yr ethos yn berthnasol drwy gydol y broses o gynllunio, adeiladu a meddiannu'r adeiladau yr effeithir arnynt. Bydd y diwygiadau hynny'n mynd ymhellach o lawer na gwneud gwelliannau i adeiladau uchel yn unig; mae hyn yn ymwneud â sicrhau bod holl drigolion Cymru yn ddiogel.

O ran yr ohebiaeth honno, yn amlwg, byddai wedi cael ymateb gan adran y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol—os nad yw wedi cyrraedd eto, rwy'n siŵr y bydd ar y ffordd cyn bo hir—oherwydd yn amlwg, y Gweinidog tai yw'r unigolyn priodol i fynd i'r afael â'r mater hwnnw. Yn achos Victoria Wharf ym Mae Caerdydd, gwn fod swyddogion i fod i gyfarfod â chadeirydd cymdeithas y preswylwyr cyn bo hir i drafod y mater ymhellach.

Weinidog, dyma un o'r symiau mwyaf sylweddol o gyllid canlyniadol i Lywodraeth Cymru eu cael yn y bumed Senedd, ac er y gallaf dderbyn efallai nad oedd angen y £58 miliwn i gyd arnoch, gan fod gennym batrwm gwahanol i Loegr, mae angen cyfran sylweddol ohono. Wrth i chi betruso, ac a dweud y gwir, wrth i chi ddargyfeirio pryderon lesddeiliaid tuag at ryw fath o gynllun hirdymor i wella'r system—cynllun rwy'n cytuno ag ef, gyda llaw—mae problem yn ein hwynebu yn awr. Mae yswiriant tân bellach yn costio ddengwaith cymaint yn rhai o'r lleoedd hyn, felly mae'r tenantiaid yn wynebu bil o £1,000 am eu cyfraniad at yr elfen honno o’r tâl gwasanaeth. Mae'n rhyfeddol. Ac yna, gall y costau cyfalaf y maent yn eu hwynebu amrywio o £10,000 hyd at £40,000, ac mae gorchymyn gorfodi ar gyfer tân ar y ffordd. Mae angen help arnynt yn awr, rydych wedi cael yr arian, dylech ei drosglwyddo drwy gynllun priodol ar unwaith.

Iawn. Felly, mae'r rhain yn faterion difrifol, a byddaf yn eu trin â'r difrifoldeb y maent yn ei haeddu. Ac fel y dywedais, bydd swyddogion y Gweinidog yn cyfarfod â chadeirydd cymdeithas y preswylwyr yn fuan i drafod y materion hyn mewn mwy o fanylder, fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am bolisi yn y maes hwn.

O ran cyllid Llywodraeth Cymru, er inni dderbyn cyfalaf ychwanegol yng nghyllideb Llywodraeth y DU ym mis Mawrth, fe fydd yr Aelod yn gwybod nad oedd hynny’n cynnwys y cyfalaf o £100 miliwn a dynnodd Llywodraeth y DU o'n cyllideb, a’r £100 miliwn o gyfalaf trafodiadau ariannol a dynnodd Llywodraeth y DU o'n cyllideb ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Felly, ni chredaf y gallwn drafod cyllid canlyniadol mewn termau mor syml â hynny.

15:15
Treth Trafodiadau Tir

5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am refeniw o'r dreth trafodiadau tir? OQ55535

Roedd refeniw treth trafodiadau tir yn 2019-20 yn £260 miliwn. Hyd yma, mae refeniw yn y flwyddyn ariannol gyfredol 47 y cant yn is o gymharu â'r un cyfnod y llynedd. Bydd y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn cyhoeddi rhagolwg refeniw newydd ar gyfer Llywodraeth Cymru gyda'r gyllideb ddrafft.

Diolch, Weinidog. Mae'r gostyngiad o 47 y cant, credaf i chi ddweud, yn refeniw'r dreth trafodiadau tir yn peri pryder, ond yn ddealladwy yn ystod y cyfyngiadau symud, oherwydd yr arafu aruthrol yn y farchnad dai. Mae codi refeniw yn dibynnu ar ysgogi’r farchnad i symud, rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol o hynny. Er fy mod yn croesawu’r ffaith i chi gyflwyno seibiant o dalu'r dreth stamp, rwyf wedi cwestiynu'r trothwy o £250,000 a gyflwynwyd. Nawr, er fy mod yn deall bod prisiau tai ledled Cymru, ar gyfartaledd, gryn dipyn yn is na'r hyn ydynt dros y ffin, yn sicr o gymharu â de-ddwyrain Lloegr, serch hynny mae tai sy’n werth mwy o lawer na hynny i’w cael ger y ffin rhwng Cymru a Lloegr. A wnewch chi adolygu'r seibiant o dalu'r dreth stamp, er mwyn sicrhau y gellir rhoi camau ar waith os nad yw’r farchnad dai ger y ffin yn codi mor gyflym â'r farchnad dai ar yr ochr arall i'r ffin, lle ceir seibiant hyd at £500,000? Oherwydd rwy'n siŵr y byddech yn cytuno â mi ei bod yn bwysig fod cyfraddau’r dreth trafodiadau tir yng Nghymru yn cael eu sefydlogi ac nad oes gormod o ystumio’n digwydd mewn ardaloedd ar y ffin, lle mae cyfran fawr o boblogaeth Cymru'n byw a lle caiff refeniw ei godi.

Ydw, rwy'n adolygu'r holl gyfraddau a throthwyon, ac yn edrych ar y farchnad bob amser i weld beth sy'n digwydd. Credaf ei bod yn wir—a bydd Nick yn cytuno â mi ar hyn—nad yw’r dreth honno ond yn chwarae rhan ym mhenderfyniad rhywun ynghylch dewis ble i fyw, ac rwy'n siŵr y gall feddwl am 1,000 o resymau gwych i fyw yn ei etholaeth yn Sir Fynwy hefyd, ond deallaf fod prisiau tai yn Sir Fynwy yn llawer uwch na rhannau eraill o'r wlad.

Mae gennym y sefyllfa wrthgyferbyniol felly, wrth gwrs, dros y ffin yng ngogledd Cymru, lle mae tai yn Sir y Fflint a Wrecsam, er enghraifft, oddeutu 25 y cant yn is na'r hyn ydynt dros y ffin yng ngorllewin Swydd Gaer, Swydd Gaer a Swydd Amwythig. Felly rydym yn gweld darlun gwahaniaethol iawn ledled Cymru, ond ydw, rwy’n parhau i adolygu'r materion hyn yn gyson.

Ail-Lunio Caffael Cyhoeddus

6. Pa gynnydd y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o ran ail-lunio caffael cyhoeddus er mwyn cryfhau'r economi sylfaenol? OQ55543

Ym mis Ebrill, gwnaethom benodi'r Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol i ymgorffori’r cysyniad o adeiladu cyfoeth cymunedol, i weithio gyda byrddau gwasanaethau cyhoeddus i sicrhau dulliau caffael blaengar, i leoleiddio eu cadwyn gyflenwi ac i gynyddu ymgysylltiad busnesau lleol â’r broses caffael cyhoeddus er mwyn sicrhau newid systemig mewn economïau lleol ledled Cymru.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Hoffwn drafod y bygythiad i ddiogelwch bwyd, o ystyried y posibilrwydd cynyddol na cheir cytundeb masnach gyda'r Undeb Ewropeaidd. Fel y dywedodd yr Athro Tim Lang, yr arbenigwr bwyd, unwaith eto heddiw, rydym yn genedl heb bantri. Ac mae'r datganiad hwnnw yr un mor berthnasol i Gymru ag i weddill y DU, gydag archfarchnadoedd yn gweithredu ar sail ‘mewn pryd’ a niferoedd enfawr o deuluoedd yn dibynnu ar fwyd dros ben o fanciau bwyd. Felly, ni fydd lorïau wedi'u parcio ger croesfannau newydd ar ffiniau a’r prisiau uchel anochel ond yn gwanhau'r gadwyn gyflenwi bwyd fregus hon sydd gennym eisoes. Yn fy marn i, fe allem ac fe ddylem fod yn cryfhau'r economi sylfaenol eisoes drwy amnewid ffrwythau a llysiau bob dydd a fewnforiwn ar hyn o bryd o fannau tymherus â chynhyrchion a dyfir yn y wlad hon. Felly, yng ngoleuni'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ar symleiddio fframweithiau caffael, pa ystyriaeth rydych wedi'i rhoi i ddefnyddio cytundebau caffael gwyrdd, yn enwedig mewn partneriaeth â llywodraeth leol, fel y nodwyd yn adroddiad diweddar y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd fel mecanweithiau effeithiol a ddefnyddir gan wledydd eraill Ewrop i liniaru'r bygythiad hwn i'n diogelwch bwyd?

15:20

Rydym yn cydweithio'n agos iawn â chyrff mawr yn y sector cyhoeddus fel y GIG i sicrhau y gellir cyrchu a chaffael gwariant ar gynnyrch bwyd mor lleol â phosibl yng Nghymru, i geisio sicrhau'r math hwnnw o ddiogelwch y sonia Jenny Rathbone amdano. Ac fel rhan o gronfa her yr economi sylfaenol a'r cynllun gweithgynhyrchu, mae gennym ffocws gwirioneddol bellach ar fwyd.

Mae rhan o’r gwaith ar yr economi sylfaenol hefyd yn ystyried, mewn partneriaeth â'r Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol, sut y gallai sefydliadau angori'r sector cyhoeddus chwarae rhan allweddol yn siapio marchnadoedd bwyd ar gyfer y dyfodol. Mae gennym ddull cymharol newydd o weithredu yng Nghymru hefyd gyda chyngor Caerffili bellach yn rheoli'r fframweithiau bwyd cydweithredol, a arweiniwyd yn wreiddiol gan Wasanaeth Caffael Cenedlaethol Llywodraeth Cymru. Mae tîm prynu bwyd Caerffili yn brofiadol iawn, ac mae ganddynt hanes ardderchog o ddatblygu cyflenwad bwyd Cymru. Gwn eich bod wedi sôn yn y Siambr o'r blaen am enghraifft Woosnam Dairies, a chredaf eu bod wedi bod yn rhan fawr o’r gwaith hwnnw. Maent hefyd yn gweithio gyda Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig a'i thîm i geisio archwilio cyfleoedd pellach i sicrhau mwy o gynnyrch lleol. Felly, mae hyn yn sicr yn flaenoriaeth i'r tîm.

3. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

Yr eitem nesaf yw'r cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol. Mae'r cwestiwn cyntaf i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog, ac mae'r cwestiwn gan Jack Sargeant.

Clybiau Chwaraeon Ar Lawr Gwlad

1. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chlybiau chwaraeon ar lawr gwlad i'w helpu i gysylltu â chymunedau? OQ55542

Dŷn ni ddim yn eich clywed chi, Dirprwy Weinidog. Mae eisiau i chi 'unmute-o' eich hunan.

Dafydd, ydych chi'n fy nghlywed i ac ydych chi'n clywed bod angen ichi—?

Roeddwn i o dan yr argraff bod y mater yma'n cael ei ddelio'n ganolog, ac felly'n amlwg dyw o ddim.

Diolch. Rwy'n ddiolchgar iawn am eich cwestiwn, Jack. Yn Llywodraeth Cymru a Chwaraeon Cymru, rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid i gynorthwyo’r clybiau chwaraeon ar lawr gwlad. Yn ddiweddar, gwnaethom gyhoeddi cronfa adfer chwaraeon a hamdden gwerth £14 miliwn yn sgil y coronafeirws, a bwriedir iddi gefnogi ystod o sefydliadau chwaraeon.

Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Mae un o fy etholwyr, Simon Walker o Glwb Bowlio Cei Connah, newydd gael ei ethol yn gadeirydd pwyllgor datblygu BowlsCymru. Fel y bydd llawer o bobl yn gwybod, mae bowls ar lawr gwlad yn darparu manteision enfawr i iechyd meddwl ac iechyd corfforol pobl. Dywed Simon wrthyf mai dyma'r unig gamp y gallwch ei chwarae drwy gydol eich oes—gall plentyn naw oed gystadlu yn erbyn rhywun 90 oed. Ddirprwy Weinidog, a fyddech yn barod i gyfarfod â Simon ar ran y pwyllgor datblygu i glywed drosoch eich hun am y manteision y gall bowls eu cynnig i gymunedau a throsglwyddo'r wybodaeth honno i gydweithwyr yn Llywodraeth Cymru?

Byddwn yn fwy na pharod i gyfarfod â'ch etholwr. Efallai y gallai fy annog i ymgymryd â'r gamp. Mewn gwirionedd, rwyf wedi ymweld â nifer o’r clybiau bowls i'r anabl a chlybiau bowls gweithredol eraill. Rwy’n cofio, yn benodol, fy ymweliad â Sir Benfro i ymweld â’r clwb yno, a chredaf ei bod yn bwysig ein bod yn annog cymaint o amrywiaeth â phosibl, yn ogystal ag amrywiaeth o weithgarwch corfforol fel y gall pobl gymryd rhan, felly rwy'n edrych ymlaen at drefnu cyfarfod cyn gynted ag y gallwn.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Diolch. Russell George. Na. Dim Russell George. O'r gorau.

Bydd Cwestiwn 2, felly, yn cael ei ateb gan y Dirprwy Weinidog diwylliant. Andrew R.T. Davies.

Chwaraeon Hamdden

2. Pa gymorth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i helpu chwaraeon hamdden yng Nghymru dros gyfnod y gaeaf? OQ55553

Roeddwn yn cymryd ei bod yn amlwg, os caf fy ngalw i ateb cwestiwn, fod gofyn i'r meic fod ar agor. A yw'n golygu bod yn rhaid i mi agor fy meic bob tro?

15:25

Credaf fod hynny'n—. Ydy, dywedir wrthyf 'ydy'. Mae'n ddrwg gennyf, ydw. Felly, mae'n ddrwg gennyf am hynny. Mae’n ddrwg gennyf. Parhewch.

Iawn. Nid yw hynny'n fater i mi mwyach gan nad wyf yn trefnu gweithgareddau’r Cynulliad.

Gwyddom fod ymgymryd â chwaraeon hamdden yn cael effaith gadarnhaol iawn, yn amlwg, ar bobl o bob oedran, ac rydym yn gweithio, fel y dywedais, gyda Chwaraeon Cymru. Rydym wedi bod yn defnyddio'r sefydliadau mawr hyn sydd gennym i ddosbarthu arian ac i asesu ceisiadau ac rwy'n edrych ymlaen at geisiadau ar gyfer chwaraeon hamdden dros gyfnod y gaeaf fel y gallwn fynd â'r buddsoddiad rydym eisoes wedi’i wneud drwy’r cyngor chwaraeon ymhellach.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Yn amlwg, mae rhyw elfen o arian y Llywodraeth wedi’i ddarparu ar gyfer chwaraeon a chwaraeon ar lawr gwlad, y £14 miliwn a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, ond gyda’r rheoliadau newydd sydd bellach ar waith a rhai gwleidyddion yn tybio y gallai’r rheoliadau hyn fod ar waith am beth amser, bydd hynny'n cyfyngu’n sylweddol ar glybiau, yn enwedig clybiau ar lawr gwlad, wrth iddynt geisio goroesi dros fisoedd y gaeaf, yn enwedig clybiau fel Clwb Pêl Droed Y Barri, er enghraifft, a Chlwb Rygbi Old Pens ym Mhenarth. Sut y mae'r Llywodraeth yn asesu’r ffordd y bydd y rheoliadau newydd a roddwyd ar waith yn effeithio ar allu clybiau ar lawr gwlad i weithredu ac i oroesi dros fisoedd y gaeaf sydd i ddod?

Yn amlwg, rydym yn parhau i asesu effaith y pandemig ar bob gweithgaredd, ac yn enwedig felly pan fo rhaid i ni ymateb fel Llywodraeth ar y cyd, gyda chefnogaeth y Cynulliad, i ymateb i'r sefyllfaoedd hynny. Y peth allweddol yw bod gennym ddarlun llawn a phriodol o anghenion pob sector, a byddwn yn annog clybiau unigol, ac yn amlwg, cyrff llywodraethu clybiau chwaraeon i gysylltu â Llywodraeth Cymru yn uniongyrchol, fel y gallwn brosesu ac ystyried beth sydd ei angen gyda chymorth ein cynghorwyr yn y cyngor chwaraeon.

Weinidog, mae Clwb Criced Casnewydd, fel y gwn eich bod yn gwybod, wedi gwneud gwaith gwych dros nifer o flynyddoedd yn datblygu eu gweithgarwch a gwella eu maes chwarae. Maent yn cael eu rhedeg gan wirfoddolwyr; maent yn cynhyrchu timau criced merched da iawn, chwaraewyr ar gyfer Morgannwg ac maent wedi cynnal rhai o gemau Morgannwg. Maent yn ei chael hi’n anodd ar hyn o bryd yn sgil y coronafeirws gan fod eu hysgol griced dros y gaeaf yn arfer defnyddio un o adeiladau Casnewydd Fyw, yr ymddiriedolaeth hamdden, ond mae Casnewydd Fyw bellach wedi agor campfa lle gellir cadw pellter cymdeithasol yn y gofod hwnnw, ac nid yw’r safle gael i’r clwb criced mwyach. Bydd hynny’n lleihau eu hincwm yn sylweddol, ac mae perygl y byddant yn colli chwaraewyr ifanc ac yn gweld colli diddordeb dros fisoedd y gaeaf. Mae ganddynt—Clwb Criced Casnewydd—hen gyrtiau sboncen ar eu tir y gellid eu haddasu ar gyfer ysgol griced dan do dros y gaeaf, a byddai astudiaeth ddichonoldeb yn ddefnyddiol iawn yn hynny o beth. Tybed a allech gael golwg ar hyn, Weinidog, ac ystyried sut y gallai Llywodraeth Cymru eu cynorthwyo i oresgyn y problemau hyn.

Wel, fel y gwyddoch, rwy’n ymwybodol o’r safle y cyfeiriwch ato, ac rydym yn awyddus iawn o ran ein polisi chwaraeon i weld dynion a menywod ifanc, ac yn wir, pobl o bob oed sy'n dymuno gwneud hynny, yn ymgymryd â chriced a chwaraeon eraill. Rydym yn ymwybodol o'r angen am astudiaeth ddichonoldeb o'r fath, a byddwn yn falch iawn o weld tystiolaeth bellach o'r berthynas y mae'r clwb yn ei datblygu gyda phartneriaid, gan gynnwys Chwaraeon Cymru. Byddaf yn codi'r mater hwn gyda Chwaraeon Cymru fy hun i sicrhau bod trafodaeth barhaus rhwng Cyngor Dinas Casnewydd, Chwaraeon Cymru a Casnewydd Fyw.

Mae gennym broblem, wrth gwrs, sy’n ymwneud yn y ffordd hon ag asiantaethau nad ydynt yn rhan o'r llywodraeth leol mwyach yn gweithredu canolfannau hamdden. Felly, nid yw'r sefyllfa'n syml, ond rydym yn awyddus iawn yn Llywodraeth Cymru i allu cefnogi gweithgareddau ar lawr gwlad, fel petai—neu a ddylwn ddweud ar y maes criced, yn yr achos hwn—i sicrhau eu bod yn gysylltiedig â'r gymuned leol ni waeth sut y caiff y gamp ei llywodraethu.

15:30
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Rwy'n troi yn awr at gwestiynau'r llefarwyr. Y cyntaf y prynhawn yma yw llefarydd Plaid Cymru, Siân Gwenllian.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae problemau ariannol y sector celfyddydau yn sgil COVID yn parhau, a dwi'n credu eich bod chi'n cytuno efo fi bod gweithwyr llawrydd, yn benodol, felly, o dan bwysau mawr. Fe ddywedoch chi wrth bwyllgor diwylliant y Senedd nad oedd y £7 miliwn ar gyfer gweithwyr llawrydd yn y diwydiannau diwylliannol a chreadigol yn ddigonol. A dwi'n siŵr eich bod chi wedi gweld adroddiad cynhwysfawr tasglu llawrydd Cymru hefyd, sydd yn dod â nifer o argymhellion pwysig ymlaen. Mae'r adroddiad yma hefyd yn cynnwys nifer o bryderon ynghylch datblygiad gwaith cyfrwng Cymraeg yn y sector benodol yma. Felly, pa gynlluniau sydd gennych chi i sicrhau bod gan weithwyr llawrydd y gefnogaeth sydd ei hangen, ac a fyddwch chi'n fodlon gweithio efo'r tasglu yma, ac efo'r cyngor celfyddydau, a sefydliadau eraill, i weithredu ar argymhellion yr adroddiad? Pa gynlluniau penodol sydd gennych chi fel Llywodraeth i amddiffyn a thyfu'r sector cyfrwng Cymraeg yn ystod y pandemig?

Wel, mae'r sector cyfrwng Cymraeg, yn amlwg, mewn cenedl ddwyieithog yn swyddogol, ac mewn Senedd lle rydym ni'n cyfarfod heddiw lle mae'r ddwy iaith yn swyddogol, yn ganolog i'r cyfan rydym ni'n ei wneud fel Llywodraeth. Felly, does dim cwestiwn nad ydym ni'n trin darpariaeth Gymraeg ar yr un lefel â'r ddarpariaeth Saesneg. Ac yn wir, mae darpariaeth mewn ieithoedd eraill sydd yn cael eu siarad gan ddinasyddion Cymru yn bwysig i ni hefyd.

Ond y pwynt arall i'w bwysleisio yn y fan hyn, dwi'n meddwl, sy'n allweddol, yw ein bod ni, wrth ddarparu ein cynlluniau fel Llywodraeth, yn sicrhau bod y cyllid sydd ar gael gennym ni—pa un ai ydy o'n dod o'n cyllidebau ni wedi ei aildrefnu, neu os ydy o'n dod o Lywodraeth y Deyrnas Unedig—bod y cyllid yna yn cael ei ddosbarthu cyn gynted ag y mae hi'n bosib, i sicrhau bod yna ymateb i'r anghenion. A dyna rydym ni wedi ei wneud, yn arbennig gyda'r £53 miliwn, ond yn wir, efo'r cyllid mewnol sydd wedi ei ailddosbarthu—mae o'n fwy na hynny—ar gyfer y celfyddydau.

Beth sy'n bwysig ydy bod ceisiadau yn dod drwodd yn gyflym—ac mae cyngor y celfyddydau, mae'n rhaid i mi ddweud, wedi bod yn ymateb yn gyflym iawn wrth weinyddu'r rhan o'r gyllideb y mae'n nhw yn ei gweinyddu. Ac mi fyddwn ni fel Llywodraeth Cymru hefyd yn gweinyddu ein cyllideb ni yn olynol i hynny. Mae'n bwysig bod yr unigolion yma yn cael sicrwydd bod yna gyfle iddyn nhw gynnal bywoliaeth, er wrth gwrs y bydd yn rhaid darganfod ffyrdd o berfformio ac o weithredu mewn gofod gwahanol i beth rydym ni wedi bod yn ei wneud yn y gorffennol tra mae'r afiechyd difrifol yma yn parhau.

Diolch yn fawr. Dwi'n sylwi nad ydych chi wedi ateb fy nghwestiwn i ynglŷn â'r tasglu llawrydd a'u hargymhellion nhw a'u hadroddiad nhw—

Dwi wedi darllen eu hargymhellion nhw, ond dwi ddim yn mynd i ymateb yn uniongyrchol i unrhyw dasglu, oherwydd tasglu hunanbenodedig, dwi'n credu, ydy hwn—dydy o ddim yn dasglu'r Llywodraeth.

Gaf i droi at faes arall, sef newyddiaduraeth? Hoffwn i wybod pa drafodaethau rydych chi wedi eu cael ynglŷn â dyfodol newyddiaduraeth print cyfrwng Saesneg yng Nghymru. Ydych chi wedi bod yn trafod efo Reach, er enghraifft? Hoffwn i wybod sut y gall y Llywodraeth ddarparu cefnogaeth—hyd braich, yn amlwg, ond cefnogaeth serch hynny—i'r cyfryngau print Saesneg.

Roedd fy nhrafodaeth gyntaf i, fel mae'n digwydd, nid efo Reach, nid efo'r cwmni, ond efo undeb y newyddiadurwyr. Dwi wedi cael trafodaeth efo nhw, ac mae yna drafodaeth bellach yn mynd i ddilyn. Byddaf yn trafod eto efo Reach. Ond beth dwi'n ei obeithio y gallwn ni ei sefydlu ydy model a fydd yn galluogi cynnig cyllid cyhoeddus i newyddiaduraeth Saesneg sydd yn cyfateb i'r hyn sydd ar gael ar hyn o bryd mewn cyhoeddi llenyddol a newyddiadurol yn Gymraeg. Oherwydd mae hi wastad wedi bod yn amlwg i mi, fel un sydd â diddordeb yn y ddau ddiwylliant a'r ddwy iaith, nad oedd yna gyfartaledd darpariaeth yn y sefyllfa yma. Ac felly dwi'n gobeithio y gallwn ni weithredu drwy Cymru Greadigol, oherwydd dyna'r asiantaeth newydd sydd gennym ni mewn Llywodraeth. Oherwydd y sefyllfa bresennol gyda'r pla yma sydd wedi effeithio arnom ni, dydyn ni ddim wedi gallu symud ymlaen mor gyflym â byddwn i'n dymuno, ond mae yna gyfarwyddwr i Cymru Greadigol bellach, ac mae o'n brofiadol iawn fel swyddog cyhoeddus, ac mi fyddwn ni'n gweithredu drwy Cymru Greadigol i sefydlu model o gyllid. Ond mi fydd o hyd braich oddi wrth y Llywodraeth, oherwydd dyna oedd yn bwysig i mi hefyd. Mae'n rhaid inni gael model tebyg i fodel cyngor y celfyddydau, lle mae'r penderfyniadau artistig a'r penderfyniadau newyddiadurol yn cael eu gwneud nid gan wleidyddion, ond gan gorff lled-annibynnol oddi wrth y Llywodraeth.

15:35

Diolch yn fawr. Edrychwn ymlaen, felly, at weld y gwaith yna yn dwyn ffrwyth, achos rydych chi'n cytuno, dwi'n siwr, bod y diwydiant papurau newydd a chael un ffyniannus yn hollbwysig i ddemocratiaeth a bywyd cyhoeddus yng Nghymru. Felly, dwi'n falch o glywed beth rydych chi'n ei ddweud heddiw ar hynny. 

Gaf i droi jest at un maes arall i gloi, felly? Ddydd Iau diwethaf, dwi'n credu oedd hi, fe wnaeth Llywodraeth Cymru gyhoeddi cronfa adfer chwaraeon a hamdden, gwerth £14 miliwn, sydd i'w groesawu, wrth gwrs, ond un o'r problemau mae pobl yn y maes yna yn sôn wrthyf i amdano fo ydy bod rhaid i beth o'r arian yma fynd at gynlluniau arloesi, ac maen nhw'n gweld hynny yn anodd iawn, achos, mewn gwirionedd, maen nhw angen llenwi bylchau sydd yn codi o ddiffyg incwm. Pam eich bod chi wedi dewis ffocysu ar gynlluniau arloesi, yn hytrach na chanolbwyntio ar helpu sefydliadau i oroesi'r diffyg incwm sydd o'u blaenau nhw ar hyn o bryd?  

Wel, mi fuom ni'n ystyried y mater yma yn ofalus, ac un o'r pethau sydd wedi bod yn bwysig i mi, ar hyd y blynyddoedd, ydy os ydy pobl yn cael arian cyhoeddus bod o ddim yn arian am ddim, ac nad jest mater o lenwi bylchau ydy o, ond hefyd ein bod ni yn gallu canfod ffyrdd newydd o weithio yn greadigol i helpu i ddod â phobl drwy'r argyfwng yma yr ydym ni yn ei ganol. A dyna oedd wrth wraidd sicrhau bod yna ofynion creadigol, os leiciwch chi, ynglŷn â'r modd rydym ni'n defnyddio arian cyhoeddus. Nid ymgais i beidio â rhoi cyllid i unigolion nac i sefydliadau oedd hynny, ond doeddwn i ddim eisiau tywallt arian i mewn i hen sefydliadau creadigol sydd, efallai, ddim y math o sefydliadau y mae pobl neu gynulleidfaoedd newydd yn mynd i ymateb iddyn nhw. Ac felly dyna oedd hynna. A Cymru Greadigol fydd, eto, yn gyfrifol am roi trosolwg a chyngor inni yn y sefyllfa yma. 

Ddirprwy Weinidog, gwn fod llawer o'r Siambr, fel finnau, yn dilyn Joe Wicks ar y cyfryngau cymdeithasol. Mae'n siŵr ei fod yn arwr iechyd corfforol a meddyliol yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud cenedlaethol. Cyflwynodd fideo y bore yma ar sut y mae'r holl reoliadau coronafeirws a phethau felly'n effeithio arno'n feddyliol, ac roedd hynny'n ddewr iawn yn fy marn i, a dywedodd hefyd sut y mae gweithgarwch corfforol yn ei helpu gyda hynny.

Mae'r chwe mis diwethaf wedi gwneud niwed mawr i les corfforol a meddyliol pobl, rhywbeth a gafodd sylw yn gynharach yn natganiad y Prif Weinidog, a cheir llawer iawn o dystiolaeth sy'n awgrymu y gall gweithgarwch corfforol helpu iechyd meddwl. Felly, hoffwn ailadrodd galwadau cynharach Gweinidog yr wrthblaid dros iechyd a chwaraeon, Andrew R.T. Davies, am fwy o gymorth i chwaraeon hamdden ledled Cymru.

Roedd PE with Joe, sef yr hyn a wnâi Joe Wicks, yn gymaint o lwyddiant i deuluoedd cyfan o bob oed, a'u hiechyd meddwl a'u hiechyd corfforol yn ystod y cyfyngiadau symud, yn ogystal â'r fideos a oedd wedi'u teilwra ar gyfer yr henoed, yn enwedig y rheini a oedd ar y rhestr warchod. Nid wyf yn awgrymu eich bod chi a'r Prif Weinidog yn dechrau gwneud fideos ymarfer corff ar gyfer y genedl, Weinidog, ond mae'n rhywbeth da iawn, ac efallai y dylem edrych arno, oherwydd mae'n ffordd wych o fynd i mewn i dai pobl, eu helpu i wneud ymarfer corff, eu hannog i wneud ymarfer corff ac efallai ei fod yn rhywbeth y dylem edrych arno ar sail Cymru gyfan a hynny yn rhad ac am ddim. 

Mewn ardaloedd lle mae gennym gyfyngiadau lleol, gwnaeth i mi feddwl sut rydym yn cyrraedd y bobl hynny. Oherwydd y cyfyngiadau amlwg sydd ar bobl yn awr, sut rydych chi'n sicrhau bod pobl yn dal i allu cymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol, a sut rydych chi'n eu hannog i wneud hynny?

Wel, mae gennyf gyfrifoldeb cyffredinol o fewn y Llywodraeth dros annog gweithgarwch corfforol, ac rwy'n dal i wneud hynny fy hun. Nid wyf am eich gwahodd i ddod i fy ffilmio yng nghaeau Llandaf. Rwy'n gwneud hynny, ond mae'n broses loncian araf. Ond rwy'n credu ei bod yn hanfodol ein bod ni, fel Llywodraeth, yn ailadrodd y negeseuon hyn, oherwydd un o'r pethau allweddol rwy'n chwilio amdano, wrth inni frwydro drwy'r pandemig, yw sut yr awn ati i ddatblygu arferion da a chyfathrebu gwell, fel bod y negeseuon rydym yn eu cyfleu, y negeseuon iechyd rydym yn eu cynhyrchu, yn rhai y mae pobl yn ei chael yn hawdd ymateb iddynt. Felly, rhaid iddo fod yn ddewis o ran y math o weithgarwch corfforol. Buom yn siarad yn gynharach am chwarae bowls; mae'n dibynnu ar ba fath o weithgarwch corfforol y mae pobl yn ei ddewis—nid un peth neu'r llall yn unig. Mae'n rhaid inni sicrhau bod cymaint â phosibl o'r gweithgareddau hyn ar gael, mewn cydweithrediad, yn amlwg, â'n prif gyllidwyr, sydd, drwy Lywodraeth Cymru—ei fod yn cyrraedd defnyddwyr gwasanaethau.

15:40

Diolch, Weinidog. Mae galluogi pobl i gymryd rhan mewn chwaraeon yn ystod misoedd y gaeaf yn gwbl hanfodol. Mae bob amser wedi bod yn hanfodol, ond mae'n fwy hanfodol nag erioed yn awr yn ystod y pandemig hwn. Mae ardaloedd gwledig, sy'n aml yn cael eu hystyried yn gefnog gan Lywodraeth Cymru, yn ddifrifol o dlawd mewn llawer o ardaloedd o ran cyfleusterau chwaraeon, yn enwedig y rhai y gellir eu defnyddio yn ystod misoedd y gaeaf i sicrhau y gall pobl a chlybiau barhau â'u gweithgareddau chwaraeon drwy gydol y misoedd oeraf a mwyaf glawog. Pa gamau rydych chi'n eu cymryd, Weinidog, i sicrhau bod gan bawb ar draws pob rhan o Gymru fynediad at gyfleusterau chwaraeon pob tywydd yn eu cymunedau eu hunain, fel nad oes raid iddynt deithio?

Fe wnaf nodi hynny, oherwydd mae'n amlwg yn rhywbeth y mae angen inni sicrhau ein bod yn ei ddarparu ac yn ymateb iddo'n iawn. Rwy'n cael fy nhemtio i ddweud y dylem sicrhau cyflenwadau digonol o ddillad thermol i bawb, ond efallai na fyddai'n briodol i hynny ddod o fy nghyllideb i; wel, nid oes gennyf lawer o gyllideb beth bynnag. Ond i'r graddau y gallem wneud hynny, rwy'n credu mai'r peth amlwg yw gwneud i bobl deimlo'n gyfforddus i wneud ymarfer corff yn yr hinsawdd ddiddorol ac amrywiol sydd gennym yng Nghymru.

Diolch, Ddirprwy Weinidog. Yn olaf, mae'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn wynebu cryn anhawster ariannol oherwydd y coronafeirws. Dywedir eu bod yn wynebu colledion o tua £200 miliwn o ganlyniad i'r pandemig, ac maent wedi gorfod adolygu pob agwedd ar eu helusen i wneud arbedion ym mhob maes gweithgaredd bron iawn. Un atyniad o'r fath sydd mewn perygl ar hyn o bryd yw'r tŷ crwn yn y Cymin, sy'n atyniad pwysig i dwristiaid yn yr ardal, gan ddenu 65,000 o ymwelwyr y flwyddyn. Mae'r ymddiriedolaeth wrthi'n ymgynghori ar gau'r tŷ crwn, a fyddai'n ergyd fawr i'r economi leol. A wnewch chi gadarnhau bod y swm llawn o arian a ddarperir gan Lywodraeth y DU i gefnogi sefydliadau celfyddydol a diwylliannol yng Nghymru yn cael ei ddefnyddio at y diben a fwriadwyd, a pha gamau y gallwch eu cymryd i sicrhau bod safleoedd o bwysigrwydd hanesyddol, fel y tŷ crwn, yn cael eu cadw ar agor?

Rwyf wedi ymweld â'r Cymin. Credaf ei fod yn un o'r eiddo cynnar—credaf mai yn 1902 y cafodd ei roi'n rhodd i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Mae'n safle unigryw iawn. Rwyf wedi cael trafodaethau gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, ac mae fy uwch swyddogion, yn enwedig pennaeth Cadw, wedi cael trafodaethau gyda'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Rwy'n credu mai'r ffordd o ymateb i'ch cwestiwn yw drwy eich sicrhau fy mod eisiau cael partneriaeth gryfach rhwng Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru a Cadw, oherwydd credaf fod hwn yn gyfle yn awr inni gydweithredu, wrth inni ailagor, neu wrth inni ailagor safleoedd o'r math hwn yn raddol, gobeithio.

Yn amlwg, ni allwn ariannu'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol fel pe bai'n ddim ond ymgeisydd arall, ond os oes gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol gynigion difrifol, a fyddai'n cynnwys partneriaeth â Llywodraeth Cymru, byddwn yn gryf o blaid hynny. Rwy'n byw yng nghanol eiddo'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn y gogledd; dylwn ddatgan buddiant. Er, nid yw'r bwthyn sydd gennym ei hun yn eiddo i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol; nid wyf yn credu y byddai'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ei eisiau.

Mae'n ddrwg gennyf, Ddirprwy Lywydd, cefais drafferth yn gynharach y prynhawn yma.

Hyrwyddo Canolbarth Cymru Fel Cyrchfan i Dwristiaid

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am farchnata a hyrwyddo canolbarth Cymru fel cyrchfan i dwristiaid? OQ55541

Diolch am hynny. Efallai eich bod yn ymwybodol fod canolbarth Cymru, i mi, yn rhan bwysig iawn a chanolog o economi a bywyd rhanbarthol Cymru. Ac rydym wedi pwysleisio yn ein polisi twristiaeth fod gennym, yn wir, bedwar rhanbarth yng Nghymru, ac felly rydym yn annog ymwelwyr pryd bynnag y gallwn i ymweld â chanolbarth Cymru fel cyrchfan i dwristiaid, er mai'r slogan o hyd, yn amlwg, yw 'Darganfod Cymru. Yn ddiogel'.

15:45

Diolch, Ddirprwy Weinidog. Rwy'n amlwg yn falch o glywed hynny. Credaf fod gan y gwaith o adfer camlas Trefaldwyn, sy'n safle pwysig o ddiddordeb, botensial i hyrwyddo canolbarth Cymru fel cyrchfan i dwristiaid a gwneud cyfraniad sylweddol i'r economi ymwelwyr. Rwy'n siŵr y bydd gennych atgofion melys o'ch ymweliad chi a minnau â'r gamlas ychydig flynyddoedd yn ôl.

Amcangyfrifir y byddai adfer y gamlas yn cynhyrchu gwariant blynyddol o tua £5 miliwn ac yn creu 128 o swyddi amser llawn. Credaf fod yr ymgyrch i adfer y 'Monty', fel y'i gelwir ac fel y cyfeirir ato, angen ysgogiad newydd, felly byddwn yn falch o glywed am unrhyw drafodaethau diweddar y gallai Llywodraeth Cymru fod wedi'u cael, gyda Llywodraeth y DU neu Gyngor Sir Powys efallai, mewn perthynas ag ymgorffori'r prosiect hwn mewn bargen dwf bosibl ar gyfer canolbarth Cymru. Sylweddolaf y gallai hynny fod ychydig y tu allan i'ch portffolio uniongyrchol, Ddirprwy Weinidog, ond a fyddech chi hefyd yn cytuno i sefydlu gweithgor prosiect i edrych ar sut y gall Llywodraeth Cymru arwain y gwaith o adfer y gamlas a manteisio ar nifer o ffynonellau ariannu?

Rwy'n hoff iawn o ddyfrffyrdd Cymru ac mae gennyf ddiddordeb mawr ynddynt. Wedi'r cyfan, hwy yw sianeli cyntaf ein chwyldro diwydiannol cynnar a darnau ohonynt sydd i'w gweld bellach. Yn wir, mae gennyf fap, na allaf ei gyrraedd o'r fan hon, wrth i mi eistedd yma, o ddyfrffyrdd mewndirol Cymru a'r system gamlesi'n benodol. Yr ateb i'ch cwestiwn penodol yw: ydw, rwy'n hapus iawn i barhau â thrafodaethau pellach.

Rwyf wedi gweithio gyda Bwrdd Glandŵr Cymru yn y gorffennol—ymddiriedolaeth y camlesi a'r afonydd—ac rwy'n fodlon parhau â'r trafodaethau hynny. Yn amlwg, byddai gan Gyngor Sir Powys rôl bwysig yma ac rwy'n credu bod datblygu canolbarth Cymru fel ardal ar gyfer ymlacio, a'i lleoliad tra phwysig fel ardal fawr ar y ffin, yn rhywbeth nad wyf yn credu ein bod yn rhoi digon o bwys arno pan edrychwn ar yr hyn sy'n digwydd yng Nghymru. Mae llawer o sôn am Eryri, am y gogledd-ddwyrain yn awr, gyda'r cyffro yng nghastell Gwrych, am yr hyn sy'n digwydd yn y de-orllewin ac wrth gwrs, yn y dinasoedd—Caerdydd, Casnewydd, Abertawe—ac yn rhanbarth de-ddwyrain Cymru. Ond rwy'n credu bod canolbarth Cymru, i mi—. Ac mae'n rhaid i mi ddweud wrthych oherwydd—nid wyf dan gyfyngiadau symud, ond rwyf wedi bod dan gyfyngiadau symud personol ers dechrau mis Mawrth, a'r unig ymweliad y bum arno at ddibenion hamdden oedd i Lyn Efyrnwy mewn gwirionedd, ac roeddwn yn teimlo'n llawer gwell ar ôl bod yno.

Ddirprwy Lywydd, ymddiheuriadau am yr oedi, nid oedd y cyrchwr yn caniatáu i mi agor y meic.

Weinidog, pan fyddant yn caniatáu i mi adael Pen-y-bont ar Ogwr ar ryw bwynt, pan fyddwn wedi llwyddo i drechu'r feirws hwn, rwy'n edrych ymlaen at wisgo fy sanau cerdded a mynd ar hyd Ffordd Cambria drwy ganolbarth Cymru. Mae'n drysor gwych ac wrth gwrs, y llynedd, ynghyd â'r Cerddwyr, lansiwyd Ffordd Cambria gyda Cicerone, y lluniwr llwybrau gwych sy'n cyhoeddi'r llwybrau gorau yn y byd. Ond a allech chi ddweud wrthyf, Weinidog, wrth annog mwy o bobl i diroedd gwyllt canolbarth Cymru, sy'n drysor mawr heb ei ddarganfod—mae hynny'n bendant yn wir—sut rydym hefyd yn sicrhau bod gan bobl barch at gefn gwlad ac nad ydynt yn gadael unrhyw olion? Rwy'n ddigon hen i gofio'r hen god cefn gwlad hefyd. Sut y mae gwneud yn siŵr ein bod yn addysgu cenhedlaeth newydd o bobl i fwynhau cefn gwlad ond i ofalu amdano hefyd?

Wel, mae hyn yn rhan allweddol o'r berthynas dwristiaeth, y berthynas rhwng ymwelwyr a'r rhai sy'n eu croesawu, ac mae'n amlwg fod yn rhaid i bobl yng nghefn gwlad fod yn gadarnhaol yn eu croeso a'u derbyniad i ymwelwyr, ond mae'n rhaid i ymwelwyr a cherddwyr yn arbennig ddeall natur cymunedau cefn gwlad, a'r gamddealltwriaeth sy'n digwydd yn aml iawn ynghylch y berthynas rhwng hawliau tramwy, hawliau caniataol a hawliau statudol—llwybrau troed ac yn y blaen. Felly, credaf mai'r peth pwysig yma yw sicrhau bod y negeseuon rydym yn eu hyrwyddo drwy Croeso Cymru a'r negeseuon rydym yn eu hyrwyddo drwy ein perthynas ag undebau amaethyddol a'r tirfeddianwyr yn negeseuon sy'n edrych am dwristiaeth gynaliadwy a gweithgareddau hamdden cefn gwlad cynaliadwy.

15:50
Hyrwyddo'r Gymraeg Ymysg Plant Ifanc

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo'r Gymraeg ymysg plant ifanc? OQ55536

Diolch yn fawr, Mike, a diolch am ofyn y cwestiwn yn Gymraeg hefyd. Drwy Cymraeg i Blant, y siarter iaith, Mudiad Meithrin, yr Urdd, mentrau iaith a thrwy lawer o ffyrdd eraill, mae llawer o gyfleoedd i blant ddefnyddio'r Gymraeg. Hefyd, byddaf yn cyhoeddi polisi ar drosglwyddo'r Gymraeg rhwng rhieni a'u plant cyn diwedd y flwyddyn, a fydd eto yn sail i raglen newydd o waith.

Diolch, Weinidog, am yr ateb hwnnw. Roeddwn i, fel mae llawer o rai eraill yma, yn ymwybodol o ba mor anodd yw dod yn rhugl yn y Gymraeg fel oedolion. Pa drafodaethau mae'r Gweinidog yn eu cael gyda chydweithwyr ynghylch pwysigrwydd dechrau dysgu Cymraeg yn ifanc, yn enwedig o ran cefnogaeth i Mudiad Meithrin, Ti a Fi a sicrhau bod dechrau disglair trwy gyfrwng y Gymraeg ar gael? 

Diolch yn fawr. Roedd hynna'n arbennig o dda, Mike, a dwi'n meddwl bod y cwestiynau yn rhai teilwng hefyd. Wrth gwrs, beth rŷn ni yn ceisio gwneud i gyrraedd miliwn o siaradwyr yw sicrhau—. I gyrraedd y targed yna, rŷn ni eisiau sicrhau bod mwy o blant yn cael addysg Gymraeg. Felly, mae tua 20 y cant o blant yn cael addysg Gymraeg ar hyn o bryd. Rŷn ni eisiau hwnna i gyrraedd tua 40 y cant. Mae hwnna'n gam eithaf mawr ac, wrth gwrs, y ffordd i wneud hynny yw trwy ddechrau gydag addysg ysgol feithrin, a dyna pam eisoes rŷn ni wedi agor—mae ysgolion meithrin wedi agor—mwy o lefydd lle mae yna gyfle i blant ddod ynghyd i ddysgu Cymraeg mewn ardaloedd lle nad oes ysgolion meithrin ar hyn o bryd. Ond hyd yn oed cyn hynny, mae 20 o gylchoedd Ti a Fi newydd wedi eu sefydlu ledled Cymru, ac mae hwnna, wrth gwrs, yn rhoi cyfle i bobl jest i gamu i mewn i'r Gymraeg cyn anfon eu plant nhw i ysgolion meithrin.

Felly, rŷn ni'n ceisio annog plant i ddefnyddio'r Gymraeg ond, wrth gwrs, unwaith maen nhw'n mynd mewn i ysgolion Cymraeg, hefyd mae'n rhaid inni sicrhau eu bod nhw'n defnyddio'r iaith yn gymdeithasol. Dyna pam rŷn ni'n defnyddio pethau fel y mentrau iaith i sicrhau bod yna gyfleoedd iddyn nhw ymarfer yr iaith unwaith eu bod nhw yn gallu ei siarad hi.

Rwy'n falch, Weinidog, eich bod chi wedi sôn am rieni achos mae'r gefnogaeth weladwy gan rieni neu ofalwyr i'r Gymraeg yn ddylanwadol iawn ar sut mae plentyn bach yn derbyn dwyieithrwydd fel rhan o'r ffordd mae'n gweld ei hunan, rhywbeth sy'n real tu hwnt i leoliad penodol fel cylchoedd neu ysgolion, fel rŷn ni'n gwybod. Gwersi tylino babanod a ioga babanod, wrth ochr cae pêl-droed, mewn siop leol—mae'r rhain yn fannau hamddenol a chyfeillgar lle gall rhieni ddefnyddio'r Gymraeg eu hunain tra byddant gyda'u plant. Mae rhaglenni megis Cymraeg i Blant—rŷch chi wedi sôn am hynny—a Clwb Cwtsh yn hanfodol yn y gwaith i gefnogi rhieni ar daith eu plant i ddod yn ddwyieithog, ond beth arall allwch chi awgrymu sydd ddim ar-lein i gyfoethogi profiad rhieni, fel y gallant ddod yn brif hyrwyddwyr yr iaith i blant ifanc, drwy allu dangos nid yn unig dweud, ac mae hynny'n bwysig iawn, dwi'n credu, mewn ardaloedd, fel rŷch chi wedi dweud, di-Gymraeg?

15:55

Diolch yn fawr. Dwi yn meddwl bod hwnna'n bwynt rili pwysig, achos mae yna berygl bod pobl yn gweld yr iaith fel rhywbeth sy'n artiffisial, sydd ddim ond yn digwydd yn yr ysgol, felly mae'n bwysig eu bod nhw'n gweld bod hyn yn ffordd o fyw hefyd. A dyna pam, wrth gwrs, mae Cymraeg i Blant yn gyfle i bobl wneud hynny. Ond, wrth gwrs, ar hyn o bryd, mae hynny'n anodd, a dyna pam mae'r holl waith yna wedi symud ar-lein, ac mae'n bwysig ar hyn o bryd eu bod nhw'n rhoi cyfleoedd i'r rheini sydd heb gyfleoedd i siarad Cymraeg adref, ac sydd ddim wedi gallu mynd i'r ysgol am fisoedd—eu bod nhw yn cael cyfle i ddefnyddio'r iaith.

Rŷn ni wedi bod yn rhoi syniadau drwy rwydweithiau cymdeithasol i rieni, fel eu bod nhw'n gweld beth sydd allan yna, felly mae 'Llond haf o Gymraeg'—mae hwnna'n hashtag; mae'n ffordd i bobl fynd ati i ffeindio mesurau a phethau maen nhw'n gallu eu defnyddio, fel eu bod nhw'n gallu defnyddio'r iaith Gymraeg. Ond, wrth gwrs, peth arall rŷn ni'n mynd i'w wneud yw'r syniad yma o drosglwyddo iaith rhwng pobl yn eu teuluoedd nhw. Mae hwnna'n rhywbeth rili sensitif, yn rili anodd ei wneud, ond mae e'n rhywbeth rŷn ni'n ceisio mynd ati ar hyn o bryd, i weld beth allwn ni ei wneud i gael mwy o'r rheini sydd efallai ddim cweit gyda'r hyder, neu sydd ddim wedi siarad Cymraeg ers blynyddoedd, ers iddyn nhw adael ysgol—eu bod nhw yn mynd ati i ddefnyddio'r Gymraeg gyda'u plant nhw.

Twristiaeth yng Ngogledd Cymru

5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i dwristiaeth yng ngogledd Cymru? OQ55559

Diolch yn fawr iawn, Darren. Y gefnogaeth rydym wedi'i rhoi i'r diwydiant twristiaeth yng ngogledd Cymru yw'r gefnogaeth fwyaf hael yn y Deyrnas Unedig, yn enwedig drwy'r gronfa cadernid economaidd. Mae busnesau twristiaeth drwy Gymru gyfan wedi cael budd o dros £27 miliwn drwy ddau gam cyntaf y gronfa cadernid economaidd, a gwariwyd £8 miliwn ohono yng ngogledd Cymru.

Diolch am yr ateb hwnnw, Ddirprwy Weinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol mai castell Gwrych fydd ffocws miliynau o wylwyr o fis Tachwedd ymlaen pan fydd I'm a Celebrity...Get Me Out Of Here! yn cael ei ffilmio yno, mewn lleoliad tylwyth teg. Yn amlwg, mae hynny'n rhoi cyfle enfawr inni roi gogledd Cymru'n fwy amlwg ar y map i ymwelwyr, nid yn unig yng Nghymru, ond ym mhob rhan o'r y byd. A allwch chi ddweud wrthyf pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd er mwyn manteisio ar y cyfle a ddaw yn sgil y ffaith bod I'm a Celebrity...Get Me Out Of Here! yn digwydd yn Abergele, ac a fyddwch chi'n cymryd rhan yn y rhaglen honno ai peidio, ac a yw ITV wedi cysylltu â chi?

Ni allaf ateb rhan olaf y cwestiwn hwnnw. [Chwerthin.] Ond na, nid wyf yn bwriadu cymryd rhan, nid wyf yn credu, ac ni fyddwn yn cael gwneud hynny fel Gweinidog twristiaeth. Ni allwn esgus bod yn rhan o weithgaredd twristiaeth fy hun. Ond rwy'n adnabod castell Gwrych, yn amlwg, oherwydd cefais fy magu yn sir Conwy, ac rwy'n falch iawn o'r gefnogaeth gref iawn i'r prosiect hwn. A chredaf na allwn byth danbrisio pwysigrwydd gweithgaredd sy'n cyfuno gweithgarwch corfforol yng nghefn gwlad a diddordeb treftadaeth, sy'n ddadleuol—a yw castell Gwrych yn safle treftadaeth yng ngwir ystyr y gair, ond fe fydd yn awr yn sicr.

Ddirprwy Weinidog, roeddwn yn falch o gefnogi'r sector twristiaeth yng ngogledd Cymru dros gyfnod y cyfyngiadau symud, a'r bygythiad real iawn i fusnesau, swyddi a bywoliaeth a ragwelwyd pe na bai'r sector yn cael ei agor mewn modd amserol. Nid llety'n unig yw twristiaeth, mae'n golygu amgueddfeydd, llochesau anifeiliaid, plastai a'r holl bethau rydym ni fel trigolion yn gwybod eu bod yno ond yn eu cymryd yn ganiataol neu heb eu gweld ers degawdau. A wnewch chi ymuno â mi, os gwelwch yn dda, i ofyn i Gymru gyfan, yn ogystal â'n hymwelwyr, i syrthio mewn cariad unwaith eto â ble rydym yn byw a mynd i weld y safleoedd hyn a mwynhau'r cyfleusterau hyn lle mae'r rheolau newydd yn caniatáu inni wneud hynny? Diolch.

Diolch i chi am y cwestiwn cadarnhaol hwnnw. Mae'n eithriadol o bwysig ein bod yn cydnabod gwerth ymweliadau oddi mewn i Gymru i dwristiaeth Cymru, yn ogystal ag ymweliadau o wledydd cyfagos, yn enwedig dros y ffin o Loegr, yn ogystal ag o Iwerddon. Ac rwy'n gobeithio y bydd y gweithgareddau yng nghastell Gwrych a'r gefnogaeth deledu a ddarperir ar gyfer hynny o ran marchnata, a'r marchnata a fydd yn gysylltiedig â hynny gan Croeso Cymru fel ein sefydliad marchnata twristiaeth ein hunain, yn gallu darparu neges gadarnhaol i bobl ymweld â'r safleoedd hyn yng Nghymru yng nghyd-destun y mesurau iechyd cyhoeddus sydd gennym ar hyn o bryd.

16:00
Ail Gartrefi

6. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch effaith ail gartrefi ar yr iaith Gymraeg? OQ55538

Diolch, Neil. Mae sicrhau y gall pobl gael mynediad at gartrefi fforddiadwy yn hanfodol ar gyfer cynaliadwyedd cymunedau Cymraeg eu hiaith yn y dyfodol. Mae hwn yn fater cymhleth, ac mae ail gartrefi yn ffactor arwyddocaol ynddo. Rwyf eisoes wedi trafod hyn gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, a byddaf yn parhau i flaenoriaethu'r mater hwn.

Rwy’n annog y Gweinidog yn gryf i gael trafodaethau gyda Chyngor Gwynedd, gan y gall llywodraeth leol wneud llawer. Yng Ngwynedd, mae 7,000 o gartrefi yn eiddo i bobl nad ydynt yn byw yng Nghymru hyd yn oed. Mae deg y cant o gartrefi yng Ngwynedd yn cael eu defnyddio fel ail gartrefi—mwy nag unrhyw sir arall yng Nghymru. Prynwyd bron i 40 y cant o'r eiddo a werthwyd yng Ngwynedd rhwng mis Mawrth 2019 a mis Ebrill 2020 fel ail gartrefi—unwaith eto, mwy nag unrhyw sir arall yng Nghymru. Mae tai yn cael eu marchnata yn Lloegr am £400,000, £2 filiwn—un am £3 miliwn, ychydig i lawr y ffordd o Fynytho, y pentref lle ganwyd a magwyd fy ngwraig. Yn syml iawn, ni all pobl leol fforddio prynu tai lle maent yn byw nawr, gyda'r cyflog cyfartalog yng Ngwynedd yn £16,000 y flwyddyn. Pasiwyd cynllun datblygu lleol gan y cyngor lleol yng Ngwynedd sy'n caniatáu, yn anhygoel, trosi tai teulu yn llety gwyliau. Felly, mae mater ail gartrefi yn epidemig sydd wedi bodoli ers degawdau mewn cymunedau Cymraeg, gan ddinistrio'r iaith. Felly, fy nghwestiwn, mewn gwirionedd, yw: pa bryd rydych chi'n mynd i ddechrau gwneud rhywbeth ynglŷn â phobl yn osgoi trethi ar yr ail eiddo, pa bryd rydych chi'n mynd i ailwampio'r system gynllunio, ac yn enwedig cynlluniau datblygu lleol, a pha bryd y mae'r Llywodraeth yn mynd i roi diwedd ar y sgandal?

Diolch, Neil. Yn gyntaf oll, hoffwn roi gwybod iddo fy mod wedi cael trafodaethau, nid yn unig gydag aelodau o Gyngor Gwynedd yr wythnos diwethaf, ond hefyd gyda chynrychiolwyr o'r holl awdurdodau lleol gwledig yng Nghymru, ac roedd hwn yn fater a drafodwyd gennym. A'r hyn sy'n amlwg yw bod hwn yn fater cymhleth iawn. Rydym yn benderfynol o sicrhau ei bod yn bosibl i bobl sy'n cael eu magu mewn ardal—y dylent allu aros yn yr ardal honno. Ond mae'r ffyrdd o sicrhau bod hynny'n digwydd braidd yn gymhleth.

Wrth gwrs, un o'r pethau rydym wedi’u gwneud, ac rydym wedi ymrwymo iddynt, ac rydym yn eu cyflawni, yw adeiladu 20,000 o gartrefi newydd. Ni yw'r unig genedl yn y DU lle gall awdurdodau lleol godi premiwm o hyd at 100 y cant ar gyfradd safonol y dreth gyngor ar ail gartrefi. Ni yw'r unig ran o'r DU—nid yr Alban, hyd yn oed; fe wnaethant ddarparu gostyngiad treth dros dro i fuddsoddwyr prynu i osod hyd yn oed, ni wnaethom hynny yng Nghymru, fe wnaethom drosglwyddo peth o'r arian hwnnw i adeiladu cartrefi newydd.

Ond credaf ei bod yn bwysig deall ein bod wedi bod yn ystyried hyn ers peth amser. Rydym yn chwilio am ffordd o fynd i'r afael â'r mater difrifol hwn. Rydym wedi’i drafod yn ein grŵp cynghori ar y Gymraeg, ac ar hyn o bryd, mae Dr Simon Brooks yn cynnal adolygiad o sut y mae ardaloedd eraill yn ymdrin ag ail gartrefi fel rhan o'i waith gydag academi Hywel Teifi, ac rwy'n gobeithio y bydd ei astudiaeth yn ein helpu i ddod o hyd i ffordd ymlaen yn hyn o beth. Rydym wedi edrych ar Gernyw, rydym wedi edrych ar yr Alban, rydym wedi edrych ar Jersey—mae gan bob un ohonynt broblemau'n gysylltiedig â hwy. Felly, rydym yn chwilio am ateb, ac nid ydym wedi dod o hyd i un eto. Felly, rydym yn bendant yn awyddus i sicrhau ein bod yn dechrau cyfathrebu ag Aelodau o'r Senedd, a gwn fod y Gweinidog tai wedi gwahodd Aelodau a oedd â diddordeb yn hyn i siarad â hi yn ddiweddar iawn.

16:05

Weinidog, gall ail gartrefi fod yn rhan bwysig o gynnal yr economi leol, ond mae cydbwysedd bregus iawn i'w daro, a chredaf fod rhan o'r ateb yn ymwneud ag adeiladu mwy—mwy o dai cymdeithasol, nad ydynt yn creu'r broblem hon, ond hefyd, mae'n agored i gynghorau, wrth ddatblygu tir, ei gyfamodi i farchnad leol. Ar gyfer adeiladau newydd, ymddengys i mi y gallai hynny fod yn ddatblygiad diddorol. Ni chredaf y gallwch ei wneud yn ôl-weithredol, gan fod yn rhaid i chi wynebu'r ffaith bod y cartrefi hyn yn aml yn cael eu gwerthu gan bobl leol, yn gwbl naturiol, i'r sawl sy'n rhoi'r cynnig uchaf, a dyna'n aml pryd y dônt yn ail gartrefi.

Diolch. Wel, gallaf roi sicrwydd i chi y byddwn yn cynnal ein cefnogaeth i'r grant tai cymdeithasol, sef prif ffynhonnell cymorthdaliadau ​​ar gyfer tai fforddiadwy yng Nghymru. Mae hynny, wrth gwrs, yn cyfrannu at y targed hwnnw o 20,000. Mae'r system gynllunio yn rhywbeth lle mae—. Rydym wedi ceisio edrych i weld a oes modd tynhau'r system gynllunio, efallai, fel na allwch newid eiddo o fod yn gartref i rywle y gallwch ei rentu. Mae rhai problemau cyfreithiol cymhleth iawn ynghlwm wrth hynny. Ond fel y dywedwch, mae'n rhaid i ni gael y cydbwysedd hwn yn iawn, gan fod hyn hefyd—. Mae twristiaeth yn elfen wirioneddol bwysig yn y cymunedau hynny, ond ar hyn o bryd, credaf fod yn rhaid inni gydnabod bod y cydbwysedd mewn rhai cymunedau wedi mynd yn rhy bell.

4. Cwestiynau i Gomisiwn y Senedd

Symudwn at eitem 4, sef cwestiynau i Gomisiwn y Senedd. Bydd y cwestiwn cyntaf y prynhawn yma yn cael ei ateb gan Rhun ap Iorwerth. Siân Gwenllian.

Statws y Gymraeg yng Ngwaith y Senedd

1. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am statws y Gymraeg yng ngwaith y Senedd yng ngoleuni dyfarniad y llys gweinyddol yn achos Driver yn erbyn Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf? OQ55557

Diolch, Siân Gwenllian, am y cwestiwn yna. Beth ddigwyddodd yn yr achos yma oedd bod y llys gweinyddol wedi atgyfnerthu'r egwyddor bod gan destun deddfau sy'n cael eu gwneud gan y Senedd yr un grym cyfreithiol yn Gymraeg ag yn Saesneg. Mae angen edrych ar y ddwy iaith, felly, er mwyn nodi gwir ddadansoddiad statud.

Yma yn y Senedd, mae gennym ni sail ddeddfwriaethol gref i'n statws ni fel deddfwrfa ddwyieithog. Mae adran 156 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn nodi bod gan destun Cymraeg a Saesneg yr un statws mewn deddfwriaeth. Ymhellach, mae Deddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol) 2012 yn datgan bod gennym ni ddwy iaith swyddogol yn y Senedd. Mae'r cynllun ieithoedd swyddogol yn amlinellu sut rydym ni'n trin y ddwy iaith ar y sail honno. Felly, mi ydym ni'n croesawu penderfyniad y llys gweinyddol i danlinellu a chadarnhau statws cydradd y Gymraeg o fewn y gyfundrefn ddeddfwriaethol.

Diolch yn fawr. Ddoe, mi ges i gyfle i drafod y dyfarniad llys arwyddocaol yma efo'r Cwnsler Cyffredinol. Mae yna ddwy agwedd arwyddocaol iawn o ran y Gymraeg yn codi yn sgil y dyfarniad yma, ac un—yr un roeddwn yn ei thrafod ddoe—sydd i bob pwrpas yn creu hawl i gael addysg Gymraeg o fewn pellter rhesymol i'r cartref.

Dwi'n codi mater arall a oedd yn rhan o'r dyfarniad yna efo chi, sef y tro cyntaf i destun Cymraeg deddfwriaeth chwarae rhan amlwg mewn achos cyfreithiol, ac mae hynny'n berthnasol i ni. Mi oedd cyngor Rhondda Cynon Taf wedi diystyru fersiwn Gymraeg Deddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013 yn llwyr, ac yn anghywir i wneud hynny yn ôl y barnwr. Mi oedd yna gwestiwn hefyd ynglŷn â gwahaniaeth ystyr rhwng y fersiwn Gymraeg a'r Saesneg yn y ddeddfwriaeth.

Felly, a ydych chi'n cytuno bod yna gwestiynau pwysig yn codi o'r dyfarniad sydd angen sylw dyledus gan y Comisiwn, gan aelodau'r Llywodraeth, a gan arbenigwyr allanol fel Comisiynydd y Gymraeg, a bod yna gwestiynau fath â sicrhau ansawdd ein prosesau deddfu dwyieithog, yr angen i uchafu statws y Gymraeg yng ngwaith y Senedd, a rôl y Senedd mewn gyrru datganoli cyfiawnder yn ei flaen er lles y Gymraeg? Felly, byddwn i'n gofyn i chi am ymrwymiad heddiw yma i sicrhau dadansoddiad manwl ynglŷn ag arwyddocâd y dyfarniad yma ac unrhyw newidiadau ddylai ddilyn yn sgil hynny.

16:10

Diolch am y cwestiwn yna. Dwi'n meddwl bod Siân Gwenllian yn sicr yn iawn i bwysleisio gwir arwyddocâd y dyfarniad yma, a dwi yn sicr yn eiddgar iawn i'r arwyddocâd hwnnw gael sylw manwl gan y Comisiwn a gan y Llywodraeth. Dwi'n sicr hefyd bod hwn yn rhywbeth y byddai'n sicr o fod o ddiddordeb i swyddfa Comisiynydd y Gymraeg.

Dwi'n cytuno bod gweld yn fan hyn y Gymraeg yn cael ei chadarnhau mor bendant—bod hynny'n rhywbeth dylai ein sbarduno ni, dwi'n meddwl, i fod yn fwy penderfynol i wneud yn siŵr bod prosesau deddfu dwyieithog yn gadarn, yn fwy cadarn byth. Dylai fo roi hyder i ni fel Senedd i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg yn y ddeddfwrfa yma. Dwi'n gwahodd Aelodau i rannu eu syniadau ar sut i wireddu hynny hefyd wrth i'r arolwg blynyddol aelodau staff gael ei rannu yr wythnos yma. 

A pwynt arall liciwn i ei wneud hefyd ydy bod y cynllun ieithoedd swyddogol, wrth gwrs, yn cael ei adolygu ar gyfer y chweched Senedd. Mae'r dyfarniad yma'n rhoi cyd-destun newydd i hwnnw. Mewn ffordd, mae'n cryfhau'r cyd-destun, ac mi fyddwn ni'n annog Aelodau i gyfrannu at y gwaith hwnnw hefyd pan fydd y Comisiwn yn ymgynghori arno fo.

Diolch. Bydd cwestiwn 2 a chwestiwn 3 y prynhawn yma yn cael eu hateb gan y Llywydd. Cwestiwn 2, Andrew R.T. Davies.

Cyfarfodydd Pwyllgor Hybrid

2. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am y materion ymarferol sy'n gysylltiedig â chynnal cyfarfodydd pwyllgor hybrid yn Senedd Cymru? OQ55562

Diolch am y cwestiwn. Mae staff y Comisiwn wedi bod yn paratoi yn ystod y toriad ar gyfer cynnal cyfarfodydd pwyllgor hybrid. Addaswyd yr ystafelloedd pwyllgorau i alluogi i rai Aelodau, swyddogion a thystion i fod yn bresennol yn ddiogel, gydag eraill yn cymryd rhan dros Zoom. Cynhelir dau gyfarfod o'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar 2 Hydref a 9 Hydref er mwyn profi'r fformat a'r cyfleusterau. Yng ngoleuni'r profiad hwnnw, bydd fforwm y Cadeiryddion yn trafod y posibilrwydd o gynnig fformat hybrid i bwyllgorau eraill yn ail hanner y tymor yma.

Diolch, Lywydd. Credaf fod yr ateb yn eithaf cyflawn. Mae'n rhoi amserlen i mi y gallwn edrych ymlaen ati fel Aelodau. A ydych yn obeithiol y bydd unrhyw gyhoeddiad yn cael ei wneud cyn y toriad hanner tymor? Rwy'n derbyn i chi ddweud, gyda materion ymarferol sy'n gysylltiedig â'i gyflawni, ar yr amod fod y treial yn mynd yn dda, na fyddai ond ar waith yn ystod ail hanner y tymor, ond a gawn ni fel Aelodau ddisgwyl rhyw fath o gyhoeddiad o ganlyniad i'r treial fel y gallwn ddeall pryd yn union y gallai ddigwydd?

Wel, yn ein gwaith ar ddatblygu ffyrdd newydd o weithio yn ystod cyfnod y coronafeirws, wrth inni ddatblygu a threialu ffyrdd newydd o weithio, rydym bob amser wedi gwneud hynny ar y sail ein bod wedi cynnal cynlluniau peilot, er mwyn sicrhau popeth o ran sut y gall yr Aelodau gymryd rhan, ond hefyd sut y mae'r TG a'r system glercio yn ein cefnogi. Rydym yn gwneud hynny ar sail cynnal cynlluniau peilot, fel y byddwn yn ei wneud gyda'r pwyllgor llywodraeth leol ymhen wythnos neu ddwy.

Yna, bydd fforwm y Cadeiryddion a barn y Cadeiryddion ynglŷn â pherfformiad eu pwyllgorau hyd yn hyn a sut y maent yn gobeithio y bydd eu pwyllgorau’n gweithio yn y dyfodol yn hanfodol o ran sut rydym yn edrych i weld a oes awydd i gynnal mwy o gyfarfodydd pwyllgor hybrid.

Rydym bellach wedi sicrhau bod y gallu gennym i gynnal hyd at ddau gyfarfod ar unwaith ar ffurf hybrid. Felly, rydym wedi gwneud y gwaith paratoi i sicrhau bod y gallu TG a'r gofod gennym ar gyfer y nifer honno fan lleiaf, ond mae'n fater o weld sut y mae ychydig gyfarfodydd cyntaf y pwyllgor llywodraeth leol yn mynd yn y dyfodol.

Mae hyn oll, wrth gwrs, fel y gŵyr pob un ohonom, yn amodol ar y rheoliadau coronafeirws yn newid, fel rydym yn ei weld ar hyn o bryd, ond rydym am alluogi cymaint o weithgarwch â phosibl yn y Senedd, fel rydym wedi'i wneud hyd yma, ac mae angen inni dreialu ffyrdd newydd o weithio, a pharhau i wneud hynny. Felly, diolch am y cwestiwn.

16:15
Etholiadau'r Senedd

3. Pa drafodaethau y mae'r Comisiwn wedi'u cael ar sut i hysbysu etholwyr am etholiadau'r Senedd ym mis Mai 2021 er gwaethaf cyfyngiadau coronafeirws? OQ55564

Mae cam cyntaf yr ymgyrch wedi canolbwyntio'n bennaf ar roi'r bleidlais i bobl 16 oed. Rydym wedi datblygu set o ddeunyddiau ar gyfer yr ystafell ddosbarth a grwpiau ieuenctid. Yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud, mae'r rhain hefyd wedi cael eu haddasu ar gyfer eu defnyddio gartref. Ar gyfer yr ymgyrch etholiadol, mae staff yn datblygu deunyddiau a chynlluniau i sicrhau bod ein prif neges am yr etholiad, sef mai pleidleisio yn Senedd 2021 yw'r ffordd i chi ddweud eich dweud a chael eich clywed yn eich Senedd, yn cyrraedd pob rhan o Gymru. Canolbwyntir ar y rhai sydd newydd gael yr etholfraint o dan Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020, ond byddwn hefyd yn mynd i'r afael â grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol yn draddodiadol.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dwi'n falch iawn yn arbennig i glywed am y gwaith sydd wedi cael ei wneud gyda phobl ifanc. Dwi eisiau holi pa waith pellach mae'r Comisiwn yn medru ei wneud i sicrhau bod pobl sydd ddim yn iaith gyntaf Cymraeg neu Saesneg yn deall bod ganddyn nhw'r hawl i bleidleisio. Bydd lot o bobl sydd ddim â dinasyddiaeth swyddogol, ond sydd yn ddinasyddion Cymru, yn ein tyb ni, â'r hawl i bleidleisio am y tro cyntaf. A oes modd, efallai, darparu deunydd mewn ieithoedd perthnasol i rai o'r bobl sydd efallai wedi dod fan hyn fel ffoaduriaid neu i weithio?

Rydym ni'n gweithio gyda Llywodraeth Cymru a'r Comisiwn Etholiadol ac awdurdodau lleol hefyd, wrth gwrs, i sicrhau bod pawb yn ymwybodol o'r trefniadau newydd a'r etholfraint newydd ar gyfer yr etholiad yna. Dwi'n derbyn yn llwyr y pwynt rŷch chi'n ei wneud, bod angen gwneud hynny yn ieithoedd dinasyddion Cymru. Fe wnaf i'n siŵr bod y rhai sydd yn gweithio arno'n ei wneud, achos dwi'n ei gefnogi'n llwyr bod angen bod y wybodaeth yma sydd ar gael am y cyfle—[Anghlywadwy.]—ar gael yn yr amryw ieithoedd—[Anghlywadwy.]

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Lywydd, tybed a gaf fi ofyn i chi p'un a gafwyd unrhyw drafodaethau yn y Comisiwn, yn eich gwaith yn hysbysu'r etholwyr am etholiadau'r Senedd y flwyddyn nesaf, ynglŷn â chymhwysedd pleidleisio drwy'r post, yn enwedig wrth inni weld y cyfyngiadau coronafeirws ar waith mewn mwy a mwy o rannau o Gymru. Rwy’n sylweddoli mai mater i'r Comisiwn Etholiadol yw hwn yn bennaf, a’r swyddogion etholiadol sy'n rhan o’r drafodaeth hefyd, ond ymddengys yn gynyddol i mi ac i Aelodau eraill o’r Senedd y gallem wynebu cyfyngiadau symud, ac o'r herwydd, y gallai pleidleisio drwy’r post fod yn rhan fwy na'r arfer o'r broses etholiadol ar gyfer etholiadau’r Senedd y flwyddyn nesaf.

Diolch am eich cwestiwn. Rwy'n gobeithio bod y cysylltiad band eang yn fwy sefydlog bellach nag yn ystod fy ateb blaenorol. Rwyf ychydig y tu allan i'r Siambr, a byddwn wedi disgwyl y byddai'r cysylltiad band eang wedi bod yn ddigon sefydlog i gyrraedd ychydig fetrau ar gyfer hynny.

O ran y cwestiwn a ofynnwyd gennych ynglŷn â sut y dylid cynnal etholiad mis Mai 2021, mae'r rhain yn amlwg yn faterion sy’n cael eu trafod yn aml bellach rhwng yr amryw bobl sy'n sicrhau bod yr etholiad yn mynd rhagddo—llywodraeth leol, y Comisiwn Etholiadol, Llywodraeth Cymru a ninnau yn yr achos hwn, ar gyfer etholiad y Senedd—ac mae’r trafodaethau’n parhau ynglŷn â sut y bydd y rheoliadau coronafeirws yn golygu y gallai fod angen gwahanol ffyrdd o gynnal yr etholiad hwnnw o bosibl. Felly, bydd angen inni edrych ar bob ffordd o sicrhau bod yr etholiad mor ddiogel â phosibl, os yw’r rheoliadau coronafeirws yn parhau i fod ar waith, ond mae angen gwasanaethu democratiaeth, ac mae angen i bawb gael mynediad at y ddemocratiaeth honno. Felly, bydd angen inni sicrhau ein bod yn gallu gweithio a chynnal yr etholiadau hynny mewn ffordd sy'n galluogi pawb i gymryd rhan ynddynt.

16:20
Dodrefn a Ffitiadau

4. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am sut y defnyddir y gyllideb a ddyrennir ar gyfer dodrefn a ffitiadau? OQ55575

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae'n ddrwg gennyf am droi fy nghefn atoch, Janet. Defnyddir y gyllideb ddodrefn a ffitiadau, fel y mae, i ddarparu ar gyfer unrhyw ddodrefn swyddfa ad hoc sydd eu hangen yn Nhŷ Hywel a'r Senedd ar gyfer Aelodau o'r Senedd, eu staff a staff y Comisiwn. Mae'r gyllideb yn rhoi hyblygrwydd i'r Comisiwn ddiwallu anghenion penodol unigolyn sy'n mynd y tu hwnt i ddarparu dodrefn safonol. Gall eitemau dodrefn sydd dros ben ond y gellir eu defnyddio gael eu hailddefnyddio, eu defnyddio i atgyweirio neu amnewid unrhyw eitemau sydd wedi torri neu wedi'u difrodi, neu gellir eu hailgylchu wrth gwrs.

Diolch. Fel y nodoch chi'n gwbl gywir, mae'r gyllideb ar gyfer llety a chyfleusterau yn cynnwys dyraniad o £60,000 ar gyfer gwariant ar ddodrefn a ffitiadau yn unig dros y pedair blynedd diwethaf. Dyna gyfanswm o £240,000 dros bedair blynedd, ac mae pob un ohonom yn ymwybodol o adnewyddiadau mawr i'r lle hwn, dros y tymor hwn, sydd wedi costio miliynau. Nawr, byddai hyn, i'n heconomi leol, y gwahaniaeth, pe bai deunyddiau ac eitemau'n cael eu caffael o Gymru, yn mynd yn bell.

Yn y gyllideb a gyhoeddwyd ar gyfer 2019-20, nodir fod y Comisiwn yn datblygu strategaeth ar gyfer cynyddu cyfleoedd contract i gyflenwyr yng Nghymru ac y bydd cynnydd yn cael ei fonitro'n rheolaidd drwy ddangosyddion perfformiad allweddol, sy’n nodi y dylai 43 y cant o’r gwariant ar gyflenwyr fynd i gwmnïau o Gymru. Felly, am wn i, mewn gwirionedd, rwy’n gofyn tybed a yw'r targed hwnnw wedi'i gyrraedd, a pham ein bod yn gosod targed o 43 y cant yn unig. Pam nad ydym yn gosod targed o 100 y cant? Felly, yn nhymor nesaf y Cynulliad, hoffwn weld y ffigur hwnnw'n codi.

Hefyd, fe fyddwch yn ymwybodol o'r ymgyrch gan Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr ac Undeb Amaethwyr Cymru, ac yn wir, ffermwyr ledled Cymru, i ni weithredu'r defnydd, mwy o ddefnydd, o wlân, gwlân Cymreig, mewn rhai pethau fel carpedi mewn adeiladau cyhoeddus a mentrau eraill. Felly, hoffwn weld rhywfaint o ymrwymiad yn cael ei gofnodi y bydd Comisiwn y Cynulliad, yn y dyfodol, wrth wario arian ar adnewyddu'r lle hwn, yn dechrau darparu targed mwy efallai o ran caffael a nwyddau Cymreig, ac yn wir, o ran ailosod carpedi newydd a phethau, y rhoddir y flaenoriaeth gyntaf i wlân? Diolch.

Diolch yn fawr iawn, Janet. Ar eich pwynt cyntaf am y targed ar gyfer caffael cynhyrchion o Gymru, mae'n rhaid inni gofio na ellir caffael pethau fel Microsoft, a chryn dipyn o'r offer yn y Siambr hon hyd yn oed, o Gymru. Felly, gosodwyd y targed o 43 y cant fel targed realistig a chyraeddadwy, sydd, wrth gwrs, credaf y dylwn rybuddio pob un ohonoch, yn debygol o gael ei effeithio gan y ffaith ein bod wedi bod dan gyfyngiadau ers peth amser. Ac nid yw pethau syml fel prynu bwyd i'r ffreutur wedi bod yn bosibl. Ond mae'n parhau i fod yn darged; mae'n darged rydym yn bwriadu ei gyrraedd, os gallwn, er gwaethaf COVID, ond rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu gwneud hynny.

Ar yr ail bwynt, a gaf fi longyfarch Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr a chithau, Janet, am godi'r ymgyrch hon ynglŷn â defnyddio gwlân Cymreig? Fel y dywedasoch, mae gan y Comisiwn dargedau ar gyfer caffael mwy o Gymru, ond mae ganddo nodau cynaliadwyedd hefyd, ac mae defnyddio cynnyrch naturiol yn yr adeilad—adeiladau, dylwn ddweud—yn rhywbeth y dylem ei ystyried o ddifrif. Gallai eich awgrym fod yn gyfraniad gwerthfawr i'r ddau darged.

Mae angen i mi ychwanegu, wrth gwrs, fod angen inni ddefnyddio ein hadnoddau'n ddoeth—mae'n un o'n nodau strategol—felly, byddai angen inni fod yn sicr y gallai cynhyrchion gwlân Cymreig gyflawni gofynion y fanyleb ar gyfer oes hir, defnydd trwm a glanhau effeithlon a chost resymol, ac os yw'r cynhyrchion hynny'n bodoli, neu os byddant yn bodoli, rwy'n sicr y byddai gennym gryn ddiddordeb mewn clywed amdanynt. Diolch.

5. Cwestiynau Amserol
16:25
6. Datganiadau 90 eiliad

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yr wythnos hon yw Wythnos Addysg Oedolion. Nod yr ymgyrch, o dan arweiniad y Sefydliad Dysgu a Gwaith, yw ysbrydoli ac annog miloedd o oedolion bob blwyddyn i barhau mewn addysg, dychwelyd at addysg a datblygu sgiliau, a chodi ymwybyddiaeth o werth addysg i oedolion drwy ddathlu cyflawniadau dysgwyr ac ysbrydoli pobl i weld sut y gall addysg oedolion newid eu bywydau.

Mae fy etholwr Kathryn McLuckie wedi rhoi caniatâd i mi ddweud ei stori. Mae'n ddysgwr 35 oed o Aberdaugleddau, ac roedd yn gweithio fel dynes ginio mewn ysgol gynradd leol pan chwalodd ei pherthynas, yn drist iawn. Cafodd hyn effaith emosiynol enfawr arni hi a'i phlant, ac roedd yn teimlo ar goll ac ar ei phen ei hun. Un bore, fe ddeffrodd a phenderfynu bod angen iddi wneud rhywbeth, felly cerddodd i mewn i Goleg Sir Benfro a holi am gwrs a allai ei helpu hi i helpu eraill. Mae hi newydd gwblhau cwrs dwy flynedd lefel 4 mewn cwnsela therapiwtig, ac mae’n teimlo fel unigolyn newydd sbon. Mae hi newydd wneud cais am swydd fel eiriolwr.

Mae dysgu ac ailsgilio oedolion yn newid bywydau. Mae’n rhaid i hynny fod yn flaenoriaeth wrth i Gymru fynd i'r afael â heriau COVID-19 ac wrth inni gynllunio i ymadfer fel gwlad.

Diolch yn fawr iawn. Cawn seibiant byr nawr, ar gyfer newid personél a gwneud rhywfaint o lanhau. Felly, byddwn yn canu'r gloch pan fyddwn yn barod i ailgychwyn. Diolch yn fawr iawn.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:26.

16:30

Ailymgynullodd y Senedd am 16:32, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.

7. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog: Goruchwylio'r Comisiwn Etholiadol

Fe wnawn ailymgynnull yn awr ar eitem 7, sef cynnig i ddiwygio'r Rheolau Sefydlog—goruchwylio'r Comisiwn Etholiadol. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud hynny. Rebecca Evans.

Cynnig NDM7388 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes, 'Diwygio Rheolau Sefydlog: Goruchwylio'r Comisiwn Etholiadol', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 16 Medi 2020;

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog, fel y nodir yn Atodiad B o adroddiad y Pwyllgor Busnes; a

3. Yn nodi bod y cynnig hwn yn dod i rym pan fydd adran 28 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 yn cael ei chychwyn drwy orchymyn a wneir o dan Adran 42 (3) (b) o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Nid oes siaradwyr. Felly, gan nad oes dadl na siaradwyr, ac rwy'n cymryd nad oes neb am ymyrryd, y cynnig yw diwygio'r Rheolau Sefydlog. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Da iawn. Felly, derbynnir y cynnig hwnnw yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Cynnig i sefydlu pwyllgor o dan Reol Sefydlog 16.3: Pwyllgor y Llywydd

Eitem 8 ar yr agenda y prynhawn yma yw cynnig i sefydlu pwyllgor o dan Reol Sefydlog 16.3—Pwyllgor y Llywydd. Unwaith eto, galwaf ar Rebecca Evans i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7389 Elin Jones

Cynnig bod Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3:

1. Yn sefydlu Pwyllgor y Llywydd i gyflawni’r swyddogaethau a nodir yn Rheol Sefydlog 18.B2; a

2. Yn nodi bod y cynnig hwn yn dod i rym pan fydd adran 28 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 yn cael ei chychwyn drwy orchymyn a wneir o dan Adran 42 (3) (b) o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Ni welaf siaradwyr ac rwy'n cymryd, felly, nad oes ymyriadau os nad oes siaradwyr. Felly, y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Da iawn. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. Cynnig i ethol Aelod i Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau

Eitem 9 ar ein hagenda yw cynnig i ethol Aelod i'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, ac unwaith eto galwaf ar Rebecca Evans i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7390 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3, yn ethol Caroline Jones (Annibynnol) yn aelod o’r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Unwaith eto, dim dadl, a chan na allaf weld dadl, nid oes ymyriadau. Felly, y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10. Cynnig i ethol Aelodau i Bwyllgor y Llywydd

Eitem 10 yw cynnig o dan Reol Sefydlog 17.3 a 18B.4 i ethol Aelod i'r pwyllgor. Galwaf ar yr Aelod eto i wneud y cynnig—Rebecca Evans.

Cynnig NDM7391 Elin Jones

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 17.3 a Rheol Sefydlog 18B.4:

1. Yn ethol y canlynol fel aelodau o Bwyllgor y Llywydd:

a) Y Dirprwy Lywydd fel Cadeirydd y Pwyllgor;

b) Llyr Gruffydd, (cadeirydd y pwyllgor cyfrifol o dan Reol Sefydlog 19); ac

c) Rhianon Passmore (Llafur Cymru), Suzy Davies (Ceidwadwyr Cymreig), Dai Lloyd (Plaid Cymru), a David Rowlands (Plaid Brexit).

2. Yn nodi bod y cynnig hwn yn dod i rym pan fydd adran 28 o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 yn cael ei chychwyn drwy orchymyn a wneir o dan Adran 42 (3) (b) o Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Dim dadl eto, felly rwy'n cymryd nad oes ymyriadau. Felly, y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

11. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cyllid: Effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol

Eitem 11 ar ein hagenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid i wneud y cynnig—Llyr Gruffydd.

Cynnig NDM7385 Llyr Gruffydd

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 2 Gorffennaf 2020.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rwy'n falch iawn o gael agor y ddadl yma fel Cadeirydd y Pwyllgor Cyllid, wrth gwrs, ar ein hymchwiliad ni i effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol. Fel rydyn ni'n gwybod, syniad go newydd yw amrywio cyfraddau trethi incwm ar draws y Deyrnas Gyfunol, gyda threth incwm ond yn cael ei datganoli’n rhannol i Gymru ers Ebrill 2019. Hyd yn hyn, dyw’r cyfraddau heb amrywio o rai Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, wedi ymrwymo i beidio â chodi cyfraddau treth incwm yn ystod y pumed Senedd hon.

Gyda diwedd y Senedd hon yn prysur agosáu, fe wnaeth y Pwyllgor Cyllid benderfynu ymchwilio i effeithiau posib cael cyfraddau treth incwm gwahanol ar draws ffin Cymru a Lloegr, yn enwedig o gofio faint o bobl sy’n byw’n agos at y ffin. Fe hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at hyn, ac i’r Gweinidog cyllid hefyd am ei hymateb hi i’n hadroddiad ni, ac am dderbyn pob un o’r argymhellion, naill ai yn llawn neu mewn egwyddor.

Mae’r tebygolrwydd eich bod hi'n drethdalwr incwm yn is yng Nghymru nag yn y Deyrnas Gyfunol yn ei chyfanrwydd. Yn ôl arolwg incwm personol 2016-17, roedd 44 y cant o boblogaeth Cymru yn drethdalwyr incwm, a hyn yn cymharu â 47 y cant o boblogaeth y Deyrnas Gyfunol—yn rhannol, wrth gwrs, oherwydd cyfraddau cyflogaeth is ac incwm is ar gyfartaledd hefyd. Mae tyfu sylfaen dreth Cymru yn elfen bwysig o godi refeniw treth ar gyfer gwariant cyhoeddus yng Nghymru, ac rydyn ni’n credu y dylai Llywodraeth Cymru ganolbwyntio ar strategaethau arloesol i ddatblygu’r sylfaen dreth hon.

Fe wnaethom ni glywed ei bod hi’n gallu bod yn anodd rhagweld beth fydd ymddygiad pobl yng Nghymru yn sgil effeithiau newidiadau mewn treth mewn gwledydd eraill, ond mae yna ddeunydd sylweddol sy’n ymchwilio i faint mae trethdalwyr yn ymateb i sefyllfaoedd o'r fath sydd yn rhoi arweiniad gwerthfawr inni yn y maes yma. Er enghraifft, mae yna astudiaethau rhyngwladol sy'n dangos bod y rheini sydd ar incwm uchel yn ymateb cryn dipyn i gyfraddau treth; ei bod hi'n haws i rai proffesiynau sydd ar incwm uchel i symud—hynny yw, mae'n boblogaeth fwy symudol; a bod lle mae rhywun arni yn eu gyrfa hefyd yn gallu dylanwadu ar allu rhywun i adleoli. Mae'r pwyllgor, felly, yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn datblygu opsiynau polisi bydd yn helpu i ddenu’r grwpiau sy’n ymateb fwyaf i Gymru, fel y rheini sy’n ennill incwm uchel ac, wrth gwrs, graddedigion ifanc, a hynny er mwyn cynyddu ei refeniw treth.

Rydyn ni’n croesawu’r gwaith ymchwil y mae Llywodraeth Cymru yn ei ariannu i ddatblygu modelau economaidd mwy cymhleth o economi Cymru, a hynny er mwyn dod i ddeall yn well yr effeithiau y byddai newidiadau i gyfraddau trethu yn eu cael. Fodd bynnag, mae ymchwilwyr yn nodi mai’r prif rwystr wrth lunio a datblygu eu model yw faint o ddata penodol i Gymru sydd ar gael. Rydym ni'n cydnabod bod materion sensitif ynghylch datgelu data treth, ond mae’n hanfodol bod data’n gwella er mwyn gallu deall strwythur sylfaen dreth Cymru a mynd ati wedyn i ddatblygu modelau economaidd ymhellach. Mae ein hadroddiad ni, felly, yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru a Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi gydweithredu’n well er mwyn gwella’r gwaith o gasglu a lledaenu data am Gymru, yn ogystal â gweld sut mae modd defnyddio adran gwybodaeth, dadansoddi a deallusrwydd Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i gefnogi gwaith ymchwil ym maes gwahaniaethau treth. Mae’r Gweinidog wedi nodi, gan adeiladu ar y dystiolaeth a gafodd ei chyflwyno i’r pwyllgor, fod Llywodraeth Cymru yn gwneud gwaith ymchwil gyda Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i amcangyfrif effaith gwahaniaethau treth ar ymddygiad, ac mae’r datblygiad hwn yn rhywbeth rydyn ni fel pwyllgor yn ei groesawu.

Mae ein hadroddiad ni hefyd yn nodi rhagor o feysydd rydyn ni’n credu y dylai Llywodraeth Cymru ymchwilio iddyn nhw. Rydyn ni’n argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag academyddion ar astudiaeth hydredol am effaith gwahaniaethau mewn cyfraddau treth ar draws ffin Cymru a Lloegr. Mae’n galonogol bod y Gweinidog yn dweud bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi a Llywodraeth yr Alban i ymchwilio i ba mor ymarferol yw cael set ddata hydredol i fesur effeithiau ar ymddygiad unrhyw newidiadau mewn treth incwm yn y Deyrnas Gyfunol.

Mae tystiolaeth a gasglwyd yn ystod ein hymchwiliad yn cyfeirio at ddylanwad ffactorau heblaw am drethi ar ble mae unigolyn yn dewis byw—ffactorau fel prisiau tai, costau byw, cyfleoedd gwaith, sydd hefyd yn bwysig, wrth gwrs, safon gwasanaethau cyhoeddus, sy'n elfen bwysig arall, a safon bywyd yn gyffredinol, wrth gwrs, sy'n allweddol iawn. Rŷn ni'n argymell bod yn rhaid ystyried ffactorau fel y rhain fel rhan o unrhyw ymchwil gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol i effaith amrywiadau treth incwm ar draws ffin Cymru a Lloegr.

Yn ogystal ag ymchwilio i oblygiadau unrhyw newidiadau i bolisi treth o safbwynt refeniw, fe wnaeth tystion bwysleisio pa mor bwysig yw ystyried sgil-effeithiau penderfyniadau o ran polisi treth—hynny yw spillover effects yn Saesneg. Er enghraifft, fe allai cynyddu'r gyfradd ychwanegol o dreth incwm gynhyrchu refeniw, ond os yw e'n lleihau nifer trethdalwyr y gyfradd ychwanegol yng Nghymru, yn mi allai hynny arwain at sgil-effeithiau fel cyflogau is neu lai o gyfleoedd gwaith. Felly, rŷn ni yn argymell bod gwaith ymchwil gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol yn ystyried sgil-effeithiau posib gan bolisi cyfraddau treth incwm Cymru ar bobl dan anfantais, fel, er enghraifft, y rheini sydd ar incwm isel ac unigolion sy'n talu treth incwm ac sydd yn derbyn y credyd cynhwysol.

Gan mai dim ond i incwm nad yw'n gynilion ac nad yw'n ddifidendau y mae'r pŵer i amrywio cyfraddau treth incwm yng Nghymru'n berthnasol, clywsom y bydd Cymru'n arbennig o agored i drethdalwyr yn lliniaru eu rhwymedigaeth drwy newid o enillion i fathau eraill o incwm. Er enghraifft, gallai'r rheini sy'n hunangyflogedig ymateb i amrywiadau treth drwy gorffori eu busnes, er mwyn talu treth gorfforaeth ar elw a threth incwm ar gynilion difidend wrth dynnu elw allan, yn hytrach na thalu cyfraddau treth incwm Cymru ar enillion hunangyflogedig. Felly, rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn comisiynu ymchwil i effaith lliniaru treth incwm bersonol drwy gorffori a newid mathau o incwm, yn enwedig o gofio bod cyfran sylweddol o'r rhai sy'n talu ar y gyfradd uwch ac ychwanegol yn cael eu cyflogi yn y sector preifat yng Nghymru, ac felly'n gallu corffori eu gweithgareddau wrth gwrs. Rydym hefyd yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi rhagor o ystyriaeth i geisio datganoli incwm cynilion ac incwm difidend i Gymru ac asesu buddion a risgiau sicrhau'r pŵer hwn.

Yn olaf, er i ni gwblhau ein gwaith o gasglu tystiolaeth ar gyfer yr ymchwiliad hwn cyn inni sylweddoli gwir raddfa pandemig COVID-19, mae'n amlwg y bydd angen gwneud penderfyniadau anodd ar drethiant er mwyn helpu adferiad economaidd Cymru. Mae angen i Lywodraeth Cymru ystyried yr holl ysgogiadau economaidd sydd ar gael iddi, ac rydym yn annog Llywodraeth Cymru i ddatblygu opsiynau polisi ar gyfer cyfraddau treth incwm Cymreig ac ystyried cynlluniau wrth gefn i ymdopi ag amodau economaidd niweidiol a thoriadau posibl mewn gwariant cyhoeddus. Felly, gyda'r sylwadau hynny, edrychaf ymlaen, Ddirprwy Lywydd, at glywed cyfraniadau'r Aelodau.

16:40

Rwy'n falch o allu cyfrannu at y ddadl heddiw ar effaith amrywiadau mewn treth incwm genedlaethol ac is-genedlaethol. Nid yw'n rhywbeth sy'n llithro oddi ar y tafod yn hawdd o ddydd i ddydd, ond rwy'n croesawu cyfraniad agoriadol rhagorol y Cadeirydd y credaf ei fod yn esbonio'r cyd-destun i'r gwaith pwysig hwn.

Roedd yr adroddiad yn un diddorol iawn i ymwneud ag ef, oherwydd mae'n edrych ar faes sy'n allweddol i ddatganoli ar hyn o bryd—pwerau trethu newydd Llywodraeth Cymru a'r hyn y mae'n ei olygu'n ymarferol mewn gwirionedd, nid yn unig yn y ffordd ddamcaniaethol y buom yn sôn amdano ers cyhyd. Fel y dywed yr adroddiad, mae ffin Cymru'n boblog iawn, gyda 17 miliwn o bobl yn byw o fewn 50 milltir iddi. Gyda 44 y cant o boblogaeth Cymru yn talu treth incwm, o'i gymharu â 47 y cant o boblogaeth y DU, roedd hi'n amlwg i ni ar y pwyllgor fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ystyried ffyrdd o ddatblygu sylfaen treth incwm Cymru a chynyddu refeniw treth i'r eithaf.

Os caf droi at yr argymhellion yn fyr. Yn argymhelliad 1 rydym yn argymell mwy o gydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi i wella'r broses o gasglu data yng Nghymru ac i ddefnyddio arbenigedd CThEM yn y maes hwn i gefnogi ymchwil. Yn y cyfamser, mae argymhelliad 3 yn galw am wella data sy'n benodol i Gymru, ac wrth gwrs, rydym i gyd am weld hynny. Mae diffyg data Cymreig yn her gyson i ddatganoli cyllidol. Yn wir, faint o ddadleuon a gawn yn y Siambr hon ac ar Zoom lle nad yw diffyg data Cymreig yn codi? Mae'n codi drwy'r amser, ac mae angen gwella hynny ar draws nifer o bortffolios.

Mae ein hadroddiad yn cyfeirio at ymchwil a gyflawnwyd gan Brifysgol Caerdydd, 'A Welsh tax haven?'. Mae'n ddeunydd darllen diddorol iawn. Daeth yr adroddiad i'r casgliad nad yw newidiadau yn y gyfradd sylfaenol yn cael fawr o effaith ar fudo ac arenillion treth, ond byddai effeithiau sylweddol i newidiadau i'r cyfraddau ychwanegol ac uwch. Roedd hynny'n fy atgoffa—rwy'n siŵr ei fod yn atgoffa Mike Hedges—o'r gwaith a wnaeth yr Athro Gerry Holtham rai blynyddoedd yn ôl yn y maes hwn, pan ddaeth i'r casgliad ei bod hi'n eithaf anodd yn ymarferol newid cyfraddau treth a chael effaith gadarnhaol, heblaw am ostwng y gyfradd uwch o drethiant oddeutu 10c yn y bunt, rhywbeth a allai annog entrepreneuriaid a thyfu sylfaen drethi Cymru. Ac mae hynny'n ganolog i'r broblem economaidd sy'n ein hwynebu yng Nghymru ac sydd wedi ein hwynebu ers peth amser. Yn y bôn, mae sylfaen drethi Cymru'n rhy fach. Rwy'n deall yn iawn pam, mewn cwestiynau cynharach i'r Gweinidog cyllid ac yn wir mewn trafodaethau gyda'r Prif Weinidog, y dangoswyd amharodrwydd i godi trethi, er y bu trafodaethau yn ystod y pandemig COVID ynglŷn ag a allai hynny fod yn anochel ar ryw adeg. Wrth gwrs, yng Nghymru, mae'r sylfaen drethi'n ddigon gwan fel y mae, felly byddai'n rhaid ystyried unrhyw gynnydd yn ofalus iawn a gallai gael effaith negyddol yn y pen draw.

Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol eisoes wedi dweud bod y bwlch y pen rhwng treth y DU a Chymru yn deillio o'r ffaith bod incwm cyfartalog is gan drethdalwyr Cymru. Wel, nododd 'A Welsh tax haven?' fod effeithiau mudo ac effeithiau amrywio'r gyfradd uwch ar refeniw yn dod yn gryfach dros gyfnod hirach, gyda gostyngiad yn y gyfradd ychwanegol o 45 y cant i 40 y cant yn ôl pob tebyg yn cael yr effaith fwyaf ar gynyddu refeniw treth Cymru ar gyfradd flynyddol o £55 miliwn ar ôl 10 mlynedd. Felly, ceir budd cronnol o doriadau treth dros amser, ond wrth gwrs, yr ochr arall i'r geiniog yw bod lleihau'r cyfraddau'n golygu, yn y tymor byr o leiaf, fod gostyngiad mewn refeniw a gwariant cyhoeddus, rhywbeth nad yw'n arbennig o dderbyniol, yn enwedig mewn pandemig.

Nawr, gwnaed rhai cymariaethau â'r Alban ac mae modelu wedi'i wneud yno i weld effaith cyfraddau treth incwm gwahaniaethol i'r gogledd a'r de o'r ffin, ond daeth y Pwyllgor Cyllid i'r casgliad fod sefyllfaoedd yr Alban a Chymru yn rhy wahanol i allu gwneud cymhariaeth effeithiol. Yn wir, nid yw ceisio dod i gasgliadau o newidiadau treth mewn gwledydd eraill yn gweithio. Mae angen mwy o ymchwil sy'n benodol i Gymru yn y maes hwn ac mae hynny'n mynd i gymryd amser i ddatblygu. Ond mae'r ffaith ein bod yn cael y ddadl hon heddiw yn dangos pa mor bell rydym wedi dod a pha mor bell y mae'r system dreth yma eisoes wedi esblygu. Ac mae datganoli pwerau trethu ar hyn o bryd ac yn y dyfodol yn rhoi nifer o gyfleoedd i'r Senedd hon ddefnyddio'r system honno i annog entrepreneuriaeth, tyfu'r sylfaen drethi ac ysgogi'r economi. Yn achos gostwng trethi, yn y pen draw gallai hynny gynhyrchu mwy o refeniw treth a dylid edrych arno'n ofalus.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, mae'r pandemig yn amlwg yn gwneud newidiadau mawr yn anodd ar hyn o bryd, ond mae polisi treth yn allweddol ac fe fydd yn parhau i fod yn allweddol wrth inni adeiladu'n ôl yn well y tu hwnt i'r pandemig. O'm rhan i, rwy'n credu bod angen inni gadw trethi yng Nghymru mor isel â phosibl ac rwy'n gobeithio bod hwn yn adroddiad a fydd yn cyfrannu at gorff cynyddol o waith fel bod gennym fwy o ddata sy'n benodol i Gymru ac inni allu gwneud y penderfyniadau sydd eu hangen arnom yng Nghymru i dyfu'r economi a chadw'r sylfaen drethi yma'n effeithlon ac yn effeithiol.

16:45

Wrth gwrs, mae'r pŵer i godi trethi yn un o bwerau mawr gwladwriaeth, ynghyd â deddfu a rôl deddfwr wrth wneud hynny, ac mae'r ffaith bod gennym bwerau yn awr i godi trethi yn ogystal â deddfu yn golygu ein bod yn dod yn Senedd aeddfed. Mae'n ymwneud â siapio'r wlad rydym am ei gweld, siapio'r math o gymdeithas a chymuned rydym am eu gweld yn y wlad hon yn y dyfodol, ac mae hefyd yn ymwneud ag aeddfedrwydd y lle hwn, nid yn unig fel lle ar gyfer trafod a dadlau ond hefyd ein disgwrs wleidyddol ehangach fel gwlad.

Gwnaeth y sylwadau rydym newydd eu clywed gan Nick Ramsay argraff fawr arnaf oherwydd, mewn sawl ffordd, yr etholiad y byddwn yn ei ymladd y flwyddyn nesaf yw'r etholiad aeddfed cyntaf a'r ddadl wleidyddol aeddfed gyntaf a gaiff Cymru fel gwlad, oherwydd byddwn yn trafod mwy na gwariant fel y gwnaethom dros yr 20 mlynedd diwethaf—rydym wedi cael dadleuon enfawr ynglŷn â sut y caiff yr arian ei wario, ond nid ydym erioed wedi gallu dadlau sut y caiff yr arian ei godi, ac mae honno'n ddadl sylfaenol wahanol. Mae'n wleidyddiaeth sylfaenol wahanol ac mae'n dangos bod ein gwleidyddiaeth yn aeddfedu'n helaeth ac mae'n rhywbeth rwy'n ei groesawu'n fawr.

Gobeithio y byddwn yn gallu cael y sgyrsiau y mae Nick Ramsay newydd eu dechrau am natur y sylfaen drethi yng Nghymru, ond credaf fod angen inni fynd ymhellach na hynny. Credaf fod angen inni gael dadl am natur trethiant yng Nghymru, ac rwy'n credu bod yr adroddiad hwn yn un pwysig, a bod yn onest, ac rwy'n ddiolchgar iawn i Llyr, fel Cadeirydd, am ei arwain, ac i'r ysgrifenyddiaeth am y gefnogaeth y gallent ei rhoi i'r pwyllgor dros y cyfnod diwethaf y buom yn gwneud y gwaith hwn. Ac rwy'n dweud ei fod yn adroddiad pwysig am ei fod yn dangos yn glir iawn nad yw'r rhwystrau y gallai rhai pobl fod wedi dadlau eu bod yn her i bolisi trethiant Cymru yn bodoli mewn gwirionedd. Nid ydynt yno. Nid rhwystr a bennwyd gan Gytundeb Sir Drefaldwyn sawl canrif yn ôl ar y ffin sy'n bodoli mewn gwirionedd, ond rhwystr yn ein meddyliau ein hunain, ac yn ein creadigrwydd ein hunain a'n dychymyg ein hunain. A chredaf, fel gwleidyddion ac arweinwyr mewn gwahanol rannau o'r wlad, fod angen inni gael dadl wahanol iawn, ac rwy'n credu bod yr adroddiad hwn yn gosod sylfaen ar gyfer hynny. Nid wyf yn credu ei bod yn ddigon da i neb ar unrhyw ochr i'r Siambr, ble bynnag y maent yn eistedd yn y Siambr, ddweud, 'Rydym yn mynd i adeiladu'n ôl yn well ar ôl COVID', heb ddweud o ble y daw'r arian, ac mae'r adroddiad hwn yn dangos y gallwn gael y ddadl honno.

Nid yw'n ddigon da dweud yn syml fod angen inni allu gwario mwy ar y gwasanaeth iechyd gwladol, fel y mae pob plaid yn ei wneud, heb ddweud o ble y daw'r arian. A byddwn yn cael dadl yn ddiweddarach y prynhawn yma ar ail gartrefi—dadl sylfaenol bwysig am natur cymunedau ledled Cymru. Beth yw rôl trethiant wrth fynd i'r afael â'r mater hwnnw? Beth yw rôl trethiant wrth siapio'r ddadl honno? Beth yw rôl trethiant wrth siapio ein hymateb i newid yn yr hinsawdd? Credaf fod angen inni fynd ymhellach o lawer a diffinio trethiant fel rhan o ganghennau polisi'r Llywodraeth, fel arfogaeth y Llywodraeth, i'n galluogi i siapio gwahanol rannau o'n bywydau, ac mae newid yn yr hinsawdd yn enghraifft amlwg o hynny.

Ond rwyf hefyd yn meddwl bod angen inni ddysgu rhagor o wersi—[Anghlywadwy.]

16:50

Mae'n ddrwg gennyf, pwysais y botwm anghywir. [Chwerthin.] Cefais fy nghyffroi ormod gan fy rhethreg fy hun. [Chwerthin.]

Ond mae angen inni ddysgu gwersi hefyd. I lawer ohonom, ymchwiliad ac ymholiad i ddysgu gwersi oedd hwn mewn sawl ffordd. Mae'r syniad o bolisi treth i Gymru yn newydd i ni yng Nghymru, ond nid yw'r syniad o bolisi treth gwahaniaethol mewn gwladwriaethau ffederal yn un newydd ledled y byd. Ac mae angen inni edrych lle mae gan wahanol wladwriaethau bolisïau treth gwahanol mewn gwahanol leoedd, treth a godir gan wahanol Lywodraethau, a sut y maent, gyda'i gilydd, yn helpu i siapio'r diriogaeth honno, y gymuned honno.

A gadewch i mi orffen drwy ddweud hyn: wrth gael y ddadl hon, mae angen inni gael dadl onest. Rwyf wedi clywed siaradwyr mewn gwahanol rannau o'r Siambr yn sôn am Gymru dreth isel yn erbyn Cymru dreth uchel, ac rydym wedi cael y sgwrs honno o'r blaen. Y realiti yw bod gennym sylfaen drethi isel iawn ar hyn o bryd. Mae gennym sylfaen drethi isel a lefelau trethiant isel, ac rydym bob amser wedi twyllo ein hunain—yr ymagwedd hynod anonest hon y gallwn gael gwasanaethau lefel Sgandinafaidd gyda lefelau trethiant Americanaidd. Ac mae honno'n ddadl nad ydym wedi'i chael mewn gwirionedd, ac rydym wedi'i gredu—rydym wedi bod yn ddigon gwirion i gredu ein rhethreg ein hunain. A chredaf fod angen inni symud oddi wrth hynny a chael dadl go iawn ynglŷn â ble mae trethiant yng Nghymru, ble y dylai fod. Rydym bob amser yn gartref i'r gwasanaeth iechyd gwladol pan fyddwn am fod yn falch ohono, ond a ydym yn barod i wario arian ar y gwasanaeth iechyd gwladol? Buom yn curo dwylo eleni, ond a wnawn ni roi ein dwylo—

A dyna'r math o ddadl y mae gwir angen inni ei chael, ac rwy'n gobeithio y bydd yn ddadl ffrwythlon. Ac mae'n ddrwg gennyf am brofi eich amynedd, Ddirprwy Lywydd. Diolch yn fawr iawn.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwyf innau hefyd yn croesawu adroddiad y Pwyllgor Cyllid. A gaf fi ddweud fy mod yn cytuno â bron bopeth a ddywedodd Nick Ramsay a fy nghyfaill Alun Davies? Yr unig beth y byddwn yn ei ddweud wrth Nick Ramsay yw pe baem yn gostwng cyfradd uwch y dreth incwm 10 y cant, onid yw'n credu y byddai Lloegr, dros y ffin, yn gwneud yr un peth yn union, wrth inni gymryd rhan mewn ras i'r gwaelod? Dyna fy mhryder—os byddwn yn dechrau cystadleuaeth treth, fe fyddwn ni, fel y rhan lai o faint a gwannach yn colli.

Mae tair effaith i amrywio treth incwm: ymddygiad unigol, o ran symud i ardal dreth is; effaith ar ansawdd a lefel gwasanaethau cyhoeddus; a'r effaith wleidyddol a achosir drwy dalu mwy neu lai na'r rhai rydych yn gweithio ochr yn ochr â hwy neu'r rhai sy'n byw ychydig gannoedd o lathenni oddi wrthych efallai. Canolbwyntiodd yr astudiaeth a wnaethom yn llwyr ar y cyntaf o'r opsiynau hyn—beth fyddai pobl yn ei wneud. Wrth i Gymru nesáu at y drydedd flwyddyn ers datganoli treth incwm yn rhannol a blwyddyn olaf ymrwymiad Llywodraeth bresennol Cymru i beidio â chodi cyfraddau treth incwm Cymru, a blwyddyn etholiad, rwy'n credu ei bod yn briodol iawn i hyn gael ei drafod yn agored.

Mae gennym ffin, fel y dywedodd Nick Ramsay yn gynharach, gyda 17 miliwn o bobl yn byw o fewn 50 milltir iddi. Mae llawer o bobl yn croesi'r ffin bob dydd i fynd i'w gwaith. A gwyddom hefyd, fel y byddai ein diweddar ffrind, Steffan Lewis, wedi dweud, 'Nid ydym yn unigryw yn hyn. Mae gan wledydd eraill ledled Ewrop a ledled y byd yr un pethau'n union; pam ein bod yn credu bod Prydain yn unigryw?' Mewn gwirionedd, rwy'n credu ei fod yn dweud hynny'n rheolaidd iawn—rwy'n sicr yn ei gofio, ac rwy'n siŵr fod Aelodau eraill yn ei gofio. Rwy'n credu bod hynny'n hollol wir.

A gallwn edrych ar yr hyn sy'n digwydd mewn astudiaethau rhyngwladol neu'r hyn sy'n digwydd mewn mannau eraill, ac mae'n debyg fod gennym lai o bobl yn cymudo na lleoedd fel Lwcsembwrg a gwledydd Benelux, a hefyd rhai o'r Länder yn yr Almaen. Ond dengys astudiaethau rhyngwladol fod pobl ar incwm uchel yn ymatebol i gyfraddau treth. Gallant benderfynu ble maent yn byw, ble mae ganddynt nifer o gartrefi, a gallant benderfynu pa un fydd eu prif gartref. Mae rhai proffesiynau, fel bargyfreithwyr, yn symudol iawn. Gwyddom hefyd nad ystyriaethau treth yw'r unig ffactorau sy'n dylanwadu ar fudo. Ni ellir tanbrisio dylanwad ffactorau nad ydynt yn gysylltiedig â threth—cyflogau, teulu, prisiau tai, a byddwn yn dweud prisiau tai yn enwedig, ac ansawdd bywyd—a rhaid iddynt fod yn rhan o ymchwil Llywodraeth Cymru yn y dyfodol ar effaith amrywiadau treth ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr. 

Dywedwyd wrthym mai ychydig o effaith a gaiff newid yng nghyfradd sylfaenol treth incwm ar fudo. Wel, pam y byddai'n cael effaith? Oherwydd nid yw arbed y symiau bach hynny o arian yn mynd i'ch cael i symud milltiroedd lawer. Gwyddom o'r dreth gyngor fod gennym amrywiadau enfawr yn y nifer ym mhob band, ac mae gennym amrywiadau enfawr hefyd yn y swm a delir. Nawr, gadewch i ni gymharu Blaenau Gwent a Mynwy. Mae gan Flaenau Gwent dros hanner eu heiddo ym mand A; mae gan Fynwy ychydig dros 1 y cant o'u heiddo ym mand A, a bron i 6 y cant yn y ddau fand uchaf. Praesept band D ym Mlaenau Gwent yw 1,712. Yng Nghasnewydd 1,198, a Mynwy 1,381. Ceir gwahaniaeth sylweddol. Ond os edrychwch ar brisiau eiddo a chostau morgais—maent hefyd yn amrywio'n sylweddol. Edrychais ar Zoopla—mae lleoedd eraill ar gael—i edrych ar dai i'w prynu: gallwch gael tŷ pâr tair ystafell wely neis iawn yn Nhredegar am £150,000. Fe gaiff y swm hwnnw fflat un ystafell wely i chi ym Mynwy.

Gwyddom gan y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd fod cystadleuaeth treth yn gyffredin ac yn digwydd yn y rhan fwyaf o wledydd. Trethi ar incwm cyfalaf yw'r rhai mwyaf agored i symudedd y sylfaen drethu, wedi'u dilyn gan drethi incwm personol. Mae ffactorau eraill hefyd yn effeithio ar gystadleuaeth treth a symudedd y sylfaen drethu, megis prisiau tai, gwariant ar wasanaethau cyhoeddus a theithio haws i'r gwaith. Hefyd, mae pobl yn aml yn byw mewn ardal lle cânt fanteision nad ydynt yn rhai ariannol—mynediad at gymorth teuluol, gofal plant teuluol, parciau, traethau a chyfleusterau hamdden. Credaf y byddai effaith wleidyddol codi trethi'n uwch na rhai Lloegr yn ddifrifol iawn. 'Pam ydw i'n talu mwy na rhywun yn Lloegr ar yr un incwm?' Bydd yn effeithio ar y ffordd y mae pobl yn pleidleisio.

Er ein bod yn gwybod bod grŵp 'Yes Cymru' yn barod i weld holl drethi Cymru'n codi dros 20 y cant, ni chredaf fod hon yn farn a goleddir gan bawb. Hefyd, gwyddom y byddai cynnydd o 1 y cant yn y gyfradd sylfaenol yn codi £200 miliwn. Mae hwnnw'n swnio'n swm mawr o arian, ond os rhowch hynny mewn persbectif, mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi dangos bod saith bwrdd iechyd Cymru, dros y tair blynedd diwethaf, £352 miliwn yn y coch.

Mae'r Alban wedi bod â gallu i amrywio treth incwm ers blynyddoedd lawer—ni wnaeth ei ddefnyddio. Gallai symud hyd at 3 y cant i fyny neu 3 y cant i lawr. Beth sy'n digwydd? Nid yw cynyddu treth incwm yn codi llawer o arian, mae'n gwneud pobl yn ddig, ac oni bai bod y cynnydd yn fawr nid yw'n cael unrhyw effaith sylweddol ar wariant cyhoeddus. Nid yw lleihau treth incwm yn costio llawer o arian ond mae'n lleihau gwariant ar wasanaethau. Dyna pam y cadwodd yr Alban y dreth yr un fath, ac rwy'n siŵr y byddwn ninnau'n gwneud hynny.

16:55

Diolch. A diolch i'r Pwyllgor Cyllid am gynnal yr ymchwiliad hwn a llunio ei adroddiad. Ystyriodd yr ymchwiliad rai materion gwirioneddol bwysig. Mae gwahaniaethau mewn treth incwm mewn gwahanol rannau o'r DU yn gysyniad cymharol newydd i ni ei ystyried, ac rydym yn dechrau deall yr effeithiau posibl ar ein cymunedau. Mae cael yr adroddiad hwn, ynghyd â mynediad at y data a'r dadansoddiadau perthnasol, yn hanfodol i'n dull o lunio polisïau yn seiliedig ar dystiolaeth yng Nghymru.

I fod yn glir, mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i beidio â newid cyfraddau treth incwm Cymru dros oes y Senedd hon. Fodd bynnag, mae'n hanfodol ein bod yn ystyried y dystiolaeth ar effaith debygol unrhyw amrywiadau ar drethdalwyr Cymru, a'u hymatebion ymddygiadol posibl, wrth inni ystyried ein polisi treth datganoledig yn y dyfodol.

Mae'r alldro diweddar a'r alldro rhagamcanol ar gyfer yr Alban wedi dangos y gallai fod gwahaniaethau mawr yn nhwf refeniw gwahanol rannau o'r DU, wedi'i gronni i raddau helaeth ar ben uchaf y dosbarthiad incwm. Felly, rwy'n croesawu adroddiad y pwyllgor ac yn derbyn holl argymhellion y pwyllgor yn llawn neu mewn egwyddor. Yn wir, fel y mae fy ymateb ysgrifenedig i'r pwyllgor yn dweud yn glir, mae llawer o'r argymhellion yn yr adroddiad yn gyson â fframwaith strategaeth dreth bresennol Llywodraeth Cymru ac yn cadarnhau mai egwyddorion ein strategaeth drethu bresennol yw'r rhai cywir i Gymru.

Rwy'n cydnabod bod angen llawer mwy o waith i ddeall yn llawn effaith debygol amrywiadau mewn treth incwm ar boblogaeth Cymru. Mae hwn yn faes ymchwil sy'n esblygu yng nghyd-destun y DU, a bydd adroddiad y Pwyllgor Cyllid yn ychwanegu at y corff cynyddol o dystiolaeth. Bydd Llywodraeth Cymru'n parhau i asesu sut y mae'r trefniadau presennol yng Nghymru yn perfformio, gan sicrhau cydbwysedd priodol rhwng ysgogiadau treth datganoledig a pherygl o risg ariannol. Bydd y cydbwysedd rhwng buddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus, cystadleurwydd economi Cymru a'r effaith ar drethdalwyr yn flaenllaw mewn penderfyniadau ar drethi datganoledig. Felly hefyd y ffordd y byddwn yn defnyddio trethi fel ysgogiad i hyrwyddo tegwch a chydraddoldeb, gan ein galluogi i fynd i'r afael â phroblemau cymdeithasol, gan gynnwys cyfiawnder a diogelwch economaidd.

Felly, gan droi at rai o'r argymhellion penodol, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gydweithio'n agos ac yn adeiladol â dadansoddwyr ledled Llywodraeth y DU, gan gynnwys Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Mae'r cytundeb lefel gwasanaeth rhwng Llywodraeth Cymru a CThEM yn cynnwys mesurau perfformiad a gynlluniwyd i sicrhau bod ffocws parhaus ar nodi a chynnal cofnod cywir a chadarn o boblogaeth Cymru sy'n drethdalwyr.

Bydd y data alldro ar gyfer y flwyddyn dreth ddiweddaraf—blwyddyn lawn gyntaf datganoli treth incwm Cymru—yn dechrau dod ar gael o haf 2020-21, a bydd set ddata fanwl ar gyfer y flwyddyn honno ar gael yn 2022. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos gyda CThEM i sicrhau y gellir darparu'r data hwnnw mewn ffordd hygyrch a defnyddiol i ymchwilwyr. At hynny, mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ymchwilio gyda CThEM i effeithiau posibl amrywio trethi. Mae'r gwaith hwn yn adeiladu ar y dystiolaeth a gyflwynwyd i'r pwyllgor eisoes gan swyddogion Llywodraeth Cymru ar gyfer yr ymchwiliad hwn.

Fel y mae'r adroddiad yn cydnabod, nid ystyriaethau o ran treth yw'r unig ffactorau sy'n dylanwadu ar fudo. Rhaid i ffactorau nad ydynt yn gysylltiedig â threth, megis cyflogau, teulu, prisiau tai ac ansawdd bywyd fod yn rhan o unrhyw ymchwil yn y dyfodol ar effaith amrywio trethi ar draws y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Felly, mae rhan o'n gwaith yn cynnwys ystyried set ddata hydredol i ddarparu ymchwil fwy soffistigedig i effaith ymddygiadol newidiadau treth incwm a gwahaniaethau posibl o fewn y DU. Drwy gydweithio â CThEM, bwriadwn gynhyrchu set ddata a fyddai'n briodol i ymchwilwyr y Llywodraeth ac ymchwilwyr anllywodraethol, gan barhau i barchu cyfrinachedd data treth.

Mae'r pwyllgor yn argymell rhoi ystyriaeth bellach i fater datganoli treth ar gynilion ac incwm difidend i Gymru. Cytunaf fod hyn yn rhywbeth y dylid ei ystyried. Wrth gwrs, mae'n ddyddiau cynnar o hyd ar ddatganoli treth incwm yma yng Nghymru, ond serch hynny, dylem fod yn agored i ddatblygiadau pellach o ran datganoli trethi lle mae'r dystiolaeth yn awgrymu bod achos dros newid.

Dywed y pwyllgor fod yr hinsawdd bresennol yn golygu y bydd angen gwneud penderfyniadau anodd ar drethiant i helpu'r adferiad economaidd. Mae'r cynnydd dros dro i'r trothwy ar gyfer dechrau talu'r dreth trafodiadau tir ar eiddo preswyl ar gyfer prynwyr tai yn dangos ein gallu a'n parodrwydd i ddefnyddio ein polisïau treth ochr yn ochr ag ysgogiadau cyllidol eraill i helpu Cymru i wella o'r pandemig byd-eang.

Felly, wrth inni symud ymlaen, bydd y dystiolaeth yn yr adroddiad hwn yn helpu i lunio polisïau treth yng Nghymru yn y dyfodol, a'r rôl a chwaraeir gan drethi datganoledig wrth archwilio'r cyfleoedd ac ymateb i'r heriau sy'n ein hwynebu yng Nghymru. Diolch.

17:00

Diolch. Nid oes neb wedi dweud eu bod yn dymuno ymyrryd. Felly, galwaf ar Llyr Gruffydd i ymateb i'r ddadl. Llyr.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl—ac yn enwedig i'r Gweinidog, wrth gwrs, fel yr oedd hi'n cyfeirio ato fe yn gynharach, am dderbyn yr holl argymhellion, naill ai yn llawn neu mewn egwyddor? Dwi'n nodi yn enwedig, wrth gwrs, ei bod hi'n agored ei meddwl i ddatganoli pellach ar bwerau trethiannol i Gymru.

Mae Mike Hedges wedi tynnu sylw at y ffaith, wrth gwrs, pan oedd Nick Ramsay'n cyfeirio at gymaint o bobl oedd yn croesi'r ffin rhwng Cymru a Lloegr yn ddyddiol, dyw hwnna ddim yn rhywbeth unigryw i Gymru. Yn sicr, os rhywbeth, byddwn i'n tybio ei fod e'n digwydd ar lefel uwch mewn gwledydd eraill ar draws y byd yma. Felly, dyw e ddim yn reswm inni beidio â mynd i'r afael â newid y graddfeydd trethiannol os oes angen. Dwi ddim yn meddwl roedd Nick yn awgrymu bod hynny'n rwystr, ond yn sicr mae'n rhywbeth y mae angen inni fod yn ymwybodol iawn ohono fe. Ond, fel yr oedd Alun Davies ac eraill yn dweud, mae yna enghreifftiau ar draws y byd o le mae hyn wedi digwydd a lle mae hyn yn cael ei reoli yn effeithiol. Felly, dwi yn teimlo—mae perig i hwnna droi mewn i fwgan mewn ffordd na ddylai fe fod, ac mae'n bwysig ein bod ni'n ymwybodol o hynny. 

Mi gyfeiriodd Nick hefyd, wrth gwrs, at amharodrwydd Llywodraeth Cymru i ystyried amrywio'r graddfeydd trethi ar hyn o bryd. Dwi'n deall efallai pam eu bod nhw'n dweud hynny, ond yn sicr mae'r drafodaeth a'r adroddiad yma a'r ddadl yma yn rhan o'r sgwrs genedlaethol yna sydd angen ei chael nawr. Oherwydd, fel yr oedd Alun eto'n ein hatgoffa ni, mae yn arwydd o Senedd yn dod i oed ein bod ni â pholisïau neu â phwerau trethiannol, ond, wrth gwrs, mi fydd y dimensiwn hwnnw yn ychwanegu dimensiwn newydd iawn i'r etholiad fydd o'n blaenau ni o fewn rai misoedd, gyda pleidiau yn cyhoeddi maniffestos. A dwi yn gobeithio bydd gwaith y pwyllgor yn y maes yma efallai yn help i'r drafodaeth honno o fewn y pleidiau, ond hefyd yn ehangach yng Nghymru, ynglŷn â ble rŷn ni'n mynd o safbwynt polisi treth. Oherwydd, fel y dywedodd e, un peth yw trafod sut mae rhywun yn gwario pres, ond mae'n drafodaeth gwbl wahanol pan ydych chi angen trafod sut rydych chi'n gwario'r pres rydych chi yn ei godi, a sut rydych chi'n codi'r pres yna sydd ei angen arnoch chi er mwyn cwrdd â'ch ymrwymiadau gwariant.

Mae'r ffactorau amrywiol wedi cael eu cyfeirio atyn nhw hefyd. Un elfen yw trethiant, wrth gwrs, i'r hyn sydd yn penderfynu ar symudoledd pobl, ac mae Aelodau wedi bod yn berffaith iawn i gyfeirio at bethau fel lefelau cyflog, prisiau tai, ansawdd bywyd a rhwydweithiau teuluol hefyd, sydd yr un mor bwysig, wrth gwrs, i nifer o bobl. 

Un peth sy'n amlwg, wrth gwrs, yw bod yna lawer mwy o waith sydd angen ei wneud, ac mae hynny'n cynnwys cael darlun mwy eglur efallai o sylfaen dreth Cymru. Mi gyfeiriodd y Gweinidog at yr angen i archwilio'r alldro o flwyddyn gyntaf cyfraddau treth incwm Cymru yr haf nesaf. Mae angen gwella'r gwaith o gasglu a rhannu data yng Nghymru ac mae hwnnw'n rhywbeth sydd wedi dod drwyddo'n glir yn y ddadl yma, ac ystyried ymhellach beth sy'n lliwio ymddygiad trethdalwyr a sut y gallwn ni ddenu mwy o'r grwpiau yna sydd angen eu denu efallai i gynyddu refeniw. 

Ond megis dechrau y mae ein taith ni o ran datganoli trethi, ac rŷn ni'n cydnabod yr heriau y mae Llywodraeth Cymru wedi dod ar eu traws nhw wrth geisio rhagweld beth fydd trethdalwyr yn ei wneud o ran symud o ran osgoi trethi, ac ymatebion economaidd eraill i newidiadau posib i dreth incwm yng Nghymru. 

Ond mae'n bwysig cydnabod y rôl y gall cyfraddau treth incwm Cymru ei chwarae o ran datblygu economi Cymru. Mae'n gyfle felly inni feddwl yn wahanol, inni fod yn arloesol, ac inni ddatblygu polisïau sy'n helpu'r economi i adfer, wrth gwrs, o'r sefyllfa rŷn ni'n ffeindio’n hunain ynddi ar hyn o bryd. 

Ond, fel rwy'n dweud, gobeithio bod adroddiad y pwyllgor a'r ddadl yma y prynhawn yma wedi cyfrannu at y drafodaeth honno, ac mae honno'n drafodaeth, wrth gwrs, fydd yn parhau i fewn i'r etholiad ym mis Mai a thu hwnt.

17:05

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, derbynnir y cynnig.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

12. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Addysg Uwch

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 3 a 4 yn enw Siân Gwenllian, a gwelliant 2 yn enw Rebecca Evans. Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliannau 3 a 4 yn cael eu dad-ddethol.

Symudwn yn awr at ddadl y Ceidwadwyr Cymreig y prynhawn yma ar addysg uwch, a galwaf ar Suzy Davies i wneud y cynnig—Suzy.

Cynnig NDM7387 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi pwysigrwydd addysg uwch ac addysg bellach i Gymru a'i heconomi.

2. Yn credu bod myfyrwyr yn haeddu gwerth am arian yn gyfnewid am y buddsoddiad a wnânt yn eu haddysg uwch ac addysg bellach.

3. Yn gresynu at effaith pandemig y coronafeirws ar fyfyrwyr yng Nghymru a sut y tarfwyd ar gyrsiau.

4. Yn croesawu'r adnoddau ariannol ychwanegol a ddarparwyd i golegau a phrifysgolion Cymru i'w cefnogi drwy'r pandemig.

5. Yn nodi na fu gostyngiad yn y ffioedd a delir gan fyfyrwyr i adlewyrchu effaith andwyol y pandemig ar eu hastudiaethau.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) gweithio gyda cholegau a phrifysgolion i sicrhau bod ffioedd yn adlewyrchu effaith pandemig y coronafeirws ar eu cyrsiau;

b) sicrhau bod myfyrwyr yn manteisio ar y cyfle i gael mynediad at ddysgu naill drwy fod yn bresennol neu, os bydd cyfyngiadau COVID-19 na ellir eu hosgoi, drwy fwy o ffrydio byw; ac

c) mynd i'r afael â phryderon myfyrwyr, cyflogwyr a darparwyr addysg bellach ac addysg uwch mewn perthynas â lleihau maes llafur rhai cyrsiau sy'n cyfrannu at ofynion mynediad ar gyfer colegau a phrifysgolion.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Croeso i bawb sy'n mynd i gymryd rhan yn y ddadl hon, ac rwy'n gwneud y cynnig, sy'n ymwneud â mwy nag addysg uwch mewn gwirionedd, ond mae'n sicr yn rhan o'r hyn y byddwn yn sôn amdano heddiw.

Rwy'n edrych ymlaen at ddadl ddefnyddiol a llawn gwybodaeth am rywbeth y credaf y gallwn gytuno yn ei gylch yn ei hanfod. Yn sicr, ni fu unrhyw ymgais i ddiwygio'r ddwy ran gyntaf o'r cynnig, felly rwy'n cael y teimlad fod y pleidiau eraill a'r Llywodraeth wedi gorfod meddwl yn eithaf caled ynglŷn â sut roeddent am ddiwygio'r cynnig hwn, am y rheswm syml ein bod i gyd yn hwylio i'r un cyfeiriad pan fyddwn yn sôn am ddyfodol da i'n sector addysg bellach a'n sector addysg uwch.

Ond rwy'n credu mai'r hyn y mae'r gwelliannau i gyd yn ei ddangos yw eu bod yn edrych ar bwysigrwydd sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach o safbwynt y sefydliadau hynny. A'r tro hwn, rydym yn gwahodd Senedd Cymru i edrych ar yr heriau o safbwynt y myfyriwr. Ac mae arnaf ofn mai dyna pam na allwn gefnogi'r rhan fwyaf o'r gwelliannau—dim byd i anghytuno ag ef yn benodol, ond maent yn dileu ac yn tynnu oddi wrth yr argymhelliad fod arnom angen o leiaf un ddadl lle mae llais y myfyriwr yn flaenaf. Ac yn achos myfyrwyr prifysgol, wrth gwrs, mae'r lleisiau hynny'n nerfus yn wyneb y posibilrwydd o ddyled bersonol drom.

Plaid Cymru, rydych yn cael eich ffordd gyda gwelliant 4 am eich bod yn ei ddisgrifio fel is-bwynt newydd. I fod yn glir, nid yw'r ffaith ein bod yn croesawu adnoddau Llywodraeth Cymru yn golygu ein bod yn credu eu bod yn ddigon. Nid wyf hyd yn oed yn argyhoeddedig eu bod yn ychwanegol, ond fe ddof at hynny maes o law. Ond gadewch inni ddechrau gyda phwynt 2 ein cynnig, fod:

'myfyrwyr yn haeddu gwerth am arian yn gyfnewid am y buddsoddiad a wnânt yn eu haddysg uwch ac addysg bellach.'

Sut mae COVID wedi effeithio ar fyfyriwr coleg? Wel, efallai y byddwn yn dal i weld niferoedd uwch o newydd-ddyfodiaid yn dewis aros gartref ar adeg o ansicrwydd mawr ynghylch teithio, cyfyngiadau symud, a chyflogaeth wrth gwrs. Efallai nad yw rhai am wynebu'r risg o ysgwyddo'r dyledion cynyddol sy'n gysylltiedig â mynd i'r brifysgol ar adeg pan fo'r farchnad swyddi, yn enwedig i bobl ifanc, yn edrych yn fwy bregus. A beth fyddant yn ei gael? Yn y dystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, dywedodd ColegauCymru fod heriau drud o'n blaenau, yn enwedig pe bai nifer y newydd-ddyfodiaid yn codi. Bydd y £23 miliwn gan Lywodraeth Cymru i ddiwallu angen COVID yn sicr wedi helpu gyda heriau fel mesurau cadw pellter cymdeithasol neu ddiwallu anghenion cyfarpar TG, ond ni allwch greu tiwtoriaid mwy profiadol dros nos i ddiwallu'r angen a grëir gan yr angen i gadw pellter cymdeithasol. Mae defnyddio rhywfaint o'r arian hwnnw i drosglwyddo addysgu ar-lein yn well na pheidio â'i gael o gwbl, ond nid yw hynny yr un peth â phrofiad wyneb yn wyneb. Ac er y gall dysgu ar-lein fod yn addas i rai myfyrwyr—nid wyf yn credu y dylem anwybyddu'r ffaith honno—sut y bydd yn effeithio ar gyrsiau sydd â lefel uchel o addysgu ymarferol neu brofiad yn y gweithle?

Gadewch inni beidio ag anghofio ychwaith fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu torri'r arian a oedd yn mynd i bartneriaid contract addysg bellach ar gyfer dysgu seiliedig ar waith—rhywbeth a gafodd sylw gan y Ceidwadwyr Cymreig—gan leihau hyd yn oed ymhellach y cyfle i fyfyrwyr elwa'n wirioneddol o feithrin cysylltiadau a sgiliau gyda chyflogwyr mewn amrywiaeth eang o fusnesau a chyrff arloesi. Os na all Llywodraeth Cymru warantu digon o gyllid ar gyfer offer, meddalwedd, trwyddedau, cysylltedd priodol i fyfyrwyr weithio ar gampws neu gartref, yn sicr nid oes ganddi hawl i danseilio gweithgareddau masnachol y colegau eu hunain, a allai fod yn eu hariannu yn eu lle.

Efallai fod y cwestiwn gwerth am arian wedi'i ddiffinio hyd yn oed yn fwy penodol i fyfyrwyr prifysgol. Os ydych yn mynd i gronni gwerth o leiaf £27,000 o ddyled am addysg ar gwrs israddedig, fe fyddwch yn awyddus i gael gwerth £27,000 o addysg o safon. Ac unwaith eto, gall dysgu cyfunol fod yn rhan o'r cynnig safonol hwnnw, ond fel y dywedais, os ydych yn talu'r math hwnnw o arian, rwy'n credu eich bod yn awyddus iawn i allu gweld wyneb eich tiwtor a'u cael yno i drafod gyda chi. A dyna pam ein bod yn rhoi'r pwyslais, ym mhwynt 6(b) ein cynnig, ar ffrydio byw, sydd ar gyfer colegau hefyd, gyda llaw. Ar bob cyfrif, sicrhewch fod darlithoedd a seminarau ar gael ar ffurf darpariaeth ddal i fyny, ond ar gyfer dysgu dan oruchwyliaeth, mae angen rhyngweithio wyneb yn wyneb yn y fan a'r lle er mwyn iddo fod yn deilwng o'r disgrifiad 'dan oruchwyliaeth'. A'r hyn na allwn ei gael yw 10 awr o hyfforddiant byw yn cael ei ddisodli gan dair awr o ddarlithoedd ar-lein wedi'u recordio, fel y dywedwyd wrthyf yn ddiweddar sy'n digwydd yn un o'n prifysgolion. Rwy'n siŵr mai eithriad oedd hynny, ond mae wedi digwydd. Ac er y gallem i gyd ddod o hyd i'r ffaith bod fframweithiau'r asiantaeth sicrhau ansawdd ar gyfer addysg uwch yn cynnig sicrwydd ansawdd ar gyfer cyrsiau prifysgol, ni chafwyd cyfle eto mewn gwirionedd i werthuso'n ffurfiol effaith y gwahanol ffyrdd o ddarparu'r cyrsiau hynny ar ansawdd.

Yn y cyfamser, dywedodd arolwg Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr wrthym na allai 27 y cant o fyfyrwyr prifysgol gael mynediad at ddysgu ar-lein hyd yn oed os yw'r offer ganddynt; dywedodd 15 y cant nad oedd y cyfarpar ganddynt hyd yn oed; dywedodd 38 y cant nad oedd ansawdd y ddarpariaeth ar-lein o safon uchel; ac nid yw'n syndod fod dwy ran o dair o fyfyrwyr wedi dweud bod COVID yn effeithio'n negyddol ar elfennau galwedigaethol eu cyrsiau. Bydd rhai o'r myfyrwyr prifysgol hyn hefyd wedi teimlo effaith streiciau darlithwyr wrth gwrs, gan eu hamddifadu o oriau o ddysgu dan oruchwyliaeth y maent wedi talu amdanynt. Felly, nid yw'n syndod bod rhai'n mynnu ad-daliadau. 

Nid sôn am werth am arian yn unig y mae'r rhan hon o'r cynnig, mae'n sôn am fuddsoddi, a gobeithio y clywn ymateb y Gweinidog i'r cwestiwn ynglŷn â buddsoddiad dynol, os hoffwch. Unwaith eto, nododd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr nad oedd dim o'r arian a oedd yn dod gan Lywodraeth Cymru wedi'i glustnodi ar gyfer caledi myfyrwyr. Ac er fy mod yn wirioneddol falch na chafodd cyllid cynnal a chadw ei adfachu, mae anallu myfyrwyr i weithio yn ystod y cyfnod hwn i ychwanegu at eu hincwm wedi arwain at galedi gwirioneddol, yn enwedig i rai o gefndiroedd tlotach, rhai sydd â pherthynas wael â'u teuluoedd neu rai sy'n byw'n rhy bell i ffwrdd o gartref y teulu i adael eu tref brifysgol yn ystod y cyfyngiadau symud.

Aelodau, bydd yn rhaid i mi adael pwynt 6(c) o'r cynnig i eraill, mae arnaf ofn. Gobeithio y bydd y Gweinidog yn dweud ychydig eiriau amdano yn ei hymateb, ond os wyf am fwrw ymlaen ar fy mhwynt olaf, a rhoi amser i eraill ddweud rhywbeth, bydd yn rhaid i mi ddod yn ôl ato ar adeg wahanol.

Fy mhwynt olaf yw hwn: mae angen arian ar golegau a phrifysgolion i ddarparu addysg o'r ansawdd gorau. Maent wedi cael ergyd ariannol yn sgil COVID, er bod £50 miliwn yn cael ei adennill i bob pwrpas o'r pot COVID gan y Gweinidog addysg, a'i ddosbarthu'n unol â hynny i'r prifysgolion a'n sefydliadau addysg bellach. Yn sicr, roedd hynny'n helpu i leddfu problemau llif arian. Mae'r cyllid myfyrwyr a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU hefyd wedi helpu gyda phroblemau llif arian, felly mae wedi bod yn ymyrraeth i'w chroesawu. Ond y rhagamcan diweddaraf ar gyfer prifysgolion Cymru, ar gyfer y flwyddyn academaidd sydd i ddod, yw colled o £400 miliwn i £500 miliwn, sy'n swm eithriadol yn ôl mesur unrhyw un.

Mae'r £23 miliwn ar gyfer addysg bellach a £27 miliwn ar gyfer addysg uwch yn cuddio'r ffaith bod toriad o £47 miliwn wedi'i wneud yn y gyllideb addysg ei hun i fynd i mewn i bot COVID Llywodraeth Cymru—yn gwbl ddealladwy—ynghyd â symiau canlyniadol amrywiol o'r arian ychwanegol o'r DU y daethpwyd o hyd iddo ar gyfer addysg. A gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu cadarnhau, gyda rhywfaint o dystiolaeth, gobeithio, faint o'r swm canlyniadol ar gyfer addysg bellach ac addysg uwch a drosglwyddwyd i'r sectorau hynny.

Mae gwelliant Plaid Cymru yn awgrymu bod rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod gan y sectorau ddigon o arian i wneud yr hyn y mae angen iddynt ei wneud a darparu'r addysg safonol honno, ac yn wir, rydym yn cytuno. Nid yw hynny yr un fath, fodd bynnag, â dweud y dylai Llywodraeth Cymru, a hyd yn oed Llywodraeth y DU, fod yn gyfrifol am ddod o hyd i'r holl arian hwnnw. Gall y ddau sector wneud arian drostynt eu hunain, ac maent yn gwneud hynny, a dylai penderfyniadau Llywodraeth Cymru ei gwneud yn haws iddynt wneud hynny, nid yn galetach. Rwyf eisoes wedi sôn am y bygythiad i un ffrwd incwm ar gyfer addysg bellach, ond mae prifysgolion Cymru'n dal i aros, ar ôl argymhellion yr Athro Reid yr holl flynyddoedd yn ôl, am help i hwyluso'r math o geisiadau partneriaeth strategol a fyddai'n rhoi mynediad llawer gwell iddynt at lefel uchel o arloesedd neu gyllid ymchwil o ansawdd da gan Lywodraeth y DU, ac o fannau eraill.

Byddai'n dal i fod yn deg dweud bod y ddau sector wedi cael eu tangyllido gan Lywodraeth Cymru dros y blynyddoedd, ac mae addysg bellach wedi bod yn fwy agored i hynny, rwy'n meddwl, yn enwedig ar ddiwedd tymor diwethaf y Cynulliad a dechrau'r un cyfredol, oherwydd mae'n fwy uniongyrchol ddibynnol ar bwrs y wlad. Mae prifysgolion yn cael mwy o gyfle i weithio'n fasnachol, ond maent hefyd wedi gorfenthyg, ac mae hynny'n eu gadael yn agored i fath gwahanol o niwed. Fodd bynnag, efallai y bydd rhai prifysgolion am egluro pam eu bod yn dal eu gafael ar gronfeydd wrth gefn mor fawr, rai ohonynt yn fwy na 100 y cant o'u hincwm.

Y ddadl rwy'n disgwyl ei chlywed yn ystod y drafodaeth hon yw y bydd rhoi ad-daliad i fyfyrwyr yn ychwanegu at bryderon ariannol y sefydliadau. Rwyf am wybod hyn: pam mai myfyrwyr ddylai dalu cost COVID pan fo myfyrwyr eu hunain, er gwaethaf ymdrechion diamheuol gan arweinwyr yn y ddau sector, yn ofni nad ydynt yn cael yr addysg lawn a addawyd iddynt a chynifer ohonynt yn mynd i ddyled i wneud hynny? Diolch.

17:15

Diolch. Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliannau 3 a 4 eu dad-ddethol. Felly, galwaf ar Helen Mary Jones i gynnig gwelliannau 1, 3 a 4, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian.

Gwelliant 1—Siân Gwenllian

Dileu pwynt 4 ac ailrifo'n unol â hynny.  

Gwelliant 3—Siân Gwenllian

Dileu is-bwynt 6(a) a rhoi yn ei le:

sicrhau bod gan y sector addysg uwch ddigon o adnoddau i alluogi sefydliadau i barhau i gynnal safonau a pharhau i ehangu mynediad;

Gwelliant 4—Siân Gwenllian

Cynnwys is-bwynt 6(b) newydd ac ailrifo'n unol â hynny:

gweithio gyda'r sectorau addysg bellach a dysgu seiliedig ar waith i sicrhau bod ganddynt adnoddau digonol a chynaliadwy i ddarparu'r cyfleoedd dysgu gorau posibl, yn enwedig i ddysgwyr difreintiedig, ar yr adeg heriol hon;

Cynigiwyd gwelliannau 1, 3 a 4.

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i'r Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw? Mae llawer yn y cynnig y gallwn ei gefnogi, ond fel y mae Suzy Davies wedi tynnu sylw ato'n briodol, rydym yn edrych ar y materion sy'n codi o safbwynt ychydig yn wahanol. Felly, o ystyried cyfyngiadau amser, Ddirprwy Lywydd, fe gadwaf fy sylwadau i ddadlau dros ein gwelliannau.

Mae ein gwelliant cyntaf yn galw am ddileu cymal 4. Er bod unrhyw adnoddau ychwanegol ar gyfer y sector pwysig hwn i'w croesawu bob amser, mae sefyllfa ariannol enbyd llawer o'n prifysgolion yn ei gwneud yn amhosibl inni roi croeso diamod i'r adnoddau ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u darparu hyd yma. Roedd Canolfan Llywodraethiant Cymru, yn ôl ym mis Mai eleni, yn rhybuddio ynglŷn â cholli rhwng £100 miliwn a £140 miliwn o incwm ffioedd i brifysgolion Cymru yn ystod y flwyddyn academaidd hon. Rhagamcan oedd hynny wrth gwrs. Fel y mae Suzy Davies newydd ei ddweud, yn ddiweddar roedd CCAUC yn rhagweld colled o dros £400 miliwn—diffyg—yn incwm prifysgolion eleni, a pherygl o golli hyd at 5,000 o swyddi.

Daw hyn ar ben sefyllfa sydd eisoes yn fregus i rai o'n sefydliadau. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud eu bod yn sefydliadau annibynnol, ac mae'n rhaid i rai ohonynt ysgwyddo rhywfaint o gyfrifoldeb am hynny. Ond p'un a ydynt yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb hwnnw ai peidio, byddai'r effaith ar ein cymunedau o golli rhai o'r sefydliadau hyn, neu golli llawer o swyddi yn y sefydliadau hyn, yn eithafol. Efallai y dywed y Gweinidog nad yw'n cydnabod y darlun hwn. Os nad yw'n ei gydnabod, mae hynny'n anffodus, oherwydd dyna'r realiti. Mae'r £27 miliwn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi hyd yma yn teimlo fel diferyn bach mewn cefnfor mawr iawn, ac mae'n ddrwg gennyf os yw'r Llywodraeth yn teimlo ein bod yn angharedig, ond nid ydym yn teimlo y dylid croesawu hynny ynddo'i hun.

Mae ein gwelliant 3 yn galw am ddileu pwynt 6(a). Rydym yn deall, wrth gwrs, fod rhai myfyrwyr yn anhapus ynglŷn â thalu'r un lefel o ffioedd ag y byddent mewn blwyddyn arferol pan fo'u profiad dysgu yn wahanol iawn, ac rydym yn cydymdeimlo. Ond pan fo'r sector dan gymaint o bwysau ariannol, ni chredwn mai dyma'r adeg iawn i leihau ymhellach yr incwm sydd ar gael i sefydliadau. Rwy'n cymryd yr hyn y mae Suzy Davies yn ei ddweud am y ffordd na ddylai myfyrwyr unigol ysgwyddo'r baich, ac rwy'n cydymdeimlo â'r safbwynt hwnnw, ond mae'r sefydliadau hyn mor bwysig yn ein cymunedau ac i'n heconomi fel nad ydym yn cefnogi unrhyw ostyngiad pellach yn yr incwm drwy leihau ffioedd.

Credwn y dylai'r Llywodraeth weithio'n agos gyda'r sector i sicrhau, a  'sicrhau' yw'r gair allweddol—efallai y gallem fod wedi dweud 'galluogi'. Nid ydym yn awgrymu y dylai Llywodraeth Cymru fod yn ariannu'r sefydliadau hyn yn llwyr, sefydliadau addysg uwch na sefydliadau addysg bellach, ond mae'n rhaid iddynt greu'r hinsawdd iawn lle gellir dod o hyd i incwm arall, ac mae hyn, unwaith eto, yn rhywbeth nad ydym yn gweld bod digon o weithgarwch a digon o gyfathrebu ynghlwm wrtho. Rhaid i'r Llywodraeth sicrhau bod digon o adnoddau yn y ddau sector i gynnal safonau, gan gynnwys safonau addysgu, ac i barhau i ehangu mynediad, a dyna'r rheswm dros ein gwelliant.

Mae gwelliant 4 yn ceisio cryfhau'r cynnig drwy gyfeiriad penodol pellach at addysg bellach ac yn enwedig at ddysgu seiliedig ar waith. Mae'r cynnig gwreiddiol yn sôn am golegau yn ogystal â phrifysgolion drwyddo draw, ond roeddem am dynnu rhagor o sylw at yr elfen addysg bellach honno. Mae addysg bellach yn wynebu heriau penodol a gwahanol, fel y mae Suzy Davies wedi nodi'n briodol, a rhaid mynd i'r afael â'r rhain; mae darparwyr dysgu seiliedig ar waith yn wynebu heriau gwahanol unwaith eto.

Rwy'n ymwybodol eu bod mewn portffolio gwahanol, ond credaf fod gan bob darparwr addysg, pob darparwr dysgu, hawl i ddisgwyl dull gweithredu cyson gan y Llywodraeth yn gyffredinol. Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi dweud wrth ddarparwyr dysgu seiliedig ar waith y bydd pob hyfforddai'n dychwelyd at ddysgu wyneb yn wyneb o 1 Hydref ymlaen, yn wrthgyferbyniol i gefnogaeth Llywodraeth Cymru i ddysgu hyblyg a dysgu cyfunol mewn sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach. Nid yw hyn yn gwneud synnwyr. Wrth gwrs, y ffaith amdani yw na fyddant yn cael eu talu os na fydd eu hyfforddeion yn bresennol.

Clywn lawer am barch cydradd rhwng dysgu galwedigaethol a dysgu academaidd. Awgrymwn fod hwn yn gyfle i Lywodraeth Cymru ymgysylltu â'r sector ar draws portffolios a sicrhau bod y parch cydradd tybiedig y clywsom gymaint amdano yn cael ei adlewyrchu yn y ffordd y caiff cyfleoedd dysgu galwedigaethol eu cefnogi a'u hariannu gan y Llywodraeth, ac mae hyn ymhell o fod yn wir, a dyna'r rheswm dros ein gwelliant 4.

Lywydd, edrychaf ymlaen at glywed gweddill y ddadl, edrychaf ymlaen at ymateb y Llywodraeth, ac rwy'n cymeradwyo gwelliannau 1, 3 a 4 i'r Senedd hon.

17:20

Diolch. A gaf fi ofyn i'r Gweinidog Addysg gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol?

Gwelliant 2—Rebecca Evans

Dileu pwyntiau 5 a 6 a rhoi yn eu lle:

Yn croesawu ymdrechion myfyrwyr, colegau a phrifysgolion i barhau i weithredu’n ddiogel ac yn effeithiol mewn amgylchiadau heriol dros y tymor nesaf, ac yn diolch iddynt am eu hymdrechion.

Yn nodi gwaith helaeth colegau a phrifysgolion i gynnal cyfleoedd dysgu, naill ai wyneb yn wyneb neu, lle nad oedd modd osgoi cyfyngiadau COVID-19, drwy wersi, asesu a chymorth ar-lein.

Yn nodi’r canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi darparwyr addysg uwch a phellach i baratoi ar gyfer y tymor newydd ac agor campysau yn ddiogel.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Mae'n ddrwg gennyf, cefais drafferth i agor y meic. Bydd llawer o'r hyn a ddywedaf yn awr yn adleisio'r hyn y mae Gweinidog yr wrthblaid Geidwadol dros addysg eisoes wedi'i ddweud, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig ailadrodd rhai o'r pwyntiau a wnaeth.

Mae'r pandemig coronafeirws wedi arwain at darfu'n eang ar gynifer o sectorau o'n heconomi yng Nghymru. Bydd rhywfaint o'r niwed economaidd sy'n cael ei achosi yn anadferadwy, ac i bawb mewn addysg lawnamser, bydd penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yma nawr yn bwrw cysgod hir. Un cyfle ar eu haddysg a gaiff y bobl ifanc sy'n ceisio am gymwysterau ar hyn o bryd, ac mae'r effaith ar eu hastudiaethau eisoes wedi achosi cryn ofid.

Roedd myfyrwyr a oedd yn mynd i brifysgolion a cholegau y mis hwn yn wynebu'r gofid o weld ysgolion yn cau ychydig wythnosau'n unig cyn iddynt sefyll eu harholiadau Safon Uwch, pan fydd llawer ohonynt bron â bod wedi cwblhau pum tymor o astudio. Ar ôl dioddef cythrwfl emosiynol y ffiasgo canlyniadau yn gynharach y mis hwn, mae pobl ifanc yn wynebu rhwystrau newydd wrth i lawer ohonynt ddechrau ar eu haddysg bellach neu addysg uwch. Mae pobl ifanc wedi colli cyfle i ymgymryd â chynifer o ddefodau newid byd, ac mae angen i bob un ohonom wneud popeth yn ein gallu i sicrhau eu bod yn colli cyn lleied ag sy'n bosibl o gyfleoedd o'r fath. Un o'r profiadau gorau o fynd i'r brifysgol yw dysgu byw'n annibynnol a gwneud ffrindiau newydd, ac eto bydd y cyfyngiadau ar ryngweithio cymdeithasol yn cyfyngu ar y cyfleoedd hyn.

Fel y mae pwynt 5 ein cynnig yn dweud yn glir, ni argymhellwyd gostyngiad yn y ffioedd dysgu eleni, er na fydd llawer o fyfyrwyr yn gosod troed mewn ystafell ddosbarth neu ddarlithfa hyd yn oed. Wrth gwrs, ceir ffyrdd o fanteisio ar dechnoleg newydd a defnyddio cyfarfodydd rhithwir fel ffordd o ategu dysgu, ond ni ddylai gymryd lle dysgu wyneb yn wyneb yn llwyr. Dylai myfyrwyr ddisgwyl rhywfaint o gyswllt wyneb yn wyneb, ond mae'n amlwg mai mater i brifysgolion a cholegau, gyda chanllawiau cadarn gan Lywodraeth Cymru, yw pennu'r ffyrdd mwyaf diogel o weithredu. Y brif flaenoriaeth yw sicrhau bod dysgu'n barhaus a bod cynlluniau trwyadl ar waith i sicrhau parhad cyrsiau, hyd yn oed os bydd rheoliadau COVID yn mynd yn llymach, ac yn y senario waethaf, ein bod yn wynebu cyfnod arall o gyfyngiadau symud.

Rydym i gyd yn cydnabod y rôl hollbwysig y mae colegau a phrifysgolion addysg bellach yn ei chwarae yn uwchsgilio ein gweithlu i ateb yr her anferthol o ailadeiladu economi Cymru mewn byd ôl-COVID, ac mae angen i bob un ohonom gydnabod y bydd Cymru ôl-COVID yn edrych ac yn teimlo'n wahanol iawn i'r hyn ydoedd o'r blaen. Mae'r cynnydd mewn rhyngweithio cymdeithasol ar-lein bron yn sicr yma i aros, ac mae hynny ynddo'i hun yn creu heriau o ran sicrhau bod gennym weithlu sydd â'r sgiliau i ateb y galw. Cydnabu bron i hanner y cyflogwyr a arolygwyd gan y Brifysgol Agored y byddai mentrau prentisiaeth a dysgu seiliedig ar waith yn hanfodol i adferiad eu sefydliad ar ôl y coronafeirws dros y flwyddyn nesaf. Mae'n hanfodol, felly, fod cyn lleied â phosibl o darfu ar addysg ein myfyrwyr.

Bydd pwynt 6 ein cynnig yn galw am weithredu gan Lywodraeth Cymru. Mae angen i fyfyrwyr fod yn hyderus fod yr hyn y maent yn talu amdano mewn ffioedd yn deg am yr hyn y maent yn ei gael mewn gwirionedd. Yn hollbwysig, mae angen mesurau cyflym arnom i fynd i'r afael ag allgáu digidol a sicrhau bod gan bob dysgwr ffordd o gael mynediad at bob agwedd ar eu cwrs. Mae ColegauCymru wedi nodi bod diffygion sylweddol o hyd yn y ddarpariaeth o offer, meddalwedd a chysylltedd TGCh, ac o ran y risg o gynyddu'r gagendor digidol, mae hynny'n rhywbeth y gwn ei fod yn amlwg iawn ac yn bryder i fy etholwyr yn Nwyrain De Cymru. Maent yn mynd rhagddynt i ddweud, er gwaethaf yr ymdrechion gorau i gynnal dysgu, ei bod yn anochel y bydd tarfu ar rai o ganlyniadau hyfforddeiaethau, prentisiaethau a rhaglenni fel Twf Swyddi Cymru. Dangosodd arolwg diweddar gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr fod mwy na chwarter y myfyrwyr prifysgol yn methu manteisio ar ddysgu ar-lein, ac roedd mwy na thraean o'r farn nad oedd y ddarpariaeth ar-lein yn safonol nac o ansawdd da. Mae'n rhywbeth y mae angen inni fod yn bryderus yn ei gylch.

Hoffwn glywed hefyd gan y Gweinidog am oblygiadau unrhyw newidiadau i'r maes llafur ar gyfer cyfnod allweddol 5, yn benodol mewn perthynas â gofynion mynediad ar gyfer addysg bellach ac addysg uwch, gan mai dyma'r adeg y bydd disgyblion blwyddyn 13 presennol yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â'u camau nesaf. Mae'r misoedd diwethaf wedi bod yn boen erchyll i gynifer o'n pobl ifanc, ac fel y dywedodd Andrew R.T. Davies yn gynharach heddiw, mae'n rhaid ei fod wedi cael effaith ddifrifol ar iechyd meddwl llawer ohonynt. Felly, rwy'n gobeithio mai canlyniad y ddadl heddiw yw y gallwn i gyd gytuno a chynnig ffyrdd o'i gwneud yn decach iddynt. Rwy'n cymeradwyo'r cynnig.

17:25

Diolch yn fawr am gyflwyno'r ddadl hon. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i'n myfyrwyr, a hefyd i'n heconomi yn gyffredinol. Yn gyntaf, hoffwn longyfarch Prifysgol Metropolitan Caerdydd, sydd wedi'i dynodi'n brifysgol Gymreig y flwyddyn gan The Times a The Sunday Times, sy'n rhoi ffocws ar ei chyrsiau a gynlluniwyd ar gyfer dysgu ymarferol, gan gynnwys yr adran technoleg bwyd bwysig iawn y cofiaf fod is-bennaeth Llywodraeth Tsieina wedi ymweld â hi. Ar ei ymweliad byr iawn, penderfynodd fynd yno. Mae hynny'n nodweddiadol o'r math o waith y mae Met Caerdydd yn ei wneud. Mae'n addysg broffesiynol gyda ffocws ar ymarfer, sy'n hanfodol ar gyfer datblygu'r math o raddedigion sydd eu hangen arnom i adfywio ein heconomi.

Rwy'n falch iawn fod un o'r 37 gradd newydd y mae'n eu cynnig yn mynd i fod mewn addysg blynyddoedd cynnar, sef yr agwedd ar addysgeg sy'n cael ei hesgeuluso fwyaf, a'r bwysicaf mae'n debyg, ac eto mae prifysgolion mwy traddodiadol yn ystyried nad yw'n bwysig iawn. Y cyrsiau mewn entrepreneuriaeth gymhwysol a rheoli arloesedd a fydd yn dechrau yn y flwyddyn academaidd nesaf wrth gwrs yw'r union fath o gyrsiau sydd eu hangen arnom i'n helpu i fynd i'r afael â'n cynhyrchiant isel hanesyddol, rhywbeth sydd bob amser wedi bod yn destun gofid i ni. Felly, rhaid i mi gydnabod bod pob prifysgol wedi dioddef ergyd yn sgil COVID, ond credaf ei bod yn afrealistig inni feddwl bod Llywodraeth Cymru yn mynd i allu cau'r bwlch o £500 miliwn a amcangyfrifwyd gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid. 

Mae Prifysgol Caerdydd yn arbennig o agored i'r gostyngiad enfawr yn nifer y myfyrwyr rhyngwladol sy'n cofrestru. Yn flaenorol, byddent yn elwa o dros ddwy ran o bump o gyfanswm yr incwm a ddeuai i Gymru gan fyfyrwyr rhyngwladol. Ac mae'n gwbl amlwg yn anecdotaidd nad yw'r myfyrwyr hyn wedi cyrraedd yn y math o niferoedd y byddech fel arfer yn ei ddisgwyl ar yr adeg hon o'r flwyddyn, gan eu bod fel arfer yn cyrraedd yn gynharach na myfyrwyr y DU er mwyn ymgyfarwyddo â'r ardal. Mae Caerdydd yn rhagweld mai dim ond 60 y cant o'i tharged gwreiddiol ar gyfer israddedigion rhyngwladol a 40 y cant o'i hôl-raddedigion y bydd yn eu derbyn.

Mae'r rhain yn ffigurau sy'n peri pryder am lawer o resymau. Yn gyntaf oll, bydd yn amlwg yn cynyddu'r pwysau ar y diffyg yn y cronfeydd pensiwn, a hefyd mae'n golygu llai o arian ar gyfer ymchwil. Ac o gronfa arloesi ac adfer Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru, ni ddyrannwyd dim i Gaerdydd, yn ôl pob tebyg am ei bod, ar y cyfan, yn gryfach na llawer o brifysgolion eraill. Ar hyn o bryd, mae Caerdydd yn rhagweld diffyg o £67 miliwn—daw hynny gan ei phrif swyddog ariannol—a bydd yn rhaid iddi wneud iawn am y diffyg drwy bwyso ar ei chronfeydd wrth gefn. Yn ffodus, mae ganddi gronfeydd wrth gefn o'r fath i'w galluogi i wneud hynny, ond mae'n ei gwneud yn agored iawn yn y blynyddoedd i ddod, wrth symud ymlaen.

Caerdydd yw ein prifysgol fwyaf a'n hunig brifysgol Grŵp Russell. Yn gyffredinol, mae cyfraniad Caerdydd i economi Cymru yn sylweddol iawn. O'r blaen, cyfrannai bron i hanner y £5 biliwn y credir bod prifysgolion yn ei gyfrannu i economi Cymru. Ac nid canlyniadau'r pandemig COVID yn unig yw hynny; mae'n deillio o ergyd ddwbl COVID a gadael yr UE, sy'n peri pryder mawr o ran y cyllid ymchwil ac arloesi a gollir, cyllid a arferai ddod yn arbennig gan fyfyrwyr tramor, ond hefyd o arian cronfa datblygu rhanbarthol Ewrop, a fydd yn dod i ben wrth gwrs o ganlyniad i'r ffaith ein bod yn gadael yr undeb Ewropeaidd. A'r rheswm pam fod arian cronfa datblygu rhanbarthol Ewrop mor bwysig—cyfrannodd £334 miliwn i Gymru yn ôl yr Athro Kevin Morgan—yw bod arian y gronfa'n cael ei ddyrannu ar sail angen, gyda nod clir i gynyddu ffyniant Cymru i lefel gyfartalog gweddill Ewrop. Yn y dyfodol, mae'n bosibl y gallai arian ymchwil ac arloesi'r DU y bydd yn rhaid i Gaerdydd a'r holl brifysgolion eraill wneud cais amdano gael ei ddyrannu ar sail cystadleuaeth agored yn unig, sy'n golygu bod y rhai sydd ag arian yn cael mwy ohono. A gwyddom fod Rhydychen a Chaergrawnt yn cael cyfran lawer mwy o'r pot cyffredinol ac yn derbyn llawer llai o fyfyrwyr a addysgir yn ysgolion y wladwriaeth.

Yn olaf, hoffwn dynnu sylw at y rôl hollbwysig y mae prifysgolion yn ei chwarae yn ein datblygiad economaidd rhanbarthol. Mae hwnnw'n bwynt a bwysleisiwyd gan yr Athro Morgan mewn gweminar yn ddiweddar. Os nad oes gennym dystiolaeth yn seiliedig ar ymchwil o'r hyn sy'n gweithio ac nad yw'n gweithio, byddwn mewn lle llawer anos i allu sicrhau bod gennym y polisïau economaidd rhanbarthol mwyaf effeithiol yn strategol y mae angen inni eu cael. Felly mae angen i bob un ohonom boeni am iechyd ariannol ein prifysgolion, ond yn anffodus, nid wyf yn credu ei bod hi'n realistig inni feddwl y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu cau'r bwlch. Rydym yn wynebu cyfnod anodd iawn o'n blaenau. 

17:30

Ddirprwy Lywydd, mae'n bleser gennyf ddilyn yr araith honno gan Jenny Rathbone, oherwydd rwy'n falch o ddweud fy mod yn un o raddedigion Prifysgol Caerdydd. Cefais bleser mawr a dysgu llawer yn ystod fy amser yno, rhwng 1981 a 1984, ac rwy'n falch o ddweud bod y brifysgol, ers i mi adael, wedi ffynnu—wedi parhau i ffynnu yw'r hyn y bwriadwn ei ddweud. Fel yr amlinellodd Jenny, mae bellach yn brifysgol Grŵp Russell ac mewn perthynas ag ymchwil, hi yw ein prifysgol gryfaf o gryn dipyn, gyda rhan enfawr i'w chwarae mewn sawl maes.

Rwy'n falch fod Jenny wedi sôn am economeg a gwyddorau cymdeithasol a'r ymchwil y bydd Caerdydd yn ei wneud wrth inni adeiladu'r adferiad ar ôl COVID, a bydd yn eithriadol o bwysig. Ond roeddwn am edrych ar yr ymchwil i faterion meddygol, a COVID yn arbennig. Gobeithio y bydd yr Aelodau'n caniatáu i mi ddefnyddio'r holl enghreifftiau o Brifysgol Caerdydd, oherwydd rwy'n credu eu bod mor arloesol.

Ym mis Gorffennaf, cyhoeddodd Prifysgol Caerdydd brosiect ledled y DU a edrychai ar COVID a'r effaith ar ddiagnosis o ganser, a pha mor aml y clywsom yn ein dadleuon am oblygiadau methu cael diagnosis cynnar o ganser, oherwydd mae pobl yn rhy ofnus i wneud defnydd o ddiagnosteg ar hyn o bryd oherwydd COVID? Mae'r astudiaeth hon yn un a wnaed ar y cyd â Cancer Research UK ac un neu ddwy o brifysgolion eraill yn Lloegr, a bydd yn archwilio ymddygiad ac agweddau'r cyhoedd. Credaf fod hynny'n wirioneddol arwyddocaol, ond hefyd ei nod, mewn gwirionedd, yw hwyluso gwell negeseuon iechyd y cyhoedd, oherwydd yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yma yw bod pobl yn sylweddoli'r risgiau y maent yn eu hwynebu os nad ydynt yn sicrhau bod symptomau o bwys yn cael eu harchwilio. Felly, rwy'n credu bod hynny'n un dangosydd o werth Prifysgol Caerdydd yn yr argyfwng penodol hwn.

Mae prosiect arall yn ystyried a yw ein system imiwnedd yn pennu a ydym yn dioddef o COVID difrifol, fel sy'n ymddangos yn debygol. Ac unwaith eto, rydym angen rhyfeddodau gwyddoniaeth ac ymchwil wirioneddol eithriadol i roi'r arfau inni allu ymladd y clefyd. Weithiau, nid yw'r hyn a gredwn yn reddfol bob amser yn iawn, a dyna pam rydym angen gwyddoniaeth fanwl a thrylwyr o'r fath.

Rwy'n credu bod prosiect yn gynharach yn y flwyddyn, ym mis Ebrill rwy'n credu, yn edrych ar lefelau pryderon iechyd meddwl ymhlith nyrsys a bydwragedd yn y DU. Roedd y canfyddiadau'n eithaf difrifol: teimlai 74 y cant fod eu cyfrifoldebau clinigol yn peryglu eu hiechyd yn ystod COVID ac roedd 92 y cant yn ofni y byddai'r risgiau'n cael eu trosglwyddo i aelodau o'u teuluoedd. Onid yw hwnnw'n ganfyddiad anhygoel o ddynol, hefyd, fod eu hiechyd a'u risg eu hunain—74 y cant, yn naturiol—? Ond roedd hyd yn oed mwy ohonynt—92 y cant—yn ofni'r hyn a allai ddigwydd, yr hyn yr ofnent fwyaf, oedd y byddent yn ei drosglwyddo i'w hanwyliaid. Ac yna roedd 33 y cant wedi profi iselder neu bryder difrifol.

Drwy reoli anghenion emosiynol a lles ein gweithwyr iechyd y down drwy'r argyfwng hwn. Ond rwy'n credu, am yr ychydig fisoedd cyntaf, fod llawer o bobl yn ein gwasanaethau iechyd wedi cael eu llethu gan faint yr hyn roeddent yn ei wynebu, ac mae'n bwysig iawn cofio sut y mae angen eu helpu i fod mor wydn â phosibl—y gweithlu—a gwybod ble i droi pan gânt brofiadau anodd iawn, ac angen cyfle i siarad amdanynt a gwybod pa dechnegau i'w defnyddio i liniaru rhywfaint arnynt o leiaf. Felly, astudiaeth wirioneddol ymarferol unwaith eto.

Credaf y bydd llawer ohonom yn cofio'r astudiaeth a lansiwyd yn Ysbyty Athrofaol Cymru ar effaith rhoi plasma gwaed i gleifion COVID, unwaith eto mewn cydweithrediad â phrifysgol flaenllaw yn Lloegr, ac mae cydweithio mor bwysig. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'r astudiaeth honno'n mynd rhagddi, a chafodd sylw yn y newyddion yn fyd-eang—rhywbeth sy'n digwydd yma ym Mhrifysgol Caerdydd ac yn Ysbyty Athrofaol Cymru. Dyna sy'n bwysig iawn yn ein prifysgol. Rwy'n cofio fy mhrofiadau fel myfyriwr israddedig gyda diolch mawr. Yn amlwg, rwyf wedi bod yn amlinellu gwaith ôl-raddedig a gwaith y cyfadrannau—sydd â rhai o feddyliau gwychaf eu cenhedlaeth. Hir y parhaed, a bydd angen inni edrych ar ffyrdd dychmygus o gynnal y rhagoriaeth fyd-eang ym Mhrifysgol Caerdydd.

17:35

A gaf fi ddiolch i'r Blaid Geidwadol am gyflwyno'r ddadl bwysig hon i'r Siambr heddiw? Nodaf ar y dechrau y byddwn yn cefnogi cynnig y Ceidwadwyr.

Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn hefyd i gydnabod bod problem coronafeirws yn debygol o effeithio'n fwyaf difrifol ar fyfyrwyr galwedigaethol, oherwydd natur eu harferion dysgu wrth gwrs. Felly, Weinidog, a gawn ni ofyn i chi amlinellu pa fesurau arbennig sy'n cael eu rhoi ar waith i sicrhau cyn lleied â phosibl o darfu ar elfennau o'u cyrsiau a fyddai'n gwneud cadw pellter cymdeithasol ac yn y blaen yn anodd iawn neu hyd yn oed yn amhosibl? Byddai hyn, wrth gwrs, yn berthnasol i gyrsiau prentisiaeth yn arbennig, cyrsiau y caiff nifer ohonynt eu hariannu'n rhannol neu'n gyfan gwbl gan fusnesau yn aml. Felly, a gaf fi ofyn hefyd pa gymorth penodol y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gynnig i'r busnesau a allai fod eisoes yn wynebu problemau ariannol sylweddol oherwydd cyfyngiadau COVID?

Rhaid inni gydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau breision dros y blynyddoedd diwethaf i adfywio'r sector galwedigaethol. Yn wir, clywsom yr wythnos hon fod y gwasanaeth cyfeirio cyflogwyr a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru newydd gofrestru eu pum canfed prentis. Gobeithio fy mod yn iawn i dybio bod yr embargo ar y wybodaeth hon wedi'i godi, Weinidog, am 12 o'r gloch heddiw. Weinidog, byddai'n drueni mawr—byddai'n drueni mawr mewn gwirionedd—pe baem yn colli'r pethau sylweddol a enillwyd yn y sector oherwydd y pandemig hwn.

17:40

Hoffwn ddechrau drwy ddiolch yn fawr i'r holl staff addysg uwch ac addysg bellach ac wrth gwrs, i'r disgyblion am eu hymdrechion yn ystod y pandemig trychinebus hwn, yn enwedig yng ngogledd Cymru. Er gwaethaf yr holl anawsterau hyn, roedd yn ddiddorol gweld gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bangor yn gweithio gyda Dŵr Cymru ac United Utilities i fonitro lefelau cefndirol o'r coronafeirws mewn dŵr gwastraff; mae myfyrwyr fel Caitlin Garrett o Goleg Llandrillo yn parhau i edrych tua'r dyfodol ac i ymarfer a datblygu ei sgiliau gartref; mae Busnes@LlandrilloMenai yn cyhoeddi y byddai ei 50 a mwy o raglenni hyfforddi proffesiynol bellach yn gymorthdaledig, hyd at 100 y cant o'r gost hyfforddi tan 31 Awst 2021.

Drwy'r amgylchiadau mwyaf heriol, mae myfyrwyr wedi parhau i astudio ac mae colegau wedi parhau i fod yn greadigol. Rhaid bod hynny'n rhoi rhywfaint o obaith i ni ar gyfer y dyfodol. Fodd bynnag, mae'n wir fod COVID-19 wedi taro'r sector hwn yn galed. Dangosodd arolwg diweddar gan Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr fod dros chwarter y myfyrwyr prifysgol yn methu manteisio ar ddysgu ar-lein, fod dros draean o'r farn nad oedd y ddarpariaeth ar-lein yn dda, a bod 15 y cant o fyfyrwyr heb yr offer angenrheidiol i allu manteisio ar ddysgu ar-lein. Credaf fod hyn yn ddifrifol dros ben a hoffwn gael sicrwydd gan y Gweinidog heddiw ei bod yn cydweithio, ei bod yn rhyngweithio â'r prifysgolion i sicrhau bod camau ar waith i alluogi pob myfyriwr i ddysgu ar-lein os oes angen. Cefnogir yr angen am weithredu o'r fath gan ColegauCymru, a ddywedodd fod diffygion sylweddol o hyd yn y ddarpariaeth o offer TGCh, meddalwedd a chysylltedd, a chyda hynny, daw'r risg o gynyddu'r gagendor digidol. Felly, Weinidog, a wnewch chi egluro pa gamau rydych yn eu cymryd i sicrhau bod y £3.2 miliwn a ddarperir ar gyfer offer digidol megis gliniaduron i fyfyrwyr addysg bellach wedi cael ei ddefnyddio'n effeithiol?

Nawr, yn ddi-os, rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi dyrannu adnoddau ariannol ychwanegol. Fodd bynnag, mae ColegauCymru yn parhau i fynegi pryderon nad yw'r arian ychwanegol y cytunwyd arno hyd yma yn ddigon i sicrhau bod y sector addysg bellach yn cael ei ddiogelu ar gyfer y dyfodol yn ogystal â sicrhau ei fod yn gallu cynllunio ar gyfer ail gyfnod posibl o gyfyngiadau symud. Maent yn nodi pwynt dilys iawn: pa wersi a ddysgwyd o'r don gyntaf a fydd o fantais i'n myfyrwyr a'n haddysgwyr proffesiynol pe baem yn wynebu'r cyfyngiadau symud pellach a allai ddigwydd?

O gofio fy mod yn credu y dylai addysg gael ei hariannu'n deg, rhaid i fyfyrwyr gael gwerth am arian yn gyfnewid am y buddsoddiad y maent yn ei wneud. Mae'r pandemig wedi tynnu sylw at anghydraddoldeb mewn perthynas â ffioedd, felly mae angen tegwch ar draws y sector. Ceir cwrs gradd er anrhydedd ar-lein yn y Brifysgol Agored am oddeutu £2,000 y flwyddyn, felly sut y gall fod yn iawn fod rhai myfyrwyr yn talu £9,000 am ddysgu ar-lein yn bennaf? Dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda phrifysgolion, efallai, i roi ad-daliad rhannol o rai o'u ffioedd i fyfyrwyr. Nawr, byddai hyn yn hwb cadarnhaol i'r 78 y cant o fyfyrwyr yng Nghymru sy'n poeni am eu harian oherwydd coronafeirws. Fodd bynnag, rwyf fi hyd yn oed yn sylweddoli nad yw hyn yn syml. Byddai gostwng y ffioedd yn arwain at lai o incwm. Yn wir, mae ffioedd dysgu'n creu cyfanswm o £892 miliwn. Dyna 54.7 y cant o incwm prifysgolion yng Nghymru. Yn yr un modd, mae prifysgolion Cymru eisoes wedi dioddef colledion incwm sylweddol iawn mewn perthynas â gweithgarwch llety, cynadleddau a digwyddiadau. Serch hynny, rhaid cael tegwch, a dylai Llywodraeth Cymru ystyried sut y gellid lleihau ffioedd yn gynaliadwy, a dylai colegau a phrifysgolion adolygu cyflogau cangellorion a'r defnydd o gronfeydd wrth gefn. Mae gan Brifysgol Bangor gronfeydd wrth gefn anghyfyngedig sy'n gyfanswm o 144 y cant o'u hincwm. Felly, rhaid cael peth arloesedd a meddwl radicalaidd yma.

Rhaid cyflwyno unrhyw newid yn ofalus, oherwydd mae'n ffaith bod prifysgolion Cymru'n cael effaith ganlyniadol gwerth dros £5 biliwn ar economi Cymru ac maent yn cynnal bron i 50,000 o swyddi yng Nghymru. Ni ellir bygwth hyn, sy'n dod â mi at fy mhwynt olaf: ni ellir bygwth dyfodol y celfyddydau ychwaith. Nawr, mae'r Gweinidog wedi cyfaddef pryder am rai gweithgareddau cerddoriaeth mewn ysgolion. Gallai hyn effeithio ar fyfyrwyr sy'n astudio'r cyrsiau creadigol hyn. Fel y cyfryw, rwy'n cefnogi galwadau i fynd i'r afael â phryderon ynglŷn â lleihau maes llafur rhai cyrsiau, a fydd wedyn yn cyfrannu at ganiatáu gwell gofynion mynediad i golegau a phrifysgolion. Diolch.

17:45

Diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl hon ar effaith COVID ar addysg bellach ac addysg uwch a byddaf yn eu cefnogi heddiw. Mae'r pandemig coronafeirws wedi effeithio ar fywydau pawb, ond neb yn fwy na'n pobl ifanc—pobl ifanc sydd wedi gweld oedi yn eu haddysg, eu datblygiad cymdeithasol yn cael ei lesteirio, ac sy'n wynebu un o'r marchnadoedd swyddi anoddaf ers cenedlaethau.

Er gwaethaf y trafferthion a wynebir gan lawer iawn o bobl ifanc yn sgil y ffiasgo TGAU a Safon Uwch dros yr haf, yr wythnos hon byddant yn dechrau yn y coleg neu'r brifysgol. Bydd ffeiriau'r glas ledled y wlad yn wahanol iawn i ddigwyddiadau'r gorffennol. Nid ymwneud â chyflawniad academaidd yn unig y mae prifysgolion, mae hefyd yn dysgu pobl ifanc, gan roi sgiliau bywyd gwerthfawr iddynt a helpu gyda'u datblygiad cymdeithasol. Bydd cyfyngiadau a gynlluniwyd i atal COVID-19 rhag lledaenu yn golygu y bydd myfyrwyr yn cael semester gwahanol iawn. Dim digwyddiadau cymdeithasol, dim digwyddiadau diwylliannol a dim digwyddiadau chwaraeon. Nid yw'r dosbarthiadau'n ddiogel hyd yn oed, gyda llawer yn mynd ar-lein. Mae'r holl newidiadau hyn, er bod eu hangen, wedi golygu bod myfyrwyr heddiw ar eu colled.

Rhaid i fyfyrwyr dalu'r un ffioedd dysgu am brofiad llai, a dyna pam na fyddaf yn cefnogi unrhyw un o'r gwelliannau. Er fy mod yn cydymdeimlo â'r prifysgolion, y myfyrwyr sy'n dioddef fwyaf. Fy mhryder mwyaf yw'r effaith ar iechyd meddwl myfyrwyr. Mae rheolau'n golygu y bydd yn rhaid i fyfyrwyr aros o fewn eu grwpiau llety, aros gyda phobl nad ydynt yn rhannu eu diddordebau o bosibl—diddordebau academaidd neu fel arall. Gallai hyn arwain at nifer fawr o fyfyrwyr yn teimlo'n ynysig ac yn unig ac yn enwedig myfyrwyr tramor. Mae angen i Lywodraeth Cymru a'r sefydliadau addysg uwch roi mwy o bwyslais ar ofal bugeiliol i bob myfyriwr, nid yn unig y rhai yr ystyrir eu bod yn agored i niwed. Bydd myfyrwyr yn gweld y flwyddyn academaidd hon yn un o'r rhai anoddaf erioed. Mae popeth yn cael ei wneud i sicrhau nad yw myfyrwyr yn dioddef yn academaidd, ond nid oes digon yn cael ei wneud i sicrhau a diogelu eu lles meddyliol.

Creodd y cyfyngiadau symud argyfwng iechyd meddwl yn y gymuned ehangach, a bellach mae mesurau i atal lledaeniad COVID ar draws campysau prifysgolion yn bygwth argyfwng iechyd meddwl ymhlith myfyrwyr. Rhaid i awdurdodau prifysgolion sicrhau archwiliadau meddyliol a chorfforol wythnosol ar gyfer pob myfyriwr. Rhaid iddynt wneud popeth yn eu gallu hefyd i hwyluso ac annog amrywiaeth ehangach o ddigwyddiadau cymdeithasol rhithwir. Bydd y flwyddyn academaidd hon yn anodd iawn i bob myfyriwr, a mater i'r Llywodraeth a'r awdurdodau prifysgol yw sicrhau bod pob myfyriwr wedi'u paratoi i ymateb i'r heriau hynny. Ein dyletswydd i'n pobl ifanc yw rhoi pob cam posibl ar waith i wneud y flwyddyn academaidd hon mor ddi-boen â phosibl, ac rwy'n dymuno lwc dda iawn a fy nymuniadau gorau i bob un ohonynt. Diolch yn fawr.

17:50

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. A hoffwn ddiolch i gydweithwyr am y cyfle i drafod ein sector addysg uwch a'n sector addysg bellach, ac rwy'n hynod falch o fod wedi gweithio ochr yn ochr â'r ddau sector yn ystod y cyfnod anodd hwn. A dyna pam, Ddirprwy Lywydd, rwy'n cyflwyno gwelliant y Llywodraeth, sy'n diolch, fel Senedd, i fyfyrwyr, colegau a phrifysgolion yng Nghymru am eu hymdrechion, eu gwydnwch, eu hyblygrwydd a'u dyfalbarhad wrth ymateb i'r heriau a grëir gan y pandemig hwn.

Fel ein hysgolion, ni chaeodd y colegau a'r prifysgolion yn ystod y cyfnod cyntaf o gyfyngiadau symud. Ers mis Mawrth, maent wedi parhau i ddarparu addysg, asesu ac ymchwilio o bell. Ond maent hefyd wedi mynd y tu hwnt i'r galw i gefnogi ein hymateb cenedlaethol i COVID-19, drwy raglenni hyfforddi newydd gyda byrddau iechyd lleol, darparu llety i weithwyr allweddol a darparu offer a chyfarpar diogelu personol hanfodol i'n hysbytai. A hoffwn ddiolch i David Melding am ei gyfraniad, a oedd yn tynnu sylw at yr ymchwil a fu'n digwydd drwy gydol y cyfnod hwn i'n helpu ni fel cenedl ac yn wir, y Deyrnas Unedig i ddeall yn well beth yw effeithiau COVID-19 a'r hyn y mae'n rhaid inni ei wneud i gefnogi ein gwlad wrth inni barhau i wynebu'r heriau hyn. 

Rydym yn llwyr gydnabod yr aflonyddwch a achoswyd i ddysgu, yn enwedig mewn colegau addysg bellach, a dyna pam ein bod wedi darparu £11 miliwn ychwanegol i golegau i dalu costau ychwanegol cymorth addysgu i ddysgwyr a allai fod wedi colli dysgu yn gynharach yn y flwyddyn. Ac mae hynny wedi'i gyplysu â £4 miliwn arall i ddosbarthiadau chwech mewn ysgolion hefyd. A rhaid i mi ddweud wrth fy nghyd-Aelodau Ceidwadol fod arian dal i fyny yn Lloegr wedi hepgor y sector addysg bellach yn fwriadol, ac nid ydym wedi gwneud hynny yma yng Nghymru.

Rydym hefyd wedi dyrannu £5 miliwn arall i gynorthwyo dysgwyr galwedigaethol i ddychwelyd i'r coleg i'w helpu i ennill eu trwydded i ymarfer cymwysterau, a £3.2 miliwn arall ar gyfer dysgwyr ôl-16 mewn colegau ac addysg i oedolion i ddarparu offer digidol i hwyluso dysgu ar-lein. Ac mae'n rhaid i mi ddweud eu bod, yn ystod y pandemig, yn fy nghyfarfodydd niferus gydag is-gangellorion, yn siarad yn ganmoliaethus iawn am eu gallu i ymgysylltu â dysgwyr ar-lein, ac roeddent yn dweud wrthyf ad nauseam eu bod yn falch iawn o'r ffaith eu bod yn gallu cyflwyno gweithgareddau ar-lein i gynifer o'u dysgwyr, ac ymgysylltu â hwy drwy'r gweithgareddau hynny. A dyna oedd penaethiaid colegau yn ei ddweud pan oedd y pandemig ar ei anterth.

Ac mewn addysg uwch, bydd rhan o'n cyllid ychwanegol yn mynd tuag at fuddsoddi mewn technolegau dysgu a chyfleusterau dysgu cyfunol i helpu prifysgolion i gynnal profiad o ansawdd uchel i fyfyrwyr. Nawr, rwy'n deall y bydd gan rai myfyrwyr bryderon am allu eu prifysgol a'u coleg i sicrhau parhad addysg deg a chyfoethog o ansawdd uchel o ganlyniad i'r aflonyddwch a ddaeth i'w rhan, ac sy'n debygol o ddod i'w rhan, o ganlyniad i'r pandemig hwn. Yn y colegau roeddem eisoes ar y ffordd tuag at weledigaeth ar gyfer dysgu ôl-16 a oedd yn cyfuno gweithgareddau wyneb yn wyneb a gweithgareddau digidol ymhell cyn COVID-19. Rwyf am i hyn gyflymu yn ystod y flwyddyn academaidd hon, gan adeiladu ar yr enghreifftiau niferus o addysgu cyffrous ac arloesol a welsom yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud.

Mae ein prifysgolion wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd dysgu arloesol a chefnogol y tymor hwn, drwy gymysgedd o ddarpariaeth ar-lein ac wyneb yn wyneb. Ac rwy'n hyderus iawn, hyd yn oed os nad yw rhai pobl yn y Siambr hon, y gallant gyflawni'r ymrwymiad hwn. O ystyried bod arolygon cenedlaethol o fyfyrwyr wedi dangos yn ystod y blynyddoedd diwethaf fod prifysgolion Cymru yn arwain y ffordd o ran boddhad myfyrwyr, dangosodd arolygon yn ystod y pandemig yn wir fod myfyrwyr sy'n byw yng Nghymru yn teimlo bod eu prifysgol wedi'u cefnogi'n well yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud na myfyrwyr mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig. Ac a gaf fi ddweud yn glir wrth Laura Anne y bydd pob prifysgol yng Nghymru, pob un ohonynt, yn darparu dysgu cyfunol yn ystod y cyfnod hwn?

Nawr, yn unol â Llywodraethau eraill, byddem yn cynghori myfyrwyr addysg uwch, a allai deimlo nad yw eu darpariaeth wedi bod o ansawdd digon da yn ystod y cyfnod hwn, i ystyried prosesau unioni eu sefydliadau eu hunain, a phrosesau Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol ar gyfer Addysg Uwch. Ac mae gennyf i a fy swyddogion berthynas waith agos â Swyddfa'r Dyfarnwr Annibynnol i fonitro nifer a natur y cwynion a ddaw gan fyfyrwyr yng Nghymru.

Hoffwn atgoffa'r Aelodau Ceidwadol hefyd fod eu cymheiriaid yn Llywodraeth y DU a Phwyllgor Deisebau San Steffan wedi gwrthod galwadau am ostyngiad cyffredinol yn y ffioedd dysgu o ganlyniad i'r pandemig. Y gwir amdani yw na fyddai gostyngiad cyffredinol yn y ffioedd neu ganslo dyledion ond yn gwneud niwed—yn niweidio—ansawdd addysg a'r gwasanaethau y gall ein prifysgolion eu darparu i fyfyrwyr, oni bai, wrth gwrs, fod Llywodraeth y DU yn fodlon darparu'r cyllid angenrheidiol i wrthbwyso unrhyw ostyngiad yn y ffioedd, ac ni welaf hynny'n digwydd yn fuan.

At hynny, gwyddom fod toriadau i ffioedd neu ddileu dyledion ohonynt eu hunain o fudd yn bennaf i'r myfyrwyr cyfoethocaf a'r graddedigion sy'n ennill y cyflogau mwyaf. Nid yw'n gwneud dim i roi arian ym mhocedi myfyrwyr yn awr, yn wahanol i'n pecynnau newydd diwygiedig i fyfyrwyr, sy'n darparu cyllid grant yn syth i bocedi myfyrwyr i'w cynorthwyo gyda chostau byw.

Rhaid i mi ddweud, er gwaethaf yr holl ansicrwydd, rydym yn gweld y nifer uchaf erioed o fyfyrwyr o gefndiroedd difreintiedig yn elwa o'r cymorth hwn, gyda'r myfyriwr cyffredin o Gymru'n cael £7,000 y flwyddyn fel grant nad yw'n ad-daladwy. Ni fyddai'r un myfyrwyr yn cael ceiniog pe baent yn byw dros y ffin. Ar ben hynny, y bore yma clywais gan y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sydd wedi dyrannu'r nifer uchaf erioed o ysgoloriaethau i fyfyrwyr Cymraeg i ganiatáu iddynt astudio eu haddysg uwch drwy gyfrwng y Gymraeg—talwyd dros 300 o ysgoloriaethau ar gyfer y flwyddyn academaidd hon.

Helpu myfyrwyr i ymdopi â chaledi yn awr yw blaenoriaeth cynrychiolwyr myfyrwyr yng Nghymru yn ôl yr hyn y maent yn ei ddweud wrthyf. Gwyddom yn bendant fod rhai myfyrwyr wedi dioddef yn ariannol yn ystod y pandemig. Dyna pam ein bod wedi gofyn i CCAUC sicrhau bod rhywfaint o'r arian ychwanegol sydd ar gael i'r sector yn cynorthwyo sefydliadau i ddarparu cyllid caledi i fyfyrwyr, yn seiliedig ar ble y gwelwn angen clir am gyllid o'r fath. 

Rydym yn ffodus iawn yng Nghymru ein bod yn ddiweddar, mewn cyfnod o anhawster ariannol mawr i lawer, wedi gweithredu'r pecyn cymorth cynhaliaeth i fyfyrwyr mwyaf hael yn Ewrop, pecyn a fydd yn cynorthwyo oedolion, myfyrwyr rhan-amser ac ôl-raddedigion yn arbennig i gamu ymlaen i addysg uwch i wella eu gwybodaeth a'u sgiliau mewn amgylchedd sy'n heriol o ran y farchnad lafur. A hynny cyn inni sôn am ymestyn y cyfrifon dysgu unigol y byddwn yn awr yn eu cyflwyno ledled Cymru gyfan, gan ganiatáu i bobl yr effeithiwyd ar eu rhagolygon swyddi—neu eu hincwm yn wir—gan COVID-19 ymgymryd â dysgu ychwanegol.

Er mor wahanol ac anarferol y gallai profiad myfyrwyr fod eleni, caf fy nghalonogi gan y ffaith bod cyfraddau mynediad at addysg uwch yn 18 oed yn uwch na 30 y cant am y tro cyntaf erioed ymhlith ymgeiswyr o Gymru. Rydym hefyd wedi gweld cynnydd o 2 y cant yn nifer y myfyrwyr a welwyd yn cael eu lleoli drwy UCAS mewn sefydliadau addysg uwch yng Nghymru. Mae honno'n bleidlais o hyder go iawn yn ansawdd addysg uwch yng Nghymru. A ninnau'n gweld gostyngiad o hyd yn nemograffeg pobl ifanc 18 oed, rydym yn dal i fod wedi gallu cynyddu nifer y bobl sydd wedi dewis dod i astudio yma yng Nghymru.

Bydd y niferoedd calonogol hyn yn helpu ein sector i wella ei sefyllfa ariannol, a gaiff ei gryfhau ymhellach gan y gronfa buddsoddi ac adfer addysg uwch gwerth £27 miliwn a dalwyd gennym yn ddiweddar i CCAUC. Efallai nad yw Plaid Cymru yn ei chroesawu, ond gallaf eich sicrhau bod CCAUC, y sefydliadau a'r is-gangellorion yn bendant yn ei chroesawu. Rwy'n disgwyl i'r cyllid hwn gynnal capasiti addysgu ac ymchwil hanfodol lle gwelwn ddirywiad dros dro yn y refeniw, ac i gefnogi gweithgareddau ymchwil ac addysg a fydd yn cyfrannu at ein hadferiad economaidd ehangach.

Mae'r arian ychwanegol hwn yn golygu bod cyfanswm cyllid CCAUC eleni yn £203 miliwn. Mae hwnnw'n gynnydd o'r £117.5 miliwn a gâi pan ddeuthum yn Weinidog addysg am y tro cyntaf. Soniodd Suzy Davies am symiau canlyniadol gan Lywodraeth San Steffan mewn perthynas ag addysg uwch. Gadewch i mi ddweud wrth Suzy: mae'r arian a ryddhawyd i sefydliadau yn Lloegr wedi bod ar sail benthyciadau. Rydym yn rhoi arian sychion i'n prifysgolion, ac nid ydym yn disgwyl iddynt ei ad-dalu, sydd unwaith eto'n wahanol iawn i'r ymagwedd a welir dros y ffin.

Wrth edrych i'r dyfodol, gwyddom y bydd y tymor nesaf yn her i brifysgolion a cholegau. Rydym wedi cydgynhyrchu canllawiau gyda'r sector fel y gallant weithredu'n ddiogel. Mae colegau wedi rhoi gwybod inni am nifer fach o achosion o'r clefyd ymhlith staff a myfyrwyr sydd wedi digwydd y tymor hwn eisoes, ond rwyf wedi bod yn gwbl hyderus eu bod wedi dilyn y protocolau ar gyfer profi, olrhain a diogelu er mwyn cadw'r achosion hyn dan reolaeth. Yr adborth a gefais gan golegau yw bod myfyrwyr yn gyffredinol yn cydymffurfio'n dda iawn â rheolau sy'n ymwneud â chadw pellter cymdeithasol, hylendid a gorchuddion wyneb. Mae llawer, os nad pob un, o'n sefydliadau wedi rhoi contractau cymdeithasol ar waith bellach neu wedi ychwanegu mesurau diogelwch COVID at gontractau cymdeithasol ac ymddygiadol sy'n bodoli'n barod i'w gwneud yn glir fod gan ein myfyrwyr rôl bersonol i'w chwarae yn helpu i gadw eu hunain ac eraill yn ddiogel. Ond yn amlwg, byddwn yn monitro'r sefyllfa mewn prifysgolion yn ofalus wrth i fyfyrwyr ddychwelyd i gampysau yr wythnos hon. Mae'n bleser gennyf ddweud bod canolfan brofi yn cael ei hadeiladu ar dir Prifysgol De Cymru ym Mhontypridd wrth i ni siarad, Ddirprwy Lywydd, i ddarparu cyfleusterau profi ychwanegol yn y sefydliad hwnnw a'r ardal honno. 

Rwy'n cloi drwy annog pawb sy'n ymwneud ag addysg uwch ac addysg bellach i aros yn ddiogel, i gadw pellter cymdeithasol, i olchi eich dwylo'n amlach, i wisgo gorchudd wyneb, i osgoi cymdeithasu dan do gyda phobl o'r tu allan i'ch aelwyd, ac i aros gartref os oes gennych chi neu unrhyw un arall ar yr un aelwyd â chi symptomau, ac os bydd gennych symptomau, gofynnwch am brawf. Ond fel y dywedodd rhywun, rwy'n dymuno pob lwc i bob un o'n myfyrwyr, boed mewn ysgolion, colegau addysg bellach, neu'n dod i'n prifysgolion, ar gyfer y flwyddyn academaidd newydd. Diolch yn fawr.

18:00

Diolch. Fel y dywedwyd wrth yr Aelodau, byddaf yn awr yn galw ar yr Aelodau sydd wedi gofyn am gael gwneud ymyriad o hyd at funud. Suzy Davies.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn fyr iawn, Weinidog, rwy'n dal yn chwilfrydig iawn i wybod pam eich bod wedi penderfynu eich bod am ddileu rhan o'n cynnig pan oedd y pwyntiau a godwyd gennych yn bethau y gallem fod wedi'u cefnogi pe na baech wedi'u dileu. Serch hynny, efallai y caf ofyn i chi a wnewch chi ymrwymo i ysgrifennu at yr Aelodau gyda'r dystiolaeth i gefnogi'r honiad ein bod yn gwybod y byddai ad-daliad ffioedd o fudd i fyfyrwyr o gefndiroedd cyfoethocach yn hytrach nag unrhyw fyfyrwyr eraill. Felly, byddwn yn gwerthfawrogi pe gallech wneud yr ymrwymiad hwnnw.

Rwy'n hapus iawn i wneud yr ymrwymiad hwnnw. Yr hyn a wyddom mewn gwirionedd yw mai cyfran fach iawn o fyfyrwyr fydd yn ad-dalu'r benthyciadau y maent wedi'u cael i dalu am eu haddysg uwch—sef y graddedigion sy'n ennill y cyflogau mwyaf, ac mewn gwirionedd bydd toriad yn y ffioedd ar y cam hwn o fudd i'r myfyrwyr unigol hynny—[Torri ar draws.] Wel, na, mae'n ffaith.

A wnewch chi ymatal rhag cael sgwrs ar draws y Siambr, oherwydd nid yw'n deg i'r rheini nad ydynt yn y Siambr? Felly, mae hynny'n iawn. A gaf fi alw yn awr ar Angela Burns i ymateb i'r ddadl? Angela.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Wel, roedd hynny'n ddiddorol. Weinidog, cawsoch eich sarhau i'r fath raddau nes i mi orfod troi'n ôl i ailddarllen ein cynnig gan fy mod yn meddwl efallai ein bod wedi rhoi pethau ynddo roeddwn wedi'u methu. Ond na, nid wyf yn gweld dim yno sy'n dweud nad ydym yn credu nad yw sefydliadau addysg uwch ac addysg bellach wedi ysgwyddo eu cyfrifoldebau. Hynny yw, rydym yn credu hynny—maent wedi bod yn rhagorol, maent wedi darparu llawer iawn i'n myfyrwyr dros y misoedd diwethaf. Ymddengys eich bod yn meddwl ein bod yn cyflwyno'r holl ddadl hon yn y bôn er mwyn eu beirniadu ac i ddweud bod popeth yn wael iawn. Ydw, rwy'n credu bod ein cynnig yn dweud, 'Da iawn chi, Lywodraeth Cymru, am roi arian.' Rydym yn croesawu hynny'n llwyr, yn falch iawn o'i weld, ac yn meddwl ei fod yn mynd i wneud gwahaniaeth. Ond rwy'n credu mai'r gwir bwynt yw bod Suzy Davies wedi'ch dal chi am eich bod yn meddwl y byddai'n ymwneud â hynny, ac mewn gwirionedd mae'n ymwneud â'n myfyrwyr—mae'n ymwneud â'r dynion a'r menywod ifanc, merched a bechgyn ledled Cymru sydd wedi cael eu dal gan y pandemig hwn ac wedi ei chael hi'n anodd ac wedi dioddef cymaint. 

Hoffwn roi teyrnged i Caroline Jones. Roeddwn yn meddwl bod ei chyfraniad yn rhagorol oherwydd, Caroline, roeddech yn iawn ynglŷn â'i hanfod, hanfod yr hyn y mae'r bobl ifanc hyn yn mynd drwyddo. Maent yn byw drwy gyfnod nad oeddent erioed wedi'i ddisgwyl. Tarfwyd ar eu haddysg, ac fel y dywedoch chi'n gywir, mae addysg yn ymwneud â mwy na'r llyfrau neu'r niferoedd yn unig; mae'n ymwneud â'r profiad dysgu cyfan, y profiad cymdeithasol cyfan, cael eich ymylon garwaf wedi'u llyfnhau, dysgu sut i ryngweithio â phobl eraill, sut i fyw gyda phobl.

A gwyddom fod iechyd meddwl wedi bod yn fater pwysig iawn i lawer o'n myfyrwyr. Mae rhai o'r bobl sydd efallai'n llai gwydn wedi ei chael hi'n anodd iawn, ac mae hyd yn oed y rhai sy'n ymfalchïo mewn bod yn eithaf gwydn wedi profi gofid mawr. Mae'r rhai sydd wedi symud o Safon Uwch i fynd i brifysgol neu addysg bellach ar ryw ffurf neu'i gilydd, yn arbennig, wedi cael ergyd ddwbl, os mynnwch. A chredaf na ddylem danbrisio'r effaith honno ar iechyd meddwl, a dyna pam y cyflwynodd Suzy y ddadl hon ar ran y Ceidwadwyr Cymreig gan ganolbwyntio'n fawr ar safbwynt y myfyrwyr. 

Nawr, Weinidog, nid wyf yn anghytuno â llawer o'r hyn a ddywedoch chi am y sector addysg bellach a'r sector addysg uwch—eu huchelgais, eich uchelgais chi, o ran ble rydych yn ceisio mynd. Ac rwyf am fynd ar ôl un o'r pwyntiau a wnaeth David Melding: mae Prifysgol Caerdydd yn fy syfrdanu'n gyson gyda'u gwaith ymchwil a datblygu; maent yn hollol wych. Ac yn y sector meddygol, maent wedi cyflawni datblygiadau eithriadol—eithriadol—y mae angen inni eu dathlu. Ac er mwyn gwneud hynny, maent angen yr arian—wrth gwrs eu bod—maent angen sefydlogrwydd ac maent angen gwybod eu bod yn gynaliadwy wrth wynebu'r dyfodol.

Ond nid wyf yn meddwl bod unrhyw beth o'i le ar y Ceidwadwyr Cymreig yn eich atgoffa chi a rhai o'r sefydliadau yng Nghymru yn garedig fod ganddynt lawer iawn o arian, rai ohonynt, wedi'i gadw yn eu pocedi, ac rydym mewn argyfwng. Wyddoch chi, nid oes gennych boced ddiwaelod o arian, nid oes gan Lywodraeth y DU boced ddiwaelod o arian ac yn sicr nid oes gan ein myfyrwyr tlawd bocedi o'r fath, felly i'r sefydliadau sydd ag arian, dyma'r amser i ddechrau ei ddefnyddio, dyma'r amser i ddechrau atgyfnerthu rhai o'r cyrsiau, cynnal rhai o'r staff addysgu a sicrhau ein bod yn gallu troi cefn ar y pandemig coronafeirws gyda sector cryf a chyda gweithlu myfyrwyr cryf.

David Rowlands, fe wnaethoch chithau hefyd bwynt eithriadol o dda a gollwyd yn y gymysgedd yn fy marn i, ynglŷn â'r ffaith y bydd cyrsiau galwedigaethol yn un o'r meysydd mawr sy'n cael eu taro. Rwyf wedi siarad â nifer o fyfyrwyr yn fy etholaeth sydd ar gyrsiau galwedigaethol o'r fath, ac mae'n anodd iawn iddynt; ni allant fynd allan a gwneud y gwaith maes, ni allant fynd allan a gweithio mewn rhai mathau o fusnesau. Mae'n anodd iawn iddynt gael y pethau sydd eu hangen arnynt er mwyn gallu symud ymlaen a chredaf na ddylem anghofio hynny o gwbl, a sylweddoli, i'r unigolion hynny, ei fod yn mynd i ymestyn hyd eu holl broses addysgol heb roi'r cyfoeth a'r dyfnder roedd llawer ohonom yn ddigon ffodus i'w gael.

Y cyfan rydym wedi gofyn amdano yw y dylid siarad â'n myfyrwyr a siarad â hwy am yr elfennau ariannol a chostau cysylltiedig eraill sydd ynghlwm wrth allu dilyn eu cyrsiau. Rydym ni'n sicr wedi siarad â hwy, Weinidog, ac maent yn pryderu'n fawr. Mae gennym lawer iawn o fyfyrwyr nad ydynt yn gallu dysgu ar-lein am nad oes ganddynt y seilwaith digidol gartref, neu am nad ydynt yn byw mewn rhan gyfleus o Gymru sydd â seilwaith digidol gwych. Roedd dros 15 y cant o'r myfyrwyr yn yr arolwg yn dweud yn glir iawn nad oes ganddynt ddarpariaeth TG yn y cartref, ac mae hynny'n llawer o fyfyrwyr nad ydynt yn gallu dysgu ar-lein. Ni all rhai myfyrwyr ymdopi â phroses o'r fath. A dyna oedd holl bwynt y ddadl hon—dyna'r hyn y ceisiem eich annog i edrych arno a'ch annog i'w roi yn y gymysgedd pan fyddwch yn meddwl am y ffordd ymlaen ac i ble rydych chi'n mynd.

Felly, gofynnwn yn gyflym am dri pheth: rydym am i chi sicrhau bod y ffioedd yn adlewyrchu'r effaith y mae'r coronafeirws yn ei chael arnynt hwy a'u cyrsiau; rydym am i chi sicrhau bod myfyrwyr yn cael pob cymorth, y cyllid sydd ar gael ac anogaeth i gael mynediad at ddysgu, boed hynny drwy ffrydio byw, dulliau eraill o addysgu ar-lein, neu wyneb yn wyneb lle bynnag y bo modd. Hynny yw, ysgrifennodd un myfyriwr yn fy ardal sy'n gwneud archaeoleg ataf ac mae'n mynd i gael anhawster gwirioneddol i fynychu cloddiad archeolegol dros y rhyngrwyd—pob lwc iddo, druan. Ac yn olaf, rydym am i chi fynd i'r afael â phryderon myfyrwyr, cyflogwyr a darparwyr addysg bellach ac addysg uwch mewn perthynas â lleihau maes llafur rhai cyrsiau sy'n cyfrannu at y gofynion mynediad ar gyfer colegau a phrifysgolion fel y soniasom. Ymwneud â hynny y mae hyn. Yn y pen draw, ni ddylai ein blaenoriaeth gyntaf ymwneud â chadw'r sefydliadau mawr yn ddiddiwedd; mae'n ymwneud â thyfu ein pobl ifanc, mae'n ymwneud â diogelu pobl ifanc Cymru, mae'n ymwneud â rhoi'r addysg honno iddynt, eu helpu i ddatblygu'n ddinasyddion gwydn sy'n gallu gwneud swyddi eu breuddwydion, dod yn oedolion gwydn a chynnal swyddi a chael bywyd da yn y dyfodol. Mae arnom hynny iddynt, oherwydd eu dyfodol hwy ydyw—rhaid inni ei gefnogi.

18:05

Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Felly, gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Fe wnawn atal y trafodion am seibiant byr yn awr er mwyn newid drosodd yn y Siambr a rhywfaint o lanhau os oes angen.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:09.

18:15

Ailymgynullodd y Senedd am 18:16, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

13. Dadl Plaid Cymru: Ail Gartrefi

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Darren Millar, gwelliant 2 yn enw Rebecca Evans, a gwelliant 3 yn enw Neil McEvoy. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol.

Felly, dyma ni'n ailgychwyn ein trafodaethau ni, a'r eitem nesaf ar yr agenda yw dadl Plaid Cymru ar ail gartrefi. Dwi'n galw ar Delyth Jewell i wneud y cynnig—Delyth Jewell.

Cynnig NDM7386 Siân Gwenllian

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod yr argyfwng tai sy’n bodoli mewn sawl cymuned yng Nghymru ac yn cydnabod yn benodol effaith andwyol lefelau anghynaladwy ail gartrefi sy’n arwain at amddifadu pobl leol rhag gallu cael cartref yn y cymunedau hynny.

2. Yn croesawu’r camau y mae rhai awdurdodau lleol wedi’u cymryd yn sgil darpariaethau Deddf Tai (Cymru) 2014 i gyflwyno premiwm treth gyngor ar ail gartrefi fel un dull o geisio newid ymddygiad ynghylch defnydd ail gartrefi ac i hwyluso cyflwyno mesurau i ddiwallu’r angen lleol am dai, ond yn cytuno bod rhaid wrth ymyrraeth ac arweiniad o’r newydd ar lefel genedlaethol erbyn hyn.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu yn ddi-oed i ddatblygu a chyflwyno pecyn o fesurau fyddai’n cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

a) defnyddio’r gyfundrefn gynllunio i reoli’r gallu i newid defnydd tŷ annedd o fod yn brif gartref i fod yn ail gartref;

b) galluogi cyflwyno cap ar y gyfran o’r holl stoc tai mewn cymuned y gellid eu defnyddio fel ail gartrefi mewn cymunedau lle mae’r crynodiad o ail gartrefi eisoes yn anghynaladwy;

c) diweddaru’r gyfraith sy’n golygu nad oes rhaid talu’r un geiniog o dreth gyngor ar rai ail gartrefi fel mae pethau’n sefyll ar hyn o bryd;

d) dyblu uchafswm premiwm y dreth gyngor y gellid ei godi ar ail gartrefi i o leiaf 200 y cant i atgyfnerthu’r gwaith sydd eisoes yn digwydd mewn rhai awdurdodau lleol i geisio newid ymddygiad o gwmpas defnyddio ail gartrefi, codi refeniw i’w fuddsoddi mewn tai cymdeithasol ac i ddigolledu cymunedau am sgileffeithiau andwyol gorddefnydd ail gartrefi ar gymunedau a gwasanaethau lleol;

e) dyblu cyfradd uwch y dreth trafodiadau tir ar unwaith am gyfnod cychwynnol o chwe mis i geisio atal prisiau tai rhag mynd ymhellach o gyrraedd y boblogaeth leol a’r rhai sy’n prynu am y tro cyntaf mewn nifer o gymunedau;

f) cymryd camau cadarnhaol i hwyluso mynediad at dai am bris sydd o fewn cyrraedd y farchnad leol, gan gynnwys y posibilrwydd o annog datblygu tai gydag amod lleol arnynt;

g) annog a rhoi blaenoriaeth i awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i brynu tai gwag i’w datblygu er mwyn diwallu’r angen lleol am dai cymdeithasol; a

h) edrych o’r newydd ar y diffiniad o dŷ fforddiadwy.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Llywydd. Dylai pawb allu byw yn y gymuned lle cawson nhw eu magu. Mae'r misoedd diwethaf wedi amlygu pa mor bwysig ydy cael tŷ cyfforddus i fyw ynddo. Nid dim ond pedair wal a tho, ond rhywle diogel, rhywle clyd, cartref. Nid lle, ond lloches. Ac mae cartref hefyd yn rhan o wead ehangach cymuned, yn cynnig cyfle i bobl warchod ei gilydd, i rannu profiadau bywyd. 

Ond, mewn rhai ardaloedd yng Nghymru, mae nifer cynyddol a chynyddol o gartrefi yn diflannu, yn troi nôl at fod yn bedair wal a tho anghysbell, yn eiddo gwag ym mhob ystyr y gair. Mae'r broblem yn un enbyd ac yn gwaethygu. Yn wir, mae'r sefyllfa yn troi'n argyfyngus. Dyw pobl ifanc ddim yn gallu fforddio prynu tŷ yn yr ardal lle cawson nhw eu magu oherwydd bod y prisiau wedi eu chwyddo gan bobl o du fas i'r ardal yn prynu'r tai ar gyfer defnydd hamdden dros yr haf: pedair wal a tho, rhywle i ddianc iddo yn unig; bolthole, chwedl y Daily Mail.

Llywydd, mae hyn yn fater o gyfiawnder cymdeithasol sylfaenol. Dylai'r farchnad dai ddim gadael i bobl prynu tai fel eiddo eilradd ar draul buddiannau'r cymunedau a'r bobl sydd yn byw ynddynt bob dydd o'r flwyddyn. Mae yna rywbeth yn bod yn y farchnad ar hyn o bryd, ac mae angen ymyrraeth. Rwy'n sôn am argyfwng, a gwnaf i amlygu pam. Y flwyddyn ddiwethaf, roedd un ym mhob tri cartref a werthwyd yng Ngwynedd a Môn wedi cael ei werthu fel ail eiddo. Mae 12 y cant o stoc tai Gwynedd yn dai lle mae'r perchennog yn byw tu fas i ffiniau'r ardal. Mae'r gyfradd hon ymysg yr uchaf yn Ewrop.

Pwrpas datganoli oedd ein hymbweru ni fel Aelodau o'r Senedd i weithredu er budd dinasyddion Cymru pan fyddan nhw ein hangen. Maen nhw ein hangen ni nawr. Ond ar hyn o bryd, fel y soniodd yr Athro Richard Wyn Jones mewn erthygl ddiweddar yng nghylchgrawn Barn, mae yna ddiymadferthedd o du  Llywodraeth Cymru. Mae'r Llywodraeth yn cydnabod bod yna broblem, ond dydyn nhw ddim yn cymryd yr un cam i'w datrys. 

Mae'n siom, ond ddim yn syndod bod Llywodraeth Cymru, yn ôl eu harfer, wedi penderfynu dileu ein holl gynnig a rhoi yn ei le nifer o frawddegau gwag yn brolio eu hunain. Mae pwynt 6 y gwelliant yn sôn am gynnal adolygiad o'r sefyllfa, ond mae'r ffeithiau i gyd eisoes yn hysbys. Mae sôn hefyd am weithredu yn sgil darganfyddiadau'r adolygiad yma, sydd yn siŵr o gymryd hydoedd, pan mae'r gwaith ym eisoes wedi cael ei wneud gan Blaid Cymru. Gweithredu sydd ei angen nawr, nid grŵp gorchwyl.

Yn ein papur ni heddiw, mae Plaid Cymru yn cynnig nifer o gamau er mwyn lliniaru'r sefyllfa. Mae'r rhain yn cynnwys newidiadau i'r maes cynllunio er mwyn galluogi cymunedau i gyfyngu ar nifer yr eiddo a all gael eu prynu fel ail dai; galluogi cynghorau i godi premiwm treth gyngor uwch ar dai haf, a chau'r loophole sy'n galluogi perchnogion tai o'r fath i gofrestru eu heiddo fel busnes; cynyddu'r dreth drafodiadau tir ar bryniant ail eiddo; cyflwyno cyfyngiadau ar gwmnïau fel Airbnb i reoli nifer y tai sy'n cael eu defnyddio fel llety tymor byr; edrych ar y posibiliad o gyflwyno amod lleol ar dai mewn rhai ardaloedd; ac ailddiffinio tai fforddiadwy, fel nad yw'n cynnwys tai gwerth dros £0.25 miliwn.

Does dim un o'r mesurau yn fwled aur, a does dim un yn ddadleuol, ond, gyda'i gilydd, gallant wyro grym y farchnad i ffwrdd o fuddsoddwyr cyfoethog tuag at bobl gyffredin ar gyflogau isel. Ni fyddai Cymru ar ei phen ei hunan yn cymryd camau o'r fath. Yn wir, rŷn ni yng Nghymru yn eithriad yn y ffaith ein bod ni'n caniatáu i'r anghyfiawnder yma barhau. Mae gwledydd ledled y byd wedi gweithredu yn wyneb amgylchiadau tebyg. Er enghraifft, mae Seland Newydd a Denmarc wedi gwahardd gwerthu tai i bobl sydd ddim yn ddinasyddion, ac mae rhanbarth Bolzano yn yr Eidal wedi cyfyngu ar werthiant tai haf i bobl o du allan i'r rhanbarth. Dim ond rhai enghreifftiau ydy'r rhain, ac, os hoffai Aelodau wybod mwy, mae Mabon ap Gwynfor o Ddwyfor Meirionnydd wedi gwneud ymchwil rhagorol, gan rannu degau o enghreifftiau ar ei gyfryngau cymdeithasol.

Byddem yn galw ar Lywodraeth i ailystyried eu bwriad i ddileu ein holl gynnig ni gyda'u gwelliant. Onid ydych yn gweld bod yna argyfwng? Pam na fyddech yn fodlon defnyddio'r pŵer gweithredol sydd gennych i helpu'r bobl a'r cymunedau sy'n gweiddi allan mewn poen? Pam na safwch chi yn y bwlch? Wedi'r cwbl, mae'r camau rydym yn eu harddel nid yn unig yn ymateb i broblem benodol; gallant hefyd helpu'r Llywodraeth i gyflawni rhai o'u hamcanion presennol eu hunain. Er enghraifft, gyda'r uchelgais tymor hir i gael 30 y cant o bobl i weithio o gartref, trwy weithredu'r argymhellion, gallai pobl ifanc ddychweled i'w bröydd a'u hailegnïo, cyn belled â bod yna dai fforddiadwy yno iddynt allu byw ynddyn nhw. Ac mae trefi sy'n llawn bwrlwm trwy gydol y flwyddyn yn well i'r economi na'r rhai sydd ond yn dod yn fyw am fis, fel Abersoch. Dyma gynllun sy'n gwneud synnwyr economaidd yn ogystal â synnwyr cymdeithasol. Mae angen i Lywodraeth Cymru ddihuno o'u trwmgwsg a gweithredu er mwyn sicrhau nad yw rhai o'n cymunedau'n troi'n drefi a phentrefi lle mae'r rhan fwyaf o'r eiddo yn wag, a lle mae pobl ifanc yn ei chael yn amhosibl prynu cartref. Mae angen ailgodi ein cymunedau, ac mae angen cymryd y camau hyn nawr.

Mae yna her i'r Llywodraeth heno, Llywydd: gweithredwch nawr, neu bydd anghyfiawnder yn parhau ar bobl ifanc, bydd ein diwylliant yn pylu, ac, fel Capel Celyn, bydd rhai o'n cymunedau yn suddo i bydew hanes. Mae gennych chi'r pŵer. Defnyddiwch y pŵer hwnnw.

18:20

Rwyf wedi dethol y tri gwelliant i'r cynnig. Os dderbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Galw ar Mark Isherwood i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Mark Isherwood.

Gwelliant 1—Darren Millar

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod yr argyfwng tai sy’n bodoli mewn sawl cymuned yng Nghymru a'r angen i alluogi pobl leol i gael mynediad i gartrefi yn y cymunedau hynny. 

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu yn ddi-oed i ddatblygu a chyflwyno pecyn o fesurau fyddai’n cynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i:

a) cymryd camau cadarnhaol i hwyluso mynediad at dai ar bris sydd o fewn cyrraedd pobl leol, gan gynnwys ailgyflwyno hawl i brynu wed'i diwygio ac archwilio'r opsiynau ar gyfer annog datblygu tai gydag amod lleol arnynt;

b) annog a rhoi blaenoriaeth i awdurdodau lleol a chymdeithasau tai i brynu tai gwag i’w datblygu er mwyn diwallu’r angen lleol am dai cymdeithasol; ac

c) egluro beth yw cartref fforddiadwy.  

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gyda'r sector twristiaeth ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio i sefydlu sylfaen dystiolaeth ar gyfer polisi ynghylch cymhwysedd i gofnodi llety hunanarlwyo ar y rhestr ardrethi annomestig.  

Cynigiwyd gwelliant 1.

Rwy'n cynnig gwelliant 1.

Ers 2003, rwyf wedi ymgyrchu dros y sector, gan rybuddio Llywodraeth Cymru fod Cymru'n wynebu argyfwng o ran y cyflenwad o dai fforddiadwy oni bai bod camau'n cael eu cymryd ar frys. Clywsom hyn pan gawsom dystiolaeth am Ben Llŷn 15 mlynedd yn ôl. Yn lle hynny, torrodd Llywodraeth Lafur Cymru dros 70 y cant oddi ar nifer y cartrefi cymdeithasol yn ystod tri thymor cyntaf y Cynulliad, wrth i restrau aros chwyddo. Nododd adolygiad tai'r DU yn 2012 mai Llywodraeth Cymru ei hun a roddodd lai o flaenoriaeth i dai yn ei chyllidebau cyffredinol, fel mai hi, erbyn 2009-10, o bedair gwlad y DU, oedd â'r lefel gyfrannol isaf o lawer o wariant ar dai. Hyd yn oed y llynedd, 2019, y flwyddyn lle gwelwyd y nifer fwyaf o gofrestriadau cartrefi newydd yn y DU ers 2007, gostyngodd y niferoedd yng Nghymru dros 12 y cant. Felly, ni allwn gefnogi gwelliant Llywodraeth Cymru, sy'n esgus bod Llywodraeth Cymru wedi bod ag ymrwymiad hirsefydlog i ddarparu tai fforddiadwy o ansawdd da.

Mae gwelliant Llafur yn datgan y bydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd ei tharged o 20,000 o dai fforddiadwy erbyn diwedd tymor y Senedd hon, ond er bod adroddiadau annibynnol yn datgan bod angen 20,000 o gartrefi cymdeithasol ar Gymru dros dymor y Senedd, nid yw'n crybwyll bod eu targed yn cynnwys perchentyaeth rhent uniongyrchol cost isel ac unrhyw beth arall y gallant wasgu iddo yn ogystal â thai cymdeithasol, a dyna'r rheswm dros ein gwelliant yn galw am egluro beth yw cartref fforddiadwy. 

Rwy'n croesawu galwad gwelliant Llafur ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad trylwyr gyda thystiolaeth o berchnogaeth ail gartrefi yng Nghymru a'r mesurau a allai fod yn angenrheidiol i sicrhau anghenion unigolion, cymunedau a'r economi, yn enwedig yr economi ymwelwyr. Fodd bynnag, fel y dywed ein gwelliant, rhaid i hyn gynnwys gweithio gyda'r sector twristiaeth ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio i sefydlu sylfaen dystiolaeth ar gyfer polisi ar gymhwysedd i gofnodi llety hunanddarpar ar y rhestr ardrethu annomestig. Yn y gorffennol, arweiniodd cynigion Llywodraeth Cymru i newid y meini prawf cymhwyso ar gyfer llety hunanddarpar at bryder eang ymysg cyrff masnach, gan gynnwys Cymdeithas Gweithredwyr Hunanddarpar Cymru ac aelodau Cynghrair Twristiaeth Cymru. Nododd Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2010 a ddilynodd fod yn rhaid i annedd fod ar gael i'w gosod am o leiaf 140 diwrnod mewn cyfnod o 12 mis er mwyn bod yn gymwys fel llety hunanddarpar, ac wedi'i gosod am o leiaf 70 diwrnod. Cafodd y Gorchymyn ei ddiwygio a'i gryfhau gan Lywodraeth Cymru yn 2016, a chadwyd y cyfnodau cymhwyso, gan adlewyrchu'r ymatebion i'r ymgynghoriad cyhoeddus. 

Fel y dywed adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar eiddo gwag yn 2019:

mae'r meini prawf ar gyfer llety hunanddarpar yn taro cydbwysedd... Gellir cofnodi anheddau sy'n bodloni'r meini prawf ar y rhestr ardrethu annomestig.... I eiddo gael ei ddiffinio fel llety hunanddarpar... rhaid i'r perchennog roi tystiolaeth i Asiantaeth y Swyddfa Brisio fod yr eiddo'n bodloni'r meini prawf.

Ac yn arbennig,

Os yw awdurdod lleol yn credu y dylid rhestru eiddo ar gyfer y dreth gyngor a bod ganddo dystiolaeth o hyn, mae'n ofynnol iddo rannu gwybodaeth o'r fath gyda'r Asiantaeth.

Ar ôl i Lywodraeth Cymru gyhoeddi meini prawf cymhwysedd tynnach ar gyfer grantiau busnes i fusnesau sy'n gosod llety gwyliau ym mis Ebrill, cysylltodd nifer fawr o berchnogion pryderus â mi yn dweud, er enghraifft, 'Maent eisoes yn gwybod pa fusnesau sy'n talu ardrethi busnes a phwy sy'n talu'r dreth gyngor. Dylai'r rheini sy'n talu ardrethi busnes fod wedi cael grant yn awtomatig.' Roedd pob un ond dau ohonynt yn byw yng ngogledd Cymru, ac roedd un o'r lleill yn siaradwr Cymraeg iaith gyntaf, wedi'u geni a'u magu yng Ngwynedd, ac yn cadw cartref yn Abersoch. Diolch i gynghorau Gwynedd, Ynys Môn a Chonwy am ddefnyddio eu pwerau disgresiwn i roi grantiau i bob un o'r bobl hyn yn y pen draw. Dim ond Sir y Fflint sy'n dal i fynnu bod Llywodraeth Cymru yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol ymatal rhag rhoi grantiau i fusnesau cyfreithlon nad ydynt yn bodloni'r meini prawf diwygiedig.

Ychwanegodd Deddf Tai (Cymru) 2014 bwerau disgresiwn i awdurdodau lleol osod premiwm treth gyngor o hyd at 100 y cant ar ail gartrefi. Rhybuddiais ar y pryd na fyddai hyn yn creu cyflenwad ychwanegol i bobl sydd angen tai fforddiadwy yn eu cymunedau ac y byddai galluogi awdurdodau lleol i godi treth gyngor ychwanegol ar berchnogion ail gartrefi yn arwain at y risg o ganlyniadau anfwriadol. Fel y dywedodd y sector wrthyf, ysgogodd hyn lawer o bobl nad oeddent yn gwybod eu bod eisoes yn gymwys i gael rhyddhad ardrethi i fusnesau bach i newid, ac eraill i ddechrau gosod eu cartrefi i helpu gyda chostau.

Roedd y rhan fwyaf o'r ail gartrefi a brynwyd mewn mannau gwyliau poblogaidd fel Abersoch eisoes yn ail gartrefi—wedi'u hadeiladu fel ail gartrefi dros ganrif a mwy, ac wedi parhau felly ers hynny. Fodd bynnag, mae'n hen bryd rhoi camau ar waith i ddarparu tai fforddiadwy lleol i bobl leol, gan gynnwys prynu cartrefi gwag addas ar gyfer tai cymdeithasol, datblygu cartrefi gydag amodau marchnad leol effeithiol ynghlwm wrthynt, ac ailgyflwyno hawl i brynu wedi'i diwygio i denantiaid tai cyngor, gyda 100 y cant o'r derbyniadau o werthiannau'n cael eu hailfuddsoddi mewn tai cymdeithasol newydd i bobl leol, gan fod cynyddu nifer yr aelwydydd gyda'u drws ffrynt fforddiadwy eu hunain yn economeg dda yng nghyd-destun tai. Diolch yn fawr.

18:30

Galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig yn ffurfiol gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. 

Gwelliant 2—Rebecca Evans

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod her ail gartrefi—a thai gwag—i'r cyflenwad o dai fforddiadwy mewn rhai cymunedau yng Nghymru.   

2. Yn croesawu ymrwymiad hirsefydlog Llywodraeth Cymru i ddarparu tai fforddiadwy o ansawdd uchel, gan gydnabod eu rôl hanfodol fel sylfaen i gymunedau cynaliadwy cryf. 

3. Yn croesawu, er bod y pandemig wedi cael effaith ar adeiladu tai fforddiadwy, y bydd Llywodraeth Cymru'n cyrraedd y targed o 20,000 erbyn diwedd tymor y Senedd hon, a fydd yn helpu i ddiwallu'r angen am dai lleol.

4. Yn nodi mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU lle mae awdurdodau lleol yn gallu codi premiwm o hyd at 100 y cant o gyfradd safonol y dreth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir.

5. Yn nodi ymhellach na wnaeth Llywodraeth Cymru ddarparu gostyngiad treth dros dro yng Nghymru, yn wahanol i weddill y DU, i fuddsoddwyr prynu i osod, buddsoddwyr mewn llety gwyliau na phrynwyr ail gartrefi.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad trylwyr o berchnogaeth ail gartrefi yng Nghymru a'r mesurau a allai fod yn angenrheidiol i sicrhau bod anghenion unigolion, cymunedau a'r economi, yn enwedig yr economi ymwelwyr, yn cael eu cydbwyso. Dylai adolygiad o'r fath ystyried rôl trethiant, cynllunio, rheoleiddio lleol ynghyd â'r cyflenwad o dai fforddiadwy o bob math a mynediad atynt.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Galwaf ar Neil McEvoy i gynnig gwelliant 3, a gyflwynwyd yn ei enw. Neil McEvoy. 

Gwelliant 3—Neil McEvoy

Yn is-bwynt 3(g), ar ôl 'chymdeithasau tai' ychwanegu:

', drwy brynu gorfodol os oes angen,'

Cynigiwyd gwelliant 3.

Diolch, Lywydd. Rwyf wedi cyflwyno gwelliant syml heddiw, sy'n dweud, lle bo angen, y dylai awdurdodau lleol ddefnyddio pryniant gorfodol i ddiwallu anghenion tai cymdeithasol. Rwyf wedi cefnogi prynu gorfodol ers peth amser. Rwyf hefyd wedi dadlau ers tro byd o blaid cysyniad syml ar gyfer tai, sef tai lleol yn seiliedig ar angen lleol. Mae'n safbwynt nad yw'r Blaid Lafur yn ei ddeall. Mae'n well ganddynt adeiladu tai drud y tu hwnt i allu pobl leol i'w fforddio ar safleoedd maes glas—yng Nghaerdydd, ar safleoedd maes glas y dywedasant y byddent yn eu diogelu.

Ond ni allaf ddweud bod Plaid Cymru yn gwneud yn llawer gwell. Mae Gwynedd yn cael ei chwalu. Fel y clywsom gan yr Aelod o Blaid Cymru a oedd yn cyflwyno'r cynnig, mae'n cael ei chwalu gan berchnogaeth ail gartrefi, ac eto mae cynllun datblygu lleol cyngor Gwynedd sy'n cael ei redeg gan Blaid Cymru yn galluogi cartrefi teuluol i gael eu trosi'n llety gwyliau. Nawr, doedd dim angen iddynt wneud hynny, ond fe'u gwnaethant.

Felly, ceir prinder o gartrefi i bobl eu prynu'n lleol, ac mae problem gyda fforddiadwyedd, ac eto mae Plaid Cymru, y rhai sy'n cyflwyno'r cynnig hwn ac mewn grym yng Ngwynedd, yn penderfynu gwneud y broblem yn waeth. Nawr, mae arweinydd Plaid Cymru yn ysgwyd ei ben—efallai y dylech gael gair gyda'ch grŵp yng Ngwynedd a'u cael i newid y cynllun datblygu lleol. Oherwydd dyna y mae'r Welsh National Party yn ymgyrchu i'w wneud: newid y cynllun datblygu yng Ngwynedd.

Achos mae cynllun datblygu lleol Plaid Cymru yng Ngwynedd yn annerbyniol.

Rydym mewn sefyllfa yn awr, os ydym yn siarad am Wynedd—. Abersoch—cafodd ei grybwyll yn gynharach, ac mae'n rhaid i'r ysgol gau, yr ysgol gynradd, oherwydd prinder niferoedd, sy'n ymwneud yn uniongyrchol â pherchnogaeth ail gartrefi. Nawr, gyda degawdau o fod mewn grym—mae fy nheulu yng nghyfraith yn byw i fyny'r lôn—gyda degawdau o fod mewn grym, beth y mae Plaid Cymru wedi'i wneud yng Ngwynedd i ddatrys y broblem hon? Y nesaf peth i ddim—bron ddim byd. A dyma'r gorau eto, hyn; dyma'r gorau. Mae'n werth cofio mai Gweinidog Plaid Cymru yma, pan oeddent yn y Llywodraeth—Jocelyn Davies—a dderbyniodd y ffigurau poblogaeth gwallus o Lundain, gan baratoi'r ffordd ar gyfer cynlluniau datblygu lleol ym mhob rhan o Gymru, cynlluniau a oedd yn llyncu ein safleoedd maes glas ac yn dinistrio ein hiaith. Plaid Cymru, mewn grym, unwaith eto'n ildio.

A grŵp Plaid Cymru yn y Senedd hon sydd â chymaint â 40 y cant o'i aelodau yn cofrestru buddiant mewn o leiaf un ail gartref. Ac mae hynny'n uwch na'r Blaid Lafur; mae'n uwch na grŵp y Ceidwadwyr yma. Dim ond Plaid Brexit sydd â chanran uwch. Ac rwyf am gyferbynnu hynny â'r ffaith bod yr un gwleidyddion—gwleidyddion sy'n berchen ar fwy nag un cartref—wedi pleidleisio ychydig yn ôl i atal pobl rhag bod yn berchen ar eu tŷ cyngor eu hunain. Felly, mae'n iawn i un person fod yn berchen ar dri, ac eto ni chaniateir i rai o fy etholwyr brynu un tŷ cyngor y maent am ei brynu. 

Byddaf yn pleidleisio o blaid y cynnig, ond nid wyf wedi gallu ymatal rhag nodi rhagrith Plaid Cymru yma, wrth iddynt fethu mynd i'r afael â'r broblem yng Ngwynedd, yng Ngheredigion, ac sy'n berchen ar gynifer o ail gartrefi eu hunain. 

Ni allwn barhau i gael cymunedau sy'n wag am y rhan fwyaf o'r flwyddyn, lle mae cyn lleied o blant fel bod yr ysgolion yn gorfod cau. Mae arnom angen system sy'n seiliedig ar brif egwyddor tai lleol i bobl leol, anghenion lleol. Ac rydym angen system gynllunio newydd—mae taer angen hynny—a byddwn yn dweud bod angen arloesedd mewn llywodraeth leol yn ogystal er mwyn mynd i'r afael â'r problemau difrifol hyn. A dyna mae'r Welsh National Party yn ymgyrchu drosto. Diolch yn fawr.

18:35

Rydyn ni wedi dod â chynnig manwl a chynhwysfawr gerbron y Senedd heddiw, a'r bwriad ydy symud y drafodaeth oddi wrth y broblem ac at yr atebion a'r angen i weithredu, a hynny ar frys, mewn cyfnod lle mae arwyddion clir mai dwysáu y mae'r broblem. Rydyn ni'n gwybod bod pobl leol yn cael eu cau allan o'r farchnad dai mewn cymunedau ar draws Cymru, a bod hynny ar gynnydd. Mae dros 6,000 o ail gartrefi yn y sir lle dwi yn byw, yng Ngwynedd—12 y cant o'r stoc tai, un o'r canrannau gwaethaf yn Ewrop gyfan. Ac mae'r cyfnod COVID wedi dod â'r tensiynau y mae sefyllfa felly yn eu creu i'r wyneb unwaith eto. Yn y pen draw, mae angen newidiadau mawr, strwythurol i'r economi, i bolisïau ariannol, i bolisïau tai, er mwyn mynd i'r afael â'r sefyllfa go iawn. Does yna ddim arwydd cliriach o ba mor anghyfartal ydy bywyd yn y gwledydd hyn. Mae yna rywbeth mawr o'i le lle mae cynifer o fy etholwyr i yn ennill cyflogau bychain ac yn byw mewn tai anaddas, tamp, rhy fach, heb le y tu allan, tra bod yna nifer cynyddol o dai moethus yn wag am gyfnodau hir o'r flwyddyn am fod y perchnogion, mwy cefnog, yn eu prif gartrefi mewn rhan arall, mwy goludog, o'r wladwriaeth Brydeinig anghyfartal.

Oes, mae angen newidiadau mawr, a phrysured y dydd pan fydd Senedd Cymru yn rhydd i roi'r newidiadau strwythurol yma ar waith mewn gwlad annibynnol. Yn y cyfamser, mae yna nifer o fesurau yn bosib, ac o fewn rheolaeth y Llywodraeth. Ac yn ein cynnig ni, rydyn ni'n cyflwyno pecyn o fesurau a allai wneud gwahaniaeth yn y maes cynllunio, cyllid, a thrwyddedu. Yr hyn sydd ei angen ydy'r ewyllys gwleidyddol i weithredu, a hynny ar frys. Ac mi roeddwn i'n falch o glywed y Prif Weinidog yn dweud bod angen deddfu i leihau problemau ail gartrefi. Mae Plaid Cymru yn barod iawn i gydweithio efo'i Lywodraeth o er mwyn pasio deddfwriaeth frys, yn ystod y misoedd nesaf. Mae hon yn broblem sydd angen mynd i'r afael â hi yn syth, nid i'w gadael yn fater i'w gynnwys mewn maniffesto at etholiad mis Mai y flwyddyn nesaf. Mi fyddai cymryd camau pendant rŵan, cychwyn ar y gwaith o greu newid, yn arwydd clir a diamwys i gymunedau sydd dan bwysau aruthrol bod Llywodraeth a Senedd ein gwlad yn cymryd y mater o ddifrif, ac yn credu bod angen gweithredu ar frys.

Dydy hon ddim yn broblem sy'n unigryw i Gymru, wrth gwrs, ac mae yna wledydd ar draws y byd yn wynebu heriau tebyg. Ac yn yr adroddiad rydyn ni'n ei gyhoeddi heddiw yma, rydyn ni yn cynnwys mesurau sydd yn cael eu gweithredu yn llwyddiannus mewn rhannau eraill o'r byd, ac yn agosach at adref, efo Northumberland, er enghraifft, yn ystyried newidiadau i'w polisi cynllunio a fyddai'n gwahardd gwerthiant eiddo i bobl o'r tu allan mewn ardaloedd lle mae gormod o ail gartrefi. Mae angen gweithredu a symud y drafodaeth ymlaen o'r broblem i'r hyn sydd angen ei wneud i'w datrys. Mi fyddwn i yn annog pawb sydd yn gwylio'r ddadl hon i ddarllen adroddiad Plaid Cymru, ac mi fyddwn ni yn falch iawn i gael eich ymateb chi, eich sylwadau chi, a syniadau pellach, ymarferol am sut i ddatrys yr argyfwng yma sy'n wynebu nifer cynyddol o'n cymunedau ni.

Credaf fod rhywbeth sylfaenol o'i le mewn cymdeithas lle mae rhai pobl heb gartref, neu'n byw mewn tai cwbl anaddas—gorlawn, llaith, oer—ac eraill sydd â dau gartref neu fwy, gydag o leiaf un y maent ond yn ei ddefnyddio'n anfynych. Rwy'n credu bod hynny'n foesol anghywir.

A gaf fi ddweud fy mod yn cefnogi gwelliannau Llywodraeth Cymru, ac mae un ohonynt yn croesawu ymrwymiad hirsefydlog Llywodraeth Cymru i ddarparu tai fforddiadwy o ansawdd da, gan gydnabod eu rôl sylfaenol fel carreg sylfaen i gymunedau cryf a chynaliadwy? A gaf fi fynd ymhellach? Credaf fod arnom angen mwy o dai cyngor a mwy o dai cymdeithasol, ond yn enwedig tai cyngor. Rwy'n siarad fel un o'r rhai a fagwyd mewn tŷ cyngor yn y 1960au. Newidiodd fy mywyd ac fe newidiodd fywyd fy nheulu. Rwy'n credu bod tai cyngor yn ffordd wych o ddarparu tai sy'n fforddiadwy ac o ansawdd da i bobl.

Rwyf hefyd yn dilyn pryder Llywodraeth Cymru ynglŷn â chartrefi gwag. Yn ôl data a gafwyd gan ITN News y llynedd, roedd 43,028 o gartrefi gwag yng Nghymru, gydag o leiaf 18,000 yn wag ers mwy na chwe mis. Mae hynny'n gyfystyr ag oddeutu 450 ym mhob etholaeth. Mae'r rheini'n cynnwys pob math o eiddo, gyda thai mewn ardaloedd poblogaidd yn cael eu gadael yn wag am sawl blwyddyn. Mae cartrefi gwag yn adnodd sy'n cael ei wastraffu ar adeg pan fo cryn dipyn o alw am dai. Hefyd, gallant achosi niwsans a phroblemau amgylcheddol, lle gall cartrefi gwag fod yn ffocws i lefelau uwch o droseddu, fandaliaeth, ymddygiad gwrthgymdeithasol, camddefnyddio cyffuriau, gerddi wedi gordyfu, ffensys neu waliau ffiniau ansefydlog, a lle mae gennych wal a rennir, naill ai mewn tai teras neu dai pâr, gall arwain at leithder yn dod drwodd. Maent hefyd yn adnodd tai posibl nad yw'n cael ei ddefnyddio ar hyn o bryd. Gall sicrhau bod cartrefi gwag yn cael eu defnyddio eto fod yn ffordd o helpu i fynd i'r afael â nifer o broblemau tai a phroblemau cymdeithasol drwy gynyddu'r cyflenwad mewn ardaloedd lle ceir prinder tai a lle mae'r cyflenwad o dan bwysau. Mae'n gyfle i gysylltu cartrefi gwag addas ag anghenion tai.

Os yw pob ymdrech i berswadio perchnogion a landlordiaid i sicrhau bod eu heiddo'n cael ei ddefnyddio unwaith eto yn methu a bod eiddo o'r fath yn parhau i fod yn niwsans neu mewn cyflwr gwael, rhaid nodi bod angen i gynghorau ystyried eu pwerau gorfodi. Ond mae angen mwy o bwerau gorfodi ar gynghorau hefyd a'r gallu i feddiannu'r tai hynny. Mae gwir angen iddynt allu dweud, 'Mae'r tŷ hwn wedi'i adael yma ers 18 mis i ddwy flynedd; mae'n dirywio. Byddwn yn ei brynu'n orfodol am ei bris ar y farchnad', ac yna gallant ei drwsio a'i roi ar werth i'r sector preifat neu i gymdeithas dai—nid oes ots gennyf pa un. Mae'n ymwneud â dod ag un tŷ arall yn ôl i ddefnydd.

Er clod iddi, cyflwynodd Llywodraeth Cymru fenthyciadau Troi Tai'n Gartrefi i adnewyddu eiddo gwag a'i wneud yn addas i fyw ynddo. Mae'r benthyciadau'n ddi-log, gallant dalu am waith ar dai, ond nid oes digon wedi'i wneud o'r cynllun; nid oes digon o bobl wedi manteisio arno, ac mae'r eiddo gwag gennym o hyd. Gallwn fynd â chi o amgylch fy etholaeth, a byddwch yn cerdded ar hyd stryd o dai teras ac fe welwch un neu ddau. Os ewch ar hyd stryd o dai pâr mewn ardaloedd poblogaidd, bydd yna rai tai'n wag. Gallwch gerdded drwy ardal lle ceir tai sengl mawr, a bydd un ohonynt wedi'i adael yn wag. Ni ellir caniatáu i hyn barhau a chredaf fod angen i'r Llywodraeth ddechrau rhoi camau mwy cadarn ar waith. Ydy, mae'n iawn ei gondemnio, ond mae angen gweithredu hefyd.

Rwy'n croesawu rhan (c) o gynnig Plaid Cymru ar foderneiddio deddfwriaeth sy'n golygu ar hyn o bryd na thelir ceiniog o'r dreth gyngor ar ail gartrefi. Nid wyf yn beio'r rheini sy'n manteisio ar fylchau yn y dreth. Ein lle ni yw cau'r bylchau hynny. Dylid talu'r dreth gyngor ar bob eiddo preswyl. Ni ddylai rhyddhad trethi i fusnesau bach fod ar gael ar eiddo sydd wedi'i ddefnyddio'n flaenorol neu wedi'i adeiladu fel eiddo preswyl. Os cafodd ei adeiladu fel eiddo preswyl, dylai fod yn eiddo preswyl. Rwy'n siŵr y bydd rhai pobl yn dweud y bydd yn effeithio ar y ddarpariaeth o lety gwyliau ac ar dwristiaeth. Os yw hynny'n wir, mae'n dweud rhywbeth wrthyf: nad yw'r llety gwyliau yn hyfyw yn economaidd. Os yw talu treth gyngor o £1,000 yn mynd i olygu nad yw'r llety gwyliau hwnnw'n hyfyw, mae rhywbeth o'i le ar y llety gwyliau. Bydd hefyd yn darparu mwy o eiddo i bobl leol. Credaf ein bod i gyd yn gwybod am ardaloedd lle ceir prinder tai i'w prynu neu eu rhentu.

Yn olaf, a gaf fi fynd yn ôl at gân actol gan grŵp o Eryri yn Eisteddfod yr Urdd, yn Llandudno rwy'n credu? Roedd yn ymwneud â phentref a oedd am ddiogelu'r Gymraeg a'u cymuned ac roeddent yn chwyrn yn erbyn gwerthu cartrefi i fod yn ail gartrefi. Daeth i ben gyda'r cwpl mwyaf croch yn gwerthu i'r sawl a oedd yn cynnig fwyaf o arian a oedd am ei gael fel ail gartref. Gwnaeth y pwynt mai pobl leol sy'n gwerthu'r tai hyn i fod yn ail gartrefi. Hwy yw'r rhai nad ydynt yn cadw'r cartrefi hyn yn eu cymuned. Pe na bai ond ail gartrefi'n cael eu gwerthu fel ail gartrefi, ni fyddem yn gweld y cynnydd hwn. A chredaf ei fod yn rhywbeth lle mae gwir angen inni ddweud, 'Os gwelwch yn dda, yn eich cymuned leol, os ydych yn poeni am eich cymuned, peidiwch â gwerthu i bobl o Gaerdydd neu Lundain, ond gwerthwch i bobl sy'n lleol'.

18:40

Dwi'n falch o allu cymryd rhan yn y ddadl yma. Dwi'n ffodus i fod wedi cael fy newis ar gyfer dadl fer wythnos nesaf. Roeddwn i wedi meddwl gwneud honno am ail gartrefi, ond dwi'n falch o gael rhannu fy sylwadau i wythnos yn gynharach hyd yn oed.

Mae'r mater yma yn un sydd wedi bod o bwys mawr i nifer ohonom ni yn y Senedd yma ers blynyddoedd lawer. Dwi'n cofio poster Cymdeithas yr Iaith 'Nid yw Cymru ar werth' ar wal fy llofft yn yr 1980au. Ond mae'r cyfnod clo, y ffaith bod pobl wedi dod i adnabod eu cymunedau'n well, yn sylwi ar bobl yn symud yn ôl ac ymlaen i ail gartrefi, ceisio cofrestru efo meddygfeydd ac ati, wedi rhoi impetus o'r newydd i hyn, wedi codi lefel y pryderon ac wedi cynyddu'r awydd ymysg y cyhoedd i'n gweld ni'n gwneud rhywbeth i ddatrys y broblem. Mae rhannau o Gymru—llawer o rannau—yn dal i deimlo eu bod nhw ar werth to the highest bidder. Ac, yn rhy aml, dydy ein pobl ifanc ni, pobl ar gyflogau isel yn ein cymunedau ni, ddim yn gallu cystadlu. 

Mae'n anodd gwybod ble i ddechrau efo'r enghreifftiau dwi'n eu gweld yn Ynys Môn. Mae cymaint â phedwar allan o bob 10 tŷ yn dai gwyliau mewn lle fe Rhosneigr. Rydych chi'n gweld tai cyffredin, tai teulu delfrydol yn mynd am brisiau hurt, ymhell iawn o afael y gymuned. Y canlyniad ydy bod tai yn diflannu oddi ar y farchnad leol am byth: y bwthyn bach yn ein hymyl ni sydd wedi mwy na dyblu yn ei werth mewn ychydig flynyddoedd; y tŷ ar stâd yn Llangaffo ar rent am bron i £1,800 y mis ar wefan o Lundain, yn y dyddiau diwethaf; tai teras a hen dai cyngor yn troi yn dai haf. I rai, maen nhw'n dai i'w defnyddio yn achlysurol. Dwi'n gweld dim bai ar bobl am fod eisiau gwneud hynny; mae Ynys Môn yn lle perffaith i dreulio penwythnos. Ond mae yna oblygiadau i hyn: mae'n gwthio prisiau i fyny, mae'n newid natur cymunedau, ac rydyn ni'n gwybod mor ddifywyd ydy cymunedau llawn tai haf drwy lawer o'r flwyddyn.

Mae eraill yn prynu tai haf i'w defnyddio nhw fel holiday let. Yn aml iawn, pobl leol ydy'r rhain, ond yr un ydy'r goblygiadau. Mae gwefannau fel Airbnb, wedyn, wedi gwneud hyn yn fwy deniadol fyth, yn haws. Ond nid cyd-ddigwyddiad ydy bod cymaint o ardaloedd a dinasoedd ledled y byd wedi gwahardd neu osod cyfyngiadau llym ar osod Airbnb erbyn hyn. Mi wnaeth etholwr, yn ddiweddar, gysylltu i gwyno bod un tŷ ar eu stâd deuluol nhw yn Ynys Môn yn bartis nosweithiol, wrth i bobl aros yno am wyliau byr. Nid dyna sut gymdogaeth mae pobl yn disgwyl byw ynddi hi ar stadau bach yn ein pentrefi ni. 

Fel mae eraill wedi egluro, mae yna ffyrdd o gyflwyno rheolau i stopio hyn. Gwnewch hi'n angenrheidiol i gael caniatâd cynllunio i droi tŷ parhaol yn dŷ sy'n cael ei osod am gyfnodau byr. Nid gwrthod pob holiday let ydy hynny. Mae tai gwyliau hunanarlwyo yn gallu bod yn rhan bwysig iawn o'n harlwy twristiaeth ni, ond, ar hyn o bryd, mae allan o reolaeth. Rydyn ni angen gallu penderfynu faint i'w caniatáu o fewn unrhyw gymuned, a faint o dai haf. Ac ydy, mae hynny yn cynnwys rhoi cap a chaniatáu dim mwy mewn rhai cymunedau. 

Mi wnaf innau droi at y loophole y clywsom ni Mike Hedges yn sôn amdano fo—y loophole trethiannol rydyn ni wedi bod yn gofyn i Lywodraeth Cymru ei gau ers blynyddoedd, erbyn hyn, ond heb lwc. Loophole ble mae pobl yn cofrestru tŷ haf fel holiday let, a thrwy hynny yn cael peidio â thalu treth gyngor, sydd â phremiwm arno fo, wrth gwrs, fel ail gartref mewn rhai siroedd, ac wedyn yn cael rhyddhad llawn ar dreth busnes. Mae'r trothwy ar gyfer newid defnydd yn llawer rhy isel, ac mae'n costio'n ddrud, gymaint â £1 miliwn y flwyddyn i gyngor fel Ynys Môn, ac mae'n rhaid iddo fo stopio. Mae mor syml â hynny. Mae'n gywilydd o beth bod y Llywodraeth Lafur wedi gwrthod cydnabod y broblem. Mi ddaeth y broblem yn amlycach fyth ar ddechrau'r pandemig yma pan roedd £10,000 o gefnogaeth ar gael i fusnesau bach. Gwych o beth fod busnesau go iawn yn cael cefnogaeth, ond gwarthus gweld pobl yn trio manteisio arno fo.

Efo'r cloc yn fy erbyn i, gadewch i mi ddweud hyn i gloi: does yna ddim byd yn unigryw i Gymru, fel rydyn ni wedi clywed yn barod, yn beth rydyn ni yn ei drafod. Mae pryderon am effaith perchnogaeth ail gartrefi a thai gwyliau wedi arwain at ddeddfwriaeth a chamau pendant iawn ar hyd a lled y byd. Gadewch i ni wneud beth mae eraill wedi sylweddoli mae'n rhaid gwneud. Nid ymosodiad ar dwristiaeth ydy hyn, gyda llaw, ond mae twristiaeth heb ei reoli, sydd yn rhywbeth sy'n digwydd i gymuned, yn wahanol iawn i dwristiaeth sy'n cael ei reoli a lle mae yna berchnogaeth go iawn arno fo ac sy'n gynaliadwy o fewn ein cymunedau ni. 

Mi adawaf hi yn fanna. Rydyn ni'n gwybod bod Plaid Cymru eisiau gweithredu. Rydyn ni'n gofyn ar y Llywodraeth yma i ddechrau gweithredu rwan, achos rydyn ni mewn argyfwng. 

18:45

Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl hon heddiw. Mae'n bwnc diddorol, sydd wedi cael mwy o sylw dros gyfnod y cyfyngiadau symud, ac rwy'n cymeradwyo'r teimlad o 'gartrefi lleol i bobl leol' sy'n sail iddo. Rhaid i mi ddatgan buddiant yn yr ystyr fy mod wedi etifeddu tŷ fy niweddar dad pan fu farw, ac rwy'n ei osod ar rent i deulu lleol, a sylwaf o'r gofrestr o fuddiannau'r Aelodau fod llawer o'r Aelodau eraill yn y Siambr yn gwneud hynny hefyd. O ganlyniad i ofynion Rhentu Doeth Cymru, bu'n rhaid i mi gofrestru ac rwy'n cyflogi asiant i reoli'r eiddo. Pe bawn am wneud arian gwirioneddol ac yn diflasu ar fiwrocratiaeth bod yn landlord preifat yng Nghymru, efallai y cawn fy nenu at y llwybr Airbnb.

Mae'r cyhoeddiad diweddar ynglŷn ag ymestyn y cyfnod rhybudd o chwe mis i denantiaid wedi peri cryn ddryswch i landlordiaid preifat, a phrin fod llawer ohonynt yn eistedd gartref yn cyfrif eu harian—maent yn poeni ynglŷn â sut i barhau i dalu'r morgais. Felly, mae angen i Lywodraeth Cymru fwrw ymlaen yn ofalus oherwydd efallai na fydd rhai ohonynt yn awyddus i gynnig eiddo ar rent hirdymor i bobl leol mwyach, ac rwy'n siŵr y byddai hyn yn ganlyniad anfwriadol, ac yn un gwael ar hynny.

O edrych ar y cynnig a gyflwynwyd gan Blaid Cymru, mae'n teimlo fel cerydd yn unig a dim abwyd: cynllunio rheolaeth, biliau cosbol y dreth gyngor, cynyddu'r dreth trafodiadau tir. Ar lefel ymarferol, os gallwch fforddio ail gartref, byddwn yn awgrymu ei bod hi'n debygol eich bod yn gallu fforddio talu mwy o dreth gyngor a thalu mwy o dreth trafodiadau tir—ni fyddai hynny'n broblem i'r rhan fwyaf o'r bobl hyn. Ac er y byddwn o bosibl yn dymuno hyrwyddo cartrefi i bobl leol a chyfyngu ar gartrefi gwyliau, dim ond un rhan o farchnad dai gymhleth iawn yw ail gartrefi. Am y rheswm hwnnw, caf fy nenu at y rhan o gynnig y Blaid Lafur sy'n awgrymu y dylid cynnal archwiliad o nifer yr ail gartrefi a chartrefi gwyliau yng Nghymru, fel y gallwn weld maint y broblem yn llawn. Yn aml, nid yw canfyddiad yn adlewyrchu realiti, a ffeithiau nid teimladau yw'r hyn sy'n bwysig yma.

Rwy'n derbyn ac yn cydnabod bod yna argyfwng tai, ond fel gyda'r argyfwng hinsawdd, nid yw'n ymddangos bod Llywodraethau o unrhyw liw, yn unrhyw le, yn rheoli'r argyfwng mewn ffordd effeithiol o gwbl. Rwy'n cymeradwyo rhagamcan Llywodraeth Lafur Cymru y bydd yn cyrraedd ei tharged ei hun ar dai fforddiadwy, ond y gwir amdani yw nad yw 20,000 o gartrefi dros bum mlynedd yn agos at fod yn ddigon pan fo amcangyfrifon yn awgrymu bod angen llawer mwy, gan fod gennym 65,000 o deuluoedd ar ein rhestrau aros yma. Deallaf fod cynghorau bellach yn rhydd i adeiladu a bod y sector cyhoeddus yng Nghymru'n dal i fod yn berchen ar lawer iawn o dir. Felly, beth yw'r rhwystr i adeiladu neu greu cymaint o gartrefi ag sydd eu hangen ar Gymru? Gwn y bu ymgyrchoedd achlysurol i addasu cartrefi gwag at ddibenion gwahanol, ond fel y dywedodd Mike Hedges, os cerddwch o gwmpas mewn unrhyw ardal fe welwch amryw o adeiladau gwag nad ydynt yn cael eu defnyddio. Felly, gellir gwneud mwy yn sicr.

Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed beth y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wneud i ymgorffori camau o'r fath mewn polisi tai yn awr. Gwelsom ar ddechrau cyfnod y cyfyngiadau symud y gellir gwneud pethau mawr lle ceir ewyllys wleidyddol i wneud hynny, megis cael yr holl bobl ddigartref i mewn i dai. Felly, lle mae'r ewyllys wleidyddol i greu rhaglen dai i Gymru a fydd yn sicrhau bod gan ddinasyddion Cymru gartrefi y maent eu hangen ac yn eu haeddu?

Rwy'n croesawu'r posibilrwydd o edrych ar y diffiniad o 'fforddiadwy', ond byddai gennyf ddiddordeb hefyd mewn gwybod beth yw'r diffiniad o 'lleol'. Deuthum i Gymru ym 1986 o ganolbarth Lloegr. Rwyf wedi cyfrannu at fy nghymuned, wedi magu fy mhlant yng nghefn gwlad Cymru, ac rwy'n caru Cymru. Ar ôl bod yma am 34 mlynedd a mwy, a fyddwn yn cael fy ystyried yn lleol pe bawn yn gwneud hyn yn awr? Mae llawer o werth mewn edrych o ddifrif ar y maes tai yng Nghymru ac mae llawer o werth yn y cynnig hwn a nifer o'r gwelliannau. Gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru, a phob plaid sy'n meddwl am addewidion maniffesto yn wir, yn rhoi'r ystyriaeth ddifrifol sydd angen ei rhoi i dai, fel y mae pobl Cymru yn ei haeddu. Diolch.

18:50

Diolch, Lywydd. Fel y clywsom gan nifer fawr o'r cyfranwyr i'r ddadl hon, mae ail gartrefi a'r holl faterion cysylltiedig yn emosiynol ac mae iddynt hanes hir a chymhleth. Rwy'n ddiolchgar iawn i Blaid Cymru am y cyfle i drafod y mater pwysig a chymhleth hwn sydd wedi'i godi sawl gwaith yn y Senedd dros yr wythnosau diwethaf, ac rwy'n hapus iawn i ailadrodd a dechrau fy sylwadau gyda'r cynnig y byddaf yn dod yn ôl ato hefyd wrth gloi, sef nad oes gennym fonopoli ar yr holl syniadau da yng Nghymru, ac rwy'n hapus iawn i weithio gydag Aelodau sydd â diddordeb ar draws y Senedd ar nifer o'r materion a godwyd heno i weld i ble y gallwn fynd gyda hynny.

Fel y mae nifer o gyfranwyr wedi dweud hefyd, mae'r pandemig wedi effeithio ar sut rydym yn gweld ac yn gwerthfawrogi ein cartrefi. Rydym yn treulio mwy o amser yn ein cartrefi, yn gweithio yn ogystal â byw ac ymlacio yno. Mae cartref wedi bod i lawer ohonom, y rhai lwcus, yn hafan yn ystod y cyfnod anodd hwn. Ac i rai, mae'r opsiwn i adleoli i ail gartref hefyd wedi bod yn ddeniadol, ond gallwn weld y tensiynau y mae hynny wedi'u hachosi mewn rhai cymunedau, gan atgyfodi pryderon hirsefydlog ynglŷn â fforddiadwyedd, mynediad pobl leol at dai a chynaliadwyedd cymunedau y mae eu poblogaethau'n tyfu ac yn crebachu'n sylweddol gyda'r tymhorau.

Mae'r cymunedau hyn yn aml yn ffynnu diolch i'r economi ymwelwyr, ond wrth gwrs mae angen inni sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng yr economi honno a'r cymunedau sy'n ei chynnal. Mae angen swyddi ar gymuned fywiog ac mae angen cartrefi ar ei phobl; mae angen seilwaith cynaliadwy ac ymdeimlad o le. Mae'r Llywodraeth hon yng Nghymru yn falch o'i phwyslais ar greu lleoedd. Y bore yma lansiais siarter creu lleoedd newydd ar gyfer Cymru, sy'n ymgorffori ein hymagwedd tuag at gymunedau cynaliadwy ledled Cymru ac sy'n gweithio gyda'n partneriaid ar draws y diwydiant ac ar draws y sector rheoleiddio i wneud sicrhau cymunedau mwy cynaliadwy yn nod a ymgorfforir ledled Cymru. Ac wrth gwrs, mae cyflawni hynny'n galw am gydbwysedd rhwng cartrefi parhaol a'r rhai y bydd rhywun yn byw ynddynt am ran o'r flwyddyn neu sy'n cael eu gosod fel busnesau.

Mae angen i bob aelod o'r gymuned, boed yn llawnamser neu'n rhan-amser, gyfrannu'n deg, ac mae angen inni sicrhau nad yw pobl leol yn cael eu prisio allan o'r farchnad dai leol. Mae'r Llywodraeth hon wedi gwneud tai fforddiadwy parhaol ledled Cymru yn flaenoriaeth ac rwy'n falch iawn o'n cyflawniad yn buddsoddi £2 biliwn mewn tai. Rydym ar y trywydd iawn i ddarparu ein 20,000 o dai fforddiadwy ychwanegol yn ystod y tymor hwn—roeddem ar y trywydd iawn i wneud mwy na hynny, ond wrth gwrs, mae'r pandemig wedi cael effaith ar hynny—ac o fewn y ffigur hwnnw cartrefi rhent cymdeithasol yw'r gyfran fwyaf, ond rydym hefyd wedi helpu pobl i brynu eu cartrefi eu hunain drwy Cymorth i Brynu a thrwy rhentu i brynu.

Bydd cynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy yn helpu pobl leol sy'n ei chael hi'n anodd aros yn lleol oherwydd prisiau eiddo a rhent uchel yn eu cymunedau. Bydd yr Aelodau wedi fy nghlywed yn dweud droeon fy mod yn rhannu'r pryder na all pobl leol—pobl ifanc leol yn enwedig—aros yn y cymunedau lle cawsant eu magu i greu bywydau a theuluoedd iddynt eu hunain. Felly, mae'n bwysig ein bod yn canolbwyntio'n benodol ar gynyddu'r cyflenwad o dai ond mae sicrhau'r cydbwysedd cywir hefyd yn hanfodol. Mae hefyd yn bwysig fod perchnogion ail gartref yn gwneud cyfraniad teg i'r cymunedau lle maent yn prynu ac nad ydynt yn prisio pobl leol allan o'r farchnad. Fel y dywedais, nid yw methu gweithio a byw yn yr ardal rydych wedi tyfu fyny ynddi yn rhan o'r ffordd rydym yn gweld Cymru yn y dyfodol. Mae'n broblem sydd gennym ledled Cymru mewn nifer fawr o'n cymunedau; nid yw wedi'i chyfyngu i'r gogledd a'r gorllewin yn unig. Mae gennym gymunedau hardd iawn ledled Cymru ac maent yn gynyddol ddeniadol i bobl, a dylem fod yn briodol falch o hynny.

Rwy'n cytuno'n llwyr â Mike Hedges hefyd—ac eraill, mewn gwirionedd; Mike a'i crybwyllodd gyntaf—nad yw eiddo gwag yn helpu'r sefyllfa. Rydym wedi annog, cynorthwyo ac ariannu awdurdodau lleol i ddefnyddio eu pwerau i sicrhau nad dyna sy'n digwydd. Yn wir, unwaith eto yr wythnos hon rydym wedi lansio rhaglen hyfforddi newydd ar gyfer awdurdodau lleol a chyhoeddir canllawiau newydd y mis nesaf ar ddefnyddio gorchmynion prynu gorfodol i sicrhau y gall cynghorau eu harfer lle bo angen. Mae gennym nifer o gynlluniau hefyd i gynorthwyo perchnogion cartrefi i sicrhau bod tai'n cael eu defnyddio unwaith eto, naill ai at eu defnydd eu hunain neu i'w trosglwyddo i landlordiaid cymdeithasol er mwyn cynyddu ein cyflenwad o dai cymdeithasol. Lywydd, rwyf wedi sôn droeon am y cynlluniau hyn yn y Senedd; rwy'n tynnu sylw pobl atynt. Gallaf siarad, fel y gwyddoch, am o leiaf awr ar unrhyw un o'r cynlluniau hynny, felly nid wyf am brofi eich amynedd drwy wneud hynny.

Rydym yn ymwybodol hefyd o gyfraniad mawr yr economi ymwelwyr. Mae ein strategaeth dwristiaeth newydd, 'Croeso i Gymru: 2020—2025', yn cydnabod ei phwysigrwydd economaidd. Yn hollbwysig, mae hefyd yn cydnabod bod perygl mewn rhannau o Gymru o or-dwristiaeth a bod angen inni dyfu twristiaeth mewn ffyrdd sydd o fudd i Gymru, gan wrando ar drigolion, ymwelwyr a busnesau. Rydym wedi dechrau'r sgyrsiau hynny ac rydym eisoes wedi rhoi nifer o bethau ar y gweill i helpu i sicrhau'r cydbwysedd priodol hwnnw.

Mae'r economi sylfaenol hefyd yn arbennig o bwysig i gymunedau sy'n fwy dibynnol ar dwristiaeth ac mae'n cydnabod na ellir datrys llawer o'r heriau a grybwyllir yn y ddadl hon drwy'r cyflenwad tai yn unig. Mae angen ystyried nifer fawr o bryderon eraill, yn enwedig swyddi, seilwaith gwasgaredig ac yn y blaen.

O ran treth a chyfraniad teg, rydym wedi mabwysiadu safbwynt unigryw. Yn wahanol i weinyddiaethau eraill y DU, ni ddarparodd Llywodraeth Cymru ostyngiad treth dros dro i fuddsoddwyr prynu i osod, rhai sy'n buddsoddi mewn llety gwyliau wedi'i ddodrefnu neu brynwyr ail gartrefi. Fe wnaeth y gostyngiad dros dro ym mis Gorffennaf i gyfraddau'r dreth trafodiadau tir preswyl godi'r trothwy cychwynnol o £180,000 i £250,000. O ganlyniad, nid yw oddeutu 80 y cant o brynwyr tai Cymru yn talu unrhyw dreth, i fyny o 60 y cant ar gyfer y trothwy o £180,000. Fodd bynnag, mae prynwyr ail gartref yng Nghymru yn talu cyfraddau uwch o dreth trafodiadau tir o gymharu â'r rhai sy'n prynu cartrefi, gan dalu 3 y cant ar ben pob cyfradd y byddai rhai sy'n prynu cartref yn ei thalu. Nid yw'r newid dros dro hwn yn berthnasol i drafodiadau preswyl sy'n ddarostyngedig i gyfraddau uwch y dreth trafodiadau tir, ac mae hynny'n sicrhau bod y gostyngiad yn cael ei dargedu at brynwyr cartrefi a allai fod angen cymorth ychwanegol i brynu eu cartrefi yn y cyfnod economaidd ansicr hwn, ac nid yw ar gael i brynwyr ail gartrefi ac eiddo buddsoddi prynu i osod. Mae hynny'n gwrthgyferbynnu â Llywodraethau'r DU a'r Alban, sydd wedi darparu gostyngiadau treth ar brynu eiddo o'r fath fel rhan o'r newidiadau dros dro i'r dreth trafodiadau eiddo. Mae hefyd yn adlewyrchu ein hymrwymiad gweithredol i gyfundrefn flaengar sy'n disgwyl i'r rheini sydd â'r ysgwyddau lletaf gyfrannu'r gyfran fwyaf o dreth. Mae hynny'n cynnwys y rheini sydd mewn sefyllfa i allu prynu mwy nag un eiddo preswyl. Lywydd, ar ôl y sgwrs ynglŷn â phwy sy'n berchen ar beth, dylwn ddweud nad wyf yn berchen ar ail eiddo preswyl nac unrhyw eiddo arall. Mae gennyf forgais o hyd ar fy nghartref fy hun.

Mae gwir angen sicrhau ein bod yn adeiladu'r mathau cywir o dai ledled Cymru, a hoffwn atgoffa'r Aelodau ein bod, wrth gwrs, wedi cyfeirio £30 miliwn o'r arian sydd ar gael ar gyfer y dreth trafodiadau tir i gam 2 ein rhaglen ddigartrefedd er mwyn sicrhau ei fod yn mynd tuag at adeiladu llawer mwy o gartrefi cymdeithasol i'w rhentu. Cymru hefyd yw'r unig wlad i roi cyfle i awdurdodau lleol godi premiwm o hyd at 100 y cant ar gyfraddau'r dreth gyngor i ail gartrefi. Ar hyn o bryd, mae wyth awdurdod yn codi premiymau sy'n amrywio o 25 y cant i 50 y cant. Nid oes yr un ohonynt yn gosod y premiwm uchaf sydd ar gael, ac yn absenoldeb tystiolaeth ac ymgynghori pellach, ac o ystyried nad ydynt yn codi hyd yn oed yr uchafswm a ganiateir gennym ar hyn o bryd, nid wyf wedi fy argyhoeddi fod dyblu'r premiwm hwnnw'n beth da. O safbwynt treth, mae hefyd yn bwysig asesu'r dystiolaeth o weld sut y mae treth yn cefnogi cymunedau ledled Cymru. Mae'r dreth trafodiadau tir, er enghraifft, yn dod â refeniw sylweddol i Lywodraeth Cymru, refeniw a werir ar ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Rydym hefyd yn archwilio pŵer caniataol yn y dyfodol i awdurdodau lleol allu rhoi treth dwristiaeth mewn grym, fel y gall twristiaid gyfrannu'n uniongyrchol at gostau a delir gan awdurdodau lleol o ganlyniad i dwristiaeth yno.

Ond ni fyddwn yn datrys y materion a'r diddordebau hyn drwy drethu'n unig. Mae gennym hefyd y grŵp strategol gwledig ar gyfer tai gwledig, oherwydd gwyddom fod gan ardaloedd gwledig heriau penodol mewn perthynas â thai sy'n deillio'n bennaf o brisiau uchel tai o gymharu ag incwm, a lefelau isel o ddarpariaeth tai fforddiadwy. Mae gan ardaloedd gwledig lawer o anghenion gwahanol, ac mae gan bob ardal ei heriau a'i chyfleoedd unigryw ei hun, ac felly rydym yn arwain grŵp strategol gwledig sy'n cynnwys swyddogion galluogi tai gwledig, cymdeithasau tai, awdurdodau lleol, Cartrefi Cymunedol Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Mae'n cyfarfod bob chwarter ac yn darparu fforwm i gyfnewid a phrofi syniadau a rhannu arferion da. A gallwch weld o'r ystod o bethau rydym yn eu gwneud nad ydym yn credu bod atebion hawdd na chyflym i hyn, ac mae nifer o'r cyfranwyr wedi cydnabod hynny. Rwy'n awyddus iawn i ddeall safbwyntiau amrywiol am y pwerau presennol, eu defnydd a'u heffeithiau, ac i ystyried y dystiolaeth. Mae angen inni sicrhau cydbwysedd cywir rhwng rôl werthfawr yr economi ymwelwyr, hawliau pobl i fwynhau eiddo, mynediad at dai fforddiadwy sy'n cynnal ac yn bywiogi ein cymunedau, a'r cyfraniad y mae pob math o berchentyaeth yn ei wneud, ac y dylai ei wneud, i'n cymunedau.

Yn sicr, mae gan Lywodraeth Cymru ewyllys ac awydd i ymgysylltu'n eang er mwyn datblygu'r gwaith hwnnw ac asesiadau pellach o opsiynau a'u heffaith, ac rwy'n barod i weithio gydag Aelodau, a dechreuais fy araith drwy ddweud, 'Lywydd, rwy'n barod i weithio gydag Aelodau ar draws y Senedd i'r perwyl hwnnw.' Ac yn wir, rwyf wrthi'n trefnu cyfarfodydd gyda nifer o'r Aelodau sydd eisoes wedi camu ymlaen i wneud yn union hynny. Ac felly, Aelodau, gofynnaf i chi gefnogi gwelliant y Llywodraeth, sy'n darparu sylfaen ddigon eang i allu cyflawni hynny i gyd. Diolch.

19:00

Diolch yn fawr iawn, Llywydd, a diolch i bawb, wrth gwrs, sydd wedi cyfrannu at y ddadl. Bwriad Plaid Cymru wrth gyflwyno'r ddadl yma yw sicrhau bod yna ddealltwriaeth bod y sefyllfa bresennol yn un argyfyngus o safbwynt tai fforddiadwy ac, wrth gwrs, yn sefyllfa ac yn argyfwng sydd yn dwysáu, yn enwedig oherwydd yr amgylchiadau dŷn ni'n byw ynddyn nhw ar hyn o bryd. Ac roeddwn i'n falch clywed y Gweinidog yn cydnabod nad dim ond problem i'r gogledd a'r gorllewin yw hon—mae'n broblem i Gymru gyfan. Ond, wrth gwrs, wrth restru rhai o'r pethau mae'r Llywodraeth yn gwneud, mae'n rhaid atgoffa rhywun bod yr hyn sydd wedi digwydd hyd yma yn amlwg yn annigonol, neu mi fyddai'r argyfwng yma ddim beth ag yw e ar hyn o bryd. Felly, dwi yn awyddus i danlinellu, fel bydd y Gweinidog yn cydnabod, dwi'n gwybod, fod yna lawer iawn mwy sydd angen ei wneud er mwyn datrys y broblem yma, oherwydd rŷn ni'n gweld ton arall yn torri—pobl yn prynu tai, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, yn gwthio pobl leol allan o'r farchnad leol, ac o ganlyniad yn gwthio pobl allan o'u cymunedau lleol. Ac fel y dywedwyd reit ar gychwyn y ddadl yma, mater o gyfiawnder cymdeithasol yw hwn yn gymaint ag unrhyw beth arall.

Mae gwelliannau Llafur a'r Ceidwadwyr yn siomedig eithriadol, a does dim ond angen edrych ar y ddau air cyntaf yn y ddau welliant, sef 'dileu popeth'. Mae hynny, efallai, yn adrodd cyfrolau ynglŷn ag uchelgais hefyd, i raddau. Trwy gefnogi gwelliant Llafur, fyddem ni ddim yn cydnabod ei bod hi'n argyfwng ac mi fyddem ni'n cynnwys rhyw addewid ychydig yn rhy annelwig i fi i ddelio â'r mater yn nes ymlaen, ac o gefnogi gwelliant y Ceidwadwyr, mi fyddem ni'n dileu unrhyw gyfeiriadau penodol at ddefnyddio'r system gynllunio a'r system drethi i fynd i'r afael â'r broblem. Wel, dyna i chi y ddau arf mwyaf pwerus a mwyaf effeithiol sydd gennym ni i fynd i'r afael â'r broblem yma.

O safbwynt defnyddio pwerau trethiannol, wrth gwrs, mae yna gyfle wedyn i wneud o leiaf dau beth: yn y lle cyntaf, gwneud prynu ail dŷ i'w ddefnyddio fe fel tŷ gwyliau yn llai atyniadol, ac, o ganlyniad, sicrhau bod mwy o dai yn aros o fewn y stoc tai preswyl. Ond, os ydyn nhw wedyn yn cael eu prynu fel ail dai, yna sicrhau bod refeniw i ddigolledu'r gymuned leol ar gyfer pethau fel buddsoddi mewn tai cymdeithasol. Ac o safbwynt y system gynllunio, rŷn ni wedi'i weld e'n digwydd mewn ardaloedd eraill, a dwi'n arbennig o awyddus inni ddiwygio dosbarthiadau defnydd ym maes cynllunio, fel sydd wedi digwydd yn yr Alban, fel sydd wedi digwydd yn Ngogledd Iwerddon, ac fel y dylai ddigwydd, wrth gwrs, yma yng Nghymru.

Yn 2016, mi grëwyd y dosbarth defnydd penodol ar gyfer tai amlfeddiannaeth—HMOs—er mwyn gwahaniaethau rhyngddyn nhw a thai preswyl. Ac wedyn, wrth gwrs, rydych chi'n gallu dechrau rheoli faint o HMOs sydd gennych chi yn y gymuned honno. Wel, yr un egwyddor yn union sydd wrth wraidd y cynigion fan hyn o safbwynt ail gartrefi hefyd. Byddai hynny'n caniatáu wedyn ichi osod cap, mewn ymgynghoriad â'r gymuned leol, er mwyn adnabod beth yw'r lefel angenrheidiol—ac mi fyddai hwnnw'n amrywio wrth gwrs o un rhan o'r wlad i'r llall, ond yr un yw'r egwyddor.

Nawr, mi gyfeiriodd Rhun at un ffactor sydd yn dod yn fwyfwy o broblem hefyd, sef y cynnydd anferthol rŷn ni wedi'i weld mewn tai sydd yn cael eu rhestru fel tai gwyliau drwy blatfformau fel Airbnb, ac mae rhai o'r ystadegau yn gwbl frawychus. Yn ôl un dadansoddiad, mae rhyw 3,800 o gartrefi felly yn cael eu defnyddio ar gyfer y math yna o ddefnydd yng Ngwynedd yn unig, 3,400 yn sir Benfro a 1,500 yng Nghaerdydd. Dim ond 2,700 sydd yn Greater Manchester gyfan, sydd â phoblogaeth yn debyg iawn i boblogaeth Cymru gyfan. Felly, mae hynny, dwi'n meddwl, yn pwyntio at lefel y broblem. Mae rhai dadansoddiadau hefyd yn awgrymu bod y nifer yna—y 3,800 yna—wedi cynyddu mewn dim ond 12 mis yng Ngwynedd o 2,000, felly wedi bron dyblu mewn blwyddyn. Ac rŷn ni eisoes wedi clywed, wrth gwrs, fod bron i 40 y cant o'r tai a gafodd eu gwerthu yng Ngwynedd y llynedd wedi cael eu prynu i fod yn ail gartrefi. Felly, os nad yw hynny yn sail i ystyried rhywbeth fel argyfwng, yna dwi ddim yn gwybod beth yw diffiniad pobl o beth yw argyfwng.

Ac, wrth gwrs, mae yna ddatrysiadau ar draws y byd i gyd. Rŷn ni wedi clywed am nifer o ohonyn nhw, ac mi allwn i ychwanegu Amsterdam, Palma, Prague, Paris, Berlin, Barcelona—maen nhw i gyd wedi mynd i'r afael â phroblemau'n benodol o safbwynt Airbnb. Ond yn fwy eang o safbwynt ail dai: Singapôr, Israel, Ontario yng Nghanada, Aotearoa, y Swistir—wrth gwrs, rŷn ni'n gwybod am beth sydd wedi digwydd yn rhai o'r cantonau yn y fan yna—Denmarc, y clywon ni amdano fe'n gynharach, Awstria, Bolzano yn yr Eidal. Yn nes at adref, mae Guernsey, wrth gwrs, wedi creu marchnad dai gyda dwy haen iddi. Mae hynny'n opsiwn sydd angen edrych arno fe. A Chernyw hefyd, wrth gwrs, yn enghraifft sy'n cael ei chyfeirio ati yn gyson iawn. Mae gwledydd a rhanbarthau eraill wedi gweithredu ac wedi dangos bod atebion ar gael y gallwn ni eu mabwysiadu.

Dwi ddim yn gwybod faint ohonoch chi a welodd erthygl yn The Times ychydig wythnosau yn ôl—efallai allwch chi ddim gweld hwnna yn glir nawr, ond yr hyn mae'n dweud yw:

Mae prynu i osod ar ben: buddsoddwch mewn cartref gwyliau yn lle hynny.

Dyna i chi bennawd i dorri calon cenhedlaeth o bobl ifanc yng Nghymru sy'n methu fforddio prynu eu tŷ eu hunain. Mae hwn yn argyfwng—mae'n argyfwng sy'n cael ei yrru gan anghyfartaledd economaidd, ac mae yna oblygiadau difrifol, wrth gwrs, yn sgil hynny i gynaliadwyedd cymunedau ar draws Cymru. 506

Pwrpas datganoli yw i ddod â grym ac i ddod â'r modd i weithredu yn nes at y cymunedau hynny sy'n cael eu heffeithio gan rai o'r problemau dŷn ni wedi cyfeirio atyn nhw y prynhawn yma. Mae gennym ni'r grymoedd sydd eu hangen arnom ni i fynd i'r afael o ddifrif â nifer fawr o'r problemau yma, a dŷn ni wedi clywed am rai o'r datrysiadau. Os na ddefnyddiwn ni'r pwerau hynny sydd gennym ni i amddiffyn ein cymunedau ni yn eu hawr o angen, yna mi fydd perffaith hawl gan bobl i ofyn beth yw pwrpas datganoli. Cefnogwch gynnig Plaid Cymru.

19:05

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, dwi'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 19:09.

19:15

Ailymgynullodd y Senedd am 19:19, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

14. Cyfnod Pleidleisio

Mae'r bleidlais gyntaf, felly, ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar addysg uwch, a dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, dau yn ymatal, 36 yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—addysg uwch. Cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 14, Yn erbyn: 36, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y cynnig

Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 1, gwelliant 1 yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlas. O blaid 10, neb yn ymatal, 42 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.

19:20

Gwelliant 1 - dadl y Ceidwadwyr Cymreig - cyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian: O blaid: 10, Yn erbyn: 42, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 2 yw'r bleidlais nesaf, ac os caiff gwelliant 2 ei gymeradwyo, bydd gwelliannau 3 a 4 yn cael eu dad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais, felly, ar welliant 2, yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 28, un yn ymatal, 23 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 2 wedi'i gymeradwo, ac mae gwelliant 3 a gwelliant 4 yn cwympo.

Gwelliant 2 - dadl y Ceidwadwyr Cymreig - cyflwynwyd yn enw Rebecca Evans: O blaid: 28, Yn erbyn: 23, Ymatal: 1

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Cynnig NDM7387 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn nodi pwysigrwydd addysg uwch ac addysg bellach i Gymru a'i heconomi.

2. Yn credu bod myfyrwyr yn haeddu gwerth am arian yn gyfnewid am y buddsoddiad a wnânt yn eu haddysg uwch ac addysg bellach.

3. Yn gresynu at effaith pandemig y coronafeirws ar fyfyrwyr yng Nghymru a sut y tarfwyd ar gyrsiau.

4. Yn croesawu'r adnoddau ariannol ychwanegol a ddarparwyd i golegau a phrifysgolion Cymru i'w cefnogi drwy'r pandemig.

5. Yn croesawu ymdrechion myfyrwyr, colegau a phrifysgolion i barhau i weithredu’n ddiogel ac yn effeithiol mewn amgylchiadau heriol dros y tymor nesaf, ac yn diolch iddynt am eu hymdrechion.

6. Yn nodi gwaith helaeth colegau a phrifysgolion i gynnal cyfleoedd dysgu, naill ai wyneb yn wyneb neu, lle nad oedd modd osgoi cyfyngiadau COVID-19, drwy wersi, asesu a chymorth ar-lein.

7. Yn nodi’r canllawiau a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi darparwyr addysg uwch a phellach i baratoi ar gyfer y tymor newydd ac agor campysau yn ddiogel.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 30, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i gymeradwyo.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig—addysg uwch. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 30, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Mae'r pleidleisiau nesaf ar ddadl Plaid Cymru ar ail gartrefi. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, neb yn ymatal, 42 yn erbyn. 

Dadl Plaid Cymru—ail gartrefi. Cynnig heb ei ddiwygio, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian: O blaid: 10, Yn erbyn: 42, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 yw'r bleidlais nesaf, ac os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1, yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 39 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi'i wrthod.

Gwelliant 1- dadl Plaid Cymru - cyflwynwyd yn enw Darren Millar: O blaid: 13, Yn erbyn: 39, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 2 yw'r gwelliant nesaf felly, ac os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 2, yn enw Rebecca Evans. Cau'r bleidlais. O blaid 27, pedwar yn ymatal, 21 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 2 wedi'i dderbyn.

19:25

Gwelliant 2 - dadl Plaid Cymru - cyflwynwyd yn enw Rebecca Evans: O blaid: 27, Yn erbyn: 21, Ymatal: 4

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol.

Mae'n ddrwg gennyf, Lywydd. Huw Irranca-Davies yma. Wrth inni fynd drwy hyn, rwy'n ymwybodol, er mwyn y cofnod, fod gwelliant 3 yn y set flaenorol o bleidleisiau'n cael ei ddangos fel un a basiwyd cyn y prif welliant. Felly, er cywirdeb y cofnod, rwyf am wneud yn siŵr fod hynny'n iawn.

Dywedir wrthyf y bydd hynny'n cael ei ddiystyru. Ond diolch am—[Anghlywadwy.] Felly, yn olaf, ble rwyf i arni nawr? A wyf i wedi cyrraedd y cynnig heb ei ddiwygio? Fel y'i diwygiwyd. Ie. Felly, mae'r bleidlais nesaf ar y cynnig terfynol fel y'i diwygiwyd.

Cynnig NDM7386 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

1. Yn cydnabod her ail gartrefi—a thai gwag—i'r cyflenwad o dai fforddiadwy mewn rhai cymunedau yng Nghymru.   

2. Yn croesawu ymrwymiad hirsefydlog Llywodraeth Cymru i ddarparu tai fforddiadwy o ansawdd uchel, gan gydnabod eu rôl hanfodol fel sylfaen i gymunedau cynaliadwy cryf. 

3. Yn croesawu, er bod y pandemig wedi cael effaith ar adeiladu tai fforddiadwy, y bydd Llywodraeth Cymru'n cyrraedd y targed o 20,000 erbyn diwedd tymor y Senedd hon, a fydd yn helpu i ddiwallu'r angen am dai lleol.

4. Yn nodi mai Cymru yw'r unig wlad yn y DU lle mae awdurdodau lleol yn gallu codi premiwm o hyd at 100 y cant o gyfradd safonol y dreth gyngor ar ail gartrefi ac eiddo sydd wedi bod yn wag am gyfnod hir.

5. Yn nodi ymhellach na wnaeth Llywodraeth Cymru ddarparu gostyngiad treth dros dro yng Nghymru, yn wahanol i weddill y DU, i fuddsoddwyr prynu i osod, buddsoddwyr mewn llety gwyliau na phrynwyr ail gartrefi.

6. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gynnal adolygiad trylwyr o berchnogaeth ail gartrefi yng Nghymru a'r mesurau a allai fod yn angenrheidiol i sicrhau bod anghenion unigolion, cymunedau a'r economi, yn enwedig yr economi ymwelwyr, yn cael eu cydbwyso. Dylai adolygiad o'r fath ystyried rôl trethiant, cynllunio, rheoleiddio lleol ynghyd â'r cyflenwad o dai fforddiadwy o bob math a mynediad atynt.

Ac rwy'n agor y bleidlais. Cau'r bleidlais.

O blaid 26, tri yn ymatal, 23 yn erbyn, ac felly mae'r cynnig yna wedi cael ei gymeradwyo.

Dadl Plaid Cymru—ail gartrefi. Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 26, Yn erbyn: 23, Ymatal: 3

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

A dyna ni'n dod at ddiwedd y pleidleisio a diwedd y sesiwn. Nac ydyn. Mae'n ddrwg iawn gyda fi, dydyn ni ddim yn dod at ddiwedd y sesiwn.

Anghofiais y ddadl fer. Mae'n ddrwg iawn gennyf. Fe ofynnaf i'r rhai ohonoch sy'n gadael i wneud hynny'n dawel, ac fe ddof o hyd i'r ddadl fer.

15. Dadl Fer: Adeiladu'r sylfeini ar gyfer newid: effaith Cynllun Cyflawni ar gyfer Cyflyrau Niwrolegol Llywodraeth Cymru

Rwy'n ymddiheuro, Mark Isherwood. Rhaid eich bod yn meddwl beth oedd yn digwydd. Fy nghamgymeriad i. Felly, galwaf ar Mark Isherwood i gyflwyno'r ddadl fer. Mark Isherwood.

Diolch, Lywydd. rwy'n siarad heddiw fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar gyflyrau niwrolegol. Ceir dros 250 o gyflyrau niwrolegol cydnabyddedig. Yng Nghymru, mae tua 100,000 o bobl yn byw gyda chyflwr niwrolegol sy'n cael effaith sylweddol ar eu bywydau.

O 2011 ymlaen, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru nifer o gynlluniau cyflawni ym maes iechyd. Cyhoeddwyd cynllun cyflawni ar gyfer cyflyrau niwrolegol yn 2014. Yn 2019, mynegodd pobl â chyflyrau niwrolegol, clinigwyr ac elusennau bryderon nad oedd y cynllun cyflawni, a ddiwygiwyd yn 2017, wedi arwain eto at newid ar y raddfa y dylid ei ddisgwyl. Roeddent yn cwestiynu a oedd gweithredu'r cynllun wedi bod yn effeithiol o ran sicrhau bod triniaeth a gofal yn diwallu anghenion pawb sy'n byw gyda chyflyrau niwrolegol yng Nghymru i raddau digonol. O ganlyniad, aeth y grŵp trawsbleidiol ar gyflyrau niwrolegol ati i gynnal ymchwiliad byr. Ei ddiben oedd casglu tystiolaeth a chyflwyno argymhellion ar gyfer gweithredu i'r pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol a Llywodraeth Cymru er mwyn gwella'r broses o weithredu'r cynllun presennol a darparu dull strategol hirdymor o godi safonau triniaeth a gwasanaethau a chymorth i bobl â chyflyrau niwrolegol yng Nghymru.

Roedd llawer o'r sefydliadau a'r unigolion a gyflwynodd dystiolaeth i'r ymchwiliad yn canolbwyntio ar gyfleoedd, pryderon a heriau sy'n gysylltiedig â'r ffordd y mae'r cynllun wedi cael ei weithredu. Teimlai rhai ei bod yn debygol iawn y bydd y canlyniadau a'r mesurau perfformiad ym mhob pennod o'r cynllun cyflawni wedi'u cyflawni erbyn 2020.

19:30

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Mae rôl y grŵp gweithredu ar gyflyrau niwrolegol wedi'i diffinio'n glir o fewn y cynllun cyflawni. Fodd bynnag, pan gyflwynwyd y cynllun cyflawni gyntaf, ychydig iawn o gydgysylltu, os o gwbl, a gafwyd ar draws gwasanaethau niwrolegol ar lefel Cymru gyfan. Roedd rhwydweithiau ar gyfer gwasanaethau canser, y galon a'r arennau wedi hen sefydlu erbyn hynny, ond nid oedd hynny'n wir am wasanaethau niwrolegol. O ganlyniad, roedd y dasg a wynebai'r grŵp gweithredu'n gymhleth ac yn anodd.

Roedd y rhan fwyaf o'r dystiolaeth a gyflwynwyd i adroddiad y grŵp trawsbleidiol ar wella gwaith i godi ymwybyddiaeth o dan y cynllun cyflawni'n ymwneud â gweithgarwch yn hytrach na chanlyniadau neu effeithiau. Croesawyd gweithgarwch cydgynhyrchu rhwng y grŵp gweithredu, sefydliadau trydydd sector ac unigolion â chyflyrau niwrolegol. Yn fwyaf arbennig, cyfeiriodd cyfranwyr at y cydweithio rhwng y grŵp gweithredu a Chynghrair Niwrolegol Cymru ar greu mesur profiadau a adroddwyd gan gleifion, neu PREM, fel cam cadarnhaol. Cyfeiriodd y grŵp gweithredu at weithgarwch addysgol arwahanol fel elfen gadarnhaol. Fodd bynnag, fel y dywed yr adroddiad:

'Cwestiynodd cyfranwyr i ba raddau yr oedd y cynllun wedi galluogi
cydgynhyrchu a chyfranogi go iawn gyda phobl â chyflyrau niwrolegol a
gofalwyr. Gwnaethant fynegi siom o ran y diffyg cynnydd gweladwy wrth sefydlu Fforwm Defnyddwyr Gwasanaeth Cyflyrau Niwrolegol ym mhob bwrdd iechyd lleol. Dywedodd un sefydliad trydydd sector wrth yr ymchwiliad hwn nad yw Fforymau Defnyddwyr Gwasanaethau Niwrolegol wedi'u sefydlu ledled Cymru yn ôl bwriad y cynllun. Dywedodd nad yw'n amlwg a yw Byrddau Iechyd neu’r Grŵp Gweithredu wedi tynnu ar adborth o fforymau defnyddwyr gwasanaeth.'

Er bod yr adroddiad yn nodi hyn:

'Ystyriwyd bod cyfranogiad y trydydd sector yn NCIG yn gadarnhaol',

mae hefyd yn nodi

'bod cyfranogiad y trydydd sector yn gyffredinol yn dameidiog, yn anghyson ac nad yw wedi’i ddosbarthu’n deg ledled Cymru, neu yn ôl cyflwr'

Llwyddiant mwyaf y cynllun cyflawni yw ei fod wedi creu ffocws ar anghenion pobl â chyflyrau niwrolegol yng Nghymru. Mae wedi tynnu sylw at y ffactorau sydd wedi bod ar goll o ran darparu gwasanaethau'n strategol ar gyfer cyflyrau niwrolegol, er enghraifft rhwydweithiau fel y rhai sy'n bodoli ar gyfer canser, y galon a chyflyrau eraill. At hynny, mae wedi rhoi cyfle a strwythur i unigolion a sefydliadau trydydd sector rannu eu pryderon a'u profiadau gwael. O ganlyniad, mae wedi caniatáu i'r rhai sy'n ymwneud â gweithredu ddechrau cymryd camau i fynd i'r afael ag angen nas diwallwyd ac i ddod o hyd i atebion i heriau.

Croesawir y penodiad i rôl arweiniol glinigol ar gyfer cyflyrau niwrolegol. Mae'r arweinydd clinigol wedi dechrau diffinio meysydd ymyrraeth sy'n ofynnol a nodi llwybrau clinigol sy'n sail i wasanaethau ac egwyddorion clinigol. Fodd bynnag, gwnaed y penodiad yn gymharol hwyr yn y broses weithredu a dim ond un diwrnod yr wythnos o gyllid a glustnodwyd ar ei gyfer.

Mae'r grŵp gweithredu wedi gweithio'n galed i sefydlu llinell sylfaen ac mae'n dechrau hyrwyddo arferion da a threfnu gweithgarwch gwella pragmatig. Fodd bynnag, mae'n hanfodol fod y grŵp yn parhau i fodoli ac yn cael ei ymgorffori'n fwy parhaol er mwyn darparu dull rhwydwaith gwell o hyrwyddo gwelliant ac effeithlonrwydd parhaus ledled Cymru. Ceir cymaint o heriau sydd angen eu datrys. Mae'n amlwg y dylid parhau â'r ffocws hwn.

Ymhlith yr heriau eraill mewn perthynas â gweithredu'r cynllun cyflawni, mae cynnal gwaith y grŵp gweithredu, gan y byddai'n niweidiol iawn colli'r ffocws ar welliannau i wasanaethau a dull wedi'i rwydweithio ar ôl eu cyflwyno; swyddi a ariennir ar gyfer arweinydd clinigol a chydgysylltydd, gan bwysleisio difrifoldeb y bwriad i'r cynllun cyflawni sicrhau newid gwirioneddol; atebolrwydd am gyflawni—mae'r grŵp gweithredu'n monitro cynnydd y cynllun cyflawni, ond nid oes ganddo fandad i ddwyn byrddau iechyd lleol i gyfrif am elfennau allweddol o weithredu, megis strategaeth datblygu'r gweithlu; os nad rôl y grŵp gweithredu yw hyn yn wir, gellid awgrymu y dylai'r atebolrwydd hwn gael ei ddarparu drwy ddull arall er mwyn ysgogi newid effeithiol i wasanaethau.

Mae angen gwella cyfathrebu ynghylch cyflawni i randdeiliaid a'r cyhoedd yn ehangach. Mae sefydlu llwyfan cyfathrebu cenedlaethol yn hollbwysig, i raeadru gwybodaeth i'r bobl sydd ar lawr gwlad. Cesglir a dadansoddir data rheoli allweddol ar gyfraddau aildderbyn, amseroedd aros, hyd arhosiad yn yr ysbyty ac yn y blaen ar lefel byrddau iechyd lleol, ond ni ddarparwyd data Cymru gyfan o'r math hwn fel tystiolaeth i'r ymchwiliad. Mae diffyg data rheoli sy'n gysylltiedig â dangosyddion canlyniadau'r cynllun a darparu diagnosis, triniaeth, gwasanaethau a chymorth i bobl â chyflyrau niwrolegol yn broblem sylweddol. Mae'n amhosibl olrhain gwelliannau dros amser heb fecanwaith ag adnoddau priodol i gasglu a chyhoeddi'r math hwn o ddata.

Mae dileu'r gofyniad i fyrddau iechyd unigol gyhoeddi cynlluniau cyflawni niwrolegol blynyddol ac adroddiadau blynyddol wedi golygu ei bod yn anos ystyried cynnydd yn gyson ar lefel gyffredinol neu ar lefel byrddau iechyd unigol. Nid yw cynlluniau tymor canolig integredig byrddau iechyd lleol wedi llwyddo'n effeithiol i sbarduno newid mewn perthynas â blaenoriaethau'r cynllun cyflawni. Yn aml, nid oes ganddynt adrannau niwrolegol benodol a gellir gwasgaru unrhyw gyfeiriadau at wasanaeth niwrolegol o dan wahanol adrannau'r cynlluniau tymor canolig integredig. Nid yw cleifion a gofalwyr wedi cael cyfle go iawn i gymryd rhan yn y broses o wella gwasanaethau. Mae cyfyngiadau ariannol wedi cael effaith negyddol ar wasanaethau niwrolegol, mynediad at driniaeth, gwasanaethau a chymorth. Mae hyn wedi cynyddu amser teithio a chostau i unigolion â chyflyrau niwrolegol, sy'n cael effaith gorfforol, emosiynol ac ariannol negyddol iawn ar bobl, a gall olygu na fyddant yn cael y driniaeth a'r gofal sydd eu hangen arnynt.

Mae'r grŵp trawsbleidiol ar gyflyrau niwrolegol yn annog Llywodraeth Cymru i dderbyn yr argymhellion ac ymrwymo i weithredu'r camau angenrheidiol a nodwyd yn yr adroddiad. Mae'r rhain yn cynnwys rhoi diwedd ar danariannu cronig ym maes gwasanaethau niwrolegol o fewn y buddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i ddiwallu anghenion pobl yng Nghymru, a chreu strategaeth a chynllun gweithredu newydd ar gyflyrau niwrolegol, gyda chanlyniadau cliriach a strwythur atebolrwydd cryfach.

Oherwydd y llinell sylfaen isel, hyd yma nid yw'r grŵp gweithredu wedi cyflawni unrhyw beth yn debyg i raddfa'r newid sydd ei angen i sicrhau bod pobl â chyflyrau niwrolegol ledled Cymru yn cael mynediad diogel, amserol a theg at driniaeth, gwasanaethau a chymorth.

Er bod y dull presennol o weithredu wedi dechrau arwain at ganlyniadau cadarnhaol, ni fydd yn bosibl creu'r newid sylweddol sydd ei angen heb ymrwymiad strategol ehangach o bob rhan o GIG Cymru, Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ar lefel uwch. Rhaid cynnal y gwelliant i wasanaethau a chymorth i bobl â chyflyrau niwrolegol os ydym am sicrhau newid go iawn i fywydau pobl. Mae hefyd yn amlwg fod yn rhaid i bobl â chyflyrau niwrolegol a gofalwyr fod yn bartneriaid yn y broses hon. Er bod y ffocws ar gynyddu'r gefnogaeth i adsefydlu yn y gymuned i'w groesawu, mae'r profiadau gwael yr adroddwyd yn eu cylch yn dangos bod angen ffocws cyson a buddsoddiad parhaus. Mae angen hyn ar frys o ystyried effaith niweidiol gwarchod neu hunanynysu yn sgil y pandemig coronafeirws ar lawer o bobl sy'n byw gyda chyflwr niwrolegol.

Datgelodd arolwg Cynghrair Niwrolegol Cymru ar effaith y pandemig coronafeirws ei fod wedi effeithio'n sylweddol ar bobl sy'n byw gyda chyflyrau niwrolegol, a bod iddo oblygiadau mawr o ran darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar eu cyfer. Er bod angen i bobl â chyflyrau niwrolegol barhau i allu manteisio ar wasanaethau arbenigol yn ystod yr argyfwng a thu hwnt er mwyn cynnal eu lles, mae ynysu a gwarchod wedi cynyddu gorbryder ac wedi effeithio ar iechyd meddwl pobl sy'n byw gyda chyflyrau niwrolegol, gan ysgogi neu waethygu eu symptomau neu eu cyflwr. Nid yw gwasanaethau adsefydlu ac iechyd meddwl wedi addasu i ddiwallu anghenion pobl sy'n byw gyda chyflyrau niwrolegol. Mae gwasanaethau a thriniaeth wedi'u gohirio neu eu hatal yn ystod y pandemig. Rhaid i'r GIG yng Nghymru roi arweiniad cryf a nodi ei flaenoriaethau ar gyfer ailgychwyn gwasanaethau i bobl sy'n byw gyda chyflyrau niwrolegol cyn gynted ag y bydd yn glinigol ddiogel iddo wneud hynny.

Mae ein hadroddiad wedi'i seilio'n gyfan gwbl ar y dystiolaeth ysgrifenedig a llafar helaeth a gawsom gan ystod eang o randdeiliaid, gan gynnwys unigolion sy'n byw gyda chyflyrau niwrolegol a gofalwyr, elusennau sy'n cynrychioli pobl yr effeithir arnynt gan gyflyrau niwrolegol, clinigwyr arbenigol, y colegau brenhinol, Cynghrair Niwrolegol Cymru a'r grŵp gweithredu ar gyflyrau niwrolegol. Rydym yn cymeradwyo ein hadroddiad i Lywodraeth Cymru ac edrychwn ymlaen at eu hymateb. Diolch.

19:40

Diolch. Galwaf yn awr ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl—Vaughan Gething.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i Mark Isherwood am gyflwyno adroddiad y grŵp trawsbleidiol i'r Siambr. Rwyf wedi gwrando'n ofalus ar yr hyn sydd ganddo i'w ddweud, ac mae amrywiaeth o bwyntiau dilys y byddwn yn cytuno â hwy ac rwy'n gobeithio y llwyddaf i'w crybwyll yn yr ymateb. Rwy'n ddiolchgar i'r grŵp trawsbleidiol ac i bawb a roddodd o'u hamser i rannu eu profiad proffesiynol a phersonol, yn ogystal ag arbenigedd pobl â chyflyrau niwrolegol, gofalwyr, y colegau brenhinol, y GIG a'r trydydd sector. Bydd yr adroddiad a'r argymhellion yn cael eu hystyried yn y grŵp gweithredu ar gyflyrau niwrolegol, a fydd yn cyfarfod ar 7 Hydref. Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelodau yn dilyn y cyfarfod hwnnw, gydag ymateb Llywodraeth Cymru a'r grŵp gweithredu ar y cyd i'r adroddiad.

Rwy'n credu'n gryf fod darparu gwasanaethau o ansawdd da i bobl sy'n byw gyda chyflyrau niwrolegol yn hanfodol, a bod angen cydbwyso hynny wrth gwrs â chadw pobl yn ddiogel ac yn iach. Fel gyda llawer o gyflyrau iechyd mawr eraill, cafodd rhai gwasanaethau eu hatal dros dro neu eu lleihau wrth i adnoddau gael eu dargyfeirio ac wrth i gyfnod cyntaf y pandemig fynd rhagddo. Roedd yn ofynnol i fyrddau iechyd, fel rhan o'u cynlluniau chwarterol, ailgynllunio'r amgylchedd gofal er mwyn sicrhau bod y cleifion yr amheuid ac yr amheuir bod COVID arnynt yn cael eu cadw ar wahân i gleifion eraill. Lle cafodd gwasanaethau eu hatal neu eu lleihau, gofynnwyd i feddygon ymgynghorol fynd drwy eu rhestrau aros i raddio risg a blaenoriaethu pob claf. Pan oedd yn bosibl ailgyflwyno gwasanaethau perthnasol yn ddiogel, y nod a'r amcan yw mai'r rheini â'r angen mwyaf dybryd a welwyd yn gyntaf. Mae byrddau iechyd yn parhau i gynnal ymgynghoriadau rhithwir ac ymgynghoriadau dros y ffôn gyda chleifion, a lle bo hynny'n angenrheidiol ac er lles gorau'r claf, fe'u gwelir wyneb yn wyneb hefyd. 

Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais gynllun diogelu'r gaeaf. Mae'r cynllun hwnnw'n nodi'r hyn sydd ei angen nesaf i ddarparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol diogel ac effeithiol a chefnogi cleifion a'n gweithlu dros y misoedd i ddod. Mae'n bwysig cydnabod y bydd heriau'r gaeaf hwn hyd yn oed yn fwy nag unrhyw aeaf arferol, o ystyried yr angen i ymateb i'r achosion o COVID a'r ail ymchwydd yn nifer yr achosion o'r feirws a welsom dros yr wythnosau diwethaf. Fel y cyfryw, rhaid ystyried yr argymhellion yn adroddiad y grŵp trawsbleidiol ochr yn ochr â'r pwysau sylweddol sy'n parhau ar y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn parhau'n ymrwymedig i sicrhau y dylai unrhyw un sydd â chyflwr niwrolegol gael y gofal gorau posibl. Rwy'n falch fod adroddiad y grŵp trawsbleidiol yn tynnu sylw at y gwaith da sydd wedi'i wneud yng Nghymru gan y byrddau iechyd a'r grŵp gweithredu. 

Mae'r cynllun cyflawni ar gyfer cyflyrau niwrolegol, sy'n nodi gweledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer pobl sy'n byw gyda chyflyrau niwrolegol yng Nghymru, yn un y dewisais ei ymestyn hyd at fis Mawrth 2022, tra eir ati i ddatblygu grwpiau gweithredu a chynlluniau cyflawni llwyddiannus. Bydd hyn yn caniatáu ar gyfer cyfnod o fyfyrio ar y gwersi a ddysgwyd a'r modelau gofal newydd a ddefnyddiwyd yn ystod y pandemig, gan ganiatáu hefyd ar gyfer alinio â datblygiad y fframwaith clinigol cenedlaethol a nodwyd gennym yn 'Cymru Iachach'. Bydd unrhyw ddull olynol yn ystyried argymhellion adroddiad y grŵp trawsbleidiol. Yn y cyfamser, rydym yn parhau i fuddsoddi £1.2 miliwn bob blwyddyn i wella mynediad ar gyfer pob claf sydd angen gwasanaethau adsefydlu niwrolegol yng Nghymru. Rydym yn parhau i weithredu ein hymrwymiad i wella mynediad at therapïau seicolegol, ac rydym wedi darparu £4 miliwn ychwanegol i fyrddau iechyd i gefnogi'r maes hwn. Rydym hefyd wedi ymrwymo i fuddsoddi ymhellach mewn therapïau seicolegol y flwyddyn nesaf, fel rhan o'n cynigion cyllidebol.

Bydd y grŵp gweithredu yn parhau i weithio'n agos gyda Michelle Price, ein harweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer cyflyrau niwrolegol, ar ddatblygu blaenoriaethau'r grŵp. Byddwn yn gwneud hynny drwy ddull cydgynhyrchu, fel y dywedodd Mark Isherwood, er mwyn cynyddu ymwybyddiaeth o gyflyrau niwrolegol, datblygu gwasanaethau a datblygu llwybrau a modelau gofal clir, yn seiliedig ar arferion gorau a thystiolaeth ymchwil, a phrofiad byw wrth gwrs. 

Ar hyn o bryd mae gan y grŵp gweithredu dri is-grŵp ar gyfer y meysydd a nodwyd: niwrolegol oedolion, pediatrig a ffitiau. Grŵp amlbroffesiynol yw'r grŵp ffitiau sy'n canolbwyntio'n bennaf ar ddatblygu llwybr cleifion di-dor i Gymru gyfan ar draws gofal sylfaenol, eilaidd a thrydyddol. Mae'r grŵp pediatrig hefyd yn amlbroffesiynol, ac mae'n edrych ar adsefydlu pediatrig yn benodol. Mae'r grŵp adsefydlu niwrolegol yn canolbwyntio ar hunanreoli, adsefydlu niwrolegol cymunedol, technoleg ac adsefydlu, ac adsefydlu cleifion mewnol. Bydd y grwpiau hyn yn cael eu hadolygu a'u hailffocysu wrth i flaenoriaethau newid a datblygu. 

Fel y dywedais, mae llais y claf yn hanfodol os ydym am wella ansawdd ein gwasanaethau ar draws iechyd a gofal, ac wrth gwrs, mae hynny'n cynnwys y grŵp gweithredu ar gyflyrau niwrolegol. O'r cychwyn, maent bob amser wedi cynnwys cynrychiolaeth o blith defnyddwyr gwasanaethau. Mae'r grŵp gweithredu hefyd wedi rhoi cyllid i Gynghrair Niwrolegol Cymru fel y gall eu rheolwr prosiect ddatblygu rhwydwaith o ddefnyddwyr gwasanaethau ledled Cymru i lywio'r gwaith o godi ymwybyddiaeth ac ennyn cefnogaeth i welliannau i wasanaethau yn y dyfodol. Mae Cynghrair Niwrolegol Cymru yn chwarae rhan hollbwysig yn codi ymwybyddiaeth ac yn cyfeirio at wybodaeth ar gyfer pob cyflwr lle bo'n briodol. Rwy'n ddiolchgar i'r gynghrair, ac i sefydliadau gofal iechyd eraill yn y trydydd sector am ddarparu adborth rheolaidd gan gleifion ar wasanaethau hanfodol yn ystod y pandemig. 

I gloi, rwy'n credu ein bod wedi gwneud cynnydd da yn gwella gwasanaethau niwrolegol yng Nghymru dros y tair blynedd ddiwethaf. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod bod mwy y dylem ei wneud ac sy'n rhaid inni ei wneud. Bydd argymhellion adroddiad y grŵp trawsbleidiol yn helpu i ddarparu ffocws ychwanegol, wrth inni barhau i ymdrechu i sicrhau rhagoriaeth yn y maes gofal iechyd hwn. Diolch.

19:45

Daeth y cyfarfod i ben am 19:46.