Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

16/09/2020

Yn y fersiwn ddwyieithog, mae’r golofn chwith yn cynnwys yr iaith a lefarwyd yn y cyfarfod. Mae’r golofn dde yn cynnwys cyfieithiad o’r areithiau hynny.

Cyfarfu'r Senedd yn y Siambr a thrwy gynhadledd fideo am 13:32 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da. Croeso i'r Cyfarfod Llawn. Cyn i ni ddechrau, dwi eisiau nodi ychydig o bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn a gynhelir drwy gynhadledd fideo yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw, ac mae'r rheini wedi'u nodi ar yr agenda. Dwi eisiau atgoffa Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn berthnasol i'r cyfarfod yma, ac yr un mor berthnasol i'r Aelodau yn y Siambr ag ydyn nhw i'r Aelodau sy'n ymuno drwy gyswllt fideo.

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Siân Gwenllian.

Ailgyflwyno Eryrod i Eryri

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion i ailgyflwyno eryrod i Eryri? OQ55521

Diolch. Fel yr hyrwyddwr rhywogaethau ar gyfer adar ysglyfaethus, roeddwn yn drist iawn o glywed am farwolaeth yr unig eryr aur yng Nghymru yn ddiweddar. Bydd angen trwydded gan Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer unrhyw gynigion i ailgyflwyno eryrod yng Nghymru. Byddai addasrwydd cynefinoedd a'r effeithiau ar fywyd gwyllt a defnydd tir presennol yn rhan o'r broses benderfynu.

A wnewch chi ymuno efo fi i fynegi pryder mawr am y syniad yma, sydd, mae'n debyg, yn dod gan un gŵr a heb gefnogaeth o unman yn Eryri? Mae'r amaethwyr yn poeni y byddai eryrod yn bwyta eu stoc, ac mae pryder am yr effaith ar fioamrywiaeth gan nad oes yna ddigon o gynhaliaeth yn yr ardal ar gyfer eryrod. Dywed y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar y byddai angen cefnogaeth eang cymunedau lleol er mwyn i gynllun o'r math lwyddo. Dydi'r gefnogaeth honno ddim yno. Wnewch chi felly ddatgan yn glir nad ydy Llywodraeth Cymru chwaith o blaid y cynllun yma a bod angen ei roi o'r neilltu yn syth?

Rwy'n sylweddoli y gall cynigion i ailgyflwyno rhai rhywogaethau fod yn ddadleuol; weithiau, caiff safbwyntiau gwahanol iawn eu mynegi. Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn fod pob safbwynt yn cael ei ystyried fel rhan o'r broses benderfynu. Dylai hynny gynnwys ymgynghoriad cyhoeddus.

Yn amlwg, mae pryderon ynghylch y syniad hwn, ond credaf ei bod yn bwysig inni ystyried strategaethau sy'n amddiffyn y rhywogaethau sydd dan fygythiad yng Nghymru, fel y pâl, anifail rwy’n falch o fod yn hyrwyddwr rhywogaeth ar ei gyfer wrth gwrs. Weinidog, a allech ddweud mwy wrthym, felly, ynglŷn â sut y bydd Llywodraeth Cymru yn mynd i’r afael ag unrhyw fylchau yn rhwydwaith yr ardaloedd morol gwarchodedig ar gyfer adar y môr, gan gynnwys ardaloedd twrio am fwyd ar gyfer adar sy’n nythu ar glogwyni?

13:35

Mae'n bwysig iawn ein bod yn ystyried ein holl bolisïau yn erbyn, fel y dywedwch, y rhywogaethau rydym yn arbennig o bryderus yn eu cylch, ac wrth gwrs, mae’r pâl yn un o'r rheini. Mae hyn yn rhan o'n gwaith wrth inni edrych ar sut rydym yn cynyddu ein bioamrywiaeth ac yn cefnogi ein hecosystemau morol.

Weinidog, a fyddech yn cytuno â mi mai dim ond pan fo tystiolaeth ecolegol dda y dylid ailgyflwyno rhywogaethau, a bod angen i’r gwaith cynllunio fod yn drylwyr? Mae angen ymgysylltu'n dda â chymunedau lleol. Rwy'n ymwybodol, er enghraifft, fod Prifysgol Caerdydd wedi gwneud ymchwil a edrychai ar gynefinoedd ac argaeledd bwyd i eryrod yng Nghymru, ac roeddent yn ffafrio adeiladu achos tystiolaeth yn ofalus, a chael sgwrs lawn a pharchus, wrth gwrs, gyda ffermwyr a chymunedau lleol—yn y bôn, symud un cam ar y tro, rwy'n credu. A fyddech yn cytuno â mi ein bod yn dymuno gweld bioamrywiaeth ond bod yn rhaid dilyn proses addas?

Byddwn, yn sicr. Bydd John Griffiths wedi clywed fy ateb cynharach i Siân Gwenllian pan ddywedais ei bod yn bwysig iawn fod pob safbwynt yn cael ei ystyried, ond mae'n rhaid i ymgynghoriad cyhoeddus fod yn rhan o'r broses benderfynu, ac wrth asesu unrhyw gais am drwydded ar gyfer cyflwyno unrhyw rywogaeth, mae CNC bob amser yn ystyried dichonoldeb biolegol a chymdeithasol cynnig o'r fath.

Effaith COVID-19 ar y Sector Bwyd

2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag archfarchnadoedd mawr ynghylch effaith COVID-19 ar y sector bwyd yng Nghymru? OQ55504

Diolch. Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â chynrychiolwyr o bob un o'r prif archfarchnadoedd. Rwy'n cael sicrwydd fod systemau cadarn ar waith i gynnal cyflenwadau bwyd digonol. Mae'r archfarchnadoedd wedi cael eu gwneud yn ymwybodol iawn o'u rôl wrth fynd i'r afael â phandemig COVID-19 drwy gynnal mesurau cadw pellter cymdeithasol digonol. Defnyddir cosbau awdurdodau lleol os bydd angen.

Hoffwn ddarllen sylw a gefais ar fy nhudalen Facebook i'r Gweinidog, sy'n adlewyrchu llawer o sylwadau a gefais. Daw'r sylw hwn gan etholwr:

A all unrhyw un ateb y cwestiwn hwn i mi os gwelwch yn dda? Ddeng munud yn ôl, euthum i Morrisons yng Nghaerffili. Wrth siopa, gwelais bedwar o bobl nad oeddent yn gwisgo masgiau, heblaw o amgylch eu gyddfau. Tynnais sylw staff diogelwch y siop at hyn, a dywedodd wrthyf 'Nid oes gennym awdurdod i orfodi'r mater'. Nawr, rwy'n ddryslyd iawn, gan fod Llywodraeth Cymru a’r cyngor wedi dweud bod gwisgo masgiau mewn siopau yn orfodol.

Cefais safbwyntiau tebyg gan etholwyr yn sôn am sefyllfaoedd tebyg yn Tesco, Asda ac Aldi yn fy mewnflwch e-bost, ac mae hynny'n peri pryderon. Fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am gysylltiadau â'r archfarchnadoedd mawr yn ystod y pandemig, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod y prif archfarchnadoedd yn gorfodi mesurau diogelwch COVID fel y gall pobl sy'n cysylltu â mi deimlo'n ddiogel wrth siopa?

Diolch. Rydych yn codi pwynt pwysig iawn a phwynt sydd wedi llenwi fy mewnflwch â llawer o negeseuon e-bost gan aelodau'r cyhoedd a chan Aelodau o’r Senedd yn sicr dros doriad yr haf. Soniais fy mod yn cyfarfod â'r prif fanwerthwyr yn rheolaidd. Roedd hynny oddeutu pob pythefnos yn ôl pob tebyg ar y dechrau; oddeutu pob pedair wythnos bellach. Maent yn rhoi sicrwydd i mi fod ganddynt fesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith, ac wrth gwrs, mae lledaeniad daearyddol yma. Nid yng Nghaerffili yn unig y mae hyn yn digwydd; mae'n digwydd ledled Cymru. Rwyf wedi derbyn cwynion, fel y mae'r holl brif archfarchnadoedd. Mae swyddogion hefyd mewn cysylltiad uniongyrchol â manwerthwyr, ac maent wedi rhannu canllawiau ac wedi mynd i'r afael ag ymholiadau.

Soniais, unwaith eto, yn fy ateb agoriadol i chi, Hefin David, fod gorfodi rheoliadau a chanllawiau coronafeirws yn swyddogaeth i awdurdodau lleol. Gwn fod llawer o awdurdodau lleol ledled Cymru wedi ymweld ag archfarchnadoedd i sicrhau bod y mesurau hynny ar waith. Ond credaf ei fod hefyd yn gyfle da i atgoffa pobl o'u cyfrifoldeb fel unigolion wrth iddynt ymweld ag archfarchnadoedd a sicrhau eu bod yn gwisgo gorchuddion wyneb ac yn cadw at y 2m. Ac unwaith eto, dros yr ychydig ddyddiau diwethaf, mynegwyd pryderon wrthyf fod pobl yn teimlo efallai fod gwisgo gorchudd wyneb yn rhoi ymdeimlad ffug o ddiogelwch i bobl, ac er bod gorchuddion wyneb bellach yn orfodol mewn archfarchnadoedd, cofiwch hefyd y mesur cadw pellter cymdeithasol o 2m.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Janet Finch-Saunders. 

13:40

Diolch, Lywydd. Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol o’r dinistr a achoswyd gan storm Francis yng ngogledd-orllewin Cymru. Cafwyd llifogydd a thirlithriadau ar yr A55 ac eiddo niferus yn Abergwyngregyn, achubwyd oddeutu 40 o unigolion o gabanau ym Methesda, achubwyd pobl o bum tŷ a difethwyd busnesau ym Meddgelert, ac wrth gwrs, cafodd gerddi a chastell a hanesyddol rhestredig gradd 1 Castell Gwydir eu difrodi ar ôl iddynt ailagor yn yr haf. Nawr, nid yw cynllun buddsoddi cyfalaf 2021 Llywodraeth Cymru ar gyfer rheoli risg llifogydd yn cynnwys unrhyw gyllid sydd o fudd amlwg i'r ardaloedd hyn—Beddgelert, Abergwyngregyn, Bethesda, na Gwydir—yn y tymor byr. A wnewch chi gynyddu cyllid ar gyfer cynlluniau perygl llifogydd brys mewn ardaloedd yr effeithiwyd arnynt gan storm Francis yng ngogledd-orllewin Cymru, a pham nad ydych eisoes wedi cyhoeddi unrhyw gyllid brys o'r fath ar gyfer y rhai yr effeithiwyd arnynt gan stormydd gwirioneddol annisgwyl ar adeg pan ddylai pob un ohonom fod yn mwynhau’r haf?

Diolch. Hoffwn groesawu'r Aelod i'w swydd newydd yng nghabinet yr wrthblaid. Gwelsom lifogydd heb eu tebyg o’r blaen dros yr haf. Cawsom ein hatgoffa bod argyfwng hinsawdd yn dal i fodoli ochr yn ochr â phandemig COVID-19. Rwyf wedi sicrhau bod 100 y cant o gyllid atgyweirio ar gael i bob awdurdod lleol ar gyfer digwyddiadau llifogydd, felly efallai nad yw'r awdurdod lleol wedi gwneud cais amdano. Yn sicr, gyda Rhondda Cynon Taf—a gwn fod gennyf gwestiwn yn nes ymlaen ar RhCT yn benodol—gwnaethom ariannu 100 y cant o'r hyn y gwnaethant gais amdano. Rydym yn ariannu sawl cynllun lliniaru llifogydd yng ngogledd Cymru, ond ar gyfer y digwyddiadau llifogydd a welsom, fel y dywedaf, mae—. Nid oes angen pot arbennig o arian arnom; mae’r arian hwnnw ar gael i'r holl awdurdodau lleol ac awdurdodau rheoli perygl wneud cais amdano.

Diolch. Ac wrth gwrs, mae hyn oll yn ychwanegol at yr hyn roedd fy etholwyr wedi’i ddioddef eisoes gyda storm Ciara. Mae llawer o dystiolaeth yma fy mod wedi cyflwyno adroddiad ar y pryderon llifogydd yn dilyn storm Ciara, a chymerodd tan 18 Awst i chi a'ch adran fynd i'r afael â'r pryderon hynny a godwyd. Nawr, fe wfftioch chi atebolrwydd ar y pryd drwy nodi mai'r awdurdod llifogydd arweiniol lleol sy'n gyfrifol am yr adroddiad ymchwiliad llifogydd adran 19. Mae hwn yn ofyniad statudol. Nawr, saith mis yn ddiweddarach, nid yw'r adroddiad hwnnw wedi'i gyhoeddi. Ac nid wyf yn beirniadu ein hawdurdod lleol o gofio’r hyn y maent wedi gorfod cystadlu ag ef wrth ymdrin â COVID-19 dros y chwe mis diwethaf. Ond nid methiant unigol yw hwn ledled Cymru, a chymerodd rhwng Rhagfyr 2015 a Gorffennaf 2016 i gael adroddiad ar gyfer Betws-y-Coed a Dolwyddelan. Felly, mae'n cymryd cyfnod annerbyniol o hir i adroddiadau adran 19 gael eu cyflwyno. Felly, a wnewch chi fynd i’r afael â hyn fel mater brys drwy bennu terfyn amser ar gyfer y cyhoeddiadau hyn, ac a oes gennych unrhyw bwerau i orchymyn y dylid cyhoeddi’r adroddiadau statudol hyn o fewn amserlen fwy realistig a mwy rhesymol, oherwydd heb yr adroddiadau statudol hynny, mae’n anodd iawn sicrhau bod unrhyw fath o waith llifogydd yn digwydd? Diolch.

Wel, rwy'n gobeithio y bydd Janet Finch-Saunders yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru wedi wynebu'r un pryderon yn union ag awdurdodau lleol, os nad rhai mwy sylweddol. Ond yn sicr, byddaf yn edrych ar y dyddiadau hynny, gan y credaf eich bod yn iawn—mae hynny'n ddefnyddiol, nid yn unig ar gyfer tryloywder, ond hefyd ar gyfer edrych ar ba gynlluniau lliniaru llifogydd y gallwn eu cyflwyno. Rwyf wedi darparu cryn dipyn o gyllid ychwanegol i sicrhau bod y cynlluniau lliniaru llifogydd hynny yn cael eu cyflwyno. Dywedodd awdurdodau lleol wrthyf mai cyllid oedd un o'r rhwystrau rhag cyflwyno’r cynlluniau, felly rwyf wedi cael gwared ar y rhwystr hwnnw drwy ddweud y byddwn yn ariannu 100 y cant o'r astudiaeth gychwynnol honno i weld a fyddai cynllun lliniaru llifogydd yn addas ar gyfer yr ardal benodol honno.

Diolch. Gŵyr pawb fod coed yn chwarae rhan fawr yn y gwaith o liniaru digwyddiadau llifogydd mawr. Nawr, ers 17 Awst 2020, mae Cyfoeth Naturiol Cymru eu hunain wedi derbyn ceisiadau am drwyddedau i gwympo bron i 50,000 o goed o Wynedd i Sir Fynwy, ac er mawr arswyd i mi, nid yw CNC ond yn ystyried yr effaith amgylcheddol lle bydd datgoedwigo yn arwain at ddefnyddio'r tir at ddiben gwahanol. Mae hyn yn gwbl warthus, oherwydd os dychmygwch eich bod yn cwympo 100 neu 1,000 o goed mewn ardal benodol ac yn dweud y byddwch yn plannu eginblanhigion, nid ydych yn cael yr effaith wirioneddol o ran amddiffyn rhag llifogydd. Felly, pa gamau brys a gymerwch i sicrhau bod CNC eu hunain yn ystyried effaith unrhyw gwympo coed ar gyfradd y dŵr ffo, a'u bod yn cynhyrchu gwaith amgylcheddol ac effaith ar y tir? Rydych wedi neilltuo £1 miliwn i gefnogi’r gwaith o arafu'r dŵr ffo i'n hafonydd a'n nentydd. A wnewch chi ddefnyddio’r arian hwnnw i adolygu effeithiolrwydd trwyddedau wrth atal cwympo coed mewn mannau problemus mewn perthynas â llifogydd? Mae fy etholwyr yn credu bod CNC, er eu bod yn rheoleiddiwr, yn dechnegol, yn rhedeg busnes da iawn wrth gwympo llawer o goed, ac eto, maent yn gosod llawer o reoliadau ar berchnogion coedwigaeth eraill. Felly, credaf fod yn rhaid cael rhywfaint o gydbwysedd yma yn y system.

Ac yn olaf, sut y mae cwympo coed yn nyffryn Conwy yn unol â'r gofyniad yn safon coedwigaeth y DU y dylid ystyried y gwaith o reoli coetir yn ffordd o liniaru risg llifogydd, pan mai'r pryder mewn gwirionedd yw gall faint o ddatgoedwigo y mae CNC yn ei wneud yn fy etholaeth fod yn achosi'r problemau gyda llawer o'r llifogydd? Diolch.

13:45

Mae'r Aelod yn gwneud honiadau pellgyrhaeddol iawn, a chredaf y byddai'n well pe bawn yn eu trafod gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ac yna'n ysgrifennu at yr Aelod.FootnoteLink

Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, mae eich ymgynghoriad ar gynigion i barhau â chefnogaeth amaethyddol i ffermwyr mewn cyfnod pontio ôl-Brexit hyd at ba bryd bynnag y byddwn yn llwyddo i basio Bil amaethyddol Cymru newydd yn cynnig cau'r cynllun ffermwyr ifanc ar gyfer ceisiadau newydd o'r flwyddyn nesaf ymlaen. A allwch roi cadarnhad neu eglurder inni ynghylch y bwriad yn y tymor hwy o ran darparu rhyw fath o gefnogaeth bwrpasol i newydd-ddyfodiaid i'r diwydiant? Yn amlwg, mae'n achos pryder y gallem fod yn wynebu cyfnod o ddwy neu dair blynedd heb unrhyw gefnogaeth bwrpasol o'r math hwnnw. Pam y credwch y byddai'n dderbyniol inni beidio â chefnogi newydd-ddyfodiaid ifanc yn y cyfnod interim? A pha fath o neges y credwch y gallai fod yn cael ei chyfleu i’r diwydiant os ydynt yn credu bod y Llywodraeth o’r farn fod cefnogaeth o'r math hwnnw yn rhywbeth y gellir ei hepgor, hyd yn oed os mai yn y tymor byr yn unig y bydd hynny?

Mae'n debyg fod yr Aelod yn ymwybodol ar hyn o bryd fod y Papur Gwyn y byddwn yn ei gyflwyno ar ddiwedd y flwyddyn galendr hon cyn cyflwyno Bil amaethyddol yn nhymor nesaf y Llywodraeth yn cael ei gwblhau ar hyn o bryd. Credaf fod gennym oddeutu dwy bennod arall i’w hysgrifennu cyn y gall ddod ataf i mi gael ei gymeradwyo’n derfynol. Fel y gwyddoch, rwyf bob amser wedi bod yn awyddus i gefnogi ein newydd-ddyfodiaid, ond wrth edrych ar yr hyn rydym wedi'i roi yn y gorffennol, gan edrych ar y ffordd y cafwyd mynediad at y cyllid hwnnw, rwyf am sicrhau ein bod yn cyrraedd pobl sy'n newydd-ddyfodiaid go iawn. Mae hynny'n rhan o'r hyn y byddwn yn ei gyflwyno yn y Papur Gwyn.

Y cynllun tymor hwy yw hwnnw; roeddwn yn gofyn i chi am drefniadau tymor byr, interim, oherwydd bydd cyfnod o ddwy i dair blynedd, felly, heb unrhyw fath o gefnogaeth bwrpasol i newydd-ddyfodiaid. Mae angen cefnogaeth yn awr yn enwedig gan fod arnom angen gwaed newydd, syniadau newydd a brwdfrydedd newydd yn barhaus. A chyda'r rhagolwg—y rhagolwg cynyddol, mewn gwirionedd—y cawn Brexit heb gytundeb, dyna'r math o bobl sydd eu hangen arnom, pobl sy’n barod i wynebu'r heriau newydd sydd o'n blaenau. A chyda'r tebygolrwydd cynyddol o Brexit heb gytundeb yn ein hwynebu, tybed a oes gan eich adran ddigon o adnoddau i fynd i'r afael â phandemig COVID ar y naill law a pharatoi'n ystyrlon ac yn briodol ar gyfer Brexit heb gytundeb ar y llaw arall. Efallai y gallech ddweud wrthym pa mor barod yw eich adran am Brexit heb gytundeb ac a ydych yn hyderus y bydd y sector hefyd yn barod ymhen 15 wythnos.

O ran fy adran i, rydych yn llygad eich lle; yr un swyddogion sy'n ymdrin â phandemig COVID-19 ag sy'n helpu i baratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb. Fe fyddwch yn ymwybodol, yn amlwg, nad yw pandemig COVID-19 yn rhywbeth y gallech fod wedi cynllunio ar ei gyfer, ac yn amlwg, ar y dechrau, bu llawer o fy swyddogion yn helpu gyda'r ymateb i COVID-19 ar draws Llywodraeth Cymru. Yn sicr y rhai y cyfeirioch chi atynt—felly, y Papur Gwyn ar amaethyddiaeth, er enghraifft, a'r Brexit heb gytundeb—maent bellach yn gweithio'n amlwg iawn ar y materion hynny.

A yw'r sector yn barod? Byddwn yn dweud nad yw’n barod, yn ôl pob tebyg. Credaf fod parodrwydd busnes yn sicr yn faes sy'n peri cryn bryder i mi. Ddydd Llun, cadeiriais grŵp rhyngweinidogol diweddaraf Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, lle dywedwyd wrthyf fi a'r swyddog cyfatebol ar gyfer yr Alban—. Roeddem yn trafod parodrwydd busnes ac roeddem yn trafod y Bil Marchnad Fewnol a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU a dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol wrthym ein bod yn edrych arno fel 'gwydr hanner gwag'. Nid wyf yn cytuno â hynny o gwbl. Mae gennyf bryderon gwirioneddol a dilys nad yw busnesau'n barod. Y llynedd, gofynasom iddynt baratoi ar gyfer Brexit heb gytundeb; dywedwyd wrthynt am roi'r gorau i wneud hynny, os mynnwch. Rydym bellach wedi cael pandemig COVID-19, ac yn amlwg, mae'n rhaid inni ddechrau paratoi unwaith eto yn awr. Fel y dywedwch, rwy'n credu mai 100 niwrnod oedd i fynd ddydd Llun, felly mae'n debyg mai 97 niwrnod sydd i fynd bellach.

13:50

Iawn. Wel, bydd angen pob math o gynlluniau wrth gefn arnom, wrth gwrs, ac mae pobl yn disgwyl i Lywodraeth Cymru arwain o'r tu blaen ar hynny, yn amlwg, a byddwn yn gobeithio eich bod yn teimlo bod gennych yr adnoddau, neu os nad ydych, yna bydd angen i bob un ohonom weithio i sicrhau eu bod yno. Mae rhywun yn meddwl yn benodol am yr angen i ymdrin â chig oen dros ben mewn senario heb gytundeb. Nid oes digon o le storio yn y DU i storio cig oen pe baem yn colli ein marchnad allforio. Felly, a allwch roi diweddariad, felly, ac egluro i ni ble yn union rydych arni o ran cynllunio wrth gefn ac a ydych yn hyderus y byddwch wedi paratoi ar gyfer pob sefyllfa? Oherwydd gallwch ddweud wrthym fod y gwaith yn dechrau eto neu ar fin ailgychwyn, ond mae pobl yn awyddus i wybod a ydych yn credu y bydd hyn yn gymaint o lanast ag y mae rhai pobl yn awgrymu y gallai fod, neu a ydych yn hyderus y bydd mesurau ar waith i liniaru'r gwaethaf o'r niwed.

Mae Llywodraeth Cymru bob amser wedi arwain o'r tu blaen ar y materion hyn. Yn ôl ym mis Tachwedd 2016, heb fod ymhell ar ôl pleidlais refferendwm yr UE, fe wnaethom ddechrau paratoi. Mae gennyf fy ngrŵp bord gron o randdeiliaid ac mae hwnnw wedi bod yn cyfarfod yn llawer amlach eleni, yng ngoleuni COVID-19. Mae'n ymwneud â mwy na dechrau eto mewn perthynas â Brexit heb gytundeb; gwnaed y gwaith hwnnw y llynedd. Roedd yn eithaf rhagweledol, wrth edrych arno yn awr, gan iddo fod o gymorth gyda phandemig COVID-19 hefyd.

Yn sicr, yn y trafodaethau a gawsom y llynedd ynghylch y sector defaid, dywedasom yn glir iawn wrth Lywodraeth y DU y byddai'n rhaid iddynt ddarparu cyllid ychwanegol, a chafodd hynny ei dderbyn y llynedd. Nid yw fy marn ynglŷn â hynny wedi newid o gwbl. Ond credaf ei bod yn anodd, gan fod busnesau wedi gorfod ymdrin â phandemig COVID-19, maent bellach yn dechrau—nid gwella, o reidrwydd, gan y credaf fod pethau wedi bod, yn amlwg, yn eithaf araf, gan ein bod yn bryderus iawn ynghylch ail ymchwydd, ond yn sicr, credaf fod yr anawsterau deuol hynny y mae pob busnes yn eu hwynebu ar hyn o bryd yn ei gwneud yn anodd iawn. Ond yn sicr, rydym yn gwneud popeth yn ein gallu i sicrhau bod y wybodaeth ar gael ac i roi pwysau ar Lywodraeth y DU. Ni fyddant yn ymestyn y cyfnod pontio, er ein bod wedi gofyn sawl gwaith. Maent yn dweud wrthym y bydd popeth wedi’i gwblhau erbyn diwedd y flwyddyn, ac yn amlwg, y peth pwysicaf yw ein bod yn parhau i roi pwysau ar Lywodraeth y DU. Gwn fy mod i a'm holl gyd-Weinidogion yn gwneud hynny ar bob cyfle.

Cwestiwn 3, Mick Antoniw.

Mae angen i chi agor eich meic yn gyntaf, Mick Antoniw. Ddim eto.

Atal Llifogydd

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cartrefi mewn ardaloedd lle mae perygl llifogydd yn cael offer addas i atal llifogydd? OQ55508

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru wedi cysylltu â phob awdurdod rheoli perygl llifogydd i annog ceisiadau i ariannu mesurau gwrthsefyll llifogydd i eiddo, gan gynnwys gatiau llifogydd, lle ystyrir mesurau o'r fath yn opsiwn priodol ar gyfer lleihau perygl llifogydd i gartrefi.

A gaf fi ddweud yn gyntaf, Weinidog, fy mod yn croesawu’r ateb hwnnw? Gwn eich bod wedi mynd ati o ddifrif ar fater llifogydd pan gafwyd llifogydd yn Rhondda Cynon Taf a Thaf Elái. Rwy'n ddiolchgar iawn am yr ymateb cyflym a gawsom a'r cydweithredu rhwng cyngor Rhondda Cynon Taf a Llywodraeth Cymru. Wrth gwrs, ar hyn o bryd, rydym yn aros am gyfres o adroddiadau ymchwiliadau pwysig iawn. Credaf fod wyth ar gyfer Taf Elái yn unig y disgwylir iddynt fynd i’r afael â materion amrywiol sy'n codi o lifogydd. Nawr, fel y gwyddoch—a gwn eich bod yn deall hyn yn iawn—wrth gwrs, wrth i'r gaeaf agosáu, mae gan y bobl yr effeithiwyd arnynt gan lifogydd neu sy'n byw mewn ardaloedd perygl llifogydd bryderon gwirioneddol y gallai'r un peth ddigwydd eto, ar ôl cael trefn ar eu tai, y gallant wynebu rhagor o lifogydd os byddwn yn wynebu stormydd mwy difrifol. Un o'r meysydd allweddol sydd wedi dod i'r amlwg yn y gwahanol gyfarfodydd a gefais i a fy nghydweithiwr Alex Davies-Jones gyda thrigolion lleol yw mater amddiffyn tai yn benodol. Nawr, fe sonioch chi am gatiau llifogydd, ond mae materion yn codi ynghylch fentiau amddiffyn ac ati. Byddwn yn ddiolchgar, efallai, pe gallech egluro, os bydd ceisiadau'n cael eu gwneud naill ai gan gyngor Rhondda Cynon Taf neu gan unigolion, ac ati, am fesurau gwrthsefyll llifogydd o'r fath, y byddant yn cael eu derbyn a'u cefnogi gan Lywodraeth Cymru os gellir dangos y byddent yn lliniaru'r perygl llifogydd. Oherwydd yn amlwg, ni all fod yn iawn fod unrhyw dŷ a allai elwa o fesurau gwrthsefyll llifogydd o'r fath yn methu fforddio eu gwneud. Os na allwn atal newid yn yr hinsawdd a pherygl llifogydd, yn sicr mae angen inni wneud popeth yn ein gallu i sicrhau ein bod yn cefnogi'r cymunedau sydd wedi wynebu canlyniadau llifogydd.

13:55

Diolch yn fawr, Mick Antoniw. O ran y pwynt a wnaethoch ynglŷn ag adroddiadau ymchwiliadau, fel y dywedoch chi, rydym yn aros am sawl adroddiad ymchwiliad llifogydd statudol. Hoffwn gadarnhau y bydd y rhain yn cael eu cyhoeddi i breswylwyr, aelodau etholedig ac unrhyw un arall sydd â diddordeb eu gweld. Efallai y byddant yn cyflwyno argymhellion pellach ar gyfer lleihau perygl, y gallwn wedyn eu hystyried fel mater brys. Fel chithau, nid wyf am weld llifogydd yn digwydd eto yn y cymunedau a gafodd eu taro mor wael yn gynharach eleni, ac unwaith eto, yn fy ateb cynharach i Janet Finch-Saunders, roeddwn yn dweud ein bod wedi gweld llifogydd dros yr haf yn anffodus.

Rwyf wedi darparu'r holl arian y mae awdurdodau lleol a CNC wedi gofyn amdano i wneud atgyweiriadau yn eich ardal etholaethol, fel mewn ardaloedd eraill, a chredaf fod gwir angen inni fod wedi gwneud hynny fel y gallwn atal llifogydd yn yr un ardal eto y gaeaf hwn. Mae gatiau llifogydd, fentiau aer a mesurau gwrthsefyll llifogydd tebyg yn gymwys i gael cyllid Llywodraeth Cymru drwy ein hawdurdodau rheoli perygl llifogydd, felly byddwn yn annog defnyddio mesurau gwrthsefyll llifogydd i eiddo, yn enwedig ar gyfer cartrefi mewn cymunedau yr effeithiwyd arnynt yn ddrwg yn gynharach eleni. Unwaith eto, mae fy swyddogion wedi ysgrifennu at yr awdurdodau lleol i'w hatgoffa bod yr arian hwnnw gan Lywodraeth Cymru ar gael, ac rwy'n siŵr y byddwch yn sicrhau bod unrhyw un o'ch etholwyr yn gwneud hynny hefyd.

Yn ddiweddar, ymwelais ag Ynysgynwraidd yn Sir Fynwy gyda’r Aelod Seneddol lleol, David Davies, i weld drosof fy hun yr effeithiau dinistriol y mae llifogydd wedi’u cael ar eu pentref. Cafodd llifogydd y gaeaf diwethaf effaith ddinistriol ar gynifer o drigolion lleol, ac mae pryderon ynghylch hynny’n digwydd eto y gaeaf hwn yn peri nosweithiau di-gwsg i lawer o drigolion, yn amlwg, ac yn effeithio ar eu hiechyd meddwl. A gaf fi ofyn i chi, Weinidog, o gofio ein bod bellach yn yr hydref, a wnewch chi annog CNC i gyflymu eu hadroddiad ar Ynysgynwraidd a chostau a manteision y cynlluniau yno, gan fod diogelwch, cartrefi a bywoliaeth pobl mewn perygl? Diolch.

Ie, fel y dywedais yn fy ateb cynharach, mae'r un peth yn berthnasol i Sir Fynwy hefyd, felly rwy’n fwy na pharod i atgoffa CNC o hynny. Ond hefyd i ddweud wrth yr Aelod am gysylltu â'r awdurdod lleol i'w hatgoffa y gallant wneud cais am y cyllid hwnnw—ac mae'n gyllid grant 100 y cant.

Weinidog, ysgrifennais atoch yn gynharach y mis hwn, ac rwyf wedi codi mater llifogydd yn y Rhondda sawl gwaith gyda chi yma yn y Senedd. Mae Plaid Cymru yn awyddus i weld ymchwiliad annibynnol ynglŷn â pham fod cymaint o gymunedau yn y Rhondda wedi dod yn agored i lifogydd yn sydyn, ond ni ddylai'r ymchwiliad hwn atal unrhyw fesurau ataliol neu waith adfer. Tybed a allwch ddweud wrth y Senedd beth rydych chi fel Llywodraeth yn bwriadu ei wneud i hyrwyddo a chefnogi cyllid ar gyfer llifddorau. Nawr, rwy’n cyfeirio at lifddorau ac nid gatiau llifogydd, gan fod llifddorau’n fwy cadarn ac amddiffynnol na gatiau llifogydd. Clywais eich ateb yn gynharach, felly tybed a allwch ddweud wrthym beth y mae angen i bobl ei wneud os ydynt yn byw mewn cymuned sy'n agored i lifogydd i sicrhau bod yr awdurdod lleol yn talu neu’n cyfrannu tuag at gost llifddor ar gyfer eu heiddo sy’n agored i berygl llifogydd.

Yr hyn y dylai eich etholwyr ei wneud yw sicrhau eu bod yn cysylltu â'r awdurdod lleol, a all wedyn gyflwyno cais am y cyllid hwnnw. Rwy'n ei ddweud eto: rydym yn rhoi cyllid 100 y cant i’r awdurdod lleol. Nid wyf yn gwybod llawer am lifddorau, ond deallaf eu bod yn gryfach na gatiau llifogydd, a chredaf ei bod yn ddiogel dweud na fyddai gatiau llifogydd byth yn datrys pethau'n hirdymor, ond yn sicr yn y tymor byr, gallant fod o gymorth. Felly, byddwn yn eu hannog i gysylltu â'u hawdurdod lleol, a all sicrhau wedyn eu bod yn gwneud cais am y cyllid hwnnw. Ceir llawer o fesurau lliniaru llifogydd—soniais am fentiau hefyd—ac efallai, wrth ymweld, gellid rhoi'r mesur mwyaf priodol ar waith. Ond i ddechrau, cysylltwch â'r awdurdod lleol.

14:00
Atal Llifogydd yng Ngorllewin Clwyd

4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau i atal llifogydd yng Ngorllewin Clwyd? OQ55485

Diolch. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu 10 prosiect lliniaru perygl llifogydd yng Ngorllewin Clwyd. Mae'r cynlluniau arfordirol ac afonol hyn ar wahanol gamau datblygu, o arfarnu i adeiladu. Mae mwy o wybodaeth am gynlluniau ein rhaglen rheoli perygl llifogydd i'w gweld ar ein gwefan.

Diolch yn fawr iawn am yr ateb hwnnw, Weinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol o'r perygl llifogydd sy'n dal i fodoli yn ardal Towyn a Bae Cinmel, ardal sydd wedi dioddef effeithiau dinistriol llifogydd yn y gorffennol. Gwn fod yr awdurdod lleol yn awyddus iawn i fwrw ymlaen â chynlluniau gwaith yn yr ardal benodol honno i atgyfnerthu ac adnewyddu amddiffynfeydd y traeth, yn enwedig o amgylch ardal Sandy Cove ac ar hyd Bae Cinmel. A gaf fi ofyn pa gynnydd sydd wedi bod o safbwynt Llywodraeth Cymru mewn perthynas â hyn, a phryd y bydd trigolion lleol yn gallu gweld gwaith adeiladu'n digwydd er mwyn buddsoddi yn yr amddiffynfeydd hynny a sicrhau eu bod yn cyrraedd y safon?

Ni allaf roi dyddiad i chi o ran pryd y bydd hynny'n digwydd, ond ar hyn o bryd mae fy swyddogion yn gweithio gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Conwy i ddatblygu achos busnes amlinellol ar gyfer buddsoddi ym Mae Cinmel a Llanddulas. Mae'r cynllun yn cael ei ddatblygu drwy ein rhaglen rheoli risgiau arfordirol, a bydd hwnnw hefyd yn cynnwys y tir blaen yn Nhowyn.

Cefnogi Ffermio yng Nghymru

5. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gefnogi ffermio yng Nghymru am y deuddeg mis nesaf? OQ55480

Diolch. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddais dros £106 miliwn o fuddsoddiad yn ein heconomi wledig dros y tair blynedd nesaf. Bydd hwn yn mynd tuag at ystod o gynlluniau, gan gynnwys cefnogi busnesau fferm i wella eu perfformiad technegol ac amgylcheddol a gwella eu cynaliadwyedd. Mae polisïau Llywodraeth Cymru yn cynnwys cynllun cymorth llaeth diweddar Cymru, lle mae dros £983,000 wedi’i dalu i 160 o ffermwyr a gafodd eu taro galetaf gan gyflwr eithriadol y farchnad oherwydd COVID-19, yn ogystal â Chynllun y Taliad Sylfaenol a gyhoeddwyd gennyf yn ddiweddar ar gyfer 2020.

Weinidog, fel diwydiannau eraill, fel rydych newydd ei ddweud, mae pandemig COVID-19 wedi taro diwydiant ffermio Cymru yn galed, ac felly mae'n hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn sicrhau cynaliadwyedd y diwydiant ffermio yn ei strategaethau adfer ôl-COVID. Rydych wedi cadarnhau y byddwch yn pennu'r rheoliadau drafft ar gyfer adnoddau dŵr eleni, ac ni fydd hynny ond yn ychwanegu mwy o faich a chostau ariannol pan fydd y diwydiant angen amser sylweddol i adfer ar ôl effeithiau COVID-19. Fel y gwyddoch eisoes, mae tystiolaeth o rai cynlluniau gwirfoddol da iawn ledled Cymru. Er enghraifft, prosiect arddangos ffermio sensitif i ddalgylch afon Cymru, sy'n gynllun llwyddiannus iawn a gafodd dderbyniad da gan ffermwyr. O ystyried yr effaith ddifrifol iawn y bydd y rheoliadau hyn yn ei chael ar ffermwyr, a wnewch chi ymrwymo yn awr i ddiddymu’r rheoliadau hyn, ac yn lle hynny, ymrwymo i weithio gyda ffermwyr i edrych ar rai o'r atebion eraill, yn enwedig ar adeg pan fydd yn rhaid i'r diwydiant ymadfer ar ôl COVID-19?

Na, ni wnaf yn eu diddymu. Fel y gwyddoch, nodais y rheoliadau drafft yn gynharach eleni, tua adeg y Pasg. Rwyf wedi ymrwymo i beidio â'u cyflwyno tra'n bod yng nghanol pandemig COVID-19. Fodd bynnag, gallaf hysbysu'r Aelodau, hyd nes 27 Awst, rwy’n credu, roedd CNC wedi sôn wrthyf am dros 100 o ddigwyddiadau llygredd amaethyddol a gadarnhawyd. Felly gallwch weld eu bod yn dal i ddigwydd. Rwy'n ymwybodol fod llawer o waith gwirfoddol da yn digwydd, ac rwy'n parhau i gael gwybodaeth amdano ac mae swyddogion yn sicr yn gweithio gyda'r undebau ffermio i wrando ar yr hyn y maent yn ei ddweud mewn perthynas â mesurau gwirfoddol. Cefais gyfarfod ddydd Llun, rwy'n credu, gydag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, a mynegais fy mhryder ynghylch y nifer barhaus o achosion o lygredd amaethyddol a gadarnhawyd eleni—ac rwy’n dweud ‘a gadarnhawyd’ oherwydd, wrth gwrs, yn ystod pandemig COVID-19, nid oedd swyddogion CNC yn gallu mynd allan cymaint ag y byddent fel arfer.

Mae cyn brif economegydd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, Séan Rickard, yn amcangyfrif y gallai un o bob tair fferm roi'r gorau iddi o fewn pum mlynedd pe bai Brexit heb gytundeb yn digwydd. Felly y ffordd orau y gall Paul Davies gefnogi ffermio yng Nghymru yw drwy lywio ei blaid i ffwrdd oddi wrth y canlyniad trychinebus hwnnw. Ffordd arall yw drwy gefnogi ffermio cynaliadwy sy'n sicrhau lles y cyhoedd am arian cyhoeddus. Weinidog, ym mis Mehefin, gofynnais i chi ynglŷn â cheisiadau cynllunio ar gyfer ffermydd ieir, yn enwedig y rhai ym Mhowys, a dywedasoch fod gweithgor amaethyddiaeth ddwys cynllunio gwlad a thref yn edrych ar ystyriaethau ar gyfer datblygiadau newydd ym maes dofednod. Rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol fod fferm arall gyda 120,000 o ieir bwyta newydd gael ei chymeradwyo ger Llangadfan, ac o’r 96 cais am ffermydd ieir a dderbyniwyd gan Gyngor Sir Powys rhwng Ebrill 2017 ac Ebrill 2020, mae 75 wedi’u cymeradwyo a dim ond tri sydd wedi'i wrthod. Felly, a gaf fi ofyn am y wybodaeth ddiweddaraf am weithgareddau'r gweithgor, os gwelwch yn dda?

14:05

Diolch. Ac os caf ailadrodd yr hyn a ddywedoch chi am Brexit heb gytundeb, nid wyf yn credu bod unrhyw amheuaeth gan unrhyw un ynghylch y niwed y byddai hynny'n ei achosi i'n sector amaethyddol yma yng Nghymru. Ac mewn perthynas â'ch pwynt am ffermio cynaliadwy, mae hynny'n sicr yn ganolog i'r camau rydym yn eu cymryd i gyflwyno'r Papur Gwyn y cyfeiriais ato mewn ateb cynharach i Llyr Huws Gruffydd.

Ar eich prif bwynt, rydym yn edrych ar sut y mae awdurdodau cynllunio lleol yn cynllunio ar gyfer datblygiadau dofednod newydd, fel y gwyddoch, ac rydym wedi cynnull y gweithgor amaethyddiaeth ddwys cynllunio gwlad a thref. Mae'r gweithgor wedi cyfarfod deirgwaith hyd yma. Roeddent i fod cyfarfod yn ôl ym mis Mawrth ac yn amlwg, mae'r gwaith wedi'i ohirio rywfaint, ond yn dilyn yr ymatebion cyfredol sy'n ymwneud â'r argyfwng, gallaf eich sicrhau y bydd deialog â chynghorwyr ar y mater hwn yn ailddechrau ar fyrder.

Y Sector Amaethyddol yn y Canolbarth

6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r sector amaethyddol yn y canolbarth? OQ55487

Diolch. Mae ffermwyr yng nghanolbarth Cymru wedi derbyn gwerth dros £84.3 miliwn mewn taliadau cynllun y taliad sylfaenol. Yn ogystal â hyn, roedd cynllun cymorth llaeth Cymru hefyd ar gael, ac mae wedi talu dros £900,000 hyd yma. Mae ein gwasanaeth Cyswllt Ffermio wedi parhau i gefnogi ffermwyr, gan ddarparu cyngor a hyfforddiant ar-lein, ac wedi gallu cynnig cymorth dros y ffôn hefyd yn ystod y pandemig COVID-19.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Ni fydd llawer o ffermwyr yn gofyn am gymorth na chefnogaeth gyda materion iechyd meddwl, am nifer o resymau sy'n hysbys, ond roedd gennyf ddiddordeb mewn arolwg diweddar gan Tir Dewi, yr elusen, ar ffermio ym Mhowys yn benodol. Yn ogystal â nodi'r rhesymau niferus pam na fyddai ffermwyr yn troi at y math hwnnw o gymorth, am resymau rwy'n siŵr y byddech chi a mi'n gyfarwydd â hwy, dywedodd 58 y cant nad oeddent yn gwybod pa gymorth a oedd ar gael. Felly, tybed beth rydych yn ei wneud gyda'ch cyd-Weinidog, y Gweinidog iechyd, i sicrhau bod gwasanaethau iechyd meddwl yn cyrraedd cymunedau ffermio yn y Gymru wledig, megis yn fy etholaeth i yn Sir Drefaldwyn, oherwydd fel y gwyddom, mae llawer yn y sector amaethyddol yn gweithio ar eu pen eu hunain ac mae hwn yn fater pwysig iawn.

Rydych yn llygad eich lle ac rydych yn gwneud pwynt da iawn am bobl nad ydynt yn gofyn am help pan fyddant ei angen yn fawr. Mae'n siomedig iawn clywed ffigur o 58 y cant ac yn sicr nid dyna'r math o ffigur y byddwn wedi'i ddisgwyl. Rwy'n cyfarfod yn rheolaidd â'r elusennau sy'n helpu gyda materion iechyd meddwl a chymorth mewn perthynas ag amaethyddiaeth. Rwy'n siŵr fod yr Aelod yn ymwybodol ein bod wedi rhoi arian ychwanegol i Sefydliad DPJ, er enghraifft, i'w helpu i hyfforddi pobl i gynorthwyo ffermwyr. Felly, mae'n destun pryder gwirioneddol fod y ffigur hwnnw'n rhywbeth sy'n amlwg yn eich barn chi oherwydd rwyf wedi fy synnu'n fawr, oherwydd, unwaith eto, yn ystod pandemig COVID-19 rydym wedi gweld cynnydd yn nifer y bobl sydd wedi defnyddio'r llinellau cymorth iechyd meddwl sydd wedi'u rhoi ar waith gan yr elusennau hynny, gan gynnwys Sefydliad DPJ a Tir Dewi. Ond y tro nesaf y byddaf yn mynychu—. Mae fy swyddogion yn cyfarfod yn rheolaidd â grŵp o'r holl elusennau, ac un o fanteision cyfarfodydd ar-lein a chyfarfodydd rhithwir yw y gallwch gael mynediad atynt yn llawer haws, ac yn sicr mynychais ddau neu dri chyfarfod, rwy'n credu, dros y misoedd diwethaf, ond mae'n rhywbeth y byddaf yn tynnu sylw ato eto. Ond drwy ein cylchlythyr Gwlad, drwy ein gwasanaeth Cyswllt Ffermio, rwy'n credu ein bod yn sicrhau bod ffermwyr yn ymwybodol o'r help a'r cymorth sydd ar gael, a byddwn yn eu hannog i ofyn am help pan fyddant ei angen.

Mapiau Llifogydd

7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gywirdeb mapiau llifogydd Cymru? OQ55515

Diolch. Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n gyfrifol am gynnal a diweddaru mapiau llifogydd Cymru. Ni all unrhyw fodel fod 100 y cant yn gywir, ond caiff y mapiau eu mireinio'n gyson wrth i ddata a methodoleg newydd ddod ar gael. Bydd mapiau llifogydd newydd yn cael eu lansio ochr yn ochr â'n strategaeth genedlaethol ar gyfer llifogydd yr hydref hwn, wedi'u dilyn gan fap llifogydd newydd ar gyfer cynllunio yn 2021.

Wel, diolch i chi am yr ymateb yna, ond wrth ddelio â gwaith achos yn ddiweddar mi ddes i i sylweddoli bod 90 y cant o afonydd Cymru heb y gauges neu'r mesuryddion i fesur llif y dŵr yn yr afonydd hynny. Nawr, dyna'r data sy'n cael ei ddefnyddio i gynhyrchu'r mapiau yma ar draws Cymru, a'r mapiau hynny, wrth gwrs, sy'n sail ar gyfer nifer o benderfyniadau cynllunio ymhob rhan o Gymru a nifer o benderfyniadau ynglŷn â phobl yn gallu cael mynediad at yswiriant ar gyfer eu tai, neu ar gyfer eu busnesau hefyd. Ond os nad yw'r data gwreiddiol yna ddim yn gydnerth neu, wrth gwrs, i rannau helaeth o Gymru, ddim ar gael, mae yna berygl bod y penderfyniadau pellgyrhaeddol yna yn cael eu gwneud ar sail wallus.

Nawr, ydych chi'n hyderus, felly—a dyna fy nghwestiwn i—ydych chi'n hyderus, gyda llif 90 y cant o afonydd Cymru ddim yn cael ei fesur a'i fonitro, fod yna ddata digonol i greu mapiau llifogydd dibynadwy yng Nghymru? Ac os nad ŷch chi, beth ŷch chi'n ei wneud i fynd i'r afael â hynny? Oherwydd, gyda chymaint o ddiffyg data, y perygl yw mai beth rŷn ni'n gweld Cyfoeth Naturiol Cymru yn ei wneud i bob pwrpas yw rhoi bys yn y gwynt.

14:10

Byddaf yn sicr yn mynd yn ôl i sicrhau nad yw hynny'n wir. Ar hyn o bryd, mae gennym y map cyngor datblygu, a bydd y map llifogydd ar gyfer cynllunio yn cymryd lle hwnnw. Felly, mae'n bwysig iawn, fel y dywedwch, fod y system newydd honno'n seiliedig ar y data gorau posibl. Rwyf wedi rhoi cymorth ariannol llawn i CNC ac i awdurdodau lleol, ynghyd â'm cyd-Aelod Julie James, i greu'r gronfa ddata asedau genedlaethol newydd a map llifogydd Cymru. Felly, mae'n gwbl hanfodol fod y data'n gywir. Felly, byddaf yn bendant yn mynd yn ôl i wneud yn siŵr.

Grantiau Datblygu Gwledig

8. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu asesu llwyddiant y rhaglen Grantiau Datblygu Gwledig? OQ55502

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynllun gwerthuso cynhwysfawr ar gyfer y rhaglen datblygu gwledig. Mae gwaith yn mynd rhagddo i asesu effaith a chanlyniadau cynlluniau unigol, a bydd y Cynllun Datblygu Gwledig yn ei gyfanrwydd hefyd yn cael ei werthuso yn erbyn pob un o'r blaenoriaethau y cytunwyd arnynt.

Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol iawn fod adroddiad Archwilio Cymru, 'Sicrhau Gwerth am Arian Grantiau Datblygu Gwledig', a gyhoeddwyd ym mis Mehefin, wedi dod i'r casgliad damniol fod Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu £53 miliwn o gronfeydd datblygu gwledig heb sicrhau y byddai'r grantiau'n sicrhau gwerth am arian. Ymhlith canfyddiadau eraill, canfu'r adroddiad hefyd fod Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu grantiau unigol heb ddangos digon o ystyriaeth o werth am arian ac wedi rhoi arian ychwanegol i brosiectau presennol heb ganfod a oeddent yn llwyddiannus mewn gwirionedd.

Nawr, ar 8 Medi, rhyddhaodd Llywodraeth Cymru gyllid pellach ar gyfer grantiau datblygu lleol, ac mae hynny i'w groesawu'n fawr. Felly, Weinidog, fy nghwestiwn yw: sut y gallwn fod yn sicr y bydd y don newydd o wariant ar grantiau datblygu lleol yn effeithiol pan fo'n amlwg o hyd nad yw'n ymddangos bod yr archwiliadau a'r gwiriadau angenrheidiol mewn perthynas ag atebolrwydd yn bodoli?

Diolch. Mae swyddogion wedi cydnabod nad oedd y dull o brofi gwerth am arian nifer o brosiectau Cynllun Datblygu Gwledig yn y gorffennol yn cyrraedd y safon ac fel rhan o'n hadolygiad parhaus ar gyflawniad y Cynllun Datblygu Gwledig, roedd swyddogion eisoes wedi nodi'r materion a ddisgrifiwyd gan swyddfa archwilio Cymru yn yr adroddiad y sonioch chi amdano, ac roeddent eisoes wedi cymryd camau i'w hunioni. Roedd casgliadau'r adroddiad yn rhoi canllawiau defnyddiol i sicrhau bod yr holl gamau angenrheidiol yn cael eu gweithredu.

Fel roedd yr adroddiad yn ei ddweud yn glir iawn, y broblem yw na chafodd gwerth am arian ei brofi'n briodol wrth werthuso prosiectau, ac mae'r holl brosiectau hynny wedi'u hadolygu i sicrhau eu bod, yn ymarferol, yn sicrhau gwerth am arian. Roedd Archwilio Cymru yn cynnwys astudiaethau achos dienw, felly nid wyf am danseilio'r broses o gyflawni'r prosiectau hyn drwy nodi'n union pa brosiectau ydynt. Wedi dweud hynny, rwyf fi a'm swyddogion, wrth gwrs, yn cydnabod bod angen craffu arnynt yn briodol ar yr adeg iawn ac yn yr amgylchiadau cywir, a bydd swyddogion yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus er mwyn darparu tystiolaeth ar y dull a ddefnyddiwyd i asesu gwerth am arian drwy'r Cynllun Datblygu Gwledig. Ond fel y dywedais, roedd y gwaith hwnnw eisoes wedi dechrau cyn adroddiad y swyddfa archwilio, ac roedd hynny o gymorth i ni wedyn gyda'r cyhoeddiad ynglŷn â pha brosiectau y byddem yn eu cefnogi yn y cylch nesaf o gyllid gyda phrosiectau'r Cynllun Datblygu Gwledig.

Y Sector Bwyd a Ffermio

9. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r goblygiadau i'r sector bwyd a ffermio yng Nghymru pe na bai Llywodraeth y DU yn gallu sicrhau cytundeb masnach yr UE? OQ55483

Diolch. Ers cyhoeddi canlyniad y refferendwm ym mis Mehefin 2016, rwyf wedi bod yn gweithio gydag aelodau o fy ngrŵp rhanddeiliaid bord gron i ystyried pob senario bosibl, gan gynnwys gadael ar delerau Sefydliad Masnach y Byd. Rydym yn parhau i archwilio'r opsiynau ar gyfer cefnogi'r sectorau allweddol hyn pe baem yn gadael yr UE heb gytundeb masnach rydd.

14:15

Diolch, Weinidog. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth o gwbl eich bod yn gweithio bob awr o'r dydd i sicrhau ein bod yn cael, a'n bod yn rhoi pwysau ar Lywodraeth y DU i sicrhau, cytundeb masnach da er budd Cymru yn ogystal ag er budd gweddill y DU, ond yn ystod ymweliad â fferm yng nghanolbarth Cymru yr wythnos diwethaf, adroddwyd bod un o Weinidogion Llywodraeth y DU, Mr Jayawardena, wedi dweud ei fod yn hyderus y bydd masnach yn parhau â'r UE yn wir, ac nad oedd angen inni boeni, ac ychwanegodd yn optimistaidd y byddai cytundebau da—cytundebau da—yn cael eu llunio'n fyd-eang gyda gwledydd eraill, gan gynnwys UDA.

Felly, o gofio ein bod bellach yn gwybod bod Llywodraeth y DU yn paratoi ar gyfer cytundeb masnach tebyg i un Awstralia â'r UE—mewn geiriau eraill, dim cytundeb masnach ar delerau Sefydliad Masnach y Byd—a fydd yn llwyr ddinistrio ein ffermwyr defaid a sectorau eraill yn Ogwr a ledled Cymru, a bod bygythiad difeddwl yr un Lywodraeth i dorri cyfraith ryngwladol yn golygu y gall yr Unol Daleithiau ei hun, yn ogystal â gwledydd llai, wthio Llywodraeth annibynadwy'r DU i gefn y ciw mewn perthynas â chytundebau masnach, a oedd Gweinidog Boris Johnson yn siarad synnwyr ar ei daith undydd i ganolbarth Cymru neu a oedd yn siarad drwy ei het?

Fe fyddwch wedi fy nghlywed yn dweud mewn atebion cynharach fy mod i a'm gweinidog cyfatebol yn yr Alban wedi cael ein cyhuddo o fod ag ymagwedd 'gwydr hanner gwag' tuag at hyn, ond yn amlwg, mae'n fater sy'n peri pryder mawr, gan mai 15 wythnos yn unig sydd cyn diwedd cyfnod pontio'r UE. Ond tra bo gobaith o hyd o ddod i gytundeb â'r UE, bydd fy swyddogion yn parhau i weithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU. Gwnaethom hynny'n glir iawn yn y cyfarfod ddydd Llun gydag Ysgrifennydd Gwladol DEFRA a Gweinidogion eraill. Mae'n bwysig iawn eu bod yn rhannu'r holl wybodaeth y gallant ei rhannu gyda ni fel ein bod yn gwybod yn union pa drafodaethau sy'n cael eu cynnal. Yn amlwg, mae fy nghyd-Aelod Eluned Morgan yn arwain ar y trafodaethau masnach ar ran Llywodraeth Cymru, ac er y gallai'r negodiadau gyda gweddill y byd gynnig rhai cyfleoedd, rwy'n gwybod mai'r UE yw ein marchnad fwyaf sylweddol o bell ffordd o hyd. Felly, i mi ac i fy holl gyd-Weinidogion, rydym wedi dweud yn glir iawn mai dyna ddylai fod yn ffocws uniongyrchol i Lywodraeth y DU.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Yr eitem nesaf yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ac mae'r cwestiwn cyntaf i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog ac i'w ofyn gan Jenny Rathbone. 

Targedau Lleihau Allyriadau Carbon

1. Pa strategaeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei chymhwyso i benderfyniadau cynllunio canol tref a dinas fel bod ei thargedau lleihau allyriadau carbon yn cael eu hystyried? OQ55517

Mae polisi cynllunio cenedlaethol yn datgan bod ein targedau carbon yn berthnasol yn y broses gynllunio. Maent hefyd yn cymhwyso'r dull canol trefi yn gyntaf sy'n pennu y dylid lleoli datblygiadau manwerthu a masnachol yng nghanol ein trefi a'n dinasoedd. Mae creu cymunedau gwyrddach a glanach yn rhan annatod o'n gwaith trawsnewid trefi.

Rwy'n cefnogi'r datganiad hwnnw'n llwyr, a diolch i chi amdano, ond mae'n amlwg bod y dirwedd yn newid yn eithriadol o gyflym. Mae'r pandemig wedi amlygu llawer o holltau yng nghanol y trefi a'r dinasoedd rydym wedi'u cynllunio, nad ydynt bellach yn addas at y diben. Nid yn unig y gellir cyflawni swyddi swyddfa gartref mor hawdd ag yng nghanol y dref—ac mae pobl fel Cymdeithas Adeiladu'r Principality eisoes wedi dweud bod angen llai o le swyddfa arnynt ar gyfer eu gweithrediadau pencadlys—ond mae hefyd angen inni greu mwy o le ar gyfer cerdded a beicio i alluogi pobl i adael y car gartref yn ogystal â gwella lonydd trafnidiaeth gyhoeddus.

Yn yr un modd, mae mwy o bobl yn prynu ar-lein, rhywbeth a oedd yn digwydd beth bynnag, ond yn awr, gyda'r pandemig, mae pobl yn llai tebygol o fod eisiau mynd i siop i brynu beth bynnag y maent ei angen, ac mae'r buddsoddiad hapfasnachol mewn adeiladau llety pwrpasol ar gyfer myfyrwyr bellach yn ymddangos yn fuddsoddiad hapfasnachol peryglus iawn. Ond mae'r holl bethau hyn eisoes wedi cynhyrchu allyriadau carbon wrth eu creu, felly roeddwn yn meddwl tybed beth yw eich barn am y cysyniad 15 munud mewn perthynas â phenderfyniadau cynllunio, cysyniad sy'n cael ei gymhwyso nid yn unig ym Mharis a Milan, ond hefyd mewn dinasoedd fel Doncaster a Chaergrawnt, i sicrhau bod yr holl wasanaethau bob dydd y mae pobl eu hangen o fewn 15 munud i ble maent yn byw. Felly—

14:20

Mae hynny—. Mae eich amser ar ben, felly rydych wedi gofyn eich cwestiwn yn awr.

Iawn. Diolch yn fawr iawn. Felly, sut y mae'r rheoliadau cynllunio'n cyd-fynd â'r angen i addasu swyddfeydd a mannau siopa gwag at ddibenion gwahanol, creu llwybrau cerdded a beicio mwy pwrpasol, ac yn benodol, eich ymateb i'r hyn yr ymddengys eu bod yn fuddsoddiadau mewn llety pwrpasol i fyfyrwyr sy'n adeiladau gwag mewn gwirionedd?

Diolch i Jenny Rathbone am y cwestiwn cynhwysfawr hwnnw, sy'n ymdrin ag amrywiaeth o faterion pwysig, ac mae'n bosibl fod llawer ohonynt yn y cefndir cyn y pandemig, ond yn sicr mae'r angen i fynd i'r afael â hwy wedi cynyddu o ganlyniad.

O ran rhagweld rhai o'r heriau sydd o'n blaenau a sut y mae angen inni wneud pethau'n wahanol, cyhoeddwyd 'Adeiladu Lleoedd Gwell' cyn yr haf, ac mae'n edrych ar lawer o'r materion y mae'r Aelod yn eu codi yn ei chwestiwn. Credaf fod y cysyniad dinas 15 munud hwn yn sicr yn un diddorol iawn, ac yn un y mae angen ei archwilio mewn gwirionedd, nid yn unig o ran ein gwaith cynllunio ond ar draws y Llywodraeth drwy'r holl ysgogiadau sydd ar gael inni.

Felly, bydd yn cymryd—o ran y gwaith trawsnewid trefi, yr holl faterion a gyhoeddwyd gennym pan gyhoeddasom y gwaith hwnnw a'r dull canol trefi yn gyntaf ym mis Ionawr, roeddent yno beth bynnag, ond credaf fod yr angen i fynd i'r afael â hwy yn bwysicach fyth erbyn hyn. Felly, mae pethau y gallwn eu gwneud o ran penderfyniadau radical am eiddo gwag. A oes angen i ni fod yn feiddgar a bod yn ddewr a meddwl na ddylem eu prynu'n unig er mwyn creu mwy o eiddo neu fwy o ofod adeiladu, ond ein bod yn creu mwy o fannau gwyrdd yn ein trefi a'n canolfannau cymunedol mewn gwirionedd i'w cysylltu'n well?

Felly, mae'n rhywbeth sydd—. Yn bendant, credaf fod yr Aelod wedi codi nifer o faterion a phethau rydym yn eu harchwilio o ran sut rydym yn edrych ar ganol trefi yn awr, canol dinasoedd—nid yw'n ymwneud yn unig â brics a morter, mae'n ymwneud â'r holl brofiad o ran effeithlonrwydd ynni adeiladau, a sut y mae'n berthnasol yn yr hyn rydym yn ei weld fel y normal newydd a chreu'r canolfannau cymunedol hyblyg a all gyfuno amrywiaeth o elfennau sector cyhoeddus, sector preifat a sector gwirfoddol, ond hefyd y modd rydym yn cysylltu'r rhain a'u gwneud yn fwy hygyrch i gymunedau ledled Cymru. Rwy'n fwy na pharod i gael sgwrs bellach gyda'r Aelod ynglŷn â'i syniadau yn y maes hwn.

Weinidog, mae Jenny Rathbone yn gwneud pwyntiau da. Mae Llywodraeth Cymru yn aml yn sôn am adeiladu nôl yn well ar ôl y pandemig, a chredaf fod diwygio cynllunio a newid y ffordd y defnyddir y system gynllunio i annog cynaliadwyedd yn gwbl allweddol i hyn. Dylid mesur allyriadau carbon pob cais.

Crybwyllais gais o'r blaen ar gyfer gorsaf wefru cerbydau trydan ger Afon Gwy yn Nhrefynwy, y porth i Gymru, cais a wrthodwyd am ei fod yn benderfynol o fynd yn groes i nodyn cyngor technegol 15 y canllawiau llifogydd. Nid yw'r safle'n cael ei gynnig ar gyfer tai na diwydiant ac nid yw erioed wedi dioddef llifogydd mewn gwirionedd. Cafodd y penderfyniad hwnnw ei wneud yn y gorffennol, ond mae'n fy nharo fod mannau gwefru, ynghyd â seilwaith gwyrdd tebyg, yn rhywbeth y dylem ei hyrwyddo drwy'r system gynllunio. A allwch chi edrych ar ffyrdd y gellir diwygio'r system ceisiadau cynllunio—ac yn wir, y system apeliadau—er mwyn cefnogi seilwaith gwyrdd, a bod cyfleusterau megis mannau gwefru cerbydau trydan yn haws o lawer i'w defnyddio nag ar hyn o bryd, fel y gallwn yn y dyfodol gael y math hwnnw o seilwaith gwyrdd cynaliadwy y mae trefi fel Trefynwy yn fy etholaeth i a threfi ac ardaloedd eraill ledled Cymru eu hangen yn ddybryd?

A gaf fi ddiolch i Nick Ramsay am ei gwestiwn? Fe fydd yr Aelod yn ymwybodol na allaf wneud sylwadau ar geisiadau unigol ond yn fwy cyffredinol, mae cefnogaeth i seilwaith gwyrdd wedi'i chynnwys yn 'Polisi Cynllunio Cymru'. Mae fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, yn ysgwyd ei ben i ategu sut y mae hwn yn rhywbeth rydym yn awyddus iawn i'w ddatblygu fel Llywodraeth, ond hefyd, o ran yr agwedd gyfannol at y pethau hyn, os edrychwn ar sut rydym yn bwriadu mynd i'r afael ag effeithlonrwydd adnoddau er mwyn lleihau ein hôl troed carbon. Oherwydd gwyddom fod y nwyddau a'r cynhyrchion a ddefnyddiwn yn cyfrannu 45 y cant o allyriadau, felly ni fyddwn yn cyrraedd ble mae angen inni fod oni bai ein bod yn mynd i'r afael â'r ffordd rydym yn defnyddio pethau. Felly, pan fyddwn yn edrych yn awr, gan weithio gyda phartneriaid awdurdodau lleol, ar leoliad canolfannau ailbrosesu pellach i'n galluogi i ddefnyddio'r deunydd eildro o ansawdd uchel sydd gennym eisoes yng Nghymru, a'i ailbrosesu a'i ailddefnyddio eto, i sicrhau y gallwn edrych, mewn gwirionedd, ar sut y gallwn eu lleoli gyda phethau eraill sy'n effeithlon o ran eu defnydd o ynni megis cynyddu seilwaith mannau gwefru cerbydau trydan yn ogystal â solar a phethau eraill hefyd. Felly, mae'r Aelod yn codi nifer o bwyntiau rydym yn awyddus i'w harchwilio, ac edrych ar ymyriadau ymarferol yn y tymor byr i'r tymor canolig.

Y Gweithgor Amaethyddiaeth Ddwys Cynllunio Gwlad a Thref

2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am waith y Gweithgor Amaethyddiaeth Ddwys Cynllunio Gwlad a Thref? OQ55488

Diolch, Russell George. Mae'r gweithgor yn archwilio sut y gall awdurdodau cynllunio lleol gynllunio ar gyfer datblygiadau amaethyddol newydd fel siediau dofednod. Bydd yn rhoi cyngor ar faterion sydd i'w hystyried gan bolisïau cynlluniau datblygu a'r ystyriaethau perthnasol sy'n gysylltiedig â phenderfynu ar y ceisiadau cynllunio. Mae'r ymateb i'r pandemig wedi gohirio'r gwaith ond bydd yn ailddechrau cyn bo hir.

14:25

Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn fy marn i, mae angen canllawiau wedi'u diweddaru arnom ar frys ar ffurf nodyn cyngor technegol, er mwyn cynorthwyo awdurdodau lleol i asesu ceisiadau cynllunio ar gyfer unedau dofednod dwys neu siediau ieir—mae ganddynt enwau gwahanol. Mae hynny'n sicr yn wir ym Mhowys, lle rwy'n gobeithio y byddwch yn ymwybodol fod cynnydd sylweddol wedi bod yn nifer yr unedau sy'n cael eu hadeiladu—roeddwn yn falch fod Aelod arall wedi codi hyn yn gynharach gyda'ch cyd-Aelod, Lesley Griffiths. Mae angen diweddaru'r canllawiau oherwydd mae pryder gwirioneddol ynghylch effeithiau lefelau ffosffad uchel o unedau dofednod dwys, materion yn ymwneud â llygredd aer, llygredd dŵr a chynlluniau rheoli tail. Nawr, fe ysgrifennoch chi ataf yr wythnos diwethaf ac fel y dywedwch, mae'n ymddangos na fydd llawer o weithredu cyn dechrau'r flwyddyn nesaf, ond rwyf am ddweud bod hynny'n siomedig, Weinidog. Rwy'n awgrymu ein bod angen mwy o weithredu brys. Pa sicrwydd y gallwch ei roi i mi, gydag amserlenni, o ran pryd y gwelwn y canllawiau angenrheidiol ar waith?

Russell, rwy'n rhannu eich pryderon, ac rydym yn gweithio—. Mae'n siomedig iawn nad oedd y gweithgor, a oedd i fod i gynnal ei bedwerydd cyfarfod ym mis Mawrth, ychydig cyn y cyfyngiadau symud, wedi gallu gwneud hynny. Maent yn bwrw ymlaen yn awr, felly yn amlwg rydym eisiau iddynt wneud eu gwaith cyn gynted ag sy'n bosibl; rydym eisiau sicrhau bod yr holl wybodaeth gywir gennym. Ar hyn o bryd, lle mae angen caniatâd cynllunio ar gyfer siediau dofednod newydd, mae'n rhaid iddynt ystyried manteision economaidd ac effeithiau amgylcheddol y cynnig, gan gynnwys effaith gronnol y nifer gynyddol o ddatblygiadau. Felly, mae rhai o'r pethau y sonioch chi amdanynt eisoes ar waith, ond rwy'n gwbl ymwybodol fod angen inni edrych eto ar y materion sy'n ymwneud â llygredd y cyrsiau dŵr ac yn y blaen. Byddaf yn gweithio gyda fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths i sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng polisïau arallgyfeirio ffermydd a diogelu'r amgylchedd, sef y ddwy agwedd sy'n cystadlu â'i gilydd yma. Felly, dyna'n union y mae'r gweithgor yn edrych arno, gyda'r bwriad o adolygu polisi cynllunio yng ngoleuni eu canfyddiadau, a gallaf eich sicrhau ein bod wedi eu hannog i wneud eu gwaith cyn gynted ag sy'n bosibl.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Diolch, Lywydd. Weinidog, rydym yn debygol o weld newidiadau hirdymor i'r farchnad dai yn dilyn COVID-19, ac nid o reidrwydd er gwell. Efallai y bydd pobl sy'n gallu fforddio gwneud hynny eisiau prynu tai mawr gyda mannau agored a gerddi a thai nad oes raid iddynt fod mor agos at y swyddfa, a gallai hynny achosi i lawer o bobl gael eu prisio allan o'u cymunedau. Mae hynny'n debygol o gael ei brofi fwyaf yn ein cymunedau gwledig, ac eto nid oes gennym gynllun gweithredu o hyd i atal y sgandal fod perchnogion ail gartrefi yn camfanteisio ar fylchau yn y gyfraith er mwyn osgoi talu treth gyngor ychwanegol, ac nid oes gennym system gynllunio o hyd sy'n gallu cyfyngu ar berchnogaeth ail gartrefi, cartrefi gwyliau nac eiddo Airbnb. A gaf fi ofyn i chi, Weinidog, pa bryd y gwelwn gamau i ddiwygio'r system gynllunio a rhoi'r grym i awdurdodau lleol sicrhau bod y farchnad dai ôl-COVID yn gweithio i bobl ifanc a'n cymunedau gwledig?

Diolch, Delyth. Rwy'n rhannu eich pryder ynghylch prisio pobl leol allan o'r farchnad, ac nid mewn cymunedau gwledig yn unig, mae hynny'n digwydd mewn cymunedau ledled Cymru, wrth i Gymru ddod yn lle braf iawn i fyw ynddo. Ond mae eich cwestiwn yn codi tri mater gwahanol hyd y gwelaf i. Mae'r cyntaf, mewn gwirionedd, yn ymwneud â phobl sydd eisiau dod i fyw a gweithio yng Nghymru, ond sy'n gallu fforddio tai gwell oherwydd eu bod efallai'n adleoli o ran ddrutach o'r Deyrnas Unedig. Ond mae'r bobl hynny'n dod i Gymru i fyw a dod yn rhan o'n cymunedau, nid ydynt yn berchnogion ail gartrefi; maent yn bobl sy'n dod yma i ddod yn rhan o'n cymunedau. Serch hynny, credaf ei bod yn iawn i ddweud bod rhywfaint o dystiolaeth ar hyn o bryd—tystiolaeth anecdotaidd—eu bod yn gwthio prisiau i fyny, ac rydym yn sicr yn ymwybodol o hynny ac yn edrych ar hynny.

Mae'r ail fater yn ymwneud â phobl yn prynu ail gartref y maent hwy eu hunain eisiau ei ddefnyddio, ac fe fyddwch yn ymwybodol ein bod, yn ystod yr ymateb i'r pandemig, wedi adolygu'r trothwy ar gyfer rhoi cymorth grant i bobl, felly rydym yn awr yn edrych i weld a allwn adolygu'r trothwy ar gyfer newid o dreth gymunedol i ardrethi busnes. Felly, rydym wrthi'n edrych ar hynny ar hyn o bryd. Byddwn yn cael gwybodaeth yn ôl gan ein hawdurdodau lleol ynglŷn â faint o bobl yr effeithiwyd arnynt gan y newid, ac a yw hynny'n cael unrhyw effaith sylweddol ar nifer y bobl sy'n gwneud y newid. Ni fydd hynny'n newid y ffordd y maent yn defnyddio eu cartrefi, ond mae'n newid faint o dreth y maent yn ei thalu ac yn y blaen, felly rydym yn edrych ar hynny. A gwn fod y Prif Weinidog wedi cael cyfarfod gyda'ch cyd-Aelod chi a minnau, Siân Gwenllian, yn gynharach heddiw, lle cawsant drafodaeth go gadarn, rwy'n credu, ac rydym—. Gwn fod y drafodaeth honno'n canolbwyntio ar nifer o bethau y gellir eu gwneud i ganiatáu i bobl leol gael tai fforddiadwy yn eu cymunedau. Ddoe, yn ystod fy natganiad, cynigiais gyfarfod â Llyr, ac rwy'n fwy na bodlon bwrw ymlaen â hynny. Gwn fod y Prif Weinidog wedi cyfarfod â Siân Gwenllian y bore yma. Felly rwy'n awgrymu bod grŵp bach ohonom sydd â phryderon tebyg yn dod at ein gilydd, ac fel y dywedais ddoe yn y datganiad, nid oes gennym fonopoli ar syniadau da, felly rydym yn hapus iawn i'w archwilio.

14:30

Rwy'n croesawu hynny'n fawr; diolch, Weinidog. Ac rwy'n siŵr y byddwn yn awyddus iawn i weithio gyda chi ac i weld pa atebion sydd i'w cael. Felly, diolch am eich ateb ar hynny.

Nawr, i droi at rai sylwadau a wnaethoch ychydig yn ôl—credaf mai'n fuan ar ôl i chi gael y portffolio oedd hynny. Roeddech wedi cyfeirio at ystadau newydd a oedd wedi dod drwy'r system gynllunio fel rhai a allai greu problemau ar gyfer y dyfodol. Ar y pryd, gwn ein bod ni fel plaid wedi cytuno â chi, a bod sawl enghraifft o sut y mae'r mater hwn yn dal yn broblem: ychydig i lawr y ffordd o'r fan lle rydych chi nawr yn y Senedd, ni all perchnogion werthu eu fflatiau oherwydd bod y bobl a adeiladodd yr adeiladau yn gwrthod datrys problemau gyda hwy; achosion o dwyll mewn perthynas â chartrefi lesddaliad nad yw ond yn awr yn cael eu hymchwilio gan yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd; a'r safleoedd busnes diddiwedd ledled Cymru, fel yr un yng Nghoety ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle mae'r datblygwr yn dal i gael caniatâd i adeiladu mwy o gartrefi oherwydd bod yr awdurdod, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn ddi-rym i ddefnyddio eu perfformiad gwael blaenorol fel rheswm dros wrthod caniatâd yn y dyfodol.

Nawr, byddai'n un peth pe bai'r system yn gallu darparu tai fforddiadwy, ond mae'r system gynllunio'n sicrhau, os bydd awdurdod yn mynd yn rhy fawr i'w esgidiau, y gall yr arolygydd dorri nifer y tai fforddiadwy i sicrhau bod yr elw a warentir i ddatblygwyr mawr yn dal i ddod, ac elw y credwn ni, ym Mhlaid Cymru, y dylai fod yn destun treth ffawdelw. Felly, carwn ofyn, Weinidog, pryd fydd y Llywodraeth yn cyfyngu ar bwerau'r arolygydd cynllunio ac yn dweud wrth yr arolygydd cynllunio'n uniongyrchol mai polisi Llywodraeth Cymru yw cynyddu nifer y tai fforddiadwy—oherwydd gwn eich bod am wneud hynny—ac na ddylent fod yn ceryddu awdurdodau lleol sy'n ceisio sicrhau bod datblygiad yn digwydd er budd y gymuned ac nid cyfranddalwyr y datblygwyr.

Diolch, Delyth. Unwaith eto, rydych wedi ymdrin â mwy nag un mater yn eich cwestiynau a'ch sylwadau. Felly, ar yr un cyntaf, lesddaliadau, rydym wedi cael adroddiad Comisiwn y Gyfraith yn awr, ac mae nifer o bethau yno y mae angen i Lywodraeth y DU eu gwneud, ond mae rhai pethau y gallwn ni eu gwneud. Fe fyddwch yn gwybod ein bod eisoes wedi symud i atal gwerthiannau lesddaliadau mewn unrhyw beth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i gefnogi gyda chymhorthdal—felly, yn y cynlluniau Cymorth i Brynu, er enghraifft—ac mae hynny wedi bod yn effeithiol iawn. Rydym yn edrych ar ffyrdd o gynorthwyo lesddeiliaid gyda newidiadau i'r rheolau ac yn y blaen, mewn perthynas â'r modd rydych yn caffael y rhydd-ddaliad. Ond rydym yn gweithio ar y cyd â Llywodraeth y DU drwy adroddiad gwirioneddol gynhwysfawr Comisiwn y Gyfraith—cafodd ei gyhoeddi yn lled ddiweddar. Felly, rwy'n rhannu eich pryder ynglŷn â gwerthu eiddo lesddaliadol.

Mewn gwirionedd, un o'r materion eraill—ac mae fy nghyd-Aelod Ken Skates wedi cael gweithgor i ymchwilio i hyn—yw nid yn unig lle mae tai'n cael eu gwerthu fel lesddaliadau, ond lle mae pobl yn prynu tŷ rhydd-ddaliadol, ond wedyn yn darganfod bod y gwaith o reoli eu hystâd yn rhan o gwmni, oherwydd mewn gwirionedd nid yw'r ffyrdd wedi'u mabwysiadu. Felly un o'r pethau rydym yn edrych arnynt yw safon ar gyfer mabwysiadu ffyrdd ledled Cymru—mae'n amrywio o awdurdod i awdurdod ar hyn o bryd—a chynyddu pwerau awdurdodau lleol i allu negodi bod y ffyrdd a'r carthffosiaeth a'r dŵr a phob dim yn cael eu codi i'r safon a'u mabwysiadu fel rhan o'r weithdrefn 106.

Wedyn, gan droi at y mater sy'n ymwneud â thai fforddiadwy a'r hyn y gellir ei negodi fel rhan o'r weithdrefn 106 honno, nid wyf yn rhannu'n gyfan gwbl eich dadansoddiad o ble mae'r Arolygiaeth Gynllunio ar hyn, ond rydym yn awyddus iawn i'r awdurdod lleol gael ei roi mewn sefyllfa gref o ran negodi pa gyfraniad sy'n angenrheidiol gan y datblygwr, o ran tai fforddiadwy ac mewn gwirionedd o ran y seilwaith angenrheidiol i gefnogi'r gwaith o ddatblygu tai. Oherwydd nid ydym ychwaith am weld datblygiadau tai'n cael eu hynysu i ffwrdd oddi wrth gyfleusterau, heb deithio llesol, seilwaith gwyrdd, ac yn y blaen. Felly, mae nifer o bethau yn 'Polisi Cynllunio Cymru' sy'n hyrwyddo hynny. Cyn bo hir, byddaf yn cyflwyno fframwaith datblygu cenedlaethol Cymru—yr wythnos nesaf rwy'n credu—i'r Senedd. Ac fe fyddwch yn gwybod ein bod, fel rhan o'r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), yn cynnig trefniadau rhanbarthol i roi'r trefniadau rhanbarthol strategol ar waith. Bydd yr holl bethau hynny'n helpu'r awdurdodau lleol i negodi targedau tai fforddiadwy uwch. A'r peth olaf yr hoffwn ei grybwyll yw y byddwch yn gwybod ein bod hefyd yn mynnu, ar dir Llywodraeth Cymru—ac rwy'n gweithio gyda thirfeddianwyr cyhoeddus eraill i ymestyn hyn—fod 50 y cant o dai fforddiadwy ar holl dir Llywodraeth Cymru sy'n mynd tuag at adeiladu tai yn awr.

14:35

Diolch. A gwn fod rhywfaint o hyn yn bethau a drafodwyd gennym ddoe, ond rwy'n croesawu llawer o'r hyn rydych chi'n ei ddweud. Nawr, fel rydym newydd ei weld o'r drafodaeth honno eisoes, mae yna lawer y credaf fod ein dwy blaid yn cytuno yn ei gylch: rydym yn cytuno bod angen mwy o dai fforddiadwy ledled Cymru; rydym yn cytuno bod angen mwy o dai cymdeithasol; ac y dylai ystadau newydd gael eu cynnal gan seilwaith a ariennir yn briodol, fel roeddech chi'n dweud. Ac rydym yn cytuno y dylent fod fel ystadau a adeiladir ar egwyddorion teithio llesol a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015—na ddylent fod yn hyrwyddo'r defnydd o geir nac yn galw am newidiadau mawr i rwydweithiau ffyrdd.

Ond mae fy swyddfa wedi gweld gohebiaeth gan un adran gynllunio sy'n anwybyddu'r sylwadau a wnaethoch flwyddyn yn ôl yn y Siambr hon y dylai Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol gael blaenoriaeth dros gynlluniau datblygu lleol a gynhyrchwyd cyn y Ddeddf honno. Mae arnaf ofn nad yw ein system gynllunio yn hyn o beth yn addas i'r diben. Onid yw'n bryd i Lywodraeth Cymru weithredu a'i gwneud yn ofynnol i adrannau cynllunio roi'r gorau i ganiatáu i ddatblygiadau a ddyfeisiwyd o dan yr hen system barhau, a sicrhau yn lle hynny fod yn rhaid ailgynllunio unrhyw ystadau tai o fewn egwyddorion polisi Llywodraeth Cymru, ni waeth pryd y dyrannwyd y tir hwnnw gyntaf ar gyfer adeiladu tai?

Byddwn yn ddiolchgar iawn pe baech yn rhannu'r ohebiaeth â mi, fel y gallaf weld pa awdurdod rydym yn sôn amdano, oherwydd efallai y gallwn gael sgwrs unigol gyda'r awdurdod hwnnw.

Y broblem gyda'r system gynllunio—system a arweinir gan gynllun, rhywbeth rwy'n credu ynddo'n llwyr oherwydd heb hynny ni allwch gael llais lleol yn yr hyn y caniateir ei adeiladu yn y gymuned leol, a chredaf mewn gwirionedd y dylid caniatáu i bobl gael y gymuned y maent am ei chael yn lleol—ond y broblem gyda'r system gynllunio yw bod oedi yn y broses, oherwydd pan gewch ganiatâd cynllunio mae'n ganiatâd i adeiladu beth bynnag rydych wedi cael cydsyniad ar ei gyfer am gyfnod hir cyn iddo ddod i ben. Ac mewn gwirionedd, nid yw'n bosibl neu mae'n anodd iawn ôl-addasu'r caniatadau hynny, ac mae hynny'n fater sy'n peri cryn rwystredigaeth i bob un ohonom. Felly, mae gennym dai newydd yn cael eu codi o hyd yng Nghymru heb systemau chwistrellu ynddynt oherwydd bod y datblygiad wedi'i ddechrau cyn y ddeddfwriaeth honno.

Felly, ym mhob un o'r gwelliannau rydym wedi'u gwneud yn fwy diweddar, rydym wedi ymdrechu'n galed iawn i sicrhau, pan ddaw'r rheoliad neu'r gofyniad newydd ar gynllunio i mewn, ei fod yn dod bron ar unwaith wedi i'r ddeddfwriaeth gael ei phasio, ond nid yw'n bosibl gwneud iddo fynd am yn ôl. Felly, os ydych chi wedi cael caniatâd, mae gennych ganiatâd. A dyna un o'r pethau sy'n rhwystredig am hyn, oherwydd mae gennym bethau sy'n dal i gael eu hadeiladu yn ôl hen fanylebau na fyddai bellach yn cael caniatâd cynllunio. Felly, rwy'n rhannu eich rhwystredigaeth.

Yr hyn rydym wedi bod yn ceisio ei wneud serch hynny yw cael sgwrs gyda'r adeiladwyr tai dan sylw ynglŷn â pheidio â gwneud hynny, oherwydd nid oes rhaid iddynt ei wneud. Gallant wneud cais i newid y caniatâd cynllunio ac rydym wedi bod yn cynnig cymorth i wneud hynny. Ac mewn gwirionedd, rwy'n falch o ddweud fy mod wedi cyfarfod ag un o'r adeiladwyr tai mwyaf yn ddiweddar ac maent wedi newid eu hagwedd yn llwyr ac wedi bod yn siarad â mi ynglŷn â sut y gallent wneud hynny ar rai o'u datblygiadau. Felly, mae'n dangos, os dangoswch chi'r ffordd, bydd pobl yn dod ar hyd y llwybr hwnnw gyda chi oherwydd gallant weld ei fod yn werth ei wneud. Ceir llygedyn o obaith, ond rwy'n rhannu eich rhwystredigaeth ynglŷn â'r oedi y mae'r system gynllunio o reidrwydd yn ei greu.

Diolch, Lywydd. Mae'n ddrwg gennyf. Mae ffigurau amcanestyniadau aelwydydd Llywodraeth Cymru a ddiwygiwyd yn ddiweddar yn dangos cynnydd llai, er enghraifft, yn Sir y Fflint nag a ragwelwyd yn flaenorol a gostyngiad yn Wrecsam, er y rhagwelir o hyd y bydd nifer yr aelwydydd un rhiant ac aelwydydd un person yn cynyddu yn y ddau le.

Pan ysgrifennais atoch i holi pa effaith a gaiff hyn ar ffigurau a mathau disgwyliedig o waith adeiladu tai yn y dyfodol o fewn cynlluniau datblygu lleol neu CDLlau awdurdodau lleol, fe ateboch chi nad oes cydberthynas syml rhwng amcanestyniadau aelwydydd Llywodraeth Cymru a gofynion tai awdurdodau cynllunio lleol fel y'u nodir mewn CDLlau, ac y dylid ystyried yr amcanestyniadau ochr yn ochr ag asesiad diweddaraf awdurdod o'r angen am dai ar gyfer y farchnad a thai fforddiadwy yn eu hardaloedd. Fodd bynnag, mae cynghorau fel Wrecsam a Sir Ddinbych wedi cael eu gorfodi o'r blaen i gynnwys ffigurau tai uwch yn eu CDLlau yn seiliedig ar amcanestyniadau blaenorol Llywodraeth Cymru. Sut felly rydych chi'n disgwyl gweld yr amcanestyniadau newydd yn cael eu hadlewyrchu wrth ddatblygu diwygiadau CDLlau?

Ie. Felly, fel y mae'r llythyr yn nodi, Mark, nid yw'n darged nac yn ganllaw; mae'n seiliedig ar yr amcanestyniadau ystadegol sydd gennym. Ac mae gan yr awdurdodau lleol gyfres o ganllawiau y maent i fod i'w hystyried mewn perthynas â threfniadau lleol y dylent eu rhoi ar waith i ddatblygu eu CDLl. Fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi atal yr amcanestyniad tai pum mlynedd i'r dyfodol beth amser yn ôl o ganlyniad i hynny, oherwydd ein bod yn credu, i'r nifer cynyddol o awdurdodau cynllunio yng Nghymru nad oes ganddynt CDLl presennol, eu bod yn achosi problemau difrifol gyda cheisiadau cynllunio hapfasnachol ar eu cyrion. Felly, rydym wedi cynorthwyo awdurdodau lleol i wneud hynny, ac rydym yn disgwyl iddynt gyflwyno eu hamcanestyniadau priodol eu hunain yn seiliedig ar y wybodaeth leol rydych newydd ei hamlinellu, er enghraifft, ar gyfer Sir y Fflint, er na fyddaf yn gwneud sylwadau ar awdurdodau unigol yma.

14:40

Wel, rwy'n gobeithio eich bod felly'n cadarnhau, os bydd eu ffigurau'n gwrthdaro â'ch ffigurau chi, a bod hynny'n seiliedig ar dystiolaeth, y gallai hynny gael blaenoriaeth, yn wahanol i'w profiad blaenorol. Ond mae llythyrau gennych chi a'ch adran at gyngor Sir y Fflint dros flynyddoedd yn datgan, ac rwy'n dyfynnu

Mae'n hynod siomedig fod eich awdurdod wedi cyflwyno cais pellach i ymestyn yr amser a gymerir i baratoi eich Cynllun Datblygu Lleol, yn enwedig yng ngoleuni sicrwydd blaenorol.

Mae Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Coronafeirws) (Cyfarfodydd) (Cymru) 2020 yn gwneud darpariaeth dros dro ar gyfer cynnal cyfarfodydd awdurdodau lleol yn ddiogel, yn effeithiol ac yn gyfreithlon tra'n cadw at egwyddorion didwylledd ac atebolrwydd. Fodd bynnag, mynegwyd pryderon wrthyf fod Sir y Fflint, a dyfynnaf, yn 'cau eu cynllun', ac er bod trefniadau wedi'u gwneud i ddarparu sesiynau briffio i gynghorwyr ar y CDLl, a bod aelodau wedi gofyn am gasgliadau'r ymgynghoriad ar y fersiwn adneuo, dywedwyd wrthynt nad yw'r cynnwys a'r datganiad CDLl yn destun trafodaeth, ac ymddengys mai fersiwn y swyddogion yn unig a gaiff ei drafod. Beth, felly, yw eich disgwyliad fel y Gweinidog mewn amgylchiadau o'r fath?

Mark, nid wyf mewn sefyllfa i drafod manylion y broses CDLl ar gyfer cyngor penodol ar hyn o bryd, ond byddwn yn croesawu cyfarfod â chi ar wahân os ydych am fynd drwy bryderon penodol am un cyngor unigol. Ac fe wyddoch mai mater i'r cyngor yn bennaf yw materion yn ymwneud â'r CDLl, ond hyd nes y rhowch chi'r manylion i mi, ni allaf yn hawdd wneud sylwadau ar hyn o bryd ar broses cyngor unigol tuag at ei CDLl.

O'r gorau. Wel, i symud ymlaen: roedd llythyrau a anfonwyd gan eich prif gynllunydd at benaethiaid cynllunio awdurdodau lleol ar 27 Mawrth yn rhoi arweiniad defnyddiol ar sut y mae awdurdodau cynllunio lleol yn cynnal gwasanaethau yn ystod y pandemig. Nododd y rhain, er enghraifft, fod angen i'r awdurdod cynllunio lleol roi sylw ar unwaith i'r achosion o dorri rheolaeth gynllunio a fyddai'n galw am ddefnyddio hysbysiad stop neu hysbysiad stop dros dro. Mae ymweliadau safle mewn achosion o'r fath yn deithio hanfodol, ac ni ellir cyflawni ymweliadau safle o adref, naill ai mewn perthynas â gosod hysbysiadau safle neu at ddibenion asesu a dadansoddi amodau safle, gan gynnwys gorfodi, felly maent yn esgus rhesymol dros deithio at ddibenion y rheoliadau coronafeirws a gyflawnir yn unol â gofynion y rheoliadau. Sut, felly, rydych yn ymateb i'r nifer o etholwyr yn Sir y Fflint, ond dim ond yn Sir y Fflint, sydd wedi rhoi gwybod am wahanol ddatblygiadau heb eu hawdurdodi, ac wedi fy nghopïo i mewn ar ymatebion cyngor sy'n datgan, ac rwy'n dyfynnu,

O fewn y gwasanaeth cynllunio, rhwystrwyd swyddogion rhag cynnal ymweliadau safle er mwyn cydymffurfio â chanllawiau Llywodraeth Cymru,

neu sy'n gwneud datganiadau cyfatebol?

Wel, unwaith eto, Mark, os ydych am rannu manylion cwynion o'r fath gyda mi, fe fyddaf yn gallu mynd i'r afael â hwy, ond nid yw hynny'n rhywbeth y gallaf fynd i'r afael ag ef yma ar lawr y Senedd. Felly, os ydych am godi'r materion unigol hynny gyda mi y tu allan i'r fan hon, rwy'n fwy na pharod i edrych arnynt ar eich rhan.

Targedau Adeiladu Tai Fforddiadwy

3. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r effaith y mae cyfyngiadau COVID-19 yn debygol o'i chael ar dargedau adeiladu tai fforddiadwy? OQ55512

Diolch, David. Mae darparu cartref cynnes a diogel i bobl yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon. Rydym yn gwneud cynnydd da ar ein hymrwymiad i ddarparu 20,000 o dai fforddiadwy ychwanegol. Mae'r pandemig wedi effeithio rhywfaint ar y gwaith adeiladu, ond rydym yn dal yn hyderus y byddwn yn cyrraedd y targed uchelgeisiol.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Felly, mae gennym chwe mis i fynd ac yn ôl fy nghyfrifiadau i, mae llawer iawn i'w wneud eto. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, gan ein bod yn edrych ar yr angen am fwy fyth o dai cymdeithasol, er enghraifft, fel y mae ein profiad o'r ffordd y gwnaethom ymdrin â'r argyfwng digartrefedd, a'r rheini heb do uwch eu pennau ar y strydoedd—. A chredaf fod angen inni fod yn onest fel y gall pleidiau sy'n paratoi ar gyfer yr etholiad nesaf edrych ar beth fyddai'n darged rhesymol i Lywodraeth nesaf Cymru ei osod. A dywedaf hyn gan ddisgwyl na fyddwch bellach yn gallu cyrraedd y targed o 20,000, ac mae rhesymau dros hynny; ni fyddwn yn dymuno eich cosbi. Ond mae angen gonestrwydd arnom er mwyn inni allu cynllunio'n effeithiol, oherwydd mae'n ymddangos bod tai o'r diwedd, ledled y DU, a'r angen i adeiladu llawer mwy o dai, yn codi i frig yr agenda.

14:45

Mewn gwirionedd, rwy'n credu o ddifrif y byddwn yn cyrraedd y targed o 20,000. Yr hyn na fyddwn yn ei wneud yn awr yw rhagori ar y targed hwnnw, ac roeddem yn gobeithio gwneud hynny cyn y pandemig. Ond rydym yn dal yn hyderus y byddwn yn cyrraedd yr 20,000. Fel y dywedais, roedd hi'n uchelgais gennym i ragori ar hynny cyn y pandemig.

Rwy'n ddigon hapus i rannu rhai o'r ffigurau sydd gennyf gyda chi, oherwydd maent yn arfau cynllunio defnyddiol. Byddai angen inni adeiladu rhywle rhwng 3,000 a 4,000 o gartrefi cymdeithasol y flwyddyn drwy gydol tymor Senedd nesaf Cymru er mwyn ateb y galw presennol gan bobl mewn darpariaethau llety brys neu dros dro a'r hyn a wyddom am nifer yr unigolion a allai fod angen cartrefi o'r fath. Felly, mae hwnnw'n arf cynllunio o rywle rhwng 3,000 a 4,000.

Byddai targed mwy uchelgeisiol, wrth gwrs, yn gwneud rhywbeth mwy—byddai'n dechrau caniatáu i bobl sydd eisiau tai cymdeithasol, nad ydynt yn y math hwnnw o lety ar hyn o bryd, gael tai o'r fath, a gallai targed mwy uchelgeisiol eto ganiatáu i bobl a hoffai gael tai cymdeithasol, ond nad oes ganddynt unrhyw obaith o gwbl o gyrraedd brig unrhyw fath o goeden angen blaenoriaethol, gael cartrefi o'r fath. Ond mae'r llinell sylfaen rywle rhwng 3,000 a 4,000 dros dymor nesaf y Cynulliad. Ac rwy'n rhannu hynny gyda chi oherwydd rwy'n gobeithio'n fawr y bydd gan bob plaid yn y Cynulliad yr uchelgais hwnnw, oherwydd mae arnom ei angen i sicrhau bod pobl yn cael y cartrefi cynnes, diogel a chyfforddus y maent yn eu haeddu.

Y Gyllideb Llywodraeth Leol

4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y gyllideb llywodraeth leol yng ngoleuni COVID-19? OQ55496

Diolch, Llyr. Mae'r ddarpariaeth gyllidebol ar gyfer llywodraeth leol wedi cynyddu'n sylweddol yn 2020-21 i gynorthwyo awdurdodau lleol i ymateb i effeithiau COVID-19. Cyhoeddais ein bod yn cynyddu'r gronfa galedi i awdurdodau lleol i £497 miliwn dros y toriad.

Diolch i chi am yr ymateb hynny. Mae'r sicrwydd wedi cael ei roi, wrth gwrs, ynglŷn â digolledu yn y chwarter cyntaf. Dwi jest eisiau eglurder y bydd hynny yn dilyn yn ail chwarter y flwyddyn ariannol yma. Ond hefyd, wrth gwrs, mae nifer o awdurdodau lleol nawr yn cynllunio ar gyfer eu cyllideb y flwyddyn nesaf, a rhai ohonyn nhw yn ystyried toriadau adrannol. Felly, dwi'n gofyn i chi a oes yna unrhyw arweiniad neu unrhyw neges y gallwch chi ei roi y prynhawn yma i'r awdurdodau hynny wrth gynllunio, er mwyn sicrhau, wrth gwrs, na fyddan nhw'n torri llawer o'r gwasnaethau allweddol sydd ar gael ar hyn o bryd ar yr adeg pan fydd eu hangen nhw yn fwy nag erioed?

Ar bwynt yr ail chwarter, gallaf ddweud wrthych y byddwn yn talu—mae'r gronfa galedi'n rhedeg drwy'r ail chwarter, ac rydym wedi gwneud hynny'n glir i drysoryddion, prif weithredwyr ac arweinwyr awdurdodau lleol yn y cyswllt wythnosol rhyngom, sy'n dal i fynd rhagddo.

O ran y rhagdybiaethau cynllunio, rydym wedi dechrau—rydym i gyd ymhell ar ei hôl hi o ran lle dylem fod fel arfer o ran cynllunio cyllidebol, ac nid yw hynny'n syndod efallai. Mae'r pandemig wedi tynnu ein sylw braidd, yn amlwg, a dim ond cadw gwasanaethau i fynd a wnawn. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i'n partneriaid yn yr awdurdodau lleol, sydd wedi gwneud popeth yn eu gallu ac wedi mynd ati'n wych i staffio ein canolfannau cymunedol, gan helpu gyda'n rhaglen warchod a'n rhaglen profi, olrhain a diogelu yn awr yn y sector cyhoeddus. Ni allem fod wedi gwneud hyn oni bai eu bod wedi camu i'r adwy gyda hynny. Ac felly, roeddem am wneud yn siŵr nad oedd ganddynt bryderon ariannol ychwanegol tra oeddent yn gwneud hynny ac y gallent barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol. Felly, mae enghraifft digartrefedd yn un dda. Gallem fod wedi rhoi llawer o arian tuag at ddigartrefedd, ond pe baem wedi torri'r gyllideb dai neu heb ei chadw lle roedd hi, byddai wedi mynd yn wastraff. Ond ni wnaethom hynny; gwnaethom gadw'r cyllid ac rydym wedi rhoi arian ychwanegol iddynt.

Felly, ar y rhagdybiaethau cynllunio, rydym newydd ddechrau siarad â hwy am yr hyn rydym yn ei ddisgwyl o ran senario waethaf resymol, mantoli'r gyllideb ac yn y blaen, ac mae hynny ynghlwm, wrth gwrs, wrth adolygiad cynhwysfawr o wariant Llywodraeth y DU, y maent yn sôn amdano yn awr.

Ac felly, ein gobaith—a deallaf fod y Llywydd wedi trafod hyn gyda fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans—yw y byddwn yn gallu atal amserlen arferol y gyllideb ar gyfer y Senedd, ond mae'n dibynnu ar yr adolygiad cynhwysfawr o wariant yn mynd rhagddo yn ôl y bwriad a'n bod yn deall beth a ddaw ohono cyn y gallwn ei drosglwyddo i'n partneriaid. Ond byddwn yn gweithio gyda hwy drwy gydgynhyrchu er mwyn deall beth fydd y rhagdybiaethau sylfaenol a beth yw'r gwahanol fathau o gynllunio. Felly, os ydym i gyd yn cynllunio ar gyfer toriad o 1 y cant, beth fyddai hynny'n ei olygu i wasanaethau, neu os ydym i gyd yn cynllunio ar gyfer mantoli'r gyllideb, ac yn y blaen, fel rydym yn ei wneud? Er hynny, mae'n fwy cywasgedig eleni nag y byddem yn ei ddisgwyl fel arfer.

14:50

Diolch, Weinidog. Hoffwn ddechrau drwy ddweud bod y cyhoeddiad diweddaraf am arian i lywodraeth leol i'w groesawu'n fawr wrth gwrs. Dylid rhoi clod lle mae'n ddyledus—credaf fod y ffaith y bydd yn cael ei roi allan ar sail hawliadau yn syniad gwych. Roeddwn am wybod a all y Gweinidog roi hyder inni heddiw y caiff hawliadau eu hasesu'n deg, o gofio bod rhai cynghorau llai, fel Sir Fynwy, wedi cael eu taro'n anghymesur oherwydd y fformiwla ariannu annheg, sydd, dros y blynyddoedd, wedi lleihau eu cronfeydd wrth gefn i lefelau isel, tra bod cynghorau eraill sy'n cael eu hariannu'n well wedi cronni cronfeydd wrth gefn enfawr o dros £100 miliwn, er enghraifft.

Nid wyf yn cydnabod y disgrifiad hwnnw o'r fformiwla ariannu o gwbl. Mewn gwirionedd, dywedodd trysorydd Sir Fynwy—[Torri ar draws.] Ni allaf glywed beth y mae'r Aelod ar y sgrin yn ei ddweud, Lywydd.

Cefais gyfarfod da iawn gyda phrif weithredwr a phrif drysorydd Mynwy, ochr yn ochr â'r arweinydd, yn ddiweddar iawn i drafod y rhagolygon ar gyfer Sir Fynwy. Rydym yn ymwybodol iawn fod y pandemig wedi taro cynghorau mewn ffordd wahanol, ac yn sicr, rydym yn gweithio gyda'r cynghorau i ddeall sut olwg sydd ar hynny. Felly, yn achos Sir Fynwy, er enghraifft, mae'n dibynnu llawer mwy ar gasglu'r dreth gyngor na chynghorau eraill mewn mannau eraill, ac mae'n dibynnu llawer mwy ar ffioedd a thaliadau incwm. Felly, mewn rhai ffyrdd, maent yn gwneud yn well o'r gronfa galedi nag awdurdodau eraill. Felly, rydym yn sicr yn gwneud hynny, a dyna pam y caiff ei wneud ar sail hawliadau, fel y gallwn weithio gydag awdurdodau unigol i ddeall yr effaith yn yr awdurdod hwnnw.

Yn amlwg, gwneir y fformiwla ddosbarthu drwy'r mecanwaith sy'n cynnwys pob cyngor, ac mewn gwirionedd, mae trysorydd Mynwy yn aelod gweithgar iawn o'r grŵp hwnnw.

Gwelliannau i Eiddo

5. Sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi aelwydydd ar incwm isel i wneud gwelliannau i'w heiddo? OQ55489

Mae mentrau Llywodraeth Cymru fel y rhaglen Cartrefi Clyd, safon ansawdd tai Cymru a'r rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio yn cefnogi ein huchelgais i bawb gael cartref gweddus sy'n fforddiadwy, yn gynnes, yn saff ac yn ddiogel.

Diolch, Weinidog. Ers 2011-12, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn darparu cymorth ariannol tuag at welliannau i gartrefi drwy Nyth. Nawr, mae'r cynllun hwn wedi bod yn dirywio ers 2015-16, gyda llai o aelwydydd yn gweld gwelliannau drwy'r cynllun bob blwyddyn. Mae'r niferoedd wedi gostwng o 6,000 yn 2015-16 i 3,800 yn 2018-19. Er bod Llywodraeth Cymru yn dirwyn cymorth ar gyfer gwelliannau i eiddo i ben, mae Llywodraeth y DU, ar y llaw arall, wedi lansio cynllun grant cartrefi gwyrdd, a ddylai arwain at dros 600,000 o berchnogion tai yn Lloegr yn cael cymorth. A wnewch chi ymrwymo i weithio gyda Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i fod yn fentrus a chreu cynllun grant cartrefi gwyrdd i Gymru i gefnogi aelwydydd incwm isel yng Nghymru fel y gallant fforddio gwelliannau yma?

Wel, Janet, ni fyddwch yn synnu o gwbl nad wyf yn rhannu eich dadansoddiad. Rydych yn amlwg yn ymwybodol nad yw cynllun Nyth yn fy mhortffolio i; mae ym mhortffolio fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths mewn gwirionedd. Ond ers 2011, mae dros 61,400 o aelwydydd yng Nghymru wedi elwa o'n rhaglen Cartrefi Clyd, sy'n cynorthwyo pobl sy'n byw ar incwm is i wella effeithlonrwydd ynni eu cartref ac arbed arian. Rhwng mis Ebrill 2017 a mis Mawrth 2021, byddwn wedi buddsoddi £104 miliwn yn y rhaglen Cartrefi Clyd i wella hyd at 25,000 o gartrefi eraill.

Rydym hefyd wedi lansio ein rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio yn ddiweddar, drwy fy mhortffolio i, i gefnogi'r gwaith o ôl-osod 1,000 o gartrefi cymdeithasol presennol yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Nid yw hynny'n llawer iawn, ond ei fformat sy'n bwysig. Y rheswm dros wneud hynny yw ein bod yn anghytuno â Llywodraeth y DU ynglŷn â'r ffordd y maent wedi gwneud y fenter cartrefi gwyrdd gan nad oes un ateb sy'n addas i bawb. Mae'n amlwg iawn na fyddech yn ôl-osod teras carreg Fictoraidd yn y Rhondda yn yr un ffordd ag y byddech yn ôl-osod tŷ â waliau ceudod a adeiladwyd yn y 1970au yn fy etholaeth i, er enghraifft. Felly, gyda'n rhaglen ôl-osod er mwyn optimeiddio, rydym yn cefnogi landlordiaid cymdeithasol sydd â phob math o dŷ yng Nghymru yn eu portffolio i gyflwyno amrywiaeth o dechnolegau a chynlluniau a fydd yn codi'r tai yn safon ansawdd tai Cymru sydd eisoes wedi cyflawni lefel C i fyny i A. Byddwn yn gallu gweld beth sy'n gweithio, ac yna gallwn gyflwyno'r rhaglenni hynny fel bod yr hyn sy'n gweithio i bob tŷ ar gael, yn hytrach na rhaglen gyffredinol sy'n addas i bawb nad yw'n mynd i weithio, a bod yn onest.

Cyfyngiadau Symud Lleol

6. Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu sicrhau bod gan awdurdodau lleol y modd i orfodi cyfyngiadau symud lleol? OQ55513

Diolch, Caroline. Mae gan swyddogion iechyd yr amgylchedd bŵer i gyhoeddi hysbysiadau cosb benodedig neu argymell erlyniad. Gallant gyhoeddi hysbysiadau gwella neu gau adeiladau am dorri rheoliadau coronafeirws ac o 14 Medi ymlaen, gallant gau safleoedd, digwyddiadau neu fannau cyhoeddus ar sail iechyd y cyhoedd. Mae gan yr heddlu bwerau gorfodi hefyd os nad yw pobl yn ymateb i swyddogion iechyd yr amgylchedd.

14:55

Diolch, Weinidog. Y gwir trist yw bod COVID-19 yn parhau i ledaenu, ac mae llawer gormod o bobl yn methu bod o ddifrif ynglŷn â'r clefyd hwn, gan arwain yn anochel, yn anffodus, at glystyrau lleol o'r haint. Yr unig ffordd y gallwn fynd i'r afael â hyn mewn ffordd deg a chytbwys yw gosod cyfyngiadau hyperleol. Disgwylir bellach i lywodraeth leol, sydd eisoes dan bwysau eithafol ers cyn y pandemig hwn, osod a gorfodi cyfyngiadau symud. Weinidog, pa adnoddau ychwanegol ydych chi'n eu darparu i bartneriaid yn yr awdurdodau lleol i sicrhau y gallant ymdopi â heriau megis sicrhau bod tafarndai'n glynu at reolau cadw pellter cymdeithasol ac yn casglu gwybodaeth gyswllt i gynorthwyo ein hymdrechion profi, olrhain a diogelu? Diolch.

Unwaith eto, hoffwn gofnodi fy niolch i awdurdodau lleol a'u staff sydd wedi gweithio'n galed iawn drwy'r pandemig i sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn parhau i redeg ac i ddarparu'r gwasanaethau ychwanegol y maent wedi bod yn eu darparu i ni ledled Cymru o ran yr holl bethau a grybwyllais yn un o fy atebion blaenorol.

Lywydd, carwn roi sicrwydd i'r Aelodau hefyd fod y cynllun rheoli COVID yn nodi strwythur gorchymyn, cydgysylltu a chyfathrebu clir ar gyfer rheoli digwyddiadau ac achosion, gan gynnwys yr angen am unrhyw fath o drefniadau lleol. Mae'r trefniadau ar waith ac yn weithredol yn awr ac ar rythm dyddiol ar gyfer digwyddiadau cyfredol ac maent yn cynnwys yr awdurdodau lleol yn llawn. Felly, ni fydd yn syndod i chi ein bod wedi cael amryw o gyfarfodydd dros y ddau ddiwrnod diwethaf ynglŷn â Chaerffili, Merthyr Tudful, Rhondda Cynon Taf, Casnewydd, ac yn y blaen.

Mae'r fforymau lleol Cymru gydnerth rhanbarthol yn darparu ar gyfer cyfathrebu a chydgysylltu effeithiol pellach rhwng yr holl bartneriaid, ac mae trefniadau cymorth cydfuddiannol effeithiol ar waith rhwng awdurdodau lleol. Felly, bydd awdurdod lleol sydd mewn sefyllfa lle mae'n gweld cynnydd sydyn yn nifer yr achosion o'r coronafeirws yn gallu cael cymorth gan awdurdodau lleol eraill a'u swyddogion iechyd yr amgylchedd, ac mae hynny wedi bod yn gweithio'n dda iawn.

Mae fy swyddogion hefyd wedi gofyn i awdurdodau lleol ddarparu gwybodaeth drwy strwythurau'r fforymau lleol Cymru gydnerth rhanbarthol ar beth arall sydd ei angen a'r hyn y gellir ei gyflawni fel y gallwn ddarparu cymorth ariannol yn y ffordd fwyaf uniongyrchol. Rydym wedi cytuno'n ddiweddar ag awdurdodau yr effeithiwyd arnynt gan y cynnydd sydyn presennol y gellir sicrhau bod arian ychwanegol ar gael naill ai drwy'r broses brofi, olrhain a diogelu neu drwy'r gronfa galedi er mwyn iddynt allu recriwtio mwy o swyddogion gorfodi neu gynorthwyo awdurdodau eraill i'w recriwtio. Ac fe fyddwch yn gwybod y bu llawer mwy o weithgarwch gorfodi yn fy etholaeth i, mewn rhan o'ch rhanbarth chi, yn ddiweddar o ganlyniad i hynny, oherwydd mae'r awdurdodau lleol yn ymwybodol iawn o hynny. 

Mae awdurdodau lleol wedi ein sicrhau eu bod yn barod ar gyfer hynny a'u bod yn gwneud y gwaith hwnnw, ac yn wir, mae gennyf gyfarfod â hwy yn ddiweddarach yr wythnos hon ac un arall yn gynnar yr wythnos nesaf er mwyn trafod hynny.

Taliadau Ystadau am Ddatblygiadau Tai

7. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymateb Llywodraeth Cymru i'w galwad am dystiolaeth ynghylch taliadau ystadau am ddatblygiadau tai? OQ55506

Ie, diolch, Hefin. Rydym wedi cael yr holl ymatebion i mewn ac rydym wrthi'n paratoi crynodeb o'r ymatebion hynny, ac rwy'n gobeithio gallu ei gyhoeddi yn ddiweddarach yr hydref hwn.

A gaf fi bwysleisio pwysigrwydd cyhoeddi'r ymatebion hynny? Drwy gydol y cyfyngiadau symud mae wedi bod yn anodd iawn i drigolion ystâd Cwm Calon yn Ystrad Mynach gael unrhyw gynnydd gyda Meadfleet yn enwedig, sef y cwmni rheoli ystadau, sydd i bob pwrpas wedi cau'r drws ar y preswylwyr. Maent yn dal i gymryd eu harian, maent yn gwneud ychydig bach o waith, ond nid ydynt eisiau ymgysylltu â phreswylwyr mewn unrhyw ffordd ystyrlon. Mae'r preswylwyr wedi cael llond bol arnynt, a dweud y gwir. Redrow sydd pia rhan o'r ystâd. Mae'n anodd iawn cael gwaith wedi'i wneud yno, er bod Redrow yn ymgysylltu'n well, ac mae cyngor Caerffili yn gwneud y gwaith gymaint ag y gallant yng ngoleuni'r cyfyngiadau rydym yn ddarostyngedig iddynt. Nid oes ffordd o fynnu iawn, ac nid oes modd i breswylwyr mewn rhydd-ddaliadau wneud cwyn ar y mater hwn. Mae hynny'n dal yn wir, ac rydym yn awyddus iawn i weld gweithredu'n digwydd.

Rwy'n eich cymeradwyo, Weinidog, am y gwaith rydych wedi'i wneud ar hyn ac am ymgysylltu o ddifrif â thrigolion ledled Cymru sydd mewn sefyllfa debyg. Gorau po gyntaf y gallwn gyhoeddi'r dystiolaeth, a gorau po gyntaf y gallwn wneud cynnydd ar hyn. Felly, roeddwn yn awyddus iawn i ddweud, Weinidog, cadwch hyn ar yr agenda, os gwelwch yn dda, a chyn gynted ag sy'n bosibl, a gawn ni wneud cynnydd ar y mater hwn?

Hefin, rwy'n ymwybodol iawn o'r anawsterau mewn nifer o etholaethau. Mae eich un chi wedi cael ei tharo'n arbennig o wael, rwy'n gwybod, ac rydym wedi cael nifer o gyfarfodydd ac ymweliad safle ar un pwynt, rwy'n cofio, a nifer o bethau eraill ar hyn. Mae ambell beth arall yn digwydd hefyd. Felly, byddwn yn cyhoeddi canlyniadau ein galwad am dystiolaeth cyn bo hir, ac yna byddwn yn gallu edrych ar y rhaglen yn y dyfodol. Rwy'n falch iawn o'r ffaith bod ymchwiliad yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd yn mynd rhagddo, ac rwyf newydd ddweud mewn ymateb i gwestiwn cynharach ein bod yn falch iawn ei fod yn dod â phobl i mewn i hyn na fyddent fel arall wedi cael eu cynnwys. Felly, efallai y bydd pobl yn fwy parod i siarad pan fydd yr ymchwiliad yn mynd rhagddo.

Hefyd, rydym wrthi'n ymchwilio i weld a ddylai Cymru ymrwymo i drefniadau'r ombwdsmon cartrefi newydd, ac yn amodol ar ddarn o waith y mae fy swyddogion yn ei wneud, efallai y gallwn argymell ein bod yn gwneud hynny. Drwy Rebecca Evans, fy nghyd-Aelod, byddaf yn gofyn i'r Llywydd ystyried a allwn gael rhywbeth ar lawr y Senedd pan fyddwn wedi cwblhau'r gwaith hwnnw. Felly, mae pethau'n digwydd, Hefin, ond rwy'n sylweddoli faint o waith y mae wedi'i olygu i chi a'ch swyddfa, a phryderon eich etholwyr, ac rydym yn gobeithio'n fawr y gallwn wneud rhywbeth yn gyflym ar ôl i ni gael y dystiolaeth honno yn ei lle.

15:00
Tai Amlfeddiannaeth

8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am reoliadau sy'n ymwneud â thai amlfeddiannaeth yng Nghymru? OQ55507

Diolch, Mick. Mae’r ddeddfwriaeth yn llywodraethu'r gwaith o drwyddedu, rheoli, cynllunio a dosbarthu tai amlfeddiannaeth—neu HMOs, fel y'u gelwir—a chofrestru a thrwyddedu landlordiaid ac asiantiaid gosod eiddo. Y brif ddeddfwriaeth mewn perthynas â thai amlfeddiannaeth yw Deddf Tai 2004, a gyflwynodd drwyddedu gorfodol ac ychwanegol, a Deddf Tai (Cymru) 2014, a gyflwynodd gofrestru a thrwyddedu ar gyfer landlordiaid ac asiantiaid.

Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol fy mod wedi codi'r mater hwn gyda chi ar sawl achlysur. Rydym wedi cael llawer o drafodaethau ynglŷn â hyn a gwn eich bod yn rhannu fy marn fod yn rhaid peidio â pheryglu cymeriad a chynaliadwyedd cymunedau drwy ormodedd o dai amlfeddiannaeth. Nawr, mae Trefforest yn fy etholaeth yn gymuned o'r fath. Mae'r cynghorydd lleol Steve Powderhill a minnau wedi gwrthwynebu llawer o geisiadau, ond yn rhy aml, nid yw'r rheoliadau'n darparu unrhyw amddiffyniad gwirioneddol. Yn ddiweddar, gwnaethom wrthwynebu cais i droi tafarn yn dŷ amlfeddiannaeth, cyn darganfod nad yw'r ddeddfwriaeth yn berthnasol ar gyfer adeiladau wedi'u trosi yn yr un modd â cheisiadau ar gyfer adeiladau newydd. Weinidog, tybed a fyddech yn barod i fynychu cyfarfod rhithwir gyda mi, trigolion lleol a'r cynghorydd lleol i drafod sut y gellir a sut y dylid tynhau’r rheoliadau i amddiffyn cymunedau fel Trefforest ac eraill yng Nghymru yn well.

Ydw, Mick, rwy'n fwy na pharod i fynychu cyfarfod o'r fath. Mewn gwirionedd, rwyf eisoes wedi mynychu cyfarfodydd o’r fath gyda nifer o awdurdodau eraill a chanddynt nifer fawr o dai amlfeddiannaeth. Lywydd, tybed a ddylid cynnull grŵp o ACau ar draws y Senedd sy'n cael eu heffeithio gan hyn—gwn fod gan Aberystwyth rai o'r problemau, yn sicr, mae hynny’n wir am fy etholwyr yn Abertawe, mae’n wir am Bontypridd ac mae nifer o drefi ledled Cymru a chanddynt brifysgolion yn wynebu'r broblem benodol hon. Felly, rwy'n fwy na pharod i fynychu'r cyfarfod hwnnw, Mick, ond credaf y gallai fod achos dros ddod â nifer o ACau y gwn fod ganddynt ddiddordeb yn y maes at ei gilydd fel y gallwn drafod rhai o'r atebion. Gallaf weld sawl un yn ysgwyd eu pen o amgylch y Siambr.

Mae’r Llywydd yn ysgwyd ei phen hefyd, fel mae'n digwydd. Ysgwyd pen gan y Llywydd, sy'n cynrychioli Aberystwyth.

Cynghorau Tref yn y Gogledd-ddwyrain

9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Llywodraeth Cymru yn grymuso cynghorau tref yn y gogledd-ddwyrain? OQ55479

Mae cynghorau tref wedi bod, ac yn parhau i fod, yn rhan bwysig o’r ymateb i COVID-19 a’r gwaith adfer. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi cynghorau tref i arfer eu pwerau cyfredol i wneud gwahaniaeth i'w cymunedau lleol, ac mae'n cyflwyno deddfwriaeth i roi ystod ehangach o bwerau i'r sector, cyhyd â bod rhai amodau'n cael eu bodloni. Rydym hefyd yn ceisio grymuso cynghorau tref ymhellach drwy ddarparu mynediad at gynlluniau cyllido Llywodraeth Cymru a'n gwaith Trawsnewid Trefi.

Diolch am eich ateb, Ddirprwy Weinidog. Mae cynghorau tref a chymuned yn chwarae rhan hanfodol yn cefnogi eu cymunedau, a dylai'r Llywodraeth wneud popeth yn ei gallu i'w grymuso. Enghraifft arbennig o dda o'r gwaith gwych hwn yw'r gwaith a wneir gan Gyngor Cymuned Pen-y-Ffordd yn fy etholaeth i. Mae'r cyngor yn awyddus iawn i sicrhau bod llais eu cymuned yn cael ei glywed yn y gwaith o ddatblygu polisi cynllunio Llywodraeth Cymru. Ddirprwy Weinidog, a gaf fi eich gwahodd chi a'r Gweinidog sy'n gyfrifol am gynllunio, Julie James, i ddod i ymweld â Phen-y-Ffordd a chlywed yn uniongyrchol gan y gymuned?

Gallem fynd ar daith, Julie.

Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn, ac fel y dywed yn gwbl gywir, ceir nifer o gynghorau tref a chymuned gweithgar ac effeithiol iawn sydd nid yn unig wedi mynd y tu hwnt i’r galw dros y chwe mis diwethaf, ond sy’n rhan annatod o’r cymunedau o ran y gwaith a wnânt i wneud gwahaniaeth o ddydd i ddydd yn y cymunedau hynny.

Y peth cyntaf i'w ddweud—ac rwy'n siŵr y bydd cynghorwyr Pen-y-Ffordd wedi hen fynd ati i wneud hyn eisoes—yw bod Cyngor Sir y Fflint wrthi’n mynd drwy broses y CDLl ar hyn o bryd, felly mae'n bwysig iawn fod y cyngor cymuned yn cynrychioli lleisiau eu hetholwyr yn eu hardal drwy gydol y broses hon. Dywedir wrthyf hefyd fod y cyngor cymuned wedi cyfrannu at adolygiad diwethaf 'Polisi Cynllunio Cymru' ac wedi rhoi sylwadau arno, ac er bod yr adolygiad hwnnw wedi'i gynnal, rwy'n fwy na pharod i gael y sgwrs honno, nid yn unig ynglŷn â chynllunio, gan y credaf fod ffyrdd eraill y gallwn weithio'n well gyda chynghorau tref a chymuned i rymuso—er enghraifft yn unol â’r gwaith Trawsnewid Trefi, mewn perthynas â’r addasiadau i ganol trefi. A ledled Cymru, gwn fod cynghorau tref wedi cyflwyno cynigion y mae'r awdurdodau lleol wedi bwrw ymlaen â hwy wedyn, gan eu bod yno ar lawr gwlad ac yn deall, efallai, yr hyn sydd angen ei wneud ar garreg eu drws.

Ond hefyd, pethau fel cronfa'r economi gylchol, a oedd, y tro hwn, ar gyfer cyrff sector cyhoeddus—felly nid awdurdodau lleol yn unig. Mae wedi bod yn agored i gynghorau tref a chymuned hefyd, ac rwy'n gobeithio y gallwn weld enghreifftiau o sut y gellid eu rhannu a'u lledaenu yn y dyfodol hefyd.

15:05

Ni ofynnwyd cwestiwn 10 [OQ55490].

Darparu Gwasanaethau Cyhoeddus yn y Dyfodol yn Sir Benfro

11. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r awdurdod lleol yn sir Benfro ynghylch darparu gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol? OQ55518

Diolch, Paul. Rwyf wedi trafod dyfodol gwasanaethau cyhoeddus gyda'r holl arweinwyr llywodraeth leol, yn ffurfiol ac yn anffurfiol, drwy gydol y pandemig. Rwy’n parhau i weithio’n agos gydag arweinwyr wrth inni ymdrechu i gadw dinasyddion yn ddiogel, amddiffyn y rhai agored i niwed a dysgu’r gwersi i ddarparu gwasanaethau mwy hyblyg a digidol yn y dyfodol.

Diolch am eich ymateb, Weinidog. Wrth gwrs, mae'n gwbl hanfodol fod pobl ledled Cymru yn gallu cael gafael ar eu hawdurdod lleol pan fo angen, a hynny mewn cyfnod o argyfwng cenedlaethol. Er mwyn sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu darparu'n effeithlon, mae angen i bobl allu siarad a chyfathrebu â'u hawdurdod lleol. Nawr, yn anffodus, dangosodd ffigurau o fis Mai 2017 i fis Chwefror 2020 fod nifer syfrdanol o 220,000 o alwadau ffôn a wnaed i gyngor Sir Benfro naill ai wedi arwain at y galwr yn rhoi’r gorau i’r alwad, neu, mewn rhai achosion, heb gael eu hateb o gwbl. O dan yr amgylchiadau, Weinidog, a ydych yn cytuno â mi fod y lefel hon o ddiffyg cysylltiad rhwng pobl a'u hawdurdod lleol yn annerbyniol? Felly, pa gamau pellach y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod modd dod i gysylltiad ag awdurdodau lleol ledled Cymru a'u bod yn ymateb i bryderon a phroblemau pobl leol?

Nid wyf yn ymwybodol o'r achos penodol y soniwch amdano, Paul, ac os hoffech ddweud wrthyf am hynny'n fwy penodol, rwy'n fwy na pharod i edrych ar hynny ar eich rhan, ond yn gyffredinol, rydym wedi bod yn gweithio'n galed gydag awdurdodau lleol drwy gydol y pandemig i sicrhau bod eu gwasanaethau'n gallu parhau ar ffurf ddigidol ac o bell. Mae'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol wedi mynd i’r afael â hynny’n dda iawn. Felly, er enghraifft, mae'r nifer fawr iawn o weithwyr awdurdodau lleol sydd wedi bod yn darparu gwasanaeth hyb cymunedol wedi bod yn gwneud hynny at ei gilydd o'u cartrefi gyda chyfarpar da. Rydym wedi sicrhau bod awdurdodau lleol yn gallu cefnogi eu seilwaith TG yn y ffordd honno, ac rydym wedi gweithio'n galed iawn gyda hwy i wneud hynny. Fel y gwyddoch, fe gyflwynasom reoliadau hefyd, drwy'r Senedd, i allu cynnal cyfarfodydd cwbl ddigidol, ac mae awdurdodau wedi bwrw iddi ar hynny hefyd, ac maent wedi bod yn cynnal eu cyfarfodydd o bell, mewn ffordd ddigidol, yn y ffordd y mae'r Senedd wedi arwain arni.

Hyd y gwn i, mae Sir Benfro wedi gwneud yr holl bethau hynny hefyd; nid wyf wedi clywed unrhyw adroddiadau i’r gwrthwyneb. Ac yn wir, roedd arweinwyr awdurdodau lleol yn dweud wrthyf yn ddiweddar iawn eu bod yn credu bod hynny wedi bod yn gweithio'n dda iawn, ac maent gofyn inni roi’r rheoliadau hynny ar waith yn barhaol fel y gallant barhau i weithio yn y ffordd honno, neu'n fwy na thebyg, mewn ffordd hybrid fel rydym yn gweithio ar hyn o bryd, yn y dyfodol. Ond ar y pwynt penodol y soniwch amdano, os ydych yn dymuno codi hynny gyda mi, rwy'n fwy na pharod i edrych ar hynny; nid wyf yn ymwybodol ohono fy hun.

Trefnidadau Llywodraethu ar gyfer Llywodraeth Leol

12. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y trefniadau llywodraethu ar gyfer llywodraeth leol yn ystod y pandemig coronafeirws? OQ55499

Diolch, Mark. Ym mis Ebrill, gwnaed rheoliadau brys i roi hyblygrwydd i lywodraeth leol barhau i gyflawni eu gwaith drwy rith-gyfarfodydd yn ystod y sefyllfa ddigynsail hon. Yn sail i'r rheoliadau hyn, mae’r angen i weithredu'n gyfreithiol ac yn ddiogel—yn ddiogel i aelodau, yn ddiogel i staff, ac yn ddiogel i aelodau unigol o'r cyhoedd.

Diolch. Pa gamau a gymerwyd gennych ers erthygl Archwilio Cymru ym mis Gorffennaf ar ddemocratiaeth cynghorau lleol wrth ddod allan o’r cyfyngiadau symud, a ganfu, ers i reoliadau Llywodraeth Cymru ar 22 Ebrill alluogi cynghorwyr i ailafael yn eu swyddogaethau penderfynu a dwyn ei gilydd i gyfrif, fod pa mor gyflym roedd strwythurau democrataidd wedi dychwelyd yn amrywio ledled Cymru? Erbyn diwedd mis Mehefin, roedd sawl cyngor eto i ailgyflwyno cyfarfodydd cabinet ac roeddent yn dal i ddibynnu ar bwerau brys i wneud penderfyniadau. Mewn rhai cynghorau, nid oedd cofnod cynhwysfawr ar gael ar-lein o'r penderfyniadau a wnaed ers y cyfyngiadau symud, gan ei gwneud yn anodd i'r cyhoedd weld a deall y penderfyniadau roedd eu cyngor wedi'u gwneud yn ystod y cyfyngiadau symud, a phwy oedd yn atebol amdanynt. Nid oedd y gwaith craffu ffurfiol ar benderfyniadau a gwasanaethau wedi ailgychwyn eto mewn llawer o gynghorau, a dim ond hanner y cynghorau a fyddai wedi cynnal cyfarfodydd rhithwir o'u pwyllgorau craffu erbyn canol mis Gorffennaf. Dywedasant fod

'Craffu effeithiol yn rhan allweddol o wneud penderfyniadau cadarn a thryloyw, ac yn un o bileri hanfodol y broses ddemocrataidd.'

15:10

Mae'r rheoliadau brys yn amlwg wedi galluogi gwaith hanfodol i barhau ac wedi cefnogi'r ymdrechion gwirioneddol arwrol a wnaed gan y rhan fwyaf o awdurdodau lleol i ymladd y pandemig. Yn amlwg, mae'r rheoliadau wedi’i gwneud yn bosibl i'r rheini na fyddent wedi gallu cymryd rhan mewn cyfarfodydd fel arall, oherwydd yr angen i warchod er enghraifft, barhau i wneud hynny. Yn amlwg, ni fyddai'r rhan fwyaf o siambrau cynghorau wedi gallu cynnal unrhyw fath o drefn cadw pellter cymdeithasol na gweithio’n ddiogel yng nghyd-destun COVID-19. Felly, o ganlyniad i hynny, bu’n rhaid inni edrych yn ofalus iawn ar y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau a'r ffordd rydym yn cyfathrebu â'n gilydd, ac rydym wedi gweld ymdrech dda iawn, yn fy marn i, gan y rhan fwyaf o’r awdurdodau lleol i wneud hynny.

Mae fy swyddogion wedi bod mewn cysylltiad ag awdurdodau lleol ledled Cymru yn ystod y tair neu bedair wythnos ddiwethaf i ddeall ble mae'r heriau, ac mae heriau i’w cael, wrth gwrs. Mewn rhai awdurdodau lleol, ceir heriau penodol mewn perthynas â band eang ac ati, nad oes angen i mi eu hailadrodd yma yn y Siambr, ond y bydd yr Aelodau'n gyfarwydd â hwy. Mae materion yn codi mewn perthynas, mewn rhai achosion, ag offer a lefelau cynefindra â chyfathrebu o bell, materion hyfforddi ac ati. Ond mae fy swyddogion mewn cysylltiad â swyddogion ar draws llywodraeth leol i ddeall yr heriau hynny ac i sicrhau bod yr holl drefniadau yn gadarn ac ar waith.

Cytunaf yn llwyr â chi, Mark, fod craffu’n rhan gwbl hanfodol o'r rôl y mae cynghorwyr yn ei chwarae mewn unrhyw ddemocratiaeth leol, ac rydym wedi bod yn gofyn cwestiynau yn benodol ar draws llywodraeth leol ynglŷn â pha bryd fydd y pwyllgorau craffu yn gallu cyfarfod, beth yw'r trefniadau i sicrhau y gall yr aelodau weld yr holl ddogfennau cywir fel y gallant gyflawni eu swyddogaeth graffu yn iawn a'u bod wedi cael hyfforddiant i'w galluogi i wneud hynny. Rydym hefyd wedi gofyn i awdurdodau lleol sydd am ddefnyddio trefniant hybrid gynnal asesiad risg cadarn. Rydym wedi nodi’r Comisiwn fel enghraifft dda o hynny, ac rydym wedi cytuno i'w cynorthwyo gyda'r asesiadau risg hynny pe baent yn dymuno. Felly, rwy’n mawr obeithio y bydd hynny wedi galluogi pob awdurdod lleol erbyn diwedd mis Medi i fod wedi cynnal o leiaf un rownd o gyfarfodydd craffu, a byddwn yn mynd ar drywydd hynny gyda hwy wedyn.

3. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Cyfyngiadau coronafeirws lleol ym Mwdeistref Caerffili a Rhondda Cynon Taf

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y cyfyngiadau coronafeirws lleol ym mwrdeistref Caerffili a Rhondda Cynon Taf. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.

Diolch, Lywydd, a diolch am y cyfle i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau heddiw am y sefyllfa ddiweddaraf sy'n effeithio ar rannau o dde Cymru. Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer yr achosion newydd o’r coronafeirws yng Nghymru yn gyffredinol ac mewn pedair ardal awdurdod lleol yn benodol: yng Nghaerffili, ym Merthyr Tudful, yn Rhondda Cynon Taf ac yng Nghasnewydd. Mae'r cynnydd hwn yn cael ei achosi i raddau helaeth gan bobl sy'n dychwelyd o wyliau ar gyfandir Ewrop, lle rydym hefyd wedi gweld cyfraddau uwch o’r coronafeirws yn ystod y misoedd diwethaf, yn cael eu heintio â’r coronafeirws, ac yn allweddol, wrth i bobl ddechrau cymdeithasu mwy, gwelwn lai o ymlyniad wrth fesurau cadw pellter cymdeithasol. Yn anffodus, wrth i bobl gymdeithasu mwy, maent wedi anghofio cadw eu pellter oddi wrth ei gilydd, gan ei gwneud yn haws i’r coronafeirws ledaenu o un unigolyn i'r llall. Rydym hefyd wedi gweld cynnydd mewn partïon tai a phobl yn ymgynnull yng nghartrefi ei gilydd dros yr haf.

Cyhoeddais gynllun rheoli coronafeirws Llywodraeth Cymru y mis diwethaf. Mae'n nodi'r ystod o gamau y byddem yn eu cymryd i ymateb i achosion lleol a mannau problemus o ran y coronafeirws, pe baent yn digwydd. Rwy'n falch o adrodd unwaith eto fod ein timau olrhain cysylltiadau wedi gweithio'n eithriadol o dda dros yr wythnosau diwethaf i olrhain cysylltiadau mwy na 90 y cant o bobl sydd wedi cael prawf positif a'u cysylltiadau agos. O'r wybodaeth hon, rydym wedi gallu nodi clystyrau yn y pedwar awdurdod lleol sy’n peri pryder, a gyda phrofion cymunedol ychwanegol, rydym wedi nodi pryd y dechreuodd y trosglwyddiad cymunedol mewn dau o'r awdurdodau hynny.

Fe gyrhaeddwyd y sefyllfa honno yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sir Caerffili yr wythnos diwethaf, ac yn anffodus, bu’n rhaid i mi gyhoeddi heddiw ein bod hefyd wedi cyrraedd y sefyllfa honno lle mae angen i ni gyflwyno cyfyngiadau lleol yn Rhondda Cynon Taf. Lywydd, mae gweddill fy natganiad yn canolbwyntio ar y rhesymau pam ein bod yn cymryd camau yn Rhondda Cynon Taf, ond hoffwn ddweud yn glir ein bod yn gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol ym mhob ardal lle gwelwn gynnydd yn nifer yr achosion, ac rydym yn adolygu'r sefyllfa'n ddyddiol mewn perthynas â'r angen am fesurau ychwanegol.

Mae'r ffigurau diweddaraf, a gyhoeddwyd y prynhawn yma, yn dangos bod cyfartaledd treigl saith diwrnod cyfradd yr achosion newydd yn 82.1 ym mhob 100,000 o bobl yn Rhondda Cynon Taf. Roedd y cyfartaledd treigl saith diwrnod ar gyfer Rhondda Cynon Taf yn 68.4 ddoe. Y gyfradd prawf positif a gyhoeddwyd ddoe oedd 4.3 y cant; mae wedi codi i 5.1 y cant yn y data a gyhoeddwyd heddiw. Dyna'r gyfradd bositif uchaf yng Nghymru.

Mae ein timau olrhain cysylltiadau wedi gallu olrhain oddeutu hanner yr achosion rydym yn eu gweld yn ôl i gyfres o glystyrau yn y fwrdeistref. Nid yw'r gweddill yn gysylltiedig â'r clystyrau hynny, ac maent yn awgrymu ein bod bellach yn gweld tystiolaeth o drosglwyddiad cymunedol. Ceir nifer o glystyrau yn Rhondda Cynon Taf, ac mae dau ohonynt yn sylweddol. Mae un yn gysylltiedig â chlwb rygbi a thafarn yn ardal y Rhondda isaf a'r llall gyda thaith clwb i rasys Doncaster, gan alw mewn cyfres o dafarndai ar y ffordd. Yn union fel ym mwrdeistref Caerffili, rydym wedi gweld cynnydd cyflym yn nifer yr achosion dros gyfnod byr. Mae'r rhain yn gysylltiedig yn bennaf â phobl yn cymdeithasu heb gadw pellter cymdeithasol ac yn cyfarfod yng nghartrefi ei gilydd. Rydym hefyd wedi gweld rhai achosion sy’n gysylltiedig, fel rwy'n dweud, â phobl sy'n dychwelyd o wyliau dramor.

Mae'r awdurdod lleol yn Rhondda Cynon Taf wedi bod yn rhagweithiol wrth ymweld â safleoedd ledled y fwrdeistref dros yr wythnos ddiwethaf yn enwedig i sicrhau bod pobl yn cydymffurfio â'r gyfraith a'r mesurau y mae'n rhaid i bob un ohonom eu dilyn i ddiogelu ein gilydd rhag y coronafeirws. Mae'r gwiriadau hyn wedi arwain at gyflwyno hysbysiadau gwella mewn saith archfarchnad, a cheir cydymffurfiaeth â'r rheini bellach. Mae bar wedi’i gau ym Mhontypridd ar ôl i deledu cylch cyfyng ddal sawl achos o dorri’r rheolau, cafodd adeilad trwyddedig ei gau yn Nhonypandy a chyflwynwyd hysbysiadau gwella mewn bar arall ym Mhontypridd a barbwr yn Nhonypandy. Bu swyddogion y cyngor yn ymweld â 50 adeilad trwyddedig arall dros y penwythnos ac mae mwy o gamau gorfodi, naill ai ar ffurf hysbysiadau gwella neu orchmynion cau, yn debygol o ddilyn.

At ei gilydd, mae'r cynnydd cyflym hwn yn nifer yr achosion, gyda thystiolaeth o drosglwyddiad cymunedol ledled Rhondda Cynon Taf a'r dystiolaeth o ddiffyg cydymffurfio mewn llawer o safleoedd trwyddedig ar draws y fwrdeistref, yn golygu bod angen inni gyflwyno cyfyngiadau lleol yn yr ardal i reoli, ac yn y pen draw, i leihau lledaeniad y feirws ac i ddiogelu iechyd pobl. Gan fod achos y trosglwyddiad yn debyg i'r hyn a welsom yng Nghaerffili, bydd y cyfyngiadau'n debyg. Ond bydd camau hefyd yn cael eu cymryd i atal yr holl adeiladau trwyddedig yn Rhondda Cynon Taf rhag agor yn hwyr. Hoffwn ddweud yn glir ein bod yn gweld achosion ledled y fwrdeistref, sy'n golygu bod yn rhaid i'r cyfyngiadau fod yn berthnasol i'r ardal gyfan.

O 6 o’r gloch ddydd Iau, yfory, ni chaniateir i bobl sy’n byw yn Rhondda Cynon Taf fynd i mewn i neu allan o ardal Cyngor Rhondda Cynon Taf heb esgus rhesymol, fel teithio i’r gwaith neu addysg. Am y tro, dim ond yn yr awyr agored y bydd pobl yn gallu cyfarfod. Ni fydd pobl yn gallu cyfarfod ag aelodau o'u haelwyd estynedig dan do na ffurfio aelwyd estynedig am y tro. Bydd rhaid i bob adeilad trwyddedig gau erbyn 11 o’r gloch yr hwyr, a bydd rhaid i bawb dros 11 oed, fel yng ngweddill y wlad, wisgo gorchuddion wyneb mewn mannau dan do. Byddwn yn cadw'r mesurau hyn dan adolygiad cyson, a chânt eu hadolygu'n ffurfiol ymhen pythefnos.

Yn yr wythnos ers i gyfyngiadau lleol gael eu cyflwyno yn ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ceir peth sail dros optimistiaeth ofalus. Rydym wedi gweld cwymp bach yn y gyfradd saith diwrnod o achosion newydd a'r gyfradd o brofion positif, er bod y rhain yn parhau i fod yn uchel. Mae'r heddlu wedi nodi lefelau uchel iawn o gydymffurfiaeth â'r cyfyngiadau, a hoffwn ddiolch i bawb sy'n byw yn yr ardal am eu cymorth dros yr wythnos ddiwethaf ac am y gefnogaeth a welsom gan wasanaethau cyhoeddus ar draws bwrdeistref Caerffili. Dim ond drwy weithio gyda'n gilydd y gallwn leihau’r coronafeirws, diogelu ein hunain a'n hanwyliaid a chadw Cymru'n ddiogel.

15:15

Diolch, Weinidog, am eich datganiad y prynhawn yma. Credaf ei fod yn amrywiad bach ar y datganiad a gyhoeddwyd yn gynharach yn y dydd, ac felly edrychaf ymlaen at ddarllen y datganiad manwl rydych newydd ei roi i'r Cyfarfod Llawn y prynhawn yma. Yn y sylwadau yn y datganiad a gyhoeddwyd yn gynharach a'r un a roesoch i’r Siambr, rwy'n sylwi na ddefnyddiwyd y term ‘cyfyngiadau symud’ o gwbl, ac eto, os edrychwch ar unrhyw un o'r llwyfannau cyfryngau cymdeithasol neu'r cyfryngau’r prif ffrwd, y term sy’n sgrechian arnoch yw bod RhCT o dan ‘gyfyngiadau symud’. Tybiaf fod hwn yn newid bwriadol o ran iaith gan y Gweinidog a'i swyddogion, gan fod y rhan fwyaf o bobl yn cysylltu'r term 'cyfyngiadau symud', yn amlwg, â'r cyfyngiadau symud cenedlaethol a gafwyd ym mis Mawrth, ac yn amlwg, nid yw'r mesurau rheoli newydd hyn yn agos at fod mor llym â'r rhai a gyflwynwyd gyda’r cyfyngiadau symud cenedlaethol. Ond byddwn yn ddiolchgar pe gallech egluro pam yn union nad yw'r term 'cyfyngiadau symud' wedi'i ddefnyddio gennych chi, ac os yw'n derm y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio’i osgoi, pa gysylltiadau a gawsoch chi gyda'r cyfryngau ac eraill i geisio geirio'r iaith fel bod pobl yr effeithir arnynt gan y cyfyngiadau newydd hyn yn gallu cael gwybodaeth o'r radd flaenaf ac yn gallu cydymffurfio â'r hyn rydych yn ei ofyn ganddynt. Oherwydd, fel y dywedoch chi yn eich datganiad, yn amlwg, mae'n ymwneud â chyfrifoldeb personol a phobl yn ymateb i'r gofynion—nid yw'r feirws wedi diflannu, ac mae yna bethau sydd angen iddynt eu gwneud.

A gyda'r wybodaeth o'r radd flaenaf honno y mae angen ei chyfleu, mae’n siomedig na chafodd yr Aelodau lleol wybod am y cyhoeddiad hwn heddiw. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn amlwg, gwnaeth Llywodraeth Cymru y penderfyniad neithiwr i gynnal cynhadledd i'r wasg, felly rwy’n cymryd bod y cyhoeddiad hwn wedi'i ystyried gan Lywodraeth Cymru ymhell ymlaen llaw, a chredaf y byddai wedi bod o gymorth mawr pe bai’r Aelodau lleol wedi cael gwybod, neu os cafodd rhai Aelodau lleol wybod, pam ddim pob Aelod lleol? A allech gadarnhau pwy yn union a gafodd wybod cyn y cyhoeddiad hwn yn y gynhadledd i'r wasg am 12.30 p.m.? Mae fy swyddfa wedi derbyn dau gais syml ers y cyhoeddiad: mae dynes sy'n mwynhau gwyliau yn Ninbych-y-pysgod, er enghraifft, gyda'i theulu bellach yn pendroni a oes angen iddi fod yn ôl yn Aberdâr cyn 6 o'r gloch nos yfory. Wel, yn amlwg, ni chredaf fod hynny'n wir gan mai cyfyngiadau lleol yw'r rhain. Roedd cais arall a gafwyd yn ymwneud â gwersi gyrru a phrofion gyrru, gan eu bod yn defnyddio canolfan brofi Merthyr Tudful—a fyddent yn gallu cael y prawf ym Merthyr Tudful gan eu bod yn byw yn Aberdâr. Mae’r rheini’n ddau beth syml iawn y byddwn i, fel Aelod lleol, yn sicr o fod wedi elwa o ryw fath o gyfarwyddyd yn eu cylch gan swyddogion fel y gallwn fod wedi gofyn am sesiwn friffio fanylach a deall hyn fel y gallwn gyfleu gwybodaeth briodol a chadarn i’r etholwyr, fel nad yw pobl yn torri’r rheolau am eu bod wedi cael gwybodaeth anghywir. Tybed a ellid darparu cyfarwyddyd o'r fath i’r Aelodau lleol yn y dyddiau nesaf, fel y gallant gynorthwyo eu hetholwyr, yn amlwg.

Hoffwn hefyd geisio deall—yn eich datganiad, dywedwch y bydd y cyfyngiadau newydd yn cael eu hadolygu yn ystod y pythefnos nesaf. Beth fydd y trothwy y byddwch yn edrych amdano er mwyn ysgafnu baich rhai o'r cyfyngiadau hyn a chychwyn y broses o lacio'r cyfyngiadau yn ardal RhCT er mwyn dychwelyd, efallai, at yr hyn y mae rhannau eraill o Gymru yn cydymffurfio ag ef ar hyn o bryd? Gyda'r cyfyngiadau hyn yn dod i rym am 6 o'r gloch nos yfory, credaf ei bod yn bwysig i bobl ddeall beth rydym yn anelu ato dros y pythefnos nesaf a beth yw'r niferoedd y byddwch chi fel Gweinidog a'ch swyddogion yn edrych arnynt i sicrhau y bydd hynny’n digwydd.

Fy nghais olaf i chi yw hwn: yn Lloegr, mae gwybodaeth yn amlwg yn bŵer i allu gwneud y penderfyniadau hyn, ac yn Lloegr, caiff ei chyhoeddi ar sail awdurdod lleol yn wythnosol, ac ar lefel ward yn enwedig, mae'r wybodaeth honno ar gael yn yr ardaloedd cyngor. Rydych yn mynd allan yma heddiw i ardal y Bae ac rydych yn gweld pobl yn mwynhau'r haul haf bach Mihangel ar hyn o bryd, ac ni fyddech yn dweud bod yna unrhyw bryderon yn y byd, ond ychydig filltiroedd yn unig o'r fan hon, mae dwy ardal dan gyfyngiadau llym oherwydd yr achosion o’r coronafeirws. Oni fyddai’n ddefnydd da o wybodaeth i sicrhau bod y wybodaeth honno ar gael, fel y mae Lloegr yn ei wneud, fesul ward fel y gall pobl ddeall lefel yr haint sy'n lledaenu yn eu cymuned a gallant sicrhau eu bod yn gwneud popeth a allant i gynorthwyo eu cymuned i drechu’r feirws hwn? Os gellir gwneud hynny yn Lloegr, pam na ellir ei wneud yng Nghymru? Rwy'n gobeithio y rhowch ymateb cadarnhaol i ni.

15:20

Diolch am eich cwestiynau. O ran y pwynt cychwynnol ynglŷn â’r derminoleg a ddefnyddir, rydym yn defnyddio'r derminoleg sydd wedi'i nodi yng nghynllun rheoli’r coronafeirws. Rwy'n derbyn yn llwyr mai'r disgrifiad yw cyfyngiadau lleol, yn union y fel a ddigwyddodd yng Nghaerffili, ac ni chredaf ei bod yn gwneud llawer o synnwyr i'r Llywodraeth geisio ymladd brwydr i berswadio'r cyhoedd neu'r cyfryngau i beidio â disgrifio hyn yn y ffordd y maent yn ei wneud eisoes—yn y ffordd y cawsant eu disgrifio yn yr Alban ac yn Lloegr. Cyfeirir at yr holl gyfyngiadau hyn gan y cyhoedd yn gyffredinol fel ‘cyfyngiadau lleol'. Rwy'n defnyddio'r iaith rydym wedi'i defnyddio yn ein cynllun rheoli coronafeirws, ac nid ydynt yr un peth â'r cyfyngiadau symud cenedlaethol a gawsom, ond mae hynny oherwydd ein bod yn ceisio mynd i'r afael â'r heriau a welwn ac a wynebwn. Mae mesurau pellach yn bosibl, wrth gwrs, ac mae gwahanol fesurau’n bosibl mewn gwahanol rannau o'r wlad. Os yw patrwm yr haint a'r rheswm pam fod achosion yn codi mewn gwahanol rannau o Gymru yn wahanol i'r rhai yng Nghaerffili neu RhCT, mae'n ddigon posibl y cawn fesurau gwahanol, pe bai—a dim ond ‘pe bai’—angen cyflwyno cyfyngiadau lleol mewn rhannau eraill o Gymru.

Credaf fod y wybodaeth ynglŷn â’r cyfyngiadau’n eithaf clir. Yn y bôn, yr un mesurau yw'r rhain â’r rhai a gyflwynwyd yng Nghaerffili, ynghyd â chyfyngiad ar oriau agor adeiladau trwyddedig. Ac mae hynny oherwydd tystiolaeth yn RhCT fod tafarndai'n ganolbwynt penodol o ran y ffordd y mae heintiau wedi'u lledaenu, ond hefyd oherwydd tystiolaeth fwy arwyddocaol o ystod o adeiladau trwyddedig nad ydynt wedi bod yn dilyn y rheolau. Mae'n ddewis bwriadol i beidio â chau pob adeilad trwyddedig ac atal pob un ohonynt rhag agor o gwbl, a hynny am fod amryw o safleoedd yn dilyn y rheolau, ac os yw pobl yn yfed mewn adeilad trwyddedig, gwyddom eu bod yn fwy tebygol o gael eu monitro ac o ymddwyn yn wahanol, ond os ydym yn annog pobl i wneud y gweithgaredd hwnnw y tu allan i dafarndai, mae pobl yn debygol o barhau i yfed gartref ac yn fwy tebygol o wahodd pobl i'w cartrefi, nid yn unig yn groes i’r cyfyngiadau newydd rydym wedi'u rhoi ar waith, ond gwyddom mai cyswllt mewn anheddau preifat sydd wedi arwain yn gyson at yr ail-ledaeniad mwyaf o'r coronafeirws.

O ran y penderfyniad, ychydig iawn o amser a gafwyd i wneud y penderfyniad. Ni wnaed y penderfyniad terfynol tan oddeutu 12.20 p.m. heddiw, ac roeddwn yn y gynhadledd i'r wasg am 12.30 p.m. Roeddwn yn disgwyl rhoi neges ychydig yn wahanol yn y gynhadledd i'r wasg ar drafod rhai o'r heriau gyda chynnal profion y buom yn treulio llawer o amser arnynt ddoe yn y Siambr hon. Yn y diwedd, rydym wedi gorfod gwneud penderfyniad ynghylch cyfyngiadau lleol, ac ni chredaf y byddai wedi bod yn briodol i fod wedi gwneud y penderfyniad hwnnw 10 munud cyn y gynhadledd i'r wasg, rhoi cynhadledd i'r wasg cwbl wahanol, a gwneud datganiad gwahanol yn fuan wedyn. A gwneuthum yn siŵr fod datganiad yn cael ei gylchredeg i'r Aelodau cyn y gynhadledd, er bod hynny wedi digwydd yn llythrennol funud neu ddwy cyn i mi godi yn y gynhadledd i'r wasg, a dywedasom yn glir ein bod wedi cysylltu â swyddfa'r Llywydd i sicrhau fy mod yn gallu mynychu heddiw i roi’r datganiad llafar hwn ac ateb cwestiynau’n uniongyrchol.

O ran y canllawiau, fe welwch chi, fel rwy'n dweud, gan fod y canllawiau sy'n berthnasol i Gaerffili—maent yn ganllawiau tebyg iawn ar gyfer RhCT, fel rwy'n dweud, gyda'r pwynt ychwanegol am adeiladau trwyddedig. Yng nghynllun rheoli’r coronafeirws, mae gennym ymrwymiad i adolygu bob pythefnos, felly mae'n rhaid inni adolygu'r mesurau rydym wedi'u cyflwyno heddiw o fewn pythefnos, ond ceir adolygiad dyddiol o'r sefyllfa ym mhob awdurdod lleol. Felly, unwaith eto, os oes gennym wybodaeth am yr angen i gyflwyno gwahanol fesurau, efallai y byddwn yn gwneud hynny cyn yr adolygiad pythefnos, ond rwy'n disgwyl y bydd yn cymryd ychydig yn hwy i weld cwymp cyson yn nifer yr achosion newydd, ac yn wir, yn y gyfradd sy'n cael prawf positif o ran y mesurau y byddwn yn edrych amdanynt cyn inni geisio lleihau neu ddiddymu’r mesurau sydd ar waith.

Ond yn allweddol, byddwn hefyd yn cael gwybodaeth leol drwy ein system brofi, olrhain a diogelu ar drosglwyddiad cymunedol. Oherwydd, fel y dywedodd y Prif Weinidog ddoe, ac fel y dywedasom ar sawl achlysur yn y gorffennol, pan welsom nifer arwyddocaol o achosion o'r blaen ar Ynys Môn ac yn Wrecsam, a nifer arwyddocaol yn ffatri Kepak ym Merthyr Tudful, roeddem yn deall pwy oedd y clystyrau hynny. Gallem olrhain pobl, ac roedd gennym hyder nad oeddem yn gweld trosglwyddiad cymunedol, felly nid oedd angen inni roi mesurau ar waith ar gyfer y gymuned gyfan. Rydym yn deall yma ein bod yn gweld trosglwyddiad cymunedol, ac ni allwn gael y cyfyngiadau mwy clyfar y mae’r system brofi, olrhain a diogelu yn caniatáu inni eu cyflwyno.

Dyna'r rhesymau sy'n sail i'r penderfyniadau rydym wedi'u gwneud heddiw, ac wrth gwrs, byddaf yn edrych ar bwynt olaf yr Aelod ynglŷn â chyhoeddi gwybodaeth ar lefel ward yn fwy rheolaidd. Ond fel y gŵyr pob Aelod, rydym yn cyhoeddi ffigurau dyddiol a diweddariadau dyddiol ar y sefyllfa ar draws pob ardal awdurdod lleol.

15:25

Rwy'n siomedig ond nid wyf yn synnu bod Rhondda Cynon Taf yn cael eu gosod dan gyfyngiadau. Cawsom ein rhybuddio y byddai hyn yn digwydd pe bai'r cyfraddau trosglwyddo’n cynyddu, ac maent wedi cynyddu, ac mae nifer o ddigwyddiadau a lleoliadau wedi'u nodi yn y datganiad. Ond rwyf am ganolbwyntio ar y capasiti profi yma yn y Rhondda. Roedd y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi rhoi cyfyngiad o 60 prawf coronafeirws y dydd yn y ganolfan brofi a sefydlwyd yn y Rhondda yn gwbl warthus. Nid yw cyfyngu nifer y profion pan fydd y feirws yn lledaenu yn gwneud unrhyw synnwyr i mi. Gwyddom o wledydd sydd wedi ymdopi’n well yn ystod y pandemig hwn fod olrhain ac ynysu’n allweddol er mwyn atal y lledaeniad. Felly, hoffwn wybod pa gapasiti profi ychwanegol y gallwn ddisgwyl ei weld yn y Rhondda yr wythnos hon, gan fod ei angen arnom nawr. Ni allwn aros am wythnos neu ddwy i Lywodraeth y DU gael trefn ar bethau. Hoffwn wybod hefyd pam fod y Llywodraeth Lafur hon yn rhoi cymaint o ffydd yn y Llywodraeth Dorïaidd i wneud y peth iawn. Gŵyr pob un ohonom fod hynny'n beryglus. Mae rhyddid pobl yn mynd i gael ei gyfyngu nawr, a hoffwn wybod sut y gallwn ei gwneud mor hawdd â phosibl i bobl allu ynysu os mai dyna sydd angen iddynt ei wneud. Mae llawer o bobl yn dal i wegian yn sgil effaith ariannol y cyfnod cyntaf o gyfyngiadau symud, a nawr mae'n rhaid iddynt wynebu hyn hefyd. Felly, sut y gellir ei gwneud yn haws i bobl allu ynysu heb golli incwm, ac a fyddwch yn gallu sicrhau bod rhywfaint o gymorth ariannol ar gael i'r rheini yr effeithir ar eu hincwm a'u busnesau?

A fy nghwestiwn olaf yw'r rhesymeg ynglŷn â chadw tafarndai a chlybiau ar agor. Os ydych yn gwybod bod y lledaeniad wedi digwydd o ganlyniad i drosglwyddiad mewn tafarndai a chlybiau—ydy, mae'n wych fod cyngor Rhondda Cynon Taf yn archwilio tafarndai a chlybiau a sefydliadau eraill ac yn sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r rheolau, ond yn sicr, nid yw cadw tafarndai a chlybiau ar agor pan fo'r lledaeniad yn digwydd mewn tafarndai a chlybiau yn gwneud llawer o synnwyr i lawer o bobl. Felly, a allwch roi amlinelliad pellach o’ch rhesymeg dros gadw tafarndai a chlybiau ar agor, gan na allaf weld cymaint â hynny o bobl yn prynu alcohol ar ôl 11 o'r gloch? Felly, ymddengys mai mesur cyfyngedig yw hwnnw i fynd i’r afael â'r pwynt penodol hwnnw.

15:30

Diolch am y cwestiynau. Rwyf wedi nodi, yn eithaf manwl, dros y penwythnos a ddoe, yr heriau a'r rhwystredigaethau gwirioneddol a ddaeth o benderfyniad ar lefel swyddogol o fewn Llywodraeth y DU i gyfyngu profion labordai goleudy i ganolfannau i 60 y dydd yng Nghymru, yng Ngogledd Iwerddon, a chyfyngiadau tebyg yn yr Alban hefyd. Dyna pam y cefais sgyrsiau cyflym gyda Gweinidogion iechyd eraill yn y gwledydd eraill, a dyna pam, am 11:30 fore Sadwrn, y cefais sgwrs â Matt Hancock. Rydym wedi gweld gwelliant yn hynny o beth, ond yn bendant mae angen dysgu o hynny, ac mae angen dysgu o fewn rhaglen y DU ynglŷn â gwneud penderfyniadau sy'n effeithio ar bob gwlad yn y DU. Ond fe wnaethant hynny ar sail edrych ar ddata Lloegr yn unig, a dyna pam y bu'n rhaid iddynt adfer y safbwynt ac ailgyflwyno cyfleusterau profi na ddylid bod wedi cael gwared arnynt. Mae hynny'n amlwg yn annerbyniol—rwyf wedi gwneud hynny'n glir iawn mewn sgyrsiau â Llywodraeth y DU, fel y mae Gweinidogion iechyd eraill yr Alban a Gogledd Iwerddon yn wir wedi'i wneud.

Mae angen inni fod mewn sefyllfa lle mae pob un o'r gwledydd yn eu tro, os na all rhaglen y DU barhau i ddarparu nifer y samplau bob dydd, yn gwneud penderfyniadau ynglŷn â sut i ddefnyddio'r adnoddau hynny. Oherwydd rydym yn gweld ardaloedd lle ceir mwy o achosion, lle mae'n bwysicach i bobl yn yr ardaloedd hynny gael prawf. Gwyddom hefyd y bydd yn cymryd nifer o wythnosau i ddatrys yr heriau hynny ar lefel y DU. Dyna pam—. A byddaf yn mynd i'r afael â'ch pwynt am brofion pellach hefyd. Ond o ran rhaglen y DU, wrth gwrs, mae'r Alban a Gogledd Iwerddon yn cymryd rhan, ac maent yn dibynnu'n sylweddol ar raglen y DU. Ni fyddwn yn derbyn swm canlyniadol ar ei gyfer os byddwn yn tynnu'n ôl o'r rhaglen honno; mae'n rhaglen rwy'n cymryd rhan ynddi ac mae gennym fynediad at y profion y mae'n eu darparu. A hyd at oddeutu tair wythnos yn ôl, roedd y perfformiad yn eithaf da. Mae angen inni weld y rhaglen yn dychwelyd i'r lefel honno gyda'r offer newydd y deallaf y bydd yn cael ei fuddsoddi. Ond mae'n rhoi pob un ohonom mewn sefyllfa anodd iawn wrth inni geisio cynnal rhaglen brofi effeithiol ynghyd â'r gwasanaeth profi, olrhain a diogelu da iawn sydd gennym yma yng Nghymru.

Yn Rhondda Cynon Taf, byddwn yn cynnal y safle symudol ym Cwmclydach—bydd hwnnw'n cael ei ymestyn i ddydd Llun fan lleiaf. Rydym hefyd yn bwriadu cael uned profi symudol arall yn ardal Abercynon; gobeithio y bydd hwnnw ar gael yfory. Rwyf wedi cyhoeddi heddiw y bydd gennym bum uned profi symudol ychwanegol. Byddwn yn cynnal eu profion drwy Iechyd Cyhoeddus Cymru, nid labordai goleudy, a byddant yn cael eu rhannu i ddechrau rhwng ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan a Chwm Taf Morgannwg, lle mae'r lefelau uchaf o angen a galw. Ac rydym hefyd yn edrych, dros y—. Erbyn diwedd yr wythnos nesaf, rwy'n disgwyl y byddwn mewn sefyllfa lle bydd gennym lonydd ychwanegol yn yr holl ganolfannau profi drwy ffenest y car. Unwaith eto, bydd y lonydd ychwanegol hynny'n cynnig cyfleoedd i bobl gael prawf a chael y canlyniadau hynny wedi'u dadansoddi yn ein labordai Iechyd Cyhoeddus Cymru. Felly, dyna'r camau rhagweithiol rydym eisoes yn eu cymryd i lenwi rhywfaint ar y bwlch sy'n cael ei greu hyd nes y bydd y rhaglen labordai goleudy'n gwella o'r hyn ydyw, lle nad yw'n gallu ymdopi â chapasiti ei labordai.

O ran cefnogaeth i hunanynysu, mae hwn yn fater rwyf wedi'i godi sawl gwaith, nid yn unig yn gyhoeddus, ond mewn sgwrs â Llywodraeth y DU, gyda chefnogaeth Gweinidogion iechyd eraill hefyd. Os nad ydym yn cynorthwyo pobl i wneud y peth iawn, mae dewis rhwng aros gartref ar gyflog salwch statudol, o bosibl, a methu fforddio talu eich biliau, neu beryglu eich iechyd eich hun ac iechyd pobl eraill er mwyn gallu talu eich biliau yn sefyllfa annymunol i roi pobl ynddi. Gwn fod treialon yn digwydd i gefnogi pobl sy'n hunanynysu yn Lloegr, ac unwaith eto rwyf wedi dadlau'r achos dros gwblhau'r treialon hynny'n gyflym, a darparu rhaglen lawn ar gyfer y DU. Nid oes lle yn y gyllideb i wledydd unigol wneud hynny eu hunain—mae angen iddi fod yn rhaglen gyson ledled y DU yn fy marn i. A phe bai Llywodraeth y DU yn dewis gwneud hynny, byddwn yn croesawu hynny fel cam cadarnhaol ymlaen o ran galluogi pobl yn ymarferol i gydymffurfio â'r cyngor a roddir iddynt drwy ein gwasanaeth profi, olrhain a diogelu.

O ran agor tafarndai, mewn ymateb i Andrew R.T. Davies, atebais rai o'r heriau mewn perthynas â dadleoli gweithgaredd a chael golwg ar sut a lle mae pobl yn yfed, yn hytrach na pheri iddynt wneud hynny yng nghartrefi pobl. Rydym wedi gweld tystiolaeth ddiweddar sy'n dangos bod gwerthiant alcohol wedi cynyddu'n sylweddol yn ystod y cyfyngiadau symud cenedlaethol, ac mae angen inni gydnabod, ym mhob un o'r dewisiadau a wnawn, fod angen cydbwyso niwed. Ond credwn y bydd y mesur hwn yn ein galluogi i gynnal safleoedd trwyddedig fel nad yw busnesau'n colli eu cyfle i wneud busnes, nad yw pobl yn colli eu swyddi a'n bod yn gallu cadw llygad ar ymddygiad. Yna byddwn eisiau gallu deall sut y mae pobl yn cymysgu, yn hytrach na'u bod yn gyndyn i ddweud wrthym eu bod wedi bod yn gweld pobl eraill yn erbyn y rheolau—mae perygl gwirioneddol y byddwn yn peri i hyn fynd yn danddaearol.

Y pwynt arall, serch hynny, ac mae'n bwysig ei wneud, yw nad ymateb cymesur i'r gyfraith yn unig sy'n ei gwneud yn ofynnol i ni ystyried hyn, ond mae'n ein galluogi i gymryd camau pellach. Felly, os nad ydym yn gweld y gwelliant yn y ffordd y mae'r busnesau hynny'n ymddwyn, ond yn yr un modd yn y ffordd y mae cwsmeriaid yn mynd iddynt ac yn ymddwyn, cawn gyfle i roi camau a mesurau pellach ar waith. Ac nid yw hyn yn annhebyg i fesurau a gymerwyd yn Aberdeen yn yr Alban a mesurau y deallwn eu bod yn cael eu hystyried, os nad eu gweithredu, ledled Lloegr hefyd. Mae pob penderfyniad yn galw am gydbwyso, ond credaf mai dyma'r set gywir o fesurau i'w cyflwyno yn awr. Edrychaf ymlaen at weld y cyhoedd yn ymateb yn gadarnhaol iddynt. 

15:35

Diolch am eich datganiad heddiw, Weinidog, ac am yr holl gamau sy'n cael eu cymryd i geisio diogelu lles trigolion Rhondda Cynon Taf. Fel y gallwch ddychmygu, rwyf wedi cael llawer o gwestiynau mewn amser byr gan drigolion Cwm Cynon, felly rwy'n croesawu'r cyfle hwn i ofyn rhai o'r rheini'n uniongyrchol i chi. 

Yn gyntaf, mewn perthynas â gwyliau wedi'u harchebu, gwn na fydd trigolion Rhondda Cynon Taf yn gallu teithio at y dibenion hyn yn awr, ac yn achos trigolion Caerffili cyn hynny, ysgrifennodd Llywodraeth Cymru at y prif gwmnïau teithio yn nodi'r disgwyliad y byddent yn ad-dalu cwsmeriaid neu'n caniatáu iddynt newid eu gwyliau i ddyddiad diweddarach. A wnewch chi ymrwymo i ail-anfon y llythyr hwn gan gyfeirio at drigolion Rhondda Cynon Taf a rhannu'r ohebiaeth hon â chynrychiolwyr yr ardal fel y gallwn, yn ein tro, ei rhannu â'n hetholwyr a allai fod angen prawf o'r fath er mwyn gwneud eu hachos? Yn ogystal, pa gymorth y gallwch ei gynnig i'r rheini sydd wedi archebu gwyliau yn y DU ac i gwmnïau teithio lleol, megis Edwards Coaches, y gallai eu busnesau gael eu heffeithio'n wael?

Yn ail, o ran y rhai sydd wedi bod ar y rhestr warchod yn y gorffennol, rwy'n ymwybodol nad yw canllawiau blaenorol Caerffili wedi argymell unrhyw newidiadau ar gyfer y grŵp penodol hwn yn ychwanegol at y cyngor a'r rheoliadau sydd wedi'u gosod ar gyfer preswylwyr eraill. Ac eto, yn y dyddiau diwethaf, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a'r Cynghorydd Andrew Morgan, arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf—yn eithaf synhwyrol, yn fy marn i—wedi cynghori pobl yn Rhondda Cynon Taf sydd wedi bod ar y rhestr warchod yn y gorffennol i weithio gartref lle bynnag y bo modd, oherwydd y cynnydd yn yr achosion o'r coronafeirws yma. A allwch chi gadarnhau, felly, y dystiolaeth y byddwch yn ei chynnig i bobl sydd wedi bod ar y rhestr warchod yn y gorffennol yn hyn o beth? 

Ac yn drydydd, ac yn olaf, hoffwn ofyn am gymorth i fusnesau lleol. Mae'r cyfyngiadau newydd hyn, wrth gwrs, yn wahanol iawn i'r cyfyngiadau symud cenedlaethol a welsom yn y gwanwyn. Sut y gall Llywodraeth Cymru annog trigolion lleol i barhau i siopa'n lleol yn ddiogel ac i gefnogi busnesau lleol, tra'n diogelu eu hiechyd eu hunain hefyd?

Diolch am y cwestiynau gan yr Aelod. Ar eich pwynt cyntaf, yn ymwneud â gwyliau, rwy'n cydnabod bod Hefin David wedi bod yn sôn ddoe, ond mewn gohebiaeth, ac mewn trafodaeth â mi hefyd, am ei drigolion yn etholaeth Caerffili, ac rwy'n hapus i dderbyn awgrym yr Aelod ynglŷn ag ysgrifennu at rannau o'r diwydiant gwyliau eto. Rydym wedi bod mewn cysylltiad â hwy, eu hyswirwyr, i gadarnhau unwaith eto y cyfyngiadau sydd bellach ar waith a'r ffaith na fydd trigolion Rhondda Cynon Taf yn gallu mynd ar wyliau—byddai gwneud hynny'n torri'r gyfraith—ac i fynd ar drywydd ymateb ar y mater hwn ac yn wir yr ymateb rydym yn ei ddisgwyl mewn perthynas â Chaerffili. Ac rwy'n hapus i dderbyn awgrym yr Aelod i rannu'r ohebiaeth honno ag Aelodau etholaethol a rhanbarthol fel y gallwch weld y llythyr rydym wedi'i ysgrifennu ac unrhyw ymateb a gawn wedyn. 

Rwy'n credu bod pwynt ehangach am y diwydiant teithio a'r niwed i'w enw da y bydd angen ei ystyried. Mae pwynt yno nid yn unig am y cwmnïau gwyliau tramor ond y rhai o fewn y DU hefyd. Nid oes a wnelo hyn yn unig â chydymdeimlad â phobl y cyfyngwyd ar eu gallu i fynd ar wyliau. Pe bai pobl yn torri'r gyfraith ac yn mynd ar wyliau beth bynnag, maent mewn mwy o berygl o gael coronafeirws oherwydd bod trosglwyddo cymunedol yn digwydd, ac nid wyf yn credu y byddai cwmnïau gwyliau'n croesawu sefyllfa lle mae rhywun wedi torri'r gyfraith i fynd ar wyliau ac o bosibl wedi cyflwyno coronafeirws i ran o'u gweithgarwch gwyliau. Mae o fudd i gwmnïau gwyliau wneud y peth iawn, ac mae'n rhaid i hynny olygu sicrhau bod ad-daliadau ar gael ac nad yw pobl yn cael eu rhoi mewn sefyllfa annifyr ac yn yr un modd, nad yw pobl eraill sy'n mynd ar wyliau yn teimlo dan fygythiad gan y bobl sy'n eistedd wrth eu hymyl o ran trafnidiaeth.  

Mae yna bwynt ynglŷn â sut rydym yn cefnogi pobl, ac mae pwynt anodd iawn yma, oherwydd, yn y cyfyngiadau sydd wedi'u cyflwyno'n lleol yn Lloegr, nid ydym wedi gweld llif ychwanegol o adnoddau'n mynd tuag at gefnogi busnesau. Nawr, rydym wedi gweld hynny yng Nghaerlŷr ac ardaloedd eraill hefyd, ac unwaith eto, credaf y byddai hyn yn elwa o ymateb cydgysylltiedig yn y DU, lle gallwn eistedd i lawr a deall yr ymateb cyllidebol sydd ar gael, a ph'un a oes cynllun DU gyfan o bosibl ar gyfer busnesau lle rydym yn gosod cyfyngiadau newydd arnynt. Mae ein sefyllfa gyllidebol yng Nghymru yn golygu nad ydym mewn sefyllfa lle mae gennym lawer o arian dros ben i allu ei roi i fusnesau i'w cefnogi pan fydd angen inni roi camau iechyd cyhoeddus ar waith i ddiogelu iechyd y cyhoedd yn ehangach. Dyna pam rwyf fi a'r Prif Weinidog wedi bod yn glir iawn ein bod eisiau gweld proses COBRA yn ailddechrau o ddifrif, i gael sgyrsiau rheolaidd, a rhannu penderfyniadau gobeithio, ond yn yr un modd, o fewn ein cyfrifoldebau unigol ein hunain, ffordd well o gyfathrebu, ym mhob rhan o Gymru a'r DU, y dewisiadau sy'n cael eu gwneud a'r hyn sy'n sail iddynt. 

O ran gwarchod, cynghorir y wlad gyfan i weithio gartref lle bynnag y bo modd, ac mae hynny'n sicr yn berthnasol i bobl ar y rhestr warchod, nid pobl sy'n byw yn Rhondda Cynon Taf a Chaerffili yn unig. Y cyngor gan ein prif swyddog meddygol—cawsom drafodaeth fwriadol am y boblogaeth sy'n gwarchod, ac er nad ydym yn cael ein cynghori i ailgyflwyno'r trefniadau gwarchod llawn ar hyn o bryd, rydym yn ystyried cyswllt uniongyrchol â phobl a oedd gynt yn cael eu gwarchod i'w hatgoffa o'r sefyllfa roeddent ynddi, y sefyllfa bresennol, ac i'w hatgoffa yn arbennig y dylent ddilyn y rheolau hyn yn llym er mwyn sicrhau eu bod yn lleihau eu risg o ddod i gysylltiad â'r coronafeirws, oherwydd eu bod mewn llawer mwy o berygl o niwed. 

A phan ddaw'n fater o aros yn lleol, mae gennym gyfyngiadau teithio lleol, ond mae hefyd yn gyfle i bobl gefnogi eu busnesau lleol. Ac mae hynny'n ymwneud â sut rydym yn cydymffurfio â'r rheolau ein hunain fel cwsmeriaid, ond hefyd sut y mae busnesau eu hunain yn ei gwneud yn glir eu bod yn darparu amgylchedd mor ddiogel â phosibl i'w cwsmeriaid er mwyn iddynt allu parhau i ddod yn ôl, boed ar-lein neu'n gorfforol. A gobeithio y bydd pobl o ddifrif ynglŷn â'r neges hon, nid yn unig o safbwynt gorfodaeth, ond er mwyn gofalu am ein staff ac edrych ar ôl y cyhoedd y maent yn eu gwasanaethu. 

15:40

Diolch i chi am y datganiad. Hoffwn ychwanegu at rai o'r pwyntiau sydd eisoes wedi'u gwneud a gofyn am sicrwydd ynglŷn â nifer o wahanol bethau. Yn gyntaf, ar gyfathrebu, a allech chi egluro sut y bydd y Llywodraeth, gan weithio gyda'r awdurdod lleol, yn cynyddu lefel y cyfathrebu yn lleol yn Rhondda Cynon Taf, yn yr achos hwn, ac mewn ardaloedd eraill yr effeithiwyd arnynt, oherwydd mae'n amlwg fod y negeseuon yn dal i gael eu colli? Chwe mis i mewn i'r pandemig, mae rhai negeseuon sylfaenol yn dal i gael eu colli. 

Elfen arall o gyfathrebu y byddwn yn awyddus i'w gweld yw rhoi gwybod i bobl pryd yn union y dylent fynd i gael eu profi, oherwydd mae pobl yn bod yn rhy ofalus. Ac mae hynny'n beth da; rydym eisiau i bobl sydd efallai angen prawf i wneud yn siŵr eu bod yn cael un. Ond os oes ffordd well o gyfathrebu, er mwyn annog pobl a allai fod â symptomau ond nad ydynt yn symptomau COVID mewn gwirionedd i beidio ag aros am brawf, byddai hynny'n ddefnyddiol iawn ar hyn o bryd. Rwyf wedi'i chael hi'n anodd ar brydiau i ddiffinio peswch newydd, parhaus ac yn y blaen. Felly, byddai cyfathrebu ar hynny'n dda.

Gorfodaeth—hoffwn gael sicrwydd ynglŷn â gorfodaeth. Sut rydych yn sicrhau bod y tafarndai lle mae pobl yn dal i gael ymgynnull yn cael eu plismona'n briodol, fod gan awdurdodau lleol bwerau ac adnoddau i'w plismona er mwyn sicrhau bod pobl yn gorfod cadw at y rheolau?

Mae cyfyngu ar gyswllt yn rhywbeth arall yr hoffwn gael sicrwydd yn ei gylch. Pa bryd y byddwch yn dweud nad yw cadw tafarn ar agor tan 11.00 p.m. yn dderbyniol, a bod rhaid i chi gael gwared ar fwy o gyfleoedd i bobl gymysgu? Oherwydd mae tystiolaeth wedi dangos, onid yw, y gall y lleoedd hynny fod yn beryglus. Ac wrth gwrs, os oes rhaid i chi gau lleoedd, rydym angen sicrwydd ynglŷn â chymorth i'r busnesau hynny.

Ac yn olaf, ar brofi, a gawn ni fwy o sicrwydd ynglŷn â sut y byddwn yn gwybod ein bod angen—y capasiti y mae'n rhaid inni ei gael o fewn ein cymunedau mewn labordai goleudy a'r systemau sy'n cael eu rhedeg gan y DU? Oherwydd dywedodd SAGE Annibynnol fisoedd yn ôl:

Mae taer angen cynllunio ar gyfer symud profion o'r labordai goleudy a sicrhau 'normaleiddio' capasiti cynyddol o'r fath yn fwy integredig ar draws ein labordai PHE/GIG presennol.

Fe wnaethoch chi fel Llywodraeth y gwrthwyneb. Rwy'n teimlo ein bod yn talu'r pris am hynny yn awr. Rydym angen sicrwydd y byddwn yn cael y profion rydym eu hangen dros gyfnod y gaeaf.

Diolch. Efallai yr af i'r afael â'r pwynt olaf yn gyntaf. Fe fyddwch yn cofio i ni gael anhawster a heriau gwirioneddol ar ddechrau'r pandemig o ran cynyddu ein hadnoddau profi ein hunain yn sylweddol. Roeddem wedi archebu offer ond bu oedi ac nid oedd modd ei ddosbarthu i Gymru. Roedd hynny oherwydd cyfyngiadau a gyflwynwyd mewn gwledydd eraill. Yna, bu'n rhaid i ni wynebu heriau pan gyrhaeddodd yr offer hefyd—un darn yn arbennig a gymerodd sawl wythnos i setlo a gweithredu'n iawn. Felly, dyna pam fod rhywfaint o anhawster o ran cynyddu ein hadnoddau profi ein hunain a'r bobl sydd eu hangen i sicrhau bod y profion hynny'n cael eu prosesu'n iawn, ynghyd â phryder ynghylch yr anawsterau y mae labordai goleudy yn eu hwynebu ar hyn o bryd. Oherwydd er bod Matt Hancock wedi dweud y bydd yn rhaid i ni aros nifer o wythnosau—hyd at oddeutu tair wythnos, mae'n gobeithio—cyn y bydd labordai goleudy mewn sefyllfa well gyda llawer mwy o gapasiti, ac yn gallu ateb y galw y maent yn ei wynebu, gwyddom ei bod yn bosibl i ddigwyddiadau eraill ymyrryd, a dyna pam ein bod eisoes yn newid ein capasiti.

Nid ydym yn aros tair wythnos a dweud, 'Mae'n rhaid i ni fod yn amyneddgar'; rydym mewn gwirionedd yn cynyddu ein capasiti ein hunain sydd ar gael i'r cyhoedd drwy labordai GIG Cymru. A dyna, yn rhannol, yw'r rheswm pam ein bod wedi cynyddu ein capasiti ein hunain i sicrhau bod dewis arall yn lle profion sydd ar gael i'r cyhoedd. Fodd bynnag, rydym hefyd wedi cynyddu'r capasiti hwnnw'n barod ar gyfer yr hydref a'r gaeaf, pan fyddwn yn disgwyl y bydd gennym fwy o bobl yn dod i'n hysbytai, mwy o bobl yn chwilio am ofal iechyd, a bydd angen inni gael cyfleusterau profi ar gael, a bydd yn caniatáu i ni, fel rydym yn ei wneud, ddefnyddio profion mewn ardaloedd lle ceir llawer o achosion. Felly, rydym yn gwneud yn union yr hyn roeddem yn meddwl y byddai angen inni ei wneud, ond mae'n gynharach ac mewn ffordd wahanol oherwydd yr heriau y mae rhaglen y DU yn eu hwynebu.

Nid yw'n ymwneud â ffydd ddall; mae'n ymwneud â realiti ymarferol o ran lle mae'r adnoddau. Rhaglen y DU yw hi ac mewn gwirionedd, ychydig fisoedd yn ôl, y feirniadaeth gyffredinol roeddwn yn ei chael oedd nad oeddem yn cymryd rhan pan oedd gwledydd eraill yn cymryd rhan. Gwnaethom ddatrys y problemau data ac fe weithiodd y rhaglen labordai goleudy yn yn eithaf da dros y misoedd diwethaf. Mae angen inni ymdrin yn awr â'r her rydym i gyd yn cydnabod ei bod yn digwydd a'r pryder y mae hynny'n ei achosi i etholwyr.

O ran gorfodi, hoffwn ganmol swyddogion iechyd yr amgylchedd ym mhob awdurdod lleol, ni waeth pwy sy'n arwain y cyngor hwnnw. Mae swyddogion iechyd yr amgylchedd wedi bod yn rhan enfawr o'r hyn rydym yn ei wneud ac rwy'n awyddus iawn i dalu teyrnged iddynt. Maent i gyd yn mynd y tu hwnt i'w dyletswyddau arferol i archwilio safleoedd, rhoi camau gorfodi ar waith a chadw'r cyhoedd yn ddiogel. Nid ydym yn bwriadu cyflwyno swyddogion COVID fel yr awgrymodd Llywodraeth y DU eu bod yn bwriadu ei wneud. Rydym yn gobeithio gweld mwy o bobl yn cael eu recriwtio i gynorthwyo swyddogion iechyd yr amgylchedd drwy brosesau recriwtio priodol ac mae awdurdodau lleol eisoes yn edrych ar sut y maent yn bwriadu gwneud hynny. Mae fy nghyd-Aelod, Julie James, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, yn gweithio gydag awdurdodau lleol ac yn bod yn glir ein bod eisiau eu gweld yn cydweithredu â'i gilydd. Oherwydd mewn gwirionedd, o ystyried y cynnydd parhaus yn nifer yr achosion yng Nghaerffili, maent wedi bod angen cymorth gan eraill, ac mae'n ymwneud â sut y mae cynghorau'n gweithio gyda'i gilydd, er mwyn sicrhau, yn hollbwysig, nad yw 22 awdurdod yn cystadlu yn erbyn ei gilydd am yr un adnoddau cyfyngedig.

Er hynny, hoffwn dalu teyrnged, nid yn unig i swyddogion iechyd yr amgylchedd, ond i arweinwyr yr awdurdodau lleol penodol rydym wedi bod yn gweithio gyda hwy. Gallaf ddweud, ar ddechrau hyn, gyda'r digwyddiad cyntaf yn Ynys Môn, fod arweinydd Plaid Cymru yno'n gyfrifol iawn ac roeddwn yn credu ei bod wedi gwneud gwaith da iawn yn arwain ei chyngor drwy'r digwyddiad mawr cyntaf hwnnw. Ac rydym yn gweld hynny yn awr gyda Philippa Marsden yng Nghaerffili ac Andrew Morgan yn Rhondda Cynon Taf. Ac mae'r berthynas honno, lle rydym yn siarad yn rheolaidd â hwy, yn bwysig iawn. Maent yn cyfathrebu'n unedig hefyd, fel bod pobl ar lawr gwlad, gyda'u cyfrifoldebau lleol mewn llywodraeth leol, yn cyflawni'r rheini gyda chefnogaeth, ac mewn ffordd sy'n gyson â Llywodraeth Cymru. Ac mae hynny hefyd yn ymwneud â symlrwydd ein neges.

Mae ein neges wedi bod yn gyson iawn yma yng Nghymru mewn gwirionedd. Mae heriau'n codi gyda gwahanol negeseuon a'r ffordd y mae'r cyfryngau'n cyfleu'r rheini, a gwahanol negeseuon yn enwedig dros ein ffin, lle mae llawer o bobl yn cael eu cyfryngau. Felly, rydym wedi bod yn ailgyhoeddi negeseuon, nid yn unig drwy'r cyfryngau cymdeithasol, ond drwy ddefnyddio cyfryngau Cymru hefyd, ac mae Gweinidogion wedi cael proffil uchel iawn nid yn unig yn y cyfryngau yng Nghymru, ond ar draws cyfryngau'r DU hefyd. Byddwn yn parhau i wneud hynny i geisio ymdrin â phryderon pobl mewn perthynas â'r neges, sut i gael prawf a phryd i gael prawf.

Mae'r symptomau'n cynnwys tymheredd uchel, peswch parhaus newydd neu golli'r gallu i flasu neu arogli. Dyna pryd y dylech fynd i gael prawf, ac os oes angen prawf arnoch, peidiwch â mynd i gyfleuster gofal iechyd. Peidiwch â mynd i ysbyty, peidiwch ag ymweld â'ch meddyg teulu, peidiwch â mynd i fferyllfa—dyna'n union lle nad ydym eisiau i chi fod. Os gallwch, archebwch eich prawf o adref os gwelwch yn dda, neu os oes angen i chi fynd i ganolfan alw i mewn, gwnewch yn siŵr nad ydych yn torri rheolau cadw pellter cymdeithasol sydd ar waith gydag aelodau eraill o'r cyhoedd.

15:45

Weinidog, yn gyntaf oll, a gaf fi gofnodi pwysigrwydd y gwaith y mae cyngor Rhondda Cynon Taf wedi bod yn ei wneud yn monitro a gorfodi archfarchnadoedd a thafarndai ac yn y blaen? Mae wedi bod yn bwysig. Ond rwy'n credu hefyd fod y gymuned rwy'n byw ynddi ac yn ei chynrychioli wedi sylweddoli bod achosion wedi bod yn cynyddu ac y byddai angen cymryd camau pellach.

Mae nifer o gwestiynau wedi'u hateb, ond rwyf eisoes wedi cael cannoedd o negeseuon am wybodaeth ac yn y blaen drwy'r cyfryngau cymdeithasol, ac mae hynny'n ddealladwy yn y ffordd y mae cyfathrebu wedi bod yn datblygu yn ein hetholaethau. Mae dau bwynt yno. Un pwynt sydd wedi'i godi yw'r henoed ac rydym yn pryderu'n fawr yn eu cylch wrth gwrs ac ni fyddant yn gallu cwrdd â'u swigod cefnogaeth yn yr un modd. Rwy'n meddwl tybed pa ystyriaeth a roddwyd i'r math o gymorth a chyngor y mae angen eu rhoi i'r henoed yn y sefyllfa honno. Gwyddom hefyd, gydag ysgolion yn ailagor—ac rydym eisiau i'n hysgolion aros ar agor—fod llawer o neiniau a theidiau'n mynd â'u hwyrion a'u hwyresau i'r ysgol, a gallai fod problemau yno o ran eu gallu i barhau i wneud hynny ai peidio. Byddai'n ddefnyddiol pe gallech daflu goleuni ar y cwestiwn penodol hwnnw.

Ac yna un pwynt olaf. Rydych wedi cyfeirio at drosglwyddiad cymunedol. Wrth gwrs, mae llawer o negeseuon ar y cyfryngau cymdeithasol yn dweud, 'Wel, mae gennym glystyrau yma ac acw, pam na wnawn ni gau'r ardaloedd lle mae'r clystyrau hynny'n bodoli?' Credaf y byddai'n ddefnyddiol, Weinidog, pe gallech egluro heddiw beth yw'r broblem o ran trosglwyddiad cymunedol, pam nad yw'n realistig nac yn ymarferol o ran rheoli'r lledaeniad presennol i gau ardaloedd bach neu ardaloedd cyfyngedig yn unig, a pham ei bod yn bwysig ein bod yn edrych ar hyn yn fwy eang o ran cyflymder a lledaeniad y trosglwyddiad.

Ac yna un pwynt olaf. Mae Prifysgol De Cymru wedi bod yn gwneud llawer o waith yn datblygu technoleg ar gyfer profion cyflym. Rwy'n meddwl tybed a oes gennych unrhyw wybodaeth neu ddiweddariad ynglŷn â sut y mae hwnnw'n mynd rhagddo, oherwydd os yw'n gwneud cynnydd, mae'n amlwg ei fod yn cynnig cyfleoedd aruthrol.

15:50

Diolch am y cwestiynau. Ar y pwynt olaf yn gyntaf, mae datblygiad posibl Prifysgol De Cymru yn dal i fod mewn treialon. Deallwn eu bod yn edrych yn gadarnhaol. Mae'n un o nifer o brofion pwynt gofal posibl lle gallwch brofi pobl yn gyflym. Mae gennym eisoes ddyfais o'r fath y mae gennym ni a'r Alban yn arbennig ddiddordeb ynddi, a dylai honno, unwaith eto, ddarparu prawf mewn llai nag 20 munud. Felly, yn hollbwysig, dylai'r prawf hwnnw ein galluogi i fynd i'r afael â rhai mathau o'r ffliw hefyd, sy'n arbennig o ddefnyddiol yn ystod tymor y ffliw hyd yn oed os nad oes COVID ar bobl. Os oes ffliw arnynt, mae'n glefyd heintus a dylem gofio bod 8,000 i 10,000 o bobl ledled y DU yn colli eu bywydau yn ystod tymor ffliw cyffredin. Felly, mae bygythiadau gwirioneddol, ac os oes angen i chi gael brechiad ffliw gan y GIG, rydych mewn grŵp agored i niwed mewn perthynas â COVID hefyd. Felly, wrth inni gael rhagor o wybodaeth, byddwn yn parhau i sicrhau bod hwnnw ar gael, nid yn unig i'r Aelod etholaeth, ond i'r Aelodau ar draws y Siambr hefyd.

Ar eich pwynt ynglŷn â gorfodaeth, unwaith eto, y pwynt am swyddogion iechyd yr amgylchedd a'r gwaith y maent wedi'i wneud a'r ffordd y maent wedi gweithio gyda'i gilydd ar draws ffiniau—mae rhai partneriaethau ar draws gwahanol awdurdodau lleol—mae eu hymrwymiad yn arwyddocaol iawn ac mae wedi gwneud gwahaniaeth mawr iawn o ran y cydgysylltiad rhwng cyfrifoldebau awdurdodau lleol a'r gwasanaeth iechyd hefyd. Mae ein gwasanaethau iechyd a llywodraeth leol yn bendant wedi gweithio fel tîm. Felly, bydd y gweithgarwch gorfodi hwnnw—y gwiriadau—yn parhau, ond y man cychwyn yw sicrhau bod busnesau eu hunain yn dilyn y rheolau a bod cwsmeriaid yn dilyn y rheolau hefyd.

Daw'r rheolau i rym am 6 o'r gloch yfory, ond fel y gwelsom yng Nghaerffili, mae ymddygiad yn dechrau newid cyn gynted ag y gwneir y cyhoeddiad, ac rydym eisiau i bobl ymddwyn fel hyn i ddiogelu eu hunain, eu teuluoedd a'u cymuned. Dyna yw pwynt a diben hyn: ceisio achub bywydau. Mae canllawiau Caerffili yn ddefnyddiol i bobl Rhondda Cynon Taf oherwydd ein bod wedi ateb amryw o gwestiynau. Bydd cwestiynau tebyg iawn i'r rhai a ofynnwyd yng Nghaerffili. Yn ogystal â chanllawiau Caerffili, mae'n ymwneud â chyfyngu ar yr oriau gwerthu mewn safleoedd trwyddedig.

Ar ysgolion ac unigolion â chyfrifoldebau gofalu, hyd yn oed yng nghanol y cyfyngiadau symud cenedlaethol, roedd yn esgus rhesymol i rywun ymweld â pherson arall yn eu cartref os oes gennych gyfrifoldebau gofalu amdanynt. Mae hynny'n dal yn wir yn awr. Ond nid ydym yn gweld y trefniadau aelwydydd estynedig yn goroesi o yfory ymlaen yn Rhondda Cynon Taf oherwydd y dystiolaeth ynglŷn â throsglwyddo cymunedol a heriau pobl yn cymysgu dan do heb gadw pellter cymdeithasol.

Daw hynny'n ôl at y pwynt olaf sy'n rhaid i mi fynd i'r afael ag ef, eich pwynt am drosglwyddiad cymunedol neu glystyrau. Os ystyriwch y materion a welsom, er enghraifft, mewn amrywiaeth o ardaloedd, boed yn broblem bresennol General Dynamics, lle mae llawer o'r gweithlu ym Merthyr Tudful, ond mae rhai gweithwyr yn teithio o ymhellach i ffwrdd, neu'r broblem flaenorol a welsom—gwelaf yr Aelod dros Flaenau Gwent yn yr ystafell—yn Zorba, lle roedd gweithlu mawr, ond roeddem yn deall pwy oeddent a lle roeddent yn byw. Roedd y cyflogwr a'r undebau llafur—lle roeddent i'w cael—yn cydweithredu'n dda ac yn annog pobl i gael eu profi a'u profi'n gyflym, felly pan welsom fod llawer o brofion yn cael eu cynnal yn gyflym iawn, golygai fod y cyfraddau achosion yn rhai o ardaloedd yr awdurdod wedi codi'n sylweddol, ond roeddem yn deall beth oedd hynny. I bob pwrpas, roedd hwnnw'n glwstwr hunangynhwysol o bobl a oedd â chysylltiadau rhagweladwy â'i gilydd.

Yr hyn a welwn yn Rhondda Cynon Taf yw bod posibl rhagweld tua hanner yr achosion yn yr ardaloedd hynny a deall sut y trosglwyddir y feirws. Rydym yn gweld tua hanner yr achosion, ond mewn ardaloedd lle nad ydym yn deall lle mae'r achos cyntaf na sut y maent yn cysylltu â'i gilydd, dyna pryd y gwelwn drosglwyddiad cymunedol yng nghyswllt arferol pobl â phobl sy'n dilyn y rheolau yn hytrach na'r digwyddiadau unigol, er enghraifft, yn y clwb a aeth i rasys Doncaster ar fws yn ystod y dydd, gan fynd i mewn ac allan o dafarndai a dod yn ôl hefyd. Mae'r digwyddiad unigol hwnnw wedi digwydd ochr yn ochr â lledaeniad cymunedol ehangach a dyna'r perygl gwirioneddol a allai ein rhoi ni i gyd yn ôl yn y sefyllfa roeddem ynddi ym mis Mawrth eleni, ychydig cyn dechrau'r cyfyngiadau symud cenedlaethol, a dyna rydym yn awyddus iawn i'w osgoi a pham rydym yn apelio ar bobl i ddilyn y rheolau, nid yn unig yn Rhondda Cynon Taf a Chaerffili, ond y rheolau sy'n berthnasol yng ngweddill y wlad hefyd.

15:55

Diolch, Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ymuno â'r Gweinidog ac eraill sydd wedi canmol gwaith swyddogion rheng flaen ar lawr gwlad mewn gwahanol adrannau yn Rhondda Cynon Taf, dan arweiniad Andrew Morgan, ac asiantaethau eraill hefyd? Maent wedi gwneud gwaith rhagorol nid yn unig yn yr oriau a'r dyddiau diwethaf, ond dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf hefyd mewn gwirionedd. Hefyd, ei alwad ar Lywodraeth y DU i ymestyn cymorth nid yn unig i weithwyr, yn bwysig, ond hefyd i fusnesau yr effeithir arnynt gan rwystrau lleol a chyfyngiadau lleol hefyd, neu fel arall mae'r pwysau economaidd ac ariannol yno i blygu'r rheolau, mynd yn ôl; nid ydym eisiau i hynny ddigwydd, ond mae yna realiti ar lawr gwlad. Rwyf innau hefyd wedi cael nifer o gwestiynau yn dod i mewn yn fyw i mi ers i'r cyhoeddiad gael ei wneud, a tybed a gaf fi ofyn y rhain i'r Gweinidog.

Yn gyntaf oll, mewn ardaloedd fel Gilfach Goch a Llanharan ac ardaloedd eraill, sydd ar ffin Rhondda Cynon Taf ond o fewn etholaeth Ogwr, lle nad ydym wedi cau tafarndai a chlybiau, lle nad oes gennym ddata eto sy'n dangos bod clwstwr lleol dwys o achosion o'r feirws yno, mae pobl yn gofyn a ellir mabwysiadu dull mwy hyperleol o ymdrin â hyn dros y dyddiau a'r wythnosau nesaf neu a oes yn rhaid mynd yn ôl ardal y fwrdeistref sirol. A oes rhesymau pam mai dull sy'n gweithredu ar draws y fwrdeistref sirol yw'r dull a ffafrir? Ai'n syml at ddibenion gorfodi y gwneir hyn, ar gyfer monitro? Nid wyf yn gwybod, ond mae pobl yno'n dweud, 'Wel, pam ein bod ni'n cael ein cosbi pan nad oes gennym nifer o achosion yma, pan fo'n tafarndai a'n clybiau'n ymddwyn yn dda?' ac yn y blaen.

Yn ail, ardaloedd ffiniol ychydig y tu allan, megis Evanstown a Gilfach Goch, sydd yn llythrennol ar yr un ochr i'r stryd, gyda theulu a chymdogion sy'n cymudo ar draws at ddibenion gwarchod plant ac sydd ag aelwydydd estynedig rhwng dwy fwrdeistref sirol yn wynebu ei gilydd ar ddwy ochr i stryd, pa gyngor y dylem fod yn ei roi i'r rhai yn Evanstown nad yw'r cyfyngiadau hyn yn effeithio'n uniongyrchol arnynt, ond a fydd yn effeithio arnynt pan fyddant yn sylweddoli bore yfory na fydd eu gwarchodwyr plant neu eu neiniau a'u teidiau neu beth bynnag, wel, na fyddant yn gallu ymweld â hwy? Pa gyngor y dylem fod yn ei roi?

Ac yn olaf, mae llawer o bobl wedi cysylltu â mi eisoes, ond cysylltodd un pâr a oedd wedi aildrefnu eu priodas o gyfnod cychwynnol y cyfyngiadau symud yn gynharach yn y flwyddyn, o fis Mai i fis Hydref, i leoliad gwahanol yn y Bont-faen. Maent wedi archebu lle, mae ganddynt nifer cyfyngedig o westeion yn dod, maent yn byw yn Llanharan, ac maent yn gofyn yn awr a yw hyn yn golygu na all eu priodas ddigwydd am yr eildro. Rwy'n tybio nad yw'r newyddion yn dda, ond os felly yng ngoleuni'r hyn roedd Vikki yn ei ddweud, a allai Llywodraeth Cymru ymestyn y llythyr hwnnw iddo allu mynd nid yn unig at drefnwyr gwyliau a chwmnïau teithio, ond hefyd at leoliadau priodas ac eraill i sicrhau eu bod yn dangos y cydymdeimlad mwyaf posibl at bobl y mae hyn yn effeithio arnynt?

Diolch am y gyfres o gwestiynau. Rwyf am ddweud eto fod peth cysondeb yn yr hyn y mae'r Aelodau wedi'i ddweud a phwyntiau i'r gwrthwyneb hefyd. Felly, gan feddwl am yr hyn a ddywedodd Leanne Wood, 'Pam nad ydym yn cau'r holl dafarndai yn awr?', mae yna wrthbwynt yn yr ystyr fod yna dafarndai sy'n gyfrifol, nad ydynt eisiau gweld unrhyw gyfyngiadau, ac mae ein sefyllfa yn fesur o gyfyngiad ar gyfer pob safle trwyddedig oherwydd y dystiolaeth sydd gennym. Rydym wedi dewis peidio â chau pob safle oherwydd ein bod yn cydnabod bod rhai'n ymddwyn yn gyfrifol, ac fel y dywedais, nid ydym eisiau symud yr holl weithgaredd hwnnw i gartrefi pobl lle mae mwy fyth o berygl o drosglwyddiad.

Felly, fel y dywedais, mae'n gydbwysedd, ac mae gwneud penderfyniadau hyperleol yn creu her o ran faint o negeseuon gwahanol y mae pobl yn gallu eu derbyn a dal i'w dilyn oherwydd mae llawer o bobl yn dweud, 'Rhowch reolau syml a chanllawiau syml i ni eu dilyn a'u deall.' Mae'n sail i beth o'r rhwystredigaeth sydd gan aelodau'r cyhoedd am wahanol negeseuon rhwng gwahanol Lywodraethau. Rydym yn ceisio gwneud y peth iawn i Gymru a gwneud penderfyniadau cenedlaethol a deall penderfyniadau lleol, ac mewn unrhyw ardal lle mae gennych ffin o amgylch y penderfyniadau rydych yn eu gwneud, bydd yna groesi drosodd ac angen i ddeall. Nawr, mae'r ymylon garw hynny o amgylch y penderfyniadau a wnawn yn anochel, ond nid oes dewis perffaith, fel y gwyddoch a chithau'n gyn Weinidog; ni fyddwch byth yn cael gwneud dewis perffaith mewn Llywodraeth. Ond o fewn hyn, mae'n rhaid inni wneud penderfyniadau a fydd, at ei gilydd, yn cadw pobl yn ddiogel, ac yn osgoi cymaint o niwed â phosibl.

Felly, o ran yr her ynglŷn â'r ffin, mae gwahaniaeth rhwng ymweld at ddibenion cymdeithasol a phobl sydd â chyfrifoldebau gofalu gwirioneddol. I rai pobl, maent yn gyfrifoldebau gofalu go iawn ac i eraill, nid dyna ydynt. Nawr, mae hynny'n tarfu ar y ffordd y mae pobl yn byw eu bywydau, ac rwy'n cydnabod hynny, ond os na wnawn hyn, rydym yn debygol o weld coronafeirws yn lledaenu ymhellach, nid yn unig o fewn Rhondda Cynon Taf, ond ar draws y ffin eithaf mandyllog honno yn y ffordd y mae pobl yn byw eu bywydau arferol. Rydym i gyd yn cydnabod y niwed a ddigwyddodd cyn ac yn ystod y cyfyngiadau symud cyntaf.

Wedyn, ar eich pwynt ynglŷn ag effaith cyfyngiadau symud, rwy'n dyfalu bod her yma i Drysorlys y DU feddwl am effaith cyfyngiadau lleol, lle rydych yn rhoi terfyn ar lawer o weithgarwch ac rydych bron yn sicr yn gweld gostyngiad yn y derbyniadau treth a gweithgarwch economaidd, ac ar yr un pryd, y gost y mae angen i chi fynd iddi er mwyn cynnal y gweithgarwch hwnnw, a beth fydd yn digwydd os nad ydym yn cefnogi busnesau a'r heriau o ganlyniad i fethiant y busnesau hynny os na chânt eu cefnogi, ac yn yr un modd, yr heriau llawer ehangach os na chaiff pobl eu cefnogi i ynysu fel y dylent ei wneud. Os bydd pobl yn mynd allan, mae'n gwneud cyfyngiadau lleol a chyfyngiadau symud cenedlaethol—nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y DU—yn fwy tebygol, gyda phris ariannol llawer uwch i'w dalu, yn ogystal â phris y byddwn i gyd yn ei weld yn cael ei dalu o ran iechyd a lles pobl.

Ar eich pwynt ynglŷn â lleoliadau priodas, rwy'n credu bod y pwynt wedi'i wneud yn dda. Mae arnaf ofn nad yw'r newyddion yn dda i'ch etholwyr, ond byddaf yn ystyried y pwynt ynglŷn â sut rydym ni o fewn y Llywodraeth yn ysgrifennu at y lleoliadau hynny a'r cwmnïau hynny, oherwydd rwy'n cydnabod ei fod yn ddigwyddiad mawr mewn bywyd, bydd yna bobl sy'n bryderus iawn yn ei gylch, ac mae ystyr iddo. Felly, byddaf yn sicr yn edrych ar hynny ac yn ystyried eich sylwadau. 

16:00
4. Cwestiynau Amserol

Yr eitem nesaf yw'r cwestiynau amserol, ond does dim wedi cael eu cytuno ar gyfer heddiw.

5. Datganiadau 90 Eiliad

Yr eitem i ddilyn, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad. Mae'r datganiad cyntaf gan Jack Sargeant. 

Diolch yn fawr, Lywydd. Ddydd Iau diwethaf, 10 Medi, roedd hi’n Ddiwrnod Atal Hunanladdiad y Byd. Mae hunanladdiad yn cael effaith niweidiol aruthrol ar deuluoedd ac ar gymunedau, effaith sy'n para am oes. Mae'r ffeithiau am hunanladdiad yn llwm: yn 2018, bu farw 6,507 o bobl yn y DU o ganlyniad i hunanladdiad, gyda dynion deirgwaith yn fwy tebygol o farw drwy hunanladdiad na menywod. Eleni, i nodi Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd, gweithiais gyda Chlwb Pêl-droed Cei Connah i ledaenu’r neges. Y thema eleni oedd gweithio gyda'n gilydd i atal hunanladdiad, ac rwy'n hynod falch o dîm Cei Connah, ac os caf ddweud, Lywydd, rwy'n hynod o falch o ddod yn llysgennad y clwb yn ddiweddar. Rwy'n gobeithio y bydd y fideo a wnaethom gyda'n gilydd yn cyrraedd rhywun sydd angen clywed ei bod hi'n iawn i beidio â bod yn iawn, a bod cymorth ar gael. Nawr, Lywydd ac Aelodau, mae'r fideo wedi’i binio ar frig fy ffrydiau cyfryngau cymdeithasol, felly ystyriwch helpu eraill drwy ei rannu. Lywydd, mae mwy i'w wneud ac nid oes amheuaeth fod angen i Lywodraethau wneud mwy. Ond mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae yn atal hunanladdiad. Felly, fel y dywedais ar y dechrau, cynhelir Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd yn flynyddol ar 10 Medi, ond gadewch inni wneud ymrwymiad heddiw yma yn Senedd Cymru, yn y Senedd hon, fod Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd yn digwydd 365 diwrnod y flwyddyn, a bod pob un ohonom yn gweithio gyda'n gilydd i atal hunanladdiad.

Roedd yn fraint i mi ymweld yr wythnos diwethaf, gyda fy nghyd-Aelod Adam Price, â sefydliad gwych yn Llanelli, CYCA—Cymdeithas Ieuenctid a Phlant Sir Gaerfyrddin gynt, ac a elwir bellach yn Connecting Youth, Children and Adults. Rwyf wedi bod yn ymwybodol o waith CYCA ac wedi’u cefnogi ers bron i 20 mlynedd, ac roedd yn ysbrydoledig iawn gweld sut y maent wedi mynd o nerth i nerth wrth gefnogi plant, pobl ifanc a theuluoedd yn yr amseroedd heriol hyn, ac eleni, maent yn dathlu eu pen-blwydd yn 40 oed. Byddai'n haws rhestru'r hyn nad yw CYCA yn ei wneud yn y maes na'r hyn y maent yn ei wneud, gan fod eu gwaith mor bellgyrhaeddol. Maent yn cynnal meithrinfeydd a grwpiau ieuenctid, cyrsiau addysg a hyfforddiant, maent yn darparu cwnsela a chefnogaeth unigol, a chefnogaeth i deuluoedd. Gwnaeth straeon dwy fam ifanc argraff fawr arnom, gan eu bod, drwy CYCA, nid yn unig wedi derbyn cefnogaeth gyda heriau ynysu a bywyd teuluol, ond maent hefyd wedi gallu dychwelyd at addysg; mae un yn dechrau hyfforddi fel bydwraig yr wythnos hon. Ac roedd hefyd yn wych gweld cynllun presgripsiynu cymdeithasol arloesol, lle mae meddygon teulu’n cyfeirio plant a phobl ifanc sy'n wynebu trallod at CYCA. Mae'r tîm wedyn yn gweithio gyda'r teulu cyfan, gan nodi anghenion cymorth a darparu beth bynnag sydd ei angen—cwnsela, cymorth rhianta, cymorth yn yr ysgol—ac mae'r gefnogaeth hon yn para cyhyd â bod ei hangen ar y plant a'r teulu. Mae eisoes wedi cael cryn dipyn o lwyddiant, gyda lles pobl ifanc wedi'i wella'n fawr. Dywedodd un o ddefnyddwyr y gwasanaeth wrthyf flynyddoedd yn ôl, 'Y peth am CYCA yw nad ydynt byth yn rhoi’r gorau i geisio’ch helpu'. Ac nid ydynt. Nid yw CYCA byth yn rhoi’r gorau i geisio helpu plentyn, unigolyn ifanc, oedolyn agored i niwed neu deulu. Rydym yn ffodus i’w cael yn ein tref, ein sir a'n cymuned. Pen-blwydd hapus iawn, CYCA. Edrychaf ymlaen at weld beth fyddwch chi'n ei wneud yn y 40 mlynedd nesaf.

16:05

Yr wythnos hon, rydym yn coffáu 80 mlynedd ers Brwydr Prydain, wythnos pan frwydrodd y Llu Awyr Brenhinol i'r eithaf dros ein gwlad a'n ffordd o fyw. Yn erbyn pedair gwaith yn fwy o awyrennau’r Luftwaffe, dangosodd dewrder a medr ein hawyrenwyr ei bod yn bosibl trechu goresgyniad Natsïaidd. Roedd eu llwyddiant wrth drechu’r Natsïaid yn foment bwysig yn y rhyfel, yn strategol ac yn seicolegol. Pe bai'r frwydr wedi'i cholli, byddai Prydain wedi cwympo ac ni fyddai'r gwrthymosodiad, a ddechreuodd ar y glannau hyn ac a newidiodd lwybr y rhyfel, wedi bod yn bosibl. Felly, 80 mlynedd yn ddiweddarach, rydym yn cofio'r ychydig rai, chwedl Churchill, y bron i 3,000 o awyrenwyr o Brydain, y Gymanwlad a phob cwr o’r byd a ymladdodd yn yr awyr gyda dewrder a phenderfyniad yn ystod haf hir a phoeth. Chwaraeodd Cymru ran bwysig ym Mrwydr Prydain: yn RAF Penarlâg, hyfforddwyd peilotiaid i hedfan awyrennau Spitfire; bu RAF Pen-bre yn gweithredu fel gorsaf reoli awyrennau wrth i awyrennau Spitfire a Hurricane esgyn oddi yno; ac o'r 67 o awyrenwyr o Gymru a ymladdodd, gwnaeth 17 ohonynt yr aberth fwyaf un. Felly, 80 mlynedd yn ddiweddarach, rydym yn cyfarch yr arwyr hyn ac yn diolch i Dduw am eu cyflawniadau anhygoel.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:07.

16:20

Ailymgynullodd y Senedd am 16:22, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.

6. Cynnig o dan Reol Sefydlog 10.5 i benodi Cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru

Rydym yn ailymgynnull, ac awn at eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma, sef cynnig o dan Reol Sefydlog 10.5 i benodi cadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru. Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid i wneud y cynnig—Llyr Gruffydd.

Cynnig NDM7374 Llyr Gruffydd

Cynnig bod y Senedd, yn unol â pharagraff 5(1) o Atodlen 1 i Ddeddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013, ac o dan Reol Sefydlog 10.5:

Yn penodi Lindsay Foyster yn Gadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru o 17 Hydref 2020 tan 15 Mawrth 2023.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o gael cyflwyno'r cynnig yma heddiw ar ran y Pwyllgor Cyllid, a gofyn i'r Senedd gytuno i benodi Lindsay Foyster yn gadeirydd ar fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru, a hynny, wrth gwrs, yn unol â Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2013.

Mae gan Lindsay Foyster brofiad helaeth o weithredu ar lefel bwrdd yn y trydydd sector ac yn y sector cyhoeddus, gan gynnwys dros bum mlynedd fel aelod anweithredol o fwrdd Swyddfa Archwilio Cymru a mwy na chwarter canrif o brofiad gweithredol ar lefel bwrdd yn y trydydd sector. Mae Lindsay hefyd yn gadeirydd medrus, gyda phrofiad helaeth o gadeirio ar draws sawl sefydliad ac mewn gwahanol sefyllfaoedd yn y trydydd sector ac yn y sector cyhoeddus.

Mi fydd yr Aelodau hefyd yn dymuno nodi bod adroddiad y pwyllgor ar benodi aelodau anweithredol a chadeirydd Swyddfa Archwilio Cymru yn rhoi manylion pellach am y broses recriwtio, gan gynnwys penodi Ian Rees ac Elinor Gwynn fel aelodau anweithredol newydd, a phenodi Alison Gerrard i'w hail dymor fel aelod anweithredol.

Hefyd, mi hoffwn roi ar gofnod pa mor ddiolchgar yw'r pwyllgor i Isobel Everett wrth iddi, wrth gwrs, adael ei rôl fel cadeirydd, a chydnabod ei chyfraniad gwerthfawr hi ers sefydlu Swyddfa Archwilio Cymru yn 2013. Mae Isobel wedi arwain y bwrdd mewn ffordd arloesol, ac wedi gwneud hynny yn seiliedig ar gydweithrediad ac mewn modd, wrth gwrs, sydd wedi gwneud Swyddfa Archwilio Cymru yn gorff mwy gweledol ac uchel ei barch. Mae'r corff ar sylfaen gref i'r rhai a fydd yn ei dilyn hi.

Hefyd, mi hoffwn i achub ar y cyfle yma i gydnabod cyfraniad pwysig Bill Richardson tuag at y swyddfa archwilio dros y tair blynedd nesaf, wrth iddo fe adael ei rôl fel aelod anweithredol.

A chyda hynny o eiriau, felly, Dirprwy Lywydd, dwi'n gofyn i'r Senedd dderbyn y cynnig. Diolch.

Diolch. Nid oes unrhyw siaradwyr, felly'r cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Cynnig i sefydlu pwyllgor o dan Reol Sefydlog 16.3: Pwyllgor y Llywydd
8. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau: 'Budd-daliadau yng Nghymru: opsiynau i'w cyflawni'n well'

Symudwn at eitem 8, sef dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Budd-daliadau yng Nghymru: opsiynau i'w cyflawni'n well’, a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—John Griffiths.

Cynnig NDM7373 John Griffiths

Cynnig bod y Senedd:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, 'Budd-daliadau yng Nghymru: opsiynau i'w cyflawni'n well', a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Hydref 2019.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy’n falch o agor y ddadl heddiw ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar fudd-daliadau yng Nghymru. Cyhoeddwyd adroddiad gennym ym mis Hydref 2019, pan oedd y byd yn lle gwahanol iawn. Er bod y pandemig wedi chwarae rhan fawr yn gohirio'r ddadl hon, nid dyna'r unig reswm dros yr oedi hwnnw. Ar y cychwyn, ni wnaeth Llywodraeth Cymru ymateb i saith o'n hargymhellion, gan ei bod yn aros am ddadansoddiad gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru. Pan gwblhawyd y gwaith hwn ym mis Ionawr 2020, ymrwymodd y Llywodraeth i ymateb i'r argymhellion nad oedd wedi ymateb iddynt erbyn y Pasg. Yna, gohiriodd y pandemig yr ymateb terfynol, a daeth hwnnw i law ym mis Mai.

Ar ôl aros cyhyd am ymateb o sylwedd i’r argymhellion, roedd hi'n siomedig felly na ddarparodd Llywodraeth Cymru yr ymateb manwl roeddem yn ei ddisgwyl. Fe wnaethant nodi, yn erbyn cefndir COVID a'r ansicrwydd ynghylch y newidiadau brys i'r system fudd-daliadau, nad nawr yw'r amser i ystyried newidiadau hirdymor i nawdd cymdeithasol. Serch hynny, mae'r pandemig wedi amlygu natur ansicr sefyllfa ariannol gormod o lawer o bobl—ansicrwydd nad yw’n unrhyw fai arnynt hwy, ond sy'n deillio o'r ffaith nad ydynt yn ennill digon o arian i dalu am bethau sylfaenol. Mae'r llwybr traddodiadol allan o dlodi—gwaith—wedi’i rwystro. Cyn y pandemig, roedd dros hanner y bobl a oedd yn byw mewn tlodi mewn aelwydydd lle roedd o leiaf un unigolyn yn gweithio. Felly, gofynnaf i Lywodraeth Cymru: os nad heddiw, pa bryd y byddant yn edrych ar hyn mewn ffordd gynhwysfawr ac yn ystyried galw am y pwerau angenrheidiol fel bod gan Gymru reolaeth dros y budd-daliadau y gellir eu darparu a'u gosod orau yn y fan hon?

Gallwn eisoes ddysgu llawer o brofiad yr Alban. Yn amlwg, ni fyddai'n hawdd a byddai'n dod â risgiau yn ei sgil, ond fel y dywedodd rhai o'r rhanddeiliaid wrthym, ceir risg sylweddol wrth aros gyda'r sefyllfa sydd ohoni hefyd. Credwn y gallai manteision datganoli rhai budd-daliadau fod mor sylweddol, a gallent wneud cymaint i helpu i gynorthwyo pobl yng Nghymru i godi allan o dlodi, fel ei bod yn werth bod yn feiddgar a cheisio'r pwerau perthnasol. Mae'n werth nodi hefyd y bydd datganoli yn cymryd amser a dylem osgoi unrhyw oedi pellach cyn dechrau'r siwrnai hon.

Gan symud ymlaen at effaith y pandemig, bu cynnydd sylweddol yn nifer y bobl sy'n hawlio budd-daliadau yng Nghymru ers dechrau'r cyfyngiadau symud. Rhwng mis Mawrth a mis Gorffennaf, bu cynnydd o 71 y cant yn nifer y bobl yng Nghymru sy'n derbyn credyd cynhwysol, ac mae cronfa cymorth dewisol Llywodraeth Cymru wedi darparu dros 52,000 o daliadau brys coronafeirws ers mis Mawrth. Rwy’n falch fod Llywodraeth Cymru wedi mabwysiadu ymagwedd fwy hyblyg tuag at geisiadau i’r gronfa cymorth dewisol, gan alluogi mwy o bobl i gael mynediad at y cronfeydd brys hynny.

Yn ystod ein gwaith yn edrych ar effaith y pandemig, clywsom am yr angen am newidiadau pellach sy'n gwneud mwy i gefnogi'r bobl yr effeithir arnynt fwyaf yng Nghymru. Mae'r argymhellion a wnaethom yn yr adroddiad hwn bron i flwyddyn yn ôl wedi dod yn bwysicach fyth bellach. Edrychodd ein hargymhellion ar y ddau newid y gellid eu gwneud o fewn y setliad presennol yn ogystal â lle gallai fod angen datganoli pellach. Fel y soniais, mae'n siomedig nad yw Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu'n llawn â'r argymhellion diweddarach hynny yn ein hadroddiad.

Ond symudaf ymlaen yn awr at newidiadau y gellid eu gwneud o fewn y setliad presennol. Mewn perthynas ag argymhellion 1 i 9, gwelwyd cynnydd mwy cadarnhaol. Fodd bynnag, mae yna rai meysydd yr hoffwn gael rhagor o eglurder yn eu cylch, ac rwyf am ganolbwyntio ar y rhain yn awr. Yn argymhelliad 1, rydym yn galw am sefydlu system fudd-daliadau gydlynol ac integredig i Gymru sy'n cwmpasu'r holl fudd-daliadau prawf modd y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanynt. Rwy'n falch fod yr argymhelliad hwn wedi'i dderbyn. Yn eu hymateb, tynnodd Llywodraeth Cymru sylw at eu hadolygiad trawslywodraethol o raglenni a gwasanaethau i blant, pobl ifanc a theuluoedd sy'n byw mewn tlodi. Yn ymateb diweddaraf y Llywodraeth, dywedant fod yr adolygiad bron â bod wedi'i gwblhau. A all y Dirprwy Weinidog amlinellu pa bryd y mae’n disgwyl i'r adolygiad hwn gael ei gyhoeddi, ac a all roi blas inni hefyd o sut y bydd hyn yn helpu i wella cydlyniad a’r gwaith o integreiddio budd-daliadau Llywodraeth Cymru?

Argymhelliad 3—galwad am i'r gronfa cymorth dewisol fod ar gael yn ystod y cyfnod aros pum wythnos am daliad credyd cynhwysol, a galwad am i’r meini prawf a'r broses ymgeisio egluro hyn yn glir. Rwy’n falch fod yr argymhelliad hwn wedi’i roi ar waith, ond fel y nodwyd gennym yn ein hadroddiad ar COVID a chydraddoldebau, a gyhoeddwyd dros yr haf, rydym yn parhau i bryderu nad yw pawb a allai fod yn gymwys i gael yr arian hwn yn ymwybodol y gallant wneud cais amdano. Mae pryderon ynglŷn ag ymwybyddiaeth wedi cael eu lleisio ers 2015. Yn ein hadroddiad ar COVID, gwnaethom argymell y dylid ailfrandio'r gronfa cymorth dewisol, ac edrychaf ymlaen at ymateb y Llywodraeth i'r adroddiad hwnnw yn yr wythnos i ddod.

Yn ymateb y Llywodraeth i'r adroddiad hwn, mae'r Dirprwy Weinidog yn nodi ei bod hi, ynghyd â'r Prif Weinidog, wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU ynglŷn â'r cyfnod o bum wythnos cyn cael credyd cynhwysol, gan alw am droi blaendaliadau sydd ar gael ar hyn o bryd fel benthyciadau ad-daladwy yn grantiau nad oes angen eu had-dalu. A all y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynglŷn ag a gafwyd unrhyw ymateb gan Lywodraeth y DU ar ba gamau pellach y gellir eu rhoi ar waith?

Un o'r themâu allweddol a glywsom, yn y gwaith hwn a'n gwaith dilynol ar COVID-19, oedd fod gormod o bobl nad ydynt yn hawlio cymorth y maent yn gymwys i'w gael. Felly, gwnaethom argymell camau gweithredu i wella'r nifer sy'n hawlio'r holl fudd-daliadau, boed yn rhai datganoledig neu rai heb eu datganoli. Rydym yn galw, fan lleiaf, am ymgyrch gyhoeddus eang a phellgyrhaeddol i godi ymwybyddiaeth.

Mae Llywodraeth Cymru wedi pwysleisio pwysigrwydd y gronfa gynghori sengl sy'n darparu cyngor ar fudd-daliadau ac yn cynyddu'r nifer sy'n hawlio. Maent hefyd yn tynnu sylw at y gwaith y maent wedi bod yn ei wneud gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau ar nifer y bobl hŷn nad ydynt yn hawlio budd-daliadau y maent yn gymwys i'w cael. Rydym yn croesawu hyn, ond rydym yn dal i gredu bod mwy o weithredu yn hanfodol. Mae'r angen am ymgyrch o'r fath wedi cynyddu ers i ni adrodd gyntaf. Gwnaethom ailadrodd yr argymhelliad hwn yn ein hadroddiad ar COVID. Galwodd Sefydliad Bevan hefyd am ymgyrch o’r fath yn eu hadroddiad diweddar ar COVID a thlodi. A yw'r Dirprwy Weinidog bellach yn derbyn y galwadau hyn, ac a wnaiff hi ymrwymo i ymgyrch o'r fath i godi ymwybyddiaeth?

Cyn i mi gloi, hoffwn ofyn hefyd am ddiweddariad gan y Dirprwy Weinidog ar y trafodaethau gyda Llywodraeth y DU i gryfhau llais Cymru mewn penderfyniadau ar fudd-daliadau heb eu datganoli. Ddirprwy Lywydd, edrychaf ymlaen yn awr at glywed cyfraniadau o bob rhan o'r Senedd ac ymateb y Dirprwy Weinidog. Diolch yn fawr.

16:30

Wel, drwy gydol ein hymchwiliad, pwysleisiais fod yn rhaid i'n hystyriaeth o opsiynau ar gyfer cyflawni budd-daliadau yn well yng Nghymru ganolbwyntio ar p'un a fyddai hyn o fudd cynhenid i bobl yng Nghymru, yn hytrach nag ar safbwyntiau polisi byrhoedlog gwahanol Lywodraethau. Mae Llywodraethau yn Llundain a Chaerdydd yn mynd a dod, a bydd yr agenda bolisi rhwng y ddwy lywodraeth ac o'u mewn yn newid dros amser. Felly, rhaid inni ganolbwyntio ar p'un a fyddai cyflawni pethau ar lefel ddatganoledig am byth ynddo'i hun yn diwallu anghenion Cymru'n well ac yn mynd i'r afael â'r effaith ar feysydd polisi datganoledig, yn hytrach nag adlewyrchu'r wleidyddiaeth mewn perthynas â pholisïau presennol y DU a Llywodraeth Cymru.

Fel y dywed ein hadroddiad,

'[nid] yw datganoli yn gwella pethau’n awtomatig, pwynt a godwyd gan y mwyafrif o randdeiliaid gan gynnwys Oxfam Cymru, Sefydliad Bevan, academyddion o Brifysgol Bangor a’r Dirprwy Weinidog.'

Fel y nodwyd gennym hefyd, rhaid cydbwyso  

'gwobr bosibl darparu gwasanaethau sy’n gweddu’n well i anghenion penodol Cymru'

â'r posibilrwydd o dorri'r undod cymdeithasol ledled y DU sy'n sail i'r egwyddor fod gan holl ddinasyddion y DU hawl cyfartal i'r wladwriaeth les a bod budd-daliadau a beichiau yn dibynnu ar angen ac nid ar ddaearyddiaeth.

Fel y dywedodd y Sefydliad Tai Siartredig wrthym, mae'r model cyfredol

'sy’n gwasgaru gwariant nawdd cymdeithasol dros sylfaen ddemograffig fwy yn un sydd ar hyn o bryd yn fanteisiol i Gymru', 

ble, ac rwy'n dyfynnu,

'[y]n sgîl lefel uwch o ddibyniaeth ar fudd-daliadau yng Nghymru, dywedodd fod peth incwm i bob pwrpas yn cael ei drosglwyddo o Loegr i Gymru.'

Fel y dywedasant hefyd, nid yw rhagybio'n unig y bydd yn well am eich bod yn nes ato—nid wyf yn credu bod hynny o reidrwydd yn dilyn.

Tynnodd Sefydliad Bevan sylw at yr angen i wahaniaethu rhwng y budd-daliadau y gellid dadlau eu bod yn rhan o'r contract cymdeithasol, e.e. budd-daliadau sy'n seiliedig ar gyfraniadau yswiriant gwladol, a'r rhai sy'n daliadau ychwanegol amrywiol a gynlluniwyd i gefnogi pobl mewn amgylchiadau penodol, e.e. i reoli costau tai uwch. Dywedant y gellid lleihau tlodi pe bai'r cynlluniau datganoledig presennol, gan gynnwys y gronfa cymorth dewisol a chynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, yn cael eu dwyn ynghyd mewn system fudd-daliadau gydlynol, effeithiol a theg i Gymru.

Yn yr Alban, pwysleisiwyd yr angen i gynnwys pobl â phrofiad byw wrth gynllunio'r system nawdd cymdeithasol newydd, yn ogystal â'r angen i wrthbwyso'r arbedion a gynhyrchir gan lai o apeliadau yn erbyn cost cynyddu'r nifer sy'n hawlio. O ran gweinyddu budd-daliadau'r DU, clywsom fod llai o sancsiynau credyd cynhwysol nag erioed o'r blaen. Er bod cyd-Geidwadwyr yn yr Alban wedi cefnogi datganoli rhai pwerau nawdd cymdeithasol, sef tua 16 y cant o wariant lles yn yr Alban, rhagwelir twll du ariannol o £1 biliwn er bod gan Lywodraeth yr Alban fwy o hyblygrwydd ariannol, ac mae'n dal i fod angen i'r penderfynwyr wneud penderfyniadau anodd ar lefel ddatganoledig. Dywedir wrthym hefyd fod maint yr Adran Gwaith a Phensiynau yn golygu na fydd datganoli yn yr Alban yn gweithio heb ei fewnbwn effeithiol.

Fel y dywed ein hadroddiad, rydym yn pryderu nad yw'r prosesau asesu presennol yn rhoi'r ystyriaeth orau bob amser i'r anghenion neu'r heriau penodol sy'n wynebu pobl â rhai cyflyrau, mater rwyf wedi bod yn ei godi dro ar ôl tro gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau a Capita mewn perthynas ag achosion etholwyr. A dyna pam fod angen ymgorffori profiad byw pobl wrth gynllunio, gweithredu a gwerthuso'r system fudd-daliadau. Yn groes i ddatganiad yr adroddiad fod angen archwilio pellach ar ddull yr Alban, lle mae'r sector preifat wedi'i dynnu allan o'r broses asesu, dylai'r ffocws felly fod ar y broses asesu yn hytrach na phwy sy'n ei chyflawni. P'un a yw asesiadau'n cael eu cynnal gan y sector cyhoeddus, y sector preifat neu'r trydydd sector, byddant yn methu oni bai bod pobl sydd â phrofiad byw yn rhan o'r gwaith o'u cynllunio, eu cyflawni a'u monitro.

Rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhellion y dylai sefydlu system fudd-daliadau Gymreig gydlynol ac integredig ar gyfer yr holl fudd-daliadau prawf modd y mae'n gyfrifol amdanynt, wedi'u cydgynhyrchu gyda phobl sy'n hawlio'r budd-daliadau hyn a'r cyhoedd yn ehangach yng Nghymru, a'i bod yn defnyddio pecyn cymorth dull bywoliaeth gynaliadwy Oxfam, gan gydnabod bod gan bawb alluoedd ac asedau y gellir eu datblygu i'w helpu i wella eu bywydau. Mae angen troi geiriau'n weithredu go iawn yn awr fel bod pethau'n cael eu gwneud gyda phobl o'r diwedd yn hytrach nag iddynt.

Dywed Llywodraeth Cymru ei bod yn cwblhau'r camau sydd i'w cymryd yn dilyn ei hadolygiad o'i rhaglenni a'i gwasanaethau presennol, ac yn adeiladu ar y camau a gymerwyd eisoes mewn ymateb i'r argyfwng presennol. Fodd bynnag, ni fydd datblygu cyfres o egwyddorion a gwerthoedd ar gyfer seilio system fudd-daliadau Gymreig arnynt a mynd i'r afael â thlodi'n ehangach yn llwyddo heb gynnwys dinasyddion yn y canol. Diolch.

16:35

Hoffwn ddechrau drwy ganmol yr adroddiad hwn i'r Senedd a llongyfarch y pwyllgor. Byddwn yn dadlau bod hon yn enghraifft o'n Senedd ar ei gorau: tystiolaeth fanwl wedi'i chasglu a'i hystyried yn ofalus, ac argymhellion manwl a chryf, gyda llawer o feddwl y tu ôl iddynt. Fel Senedd ac fel cenedl, dylem fod yn ddiolchgar i'r pwyllgor am ei waith.

Yn anffodus, mae ymateb y Llywodraeth yn llai ysbrydoledig—gormod o 'rydym yn ei wneud eisoes', gormod o 'dderbyn mewn egwyddor', y gwyddom i gyd mai'r hyn y mae'n ei olygu yn y bôn yw 'gwyddom eich bod yn iawn ond nid ydym yn mynd i'w wneud', ac ar gyfer argymhellion 10 i 17, dim ymateb o gwbl hyd nes y gwneir gwaith ymchwil, er gwaethaf y gwaith ymchwil roedd y pwyllgor eisoes wedi'i wneud. Fel y mae John Griffiths eisoes wedi'i ddweud, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn gallu rhoi ymateb mwy cadarnhaol yn ei chyfraniad i'r ddadl hon, yn enwedig yng ngoleuni'r hyn rydym wedi'i ddysgu am dlodi drwy argyfwng COVID.

Rwyf am wneud sylwadau ar yr argymhellion hyn. Mae'r pwyllgor wedi edrych yn ofalus ar ddatganoli agweddau amrywiol ar y system fudd-daliadau ac wedi gwneud achos pwerus iawn dros wneud hynny, ac nid oes angen i mi ailadrodd y rheini; rwyf am siarad am yr egwyddor gyffredinol. Ddirprwy Lywydd, rwy'n siŵr y gallwn i gyd gytuno bod tlodi yn bla yn ein gwlad. Yn bersonol, rwy'n drist iawn ac yn ddig fy mod yn byw mewn gwlad lle mae traean o'n plant yn dlawd. Mae'n warth cenedlaethol. A gobeithio y gallwn i gyd gytuno mai'r ateb hirdymor yw i ni adeiladu economi lle mae gwaith yn talu, lle mae cyflogaeth o ansawdd da ar gael i bawb, a lle caiff ffyniant ei rannu ledled Cymru. Ond yn y tymor byr, bydd llawer o unigolion a theuluoedd angen budd-daliadau i allu ymdopi, a gwaethygu fydd y sefyllfa hon yn sgil argyfwng COVID, fel y clywsom eisoes. 

Mae'r system fudd-daliadau bresennol—ac rwy'n canolbwyntio yma ar y budd-daliadau nad ydynt wedi'u datganoli, ond gellid dadlau ei fod yn wir am system fudd-daliadau Cymru hefyd—yn gymhleth, mae'n stigmateiddio, ac nid yw'n rhoi digon o incwm i unigolion a theuluoedd allu byw bywyd gweddus. Os ydym o ddifrif ynglŷn â chodi pobl allan o dlodi, mae angen inni ddefnyddio'r system fudd-daliadau i'n helpu i wneud hynny. Ac nid wyf yn credu am funud, ac rwy'n amau nad yw'r Aelodau ar feinciau'r Llywodraeth yma ychwaith yn credu y gellir ymddiried yn y Llywodraeth Geidwadol bresennol yn San Steffan i wneud hynny, er eu bod yn mynd a dod. Yn sicr, nid yw fy etholwyr yn profi'r math o undod cymdeithasol ac ailddosbarthu y mae Mark Isherwood yn siarad amdano. 

Felly, rwy'n dal i fethu deall pam nad yw'r Llywodraeth yn ceisio pwerau dros y budd-daliadau hyn ar fyrder. Gallaf ddeall rhai pryderon ariannol, mae honno'n agwedd gyfrifol, ond bydd Gweinidogion yn ymwybodol, er enghraifft, o'r ymchwil a wnaed gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru na chanfu unrhyw dystiolaeth y byddai datganoli rhywfaint o bŵer dros fudd-daliadau i Gymru, fel sydd eisoes wedi'i wneud i'r Alban, yn anghynaliadwy'n ariannol. Yn wir, yn dibynnu ar ba fodel a ddefnyddiwyd, dangosodd y gallai Trysorlys Cymru elwa'n sylweddol o ddatganoli pwerau lles.

Ddirprwy Lywydd, yn rhannol fel ymateb i COVID, mae syniadau newydd ac arloesol yn cylchredeg yng Nghymru ynglŷn â sut y gallem godi pobl allan o dlodi. Er enghraifft, byddai llawer yn y Siambr hon yn dadlau o blaid treialu incwm sylfaenol cyffredinol. Mae fy mhlaid yn argymell taliad plant i Gymru i roi diwedd ar dlodi absoliwt ymhlith plant yng Nghymru. Ond ni all y syniadau hyn weithio'n iawn, a mynd y tu hwnt i dreialon, oni bai bod y pŵer dros y system fudd-daliadau yma. Mae'r pwyllgor wedi cyflwyno achos pwerus, angerddol gyda thystiolaeth dda, ac rydym wedi clywed hyn eto yn araith John Griffiths heddiw. Rwy'n annog y Llywodraeth i weithredu ar hynny yn awr. Fel y dywedodd John Griffiths, bydd yn cymryd amser. Pe baem yn dechrau'r broses i geisio datganoli'r budd-daliadau hyn, byddai'n cymryd amser iddynt ddod. Fel y dywedodd John, mae ein cyd-ddinasyddion tlotaf angen i'n Llywodraeth fod yn feiddgar.

16:40

Mae'n bleser gennyf ddilyn y siaradwr diwethaf a hefyd fy Nghadeirydd ar y pwyllgor, John Griffiths. Rwy'n codi'n syml iawn i gefnogi'r holl bwyntiau sydd wedi'u gwneud mewn perthynas â'r adroddiad a gyflwynwyd gennym a'r argymhellion, oherwydd credaf fod yr adroddiad yn gytbwys iawn mewn gwirionedd. Nid yw'n rhyfygus nac yn ideolegol nac yn ffocysu'n ormodol ar bwynt terfyn penodol. Gwrandawodd yn ofalus iawn ar y dystiolaeth a ddaeth o'n blaenau. Mae'n adlewyrchu'n fawr natur drawsbleidiol y pwyllgor a safbwyntiau gwleidyddol a phersonol gwahanol y rhai a oedd yn aelodau o'r pwyllgor—rhaid imi ddweud, safbwyntiau personol a gwleidyddol gwahanol iawn y rhai a oedd yn aelodau o'r pwyllgor. Nid yw'n galw am ddatganoli pob un o'r budd-daliadau'n gyfan gwbl, ac yn sicr nid ar unwaith. Mae'n edrych am ffyrdd ymarferol o ddatganoli elfennau arwyddocaol ond wedi'u targedu o fudd-daliadau, yn ogystal â datganoli cryn dipyn yn fwy o'r gwaith o weinyddu budd-daliadau. A pham? Yn unswydd er mwyn gwella bywydau pobl yng Nghymru.

Wyddoch chi, o safbwynt personol, rwyf wedi dweud dro ar ôl tro yn y Siambr hon, ar sail fy mrand i o sosialaeth, rwyf am weld y system fudd-daliadau yn cefnogi pobl yn Abertawe a Southport a Stockport ac ym mhobman arall yn gyfartal, ac mae'n rhaid inni gydnabod—ac rwy'n gwyro oddi wrth y pwyllgor ar un ystyr; fy safbwynt i yw ein bod, dros y 10 mlynedd diwethaf, wedi cael cyfundrefn gosbol. Gwelais dystiolaeth ohoni yn fy etholaeth fy hun. I mi, mae hynny'n ddi-os. Ond ni allem ddweud yn yr un modd na fyddai gan ryw Lywodraeth yng Nghymru yn y dyfodol, duw a'n helpo, Mary, a John ar y monitor yn y fan acw, ymagwedd ddiniwed tuag at y system fudd-daliadau a nawdd cymdeithasol—efallai y bydd Llywodraeth yng Nghymru yn y dyfodol yn ei wneud, ond o leiaf byddai gennym y mecanweithiau yma ac yn nes at y bobl fel y gallem ddadlau, 'Pam eich bod yn gwneud yr hyn rydych yn ei wneud?' yn hytrach na Gweinidogion pell yn Whitehall a mandariniaid Whitehall sy'n dweud 'Dyma'r ffordd y mae'n mynd i fod, a gallwch dincran o amgylch yr ymylon ond dyna fyddwch chi'n ei gael.' Felly, byddwn yn dadlau wrth y Gweinidog mai dull ymarferol a geir yn hyn, gan gydnabod y dystiolaeth a glywsom yn gyson dro ar ôl tro. Daeth pobl ger ein bron fel pwyllgor ac nid oeddent yn dadlau, mewn gwirionedd, dros ddatganoli'n gyfan gwbl, nid oeddent yn dadlau ar sail ideolegol; roeddent yn bobl a oedd yn wynebu realiti caled y bobl y maent yn ceisio'u cefnogi, a oedd mewn gwaith yn ogystal ag yn ddi-waith ac yn derbyn budd-daliadau, a sut y gallem roi system ar waith yn well yng Nghymru a fyddai er eu lles mewn gwirionedd.

Ym mis Mai 2020, dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol o'n blaenau yma, Hannah, wrth y pwyllgor, 'Oherwydd cyfnod ansicr y pandemig, nid yw'n ymddangos mai nawr yw'r adeg orau, o ran yr adnoddau sydd ar gael ac argaeledd tystiolaeth, i ystyried newidiadau hirdymor llawn i nawdd cymdeithasol.' Mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â hynny ar y pandemig o'n blaenau a'r adnoddau, yn sicr; nid oes gennyf gydymdeimlad â'r elfen sy'n sôn am y dystiolaeth, oherwydd fe wnaethom lawer o waith ar y pwyllgor y credaf y byddai'n helpu'r Llywodraeth i wneud beth bynnag sydd angen iddynt ei wneud i fireinio'r dystiolaeth, ac i fwrw ymlaen ag ef. Gyda llaw, nid wyf yn tanbrisio'r hyn a gawn yn ôl gan Lywodraeth y DU ar hyn, ond fe ddylem ofyn. Dylem gael safbwynt a'i roi yno, a dod yn ôl yn y Senedd nesaf a rhoi'r safbwynt hwnnw eto nes inni gael Llywodraeth yn Llundain a fydd yn gwrando.

Dywedodd y Gweinidog hefyd y byddai'n ailedrych ar y mater pwysig hwn eto pan fydd Llywodraeth Cymru wedi gallu ailystyried yn llawn unrhyw newidiadau a wnaed i system nawdd cymdeithasol y DU a sut y mae system nawdd cymdeithasol Llywodraeth y DU wedi gallu ymateb i heriau'r argyfwng byd-eang yng Nghymru, a chael cyfle i adolygu unrhyw dystiolaeth ar sut y mae'r gwahanol fodelau sy'n gweithredu ar gyfer trefniadau nawdd cymdeithasol datganoledig mewn gwledydd datganoledig eraill wedi mynd i'r afael â'r argyfwng. Rwy'n cydnabod bod y glaswellt yn tyfu'n uwch ac yn uwch wrth imi fynd drwy hynny, a dyna fyddwn i'n ei ofyn i'r Gweinidog i gefnogi'r Cadeirydd ac aelodau eraill o'r pwyllgor a luniodd argymhellion a chasgliadau clir iawn ar hyn. Ceir cyfyngiadau ar adnoddau ar hyn o bryd yn ddi-os, ac nid COVID yn unig, ond yr hyn y mae proses ymadael â'r UE wedi bod yn ei wneud i'n gwasanaeth sifil, ac yn y blaen; rwy'n deall hynny. Ond mae gwir angen inni symud ymlaen ar hyn yn awr, ac fel y dywedaf unwaith eto wrth gloi, nid am resymau ideolegol ond o ran y mesurau ymarferol a fydd yn gwella bywydau llawer o fy etholwyr a phobl ledled Cymru, dylem fod yn gwneud y penderfyniadau hyn yn nes at adref, yn nes at adref yng Nghymru. 

16:45

Rwy'n falch ein bod yn cael y ddadl hon heddiw a hoffwn gynnig fy llongyfarchiadau fy hun i'r Cadeirydd, i'r pwyllgor a'r tîm clercio am y gwaith a wnaethant ar gynnal yr ymchwiliad hwn; roedd hynny cyn imi fod yn aelod o'r pwyllgor.

Dylid barnu cymdeithas wâr yn ôl y ffordd y mae'n trin ei dinasyddion mwyaf agored i niwed. Ni ddylai fod stigma ynghlwm wrth dderbyn budd-daliadau ac ni ddylid gwneud i neb deimlo'n israddol am fod angen help llaw arnynt. Dylid adeiladu tosturi yn rhan o'r system. Yn anffodus, mae hynny'n aml mor bell o'r gwir. Am nifer o flynyddoedd, bûm yn gweithio i Cyngor ar Bopeth Cymru ac rwy'n ddiolchgar iddynt am y nodiadau a anfonwyd at nifer ohonom cyn y ddadl heddiw, yn ogystal â Sefydliad Bevan.

Pan oeddwn yn gweithio i Cyngor ar Bopeth, gwelais yr angen am system fudd-daliadau i Gymru drosof fy hun. Mae credyd cynhwysol yn system sydd, wel, mae'n ymddangos ar adegau o leiaf fel pe bai'n gwthio pobl i ddyled bellach. Mae oedi cyn talu'r budd-dal yn golygu bod gormod o bobl yn gorfod cael benthyciadau drud ar frys i allu ymdopi ac yna'n treulio'u hoes yn ceisio'u had-dalu. Mae'r system sydd gennym yn rhy gymhleth, nid yw cymhwysedd i gael budd-daliadau yn gyson, a disgwylir i bobl ddarganfod drostynt eu hunain beth y maent yn gymwys i'w gael, yn hytrach na'u bod yn cael y budd-daliadau hynny'n awtomatig. 

Mae bylchau yn y ddarpariaeth ac fel y mae Sefydliad Bevan wedi nodi, dibynnir yn aml ar gynlluniau dewisol y bwriadwyd iddynt fod yn ddewis olaf yn y tymor hwy i gadw teuluoedd i fynd. Pe baem yn sôn am fusnesau, ni fyddem yn credu bod hynny'n swnio'n gynaliadwy, felly pam y dylid disgwyl i deuluoedd neu unigolion fyw yn y sefyllfa beryglus honno?

Fan lleiaf, credaf fod angen datganoli'r gwaith o weinyddu nawdd i'r Senedd fel y gallwn greu system sy'n gweithio i Gymru, sy'n ateb heriau ein cymdeithas ac yn lliniaru effeithiau gwaethaf toriadau pan fyddant yn dod o San Steffan. Gallem sicrhau bod budd-daliadau'n cyrraedd y bobl sydd eu hangen, eu bod yn defnyddio meini prawf cymhwysedd cyson, eu bod yn hawdd i gael gafael arnynt a'u bod yn helpu i wella bywydau pobl. Ni ddylai budd-daliadau gaethiwo pobl mewn mwy o ddyled nac mewn tlodi. Dylent fod yn fwy na dim ond digon i allu goroesi. Rwy'n ei ddweud eto: ni ddylai fod unrhyw stigma ynghlwm wrth hawlio budd-daliadau. Dylai pob un ohonom gael ein harwain gan yr uchelgais i wella bywydau'r bobl a gynrychiolwn, pawb sy'n galw Cymru'n gartref iddynt.

Ac yn olaf, Ddirprwy Lywydd, byddwn yn dadlau y byddai datganoli'r system fudd-daliadau yn ein galluogi i helpu i gau bylchau sydd ar hyn o bryd yn caniatáu i rai pobl ddisgyn rhwng dwy stôl, os caf gymysgu fy nhrosiadau. Dros gyfnod y cyfyngiadau symud, daeth etholwr ifanc i gysylltiad â mi am ei bod yn gorfod talu costau angladd aelod agos o'r teulu. Gan ei bod yn fyfyriwr, nid oedd yn gallu cael arian o'r cronfeydd caledi sydd i fod i helpu pobl gyda'r costau hyn. 'Na' meddai'r cyfrifiadur. Mae fy etholwr wedi cychwyn ymgyrch, mae wedi lansio deiseb, mae hi wedi cael sylw yn y papurau newydd cenedlaethol, ac rwy'n ei chanmol yn fawr am hynny, a'r cyfan i geisio sicrhau nad oes yn rhaid i neb arall wynebu caledi ariannol yn ogystal â galar arteithiol yn y sefyllfa hynod annheg hon. Ei phenderfyniad yw helpu pobl eraill a gobeithio y gallwn ddysgu gwers o'i phrofiad ac y gallwn ddefnyddio hyn fel rheswm pellach dros fynnu bod y system fudd-daliadau'n cael ei datganoli. Dim ond pan fydd gennym system sy'n cael ei rheoli gan ein Llywodraeth ein hunain, wedi'i chynllunio ar gyfer anghenion ein dinasyddion, y bydd gennym yr ysgogiadau i sicrhau nad oes yn rhaid i neb arall fynd drwy'r hyn yr aeth hi drwyddo.

Rwy'n cymeradwyo'r adroddiad ac yn edrych ymlaen at yr adeg y gwireddir yr argymhellion.

16:50

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i'r Aelodau, y pwyllgor a'r Senedd ehangach, am eu cyfraniadau, ac rwy'n croesawu'r cyfle o'r diwedd i allu ymateb i'r ddadl hon ac i adroddiad ymchwiliad y pwyllgor heddiw.

Fel y clywsoch yma heddiw yn ystod y ddadl, mae pob un ohonom yma'n gwybod yn iawn sut y mae'r pandemig COVID-19 wedi arwain at gyfnod anodd i'n cymunedau ac i'n gwlad. Rydym wedi gweithio'n galed fel Llywodraeth i gamu i mewn a darparu cymorth lle gallwn, yn enwedig i'r unigolion a'r teuluoedd mwyaf agored i niwed.

Gwelsom yn gynnar yn y pandemig Adran Gwaith a Phensiynau Llywodraeth y DU yn gwneud rhai newidiadau i'r cymorth ariannol a gynigid a'r ffordd y câi ei ddarparu. Er bod y newidiadau hyn i'w croesawu, ymateb cyndyn a gafwyd i ymyriadau eraill a allai fod yn fwy allweddol. A hyn er gwaethaf sylwadau mynych, nid yn unig gan wleidyddion Llywodraeth Cymru a Phrif Weinidog Cymru, ond gan sefydliadau anllywodraethol, dinasyddion a rhanddeiliaid o bob rhan o'r wlad. Mae ailgyflwyno'r system sancsiynau a'r gwrthodiad llwyr i hepgor yr oedi o bum wythnos cyn taliad cyntaf y credyd cynhwysol yn enghreifftiau o benderfyniadau sydd wedi gwthio pobl agored i niwed ymhellach i galedi ariannol. Rhwng canol mis Mawrth a chanol mis Gorffennaf roedd 120,000 o bobl yn hawlio credyd cynhwysol o'r newydd yng Nghymru. Pobl y mae angen cymorth arnynt ar frys yw'r rhain ac angen i rwyd diogelwch nawdd cymdeithasol fod yno, ac nid biwrocratiaeth.

Yma yng Nghymru, fe wnaethom weithredu'n gyflym i sicrhau bod cymorth ar gael. O 1 Mai, gweithredwyd newidiadau sylweddol i'r gronfa cymorth dewisol, sy'n darparu taliadau brys i bobl sy'n wynebu'r caledi ariannol mwyaf eithafol. Ychwanegwyd £8.9 miliwn ychwanegol at y gronfa i gefnogi cynnydd yn nifer y ceisiadau gan bobl yr effeithiwyd arnynt, a chafodd y meini prawf cymhwysedd eu hailwampio i gynnwys y rhai yr effeithiwyd arnynt waethaf gan COVID-19. Roedd hyn yn cynnwys pobl a oedd yn aros am eu taliad credyd cynhwysol cyntaf a'r rhai a oedd yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd oherwydd y pwysau ariannol a achoswyd gan y pandemig. Mae nifer y taliadau a wneir bellach yn dair gwaith y lefel cyn y cyfyngiadau symud. Ers dechrau'r pandemig, mae'r gronfa hon wedi cefnogi dros 64,000 o ddyfarniadau ac wedi gweld £3.9 miliwn o daliadau cymorth brys yn cael eu gwneud i bobl y nodwyd eu bod yn y sefyllfaoedd mwyaf enbyd oherwydd COVID-19. Ar 4 Awst, cyhoeddais ein bod yn ymestyn cyfnod llacio rheol y gronfa cymorth dewisol hyd at 31 Mawrth 2021. Bydd hyn yn golygu y gall pobl sy'n wynebu caledi barhau i wneud pump yn hytrach na thri hawliad mewn cyfnod o 12 mis, a bydd dileu'r terfyn 28 diwrnod rhwng hawliadau yn parhau.

Drwy gydol y pandemig hwn, rydym wedi parhau i adeiladu ar y cymorth trawslywodraethol i unigolion a theuluoedd sy'n agored i niwed drwy ddarparu cyflog cymdeithasol mwy hael. Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau sy'n cyfateb i arian parod i alluogi dinasyddion Cymru i gadw arian mawr ei angen yn eu pocedi. Darparwyd gwerth £40 miliwn ychwanegol o gyllid ar gyfer prydau ysgol am ddim i helpu teuluoedd i fwydo eu plant tra bod ysgolion ar gau, ac rydym wedi dyrannu £2.85 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol yng Nghymru i fynd i'r afael â'r cynnydd yn nifer y ceisiadau am gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor.

Rydym hefyd wedi cefnogi elusennau bwyd a sefydliadau bwyd cymunedol i ateb y galw digynsail am fwyd brys gan y bobl yr effeithiwyd arnynt gan yr argyfwng. Mae cyllid o fwy nag £1 filiwn wedi'i gymeradwyo o gynllun grant cronfa argyfwng y gwasanaethau gwirfoddol i gefnogi dosbarthu bwyd, ac ym mis Mai cytunais ar gyllid o fwy na £98,000 i'w ddyrannu i FareShare Cymru i ddatblygu mecanwaith addas ar gyfer mynd i'r afael ag ansicrwydd bwyd yng ngogledd Cymru drwy ailddosbarthu bwyd dros ben. Mae mwy o bobl nag erioed wedi gorfod troi at fanciau bwyd ac rydym wedi gwneud llawer iawn i sicrhau nad yw'r banciau bwyd hynny eu hunain yn mynd yn brin.

Pan edrychwn ar effaith y pandemig ar lefelau tlodi, gan gynnwys tlodi plant, gwyddom ei fod yn debygol o fod yn sylweddol. Yn erbyn y cefndir hwn rydym wedi rhoi camau ar waith i alluogi pobl i wneud y mwyaf o'u hincwm a helpu i leihau costau byw hanfodol i aelwydydd incwm isel. Mae llawer o'r camau hyn wedi'u llywio gan ymchwiliad y pwyllgor, a hoffwn ddiolch i'r pwyllgor am eu gwaith sylweddol ac ystyrlon yn y maes hwn.

Rydym eisoes wedi dechrau gweithio ar gynyddu'r nifer sy'n hawlio budd-daliadau ac rydym yn gweithio gydag Oxfam Cymru i ymgorffori eu dull bywoliaeth gynaliadwy yn rhaglen y gronfa cymorth dewisol i ddechrau cyn i ni geisio ei symud ymlaen i raglenni cymorth budd-daliadau eraill i Gymru. Roeddwn wedi gobeithio mynychu sesiwn gweithdy ymarferol, ond symudodd ar-lein ac roeddwn yn falch o gymryd rhan ynddo gydag Oxfam Cymru ar y dull bywoliaeth gynaliadwy a gweld yr ystod o arfau sydd ar gael yn uniongyrchol. Mae Oxfam Cymru bellach wedi cytuno'n garedig i gyflwyno mwy o'r sesiynau ymwybyddiaeth hyn i'n partneriaid a gymeradwywyd gan y gronfa cymorth dewisol yn ystod y mis hwn.

Mae'r holl waith hwn yn seiliedig ar y ddealltwriaeth glir ei bod yn hanfodol fod pawb sy'n gymwys i gael cymorth yn ymwybodol o'r ystod lawn o fudd-daliadau sydd ar gael iddynt a'u bod yn eu cael. Wrth agor, soniodd Cadeirydd y pwyllgor am yr angen i godi ymwybyddiaeth fel un o'r argymhellion ac i atgyfnerthu'r dull hwn rydym yn buddsoddi £800,000 i ddarparu mentrau i alluogi pobl i wneud y mwyaf o'u hincwm. Byddwn yn cynnal ymgyrch gyfathrebu i gyd-fynd â newidiadau i'r cynllun cadw swyddi ym mis Hydref, gan weithio gyda'r trydydd sector ac awdurdodau lleol i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o'r budd-daliadau, y gwasanaethau a'r rhaglenni sy'n bodoli eisoes i liniaru neu leddfu tlodi incwm, ac rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau o'r Senedd hon yn awyddus i helpu i hyrwyddo ymwybyddiaeth o hynny ochr yn ochr â ni.

Cynhelir hyfforddiant ar-lein rhwng mis Tachwedd 2020 a mis Ebrill 2021 i weithwyr rheng flaen i'w galluogi i ddarparu cymorth i deuluoedd sy'n byw mewn tlodi wneud y mwyaf o'u hincwm. Ochr yn ochr â hyn, byddwn yn gweithio'n helaeth gydag amrywiaeth o bartneriaid i sicrhau bod gwasanaethau cynghori yn cyrraedd yn ddwfn i mewn i gymunedau ac yn cael eu darparu o fannau lle mae'r bobl fwyaf anghenus yn mynd iddynt.

Ddirprwy Lywydd, mae ein hardaloedd lleol wedi ymateb yn eithriadol yn ystod yr argyfwng hwn i sicrhau bod cymorth yn cael ei ddarparu i deuluoedd incwm isel. Byddwn yn parhau i'w cynorthwyo i ddarparu atebion lleol, gan adolygu gyda'n gilydd sut y gallwn symleiddio'r ffordd y caiff budd-daliadau Cymru eu gweinyddu a'u gwneud yn fwy hygyrch.

Ddirprwy Lywydd, hoffwn gyffwrdd â rhai o sylwadau'r Cadeirydd pan fynegodd ei siom ynglŷn â'r ymateb i argymhellion 10 i 17. Er y gallaf ddeall ei fod efallai'n teimlo—[Anghlywadwy.]—rwy'n awyddus iawn i ailadrodd y ffordd y mae llawer o fewn Llywodraeth Cymru, nid fi, nid Gweinidogion, wedi mynd allan o'u ffordd yn yr argyfwng hwn i sicrhau ein bod yn gallu ymateb yn effeithiol i bobl sydd angen help yn y fan a'r lle, a'u cefnogi. Hoffwn ddweud yn glir ein bod yn cydnabod yn llwyr fel Llywodraeth y gallai datganoli pwerau penodol sy'n ymwneud ag elfennau o nawdd cymdeithasol roi ystod ehangach o arfau inni fynd i'r afael â thlodi, a dyna pam y gofynasom i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru ymgymryd â'r gwaith yn y maes hwn yn y lle cyntaf a byddwn yn parhau i edrych ar dystiolaeth a hefyd yn cynnwys tystiolaeth y pwyllgor hwn yn ein gwaith.

Gobeithio y bydd yr Aelodau'n deall, yn y tymor byr, fod yn rhaid inni ganolbwyntio ar ddefnyddio ein pwerau presennol hyd yr eithaf—ac ie, mewn rhai achosion, yn well—i sicrhau ein bod yn cefnogi'r bobl sydd â'r angen mwyaf yn y presennol. Dyna fyddwn ni'n parhau i'w wneud a dyna fyddwn ni'n parhau i'w fynnu gan eraill. Diolch yn fawr.

16:55

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i bawb am eu cyfraniadau. Credaf fod llawer iawn o dir cyffredin yn yr hyn a glywsom yn y Siambr ac o bell heddiw. Soniodd Mark Isherwood am bwysigrwydd profiad byw ac nid wyf yn credu y byddai unrhyw Aelod yn anghytuno â hynny. Mae'n gwbl hanfodol; mae'n dod yn fwyfwy cyffredin fel nodwedd o'r ffordd rydym yn datblygu ac yn llunio gwasanaethau, ac yn sicr dylid cymhwyso hynny fwy i'r system fudd-daliadau. Soniodd Mark hefyd am bwysigrwydd y broses asesu, pwy bynnag sy'n ei wneud, fel y dywedodd Mark rwy'n credu, ond does bosibl nad y pwynt, o ran gallu Llywodraeth Cymru a'r Senedd i lunio'r hyn sy'n digwydd yng Nghymru, yw y byddai'n dda iawn inni allu llunio'r broses asesu honno a sicrhau ei bod yn adlewyrchu profiad byw pobl yma yng Nghymru mewn gwirionedd. Os nad oes gennym lawer o reolaeth drosto, mae'n amlwg nad oes llawer y gallwn ei wneud ar wahân i ysgrifennu at Lywodraeth y DU a gwneud argymhellion fod Llywodraeth Cymru yn pwyso ar Lywodraeth y DU o ran yr hyn nad yw wedi'i ddatganoli ar hyn o bryd, ac rwy'n siŵr yr hoffai llawer ohonom wneud llawer mwy na hynny.

Rwy'n croesawu'n fawr yr hyn a ddywedodd Helen Mary, yn enwedig mewn perthynas â'r safbwynt cryf ac egwyddorol o blaid datganoli budd-daliadau, a'r gallu y byddai'n ei roi i ni edrych ar ffyrdd arloesol ymlaen, megis yr incwm sylfaenol cyffredinol, y gwn ei fod yn ddiddorol iawn i lawer iawn o bobl, ac sy'n cynnig pob math o bosibiliadau.

Roedd Huw Irranca-Davies yn dweud yn gadarn iawn fod arnom angen y pŵer yma yng Nghymru i gael y system a fyddai'n cyflawni ar ran ein cymunedau, a pho agosaf ydyw—y system fudd-daliadau—i Gymru, yn amlwg, y mwyaf o allu sydd gennym i wneud hynny, ac yn amlwg, dyna'r ddadl yn ei hanfod, a chredaf fod Huw wedi'i roi'n rymus ac yn effeithiol iawn.

Soniodd Delyth Jewell am stigma, sy'n gymaint o broblem, onid yw? A gwyddom gan Cyngor ar Bopeth—a gwn fod Delyth wedi sôn am ei hymwneud blaenorol â hwy—gyda gwaith diweddar a wnaethant, mae'n dangos bod honno'n broblem barhaus, mae'n un o'r rhwystrau gwirioneddol o ran cael pobl i hawlio'r hyn y mae ganddynt hawl iddo, ac mae diffyg ymwybyddiaeth hefyd o ran yr hyn y gallai pobl fod yn gymwys i'w gael. Felly, mae gwir angen yr ymgyrch honno i godi ymwybyddiaeth ac i gynyddu'r nifer sy'n hawlio, ac mae honno wedi bod yn alwad gref gan gynifer o bobl ers cyhyd. Rydym wedi gweld datblygiadau sydd wedi helpu i godi ymwybyddiaeth a chynyddu'r nifer sy'n hawlio, ond yn amlwg, mae llawer i'w wneud o hyd, ac mae'r sefydliadau sy'n gweithio ar lawr gwlad yn dal i dynnu sylw at hynny.

O ran yr hyn a oedd gan y Gweinidog i'w ddweud, credaf ein bod i gyd yn cydnabod, wrth gwrs, fod llawer iawn o waith caled wedi'i wneud drwy gydol y pandemig, ac mae hynny wedi bod mor hanfodol ac i'w groesawu, a byddai pawb ohonom am gydnabod hynny'n llawn. Credaf mai un peth y mae'n ei ddangos—a chredaf fod Sefydliad Bevan wedi bod yn awyddus eto i dynnu sylw at hyn—yw bod llawer y mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol eisoes yn ei wneud o ran yr hyn y byddem yn ei alw'n fras yn fudd-daliadau—rhai ohonynt yn arian parod, a rhai ohonynt yn lle arian parod—yng Nghymru. Rydym wedi dangos y gall Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol gyflawni'n effeithiol drwy'r pandemig, a chredaf y dylai hynny roi mwy o hyder i ni y gallem wneud yr un peth gyda mwy o ddatganoli a mwy o bŵer dros fudd-daliadau yma yng Nghymru.

Ceir rhai problemau, a gwn fod Sefydliad Bevan, er enghraifft, yn teimlo y gellid gwneud mwy yng Nghymru i gael dull cydlynol a chynhwysfawr, fel bod gofynion cymhwysedd cyffredin ar gael ar gyfer gwahanol fudd-daliadau. Gallech gael un ffurflen ar gyfer nifer, yn hytrach na ffurflenni ar wahân, ac maent yn teimlo y gellid gwneud rhywfaint o'r gwaith hwn rhwng Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn awr i helpu yn ystod gaeaf sy'n debygol o fod yn anodd iawn, a byddai hwnnw'n waith pwysig iawn, i baratoi'r ffordd ar gyfer system fudd-daliadau fwy datganoledig yn y tymor hwy.

Ond rwy'n croesawu'n fawr yr hyn a oedd gan y Gweinidog i'w ddweud am barhau i edrych ar y datganoli pellach hwn a chydnabod yr achos, oherwydd rwy'n meddwl, yn y bôn, y byddai llawer ohonom fel Aelodau o'r Senedd yn gwybod o'n cymorthfeydd etholaethol o wythnos i wythnos yn union pa mor niweidiol yw llawer o effeithiau system fudd-daliadau'r DU a faint o welliant sydd ei angen ac y gellid ei gyflawni'n eithaf hawdd mewn rhai achosion drwy weinyddu gwell a gweinyddu mwy unedig, heb fynd i sôn am fwy o gyllid.

Felly, rwy'n meddwl, wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, fod llawer o waith i'w wneud eto ar hyn, ond mae llawer iawn o dir cyffredin o ran y safbwyntiau ar draws y Siambr, a chredaf y dylai hynny fod yn galonogol iawn i Lywodraeth Cymru, ynghyd â'r gwaith a wnaethant yn effeithiol gydag awdurdodau lleol drwy gydol yr haf yn darparu budd-daliadau pwysig. Gallwn wneud mwy a dylem wneud mwy, a gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn symud ymlaen ar y sail honno. Diolch yn fawr.

17:05

Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, nodir adroddiad y pwyllgor.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Mesurau i Atal COVID-19

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 3 yn enw Rebecca Evans, gwelliannau 2, 5, 6, 7 ac 8 yn enw Siân Gwenllian, a gwelliant 4 yn enw Caroline Jones. Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol.

Eitem 9 ar yr agenda, felly, yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar fesurau i atal COVID-19. Galwaf ar Paul Davies i wneud y cynnig. Paul Davies.

Cynnig NDM7376 Darren Millar

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) ymestyn y defnydd gorfodol o orchuddion wyneb i gynnwys meysydd awyr, siopau, archfarchnadoedd, canolfannau siopa, ysbytai a lleoliadau gofal iechyd eraill;

b) defnyddio cyfyngiadau coronafeirws lleol mewn ymateb i gynnydd sylweddol mewn cyfraddau heintio Covid-19 mewn modd cymesur er mwyn osgoi gosod cyfyngiadau symud llawn ar Gymru gyfan;

c) ei gwneud yn ofynnol i bob teithiwr sy'n dod i mewn i Gymru o dramor gael prawf Covid-19 wrth gyrraedd Maes Awyr Caerdydd.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n gwneud y cynnig a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar ar ran y Ceidwadwyr Cymreig. Nawr, mae'r cynnig sydd ger ein bron yn galw am dri pheth syml: i Lywodraeth Cymru ailystyried y safbwynt ar orchuddion wyneb, sicrhau bod cyfyngiadau symud lleol yn gymesur â bygythiad y feirws yn y cymunedau penodol hynny, a'i gwneud yn ofynnol i bob teithiwr sy'n dod i mewn i Gymru o dramor gael prawf COVID-19 wrth gyrraedd Maes Awyr Caerdydd.

Nawr, mae'r cyntaf o'r materion hynny bellach wedi cael sylw, ac ers dydd Llun, mae pobl yng Nghymru mewn siopau a mannau cyhoeddus eraill dan do bellach wedi gorfod gwisgo gorchudd wyneb. Mae'r newid polisi hwn i'w groesawu'n fawr, ac rwy'n falch o weld Llywodraeth Cymru o'r diwedd yn derbyn rhinweddau gorchuddion wyneb ac yn cefnogi galwadau'r gwrthbleidiau ar y mater hwn. Wrth gwrs, fe allai ac fe ddylai Gweinidogion fod wedi gweithredu'n gynt, yn enwedig wrth i dystiolaeth barhau i dyfu ynglŷn â'u manteision posibl. Er enghraifft, diweddarodd grŵp cynghori technegol Llywodraeth Cymru ei gyngor ar orchuddion wyneb ar 11 Awst eleni, gan nodi y bydd gorchuddion wyneb yn lleihau gwasgariad diferion anadlol ac aerosolau bach sy'n cario'r feirws i'r awyr oddi wrth unigolyn sydd â'r haint, tra'n rhoi rhywfaint o ddiogelwch i'r sawl sy'n eu gwisgo. Yn wir, mae Grŵp Amgylcheddol a Modelu y Grŵp Cynghori Gwyddonol ar Argyfyngau (SAGE) a Sefydliad Iechyd y Byd hefyd wedi dweud yn glir fod gan orchuddion wyneb ran bwysig i'w chwarae yn rhan o becyn o fesurau atal a rheoli a all helpu i gyfyngu ar ledaeniad y feirws.

Felly, mae'n codi'r cwestiwn pam na wnaeth Llywodraeth Cymru weithredu'n gynt? A gwn fod Aelodau ar draws y Siambr hon wedi galw ar y Llywodraeth i wneud hynny. Gallai'r defnydd gorfodol o orchuddion wyneb mewn siopau a mannau cyhoeddus eraill dan do fod wedi cael effaith sylweddol ar gymunedau pe bai'r polisi wedi'i gyhoeddi ychydig fisoedd yn ôl. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ddweud wrth bobl Cymru ei bod yn mabwysiadu ymagwedd ragofalus at drechu'r feirws, ac felly nid oedd yn gwneud synnwyr i beidio â defnyddio'r holl arfau a oedd ar gael iddi i gyfyngu cymaint â phosibl ar y feirws. Beth bynnag fo'r rheswm y tu ôl i oedi Llywodraeth Cymru cyn cyflwyno polisi ar orchuddion wyneb gorfodol, y peth pwysig yn awr fydd sicrhau bod y newidiadau i'r rheolau'n cael eu gorfodi'n briodol i helpu i leihau trosglwyddiad y feirws. Yn ôl arolwg barn diweddar gan YouGov, mae pobl yng Nghymru yn llai tebygol o wisgo masgiau wyneb na phobl yn Lloegr neu'r Alban, sy'n amlygu'r angen am gyngor cyson gan Lywodraeth Cymru er mwyn lleihau trosglwyddiad cymunedol.

Nawr, er bod Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir fod defnyddio gorchuddion wyneb mewn siopau a mannau cyhoeddus eraill dan do yn orfodol, ni ddangoswyd yr un arweiniad mewn perthynas ag ysgolion. Yn hytrach, mae canllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru yn argymell gorchuddion wyneb ar gyfer pob aelod o'r cyhoedd dros 11 oed mewn lleoliadau dan do lle na ellir cadw pellter cymdeithasol, gan gynnwys ysgolion a thrafnidiaeth ysgol. Felly, mae hynny'n codi'r cwestiwn, os yw defnyddio gorchuddion wyneb yn orfodol ar gyfer siopau, pam nad yw'n orfodol ar gyfer ysgolion? Os yw'r wyddoniaeth wedi arwain Llywodraeth Cymru i gyflwyno gorchuddion wyneb mewn siopau, pam ddim ysgolion a cholegau? Pam y mae Llywodraeth Cymru yn teimlo bod angen gwneud y penderfyniad ar gyfer siopau a rhai mannau dan do, ond yn achos ysgolion a darparwyr addysg, rhoddwyd y cyfrifoldeb ar awdurdodau lleol a darparwyr unigol? Felly, wrth ymateb i'r ddadl heddiw, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn onest ac yn agored ynglŷn â pham y mae Llywodraeth Cymru wedi oedi cyn gwneud y defnydd o orchuddion wyneb yn orfodol mewn rhai mannau cyhoeddus. Ac rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog hefyd yn dweud wrthym pam y dewisodd y Llywodraeth wneud y penderfyniad mewn perthynas â siopau, ond nid ysgolion a cholegau. 

Mae ail bwynt ein cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio cyfyngiadau symud lleol mewn ymateb i gynnydd sylweddol yng nghyfraddau heintio COVID-19, ac i sicrhau bod y cyfyngiadau'n gymesur â lefel y bygythiad a achosir yn y cymunedau hynny er mwyn osgoi cyfyngiadau symud drwy Gymru gyfan. Gwyddom fod Llywodraeth Cymru, ym mis Mai, wedi dweud yn gwbl glir na fyddai'n ystyried cyfyngiadau symud lleol, oherwydd, ar y pryd, dadleuai y gallai gwahanol reolau achosi llawer iawn o ddryswch i bobl ledled y wlad. Yn wir, aeth y Gweinidog cyllid ymlaen i ddweud mai un o gryfderau neges Llywodraeth Cymru oedd ei bod yn neges glir iawn a oedd yr un mor berthnasol ledled Cymru. Yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru wedi newid ei safbwynt ar gyfyngiadau symud lleol ac o ganlyniad, mae Caerffili wedi bod dan gyfyngiadau symud i helpu i atal lledaeniad y feirws yn y gymuned honno, a chlywn heddiw, wrth gwrs, fod hynny wedi digwydd yn Rhondda Cynon Taf hefyd.

Wrth gwrs, bydd yr Aelodau'n cofio na chafodd cyfyngiadau symud lleol eu hystyried yn Wrecsam yn dilyn cynnydd sydyn yn nifer yr achosion ym mis Gorffennaf, er mai'r ardal honno oedd wedi gweld y cynnydd mwyaf ond un yn nifer yr achosion yn y DU. Nawr, rydym wedi dweud yn glir ar yr ochr hon i'r Siambr ein bod yn cefnogi cyflwyno cyfyngiadau lleol i helpu i atal cynnydd sylweddol yn nhrosglwyddiad yr haint mewn cymunedau lleol ac i helpu i leihau risg o achosion yn dod yn broblem genedlaethol. Fodd bynnag, mae'n gwbl hanfodol fod Llywodraeth Cymru yn monitro unrhyw gyfyngiadau symud lleol i sicrhau eu bod yn effeithiol ac yn gymesur â'r bygythiad y mae'r feirws yn ei achosi yn yr ardal honno. Felly, wrth ymateb i'r ddadl hon, efallai y gallai'r Gweinidog ddarparu rhywfaint o wybodaeth bellach am y cyfyngiadau symud lleol—pa drafodaethau y mae'n eu cael gydag awdurdodau lleol ynglŷn â throsglwyddiad y feirws yn eu hardaloedd—ac efallai y gallai ddweud ychydig mwy wrthym ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru yn monitro effeithiolrwydd cyfyngiadau symud lleol wrth i bethau fynd rhagddynt.

Ddirprwy Lywydd, daw hynny â mi at ran olaf ein dadl, sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i'w gwneud yn ofynnol i bob teithiwr sy'n dod i mewn i Gymru o dramor gael prawf COVID-19 wrth gyrraedd Maes Awyr Caerdydd. Pan gafodd Caerffili eu rhoi dan gyfyngiadau symud lleol, dywedodd y Gweinidog iechyd yn glir iawn fod cysylltiad rhannol rhwng y cynnydd mewn achosion a phobl yn yr ardal yn dychwelyd o'u gwyliau, sydd wedi arwain at y feirws yn lledaenu eto o fewn y gymuned leol. Felly, ar y pwynt hwnnw, does bosibl nad oedd hi'n allweddol fod Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod teithwyr yn cael prawf ar ôl iddynt gyrraedd Maes Awyr Caerdydd.

Yn wir, yn natganiad y Gweinidog iechyd heddiw ar osod Rhondda Cynon Taf dan gyfyngiadau symud yfory, mae'n cyfeirio at y ffaith bod hyn wedi bod yn angenrheidiol oherwydd cynnydd yn nifer yr achosion newydd a achoswyd gan bobl yn dychwelyd o wyliau haf ar gyfandir Ewrop. Fel y gŵyr yr Aelodau, mae profion maes awyr yn digwydd ledled y byd, ac felly, mae profion maes awyr yn gwbl ymarferol yma. Yn wir, dros y ffin, mae ASau Llafur wedi ymgyrchu dros gynnal profion maes awyr yn Lloegr. Ac eto, nid yw'r maes awyr ym Mhrydain y mae gan y Blaid Lafur reolaeth drosto mewn gwirionedd wedi cynnal prawf ar unrhyw un eto. Mae Ysgrifennydd Cartref yr wrthblaid, Nick Thomas-Symonds, yn iawn i ddweud y gallai cyfundrefn brofi gadarn mewn meysydd awyr leihau'r angen i'r rhai sy'n dychwelyd o wledydd â chyfradd uchel o achosion o'r coronafeirws dreulio pythefnos dan gwarantin.

Fel y gŵyr yr Aelodau, codais y mater hwn gyda'r Prif Weinidog brynhawn ddoe, a dywedodd yn glir fod yn rhaid mynd i'r afael â phroblemau ymarferol, a bod trafodaethau'n parhau gyda'r rheolwyr ym Maes Awyr Caerdydd. Felly, efallai y gall y Gweinidog drosglwyddo'r wybodaeth honno i'w gymheiriaid yn San Steffan, gan eu bod mor awyddus i fwrw ymlaen ar fyrder â threfn brofi mewn meysydd awyr. Ac efallai y gall y Gweinidog ddweud wrthym beth yn union yw'r problemau ymarferol y mae angen eu datrys ym Maes Awyr Caerdydd, a phryd y mae'n debygol y gwelwn unrhyw gynnydd ar y mater hwn.

Ddirprwy Lywydd, os caf droi'n fyr at rai o'r gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Wrth gwrs, o ran gwelliant 1, ers cyflwyno'r ddadl, mae Llywodraeth Cymru wedi newid ei safbwynt ar ddefnyddio gorchuddion wyneb, ac rwy'n falch fod y Llywodraeth o'r diwedd wedi gwrando ar ein galwadau ar y mater hwn. Byddwn yn cefnogi gwelliannau 6, 7 ac 8 wrth gwrs, sy'n ceisio cryfhau'r cynnig ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu cynllun COVID-19 ar gyfer y cyfnod nesaf, i archwilio'r defnydd o gyfyngiadau symud clyfar wrth ymateb i glystyrau lleol, ac i fynd i'r afael ar frys â phroblemau yn y drefn brofi bresennol.

Felly, wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, wrth wraidd y ddadl hon mae awydd i archwilio mesurau atal a rheoli COVID-19 Cymru yn fforensig, ac ystyried beth arall sydd angen ei wneud i amddiffyn pobl Cymru a chyfyngu ar ledaeniad y feirws. Credaf fod yr Aelodau i gyd yn gytûn yma at ei gilydd, a gwn ein bod i gyd yn rhannu'r nod o ddileu'r feirws ofnadwy hwn o'n cymunedau a lleihau ei effaith ar ein hetholwyr. Ond mae'n amlwg y gellir ac y dylid gwneud mwy.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yr argymhellion yn ein cynnig heddiw ac yn cyflwyno profion ym Maes Awyr Caerdydd ar fyrder. Dylid gwneud popeth yn ein gallu i ddiogelu ein cymunedau a lleihau effaith COVID-19 yn ein cymunedau. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig.  

17:10

Diolch. Rwyf wedi dethol yr wyth gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Felly, a gaf fi ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol gynnig gwelliannau 1 a 3, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol?

Gwelliant 1—Rebecca Evans

Dileu is-bwynt (a).

Gwelliant 3—Rebecca Evans

Dileu is-bwynt (c) a rhoi yn ei le 'profi pobl sy’n dychwelyd i Gymru o wledydd nad ydynt wedi’u heithrio sydd â chyfraddau uwch o COVID-19 na Chymru, yn unol â’r cyngor cyfredol gan y Grŵp Cyngor Technegol'.

Cynigiwyd gwelliannau 1 a 3.

Diolch. Galwaf ar Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliannau 2, 5, 6, 7 ac 8, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian—Rhun.

Gwelliant 2—Siân Gwenllian

Dileu pwynt (c) a rhoi yn ei le:

'Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu effeithiolrwydd mesurau i gynnwys lledaeniad COVID-19 mewn perthynas â theithio rhyngwladol hyd yma ac i weithredu unrhyw wersi a ddysgwyd.'

Gwelliant 5—Siân Gwenllian

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud gorchuddion wyneb yn orfodol mewn ardaloedd cymunedol mewn lleoliadau addysg penodol.

Gwelliant 6—Siân Gwenllian

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno cynllun COVID-19 newydd i Gymru i ddarparu dull cyfannol o ymdrin â'r pandemig yn ystod y cyfnod nesaf.

Gwelliant 7—Siân Gwenllian

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael ar frys â phroblemau yn y drefn brofi bresennol ac i weithio tuag at gyflwyno profion dyddiol torfol.

Gwelliant 8—Siân Gwenllian

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio'r syniad o ddefnyddio ‘cyfyngiadau symud clyfar' wrth ymateb i glystyrau lleol, gan ddefnyddio cyfyngiadau mewn ardaloedd mor lleol â phosibl.

Cynigiwyd gwelliannau 2, 5, 6, 7 ac 8.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Mae'n dda iawn gallu cymryd rhan yn y ddadl yma ac i gynnig yn ffurfiol y cyfres yna o welliannau. Dwi'n meddwl ei bod yn dda cael cyfle ar ddechrau'r tymor fel hyn i dynnu sylw at rai o'r pethau dwi yn meddwl sydd yn gweithio, a rhai o'r prif elfennau o gonsyrn o ran yr ymdriniaeth â'r pandemig a'r camau sydd yn cael eu cymryd i gadw pobl yn ddiogel. 

Ar y dechrau fel hyn, mi fuaswn i'n licio dweud 'diolch' unwaith eto i'r holl bobl hynny sydd yn gweithio'n ddiflino mewn cymaint o sectorau i'n cadw ni yn ddiogel. Mi oedd y diolch cyhoeddus iawn yna ar ddechrau'r pandemig yn nodwedd amlwg iawn yn y cyfnod hwnnw. Mae'n bwysig bod pobl yn gwybod bod y diolch mor ddiffuant rŵan hefyd. 

At y cynnig, mae o'n gynnig digon synhwyrol ar y cyfan, mae'n rhaid dweud. Dwi ddim yn cytuno efo popeth ynddo fo, ond mae o'n gynnig synhwyrol iawn. Allaf i ddim peidio â thynnu sylw at yr eironi o bwy wnaeth ei gyflwyno fo a rhai o'r sylwadau rydyn ni wedi eu clywed gan y Blaid Geidwadol. Teg dweud bod Llywodraeth Cymru wedi bod ar eu gorau yn y pandemig yma pan maen nhw wedi peidio â chael eu clymu i weithgarwch ac agwedd y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan.

Dwi'n gobeithio bod yr Aelodau Ceidwadol yn Senedd Cymru yn cytuno efo fi fod camgymeriadau neu ddryswch yn y negeseuon gan Lywodraeth Boris Johnson wedi bod yn niweidiol iawn yn y frwydr i gadw nifer y marwolaethau i lawr. O ruthro i annog normalrwydd pan oedd hynny ddim yn bosib i, wrth gwrs, un ffigwr blaenllaw yn arbennig yn anwybyddu rheolau'r cyfnod clo. Dwi'n meddwl bod yr holl dystiolaeth o'r arolygon barn yn awgrymu bod ymddygiad Dominic Cummings rai misoedd yn ôl wedi bod yn drobwynt mewn agweddau cyhoeddus. Cafodd ei weld fel trwydded i bobl eraill wneud beth y mynnon nhw, a dwi'n siŵr bod hynny wedi costio bywydau yn y pen draw. 

A hefyd, os caf i ddweud, mae gennym ni gynnig yn fan hyn, un synhwyrol fel dwi yn ei ddweud, yn annog y Llywodraeth i fod yn bwyllog, ond mae'r deunydd sydd wedi cael ei gyhoeddi dros y misoedd diwethaf gan Geidwadwyr Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol, yn drydariadau neu'n memes ac ati, wedi awgrymu rhyw brafado cwbl groes i beth allai gael ei alw'n agwedd bwyllog neu gyfrifol. 

Fe wnaf i droi at y gwelliannau yn eu trefn. Rydyn ni'n gwrthod gwelliant 1 achos rydyn ni'n credu bod y dystiolaeth ryngwladol wedi dangos ers talwm bellach fod gorchuddion wyneb yn gallu bod yn arf pwysig iawn yn y frwydr yn erbyn y feirws. Dydyn nhw ddim yn ddigon ynddyn nhw eu hunain, wrth reswm, ond dydyn ni ddim yn deall pam fod Llywodraeth Cymru wedi bod mor araf yn cyflwyno gorfodaeth i'w gwisgo nhw mewn rhai llefydd cyhoeddus, siopau ac yn y blaen. Rŵan, gwell hwyr na hwyrach o ran hynny, ond rydyn ni yn meddwl bod yna le i ymestyn hyn, ond unwaith eto, mae'r Llywodraeth yn gwrthod. Dwi ddim cweit yn siŵr pam.

At welliant 2, ein gwelliant cyntaf ni—mae o'n hunanesboniadol, dwi'n credu. Gadewch inni ddysgu gwersi am deithio rhyngwladol a'i effaith o ar ledaeniad y feirws, achos mae'n hollol amlwg bod yna broblem yma, ac rydyn ni angen trio deall hynny yn well.

Gwelliant 3, gwelliant y Llywodraeth—fyddwn ni ddim yn cefnogi hwn. Dwi'n meddwl, mewn realiti, fod problem ymarferol, oes, mewn profi pob teithiwr, ond wrth i dechnoleg ddatblygu, wrth i gapasiti gael ei gynyddu, ac o wybod y problemau efo teithwyr yn dychwelyd o dramor, mae yna werth go iawn i'r egwyddor o brofi pob teithiwr, heb os. 

Gwelliant 4—rydyn ni'n cytuno efo hwn. Rydyn ninnau wedi bod yn galw am ddarparu llety i'r rhai sy'n hunanynysu fel ffordd o amddiffyn y teulu ehangach. Mae'n bwysig iawn i deuluoedd ac aelwydydd mawr yn arbennig, ac rydyn ni'n gweld bod defnydd eang wedi bod ar y math yma o beth mewn llefydd fel yr Eidal a Tsieina.

Ac mae'r pedwar gwelliant arall wedyn gan Blaid Cymru. Gwelliant 5—fel dwi wedi nodi, rydyn ni'n cefnogi ymestyn gwisgo gorchuddion wyneb. Dydyn ni ddim yn gallu deall pam na fyddem ni'n gwneud hynny. 

Mae gwelliant 6 yn galw am gynllun COVID newydd. Rydyn ni'n dysgu o hyd. Mae angen cynllun, dwi'n meddwl, sydd yn adlewyrchu'r newid yn ein dealltwriaeth ni o'r clefyd a pha leoliadau a pha weithgareddau sydd yn beryglus, a pha rai sydd ddim. Dwi ddim wedi fy argyhoeddi bod y cynllun ar gyfer y gaeaf a gafodd ei gyhoeddi ddoe yn adlewyrchu'r wyddoniaeth ddiweddaraf.

Gwelliant 7—unwaith eto, mae'n hunanesboniadol, a'n rhywbeth nad yw Llafur yn San Steffan wedi cael unrhyw broblem wrth alw amdano fo. Felly, gobeithio y gwnaiff Llafur ei gefnogi o yma yng Nghymru hefyd. Mae angen mwy o gapasiti profi arnon ni. Rydyn ni wedi gweld hynny dros yr wythnosau diwethaf. Mae angen mwy o gapasiti hefyd yng Nghymru fel bod yna reolaeth gan Lywodraeth Cymru dros eu gallu i ddarparu ar gyfer y boblogaeth yma. 

A gwelliant 8—ar ddiwrnod lle mae ardal cyngor gyfan arall, Rhondda Cynon Taf y tro yma, wedi cael ei rhoi mewn cyfnod o gyfyngiadau dwys newydd, rydyn ni'n credu bod edrych ar smart local lockdowns yn rhywbeth sydd wir angen ei ystyried. Mi fyddai clo cyffredinol arall yn sicr yn niweidiol iawn, ac erbyn hyn dwi'n credu bod y gallu gennym ni i dargedu'r cyfyngiadau. Felly, dyna ni.

Ambell sylw ar le yr ydyn ni ar hyn o bryd—

17:20

[Anghlywadwy.]—yn newid yn gyson, a dwi yn cloi yn y fan honno. Mae'n bwysig, dwi'n meddwl, fod y Llywodraeth yn adlewyrchu'r newid yn y ddealltwriaeth—[Anghlywadwy.]

Gwelliant 4—Caroline Jones

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau llety i alluogi teithwyr a'r rhai nad oes ganddynt y cyfleusterau i fod dan gwarantin ar eu pen eu hunain.

Cynigiwyd gwelliant 4.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y gwelliant a gyflwynwyd yn fy enw i yn ffurfiol. Hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl bwysig hon. Byddaf yn ei chefnogi, ynghyd â gwelliannau Plaid Cymru y teimlaf eu bod yn ceisio cryfhau'r ddadl.

Rwyf wedi bod yn galw am wneud gwisgo gorchuddion wyneb yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus yn arbennig ers dyddiau cynnar y pandemig, yn dilyn galwadau gan fy etholwyr a oedd yn weithwyr allweddol ond nad oeddent yn gallu mynd ar fysiau am mai ar 25 y cant o'r capasiti roedd trafnidiaeth gyhoeddus yn rhedeg, ac roedd hynny'n anghynaliadwy. Fe'i cynigiais fel cwestiwn i'r Prif Weinidog, ac roeddwn yn falch o weld yr awgrym yn cael ei fabwysiadu ddiwrnod yn ddiweddarach.

Gwyddom fel ffaith bod feirws SARS-CoV-2 yn cael ei ledaenu gan ficroddefnynnau sy'n ei wneud yn haint a drosglwyddir drwy'r awyr i bob pwrpas. Gwyddom hefyd y gall rhai nad ydynt yn arddangos unrhyw symptomau o gwbl ledaenu'r clefyd, a gall masgiau wyneb atal COVID-19 rhag lledaenu. Rhaid inni gynyddu ymwybyddiaeth pobl a bod yn gyson yn ein neges a phwysleisio pwysigrwydd gwisgo masg. Pe bai pobl wedi glynu wrth y canllawiau, efallai na fyddem yn gweld cyfyngiadau symud lleol fel rydym yn ei weld yn awr, a'r unig ffordd y gallwn sicrhau bod pobl yn gwisgo masg yw ei wneud yn orfodol.

Ceir tystiolaeth fod yr achosion a welwn yn cael eu hachosi gan bobl sy'n dychwelyd o dramor heb hunanynysu. A chyfyngwyd ar ryddid llond sir gyfan o bobl a thu hwnt, fel y clywsom heddiw, oherwydd gweithredoedd ychydig o bobl. Dylai fod yn rhaid i unrhyw un sy'n teithio o dramor ynysu dan gwarantin am 14 diwrnod. Nid yw'n gwneud synnwyr fod modd i bobl deithio o fannau lle ceir problemau COVID a chael cyfarwyddyd i ynysu, anwybyddu'r cyfarwyddiadau hynny os dymunant gan deimlo'n ddiogel wrth wybod nad oes neb yn cadw llygad. Caniateir iddynt adael eu cartrefi i siopa. Mae hefyd yn nonsens y gall pawb ar yr aelwyd barhau fel arfer—mynd i weithio, i'r archfarchnad neu i'r dafarn. Credaf fod angen i Lywodraeth Cymru sicrhau llety i alluogi teithwyr i ynysu dan gwarantin, lle caiff bwyd a meddyginiaeth eu danfon iddynt a'u bod yn cael eu profi am COVID-19 ar ddiwrnod 2 a diwrnod 9, p'un a ydynt yn arddangos symptomau ai peidio. A gall y rhai sy'n dychwelyd i'r DU sydd â'r cyfleusterau i ynysu'n llwyr oddi wrth weddill eu haelwydydd wneud hynny yn eu cartrefi eu hunain, ond byddent yn ddarostyngedig i brofion a gwiriadau ar hap rheolaidd i sicrhau cydymffurfiaeth. Dyma sut y caiff ei wneud mewn gwledydd sydd wedi llwyddo i atal COVID—gwledydd nad ydynt wedi cael unrhyw achosion mewn dros dri mis. Ac os ydym am gael unrhyw obaith o atal ail don, mae angen i ni fod yn gadarn.

Mae rhoi pawb dan gyfyngiadau symud yn annheg ac yn ddiangen. Rhaid inni ynysu rhai sy'n cludo'r haint a rhai a allai fod yn cludo'r haint a phrofi pob un ohonynt, p'un a ydynt yn arddangos symptomau ai peidio. Os na wnawn hynny, bydd yr achosion hyn yn parhau i ledaenu heb eu hatal, gan gynyddu'n sydyn pan na fyddwn yn disgwyl hynny. Efallai'n wir y bydd angen cyfyngiadau symud yn y dyfodol, ond mae angen iddynt fod yn hyperleol ac wedi'u gorfodi'n llym. Mae sir Caerffili dan gyfyngiadau symud, ond gall ei thrigolion barhau i deithio i'r gwaith neu fynd i'r dafarn, felly maent yn debycach i gyfyngiadau symud rhannol.

Os ydym am gael rheolaeth ar hyn, efallai y bydd angen i fesurau fod yn fwy cadarn, ond nid oes angen eu gweithredu ym mhobman ychwaith. Rhaid inni ganolbwyntio ar nodi ac ynysu'r rhai sydd wedi'u heintio â'r feirws, nid gosod pawb dan gyfyngiadau—mae hynny'n debyg i dorri'r goedwig gyfan er mwyn atal tân. Rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi fy ngwelliant a'r cynnig. Diolch yn fawr.

17:25

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Yn amlwg, mae pethau wedi symud ymlaen ers cyflwyno'r ddadl hon, ond credaf fod y cynnig gwreiddiol a'r gwelliannau'n cyfeirio yn awr at rywbeth eithaf diddorol wrth inni edrych tua'r dyfodol. Credaf mai ddoe y soniodd Mark Reckless am bobl yn blino ar COVID, a chredaf fod hynny'n codi ychydig o gwestiynau ynglŷn â sut yr awn ymlaen o'r fan hon, a'r un cyntaf gennyf fi yw: a yw pobl yn ei chael hi'n haws cadw at reolau pan ofynnir iddynt wneud rhywbeth yn hytrach nag i beidio â gwneud rhywbeth? A'r ail gwestiwn i mi yw: a ydynt yn gweld mwy o gefnogaeth i neges genedlaethol nag i un leol? I mi, cwestiynau ynglŷn â chyfrwng yw'r rhain: sut y gallaf wneud cyfraniad ystyrlon at wneud hyn i gyd yn well? A chyfrifoldeb: pam y dylwn i drafferthu i ddilyn y rheolau hyn?

Felly, ar y cyntaf o'r cwestiynau hynny, a gwneud rhywbeth yn hytrach na pheidio â gwneud rhywbeth, credaf fod Paul Davies wedi esbonio hyn yn eithaf da. Gwyddom nad yw gorchuddion wyneb yn atal pob dim, ond maent yn ddatganiad gweladwy o fwriad i'r byd o'ch cwmpas. 'Rwy'n gwisgo'r peth hwn, yn fy ffordd fy hun, i geisio peidio â'ch heintio â chlefyd nad wyf efallai'n gwybod ei fod arnaf.' Gwneuthum arbrawf cyflym ar hyn yn y Mwmbwls, yn fy rhanbarth i, ychydig cyn toriad yr haf, lle nad oedd siopwyr yn arbennig o awyddus i weld pobl â masgiau, ond pan eglurais eu bod yn ymwneud llai â hunanddiogelu a mwy â diogelu eraill gerllaw, roeddent yn fwy na pharod i feddwl ddwywaith am eu safbwynt gwreiddiol. Ac wrth wisgo masg, pe bawn i'n gwisgo un, rwy'n credu efallai y byddai'n gwneud i chi feddwl ddwywaith ynglŷn â sefyll yn rhy agos ataf, neu'n rhy agos at y person yn y ciw o'ch blaen nad yw'n gwisgo masg. Ac mae'n debyg, er y gallai hynny wneud rhai pobl braidd yn feirniadol, credaf mai dyma pam roeddwn am ddweud fy mod yn cytuno â'r ystyriaeth sy'n sail i welliant 5 Plaid Cymru. Hoffwn pe baent wedi bod ychydig yn fwy penodol ynglŷn â ble y dylai masgiau fod yn orfodol, oherwydd nid wyf yn hoff iawn o'r syniad o orfodi ein harweinwyr ysgol i weithredu llawer o reoliadau ffurfiol, ond rwy'n eithaf awyddus i osgoi eu gwneud yn agored i gwynion neu hyd yn oed gamau cyfreithiol am wahaniaethu mewn unrhyw bolisïau a luniwyd yn yr ysgol ar orchuddion wyneb. Fel y dywedais ddoe, weithiau mae angen grym y gyfraith y tu ôl i chi i'w hatal rhag cael ei galw yn eich erbyn.

Ac yn fwy cyffredinol, gan eithrio'r rhai y byddai angen eu heithrio, credaf efallai fod rhywbeth i'w ddweud dros fod ychydig yn feirniadol—y protestiadau torfol, diystyru gofynion cadw pellter cymdeithasol syml mewn archfarchnadoedd, y sesiynau yfed mawr a welsom yn y Bae, y partïon tai. Hynny yw, ar y cyfryngau cymdeithasol ddoe, fe welais, ac rwy'n dyfynnu, 'Fi yw'r unig un yn y cerbyd trên hwn sy'n gwisgo masg wyneb ac mae grŵp o oedolion ifanc yn y sedd wrth fy ymyl, pawb drwyn wrth drwyn, yn edrych ar ffonau ei gilydd.'

Felly, fy ail gwestiwn am hynny—rwy'n credu ei bod yn ddigon posibl y byddai'n haws deall y neges genedlaethol, hyd yn oed cyfraith genedlaethol, nag un leol, ond mae'n llawer haws ei hanwybyddu pan nad oes ymdeimlad o anghymeradwyaeth gyhoeddus am dorri'r rheolau. Rwy'n credu ei bod hi'n anos maddau am dorri rheolau sy'n amlwg yn effeithio ar y rhai o'ch cwmpas pan fydd eich ymddygiad personol yn cael effaith sy'n haws ei holrhain. Mae neges genedlaethol hefyd yn peidio â bod yn effeithiol pan fydd ei chanlyniadau mor gwbl anghymesur fel eu bod yn lladd hygrededd. Roedd y rheol pum milltir yn achos clasurol o gamgyfeirio gwyddoniaeth epidemiolegol a gwyddoniaeth ymddygiadol. Nifer y cysylltiadau, nid nifer y milltiroedd, yw'r hyn sy'n bwysig. Ac rwy'n credu y gallai fod gennyf hawl i fod ychydig yn feirniadol ar hyn, lle mae'r Llywodraeth wedi bod yn barod i betruso ar fater masgiau ac yn barod i wrthod profi staff asymptomatig mewn ysbytai a chartrefi gofal, heb sôn am yn ehangach, pan oedd labordai prifysgol yng Nghymru yn cynnig helpu, ond yn barod i garcharu pobl fel fy nhad i bob pwrpas am bron i bedwar mis, ni waeth faint o achosion o COVID a geid lle roedd ef neu ei anwyliaid yn byw, ac roedd yn rhywun a oedd yn byw'n dda gyda dementia. Erbyn hyn mae angen iddo gael goruchwyliaeth cartref gofal am nad yw'n gallu gweld ei deulu am gymaint o amser fel bod yr ychydig linynnau olaf sy'n ei glymu at ei hunaniaeth ei hun a'i ymdeimlad o le yn y byd wedi'u torri. Pan bleidleisiais dros y Ddeddf Coronafeirws, dywedais wrthych, Weinidog iechyd, y byddai'n well i chi gael rheswm da iawn dros fy atal rhag gweld fy nhad oedrannus, ac roedd dull gweithredu cenedlaethol yn golygu nad oedd gennych reswm da. A dyna pam y mae'n rhaid lleoleiddio unrhyw fesurau rheoli yn y dyfodol, fel rydym ni a Phlaid Cymru i'n gweld yn awgrymu yma. Rhaid i fframwaith cyfannol ar gyfer y camau nesaf fod â hyn yn ganolog iddo, ynghyd â gwell dealltwriaeth o beth sy'n gwneud i bobl ddilyn rheolau a'r hyn a wyddom yn awr am ganlyniadau anfwriadol.

Ac yn olaf, Ddirprwy Lywydd, ar brofion Maes Awyr Caerdydd, nid yw'r wefan hyd yn oed yn sôn am brofion tymheredd sylfaenol, a gallaf ddweud wrthych ei fod yn cael ei wneud, heb unrhyw fygythiad i breifatrwydd, ym meysydd awyr Manceinion a Catania. Mae'n debyg fod gan y wasg arian ar Gaerdydd yn arwain y ffordd ar brofi ychydig wythnosau'n ôl, ond mae'n edrych fel achos arall o 'Gymru dal i fyny', mae arnaf ofn. Diolch.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno dadl heddiw i'r Senedd, ac os caf, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i fynegi fy niolch o galon i drigolion Islwyn yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili am eu cydymffurfiaeth a'u haberth wirioneddol. Hoffwn ddiolch a thalu teyrnged hefyd i'r Cynghorydd Philippa Marsden a'i thîm arwain yn ystod yr argyfwng parhaus hwn.

Ddirprwy Lywydd, wrth ateb arweinydd Plaid Cymru ddoe, mynegodd y Prif Weinidog barodrwydd Llywodraeth Cymru i wrando ar unrhyw sylwadau adeiladol ar y ffordd orau o atal feirws C-19 rhag lledaenu, a hoffwn groesawu'r sylwadau hyn yn fawr. Mae'n sicr mai'r pandemig hwn, er gwaethaf effeithiau gadael heb gytundeb, yw'r bygythiad mwyaf rydym wedi'i wynebu ar y cyd mewn cenedlaethau, a dylid gwrando ar gyfraniadau adeiladol ynglŷn â'r ffordd orau o ymateb.

Fodd bynnag, mae wedi bod yn amlwg ers dechrau'r argyfwng hwn mai dim ond copi carbon o bolisi eu penaethiaid Ceidwadol yn San Steffan yw polisi'r Ceidwadwyr Cymreig, ac er bod y llanast a achoswyd gan Boris Johnson a Dominic Cummings yn amlwg i'r rhan fwyaf ohonom ei weld, mae arweinydd yr wrthblaid wedi galw ar i Gymru gael 'dos o Dom'. Nid wyf yn siŵr beth mae'r Torïaid gyferbyn wedi bod yn ei wylio, ond efallai fod galw am brawf llygaid yn Barnard Castle.

Hoffwn groesawu'r sylwadau hyn gan Lywodraeth Cymru yn fawr, ac rwyf fi, yn un, yn falch fod y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn credu mewn datganoli ac nad oes arni ofn dilyn llwybr gwahanol. Yn wir, ychydig ddyddiau'n ôl, er gwaethaf eu holl adnoddau, roedd Llywodraeth Dorïaidd y DU yn galw ar bobl i ddychwelyd i'w swyddfeydd a dychwelyd at normalrwydd. Yn wir, addawodd Prif Weinidog y DU system brofi ac olrhain o'r radd flaenaf inni hefyd, ond mae ffigurau o ddechrau'r mis hwn yn dangos bod ein system yma yng Nghymru yn cyrraedd mwy o bobl ac yn gweithio'n sylweddol well na system Lloegr. Yn wir, pan ychwanegodd Cymru Bortiwgal a sawl ynys yng Ngwlad Groeg at y rhestr gwarantin, roedd y Torïaid yn gyflym i feirniadu, ac ni chlywais unrhyw brotestiadau pan wnaeth Llywodraeth y DU benderfyniad tebyg ychydig ddyddiau'n ddiweddarach.

Ar bob adeg pan oedd polisi yma yng Nghymru yn wahanol i bolisi yn Lloegr, bu'n destun beirniadaeth gan y Ceidwadwyr Cymreig. Bellach, ar ôl 21 mlynedd o ddatganoli, byddech wedi meddwl y byddent wedi arfer â hynny erbyn hyn, ond gwyddom o sylwadau diweddar iawn Alun Cairns mai datganoli a cheisio tynnu awdurdodaeth y Senedd yn ôl fel y'i cynigiwyd yn y Bil marchnadoedd mewnol yw eu gwir gred, eu meddylfryd a'u hagenda.

Rhaid inni barhau â'r ymyriadau lleol hyblyg yn ôl yr angen, a rhaid inni wneud popeth sy'n bosibl i osgoi ail gyfnod o gyfyngiadau symud cenedlaethol. Ac wrth inni barhau i ddysgu mwy am y feirws hwn, rhaid i ni barhau i addasu'n hyblyg i atal ei ledaeniad. Ddirprwy Lywydd, mae'n iawn fod Llywodraeth Cymru'n defnyddio ei holl swyddogaethau datganoledig i ddiwallu anghenion ei phobl, yn gwneud yr hyn sydd orau i Gymru, nid i Whitehall, a'r hyn sydd orau i bobl Cymru, nid San Steffan. Yn hytrach na'u herlyn, dylai Boris a Dominic ganmol Llywodraeth Cymru a phobl Cymru am y dull tra synhwyrol, pragmatig a seiliedig ar dystiolaeth rydym ni fel cenedl ddatganoledig falch wedi dewis ei fabwysiadu. Diolch.

17:30

Wel, roeddwn yn mynd i ddechrau'r cyfraniad hwn drwy groesawu'r consensws a oedd yn lledu ar draws y Siambr, ond nid wyf yn siŵr fod hynny'n briodol yn awr. Ond fel y dywedodd Paul Davies yn ei sylwadau yn gynharach—ei sylwadau agoriadol—rydym i gyd yn unfryd yma o ran ein dymuniad i weld y pandemig yn cael ei drechu mor gyflym ac mor ddiogel ag sy'n bosibl, a'r cyfyngiadau'n cael eu llacio cyn gynted ac mor ddiogel ag sy'n bosibl.

Mae llawer o'r pwyntiau roeddwn yn mynd i'w gwneud wedi'u gwneud, ac fe'm hatgoffir o'r hen ymadrodd fod y ceffyl wedi dianc, ac yn amlwg, mae digwyddiadau wedi goddiweddyd rhan gyntaf y cynnig hwn, o leiaf. Fodd bynnag, erys y teimladau sy'n sail i'r cynnig, ac rwy'n falch hyd yn hyn—. Datblygodd consensws ynglŷn â'r gofyniad newydd i wisgo gorchuddion wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do ac yn wir, i wneud popeth yn ein gallu i roi rhagofalon ar waith i gyfyngu ar ledaeniad COVID-19.

Rhannwyd ein cynnig yn dair rhan, pob un wedi'i lunio i fynd i'r afael â'r broblem sydd ger ein bron ac i ddarparu camau cadarnhaol i ymdrin â'r pandemig hwn. Nid wyf yn meddwl bod unrhyw amheuaeth yn awr y bydd ail ymchwydd o achosion. Mae eisoes yn digwydd mewn mannau ledled Cymru. Cawsom gyfyngiadau lleol yng Nghaerffili eisoes, a heddiw cawn y newyddion am gyfyngiadau yn Rhondda Cynon Taf. Y cwestiwn yn awr, a bob amser wedi bod, yw: pa mor fawr fydd yr ail ymchwydd, ac a fydd nifer yr achosion yn trosi'n dderbyniadau i'r ysbyty a marwolaethau? Mae'n amlwg nad ydym yn gwybod ar hyn o bryd. Beth bynnag, er fy mod yn credu bod rhai dadleuon yn y dyddiau cynnar iawn—y dyddiau cynnar iawn—dros beidio â chyflwyno gorchuddion wyneb yn rhy fuan—h.y. , fel y crybwyllwyd, yr angen i bwyso a mesur manteision masgiau yn erbyn y problemau posibl, megis pobl yn cael ymdeimlad ffug o ddiogelwch—mae'r pendil bellach wedi gwyro'n glir o blaid gorchuddion wyneb ers peth amser, ac rydym ni ar y meinciau hyn wrth ein boddau fod Llywodraeth Cymru bellach wedi rhoi'r camau hyn ar waith. Nid dyma'r ateb cyflawn, ond maent yn rhan ohono, ac mae hwn yn gam ymlaen.

Y gwir amdani yw ein bod mewn argyfwng iechyd cyhoeddus, ac mae gan hyn oblygiadau parhaus i'n heconomi a bywoliaeth pobl. Rwyf bob amser wedi cydnabod ar hyd y ffordd fod cyfrifoldeb gan Lywodraeth Cymru nid yn unig i lacio'r cyfyngiadau symud cyn gynted ag y gall, ond i roi iechyd pobl yn gyntaf, ac mae'n ymddangos i mi, drwy'r ddadl hon a'r camau sy'n cael eu cymryd, fod hynny'n cael ei barchu.

Mae ail ran ein cynnig yn cydnabod bod gan gyfyngiadau symud cenedlaethol oblygiadau enfawr i'r economi a busnesau, felly os gallwn osgoi hynny a chael cyfyngiadau lleol yn lle hynny, mae'n amlwg fod hynny'n beth da. Wrth gwrs, mewn byd delfrydol, ni fyddai'n rhaid inni gael unrhyw gyfyngiadau o gwbl, ond nid ydym yn byw yn y fan honno ar hyn o bryd, ac nid ydym wedi bod yn byw mewn byd felly ers peth amser. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn croesawu ymdrechion i ailagor yr economi, er y bu anghysondebau mewn rhai achosion. Gellid bod wedi agor y sector twristiaeth yn gyflymach gyda mwy o gefnogaeth yn gynharach. Yn fy ardal i, mae nifer o fusnesau ar hyd camlas Sir Fynwy a Brycheiniog a busnesau cysylltiedig yn dal i fod ofn colli eu bywoliaeth oherwydd elfen dymhorol eu busnesau, ond dyma'r sefyllfa rydym ynddi.

Mae trydedd ran ein cynnig yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno profion COVID ar gyfer pob teithiwr sy'n dod i Gymru o dramor. Credwn fod hyn yn amlwg yn synhwyrol. Mae'r Gweinidog iechyd ei hun wedi dweud bod y cynnydd diweddar mewn achosion yng Nghaerffili yn rhannol gysylltiedig â phobl sy'n dychwelyd o'u gwyliau, gan beri i'r feirws ledaenu yn y gymuned. Gwyddom fod rhai o'r teithwyr a oedd wedi bod ar awyren o Zante wedi cymdeithasu ag eraill. Dangosodd astudiaeth ddiweddar gan Brifysgolion Rhydychen a Chaeredin fod nifer sylweddol o achosion yn cael eu cludo i mewn i'r DU o Ewrop. Mae'n ddigon posibl y bydd hyn yn rhywbeth y bydd Llywodraeth Cymru am ymchwilio ymhellach iddo; credwn y byddai hynny'n syniad da. Mae arnom angen mecanwaith profi cadarn i ymdrin â hyn i gyd, felly pam nad yw cynllun rheoli coronafeirws y Llywodraeth yn cynnwys strategaeth ar gyfer cynnal profion mewn meysydd awyr? Mae llawer o'r Aelodau eisoes wedi dadlau'r achos dros hynny heddiw, ac rwy'n ategu'r achos dros wneud hynny. Mae angen inni gynyddu ein capasiti profi.

Yn y bôn, cynnig sy'n galw ar Lywodraeth Cymru i roi hyder i bobl Cymru yw hwn, i ddiogelu bywydau a bywoliaeth drwy roi camau brys ar waith i leihau maint unrhyw ail ymchwydd, ac i weithredu mesurau a fydd yn ein galluogi i agor yr economi'n ddiogel.

17:35

Diolch, Lywydd—Ddirprwy Lywydd, mae'n ddrwg gennyf. Hoffwn ddiolch—wel, rwy'n meddwl yr hoffwn ddiolch—i grŵp y Ceidwadwyr am gyflwyno'r ddadl hon, ac am y cyfle i siarad. Fe'i cadwaf yn fyr. Dywedaf 'rwy'n meddwl' oherwydd, o'r diwedd, mae unrhyw esgus bod y Blaid Geidwadol yn blaid cyfrifoldeb personol ac o blaid busnes wedi'i ddileu. Rwyf wedi gwylio'n siomedig dros yr haf wrth iddynt gyhoeddi eu deiseb i alw am fasgiau gorfodol, felly, yn amlwg, maent yn cefnogi'r arfer yn awr o godi cywilydd ar rai nad ydynt yn gwisgo masgiau, y potensial ar gyfer ymddygiad diofal wrth i bobl feddwl eu bod yn anorchfygol os ydynt yn gwisgo masg, y cynnydd mewn cyflyrau croen yn sgil gwisgo masgiau a'r potensial ar gyfer problemau anadlol yn sgil anadlu eich hen aer chi'ch hun. Rwy'n gofyn iddynt hwy, ac i Lywodraeth Cymru: os oedd ein prif swyddog meddygol ein hunain yn credu bod y dystiolaeth ar gyfer gwneud gwisgo masgiau'n orfodol yn wan a bod hylendid dwylo yn bwysicach, pryd y newidiodd y wyddoniaeth neu'r dystiolaeth honno? Pryd yn union y digwyddodd hynny, a ble mae'r dystiolaeth?

Dau bwynt arall: gwelais fethiant masgiau ar raddfa enfawr dros y penwythnos pan dynnodd gwleidydd blaenllaw ei fasg i beswch i'w law cyn ei wisgo drachefn. Felly, a wnaiff Llywodraeth Cymru ymrwymo i ymgyrch wybodaeth gyhoeddus i ddangos i bobl beth y dylent fod yn ei wneud? Yn olaf, deallaf i'r diwydiant lletygarwch gael syndod ddydd Llun nad oedd angen masgiau mewn gwirionedd. Felly, fel mater o gwrteisi sylfaenol, a all Llywodraeth Cymru wneud yn siŵr fod busnesau'n ymwybodol o'r gofynion newydd mewn da bryd?

Nid wyf yn anghytuno ag unrhyw elfennau eraill o'r cynnig heddiw, ond rwy'n mynegi fy mhryder nad yw pobl ar deithiau awyr, fel y dywedwyd o'r blaen, i mewn i Faes Awyr Caerdydd, erioed wedi cael eu profi na'u harchwilio mewn unrhyw ffordd, yn enwedig gan fod y maes awyr hwnnw, yn amlwg, yn eiddo i Lywodraeth Cymru. Diolch.

17:40

Yn amlwg, mae pethau wedi symud ymlaen ers cyflwyno hyn, ond mae'n amlwg yn ystod digwyddiadau'r dyddiau diwethaf fod Cymru'n parhau i wynebu argyfwng iechyd na welwyd mo'i debyg o'r blaen. Ac rwyf fi, wrth gwrs, yn croesawu'r ddadl hon, oherwydd—efallai ei bod ychydig ar ei hôl hi yn awr, ond mae'n bwysig inni gael y cyfle hwn i ofyn ein cwestiynau a mynegi ein pryderon ynghylch yr hyn sy'n argyfwng iechyd byd-eang. 

Mae sawl agwedd ar ein heconomi wedi agor, ac mae angen inni sicrhau ein bod yn gwneud popeth yn ein gallu fel y gall busnesau barhau i fasnachu'n ddiogel ac y gall cynifer o weithwyr ag sy'n bosibl ddarparu ar gyfer eu teuluoedd. Mae'n hanfodol fod busnesau ac eraill yn addasu i'r normal newydd er mwyn lleihau'r perygl i lefel mor ddiogel â phosibl er mwyn dileu risg—mae'n amhosibl dileu risg, mae'n ddrwg gennyf—neu fel arall ni fyddwn byth yn gadael ein cartrefi, byth yn gyrru i unman, ond mae angen rheoli risgiau'n effeithiol. 

Mae'r cyfyngiadau lleol yng Nghaerffili, yn fy rhanbarth etholiadol i, gydag un arall bellach yn cael ei roi mewn grym yn Rhondda Cynon Taf, yn dangos yn glir fod y bygythiad yn parhau, ac rwy'n siŵr fod y sefyllfa ym Merthyr Tudful a Chasnewydd yn cael ei monitro'n agos gan swyddogion y Gweinidogion. Yn wir, mae cyfradd yr achosion positif yng Nghaerffili ym mhob 100,000 o bobl bellach yn uwch na'r hyn ydoedd yn ystod y don gyntaf yn ôl yn y gwanwyn. Gwn fod ein hardaloedd lleol ar draws fy rhanbarth i yn ne-ddwyrain Cymru wedi gwneud gwaith gwych yn addasu ac yn ymateb i'r argyfwng hwn, ac maent yn haeddu ein clod a'n diolch am bopeth y maent wedi'i wneud, ond Weinidog, efallai fod angen inni weithio'n agosach gyda'n hawdurdodau lleol yn awr—yn agosach gyda'n hawdurdodau lleol—a'r heddlu i sicrhau eu bod yn gallu gorfodi rheolau'r Llywodraeth mewn ffordd well ac atal cyfyngiadau symud pellach.

Mae pawb ohonom yn derbyn y gallai fod angen cyfyngiadau lleol i ymdrin â chynnydd yn nifer yr achosion o COVID-19, ond dylai mesurau fod yn gymesur. Rhaid i ddiogelu bywydau fod yn flaenoriaeth Rhif 1, ond ni allwn esgeuluso'r effaith y mae cyfnodau hir o gyfyngiadau symud yn ei chael ar iechyd meddwl pobl, lles plant a bywoliaeth pobl. Felly, rwy'n croesawu'r ffaith bod y Gweinidog addysg, yn ei datganiad ddoe, mor benderfynol y bydd ein hysgolion yn aros ar agor drwy'r cyfyngiadau symud lleol hyn.

Fy mhryder i yw bod negeseuon cymysg a diffyg eglurder yn null Llywodraeth Cymru o weithredu wedi peri dryswch. Fel y nododd ein harweinydd, Paul Davies, yn gynharach, ym mis Mai dywedodd y Gweinidog cyllid nad oedd Llywodraeth Cymru yn ystyried cyfyngiadau symud lleol, gan y gallai gwahanol reolau achosi llawer iawn o ddryswch, ac yna aeth ymlaen i honni mai un o gryfderau neges Llywodraeth Cymru, fel y dywedwyd, oedd bod neges glir iawn yr un mor berthnasol ledled Cymru. Yn wir, pan welwyd cynnydd sydyn yn nifer yr achosion o'r coronafeirws yn Wrecsam ym mis Gorffennaf—gyda llaw, y cynnydd mwyaf ond un yn y DU ar y pryd—ni chafodd cyfyngiadau symud lleol eu hystyried hyd yn oed. Credaf fod hyn yn arwydd o'r anghysondeb yn null Llywodraeth Cymru o reoli'r feirws. 

Mae'r dryswch ynglŷn â gwisgo gorchuddion wyneb yn enghraifft dda o ymagwedd Llywodraeth Cymru. Rwyf fi, wrth gwrs, yn croesawu'r newid yn y polisi yn awr. Mae'n bwysig iawn ein bod yn gwisgo gorchuddion wyneb, ac rwy'n cymeradwyo'r ffaith bod y Llywodraeth bellach wedi ei gwneud hi'n orfodol i'w gwisgo. Mae gorchuddion wyneb wedi bod yn orfodol yn Lloegr ers misoedd ac o gofio bod gan y Gweinidogion fynediad at yr un cyngor gwyddonol a meddygol arbenigol â Gweinidogion mewn rhannau eraill o'r DU, nid wyf yn deall pam y gwnaed penderfyniad gwahanol. Ai enghraifft arall oedd hon o Lywodraeth Cymru yn ceisio bod yn wahanol i Loegr ddim ond er mwyn bod yn wahanol? Does bosibl nad yw'r argyfwng hwn yn mynnu bod gwleidyddiaeth plaid yn cael ei rhoi o'r neilltu.

Mae gan Lywodraeth Cymru ddyletswydd i wella ei dull o gyfathrebu ynglŷn â chyfyngiadau lleol. Yn dilyn y diffyg eglurder a pheth dryswch ynghylch y rheolau a osodwyd yn ddiweddar yng Nghaerffili ac sydd bellach yn yr arfaeth yn Rhondda Cynon Taf, mae trigolion a busnesau lleol wedi gofyn am eglurder ynglŷn â'r rheolau newydd. Beth yn union yw 'esgus rhesymol' i adael a dod i mewn i'r sir? Mae'n ddryslyd. Bu'n rhaid i gyngor Caerffili hyd yn oed aros am ganllawiau manylach gan Lywodraeth Lafur Cymru, sy'n awgrymu bod angen gwell cyfathrebu rhwng y llywodraeth ganolog a llywodraeth leol. Mynegwyd pryderon nad oedd rhai pobl yng Nghaerffili yn gallu cael profion COVID-19, gyda chadeirydd Cymdeithas Feddygol Prydain yn disgrifio'r ciwiau yn y ganolfan dros dro fel rhai 'erchyll'. Yn ei ddatganiad yn gynharach heddiw—. Rwy'n cymeradwyo'r Gweinidog iechyd am y camau cadarnhaol y mae'n eu cymryd, ond a all roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am unrhyw gynnydd y mae'n ei wneud ar gynyddu'r capasiti profi yng Nghymru, oherwydd mae mor bwysig, gyda nifer yr achosion yn dal i godi ar draws fy rhanbarth i a ledled Cymru?

Mae'r ffaith ein bod bellach yn gweld rhagor o gyfyngiadau symud lleol yn codi'r cwestiwn a fu methiant i gyfathrebu a gorfodi'r gyfres flaenorol o fesurau a rhagofalon COVID. Pa wersi y mae Llywodraeth Cymru wedi'u dysgu, a sut y byddech yn gweithredu'n wahanol yn y dyfodol i atal rhagor o gyfyngiadau symud lleol? Mae busnesau yn fy ardal i wedi cwyno nad yw rhai busnesau'n trafferthu gyda'r trefniadau olrhain. Mae'n amlwg fod angen mwy o gymorth ac arweiniad ar awdurdodau lleol a heddluoedd i orfodi'r rheolau presennol yn well er mwyn atal yr angen am fwy o gyfyngiadau lleol.

Rwy'n croesawu'r camau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd yn awr ar ôl ei ddatganiad heddiw, ond efallai y gall y Gweinidog yn ei ateb egluro pa gamau y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd i wella negeseuon, a chyflymu'r canllawiau sy'n dilyn a chydymffurfiaeth y cyhoedd yn sgil hynny. Rwy'n croesawu'n fawr awgrym Andrew R.T. Davies yn gynharach heddiw y dylem rannu'r wybodaeth a roddir allan ar lefel wardiau. Rwy'n credu bod hwnnw'n syniad da iawn a bydd yn gwneud yn siŵr ein bod yn cael y wybodaeth iawn i'r bobl iawn yn gyflymach.

17:45

Ydw. Yn olaf, a allai ddweud wrthym am ein maes awyr, ein hunig faes awyr yng Nghymru, Weinidog, a allwch chi wedyn, os gwelwch yn dda—? Rydym wedi cael achos ar ôl achos o bobl yn dod yn ôl o dramor gan ddod â'r coronafeirws gyda hwy. A allwch ddweud wrthym pa gamau rydych chi'n eu cymryd mewn gwirionedd? Diolch. [Torri ar draws.] Masnachol, mae'n ddrwg gennyf.

Fel y dywedwyd wrth yr Aelodau, rwyf am alw yn awr ar yr Aelodau sydd wedi gofyn am ymyriad o hyd at funud. Jenny Rathbone.

Diolch. Rwy'n credu ei bod yn gwbl glir o wrando ar y ddadl nad oes neb wedi mynd i'r afael â rôl y cwmnïau awyrennau yn lledaenu clefydau. Pam nad ydym wedi disgwyl i gwmnïau awyrennau fod yn ddarostyngedig i'r un cyfyngiadau â theithio ar fysiau a threnau, nid yn unig i wisgo masgiau pan fyddant yn teithio ond hefyd i gadw pellter o 2m? Felly, hoffwn ofyn i'r sawl sy'n gwneud y cynnig pa sgyrsiau, os o gwbl, y mae wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynglŷn â gosod yr un cyfyngiadau ar y cwmnïau awyrennau ag y mae disgwyl i'r trenau a'r bysiau eu dilyn, gan ei bod yn ffordd lawer mwy peryglus o deithio na theithio ar fws.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, ac roeddwn am ofyn i'r Gweinidog a allai ateb wrth grynhoi i'r pwynt penodol hwn, oherwydd mae'r ail bwynt yn ymwneud â chyfyngiadau symud lleol a'r prynhawn yma clywsom am gyfyngiadau symud Rhondda Cynon Taf, neu gyfyngiadau, dylwn ddweud. A oes unrhyw oblygiadau i Brifysgol De Cymru oherwydd, yn amlwg, yn ystod y pythefnos nesaf bydd nifer enfawr o fyfyrwyr yn mynd i mewn i ardal Rhondda Cynon Taf os caniateir i'r flwyddyn academaidd ddechrau yn y brifysgol, fel mewn amgylchiadau arferol? Hoffwn ddeall yn glir: a oes unrhyw oblygiadau i fyfyrwyr o gofio, yn ôl yr hyn a ddeallaf, fod gan Brifysgol De Cymru 22,000 o fyfyrwyr ac yn amlwg, mae'r prif gampws yn ardal Rhondda Cynon Taf?

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl. O ystyried y nifer sylweddol o gwestiynau a'r amser sydd gennyf i ymateb, ni fyddaf yn gallu ymdrin â phob pwynt. Fe ddechreuaf, serch hynny, drwy ateb pwynt olaf Andrew R.T. Davies, yn ymwneud â theithio i mewn ac allan o ardaloedd. Felly, ar gyfer Prifysgol De Cymru, byddai pobl yn gallu mynychu eu prifysgol gyda'r cyfyngiadau ar waith. Mae angen iddynt gadw at y cyfyngiadau hynny pan fyddant yno. Ac fel rwy'n dweud, mae rhai myfyrwyr prifysgol yn cymudo o gyfeiriad cartref i fynd i'r brifysgol—maent yn aros yn lleol—ac mae eraill, wrth gwrs, wedi arfer symud i ffwrdd. Felly, byddai hawl gan bobl i symud i'r ardal honno ac aros yno ar gyfer astudio, ond fel rwy'n dweud, bydd y cyfyngiadau'n newid y ffordd y bydd yn rhaid i lawer ohonom ymddwyn yn Rhondda Cynon Taf a Chaerffili, ac mae'n rhybudd am y posibilrwydd y gallai fod angen i hynny ddigwydd ledled y wlad. 

Mae'r ddadl hon yn dangos natur y bygythiad COVID sy'n symud yn gyflym a sut y mae wythnos o ddifrif yn amser hir mewn gwleidyddiaeth ar yr adeg benodol hon gydag argyfwng iechyd cyhoeddus byd-eang. Nawr, ar fasgiau wyneb, cyngor blaenorol Llywodraeth Cymru, gyda chefnogaeth y prif swyddog meddygol, oedd i aelodau'r cyhoedd wisgo gorchuddion wyneb dan do lle nad oedd hi'n bosibl cadw pellter cymdeithasol. Ers dydd Llun yr wythnos diwethaf, mae wedi bod yn orfodol i bobl dros 11 oed wisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do, felly mae'r rhan honno o'r cynnig eisoes wedi'i chyflawni. Er bod gorchuddion wyneb yn gwneud cyfraniad bach, nid yw defnyddio gorchudd wyneb yn cymryd lle mesurau rheoli heintiau effeithiol, megis hunanynysu, golchi dwylo a chadw pellter cymdeithasol. 

Mae'n werth atgoffa ein hunain hefyd fod cyfraddau coronafeirws wedi lleihau'n sylweddol yng Nghymru drwy gydol yr haf heb orchuddion wyneb gorfodol, lle roedd gennym lefelau uchel o gydymffurfiaeth â heriau sylfaenol cadw pellter cymdeithasol, a dilyn y rheolau hylendid dwylo yn wir.

Mae gwisgo masg yn ddiogel yn ffactor pwysig. Mae hynny'n cynnwys gwisgo a diosg masgiau hefyd, ac mae her wirioneddol, nid yn unig o ran pa fath o orchudd i'w wisgo, ond i'n hatgoffa ein hunain, pan fyddwch yn diosg y gorchudd wyneb, os oes gennych COVID, eich bod yn debygol o'i ledaenu. Mae perygl i hynny ddigwydd pan fyddwch yn ei wisgo hefyd. Mae hyn yn anodd, ond mae'n bwysig iawn i bob un ohonom, a chredaf y bydd angen i'r Aelodau etholedig osod y math o esiampl rydym am i'r cyhoedd ei dilyn.

Mewn ysgolion, rydym wedi cyhoeddi cyngor clir gan ein grŵp cynghori technegol, ac mae hynny wedi galluogi awdurdodau lleol ac ysgolion i wneud penderfyniadau eisoes ynglŷn â gorchuddion wyneb mewn rhannau o'u hysgolion lle nad yw'n bosibl gorfodi mesurau cadw pellter cymdeithasol. Gwyddom fod gwahanol ystadau ysgol yn wynebu gwahanol heriau.

Nodir ein dull o ddefnyddio cyfyngiadau coronafeirws lleol i gyfyngu ar ledaeniad COVID-19 yn 'Cynllun Rheoli'r Coronafeirws ar gyfer Cymru'. A byddwn yn dweud yn garedig wrth Aelodau'r Ceidwadwyr Cymreig eu bod mewn perygl o wneud i'w hunain edrych braidd yn ffôl pan fyddant yn mynd yn ôl at sylwadau a wnaed gan y Gweinidog cyllid ddiwedd mis Mai, pan oeddem yn llacio'r cyfyngiadau symud, yn hytrach na'r ffaith ein bod wedi cyhoeddi cynllun rheoli'r coronafeirws fwy na thri mis yn ddiweddarach sy'n nodi meini prawf clir i ni roi camau lleol ar waith, yn union fel y gwnaethom eisoes mewn dwy ardal awdurdod lleol.

Yng Nghymru, mae gennym system sefydledig ar gyfer dod â'r holl asiantaethau lleol perthnasol at ei gilydd drwy ein timau rheoli digwyddiadau a'n timau rheoli achosion. Mae gennym hefyd wasanaeth profi, olrhain a diogelu sy'n perfformio'n dda i gefnogi'r broses honno. Mae hynny wedi ein galluogi i nodi a deall clystyrau o achosion yn gyflym ac i gymryd camau penodol wedi'u targedu, o amgylch gweithle neu leoliad penodol er enghraifft. Felly, mae hynny'n gweithredu fel proses glyfar i gyfyngu symud, ac atgoffaf yr Aelodau eto, pan welsom gynnydd sylweddol yn Ynys Môn, yn Wrecsam, ym Merthyr Tudful, a phrofi sylweddol mewn ardaloedd o Flaenau Gwent a ledled y wlad, digwyddodd hynny oherwydd y wybodaeth a oedd gennym a'n gallu i ddefnyddio adnoddau profi'n gyflym lle roedd eu hangen i ddeall lledaeniad y coronafeirws, ac i beidio â gorfod cymryd camau mwy sylweddol yn y gymuned wedyn. Dyna'r ffordd rydym eisiau gweithredu o hyd. Ond lle gwelwn drosglwyddiad cymunedol ehangach mewn ardaloedd, rydym wedi cyflwyno mesurau i fynd i'r afael ag ardaloedd yn benodol.

Nid oes yr un ohonom am ddychwelyd at y cyfyngiadau symud a wynebwyd gennym ym mis Mawrth. Rydym i gyd yn gwneud popeth yn ein gallu i osgoi camau mwy eithafol ledled Cymru, ond mae angen inni ddeall y cyd-destun. Mae gwledydd eraill y DU yn gweld cynnydd eto yng nghyfraddau coronafeirws, yn yr un modd â gwledydd eraill ledled Ewrop. Y realiti yw efallai na fydd hi'n bosibl osgoi mesurau cenedlaethol. Dyna pam rwy'n dweud eto, bydd y Llywodraeth a'n gwasanaeth iechyd yn gwneud ein rhan; mae'n bwysig fod y cyhoedd i gyd yn cydnabod bod gan bob un ohonom gyfraniad i'w wneud.

Ddydd Gwener diwethaf, rhoddodd y grŵp cynghori technegol gyngor ar brofi teithwyr ac fe'i cyhoeddwyd. Mae'n argymell ein bod yn gweithio ledled y DU rhwng y pedair gwlad i alluogi mynediad at brofion i bobl sy'n teithio o wledydd sydd â chyfradd uwch o achosion o COVID-19. Wrth gwrs, mae'n cydnabod y bydd y rhan fwyaf o bobl sy'n teithio'n rhyngwladol o Gymru yn gwneud hynny drwy lwybrau heblaw Caerdydd. Fel y dywedodd y Prif Weinidog ddoe, ac rwyf wedi dweud hyn o'r blaen, mae cwestiynau ymarferol i'w datrys ynglŷn â chynnal profion ym Maes Awyr Caerdydd. Byddai'n amlwg yn well gennyf allu gwneud hynny. Fodd bynnag, mae angen inni sicrhau nad ydym yn tyrru teithwyr at ei gilydd a bod gennym ddisgwyliadau clir ynglŷn â pha mor hir y gall fod angen i bobl aros o fewn y maes awyr; nad ydym yn cymysgu grwpiau o deithwyr o wahanol deithiau awyr—mae llawer ohonom wedi arfer bod yn yr un lle i gasglu bagiau â phobl o wahanol deithiau awyr—a'n bod yn gwahanu teithiau awyr y gallem fod am eu profi yn eglur; a bod lle ar ystad y maes awyr ar gyfer cynnal profion.

Yn ymarferol, rydym eisoes wedi bod yn profi pobl yn rheolaidd pan fyddant wedi dod adref o deithiau awyren o Zante, gyda lefelau uchel iawn o gydymffurfiaeth, ac mae hynny wedi ein galluogi i ddeall lledaeniad coronafeirws ar y teithiau awyr hynny ac yn y lleoliadau hynny. Hyd yn oed pan fydd teithio tramor yn dod ag achosion i Gymru, at ei gilydd, ymddygiad pobl tra'u bod ar wyliau sydd wedi peryglu eraill, gan gynnwys cyd-deithwyr ar awyrennau. Nid yw profi ar ddiwrnod 1 a diwrnod 8 yn ddewis amgen yn lle cwarantin. Byddwn yn parhau i adolygu a mireinio ein dull o weithredu er mwyn adlewyrchu'r newidiadau yn y ffordd y mae'r feirws yn lledaenu yng Nghymru; ein dealltwriaeth o ba ymyriadau sy'n gweithio orau; sut rydym ni fel unigolion, teuluoedd a chymunedau yn ymateb; ac unrhyw ddatblygiadau yn y dystiolaeth wyddonol. Felly, rhaid inni fod yn barod i newid ein safbwynt os yw'r dystiolaeth yn awgrymu bod yna wahanol gamau gweithredu y dylem eu cymryd.

Rydym yn ymwybodol iawn o'r heriau sy'n gysylltiedig ag oedi wrth brofi mewn labordai goleudy. Rydym wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth y DU i ddatrys y problemau cyn gynted â phosibl. Rwyf wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd iechyd y DU ac wedi siarad ag ef am hyn yn uniongyrchol, ac mae hefyd yn amlwg i mi y dylid ateb heriau a chwestiynau am flaenoriaethu capasiti ar gyfer Cymru gyda ni, nid gwneud hynny ar ein rhan. Mae capasiti labordy Cymru eisoes yn cael ei ddefnyddio ar gyfer ymateb yn gyflym i achosion a digwyddiadau ac ar gyfer GIG Cymru. Rydym yn gweithio ar frys gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a'n GIG ar ddefnyddio a blaenoriaethu'r defnydd o gapasiti labordy Cymru wrth i ni weld y pwysau a'r galw'n cynyddu yma a ledled y DU.

Cyhoeddais gyllid ychwanegol o £32 miliwn yn ddiweddar er mwyn cyflymu amseroedd profi yn labordai Iechyd Cyhoeddus Cymru ac i ddarparu capasiti ychwanegol. Bydd hyn yn talu am staff ac offer ychwanegol ac i Iechyd Cyhoeddus Cymru allu rhedeg labordai rhanbarthol yn Ysbyty Athrofaol Cymru, Ysbyty Singleton ac Ysbyty Glan Clwyd. Byddant wedyn yn gweithredu 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, a disgwylir y gweithgarwch hwnnw o fis Hydref ymlaen. Bydd hefyd yn ei gwneud hi'n bosibl creu chwe labordy brys mewn ysbytai acíwt ledled Cymru gydag offer profi o dan bedair awr. Byddant yn gweithredu saith diwrnod yr wythnos o fis Tachwedd ymlaen.

Wrth gloi, Ddirprwy Lywydd, byddwn yn parhau i gymryd cyngor ein gwyddonwyr ac yn chwarae rhan weithredol mewn trafodaethau gyda chydweithwyr ledled y DU i weithredu atebion sy'n rhoi'r cyfle gorau i atal y feirws ledled Cymru ac i achub cymaint o fywydau ag sy'n bosibl. Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae a mater i bob un ohonom yw gweithio gyda'n gilydd i gadw Cymru'n ddiogel.

17:55

Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma ac yn arbennig y pwynt olaf y cyfeiriodd y Gweinidog ato. Mae hyn yn ymwneud ag achub bywydau, oherwydd yn y pen draw, yn y sefyllfa waethaf, gyda'r feirws hwn, fe allwch golli eich bywyd yn anffodus, a'r rhai mwyaf agored i niwed mewn cymdeithas fydd yn dioddef y canlyniadau hynny, y rhai sydd â phroblemau iechyd isorweddol, ac os ydym i gyd yn chwarae ein rhan gallwn wneud gwahaniaeth wrth atal y feirws hwn nes y gallwn gyrraedd man lle bydd gennym naill ai frechlyn neu atebion ehangach a fydd yn caniatáu i ni fel cymdeithas ymdrin ag ef. Ategaf y sylwadau y wnaeth y Gweinidog yn ei sylwadau clo.

Hoffwn ddiolch hefyd i bawb sydd wedi cyfrannu at yr hyn a fu'n ddadl addysgiadol, a dweud y lleiaf. Er bod dadl yn edrych yn gymharol syml ar bapur ac y byddwn yn gobeithio y byddai'n ennyn cytundeb ym mhob rhan o'r Siambr bron, rwy'n credu ei bod wedi denu oddeutu wyth gwelliant. Fel y crybwyllodd arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad wrth wneud ei sylwadau agoriadol, mae'n amlwg fod amser wedi symud ymlaen ac mae'n dda gweld bod Llywodraeth Cymru bellach wedi gweithredu ar orchuddion wyneb. Roeddwn ychydig yn betrus fy hun, a dweud y gwir, ar ddechrau'r pandemig pan oedd pobl yn sôn am orchuddion wyneb, ond daeth yn gliriach i mi ac i lawer o rai eraill fod ganddynt rôl i'w chwarae mewn lleoliadau lle mae'n amlwg fod pobl yn agored i haint ac mae'n dda gweld bod Llywodraeth Cymru wedi gweithredu ar hynny, fel y crybwyllodd arweinydd yr wrthblaid yn ei sylwadau.

Ond pwysleisiodd yr achos ynglŷn ag ysgolion a cholegau ac yn arbennig y defnydd o orchuddion wyneb yn y lleoliadau hynny, ac nid wyf yn credu bod y Gweinidog wedi mynd i'r afael yn llawn â'r pwynt hwnnw yn ei sylwadau. Rwy'n credu y bydd hwn yn bwynt y bydd yn rhaid ailedrych arno oherwydd wrth inni gael prifysgolion yn dychwelyd at y flwyddyn academaidd, yn ogystal â cholegau ac ysgolion wrth gwrs, byddant yn ganolfannau lle bydd llawer o bobl yn ymgynnull, ac yn y pen draw, os ydym yn ceisio atal lledaeniad y feirws, mae'n amlwg y bydd lleoliadau addysgol yn dod yn faes pwysig i roi sylw iddo, a chredaf y bydd yn rhaid i Lywodraeth Cymru ailedrych ar hynny yn y pen draw.

Mae'n amlwg fod Rhun ap Iorwerth wedi croesawu'r cynnig y prynhawn yma a chroesawu'r cyfle i'w drafod ac yna dechreuodd fwrw ei lach ar Llywodraeth y DU a gweithredoedd Llywodraeth y DU. Rwy'n deall mai chwarae gwleidyddiaeth oedd hyn, ond a bod yn onest, gadewch i ni wynebu'r ffaith, oni bai am undeb y Deyrnas Unedig byddwn yn awgrymu y byddai Cymru mewn sefyllfa lawer gwaeth pan edrychwch ar y pecyn cyffredinol a roddwyd ar waith i gefnogi'r economi, i gefnogi'r mesurau iechyd sy'n cael eu gweithredu, a phob rhan o'r Deryrnas Unedig yn gwneud ei rhan yn y bôn yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws. Oherwydd, mewn gwirionedd, os edrychwch ar y Deyrnas Unedig gyfan, yn wir, os edrychwch ar Ewrop, mae bron pob gwlad yn yr un lle bron heblaw am wythnos neu ddwy, i fod yn onest gyda chi, gydag ail don ar y ffordd naill ai yn y broses o ddatblygu neu i ddod yn y pen draw, gyda llawer o wledydd yn ne Ewrop yn arbennig, a byddwn yn awgrymu mai cryfder yr undeb sydd wedi sicrhau bod Cymru wedi gallu rhoi llawer o'r mesurau ar waith i'n rhoi mewn sefyllfa dda yn chwe mis cyntaf y pandemig, a gobeithio y bydd yn parhau i'n rhoi ar yr ochr iawn i'r feirws hwn ac yn sicrhau ein bod yn dod allan yr ochr arall iddo. Ond rwy'n sylweddoli, o safbwynt y cenedlaetholwyr, y byddech am gyflwyno'r ddadl dros ymwahanu, ac mae honno'n ddadl a dadl rwy'n siŵr a fydd yn ennill peth tir a mwy o bwyntiau dadl yn y Siambr hon yn y pen draw, ond byddaf yn sicr yn ymladd yr achos dros yr undeb oherwydd rwy'n credu'n angerddol ein bod mewn lle cryfach a gwell pan fydd pob un o bedair rhan y wlad hon yn cyd-dynnu yn wyneb y fath adfyd. Gallaf glywed y Prif Weinidog yn siarad am Ewrop—byddaf yn falch o gael dadl gydag ef ar Ewrop hefyd. Byddaf yn sicr o gael dadl gydag ef ar hynny.

Ond yr un peth a ddaeth allan yn glir oedd y pwynt y cyfeiriodd Suzy Davies ato yn ei chyfraniad, gan Mark Reckless ddoe—rwy'n sylweddoli nad oedd Mark yn cyfrannu yn y ddadl—fod pobl wedi blino ar y feirws, neu wedi blino ar COVID. Gallwn siarad cymaint ag y dymunwn yn y Siambr hon, ond y gwir amdani yw bod llawer o bobl angen gallu dal gafael ar rywbeth a chael newyddion da, a newyddion fod rhywfaint o oleuni ym mhen draw'r twnnel. Yn anffodus, mae'r 10 diwrnod diwethaf yn sicr wedi cau llawer o opsiynau i bobl ac rwy'n credu ein bod i gyd yn ymwybodol drwy ein bagiau post a'n negeseuon e-bost fod llawer o bobl mewn sefyllfaoedd anodd, ac mae angen inni fesur yr hyn rydym yn ei ddweud am y cyfyngiadau, ynglŷn â pha gyfrifoldebau personol y mae angen i bobl eu hysgwyddo, gyda rhywfaint o newyddion da a chadarnhaol y gall pobl ddal eu gafael arno i fynd â ni drwy'r gaeaf hwn, a fydd yn her i bob un ohonom. Credaf fod hwnnw'n bwynt amlwg iawn i'w wneud yn y ddadl hon, am y ffaith bod pobl wedi blino ar COVID. Efallai mai dim ond chwe mis i mewn iddo ydym ni, a bod marwolaethau ar ddiwedd hyn, fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, ond rhaid inni fod yn realistig ynglŷn â'r hyn sy'n dal yr ysbryd dynol at ei gilydd ac sy'n cario'r ysbryd dynol yn ei flaen.

Ac yna, yn amlwg, cawsom Rhianon Passmore, a ddechreuodd mor dda, yn diolch i'r Ceidwadwyr Cymreig am gyflwyno'r ddadl, ond ni fyddai'n ddadl heb Rhianon wedyn yn cwyno am bolisïau'r Ceidwadwyr a mesurau'r Ceidwadwyr, ac yn cyffwrdd ar y drefn brofi ar hyn o bryd, fel y crybwyllodd y Prif Weinidog ddoe. Dair wythnos yn ôl, roedd y drefn brofi ar ei hanterth ac er bod trafferthion yn y system, yn y pen draw roedd yn cyflawni ar gyfer y bobl a oedd yn troi at y gyfundrefn honno. Yn anffodus erbyn hyn, yn amlwg, mae o dan bwysau oherwydd ein bod yn profi mwy o bobl nag unrhyw wlad arall yn Ewrop, ac yna aeth ymlaen i ganmol Llywodraeth Cymru. Wel, wyddoch chi, yn y pen draw, cafodd Llywodraeth Cymru wared ar ei thargedau ei hun ar gyfer capasiti profi yn gynnar yn y pandemig ac yn y pen draw ymrwymodd i wasanaeth labordai goleudy'r DU. Ond mae ganddi ei chapasiti ei hun hefyd, a'i chapasiti yn yr wythnos ddiwethaf a gofnodwyd, sef y wybodaeth a gyhoeddwyd heddiw, oedd capasiti o 106,000 o brofion, ond dim ond 58,000 o'r profion hynny a ddefnyddiwyd, felly ni ddefnyddiwyd 50,000 o brofion. Felly, dechreuwch wynebu'r ffaith bod pob rhan o'r Deyrnas Unedig yn wynebu pwysau mewn perthynas â phrofi. Nid yw'n gwneud lles i neb i geisio dechrau ras arfau o bwy sy'n well na phwy yn hyn. Mae'n ymwneud ag unioni'r broblem fel y gallwn ei datrys yn y pen draw.

Rwy'n tynnu sylw at yr union bwynt rydym arno ar hyn o bryd ac yn tynnu sylw at ble'n union rydym ni ar hyn o bryd, ac yn y pen draw, pan ddywed Rhianon Passmore fod system y DU yn gwneud cam â Chymru, drwy sefyll a gweithio gyda system y DU, rydym yn darparu rhwyd ddiogelwch a fydd yn y pen draw yn llwyddo i drechu'r pandemig. Ac felly byddwn yn awgrymu nad yw wythnos lle mae data personol 18,000 o bobl wedi'i ryddhau i'r cyhoedd a'r Prif Weinidog yn dweud nad oedd yn gwybod dim amdano tan 2 o'r gloch yn amser da i ddechrau chwarae gwleidyddiaeth am bwy sy'n well na phwy yn yr holl ddadl hon.

Felly, diolch i bawb a gyfrannodd. Yn sicr o'r meinciau hyn, rydym am groesawu cytundeb a llwyddiant Llywodraeth Cymru i fabwysiadu'r polisi ar orchuddion wyneb yma yng Nghymru, ond mae'n ymwneud â chyfyngiadau symud lleol a rheoli cyfyngiadau symud lleol—yr ail bwynt—ac rwyf wedi pwyso ar y Gweinidog ynglŷn â hyn y prynhawn yma, a byddaf yn parhau i bwyso arno ynglŷn â'r data hwnnw a'r gallu i nodi ar lefel ward, sy'n digwydd yn rhannau eraill y Deyrnas Unedig ar hyn o bryd, pa mor gyffredin yw'r feirws fesul ward, fesul awdurdod lleol ledled Cymru. Bydd hynny'n rhoi gwybod i bobl pa mor ddifrifol ydyw yn eu cymuned leol, yn hytrach na meddwl ar ddiwrnod heulog gogoneddus yma yng Nghaerdydd, 'Nid oes gennym broblem; dim ond Rhondda Cynon Taf a Chaerffili sydd â phroblem.' Ni chymer lawer o amser i neidio'r ffiniau hynny ac ni chymer lawer o amser i ddod i gymuned yn eich ymyl chi oni bai eich bod yn cadw mewn cof y cyngor a gyflwynwyd a'ch bod yn glynu wrth y cyngor hwnnw.

Felly, hoffwn feddwl y byddai'r cynnig hwn yn cael ei basio heb ei ddiwygio, ond rwyf wedi bod yma ers 13 mlynedd—rwy'n llwyr ddisgwyl i rai o'r gwelliannau basio, a bydd rhai newidiadau. Yn arbennig, o ran Maes Awyr Caerdydd, credaf y gallai'r Gweinidog fod wedi bod yn llawer mwy agored ei feddwl yn ei ymateb i'r cais am gynnal profion ym Maes Awyr Caerdydd. Yn hytrach na chwarae Cymru dal i fyny, gallem fod yn arwain. Felly, Weinidog, dechreuwch ailfeddwl ynglŷn â Maes Awyr Caerdydd, a mabwysiadwch y cynnig hwn y prynhawn yma a gallwn symud ymlaen ar un agenda, sef atal y feirws yn ein cymunedau yma yng Nghymru.

18:00

Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Felly, gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Rydym yn mynd i gael toriad byr yn awr er mwyn gallu newid personél ac er mwyn glanhau. Felly, os nad oes angen i chi adael y Siambr, peidiwch â gwneud hynny, a gallwn symud ymlaen yn llawer cyflymach. Felly, cawn doriad yn awr. Diolch.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 18:04.

18:10

Ailymgynullodd y Senedd am 18:12, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

10. Dadl y Blaid Brexit: Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 4 a 5 yn enw Neil Hamilton, gwelliant 2 yn enw Rebecca Evans, gwelliannau 3 ac 8 yn enw Siân Gwenllian, a gwelliannau 6 a 7 yn enw Gareth Bennett. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol.

Dyma ni nawr yn cyrraedd eitem 10. Eitem 10 yw dadl Plaid Brexit ar Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig, a dwi'n galw ar Mark Reckless i wneud y cynnig—Mark Reckless.

Cynnig NDM7372 Mark Reckless

Cynnig bod y Senedd:

Yn croesawu Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Lywydd. Rwy'n gwneud cynnig grŵp Plaid Brexit i groesawu Bil Marchnad Fewnol y DU, y pasiwyd ei ail ddarlleniad yn Nhŷ'r Cyffredin nos Lun gyda mwyafrif o 77. Rwy'n llongyfarch yr Aelodau ar feinciau'r Ceidwadwyr am fod eu Llywodraeth wedi cyflwyno'r Bil hwn a mynd i'r afael yn hwyr yn y dydd â rhai o'r diffygion yn y cytundeb ymadael y mae fy mhlaid wedi cwyno amdanynt. Nodaf ddwy effaith eang y Bil, a byddaf yn siarad amdanynt yn fy sylwadau yn eu tro: yn gyntaf, yr hyn y mae'n ei wneud mewn perthynas â'r Undeb Ewropeaidd, ac yn ail, yr hyn y mae'n ei wneud mewn perthynas â datganoli.

Rwy'n falch iawn nad ydym bellach yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd, datblygiad rwyf wedi ymgyrchu drosto drwy gydol fy oes fel oedolyn. Mae'n well gennyf fod y tu allan i'r cytundeb ymadael hwn na pheidio â bod allan o gwbl. Fodd bynnag, mae agweddau ar y cytundeb sy'n anfoddhaol iawn. Cawn ein calonogi, os ein synnu, fod y Prif Weinidog, drwy geisio deddfu yn y ffordd y mae'r Bil hwn yn ei wneud, yn ceisio mynd i'r afael â hyn, i ryw raddau o leiaf.

Y rheswm pam fod y cytundeb ymadael mor anfoddhaol i'r DU ond mor foddhaol i'r Undeb Ewropeaidd yw'r modd y trefnir negodiadau—hynny yw, parodrwydd Llywodraeth y DU i gytuno i roi i'r UE yr hyn roeddent am ei gael yn y cytundeb ymadael cyn i'r UE gytuno i roi i ni yr hyn rydym am ei gael mewn cytundeb masnach. Y rheswm pam y cytunodd Llywodraeth y DU i hwnnw yw nad oedd ganddi fwyafrif. Gall y Ceidwadwyr ddiolch i Theresa May am hynny, ond chwaraeodd Llafur ei rhan hefyd drwy addo yn 2017 y byddent yn parchu canlyniad refferendwm yr UE a mynd ati i wneud y gwrthwyneb wedyn. Pleidleisiodd o blaid cytundeb ymadael a fyddai wedi cadw'r DU gyfan ynghlwm wrth yr UE, gan gynnwys o fewn ei hundeb tollau, a deddfwyd yn ddiweddarach i atal y DU rhag gadael heb gytundeb er mwyn ceisio gorfodi'r DU i aros yn yr UE yn gwbl groes i ganlyniad y refferendwm.

Felly, sefydlodd Nigel Farage Blaid Brexit, enillodd yr etholiad Ewropeaidd a gyrru Theresa May o'i swydd. Er mwyn torri'r impasse seneddol, cefnogodd y Prif Weinidog newydd, Boris Johnson, y cytundeb ymadael presennol. Mae dadlau bod cytundeb ymadael yn gysegredig, fel y mae gwrthwynebwyr y Bil hwn yn ei wneud, yn hwyluso buddiannau'r UE a'r dull o drefnu y ceisient ei orfodi i hyrwyddo eu buddiannau hwy ar draul ein buddiannau ni. Roedd yn cyd-fynd ag awydd yr UE i geisio sicrhau taliad ysgaru fel y'i gelwid a'i fodel dewisol ar gyfer Gogledd Iwerddon yn gyntaf. Nid oedd yn addas ar gyfer y DU.

Erbyn canol 2017, roedd awdurdodau treth a thollau'r DU ac Iwerddon wedi cyfrifo i raddau helaeth sut i osgoi unrhyw seilwaith ar y ffin neu ffin galed yng Ngogledd Iwerddon. Cafodd y trafodaethau hynny eu terfynu gan yr UE yn dilyn etholiad Mehefin 2017, gan rymuso eu cynghreiriaid yn y Blaid Lafur i weithio gyda hwy, i bob pwrpas yn erbyn negodwyr eu gwlad eu hunain.

18:15

Edrychaf ymlaen at glywed cyfraniad y cyn Brif Weinidog yn ddiweddarach. A yw'n cael ymyrryd, Lywydd, neu a yw hynny'n anseneddol ar hyn o bryd? Iawn.

Pam y dylem rannu—[Torri ar draws.] Arhoswch nes y clywch chi hyn. Pam y dylem rannu marchnad sengl ac undeb y tollau y DU ar hyd môr Iwerddon pan allai'r UE osgoi ffin yng Ngogledd Iwerddon drwy wneud archwiliadau ar draws y môr Celtaidd rhwng Iwerddon a gweddill yr UE? Wrth gwrs, mewn sefyllfa o'r fath, byddai'r UE ac Iwerddon yn dod i weld gwerth y trefniadau amgen synhwyrol niferus rydym wedi'u cyflwyno yn fuan iawn er mwyn osgoi ffin weladwy. Mae Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig yn rhoi cyfle inni ailagor y materion hyn a sicrhau bod unrhyw setliad yn deg ac er budd y DU yn ogystal â'r UE.

Cafwyd llawer o sŵn a chynddaredd yn y dyddiau diwethaf. Mae nifer wedi neidio i'r casgliad fod gadael heb gytundeb bellach yn llawer mwy tebygol, am fod ymddiriedaeth wedi'i golli yn ôl pob sôn. Rwy'n tybio mai'r realiti yw bod cytundeb wedi dod yn llawer mwy tebygol. Y rheswm am hynny yw bod y gost i'r UE o beidio â dod i gytundeb newydd godi. Os byddant yn gwrthod rhoi inni—[Torri ar draws.] Awgrymaf fod y cyn Brif Weinidog yn gwylio'r hyn a wnânt yn hytrach na gwrando ar yr hyn a ddywedant ar y pwynt penodol hwn. Os gwrthodant roi telerau boddhaol inni ar y cytundeb masnach, fel rydym am ei gael, byddwn yn gwrthod rhoi'r hyn roeddent hwy am ei gael, ac yn credu'n anghywir eu bod eisoes wedi'i gael, ar brotocol Gogledd Iwerddon.

Mae beirniaid yn iawn pan fyddant yn dweud nad oes darpariaeth mewn cyfraith ryngwladol i wladwriaeth newid un rhan yn unig o gytuniad y mae wedi'i gytuno, er bod darpariaethau wrth gwrs i wladwriaethau ymwrthod â chytuniadau cyfan. Rwy'n gobeithio felly, yn niffyg cytundeb boddhaol â'r UE, y bydd y DU yn tynnu'n ôl o'r cytuniad cyfan, gan gynnwys ei threfniadau ariannol a'r materion masnach hynny a bennwyd yn anghywir ymlaen llaw i ffafrio'r UE, er enghraifft ar ddangosyddion daearyddol. Er hynny, credaf ei bod bellach yn fwy tebygol nag o'r blaen y cyrhaeddir cytundeb masnach gyda'r UE ac ar delerau mwy ffafriol i'r DU nag y byddai wedi bod yn bosibl eu cyflawni heb i'r Prif Weinidog gryfhau ei law negodi drwy'r Bil hwn. Os felly, cawn farnu ynghylch ei rinweddau yn ddiweddarach yn y flwyddyn. 

Trof yn awr at yr effaith ar ddatganoli. Dywed hen bennau wrthyf fod angen i mi ddeall mai proses yw datganoli, nid digwyddiad, ond dyna'n union yw'r broblem. Mae proses sydd ond yn arwain i un cyfeiriad yn creu perygl y bydd Cymru'n cerdded yn ei chwsg tuag at annibyniaeth. Mae ymagwedd newydd San Steffan tuag at gonfensiwn Sewel yn ffordd ddefnyddiol o gywiro hyn. Dair blynedd yn ôl, rwy'n credu, fe wnaeth y Cwnsler Cyffredinol gyfiawnhau ymyrryd gerbron y Goruchaf Lys oherwydd ei fod yn gobeithio y gellid ei berswadio i roi grym cyfreithiol i gonfensiwn Sewel. Ni wnaeth hynny, a deddfodd San Steffan o blaid y cytundeb ymadael er na chytunwyd ar gynigion cydsyniad deddfwriaethol. Efallai mai profi'r system oedd hynny, oherwydd unwaith eto, er y bydd y mwyafrif yn y Siambr hon ac mewn mannau eraill mae'n debyg, yn gwrthod rhoi cydsyniad i'r Bil hwn, mae Senedd San Steffan yn sofran a gall fwrw yn ei blaen beth bynnag. 

Cawn weld. Edrychaf ymlaen at wrando ar yr Aelodau o bob rhan o'r Siambr a thu hwnt yn trafod rhinweddau neu fel arall canlyniadau'r Bil hwn mewn perthynas â datganoli, ac rwy'n gobeithio ymateb iddynt mewn manylder priodol wrth gloi'r ddadl. Fodd bynnag, ni fyddwn yn synnu pe bawn yn clywed rhai o'r Aelodau'n dadlau bod y Bil hwn yn cipio pŵer yn erbyn datganoli tra bod eraill yn honni ei fod yn ymchwydd o bŵer i ddatganoli. Rwy'n credu bod y gwirionedd yn llai eithafol.

Ers blynyddoedd lawer, ac yn gynyddol, mae pŵer yng Nghymru wedi'i arfer gan yr Undeb Ewropeaidd. Pleidleisiodd Cymru a'r DU gyfan i roi diwedd ar hynny. O ganlyniad, bydd pŵer yn llifo o'r Undeb Ewropeaidd i San Steffan a'r sefydliadau datganoledig. Mae Bil Marchnad Fewnol y DU yn dylanwadu ar hyn i raddau, yn ein cyfyngu yma rhag arfer rhai pwerau, ond yn cadarnhau ac yn hyrwyddo ein defnydd o bwerau newydd mewn meysydd eraill. Rwy'n cefnogi'n gryf yr egwyddor o gydnabyddiaeth gilyddol ac anwahaniaethu ac at ei gilydd, y ffordd y mae'r Bil yn datblygu'r rhain. Dadleuodd y Gweinidog ddoe y byddant yn cyfyngu ar ei Lywodraeth a'r Senedd hon. Rwy'n cytuno. Rwy'n ei groesawu. Mae'n ofni ras i'r gwaelod o ran safonau rheoleiddio. Edrychaf ymlaen at fwy o gystadleuaeth—defnyddwyr yn cael eu grymuso i benderfynu drostynt eu hunain yn hytrach na gwneud fel rydym ni'n dweud. I wneud hynny, mae angen iddynt wybod beth y maent yn ei brynu. Ar y mater hwn, mae'r Gweinidog yn gwneud rhai pwyntiau cymhellol. Byddwn yn annog y Ceidwadwyr i ymgysylltu'n adeiladol â Llywodraeth Cymru ar y ffordd orau o sicrhau bod labelu'n cael ei reoleiddio'n briodol er mwyn grymuso defnyddwyr.

Daw'r Siambr hon a Thŷ'r Cyffredin yn fwy pwerus am ein bod yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, felly hefyd Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Credwn fod hynny i'w groesawu. Ers degawdau, mae'r model traddodiadol o sofraniaeth seneddol yn San Steffan wedi bod dan fygythiad yr Undeb Ewropeaidd, sydd ond yn crynhoi mwy o bwerau, a phroses datganoli sydd ond yn symud i un cyfeiriad—tuag at annibyniaeth. Mae Senedd San Steffan yn ymladd nôl. Dylem groesawu hynny.

18:20

Rwyf wedi dethol yr wyth gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. Dwi'n galw ar Neil Hamilton i gynnig gwelliannau 1, 4 a 5 a gyflwynwyd yn ei enw—Neil Hamilton.

Gwelliant 1—Neil Hamilton

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Yn croesawu rhai rhannau o Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig sy'n dychwelyd, yn briodol, bwerau pwysig o'r UE i'r DU.

Gwelliant 4—Neil Hamilton

Ychwanegu pwynt newydd at ddiwedd y cynnig:

Yn gresynu at y rhannau hynny o Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig sy'n cynnig datganoli pwerau ymhellach i'r Senedd a Llywodraeth Cymru oherwydd, ar sail tystiolaeth yr 20 mlynedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru yn debygol o'u defnyddio i gynyddu rheoleiddio, cyfyngu ar ryddid a thanseilio cystadleurwydd economi Cymru.

Gwelliant 5—Neil Hamilton

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu y dylid dileu'r Senedd, fel rhan o gynllun ehangach i unioni canlyniadau anfoddhaol datganoli drwy, yn benodol, ddemocrateiddio'r GIG a chreu mwy o ymreolaeth leol mewn addysg, ac wrth gadw elfennau Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig sy'n helpu i ddychwelyd  pwerau, yn briodol, o'r UE i'r DU.

Cynigiwyd gwelliannau 1, 4 a 5.

Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Fel Mark Reckless, rwy'n croesawu'r rhannau o'r Bil marchnad fewnol sy'n ailwladoli pwerau o'r UE i San Steffan ac i'r Seneddau datganoledig. Fel ef, rwyf wedi bod yn ymladd ar hyd fy oes wleidyddol i weld y nod hwn yn cael ei gyflawni, byth ers i mi ddod yn ymgeisydd seneddol yn ôl ym 1973. Ond rwy'n gwrthwynebu'r rhannau o'r Bil sy'n rhoi rhagor o bwerau i'r sefydliad hwn ac i'r sefydliadau datganoledig eraill yn y Deyrnas Unedig. Fel y dywedodd Darren Millar yn ei araith ddoe, mae'r Bil hwn yn rhoi dwsinau o bwerau newydd i'r Senedd, i Senedd yr Alban ac i Ogledd Iwerddon hefyd. Ac fel y dywedodd Mark Reckless, disgrifir datganoli fel proses, nid digwyddiad, a gwelaf felly fod y Llywodraeth Geidwadol yn rhan o'r broses honno, sydd, fel y dywedodd Mark Reckless, yn bygwth chwalu'r Deyrnas Unedig yn y pen draw. Oherwydd nid oes fawr o amheuaeth, yn sicr mewn perthynas â'r Alban, nad yw'r broses ddatganoli wedi gwneud dim i leddfu'r awydd am annibyniaeth—mewn gwirionedd, mae wedi bwydo'r bwystfil. Ac mae'n ddigon posibl, maes o law, y bydd yr Alban yn ymwahanu oddi wrth weddill y Deyrnas Unedig, a chredaf y byddai hynny'n drueni. Nid yw cenedlaetholwyr Cymru wedi bod agos mor llwyddiannus â chenedlaetholwyr yr Alban, ond serch hynny, byddai'r un posibilrwydd yn bygwth Cymru yn fawr iawn.

Rwy'n credu bod Cymru'n cael cam mawr gan ddatganoli a dyna pam rwyf wedi addasu fy marn am werth y lle hwn yn ystod y pedair blynedd a hanner y bûm yma. Yn yr 20 mlynedd o ddatganoli, mae Cymru wedi mynd am yn ôl o'i chymharu â gweddill y Deyrnas Unedig. Dim ond 75 y cant o gyfartaledd y DU yw'r incwm cyfartalog yng Nghymru, fel y gwyddom. Felly, pa obeithion bynnag oedd gan bobl ar y pryd y cytunwyd ar y setliad datganoli, yn sicr nid ydynt wedi'u cyflawni.

Rwy'n synnu bod Llywodraeth Cymru mor wrthwynebus i ddatganoli pwerau o Frwsel i San Steffan, Caerdydd, Caeredin a Belfast. Ymddengys eu bod bellach yn ddig iawn ynglŷn â'r posibilrwydd y bydd y Deyrnas Unedig yn arfer pwerau mewn perthynas â'r materion a fydd yn cael eu hailwladoli, ond nid oeddent yn poeni o gwbl am y pwerau hynny'n cael eu harfer gan bobl na allwn prin mo'u henwi, heb sôn am eu rheoli, ym Mrwsel. Wedi'r cyfan, o dan drefn bleidleisio drwy fwyafrif cymwysedig, dim ond 8 y cant o'r pleidleisiau sydd gan y DU yng Nghyngor y Gweinidogion, un comisiynydd allan o 27 a 10 y cant o'r pleidleisiau yn Senedd Ewrop. Pa farn bynnag a fydd gennych am y rhifyddeg honno, mae'n siŵr o arwain at gynnydd enfawr mewn democratiaeth ac atebolrwydd mewn perthynas â maes sylweddol o gyfreithiau a wneir ac y cawn ein llywodraethu ganddynt.

Ond wrth gwrs, mae marchnad sengl y Deyrnas Unedig yn bwysicach o lawer i Gymru nag yr oedd marchnad sengl yr UE erioed. Wedi'r cyfan, mae 60 y cant o allforion Cymru yn mynd i Loegr ac mae 84 y cant o boblogaeth y Deyrnas Unedig yn  byw yn Lloegr. Pe bai unrhyw berygl o Falcaneiddio marchnad y Deyrnas Unedig, y collwr mawr fyddai Cymru ac yn sicr nid Lloegr. Dyna pam ei bod mor bwysig pasio'r egwyddorion cydnabyddiaeth gilyddol ac anwahaniaethu a gynhwysir yn y Bil hwn, oherwydd eu bod mewn gwirionedd yn gwarantu mynediad Cymru i farchnad y Deyrnas Unedig, a fyddai, pe bai'n cael ei wrthod, yn drychineb llwyr i economi Cymru.

Nawr, roedd agwedd Jeremy Miles tuag at hyn braidd yn chwerw ac mae wedi'i ddisgrifio fel man cychwyn i ras i'r gwaelod a fydd yn tanseilio'r safonau uchel rydym yn eu mwynhau ar hyn o bryd mewn perthynas â safonau bwyd, lles anifeiliaid a'r amgylchedd. Ond fel Mark Reckless, nid wyf yn gweld pam y dylai'r Llywodraeth amddifadu defnyddwyr o'r hawl i ddewis. Gadewch iddynt benderfynu pa safonau y maent am eu dilyn. Wedi'r cyfan, mae llawer o bobl yn credu mai bwyd organig sydd orau i ni, ac mae ganddynt hawl i'w barn, ond ni ddylid cael penderfyniad llywodraethol ynglŷn ag a ddylid gorfodi hynny ar bawb arall. Ac felly, rwy'n credu mai mater i ni fel unigolion yw penderfynu drosom ein hunain beth sydd orau yn ein barn ni a pheidio â chael y Llywodraeth i wneud hynny ar ein rhan. Ond wrth gwrs, greddf gyntaf Llywodraeth Cymru yw rheoleiddio, cyfyngu ac ymyrryd.

Mae'r darpariaethau cymorth gwladwriaethol hefyd wedi bod yn ddadleuol yn y Bil hwn, ond wrth gwrs, mae Lloegr yn rhoi cymhorthdal enfawr i Gymru. Yn wir, tri rhanbarth Llundain, de-ddwyrain a dwyrain Lloegr sy'n sybsideiddio pob rhanbarth a gwlad arall yn y Deyrnas Unedig. Mae Llywodraeth Cymru yn gwario £18 biliwn y flwyddyn, daw £14.7 biliwn ohono o San Steffan, neu Whitehall, oherwydd mai dim ond ychydig dros £2 biliwn y flwyddyn a godwn mewn refeniw treth incwm yng Nghymru ac ychydig dros £1 biliwn ar y trethi datganoledig eraill. Mae hynny'n £4,500 y pen o'r boblogaeth yng Nghymru. Nid yw'n syndod, felly, fod Llywodraeth y DU wedi dod i'r casgliad mai'r sawl sy'n talu ddylai gael penderfynu. A chredaf y byddai'n niweidiol iawn i ddyfodol yr undeb pe bai yna unrhyw system arall yn hytrach na'r hyn a gynigir o ganlyniad i'r Bil hwn. Pan fo cymaint o gymhorthdal trethdalwyr yn Lloegr yn llifo i Gymru, mae'n annirnadwy y byddai trethdalwyr Lloegr yn barod i gyflwyno system lle gallai Llywodraeth Cymru ddefnyddio eu harian i dandorri cwmnïau o Loegr a gweithredu ar yr hyn y gellid ei ddisgrifio fel cystadleuaeth annheg. Pan ddigwyddodd hyn yn 2014, rwy'n cofio—

18:25

Byddai hynny'n sicr yn peryglu'r undeb. Ers 27 mlynedd, rwyf wedi ymgyrchu, mae UKIP wedi ymgyrchu, dros ailwladoli pwerau o'r UE i'r DU, felly rydym yn croesawu'r rhan honno o'r Bil, ond y bygythiad parhaol i undod a chyfanrwydd y DU yw datganoli ei hun. Mae Llywodraeth Cymru a'r Senedd wedi dangos eu dirmyg tuag at bobl Cymru—

Rwyf wedi rhoi 30 eiliad ychwanegol i chi. Bydd rhaid i mi symud ymlaen yn awr. Diolch.

Y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd i gynnig y gwelliant yn enw Rebecca Evans.

Gwelliant 2—Rebecca Evans

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd:

Yn credu bod Bil y Farchnad Fewnol, Llywodraeth y DU gyfystyr ag ymosodiad ar y setliad datganoli a fyddai, pe bai’n cael ei ddeddfu, yn tanseilio pwerau’r Senedd i ddiogelu a hyrwyddo buddiannau pobl Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Rwy'n galw nawr ar Dai Lloyd i gynnig gwelliannau 3 ac 8 a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Dai Lloyd.

Gwelliant 3—Siân Gwenllian

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod y Senedd yn cytuno bod Bil Marchnad Fewnol Llywodraeth y DU yn ymosodiad uniongyrchol ar genedligrwydd a democratiaeth yng Nghymru.

Gwelliant 8—Siân Gwenllian

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio annibyniaeth er mwyn diogelu democratiaeth yng Nghymru yn sgil Bil Marchnad Fewnol Llywodraeth y DU.

Cynigiwyd gwelliannau 3 ac 8.

Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig gwelliannau Plaid Cymru. Ni all Plaid Cymru groesawu Bil Marchnad Fewnol y DU. Yn wir, rydym yn ei weld fel ymosodiad uniongyrchol ar genedligrwydd a democratiaeth yng Nghymru. Y Bil hwn yw'r ymosodiad unigol mwyaf ar ddatganoli ers ei greu. Nid cipio pŵer yn unig a wneir gan y Bil marchnad fewnol ond dinistrio dau ddegawd o ddatganoli. Bydd dau refferendwm yn cael eu hanwybyddu a bydd ewyllys pobl Cymru yn cael ei wrthdroi os caiff y gyfraith hon ei phasio. Dyna pam ein bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i archwilio annibyniaeth er mwyn diogelu democratiaeth Cymru yng ngoleuni'r Bil hwn sy'n cael ei gynnig yn San Steffan.

Nawr, mater o ymddiriedaeth yw hyn, Lywydd. Amlinellodd y Papur Gwyn ar gyfer y Bil hwn, a ryddhawyd yn gynharach yr haf hwn, ddwy reol gynllunio i gefnogi'r amcanion cyffredinol hyn, sef: (1) meithrin cydweithredu a deialog, a (2) hyrwyddo ymddiriedaeth a sicrhau didwylledd. Ar y ddau fater, mae'r Bil yn torri ei reolau ei hun. Ar gyfer cydweithredu a deialog, gerbron pwyllgor dethol Tŷ'r Cyffredin ar y berthynas â'r UE yn y dyfodol, dywedodd Jeremy Miles nad oedd Llywodraeth y DU wedi ymgysylltu llawer â Llywodraeth Cymru ar hyn ers dechrau'r flwyddyn, ac nid oedd yn gwybod beth fyddai'r Bil yn ei gynnwys yn fanwl ychwaith. Mae'n amlwg nad yw hyn yn arwydd o gydweithio a deialog adeiladol. Ac o ran didwylledd, agorodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad ar y Papur Gwyn, ond er hynny, nid yw Llywodraeth y DU wedi rhyddhau crynodeb hyd yn oed o'r cyfryw ymgynghoriad ar unrhyw adeg ers cau'r ymgynghoriad a chyhoeddi'r Bil. Pa reswm arall a fyddai'n esbonio hyn ar wahân i'r ffaith bod mwyafrif helaeth o'r rhai a ymatebodd i'r ymgynghoriad yn mynegi barn negyddol?

Sut y gallwn ymddiried yn San Steffan i edrych ar ôl buddiannau Cymru pan fo'n amlwg o'r Bil hwn, a'u gweithredoedd, eu bod yn benderfynol o ddinistrio dau ddegawd o ddatganoli sefydledig ar draws gwledydd y Deyrnas Unedig? Mae'r ffordd fyrbwyll y mae San Steffan yn ymdrin â'r pandemig eisoes wedi dangos sut y gallwn ni yng Nghymru wneud yn well drosom ein hunain. Mae angen inni gryfhau, nid gwanhau ein pwerau ein hunain. Y cwestiwn y mae'n rhaid i'r Aelodau a phobl ledled Cymru ei ofyn a'i ateb heddiw yw: pwy ydych chi'n ymddiried fwyaf ynddynt, Cymru neu San Steffan?

O ran cydnabyddiaeth gilyddol, mae cwmpas cydnabyddiaeth gilyddol yn bellgyrhaeddol, gan gyfyngu ar allu Llywodraeth Cymru i ddeddfu'n effeithiol, ac mae hefyd yn rhoi pwerau i Lywodraeth y DU newid y rheolau'n unochrog. Mae hyn yn golygu y bydd yn anodd iawn i'r Llywodraethau datganoledig wyro oddi wrth safonau Lloegr, ac ni fyddant yn gallu gorfodi'r safonau hynny yn erbyn mewnforion o Loegr. Dros yr 20 mlynedd diwethaf, rydym wedi cael yr hyblygrwydd i gyflwyno gwahanol reolau a rheoliadau y credwn y byddent yn diogelu dinasyddion Cymru ac o fudd iddynt. Bydd Cymru yn awr yn ddi-rym i atal cynnyrch o ansawdd isel fel cyw iâr clorinedig rhag llifo i'n harchfarchnadoedd, gan dandorri ffermwyr Cymru. Gallai orfodi Cymru i droi llygad dall at greulondeb i anifeiliaid a gallai arwain at ddychwelyd at wyau batri a mathau eraill o fwyd a gynhyrchir drwy ddefnyddio arferion gwahanol.

Nid oes ymddiriedaeth na pharch, ac ymhell o adfer rheolaeth, byddai'r Bil hwn yn ein rhoi mewn lle llawer gwaeth na'r sefyllfa rydym ynddi fel aelodau o'r UE. Rydym yn colli rheolaeth—rydym yn colli'r rheolaeth gyfyngedig sydd gennym yn awr.

Mae sgil-effeithiau rhyngwladol y Bil hwn hefyd yn glir i'w gweld. Ni ddylem mewn unrhyw amgylchiadau groesawu Bil sydd, yn ôl cyfaddefiad y Llywodraeth ei hun, yn torri cyfraith ryngwladol.

Mae monitro'r Bil marchnad fewnol hefyd yn bwysig. Mae problemau difrifol ynghlwm wrth ddarpariaeth reoleiddiol arfaethedig yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd sy'n goruchwylio marchnad fewnol y DU. Ni ellir ymddiried mewn corff anetholedig a sefydlwyd gan San Steffan i fod yn ddiduedd, gan agor y drws i gorfforaethau enfawr herio cyfreithiau Cymru yn y llys, gan sathru ar ein democratiaeth yn y broses. Lywydd, mae'n debyg iawn i gêm rhwng Cymru a Lloegr, lle caniateir i Loegr nid yn unig ddewis y canolwr, ond  wedyn i benderfynu pa reolau y dylai'r canolwr eu dilyn a beth ddylai'r cosbau fod.

Y ffordd ymlaen, wrth i mi gloi—gallaf weld yr amser—mae Llywodraeth San Steffan wedi bod yn targedu pwerau Cymru ers Brexit, wedi'i gwneud yn fwy beiddgar gan bleidlais Brexit mewn gwirionedd. Annibyniaeth yw'r unig ateb cynaliadwy i rwystro ymosodiadau San Steffan ar genedligrwydd a sefydliadau Cymru. Bellach, rhaid i Lywodraeth Cymru o leiaf archwilio annibyniaeth er mwyn diogelu ein democratiaeth. Mae arnom angen mwy na geiriau. Mae arnom angen Llywodraeth sydd o blaid annibyniaeth yng Nghymru a fydd yn ein grymuso i wrthsefyll ymosodiadau San Steffan ar ein democratiaeth.

18:30

Mae gan Dai Lloyd ddylanwad rhyfedd ar y cloc, yn amlwg. [Chwerthin.]

Galwaf ar Gareth Bennett nawr i gynnig gwelliannau 6 a 7, a gyflwynwyd yn ei enw. Gareth Bennett.

Gwelliant 6—Gareth Bennett

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn credu na ddylai'r pwerau a gaiff eu dychwelyd gan Fil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig gael eu datganoli i Gymru o ystyried sut y mae Llywodraeth Cymru a'r Senedd wedi methu mewn perthynas â'r pwerau datganoledig presennol sydd ganddynt.

Gwelliant 7—Gareth Bennett

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw am refferendwm cyfrwymol ynghylch a ddylid cadw neu ddiddymu llywodraeth a senedd datganoledig Cymru, yn sgil amcanion arfaethedig Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig.

Cynigiwyd gwelliannau 6 a 7.

Diolch, Lywydd. Rwy'n cynnig fy ngwelliannau heddiw ar ran Plaid Diddymu Cynulliad Cymru. Gwelliannau 6 a 7 yw'r rhain, er eglurder i'r nifer fawr o Aelodau, yn ddiau, a allai fod yn awyddus i bleidleisio drostynt ar ddiwedd y ddadl hon.

Nawr, rwy'n cefnogi Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig at ei gilydd gan ei fod yn gam arall tuag at gyflawni'r hyn y pleidleisiodd pobl Cymru drosto yn 2016, sef i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. Wrth gwrs, rydym wedi cael llawer o ddadleuon am Brexit dros y pedair blynedd diwethaf. Fodd bynnag, mae'r ddadl hon rydym yn ei chael heddiw yn cyffwrdd ar faterion pwysig eraill, megis pa fath o DU a ddaw i'r amlwg ar ôl Brexit. Os gallaf fentro crynhoi dadleuon y prif bleidiau fel y gwelaf fi hwy, mae'n ymddangos bod gan Lafur a Phlaid Cymru obsesiwn ynghylch pwerau cyfansoddiadol Llywodraeth Cymru a'r Senedd hon. Ymddengys bod ganddynt obsesiwn ag unrhyw ymgais ymddangosiadol gan Lywodraeth y DU i danseilio'r setliad datganoli—obsesiwn, byddwn yn dweud, hyd at baranoia bron—tra bo'n ymddangos bod gan y Ceidwadwyr fwy o ddiddordeb mewn sicrhau masnach ddilyffethair, ddirwystr i fusnesau Cymru ledled y DU ar ôl Brexit.

Nawr, tybed pa rai o'r safbwyntiau hynny y byddai'r rhan fwyaf o bobl gyffredin yng Nghymru yn fwy tebygol o gydymdeimlo â hwy. Rydym wedi clywed areithiau gofidus am y Bil hwn gan y chwith, ac wrth gwrs, mae ganddynt hawl i'w barn. Ond a gawn ni chwistrelliad o realiti yma? Nid oes gan y mwyafrif helaeth o bobl yng Nghymru ddiddordeb ym manylion cyfansoddiadol y setliad datganoli, y cyfan y maent hwy ei eisiau yw ansawdd bywyd gwell. Nid ydynt yn poeni os caiff anghydfodau eu setlo gan un o swyddogion y farchnad fewnol neu ryw gorff arall. Nid ydynt yn poeni os yw cymal 46 rhyw gytundeb neu'i gilydd mewn perygl o gael ei dorri, oherwydd, a bod yn onest, nid ydynt hyd yn oed yn gwybod beth yw cymal 46. Ar wahân i David Melding, pwy sydd? Ond bydd pobl yng Nghymru'n malio os collir swyddi yng Nghymru oherwydd bod tarfu ar fasnach am fod Llywodraeth Cymru, er enghraifft, am roi feto ar gytuniad masnach rhyngwladol y mae Prif Weinidog y DU am ei lofnodi.

Bydd pobl yng Nghymru'n malio os bydd cwmnïau o Gymru'n colli busnes am na allant fasnachu'n ddirwystr dros y ffin â chwmnïau o Loegr. A gaf fi ategu'r pwynt a wnaeth Neil Hamilton—[Anghlywadwy.]. Dyma'r realiti economaidd? Os yw Jenny Rathbone, fel y clywsom ddoe, am gael rheoliadau llymach yng Nghymru ar blastigion na'r hyn sydd ganddynt yn Lloegr, mater iddi hi yw hynny, ond a yw'n fodlon aberthu busnesau Cymru a swyddi yng Nghymru ac ansawdd bywyd pobl yng Nghymru er mwyn yr egwyddor honno? Yn amlwg, mae plastig yn broblem, ond nid problem yng Nghymru yn unig yw hi. Pa mor wahanol y mae hi'n credu y bydd y rheoliadau yn Lloegr beth bynnag? Mae'n debyg y byddai'r rhan fwyaf o bobl synhwyrol nad oes ganddynt ffetish cyfansoddiadol ynglŷn â'r pethau hyn yn cytuno mai'r ffordd fwyaf synhwyrol ymlaen ar ôl Brexit fyddai un set gyffredin o reoliadau ledled y DU, nid pedair set wahanol. Felly, neges i Lafur Cymru: rhowch y gorau i fod yn griw o anoraciau gwleidyddol a deffro i realiti'r hyn a fydd yn effeithio ar bobl normal.

Mae Llafur Cymru a Phlaid Cymru wedi'u cythruddo hefyd y gall Llywodraeth y DU ymyrryd mewn meysydd fel iechyd ac addysg. Mae hyn braidd yn chwerthinllyd, gan fod gennym wasanaeth iechyd sydd ar chwâl a system addysg sy'n disgyn i lawr y gynghrair fyd-eang. Prin fod hon yn sylfaen gadarn ar gyfer gweiddi am fwy o bwerau i'r lle hwn. Y gwir amdani yw bod mwy a mwy o bobl yn gweld bod datganoli'n gwneud cam â Chymru. Mae mwy a mwy o bobl am weld diwedd ar y trychineb cyfansoddiadol go iawn, sef datganoli ei hun. Mae mwy a mwy o bobl yn mynegi eu hawydd i ddiddymu Senedd Cymru. Mae fy mhlaid am wneud hynny hefyd, er ein bod, wrth gwrs, am gael cydsyniad democrataidd pobl Cymru i wneud hynny. Yn fyr, rydym am gael refferendwm i weld a yw pobl Cymru yn dal i fod eisiau datganoli mewn byd ôl-Brexit, a dyna pam rwy'n cynnig y gwelliannau heddiw. Diolch yn fawr iawn.

18:35

A gaf fi gymeradwyo Plaid Brexit am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw yn wyneb y gwadu parhaus ein bod yn gadael yr UE annwyl y mae pobl ar feinciau'r Llywodraeth ac ym Mhlaid Cymru yn teimlo mor angerddol yn ei gylch? Mae Llafur, Plaid Cymru ac eraill yn y wlad hon wedi gwneud popeth yn eu gallu i'n hatal rhag cyflawni mandad democrataidd pobl Cymru. Yn gyntaf, fe wnaethant geisio ein hatal rhag gadael yr Undeb Ewropeaidd. Yna, fe wnaethant geisio gohirio'r broses o adael yr Undeb Ewropeaidd drwy ymestyn y cyfnod pontio, ac yn awr rydych yn ceisio tanseilio cynlluniau a fydd yn sicrhau bod gan fusnesau Cymru fynediad dilyffethair i'n marchnad fwyaf—gweddill y Deyrnas Unedig. Mae 75 y cant o fasnach Cymru gyda gweddill y DU. Bydd Bil Marchnad Fewnol y DU yn sicrhau, pan ddaw'r cyfnod pontio i ben, ar 31 Rhagfyr 2020, y bydd busnesau yng Nghymru yn parhau i allu elwa o fasnach ddi-dor â rhannau eraill o'r DU. Ac wrth i ni ddechrau'r adferiad economaidd araf o'r coronafeirws, mae diogelu swyddi ac osgoi costau ychwanegol i fusnesau neu ddefnyddwyr yn hanfodol bwysig, a dyna pam ein bod yn cefnogi'r Bil hwn.

Mae'r Bil yn ailddatgan bod y Deyrnas Unedig wedi'i gyfansoddi o bedwar partner, ac o dan y cynlluniau hyn, bydd gan gwmnïau gyfle cyfartal i fasnachu, ni waeth ble yn y Deyrnas Unedig y maent wedi'u lleoli. Mae'r Bil hefyd, wrth gwrs, yn cynnal y safonau uchel rydym yn eu mwynhau ledled y DU mewn meysydd fel hylendid bwyd, safonau lles anifeiliaid a rheoliadau eraill, gan sicrhau cydweithrediad â Llywodraethau datganoledig. Ac rwy'n falch fod y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog ar gyfer cyfnod pontio Brexit wedi cydnabod ddoe fod peth gwaith da wedi'i wneud ar sail draws-DU ar fframweithiau cyffredin.

Mae'r Bil hefyd, wrth gwrs, yn cyflawni addewid Boris Johnson i bobl Gogledd Iwerddon y byddwn yn gadael yr UE fel un Deyrnas Unedig ac na fydd ffin dollau ym môr Iwerddon, rhywbeth y mae'r Undeb Ewropeaidd wedi'i gefnogi yn erthygl 4 o brotocol Gogledd Iwerddon. Mae'r Bil hefyd yn gwarantu y datganolir rhagor o bwerau i Gymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon pan ddaw'r cyfnod pontio i ben yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Bydd o leiaf 65 o bwerau polisi newydd a oedd gynt yn bodoli ar lefel yr UE yn cael eu trosglwyddo'n uniongyrchol i'r Senedd hon yng Nghymru. Ac yn allweddol, ni fydd yr un o bwerau presennol Senedd Cymru yn cael eu dileu—dim un. Mae'n gwneud rhethreg yr wythnos diwethaf gan y Blaid Lafur a Phlaid Cymru yn fwy rhyfeddol byth, gyda'r holl sôn am ymosodiad ar ddatganoli a dwyn pwerau a chipio pŵer, oherwydd mae'n gwbl glir: ni chaiff yr un o bwerau'r Senedd hon eu cymryd oddi arni o ganlyniad i'r Bil hwn.

Mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi dweud nad oes angen y Bil, ac rydym yn derbyn ar y meinciau hyn mai rhyw fath o 'backstop' ydyw, ond mae'n rhoi'r hyn sydd ei angen yn anad dim ar fusnesau yng Nghymru, sef sicrwydd—sicrwydd a fydd yn eu galluogi i barhau i fasnachu yn y dyfodol a chadw'r swyddi rydym angen iddynt eu diogelu yn yr economi, yn enwedig ar yr adeg anodd hon. Ac mae'n gwarantu mynediad i farchnad gyfan y DU, gan osgoi'r risg y gallai gwleidyddion fethu sicrhau'r cytundebau fframwaith a gyda Llywodraeth ymwahanol gynyddol aflonydd yn yr Alban, a chredaf ei fod yn ormod o risg i swyddi yng Nghymru. Ar hyn o bryd, gwneir llawer o benderfyniadau buddsoddi y DU gan gyrff anetholedig yr UE ac yn gwbl briodol, bydd y Bil hwn yn dod â hynny i ben pan ddaw'r cyfnod pontio i ben. Mater i wleidyddion a etholwyd yn y DU gan bobl y DU wedyn wrth gwrs fydd defnyddio pwerau gwario i gefnogi ein cymunedau a'n busnesau, gan gynnwys unrhyw gynlluniau a geir yn uniongyrchol yn lle cynlluniau'r UE, gan gynnwys cyfleoedd cyfnewid.

Nawr, ym maes datblygu economaidd a seilwaith, bydd y Bil hwn yn galluogi mwy o weithio mewn partneriaeth rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, oherwydd bydd y pwerau y bydd Llywodraeth y DU yn eu hetifeddu gan yr UE yn cael eu rhannu â Llywodraeth Cymru. Mae llawer o wledydd sydd â llywodraethau datganoledig yn rhannu pwerau, gan gynnwys yn yr Almaen a'r Unol Daleithiau, ac mae hwn, wrth gwrs, yn gyfle dwbl i gael llawer mwy o fuddsoddiad i Gymru, ac mae gan y ddwy Lywodraeth, wrth gwrs, gyfrifoldeb i weithredu i sicrhau twf economaidd, yn enwedig ar adeg mor anwadal. Dyna pam y caf fy synnu'n llwyr, a dweud y gwir, fod gennym Lywodraeth Cymru sy'n cwyno bod Llywodraeth y DU eisiau pwerau er mwyn gallu buddsoddi yng Nghymru. Pam ar y ddaear y byddech chi'n cwyno am hynny? Rydych wedi cael sicrwydd y bydd y buddsoddiadau ychwanegol hyn yn fwy na'r grant bloc Barnett a gawn ar hyn o bryd, felly nid oes gennyf syniad pam y byddech am wrthwynebu buddsoddiad yn ein seilwaith yn y wlad hon.

Mae Llywodraeth y DU wedi bod yn gwbl glir y bydd lefel y cyllid i Gymru, o ganlyniad i gynlluniau'r UE a ddaw i ben, yn aros yr un fath ac na fydd Cymru'n colli ceiniog. A dyna y pleidleisiodd pobl Cymru drosto. Dyna pam y collodd eich plaid gynifer o seddi yn yr etholiadau y llynedd, gan gynnwys yma yng Nghymru. Felly, er mwyn sicrhau marchnad fewnol gref ac i ddiogelu buddiannau busnesau ar hyd a lled y wlad hon ac ar hyd a lled Cymru, rwy'n annog pobl i gefnogi'r cynnig. 

18:40

Diolch i Andrew R.T. Davies am ei gyfarchiad yno, yn rhoi croeso i mi siarad. Wel, clywsom gan Neil Hamilton y dylem barchu ein meistri ariannol, clywsom gan Gareth Bennett 'ar gyfer Gymru, gweler Lloegr', ond hoffwn fynd â'r Aelodau yn ôl i 1998, pan gafodd cytundeb Gwener y Groglith ei llunio a'i lofnodi. Gwnaethpwyd hynny o ganlyniad i lawer iawn o waith gan John Major, Prif Weinidog Ceidwadol, Tony Blair, Prif Weinidog Llafur, Bertie Ahern yn Iwerddon—llawer iawn o wleidyddion a ddaeth â'r gwrthdaro i ben, gwrthdaro a oedd wedi bod yn bla ar Ogledd Iwerddon ers 1969 ac y gellid olrhain ei wreiddiau yn ôl i 1689 a thu hwnt. Gwrthdaro y credai llawer o bobl na ellid ei ddatrys oherwydd diffyg hunaniaeth gyffredin sy'n dal i fodoli yng Ngogledd Iwerddon, ac eto, ar draws y pleidiau, gwelsom wleidyddion yn dod at ei gilydd ac yn trafod ffordd o roi diwedd ar y gwrthdaro mewn ffordd aeddfed. Ac edrychwch arnom yn awr. Edrychwch arnom yn awr—testun sbort. Gwlad sydd nid yn unig yn falch o dorri cyfraith ryngwladol, ond sy'n cyfaddef hynny. Mae gwladwriaethau wedi bod yn torri cyfraith ryngwladol ers blynyddoedd—gwnaeth yr Unol Daleithiau hynny, gwnaeth yr Undeb Sofietaidd hynny yn y rhyfel oer, mae gwladwriaethau'n dal i wneud hynny yn awr, ond nid wyf yn credu bod unrhyw un mewn gwirionedd yn ddigon twp i gyfaddef hynny. 

A dyma ni fel gwlad. Ers blynyddoedd, rydym wedi dweud wrth eraill, 'Edrychwch arnom, rydym yn batrwm o ryddid a democratiaeth gan ein bod yn wlad sy'n seiliedig ar reolau, rydym yn parchu rheolau rhyngwladol', a dyma ni, yn torri'r gyfraith. Sut y gallwn bregethu i eraill yn y dyfodol os ydym yn torri'r gyfraith yn ôl ein haddefiad ein hunain? Mae hynny'n rhywbeth sydd wedi dod nid yn unig yn y Senedd gan Brandon Lewis fel Gweinidog, ond rhywbeth y mae wedi'i ailadrodd ac sydd heddiw wedi achosi ymddiswyddiad yr Arglwydd Keen, Adfocad Cyffredinol yr Alban, oherwydd mae'n parchu ei enw da proffesiynol. Dyna pa mor wael yw sefyllfa rydym ynddi.

Gadewch inni atgoffa ein hunain: cefnogodd Prif Weinidog y DU y cytundeb ymadael, cafodd ei gymeradwyo gan y Senedd ar 23 Ionawr 2020—Boris Johnson oedd y Prif Weinidog. Dywedodd ei fod yn gytundeb parod i'w bobi, cytundeb parod ar gyfer y ffwrn. Wel, mae'r Alasga pob wedi troi'n Eton mess bellach, onid yw, gan nad oes cytundeb yn bodoli nawr. Mae wedi troi ei gefn ar gytundeb y gwnaeth ef ei hun ei gefnogi, wyddoch chi pam? Ni wnaeth ei ddarllen. Ni wnaeth ei ddarllen. Dywedais ar y pryd y byddai hyn yn rhoi ffin i lawr canol Môr Iwerddon. Dywedodd Plaid yr Unoliaethwyr Democrataidd hynny ar y pryd—grŵp nad ydynt yn gyfeillion mynwesol i mi, rhaid dweud. Roedd y Prif Weinidog yn anghytuno. Ac yn awr, naw mis yn ddiweddarach, o diar, mae'r cyfan yn dod yn ôl ar ei ben. Ni ddarllenodd y peth ar y pryd, a dyma'r sefyllfa rydym ynddi. 

Fe'i clodforodd. Fe'i hyrwyddodd. Fe'i cefnogodd. Dywedodd fod hwn yn gytundeb a fyddai'n gytundeb ymadael a fyddai'n tynnu'r DU allan o'r UE, ac yn awr mae'n troi ei gefn arno. Pa mor dwp y mae hynny'n gwneud inni edrych fel gwlad, a sut y mae hynny'n adlewyrchu ar Brif Weinidog y DU? Pam y byddai unrhyw wlad yn ymddiried yn y DU mewn negodiadau masnach? Pam? Oherwydd yma mae'r DU yn cytuno ar rywbeth a wedyn yn dad-gytuno. Pam ar y ddaear y byddai unrhyw un yn ymddiried ynom? Dyna'r broblem. Ni fydd unrhyw wlad sydd ag enw o'r fath—. A gwelwn, wrth gwrs, fod Dominic Raab wedi rhuthro draw i America, oherwydd gall weld yr effaith y mae hyn yn ei chael ar wleidyddiaeth America a beth fydd hynny'n ei olygu i gytundeb masnach rhwng y DU a'r Unol Daleithiau, ac yma mae gennym Ysgrifennydd Tramor sydd yn y sefyllfa honno. 

A gadewch i mi fod yn hollol glir: rwy'n cytuno bod yn rhaid cael rheolau ym marchnad sengl y DU. Rwy'n cytuno'n llwyr. Ni allwn gael sefyllfa lle na all nwyddau o Gymru fynd i Loegr—mae'n amlwg na allwn, ac am resymau a wnaed yn dda gan Darren Millar ac eraill. Mae'n amlwg na allwn gael sefyllfa lle mae'n anos buddsoddi mewn un rhan o'r DU oherwydd rhwystrau. Ni allwn gael sefyllfa lle nad oes rheolau o gwbl—rhywbeth y mae'r DUP yn ei argymell mewn gwirionedd—oherwydd mewn marchnad fewnol heb reolau y mwyaf sy'n ennill, a'r mwyaf yw Lloegr. Ni allwn ennill y frwydr honno, a dylem groesawu marchnad fewnol sy'n seiliedig ar reolau. Rwy'n croesawu hynny; rwy'n credu bod hynny'n hollol iawn. Fy anhawster i yw hyn: mae gwrthdaro buddiannau uniongyrchol yn Llywodraeth y DU—mae'n Llywodraeth Lloegr hefyd. Nid yw mewn sefyllfa lle mae'n Llywodraeth ffederal drosfwaol sy'n cynrychioli'r wlad gyfan yn unig—mae'n Llywodraeth Lloegr hefyd. Sut y gallwn fod yn hyderus y bydd Llywodraeth y DU sy'n Llywodraeth Loegr yn ogystal â Llywodraeth y DU fod yn deg â'r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon? Dyna'r broblem sydd gennyf. Mae'n cyfateb i Lywodraeth yr Almaen yn dweud wrth weddill yr UE beth yn union ddylai'r telerau masnach o fewn yr UE fod.

Byddai wedi bod yn llawer gwell pe gellid bod wedi cytuno ar hyn, a chredaf y gellid bod wedi cytuno arno—gellid bod wedi cytuno ar hyn. Gallem fod wedi cael pedair Llywodraeth y DU yn cytuno ar set gyffredin o reolau. Byddai er budd pawb, hyd yn oed Plaid Genedlaethol yr Alban, pe bai hynny'n ddigwydd, oherwydd nid yw i'r Alban golli mynediad i farchnad sengl fewnol y DU yn mynd i fod o fudd i'r SNP. Byddai wedi bod cymaint yn well pe bai hyn wedi'i wneud ar sail cytundeb, consensws, yn hytrach na gorfodaeth. Ac rwy'n dweud wrth y Ceidwadwyr gyferbyn: rwy'n deall eu hangerdd dros yr undeb. Rwy'n deall eu hangen i amddiffyn yr hyn y mae eu Llywodraeth yn ei wneud. Rwy'n deall hynny. Ond does bosibl na allwch weld bod ymddangos fel pe bai'n gosod y drefn ar gyfer Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon o ran hynny, fod hynny'n gwanhau'r undeb. Nid yw'n cryfhau'r undeb—mae'n ei wanhau.

Mae dyddiau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a sofraniaeth seneddol wedi mynd yn fy marn i. Mae arnom angen gwell cyfansoddiad, gwell DU, ac yn y ffordd honno, gallwn ffynnu. Nid wyf yn credu mai annibyniaeth yw'r unig ateb, ond rwy'n credu bod hon yn bartneriaeth o wledydd cyfartal; mae Darren Millar yn iawn i ddweud hynny. Gadewch i ni ei wneud felly, gadewch i ni gael cyfansoddiad sy'n addas ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain, a gadewch i ni symud oddi wrth y sefyllfa hon lle mae'n fater syml o San Steffan yn gosod y drefn a bod rhaid i'r gweddill ohonom dderbyn. 

18:45

Wel, déjà vu, dyma ni eto. Mae'n teimlo fel 2016, 2017, 2018 a 2019—hysteria, darogan gwae a gormodiaith. Rwyf wedi darllen rhai o'r sylwadau a fu yn y penawdau yn ystod yr wythnosau diwethaf. Jeremy Miles:

Mae'r Bil hwn yn ymosodiad ar ddemocratiaeth ac yn sarhad ar bobl Cymru.

Wel, mae'n ddrwg gennyf, Jeremy, ond pleidleisiodd pobl Cymru dros adael yr Undeb Ewropeaidd ac o bosibl eu bod wedi gweiddi'n uwch fis Rhagfyr diwethaf pan dorrwyd y wal goch fel y'i gelwir mewn modd rhyfeddol, hyd yn oed yng Nghymru, ar yr addewid o sicrhau Brexit.

Mae gennym Blaid Cymru hefyd: dyma

'ddinistrio dau ddegawd o ddatganoli.'

A'r un nesaf:

'Bydd dau refferendwm yn cael eu hanwybyddu a bydd ewyllys pobl Cymru yn cael ei wrthdroi os caiff y gyfraith hon ei phasio.'

Dyna fy ffefryn arbennig i, ac mae'n rhaid i mi anghytuno. Os bydd unrhyw beth yn dinistrio datganoli, yr alwad gan Blaid a Llafur am fwy ohono fydd yn gwneud hynny am ei fod, yn fy marn i, wedi bod yn gyfle anferth a gollwyd ar sawl lefel. Ac rydych chi'n sôn am refferenda, wel, am un dda! Pan fydd democratiaeth yn rhoi'r canlyniad iawn i chi, mae'n iawn, ond pan nad yw'n gwneud hynny, fe fyddwch yn cicio ac yn sgrechian yr holl ffordd i'r etholiad cyffredinol yn 2019, ac yn dal i anwybyddu'r neges glir a roddwyd i chi gan yr etholwyr. Mae'r dicter gwleidyddol ffug yn rhagweladwy, ac mae'n siomedig iawn na welsom y geiriau 'ymyl clogwyn' neu 'ergyd drom' yn y cymysgedd hefyd. Ond yn awr, hyn. Rydych yn gweiddi, fel arfer, y tu mewn i'ch siambr atsain eich hun. Nid yw aelwydydd yng Nghymru yn trafod hyn—maent yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd, maent yn ceisio cael apwyntiadau meddygon teulu, ac maent yn golchi eu dwylo. Do, cefais un neu ddau o negeseuon e-bost yn ei gylch, ond mae'n amlwg fod etholwyr gogledd Cymru yn poeni mwy am erlid bodaod tinwyn na'r hyn sydd yn y Bil hwn. 

Rwy'n derbyn nad yw amseriad y Bil wedi bod yn wych o ran y cyfnodau ymgynghori. Fodd bynnag, rydym mewn cyfnodau digynsail ar fwy nag un lefel. Ac rydym i gyd yn gwybod sut y mae'r broses yn gweithio, oherwydd dyma yw ein proses ni hefyd: gellir gwneud gwelliannau synhwyrol, a gall y Llywodraeth eu cyflawni os oes ganddynt fwyafrif. Yma, mae Llywodraeth Cymru yn defnyddio ei mwyafrif tenau i basio unrhyw gyfraith y mae ei heisiau, boed ei bod wedi ymddangos mewn maniffesto ai peidio. Ac fel y gwyddom i gyd, rheoliadau atodol sy'n rhoi manylion i ddeddfwriaeth sylfaenol. Cafodd Llywodraeth Geidwadol y DU ei gwneud yn blaid fwyafrifol, byddwn yn dweud, o ganlyniad uniongyrchol i lawer o'r giamocs yma yn y Siambr hon. Nid wyf yn mynd i ailadrodd y dadleuon treuliedig am Brexit, safonau, sofraniaeth, ond rwy'n ystyried ymadroddion fel 'cipio pŵer' a 'ras i'r gwaelod' yn ddiangen ac yn blentynnaidd iawn. Rhoddodd prif negodwr Brexit y Prif Weinidog yn Ewrop, David Frost, reswm da dros y Bil hwn mewn edefyn manwl ar Twitter ychydig ddyddiau'n ôl. Mae'n ymddangos bod yr UE yn peryglu cyflenwadau bwyd i Ogledd Iwerddon. Rwy'n siŵr y byddai'r rheswm hwnnw'n unig yn ddigon i argyhoeddi unrhyw unoliaethwr sy'n credu yng nghyfanrwydd yr undeb i gefnogi'r cynnig hwn heddiw. 

Roedd Plaid Brexit yn llafar iawn y llynedd ar ba mor wael oedd y cytundeb ymadael. Nid oedd neb eisiau gwybod amdano bryd hynny, ac os yw diffyg ffydd yr UE yn golygu bod rhaid i ni droi cefn er budd clir y Deyrnas Unedig a Gogledd Iwerddon, rwy'n gyfforddus iawn â hynny. Mae'r Bil hwn yn gam arall ar ein taith—ein taith hir ac anodd—tuag at sofraniaeth genedlaethol, ac am y rheswm hwnnw, hoffwn gofnodi y byddaf yn cefnogi'r cynnig hwn heb ei ddiwygio heddiw. Diolch yn fawr iawn. 

18:50

Ddoe, gofynnodd Darren Millar pam ein bod yn dioddef Senedd Ewrop yn dal cymaint o bŵer dros ein tynged, tra'n bod ni'n gwrthwynebu i Lywodraeth y DU ysgwyddo'r cyfrifoldebau polisi a'r pwerau i'w harfer ar ein rhan. Y rheswm y gwnawn hynny yw bod y pwerau a ddelir gan Senedd Ewrop, ac yn eu tro, gan y Comisiwn Ewropeaidd, wedi'u negodi a'u cytuno. Yn amlwg, nid yw hynny'n wir yn achos y Bil marchnad fewnol, sy'n ymgais i gipio grym gan Senedd Lloegr, ac mae'n peri gofid mawr eu bod wedi anghofio holl gysyniad sybsidiaredd yn llwyr, rhywbeth a oedd yn un o egwyddorion craidd yr Undeb Ewropeaidd. Rydym wedi gadael yn awr, rydym yn derbyn hynny'n llwyr, ond rhaid inni ddeall bod y Bil hwn, yn syml iawn, yn mynd i'n hatal rhag gwneud ein dyletswydd i ddiogelu a gwella bywydau dinasyddion Cymru, sydd wedi cydsynio i adael inni wneud hynny ar eu rhan mewn refferendwm ac etholiadau seneddol dilynol. Ac os nad ydynt yn hoffi'r hyn a wnawn, gallant bleidleisio dros y pleidiau ymylol fel UKIP, sydd am wrthdroi llanw hanes a rhoi'r allweddi cyfrifoldeb dros dynged Cymru yn ôl i Senedd y DU. 

Felly, rwy'n pryderu bod y meysydd lle byddem yn cael ein hatal rhag gweithredu er budd ein pobl, ein tir a'n hamgylchedd, yn cynnwys ein hanallu i wahardd bwyd difwynedig, boed wedi'i addasu'n enetig, wedi'i dyfu â chig eidion wedi'i fwydo â hormonau, cyw iâr clorinedig, neu wedi'i fagu drwy reibio'r Amazon, sy'n ofynnol er mwyn eu bwydo â chyflenwadau cyson o soia, yn hytrach na'r ffordd rydym ni'n cynhyrchu ein cig ar borfa. Felly, os nad oes gennym gytundeb masnach â'r Undeb Ewropeaidd, byddwn yn gweithredu o dan reolau Sefydliad Masnach y Byd, a golyga hynny na fyddwn yn gallu atal y llif o'r mathau hyn o safonau amgylcheddol gwael o amaethyddiaeth, safonau lles anifeiliaid gwael, a gynllunnir yn unig i sicrhau'r elw mwyaf posibl. Nid David Attenborough yn unig sy'n tynnu sylw at y ffaith bod hyn yn drychineb o ran yr amgylchedd, hinsawdd a rhywogaethau. Mae llawer o bobl yn dweud nad yw hon yn ffordd o barhau i gamddefnyddio adnoddau'r blaned hon.

Felly, mae'n debyg y byddem, er enghraifft, yn cael ein hatal rhag cryfhau Rhan L o'n rheoliadau tai fel mai dim ond cartrefi gweddus o ansawdd i safon ddi-garbon y gellid eu hadeiladu, ac y gallem atal unrhyw beth arall rhag cael ei adeiladu. Ac yn olaf, byddai'n gorfodi ein cwmnïau dŵr yng Nghymru i gadw at safonau amgylcheddol ac economaidd llawer is cwmnïau dŵr Lloegr, a fu'n gyfrifol y llynedd am lygru, rhyddhau carthion crai i afonydd Lloegr 200,000 o weithiau oherwydd rheoleiddio gwael gan Asiantaeth yr Amgylchedd.

Nid oes arnom angen ras i'r gwaelod. Nid yw hyn yn ymwneud â gwneud busnesau'n amhosibl eu gweithredu. Mae angen inni sicrhau, gyda'n gilydd, y gallwn gyflwyno gwelliannau cyson i fynd i'r afael â llygredd ein hafonydd a'n moroedd. A dylem allu annog Llywodraethau eraill y Deyrnas Unedig i ddilyn ein harweiniad, fel y maent wedi'i wneud ar bethau fel bagiau plastig. Ni phleidleisiodd pobl dros weld eu plant yn nofio mewn carthion, ac nid ydynt eisiau bwyta pysgod wedi'u llygru â phlastig. Rwy'n cytuno â Darren Millar fod y rhan fwyaf o fasnach Cymru gyda gweddill y DU. Ond mae hynny'n lwcus, oherwydd mae'n edrych yn fwyfwy tebygol na fydd unrhyw gytundeb gyda'r Undeb Ewropeaidd, ac felly bydd rhaid inni ddibynnu ar ein hadnoddau ein hunain o fewn y Deyrnas Unedig i gynnal safonau byw a lles ein cymdeithas.

A dweud y gwir, nid wyf yn credu na ddarllenodd Boris Johnson yr hyn roedd yn ei lofnodi. Neu os gwnaeth, fe ragdybiodd y byddai'r cytundeb parod i'w bobi fel y'i galwai yr oedd yn ei addo i bawb—y byddai'n gallu sleifio'i ffordd allan ohono wedyn ac y byddai'n meddwl am ryw ateb arall ar y ffordd, a dywedodd rhywun, 'Peidiwch â phoeni, llofnodwch y peth, deliwch ag e.' Nid dyna'r ffordd o ymdrin â—i gael pobl i ymddiried ynoch. Ac nid wyf yn ymddiried ynddo i reoli'r gronfa ffyniant gyffredin ar gyfer Cymru, ac nid wyf yn cael fy nenu gan y briwsion sydd ar y bwrdd y mae Darren Millar yn dweud eu bod yn eu cynnig.

18:55

Lywydd, pan fyddaf yn gwrando ar y rhai sy'n cyflwyno'r prif gynnig, rwy'n meddwl tybed faint ohonynt sydd wedi darllen y Bil a'r dogfennau ategol mewn gwirionedd. Rwyf wedi mynd drwyddo, a dyma fy marn i ynglŷn â'r pwyntiau allweddol, y prif bethau sydd o'i le arno.

Y peth cyntaf yw ei fod yn deddfu i gyfreithloni anghyfreithlondeb. Mae hynny'n annerbyniol. Mae'n cyfyngu'n benodol ar y farnwriaeth ac yn ei thanseilio. Mae hynny'n annerbyniol. Mae'n rhoi pwerau i Weinidogion heb unrhyw graffu priodol, naill ai gan y Senedd na Llywodraeth Cymru. Mae hynny'n annerbyniol. Mae'n tanseilio datganoli. Nid yw'n dileu pwerau penodol, ond yr hyn y mae'n ei wneud yw rhoi'r pwerau i ymgymryd â swyddogaethau datganoledig i Weinidogion y Llywodraeth heb unrhyw graffu o bwys. Yn fy marn i, mae hynny'n tanseilio datganoli. Mae'n agor y drws ar safonau bwyd is—soniwyd am gyw iâr clorinedig, ond gallai fod nifer fawr o enghreifftiau eraill. Mae'n agor y drws ar safonau amgylcheddol is. Mae'r Torïaid wedi gwrthwynebu camau i sicrhau na fydd cymalau'n cael eu glastwreiddio. Mae'n cyfyngu ar allu'r Senedd i ddeddfu mewn meysydd datganoledig yn unol ag ymrwymiadau maniffesto etholiadol mewn perthynas â phwerau datganoledig. Mae'n amlwg yn tanseilio democratiaeth; mae'n tanseilio canlyniad dau refferendwm. Mae'n agor y drws ar breifateiddio'r GIG—ni ellir gwadu hynny. Ac yn fwy na dim, mae'r Bil hwn yn gwbl ddiangen, oherwydd yr hyn y cytunwyd arno o'r cychwyn a'r hyn a fwriadwyd oedd y ceid fframweithiau cyffredin ac y ceid fframwaith cyffredin ar gyfer y farchnad fewnol a chymorth gwladwriaethol. Mae'r Llywodraeth wedi dewis torri'r ddealltwriaeth honno'n unochrog a gosod deddfwriaeth unochrog i ddiystyru'r holl gytundebau a dealltwriaeth. Nid yn unig fod y Bil yn ddiangen, fel y disgrifiwyd ddoe yn y drafodaeth yn y Senedd, mae'n ffiaidd, a dyna pam ein bod ni ar ochr Llafur yn ei wrthwynebu.

19:00

Diolch, Llywydd. Fel gwnes i esbonio ddoe yn fy natganiad ar y Bil, mae sawl reswm sylfaenol dros wrthwynebu'r Bil ac felly dros bleidleisio yn erbyn y cynnig hwn. Gaf i jest dynnu sylw at bedwar o'r prif resymau hynny? Yn gyntaf—er nad yw e, yn wahanol i lawer o'r Bil, yn ymosodiad uniongyrchol ar ddatganoli—y gwahoddiad i Senedd y Deyrnas Gyfunol dorri'r gyfraith ryngwladol. Byddai hynny ynddo'i hun yn ddigon, pan ddaw'r amser, i wrthod rhoi cydsyniad deddfwriaethol. Gall y Senedd hon, yn amlwg, ddim torri'r gyfraith ryngwladol. Mae hynny'n ddadl gref dros beidio â chydweithredu â Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol i wneud hynny.

Yn ail, byddai Rhan 6 o'r Bil, am y tro cyntaf ers datganoli, yn rhoi pwerau eang iawn i Weinidogion y Deyrnas Gyfunol i ddefnyddio arian trethdalwyr i fuddsoddi yng Nghymru mewn meysydd datganoledig. Yn benodol, mae Gweinidogion y Deyrnas Gyfunol yn siarad am gael gwneud penderfyniadau yr honnir eu bod nhw wedi cael eu cymryd gan fiwrocratiaid Brwsel, ond dyw hynny, wrth gwrs, jest ddim yn wir. Byddai'r pwerau maen nhw'n eu cynnig yn caniatáu iddyn nhw ariannu ysbytai a datblygiadau tai yn uniongyrchol, er bod iechyd a thai, yn gyffredinol, yn cael eu heithrio o gyllid Ewropeaidd. Wrth gwrs, rwyf wedi clywed rhai yn dweud, yn cynnwys heddi, mewn ffordd hollol anghredadwy, fod unrhyw fuddsoddiad gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn ychwanegol at y cyllid a fyddai fel arall o fewn cyllideb Cymru. Rwy'n cymryd, felly, bydd arweinydd yr wrthblaid a'r Ceidwadwyr yn y Senedd yn ymrwymo i wrthwynebu'r pwerau newydd hyn oni bai bod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn rhoi gwarant y bydd unrhyw wariant arfaethedig yn ychwanegol at y cyllid sy'n ddyledus i Gymru o dan fformiwla Barnett neu'r warant a wnaed gan ymgyrchwyr 'leave' na fyddem yn derbyn ceiniog yn llai nag y byddem wedi'i gael pe byddem wedi aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Yn drydydd, gan droi at y rheswm arfaethedig am y Bil: y dymuniad, y dywedir, i ddiogelu'r farchnad fewnol. Fel yr eglures i heddi a ddoe, ac rwy'n ategu sylwadau Carwyn Jones yn hyn, rydym ni'n cefnogi amcan marchnad fewnol i'r Deyrnas Gyfunol, ond nid yw'r ymdrechion i gyd-ddatblygu cyfres o fframweithiau cyffredinol, sef y ffordd orau o sicrhau’r amcan hwnnw, yn cael eu gwella, ond yn hytrach, yn cael eu tanseilio drwy orfodi dyletswyddau cydnabyddiaeth gilyddol a dim gwahaniaethu ar draws pob rhan o'r economi, heb ddim o'r mesurau diogelwch y mae egwyddorion o'r fath yn dibynnu arnyn nhw er mwyn gweithredu'n dderbyniol. 

Rhaid i broses sydd wedi'i hadeiladu ar gydweithredu a chydlynu rhwng y Llywodraethau fod wrth wraidd unrhyw farchnad fewnol. Gadewch i mi roi un enghraifft yn unig, gan adael y cwestiwn o fewnforio o'r Unol Daleithiau o'r neilltu. Gadewch i ni dybio fod Gweinidogion yn y Deyrnas Gyfunol yn penderfynu mai'r unig ffordd i alluogi sector cig eidion Lloegr i aros yn gystadleuol yn rhyngwladol yw caniatáu i ffermwyr ddefnyddio hormonau a gwrthfiotigau mewn gwartheg bîff. Gallai'r Senedd hon wrthod rhoi'r un rhyddid i ffermwyr Cymru, ond, Llywydd, ni allai hi atal cig eidion â chwistrelliad hormonau o Loegr rhag cael ei werthu ar silffoedd archfarchnadoedd yng Nghastell-nedd nac Aberystwyth. Ac ni allai hyd yn oed fynnu bod labeli i ddweud wrth ddefnyddwyr Cymru fod y cig eidion hwnnw wedi cael ei drin felly.

Ymhell o ddiogelu marchnad fewnol, mae'r Bil yn wn cychwyn ar gyfer ras i'r gwaelod—ac rwy'n amddiffyn defnyddio'r ymadrodd hwnnw—gyda rhan leiaf reoledig y Deyrnas Gyfunol yn trechu ac yn darostwng gweddill y Deyrnas Gyfunol i'r safonau isaf hynny. Ac os yw Gweinidogion y Deyrnas Gyfunol eisiau inni gredu eu bod nhw o ddifrif yn eu protestiadau y byddan nhw'n cynnal, neu hyd yn oed yn gwella, ar safonau mewn diogelwch bwyd neu amddiffyniadau amgylcheddol, gadewch iddyn nhw roi'r sicrwydd hynny ar wyneb y Bil.

Ac, yn olaf, Llywydd, a gaf i dynnu sylw Aelodau at ran o'r Bil lle mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn cyfaddef ei bod yn ceisio dadwneud datganoli, sef yr ymgais i ychwanegu cymorth gwladwriaethol at y rhestr o bynciau a gedwir yn ôl yn Neddf Llywodraeth Cymru 2006? Mae ein cyngor cyfreithiol wedi bod yn glir erioed: dyw hwn ddim yn fater a gedwir yn ôl. Ac mae'n ymddangos nawr fod cyfreithwyr Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn cytuno ar hynny. Dyna pam mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol am ei ychwanegu, er mwyn iddyn nhw gael eu ffordd eu hunain a phennu'r rheolau neu'r diffyg rheolau, gyda llaw, a fydd yn gymwys ar ôl diwrnod olaf Rhagfyr eleni.

Unwaith eto, a gaf i fod yn glir? Rŷn ni o blaid cyfundrefn cymorth gwladwriaethol glir a chadarn y mae pob rhan o'r Deyrnas Gyfunol wedi cytuno iddi ac sy'n destun gorfodaeth gan reoleiddwyr gwirioneddol annibynnol. Ond dydyn ni ddim yn barod i gytuno bod Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, sydd â dyletswydd i ofalu am fuddiannau Lloegr mewn meysydd sydd wedi eu datganoli, fel datblygu economaidd ac ati, yn cael cynllunio a phlismona system y gall hi ei defnyddio i ffafrio busnesau yn Lloegr dros rai yn yr Alban, yng Nghymru ac yng Ngogledd Iwerddon.

Dyna ddim ond pedwar o'r rhesymau niferus dros wrthwynebu Bil y farchnad fewnol, a byddwn i'n annog pob un o'r Aelodau yma i gefnogi gwelliant y Llywodraeth i'r cynnig sydd ger ein bron.

19:05

Diolch, Lywydd. Ac a gaf i ddiolch yn fawr iawn i bawb am eu cyfraniadau, a oedd, yn fy marn i, yn gymedrol at ei gilydd o ran eu cywair? Credaf fod y ddadl, yma ac yn San Steffan, yn well heddiw efallai na'r hyn ydoedd ychydig ddyddiau'n ôl.

Agorodd Neil Hamilton y ddadl, heb gymeradwyaeth unfrydol y Siambr, rhaid imi ddweud, ond diolch, Neil. Fe gyfeirioch chi at yr ymgyrchu a wnaethoch chi hefyd ar hyd eich oes fel oedolyn yn erbyn yr Undeb Ewropeaidd, ac yn sicr eich aelodaeth gynnar o'r gynghrair a wrthwynebai'r Farchnad Gyffredin, a chredaf efallai fod dyrchafiad diweddar iawn i fod yn arweinydd UKIP yn y categorïau hynny, ond cofiaf hefyd eich pleidlais ar y cynnig ymbaratoi i gefnogi Maastricht, a theimlwn fod hynny'n anffodus.

Siaradodd Dai Lloyd wedyn, ac ni roddodd unrhyw groeso i'r cynnig hwn na'r Bil marchnad fewnol, ac nid wyf yn credu bod hynny'n syndod i unrhyw un. Teimlwn ei fod wedi siarad yn gryf iawn. Dywedodd y byddai'n dinistrio dau ddegawd o ddatganoli; byddai'n sathru ar ddemocratiaeth. Ac yna dywedodd, 'A ddylai pobl ymddiried yng Nghymru neu San Steffan?' mewn ymdrech i fwrw sen ar San Steffan fel pe na bai ASau o Gymru yn San Steffan. Yna dywedodd ei bod yn annheg i Loegr ddewis y canolwr er mai Llywodraeth y DU ydyw, ac yna llwyddodd ef ei hun i ailosod y cloc. 

Gareth Bennett a siaradodd nesaf. Dywedodd wrthym ei fod yn cynrychioli Plaid  Diddymu'r Cynulliad. Credaf iddo ddweud wedyn y byddai'n pleidleisio dros ei holl welliannau. Ni allwn glywed yn iawn oherwydd y cyn Brif Weinidog yn ei rôl newydd yn heclo o'r meinciau cefn, ynghyd â'r arch-heclwr ar yr ochr arall, felly ni chlywais bopeth a ddywedodd Gareth, ond diolch iddo am ei gyfraniad.

Yn sicr fe glywais Darren Millar, a dechreuodd ei araith mewn ffordd dda iawn yn fy marn i, drwy gymeradwyo Plaid Brexit. Ac yn wir, rwy'n gweld bod David Melding newydd ymuno, ond roedd gennym dri allan o dri o gefnogwyr gadael yr UE ar feinciau'r Ceidwadwyr yn ein sesiwn gorfforol hefyd i groesawu'r ddadl, ac rwy'n gwerthfawrogi hynny. Fe'n hatgoffodd fod Boris Johnson wedi dweud y byddai Gogledd Iwerddon yn gadael yr Undeb Ewropeaidd gyda'r DU gyfan. Ni fyddai ffin ar hyd môr Iwerddon. Yn bendant, ni fyddai unrhyw ddatganiadau allforio rhwng Gogledd Iwerddon a Phrydain. Ac mae arnaf ofn, syr, nid oeddwn yn ei gredu, oherwydd fe edrychais ar y cytundeb ymadael ac roedd yn ymddangos i mi ei fod yn darparu ar gyfer yr holl bethau hynny. Fe wneuthum danbrisio ei allu a'i barodrwydd i'w rwygo ar ôl ennill ei fwyafrif mawr yn yr etholiad. O'm rhan i, rwy'n cymeradwyo'r hyn y mae'n ei wneud. Nid oeddwn yn meddwl y byddai'n digwydd, ond mae'n ei wneud, a chredaf y bydd yn cryfhau ei safbwynt negodi'n fawr drwy gynyddu'r gost i'r UE o beidio â gwneud cytundeb masnach rydd, oherwydd byddant yn colli protocol Gogledd Iwerddon.

Credaf iddo ddweud y byddai llawer mwy o wariant gan Lywodraeth y DU yng Nghymru, a byddwn yn croesawu hynny wrth gwrs. Maent i'w gweld yn argraffu llawer iawn o arian—gobeithio y gallant ei ddefnyddio i fwrw ymlaen ag adeiladu ffordd liniaru'r M4, ymhlith pethau eraill.

Yna cawsom Carwyn Jones, y cyn Brif Weinidog, yn ein hatgoffa eto am Gytundeb Gwener y Groglith 1988, mater y mae wedi sôn amdano droeon yn y Siambr hon, fe gofiaf. Fe'm synnwyd braidd gan ei sylwadau yn syth ar ôl hynny, oherwydd eglurodd ei bod yn arfer eang gan wladwriaethau i dorri cyfraith ryngwladol, ond yr hyn a wrthwynebai oedd gonestrwydd Brandon Lewis yn cyfaddef hynny, rhywbeth y bydd gan ei fyfyrwyr ddiddordeb yn ei drafod gydag ef yn y dyfodol yn Aberystwyth rwy'n siŵr.

Soniodd hefyd am Dominic Raab a'i rôl yn awr yn yr Unol Daleithiau yn esbonio'r sefyllfa a sut y bydd yn cefnogi heddwch yng Ngogledd Iwerddon mewn gwirionedd. Ac rwy'n cofio gweithio gyda Dominic Raab ar fater allweddol sydd bellach yn dod i'r amlwg. Cefais fy synnu'n fawr yn 2012 pan oedd estraddodi Abu Qatada—. Roedd Theresa May yn ymdrechu mewn gwahanol ffyrdd ac roedd yn mynnu cymhwyso dyfarniad Llys Hawliau Dynol Ewrop yn hytrach na'n dyfarniad ein Goruchaf Lys ein hunain, mewn ffordd a oedd yn ei gwneud yn anos iddi allgludo Qatada, neu o leiaf ei ffordd gyntaf o geisio gwneud hynny. Ac yn y pen draw, dywedodd wrthyf a Dominic Raab ei bod yn gwneud hyn oherwydd y cod gweinidogol. Edrychais arno a chyfeiriai at ddyletswydd drosfwaol Gweinidogion i gydymffurfio â'r gyfraith, gan gynnwys cyfraith ryngwladol a rhwymedigaethau cytuniadau, a oedd i'w weld i mi yn rhwystr eithriadol ar sofraniaeth y Senedd a'r hyn roeddwn wedi meddwl oedd yn ddyletswydd ar Weinidogion i weithredu yn unol â'r gyfraith fel y'i pennwyd gan y Senedd. A chyda Dominic Raab euthum i weld David Cameron, y Prif Weinidog ar y pryd, a gwneud yr achos ar hyn mewn gwirionedd, a chredaf i ni berswadio, neu o leiaf daeth yn ôl atom a dweud ei fod yn credu bod angen diwygio'r cod gweinidogol. Yn y pen draw, cafodd ei atal gan Nick Clegg rhag gwneud hynny ar y pwynt hwnnw, ond dywedodd pe bai'n cael mwyafrif byth, y byddai'n ei newid ac yn tynnu'r chwe gair hynny allan. Ac yn 2015 roedd cystal â'i air. Ac oherwydd hynny gallai Brandon Lewis ddweud yr hyn a ddywedodd yn Nhŷ'r Cyffredin ac aros yn ei swydd fel Gweinidog.

Yna cawsom Mandy Jones yn ein hatgoffa bod Cymru wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd, yn 2016 yn wir—gryn dipyn o amser yn ôl erbyn hyn. Ychydig yn fwy diweddar, fe'n hatgoffodd am ddatblygiadau gyda'r wal goch yng ngogledd Cymru. Gwelai'r Bil fel rhan o'r broses ddeddfwriaethol arferol a bod rhai pethau'n cael eu gadael i Weinidogion drwy reoliadau. Ceryddodd rai o'r Gweinidogion yma am eu hiaith ac yna fe'n hatgoffodd i gyd—yn bwysig iawn rwy'n credu—fod Plaid Brexit yn dweud y llynedd yr hyn y mae Boris yn ei ddweud yn awr, ac felly rydym yn croesawu hynny.

Cyfeiriodd Jenny Rathbone at blant yn nofio mewn carthion a rhai datblygiadau eraill a allai fod yn wael iawn y dywedai y byddent yn deillio o'r Bil hwn. Dywedodd ei bod yn fwyfwy tebygol o arwain at adael heb gytundeb. Unwaith eto, rwy'n anghytuno'n gryf â hyn, oherwydd mae'n cynyddu'r gost i'r UE o beidio â dod i gytundeb.

Yna cawsom Mick Antoniw a roddodd gyfraniad byr. Gofynnodd i brif gynigwyr y cynnig—a thybiaf mai fi a olygai—a wyf fi wedi darllen y Bil, a'r ateb i hynny yw 'do'. Rwyf hefyd yn ystyried bod y ddogfen 'Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2019-21' yn Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin yn eithaf defnyddiol. Rwy'n deall nad yw ein Llyfrgell wedi cael amser i wneud un ar gyfer yr hyn sydd, wedi'r cyfan, yn ddogfen San Steffan. Ond edrychaf ymlaen at ei bwyllgor—darllen yr hyn sydd ganddynt i'w ddweud ar y mater. Soniodd am gyfreithloni anghyfreithlondeb, ond wrth gwrs, mae'r ddeddfwriaeth yn gwneud hynny. Nid wyf yn siŵr a yw'n ymwybodol o'r datblygiadau gyda Bob Neill a Damian Green a'r hyn sy'n cael ei gyhoeddi ar hyn o bryd. Byddwn yn croesawu'r newidiadau yn y Bil a gynigir. Os mai'r Senedd sy'n dweud ei bod yn mynd i wneud hyn yn hytrach na Gweinidogion yn unig, rwy'n credu y bydd yn gryfach byth. Nid oes gennyf amheuaeth y bydd Gweinidogion yn cael mwyafrif yn y Senedd os bydd angen. Mae'n llai tebygol y bydd barnwyr yn ymyrryd â'r hyn y mae'r Bil yn ei ddweud os mai'r Senedd yn hytrach na Gweinidogion fydd yn ei ddweud, a chredaf y bydd yn helpu i berswadio'r Undeb Ewropeaidd i newid ei safbwynt ac i roi gwell cytundeb i ni nag y byddem yn ei gael fel arall.

I orffen, cawsom bedair prif ddadl gan y Gweinidog yn erbyn y Bil. Yn gyntaf, am dorri cyfraith ryngwladol. Rwy'n credu fy mod eisoes wedi cyfeirio at hynny. Rwy'n credu ei fod hefyd yn erbyn i Lywodraeth y DU wario arian yng Nghymru, yn enwedig ym meysydd ysbytai a thai, oherwydd nid yw'r UE wedi gwario arian yn y meysydd hynny. Nid wyf yn deall y gwrthwynebiad hwnnw mewn gwirionedd. Hoffwn hefyd ei hysbysu o'r ffaith bod Llyfrgell Tŷ'r Cyffredin o leiaf o'r farn fod,

[y] Bil (cymalau 46-47) yn cynnwys pŵer "i ddarparu cymorth ariannol" ond nid yw'n ymddangos bod hyn yn newid y setliadau datganoli. Gall Llywodraeth y DU wario mewn meysydd datganoledig eisoes.

Mae'n rhywbeth rwy'n ei groesawu. Gobeithio y bydd mwy ohono—byddai ffordd liniaru'r M4 yn ddechrau da. Ond dylid cael mwy o gydweithredu â Llywodraeth Cymru a dylai fod fframweithiau cyffredin mewn meysydd priodol, ond rwy'n cefnogi cael y gydnabyddiaeth gilyddol, cael yr anwahaniaethu, cael marchnad fewnol sy'n gweithio i'r DU gyfan a chael safbwynt sy'n ein galluogi i gael cytundeb gwell gyda'r Undeb Ewropeaidd nag a fyddai'n bosibl fel arall. Rwy'n cymeradwyo ein cynnig i fy nghyd-Aelodau. Diolch.

19:15

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? Oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.]. Felly, dwi'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio. 

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Rŷm ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio nawr, ond, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14D, bydd egwyl o bum munud cyn yr amser pleidleisio. Felly, egwyl o bum munud. 

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 19:16.

19:25

Ailymgynullodd y Senedd am 19:26, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

11. Cyfnod Pleidleisio

Felly, dyma ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ac mae'r bleidlais gyntaf ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar fesurau atal COVID-19. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi ei wrthod.

Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Mesurau i Atal COVID-19: O blaid: 13, Yn erbyn: 40, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 yw'r bleidlais nesaf. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. 

Lywydd, ni allwch gau'r bleidlais. Nid ydych wedi gofyn i mi bleidleisio, ac ni allaf bleidleisio drwy'r ap.

O'r gorau. Gadewch i mi edrych ar hynny. A wnewch chi gadarnhau sut yr oeddech yn bwriadu pleidleisio, Kirsty Williams?

O'r gorau.

Ac, felly, canlyniad y bleidlais yna oedd fod 32 o blaid, 11 yn ymatal, ac 11 yn erbyn, a bod gwelliant 1 wedi ei gymeradwyo.

Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Rebecca Evans - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: O blaid: 32, Yn erbyn: 11, Ymatal: 11

Derbyniwyd y gwelliant

Gwelliant 2 yw'r bleidlais nesaf ac, os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol. Dwi'n galw am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, dau yn ymatal, ac mae 42 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi'i wrthod.

19:30

Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian - Dadl Ceidwadwyr Cymreig: O blaid: 10, Yn erbyn: 42, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 3 yw'r gwelliant nesaf, ac mae gwelliant 3 yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 31, un yn ymatal, 22 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 3 wedi'i gymeradwyo.

Gwelliant 3, cyflwynwyd yn enw Rebecca Evans - Dadl Ceidwadwyr Cymreig: O blaid: 31, Yn erbyn: 22, Ymatal: 1

Derbyniwyd y gwelliant

Gwelliant 4, yn enw Caroline Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, neb yn ymatal, 41 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi'i wrthod.

Gwelliant 4, cyflwynwyd yn enw Caroline Jones - Dadl Ceidwadwyr Cymreig: O blaid: 13, Yn erbyn: 41, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 5 yw'r gwelliant nesaf, yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, ymatal 10, 34 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 5 wedi'i wrthod.

Gwelliant 5, cyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian - Dadl Ceidwadwyr Cymreig: O blaid: 10, Yn erbyn: 34, Ymatal: 10

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 6 yw'r gwelliant nesaf, yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 23, neb yn ymatal, 31 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 6 wedi'i wrthod.

Gwelliant 6, cyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian - Dadl Ceidwadwyr Cymreig: O blaid: 23, Yn erbyn: 31, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 7, yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 21, neb yn ymatal, 33 yn erbyn. Ac felly, mae'r gwelliant wedi'i wrthod.

Gwelliant 7, cyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian - Dadl Ceidwadwyr Cymreig: O blaid: 21, Yn erbyn: 33, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 8, yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 21, neb yn ymatal, 33 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant yna wedi'i wrthod.

Gwelliant 8, cyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian - Dadl Ceidwadwyr Cymreig: O blaid: 21, Yn erbyn: 33, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynnig NDM7376 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod y Senedd:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

a) defnyddio cyfyngiadau coronafeirws lleol mewn ymateb i gynnydd sylweddol mewn cyfraddau heintio COVID-19 mewn modd cymesur er mwyn osgoi gosod cyfyngiadau symud llawn ar Gymru gyfan;

b) profi pobl sy’n dychwelyd i Gymru o wledydd nad ydynt wedi’u heithrio sydd â chyfraddau uwch o COVID-19 na Chymru, yn unol â’r cyngor cyfredol gan y Grŵp Cyngor Technegol.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 31, naw yn ymatal, 14 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi'i dderbyn.

Cynnig wedi'i ddiwygio - Dadl Ceidwadwyr Cymreig - Mesurau i Atal COVID-19: O blaid: 31, Yn erbyn: 14, Ymatal: 9

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Mae'r bleidlais nesaf ar ddadl Plaid Brexit ar Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig. Dwi'n galw am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Mark Reckless. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 12, dau yn ymatal, 40 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yna wedi'i wrthod.

19:35

Dadl y Blaid Brexit - Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig: O blaid: 12, Yn erbyn: 40, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y cynnig

Gwelliant 1 yw'r bleidlais gyntaf, ac os derbynnir gwelliant 1 bydd gwelliannau 2 a 3 yn cael eu dad-ddethol. Rwy'n galw am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Neil Hamilton. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid dau, neb yn ymatal, yn erbyn 52. Felly, mae gwelliant 1 yn cael ei wrthod. 

Gwelliant 1, cyflwynwyd yn enw Neil Hamilton - Dadl Plaid Brexit: O blaid: 2, Yn erbyn: 52, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 2 yw'r gwelliant nesaf. Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliant 3 yn cael ei ddad-ddethol. Rwy'n galw am bleidlais ar welliant 2 yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 29, dau yn ymatal, 22 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei gymeradwyo. Mae gwelliant 3 yn cwympo.

Gwelliant 2, cyflwynwyd yn enw Rebecca Evans - Dadl Plaid Brexit: O blaid: 30, Yn erbyn: 22, Ymatal: 2

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliant 3 ei ddad-ddethol.

Rwy'n galw am bleidlais nawr ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Neil Hamilton. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid dau, yn ymatal dau, 50 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 4 wedi ei wrthod. 

Gwelliant 4, cyflwynwyd yn enw Neil Hamilton - Dadl Plaid Brexit: O blaid: 2, Yn erbyn: 50, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 5, a gyflwynwyd yn enw Neil Hamilton. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid dau, yn ymatal dau, 50 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 5 wedi ei wrthod. 

Gwelliant 5, cyflwynwyd yn enw Neil Hamilton - Dadl Plaid Brexit: O blaid: 2, Yn erbyn: 50, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 6, yn enw Gareth Bennett. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid dau, yn ymatal dau, 50 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 7 wedi ei wrthod. Y bleidlais nawr ar welliant 8 yn enw—. 

Gwelliant 6 oedd y bleidlais ddiwethaf—gwelliant 6. Dyna oedd y canlyniad diwethaf a gyhoeddais.

Gwelliant 6, cyflwynwyd yn enw Gareth Bennett - Dadl Plaid Brexit: O blaid: 2, Yn erbyn: 50, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

19:40

Felly, gwelliant 7 yw'r bleidlais nesaf ac mae yn enw Gareth Bennett.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid dau, yn ymatal dau a 50 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 7 wedi ei wrthod.

Gwelliant 7, cyflwynwyd yn enw Gareth Bennett - Dadl Plaid Brexit: O blaid: 2, Yn erbyn: 50, Ymatal: 2

Gwrthodwyd y gwelliant

Gwelliant 8 yw'r gwelliant nesaf. Agor y bleidlais ar welliant 8, yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, neb yn ymatal, 44 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 8 wedi ei wrthod.

Gwelliant 8, cyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian - Dadl Plaid Brexit: O blaid: 10, Yn erbyn: 44, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynnig NDM7372 fel y'i ddiwygiwyd

Cynnig bod y Senedd:

Yn credu bod Bil y Farchnad Fewnol, Llywodraeth y DU gyfystyr ag ymosodiad ar y setliad datganoli a fyddai, pe bai’n cael ei ddeddfu, yn tanseilio pwerau’r Senedd i ddiogelu a hyrwyddo buddiannau pobl Cymru.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, dau yn ymatal, 13 yn erbyn. Ac felly, mae'r cynnig wedi'i ddiwygio wedi ei dderbyn.

Cynnig wedi'i ddiwygio - Dadl Plaid Brexit Bil Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig: O blaid: 39, Yn erbyn: 13, Ymatal: 2

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

12. Dadl Fer: Yr angen am gronfa diogelwch tân yng Nghymru i gynnig cymorth i lesddeiliaid

Dyna ddiwedd ar y cyfnod pleidleisio, ond mae'r agenda yn parhau gyda'r ddadl fer. I'r rhai ohonoch chi sydd yn gadael cyn y ddadl fer, yna gwnewch hynny'n dawel. Fe wnaf fi alw ar y cynigydd yn y ddadl fer, sef David Melding, i gyflwyno'r cynnig.

Diolch yn fawr, Lywydd. Mae wedi bod yn ddiwrnod hir, rwy'n credu ei bod yn deg dweud, ond rydym yn gorffen ar bwnc pwysig iawn ac rwy'n cyflwyno'r drafodaeth hon ar yr angen am gronfa diogelwch tân yng Nghymru. Hoffwn roi rhywfaint o'r amser i Mike Hedges a Jenny Rathbone.

Lywydd, ers trychineb ofnadwy Tŵr Grenfell, rydym wedi dod yn fwy ymwybodol o fethiant systemau cladin allanol—deunydd cyfansawdd alwminiwm a systemau eraill. Hefyd, mae materion sy'n ymwneud ag uniondeb y cynlluniau diogelwch tân mewnol mewn rhai adeiladau uchel hefyd wedi dod yn amlwg iawn. Mae hyn wedi golygu bod y rhai sy'n byw mewn adeiladau fflatiau aml-lawr mewn perygl llawer mwy nag a sylweddolwyd yn flaenorol gan lawer o lunwyr polisi a chredaf fod hwn yn bwynt allweddol. Ni wnaeth llawer o lunwyr polisi a'r rhai a oedd yn craffu ar bolisi nodi hyn.

Cyn i mi nodi'r angen am gronfa diogelwch tân, hoffwn ddyfynnu pryderon rhai o'm hetholwyr sy'n lesddeiliaid sy'n wynebu'r posibilrwydd o gost gyfalaf enfawr i wneud adeiladau'n ddiogel, adeiladau a gafodd eu pasio'n ddiweddar fel rhai diogel gan y system rheoleiddio adeiladu. A daw'r dyfyniadau hyn—mae yna bump—gan breswylwyr datblygiad Celestia a Victoria Wharf. Gallwn weld y datblygiadau hynny i bob pwrpas—wel, fe allwn os edrychwn yn ofalus—o adeilad y Senedd hon.

Fy nyfyniad cyntaf: 'Fel un o gyflogeion y GIG dan bwysau sylweddol yn yr hinsawdd bresennol, mae'r problemau hir, parhaus gyda diogelwch tân ac atebolrwydd yn achosi llawer iawn o straen ychwanegol gartref'.

19:45

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Yn ail: 'Rwy'n chwilfrydig pam nad yw hi'—sef y Gweinidog—yn ymddangos fel pe bai ganddi ddiddordeb yn y 450 o aelwydydd yng nghymdogaeth y Senedd'.

Rwy'n deall hynny. Mae ychydig yn llym, ond rwy'n deall y teimlad hwnnw.

Trydydd dyfyniad: 'Mae bron yn sicr na fydd pob lesddeiliad yn gallu fforddio talu am yr atgyweiriadau angenrheidiol, yn enwedig gan nad oes modd rhoi'r fflatiau dan forgais'.

Fy mhedwerydd preswylydd ac etholwr: 'Mae gwir angen inni weld y Llywodraeth yn camu i mewn ac yn helpu. Mae'r sefyllfa'n enbyd'.

Ac onid ydym wedi bod yn gweld, yn ystod argyfwng COVID, yr angen am lywodraeth fwy, pan fo'i hangen, wedi'i chyflawni'n effeithiol?

Fy nyfyniad olaf: 'Dim ond mater o amser yw hi nes i rywun gael ei anafu'n ddifrifol, neu waeth, Duw a'n helpo'.

Wel, fel rydym newydd glywed gan rai o fy etholwyr sy'n lesddeiliaid yr effeithir arnynt yn uniongyrchol, maent bellach yn wynebu costau enfawr posibl, ac maent yn wynebu'r costau hynny fel pobl a brynodd eu tai, neu gartrefi yn hytrach, eu prynu gyda diwydrwydd dyladwy, gan adeiladwyr a datblygwyr sefydledig, prynu cartrefi mewn adeiladau a oedd yn bodloni rheoliadau adeiladu ac a basiodd yr arolygiadau angenrheidiol, ac sydd bellach yn wynebu'r tebygolrwydd o orchmynion gorfodi.

Nawr, mae'n wir fod rhai adeiladwyr a datblygwyr wedi gweithredu'n gyfrifol ac wedi ymrwymo i bartneriaeth gyda lesddeiliaid a'r Llywodraeth i unioni'r diffygion a wnaeth adeiladau'n anniogel. Fodd bynnag, mae eraill yn osgoi eu rhwymedigaethau, eu rhwymedigaethau moesol fan lleiaf, neu'n aros am ganlyniad achos cyfreithiol; ac mae rhai'n chwarae'r gêm o ymestyn camau cyfreithiol am amser hir, gan wybod pa mor fregus yw'r lesddeiliaid yn y fflatiau hyn. A hyn i gyd ar adeg pan fo COVID wedi golygu bod y rhan fwyaf ohonom wedi gorfod treulio llawer mwy o amser gartref. Felly, mae lesddeiliaid yn wynebu'r pryder parhaus o fyw mewn adeiladau yr ydym bellach yn sylweddoli nad ydynt wedi bod mor ddiogel ag a ddynodwyd.

Ac mae canlyniadau pellach. Ni ellir gwerthu cartrefi, felly mae pobl wedi'u dal mewn fflatiau nad ydynt bellach yn diwallu eu hanghenion, yn enwedig os ydynt yn deuluoedd ifanc. Maent mewn llety sy'n rhy gyfyng ac nad yw'n rhoi'r lle sydd ei angen ar blant ifanc, er enghraifft. Yn drasig a dweud y gwir, ni all rhai lesddeiliaid ddechrau teuluoedd yn awr, er eu bod yn ysu i wneud hynny.

Mae costau yswiriant wedi codi'n sylweddol, ac mae hyn yn rhywbeth sy'n cael ei anwybyddu'n aml, ac mae'n gost barhaus tra bydd y problemau hyn heb eu datrys. Mae disgwyl iawn gan adeiladwyr neu ddatblygwyr calongaled, sydd wedi bod yn gyfrifol am osodiadau gwael—ac mae hwnnw'n ffactor allweddol yn yr holl gwestiwn hwn, pan na chafodd systemau diogel eu gosod yn iawn—mae ymgyfreitha ar gyfer camau o'r fath yn ddrud.

Ac yna, yn olaf, ar y pwyntiau hyn, yr anallu i gael gafael ar arian pan fydd popeth arall yn methu. Roedd y Gweinidog, ddoe neu'r diwrnod cynt rwy'n meddwl, yn nodi cynllun i helpu'r rheini sy'n wynebu ôl-ddyledion rhent heb fod unrhyw fai arnynt hwy eu hunain ac sydd mewn cartrefi cymdeithasol, a soniodd am ddarparu benthyciad isel iawn—mor isel ag y gellir caniatáu'n gyfreithiol, ymddengys i mi—gan undebau credyd. Ac mae'r math hwnnw o gynnig deallus gan y Llywodraeth yn rhywbeth rwy'n ei groesawu, ond nid ydym wedi gweld arloesedd tebyg mewn perthynas â lesddeiliaid mewn fflatiau.

Trof yn awr at y sefyllfa yn Lloegr, lle bu datblygiad sylweddol. Cyhoeddwyd y gronfa diogelwch adeiladau ar gyfer Lloegr gan y Canghellor, Rishi Sunak, yn ei gyllideb ym mis Mawrth. Mae cyllid ychwanegol o £1 biliwn wedi'i neilltuo, ac mae hwn yn ychwanegol at y gronfa i fynd i'r afael â chladin ACM yn Lloegr a gyhoeddwyd yn gynharach. Bwriedir sicrhau y bydd yr holl gladin hylosg anniogel yn cael ei dynnu oddi ar bob adeilad preswyl preifat a chymdeithasol dros 18m, ac rwy'n croesawu'r polisi hwnnw.

Trown at Gymru yn awr. Creodd cyhoeddiad y Canghellor ar gyfer Lloegr tua £58 miliwn o arian canlyniadol i Gymru. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu, fel y mae ganddi hawl i wneud, defnyddio'r cyllid canlyniadol hwn at ddibenion eraill. Wrth ateb fy nghwestiwn ysgrifenedig ar 12 Awst, dywedodd y Gweinidog:

'Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud ymrwymiad clir i gyflawni diwygiadau er mwyn diogelu pobl sy'n byw mewn adeiladau uchel iawn yng Nghymru. Mae'r diwygiadau, o reidrwydd, yn sylweddol ac yn gymhleth. Nid oes unrhyw atebion cyflym.'

Wel, mae'n rhaid i mi ddweud, Weinidog, o ran y gronfa diogelwch tân i lesddeiliaid, yn sicr nid oes ateb cyflym, oherwydd mae'r broblem yn dal yn enfawr a heb ei datrys, ac nid ydych wedi gwneud unrhyw ymdrechion hyd yma i efelychu'r system yn Lloegr. Yn hytrach, rhaid i lesddeiliaid fodloni ar gydymdeimlad y Gweinidog, a dyfynnaf:

'Rwyf wedi cyfleu'n gyson na ddylid disgwyl i lesddeiliaid dalu i unioni problemau sy'n deillio o fethiant i adeiladu i safonau ansawdd priodol nac achosion sy'n torri rheoliadau adeiladu.'

Ac rwy'n cytuno â hynny, ond tra bod y materion hyn yn mynd drwy lysoedd neu'n cael eu hymestyn dros amser, rhaid inni wynebu'r ffaith bod y lesddeiliaid hyn yn wynebu gorchmynion gorfodi ac yn gorfod talu neu geisio gwerthu eu heiddo, sydd bron yn amhosibl o ystyried gofynion presennol y farchnad a'r sefyllfa o ran cael morgais. Felly, rwy'n credu o ddifrif fod angen i chi edrych ar y mater hwn eto.

Nawr, rwy'n derbyn y gallai £58 miliwn o arian canlyniadol fod yn fwy na sydd ei angen i unioni'r broblem yng Nghymru. Rwy'n derbyn y gallwch ddefnyddio'r arian hwnnw fel y gwelwch yn dda, ac efallai nad ydych am adeiladu nac agor cronfa hyd at werth llawn pro rata, fel petai, yr hyn sy'n cael ei gyflwyno yn Lloegr. Gallwn dderbyn hynny, pe baech yn rhoi tystiolaeth, ac mae'n siŵr y gallech gael y dystiolaeth os yw yno i ddangos bod yr angen yng Nghymru, serch hynny, yn arwyddocaol iawn, a chan fy mod newydd gyfeirio at y preswylwyr mewn dau ddatblygiad yn agos iawn atom, efallai nad yw ar y raddfa a welir yn Lloegr. Ond rwy'n credu o ddifrif fod angen i chi wneud rhywbeth. Mae'r bobl hyn wedi cael eu gadael, mewn gwirionedd, i ymdopi â phroblem sy'n fater o fethiant polisi cyhoeddus, ac mae'n fethiant polisi cyhoeddus sy'n mynd yn ôl dros amser maith, o leiaf 20 mlynedd, ac mae'r blaid rwy'n ei chynrychioli a'r blaid rydych chi'n ei chynrychioli, yn anffodus, wedi bod yn gyfrifol am y methiant polisi hwn.

Rwyf am orffen ar y pwynt hwn: gwnaeth y bobl hyn bopeth yn iawn. Gwnaethant arfer yr holl ddiwydrwydd dyladwy, fe wnaethant ofyn am gyngor cyfreithwyr, cawsant werthusiadau, arolygiadau, adroddiadau arolygon a phethau tebyg wedi'i wneud ar yr eiddo roeddent yn ei brynu, a gallent weld bod yr adeiladau wedi pasio'r holl reoliadau, cawsant eu harolygu, ac eto maent wedyn yn darganfod bod naill ai'r rheoliadau'n annigonol neu fod yr arolygiadau'n annigonol ac nad oeddent wedi nodi'r ffaith bod y systemau hyn wedi'u gosod mewn modd amhriodol, sydd yn y bôn yn eu gwneud yn ddiwerth ac yn beryglus iawn. Credaf fod yn rhaid inni gynnig ateb. Efallai mai ateb dros dro i leddfu'r pwysau ariannol ar y lesddeiliaid fydd hwnnw, tra byddwn yn ymchwilio i weld a oes rhwymedigaeth gyfreithiol ymhlith yr adeiladwyr a'r datblygwyr. Ond wyddoch chi, dim ond sefydliad mor fawr â'r Llywodraeth sy'n gallu dilyn y trywydd hwnnw ac aros o gwmpas ac ymdrin â chamau cyfreithiol. Mae'r lesddeiliaid hyn yn wynebu gorchmynion gorfodi sydd ar y ffordd a chostau amcangyfrifedig o rhwng £10,000 a £40,000 yn ein cymdogaeth ein hunain yma yn y Senedd.

Felly, Weinidog, a gaf fi ddweud fy mod wedi mwynhau'n fawr y cyfnod pan oeddwn yn eich cysgodi chi tan yn ddiweddar iawn? Rwy'n eich parchu, rwy'n credu eich bod wedi bod yn Weinidog arloesol, rydych chi'n ymdopi â'ch briff, ac rydych wedi dangos arweiniad go iawn. Ond yn y maes hwn, nid ydym wedi gallu cael consensws, a hyd yma rwyf wedi bod yn siomedig iawn gyda'ch ymateb. Rwy'n eich annog i ddefnyddio'r dychymyg rydych yn enwog amdano i ddatrys y broblem eithriadol o ddifrifol hon.

19:55

Yn gyntaf oll, a gaf fi ddiolch i David Melding nid yn unig am roi munud i mi yn y ddadl hon, ond am godi'r mater pwysig hwn? Hoffwn nodi dau bwynt cyflym iawn. Yn gyntaf, a oes unrhyw reswm pam na ellir defnyddio cyfalaf trafodion i ariannu'r gwaith angenrheidiol, gyda hawliad yn cael ei wneud yn erbyn gwerth yr eiddo sydd ar werth? Mae hwn yn arian sy'n mynd i'r sector preifat ac sy'n bodloni'r rheolau ar gyfer defnyddio cyfalaf trafodion yn fy marn i. Os nad yw hynny'n bosibl, a all y Gweinidog egluro pam nad yw'n bodloni'r rheolau? Nid af drwy weddill y rheolau, ond os nad yw'n eu bodloni, a all y Gweinidog egluro pam nad yw'n gwneud hynny, oherwydd byddai'n ddefnydd da o gyfalaf trafodion ac mae'n mynd i mewn i'r sector preifat?

Yr ail: ni fyddai hyn yn digwydd yn y rhan fwyaf o weddill y byd oherwydd bod ganddynt berchnogaeth gydweithredol ar fflatiau. Nawr, rwy'n frwdfrydig iawn ynghylch perchnogaeth gydweithredol yn hytrach na lesddaliadau, sydd, yn fy marn i, yn system ffiwdal y dylem ei dileu ar y cyfle cyntaf posibl. Mae'r berchnogaeth gydweithredol hon a thaliadau cydweithredol yn gweithio yn yr hyn y gallem feddwl amdanynt fel rhannau sosialaidd, adain chwith o'r byd; mae'n gweithio mewn lleoedd fel Efrog Newydd, mae'n gweithio yn Vancouver, mae'n gweithio yn Sgandinafia. Mae gwir angen inni yn gyntaf ddod o hyd i'r arian, ond yn ail, mae angen newid y system.

Diolch, David Melding, am godi'r mater pwysig hwn. Rydych yn dadlau'n gryf iawn dros gyfiawnder gwneud rhywbeth i helpu'r bobl hyn a wnaeth yr holl bethau cywir o ran y gweithrediadau trawsgludo cyn iddynt brynu'r lesddaliad ar eu fflat, ac yn ddi-os mae llunwyr polisi wedi methu, ac mae rheoliadau adeiladu wedi methu. Cefais fy synnu'n arbennig wrth ddarllen eu bod, yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Llun yr wythnos diwethaf, wedi trechu cynnig i orfodi'r Llywodraeth i weithredu canlyniadau argymhellion rhan gyntaf ymchwiliad Grenfell. Pa mor frawychus yw hynny, o ystyried costau sefydlu'r ymchwiliad hwnnw, i beidio â gweithredu ei argymhellion wedyn? Mae'n frawychus iawn.

Felly, rwy'n gobeithio y clywn gan y Gweinidog y byddwn yn gallu sefydlu cronfa, a all fod yn gronfa dros dro lle gallwn, maes o law, gael yr arian yn ôl gan yr adeiladwyr a'r rheoleiddwyr diegwyddor hyn, oherwydd nid oes amheuaeth fod rhaid i rywun dalu, ond nid y lesddeiliaid tlawd sydd wedi'u dal yn eu fflat ac angen dod allan o'r sefyllfa hon.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn anffodus, mae fy nghefn at y person rwy'n ymateb iddo, ac rwy'n ei chael hi'n anodd bob amser y bydd hynny'n digwydd, felly ymddiheuriadau, David.

Rwy'n falch iawn fod David wedi rhoi cyfle inni gael y ddadl hon, y drafodaeth hon, a rhoi cyfle i mi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bawb am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer diogelwch adeiladu yng Nghymru. Fel y dywedodd David yn gywir, mae cam 2 ymchwiliad Grenfell yn ailddechrau yn awr, ac fe'n hatgoffir i gyd o bwysigrwydd sicrhau bod preswylwyr yn parhau'n ddiogel yn eu cartrefi o ganlyniad i'r drasiedi ofnadwy rydym yn ymwybodol iawn ohoni. Rwyf hefyd yn ymwybodol iawn o'r anawsterau sy'n wynebu preswylwyr a lesddeiliaid oherwydd y problemau diogelwch adeiladu parhaus mewn nifer o adeiladau uchel yng Nghymru, ac yn wir mae gennyf lawer iawn o gydymdeimlad â hwy am y trafferthion y maent yn eu cael, a chytunaf yn llwyr â David nad yw'n fai arnynt hwy fel y cyfryw. Mae'r pethau hyn yn gymhleth ac yn anodd eu deall hyd yn oed os ydych yn gyfreithiwr trawsgludo profiadol, felly nid yw'n syndod fod pobl yn wynebu sefyllfaoedd anodd iawn.

Mae'n dal yn werth gwneud y pwynt—gwn fy mod wedi'i wneud dro ar ôl tro—ei bod yn amlwg mai perchnogion a datblygwyr yr adeiladau yw'r bobl sydd â'r cyfrifoldeb gwirioneddol am y ffaith bod hyn wedi digwydd, a dylent gywiro eu diffygion ar eu cost eu hunain. Rwy'n derbyn nad ydynt yn gwneud hynny, ac nad ydynt yn poeni am yr enw da proffesiynol yn y ffordd rydym yn teimlo y dylent, ond wrth gwrs mae'n werth dweud y dylent deimlo felly, ac rwy'n credu bod hynny'n werth ei ailadrodd.

Rwyf hefyd yn falch o weld bod yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd bellach wedi cymryd diddordeb ym mater gwerthu lesddaliadau yn amhriodol, a'i fod wedi dechrau cymryd camau yn erbyn rhai o'r troseddwyr gwaethaf am werthu eiddo lesddaliadol. Rwy'n credu bod y ddau beth wedi'u cydgysylltu, er ei bod wrth gwrs yn fwy priodol cael lesddaliad cyn belled â bod lesddaliad yn bodoli—ac fe af i'r afael â phwynt Mike mewn munud—mewn adeilad uchel nag mewn tŷ. Serch hynny, mae'r ffordd y caiff y lesddaliad ei werthu a'r ffordd y rheolir y rhydd-ddaliad wedyn yn bwynt pwysig o hynny, ac nid wyf yn siŵr a yw pawb sy'n prynu lesddaliad mewn adeiladau uchel yn deall yn llwyr beth yw'r strwythur rheoli y maent yn ei brynu, a chafwyd nifer o broblemau o ganlyniad i hynny.

Felly, mae'n realiti anodd, ond un na ellir ei osgoi yn anffodus, fod ein rôl fel Llywodraeth Cymru yn gyfyngedig o ran yr hyn y gallwn ei wneud ynghylch gorfodi'r bobl sy'n gyfrifol am gynhyrchu'r adeiladau hyn i wynebu eu cyfrifoldeb. Mae hefyd yn wir fod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi cyllid ar gyfer tynnu cladin anniogel oddi ar adeiladau preswyl sy'n uwch na 18m—mewn gwirionedd, mae'r cyfan yn gladin anniogel, nid ACM yn unig. Roedd yna gronfa ACM gynharach, fel y dywedoch chi'n gywir, David. Mae'n wir hefyd inni gael cyllid canlyniadol ar gyfer rhywfaint o hynny nad ydym wedi'i dargedu at hynny eto.

Rwyf hefyd am ddweud ar y pwynt hwn ein bod, ar yr adeg y cawsom y cyllid canlyniadol hwnnw, ynghanol pandemig COVID, ac felly cafodd yr holl gyllid canlyniadol ei wthio tuag at hynny ar unwaith. Ond rwyf wedi ymrwymo i archwilio ffyrdd ymlaen, gan gynnwys y posibilrwydd o gael cymorth ariannol arloesol i helpu i ariannu gwaith adfer mewn rhyw ffordd sy'n caniatáu i lesddeiliaid gysgu'n ddiogel yn eu gwelyau o leiaf, hyd yn oed os yw'n effeithio ar eu hecwiti.

Yr anhawster, Mike, gyda chyfalaf trafodion ariannol a'r awgrym a wnaethoch—mae'n debyg fod yna ffordd y gallwn wneud hynny, rwy'n eithaf sicr, ond dim ond drwy effeithio ar ecwiti'r lesddeiliad, a dyna un o'r anawsterau wrth geisio dod o hyd i gynllun sy'n bwrw ymlaen ag ef sy'n golygu bod y lesddeiliad yn cael rhywbeth ar eu ddiwedd. Felly, gallwn wneud gwaith yn ddiofyn, gall cynghorau wneud gwaith yn ddiofyn, gallant wneud pob math o bethau, gallant godi tâl tir ar eiddo'r bobl sy'n byw yno, ond ni fydd ecwiti gan y bobl hynny yn y pen draw. Mae hynny'n datrys y broblem diogelwch tân uniongyrchol, sy'n werth ei wneud, ond nid yw'n datrys y broblem y byddant yn aml wedi buddsoddi eu holl gynilion ac ymdrech sylweddol ac na fydd ganddynt unrhyw beth yn y pen draw. Felly, nid yw honno'n ymddangos i mi yn ffordd dda ymlaen. Felly, mae angen inni edrych ar rywbeth sy'n caniatáu iddynt hefyd fynd ar drywydd hawliadau yn erbyn yswirwyr a chwmnïau adeiladu ac nid yw ein hymyriad yn ymyrryd yn hynny. Felly, mae gennyf ddiddordeb mawr mewn gweld, a bydd y swyddogion yn dilyn yn agos beth sy'n digwydd gyda chronfa'r DU, i wneud yn siŵr nad ydym yn wynebu'r trafferthion hynny. Ac nid wyf wedi bod yn gwbl fodlon fod hynny'n mynd i ddigwydd, mewn gwirionedd. 

Felly, mae'n bwysig deall ein bod yn ceisio gwneud tri pheth ar unwaith: rydym yn ceisio cael yr adeilad i fod yn ddiogel rhag tân, sy'n un peth; rydym yn ceisio datrys anawsterau'r lesddaliad ei hun a'r ffordd y mae'r cwmni rheoli'n ei redeg, dyna'r peth arall; a'r trydydd peth yw ein bod yn ceisio cadw rhywfaint o ecwiti i'r bobl sydd yn y sefyllfa hon heb fod unrhyw fai arnynt hwy eu hunain. Y trydydd peth hwnnw mewn gwirionedd yw'r peth anoddaf, serch hynny. Gallwn ariannu'r awdurdodau lleol i wneud y gwaith yn ddiofyn, ond byddent yn codi tâl tir ar yr adeiladau a byddai hynny'n ddiwedd ar yr ecwiti. Felly, mae'n beth eithaf anodd, ac mae hynny'n gweithio ar gyfer y cyfalaf trafodion ariannol hefyd. Felly, rydym wedi edrych ar gryn dipyn o'r pethau hyn. 

Ar y pwynt hwn, hoffwn gynnig y peth rwy'n ei ddweud bob amser: nid yw'r holl syniadau gennyf yma. Rwy'n hapus iawn i weithio ar y cyd ag unrhyw Aelod arall yn y Siambr sydd ag unrhyw syniad o gwbl ynglŷn â'r hyn y gallem ei wneud. Rydym yn gwylio cronfa'r DU yn ofalus. Nid ydynt wedi gwario llawer ohoni eto, felly bydd yn ddiddorol gweld beth sy'n digwydd. Mae arnaf ofn ei fod yn mynd i fynd â'r ecwiti oddi wrth y lesddeiliaid, dyna'r gwir. Felly, cawn weld, ond mae gennyf lawer o gydymdeimlad â'r bobl. Felly, rydym yn edrych arno'n bendant iawn. Nid ydym wedi camu drosto eto gan nad oes gennyf ateb sydd, yn fy marn i'n bersonol, yn gwneud beth y mae pobl ei eisiau. 

Y peth arall i'w ddweud yw bod angen inni newid y system a gynhyrchodd y system hon. Fel y dywedodd David, mae'n gywilyddus fod Llywodraethau o bob lliw wedi methu ysgwyddo'r cyfrifoldeb hwn, felly mae angen inni wneud hynny yn awr. Mae angen cyfundrefn newydd i ganolbwyntio ar feysydd y gwyddom fod angen iddynt wella, sefydlu llinellau atebolrwydd clir, creu rolau a chyfrifoldebau newydd i'r rhai sy'n berchen ar yr adeiladau perthnasol ac yn eu rheoli, sy'n golygu na fydd unrhyw amheuaeth yn y dyfodol pwy sy'n ysgwyddo cyfrifoldeb. Hoffwn ddweud hefyd ar y pwynt hwn, er ein bod yn edrych ar y drefn diogelwch adeiladu o safbwynt pwy sy'n ei gorfodi—felly, holl rôl yr arolygydd adeiladu ac yn y blaen, nad oes gennyf amser i ymhelaethu arni yn awr, Ddirprwy Lywydd; mae'n awr o sgwrs, ac rydym eisoes wedi cael cyflwyniadau yn y Senedd ar hynny—mae problem fawr yn codi hefyd ynglŷn â sicrhau nad yw pobl yn prynu tai oddi ar gwmnïau cyfrwng un diben. David, fe ddywedoch chi yn eich cyflwyniad fod pobl wedi'u prynu gan adeiladwyr y gellir ymddiried ynddynt, pobl yr oeddent yn eu hadnabod, ond mewn gwirionedd roeddent yn aml yn gwmnïau cyfrwng un diben a oedd yn cario enw cwmni mawr ond a oedd yn cael eu gwarchod rhagddynt gan fecanwaith cyfreithiol. Felly, mewn gwirionedd, mae rhoi camau ar waith yn erbyn y cwmni daliannol wedi bod yn broblem. Felly, mae arnom angen cyfundrefn sy'n atal hynny rhag digwydd hefyd, fel nad ydych yn ffurfio 'cwmni adeiladu Melding a James inc.' er mwyn adeiladu un adeilad yn unig, a chwalu cwmni cyfrwng un diben a gadael.

Felly, mae materion eraill ar waith yma sy'n gymhleth iawn. Ac mae eich calon yn gwaedu dros y lesddeiliaid sy'n ceisio llywio eu ffordd drwy bwy yn union y maent yn ceisio eu herlyn, pwy'n union sy'n gyfrifol. Yn ogystal, mae llawer o'r cwmnïau hynny naill ai wedi rhoi'r gorau i weithredu fel busnes, neu wedi mynd yn fethdalwyr, neu maent wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr, ac mae cadwyn o gyfrifoldebau'n cael ei throsglwyddo. Mae'n un o'r pethau mwyaf cymhleth rwyf wedi'i weld mewn gyrfa gyfreithiol go hir, felly—wyddoch chi, mae gennyf lawer o gydymdeimlad â hynny, ond mae angen i ni lywio ein ffordd drwy fateron eithaf cymhleth wrth geisio datrys beth sy'n digwydd. 

Rydym wedi sôn am y drefn dân droeon. Mae angen inni godi'r safonau, gwella cymhwysedd y diwydiant, grymuso preswylwyr â hawliau gwell a llais cryfach fel bod ganddynt ffordd o ddefnyddio hynny cyn gynted ag y byddant yn sylwi ar y diffygion a bod hynny'n bwydo i mewn i'r system yn gywir. Mae'n demtasiwn i ddweud: 'Edrychwch, ewch amdani: gwnewch hynny, deliwch ag ef', ond mewn gwirionedd, mae'n rhaid inni sicrhau ei bod yn system reoleiddio gryfach a mwy cydlynol, gyda chyrff gorfodi'n gallu rhoi camau difrifol ar waith gan wybod y bydd hynny'n digwydd.

Mae'n ymwneud â newid diwylliannol hefyd. Felly, rydym i gyd bellach yn derbyn, rwy'n credu, fod angen inni symud o ddiwylliant sy'n rhoi blaenoriaeth i godi'r adeilad am y gost rataf bosibl, i godi'r adeilad mewn ffordd sy'n sicrhau diogelwch ac ansawdd y ffordd o fyw sydd gan y bobl yn yr adeiladau hynny. Felly, rwy'n credu bod hwnnw'n newid diwylliannol mawr iawn. Y newidiadau—ni allwn eu cyflwyno dros nos; nid ateb cyflym arwynebol yw hwn, fel y dywedais droeon, ond diwygio cyfan gwbl sy'n creu newid ystyrlon ac sy'n sicrhau preswylwyr fod eu cartrefi'n ddiogel.

Oherwydd COVID-19, mae'n ddrwg gennyf ddweud ein bod bellach wedi colli ein rhaglen ddeddfwriaethol, dechreuadau'r rhaglen ddeddfwriaethol, ar gyfer diogelwch adeiladu a fyddai wedi bod gennym ac a gyflwynwyd gennyf yn y Senedd tua blwyddyn yn ôl bellach, rwy'n meddwl, mewn ymateb i ddadl a gyflwynwyd gan David bryd hynny. Felly, yn lle hynny, byddwn yn cyflwyno Papur Gwyn. Credaf y bydd y Papur Gwyn yn denu cefnogaeth drawsbleidiol, a hoffwn yn fawr ei weld ym maniffestos yr holl bleidiau yma yn y Senedd fel y byddem yn gwybod y byddai'n cael ei ddatblygu gan bwy bynnag sy'n ffurfio Llywodraeth y tro nesaf. A Ddirprwy Lywydd, byddwn yn sicr yn gweithio i sicrhau bod hynny'n digwydd. Diolch.

20:05

Daeth y cyfarfod i ben am 20:07.