Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

17/06/2020

Cyfarfu'r Senedd drwy gynhadledd fideo am 12:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Datganiad gan y Llywydd

Prynhawn da a chroeso i'r Cyfarfod Llawn yma. Cyn i ni ddechrau, dwi angen nodi ychydig bwyntiau. Mae Cyfarfod Llawn heddiw yn cael ei gynnal drwy gynhadledd fideo yn unol â Rheolau Sefydlog Senedd Cymru yn gyfystyr â thrafodion y Senedd at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw ac mae'r rhain wedi eu nodi ar eich agenda. Dwi eisiau hefyd atgoffa'r Aelodau fod y Rheolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn yn y Cyfarfod Llawn yn gymwys i'r cyfarfod yma.

Teyrngedau i Mohammad Asghar AS

Heddiw, yr ydym ni yn cwrdd fel Senedd yn dilyn y newyddion trist iawn ddoe am farwolaeth ein cyfaill Mohammad Asghar. Mae'r golled yn un greulon o sydyn. Mi oedd Oscar yn gynrychiolydd balch o'i blaid, ei ranbarth a'i wlad. Mi oedd yn un o gymeriadau ein Senedd, ac wrth i ni i gyd, fel ei gydweithwyr a'i gyfeillion, geisio dygymod gyda'r newyddion, mae ein meddyliau wrth gwrs yn troi i gofio'n annwyl am Oscar ac i gydymdeimlo gyda'i deulu. I wneud hynny, felly, a gaf i ofyn i'n Senedd ymdawelu am funud mewn teyrnged i Mohammad Asghar, Aelod o'r Senedd dros Ddwyrain De Cymru?

Cynhaliwyd munud o dawelwch. 

Diolch. I arwain ein teyrngedau i Mohammad Asghar, galwaf ar arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Paul Davies.

Diolch, Llywydd. Gyda chalon drom eithriadol y gwnaf y cyfraniad hwn heddiw. Roedd Mohammad Asghar, neu Oscar, fel yr oeddem i gyd yn ei adnabod, yn ddyn o gynhesrwydd a charedigrwydd aruthrol, dyn a oedd mor barchus eithriadol ohonom ni i gyd, dyn a ymroddodd ei fywyd i gyfoethogi a chefnogi'r rhai o'i gwmpas, a dyn, ag yntau mor llawn o fywyd ei hun, a wnaeth gymaint i helpu pobl ledled Cymru.

Llywydd, bydd ymadawiad trist ac annhymig Oscar ddoe yn gadael gwacter ym mhob un a oedd yn ei adnabod. Roedd yn ddyn o gariad mor anfesuradwy tuag at eraill ac, oherwydd hynny, caiff tristwch mawr ei farwolaeth ei deimlo nid yn unig yn y Siambr hon, ond ar draws y byd.

Mae gennym ni i gyd ddigwyddiadau yn ein bywydau sy'n ein llunio, sy'n llunio ein gwleidyddiaeth, sy'n llunio pwy ydym ni. Ys gwn i beth welodd a beth brofodd yr Oscar ifanc. Fe'i ganwyd ym 1945 yn yr India, ond ddwy flynedd yn ddiweddarach fe rannwyd y wlad a daeth ei wlad i'w hadnabod fel Pacistan. Gwyddom fod miliynau wedi marw bryd hynny. Darllenwn am ymraniad; profodd Oscar hynny pan oedd yn blentyn. Nid yn unig yr oedd wedi byw yn hirach na llawer ohonom ni, roedd hefyd wedi gweld mwy. Roedd, wrth gwrs, ym Mhacistan yn 2007 pan geisiwyd lladd Benazir Bhutto. Roedd 30 llath oddi wrthi pan ffrwydrodd bomiau a lladdwyd 130 o bobl. Nid oes neb ohonom ni—neb ohonom ni—wedi gweld y fath erchyllterau.

Roedd ei brofiadau'n unigryw, ac roedd ei agwedd at wleidyddiaeth yn unigryw i'r Senedd hon. Oscar, wrth gwrs, oedd y cynrychiolydd etholedig cyntaf o'r sefydliad hwn o gefndir ethnig a lleiafrifol, a gwnaeth yn siŵr o ddefnyddio'r llwyfan hwnnw i ehangu pob cysylltiad posib rhwng y grwpiau lleiafrifoedd ethnig yng Nghymru a'r sefydliad hwn. Ef oedd yr Aelod Cynulliad cyntaf i wahodd Llysgennad Israel i'r Senedd i drafod heddwch, cytgord a dealltwriaeth rhwng y cymunedau Mwslimaidd ac Iddewig. Gweithiodd yn ddiflino i siarad a gwrando ar bobl, ac ymgysylltu â nhw, ac wrth wneud hynny, gwnaeth y Senedd gymaint yn fwy hygyrch i bobl. Mae grwpiau, sefydliadau, unigolion o ystod eang iawn o gefndiroedd a chrefyddau wedi teimlo bod y Senedd yn groesawgar iddyn nhw, a hynny am fod Oscar wedi gweithio mor galed i agor y drws a'u gwahodd i mewn. Llywydd, rwy'n mawr obeithio, yn sgil marwolaeth Oscar, y bydd pob un ohonom ni yn parhau i adeiladu ar yr estyn allan hwnnw ac yn parhau i agor drysau'r Senedd i bawb.

Gadewch inni gofio mai ef oedd yr Aelod cyntaf o'r Senedd mewn hanes i gael kirtan traddodiadol Sikhaidd wedi ei gynnal yn y Senedd. Fel dyn o ffydd ddofn ei hun, roedd yn llawn parch a goddefgarwch tuag at y rhai a oedd yn addoli, ac felly roedd yn addas a naturiol iddo fod yn llefarydd ein grŵp ar ffydd. Roedd yn swyddogaeth a oedd yn bwysig iawn iddo, a gweithiodd yn galed i ymgysylltu â chymunedau ffydd ledled Cymru ac adeiladu rhwydweithiau rhyng-ffydd ledled y wlad. Roedd y swyddogaeth yn caniatáu iddo weithio unwaith eto gyda'r Arglwydd Bourne o Aberystwyth, a oedd yn Weinidog dros Ffydd yn Llywodraeth y DU ar y pryd, ac roedd yn ddyn yr oedd Oscar yn ei edmygu'n wleidyddol ac yn teimlo anwyldeb personol tuag ato.

Roedd Oscar, wrth gwrs, yn aelod gwerthfawr o dîm y Ceidwadwyr Cymreig, a ffurfiodd berthynas â llawer o'm cyd-Aelodau yma heddiw. Roedd yn gyflogwr caredig a oedd yn hoff iawn o'i staff, ac felly estynnaf fy nghydymdeimlad diffuant at Paul, Stephen a Gemma. Gwelodd Oscar ei gydweithwyr fel estyniad o'i deulu ei hun, a chan ei fod mor gynnes a mawr ei galon, bydd gennym ni i gyd atgofion amdano fydd yn codi gwên. Roedd yn agored gynnes a hael. Gwn fod Aelodau mewn pleidiau eraill wedi gweld hynny hefyd. Roedd yn hael mewn cynifer o ffyrdd a chyda chynifer o bobl, ac roedd hefyd yn beth prin mewn gwleidyddiaeth: rhywun na siaradai yn wael am eraill, na allai gasáu, a welai mewn gwleidyddion eraill o bob plaid ymrwymiad ar y cyd i gyflawni dros eu cymunedau a'u hetholaethau. Gwn y caiff y galar a wynebwn yn y grŵp Ceidwadol yn y Senedd hon ei deimlo gan bobl eraill ac mewn lleoedd eraill. Roedd yn gofalu mor angerddol am y bobl yr oedd yn eu cynrychioli, a gallech weld ei angerdd bob dydd yn ei gyfraniadau yn Siambr y Senedd. Roedd ei ymrwymiad i'w etholwyr yn ddi-ail.

O'm rhan i, bydd gennyf atgofion bob amser o ymgyrchu gydag ef ar draws Casnewydd. Roedd hi'n bleser ymgyrchu gydag ef—bob amser yn gadarnhaol gyda gwên fawr ar ei wyneb, ac yn barod i gwrdd â phobl. Ymddangosai ei fod yn adnabod pawb yn ddiwahan, ac felly roedd ymgyrchu o amgylch Casnewydd gydag Oscar bob amser yn bleser—gan aros i siarad ag unrhyw un a ddaeth heibio i ni. Roedd yn hoff iawn o fod allan yn y gymuned, yn siarad â phobl ac yn gwrando ar eu pryderon, ac er gwaethaf y beirniaid a'r polau piniwn, roedd yn benderfynol o droi Dwyrain Casnewydd yn las. Efallai na fydd gyda ni yn bersonol yn yr etholiad nesaf, ond gallwch fod yn sicr y bydd ei ysbryd yno gyda ni ar bob rhawd o amgylch y ddinas ac wrth bob drws yr ydym yn curo wrtho.

Llywydd, roedd unrhyw un a oedd yn adnabod Oscar yn gwybod ei fod yn frwd dros griced. Ymgyrchodd er mwyn i Gymru gael ei thîm criced ei hun, a cheisiodd yn galed i'r Senedd gael ei thîm ei hun hefyd. Ond, uwchlaw popeth, roedd Oscar yn ddyn teulu ymroddedig, a oedd wedi dotio'n llwyr ar ei wraig, Firdaus, a'i ferch, Natasha. Ni siaradodd yr un aelod arall yn y fan yma erioed am ei deulu mor gynnes neu mor rheolaidd—carai'r ddwy ohonynt yn fawr. Mae ein meddyliau gyda nhw nawr wrth iddyn nhw droedio llwybrau bywyd heb eu gŵr a'u tad annwyl. Maen nhw yn dioddef colled enfawr, a dywedwn wrth y ddwy heddiw ein bod i gyd yma i chi, i'ch cefnogi mewn unrhyw ffordd y gallwn ni.

Mae rhywbeth yn arbennig o dorcalonnus ynglŷn â heddiw. Nid ein bod wedi dod ynghyd i alaru, ac rydym ni wedi gwneud hynny yn rhy aml yn ystod y blynyddoedd diwethaf; ond bod yn rhaid i ni alaru mewn ffordd mor annynol. Efallai bod cynhesrwydd i'n geiriau, ond ni all ein hymwneud â'n gilydd fod felly. Roedd Oscar yn gyfaill mor serchog—braich ar yr ysgwydd, ysgwyd llaw cynnes a chafodd rhai pobl hyd yn oed gwtsh. Nid yw eistedd yma heddiw mewn corneli pell lle na allwn ni roi cwtsh i'r rhai sy'n brifo ac yn galaru yn brofiad hawdd. Dyma ni mewn blychau ar sgrin; nid yw'n naturiol, nid yw'n ddynol, ac roedd Oscar yn un o'r rhai mwyaf naturiol a dynol ohonom ni i gyd. Ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, gwnaf yr addewid hwn i Firdaus a Natasha: byddwn yn anrhydeddu eich gŵr a'ch tad am byth, ac, wrth inni alaru a thrwy ein gweithredoedd wrth eich cefnogi, byddwn yn dangos cymaint yr ydym yn ei anrhydeddu. Ni fyddai wedi bod eisiau dim llai na hynny, a dyna y bydd ef a chithau yn ei gael. Diolch.

12:35

Llywydd, diolch. Bu'r pumed tymor hwn o ddatganoli yn arbennig o greulon o ran colli cynifer o Aelodau, yn y gorffennol a'r presennol. Ym mywyd ifanc o hyd y Senedd hon, mae marwolaeth aelod yn brofiad sy'n ein taro'n galed bob tro yr ydym yn ei wynebu. Nawr, am y trydydd tro, rydym ni wedi colli cyd-Aelod o'r Senedd a etholwyd gyda ni yn 2016.

Daeth dau atgof i mi yn syth am Mohammad Asghar pan gefais wybod am ei farwolaeth sydyn ddoe, ac rwyf eisiau dal sylw arnyn nhw gyda chi heddiw wrth inni gofio ei gyfraniad i'r Senedd hon ac i fywyd gwleidyddol yng Nghymru.

Y cyntaf oedd ei bresenoldeb diflino mewn digwyddiadau i nodi a dathlu cyfraniad cymunedau lleiafrifol yng Nghymru. Bydd y rheini ohonom ni sy'n cynrychioli etholaethau sydd â phoblogaethau bywiog o bob cwr o'r byd yn gwybod nad yw hi byth yn hir cyn cael gwahoddiad i gymryd rhan mewn digwyddiad o'r fath. Ac roeddwn i'n credu fy mod yn bur dda am fynychu'r dathliadau diwylliannol hynny, ond roedd Oscar yn rhagori. Ble bynnag a phryd bynnag y gofynnwyd iddo gymryd rhan, boed hynny yn gwneud araith neu'n dyfarnu medal, roedd yno. Ac roedd ei bresenoldeb o arwyddocâd gwahanol, oherwydd roedd yno i ddangos fod rhywun oedd wedi cyrraedd Cymru o gyfandir gwahanol wedi gallu gwneud bywyd llwyddiannus yma, hyd at gynrychioli ei ranbarth yn y Senedd hon. Bydd colled fawr ar ei ôl yn y fan yma, ond bydd colled ar ei ôl mewn ffordd wahanol, oherwydd yn y lleoedd hynny, roedd ei yrfa yn symbol o rywbeth llawer ehangach.

Yr ail atgof a ddaeth imi'n syth oedd sefyll yn y lifft ar y ffordd i'r Senedd, gan fynd a dod o'r Siambr. A oeddem ni'n sôn am yr agenda y diwrnod hwnnw? A oeddem ni'n poeni am gwestiynau yr oeddem ni wedi'u gofyn neu wedi'u hateb? Nac oeddem. Fel y dywedodd Paul Davies, buom yn siarad bob amser am griced, diddordeb digyffelyb. Oscar oedd yr unig aelod arall o'r Senedd y gallwn ddibynnu arno i wybod am y sgoriau mewn gemau o amgylch y byd, techneg—neu ddiffyg techneg—y chwaraewyr allweddol, a rhagolygon y gwahanol dimau, yn lleol ac yn genedlaethol, ac, wrth gwrs, wastad yn ddieithriad, i glywed am yr angen dybryd am dîm criced i gynrychioli Cymru.

Llywydd, llawenydd democratiaeth yw ei bod yn 'sgubo pob un ohonom ni i'r Senedd o'n cefndiroedd a'n profiadau gwahanol iawn, i gynrychioli amrywiaeth enfawr Cymru. Gwnaeth Mohammad Asghar ei gyfraniad i'r amrywiaeth honno drwy gyfuno'r personol a'r gwleidyddol, mewn modd a oedd yn unigryw iddo ac y bydd colled unigryw ar ei ôl. Mae ein meddyliau heddiw, wrth gwrs, gyda'i deulu a'i ffrindiau.  

12:40

Diolch, Llywydd. Ar ran Plaid Cymru, a gaf i gydymdeimlo'n ddwys iawn â theulu Oscar—â Firdaus, Natasha—ac â ffrindiau a chyd-Aelodau yn y Senedd, yn enwedig ar feinciau'r Ceidwadwyr? Roedd Oscar yn hael a hawddgar o'i gorun i'w sawdl—yn wleidydd annibynnol mewn sawl ffordd; yn gymeriad neilltuol na ellid byth ei gynnwys o fewn cyfyngiadau unrhyw blaid. Roedd yn perthyn i bob un ohonom ni mewn gwahanol ffyrdd ar wahanol adegau.

Nid oedd gwleidyddiaeth erioed yn ymwneud ag ideoleg i Oscar. Roedd yn batrwm o berson pobl, yn fwy na gwleidydd confensiynol mewn unrhyw ystyr. Canolbwynt ei fyd oedd ei deulu. Yn wir, oherwydd ei ferch Natasha yr ymunodd â Phlaid Cymru am y tro cyntaf. Roedd Natasha wedi ysgrifennu at y gwahanol bleidiau yn gofyn am gyfleoedd profiad gwaith. Ymatebodd Jocelyn Davies, a mwynhaodd Natasha y profiad gymaint nes iddi gael wythnos ychwanegol. Creodd hyn gymaint o argraff ar ei thad serchog nes iddo wahodd Jocelyn ac Ieuan Wyn Jones i'w gartref yng Nghasnewydd, gyda'r croeso yn ymgorfforiad o'i gynhesrwydd a'i letygarwch nodweddiadol. Fel y mae Ieuan Wyn yn adrodd, ni fyddech chi byth yn gadael cartref Oscar heb stumog lawn. Fe'm hatgoffwyd o'r haelioni hwn drwy brofiad personol flwyddyn neu ddwy yn ôl, pan oedd Ieuan a minnau'n sgwrsio yng nghaffi'r Senedd. Wrth i Ieuan gerdded tuag at y cownter, rhuthrodd Oscar tuag at y weinyddes gan weiddi, 'Fi sy'n talu', gan fynnu prynu paned o de bob un i ni.

Roedd y ffydd Islamaidd, fel yr ydym ni wedi clywed, yn hanfodol i Oscar—Mwslim ymroddedig a'r cyntaf i eistedd yn ein Senedd. Roedd ganddo gysylltiadau cryf â'r gymuned Fwslimaidd ehangach, ac nid oedd erioed yn hapusach na phan oedd yn creu cysylltiadau, yn adeiladu pontydd, yn agor drysau. Diolch i Oscar, Ieuan oedd arweinydd cyntaf Plaid Cymru i annerch y mosg yng Nghasnewydd. Ond, roedd Oscar yn parchu pob ffydd. Yn fuan gwahoddodd Ieuan yn ôl i annerch cyfarfod o'r blaid yng Nghasnewydd mewn adeilad sy'n cael ei redeg gan y gymuned Gatholig, a phan wnaeth Ieuan sylw am hyn, ymatebodd Oscar, 'Iesu yw un o'n proffwydi ni hefyd.'

Pan oedd hi'n adeg etholiad, nid oedd Oscar mewn gwirionedd yn canfasio, ei ddull oedd galw ar bobl, siarad â phawb, gan wybod pwy oedd pawb, fel y clywsom ni, a chymryd yn ganiataol eu bod i gyd wedi pleidleisio drosto. Byddai gofyn y cwestiwn hyd yn oed wedi bod yn ddiraddiol ac yn ddiangen. Roedd yn adnabod Casnewydd fel cefn ei law ac yn ei charu'n serchog. Roedd mor falch pan aethom â chynhadledd ein plaid yno.

Roedd ei gariad at ei famwlad yn ddwfn hefyd. Ymunodd Ieuan ag Oscar ar ymweliad â Phacistan yn 2005, gan ymweld ag Islamabad a Kashmir. Byddai wedi bod yn brawf llym ar Oscar petai tîm criced Cymru, yr oedd yn ymgyrchu'n angerddol drosto, wedi wynebu ei annwyl Bacistan. Roedd Oscar yn arbennig o agos at Ieuan bryd hynny. Rwyf wedi gweld cyfeiriadau ato yn hebrwng Ieuan mewn awyren yn ystod ymgyrch 2007, gan wneud defnydd da o'i drwydded beilot. Fel cyfarwyddwr yr ymgyrch, rwy'n credu na fyddwn i wedi gwybod am hyn pe bai wedi digwydd, ond byddai'n dda gennyf i petawn i wedi cael y syniad ar y pryd.

Cofiaf yr adeg yr ymddangosodd wyneb Oscar ar y teledu wrth i'r wawr godi ar fore 4 Mai 2007 wrth iddo gael ei ethol ar restr Dwyrain De Cymru. Roedd yn adeg emosiynol mewn cymaint o ffyrdd. Testun balchder mawr oedd bod ein plaid wedi sicrhau yr Aelod du a lleiafrif ethnig cyntaf o'r Senedd, a gwyddwn fod ei ethol hefyd yn golygu y byddem yn llywodraethu am y tro cyntaf mae'n debyg, er yn ystod y dyddiau a'r wythnosau dilynol, cafwyd trafodaeth ddofn o fewn y blaid ynglŷn â sut ac, yn fwy arbennig, gyda phwy.

Roedd gan Oscar ddawn o dorri drwy'r niwl a chrisialu syniad mewn ymadrodd lliwgar. Pan fethodd y glymblaid enfys ac y daeth cynnig o gydweithrediad gan y Blaid Lafur, roedd rhai yn amau a oedd hyn yn ddilys. Ar amrantiad, ymatebodd Oscar, 'os nad ydyn nhw'n mynd i ymweld, pam gofyn am y cyfeiriad?' A phan ddaeth Cymru'n Un i'r amlwg fel posibilrwydd gwirioneddol, cefnogodd Oscar y syniad yn frwd, gan ddweud wrth Ieuan, 'Os na allwch chi fod yn frenin, yna rhaid i chi fod yn dywysog coronog.'

Mae digwyddiadau 2009 yn amser maith yn ôl. Roeddem yn drist o golli Oscar fel aelod, yn amlwg, ond er bod teyrngarwch yn esblygu, mae cyfeillgarwch yn parhau. Roedd Oscar yn perthyn i bob un ohonom ni, yn gyntaf Llafur, yna Plaid, ac yn fwy diweddar y Ceidwadwyr. Cawsom i gyd y pleser o rannu ei garedigrwydd a'i hiwmor iach. Mae'r tymor Senedd hwn, fel y dywedodd y Prif Weinidog, wedi gweld rhai o'r dyddiau tywyllaf y gall y rhan fwyaf ohonom eu cofio, a byddwn yn colli goleuni ei wên a gras ei enaid. Roedd ei fywyd yn symbol o'r gwirionedd parhaol hwnnw: sef, ar lefel ddynol, fod yr ysbryd sy'n cysylltu ac yn clymu pob un ohonom ni yn fwy na phob rhaniad.  

12:45

Fel Aelod dros Ddwyrain De Cymru, rwy'n myfyrio heddiw, ar ôl Steffan a nawr Oscar, fod dau o'r tri aelod y cefais fy ethol gyda nhw bedair blynedd yn ôl bellach wedi marw. Safodd Oscar dros wlad, cymuned ac etholwyr, o leiaf yn fy mhrofiad i. Cafodd ei eni yn yr ymerodraeth Brydeinig, daeth i Gymru, i'r Deyrnas Unedig, ac roedd yn wladgarwr, ond gyda dealltwriaeth gynnil o'n presennol a'n gorffennol. Un peth rwy'n ei golli am beidio â chyfarfod yn y Siambr ac yn gorfforol yw methu, drwy air bach wrth fynd heibio neu sgwrs hamddenol, gweld beth oedd barn Oscar am ddigwyddiadau'r wythnosau diwethaf ac i ddeall ei safbwynt penodol ef.  

Pan ymunais â grŵp y Ceidwadwyr, cerddodd Oscar gyda mi tuag at fy nghyfarfod grŵp cyntaf. Gofynnodd i mi a oeddwn yn hoffi'r Frenhines, ymatebais, oeddwn, fy mod i, a dywedodd fod hynny'n dda oherwydd un o'r rhesymau yr oedd wedi ymuno â'r Ceidwadwyr oedd eu cefnogaeth i'r frenhiniaeth. Roedd hi'n dipyn bach o siom i mi wedyn yn y cyfarfod na wnaeth Andrew R.T. ddechrau drwy sefyll a'n harwain yn yr anthem genedlaethol. Rwy'n credu bod ymrwymiad Oscar i'n sefydliadau yn rhywbeth nad yw mor ffasiynol nawr ag y bu yn y gorffennol, efallai, ond roedd ffydd Oscar yn ein gwlad a'n sefydliadau yn eithaf rhyfeddol.

Un digwyddiad cymunedol yr wyf yn ei gofio; cawsom ddigwyddiad gyda Chyllid a Thollau ei Mawrhydi, a'u swyddfeydd newydd y byddent yn eu hagor yng nghanol Caerdydd, ac roedd nifer o Aelodau'r Cynulliad, fel yr oedd bryd hynny, a Senedd San Steffan hefyd yn bresennol. Soniodd un arolygydd treth am ei ymagwedd a'i sensitifrwydd a'i bwyslais arbennig, weithiau, yn ymdrin â chymunedau penodol efallai am fod cyflogaeth wedi'i chrynhoi mewn ardal benodol, a chofiaf Oscar yn ateb ei fod yn cymryd na fyddai sylw arbennig i Fwslimiaid yng Nghasnewydd am nad oedd unrhyw gymuned a oedd yn fwy didwyll, yn fwy elusennol, nac yn fwy brwdfrydig i dalu eu trethi. Yna dywedodd, rwy'n credu, er mwyn cael cydbwysedd, ei fod yn gobeithio, hefyd, nad oeddent yn sôn am gymunedau dwyrain Ewrop, llawer ohonynt wedi eu magu o dan unbenaethau neu wedi gweld llygredd yn eu gwlad flaenorol, ac fel yntau, yn credu yn sefydliadau'r wladwriaeth Brydeinig ac yn talu eu trethi ac yn gwneud y peth iawn.

Rwy'n credu bod Oscar wedi gallu siarad yn gyffredinol am gymunedau ac am grwpiau mewn ffordd y byddai llawer ohonom yn osgoi. Ond rwy'n credu ei fod yn gallu gwneud hynny gan mai dim ond da a welai mewn eraill a byddai'n siarad, bob amser, am bethau cadarnhaol cymunedau penodol. Credaf nad oedd ganddo feddwl drwgdybus arolygydd treth, efallai, ac, fel cyfrifydd, efallai ei fod wedi cynrychioli ei gleientiaid, ac ni allai weld drwg mewn pobl eraill, ac roedd hynny, rwy'n credu, yn rhan greiddiol o'i fodolaeth a phwy ydoedd.

Yn olaf, cofiaf y pwyslais penodol a roddodd Oscar ar ei etholwyr. Yn aml yn ystod y cwestiynau yn y Siambr, byddai'n siarad, weithiau'n faith ac weithiau'n fanwl, am achosion etholwyr penodol a oedd wedi dod ato. Ac ni chafodd wrandawiad astud bob amser, ac mae llawer ohonom ni, rydym yn gyfarwydd ag achosion yn ein hetholaeth, ond nid ydym o anghenraid yn manylu nac yn siarad amdanynt yn ystod y cwestiynau yn y ffordd a wnâi ef. Ac ni chai ganlyniad bob tro, ond yn enwedig tra oeddwn yn aelod o'r grŵp Ceidwadol, ac yn enwedig fel Aelod rhanbarthol, pan fyddai pobl yn dod atom ni pan nad oedd Aelod etholaeth wedi gallu cynorthwyo, ac roedd llawer o'r achosion hynny'n anodd, ac yn aml ni allem ni gael canlyniadau. Ond weithiau, cafodd Oscar ganlyniadau am iddo godi'r achosion hynny yn y Siambr, oherwydd gwnaeth argraff ar y Gweinidog, ac yn hytrach na chael swyddog i ymdrin â'r mater, cafodd Weinidog i roi sylw arbennig iddo a thrwy hynny, cafwyd canlyniad i'w etholwyr. Roeddent yn ffodus i'w gael. Rydym yn cydymdeimlo â'i deulu, â Firdaus ac â Natasha. Oscar, bydd pob un ohonom yn eich colli. Gorffwyswch mewn hedd. 

12:50

Mae hwn yn wir yn ddiwrnod trist arall yn hanes y Senedd hon. O, beth allaf ei ddweud am fy nghyfaill Mohammad Asghar? Mae'n anodd credu ei fod wedi mynd.

Deuthum i adnabod Oscar yn iawn gyntaf ar y Pwyllgor Cyllid—ar daith, mewn gwirionedd, ar ymweliad â Sweden yn ôl oddeutu 2009, rwy'n credu oedd hi. Daethom yn gyfeillion dros baned o de mewn lobi gwesty. Roedd Oscar yn hoff o'i de. A dweud y gwir, roedd yn yfed llawer iawn ohono y rhan fwyaf o'r amser, fel y cofia llawer ohonoch o amseroedd egwyl a dreuliwyd gydag ef yn ystafell de'r Aelodau, pan gâi debot mawr o de ei archebu, ei lenwi'n gyson, a byddai'r straeon yn llifo, ynghyd â chynnwys y tebot.

Roedd Oscar wedi byw bywyd llawn a diddorol. Cafodd ei eni yn Peshawar yn yr hyn a oedd bryd hynny yn India Brydeinig yn 1945, ei atgofion cyntaf oedd o'r ymraniad, ac arhosodd ei atgofion am y cynnwrf a'r aflonyddwch a ddilynodd gydag ef gydol ei oes ac roeddent yn allweddol yn ffurfio ei farn yn ddiweddarach mewn bywyd. Meddyliai fod yr ymraniad yn gamgymeriad; credai y dylai pobl wastad wneud eu gorau i ganfod tir cyffredin. 'Dylem bob amser ganolbwyntio ar yr hyn sy'n ein huno yn hytrach na'r hyn sy'n ein rhannu'—dywedodd Oscar hynny wrthyf yn gyson.

Dros y blynyddoedd, daeth yn gyfaill personol, daeth yn gyfaill i'r teulu, ac nid oedd terfynau i'w lawenydd pan fu i Jen a minnau ddyweddïo a phriodi, ac yn ddiweddarach, pan anwyd ein mab James. Teimlais yn aml fy mod yn siarad â rhiant neu dad, yn hytrach na chyfaill pan siaradwn ag Oscar. Pan oeddem ni'n priodi, cynigiodd hyd yn oed i yrru'r car priodas, ac rwy'n credu y byddai wedi fy nghludo mewn awyren i'r eglwys, pe bawn i wedi dymuno iddo wneud hynny.

Daw hyn â mi at ffeithiau llai hysbys am fywyd Oscar. Maent yn ei gynnwys yntau'n cludo'r ffagl Olympaidd ar draws India cyn Gemau Olympaidd 1964 yn Tokyo. Doeddwn i ddim yn credu'n hollol nes iddo ddangos llun du a gwyn hen iawn o Oscar iau yn dal y ffagl gyda balchder. Cafodd drwydded beilot, fel y mae eraill wedi sôn. Dywedodd wrthyf unwaith fod ei frodyr yn awyrlu Pacistan. Ni allai unrhyw un a fu'n ymweld â chartref Oscar a Firdaus yng Nghasnewydd ond sylwi a gorfod ffeindio'u ffordd o amgylch model o Concorde enfawr a oedd yn ganolbwynt ei ystafell fyw. Roedd wrth ei fodd yn hedfan. Ni ddilynodd ei deulu i'r maes hwnnw'n broffesiynol, byddai ei fywyd yn mynd ar drywydd gwahanol, byddai'n dod ag ef i Gymru, byddai'n dod ag ef i mewn i wleidyddiaeth.

Roedd Oscar yn falch o fod yn aelod o'r Senedd hon, ac fel cyfrifydd, roedd yn hollol o ddifrif ynghylch ei swyddogaeth ar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus. Yn wir, ef oedd un o'i Aelodau mwyaf hirhoedlog, a bydd hiraeth mawr gennyf i, aelodau'r pwyllgor a gweddill y tîm clercio ar ei ôl fel Cadeirydd.

Roedd Oscar yn ddyn o ffydd, yn Fwslim Prydeinig balch a oedd yn caru ac yn parchu pob ffydd, ac roedden nhw'n ei barchu yntau. Roedd yn arbennig o agos at Fwslemiaid Ahmadiyya a phan ofynnais iddo pam oedd hynny, dywedodd wrthyf unwaith, pan gafodd ei eni, roedd ei fam wedi bod yn sâl ac wedi methu â gofalu amdano, a daeth mam o'r ffydd Ahmadiyyaidd i'r adwy a gofalu amdano yn y dyddiau cyntaf hynny pan na allai hi. Gweithred o gariad ydoedd nad anghofiodd erioed, a thrwy gydol ei oes, roedd bob amser yn cefnogi'r Ahmadiyyaid. Rhywbeth am Oscar oedd hynny—roedd wastad yn cofio tro da, ac roedd wastad yn ad-dalu'r gymwynas yn hael.

Mark Reckless a soniodd, rwy'n credu, ei fod yn frenhinwr balch, ac yr oedd. Cofiaf yn agoriad swyddogol y Cynulliad yn 2007, ei fod yn awyddus iawn i gyfarfod â'r Frenhines, a phan wnaeth hynny, roedd yn eithaf clir ei fod wedi cwrdd â hi o'r blaen, ac wrth iddynt ymgomio, daeth yn amlwg ei bod yn sicr yn ei gofio ac yn ei adnabod. Roedd yn rhychwantu pob haen o gymdeithas. Gallai siarad â phobl o bob cefndir; roedd yn cyd-dynnu â nhw, a hwythau'n cyd-dynnu ag yntau.

Mae heddiw yn ddiwrnod anodd i bob un ohonom ni a oedd yn adnabod Oscar ac yn ei ystyried yn gyfaill, ac yn gyfaill agos. Wrth gwrs, mae'n arbennig o anodd i Firdaus, Natasha a'i deulu, ac rydym yn cydymdeimlo â nhw yn arbennig heddiw. Mae gan yr Ahmadiyyaid Mwslemaidd ddywediad, 'Cariad at bawb, casineb at neb.' Wrth inni gofio am ein cyd-Aelod a'n cyfaill Mohammad Asghar, gadewch inni gofio'r dywediad hwnnw hefyd. Gadewch inni bob amser adeiladu ar yr hyn sy'n ein huno, yn hytrach na'r hyn sy'n ein gwahanu, a boed i hynny fod yn waddol Oscar.

12:55

Cyfarfûm ag Oscar gyntaf pan ymunodd â gwleidyddiaeth rheng flaen yng Nghasnewydd yn gynghorydd dinas Casnewydd ar gyfer ward Victoria, gryn flynyddoedd yn ôl bellach. Bryd hynny, roedd mewn gwirionedd yn braenaru'r tir fel cynghorydd Mwslimaidd, a, diolch byth, ers hynny, mae aelodau eraill o'r gymuned wedi dilyn ei esiampl. Nid oes gennyf amheuaeth nad oedd ei bresenoldeb, ei amlygrwydd ar yr awdurdod yn allweddol yn nealltwriaeth yr aelodau eraill hynny o'r cymunedau lleiafrifoedd ethnig lleol y gallen nhw hefyd gynrychioli Casnewydd ar gyngor y ddinas. Roedd yn anogaeth iddyn nhw gymryd rhan mewn gwleidyddiaeth rheng flaen mewn gwahanol bleidiau, a hyfrydwch yw gweld y gynrychiolaeth amrywiol sydd gennym ni ar Gyngor Dinas Casnewydd heddiw. Gwn y byddai llawer ohonyn nhw yn cydnabod pa mor ddyledus y maen nhw i Oscar yn hynny o beth.

Wrth gwrs, fel Aelod Cynulliad ac aelod o'r Senedd, unwaith eto, dangosodd Oscar i aelodau o'n cymunedau lleiafrifol ethnig yng Nghymru y gallent ymgyrraedd at gynrychiolaeth a gwleidyddiaeth gynrychioliadol yn ein Cynulliad ar y lefel honno, yn ein Senedd ni, fel y mae yn awr. Pryd bynnag y gwelais Oscar mewn digwyddiadau lleol yng Nghasnewydd, byddai'n codi materion o bwys i'n cymunedau amrywiol. Roedd yn gyson iawn yn hynny. Yn amlwg, roedd ganddo ddiddordeb mewn llawer o faterion eraill hefyd, ond roedd bob amser yn ymwybodol o'i swyddogaeth o ran deall y cymunedau hynny, ei berthynas barhaus a'i gysylltiadau â nhw, a'r cyfrifoldeb yn benodol a roddai hynny iddo i ddeall y materion hynny ac i'w codi pryd bynnag y bo hynny'n bosib ac yn briodol. Ni wnaeth erioed osgoi'r cyfrifoldeb hwnnw.

Ond roedd hefyd yn frwd iawn dros gysylltiadau rhyngwladol, nid yn unig gyda Phacistan, ond ledled y byd. Byddai'n aml yn trafod gyda mi sut yr ydym wedi meithrin y cysylltiadau hynny'n lleol yn ogystal ag ar lefel Cymru. Pan oeddwn yn ymwneud â changen y Cynulliad o Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad, roedd Oscar bob amser yn awyddus i ddeall y materion yr oeddem yn ymwneud â nhw ar unrhyw adeg benodol, ac i gyflwyno syniadau ynghylch sut y gallem ni ehangu ein swyddogaeth a'r cysylltiadau yr oeddem yn eu creu, a'r agweddau rhyngwladol ar Gymru a'r Cynulliad yn gyffredinol.

Ond o ran sgyrsiau lobïo gydag Oscar, fel y mae eraill wedi sôn, cofiaf yn dda am ei angerdd dros griced, oherwydd pan oeddwn yn Weinidog chwaraeon cefais fy lobïo'n ddi-baid gan Oscar ynglŷn â Chymru'n cael ei thîm criced ei hun, a'r holl fanteision a fyddai'n deillio o hynny, a phan nodais rai o'r anawsterau posib, ni roddodd fawr o goel ar y rheini o gwbl—roedd mor angerddol ynghylch criced a Chymru'n creu hunaniaeth fwy nodedig. Yn wir, chwaraeodd Oscar ar ran ein tîm criced yn y Cynulliad, oherwydd cawsom ychydig o gemau dros y blynyddoedd, a buom yn chwarae un, mewn gwirionedd, yng Ngerddi Soffia, a chymerodd Oscar ran. Rwy'n credu ei fod yn droellfowliwr llaw dde, fel y cofiaf, ac roedd yn sicr yn fowliwr brwd, ac roedd yn awyddus i fy ngoleuo am gampau criced ei ieuenctid, pan oedd ei alluoedd hyd yn oed yn fwy nag yr oeddent ar yr achlysur hwnnw yng Ngerddi Soffia.

Felly, rwy'n credu, unwaith eto, fel y mae eraill wedi'i ddweud, rydym yn cofio Oscar fel cymeriad go iawn. Roedd yn aelod o'r Blaid Lafur ar un adeg. Aeth i bleidiau gwleidyddol eraill. Mewn rhai ffyrdd efallai ei fod yn fwy nag aelodaeth o unrhyw deulu gwleidyddol. Roedd yn gymeriad go iawn, ond gwn, ym mha blaid bynnag yr oedd Oscar ar adeg benodol, ei fod yn falch iawn, iawn fel cynrychiolydd gwleidyddol rheng flaen, ar Gyngor Dinas Casnewydd ac yn y Cynulliad ac yna yn y Senedd. Rydym yn cofio am ei deulu yn anad dim ar y diwrnod trist iawn hwn.

13:00

Roedd yr haul yn tywynnu'n eiriasboeth ar grŵp ohonom ni a oedd wedi mynd i ymweld ag Israel a Phalesteina, ac roeddem ni'n sefyll ar do yr Hosbis Awstriaidd yn Jerwsalem, ac roeddwn yn sgwrsio ag Oscar a chwifiodd ei freichiau o gwmpas, fel y gwnâi yn aml, a dywedodd, 'Edrycha, Angie—dacw Fynydd y Deml a Mosg Al-Aqsa, a draw yn y fan yna y Beddrod Sanctaidd, a dacw'r Wal Orllewinol a Mynydd yr Olewydd. Rydym ni i gyd yma. Gallwn fyw gyda'n gilydd. 'Fe wnaethom ni siarad mwy, ond rwy'n dweud y stori hon i ddangos yr hyn yr oeddwn yn teimlo oedd hanfod Oscar. Roedd ganddo gariad enfawr at ddynoliaeth, a chariad arbennig at ei wraig Firdaus a'i ferch Natasha. Erbyn i ni orffen ein taith, Oscar oedd yr un a wyddai enwau'r gyrwyr a'r clochweision, lle yr oedden nhw'n byw a'u straeon teuluol. Pa un a oedd yn siarad â llysgennad neu werthwr stryd, roedd ganddo ddiddordeb ynddyn nhw, ac roedden nhw'n gwybod hynny, roedden nhw yn ei synhwyro. Oherwydd bod Oscar wastad yn ceisio dod â phobl at ei gilydd. Roedd yn angerddol ynghylch pontio'r bylchau rhwng Pacistan ac India, dod â Mwslimiaid a Christnogion ac Iddewon at ei gilydd, uno pobl â ffydd a phobl heb ffydd. Roedd yn ddoniol ac yn gynnes, yn hynod wleidyddol anghywir ar brydiau, ac roedd yn caru ei wlad a'i wledydd. Roedd yn anhygoel o falch o fod yn Gymro ac yn Brydeiniwr, i fod yn Fwslim, yn ŵr ac yn dad. Roedd ganddo gredo a charisma. Gallai fod yn gynhyrfus ac yn barablus, ond hefyd yn ystyriol ac, yn anad dim, yn eithriadol o garedig. Roedd yn ddyn llawen, balch a duwiol a hoffai chwerthin; un a oedd, fel y dywedodd Nick eisoes, yn prynu paneidiau di-ben-draw i bawb; yn pefrio o syniadau, o'r mawr i'r gwirioneddol ofnadwy; ac roedd yn arch-negodwr. Ym Mrwsel, dechreuodd siarad â gwraig rewllyd iawn a oedd yn gwerthu'r ffrogiau mwyaf godidog i ferched bach, i gyd wedi'u creu â llaw a'u brodio'n brydferth. Wrth i ni bori'r strydoedd, dywedodd wrthyf heb wamalu y dylai fy merched gael y rhain. 'Dim peryg', dywedais. Roeddent yn frawychus o ddrud ac roedd Madame yn ein trin gyda llawer o rolio llygaid ac edrychiadau diamynedd. Afraid dweud bod Oscar wedi ei hudo'n llwyr, a gadewais gyda dwy ffrog odidog, nad oeddent bellach yn arswydus o ddrud ac sydd, ar ôl cael eu gwisgo am nifer o hafau, wedi ymuno â thrysorau eraill mewn hen flwch pren camffor gartref.

Yn y byd hwn yr ydym yn byw ynddo, rhaid i chi ofyn i chi'ch hun: ydych chi'n mynd i felltithio'r tywyllwch neu oleuo cannwyll? Ac roedd Oscar yn goleuo canhwyllau ymhobman yr aeth. Mae ei oleuni yn parhau i ddisgleirio, ac i Firdaus a Natasha, ni allaf ond dweud yn syml, os yw cariad yn cael ei fesur mewn modfeddi, rydych chi'n sefyll ar y talaf o fynyddoedd, ac mae'n ddrwg gennyf am eich colled. Tangnefedd a fo gyda chi.  

13:05

Mae plac glas amlwg ar wal cartref dirodres yng Nghasnewydd yn darllen fel a ganlyn: 'Mohammad Asghar, ganwyd 30 Medi 1945, aelod o Gynulliad Cymru, cyfrifydd a pheilot, yma'n byw ers 1994.' A byddai'r rhai sydd wedi ymweld â chartref y teulu Asghar yn gweld yn fuan bod Oscar yr holl bethau hynny a ddisgrifiwyd ar y plac hwnnw ond ei fod hefyd yn llawer mwy.

Roedd yn ŵr ffyddlon i Firdaus, ac yn dad cariadus i'w ferch, Natasha, ac fe garai'r ddwy yn fawr ac fe siaradai amdanynt yn aml iawn. Roedd yn ddyn o ffydd, haelioni a gonestrwydd mawr. Ac roedd e, os yw'n bosib bod yn hyn, yn ymgorfforiad perffaith o'r Gymanwlad. Ef oedd y deiliad mwyaf ffyddlon y gallai ei Mawrhydi y Frenhines erioed fod wedi gobeithio amdano.

'Mr Asghar' i rai, 'Oscar' neu 'Ewyrth Oscar' i eraill, ac i mi—cyfaill triw a chyd-Aelod gwerthfawr. O'r eiliad y buom yn mwynhau ein cyri cyntaf gyda'n gilydd yn ystod trafodaethau am ei ymuno â'r Ceidwadwyr Cymreig, daethom yn gyfeillion a thros y 13 mlynedd yr adwaenwn i Oscar, ni chawsom erioed air croes, sydd, fel y bydd y rhai ohonoch sy'n fy nabod yn tystio, yn dipyn o gamp. Fe wnaethom ni fwynhau llawer i sgwrs fynwesol ar faterion ffydd, teulu a gwleidyddiaeth. Roeddem ni'n teithio gyda'n gilydd, roeddem ni'n rhannu prydau gyda'n gilydd ac yn chwerthin llawer gyda'n gilydd.

Fel sy'n wir am aelodau eraill o'r Senedd hon, roedd rhai o'm hatgofion anwylaf am Oscar yn ystod ymweliad y Ceidwadwyr Cymreig â'r Wlad Sanctaidd. Nid oedd mwy o gefnogwr i Israel ac eiriolwr heddwch yn y dwyrain canol nag Oscar. Er ein bod ni ein dau yn dod o wahanol draddodiadau ffydd, gweddïodd Oscar a minnau'n gyda'n gilydd am heddwch Jerwsalem ger y Wal Orllewinol a gweddïo hefyd dros deuluoedd ein gilydd wrth i ni eistedd, fraich ym mraich a gyda dagrau yn ein llygaid, yn Eglwys Sant Pedr, sy'n sefyll ymhlith adfeilion tref Feiblaidd Capernaum, ar lannau Môr Galilea.

Yn ystod y daith honno, buom hefyd yn ymweld â thref Balesteinaidd fodern Rawabi, syniad yr entrepreneur enwog a'r Palesteiniad Bashar Masri. Roedd y grŵp wedi trefnu i gwrdd â Bashar mewn caffi chwaethus, a chadeiriwyd y cyfarfod gan Oscar. Gwnaeth waith rhagorol, aeth y cyfan yn rhyfeddol o dda, ac ar ôl y cyfarfod, aethom i gyd yn ôl i'r bws mini, a oedd yn aros i'n hebrwng i'n hapwyntiad nesaf. Ond fel yr oeddem ar fin gadael, fe sylweddolom ni fod rhywun ar goll. Ac ar ôl galw cofrestr, sylweddolom, fel sy'n digwydd yn aml, mai Mark Isherwood ydoedd. Edrychodd Oscar arnaf gydag awgrym o bryder ar ei wyneb, 'ble mae e?', gofynnodd. Ymatebais, 'Mae'n debyg ei fod yn egluro cymhlethdodau fformiwla Barnett a'r fframwaith cyllidol i Gymru i'r gweinydd Arabaidd, Oscar.' Ac wrth glywed hynny, dechreuodd Oscar chwerthin yn afreolus i'r graddau ei fod yn edrych fel plismon llon ar y promenâd mewn tref glan môr yng Nghymru. 

Roedd ei chwerthin, wrth gwrs, yn heintus ac erbyn i Mark Isherwood gyrraedd y bws mini o'r diwedd, roeddem i gyd yn sychu'r dagrau o'n llygaid. A dyna'r Mohammad Asghar, dyna'r Oscar, dyna'r cyfaill a chyd-Aelod y byddaf bob amser yn ei gofio. Felly, gyd-Aelodau, nid yw'r plac glas ar y tŷ bychan hwnnw yng Nghasnewydd yn gwneud unrhyw gyfiawnder o gwbl â'r Oscar yr oeddem ni i gyd yn ei adnabod. Gadewch i ni obeithio y bydd, yn y dyfodol, ryw fath o gofeb fwy addas, parhaol mewn man cyhoeddus amlwg i'r dyn mawr hwn a'r cyfraniad enfawr y mae wedi'i wneud i fywyd cyhoeddus Cymru.

13:10

Roedd Oscar bob amser yn gynnes iawn. Ar fy niwrnod cyntaf yn y Senedd, roeddwn yn cerdded gyda'r Llywydd ac fe wnaethom ni daro ar y grŵp Ceidwadol. Roedd pawb yn ysgwyd fy llaw, ond daeth Oscar yn syth ataf a rhoi cwtsh i mi. Bu'n gweithio'n agos, wrth gwrs, gyda dau o'm rhagflaenwyr, gyda Steffan Lewis, a weithiai yn ei swyddfa, a chyda Jocelyn Davies, a oedd yn gyd-Aelod rhanbarthol gydag Oscar. Neithiwr, dywedodd Jocelyn wrthyf am rai o'r storïau yr hoffwn eu rhannu â chi.

Yng nghyfrif 2007, roedd Jocelyn ac Oscar wedi mynd i'r llwyfan gyda'i gilydd ar gyfer y cyhoeddiad eu bod wedi eu hethol yn briodol. Roedd y Blaid Genedlaethol Brydeinig, mor druenus ydyn nhw, wedi aros yn yr ystafell am oriau er mwyn cerdded allan ar yr union adeg y cyhoeddwyd enw Oscar. Gwenodd Oscar drwyddi, a dywedodd Jocelyn fod ei gofleidio wrth i'r BNP gropian ymaith yn teimlo fel buddugoliaeth fach dros ragfarn a chasineb.

Fel y dywedwyd eisoes, roedd Oscar wedi ymrwymo i'w ffydd, a dywedodd Jocelyn wrthyf am dro arall yr aeth Dai Lloyd a Cynog Dafis i annerch mosg Casnewydd ar wahoddiad Oscar a Jocelyn. Daeth pob un ohonynt ar brynhawn dydd Gwener, ac ar y foment honno, gollyngodd Oscar yr ergyd mai dim ond y dynion fyddai'n cael mynd i mewn i'r mosg, a gofynnodd Jocelyn, 'Wel, ble fydda i?', ac atebodd Oscar, 'Yn fy nghalon i'. Fel y dywedodd Jocelyn neithiwr, llwyddodd hyd yn oed i dynnu'r pigiad o hynny, a deallaf ei fod mewn gwirionedd wedi perswadio'r mosg i ganiatáu iddi fynd i mewn hefyd.

Nid oedd Oscar gyda'r Blaid yn hir, ond bu'n gwasanaethu pobl Dwyrain De Cymru gydag ymroddiad, gyda'i syniadau ei hun a chyda brwdfrydedd bob amser. Mewn gwleidyddiaeth, fel mewn bywyd, nid yw'n gwneud y tro i fod yn chwerw. Yn 2016, yn y cyfrif pan gyhoeddwyd bod Oscar wedi cael ei ethol, y tro hwn, wrth gwrs, fel Aelod Ceidwadol, aeth at Jocelyn yr un fath a dweud, 'Diolch, bos.'

Rwyf am gloi gyda dywediad traddodiadol y Mwslimiaid ar glywed y newyddion am farwolaeth rhywun, 'Yn wir rydym yn perthyn i Dduw, ac yn wir ato Yntau yr ydym yn dychwelyd.'

Roedd clywed y newyddion ddoe fod Oscar wedi ymadael â ni yn hollol annisgwyl. Fel un a ddaeth i'r Cynulliad ar yr un pryd ag Oscar yn 2007, credaf y bu ein teithiau gwleidyddol yn sicr yn cydblethu ers hynny. A minnau wedi bod yn arweinydd am saith mlynedd o'r cyfnod yr oeddem gyda'n gilydd yn y Cynulliad, roedd y sylwadau a wnaeth Adam Price yn sôn amdano fel ysbryd rhydd gwleidyddol yn rhywbeth a arferai fy ngwneud yn chwithig braidd yn y Siambr, oherwydd yn aml iawn byddwn yn eistedd o'i flaen, a byddech bob amser yn gwybod pan oedd Oscar yn dechrau traethu pan ddywedai, 'Yr hyn ydyw— ', ac yna'n sydyn iawn, am dair neu bedair munud, byddem yn clywed athroniaeth wleidyddol Oscar, a oedd yn ddieithriad yn rhan o'i angerdd a'i ymrwymiad i wella bywydau pobl.

Gallai Oscar, fel fi, lurgunio'r Saesneg—gadewch i ni fod yn realistig am hynny—ac rwyf innau mor euog ag unrhyw un sy'n gwneud hynny i'r iaith Saesneg. Ond yr hyn a oedd gan Oscar mewn tomenni oedd angerdd ac ymrwymiad i wasanaeth cyhoeddus. Roedd yn credu mewn gwella bywydau pobl, credai mewn defnyddio ei brofiadau ei hun trwy fywyd, fel y clywsom ni yn y dystiolaeth heddiw gan Aelodau eraill, o ymrannu’r India bob cam i redeg busnesau, i gefnogi pobl yn eu ffydd ac yn awr eu hangen, a cheisio pontio'r rhaniad rhwng grwpiau gwleidyddol a grwpiau crefyddol. Roedd Oscar yn ymgorfforiad o was cyhoeddus da a graslon.

Rwy'n mentro dyfalu—gobeithio, pan fyddwn yn dychwelyd—y gallai cadw pellter cymdeithasol fod wedi bod yn her i Oscar, oherwydd ei fod yn un o'r bobl hynny a oedd wir eisiau rhoi ei freichiau amdanoch mewn ffordd gadarnhaol, pa un a oedd y felan arnoch a bod angen codi eich calon arnoch chi, neu dim ond rhyw fath o emosiwn gwirioneddol ynglŷn â rhywbeth yr oeddech chi wedi ei wneud. Rwy'n teimlo dros Natasha a Firdaus heddiw, a thros y dyddiau nesaf. Mae colli rhywun mor arbennig ac mor annatod o'ch teulu yn ergyd chwerw, chwerw. Ond yr hyn yr wyf yn ei obeithio'n angerddol yw, yn y dyddiau, yr wythnosau a'r misoedd nesaf, y bydd heulwen y llu o atgofion hapus a dymunol a fydd gennych chi ohono yn eich cysuro yn yr oriau tywyll hynny, oherwydd, fel ninnau yn Aelodau, byddwn ninnau hefyd yn cael cysur mawr o allu dweud ein bod yn gyfeillion, yn gyd-Aelodau ac yn gyd-gyfranogwyr yng Nghynulliad Mohammad Asghar. Ac rwy'n ei ystyried yn bleser ac yn fraint fawr o fod wedi treulio fy amser yn y Cynulliad ac wedi gallu galw Mohammad Asghar nid yn unig yn gyd-Aelod gwleidyddol, ond yn gyfaill. 

13:15

Gyda thristwch yr wyf yn siarad heddiw yn dilyn y newyddion am farwolaeth Mohammad Asghar. Anfonaf fy nghydymdeimlad diffuant a'm cariad at ei wraig a'i ferch annwyl yr oedd yn meddwl y byd ohonynt, a'i deulu estynedig a'i ffrindiau. Roedd Oscar yn falch iawn o gynrychioli de-ddwyrain Cymru yn y Senedd, ac roedd yn awyddus i weithio ar draws rhaniadau gwleidyddol gydag eraill er budd y cymunedau yr oedd yn eu cynrychioli. Roedd yn eiriolwr brwd dros gydlyniant cymunedol, yn annog pobl ifanc, a heb anghofio, fel y dywedwyd, dros dîm criced i Gymru.

Cofiaf, ychydig flynyddoedd yn ôl, roedd Oscar, John Griffiths a minnau mewn digwyddiad gyda Chyngor Ieuenctid Casnewydd. Siaradodd Oscar am yr heriau yr oedd wedi'u hwynebu a'i brofiadau amrywiol, o fod yn gricedwr lled-broffesiynol, peilot, cyfrifydd, a gwleidydd ymysg pethau eraill. Dywedodd wrth yr holl bobl ifanc hynny fod yr holl fyd o fewn eu gafael ac nad oedd dim na allen nhw ei wneud. Roedd bob amser yn gyfeillgar, yn barchus ac yn falch, bob amser yn gyflym yn dod o hyd i ochr ddoniol pethau a gwneud i bobl deimlo'n gartrefol. Bydd llawer o ffrindiau yma, yng Nghasnewydd, ac ar draws y de-ddwyrain yn ei golli.

Mae pawb yn cael dyddiau gwael, ond nid oedd Oscar yn un i adael i chi deimlo'n isel yn hir. Yn wir, byddai'n dda gennyf pe bai yma heddiw, mewn gwirionedd, oherwydd gallem wneud gyda'i gymorth i fynd drwy un o'n dyddiau gwaethaf, mi gredaf. Bob bore, pan oedd cyfarfod llawn, byddem yn cwrdd wrth y lifft a byddwn bob amser yn cael rhyw fath o gyfarchiad neu gwtsh, neu lysenw annwyl, a'r wên honno y byddech chi'n ei chael—na allech chi ei hanwybyddu, na allech chi, mewn gwirionedd? Rydym ni i gyd yn gwybod sut deimlad oedd hynny. Ac roedd yn amlygu'r haelioni hwnnw y mae cynifer o bobl eisoes wedi sôn amdano heddiw.

Ond, y tu hwnt i'r haelioni hwnnw, roedd ganddo ymdeimlad cryf iawn o ddiolchgarwch hefyd. Ac rwy'n cofio, ar y daith honno i Israel y mae eraill wedi sôn amdani, inni aros mewn bwyty a oedd yn cael ei redeg gan deulu Drusaidd, a'r tro hwn, Oscar, mewn gwirionedd, oedd yn hwyr yn cyrraedd y bws mini, nid Mark, a'r rheswm am hynny oedd ei fod wedi aros ger stondin y tu allan i'r bwyty dan ofal gwraig oedrannus, ac roedd yn llawn o blanhigion anniben iawn ac ychydig o fêl gwenyn yr hen wraig. Ac roedd yn benderfynol o gael y mêl hwnnw, nid yn unig i ddiolch i'w westeiwyr, oherwydd roedd y wraig hon yn aelod o'r teulu hwnnw, ond i anrhydeddu crefft yr hen wraig.

Roedd yn gweld crefyddau pobl eraill, fel y clywsom ni gan eraill heddiw, yn gwbl gyfareddol, ac roedd ei benderfyniad i ddod â phobl o wahanol gredoau ac arferion gwahanol at ei gilydd yn enghraifft o angerdd didwyll a phriodol. A chan fy mod i wedi bod yn ceisio deall mwy fy hun am gredoau  Mwslimaidd a gwahaniaethau rhwng cymunedau gwahanol, roedd Oscar bob amser yn hapus iawn i siarad â mi a rhannu ei wybodaeth. Ac roedd mor glir pa mor bwysig oedd ei ffydd ei hun iddo, ac, wrth i mi ddysgu mwy am yr hyn sy'n cyfrif mewn bywyd Mwslimaidd, dysgais fwy am Oscar, rwy'n credu—cymaint yr effeithiodd ar bopeth yr oedd yn meddwl amdano. Ac, wrth gwrs, rydym ni wedi clywed cymaint am ei gariad at ei wraig a'i ferch, a daw hynny nid yn unig o'i bersonoliaeth naturiol, ond o'r gwerthoedd, y gwerthoedd rhadlon yr oedd yn eu coleddu ac a ddangoswyd ganddo lle bynnag yr oedd, mewn gwirionedd.

Ac os wyf eisiau meddwl amdano pan oedd fwyaf llawen ac wedi ei gyffroi fwyaf ac wedi ei gyffwrdd fwyaf, rwyf eisiau mynd yn ôl i'r diwrnod hwnnw a dreuliodd pob un ohonom ni yn Jerwsalem y bu i Angela ei grybwyll, oherwydd, yn gynharach y diwrnod hwnnw, roeddem ni wedi bod yn Yad Vashem, ac roedd Oscar wedi bod gyda ni mewn seremoni ger y fflam dragwyddol yno. Ond diflannodd wedyn am rai oriau, ac roeddem yn pendroni ynghylch i ble yr oedd wedi mynd. Beth bynnag, daeth yn ôl atom, a chlywsom y bu yn al-Aqsa yn Haram al-Sharif, Mynydd y Deml, sydd wrth gwrs yn un o leoedd mwyaf sanctaidd Islam. A'r llawenydd yn ei wyneb pan ddaeth yn ôl, wel, roedd yn rhannu'r llawenydd â ni—bydd y rhai ohonoch chi a oedd yno yn cofio hynny. Mae sut y llwyddodd i fynd i mewn yn un o straeon hudolus Oscar, wrth gwrs. Ond mae'r diwrnod hwnnw yn fy atgoffa ein bod heddiw nid yn unig yn ffarwelio â'n Oscar, â'n hewythr Oscar, ond â Mohammad, a oedd yn gyfaill i'r ddynoliaeth.

13:20

Diolch, Llywydd. Newyddion brawychus iawn ddoe—nid wyf yn credu y gallwn beidio â chael ein cyffwrdd gan y cyfraniadau. Hoffwn gyfleu cydymdeimlad pawb yn y Welsh National Party i deulu Oscar a'i staff a'i gyd-Aelodau Ceidwadol. Oscar—gwenaf nawr, oherwydd roedd bob amser yn gwneud imi wenu—fe wnes i gyfarfod ag ef gyntaf cyn 2007; 2004 rwy'n credu oedd hi. Gwnaethom lawer o waith gyda'n gilydd i sefydlu adran ar gydraddoldeb, ac roedd yn gymwynasgar dros ben; aethom i'w swyddfa yng Nghasnewydd, buom yn gweithio gyda'n gilydd, gan fynd drwy restrau. Roedd yn amlwg ei fod yn uchel iawn ei barch yn ei gymuned, ac roedd yn bleser gwirioneddol gweithio gydag ef.

Gadawodd Blaid Cymru ac ymuno â'r Ceidwadwyr, ac ni wnaeth hynny newid dim o gwbl—dim byd o gwbl. Bob tro imi ei weld, siaradai, byddem bob amser yn rhannu jôc, a fyddai'n hyfryd. Un o fanteision symud ar draws y Siambr oedd cael eistedd yn ymyl Oscar, oherwydd, bob dydd, byddai'n mynd heibio a byddai rhyw jôc i'w rhannu, ac roedd bob amser yn siarad, ac nid pawb sy'n gwneud hynny. Ac roedd yn ddyn diffuant, mor ddiffuant. Byddem weithiau'n mynd i fannau mwy preifat ac yn trafod materion mewn gwirionedd, yn rhannu profiadau, ei brofiad yn y Senedd. A chredaf y dylai mwy o sylw fod wedi'i wneud, ac y dylid gwneud mwy o sylw, o'r ffaith mai ef oedd yr unigolyn croenliw cyntaf i'w ethol i Senedd Cymru. Soniodd pawb am ei angerdd dros griced a chwaraeon, ond yr hyn y byddaf i'n ei gofio—fel y bydd pob un ohonom ni, mewn gwirionedd—yw Oscar, Oscar y dyn. A bydded iddo orffwys mewn hedd.

Rwy'n hynod o drist ac, yn wir, wedi fy syfrdanu gan farwolaeth ein cyfaill annwyl a'n cyd-Aelod Oscar. Mae'r boen a'r galar a wyneba Firdaus a Natasha nawr wrth golli dyn mor anhygoel yn annirnadwy. Fodd bynnag, bydded ichi wybod eich bod yn ein meddyliau a'n gweddïau.

Nawr, eisteddais wrth ymyl Oscar yn y Siambr, ac nid oedd byth eiliad diflas. Byddaf bob amser yn ei gofio yn cyfrannu at y llu o areithiau, megis dim ond yr wythnos diwethaf pan gyfrannodd mor frwd. Roedd cyfraniadau niferus eraill a wnaeth o'r galon, yn enwedig yng nghynadleddau Plaid Geidwadol Cymru, lle y safodd bob amser a siarad yn uchel ac yn falch dros Gymru, y Deyrnas Unedig, ei phobl a'n brenhines.

Nawr, drwy gydol y cyfnod hwn o gyfyngiadau symud, cadwodd wên ar fy wyneb drwy'r cyfryngau cymdeithasol. Mae wedi curo dwylo dros ofalwyr. Dysgodd i ni sut i wneud coffi Dalgona a'i frecwast arbennig. Dangosodd i ni ei drefn ymarfer corff boreol, ac fe ddysgodd Iaith Arwyddion Prydain. Yn gynharach y mis hwn, fodd bynnag, rhannodd neges bwysig, y dylai hiliaeth ddod i ben. Diolch Oscar. Ni fyddwch byth yn angof. Daliwch i wenu; rydych yn gadael gwaddol ar eich ôl y dylem ni i gyd fod yn falch o'i ddilyn. Diolch.

13:25

Cefais fy ethol yr un pryd ag Oscar, fel dau aelod rhanbarthol, yn ôl yn 2007. Ac, wrth gwrs, rydym yn cwrdd â'n gilydd wrth i ni ymwneud â'n busnes yn y Siambr ac yn y Senedd, ond rydych yn dod i adnabod eich gilydd drwy waith y pwyllgorau a phan fyddwch yn ymweld â lleoedd ac yn deall beth yw eich gwaith. Fel Nick Ramsay, deuthum i adnabod Oscar am y tro cyntaf ar y Pwyllgor Cyllid ac ar ymweliad â Sweden, lle y cefais fy syfrdanu gan ei haelioni. Ond hefyd fe'm gadawodd yn ddi-glem llwyr yn sgil ei gyfres gyfan o gwestiynau—a ddaeth, wrth gwrs, o'i wybodaeth a'i gefndir—pryd nad oeddwn yn deall na'r cwestiynau na'r atebion. Ac roedd yn ymroi i waith caled, i sicrhau bod pobl yn gwybod bod ganddo'r ymroddiad hwnnw i sefyll dros bobl, i gynrychioli pobl ac i ddeall yr hyn yr oeddem yn ceisio'i wneud.

Roedd Angela Burns yn ddigon caredig y bore yma i rannu llun a dynnwyd ychydig flynyddoedd yn ôl o'r rhai hynny ohonom ni a etholwyd yn 2007, ac mae llun hyfryd o Oscar yno, yn sefyll gyda'r wên hyfryd honno yng nghanol y llun. Rwy'n ddiolchgar i Angela am rannu hwnnw eto.

A phan feddyliwn am Oscar, meddyliwn am y caredigrwydd hwnnw, meddyliwn am ei ffydd a meddyliwn am ei gariad tuag at ei deulu. Ond mae caredigrwydd yn aml yn ddilafar ac anweledig. Ef oedd y person cyntaf i gysylltu â mi pan gollais fy mam yn gynharach eleni; pan ddychwelais o'r ysbyty ar ôl salwch rai misoedd yn ôl, roedd cerdyn, cerdyn 'Brysiwch Wella', yn aros amdanaf—gweithredoedd hael a charedig anweledig. Roedd Oscar yn deall dynoliaeth gwleidyddiaeth a dynoliaeth yr hyn yr ydym yn ei wneud. Nid oes yr un ohonom ni nad yw wedi sefyll wrth ddrws, yn dadlau gydag Oscar ynglŷn â phwy fyddai'n mynd drwodd gyntaf. Nid oes yr un ohonom ni nad yw wedi sefyll yn yr ystafell de, gydag Oscar yn prynu nid yn unig paned o de ond hefyd gacen a beth bynnag arall y byddem yn dymuno ei gael yno. Ac nid oes yr un ohonom ni nad yw wedi cael ei gyffwrdd gan ei ofal a'i bryder nid yn unig am y bobl yr ydym yn eu cynrychioli, ond y bobl nad ydym yn eu hadnabod. Ac mae hynny'n rhywbeth y byddaf wirioneddol yn ei gofio. 

Ac roedd ffydd Oscar yn bwysig iddo. Mae Darren Millar wedi sôn am y ffordd yr oedd Oscar bob amser yn dymuno bod yn bont—pont rhwng pobloedd, pont rhwng gwahanol grefyddau a phont rhwng gwahanol gymunedau. Rwy'n cofio, ac rwy'n cydnabod y gwaith y mae wedi'i wneud yn ceisio creu pontydd rhwng cymunedau yng Nghymru—ceisio creu pontydd ar draws y dwyrain canol ac mewn mannau eraill. Roedd y cynhesrwydd a'r ysbryd hael yn rhywbeth a oedd yn rhan ohono. A thrwy'r cyfan, roedd y teulu—Firdaus a Natasha. Rwy'n cofio ei falchder pan wnaeth Natasha ymladd am sedd Blaenau Gwent a chofiaf y llygaid disglair a'r wên pryd bynnag y siaradai am ei deulu.

Felly, pan fyddwn ni'n cofio Oscar, byddwn ni'n cofio ei garedigrwydd; byddwn yn cofio'r cynhesrwydd hwnnw, yr haelioni hwnnw. Byddwn yn cofio'r ffydd ddofn honno a byddwn yn ei gofio fel pont. Clywaf lawer o bobl yn siarad am garedigrwydd, ond roedd Oscar yn byw caredigrwydd ac roedd Oscar yn ei ymgorffori.

Rwy'n cofio, yr wythnos gyntaf i mi gael fy ethol i'r Senedd, Oscar yn mynd â nifer o aelodau newydd allan am ginio a mynnu ei fod yn talu. A dyna pryd y deuthum i adnabod Oscar yn iawn am y tro cyntaf, a bydd y rheini ohonom ni yn yr ystafell de yn cofio'r ymadrodd hwnnw, 'Fi sy'n talu', yn yr ystafell de. Roedd Oscar yn wir yn ddyn mor hael gyda'i eiriau a gyda'i weithredoedd.

Yr hyn rwy'n ei gofio am Oscar mor aml yw'r ergyd fawr a fyddai'n ei tharo ar fy nghefn. Arferai roi ergyd fawr iawn imi ar fy nghefn rywsut pan fyddwn yn cerdded heibio yn y coridor neu wrth imi gerdded i mewn i'r Siambr, ond yn aml pan oeddwn yn cerdded o'r gegin ar y trydydd llawr yn ôl i'm swyddfa gyda phaned o de yn fy llaw, ac nid oes angen i mi ddweud beth oedd diwedd y stori honno.

Ond bydd hiraeth enfawr ar ôl Oscar, ac wrth gwrs bydd hiraeth ar ei ôl yn ein pwyllgor, y pwyllgor y mae'n fraint imi ei gadeirio, yma yn y Senedd. Bydd colled fawr iawn ar ôl Oscar. Roedd yn berson mor hael, ac yn bennaf oll cydymdeimlaf wrth gwrs â Firdaus a Natasha. Ond bydd colled enfawr ar eich ôl, Oscar. Diolch, Llywydd.

13:30

Yn sgil clywed y newyddion am farwolaeth Oscar ddoe, rwy'n estyn fy nghariad at ei wraig, Firdaus; Natasha, ei ferch; ei deulu estynedig a'i gyfeillion; ei gyfeillion yn y grŵp Ceidwadol a phob cyfaill arall.

Fe wnes i gyfarfod Oscar a Natasha yn 2011, a gwelsom ein gilydd droeon cyn imi gael fy ethol yn 2016. Cefais fy llongyfarch yn syth gan Oscar, a chefais fy nghroesawu’n gynnes i'r Senedd, wrth iddo estyn llaw cyfeillgarwch, fel y gwnaeth i bawb a gyfarfu. Ar ddydd Mawrth a dydd Mercher, byddem yn aml yn cyfarfod yn yr ystafell de, a daeth yn arfer i ni brynu cinio i'n gilydd ac eistedd gyda'n gilydd yn yfed te. Buom yn siarad am ein teuluoedd ac roedd yn hynod falch o'i ferch, Natasha. Dyn teulu balch.

Dyna ganfod yn fuan fod y ddau ohonom ni'n hoffi ymweld â stondinau marchnad, gan chwilio am emwaith ail-law, tlysau a hen bethau. A phan oedd y naill neu'r llall ohonom wedi cael bargen dda, daethom ag eitemau i mewn i'w cymharu, ac roedd yn hoff iawn o fargen, fel yr oeddwn i. Pe baem yn ffansïo eitem oedd yn eiddo i'r llall, fe'i gwerthwyd i'r naill a'r llall. Gymaint oedd gonestrwydd ac uniondeb Oscar, pan gynigiodd stondinwr dlws arian trwm iddo am £30, fe astudiodd Oscar y dilysnod yn syth ac, er syndod i'r stondinwr, dywedodd, 'Fy nghyfaill, byddwn wrth fy modd yn rhoi £30 i chi am hwn, ond rwy'n credu y dylai'r pris cywir fod yn £200, gan ei fod yn blatinwm nid arian'. Daeth â'r tlws hwnnw i ddangos i mi yn llawn balchder gan egluro'r stori.

Bu Oscar yn gwasanaethu ei etholwyr gyda'r cariad, y tosturi a'r haelioni a ddangosodd at bawb y cyfarfu â nhw. Roedd yn ymroddedig i'w swyddogaeth, a chafodd lawer o gysur a chefnogaeth gan ei gyd-Aelodau Ceidwadol, fel y dywedodd wrthyf droeon.

Rwyf wedi colli cyfaill yn yr ystafell de a, rywsut, ni fydd yr un teimlad yno. Roeddem ni wedi bwriadu ymweld â marchnad y Fenni gyda'n gilydd, ac rwy'n drist y byddaf ar fy mhen fy hun ar yr ymweliad hwnnw nawr. Ond rwy'n siŵr, os byddaf yn aros ger stondin, gyda'r bwriad o brynu unrhyw beth yno, bydd llais y tu ôl i mi yn dweud, 'Na, Caroline, peidiwch â dewis hwnna, dewiswch yr un nesaf ato, oherwydd cewch fargen well o lawer.'

Gorffwyswch mewn hedd, fy nghyfaill, oherwydd mae gymaint o fywydau wedi elwa yn sgil eich adnabod. Nid oedd ymrannu yn eich geirfa ac fe wnaethoch chi drin pawb yr un fath. Diolch.

Ac yntau'n Fwslim selog, roedd Oscar yn ddyn goddefgar, tosturiol, cynhwysol. Roedd yn esiampl i bobl o bob ffydd a phob cred, ac rydym ni i gyd yn gwybod hynny oherwydd inni i gyd brofi hynny'n uniongyrchol. Roedd yn dawel falch, fel y clywsom ni, o fod wedi cario'r ffagl Olympaidd, o fod yn amlieithydd. A, chan hyn oed ychwanegu ieithoedd newydd, fel y clywsom ni, yn wythnosau olaf ei fywyd, at ei eirfa. Roedd yn falch iawn o fod wedi cymhwyso fel cyfrifydd, fel peilot, i redeg busnes llwyddiannus, i helpu pobl yn y gymuned, i fod yn wleidydd lleol ac yna'n wleidydd cenedlaethol. Rydym ni wedi clywed ei fod hefyd yn frenhinwr ac yn unoliaethwr balch, ond roedd hefyd yn rhyng-genedlaetholwr. Ac rwy'n gwybod, wrth eistedd wrth ei ymyl yn y Siambr, ar ei sgrin, os nad oedd yn gwylio neu'n dilyn newyddion byw'r BBC am Gymru neu'r DU, roedd yn dilyn newyddion am Bacistan neu'r India neu, yn bwysicach, wrth gwrs, y sgorau criced rhyngwladol.

Byddaf yn colli eistedd wrth ei ymyl, ei law ar fy mraich bob tro yr oedd ganddo rywbeth i'w ddweud neu pan oedd eisiau codi pwynt yn dawel gyda mi. Byddaf yn colli'r losin mint yr arferai eu cynnig i mi a Janet ar yr ochr arall. A byddaf yn colli'r ddefod, ar ddiwedd pob cyfarfod llawn, pan fyddai'n gofyn imi pa alwadau oedd gennyf y noson honno a, phe byddem wedi gorffen yn gynnar, byddai'n aml yn ceisio dod draw i'r rheini. Pe byddem yn gorffen yn hwyr, byddai bob amser yn ymddiheuro ac yn esbonio bod yn rhaid iddo yrru'n ôl i Gasnewydd ac at ei deulu. Felly, rwyf innau'n meddwl am Firdaus a Natasha, ond felly hefyd fy ngwraig, Hilary, y maen nhw'n ei hadnabod, a'm teulu i, gan gynnwys Charlotte, ein merch, y maen nhw'n ei hadnabod. Yn ystod y cyfnod hwn o golled enfawr, mae'n anodd credu nad yw unigolyn gydag anadl einioes o'r fath gyda ni mwyach, ond rwy'n gwybod nad yw'r anadl einioes wedi pallu, mae wedi symud ymlaen. Bydded Allah gyda chi i gyd.

13:35

Diolch am y cyfle gwerthfawr yma i draddodi teyrnged i Mohammad Asghar. Mae yn ddiwrnod trist iawn, yn wir, gyda'r newyddion brawychus o sydyn ddoe am farwolaeth Oscar.

Dwi'n cofio y diwrnod arall hwnnw yn 2007 yn glir iawn, ac Oscar yn cael ei ethol i'r un meinciau â mi yn y drydydd Cynulliad. Bu'n aelod cydwybodol o'n grŵp ni yn y Cynulliad hwnnw, ac fel cadeirydd y grŵp, roeddwn wastad yn werthfawrogol o'i gyfraniad i'n trafodaethau.

Rydym ni'n cofio'r hanesion, ac mae nifer ohonyn nhw eisoes wedi'u holrhain yma heddiw. Ond mae heddiw yn ddiwrnod trist. Danfonwn ein cydymdeimlad mwyaf dwys i deulu a ffrindiau Mohammad Asghar heddiw. Gorffwys mewn hedd, Oscar.

Rwy'n siarad heddiw yn rhinwedd fy swydd yn Gadeirydd y grŵp Llafur, ac wrth wneud hynny rwy'n siarad ar ran yr holl Aelodau Llafur, llawer ohonyn nhw wedi gwasanaethu gydag Oscar am y 13 blynedd diwethaf. Gweithiodd llawer yn agos gydag ef mewn amrywiaeth o leoliadau dros y cyfnod hwnnw.

Fel y mae pawb wedi cyfeirio ato, roedd Oscar bob amser yn hwyliog, ac er ei fod yn ddadleuwr cadarn yn Siambr y Senedd, ni fu erioed yn ffigwr pleidiol y tu allan iddo. Mae hyn yn rhywbeth sydd wedi dod i'r amlwg mewn gwirionedd yn y ffrwd o deyrngedau i Oscar heddiw. Byddai'n aros i siarad â phawb, boed yn staff y Senedd, Aelodau o bob plaid, staff cymorth—pawb. Roedd yn rhywun a oedd â diddordeb gwirioneddol mewn pobl ac yn gwrtais yn ddi-feth. Byddwn i gyd yn teimlo ei golled a'i ffordd gyfeillgar yn fawr.

Roedd Oscar bob amser yn hynod falch o'i deulu, ac rwyf eisiau mynegi fy nghydymdeimlad i a'r grŵp Llafur cyfan i'w wraig, Firdaus, a'i ferch, Natasha. Roeddech yn golygu cymaint i Oscar, ac roedd yn amhosib cael sgwrs ag ef heb iddo sôn am y ddwy ohonoch. Roedd yn ddyn teulu go iawn, a chi oedd cannwyll ei lygad. Fel y dywedwyd mewn llawer o deyrngedau, roedd llawer yn caru Oscar, ond neb y fwy na'r ddwy ohonoch chi.

I mi, yn bersonol, roedd yn bleser imi fod wedi gweithio gydag Oscar ar bwyllgor yr economi a'r pwyllgor cyfrifon cyhoeddus ill dau. Roedd y ddau yn feysydd yr oedd ganddo ddiddordeb gwirioneddol ynddynt, a daeth ag arbenigedd aruthrol i'r trafodaethau am y pynciau yr oeddem yn ymdrin â nhw. Roedd yn brofiad gwych bod ar ymweliad pwyllgor yn enwedig gydag Oscar, oherwydd, ni waeth i ble yr oeddech yn mynd na'r pwnc dan sylw, roedd Oscar wrth ei fodd yn mynd allan a chwrdd â phobl, a siarad â nhw am y gwaith yr oeddent yn ei wneud. Ac rwy'n credu ei bod hi'n ddiogel dweud bod ganddo le arbennig yn ei galon i Faes Awyr Caerdydd a'i fod wrth ei fodd yn ymweld ag ef. Ond lle bynnag yr aethom ni, byddai'n sgwrsio â phawb y cyfarfu â nhw, a'i ddiddordeb a'i frwdfrydedd yn llifo wrth iddo eu holi am eu swyddogaethau a'u barn er mwyn cyfrannu at ein gwaith.

Roedd Oscar yn gymeriad go iawn, ac rwy'n gobeithio fy mod i wedi llwyddo i grynhoi rhywfaint o hynny yn fy nghyfraniad i heddiw. Roedd yn arloeswr, a safodd fel symbol o Gymru fwy amrywiol, mwy modern—rhywbeth y mae siaradwyr blaenorol wedi cyfeirio ato, ond rhywbeth y mae angen i bob un ohonom ni gydweithio i'w gyflawni. Gall Oscar fod yn falch o bopeth a gyflawnodd, a bydd pob un ohonom ni yn gweld ei golli. 

Llywydd, rydym ni wedi clywed bod ein cyfaill annwyl, Oscar, yn ymwneud â bywyd cyhoeddus yn ei ffordd ddihafal ei hun, a bod ganddo allu anhygoel i fyw gyda pharadocs gwleidyddol. Ac yn anad dim, roedd yn ddyn hael. Rydym ni wedi clywed cymaint o deyrngedau i'w haelioni. Yn wir, mae arnaf ofn bod stoc ein harlwywyr ar y farchnad stoc yn debygol o lithro oni bai eu bod yn cael pencampwr o gwsmer arall yn gyflym iawn.

Y peth arall a glywsom ni dro ar ôl tro y prynhawn yma yw'r gair 'goddefgarwch'. I Oscar, nid oedd goddefgarwch yn golygu difaterwch; golygai anwyldeb a dealltwriaeth, ac fe gyfrannodd yn y modd hwnnw at drafodaethau rhyng-ffydd mewn ffordd ryfeddol iawn. Rwy'n ei gofio yn mynd â mi i'r deml Sikhaidd yn y Sblot ac yn sôn am werth a rhyfeddod y traddodiad Sikh, a'u parch a'u hymagwedd benodol at y dwyfol, ac roedd hynny'n crynhoi ysbryd a dynoliaeth Oscar i'r dim i mi.

Roedd ganddo hefyd gariad mawr at y traddodiadau Prydeinig gorau, yn fwy na dim y Goron a chriced. Credai fod y rhain yn perthyn i'r Gymanwlad gyfan ac nad trysorau Prydeinig yn unig oeddent. Roedd y ffordd yr oedd yn sôn amdanyn nhw yn rhyfeddod llwyr. Rydym yn nodi marwolaeth drist cyfaill annwyl sydd wedi ein gadael gyda chymaint o atgofion hapus ac ymagwedd ysbrydoledig tuag at fywyd yn ei holl amrywiaeth a rhyfeddod, ac yn y cyfnod hwn o dristwch dwfn rydym yn cofio am ei deulu, yn enwedig am ei weddw, Firdaus, a'i ferch, Natasha. Boed iddyn nhw gael eu cysuro gan y cyfraniad a wnaeth i Gymru ac, yn wir, at hyrwyddo ysbryd o haelioni a goddefgarwch yn fyd-eang.

13:40

Diolch i chi i gyd.

Mae'r teyrngedau cynnes ac ystyriol a dalwyd gan aelodau o bob plaid heddiw yn dyst i'r ffordd y mae ein cyfaill a'n cyd-Aelod, Mohammad Asghar, wedi ennill parch o bob cornel o'r Senedd. Diolch i chi i gyd am rannu eich atgofion am ein cyfaill, Oscar. Rwyf fi, fel pob un ohonoch chi, yn drist iawn o golli cymeriad mor wych, a oedd bob amser yn dod â bywyd i drafodion y Senedd gyda'i gyfraniadau diffuant.

Clywais am Oscar am y tro cyntaf cyn imi gwrdd ag ef. Mae'n rhaid mai oddeutu 2005 oedd hi: cynhaliwyd cyfarfod cyhoeddus i ffermwyr yn Llanbedr Pont Steffan ac roedd aelod Mwslimaidd o Blaid Cymru o'r de wedi dod i siarad â ffermwyr Ceredigion ynghylch cyfreithloni'r fasnach mewn 'smokies'. Roedd y ffermwyr yn siarad am y cyfarfod yn y marchnadoedd lleol am wythnosau. Roedd wedi gwneud argraff. Roedd wedi bod yn sioc ddiwylliannol ac yn ddealltwriaeth gyffredin. Cwrddais ag Oscar yn fuan ar ôl hynny a dysgais lawer mwy am 'smokies'.

Rhyng-genedlaetholwr oedd Oscar, a gwnaeth y gorau o gyfleoedd i godi pontydd â gwledydd, crefyddau a diwylliannau eraill ac i hyrwyddo Cymru ar lwyfan y byd. Roedd y Gymanwlad yn rhan annatod o wreiddiau a hunaniaeth Oscar, ac roedd yn gefnogwr brwd o le Cymru o fewn ei theulu ehangach. Roedd bob amser yn falch o gynrychioli'r grŵp yr oedd yn aelod ohono, a'r Senedd, ar Gymdeithas Seneddol y Gymanwlad. Yn wir, yn ystod y degawd diwethaf, bu Oscar yn gwasanaethu ar bwyllgor gwaith Cymdeithas Seneddol y Gymanwlad yn hwy nag unrhyw aelod arall, ac yn ystod y cyfnod hwnnw bu'n cynrychioli Senedd Cymru mewn nifer o gynadleddau rhyngwladol pwysig yn falch ac yn ddiwyd.

Mae'n briodol bod cyfraniad olaf Oscar yn y Senedd yn canolbwyntio ar fater yr oedd wedi'i hyrwyddo am gynifer o flynyddoedd: meithrin mentergarwch economaidd a sgiliau yn y gweithle. Ac yntau'n rhugl mewn pedair iaith, credaf efallai mai Oscar oedd y mwyaf amlieithog yn y Senedd. Nid oes rhyfedd, felly, y gallai siarad â phob un ohonom ni yn ei ffordd ei hun, cyfaill i aelodau o bob plaid a chefnogwr gwerthfawr iawn i lawer o achosion ac ymgyrchoedd, o gyfreithloni 'smokies' i dîm criced cenedlaethol, o entrepreneuriaeth i ryng-genedlaetholdeb.

Wrth i mi eistedd yma ar fy soffa yn Aberaeron, wrth edrych ar gyd-Aelodau Oscar yn y Senedd ar sgrin Zoom, rwy'n dal i gael fy nenu i edrych tua'r dde, fel y byddwn yn y Siambr, i'r meinciau cefn Ceidwadol a chadair wag, cadair, sedd seneddol yr oedd Mohammad Asghar yn ei llenwi â chymaint o falchder ac angerdd. Pan ddychwelwn i'n Siambr, ni fydd Mohammad Asghar gyda ni, ond bydd ei ysbryd hael a'i farn oddefgar o'r byd yn helpu i'n harwain i gyd drwy'r cyfnod cythryblus hwn.

Yn ysbryd geiriau gwych Paul Davies heddiw: heddiw, Oscar, mae eich Senedd yn rhoi cwtsh mawr rhithwir i chi a'ch teulu, fel y buoch chi yn rhoi cwtsh i gymaint ohonom ni dros y blynyddoedd. Diolch, Oscar, ac mae fy nghydymdeimlad, ar ran pawb ohonom ni, gyda Firdaus a Natasha a'ch holl deulu, y gwn eu bod mor annwyl i chi.

Daw hynny â'n sesiwn o deyrngedau i ben. Diolch ichi i gyd am eich cyfraniadau. I aelodau o'r cyhoedd sy'n gwylio'r darllediad hwn, bydd modd ichi rannu eich meddyliau a'ch atgofion am Mohammad Asghar yn ein llyfr cydymdeimlad ar-lein.

Bydd yr Aelodau hefyd yn gwybod ein bod wedi newid trefniadau ein busnes heddiw fel arwydd o barch at deulu Oscar, ond, fel y byddai Oscar a'r holl seneddwyr yn deall, mae gennym ni fusnes Seneddol a busnes yn ymwneud â'r coronafeirws i'w trafod a symudwn i wneud hynny nawr. Rwy'n deall, wrth gwrs, ei bod yn bosib y bydd rhai Aelodau eisiau gadael nawr ac efallai eich bod eisiau diffodd eich camerâu nawr.  

13:45
1. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Symudwn, felly, at eitem gyntaf y busnes hwnnw, sef y datganiad busnes. Galwaf ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Rebecca Evans.

Fel y dywedwch chi, Llywydd, fel arwydd o barch at ein cyfaill a'n cyd-Aelod, Oscar, mae nifer o newidiadau i'r agenda heddiw. Caiff y tri datganiad llafar arfaethedig eu cyhoeddi fel datganiadau ysgrifenedig, ac mae dadl y Blaid Brexit wedi'i gohirio. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfodydd sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.

Diolch, Trefnydd. Trosglwyddwyd datganiadau felly i ddatganiadau ysgrifenedig, sy'n mynd â ni at eitemau 6 a 7, Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020.

Y cynnig yw bod y rhain yn cael eu grwpio i'w trafod ond gyda phleidleisiau ar wahân. Os nad oes gwrthwynebiad i hynny—. Ni welaf unrhyw wrthwynebiad.

6. & 7. Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020

Cynnig NDM7332 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mai 2020.

Cynnig NDM7333 Rebecca Evans

Cynnig bod y Senedd, yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 1 Mehefin 2020.

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch, Llywydd. Cynigiaf y rheoliadau'n ffurfiol ac yn fyr a gofynnaf i'r Aelodau eu cefnogi. Mae'r rheoliadau yn ddiwygiadau pellach i amodau'r cyfyngiadau coronafeirws. Maen nhw'n rhoi rhyddid yn ôl i bobl lle mae'r sefyllfa o ran y feirws wedi caniatáu inni wneud hynny. Maen nhw'n cynyddu cosbau ar y rhai sy'n methu'n gyson â glynu wrth y rheolau y mae cynifer wedi gweithio mor galed i'w dilyn. Llywydd, mae'r system sydd gennym ni yn gwbl briodol yn ei gwneud hi'n glir pryd bynnag y bydd cyfyngiad yn ddiangen i ddiogelu iechyd y cyhoedd bod yn rhaid ei ddileu. Mae'r rheoliadau rhif 5 diwygiedig yn cadarnhau'r ymrwymiad hwnnw. Gan ein bod wedi gwneud cynnydd o ran lleihau nifer yr achosion o'r coronafeirws yn y gymuned, mae'r rheoliadau rhif 5 hynny yn caniatáu llawer mwy o ryddid i bobl yn eu hardal leol. Maen nhw hefyd yn hollbwysig yn caniatáu i bobl ymgynnull y tu allan gydag aelodau o un aelwyd arall, er bod cadw pellter cymdeithasol yn parhau wrth gwrs. Dyma lacio cyfyngiadau'r coronafeirws ac maen nhw'n bosib oherwydd y lleihad yng nghylchrediad y feirws yn y gymuned.

Llywydd, drwy gydol y cyfyngiadau symud rydym ni wedi gweld cryn gydymffurfio â'n rheoliadau, ac mae angen diolch o galon i bobl ledled Cymru am hynny. Drwy lynu wrth y rheolau, rydym ni wedi helpu i reoli lledaeniad y feirws. Fodd bynnag, dengys tystiolaeth gan bedwar heddlu fod lleiafrif bach o bobl yn torri'r cyfyngiadau dro ar ôl tro, ac mae'r newidiadau a wnaed gan reoliadau rhif 4 sydd gerbron yr Aelodau y prynhawn yma wedi caniatáu i'n heddluoedd ymateb yn fwy llym i'r her honno. Gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r ddwy gyfres o welliannau.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Dim ond ychydig o sylwadau sydd gen i ar y rheoliadau. Mi hoffwn innau ddechrau trwy anfon fy nghydymdeimlad dwysaf i at deulu Mohammad Asghar yn eu colled nhw.

Prin y bu'r newid i'r rheoliadau. O ran y rheoliad ynglŷn â dirwy, prin iawn ydy'r angen wedi bod am fygwth pobl efo dirwy ariannol drwy hyn, oherwydd mae'r rhan fwyaf o bobl wedi bod yn barod iawn i gadw at y rheolau, oherwydd mai dyna sy'n llesol i'w hiechyd eu hunain a'u cymunedau, wrth gwrs, ond mae eraill wedi penderfynu ymddwyn yn blatant yn groes, a dwi'n cefnogi cynyddu dirwy, yn teimlo, fel mae'r Prif Weinidog yn gwybod, y dylai'r ddirwy fod wedi cael ei chodi yn gynharach. Mi fyddwn ni yn cefnogi'r cynigion heddiw, beth bynnag.

O ran y llacio rhywfaint ar y cyfyngiadau, mi ddywedaf i hyn fel apêl wrth i'r Llywodraeth ystyried y camau nesaf efo'i hadolygiad tair wythnosol yfory a'r cyhoeddiad i ddod dydd Gwener: profwch eich bod chi'n trio symud mor gyflym â phosib i newid y cyfyngiadau o fewn beth sy'n ddiogel. Nid gofyn am gyfaddawdu o gwbl ar diogelwch ydy hynny; iechyd sydd yn gyntaf ac mae'n rhaid dilyn y wyddoniaeth. Mae'n rhaid gwneud yn siŵr bod y prosesau profi ac olrhain yn rhai cadarn, ond profwch a heriwch eich tystiolaeth eich hunan mor gyhoeddus ag sy'n bosibl. Gwthiwch ffiniau beth sy'n bosibl ei wneud yn ddiogel o ran lles pobl, gallu pobl i fod efo anwyliaid, ac o ran yr angen i ailagor bwrlwm economaidd ac ati, a dangoswch lwybr clir ymlaen. Dangoswch fap cliriach fel bod unigolion, teuluoedd a busnesau yn gallu cynllunio yn well ar gyfer y cyfnod sydd i ddod.

13:50

Nid oes gennyf fwy o siaradwyr. Prif Weinidog—os yw'n dymuno ymateb i'r cyfraniad.

Dim ond diolch i Rhun ap Iorwerth am arwydd o gefnogaeth Plaid Cymru i'r rheoliadau heddiw. Rwy'n gobeithio ac yn disgwyl y byddwn yn gallu cyhoeddi rhagor o lacio ar y cyfyngiadau yn dilyn yr arolwg pellach yr ydym yn ei gwblhau yfory, a byddwn, wrth gwrs, yn cyflwyno adroddiad ar ganlyniad yr adolygiad hwnnw i'r Senedd.

Diolch, Prif Weinidog. Y cynnig yw cytuno ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Oes, rwy'n gweld gwrthwynebiad, a gohiriaf y bleidlais ar y rheoliadau hynny tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Y cynnig sy'n dilyn yw cytuno ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Oes, rwy'n gweld gwrthwynebiad ac felly pleidleisir ar y rheoliadau hyn yn ystod y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Cyfnod Pleidleisio

Daw hynny â ni at y cyfnod pleidleisio, ac, felly, galwaf am bleidlais. Galwaf am bleidlais ar Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 4) 2020, a bydd y bleidlais hon drwy'r gofrestr fesul grŵp gwleidyddol neu Aelod unigol. Felly, ar ran y grŵp Llafur a'r Llywodraeth, Mike Hedges, sut ydych chi'n bwrw eich 30 pleidlais?

Ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, sut ydych chi'n bwrw eich 10 pleidlais?

Ar ran y grŵp Brexit, Mark Reckless, sut ydych chi'n bwrw eich pedair pleidlais?

Y canlyniad, felly, yw bod 50 o Aelodau o blaid y rheoliadau, ni ymataliodd neb, roedd pump yn erbyn. Felly, mae 55 o Aelodau wedi bwrw eu pleidlais ac felly caiff y rheoliadau eu pasio.

Cynhaliwyd y bleidlais ar NDM7332 yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.

Mike Hedges ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: O blaid (30)

Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: O blaid (10)

Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: O blaid (9)

Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: Yn erbyn (4)

Gareth Bennett – Annibynnol: Yn erbyn

Neil McEvoy – Annibynnol: O blaid

Derbyniwyd y cynnig.

Bydd yr ail bleidlais a'r un olaf ar y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) (Rhif 5) 2020, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. A gofynnaf, felly, ar ran y grŵp Llafur a'r Llywodraeth, Mike Hedges, sut ydych chi'n bwrw eich 30 pleidlais?

Ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, Darren Millar, sut ydych chi'n bwrw eich 10 pleidlais?

Ie, diolch—'ymatal' oedd hynny ar y 10 pleidlais.

Ar ran Plaid Cymru, felly, Siân Gwenllian, sut ydych chi'n cyflwyno eich naw pleidlais?

Ar ran y grŵp Brexit, Mark Reckless, sut ydych chi'n bwrw eich pedair pleidlais?

13:55

Diolch. Y canlyniad yw bod 40 o Aelodau o blaid y cynnig, roedd 10 yn ymatal, roedd pump yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig.

Cynhaliwyd y bleidlais ar NDM7333 yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.

Mike Hedges ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: O blaid (30)

Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: Ymatal (10)

Siân Gwenllian ar ran Grŵp Plaid Cymru: O blaid (9)

Mark Reckless ar ran Grŵp Plaid Brexit: Yn erbyn (4)

Gareth Bennett – Annibynnol: Yn erbyn

Neil McEvoy – Annibynnol: O blaid

Derbyniwyd y cynnig.

Diolch i chi i gyd am eich cyfraniadau y prynhawn yma, a dymuniadau gorau i chi i gyd. Prynhawn da.

Daeth y cyfarfod i ben am 13:55.