Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

08/04/2020

Cyfarfu’r Cynulliad drwy gynhadledd fideo am 13:32 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

Croeso i bawb i’n Cyfarfod Llawn ni o’r Senedd. Cyn dechrau, dwi eisiau nodi ychydig bwyntiau. Mae hwn yn Gyfarfod Llawn a gynhelir ar ffurf cynhadledd fideo yn unol â Rheolau Sefydlog y Cynulliad Cenedlaethol, yn gyfystyr â thrafodion y Cynulliad at ddibenion Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Ar ôl ymgynghori â’r Pwyllgor Busnes, bydd rhai o ddarpariaethau Rheol Sefydlog 34 yn gymwys ar gyfer y Cyfarfod Llawn heddiw ac mae’r rhain wedi’u nodi ar yr agenda. Bydd y cyfarfod yn cael ei ddarlledu’n fyw a bydd Cofnod y Trafodion yn cael ei gyhoeddi yn y ffordd arferol. Dwi eisiau atgoffa Aelodau bod yr holl Reolau Sefydlog sy'n ymwneud â threfn a threfniadau busnes yn y Cyfarfod Llawn yn gymwys i’r cyfarfod yma.

1. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem gyntaf, felly, y prynhawn yma yw’r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi’n galw ar y Prif Weinidog i wneud y datganiad hynny.

Diolch, Llywydd. Nid oes unrhyw newidiadau i agenda'r wythnos hon. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos eistedd nesaf wedi ei nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith y papurau sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

2. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19)

Diolch i’r Prif Weinidog. Yr eitem nesaf, felly, yw’r datganiad gan y Prif Weinidog ar coronafeirws. Dwi'n galw ar y Prif Weinidog i wneud ei ddatganiad.

Diolch yn fawr, Llywydd. Heddiw, byddaf yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am y gwaith sy’n gyrru ymlaen ar draws Cymru mewn ymateb i coronafeirws. Mae pob rhan o Lywodraeth Cymru, llywodraeth leol, y gwasanaeth iechyd, y gwasanaethau brys, y sector wirfoddol a busnes yn rhan o’r ymdrech enfawr hon. Mae pawb yn cydweithio i baratoi gwasanaethau ac i gefnogi busnesau a phobl fregus. Mae pob unigolyn yng Nghymru yn gwneud cyfraniad pwysig drwy ddilyn y cyngor i aros gartref. Mae hyn yn gwneud gwahaniaeth yn barod. Rhaid i ni ddal ati er lles pawb.

Llywydd, wrth ddechrau fy natganiad yr wythnos hon, hoffwn ddechrau drwy anfon fy nymuniadau gorau at Brif Weinidog y DU ar ôl iddo gael ei dderbyn i ofal dwys am driniaeth ar gyfer coronafeirws. Hoffwn hefyd ddymuno gwellhad buan i'n cyd-Aelod Alun Davies yn dilyn ei driniaeth yn yr ysbyty yr wythnos hon. Gwn y byddwn ni i gyd yn dymuno'n dda iddyn nhw.

Llywydd, fy nod yn y datganiadau wythnosol hyn yw rhoi adroddiad i'r Aelodau ar y datblygiadau mwyaf diweddar ac arwyddocaol ledled Cymru ers ein Cyfarfod Llawn diwethaf. Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau pellach i ddiogelu iechyd pobl, i gryfhau ein GIG, ac i gynorthwyo busnesau wrth i ni barhau i ymateb i bandemig y coronafeirws.

Heddiw, rydym ni'n nesáu at ddiwedd y cyfnod cychwynnol o dair wythnos y rheolau aros gartref. Unwaith eto, hoffwn gofnodi fy niolch i bobl ledled Cymru am yr undod a ddangoswyd o ran cydymffurfio â'r cyfyngiadau gwbl angenrheidiol hyn. Mae hyn i gyd yn gwneud gwahaniaeth—y camau y mae pob un ohonom ni'n eu cymryd i gyfyngu cysylltiad ag eraill ac aros gartref a gweithio gartref pryd bynnag y bo hynny'n bosibl—mae hynny i gyd yn helpu i arafu lledaeniad y feirws ac i ddiogelu'r rhai mwyaf agored i niwed.

Ond, oherwydd y bwlch amser rhwng rhoi'r mesurau hyn ar waith a gweld eu canlyniadau, rydym ni'n gwybod y bydd pethau'n dal i waethygu cyn iddyn nhw wella. Bydd mwy o bobl yn mynd yn sâl, bydd angen i fwy o bobl gael eu derbyn i'r ysbyty, a bydd mwy o deuluoedd ledled Cymru yn wynebu'r sefyllfa dorcalonnus o golli rhywun y maen nhw'n ei garu.

Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos 291 o achosion ychwanegol yng Nghymru, gan ddod â'r cyfanswm a gadarnhawyd i 3,790—er ein bod ni'n gwybod y bydd nifer gwirioneddol yr achosion yn uwch. Yn anffodus iawn, mae cyfanswm y marwolaethau yn 212 erbyn hyn, pob un o'r rheini yn unigolyn, pob un yr ydym ni'n galaru ei absenoldeb yn awr.

Ddoe, ychydig wedi hanner nos, daeth diwygiad i'r rheolau aros gartref hynny i rym, gan ymestyn y ddyletswydd cadw pellter cymdeithasol i bob gweithle. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i bob gweithle sy'n parhau i fod ar agor yng Nghymru gymryd pob cam rhesymol i gadw pellter o 2m rhwng pobl i leihau lledaeniad coronafeirws. Y gweithlu yw'r ased mwyaf mewn unrhyw weithle, ac mae'r rheoliadau hyn yn tanlinellu'r ymrwymiad i ddiogelu iechyd a llesiant y gweithwyr hynny trwy bob mesur rhesymol.

Llywydd, bu cyfres o ddatblygiadau yn ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yr wythnos hon, o feddygon a gofalwyr yn dychwelyd i greu ysbytai maes. O ran profion, rydym ni wedi gweld datblygiad canolfannau profi drwy ffenestr y car yng Nghymru a phrofion i staff gofal cymdeithasol. Wrth i'n gallu i gynnal mwy o brofion gynyddu, byddwn yn cyflwyno hynny i fwy o bobl a grwpiau proffesiynol, gan gynnwys yr heddlu a staff carchardai, fel y nodir yn ein cynllun profi cenedlaethol i Gymru a gyhoeddwyd yr wythnos hon.  

Llywydd, mae sicrhau bod gan staff iechyd a gofal cymdeithasol y cyfarpar diogelu personol iawn i wneud eu gwaith yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Yr wythnos diwethaf, cyhoeddwyd canllawiau cyfarpar diogelu personol newydd ar gyfer y DU gyfan, ac mae'r rhain wedi symleiddio y dylid defnyddio cyfarpar diogelu personol ac ymestyn ei ddefnydd hefyd. Bydd y canllawiau newydd yn cynyddu'r hyn a gaiff ei gymryd o'n stociau cyfarpar diogelu personol. Hyd yma, rydym ni wedi cyflwyno dros wyth miliwn o eitemau ychwanegol o'n stociau pandemig i'r GIG ac i awdurdodau lleol, ac mae hynny yn ogystal â'r cyflenwadau sydd gan y GIG ei hun fel rheol.    

Rydym ni'n gweithio gyda Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i sicrhau cyflenwad parhaus o gyfarpar diogelu personol, ond rydym ni hefyd wedi gofyn i fusnesau Cymru newid eu llinellau cynhyrchu arferol i gynhyrchu cyfarpar diogelu personol ar gyfer Cymru, ac rydym ni wedi cael ymateb gwych gan gwmnïau yng Nghymru hyd yn hyn. Ymhlith eraill, mae'r Bathdy Brenhinol a Grŵp Rototherm yn cynhyrchu feisorau a gwarchodwyr wyneb a fydd yn cael eu gwisgo gan staff iechyd, ac mae distyllfa gin, In The Welsh Wind, yn cynhyrchu hylif diheintio dwylo a gymeradwywyd gan Sefydliad Iechyd y Byd.

Gan droi at yr economi, rwy'n falch o allu rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd yr ydym ni wedi ei wneud, gyda llawer o ddiolch i'n cydweithwyr mewn llywodraeth leol, yn cynorthwyo busnesau bach yn ystod y pandemig. Yn y 10 diwrnod ers agor ein cynllun grant ar gyfer y busnesau llai hynny, mae ein hawdurdodau lleol wedi gwneud mwy na 17,700 o ddyfarniadau ac wedi talu £229 miliwn. Mae'r ffigur hwnnw'n codi bob dydd, a hoffwn ddiolch o galon i'n cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol am y cymorth y maen nhw wedi ei roi i sicrhau bod y cymorth hwn yn cyrraedd y rhai sydd ei angen fwyaf. Yn yr wythnos ddiwethaf, cadarnhawyd cymorth i Faes Awyr Caerdydd gennym ni hefyd, a byddwn yn cyhoeddi rhagor o fanylion am y gronfa cydnerthedd economaidd o £500 miliwn yr wythnos nesaf.

Llywydd, rwy'n ddiolchgar iawn i chi a'r Pwyllgor Busnes am gytuno y gellir defnyddio'r Cyfarfodydd Llawn hyn ar gyfer deddfwriaeth sy'n flaenoriaeth. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau, er enghraifft, i nodi deddfwriaeth Ewropeaidd allweddol y bydd angen ei dwyn gerbron y Senedd.

Llywydd, hoffwn orffen drwy edrych ymlaen. Mae'r tair wythnos o gyfyngiadau aros gartref y darparwyd ar eu cyfer mewn deddfwriaeth, ac yr ydym ni i gyd wedi eu hwynebu, yn dod i ben yr wythnos nesaf. Mae'n rhaid i mi fod yn eglur gyda phob Aelod: ni fydd y cyfyngiadau hyn yn dod i ben bryd hynny. Ni fyddwn yn taflu i ffwrdd yr enillion yr ydym ni wedi eu gwneud a'r bywydau y gallwn ni eu hachub, trwy gefnu ar ein hymdrechion ar yr union adeg y maen nhw'n dechrau dwyn ffrwyth.

Ers i ni gyfarfod ddiwethaf, rwyf i wedi trafod y mater hwn gyda Phrif Weinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon, gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd yn Llywodraeth y DU, a heddiw gyda Changhellor Dugiaeth Caerhirfryn ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Mae mwy o waith i'w wneud o ran adolygu'r rheoliadau ac o ran cael y cyngor gwyddonol a meddygol diweddaraf; bydd union natur yr hyn a fydd yn dilyn y drefn bresennol yn cael ei chytuno yn ystod y dyddiau nesaf.

Ond mae'n rhaid i mi sicrhau peidio â gadael dinasyddion Cymru gydag unrhyw amheuon: nid yw'r ymdrechion yr ydym ni i gyd yn eu gwneud ar ben eto. Ni fyddan nhw ar ben yr wythnos nesaf. Cyn y gellir codi'r cyfyngiadau a dechrau dychwelyd i normalrwydd, mae mwy i ni i gyd ei wneud. Diolch i bob un o'r miloedd ar filoedd o bobl hynny yng Nghymru sy'n gwneud eu cyfraniad bob un dydd ac a fydd yn parhau i wneud hynny dros y dyddiau i ddod. Gyda'n gilydd, rydym ni'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol, rydym ni'n diogelu ein gwasanaeth iechyd gwladol a gyda'n gilydd, rydym ni'n achub bywydau.  

13:40

Hoffwn ail-bwysleisio fy niolch enfawr i'r holl weithwyr hanfodol rheng flaen sy'n parhau i wneud gwaith gwych i'n cadw ni i gyd yn ddiogel. A gaf i hefyd gyfleu fy nghydymdeimlad â'r rhai sydd wedi colli anwyliaid yn ystod y pandemig hwn? Fel chithau, Prif Weinidog, anfonaf fy nymuniadau gorau at Brif Weinidog y DU ac at Alun Davies, a dymunaf wellhad buan iddyn nhw.

Nawr, Prif Weinidog, dros y penwythnos, fe'i gwnaed yn eglur gan arweinydd Plaid Lafur y DU sydd newydd gael ei ethol, Syr Keir Starmer, y bydd ei blaid yn ymgysylltu'n adeiladol â Llywodraeth y DU, nid gwrthwynebu er mwyn gwrthwynebu, ac nid sgorio pwyntiau gwleidyddol na gwneud gofynion amhosibl. Felly, a gaf i ailadrodd y safbwynt hwnnw a dweud y bydd fy nghyd-Aelodau a minnau yn gwneud popeth o fewn ein gallu i barhau i weithio'n adeiladol drwy gydol y cyfnod hwn?

Fe'i gwnaeth yn eglur hefyd bod craffu yn bwysig. Ac felly, yn ysbryd y safbwynt hwnnw, credaf ei bod hi'n deg gofyn pam, o'r holl faterion sy'n wynebu pobl Cymru ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fwrw ymlaen â'r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) heddiw, ar adeg pan, a bod yn gwbl onest, y dylai holl adnoddau'r Llywodraeth gael eu neilltuo i fynd i'r afael ag effaith coronafeirws ar ein cymunedau? Rwy'n gobeithio, Prif Weinidog, y gwnewch chi fyfyrio ar hynny.

Nawr, hefyd dros y penwythnos, fe'i gwnaed yn eglur gan y Gweinidog iechyd, er na allai fod yn 100 y cant yn ffyddiog y byddai'r GIG yn ymdopi, ei fod yn teimlo bod popeth y gellid ei wneud yn cael ei wneud. Fodd bynnag, fel Aelodau eraill rwy'n siŵr, rwy'n parhau i gael gohebiaeth gan etholwyr pryderus a gofidus sy'n teimlo bod pobl yn dal i ddarparu gwasanaethau rheng flaen pwysig pan nad oes ganddyn nhw gyfarpar diogelu personol digonol. Er enghraifft, rwy'n ymwybodol bod rhai cleifion wedi methu â chael triniaeth ddeintyddol frys oherwydd y diffyg cyfarpar diogelu sydd ar gael ar hyn o bryd. Gwn eich bod wedi cyfeirio yn eich datganiad heddiw at y ffaith bod wyth miliwn o ddarnau o gyfarpar ychwanegol wedi eu dosbarthu, ond a allwch chi ddweud wrthym ni beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i nodi unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth o gyfarpar diogelu personol, a pha waith pellach sy'n cael ei wneud i hwyluso darpariaeth y cyfarpar hwn i weithwyr allweddol ar hyn o bryd?

Nawr, rwy'n deall bod gan Gymru y gallu ar hyn o bryd i gynnal tua 1,100 o brofion y dydd gyda'r nod o gyrraedd 5,000 o brofion y dydd ymhen ychydig wythnosau cyn cyrraedd hyd at 9,000 o brofion y dydd erbyn diwedd mis Ebrill. O ystyried y pwysau cynyddol ar y GIG oherwydd coronafeirws, mae'n hanfodol bod nifer y profion sy'n cael eu cynnal yn cyflymu nawr fel y gall y cyhoedd fod yn ffyddiog bod y lefelau profi mor uchel ag sy'n ymarferol bosibl. Efallai y gallech chi ddweud wrthym ni, felly, pa a yw hynny'n dal yn wir, ac a yw Llywodraeth Cymru yn dal i fod ar y trywydd iawn i gyrraedd 9,000 o brofion erbyn diwedd y mis.

Nawr, mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ei gwneud hi'n eglur ei bod yn arallgyfeirio'r ystod o bobl y mae'n gweithio gyda nhw i gynyddu ei chapasiti, ac rwy'n deall y bu rhywfaint o ddeialog gyda phrifysgolion ynghylch y rhan y gallan nhw ei chwarae i helpu i sicrhau capasiti ychwanegol ar hyn o bryd. Felly, a allwch chi ddweud ychydig yn rhagor wrthym ni am y trafodaethau sy'n cael eu cynnal gyda phrifysgolion, a sefydliadau a mudiadau eraill yn wir, am y rhan y gallen nhw ei chwarae i gefnogi'r GIG a helpu i gynyddu capasiti ac adnoddau presennol Cymru?

13:45

Llywydd, diolchaf i Paul Davies am y cwestiynau yna, a hoffwn ddiolch iddo am ei ymgysylltiad parhaus â'r ymdrech yr ydym ni'n ei gwneud. Rwy'n cytuno'n llwyr ag ef ei bod yn gwbl drawsbleidiol a thrawslywodraethol.

Rwy'n falch iawn ein bod ni wedi gallu parhau i graffu yma yng Nghymru. Mae'n rhan bwysig iawn o'r gwaith craffu hwnnw y gellir cyflwyno elfennau allweddol yn ein rhaglen ddeddfwriaethol ac y gall y Cynulliad graffu arnyn nhw. Rwy'n credu bod hynny'n ddefnydd priodol iawn o'n hamser. Rydym ni'n gweithio; rydym ni'n disgwyl i bobl eraill yng Nghymru weithio, a rhan o'n gwaith fel deddfwrfa yw rhoi deddfwriaeth hanfodol ar y llyfr statud yma yng Nghymru. Dyna pam rwy'n falch iawn y byddwn ni'n gallu trafod y Bil llywodraeth leol; mae'n bwysig iawn i bob awdurdod lleol ac i bobl ifanc 16 a 17 oed yma yng Nghymru bod y Bil hwnnw'n gwneud cynnydd ac yn gallu cyrraedd y llyfr statud. Mae Llywodraeth Cymru yn eglur: dim ond y darnau hynny o ddeddfwriaeth yr ydym ni'n credu sy'n hanfodol i'r ymrwymiadau yr ydym ni wedi eu gwneud i bobl yng Nghymru ac sy'n angenrheidiol i wneud ein llyfr statud yn gydlynol y byddwn ni'n eu cyflwyno gerbron y Senedd yn ystod y cyfnod hwn. Rwy'n credu bod ymdrin â'r ddeddfwriaeth flaenoriaeth honno yn rhan annatod o'r hyn y mae deddfwrfa yn ei wneud, ac rwy'n falch iawn ein bod ni'n gallu gwneud hynny y prynhawn yma.

Rwy'n deall, wrth gwrs, yr hyn y mae Paul Davies yn ei ddweud am gyfarpar diogelu personol a bydd pob un ohonom ni fel Aelodau Cynulliad wedi clywed yn uniongyrchol gan unigolion sy'n ofni cael eu rhoi mewn sefyllfa drwy'r gwaith angenrheidiol y maen nhw'n ei wneud lle gallen nhw gael eu hamlygu i risg. Rydym ni eisoes wedi cyhoeddi, fel y cydnabuwyd gan Paul Davies, 8 miliwn o ddarnau o gyfarpar diogelu personol o'n storfeydd pandemig, a bydd hynny'n parhau i gynyddu dros y dyddiau i ddod. Rwy'n disgwyl iddo fod yn bron i 11 miliwn erbyn i'r penwythnos hwn ddod i ben.

A gaf i fod yn eglur nad oes unrhyw fylchau ar hyn o bryd yn y cyflenwadau sydd gennym ni? Mae gennym ni gyflenwadau digonol ar hyn o bryd. Bu rhai tagfeydd o ran cael y cyflenwadau i'r bobl sydd eu hangen nhw, ac mae hynny oherwydd bod hon yn ymdrech enfawr—ymhell y tu hwnt i bopeth y bu'n rhaid i ni ei wneud erioed o'r blaen. Nid yn unig yr ydym ni'n cyflenwi ysbytai, ond rydym ni'n cyflenwi deintyddfeydd, meddygfeydd teulu, cartrefi gofal, awdurdodau lleol eu hunain, ac mae ymdrech aruthrol yn cael ei gwneud i geisio gwneud yn siŵr bod y cyflenwadau hynny'n cyrraedd y bobl sydd eu hangen nhw.

Ceir llinell gymorth a chyfeiriad e-bost penodol i leoedd sy'n teimlo nad oes ganddyn nhw'r hyn sydd ei angen arnyn nhw ac yna, mae system ar waith i geisio gwneud yn siŵr ein bod ni'n cael yr hyn sydd ei angen ar y bobl hynny iddyn nhw mor gyflym â phosibl. Mae ein gallu i ailgyflenwi'r storfeydd hynny'n bwysig dros ben, ac ar gyfer hynny, rydym ni'n dibynnu'n bennaf ar yr ymdrech gaffael sy'n cael ei gwneud ar draws y DU gyfan. Siaradais â Matt Hancock ddoe a chefais sicrwydd y bydd stociau Cymru yn cael eu hailgyflenwi o'r ffynhonnell ganolog honno, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y sicrwydd hwnnw wrth i ni wneud ein gorau glas i gynyddu'r gallu i gael cyflenwadau gan gyflenwyr cynhenid o Gymru hefyd.

Rydym ni'n cyflymu nifer y profion y gallwn ni eu darparu yng Nghymru ac mae'r ganolfan brofi yn stadiwm Dinas Caerdydd ar agor erbyn hyn; roedd yn gweithio'n llwyddiannus iawn brynhawn ddoe. Bydd yn gweld 200 o bobl heddiw. Bydd yn caniatáu i ni brofi mwy o weithwyr gofal cymdeithasol ac yna ymestyn y profion i'r heddlu, swyddogion carchardai a gweithwyr rheng flaen eraill.

O ran arallgyfeirio, mae'n wir ein bod ni mewn trafodaethau â phrifysgolion. Rydym ni'n ddiolchgar iawn iddyn nhw am ryddhau eu stociau o gyfarpar diogelu personol i'r system i'w defnyddio gan y GIG ac, wrth gwrs, rydym ni'n trafod materion gyda staff labordai i weld sut y gallem ni ddefnyddio eu gallu i gyflymu nifer y profion y gallwn ni eu cynnal yng Nghymru.

Prif Weinidog, wrth i wyliau'r Pasg agosáu, mae'n gwbl hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn cynyddu ei negeseuon cyhoeddus i'w gwneud yn gwbl eglur bod yn rhaid i bobl aros gartref. Yn anffodus, rydym ni'n parhau i weld a chlywed adroddiadau am bobl nad ydyn nhw'n cydymffurfio a chyngor y Llywodraeth, ac er bod gan yr heddlu rai pwerau erbyn hyn i ddirwyo'r rhai sy'n mynd yn groes i ganllawiau'r Llywodraeth, mae'n ymddangos bod problem o hyd o ran gorfodi'r rheol aros gartref. Gwn fod Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn ystyried mesurau pellach os bydd y gweithgarwch hwn yn parhau, felly efallai y gallech chi ddweud ychydig mwy wrthym ni am y trafodaethau sy'n cael eu cynnal ar y mater penodol hwn a'r mathau o fesurau pellach sy'n cael eu hystyried mewn gwirionedd.

Gwn yn fy etholaeth i fy hun yn ogystal ag ardaloedd eraill, bod perchnogion tai gwyliau yn dal i deithio i'w hail gartrefi yn hytrach nag aros gartref, ac er fy mod i'n croesawu'r camau y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi eu cymryd i gau parciau carafanau a pharciau gwyliau eraill, mae'n amlwg bod angen gwneud mwy erbyn hyn. Felly, beth arall y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wahardd perchnogion ail gartrefi rhag teithio i fannau poblogaidd ar gyfer gwyliau yma yng Nghymru?

Er bod teuluoedd yn cael eu gorfodi i dreulio mwy a mwy o amser y tu mewn i'w cartrefi eu hunain, mae'n hanfodol bod yr wybodaeth a'r canllawiau diweddaraf ar gael iddyn nhw ar-lein ac oddi ar-lein. Yn amlwg, mae angen gwneud mwy i gynorthwyo cymunedau sy'n dal i fyw gyda darpariaeth band eang is-safonol fel y gall y rhai sy'n byw yn yr ardaloedd hynny gael mynediad at adnoddau addysgol pwysig, ceisiadau ariannol, ac, wrth gwrs, y canllawiau iechyd a Llywodraeth diweddaraf. Felly, a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am waith Llywodraeth Cymru i sicrhau bod pob aelwyd yn gallu cael gafael ar wasanaeth band eang da yn ystod y cyfnod hwn?

Ac yn olaf, Llywydd, ceir rhai pryderon gwirioneddol iawn o hyd i lawer o bobl nad ydyn nhw'n gallu cael gafael ar gymorth busnes, yn enwedig busnesau newydd sbon, ac mae llawer o bobl yn teimlo eu bod nhw wedi disgyn drwy'r bylchau o ran y cymorth sydd ar gael, gan Lywodraethau Cymru a'r DU—er enghraifft, cwmnïau fel cludwyr nwyddau a gweithwyr asiantaeth fel athrawon cyflenwi ac eraill. Felly, o ystyried yr amgylchiadau a'r angen taer i sicrhau bod gan y rhai sydd angen cymorth fynediad ato, a allwch chi ddweud wrthym ni pa adolygiad o gymorth gan y Llywodraeth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ystyried i ganfod bylchau yn y pecynnau sydd ar gael, a pha waith pellach y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i gael mynediad at gymorth busnes i'r rhai sy'n disgyn drwy'r bylchau ar hyn o bryd.

13:50

Wel, unwaith eto, Llywydd, diolchaf i Paul Davies am y cwestiynau yna. A gaf i ymuno ag ef i atgyfnerthu'r neges yr ydym ni wedi ei hanfon dros y ddau benwythnos diwethaf ac yr ydym ni eisiau ei hanfon eto yn y termau mwyaf eglur posibl? Cyn penwythnos y Pasg, mae'r cyngor aros gartref yn eich golygu chi; nid yw'n gyngor i rywun arall, i rywun arall ei ddilyn, mae'n gyngor i bob un ohonom ni ac mae'n rwymedigaeth ar bob un ohonom ni i ddilyn y cyngor hwnnw. Ac nid yw taith i ail gartref yn daith hanfodol, a phan fydd yr heddlu yng Nghymru yn stopio pobl sy'n gwneud hynny, byddan nhw'n cymryd camau gorfodi yn eu herbyn.

Nawr, mae gennym ni alwad gyda'r prif gwnstabliaid cyn y penwythnos ac yn syth ar ôl y penwythnos i wneud yn siŵr eu bod nhw'n barod ar gyfer y gwaith pwysig iawn yr ydym ni'n gofyn iddyn nhw ei wneud ac yna cael adroddiad ganddyn nhw ar sut y gwnaethon nhw gyflawni eu cyfrifoldebau. Ddydd Llun yr wythnos hon, yr adroddiadau gan bob un o'r pedwar prif gwnstabl oedd, er y bu digwyddiadau ledled Cymru gyfan, eu bod nhw'n wasgarog yn hytrach nag wedi'u trefnu, nad oedden nhw, ym marn y prif gwnstabliaid, yn gyfystyr ag affráe yn erbyn y lefelau syfrdanol o ufuddhad y mae dinasyddion Cymru wedi ei ddangos i'r rhwymedigaethau yr ydym ni i gyd yn eu hwynebu, a phan yr oedden nhw wedi dod ar draws digwyddiadau, roedd y pwerau sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd—gan gynnwys blociau ffyrdd, er enghraifft, yn ogystal â dirwyon—roedd y gyfres o gamau gorfodi honno yn dal yn ddigonol iddyn nhw allu ymdrin â'r troseddau a welsant. Ac fe'i gwnaed yn eglur gennyf unwaith eto yn y trafodaethau hynny gyda phrif gwnstabliaid, pe byddai'r farn honno'n newid ac mai eu cyngor i Lywodraeth Cymru fyddai bod nhw angen cyfres gryfach o gamau gorfodi, y byddem ni'n gwneud hynny ar unwaith. Ar hyn o bryd, eu cyngor i ni oedd bod yr hyn sydd ganddyn nhw ar hyn o bryd yn ddigonol i ymateb i'r heriau y maen nhw'n eu hwynebu a byddaf yn cael fy llywio gan y cyngor hwnnw.

Hyd yn oed yn y cyfnod anodd iawn hwn, mae gwaith yn parhau i geisio cryfhau band eang lle nad yw cystal ag yr hoffem iddo fod, ac rwy'n cydnabod y cyd-destun y nododd Paul Davies pam mae hynny'n arbennig o bwysig. Nid yw manylion y gwaith ychwanegol sy'n cael ei wneud gen i, ond rwy'n hapus i gyflenwi hynny, wrth gwrs. O ran cymorth i fusnesau, rwy'n credu bod dwy swyddogaeth y mae Llywodraeth Cymru yn eu cyflawni. Un yw, gan ein bod ni'n cymryd rhan, bob dydd, mewn is-grwpiau o'r system COBRA, rydym ni'n gallu cyfleu yn uniongyrchol i Weinidogion Llywodraeth y DU y bylchau yn y ddarpariaeth y mae pobl yn eu canfod wrth i'r mesurau sydd i'w croesawu yn fawr gan Lywodraeth y DU gael eu gweithredu’n ymarferol. Nid yw'r feirniadaeth o gwbl i awgrymu, wrth i syniadau symud o fod ar bapur i gael eu cyflwyno ar lawr gwlad, y bydd rhai anawsterau yn dod i'r amlwg yn y ffordd y mae'r pethau hynny'n digwydd.

Mae ein cysylltiad wyneb yn wyneb uniongyrchol yn rhoi cyfle i ni gyflwyno'r pwyntiau hynny ar ran busnesau Cymru yn uniongyrchol i Ganghellor y Trysorlys, sy'n cadeirio rhai o'r cyfarfodydd hyn, ac yn uniongyrchol i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol, sy'n cadeirio rhai o'r cyfarfodydd hyn. Mae hynny'n rhywbeth yr ydym ni'n falch iawn o'i wneud—bod yn llais uniongyrchol i fusnesau Cymru o ran helpu Llywodraeth y DU i wella darpariaeth ymarferol y cynlluniau y mae wedi eu rhoi ar waith.

Yr wythnos nesaf, pan fyddwn ni'n gwneud cyhoeddiadau am y £400 miliwn o gymorth busnes sy'n weddill yr ydym ni'n bwriadu ei ddarparu yng Nghymru, gan ganolbwyntio ar fylchau mewn cymorth sydd eisoes ar gael fel arall wedi bod yn brawf allweddol i ni o ran llunio'r pecyn hwnnw. Rydym ni'n gwneud hynny mewn trafodaethau ag eraill—Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, y Ffederasiwn Busnesau Bach, ac yn y blaen. Er ei fod yn anodd, o ystyried maint yr angen sy'n bodoli, ein nod yw canolbwyntio £400 miliwn yn y ffordd a awgrymodd Paul Davies, fel bod ei effaith yn glanio yn y mannau hynny lle nad yw mathau eraill o gymorth ar gael ar hyn o bryd.

13:55

Gaf i ategu'r hyn y dywedodd y Prif Weinidog ac estyn ein dymuniadau gorau ni i gyd, wrth gwrs, i Brif Weinidog y Deyrnas Gyfunol, a hefyd i bawb arall sy'n sâl ar hyn o bryd? Gobeithio y caiff Alun Davies, wrth gwrs, wellhad buan. A gaf i hefyd ddiolch i chi, Brif Weinidog, am y cyfle i mi gael fy mriffio y bore yma gan y prif swyddogion sydd yn arwain yr ymateb i'r argyfwng?

Os trown ni at gyfarpar diogelu personol, cydnabuwyd gennych chi, Prif Weinidog, bod cyfarpar diogelu personol, yn amlwg, yn bryder. Dywed y Coleg Nyrsio Brenhinol eu bod nhw wedi gofyn droeon i Lywodraeth Cymru rannu'r amserlen ddosbarthu ar gyfer cyfarpar diogelu personol fel y gallan nhw dawelu meddyliau eu haelodau. A allwch chi roi ymrwymiad heddiw y bydd hynny'n digwydd nawr? Ac a allwch chi ddweud erbyn pa ddyddiad y bydd yr holl staff rheng flaen yr ydych chi wedi nodi bod angen cyfarpar diogelu personol arnyn nhw yn ei dderbyn yn y niferoedd sydd eu hangen?

Oherwydd y tagfeydd o ran cyfarpar diogelu personol y gwnaethoch chi gyfeirio atynt, mae rhai cyrff cyhoeddus—Cyngor Sir Caerfyrddin, er enghraifft—yn dechrau caffael yn uniongyrchol gan Tsieina eu hunain. Pa gamau ydych chi'n eu cymryd, fel Llywodraeth, i ategu'r dull DU gyfan y cyfeiriasoch ato, i gaffael adnoddau ychwanegol yn rhyngwladol? Yn benodol, pa gysylltiad ydych chi wedi ei wneud, naill ai'n uniongyrchol fel Gweinidogion neu swyddogion, â Llywodraeth Tsieina ac â chyflenwyr yn Tsieina, lle, wrth gwrs, y ceir mwyafrif y ffynonellau?

Mae profiad rhyngwladol yn awgrymu y gall ymyrraeth gynharach gadw pobl sâl allan o'r ysbyty a chynorthwyo gwellhad. Mae meddygon yn yr Eidal, er enghraifft, yn awgrymu y byddai therapi ocsigen cynnar ac ocsimetrau pwls yn cael eu danfon i gartrefi'r rhai sydd â salwch ysgafn yn cyfyngu ar y nifer sy'n mynd i'r ysbyty. A wnewch chi gadarnhau pa un a ydych chi'n ystyried trefn driniaeth newydd o'r fath yn ymarferol?  

Os caf i droi at awyryddion, rwy'n credu rhwng y rhai sydd gennym ni ar hyn o bryd a'r rhai sydd ar archeb, bod gennym ni ychydig dros 1,000 o awyryddion mewnwthiol, rwy'n credu, a fydd ar gael i ni. Pryd y byddwn ni'n gwybod a fydd y cyflenwad hwnnw—y cyflenwad rhagweledig hwnnw—yn ddigon i fodloni'r galw brig a ragwelir ar hyn o bryd?

Ar 12 Mawrth daethpwyd â'r polisi o brofion cymunedol eang i ben. Mae'r Athro Anthony Costello, athro iechyd byd-eang yng Ngholeg Prifysgol Llundain a chyn gyfarwyddwr Sefydliad Iechyd y Byd, yn dweud y bydd canfod, olrhain ac ynysu achosion yn tawelu'r epidemig yn llawer cyflymach. A ydych chi'n mynd i fabwysiadu'r dull hwn o brofi, olrhain ac ynysu yng Nghymru?

Ac yn olaf, ar ôl i chi gadarnhau mai Roche oedd y cwmni a oedd yn rhan o'r cytundeb aflwyddiannus, a wnewch chi gyhoeddi nawr y cytundeb a oedd yn bodoli rhwng Llywodraeth Cymru a'r cwmni? Os ydych chi'n amharod i wneud hynny nawr, a wnewch chi o leiaf ymrwymo heddiw i wneud hynny cyn gynted â phosibl, ar ôl i ryw fath o normalrwydd ddychwelyd? Ac o ran nifer y profion nawr, a fyddai'n bosibl i ni gael ffigurau dyddiol ar gyfer nifer y profion, fel sy'n digwydd yn yr Alban, er enghraifft, fel y gallwn ni olrhain cynnydd tuag at y ffigur o 9,000, rwy'n credu—efallai y gallech chi gadarnhau hynny—o brofion dyddiol yr ydych chi'n bwriadu eu cynnal erbyn diwedd y mis hwn?

14:00

Diolch i Adam Price am y cwestiynau yna a beth ddywedodd e i ddechrau.

O ran cyfarpar diogelu personol a'r amserlen ddosbarthu, mae'r prif swyddog meddygol yn cael cyfarfod wythnosol gydag Academi'r Colegau Meddygol Brenhinol; rwy'n siŵr bod y Coleg Nyrsio Brenhinol yn cael ei gynrychioli yn y fan honno ac rwy'n siŵr y byddai'r prif swyddog meddygol yn hapus iawn i drafod pa un a yw amserlen ddosbarthu yn arf defnyddiol i aelodau'r colegau brenhinol. Mae ein sefydliad cydwasanaethau ein hunain yn caffael ar ran Cymru. Yn ogystal â'r cyflenwadau yr ydym ni'n eu cael trwy drefniadau newydd y DU, rydym ni wedi gallu sicrhau ein cyflenwadau ein hunain erioed. Ac yn gyffredinol, fy nghyngor i awdurdodau lleol ac eraill yw ei bod hi'n well bod yn rhan o'r ymdrech genedlaethol honno, er fy mod i'n deall bod gan lawer o sefydliadau eu cyflenwyr eu hunain a rhai trefniadau hirsefydlog y gallan nhw fanteisio arnynt. Ond rydym ni'n lwcus i gael cydwasanaethau'r GIG yma yng Nghymru—sefydliad cenedlaethol sydd ag enw da iawn a gweithlu medrus iawn, sy'n gweithio'n galed i sicrhau cyfarpar diogelu personol, gan gynnwys o dramor, gan gynnwys cysylltiadau yn Tsieina hefyd.

Gofynnodd Adam un neu ddau o gwestiynau i mi, Llywydd, am faterion clinigol, a'r unig ateb y gallaf i ei roi ar unrhyw adeg yw bod yn rhaid i mi gael fy llywio gan y cyngor clinigol gorau sydd gen i. Felly, bydd ein clinigwyr, wrth gwrs, yn edrych ar dystiolaeth ryngwladol o ymyrraeth gynnar, a pha un a oes trefnau y dylem ni eu mabwysiadu yma yng Nghymru. Maen nhw mewn sefyllfa well o lawer na mi i wneud yr asesiad hwnnw, a phan fydd ein clinigwyr yn credu bod pethau newydd y gellir eu gwneud, ac y byddan nhw'n effeithiol yn glinigol o ran ymateb i'r coronafeirws, yna wrth gwrs byddwn ni'n eu cynorthwyo nhw yn eu hymdrechion. Mae'n rhaid dweud yr un peth o ran ein dull profi, olrhain ac ynysu. Y drefn sydd gennym ni yw'r drefn a argymhellwyd i ni gan bedwar prif swyddog meddygol y Deyrnas Unedig. Os daw adeg pan mai eu cyngor nhw i'r Llywodraeth yw bod angen i ni symud i gyfeiriad newydd o ran profi, yna gallwch fod yn siŵr y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd eu cyngor. Does dim y fath beth â chyngor heb ei gwestiynu. Rydym ni'n gwybod bod llawer o wahanol safbwyntiau ymhlith clinigwyr ac academyddion ac arbenigwyr eraill. Yr hyn na all Llywodraeth ei wneud, a'r hyn na all Gweinidogion yn Llywodraeth Cymru ei wneud, yw dewis a dethol rhwng y lleisiau hynny sy'n cystadlu. Mae'n rhaid i ni ddibynnu ar y lleisiau uchaf a mwyaf awdurdodol sydd gennym ni, a'r pedwar prif swyddog meddygol sy'n gweithio'n agos iawn gyda'i gilydd i gynghori pob un o'r pedair Llywodraeth yn y Deyrnas Unedig yw'r rheini. Eu cyngor nhw yr ydym ni'n dibynnu arno, a'u cyngor nhw yr wyf i'n parhau i'w gymryd.

O ran awyryddion, ein pryder yw—. Mae'n gwestiwn da iawn. Ar 5 Ebrill, cyhoeddodd Vaughan Gething ddatganiad manwl yn nodi capasiti presennol, mewnwthiol, anfewnwthiol, y stoc sydd ar archeb, nifer yr awyryddion sydd eisoes wedi cyrraedd Cymru. Yr hyn y mae'n rhaid i ni ei wneud wedyn, fel y gwn fod Adam Price yn ei ddeall, yw bod yn rhaid i ni gyfateb y capasiti hwnnw â thrywydd y clefyd, a chan nad ydym ni'n gwbl sicr eto pa bryd fydd y cyfnod brig hwnnw, mae ateb manwl i'r cwestiwn 'A oes gennym ni ddigon?' yn y fantol o hyd braidd. Yr hyn yr wyf i'n credu y gallwn ni ei ddweud yn hyderus yw bod y camau yr ydym ni i gyd wedi eu cymryd yn ystod yr wythnosau diwethaf wedi gostwng y gromlin i bwynt lle y gallwn ni fod yn llawer mwy ffyddiog y bydd y cyflenwadau ychwanegol sydd gennym ni o awyryddion yn cyfateb yn llawer agosach i'r patrwm presennol o salwch nag a fyddai wedi bod yn wir fis yn ôl pan oedd gennym ni lai o awyryddion yn y system a phatrwm gwahanol iawn o glefyd o'n blaenau.

Llywydd, cyn belled ag y mae Roche yn y cwestiwn, rwyf i wedi ateb cwestiynau am hynny am tua 10 diwrnod bellach, ac nid oes gen i ddim byd pellach i'w ychwanegu y prynhawn yma at yr hyn yr wyf i eisoes wedi ei ddweud ar y cofnod.

14:05

Dim ond ar y mater o olrhain, profi ac olrhain cysylltiad, lle ceir, yn amlwg, amrywiaeth o safbwyntiau a gwahaniaeth barn ymhlith gwyddonwyr, epidemiolegwyr ac arbenigwyr iechyd cyhoeddus, o gofio bod demograffeg Cymru yn wahanol—ac, yn wir, mae Gweinidogion wedi cyfeirio at hyn—a fyddai'n bosibl i Lywodraeth Cymru gomisiynu ei modelu annibynnol ei hun, neu ofyn i SAGE a'r gwahanol is-bwyllgorau wneud modelu penodol ar y mater o ba un a ddylem ni yng Nghymru, wrth i ni ddod allan o'r cyfyngiadau symud, fabwysiadu'r polisi hwn, polisi De Corea o brofi ac olrhain?

O ran cyfarpar diogelu personol, a gaf i ddweud y cysylltwyd â ni heddiw gan un perchennog cartref gofal diobaith, sy'n ceisio archebu cyfarpar diogelu personol gan y prif gyflenwr ar gyfer cartrefi gofal yn y DU, dim ond i gael gwybod y rhoddwyd y cyflenwadau hyn iddyn nhw i'w dosbarthu gan Public Health England, ac felly bod yn rhaid eu neilltuo ar gyfer cartrefi yn Lloegr yn unig? A allwch chi wneud ymholiadau brys, Prif Weinidog, i gadarnhau a yw hynny'n gywir?

A hefyd, o ran y sefyllfa economaidd y cyfeiriwyd ati'n gynharach, mae'n amlwg yn destun pryder darganfod bod y cynllun benthyciadau busnes gwerth £100 miliwn gan Fanc Datblygu Cymru wedi ei danysgrifio'n llawn bellach ar ôl wythnos. A allwch chi ddweud pryd a sut yr ydych chi'n bwriadu ei ymestyn?

Ac yn olaf, o ran penwythnos gŵyl banc y Pasg ac anfon y neges gywir, fel yr wyf i'n siŵr y byddwch chi fel Prif Weinidog yn ei wneud, a ydych chi'n credu y byddai'n ddefnyddiol i Lywodraeth y DU, fel yr ydych chi wedi ei wneud, gyhoeddi, cyn y penwythnos, eu bod nhw'n ymestyn y cyfyngiadau symud yn hytrach nag aros i'r tair wythnos ddod i ben yn bendant ddydd Mawrth nesaf, fel y byddai hynny'n anfon y neges gryfaf bosibl bod hwn yn argyfwng cenedlaethol, a nid gwyliau cenedlaethol?

Llywydd, hoffwn ddiolch i Adam Price am y cwestiynau pwysig yna. Mae'n iawn, wrth gwrs, am yr amrywiaeth o safbwyntiau. Mae gennym ni gynrychiolydd Cymru ar SAGE, mae gennym ni ein prif swyddog meddygol ein hunain. Maen nhw'n distyllu'r cyngor ac yn rhoi cyngor wedi'i deilwra ar gyfer Cymru, ac mae hynny'n cynnwys rhywfaint o fodelu penodol y gallan nhw ei wneud, a byddaf yn codi gyda nhw y cwestiwn penodol y mae Adam Price wedi ei godi am fodelu mewn ardal olrhain cysylltiad i weld a fyddai gwahanol gyngor yn dod i Gymru. Hyd yn hyn, nid felly y bu, ond ni ddylem ni roi'r gorau i ofyn y cwestiwn, rwy'n cytuno.

O ran cyfarpar diogelu personol, ceir caffaeliad ar sail y DU, mae cynnyrch hynny'n cael ei rannu i Gymru, i Ogledd Iwerddon, i'r Alban ac i Loegr, a'n cyfrifoldeb ni wedyn yw trosglwyddo hwnnw'n fewnol i bobl sydd ei angen. Os oes rhywun sy'n poeni am beidio â chael yr hyn sydd ei angen arno, dylai ddefnyddio'r llinell gymorth benodol sydd ar gael iddo. Fel hynny, bydd yn cael yr ateb cywir yn y modd cyflymaf posibl.

O ran y pwynt am Fanc Datblygu Cymru, rwy'n cael fy nharo'n bendant gan y neges y mae'n ei hanfon am lefel yr adfyd yn yr economi. Fel rheol, byddai Banc Datblygu Cymru yn cael tua 500 o geisiadau y flwyddyn am y math o gyllid a neilltuwyd rhyw wythnos yn ôl; cawsant 1,100 o geisiadau mewn un wythnos am y £100 miliwn hwnnw. Y newyddion da—ac, unwaith eto, hoffwn dalu teyrnged i staff y banc, oherwydd o fewn tri diwrnod, roedden nhw'n gwneud y penderfyniadau cyntaf, ac erbyn diwedd yr wythnos diwethaf, roedd yr arian cyntaf yn nwylo busnesau yng Nghymru. Yr her i Lywodraeth Cymru nawr yw gweld a oes unrhyw beth arall y gallwn ni ei wneud i ychwanegu at y gronfa honno. Fel y gall yr Aelodau sy'n gwrando ei ddeall, rwy'n siŵr, mae galwadau am gyllid o bob agwedd ar fywyd Cymru yn yr argyfwng hwn, a swm cyfyngedig o arian ar gyfer ateb yr holl alwadau hynny. Mae Llywodraeth Cymru yn gwasgu arian o bob poced y gallwn ni ddod o hyd iddi i geisio diwallu'r anghenion mwyaf taer hynny, a byddwn yn gwneud hynny eto yng nghyd-destun Banc Datblygu Cymru.

Yn olaf, ar bwynt Adam Price ynghylch neges unedig i'r DU cyn y penwythnos hwn, dyna oedd pwrpas fy nhrafodaethau gyda Phrif Weinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon yn gynharach, i geisio cael neges gyffredin. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cytuno, fel y dywedais yn fy natganiad rhagarweiniol, nad oes gobaith o gwbl y bydd y mesurau hyn yr ydym ni i gyd yn gorfod eu parchu yn dod i ben ar ddiwedd y cyfnod tair wythnos hwn. Byddan nhw'n parhau yng Nghymru yr wythnos nesaf. Rwy'n credu y byddan nhw'n parhau mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig, a phe gallem ni gyfleu'r un neges honno mewn ffordd gyfunol ac unedig ar draws y Deyrnas Unedig, byddai hynny, wrth gwrs, yn rhoi grym a chryfder ychwanegol iddi.

14:10

Diolch am eich datganiad, Prif Weinidog. Hoffwn anfon fy nghydymdeimlad at deuluoedd a chyfeillion y rhai sydd wedi colli anwyliaid i COVID-19, ac fy nymuniadau gorau hefyd i Brif Weinidog y DU, ein cyd-Aelod Alun Davies, ac, yn wir, pawb sy'n brwydro'r clefyd hwn ar hyn o bryd; a diolch i bawb sy'n rhan o'r frwydr yn erbyn y clefyd: gweithwyr iechyd a staff gofal cymdeithasol, gweithwyr siopau, gyrwyr danfoniadau, swyddogion carchar, a miloedd o wirfoddolwyr, o gerddwyr cŵn sy'n helpu pobl agored i niwed i'r rhai sy'n dylunio a gweithgynhyrchu gwarchodwyr wyneb. Wrth i'r clwyf barhau i greu llanastr ledled Cymru, rydym ni'n gwybod nad oes yr un gymuned na pherson yn ddiogel, ond rydym ni hefyd yn gwybod bod rhai pobl yn dal i gredu bod coronafeirws yn ymosod ar bobl oedrannus iawn neu bobl sâl iawn yn unig. Felly, fy nghwestiwn cyntaf yn y fan yma yw: a wnewch chi sicrhau bod neges Llywodraeth Cymru, yn y dyfodol, yn gryfach o lawer?

Yn dechnegol, rydym ni'n gwybod bod yr henoed a'r rhai sydd â phroblemau iechyd sylfaenol mewn mwy o berygl, ond, ar hyn o bryd, mae ein hysbytai yn llawn pobl sydd o dan 60 oed, ac rydym ni hefyd yn gwybod bod plant ifanc, plant ifanc iawn, wedi marw trwy coronafeirws heb unrhyw broblemau iechyd sylfaenol.

Rwyf i hefyd yn bryderus nad yw pawb sy'n arbennig o agored i'r clefyd hwn yn cael eu diogelu, ac mae un o weithwyr y GIG wedi cysylltu â mi gan dynnu sylw at y ffaith nad yw clefyd niwronau motor wedi'i gynnwys ar y rhestr arbennig o agored i niwed yng Nghymru, a chymerwyd camau yn Lloegr a Gogledd Iwerddon i sicrhau bod y rhai sydd â chlefyd niwronau motor yn cael eu diogelu, ond nid oes mecanwaith o'r fath yng Nghymru. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi sicrhau bod dioddefwyr clefyd niwronau motor yn cael eu diogelu rhag y clefyd hwn?

Prif Weinidog, a wnewch chi hefyd ddiweddaru'r negeseuon iechyd cyhoeddus  i ail-bwysleisio mai'r unig ffordd y gall pobl osgoi dal y clefyd hwn yw osgoi cysylltiad ag eraill, oni bai ei fod yn gwbl hanfodol? Eisoes, mae rhai pobl yn galw am lacio rhai o'r mesurau, ac mae rhai yn dal i fethu â dilyn cyngor iechyd cyhoeddus. Rydym ni i gyd eisiau dychwelyd i'n ffordd arferol o fyw cyn gynted â phosibl, ond, mewn gwirionedd, nid yw hyn yn debygol o fod am beth amser eto, ac mae'n rhaid atgyfnerthu'r neges hon. Gofynnaf a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu rhoi mesurau lliniaru cryfach ar waith.

Prif Weinidog, rydych chi wedi cyflwyno deddfau newydd i sicrhau bod busnesau'n cydymffurfio â chanllawiau cadw pellter cymdeithasol, ac rwy'n croesawu'r cam. Fodd bynnag, rwy'n pryderu bod 'mesurau rhesymol' yn agored iawn i wahanol ddehongliadau. Prif Weinidog, pam mae eich safbwynt ar hyn wedi meddalu o'r adeg y gwnaethoch chi grybwyll y mesurau gyntaf cyn y penwythnos, ac a allwch chi amlinellu'r dystiolaeth wyddonol a hysbysodd eich proses o wneud y penderfyniad? Rwy'n derbyn na fydd pawb yn ddigon ffodus i allu cadw 2m oddi wrth ei gilydd, ond dylai'r bobl hynny gael y mesurau diogelu gorau sydd ar gael i'w hamddiffyn rhag y feirws hwn.

Prif Weinidog, pa gamau ydych chi'n eu cymryd i sicrhau bod gan Gymru gyflenwad cyson o gyfarpar diogelu personol, yn enwedig anadlyddion, o gofio'r cam gan yr Unol Daleithiau i atafaelu cyflenwadau a weithgynhyrchir gan gwmnïau yn yr Unol Daleithiau ac a fwriadwyd ar gyfer gwledydd eraill? Felly, a oes gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU gyflenwadau digonol o offer hanfodol nad yw'n dod o'r Unol Daleithiau? Mae'r Unol Daleithiau wedi cyflwyno deddfwriaeth adeg rhyfel i rwystro cwmnïau'r Unol Daleithiau rhag allforio deunydd ac offer sydd eu hangen i ymladd y feirws. Mae un cwmni wedi datblygu profion sy'n rhoi canlyniadau o fewn pum munud yn hytrach na phum awr, ond maen nhw wedi eu cyfyngu'n llym i'r Unol Daleithiau. Bydd profion cyflymach a mwy dibynadwy yn helpu i frwydro'r clefyd hwn gymaint ynghynt. Prif Weinidog, a ydych chi'n ymwybodol o unrhyw drafodaethau gyda Llywodraeth yr Unol Daleithiau ynghylch sicrhau'r dechnoleg i'w defnyddio yn y DU?

Prif Weinidog, mae ymdrechion i frwydo'r pandemig COVID-19 yn cael eu llesteirio'n ddifrifol gan rannu gwybodaeth anghywir ar gyfryngau cymdeithasol. Ledled y DU, mae gorsafoedd sylfaen ffonau symudol yn cael eu dinistrio mewn pyliau o danau bwriadol oherwydd damcaniaethau cynllwyn sy'n cael eu rhannu am ran 5G yn yr argyfwng hwn. Mae brechlynnau hefyd yn cael eu beio fel achos gwirioneddol marwolaethau ledled y byd. Felly, po hiraf y caniateir i'r wybodaeth anghywir hon ledaenu, y mwyaf yw'r risg i'n seilwaith hanfodol, ac mae llif y data yr un mor bwysig i'r frwydr yn erbyn y clefyd â'r llif o feddyginiaethau ac offer. Prif Weinidog, pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth yr Unol Daleithiau a chwmnïau cyfryngau cymdeithasol ynglŷn â'r ffordd orau o fynd i'r afael â gwybodaeth anghywir, a hefyd pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael gyda'r gweithredwyr ffonau symudol am y ffordd orau o sicrhau a diogelu ein seilwaith symudol hanfodol? Diolch yn fawr.

14:15

Diolch, Caroline. Roeddwn i'n meddwl eich bod chi wedi cyflwyno'n argyhoeddiadol iawn ar ddechrau'r hyn a ddywedasoch yr amrywiaeth enfawr honno o unigolion a galwedigaethau sy'n rhan o'r ymdrech gyfunol yr ydym ni'n ei gwneud yma yng Nghymru. Rydym ni'n canolbwyntio'n briodol ar weithwyr gofal iechyd a gweithwyr gofal cymdeithasol, ond mae'r ymdrech yn mynd ymhell y tu hwnt i hynny, a nodwyd hynny gennych chi ar ddechrau eich cyfraniad.

Yn gryno, i fynd drwy rhai o'r cwestiynau hynny, ceir lleiafrif bach o bobl sy'n credu rywsut nad yw coronafeirws yn berthnasol iddyn nhw, ond mae'n feirws nad yw'n parchu pobl na lleoedd, ac mae'n rhaid i ni barhau i'w hatgoffa, a siawns y bydd rhai o'r enghreifftiau anodd y byddan nhw wedi eu gweld o unigolion yn eu hargyhoeddi nad yw hwn yn feirws sy'n cadw ei hun ar gyfer yr henoed nac ar gyfer pobl â chyflyrau iechyd sylfaenol. Gall unrhyw un ei gael a gall unrhyw un ei gael yn wael iawn.

Codwyd y pwynt am glefyd niwronau motor y bore yma gyda'r prif swyddog meddygol yma yng Nghymru, ac mae'n gwneud darn o waith ar unwaith i weld a oes unrhyw beth arall y mae angen i ni ei wneud ynglŷn â hynny. Wrth gwrs, rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Caroline Jones—mai'r ffordd orau o gadw eich hun yn iach yw drwy osgoi cysylltiad â phobl eraill. Ond mae gen i'r cydymdeimlad mwyaf enfawr â phobl sy'n canfod eu hunain yn gaeth i'w cartref o dan amgylchiadau sy'n fwy heriol fyth iddyn nhw nag y bydden nhw i bobl eraill—os ydych chi'n gofalu am rywun â dementia, er enghraifft, nad yw'n gallu mynd allan mwyach, fel y gallai o'r blaen; os oes gennych chi blentyn ag awtistiaeth, y mae ei fywyd yn dibynnu ar drefn a rheoleidd-dra a gallu mynd i leoedd lle mae'n adnabod pobl a lle mae bywyd yn rhagweladwy, ac yn sydyn nid yw bywyd yn rhagweladwy o gwbl, ac rydych chi'n gorfod ymdopi â hynny i gyd yn ogystal â phopeth y mae'n rhaid i chi ei wneud eich hun. Felly, wrth gwrs fy mod i'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Caroline Jones am bobl yn cadw at y rheolau, yn aros gartref, ond rwy'n credu y byddai pob un ohonom ni, y byddai ein calonnau'n mynd allan, oni fydden nhw, i bobl sy'n gorfod ymdopi â hynny i gyd o dan amgylchiadau a fydd mor arbennig o anodd.

O ran busnesau a mesurau rhesymol, fe wnaethom ni gynnwys hynny oherwydd po fwyaf yr ydym ni'n trafod hyn â sefydliadau busnes yng Nghymru, y mwyaf amlwg y daw'r ystod enfawr o wahanol fathau o fusnesau sydd yng Nghymru, a safleoedd gweithle. Mae'r mwyafrif helaeth o fusnesau yng Nghymru eisoes yn hynod o feddylgar ynghylch eu gweithlu—fel y dywedais yn fy natganiad agoriadol, eu hased pwysicaf—eisoes yn gwneud popeth, ond roeddem ni eisiau ddefnyddio grym y gyfraith y tu ôl i'r cyngor sydd wedi bod ar gael drwy'r amser, ac i ddylanwadu ar y lleiafrif hwnnw o fusnesau lle mae pobl yn dweud wrthym—rwy'n siŵr eu bod yn dweud wrthych chi—pan eu bod yn ysgrifennu atom fel Aelodau unigol, 'Mae'n rhaid i mi fynd i'r gwaith ond dydw i ddim yn teimlo'n ddiogel pan fydda i yno', ac mae'r newid yn y gyfraith yng Nghymru wedi ei gynllunio i fod ar ochr y bobl hynny.

Rydym ni mewn cystadleuaeth fyd-eang ar gyfer cyfarpar diogelu personol. Fel Llywodraeth Cymru, nid ydym wedi cael unrhyw drafodaethau uniongyrchol gyda Llywodraeth yr Unol Daleithiau, ond rydym yn sicr y bydd y trafodaethau hynny'n digwydd ar lefel y DU.

A dim ond i ddweud i gloi fy mod i'n llwyr gydnabod y pwynt a wnaeth Caroline Jones am wybodaeth anghywir. Nid yw hynny'n parchu ffiniau cenedlaethol, ac mae angen ymdrech ryngwladol i geisio sicrhau ein bod yn gwasgu arno pa le bynnag y byddwn yn ei weld. Y cyngor cadarnhaol, er hynny, yw dibynnu ar ffynonellau cyngor dibynadwy ac, yma yng Nghymru, gwefan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gwefan Llywodraeth Cymru, gwefannau GIG Cymru—mae'r rhain yn lleoedd y gallwch fynd iddynt gan wybod bod y cyngor a gewch yn gynnyrch pobl sy'n gwybod am yr hyn y maen nhw'n sôn amdano. Dylech ddibynnu ar hynny a pheidio â chael eich tynnu i mewn i'r ffynonellau gwybodaeth eraill hynny y gwyddom sydd wedi eu cynllunio i daflu pobl i lawr y llwybr anghywir.

14:20

Bu nifer o wythnosau erbyn hyn ers i Fwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan fod yn ardal â nifer fawr o achosion. O'r ystadegau, rydym ni'n gwybod mai Casnewydd sydd â'r nifer fwyaf o achosion a gadarnhawyd yng Nghymru ar gyfer pob 100,000 o'r boblogaeth. Mae'r cyhoeddiad dros y penwythnos o 7,000 o welyau critigol i'w groesawu, gan ychwanegu ysbytai maes. Yn hyn o beth, bwrdd iechyd Aneurin Bevan fydd â'r cynnydd rhifiadol lleiaf i nifer y gwelyau critigol ar draws holl fyrddau iechyd Cymru. Gydag Ysbyty Brenhinol Gwent yn fy etholaeth i o dan bwysau, a allwch chi fy sicrhau i bod y cynlluniau ar waith i sicrhau bod cymorth ar gael i gleifion Casnewydd a Gwent allu cael gwelyau, yn enwedig gan ein bod ni ar y blaen i rannau eraill o Gymru a'r DU ar hyn o bryd?

Ac, yn ail, rydym ni'n gwybod bod gofalwyr o bob oed sy'n byw gydag anwyliaid sy'n hunanynysu neu sy'n gwarchod o dan lawer iawn o bwysau yn y cyfnod hwn. Nid yw llawer ohonyn nhw'n gallu cael gafael ar y gwasanaethau seibiant sydd ganddyn nhw fel arfer, ac mae rhai yn gwarchod eu hanwyliaid sydd ar ddiwedd eu hoes. Yn benodol, mae gofalwyr ifanc yn aml yn dibynnu ar y cymorth uniongyrchol y maen nhw'n ei gael yn yr ysgol, ac mae gofalwyr ifanc yn fwy tebygol o deimlo'n ynysig, yn unig ac wedi eu gorlwytho. Beth arall all Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau nad yw ein gofalwyr o bob oed yn cael eu hanghofio?

Llywydd, hoffwn ddiolch i Jayne am y ddau gwestiwn yna. Wrth gwrs, mae gwelyau ychwanegol yn cael eu cyflwyno yn ardal Gwent, yn enwedig gyda'r cyflymiad i'r defnydd o Ysbyty'r Grange, na fydd yn ysbyty maes, ond a fydd yn ysbyty gwirioneddol gyda'r holl gyfarpar. Ond y pwynt cyffredinol yr wyf i eisiau ei wneud yw, pan ein bod ni'n sôn am y GIG, bod yr ail 'G' wir yn golygu rhywbeth yn y math hwn o argyfwng. Gwasanaeth iechyd gwladol ydyw, lle mae cyd-gymorth a synnwyr o adnodd cyffredin yn wirioneddol bwysig. Felly, nid yw'r ffaith bod gwelyau'n cael eu darparu yng Nghaerdydd yn golygu na ellir eu defnyddio ar gyfer pobl mewn ardaloedd cyfagos lle mae mwyaf o angen. Defnyddiwyd cyfleuster profi newydd Stadiwm Dinas Caerdydd gyntaf gyda staff gofal cymdeithasol o Went, gan mai'r angen i ddarparu profion i'r gymuned honno oedd y brys mwyaf. Felly, mae gennym ni wasanaeth iechyd gwladol lle'r ydym ni'n disgwyl i'r bobl hynny y mae eu hanghenion o'r brys mwyaf gael y cymorth sydd ei angen arnynt, a bydd hynny'n sicr yn berthnasol i bobl Casnewydd ac i bobl Gwent.

Mae Jayne yn gwneud pwynt mor bwysig am ofalwyr. Ceisiais gyfeirio ato yn anuniongyrchol yn fy ateb i Caroline Jones am bobl sy'n aros gartref mewn amgylchiadau hyd yn oed anoddach nag eraill. Mae gofalwyr ifanc yn agored i niwed yn eu ffordd eu hunain. Dyna pam yr ydym ni wedi cadw ysgolion ar agor yng Nghymru, a'r bobl hynny sydd â chyfrifoldebau gofalu ar oedran mor ifanc, sydd angen ychydig o seibiant yn ystod y dydd, yna mae'r gwasanaeth ieuenctid a'n gwasanaeth addysg yn effro i hynny. Ac rwy'n gobeithio y byddan nhw'n gallu parhau i ddod o hyd i rywfaint o gymorth, o dan yr amgylchiadau gwirioneddol anodd hyn, gan wasanaethau sy'n dal i fod yno, sy'n dal ar gael iddyn nhw, ac sy'n barod ac yn fodlon i helpu.

14:25

Rydym ni wedi cael cwestiynau gan bob un o'r grwpiau gwleidyddol erbyn hyn. Hoffwn allu galw ar gynifer o Aelodau â phosibl, os gallwn ni gael cwestiynau cryno gan yr Aelodau o hyn ymlaen. Ac a allwch chi geisio peidio ag ailadrodd materion sydd eisoes wedi eu gofyn a'u hateb os gwelwch yn dda. Ac os caf i ddweud wrth y Prif Weinidog hefyd, peidiwch â theimlo rheidrwydd i ailadrodd ateb yr ydych chi eisoes wedi ei roi i gwestiynau blaenorol. Jack Sargeant.

Diolch, Llywydd. Os caf i ddechrau drwy anfon fy nymuniadau gorau at Brif Weinidog y DU ac at Alun Davies a phawb sy'n dioddef hefyd.

Y materion yr wyf i eisiau eu codi gyda chi yn uniongyrchol, Prif Weinidog, yw'r rhai sy'n ymwneud â phobl hunangyflogedig. Nawr, mae pobl hunangyflogedig a minnau yn croesawu cynlluniau sydd ar waith i'w cynorthwyo. Fodd bynnag, rwy'n poeni am yr amser y bydd yn ei gymryd i gael mynediad at y llwybrau hynny. Felly, beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i annog Llywodraeth y DU i gyflymu'r cymorth hwn i bobl hunangyflogedig a hefyd i geisio sicrwydd ar gyfer y rhai sydd wedi dod yn hunangyflogedig yn ddiweddar fel y byddant hwythau hefyd yn gymwys i gael y cymorth hwn?

Ac mae fy ail gwestiwn, Prif Weinidog, yn ymwneud â phobl agored i niwed, a'r rhai sy'n hunanynysu sydd angen slotiau danfon blaenoriaethol wrth iddyn nhw siopa. A oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i weithio gydag archfarchnadoedd ledled Cymru i'w helpu i gael blaenoriaeth, ac, os felly, pryd ydym ni'n debygol o ddisgwyl i hyn fod ar waith? Diolch.

Diolch yn fawr i Jack Sargeant. Mae'n dda iawn eich gweld chi, Jack, ar ôl yr wythnosau diwethaf.

O ran yr hunangyflogedig, mae'n destun pryder na fydd y cymorth hwnnw ar gael tan fis Mehefin, ac mae Jack yn llygad ei le—ceir bwlch mawr i bobl nad oedd ganddyn nhw ffurflenni, ffurflenni treth, yr oedden nhw'n gallu eu cyflenwi ar gyfer 2019. Dywedais yn gynharach, Llywydd, ein bod ni'n gallu gwneud y pwyntiau hyn yn uniongyrchol i Weinidogion y DU sy'n gyfrifol. Bydd rhagor o gyfleoedd i wneud hynny a byddaf yn gwneud yn siŵr ein bod ni'n parhau i hysbysu am y pryderon sydd gan Aelodau'r Cynulliad.

Rwy'n siŵr y bydd Lesley yn rhoi ateb llawnach ynglŷn â phobl agored i niwed a bwyd. Dim ond i fod yn eglur, ar draws y Deyrnas Unedig, mae'r slotiau blaenoriaeth y gall archfarchnadoedd eu cynnig ar gyfer y grŵp sy'n cael ei warchod, nid y grŵp agored i niwed, sy'n llawer mwy na hynny. Cwblhawyd cytundebau data gennym gydag archfarchnadoedd yng Nghymru yr wythnos hon. Mae hynny'n wirioneddol bwysig—ni allwn ni rannu data personol pobl gydag archfarchnadoedd heb fod mesurau diogelu priodol ar waith. Darparwyd yr holl ddata i dair o'r wyth archfarchnad ddoe. Bydd y gweddill ohonyn nhw'n eu cael heddiw. Mae hynny'n golygu y byddan nhw'n yn gallu trefnu danfoniadau cartref i bobl yn y grŵp sy'n cael ei warchod yma yng Nghymru ac rydym ni'n disgwyl i hynny ddechrau yr wythnos hon.

Prif Weinidog, gwnaed cyhoeddiad yr wythnos diwethaf am ysbytai maes yn y gogledd, a oedd yn amlwg i'w groesawu'n fawr iawn. Ond mae rhai o'm hetholwyr wedi dweud wrthyf i bod nifer y gwelyau yn y gogledd yn yr ysbytai maes hyn yn llai na'r rhai sydd wedi eu cynllunio ar gyfer dinasoedd unigol yn y de, gan gynnwys Caerdydd ac Abertawe, ac maen nhw'n teimlo'n bendant iawn efallai nad yw'r rhanbarth yn cael ei gyfran deg o'r gwelyau hyn a'r adnoddau sydd eu hangen i'w darparu. Pa sicrwydd allwch chi ei roi i'm hetholwyr i ac i eraill yn y gogledd ein bod ni'n cael yr adnoddau priodol sydd eu hangen arnom ni?

Mae mater arall sydd gennym ni yma yn y gogledd yn ymwneud â natur dymhorol y diwydiant twristiaeth, ac, o ganlyniad i hynny, wrth gwrs, ceir llawer o weithwyr tymhorol na fydden nhw wedi bod mewn gwaith erbyn 28 Chwefror ac nad ydyn nhw, felly, yn gymwys ar gyfer y cynllun cadw swyddi drwy gyfnod y coronafeirws. O ystyried, yn amlwg, arwyddocâd y diwydiant twristiaeth i Gymru, a yw hyn yn rhywbeth yr ydych chi wedi ei nodi eisoes fel Llywodraeth Cymru, ac, os felly, pa fath o gamau y gallech chi eu cymryd i lenwi'r bwlch penodol hwn yn y cynllun hwnnw fel y gall pobl gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw ac y maen nhw'n dibynnu'n fawr iawn arno o ran eu hincwm teuluol?

Ac, yn olaf, un mater yn ymwneud â ffioedd dysgu, os caf i, i fyfyrwyr. Yn amlwg, mae llawer o fyfyrwyr wedi cael eu hanfon yn ôl adref gan eu prifysgolion—maen nhw'n cyflawni eu cyrsiau ar-lein erbyn hyn, yn hytrach na gallu astudio mewn theatrau darlithio ac mewn labordai. Mae rhai myfyrwyr yn dweud nad yw talu £9,000 y flwyddyn yn cynrychioli gwerth am arian, o ystyried y sefyllfa bresennol, ac rwy'n meddwl tybed pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei rhoi i edrych ar ostwng y ffioedd dysgu ar gyfer eleni, ac efallai hefyd, gan edrych ar y flwyddyn nesaf, y cymorth ychwanegol a allai fod ar gael i helpu myfyrwyr gyda'r costau hynny. Rwy'n credu y byddwn yn ddiolchgar am atebion i'r tri chwestiwn hynny. Diolch.

14:30

Llywydd, hoffwn ddiolch i Darren am bob un o'r tri chwestiwn. Mae capasiti ysbytai maes yng Nghymru yn ddarlun sy'n datblygu. Datganiad Vaughan ar 5 Ebrill oedd y sefyllfa ar y diwrnod hwnnw. Rydym yn dal i weithio gyda phob bwrdd iechyd lleol i sicrhau bod ganddyn nhw yr adnoddau y bydd arnyn nhw eu hangen. Bydd yr ysbyty maes yng Nghaerdydd yn gwasanaethu poblogaeth lawer yn fwy na Chaerdydd ei hun. Fel yr awgrymais yn fy ateb i Jayne Bryant, mae'n adnodd sydd ar gael i'r boblogaeth ehangach honno. Ond, wrth gwrs, rydym ni'n parhau i weithio'n galed gyda Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr a staff y fan honno i wneud yn siŵr bod y 837 o welyau, rwy'n credu mai dyna oedd y nifer, a gyhoeddodd Vaughan ar 5 Ebrill—os oes angen mwy yna caiff mwy eu cynllunio a'u darparu.

Mae'n bwynt da iawn y mae Darren yn ei wneud am y diwydiant twristiaeth. A gaf i ddiolch i bob un o'r busnesau twristiaeth hynny sydd wedi rhoi eu cyfleusterau at wasanaeth yr ymgyrch yn erbyn y coronafeirws? Weithiau mae hynny drwy gyfleusterau diriaethol, weithiau mae hynny drwy annog eu staff i ymgymryd â swyddogaethau gofal, oherwydd, fel y maen nhw'n ei ddweud, pobl yw'r rhain yn aml iawn sydd wedi arfer ymdrin ag aelodau'r cyhoedd, mae ganddyn nhw'r gyfres ryngbersonol sylfaenol honno o sgiliau sydd yn wirioneddol bwysig yn y sector gofal, a phan fydd y sector hwnnw dan bwysau yna bydd pobl a fyddai fel arall wedi bod yn gweithio yn y maes twristiaeth yn barod i helpu, rwyf wir eisiau cydnabod yr ymdrechion a wnaed.

Mae'r bwlch yn y cynllun cadw swyddi yn fwlch na all ond Llywodraeth y DU ei lenwi. Ond byddaf yn hapus iawn—. Ac rwy'n siŵr bod gan Darren fwy o fanylion nag a allodd eu crybwyll yn ei gwestiwn, ond os hoffai drosglwyddo'r rheini i mi, rwy'n fodlon iawn i wneud yn siŵr y caiff y sylw hwnnw ei gyfleu i bobl sy'n gyfrifol am y cynllun.

Ac, o ran ffioedd dysgu, mae ein prifysgolion, fel pob sefydliad arall, o dan bwysau aruthrol, oherwydd eu bod wedi colli incwm ac maen nhw'n bryderus ynghylch recriwtio myfyrwyr o fannau eraill yn y byd a'r hyn a fydd yn digwydd ym mis Medi. Ond mae Kirsty Williams yn dal i gael trafodaeth agos iawn, gyda nhw ac Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr, i sicrhau ein bod yn clywed pob ochr o'r stori honno ac yn gweld sut y gallwn ni sicrhau nad yw'r myfyrwyr eu hunain yn teimlo eu bod yn cael cam ar hyn o bryd, a phan fydd addysg yn ailddechrau eto, os oes angen rhywfaint o gymorth ychwanegol ar y bobl hynny i ddod i drefn â’r astudiaethau y gallen nhw fod wedi'u colli, ein bod ni'n gwbl ymwybodol o hynny.  

Prif Weinidog, fe glywsom ni ddoe fod nifer o aelodau staff Bwrdd Iechyd Aneurin Bevan wedi cael y canlyniadau profion anghywir. A fyddech chi gystal â chadarnhau a ydyn nhw wedi cael eu hailbrofi a pha mor hir y bydd yn ei gymryd i'r GIG a'r staff gofal gael eu profi a chael y canlyniadau cywir?

Ac yn gysylltiedig â hynny, mae'r pryder a'r trallod y mae'r aelodau hyn o staff a phob aelod o staff rheng flaen yn ei ddioddef yn sylweddol iawn. Drwy fethu â darparu cyfarpar diogelu personol a phrofion, a ydych chi'n cytuno bod yr hyn y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i bob pwrpas yn gyfystyr â gofyn i filwyr fynd i ryfel ond mynd â'u cyllyll cegin eu hunain yn lle arfau? Ac yn wahanol i filwyr, dydyn nhw ddim yn cael gofal na seibiant, felly maen nhw'n gorfod mynd â'u hofn yn ôl adref gyda nhw, oherwydd maen nhw'n ofni y byddan nhw'n heintio eu teuluoedd eu hunain. Felly, a ydych chi'n cytuno, yn ogystal â'r camau uniongyrchol o sicrhau bod cyfarpar diogelu personol a phrofion ar gael i bawb, y bydd angen yn y dyfodol rhoi llawer mwy o ystyriaeth i les y GIG a staff gofal, gan gynnwys cwnsela ar gyfer trawma? Beth ydych chi'n ei wneud nawr i sicrhau fod hynny ar gael a bod lles y staff o'r pwys mwyaf?

Wel, Llywydd, dydw i ddim yn cytuno â'r darlun dychanol o'r sefyllfa yng Nghymru y mae Delyth Jewell yn ei chynnig. Mae'n wir y cafodd nifer fach iawn o staff ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan y canlyniadau anghywir, ac mae hynny'n anffodus iawn, ond sylwyd ar hynny yn gyflym iawn. Ac mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cysylltu'n uniongyrchol â'r holl bobl hynny yn y cyfamser, ac wedi ymchwilio i'r ffaith na ddeilliodd unrhyw niwed mewn gwirionedd o'r nifer fechan honno o ganlyniadau profion. Rwy'n gresynu'n arw at y pryder y bydd hynny wedi'i achosi i'r unigolion hynny, ond mae hynny'n rhan fach iawn o ddarlun ehangach lle mae popeth y gellir ei wneud yn cael ei wneud i ddiogelu lles pobl sydd ar y rheng flaen, drwy gyfarpar diogelu personol a phrofion estynedig. Fe wnaethom ni ddechrau profi staff y GIG yng Nghymru cyn gweddill y Deyrnas Unedig. Mae ein canrannau profi staff yn parhau i fod yn well na mannau eraill. Rydym ni eisiau gwneud mwy, a dyna pam yr ydym ni'n cyflwyno mwy o brofion ar-lein, ac mae hynny er mwyn cydnabod, wrth gwrs, dewrder ac ymrwymiad rhyfeddol pobl sy'n rhoi cymorth i bobl eraill yn yr amgylchiadau mwyaf heriol.

Y lle yr wyf yn cytuno â Delyth Jewell yw y bydd goblygiadau i hyn. Bydd hyn yn effeithio ar fywydau pobl sy'n wynebu pethau ac yn gwneud penderfyniadau nad oedden nhw byth yn disgwyl y byddent yn eu hwynebu, ac weithiau'n gorfod gwneud hynny'n gynnar iawn yn eu gyrfaoedd. Mae nifer y bobl sy'n dychwelyd i weithio yn y GIG wedi creu argraff fawr arnaf, gan mai un o'r pethau sy'n eu cymell, ar ôl ymddeol, i ddychwelyd i'r maes yw gallu cynnig eu profiad a'u hoes o ymdrin ag anawsterau enfawr, i gynnig y profiad hwnnw i staff ifanc y GIG, i allu cyd-sefyll â nhw, i allu cynnig rhywfaint o'r cyngor a'r arweiniad hwnnw ac i fod yn gefn iddyn nhw yn ystod y cyfnod anodd hwn. Rwy'n credu bod hynny'n gynnig hael iawn ar ran y bobl hynny. Bydd yn rhaid i ni gael rhyw drefn i hynny ar ôl i ni oresgyn y gwaethaf o'r coronafeirws oherwydd bydd rhai o'r pethau hyn yn parhau am amser hir wedi hynny ym mywydau pobl sydd wedi bod ar y rheng flaen.

14:35

Prif Weinidog, a gaf i yn gyntaf ddiolch i chi am eich ymdrechion ac i'ch Gweinidogion ac, yn wir, i'ch swyddogion yn ystod yr wythnosau diwethaf, a hefyd estyn y diolch hwnnw i'r rheini yn y Llywodraethau y tu allan i Gymru hefyd? Mae'n sefyllfa hynod anodd. Rydym ni'n dymuno'r gorau i Brif Weinidog y DU, rwy'n siŵr, ac mae fy hen gyfaill a'm cyd-Aelod Alun Davies wedi ei grybwyll eisoes, ac rwy'n ategu'r cwbl a ddywedwyd amdano. Rwyf hefyd yn gwybod sut beth yw derbyn cyngor nad yw bob amser yr un fath, nad yw weithiau'n cytuno'n llwyr â chyngor blaenorol a gafwyd, a pha mor anodd y gall hi fod i ddewis pa gyngor i'w ddilyn.

Dau beth gennyf i. Yn fy etholaeth i, sef Pen-y-bont ar Ogwr, mae tref Porthcawl. Mae Porthcawl, wrth gwrs, yn gyrchfan fawr i dwristiaid, yn brysur iawn fel arfer ar adeg y Pasg. Os ewch i lawr Allt Danygraig, oherwydd y cyfnod yr ydym ni ynddo, fe welwch chi arwydd sy'n dweud 'Croeso i Borthcawl' ac yna ychydig lathenni i lawr y ffordd arwydd sy'n dweud 'Trowch yn ôl ac ewch adref', a hynny'n briodol, o ystyried y sefyllfa yr ydym ni ynddi. Prif Weinidog, a wnewch chi ategu fy erfyniad—os mai dyna'r gair cywir—i bobl aros gartref y penwythnos yma, i beidio â theithio yn y modd arferol i leoedd fel Porthcawl, er mwyn sicrhau y caiff pobl yn y dref honno a thu hwnt eu diogelu'n briodol rhag lledaeniad y feirws? Wrth gwrs, rydym ni i gyd yn gobeithio y bydd pobl, fel y buon nhw, yn ufuddhau i'r cyngor a roddwyd iddynt. Mae achosion o hyd lle'r wyf wedi gweld grwpiau bach o bobl iau—pedwar neu bump fel arfer—yn ymgasglu gyda'i gilydd, a bydd angen ymdrin â hynny. Ond mae llawer ohonom ni, wrth gwrs, mewn sefyllfaoedd lle yr ydym ni'n darparu cymorth i berthnasau hŷn, ac os oes angen cynyddu'r cyfyngiadau sydd gennym ni ar hyn o bryd yn y dyfodol, a gaf i ofyn i chi wneud yn siŵr nad yw hynny'n effeithio'n andwyol ar y rheini ohonom ni sydd yn y sefyllfa honno?

Yr ail bwynt, yn gyflym iawn gennyf i felly, yw hwn: rwyf wedi sylwi drwy fynd i wahanol siopau bwyd amrywiol bod gwahanol siopau'n mynd ati mewn gwahanol ffyrdd. Mae'n eithaf cyffredinol nawr, mewn gwirionedd, bod yn rhaid i chi aros y tu allan nes daw eich tro chi i fynd i mewn. Mae marciau y tu mewn i'r archfarchnadoedd a system unffordd benodol ar gyfer mynd o amgylch yr archfarchnad neu'r siop, ond mewn rhai siopau, caiff trolïau a basgedi eu glanhau cyn iddyn nhw fod ar gael i gwsmer ac fe gânt eu glanhau pan gânt eu dychwelyd. Mewn siopau eraill nid yw hynny'n digwydd o gwbl. I ble y dylai archfarchnadoedd a siopau bwyd fynd i gael cyngor, o ran yr arferion gorau, o ran amddiffyn eu cwsmeriaid i'r graddau y bydden nhw a'u cwsmeriaid yn eu disgwyl? Diolch, Llywydd.

Diolch Llywydd, a diolch i Carwyn Jones am y cwestiynau yna ac am adael i mi ddweud yn fras iawn y caiff y pwysau o ran y coronafeirws ei deimlo ym mhob rhan o'n bywydau, gan gynnwys yn Llywodraeth Cymru. Rwyf ym Mharc Cathays heddiw. Mae nifer bychan iawn o bobl yma o'i gymharu â'r nifer arferol y byddech yn ei weld yn gweithio yn adeilad Llywodraeth Cymru. Maen nhw'n bobl sy'n gweithio oriau hir iawn, yn gwneud rhai penderfyniadau heriol iawn, ac rwy'n hynod ddiolchgar am yr ymdrechion enfawr y maen nhw yn eu gwneud i'n galluogi ni i roi amrywiaeth eang o bethau ar waith y mae'r Aelodau wedi bod yn fy holi yn eu cylch y prynhawn yma.

Y neges i bobl sy'n ystyried mynd i Borthcawl neu leoedd eraill dros y penwythnos yw, 'Peidiwch â gwneud y fath beth. Ewch allan, ar bob cyfrif, ond arhoswch yn lleol i'r ardal lle yr ydych chi'n byw ynddi, cadwch draw oddi wrth bobl eraill a pheidiwch â meddwl mai dyma'r adeg briodol i'ch peryglu eich hunan nac i beryglu eraill drwy wneud pethau yr ydych chi'n gwybod sydd y tu hwnt i'r canllawiau y mae'n ofynnol i ni i gyd lynu wrthynt.'

Os oes angen mwy o orfodaeth, os daw'r diwrnod hwnnw a bod yr heddlu'n ein cynghori ni felly, byddwn yn cydweithio gyda nhw yn hynny o beth. Rwy'n gobeithio na fydd yn gyngor sy'n dweud bod yn rhaid i ni gyfyngu mwy fyth ar y cyfleoedd cyfyngedig iawn sydd ar gael i bobl y tu allan i'w cartrefi eu hunain. Byddai'n drueni mawr pe bai gweithredoedd ychydig o bobl yn unig yn gosod y cyfyngiadau hynny ar y nifer mawr iawn o bobl sy'n gweithio mor galed i wneud y peth iawn eisoes.

O ran siopau bwyd, bydd Lesley yn ateb cwestiynau ar fy ôl i a bydd wedi clywed yr hyn a ddywedodd y cyn Brif Weinidog. Gwn ei bod yn cwrdd bob wythnos â'r diwydiant bwyd a'r manwerthwyr yma yng Nghymru bob dydd Llun. Mae'n fforwm lle gellir gwyntyllu'r mathau hynny o faterion sy'n ymwneud â safonau cyffredin ac arferion cyffredin. Cytunaf yn llwyr â'r hyn a ddywedodd Carwyn Jones eich bod eisoes yn gallu gweld mewn rhai agweddau y math hwnnw o safoni'n dechrau digwydd, ond ceir enghreifftiau eraill o'r fath a grybwyllodd y gwn y gellir eu trafod yn y fan yna.

14:40

Pa bolisi neu ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyhoeddi ynghylch sicrhau y gall gweithwyr allweddol anfon eu plant i leoliadau sy'n cynnig darpariaeth gofal addysgol? Mae nifer o bobl wedi cysylltu â mi, yn staff hanfodol y GIG sy'n byw yn Sir y Fflint, neu bobl yn siarad ar eu rhan, y dywedwyd wrthyn nhw bod yn rhaid i'r ddau riant fod yn weithwyr hanfodol i fod yn gymwys, ac mae un ohonyn nhw wedi gorfod aros gartref yn hytrach nag ymuno â thîm clinigol, ac mae rhywun arall yn byw ar wahân i'w phlant a'i gŵr mewn llety a ddarperir gan Brifysgol Glyndŵr er mwn gallu mynd i'w gwaith yn Ysbyty Maelor Wrecsam. 

Yn olaf, sut ydych chi'n ymateb i'r alwad gan TCC, Trefnu Cymunedol Cymru—Together Creating Communities—sydd â'u swyddfa yn Wrecsam ond sy'n cynrychioli clymblaid o gyrff cymunedol, ynghylch darparu prydau ysgol am ddim i ddisgyblion cymwys yn ystod yr argyfwng? Maen nhw'n gofyn i arian parod gael ei ddarparu'n uniongyrchol i rieni neu ofalwyr er mwyn iddyn nhw allu prynu bwyd yn rhwydd i'w teuluoedd os ydyn nhw'n credu bod y systemau bachu a mynd yn gorfodi'r teuluoedd tlotaf i beryglu eu hunain yn ddiangen. Nid yw'r cynllun talebau yn Lloegr yn cynnwys pob cadwyn o archfarchnadoedd ac maen nhw'n poeni y gall y cynllun talebau yng Nghymru olygu nad yw archfarchnadoedd yn hygyrch i bob teulu sy'n cael prydau ysgol am ddim, ac maen nhw'n credu bod darparu arian parod yn caniatáu siopa mewn siopau lleol, gan gefnogi pobl i gadw pellter cymdeithasol drwy leihau'r angen i deithio i archfarchnadoedd.

Diolch i Mark Isherwood am y ddau bwynt pwysig yna. O ran gofal plant a gweithwyr hanfodol, ar 6 Ebrill cyhoeddodd Julie Morgan ddatganiad yn esbonio sut yr ydym ni'n newid y cynnig gofal plant yma yng Nghymru. Rydym yn ei gau i ymgeiswyr newydd o dan yr amgylchiadau presennol ac rydym yn caniatáu dargyfeirio'r arian a fyddai wedi bod ei angen ar gyfer yr ymgeiswyr blaenorol hynny i wneud yn siŵr y gall gofal plant fod ar gael heb ddim cost i blant gweithwyr allweddol o ddim i bump oed. Mae'r manylion yn y datganiad. Os oes cwestiynau y tu hwnt i'r datganiad sydd gan yr Aelodau, yna rwy'n gwybod y bydd Julie yn falch iawn o geisio ymateb iddyn nhw.

O ran arian ar gyfer prydau ysgol am ddim, wel, wrth gwrs, cytunaf yn llwyr â'r egwyddor honno. Byddai'n well gennyf i'r teuluoedd gael yr arian yr oedd ei angen arnyn nhw i allu darparu bwyd ar gyfer eu plant. Y ffordd gywir i'w wneud yw trwy fudd-daliadau plant. O dan yr amgylchiadau hyn, dylai Llywodraeth y DU gytuno y bydd yn rhoi swm ychwanegol o arian yn y budd-dal plant sy'n berthnasol i'r plentyn penodol hwnnw, i'r teuluoedd hynny sydd ei angen fwyaf ac a fyddai'n caniatáu iddyn nhw wneud hynny.

Yng Nghymru, byddwn yn defnyddio system lle caiff swm ei ddarparu drwy dalebau. Bydd Llywodraeth Cymru yn trosglwyddo arian fel taliad BACS i'r teuluoedd hynny lle bo hynny'n ymarferol. Yn bersonol, rwy'n parhau i gredu y bydd angen rhywfaint o ddarpariaeth uniongyrchol yn ychwanegol at hynny. Gwyddom fod rhai teuluoedd y mae eu hamgylchiadau mor anodd a lle mae rhieni'n ymgodymu cymaint â materion eraill yn eu bywydau fel na allem ni fod yn gwbl ffyddiog y cai'r arian a roddir i'r aelwyd honno ei wario ar fwyd i blant. I rai plant sy'n agored iawn i niwed, rwy'n credu y gallai fod angen rhyw fath o system ychwanegol o hyd lle gallwn ni fod yn ffyddiog y caiff bwyd ei ddarparu mewn gwirionedd, fel y caiff y plant hynny fwyd.

14:45

Rwyf eisiau eich holi ychydig am orfodi'r ddeddfwriaeth cadw pellter cymdeithasol yn y gweithle, ac wrth wneud hynny mae'n debyg yr hoffwn i hefyd gydnabod ar goedd y gwaith aruthrol y mae ein hundebau llafur yn ei wneud mewn gwirionedd o ran cyfrannu at hynny. Mae'r ymdrechion gyda'r canghennau, cynrychiolwyr yr undebau, y cynrychiolwyr diogelwch, sy'n gweithio ochr yn ochr â'u cyflogwyr, eu busnesau, yn gwneud cyfraniad pwysig iawn i'r diogelwch hwnnw. Ac mae'n dweud cyfrolau, rwy'n credu, fod y rhan fwyaf o'r ymholiadau yr ydym yn eu cael am weithwyr sy'n pryderu am eu diogelwch yn y gweithle yn dod o weithleoedd sydd heb undebau llafur. Efallai bod gwers yn y fan yna ar gyfer y dyfodol.

Ond o ran y gorfodi, mae'n glir iawn nad mater i'r heddlu yw hyn; maen nhw wedi dweud eu hunain nad ydyn nhw'n gymwys i ymdrin â materion diogelwch yn y gweithle. Un o'r pryderon sydd gennyf yw'r hyn y mae'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi gallu ei wneud o ran ei swyddogaeth—nid yn gymaint y bobl sy'n gweithio i'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch, ond wrth gwrs mae'n sefydliad sydd wedi'i danariannu'n aruthrol dros y blynyddoedd. Byddwn wedi tybio y byddai gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch swyddogaeth allweddol o ran diogelwch yn y gweithle.

Nid corff datganoledig mo hwn, ond mae'n amlwg bod ganddo swyddogaeth bwysig iawn. Mae ganddo bwerau gorfodi anhygoel, mae ganddo bwerau ymchwilio, mae ganddo bob math o bwerau cynghori ac, mewn gwirionedd, pwerau erlyn. Felly, fy nghwestiwn cyntaf fyddai: pa drafodaethau ydych chi wedi eu cael mewn gwirionedd â Llywodraeth y DU a/neu gyda'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch er mwyn sicrhau eu bod yn cyfrannu cymaint â phosib at y swyddogaeth wirioneddol bwysig hon o orfodi cadw pellter cymdeithasol yn y gweithle ac yn gyffredinol o ran diogelwch yn y gweithle?

Yr ail gwestiwn yr hoffwn i ei ofyn yw hyn—bu peth sôn yn ei gylch yn y cyfryngau dros y penwythnos—sef: byddwn yn goresgyn yr argyfwng hwn gyda'n gilydd, ac rwyf wedi bod yn pendroni beth yw eich barn, pan fyddwn ni wedi goresgyn yr argyfwng hwn, bod gennym ni werthusiad cwbl newydd o bwysigrwydd ein GIG, o'n gweithwyr yn y sector cyhoeddus, a'r buddsoddiad yn y gwasanaethau hynny.

Rwy'n gwybod, pe bawn i'n sâl, na fyddwn i eisiau rheolwr cronfa rhagfantoli yn eistedd wrth erchwyn y gwely yn gofalu amdanaf. Mae wedi rhoi gwerthusiad hollol newydd i ni o'n sector cyhoeddus, ac mae'n rhaid i ni ddechrau eu gwerthfawrogi, nid yn unig o ran, wrth gwrs, rydym yn curo dwylo iddyn nhw gyda'r nos, ac rydym ni'n dweud pethau caredig, ond yn y dyfodol bydd rhaid i ni ddechrau cloriannu mewn difrif calon yr hyn sy'n bwysig yn ein cymdeithas. Efallai mai'r cam cyntaf i Lywodraeth Cymru fyddai rhywbeth fel y ddeddfwriaeth partneriaeth gymdeithasol sy'n cael ei chynnig. Tybed beth yw eich barn ynghylch pa baratoadau sy'n angenrheidiol ar gyfer yr anawsterau economaidd, yr wyf yn credu, y byddwn yn eu hwynebu pan fyddwn ni o'r diwedd wedi trechu'r pandemig hwn.

Llywydd, hoffwn ddiolch i Mick am y ddau gwestiwn yna. O ran gorfodaeth, mae'n llygad ei le, mae gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch gyfrifoldebau pwysig iawn, ond degawd ers dechrau cyni mae ei allu i gyflawni'r cyfrifoldebau hynny wedi'i danseilio mewn gwirionedd. Nid oes ganddo'r adnoddau i wneud y gwaith y gofynnir iddo ei wneud. Gobeithiwn y bydd yn gwneud ei gyfraniad yng Nghymru.

Yn gyffredinol, rwy'n gobeithio na fydd y rheol 2m yn dibynnu yn y pen draw ar orfodaeth. Gobeithio y bydd yn fater o hunan-blismona. Gobeithio y bydd yn cyfleu'r neges honno i gyflogwyr am y pwysigrwydd y mae'n rhaid iddyn nhw ei roi i iechyd a lles eu gweithwyr. Y bobl yn y gweithle fydd yn plismona hynny orau. Nhw fydd llygaid a chlustiau'r trefniant hwn. Ceir rheolau gorfodi yn y rheoliadau. Gall pobl gael dirwy ac yn y blaen. Cyfarfûm â chyngor cyffredinol y TUC yng Nghymru yn gynharach yr wythnos hon—yn rhithwir, fel yr ydym ni'n cyfarfod nawr—ac rwy'n gwybod mai undebau llafur fydd llygaid a chlustiau'r gweithlu yn y gweithle. Gobeithio na fydd angen gorfodi, gobeithio y bydd pobl yn cydnabod y rhwymedigaeth y mae'r rhan fwyaf o gyflogwyr eraill eisoes wedi'i chydnabod i roi iechyd a lles eu gweithwyr ar frig y rhestr, ac mae ein rheoliadau'n atgyfnerthu hynny.

Rwy'n gwingo wrth glywed yr ymadrodd yr wyf yn ei glywed ac yn ei ddarllen yn achlysurol, 'pan fydd popeth yn ôl i drefn', oherwydd credaf fod yr argyfwng yn dweud wrthym ni nad oes arnom ni eisiau dychwelyd i'r hyn a oedd yn arferol o'r blaen. Heb os nac oni bai, rydym ni'n cydnabod mai'r unig ffordd y down ni drwy'r holl brofiad hwn gyda'n gilydd yw drwy gyd-ymdrech a chydweithredu yn hytrach na chystadlu yn erbyn ein gilydd.

Credaf fod hyn hefyd yn dweud wrthym ni, pan fyddwn mewn cyfyng gyngor mawr fel hyn, y bobl yr ydym yn dibynnu arnyn nhw i'n cario ni i gyd drwy'r cyfan yw nid y bobl â chyflogau breision iawn sy'n poeni a fydd eu bonysau a'u difidendau'n ddiogel yn ystod yr argyfwng. Dibynnwn ar y bobl sy'n casglu ein biniau, sy'n gofalu am ein henoed, y bobl ddewr sy'n gweithio yn y maes iechyd a gofal cymdeithasol, a'r llu o rai eraill y soniodd Caroline Jones amdanyn nhw yn ei chyflwyniad. Dydw i ddim eisiau dychwelyd i fyd lle mae'r bobl hynny'n dychwelyd at aneglurder ein blaenoriaethau a phobl eraill yn ail-ddechrau lle gadwon nhw bethau. Mae gwersi gwirioneddol i ni i gyd eu dysgu o'r profiad hwn. Nid yw hi byth yn rhy gynnar, rwy'n credu, i ddechrau meddwl am hynny.

14:50

Diolch i'r Prif Weinidog. Ymddiheuriadau i'r naw Aelod na fues i'n ffodus i fedru cael yr amser i'w galw nhw. 

3. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Ymateb i'r Coronafeirws (COVID-19)

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar yr ymateb i coronafeirws. Rwy'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Lesley Griffiths.

Diolch, Llywydd. Rydym ni'n wynebu pandemig byd-eang, nad ydym ni wedi gweld ei debyg o'r blaen. Mae hwn yn gyfnod pryderus iawn i bob teulu ledled Cymru, gan gynnwys y rheini yn ein cymunedau gwledig, arfordirol ac amaethyddol. Rwy'n cydymdeimlo â phawb y mae hwn wedi effeithio arnyn nhw.

Cyn ac ers fy natganiad llafar arfaethedig ar 24 Mawrth, a ohiriwyd drwy gytundeb y Pwyllgor Busnes, mae fy swyddogion a minnau wedi bod yn gweithio'n galed i gefnogi ac ymgysylltu â'r rheini sy'n gweithio yn ein sectorau bwyd ynghylch diogelu ein hamgylchedd ac i sicrhau bod seilwaith hanfodol ar waith ac y parheir i reoli heintiau er mwyn pobl Cymru.

Ar 16 Mawrth, cynhaliais gyfarfod bord gron a oedd yn dwyn ynghyd farn ffermwyr, pysgotwyr, coedwigwyr a chynhyrchwyr bwyd a diod Cymru. Bu hyn yn hollbwysig o ran cynllunio a mynd i'r afael â'r heriau uniongyrchol ar draws fy mhortffolio. Ers hynny, rwyf wedi bod yn gweithio i sicrhau parhad cyflenwadau bwyd, gan weithio'n agos gyda Llywodraeth y DU, fforwm manwerthwyr y DU, y grŵp cyswllt argyfyngau bwyd wrth gefn a Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru, ymhlith eraill.

Yn ogystal â hynny, rwyf wedi bod yn gweithio gyda'r grŵp cydnerthedd amaethyddol—fe wnes i gyfarfod â nhw yr wythnos diwethaf a bydd trafodaeth bord gron arall yr wythnos nesaf. Mae fy swyddogion mewn cysylltiad dyddiol â rhanddeiliaid. Mae'r wybodaeth a'r allbynnau o'r Grŵp Cydnerthedd Amaethyddol yn cyfrannu at feddylfryd Llywodraeth Cymru ynghylch y ffordd orau o ymdrin ag effaith y mesurau cynyddol i reoli haint COVID-19.

Gallaf sicrhau Aelodau bod manwerthwyr a chadwyni cyflenwi yn ateb yr her. Mae ein storfeydd bwyd yn cael eu cyflenwi waeth beth fo'u lleoliad. Hoffwn ddiolch o galon i'r gweithlu manwerthu am eu gwaith caled.

Mae dros 85,000 o bobl yng Nghymru wedi cael llythyr gan Brif Swyddog Meddygol Cymru am fod ganddyn nhw eisoes gyflwr iechyd tymor hir penodol, sy'n golygu eu bod mewn perygl mawr o fod yn ddifrifol wael o achos y coronafeirws oherwydd problem iechyd ddifrifol sy'n bodoli eisoes. Gofynnwyd iddyn nhw ymgymryd â chyfres o fesurau gwarchod, gan gynnwys aros gartref am 12 wythnos.

Ar 3 Ebrill, ar y cyd â'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, cyhoeddais fod y bocsys bwyd cyntaf yn cael eu dosbarthu i riniogydd pobl gymwys na allan nhw ddibynnu ar deulu na ffrindiau i'w helpu. Mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod £15 miliwn ar gael ar gyfer y cynllun danfon bwyd uniongyrchol. Mae'r pecynnau bwyd, y mae pobl yn gofyn amdanyn nhw gan eu hawdurdod lleol, yn darparu gwerth wythnos o fwydydd hanfodol mewn pecynnau a thuniau ar gyfer un unigolyn a warchodir. Hefyd, rydym ni bellach wedi cytuno â'r archfarchnadoedd y byddant yn rhoi blaenoriaeth i archebion ar-lein y mae angen eu danfon i gartrefi pobl a warchodir yng Nghymru.

Wrth gwrs, mae ffermwyr wrth wraidd ein cadwyni bwyd a'n cydnerthedd amgylcheddol, yn fwy fyth yn ystod y pandemig byd-eang hwn, ac mae'n hanfodol ein bod yn eu cefnogi. Ar 1 Ebrill, cyhoeddais fod gan ffermwyr bellach fis ychwanegol i gyflwyno ffurflen y cais sengl, gyda'r dyddiad cau wedi'i ymestyn i 15 Mehefin. Mewn ymateb i bryderon ynghylch y gofynion arallgyfeirio o ran cnydau yn dilyn y llifogydd diweddar a'r pwysau ychwanegol oherwydd y sefyllfa gyda'r coronafeirws, cadarnheais hefyd fod Llywodraeth Cymru yn dileu'r gofynion yn gyfan gwbl ar gyfer Cynllun Taliad Sylfaenol 2020. At hynny, mae £5.5 miliwn ychwanegol wedi'i ddyrannu at Gynllun y Taliad Sylfaenol a chynllun cymorth Glastir 2019, a ailagorodd ar 1 Ebrill i gefnogi'r 800 o'r contractau neu'r hawlwyr hynny nad ydyn nhw wedi cael taliad. Bydd ffermwyr yn gallu gwneud cais am gymorth drwy'r cynllun er mwyn lliniaru problemau llif arian posibl.

Mae mynd i'r afael â llygredd amaethyddol yn flaenoriaeth, a byddaf yn cyhoeddi rheoliadau drafft ar wefan Llywodraeth Cymru, yr wyf yn bwriadu eu cyflwyno ar ôl i'r argyfwng ddod i ben. Wrth inni ddod at ein hunain ar ôl yr argyfwng presennol, rhaid inni wneud popeth a allwn ni i atal niweidio ein hecosystemau bregus a helpu natur i ffynnu.

Mae angen inni gofio hefyd, drwy gydol y cyfnod anodd hwn, fod ein gweithwyr hanfodol yn gweithio'n eithriadol o galed bob awr o'r dydd a'r nos dan amgylchiadau heriol i'n cadw ni a'n hanifeiliaid yn ddiogel. Mae hyn yn cynnwys staff Cyfoeth Naturiol Cymru, yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion, awdurdodau lleol, cwmnïau dŵr, yn ogystal â gweithwyr ym maes coed, olew, nwy a thrydan sy'n sicrhau bod ynni ar gael i'n hysbytai, ein cartrefi a'n diwydiannau. Mae ein milfeddygon yn hollbwysig o ran sicrhau iechyd a lles anifeiliaid ac wrth ymdrin ag achosion lle amheuir bod clefydau ar anifeiliaid.

Mae rheoli lledaeniad TB yn dal yn bwysig, ond dim ond os gellir gwneud hynny'n ddiogel y bydd profion yn parhau. Bydd cyfyngiadau symud gwartheg yn berthnasol ar gyfer profion TB hwyr, ond ni chaiff ceidwaid eu hatgyfeirio bellach am gosbau trawsgydymffurfio. Os oes angen cynnal prawf cyn symud, dim ond os yw'r milfeddyg wedi profi pob un o'r anifeiliaid ac wedi dangos eu bod yn negyddol y gellir eu gwerthu. Rhaid hysbysu APHA am ganlyniad pob prawf ac mae'r canllawiau ar brofion TB yn cael eu hadolygu a'u diweddaru bob dydd.

Mae pysgotwyr yn rhan hanfodol o'n cadwyni bwyd a'n cymunedau arfordirol, ac mae'n hanfodol ein bod yn eu cefnogi hwythau hefyd yn ystod y cyfnod anodd hwn. O ganlyniad i argyfwng y coronafeirws, mae'r fasnach pysgod cregyn i Ewrop, sy'n fwy na 90 y cant o allforion bwyd môr Cymru, wedi dymchwel ac mae masnach o fewn y DU wedi dod i ben i bob pwrpas. Felly, rydym yn gweithio'n galed ar fanylion terfynol grant caledi ar gyfer perchnogion cychod trwydded cymwys yng Nghymru er mwyn cefnogi hyfywedd y sector bwyd môr yng Nghymru.

Yn olaf, Llywydd, bydd yr Aelodau'n ymwybodol y bu'n rhaid gohirio COP26. Fodd bynnag, bydd ein hymateb i'r argyfwng hinsawdd yn parhau. Mae'r Llywodraeth hon yn parhau i roi pwys mawr ar gyflawni ein targedau lleihau allyriadau a chynhyrchu ein cynllun cyflawni carbon isel nesaf fel y trefnwyd.

Felly, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Ken Skates, yr wythnos diwethaf, mae'n rhaid inni gydweithio gyda thosturi, a hynny ar fyrder a chyda gofal, i wynebu'r heriau sylweddol sy'n ein hwynebu ni a goresgyn hyn. Diolch.

14:55

Diolch, Weinidog, am eich datganiad y prynhawn yma. Rwy'n siomedig braidd ei bod wedi cymryd cyhyd i chi gyflwyno datganiad—8 Ebrill—o ystyried faint o amser y buom yn ymdrin â'r argyfwng hwn.

Rwy'n ategu eich geiriau o gefnogaeth i'r gweithwyr rheng flaen sy'n gweithio naill ai yn llenwi silffoedd yr archfarchnadoedd, ar lawr yr archfarchnad, neu gyda'r holl sector prosesu yn ôl i'r cynhyrchwyr cynradd ar draws Cymru, a hefyd yr asiantaethau gorfodi, megis Cyfoeth Naturiol Cymru, sy'n gwneud cymaint i ddiogelu ein hamgylchedd yn yr amgylchiadau anodd hyn.

A allwch chi gadarnhau, Weinidog, a fydd ffermwyr yn gallu cael arian sydd ynghlwm wrth y gronfa cydnerthedd economaidd? Mae rhywfaint o amheuaeth am hynny ar hyn o bryd, ac rwy'n credu y câi rhywfaint o eglurder ynghylch hynny ei werthfawrogi'n fawr. Oherwydd, hyd yma, nid fu unrhyw arian ar gael i ffermwyr sydd wedi wynebu amrywiadau yn y farchnad—y mae cau'r sector gwasanaethu yn benodol wedi effeithio'n aruthrol arni.

Y sector llaeth: mae o leiaf 25 y cant o'r sector llaeth mewn sefyllfa fregus ar hyn o bryd yng Nghymru. Rydym ni wedi gweld toriadau o 15 y cant mewn prisiau cig. Hefyd, pan edrychwch chi ar brisiau cig oen—mae colled incwm o 54c y cilogram. Felly, byddai rhywfaint o sicrwydd y bydd y cyllid cydnerthedd ar gael iddyn nhw yn cael ei werthfawrogi'n fawr.

A wnewch chi hefyd gadarnhau mai eich bwriad fyddai dod â chyfnod y taliad sylfaenol ymlaen i fis Hydref o ran talu? Rwy'n deall mai gweithred o ewyllys da gennych chi fyddai hynny ac, yn amlwg, mae arian i fusnesau yn ystyriaeth hanfodol, a gorau po cyntaf y gellir cyflwyno'r arian hwnnw.

A wnewch chi hefyd gadarnhau bod y cynllun talu benthyciadau yr ydych chi wedi'i weithredu dros y ddwy flynedd diwethaf—i wneud y taliadau hynny lle na ellir talu oherwydd arolygiadau ac ati—ar gael eleni ac y caiff y modiwleiddio, y modiwleiddio o 15 y cant a symudwyd gennych chi o golofn 1 i golofn 2, ei glustnodi ar gyfer y sector amaethyddol o dan y cynllun datblygu gwledig?

Rydych chi wedi cyfeirio yn eich datganiad at y gefnogaeth i'r sector pysgodfeydd, ac rydych chi'n cyfeirio'n gywir at y cwymp yn y cyfleoedd marchnata, yn enwedig yn y farchnad pysgod cregyn. Roeddech chi'n tynnu sylw at y ffaith bod pecyn cymorth yn cael ei lunio; a allech chi roi syniad inni pryd y gallem ni weld y pecyn cymorth hwnnw—pa fath o amserlen ydych chi'n gweithio iddi?

O ran archfarchnadoedd, rydym ni wedi clywed dros y penwythnos y bu, yn amlwg, cig o Wlad Pwyl ar y silffoedd mewn llawer o archfarchnadoedd, yn enwedig Asda a Sainsbury's. Rwyf wedi cael cadarnhad heddiw gan Sainsbury's a ddywedodd mai achos unigryw iawn oedd hynny oherwydd amodau'r farchnad. A allwch chi gadarnhau, o'ch trafodaethau ag archfarchnadoedd, eu bod wedi ymrwymo i gaffael a phrynu cynnyrch lleol, oherwydd mae'n ymddangos yn anghyson i mi fod y trethdalwr yn cefnogi llawer o archfarchnadoedd drwy wahanol fentrau, ac eto, maen nhw'n tanseilio amodau'r farchnad drwy fewnforio cynnyrch o'r fath i'r farchnad ddomestig?

A wnewch chi hefyd gadarnhau bod pob archfarchnad—. Credaf imi glywed yn gywir y Prif Weinidog yn cadarnhau hyn, ond rwyf ond eisiau cadarnhad bod enw pob unigolyn a warchodir—nid pobl sy'n agored i niwed ydyn nhw, ond pobl a warchodir—sy'n ymddangos ar restr y Llywodraeth, bellach wedi'u trosglwyddo i'r archfarchnadoedd sy'n gweithredu yng Nghymru ac y bydd yr amseroedd hyn ar gael iddyn nhw os ydyn nhw eisiau manteisio arnyn nhw. Roedd peth dryswch ynghylch pwy yw'r Gweinidog arweiniol yn y maes penodol hwn, oherwydd rwy'n deall bod y Gweinidog llywodraeth leol y bore yma'n dweud ei bod wedi cael trafodaethau helaeth gydag archfarchnadoedd yn y maes penodol hwn. A wnewch chi gadarnhau ai chi ynteu'r Gweinidog llywodraeth leol yw'r Gweinidog arweiniol yn y maes penodol hwn?

Ac o ran hawliau tramwy, ar hyn o bryd, mae disgresiwn, yn ôl a ddeallaf, o ran pa hawliau tramwy a gânt eu cau yng nghefn gwlad, ac mae hyn yn peri pryder sylweddol i rai ardaloedd. Pa drafodaethau y mae eich adran yn eu cael gydag awdurdodau lleol i ddeall bod cysondeb ledled Cymru o ran gweithredu, er mwyn lliniaru unrhyw wrthdaro a allai ddigwydd lle y byddai rhai pobl yn meddwl bod hawl tramwy ar agor ac eraill yn meddwl ei fod ar gau oherwydd y rheoliadau coronafeirws?

A wnewch chi hefyd gadarnhau sut y cynhaliwyd arolygiadau ar ffermydd ledled Cymru? A yw rheolau force majeure yn berthnasol i arolygiadau o'r fath oherwydd yr amgylchiadau unigryw yr ydym ni ynddynt?

Fy sylw olaf: rydych chi wedi tynnu sylw at y parthau perygl nitradau a'ch awydd i gyhoeddi'r rheoliadau hynny ar y wefan. Onid ydych chi'n credu, gyda'r farchnad yn dymchwel yn sgil cynnyrch yn dod oddi ar ffermydd, yr ansicrwydd sy'n bodoli ar hyn o bryd yn yr amgylchedd ledled Cymru, nad nawr yw'r amser i bentyrru mwy o reoliadau ar ddiwydiant sydd mewn helbul? Rydym ni i gyd yn derbyn bod un achos o lygredd yn un yn ormod, ond mae mynd ati nawr i gyhoeddi'r rheoliadau hyn pan na ellir eu gwyntyllu a'u trafod yn llawn a sicrhau y gellir deall mesurau cymorth, os, yn wir, y caiff mesurau cymorth eu cyflwyno, yn weithred gwbl anghywir ar eich rhan chi a'ch adran? Byddwn yn erfyn arnoch chi i aros nes bod yr amodau arferol yn bodoli er mwyn trafod y rheoliadau hyn a rhoi prawf arnyn nhw yn y Senedd yn hytrach na'u cyhoeddi ar wefan y mae Llywodraeth Cymru yn ei hyrwyddo. Diolch.

15:00

Diolch, Andrew, am y rhestr o gwestiynau. Felly, mae llawer iawn o waith wedi'i wneud ym mhob un o'r meysydd rwy'n gyfrifol amdanyn nhw, ac er mai dyma'r cyfle cyntaf i gael gwneud datganiad yn y Senedd, rwy'n gobeithio—. Rwyf wedi bod yn ymdrin â chwestiynau a gohebiaeth ysgrifenedig di-ri yn ymwneud â materion y Cynulliad, ac mae fy adran wedi ceisio ateb cyn gynted â phosib.

Rydych chi'n gofyn, yn gyntaf, ynghylch a all ffermwyr gael arian o'r gronfa cadernid economaidd. Mae'n debyg bod dau faes yn y fan yma: rwy'n credu os yw ffermwyr wedi arallgyfeirio, felly, er enghraifft, os oes ganddyn nhw fusnes glampio, fe allan nhw yn sicr wneud hynny. Fodd bynnag, o ran gweithgarwch amaethyddol arferol, credaf fod angen inni edrych ar becyn pwrpasol ar gyfer hynny. Felly, mae hynny'n rhywbeth sydd ar y gweill ar hyn o bryd, i weld a oes angen inni edrych ar yr hyn a gynigir o fewn y gronfa gadernid, neu a oes angen pecyn pwrpasol arnom ni. Fel arfer, byddem yn ystyried pecyn pwrpasol.

Mae llaeth yn amlwg yn fater allweddol, ac, unwaith eto, mae gwaith sylweddol yn cael ei wneud ynghylch hynny. Yn ddiweddar, ddydd Llun rwy'n credu, ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn Llywodraeth y DU, George Eustice, yn pwysleisio'r angen i bob un ohonom ni gydweithio fel llywodraethau i ddefnyddio'r pwerau sydd ar gael ar hyn o bryd i ddiogelu'r gadwyn gyflenwi bwyd-amaeth. Felly, rydym ni wedi bod yn gweithio'n agos iawn ynghylch y diwydiant llaeth. Rwyf yn cael o leiaf un neu ddwy drafodaeth yr wythnos gyda'r Ysgrifennydd Gwladol, ac, yn amlwg, mae effaith adlinio'r gadwyn gyflenwi, yn enwedig o ran cynnyrch llaeth, yn sylweddol. Rwy'n credu mai dyma oedd un o'r pethau cyntaf yr effeithiwyd arno pan chwalodd y sector gwasanaethau bwyd yn gynnar iawn hefyd.

O ran cynllun y taliad sylfaenol, mae hynny'n rhywbeth y byddaf yn cadw golwg arno—a oes angen y cynllun benthyca arnom ni ym mis Hydref. Fel y dywedoch chi, rydym ni wedi gwneud hynny ers dwy flynedd bellach. Nid wyf wedi cael ymrwymiad gan Lywodraeth y DU o hyd ynglŷn â'r modiwleiddio 15 y cant; rydym ni'n dal i aros am hynny.

Yr amserlen ar gyfer pysgodfeydd, gobeithio yr wythnos hon—. Yn sicr, yr wythnos diwethaf, cefais drafodaeth gyda Chymdeithas Pysgotwyr Cymru, gyda Jim Evans, ac unwaith eto, rydym yn gweithio yn unol â'r amserlen yr wythnos hon.

Fe wnaethoch chi grybwyll y mater ynghylch cig eidion o Wlad Pwyl, a dygwyd hynny at fy sylw gan Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr yr wythnos diwethaf ac yn fy nghyfarfod wythnosol rheolaidd gyda DEFRA a Llywodraeth yr Alban a Gogledd Iwerddon gyda'r manwerthwyr—fe'i crybwyllwyd yn y fan honno hefyd. Rydych chi'n gywir: mae Asda a Sainsbury's wedi dweud mai achos unigryw yw hyn, gan fod ganddyn nhw gymaint o alw am friwgig, yn enwedig ar ddechrau'r pandemig pan oedd pobl rwy'n credu yn prynu mewn panig llawer mwy nag y maen nhw—wel, nid wyf yn credu bod pobl yn prynu mewn panig nawr yn y ffordd a welsom ni ar y dechrau.

Mae'r angen i gefnogi ein cynhyrchwyr yn rhywbeth yr wyf wedi sôn amdano gyda phob archfarchnad fawr fy hun. Un o'r pryderon a ddygwyd i fy sylw yn gynnar iawn oedd bod rhai archfarchnadoedd o bosib yn ystyried ad-drefnu eu cynnyrch, ac y gallai hynny effeithio ar gynhyrchwr bach Cymru. Clywais am un enghraifft o hynny. Es i'r afael â hynny yn uniongyrchol gyda'r archfarchnad ac fe roddwyd y gorau i hynny, ac rwy'n ddiolchgar am hynny. Felly, credaf fod pob archfarchnad yn cydnabod bod angen inni hyrwyddo a chefnogi cynhyrchwyr bwyd Cymru pan allwn ni.

O ran yr archfarchnadoedd a'r rhestr o bobl a warchodir, rwy'n arwain ar y maes hwn; fodd bynnag, rwyf yn gweithio'n agos iawn gyda Julie James, y Gweinidog Llywodraeth Leol a hefyd gyda Vaughan Gething, ac mae'r tri ohonom ni'n cwrdd ddwywaith yr wythnos ac wedi parhau i wneud hynny ynghylch archfarchnadoedd. Felly, fe wnaethoch chi glywed y Prif Weinidog yn iawn. Roedd gwneud hyn gyda'r archfarchnadoedd yn waith sylweddol, oherwydd mae diogelu data yn bwysig iawn, a doeddwn i ddim yn barod i ryddhau data heb wneud popeth priodol yr oedd yn rhaid i ni ei wneud. Felly, yn ôl a ddeallaf, bydd contractau data gyda phob un o'r wyth archfarchnad fawr wedi'u cwblhau erbyn heddiw, ac fe gaiff yr amseroedd hynny eu neilltuo ar gyfer y bobl hynny a warchodir. Rydych chi'n gwneud pwynt da iawn yr hoffwn i ei ailadrodd: nad pobl sy'n agored i niwed ydyn nhw, maen nhw'n bobl a warchodir. Felly, fel y clywsoch fi'n dweud yn fy natganiad, mae tua 85,000 o lythyrau wedi eu hanfon; y rheini yw'r bobl a warchodir, ac felly, i'r bobl hynny, bydd yr amseroedd ar-lein hynny sydd wedi eu blaenoriaethu ar gael. Dywedodd Sainsbury's a Tesco wrthyf ddydd Llun fod ganddyn nhw tua 100,000 o'r amseroedd hynny ledled y DU.

Bu cryn dipyn o drafod, rwy'n credu, ynghylch pobl sy'n agored i niwed, ac rwy'n gwerthfawrogi hynny'n llwyr, ond os ydych chi'n edrych, rydym ni'n credu, ledled y DU, bod tua 15 miliwn o bobl y byddid yn eu cyfrif yn bobl agored i niwed yn y ffordd yr ydym ni'n ystyried hynny, felly ni allai'r archfarchnadoedd ymdopi, wrth gwrs, â'r nifer hwnnw o amseroedd danfon ar gyfer siopa ar-lein. Felly, roedd hi'n bwysig iawn sicrhau bod gennym ni'r amseroedd blaenoriaeth ar-lein hynny ar gyfer y bobl a warchodir, a dyna beth yr ydym ni wedi'i wneud.

Rydych chi'n holi am hawliau tramwy, sy'n amlwg yn faes y mae Hannah Blythyn yn arwain arno, ac fel y dywedwch chi yn gwbl gywir, awdurdodau lleol sydd â'r pwerau i gau'r llwybrau troed hynny, a gwn fod y Dirprwy Weinidog yn gweithio gydag awdurdodau lleol yn y maes hwnnw.

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn egluro, y cyfan yr wyf wedi'i wneud heddiw yw dweud y byddwn yn rhoi'r rheoliadau drafft ar wefan Llywodraeth Cymru. Nid ydyn nhw yn cael eu cyflwyno. Fel y dywedwch chi, ni allwn ni dderbyn llygredd amaethyddol i'r graddau yr ydym ni wedi'i weld. Bu cynnydd sydyn yn ddiweddar—efallai eich bod wedi gweld y datganiad i'r wasg a ddaeth oddi wrth Cyfoeth Naturiol Cymru—rydym ni wedi gweld cynnydd sydyn dros yr ychydig wythnosau diwethaf. Nid yw llygredd amaethyddol yn rhywbeth y byddai'r rhan fwyaf o ffermwyr yn ei ganiatáu ar eu ffermydd ar unrhyw adeg, felly ni fydd y rhai sy'n dilyn arfer da yn gweld unrhyw newid mawr o ganlyniad i'r rheoliadau hynny. Mae llawer o bobl wedi gweld yr wybodaeth yn y rheoliadau hynny a theimlais ei bod hi'n bwysig rhannu'r wybodaeth honno. Byddwch yn ymwybodol o adroddiad Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd, a bu'n rhaid i mi gyhoeddi erbyn yr Hydref, byddwn i'n dweud. Fe wnes i ymrwymo i gyhoeddi a chyflwyno'r rheoliadau erbyn y Pasg; nid wyf yn gwneud hynny, y cyfan rwy'n ei wneud yw cyhoeddi'r rheoliadau drafft, a bydd digon o amser i drafod y rheini yn y Senedd.

15:10

Diolch am y datganiad. Dwi hefyd eisiau talu teyrnged i'r rheini oll sy'n gweithio o fewn y sector bwyd i sicrhau bod bwyd yn ein cyrraedd ni, o'r fferm i'r fforc, fel maen nhw'n ei ddweud. Rŷm ni'n gwerthfawrogi eu hymdrechion nhw, wrth gwrs. Ond mae'n rhaid i fi, Weinidog, os caf i, fynegi siom ynglŷn â'r datganiad, achos dŷn ni prin wedi cael unrhyw beth newydd yn y datganiad yna. Yr hyn rŷm ni wedi'i gael, i bob pwrpas, yw ailadrodd cyhoeddiadau rŷch chi wedi'u gwneud yn flaenorol.

Yr unig beth newydd rŷch chi wedi'i gyhoeddi, i bob pwrpas, yw'r cyhoeddiad rŷch chi wedi'i wneud ynglŷn â drafft rheoliadau NVZ. Wrth gwrs, rŷch chi'n ymwybodol bod hwn yn un o'r pynciau mwyaf dadleuol rŷch chi wedi bod yn ymrafael ag ef ers blwyddyn a mwy, ac mae'n destun gofid a phryder mawr i'r sector. Felly, pam eich bod chi wedi dewis nawr ar gyfer gwneud cyhoeddiad o'r fath? Mae yna rannau helaeth o'r sector ar eu gliniau, fel rŷm ni wedi clywed, ac dwi'n ofni y byddai'n cael ei weld fel rhywbeth antagonistic, fel rhywbeth calon galed, fel rhywbeth creulon. Dwi dal ddim yn deall y rhesymeg ynglŷn â pham nawr. Dwi'n deall mai drafft yw e; dwi'n deall ei fod e ddim yn dod i rym, ond mi fydd y canfyddiad allan yn y wlad yn un, dwi'n meddwl, bydd yn gadael pobl yn crafu pennau ar adeg pan ddylem ni i gyd fod yn ffocysu ar y gwaith sydd angen ei wneud. Oherwydd, mae pwysau aruthrol, fel rŷch chi'n gwybod, ar y sector yn y cyd-destun sydd ohoni.

Dŷch chi ddim wedi dweud dim byd ynglŷn â chefnogaeth fusnes yn eich datganiad. Rŷch chi wedi ymhelaethu ychydig eiliad yn ôl, ond does yna ddim eglurder wedi bod ers wythnosau lawer ynglŷn ag a ydy ffermwyr yn mynd i allu cael mynediad i ryw fath o gymorth busnes. Mae yna ddryswch wedi bod ynglŷn ag a ydy pobl yn gymwys ar gyfer yr hyn sydd wedi'i gyhoeddi. Rŷm ni heddiw, am y tro cyntaf, wedi clywed awgrym efallai eich bod chi yn ystyried rhyw gynllun bespoke. Dwi'n meddwl y byddwn i wedi gwerthfawrogi clywed rhywbeth tebyg i hynny cyn heddiw.

Fel rŷm ni wedi clywed, mae galwadau wedi bod am sicrhau neu ring-fence-io 15 y cant o'r [Anhyglyw.] ar gyfer rhyw fath o top-up i BPS. Mae yna alwadau hefyd, yng nghyd-destun llaeth, wrth gwrs, wedi bod i chi ystyried talu ffi safonol y litr i ffermwyr sy'n gorfod gwaredu eu llaeth. Dwi hefyd wedi clywed nifer o leisiau yn galw am gymryd y gor-gynhyrchiad o laeth allan o'r farchnad trwy, er enghraifft, annog a chynorthwyo proseswyr llaeth i gynhyrchu mwy o gaws, ac i roi ychydig o'r caws yna i mewn i storfeydd. Mae yna nifer o opsiynau posibl, ond dwi'n clywed dim oddi wrthych chi ynglŷn â pha rai o'r rhain ŷch chi yn eu hystyried, os ydych chi o gwbl. Byddwn i wedi gobeithio y byddwn ni wedi cael peth o'r wybodaeth yna heddiw.

Dwi'n nodi eich bod chi'n dweud ychydig am brofion TB yn eich datganiad chi. Wrth gwrs, y realiti yw mi fydd mwy a mwy o ffermwyr yn gorfod hunan-ynysu, mi fydd llai a llai o filfeddygon ar gael i fynd i wneud y profion yma, ac felly, fel y bydd amser yn mynd yn ei flaen, bydd mwy a mwy o ffermydd yn gorfod cael eu cloi i lawr. Felly, pa ystyriaeth ŷch chi'n rhoi i ryw fath o gonsesiwn sy'n seiliedig ar risg? Yn amlwg, dŷn ni ddim eisiau lledaenu TB, ond dŷn ni ddim chwaith eisiau lledaenu COVID-19 trwy orfodi pobl neu i gael pobl i ddod i brofi ar eu ffermydd. Felly, dwi ddim yn clywed oddi wrthych chi sut ŷch chi'n mynd i geisio taro'r cydbwysedd yna.

Rŷch chi'n iawn pan ŷch chi'n dweud bod y sector pysgodfeydd angen cymorth. Yn sicr, maen nhw wedi bod yn aros i glywed oddi wrthych chi. Dŷn ni'n gwybod, er enghraifft, bod pysgotwyr yn Iwerddon erbyn hyn yn cael €350 yr wythnos gan y Llywodraeth, ac yn Ffrainc, €300 yr wythnos. Mae pysgotwyr yn yr Alban yn mynd i dderbyn 50 y cant o'u henillion blynyddol cyfartalog am o leiaf y tri mis nesaf. Allwch chi esbonio pa fath o gynllun rŷch chi'n sôn amdano fe? Ydy e ar hyd y llinellau hynny? Jest inni gael rhyw well syniad na'r hyn rŷm ni wedi clywed hyd yn hyn.

Dwi'n ymwybodol mai'r Dirprwy Weinidog llywodraeth leol sy'n gyfrifol am lwybrau cyhoeddus, ond mae hwn yn rhywbeth, wrth gwrs, sydd yn pwyso ar feddyliau nifer o deuluoedd amaethyddol. Fyddwn i ddim, wrth gwrs, yn dadlau y dylid cau pob llwybr cyhoeddus, ond mae yna rai etholwyr, enghraifft, wedi cysylltu â fi sydd â phobl fregus yn byw yn eu cartrefi nhw—pobl sydd â'r risg fwyaf pe bai nhw yn cael COVID-19—mae yna lwybrau cyhoeddus yn pasio heibio eu tai nhw, heibio neu ar draws buarth y fferm, yn agos i'r tŷ. Oni allwch chi sicrhau bod yna elfen yn cael ei chyflwyno lle mae yna achosion tebyg yn medru cael eu delio â nhw mewn ffordd fwy cyson ar draws Cymru, yn hytrach nag, fel rŷn ni wedi clywed, ar ffurf digon random ac ad hoc fel y mae hi ar hyn o bryd? Diolch. 

15:15

Diolch am y cwestiynau hynny. Fe wnaethoch chi ddechrau gyda'r rheoliadau drafft, a byddwch yn sylweddoli na fu unrhyw beth gelyniaethus ynghylch hynny o gwbl; roeddwn wedi ymrwymo i gyhoeddi'r rheoliadau hynny cyn toriad y Pasg. Nid wyf yn gwybod beth fydd y sefyllfa o ran COVID-19 wrth i'r flwyddyn fynd yn ei blaen, ac fel y dywedais yn fy ateb i Andrew R.T. Davies, byddwch yn ymwybodol o adroddiad yr UKCCC, yr adroddiad defnydd tir, a'r hyn a gyfeiriodd at yr angen i ni ei wneud—. Nyni fyddai'r unig wlad yn y DU na fyddai wedi gwneud hynny. Ac rwy'n gwybod fod ar Llyr wastad eisiau arddel yr hyn yn yr ydym ni'n ei wneud o ran y newid yn yr hinsawdd, ac mae hwn yn benderfyniad anodd iawn—rwy'n sylweddoli hynny—ond nid wyf yn gwneud unrhyw beth ar hyn o bryd i fod yn elyniaethus, a gallaf eich sicrhau yn llwyr ein bod ni i gyd yn canolbwyntio ar y gwaith sydd wrth law yn fy adran.

Fodd bynnag, mae'r wybodaeth honno y byddaf yn ei chyhoeddi mewn rheoliadau drafft wedi bod yn nwylo llawer o bobl eisoes. Er mwyn bod yn dryloyw, credaf ei bod hi'n briodol bod yr wybodaeth honno ar gael. Cafwyd llawer o wybodaeth anghywir, rwy'n credu, ac rwy'n credu nad yw hi ond yn briodol y caiff y rheoliadau eu cyhoeddi ar ffurf ddrafft a'u bod ar gael i bawb, nid i ychydig o bobl yn unig.

O ran cymorth i fusnesau, fel y dywedoch chi, soniais wrth Andrew R.T. Davies am yr hyn y byddai ffermwyr yn gallu gwneud cais amdano o fewn y cynllun presennol—y gwaith sy'n ymwneud ag edrych ar yr hyn y gallwn ni ei dynnu o'r cynllun hwnnw, os mynnwch chi, ac a oes angen pecyn pwrpasol. Ac yn sicr, fy nhrafodaethau gydag undebau'r ffermwyr—rwy'n credu y bu ganddyn nhw gynllun pwrpasol erioed, felly dyna oedd y rheswm dros edrych ar hynny. Ond mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo ac yn amlwg mae angen gwneud hynny ar frys.

O ran llaeth, mae'n bwysig ein bod yn gweithio gyda'r Llywodraeth yn ei chyfanrwydd, a soniais fy mod wedi ysgrifennu at George Eustice—nid wyf wedi cael ymateb eto—ond mae'n amlwg bod llaeth yn cael ei drafod gyda rhanddeiliaid. Soniais yn fy natganiad fy mod yn bresennol—o bell, wrth gwrs—yng nghyfarfod y grŵp cydnerthedd amaethyddol. Mae grŵp ffocws llaeth hefyd. Felly, nid wyf yn eithrio unrhyw bosibiliadau, ac fe wnaethoch chi gynnig rhai awgrymiadau, ac rwy'n fodlon iawn i ystyried unrhyw bosibiliadau yn y dyfodol i helpu'r sector llaeth. 

O ran TB, credaf fod pawb yn derbyn bod angen inni barhau i gynnal profion TB ar hyn o bryd. Fodd bynnag, dim ond os yw milfeddygon o'r farn y gellir gwneud hynny'n ddiogel yn unol â'r cyngor iechyd cyhoeddus cyfredol ynghylch COVID-19 y gellir gwneud hynny. Felly, hyd nes y ceir cyngor pellach, ni chaiff ceidwaid eu cyfeirio at yr asiantaeth dalu berthnasol am brofion TB hwyr os ydyn nhw neu'r milfeddyg yn dweud na ellir cwblhau'r prawf. Ac rydych chi'n llygad eich lle, efallai y byddwn ni'n gweld ffermwyr yn hunanynysu ac na fydden nhw eisiau i bobl ddod ar eu fferm, ac rydym ni'n derbyn hynny'n llwyr, a dyna'r rheswm. Ond mae'n rhaid i ni, rwy'n credu, ar hyn o bryd barhau lle bo'n bosib cynnal profion TB. Yn sicr, mae swyddogion wedi bod mewn cyfarfodydd lu gyda gweinyddiaethau eraill y DU i benderfynu ar y safbwynt ar y cyd ynghylch y cyngor presennol o ran profion TB. Rwy'n pwysleisio: ni ddylai hynny ond parhau ar yr amod y gall pawb sy'n gysylltiedig gadw at y gofynion priodol o ran hunanynysu a chadw pellter cymdeithasol.

O ran pysgodfeydd, fel y dywedais, rydym ni'n gweithio ar gynllun caledi yr wyf yn gobeithio—. Mae'n ddydd Mercher bellach; rwy'n gobeithio cyhoeddi'r hyn yr ydym ni'n mynd i'w gynnig i bysgotwyr. Mae'n hynod o bwysig ein bod yn eu cefnogi oherwydd, fel y soniais yn fy natganiad, rydym ni wedi gweld cwymp llwyr yn eu marchnad.

Credaf mai dyna'r holl gwestiynau. Diolch.  

15:20

Prynhawn da, Weinidog. Diolch am eich datganiad. Yn amlwg, byddwch yn gwybod bod y gymuned ffermio yn poeni'n arbennig am effaith amharu ar y cadwyni cyflenwi. Gall hyn effeithio'n sylweddol ar allu ffermwyr i gael eu cynnyrch i'r farchnad, sydd, wrth gwrs, yn effeithio ar incwm cyffredinol y ffermwyr. Felly, mae cynrychiolwyr ffermwyr yn gofyn am neilltuo'r gronfa cadernid economaidd, a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr y llynedd—ac yn y fan yma rwy'n adleisio ychydig o sylwadau Andrew R.T.—i'w dosbarthu i fusnesau fferm. A wnaiff y Gweinidog roi gwybod inni a yw neu a fydd y mesur hwn yn cael ei weithredu? Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi, Gweinidog, bod ffermwyr Prydain ymhlith y rhai mwyaf arloesol ac effeithiol ac effeithlon yn y byd, ond mae angen yr arian arnyn nhw i barhau i gyflawni yn y ffordd wych y buon nhw'n gwneud hyd yma.

Yn ail, Gweinidog, un o bryderon mawr y gymuned ffermio yw'r cynnydd yn nifer y bobl sy'n defnyddio llwybrau cyhoeddus, y cyfeiriodd Llyr ato yn gynharach, y mae rhai ohonyn nhw yn dod yn agos at eu ffermdai, sydd, yn ei dro, yn cynyddu'r tebygolrwydd y dônt i gysylltiad â'r coronafeirws. Er na fyddem ni, yn y Blaid Brexit, yn cefnogi cau llwybrau troed, y mae rhai ffermwyr yn gofyn amdano, byddem yn gofyn i Lywodraeth Cymru gychwyn ymgyrch yn tynnu sylw at y cod cefn gwlad, y mae rhai o'r bobl hynny sy'n mynd ar diroedd fferm yn aml yn ei ddiystyru. Mae hyn yn arbennig o amlwg pan nad yw pobl yn cadw cŵn dan reolaeth ac mae'r agwedd hon yn amlwg yn peri pryder mawr i ffermwyr, o gofio bod y tymor wyna ar ei anterth. Felly, unwaith eto, a wnaiff y Llywodraeth ymrwymo i ymgyrch yn amlinellu'r prif agweddau ar y cod cefn gwlad?

Diolch, David Rowlands, am y ddau gwestiwn yna. Nid wyf yn hollol siŵr a oeddech chi'n sôn am y modiwleiddio 15 y cant. Os oeddech chi, fel y dywedais wrth Andrew R.T. Davies, nid ydym ni wedi cael sicrwydd o hyd gan Drysorlys y DU y byddwn yn cael yr arian hwnnw, ac rwy'n credu fy mod wedi ateb y cwestiynau ynghylch y gronfa cadernid economaidd i Andrew a Llyr. Cytunaf yn llwyr â chi fod ffermwyr Cymru yn flaengar ac yn sicr mae arnyn nhw angen ein cefnogaeth a byddwn yn gweithio ar yr hyn y gallwn ni ei wneud i helpu, ar ôl edrych ar y gronfa cadernid economaidd a phecyn pwrpasol hefyd.

O ran eich ail sylw, rwy'n sicr yn fodlon iawn i hyrwyddo unrhyw beth sy'n diogelu cefn gwlad yn y ffordd y gwnaethoch chi gyfeirio ato. Hannah Blythyn yw'r Gweinidog sy'n arwain ar faes llwybrau cyhoeddus ac rwy'n gwybod ei bod hi wedi gwneud llawer o waith gydag awdurdodau lleol. Yn benodol ynghylch llwybrau cyhoeddus ar diroedd fferm, rwy'n credu y byddai hawliau cyhoeddus y rhwydwaith—fel y dywedwch chi, ni fyddem ni eisiau eu gweld yn cau. Maen nhw'n bwysig iawn, yn enwedig ar yr adeg hon pan ydym ni'n annog pobl i fynd allan unwaith y dydd i wneud ymarfer corff ac ati. Ond rwy'n credu bod angen i ni wneud yn siŵr bod ffermwyr yn hapus gyda'r mynediad ar eu tiroedd. Yn sicr, unwaith eto, fe wnes i drafod hyn gydag un o'r undebau ffermio yr wythnos diwethaf, ac roedden nhw'n awyddus iawn i ddweud wrthyf, mewn gwirionedd, nad yw'r rhan fwyaf o lwybrau cyhoeddus ar diroedd fferm yn mynd yn agos at eu tai a bod ganddyn nhw'r seilwaith—felly, os meddyliwch chi am gamfeydd, er enghraifft, neu gatiau mochyn—nad yw ffermwyr yn eu defnyddio. Ond, yn amlwg, rwy'n hapus iawn i ystyried pethau ar sail achosion unigol. Mae Llyr wedi siarad â mi o'r blaen mewn gwirionedd am ddigwyddiad arbennig, y mae newydd ei grybwyll eto. Ond ar hyn o bryd, yn sicr nid oes cynlluniau i gau llwybrau troed ar draws tiroedd fferm, ond fel y dywedais, Hannah Blythyn yw'r Gweinidog arweiniol o ran llwybrau troed.  

Diolch yn fawr iawn, Weinidog, am eich datganiad. Sylwaf y dywedwch chi eich bod wedi cael sicrwydd gan yr archfarchnadoedd y byddant yn blaenoriaethu archebion ar-lein ar gyfer danfon nwyddau i gartrefi'r bobl hynny a warchodir. Heddiw, rwyf wedi cael dau e-bost gan deuluoedd a warchodir, nad ydyn nhw'n cael y gwasanaeth hwnnw gan yr archfarchnadoedd, ac y dywedir wrthyn nhw eu bod yn dal i aros am restr o'r bobl hynny a warchodir cyn iddyn nhw wneud hynny. Mae'n ymddangos bod eu hymateb yn annigonol yn barod. Os bydd rhywun yn dweud wrthyn nhw eu bod dan warchodaeth, dylen nhw roi blaenoriaeth i ddanfon nwyddau i gartrefi'r bobl hynny, hyd nes y gallan nhw wirio hynny'n iawn. Felly, hoffwn gael ychydig mwy o fanylion, mewn gwirionedd, ynglŷn â sut yr ydym ni'n sicrhau bod archfarchnadoedd yn gweithredu fel y dylen nhw ar y mater pwysig hwn, oherwydd fel arall, yn amlwg, mae'n rhaid i ni sicrhau bod trefniadau eraill ar gael i'w cadw'n ddiogel os nad oes ganddyn nhw deulu neu gymdogion lleol y gellir ymddiried ynddyn nhw i wneud hynny ar eu rhan.

Yn ail, bu cynnydd sydyn iawn eisoes ym mhrisiau cyfanwerthu llysiau a ffrwythau. Felly, mae sawl peth yn deillio o hynny. Un yw, mae'n ymddangos i mi mai swyddogaeth y Llywodraeth yw cynnull byddin o bobl i alluogi llawer mwy o gynhyrchu garddwriaethol, gan ei bod hi'n anorfod y bydd tarfu ar gyflenwadau o dramor, oherwydd bod y pandemig hwn yn un byd-eang.

Ysgrifennais i a grŵp o Aelodau eraill atoch chi yn unigol yn gynharach yr wythnos hon ynghylch yr hyn y gallai canolfannau garddio ei wneud o ran galluogi pobl i dyfu eu llysiau a'u ffrwythau eu hunain, ond hefyd i wella eu lles, yn gorfforol ac yn feddyliol, pan fônt wedi'u cyfyngu i'w cartrefi, a dylai'r bobl hynny sydd â'r fraint o fod â gardd gael ychydig mwy o amser i'w galluogi i wneud hynny. Felly, a oes unrhyw wybodaeth y gallwch chi ei rhoi ynghylch sut y gallwn ni, o leiaf, sicrhau y gellir darparu'r planhigion nad ydyn nhw'n cael eu gwerthu ar hyn o bryd mewn canolfannau garddio sydd wedi cau, drwy ysgolion o bosib, fel y gellir eu plannu, gan na allwn ni golli'r cynnyrch hwnnw?

Ac yn drydydd, hoffwn ofyn ar ran y plant hynny nad ydynt yn gallu chwarae yn yr awyr agored yn eu cartrefi: mae'n gwbl hanfodol iddyn nhw y cedwir ein parciau cyhoeddus ar agor, neu fel arall bydd canlyniadau difrifol iawn, o ran eu lles, ond hefyd yn enwedig os ydyn nhw'n byw mewn cartrefi gorlawn—mae'r parciau'n fannau lle y gallan nhw ddianc rhag y tensiynau sy'n siŵr o fodoli gartref.

15:25

Diolch i Jenny Rathbone am y cwestiynau yna. Felly, o ran y rhestr o bobl a warchodir ac archfarchnadoedd, byddwch wedi fy nghlywed yn dweud mewn ateb cynharach fod y contractau data wedi'u llofnodi yr wythnos hon. Bu hyn yn ddarn sylweddol o waith, ac mae'n rhaid i mi ddweud, mae'r ffordd y bu'r archfarchnadoedd yn awyddus i weithio gyda ni ar y mater hwn wedi creu argraff fawr arnaf. Rwy'n credu bod rhai archfarchnadoedd wedi edrych ar eu data eu hunain. Felly, mae'n debyg os oes gennych chi gerdyn teyrngarwch, eich bod yn gwybod beth yw proffil eich siopwyr. Felly, mae rhai archfarchnadoedd wedi bod fymryn yn fwy rhagweithiol wrth wneud hynny. Ond, yn amlwg, dim ond hyn a hyn o amseroedd danfon siopa sydd ganddyn nhw. Rwy'n credu bod siopa ar-lein yn cyfateb i ganran gymharol fach o'r ffordd y mae pobl yn siopa fel arfer. Felly, mae cynyddu hynny yn y ffordd y maen nhw wedi gwneud, rwy'n credu, wedi bod yn eithaf trawiadol.

Felly, erbyn diwedd y diwrnod gwaith heddiw, bydd pob un o'r wyth archfarchnad fawr wedi cael y rhestr ddata honno. Fel y dywedais, roeddwn i eisiau bod yn hollol siŵr nad oeddem ni'n rhannu data na ddylem ni fod yn ei rannu. Efallai fod gwledydd eraill ychydig yn fwy hyblyg, ond rwyf wedi bod yn awyddus iawn ein bod yn drylwyr iawn o ran rhannu'r data hwnnw. Felly, dylai unrhyw un sydd nawr ar y rhestr honno o bobl a warchodir sydd eisiau siopa ar-lein a chael y nwyddau wedi eu danfon i'w cartref allu gwneud hynny.

O ran canolfannau garddio, mae'n amlwg bod yn rhaid iddyn nhw aros ar gau. Rwy'n gwybod y caiff hynny ei adolygu'n barhaus, ond ar hyn o bryd mae'n rhaid iddyn nhw aros ar gau. Ond rwy'n gwybod bod llawer ohonyn nhw wedi arallgyfeirio i werthu ar-lein. Mae gennyf i gwmni hadau—menter gymdeithasol—yn fy etholaeth i sy'n gwneud gwaith anhygoel ar-lein ac maen nhw wedi gorfod cyflogi mwy o weithwyr oherwydd eu bod wedi cael cymaint o archebion. Felly, rwy'n credu y gallwn ni weld bod pobl yn llawer mwy awyddus nawr i dyfu eu ffrwythau a'u llysiau eu hunain, ac mae hynny i'w groesawu.

Ynghylch y gweithwyr sydd fel arfer yn dod i gasglu ffrwythau a llysiau—yn amlwg, yng Nghymru, mae garddwriaeth yn rhan fach iawn o'r sector amaethyddol. Mae oddeutu 1 y cant. Ond, unwaith eto, yn fy nghyfarfodydd wythnosol gyda'r Ysgrifennydd Gwladol dros Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig a'm cymheiriaid yn yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae hyn yn rhywbeth y mae'n rhaid inni ei ystyried, oherwydd, yn amlwg, bydd effaith ar nifer y bobl sydd fel arfer yn dod i Gymru i'n helpu ni.

Ac nid yw'n ymwneud â bwyd a diod yn unig; fel arfer mae gennym ni gneifwyr defaid sy'n dod o Awstralia a Seland Newydd, felly mae yna broblem fawr yn ymwneud â gweithwyr amaethyddol a'r—. Byddwn yn gweld gostyngiad sylweddol yn y niferoedd ac mae angen i ni ystyried ffyrdd eraill o annog pobl i wneud y swyddi hyn eleni.

Cytunaf yn llwyr â chi ynglŷn â pharciau cyhoeddus. Credaf fod y Prif Weinidog wedi cyfeirio at y tensiynau a'r anawsterau y bydd pobl yn eu profi o orfod cadw pellter cymdeithasol, ac ni allaf feddwl am ddim byd gwaeth na methu â mynd â'ch plant allan i fannau agored bob dydd. Felly, unwaith eto, nid yw parciau cyhoeddus yn fy mhortffolio, ond byddaf yn sicr yn gwneud yn siŵr y cyfleir y neges honno i bob rhan o'r Llywodraeth.

15:30

Diolch, Weinidog, am eich datganiad. Fel y gwyddoch, rwyf wedi cael llif o ymholiadau gan etholwyr sydd wedi bod yn cael trafferth wrth geisio siopa ar-lein. Mae'r rheini'n etholwyr a warchodir ac yn etholwyr sy'n agored i niwed hefyd. Bu dirnadaeth eang iawn y bu siopwyr yng Nghymru o dan anfantais o'u cymharu â'r rhai yn Lloegr. Felly, rwy'n credu mai fy nghwestiwn cyntaf yw a fyddech yn cydnabod y bu problem gyfathrebu y mae angen i Lywodraeth Cymru fynd i'r afael â hi ar frys gyda siopwyr yng Nghymru.

Rwy'n deall yr hyn yr ydych yn ei ddweud am yr archfarchnadoedd yn cael y data ynghylch unigolion a warchodir nawr. Siaradais â phennaeth materion cyhoeddus Sainsbury's fy hun ddoe, ac fe ddywedodd wrthyf eu bod wedi derbyn y data erbyn hyn, ond mae fy etholwyr heddiw yn dal i gael negeseuon e-bost oddi wrth Sainsbury's yn dweud bod y gwaith yn dal ar droed ac na allant gofrestru, ac nid yw hynny'n dderbyniol ac mae angen ei ddatrys ar frys er mwyn i'r bobl sydd i fod i gael eu gwarchod, gael eu gwarchod. Mae'r parseli bwyd yn bethau da a chlodwiw, ond mae'r rhan fwyaf o bobl eisiau cael eu siopa eu hunain a gofalu am eu hunain, ac mae angen inni ddatrys hynny ar frys.

Fe wnaethoch chi gyfeirio at y grŵp yr ydych chi ynddo gyda Julie James a Vaughan Gething. Rwyf hefyd yn bryderus gan fy mod yn dal i glywed gan etholwyr sydd ar y rhestr o unigolion a warchodir ond nad ydynt wedi derbyn y llythyr sydd ar eu cyfer, ac nid yw pob meddyg teulu â'r un ymagwedd tuag at gleifion a warchodir, felly mae yna broblem ynglŷn â phobl yn gallu cael y gefnogaeth honno yn y lle cyntaf. Felly, hoffwn ofyn i chi godi hynny gyda Julie James a gyda Vaughan Gething er mwyn i ni gael ymagwedd gyson tuag at y rhai a warchodir ledled Cymru.

Ac yna mae fy mhwynt olaf yn ymwneud â phobl sy'n agored i niwed yn fwy cyffredinol, gan fod hwnnw mewn gwirionedd yn grŵp enfawr sydd y tu allan i'r grŵp o unigolion a warchodir. Mae pobl sydd â phroblemau golwg a phobl eraill sy'n agored i niwed sydd wedi siopa ar-lein erioed wedi cysylltu â mi i ddweud nad ydyn nhw mwyach yn gallu cael blwch amser siopa ar-lein. Felly, hoffwn ofyn i chi beth yn eich barn chi yw'r ateb i'r bobl hynny, oherwydd nid wyf yn credu ei bod hi'n realistig i lywodraeth leol fynd â bwyd at yr holl bobl hyn—neu wirfoddolwyr—a hoffwn weld Llywodraeth Cymru yn gweithio'n rhagweithiol gydag archfarchnadoedd i roi hwb gwirioneddol i'r capasiti ar-lein hwnnw. Rwy'n gwybod ei fod yn her, ond, os gallwn gynyddu capasiti ar-lein, bydd hynny hefyd yn helpu i ymbellhau'n gymdeithasol, gyda llai o bobl yn mynd i siopa yn y lle cyntaf. Felly, fe hoffwn i ofyn i chi beth yw eich cynlluniau, yn y dyfodol, i weithio'n rhagweithiol fel Llywodraeth gyda'r archfarchnadoedd i roi hwb gwirioneddol i'r capasiti ar-lein fel y gall hynny ddiwallu anghenion nid yn unig y rhai a warchodir ond y rhai sy'n agored i niwed yng Nghymru, sy'n grŵp mwy o lawer. Diolch.

Diolch, Lynne, am y cwestiynau yna. Dylwn ddechrau drwy ddweud nad yw pobl yng Nghymru wedi bod dan anfantais. Fy nealltwriaeth i yw nad oedd ond—. Ddydd Llun, dim ond un archfarchnad oedd wedi cael y data o Loegr. Felly, un archfarchnad oedd hi ddydd Llun. Roedd gennym ni dair archfarchnad ddydd Llun a oedd â'n data ni. Roeddem wedi llofnodi'r contractau data ddydd Llun. Felly, cyn belled ag y gwn i, roeddem ni ar y blaen, nid ar ei hôl hi. Felly, yn sicr, dydyn nhw ddim wedi bod dan anfantais.

Fe wnaethoch chi sôn fod rhai pobl ar y rhestr warchod—ac rwyf innau hefyd yn cael llawer o waith achos etholaethol ynghylch hyn—dydyn nhw heb gael y llythyrau. Daw oddi wrth bobl sy'n credu y dylen nhw fod ar y rhestr warchod. Byddaf yn sicr dwyn hynny i sylw Vaughan Gething, ond fy nealltwriaeth i yw, os wnaiff pobl gysylltu â'u meddyg teulu, dylen nhw gael gwybod wedyn os ydyn nhw ar y rhestr a phryd y cânt eu llythyr, ond, eto, rwy'n credu, erbyn heddiw, y dylai pawb ar y rhestr warchod fod wedi cael eu llythyr, ond byddaf yn sicr yn crybwyll hyn yn fy nghyfarfod nesaf gyda Vaughan a Julie James.

Fe wnaethoch chi sôn hefyd, yn y cwestiwn cyntaf, fod rhai o'ch etholwyr yn dal i gael negeseuon e-bost yn dweud ei fod yn waith sydd ar droed. Rwy'n cytuno nad yw hynny'n dderbyniol. Fel y dywedsoch chi eich hun, mae Sainsbury's wedi eich hysbysu eu bod bellach wedi cael y data, felly rwy'n credu bod angen iddyn nhw wneud yn siŵr bod eu gwefannau yn gyfredol a byddaf yn gadael y datganiad hwn ac yn gwneud yn siŵr bod swyddogion yn cysylltu â phob un o'r wyth archfarchnad i sicrhau bod gwybodaeth ar gael, oherwydd does dim byd mwy rhwystredig na mynd ar wefan pan nad yw'r wybodaeth gywir yno ichi.

Mae eich cwestiwn ynglŷn â phobl sy'n agored i niwed yn un gwirioneddol bwysig, ac rwyf wedi cyfeirio ato ychydig yn gynharach—ac rydym yn credu, ledled y DU, fod tua 15 miliwn o bobl sy'n agored i niwed yn ôl pob tebyg; y bobl y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw, pobl sydd â phroblemau golwg, er enghraifft. Ond, yn yr un modd, er fy mod wedi gweithio'n rhagweithiol iawn gyda'r archfarchnadoedd, nid ydyn nhw'n gallu rhoi hwb i'w slotiau ar-lein yn y ffordd y credaf y mae rhai pobl yn disgwyl iddyn nhw ei wneud. Maen nhw hefyd yn ymdopi â—. Mae 20 y cant o staff rhai o'r archfarchnadoedd wedi ynysu eu hunain. Ni allan nhw brynu fflyd o faniau ar amrantiad. Mae llawer ohonyn nhw wedi llwyddo i gynyddu eu slotiau ar-lein, rhai ohonyn nhw yn sylweddol. Mae un archfarchnad—sef Morrisons—mae ganddyn nhw lawer iawn yn siopa ar-lein ac maen nhw wedi llwyddo i roi hwb i'w slotiau mewn ffordd nad yw'r lleill wedi llwyddo i'w wneud. Fodd bynnag, mae gan Tesco a Sainsbury's bellach 100,000 o slotiau y maen nhw'n eu cadw ar gyfer y grŵp blaenoriaeth hwnnw, ar gyfer y grŵp hwnnw a warchodir.

Rwy'n credu eich bod yn iawn ynghylch y parseli bwyd. Maen nhw yno i bobl sydd ar y rhestr o rai a warchodir sydd â neb o gwbl i ddod â bwyd iddyn nhw. Rwy'n falch iawn a hoffwn dalu teyrnged i'm swyddogion yn yr is-adran fwyd sydd wedi gwneud gwaith anhygoel i gael y parseli bwyd hyn mor gyflym. A phob un o'r 22 o awdurdodau lleol: rwy'n ddiolchgar iawn iddyn nhw, oherwydd eu bod nhw'n bartner yn hyn. Mae system gadarn iawn yn ei lle erbyn hyn, yn gyflym iawn, i ddosbarthu'r parseli bwyd hynny. Ond nid yw'n addas i bawb, ac ni fydd rhai pobl yn gymwys ar eu cyfer. Ni fydd ar rai pobl eu heisiau nhw, a byddant yn parhau i siopa ar-lein, ond rwy'n credu, yn realistig, bod yr archfarchnadoedd yn gwneud popeth yn eu gallu, a'u bod yn parhau i wneud popeth yn eu gallu. Pan ymunais â chyfarfod y manwerthwyr ddydd Llun yr oedd DEFRA wedi ei drefnu—unwaith eto, rwy'n credu bod y rhan fwyaf o'r archfarchnadoedd wedi sicrhau staff ychwanegol i ymdopi â'r rhai sy'n hunanynysu ac sy'n sâl, ond rwy'n fodlon iawn parhau i weithio'n rhagweithiol iawn gyda'r archfarchnadoedd i geisio gwneud popeth a allaf.

15:35

Prynhawn da, Weinidog. Os gallaf, ar ddatganiad heddiw—y sôn am yr 85,000 o slotiau ar gyfer y rhestr o'r rhai a warchodir, ac i wir gymeradwyo'r sylwadau gan Lynne Neagle AC. Mae hyn, wrth gwrs, yn seiliedig ar gyngor gan y prif swyddog meddygol yng Nghymru, pan ddywedodd y byddai pawb wedi cael eu llythyrau erbyn dydd Llun, 6 Ebrill. Wel, yn sicr yn Aberconwy, mae pobl sydd nid yn unig yn credu y dylen nhw gael eu gwarchod, ond sydd mewn gwirionedd ag anhwylderau meddygol eithaf difrifol yn cysylltu â mi'n rheolaidd. Un enghraifft yw rhywun sydd â phroblemau anadlu difrifol, ac maen nhw ar y rhestr aros frys am drawsblaniad ysgyfaint dwbl ar hyn o bryd. Nawr, pan ânt yn ôl at eu meddyg teulu, mae'r meddyg teulu yn ei gwneud yn gwbl glir ac yn dweud nad ydyn nhw wedi cael unrhyw arweiniad, dydyn nhw ddim yn gwybod unrhyw beth am y porth hwn sy'n bodoli i feddygon teulu mae'n debyg, a dywedir wrthyn nhw, 'O, dewch yn ôl ddiwrnod arall, neu cysylltwch â ni rywbryd eto, a siaradwch â'r derbynnydd, ond nid wyf yn gwybod dim amdano'. Ac mae gen i nifer o etholwyr sydd ag anhwylderau difrifol y mae cofnod meddygol ohonynt ac a fyddai fel arfer, oherwydd y cofnodion meddygol sydd ganddyn nhw, yn cael eu hystyried fel rhai a warchodir. Felly, os wnewch chi siarad â'r ysgrifennydd iechyd i sicrhau y gallwch chi eu hychwanegu nhw, oherwydd yn amlwg, byddwn ni'n mynd ar eu holau ar ran ein hetholwyr, ond rwy'n gobeithio y bydd rhywfaint o gyfle i chi eu hychwanegu at eich rhestr o'r rhai a warchodir.

Nawr, yn amlwg, mae gan Aberconwy sector bwyd a diod gwych, ac, fel pob busnes, oherwydd COVID-19, mae'r sector yn ei chael hi'n anodd. Mae rhai busnesau'n gorfod cael gwared ar fwyd—mae wedi cael ei grybwyll gan ein ffermwyr llaeth sy'n gorfod gwaredu llaeth. Felly, hoffwn wybod pa gamau cyflym y gallwch eu rhoi ar waith i gefnogi ein ffermwyr llaeth.

Hefyd, cwestiwn arall sydd gennyf i: yn sgil y Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020, a ddaeth i rym ddoe, a wnewch chi egluro, Gweinidog, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei ystyried yn fesurau rhesymol i'w cymryd gan rai fel cigyddion, y rhai sydd bellach yn chwarae rhan hanfodol wrth gyflenwi bwyd, cynhyrchwyr bwyd a chwmnïau cyflenwi? Beth yw'r mesurau rhesymol hynny y mae'n rhaid i'r busnesau hynny eu cymryd i gydymffurfio â'r angen i sicrhau bod pobl ar eu safle yn cadw 2m o'i gilydd? Gan fod rhai cwmnïau wedi dweud wrthyf i, 'Bydd yn rhaid inni haneru nifer y bobl os ydym ni am lynu'n gaeth wrth y rheolau hynny. A gawn ni arweiniad pryd, os nad ydym o anghenraid yn bodloni'r rheol 2m, y gellir rhoi canllawiau ataliol ar waith? Oherwydd nid yw'n ymarferol, ar hyn o bryd, iddyn nhw leihau nifer eu staff—gan na fyddan nhw wedyn yn gallu cyflawni'r rhwymedigaeth honno i gyflenwi neu, yn wir, i brosesu bwyd.

Cwestiwn arall sydd gen i: fel y gwyddoch chi efallai, mae gwinllannoedd yng Nghymru yn cael eu hystyried yn weithgareddau ffermio, ac felly nid ydyn nhw'n talu ardrethi busnes, felly nid oes ganddyn nhw werth ardrethol. Pa gymorth fyddai ar gael iddyn nhw? A fyddan nhw'n gallu manteisio ar y gronfa cadernid economaidd?

Cwestiwn tri: mae ein ffermwyr yn chwarae rhan hollbwysig o ran bwydo ein cenedl, ond gallai rhai—wel, rwy'n credu eu bod i gyd erbyn hyn—yn dioddef effeithiau negyddol yn sgil y gostyngiad sylweddol mewn prisiau wrth gât y fferm o ganlyniad i newidiadau i batrymau prynu defnyddwyr a chau rhai allfeydd yn y sector gwasanaethau bwyd. A fyddant yn cael rhywfaint o gymorth ariannol a phryd?

Fy nghwestiwn olaf, Gweinidog: codwyd pryderon gyda mi ynglŷn â'r blychau bwyd sy'n cael eu dosbarthu. Rwy'n ymwybodol bod pobl yn cael gwared ar rywfaint o'r bwyd hwn, oherwydd nid ydyn nhw yn ei hoffi, ysywaeth, ond, yn bwysicach, mae gan bobl ofynion deietegol ac, yn wir, alergeddau bwyd. Felly, pa ystyriaethau sydd ynglwm â'r broses o lunio'r blychau hyn i ystyried y rhai sydd â gofynion deietegol penodol ac, yn wir, alergeddau bwyd? Diolch.

15:40

Diolch, Janet, am y rhestr yna o gwestiynau. Ynghylch y grŵp o bobl a warchodir, rwy'n credu bod y rhan fwyaf o'ch cwestiynau yn ymwneud â phobl sydd heb gael y llythyrau, a byddaf yn sicr yn trafod hynny gyda'r Gweinidog iechyd. Rwyf eisoes wedi dwyn hynny at sylw'r Gweinidog iechyd—dywedais mewn ateb cynharach bod etholwyr wedi cysylltu â mi. Ond rwy'n credu bod hanfod eich cwestiwn ynghylch 'a allwn ni ychwanegu pobl at y rhestr warchod?', ac, yn sicr, gallwn—gallaf roi'r sicrwydd hwnnw i chi.

Yn amlwg, mae COVID-19 wedi cael effaith ddifrifol ar lawer o'n cynhyrchwyr bwyd a diod, fel yr economi, yn amlwg, yn gyffredinol. Yn sicr, rwyf wedi clywed am lawer o fusnesau—yn enwedig bwytai a'r sector gwasanaethau bwyd—a roddodd fwyd yn y dechrau, pan gyflwynwyd y mesurau hyn. Gwinllannoedd—nid wyf wedi cael dim yn benodol ynghylch gwinllannoedd. Rwyf yn ymwybodol iawn o'r un yn eich etholaeth chi. Ond, yn sicr, fy nealltwriaeth i yw y byddent yn gallu elwa ar y cymorth o'r gronfa argyfwng economaidd.

Rydych yn codi pwynt pwysig iawn am flychau bwyd, oherwydd, gallwch ddychmygu, er mwyn dosbarthu'r blychau bwyd hynny  mor gyflym â phosib, fe wnaethom ni ddefnyddio yr un ddau gwmni ag yr oedd DEFRA wedi'u defnyddio hefyd, am eu bod yno ac yn barod i weithredu, ac roedd yn haws inni gael y mesurau caffael mewn cysylltiad â dosbarthu'r bwyd hwnnw. Felly, nid ystyriwyd gofynion deietegol, oherwydd, i'r rhai ohonoch chi nad ydych yn gwybod, mae blwch arferol yn cynnwys amrywiaeth o eitemau—mae ganddo laeth oes hir, mae ganddo gynnyrch tun, mae ganddo basta, mae ganddo bapur tŷ bach, grawnfwyd brecwast. Mae'r cynnwys wedi'i labelu'n glir iawn.

Ond un peth yr oeddwn i'n awyddus iawn—wel, roedd dau beth yr oeddwn i'n awyddus iawn i'w gwneud. Rydym ni wedi gwneud hyn, i ddechrau, am 12 wythnos, ond, yn yr un modd, hoffwn weld mwy o ffrwythau a llysiau, os oes modd o gwbl, yn y blychau hynny. Felly, mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn ei ystyried ar hyn o bryd. Aeth y blwch bwyd cyntaf allan ddydd Iau diwethaf, felly nid wyf yn siŵr os ydym yn dal yn wythnos un neu a ydym nawr yn mynd i wythnos dau o ran y blychau cyflenwi bwyd hynny, ond yn sicr erbyn wythnos tri, roeddwn i eisiau edrych ar y posibilrwydd o roi rhywfaint o fwyd ffres, ffrwythau a llysiau ffres, i mewn i'r blychau hynny. Felly, gobeithio, o fewn y—yn amlwg mae'r wythnos nesaf yn cael ei hystyried yn doriad, gobeithio pan ddown yn ôl y byddwn yn gallu gwneud hynny. Mae angen inni edrych hefyd ar y gofynion deietegol, ac yn enwedig os oes gan bobl gyflwr iechyd y mae angen i bobl gael y cynnyrch hwnnw. Felly, mae'n darparu bwyd hanfodol i bobl, ond rwyf—. Wyddoch chi, mae'n wych gweld y blychau hynny'n cyrraedd stepen drws pobl. Mae'n anodd iawn cael un ateb sy'n addas i bawb, ond rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn sylweddoli bod angen cael y bwyd hwnnw allan ar unwaith.

15:45

Tri chwestiwn cyflym i orffen yr eitem hon ar yr agenda. Helen Mary Jones yn gyntaf.

Diolch, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei datganiad, ac ategaf yr hyn y mae pawb arall wedi'i ddweud ynglŷn â pha mor bwysig yw'r gwaith y mae pawb yn ein sector bwyd yn ei wneud, o ffermydd i'n siopau ac i'r gweithwyr siopau, a gwn fod hynny'n achosi cryn straen i rai ohonyn nhw.

O ran darpariaeth archfarchnadoedd, rwy'n falch iawn o glywed yr hyn a ddywedodd y Gweinidog nawr y dylid bod yr holl restrau wedi eu darparu, ac roeddwn yn falch o'i chlywed yn dweud wrth Janet Finch-Saunders y byddwn yn gallu ychwanegu pobl at y rhestrau hynny. Soniwyd, er enghraifft, yn natganiad y Prif Weinidog am bobl â chlefyd niwronau motor yr ymddengys eu bod wedi cael eu diystyru'n gyfan gwbl. A gaf i ofyn i'r Gweinidog beth fyddai'r ffordd orau i ni symud ymlaen, fel Aelodau, os ydym yn cael sylwadau—fel y mae Lynne Neagle, a minnau, a llawer ohonom—gan etholwyr sy'n dal i gael eu hysbysu, fel cwsmeriaid archfarchnadoedd na allant ddefnyddio'r slotiau neu nad oes ganddyn nhw'r wybodaeth gywir? A fyddai'n ddoeth i ni ysgrifennu at y Gweinidog, neu a fyddai'n well ganddi pe baem ni'n codi'r mater hwn yn uniongyrchol gyda'r archfarchnadoedd, oherwydd, yn aml—rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cydnabod—gallwn wneud pethau'n iawn yn genedlaethol, ond o ran eu bod yn gweithio ar lefel leol i bobl, mae'r wybodaeth sy'n dod i ni fel aelodau etholedig yn bwysig iawn?

Ynghylch darparu blychau bwyd, rwy'n deall yn llwyr yr hyn y mae'r Gweinidog yn ei ddweud am yr angen i sicrhau bod hyn ar waith yn gyflym a gwn y bu yn achubiaeth lwyr i rai o'm hetholwyr. Cyfeiriodd y Gweinidog at awdurdodau lleol fel partner allweddol yn hyn i gyd. Tybed wrth i'r cynllun fynd rhagddo, y gallai hi ragweld y bydden nhw'n chwarae fwy o ran yn y broses caffael—gyda'r adnoddau'n dod yn sgil hynny, wrth gwrs—oherwydd gallai hynny fod yn gyfle. Mae'n sôn am gael mwy o fwyd ffres yn y blychau hynny, gallai fod yn gyfle hefyd drwy gynnwys awdurdodau lleol i gefnogi cadwyni cyflenwi bwyd lleol. Felly, tybed a fyddai hi'n ystyried hynny eto wrth i bethau symud ymlaen.

Ynghylch mater gwahanol, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi fod llochesi anifeiliaid yn chwarae rhan bwysig iawn o ran lles anifeiliaid yng Nghymru, ac, wrth gwrs, caiff y llochesi hynny i gyd eu rhedeg gan wirfoddolwyr. Rwyf wedi cael nifer o sylwadau gan lochesi yn fy rhanbarth sy'n tynnu sylw at y ffaith bod eu gwaith codi arian i gyd, wrth gwrs, yn dibynnu ar weithgareddau cymdeithasol, ar eu siopau—pob peth sydd wedi gorfod dod i ben. Tybed a all y Gweinidog heddiw ymrwymo i roi rhywfaint o ystyriaeth i ba gymorth a allai fod ar gael iddyn nhw, os nad yw eisoes wedi gwneud hynny, oherwydd, wrth gwrs, mae'r anifeiliaid yn dal angen bwyd ac efallai y bydd angen gofal milfeddygol a bydd angen talu am hwnnw.

Ac, yn olaf, rwyf wedi cael sylwadau sy'n awgrymu i mi nad yw rhai elfennau o'r cymorth busnes presennol yn gweithio'n dda iawn i fusnesau twristiaeth—gallai llawer ohonyn nhw wrth gwrs fod yn ffermydd wedi arallgyfeirio. Felly, er enghraifft, os ydych chi'n barc carafanau, ni fyddwch yn cael unrhyw incwm, ond ni fyddwch yn gallu rhoi seibiant i'ch staff o reidrwydd oherwydd y bydd eu hangen i dorri'r gwair, gwneud gwaith cynnal a chadw. Rwy'n sylweddoli mai mater i bortffolio Ken Skates yw hwn yn bennaf, ond tybed a gaf i ofyn i'r Gweinidog heddiw drafod ymhellach gyda Ken Skates gyda'r bwriad o sicrhau bod gennym ni becynnau cymorth busnes ar gael a fydd yn gweithio mewn gwirionedd i'r busnesau gwledig hyn, ac rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog, wrth gwrs, yn cytuno eu bod yn bwysig iawn.

Diolch, Helen Mary, ac yn sicr, o ran y pwynt olaf yna, fe wnaf godi hynny gyda Ken Skates ynghylch y cymorth i fusnesau. Eich cwestiynau penodol eraill, felly. Rwy'n credu eich bod yn iawn ynghylch ein gweithlu manwerthu; maen nhw wedi gweithio'n eithriadol o galed. Gwelsom y cynnydd enfawr hwnnw yn nifer y bobl a oedd yn pentyrru nwyddau ac mae hyn fwy neu lai wedi dod i ben. Yn sicr, yn y trafodaethau yr wyf wedi eu cael gyda'r archfarchnadoedd, maen nhw wedi gwneud hynny'n glir iawn sef bod y cyfnod prysuraf cychwynnol hwnnw wedi dod i ben bellach a'u bod nhw'n gallu llenwi eu silffoedd fel bod pobl—. Roedd ein staff yn y GIG sy'n gweithio'n galed iawn, yn cyrraedd eu harchfarchnad leol am 5 o'r gloch fel arfer i brynu llaeth a bara ac yn methu â gwneud hynny; nid yw hynny'n digwydd bellach, a dylech chi nawr allu siopa yn y ffordd arferol. Rwy'n falch iawn bod archfarchnadoedd hefyd wedi sicrhau'r amseroedd gwarchodedig hynny ar gyfer ein gweithwyr GIG, a oedd wir eu hangen, a hefyd ar gyfer yr henoed ar y dechrau, ond mae hynny'n amlwg wedi newid, a hefyd y sector gofal cymdeithasol. Rwy'n credu bod llawer o archfarchnadoedd wedi sicrhau bod ganddyn nhw'r amseroedd gwarchodedig hynny ar gyfer gweithwyr gofal cymdeithasol hefyd.

Rwy'n credu bod anghysondeb, hefyd, o ran—a byddai hyn wedi arwain, hefyd, at ein gweithwyr manwerthu yn ei chael hi'n anodd—amddiffyn eu hunain. Felly, i'r rheini ohonom ni sy'n mynd i archfarchnadoedd, gwelwn nawr fod gan y rhan fwyaf o'r archfarchnadoedd sgriniau, ac, unwaith eto, fe'm sicrhawyd gan yr holl archfarchnadoedd y byddai'r sgriniau hynny ar gael erbyn diwedd yr wythnos diwethaf.

Ynghylch y blychau bwyd, rwy'n deall yr hyn y mae Helen Mary yn ei ddweud am awdurdodau lleol, ond rwy'n credu ein bod wedi gofyn llawer gan ein hawdurdodau lleol, ac rwy'n ddiolchgar iawn am y gwaith y maen nhw wedi'i wneud. Fel rwy'n dweud, mae gennym ni system gadarn iawn ar waith. Mae pob un o'r 22 o awdurdodau lleol wedi cofrestru ar gyfer y cynllun cyflenwi bocsys bwyd. Bob dydd, rwy'n cael manylion am y nifer diweddaraf o becynnau bwyd sydd wedi eu dosbarthu ym mhob awdurdod lleol. Rwy'n credu bod y rhif ym Merthyr Tudful dros 400, hyd at ddoe. Mewn rhai awdurdodau lleol, nid yw gymaint â hynny, ond mae pawb wedi ymrwymo iddo nawr, a chredaf fod hynny'n bwysig iawn.

O ran y ffrwythau a'r llysiau ffres, soniais yn fy ateb cynharach ein bod wedi ymrwymo i'r blychau hyn am 12 wythnos, ond drwy gydol y 12 wythnos hynny, gallwn er enghraifft, sicrhau bod mwy o ffrwythau a llysiau yn y blychau hynny. Ar ddiwedd y 12 wythnos, efallai y gallem ni ystyried defnyddio cynhyrchwyr o Gymru, gan fy mod yn awyddus iawn i wneud hynny.

Y pwynt a godwch am lochesi anifeiliaid, ac yn amlwg i lawer o elusennau, maen nhw wedi gweld, mae'n debyg, ddiwedd ar eu gwaith codi arian a hefyd eu gweithgaredd masnachu, os ydynt yn rhedeg siop, er enghraifft. Mae hyn yn rhan o bortffolio Jane Hutt, a gwn ei bod wedi cynnal trafodaethau ynghylch cymorth i elusennau. Y bore yma, gwahoddodd y Prif Weinidog Ruth Marks i roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y gwaith y mae Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru a phartneriaethau sector y cynghorau gwirfoddol lleol wedi bod yn ei wneud ynglŷn â hyn. Ond, unwaith eto, byddaf yn codi'r pwynt hwn gyda Jane Hutt.

15:50

Dydw i ddim yn mynd i ailadrodd yr holl bethau hynny y mae pobl wedi eu gofyn, ac eithrio ynghylch llwybrau troed. Pan gyhoeddwyd y rheoliad, cafwyd cyfnod adolygu 28 diwrnod hefyd. Felly, gofynnaf i'r Gweinidog pryd fydd hi'n gwneud cyhoeddiad, ar ôl cynnal yr adolygiad hwnnw, oherwydd ymhen pythefnos bydd angen i hynny ddigwydd.

Rwyf eisiau holi sut yr ydym yn mynd i lwyddo i gael y cnydau yn y ddaear, ac a ydych chi wedi cael trafodaethau parhaus ynghylch cael gafael ar weithwyr, oherwydd mae'n amlwg iawn y gallai pobl sydd efallai heb waith, groesawu'r cyfle i helpu yn hyn o beth. Byddai unrhyw newyddion diweddar ynghylch hynny a allai fod gennych chi yn cael ei groesawu'n fawr.

Ond rwyf hefyd eisiau gofyn cwestiwn sydd wedi cael ei ofyn, a hynny am ganolfannau garddio a meithrinfeydd planhigion, ac, ynghyd â hynny, mae'n debyg busnesau eraill sy'n dioddef dirywiad. Felly, mae cwestiwn ehangach yma ynglŷn â sut y byddwn ni, fel Llywodraeth a chymuned sy'n cefnogi busnesau yn fwy cyffredinol, yn helpu pobl nid yn unig i arallgyfeirio o ran yr hyn y maen nhw'n ei wneud, ond i arallgyfeirio yn y ffordd y maen nhw'n gwerthu'r hyn y maen nhw'n ei wneud a sut yr ydym ni'n eu cefnogi wrth fwrw ymlaen. Rwy'n credu bod achos clir yma dros fuddsoddi yn y moddion hynny beth bynnag ydyn nhw, boed yn hyfforddiant, boed yn dechnoleg, neu beth bynnag ydyn nhw, i helpu busnesau sydd wedi ehangu, sydd yn gweithredu fel arfer yn y drefn bresennol, ond sydd angen mynd ar-lein er mwyn bod yn hunangynhaliol mewn cyfnod fel hwn nawr, ac mae wedi gwneud inni feddwl yn fwy i raddau helaeth, mae'n debyg am foderneiddio'r busnesau. Diolch.

15:55

Diolch, Joyce. O ran y llwybrau troed a'r cyfnod o 28 diwrnod, bydd yn rhaid i Hannah Blythyn eu hadolygu, a byddaf yn sicrhau ei bod yn ymwybodol o'ch cwestiwn.

Rwy'n credu bod y pwynt yr ydych yn ei godi am gnydau yn y ddaear yn bwysig iawn, a chyfeiriais o'r blaen at y miloedd o bobl sy'n dod—wyddoch chi, gweithwyr amaethyddol tymhorol—ac yn amlwg mae hwnnw'n fater enfawr. Nid yw'n ymwneud â'r rhan arddwriaethol o amaethyddiaeth yn unig; y bobl eraill sy'n dod i'n helpu ni i gneifio defaid, er enghraifft. Mae hwnnw'n faes arall sydd wedi'i godi. Felly, rwyf yn cyfarfod yn wythnosol â'r Ysgrifennydd Gwladol dros DEFRA a chymheiriaid mewn gweinyddiaeth ddatganoledig, ac mae gweithwyr amaethyddol hefyd yn cael eu crybwyll mewn rhyw fath o—ni allaf gofio beth yw'r enw ar hyn o bryd. Rwy'n credu mai'r grŵp rhynglywodraethol gweinidogol ydyw. Rwyf wedi bod yn bresennol ddwywaith yn y grŵp hwnnw yn Llywodraeth y DU—mae hwnnw'n gyfarfod a gadeirir gan Michael Gove—lle mae'r sector gwaith a'r gweithlu amaethyddol wedi dod ar yr agenda. Felly mae'n amlwg yn rhywbeth y bydd yn rhaid i ni edrych arno. Fel y dywedsoch chi, mae yna bobl a all fod ar seibiant ar hyn o bryd, felly un o'r cwestiynau yr wyf i wedi bod yn ei ofyn yw: os oes gweithiwr ar seibiant sy'n cael cyflog ar hyn o bryd ac yn awyddus i wneud gwaith ychwanegol ym myd amaeth, o ran yr arian y mae'n ei gael, sy'n bwysig, a fydd hwn yn newid? Oherwydd yn amlwg byddai pobl eisiau sicrhau bod eu henillion yn ddiogel.

O ran canolfannau garddio, soniais fod rhai ohonyn nhw nawr yn gwerthu ar-lein. Dydw i ddim yn siŵr a ydyn nhw wedi cael cymorth busnes penodol gan bortffolio Ken Skates, ond rwy'n siŵr bod cyngor y gallem ni ei rannu gyda nhw er mwyn gallu gwneud hynny.

Cyn i mi symud at y cwestiwn nesaf, Llywydd, sylweddolais nad oeddwn wedi ateb Janet Finch-Saunders ynghylch y rheol 2m. Yn amlwg, i fusnesau bwyd—yn sicr, cododd proseswyr cig eu pryderon gyda mi yr wythnos diwethaf, a gwnes sylwadau amdanyn nhw. Ond rwy'n siŵr y byddwch yn gwerthfawrogi bod gan bob gweithle ran i'w chwarae wrth atal lledaeniad y coronafeirws, a'u bod nhw'n mynd ati mewn modd cymesur. Byddem yn gobeithio bod pob man o'r fath yn mynd ati mewn modd cymesur, a gwn fod nifer o fusnesau wedi haneru—nid haneru nifer y gweithwyr, ond gwneud yn siŵr bod y lle yn fwy. Mewn rhai meysydd, ni allwch chi wneud hynny. Felly, er enghraifft, ni allai deintydd fod 2m oddi wrth glaf, ac rwy'n credu bod honno'n enghraifft dda iawn o gam rhesymol.

Bydd y Gweinidog yn gwerthfawrogi bod busnesau tymhorol yn y gorllewin a'r canolbarth yn enwedig yn hanfodol bwysig i'r economi, ac mae hyn yn arbennig o wir mewn ardaloedd gwledig hefyd. Yn anorfod, mae'r rhan fwyaf o incwm eu tymor bellach o dan fygythiad, ac mae'n bosib iawn y bydd rhai busnesau yn ennill dim yn ystod y gwanwyn na'r haf. Mae hynny'n creu bygythiadau difrifol iawn o ran yr hyn a ddaw ar ôl i'r argyfwng hwn ddod i ben, ac mae angen inni flaengynllunio rhywfaint, felly, ar gyfer y sefyllfa o ran llif arian a allai godi yn yr hydref ac yn y gaeaf. Yn hyn o beth, er bod busnesau wedi bod yn cael llawer o help gan y Llywodraeth, megis y cynllun cadw swyddi, lle y telir 80 y cant o gostau gweithiwr ar seibiant, er hynny, mae'n rhaid i'r busnesau barhau i dalu'r ffigur hwnnw o 20 y cant, ac fel y nododd Helen Mary Jones yng nghyswllt costau diogelwch a chostau cynnal a chadw, maen nhw'n parhau drwy gydol yr argyfwng hwn, er nad oes incwm yn dod i mewn. Felly, tybed a wnaiff y Gweinidog ddweud wrthyf i pa ystyriaeth sy'n cael ei rhoi i'r hyn fydd yn dilyn yn syth ar ôl yr haf i helpu'r busnesau hyn i oroesi'r gaeaf a chodi eto, oherwydd mae'n amlwg y bydd yn cymryd 12 mis, 18 mis, efallai dwy flynedd i oresgyn y problemau sydd wedi'u hachosi yn ystod yr wythnosau diwethaf.

Diolch. Rwy'n credu eich bod yn gwneud pwynt pwysig iawn, sef nad yw'r sefyllfa hon yn mynd i wella ar ei phen ei hun yn gyflym iawn. Mae hon yn mynd i fod yn broblem barhaus i gynifer o fusnesau. Rydych yn llygad eich lle: mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cefnogi ein busnesau yn sylweddol. Rwy'n siŵr fod y Gweinidog, Ken Skates, yn edrych ar hyn ac ar beth arall fydd ei angen. Felly yn sicr o ran fy mhortffolio i, soniais y byddaf yn cyhoeddi cefnogaeth i bysgodfeydd, er enghraifft. Dydw i ddim yn gwybod faint o amser y cymerith hi cyn bydd y farchnad yn ôl ar ei thraed ac y bydd cychod yn gallu mynd allan i'r môr. Felly, yn amlwg, wrth i mi edrych ar y cynllun hwnnw, mae angen imi edrych arno nid yn unig nawr ond yn y tymor hwy hefyd. Ond, rwy'n credu bod yn rhaid i ni i gyd dderbyn ei bod hi'n mynd i gymryd amser hir i adfer ar ôl hyn. Roeddwn yn credu bod y Prif Weinidog wedi gwneud pwynt pwysig iawn ynghylch peidio â bod eisiau mynd yn ôl i'r drefn arferol; rwy'n credu ein bod ni wedi gweld cydweithio a chydweithredu i'r graddau na welsom ni o'r blaen.

16:00

Diolch yn fawr i'r Gweinidog.

Yn unol â Rheol Sefydlog 12.24 a 12.40, oni bai y bydd Aelod yn gwrthwynebu, caiff y cynigion ar gyfer egwyddorion cyffredinol a phenderfyniad ariannol y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) eu rhoi gyda'i gilydd i'w trafod ac i bleidleisio yn eu cylch. Nid oes gwrthwynebiad. Ni welaf unrhyw wrthwynebiad. Fe wnawn ni hynny.

Cyn inni symud ymlaen at y drafodaeth honno, rwy'n atal trafodion nawr am 15 munud.

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 16:01.

Ailymgynullodd y Cynulliad am 16:15, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

16:15
4. & 5. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) a chynnig i gymeradwyo'r penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)

Yr eitem nesaf, felly, yw'r ddadl ar egwyddorion cyffredinol a phenderfyniad ariannol y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), a galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig—Julie James.

Cynnig NDM7307—Julie James

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).

Cynnig NDM7308—Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.

Cynigiwyd y cynigion.

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol a phenderfyniad ariannol y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), a gyflwynais ym mis Tachwedd. Mae'n sicr yn wir fod y ddadl hon yn digwydd mewn cyfnod digynsail, ac rwy'n ddiolchgar i'r Aelodau am gydnabod, er bod heriau sylweddol ar hyn o bryd, bod yn rhaid inni bob amser edrych i'r dyfodol.

Rwy'n ddiolchgar i John Griffiths, Llyr Gruffydd, Mick Antoniw ac aelodau eu pwyllgorau am eu dull trwyadl ac adeiladol o graffu ar y Bil a'u hadroddiadau a'u hargymhellion dilynol. Ysgrifennais at y tri phwyllgor ar 23 Mawrth yn nodi fy syniadau mewn ymateb i'w sylwadau a'u hargymhellion. Felly, ni cheisiaf fynd i'r afael â phob un o bron i 60 o argymhellion yn yr amser sydd gennym y prynhawn yma, ond byddaf yn myfyrio ar sylwadau'r Aelodau os a phan symudwn tuag at Gyfnod 2.

Wrth gyflwyno'r Bil, dywedais fod y darpariaethau wedi bod yn destun ymgynghori helaeth. Caiff hyn ei gydnabod gan y pwyllgorau. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r holl randdeiliaid sydd wedi cyfrannu ac wedi gweithio gyda ni dros y blynyddoedd ar ddatblygu'r cynigion yn y Bil. Mae hyn yn cynnwys aelodau'r gweithgor ar lywodraeth leol ac is-grŵp dilynol y cyngor partneriaeth sydd wedi llunio'r Bil ac sy'n helpu i gyd-gynhyrchu'r canllawiau a'r trefniadau rheoleiddio a grëir gan y Bil. Rwyf hefyd yn ddiolchgar i'r sefydliadau a'r unigolion a ddarparodd dystiolaeth lafar ac ysgrifenedig yn ystod y cyfnod craffu hwn.

Mae'r Bil yn cynnwys darpariaethau i alluogi diwygio etholiadol ac yn sefydlu fframwaith llywodraethu newydd ar gyfer llywodraeth leol. Rwy'n falch bod rhanddeiliaid, yn gyffredinol, yn cefnogi darpariaethau'r Bil, fel y mae'r pwyllgorau. Felly, rwy'n falch iawn fod y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi argymell bod y Senedd yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil.

Gan droi wedyn at fanylion y Bil, rwy'n falch bod y rhan fwyaf o Aelodau'r Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau wedi cefnogi ymestyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 ac 17 oed a dinasyddion tramor sy'n preswylio'n gyfreithlon yng Nghymru. Rwyf hefyd yn falch bod y pwyllgor yn cefnogi ein barn mai'r prif gynghorau sydd yn y sefyllfa orau i benderfynu drostynt eu hunain pa system bleidleisio sy'n gweddu'n well i anghenion eu pobl a'u cymunedau lleol.

Rwy'n cydnabod holl safbwyntiau'r pwyllgor ar y gwelliannau arfaethedig ar gyfer Cyfnod 2 a fyddai'n caniatáu i garcharorion a phobl ifanc yn y ddalfa o Gymru sydd â dedfrydau o lai na phedair blynedd i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru. Nid ailadroddaf y rhesymau dros gyflwyno darpariaethau yng Nghyfnod 2 o ran rhoi'r bleidlais i garcharorion, ond gallaf eich sicrhau fy mod wedi ystyried yn ofalus yr holl bwyntiau a wnaed gan y pwyllgorau ar y darpariaethau hyn. Yn anffodus, Llywydd, rwyf wedi gorfod gwneud y penderfyniad, fel rhan o ystyriaeth ehangach Llywodraeth Cymru o'i rhaglen ddeddfwriaethol ar ddechrau ein gwaith cynllunio ar gyfer ymdopi â'r amgylchiadau difrifol yr ydym ynddynt, i beidio ag ymrwymo unrhyw adnodd swyddogol yn y dyfodol i'r gwelliant arfaethedig hwn yng Nghyfnod 2.

Llywydd, bydd yr Aelodau, rwy'n siŵr, yn ymwybodol y bydd y ddadl heddiw, os caiff y cynnig ei basio, yn caniatáu inni barhau i gynnwys gwaith yn y dyfodol ar y Bil yn ein cynlluniau ar gyfer materion y byddwn eisiau iddynt fod yn barod i'w datblygu unwaith y bydd yr argyfwng a wynebwn nawr wedi mynd heibio. Gwn fod llawer o Aelodau'n cefnogi'r Bil ac amcanion ei bolisi, a bydd pasio'r cynnig hwn heddiw yn caniatáu inni gynllunio adnoddau ar gyfer y dyfodol i weithio ar amcanion y polisi hynny yr ydym ni'n gytûn yn eu cylch.

Gan droi wedyn at rannau o'r Bil nad ydynt yn ymwneud ag etholiadau, mae llywodraeth leol wedi bod yn galw am bŵer cymhwysedd cyffredinol am flynyddoedd lawer. Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos gyda llywodraeth leol a rhanddeiliaid i ddynodi lle mae pwerau neu hyblygrwydd ychwanegol wedi bod o gymorth iddyn nhw gyflawni eu hamcanion.

Rwy'n derbyn argymhellion y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ynghylch y ddyletswydd i annog pobl i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau mewn cyrff cysylltiedig. Rwyf felly'n bwriadu cyflwyno gwelliant yn dileu'r cysyniad o awdurdodau cysylltiedig yng Nghyfnod 2.

Rwy'n cydnabod pryderon y Pwyllgor Cyllid, ar sail rhai llywodraeth leol, ynghylch cost ac ymarferoldeb y darpariaethau darlledu. Rwy'n credu bod gennym ni ddiddordeb cyffredin mewn sicrhau bod y darpariaethau'n gweithio yn y ffordd fwyaf synhwyrol ac ymarferol. Sefydlwyd gweithgor gyda CLlLC i ystyried y materion hyn ac i bwyso a mesur beth fyddai'r ffordd orau o ddefnyddio'r pŵer i wneud rheoliadau y mae'r darpariaethau hyn yn ei gynnwys i eithrio cyfarfodydd cyngor penodol o'r gofyniad i ddarlledu.

Rwy'n derbyn argymhelliad 19 y pwyllgor mewn cysylltiad â rheoli perfformiad gwael gan brif weithredwyr, ac mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda Chymdeithas Prif Weithredwyr ac Uwch-reolwyr Awdurdodau Lleol Cymru a Chymdeithas Prif Weithredwyr ac Uwch-reolwyr Awdurdodau Lleol ar ddull gweithredu diwygiedig.

Mae'r pwyllgor yn gwneud nifer o argymhellion mewn cysylltiad â rhannu swyddi. Rwyf wedi ymrwymo i alluogi trefniadau hyblyg pan fo'n bosib o fewn prif gyngor, ac rydym yn parhau i weithio gyda phartneriaid i ystyried goblygiadau ehangu yn y maes hwn a pha gamau a chanllawiau y gallai fod eu hangen.

Bydd cyd-bwyllgorau corfforaethol yn darparu dull cyson i awdurdodau lleol yng Nghymru, wedi'i sefydlu mewn statud ar gyfer cydweithredu rhanbarthol. Rwy'n croesawu sylwadau'r pwyllgor ar ein cynigion. Fel y pwysleisiwyd yn adroddiad y Pwyllgor Cyllid, rwy'n fodlon ymrwymo i ddarparu asesiadau effaith rheoleiddiol llawn a chadarn ar gyfer pob darn o is-ddeddfwriaeth a wneir o ganlyniad i'r Bil hwn. Dyma'r lle gorau i asesu eu costau a'u manteision penodol.

Rwy'n croesawu'r graddau o gonsensws ymysg y rhai sy'n rhoi tystiolaeth ar yr angen am y darpariaethau yn y Bil, a'u priodoldeb, a fydd yn cyflwyno system newydd ar gyfer gwella perfformiad a llywodraethu yn seiliedig ar hunanasesu ac adolygu gan gymheiriaid. Yn unol ag argymhelliad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, bwriadaf gyflwyno gwelliant a fyddai'n cynnwys darpariaeth yn y Bil sy'n egluro amseriad adroddiad hunanasesu.

Rwyf hefyd yn falch o gyhoeddi heddiw fy mod wedi cyhoeddi canllawiau: prosbectws ar gyfer uno'r prif gynghorau yng Nghymru yn wirfoddol. Paratowyd y canllawiau gan y gweithgor ar lywodraeth leol. Mae'n rhoi cyngor ymarferol ar y materion craidd y bydd angen mynd i'r afael â nhw yn rhan o'r bwriad i ddatblygu unrhyw gynnig i uno'n wirfoddol.

Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, awdurdodau lleol a gwasanaethau cynghori i wella pob agwedd ar gasglu'r dreth gyngor a rheoli ôl-ddyledion. Bydd y gwaith hwn, sy'n canolbwyntio ar atal, yn parhau.

Mae'r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi gwneud nifer o argymhellion ynghylch y gweithdrefnau arfaethedig ar gyfer arfer pwerau is-ddeddfwriaethol a phwerau dirprwyedig eraill yn y Bil. Ni fu'n bosibl imi dderbyn holl argymhellion y Pwyllgor yn llawn, a rhoddais fy rheswm yn fy ymateb ysgrifenedig i adroddiad y pwyllgor.

Rwy'n cydnabod ac yn derbyn mewn egwyddor argymhelliad 32 y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau. Rwyf wedi ymrwymo i ddefnyddio'r canllawiau ar berfformiad a llywodraethu yn y Bil i dynnu sylw at bwysigrwydd ystyriaethau tai wrth gyflawni swyddogaethau awdurdodau lleol fel enghraifft o ble dylai cynghorau fod yn ymdrechu i wneud yn well ac nid dim ond bodloni gofynion sylfaenol. Bydd hyn yn sicrhau bod y ddarpariaeth o ran tai yn cael ei hystyried ar y cyd â'r ystod o bwerau a dyletswyddau sydd gan gynghorau fel rhan o asesiad corfforaethol ehangach o berfformiad cyffredinol y cyngor, yn hytrach nag ar ei phen ei hun.

I gloi, mae'r Bil hwn yn darparu'r pwerau a'r offer y mae llywodraeth leol wedi bod yn gofyn amdanynt. Bydd yn eu galluogi i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus modern, hygyrch, o safon uchel ar gyfer a chyda'r cymunedau y maen nhw'n eu gwasanaethu. Rwy'n annog yr Aelodau i gytuno ar egwyddorion cyffredinol a phenderfyniad ariannol y Bil heddiw. Diolch, Llywydd.

16:20

Diolch. Cyn i mi alw'r siaradwr nesaf, a gaf i ddweud fy mod yn ymwybodol bod Neil McEvoy yn darlledu'n fyw ar Facebook yn ystod y trafodion? Mae gen i fy ffôn wrth law, ac roeddwn i'n gallu ei wylio, er nad oeddwn i'n ei glywed. Mae hynny'n gwbl groes i'm cyfarwyddyd i ar y dechrau, ac yn groes i'n Rheolau Sefydlog. Rwyf wedi gofyn i chi gael eich symud o'r cyfarfod hwn o'r Cynulliad, ac ni chewch eich galw yn ystod y ddadl hon.

Mark Isherwood—mae'n ddrwg gennyf, mae angen imi alw ar Gadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau yn gyntaf, John Griffiths.

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch iawn o gael cyfrannu at y ddadl heddiw fel Cadeirydd y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau, a hoffwn ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth i ni i helpu i lywio ein gwaith. Sylwaf fod yr amserlen dynn ar gyfer cyflawni ein gwaith craffu wedi achosi anawsterau i rai rhanddeiliaid, felly rydym yn fwy diolchgar byth am eu cyfraniad.

Cyfeiriwyd llawer at y ffaith y buwyd wrthi'n paratoi'r Bil hwn ers blynyddoedd lawer. Mae'n sylweddol o ran ei gynnwys ac yn cwmpasu ystod eang o ddarpariaethau sy'n ymwneud â swyddogaethau llywodraeth leol. Yn amlwg, ers cyflwyno'r Bil, mae'r amgylchiadau wedi newid yn sylweddol iawn, ond mae'n dal yn ddarn arwyddocaol o ddeddfwriaeth, ac ni ddylid peidio â chraffu arno.

Ar ôl ystyried y dystiolaeth a gyflwynwyd gan randdeiliaid, gwnaethom argymell y dylai'r Cynulliad gytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Fodd bynnag, credwn y gellir cryfhau'r Bil mewn rhai meysydd, ac mae ein hadroddiad yn cynnwys cyfanswm o 32 o argymhellion, sy'n amlinellu'r gwelliannau yr hoffem eu gweld yn ystod y cyfnodau diwygio.

Mae'n siomedig mai dim ond saith o'n hargymhellion a dderbyniwyd yn llawn gan y Gweinidog, er fy mod yn sylweddoli bod nifer o rai eraill wedi'u derbyn mewn egwyddor. Roedd ein hargymhellion yn seiliedig ar dystiolaeth gan randdeiliaid arbenigol, felly byddwn yn annog y Gweinidog i ailystyried ei hymateb i rai o'r rhain.

O ran y darpariaethau sy'n ymwneud ag ymestyn yr etholfraint i gynnwys pobl ifanc 16 ac 17 oed, credwn y bydd angen codi ymwybyddiaeth yn effeithiol er mwyn sicrhau bod grwpiau newydd o bleidleiswyr yn ymwybodol o'u hawliau ac yn gwneud defnydd o'u pleidlais. Felly, rydym yn argymell y dylai'r Bil gynnwys darpariaeth benodol i gyflwyno lefel ddigonol o addysg ar wleidyddiaeth a democratiaeth yn ein holl ysgolion yng Nghymru. Rydym yn credu y dylai hyn gael ei ategu gan gynlluniau gwersi clir i rymuso athrawon i ddarparu'r gwersi hyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi cyfeirio at ymestyn yr etholfraint i gynnwys pobl ifanc 16 ac 17 oed fel un o'r prif resymau dros fwrw ymlaen â'r Bil hwn ar hyn o bryd. Felly, mae'n hanfodol bod pobl ifanc yn datblygu eu dealltwriaeth a'u hymwybyddiaeth o'u hawl i bleidleisio, neu fel arall bydd y darpariaethau hyn yn llai effeithiol nag y byddem ni i gyd yn ei hoffi.

Er gwaethaf yr amheuon a fynegwyd ynglŷn â'r dull yn y Bil o ganiatáu i gynghorau unigol ddewis eu systemau pleidleisio eu hunain, rydym yn cydnabod manteision posibl systemau etholiadol cyfrannol, megis Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy, yn enwedig fel ffordd o gynyddu amrywiaeth ymhlith ymgeiswyr. Hoffem weld Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda chynghorau i archwilio diwygiadau i drefniadau pleidleisio, gan gynnwys yr effaith gadarnhaol y gallai Pleidlais Sengl Drosglwyddadwy ei chael ar gynyddu amrywiaeth. Mae nifer o ddarpariaethau eraill yn y Bil sydd â'r nod o gynyddu amrywiaeth, yn arbennig galluogi rhannu swyddi a chyfrifoldebau newydd yn ymwneud ag ymddygiad cynghorwyr. Er ein bod yn croesawu'r rhain, credwn y gallai'r Bil fynd ymhellach, fel yr adlewyrchir yn ein hargymhellion.

I gloi, er ein bod wedi argymell i'r Cynulliad gymeradwyo'r egwyddorion cyffredinol, rydym yn credu bod lle i gryfhau'r Bil yn y ffyrdd a amlinellais heddiw ac a amlinellir yn fanylach yn ein hadroddiad. Diolch, Llywydd.  

16:25

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Rydw i'n falch iawn o allu cyfrannu at y ddadl yma. Mae'r Pwyllgor Cyllid wedi gwneud 19 argymhelliad, ac rydw i'n diolch i'r Gweinidog am ei llythyr, dyddiedig 23 Mawrth, yn nodi ymateb i'r argymhellion hynny, ac, o ystyried faint o amser, wrth gwrs, sydd ar gael ar gyfer y ddadl yma heddiw, mi fyddaf i'n canolbwyntio ar ein prif bryderon ni'n unig. Rydym ni fel pwyllgor yn cydnabod bod hwn yn ddarn sylweddol o ddeddfwriaeth, ond mae yna ddau faes y mae gan y pwyllgor bryderon penodol yn eu cylch nhw.

Yn gyntaf, pan gyflwynodd y Gweinidog y Bil, mi gyhoeddodd ei bwriad i gyflwyno gwelliannau i estyn yr etholfraint i garcharorion a phobl ifanc yn y ddalfa. Roeddem ni'n feirniadol o ddull tebyg a gafodd ei ddefnyddio wrth i ni graffu ar y Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru), pan gyhoeddwyd yn ystod Cyfnod 1 y byddai gwelliannau sylweddol yn cael eu cyflwyno mewn perthynas â threfniadau ariannol y Comisiwn Etholiadol bryd hynny. Mae'r pwyllgor yn ailadrodd, felly, ei farn bod mewnosod darpariaethau newydd drwy welliannau yng Nghyfnod 2 yn amharu ar allu'r pwyllgor i ystyried costau cyffredinol y ddeddfwriaeth arfaethedig, yn enwedig gan fod y cyfle i gynnal gwaith craffu ariannol ar y newidiadau hyn yn gyfyngedig. Heddiw, mi ofynnir i'r Cynulliad, wrth gwrs, i gymeradwyo penderfyniad ariannol, ond, eto, os bydd newidiadau sylweddol yn cael eu gwneud yn ystod Cyfnod 2, bydd y Cynulliad wedyn wedi pleidleisio dros ymrwymo adnoddau heb gael gwybod beth yw costau llawn y Bil. Mae'r pwyllgor o'r farn ei bod hi'n hanfodol bod gan y Cynulliad y wybodaeth ariannol berthnasol i sicrhau ei fod yn gallu gwneud penderfyniad ar sail gwybodaeth pan ofynnir iddo ymrwymo adnoddau.

Yn ail, mae'r Bil yn cynnwys nifer sylweddol o bwerau galluogi i Weinidogion Cymru a dyw'r pwerau hyn, wrth gwrs, ddim wedi cael eu costio. Mae hwn hefyd yn fater rydym ni wedi'i godi ar sawl achlysur, sef y dylai'r Aelod sy'n gyfrifol gynnwys yr amcangyfrif gorau o'r costau sy'n gysylltiedig ag is-ddeddfwriaeth ochr yn ochr â'r ddeddfwriaeth sylfaenol berthnasol. Serch hynny, rydw i'n falch bod y Gweinidog wedi cytuno mewn egwyddor i argymhellion 1, 5, 15 ac 17, sy'n ymwneud â Llywodraeth Cymru yn darparu asesiadau effaith rheoleiddiol llawn a chadarn ar gyfer unrhyw is-ddeddfwriaeth berthnasol sy'n cael ei gwneud o ganlyniad i'r Bil hwn.

Mae'r pwyllgor yn pryderu bod rhai costau yn yr asesiad rheoleiddiol yn ymwneud â phleidleisio, etholiadau a chodi ymwybyddiaeth yn gostau ar gyfartaledd ar draws prif gynghorau ac nad ydyn nhw'n ystyried y gwahaniaethau rhwng ardaloedd awdurdodau lleol. Rŷn ni o'r farn bod rhai costau yn debygol o daro rhai ardaloedd yn drymach na'i gilydd. Yn argymhelliad 2, rŷn ni'n gofyn i Lywodraeth Cymru wneud rhagor o waith i nodi dosbarthiad yr etholwyr ledled Cymru, ac egluro'r dull mae'n bwriadu'i ddefnyddio ar gyfer unrhyw gyllid a ddyrennir i gefnogi'r darpariaethau yn y Bil sy'n ymwneud ag etholiadau a phleidleisio. Rŷn ni'n falch bod y Gweinidog wedi derbyn yr argymhelliad hwn a'i bod hi'n gweithio gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill i ystyried y ffordd orau y gall Llywodraeth Cymru reoli'r effeithiau gwahaniaethol posib ar awdurdodau lleol unigol. Edrychwn ymlaen at gael y wybodaeth ddiweddaraf maes o law.

Mewn perthynas ag etholiadau a phleidleisio, mae'r pwyllgor o'r farn bod nifer o feysydd lle gellid bod wedi darparu rhagor o wybodaeth. Mae'n siom bod argymhelliad 6, sy'n gofyn am ragor o wybodaeth am y mathau o gynlluniau y bydd Llywodraeth Cymru efallai am eu treialu, a'r adnoddau posib sy'n ofynnol ar gyfer gweithgaredd o'r fath, wedi cael ei wrthod. Rŷn ni'n nodi nad yw'r Gweinidog yn bwriadu treialu'r un peilot etholiadol cyn yr etholiadau lleol yn 2022 nac ar gyfer yr etholiadau hynny, ond mae'r Gweinidog, er hynny, wedi nodi ei bod yn debygol y bydd goblygiadau o ran cost oherwydd newidiadau i feddalwedd rheoli etholiadol, staffio, hyfforddiant, ac ati. Mae'r pwyllgor o'r farn y dylai'r asesiad effaith rheoleiddiol fod wedi cynnwys amcangyfrif o'r adnoddau y mae'n bosib y bydd eu hangen ar gyfer gweithgaredd o'r fath.

Mae'r Bil yn ei gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol wneud trefniadau i ddarlledu cyfarfodydd, a hynny er budd tryloywder yn y broses o wneud penderfyniadau. Mae'r asesiad effaith rheoleiddiol yn amcangyfrif y byddai'r contract darlledu ar gyfer Cymru yn costio oddeutu £12,000 y flwyddyn i brif gyngor ar gyfartaledd. Fe glywsom ni dystiolaeth bod y ffigwr hwn wedi cael ei amcangyfrif yn rhy isel o lawer, ac rŷn ni'n falch felly bod y Gweinidog wedi derbyn argymhelliad 10, i ystyried a yw contract darlledu Cymru gyfan yn ymarferol, ac ai hwn fyddai'r ateb mwyaf cost-effeithiol, ac yn falch y bydd ei swyddogion yn ystyried ymhellach y manteision a'r anfanteision o wneud hyn.

Mae'r pwyllgor yn nodi cefnogaeth gyffredinol Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i'r cynnig ar gyfer cydbwyllgorau corfforedig fel cyfrwng ar gyfer cydweithredu. Fodd bynnag, rŷn ni o'r farn y gallai sefydlu pwyllgorau o'r fath arwain at gostau cychwynnol posib, yn ogystal, wrth gwrs, ag arbedion posib gydag amser. Mae'r pwyllgor yn falch bod y Gweinidog wedi derbyn argymhelliad 16, sef bod Llywodraeth Cymru yn rhannu dadansoddiad o gostau a buddion sefydlu cydbwyllgorau corfforedig pan fydd yr adolygiad yn dod i ben ac y bydd yn ystyried rhoi cyfrif am y wybodaeth hon yn yr asesiad effaith rheoleiddiol.

Rwy'n cydnabod y ffaith y bydd y Bil hwn yn symud ymlaen, wrth gwrs, mewn cyfnod unigryw a'r posibilrwydd y bydd yna newidiadau yn cael eu gwneud yn y cyfnodau diwygio, ac efallai y bydd rheini yn llai sylweddol na'r disgwyl. Fodd bynnag, dwi am ailadrodd fy sylwadau o ddechrau fy nghyfraniad, sef, wrth gwrs, y dylid sicrhau bod Biliau yn cael eu datblygu mor drylwyr a phosib cyn eu cyflwyno ac na ddylid defnyddio cyfnodau diwygio i gyflwyno cynigion newydd a helaeth nad ydyn nhw wedi bod yn destun craffu yng Nghyfnod 1. Diolch, Llywydd.

16:30

Galwaf yn awr ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw.

Diolch, Llywydd. Fe wnaethom ni adrodd ar y mesur hwn ar 13 Mawrth a gwneud 12 argymhelliad, ac, fel y dywedodd y Gweinidog, fe ymatebodd hi ar 23 Mawrth. Croesawaf y ffaith fod y Gweinidog wedi derbyn argymhelliad 5 a'r sylwadau cadarnhaol a wnaed o ran argymhellion 4, 6, a 9 o'n heiddo.

Hoffwn wneud rhai sylwadau cyffredinol ar y Bil, sydd wedi cymryd chwe blynedd i'w baratoi. Mae'n Fil cymharol gymhleth, ac mae'n cynnwys 98 o bwerau i wneud is-ddeddfwriaeth. Nawr, mae modd cyfiawnhau llawer o'r pwerau a gymerir, ond roeddem yn bryderus o glywed y Gweinidog yn dweud bod llawer ohonyn nhw yn caniatáu i Weinidogion Cymru ymateb i amgylchiadau yn y dyfodol na ellid eu rhagweld eto. Felly, nid ydym ni o'r farn ei bod hi'n briodol i Lywodraeth Cymru gymryd pwerau i ymdrin â pholisïau nad ydyn nhw wedi eu datblygu nac eu rhagweld yn llawn eto. Credwn fod hwn yn arfer deddfwriaethol gwael. Mae'r dull hwn yn rhoi gormod o rym i'r Llywodraeth ar draul y ddeddfwrfa.

Nawr, yn gyffredinol, mae natur llawer o'r pwerau gwneud rheoliadau a gymerir yn y Bil yn rhoi'r argraff ei fod yn anghyflawn wrth ei gyflwyno. Mae'r farn negyddol hon yn cael ei chryfhau gan fwriad clir y Llywodraeth i gyflwyno polisi arwyddocaol yng Nghyfnod 2 y broses ddeddfwriaethol o ran rhoi'r bleidlais i garcharorion, gan osgoi Cyfnod 1. Rydym yn cydnabod bod y Gweinidog ers hynny wedi darparu gwelliannau drafft ynglŷn â rhoi'r bleidlais i garcharorion cyn trafodion Cyfnod 2. Fodd bynnag, ni ddylid ystyried bod hyn yn disodli proses graffu Cyfnod 1. Mae'r dull gweithredu a fabwysiadwyd yn osgoi'r gwaith craffu ac ymgynghori gyda rhanddeiliaid a fyddai wedi digwydd yng Nghyfnod 1. Mae'r ffaith bod yn rhaid i'r pwyllgor wneud sylwadau o'r fath yn barhaus yn siomedig, ac rydym yn gwneud hynny er mwyn sicrhau y creffir yn briodol ac yn deg ar ddeddfwriaeth ac y llunnir cyfreithiau da.

Fe hoffwn i dynnu sylw nawr at dri o'r argymhellion nad yw'r Gweinidog wedi eu derbyn. Mae a wnelo'r cyntaf, argymhelliad 2, â'r angen i gyflwyno deddfwriaeth sydd wedi ei ffurfio'n llawn pan gaiff ei chyflwyno. Mae adran 18 yn ymwneud â rheoliadau i ddarparu ar gyfer cronfa ddata ar gyfer y gofrestr etholiadol. Cydnabu'r Gweinidog fod y pwerau i wneud rheoliadau wedi eu cymryd oherwydd y diffyg amser i gynnwys gwybodaeth ar wyneb y Bil. Felly, fe wnaethom argymell gweithdrefn uwchgadarnhaol ar gyfer y pwerau hyn i wneud rheoliadau yn y lle cyntaf, ac yna'r weithdrefn gadarnhaol. Gwrthododd y Gweinidog yr argymhelliad hwn, gan nad oedd yn cyd-fynd â llawlyfr deddfwriaeth Llywodraeth Cymru ynglŷn â phryd i ddefnyddio'r weithdrefn uwchgadarnhaol. Nid yw hon, yn ein barn ni, yn ddadl gref nac yn darbwyllo, a byddwn yn gofyn i'r Gweinidog ailystyried ein hargymhelliad. Byddai'n caniatáu craffu mwy cadarn ar gynigion a fyddai, yn ôl ei chydnabyddiaeth ei hun, wedi cael eu cynnwys ar wyneb y Bil pe byddai amserlen y Llywodraeth ei hun wedi caniatáu mwy o amser. Nawr, rwy'n cydnabod ac yn croesawu cyfeiriad Gweinidogion Cymru at ganllawiau arfer da wrth gyflwyno eu cynigion cyfreithiol. Fodd bynnag, roedd ein hargymhelliad yn seiliedig ar ein dadansoddiadau ein hunain, a oedd yn cynnwys yr amgylchiadau a arweiniodd at y darpariaethau a gynhwysir yn adran 18.

Mae argymhelliad 3 yn ymwneud ag adran 26 y Bil. Mae adran 26 yn ceisio newid y darpariaethau presennol yn Neddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000. Un o themâu allweddol y Bil yw grymuso awdurdodau lleol ac annog gwneud penderfyniadau ar y lefel lywodraethol isaf posibl. Felly, mae'n syndod, felly, gweld darpariaeth yn y Bil sy'n caniatáu i Weinidogion Cymru gyfarwyddo awdurdod lleol i gynnal cynllun etholiadol arbrofol yn groes i'w ddymuniadau. Mae'n fwy o syndod fyth na fyddai penderfyniad i gyhoeddi Gorchymyn, fel y mae wedi ei ddrafftio yn y Bil ar hyn o bryd, yn destun unrhyw graffu gan y Cynulliad Cenedlaethol.

Gellir defnyddio'r pŵer yn adran 26 i newid systemau etholiadol awdurdod lleol, felly nid yw hwn yn bŵer mân neu dechnegol. Gallai gael effaith sylweddol ar ffurfiant gwleidyddol awdurdod lleol ar ôl etholiad, hyd yn oed pe na byddai ond ar gyfer un gyfres o etholiadau. Gallai unrhyw benderfyniad gan Weinidogion Cymru o unrhyw blaid wleidyddol benodol i ddefnyddio'r pŵer, felly, fod mewn perygl o fod yn gymhelliant gwleidyddol ac, felly, i fod yn ddadleuol. Hyd yn oed pe na byddai cymhelliant gwleidyddol, gallai hyn, yn sicr, fod yn dybiaeth.

Fel yr amlygwn yn aml, mae'n bwysig gwahaniaethu rhwng sut y gallai Gweinidogion Cymru ddefnyddio pwerau, yn hytrach na bwriad Gweinidogion Cymru sydd yn y swydd ar hyn o bryd wrth eu cymryd. O dan yr amgylchiadau, credwn y dylid cymhwyso'r weithdrefn gadarnhaol ar gyfer gwneud Gorchymyn o dan sylw. Mae'r ffaith bod y Gweinidog wedi gwrthod ein hargymhelliad ar y sail ei fod yn anghymesur yn siomedig, o ystyried bod y pŵer i'w arfer heb i awdurdod lleol gymell hynny, fel sy'n digwydd ar hyn o bryd, a heb i'r Cynulliad graffu arno. Yn ein barn ni, nid yw'r pŵer hwn yn gweddu i Fil sy'n ceisio grymuso awdurdodau lleol.

Yn olaf, hoffwn ailadrodd ein barn bod y pwerau i wneud rheoliadau sydd yn adran 109 (2) y Bil yn rhy eang, ac, fel y nodwyd yn Argymhelliad 11, dylid dileu'r gair 'hwylus', felly, o'r ddarpariaeth hon. Diolch, Llywydd.  

16:35

[Anhyglyw.]—ymarferiad torri-a-gludo yn cynnwys, o bosib, 28 o ddarpariaethau a gynhwyswyd ym Mhapur Gwyn llywodraeth leol Mark Drakeford o 2017, y'i rhoddwyd o'r neilltu yn wreiddiol. Yn ei ddatganiad ysgrifenedig ynglŷn â dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â deddfwriaeth yng ngoleuni COVID-19 yr wythnos diwethaf, gofynnodd y Prif Weinidog i'r Senedd Cymru hon weithio gyda Llywodraeth Cymru i archwilio dulliau newydd o graffu er mwyn caniatáu iddi ddatblygu ei rhaglen ddeddfwriaethol o dan yr amgylchiadau presennol. Nid oedd unrhyw gyfeiriad yn y datganiad hwn at roi'r bleidlais i garcharorion a euogfarnwyd. Sylwn hefyd bod ymateb Llywodraeth Cymru i adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb, Llywodraeth Leol a Chymunedau ar y Bil hwn ddim ond yn derbyn chwarter ein 32 argymhelliad, argymhellion a wnaed ar ôl casglu tystiolaeth fanwl gan amrywiaeth o dystion arbenigol ac oriau o drafodaeth gan Aelodau'r Pwyllgor.

Mae'r Bil yn darparu bod pob prif gyngor yn cael penderfynu drosto'i hun ar y system bleidleisio i'w defnyddio, boed hynny y cyntaf i'r felin neu gynrychiolaeth gyfrannol drwy ddefnyddio'r bleidlais sengl drosglwyddadwy. Fodd bynnag, roedd 33 o'r 35 a ymatebodd i'r ymgynghoriad ar y Papur Gwyn yn anghytuno ac roedd yn well ganddyn nhw gadw un system bleidleisio ar gyfer Cymru gyfan. Ymhellach, fel y dywed ein hadroddiad pwyllgor, mae'r

'rhan fwyaf o’r dystiolaeth a gafwyd yn gwrthwynebu’r darpariaethau sy’n caniatáu i brif gynghorau ddewis eu system bleidleisio eu hunain.'

Mae'r asesiad effaith rheoleiddiol hefyd yn nodi y byddai cost ychwanegol pe byddai prif gyngor yn dewis newid ei system bleidleisio, ond nad yw'r costau hyn yn hysbys ar hyn o bryd. Mae'n destun pryder mawr felly fod y Gweinidog wedi gwrthod argymhelliad y Pwyllgor y dylai Llywodraeth Cymru gynnal rhaglen ymgysylltu â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru—CLlLC—prif gynghorau a chymunedau ledled Cymru ynghylch diwygio trefniadau pleidleisio ar gyfer etholiadau llywodraeth leol. Bydd darpariaethau yn y Bil yn galluogi Gweinidogion Cymru i sefydlu a chynnal cronfa ddata ar gyfer Cymru gyfan o'r bobl sydd ar y gofrestr etholiadol. Tynnodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru sylw at y fantais o leihau'r posibilrwydd i unigolion gofrestru mewn mwy nag un cyfeiriad. Fodd bynnag, mae adroddiad ein pwyllgor yn nodi nad yw'r asesiad effaith rheoleiddiol yn diffinio unrhyw gostau ar gyfer datblygu cronfa ddata Cymru gyfan, ac mae'n cydnabod pryderon a grybwyllwyd ynghylch diogelwch data personol unigolion. Unwaith eto, mae'n destun pryder mawr bod y Gweinidog wedi gwrthod ein hargymhelliad y dylid diwygio'r darpariaethau sy'n ymwneud â chofrestru heb wneud cais er mwyn sicrhau y caiff unigolion sydd wedi cofrestru yn y modd hwn eu rhoi ar y gofrestr etholiadol gaeedig yn hytrach na'r gofrestr agored.

Rydym yn cefnogi darpariaeth y Bil i ddileu'r pŵer i ganiatáu carcharu fel cosb am beidio â thalu'r dreth gyngor. Fodd bynnag, fel y mae ein hadroddiad pwyllgor yn ei nodi, roedd 22 o'r rhai a ymatebodd i ymgynghoriad Llywodraeth Cymru o'r farn y dylid cyflwyno dulliau eraill o adfer y dreth pe byddai hynny'n cael ei ddileu, gan gynnwys awdurdodau lleol. Mae'n destun pryder mawr, felly, bod y Gweinidog wedi gwrthod ein hargymhelliad y dylai Llywodraeth Cymru weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i ystyried mesurau amgen ar gyfer adennill dyledion a gronnwyd drwy beidio â thalu'r dreth gyngor. Mae'r Gweinidog yn iawn i ganolbwyntio ar atal, ond bydd yn dal angen cosb nad yw'n garchar ar gyfer rhai.

Ar hyn o bryd, caiff dinasyddion Iwerddon a'r Gymanwlad a dinasyddion perthnasol yr UE bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol a rhai datganoledig, ond bydd y Bil hwn yn galluogi pob dinesydd tramor sy'n byw yn gyfreithlon yng Nghymru i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol. Ceir cytundeb cyfatebol hirsefydlog rhwng y DU a Gweriniaeth Iwerddon o ganlyniad i'r berthynas hanesyddol rhwng y ddwy wlad, ac mae gallu dinasyddion y Gymanwlad i bleidleisio yn etholiadau'r DU yn waddol o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1918. Fodd bynnag, mae'r Bil hwn yn cynnig cam yn rhy bell. Mae gan y rhan fwyaf o'r gwledydd sy'n caniatáu i ddinasyddion tramor bleidleisio o leiaf ofyniad o statws preswylio o leiaf, ond mae hyd yn oed hynny ar goll yn y fan yma. Fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, David Melding, wrth graffu ar ddarpariaethau tebyg yn Bil y Senedd ac Etholiadau (Cymru),

dylai eu dinasyddiaeth benderfynu ble maen nhw'n pleidleisio yn bennaf, ac os ydyn nhw'n gwneud y dewis i beidio â cheisio dinasyddiaeth yma, yna eu dewis nhw yw peidio â chael hawliau gwleidyddol i'r graddau o gael pleidleisio yn ein hetholiadau ni.

Yn waeth byth, er nad oedd Llywodraeth Cymru yn cynnwys darpariaeth yn y Bil hwn ar gyfer rhoi'r hawl i garcharorion bleidleisio, mae'r Gweinidog wedi cadarnhau, os bydd Aelodau yn derbyn y cynnig hwn heddiw, y gwnaiff gyflwyno gwelliannau i ganiatáu i garcharorion sy'n cael dedfrydau o lai na phedair blynedd, megis ar gyfer ymosodiad cyffredin a symbylwyd gan hil, torri gorchymyn trosedd rhyw, neu buteinio menywod, i bleidleisio mewn etholiadau llywodraeth leol. Mewn geiriau eraill, ar adeg o argyfwng cenedlaethol, mae'r Llywodraeth hon yng Nghynulliad Cymru eisiau i ni ei helpu i ruthro deddfwriaeth Llywodraeth Cymru trwodd a fydd yn cyflwyno newidiadau sy'n aruthrol o amhoblogaidd ymhlith y bobl, ac na allwn ni eu cefnogi.

16:45

Cyn dechrau, hoffwn ddiolch ar goedd i'r Gweinidog a'r Llywodraeth, a datgan fy nghefnogaeth i'r camau yr ydych chi wedi eu cymryd wrth ymestyn y cyfyngiadau ar symud. Ar y darn hwn o ddeddfwriaeth, mae'r Gweinidog a'i thîm wedi gwneud llawer iawn o waith eisoes, ac rwy'n cytuno â'r sylwadau a wnaed gan John Griffiths, â minnau'n aelod o'i bwyllgor.

Pan gyflwynwyd y Bil am y tro cyntaf, roeddwn i'n credu bod llawer i'w groesawu ynddo—rwy'n dal i gredu hynny. Mae pleidleisio yn 16 oed a dileu'r rhwystrau i gymryd rhan yn y broses wleidyddol, yn enwedig, yn ddarpariaethau pwysig iawn. O dan amgylchiadau arferol, byddem wedi bod yn cefnogi'r Bil hwn heddiw ac yn edrych tuag at ei gryfhau drwy welliannau a phrofi ewyllys y Llywodraeth gyda rhai syniadau newydd. Ond nid yw'r rhain yn amgylchiadau arferol, ac nid nawr yw'r amser i drafod y Bil hwn. Bydd llawer o bobl yn pendroni sut y gallai hyn fod yn unrhyw fath o flaenoriaeth i'r Llywodraeth ar hyn o bryd, pan fo pobl yn marw bob dydd. Dylai pob un ohonom ni ganolbwyntio'n gadarn ar helpu'r wlad i ymdrin â'r argyfwng iechyd mwyaf mewn degawdau, pan na fyddai'n or-liwio i ddweud ein bod ni mewn sefyllfa debyg i adeg rhyfel i raddau helaeth.

O safbwynt ymarferol, mae'n anodd iawn cyfathrebu ar hyn o bryd, ac yn amhosib craffu'n effeithiol. Nid ydym ni'n gwybod mewn gwirionedd, yn glir, beth yw bwriadau Llywodraeth Cymru wrth i'r Bil hwn fynd tuag at Gyfnod 2, oherwydd, yn amlwg, byddai craffu trwyadl ar ddarn o ddeddfwriaeth mor helaeth â hyn yn amhosibl, o leiaf yn y dyfodol rhagweladwy. Barn Plaid Cymru yw, os na allwn ni ddeddfu'n iawn oherwydd yr amgylchiadau, ni ddylem ni fod yn deddfu o gwbl, ac y byddai gwneud hynny'n anghyfrifol.

Amser cyfyngedig sydd gennym ni heddiw i graffu ar y Llywodraeth yr wythnos hon, a dylid neilltuo'r holl amser hwn i graffu ar ymateb y Llywodraeth i'r coronafeirws. Mae'n drueni ein bod ni, o'r amser a roddwyd i ni, wedi rhoi hanner hynny i'r ddadl hon ar ddeddfwriaeth y byddem yn dadlau nad yw'n sensitif o ran amseru.

Rwyf yn sylwi bod y Llywodraeth wedi dweud bod angen iddi basio'r ddeddfwriaeth hon heddiw er mwyn i waith gael ei wneud mewn pryd ar gyfer 2022. Dydw i ddim yn siŵr a yw hyn yn dal dŵr yn llwyr. Os ydym ni mewn gwirionedd yn dweud y byddai oedi o ychydig fisoedd yn peryglu prosiect o flynyddoedd lawer, rwy'n siŵr bod cwestiynau ynglŷn â rheoli'r prosiect dwy flynedd hwnnw nad oes ganddo unrhyw hyblygrwydd yn yr amserlen. Mae hefyd yn werth nodi, rwy'n credu, mai llusgo traed deddfwriaethol sydd wedi dal materion yn ôl yn barod. Pleidleisio yn 16 oed fu ewyllys pendant y Senedd ar sail drawsbleidiol ers sawl blwyddyn bellach. Rydym yn talu pris mewn cyfnod o argyfwng am ddiffyg gweithredu Llywodraeth Cymru yn ystod amseroedd arferol. Felly, bydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn y Bil heddiw, nid am ein bod yn anghytuno â'r egwyddorion cyffredinol, ond oherwydd ein bod yn credu'n gryf na ddylid cyflwyno'r ddadl hon a'r bleidlais hon o dan yr amgylchiadau hyn.

Ond nawr rwyf eisiau troi at rai o'r sylwadau y mae'r Ceidwadwyr wedi bod yn eu cylchredeg ar y cyfryngau cymdeithasol yn enwedig. Y cwbl a ddywedaf yw, os nad yw'n iawn i'r Llywodraeth barhau â'r Bil ar hyn o bryd, nid yw'n iawn ychwaith i'r Ceidwadwyr fod yn camddehongli'r Bil hwn ac ymosod arno mewn modd eithaf ffiaidd. Mae'r Ceidwadwyr wedi bod yn dweud bod—wel, honni yn anghywir ei fod yn cynnwys darpariaethau ar gyfer pleidleisiau i garcharorion, pan nad yw'r Bil yr ydym yn pleidleisio arno heddiw yn cynnwys y darpariaethau hynny. Gwelliannau i'w cyflwyno yng Nghyfnod 2 gan y Llywodraeth ar ddyddiad anhysbys yn y dyfodol yw'r rhain, ac yn sicr ni fyddan nhw yn berthnasol i lofruddion, fel y mae rhai aelodau o'r blaid wedi ei honni yn anghywir. Gwnaeth arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig yr honiadau hyn ei hun, sy'n ymostwng i wleidyddiaeth y gwter, byddwn yn dadlau, pan fo arweinydd ei blaid ei hun mewn gofal dwys. Felly, byddwn yn croesawu'r cyfle i Paul Davies ymddiheuro am gamarwain yr etholwyr er mwyn cael mantais wleidyddol fechan ar hyn o bryd.

Hefyd, rwy'n deall bod 10 carcharor eisoes wedi marw o COVID-19, a bod dros 100, o bosib llawer mwy, wedi eu heintio. Mae ymosod arnyn nhw ar yr adeg hon, a bod yn onest, yn warthus. Byddwn yn awgrymu wrth y Llywydd mai'r pwyllgor safonau yw'r fforwm priodol efallai, os yw Aelodau etholedig o'r farn bod nawr yn amser da i hyrwyddo newyddion ffug am y sefydliad hwn.

Felly, i gloi, edrychaf ymlaen at ailedrych ar y Bil yn y dyfodol pan fydd yr argyfwng hwn ar ben, ond, am y rhesymau yr wyf wedi eu hegluro, mae'n amlwg na ddylem ni fod yn trafod hyn heddiw, pan ddylem ni fod yn trafod cyfarpar diogelu personol, profi ac achub bywydau. Felly, bydd Plaid Cymru yn pleidleisio yn erbyn.  

16:50

Mae'n drueni bod Llywodraeth Cymru wedi dewis bwrw ymlaen â'r ddeddfwriaeth hon, ac rwy'n teimlo mai annoeth iawn yw dargyfeirio adnoddau ar hyn o bryd pan allem ni ohirio hyn nes bod ein gwlad mewn sefyllfa well yn dilyn pandemig y coronafeirws. Oherwydd ar hyn o bryd, mae gwthio ymlaen â deddfwriaeth hefyd yn amhoblogaidd iawn ymhlith y cyhoedd.

Rwyf wedi gwneud fy marn am Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) yn gwbl glir yn y gorffennol, ond hyd yn oed petawn i wedi cefnogi nod y Llywodraeth yn llwyr, ni fyddwn yn cefnogi bwrw ymlaen ar yr adeg hon o argyfwng cenedlaethol. Ni allwn ni ddeddfu'n iawn ac ni allwn ni ruthro i gyflawni rhywbeth, oherwydd mae pobl yn marw o glefyd enbyd ac angheuol, ac er mwyn cyfyngu ar nifer y marwolaethau a lleihau'r straen ar ein GIG, cyfyngwyd ar ryddid pob un ohonom ni. Rydym ni wedi cau rhannau helaeth o'n gwlad a'n heconomi, ac mae rhai o'n hetholwyr wedi colli eu swyddi a'u bywydau, ac eto dyma ni yn trafod deddfwriaeth.

Nid yw fy marn i ynglŷn â rhoi hawliau i garcharorion bleidleisio erioed wedi bod oherwydd nad dyna'r peth iawn i'w wneud. Mae bob amser wedi bod oherwydd nad wyf i'n credu mai dyna'r flaenoriaeth y dylem ni fod yn edrych arni pan fyddwn yn ymweld â charchar. A minnau wedi gweithio yno, rwyf wedi gweld pobl ers saith mlynedd yn mynd allan gyda bag du ar ddydd Gwener heb do uwch eu pennau o gwbl, dim bwyd, dim dillad a dim mecanwaith cymorth, a dyma pam yr wyf yn credu bod ein blaenoriaethau ar adsefydlu gwirioneddol yn gwbl anghywir.

Mae democratiaeth wedi ei hatal i frwydro yn erbyn y feirws hwn ac mae etholiadau o amgylch y DU wedi eu gohirio, ac ni ddylem fod yn defnyddio amser gwerthfawr yn ystod argyfwng rhyngwladol er mwyn ymestyn yr hawl i bleidleisio. Gallwn drafod hyn a'i ohirio nes y caiff y cyfryw gyfyngiadau eu codi a bod y byd busnes yn dychwelyd i sefyllfa nad ydym ni'n ei adnabod ar hyn o bryd. Tan hynny, a dim ond bryd hynny, y dylem ni ystyried bwrw ymlaen â'r Bil hwn.

Rwyf wedi cefnogi Llywodraeth Cymru. Mae hi wedi cael fy nghefnogaeth lawn a chefnogaeth fy mhlaid yn ystod haint y coronafeirws, a byddwn yn parhau i gefnogi Llywodraeth Cymru wrth iddi fwrw ymlaen, ond ni allaf ac ni wnaf ei chefnogi gyda'r ddeddfwriaeth hon. Diolch yn fawr.

Mae gennyf ambell sylw byr i'w gwneud ynghylch y Bil, ac wrth ddweud hyn, wrth gwrs, rwy'n cydnabod, fel y dywedodd y Gweinidog, y bu hyn yn destun ymgynghori aruthrol, a chyda thri gwahanol bwyllgor yn y Senedd, gan gynnwys y Pwyllgor yr wyf i'n gwasanaethu arno dan stiwardiaeth flaenllaw John Griffiths. Fe wnaethom ni ystyried hyn yn fanwl iawn, ac rwy'n credu mai fy mhwynt cyntaf fyddai, wrth gydnabod bod y Gweinidog wedi dweud yn ei sylwadau agoriadol ei bod yn cyflwyno'r Bil hwn gyda golwg ar y dyfodol, y dylem ni, wrth gwrs, Aelodau'r Senedd, geisio cadw llygad ar yr hyn sy'n dod y tu hwnt i'r argyfwng enbyd hwn yr ydym ni ynddo ar hyn o bryd. Ond gyda'r llygad hwnnw ar y dyfodol, byddwn yn annog y Gweinidog i edrych ar yr argymhellion nad ydyn nhw ond wedi cael eu derbyn yn rhannol, neu sydd wedi eu gwrthod o archwiliad helaeth y pwyllgor o hyn gyda llawer iawn o dystion ger ein bron. Byddwn yn croesawu'n fawr, pe gellid, wrth i'r Bil hwn fynd yn ei flaen, dychwelyd i edrych ar rai o'r argymhellion hynny.

Ond wrth fynd â'r Bil hwn yn ei flaen, mae cefnogaeth aruthrol iddo. Mae'n rhywbeth y bu llywodraeth leol yn galw amdano yn gyffredinol ers cryn amser, mewn llawer o'r meysydd yn y Bil hwn, gan gynnwys meysydd cymwyseddau cyffredinol a'r gallu i gydweithio'n wirfoddol ac yn y blaen.

Gwn fod y pŵer i ymestyn yr etholfraint bleidleisio i bobl ifanc 16 ac 17 oed yn rhywbeth y mae cefnogaeth gref iddo yn y Senedd yn ogystal ag ymhlith y rheini sydd, er enghraifft, yn y Senedd Ieuenctid hefyd. Ond mae angen i ni—mae'r sylw wedi ei wneud yn barod—wneud yn siŵr, os ydym yn bwrw ymlaen â hynny, fod y rhai sy'n 13, 14, 15 oed mewn gwirionedd yn dysgu nid yn unig am y broses o ymwneud â democratiaeth, ond hefyd am y prosesau gwleidyddol yn ogystal, mewn rhyw fath o ymarferiad ymgysylltu â dinasyddion. Ac rwy'n credu bod angen i'r Gweinidog ystyried gyda chyd-Aelodau eraill beth yw'r ffordd orau o ymgorffori hynny yn ein system addysg.

Mae mesurau gwych yn y Bil hwn yn ogystal o ran bod yn agored a thryloyw. Rwy'n cofio cymryd carfan o fyfyrwyr, pan oeddwn yn ddarlithydd yn Abertawe, i Gyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot. Felly, roedden nhw'n eistedd yn yr orielau ac yn gwylio sesiwn ar waith. Roedden nhw i gyd yn fyfyrwyr twristiaeth. Yn anffodus, y diwrnod i ni ymweld oedd diwrnod pan yr oedden nhw yn siarad am dorri glaswellt yn y parciau a'r mynwentydd. Fodd bynnag, roedd yn dangos sut yr oedd awdurdodau lleol yn mynd ati i wneud eu penderfyniadau a sut yr oedden nhw'n pleidleisio. Ond dylai'r ffaith y gallem ni bellach fod yn ystyried ymestyn gallu pobl nad ydyn nhw'n gallu bod yn bresennol yn bersonol i weld y rhain, ac i fod yn rhan o hynny, o bosib, yn ogystal, ar sgriniau ac o bell, fel yr ydym ni yn ei wneud heddiw, fod yn rhywbeth yr ydym ni'n bwriadu bwrw ymlaen ag ef.

Roedd gwahanol safbwyntiau ar ein pwyllgor o ran y mesurau ynghylch y bleidlais sengl drosglwyddadwy a'r cyntaf i'r felin. Nawr, rwyf am siarad yn bersonol yn y fan yma: byddwn i'n gefnogol i fwy o ddiwygio etholiadol, ond rwy'n credu bod angen cydbwysedd yn y Bil hwn. Credaf fod y ffaith bod gennym ni bleidlais sengl drosglwyddadwy yma fel posibilrwydd, os ydym ni'n sôn am egwyddorion cyffredinol y Bil, yn gam hynod ymlaen. Ond byddwn yn annog y Gweinidog, fel y mae John Griffiths wedi ei ddweud hefyd, i archwilio, gyda'r awdurdodau lleol, lle'r oedden nhw'n teimlo bod teimlad ymhlith y cyhoedd lleol i fwrw ymlaen â hyn mewn gwirionedd ac ymhlith yr Aelodau i'w galluogi i wneud hynny, oherwydd, fel arall, fel y dywedodd llawer o dystion wrthym ni, efallai na fyddwn ni byth yn gweld y diwrnod pan fydd pleidlais sengl drosglwyddadwy ac, wrth gwrs, gyda'r bleidlais sengl drosglwyddadwy, nid y cysyniad yn unig ydyw, ond y ffaith y gall arwain at weld pob pleidlais yn fwy cyfartal yn y ffordd y mae'n pwyso yn y blwch pleidleisio, ond hefyd yr effaith y gall y bleidlais sengl drosglwyddadwy ei chael ar amrywiaeth hefyd.

Ac mae hynny'n dod â mi at fy mhwynt nesaf, ynglŷn â rhannu swyddi. Rwyf i'n un o'r Aelodau hynny a hoffai weld y cynigion rhannu swydd yn mynd ymlaen, er bod y Bil hwn yn gam mawr ymlaen o ran rhannu swyddi i aelodau gweithredol, a chlywsom dystiolaeth am hyn ynglŷn â sut y gallai weithio. Ond, yn y pen draw, rwy'n credu bod angen i ni symud i'r pwynt lle gallwn ni weld rhannu swyddi pan fydd pobl yn sefyll mewn etholiad, oherwydd, unwaith eto, o ran cynyddu amrywiaeth yr ymgeisyddiaeth, gallai hynny fod yn gam mawr ymlaen. Nawr, rwy'n sylweddoli bod materion ymarferol yn ymwneud â phob un o'r rhain, ac mae'n rhaid i'r Gweinidog ymgodymu â phob un o'r rhain, ond rwy'n croesawu'r ffaith bod y Bil hwn yma.

Yn fy sylwadau olaf i gloi, a gaf i ddiolch i John ac i holl Aelodau eraill y pwyllgor am y ffordd y maen nhw wedi ymgodymu â rhai materion eithaf cymhleth yn y Bil hwn, i'r holl dystion a ddaeth ger ein bron ac ymgysylltu â ni'n llwyr ac yn ddidwyll, a dim ond annog y Gweinidog unwaith eto, i gloi, i edrych ar y meysydd hynny nad yw wedi gallu eu derbyn hyd yma ac ymgysylltu â'r meysydd hynny wrth i'r Bil hwn fynd rhagddo? Mae'n Fil da; gallai fod yn Fil rhagorol os cawn ni rywfaint o fireinio. Diolch.  

16:55

Yn ystod cyfnod o argyfwng byd-eang ac amgylchiadau difrifol iawn sy'n effeithio ar lawer o'n pobl yng Nghymru, ni allaf ar unrhyw gyfrif groesawu'r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) heddiw. I ganolbwyntio, yn ystod y cyfnod hwn o argyfwng, ar y Bil hwn, pan ein bod ni wedi gweld mygu ein democratiaeth leol, a lle na ellir craffu'n briodol o ganlyniad i bob un ohonom ni'n cydweithio i addasu i gadw pellter cymdeithasol—. Felly, i mi, mae amser gwerthfawr yn y Cyfarfod Llawn yn cael ei golli oherwydd y ddeddfwriaeth hon. Nid oes ond angen i rywun edrych ar heddiw, pan oedd naw Aelod nad oedd modd iddyn nhw holi cwestiynau craffu difrifol a phwysig i'r Prif Weinidog a gorfod ildio i roi amser ar gyfer hyn, ac mae'n rhywbeth nad wyf i'n hapus iawn o gwbl ag ef.

Nawr, yn y lle cyntaf, byddwch yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru, llywodraeth leol ac ymateb y sector cyhoeddus i COVID-19 yn rhoi straen rhyfeddol a sylweddol ar yr adnoddau ariannol sydd ar gael i'n hawdurdodau lleol, a hoffwn gydnabod ar goedd waith ein hawdurdod lleol a'r holl bersonél wrth ymdopi â'r sefyllfa argyfwng erchyll hon sydd gennym ni, ond mae yn rhoi straen ariannol ar ein hawdurdodau lleol.

Nawr, mae llawer o'r adnoddau ariannol hynny wedi gorfod dod o'u cyllidebau cyfredol ac ati. Felly, i mi, mae'n ymddangos braidd yn anghyfrifol i ni fod yn ystyried Bil, a fydd, yn ôl ei asesiad effaith rheoleiddiol ei hun, yn costio dros £17 miliwn, ac mae hynny'n cynnwys costau trosiannol i lywodraeth leol o tua £3 miliwn. I wneud pethau'n waeth, dywedodd y Pwyllgor Cyllid fod y Bil yn cynnwys nifer o feysydd na chyfrifwyd eu cost hyd yma a bod hyn—. Mae'n ddrwg gennyf, ond mae hyn yn digwydd yn rhy aml gyda phasio deddfwriaeth Llywodraeth Cymru. Gwyddom fod dileu cosb rhesymol—a basiwyd dim ond wythnosau yn ôl—wedi ei dangyllido o ran yr effaith a gaiff. 

Nawr, rwyf yn cytuno â'u hargymhelliad bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ddarparu asesiad effaith rheoleiddiol llawn a chadarn ar gyfer unrhyw is-ddeddfwriaeth berthnasol a wneir o ganlyniad i'r Bil hwn, ond byddwn i'n ychwanegu ein bod i gyd yn ystyried yn ofalus iawn a yw mynd ar drywydd y ddeddfwriaeth yn rhesymol, yn enwedig o ystyried y cyfnod ansicr yr ydym ni'n gweld ein hunain ynddo ar hyn o bryd.

O ystyried ei bod yn debygol y caiff y Bil hwn ei wthio drwodd, ac mewn ymdrech i fod yn adeiladol fodd bynnag, fe fyddwn i'n nodi bod rhai agweddau yr wyf yn eu croesawu. Rwyf yn cefnogi'r gallu y bydd gan Weinidogion Cymru i sefydlu a chynnal cronfa ddata Cymru gyfan o wybodaeth am gofrestru etholiadol. Fodd bynnag, nid yw'r asesiad effaith rheoleiddiol yn diffinio unrhyw gostau ar gyfer datblygu cronfa ddata Cymru gyfan. Felly, byddai rhywfaint o eglurder ynghylch hyn heddiw yn cael ei groesawu.

Dau: darpariaethau i'w gwneud yn ofynnol i brif gyngor greu cynllun deisebau. Nawr, fel y mae ERS Cymru wedi nodi—ac rwy'n gwybod yn dda iawn o'n Pwyllgor Deisebau ein hunain—mae deisebau'n ffordd wych o ymgysylltu â'r cyhoedd, ac rwy'n gweld democratiaeth ar ei gorau pan ein bod ni'n gwneud hynny. Hoffwn gofnodi galwad Cyngor Sir Fynwy i'r Bil nodi'n glir, er hynny, nad refferenda yw'r deisebau, a'u bod yn gynghorol yn hytrach nag yn rhwymol.

Tri: bod y Bil yn darparu ar gyfer dau neu fwy o brif gynghorau i gyflwyno cais ar y cyd i Weinidogion Cymru ar gyfer uno gwirfoddol yn eu hardaloedd a'u cynghorau nhw pe bydden nhw'n dymuno gwneud hynny. Mae atebolrwydd a phenderfyniadau lleol yn allweddol. Felly, pe byddai dau awdurdod yn dymuno uno, hoffwn gael rhywfaint o sicrwydd na fyddai gan Lywodraeth Cymru ddull ar waith i atal y cynllun hwnnw ac y byddai'n gweithio gyda nhw o ran adnoddau a chanllawiau i helpu i sicrhau bod hynny'n digwydd. Rhywbeth cadarnhaol arall yr wyf wedi ymgyrchu'n hir amdano yw diwygio cymhwysedd ar gyfer ymgeisyddiaeth mewn llywodraeth leol i ganiatáu i weithwyr cyngor sefyll mewn etholiad. Fodd bynnag, byddwn yn annog y Gweinidog i ystyried a yw wir yn angenrheidiol i unigolion megis athrawon ysgol, cogyddion a hyfforddwyr nofio roi'r gorau i'w gwaith cyflogedig os cânt eu hethol. Os edrychir ar ein system addysg, caiff rhywun fod yn athro ac yn llywodraethwr ysgol. Felly, rwy'n credu bod angen i ni edrych ar hynny eto.

Nawr, yn ogystal ag ymgeiswyr llywodraeth leol, mae'r Bil yn bwriadu cyflwyno newidiadau mawr o ran pwy sy'n cael pleidleisio, ac er ei fod yn y cyfnod diwygio, yn y diwygiadau ac yng Nghyfnodau 2 a 3, rwy'n gwrthwynebu'n gryf rhoi'r bleidlais i garcharorion. Rwyf wedi ymgynghori'n eang â nifer o'm hetholwyr yn Aberconwy, ac mae mwyafrif llethol yr ohebiaeth yr wyf i wedi ei chael yn gwrthwynebu'n chwyrn.

Felly, hoffwn gael rhywfaint o eglurhad—gan, efallai, fy mod wedi colli'r pwynt ynghylch hyn—gan y Gweinidog, yn yr hyn a ddywedasoch chi'n gynharach: a yw'n gywir na fyddwch chi yn awr, yng Nghyfnod 2 neu 3 yn bwrw ymlaen â diwygiadau a fyddai'n caniatáu i garcharorion bleidleisio? Oherwydd ni allaf gefnogi hynny mewn unrhyw ffurf. Nid wyf i'n credu bod cyflwyno Bil, diwygiadau yng Nghyfnod 2 a fydd yn rhoi'r hawl i garcharorion sydd wedi eu dedfrydu i lai na phedair blynedd, o fudd i ddemocratiaeth. Felly, hoffwn ofyn i chi gadarnhau, ac yn wir, i ddiystyru pleidleisiau ar gyfer carcharorion heddiw. Hoffwn awgrymu fy mod yn siomedig bod gennym ni Lywodraeth Cymru sy'n barod i gredu bod mater o'r fath yn flaenoriaeth ddeddfwriaethol ar hyn o bryd.

Yn olaf, er fy mod yn cydnabod ac yn cefnogi'r cynseiliau a osodwyd gan Ynys Manaw a'r Alban ar gyfer ymestyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 a 17 oed, gofynnaf am fwy o sicrwydd heddiw y bydd rhywfaint o gadarnhad y caiff yr oedolion ifainc hyn fwy o addysg mewn gwleidyddiaeth, fel y byddan nhw, wrth fynd ymlaen i fwrw eu pleidlais gyntaf, yn gwneud hynny gyda chyd-destun sylweddol o'r hyn y mae democratiaeth yn ei olygu a sut y gallan nhw chwarae eu rhan ynddi. Diolch. Diolch, Llywydd.

17:05

Wel, rwy'n credu bod hon yn adeg anhygoel i gyflwyno'r Bil hwn. Cam cyfansoddiadol yw hwn, ac rydym mewn fforwm sydd wedi'i wanhau'n fawr yn y ddadl hon heddiw. Er gwaethaf rhyfeddodau technoleg fodern, sydd wedi ein galluogi'n eithaf effeithiol, rwy'n credu, i gymryd rhan yn y trafodion yn ystod y pythefnos diwethaf, dydw i ddim yn credu ei bod yn iawn, pan nad yw dwy ran o dair o Aelodau'r Cynulliad yn gallu cymryd rhan yn y ddadl hon, i'w dwyn ymlaen heddiw i'w thrafod ac i gael pleidlais.

Yr unig reswm y mae'r Bil hwn yn cael ei wthio ymlaen—yn fy marn i, yw ei bod yn ymdrech daer gan y Blaid Lafur i sicrhau hwb i'w chefnogaeth wleidyddol sydd wedi edwino ymhlith yr etholwyr. Gwelwn yn yr etholiad cyffredinol diweddar sut y mae map etholiadol Prydain, a Chymru yn arbennig, wedi newid. Mae Llafur wedi colli llawer iawn o gefnogaeth ei phleidleiswyr traddodiadol, ac mae'n fesur o'i hanobaith ei bod bellach yn ceisio achubiaeth o ryw fath drwy ymestyn y bleidlais i blant, carcharorion a thramorwyr. Os mai dyna yw maint anobaith y Blaid Lafur, dydw i ddim yn credu y bydd ganddyn nhw lawer o obaith yn y gyfres nesaf o etholiadau. Mae'n ymddangos i mi eu bod yn yr un sefyllfa heddiw ag yr oedd yr actor mawr hwnnw yn y ffilmiau mud, Harold Lloyd—yn hongian ar fysedd y cloc, yn ceisio'n daer i atal ei hun rhag disgyn i'r ddaear. A dydw i ddim yn credu y byddan nhw'n llwyddo yn hynny o beth.

O ran y pleidleisiau ar gyfer pobl nad ydyn nhw yn ddinasyddion y Deyrnas Unedig, credaf fod hynny'n anghywir mewn egwyddor, sef os ydych chi eisiau pennu ffurf Senedd a Llywodraeth gwlad, yna dylech chi ymrwymo gymaint ag y gallwch chi i fod yn ddinesydd. Felly, mae hyn yn anghywir mewn egwyddor a does bron unman arall yn y byd lle mae hyn wedi digwydd yn y gorffennol.

A ddylid rhoi pleidleisiau i'r rhai sy'n 16 ac yn 17 oed, eto credaf ei fod yn fater dadleuol iawn, ac mae'n amhriodol, rwy'n credu, iddo gael ei ddwyn gerbron y Cynulliad ar gyfer deddfwriaeth yn y modd hwn. Mae'n werth sylwi bod y Blaid Lafur heddiw yn cael cyfran fawr iawn o'r gefnogaeth y mae'n ei chadw oddi wrth bobl iau ac oddi wrth gymunedau mudol, ac, wrth gwrs, dyna ddwy o brif elfennau ymestyn yr etholwyr y mae'r Llywodraeth yng Nghymru yn eu ceisio yn ystod hynt y Bil hwn. Yn fy marn i, mae'n weithred wleidyddol ddirmygadwy at ddibenion pleidiol. Cyflwynwyd y Bil hwn i geisio rhoi mantais i'r Blaid Lafur yn ei hargyfwng, ac nid oherwydd yr argyfwng cenedlaethol. Rydym ni wedi atal dros dro ein rhyddid sifil o ran nifer fawr o hawliau dynol yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf, ac ni fyddai hynny byth yn digwydd mewn cyfnod arferol. Mae hwn yn argyfwng, ar hyn o bryd, o ran feirws COVID, nad ydym wedi ei weld o'r blaen yn ystod ein hoes, ac, o dan yr amgylchiadau hyn, rwy'n credu ei bod yn gwbl anghredadwy bod Llywodraeth Cymru yn teimlo ei bod yn iawn ac yn briodol i gyflwyno'r Bil hwn i'w ystyried heddiw. Felly, gobeithiaf y bydd y Cynulliad yn sefyll dros ei hawliau a hawliau ei Aelodau nad ydyn nhw yn gallu cymryd rhan yn y trafodion yn ystod y ddadl hon, ac yn gwrthod y Bil hwn heddiw.

Diolch yn fawr. Esgusodwch fi am funud. Ie, diolch am y cyfle i siarad yn y ddadl hon. Roeddwn i eisiau cyfrannu yn sgil cyfraniad Mick Antoniw yn gynharach a hefyd yn sgil rhan o'r hyn yr oedd Delyth Jewell yn ei ddweud ynghylch pa un ai dyma'r amser priodol i graffu'n iawn ar y Bil hwn, felly rwyf eisiau trafod llai ar amcanion y polisi, ond canolbwyntio ychydig yn fwy ar ein swyddogaeth ni'r deddfwyr mewn cysylltiad â darn mawr o ddeddfwriaeth. Ac mae'n rhaid i mi ddweud bod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad yno i'n helpu ni Aelodau'r Cynulliad gyda'r cyfrifoldeb unigol a sylfaenol sydd gennym ni, ni waeth beth yw ein blaenoriaethau gwleidyddol, sef gwneud cyfraith dda. Byddwn i'n dweud bod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, beth bynnag y maen nhw'n dymuno ei gael o'r Bil hwn, eisiau i'r gyfraith hon fod yn dda ac yn rhywbeth y gallan nhw ei ddefnyddio, ac yn rhywbeth y gallan nhw ddibynnu arno. Felly, ni fyddaf yn siarad am yr amcanion polisi hynny, ac eithrio o safbwynt esboniadol.

Nid oes arnaf gywilydd dweud hyn unwaith eto, mai Senedd Cymru sy'n gwneud y gyfraith, nid y Llywodraeth. Felly, dyma'r lleiaf y gallwn ni ei ddisgwyl fel cam cyntaf gan y Llywodraeth ei bod yn gosod Bil sydd, yn gyntaf, yn gyflawn; yn ail, â chig digonol ar yr esgyrn o ran ei amcan polisi ac o leiaf ei ddarpariaeth gychwynnol; ac, yn drydydd, wedi ei gostio'n iawn. Rwy'n credu bod y methu â derbyn argymhellion penodol gan y Pwyllgor Cyllid ynghylch hyn yn gamgymeriad. Nid wyf yn credu bod y Bil hwn yn bodloni'r tair egwyddor gyffredinol hynny. Os nad yw'n gwneud hynny, rwy'n credu fel deddfwyr, y dylem ni ei wrthod heddiw, ei anfon yn ôl ac, efallai, ei ail-wahodd er mwyn ei ail-osod ar ffurf sy'n bodloni'r profion hynny. Mae hynny er gwaethaf y pwynt a wnaed eisoes ynghylch y cyfnod y mae'r darn hwn o ddeddfwriaeth wedi ei gyflwyno ynddo.

Dywedodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol—y fersiwn  flaenorol, wrth gwrs, o bwyllgor Mick Antoniw—mai diben diwygiadau yw trafod ac awgrymu gwelliannau i Fil, ac nid darparu symiau mawr a sylweddol o destun na pheidio â chwblhau Biliau nad ystyrir eu bod wedi eu datblygu'n llawn ar adeg eu cyflwyno. Fel Cynulliad, wrth gwrs, anwybyddwyd hynny pan basiwyd Bil y Senedd ac Etholiadau, ac fel deddfwyr, ni ddylem wneud hynny eto. Os twyllwch ni unwaith yna rhag eich cywilydd, Lywodraeth Cymru, ond os twyllwch ni ddwywaith yna rhag ein cywilydd ni. Fe fyddwn i'n hoffi dweud mai dyma'r tro cyntaf, ond nid yw hynny'n wir. Rwy'n credu ei bod hi'n bryd i ni wneud ein gwaith a dweud pam y mae hon yn gyfraith wael nawr.

Felly, dim ond i edrych yn ôl ar Fil y Senedd ac Etholiadau, un o'r dadleuon a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru oedd y byddai cynnwys pleidleisiau ar gyfer gwladolion tramor preswyl heb graffu yn ei wneud yn fwy cyson â hyn—cynnwys, ar y pryd, Bil heb ei weld. Nawr, bydd y Bil nas gwelwyd hwn, yn hwyr, yn cynnig pleidleisiau i rai carcharorion, er i mi glywed yr hyn a ddywedodd y Gweinidog yn gynharach, ac efallai y gwnaiff hi egluro'r sefyllfa yn awr a'r hyn yr oedd yn ei olygu pan ddywedodd na fyddai'n gofyn i swyddogion neilltuo rhagor o adnoddau ar gyfer hyn. Ond, y pwynt yw ei fod yn gwbl anghyson â'r Ddeddf Senedd ac Etholiadau, sydd eisoes yn rhesymu gwael ar ran Llywodraeth Cymru, a nawr maen nhw'n ceisio ei chael hi bob ffordd, oni bai bod gan y Gweinidog rywbeth arall i'w ddweud am hyn. Fel deddfwyr, dylem, felly, ddweud 'na'.

Y cwestiwn amlwg yw pam nad oedd pleidleisio gan garcharorion wedi ei gynnwys yn y Bil gwreiddiol. Mae'n ddrwg gennyf ddweud bod yr atebion a roddodd y Gweinidog i'n Pwyllgor yn ei thystiolaeth i ni yn arbennig o wan. Roeddem yn gwybod y byddai'r cyfrifoldeb dros etholiadau yn cael ei ddatganoli i'r sefydliad hwn mor bell yn ôl â 2017, felly bu 18 mis da i baratoi ar gyfer drafft i'w gynnwys ar ddechrau'r Bil ynghylch hyn. Dyfynnu penderfyniad Hirst i oedi: wyddoch chi, mae hwnnw'n benderfyniad sy'n mynd yn ôl, neu mae'r mater yn mynd yn ôl i 2005, felly nid yw hynny'n gredadwy iawn ychwaith.

Os ydych eisiau rhagor o dystiolaeth o baratoi anghyflawn, rwy'n credu mai hynny fyddai cynnwys y 98 o bwerau y cyfeiriodd Mick Antoniw atyn nhw yn gynharach. Rydych chi wedi bod yn ymwneud â hyn ers chwe blynedd bellach—mae'n dipyn o gyfnod ar gyfer Bil hir. Ar hyn o bryd, byddai angen i ni wybod pam yr ydych chi'n ceisio pwerau, yn hytrach nag ymrwymo i ddyletswyddau mewn rhai achosion, ac yna o dan ba amgylchiadau y byddech chi'n defnyddio'r pwerau hynny. Rydych chi wedi cael digon o amser i gynllunio ar gyfer sefyllfa, a dydyn ni ddim yn glir ynglŷn â hynny.

Mae gennym ni rai pwerau, fel y crybwyllodd Mick, heb unrhyw weithdrefn ynghlwm wrthynt, gan gynnwys pwerau sy'n berthnasol i newidiadau yn y ffordd y mae cynghorau'n cynnal etholiadau. Eich cyfiawnhad dros hyn yw iddo gael ei wneud felly mewn deddfwriaeth a oedd yn rhagflaenu bodolaeth y Cynulliad gan bron i 30 mlynedd. Nid yw hynny'n rheswm da. Y pwerau trymion hynny sy'n ymwneud â gweithredu'r bleidlais sengl drosglwyddadwy: dylech chi fod yn glir nawr ynglŷn â sut y dylid defnyddio'r rheini a dylent fod mewn Atodlen i'r Bil hwn. Rydym eisoes wedi clywed am greu cronfa ddata etholiadol. Y broblem ynglŷn â hynny, fel y dywedasoch, Gweinidog, eich hun, yw nad oeddech wedi gweithio pethau allan eto.

Ar y llaw arall, mae gennym sefyllfa lle mae'r Llywodraeth yn sicr ynglŷn â'r hyn y mae eisiau ei wneud ynghylch mathau penodol o gyhoeddi, fel yn Atodlen 4—ychydig o baragraffau yn y fan honno. Ond, yn hytrach na'i osod allan, mae mewn gwirionedd yn ceisio pwerau i wneud hynny yn hytrach, pan nad oes angen hynny.

Felly, yn hytrach nag ailadrodd yr hyn y mae eraill wedi ei ddweud, rwyf eisiau gorffen drwy dynnu sylw Aelodau a Gweinidogion at yr argymhellion sydd wedi eu gwrthod gan y Gweinidog—mae arnyn nhw angen ymateb pellach gan Weinidogion—ond hefyd at bennod 3 o adroddiad y pwyllgor, ac i ystyried yr hyn a ddywed, fel y gall y Llywodraeth ddrafftio cyfraith well ac y gallwn ninnau ddod yn well deddfwyr, a dweud y gwir. Rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog, a ninnau i gyd, fel deddfwyr, yn cadw hynny mewn cof. Diolch.

17:15

Rwyf, unwaith eto, yn dweud diolch yn fawr iawn am drefnu'r math hwn o gyfarfod o'r Cynulliad, nad wyf erioed wedi cael profiad ohono o'r blaen, yn enwedig yn y dyddiau hyn pan fo'r holl wlad yn methu â symud. Yn bersonol, rwy'n credu ei fod yn amseru gwael i gyflwyno'r Bil llywodraeth leol hwn o flaen traean o'r Cynulliad.

Rwyf eisiau siarad yn glir ar un maes yn ymwneud â hyn, y prynhawn yma. Hoffwn siarad yn erbyn y cynnig sy'n rhoi'r hawl i bleidleisio, mewn etholiadau datganoledig Cymru, i garcharorion o Gymry sy'n bwrw tymor dedfrydau o lai na phedair blynedd. Byddai carcharorion a gollfarnwyd am droseddau fel pedoffilia, ymosod cyffredin ar sail hil a thorri gorchmynion troseddau rhywiol yn cael pleidleisio o dan y ddeddfwriaeth hon, sy'n rhyfedd yn fy marn i. Nid yw'n syndod na chefnogir y cynnig hwn ymhlith y cyhoedd. Fe wnaeth person yn fy swyddfa i ofyn i'r cyhoedd am eu barn, ac nid oedd unrhyw berson yn cefnogi'r farn hon.

Hefyd, rwy'n credu, mewn egwyddor, na ddylai gwneuthurwyr cyfraith fod yn dorwyr cyfraith. Os ydym ni'n cynhyrchu fframwaith o gyfreithiau mewn cymdeithas sy'n nodi safon y cyfrifoldeb a'r ymddygiad y disgwyliwn i'n dinasyddion lynu wrtho a'i gynnal, drwy ddiffiniad, hefyd, nid yw pobl sydd wedi troseddu yn erbyn eu cyd-ddinasyddion wedi bodloni'r safonau hynny. Drwy dorri'r gyfraith, maen nhw wedi ildio neu wedi fforffedu'r hawl i ddeddfu ar gyfer eraill. Bu llawer o drafod am ryddid dinesig carcharorion, ond er hynny, drwy ddiffiniad, mae dedfrydu rhywun i gyfnod mewn carchar yn golygu atal yr hawl i ryddid. Mae'r hawl i bleidleisio mewn etholiadau, mewn democratiaeth, yn hawl dinesig, wedi ei gyfuno ag eraill megis rhyddid cymdeithasol, rhyddid i ymgynnull a symud, a'r hawl i sefyll mewn etholiad. Oherwydd canlyniadau eu gweithred, mae carcharorion yn cael eu hamddifadu o'u hawliau. Mae'n ddewis y maen nhw wedi ei wneud gan wybod yn llwyr beth y mae carcharu yn ei olygu. Mae dwy nod i garcharu: cosbi ac adsefydlu. Rwyf yn llwyr gefnogi adsefydlu troseddwyr. Dylid ystyried bod adfer yr hawl i bleidleisio yn symbol pwysig bod yr unigolyn wedi talu ei ddyled i gymdeithas. Mae'n gymhelliant i integreiddio troseddwyr yn ôl i Gymdeithas; bydd hyn yn cael ei golli os rhoddir yr hawl i garcharorion bleidleisio.

Llywydd, mae hefyd rhesymau ymarferol pam na fydd y cynnig hwn yn gweithio. Maen nhw'n creu hunllef fiwrocrataidd a fydd yn rhoi baich diangen ychwanegol ar staff a swyddogion y gwasanaeth carchardai, ond mae llawer o garcharorion o Gymru yn bwrw eu dedfrydau yn Lloegr. Er enghraifft, nid oes carchar i fenywod yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru, felly, yn cynnig caniatáu i bobl bleidleisio heb y fraint o allu cael gafael ar wybodaeth yng nghyfryngau Cymru i roi gwybod iddyn nhw am y materion, eu materion lleol. Felly, bydd pobl yn gwbl anymwybodol o'r materion lleol pan fyddant yn pleidleisio. Mae etholiadau yn golygu hawl etholwyr i gwrdd â'r ymgeiswyr sy'n sefyll mewn etholiadau. Mae'n gwbl anymarferol i ymgeiswyr deithio i garchardai, hyd yn oed yng Nghymru, i gwrdd ag etholwyr, heb sôn am gynnal hustyngau ar eu safleoedd. Mae'r risg i ddiogelwch hefyd yn amlwg.

Llywydd, fe ddywedaf eto: nid oes cefnogaeth ymhlith y cyhoedd i'r cynnig hwn. Anogaf y Cynulliad i fynnu hawl y cyhoedd dros hawl y troseddwr a gwrthod y cynnig hwn heddiw. Diolch.

Diolch, mae'n ddrwg gennyf. Roedd 'unmuted' yn fflachio ar fy sgrin.

Mae hwn yn fesur cyfansoddiadol pwysig iawn. Rydym ni wedi clywed bod y broses o wneud hyn wedi cymryd chwe blynedd. Mae'n amser hir i'r Llywodraeth gael ei blaenoriaethau at ei gilydd ac yn awr rydym am weld, mae'n ymddangos, proses ddeddfwriaethol wedi ei chwtogi yn helaeth, er gwaethaf y ffaith fod y tri phwyllgor a edrychodd ar y Bil hwn wedi gwneud argymhellion helaeth ar gyfer gwelliannau, ac ychydig iawn ohonyn nhw sydd wedi eu derbyn gan y Llywodraeth. Ac rwyf yn nodi nad yw'r Gweinidog wedi cael cefnogaeth frwd gan ei chydweithwyr ei hun. Cymeradwyaeth glaear iawn yw hi wedi bod, pryd y mae hi wedi llwyddo i'w chael. Rwy'n credu y dylai hyn anfon neges atoch am y broses yr ydych chi yn ei dilyn, ac nad yw'r swyddogaeth ddeddfwriaethol yn cael ei hanrhydeddu'n llawn yn y dull yr ydych chi wedi ei ddilyn, ac mae'n broblem, rwy'n credu, pan fydd y Weithrediaeth yn gweithredu mewn modd gormesol.

Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn credu bod hwn yn Fil eithaf uchelgeisiol, ac mae agweddau arno yr wyf yn eu ffafrio'n fawr. Byddwn wedi mwynhau'r cyfle i geisio gweithio mewn gwirionedd yng nghyflawnder y cyfnod deddfwriaethol gan ymgynghori'n briodol—clywsom John Griffiths yn dweud na allai llawer o randdeiliaid ymwneud ag ef yn briodol yn yr amser a roddwyd. Ond, rwy'n credu bod yna Fil llywodraeth leol pwysig iawn yn y fan yma, a dyma yw'r gwir drasiedi, y ffaith nad ydym yn mynd i weld cynigion cwbl gydlynol yn cael eu cyflwyno mewn Bil wedi ei lunio'n dda a fyddai, mae'n debyg, wedi cael cefnogaeth drawsbleidiol, a ddylai fod yn nod newidiadau cyfansoddiadol.

Rwy'n cefnogi'n frwd ymestyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 ac 17 oed. Gan ymddiheuro i'm cyd-Aelodau, credaf y dylai cynghorau lleol benderfynu beth yw eu system etholiadol, ar yr amod bod  cefnogaeth i'r newid hwnnw ymhlith eu hetholwyr. Nid wyf yn credu y byddai 22 o systemau, sydd ag un dewis neu'r llall, y cyntaf i'r felin neu bleidlais sengl drosglwyddadwy, yn trethu ein hetholwyr yn arbennig. Bydden nhw'n dod i arfer â'r math arbennig hwnnw o etholiadau lleol. Os ydym yn credu mewn democratiaeth leol, beth am estyn yr egwyddor honno iddyn nhw er mwyn iddyn nhw benderfynu ar sut y cânt eu cynrychioli a sut y maen nhw'n ffurfio eu cynghorau?

Dydw i ddim yn cytuno ag ymestyn tymhorau cyngor o bedair i bum mlynedd. Ni fu ein newid ni yn y Cynulliad o bedair i bum mlynedd yn llwyddiannus, yn fy marn i, a chredaf y gellir argymell tymor o bedair blynedd ar bob haen o lywodraeth.

Mae llawer i'w ddweud o blaid y pŵer cymhwysedd cyffredinol; byddai'r strategaeth o gael cyfranogiad y cyhoedd yn rhywbeth a fyddai'n ein llusgo i'r oes fodern. Cyd-bwyllgorau corfforaethol rhwng cynghorau, rwy'n credu bod hynny'n ymestyn: rydym ni wedi gweld pa mor effeithiol y mae dinas-ranbarthau yn gweithio ar hyn o bryd. Mae llawer i'w ddweud o blaid perfformiad mewn diwygiadau llywodraethu, ac yna caniatáu uno lleol lle mae cynghorau eisiau gwneud hynny.

Ceir deunydd da yma, ond rhaid inni wynebu'r anhawster fod y Bil hwn bellach angen gwaith helaeth iawn yn y cam pwyllgor i edrych ar y gwelliannau. Mae'r diwygiadau hynny'n gynhwysfawr iawn a bydd yn rhaid iddyn nhw gael eu saernïo gan y grwpiau gwleidyddol mewn cydweithrediad â chyfreithwyr y Cynulliad. Mae'r rhain yn gyfarfodydd sylweddol. Mae hon yn gyfraith ddifrifol, yn ôl pob tebyg yn un o'r biliau pwysicaf yn y tymor Cynulliad hwn.

Mae'n anffodus bod y Llywodraeth wedi cael ei dal gan argyfwng na allai hi fod wedi'i ragweld, ac rwy'n derbyn yr heriau sydd wedi dod yn ei sgil. Ond eich penderfyniad chi oedd eich amserlen chi, ac mae cyflwyno diwygiadau mawr yn hwyr iawn yn y cylch etholiadol bob amser yn gofyn am helynt. Gwneuthum y pwynt hwn pan wnaethom ni drafod Bil y Senedd, ynghylch ddefnyddio dau Fil i ostwng yr oedran pleidleisio. Hefyd, rwy'n credu bod angen ystyried rhai pethau mawr yn ofalus iawn pan fyddwn yn ymestyn yr etholfraint i bobl nad ydyn nhw'n ddinasyddion. Mae honno'n amlwg yn egwyddor enfawr y mae angen llawer o feddwl ac archwilio arni, ac yn yr un modd gyda mater y carcharorion, os caiff hwnnw ei gyflwyno.

Unwaith eto, dydw i ddim yn cytuno'n llwyr â'r farn elyniaethus iawn na ddylid rhoi'r etholfraint i unrhyw garcharor. Rwy'n credu o ran troseddau llai—. Rydym yn carcharu llawer iawn o bobl ym Mhrydain, ac wedi gwneud hynny ers y 1980au pan oedd gennym ni tua 40,000 o garcharorion, erbyn hyn mae gennym ni tua 90,000, llawer ohonyn nhw'n wedi cael dedfrydau byr, a chredaf fod yn rhaid inni fod yn ymwybodol o'r cyrff rhyngwladol a'r cytundebau yr ydym wedi'u llofnodi, a rhai o'r newidiadau polisi y bydd yn rhaid inni efallai eu gwneud o ganlyniad i gyfraith ryngwladol, neu benderfyniadau mewn cyfraith ryngwladol, yn milwrio yn ein herbyn. Felly, dydw i ddim yn condemnio Llywodraeth Cymru am ystyried hynny, gan ei fod yn rhywbeth y mae Llywodraeth y DU wedi gorfod ei wneud hefyd. Er hynny nid yw'n briodol iawn i gyflwyno'r fath ddiwygiad yng Nghyfnod 2 a heb ymgynghori'n llawn yn ei gylch.

Felly, rwy'n credu o ddifrif y byddai'r Llywodraeth yn gwneud cymwynas fawr drwy dderbyn, yn y sefyllfa yr ydym ni ynddi, nad yw'n fai ar Lywodraeth Cymru, nad yw'n bosib gwneud y gwaith craffu deddfwriaethol helaeth sydd ei angen ar y Bil hwn, ac mae'n well penderfynu gohirio rhywbeth na rhuthro rhywbeth na fyddai'n cael cefnogaeth drawsbleidiol ac a allai fod â diffygion difrifol oherwydd y canlyniadau anfwriadol. Diolch yn fawr iawn, Llywydd.

17:25

Diolch yn fawr iawn. Clywaf elyniaeth y gwrthbleidiau, ond rwyf eisiau ein hatgoffa ni i gyd, pan wnaethom ni ymchwiliad trawsbleidiol i garcharorion yn pleidleisio, roedd yn drawiadol nid yn unig oherwydd y gefnogaeth ymhlith y carcharorion, ond hefyd ymhlith llywodraethwyr carchardai, gan gynnwys un o'r llywodraethwyr uchaf ei statws yn y wlad hon. Felly mae bob amser yn bosib ennyn gwrthwynebiad i'r syniad o garcharorion yn pleidleisio. Yn anffodus, dyna un o nodweddion ein system cyfiawnder troseddol, sef ei bod ar drugaredd agweddau a rhagfarnau llawer o'r papurau newydd yn y wlad hon, a dyna pam ei bod hi mor anodd trafod y pwnc hwn yn ystyrlon. Ond rwy'n credu y byddai'n drychineb pe byddem yn colli'r cyfle hwn i gyflwyno deddfwriaeth y credaf y gallwn ni ddangos y bydd yn gwella ymgysylltiad dinesig pobl ar y cyrion, llawer ohonyn nhw yn y pen draw yn y system garchardai am droseddau cymharol ddibwys—ac rydym yn sôn am etholfraint gyfyngedig iawn—a byddai hyn yn ein galluogi ni i roi llawer mwy o sylw i wella ein system cyfiawnder troseddol, yr ydym yn gwario biliynau o bunnau arni, ac nad yw'n effeithiol o ran mynd i'r afael ag aildroseddu. 

Diolch, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn am sylwadau'r Aelodau heddiw, ac am yr holl waith a wneir gan y pwyllgorau, a byddaf yn myfyrio ymhellach ar bopeth y mae Aelodau wedi'i ddweud heddiw, ac ar y gyfres lawn o argymhellion yr amrywiol bwyllgorau sydd ger ein bron.

Yn anffodus, Llywydd, teimlaf fod angen ailadrodd fy sylwadau agoriadol ar ddau bwynt, y mae nifer fawr o Aelodau wedi'u colli yn ôl pob golwg heddiw. Fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, yn anffodus bu'n rhaid i mi wneud y penderfyniad, yn rhan o ystyriaeth ehangach Llywodraeth Cymru o'i rhaglen ddeddfwriaethol, ar ddechrau ein cynllunio ar gyfer ymdopi â'r amgylchiadau difrifol, yr amgylchiadau nad oedd modd eu rhagweld, yr ydym ni ynddyn nhw, i beidio ag ymrwymo unrhyw adnodd swyddogol yn y dyfodol i'r diwygiadau arfaethedig yng Nghyfnod 2 o ran carcharorion yn pleidleisio felly ni fyddwn yn cyflwyno'r diwygiadau hynny fel y dywedais ar ddechrau'r ddadl hon. Nid yw'r Bil yr ydym yn pleidleisio arno heddiw yn cynnwys y darpariaethau hynny, felly mae nifer fawr o Aelodau wedi treulio eu hamser heddiw ar rywbeth nad yw wedi'i gynnwys yn y Bil Cyfnod 1 ar hyn o bryd.

Rwyf fi, hefyd, yn gresynu'n ddifrifol at yr anghwrteisi a ddangoswyd at waith meddylgar y pwyllgor ynghylch hyn gan y cyfryngau Ceidwadol diweddar, a chredaf y dylen nhw o ddifrif ystyried eu dileu. A Llywydd, fel y dywedais ar y dechrau hefyd, rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n ymwybodol y bydd y ddadl heddiw, os caiff y cynnig ei basio, yn caniatáu inni barhau i gynnwys gwaith yn y dyfodol ar y Bil yn ein cynlluniau ar gyfer materion y byddwn ni eisiau iddyn nhw fod yn barod i'w symud ymlaen ar ôl i'r argyfwng yr ydym yn ei wynebu nawr fynd heibio.

Gwn fod llawer o Aelodau'n cefnogi'r egwyddorion yn y Bil a'i amcanion polisi, ac wrth basio'r cynnig hwn heddiw, bydd yn caniatáu inni barhau i gynllunio er mwyn i hynny ddigwydd yn y dyfodol. Os na fyddwn yn pasio'r cynnig heddiw, ni allem ei gynnwys yn y cynllunio. Byddai hynny'n amarch difrifol i'r Senedd. Mae angen mewnbwn y Senedd er mwyn inni barhau â'r cynllunio hwnnw. Ni allwn wneud hynny heb hwnnw, fel y mae rhai Aelodau, yn ôl pob golwg, yn ei awgrymu.

Felly, Llywydd, ar y sail honno, ac ar y sail y byddaf yn myfyrio o ddifrif ar yr argymhellion y mae'r pwyllgorau wedi'u gwneud unwaith eto, byddaf yn annog Aelodau i gytuno ar egwyddorion cyffredinol a phenderfyniad ariannol y Bil heddiw, er mwyn caniatáu'r cynnydd hwnnw. Diolch.

Y cynnig yw ein bod yn cytuno ar y cynigion. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwelaf fod Aelodau'n gwrthwynebu, ac rwy'n gohirio'r pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio. [Torri ar draws.]

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

17:30
6. Cyfnod Pleidleisio

A symudaf i'r cyfnod pleidleisio. Fel y nodwyd ar yr agenda, cynhelir y pleidleisiau heddiw yn unol â Rheol Sefydlog 34.11—[Torri ar draws.] Caiff pob grŵp gwleidyddol enwebu un Aelod o'r grŵp neu'r grwpiad i gario'r un nifer o bleidleisiau ag y sydd o Aelodau'r grŵp. Yn achos grŵp gwleidyddol sydd â swyddogaeth Weithredol, bydd gan yr enwebai yr un—[Torri ar draws.] Cyn imi barhau, a all y swyddogion a'r cyfieithwyr i gyd ddiffodd eu meicroffonau? Bydd Aelodau nad ydynt yn perthyn i grŵp neu grwpiad yn pleidleisio drostynt eu hunain a byddaf yn cynnal pleidlais drwy alw'r enwau.

Mae'r bleidlais, felly, yn bleidlais ar y cynigion a gyflwynwyd yn enwau Julie James a Rebecca Evans. Ar ran y grŵp Llafur a'r Llywodraeth, galwaf ar John Griffiths. Sut ydych chi'n bwrw eich 30 o bleidleisiau? John Griffiths, sut ydych chi'n bwrw eich 30 o bleidleisiau? Unwaith eto, John Griffiths.

Diolch. Ar ran grŵp Ceidwadwyr Cymru, Darren Millar, sut ydych chi'n bwrw eich 11 pleidlais?

Ar ran y Blaid Brexit, Caroline Jones, sut ydych chi'n bwrw eich pedair pleidlais?

Daw hynny â'r bleidlais i ben. Canlyniad y bleidlais: o blaid y cynigion 30, neb yn ymatal, yn erbyn 25, ac, felly, derbynnir y cynigion.

Cynhaliwyd y bleidlais ar NDM7307 a NDM7308 yn unol â Rheol Sefydlog 34.11.

John Griffiths ar ran Grŵp Llafur a’r Llywodraeth: O blaid (30)

Darren Millar ar ran Grŵp y Ceidwadwyr: Yn erbyn (11)

Helen Mary Jones ar ran Grŵp Plaid Cymru: Yn erbyn (9)

Caroline Jones ar ran Grŵp Plaid Brexit: Yn erbyn (4)

Neil Hamilton - Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig: Yn erbyn

Derbyniwyd y cynigion.

Daw ein trafodion heddiw i ben. Diolch i bawb am gymryd rhan. A hoffwn gloi hefyd wrth ddymuno gwellhad buan i'n cyd-Aelod, Alun Davies. Diolch yn fawr i bawb.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:32.