Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

24/03/2020

Cyfarfu’r Cynulliad am 10:00 gyda’r Dirprwy Lywydd (Ann Jones) yn y Gadair. 

1. Cynnig i atal Rheolau Sefydlog

A'r eitem gyntaf ar yr agenda yw'r cynnig i atal Rheolau Sefydlog, a galwaf ar y Prif Weinidog i gynnig y cynnig hwnnw. Mark Drakeford.

Cynnig NNDM7315 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

1. Yn atal Rheol Sefydlog 12.56(i) a (ii) sy’n ei gwneud yn ofynnol i:

a) Prif Weinidog Cymru ateb cwestiynau llafar unwaith, am hyd at 60 munud, ym mhob wythnos y bydd y Cynulliad yn cynnal Cyfarfod Llawn; a

b) bob un o Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol ateb cwestiynau llafar ynglŷn â’u cyfrifoldebau, o leiaf unwaith, am hyd at 45 munud, ym mhob pedair wythnos y bydd y Cynulliad yn cynnal cyfarfod llawn,

fel nad yw’n ofynnol i'r Prif Weinidog, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd ateb cwestiynau llafar yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 24 Mawrth 2020.

2. Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i), 12.22(i) a’r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy’n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu’r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i NNDM7316, y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Coronafeirws, gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth 24 Mawrth 2020.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw atal Rheolau Sefydlog. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, rydym ni wedi atal Rheolau Sefydlog.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

2. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf, sef cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiynau wedi eu trosglwyddo i'w hateb yn ysgrifenedig.

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Dirprwy Lywydd, bu newidiadau i agenda heddiw. Ar ôl i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a minnau wneud datganiadau, byddwn yn trafod y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil coronafeirws. Bydd pob datganiad arfaethedig arall yn cael ei gyhoeddi ar ffurf datganiad ysgrifenedig. Mae'r ddadl ar egwyddorion cyffredinol a'r penderfyniad ariannol ar gyfer y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) wedi ei thynnu'n ôl o agenda heddiw.

Yn olaf, fel yr eitem olaf o fusnes heddiw, byddwn yn pleidleisio ar newidiadau i Reolau Sefydlog. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi ei nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, y gellir ei weld ymhlith y papurau sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

Diolch yn fawr iawn. Nid oes gennyf unrhyw siaradwyr ar y datganiad busnes, ac felly symudwn ymlaen.

4. Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru
5. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd (yn rhinwedd ei gyfrifoldebau fel Gweinidog Pontio Ewropeaidd)
6. Cwestiynau Amserol

Fel y dywedodd y Prif Weinidog, mae eitemau 4, 5 a 6 wedi eu—. Wel, mae 4 a 5 wedi eu trosglwyddo ar gyfer atebion ysgrifenedig, ac eitem 6—nid oes unrhyw gwestiynau amserol.

7. Datganiad gan y Prif Weinidog: Coronafeirws (COVID-19)

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae Cymru yn wynebu yr argyfwng iechyd mwyaf difrifol ers canrif. Mae'n rhaid inni weithredu er mwyn gwarchod ein cymunedau, amddiffyn y gwasanaeth iechyd, ac achub bywydau. Mae'r camau rydym wedi eu cymryd yn barod yn gwneud gwahaniaeth, ond mae'n rhaid inni wneud mwy. Felly—

Mae'n ddrwg gen i, Prif Weinidog, nid oedd y cyfieithiad yn gweithio bryd hynny. Mae'n gweithio nawr. Mae'n ddrwg gen i.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae Cymru yn wynebu yr argyfwng iechyd mwyaf difrifol ers canrif. Mae'n rhaid inni weithredu er mwyn gwarchod ein cymunedau, amddiffyn y gwasanaeth iechyd, ac achub bywydau. Mae'r camau rydym wedi eu cymryd yn barod yn gwneud gwahaniaeth, ond mae'n rhaid inni wneud mwy. Felly, ddoe, cytunodd pedwar Llywodraeth y Deyrnas Unedig i gyflwyno mesurau llym newydd. Mae'r mesurau hyn yn angenrheidiol er mwyn arafu lawr y feirws ac amddiffyn pawb, yn enwedig y bobl fwyaf bregus. Mae'n rhaid inni i gyd newid ein ffordd o fyw. Mae'n rhaid i bob rhan o gymdeithas ymateb er lles pawb. Mae Llywodraeth Cymru yn canolbwyntio'n llwyr ar y sialens yma. Byddwn yn dal ati i gydweithio'n agos gyda'n partneriaid i ymateb i'r argyfwng ac i warchod pobl Cymru.

Dirprwy Lywydd, mae wythnos wedi mynd heibio ers i mi ateb cwestiynau yn y Senedd ddiwethaf, ac roedd llawer o'r cwestiynau hynny yn ymwneud â coronafeirws. Yn ystod y saith diwrnod diwethaf, mae'r cyngor gwyddonol wedi bod yn eglur. Mae cyflymder lledaeniad y feirws wedi cyflymu'n sylweddol ar draws y Deyrnas Unedig. Heddiw, mae'n rhaid i mi adrodd bod 16 o bobl a gafodd ddiagnosis o coronafeirws wedi marw yng Nghymru, a chadarnhawyd mwy na 400 o achosion. Mae'r ffigurau hyn yn cynyddu bob dydd, a byddan nhw'n parhau i gynyddu yn ystod y dyddiau a'r wythnosau nesaf.

Dirprwy Lywydd, mae coronafeirws yn feirws sy'n hawdd ei drosglwyddo, ac nad oes gennym ni fawr o amddiffyniad naturiol yn ei erbyn. I'r rhan fwyaf o bobl, bydd yn salwch ysgafn, ond, fel y gwyddom, ac fel y mae'r ffigurau yr wyf i newydd eu hamlinellu yn ei ddangos, mae rhai grwpiau o bobl mewn mwy o berygl o ddatblygu salwch difrifol a hyd yn oed angheuol os cânt eu hamlygu i'r feirws. Mae'r galw am ein gwasanaethau GIG eisoes yn sylweddol a gallai fynd yn drech na ni. Dyna pam y gofynnir i bob un ohonom ni gymryd cyfres o gamau na welwyd eu tebyg o'r blaen i newid y ffordd yr ydym ni'n byw ein bywydau, oherwydd dyna'r cyfle gorau sydd gennym ni i arafu lledaeniad y feirws. Ac mae arafu'r cyflymder yn ein galluogi i ddiogelu ein GIG ac i achub bywydau.

Nawr, Dirprwy Lywydd, trwy gydol y cyfnod hwn, mae COBRA wedi cyfarfod yn rheolaidd ac wedi cael cyngor gan bedwar prif swyddog meddygol y DU a chan y grŵp gwyddonol ar gyfer argyfyngau. Wrth i'r cyngor hwnnw esblygu, rydym ni wedi tynhau'n raddol y mesurau y mae angen i ni eu cymryd. Ers cyfarfod diwethaf y Senedd, rydym ni wedi cau ysgolion, cau tafarndai, clybiau, bariau a bwytai. Ddoe, cymerodd Llywodraeth Cymru fesurau i gau meysydd carafanau, safleoedd gwersylla, mannau poblogaidd i dwristiaid a mannau prydferth i atgyfnerthu'r canllawiau ynghylch pobl ddim yn ymgynnull mewn niferoedd mawr a chadw eu pellter oddi wrth ei gilydd. Cyhoeddwyd gennym hefyd bod awdurdodau lleol yn gorfodi'r cam o gau tafarndai a bariau yn llym, gyda'r perygl y byddai trwyddedigion yn colli eu trwyddedau pe bydden nhw'n cael eu dal yn anwybyddu'r gwaharddiad.

Ychydig oriau yn ddiweddarach, ddiwedd prynhawn ddoe, cyfarfu COBRA eto i ystyried mesurau llymach fyth. Fel y byddwch wedi gweld o'r datganiadau a gyhoeddwyd gennyf i, Prif Weinidog y DU, a Phrif Weinidogion yr Alban a Gogledd Iwerddon, mae'r hyn a oedd yn gyngor yn flaenorol yn ofyniad erbyn hyn. Am y tair wythnos nesaf o leiaf, bydd holl siopau'r stryd fawr a mannau cymunedol ar gau. Bydd siopau bwyd, gwasanaethau GIG lleol, fferyllfeydd, banciau a swyddfeydd post a gorsafoedd petrol yn parhau i fod ar agor, ond ni chaniateir unrhyw gynulliad o fwy na dau o bobl yn gyhoeddus.

Mae'n rhaid i ni aros gartref, gan adael am resymau cyfyngedig iawn yn unig. A dyma'r pedwar rheswm: yn gyntaf, siopa am angenrheidiau sylfaenol—er enghraifft, bwyd a moddion—ond mae angen i'r teithiau hyn fod mor anaml ag y gallwn ni eu gwneud. Yn ail, caniateir un math o ymarfer corff bob dydd, er enghraifft, rhedeg, mynd am dro, neu feicio—ar eich pen eich hun neu gydag aelodau o'ch aelwyd. Yn drydydd, rydym ni'n cael gadael ein cartrefi ar gyfer unrhyw angen meddygol, neu i ddarparu gofal neu i helpu person agored i niwed. Ac, yn olaf, cawn deithio i'r gwaith ac yn ôl, ond dim ond pan nad oes unrhyw ffordd o gwbl y gellir gwneud hyn o gartref.

Nawr, Dirprwy Lywydd, mae'r rhain yn fesurau eithriadol. Ond, fel y dywedais, maen nhw'n angenrheidiol i leihau lledaeniad coronafeirws ac i ganiatáu i'r GIG achub bywydau. Wrth i bob un ohonom ni ddilyn y rheolau newydd hyn, byddan nhw'n lleihau ein cysylltiad o ddydd i ddydd gyda phobl eraill a chyflymder a throsglwyddiad y feirws. Mae'r rhain yn rheolau i bawb—nid oes yr un ohonom ni'n eithriad. Mae bywydau pob un ohonom ni wedi newid, ac mae hynny'n cynnwys y ffordd y bydd y Senedd hon yn gweithio. Daeth y mesurau yr wyf i wedi eu hamlinellu yn y fan yma i rym am hanner nos neithiwr. Byddan nhw'n para am dair wythnos, pan fyddan nhw'n cael eu hadolygu. Bydd Llywodraeth y DU yn rhoi'r pwerau angenrheidiol i'r heddlu orfodi'r mesurau hyn, ond, wrth gwrs, rwy'n gobeithio'n fawr iawn na fyddwn ni'n cyrraedd y pwynt hwnnw.

Mae ymateb i'r pandemig hwn yn waith i Lywodraeth Cymru gyfan. Neithiwr, rhoddodd y Gweinidog addysg ganllawiau ychwanegol i rieni ac ysgolion yng ngoleuni'r gofynion newydd hyn. Mae Gweinidog yr economi wedi cyflwyno cyngor i fusnesau, ac mae Gweinidog yr amgylchedd yn cael trafodaethau dyddiol gyda'r diwydiannau bwyd a ffermio. Mae'r Cabinet cyfan yn canolbwyntio ar yr argyfwng iechyd cyhoeddus sydd o'n blaenau. Heddiw, byddai Gweinidogion wedi darparu datganiadau llafar yma am y gwaith y maen nhw'n ei wneud, a byddwn yn sicrhau, wrth gwrs, bod y datganiadau hynny ar gael i Aelodau yn y fan yma ac i'r cyhoedd.  

Mae'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn gallu gweithio mor agos gyda'n partneriaid mewn llywodraeth leol, gyda'r undebau llafur, gyda'r sector gwirfoddol, gyda chyflogwyr a busnesau, yn hanfodol i'r ffordd yr ydym ni'n ymateb i'r pandemig hwn, ac yn gryfder gwirioneddol o'r ffordd yr ydym ni'n gallu gwneud pethau yma yng Nghymru.  

Dirprwy Lywydd, a gaf i gloi drwy ddiolch i bawb am eu cymorth ac am eu cefnogaeth wrth i ni wynebu'r argyfwng iechyd cyhoeddus hwn gyda'n gilydd? Mae hwn yn gyfnod pryderus iawn i deuluoedd a chymunedau ledled ein gwlad, a gwn y bydd gan bobl lawer iawn o gwestiynau, yn enwedig ar ôl y cyhoeddiad neithiwr, a byddwn yn gwneud ein gorau i ymateb i bob un ohonyn nhw.  

Rydym ni wedi gofyn llawer iawn gan y cyhoedd, ond yn enwedig ein staff iechyd a gofal cymdeithasol, ein gwasanaethau cyhoeddus a'r bobl niferus hynny sydd wedi dod ymlaen i wirfoddoli. Mae'r ymateb yng Nghymru wedi bod yn wirioneddol eithriadol. Ac i bob un o'r rheini, dywedaf eto, diolch yn fawr iawn—diolch o galon i chi gyd.

10:10

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i chi, Prif Weinidog, am eich datganiad y bore yma? Ac a gaf i hefyd ddiolch i chi am y sesiynau briffio rheolaidd yr ydych chi wedi eu darparu i mi dros yr wythnosau diwethaf yn ystod y cyfnod digynsail hwn? Fel yr wyf i wedi ei ddweud o'r blaen, mae'n rhaid i ni roi ein gwahaniaethau gwleidyddol o'r neilltu fel ein bod ni'n gallu gweithio gyda'n gilydd i frwydro'r feirws hwn. A gaf i hefyd achub ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb sy'n helpu i'n cadw ni'n ddiogel yn ystod yr argyfwng hwn ac i atgoffa pobl i aros gartref er mwyn achub bywydau ac i amddiffyn ein GIG?

Wrth i fygythiad y coronafeirws barhau i dyfu, mae'n gwbl hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn ail-flaenoriaethu ei chyllid ar frys nawr, i sicrhau bod ei hadnoddau yn cael eu gwario'n effeithiol yn ystod yr argyfwng hwn. A allwch chi gadarnhau felly, Prif Weinidog, bod Llywodraeth Cymru yn ail-flaenoriaethu ei chyllid ar frys? Ac efallai y caf i hyd yn oed awgrymu y dylech chi ystyried cyhoeddi cyllideb frys wrth symud ymlaen, fel y gellir ail-ganolbwyntio cyllid y Llywodraeth ar wasanaethau hanfodol. Oherwydd, fel y gwyddoch, dros y penwythnos, mae nifer o awdurdodau lleol wedi gofyn am gymorth ariannol ychwanegol i frwydro'r feirws hwn.  

Nawr, wrth i ledaeniad y feirws barhau i ddatblygu, mae'n hanfodol bod yr holl gyllid yn cael ei roi ar gael i sefydliadau a chynlluniau sy'n cynorthwyo unigolion a busnesau sy'n cael eu heffeithio gan yr argyfwng. Felly, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych ar y dyraniadau cyllid y mae'n eu rhoi i sefydliadau trydydd sector a, phan fo angen hynny, ei bod yn dargyfeirio cyllid oddi wrth gyrff nad ydyn nhw ar y rheng flaen o ran darparu gwasanaethau allweddol ar yr adeg benodol hon, oherwydd bydd hyn yn dangos bod Llywodraeth Cymru wedi targedu pob un geiniog y gall ei thargedu i gynorthwyo'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan COVID-19, yn hytrach na pharhau i ariannu cynlluniau nad ydyn nhw er lles y cyhoedd ar hyn o bryd.  

Ac a allwch chi gadarnhau felly, Prif Weinidog, y bydd pob un o Weinidogion Llywodraeth Cymru yn asesu eu ffrydiau ariannu ar frys ac yn dargyfeirio'r holl adnoddau sydd ar gael i fynd i'r afael â'r argyfwng coronafeirws a'i effaith ar Gymru? Ac a allwch chi ddweud wrthym ni hefyd y bydd unrhyw arian a ddosberthir i sefydliadau trydydd sector yn cael ei ddosbarthu i'r rhai sy'n darparu gwasanaethau allweddol yn unig ar hyn o bryd?

Nawr, ar hyn o bryd, mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i gynorthwyo'r bobl hynny sy'n gweithio i frwydro yn erbyn y coronafeirws, gan gynnwys sicrhau eu bod nhw'n gallu cael gafael ar nwyddau a gwasanaethau hanfodol, fel gofal plant. Nawr, ddydd Iau diwethaf, darparodd Llywodraeth y DU ganllawiau cynhwysfawr ar bwy yw ein gweithwyr allweddol, a chyhoeddodd Llywodraeth Cymru lythyr hefyd i ysgolion yn gofyn iddyn nhw nodi plant pobl sy'n rhan o'r ymateb uniongyrchol i'r argyfwng coronafeirws. Fodd bynnag, rwy'n deall bod rhai awdurdodau lleol wedi anwybyddu hyn a'u bod yn hytrach wedi dewis cyfyngu eu darpariaeth ysgolion i'r rhai ym meysydd iechyd, gofal cymdeithasol a gwasanaethau brys, yn groes i'r canllawiau a gyhoeddwyd.

Felly, a ydych chi'n rhannu fy marn i, Prif Weinidog, ein bod ni angen cymaint o gymorth â phosibl i bawb sy'n gweithio gyda ni i frwydro yn erbyn COVID-19, a bod angen i ni sicrhau bod eglurder yn y negeseuon a roddir i'r cyhoedd? Ac, o dan yr amgylchiadau hynny, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael gydag awdurdodau lleol ac arweinyddion ysgolion ynghylch sicrhau eu bod nhw'n gwneud darpariaeth ysgol a gofal plant i'r rhai sy'n gweithio i fynd i'r afael â'r argyfwng a chynorthwyo'r rhai sy'n cael eu heffeithio gan coronafeirws? Ac a allwch chi ddweud wrthym ni hefyd pa waith cynllunio y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud ar sut y gellir cynorthwyo gweithwyr allweddol yn y tymor canolig a'r hirdymor fel y gallan nhw fod yn ffyddiog y bydd y ddarpariaeth honno'n parhau i fod ar gael tra byddan nhw'n gweithio i fynd i'r afael â'r feirws a chynorthwyo'r rhai sy'n cael eu heffeithio.

Nawr, wrth gwrs, fel yr ydych chi newydd ei ddweud, Prif Weinidog, mae hwn yn gyfnod digynsail a dylem ni i gyd fod yn ddiolchgar iawn i staff y GIG sy'n gweithio'n galed ac sydd ar y rheng flaen yn gwneud popeth o fewn eu gallu i sicrhau bod cleifion yn cael y driniaeth iechyd a'r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw. Mae'n gwbl hanfodol bod y staff hynny hefyd yn cymryd pob rhagofal posibl i gadw eu hunain yn ddiogel. Pan allwn ni, mae'n rhaid i ni ystyried recriwtio gweithwyr proffesiynol i sicrhau bod parhad gwasanaeth yn parhau, ac rwy'n falch bod llawer o weithwyr iechyd proffesiynol bellach wedi ateb y galwadau i ddychwelyd i gynorthwyo'r GIG yn ystod yr argyfwng hwn.

O dan yr amgylchiadau, Prif Weinidog, pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd ar unwaith i sicrhau bod y gweithwyr iechyd proffesiynol hyn sydd wedi ymddeol ac, yn wir, y rhai sydd wedi gadael i ddilyn gyrfaoedd eraill ac sydd bellach yn dychwelyd yn gallu dychwelyd mor gyflym ac mor effeithlon â phosibl?

Nawr, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi y bydd fferyllfeydd hefyd yn chwarae rhan bwysig iawn yn yr wythnosau nesaf i gynorthwyo cymunedau, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi ddweud wrthym ni pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o swyddogaeth fferyllwyr cymunedol ar yr adeg hon, a sut y gellir defnyddio eu cyngor arbenigol? A pha drafodaethau sydd wedi eu cynnal gyda byrddau iechyd lleol i lacio rheolau, er enghraifft, ynghylch materion fel cyflwyno presgripsiynau, a phresgripsiynau amlroddadwy yn enwedig, i'r rhai hynny nad ydyn nhw'n gallu mynd i feddygfa yn bersonol erbyn hyn i gasglu eu presgripsiynau?

Mae miloedd o fusnesau ledled Cymru yn pryderu yn naturiol am yr effaith y mae'r feirws yn ei chael ar eu busnes ar hyn o bryd ac y gallai barhau i'w chael ar eu busnes. Wrth gwrs, rydym ni i gyd wedi cael gohebiaeth gan fusnesau a'r hunangyflogedig sy'n dweud wrthym ni eu bod nhw'n cael trafferth yn deall yn well sut y gall Llywodraeth Cymru helpu eu busnes ac, yn hollbwysig, sut i gael gafael ar y cymorth hwnnw cyn gynted â phosibl. Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni pa waith monitro y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o waith Busnes Cymru i sicrhau ei fod yn cael y cymorth priodol i fusnesau yng Nghymru yn brydlon? Pa gymorth penodol sy'n cael ei roi ar gael i'r busnesau hynny nad ydyn nhw'n talu ardrethi busnes ar hyn o bryd ond sydd angen cymorth o hyd i sicrhau parhad eu busnesau?

Nawr, gofynnais i chi yr wythnos diwethaf am gyflenwadau a phrinder bwyd, ac wrth i'r feirws barhau i ledaenu mae sgil-effeithiau ar y gallu i gael cyflenwadau hanfodol i'r rhai sydd eu hangen nhw. Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru yn cyfarfod yr wythnos diwethaf gyda chynrychiolwyr y trydydd sector ac awdurdodau lleol i drafod y ffordd orau o gael cyflenwadau i'r rhai mwyaf agored i niwed, ond ceir pryderon dilys iawn o hyd ymhlith elusennau lleol ledled Cymru sy'n cynorthwyo cymunedau i gael cyflenwadau bwyd i bobl.

Felly, a allwch chi ddweud wrthym ni, felly, pa fesurau newydd y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod y rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau yn cael y cyflenwadau sydd eu hangen arnyn nhw mewn gwirionedd? Pa drafodaethau y mae Gweinidogion y Llywodraeth wedi eu cael gyda manwerthwyr am y rhan y gallen nhw ei chwarae o ran darparu cyflenwadau hanfodol i elusennau lleol a sefydliadau cymunedol?

Felly, gan ddweud hynny, Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch unwaith eto i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad y bore yma? Edrychaf ymlaen at gael diweddariadau pellach ganddo ac, yn wir, gan Lywodraeth Cymru yn y dyddiau nesaf ac yn yr wythnosau i ddod.

10:15

Diolchaf i arweinydd yr wrthblaid am y cwestiynau yna, ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r pwyntiau cychwynnol a wnaeth. Mae Llywodraethau o argyhoeddiadau gwleidyddol gwahanol iawn ledled y Deyrnas Unedig yn gweithio'n agos iawn gyda'i gilydd yn ddyddiol ar dasg gyffredin.

Cyn belled ag y mae cyllid yn y cwestiwn, ein bwriad ar hyn o bryd yw cyflwyno cyllideb atodol i ailalinio cyllidebau Llywodraeth Cymru gyda'r blaenoriaethau newydd a brys. Rydym ni'n gwneud yr union beth a awgrymodd Paul Davies wrth gwestiynu pob cyllideb sydd gan bob Gweinidog i weld beth y gellid ei ryddhau o'r cynlluniau a oedd ar waith yn flaenorol er mwyn gallu ariannu blaenoriaethau newydd a mwy brys. Bydd y Gweinidog cyllid yn cyfarfod â Gweinidog pob portffolio yfory er mwyn clywed ganddyn nhw faint o arian y maen nhw'n gallu ei ryddhau i wneud yn siŵr bod hynny'n cael ei wneud yn y ffordd fwyaf trwyadl bosibl.

Oherwydd mae gennym ni ddwy flaenoriaeth a dwy flaenoriaeth yn unig, Dirprwy Lywydd: un ohonyn nhw yw cynorthwyo ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol yn yr ymdrechion y byddan nhw'n eu gwneud, a'r ail yw cynorthwyo busnesau a phobl mewn cyflogaeth, fel y bydd gan bobl, pan fyddan nhw'n dod allan yr ochr arall i'r coronafeirws, ddyfodol a swyddi i fynd iddyn nhw a gobaith o'u blaenau.

Rydym ni'n gweithio'n agos gyda'r trydydd sector, wrth gwrs, ac maen nhw eu hunain yn ail-flaenoriaethu eu cyllidebau. Rydym ni'n ddiolchgar iawn i Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, sydd wedi twrio yn ei gronfeydd ei hun fel y gall gynnig arian ar unwaith i allu cynorthwyo sefydliadau trydydd sector i wneud y pethau ychwanegol y maen nhw'n awyddus i'w gwneud ac yn gallu eu gwneud.

Rydym ni'n gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol, fel yr awgrymodd Paul Davies, mewn cysylltiad dyddiol ag arweinyddion allweddol awdurdodau lleol. Roedd pryder dros y penwythnos, Dirprwy Lywydd, y byddai nifer y rhieni a fyddai'n dod â phlant i'r ddarpariaeth newydd ddydd Llun yn fwy na'r uchafswm o 20 y cant o blant y gallwn ni ei ganiatáu yn y cyfleusterau hynny, neu fel arall byddai y fantais epidemiolegol o gymryd y camau hynny yn cael ei gwanhau. Roedd rhai awdurdodau lleol a benderfynodd fabwysiadu dull rhagofalus ar ddechrau'r wythnos i wneud yn siŵr na fyddai hynny'n digwydd. Yn ymarferol, ni chododd yr anawsterau hynny. Roedd y niferoedd ar ben isaf yr hyn y gellid bod wedi ei ragweld ddoe, a gwn y bydd yr awdurdodau lleol hynny yn ailgymhwyso eu cynlluniau bellach. Byddwn yn gweithio gyda'r awdurdodau lleol hynny fel bod gennym ni drefniadau tymor canolig ar waith fel bod gweithwyr allweddol yn gwybod nid yn unig sut y byddan nhw'n llwyddo i fynd drwy'r wythnos neu ddwy nesaf ond sut y byddan nhw'n ymdopi y tu hwnt i'r Pasg hefyd.

Dirprwy Lywydd, rwy'n mynd—rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau'n deall—i adael cwestiynau iechyd i'm cydweithiwr fel y gallaf ymateb i gynifer o gwestiynau eraill â phosibl. Ond dim ond i roi sicrwydd i Paul Davies, mae'r Bil y byddwn ni'n ei drafod yn ddiweddarach at ddibenion CCD yn rhoi gallu newydd i Lywodraeth Cymru gyflymu'r broses o ddychwelyd i'r gweithle i staff proffesiynol iechyd, a gofal cymdeithasol yn wir, sydd wedi ymddeol. Rydym ni wedi gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth y DU o ran cymorth i fusnesau.

Ac rydym ni, wrth gwrs, yn monitro'r gofynion ar Busnes Cymru. Maen nhw wedi codi'n aruthrol dros yr wythnos ddiwethaf, fel y gallwch chi ddychmygu. Nifer y galwadau i'r llinell gymorth, nifer yr ymweliadau â'r wefan, ymhell y tu hwnt i'r hyn a fyddai'n cael ei ragweld fel rheol. Bu'n rhaid i ni symud 21 o staff ychwanegol i'r llinell gymorth i allu ymdopi â nifer y galwadau, ac mae ein gallu i ymateb iddyn nhw yn cael ei fonitro bob dydd.

Yn olaf, o ran y materion busnes bwyd a godwyd gan Paul Davies, mae llythyrau'n dechrau mynd allan heddiw at y bobl hynny yn y grŵp y mae angen eu hamddiffyn rhag effaith coronafeirws drwy aros yn eu cartrefi eu hunain nid am dair wythnos ond am hyd at dri mis. Mae honno'n is-adran lai o boblogaeth Cymru, a bydd y llythyrau hynny'n rhoi cyngor i bobl, yn gyntaf ynghylch pam mae eu cyflwr meddygol yn ei gwneud yn ofynnol iddyn nhw gymryd y camau hynny, ond hefyd y ffynonellau cymorth a fydd ar gael iddyn nhw tra byddan nhw wedi eu hynysu yn y modd hwnnw, ac mae hynny'n cynnwys cymorth gan y manwerthwyr bwyd hefyd.

A gaf i orffen drwy ddweud hyn, ac mae'n cyfeirio at bwynt a wnaeth Paul Davies am fferyllfeydd hefyd? Rwy'n deall yn llwyr y pwysau aruthrol y mae pawb yn ei deimlo, bod pobl o dan bwysau a'u bod yn ymddwyn, weithiau, mewn ymateb i'r pwysau hynny, ond nid oes unrhyw esgus o gwbl i bobl sy'n ymweld â fferyllfa gymunedol neu fanwerthwr bwyd i gyfeirio'r rhwystredigaeth honno at bobl y rheng flaen sydd yno i'w helpu. Rydym ni wedi gweld rhai enghreifftiau—maen nhw'n enghreifftiau prin, ac nid ydym ni eisiau eu gorliwio o gwbl—ond rydym ni wedi gweld enghreifftiau o hynny, ac nid ydyn nhw'n dderbyniol mewn gwirionedd. Hyd yn oed yn y cyfnod anodd dros ben hwn, ni fyddwn yn derbyn hynny yma yng Nghymru.

10:20

Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'r mesurau a gyhoeddwyd ddoe yn rhai digynsail ond hanfodol er mwyn ceisio atal coronafeirws rhag lledu ymhellach. Mae unrhyw gamau sydd yn mynd i sicrhau na fydd pwysau ychwanegol ar y gwasanaeth iechyd i'w croesawu yn y cyfnod argyfyngus yma. Nid gwyliau cenedlaethol ydy hwn, ond argyfwng cenedlaethol, ac mae gan bob un ohonon ni gyfrifoldeb i gydymffurfio â'r mesurau newydd er lles ni ein hunain a'r bobl o'n cwmpas ni.

Gaf i droi at y cwestiynau pwysig sydd yn codi? I ddechrau, y canllawiau newydd a gyhoeddwyd ddoe yn dweud na ddylid teithio oni bai i gyflawni gwaith hanfodol neu pan nad oes modd gweithio o adref. Mae hyn felly'n golygu y bydd nifer sydd yn gweithio ar eu liwt eu hunain yn parhau i deithio a gweithio, yn yr un modd gweithwyr yn y diwydiannau adeiladu, trwsio ceir a degau o alwedigaethau eraill.

Dwi yn credu ein bod ni angen eglurder ar hyn, ac yn sicr mae angen eglurder ar frys ynglŷn â'r diwydiant adeiladu. Wrth inni siarad, dwi'n gweld lluniau o giwiau yn ffurfio y tu allan i gwmnïau a llefydd sy'n gwerthu defnyddiau adeiladu i'r cyhoedd ac i adeiladwyr. Mae adeiladwyr yn troi i fyny i'w gwaith heddiw, am nad ydyn nhw'n gallu gwneud y math yna o waith o gartref, wrth gwrs.

Mi fydd nifer o'r cwmnïau adeiladu yn amharod i anfon eu gweithwyr adref oni bai bod gorchymyn gan y Llywodraeth i gau safleoedd adeiladu. O gael y cyfarwyddyd hwnnw, mi fyddan nhw wedyn yn gymwys i dderbyn y cymorth gan y Llywodraeth a fyddai'n talu 80 y cant o gyflogau'r gweithwyr. Fe ellir, er enghraifft, roi gorchymyn i gau'r ffreutur ar safleoedd adeiladu, a fyddai i bob pwrpas yn golygu y byddai'n rhaid cau'r safle yn gyfan gwbl.

Mewn sector lle mae iechyd a diogelwch yn flaenoriaeth, mi fydd y gweithwyr yma yn gweithio yn agos at ei gilydd, ac mae'n gwbl annerbyniol gofyn i weithwyr beryglu eu hiechyd a iechyd eu cydweithwyr. Byddwn i'n ddiolchgar iawn os oes gennych chi eglurder ar y pwyntiau yna.

Yng nghyhoeddiad y Prif Weinidog, doedd dim cyfeiriad o gwbl at gymorth ychwanegol i'r hunan-gyflogedig, gweithwyr llawrydd a'r rheini ar gytundebau dim oriau. Yn absenoldeb unrhyw fanylion pellach, wnewch chi fel Llywodraeth—fel Llywodraeth Cymru—ymrwymo i dalu incwm sylfaenol i weithwyr yn y categorïau yma? Dyma'r peth egwyddorol i'w wneud, ac o'i roi fo ar waith, fe gewch chi ein cefnogaeth ni yn llwyr.

Dwi'n cefnogi'ch datganiad ddoe, a oedd yn golygu bod yn rhaid i feysydd carafanau gau ynghyd ag atyniadau i dwristiaid. Pa fesurau sydd mewn lle i sicrhau bod pobl yn ufuddhau i'r cyfarwyddyd i beidio â theithio?

I droi at bryder arall sydd wedi cael ei godi efo mi gan nifer dros y dyddiau diwethaf: y ffaith nad ydy gweithwyr NHS a hyd yn oed mwy o bobl yn y sector gofal yn y gymuned efo'r offer sydd eu hangen i'w diogelu nhw yn bersonol a diogelu'r bobl y maen nhw'n mynd atyn nhw. Mae hyn yn achos pryder mawr ac yn annerbyniol. Pryd gawn ni sicrwydd y bydd pawb yn gallu cael gafael ar gyfarpar addas? Ydych chi wedi archwilio i'r posibilrwydd o ddefnyddio offer y fyddin ar gyfer y gwaith yma?

I droi at fyd addysg—maddeuwch imi, dwi'n gwybod nad eich maes chi'n benodol ydy o, ond mae yna gwestiynau yn codi yn fan hyn hefyd—a cychwyn efo plant sy'n derbyn prydau ysgol am ddim, rydych chi wedi dweud y byddan nhw'n parhau i gael bwyd, ond sut? Mae hynny'n gallu amrywio o ysgol i ysgol yn ôl fy nealltwriaeth i. Ydych chi'n cytuno efo fi mai rhoi talebau—vouchers —i'w gwario mewn siopau lleol ydy'r ffordd fwyaf teg o weithredu, o ran dileu'r stigma o blant yn gorfod nôl pecynnau bwyd o'r ysgol? Mi fyddai vouchers hefyd yn lleihau teithio di-angen.

Rydych chi'n dweud yn y cyfarwyddiadau gan yr adran addysg:

'Os yw un rhiant yn weithiwr critigol ond y llall ddim, yna dylai'r rhiant sy ddim yn weithiwr critigol ddarparu trefniadau diogel eraill yn y cartref lle bo'n bosibl.'

Y geiriau 'lle bo'n bosibl' yna: beth yw ystyr 'lle bo'n bosibl'? Mae hwn yn creu dryswch ac aneglurder i bobl.

Ac o ran y dysgu, y plant a disgyblion sydd eisiau parhau i ddysgu yn y cyfnod hwn, mae yna lawer o weithgaredd yn gallu digwydd drwy'r we, ac rydym ni'n ddiolchgar iawn i'r athrawon sydd wrthi yn darparu hwnnw. Ond wrth gwrs, nid pob plentyn, nid pob disgybl sydd efo laptop unigol eu hunain. Maen nhw'n gorfod rhannu. Petai o wedi digwydd yn ein tŷ ni, er enghraifft, efo pedwar o blant a finnau yn gweithio o adref, fe fyddai fo yn anodd iawn i bawb gael chwarae teg efo un laptop. A dim bob cartref sydd efo band eang, wrth gwrs; dim bob cartref sydd efo cysylltiad i'r we.

Felly, ydych chi'n cytuno efo Plaid Cymru y dylai pob plentyn sydd heb laptop gael un a phob cartref gael cysylltiad â'r we? A wnewch chi weithio efo Openreach i ddileu problem band eang araf mewn ardaloedd gwledig? Mae yna rai plant sydd ddim yn gallu mynd ar y we o gwbl oherwydd problemau band eang. Mae yna bryder penodol am y sector addysg blynyddoedd cynnar a gofal plant. Fedrwch chi warantu y bydd cefnogaeth ariannol yn parhau ar gyfer pob math o leoliad a darparwr? Mae angen eglurder ar hynny.

Mi fydd hi'n adeg o gyfarwyddo efo newidiadau pellgyrhaeddol i fywyd bob dydd. I nifer, mae hi hefyd yn gyfnod o ansicrwydd ariannol, ond i bob un ohonom ni, mae'r angen i gadw'r firws i ffwrdd yn flaenoriaeth, ac mi wnawn ni weithio yn adeiladol efo chi yn yr ymdrech fawr hon. Diolch.

10:30

Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr i Siân Gwenllian am y cwestiynau ac am y ffordd y mae hi a phobl eraill yn ei phlaid hi wedi cydweithio yn adeiladol gyda ni yn y cyfnod argyfwng sydd o'n blaen ni. Dwi'n cytuno yn llwyr â hi—dyna'r neges y mae'n bwysig i ni ei rhoi i bobl: pan nad yw pobl yn y gwaith, nid gŵyl banc yw e. Rŷn ni'n wynebu argyfwng yn iechyd cyhoeddus, ac mae'n bwysig i bobl ymateb i'r argyfwng yn y ffordd y maen nhw'n mynd at bethau bob dydd yn eu bywydau nhw.

Mae nifer o gwestiynau gan Siân. Ar bobl sy'n hunan-gyflogedig, rŷn ni'n disgwyl cael rhywbeth o Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Dŷn ni ddim yn siŵr os rŷn ni'n mynd i glywed heddiw neu yn ystod yr wythnos, ond lan iddyn nhw yw e. Does dim cyllid gyda ni. Roedd Paul Davies yn sôn am y galw am y cyllid sydd gyda ni am wasanaethau cyhoeddus a phethau pwysig. Does dim digon o arian yn ein cyllid ni i roi cynllun yn ei le. Rŷn ni'n edrych ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ac rŷn ni wedi clywed oddi wrthyn nhw—maen nhw'n gweithio yn galed yn y Trysorlys i dreial i gynllunio mwy o help i bobl yn y sefyllfa yna.

O ran beth oeddwn i'n ei ddweud ddoe am caravans, yn y rheoliadau a lofnodais i amboutu 9.30 neithiwr, yn y rheoliadau yna mae mesurau yn eu lle, pwerau i awdurdodau lleol gydweithio gyda'r heddlu i fynd ar ôl y sefyllfa newydd. Rŷn ni wedi cydweithio yn agos gyda'r bobl yn y sector hefyd, ac maen nhw'n awyddus i fynd ar ôl beth rŷn ni wedi'i ddweud a chydweithio gyda ni.

Bydd Vaughan Gething yn gallu ymateb ar y cwestiynau ar PPE, ond jest i ddweud, Dirprwy Lywydd, rhoddais i awdurdod i weision sifil ddoe i fynd at y Ministry of Defence yn swyddogol ac i greu cytundeb newydd rhyngom ni a'r fyddin yma yng Nghymru i gael yr help, y cymorth y maen nhw'n gallu ei roi, ac maen nhw'n awyddus i'w roi i ni hefyd. Cymorth yn y maes cynllunio: mae lot o bethau lle maen nhw'n gallu gwneud i'n helpu ni yn logistics, fel maen nhw'n ei ddweud, ond pobl eraill.

Yn y maes addysg, y ffordd orau i fi o ddelio â free school meals yw i roi arian i'r teulu drwy'r child benefit.

Felly, dyma fudd-dal cynhwysol sy'n mynd i bob plentyn, yn sicr pob plentyn a fydd â hawl i gael prydau ysgol am ddim. Rwy'n deall ei bod yn ddigon posibl y bydd gan dalebau ran i'w chwarae, ond y dewis yr wyf i'n ei ffafrio yw bod y teuluoedd hynny'n cael arian fel y gallan nhw roi bwyd o flaen eu plant tra nad yw'r system ysgolion yn gweithredu'n arferol, ac rydym ni wedi awgrymu hynny i gyd i Lywodraeth y DU ddoe. Yn y cyfamser, rydym ni'n clytio a thrwsio, am y tro, i geisio sicrhau, pan mai talebau yw'r ateb cywir, y gallwn ni wneud hynny, i gynorthwyo economïau lleol yn y ffordd yr awgrymodd Siân, a phan nad yw hynny'n bosibl, i wneud yn siŵr bod bwyd y gall y plant gael gafael arno o leiaf. A hyd yn oed o dan y trefniadau newydd, llym iawn sy'n cael eu rhoi ar waith o heddiw ymlaen, yng Nghymru, bydd plant yn dal i gael mynd i'r ysgol a chasglu bwyd os mai dyna'r trefniant sydd ar waith yno.

O ran y pwynt a wnaeth Siân, wrth gwrs, mae athrawon yn gweithio'n galed iawn i wneud yn siŵr bod adnoddau ar gael ar-lein, ond ni fydd hynny'n ddigon i bawb, a gwn fod cynlluniau—. Mae'r Gweinidog Addysg yn gweithio gyda'r sector i ganfod ffyrdd eraill y gall y bobl ifanc hynny nad yw honno'n ffordd ymarferol o gynnal eu haddysg, bod ffyrdd eraill y gellir eu cynorthwyo drwyddynt hefyd.

Yn y sector rhentu, jest i ddweud, rŷn ni'n cymryd y pwerau yn y Bil sydd o flaen y Senedd heddiw i helpu pobl yn y sector preifat. Mae cytundeb gyda ni nawr gyda'r sector cyhoeddus, gyda'r housing associations a'r awdurdodau lleol hefyd i helpu pobl dros y cyfnod nesaf. Roeddem ni wedi cyhoeddi ddydd Gwener £10 miliwn yn fwy o arian i helpu awdurdodau lleol gyda gwasanaethau i bobl heb dŷ o gwbl, ac mae mwy rydym eisiau ac yn gallu ei wneud hefyd.

10:35

Prif Weinidog, a gaf i yn gyntaf gofnodi fy niolch i bob un o'n gweithwyr allweddol sy'n cadw ein gwasanaethau brys a rheng flaen i fynd, ond hefyd cofnodi fy niolch i chi ac i'ch Gweinidogion am y modd yr ydych chi wedi bod yn ymdrin â'r sefyllfa ddigynsail hon y mae'r wlad yn canfod ei hun ynddi? Mae'r diweddariadau a'r wybodaeth reolaidd, ynghyd â theilwra i anghenion penodol Cymru, wedi eu croesawu'n fawr ac wedi bod o gymorth i mi gynghori fy etholwyr mewn cyfnod sydd wedi peri pryder a gofid mawr i lawer o bobl. Ac a gaf i hefyd ddweud fy mod i'n eich cefnogi'n llwyr yn y mesurau ychwanegol a gyhoeddwyd neithiwr, sydd yn fater o anghenraid cenedlaethol ar hyn o bryd?

Gofynnwyd nifer o gwestiynau i chi eisoes ac maen nhw wedi cael sylw, ond roeddwn i eisiau codi dau fater penodol gyda chi. Yn gyntaf, o ran diogelwch personol. Rwy'n siŵr nad fi yw'r unig un sy'n dal i ddychryn o weld ymddygiad pobl mewn archfarchnadoedd ledled y wlad. Nawr, o'r fan lle'r wyf i'n byw ym Merthyr, rwy'n gallu gweld archfarchnad fawr Tesco, ac rwy'n gweld, bob bore, torfeydd enfawr yn mynd i mewn i'r archfarchnad honno ac yn dod allan gyda throlïau yn llawn nwyddau na fyddan nhw byth, a bod yn onest, yn gallu eu defnyddio mewn dim ond ychydig ddyddiau. Ac ar wahân i ymddygiad gwrthgymdeithasol pentyrru stoc—sy'n atal pobl eraill rhag cael nwyddau hanfodol ar adeg pan na ddylai fod unrhyw brinder—fy mhrif bryder i yw'r bygythiad i ddiogelwch y cyhoedd y mae pobl yn siopa mewn niferoedd o'r fath yn ei achosi.

Nawr, yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall gan ffrindiau sydd gen i yn byw yn Ffrainc, nid yw hyn yn digwydd yno. Yn Ffrainc, dim ond un person fesul troli sy'n cael mynd i mewn i'r siop. Mae pawb sy'n dod i mewn i'r siop yn cael cynnig hylif golchi dwylo wrth iddyn nhw fynd i mewn ac wrth adael. Mae systemau unffordd ar waith, a mesurau ymbellhau amlwg yn y siopau. Nid yw pobl yn mynd mewn heidiau, nid ydyn nhw'n pentyrru ac yn ymarfer prynu panig, ac nid oes neb yn mynd yn brin. Felly, fy nghwestiwn i yw: a oes rhywbeth y gallwn ni ei ddysgu o'r ffordd y maen nhw'n rheoli hyn yn Ffrainc? Ac a ydym ni mewn sefyllfa erbyn hyn lle mae angen cyflwyno rhyw fath o gyfyngiad, i gynorthwyo diogelwch y cyhoedd ond hefyd i sicrhau y gall pawb gael eu cyfran deg o nwyddau hanfodol?

Yn ail, mater addysg yw hwn, Prif Weinidog, felly mae'n bosibl na fyddwch chi'n gallu ateb hyn, ond cysylltodd etholwr gofidus iawn â mi i ddweud, gan ei bod hi bellach ar gontract dim oriau ac nad oes ganddi waith ar hyn o bryd, ei bod hi wedi gwneud cais am gredyd cynhwysol, ond fel y gwyddom, bydd yn rhaid iddi aros nifer o wythnosau cyn i hwnnw ddod trwodd. Yn y cyfamser, mae ganddi ddau o blant yn yr ysgol, nad ydyn nhw wedi bod yn gymwys hyd yn hyn—gan ei bod hi wedi bod yn ennill tan nawr—nad ydyn nhw wedi bod yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, felly er y caiff hi wneud cais yn awr iddyn nhw gael prydau ysgol am ddim oherwydd y newid i'w hamgylchiadau, mae'r broses yn cymryd amser, ac mae'r awdurdod lleol, er nad yw'n ddigydymdeimlad ac yn gwybod y bydd Llywodraeth Cymru yn darparu arian ychwanegol i ymdrin â'r trefniadau presennol ar gyfer prydau ysgol am ddim, yn ansicr a fydd arian ychwanegol yn cyrraedd ar gyfer ychwanegu rhagor o brydau ysgol am ddim brys at eu niferoedd. Felly, fy nghwestiynau yw: a ydym ni'n gwybod pa drefniadau y mae'r Adran Gwaith a Phensiynau yn eu rhoi ar waith i gyflymu taliadau credyd cynhwysol, fel nad oes yn rhaid i bobl fel fy etholwr i aros am bum wythnos am arian sy'n ddyledus iddyn nhw yn y sefyllfa hon; ac a fydd arian ychwanegol ar gael i awdurdodau lleol i ganiatáu iddyn nhw gyflymu ceisiadau pobl i gael prydau ysgol am ddim a hefyd i dalu am y prydau ychwanegol y byddai angen eu rhoi ar gael?

10:40

Dirprwy Lywydd, diolchaf i Dawn Bowden am y cwestiynau yna. Diolch am yr hyn a ddywedodd ar y cychwyn am y llif gwybodaeth gan Lywodraeth Cymru. Nid yw Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa wahanol i unrhyw sefydliad arall; mae gennym ni niferoedd sylweddol o bobl nad ydyn nhw'n gweithio oherwydd salwch neu hunan-ynysu ac rydym ni'n sefydlu polisi gweithio o gartref llym iawn, felly weithiau, mae'r gwaith o gael yr wybodaeth honno allan yn disgyn ar ychydig iawn o ysgwyddau ac mae pobl yn gweithio'n galed iawn, a gwn ein bod ni weithiau'n gorfod gweithio hyd yn oed yn galetach i ddal i fyny oherwydd bod y sefyllfa yn newid yn gyflym, ond rwy'n ddiolchgar i Dawn am yr hyn a ddywedodd am ddefnyddioldeb hynny.

O ran archfarchnadoedd a diogelwch, rwy'n sicr bod pethau y gallwn ni eu dysgu oddi wrth leoedd eraill. Mae archfarchnadoedd yn recriwtio staff diogelwch ychwanegol, mae rhai archfarchnadoedd eisoes wedi sefydlu system unffordd o amgylch y siop. Siaradasom ddoe â Llywodraethau eraill y DU am fesurau y gallem ni eu rhoi ar waith, a cheir pwerau y gallem ni eu defnyddio yng Nghymru pe byddai'r sefyllfa'n gwneud hynny yn ofynnol.

Diflannodd gwerth biliwn o bunnoedd o fwyd y tu hwnt i'r gwerthiant arferol oddi ar silffoedd ledled y Deyrnas Unedig yr wythnos diwethaf ac mae bellach yn eistedd yng nghypyrddau bwyd pobl, ac mae'n rhaid mai'r cyngor i bobl yw dechrau ei fwyta, oherwydd nid oes angen parhau i ychwanegu ato. Mae'r sector yn gwbl eglur: mae digon o fwyd yn y system. Nid y cyflenwad yw'r broblem. Y broblem yw'r ffordd y mae pobl—yn ddealladwy, nid wyf i'n bod yn feirniadol o bobl—y ffordd y mae pobl wedi ymateb i'r pryder y maen nhw'n ei deimlo. Ond os gall pobl gadw'r ddysgl yn fwy gwastad, gall archfarchnadoedd wneud y pethau y maen nhw'n dweud y gallan nhw eu gwneud, yna hyd yn hyn, rydym ni'n credu y gellir sefydlogi'r sefyllfa ac nid oes angen i bobl boeni na fydd digon o fwyd yn y system: mae'r bwyd yno.

O ran credyd cynhwysol, mae'r Adran Gwaith a Phensiynau, rwy'n gwybod, wedi cael ei heffeithio'n wael iawn gan bobl yn hunan-ynysu a phobl yn sâl. Mae ganddyn nhw gynnydd enfawr i nifer y bobl sydd allan o waith ac angen gwneud hawliadau, a llai o bobl i ymateb iddyn nhw. Fe'n hysbyswyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol yn yr Adran Gwaith a Phensiynau ddoe eu bod nhw'n gweithio i gael gwared ar rywfaint o'r cymhlethdod yn y system i'w gwneud yn haws ac yn gyflymach. Rwy'n apelio eto i Lywodraeth y DU gefnu ar y cyfnod aros o bum wythnos am gredyd cynhwysol. Dyna'r rhwystr unigol mwyaf sy'n wynebu pobl; y ffaith y bydd yn rhaid i chi ddal i aros am bum wythnos, hyd yn oed pan eich bod chi wedi llwyddo i frwydro eich ffordd drwy'r system, ac nid yw pobl yn yr argyfwng presennol mewn sefyllfa i wneud hynny. Felly dywedaf eto, fel y dywedais ddoe wrth yr Ysgrifennydd Gwladol, 'Rwy'n erfyn arnoch chi i newid y rheol honno.'

O ran prydau ysgol am ddim, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru £7 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer awdurdodau lleol ddydd Gwener i'w helpu i ymdopi â'r nifer gynyddol o fyfyrwyr sy'n dod drwy'r drws gyda phrydau ysgol am ddim. Gadewch i mi fod yn eglur gydag awdurdodau lleol: mae prydau ysgol am ddim yn hawl. Os yw plentyn yn bodloni'r rheolau, mae'r plentyn yn cael pryd ysgol am ddim, ac nid oes unrhyw allu i ddogni lle mae'n rhaid i awdurdodau lleol ddewis rhwng plant yn y sefyllfa honno. Wrth gwrs, rwy'n deall pryderon awdurdodau lleol sy'n wynebu biliau y maen nhw'n poeni am sut y gallen nhw eu talu—dyna pam y cyhoeddwyd y £7 miliwn ychwanegol gennym ni—ond y plentyn yw'r peth pwysicaf yn y sefyllfa honno. Os oes gan blentyn hawl erbyn hyn i gael cinio ysgol am ddim lle nad oedd ganddo tan yn ddiweddar, mae'n rhaid i ni wneud yn siŵr ei fod yn ei gael.  

10:45

Diolch am eich datganiad, Prif Weinidog, a hefyd am yr holl wybodaeth yr ydych chi wedi ei rhoi i mi. Hoffwn hefyd gydymdeimlo â theulu a chyfeillion y rhai sydd wedi colli'r frwydr yn erbyn y clefyd ofnadwy hwn. Rwyf eisiau diolch ar fy rhan fy hun ac ar ran fy mhlaid i bawb sy'n peryglu eu bywydau er mwyn ein gwarchod rhag pandemig y coronafeirws.

Pwy a feddyliodd ychydig wythnosau yn ôl y byddem yn wynebu'r bygythiad ofnadwy hwn i fywyd ac yn rhoi rhwystrau ar ein cymdeithas gyfan? Cymerodd ychydig o fisoedd i'r coronafeirws newydd hwn heintio 100,000 o bobl ac ychydig wythnosau i heintio'r 100,000 nesaf o bobl, ac ychydig o ddyddiau i ledaenu i'r 100,000 nesaf. Nid ydym yn gwybod llawer iawn am y feirws SARS-CoV-2, ond rydym ni yn gwybod ei fod yn hynod heintus ac yn farwol iawn, ac yn llawer mwy marwol na ffliw tymhorol sy'n lladd bron i 0.5 biliwn ledled y byd bob blwyddyn, ac mae gennym ni frechlyn ar gyfer y ffliw. 

Ar hyn o bryd, nid oes gennym ni driniaethau na brechlynnau ar gael ar gyfer y coronafeirws, a dyna pam fy mod i'n rhyfeddu bod pobl yn dal i anwybyddu'r holl rybuddion a'r holl gyngor meddygol. Felly, oni bai ein bod yn atal y lledaeniad, gallai COVID-19 ladd degau o filoedd o bobl yng Nghymru. Prif Weinidog, y cyngor gan bob un o'r pedair Llywodraeth yw aros gartref a mynd yn anaml i siopa am eitemau hanfodol, i ddiwallu unrhyw anghenion meddygol neu ofal, neu i deithio i'r gwaith lle bo hynny'n gwbl angenrheidiol. 

Prif Weinidog, mae llawer o ddryswch ynghylch gwaith hanfodol. Mae'n rhaid i'r canllawiau sy'n ymwneud â manwerthu, hamdden a lletygarwch fod yn glir iawn, ond mae llawer mwy o ddryswch o sectorau eraill. Mae gennyf etholwyr sy'n gosod ffenestri, er enghraifft, aseswyr hawliadau yswiriant a phobl sy'n gweithio mewn canolfannau galw sydd i gyd yn ddryslyd ynghylch a ddylen nhw fynd i'r gwaith. Felly, a all Llywodraeth Cymru roi canllawiau clir yng Nghymru o ran yr hyn sy'n cael ei ystyried yn waith hanfodol?

Nid gormodiaith yw dweud bod bywydau yn dibynnu ar bob un ohonom ni yn gwneud y peth iawn ac oni fyddwn yn cymryd camau pendant nawr, gallai'r pandemig hwn fynd yn hollol remp, a byddwn i gyd yn colli anwyliaid a phobl yr ydym yn eu hadnabod i'r lladdwr anweledig hwn.

Rydym ni hefyd yn rhoi straen aruthrol ar y rhai ar reng flaen y frwydr i reoli'r coronafeirws. Staff ein GIG—y meddygon, y nyrsys a'r rhai sy'n gweithio bob awr o'r dydd a'r nos—i achub y rheini sydd â phroblemau anadlu dybryd. Mae angen i bobl ddeall nad yw COVID-19 yn debyg i'r ffliw, ac er na ddylai pobl ddychryn, dylid eu gwneud yn fwy ymwybodol gyda manylion graffig am ddifrifoldeb y clefyd. Mae angen iddyn nhw wneud fel y cyfarwyddir: aros gartref os gallwch chi a chadw draw o bobl eraill. Mae angen i bob un ohonom ni wneud ein rhan i ysgafnhau'r baich ar y rhai sydd ar flaen y gad yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws. Prif Weinidog, beth yn rhagor allwn ni ei wneud i gynorthwyo meddygon a nyrsys, ar wahân i bob un ohonom ni gadw at y cyngor? Oni ddylem ni sicrhau y danfonir bwyd a hanfodion eraill at yr holl staff rheng flaen fel nad oes yn rhaid iddyn nhw frwydro mewn archfarchnadoedd ar ôl treulio 24 i 48 awr yn brwydro yn erbyn y coronafeirws?

Yn gwbl briodol, rydym ni'n canmol ein gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol am yr hyn y maen nhw'n ei wneud i'n cadw ni'n ddiogel yn ystod yr argyfwng iechyd cyhoeddus hwn, ond rhaid inni hefyd ddiolch i'r gweithwyr siopau, y gyrwyr cyflenwi a'r llu o fusnesau sydd hefyd yn sicrhau bod hanfodion bywyd yn dal ar gael i ni. Ond ni ddylem ni anghofio eich swyddogion a'r rheini ym mhob rhan o'r Llywodraeth sy'n gweithio nos a dydd i roi'r mesurau cymorth ar waith, felly diolch am hyn.

Mae'n rhaid dyfeisio polisïau yn y fan a'r lle wrth inni ymateb i sefyllfa sy'n newid yn gyson, ac mae'n hawdd beirniadu ond mae polisïau a wneir dan amgylchiadau o'r fath yn sicr o fod â phroblemau. Ni allwn ni osgoi diffygion, mae'n rhaid i ni sicrhau nad oes neb a dim busnes yn diffygio o'u herwydd. Caf fy llethu'n gyson gan alwadau gan berchenogion busnesau ynghylch eu dyfodol a'r trafferthion ariannol y maen nhw ynddyn nhw, y gwyddom na welon nhw rywbeth fel hyn erioed o'r blaen, ond mae'n bwysig rhoi tawelwch meddwl iddyn nhw ynglŷn â hyn.

Croesawaf y penderfyniad i ad-dalu tocynnau tymhorol i bobl yr effeithiwyd arnyn nhw gan y feirws a'r newyddion y caiff staff y GIG deithio am ddim ar drafnidiaeth gyhoeddus. Fodd bynnag, wrth i wasanaethau gael eu lleihau, yn enwedig ar drenau, mae'r gwasanaethau'n mynd yn orlawn, sy'n golygu bod pobl mewn mwy o berygl o ddal COVID-19. Felly, Prif Weinidog, a wnewch chi sicrhau bod gan wasanaethau trên Trafnidiaeth Cymru gerbydau ychwanegol i ganiatáu digon o le ar gyfer ymbellhau cymdeithasol, yn enwedig os yw staff y GIG am barhau i ddefnyddio'r gwasanaethau hyn? Yn anffodus, nid yw pob aelod o staff yn gallu gweithio o gartref, felly er y gellir lleihau'r galw ar gludiant cyhoeddus, ni ellir ei ddileu'n llwyr. Hyd at ychydig wythnosau'n ôl, roeddem yn annog pobl yn frwd i adael eu ceir a dal y trên neu'r bws. Nawr, cyngor y Llywodraeth yw osgoi trafnidiaeth gyhoeddus. Prif Weinidog, beth yn ychwanegol allwch chi ei wneud i sicrhau diogelwch y rhai nad oes ganddyn nhw ddewis ond dibynnu ar drafnidiaeth gyhoeddus? Mae gwasanaethau wedi'u lleihau ledled Cymru, ond 'does bosib na ddylem ni wneud beth bynnag a allwn ni i leihau gorlenwi, hyd yn oed os yw hynny'n golygu mwy o wasanaethau.

Gyda sectorau mawr o economi Cymru yn methu â gweithredu, a hynny'n gwbl briodol tra byddwn yn ymladd y feirws hwn, mae hyn yn gadael llawer o gyfleusterau a charfanau o'r gweithlu yn segur. Pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i ddod o hyd i ffyrdd eraill o ddefnyddio'r sectorau hyn i gynorthwyo yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws? Er enghraifft, a fyddwch yn annog bragwyr i gynhyrchu jel alcohol, ac a fydd y Llywodraeth yn cael gwared ar unrhyw rwymedigaethau treth ar gyfer cam o'r fath? A ydych chi wedi ystyried y rhan y gall y sector lletygarwch ei chwarae o ran cefnogi gweithwyr allweddol? Ategaf hefyd gais y Prif Weinidog ynghylch gorfod aros pum wythnos am gredyd cynhwysol.

Diolch, unwaith eto, Prif Weinidog. Os weithiwn ni gyda'n gilydd gan gadw pellter iach, gallwn guro'r clefyd hwn a dychwelyd i fyw yn ôl ein harfer yn y dyfodol gweddol agos. Diolch.

10:50

Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i Caroline Jones am hynna? Credaf iddi wneud sylw pwysig yn y dechrau am ba mor gyflym y mae ein bywyd ni wedi cael ei newid mewn ychydig wythnosau, ac nid yw'n syndod bod llawer o'n cyd-ddinasyddion yn ddryslyd o ganlyniad, a gwn fod niferoedd mawr ohonyn nhw yn troi at eu Haelodau yn y Senedd i chwilio am atebion. Pe cawn i ofyn dim ond un peth i'r Aelodau, sef i droi at y cyngor yr ydym ni wedi'i gyhoeddi'n barod i weld a yw'r atebion yn y fan yna. Os nad yw'r atebion ar gael, yna, wrth gwrs, dylai'r Aelodau gysylltu â'r Gweinidog perthnasol a gofyn am ragor o gyngor, ond gan ein bod yn rhoi cyngor drwy'r amser, credaf ei bod yn eithaf tebygol y bydd atebion i rai o'r cwestiynau hynny eisoes ac mai'r cyfan sydd angen ei wneud yw edrych amdanyn nhw fel y gall pobl gael yr wybodaeth orau.

Dirprwy Lywydd, rwyf eisiau dweud eto: bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael achos ysgafn iawn o'r salwch hwn. Y broblem yw, er nad oes symptomau gennych chi, gallech fod yn trosglwyddo'r feirws i rywun sydd yn llawer iawn mwy agored i niwed. Felly, y rheswm yr ydym ni'n gofyn i bobl aros gartref yw nid oherwydd ein bod yn credu y bydd llawer o bobl yn ddifrifol wael, ond oherwydd drwy aros gartref nid ydych yn peri'r risg honno i eraill a gallwn arafu lledaeniad y clefyd.

Mae llawer o enghreifftiau o sefydliadau ledled Cymru yn cynnig cymorth, gyda gweithwyr iechyd ac yn y sector gofal cymdeithasol hefyd. A gaf i ganmol y nifer fawr o aelodau o'r sector lletygarwch sydd wedi cynnig llety i weithwyr allweddol, fel nad oes yn rhaid iddyn nhw deithio pellteroedd i fynd adref ond yn gallu aros yn agos i'w lle gwaith, neu sy'n cysylltu â'r Llywodraeth i ddweud, 'Rydym ni wedi arfer â gweini bwyd. Rydym ni'n gwybod sut beth yw gofalu am bobl. Byddem yn barod i ddefnyddio'r sgiliau a'r galluoedd hynny at wasanaeth darparwyr gofal cymdeithasol yn y gymdogaeth hon, i'w helpu os nad yw eu staff ar gael'? Ac rydym ni'n gwneud ein gorau i fod yn ganolwyr rhwng y cynigion hynny a'r bobl yr ydym ni'n gwybod sydd ei angen.

A gaf i ddweud bod Caroline Jones wedi gwneud rhai sylwadau pwysig iawn am drafnidiaeth? Ac rydym yn parhau i drafod gyda Trafnidiaeth Cymru ynglŷn â chael y cydbwysedd yn iawn, a thrafodais hyn ddoe gyda Maer Llundain, lle wynebir materion tebyg mewn cysylltiad â gorlenwi tiwbiau. Mae gwasanaethau tiwbiau wedi gostwng i hanner yr hyn yr oedden nhw fel arfer, ac effaith hynny yw bod pobl yn agosach at ei gilydd yn y tiwbiau sy'n rhedeg, ac rydym yn ceisio dysgu gwersi gyda'n gilydd ledled y Deyrnas Unedig, mewn trafodaethau cyson â Thrafnidiaeth Cymru a chwmnïau bysiau, gan geisio cael y cydbwysedd cywir. Mae llai o deithwyr ar y bysiau a'r trenau, ond, serch hynny, mae arnom ni angen gwasanaethau digonol fel nad yw pobl yn gorfod bod yn rhy agos at eraill gan eu bod yn gorfod defnyddio'r gwasanaethau hynny sy'n rhedeg yn llai aml. 

10:55

Diolch. Fe welwch chi fod y cloc yn y darn coch, ond fe wnaf ymestyn hyn. Fodd bynnag, a gaf i ofyn yn garedig am un peth? Rydym ni wedi cael y pedwar prif siaradwr o'r pedair plaid sydd yma. A gaf i ofyn, os yw eich cwestiwn wedi'i ofyn, a wnewch chi beidio â'i ofyn, ac a wnewch chi geisio bod—byddaf yn ymestyn, fel y dywedaf, ond a wnewch chi geisio bod yn gryno? Felly, os gwelwch yn dda, dim areithiau hir cyn ichi ofyn eich cwestiynau. Yna, mae cyfle i glywed y datganiad gan Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedyn, fel y mae'r Prif Weinidog wedi dweud—os yw eich sylw yn ymwneud ag iechyd, a wnewch chi aros, ac fe wnaf yn siŵr fy mod yn gwneud fy ngorau i'ch galw bryd hynny? A chredaf —. Fel y dywedaf, byddaf yn ymestyn hyn, ond mae gan y Prif Weinidog bethau eraill ar y gweill sy'n golygu y bydd yn rhaid iddo adael a cheisio eu gwneud. Felly, gyda'r cerydd cwrtais yna—Alun Davies.

Roedd hynny'n garedig iawn, Dirprwy Lywydd. Prif Weinidog, credaf yr hoffai llawer ohonom ni adleisio'r diolchiadau o bob rhan o'r Siambr y bore yma i'r holl bobl hynny sy'n gweithio yn y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ac mewn rhannau eraill o'r sector cyhoeddus, yn sicrhau ein bod i gyd yn ddiogel ac y caiff ein teuluoedd eu cadw'n ddiogel, a hefyd i chi a'ch tîm o Weinidogion a swyddogion sydd wedi bod yn gweithio'n galed i sicrhau bod gan y gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus hynny yr adnoddau y mae eu hangen arnyn nhw i wneud eu gwaith.

O ran cyflawni'r polisi hwn, mae angen nifer o bethau gwahanol arnom ni. Mae angen i'r gyfraith fod yn ei lle a hynny mewn modd priodol, a byddwn yn gwneud hynny yn ddiweddarach heddiw. Mae angen yr adnoddau arnom ni i fod ar gael i bobl, a gwn fod Gweinidogion yn gwneud ymdrech fawr i sicrhau bod hynny'n digwydd. Ond mae angen i bobl deimlo hefyd y gallan nhw amddiffyn eu teulu drwy sicrhau eu bod yn dilyn y cyfarwyddiadau a'r cyngor gan y Llywodraeth, ond y gallan nhw hefyd fforddio gwneud hynny. Rwyf wedi cael negeseuon lu dros y dyddiau diwethaf gan etholwyr y dywedwyd wrthyn nhw gan eu rheolwyr a'u penaethiaid bod yn rhaid iddyn nhw fynd i'w gwaith, bod eu gwaith yn hanfodol, beth bynnag y mae'n digwydd bod. Mae angen eglurder er mwyn i bobl deimlo y gallan nhw ddweud wrth eu cyflogwyr nad ydyn nhw'n teimlo y gallan nhw wneud hynny. Ac mae angen i ni sicrhau bod cyflogwyr sy'n trin eu gweithlu felly yn cael gwybod yn glir iawn, iawn nad yw hynny'n dderbyniol mwyach. Felly, rwyf yn credu bod angen dadansoddiad clir iawn o'r hyn sy'n hanfodol a'r hyn nad yw'n hanfodol. 

Mae Aelodau eisoes wedi crybwyll y mater o bobl hunangyflogedig. Mae nifer o bobl hunangyflogedig yn fy etholaeth i ym Mlaenau Gwent sy'n arswydo rhag y rhagolygon am yr wythnosau nesaf a cholli eu hincwm i gyd. Mae angen inni allu sicrhau y caiff pobl hunangyflogedig eu hamddiffyn yn yr un ffordd â phobl sydd mewn gwaith cyflog.

Mae llawer o athrawon cyflenwi wedi cysylltu â mi hefyd sy'n pryderu am y sefyllfa y maen nhw'n ei hwynebu wrth gau ysgolion. Yn yr un modd, Prif Weinidog, wrth gwrs, ni chaiff llawer o fentrau cymdeithasol eu cwmpasu gan y cymorth a roddir i fusnesau, ac mae llawer o fentrau cymdeithasol yn fy etholaeth i, p'un a ydyn nhw'n fentrau cymdeithasol sy'n darparu gwasanaethau i etholwyr neu yn fentrau cymdeithasol fel clybiau gweithwyr a chanolfannau cymunedol, yn wynebu anawsterau dybryd iawn, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech chi amlinellu sut y gall Llywodraeth Cymru roi cymorth i'r bobl hynny, yr elusennau hynny a mudiadau trydydd sector ar hyn o bryd. 

Rydych chi eisoes y bore yma wedi ateb cwestiynau am gymorth i lywodraeth leol, a chredaf fod croeso cynnes iawn ledled y wlad i'r £7 miliwn a roddwyd er mwyn sicrhau bod digon o arian ar gael ar gyfer prydau ysgol am ddim. A bydd llawer ohonom yn ailadrodd y geiriau a ddywedoch chi yn gynharach fod prydau ysgol am ddim yn hawl, a'u bod yn rhywbeth y dylai pob plentyn sy'n gymwys elwa arnyn nhw. Ond mae problemau hefyd ynglŷn â'r adnoddau sydd gan lywodraeth leol. Mae fy awdurdod lleol i wedi dweud eu bod yn ei chael hi'n anodd cael gafael ar ddigon o gyfarpar diogelu personol, ac mae hynny'n rhywbeth sy'n poeni pob un ohonom ni yn fy marn i. Ond byddai modd helpu'r holl awdurdodau lleol, wrth gwrs, pe bai'r llywodraeth yn gwneud rhai pethau, fel cyflwyno taliadau'r grant cynnal refeniw ar unwaith i sicrhau bod llai o ddibyniaeth ar incwm y dreth gyngor, a hynny ar adeg pan fo llawer o bobl efallai yn ei chael hi'n anodd yn hynny o beth, a hefyd i gael cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, lle gall pobl sydd wedi colli eu hincwm dros y misoedd nesaf deimlo eu bod wedi'u diogelu mewn rhyw ffordd, fel bod ystod o gymorth ar gael i awdurdodau lleol, i'w galluogi i ymateb i'r heriau y maen nhw'n eu hwynebu.

Ac wrth gwrs, bydd rhai o'r bobl sydd fwyaf agored i niwed yn cael cymorth gan lywodraeth leol. Ac mae'n un o'r pethau sy'n fy mhoeni—ein bod wedi dweud wrth lawer o grwpiau sy'n agored i niwed, boed nhw'n bobl dros eu 70au, neu yn bobl sydd â chyflyrau iechyd hirsefydlog neu waelodol, y dylen nhw aros gartref. Mae hynny'n anodd, wrth gwrs, os na allan nhw gael bwyd wedi ei ddanfon o'r archfarchnad, neu os mai'r archfarchnadoedd—yn yr un modd ag y mae Dawn Bowden eisoes wedi ei amlinellu— yw'r fan lle mae'r torfeydd mwyaf yn crynhoi heddiw. Mae angen gweithredu ar frys i fynd i'r afael â'r mater ynghylch archfarchnadoedd ar hyn o bryd.

Ac, o ran gwybodaeth—fe wnaethoch chi ymateb i hyn yn gynharach—rwy'n pryderu'n ynghylch gallu'r BBC, a darlledwyr eraill, i fynegi'n effeithiol yr hyn sy'n digwydd drwy'r Deyrnas Unedig gyfan. Rwyf wedi gwrando ar nifer o ddarllediadau gwahanol, lle mae'r BBC, yn arbennig, wedi darlledu gwybodaeth sydd yn gwbl ac yn hollol anghywir, oherwydd ei fod yn canolbwyntio ar Loegr yn unig ac nid ar y Deyrnas Unedig yn ei chyfanrwydd. Mae hwn yn fater y cefais fy sicrhau gan y cyfarwyddwr cyffredinol presennol, pan oeddwn yn Weinidog â chyfrifoldeb dros bolisi darlledu, y byddai'n mynd i'r afael ag ef. Nid yw wedi mynd i'r afael ag ef, ac mae wedi methu â mynd i'r afael ag ef. Ac mae hynny'n rhywbeth sydd, yn yr argyfwng hwn, yn troi'n dipyn o argyfwng.

Yn olaf—ac i drethu'ch amynedd, Dirprwy Lywydd—rwyf wedi cael cwestiwn gan Jenny Rathbone, sy'n methu bod yma heddiw, gan ei bod hi'n hunanynysu, am bobl ddigartref yng nghanol Caerdydd. Mae yna nifer o bobl sy'n ddigartref yng nghanol y ddinas, ac mae hi'n bryderus iawn ynghylch eu diogelu nhw ar yr adeg hon hefyd. Rwy'n ddiolchgar.

11:00

A gaf i ddiolch i Alun Davies am y sylwadau hynny? Ac a gaf fi ddiolch iddo'n arbennig am y ffordd, dros y penwythnos, y gallodd roi gwybodaeth i mi, i'n helpu ni gyda'r penderfyniadau yr oeddem yn eu gwneud, ac i'w profi yn erbyn rhai o'r amgylchiadau ar lawr gwlad mewn rhannau o Gymru? Wrth gwrs, rhaid i gyflogwyr gadw at y rheolau. Gwelsom enghraifft yn gynharach heddiw o gwmni chwaraeon, mae'n debyg, yn credu ei fod yn wasanaeth hanfodol; rwy'n credu ei fod wedi ei berswadio yn y cyfamser nad yw hynny'n wir. Ond mae'r rheolau'n glir, ac ni ddylai unrhyw gyflogwr roi pwysau ar rywun nad yw'n weithiwr allweddol i ymddwyn fel petai yn un.

Cytunaf yn llwyr â'r sylw a wnaeth Alun Davies am yr hunan-gyflogedig. Mae'n annheg bod rhai pobl yn cael y diogelwch y mae Llywodraeth y DU wedi'i gynnig—ac rwy'n croesawu'n llwyr yr hyn a wnaeth y Canghellor yr wythnos diwethaf, drwy roi cymhorthdal cyflog i bobl sydd wedi'u cyflogi ond nad ydyn nhw'n gweithio am y tro. Mae arnom ni angen i'r hunangyflogedig gael math tebyg o warant. Mae ein cyd-Aelod, Jane Hutt, yn gweithio'n glos iawn gyda'r trydydd sector, a chyda mentrau cymdeithasol hefyd, i ddysgu am y problemau sy'n wynebu'r sector hwnnw, ac i weld pa gymorth arall y gallem ni ei gynnig iddyn nhw.

Cytunaf â'r hyn a ddywedodd yr Aelod dros Flaenau Gwent am bwysigrwydd llywodraeth leol, wrth gwrs. Mae'r grant cynnal refeniw ar gael—gall awdurdodau lleol ddibynnu ar hynny wrth drefnu eu harian. Yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud yw gweithio gyda nhw i symleiddio'r gyfundrefn grantiau'n sylweddol, fel ei bod yn haws i awdurdodau lleol symud arian rhwng gwahanol ffynonellau grant, ac i fod yn llai caeth nag y byddem fel arfer o ran defnyddio arian at ddibenion penodol, lle mae anghenion mwy brys na'r dibenion hynny. Ac rwy'n credu y bydd y penderfyniad a wnaeth y Cynulliad hwn ddegawd yn ôl, i gynnal system budd-dal y dreth gyngor yma yng Nghymru, yn sylfaen dda i ni. Ac eto, nid yw'n gynllun goddefol—mae elfen o hawl iddo. Os yw eich incwm yn hyn a hyn, a'ch bod yn cyrraedd y trothwy, byddwch yn cael help gyda'r dreth gyngor yma yng Nghymru.

Rwy'n pendroni dros y sylw a wnaeth Alun Davies am yr her o gyfathrebu, ac mae'n her, a chredaf fod darlledwyr lleol yn ymateb i'r her honno'n eithaf da y rhan fwyaf o'r amser. Pan ydych chi'n gwrnado ar ddarlledwr cenedlaethol ac yn ei glywed yn cyfeiliorni am y cyfrifoldebau, fel maen nhw wedi eu dosbarthu ar hyn o bryd ar draws y Deyrnas Unedig, rwy'n gwneud fy ngorau i beidio â gadael i fy mhwysedd gwaed godi. Ond, weithiau, maen nhw'n gwneud cawlach llwyr o bethau, ac, felly, yn camarwain pobl sy'n eu clywed nhw, fel ei bod yn anodd peidio â theimlo'n ddig yn ei gylch.

Yn olaf, o ran sylw Jenny, mae Caerdydd yn wynebu heriau penodol iawn o ran ei phoblogaeth ddigartref yn y cyd-destun hwn. Dyna pam y gwnaethom ni gyhoeddi'r £10 miliwn yn gynnar i'w cynorthwyo i wneud hynny. Gwn fod gan yr awdurdod lleol gynlluniau; maen nhw wedi dynodi adeiladau newydd y maen nhw'n gobeithio y gallan nhw eu defnyddio'n gyflym i helpu'r boblogaeth honno. Ond, o ystyried natur y feirws, pa mor agored i niwed yw'r boblogaeth a'r anhawster sy'n bodoli weithiau i ddarparu cymorth mewn ffordd y gallan nhw dderbyn y cymorth hwnnw, rwy'n gwybod bod pob awdurdod lleol yn gwneud ei orau i ymateb i amgylchiadau cymhleth a beichus iawn.  

11:05

Diolch. Rwy'n mynd i orffen y datganiad hwn erbyn 11:15, felly rwy'n credu y gallaf gynnwys pedwar siaradwr arall, fwy na thebyg, er tegwch i'r Prif Weinidog ac i'r siaradwyr hynny. Felly, y bobl rwy'n bwriadu eu galw fydd Russell George, Neil McEvoy, Neil Hamilton a Hefin David. Y rhai ohonoch chi sydd ar y rhestr i siarad, gwnaf fy ngorau i'ch rhoi ar ben y rhestr ar y datganiad nesaf, neu hyd yn oed ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol. Felly, Russell George.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Byddaf mor gyflym ag y gallaf yn holi fy nghwestiynau. Ac a gaf i yn gyntaf ddweud, Prif Weinidog, fy mod yn hapus iawn i weithio'n adeiladol iawn gyda'ch Gweinidogion cyllid a busnes ac economi mewn ffordd adeiladol i helpu i gefnogi economi busnes Cymru? Ac rwy'n mawr obeithio bod eich cyd-Aelodau yn gwrando—rwy'n siŵr eu bod—ar y materion yr wyf yn eu codi heddiw, oherwydd os na allwch chi ateb y cwestiynau a mynd i'r afael â nhw, yr wyf yn deall ac yn derbyn yn llwyr, yna gobeithiaf y gallan nhw roi sylw i'r rhain, efallai mewn datganiad ysgrifenedig.  

Fe wnaethoch chi gyfeirio at Busnes Cymru fel siop un stop yr wythnos diwethaf, ac roeddwn yn falch iawn o glywed eich ateb i Paul Davies yn gynharach fod 21 o staff ychwanegol wedi'u rhoi ar y llinell ffôn honno bellach. A gaf i ofyn, Prif Weinidog, o ran y wefan, a ydych yn gwbl sicr mai dyna'r wybodaeth ddiweddaraf? Sylweddolaf y bydd rhywfaint o oedi wrth roi gwybodaeth Llywodraeth y DU arni, efallai, ond a ydych chi'n sicr o hynny? Oherwydd, os yw hynny'n hen, mewn unrhyw ffordd, mae hynny'n rhoi pwysau, wrth gwrs, ar y llinell ffôn ac ar swyddfeydd Aelodau'r Cynulliad, ac ati. Felly, byddai cadarnhad o hynny yn cael ei werthfawrogi.

Ac a gaf i ofyn hefyd, o ran y grantiau sydd ar gael i fusnesau bach? Grant £10,000 i fusnesau sydd â gwerth ardrethol o dan £12,000 ac yna £25,000 rhwng £12,000 a £51,000 yn fras; a gaf i ofyn pwy sy'n gweinyddu hynny, pryd y maen nhw yn ei weinyddu a sut y maen nhw yn ei weinyddu? Ai'r awdurdodau lleol sy'n gwneud? Rwy'n tybio hynny, ond efallai y gallech chi roi rhywfaint o eglurder ynghylch hynny.

Ddoe, byddai llawer o fusnesau wedi cael cais am ardrethi busnes. Rwy'n siŵr y byddai'n ddefnyddiol pe baech chi'n dweud ar goedd y byddant, yn aml, wedi eu dosbarthu cyn i'r penderfyniadau hyn gael eu gwneud, a bydd hynny'n cynnig rhywfaint o dawelwch meddwl i fusnesau. Ond mae mwy o fanylion am hynny, megis, er enghraifft, safleoedd sydd wedi bod yn wag am chwe mis neu 12 mis. A fydd yn rhaid iddyn nhw dalu'r dreth? Byddai rhywfaint o eglurder ynghylch hynny, efallai, yn ddefnyddiol.

Hefyd, o ran ardrethi busnes, y rhyddhad, ac o ran y grantiau sydd ar gael, beth sy'n cyfrif fel busnes adwerthu neu fusnes hamdden neu letygarwch? Gwnaeth eich Gweinidog Cyllid ddatganiad yr wythnos diwethaf. A yw hynny'n cynnwys llety gwely a brecwast neu dai llety neu westai, er enghraifft? Felly, sut gall busnes ddarganfod ym mha ddosbarthiad y mae ynddo, o ran p'un a yw'n fusnes manwerthu ai peidio? Rwy'n siŵr bod hynny'n amrywio, ond pe gellid rhoi manylion gwefan ynghylch hynny, byddai'n ddefnyddiol iawn.  

Ac, ar hyn o bryd, dim ond i safleoedd busnes sydd â gwerth ardrethol o £51,000 y mae rhyddhad cymorth busnes yn berthnasol. Dydw i ddim yn meddwl bod hynny'n ddigon o bell ffordd. Credaf o ddifrif fod angen i hynny fod yn uwch, oherwydd ceir llawer o fusnesau bach a busnesau sy'n cael eu rhedeg gan deuluoedd sydd â gwerth ardrethol o dros £51,000. Felly, efallai y gallech chi roi sylw i'r mater hwnnw. Efallai y gwnaiff y Gweinidog busnes neu gyllid roi sylw i hynny yn y datganiad yn ddiweddarach heddiw, ond pe gellid mynd i'r afael â hynny—.

Hefyd, o ran yr hyn sy'n 'fusnes hanfodol', rwy'n siŵr bod pob Aelod Cynulliad o bob rhan o'r Siambr hon wedi cael negeseuon e-bost yn eu mewnflychau yn gofyn am gyngor. Credaf fod busnesau eisiau dilyn cyngor y Llywodraeth, ac maen nhw eisiau eglurder gennym ni, felly mae'r dehongliad hwnnw—sylweddolaf y gellid darllen datganiad, ond credaf fod angen rhestr, yn benodol, o beth yw busnes hanfodol. Er enghraifft, a yw busnes gweithgynhyrchu yn un? Mae'n dibynnu beth mae'n ei weithgynhyrchu. Ydy gweithiwr adeiladu sy'n gweithio ar ei ben ei hun, er enghraifft yn un?

A hefyd, a gaf i ofyn a oes gennych chi unrhyw fanylion ynghylch sut y caiff cynllun Llywodraeth y DU o ran y cynllun cadw swyddi ei ariannu? Sut y caiff hynny ei weinyddu, a sut y caiff hynny ei gyflwyno? Rwy'n sylweddoli nad yw hynny yn gyfrifoldeb i chi yn llwyr, ond byddai manylion am hynny o gymorth.

Hefyd, o ran cyngor a chraffu ar Weinidogion, ond mwy o ran cyngor, a fyddech yn fodlon bod Aelodau'r Cynulliad yn cael sgyrsiau ffôn gyda Gweinidogion, efallai gyda gweision sifil ar ffurf cynadledda, oherwydd credaf fod angen inni gael cyngor—nid craffu, ond cyngor. A hefyd, a wnewch chi ystyried rhoi rhifau ffôn gweision sifil yn uniongyrchol i Aelodau'r Cynulliad yn yr amser penodol hwn, i dynnu'r pwysau oddi ar Weinidogion i gael atebion i gwestiynau y gwyddom sy'n dod ger ein bron?

Yn olaf, ynghylch mater cysylltiedig, aeth cwmni Laura Ashley yn fy etholaeth i i ddwylo'r gweinyddwyr yr wythnos diwethaf. Fel arfer, byddai hyn yn bennawd newyddion blaenllaw, ond yn amlwg nid yw, mae pethau pwysicach, ond, mae rhwng 500 a 600 o bobl wedi eu cyflogi yn y Drenewydd a'r ardal. Yn amlwg, mae llawer o deuluoedd yn cael eu cyflogi gan Laura Ashley gyda'i gilydd—cyflogir y teulu cyfan weithiau—a tybed pa drafodaethau ydych chi efallai wedi'u cael gyda'r cwmni. A ydych chi wedi bod yn rhan o'r broses, a yw Llywodraeth Cymru wedi bod yn gysylltiedig â dod o hyd i brynwr? A pha gymorth fydd ar gael i'r staff hynny yr effeithir arnyn nhw? Diolch yn fawr, Llywydd.

11:10

Fe wnaf i wirio'r pwynt am wefan Busnes Cymru. Wrth gwrs, rydym yn gwneud ein gorau i'w chadw'n gyfredol. Mae nifer enfawr—miloedd ar filoedd—wedi ymweld â hi dros yr wythnos ddiwethaf, ac mae'n un o'r prif ffyrdd i ni gael gwybodaeth at bobl. Felly, byddaf yn gwneud yn siŵr ei bod yn—. Wel, dof â hyn i sylw Ken Skates a fydd yn gwneud hynny.

Sut yr ydym yn cael yr arian i gwmnïau, mae'r trefniadau gweinyddu'n dal i gael eu cwblhau. Rwy'n gwybod ei fod yn rhwystredig, ond mae'n rhaid i mi ailadrodd, mewn ffordd, y sylw a wneuthum yr wythnos diwethaf sef, er ein bod mor awyddus ag y gallwn ni fod i gael yr arian i bobl, yn y pen draw, arian cyhoeddus ydyw, ac ni allwch chi ysgrifennu siec i bobl am £25,000 dim ond oherwydd iddyn nhw ofyn am hynny. Felly, mae'n rhaid cael rhywfaint o weinyddiaeth sylfaenol er mwyn inni allu bod yn siŵr, pan fydd hyn ar ben, y gallwn ni roi cyfrif priodol am y ffordd y cafodd yr arian ei ddosbarthu.

Wrth gwrs, mae Russell George yn iawn, mae digwyddiadau wedi dod ar draws y ceisiadau ardrethi busnes sydd wedi glanio ar fatiau pobl, nid ydynt yn berthnasol bellach a bydd pobl yn gwybod hynny. Nid wyf yn sicr a oes gennyf yr un ffigurau ag yntau am y £51,000 yng Nghymru, a nifer y busnesau sydd mewn gwirionedd yn uwch na hynny, ac rydym yn rhoi rhywfaint o arian rhyddhad ardrethi dewisol ychwanegol i awdurdodau lleol fel y bydd busnesau nad ydynt yn cydymffurfio'n union â'r rheolau arferol, fel y gall bobl sy'n adnabod yr ardal ac sy'n deall pam y gallai fod angen help ar y busnes hwnnw, wneud y penderfyniad hwnnw. Siaradaf â'm cyd-Weinidogion yn y Cabinet, ac mae Russell George yn llygad ei le; bydd fy nghydweithwyr yn y Cabinet yn gwrando ar y trafodion ac mae cyfarfod yn y Cabinet ar ôl i'r sesiwn hon ddod i ben, felly byddaf yn holi ynghylch y ffordd orau i Aelodau'r Cynulliad gael cyngor.

Yn olaf, a gaf i fynegi ein cydymdeimlad llwyr â gweithwyr Laura Ashley? Fel y dywedodd Russell George, ar unrhyw adeg arall byddem yn treulio llawer o'n hamser yn siarad am hynny, ac mae Llywodraeth Cymru yn ymwneud yn agos iawn â'r sefyllfa honno, yn enwedig mewn cysylltiad â phrynwr arall, a'r hyn y gallai prynwr o'r fath fod eisiau ei wneud â'r busnes hwnnw a sut y byddai'n effeithio ar gyflogaeth yn y Drenewydd, yn benodol. Felly, rydym yn canolbwyntio ar y dyfodol ac yn ceisio gwneud yn siŵr, lle mae cyfleoedd, bod y busnes hwnnw'n parhau ar ffurf wahanol, ac o dan drefniadau gwahanol, a byddwn yn gwneud ein gorau i gefnogi hynny ac i gyflawni hynny ar gyfer pobl y rhan honno o Gymru.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch am eich datganiad, Prif Weinidog, a gobeithiaf fod eich teulu a'ch anwyliaid i gyd yn iawn. Mae Sefydliad Iechyd y Byd wedi bod yn glir iawn, ac maen nhw'n dweud mai'r hyn y mae angen i ni ei wneud yw profi, profi, profi. Dywedant fod angen inni brofi pob achos posib o'r coronafeirws gan eu bod yn dweud wrthym fod methu â phrofi fel ceisio diffodd tân â mwgwd dros ein llygaid.

Nawr, rwyf wedi bod yn eistedd wedi fy ynysu am bythefnos ac, yn y pen draw, llwyddais i gael prawf gan gwmni preifat ac roedd yn dangos nad yw'r coronafeirws arna i. Mae fy nhad newydd gael llawdriniaeth ar y galon, felly roedd fy mam yn hynod falch o glywed hynny, gyda'r pryder y byddwn i efallai wedi trosglwyddo rhywbeth. Erbyn hyn, mae llawer o deuluoedd yn y sefyllfa hon. Felly, credaf y dylai profion fod ar gael yn rhwydd i bob achos tybiedig, yn enwedig i weithwyr allweddol, ac yn enwedig i weithwyr allweddol y mae eu teulu'n amlygu symptomau ac, o ganlyniad, y mae gweithwyr y GIG ar hyn o bryd yn ynysu eu hunain oherwydd na ellir profi aelodau o'u teulu. Os gallwn ni brofi, yna gallwn gael yr economi yn ôl ar ei thraed, cadw'r gwasanaethau rheng flaen i fynd a diogelu pobl yn y GIG, sy'n bobl ddewr iawn, iawn, yn rhoi eu diogelwch eu hunain yn y fantol, yn gwneud gwaith arwrol dros bob un ohonom ni yn y fan yma.

Dywed Sefydliad Iechyd y Byd fod profi'n rhan sylfaenol o ymladd y pandemig oherwydd mae angen inni wybod ble mae'r feirws os ydym ni am ei ymladd. Gall y pecynnau profi fod ar gael yn hawdd, ond maen nhw'n dal yn rhai anodd iawn i gael gafael arnyn nhw. Does dim rhaid iddi fod fel yna. Felly, beth fyddwch yn ei wneud i sicrhau bod yr holl achosion tybiedig o'r coronafeirws yn cael eu profi? Oherwydd dyma y mae Sefydliad Iechyd y Byd yn galw amdano. Felly, fy rhan gyntaf o'r cyfraniad yw: a fyddwch chi'n gwrando ar Sefydliad Iechyd y Byd ac yn dilyn cyngor ac yn gweithredu i sicrhau bod pob achos tybiedig yn cael ei brofi?

Yn ail, rwyf eisiau codi'r mater o bobl sydd wedi'u dal dramor. Rwyf wedi derbyn negeseuon gan bobl, wrth i mi eistedd yn y fan yma, yn Awstralia. Mae etholwyr yn y Gambia, mae etholwyr yn dal i fod ym Mheriw, ac mae'n ymddangos bod syrthni o ran Llywodraeth y DU. Felly, beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud? A wnaiff Llywodraeth Cymru ysgwyddo'r cyfrifoldeb a chefnogi ein pobl sy'n gaeth dramor? Mae rhai pobl yn brin o feddyginiaeth hefyd. Bydd angen meddyginiaeth arnyn nhw yn fuan iawn, gan nad oedden nhw'n bwriadu aros mor hir. Felly, o ran y rhai sydd wedi'u dal dramor, beth fydd Llywodraeth Cymru yn ei wneud dan yr amgylchiadau? Diolch yn fawr.

11:15

Dirprwy Lywydd, hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei ddymuniadau da personol ar y dechrau, ac mae'n dda iawn gwybod bod ei brawf ei hun wedi bod yn negyddol a'i fod yn gallu bod yma y bore yma.

Ynghylch y busnes o brofi, wrth gwrs rydym ni'n ymwybodol o gyngor Sefydliad Iechyd y Byd, ond caiff y cyngor hwnnw ei gyfryngu ar ein cyfer gan y pedwar prif swyddog meddygol a chan y grŵp ymgynghorol gwyddonol, oherwydd mae Sefydliad Iechyd y Byd, mae'n gorff byd-eang, mae ei gyngor yn berthnasol i nifer helaeth o wledydd ac mae'n rhaid ei ddehongli wedyn yn y cyd-destun lleol. Ac rydym yn profi hynny'n rheolaidd gyda'r bobl sy'n ein cynghori. Maen nhw'n gwbl ymwybodol o gyngor Sefydliad Iechyd y Byd ac maen nhw'n gwneud yn siŵr eu bod nhw'n rhoi'r cyngor gorau i ni o ran sut y gall yr hyn y mae Sefydliad Iechyd y Byd yn ei ddweud weithio yn y cyd-destun lleol. Bydd fy nghyd-Aelod Vaughan Gething yn dweud mwy, rwy'n siŵr, pan fydd yn ateb cwestiynau, am y cynnydd cyflym yn nifer y profion y byddwn yn gallu eu cynnal yma yng Nghymru, ac, yn arbennig, ynghylch sylw a wnaeth Neil McEvoy, sut y gallwn ni wneud yn siŵr bod y bobl hynny sydd ar y rheng flaen ac na allan nhw weithio oherwydd eu bod yn ynysu eu hunain—sut y gallwn ni gyflymu eu dychweliad i'r gweithle.

Rwy'n ymwybodol iawn o'r sylwadau a wnaeth yr Aelod am bobl sydd dramor. Rwy'n siŵr y bydd pob un ohonom ni'n clywed gan deuluoedd yn ein hetholaethau sydd yn y sefyllfa honno. Yn ôl a ddeallaf, mae'r sefyllfa ym Mheriw wedi'i datrys a phobl yn cael eu cludo adref. Yr hyn yr ydym ni, y Llywodraeth, yn ei wneud, yw sicrhau bod y Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn ymwybodol o amgylchiadau dinasyddion Cymru ac yn gwybod amdanyn nhw. Nid oes gennym ni, Llywodraeth Cymru, fodd sy'n caniatáu inni negodi'n uniongyrchol â llywodraethau tramor eraill—dim ond â sefydliad gwladwriaethol y byddant yn ymdrin. Ond gwnawn yn siŵr ein bod yn casglu gwybodaeth y mae Aelodau yn ei throsglwyddo i ni ac yna'n eiriol ar ran dinasyddion Cymru gyda'r rhai sydd â'r gallu i wneud y penderfyniadau hynny a'u gwneud mewn ffordd sy'n rhoi'r cymorth sydd ei ddirfawr angen ar bobl sydd wedi'u dal mewn mannau eraill.

11:20

A gaf i ganmol Llywodraeth Cymru hefyd am ei rhan adeiladol yn y glymblaid genedlaethol hon a ffurfiwyd i ymdopi â chlefyd y coronafeirws, ac yn y pen draw, ei drechu? Wrth ateb Dawn Bowden yn gynharach, anogodd y Prif Weinidog bobl i roi'r gorau i brynu ac i ddechrau bwyta. A gaf i hefyd ei annog i roi neges arall ar led: dechreuwch dyfu? Mae gennym ni ddiffyg enfawr yn y wlad hon o ran tyfu ffrwythau a llysiau. Rydym yn mewnforio llawer o dramor y gallem eu tyfu yn dda iawn ein hunain, ac, yn nhywydd godidog y gwanwyn, dyma'r cyfle perffaith i bobl ymarfer corff nid drwy redeg y tu allan i'w hardaloedd eu hunain, ond mewn gwirionedd yn yr ardd ei hun. Rwyf wedi bod yn palu'r ardd dros y penwythnos, ac rwy'n teimlo'n llawer gwell ar ôl gwneud hynny. Rwy'n credu y gallai hyn fod, mewn sawl ffordd, yn fuddiol i'r wlad, nid yn unig ar gyfer ei hiechyd corfforol, ond hefyd ei hiechyd ysbrydol hefyd. Yn ystod yr wythnosau nesaf, pan fydd pobl yn gaeth yn eu cartrefi am gyfnod hwy o lawer nag y maen nhw wedi arfer ag ef, gallai hyn fod yn ffordd ddefnyddiol iawn o ddiddori eu hunain ac osgoi rhai o'r agweddau gwaethaf ar unigedd cymdeithasol.

Mae Neil Hamilton yn gwneud sylw pwysig am iechyd meddwl a lles, ac rydym yn pryderu'n fawr am yr agwedd honno o'r cyngor yr ydym yn gofyn i bobl ei ddilyn nawr, a dyna pam y mae pobl yn cael eu hannog i ymarfer corff bob dydd. Mae gennyf uchelgais, Dirprwy Lywydd, i ddefnyddio fy un cyfle i ymarfer corff i seiclo i'm rhandir. Rwyf wedi bod yn edrych ar fy mhacedi o hadau i weld beth yw'r llysiau sy'n tyfu gyflymaf, oherwydd, er ei fod yn dda i mi, a fy mod i'n ei fwynhau'n fawr, ni fyddaf yn gallu dibynnu ar hynny fel ffynhonnell fwyd dros yr wythnosau i ddod. Ond mae'r sylw mae Neil Hamilton yn ei wneud am bobl sy'n defnyddio'r cyfleoedd sydd ganddyn nhw, lle maen nhw ar gael iddyn nhw, i wneud pethau sy'n therapiwtig i chi o ran llesiant yn sylw da.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwyf eisiau diolch i bobl Caerffili am y cwestiynau y maen nhw wedi'u hanfon ataf ar fy nhudalen Facebook, ac mae llawer iawn o'r cwestiynau y maen nhw wedi'u gofyn wedi'u hateb, ond rwyf eisiau canolbwyntio'n benodol ar y rhai nad ydyn nhw wedi eu hateb. Yn gyntaf, rwyf wedi cael fy holi am leoliadau addysg a chymorth i blant ag anghenion dysgu ychwanegol. I'r plant hynny sydd ag anghenion dysgu arbennig o anodd y mae angen cymorth ychwanegol arnynt, gallai datganiad y Gweinidog addysg fod wedi rhoi ychydig mwy o gig ar yr asgwrn. Felly, a gawn ni ragor o wybodaeth am y cymorth sydd ar gael i blant ag anghenion dysgu ychwanegol?

O ran plant gweithwyr allweddol, rwyf wedi cael cwestiwn penodol gan breswylydd sy'n dweud: os yw'r ddau riant yn weithwyr allweddol gyda phlant o dan oedran ysgol, a all y plentyn gael ei gludo at berthynas nad yw'n agored i niwed i ddarparu gofal plant, neu a all y perthynas deithio i dŷ i gefnogi'r gweithwyr allweddol hynny i ddarparu gofal plant os na allan nhw fynd â'u plentyn i leoliad gofal plant, er enghraifft?

Mae'r cwestiwn arall a gefais yn un gan breswylydd sy'n rhedeg tudalen Facebook o'r enw Cymorth Coronafeirws Caerffili. Mae hi wedi bod yn wirfoddolwr gwych, ac mae gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili gronfa ddata o wirfoddolwyr sydd wedi bod yn dymuno helpu'r bobl hynny yn y gymuned nad ydynt yn cael unrhyw gymorth teuluol, am nad oes ganddyn nhw deulu, na chan gymdogion, oherwydd efallai eu bod yn ynysig. Mae'r gwirfoddolwyr hynny'n dal i fod eisiau gwirfoddoli. O gofio bod gan Gyngor Caerffili y gronfa ddata honno, sut allan nhw wirfoddoli, os o gwbl?

Rwyf wedi cael cwestiynau am y trenau a'r ffaith fod y trenau'n orlawn ddoe. Rwy'n amau y bydd gorlenwi'n lleihau, ond un mater yw nad yw gweithwyr gofal iechyd sy'n teithio i Ysbyty'r Waun yn gallu cyrraedd yno am 8 o'r gloch, gan fod y trenau cyntaf yn teithio ar reilffordd Rhymni o 08:15, ac roedd problem ynghylch hynny.

Mae nifer o bobl wedi codi cwestiwn ynglŷn â chael MOT er mwyn cadw eu ceir ar y ffordd, ac rwy'n deall bod gan fodurdai yr hawl i aros ar agor. A oes gan bobl yr hawl i ddefnyddio'r modurdai i gael eu MOT er mwyn gallu teithio?

Yn olaf, rwyf wedi cael cwestiwn am newyddiaduraeth gymunedol. Mae'r Caerphilly Observer yn derbyn £24,000 gan Gronfa newyddiaduraeth gymunedol Llywodraeth Cymru. Mae newyddiaduraeth leol a chymunedol yn hynod o bwysig. A wnewch chi sicrhau y caiff unrhyw gyllid refeniw a gaiff ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru ei ddosbarthu'n deg ac yn gyfartal rhwng y rhwydwaith newyddion cymunedol annibynnol lleol a pherthnasol o sefydliadau gweisg newyddiadurwyr cymunedol yng Nghymru? Ac a ellir dosbarthu'r hyn o arian sy'n weddill yn y gronfa yn gyflym nawr i gefnogi'r sefydliadau newyddiaduraeth hynny, gan ei bod yn segur ar hyn o bryd a neb yn medru ei defnyddio. 

11:25

Dirprwy Lywydd, diolch i Hefin David am y cwestiynau yna. Byddaf yn codi'r pwyntiau olaf am newyddiaduraeth gymunedol gyda'r Gweinidog sy'n gyfrifol.

Fy nealltwriaeth i ynghylch pobl sydd angen mynd â cheir i garejys yw eu bod yn gallu gwneud hynny. Felly, ni ddylai pobl yrru ceir nad ydyn nhw yn ddiogel na rhai heb MOT.

Y cwestiwn penodol ynglŷn â phan fo dau o bobl yn weithwyr allweddol a bod ganddyn nhw blentyn y gall rhywun arall ofalu amdano—rwy'n credu eu bod wedi'u cynnwys yn y rheolau, ac y caniateir i'r plentyn hwnnw gael ei gludo at y sawl a fydd yn gofalu amdano. Mae hynny o fewn y cyhoeddiad ddoe.

O ran gwirfoddolwyr, wrth gwrs byddwn eisiau i bobl barhau i wirfoddoli. Un o'r rhesymau pam y caiff pobl adael eu cartrefi yw er mwyn helpu rhywun sy'n agored i niwed, a byddwn yn dibynnu ar wirfoddolwyr, yn enwedig i helpu'r bobl hynny y mae angen eu hynysu am wythnosau lawer, i'n helpu ni gyda'r ymdrech honno, ac rwy'n credu bod awdurdodau lleol yn gwneud gwaith gwych wrth weithredu fel canolwyr rhwng y rhai sydd angen y cymorth a'r bobl hynny, y bobl hael iawn hynny mewn niferoedd mawr, sy'n cynnig cymorth.

Yn olaf, o ran plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, mae fy nghyd-Aelod Kirsty Williams yn dal i drafod gydag awdurdodau lleol ynghylch ysgolion arbennig. Os oes gan blant salwch corfforol neu gyflwr corfforol sy'n eu gwneud yn agored i niwed, dylent aros gartref, ond gwyddom nad yw ysgolion arbennig a phlant ag anghenion ychwanegol bob amser yn bobl sydd â phroblemau corfforol, a'r ysgol yn aml yw'r graig gadarn y trefnir eu bywyd o'i hamgylch a rhythm y diwrnod ysgol yw'r hyn sy'n rhoi synnwyr o drefn yn eu bywyd. Rydym ni'n siarad â'n cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol i sicrhau bod y plant hynny sydd angen y math hwnnw o gymorth yn parhau i'w gael.

8. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Coronafeirws (COVID-19)

Symudwn yn awr at eitem 8, sef datganiad y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y coronafeirws, COVID-19. Y Gweinidog Iechyd.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rydym eisoes wedi clywed y Prif Weinidog yn amlinellu'r ystod o fesurau eithriadol y mae pedair Llywodraeth y DU wedi'u cymryd yn ystod y dyddiau diwethaf—mesurau a fu'n angenrheidiol i ymateb i ddifrifoldeb y sefyllfa hon, gan fod hwn yn argyfwng iechyd cyhoeddus. Fy mhrif flaenoriaeth o hyd yw lleihau niwed uniongyrchol ac anuniongyrchol y coronafeirws, amddiffyn cymunedau a diogelu pobl agored i niwed, darparu gofal i gleifion, gofalu am fudd a lles ein gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol, a sicrhau bod ein system iechyd a gofal cymdeithasol mor barod ag y gall fod, wedi'i chyfarparu ac mor gydnerth ag y gall fod ar gyfer yr wythnosau i ddod. Yn y pen draw, diben clir popeth a wnaf yw achub cymaint o fywydau â phosib.

Yn ystod yr wythnos ddiwethaf, rydym ni wedi gweld cynnydd parhaus yn nifer yr achosion o'r coronafeirws a gadarnhawyd yng Nghymru. Yn anffodus, rydym ni wedi cael rhagor o farwolaethau, ac mae'n wir ddrwg gennyf fod unrhyw deulu wedi colli rhywun annwyl a hoffwn estyn fy nghydymdeimlad diffuant at bawb y mae hyn wedi effeithio arnyn nhw eisoes.

Rwy'n deall bod pobl yn poeni. Rwyf innau hefyd. Rwy'n deall bod pobl yn ceisio amddiffyn eu hunain a'u teuluoedd. Rwyf innau hefyd. Mae rhai pobl yn dewis cadw stôr o eitemau hanfodol neu'n ynysu eu hunain mewn ardaloedd mwy diarffordd i ffwrdd o'u cartref arferol. Rwy'n gofyn i bobl yn y cyfnod ansicr hwn i beidio â chynhyrfu, i fod yn feddylgar, i feddwl am eich teuluoedd, ac i feddwl am eraill hefyd. Mae'r holl gamau yr wyf yn eu cymryd gyda chyd-Aelodau yn Llywodraeth Cymru wedi'u cynllunio i'ch diogelu chi a'ch teuluoedd. Rwy'n cydnabod bod temtasiwn i brynu bwyd neu gynnyrch ychwanegol i ofalu am eich anwyliaid. Ond mae digon o fwyd i bawb os gwnawn ni siopa fel arfer heb gronni yn ormodol. Er fy mod yn deall y pryder sy'n arwain at gronni yn ormodol, mae'n brifo'r rhai mwyaf agored i niwed a'r bobl sydd â'r lleiaf o fodd. Mae hefyd yn brifo pobl na allan nhw o reidrwydd gyrraedd siopau'n gynnar. Fel y gwyddom ni, pobl yn ein gwasanaethau brys, ein gweithlu gofal cymdeithasol ac yn ein GIG yw'r rhain yn aml—yr union bobl yr ydym yn dibynnu arnyn nhw yn awr yn fwy nag erioed. Yn yr un modd, rydym yn cynllunio ein gwasanaethau iechyd yn seiliedig ar le mae pobl yn byw. Mae'n hynod bwysig i chi a'ch GIG eich bod yn mynd adref ac yn aros gartref.

Bydd yr wythnosau i ddod yn heriol a bydd y galwadau ar ein system iechyd a gofal yn parhau i gynyddu. Dyna pam y gweithredais ar fyrder i sicrhau bod ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol mor barod ag y gallant fod ar gyfer yr hyn sydd o'n blaenau.

Ein hymateb i'r argyfwng hwn oedd adeiladu ar ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, i gryfhau'r strwythurau sydd ar waith, ac i gyflwyno mwy o fesurau'n gyflym i gryfhau ein cydnerthedd. Er enghraifft: mae 111 a Galw Iechyd Cymru ar-lein wedi bod yn allweddol i ddarparu cyngor; mae datrysiadau digidol yn cael eu cyflwyno'n gyflym, megis y gallu i ddarparu ymgynghoriadau fideo ym maes gofal sylfaenol ac fel dewis arall yn lle apwyntiadau cleifion allanol; mae cryfhau'r byrddau partneriaeth rhanbarthol wedi eu rhoi mewn sefyllfa i ddarparu ymatebion iechyd a gofal cymdeithasol integredig i gymunedau lleol; mae sefydlu Addysg a Gwella Iechyd Cymru yn ein helpu i fynd i'r afael ag anghenion sylweddol y gweithlu.

Rwyf hefyd wedi gwneud penderfyniadau mwy anodd fel ein bod yn barod i ofalu am niferoedd ychwanegol o bobl sâl iawn i wneud yn siŵr ein bod yn gallu achub mwy o fywydau. Drwy leihau triniaethau dewisol nad ydynt yn rhai brys dros dro 10 diwrnod yn ôl, mae byrddau iechyd wedi cael amser i baratoi mewn ffordd fwy cynlluniedig a phwyllog. Mewn gwahanol ysbytai, gweithredwyd ar frys i gynyddu capasiti gofal critigol ac i adleoli a hyfforddi staff yn barod ar gyfer y galw cynyddol y disgwyliwn ei weld.

Ddoe, roedd tua 45 y cant o'r lleoedd mewn unedau gofal critigol yn cael eu defnyddio. Mae tua 15 y cant o'r cleifion naill ai'n achosion posibl o COVID-19 neu'n achosion sydd wedi'u cadarnhau. Mae gennym ni gynlluniau ar waith i ddyblu nifer y gwelyau gofal critigol yng Nghymru ar unwaith i ychydig dros 300. Mae gwaith helaeth yn cael ei wneud i gynyddu nifer y gwelyau â pheiriannau anadlu a all gael eu darparu yng Nghymru, gan gynnwys prynu dros 600 o beiriannau anadlu ychwanegol, ac rydym yn parhau i edrych ar ddewisiadau eraill ar frys.

Penderfynais drefnu yr wythnos diwethaf fod rhannau o ysbyty newydd Ysbyty Athrofaol y Grange ger Cwmbrân yn agor yn gynt na'r bwriad. Bydd hyn yn darparu 350 o welyau ysbyty ychwanegol erbyn diwedd mis Ebrill. Mae trafodaethau brys hefyd yn mynd rhagddynt gyda'r sector ysbytai preifat yng Nghymru i sicrhau capasiti ychwanegol.

Rwyf wedi cytuno i lacio trefniadau contract a monitro dros dro ar gyfer gweithwyr gofal sylfaenol er mwyn sicrhau diogelwch cleifion a staff. O fewn hynny, mae fferyllfeydd cymunedol yn parhau i fod yn y rheng flaen, a byddant hyd yn oed yn fwy pwysig o ran helpu i gefnogi grwpiau o bobl agored i niwed sydd wedi cael eu cynghori i hunanynysu am wythnosau i ddod.

Rwy'n gwybod y bu pryder eithaf dealladwy ynghylch pa mor hawdd oedd hi i gael gafael ar gyfarpar diogelu personol. Rwyf wedi gweithredu i wella'r trefniadau yng Nghymru ar gyfer diogelu ein staff iechyd a gofal rheng flaen sy'n gofalu am achosion posib o COVID-19 neu achosion sydd wedi'u cadarnhau.

Rwyf wedi awdurdodi ymgyrch sylweddol i ddarparu cyfarpar diogelu personol i'r saith bwrdd iechyd, gwasanaeth ambiwlans Cymru a Felindre. Er y dylai unrhyw un sy'n amau fod y coronafeirws arno aros gartref ac na ddylai ymweld â lleoliad gofal sylfaenol, fel mesur o ddiogelwch, mae cyfarpar diogelu personol wedi'u cyflenwi i bob clinig meddyg teulu, gwasanaethau y tu allan i oriau a fferyllfeydd. Mae gan wasanaethau gofal cymdeithasol ran hanfodol yn ein hymateb i COVID-19, ac rwyf wedi awdurdodi rhyddhau cyfarpar diogelu personol hefyd i'w defnyddio gan ddarparwyr gofal cymdeithasol. Mae cyflenwadau sylweddol wedi cyrraedd ddoe, ac fe gaiff llawer iawn eu danfon heddiw.

Trof yn awr at ein gweithlu. Rydym ni i gyd yn cydnabod y bydd pawb sy'n gweithio i ddarparu ein gwasanaethau rheng flaen eisoes dan bwysau aruthrol, ac ni chredaf fod digon o eiriau i fynegi fy niolch i'n staff iechyd a gofal cymdeithasol sy'n parhau i weithio'n ddiflino i ofalu am bobl ym mhob un o'n cymunedau.

Gwyddom y bydd pethau'n gwaethygu cyn iddyn nhw wella. Dyna pam yr ydym ni'n gweithredu ymhellach mewn modd na welwyd erioed o'r blaen i gefnogi ein gweithlu presennol. Gofynnir i bobl sydd wedi gadael neu wedi ymddeol o wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn ystod y tair blynedd diwethaf ailgofrestru gyda'u cyrff proffesiynol perthnasol neu, ym maes gofal cymdeithasol, i gysylltu â'u hawdurdod lleol.

Rydym ni hefyd yn chwilio am ffyrdd o ddefnyddio sgiliau myfyrwyr sy'n awyddus i gyfrannu. Mae myfyrwyr meddygol ar eu blwyddyn olaf, myfyrwyr nyrsio a myfyrwyr gwaith cymdeithasol yn cael cynnig y cyfle i ymgymryd â swyddi dros dro ar gyflog llawn i roi hwb pellach i'r rheng flaen. Bydd y rhai sy'n ymuno yn cael cyfnod sefydlu a hyfforddiant llawn a phriodol.

Mae'n hanfodol bwysig ein bod ni i gyd yn gwneud popeth o fewn ein gallu i atal lledaeniad y coronafeirws: i olchi ein dwylo yn rheolaidd, i leihau cyswllt cymdeithasol, i gadw at y cyngor ar ymbellhau cymdeithasol, ac i aros gartref os ydych chi'n arbennig o agored i niwed. Rydym ni'n ysgrifennu at bobl agored i niwed y mae eu cyflyrau iechyd presennol yn golygu y gallan nhw fod yn sâl iawn gyda'r coronafeirws. Rydym yn gofyn i'r bobl hyn gymryd mesurau llymach fyth i amddiffyn eu hunain rhag y feirws hwn. Rydym yn gweithio gyda meddygon teulu, awdurdodau lleol a'r sector gwirfoddol i wneud yn siŵr bod y bobl hyn yn gallu elwa ar yr holl wasanaethau sydd eu hangen arnyn nhw i'w cefnogi yn ystod yr wythnosau anodd sydd i ddod.

Mae'r sefyllfa yr ydym yn ei hwynebu yn un ddigynsail. Bydd yr wythnosau nesaf yn fwy heriol na'r hyn yr ydym ni wedi'i weld yn ystod 20 mlynedd o gael Llywodraeth yng Nghymru. Os gwelwch yn dda, gofalwch am eich hunain a gofalwch am eich gilydd.

11:35

A gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, yn arbennig? Mae wedi bod yn gyfnod anodd iawn i chi eich hun, eich cyd-Aelodau yn y fan yma, a hefyd i'ch cydweithwyr mewn Llywodraethau eraill. Rwy'n credu, yn anarferol i aelod o'r wrthblaid, efallai, eich bod yn bendant yn haeddu ein diolch y tro hwn.

A gaf i ymuno â chi hefyd i ddiolch i'n staff rheng flaen? Ond nid y rhai o fewn y gwasanaeth iechyd yn unig, ond y rhai sy'n cefnogi'r staff hynny. Felly, eu teuluoedd eu hunain, y garejys sy'n darparu'r MOTs i'r nyrsys y mae angen iddyn nhw yrru i'r gwaith, er enghraifft, ac i bawb sy'n ymbellhau'n gymdeithasol, sy'n deall bod hyn yn ymwneud ag achub bywydau—nid yn unig eu bywyd eu hunain, ond bywyd pobl o'u cwmpas hefyd.

Efallai ei bod hi'n werth atgyfnerthu'r pwynt nad yw manwerthwyr nad ydyn nhw'n rhan o'r categorïau y soniwyd amdanyn nhw ychydig yn gynharach yn gallu mynnu bod eu gweithlu yn mynd i'r gwaith pan fo'r Llywodraeth eisoes wedi dweud wrthyn nhw fod angen i'r gweithwyr hynny aros gartref.

Ond efallai y caf i ofyn ychydig o gwestiynau penodol i chi. Dechreuaf gyda'r gwelyau, os caf i, oherwydd fe wnaethoch chi ddweud ar Sharp End neithiwr eich bod, rhwng y cyfleuster yng Ngwent a rhywfaint o gapasiti preifat, wedi dynodi 500 o leoedd gwelyau ychwanegol—efallai fod hynny wedi cynyddu ychydig heddiw—a'ch bod yn ffyddiog y gallen nhw gael eu staffio drwy ddefnyddio rhai o'r nyrsys ychwanegol, meddygon dan hyfforddiant ac ati y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw hefyd. Ond yn Hywel Dda yn unig—ac rwy'n cyfeirio at fwrdd iechyd bychan yn fwriadol yn y fan yma—maen nhw eisoes wedi cyfrifo y bydd angen 1,600 o welyau ychwanegol arnyn nhw i ateb y galw mwyaf ym mis Mai neu fis Mehefin. Felly, tybed a allwch chi ddweud wrthym ni beth fydd y diffyg mewn gwelyau ledled Cymru a gyfrifwyd ar gyfer y cyfnod mwyaf hwnnw o alw? Rwy'n sylweddoli na allwch chi fod yn fanwl gywir. Ymhle ydych chi'n bwriadu creu'r capasiti ychwanegol? Ydych chi'n ffyddiog y byddwch yn cael digon o ymateb i'ch galwad am nyrsys dan hyfforddiant, meddygon dan hyfforddiant, meddygon wedi ymddeol yn ddiweddar ac ati, i staffio'r gwelyau hynny'n ddigonol?

Ar hynny'n benodol, a ydych chi'n edrych ar y gweithwyr gofal iechyd cysylltiedig hefyd—eich ffisiotherapyddion, eich therapyddion galwedigaethol, eich podiatryddion, ac ati—i helpu llenwi rhai o'r bylchau sgiliau hyn? Ac os felly, rwy'n sylweddoli eich bod wedi dweud y caiff bawb gyfnod sefydlu ac y byddan nhw'n cael eu hyfforddi'n llawn, ond mewn beth yn union? Pa fath o sgiliau fydd ar goll ac ymhle fyddan nhw ar goll? Efallai y gallwch chi roi syniad inni hefyd o faint o weithwyr gofal iechyd cysylltiedig sydd wedi dod ymlaen yn ogystal â'r meddygon dan hyfforddiant, y nyrsys a'r nyrsys a'r meddygon sydd wedi ymddeol. A ydych chi mewn sefyllfa eto i roi unrhyw arwydd inni ynghylch y niferoedd sy'n cynnig eu hunain?

Profi: unwaith eto, fe wnaethoch chi ddweud ar Sharp End neithiwr eich bod yn awyddus i gyflwyno profion y tu hwnt i'r GIG i ofal cymdeithasol, yr heddlu ac eraill—ac rwy'n sylweddoli nad yw hynny ar fin digwydd, ond y caiff ei wneud—gan ddweud eich bod yn cynyddu'r capasiti yn sylweddol. Ar hyn o bryd, y pryder yw nad yw pob un o'n staff yn y GIG yn cael eu profi. Felly, a allwch chi roi syniad i ni o bwy o fewn staff y GIG sy'n cael eu profi ac ymhle y maen nhw'n cael eu profi? A yw hyn yn digwydd ar y safle y maen nhw'n gweithio ynddo, neu a oes gofyn iddyn nhw fynd i rywle arall? Os felly, ble mae'r safleoedd hynny? Pwy sy'n gwneud y profion? Oherwydd os ydym yn cynyddu capasiti, bydd arnom ni angen yr unigolion i swabio, ond bydd hefyd angen technegwyr labordy ychwanegol neu unigolion priodol eraill i gynnal y profion. Efallai y gwnewch chi ddweud wrthym ni ymhle y caiff y gwaith labordy hwnnw ei gynnal. Ai yn Ysbyty'r Waun yn unig, ynteu a ofynnir i leoliadau eraill yn y brifysgol neilltuo amser yn eu labordai i wneud y gwaith hwnnw?

Yna, peiriannau anadlu. Rwy'n credu eich bod wedi sôn bod 600 o beiriannau anadlu yn y system. Efallai y gallwch chi gadarnhau hynny; wnes i ddim clywed yn iawn. Unwaith eto, fe ddywedoch chi neithiwr fod gennych chi gapasiti o 75 y cant, neu gapasiti wedi'i asesu, ar y ffordd. Ond eto, i ddyfynnu un o'r byrddau iechyd lleol llai, Hywel Dda, maen nhw'n cyfrifo bod angen tua 200 o beiriannau anadlu arnyn nhw. Maen nhw wedi llwyddo, rhwng eu stoc eu hunain a rhai o ysbytai preifat gerllaw a phrifysgolion—mae ganddyn nhw tua 80. Mae hynny ymhell o fod yn 75 y cant, heb sôn am 100 y cant. A allwch roi rhyw syniad inni pryd y bydd y peiriannau anadlu newydd yn cyrraedd Cymru? Fe wnaethoch chi sôn fod y DU yn ei chyfanrwydd yn cronni a rhannu adnoddau, felly byddai'n eithaf defnyddiol gwybod lle mae Cymru yn y ciw. Gwn fod hynny'n ffordd braidd yn anffodus o eirio'r peth, ond mae'n debyg y bydd rhai rhannau o Gymru'n cael y peiriannau anadlu hyn ychydig yn hwyrach nag eraill, felly, pe gallech chi roi syniad inni o bryd y bydd rhywfaint o'r cyfarpar yn cyrraedd.

Dillad diogelu, rydych chi wedi sôn am hyn. Unwaith eto, dim ond hyn a hyn sydd ar gael ar hyn o bryd, ac er fy mod yn deall yn llwyr eich bod yn cael gafael ar fwy, a allwch chi roi syniad i ni ynghylch sut yr ydych chi'n blaenoriaethu o ran i ble mae'r rhain yn mynd ar hyn o bryd? Gan eich bod wedi sôn am yr holl staff rheng flaen ychydig yn gynharach, rwy'n credu, ond hyd yn oed mewn ysbyty unigol bydd rhai meysydd penodol sydd efallai â mwy o flaenoriaethau nag eraill—adrannau damweiniau ac achosion brys er enghraifft. Sut fyddai'r rheini yn cymharu â, wn i ddim, wardiau canser neu famolaeth neu debyg? Yn amlwg, mae llawdriniaethau dewisol wedi cael eu canslo, felly nid oes angen i chi sôn am hynny, ond mewn ysbyty beth yw'r flaenoriaeth?

Ac yna, yn olaf: adfer. Bydd yn digwydd ryw ddiwrnod, dim ond i dawelu meddyliau pawb. Beth ydych chi wedi'i ddweud wrth y byrddau iechyd lleol ar hyn o bryd ynghylch dod â thimau ynghyd i baratoi ar gyfer adfer? Oherwydd dydym ni ddim yn sôn am ohirio popeth chwe mis yn unig. Bydd hon yn broses enfawr o ddal i fyny oni fydd hi? Gobeithio, o fewn blwyddyn. A ydych chi'n gofyn iddyn nhw ddod at ei gilydd i sefydlu timau didoledig i ddechrau blaengynllunio? Unwaith eto, ailadroddaf y cwestiwn hwnnw ar gyfer adran iechyd Llywodraeth Cymru—er fy mod yn tybio ei fod yn berthnasol i bob adran, mewn gwirionedd—ynghylch a oes gennych chi grŵp o bobl, hyd yn oed un bychan, sy'n ymroi i flaengynllunio a sut y byddwn yn adfer pan fydd y gwaethaf o hyn ar ben? Diolch yn fawr iawn.

11:40

Diolch am y cwestiynau. Ceisiaf ymdrin mor gyflym ag y gallaf â'r cwestiynau fel y'u gofynnwyd. O ran nifer y gwelyau, mae'r 350 o welyau sy'n cael eu rhyddhau yn Ysbyty Athrofaol y Grange, ynghyd â thua 150 yr ydym yn disgwyl cael cytundeb yn eu cylch gan y sector preifat, yn rhoi 500 o welyau ychwanegol. Cyfleusterau cam-i-lawr ydyn nhw mewn gwirionedd; nid oes gan y sector preifat gapasiti ar gyfer gofal dwys.

Ond mae'r sylw a wnaeth cyfarwyddwr meddygol Hywel Dda heddiw wrth ddisgrifio'r hyn y maen nhw'n ei wneud ynghyd â'r awdurdod lleol, yn addasu rhai o adeiladau awdurdodau lleol, a'r cynnig a wnaed gan y Scarlets i ddefnyddio rhai o'u hadeiladau hwythau hefyd, yn ymwneud unwaith eto â llif, i wneud yn siŵr bod pobl yn gallu mynd allan i'r cyfleuster cam-i-lawr hefyd. Felly, rydym ni'n credu y byddwn ni'n gallu cael digon o bobl i ddod i wneud hynny.

Nawr, mae'r amrywiaeth o bobl, gan gynnwys proffesiynau perthynol i iechyd, sydd yng nghanol eu hastudiaethau israddedig, yn bobl yr ydym yn credu y gallwn ni eu cyflogi mewn mathau o swyddogaethau cefnogi gofal iechyd, i gael pobl i weithio ochr yn ochr â gweithwyr proffesiynol cofrestredig. Byddant yn cael eu talu'n iawn am eu gwaith; ni fyddwn ni'n gofyn iddyn nhw ddod i wneud hynny am ddim. Rwyf wedi gweld sïon ar led mewn rhai rhannau o ddrysfa'r cyfryngau cymdeithasol sy'n awgrymu ein bod ni'n ceisio cael pobl i wneud hyn am ddim. Nid ydym yn cynnig hynny. Mae'n amlwg bod hynny'n golygu—a'r sylwadau a roddodd y Prif Weinidog yn gynharach ynglŷn â'r aildrefnu ar y gyllideb—pwysau ariannol ychwanegol sylweddol i sicrhau bod gweithlu ar gael sy'n gallu gwneud hynny, yn union fel y pwysau i gael mwy o gyfarpar diogelu personol i'r gwasanaeth, a'r peiriannau anadlu ychwanegol y byddwn ni'n ceisio eu prynu'n unigol, ond hefyd yn rhan o gyflenwad y DU.

Felly, ydw, rwy'n credu y gallwn ni ddod o hyd i ddigon o staff, ond mae'n rhaid i mi ailadrodd y rhybudd a roddais o'r blaen sef y bydd y ffordd yr ydym yn gofalu am bobl yn wahanol; nid dim ond addasu cyfleusterau nad ydynt fel arfer yn edrych fel ysbytai i greu mathau o gyfleusterau iechyd a gofal, ond yn yr un modd, y ffordd y mae staff yn gallu gofalu am bobl a'u trin. Y math o gymarebau yr ydym wedi arfer eu gweld ac yn disgwyl eu gweld ar adegau arferol—wel, efallai y bydd yn rhaid i ni i gyd oddef ffordd wahanol o ofalu am bobl os ydym yn mynd i allu blaenoriaethu pobl sydd â'r angen mwyaf, ond hefyd nifer y bobl a all fod mewn uned adfer gan symud allan o'r lleoliad anghenion sylweddol iawn hwnnw ar adeg briodol.

Felly, mae 5,000 o lythyrau eisoes wedi eu hanfon at bobl sydd wedi gadael y gofrestr yn ddiweddar, ac mae nifer o'r rheini yn dod yn ôl i mewn. Byddaf yn falch o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau pan fyddwn mewn sefyllfa synhwyrol i wneud hynny ynghylch nifer y bobl sydd wedi cytuno neu wedi dweud y byddent yn hoffi dychwelyd i'r gofrestr.

O ran profion ychwanegol, nodwyd y blaenoriaethau yn natganiad y prif swyddog meddygol yr wythnos diwethaf ochr yn ochr â fy natganiad i ynghylch profion. Fel y dywedais, dylai profion ychwanegol sylweddol y dylem allu eu cyflawni o fewn yr wythnos neu fwy nesaf olygu bod mwy o bobl yn y gwasanaeth iechyd a gweithwyr allweddol eraill—. Ac, fel y dywedais, cafwyd llawer o sylwadau am ofal cymdeithasol a'r heddlu yn arbennig—i wneud yn siŵr bod modd profi'r bobl hynny a'u cael yn ôl i'r gweithle os yw'r prawf yn rhoi'r canlyniad cywir.

O ran rhywfaint o'r capasiti hwnnw, yn ogystal ag Iechyd Cyhoeddus Cymru, rydym ni hefyd yn siarad â'r sector prifysgolion, sydd wedi bod yn gadarnhaol iawn yn cyflwyno cynnig o gymorth, ond hefyd, mewn negodiadau ledled y DU, rwyf wedi cymeradwyo'r hyn a ddylai fod yn gytundeb y gallwn ni ei gadarnhau yn fuan gydag un neu ddau o ddarparwyr mawr yn y sector preifat a fydd yn rhoi, nid yn unig mwy o gapasiti ond hefyd cydnerthedd a chadernid o ran cynnal profion. Ac o fewn hynny, mae rhai trefniadau ar gyfer Cymru yn unig, ond mae yna hefyd rai trefniadau ar gyfer y DU gyfan i atgyfnerthu'r trefniadau profi hynny.

Mae hynny'n mynd â ni at eich sylw am beiriannau anadlu. Mae gennym ni tua 600 o rai ychwanegol. Mae mwy ar y ffordd. Mae cronfa'r DU yn gronfa ar gyfer y DU yng ngwir ystyr y gair; ni ddylai olygu 'un genedl yn gyntaf a bydd eraill yn cael rhai os bydd unrhyw rai ar ôl', ac mae hynny'n wirioneddol bwysig gan ein bod yn ceisio cydweithio a gweithio'n effeithiol i ddiwallu anghenion ledled y Deyrnas Unedig. Ac mae'n werth nodi y gall yr anghenion hynny fod yn wahanol mewn gwahanol genhedloedd a gallant fod yn wahanol ar adegau gwahanol. Rydym ni'n gweld y ffigurau yn Llundain, er enghraifft, felly maen nhw'n debygol o gael yr ergyd fwyaf gyntaf, ond ni fydd hi wastad yn wir fod Llundain yn cael blaenoriaeth dros rannau eraill o Loegr, heb sôn am y gwahanol genhedloedd o fewn y Deyrnas Unedig. Felly, mae'n bwysig bod hynny'n cael ei weld o fewn y cyd-destun hwnnw.

O ran cyfarpar diogelu personol, mae'n werth nodi'r ffaith bod angen cyfarpar gwahanol mewn gwahanol leoliadau, ac, unwaith eto, mae'r prif swyddog meddygol wedi cyhoeddi rhywfaint o arweiniad ynghyd ag Iechyd Cyhoeddus Cymru ynghylch y defnydd o Gyfarpar diogelu personol a beth yw'r cyfarpar priodol ar gyfer pobl. Dylai bod mwy o sicrwydd, fodd bynnag, oherwydd fe wn i ei fod yn bryder y mae Aelodau ar draws y Siambr a'r tu allan wedi dweud eu bod yn ei glywed yn lleol. Felly, byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig arall heddiw i nodi'r hyn yr ydym yn ei wneud, yr hyn y disgwyliwn ei wneud, ac os bydd pryderon a chwynion unigol, nodi i le y gall pobl fynd gyda'r pryderon a'r cwynion hynny er mwyn iddyn nhw gael sylw'n gyflym, oherwydd rwy'n sicr nad wyf eisiau i'n staff rheng flaen deimlo naill ai nad oes cyfarpar diogelu personol priodol ar gael neu nad oes mwy ar ei ffordd, oherwydd dyna'n union yr ydym yn ceisio'i gyflawni, ac mae hynny'n cynnwys ailstocio'r cyflenwadau sydd gennym ni ar hyn o bryd.

O ran adfer, y gwir plaen yw nad wyf wedi gofyn ac nid wyf yn disgwyl i fyrddau iechyd fod â thimau o bobl yn paratoi nawr ar gyfer adfer gan nad yw'r ymdrech sydd ei hangen arnom ni i baratoi ar gyfer yr hyn sy'n dod, yn fy marn i, yn caniatáu inni wneud hynny. Wrth inni symud ymlaen, ac wrth inni, gobeithio, ddechrau gweld gostyngiad yn nifer yr achosion, gostyngiad yn nifer y bobl y mae angen y gofal mwyaf sylweddol arnyn nhw, byddwn wedyn yn gallu barnu faint o ymdrech fydd ei hangen ar gyfer adfer a deall sut beth fydd y normalrwydd newydd. Oherwydd os cawn achos sylweddol, bydd yn effeithio ar yr hyn y byddwn yn ei drafod ac yn dadlau fel arfer ynghylch perfformiad y GIG, a'r cwestiynau treiddgar a heriol a ofynnwn i'n gilydd. Ym mhob gwlad yn y DU, gwelwn na fyddwn yn dychwelyd i'r cyfnod hwnnw yn gyflym iawn, ac mae angen rhywfaint o onestrwydd o fewn y gwasanaeth iechyd ynglŷn â hynny, ond hefyd ymhlith y cyhoedd, ynghylch pa mor hir y bydd hi'n cymryd i ni ddod yn ôl ar ein traed a rhoi ein hunain mewn sefyllfa lle byddwn yn deall sut y bydd y gwasanaeth iechyd gwladol yn parhau i wasanaethu pobl yn y cyfnod normal yr ydym i gyd yn gobeithio ac yn disgwyl ei weld cyn hir.

11:45

Hoffwn ddiolch yn fawr i'r Gweinidog am ei ddatganiad a dweud pa mor falch yr ydym ni i gyd rwy'n siŵr o'i weld yn ôl yn y rheng flaen. Gwn ei fod yn gweithio'n galed iawn pan oedd yn hunanynysu, ond mae'n dda iawn ei weld yma. Mae'n rhaid y bu yn gyfnod pryderus iawn iddo ef a'i deulu ac rwy'n falch iawn o'i weld yma gyda ni heddiw.

Hoffwn ategu'r sylwadau a wnaeth pobl eraill, am y rheini, fel y dywedodd y Gweinidog, sydd eisoes wedi colli anwyliaid i'r feirws hwn, ac am y gwaith gwych y mae ein staff iechyd a gofal—a chredaf fod yn rhaid inni wneud yn siŵr ein bod yn cofio sôn amdanyn nhw hefyd, oherwydd ar wahân i unrhyw beth arall, maen nhw'n gwneud gwaith pwysig iawn i atal pobl rhag mynd mor sâl nes bod angen iddyn nhw fynd i'r ysbyty. Felly, hoffwn ategu'n fawr y sylwadau y mae Aelodau eraill wedi'u gwneud am y gwaith ardderchog y mae ein staff iechyd a gofal yn ei wneud.

Rwyf eisiau cyfeirio at rai materion y mae'r Gweinidog eisoes wedi sôn amdanyn nhw, a rhoi ychydig mwy o sylw i'r rheini efallai, ac yna mae ambell beth arall yr hoffwn i ei grybwyll os bydd y Dirprwy Lywydd yn caniatáu hynny.

Yn gyntaf oll, dim ond i egluro ychydig yn fwy am y peiriannau anadlu. Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei atebion i Suzy Davies. Felly, mae gennym ni 600 o awyryddion. A yw'r rheini gennym ni nawr ynteu a ydyn nhw wedi cael eu harchebu? A yw'r Gweinidog yn disgwyl iddyn nhw fod yn ddigonol? Rwy'n gwybod ei bod hi'n anodd dweud oherwydd nad ydym yn gwybod eto beth yw patrwm y clefyd. Pryd y gallwn ni ddisgwyl bod mewn sefyllfa lle y gall fod yn ffyddiog bod gennym ni ddigon o'r rhain i ddiwallu'r anghenion sy'n debygol o godi?

Os gallaf gyfeirio'n ôl eto at welyau gofal critigol, ac, unwaith eto, soniodd am hyn yn ei ddatganiad, mae'n dweud bod angen inni ddyblu nifer y gwelyau gofal critigol. A allai roi i ni—? Rwy'n gwybod ei bod hi'n amhosib bod yn benodol am y pethau hyn, Dirprwy Lywydd, mewn cyfnod o argyfwng, ond byddai o gymorth i bobl, rwy'n credu, pe gallem ni gael syniad pryd rydym ni'n disgwyl cael y gwelyau gofal critigol hynny yn barod i'w defnyddio.

Os caf i ddychwelyd yn fyr at y profi. Clywais yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog am ddehongliad, dehongliad y DU neu Gymru o gyngor Sefydliad Iechyd y Byd, ond byddai o gymorth i mi pe bawn yn gallu deall ychydig mwy ynghylch sut y mae'r cyngor hwnnw'n wahanol ar gyfer Cymru a'r DU. Oherwydd mae'n bennawd, onid yw? Mae'r cyhoedd yn clywed Sefydliad Iechyd y Byd yn dweud, 'Profwch, profwch, profwch'; rydym ni'n gwneud penderfyniadau i wneud pethau'n wahanol yn y fan yma. A chredaf y byddai o gymorth, nid nawr, efallai, ond os yw'r Gweinidog eisiau ysgrifennu atom, fel y gallwn ni roi esboniad i'n hetholwyr ynglŷn â pham nad ydym yn dilyn cyngor Sefydliad Iechyd y Byd. Rydym yn gwybod y bu yn llwyddiannus iawn, er enghraifft, mae gwneud hynny wedi bod yn llwyddiannus iawn yn yr Almaen.

Ac a gaf fi ofyn i'r Gweinidog, eto—? Mae wedi sôn ein bod ni'n cyrraedd sefyllfa lle byddwn ni'n gallu profi gweithwyr gofal iechyd allweddol. A gaf i godi'r mater gydag ef eto, y gwn fod fy nghyd-Aelod Rhun ap Iorwerth ac eraill wedi'i godi, ynghylch profion ar gyfer teuluoedd gweithwyr allweddol? Rwy'n ymwybodol yn y rhanbarth yr wyf yn ei chynrychioli o sefyllfaoedd lle mae gennych chi ddau riant, sydd ill dau'n gweithio mewn rhannau o'r gwasanaeth iechyd, sy'n aros gartref oherwydd eu bod yn ofni bod gan eu plant rai symptomau. Felly, gobeithio y bydd y Gweinidog yn ystyried—. Yn amlwg, mae'n rhaid inni ddechrau gyda'r staff, rwy'n derbyn hynny'n llwyr, ond a allwn ni ystyried cynnwys—. Mae'n sefyllfa annymunol iawn i'r teulu, ond mae'n wastraff ofnadwy ar adnoddau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol pan fo dau weithiwr proffesiynol â chymwysterau uchel yn gorfod aros gartref pan efallai nad oes dim byd o'i le arnyn nhw, nac ar eu teulu.

Gwn y bydd y Gweinidog yn rhannu fy mhryder ynglŷn ag iechyd a lles corfforol, ac iechyd a lles emosiynol pobl sy'n hunanynysu am gyfnodau hir. A'r pwynt penodol yr wyf eisiau ei godi gydag ef—mae fy nghyd-Aelod Leanne Wood wedi gofyn imi sôn am hyn—yw sefyllfa teuluoedd a all fod yn agored i gam-drin domestig. Gwyddom i gyd, er enghraifft, yn anffodus, pan fydd teuluoedd gyda'i gilydd am gyfnodau hir, y gall y sefyllfaoedd hyn waethygu. Felly, hoffwn ofyn i'r Gweinidog heddiw a wnaiff gynnal rhagor o drafodaethau gyda'r Dirprwy Weinidog sydd â chyfrifoldeb uniongyrchol dros y materion hyn, er mwyn sicrhau ein bod yn gweithio'n adeiladol gyda'r sector i roi mesurau ar waith. Dywedwyd wrthyf, er enghraifft, gan rai gwirfoddolwyr yn y sector y gallem ni ddefnyddio safleoedd gwely a brecwast gwag, gallem ddefnyddio hosteli gwag ar gyfer llety brys i bobl sy'n ffoi rhag cam-drin domestig. Oherwydd mae'n rhaid inni dderbyn—ac rydym ni wedi gweld, ysywaeth, mewn gwledydd eraill fod y sefyllfaoedd hynny wedi cynyddu.

Roeddwn yn ddiolchgar iawn am yr hyn a ddywedodd y Gweinidog am fferylliaeth gymunedol. Bydd yn ymwybodol bod rhai aelodau staff ar y rheng flaen yn cael profiadau eithaf erchyll, gyda phobl— fel y dywedodd y Prif Weinidog—yn mynd yn ddiamynedd, yn mynd yn ymosodol. Ac mae'n sôn bod angen i ni barchu swyddogaeth y fferyllydd cymunedol yn llawn. Tybed beth fyddai ei farn am—ac mae hwn yn benderfyniad anodd—ond mae fferyllwyr cymunedol wedi dweud wrthyf eu bod yn cael ychydig o drafferth o ran dosbarthu nwyddau, ac os oes gan bobl aelod iach yn y teulu sy'n gallu mynd allan a chasglu, byddent yn falch pe bai pobl yn cael cyngor i wneud hynny. Ond rwy'n deall efallai fod gan y Gweinidog a'r gweddill ohonom ni bryderon ynglŷn â throsglwyddo pellach yn hynny o beth, ond byddai'n ddefnyddiol gwybod beth fyddai Cyngor y Gweinidog o dan yr amgylchiadau hynny.

Roedd gennyf i rai cwestiynau i'w gofyn am gyfarpar diogelu personol. Mae'r Gweinidog wedi cynnig datganiad ysgrifenedig inni, ac nid wyf eisiau peri oedi i'r Siambr drwy ofyn y rheini yn fanwl, ond rwy'n gobeithio y bydd y datganiad hwnnw'n rhoi sylw i'r materion dosbarthu. Mae perchnogion cartrefi gofal yn dweud wrthyf fod y cyfarpar diogelu yn cyrraedd Caerdydd ac yn cyrraedd Abertawe, ond nid yw'n mynd i'r ardaloedd gwledig, ac nid yw'n mynd i'r Cymoedd, yn enwedig o ystyried y sector gofal yn hytrach na'r sector iechyd. Gall hyn fod yn achos o bobl yn codi pryderon mewn sefyllfa sy'n newid yn gyflym iawn, fel y crybwyllodd y Gweinidog, ac efallai yr ymdriniwyd â hyn eisoes, ac rwy'n gobeithio'n fawr y gall dawelu ein meddyliau.

Soniodd y Prif Weinidog, wrth ymateb i gwestiynau, am rai o'r sgiliau a fydd gan bobl sydd wedi gweithio ym maes lletygarwch, o ran glanweithdra, darparu bwyd, darparu cymorth sylfaenol. Tybed a yw'r Gweinidog wedi trafod gyda'r byrddau iechyd lleol a chyda darparwyr gofal i weld pa ddefnydd y gallent ei wneud o'r sgiliau hynny, ac yn wir, o ran rhai lleoliadau lletygarwch ar gyfer pobl pan fyddant mewn cyfnod cam-i-lawr, pryd yn y bôn yr hyn sydd ei angen arnyn nhw yw gofal a chymorth—pryd nad oes angen cymorth meddygol aciwt arnyn nhw. Ac rwy'n ddiolchgar iddo am sôn am Barc y Scarlets. Roeddem yn falch iawn y buont mor barod i weithio gyda'r bwrdd iechyd lleol a'r awdurdod lleol. Ac mae hefyd yn sôn yn ei ddatganiad am drafodaethau gyda lleoliadau ysbytai preifat. Tybed a allwn ni gael rhywfaint o arweiniad ynghylch pryd y gallai'r rhain gael eu cwblhau, gan fod hon yn amlwg yn sefyllfa ddwys.

Dau bwynt byr i orffen, un y gall y Gweinidog dybio o bosib ei fod braidd yn anghonfensiynol. Mae osteopathiaid wedi cysylltu â mi yn fy rhanbarth, ac mae'n amlwg na fyddant yn rhoi triniaeth i'w cleientiaid preifat. Gwyddom mai triniaeth yw osteopathi. Nid ydym yn ei ddarparu drwy'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, ond mae'n driniaeth sydd â sail wyddonol gref. Roedd rhai o'r osteopathiaid hynny yn holi a fyddai'n bosib iddyn nhw wirfoddoli efallai i ddod i'r ysbytai i roi cymorth i staff. Dywedant fod llawer o'u cleientiaid preifat mewn gwirionedd yn staff y GIG sydd â phroblemau o ganlyniad i godi pethau. Felly, hoffwn daflu'r syniad yna i bair y Gweinidog i weld a oes grwpiau eraill o bobl sy'n gweithio mewn meysydd gofal nad ydyn nhw yn y sector cyhoeddus, ond sydd efallai'n meddu ar sgiliau y gallan nhw eu cynnig ar hyn o bryd.

Ac, yn olaf, o ran sefydliadau'r trydydd sector, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi fod rhai o'n cyrff trydydd sector yn hanfodol, o ran y gofal y maen nhw'n ei ddarparu a'r cyngor a'r cymorth y gallan nhw eu darparu. Bydd wedi gweld yr elusennau canser, er enghraifft, yn dod at ei gilydd. Tybed pa sicrwydd all y Gweinidog ei gynnig i'r sector hwnnw y caiff ei ddyfodol hirdymor ei ddiogelu. Clywais yr hyn a ddywedodd Paul Davies wrth y Prif Weinidog yn gynharach ynglŷn â'r angen i ariannu gwasanaethau rheng flaen ar hyn o bryd, ond wrth gwrs bydd angen y sefydliadau hynny arnom ni pan fydd yr argyfwng hwn ar ben, ac os cawn ein hunain mewn sefyllfa—. Ac, wrth gwrs, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru newid ei blaenoriaethau cyllidebol, ni fyddai neb yn amau hynny am eiliad, ond os cawn ni ein hunain yn y sefyllfa pan ddaw'r cyfnod adfer a ninnau wedi colli rhai o'r sefydliadau allweddol hynny yn y trydydd sector, oherwydd nad yw eu cyllid yn gynaliadwy, rwy'n gobeithio y byddai'r Gweinidog yn cytuno â mi y byddem ni wedyn yn gorfod ailadeiladu'r rhwydwaith hwnnw.

Felly, unwaith eto, rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Yn falch iawn o'i weld yma heddiw, ac rwy'n gobeithio y gall ymateb i rai o'r sylwadau penodol yr wyf wedi'u gwneud.

11:55

Diolch am y sylwadau a'r dymuniadau da. O ran peiriannau anadlu, mae'r 600 yn cynnwys darpariaeth sydd gennym ni a thua 200 sydd ar eu ffordd. O ran y cwestiwn a fydd y nifer y byddwn yn gallu eu caffael, yn ein barn ni, yn ddigon, wel mae hynny'n dibynnu ar sut fydd yr haint yn datblygu. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn wrth inni geisio bod yn onest gyda'n gilydd nad ydym yn darparu ffigurau i roi rhywfaint o sicrwydd ffug. Rwy'n credu y byddai'n anghywir ceisio pennu amserlen fympwyol ar gyfer diwedd hyn neu osod terfyn uchaf ar nifer y bobl yr effeithir arnyn nhw'n ddifrifol. Bydd angen i ni barhau i ddeall yr her ac i geisio ymateb i'r her sy'n effeithio arnom ni a'r wlad i gyd. Felly, bydd angen i ni gaffael mwy, a byddwn ni'n gwybod beth sy'n ddigon wrth i ni agosáu at y digwyddiad. Ond ni ddylai unrhyw Aelod yma nac unrhyw aelod o'r cyhoedd gamddeall a chredu bod yna unrhyw beth heblaw ymdrech sylweddol rhwng y pedair Llywodraeth i wneud yn siŵr bod ein gwasanaethau iechyd a gofal wedi cael y cyfarpar priodol i ymdrin â'r her.

O ran dyblu gwelyau gofal critigol, fy nealltwriaeth i yw y bydd y gwaith i wneud hynny'n cael ei wneud ar unwaith. Ac rwy'n siŵr y bydd Aelodau wedi gweld, er enghraifft, yr eitem ragorol a wnaeth Channel 4 News ar y gwaith ar draws Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i ddangos y gwaith y maen nhw wedi'i wneud eisoes i ddyblu eu cyfleusterau gofal critigol ar sawl un o'u safleoedd, a dyna'r gwaith yr oedden nhw'n gallu ei wneud gan fod yr holl driniaethau dewisol wedi eu gohirio. A phe byddem ni wedi cael wythnos arall o driniaethau dewisol, ni fyddai wedi bod yn fater o bobl yn dod i mewn yr wythnos honno yn unig, ond y ffaith bod pobl mewn gwelyau mewn ysbyty yn gwella am gyfnod wedyn mewn nifer o achosion, ac ni fyddai ein staff wedi gallu gwneud y gwaith paratoi hwnnw. Felly, rwy'n falch bod y cam i ohirio'r triniaethau hynny wedi golygu ein bod bellach wedi paratoi'n well o lawer ar gyfer yr hyn yr ydym yn gwybod sydd ar y gorwel. 

Ac o ran gwybod beth sydd ar y gorwel, rwy'n cydnabod eu bod yn gwestiynau cwbl ddilys gan Aelodau o bob plaid i'w holi, oherwydd mae Aelodau Llafur yn y fan yma ac eraill sydd wedi holi ynghylch y gwahaniaeth rhwng y prif gyngor gan Sefydliad Iechyd y Byd ynghylch profion a beth yr ydym ni'n ei wneud yn y fan yma. Ac mae'r cyngor yr ydym yn ei gael yn uniongyrchol gan ein prif gynghorydd gwyddonol ar iechyd a chan ein prif swyddog meddygol, sy'n gweithio gyda'i gydweithwyr yn nhair cenedl arall y DU, yn ymwneud â'r ffordd yr ydym yn defnyddio'r adnodd sydd gennym ni ar hyn o bryd. Oherwydd pe bawn i'n dweud mai ein huchelgais yw darparu profion cymunedol ar raddfa eang nawr, mewn gwirionedd nid oes gennym ni'r gallu i wneud hynny, a phe bawn yn ceisio gosod amcan cwbl amhosib, ni fyddem yn defnyddio'r adnodd sydd gennym mewn ffordd synhwyrol nac effeithiol, a dyna pam fod y profion yn cael eu targedu fel y maen nhw. Ond dyna pam, fel y dywedais, o'r penwythnos ymlaen, wrth i ni ehangu ein gallu i brofi, y byddwn yn gallu profi mwy o grwpiau o bobl a byddwn yn gallu profi grŵp llawer ehangach o bobl wedi hynny.

Felly, mae'r profion yn offeryn i'n helpu ni i ddeall beth sy'n digwydd o ran yr achosion. Mae hefyd yn offeryn i'n helpu i drin pobl ac yn hollbwysig i gael staff yn ôl i'r gwaith, gan fod eich sylw am deuluoedd a phrofion yn bwysig, oherwydd y nod o gael y staff hynny yn y grwpiau hynny yw er mwyn eu rhyddhau i ddychwelyd i'r gwaith, ac mae hynny'n sicr o olygu bod yn rhaid i chi brofi digon o bobl o fewn yr uned deuluol i wneud yn siŵr y gallwch chi gael y sicrwydd hwnnw er mwyn iddyn nhw ddychwelyd. Ond, wrth gwrs, nid profi yw'r unig fater. Ni fyddem ni yma heddiw yn y ffurf hon sydd wedi ei chwtogi'n sylweddol, gyda nid yn unig y canllawiau, ond y gofynion am gadw pellter cymdeithasol, pe baem ni'n credu mai profi oedd yr unig fesur. Ni fyddem yn sôn am beiriannau anadlu ac am gyfarpar diogelu personol. Felly, mae ynglŷn ag ystod eang o fesurau gwahanol y mae'n rhaid i ni eu defnyddio. Byddwn wrth fy modd petai un ateb i ddatrys hyn, ond nid oes un ateb yn unig.

Ac o ran trais a cham-drin domestig, rwy'n cydnabod y pryder y mae'r Aelod wedi sôn amdano. Maen nhw wedi bod yn nodweddion rheolaidd yn ein sgyrsiau yng nghyfarfodydd y Llywodraeth, i wneud yn siŵr nad yw pobl yn cael eu dal mewn perthynas dreisgar, mewn cartref treisgar, ac i sicrhau fod pobl yn cael eu cefnogi o hyd.

O ran fferylliaeth gymunedol, rwyf wedi cyhoeddi ystod o fesurau i geisio cefnogi fferyllfeydd cymunedol, y newidiadau i oriau a gyhoeddais ar y penwythnos, y sylwadau yr wyf wedi'u gwneud am gyflenwi cyfarpar diogelu personol hefyd, ond hefyd y sylw y byddaf yn ei ailadrodd eto yn ddiweddarach heddiw, os yw pobl yn gofyn am gael eu meddyginiaeth oherwydd bod yn rhaid iddyn nhw hunanynysu, i'r rhan fwyaf o bobl mae'n bosib i unigolyn y gellir ymddiried ynddo ymgymryd â'r gwaith hwnnw ar eu rhan—nid yw'n golygu bod angen iddo fynd i'r cartref i wneud hynny. Er enghraifft, es i i siopa dros fy mam ar y penwythnos. Gwelais hi ar Sul y Mamau, ond gwelais hi ar ôl imi adael ei siopa wrth ei drws cefn a siaradais â hi drwy ffenest y gegin a oedd wedi cau. Nawr, dydw i ddim yn sant—mae fy chwaer-yng-nghyfraith yn siopa dros fy mam fel arfer—ond mae modd mynd a gwneud pethau sy'n golygu nad oes angen i'r unigolyn hwnnw fynd allan, ac, yn yr un modd, nad oes rhaid i chi alw ar wasanaethau danfon nwyddau. Yn achos rhai pobl, fodd bynnag, ni fydd ganddyn nhw bobl yn y sefyllfa honno ac wedyn bydd angen iddyn nhw ddibynnu ar wasanaeth cyflenwi gan fferyllfa gymunedol. Felly, mae ein gwasanaethau cymunedol yn wynebu heriau sylweddol, felly hefyd ein rhwydwaith fferylliaeth gymunedol.

O ran cyfarpar diogelu personol mewn lleoliadau gofal, hoffwn ddweud fy mod wedi cynnwys ychydig o hyn yn fy natganiad, a bydd mwy heddiw, ond mae'n bwysig iawn, yn y cyfnod anodd a wynebwn, na fyddwn yn credu bod rhywbeth yn well mewn rhan arall o'r wlad, oherwydd eu bod nhw yn ei gael yn gyntaf ac ni ddylen nhw ei gael. Rwyf wedi siarad â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac â'u prif lefarwyr ar ofal cymdeithasol, a holl aelodau'r cabinet gofal cymdeithasol pan ddechreuodd y sefyllfa hon. A phan siaradais â nhw ar ddechrau'r wythnos hon, roedden nhw'n pryderu am roi cyfarpar diogelu personol i'r maes gofal cymdeithasol, ac roedd hynny ar draws y wlad i gyd. Nid oedd fel petai Caerdydd yn meddwl bod popeth yn fendigedig, diolch yn fawr—roedd pob un ohonyn nhw yn awyddus i sicrhau bod nwyddau ar eu ffordd ac yn cael eu darparu. Felly, nid oes un rhan o'r wlad yn cael mantais gan achosi anfantais i ran arall, a gobeithio, erbyn diwedd heddiw, y bydd cyflenwadau digonol mewn lleoliadau gofal cymdeithasol.

Ac o ran y cytundeb sector preifat, y 350 o welyau ychwanegol, deallaf fod hynny ar fin digwydd, ac wedyn dylai fod yn bosib defnyddio'r capasiti hwnnw. Dydw i ddim yn siŵr ynghylch sefyllfa gwasanaethau osteopathi. Rwy'n siŵr y bydd gan y prif swyddog meddygol farn, a chyfarwyddwyr meddygol hefyd ynghylch pa mor ddefnyddiol fydd hynny i'n staff.

Ac o ran y trydydd sector—nid yn unig yn y dyfodol, ond mae'r trydydd sector yn wirioneddol bwysig i ni nawr. Mae'r gwaith yr ydym yn gorfod ei wneud i amddiffyn pobl sy'n agored i niwed yn golygu bod angen i awdurdodau lleol a'r trydydd sector gydweithio. Mae'r rhwydweithiau o wirfoddolwyr y maen nhw'n helpu i'w cydlynu yn hynod o bwysig i gefnogi'n ymarferol niferoedd mawr iawn o bobl yr ydym ni wedi eu cynghori i ynysu, ac mae hynny'n anodd. Felly, byddan nhw'n bwysig yn y dyfodol, byddant, ond mewn gwirionedd maen nhw'n hanfodol bwysig yn ein hymdrech i frwydro yn erbyn COVID-19 nawr.

12:00

Y peth cyntaf, fel llawer un arall yma, yr wyf eisiau ei wneud heddiw yw diolch i'r holl staff sy'n parhau i fynd i'w gwaith ledled y GIG, ar draws y sector gofal ac ar draws yr asiantaethau cyflenwi i gael pethau i'r lle y mae eu hangen arnom ni a phan mae eu hangen arnom ni ar yr adeg dyngedfennol hon. Ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn bod y bobl hynny'n deall, os nad ydyn nhw'n deall yn barod, ein bod i gyd yn eu gwerthfawrogi hefyd. Yn sgil darparu gwybodaeth a nwyddau, rwyf am ddechrau gofyn rhai o'm cwestiynau.

Y cwestiwn cyntaf, mae'n debyg, y gofynnir i'r rhan fwyaf ohonom ni yn aml yw ble i fynd i gael cyngor da. Rydym ni wedi gweld digon o arbenigwyr yn ymddangos ar y rhyngrwyd yn dweud pethau sy'n eithaf peryglus, a dweud y gwir, gan fod y cyngor yn sylfaenol anghywir ar hyn o bryd. Felly, rwy'n credu ei fod yn ymwneud ag ailadrodd ble i fynd am gyngor da—cyngor dibynadwy—a sicrhau ei fod ar gael.

O ran cyflenwadau, unwaith eto, os ceisiwch chi brynu rhywbeth syml fel paracetamol, sef yr hyn a wnes i ddoe, efallai y gofynnir i chi dalu £3 amdano. Nid yw hynny'n dderbyniol mewn gwirionedd. Ac, unwaith eto, mae'n ymwneud â chael y cyflenwadau hynny y bydd ar bobl eu hangen ar gyfer eu gofal meddygol o ddydd i ddydd i'r fferyllfeydd cymunedol hynny y bydd pob un ohonom ni yn dibynnu arnynt, ond hefyd gofyn i archfarchnadoedd sy'n cyflenwi i gyfyngu ar y cyflenwad, rhywbeth y mae rhai ohonyn nhw yn ei wneud, cyfyngu ar beth y mae pobl yn ei brynu.

Rwyf hefyd wedi cael gwybodaeth, ac mae'n eithaf amlwg os ydych chi'n edrych ar archfarchnadoedd, am fformiwla babanod yn diflannu oddi ar y silffoedd. Mae hyn yn ddifrifol. Mae angen bwydo babanod, ac eto rwyf wedi clywed straeon am bobl yn prynu llaeth fformiwla fel modd o roi llaeth sych yn eu te a'u coffi. Mae hynny'n sefyllfa echrydus. Felly, unwaith eto, mae'n apêl, mewn gwirionedd, i bobl ystyried bod y geiriau 'fformiwla' a 'babanod' yn mynd gyda'i gilydd am reswm da iawn, iawn.

Byddwn i'n gofyn, unwaith eto, am daliadau cyfleustodau. Rwy'n gwybod y gall ymddangos yn rhyfedd fy mod i yn gofyn i chi, ond os na all pobl fwydo eu hunain ac os na allan nhw gadw eu hunain yn gynnes, byddant yn mynd yn eithaf sâl yn fuan. Rhai o'r bobl hynny sydd â mesuryddion talu o flaen llaw sydd fwyaf agored i niwed yn yr achos cyntaf. A gofynnaf eto—er fy mod yn sôn am bobl yn cael y tanwydd iawn—yn fy ardal i yn arbennig, mae llawer o bobl nad oes ganddyn nhw gyflenwad nwy, maen nhw'n dibynnu ar gyflenwadau olew, maen nhw'n dibynnu ar nwy petrolewm hylifedig. Mae'n ddrutach. Mae'r bobl hynny'n tueddu i fod yn fwy ynysig oherwydd lle maen nhw'n byw ac maen nhw'n tueddu i fod yn fwy oedrannus mewn rhai achosion. Nid wyf yn gwybod a ydych chi wedi cael unrhyw sgyrsiau i helpu gyda'r cyflenwadau hynny, ond os cymerwn ni olew, er enghraifft, mae'n rhaid i chi brynu hwnnw mewn swmp yn gyffredinol, ac mae hynny'n gost enfawr i bobl ar adeg pan fydd eu harian yn mynd yn brin iawn. Felly, unwaith eto, mae'n ymwneud â sicrhau fod teuluoedd yn gallu byw'n effeithiol drwy gynhesu eu cartrefi a bwydo eu hunain hefyd.

Rhaid imi holi ynglŷn â gweithio ym maes iechyd trawsffiniol, yn enwedig ym Mhowys. Rwy'n gwybod y bydd eraill yn holi am feysydd eraill. Yn sicr, hoffwn gael diweddariad—mae llawer o bobl sy'n byw yn ardal Powys wedi cysylltu â mi—ynghylch sut y mae hynny'n gweithio iddyn nhw a pha mor ffyddiog ydym ni y bydd y bobl hynny ym Mhowys y mae angen gofal iechyd arnyn nhw yn gallu cael gafael arno.

Yn olaf, hoffwn dalu teyrnged ichi am eich diweddariadau dyddiol. Maen nhw wedi bod yn glir. Ond rwyf hefyd eisiau diolch i bobl am eu cydweithrediad, oherwydd os na chawn y mwyafrif helaeth o bobl yn cydweithredu â'r cyfyngiadau llym hynny yr ydym yn gofyn iddyn nhw eu gosod arnyn nhw eu hunain, ni fyddwn, a bod yn onest, byth yn gallu ymdopi â'r feirws hwn. Nid wyf ond yn gobeithio y bydd pobl yn parhau felly, oherwydd fel y dywedodd rhywun gynnau, nid gwyliau mo hyn. Mae'n debyg bod hwn yn gyfnod lle bydd y rhai ohonom ni sy'n dod drwyddo—a gobeithio daw pob un ohonom ni drwyddo—yn edrych yn ôl ac yn rhyfeddu at y cyfnod hwn ac at ymddygiad pobl hefyd. Diolch yn fawr iawn.

12:05

Diolch yn fawr iawn am y cwestiynau cyson. Unwaith eto, hoffwn ailadrodd pwynt Joyce am ein staff ac, wrth gwrs, mae gan Joyce Watson aelodau yn ei theulu ei hun sy'n darparu gwasanaeth iechyd a gofal, a byddant yn deall yr ymroddiad y mae angen iddynt ei ddarparu a'r ffaith bod ein staff yn gwybod eu bod yn rhoi eu hunain mewn sefyllfaoedd peryglus. Maen nhw'n gwybod, wrth drin pobl sy'n sâl gyda chyflwr sy'n lledaenu'n weddol gyflym drwy boblogaeth y DU, fod her wirioneddol yn eu hwynebu hwythau hefyd. Maen nhw'n parhau i wneud hynny, ond yn ddealladwy maen nhw eisiau'r offer er mwyn gwneud eu gwaith, ac maen nhw eisiau cefnogaeth y cyhoedd er mwyn iddyn nhw allu gwneud eu gwaith hefyd.

Mae eich sylw ynglŷn â chael gwybodaeth o ffynonellau priodol yn bwysig, fel nad yw pobl yn rhoi baich diangen ar ein gwasanaethau iechyd a gofal gan eu bod yn poeni neu'n gwneud pethau amhriodol oherwydd y buont yn edrych ar rannau rhyfedd o'r rhyngrwyd neu faterion sy'n deillio o'r cyfryngau cymdeithasol. Felly, Llywodraeth Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, datganiadau gan y Prif Swyddog Meddygol—maen nhw'n ffynonellau o gyngor y gellir ymddiried ynddynt er mwyn i bobl ddysgu am beth sy'n digwydd yng Nghymru ac i ble i fynd i gael cyngor a chymorth.

Pan ddaw'n fater o gydlynu cymorth lleol, bydd awdurdodau lleol yn gweithredu fel canolwyr gyda swyddogaeth gydgysylltu i sicrhau fod cymorth a chyngor yn cael eu rhoi, a byddant, wrth gwrs, yn gweithio gyda'r trydydd sector. Fel yr wyf wedi dweud ac fel y dywedodd y Prif Weinidog, rydym yn cael sgyrsiau gyda'r fyddin ynghylch y cymorth posib y gallan nhw ei ddarparu yn yr ymdrech, gan fod nifer sylweddol o bobl agored i niwed yng Nghymru y bydd angen eu cefnogi.

O ran eich sylw am orelwa, mae'n sylw da. P'un a yw'n paracetamol, Calpol neu nwyddau arferol eraill, mae'n warthus gweld rhai pobl yn cymryd mantais fasnachol sylweddol, yn aml o'r bobl sydd fwyaf agored i niwed drwy godi prisiau'n sylweddol pan nad oes problem cyflenwi, dim ond cyfle masnachol. Yn union fel y digwyddodd heddiw, rhoddwyd Sports Direct yn ei le yn gyflym, mae'n bwysig bod pobl eraill yn rhoi gwybod am ymddygiad o'r fath. Credaf y dylai pobl sy'n gwneud hynny nawr i wneud elw cyflym ystyried y ffaith bod cof da iawn gan y rhan fwyaf o aelodau'r cyhoedd pan ddaw'n fater o fanteisio arnyn nhw mewn ffordd mor dryloyw.

O ran eich sylw am gyfyngiadau ar nwyddau, ac mae'r sylw a wnewch chi am fwyd babanod yn un priodol iawn, nid oes angen o gwbl ichi gronni cyflenwad chwe mis, a beth y mae hynny'n ei wneud i bobl sy'n dibynnu ar y cynnyrch hwnnw, ac nad oes ganddyn nhw'r modd i fynd allan a phrynu swmp enfawr ymlaen llaw—. Mae archfarchnadoedd eu hunain eisoes yn mynd ati'n wirfoddol i gyfyngu ar gyflenwi a gwerthu amrywiaeth o eitemau. Un o'r pethau y mae llywodraethau ledled y DU wedi cytuno arno yw llacio rhai o'r rheolau cystadlu arferol sy'n rhwystro archfarchnadoedd rhag siarad â'i gilydd i gytuno ar beth i'w wneud. Mae amrywiaeth o feysydd lle, mewn gwirionedd, mae'n synhwyrol i'r archfarchnadoedd gydlynu'r hyn y maen nhw'n ei wneud, ac, mewn gwirionedd, rydym yn chwilio am safbwynt mwy cyson o ran y cyfyngiad gwirfoddol a gaiff ei blismona gan archfarchnadoedd ar nifer o eitemau, ond os na ddigwydd hyn, fel awgrymodd y Prif Weinidog, efallai y bydd yn rhaid inni ymyrryd a defnyddio pwerau y credwn sydd gennym ar gael i ni. Ond byddai'n well o lawer gennyf weld dull o reoli nad yw'n golygu rhagor o gamau cyfreithiol gan y Llywodraeth ac, yn yr un modd, byddai'n well o lawer gennyf weld lefel o ymddygiad a chydweithrediad cyhoeddus sy'n golygu nad oes angen gweithredu o gwbl.

O ran taliadau cyfleustodau, mae hynny'n sylw y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ac yn ymwybodol iawn ohono o ran sut y mae cwmnïau cyfleustodau yn ymddwyn. Mae'r rhan fwyaf o'r rhai mwy yn ymddwyn mewn ffordd gymharol dda. Mae eich sylw ynglŷn â phobl nad ydyn nhw ar y grid ar gyfer tanwydd a phŵer yn un y byddaf yn ei godi gyda chyd-Weinidogion, ond gwn ei fod yn fater gwirioneddol ac yn union fel yr ydych yn ei ddisgrifio. Yn aml, mae'r rhain yn bobl sy'n fwy ynysig yn gorfforol ac yn aml, ond nid bob amser, yn bobl hŷn, o bosib mewn categorïau mewn perygl hefyd.

O ran gofal ac iechyd trawsffiniol, dylai'r trefniant arferol fod yn berthnasol. Felly, os yw eich gofal iechyd eilaidd arferol dros y ffin yn Lloegr, yna dyna lle y dylai eich darpariaeth fod, os oes angen gofal dwys arnoch chi, er enghraifft, yn union fel petai'r trefniant fel arall. Nid yw'n fuddiol i neb gael naill ai ymagwedd 'dim ond i Gymru', neu yn wir ymagwedd 'dim ond i Loegr' lle caiff trefniadau trawsffiniol eu terfynu'n fwriadol mewn ffordd nad yw'n ymwneud â darparu'r math cywir o wasanaeth y dylai'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol ym mhob un o'r pedair cenedl ei ddarparu ar gyfer pobl sydd ag angen gwirioneddol.

O ran eich sylw am gydweithrediad y cyhoedd, cytunaf fod hynny'n allweddol, gan nad ydym ond wedi cymryd y camau sylweddol a wnaethom o fewn y 24 awr diwethaf gan fod y rhan fwyaf o aelodau'r cyhoedd yn cydweithredu wrth ddilyn y cyngor a'r arweiniad, ond nid digon ohonyn nhw. Felly, rydym ni wedi gorfod ymyrryd a chymryd camau eithriadol a gaiff eu hategu gan bwerau'r heddlu o fewn yr wythnos hon, ac mae mesurau eraill y gallem eu cymryd, ond byddai'n well o lawer gennyf fod mewn sefyllfa lle nad oes angen i lywodraethau gymryd mwy o gamau cyfreithiol cyfyngol a bod y cyhoedd yn deall y bydd eu hymddygiad yn allweddol i'r ffordd y mae'r coronafeirws yn lledaenu ac yn cael ei atal yn y pen draw, ac, yn y pen draw hefyd, nad ydynt yn gwneud hynny i wneud bywyd y Llywodraeth yn haws, maen nhw'n ei wneud er eu lles eu hunain a lles eu cymunedau eu hunain, a'r bobl hynny y mae'n debyg na fyddan nhw byth yn eu cyfarfod fel arall.

12:10

Diolch ichi am eich datganiad, Gweinidog, ac mae'n dda eich gweld yn ôl yma gyda ni a chlywed bod eich teulu'n ddiogel ac yn iach. Hefyd, unwaith eto, ar ran fy mhlaid a minnau, rwy'n cydymdeimlo â phawb sydd wedi colli anwyliaid oherwydd y clefyd hwn.

Hoffwn ddiolch i'n staff gwych yn y GIG a phawb sy'n ymwneud â'r gwaith ac yn helpu i gyfyngu ar ledaeniad y clefyd ofnadwy hwn. Rhaid i ni fel unigolion wneud popeth a allwn ni, oherwydd mae gan bob un ohonom ni ran i'w chwarae yn hyn. Gweinidog, mae gennych fy nghefnogaeth barhaus i a'm plaid yn ystod y cyfnod anodd hwn, ac mae gennyf ychydig o gwestiynau yr hoffwn eu gofyn.

Rwyf wedi gweld adroddiadau bod meddygon teulu locwm yn gwrthod sifftiau oherwydd diffyg yswiriant salwch a thaliad hefyd os ydych yn marw wrth eich swydd. Dywedodd tua hanner y meddygon locwm a ymatebodd i arolwg Cymdeithas Genedlaethol y Meddygon Teulu Sesiynol eu bod yn cyfyngu ar bryd y byddent ar gael yn ystod y pandemig presennol; mae tri chwarter y rhai a gymerodd ran yn yr arolwg yn y categori mewn perygl oherwydd eu bod naill ai dros 70 neu wedi bod â chyflyrau iechyd sylfaenol eu hunain. Gweinidog, mae'r pandemig presennol yn golygu bod staff locwm yn bwysicach nag erioed. Nid yw problemau iechyd eraill yn diflannu oherwydd ein bod ni'n ymdrin ag achosion o feirws marwol. Pa sicrwydd gall Llywodraeth Cymru ei roi i feddygon teulu locwm, ac i bob meddyg teulu sy'n gweithio yng Nghymru, mewn gwirionedd, y byddant yn derbyn gofal yn ystod yr argyfwng hwn, ac a wnewch chi sicrhau bod meddygon teulu yn cael tâl a thaliad hefyd os ydynt yn marw wrth eu swydd?

Gweinidog, mae dros hanner yr achosion o'r coronafeirws yng Nghymru wedi bod ym Mwrdd Iechyd Aneurin Bevan. A yw Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi edrych ar y rhesymau pam fod gan y bwrdd iechyd hwn lawer mwy o achosion nag unrhyw fwrdd iechyd lleol arall? Pa fesurau ychwanegol sy'n cael eu darparu i'r bwrdd iechyd a'r awdurdodau lleol yn y rhanbarth i ymdopi â llwyth achosion bron i deirgwaith yn uwch na'r bwrdd iechyd lleol uchaf nesaf, ac 14 gwaith yn uwch na'r bwrdd iechyd sydd â'r boblogaeth fwyaf, sef Betsi Cadwaladr?

Roeddwn hefyd yn bryderus o gael e-bost y bore yma oddi wrth swyddog carchar yn y sector cyhoeddus, yr honnir iddo gael gwybod, er iddo gael llawdriniaeth ddargyfeiriol bedwarplyg ar y galon a'i fod yn dioddef o ddiabetes, nad yw yn y categori agored i niwed, a'u bod hefyd yn benderfynol o gadw'r gampfa ar agor yn y carchar. Tybed a allem ni roi canllawiau cryfach os bydd angen, i'r gwasanaeth carchardai, a darparu hefyd, mewn unrhyw fodd y gallwn ni, drwy'r fyddin efallai, gymorth i sicrhau bod y carchardai yn gynaliadwy.

Gweinidog, diolch byth, bod mwyafrif helaeth o'r rhai dros 70 yn dilyn cyngor y Llywodraeth ac yn ynysu eu hunain yn gymdeithasol. Fodd bynnag, mae llawer o bobl hŷn yn cael eu gorfodi i adael diogelwch y cartref i dalu biliau, gan nad oes ganddynt gyfrifon banc traddodiadol neu wasanaeth bancio ar-lein. Gan mai'r grŵp oedran hwn yw'r categori sy'n wynebu'r risg fwyaf, pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael gyda chyd-Aelodau, gyda Llywodraethau Cymru a'r DU, ynghylch ffyrdd o sicrhau bod ein hetholwyr mwyaf agored i niwed yn gallu goroesi'r pandemig hwn yn niogelwch eu cartrefi?

Croesawaf yr hyn y mae Cyngor Caerdydd yn ei wneud i agor cyfleusterau parcio am ddim i feddygon a nyrsys sy'n gweithio yn y Bwrdd Iechyd. Gweinidog, a yw eich Llywodraeth yn gweithio gydag awdurdodau lleol eraill ledled Cymru i sicrhau bod digon o leoedd parcio am ddim i staff y GIG yn ystod y pandemig hwn? Ymelwa, unwaith eto—fel y soniodd Joyce Watson yn gynharach—ar nwyddau: a yw hynny'n fater i'r adran safonau masnach, Gweinidog? Oherwydd mae ymelwa drwy godi prisiau ar yr adeg hon yn dro sâl iawn.

Yn olaf, Gweinidog, mynegwyd nifer o bryderon wrthyf ynghylch pa mor anodd yw hi i'r sector gofal cymdeithasol gael gafael ar nwyddau—pryderon nid yn unig am gyfarpar diogelu personol, sydd, gobeithio, yn cael eu datrys, ond hefyd am brinder eitemau hanfodol eraill, fel padiau anymataliaeth. Gweinidog, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gan gartrefi gofal ledled Cymru stoc ddigonol o eitemau hanfodol?

Gweinidog, hoffwn ddiolch ar goedd i'ch swyddogion sy'n gweithio nos a dydd i sicrhau bod gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn rhedeg yn esmwyth. Mae'n gyfnod heriol i bob un ohonom ni, ond rwy'n sicr y byddwn yn goroesi ac yn gryfach o'i herwydd. Ond nawr mae'n amser i fyfyrio, i helpu eraill yn y ffyrdd cyfyngedig y gallwn ni. Nid yw'n amser i hunanoldeb a thrachwant, ond yn amser i ddeall anghenion pobl eraill, ac i geisio, os gallwn, i wneud y baich yn llai i'r rhai sy'n llai ffodus na ni. Cadwch yn ddiogel, bawb. Diolch.

12:20

Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. O ran eich sylwadau agoriadol ynghylch nid yn unig staff locwm, ond yn fwy cyffredinol, o ran y rhai sydd efallai mewn categorïau mewn perygl, roedd yn un o bryderon Cymdeithas Feddygol Prydain ynghylch gofyn i bobl ddychwelyd i'r maes: efallai eu bod yn bobl yn y categorïau mewn perygl mwyaf, naill ai oherwydd oedran neu gyflwr iechyd sylfaenol. Ond efallai y byddant yn gallu ymgymryd ag amrywiaeth o waith o bell. Dyna pam y penderfynais gyflwyno'r cyfle i gynnal ymgynghoriadau fideo—nid oes angen iddyn nhw fod mewn cysylltiad wyneb yn wyneb, ond gallant barhau i ddarparu cyngor o bell. Felly, mae'n ymwneud â sut yr ydym yn gwneud y defnydd gorau o'r adnoddau sydd gennym ni o ran y bobl ym mhob rhan o'r system. Byddwch yn sylwi bod y Bil hefyd yn rhoi estyniad i'r ddarpariaeth ar gyfer indemniad er mwyn sicrhau bod pobl yn gallu dychwelyd i'r gwaith heb boeni am y risg iddyn nhw os aiff pethau o chwith.

O ran eich pwynt am farwolaeth yn y gwaith—credaf fod hwn yn bwynt arbenigol penodol, mwy gweithredol nag y byddwn yn ei ddisgwyl, ond fy nealltwriaeth i, fy atgof fy hun, yw ei fod, yn gyffredinol, yn tueddu i fod yn fudd o gynllun pensiwn, ac mae staff locwm yn dewis peidio â bod yn rhan o'r cynllun pensiwn. Felly, ni fyddwn i eisiau ceisio rhoi ateb i hynny. Byddai'n rhaid i mi fynd i ofyn am gyngor ynghylch hynny, pa fath o rwystr yw hynny, a pha un a oes pethau eraill y gallem eu gwneud mewn gwirionedd i annog mwy o feddygon locwm i barhau i ymarfer mewn ffordd sy'n ddiogel iddyn nhw ac i gleifion.

O ran Gwent, nid wyf yn disgwyl i'r sefyllfa bresennol sydd yn dangos bod mwy o achosion yng Ngwent fod y sefyllfa derfynol. Rwyf yn credu, pan edrychwch chi ar y ffaith bod clefyd y coronafeirws yn cylchredeg yn y gymuned mewn rhannau sylweddol o Gymru, fe welwch chi fod ffigurau mewn rhannau eraill o Gymru, ac yn wir mewn rhannau eraill o'r DU, yn dal i gynyddu.

Er hynny, rwy'n pryderu am effaith bosibl y coronafeirws ar ein cymunedau lleiaf cefnog. Mae Cymru, fel cenedl, o'i chymharu â Lloegr, o safbwynt iechyd, yn hŷn, yn dlotach ac yn salach. Felly, mae'r risg yn un amlwg. Nawr, bydd hynny'n amlygu ei hun mewn gwahanol rannau o Gymru yn wahanol, yn union fel y gwnaiff yn Lloegr, lle mae ganddyn nhw gymunedau sy'n debyg iawn i'r rhai sydd gennym ni yma yng Nghymru.

Felly, mae hynny'n bryder gwirioneddol, ond nid wyf yn credu y bydd y ganran yr ydym yn ei gweld ar hyn o bryd mewn cysylltiad â Gwent a gweddill y wlad yn aros fel y mae yn awr. Ein tasg yw gwneud yn siŵr bod pob rhan o'r wlad yn cael ei chefnogi'n briodol, ac nid ydym ni eisiau gweld unrhyw un rhan yn cael ei llethu o gwbl.

O ran eich sylwadau am garchardai, fel y gwyddoch, nid yw carchardai wedi'u datganoli, ac nid wyf mewn sefyllfa i ddechrau ymgymryd â chyfrifoldebau newydd ar hyn o bryd i geisio ymdrin â materion mewn carchardai. Ond un sylw yr wyf wedi ei wneud yng nghyfarfodydd rheolaidd COBRA yr wyf wedi bod yn eu mynychu gyda'r Prif Weinidog, ac yn wir mewn is-grwpiau COBRA, yw'r sylw bod llawer o'r swyddogaethau sydd heb eu datganoli yn cael effaith uniongyrchol. Er enghraifft, pe bai Llywodraeth y DU yn penderfynu ymgymryd â rhaglen rhyddhau yn gynnar, i leihau'r pwysau sydd ar garcharorion sydd mewn categorïau risg isel, wel mae gan nifer o'r carcharorion hynny gyflyrau iechyd sylfaenol sylweddol, ac mae'n ddigon posib y gallent fod y bobl a fyddai'n agored i niwed yn awtomatig ac y byddai angen cefnogaeth sylweddol arnyn nhw. Byddai angen inni wybod hynny ymlaen llaw er mwyn rhoi iddyn nhw y gefnogaeth y byddai ei hangen arnyn nhw. Mae gennym ni hefyd, ym Mrynbuga, nifer o garcharorion hŷn beth bynnag, a bydd rhai o'r rheini yn ddigon hen i fod yn y categori mewn perygl gan eu bod dros 70. Felly, mae unrhyw ddewisiadau a wneir ynghylch y carchardai, o ran dewisiadau ynglŷn â beth sy'n digwydd gyda charchardai sy'n rhyddhau'n gynnar neu fel arall, yn cael effaith uniongyrchol ar wasanaethau datganoledig.

Ac, o ran eich sylw am y rhai dros 70, mae'r cymorth hwnnw'n cael ei gydlynu a'i arwain, fel y dywedais, gan lywodraeth leol, ac rwy'n ddiolchgar iawn am waith y Cynghorydd Andrew Morgan, arweinydd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a hefyd y Cynghorydd Huw David, y prif lefarydd ar iechyd a gofal cymdeithasol. Maen nhw wedi bod yn agored ac yn barod i helpu a chefnogi, ac felly hefyd eu cydweithwyr ar draws y sbectrwm gwleidyddol o fewn llywodraeth leol.

Mae angen i ni ailadrodd yr esiampl—y rheswm pam ein bod ni'n gofyn i bobl aros gartref yw i helpu i'w hamddiffyn nhw. Felly, nid yw oherwydd ein bod yn credu bod gan bobl dros 70 y clefyd coronafeirws a'u bod yn ei roi i bobl eraill—ond mewn gwirionedd oherwydd eu bod yn fwy agored i niwed ac yn fwy tebygol o ddioddef niwed gwirioneddol. Dyna pam ein bod ni wedi rhoi'r cyngor hwnnw, ac mae'r Llywodraeth yn arwain drwy esiampl—nid ein bod ni i gyd dim ond wedi cytuno fel Senedd gyfan i gael sesiwn lai heddiw, ond byddwch yn gwybod, ar ôl i'r cyngor hwnnw gael ei roi, bod aelodau o'r Llywodraeth sydd yn y categori hwnnw wedi gweithio o gartref ers hynny. Nid ydych chi wedi eu gweld yn y Siambr, nid ydynt yn dod i mewn i adeiladau Llywodraeth Cymru i weithio, mae'n rhaid iddyn nhw weithio o bell, ac mae'n bwysig iawn nad ydym ni ddim ond yn gofyn i bobl eraill ddilyn yr esiampl honno, ond ein bod yn ei dilyn ein hunain hefyd.

O ran parcio am ddim, rydym, wrth gwrs, yn ffodus o gael parcio am ddim ar draws ein hystadau ysbytai yma yng Nghymru, ond rwy'n falch bod Cyngor Caerdydd wedi sicrhau bod lleoedd parcio ychwanegol ar gael i staff y GIG er mwyn iddyn nhw allu cyrraedd y gwaith, a bod y gwasanaeth parcio a theithio arferol, trefniadau a allai fod wedi eu hatal rhag cyrraedd y gwaith mor brydlon â phosib wedi cael eu newid yn benodol ar gyfer gweithwyr y GIG, ond, wrth gwrs, mae'n ffaith, gan fod llai o bobl yn symud o gwmpas, fod llifoedd traffig yn wahanol iawn ac yn llawer cyflymach, fel y canfûm ar sawl achlysur yn ystod yr ychydig wythnosau diwethaf.

Ac, o ran eich sylw am gyflenwadau cartrefi gofal, ceir sgwrs reolaidd rhwng swyddogion a llywodraeth leol a hefyd sefydliad mwyaf darparwyr y sector annibynnol ynglŷn â sut y mae stociau'n cael eu caffael a beth y mae hynny'n ei olygu iddyn nhw, felly rwy'n ffyddiog bod perthynas adeiladol yn bodoli a bod trefniadau i bobl godi pryderon os oes ganddyn nhw rai.

12:25

Gweinidog, yn gyntaf, diolch i chi am yr holl atebion manwl a'r holl nodiadau cyngor rheolaidd ac ati, sydd o gymorth sylweddol i bob un ohonom ni, fe gredaf, sy'n ateb llawer, llawer o gwestiynau gan aelodau'r gymuned ar yr adeg arbennig o anodd hon. Ac mae'n gyfnod anodd a phryderus iawn, felly hoffwn ganmol ar goedd, rwy'n credu, y staff yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, sydd, drwy gydol y cyfnod hwn, drwy gerddoriaeth a dawns, wedi cynhyrchu fideos, sydd wedi lledaenu fel tân gwyllt, bron, yn cyfleu negeseuon diogelwch. Nid yn unig y mae'n codi morâl y staff yn yr ysbyty, ond hefyd credaf mai dyma'r ffordd fwyaf rhagorol o gyfleu'r negeseuon diogelwch hynny, ac, os nad yw pobl wedi eu gweld, credaf y dylen nhw efallai gael golwg arnyn nhw a'u rhannu, oherwydd eu bod yn wirioneddol drawiadol—ac mae'n drawiadol bod y staff wedi llwyddo i roi o'u hamser eu hunain yn yr ysbytai i gynhyrchu'r rhain ac i esbonio i'r cyhoedd beth y maen nhw'n ei wneud.

A gaf i ofyn ychydig o gwestiynau byr? Yn gyntaf—ac mae'n ymwneud â phrofi, oherwydd rwyf wedi cael meddygon teulu yn ardal Cwm Taf yn codi'r mater ynghylch aelodau o'r teulu â pheswch ac ati, sydd wedi golygu bod rhai staff allweddol yn gorfod aros adref, ac y bu anawsterau o ran gallu manteisio ar y gwasanaeth profi, nid oedd rhif y llinell gymorth ar gael ac ati. Tybed pa fonitro sy'n digwydd i sicrhau bod y problemau penodol hynny bellach wedi'u datrys, oherwydd gallant arwain at oedi sylweddol o ran dychwelyd i'r gwaith ymhlith staff meddygol allweddol.

Ac mae'r ail bwynt yn ymwneud â gwirfoddoli. Fel y gwelsom ni adeg y llifogydd, yn sicr yn ardal Rhondda Cynon Taf, daeth llawer, llawer o bobl ymlaen i helpu eu cymdogion a'u cyd-ddyn, a'r hyn sydd wedi bod yn bwysig iawn nawr, fe gredaf, yw bod gennym ni lawer o bobl yn dod ymlaen i wirfoddoli. Mae Rhondda Cynon Taf, wrth gwrs, wedi sefydlu system ar gyfer cofrestru gwirfoddolwyr, oherwydd gall gwirfoddoli ynddo'i hun fod yn beryg oherwydd natur y coronafeirws, felly mae gwirfoddoli cyfrifol, mae'n ymddangos i mi, yn hollol allweddol. Ac oherwydd y gallai hyn orgyffwrdd â meysydd gofal cymdeithasol ac ati, tybed beth sy'n cael ei wneud i ledaenu'r arferion gorau sydd i'w gweld mewn rhai awdurdodau lleol ledled Cymru, ac i sicrhau bod canllawiau priodol ar gael ar gyfer gwirfoddoli diogel.

Diolch. Dechreuaf gyda'r un olaf, am wirfoddoli cyfrifol. Rydym ni wedi gweld llu o bobl sy'n barod i helpu i drefnu gweithgarwch yn eu cymuned eu hunain. Credaf fod swyddogaeth drefniadol awdurdodau lleol yn hynod o bwysig yn hyn o beth, ac yn sicr drwy brofiad cynghorau Rhondda Cynon Taf, a phrofiadau cynghorau eraill o lifogydd, mae'r ymdrech a wnaed ganddyn nhw eu hunain, yn rhoi sylfaen dda ar gyfer gwneud hynny nawr am gyfnod hirach o lawer. Ond rydym yn ceisio dysgu am yr hyn sydd yn gweithio, ac, o weld cyn-Weinidog llywodraeth leol yn y Siambr, mae'n deg dweud y ceir adegau pan nad yw pobl mor awyddus i ddysgu a mabwysiadu'r hyn sydd yn gweithio'n dda mewn rhan arall o Gymru, ond yn llawer hapusach i fod yn wahanol gan wneud pethau yn eu ffordd eu hunain. Mae hwn yn gyfnod lle dylid rhoi'r pethau hynny o'r neilltu, i ddeall beth sy'n gweithio'n dda ac i allu ei rannu a'i fabwysiadu'n gyflym ym mhob rhan o'r wlad lle bydd yn fuddiol—nid mewn llywodraeth leol yn unig; mae hynny hefyd wedi bod yn wir ar adegau amrywiol yn y gwasanaeth iechyd, lle na fu rhai byrddau iechyd bob amser yn barod i fabwysiadu arferion da mewn rhannau eraill o'r gwasanaeth. Does dim amser i hynny, a does dim amynedd ar gyfer hynny nawr. Ac, fel rwy'n dweud, rwy'n credu, ar draws sbectrwm gwleidyddol llywodraeth leol, y bu cydweithio gwirioneddol ac mae wedi bod yn rhan drawiadol iawn o'r ymateb.

O ran profion, mae'r capasiti eisoes ar gynnydd ac, fel y nodais yn fy natganiad yr wythnos diwethaf, yn y briff i'r wasg dros y penwythnos, ac yn gynharach yn fy natganiad heddiw, mae'r cynnydd sylweddol mewn profion sydd ar ddod yn y dyfodol agos iawn yn caniatáu inni brofi mwy o bobl. A'r sylwadau yr ydych yn eu gwneud am feddygon teulu a'u teuluoedd—mae'n rhan o'r sylw ehangach hwnnw eisoes sef po fwyaf yw'r capasiti sydd gennym ni, y cyflymaf y gellir profi pobl i'w cael yn ôl i'r gweithle. Ond mae rhai o staff y GIG eisoes yn cael eu profi am eu bod yn ynysu eu hunain, a bydd pobl yn dychwelyd am eu bod eisoes wedi cael profion yn unol â'r canllawiau a roddwyd gan y Prif Swyddog Meddygol tua diwedd yr wythnos diwethaf.

Yn olaf, o ran y sylw calonogol iawn a wnaethoch chi ynglŷn â gwaith staff Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ac nid ar draws Bwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg yn unig, ond ar draws y gwasanaeth iechyd drwyddo draw. Ar hap, gwelais ddolen i fideo o nyrsys yn Nhreforys y bore yma yn canu 'I'll Be There'. Nawr, mewn cyfnod arferol gyda meicroffon a chyfle i ganu cân fel honna, byddech yn cael trafferth i'm llusgo i ffwrdd—[Torri ar draws.] Mae'n gyfnod eithriadol, ond efallai nid mor eithriadol â hynny. [Chwerthin.] Mewn gwirionedd, mae gweld yr hyn y mae staff y gwasanaeth iechyd yn ei wneud drostynt eu hunain, ar gyfer eu morâl a'u lles eu hunain, ond hefyd i ddeall bod effaith ar eu cydweithwyr ac ar y cyhoedd hefyd, yn atgyfnerthu pa mor anhygoel o ffodus yr ydym ni i gael ymrwymiad a thosturi ein GIG a'n gweithlu ehangach. Fel y dywedais yn gynharach, bydd eu hangen arnom ni nawr yn fwy nag erioed.

12:30
9. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Coronafeirws (COVID-19)
10. Datganiad gan y Gweinidog Addysg: Coronafeirws (COVID-19)
11. Datganiad gan Weinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru: Coronafeirws (COVID-19)
12. Datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: Coronafeirws (COVID-19)
13. Statement by the Minister for International Relations and Welsh Language: Coronavirus (COVID-19)

Mae eitem 9, eitem 10, eitem 11, eitem 12 ac eitem 13 ar yr agenda, sydd i gyd yn ddatganiadau gan Weinidogion y Cabinet, i gyd wedi eu hatgyfeirio ar gyfer datganiadau ysgrifenedig.

14. Dadl: Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Coronafeirws

Felly, symudwn yn awr at y ddadl ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil y coronafeirws, a galwaf ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y cynnig hwnnw, Vaughan Gething.

Cynnig NNDM7316 Vaughan Gething

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau yn y Bil Coronafeirws i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig yn ffurfiol y cydsyniad deddfwriaethol sydd ger ein bron heddiw. Rwy'n argymell bod y Senedd yn rhoi cydsyniad deddfwriaethol i'r Bil coronafeirws sydd gerbron Senedd y DU. Rwy'n gofyn i'r Aelodau gytuno y dylai Senedd y DU ystyried darpariaethau Bil y coronafeirws, i'r graddau y maen nhw'n dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd.  

Fel y bydd yr Aelodau yn ymwybodol, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru, ynghyd â'r tair Llywodraeth genedlaethol arall ledled y DU, ein cynllun gweithredu ar y cyd ar gyfer coronafeirws ar 3 Mawrth. Roedd hwn yn nodi mesurau arfaethedig a oedd yn ofynnol i ymateb i'r achos COVID-19. Mae fy swyddogion yn Llywodraeth Cymru wedi gweithio'n agos gyda chymheiriaid ledled y DU i ddatblygu'r gyfres o fesurau sydd wedi eu nodi yn y cynllun hwnnw. Nod y mesurau sy'n cael eu cynnig, yw bod yn rhesymol, yn gymesur ac yn seiliedig ar y cyngor a'r dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf.  

Mae'r cynllun gweithredu yn nodi'r hyn yr ydym ni'n ei wybod am y feirws a'r clefyd y mae'n ei achosi. Mae'n manylu ar yr hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud nesaf, yn dibynnu ar yr trywydd y bydd yr achosion o coronafeirws yn ei gymryd. Mae'r cynllun hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y strategaeth pedwar cam: cyfyngu, oedi, ymchwil a lliniaru. Rydym ni ar hyn o bryd yn y cyfnod oedi, sy'n golygu ein bod ni wedi cymryd y penderfyniad anodd i gau pob ysgol ledled Cymru o 20 Mawrth ymlaen. Fel y mae'r Aelodau yn gwybod, maen nhw ar hyn o bryd yn cael eu troi at bwrpas arall i ganiatáu i weithwyr critigol barhau i ddychwelyd i'r gwaith.  

Rydym ni eisiau arafu lledaeniad y feirws, a dyna pam mae'r cyfyngiadau llymach newydd a gafodd eu cyhoeddi ddoe mor bwysig. Rydym ni'n ei gwneud yn ofynnol i bobl aros gartref a dim ond mynd allan os yw hynny'n gwbl angenrheidiol ar gyfer prynu bwyd a hanfodion eraill. Ni ddylai digwyddiadau cymdeithasol a chyfarfodydd sy'n cynnwys mwy na dau o bobl gael eu cynnal yn gyhoeddus. Er hynny, bydd gwasanaethau lleol y GIG, gan gynnwys meddygon teulu a fferyllfeydd, yn aros ar agor, er y bydd yr Aelodau yn ymwybodol nad oes llawer o feddygon teulu yn gwneud cyswllt wyneb yn wyneb erbyn hyn, bydd pob siop ar y stryd fawr ar gau heblaw'r rhai sy'n gwerthu bwyd, banciau a swyddfeydd post. Mae'n gyfrifoldeb ar bob un ohonom ni i gydymffurfio ac mae'n rhaid i ni wneud hyn er mwyn achub bywydau a diogelu ein gwasanaeth iechyd gwladol.  

Rydym ni hefyd wedi gofyn i rai grwpiau poblogaeth—y rhai dros 70 oed, y rhai sydd â chyflyrau iechyd isorweddol, a menywod beichiog—ynysu eu hunain er mwyn amddiffyn eu hunain am o leiaf y 12 wythnos nesaf. I'r rhai sy'n dangos symptomau peswch parhaus newydd neu dymheredd uchel, rydym ni wedi gofyn iddyn nhw ynysu eu hunain gyda'r bobl y maen nhw'n byw gyda hwy. Mae'r cynllun hefyd yn manylu ar y newidiadau i'r ddeddfwriaeth a allai fod yn angenrheidiol er mwyn rhoi i gyrff cyhoeddus ledled y DU yr arfau a'r pwerau y mae eu hangen arnom i ymateb yn effeithiol i'r argyfwng hwn. Dyna pam yr ydym ni'n trafod y cynnig heddiw.

Pwrpas y Bil coronafeirws yw galluogi pob un o'r pedair Llywodraeth ledled y DU i ymateb i sefyllfa argyfwng ac i reoli effeithiau pandemig COVID-19. Bwriad y pwerau sy'n cael eu cymryd yw diogelu bywyd ac iechyd cyhoeddus y genedl. Gallai pandemig difrifol heintio tua 80 y cant o'r boblogaeth, gan arwain at lai o weithlu, mwy o bwysau ar wasanaethau iechyd a phrosesau rheoli marwolaethau.

Mae'r Bil yn cynnwys mesurau dros dro sydd wedi eu llunio naill ai i ddiwygio deddfwriaeth bresennol neu i gyflwyno pwerau statudol newydd sydd wedi eu llunio i liniaru'r effeithiau hynny. Mae'r Bil hwn yn sicrhau bod gan yr asiantaethau a'r gwasanaethau dan sylw—ysgolion, ysbytai, yr heddlu a mwy—yr arfau a'r pwerau sydd eu hangen arnyn nhw. Fodd bynnag, mae gan bob un o bedair gwlad y Deyrnas Unedig ein cyfres ein hunain o gyfreithiau. Felly, mae'r arfau a'r pwerau hyn yn amrywio i raddau amrywiol ym mhob ardal. Mae'r Bil, felly, yn darparu ystod o arfau a phwerau sy'n ofynnol i sicrhau cysondeb o ran canlyniadau ledled y DU.

Mae gan y Bil bum prif faes gweithredu i gefnogi'r ymateb ledled y DU a Llywodraethau cenedlaethol datganoledig. Yn gyntaf, bydd yn helpu i gynyddu'r gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol sydd ar gael. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy, er enghraifft, dileu rhwystrau i alluogi staff y GIG a gweithwyr cymdeithasol sydd wedi ymddeol yn ddiweddar i ddychwelyd i'r gwaith.

Yn ail, bydd yn ysgafnhau'r baich ar staff rheng flaen. Bydd y cynigion yn y Bil yn symleiddio gwaith papur a gofynion gweinyddol er mwyn helpu i ryddhau cleifion yn gyflymach. Mae angen i ni ryddhau gwelyau ysbyty i'r rhai sy'n sâl iawn i helpu clinigwyr i ganolbwyntio ar ofal rheng flaen. Bydd hefyd yn gwneud newidiadau i ddyletswyddau gofal cymdeithasol cynghorau. Bydd hyn yn eu galluogi i flaenoriaethu pobl sydd â'r anghenion gofal mwyaf a gwneud y defnydd gorau o'r gweithlu gofal cymdeithasol i oedolion.

Nod y drydedd cyfres o gynigion yw cyfyngu'r feirws a'i arafu drwy leihau unrhyw gysylltiad cymdeithasol diangen. Mae'r pwerau hyn yn canolbwyntio ar gyfyngu digwyddiadau a chrynoadau a chryfhau pwerau cwarantîn yr heddlu a swyddogion mewnfudo. Bydd hyn yn cynnwys y pŵer i gadw pobl yn gaeth a'u rhoi mewn cyfleusterau ynysu priodol os yw hynny'n angenrheidiol i ddiogelu iechyd y cyhoedd.

Mae rheoli, gyda pharch ac urddas, y rhai sydd wedi marw bob amser yn bwysig iawn ond yn arbennig o amlwg ar hyn o bryd. Bydd y camau yr ydym ni'n eu cymryd i ymateb i'r pandemig hwn yn achub bywydau. Fodd bynnag, yn anffodus, fel yr ydym ni wedi ei weld eisoes, bydd pobl yn colli anwyliaid o ganlyniad i'r clefyd hwn. Bydd y Bil yn helpu'r system rheoli marwolaethau i ymdrin â'r galw cynyddol am ei gwasanaethau. Bydd yn galluogi cofrestru marwolaethau pan na fydd pobl o bosibl yn gallu bod yn bresennol yn swyddfa'r cofrestrydd yn bersonol. Bydd yn ymestyn y rhestr o bersonau a gaiff gofrestru ac mae'n bosibl y bydd amserau gweithredu amlosgfeydd hefyd yn cael eu hymestyn.  

Nod y gyfres olaf o fesurau yw cefnogi pobl yn gyffredinol drwy ganiatáu iddyn nhw hawlio tâl salwch statudol o'r diwrnod cyntaf un, hyd yn oed os ydyn nhw'n hunan-ynysu heb symptomau. Mae'r mesurau hefyd yn ceisio cefnogi'r diwydiant bwyd i gynnal cyflenwadau.

Mae rhai o'r newidiadau y mae'r Bil hwn yn eu cynnig yn ymdrin â lleddfu'r baich ar staff rheng flaen y GIG a gofal cymdeithasol i oedolion. Bydd rhai o'r mesurau yn helpu staff i ddychwelyd i'r gwaith ym maes iechyd a gofal cymdeithasol. Bydd rhai yn helpu pobl mewn cymunedau i ofalu amdanyn nhw eu hunain, eu teuluoedd, eu hanwyliaid a'r gymuned ehangach.

Bydd yr Aelodau hefyd yn ymwybodol bod Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws) (Cymru) 2020 wedi eu gosod ar 17 Mawrth a'u bod wedi dod i rym y diwrnod wedyn. Mae'r rheoliadau hyn yn cyfateb i reoliadau a gafodd eu gwneud yn Lloegr i leihau'r risgiau iechyd cyhoeddus sy'n deillio o drosglwyddo coronafeirws. Cafodd Rheoliadau Cymru eu gwneud o dan weithdrefn frys sydd wedi ei nodi yn Neddf Iechyd y Cyhoedd (Rheoli Clefydau) 1984. Bydd y Bil coronafeirws, pan ddaw i rym, yn dirymu Rheoliadau Cymru a Lloegr ac yn eu disodli drwy ddarpariaethau tebyg. Mae'r rheoliadau ar waith felly fel mesur dros dro tan i'r Bil ddod i rym.

Ond un rhan yn unig yw'r Bil hwn o'r ateb cyffredinol. Nid yw pob un o'r arfau na'r pwerau sydd eu hangen i fynd i'r afael â phandemig COVID-19 wedi eu cynnwys yn y Bil. Mae rhai eisoes yn bodoli mewn statud. Mae rhai yn bodoli mewn rhai rhannau o'r DU ond nid mewn eraill. Nod y Bil hwn yw sicrhau bod modd cyflawni'r camau i fynd i'r afael â'r bygythiad hwn yn effeithiol ar draws pedair gwlad y DU. Y nod yw i'r Bil gyrraedd y llyfr statud yr wythnos hon. Fodd bynnag, bwriedir i'r darpariaethau sy'n ymwneud â thâl salwch statudol gael effaith ôl-weithredol, gan fynd yn ôl i 13 Mawrth.

Mae Llywodraeth Cymru, ynghyd â'r tair Llywodraeth genedlaethol arall yn y DU, wedi penderfynu adolygu deddfwriaeth a'i diwygio lle bo angen. Fy nod i yw sicrhau bod yr ymateb yng Nghymru yn gyson ac yn effeithiol. Mae'r rhain yn fesurau eithriadol ar gyfer y cyfnod eithriadol yr ydym ni'n ei wynebu. Bydd y ddeddfwriaeth yn gyfyngedig o ran amser am ddwy flynedd, ac ni fydd pob un o'r mesurau hynny yn dod i rym ar unwaith.

Mae'r Bil yn caniatáu i bedair Llywodraeth y DU gychwyn y pwerau newydd hyn pan fo'u hangen. Mae'n bosibl cychwyn llawer o'r mesurau yn y Bil yn ôl yr angen, ac yr rwyf i'n cydnabod yr angen i gydbwyso fy nyletswydd i ddiogelu iechyd y cyhoedd yn erbyn fy nyletswydd i barchu hawliau unigol. Yn hollbwysig, mae'r Bil yn darparu i bob un o'r pedair Llywodraeth yn y DU roi terfyn ar bwerau pan nad oes eu hangen mwyach, a bydd y penderfyniad hwnnw'n seiliedig ar gyngor prif swyddogion meddygol y pedair gwlad.

Mae'r Bil yn ddewis tryloyw i ystyried ein setliad datganoli mewn ffordd sy'n galluogi Gweinidogion Cymru i gymryd camau cyflym pan a lle bo angen hynny. Rydym ni'n canfod ein hunain mewn cyfnod digynsail yng nghanol argyfwng iechyd cyhoeddus. Rwy'n gwybod y byddaf i'n parhau i wynebu eich craffu, fel y dylwn i ei wneud. Fodd bynnag, gofynnaf i'r Aelodau a'r cyhoedd am eich ymddiriedaeth a'ch cefnogaeth barhaus i gymryd y pwerau newydd hyn. Rwy'n gofyn am y gefnogaeth honno i gymryd camau i achub cymaint o fywydau â phosibl yma yng Nghymru. Rwy'n gofyn i'r Aelodau gefnogi'r cynnig sydd ger ein bron.

12:40

Diolch. A gaf i alw yn awr ar Gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad? Mick Antoniw.

Diolch, Dirprwy Lywydd. A gaf i ddechrau drwy ddweud fy mod i wedi cyflwyno adroddiad ar y mater hwn i'r Pwyllgor y bore yma? Oherwydd cyfyngiadau amser, nid yw'r Pwyllgor wedi gallu ystyried manylion y Bil. Rwyf i wedi gallu edrych drwy'r Bil, ac rwy'n adrodd, mewn gwirionedd, fel Cadeirydd y pwyllgor yn y swyddogaeth honno.

A gaf i ddweud yn gyntaf, wrth gymryd pwerau argyfwng, bod o hyd a phob amser angen i gynnal ewyllys da a chydsyniad y boblogaeth yn gyffredinol? Mae pwerau brys, i ryw raddau, yn ddibynnol ar hynny'n digwydd mewn gwirionedd. Ac un o'r pryderon yr wyf yn credu y byddai gen i, oni bai bod rhai o'r materion sy'n ymwneud â thlodi a allai godi yn cael eu datrys, y gallai'r rheini fod yn her i weithredu a defnyddio pwerau argyfwng—er enghraifft, y rhai sy'n dibynnu ar fanciau bwyd, y rhai sy'n cael anhawster cael gafael ar incwm i fyw arno. Ac, os ydym ni'n gwbl onest yn ei gylch, nid yw £94 tâl salwch statudol yn ddigon i deulu fyw arno am wythnos. Mae'r rheini'n faterion a fydd, gobeithio, yn cynnwys datganiadau ychwanegol gan Lywodraeth y DU, ond maen nhw yn bethau y mae wir rhaid mynd i'r afael â nhw.

Mae pwerau argyfwng, a'r Llywodraeth yn cymryd pwerau argyfwng, yn eithriad. Mae pwerau brys yn cael eu cymryd lle mae bygythiad gwirioneddol i ddiogelwch neu i fywyd. Nid wyf i'n credu y gall unrhyw un ohonom ni amau, o dan yr amgylchiadau presennol, bod yr amgylchiadau yn eithriadol, a bod bygythiad gwirioneddol, a bod angen cymryd pwerau er mwyn diogelu bywyd. Mae hynny'n golygu atal rhai hawliau unigol a chyfunol, a'r prosesau barnwrol a chyfreithiol sydd fel arfer yn bodoli i roi'r amddiffyniadau hynny. Felly, o fewn y cyd-destun hwnnw mae'r pwerau brys hyn yn cael eu ceisio yn briodol.

O ran arfer pwerau, nid yw'r Senedd yn diflannu, ac nid yw'r Senedd hon yn pylu i'r cefndir, oherwydd y Senedd sy'n trosglwyddo rhai o'i phwerau am gyfnod i'r Weithrediaeth i weithredu. Mae'n bwysig iawn, felly, bod rhai rhwystrau a gwrthbwysau yn parhau. Felly, rwyf yn croesawu'n fawr y consesiwn a wnaed gan y Senedd i adnewyddu'r pwerau penodol hynny bob chwe mis. Rwy'n sylwi bod Pwyllgor Tŷ'r Arglwyddi a ystyriodd y Bil hwn wedi codi'r un pwynt mewn gwirionedd, gan awgrymu y byddai blwyddyn yn briodol. Rwy'n gwybod bod y gwrthbleidiau i'r Llywodraeth wedi cyflwyno chwe mis, a bod hynny wedi ei dderbyn. Ac rwy'n credu mai chwe mis yw'r cyfnod priodol i ymarfer y Senedd i ystyried a oes angen ymestyn y pwerau hynny ymhen chwe mis.

A gaf fi ddweud hefyd fy mod i'n croesawu cymal 83, sy'n ei gwneud yn ofynnol i Lywodraeth y DU roi adroddiadau bob dau fis ar feysydd nad ydyn nhw wedi eu datganoli? Y rheswm yr wyf i'n pwysleisio'r pwynt penodol hwnnw yw oherwydd, o ran y pwerau sydd wedi eu rhoi i Weinidogion Cymru, nid oes gofyniad adrodd tebyg, nid oes gofyniad cyfreithiol tebyg. Felly, yr hyn yr wyf i'n ei ofyn gan y Llywodraeth yw bod ymrwymiad y bydd yr un darpariaethau adrodd sy'n bodoli ar gyfer Llywodraeth y DU yn cael eu derbyn gan Lywodraeth Cymru, ac y byddwn ni'n cael yr adroddiadau bob dau fis hynny ynghylch arfer y pwerau hynny.

Y pwynt arall yr wyf i am ei godi sy'n bwysig, yn fy marn i, yw, os yw'r Senedd yn mynd i fod yn ystyried y Bil yn ei gyfanrwydd ac yn arfer y pwerau hynny bob chwe mis, yna mae angen cynnal adolygiad o fewn y Cynulliad, naill ai gan bwyllgor neu o fewn y Cynulliad fel pwyllgor yn ei rinwedd ei hun, efallai hyd yn oed bob pum mis, fel y bydd adroddiadau llawn am weithrediad y Bil pan ystyrir y mater hwn ar lefel Llywodraeth y DU o ran nid yn unig y ffordd yr ydym ni wedi arfer y pwerau sydd wedi eu rhoi i Weinidogion Llywodraeth Cymru, ond hefyd effaith y pwerau Llywodraeth y DU hynny eu hunain ar Gymru. Dylai ein pryder fod nid yn unig gyda'r meysydd sydd wedi eu datganoli, ond hefyd effaith pwerau brys ar bobl Cymru a'r ffordd y mae hynny'n rhyngweithio.

Felly, rwy'n credu, o fewn y cyd-destun hwnnw, dyna'r pwyntiau cyfansoddiadol sydd yn fy marn i yn ymdrin â rhai o'r pryderon a allai fodoli o ran unrhyw Lywodraeth yn cymryd pwerau argyfwng. Rwy'n credu ei bod hi'n iawn bod y pwerau hyn yn cael eu cymryd. Nid yw'n fwriad gennyf i fynd drwy fanylion y rheini; mae'r rheini wedi'u hamlinellu gan y Gweinidog. Dim ond y bydd rhwystrau a gwrthbwysau yn cael eu cynnal, nid yn unig ar lefel Llywodraeth y DU, ond hefyd gan y Cynulliad hwn: a byddwn ni'n adolygu'r rheini, byddwn ni'n eu hadolygu'n rheolaidd ac yn cyflwyno adroddiadau rheolaidd ar y broses o arfer y pwerau eithriadol hynny sydd wedi eu rhoi i Weinidogion Llywodraeth Cymru.  

12:45

Rwy'n falch o gael cymryd rhan yn y ddadl hynod bwysig hon y prynhawn yma. Mae'r pwerau sydd yn y Bil hwn, o dan yr amgylchiadau, o gofio ein bod ni mewn cyfnod eithriadol, yn gwbl briodol a byddan nhw, gobeithio, yn rhoi arfau ychwanegol i Lywodraeth Cymru a fydd yn helpu i baratoi'r Llywodraeth yn well ar gyfer yr wythnosau a misoedd i ddod.  

Mae'n rhaid cyfaddef bod rhai darpariaethau yn y Bil hwn a fydd yn ymddangos yn eithafol i lawer o bobl ac a allai gyfyngu ar ryddid pobl ac, fel un a ddaeth i wleidyddiaeth i hyrwyddo rhyddid yr unigolyn, rwyf innau hefyd yn gweld rhai o'r mesurau yn ddidostur, ond o gofio difrifoldeb y sefyllfa, mae'n bwysig cael y pwerau brys hyn fel dewis olaf. Ond mae'n werth pwysleisio, fel y dywedodd y Gweinidog, mai dros dro y mae'r pwerau hyn yn cael eu cyflwyno.  

Dirprwy Lywydd, os caf i nawr droi at rai o'r manylion yn y Bil hwn. Mae'n cynnwys cymalau pwysig yn ymwneud â chofrestru brys nyrsys a gweithwyr iechyd a gofal proffesiynol eraill o dan Atodlen 1 i'r Bil. A gobeithio y bydd y cymalau hyn yn helpu i ymdrin ag unrhyw gynnydd sylweddol yn nifer y rhai y mae angen gofal meddygol arnyn nhw, yn ogystal â mynd i'r afael ag unrhyw brinder yn lefel y staff cymeradwy sy'n gallu helpu ar hyn o bryd. Mae'n gwbl briodol bod cofrestriadau brys yn digwydd yn gyflym a bod ein gweithlu yn y GIG mor barod â phosibl drwy gydol y cyfnod hwn.  

Fodd bynnag, mae hefyd yn bwysig bod mesurau diogelu priodol ar waith i sicrhau bod y rhai sy'n trin pobl yn glinigol ddiogel i gyflawni eu swyddogaethau. Felly, efallai, wrth ymateb i'r ddadl heddiw, y gall y Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym ni am y rhwystrau a'r gwrthbwysau a fydd ar waith yma yng Nghymru i sicrhau bod unrhyw un sy'n cynghori neu'n trin cleifion drwy gydol y cyfnod hwn mor alluog â phosibl i wneud hynny.  

Er mwyn ysgafnhau'r baich ar staff rheng flaen, nodaf fod y Bil hefyd yn cynnwys cymalau yn ymwneud ag absenoldeb gwirfoddoli mewn argyfwng ac iawndal ar gyfer gwirfoddolwyr brys o dan Atodlen 6 y Bil. Mae hyn hefyd yn hollbwysig gan y bydd yn helpu i gael cymaint â phosibl o wirfoddolwyr sy'n gallu llenwi bylchau mewn capasiti a thrwy hynny helpu i ddiogelu gwasanaethau hanfodol. Er enghraifft, rydym ni'n gwybod bod posibilrwydd cryf y bydd gwasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion yn wynebu cynnydd yn y galw a llai o allu i ymdrin â chyfraddau uwch o absenoldeb staff. Felly, mae'n ddealladwy y dylai awdurdodau lleol allu blaenoriaethu gofal er mwyn diogelu bywyd a chyrraedd penderfyniadau cyflym heb ddilyn asesiadau cydymffurfiad llawn Deddf Gofal 2014. Ar yr un pryd, mae'r Bil yn cyflwyno math newydd o absenoldeb statudol di-dâl, yn ogystal â phwerau i sefydlu cynlluniau digolledu, sy'n gwbl briodol i wneud iawn am y golled o ran enillion a threuliau gwirfoddolwyr.  

Un o amcanion allweddol y Bil yw cyfyngu ac arafu'r feirws, ac felly mae'n hanfodol bod gan Lywodraeth Cymru y pwerau ar waith i gyflawni'r amcan hwn yn effeithiol. Mae cymal 49 yn darparu ar gyfer pwerau sy'n ymwneud ag unigolion a allai fod yn heintus o dan Atodlen 20, ac rwy'n gwerthfawrogi y gall y cymal hwn ymddangos yn ddidostur i rai pobl ond, yng sgil cyhoeddiadau ddoe, mae'n bwysig y bydd swyddogion yr heddlu a mewnfudo erbyn hyn yn gallu cyfarwyddo unigolion i aros gartref neu eu cadw mewn lleoliadau addas ar gyfer sgrinio ac asesu. Gobeithio y bydd y mesurau hyn yn mynd rywfaint o'r ffordd i lenwi'r bylchau presennol mewn pwerau i sicrhau sgrinio ac ynysu pobl a allai fod wedi eu heintio neu wedi eu halogi â'r feirws ac i sicrhau y gall cwnstabliaid orfodi mesurau diogelu iechyd pan fo hynny'n angenrheidiol. Wrth gwrs, mae Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru yn gweithio ar y dybiaeth y bydd y mwyafrif helaeth o bobl ym Mhrydain yn cydymffurfio â chyngor swyddogol iechyd y cyhoedd, ac o ganlyniad, dim ond ceisio sicrhau y gall mesurau cymesur gael eu gorfodi pan ac os yw hynny'n angenrheidiol y mae'r cymal hwn yn ei wneud. Ac mae'n rhaid i mi ddweud bod yr hyn a welsom ni dros y penwythnos mewn rhai lleoedd, pan oedd rhai pobl ddim ond yn diystyru cyngor ac yn teithio i gyrchfannau gwyliau mewn rhai rhannau o Gymru, yn gwbl anghyfrifol, a dyna pam y mae angen y pwerau hyn er mwyn atal hyn rhag digwydd yn y lle cyntaf. Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi cymryd camau ddoe i gau meysydd carafanau a mannau sy'n boblogaidd gan dwristiaid.

Dirprwy Lywydd, mae gan bob un ohonom ni ran mewn sicrhau bod ein hetholwyr yn ymwybodol o'r canllawiau diweddaraf a'u bod yn cael cymaint o wybodaeth â phosibl. Er fy mod i'n gwerthfawrogi bod Llywodraethau Cymru a'r DU wedi ymdrechu'n daer i gynghori'r cyhoedd ar y camau i'w cymryd os ydyn nhw'n teimlo bod ganddyn nhw symptomau'r feirws, mae pobl yn dal i gysylltu â'u Haelodau Cynulliad i gael cyngor a chymorth. Fel y dywedodd Joyce Watson yn gynharach, mae rhai yn camhysbysu pobl ar-lein, felly efallai y gallai'r Gweinidog ddweud ychydig mwy wrthym ni ynghylch yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i ehangu cyrhaeddiad ei negeseuon fel nad ydym ni mewn sefyllfa lle mae pobl yn cael eu cadw neu eu hynysu drwy orfodaeth.

Mae rhai pryderon difrifol iawn hefyd ynghylch y modd y mae'r rhai sydd wedi marw yn cael ei reoli gyda pharch ac urddas. Rwy'n gwerthfawrogi bod hwn yn fater arbennig o sensitif, ond er hynny, mae'n bwysig sicrhau bod y prosesau gweinyddol sy'n ymwneud â chofrestru genedigaethau, marwolaethau a marw-enedigaethau yn gallu gweithredu'n effeithiol yn ystod cyfnod yr achosion.

Dirprwy Lywydd, mae sawl maes arall yn y Bil a fydd o bwysigrwydd sylweddol i bobl Cymru, ac rwy'n gobeithio bod Llywodraeth Cymru yn ystyried sut orau i weithio gyda'r darpariaethau yn y Bil hwn. Er bod rhai darpariaethau yn y Bil yn ymddangos yn ddidostur, mae'n rhaid i ni gofio ein bod mewn amseroedd digynsail, ac oherwydd hynny, maen nhw'n galw am gamau na welwyd eu tebyg o'r blaen. Bydd fy nghyd-Aelodau a minnau, wrth gwrs, yn cefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn ac yn parhau i wneud yr hyn a allwn i gefnogi Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i amddiffyn pobl Cymru a lliniaru lledaeniad y feirws dinistriol hwn. Diolch.

12:50

Rwy'n falch o godi i gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon. Yn ei gyfraniad i'r ddadl hon, defnyddiodd Paul Davies y gair 'ddidostur' ddwywaith, ac mae hwn yn fesur didostur; allwn ni ddim esgus ei fod yn ddim byd arall. Rwy'n siŵr na fydd y rhan fwyaf ohonom ni yn y Siambr hon yn cefnogi'r Bil â chalon ysgafn. Byddem ni wedi bod wrth ein boddau yn gweld ein cyd-ddinasyddion yn cydymffurfio â'r hyn y gofynnwyd iddyn nhw ei wneud ac y'i cynghorwyd nhw i'w wneud, ond yn anffodus, fe wyddom bod lleiafrif—ac rwy'n credu mai lleiafrif bach o bobl ydyn nhw—nad oedden nhw'n barod i dderbyn y cyngor clir iawn hwn, ac mae hynny'n golygu bod yn rhaid cael pwerau i amddiffyn y boblogaeth rhag y clefyd digynsail hwn. Nid ydym ni'n gwybod, fel y dywedodd y Gweinidog yn gynharach, yr hyn mae'n mynd i'w wneud a sut y bydd yn effeithio arnom ni, ac felly fe fydd Plaid Cymru, gyda chalon eithaf trwm mewn sawl ffordd, yn cefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn.

Yn fy nghyfraniad, Dirprwy Lywydd, hoffwn i adleisio rhai o'r pryderon sydd wedi eu codi eisoes, yn enwedig gan Mick Antoniw. Nid ynghylch pa un a ddylai'r pwerau fodoli, ond sut y gall y pwerau hynny gael eu defnyddio a sut y gallai'r lle hwn gymryd rhan, oherwydd fel y mae'r Gweinidog wedi ei ddweud, nid yw cymryd y pwerau hyn—rhai o'r pwerau hyn—yn golygu eu defnyddio o reidrwydd; efallai na fydd angen hynny. Ond mae rhai meysydd, ac rwy'n siŵr y bydd llawer o Aelodau eraill y Senedd wedi cael sylwadau, er enghraifft, gan bobl anabl sydd wir yn pryderu, os bydd gofynion, gofynion y maen nhw wedi brwydro'n hir drostyn nhw, y maen nhw wedi cymryd blynyddoedd lawer i ymgyrchu dros yr hawl i gael cefnogaeth, yn cael eu dileu, y byddan nhw'n colli pecynnau gofal ac y byddai hynny'n eu gwneud yn agored i niwed. Byddwn i'n dadlau y byddai hynny mewn gwirionedd yn eu gwneud yn agored i fynd i mewn i'r system ysbyty yn y pen draw, sef y peth olaf y byddem ni'n ei ddymuno wrth gwrs. A bydd y Gweinidog hefyd yn ymwybodol bod pryderon ynghylch cael gwared ar rai amddiffyniadau ar gyfer cleifion iechyd meddwl. Rwy'n gwybod na fydd Llywodraeth Cymru yn debygol o ddefnyddio'r pwerau hynny, ond rwyf yn deall pam mae etholwyr wedi bod yn ysgrifennu ataf i ac at lawer ohonom ni, ac ynglŷn â hawliau plant anabl i gael mynediad at addysg—y pethau hynny i gyd—bod yr ofnau hynny yn rhai gwirioneddol. Hoffwn i ofyn i'r Gweinidog heddiw, ac nid wyf i'n gwybod a fyddai'n gallu ymrwymo i hyn, sef os bydd Llywodraeth Cymru yn cyrraedd y pwynt lle mae'n teimlo bod yn rhaid iddi ddefnyddio rhai o'r pwerau hynny, yn ogystal ag efallai adrodd fel y mae Mick Antoniw wedi ei awgrymu, a fyddai'n bosibl—byddwn ni'n cyfarfod yn y lle hwn ar ryw ffurf neu'i gilydd—pe byddai'n bosibl i'r Gweinidog ddod â datganiad gerbron y Senedd fach neu beth bynnag y byddwn ni erbyn hynny, i egluro pam y mae'n ystyried ysgafnhau'r gofynion ar lywodraeth leol ynghylch gofal cymdeithasol, er enghraifft, fel y gallwn ni godi pryderon etholwyr gydag ef. A gall ef ymateb i'r rheini, ac rwy'n siŵr yn ymateb i'r rheini mewn ffordd a fyddai'n rhoi tawelwch meddwl.

Dywedodd y Gweinidog yn ei ddatganiad ei fod yn deall yn llwyr—ac rwy'n falch iawn o'i glywed yn dweud hyn, ac nid yw'n syndod i mi o gwbl—yr hawl i gydbwyso parch at hawliau unigolion â'r hyn sy'n angenrheidiol i'r gymuned yn ei chyfanrwydd. Ac yn hynny o beth, rwy'n tynnu ei sylw—efallai ei fod wedi ei weld eisoes—at y datganiad a gafodd ei ryddhau heddiw gan y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol sy'n darparu fframwaith defnyddiol iawn ar gyfer ystyried y modd y gellid gwneud rhywfaint o'r cydbwyso hwnnw yn y cyfnod cwbl ddigynsail hwn.

Cyfeiriaf yn fyr at daliadau salwch statudol. Wrth gwrs, bydd pob un ohonom ni yn croesawu'r ffaith fod hyn ar gael, ond fel y dywedodd Mick Antoniw, ni all pobl fyw ar hynny. Yn sicr, ni allan nhw fyw arno yn hir iawn, ac rwy'n credu ein bod yn siomedig. Rwy'n deall y cafodd gwelliannau eu codi, ond ni chawsant eu trafod, a fyddai wedi rhoi rhywfaint o amddiffyniad, yn y ddeddfwriaeth hon, i'r gweithwyr unigol hynny, pobl hunangyflogedig a gweithwyr llawrydd. Rwyf i wedi clywed yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi ei ddweud—a gobeithio eu bod nhw'n iawn—y byddwn ni'n cael pecyn gan Lywodraeth y DU, oherwydd dyna, wrth gwrs, yw'r lefel cywir i'r pecyn hwnnw ddod ohono. Ond os nad yw'n dod ac nad yw'n dod yn gyflym, byddwn i'n annog Gweinidogion Cymru i ystyried yr hyn y gallan nhw ei wneud yn y tymor byr. Rydym ni wedi bod yn gwneud rhywfaint o ymchwil ein hunain, gyda chefnogaeth arbenigwyr yn y maes, yn ymwneud â'r posibilrwydd o gael incwm sylfaenol dros dro a fyddai'n cefnogi'r bobl hynny, ac os byddwn ni'n canfod ein hunain mewn sefyllfa lle na fydd Llywodraeth y DU yn fodlon gweithredu, byddem yn amlwg yn fwy na hapus i rannu hynny a gweld a oes unrhyw ddichonoldeb.

Wyddoch chi, mae pethau eraill nad yw'r ddeddfwriaeth yn eu gwneud, yn ôl yr hyn yr wyf i'n ei ddeall, a bydd y Gweinidog yn fy nghywiro i os wyf i'n anghywir. Nid yw, er enghraifft, yn galluogi'r Llywodraeth, ar unrhyw lefel, i gamu i mewn ac ymdrin â chyflogwyr gwael. Rwyf i'n cael negeseuon wrth i ni eistedd yn y fan yma gan bobl sydd o dan bwysau i fynd i weithio mewn sefyllfaoedd lle nad wyf i'n credu y byddai unrhyw un yn yr ystafell hon yn teimlo bod eu gwaith yn hanfodol i'r gymuned. Cododd Siân Gwenllian y mater yn gynharach ynglŷn â gweithwyr adeiladu. Nid wyf i'n weithiwr adeiladu ond dyna yw gwaith fy mrawd mawr, ac rwy'n gwybod sut fath o leoedd yw safleoedd adeiladu.

Nid yw'n bosibl, ar safle adeiladu, i fod yn adeiladu adeiladau na'u hatgyweirio a chynnal pellter cymdeithasol priodol. Yn syml, ni ddylid ei wneud. Oni bai bod y bobl hynny'n adeiladu cyfleusterau hanfodol neu'n gwneud atgyweiriadau hanfodol efallai i gartrefi pobl hŷn na fydden nhw'n ddiogel i aros yn eu cartrefi, oni bai bod hynny'n cael ei wneud, ond gweithwyr adeiladu—. Rwyf i wedi cael sawl e-bost y bore yma gan bobl yn fy rhanbarth i yn dweud, 'Nid wyf i eisiau bod yn y gwaith; nid wyf i'n teimlo'n ddiogel yn y gwaith; nid wyf i'n teimlo bod fy ngwaith yn hanfodol, ond mae fy mhennaeth yn dweud wrthyf, oni bai fy mod yn dod i weithio, y byddaf yn colli fy ngwaith.' Rydym ni'n gwybod bod y sector hwnnw'n eithaf bregus, mewn gwirionedd, nad yw hawliau cyflogaeth pobl yn aml yn gryf iawn, ac mae'n siom i mi nad yw'r ddeddfwriaeth hon yn rhoi cyfle i Lywodraethau gamu i'r adwy.

Unwaith eto, mae'r mwyafrif helaeth o gyflogwyr yn mynd i fod yn gyfrifol, maen nhw'n mynd i gefnogi eu staff, maen nhw'n mynd i annog eu staff i aros gartref. Rydym ni wedi gweld pethau dymunol iawn. Mae Timpson's, er enghraifft, sydd nid yn unig wedi dweud wrth bawb fod staff i aros gartref ac y byddan nhw'n cael eu talu'n llawn, ond maen nhw'n rhoi cymorth ac amddiffyniad ychwanegol iddyn nhw hefyd.

Rwy'n gallu gweld bod y Dirprwy Lywydd yn dweud wrthyf bod yn rhaid i mi ddirwyn hyn i ben, ac fe wnaf i hynny. Y pwynt olaf yr wyf i eisiau ei wneud yng nghyd-destun y ddeddfwriaeth yw bod hyn yn rhoi pwerau o ran ynysu, o ran cadw pellter cymdeithasol, ond rwy'n credu os yw'r pwerau hynny am gael eu defnyddio, mae'n rhaid i bobl gael eglurder, ac yn arbennig heddiw yr hyn sydd yn ein hwynebu yw nad yw'n glir beth sy'n waith hanfodol a beth nad yw'n waith hanfodol. Nid wyf i'n gwybod, Dirprwy Lywydd, i ba raddau y bydd hynny o fewn gallu Llywodraeth Cymru i gael mwy o eglurder ynghylch hynny, ond allwn ni ddim gofyn i bobl ymddwyn yn gyfrifol ac wedyn peidio â dweud wrthyn nhw sut mae ymddygiad cyfrifol yn edrych mewn gwirionedd.

12:55

Ar gyfer fy nghyfraniad i, rwyf i eisiau rhoi sylw personol iawn ar hyn yn hytrach nag un cyfreithiol neu hyd yn oed un gwleidyddol, o ran yr hyn yr ydym ni'n ei ystyried heddiw.

Rwy'n meddwl yn ôl nawr ynghylch pryd y gwnes i sefyll i gael fy ethol i'r Senedd hon yn 2016 ac, mewn gwirionedd, y cyfan yr oeddwn i'n gobeithio amdano oedd y byddai fy mhrofiadau bywyd yn dod â rhywbeth i'r sefydliad hwn ac y gallwn i wneud fy rhan fach i wneud bywyd i fy etholwyr—y byddwn i yn ddiweddarach yn cael fy ethol i'w cynrychioli—dim ond yr ychydig bach hwnnw yn well. Ni wnaeth groesi fy meddwl unwaith y byddwn i, lai na phedair blynedd yn ddiweddarach, yn y Siambr hon yn trafod deddfwriaeth a fyddai'n rhoi pwerau brys i'n Llywodraeth yn wyneb argyfwng iechyd cyhoeddus. Ond dyma ni. Ac mae pa mor cyflym y mae hyn wedi symud wedi bod yn dra brawychus.

Roeddwn i'n meddwl pryd y clywais sôn am y coronafeirws yn gyntaf, ac roedd darllediadau newyddion cyffredinol am y digwyddiadau yn Tsieina—nad oedd hynny'n ein taro mewn gwirionedd fel rheswm dros ganolbwyntio o'r newydd ar ein busnes ni yma. Ac yna rwy'n cofio i mi fod mewn digwyddiad cymdeithasol ym mis Ionawr, ac roedd llawer ohonom ni yno—llawer o ffrindiau gyda'n gilydd—ac roeddem ni'n cellwair ychydig am y feirws a pha un a fyddai angen i ni i gyd gael mygydau, oherwydd roedd nifer ohonom ni yn yr ystafell, gan fy nghynnwys i, a oedd yn dioddef o beswch a thisian arferol ein hannwyd y gaeaf. Fe wnaeth pob un ohonom ni chwerthin yn ei gylch; nid oeddem ni'n ei gymryd o ddifrif o gwbl. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud nad oes yr un ohonom ni'n chwerthin nawr.

Ddydd Gwener yr wythnos diwethaf, penderfynais i gau fy swyddfa ym Merthyr Tudful, fel rhagofal ar gyfer fy etholwyr, sy'n ymweld â'm swyddfa mewn niferoedd eithaf sylweddol, ond hefyd i ddiogelu fy staff yr wyf i'n eu cyflogi i weithio yn y swyddfa honno. Wrth i mi gloi'r swyddfa nos Wener, gan fynd â'r holl fân bethau y byddai eu hangen arnaf i i weithio gartref gyda mi, cefais fy nharo, yn sydyn, gan anferthedd yr hyn yr ydym ni'n ei wynebu— gadael y swyddfa honno heb wybod pryd yr oeddem ni'n mynd i ddychwelyd, ac yna, pan gyrhaeddais i fy nghartref, sylweddoli na allwn i hyd yn oed drefnu siopa ar-lein ar gyfer fy mam 81 oed, sy'n byw ar ei phen ei hun rai milltiroedd i ffwrdd oddi wrthyf i, oherwydd bod yr holl slotiau wedi eu cymryd am wythnosau i ddod, ac, yn olaf, teimlo'n emosiynol iawn nad oes gennyf i syniad pryd fydda i'n gallu rhoi cwtsh i fy ŵyr chwe mis oed eto, na phryd y bydda i'n mynd i allu gweld fy meibion a'u partneriaid neu fy mam neu fy nheulu neu fy nheulu-yng-nghyfraith a'm ffrindiau, a gwybod bod rhai o'r rheini mewn categorïau agored i niwed, a heb wybod beth fydd yr wythnosau nesaf yn ddod gyda nhw.

Fel y dywedais i yn gynharach yn fy nghyfraniad i ddatganiad y Prif Weinidog, o lle yr wyf i'n byw, gallaf weld maes parcio Tesco ym Merthyr Tudful, ac rwyf i wedi gwylio mewn syndod, a chryn anesmwythyd, y torfeydd yn mynd i mewn ac allan, gan anwybyddu cyngor ar gadw pellter cymdeithasol, ymarfer prynu panig a phentyrru stoc. Mae'r holl bethau hyn yn dweud wrthyf i fod yn rhaid i ni wneud rhagor. Mae'n rhaid i ni nawr roi pwerau i'r Llywodraeth i orfodi ymddygiad y mae rhai pobl, yn anffodus, yn gwrthod cydymffurfio ag ef o'u gwirfodd. Mae'r cyngor wedi ei gyhoeddi, ac mae hynny wedi ei wneud am reswm: i geisio achub bywydau. Felly, rwyf i'n cefnogi rhoi'r pwerau hyn i'n Llywodraeth, yr arfau y bydd eu hangen arnyn nhw i wneud y gwaith yn gyflym, i weithredu er mwyn ceisio helpu i ddod â'r argyfwng hwn i ben, ac rwy'n diolch iddyn nhw am bopeth y maen nhw wedi ei wneud hyd yn hyn, am y penderfyniadau anodd sydd i'w gwneud o dan yr amgylchiadau mwyaf anodd.

Nid oes gennyf i eiriau digonol ychwaith i ddiolch i'r rhai hynny yn y rheng flaen sy'n darparu ymateb brys. Ni allaf i ddychmygu'r pwysau sydd arnyn nhw ar hyn o bryd, wrth geisio ymdopi, ond fe wnawn nhw, ac maen nhw'n cyflawni ar ein rhan fel y maen nhw'n ei wneud bob amser.

Nid wyf i bellach eisiau clywed cyfeiriadau hiraethus at ysbryd y rhyfel. Nid ydym ni mewn rhyfel, ond yr ydym ni ym mrwydr ein bywydau. Nid ydym ni'n osgoi bomiau o awyrennau, ond rydym ni'n osgoi ein gilydd, oherwydd ni yw'r bomiau yn awr. Dirprwy Lywydd, rydym ni'n gwneud hyn oherwydd ein bod ni i gyd yn gobeithio mynd yn ôl i normalrwydd yn fuan. Rydym ni i gyd eisiau gallu gafael am ein hanwyliaid unwaith eto a gweld ein ffrindiau. Gallai ein gwerthfawrogiad o bleserau syml o'r fath hyd yn oed gynyddu'n sylweddol wrth i ni edrych yn ôl ar y cyfnod hwn. I wneud hynny, er mai mesur dros dro yw hwn, rwy'n barod i wneud y penderfyniad anoddaf y dylai unrhyw un ei wneud mewn democratiaeth, penderfyniad nad oeddwn i erioed wedi ei ystyried yn 2016. Ond byddaf felly yn cefnogi'r mesurau hyn a fydd yn rhoi i'n Llywodraeth y pwerau y gallai fod eu hangen arni i ddod â'r argyfwng hwn i ben cyn gynted â phosibl, ond gan wybod hefyd ei bod yn ddigon posibl na fydd dod â'r argyfwng hwn i ben yn digwydd yn y dyfodol agos.

13:00

Mae'r pwerau hyn yn wirioneddol ddidostur, ac, ydyn, maen nhw'n gyrru ias i lawr yr asgwrn cefn. Mae'r pwerau sy'n cael eu caniatáu i Weinidogion y Llywodraeth ym mhob un o'r pedair gwlad yn effeithio ar ryddid sifil pob un ohonom ni, ac ni allai'r rhan fwyaf o bobl fod yn ddim ond pryderus. Ac o dan amgylchiadau arferol, ni fyddwn i hyd yn oed yn ystyried trosglwyddo pwerau o'r fath. Yn anffodus, nid yw'r rhain yn amseroedd arferol, oherwydd, mewn ychydig wythnosau, mae'r coronafeirws wedi lledaenu o amgylch y byd, gan beri risg ddifrifol i iechyd pob un ohonom ni. Mae Llywodraethau wedi eu gorfodi i wneud pethau'n gyflymach nag arfer wrth iddyn nhw geisio lleihau'r effaith y mae'r clefyd hwn yn ei chael ar eu poblogaethau.

Yma yn y DU mae pob un o'r pedair gwlad gartref wedi gweithio gyda'i gilydd ar ddull gweithredu unedig, dull gweithredu sydd wedi ei gynllunio i gyfyngu ar effaith COVID-19, wrth i'r gymuned wyddonol geisio gwellhad drwy frechlynnau a therapi posibl. Yn anffodus, nid yw rhai pobl wedi bod yn dilyn cyngor iechyd y cyhoedd, ac felly mae angen cymryd camau mwy pendant. Heddiw, gofynnir i ni roi cydsyniad deddfwriaethol i Fil sy'n rhoi pwerau digynsail i Lywodraethau i gyfyngu ar ein rhyddid sylfaenol a gosod terfynau ar ein hawliau sifil. Fel arfer, ni fyddwn i na fy mhlaid yn caniatáu trosglwyddo pwerau o'r fath, ond rydym ni mewn sefyllfa ddigynsail, oherwydd bod gennym ni elyn anweledig, un nad yw'n parchu ffiniau. Mae pawb mewn perygl—nid pobl oedrannus neu fregus yn unig, oherwydd mae pobl ifanc hefyd wedi marw. Oni bai ein bod ni'n cymryd camau eithafol a phendant, bydd degau o filoedd o bobl yn marw. Dyma'r gwir plaen sy'n ein hwynebu.

Felly, rwy'n derbyn bod y pwerau hyn yn angenrheidiol er mwyn ein diogelu rhag COVID-19. A pheidiwch ag amau am funud, mae'r coronafeirws hwn yn hynod heintus ac yn farwol iawn. Rydym ni wedi ceisio gofyn a hyd yn oed dwyn perswâd ar y cyhoedd i wneud y peth iawn, ac er bod y mwyafrif helaeth yn gwrando ar y cyngor iechyd cyhoeddus, mae gormod o lawer yn anwybyddu'r rhybuddion. Yr unig ddewis arall yw i'r wladwriaeth orfodi cydymffurfiad. Allwn ni ddim caniatáu i weithredoedd lleiafrif ein rhoi ni i gyd mewn perygl.

Felly, rwy'n falch bod Llywodraeth y DU wedi gwrando ar reswm a bod y Bil yn destun adolygiad bob chwe mis, oherwydd mae'r pwerau hyn yn agored i'w camddefnyddio gan y wladwriaeth, ac felly mae'n hanfodol ein bod ni'n sicrhau bod y pwerau hyn yn bodoli ddim ond am gyhyd â'u bod yn angenrheidiol. Mae gennyf i bryderon o hyd ynghylch cymal 76, sy'n rhoi'r pŵer i'r pedair Llywodraeth newid y dyddiad dod i ben, ac rwy'n gofyn felly i Lywodraeth Cymru gytuno i geisio caniatâd y Siambr hon cyn galw'r pŵer hwn i rym. Mae'n hanfodol bod y pwerau hyn mewn grym am y cyfnod byrraf posibl.

Fe wnaf gefnogi, gyda chalon drom, y cynnig cydsyniad deddfwriaethol sydd ger ein bron heddiw. Cefais i fy ethol i gefnogi fy etholwyr, ac, yn anffodus, y ffordd orau o wneud hynny yw gosod cyfyngiadau ar ryddid y mae pob un ohonom ni fel arfer yn ei gymryd yn ganiataol. Mae angen i ni achub bywydau a diogelu ein cymunedau, ac rwy'n gobeithio y bydd y cyhoedd yng Nghymru yn gwrando ar y rhybuddion, yn gwrando ar y cyngor ac yn gweithredu er lles pawb. Dyma'r ffordd orau o atal lledaeniad y coronafeirws, a pho gynted y byddwn ni'n gwneud hynny, y cynharaf y gall bob un ohonom ni ddychwelyd i'n bywydau arferol. Diolch yn fawr.

13:05

Rwy'n credu bod pob un ohonom, wrth ystyried y materion hyn, yn ystyried ein gwerthoedd, ein swyddi, yn y Siambr hon, ond hefyd ein cyfrifoldebau tuag at ein teuluoedd a'r bobl yr ydym yn eu caru. Mae llawer ohonom wedi bod yn gwylio'r teledu dros yr wythnosau diwethaf ac wedi gweld yr hyn sy'n digwydd i gyfeillion ar draws y dŵr yn yr Eidal a Sbaen a mannau eraill, wedi gweld dioddefaint pobl sydd wedi dal i feirws hwn, ac wedi gweld yr hyn y mae wedi'i wneud i gymunedau a gwledydd cyfan. Mae llawer ohonom ni—siaradodd Dawn Bowden yn rymus iawn am y rhesymau dros sefyll i gael ei hethol i'r lle hwn—eisiau yr un peth yn y bôn. Rydym eisiau gofalu am ein cymunedau, ac rydym eisiau cael y gorau i'n cymunedau. Credaf fod arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies, wedi dweud yr union beth hwnnw yn ei sylwadau agoriadol.

Felly, wrth ystyried y Bil hwn, rwy'n sicr yn ystyried y sefyllfa yr ydym yn ei hwynebu, ond hefyd sut yr ydym yn cyfrannu at ddatrys y mater hwn. Ac rwy'n gofyn tri chwestiwn i mi fy hun. A yw'r pwerau'n bodoli i ymdrin â hyn? A yw'r pwerau hyn yn briodol? A sut y caiff y broses o arfer y pwerau hyn ei goruchwylio? Rwy'n credu bod cytundeb cyffredinol nad yw'r pwerau gennym, ac nad oes gan y Llywodraeth y pwerau sy'n ofynnol eu cael i ymdrin â'r sefyllfa yr ydym yn ei hwynebu. Gwelodd pob un ohonom y lluniau dros y penwythnos o bobl yn esgus ei bod yn ŵyl banc neu'n esgus ei bod yn ddiwrnod i ffwrdd. Ac rwy'n credu bod pob un ohonom wedi ein dychryn gan hynny. Gwelais adroddiadau yn fy etholaethau i fy hun, lle'r oedd tafarnau ar agor i orffen y gasgen. Yn wir, mae'r hyn y maen nhw'n ei wneud yn peryglu nid yn unig y bobl yno, ond pob un ohonom yn ein cymunedau. Ac mae hefyd yn amlwg bod diffyg eglurder o ran lle mae'r pwerau, a sut mae pwerau'n cael eu gorfodi. Felly, mae'n amlwg i mi fod angen y pwerau hyn yn y Bil hwn, ac mae'r Llywodraeth eu hangen i ddarparu'r math o raglen y mae'n rhaid iddi ei darparu dros yr wythnosau nesaf.

Ac yna mae'n rhaid inni ofyn i ni'n hunain: a yw'r pwerau'n briodol? Ac mae'n rhaid imi ddweud, rwy'n glir yn fy meddwl fy hun bod y pwerau'n briodol. Ond nid yw'r rhain yn fesurau y buaswn i wedi eu cefnogi yn y gorffennol. Mae'r rhain yn fesurau sydd, i fod yn onest, yn ffiaidd. Ac o dan unrhyw amgylchiadau eraill nid yn unig y byddwn i'n gwrthod eu cefnogi nhw, ond byddwn yn brwydro â'm holl nerth yn eu herbyn. Maen nhw'n fesurau, Dirprwy Lywydd, a dweud y gwir, y byddwn wedi pleidleisio yn eu herbyn dim ond rhai wythnosau'n ôl. Mae twf yr achosion yr ydym yn eu gweld, ac yr wyf i wedi gweld yn fy rhan i o'r byd yn ardal bwrdd iechyd Aneurin Bevan, lle mae mwy o achosion nag unrhyw ran arall o Gymru—. Rwyf wedi gweld ac rwyf wedi teimlo'r ofn y mae hynny'n ei greu yn ein cymunedau. Felly, mae'n briodol inni gael y pwerau hyn er mwyn diogelu'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, i gryfhau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, i gryfhau'r gwasanaethau cyhoeddus sy'n sicrhau'r amddiffyniad sydd ei angen arnom, ond hefyd i sicrhau bod pobl yn ymddwyn yn gyfrifol.

Ac felly, sut yr ydym yn goruchwylio'r pwerau hynny? O'm rhan i, rwy'n gobeithio y bydd Gweinidogion yn cyflwyno adroddiadau i'r fan hon pryd bynnag y defnyddir y pwerau hyn. Gobeithio y bydd y Gweinidogion, ac rwy'n disgwyl i'r Gweinidogion ddod i'r lle hwn i egluro pam y mae'r pwerau hyn yn cael eu defnyddio, am ba hyd y'u defnyddir, beth yw amcan y pwerau, a phryd y maen nhw'n disgwyl i'r pwerau hyn gael eu dileu. Nid yw'n iawn ac nid yw'n briodol mewn democratiaeth fod y pwerau hyn ar y llyfr statud. Mae angen i'r pwerau hyn fod yn gyfyngedig, ac rwy'n ddiolchgar iawn i weld bod y Gweinidogion yma yn croesawu cyfyngiadau'r pwerau hynny. Rwy'n ddiolchgar i weld adolygiad bob chwe mis, ac rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd ein cyd-Aelod Mick Antoniw am adrodd yn rheolaidd. Ond mae'n rhaid cael atebolrwydd a throsolwg a goruchwyliaeth seneddol briodol drwy gydol y cyfnod hwn, ac mae angen i bob un ohonom gymryd hynny o ddifrif. Ond mae hefyd angen inni edrych yn glir ar ba bwerau sy'n bodoli. Nid wyf yn argyhoeddedig bod digon o bwerau ar hyn o bryd i reoleiddio gweithredoedd yr archfarchnadoedd a gweithredoedd pobl yn yr archfarchnadoedd. Byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed yr hyn sydd gan y Gweinidog i'w ddweud am hynny. Rwy'n pryderu'n wirioneddol am rai o'r mesurau hyn a'r hyn a wnânt i hawliau pobl sy'n dioddef o broblemau iechyd meddwl ar hyn o bryd, a chredaf fod angen inni oruchwylio hynny'n briodol.

Ond wrth gloi, ac wrth gefnogi'r Llywodraeth heddiw, rwyf am ddweud hyn, Dirprwy Lywydd: yr hyn sydd wedi fy synnu i dros yr ychydig wythnosau diwethaf yw nad oes gennym ddigon o ddeddfwriaeth argyfyngau sifil posibl sy'n ymarferol ac y gall y Llywodraeth ei defnyddio pan fyddan nhw'n wynebu argyfwng. Nid yw'n ddigon da nad yw'r llyfr statud yn cynnwys deddfwriaeth frys sy'n ddigonol i ymdrin ag argyfwng. Byddwn yn gobeithio, pan fyddwn wedi ymdrin â'r mater hwn, y byddwn eto wedyn yn gallu edrych ar y llyfr statud yn ei gyfanrwydd a sicrhau bod gan Lywodraethau, dan oruchwyliaeth a chyda chydsyniad, y pwerau y maen nhw eu hangen, heb fynd drwy'r broses hon, oherwydd nid oes craffu gwirioneddol yn digwydd ar y ddeddfwriaeth hon, naill ai yma nac yng Nghaeredin nac yn Belfast nac yn San Steffan. Mae'n cael ei ruthro drwodd mewn wythnos, mewn ychydig ddyddiau. Mae'r cyfyngiadau llymaf ar ein rhyddid i weithredu a'n rhyddid fel dinasyddion yn cael eu rhuthro drwy bedair Senedd mewn tri diwrnod. Felly mae angen inni gael ar y llyfr statud ddeddfwriaeth sydd wedi ei hystyried, sy'n gadarn ac sy'n rhoi'r gallu i Weinidogion a Llywodraethau weithredu lle bo angen, ond gweithredu mewn ffordd sydd ag atebolrwydd democrataidd, goruchwyliaeth a rhesymau clir yn ei hanfod. Nid yw hynny gennym ar hyn o bryd.

Rwy'n cefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol, rwy'n cefnogi'r pwerau, rwy'n cefnogi'r defnydd o'r pwerau hyn, ac rwy'n gobeithio y byddwn, ar ddiwedd y cyfnod ofnadwy hwn o amser yr ydym yn byw drwyddo, wedi dysgu rhai gwersi ac y byddwn yn gallu adolygu lle'r ydym yn sefyll fel Senedd a'r pwerau sydd gan Weinidogion i'n cadw ni'n ddiogel. Diolch.

13:15

Alun, mae'n rhaid imi ddweud, tan yr ychydig frawddegau diwethaf, roeddwn yn gwbl gytuno gyda chi, oherwydd un o'r pwyntiau rwy'n credu sy'n werth ei wneud yn y ddadl hon yw—ac mae wedi'i wneud eisoes; mae'r gair 'llym' wedi ei ddefnyddio fwy nag unwaith—nad ydym ni fel Sbaen; nid oes gennym y pwerau llym hyn ar ein llyfrau statud, pa bynnag mor dda y'u hystyrir. A dweud y gwir, ni fyddwn i'n cefnogi hynny. Er mor simsan ac anfoddhaol y mae'r broses bresennol wedi bod, ni fyddwn i'n cefnogi cael y pwerau Ffranco-aidd ar ein llyfrau statud yn dragywydd, er fy mod yn gallu deall dadl Alun Davies. Rwy'n cytuno â phopeth arall a ddywedodd, sydd ychydig yn anarferol, ond man y man inni dderbyn hynny.

Ond tybed—hynny yw, rwy'n cytuno â'r pwynt a godwyd gan Dawn; os ydym yn mynd i gael Llywodraethau yn cael y pŵer i'm rhwystro i rhag gweld fy nhad neu fy meibion, mae'n rhaid ichi brofi'n wirioneddol bod angen y pwerau hynny arnoch—yr union bwynt yr oedd Alun Davies yn ei wneud hefyd. Felly, efallai y gallwn fynd â chi drwy rai o'r manylion, gan gyfeirio nôl at beth ddywedodd Helen Mary, am y cydbwysedd hwn rhwng ein hawliau dynol ni a'r angen am y pwerau hyn. Yn benodol, rwy'n credu bod cymal 9 a chymal 14 o ddiddordeb penodol i mi. Cymal 9 yw'r gostyngiad yn nifer y meddygon y mae eu hangen i ganiatáu i rywun â phroblemau iechyd meddwl gael ei anfon i ysbyty iechyd meddwl. Yn bersonol, dydw i ddim yn gweld pam na allwch chi ddod o hyd i ddau feddyg yn y sefyllfaoedd eithafol hynny, ni fydd llawer ohonyn nhw'n codi. Ond os ydym yn y sefyllfa honno, efallai y gallem fod yn adolygu'r penderfyniad yn amlach na'r hyn y mae'r ddeddfwriaeth yn ei ganiatáu. Nid oes unrhyw beth yn eich rhwystro rhag gwneud hynny a gwneud yr union ddatganiadau yr oedd Alun Davies yn sôn amdanynt os oes eu hangen.

Cymal 14: asesu anghenion nid yn unig bobl anabl, ond gofalwyr a gofalwyr cyflogedig yn benodol. Mae gennym sefyllfa nawr gyda'r ddeddfwriaeth lle y gallech fod yn gymwys i gael asesiad, ond nid oes rheidrwydd i gwrdd â'r anghenion sy'n cael eu hasesu. Ond dan yr amgylchiadau a ddisgrifiwyd gan Helen Mary o 'bethau'n iawn am nawr, ond efallai y byddwn yn cyrraedd uchafbwynt lle nad oes digon o staff i wneud asesiadau', beth yw eich barn chi am ragdybio bod y dadleuon a gyflwynwyd naill ai gan ofalwr neu rywun y gofelir amdano, bod yr hyn maen nhw'n ei ddweud yn gywir? Rhoi'r hyn sydd ei angen arnyn nhw os yw'n bosibl gwneud hynny ac yna adolygu eu haeriadau'n ddiweddarach yn y broses pan fydd gennym weithlu yn ôl yn y drefn arferol. Ni fyddwn fel arfer yn cefnogi credu pobl heb y broses asesu briodol, ond yn yr amgylchiadau hyn, nid wyf yn credu bod pobl yn mynd i gymryd mantais; maen nhw'n mynd i fod yn gofyn pan fyddan nhw mewn sefyllfa anobeithiol.

Cymalau 35 a 36: Roeddwn i eisiau gofyn, oherwydd mae pwerau yma i atal gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, ac rwy'n deall hynny'n llwyr. Mae'n dal i fod gennym gyn-athrawon yn ein poblogaeth a gafodd eu dileu o'r gofrestr am reswm da ac rwy'n gobeithio na fydd yr unigolion hynny'n cael dod yn ôl i mewn i'r gweithlu, beth bynnag fo'r llacio a ystyrir yma.

Unwaith eto, pwynt Helen Mary ar waith 'hanfodol': beth mae gwaith hanfodol yn ei olygu? Beth mae'n ei olygu? Mae cyfleoedd mewn cwmnïau unigol neu fusnesau bach i hyn olygu 'mae angen rhai o'r staff ac nid oes angen rhai o'r staff'. Felly, yr enghraifft a roddwyd i mi y bore yma: 'Rwy'n gweithio i gwmni nwy bach. Os bydd rhywun yn dweud bod ganddo nwy yn gollwng, a ydw i'n cael mynd allan a thrwsio hynny mwyach?' I fynd yn ôl at y pwynt ar adeiladu, mae cwmni garddio wedi cysylltu â mi yn dweud, 'Wel, fe allwn ni weithio o bellter. Rwy'n deall nad yw gwelyau blodau yn arbennig o bwysig, ond os bydd rhywun yn fy ffonio ac yn dweud bod coeden ar fin syrthio ar ei ben, a ydw i'n cael mynd allan a gwneud gwaith ar y goeden?' Byddai angen y math hwnnw o arweiniad.

Gan nad oeddwn yn gallu gofyn mewn cwestiwn am rentu o'r blaen, a allwch gadarnhau i mi fod y sefyllfa yn Lloegr ac yng Nghymru ynghylch ymestyn yr hysbysiad sy'n ofynnol ar gyfer achosion meddiannu yn cael ei fframio yn y ffordd honno ar gyfer Lloegr a Chymru, fel nad oes gennym ddadfeddiannu? Rwy'n sylweddoli bod pawb yn derbyn yr egwyddor, ond mae angen egluro bod Cymru a Lloegr yn union yr un peth. Os nad ydyn nhw, mae hynny'n iawn, ond byddai esboniad yn eithaf defnyddiol.

Ac yna, rwy'n credu, y cwestiwn olaf gennyf i ar—. Do, fe gododd Hefin David y cwestiwn am MOTs yn gynharach. Nid yw ef yma ar hyn o bryd, ond gall garejys aros ar agor i wneud MOTs. Gan fod y gweithlu ar y cyfan yn mynd yn llai, oherwydd bod pobl naill ai'n hunan-ynysu neu'n mynd yn sâl, yn anffodus, a ydych yn rhagweld—ac rwy'n sylweddoli mai cwestiwn i'r DU yw hwn, mewn gwirionedd, ond fe ofynnir hyn i chi yng nghyfarfodydd COBRA—y byddwn byth mewn sefyllfa lle mae gofynion cyfreithiol yn debygol o gael eu hatal ymhellach, fel gydag archwiliadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd, a hynny am y rheswm syml nad oes gennym ddigon o bobl i'w gorfodi. Ac o dan yr amgylchiadau hynny, beth fyddwn yn gofyn i'r bobl a fyddai fel arfer yn ddarostyngedig i'r gofynion cyfreithiol hynny ei wneud? Diolch o galon ichi.

13:20

Gaf i ddweud i ddechrau fy mod i'n uniaethu yn llwyr efo'r hyn ddywedodd Dawn Bowden? Mae'n bwysig ein bod ni yn rhannu ein gofidiau ac mae'n bwysig ein bod ni yn mynegi yr emosiwn rydyn ni yn teimlo. Mae hynny mor bwysig ar adeg fel hyn. Felly, dwi'n diolch i chi am rannu rhai o'ch gofidiau chi, ond mi wnawn ni ddod drwy hyn. Mi wnawn ni ddod drwy hyn efo'n gilydd—mae hynny yn bosibl. 

Rydyn ni fel plaid wedi bod yn gweithio yn adeiladol efo Llywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru ar y ddeddfwriaeth yma i sicrhau bod gan y Llywodraeth y pwerau i'n cadw ni'n saff. Mi ddylai'r ddeddfwriaeth yma arwain at fwy o staff yn y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol. Mi ddylai wneud gwirfoddoli yn haws, rhoi stop ar griwiau o bobl yn ymgynnull, galluogi mwy o gefnogaeth i fusnesau, a rhoi urddas i'r rhai fydd yn colli anwyliaid. Ond, wrth gwrs, fel mae eraill wedi dweud, mae'n bwysig mai dim ond os ydy hi'n hollol angenrheidiol y dylid defnyddio'r pwerau yma, ac mae angen craffu llawn hefyd ar y defnydd ohonynt. 

Mi rydw i'n cydfynd yn llwyr efo'r pryder ynglŷn â'r ddwy flynedd, ac mae fy nghydweithwyr i yn San Steffan wedi bod yn galw am yr adolygiad chwe mis yma. Dwi yn credu bod asesu effaith y pwerau sydd yn y mesur ar Gymru—boed nhw'n bwerau sydd gennym ni yma yng Nghymru neu'n bwerau sydd tu hwnt i'n gallu ni yma fel Senedd—mae'n bwysig i ni fod yn asesu effaith unrhyw bwerau ddaw i rym a bod yna, fel mae Alun Davies yn ei ddweud, adroddiadau cyson a chyfle i ni'n fan hyn i fod yn gallu craffu mewn ffordd hollol adeiladol i wneud yn siŵr bod popeth yn digwydd yn briodol. 

Mae'n bwysig nodi, dwi'n meddwl, bod y cymalau sydd yn y mesur sy'n ymwneud â materion datganoledig yn golygu y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu penderfynu peidio â defnyddio'r cymalau am y materion datganoledig hynny. Hynny yw, penderfynu peidio rhoi switsh ymlaen, fel petai. Dwi yn meddwl bod hynna'n bwysig. Mae o'n dangos parch i'n Senedd ni fan hyn. 

Jest yn sydyn, rhai o'r materion sydd yn fy mhryderu i. Gofal cymdeithasol: drwy lacio'r gofynion ar lywodraeth leol o ran gofal cymdeithasol, mae perygl y bydd hyn yn arwain at lefel annerbyniol o ofal a allai arwain at farwolaethau diangen. Mae eisiau bod yn ofalus iawn mai dim ond os bydd y pwysau yn mynd yn hollol eithafol y byddwn ni'n defnyddio'r rheini. Gwiriadau DBS: dw'n cytuno'n llwyr efo beth roedd Suzy Davies yn ei ddweud. Mae angen gofal efo prysuro'r gwiriadau er mwyn galluogi mwy o wirfoddolwyr i helpu—dwi'n deall hynny'n iawn—ond mae'n rhaid i ni gofio beth ydy pwrpas y gwiriadau, sef amddiffyn y bobl a'r plant mwyaf bregus yn ein plith ni.

Efo ysgolion, dwi'n cytuno, wrth gwrs, bod angen i ysgolion aros ar agor, ond mae o'n gallu rhoi straen mawr ar yr athrawon, ac mae gan yr undebau athrawon bryderon am iechyd eu haelodau nhw er, wrth gwrs, mae'r ddarpariaeth ar gyfer plant gweithwyr allweddol yn gwbl hanfodol. 

Iechyd meddwl: fe fydd y mesur yn caniatáu newidiadau pellgyrhaeddol i ddeddfwriaeth iechyd meddwl, a fydd yn gallu golygu bod pobl yn cael eu cadw mewn ysbyty neu sefydliad am gyfnodau llawer iawn hirach na'r presennol. 

I gloi, Dirprwy Lywydd: menywod. Menywod, merched sydd, ar y cyfan, yn gofalu am blant a pherthnasau hŷn hyd heddiw; dydy hynny ddim wedi newid. Mi fydd y gwaith di-dâl yma yn cynyddu yn ystod yr wythnosau a'r misoedd nesaf yma, ac mae angen parchu y gwaith yna. Dylai menywod, gan gynnwys y rhai sy'n feichiog ac ar absenoldeb mamolaeth ddim cael eu rhoi dan anfantais yn eu gyrfaoedd drwy ddilyn y canllawiau. 

Rydych chi'n gwybod bod gan ein plaid ni hanes hir ac anrhydeddus o gefnogi ac hyrwyddo hawliau ein pobl ni. Ond, dros dro, mae angen y ddeddfwriaeth yma. Does dim dewis, ac, felly, wrth gwrs, byddwn ni ddim yn gwrthwynebu'r cynnig sydd gerbron heddiw. Diolch.

13:25

Gweinidog, rwy'n credu fy mod yn siarad yr un iaith â phawb yma pan ddywedaf byth, byth, yn ein dychymyg mwyaf eithafol y byddai unrhyw un ohonom sy'n eistedd yma heddiw yn dychmygu y byddem yma a bod gofyn inni bwyso botwm a fydd yn gweithredu deddfwriaeth eithaf didostur a'i gorfodi ar bobl yn eu cartrefi ac yn eu bywydau bob dydd. Ni ddaethom yma i wneud hynny. Ond yr hyn y daethom yma i'w wneud—rwy'n weddol sicr—yw amddiffyn pobl, ceisio eu cadw'n ddiogel, a gwneud popeth y teimlwn sy'n rhesymol ac sydd ei angen ac y gellir ei gyfiawnhau i'r perwyl hwnnw.

Rydym yn y lle mwyaf anarferol a digyffelyb y gallem erioed, erioed fod wedi ei ddychmygu. Ac oherwydd hynny y byddaf yn cefnogi, fel y bydd pawb arall yma heddiw—. Dydw i ddim yn hawlio buddugoliaeth bersonol yma, achos does dim buddugoliaeth yn hyn i gyd; mae hyn yn gwbl angenrheidiol. Mae'n fodd i gyflawni. A'r unig reswm, am wn i, y byddaf yn cefnogi hyn heddiw yw oherwydd bod amser yn gyfyngedig. Mae'r pwerau brys hyn yn gyfyngedig o ran amser. Byddan nhw'n cael eu hadolygu, ac rwy'n siŵr y bydd adroddiadau amdanynt pan cânt eu defnyddio. Rydym yn gobeithio na fydd yn rhaid inni ddefnyddio pob un o'r pwerau sydd wedi'u hysgrifennu yma heddiw, ond roedd yr ymddygiad, fel y mae llawer wedi'i ddweud o'm blaen, y penwythnos diwethaf yn wirioneddol syfrdanol. Mae'n amlwg nad oedd rhai pobl yn deall—rwy'n siŵr o hynny—beth yr oedden nhw'n ei wneud, ac roedd pawb wedi penderfynu gwneud yr un peth. Pan ddywedwyd wrthyn nhw i fynd allan a chael awyr iach, roedd pawb wedi mynd i'r un lle. Felly, rydym yn gwybod nawr na fydd hynny'n gallu digwydd o dan y dyfarniad hwn.

Ond rwy'n credu bod ambell i beth y mae angen inni edrych arno. Rydym yn gofyn i bobl eraill—. Rydym yn pasio'r ddeddfwriaeth, ond rydym yn gofyn i bobl eraill orfodi'r ddeddfwriaeth honno os yw hynny'n wir, ac rwy'n credu bod dyletswydd arnom i wneud yn siŵr bod y bobl hynny a fydd yn gorfodi'r ddeddfwriaeth, ac, weithiau, gyda phoblogaeth elyniaethus, yn gorfod gwneud yn siŵr eu bod yn cael eu hamddiffyn a rhaid i ni wneud yn siŵr eu bod yn cael eu diogelu drwy bolisïau yswiriant, drwy unrhyw gêr amddiffynnol sydd ei angen arnynt a rhywfaint o arweiniad clir hefyd, oherwydd bydd rhai pobl yn y rheng flaen erbyn hyn.

Rydym wedi clywed llawer o sôn am y rheng flaen, ond mae'r rheng flaen yn newid drwy'r amser. Ie, staff y GIG yw'r rheng flaen os oes angen gofal meddygol arnoch, ond y gweithwyr archfarchnad yw'r rheng flaen os oes angen bwyd arnoch; y gyrwyr lorïau os ydych angen y bwyd hwnnw i gyrraedd y man lle'r ydym yn mynd i'w gasglu. Felly, y rheng flaen bellach yw unrhyw un a phawb sy'n gweithio i gadw'r wlad hon yn rhedeg ar yr adeg benodol hon.

Mae rhai o'r pwerau hefyd yma i amddiffyn busnesau, ac rwyf wedi cael e-bost tra'r ydym wedi bod yn eistedd yma am fusnes y gofynnwyd iddo dalu rhent, ond nid oes ganddo unrhyw fusnes, ac mae'r unigolyn y maen nhw'n ddyledus iddo hefyd yn fusnes bach. Felly, mae angen inni ofalu am bobl o'r ddwy ochr a deall, pan fyddwn ni'n gosod rhywfaint o ddeddfwriaeth er mwyn helpu un ochr, nad yw'n cael effaith negyddol ar y lleill.

Rwy'n siŵr y bydd pawb yma yn pleidleisio dros hyn gyda chalon drom. Rydym yn gobeithio y byddwn yn gallu cymryd y pwerau hynny i ffwrdd yn gyflym iawn a rhoi eu rhyddid, ond yn bwysicach fyth, eu dyfodol yn ôl i'r bobl.

13:30

Diolch, Dirprwy Llywydd. Dirprwy Lywydd, mewn gwirionedd—mae treiglad yno.  

Mae'n fesur eithafol. Mae gennyf lawer o bryderon. Rwy'n pryderu y gall cynghorau, fel y crybwyllwyd, israddio gofal i'r henoed a phobl anabl wrth i'r Ddeddf Gofal gael ei hatal. Rwy'n pryderu am y defnydd o dechnoleg bell mewn achosion llys o ran tegwch treial. Rwy'n pryderu am sut y gall pobl gael eu cadw.

Mae'n fesur eithafol, ond rydym yn byw mewn cyfnod eithafol—digynsail. Rwy'n credu, fel y mae pawb wedi'i ddweud, bod agweddau ar y Bil nad wyf yn eu hoffi yn sicr a bod gennyf bryderon mawr amdanyn nhw. Mae gennyf bryderon mawr ynghylch tynnu rhyddid oddi ar bobl am unrhyw gyfnod o amser. Hawliau unigol yw conglfaen yr hyn y dylem fod yn ymwneud ag ef, ond ceir hawliau cymunedol hefyd. Pan welsom y torfeydd ar y penwythnos, pobl allan yn yr awyr agored, yn ei drin fel pe bai'n ŵyl banc, roedd yn rhaid gwneud rhywbeth. Mae'n drueni, rwy'n credu, na chafodd pethau eu gwneud ymlaen llaw, pan ellid fod wedi cymryd rhai camau ynghynt.  

Rwy'n falch o glywed y gellir atal agweddau Cymreig ar y Bil yma, o'r Senedd hon. Hoffwn gael ychydig mwy o fanylion am hynny. Rwy'n anghyfforddus iawn gyda llinell amser o ddwy flynedd. Mae chwe mis yn well o lawer, ond rwyf am ymhelaethu ar y manylion am yr hyn y mae ei angen ar ôl y chwe mis. A yw'n fwyafrif syml? A yw'n ddwy ran o dair?

Credaf fod pryderon wedi'u codi ynghylch pobl sy'n dioddef cam-drin domestig yn eu cartrefi. Mae yna hefyd fater plant mewn gofal yn cael llai o oruchwyliaeth nawr. Rwy'n poeni am y nifer o bethau sy'n cael eu cynnal ar-lein, yn enwedig addysg. Mae yna fwlch yn y gyfraith nad oes angen i hi gael gwasanaeth gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd i diwtora ar-lein, ac rwy'n credu bod hwnnw'n fwlch enfawr y gallai'r Bil hwn fynd i'r afael ag ef, mewn gwirionedd.

Yn y pen draw, nid wyf yn credu bod gennym unrhyw ddewis yma ond pleidleisio dros y Mesur hwn. Ni allwn ei ddiwygio oddi yma. Dim ond apêl, mewn gwirionedd, at bobl sy'n gwylio ar y teledu: rydym i gyd yn yr un peth gyda'n gilydd. Efallai nad ydym yn sylweddoli hynny eto, ond pan fydd pobl yn mynd allan ac yn pwyso'r botwm i groesi'r ffordd, os ydyn nhw'n heintus, yna bydd y person nesaf yn cael y feirws hwnnw. Y cyfan sydd raid iddyn nhw ei wneud yw cyffwrdd â'u hwyneb ac maent yn amlyncu'r feirws, drwy'r trwyn, y geg neu'r llygaid. Mae'n anodd iawn peidio â chyffwrdd â'ch wyneb ar brydiau.

Rwy'n mynd i orffen drwy ddweud fy mod yn credu y dylem mewn gwirionedd fod yn profi pob achos posib. Clywaf nad oes gennym y capasiti ar hyn o bryd, ond credaf fod yn rhaid i'r Llywodraeth hon roi blaenoriaeth i feithrin capasiti, a hynny cyn gynted â phosib, oherwydd mae'r pecynnau profi hyn ar gael. Maen nhw ar gael i'r Llywodraeth hon os caiff yr archebion eu gwneud, oherwydd ni fyddwn yn dychwelyd i ryw fath o normalrwydd yn gyflym iawn oni bai ein bod yn nodi pwy sydd â'r feirws, ble mae'r feirws, ac y gallwn ei ynysu yn y ffordd honno. Mae hwn yn gyfnod anghyffredin, ond byddaf yn gorffen drwy annog y Llywodraeth i feithrin capasiti ar unwaith i brofi pob un achos o'r coronafeirws. Diolch yn fawr.

Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl. Byddaf yn ceisio rhedeg drwy ystod eang o'r pwyntiau a godwyd yn fy ymateb, wrth gwrs. Ailadroddodd nifer o Aelodau bwyntiau, neu adeiladu ar rai, a wnaed yn gynharach.

Hoffwn ddiolch i Mick, ac yn wir i'r holl aelodau a siaradodd, am roi arwydd o'u cefnogaeth i'r cynnig sydd ger ein bron. Gofynnodd Mick yn benodol, fel y gwnaeth Alun Davies a Siân Gwenllian ac amryw o bobl eraill, am y gofyniad o ran adrodd sydd yn y Bil. Rwy'n credu ei bod bellach yng nghymal 99 yn dilyn gwelliannau a wnaed ddoe, ynghyd ag adolygiad chwe mis yr wyf yn credu sydd yng Nghymal 98 nawr, ac felly rwy'n hapus i roi addewid ar gofnod y bydd Llywodraeth Cymru yn adrodd i'r Cynulliad hwn ar y defnydd o bwerau yn rheolaidd. Yn ymarferol, rwy'n credu mewn gwirionedd y byddwn yn gwneud datganiadau cyhoeddus am y defnydd o bwerau bob tro yr ydym yn eu defnyddio, ond wedyn rydym eisiau casglu ynghyd mewn un lle adroddiad ar yr hyn sydd wedi'i wneud dros gyfnod o amser. Rwy'n hapus i roi'r addewid hwnnw.

Yr un nodyn o rybudd a roddwn ynghylch rhai ymatebion eraill a roddwyd i'r Aelodau eraill yw, yn gyntaf oll, mai mater i'r sefydliad hwn wedyn yw penderfynu sut y mae'n bwriadu defnyddio'r adroddiad hwnnw o ran craffu neu fel arall. A'r ail bwynt yw, o ran y modd y mae'r sefydliad yn gweithredu, nid yn unig o ran lleihau niferoedd, ond bydd angen i bob un ohonom gofio y gallwn fod mewn sefyllfa wahanol o bosib ymhen tri mis, chwe mis neu naw mis , a bod yn ymwybodol na allwn roi sicrwydd pendant a chyflym am yr hyn a fydd yn sicr yn digwydd. Ond, yn sicr, o safbwynt y Llywodraeth, yr adrodd a gafwyd, rwy'n fwy na pharod i'w ddarparu.

Yn sylwadau Paul Davies, ynglŷn â'r pwyntiau am y trefniadau diogelu, bydd rheoleiddwyr proffesiynol yn dal i fod yn eu lle, ond bydd yn rhaid i'r safonau y maen nhw'n eu cymhwyso fod yn gysylltiedig â'r gallu i ymarfer ar yr adeg honno. Felly, dri mis yn ôl, byddech wedi disgwyl rhywbeth gwahanol i'r hyn y gallech ei ddisgwyl ynghanol epidemig pan fydd gallu uned therapi dwys efallai'n llawn, er enghraifft. Ond nid yw hynny'n golygu, er enghraifft, y bydd y gofynion disgwyliedig ynghylch uniondeb, ynghylch ymddygiad gyda chydweithwyr—bydd y pethau hynny yn dal i fod ar waith. Mae gan wely Uned Gofal Dwys sydd wedi'i staffio'n llawn ar hyn o bryd naw o nyrsys o'i amgylch. Efallai y byddwn mewn sefyllfa wahanol os bydd yr achos yn cyrraedd unrhyw beth tebyg i'r potensial gwaethaf.

O ran eich pwynt ynghylch cyrhaeddiad cyfathrebu Llywodraeth Cymru, ceir sgyrsiau rheolaidd gyda darlledwyr ond hefyd y cyfryngau lleol, ac rwy'n credu eu bod nhw'n ffynhonnell bwysig iawn o wybodaeth. Er nad oes llawer o bobl yn prynu papur lleol bellach, mae llawer o bobl yn edrych ar wefannau lleol i gael eu newyddion, ac mae pob aelod sydd ag etholaeth neu ranbarth yn eithaf obsesiynol am eu gwefan leol fwyaf poblogaidd, p'un a oedd yn arfer bod yn bapur newydd ai peidio. Maen nhw'n ffynonellau gwybodaeth y mae pobl yn mynd iddyn nhw'n rheolaidd, felly rydym ni'n bendant yn ystyried sut rydym yn ceisio cael gwybodaeth iddyn nhw. Eto, yn ddibynadwy ac yn gyson ac mor glir â phosib.

A chredaf ar ddiwedd hyn y bydd llawer mwy o bobl yn gwybod pwy yw Prif Swyddog Meddygol Cymru nag oedd yn gwybod chwe mis yn ôl, oherwydd bydd Dr Frank Atherton yn ymddangos yn rheolaidd yn cyfathrebu â'r cyhoedd oherwydd ei fod yn ffigur y ym mae llawer yn ymddiried ynddo. Nid yw yma i geisio cael ei ethol ar unrhyw adeg yn y dyfodol. Mae'n gynghorydd meddygol annibynnol i Lywodraeth Cymru, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ei fod ef a'i dri chyd-weithiwr yn chwarae rhan flaenllaw nid yn unig wrth gynghori'r Llywodraeth, ond yn yr ymarfer cyfathrebu cyhoeddus hwnnw.

A gwn eich bod wedi sôn am bwyntiau, fel y gwnaeth yr Aelodau eraill, am ymddygiad dros y penwythnos, yn enwedig mewn parciau carafanau a mannau prydferth, ond yn fwy na hynny, gwelsom dorfeydd ar Ynys y Barri a lleoedd eraill hefyd. Felly, mae hynny'n egluro rhan o'r rheswm pam y gwnaethom gymryd y camau eithriadol ddoe pan gyhoeddodd y Prif Weinidog rai cyfyngiadau, ac wedyn nododd y pedair Llywodraeth ragor o gyfyngiadau eto. Byddai'r pwerau yn y Bil hwn yn caniatáu inni gymryd camau pellach yn y dyfodol a chaniatáu i'r mesurau yr ydym eisoes wedi'u cymryd o dan rai o bwerau Deddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 i roi'r rheini ar sail wahanol, oherwydd bod y gofynion adolygu ar eu cyfer yn wahanol.

Credaf ei bod yn werth codi'r pwynt hwn—er nad yw'n ymwneud yn gyfan gwbl â'r Bil—ond mae'n ymwneud â'r bobl hynny sydd wedi symud o'u cartref eu hunain a'r neges 'dychwelwch adref ac arhoswch adref'. Rydym ar fin anfon degau o filoedd o lythyrau yng Nghymru at ddinasyddion sy'n agored i niwed, i'w cynghori ynglŷn â pham eu bod yn y grŵp hwnnw a'r cymorth a ddylai fod ar gael iddynt a pham rydym yn gofyn iddynt aros gartref am o leiaf dri mis. Mae llythyrau tebyg yn mynd allan at bobl yn Lloegr a chenhedloedd eraill y DU. Os yw'r bobl hynny wedi gadael eu cartref arferol, lle maent wedi'u cofrestru gyda'u gwasanaeth iechyd—p'un a ydyn nhw wedi mynd o Gaerffili neu Gaint i Ddinbych-y-pysgod, nid yw'n gwneud gwahaniaeth mewn gwirionedd—nid ydyn nhw yn eu cartref arferol, nid ydyn nhw'n mynd i gael y cyngor neu'r arweiniad hwnnw, ac ni fyddan nhw mewn sefyllfa i ddiogelu eu hiechyd eu hunain i ddiogelu eu hunain. Felly, mewn gwirionedd, nid yw'n ymwneud â'r pwysau ar rannau o'r DU gyfan yn unig, oherwydd roedd problemau tebyg yng Nghernyw ac yn ucheldiroedd ac ynysoedd yr Alban hefyd, a dywedodd Prif Weinidog Gogledd Iwerddon ddoe eu bod wedi cael problemau tebyg hefyd. Ond mewn gwirionedd sefydlwyd pob un o'r ardaloedd hynny ar gyfer darpariaeth mân anafiadau; ni chawsant eu sefydlu ar gyfer y pwysau ychwanegol sydd i'w disgwyl yn yr wythnosau nesaf, hyd yn oed os byddwn ni'n llwyddo i sefydlogi uchafbwynt yr achosion.

Helen Mary Jones, roeddwn yn ddiolchgar am yr amrywiaeth o sylwadau a wnaethoch chi. Rwy'n credu, o ran rhai o'r cwestiynau, os ydym yn ystyried defnyddio'r pwerau i ysgafnhau trefniadau cymorth gofal cymdeithasol, bydd yn cael ei gwmpasu gan y ddyletswydd adrodd. Byddem yn sicr am adrodd ar yr hyn yr ydym yn ei wneud a pham. Efallai na fyddwn yn gallu gwneud hynny'n rhagolygol, oherwydd efallai y bydd angen inni ddefnyddio pwerau gyda'r fath gyflymder, i fod yn effeithiol, lle y bydd yn rhaid inni ddefnyddio'r pwerau a dweud wrth y Senedd ein bod wedi gwneud hynny, yn hytrach na dweud, 'Yr wythnos nesaf, byddwn yn gwneud rhywbeth.' Ar adeg arferol gallwch wneud hynny, ond mae nawr yn unrhyw beth ond adeg arferol.

O ran y pwyntiau a wnaed gan ystod o Aelodau ar dâl salwch statudol, rydym yn cydnabod y sylwadau hynny a byddwch wedi clywed y Prif Weinidog yn galw am yr incwm sylfaenol cyffredinol. Nid yn aml y bydd y Prif Weinidog yn cytuno gyda Gweriniaethwyr yr Unol Daleithiau ar ymateb polisi, ond mae yna Weriniaethwyr yn yr UDA sy'n galw am, i bob pwrpas, incwm sylfaenol cyffredinol hefyd. Mae'n dangos y cyfnod eithriadol yr ydym yn byw ynddo a'r gydnabyddiaeth, os na fyddwn yn darparu'r modd i bobl, y gall eu hymddygiad gael ei yrru gan yr angen i dalu eu biliau a byddan nhw'n gweithredu yn y fath fodd fel y bydd yr argyfwng iechyd cyhoeddus yn gwaethygu, nid gwella. Dydw i ddim yn credu bod y Prif Weinidog a Mitt Romney ar fin rhannu llwyfan yn fuan.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn glir yn ein galwad ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig am gymorth pellach i bobl hunan-gyflogedig. Deallwn fod y Canghellor ar fin gwneud cyhoeddiad yn ystod y diwrnod neu ddau nesaf ynglŷn â hynny. Gorau po gyntaf. Ond, o fewn Llywodraeth Cymru, mae Ken Skates eisoes yn arwain gwaith ar beth arall y gallwn ni ei wneud yng Nghymru gyda'r ysgogiadau a'r gallu sydd ar gael i ni.

O ran adeiladu, eto, nid yw yn y Bil, ond os caiff y pwerau eu rhoi i ni, yna byddem yn sicr ar sail gadarnach i wneud ymyriadau pellach, os bydd eu hangen. Ond rwy'n cydnabod, fel y gwna'r Prif Weinidog a Gweinidogion eraill yn wir, y pwyntiau a wnaed am y diwydiant adeiladu. Yn sicr, nid yw bob amser yn bosib gweithio ar safle adeiladu a phellhau eich hun yn gymdeithasol. Roedd fy mrawd hŷn yn gweithio yn y diwydiant adeiladu ac mae fy nhad-yng-nghyfraith yn gweithio yn y diwydiant adeiladu hefyd. Mae Llywodraethau eraill yn rhannu'r un pryder. Rwyf yn deall, fodd bynnag, y byddai angen i'r gwaith hanfodol o ran diogelwch barhau ac, yn yr un modd, y gwaith sy'n hanfodol i'r frwydr yn erbyn COVID-19. Felly fydden ni ddim am weld y gwaith sy'n cael ei wneud i drawsnewid canolfannau hamdden yn Sir Gaerfyrddin yn dod i ben. Mae angen i'r gwaith hwnnw fynd yn ei flaen fel y gallwn ni ymladd y clefyd ac achub cynifer o fywydau ag y bo modd. Ond rwy'n cydnabod y pwyntiau ynglŷn â'r ffaith bod hwn yn sector bregus o ran hawliau gweithwyr. Yn aml, mae'n rhaid i bobl fod yn hunangyflogedig lle maen nhw mewn gwirionedd o dan reolaeth uniongyrchol mewn ffordd y mae'r rhan fwyaf o gyflogeion yn teimlo eu bod hefyd.

Gwnaeth cyfraniad Dawn Bowden argraff arbennig arnaf, y coronafeirws ac—fel y soniodd Suzy Davies, yn wir—am yr amharu ar ein bywydau teuluol ni ein hunain yn ogystal â'r rhesymau pam mae'r Aelodau'n gyndyn i gefnogi'r pwerau newydd hyn. Nid wyf i nac unrhyw Weinidog arall yn y Llywodraeth hon yn awyddus iawn i ofyn i'r Aelodau basio'r cynnig hwn, ond y gwir amdani yw nad yw hyn yn hawdd, nid yw'n syml, ac nid ydym yn sicr pryd y bydd hyn yn dod i ben. Credaf fod pwynt wedi'i godi hefyd gan Alun Davies na fyddai ef wedi pleidleisio o blaid y mesurau hyn ychydig wythnosau'n ôl.

O ran yr archfarchnadoedd, credwn fod gennym rai pwerau i ymyrryd er mwyn rheoleiddio ymddygiad a phrynu nawr, ond bydd y Bil yn rhoi sylfaen gryfach a chadarnach inni wneud hynny, os oes angen.

13:40

A allaf bwyso arnoch ynghylch yr archfarchnadoedd? Rwy'n credu bod llawer ohonom yn bryderus am weithwyr hefyd. Mae nifer o bobl wedi cysylltu â mi yn eithaf siomedig, dros nos, sydd wedi cael gwybod bod yn rhaid iddyn nhw fynd i'r gwaith. Mae'n amlwg nad yw eu gwaith yn hanfodol mewn unrhyw ffordd realistig ar hyn o bryd. A oes pwerau, neu a oes pwerau yn bodoli, i alluogi naill ai'r Llywodraeth hon neu Lywodraeth y Deyrnas Unedig i weithredu a diogelu'r gweithwyr hynny rhag gweithredoedd yn y dyfodol gan gyflogwyr diegwyddor?

Wel, os ydych chi'n sôn am ychwanegiadau pellach at hawliau gweithwyr, efallai y bydd hynny'n anodd. Fodd bynnag, mae'n bosib bod gennym—yn enwedig os caiff y Bil hwn ei basio ac y daw'n Ddeddf—bwerau pellach a chliriach i gau ymgymeriadau ychwanegol, a byddai hynny'n rhoi rhai o'r amddiffyniadau i'r aelodau hynny. Mae'r enghraifft Sports Direct a'r sylwebaeth sy'n cylchredeg o amgylch y gadwyn Wetherspoon a'r neges y maen nhw wedi'i rhoi i'w hundeb llafur a'u gweithwyr yn enghreifftiau da o'r union beth nad ydym eisiau ei weld. Felly, oes, mae yna bwerau sydd ar eu ffordd yn y Bil hwn a fydd yn rhoi sylfaen gadarnach i ni. Bydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu ac yn gwneud yr hyn sy'n briodol yn ein barn ni bryd hynny. Byddai'n well gennym gael safbwynt cytûn pedair gwlad ar bron popeth yr ydym yn ei wneud, ond lle'r ydym yn credu bod angen gweithredu, yna byddwn yn gwneud hynny beth bynnag. Felly yr oedd y camau a gymeron ni ar garafanau a mannau prydferth, er enghraifft, ddoe, cyn i Lywodraeth y DU wneud cyhoeddiadau ac, yn wir, cyn yr Alban a Gogledd Iwerddon, oherwydd bod gennym y pwerau sydd ar gael i ni nad oes ganddyn nhw ar hyn o bryd hefyd.  

O ran amrywiaeth o'r sylwadau a wnaed gan Suzy Davies ar y prinder gweithlu o ran asesiadau iechyd meddwl, mae'n bwysig cydnabod efallai na fydd gennym gyflenwad parod o feddygon ar ryw adeg yn y dyfodol ac, mewn gwirionedd, efallai nad ydym yn diogelu'n briodol y bobl sydd angen bod mewn lle gwahanol i gael gofal os nad ydym yn newid, neu os nad oes gennym y gallu i newid, y ffordd y darperir yr asesiadau hynny.

O ran gwaith hanfodol, rwy'n cydnabod y bydd angen inni ystrywio'r canllawiau—bu cwestiynau yn ei gylch—i ddarparu atebion ac i gael atebion cyson i bobl mewn busnesau ac yn y gweithlu. Gallaf gadarnhau hefyd fod y warchodaeth rhag dadfeddiannu yn cynnwys Cymru hefyd—mae Julie James wedi bod yn glir iawn am hynny ac rwy'n glir iawn ynglŷn â hynny fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am y Bil o'r safbwynt hwn—ac mae'n bosib, wrth gwrs, y bydd yna fesurau pellach.

O ran pwyntiau Joyce am bobl ar y rheng flaen, rwy'n credu ei bod yn werth eich atgoffa bod y Bil hwn yn ymwneud ag amddiffyn pobl yn y rheng flaen. Rydym yn meddwl am y rheng flaen mewn ffordd wahanol nawr—pobl sy'n gyrru lorïau dosbarthu, pobl sy'n gweithio ym maes manwerthu bwyd, maen nhw yn bendant ar y rheng flaen, lawn cymaint ag y mae'r fferyllwyr cymunedol a gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol hefyd.

Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu cwestiynau ac am eu cefnogaeth i allu'r lle hwn i gytuno y dylid pasio'r Bil hwn i roi'r pŵer i Weinidogion Cymru ddiogelu'r cyhoedd. Gyda hynny, fe wnaf i gloi a gofyn i'r Aelodau gefnogi'n ffurfiol y cynnig cydsyniad deddfwriaethol sydd ger ein bron.

13:45

Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw bod y cynnig yn cael ei gytuno. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

15. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)
16. Cynnig i gymeradwyo'r penderfyniad ariannol ynghylch y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru)
17. Cynnig i atal Rheolau Sefydlog

Mae eitem 17 yn gynnig i atal y Rheolau Sefydlog. Galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i gynnig y cynnig.

Cynnig NNDM7317 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheolau Sefydlog 33.6 a 33.8:

Yn atal Rheol Sefydlog 12.20(i) a'r rhan honno o Reol Sefydlog 11.16 sy'n ei gwneud yn ofynnol bod y cyhoeddiad wythnosol o dan Reol Sefydlog 11.11 yn darparu'r amserlen ar gyfer busnes yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ganlynol, er mwyn caniatáu i’r eitem fusnes nesaf gael ei ystyried yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth, 24 Mawrth 2020.

Cynigiwyd y cynnig.

Iawn diolch. Y cynnig yw atal y Rheolau Sefydlog. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig, eto yn unol â'r Rheolau Sefydlog.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

18. Cynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog

Mae eitem 18 yn gynnig i ddiwygio Rheolau Sefydlog ac, unwaith eto, galwaf ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i gynnig y cynnig. Unrhyw aelod?

Cynnig NNDM7318 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 33.2:

1. Yn ystyried adroddiad y Pwyllgor Busnes 'Busnes y Cynulliad a Gweithdrefnau Argyfwng' a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 24 Mawrth 2020.

2. Yn cymeradwyo'r cynnig i:

(i) ddiwygio’r Rheolau Sefydlog er mwyn ychwanegu Rheol Sefydlog 34 newydd, fel y nodir yn Atodiad A o adroddiad y Pwyllgor Busnes; a

(ii) yn dirymu Rheolau Sefydlog 6.24A-H a 12.1A-C a dderbyniwyd ar 18 Mawrth 2020.

3. Yn nodi bod y newidiadau hyn yn rhai dros dro, ac y byddant yn peidio â chael effaith pan gaiff y Cynulliad hwn ei ddiddymu, neu pan fydd y Cynulliad yn penderfynu felly, pa un bynnag sydd gyntaf.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Felly, y cynnig yw diwygio'r Rheolau Sefydlog. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Daw hynny â ni at ddiwedd trafodion heddiw, ond a gaf i ddiolch i chi am eich amynedd? Nid oes gennym restr wirioneddol ac roeddem yn ychwanegu pobl ac yn tynnu pobl allan, felly diolch yn fawr iawn a gobeithio y byddwn ni i gyd yn aros yn ddiogel. Diolch.

Daeth y cyfarfod i ben am 13:47.