Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

29/01/2020

Cyfarfu'r Cynulliad am 13:30 gyda'r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig. Ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mark Isherwood. 

Tlodi Tanwydd

1. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am strategaeth tlodi tanwydd Llywodraeth Cymru? OAQ54981

Rwy'n disgwyl i'r cynllun newydd ar gyfer trechu tlodi tanwydd yng Nghymru gael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghori ym mis Chwefror. Bydd yn cael ei lywio gan yr adolygiad tirwedd ar dlodi tanwydd a gyhoeddwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru ar 3 Hydref.

Diolch. Fel y gwyddoch, roeddem yn edrych ymlaen at gyhoeddi ymgynghoriad y strategaeth tlodi tanwydd y mis hwn, a'r cynllun terfynol y mis nesaf. Yr wythnos diwethaf, rhoddodd y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl dystiolaeth i ymchwiliad Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad i dlodi tanwydd, gan alw, dyfynnaf, 'am ddull mwy cyfannol', gan ddweud mai eiddo yn rhai o'r ardaloedd mwyaf difreintiedig yn unig y mae’r strategaeth gyfredol wedi mynd i'r afael â hwy hyd yn hyn, a bod llawer o feddianwyr sy'n dlawd o ran tanwydd yn byw mewn cartrefi mewn ardaloedd mwy cyfoethog hefyd. Ac ymhlith galwadau eraill, fe wnaethant alw am dargedu’r cartrefi lleiaf effeithlon o ran tanwydd yn gyntaf, megis eiddo â sgôr effeithlonrwydd ynni isel, gan gynnwys y rheini yn y sector rhentu preifat, a chymorth i denantiaid.

Fis Hydref y llynedd, canfu adroddiad Sefydliad Bevan yn y maes hwn mai'r aelwydydd cyfoethocaf sy’n elwa fwyaf o'r strategaeth tlodi tanwydd gyfredol neu strategaethau tlodi tanwydd blaenorol, lle roedd nifer yr aelwydydd cyfoethocach mewn tlodi tanwydd wedi gostwng 75 y cant, ond 25 y cant yn unig ymhlith yr aelwydydd tlotaf, ac roeddent yn dweud bod hynny'n arwydd pam fod Llywodraeth Cymru wedi methu cyrraedd ei tharged i drechu tlodi tanwydd.

Er y gostyngiad cyffredinol yn nifer yr eiddo mewn tlodi tanwydd, mae hyn yn dangos efallai fod angen ffocws newydd penodol. Sut y bydd eich strategaeth newydd yn mynd i'r afael â'r pryderon hyn, a phryd y disgwyliwch i'r cynllun gael ei gyhoeddi?

Credaf eich bod yn llygad eich lle: mae angen i ni sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â'r cartrefi mwyaf difreintiedig yn gyntaf, yn fy marn i, ac yn sicr, pe bai gennym fwy o arian, gallem ei ledaenu'n llawer ehangach. Rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol dros y 10, 11 mlynedd diwethaf, ac rydym wedi gwella effeithlonrwydd ynni mewn mwy na 50,000 o gartrefi, ac rydym hefyd wedi gallu cefnogi dros 129,000 o bobl, ond mae gormod o lawer o bobl yn dal i fyw mewn tlodi tanwydd yng Nghymru.

Yn amlwg, fel rhan o'r strategaeth newydd, gallwn edrych ar gael y ffocws newydd hwnnw, a buaswn yn falch iawn o gael unrhyw dystiolaeth a roddwyd, ac rwy'n ymwybodol iawn o adroddiad y pwyllgor newid hinsawdd ar dlodi tanwydd, ac maent yn casglu tystiolaeth lafar ar hyn o bryd. Ac er y bydd eu hadroddiad yn cael ei gyhoeddi'n rhy hwyr yn ôl pob tebyg i gael effaith ar y strategaeth y byddwn yn ei chyhoeddi fis nesaf, rwy'n siŵr y bydd yn ein helpu wrth i ni fwrw ymlaen â'r polisi.

Rwy'n siŵr, Weinidog, y byddech yn cytuno â mi mai un elfen allweddol o drechu tlodi tanwydd yw sicrhau bod pobl yn gallu cael y cyngor cywir i newid defnyddwyr, o bosibl—rhywbeth y mae pobl hŷn, yn enwedig, yn ei chael hi'n anodd ei wneud—a hefyd i weld pa gynlluniau grant, pa gymorth a allai fod ar gael. Fe fyddwch yn ymwybodol y bydd Llywodraeth Cymru, yn y flwyddyn ariannol newydd, yn gwneud newidiadau eithaf sylweddol i'r gwasanaethau cynghori, strwythurau'r gwasanaethau cynghori y maent yn eu hariannu, a tybed a fyddech cystal â siarad â’r Gweinidogion perthnasol ynglŷn â’r newidiadau arfaethedig hynny er mwyn sicrhau bod pobl, yn enwedig y rheini yn ein cymunedau tlotaf, ac yn enwedig dinasyddion oedrannus, yn gallu cael mynediad at gyngor amserol, a chyngor yn eu cymunedau eu hunain, ac wrth gwrs, lle bo hynny'n briodol, drwy gyfrwng y Gymraeg.

Yn sicr, ac rwy'n fwy na pharod i gael y trafodaethau hynny gyda fy nghyd-Aelodau perthnasol. Credaf ei fod hefyd yn rhywbeth y mae angen i ni edrych arno yn ein gwasanaeth ynni, gan na chredaf fod pobl yn tueddu i newid defnyddwyr. Os meddyliaf am fy hun, mae'n debyg y dylwn wneud hynny; dylem wneud hynny’n rheolaidd yn fy marn i, ac yn sicr, dylem edrych ar yr arbedion y gellid eu gwneud. Ond nid oes gan lawer ohonom amser i wneud hynny; nid yw rhai pobl yn gwybod sut i wneud hynny. Rydych wedi cyfeirio at bobl oedrannus; ni chredaf y byddent yn gwybod i ble y dylent fynd am y cyngor hwnnw. Felly, credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod yn edrych ar yr hyn y mae gwasanaethau cynghori’n ei wneud yn y maes hwn. Felly, ydw, rwy’n fwy na pharod i gael y trafodaethau hynny.

Weinidog, y ffigurau a ddyfynnwyd gennych yn gynharach—129,000 o bobl yn cael cymorth, 50,000 o gartrefi—yn newyddion da ledled Cymru. Ond wrth gwrs, roedd y rhaglenni hynny'n seiliedig yn aml iawn ar warant a gynigiwyd gan yr Asiantaeth Gwarantau Inswleiddio Waliau Dwbl. Nawr, pan fo rhywbeth wedi mynd o’i le gyda’r datblygwyr hynny—naill ai rydym wedi cael datblygwr amheus, neu rydym wedi cael deunyddiau diffygiol, ac o ganlyniad, mae'r cartrefi wedi cael trafferth â lleithder ac yn broblemus—mae'n bwysig, felly, y gallant ddibynnu ar y warant honno i sicrhau bod y camgymeriadau hynny'n cael eu cywiro. Mae gennyf etholwyr o hyd sy'n lleisio pryderon eu bod yn ei chael hi’n anodd cael y gwarantau wedi'u sicrhau a'u cyflawni. A wnewch chi edrych eto ar y rhaglen hon er mwyn sicrhau bod y gwarantau yno i bobl, fel y gallant ddibynnu arnynt pan fydd pethau'n mynd o chwith a pheidio â gorfod gwario miloedd o bunnoedd i gywiro camgymeriadau, na ddylent orfod ei wneud?

13:35

Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn, ac mae'n amlwg fod rhai enghreifftiau lle mae pobl sydd wedi elwa o gynlluniau Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru a gynlluniwyd i wella effeithlonrwydd ynni yn eu cartref—maent wedi cael problemau, yn enwedig gyda lleithder, a phroblemau eraill cysylltiedig. Gwn ei fod yn achos pryder i lawer o Aelodau, ar draws y Siambr—ddoe ddiwethaf, cyfarfûm â'n cyd-Aelod, Dawn Bowden, sydd â phryderon yn ei hetholaeth. Pan fydd y pethau hyn yn cael eu gosod a'u cynnal yn gywir, gwyddom y gallant wella ansawdd bywyd pobl yn sylweddol a lleddfu tlodi yn y ffordd y trafodwyd gennym. Felly rwy'n parhau i weithio gyda chontractwyr; mae fy swyddogion yn parhau i weithio gyda chyrff perthnasol hefyd, ac rwy’n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau pan fydd gennyf ragor i'w rhoi.

Rheoli Adnoddau Naturiol mewn Trefi a Dinasoedd

2. Pa gamau pellach y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i ddatblygu ei pholisi ar gyfer rheoli adnoddau naturiol mewn trefi a dinasoedd? OAQ54997

Diolch. Disgwylir i 'Gweithredu'r Polisi Adnoddau Naturiol: ciplun' gael ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru y mis nesaf. Bydd datganiadau ardal Cyfoeth Naturiol Cymru yn chwarae rhan allweddol yn datblygu dulliau sy’n seiliedig ar le i helpu i weithredu'r blaenoriaethau a'r cyfleoedd yn y polisi adnoddau naturiol.

Diolch, Weinidog. Mae'r rhan fwyaf o bobl yng Nghymru yn byw mewn ardaloedd trefol, ac yn ein hardaloedd trefol mewnol, ceir llawer o broblemau sy’n ymwneud ag ansawdd aer a diffyg mannau gwyrdd yn gyffredinol. Felly, credaf y byddai gwella'r amgylcheddau trefol mewnol hynny yn cysylltu pobl yn gryfach â'r byd naturiol, a buaswn yn gobeithio y byddai hynny’n arwain at well ymddygiad amgylcheddol—boed hynny drwy gymryd rhan fwy effeithiol mewn cynlluniau ailgylchu, neu’n gyffredinol drwy gefnogi'r awyr agored gwych sydd gennym yng Nghymru. Felly mae gennyf ddiddordeb, Weinidog, mewn cynlluniau fel Cynefin, a gyflawnwyd gan Lywodraeth Cymru, ac a fu’n effeithiol iawn yn fy ardal i yn Nwyrain Casnewydd, er enghraifft. Ac yn ardal Maendy ar hyn o bryd, mae gennym grŵp yn llyfrgell Maendy—grŵp o wirfoddolwyr, grwpiau cymunedol—a chanddynt syniadau i wyrddu'r amgylchedd naturiol yn yr ardal, ac mae ganddynt gryn ddiddordeb yng nghefnogaeth a chymorth Llywodraeth Cymru i'r math hwnnw o waith. Felly byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed pa gamau pellach y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i gefnogi grwpiau o'r fath ac i sicrhau ein bod yn cael amgylchedd o safon yn ein hardaloedd trefol mewnol.

Cytunaf yn llwyr â chi yn eich arfarniad o Cynefin. Credaf ei fod yn gynllun a fu'n gweithredu—. Yr egwyddorion oedd polisïau a blaenoriaethau a oedd yn canolbwyntio ar le, a chredaf ei fod wedi hwyluso llawer iawn o’r gwaith partneriaeth hwnnw y cyfeirioch chi ato. Ers i ni gael Cynefin, rydym hefyd wedi cyflwyno'r grant galluogi adnoddau naturiol a lles, cynllun cymunedau y dreth gwarediadau tirlenwi, a ddoe ddiwethaf, byddwch wedi clywed fy nghyd-Aelod, Hannah Blythyn, yn lansio'r rhaglen seilwaith gwyrdd a bioamrywiaeth ar gyfer canol trefi. Bydd y rhaglen honno’n cefnogi’r broses o roi cynlluniau amgylchedd ar waith, ac mae’n adlewyrchu Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, drwy gyflwyno seilwaith gwyrdd yn gynaliadwy i ganol trefi, fel nad manteision amgylcheddol yn unig a geir, ond manteision cymdeithasol ac economaidd i gymunedau lleol hefyd. Bydd gan awdurdodau lleol gyllid ar gyfer hynny, felly, os oes diddordeb gan unrhyw un sy’n gwrando heddiw, gallant ddarganfod sut y gallant gymryd rhan drwy gysylltu â'u hawdurdod lleol.

Weinidog, yn ein strategaeth adnewyddu trefol, 'Dinasoedd Byw', gwnaeth y Ceidwadwyr Cymreig addewid i sicrhau bod o leiaf 20 y cant o frigdwf trefol yng Nghymru erbyn 2030. Fe welwch fod y mudiad trefi a dinasoedd gwyrdd bellach yn mynd o nerth i nerth ledled y byd, a gallem fod yn rhan o hynny hefyd mewn gwirionedd, ac yn ei arwain. Rwyf am weld y dydd pan fydd rhai o'r priffyrdd mwyaf drwy ein dinasoedd ar hyn o bryd yn cael eu gwyrddu ar gyfer beicwyr a cherddwyr. Ac ar hyn o bryd, mae taer angen inni ddechrau meddwl mewn ffordd wahanol.

Rwyf wedi bod yn cael trafodaethau gyda Hannah Blythyn a Ken Skates ynghylch y mater hwn. Credaf eich bod yn llygad eich lle; gallwn arwain yn hyn o beth. Rwyf ar fin lansio—ym mis Ebrill mae'n debyg—y cynllun twf amgylcheddol, a oedd yn un o ymrwymiadau maniffesto'r Prif Weinidog. Ac yn sicr, byddwn yn nodi cyllid ar gyfer yr union fathau hynny o bolisïau, lle gall pobl gymryd rhan wrth edrych arno o garreg eu drws. Felly yn sicr, credaf y bydd hyn yn ein helpu i symud i'r cyfeiriad cywir.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies. 

Diolch, Lywydd. Weinidog, rydych chi a minnau wedi cael llawer o drafodaethau yn y Siambr hon ynglŷn â pharthau perygl nitradau, ac yn amlwg, y rheoliadau amgylcheddol rydych yn awyddus i'w cyflwyno i reoli llygredd amaethyddol, fel rydych chi'n ei weld. A allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am yr hyn a ddywedoch chi wrthym ym mis Rhagfyr, pan gawsoch saib yn y broses ac fe fuoch yn ailfeddwl ac yn ail-ymgysylltu â'r sector i weld sut olwg fyddai ar y rheoliadau yn y pen draw?

Y tro diwethaf i ni drafod hyn yn y Siambr—. Wel, mae dau beth i'w dweud: nid llygredd amaethyddol ymddangosiadol mohono—credaf ein bod yn ymwybodol o'r nifer o achosion o hynny sydd gennym—a dywedais wrthych y buaswn yn cael cyngor cyn diwedd mis Ionawr. Cefais y cyngor hwnnw ddydd Llun. Fel y gallwch ddychmygu, mae'n ffolder fawr iawn o gyngor gweinidogol, ac rwyf wrthi'n ei darllen, a byddaf yn gwneud cyhoeddiad, buaswn yn sicr yn gobeithio, rhwng dechrau'r mis nesaf a chanol y mis nesaf.

O'r ateb hwnnw, credaf y gallwn edrych ymlaen at gyhoeddiad ryw bryd ym mis Chwefror—

—felly. A fyddwch yn sicrhau, cyn y cyhoeddiad hwnnw, fod yr asesiad effaith rheoleiddiol ar gael, gan ei bod hanfodol ein bod yn deall union gostau hyn, y goblygiadau i'r diwydiant, yn enwedig i rai o'r sectorau da byw, y sector cig eidion a defaid yn benodol? Ac yn ôl yr hyn a ddeallaf, er bod nifer yr achosion o lygredd wedi gostwng mewn gwirionedd yn 2019, a rhwng 2001 a 2018, ac nad oes gwahaniaeth amlwg rhwng y blynyddoedd o ran llygredd amaethyddol, pam eich bod yn credu ei bod yn angenrheidiol cyflwyno mesurau mor llym, pan fo'r gweithgor, yn amlwg—[Torri ar draws.]—y gweithgor a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru wedi trafod ac edrych ar gyflwyno cynnig gwirfoddol y cytunodd y rheoleiddiwr a'r sector y byddai o fudd i leihau llygredd yn y sector amaethyddol?

Wel, yn sicr, ni chredaf eu bod yn llym. Os edrychwch ar fesurau mewn rhannau eraill o'r DU, buaswn yn dweud yn sicr nad ydym yn cyflwyno mesurau llym, o gymharu â rhannau eraill o'r DU. Ond nid yw hynny'n fater i mi. A rhoddaf rai ffigurau i chi fel y gallwch ddeall nad yw'r hyn rydych wedi'i ddweud—credaf i mi eich clywed yn iawn—yn gywir.

Felly, ar hyn o bryd, nifer yr achosion o lygredd amaethyddol yn 2019 oedd 157. Nid yw'r ffigur hwnnw wedi'i gadarnhau, gan nad yw'r holl ffigurau ar gyfer 2019 yn derfynol eto. Mae'r ffigur hwnnw o 157 eisoes yn uwch na'r cyfartaledd ar gyfer y 10 mlynedd diwethaf, sef 151. Mae'n uwch nag yn 2015, mae'n uwch nag yn 2016, ac mae'n uwch nag yn 2017. Y ffigur ar gyfer 2018 yw'r uchaf a gawsom yn y cyfnod ers 2001. Felly, mewn 17 mlynedd, y ffigur ar gyfer 2018 oedd yr uchaf, sef 195 o achosion. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod hyn yn achos cryn bryder. Mae'n annerbyniol—mae'r sector amaethyddol yn cydnabod ei fod yn annerbyniol—ac mae'n rhaid inni wneud rhywbeth yn ei gylch. Ac mae'n rhaid i chi feddwl hefyd am effaith gronnol yr achosion hyn.

Rwy'n cytuno â chi. Mae un achos yn un achos yn ormod, ac yn y pen draw, mae'r diwydiant amaethyddol yn awyddus i wneud popeth yn ei allu i leihau nifer yr achosion hyn o lygredd. Ond fe ddywedoch eich hun fod 190 o achosion wedi'u hadrodd yn 2018. Credaf mai'r ffigur a roesoch ar gyfer 2019 oedd 157, sy'n dangos tuedd ar i lawr. Ac a yw'n iawn ymateb i'r niferoedd hyn drwy efelychu, i bob pwrpas, y parthau perygl nitradau a roddwyd ar waith mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig? Does bosibl nad oes ffordd well o wneud hyn, gan weithio ar y cyd â'r sector i sicrhau ein bod yn cadw'r achosion hyn dan reolaeth—oherwydd fel y dywedais, mae un achos yn un achos yn ormod; rwy'n derbyn hynny—ac yn anad dim, rhoi cyllid cyfalaf ar waith, felly, ni waeth pa fesurau a gyflwynwch drwy'r rheoliadau, gall y sector wneud cais am gyllid cyfalaf i wneud rhai o'r gwelliannau a fydd yn ofynnol o dan y rheoliadau. Felly, a allwch gadarnhau heddiw, ochr yn ochr â'r hyn rydych yn edrych arno gyda'r rheoliadau, eich bod yn edrych ar argaeledd cyllid cyfalaf ac unrhyw arian a allai fod yn weddill yn y cynllun datblygu gwledig, neu unrhyw arian y gallech ei gael gan y Gweinidog cyllid, sy'n bresennol y prynhawn yma?

Fe ddechreuwn ni gyda'r cyllid cyfalaf. Felly, rwyf wedi dweud ers y cychwyn y byddwn yn gallu darparu cyllid cyfalaf ychwanegol mewn perthynas â hyn, ond nid er mwyn sicrhau bod ffermydd yn cyrraedd y safon gyfreithiol yn awr, oherwydd ar hyn o bryd, mae gennym ddata a gasglwyd gan swyddog llaeth Cyfoeth Naturiol Cymru sy'n ymweld â'r ffermydd, ac mae'r data'n dangos nad oes gan oddeutu 60 y cant o ffermydd llaeth storfeydd slyri digonol ar hyn o bryd. Felly, nid wyf am ddarparu cyllid ychwanegol er mwyn sicrhau bod y capasiti cyfreithiol ar y ffermydd hynny. Fodd bynnag, rwyf wedi dweud ers y cychwyn, yn y Siambr hon a thu allan, y byddwn yn ceisio darparu rhywfaint o arian cyfalaf ychwanegol.

Dychwelaf at yr hyn roeddwn yn ei ddweud am 2019: mae'n 157, ond nid y ffigur hwnnw yw'r ffigur terfynol, gan fod rhai achosion yn dal i gael eu hadolygu. Felly, ni chredaf mai hwnnw yw'r ffigur terfynol ar gyfer 2019. Unwaith eto, rwyf wedi siarad am hyn lawer gwaith gyda rhanddeiliaid, gydag undebau'r ffermwyr. Rwyf am weithio ar y cyd â hwy. Rydym wedi cael y dull gwirfoddol, ac nid yw wedi gweithio yn y ffordd roeddem yn dymuno. Un o'r rhesymau—. Fe ddywedasom y byddem yn cyhoeddi hyn ddechrau mis Ionawr, ond gan ein bod yn cael mwy a mwy o dystiolaeth—. Fe gyfeirioch chi at y ffaith i ni gael saib, ond nid saib ydoedd, roeddwn yn awyddus i sicrhau fy mod yn cael y cyngor mwyaf trylwyr y gallem ei gael.

13:45

Rydych newydd ddweud wrthym y bu 157 o achosion yn 2019. Ydy, mae 157 achos o lygredd yn 157 achos yn ormod. Wrth gwrs, nid oes unrhyw sôn am y 30,000 achos o lygredd carthion yn 2018. Felly, credaf fod angen ychydig o bersbectif arnom wrth drafod y materion hyn.

Nawr, dywedasoch eich bod yn awyddus i weithio ar y cyd. Buaswn yn cymeradwyo hynny. Efallai yr hoffech weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, a ddywedodd wrthym nad yw 92 y cant o dir amaethyddol Cymru mewn perygl o achosi llygredd nitradau, a'u cyngor yw ein bod yn cynyddu'r 2.3 y cant o Gymru sy'n barthau perygl nitradau dynodedig ar hyn o bryd i 8 y cant.

Nawr, dau opsiwn yn unig a ystyriwyd yn eich asesiad effaith rheoleiddiol, neu'r asesiad effaith rheoleiddiol drafft: un oedd yr opsiwn 'gwneud dim byd', nad oes unrhyw un, hyd yn oed undebau'r ffermwyr, o'i blaid; a'r llall oedd defnyddio mesurau i fynd i'r afael â llygredd amaethyddol ledled Cymru gyfan. Felly, pam fod eich asesiad effaith rheoleiddiol wedi canolbwyntio ar y ddau eithaf yn unig, yn enwedig gan nad oedd un ohonynt erioed yn opsiwn realistig yn y lle cyntaf?

Y rheswm pam y cefais saib, neu gyfnod o oedi, wrth gyflwyno'r rheoliadau hyn yw fy mod yn awyddus i edrych, fel y dywedais, ar gymaint o dystiolaeth ag a oedd ar gael i ni. Yn sicr, gwelais ddrafft cyntaf yr asesiad effaith rheoleiddiol. Rwyf bellach yn dod—. Yn fy ffolder fawr iawn, credaf mai dogfen 18 yw'r asesiad effaith rheoleiddiol. Rwy'n dod ato. Byddaf yn gweld pa wahaniaeth sydd rhwng hwnnw a'r drafft, os o gwbl, ond nid wyf mewn sefyllfa i ateb y cwestiwn penodol hwnnw ar hyn o bryd, gan fy mod yn adolygu'r holl dystiolaeth sydd gennym.

Rydych yn llygad eich lle: rydym yn gweld llygredd ledled Cymru ar wahanol ffurfiau. Mae llygredd gwasgaredig yr un mor bwysig. Ac unwaith eto, cynhaliodd CNC eu hymgynghoriad 'Heriau a Dewisiadau' yn 2019. Unwaith eto, nododd yr ymgynghoriad hwnnw mai llygredd gwasgaredig o'r sector amaethyddol oedd y rheswm pam fod 113 o gyrff dŵr ledled Cymru wedi methu cyflawni statws da. Felly, mae angen inni edrych ar lawer o faterion sy'n ymwneud â llygredd, gan ei bod yn hanfodol ein bod yn datrys y broblem hon ar unwaith.

Ond y ffaith amdani yw nad yw CNC yn cefnogi'r cynnig i wneud Cymru gyfan yn barth perygl nitradau, ac er bod achosion y mae angen mynd i'r afael â hwy, mae'n amlwg eu bod yn teimlo y byddai gwneud hynny ar draws 8 y cant o Gymru yn ddigonol i fynd i'r afael â'r mater. Mae pob un ohonom yn edrych ymlaen at weld yr asesiad effaith rheoleiddiol, gan mai dogfen 20 tudalen yn unig oedd y drafft, ac am newid mor sylweddol â hwn, mae gwir angen rhywbeth ychydig yn fwy cadarn na hynny. Fe'i gadawaf yn y fan yna.

Ond wrth gwrs, os ydych am fabwysiadu ymagwedd tiriogaeth gyfan, mae angen i ni fod yn sicr mai dyna'r ffordd orau ymlaen. Nid wyf yn sicr, ac nid wyf wedi gweld tystiolaeth sy'n dweud wrthym y bydd parth perygl nitradau tiriogaeth gyfan yn effeithiol o ran lleihau llygredd amaethyddol. Oherwydd nid yw'r wybodaeth a gafwyd, eto gan Gyfoeth Naturiol Cymru, yn darparu unrhyw dystiolaeth sylweddol o effeithiolrwydd rhaglen weithredu'r parthau perygl nitradau yn lleihau llygredd amaethyddol, er bod y dynodiadau'n dyddio'n ôl i 2002. Rydym wedi gweld nifer o bapurau ymchwil gwyddonol sy'n ystyried effeithiolrwydd parthau perygl nitradau, neu fel arall, a dywedant wrthym nad yw'r dull yn cael fawr o effaith, os o gwbl, gyda rhai'n tynnu sylw at effeithiau niweidiol hefyd. Canfu un astudiaeth, a dyfynnaf:

na chafwyd unrhyw welliant sylweddol mewn 69% o barthau perygl nitradau mewn crynodiadau dŵr wyneb hyd yn oed ar ôl 15 mlynedd. O gymharu â dalgylch rheoli, cafwyd gwelliant sylweddol mewn 29% o barthau perygl nitradau—

mae hynny'n gadarnhaol—

ond cafwyd gwaethygiad sylweddol mewn 31% ohonynt.

Felly, ble mae eich tystiolaeth y bydd dull parth perygl nitradau tiriogaeth gyfan yn cael yr effaith y mae cymaint ohonom am ei gweld?

Fel y dywedais, ar hyn o bryd, rwyf—. Nid oes digon o oriau wedi bod pan wyf wedi bod yn effro a heb fod yn gweithio i gael amser i ddarllen, fel y dywedaf, y corff mawr iawn hwn o dystiolaeth, a hoffwn roi fy ystyriaeth lawn iddo.

Cawsom ymgynghoriad ar hyn yn ôl yn 2016. Nid yw hyn yn rhywbeth rydym yn rhuthro tuag ato. Mae hon wedi bod yn broses hir iawn. Byddai rhai yn dweud ei bod wedi bod yn rhy hir. Ond mae'n bwysig iawn ein bod yn gwneud hyn yn iawn, a byddaf yn cyhoeddi cymaint ag y gallaf i ddangos sut y mae'r polisi hwnnw wedi'i lunio.

13:50

Mae'n gofyn y cwestiwn: faint o ystyriaeth roeddech wedi'i rhoi i iteriadau blaenorol o'r cynigion hyn, neu a fuoch yn rhan ohonynt o gwbl? Oherwydd rydych yn swnio fel pe baech yn diystyru'r hyn rydym wedi'i gael hyd yn hyn, gan nad ydych wedi cael cyfle i edrych ar y ffeil a ddarparwyd i chi. Felly, credaf fod cwestiynau mawr i'w gofyn ynglŷn â phwy sy'n gwneud penderfyniadau neu'n cyflwyno awgrymiadau ynglŷn â hyn.

Nawr, rwyf wedi awgrymu eisoes y gallai fod canlyniadau negyddol annisgwyl—neu ddisgwyliedig, efallai—yn sgil eich dull blaenorol o fynd ati. Nawr, nid yn unig y gwyddom fod cynnydd enfawr mewn lefelau nitradau yn yr ardaloedd hynny lle rydym wedi gweld, yn y gorffennol, cyfnodau gwaharddedig—cynnydd mewn nitradau yn union cyn y cyfnod gwaharddedig ac yn syth ar ei ôl, am resymau amlwg—ond hefyd, ceir pryder y gallai ffermydd Cymru golli gwartheg, a gostyngiad dilynol o ran pori cymysg ar ucheldir Cymru.

Nawr, nid yw ffermydd ag 20 neu 30 o fuchod sugno yn mynd i fuddsoddi degau o filoedd o bunnoedd mewn seilwaith newydd i fodloni gofynion y rheoliadau newydd hyn, gan fod hynny'n gwbl anghymesur â'r lefelau isel o stoc y maent yn eu cadw. Dywedant wrthyf mai'r dewis iddynt hwy, felly, yw rhoi'r gorau i ffermio gwartheg, a bydd hynny, wrth gwrs, yn arwain at ganlyniadau dilynol i fioamrywiaeth a chynefinoedd yr ucheldir, ond hefyd i'r sector cig eidion ehangach yma yng Nghymru.

Mae sefydliadau amgylcheddol yn poeni am y canlyniad posibl hwnnw. Mae Hybu Cig Cymru hefyd yn pryderu am y canlyniad posibl i'r sector cig eidion ehangach. Nid oes unrhyw un yma yn dweud, 'Peidiwch â gwneud unrhyw beth'—mae angen i bawb ddeall a chlywed hynny—ond o'm rhan i, hyd yn hyn, mae'r Llywodraeth yn amlwg wedi methu dadlau'r achos dros eich cynigion, neu ddarparu tystiolaeth sy'n cyfiawnhau'r dull rydych yn awyddus i'w fabwysiadu yn ôl pob golwg.

Felly, hoffwn ofyn i chi ailedrych ar y cynigion hyn, ac os gwelwch yn dda, i edrych ar y 45 o argymhellion a gafwyd gan yr is-grŵp llygredd amaethyddol, a ddylai fod wedi cael eu hystyried yn briodol fel rhan o'r asesiad effaith rheoleiddiol sydd wedi bod ar gael ar ffurf drafft.

Gan ddechrau gyda'ch pwynt cyntaf, yn sicr nid wyf yn diystyru unrhyw beth. Rwyf wedi chwarae rhan fawr yn hyn ers i mi fod â'r portffolio hwn. Soniais am yr ymgynghoriad a gynhaliwyd cyn i mi gael y portffolio; roedd yn un o'r pethau cyntaf ar fy nesg. Yr hyn a ddaeth ohono oedd ymagwedd wirfoddol: gweithio gydag undebau'r ffermwyr yn arbennig, a rhanddeiliaid eraill. Efallai eich bod yn ymwybodol o gynllun a gyflwynwyd gan ddau ffermwr o Sir Benfro; gweithiais gydag undebau'r ffermwyr i sicrhau bod y cynllun gwirfoddol yn cael amser i weithio. Gallwch weld o nifer yr achosion ei bod yn amlwg nad yw'n gweithio. Dyna pam fod yn rhaid i ni wneud rhywbeth ar unwaith. Dyna pam fod yn rhaid i ni symud tuag at reoleiddio. Felly, dyna'r ateb i'ch pwynt cyntaf. Y cyngor a roddwyd i mi yr wythnos hon yw'r cyngor rwyf wedi bod yn aros amdano ynghylch rheoleiddio, ac yn sicr, rwyf wedi rhoi amser ac ystyriaeth drylwyr iawn iddo, oherwydd fel y dywedaf, mae angen i ni gael hyn yn hollol iawn.

O ran eich ail bwynt, mae pob fferm yn wahanol, felly nid oes modd nodi'n union pa fesurau a fyddai'n berthnasol i fferm fynydd, er enghraifft. Rydych yn sôn am filoedd ar filoedd o bunnoedd pan nad ydym yn gwybod beth fydd ei angen ar bob fferm. Rwyf wedi dweud yn glir iawn y byddwn yn darparu rhywfaint o arian cyfalaf ychwanegol, ond nid er mwyn sicrhau bod ffermydd yn bodloni gofynion cyfreithiol. Felly, byddaf yn gwneud cyhoeddiad, yn sicr erbyn canol mis Chwefror, ac yn amlwg, yr Aelodau fydd y cyntaf i glywed.

Yr Adolygiad Brys o Reoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014

3. A wnaiff y Gweinidog amlinellu ymateb Llywodraeth Cymru i'r argymhellion a nodwyd yn yr adolygiad brys o Reoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014 a gomisiynwyd ym mis Hydref 2019? OAQ54980

5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd tuag at weithredu Deddf Lucy i reoleiddio ffermio cŵn bach yng Nghymru? OAQ54979

Diolch. Lywydd, deallaf eich bod wedi rhoi caniatâd i gwestiynau 3 a 5 gael eu grwpio. Byddaf yn gwneud datganiad ac yn cyhoeddi adroddiad y grŵp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid yn dilyn toriad mis Chwefror. Mae'r argymhellion yn gynhwysfawr ac yn cynnwys gorfodi, hyfforddi milfeddygon a swyddogion awdurdodau lleol, diwygiadau i amodau trwyddedau, yn ogystal ag ystyried deddfwriaeth arall sy'n gysylltiedig â bridio a gwerthu cŵn.

Diolch, Weinidog, a diolch hefyd am eich ymateb blaenorol i fy nghwestiynau ysgrifenedig yn gynharach yn y mis. Mae hyn yn bwysig iawn fel cam tuag at gyflwyno deddf Lucy i wahardd gwerthiannau cŵn a chathod bach gan drydydd parti. Mae'r canfyddiad o ddiffyg cynnydd yn peri pryder ymhlith ymgyrchwyr, gydag ofnau y bydd Cymru, ar ôl i Loegr gyflwyno eu deddf Lucy eu hunain ym mis Ebrill, yn dod, ac rwy'n dyfynnu, yn 'Siop ar gyfer anifeiliaid anwes sâl ac anafus.' Weinidog, a allwch roi sicrwydd cadarn i mi na fyddwch yn gadael i hyn ddigwydd, ac y bydd deddf Lucy yn cael ei chyflwyno yng Nghymru cyn diwedd tymor y Cynulliad hwn? Pryd y gallwn ni, a'r llu o bobl ledled Cymru sy'n dilyn hyn mor agos, ddisgwyl amserlen fanwl ar gyfer y camau nesaf tuag at gyflawni'r nod hwn?

13:55

Diolch i Vikki Howells am ei chwestiwn, ac rwy'n bendant yn rhoi'r sicrwydd hwnnw i chi. Mae hyn yn gryn dipyn o waith, a gwn faint o ymgyrchwyr sy'n sicr yn bryderus iawn am hynny, gan fod fy mewnflwch yn dangos hynny i mi—fel Aelod Cynulliad ac fel y Gweinidog. Mae'r ddau beth yn mynd law yn llaw mewn ffordd; mae cysylltiad agos iawn rhyngddynt. Yr hyn yr hoffwn ei sicrhau yw—. Rwyf wedi dweud y byddwn yn cyflwyno deddf Lucy, nid wyf mewn sefyllfa ar hyn o bryd i roi'r amserlen i chi, ond rwy'n sicr yn gobeithio gwneud hynny o fewn y mis neu ddau nesaf.

Derbyniais yr adroddiad a gomisiynais cyn diwedd mis Rhagfyr oddeutu 10 diwrnod yn ôl, efallai ychydig yn llai, a rhoddais flas i chi o'r hyn sydd ynddo yn fy ateb agoriadol. Felly, credaf mai'r peth mawr i mi yw—. Mae yna bob amser frys i ddeddfu; mae'n ymwneud â chael y ddeddfwriaeth honno'n iawn, ond mae'n ymwneud â dysgu beth nad yw'n gweithio yn y ddeddfwriaeth bresennol. Oherwydd yn amlwg, ceir rhai rhwystrau ar hyn o bryd y mae angen i ni eu goresgyn. Felly, os yw hynny'n golygu rhwystrau rhag gorfodi, er enghraifft, rwy'n siŵr y bydd yr awdurdodau lleol a'r cyfarfod a gafodd y prif swyddog milfeddygol ar hynny yn mynd i'r afael â'r mater hwnnw.

Felly, mae cysylltiad agos iawn rhwng y ddau, ac rwy'n sicr yn fwy na pharod i roi'r newyddion diweddaraf ar hynny. Ond rwy'n rhoi fy sicrwydd pendant i chi y byddwn yn edrych ar y ddeddfwriaeth sydd ar waith ar hyn o bryd o ran bridio, yn ogystal â'r hyn y mae angen i ni ei gyflwyno mewn perthynas â deddf Lucy.

Y broblem yn sicr, Weinidog, yw na fyddwch yn cael eich cyhuddo o ruthro i ddeddfu ar y mater hwn. Nid yw rhoi sicrwydd pendant eich bod yn mynd i ddarllen adroddiad yn rhoi llawer o hyder i'r Aelodau yma. Rydym wedi clywed y sicrwydd hwnnw o'r blaen, ac rydym wedi cael ein siomi. Credaf ein bod wedi cyrraedd pwynt bellach, gydag ychydig dros flwyddyn ar ôl yn y Senedd hon, lle rydym am weld camau gweithredu, ac rydym am weld yr addewidion yn cael eu gwireddu. Ni chredaf mai rhestr ddarllen yw'r hyn y mae pobl ar bob ochr i'r Siambr am ei gweld, ond yn hytrach, ymrwymiad i wneud hyn ac i gyflawni hyn. Credaf ein bod yn gwneud tro gwael â phobl, ledled y wlad, ac mae pobl yn dweud eu bod am weld y cam hwn yn cael ei gwblhau. Credaf fod Aelodau ar bob ochr i'r Siambr yn awyddus i weld gweithredu ac nid geiriau.

Mae'n ddrwg gennyf, mae'n rhaid bod yr Aelod wedi fy ngham-glywed. Rhoddais y sicrwydd pendant hwnnw i Vikki Howells y byddaf yn gwneud datganiad ar ôl toriad mis Chwefror, yn dilyn yr adroddiad a gefais gan y grŵp fframwaith iechyd a lles anifeiliaid, a hefyd ar y trafodaethau a gafodd y prif swyddog milfeddygol gyda phob un—wel, 21—o'r awdurdodau lleol, ni fynychodd un ohonynt, i weld beth yw'r rhwystrau rhag gorfodi, a hefyd gyda Chymdeithas Milfeddygon Prydain ynglŷn â pha hyfforddiant pellach y gallwn ei roi i filfeddygon. Oherwydd, yn dilyn y rhaglen gan y BBC, a arweiniodd at lawer o'r ohebiaeth hon, roedd yn amlwg fod sawl mater angen sylw. Ni ellir rhuthro deddfwriaeth—mae'r Aelod yn gwybod hynny—ond yn sicr, rwy'n rhoi sicrwydd cadarn y bydd y ddeddfwriaeth honno yn ei lle yn y tymor hwn.

Mae Lloegr, wrth gwrs, yn cyflwyno deddf Lucy ym mis Ebrill. Mae de Iwerddon yn cyflwyno rheoliadau tebyg y mis nesaf. Nid oes gan Gymru, cartref y fferm fridio y cafodd Lucy ei hachub ohoni, ddyddiad ar gyfer cyflwyno'r ddeddf.

Mae cryn ddiddordeb cenedlaethol yn hyn, ac mae gan y Pwyllgor Deisebau ddeiseb wedi’i llofnodi gan 11,195 o bobl yn galw am wahardd gwerthu cŵn bach gan siopau anifeiliaid anwes a phob deliwr masnachol trydydd parti yng Nghymru. Y mis diwethaf, nododd Llywodraeth Cymru fod angen iddi gael dealltwriaeth drylwyr o'r rhwystrau rhag gorfodi o fewn y ddeddfwriaeth bresennol fel y gallech fynd i'r afael â'r broblem yn effeithiol. Pa rwystrau a nodwyd gennych, ac erbyn pryd y bwriadwch eu goresgyn?

Rwy'n ymwybodol o'r ddeiseb yn y pwyllgor ac nid yw'n syndod i mi ei bod wedi cael cymaint o lofnodion—rydym yn wlad sy'n caru anifeiliaid. Cyfeiriais at y cyfarfod a gafodd y prif swyddog milfeddygol a'i swyddogion gydag awdurdodau lleol, felly mae'n debyg mai dyna'r maes cyntaf lle gwelsom rwystrau mewn perthynas â gallu'r awdurdodau lleol, efallai, i ymweld â'r bridwyr gymaint ag yr hoffent. Yn amlwg, mae awdurdodau lleol, ar ôl degawd o gyni, wedi cael toriadau i'w cyllideb. Yn anffodus, ymddengys efallai fod swyddogion mewn meysydd sy'n ymwneud â lles anifeiliaid wedi'u torri'n ôl i'r niferoedd lleiaf posibl.

Felly, rydym yn edrych—ac mae'n rhaid i mi ddweud, mae awdurdodau lleol yn awyddus iawn i wneud hyn—ar rannu arbenigedd. Felly, mae gennych rywle fel Torfaen, er enghraifft, sydd ag un bridiwr trwyddedig, rwy'n credu, ac mae gennych ardaloedd fel Sir Gaerfyrddin a Cheredigion sydd â nifer o fridwyr—cannoedd, rwy'n credu, mewn un neu ddwy ohonynt.

Felly, mae'n ymwneud â sicrhau bod gennym gapasiti i fynd i'r afael â Chymru gyfan, ac efallai i gydweithio, mewn ffordd. Credaf fod hynny'n un rhwystr pwysig iawn a welsom o ran pam nad yw'r ddeddfwriaeth bresennol sydd gennym yn cael ei gorfodi. Felly, ni chredaf y byddai newid y ddeddfwriaeth yn unig yn rhoi terfyn ar yr hyn yn y ffordd y mae pob un ohonom yn dymuno'i gweld.

14:00

O’r meinciau hyn yn bendant, gallaf roi sicrwydd i chi, Weinidog, y byddem yn cefnogi unrhyw ddeddfwriaeth a gyflwynir i ddeddfu cyfraith Lucy, a chlywaf y sylwadau o’r meinciau cefn Llafur yn arbennig. Rwy'n credu bod consensws o amgylch y Siambr hon y gellir bwrw ymlaen â deddfwriaeth yn gyflym pan fydd y consensws hwnnw'n cael ei weithredu'n effeithiol. A buaswn yn erfyn arnoch i sicrhau, os byddwch yn dilyn y llwybr rheoleiddio gyda'ch datganiad ym mis Chwefror, fod gennych y mesurau gorfodi ar waith, oherwydd nid oes llawer o bwrpas, os o gwbl, mewn rhoi rheoliadau—neu ddeddfwriaeth yn wir—yn ei lle os nad yw'r orfodaeth yno. Mae'n braf clywed bod y prif swyddog milfeddygol wedi ymgysylltu ag awdurdodau lleol i fesur lefel y gefnogaeth y bydd ei hangen arnynt. A wnewch chi ymrwymo heddiw i sicrhau, os ydych yn cyflwyno rheoliadau neu ddeddfwriaeth, fod y gefnogaeth honno ar gael i awdurdodau lleol fel y gellir gweithredu'r agweddau ar gyfraith Lucy i roi diwedd ar yr arfer ffiaidd hwn yma yng Nghymru? 

Yn sicr mae hwnnw'n rhywbeth y mae'n rhaid inni edrych arno oherwydd mae'n amlwg iawn, ar ôl yr un cyfarfod hwnnw a gafodd y prif swyddog milfeddygol gydag awdurdodau lleol—. Roeddwn yn falch iawn fod 21 o'r 22 awdurdod lleol wedi anfon cynrychiolydd i'r cyfarfod hwnnw. Felly, rwy'n credu ei fod yn dangos bod consensws ar draws pob lefel o Lywodraeth yn y maes hwn. Yn amlwg, a chyfeiriais at hyn yn fy ateb i Janet Finch-Saunders, bydd cyllid yn destun pryder i lawer ohonynt. Nid oes gennyf bot diderfyn o arian, ond yn dibynnu ar yr hyn a wnawn wrth edrych ar y rheoliadau a'r rhwystrau, a ph’un a ydym yn ailagor y rheoliadau a'r ddeddfwriaeth y bydd yn rhaid i ni ei chyflwyno, rwy'n derbyn y bydd angen cyllid pellach yn ddi-os. Felly, ni allaf roi ymrwymiad i chi y byddaf yn ei roi na faint y byddaf yn ei roi ond yn sicr, rwy'n cydnabod ei fod yn fater sy'n codi.  

Parthau Perygl Nitradau

4. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y bwriad i gyflwyno parthau perygl nitradau yng Nghymru? OAQ54992

Ar hyn o bryd rwy'n ystyried cyngor ar fesurau i fynd i'r afael â llygredd amaethyddol ledled Cymru. Mae llygredd amaethyddol yn achosi cryn niwed i'r amgylchedd ac mae’n niweidiol i iechyd y cyhoedd. Nid yw'n gyfyngedig i barthau perygl nitradau. Mae nifer y digwyddiadau llygredd amaethyddol ledled Cymru yn 2019 yn annerbyniol o uchel. 

Diolch, Weinidog.

Bydd y rheoliadau newydd arfaethedig ynghylch parthau perygl nitradau yn effeithio ar bob fferm, pob sector a phob ardal yng Nghymru. Fe fyddwch yn ymwybodol, Weinidog, fod Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru wedi mynegi pryderon ynghylch yr effaith y mae hyn yn ei chael ar y gymuned ffermio, gan honni bod ffermwyr yn profi lefelau uwch fyth o straen a phryder. Ni roddodd gwybodaeth a ddarparwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru fel rhan o'r adolygiad nitradau yn 2016 unrhyw gyfiawnhad dros gyflwyno parthau perygl nitradau ledled Cymru. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru wedi gwrthod datgelu’r cyngor a’r dystiolaeth yn ymwneud â’r rheoliadau arfaethedig a gafodd gan Cyfoeth Naturiol Cymru o dan gais rhyddid gwybodaeth. O ystyried pwysigrwydd, cost a goblygiadau posibl y rheoliadau hyn, Weinidog, a wnewch chi gyhoeddi'r cyngor a'r dystiolaeth a gafwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru er budd diogelwch a thryloywder yn yr achos hwn?

Nid wyf yn siŵr a oedd yr Aelod yn y Siambr, Lywydd, pan atebais gwestiwn tebyg iawn gan Llyr Huws Gruffydd ac Andrew R.T. Davies ond fel y dywedaf, ni wrthodwyd datgelu unrhyw dystiolaeth; ddydd Llun yn unig y’i cefais. A phan fyddaf yn gwneud fy nghyhoeddiad, erbyn canol mis Chwefror mae'n debyg, bydd yr hyn y gellir ei gyhoeddi yn cael ei gyhoeddi.

Rwy'n credu bod y Gweinidog yn gwneud pwynt pwysig iawn. Os yw'r Aelodau'n bresennol ar gyfer cwestiynau a ofynnwyd ac a atebwyd yn gynt, gofynnaf i'r holl Aelodau wrando ar yr hyn sy'n digwydd yn ystod y sesiwn gwestiynau fel y gallant ofyn eu cwestiynau ac ymateb i atebion y Gweinidog fel y cawsant eu rhoi. Mae hynny wedi digwydd sawl gwaith y prynhawn yma. Joyce Watson. Dyna her i chi, Joyce.  

Nid wyf am ailadrodd unrhyw beth. Rwyf am ofyn cwestiwn penodol iawn ar barthau perygl nitradau. Tynnwyd fy sylw at y ffaith ei bod yn anos mynd i’r afael â chrynodiad nitradau ar ffermydd ieir oherwydd ei fod, yn syml, yn aros ar waelod y cwrs dŵr. Felly, yn eich trafodaethau ar barthau perygl nitradau, a gaf fi ofyn i chi edrych ar y mater penodol rwyf newydd ei grybwyll?

14:05

Buaswn yn hapus iawn i wneud hynny. Mae Joyce Watson newydd fy atgoffa o rywbeth na ddywedais wrth Mohammed Asghar. Dywedodd y bydd yn effeithio ar bob fferm ledled Cymru. Efallai nad yw hynny'n wir, ac yn sicr, mewn perthynas â nifer y digwyddiadau llygredd amaethyddol—ac rwy'n awyddus iawn i ddweud hyn—nid yw’r rhan fwyaf o ffermwyr yn llygru, a chredaf y dylem gydnabod hynny'n llwyr, ond yn yr un modd, mae pob fferm yn wahanol. Ond nid yw hynny'n wir. Ond yn sicr, i ateb Joyce Watson, buaswn yn hapus iawn i edrych ar y pwynt penodol hwnnw.

Weinidog, rwy’n croesawu’r sylw hwnnw nad yw pob fferm yn llygru ac rwyf wedi cael sylwadau gan ffermwyr yn fy etholaeth fy hun, sydd, fel y gwyddoch, yn cynnwys ffermydd teuluol llai o faint yn bennaf gyda chymysgedd o ddefaid a da byw a rhywfaint o dir âr, a nodwedd arall arnynt yw'r fioamrywiaeth ehangach sy'n perthyn i ffermydd cymysg llai o faint. Nawr, maent yn rhannu dyhead Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â gorddefnyddio a thrwytholchi nitradau—a halogion eraill, gyda llaw—mewn perthynas â ffermio, sy'n gallu diraddio pridd, ac ynghyd ag arferion ffermio gwael, gallant wenwyno cyrsiau dŵr ac amgylcheddau morol. Maent yn gwybod bod ganddynt ran i'w chwarae, ond nid yw'r rhain yn ffermydd llaeth mawr. Maent wedi clywed sicrwydd y Gweinidog heddiw ac mewn mannau eraill na fydd y cynigion yn effeithio ar fwyafrif y ffermydd teulu llai o faint, o ran cost neu fiwrocratiaeth, ond mae’n rhaid i mi ddweud, nid ydynt yn argyhoeddedig ar lawr gwlad pan fyddaf yn siarad â hwy.

Felly, beth all y Gweinidog ei ddweud i roi sicrwydd i'r ffermydd teuluol llai o faint a'r teuluoedd hynny? Ac a fyddai ar ryw adeg yn y dyfodol agos yn barod i ddod gyda mi i ymweld ag un o'r ffermydd yn fy etholaeth i drafod y cynigion? Mae gwir angen inni fynd i’r afael â’r broblem hon, ond mae angen inni ddod â’r gymuned ffermio gyda ni, gan gynnwys y ffermydd teuluol llai hynny, sy’n rhan annatod o’n cymunedau byw ac sy'n rhan annatod o'r heriau ehangach sy'n ein hwynebu o ran bioamrywiaeth a newid hinsawdd. Mae angen i bawb ohonynt fod ar ein hochr ni.

Rwy'n cytuno'n llwyr, ac rwy’n gobeithio bod yr Aelodau'n cydnabod fy mod wedi ceisio gwneud hynny am y tair blynedd a hanner diwethaf, os nad ychydig yn hwy, drwy fabwysiadu dull gwirfoddol, drwy fynychu sawl cyflwyniad ar gynllun y cyfeiriais ato mewn ateb cynharach a luniwyd gan ddau ffermwr o Sir Benfro. Rwyf wedi cael llawer o argymhellion. Hynny yw, roedd un o'r adroddiadau diwethaf a gefais gan y sector, rwy’n credu, heb i mi fynd i edrych, yn cynnwys oddeutu 35 o argymhellion; nid oedd yr un ohonynt ar gyfer y sector amaethyddol, roeddent i gyd ar gyfer y Llywodraeth. Wel, yn yr un modd, mae'n rhaid iddo weithio'r ddwy ffordd. Mae'n rhaid inni ei wneud mewn partneriaeth. Ond buaswn yn hapus iawn—. Hynny yw, rwyf wedi ymweld â llawer o ffermydd ac wedi trafod hyn dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac nid yw'n rhywbeth rwyf eisiau rhoi'r gorau i'w wneud.

Ansawdd Aer yn y Gogledd

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am fonitro ansawdd aer yn y Gogledd? OAQ54990

Mae Deddf yr Amgylchedd 1995 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol ledled Cymru fonitro, asesu a datblygu camau i wella ansawdd aer yn eu hardal. Mae 178 o fonitorau ansawdd aer wedi'u lleoli ledled gogledd Cymru. Mae ein hymgynghoriad ar gynllun aer glân i Gymru yn cynnwys cynigion ar gyfer gwella’r gwaith o fonitro ac asesu ansawdd aer.

O ystyried y tân diweddar yn ffatri Kronospan yn y Waun a'r llygredd dilynol a effeithiodd ar yr ardal—dywedir wrthyf mai hwn yw'r ail dân ar bymtheg mewn 18 mlynedd, er bod nifer o drigolion yno'n honni eu bod yn digwydd yn llawer mwy rheolaidd na hynny mewn gwirionedd—a allwch ddweud wrthyf pa mor fodlon ydych chi ynghylch lefel y gwaith monitro a wneir gan Cyfoeth Naturiol Cymru a chyngor Wrecsam yn y Waun yn arbennig? Oherwydd mae preswylwyr bellach yn cynnal protestiadau wythnosol o ganlyniad i’r tân diweddaraf hwn, ac rwy’n rhannu eu pryderon nad yw’r cyrff sy’n gyfrifol am sicrhau eu diogelwch yn darparu'r sicrwydd y maent ei angen, o ystyried hanes y ffatri. A fyddech yn cytuno i gynnal ymchwiliad annibynnol i ddigwyddiadau diweddar yno gyda chynrychiolaeth gymunedol yn rhan o'r ymchwiliad hwnnw, a hefyd i sicrhau bod gwaith monitro ansawdd aer parhaol, annibynnol yn mynd rhagddo ar y safle, neu o amgylch y safle fan lleiaf, fel y gall y gymuned yno gael y sicrwydd y maent yn ei haeddu?

Diolch. Fe fyddwch yn ymwybodol fod y tân a ddigwyddodd yn Kronospan yn gynharach y mis hwn yn yr iard foncyffion. Roedd y drwydded ar gyfer yr ardal honno yn dod o dan Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, felly hwnnw yw'r rheolydd perthnasol ar gyfer y mater hwn ac rwy'n aros am wybodaeth bellach ganddynt mewn perthynas â hynny.

Mewn perthynas â Cyfoeth Naturiol Cymru, ar hyn o bryd maent yn adolygu'r drwydded bresennol a ddelir gan Kronospan mewn perthynas â throsglwyddo pwerau o Gyngor Bwrdeistref Sir Wrecsam i Cyfoeth Naturiol Cymru, a gwn fod y trafodaethau hynny'n parhau. Felly, yn sicr bydd gennyf ddiddordeb mawr mewn gweld canlyniad hynny oherwydd rwyf eisiau sicrwydd ei fod yn hollol gywir. Fy nealltwriaeth i, ar hyn o bryd, yw ei fod yn gywir, ond rwy'n siŵr y caf ragor o wybodaeth dros yr ychydig wythnosau nesaf yn enwedig.

Nid wyf yn credu bod angen ymchwiliad annibynnol ar hyn o bryd, ond rwy'n cydnabod yn llwyr fod angen rhywfaint o sicrwydd ar bobl y Waun, a byddaf yn gweithio'n agos iawn—. Byddaf yn cael cyfarfod gyda Cyfoeth Naturiol Cymru o fewn yr wythnos neu ddwy nesaf, a byddaf yn codi’r mater eto, a buaswn yn hapus iawn i ysgrifennu at yr Aelod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddo yn dilyn y cyfarfod hwnnw.

14:10
Safonau Lles Uchel mewn Sefydliadau Bridio

7. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau safonau lles uchel mewn sefydliadau bridio yng Nghymru? OAQ55004

Diolch. Mae swyddogion yn gweithio gydag awdurdodau lleol i archwilio cyfleoedd i sicrhau bod yr holl sefydliadau bridio trwyddedig ledled Cymru yn cael eu trin gyda chysondeb. Bydd y gwaith hwn, i edrych ar ffyrdd o gyfuno adnoddau ac arbenigedd a gwella hyfforddiant ar gyfer swyddogion awdurdodau lleol, yn helpu i dargedu gorfodaeth yn fwy cyson ac effeithiol.

Diolch am yr ateb hwnnw. Ond cafwyd adroddiad yn ddiweddar gan Gyngor Sir Caerfyrddin am fridio cŵn yn y sir, ac mae 85 o fridwyr cŵn trwyddedig yn Sir Gaerfyrddin. Mae hwnnw’n un o'r ffigurau uchaf yng Nghymru a Lloegr, ac mae gan oddeutu 10 o'r bridwyr dros 100 o gŵn. A’r hyn a’m trawodd yn arbennig yn yr adroddiad yw’r ffaith nad yw swyddogion, mewn rhai achosion, ond yn cynnal archwiliadau bob dwy flynedd yn hytrach nag arolygiadau sefydliadol blynyddol, ac nid wyf yn credu bod hynny'n dderbyniol o gwbl mewn unrhyw ffordd. Mae'n codi rhai cwestiynau difrifol ynghylch pam fod y cyngor yn parhau i roi trwyddedau pan nad oes ganddynt nifer ddigonol o staff i gynnal arolygiadau blynyddol, ac mae'n amlwg bod y llwyth gwaith yn rhy uchel i'r ddau swyddog a gyflogir.

Y mater arall sy'n weddol amlwg wrth edrych ar safonau sefydliadau bridio yw ei bod yn hollol dderbyniol ar hyn o bryd i nodi unrhyw beth, mae'n ymddangos i mi—sied nad yw o reidrwydd yn cael ei chynhesu a lle nad oes dŵr ar gael—ar gyfer bridio anifeiliaid. A soniodd rhan o'r adroddiad fod angen i ffermwyr arallgyfeirio. Nid wyf yn credu eu bod yn rhoi gwybodaeth ddigonol i ffermwyr sydd eisiau arallgyfeirio os nad ydynt yn ehangu'r cyfleoedd a'r wybodaeth sydd ar gael ac yn dilyn y trywydd hwn. 

Felly fy nghwestiwn yw: a fyddech yn ystyried adolygu nifer y trwyddedau y gall awdurdod lleol eu rhoi i gyd-fynd â'r gymhareb o arolygwyr sydd ganddynt ar hyn o bryd?

Gwn fod Joyce Watson yn y Siambr i glywed fy atebion cynharach ynghylch bridio cŵn, ac mae hwn yn amlwg yn un o'r meysydd y mae'r prif swyddog milfeddygol, yn ei thrafodaethau ag awdurdodau lleol, wedi dod ar eu traws. Felly, mae angen inni edrych ar y rhwystrau hynny eto, gan sicrhau bod y ddeddfwriaeth sydd gennym ar hyn o bryd yn cael ei gorfodi ac archwilio cyfleoedd i wneud y defnydd gorau o'r adnoddau presennol. Felly, fel y dywedais mewn ateb cynharach, mae'n ymwneud â sicrhau bod gennym y gwasgariad hwnnw ledled Cymru lle mae gennym awdurdodau lleol sydd ag un yn unig. Fel y dywedaf, un sydd gan Dorfaen, rwy'n credu, ac mae gennych chi ardaloedd fel y rhai rydych wedi cyfeirio atynt yn Sir Gaerfyrddin sydd â thrwyddedau niferus.

Rwy'n credu bod cymhareb safleoedd bridio ar draws awdurdodau lleol yn gwbl anghymesur, ac mae'n golygu bod rhai awdurdodau lleol yn ei chael hi'n anodd ymdopi â gofynion. Felly, mae’r gwaith hwn yn ymwneud ag edrych ar ffordd o rannu'r arbenigedd a’r adnoddau hynny, a chredaf y bydd hynny'n targedu gorfodaeth yn llawer mwy effeithiol.

Weinidog, yn ddiweddar, cyfarfûm â fy etholwyr David ac Elaine Williams a’u ci Cindy, a gafodd ei hachub o fferm cŵn bach, i ddysgu mwy ynglŷn â sut i atal yr arfer creulon drwy gyfraith Lucy. Gwn fod hwn yn rhywbeth sydd wedi ennyn cefnogaeth drawsbleidiol, ac mae'n hanfodol yn awr, wrth i gyfraith Lucy ddod i rym yn Lloegr ym mis Ebrill, nad yw Cymru, wrth gwrs, yn cael ei gadael ar ôl.

Fodd bynnag, yn y cyfamser, ac yn dilyn ymlaen o gwestiwn Joyce Watson, pa drafodaethau rydych chi a'ch swyddogion wedi’u cael gydag awdurdodau lleol ynglŷn â ffyrdd y gallant fynd ati i drwyddedu ffermydd cŵn bach yng Nghymru yn well, a sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd ati’n rhagweithiol i annog pobl sy’n hoffi cŵn i'w prynu gan fridwyr cyfrifol?

14:15

Mae'n ddrwg gennyf, Lywydd, nid wyf yn credu bod Paul Davies yn y Siambr i glywed fy atebion cynharach am y gwaith rydym yn ei wneud mewn perthynas â chyfraith Lucy. Crybwyllais fod y prif swyddog milfeddygol wedi cyfarfod â phawb—wel, ar wahân i un awdurdod lleol, 21 o awdurdodau lleol ynglŷn â'r mater penodol hwn, i sicrhau ein bod yn deall beth yw'r rhwystrau i orfodi'r ddeddfwriaeth bresennol. Nid wyf yn credu y byddai cyflwyno cyfraith Lucy yn cael gwared ar yr arfer o ffermio cŵn bach yn anghyfreithlon yr hoffai pawb ohonom weld diwedd arno.

Er hynny, rydych yn gwneud pwynt pwysig iawn ar y diwedd am unigolion. Mater i'r unigolyn sy'n prynu'r ci yw a ydynt yn ei brynu gan fridiwr cyfrifol—cawsom ymgyrch yn y cyfnod cyn y Nadolig i annog hynny—ac i unigolion ofyn cwestiynau a gofyn efallai, os cânt eu harwain i gegin, efallai, am gael gweld y cŵn bach, am gael gweld rhannau eraill o eiddo'r bridiwr. Felly, mae'n ymwneud â dod â'r cyfan at ei gilydd. Rydym eisoes wedi cael y sgyrsiau hynny sydd wedi dechrau gydag awdurdodau lleol. Byddaf yn gwneud datganiad ar ôl toriad mis Chwefror.

Y Rhaglen i Ddileu TB

8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am raglen ddileu TB Llywodraeth Cymru? OAQ55003

Diolch. Gwnaethom adnewyddu'r rhaglen dileu TB yng Nghymru ym mis Hydref 2017, ac rydym yn awr yn gweld rhai tueddiadau hirdymor ar i lawr mewn dangosyddion TB allweddol, megis nifer a mynychder yr achosion. Ymrwymais i ddarparu datganiad ar y rhaglen bob blwyddyn, a byddaf yn gwneud hynny nesaf ym mis Ebrill.

Diolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Yn y 12 mis hyd at fis Hydref 2019, lladdwyd 12,742 o wartheg. Dyna'r ffigur uchaf a gofnodwyd; mae'n cymharu â 917 yn unig yn ôl yn 1996. Clywais y Prif Weinidog, ychydig ddyddiau'n ôl, yn honni bod y cynnydd hwn yn nifer y gwartheg sy'n cael eu lladd yn arwydd mewn gwirionedd fod polisi'r Llywodraeth yn llwyddo. Yn bersonol, nid wyf yn gweld bod rhoi sylw i fethiannau'r gorffennol yn arwydd o lwyddiant, er bod hwnnw'n ddatblygiad pwysig. Rwy'n cydnabod bod rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud, ond rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn cytuno nad oes digon wedi'i wneud a bod llawer i'w wneud eto.

Mae polisi'r Llywodraeth wedi canolbwyntio bron yn gyfan gwbl ar arferion ffermydd a chyfyngiadau ar ffermwyr a symudiadau gwartheg, ac mae wedi anwybyddu un elfen bwysig arall yn y jig-so, sef nifer yr achosion o TB mewn bywyd gwyllt fel fector haint. Hyd nes y bydd y Llywodraeth yn cydnabod bod hyn yn un rhan o'r ateb i'r broblem, ni fyddwn byth yn cyflawni'r hyn rydym i gyd eisiau ei gyflawni, sef dileu TB yn llwyr yng Nghymru. Mae'r Gweinidog yn dweud yn aml ei bod am seilio ei pholisi ar dystiolaeth, ac mae hynny'n beth da iawn, ond o ystyried ei bod hi a'i chyd-Aelodau, mewn penderfyniadau blaenorol, wedi gwneud y gwrthwyneb—cafodd y gwaharddiad saethu a gyflwynwyd gan Cyfoeth Naturiol Cymru ei wneud yn erbyn eu tystiolaeth eu hunain; mae codi ffermydd gwynt fel yr Hendy wedi'i wneud yn erbyn argymhelliad arolygydd a benodwyd gan y Gweinidog ei hun; cafodd y gwaharddiad ar ysmygu roeddem yn ei drafod yr wythnos hon—

—ei gyflwyno er gwaethaf canlyniadau ymgynghoriad y Llywodraeth ei hun. Felly, fy nghwestiwn i'r Gweinidog yw hwn: sut y gall Cymru wledig gael unrhyw ffydd yn y Llywodraeth hon y bydd, mewn gwirionedd, yn seilio ei pholisi ar dystiolaeth pan fydd yr holl dystiolaeth sydd gennym yn dangos ei bod yn gwneud y gwrthwyneb?

Wel, yn sicr, rwy'n seilio unrhyw bolisi rwy'n ei gyflwyno ar wyddoniaeth a thystiolaeth, a chredaf fod Neil Hamilton yn dewis a dethol braidd, oherwydd os edrychwch ar y dangosfwrdd TB, os edrychwch ar y tymor byr, er enghraifft yn y 12 mis hyd at fis Hydref 2019, cofnodwyd 666 o achosion newydd mewn buchesi yng Nghymru—gormod, rwy'n cytuno, ac rwyf eisiau pwysleisio hynny'n bendant iawn—ond roedd yn ostyngiad o 12 y cant ar y 12 mis blaenorol, felly rydym yn gweld gwelliant. Yn y tymor hwy, gwelsom ostyngiad o 37 y cant mewn digwyddiadau newydd rhwng 2019 a 2018. Gwelsom ostyngiad o 4 y cant yn nifer yr anifeiliaid a laddwyd rhwng 2009 a 2018.

Rwy'n credu mai'r pwynt roedd y Prif Weinidog yn ei wneud oedd bod profion mwy soffistigedig yn ein galluogi i ddod o hyd i'r TB yn gynharach nag o'r blaen. Nid ydym yn anwybyddu unrhyw elfen o'r sefyllfa TB, a gallaf sicrhau'r Aelod, yn ein cynlluniau gweithredu pwrpasol, er enghraifft, fod pob elfen yn cael ei hystyried.

Diolch, Lywydd. Weinidog, mae nifer yr unedau pesgi cymeradwy yng Nghymru gryn dipyn yn is pro rata nag yn Lloegr, yn ôl yr hyn a ddywedwyd wrthyf. Ac mae hyn, wrth gwrs, yn cyfyngu ar y cyfleoedd i ffermwyr sydd â TB ar eu ffermydd werthu eu lloi er mwyn atal gorstocio ar eu ffermydd. Rwy'n meddwl tybed beth rydych yn bwriadu ei wneud, Weinidog, i annog sefydlu mwy o unedau pesgi cymeradwy yng Nghymru, a hefyd a wnewch chi ymrwymo eich swyddogion i edrych ar symleiddio'r rheoliadau sydd ynghlwm wrthynt?

14:20

Rwy'n sicr yn hapus i edrych ar symleiddio unrhyw beth. Rwy'n casáu biwrocratiaeth ac os gellir ei symleiddio mewn unrhyw ffordd—. Rwy'n gwybod bod swyddogion yn gweithio gyda ffermwyr unigol lle mae ganddynt achosion o TB, yn enwedig os oes ganddynt bocedi gwahanol o dir y gellid eu datgan yn rhydd rhag TB neu sy'n rhydd rhag TB, i wneud hynny. Ond ydw, rwy'n sicr yn hapus i ymrwymo swyddogion i wneud hynny.

2. Cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Mark Isherwood.

Swyddfa'r Post

1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch gweithrediadau Swyddfa'r Post yng Nghymru? OAQ54982

Rwy'n cydnabod y gwasanaethau gwerthfawr y mae swyddfeydd post lleol yn eu darparu i'r cymunedau y maent yn eu gwasanaethu ledled Cymru. Mae Llywodraeth Cymru yn cysylltu'n rheolaidd â Swyddfa'r Post Cyf er mwyn sicrhau ein bod yn ymwybodol o unrhyw faterion sy'n effeithio ar gymunedau yng Nghymru a'n bod yn gallu dwyn unrhyw broblemau i'w sylw.

Mae swyddfeydd post yn dal i fod yn ganolog i'n cymunedau, yn enwedig lle mae'r gangen olaf o fanc wedi cau. Yn ystod blynyddoedd rhaglen Llywodraeth y DU i gau swyddfeydd post rhwng 2007 a 2009, dywedwyd wrthym dro ar ôl tro yma—a hynny'n gwbl briodol—fod yn rhaid i swyddfeydd post fod yn gynaliadwy a bod hynny'n cynnwys datblygu gwasanaethau ariannol.

Fis Hydref diwethaf, cyhoeddwyd bod Swyddfa'r Post wedi cytuno ar fframwaith bancio newydd gyda 28 o fanciau'r DU, gan sicrhau bod cwsmeriaid banciau'n parhau i gael mynediad am ddim at wasanaethau bancio bob dydd ym mhob cwr o Gymru. Roedd hefyd yn sicrhau cydnabyddiaeth ariannol deg a chynaliadwy i is-bostfeistri. Sut y mae Llywodraeth Cymru felly yn ymgysylltu â Swyddfa'r Post yng nghyd-destun y cytundeb fframwaith bancio hwn, er mwyn sicrhau nad yw ei chynigion ar gyfer banc cymunedol yn cystadlu â'r gwasanaethau hynny sydd ond yn llenwi'r bwlch, fel y gallwn sicrhau bod ein rhwydwaith swyddfeydd post yma yfory a'r wythnos nesaf, y flwyddyn nesaf a chenedlaethau'r dyfodol?

Diolch. Fel y mae'r ddau ohonom—. Rwy'n credu y bydd pawb yma yn cytuno ar y rôl y mae swyddfeydd post yn ei chwarae yn ein cymunedau ac yng nghalonnau ein trefi ledled y wlad yn ogystal, gan gyflawni swyddogaeth a rôl ymarferol yn ogystal â swyddogaeth gymdeithasol hefyd. Er nad yw materion yn ymwneud â swyddfeydd post wedi'u datganoli i Weinidogion Cymru, mae'n amlwg fod gennym rôl i'w chwarae yn y ffordd y mae'r materion hynny'n effeithio ar ddinasyddion Cymru.

Cafodd swyddogion eu cyfarfod diweddaraf â Swyddfa'r Post Cyf yn gynharach y mis hwn ac mewn gwirionedd roedd codi ymwybyddiaeth o'r ymrwymiad a'r fframwaith bancio yn uchel ar yr agenda, o ran sut y gallwn weithio gyda hwy, gyda'r gwaith rydym yn ei wneud ar draws y Llywodraeth i sicrhau bod dinasyddion Cymru'n gallu cael gafael ar y gwasanaethau y maent eu hangen.

Rhagamcanion Poblogaeth a Chynlluniau Datblygu Lleol

2. Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o'r berthynas rhwng rhagamcanion poblogaeth a chynlluniau datblygu lleol? OAQ54991

Ie. Mae'r amcanestyniadau aelwydydd, yr asesiadau o'r farchnad dai leol a'r cynlluniau llesiant yn rhannau hanfodol o'r sylfaen dystiolaeth ar gyfer cynlluniau datblygu lleol. Mater i awdurdodau cynllunio lleol yw penderfynu ar raddfa twf tai, gan adlewyrchu'r materion y maent wedi'u nodi.

Mi gafodd cynllun datblygu lleol Wrecsam, wrth gwrs, yn fy rhanbarth i, ei wrthod nôl yn 2013 gan yr arolygwyr cynllunio oherwydd nad oedd digon o dir, medden nhw, wedi’i glustnodi ar gyfer tai, a hynny oherwydd bod rhagamcanion poblogaeth y sir yn dweud y byddai yna 20 y cant o gynnydd yn y boblogaeth—yr ail gynnydd mwyaf drwy Gymru gyfan; yn ail yn unig i Gaerdydd mae'n debyg. Ond, wrth gwrs, mae'r gwirionedd yn dra gwahanol.

Dros y bum mlynedd ddiwethaf mae'r cynnydd yn y boblogaeth wedi bod yn sylweddol is na'r rhagamcanion. Er hynny, mae'n ymddangos bod yr Arolygiaeth Gynllunio yn dal ddim yn gwrando oherwydd maen nhw'n parhau i herio cyngor Wrecsam. Mae'r cyngor yn edrych i darged o ryw 8,500 o dai yn eu cynllun datblygu lleol tra bod yr Arolygiaeth Gynllunio nawr yn mynnu bod angen bron i 12,000 o dai yn y cynllun hwnnw. Mae hynny, wrth gwrs, yn mynd i olygu codi mwy o dai ar feysydd gwyrdd, mae'n mynd i greu rhyw fath o urban sprawl sy'n mynd i ddinistrio cymunedau unigryw yr ardal.

Felly, fy nghwestiwn i ichi, Gweinidog, yw: ble mae'r Llywodraeth yn sefyll ar y mater yma? A ydych chi o blaid cyfundrefn sy'n gorfodi codi tai diangen, neu a ydych chi o blaid amddiffyn ein hamgylchedd ac amddiffyn ein cymunedau ni?

14:25

Wel, diolch am hynny. Fel y gŵyr Llyr Gruffydd, mae'n llawer mwy cymhleth na hynny. Mae'n hollol iawn i ddweud bod cynllun datblygu lleol gwreiddiol Wrecsam wedi cael ei wrthod o ganlyniad i'r ffordd y lluniwyd eu polisi dyrannu tir ar gyfer tai. Er bod gan y cyngor gynllun datblygu unedol cyfredol ar waith, mae wedi dod i ben at ddibenion cyfrifo'r cyflenwad pum mlynedd o dir ar gyfer tai. Fel y gŵyr, mae'r awdurdod wedi bod, a bydd yn parhau i fod yn agored i hap-ddatblygu hyd nes y caiff y cynllun datblygu lleol ei fabwysiadu. Mae'r cynllun datblygu lleol ar y cam archwilio ar hyn o bryd.

Mae'r arolygwyr wedi codi pryderon ynghylch lefel y tai a argymhellir yn y cynllun, gan holi'n benodol a yw'n ddigon uchelgeisiol. Mae lefel y tai a argymhellir gan y cyngor yn cyd-fynd â'r amrywiolyn ymfudo 10 mlynedd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2014, sef gofyniad am 7,750 o gartrefi. Mae swyddogion wedi cyflwyno sylwadau cyhoeddus i gefnogi'r lefel o dai yng nghynllun datblygu lleol Wrecsam, ac nid ydynt yn credu y dylid ei chynyddu ymhellach.

Mae lefel y tai yn cyd-fynd yn fras â'r cyfraddau cyflenwi ar gyfer y 10 mlynedd blaenorol. Mae'r arolygwyr wedi gofyn i'r cyngor ddarparu eglurhad ychwanegol ar y mater hwn, a'r dyddiad ar gyfer darparu hwnnw yw 31 Ionawr. Cynhelir sesiwn wrando ychwanegol ar 11 Mawrth i ystyried materion tai ymhellach. Felly, rwy'n credu y gallwch weld bod ein swyddogion yn cytuno'n fras â'r hyn rydych yn ei ddweud, sef, o ystyried y rhagamcanion cyfredol a'r hyn y mae Wrecsam yn ei ragweld yn y cynllun datblygu lleol, fod ein swyddogion wedi cyflwyno sylwadau yn dweud ein bod yn credu bod Wrecsam yn eithaf agos ati.

Mae bob amser yn gydbwysedd anodd i gynghorau gan mai rhagamcanion yn unig ydynt. Nid ydynt yn bolisïau sy'n seiliedig ar gynllun. Maent wedi'u seilio ar dueddiadau rhagamcanol yn y boblogaeth, ond nid ydynt yn ystyried unrhyw ddatblygiad economaidd na thwristiaeth nac unrhyw ddyheadau eraill a allai fod gan y cyngor, ac ni fwriedir iddynt fod yn darged mewn unrhyw ffordd. Nid ydynt ond yn un rhan o set o dystiolaeth y mae'n rhaid i'r awdurdod ei hystyried pan fydd yn gosod ei darged tai lleol.

Er enghraifft, mewn ardal awdurdod lleol, os yw nifer yr aelwydydd sy'n cael eu creu yn fwy na lefel y cynnydd yn y boblogaeth oherwydd bod niferoedd cynyddol o bobl sydd eisiau byw ar eu pen eu hunain, er enghraifft, gallai'r targed tai fod yn uwch na'r cynnydd yn y boblogaeth a'r rhagolwg. Felly, mae'n fater llawer mwy cymhleth na hynny. Ond rwy'n credu mai'r ateb syml i'ch cwestiwn yw bod ein swyddogion yn cytuno bod y cynllun yn eithaf agos at lle dylai fod a'u bod wedi cyflwyno sylwadau i'r perwyl hwnnw yn y system.

Weinidog, cytunaf yn llwyr â chi ei fod yn ddarlun cymhleth sy'n cael ei beintio bob tro y mae cynllun datblygu lleol dan ystyriaeth, a'r cymysgedd o dai sydd eu hangen hefyd, o aelwydydd meddiannaeth unigol i aelwydydd amlfeddiannaeth. Ond mae'n ffaith, yn amlwg, pan fydd cynghorau'n cyflwyno eu cynlluniau datblygu lleol, fod yn rhaid iddynt roi sylw dyledus i ragolygon poblogaeth.

Un peth sy'n codi dro ar ôl tro yw bod rhagolygon poblogaeth yn llywio nifer yr unedau sydd i'w hadeiladu ond yn aml iawn, nid yw'r rhagolygon poblogaeth hynny'n bwydo i mewn i'r broses o ddarparu meddygfeydd, cyfleusterau addysg ac ati. A allwch chi roi hyder i mi y bydd mwy o bwyslais yn cael ei roi ar y gwasanaethau sy'n ofynnol i gynnal y datblygiadau y mae pawb ohonom yn derbyn ein bod eu hangen? Gwyddom fod yna argyfwng tai, a gwyddom y gellir dwyn perswâd ar y rhan fwyaf o bobl os gellir eu sicrhau bod yr ystyriaethau trafnidiaeth yn cael eu hystyried, fod darpariaeth gwasanaethau'n cael ei hystyried, yn hytrach na dim ond nifer y tai sydd angen eu hadeiladu.

Ie, a'r ateb i'ch cwestiwn yw edrych ar y set gymhleth o gyfarwyddiadau y mae'n rhaid i awdurdodau lleol eu dilyn wrth bennu'r gwahanol bethau. Felly, gallwn edrych ar y rhagamcanion o niferoedd tai, er enghraifft, ac mae'n rhaid i'r cynllun datblygu lleol roi sylw i nifer o bethau wrth ystyried ei gyflenwad o dir ar gyfer tai a gwneud hynny, fel rwyf newydd ei ddweud wrth Llyr. Ond mae gennym ni hefyd, er enghraifft—. Rydym wrthi'n ymgynghori ar y fframwaith datblygu cenedlaethol, sy'n cynnwys rhai pethau seilwaith mawr. Fel y gwyddoch, rydym wrthi'n rhoi fframwaith ar waith, drwy Fil Etholiadau Llywodraeth Leol (Cymru), i hwyluso'r trefniadau cynllunio strategol rhanbarthol ar gyfer awdurdodau lleol, a ddylai roi'r trefniadau cynllunio rhanbarthol ar waith ar gyfer y mathau hynny o seilwaith. Felly, yn gyffredinol, bydd y set o gynlluniau a fydd gennym ar waith maes o law yn gwneud yn union hynny.

Y ffordd rwyf wedi bod yn ei esbonio, gan ein bod wedi bod yn cynnal nifer o gyfarfodydd i randdeiliaid, yw y dylech allu dweud, drwy osod cynllun cyffredinol ar gyfer Cymru, 'Wel, dyma'r cefnffyrdd, dyma'r ysbytai, dyma'r ysgolion presennol, dyma lle mae'r tai, dyma lle dylai'r ysgol newydd fod', ac yn y blaen, ac yna pan fydd y cyngor yn trafod gyda'r cwmni adeiladu tai ynglŷn â'u cyfraniad i seilwaith lleol, byddai llawer mwy o sicrwydd ynghylch sut y dylai'r seilwaith hwnnw edrych ymlaen llaw, felly pan fydd rhywun yn cynllunio i gyflwyno darn o dir, byddant yn gwybod ei bod yn debygol y bydd yn rhaid iddynt gyfrannu at yr ysgol neu at yr ysbyty neu beth bynnag sydd gerllaw.

Nid ydym wedi dechrau hyn yn y lle gorau posibl. Rydym wedi dechrau arni ar y gwaelod, a byddai wedi bod yn well gennyf ddechrau ar y brig. Ond dechreuodd fy nghyd-Aelod Lesley Griffiths y broses ychydig cyn i mi gael y portffolio, ac yn fuan iawn, byddwn mewn sefyllfa lle mae gennym yr holl gynlluniau hynny ar waith, a byddwn yn gallu gwneud yn union fel rydych yn ei awgrymu.  

14:30
Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood. 

Diolch, Lywydd. Ar 10 Ionawr, anfonwyd llythyr atoch gan, neu wedi'i arwyddo gan, arweinwyr pob un o chwe chyngor sir gogledd Cymru ynghylch y setliad llywodraeth leol ar gyfer 2020-21. Ac roedd yn dweud, 'Hyd yn oed gyda setliad cadarnhaol eleni, byddwn i gyd yn edrych ar leihau rhai gwasanaethau a chynnydd uwch na chwyddiant yn y dreth gyngor. Yng ngoleuni'r heriau parhaus, rydym yn dymuno gofyn i chi am gyllid gwaelodol o 4 y cant yn y setliad ariannol i lywodraeth leol, i'w dalu o gronfeydd wrth gefn Llywodraeth Cymru.' Ac roeddent yn dweud mai'r rheswm pennaf am hyn oedd bod pedwar o'r pum cyngor sydd ar y gwaelod yn y setliad dros dro ar gyfer 2020-21 yng ngogledd Cymru, a heb gyllid gwaelodol, bydd y rhan fwyaf o gynghorau gogledd Cymru yn wynebu'r her fwyaf o ran edrych am doriadau i wasanaethau, tra bydd cyllid gwaelodol yn helpu i ddiogelu gwasanaethau a gweithio yn erbyn cynnydd uwch na chwyddiant yn y dreth gyngor yn y chwe chyngor sydd ar y gwaelod. Sut y byddwch yn ymateb i'r cais hwn y credaf ei fod hefyd wedi'i rannu â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Ysgrifennydd Gwladol Cymru?

Rydym wedi gofyn am fwy o dystiolaeth ynglŷn â'r caledi a fyddai'n dod yn sgil y cynnydd mwyaf mewn unrhyw setliad llywodraeth leol a gawsant erioed. A gallwch glywed o'r ffordd rwyf wedi ateb eich cwestiwn fy mod ychydig yn amheus ynglŷn â hynny. Diben cyllid gwaelodol, yn amlwg, yw atal pobl rhag gorfod gwneud toriadau enfawr mewn gwasanaethau y byddent wedi gorfod eu gwneud fel arall oherwydd newidiadau mewn amcanestyniadau poblogaeth, neu ryw broblem arall yn ymwneud â'r fformiwla ddosbarthu sy'n effeithio'n anghymesur ar gyngor penodol, a lle byddai gostyngiad annisgwyl o filiynau o bunnoedd o ran cymorth yn golygu newidiadau sydyn i wasanaethau.  

Yn yr achos hwn, ni fydd yr un cyngor yng Nghymru'n cael llai na 3 y cant o gynnydd. Mae'r rhan fwyaf o'r cynghorau rydych yn sôn amdanynt rywle rhwng 3 a 4 y cant. A'r hyn rydym yn sôn amdano yw gofyn am gyllid gwaelodol i'w codi i 4.7, rwy'n credu mai dyna a ddywedasant—gallai fod yn 6 neu 8; ni allaf gofio—y cant. Nid wyf yn credu bod y pwynt hwnnw yr un fath, ac er fy mod yn deall eu dadl fod yna gyfartaledd, ac y dylai rhai ddod i lawr er mwyn i eraill fynd i fyny, nid ydynt yn wynebu'r math o doriadau i wasanaethau roeddent yn eu hwynebu yn ystod y naw mlynedd flaenorol o gyni gorfodol. Felly, mae'n anodd iawn deall yn iawn beth yw'r rhesymeg dros hynny. Mae'r setliad hwn yn uwch nag y gallai unrhyw un ohonynt fod wedi'i ragweld, ac mae'n anodd iawn gweld sut y byddent yn wynebu toriadau heb eu cynllunio i wasanaethau o ganlyniad i hynny.

Ond wedi dweud hynny i gyd, os ydynt eisiau cyflwyno tystiolaeth ynglŷn â hynny, rwy'n hapus iawn i edrych arno. Ond unwaith eto, rwyf am bwysleisio, pan fyddwn yn ystyried rhoi mwy o arian tuag at y math hwnnw o setliad, rydym yn ystyried o ble i'w gymryd. Felly, byddai'n rhaid inni hefyd ystyried faint y byddai cyllid gwaelodol o'r fath yn ei gostio, ac o ble y dôi'r arian hwnnw.  

Wel, fel y dywedais—nid wyf am fynd ar drywydd cyni—dywedasant 'hyd yn oed gyda'r setliad cadarnhaol eleni'—felly maent yn cydnabod hynny, ac mae llofnodion trawsbleidiol ar y llythyr hwn—er mwyn ymateb i'r pwysau ar wasanaethau blaenoriaethol a arweinir gan y galw fel gwasanaethau gofal cymdeithasol a gwasanaethau plant, maent yn dweud y byddant yn wynebu toriadau heb gyllid gwaelodol o 4 y cant; gofynnai'r llythyr hwn am 4 y cant.  

Fodd bynnag, gan symud ymlaen at y gronfa gofal integredig, lluniwyd eich adroddiad blynyddol ar 16 Ionawr, ac roedd yn dweud:

'Erbyn hyn mae yna dimau amlddisgyblaeth niferus o weithwyr proffesiynol iechyd, gofal cymdeithasol, tai a thrydydd sector sy’n gweithio gyda’i gilydd i ddatblygu ymyriadau wedi’u teilwra'.

Ac fe ddywedoch chi fod,

'gwell defnydd o adnoddau drwy gydweithio a thrwy symud oddi wrth ffyrdd traddodiadol o weithio' 

wedi'u nodi, ond roeddech yn cydnabod bod yn rhaid i'r gronfa

'ddangos y defnydd gorau o arian cyhoeddus hefyd a bod angen darparu tystiolaeth glir o’i heffaith.' 

ac y byddech yn mynd i'r afael ag argymhellion adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru o'r gronfa. Roedd adolygiad Swyddfa Archwilio Cymru yn dweud:

'Un o brif nodau’r gronfa yw hybu cydweithio rhwng cyrff statudol a sefydliadau’r trydydd sector'

ond

'cyfeiriodd cynrychiolwyr y trydydd sector a fu’n siarad â ni at ystod o heriau sydd wedi effeithio ar eu gallu i gael gafael ar arian o’r gronfa.'

a bod y

'trydydd sector yn dal i fod wedi’i ddatgysylltu o’r rhaglen ehangach lle gallai wneud cyfraniadau yr un mor ddilys at rai o’r prosiectau mwy.'

Roedd eu hadroddiad penodol ar ogledd Cymru yn peri mwy o bryder byth yn y cyd-destun hwn, lle dywed fod

'y ffordd y cafodd y gronfa ei rheoli ar lefel genedlaethol, lefel ranbarthol a lefel prosiectau wedi cyfyngu ar ei photensial hyd yma...ni cheir llawer o dystiolaeth bod prosiectau llwyddiannus yn cael eu prif-ffrydio a’u hariannu'  

a dywedai'n benodol:

'Dywedodd cynrychiolwyr y trydydd sector wrthym nad ydynt yn teimlo eu bod yn cael mynediad digonol at y gronfa a’u bod yn elwa’n bennaf pan fydd y gwariant ar brosiectau eraill yn llithro.'

a galwai am

'ffyrdd o sicrhau bod y trydydd sector yn cael mynediad teg at y Gronfa Gofal Integredig.'

Mae hyn yn ailadrodd y pryderon a godwyd gyda mi yn ystod yr wythnos ddiwethaf—dadl yma yr wythnos diwethaf ar gyllid i elusennau cymorth profedigaeth. Rwyf wedi cael llythyr yr wythnos hon gan elusennau sy'n cefnogi pobl sydd â nam ar eu golwg a'u clyw. Rydym i gyd yn derbyn gohebiaeth gan y rhwydwaith o gyrff trydydd sector sy'n darparu cymorth sy'n gysylltiedig â thai, ac fe ddylai, ac fe allai, pob un ohonynt leihau'r pwysau sylweddol ar wasanaethau statudol am gyfrannau cymharol fach o gyllidebau cyffredinol. Felly, sut yr ymatebwch yn benodol i'r pryderon a godwyd gan yr archwilydd cyffredinol ynglŷn â'r angen i integreiddio'r trydydd sector yn well, nid yn unig o ran y gyfran o gyllid, sy'n allweddol, ond hefyd o ran gwneud penderfyniadau a llunio gwasanaethau wrth iddynt fwrw ymlaen?

14:35

Rwy'n credu ei fod yn bwynt teg, a dweud y gwir. Mae'n ddyddiau cynnar, mewn rhai ffyrdd, ar y gronfa gofal integredig, ac rydym eisiau sicrhau ein bod yn cael y mathau o brosiectau uchelgeisiol a gaiff eu cyflwyno. Ac er mwyn gwneud hynny, rydym angen trawsweithio da ar draws sectorau i wneud yn siŵr ein bod yn taro'r holl bethau cywir rydym eisiau i'r gronfa gofal integredig eu gwneud. Ac mae hynny'n eithaf cymhleth, oherwydd, fel y mae Mark Isherwood yn ei nodi'n gywir, mae'n rhyngweithio â chyfres gyfan o bethau eraill rydym hefyd yn eu hariannu. Felly, rwy'n credu ei fod yn bwynt teg. Rwy'n hapus iawn i edrych eto ar argymhellion yr adroddiad, a gweld sut y gallwn integreiddio partneriaid y trydydd sector yn well wrth gynllunio ar gyfer hynny. Fe fyddwch yn gwybod ein bod wedi rhoi tai fel partneriaid statudol ar y byrddau cynllunio rhanbarthol yn ddiweddar—byrddau partneriaeth rhanbarthol, mae'n ddrwg gennyf; dylem roi'r gorau i roi'r un acronym tair llythyren i bethau, er budd Gweinidogion sy'n stryffaglu—y byrddau partneriaeth rhanbarthol, dylwn ddweud. A'r rheswm am hynny oedd ein bod eisiau cael mewnbwn ehangach i'r ffordd yr edrychir ar y cronfeydd hynny. Felly, rwy'n hapus iawn i edrych ar hynny. Os hoffech ysgrifennu ataf gan roi mwy o fanylion am rai o'r materion a gafodd eu dwyn i'ch sylw, rwy'n fwy na pharod i edrych ar hynny.

Iawn. Os caf symud ymlaen at gyngor penodol, mae bron i ddau ddegawd bellach ers i reolwr archwilio mewnol Sir y Fflint lwyddo yn ei achos yn erbyn y cyngor, ac roedd gwrthod mynediad at ddogfennau a methiant i ymateb i ohebiaeth yn nodwedd ganolog o'i gwynion. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, cawsom y sgandal cynnal a chadw tai, lle nodwyd problemau tebyg gan PricewaterhouseCoopers ac adroddiad annibynnol Roots. Gadawodd llu o bobl y cyngor, gyda chytundebau peidio â datgelu yn ôl y sôn. Ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach, cawsom sgandal AD Waste, patrwm tebyg—unwaith eto, dau aelod o staff yn gadael yr awdurdod, ond unwaith eto, yr heddlu'n dweud na allent erlyn oherwydd y diffyg dogfennaeth.

Yn 2018, cafodd cyngor Sir y Fflint ddadl a galwyd am gamau gweithredu ar ôl i gynghorydd enwi a chodi cywilydd ar swyddogion nad oedd yn ymateb i alwadau a negeseuon e-bost, a galwodd am gamau pellach. Ac yn awr mae gennym, y mis hwn, adroddiad ombwdsmon gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru i Gyngor Sir y Fflint a ganfu, er eu bod wedi nodi niwsans statudol yn 2014, nad oedd y cyngor wedi agor ffeil achos briodol tan 18 mis yn ddiweddarach. Roedd y cyngor yn ymwybodol ers o leiaf 2012 nad oedd ganddynt ganiatâd cynllunio priodol, ond nad oedd y nesaf peth i ddim cofnodion cynllunio cyn mis Awst 2018, fod methiannau o ran cyfathrebu a chydweithredu rhyngadrannol, prinder cofnodion, fod y cyngor wedi methu ymateb i'r cwynion yn briodol, fod diffyg perchnogaeth eglur wedi'i sefydlu ar lefelau uwch yn y cyngor, ffactor a waethygwyd gan hyd yr amser y parhaodd y methiannau, a diffyg ystyriaeth i'r anawsterau a wynebwyd. Mae'r adroddiadau hyn, sy'n mynd yn ôl 10 mlynedd, ac 20 mlynedd, i gyd yn nodi'r un problemau, waeth beth fo'r arweiniad gwleidyddol wrth iddo fynd a dod. Beth y bwriadwch ei wneud yn ei gylch? Oherwydd y tro diwethaf i mi godi hyn gyda chi, fe ddywedoch chi mai mater i'r cyngor ydyw, ac mae eich rhagflaenwyr dros y blynyddoedd bob amser wedi dweud mai mater i'r cyngor yn unig ydyw. Ond does bosibl y gall hyn barhau heb ei herio a'i archwilio, pan fo'r un problemau yn parhau i godi.

Mater i'r cyngor ydyw, ond rwy'n deall eich pryder. Nid wyf yn gwybod hyn—oherwydd fe fyddwch yn gwybod nad wyf wedi bod yn y gwaith am yr wythnos ddiwethaf, ond nid wyf yn gwybod a yw'r ombwdsmon gwasanaethau cyhoeddus wedi codi unrhyw beth o ganlyniad i'r adroddiadau gyda'r Llywodraeth. Felly, byddaf yn edrych ar hynny. Os oedd yna batrwm amlwg yn ymddangos a oedd yn peri pryder i'r ombwdsmon, byddem yn disgwyl i'r ombwdsmon dynnu ein sylw at hynny. Felly, byddaf yn edrych i weld. Ac rwy'n fwy na pharod i gael cyfarfod â chi am eich pryderon ehangach mewn perthynas â hyn, os mynnwch. Felly, ymddiheuriadau—nid wyf wedi gweld yr adroddiad hwnnw, gan fy mod wedi bod i ffwrdd o'r gwaith, ond fe edrychaf i mewn iddo.

Fodd bynnag, mae hi bob amser yn demtasiwn dod o hyd i batrwm mewn digwyddiadau dros 10 mlynedd pan mai digwyddiadau yn unig ydynt mewn gwirionedd. Felly, rwy'n hapus i edrych arno gyda meddwl agored, ond nid wyf yn argyhoeddedig fod cyfres o ddigwyddiadau unigol, dros 10 mlynedd, o reidrwydd yn brawf o batrwm o ddiwylliant mewn awdurdod. Ond rwy'n fwy na pharod i edrych arno gyda chi, Mark, a gweld a oes rhywbeth sy'n peri pryder yn ymddangos.

14:40

Diolch, Lywydd. A all y Gweinidog egluro pam fod Llywodraeth Cymru yn dal i gyfrif y 7,129 o gartrefi a werthwyd drwy Cymorth i Brynu ers 2016 fel rhai sy'n cyfrif tuag at ei tharged o 20,000 o gartrefi fforddiadwy yr honnoch chi fod 13,143 ohonynt wedi'u darparu eisoes?

Gallaf. Oherwydd bod Cymorth i Brynu wedi helpu pobl i brynu tŷ na fyddent, fel arall, wedi gallu ei brynu drwy eu cynorthwyo gyda chynllun blaendal na fyddent wedi cael mynediad ato fel arall. Ac rydym yn cyfrif cartrefi fforddiadwy yn yr ystyr ehangach hwnnw fel cartrefi sydd ar gael i bobl na fyddent wedi cael mynediad atynt oni bai eu bod wedi cael cymorth gan y Llywodraeth. Felly, dyna'r esboniad byr.

Diolch i chi am hynny, Weinidog. Mae'n ymddangos i mi mai craidd y broblem gyda'r term 'fforddiadwy' yw bod ei ddiffiniad mor gymharol. Felly, gwerthwyd 78 y cant, sy'n syfrdanol, o gartrefi, sef 5,564 a werthwyd drwy Cymorth i Brynu, am bris o dros £150,000. Cafodd dros 1,000 o gartrefi rydych yn eu cyfrif yn yr ystadegau fel rhai fforddiadwy eu gwerthu am dros £250,000. Nid wyf yn gallu gweld sut y gall unrhyw berson rhesymol gyfrif y cartrefi hyn fel rhai fforddiadwy. Onid yw hynny'n ystumio ystadegau ar raddfa enfawr?

Nid wyf yn anghytuno o gwbl fod y diffiniad o 'fforddiadwy' yn ddi-fudd ac yn fwy hyblyg nag y byddem yn ei hoffi o ran yr hyn rydym yn ceisio ei wneud. Ac rydym wedi bod yn agored iawn ynglŷn â'r niferoedd mewn perthynas â hynny, oherwydd nid wyf yn anghytuno â'r hyn rydych yn ei ddweud yn sylfaenol, sef y dylem adeiladu tai cymdeithasol neu gartrefi sydd o fewn ystod gallu pobl i brynu heb orfod cael cymorth gan y Llywodraeth. Ond os ydych wedi cael cymorth gan y Llywodraeth i allu prynu eich tŷ, y diffiniad cyfredol yw ei fod yn gartref fforddiadwy. Felly, nid wyf am ddadlau gyda chi; nid wyf yn anghytuno â'ch gosodiad sylfaenol. Ond roedd y targed a osodwyd gennym yn cynnwys y diffiniad hwnnw ac felly mae'n cael ei gyfrif yn erbyn y diffiniad hwnnw.  

Yn bwysicach na dim, rydym yn mynd ati yn awr i geisio rhyddhau tir ac adnoddau fel y gallwn adeiladu tai cymdeithasol. Hynny yw, tai ar gyfer rhentu cymdeithasol, a hynny naill ai drwy ein cynghorau sy'n awdurdodau sy'n dal stoc dai—yr 11 cyngor sy'n awdurdodau sy'n dal stoc dai o hyd—neu drwy ein cymdeithasau tai lleol, neu'r ddau mewn rhai ardaloedd. Felly, mae rhai awdurdodau sy'n dal stoc dai yn gweithio law yn llaw â'r gymdeithas dai leol i gyflwyno tai rhent cymdeithasol ar gyfer cydberchnogaeth neu ranberchnogaeth, ac mewn awdurdodau eraill nad ydynt yn dal stoc dai, maent yn gweithio gyda'u cymdeithasau tai lleol i'w cyflwyno. Ac mae'n mynd o nerth i nerth.

Felly, o ddechrau araf—os cofiwch, nid oedd cynghorau'n cael defnyddio'r arian a gawsant o werthiannau hawl i brynu er mwyn gwneud hyn, ac roedd capiau ar y cyfrifon refeniw tai ac yn y blaen. Felly, o hynny i'r Llywodraeth Geidwadol yn gweld synnwyr o'r diwedd a dileu'r capiau, rydym wedi llwyddo i gyflymu'n eithaf sylweddol, ac rwy'n gobeithio'n fawr y bydd eleni'n gweld twf cyflym arall yn nifer y tai rhent cymdeithasol, sef y math o ddeiliadaeth sydd fwyaf o'i angen yn economi Cymru.  

Diolch yn fawr, Weinidog. Rwy'n croesawu'r cywair a ddefnyddiwch wrth siarad â ni. Rwy'n falch eich bod yn cytuno â byrdwn cyffredinol yr hyn rydym yn ei ddweud yma. Felly, er mwyn ei gofnodi felly, pe baem yn bwrw golwg fwy rhesymol ar gyflawniad y Llywodraeth yn darparu tai fforddiadwy yn ôl y diffiniad yn yr ystyr ehangach o'r hyn y dylai ei olygu, a chredaf eich bod yn cytuno â ni ar hynny, byddai angen inni gael gwared ar y cartrefi a oedd y tu hwnt i gyrraedd cynifer o bobl, a thynnu'r 5,500 o gartrefi anfforddiadwy allan, a byddai hynny, mewn gwirionedd, yn golygu bod y Llywodraeth wedi darparu 7,579 ac felly rydych ar y trywydd cywir i fethu cyrraedd y targed hwnnw. Felly, buaswn yn croesawu eich—

Iawn, fy ateb i hynny, fodd bynnag, yw bod y targed wedi'i osod yng ngoleuni'r diffiniad a oedd ar gael—

Nid wyf yn credu bod yr Aelod wedi gorffen ei chwestiwn, os nad oes ots gennych. Rwy'n gwybod eich bod yn awyddus, Weinidog, ond os gwnewch chi ganiatáu iddi orffen ei chwestiwn.

Na, diolch i chi am gytuno â mi ar hynny. Arhosaf i glywed eich ateb yn llawnach. Ond fel roeddech yn sôn am dai cymdeithasol, rwyf innau hefyd yn credu mai dyna lle mae gwir angen inni ganolbwyntio ar gyflawni. Unwaith eto, rwy'n croesawu'r hyn rydych wedi bod yn ei ddweud am hynny. Mae'r ffigurau'n dangos, ers 2016, mai dim ond 4,397 o gartrefi sydd wedi'u cwblhau ar gyfer y sector tai cymdeithasol, ac mae hynny tua hanner y gyfradd rydym ei hangen i gyrraedd y targed yn ôl y rhan fwyaf o amcangyfrifon. Felly, o ystyried hyn, a'r canfyddiadau nad yw tua hanner y cartrefi fforddiadwy a addawyd drwy rwymedigaethau cynllunio dros y degawd diwethaf wedi'u darparu, oherwydd bod datblygwyr yn manteisio ar ein system gynllunio ddiffygiol, pa bryd y credwch y gwelwn y newidiadau radical a grybwyllwyd gennych i'r dref gynllunio?

Iawn. Fel roeddwn yn ei ddweud, nid wyf yn credu ei bod yn deg dweud nad ydym yn cyrraedd y targed, gan fod y targed wedi'i osod yn ôl y diffiniad o dai fforddiadwy a oedd yn bodoli ar y pryd, ac fe gafodd y targed ei osod yn y goleuni hwnnw. Felly, os ydych yn mynd i dynnu'r tai Cymorth i Brynu allan o hwnnw, byddech o anghenraid yn gostwng y targed, oherwydd ni fyddem byth wedi'i osod yn y ffordd honno pe na baem yn cynnwys y tai hynny. Felly, er fy mod yn derbyn y pwynt rydych yn ceisio ei wneud, rwy'n credu eich bod yn ein beirniadu'n ddiangen, gawn ni ddweud? Mae yna bethau eraill y gallwch ein beirniadu yn eu cylch yn fwy haeddiannol o bosibl.

Un o'r problemau mwyaf rydym wedi'u cael wrth gyflawni'r elfen cartrefi fforddiadwy mewn ceisiadau cynllunio yn y sector preifat yw bod sylfaen sgôr cynghorau wedi cael ei dinistrio mewn gwirionedd. Ac felly wrth drafod y 106 o gytundebau, nid yw cynghorau o reidrwydd wedi gallu cadw at y safbwynt y byddent wedi hoffi ei arddel yn erbyn datblygwyr ac adeiladwyr y tai yn y trafodaethau hynny. Felly, rhan fawr o'r Bil llywodraeth leol roeddem yn ei drafod yn y pwyllgor gyda'n gilydd y bore yma yw gwneud y trefniadau rhanbarthol hynny fel y gallwn gyfuno'r sgiliau sy'n angenrheidiol i alluogi cynghorau i wrthsefyll sgyrsiau o'r fath.

Ond ar yr un pryd, mae yna gyfres gyfan o bethau eraill y mae angen inni eu gwneud. Mewn gwirionedd, rwy'n credu ein bod wedi gwneud yn eithaf da o ystyried lefel y cyfyngiadau sydd wedi bod ar adeiladu tai cymdeithasol dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Ond fe welwch newid enfawr o ran graddfa a chyflymder gan fod y capiau wedi'u tynnu bellach a'n bod wedi newid y ffordd rydym yn dal tir sector cyhoeddus.  

Felly, i atgoffa'r Siambr, Lywydd, rydym wedi newid y ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn dal tir. Mae wedi'i ganoli yn yr is-adran tir cyhoeddus gyda fy nghyd-Aelod, Rebecca Evans, a'u cyfarwyddyd yw y bydd 50 y cant o'r tai a adeiladir ar yr holl dir sydd gyfer tai ac sy'n eiddo i Lywodraeth Cymru yn dai rhent cymdeithasol a bydd elfen fforddiadwy ar ben hynny wedyn. Ac mae'r cyflenwad tir hwnnw'n gwneud gwahaniaeth enfawr i gyflymder y ffordd rydym yn adeiladu tai cymdeithasol.

Ar hyn o bryd, rydym yn sgwrsio â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'r byrddau iechyd a phethau eraill i werthu'r tir sector cyhoeddus o dan gynllun tebyg, oherwydd y broblem fwyaf o ran adeiladu cartrefi cymdeithasol yw caffael y tir, nid adeiladu'r tai. Felly, rydym yn camu i'r adwy'n bendant iawn ar hynny, ac rwy'n credu y gwelwch newid sylweddol yn y niferoedd wrth i'r gwaith adeiladu newydd gyflymu. Yr hyn rydych yn ei weld ar hyn o bryd yw cwblhau'r tai y dechreuwyd eu hadeiladu o dan yr hen system, a oedd yn amlwg yn llawer mwy cyfyngol.

14:45
Ail Gartrefi

3. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y camau sydd ar gael i lywodraeth leol i atal cofrestru ail gartrefi fel busnesau? OAQ55010

Os yw eiddo yn ail gartref, fe'i hystyrir yn annedd ddomestig. Nid yw cofrestru busnesau ynddo'i hun wedi'i ddatganoli.

Roeddwn yn Rhosneigr mewn bore coffi yn ddiweddar, a dywedodd grŵp o fenywod a oedd yn brysur yn gwneud paned i mi ar y pryd, 'A allwn ni gael cyfarfod cyhoeddus i drafod mater y biniau coch?' Nid oeddwn yn siŵr beth roeddent yn ei olygu, felly fe wnaethant esbonio: 'O, wyddoch chi, pan fydd pobl yn cofrestru eu cartrefi gwyliau fel busnesau, mae eu biniau domestig yn cael eu newid am rai busnes, rhai coch. Mae mwy a mwy ohonynt yn y pentref, ac mae'n anghywir, nid ydynt yn talu eu trethi.'

Nawr, ym mis Tachwedd 2018, dywedodd y cyn Brif Weinidog wrthyf nad oedd yn credu bod bwlch yn y gyfraith yma. Dywedodd y Gweinidog cyllid, Rebecca Evans, hefyd, 'Nid wyf yn siŵr a fyddwn yn cytuno bod yna fwlch yn y gyfraith'. Gadewch i ni edrych ar ddiffiniadau o 'loophole'.

Mae geiriadur Caergrawnt yn ei alw'n gamgymeriad bach mewn cytundeb neu yn y gyfraith sy'n rhoi cyfle i rywun osgoi gorfod gwneud rhywbeth.

Mae geiriadur Collins yn dweud mai

camgymeriad bach yw 'loophole' yn y gyfraith sy'n caniatáu i bobl wneud rhywbeth a fyddai fel arall yn anghyfreithlon.

A dyna'r pwynt yma. Yn sicr, dylai fod yn anghyfreithlon i brynu ail gartref a gallu osgoi talu'r trethi y mae'n rhaid i ddinasyddion amser llawn eraill yn yr un gymuned eu talu, a dal i ddisgwyl cael yr un gwasanaethau. Yr hyn y mae stori'r biniau coch yn ei ddweud wrthym yw bod hyn yn dod yn fwy a mwy gweladwy a bod pobl yn mynd yn fwyfwy dig am y peth.

Nawr, os na wnaiff y Llywodraeth gytuno bod bwlch yn y gyfraith yma, a ydych yn cytuno bod camgymeriad bach yn y ddeddfwriaeth ar hyn o bryd sydd â chanlyniadau a allai fod yn anfwriadol, ond bod yn rhaid rhoi sylw i hynny yn enw tegwch ac yn enw darparu refeniw mawr ei angen i awdurdodau lleol, refeniw a gollir fel arall?

Rwy'n derbyn y pwynt y mae'r Aelod yn ceisio ei wneud, ond nid wyf yn credu ei fod yn fwlch yn y gyfraith yn ôl unrhyw un o'r diffiniadau rydych newydd eu rhoi, ac mae hynny oherwydd ei fod yn fwriadol. Mae bwlch yn y gyfraith yn ganlyniad anfwriadol, ac mewn gwirionedd, mae hwn yn ganlyniad bwriadol.

Hoffwn egluro sut y mae'n gweithio, oherwydd rwy'n credu bod llawer o gamddealltwriaeth ymysg pobl ynglŷn â sut yn union y mae hyn yn gweithio: pan fydd rhywun yn caffael eiddo, mae'n rhaid iddynt nodi a yw'n annedd neu'n fusnes. Os ydynt yn nodi mai annedd ydyw, yna mae'n ail gartref os nad yw wedi'i feddiannu drwy'r amser, ac mae'n ddarostyngedig i system dreth gyngor yr awdurdod hwnnw.

Mae rhai awdurdodau wedi dyblu'r dreth gyngor ar ail gartrefi, tra bo eraill wedi'i haneru mewn gwirionedd, yn dibynnu ar eu hamgylchiadau lleol a'r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni. Mater o ddisgresiwn lleol yw hynny a gallant wneud fel y dymunant.

Yr hyn rydych yn ei ddisgrifio yw sefyllfa lle mae rhywun yn caffael eiddo ac yna'n dweud nad yw'n eiddo domestig ond yn hytrach ei fod yn rhan o fusnes ac maent yn ei osod fel llety hunan-arlwyo neu beth bynnag. Ceir rheolau caeth ynglŷn â'r hyn y mae'n rhaid iddynt ei wneud i allu gwneud hynny, ac mae'n rhaid iddynt wneud cais drwy'r swyddfa brisio, mae'n rhaid iddynt lenwi'r ffurflenni a darparu tystiolaeth ddogfennol i ddangos bod yr eiddo wedi bodloni'r meini prawf ar gyfer gosod, ac mae Asiantaeth y Swyddfa Brisio yn adolygu'r dystiolaeth cyn newid y rhestrau, ac yna bydd yn fusnes cofrestredig. Dau eiddo yn unig a ganiateir i bob busnes cofrestredig iddo gael ei gyfrif fel busnes bach. Felly, os ydych yn fusnes bach, ni allwch gael mwy na dau eiddo. Ac os ydych yn fusnes bach sydd â dau eiddo, gallwch wneud cais am ryddhad ardrethi i fusnesau bach.

14:50

Wel, mae cartref gwyliau yr un peth—mae'n dal i fod yn fusnes, beth bynnag rydych yn ei alw.

Felly, os nad yw'n cael ei osod a'i fod yn cael ei ddosbarthu fel busnes bach, yr hyn rydych yn ei ddweud yw, 'Nid yw hwn yn cael ei osod, mae'n cael ei ddefnyddio fel ail gartref', ac mae'r person wedi gwneud hynny—mae hynny'n dwyll. Felly, mae honno'n drosedd a byddai'r person yn cael ei erlyn. Rydym wedi gofyn—o ganlyniad i rywbeth y gofynnodd Siân Gwenllian i mi ei wneud—i'r holl awdurdodau yng Nghymru am unrhyw dystiolaeth o hynny, ac nid ydym wedi cael unrhyw dystiolaeth. Ac rydym wedi gofyn i'r swyddfa brisio gynnal archwiliad o'r rhai y maent yn ymwybodol ohonynt, ac nid ydynt wedi cyflwyno un sydd heb fod yn newid cyfreithlon ac nid ydynt wedi gallu darparu'r dystiolaeth angenrheidiol i gynnal hynny.

Nawr, rwy'n dweud eto: os oes gennych dystiolaeth fod hynny'n digwydd, gadewch i ni ei gweld, a byddaf yn gwneud rhywbeth am y peth. Ond hyd yn hyn, ar hyn o bryd, nid oes gennym unrhyw—. Mae gennym anecdotau o bob math, gan gynnwys yn fy awdurdod i ac ym mhobman arall, ond nid oes gennym unrhyw dystiolaeth o gwbl fod hynny'n digwydd mewn gwirionedd.

Rwy'n cydnabod y pryderon y tu ôl i'r cwestiwn hwn, ond mae'r ffiniau rhwng prif gartref, ail gartrefi, tai amlfeddiannaeth ac unrhyw endid busnes wedi bod yn niwlog ers dyfodiad Airbnb a chwmnïau llety cyfradd ddyddiol tebyg. Os ydych yn cefnogi egwyddor o atal yr hyn y mae Plaid Cymru yn ei ystyried yn ail gartref—nad yw ond wedi'i feddiannu o bryd i'w gilydd gan ymwelwyr nad ydynt yn byw yno yn barhaol—rhag cael ei gofrestru fel busnes, sut y gallech ddisgwyl casglu unrhyw dreth dwristiaeth ganddynt? Rwy'n credu bod hwnnw'n rheswm gwirioneddol dda dros beidio â hyd yn oed ystyried y dreth honno ymhellach.

Rwy'n gwneud yr un pwynt: os oes gennym unrhyw dystiolaeth o gwbl fod eiddo wedi cael eu rhestru'n anghywir fel busnesau yn hytrach nag eiddo domestig, gadewch i ni ei gweld, ac fe edrychwn arni a gwneud rhywbeth yn ei gylch. Os yw preswylfa'n breswylfa ddomestig, wedi'i rhestru'n breswylfa ddomestig ar gyfer meddiannaeth achlysurol, neu fel preswylfa na fydd byth yn cael ei meddiannu—ac nid oes unrhyw beth i'ch atal rhag prynu ail gartref heb fynd iddo byth—cyhyd â'i fod wedi'i gofrestru fel annedd ddomestig, bydd yn talu beth bynnag yw'r dreth gyngor berthnasol ar gyfer preswylfa nad yw'n brif gartref yn yr ardal honno.

Mae'n rhaid i chi gysylltu â'r swyddfa brisio a dweud eich bod eisiau cofrestru'r eiddo yn eiddo dibreswyl at ddefnydd busnes er mwyn cael eich cynnwys yn y cynllun hwn. Ni allwch gael mwy na dau eiddo o'r fath i fod yn gymwys fel busnes bach a chael y rhyddhad ardrethi. Os oes gennych fwy na hynny, fe fyddwch yn talu ardrethi annomestig arno yn lle'r dreth gyngor, nad yw o reidrwydd yn well, efallai y bydd yn fwy.

Wedyn y peth arall i'w ddweud yw, mewn perthynas â dyblu'r tâl am ail gartrefi mewn nifer o ardaloedd yng Nghymru, ni fwriadwyd iddo fod yn drefniant codi refeniw mewn unrhyw ffordd—ond yn hytrach yn drefniant i newid ymddygiad—ond mae wedi codi symiau sylweddol iawn o arian ledled Cymru mewn gwirionedd. Llawer mwy nag a fyddai wedi'i golli pe bai bwlch o'r fath wedi bodoli yn y gyfraith, ac rwy'n pwysleisio nad yw hynny'n wir.

A yw'r Gweinidog yn rhannu fy rhwystredigaeth nad yw'n glir a yw Plaid Cymru yn cwyno am dwyll neu'n cwyno am y gyfraith? Ai'r broblem yw bod perchenogion ail gartrefi'n eu hailddosbarthu fel cartrefi gwyliau ond yn dal i fyw ynddynt eu hunain yn rhan-amser yn hytrach na'u gosod ar rent? Os felly, twyll yw hynny. Ai'r broblem yw'r ffaith nad ydynt yn eu gosod ar rent yn aml ac felly nid ydynt yn cyrraedd y trothwy 10 wythnos y flwyddyn? Os felly, a ddylem gymryd camau pellach i orfodi'r gyfraith? Neu a oes dadl, os ydynt yn mynd i elwa o beidio â gorfod talu'r dreth gyngor yn y modd hwn, y dylent fod yn eu gosod ar rent am fwy na 10 wythnos y flwyddyn? Os felly, pam nad ydym yn troi at ddiffiniad Cyllid a Thollau ei Mawrhydi a'i gwneud yn ofynnol i gartrefi gwyliau â dodrefn gael eu gosod ar rent am 15 wythnos y flwyddyn o leiaf, ac ar gael am isafswm o 30 wythnos y flwyddyn?

Mae hwnnw'n ddadansoddiad rhesymol. Ein dadansoddiad ni o'r holl waith rydym wedi'i wneud ar hyn yw bod hyd y cyfnod gosod ar y lefel gywir, oherwydd mae economïau twristiaeth yn bwysig iawn ledled Cymru mewn lleoedd bach iawn. Felly, mater o sicrhau cydbwysedd yw hyn rhwng caniatáu i eiddo gael ei ddefnyddio yn ein diwydiant twristiaeth hollbwysig, a sicrhau nad yw pobl yn manteisio ar ryw fwlch yn y gyfraith. Ond nid yw'n fwlch os oes rhaid i chi ddangos tystiolaeth ohono yn y ffordd iawn. Felly, os oes gennych dystiolaeth nad yw pobl yn gosod eu llety yn y ffordd gywir, gadewch inni ei gweld. Rwyf wedi dweud dro ar ôl tro yn y Siambr, ac rwyf am ei ddweud unwaith eto: rwy'n fwy na pharod i edrych ar unrhyw dystiolaeth o gwbl fod hynny'n digwydd, ond ar hyn o bryd nid oes gennyf dystiolaeth.

14:55
Ail Gartrefi

4. Pa asesiad mae'r Gweinidog wedi ei wneud o effaith canran uchel o ail gartrefi ar yr angen am dai o fewn cymunedau? OAQ55005

Rwy'n cydnabod bod pris ac argaeledd cartrefi i bobl leol mewn rhannau o Gymru'n cael eu heffeithio gan berchnogaeth ar ail gartrefi. Er mwyn deall yr effaith hon yn eu hardaloedd, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol gynnal asesiadau o'r farchnad dai leol a defnyddio strategaethau i fodloni gofynion eu cymunedau.

Mae yna faterion ehangach na'r sgil effaith yma sydd yn digwydd yn y system dreth, wrth gwrs. Ond mae angen datrys hwnnw, ac mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn cytuno efo ni mai addasu adran 66 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 ydy'r ffordd ymlaen. Felly, dim jest ni ar y meinciau yma sydd yn sôn am hyn; mae'r gymdeithas llywodraeth leol, sy'n cynrychioli holl gynghorau Cymru, yn dweud bod angen addasu adran 66 ar fyrder. Ond dydych chi ddim am fynd lawr y llwybr yna; dwi ddim cweit yn deall pam.

Ond mae yna faterion ehangach, wrth gwrs, onid oes? O'r tai a gafodd eu gwerthu yng Ngwynedd yn ddiweddar, roedd 40 y cant ohonyn nhw yn cael eu gwerthu fel ail gartrefi. Rŵan, mae hwnna'n ffigur anferth ac mae'r math yna o newid cymdeithasol ac economaidd yn gadael ein cymunedau ni yn leoedd llwm iawn, iawn y rhan fwyaf o adeg y flwyddyn.

Felly, pa waith cyffredinol mae'ch Llywodraeth chi wedi'i wneud i ystyried hyn i gyd? Er enghraifft, ydy hi wedi dod yn amser rŵan i ni ei gwneud hi'n ofynnol i unrhyw un sydd yn dymuno trosi tŷ annedd yn ail gartref—yn enwedig yn yr ardaloedd yma lle mae yna nifer uchel iawn o ail gartrefi— bod nhw angen caniatâd cynllunio cyn gwneud hynny?

Mae yna newidiadau cynllunio eraill y gellid eu hystyried. Mae rhannau eraill—mae Cernyw, mae Ardal y Llynnoedd, wedi mynd i'r afael â hyn.

Dwi yn teimlo yn angerddol am hwn, fel rydych chi'n gwybod, ond y cwestiwn ydy: pa newidiadau eraill, heblaw yr ochr drethiannol, fedr eich Llywodraeth chi eu hystyried a mynd i'r afael â nhw er mwyn datrys y broblem yma? 

Rwy'n gobeithio bod Siân Gwenllian yn gwybod fy mod innau hefyd yn cydymdeimlo'n fawr â'r broblem, ac rwy'n llwyr gydnabod ei bod yn bodoli. Rydym wedi edrych ar bethau fel ceisio ei rheoli drwy'r system gynllunio, ond pan fydd rhywun yn gwerthu tŷ preifat i unigolyn preifat neu i gwmni, byddai'n anodd iawn dweud, ar y pwynt hwnnw, na allai'r gwerthiant barhau pan fyddai'n dod yn hysbys pwy yw'r perchennog a'u bod wedi datgan ei fod yn ail gartref.

Ceir pob math o broblemau eraill hefyd a allai ymddangos yn ddibwys ond sy'n wirioneddol broblemus mewn system gyfreithiol. Felly, rwy'n prynu'r tŷ fel fy mhrif dŷ, ac yna rwy'n priodi rhywun sy'n byw yn Llundain ac nid wyf ond yn dychwelyd ar benwythnosau, felly a wyf wedi'i droi'n ail gartref yn sydyn ac wedi torri'r rheol gynllunio? Ceir llawer o broblemau anodd. Nid yw hynny'n golygu nad wyf yn cydymdeimlo â'r broblem; rwy'n credu bod nifer o bethau y gallwn eu gwneud.  

Gwyddom fod gan ardaloedd gwledig heriau arbennig o fawr mewn perthynas â hyn, ac mae gan rannau prydferth iawn o'r wlad broblemau penodol. Rydych yn llygad eich lle yn nodi Gwynedd. Mae canran Gwynedd yn 9.9 y cant, ac yn bedwerydd yn y rhestr o awdurdodau sydd ag ail gartrefi ym Mhrydain. Felly, rydych yn llygad eich lle ei bod yn broblem enfawr i ni. Ond rwy'n credu bod angen i ni fynd i'r afael â hi mewn nifer o ffyrdd.

Mae gennym grŵp strategol gwledig sy'n cynnwys swyddogion galluogi tai gwledig—cymdeithasau tai, awdurdodau lleol, Cartrefi Cymunedol Cymru a CLlLC—sy'n cyfarfod bob chwarter. Mae gennym fforwm da i annog a phrofi syniadau ynglŷn â'r hyn y gellir ei wneud. Rydym yn annog pethau fel defnyddio premiymau'r dreth gyngor. Rwy'n fodlon ystyried a ddylem gynyddu'r rheini eto fyth os yw prisiau tai—. Mae tŷ yn fy mhentref newydd werthu am £2.8 miliwn i gwpl o Lundain ac nid wyf yn credu eu bod yn bwriadu byw yno'n barhaol. Ni fydd fy mhlant byth yn byw mewn pentref lle mae tai'n gwerthu am brisiau felly; mae gennyf lawer o gydymdeimlad â'ch safbwynt.  

Felly, credaf mai'r hyn sydd angen inni ei wneud yw nodi tir, yn enwedig mewn cymunedau gwledig, Cymraeg eu hiaith, lle mae plant y pentrefi eisiau byw, a nodi tai y gallwn eu hadeiladu naill ai ar gyfer rhent cymdeithasol gydag elfen leol ynghlwm wrth hynny, neu ar gyfer ecwiti cymysg—felly trefniadau ecwiti a rennir gyda chymdeithasau tai lleol neu gyda'r cyngor lleol—neu drefniadau eraill fel hunanadeiladu gyda gofynion preswylio o ganlyniad i'r grant, ac amryw o bethau eraill y gallwn eu gwneud i annog adeiladu'r math cywir o dai, fel y gellir annog pobl leol, a phobl ifanc yn arbennig, i aros yn ein cymunedau.  

Felly, mae gennyf lawer o gydymdeimlad â hynny, ond nid wyf yn credu mai'r system gynllunio yw'r ffordd gywir o'i wneud. Yr hyn sy'n rhaid i ni ei wneud yw dod o hyd i arf sy'n gweithio. Felly, rwy'n fwy na pharod i'ch gwahodd i un o'r sesiynau ynghylch trefniadau'r swyddogion galluogi tai gwledig, ac rydym yn hapus iawn i edrych ar unrhyw syniadau da eraill ar draws y Siambr, Lywydd, gan fy mod yn gwybod bod gan nifer fawr o bobl y problemau hyn yn eu hetholaethau a'u rhanbarthau, er mwyn gweld beth y gallwn ei wneud a fyddai'n gweithio heb gael ein cynnwys mewn anghydfodau cyfreithiol diddiwedd wrth werthu gwahanol dai ledled Cymru.

15:00

Weinidog, rwy'n cofio Dafydd Wigley yn codi'r mater hwn yn y Cynulliad cyntaf ac yn sôn am ble mae ganddynt farchnadoedd tai rheoledig, fel Ynysoedd y Sianel—y cadarnle sosialaidd hwnnw yn y Sianel. Y peth yw, mae gennym ddiwylliant ehangach ym Mhrydain o berchentyaeth ail gartrefi a marchnad rydd, ac rwy'n parchu hynny, ond mae llawer o'r bobl hynny hefyd yn cael eu temtio weithiau i brynu yn Sbaen, yn yr Eidal, yn Ffrainc, lle ceir diboblogi gwledig dwys a phentrefi gwag yn aml. Ac mae'r sefyllfa rydym yn ei hwynebu ychydig yn wahanol, a dweud y lleiaf, ac mae arnom angen ystod o strategaethau: treth gyngor uwch lle mae llawer o angen am dai ond mae ail gartrefi'n cael eu prynu; strategaethau cartrefi gwag; ac adeiladu cymedrol ond angenrheidiol mewn pentrefi. Nawr, mae cael pentref tlws yn un peth, ond nid yw'n dlws iawn i'r bobl ifanc leol os na allant fforddio byw yno a magu teuluoedd. Felly, dylai fod angen datblygu priodol, yn union fel y mae ein hynafiaid wedi'i wneud ers cenedlaethau.

Rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Nid ydym yn gwrthwynebu hynny mewn unrhyw ffordd. Mae'n ymwneud â sicrhau ein bod yn cael y tai iawn yn y lleoedd iawn ar gyfer y bobl iawn. Ond mae'n rhaid inni warchod hefyd rhag canlyniadau anfwriadol. Nid wyf yn gwybod a ydych yn ymwybodol, ond yn ddiweddar, cafodd St Ives brofiad lle rhoesant gyfyngiadau ar godi tai i brynwyr o'r tu allan ac o ganlyniad, ni chodwyd unrhyw dai o gwbl, gan nad oedd yn ddichonol gwneud hynny. Felly, mae gennych ganlyniadau anfwriadol yn sgil hynny. Nid dyna roeddent ei eisiau, ond dyna a gawsant. Felly, yr hyn rydym yn awyddus iawn i'w wneud yw nodi'r ysgogiadau cywir i wneud hynny, er mwyn caniatáu i amlen y pentref gynyddu ychydig gyda'r math cywir o dai a phopeth arall.

Pwysleisiaf hefyd, wrth gwrs, gan fod ein set o reolau cynllunio, Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 a'r Ddeddf cynllunio a'r Gymraeg yn rhyngweithio â'i gilydd, fod y Gymraeg yn rhan fawr iawn o hyn hefyd. Felly, rydym yn awyddus i warchod ein cymunedau Cymraeg eu hiaith a sicrhau nad ydynt yn cael eu boddi ar hyn o bryd gan nifer fawr o bobl na fyddent yn gallu dysgu'r iaith o fewn amser priodol ar gyfer yr ysgol leol ac ati. Felly, mae disgwyl i awdurdodau cynllunio lleol yng Nghymru gadw nifer fawr o ystyriaethau mewn cof wrth edrych ar hyn. Rwy'n fwy na pharod i weithio gyda grwpiau o ACau a chyda'n pobl galluogi gwledig ac ati i edrych ar unrhyw syniadau o gwbl a all annog adeiladu'r math cywir o dai yn y math cywir o leoedd.

Fel y dywedodd David Melding yn gwbl gywir, nid oes gennym y mathau o broblemau sydd ganddynt yn Sbaen a Phortiwgal mewn rhai ardaloedd, ond mewn rhannau bach o Gymru, fel Gwynedd a pheth o arfordir Sir Benfro, mae gennym broblem go iawn sy'n gwaethygu.

Plastigau Untro

5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynigion Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â phlastigau untro? OAQ54986

Yn ddiweddar, lansiais ein strategaeth economi gylchol, 'Mwy Nag Ailgylchu', sy'n cynnwys cael gwared ar blastig untro yn raddol fel un o'r prif gamau gweithredu. Ynghyd â hyn, rydym yn gweithio ar ddiwygiadau arloesol fel cyfrifoldeb estynedig cynhyrchwyr ar gyfer deunydd pacio, cynllun dychwelyd ernes a gwaharddiad ar rai mathau o blastig untro.

Mae hynny'n newyddion da iawn i'w glywed. Mae'n rhaid fod y Gweinidog yn teimlo mor rhwystredig â minnau pan awn i'r archfarchnadoedd sy'n brolio am yr holl waith da a wnânt ar leihau'r defnydd o blastig ac rydym yn dal i weld eiliau ffrwythau a llysiau yn llawn ffrwythau a llysiau wedi'u pecynnu mewn plastig. Mae'n ddiddorol nodi heddiw fy mod newydd weld sefydliad o'r enw Plastic Expiry, sy'n gweithredu'n uniongyrchol mewn modd heddychlon drwy roi sticeri ar y cynhyrchion plastig sy'n dweud, 'dyddiad dod i ben y plastig yw 24 Ionawr 2499'. Mae'r defnyddwyr yn arwain y ffordd drwy brotestio'n heddychlon.

Ond cawsom ddadl wych yma fis Hydref y llynedd, cefnogaeth drawsbleidiol, cynnig a dderbyniwyd gan y Tŷ—gan wthio, annog a gweithio gyda'r Gweinidog i ddweud, 'Dewch i ni fod yn genedl sy'n arwain y byd o ran defnydd cynaliadwy a lleihau gwastraff plastig a phlastigau untro yn enwedig'. A gaf fi ofyn iddi: a ydym yn gwneud popeth a allwn, gan gynnwys pethau fel trethi ac ardollau priodol, gwaharddiadau ar blastigau untro priodol a phenodol? Ac a fydd yn parhau i weithio gyda'r holl sefydliadau ymgyrchu, gan gynnwys y Gymdeithas Cadwraeth Forol, Cadwch Gymru'n Daclus a Chyfeillion y Ddaear—diolch am gyfarfod â ni y diwrnod o'r blaen—ond hefyd y bobl eraill sy'n dymuno gwneud y newid hwn gan y gwyddom fod y llanw o lygredd plastig yn codi ac mae'n rhaid i ni ei atal?

Credaf mai'r ateb byr yw 'yn sicr'. Rwy'n hynod falch o'n rôl a'n cyflawniad fel arweinydd byd-eang a'r gydnabyddiaeth rydym eisoes wedi'i chael i hynny mewn lleoedd mor bell i ffwrdd ag Awstralia. Ond rydym wedi amlinellu ein huchelgais i wneud mwy ac i fynd â hynny ymhellach, a sbarduno newid yn y dyfodol.

Ac fe sonioch chi am rai o'r unigolion a'r sefydliadau sy'n mynd i'r afael â hyn eu hunain, ac o ran y labelu, credaf fod hynny'n greadigol iawn. Ac yn fy etholaeth i, cynhaliwyd Maximum Wraps, lle mae pobl wedi bod yn siopa, ac mae tîm o wirfoddolwyr yno'n cael gwared ar yr holl blastig gormodol nad yw'n angenrheidiol. Rydych yn llygad eich lle ynglŷn ag ewyllys y defnyddwyr a'r egni hwn yn ein cymunedau i wneud rhywbeth, ac mae gwir angen inni harneisio hynny fel Llywodraeth ac ar draws ein cymunedau hefyd.

Felly, dyna pam fod un o'r elfennau allweddol i mi yn yr ymgynghoriad hwn, y mae'n well o lawer gennyf ei alw'n sgwrs gan y credaf mai dyna ddylai fod, yn ymwneud â sut rydym yn galluogi busnesau i gymryd rhan yn hynny o beth, ond yn bwysicach fyth, ein bod yn grymuso cymunedau hefyd. Felly, fel rhan o hynny, rwy'n ymweld â phob rhanbarth yng Nghymru, yn siarad â busnesau, yn siarad â grwpiau cymunedol, ac mae swyddogion yn gwneud yr un peth, i sicrhau eu bod hwythau'n cymryd rhan yn hynny hefyd ac yn dylanwadu ar y newid. Oherwydd gwyddom eu bod yn dymuno gweld hyn yn digwydd, ac mae pethau y gallwn eu gwneud fel Llywodraeth o ran deddfwriaeth a pholisi, ond mae angen newid diwylliannol o'r fath arnom hefyd, a chredaf fod angen i bobl fod yn rhan o hynny. Felly, yn sicr, rwy'n awyddus iawn i barhau â hynny a pharhau â'r sgwrs gyda phawb sy'n dymuno bod yn rhan ohoni.

15:05

Ddirprwy Weinidog, yn gynharach yr wythnos hon, cyfarfûm â disgyblion o Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Aeddan Sant yng Nghas-wis ger Hwlffordd yn fy etholaeth, sydd wedi cychwyn deiseb i wahardd poteli llaeth plastig untro mewn ysgolion ledled Cymru. Rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi ei bod yn wych gweld plant a phobl ifanc yn ymgysylltu â'n proses ddeisebau ac yn cymryd camau ar rai o'n problemau mwyaf. O dan yr amgylchiadau, pa gefnogaeth y gall Llywodraeth Cymru ei chynnig i ddisgyblion Ysgol yr Eglwys yng Nghymru Aeddan Sant, a pha drafodaethau penodol a gawsoch gydag awdurdodau lleol ynghylch gwahardd poteli llaeth plastig untro mewn ysgolion ledled Cymru?

Diolch. Rydych yn amlwg yn cyfeirio at y rôl y mae pobl ifanc yn ei chwarae, yn enwedig mewn ysgolion, yn sbarduno'r newid hwn, a grym plagio, gan na chredaf fod teyrngarwch i oedolion nac i rieni, mae'n debyg, pan nad ydynt yn gwneud hyn. Rwy'n cofio mewn un ysgol, roeddem yn sôn am yr hyn rydych yn ei ailgylchu a pham, ac i ble mae'n mynd, a rhoddodd un ferch fach ei llaw i fyny a dweud, 'Nid yw fy mam yn gwneud hynny.' Felly, credaf fod angen inni sicrhau ein bod yn eu cefnogi yn hynny o beth.

Ni fyddwch yn synnu clywed bod ysgolion eraill wedi bod mewn cysylltiad gan fynegi'r un pryderon ynghylch y poteli llaeth plastig a gwellt plastig. Gwn fod rhai cynlluniau peilot wedi'u cynnal mewn ysgolion mewn rhai ardaloedd awdurdodau lleol i weld beth y gallant ei wneud i yrru hynny yn ei flaen. Ac rwy'n awyddus, os hoffech ofyn i'r ysgol ysgrifennu ataf am yr hyn y maent yn ei wneud, buaswn yn fwy na pharod i ymgysylltu â hwy.

A hefyd, fel rhan o'r hyn a wnaethom wrth gyhoeddi'r ymgynghoriad 'Mwy Nag Ailgylchu', gwnaethom hefyd gyhoeddi cronfa economi gylchol newydd gwerth £6.5 miliwn. Mae'n wahanol i'r un flaenorol, er ei bod yn swnio'r un peth, mae hi mewn gwirionedd ar gyfer awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill, felly gall ysgolion a sefydliadau eraill fod yn rhan o hynny os ydynt yn dymuno. Oherwydd yr hyn a wnaethom o'r blaen oedd gweld pobl ifanc yn sbarduno ymgyrchoedd dros newid, ond mewn gwirionedd, nid yw'r seilwaith yno lle maent hwy i sbarduno'r newid a'r penderfyniadau ymarferol hynny. Felly, edrych mewn gwirionedd ar y ffyrdd gorau y gallwn alluogi a grymuso hynny. Ond os hoffech ysgrifennu ataf ar ran yr ysgol, neu wahodd y plant i ysgrifennu ataf, rwy'n fwy na pharod i ymgysylltu â hwy.

Diolch i'r Dirprwy Weinidog a'r Gweinidog am yr atebion a'r sesiwn gwestiynau yna. Ac felly—[Torri ar draws.]

Iawn. Pwynt o drefn, Mandy Jones.

Diolch. Fe geisiais godi hyn gyda'ch swyddfa yn gynharach, felly diolch am dderbyn y pwynt hwn gennyf.

Cafodd fy swyddfa wybod gan eich swyddfa chi am fwriad i godi pwynt o drefn ychydig funudau cyn i mi adael i ddod i lawr i'r Siambr. Nid wyf wedi cael cyfle i'w adolygu eto, ac rwy’n bwriadu dweud wrthych, ar ôl i chi godi eich pwynt o drefn yma yn gyflym iawn, y byddaf yn ei adolygu wedyn. Rwy'n eistedd yma gyda fy ffôn symudol, ni allaf edrych ar drafodion digwyddiadau'r wythnos diwethaf.

Iawn, ond diolch am dderbyn hyn, Lywydd.

A allech wneud dyfarniad ar Reolau Sefydlog 13.94 a 13.95 ynglŷn ag a oedd ymddygiad Alun Davies yr wythnos diwethaf yn y Siambr yn anghwrtais ac yn amharu ar urddas y lle hwn? Gwaeddodd Alun ar draws y Siambr, 'Rydych chi'n hiliol'. Nawr, yng Nghofnod y Trafodion, mae'r sylw hwn yn dilyn fy enw'n cael ei alw gennych chi, ac nid oeddwn yn rhan o'r sgwrs honno hyd yn oed ar y pryd. Mae hyn yn annerbyniol i mi. Dylai'r Aelodau yma allu gwneud eu pwynt heb fod yn destun bwlio a galw enwau, ac os gwelwch yn dda, hoffwn i sylw Alun gael ei dynnu o'r Cofnod a hoffwn wybod beth yw'r sefyllfa o ran y math hwn o alw enwau.

15:10

Diolch am y pwynt o drefn, a gwnaf, fe wnaf ddyfarniad arno ar ôl i mi adolygu Cofnod y Trafodion ar gyfer trafodion yr wythnos diwethaf. Felly, os gwnewch chi ganiatáu i mi wneud hynny—. Fel y dywedais yn gynharach, ni allaf ei adolygu ar fy ffôn symudol yn y Siambr, er fy mod yn defnyddio cryn dipyn ar fy ffôn symudol weithiau, fel y gŵyr rhai ohonoch sy'n anfon negeseuon testun i mi, ond nid i adolygu trafodion yr wythnos diwethaf. Felly, byddaf yn ystyried hynny maes o law.

3. Cwestiynau Amserol

Cwestiynau amserol.

Mae'r cwestiwn amserol cyntaf, felly, yn cael ei ofyn i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, ac mae'r cwestiwn gan Caroline Jones.

Amddiffyn y Cyhoedd rhag Coronafeirws

1. A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r camau y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a GIG Cymru yn eu cymryd i amddiffyn y cyhoedd rhag coronafeirws? 387

Gwnaf. Mae gan GIG Cymru gynlluniau ar waith i amddiffyn iechyd y cyhoedd. Mae canllawiau penodol ar adnabod, ynysu a chynnal profion ar y firws hwn wedi eu darparu i'n holl staff rheng flaen. Mae Gweinidogion iechyd y DU, prif swyddogion meddygol ac asiantaethau iechyd cyhoeddus o'r pedair gwlad yn cydgysylltu camau gweithredu gyda'i gilydd.

Diolch, Weinidog. Mae'r bygythiad sy'n ein hwynebu yn sgil y math newydd hwn o coronafirws yn achos cryn bryder, ac rwy'n ddiolchgar eich bod wedi amlinellu'r camau y mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i'n cadw'n ddiogel. Mae'n achos pryder y credir bod dros 5 miliwn o bobl wedi gadael Wuhan cyn i'r cwarantin gael ei roi ar waith. Yn anffodus, yn ystod yr wythnosau canlynol, rydym wedi gweld yr achos hwn o coronafirws yn lledaenu, ac mae cyfarwyddwr Iechyd Cyhoeddus Lloegr wedi dweud ei bod yn debygol fod y firws angheuol hwn eisoes wedi cyrraedd y DU. Mae'n rhaid inni wneud popeth a allwn i gyfyngu ar ei effaith ar ein GIG sydd eisoes o dan bwysau. Weinidog, er nad oes gennym unrhyw hediadau uniongyrchol o Tsieina i Gaerdydd, mae cwmnïau hedfan KLM a Qatar yn cynnig hediadau. Pa sicrwydd a gawsoch gan Lywodraethau'r Iseldiroedd a Qatar y byddant yn sgrinio'r holl deithwyr sy'n teithio ymlaen?

Yn anffodus, mae gan y coronafirws hwn gyfnod magu hir, felly bydd gwir raddfa'r bygythiad yn dod yn fwy amlwg dros yr wythnosau nesaf. Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i roi'r newyddion diweddaraf ar lafar yn rheolaidd i'r Siambr, a thrwy hynny, i'r cyhoedd yn ehangach wrth i'r sefyllfa ddatblygu? Diolch.

Ar y pwynt olaf, rwy'n fwy na pharod i gadarnhau, wrth gwrs, y bydd diweddariadau rheolaidd yn cael eu darparu, gennyf fi pan fo angen, ond darperir diweddariadau rheolaidd drwy adran y prif swyddog meddygol ynglŷn â'r camau a gymerir.

O ran pobl yn dod i mewn i'r Deyrnas Unedig, credaf fod y rheini'n faterion sydd y tu hwnt i reolaeth y Llywodraeth hon. Fe fyddwch wedi gweld bod y Swyddfa Dramor a Chymanwlad yn trefnu hediadau uniongyrchol fel y gall gwladolion Prydain ddychwelyd i Lundain ac y bydd y bobl hynny—gair ofnadwy, hen-ffasiwn—yn cael eu rhoi mewn cwarantin; byddant yn cael eu cadw am gyfnod i weld a ydynt yn dangos symptomau. Ac rydym yn ceisio nodi gyda'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad faint o wladolion Cymru a fydd ar yr hediad hwnnw.

O ran y pwyntiau ehangach ynghylch pyrth mynediad, unwaith eto, cytunwyd ar y camau gweithredu, drwy ymgysylltiad blaenorol Ystafell Friffio Swyddfa'r Cabinet Llywodraeth y DU ar byrth mynediad.

Ond hoffwn drafod eich pwynt cyntaf, sy'n ymwneud â'r coronafirws yn y lle cyntaf. Yn amlwg, ceir pryderon dealladwy. Fodd bynnag, credaf y dylai pob un ohonom fod yn ofalus wrth ddisgrifio'r firws penodol hwn; mae'n llai difrifol na'r achosion blaenorol o syndrom anadlu acíwt difrifol, ac roedd llawer o bryderon ynghylch y marwolaethau posibl yn sgil hwnnw. Dyna ein dealltwriaeth ar hyn o bryd. Ar hyn o bryd, asesir bod y risg i'r DU yn isel. Ond mae'r camau sy'n cael eu cymryd yn gamau rhagflaenorol i geisio rhoi sicrwydd i'n staff, ond hefyd i'r cyhoedd yn ehangach. Yn sicr, nid wyf am ychwanegu at yr argraff fod perygl mwy sylweddol i iechyd ar ei ffordd na'r hyn sy'n debygol.

Er y gwyddom fod y ffliw'n gwneud pobl yn ddifrifol wael ac yn lladd pobl bob blwyddyn, serch hynny mae'n werth ystyried, er enghraifft, ein bod yn dal i fethu perswadio pobl sydd mewn categori lle gallant gael brechlyn am ddim gan y GIG i wneud hynny yn y niferoedd y byddem yn dymuno'u gweld. Felly, gadewch i ni gael rhywfaint o bersbectif ar y mater. Fe fyddwn yn bwyllog, yn sicr ni fyddwn yn hunanfodlon, a bydd yr ymgysylltu rhwng Gweinidogion iechyd pedair Llywodraeth y DU yn parhau yn y ffordd y byddai pob un ohonoch yn ei disgwyl, yn union fel y bydd y cyswllt rheolaidd rhwng ein pedwar prif swyddog meddygol yn parhau hefyd.

Diolch yn fawr iawn, Weinidog. A dweud y gwir, rydych wedi ateb y rhan fwyaf o'r cwestiynau roeddwn am eu gofyn. Cyfarfûm â'r Ysgrifennydd Gwladol yr wythnos diwethaf a dywedodd yn glir iawn fod cryn dipyn o waith ar y cyd yn mynd rhagddo a'i fod yn mynd yn dda iawn. Fy unig gwestiwn fyddai: a oes gan Gymru unrhyw gynlluniau ar waith ar gyfer canolfan driniaeth frys, rhag ofn i ni gyrraedd sefyllfa lle mae hyn yn datblygu ymhellach? A buaswn yn ymuno â chi i annog pobl i beidio â chynhyrfu gormod am hyn gan nad ydym am godi bwganod.

15:15

Ie, o ran y rhan fwyaf o'r driniaeth, mae hynny'n rhan o rwydwaith o waith ledled y DU, yng Nghymru a thu hwnt, lle byddai pobl yn cael eu trin pe baent yn cael canlyniad positif. Mae'n werth nodi hefyd fod pob unigolyn a brofwyd yn y Deyrnas Unedig hyd yma wedi cael canlyniad negyddol. Felly, nid oes gennym achos wedi'i gadarnhau yn unman yn y Deyrnas Unedig, ond o ran y sicrwydd, oes, mae gennym drefniadau ar waith ar gyfer triniaeth pe baem yn gweld canlyniad positif, waeth ble fyddai'r unigolyn yn y DU, ac mae Cymru'n sicr yn rhan o'r trefniadau hynny. Mewn gwirionedd, mae hynny'n rhan o'r sgwrs a gafodd ein prif swyddog meddygol ac yn rhan o'r sgwrs roedd Gweinidogion y DU am gael sicrwydd yn ei chylch yn yr alwad COBRA ddiwethaf y cymerais ran ynddi yr wythnos diwethaf.

Dwi’n croesawu eich apêl ar i bawb gael rhywfaint o bersbectif ynglŷn â’r mater yma. Wrth gwrs bod eisiau ei gymryd o ddifri, ond hefyd fod yn realistig ynglŷn â lefel y perygl. Mi wnaf ofyn hyn: ydy hi’n amser da rŵan i atgoffa pobl ac o bosib i roi rhywfaint o adnoddau i mewn i agweddau cyffredinol ar lendid personol a rheolaeth infections ac ati? A hynny nid yn unig mewn ysbytai ond mewn sefydliadau eraill, ac nid dim ond fel paratoad ar gyfer os ydy coronavirus yn dod yma, ond yn gyffredinol mae o’n arfer da. Wedi’r cyfan, mae’r annwyd cyffredin yn cael ei ledaenu mewn ffordd debyg ac yn gallu arwain at gymhlethdodau difrifol ar rai adegau.

Mae yna gysylltiad rhwng Wuhan a Chymru hefyd, wrth gwrs, ers rhyw 150 o flynyddoedd ers i’r cennad Griffith John fynd i Wuhan a sefydlu'r ysbyty yno—yr Wuhan Union Hospital—sy’n un o ysbytai mwyaf Tsieina, efo 5,000 o welyau yn trin dros 3 miliwn o bobl yn flynyddol. Mae hynny’n golygu wrth gwrs fod yna draffig i Abertawe, dinas lle'r oedd Griffith John yn hanu ohono fo. Mae yna draffig o Tsieina i’r fan honno oherwydd y cysylltiad uniongyrchol efo Wuhan. Felly, dwi yn croesawu’r hyn rydych chi’n ei ddweud ynglŷn â’r angen i fod yn gweithio ar draws Prydain, i fod â chamau priodol mewn lle mewn meysydd awyr.

O ran porthladdoedd, cwestiwn sydd wedi’i godi efo fi gan y BMA—fe wnaf i ei basio fo ymlaen atoch chi—maen nhw’n gofyn tybed a oes yna oblygiadau sydd angen eu hystyried oherwydd ein hymadawiad ni o’r Undeb Ewropeaidd y gallai fod yna newidiadau i ddisgwyliadau o ran rheolaeth ffiniau, a newidiadau o bosib yn y disgwyliadau ar Lywodraeth Cymru dan y drefn newydd wrth adael yr Undeb Ewropeaidd, o ran sicrhau gwarchodaeth iechyd i’r cyhoedd yng Nghymru. Ydy hynny’n rhywbeth y mae’r Llywodraeth wedi rhoi ystyriaeth iddo fo?

Dwi’n meddwl bod hynny’n cwblhau’r cwestiynau am rŵan ond, fel dwi’n dweud, mae’n bwysig cael persbectif wrth baratoi, wrth gwrs, yn y cefndir rhag ofn i bethau gamu fyny yn fwy difrifol nag yr ydyn ni’n meddwl y gwnân nhw ar hyn o bryd.

Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau. Mae'r gallu i gyfathrebu rhwng gwledydd Ewropeaidd ar faterion iechyd cyhoeddus yn rhywbeth y soniwyd amdano yn ystod y tair blynedd diwethaf a bydd angen i ni weithio o hyd i ganfod sut y byddwn yn cynnal y system orau bosibl ar gyfer amddiffyn y cyhoedd. Mae heriau i'w cael mewn perthynas â hynny.

Heddiw, fodd bynnag, ac ar gyfer y sefyllfa bresennol, mae'n ffaith ein bod yn dal i allu cydweithredu a rhannu gwybodaeth mewn ffordd sydd o fudd i ni. Credaf fod y pwynt ynglŷn â'r ffaith bod rhywfaint o draffig rhwng Cymru a Wuhan wedi’i gydnabod. Mewn gwirionedd, gwelsom adroddiadau yn y cyfryngau am ddinasyddion o Gymru sydd allan yno ac sy'n awyddus i gael lle ar yr awyren y soniais amdani.

Ond y cyngor sy'n cael ei roi nid yn unig ledled Cymru, ond ledled y DU, yw y dylai unrhyw un sydd wedi dychwelyd o Wuhan yn y 14 diwrnod diwethaf aros dan do ac osgoi dod i gysylltiad â phobl eraill, fel y byddech yn ei wneud gyda firysau ffliw eraill; i gysylltu â Galw Iechyd Cymru neu 111 Cymru, os yw ar gael yn eich ardal chi—mae 111 Cymru ar gael ym myrddau iechyd Hywel Dda, Powys, Aneurin Bevan a Bae Abertawe—i roi gwybod iddynt am eich taith ddiweddar; ac i ddilyn y cyngor hwnnw hyd yn oed os nad oes gennych symptomau ar hyn o bryd, ac unwaith eto, os oes unrhyw un yn datblygu twymyn, trafferth anadlu neu beswch, i barhau i ddilyn y cyngor hwnnw a pheidio â gadael eu cartref tan eu bod wedi cael cyngor i wneud hynny gan glinigydd.

Felly, rydym yn mabwysiadu ymagwedd briodol o ragofalus. Mae hynny'n dangos ein bod o ddifrif ynglŷn â'r mater, ond nad ydym am fynd i banig nad yw'r sefyllfa ar hyn o bryd yn ei gyfiawnhau, a rhoi'r sicrwydd y bydd gwybodaeth yn cael ei darparu. Mewn gwirionedd, mae prif swyddog meddygol Lloegr yn cyhoeddi gwybodaeth bob dydd yn rheolaidd ar ran pob un o'r pedwar prif swyddog meddygol ar y sefyllfa bresennol. Credaf ei bod yn bwysig fod Llywodraethau'r DU mor agored â phosibl ynghylch y sefyllfa bresennol, fel nad yw pobl yn poeni mewn gwactod, sy'n aml yn arwain at ymateb anffodus gan y cyhoedd.

15:20

Rwy'n bryderus iawn, fel rhai o fy etholwyr, am y coronafirws. Mae'r nifer o farwolaethau wedi codi i 106, ac mae nifer yr heintiau bellach yn fwy na 4,500, ac mae'r firws wedi lledu ar draws Tsieina ac i o leiaf 16 gwlad. Nawr, rwy'n deall y teimlad ynglŷn â pheidio â mynd i panig, ond yr un peth sy'n rhaid i mi fod yn sicr ohono yw bod gennym gynlluniau wrth gefn yn eu lle. Yn ystod y pryderon diwethaf ynghylch ffliw moch a'r epidemig hwnnw, gwn fod yna rai pryderon lle bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddibynnu'n fawr ar gefnogaeth gan Lywodraeth y DU. Mewn gwirionedd, ni fuaswn yn bychanu risg y firws SARS, lle gwn yn bersonol am bobl a fu farw oherwydd y firws hwnnw ac a fu bron â marw oherwydd y firws hwnnw. Felly, rydym yn trafod pethau difrifol yma heddiw.

Mae hwn bron â bod yn argyfwng byd-eang. Mae 47 o achosion wedi'u cadarnhau y tu allan i Tsieina, gyda thri o'r rhain yn Ffrainc. Yr wythnos diwethaf, pan ddechreuais bryderu'n fawr yn nghanol yr wythnos, cyflwynais gwestiwn ysgrifenedig y Cynulliad i chi—a hoffwn ddiolch i Caroline Jones am godi hyn heddiw, oherwydd fel sefydliad, dylem fod yn dadlau ac yn trafod hyn—yn gofyn pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd mewn ymateb i ymlediad y coronafirws. Nid wyf wedi derbyn ymateb eto. Gwn fod Rhun wedi sôn am feysydd awyr. Gwn fod y lleoliadau gofal sylfaenol ac eilaidd wedi cael eu crybwyll—

Nid oes angen i chi ddarparu crynodeb o'r hyn a ofynnwyd eisoes, Janet Finch-Saunders. Gofynnwch eich cwestiynau.

Fy mhryderon, Weinidog, yw ei bod yn ymddangos bod y firws yn lledu fel ffliw arferol yn ystod ei gyfnod magu a chyn i unrhyw symptomau ymddangos. Felly, sut y credwch y gallwn helpu gweithwyr meddygol proffesiynol a'r cyhoedd i ddod yn ymwybodol o hyn pan geir y symptomau cynharaf? Os a phan fydd yr achos cyntaf yn y DU yn cael ei gadarnhau, bydd prif swyddog meddygol y wlad yr effeithir arni yn cyhoeddi hynny cyn gynted â phosibl, a bydd datganiad gan brif swyddog meddygol Lloegr yn dilyn hynny. Felly, hoffwn glywed eto eich bod chi'n bersonol yn cael trafodaethau cyson iawn ynglŷn â hyn gyda Llywodraeth y DU.

Yn olaf, efallai eich bod yn ymwybodol fod digwyddiad i ddathlu'r flwyddyn newydd Tsieineaidd yn Abertawe wedi'i ganslo oherwydd ofnau ynglŷn â'r coronafirws. Felly, a wnewch chi ymuno â mi i anfon neges o gefnogaeth i bobl Tsieina a phobl Tsieineaidd yng Nghymru, a Tsieina yn fyd-eang, ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru, os nad Llywodraeth Cymru?

Wel, credaf ei bod yn bwysig cadw synnwyr o bersbectif. Rydym o ddifrif ynglŷn â hyn, nid ydym yn hunanfodlon, ond nid ydym am gael ymateb sy'n gwneud i bobl fynd i banig. Rydym wedi rhoi mesurau penodol ar waith gyda'n gilydd ar draws pedair Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Fel y dywedais, nid oes ochr wleidyddol i hyn. Mae'r pedair Llywodraeth yn gweithredu mor gyfrifol ag y dylem ar ran y cyhoedd rydym yn eu gwasanaethu.

Felly, rydym wedi mynd ati'n rhagweithiol i ddarparu gwybodaeth mewn meysydd awyr rhyngwladol a phrif borthladdoedd. Mae set o wybodaeth ar bosteri, er enghraifft, a osodir mewn sefydliadau addysg uwch. Daw llawer o'r traffig sydd gennym drwy fyfyrwyr a staff yn y sector addysg uwch. Felly, rydym yn edrych yn benodol ar ardaloedd lle gallwn gael yr effaith fwyaf heb boeni'r cyhoedd mewn ffordd sy'n anghymesur â'r risg. Mae yna risg wirioneddol, ac nid wyf yn awgrymu fel arall. Mae yna risg wirioneddol, ond gadewch i ni beidio ag ymateb mewn ffordd a fydd yn ychwanegu mwy o danwydd at y tân a phryderon diangen.

Fel y dywedais mewn ymateb i Rhun ap Iorwerth, rhoddwyd cyngor ynglŷn â sut y dylai pobl ymddwyn: osgoi cyswllt os ydynt wedi dychwelyd o Wuhan yn ystod y 14 diwrnod diwethaf, a chysylltu â Galw Iechyd Cymru neu 111. Mae dilyn y cyngor hwnnw, hyd yn oed os nad oes ganddynt symptomau, yn bwysig iawn. Nid mater i wladolion Tsieina sy'n byw yng Nghymru yn unig yw hwn. Mae'n fater i bob un ohonom, o ran y cyswllt a gawn. Bydd y GIG yng Nghymru yn parhau i wneud yr hyn y dylai ei wneud, a bydd y Llywodraeth yn parhau i weithredu ar y cyd â'r tair Llywodraeth arall ledled y DU i wneud popeth y gallem ac y dylem ei wneud ar ran pobl yma yng Nghymru a thu hwnt.

15:25

Diolch i'r Gweinidog am yr ateb i'r cwestiwn amserol yna. 

Felly, yr ail gwestiwn amserol, eto i'r un Gweinidog, a'r cwestiwn hynny gan Leanne Wood.

Gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg

2. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ateb y galw am wasanaethau damweiniau ac achosion brys yn y Rhondda a thu hwnt os caiff gwasanaethau 24 awr yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg eu gostwng? 386

Diolch am eich cwestiwn. Fel y gwyddoch, mae'r bwrdd iechyd yn gyfrifol am ddarparu gofal iechyd diogel a chynaliadwy ar gyfer ei boblogaeth leol, gan gynnwys mynediad amserol at wasanaethau gofal brys i'r rhai sydd eu hangen.

Yr wythnos diwethaf, cawsom y newyddion fod y rhaglen de Cymru ofnadwy yn cael ei hatgyfodi ar ôl chwe blynedd, o ran cyfluniad adrannau damweiniau ac achosion brys. Golyga hyn yr argymhellir cael gwared ar wasanaethau dan arweiniad meddygon ymgynghorol o Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn Llantrisant. Yn ystod yr un sesiwn friffio, dywedwyd wrthym mai Ysbyty Brenhinol Morgannwg sydd â'r adran damweiniau ac achosion brys brysuraf o'r tri ysbyty cyffredinol dosbarth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Bydd yr adran damweiniau ac achosion brys yn colli ei meddyg ymgynghorol olaf ddiwedd mis Mawrth; ar ôl hynny, bydd yn gwbl ddibynnol ar feddygon ymgynghorol locwm. Mewn cyferbyniad, mae gan Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr wyth meddyg ymgynghorol yn yr adran damweiniau ac achosion brys, ac mae gan Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful yr hyn sy'n gyfwerth â phedwar meddyg ymgynghorol a hanner yn yr adran damweiniau ac achosion brys. Mae llawer o bobl yn cwestiynu sut a pham y caniatawyd i'r gwahaniaeth hwn ddatblygu. Mae pobl hefyd yn cwestiynu a fyddant yn gallu cyrraedd ysbyty mewn pryd mewn argyfwng. Rwyf wedi clywed gan bobl yr wythnos hon sy'n dweud y byddent wedi marw, neu'n waeth byth—y byddai eu plentyn wedi marw—pe baent wedi cael eu gorfodi i deithio ymhellach nag Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

Canfu arolwg ychydig flynyddoedd yn ôl mai llai na hanner y bobl a holwyd yng Nghymru a oedd yn gwybod bod iechyd yn faes sydd wedi'i ddatganoli. Felly, nid oes llawer o bobl yn gwybod mai Llafur sy'n gyfrifol am y GIG yng Nghymru, ac wedi bod yn gyfrifol amdano ers dechrau datganoli ym 1999. Gan fod gennych gyfrifoldeb am iechyd yng Nghymru, a'ch bod yn aelod o'r blaid wleidyddol sydd wedi bod yn gyfrifol am iechyd yng Nghymru ers degawdau, beth allwch chi ei ddweud wrth y bobl yn y Rhondda sy'n credu y bydd y penderfyniad hwn yn costio mewn bywydau? A wnewch chi ysgwyddo'r cyfrifoldeb amdano, a sut rydych yn cyfiawnhau gwneud i bobl deithio ymhellach mewn sefyllfa lle mae bywyd yn y fantol?

Wel, credaf ei bod yn bwysig nodi mai diogelwch y gwasanaeth yw'r flaenoriaeth gyntaf i'r bobl sy'n gweithio yn y gwasanaeth, yn ei weithredu a'i ddarparu ac yn gyfrifol amdano—o fi i'r prif weithredwr, i'r cyfarwyddwr meddygol, i'r staff rheng flaen. Ac mae’r papur y bydd y bwrdd yn ei ystyried yfory, yn enw’r cyfarwyddwr meddygol, yn nodi’r risgiau sy’n bodoli, ac mai’r risg, mewn gwirionedd, yw bod llawer mwy o risg o ran diogelwch ac ansawdd y gwasanaeth wrth barhau i geisio cynnal gwasanaeth heb unrhyw feddygon ymgynghorol parhaol ar waith.

Ac o ran nifer y meddygon ymgynghorol a ble maent wedi'u lleoli ar hyn o bryd—mae pobl yn gwneud dewisiadau ynglŷn â ble maent yn gweithio, ac ni allwn orfodi pobl i symud o un adran i'r llall. Nid oes a wnelo hyn â'r bwrdd iechyd yn gwrthod ceisio recriwtio i Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Nid oes a wnelo hyn â bod digon o feddygon yn barod i weithio. Mewn gwirionedd, mae'r her yn ymwneud â nifer y staff sydd gennym, a gall meddygon ymgynghorol adrannau achosion brys symud i swyddi mewn gwahanol rannau o Gymru a thu hwnt, ac fel y gwelsom mewn rhannau eraill o'r DU, mae pobl yn gwneud y dewisiadau gweithredol hynny. Yr her yw: a ydym yn barod i gynnal ein gwasanaeth iechyd ar y sail mai diogelwch ac ansawdd yw'r prif ystyriaethau, neu a ydym yn gosod premiwm gwahanol ar leoliad gwasanaethau?

Ac o ran yr enghreifftiau a roesoch lle byddai pobl yn dweud y gallent golli eu bywydau—dyna'r math o iaith y mae pobl yn ei defnyddio pan fydd pobl yn pryderu, ac mae hynny'n gwbl ddealladwy, ond ni chredaf fod hynny o reidrwydd yn arwain at ddadl resymegol, oherwydd pe bai rhywun mewn perygl gwirioneddol o golli eu bywyd, dylent fod o dan amodau golau glas i fynd i'r man mwyaf priodol ar gyfer eu gofal, ni waeth pa mor agos neu bell yw hynny, boed hynny mewn hofrennydd neu ar y ffordd.

Ein her yw sut i gael patrwm rheolaidd o wasanaethau sy'n gynaliadwy, yn wirioneddol ddiogel ac a fydd yn para i'r dyfodol ac yn recriwtio staff i mewn iddo. Ac yn y pedwar opsiwn a gyhoeddwyd yn adroddiad y cyfarwyddwr meddygol gweithredol, nodir dau opsiwn y dywed y cyfarwyddwr meddygol nad ydynt yn ymarferol nac yn gynaliadwy. Mae'n nodi'r heriau a oedd yn bodoli pan gytunwyd ar raglen de Cymru—[Anghlywadwy.]—wedi gwaethygu, ac mae'n nodi dau opsiwn y maent yn argymell bod y bwrdd yn eu hystyried er mwyn ymgysylltu'n briodol â'r cyhoedd a rhanddeiliaid ehangach, gan gynnwys cynrychiolwyr etholedig. Dyna rwy'n ei ddisgwyl gan y bwrdd iechyd: eu bod o ddifrif ynglŷn â'u cyfrifoldebau, yn wynebu'r heriau sy'n cael effaith wirioneddol ar ddiogelwch cleifion heb eu hosgoi, yn ymgysylltu'n briodol â'r cyhoedd a rhanddeiliaid ehangach ynghylch beth y mae pob un o'r pethau hynny yn ei olygu, a beth y byddwch yn ei gael mewn gwirionedd o ran ble mae gwasanaethau wedi'u lleoli, a'r ansawdd y byddai pob un ohonom yn ei ddisgwyl i ni ein hunain a'n teuluoedd.

15:30

Rwy'n sylweddoli bod heriau ar draws y bwrdd iechyd ond o ran staffio yn arbennig. Ond yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yma, yn amlwg, yw bod y penderfyniadau sydd wedi'u gwneud ar ddarpariaeth damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn seiliedig ar raglen de Cymru. Lleolir Ysbyty Brenhinol Morgannwg mewn ardal â dwysedd poblogaeth uchel, gyda phoblogaeth sy'n tyfu a galw cynyddol. Nawr, rwy'n cymryd mai'r bwrdd iechyd sydd â'r swyddogaeth o ddydd i ddydd o weithredu gwasanaethau iechyd yn ei ardal, ond yn amlwg, chi fel Gweinidog a'ch swyddogion ym Mharc Cathays sy'n gosod strategaeth a chyfeiriad y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru. Yn seiliedig ar raglen de Cymru, ni fyddai unrhyw feddyg ymgynghorol wedi mynd i Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar y sail fod y gwasanaeth yn mynd i gael ei israddio.

Weinidog, a gaf fi ofyn i chi ymyrryd yn bersonol fel y Gweinidog sy'n gyfrifol am gyfeiriad strategol y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru, a mynnu bod y bwrdd iechyd yn ailwerthuso eu hargymhellion ac yn cadw darpariaeth damweiniau ac achosion brys 24 awr yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, oherwydd mae pob dangosydd yn dynodi bod honno'n ardal lle ceir galw cynyddol am y gwasanaeth hwnnw, a byddai dileu gwasanaeth o'r fath yn drychinebus i'r ardal y mae'n ei gwasanaethu? Gallwch wneud hynny, Weinidog. Os dewiswch beidio, rwy'n parchu hynny, ond byddwch yn troi eich cefn ar y cymunedau sy'n byw yn yr ardal honno ac yn dibynnu ar Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Ac mae'n bryd bellach i'r bwrdd iechyd yn yr ardal honno ailwerthuso'r opsiynau sydd ar gael iddo, ac yn arbennig y penderfyniadau a wnaeth ynghylch rhaglen de Cymru, y buaswn yn awgrymu eu bod wedi dyddio erbyn heddiw, gan iddynt gael eu gwneud chwe blynedd yn ôl.

Wel, diolch am y cwestiynau, ond y gwir yw, os ydych chi wedi darllen drwy'r papur gan y cyfarwyddwr meddygol gweithredol am yr heriau y maent yn eu hwynebu, mae'n nodi, os rhywbeth, fod y rhesymau a'r sail resymegol wrth wraidd y rhaglen wedi tyfu yn eu nifer yn hytrach na lleihau. Ac nid wyf yn derbyn bod pob dangosydd yn awgrymu y bydd newid ôl-troed gwasanaethau yn yr ysbyty hwn yn cael y canlyniadau enbyd a nodwyd gennych—ddim o bell ffordd. Mae'r cyfarwyddwr meddygol gweithredol yn nodi'r angen a'r sail resymegol ar gyfer mynd i'r afael â'r mater.

Nawr, nid ydym yn sôn am eich barn chi na fy marn i fel gwleidydd. Rydym yn sôn am y cyfarwyddwr meddygol gweithredol sydd â chyfrifoldeb uniongyrchol ar lawr gwlad, a'r gallu iddo ef a'r tîm cyfan o fewn y bwrdd iechyd hwnnw i wneud y peth iawn ac i wneud dewisiadau yn seiliedig ar y gwasanaeth cywir, ac i ddarparu'r ansawdd cywir a'r diogelwch ar gyfer y gwasanaeth hwnnw. Ac rwy'n credu ei bod hi'n gwbl anghywir i wleidyddion yma, yn fy sedd i neu unrhyw sedd arall geisio mynnu bod y bwrdd iechyd yn parhau i weithredu gwasanaeth, lle maent yn glir iawn y bydd diogelwch y gwasanaeth hwnnw'n cael ei beryglu os nad ydynt yn gwneud newidiadau.

Weinidog, yn ystod rhaglen de Cymru, bûm yn ymgyrchu gydag Aelodau Cynulliad eraill ac Aelodau Seneddol i gadw gwasanaeth damweiniau ac achosion brys yn llwyddiannus yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Felly, chwe blynedd yn ddiweddarach, rwyf unwaith eto'n rhannu'r pryder cyffredinol ynghylch yr argymhellion newydd hyn i ystyried nifer o opsiynau, gan gynnwys y posibilrwydd o israddio neu gael gwared ar wasanaethau damweiniau ac achosion brys.

Nawr, gallai fod yn angenrheidiol ac yn briodol i wneud addasiadau tymor byr i'r ddarpariaeth o wasanaethau iechyd er mwyn cadw cleifion yn ddiogel wrth gwrs, ond yn yr achos hwn, credaf ei bod yn hanfodol i Ysbyty Brenhinol Morgannwg barhau i gynnig gwasanaeth damweiniau ac achosion brys cadarn ymhell i'r dyfodol. Nawr, er ei bod yn bwysig nodi bod yr adolygiad hwn yn cael ei hyrwyddo gan glinigwyr, ac nad yw'n ymwneud ag arian, mae chwe blynedd bellach ers rhaglen de Cymru, sef y man cychwyn ar gyfer adolygiad y bwrdd iechyd, ac mae llawer wedi newid ers hynny. Erbyn hyn ceir nifer gymhleth o ffactorau, ac mae angen eu deall yn llawn, gan gynnwys yr her o recriwtio meddygon ymgynghorol, y galw cynyddol ar wasanaethau golau glas a'r cynnydd sylweddol yn y galw am wasanaethau damweiniau ac achosion brys, a'r cynnydd enfawr yn nifer y tai a'r twf yn y boblogaeth yn yr ardal gyfagos.

Felly, rwy'n mynd i ofyn eto i'r Gweinidog ymyrryd ar frys yn y mater hwn i ymrwymo i gefnogi adolygiad llawn o raglen de Cymru cyn ystyried unrhyw newidiadau i'r ddarpariaeth damweiniau ac achosion brys.

Rwy'n cydnabod y pwynt y mae Aelodau ar draws y pleidiau'n ei wneud, ac rwy'n ailadrodd mai'r her yma yw deall sut y mae gennym wasanaeth gwirioneddol ddiogel sydd ar gael i etholwyr ledled y wlad, a beth y mae hynny'n ei olygu o ran naill ai ceisio newid model gwasanaeth, lle mae pobl yn dweud yn rheolaidd eu bod yn pryderu am ddiogelwch newid y model hwnnw, ond i'r un graddau, yr her o geisio cynnal model gwasanaeth os na allwch ei staffio a'i weithredu'n ddiogel. Ac yn y newidiadau ers hynny, mae adroddiad y cyfarwyddwr meddygol gweithredol y bydd y bwrdd yn ei ystyried yfory yn nodi ystod o'r ffactorau y cyfeirioch chi atynt ynghylch y cyd-destun cyfnewidiol y darparwyd gofal iechyd o'i fewn, ynghylch y newidiadau yn y ffordd y mae'r bwrdd iechyd wedi darparu rhai gwasanaethau, ac yn y pedwar opsiwn a nodir yn y papur hwnnw i'r bwrdd eu hystyried.

Nawr, unwaith eto, nid fy lle i fel gwleidydd yn y sefyllfa hon yw ceisio newid y dystiolaeth weithredol a'r ddealltwriaeth o'r hyn sy'n digwydd, a rhaid iddo fod yn ymgysylltiad priodol â'r cyhoedd yn ehangach a rhanddeiliaid, gan gynnwys chi a chynrychiolwyr etholedig eraill, am y gwahanol ffactorau y byddwch am weld y bwrdd iechyd yn rhoi sylw iddynt. Mae hynny'n cynnwys y gallu i recriwtio a chadw staff yn unrhyw rai o'r modelau arfaethedig, gan gynnwys y gallu i geisio cadw hynny yn y model presennol—mae'r bwrdd iechyd eu hunain yn dweud nad ydynt yn meddwl y gallant wneud hynny—beth y mae hynny'n ei olygu i bobl, sut y mae pobl yn cael gofal, a pha ofal a fydd ar waith ac yn dal i fod ar gael ar safle Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae'r rhain i gyd yn faterion rwy'n disgwyl i'r bwrdd iechyd eu nodi yn ei ymgynghoriad, a nodi'n eglur sut y mae'n bwriadu gwneud y dewisiadau hynny pan fydd yn rhaid iddo ddychwelyd, o gofio y bydd y meddyg ymgynghorol parhaol olaf yn gadael ei swydd ddiwedd mis Mawrth. Mae brys gwirioneddol i hyn, ac nid yw'n rhywbeth y gellid neu y dylid ei ohirio; rwy'n disgwyl i'r bwrdd iechyd wneud ei waith yn iawn, gyda'r cyhoedd a'i staff, a darparu ateb ar gyfer y dyfodol.

15:35

Weinidog, mae hwn yn fater sy'n peri pryder mawr i fy etholwyr. Mae'r rhai sy'n byw yng Nghilfynydd, Glyn-coch ac Ynys-y-bŵl yn dibynnu'n uniongyrchol ar y cyfleusterau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, tra bod gweddill fy etholwyr, sy'n dibynnu ar ddarpariaeth damweiniau ac achosion brys Ysbyty'r Tywysog Siarl, yn poeni'n briodol am y pwysau ychwanegol a allai fod ar gyfleusterau yno pe bai’r adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn cael ei chau neu ei hisraddio. Mewn cyfarfod o Aelodau'r Cynulliad, ASau ac arweinwyr cynghorau ddydd Gwener diwethaf, siaradodd y bwrdd iechyd yn onest iawn am y problemau y maent yn eu hwynebu gyda chynaliadwyedd gwasanaethau yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, gyda'r adran damweiniau ac achosion brys yno’n cael ei chynnal, fel y dywedoch chi, gan un meddyg ymgynghorol parhaol a thri locwm, a bod un meddyg ymgynghorol bellach yn mynd i fod yn ymddeol yn gynt, gan adael y gwasanaeth mewn cyflwr a allai fod yn anghynaladwy.

Cawsom ein sicrhau gan y bwrdd iechyd iddynt fod yn rhan o broses recriwtio agored a pharhaus ers sawl blwyddyn, ond eu bod, er hynny, wedi methu recriwtio meddyg ymgynghorol arall. Pa gymorth y gallech chi fel Gweinidog iechyd ei roi i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg i helpu i gryfhau eu hymgyrch recriwtio ac annog meddygon ymgynghorol i ymgymryd â'r swyddi gwag hyn yn yr ysbyty? Pa adnoddau y gellid eu darparu i Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr, ac Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, i helpu i sicrhau bod eu hadrannau damweiniau ac achosion brys yn gallu ateb y galw ychwanegol a fyddai arnynt pe bai’r adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn cael ei chau neu ei hisraddio?

Ac yn olaf, rydym i gyd yn gwybod y gallai rhai pobl sy'n cyrraedd adrannau damweiniau ac achosion brys gael eu trin yn well mewn uned fân anafiadau, a all wneud cymaint mwy na thrin mân anafiadau—megis trin esgyrn sydd wedi torri, er enghraifft. Ond mae cau unedau mân anafiadau, neu leihau oriau fel y gwelsom yn digwydd yn rhai ohonynt, fel Ysbyty Cwm Cynon yn fy etholaeth i, yn gadael cleifion heb fawr o ddewis ond mynd i'r adran damweiniau ac achosion brys. Felly fel rhan o'r cynigion hyn ar gyfer Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i weithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, i archwilio'r posibilrwydd o gryfhau unedau mân anafiadau mewn ysbytai cymunedol fel Ysbyty Cwm Cynon ac Ysbyty Cwm Rhondda, a thrwy hynny ddod â gwasanaethau iechyd yn agosach at y bobl a lleddfu pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys?

Diolch am y cwestiynau hynny. Rwy'n credu bod her ynghlwm wrth y model gwasanaeth y mae'r bwrdd iechyd yn ei argymell ac y byddant yn mynd ati i’w ystyried gyda rhanddeiliaid. Oherwydd mae un o'r opsiynau posibl y maent yn ei nodi yn ymwneud â llai o wasanaeth gan feddygon ymgynghorol, ond cael darpariaeth mân anafiadau yn lle hynny. Ac mae’n her sy'n ymwneud â sicrhau bod y cyhoedd yn deall yr ystod o wasanaethau mân anafiadau sydd ar gael—yn fy ymweliad diweddar ag Ysbyty Castell-nedd Port Talbot gyda David Rees, gwelais wasanaeth rhagorol dan arweiniad nyrs, dan arweiniad nyrs ymgynghorol, ac ystod eang o weithgaredd y byddech, heb fod yn hir iawn yn ôl, wedi disgwyl iddo gael ei ddarparu mewn uned achosion brys dan arweiniad meddyg.

Felly mae yna her yn codi mewn perthynas â dealltwriaeth y cyhoedd, ond yn yr un modd ynglŷn â sut y mae'r gwasanaeth iechyd yn helpu pobl i gyrraedd y lle iawn. Ac os ydych chi yng nghefn ambiwlans, nid oes angen i chi boeni i ble rydych chi'n cael eich cludo am mai gwaith y gwasanaeth yw mynd â chi i'r lle iawn i gael y gofal sydd ei angen arnoch. Ac mae'n ymwneud wedyn â sut rydym yn helpu'r cyhoedd i wneud eu dewisiadau eu hunain, os ydynt yn mynd i gyrraedd safle ysbyty eu hunain. Ond yr ysgogiad ar gyfer hyn yw'r newid yn y staff, a beth y mae hynny'n ei olygu i'r gwasanaeth. Ac rwy'n dychwelyd eto—ym mhapur y cyfarwyddwr meddygol, mae'n tynnu sylw at y ffaith ei bod yn fwyfwy anghynaladwy, ac na ellir cynnal gwasanaethau diogel y tu hwnt i'r tymor byr uniongyrchol heb risgiau annerbyniol i ddiogelwch cleifion. Ac nid wyf yn credu y gall unrhyw wleidydd, mewn unrhyw blaid—yn y Llywodraeth neu'r tu allan iddi—anwybyddu'r rhybudd uniongyrchol a roddir gan y cyfarwyddwr meddygol sydd â goruchwyliaeth dros y ddarpariaeth feddygol trwy'r bwrdd iechyd. Felly, yr her yw sut y maent yn ystyried y pwyntiau a wnewch yn awr am y gwahanol gwestiynau, am y gwasanaethau a ddarperir, ble y'u darperir a sut y'u darperir, ac os bydd newid ar safle Ysbyty Brenhinol Morgannwg, beth y mae hynny'n ei olygu nid yn unig i'r ddau ysbyty yn yr un bwrdd iechyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr a Merthyr, ond hefyd yr hyn y mae'n ei olygu o bosibl yn y llif i lawr i Gaerdydd hefyd.

Felly, mae yna her sy'n un resymol nad yw'n ymwneud â'r bwrdd iechyd yn unig, ac rwy'n disgwyl iddynt ei hegluro'n agored ac yn dryloyw. Ac rwy'n credu y bydd yr ymgysylltiad â staff, yn ogystal â'r cyhoedd, yn bwysig iawn o fewn hynny, oherwydd bydd gan staff safbwyntiau clir iawn am ddiogelwch a chynaliadwyedd eu gwasanaeth, ac mae hynny'n aml yn ddefnyddiol wrth ddylanwadu ar y ffordd y dylai, ac na ddylai newid i'r gwasanaeth ddigwydd. Nid yw'n ymwneud ag arian, nid yw'n ymwneud ag ewyllys gwleidyddol i gynnal y gwasanaethau presennol—mae'n ymwneud mewn gwirionedd â beth yw'r gwasanaeth cywir i'w ddarparu a sut rydych chi'n darparu'r math o ofal rwyf fi ei eisiau ar gyfer fy nheulu ac y mae pob un ohonom ei eisiau ar gyfer ein teuluoedd a'n hetholwyr.  

15:40

Diolch, Lywydd. Mae Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn gwasanaethu fy etholwyr o ardaloedd Llanharan a Gilfach Goch ac Evanstown, er bod Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sydd hefyd o fewn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg bellach, yn hanfodol bwysig i'r rheini ac i etholwyr eraill. Felly, er na all yr un ohonom, fel Aelodau cyfrifol o’r Senedd, anwybyddu goblygiadau ymddeoliad yr unig feddyg ymgynghorol parhaol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg sydd ar fin digwydd yn gynharach na'r disgwyl, a'r ddibyniaeth yn sgil hynny ar feddygon locwm, mae gan fy etholwyr gwestiynau sy'n haeddu atebion gonest.  

Sut y cyraeddasom sefyllfa lle nad oes ond un meddyg ymgynghorol parhaol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg? A pham nad yw'r bwrdd iechyd wedi gallu recriwtio meddygon ymgynghorol ychwanegol dros gyfnod hir? Nid yw hyn yn gwbl annisgwyl. Mae'r goblygiadau i Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn sylweddol ac yn uniongyrchol, gan ei bod yn ymddangos bod gweithredu adran damweiniau ac achosion brys sy'n gweithredu'n llawn gyda'r radd a'r dyfnder priodol o arbenigedd ar ddarpariaeth locwm yn unig yn anghynaliadwy. Mae meddygon locwm yn rhan hanfodol o adrannau damweiniau ac achosion brys, ond mae dyfnder ac ehangder yr arbenigedd sydd ei angen mewn adrannau damweiniau ac achosion brys modern yn galw am nifer o feddygon ymgynghorol arbenigol amser llawn. Felly, a gaf fi ofyn ar ran fy etholwyr, a wnaed ymdrechion i ddod o hyd i feddygon ymgynghorol damweiniau ac achosion brys ychwanegol ar draws ardal y bwrdd iechyd ehangach, neu hyd yn oed mewn byrddau iechyd cyfagos i gynnal y gwasanaeth yno dros dro, tra bod ymdrechion pellach i recriwtio yn parhau?

Ac wrth gwrs, yn llechu yn y cefndir mae'r rhaglen de Cymru wreiddiol ar gyfer damweiniau ac achosion brys, rhaglen a gynlluniwyd rai blynyddoedd yn ôl bellach, ac na fu erioed yn weithredol. Felly, a gaf fi ofyn a yw hyn, trwy ddamwain neu gynllun, yn ymgais i roi rhaglen de Cymru ar waith yn hwyr yn y dydd, ac os felly, a yw'r cynigion yn y cynllun hwnnw'n gyfredol ar gyfer ystyried y pwysau cyfredol yn y system a phwysau yn y dyfodol, gan gynnwys datblygu miloedd—miloedd—o gartrefi newydd yn nwyrain fy etholaeth, yn ogystal â miloedd yn rhagor yn ardal Pontypridd, i'r gorllewin o Gaerdydd? A yw'r rhaglen honno'n rhan o hyn mewn unrhyw ffordd? Ac os felly, onid yw'n wir na fydd rhai o'r cyfrifiadau hynny’n gyfredol bellach? Ac ar y sail honno, pa asesiad a wneir o effaith y cynigion newydd nid yn unig ar Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ond ar Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac Ysbyty Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful, sydd â'u hadrannau damweiniau ac achosion brys eu hunain, sydd o dan bwysau enfawr ar hyn o bryd wrth gwrs? 

Ac yn olaf, Weinidog, a allwch chi annog y bwrdd iechyd i barhau â'u hymgysylltiad—ymgysylltiad gonest, didwyll ac agored—â'r cyhoedd, nid yn unig ag arweinwyr etholedig, i fynd trwy hyn? Efallai eu bod bellach mewn sefyllfa annymunol, ond yr unig ffordd trwy hyn yw bod yn onest ac yn agored ac ymgysylltu'n barhaus ag etholwyr, sydd ag ofnau go iawn ynglŷn â’r hyn a allai ddod. 

Rwy'n sicr yn cydnabod y pwynt olaf a wnaethoch. Mae yna bobl sy'n wirioneddol ofnus ynghylch newid arfaethedig o'r math hwn, ac mae'n bwysig fod y bwrdd iechyd yn gwbl agored a gonest ynglŷn â'r hyn y maent yn ei argymell a pham, a bod y bobl sy'n ymwneud â darparu'r gwasanaeth yn rhan weithredol o’r sgwrs honno gyda'i gilydd, gydag arweinwyr a rheolwyr eu bwrdd iechyd, a'r cyhoedd hefyd. 

Ac rwy'n credu ein bod yn dychwelyd at bwyntiau a nodwyd yn y papur, ac unwaith eto, mae'r cyfarwyddwr meddygol, nad oedd o gwmpas adeg rhaglen de Cymru ond sydd wedi edrych yn ei bapur ar yr hyn a ddywedai rhaglen de Cymru, yn nodi bod y sefyllfa a ddisgrifiwyd gan raglen de Cymru wedi dod yn un fwy argyfyngus erbyn hyn ag ystyried yr heriau o ran y pwysau ar y gwasanaeth. Ond hefyd yn y papur hwnnw, mae’n rhoi sylw i’r ffaith bod datblygiad preswyl eisoes wedi digwydd ac yn digwydd yn awr—felly, mewn perthynas â’r boblogaeth a natur y ddemograffeg. 

A phe bai ymgais wedi bod i fynd i'r afael â'r mater hwn yn rhagweithiol yn gynharach a gwneud newidiadau, rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud y byddai pryderon real iawn wedi bodoli bob amser ynghyd â’r rhai y clywn amdanynt heddiw. Ac eto, rwy'n credu ei bod hi'n debygol, pe bai'r mater hwn wedi'i ddeall yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach, byddem mewn sefyllfa wahanol. Oherwydd rhan o'r her o gael staff yn dod i mewn i wasanaeth yw'r pwynt o gael model mwy hirdymor y mae pobl yn cytuno ag ef, yn barod i ymrwymo iddo, ac am weld eu gyrfaoedd yn rhan ohono.

Ond o ran cynnal y model, mae'r bwrdd iechyd, nid yn unig o fewn ei staff presennol—rwy'n deall ei fod eisoes yn siarad â phartneriaid am gynnal gwasanaeth tra'u bod yn dod at fodel gweithredu newydd. Ond nid wyf yn meddwl ei bod hi'n synhwyrol ceisio dwyn perswâd ar feddygon ymgynghorol sydd ar hyn o bryd yn gweithio ym Merthyr Tudful ac Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, i gynnal darpariaeth meddyg ymgynghorol ar y model presennol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

Ac os edrychwch ar batrymau recriwtio ac ymddygiad meddygon ymgynghorol ac i ble mae meddygon ymgynghorol wedi mynd, rwy'n credu mai dyna'n union y math o her a fyddai, pe bai'n cael ei chyflwyno neu ei gwneud yn ofynnol, yn arwain at wneud i'r bobl hynny chwilio am waith yn rhywle arall. Gall meddygon ymgynghorol adrannau achosion brys gael gwaith yn unrhyw ran o'r wlad fwy neu lai. Maent yn griw o bobl y mae galw mawr amdanynt.

Mae'n ymwneud â diogelu'r grŵp sydd gennym ar hyn o bryd, gwneud yn siŵr eu bod yn aros yn ein system, a chael model gofal a fydd yn gweithio i'r boblogaeth leol ac a fydd yn gweithio i'r gwasanaeth iechyd mewn ffordd barhaus. Ac i wneud hynny, i ddod yn ôl at eich pwynt olaf, rhaid i'r bwrdd iechyd fod yn agored ac yn dryloyw ynghylch yr hyn y maent yn ei wneud a pham, a sut y maent yn ystyried y negeseuon a gânt gan aelodau o'r cyhoedd, cynrychiolwyr etholiadol a'u staff eu hunain, gan gynnwys mynd i'r afael â'r pryderon gwirioneddol sydd gan aelodau'r cyhoedd.

15:45
4. Datganiadau 90 Eiliad

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiadau 90 eiliad, ac mae'r datganiad cyntaf heddiw gan Lynne Neagle. 

Diolch, Lywydd. Trefnir y gwobrau Ysbrydoli! tiwtoriaid gan Dysgu a Gwaith Cymru ac maent yn dathlu gwaith tiwtoriaid a mentoriaid ymroddedig sydd wedi annog pobl o bob cefndir ac oedran i gyflawni eu potensial. Y tu ôl i bob oedolyn sy'n ddysgwr llwyddiannus, ceir tiwtor neu fentor sy'n ysbrydoli.

Mae Daniel Dyboski-Bryant o Grŵp Llandrillo Menai wedi bod yn addysgu ffoaduriaid ac ymfudwyr, gan arloesi gyda'r defnydd o rith-wirionedd. Mae Mary Murray wedi bod ar genhadaeth i ysbrydoli oedolion yn Nhorfaen i ddysgu mathemateg, mae ei dosbarthiadau bob amser yn llawn ac mae nifer ohonynt wedi pasio TGAU. Mae Laura Wheeler yng Nghaerdydd yn darparu addysg a chefnogaeth i bobl ifanc yn rhaglen Dysgu i Fyw Llamau, ac mae wedi creu gofod lle maent yn teimlo'n ddiogel ac yn gallu mynd i'r afael â'r materion sy'n effeithio ar eu bywydau. Dysgodd Philippa Gibson Gymraeg fel oedolyn, ac mae wedi datblygu ei sgiliau i fod yn diwtor Cymraeg talentog yn Aberteifi a de Ceredigion. Disgrifiwyd Rameh O'Sullivan o Brifysgol Metropolitan Caerdydd fel rhywun aruthrol gyda llawer o'i myfyrwyr yn ffoaduriaid a cheiswyr lloches sy'n dioddef trawma, ac mae Rameh yn rhoi gobaith iddynt symud ymlaen. Ac mae Suzanne McCabe yn darparu hyfforddiant a chymorth i oedolion ag awtistiaeth yn ne Cymru, ac i fusnesau i gefnogi gweithwyr a chwsmeriaid sydd ag awtistiaeth.

Dyma ein cyfle i longyfarch pob un o'r rhai a enillodd wobrau a thiwtoriaid ledled Cymru sy'n parhau i newid bywydau. Diolch.

Llongyfarchiadau mawr i Dreorci ar ennill teitl y stryd fawr orau yn y DU. Mae'n wych fod y gwaith caled yn y dref hon yn y Rhondda wedi cael ei gydnabod, ac rwy'n falch o allu ei gydnabod yma yn y Senedd hefyd.

Daeth masnachwyr lleol at ei gilydd gyda chynghorwyr lleol a ffigurau cymunedol eraill i wneud i bethau ddigwydd drostynt eu hunain. Mae'r siambr fasnach leol yn ffynnu mewn tref lle mae 80 y cant o'r busnesau yn annibynnol. Mae pobl Treorci wedi rhoi eu ffydd yn yr hen ddihareb Gymraeg, Mewn undod mae nerth, mae canol y dref yn cael cefnogaeth dda iawn. Mae pobl o bob cwr o'r Rhondda a'r tu hwnt yn defnyddio canol y dref ar gyfer siopa a hamdden, gan alluogi Treorci i ddod yn ganolfan fasnach ffyniannus.

Mae absenoldeb tra-arglwyddiaeth y cadwyni mawr wedi cyfrannu'n fawr at lwyddiant y dref. Mae'n anodd gwadu'r effaith andwyol y gall siopau cadwyn mawr ei chael ar fusnesau bach a chanol trefi. Mae Treorci wedi dangos beth sy'n bosibl i ganol trefi sy'n wynebu anawsterau ledled Cymru. Rwy'n mawr obeithio y gall trefi eraill yn y Rhondda a thu hwnt ddysgu'r gwersi hynny a ffynnu yn union fel y mae Treorci yn ei wneud. Diolch yn fawr.

Roedd fy hen daid i yn chwarelwr yn y Cilgwyn yn Nyffryn Nantlle. Felly, dwi'n falch iawn o gefnogi'r cais i sicrhau statws safle treftadaeth y byd UNESCO ar gyfer ardaloedd llechi gogledd-orllewin Cymru. Wrth dyfu i fyny yn y Felinheli yn y 1960au, mi o'n i'n ymwybodol iawn o ddirywiad diwydiant oedd, ar un adeg, yn anfon llechi i bob rhan o'r byd. Roedd yr hen gei yn y pentref yn flêr iawn, ac erbyn hyn dim ond yr hen simdde sydd ar ôl yng nghanol stad o dai.

Ond mae hi yn wahanol iawn yn y dyffrynnoedd llechi yn Arfon, ychydig filltiroedd yn unig i mewn i'r tir o'r Fenai. Yma, mae un o dirluniau ôl-ddiwydiannol mwyaf dramatig y byd, a'r wythnos diwethaf fe gyflwynwyd yr enwebiad terfynol i UNESCO. Y nod ydy cydnabod tirlun chwareli gogledd-orllewin Cymru fel safle treftadaeth y byd. A petai'n cael ei dderbyn, byddai tirlun nodedig Llanberis, Bethesda, Dyffryn Nantlle a Blaenau Ffestiniog yn rhannu'r un dynodiad â'r Taj Mahal a phyramidiau'r Aifft.

Mae llawer iawn o waith wedi cael ei wneud eisoes gan y partneriaid. Yn ogystal â chydnabod ein diwylliant, treftadaeth ac iaith unigryw, byddai cael y statws yn agor y drws ar gyfer twristiaeth cynaliadwy a chyfleon gwaith o ansawdd uchel ar draws Gwynedd, gan ddod â miliynau o bunnoedd i'r economi leol. Pob lwc wrth i bawb symud i'r cam nesaf o'r prosiect.

15:50
5. Cynnig i addasu enw a chylch gwaith y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

Yr eitem nesaf yw'r cynnig o dan Reol Sefydlog 16.3 i sefydlu pwyllgor, a dwi'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig, Siân Gwenllian. 

Cynnig NDM7242 Elin Jones

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 16.3, yn cytuno i newid enw a chylch gwaith y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, i’r canlynol:

a) Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad;

b) i gyflawni swyddogaethau'r pwyllgor cyfrifol a nodir yn Rheol Sefydlog 21, ac i ystyried unrhyw fater arall sy'n ymwneud â deddfwriaeth, cyfiawnder a'r cyfansoddiad sydd o fewn cymhwysedd y Cynulliad neu Weinidogion Cymru neu sy'n ymwneud â’r cymhwysedd hwnnw, gan gynnwys ansawdd y ddeddfwriaeth.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nag oes, felly derbynnir y cynnig yn unol—[Torri ar draws.] 

A ydych yn gwrthwynebu'r cynnig i sefydlu pwyllgor?

Ie, gwrthwynebiad oedd hwnnw, ac roeddwn i'n meddwl fy mod wedi gofyn am gael siarad.

Os ydych am siarad, gallwch siarad. Mae'n ddrwg gennyf, nid yw eich enw o fy mlaen, ond mae hynny—. Fe af gyda'r llif a'ch galw i siarad.

Diolch yn fawr, Lywydd, rwy'n gwerthfawrogi'n fawr. Nid wyf yn siŵr beth ddigwyddodd yno.

Rwy'n gwrthwynebu'r cynnig am ddau reswm. Mae un yn ymwneud yn syml ag amseru. Ers cryn amser, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn sôn am ddadl ar adroddiad y comisiwn cyfiawnder, a chredaf inni gael neges e-bost y peth cyntaf y bore yma yn cyhoeddi y byddai cynnig i'r perwyl hwnnw ddydd Mawrth nesaf. Credaf y byddai'n well i ystyriaeth ynghylch ailenwi'r pwyllgor hwn i gynnwys 'cyfiawnder' ddilyn y ddadl honno, yn hytrach na'i rhagflaenu.

Hefyd, er bod rhai o feysydd cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yn ymylol ac yn cyffwrdd â maes cyfiawnder, yn gyffredinol byddai hyn yn cyflawni argymhelliad y comisiwn cyfiawnder, ac mae hwnnw'n seiliedig ar ddatganoli cyfiawnder i Gymru. Nid yw cyfiawnder wedi'i ddatganoli i Gymru ar hyn o bryd. Rydym yn cwyno ynglŷn â faint o bwyllgorau y mae'n rhaid inni fod yn aelodau ohonynt a faint o waith sydd ynghlwm wrth hynny. Buaswn yn amau a yw'n synhwyrol ychwanegu at lwyth gwaith pwyllgor drwy gynnwys maes—cyfiawnder—nad yw wedi'i ddatganoli ar hyn o bryd. Rwy'n cydnabod bod rhai Aelodau—mwyafrif o'r Aelodau, efallai—yn dymuno i hynny ddigwydd, ond credaf y dylem strwythuro ein pwyllgorau o gwmpas ein cyfrifoldebau fel y maent, yn hytrach nag fel y byddai rhai Aelodau'n dymuno iddynt fod.

Diolch, Lywydd. Nid oeddwn wedi bwriadu siarad, ond mewn ymateb i'r sylwadau hynny, y teimlaf eu bod yn gamarweiniol iawn mewn gwirionedd—. Oherwydd er nad yw cyfiawnder fel y cyfryw wedi'i ddatganoli, mae gennym gryn dipyn o swyddogaethau sylweddol mewn perthynas â chyfiawnder ac nid oes gennym unrhyw fecanwaith ar gyfer craffu ar y swyddogaethau cyfiawnder hynny a'u gwerthuso, nac yn wir i werthuso argymhellion adroddiad arbennig o bwysig. Felly, mae'n ymddangos i mi fod hwn yn gam synhwyrol iawn ymlaen. Mae'n un rwy'n ei gefnogi, mae'n un rwyf wedi sicrhau bod aelodau fy mhwyllgor yn rhan ohono, ac nid wyf yn cefnogi'r gwrthwynebiad a nodir.

Rwy'n credu bod yr Aelod wedi gorffen ei gyfraniad, mae'n ddrwg gennyf. Nid oes unrhyw siaradwyr eraill yn dymuno cyfrannu, felly rwy'n ail-ofyn y cwestiwn, a oes—. Na, rwy'n mynd i orfod ei ofyn yn Gymraeg gan ei fod yn Gymraeg o fy mlaen.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi'n gohirio'r bleidlais, felly, ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio. 

Nid oedd fy nghyfieithu ar y pryd cystal ag y tybiwn.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

Cynnig i Ethol Aelod i Gomisiwn y Cynulliad

Cynnig i ethol aelod o'r Comisiwn yw'r cynnig nesaf. Dwi'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig, Siân Gwenllian. 

Cynnig NDM7261 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 7.9, yn penodi Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) fel aelod o Gomisiwn y Cynulliad.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig yma. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nag oes. Felly, mae'r cynnig yna yn cael ei dderbyn o dan Rheol Sefydlog 12.36. 

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Dadl y Ceidwadwyr Cymreig: Ymadawiad a'r Undeb Ewropeaidd

Detholwyd y gwelliant canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans. 

Yr eitem nesaf, felly, yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Rwy'n galw ar Darren Millar i wneud y cynnig—Darren Millar. 

Cynnig NDM7241 Darren Millar

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2016.

2. Yn credu y dylid rhoi canlyniad refferenda ar waith bob amser.

3. Yn cydnabod y bydd Cymru, ynghyd â gweddill y Deyrnas Unedig, yn gadael yr Undeb Ewropeaidd am 23.00 ar 31 Ionawr 2020.

4. Yn cydnabod y manteision posibl i Gymru yn sgil ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd, gan gynnwys:

a) llunio cytundebau masnach rydd newydd;

b) creu system fewnfudo decach nad yw'n gwahaniaethu yn erbyn pobl ar y sail o ble y gallant ddod;

c) sefydlu dull newydd o ymdrin â buddsoddi rhanbarthol.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymgysylltu'n gadarnhaol â Llywodraeth y DU wrth i'r Deyrnas Unedig adael yr Undeb Ewropeaidd.

Cynigiwyd y cynnig.

15:55

Diolch, Lywydd. Ar 23 Mehefin 2016, er mawr syndod i’r sefydliad Cymreig a llawer yn y Siambr hon, pleidleisiodd mwyafrif o bleidleiswyr Cymru o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd. Roedd yn fandad i gyflawni Brexit. Yn refferendwm 2016 gwelwyd y nifer uchaf a bleidleisiodd erioed mewn unrhyw bleidlais yng Nghymru ers etholiad cyffredinol 1997, gydag 854,572 o bobl ledled y wlad yn pleidleisio dros adael yr UE. Mae hynny bron i deirgwaith cymaint â’r rhai a bleidleisiodd dros y Blaid Lafur yn etholiadau’r Cynulliad a gynhaliwyd ychydig wythnosau ynghynt. 

Nawr, ni all gwleidyddion ddewis pa bleidlais gyhoeddus y penderfynant ei pharchu. Rhoddodd y Senedd y pŵer i'r cyhoedd benderfynu a oedd ein dyfodol yn yr UE neu allan ohono, ac mae'n hanfodol i'n democratiaeth fod canlyniadau etholiadau a refferenda bob amser yn cael eu gweithredu. Felly, dyna pam rwyf wrth fy modd, yr wythnos hon, am 11 o’r gloch ddydd Gwener—er gwaethaf ymdrechion gorau’r Blaid Lafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol fel y’u gelwir—y bydd Cymru, ynghyd â gweddill y Deyrnas Unedig, yn gadael yr Undeb Ewropeaidd o’r diwedd, a bydd Boris Johnson wedi gwireddu ei addewid i gyflawni Brexit, gan wireddu’r addewid i bleidleiswyr yn Wrecsam, Pen-y-bont ar Ogwr, De Clwyd, Ynys Môn, Dyffryn Clwyd, Delyn, Brycheiniog a Sir Faesyfed, a nifer o seddi eraill ledled Cymru. 

A gwnawn hynny gyda chytundeb da, cytundeb da sy'n amddiffyn hawliau dinasyddion yr UE yn y DU a dinasyddion y DU yn yr UE, ac sy'n sicrhau nad oes ffin galed ar ynys Iwerddon, cytundeb a sicrhawyd gan Brif Weinidog yn erbyn y disgwyl a chan herio'r holl broffwydo gwae ar ran y gwrthwynebwyr. Ac wrth gwrs, pan fyddwn yn gadael yr UE, bydd y DU o'r diwedd yn gallu adfer rheolaeth ar ei deddfau, ei ffiniau a'i harian. Byddwn yn gadael y farchnad sengl a'r undeb tollau yn ogystal ag awdurdodaeth Llys Cyfiawnder Ewrop a bydd gennym bolisi masnach annibynnol sy'n gallu manteisio ar y 90 y cant o dwf economaidd byd-eang sy'n digwydd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd. 

Byddwn yn parhau, wrth gwrs, i fasnachu gyda'r Undeb Ewropeaidd, heb dariffau, heb gwotâu, heb daliadau, gan ddal i allu mynd ar drywydd cytundebau masnach ym mhob cwr o'r byd, ac agor marchnadoedd newydd, cyffrous i nwyddau a gwasanaethau o Gymru. Ac mae marchnad y DU, wrth gwrs, yn hanfodol i'r Undeb Ewropeaidd, yn yr un modd ag y mae ein perthynas fasnachu â'r UE yn bwysig i ni. Dyna pam ei bod o fudd i’r ddwy ochr—[Torri ar draws.]. Fe gymeraf yr ymyriad mewn eiliad. Dyna pam ei bod o fudd i’r ddwy ochr gael cytundeb gweddus, yn enwedig i economïau mawr fel Ffrainc a'r Almaen sy'n dibynnu ar lawer o fasnach gyda'r wlad wych hon sydd gennym. Rwy’n hapus i dderbyn yr ymyriad. 

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Roeddwn am ofyn i Darren Millar a allwn ni edrych ymlaen at ymddangosiad cyw iâr wedi'i glorineiddio a chig eidion a driniwyd â hormonau yn y wlad hon. 

Rwy'n credu fy mod am wneud ychydig mwy o gynnydd gyda fy araith. 

Bydd cytundeb masnach yn sicrhau, wrth gwrs, y gall busnesau yng Nghymru gael perthynas fasnachu esmwyth a mynediad llawn at farchnad yr UE, ond mae Boris Johnson wedi nodi’n glir hefyd, hyd yn oed wrth negodi’r cytundeb masnach hwnnw, nad yw mynediad at wasanaethau cyhoeddus—ac mae hyn yn wir mewn cytundebau masnach â gwledydd eraill yn y dyfodol hefyd—nad yw mynediad at wasanaethau cyhoeddus fel y GIG yn agored i’w drafod wrth negodi’r cytundebau masnach hynny.

Nawr, dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn tua £5 biliwn o gronfeydd strwythurol yr UE, ac eto mae Cymru wedi parhau i fod yn gymwys i gael cymorth am fod y cynnyrch domestig gros wedi aros yn is na 75 y cant o gyfartaledd yr UE. A hyn er ein bod wedi gweld cyn-wledydd comiwnyddol gydag economïau tlotach yn dod yn aelodau yn nwyrain Ewrop. 

Ddirprwy Lywydd, ni chafodd cymaint ei wario erioed gyda chyn lleied i ddangos amdano. Mae hyd yn oed y prosiectau y bwriadwyd iddynt adael gwaddol parhaol yng Nghymru, megis deuoli ffordd Blaenau’r Cymoedd, flynyddoedd ar ei hôl hi, ac maent ddegau o filiynau o bunnoedd dros y gyllideb. Penderfyniadau gwariant gwael ynghylch cymorth yr UE—[Torri ar draws.] Fe gymeraf ymyriad mewn eiliad; fel rwyf bob amser yn ei wneud, yn raslon.

Penderfyniadau gwariant gwael ynghylch cymorth yr UE a gyfrannodd at bleidlais Brexit, gyda chymunedau'r Cymoedd yn pleidleisio’n gryfach na neb dros adael yr Undeb Ewropeaidd oherwydd, er gwaethaf y biliynau a wastraffwyd, ni welwyd bod aelodaeth o'r UE yn eu helpu hwy na'u cymunedau. Fe gymeraf yr ymyriad. 

16:00

Darren, Pontypridd yw un o'r trefi sy’n adfywio fwyaf yn ne Cymru gyfan yn ôl pob tebyg. Arian Ewropeaidd a alluogodd bedestreiddio; arian Ewropeaidd a'i gwnaeth yn bosibl i'r lido ddigwydd; arian Ewropeaidd sy'n eu galluogi i adfywio hen ganolfan siopa Taf. A ydych yn dweud mai gwastraff arian yw hynny? A wnewch chi ddweud hynny wrth yr holl bobl sy'n cael y swyddi a ddaw i mewn i ardal Pontypridd erbyn hyn? 

Yr hyn rwy'n ei ddweud yw ei fod wedi methu cyflawni'r hyn yr addawodd ei gyflawni, sef cael y cynnyrch domestig gros i fyny’n uwch na 75 canradd. A chredaf y dylech gydnabod methiant Llywodraethau Llafur olynol i gyflawni'r hyn yr oeddent i fod i'w gyflawni mewn gwirionedd. Ac wrth gwrs, fe wnaeth Pontypridd ddal i bleidleisio dros adael, er gwaethaf yr arian a wariwyd oherwydd nad yw wedi cyflawni ar gyfer pobl Pontypridd. 

Felly, yma, mae Brexit yn rhoi cyfle newydd. Yn ystod yr wythnosau nesaf, bydd Llywodraeth y DU yn cyhoeddi rhagor o fanylion am y gronfa ffyniant gyffredin newydd, a gynllunnir i leihau anghydraddoldebau ar draws y pedair gwlad. Bydd yn cymryd lle system or-fiwrocrataidd y cymorth Ewropeaidd, sydd wedi methu cyflawni ar gyfer pobl Cymru, ac mae Boris Johnson wedi dweud yn glir iawn y bydd Cymru’n derbyn o leiaf cymaint o arian o dan y trefniadau newydd ag a gawn o gronfeydd strwythurol yr UE. A bydd y gronfa ffyniant gyffredin yn rhoi cyfle inni wneud gwahanol fuddsoddiadau strategol sy'n gadael gwaddol barhaol—yn gadael gwaddol barhaol go iawn—i gymunedau ledled Cymru sydd mewn angen. Ac wrth gwrs, bydd yn fwy hyblyg na'r trefniadau presennol sy'n methu mynd i'r afael ag unrhyw un o'r pocedi o amddifadedd y tu allan i orllewin Cymru a'r Cymoedd.

Nawr, mae gadael yr UE hefyd yn gyfle i gael Brexit gwyrdd. Mae'n rhoi cyfle inni ailosod a gwella ein rhwymedigaethau amgylcheddol a pharhau i arwain y ffordd fel rydym wedi'i wneud yn y DU ar fynd i'r afael â newid hinsawdd. Mae gadael yr UE yn golygu y gallwn adael y polisi amaethyddol cyffredin aflwyddiannus nad yw wedi cydnabod y gwaith y mae cymaint o ffermwyr eisoes yn ei wneud, a dweud y gwir, i amddiffyn yr amgylchedd. Ac wrth gwrs, fe gawn bontio sefydlog oherwydd bod Llywodraeth y DU wedi gwarantu y bydd y cyllid yn parhau tan 2022. Wrth gwrs, mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod system newydd rheoli tir ac amgylchedd Cymru yn cynnwys cydnabyddiaeth i waith cymaint o ffermwyr fel ceidwaid y tir a'r amgylchedd y maent yn ei reoli. 

Byddwn hefyd, wrth gwrs, yn gadael y polisi pysgodfeydd cyffredin—sy'n destun dadl yn ddiweddarach y prynhawn yma—gan ein galluogi i adfer rheolaeth ar ein dyfroedd ac adennill y pŵer i gael mynediad at foroedd sydd wedi'u gorbysgota tra'n glynu at safonau uchaf cadwraeth forol.

Pwynt difrifol go iawn, y tu hwnt i'r dadwrdd gwleidyddol ac ati, pwynt dilys, a chyn y ddadl y prynhawn yma: a fyddai’n cytuno bod angen i unrhyw bolisi yn y dyfodol ar bysgodfeydd, y tu hwnt i’r sloganau ynghylch adfer ein rheolaeth ar ein pysgodfeydd, gydymffurfio â’r dystiolaeth wyddonol ar gynnyrch cynaliadwy mwyaf? Hoffwn awgrymu mai’r rheswm am hynny yw y byddwn yn dihysbyddu stociau ein pysgodfeydd fel arall. Felly, a fyddai’n cynnwys yn realiti’r slogan wleidyddol fod angen iddynt fod yn bysgodfeydd cynaliadwy? 

Rydych chi ar ei hôl hi. Mae’r Bil Pysgodfeydd, a gyhoeddwyd heddiw yn San Steffan, yn rhoi sylw i’r union bryderon hynny ac yn mynd i’r afael â hwy. Felly, hoffwn pe baech yn rhoi ychydig bach mwy o sylw i'r hyn y mae Llywodraeth Geidwadol y DU yn ei wneud ar Brexit mewn gwirionedd yn hytrach na beirniadu'n ddigyfeiriad, fel y gwnewch yn aml, o'r meinciau cefn. 

Felly, fe gawn gyfle hefyd i gael ein system fewnfudo ein hunain. Mae Boris Johnson wedi ymrwymo i gyflwyno system fewnfudo yn seiliedig ar bwyntiau yn debyg i system Awstralia—[Torri ar draws.] Mae'r Aelod yn anghwrtais iawn yn gadael y Siambr yn ystod y ddadl ar ôl gwneud cyfraniad. [Torri ar draws.] Mae hynny'n anghwrtais iawn. Rwy'n siŵr fod y Dirprwy Lywydd yn nodi hynny. 

Mae Boris Johnson wedi ymrwymo i gyflwyno system fewnfudo yn seiliedig ar bwyntiau yn debyg i system Awstralia sy'n ystyried pobl yn seiliedig ar eu sgiliau yn hytrach nag o ble y dônt yn y byd. Bydd yn caniatáu inni ddenu'r disgleiriaf a'r gorau i'n gwlad, ni waeth o ble yn y byd y dônt gan sicrhau bod ymfudo, ymfudo net, yn gostwng i lefelau cynaliadwy. 

Mae'n ddrwg iawn gennyf, nid oes gennyf lawer o amser ar ôl.

Bydd system fewnfudo fyd-eang newydd y DU yn mynd i’r afael â phryderon y cyhoedd ynghylch mewnfudo gan barhau i ddiwallu anghenion ein heconomi a’n gwasanaethau cyhoeddus, yn cynnwys ein gwasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru. 

Ac wrth gwrs, pan fyddwn wedi cyflawni canlyniad y refferendwm, ar ôl dydd Gwener, mae'n golygu y gallwn ddechrau canolbwyntio, yn cynnwys yma yng Nghymru, ar flaenoriaethau pobl, sef ysgolion, y GIG, a mynd i'r afael â throseddu. Ac mae hyn yn cynnwys recriwtio cyfran Cymru o'r 20,000 o swyddogion heddlu newydd sy'n mynd i fod yn ymuno â'n heddluoedd yma yn y DU. Ac rydych wedi gweld hwb mawr i gyllideb Llywodraeth Cymru—dros £600 miliwn yn y grant bloc y gallwn ei ddefnyddio i fynd i'r afael â'r diffygion sylweddol a welsom yn ein gwasanaeth iechyd gwladol, a thrafodwyd rhai ohonynt y prynhawn yma, a'r ffaith mai ein system addysg yw'r waethaf yn y DU yn ôl y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr.

Ar ben yr arian hwnnw, wrth gwrs, rydym wedi cael tua £700 miliwn ychwanegol ar ffurf bargeinion twf. Cymru yw'r unig ran o'r Deyrnas Unedig—yr unig wlad—sy'n genedl bargeinion twf. Mae pob rhan o'r wlad yn rhan o fargen twf.

Felly, wrth inni adael yr UE ddydd Gwener, mae'n digwydd yn erbyn y cefndir hwn, cefndir nid yn unig o fuddsoddiad ychwanegol, ond o gyflogaeth uwch nag erioed, gyda diwydiannau allweddol fel Airbus yng ngogledd-ddwyrain Cymru eisoes yn cadarnhau eu bod yn gweld y potensial i ehangu ar ôl Brexit. Felly, fy neges yw hon: mae'n bryd i Lywodraeth Cymru symud ymlaen o gwyno am Brexit, i weithio ar y cyd â Llywodraeth y DU, i fanteisio ar y cyfleoedd—ac rwyf wedi disgrifio llawer ohonynt y prynhawn yma—ac i roi'r gorau i ymladd Brexit, ei dderbyn a bwrw ati i gyflawni'r manteision er mwyn pobl Cymru.

16:05

Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol.

Gwelliant 1—Rebecca Evans

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

1. Yn nodi bod pobl Cymru wedi pleidleisio i ymadael â’r Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2016 ac y bydd Cymru, ynghyd â gweddill y Deyrnas Unedig, yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd am 23.00 ar 31 Ionawr 2020.

2. Yn cydnabod bod buddion yn ogystal â heriau yn codi o ymadawiad y Deyrnas Unedig â’r Undeb Ewropeaidd.

3. Yn credu y gall yr heriau gynnwys bygythiad sylweddol i ddyfodol y Deyrnas Unedig ei hun; bod felly angen diwygio’r cyfansoddiad yn sylweddol i ymwreiddio datganoli yn llwyr; ac y gallai negodi Cytundebau Masnach Rydd â’r UE a gwledydd eraill, heb gynnwys y gweinyddiaethau datganoledig yn ystyrlon, fod yn risg o ran tanseilio’r setliad datganoli; ac yn gresynu na chydnabuwyd hyn gan Lywodraeth y DU wrth basio Deddf yr UE (Y Cytundeb Ymadael) yn Senedd y DU.

4. Yn cefnogi’r cynllun 20 pwynt a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn 'Diwygio ein Hundeb' a fydd yn sicrhau bod datganoli yn dod yn rhan sefydledig o’r cyfansoddiad unwaith y mae’r DU yn ymadael â’r UE.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i ymgysylltu'n gadarnhaol â Llywodraeth y DU ac i godi llais dros fuddiannau Cymru wrth i'r Deyrnas Unedig ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Rwy'n gobeithio y bydd fy nghyfraniad yn llai gwleidyddol, mewn un ystyr, na'r hyn rydym newydd ei glywed. Rwy'n croesawu'r cyfle i ystyried effaith cyrraedd y terfyn amser sef 11 yr hwyr amser cymedrig Greenwich ddydd Gwener 31 Ionawr. Bydd fy nghyd-Aelod, Mike Hedges, sy'n eistedd wrth fy ymyl, yn teimlo'n anesmwyth ar y dyddiad hwnnw gan ei fod yn bwynt allweddol ar gyfer penderfynu a ddaeth digon o bobl i mewn i'r Swans i allu cyrraedd y gemau ail-gyfle, gan fod y terfyn amser trosglwyddo am 11 yr hwyr nos Wener—[Chwerthin.] Nawr, nid yw honno'n ymgais i fychanu'r digwyddiadau arwyddocaol eraill, ond i'n hatgoffa ni i gyd na fydd pob llygad yn canolbwyntio ar y digwyddiad penodol hwnnw. Nawr, bydd llawer o bobl o'n cwmpas yn edrych ar bethau eraill mewn gwirionedd, er na fydd sylw'r newyddion ar ddim byd arall.

A bydd llawer o rai eraill yn ei weld fel adeg pan na fyddwn yn ddinasyddion yr UE mwyach a'r cyfan y mae hynny yn ei olygu i ni—adeg gadarnhaol yng ngolwg rhai; negyddol yng ngolwg eraill. Nawr, rwy'n llwyr gydnabod canlyniad pleidlais y mwyafrif o'r etholwyr a oedd â phleidlais yng Nghymru ym mis Mehefin 2016 a bod y DU yn gadael yr UE, ond unwaith eto, rwy'n pwysleisio bod y ffordd rydym yn gadael a'r llwybr rydym yn ei ddilyn yn hollbwysig i'n dyfodol. Rwy'n gobeithio y bydd yn ddyfodol disglair, a byddaf bob amser yn gweithio tuag at hynny, ond mae'n ddyletswydd arnom i sicrhau ein bod yn rhoi prawf ar y penderfyniadau a wneir gan Lywodraethau, ein bod yn dadansoddi'n feirniadol y strategaeth ar gyfer economi gref a bywiog yn y dyfodol a'n bod yn craffu ar y ddeddfwriaeth a gyflwynir i sicrhau bod y gyfraith sy'n effeithio ar y bobl rydym yn eu cynrychioli yn gyfraith dda, nid yn un wallus nac wedi'i rhuthro er mwyn darparu ateb poblyddol yn unig.

Rydym i gyd yn gwybod y bydd y potensial ar gyfer gadael yr UE yn dod drwy'r cysylltiadau masnachu y mae'r DU yn eu meithrin gyda gwledydd eraill. Nid oes amheuaeth na fydd pryderon ynglŷn â sut y bydd mandadau'r DU ar gyfer cytundebau o'r fath yn cael eu creu a'r rôl a fydd gan genhedloedd datganoledig ar gyfer cytundebau o'r fath wrth bennu'r mandad hwnnw. Mae nifer ar draws y Siambr wedi mynegi barn ei bod yn bwysig fod pob gwlad ddatganoledig yn rhan o'r tîm sy'n gosod y mandad a hefyd y tîm sy'n cyflawni negodiadau. Felly, mae hyn yn rhywbeth sydd wedi'i sefydlu'n dda yn y Senedd hon.

Ar hyn o bryd, nid oes unrhyw fecanwaith ffurfiol i sicrhau y byddai Llywodraeth Cymru na'r Senedd hon yn cael unrhyw lais wrth negodi a chadarnhau'r cytundebau hyn, hyd yn oed mewn amgylchiadau lle maent yn ymwneud â chymhwysedd datganoledig. Dylem fod yn rhan o'r broses o bennu cyfeiriad y negodiadau a chael ein cynnwys yn y broses o sefydlu'r mandad ar gyfer y negodiadau hynny. Dylem fod yn yr ystafell pan fydd negodiadau'n trafod cymwyseddau datganoledig neu faterion sy'n effeithio ar gymhwysedd datganoledig. Mae hyn yn digwydd yn aml ymhlith ein cymdogion Ewropeaidd ac mewn mannau eraill yn y byd, felly pam ddim yma?

Nawr, rwy'n deall y bu cyfarfod o fforwm y gweinidogion ar fasnach, ond nid yw'r canlyniadau wedi'u cyhoeddi eto, ac mae eglurhad ar ein rôl yn y broses yn dal i fod yn ymylol. Rwy'n croesawu ymdrechion Llywodraeth Cymru i symud yr agenda yn ei blaen o ran sut y gallwn newid y setliad cyfansoddiadol presennol ac rwy'n cefnogi ei safbwynt fel y'i nodir yn y ddogfen, 'Diwygio ein hundeb: cyd-lywodraethu yn y DU' a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Mae'n amlwg mai dyma'r dull o weithredu sy'n gweddu i fudd Cymru a'n dinasyddion, gallu dylanwadu ar unrhyw gytundeb masnach er mwyn iddo fod o fudd i Gymru a'i dinasyddion.

Nid oes ond angen inni edrych ar ddigwyddiadau'r wythnos hon i ystyried y risgiau a all ddigwydd mewn negodiadau masnach o'r fath ac felly, pam y mae'n rhaid gwrando ar ein llais a rhoi ystyriaeth briodol iddo. Ddoe er enghraifft, clywsom gan Lywodraeth y DU eu bod yn mynd i dderbyn Huawei fel rhan o ddyfodol y rhwydweithiau 5G, ond dros y dŵr, gwelsom seneddwyr Gweriniaethol yn trydar sut y byddai hyn yn effeithio ar eu hystyriaeth o unrhyw gytundeb masnach DU-UDA—gan geisio blacmelio'r DU i bob pwrpas i ildio i benderfyniadau eu Llywodraeth a'u buddiannau hwy, nid ein buddiannau ni. Mae'n bwysig nad yw ein buddiannau yn cael eu haberthu er mwyn cyd-fynd â buddiannau gwleidyddol un grŵp yn unig. Bydd anawsterau'n codi o hynny.

Y tro diwethaf inni drafod cytundebau masnach yn y Siambr hon, cyflwynodd y Ceidwadwyr welliant sy'n gwadu ein pryderon dilys ynghylch safbwynt negodi masnachol presennol Llywodraeth y DU. Yn hytrach, mae'n well ganddynt eu cau o feddyliau pobl. Roedd eu gwelliannau hwy'n datgan na ddylem gymryd rhan mewn negodiadau masnach am ei fod yn fater a gadwyd yn ôl. Rwy'n gobeithio eu bod yn newid eu meddwl yn awr. Ond beth y mae hynny'n ei ddweud am uchelgeisiau'r Ceidwadwyr Cymreig? Maent yn fwy na pharod i'w adael i San Steffan a pheidio â'n cynnwys ni—

16:10

Ar yr union bwynt hwnnw. Rydym wedi dweud yn gwbl glir ein bod o'r farn fod angen trafodaeth gyda Llywodraeth Cymru mewn unrhyw drefniadau a chytundebau masnach yn y dyfodol. Rydym wedi dweud hefyd er hynny fod Llywodraeth y DU yno i weithredu er budd gorau'r DU gyfan a hi fydd y corff a fydd yn arwyddo ar y llinell fel petai, gyda'r cytundebau masnach hynny, ac felly mae'n amhriodol rhoi feto i Gymru neu unrhyw ran arall o'r DU.

Diolch i chi am ddangos eich bod chi'n symud eich cefnogaeth i'r cyfeiriad rydym ni yn ei feddwl. Ni ddywedais feto erioed ac rwyf bob amser wedi dadlau yn erbyn feto. Hyd yn oed yn y ddadl ddiwethaf, dadleuais yn erbyn feto. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig i'r trafodaethau gael eu gosod gan fandad y cytunwyd arno gyda'r holl wledydd datganoledig oherwydd mae'n hanfodol oherwydd bod buddiannau'r gwledydd datganoledig yn bwysig.

Ddirprwy Lywydd, gallaf weld yr amser felly fe ddof i ben gydag un pwynt arall sef y pwynt am ein gweithlu a mewnfudo, a'r rôl bwysig y mae dinasyddion yr UE yn ei chwarae yn darparu gwasanaethau mewn materion cyhoeddus a phreifat ledled Cymru. Hoffwn dynnu sylw at y ffaith bod y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo wedi cyhoeddi ei adroddiad, yn dilyn y cais gan y Swyddfa Gartref, ar ddyfodol y system ac nad oeddent yn llwyr gefnogi system sy'n seiliedig ar bwyntiau. Nodwyd ganddynt eu bod yn dal i gredu y dylid cael cap ar lefel cyflog. Roeddent wedi'i ostwng i £25,600, ond roedd busnesau'n dal i fod eisiau cap is na £20,000, ac roeddent yn teimlo na fyddai system yn seiliedig ar bwyntiau yn cyflawni ar gyfer anghenion gweithlu'r DU, a Chymru'n enwedig yn fy marn i. Mae angen inni edrych ar anghenion gweithlu Cymru a sut y byddai'r system honno'n gweithio i ni. Mae'n bwysig ein bod yn cael hynny er mwyn inni allu craffu'n ofalus ar y Bil mewnfudo pan ddaw. Nid wyf wedi cael fy argyhoeddi eto y bydd y system bwyntiau arfaethedig yn cyflawni dros Gymru mewn gwirionedd. Felly, credaf fod angen inni edrych yn ofalus iawn ar y dyfodol. Rwy'n gobeithio y bydd yn ddyfodol disglair; byddaf yn gweithio dros ddyfodol disglair, ond hefyd, byddwn yn craffu'n ofalus iawn i sicrhau bod unrhyw beth sy'n cael ei gyflwyno yn diwallu anghenion pobl Cymru.

Ar 23 Mehefin 2016, pleidleisiodd y DU i adael yr Undeb Ewropeaidd, pleidleisiodd Cymru i adael, ac fe wnaeth hynny eto yn etholiadau Ewrop y llynedd. Yn etholiad cyffredinol y DU fis diwethaf, pleidleisiodd pobl gogledd Cymru o blaid cyflawni Brexit. Ac eto, mae'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru, gyda chefnogaeth Plaid Cymru, wedi gwrthod dilyn cyfarwyddyd y bobl ar hyn a nifer gynyddol o faterion eraill dro ar ôl tro.

Gan ddyfynnu busnesau yng ngogledd Cymru, dywedodd y Daily Post fis Hydref diwethaf,

Mae ansicrwydd yn tanio ansicrwydd... Mae angen diwedd ar... ansicrwydd Brexit. 

Fis Tachwedd diwethaf, dywedodd cyfarwyddwr cyffredinol Cydffederasiwn Diwydiant Prydain,

Mae cymaint o fusnesau yma yng Nghymru yn llawn optimistiaeth a brwdfrydedd. Maent eisiau siarad am gryfderau Cymru—a gweithredu arnynt. Er mwyn dangos bod Cymru ar agor i fusnes. Ond maent yn daer am roi terfyn ar ansicrwydd.

Ac eto, mae Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru wedi bwydo'r ansicrwydd ar bob cyfle. Maent yn codi bwganod ynghylch dyfodol y GIG. Fodd bynnag, roedd maniffesto 2019 y Ceidwadwyr yn gwbl glir nad yw ein GIG ar werth. Mae'n dweud:

Pan fyddwn yn trafod cytundebau masnach, ni fydd y GIG yn rhan o'r drafodaeth. Ni fydd y pris y mae'r GIG yn ei dalu am gyffuriau yn rhan o'r drafodaeth. Ni fydd y gwasanaethau y mae'r GIG yn eu darparu yn rhan o'r drafodaeth.

Maent yn codi bwganod am gronfa ffyniant gyffredin y DU—

Diolch i chi am dderbyn yr ymyriad, ond y gwir amdani yw bod y rheini'n dal yn i fod yn amcanion negodi clir gan Lywodraeth yr UDA.

Mewn unrhyw drafodaethau, mae'r ddwy ochr yn dechrau gyda rhestrau hir o ddymuniadau, ond rhaid i gytundeb ddod allan ar y diwedd ac mae honno'n llinell goch i Lywodraeth y DU.

Maent yn codi bwganod ynghylch cronfa ffyniant gyffredin y DU, pan oedd ein maniffesto Ceidwadol yn y DU yn datgan yn glir y bydd Cymru'n cael o leiaf yr un lefel o gymorth ariannol ag a gaiff ar hyn o bryd gan yr UE. Roedd Llywodraeth Geidwadol y DU hefyd yn gwarantu y bydd yn rhoi arian cyfatebol i amaethyddiaeth drwy gydol y Senedd hon yn y DU ac yn bwysicaf oll, bydd yn cyflawni'r Brexit y pleidleisiodd pobl Cymru drosto ac y maent yn parhau i'w gefnogi.

Maent yn codi bwganod am ddyfodol cynllun Erasmus+ sy'n ariannu cyfleoedd i bobl ifanc hyfforddi ac astudio ar draws Ewrop. Fodd bynnag, dywedodd Llywodraeth y DU, wrth inni ddechrau negodi gyda'r UE ar y berthynas yn y dyfodol, ein bod am sicrhau y gall myfyrwyr y DU ac Ewrop barhau i elwa ar systemau addysg ei gilydd, systemau addysg sy'n arwain y byd, a'i bod yn anghywir dweud y bydd y DU yn rhoi'r gorau i gynllun Erasmus.

Mae Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru yn codi bwganod na fydd y DU yn derbyn plant sy'n ffoaduriaid ar eu pen eu hunain o Ewrop ar ôl iddi adael yr UE. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU wedi dweud nad yw ei pholisi ar blant sy'n ffoaduriaid wedi newid, ac y byddant yn parhau i wneud popeth yn eu gallu i alluogi plant i hawlio lloches a chael eu haduno â'u teuluoedd—[Torri ar draws.] Os yw'n fyr.

16:15

Fe fydd yn fyr. Rwy'n derbyn yr hyn rydych newydd ei ddweud. Felly, pam y credwch fod Llywodraeth y DU wedi tynnu'r rhannau hynny allan o Fil yr UE (Cytundeb Ymadael) ar ôl iddynt gael eu mewnosod gan yr Arglwyddi? Fe wnaethant eu gwrthod yn llwyr. Nid oedd angen eu gwrthod.

Mae'n debyg i dderbyn cyngor ar chwarae pocer gan gamblwr sydd wedi colli ei arian i gyd.

Mae Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru yn codi bwganod am y trafodaethau masnach sydd i ddod gyda'r UE. Fodd bynnag, mae Cymru'n elwa o berthyn i farchnad sengl ac undeb tollau'r DU, lle mae'r rhan fwyaf o economi Cymru'n cael ei masnachu. Fel y dywedodd cyn-lysgennad y DU yn yr Almaen a'r Unol Daleithiau yr wythnos diwethaf, yr hyn sydd ar goll o gymaint o'r dadansoddiadau yw ymwybyddiaeth y gallai gwarged masnach yr UE gyda'r DU o £94 biliwn gael ei beryglu, ac mae hynny'n rhoi mantais enfawr i'r DU.

Mae arolwg hyder prif swyddog ariannol Deloitte yn ddiweddar yn dangos y naid fwyaf erioed yn hyder busnesau, a dylai'r Aelodau gyferbyn roi'r gorau i geisio rhoi ergyd i'w hyder. Yr wythnos diwethaf, rhagwelodd y Gronfa Ariannol Ryngwladol y bydd economi'r DU yn tyfu'n gyflymach nag ardal yr ewro eleni, gan gymryd y bydd Brexit a phontio esmwyth i berthynas newydd yn digwydd mewn modd trefnus, sef yr hyn y mae pawb ohonom yn ei ddymuno. Canfu arolwg prif weithredwr rhyngwladol PricewaterhouseCoopers fod prif weithredwyr Ewropeaidd o'r farn fod y DU yn farchnad allweddol ar gyfer twf a buddsoddiad, yn ail i'r Unol Daleithiau, Tsieina a'r Almaen yn unig yn rhyngwladol.

Mae Llywodraeth Lafur Cymru a Phlaid Cymru yn codi bwganod ynghylch colli arian yr UE er mai arian y DU wedi'i ailgylchu ydyw mewn gwirionedd, ac mae Canghellor y DU wedi datgan y bydd yn defnyddio ei gyllideb gyntaf ar ôl i'r DU adael yr UE i bwmpio £100 biliwn i mewn i brosiectau seilwaith ledled y DU i helpu rhannau o'r DU sydd wedi'u gadael ar ôl a rhyddhau potensial y DU.

Mae Prif Weinidog Cymru yn honni bod Deddf yr UE (Cytundeb Ymadael) yn galluogi Gweinidogion y DU i ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006 heb gydsyniad y Senedd hon. Eto i gyd, mae Llywodraeth Geidwadol y DU wedi datgan yn glir nad yw'r Ddeddf hon yn galluogi Gweinidogion y DU i ddiwygio'r setliad datganoledig ac y bydd yn arwain at fwy o bwerau i'r Cynulliad mewn gwirionedd wrth i feysydd polisi o'r UE gael eu trosglwyddo i'r Llywodraethau datganoledig.

Wrth i Boris Johnson gyflawni ei addewid i gyflawni Brexit erbyn 31 Ionawr, gadewch i ni adeiladu Cymru sy'n edrych tuag allan mewn Teyrnas Unedig fyd-eang.

Bydded i'r iacháu ddechrau, meddai Boris Johnson ar ôl ennill yr etholiad cyffredinol, ac a barnu yn ôl y cyfraniadau ers hynny, mae'r broses iacháu yn mynd yn dda iawn. [Chwerthin.] Mae cymodi ac iacháu yn galw am rywfaint o estyn dwylo ar ran y ddwy ochr yn y ddadl. Fel arall, gwelwn ymorchestu aflednais ar ran y buddugwyr, a chwerwder ac anobaith dwfn ar ran y rhai a drechwyd. Prin fod rhwbio ein trwynau yn ein gorchfygiad dro ar ôl tro—'Fe golloch chi'—yn arwydd o estyn allan mewn ysbryd o gydgymodi ac iacháu.

Fodd bynnag, rydym yn y fan lle rydym. Mae pawb ohonom yn gadael yn awr, fel y dywedodd Adam Price yr wythnos hon. Mae iacháu yn golygu ei bod yn bryd dechrau meddwl yn gadarnhaol, er gwaethaf popeth, mae'n bryd symud o gipio pŵer i ennill pŵer, a manteisio ar rywfaint o'r hyblygrwydd a roddir i Gymru y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd—hyblygrwydd sy'n cynnwys gallu Banc Datblygu Cymru i ganiatáu benthyca heb gyfyngiadau rheolau cymorth gwladwriaethol; datganoli pŵer dros dreth gorfforaeth, treth enillion cyfalaf ar eiddo, ardoll prentisiaethau, toll teithwyr awyr a TAW; hyblygrwydd fel datblygu rheolau caffael newydd i gefnogi ein heconomi sylfaenol; hyblygrwydd i greu porthladdoedd rhydd Cymreig mewn porthladdoedd a meysydd awyr allweddol; hyblygrwydd i ddatblygu trwyddedau gwaith Cymreig fel rhan o system fudo Gymreig. Draig goch Cymru yn adfer rheolaeth. Gadael i Gymru a'i phobl gael eu rhyddhau i wireddu eu potensial llawn, dilyffethair.

Ond mae Cymru a'i bodolaeth yn wynebu bygythiad gwirioneddol oherwydd y ffordd y pleidleisiodd Cymru yn y refferendwm. Pleidleisiodd Cymru dros adael—fe wnaeth cyni a'r ffaith bod pobl yn teimlo wedi'u gadael ar ôl sicrhau'r canlyniad hwnnw. Nawr, credaf y dylid parchu canlyniadau refferenda, ond mae hynny'n golygu pob refferendwm, gan gynnwys yr un blaenorol yng Nghymru yn 2011 am ragor o bwerau i'r Senedd, gan fod digwyddiadau diweddar yn awgrymu bod canlyniad y refferendwm yn 2016 rywsut yn curo canlyniad refferendwm 2011.

Rydym wedi gweld Llywodraeth Cymru yn cael ei rhewi allan o'r negodiadau Brexit ers iddynt ddechrau yn 2016—nid yw yn yr ystafell hyd yn oed. Rydym wedi gweld fframweithiau cyffredin, cyd-lywodraethu honedig, heb fawr o dystiolaeth o'r 'cyffredin'. Gwelsom Lywodraeth Cymru'n cael dim cydnabyddiaeth mewn trafodaethau masnach, fel y dywedodd David Rees, a chyda'r gronfa ffyniant gyffredin, mae'r manylion ynglŷn â ble mae cyllid Ewropeaidd yn mynd bob amser wedi cael ei benderfynu yma yn y Senedd dros yr 20 mlynedd diwethaf. Nawr mae Boris am benderfynu. Rydym yn wynebu ymgais i gipio pŵer.

16:20

Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn yr ymyriad, Dai. Mae'n anghywir dweud bod y penderfyniadau hynny wedi cael eu gwneud yma yn y Senedd—bu'n rhaid eu cymeradwyo ym Mrwsel yn gyntaf o dan yr amlen saith mlynedd o arian a oedd ynghlwm wrth y cronfeydd ailddatblygu hynny. Felly, rhaid i chi gydnabod bod partneriaeth i ddatblygu yma, ac rydym am weld y bartneriaeth honno'n datblygu gyda statws cyfartal rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Ond ni allwch ddweud mai yma'n unig y câi'r penderfyniadau hynny eu gwneud dros yr 20 mlynedd diwethaf.

Nid yma'n unig. Nid oedd yn cynnwys Llywodraeth y DU.

Ac rydym wedi gweld gyda'r Bil cytundeb ymadael y tair gwlad ddatganoledig yn pleidleisio yn ei erbyn, ac mae'n dal i fynd drwodd. Felly, beth am gydsyniad? Ein cydsyniad ni yma—a yw'n golygu unrhyw beth mewn gwirionedd? A chymal 36 o'r Bil cytundeb ymadael—mae Senedd San Steffan yn sofran. Beth a ddigwyddodd i'r rhan 'gyffredin'? Mae ein pwerau'n cael eu cipio'n ôl.

Nawr, byddai'r meinciau gyferbyn yn cyfiawnhau hyn ar sail canlyniad yr etholiad cyffredinol, ac ni allwch ddadlau â 365 o ASau Torïaidd—345 ohonynt yn Lloegr. Mae'r tirlithriad Ceidwadol hwn yn digwydd yn Lloegr, ac eto mae ein trwynau ni'n cael eu rhwbio ynddo yng Nghymru hefyd, gan eich 14 o Aelodau Seneddol—[Torri ar draws.] Rydym wedi clywed digon oddi wrthych chi, Darren.

Felly, yn gyfansoddiadol, beth am Gymru? Mae gan Iwerddon achos i ddod yn Iwerddon unedig. Mae'n ddigon posibl y bydd yr Alban yn mynd am annibyniaeth. Beth am Gymru? Cymru wedi'i weldio fwyfwy wrth Loegr a'i hanwybyddu a'i gwthio i'r cyrion a'i chymhathu, neu Gymru'n creu ei llwybr ei hun tuag at annibyniaeth, gan iacháu canrifoedd o loes?

Fel y dywedodd y diweddar Winston Churchill yn 1947,

ceir teimlad cyffredinol yn ein gwlad y dylai'r bobl reoli, rheoli'n barhaus, ac y dylai barn y cyhoedd, a fynegir gan bob dull cyfansoddiadol, siapio, arwain a rheoli gweithredoedd Gweinidogion sy'n weision iddynt, nid yn feistri arnynt.

Dyma eiriau doeth iawn nad yw Llywodraeth Cymru wedi'u clywed. Er bod pobl Cymru wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd mewn refferendwm a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2016—

Gadewch i mi ddechrau arni. Rydych wedi ymgyrchu dros aros yn yr UE. Rydych wedi cynnig y dylai'r Senedd ddeddfu ar gyfer refferendwm gydag 'aros' ar y papur pleidleisio. Rydych wedi gweld y Prif Weinidog yma—ac nid wyf yn cyfeirio ato fel Mark Drakeford, er bod pawb yn y Siambr hon, ar y meinciau acw, yn cyfeirio at Brif Weinidog y DU fel 'Boris Johnson' neu 'Johnson' hyd yn oed—gyda Phrif Weinidog yr Alban, yn galw am refferendwm pellach. A'r wythnos diwethaf, fe wnaethoch bleidleisio yn erbyn y Bil cytundeb ymadael.

Nid yw Plaid Cymru'n ddim gwell chwaith pan ddaw'n fater o barchu democratiaeth pleidleiswyr. Cyflwynodd Plaid Cymru gynnig yn galw ar y Cynulliad i ddatgan ei gefnogaeth ddigamsyniol i refferendwm cadarnhau ar unrhyw gynnig gan y Prif Weinidog i fynd â'r Deyrnas Unedig allan o'r Undeb Ewropeaidd gydag 'aros' ar y papur pleidleisio. Mae wedi cymryd tan yn awr, yr wythnos hon, i arweinydd Plaid Cymru, Adam Price, gydnabod ei bod yn bryd canolbwyntio ar y cyfleoedd newydd a ddaw yn sgil Brexit.

Yn ddiddorol, credaf fod Plaid Cymru wedi deall o'r diwedd, a'u bod yn sylweddoli bellach na ellid cael y fath beth â Chymru annibynnol o fewn yr UE. Cofiwch chi, efallai ei fod yn deillio mwy o'u sylweddoliad fod yr etholiadau ar y gorwel, a'u bod wedi gweld yr arolygon barn diweddar.

16:25

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am ildio, er gwaethaf anogaeth eraill yn ei phlaid.

Fe ddyfynnodd Winston Churchill. A yw hi hefyd yn cytuno â'r hyn a ddywedodd ar 19 Medi 1946 yn Zurich pan alwodd am unol daleithiau Ewrop?

Wel, ni chlywais hynny, felly—. Nid oeddwn yn bodoli bryd hynny.

Ond o'i roi'n syml, mae'r UE yn sugno sofraniaeth oddi wrth ein Llywodraeth genedlaethol ac yn ei rhoi yn nwylo comisiynwyr anetholedig, ac mae i wadu democratiaeth, a lladd refferenda ei ganlyniadau ei hun. Dywedodd Winston Churchill yn gwbl gywir mai'r bobl a ddylai reoli ac mai eu gweision yw Gweinidogion, nid eu meistri. Mae'r bobl wedi dwyn gwleidyddion Llafur Cymru a Phlaid Cymru i gyfrif, gan ddychwelyd y nifer uchaf o ASau Ceidwadol o Gymru ers 1983 yn ogystal â fy AS fy hun, Robin Millar, gyda mwyafrif llawer mwy o faint. Mae fy nghydweithwyr yn cadw at ymrwymiadau ein maniffesto, ac rwyf wrth fy modd y bydd Cymru, ynghyd â gweddill y DU, yn gadael yr UE am 11 o'r gloch ar 31 Ionawr.

Mae'n bryd i chi ymrwymo yn awr i ymgysylltu'n gadarnhaol â Llywodraeth y DU wrth i'r Deyrnas Unedig adael yr UE. Mae'n bryd manteisio i'r eithaf yn awr ar y manteision a ddaw yn sgil Brexit. Ac a wyddoch chi beth sy'n drist i mi fel Aelod Cynulliad? Pan glywaf bobl ar y meinciau acw'n dweud, 'O, alla i ddim aros nes bod y cyfan yn mynd o chwith a gweld beth fyddwch chi'n ei ddweud wedyn.' [Torri ar draws.] Clywais hynny'n cael ei weiddi ar draws y Siambr.

Bydd y DU yn gallu creu cytundebau masnach newydd am y tro cyntaf mewn bron i hanner canrif. Mae'n ymwneud â chreu Prydain fyd-eang ac rydym ar y trywydd iawn i wneud hynny. Eisoes, cytunwyd ar tua 20 o gytundebau parhad, sy'n cynnwys 50 o wledydd neu diriogaethau. Fodd bynnag, rydym yn benderfynol hefyd o sicrhau perthynas agos â'r UE. [Torri ar draws.] Na, mae'n ddrwg gennyf. Nid wyf yn gweld pam y mae'n rhaid iddo fod yn naill ai/neu. O gofio ein bod eisoes wedi ein cysylltu a bod ein diffyg masnach gyda'r UE yn £64 biliwn yn 2017, rwy'n hyderus y bydd cytundeb masnach rydd newydd wedi ei sicrhau erbyn diwedd y flwyddyn. Mae Llywodraeth y DU yn gofalu am fusnesau ac yn creu platfform y gallant ffynnu ohono. Er enghraifft, mae ein Prif Weinidog, y Gwir Anrhydeddus Boris Johnson AS, wedi cynyddu cymorth i ariannu allforion, wedi adeiladu platfform newydd i helpu busnesau bach a chanolig eu maint gyda chontractau dramor, ac wedi datblygu strategaeth i helpu i gynyddu allforion Prydain i 35 y cant o'r cynnyrch domestig gros.

Rydym yn gofalu am ein ffermwyr hefyd, gan fod ymrwymiad clir na fyddwn yn rhoi'r gorau i'n safonau bwyd rhagorol. Rhaid i unrhyw gynhyrchion newydd sy'n dymuno dod i mewn i farchnad y DU gydymffurfio â'n safonau uchel o ran lles anifeiliaid a diogelwch bwyd.

Pleidleisiodd Cymru i adael, pleidleisiodd y bobl i adael, felly rwy'n falch ein bod ni fel Ceidwadwyr Cymreig yn gwneud popeth posibl i gefnogi buddiannau gorau pob rhan o'n gwlad. Mae'r Prif Weinidog, y Gwir Anrhydeddus Boris Johnson AS, wedi cadarnhau y bydd yr un faint o arian yn dod i Gymru ag sy'n dod o'r UE ar hyn o bryd, a bydd y gronfa ffyniant gyffredin newydd yn cynnig cyfle i fynd i'r afael ag amddifadedd a chodi safonau byw yn rhai o'r rhannau tlotaf o Gymru. Gall Brexit fod, ac mae Brexit, yn olau disglair i Gymru, felly, yn bersonol, byddaf yn dathlu ei gyflawniad nos Wener a dechrau Prydain fyd-eang, Cymru fyd-eang. A byddaf yn gwneud bongs San Steffan am 11 o'r gloch ar ei ben.

Hyderaf y bydd yr Aelod yn mwynhau ei pharti a'i bongs. Roeddwn yn siarad ddoe â Phrif Weinidog Cymru am y gwahanol ffyrdd y byddem yn nodi diwrnod Brexit, ac rwy'n falch o weld y Ceidwadwyr yn cyflwyno'r cynnig hwn heddiw. Clywaf leisiau o wahanol ochrau yn dweud y dylem ddod ynghyd, a chredaf fod hwnnw'n deimlad clodwiw. Rwy'n siomedig nad yw'n ymddangos fel pe bai Llywodraeth Cymru yn barod i gefnogi'r cynnig hwn gan y Ceidwadwyr, oherwydd mae'n fy nharo i na ddylai fod yn wrthun iddynt, ac rwy'n credu y byddai hynny wedi helpu i greu tir cyffredin ar draws y Siambr.

Siaradodd David Rees—a chlywais Aelodau Llafur eraill yn dweud pethau tebyg—a dywedodd ei fod yn llwyr gydnabod ac yn derbyn canlyniad y refferendwm. Rwy'n ei gofio'n dweud hynny yn 2016 hefyd, a phan oeddwn yn gwasanaethu ar ei bwyllgor, fe gyfeiriai ar y dechrau at, 'Pan fyddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd', ac yna trodd yn 'Os', ac yna, gyda'i blaid, ymgyrchodd am ail refferendwm i roi'r canlyniad hwnnw i'r naill ochr a chael un arall. [Torri ar draws.] Fe dderbyniaf ymyriad.

16:30

Diolch i'r Aelod am dderbyn ymyriad. Yn amlwg, un o'r problemau a welsom yn 2016 i 2019 oedd yr anhrefn llwyr a gafodd ei roi ar yr holl broses gan y Llywodraeth Geidwadol. Gwelsom fethiant ar ôl methiant ar ôl methiant i'w gyflawni mewn gwirionedd a chael cytundeb a fyddai'n fuddiol i Gymru. Onid ydych yn cytuno, yn y sefyllfa honno, na allwch gefnogi rhywbeth nad yw'n cyflawni dros bobl Cymru?

Na, nid wyf yn cytuno. Rwy'n derbyn rhan gyntaf datganiad yr Aelod, yn enwedig y cyfeiriad at Lywodraeth Theresa May a'r ffordd y gweithredodd. Nid fy lle i yw amddiffyn Llywodraeth Theresa May, ond hoffwn nodi mai ymddygiad y Blaid Lafur yn Nhŷ'r Cyffredin a arweiniodd at y sefyllfa a gawsom. Ac rwy'n ofni fy mod yn amau didwylledd llawer o'r ASau a geisiodd rwystro Brexit i bob pwrpas drwy bleidleisio yn erbyn unrhyw gytundeb, gan fwriadu pleidleisio yn erbyn unrhyw gytundeb—hyd yn oed pan gawsant bopeth y gwnaethant ofyn amdano, gan gynnwys undeb tollau, fe wnaethant fynnu mwy. Ac roeddent yn gamblo ar geisio rhwystro Brexit, ethol Llywodraeth Corbyn, a chael ail refferendwm ac ennill, a bod pleidlais dros aros, fel ein bod yn aros yn yr UE. Nawr, gallwn farnu pa mor synhwyrol neu fel arall oedd y gambl, a chredaf mai dyna oedd y cyfeiriad at y gamblwyr a gollodd bopeth y clywsoch amdanynt—[Torri ar draws.]—yn gynharach.

Ond—ond—mewn ysbryd mawrfrydig, hoffwn dderbyn didwylledd yr hyn a ddywedoch chi heddiw, David, oherwydd credaf ei bod o fudd i bob un ohonom geisio symud ymlaen a gwneud y gorau o Brexit o ble bynnag y daethom fel unigolion. Ac rwy'n derbyn fod y rhai—. Rwy'n credu bod pum rhan o chwech o'r Siambr wedi pleidleisio dros aros o gymharu â'r un rhan o chwech ohonom a bleidleisiodd dros adael. Nid wyf yn bychanu gwladgarwch y rhai a wnaeth asesiad gwahanol o'r manteision i'r hyn a wneuthum i, a byddwn yn awr yn ceisio symud ymlaen gyda'n gilydd a chael y gorau a allwn i Gymru ac i'r Deyrnas Unedig.

Ar y nodyn hwnnw, symudaf ymlaen at araith Dai Lloyd. Roeddwn yn meddwl ei bod yn ddadlennol iawn, y ddadl a gafodd gydag Andrew R.T. Davies. Ni wnaeth wrthwynebu a dweud bod y DU yn cymryd mwy o bwerau na'r UE; y ffaith mai Llywodraeth y DU yn hytrach na'r UE ydoedd a wrthwynebai. Ac rwy'n mabwysiadu ymagwedd bragmatig ar hyn ac yn cefnogi 4c o'r cynnig hwn,

'sefydlu dull newydd o ymdrin â buddsoddi rhanbarthol',

oherwydd mae'n bwysig cydnabod bod yr arian hwnnw, boed yn benodol ar gyfer cronfeydd datblygu rhanbarthol neu i lenwi'r bwlch cyllidol o £15 biliwn sydd gennym yng Nghymru, yn dod o weddill y Deyrnas Unedig ac o Loegr yn bennaf. A nod datblygu rhanbarthol yw ceisio gwella ardaloedd sy'n llai cefnog ar yr adeg pan fyddant yn cael yr arian hwnnw. Ac rwy'n credu bod rôl i Lywodraeth y DU, a rôl lawn iawn i Lywodraeth Cymru hefyd. A bydd y rolau hynny'n wahanol i'r hyn oeddent o fewn strwythurau'r UE. Ac yn gyffredinol, buaswn yn falch o weld rhywbeth lle nad yw pwerau a dylanwad cymharol Llywodraeth y DU ar wario arian datblygu rhanbarthol sy'n dod o'r DU yng Nghymru yn fwy na'r hyn a gymerwyd gan yr UE, ond credaf y dylem gael ymagwedd bragmatig i geisio gwneud i hynny weithio.

Cyfeiria Dai at refferendwm 2011 ac at refferendwm 2016, a chredaf mai un mater sy'n codi, oherwydd y tair blynedd a hanner diwethaf a sut y mae'r Cynulliad hwn wedi gweithredu, a'r cynnig ar ôl cynnig ar ôl cynnig, yn benodol neu o ran eu heffaith, i atal Brexit, er bod Cymru wedi pleidleisio dros adael, i lawer o bleidleiswyr mae hynny wedi gostwng eu hasesiad o'r lle hwn a'u hymlyniad i'n Cynulliad Cenedlaethol. Ac rwy'n credu bod angen i ni gydnabod hynny. Ac mae hynny wedi digwydd eto. Beth bynnag fo'r rhesymeg a roddwyd adeg y bleidlais, mae pleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwnnw a dweud wedyn pa mor ofnadwy yw Llywodraeth y DU yn bwrw ymlaen er bod y tair deddfwrfa neu weinyddiaeth ddatganoledig wedi pleidleisio yn ei erbyn ac yn ei wrthwynebu, yn anwybyddu'r ffaith bod Cymru wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Dyna'r cytundeb. Nid yw'n gytundeb y mae fy mhlaid yn meddwl ei fod yn un arbennig o wych, ond dyna'r cytundeb. Mae'n llawer gwell na chytundeb Theresa May. Rydym yn gadael, rydym yn mynd i gael Brexit—

16:35

—gadewch i ni ei wneud yn llwyddiant. Gadewch i ni weithio gyda'n gilydd.

Wel, rwy'n codi i gefnogi'r cynnig a gafodd ei gyflwyno mor gadarn gan Darren Millar y prynhawn yma. Ac i mi, dydd Gwener fydd penllanw gwaith oes, gan i mi ymuno â'r gynghrair a wrthwynebai'r farchnad gyffredin ym mis Gorffennaf 1967 yn fachgen ysgol yn Rhydaman, a bu'n elfen sydd wedi rhedeg drwy fy holl fywyd gwleidyddol, sydd, fel y gŵyr yr Aelodau, wedi wynebu troeon annisgwyl yn fynych, ac nid yn lleiaf yr un a ddaeth â mi yma.

Ond yr hyn a barodd y syndod mwyaf oedd pan gefais fy mhenodi i Gyngor Gweinidogion yr UE gan John Major i gynrychioli'r DU ar faterion y farchnad fewnol. Ar hyd fy oes, ac yn wir, wrth wneud y swydd honno, nid wyf erioed wedi gwyro yn fy nghred y byddai Prydain—ac mae hynny'n cynnwys Cymru, yn amlwg—yn cael ei llywodraethu'n llawer gwell pe bai'r rhai sy'n gwneud y penderfyniadau terfynol am ein cyfreithiau yn cael eu hethol gan, ac yn atebol i'r bobl. Ac mae'r dechnocratiaeth anetholedig ym Mrwsel, sy'n cael ei haddoli i'r fath raddau gan gynifer o'r rhai sydd am aros, bob amser wedi bod yn destun syndod braidd yn anhygoel i mi. Nid wyf erioed wedi deall yn iawn pam y byddai unrhyw un yn cymeradwyo hynny fel y ffurf orau ar lywodraeth.

Soniodd Carwyn Jones am Winston Churchill yn gynharach. Dywedodd Churchill y geiriau cyfarwydd mai democratiaeth yw'r gwaethaf o bob system wleidyddol nes i chi ystyried y dewisiadau eraill. Ac wrth gwrs, camgyhuddiad yw dweud bod araith Zurich Churchill yn 1946 yn cymeradwyo'r Undeb Ewropeaidd mewn gwirionedd, oherwydd dywedodd Churchill—[Torri ar draws.] Na, ond dyma'i ragflaenydd, rhagflaenydd y mudiad Ewropeaidd, a sefydlwyd, rwy'n credu, yn y flwyddyn ganlynol.

Fel y dywedodd Churchill yn enwog:

Rydym ni gydag Ewrop, ond nid ohoni. Rydym wedi ein cysylltu, ond heb ein cyfaddawdu.

A gwelai Ewrop fel undod ar y cyd â'r ymerodraeth Brydeinig, a oedd yn dal i fod gennym bryd hynny—gyda'i gilydd fel y ddau rym mawr er daioni yn y byd. Ond ni welai Brydain fel rhan o'r endid Ewropeaidd hwnnw mewn gwirionedd.

Ac yn ystod y 50 mlynedd diwethaf, rwyf wedi brwydro i gyflawni'r hyn y byddwn yn ei gyflawni ddydd Gwener. Felly, mewn gwirionedd mae'n foment deimladwy iawn i mi, a mater i ni yn llwyr, wrth gwrs, yw'r hyn a wnawn ohono. Mae cenedl yn llwyddo neu'n methu yn y pen draw yn ôl cryfder a phenderfyniad ei phobl ei hun.

O ystyried yr ehangder a'r rhychwant hanesyddol sydd ganddo heddiw, tybed a fyddai'n difaru unrhyw beth, wrth edrych yn ôl, am ei rôl ei hun yn pleidleisio dros gytuniad Maastricht?

Wel, rwy'n ofni bod yr Aelod—[Torri ar draws.] Rwy'n ofni bod yr Aelod yn camgymryd yn arw, oherwydd er mai chwip y Llywodraeth oeddwn i ar y pryd, treuliais gymaint o amser yn ceisio perswadio Teresa Gorman i bleidleisio dros y Llywodraeth nes i mi fethu'r bleidlais ei hun. [Chwerthin.] Ac felly fi oedd yr unig aelod o'r Llywodraeth na phleidleisiodd dros gytuniad Maastricht. Felly, rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am ganiatáu i mi nodi cymwysterau mwy trawiadol byth, ond—. Ac fe wneuthum oroesi.

Felly, mater i ni yn llwyr yw'r hyn a wnawn o Brexit. Ac rwy'n pryderu braidd, felly, fod Sajid Javid wedi dweud yr wythnos diwethaf:

y flaenoriaeth gyntaf yw... cael y cytundeb â'r UE,

sydd, yn fy marn i, yn dacteg negodi ffôl, oherwydd dywedodd Steve Mnuchin, Ysgrifennydd Trysorlys America, y diwrnod o'r blaen fod yr Unol Daleithiau

yn barod i neilltuo llawer o adnoddau

ar gyfer sicrhau cytundeb masnach gyda'r DU eleni, a dywedodd

mae gan y DU a'r UDA economïau tebyg iawn gyda ffocws mawr ar wasanaethau, ac rwy'n credu y bydd hon yn berthynas bwysig iawn.

[Torri ar draws.] Gwnaf, fe ildiaf eto.

Diolch i'r Aelod. A yw hefyd yn dderbyniol, yn eich barn chi, mai'r rheswm y mae'r UDA am lunio cytundeb cyflym gyda'r DU yw er mwyn gwanhau cytundeb ac felly gryfhau eu dadl yn erbyn yr UE drwy ein cael mewn sefyllfa wannach fel y gallant ddadlau â'r UE fod y DU eisoes wedi derbyn y safonau is a bod yr UE felly am ofyn i wneud yr un peth? Felly, er eu budd hwy y mae, nid ein budd ni.

16:40

Wel, mae'n amlwg fod Llywodraeth yr Unol Daleithiau yn gorfod gofalu amdani ei hun, ac fe wnaiff, ond mae ein buddiannau'n digwydd cyd-daro yn yr enghraifft benodol hon. Bydd ein llaw yn gryfach gyda'r UE os byddwn wedi dod i gytundeb gyda'r Unol Daleithiau, ac mae digonedd o wledydd eraill yn ciwio i wneud y cytundebau hynny hefyd. Rwyf braidd yn siomedig felly nad yw Llywodraeth Boris Johnson fel pe bai'n gweld bod tacteg Theresa May o seboni'r UE yn siŵr o fethu, oherwydd byddant yn cymryd beth bynnag a gynigir iddynt a gofyn am ragor. Mae'r Unol Daleithiau yn cynnig rhywbeth i ni ac yn awr gallent ystyried eu bod yn cael eu hanwybyddu.

Mae adfer rheolaeth dros ein ffiniau, yn yr un modd, yn hanfodol bwysig. Rydym wedi ychwanegu 6.7 miliwn o bobl at ein poblogaeth yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, ac ni ellir cynnal y gyfradd hon o gynnydd. Yn awr, mae gennym gyfle, fel y dywed y cynnig, i gael polisi mewnfudo nad yw'n gwahaniaethu, a fydd, o'i ddefnyddio yn ôl y cyfleoedd, yn mynd i'r afael â rhai o'r rhesymau pam y pleidleisiodd pobl dros adael yr Undeb Ewropeaidd yn y lle cyntaf o bosibl. Roedd mewnfudo'n rhan enfawr o'r ymgyrch honno.

Yn anffodus, mae fy amser yn brin. Felly, rwy'n credu y dylem i gyd longyfarch Boris Johnson, beth bynnag yw'r diffygion yn ei gytundeb, ac mae llawer ohonynt—yn enwedig y llinell ym môr Iwerddon. Mae wedi cyflawni'r hyn yr aethom ni ati i'w wneud, sef gadael yr UE yn gyfreithiol, ddydd Gwener.

Ddydd Iau diwethaf, 23 Ionawr 2020, cyhoeddodd Dirprwy Lefarydd Tŷ'r Cyffredin fod y Bil cytundeb ymadael wedi cael Cydsyniad Brenhinol. Bydd aelodaeth Prydain o'r Undeb Ewropeaidd yn dod i ben am 11 o'r gloch nos Wener. Mae'r Llywodraeth Geidwadol wedi gwireddu'r addewid a wnaed i bobl Prydain i gyflawni Brexit.

Mae dros dair blynedd a hanner ers i bobl Prydain bleidleisio'n glir ac yn bendant dros Brexit. Yng Nghymru, roedd maint y fuddugoliaeth dros adael hyd yn oed yn fwy na chanran y Deyrnas Unedig—llawer mwy, er enghraifft, na maint y fuddugoliaeth yn refferendwm datganoli Cymru yn 1997.

Mae pasio'r Bil cytundeb ymadael wedi'i gyflawni er gwaethaf gwrthwynebiad y Blaid Lafur. Mae Llafur a'i chynghreiriaid wedi ceisio gohirio, rhwystro ac atal Brexit ar bob cyfle. Ni wnaeth yr un AS Llafur—ni wnaeth unrhyw AS Llafur—bleidleisio dros y Bil cytundeb ymadael. Dengys hyn nad ydynt wedi dysgu dim o'u methiant dinistriol yn yr etholiad cyffredinol diwethaf. Hyd at yr eiliad olaf—[Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, nid oes gennyf amser. Fy ymddiheuriadau.

Hyd y funud olaf, maent wedi ceisio gwrthdroi canlyniad y refferendwm ac anwybyddu ewyllys pobl Prydain. Ar ôl addo parchu canlyniad refferendwm 2016, mae safiad Llafur ar Brexit wedi bod yn amwys ac yn brin o hygrededd: ail-drafod y cytundeb unwaith eto fyth wedi'i ddilyn gan refferendwm arall, refferendwm lle dywedodd aelodau blaenllaw o'r blaid Llafur y byddent yn ymgyrchu yn erbyn eu cytundeb ymadael eu hunain er mwyn aros yn yr UE. Yn wir, profodd Mr Jeremy Corbyn yn analluog neu'n amharod i ddweud—[Torri ar draws.]—yn analluog neu'n amharod i ddweud beth fyddai ei safbwynt mewn refferendwm newydd. Ac yn awr pensaer yr annibendod polisi yw'r un sydd ar y blaen yn y ras i gymryd lle Mr Corbyn fel arweinydd y Blaid Lafur.

Gwelodd pob un ohonom ganlyniad y datgysylltiad hwn rhwng arweinyddiaeth y blaid Lafur a'i phleidleiswyr traddodiadol yng nghanlyniad yr etholiad cyffredinol diwethaf. Dioddefodd Llafur ei gorchfygiad gwaethaf ers 1935, gan ennill llai o seddi nag yn 1983. Roedd y canlyniad yr un mor ddramatig yng Nghymru—mae cyfres o enillion Ceidwadol yn golygu ei bod yn awr yn bosibl teithio o'r Fenni i Aberconwy heb adael etholaeth a ddelir gan y Ceidwadwyr.

Yng Nghymru, pleidleisiodd pobl i sicrhau bod Brexit yn digwydd. Nid diwedd Brexit yw hyn, ond efallai mai dyma ddiwedd y dechrau. Rydym yn awr yn dechrau ar gyfnod pontio i baratoi ar gyfer ein perthynas newydd â'r UE. Er y byddwn wedi gadael, bydd ein perthynas fasnachu yn aros yr un fath nes bod negodiadau newydd yn digwydd. Mae Llywodraeth y DU wedi dweud yn glir ein bod am gael cytundeb i barhau i fasnachu gyda'r UE heb unrhyw dariffau, cwotâu na rhwystrau eraill ar waith. Gydag ewyllys da ar y ddwy ochr, rwy'n hyderus y gellir cyflawni hyn erbyn diwedd y flwyddyn. Yn wir, ym mis Rhagfyr, dyfynnwyd uwch swyddog o Lywodraeth yr Almaen yn dweud:

Mewn perthynas â'r cytundeb masnach, credaf ei bod yn amlwg fod modd negodi'r hyn a adwaenir ym Mrwsel fel cytundeb oddi ar y silff—mewn geiriau eraill, cytundeb safonol sydd eisoes wedi'i negodi mewn cyd-destun arall—yn gymharol gyflym â'r Deyrnas Unedig.

Gallwn sicrhau manteision Brexit wedyn, gan dynnu Prydain allan o gyfreithiau'r UE, llunio ein cytundebau masnach rydd ein hunain o gwmpas y byd, rhoi terfyn ar awdurdodaeth y llysoedd Ewropeaidd, rheoli ein trethi a'n ffiniau ein hunain, ac yn y blaen. Ddirprwy Lywydd, nawr yw'r amser i roi'r chwerwder a rhaniadau'r gorffennol y tu ôl inni. Nawr yw'r amser i ganolbwyntio ar sicrhau dyfodol disglair a chyffrous i Brydain, yn gryf ac yn rhydd. Rwy'n cefnogi'r cynnig. Credaf fod dau Brif Weinidog o'n plaid yn olynol, sef Mr David Cameron a Theresa May, wedi aberthu eu swydd anrhydeddus i gyflawni hyn dros ewyllys y wlad wych hon, a bydd y wlad wych hon yn goroesi ac yn ffynnu, a bydd yn sicr o ddod yn Brydain Fawr unwaith eto.  

16:45

Ddirprwy Lywydd, rwyf wrth fy modd o weld bod ymdeimlad iach o eironi yn fyw ac yn iach ar feinciau'r Ceidwadwyr. Wythnos ar ôl wythnos, fis ar ôl mis, wrth i mi a fy nghyd-Aelodau yma ar feinciau'r Llywodraeth gyflwyno datganiadau ar Brexit neu ddadleuon ar Brexit, mae Darren Millar wedi dweud y drefn wrthyf ar draws y Siambr, gan ddweud, 'Beth sy'n newydd? Beth sy'n newydd?' Ac eto, heddiw, rwy'n edrych ar y papur trefn ac rwy'n gweld cynnig yn enw'r un Darren Millar ar bwnc Brexit. Ac rwy'n siŵr y bydd digon o Aelodau yn y Siambr yn gwrando gyda pharch ar ei araith, ac yn dweud, 'Beth sy'n newydd?'

Ond heddiw—gobeithio y gwnaiff yr Aelodau faddau i mi—rwyf am edrych ymlaen nid yn ôl. Nid ydym am ailchwarae dadleuon y tair blynedd diwethaf. Felly, fel canllaw i'n hymagwedd yn y dyfodol at y negodiadau gyda'r Undeb Ewropeaidd, rydym newydd gyhoeddi dogfen sy'n nodi ein dull o weithredu. Yn y ddogfen honno, rydym yn gwbl glir ein bod yn derbyn, o gofio mai Llywodraeth y DU sydd â'r prif gyfrifoldeb dros gysylltiadau rhyngwladol, fod gan y Prif Weinidog fandad o'r etholiad i ddilyn y llwybr yr oedd yn ei argymell. Felly, rydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yr wythnos hon ac yn anelu at berthynas economaidd sy'n seiliedig ar gytundeb masnach rydd.   

Rydym ni, fel Llywodraeth, yn derbyn nad yw ein gweledigaeth o fodel tebyg i'r un Norwy a mwy, a welai'r DU yn cymryd rhan yn y farchnad sengl a'r undeb tollau, yn gynaliadwy mwyach. Felly, ni fyddwch yn ein clywed yn dadlau o blaid y cynnig hwnnw yn y dyfodol, ond parhawn i ddadlau ar sail y dystiolaeth ac er budd y dyfodol mwyaf llewyrchus i Gymru ar ôl Brexit, dros roi'r flaenoriaeth uchaf i berthynas economaidd gyda'r UE, ac i'r berthynas fod yn seiliedig ar leihau'r rhwystrau nad ydynt yn rhai tariff yn ogystal â dileu tariffau a chwotâu. Ac oni bai bod negodiadau'n profi fel arall, mae'n debygol y bydd angen i reoleiddio gyd-fynd yn agos â'r Undeb Ewropeaidd, o leiaf o ran nwyddau a bwydydd-amaeth.  

Y mater arall y bydd angen rhoi sylw iddo yn awr yw dyfodol confensiwn Sewel. Roedd y ffaith bod y Senedd wedi gwrthod y cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn arwyddocaol iawn, ac roedd penderfyniad Senedd y DU yr un mor arwyddocaol wrth fwrw ymlaen â'r Bil cytundeb ymadael heb ei ddiwygio, er bod Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon hefyd wedi pleidleisio yn yr un modd. Felly, ble mae hynny'n gadael confensiwn Sewel?  

Creadigaeth datganoli yw Sewel; ymgais i gysoni damcaniaeth ynghylch sofraniaeth seneddol ddilyffethair â chydnabyddiaeth o gyfreithlondeb democrataidd y deddfwrfeydd datganoledig. Mae'r math hwn o dŷ hanner ffordd cyfansoddiadol yn gynnyrch cyfansoddiad anysgrifenedig a thensiwn gwleidyddol nad yw wedi'i ddatrys, lle mae pragmatiaeth yn bwrw egwyddor i'r cysgod mewn perthynas â materion cyfansoddiadol.  

Rydym am weld diffiniad llawer cliriach a thynnach o Sewel. Ond heb ailwampio ein trefniadau cyfansoddiadol yn drylwyr, mae'n rhaid inni gydnabod y posibilrwydd y gallai Senedd y DU weithredu'n ymwybodol mewn ffordd sy'n herio ewyllys y deddfwrfeydd datganoledig. Hyd nes y daw diwygio o'r fath, ni ddylid defnyddio'r pŵer hwnnw ac eithrio pan fetho popeth arall. Felly, er ein bod yn gresynu na wnaeth Llywodraeth y DU fwy i ateb ein pryderon dilys ynghylch effaith bosibl y Bil ar gymhwysedd y Senedd hon, croesawn ei chydnabyddiaeth fod bwrw ymlaen heb gydsyniad yn yr achos hwn yn gwbl eithriadol, a byddwn yn eu dwyn i gyfrif am hynny ac yn gweithio gyda hwy, gobeithio, i geisio cryfhau Sewel er mwyn gwneud yn siŵr mai'r tro hwn yw'r tro olaf.

Felly, Dirprwy Lywydd, beth rŷm ni ei eisiau? Hoffwn i bwysleisio dau beth. Yn gyntaf, rŷm ni eisiau rôl ystyrlon yn y negodiadau ar y berthynas gyda'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol, ac yn wir yn y negodiadau ar gytundebau masnach rydd eraill a all effeithio ar gymhwysedd datganoledig. Dylai hyn adlewyrchu egwyddor 'not normally' Sewel. Hynny yw, pan fo cymhwysedd datganoledig o dan sylw, ni ddylai Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol fel arfer gyflwyno safbwyntiau negodi heb gytuno arnyn nhw yn gyntaf gyda'r sefydliadau datganoledig.

Yng nghyfarfod y cydbwyllgor gweinidogol ar negodiadau'r Undeb Ewropeaidd ddoe, er y bu rhywfaint o gynnydd ar y broses i gynnwys y sefydliadau datganoledig, dyw'r egwyddor ganolog honno ddim wedi cael ei derbyn. Ni allaf ddweud wrthych fy mod i'n hyderus y caiff ei derbyn, ond rŷm ni'n gobeithio y bydd Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol yn symud nawr ar hyn, a hynny cyn cyfarfod nesaf y cydbwyllgor gweinidogol.

Yn ail, hoffwn weld sylw o ddifrif yn cael ei roi i ddiwygio'r cyfansoddiad, i sicrhau nad yw'r Deyrnas Unedig yn cael ei chwalu yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd. Roedd canlyniad refferendwm 2016, i raddau helaeth iawn, yn fynegiant o gynddaredd gan gymunedau am y diffyg rheolaeth ganddyn nhw dros eu tynged eu hunain. Byddai'n drychineb pe bai hynny'n arwain at grynhoi pŵer yn fwy fyth yn y filltir sgwâr o amgylch Big Ben.

Mae Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol a Llywodraeth Cymru ill dau am i Undeb y Deyrnas Unedig lwyddo, a Llywodraeth Cymru yn credu bod angen ei ddiwygio er mwyn iddo oroesi. Rŷm ni wedi cyflwyno cynllun synhwyrol i ymwreiddio datganoli wrth ddiwygio'r cyfansoddiad yn ehangach, a hynny yn ein dogfen 'Diwygio ein Hundeb'. Hefyd, mae gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol ymrwymiad maniffesto i sefydlu comisiwn ar y cyfansoddiad, ac rŷm ni'n gobeithio ac yn disgwyl y bydd y sefydliadau datganoledig yn cael eu cynnwys yn llawn yn hwnnw.

Dyna pam, Dirprwy Lywydd, yn ein gwelliant, wrth gydnabod y cyfleoedd y bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn eu cynnig, gan gynnwys y potensial i sicrhau perthynas agosach gyda chenhedloedd eraill sy'n masnachu, a chydnabod yn glir ein bod yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, rŷm ni wedi canolbwyntio yn y gwelliant hwn ar yr heriau cyfansoddiadol sydd i ddod. Mae'n rhaid i ni gyd nawr droi ein sylw at y rheini. Felly, gofynnaf i'r Senedd hon gefnogi'r gwelliant ac i wrthod y cynnig.

16:50

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n llongyfarch pawb sydd wedi cyfrannu at y ddadl y prynhawn yma a chreu dadl rymus, a dweud y lleiaf. Rwyf am ddweud rhywbeth, os caf, am y weithdrefn. Rwy'n credu ei bod yn anffodus, pan fydd rhywun yn ymyrryd ar araith, ei fod yn cerdded yn syth o'r Siambr. Pwynt y ddadl, yn amlwg, yw ymgysylltu—

Mae hynny eisoes wedi'i gynnwys yn sylwadau Darren Millar, a byddaf yn cymryd camau pellach. Nid oes angen ei ailadrodd eto.

Wel, rwy'n derbyn hynny, Ddirprwy Lywydd, ond rwy'n credu bod gennyf hawl i ddweud yr hyn rwy'n ei feddwl. Ac rwyf am—

—dynnu sylw pobl ato. [Torri ar draws.] Rwyf am dynnu sylw pobl at y ffaith honno.

Rwyf hefyd am ystyried sylwadau David Rees a Dai Lloyd. Rwy'n credu eu bod wedi gwneud sylwadau perthnasol iawn, yn yr ystyr mai dydd Gwener, i lawer o bobl, fel y pwysleisiodd Neil Hamilton, fydd penllanw gwaith oes mewn gwleidyddiaeth a bywyd cyhoeddus. Ond i lawer o bobl sydd â safbwyntiau gwahanol, bydd ganddynt deimlad gwahanol iawn nos Wener. Os ydym am ddod â'r wlad hon at ei gilydd, nid yw'n ymwneud ag ymorchestu. Mae'n ymwneud â derbyn yr hyn a roddodd y refferendwm i ni yn 2016—cyfarwyddyd clir—i gyflawni'r cyfarwyddyd a rhyddhau'r cyfleoedd.

Ac rwy'n credu bod y pwyntiau hynny wedi cael eu gwneud yn dda yma heddiw, oherwydd mae'n ymwneud â sicrhau ein bod yn mynd â'r wlad gyda ni. Ac un peth yr hoffwn ei ddweud am y Llywodraeth newydd yn San Steffan—ac rwy'n derbyn y gallwn wynebu gwawd y pleidiau gwleidyddol eraill—mae pob aelod o'r Llywodraeth honno y cyfarfûm â hwy ers yr etholiad wedi ymrwymo i sicrhau bod y wlad hon yn symud ymlaen fel un, yn hytrach na gosod un grŵp yn uwch na'r llall. A gallai hynny swnio fel areithio gwleidyddol nawddoglyd, ond mae'n ffaith mai'r hyn rydym am wneud yn siŵr ohono yw bod y wlad yn symud ymlaen fel un, a bod camweddau'r gorffennol yn cael eu cywiro fel bod pobl sy'n teimlo eu bod yn cael eu gadael ar ôl yn gallu teimlo'n rhan o'r broses. [Torri ar draws.] Rwy'n falch o dderbyn yr ymyriad gennych chi, Joyce, os ydych chi eisiau gwneud ymyriad. Byddaf yn falch o dderbyn yr ymyriad, oherwydd gallaf eich clywed yn cwyno.

Tynnodd y Gweinidog Brexit sylw ar ddechrau ei araith 'Beth sy'n newydd?' Beth sy'n wahanol yn y cynnig hwn sydd gerbron y tŷ y prynhawn yma? A'r hyn sy'n newydd yw ein bod ar fin gadael yr Undeb Ewropeaidd. Am dair blynedd bron, cafwyd dadl, trafodaeth gyson, rhoddwyd rhwystrau ar waith i geisio ei atal. I agor y ddadl, cyfeiriodd Darren Millar yn ei araith: dro ar ôl tro, defnyddiwyd y broses i geisio atal yr hyn a oedd yn ymarfer hollol ddemocrataidd, ymarfer a gafodd ei roi ger bron y bobl, gan ddweud y byddai'n refferendwm sy'n rhwymo—nid refferendwm cynghorol ydoedd, roedd yn refferendwm rhwymol—ac y dylai Llywodraethau, pwy bynnag oeddent, weithredu ar y penderfyniad hwnnw. A rhoddodd Cymru, yn amlwg, fel y clywsom gan lawer o bobl—cyfeiriodd Mark Reckless at y pwynt—gyda'i gilydd, rhoddodd Cymru a rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig bleidlais fwyafrifol i ni adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ac mae hyn yn ymwneud â gwneud pethau'n wahanol. Mae hyn yn ymwneud, fel y nododd Mark yn ei gyfraniad, â dweud, lle arferai'r Undeb Ewropeaidd benderfynu ar gynlluniau a allai gael eu cyflwyno—y cynllun datblygu gwledig, er enghraifft, cronfeydd strwythurol—fod gan y Deyrnas Unedig a'r gweinyddiaethau datganoledig rôl i'w chwarae yn y broses gwneud penderfyniadau honno a siapio'r dyfodol.

Ac rwy'n meddwl ei fod yn sylw teg gan fainc y Llywodraeth a meincwyr cefn eraill sydd yma heddiw fod cryn waith i'w wneud ar wella'r setliad cyfansoddiadol o fewn y Deyrnas Unedig. Mae hwnnw'n bwynt teg iawn, oherwydd rydym yn symud i diriogaeth sydd heb ei fapio, gawn ni ddweud, oherwydd, yn amlwg, rydym wedi bod mewn tiriogaeth gyda'r Undeb Ewropeaidd yn penderfynu'n derfynol ar lawer o'r gwaith a wna'r sefydliad hwn dros y 45 mlynedd diwethaf. Dylai hynny greu teimlad o gyffro, ymdeimlad o her i ni yma mewn bywyd cyhoeddus i estyn allan a bachu'r cyfleoedd hynny.

Fel y pwysleisiodd Janet Finch-Saunders, Mohammad Asghar, Mark Isherwood yn eu cyfraniad heddiw—mae'r cyfleoedd yn ddiderfyn os gwnawn eu bachu a'n bod yn dechrau eu gweithredu o ddifrif yn hytrach na dim ond meddwl, 'Dyma oedd yn arfer bod gennym. Dyma sy'n rhaid i ni ei ddiogelu.' Wel, gallwn ddysgu o'r gorffennol—cywir—ond gallwn siapio'r dyfodol, a dyna'n sicr y mae pawb ohonom yn mynd i fywyd cyhoeddus i'w wneud. A dyna beth sy'n gyffrous am fwrw ymlaen yn awr ar ôl dydd Gwener. Mae'r dogfennau cyfreithiol yn eu lle, mae'r dyddiad wedi'i bennu'n derfynol, a byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Mae'n berffaith deg a rhesymol i nodi bod llawer o ddŵr i fynd o dan y pontydd hyn o hyd, yn enwedig o ran negodiadau masnach a thrafodaethau masnach—mae pawb yn derbyn hynny—ond yn y pen draw, nid oedd a wnelo'r refferendwm Brexit â chael mantais i un ar draul y llall. Yn bersonol, rwyf am weld perthynas mor gryf ag y gallwn ei chael gyda'n cyfeillion ar gyfandir Ewrop, ond rwyf am weld y penderfyniadau yn y wlad hon yn cael eu gwneud yn y wlad hon, boed hynny yma yng Nghaerdydd neu yn y Senedd yn San Steffan. A dyna i mi yw'r hyn sy'n rhwymo'r Deyrnas Unedig hon gyda'i gilydd.

A chyda'r teimlad a fynegir yn awr, gyda'r mandad newydd sydd ar waith, rwy'n gobeithio y byddwn yn manteisio ar y cyfleoedd a amlinellwyd y prynhawn yma ac y byddwn yn symud ymlaen drwy drafodaeth gadarnhaol i wneud yn siŵr ein bod yn y pen draw yn cyflawni'r hyn yr oedd llawer o bobl yn y refferendwm hwnnw yn ei deimlo—nad oedd eu llais, ar ôl 45 o flynyddoedd, wedi cael ei glywed, a'u bod am ailosod y cloc a newid cyfeiriad.

Nid yw hyn yn ymwneud â bod yn fuddugoliaethus, nid yw hyn yn ymwneud â gosod un sector o gymdeithas yn erbyn sector arall o gymdeithas—mae hyn yn ymwneud â democratiaeth. Siaradodd democratiaeth, fe gaiff ei ddeddfu. Gadewch i ni wneud yn siŵr ein bod yn manteisio ar y cyfleoedd a gyflwynir i ni yn awr. A dyna pam y buaswn yn gobeithio y byddai'r Llywodraeth yn tynnu eu gwelliant yn ôl ac yn derbyn y cynnig sydd gerbron y tŷ heno, fel y nododd arweinydd Plaid Brexit, oherwydd rwy'n methu gweld, ac ni chlywais y Gweinidog Brexit yn gwrthddweud unrhyw beth yn y cynnig, neu'n tynnu sylw at unrhyw beth a oedd ar fai gyda'r cynnig. A buaswn yn gobeithio y byddai'r Llywodraeth yn ailystyried ac yn cefnogi'r cynnig hwn, gan eu bod dro ar ôl tro wedi galw am gefnogaeth i gynigion sy'n cryfhau'r sefydliad hwn pan fydd yn siarad ag un llais.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

16:55

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi felly'n gohirio'r bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

7. Dadl Plaid Cymru: Perfformiad y GIG

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 3, 4 a 5 yn enw Darren Millar, a gwelliant 2 yn enw Rebecca Evans. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliannau 3 a 4 eu dad-ddethol.

Yr eitem nesaf, felly, yw dadl Plaid Cymru ar berfformiad y gwasanaeth iechyd. Dwi'n galw ar Rhun ap Iorwerth i wneud y cynnig.

Cynnig NDM7244 Siân Gwenllian

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r ystadegau perfformiad diweddaraf ar gyfer y GIG ac yn gresynu at y methiant parhaus i gyrraedd targedau perfformiad ar draws amrywiaeth o arbenigeddau a gwasanaethau.

2. Yn gresynu at ganslo llawdriniaethau a oedd wedi'u cynllunio er mwyn ymdrin â phwysau'r gaeaf ac yn credu ei bod yn bosibl cynllunio ar gyfer ymdrin â phwysau'r gaeaf a sicrhau bod llawdriniaethau a oedd wedi'u cynllunio yn parhau.

3. Yn credu y dylid llongyfarch staff y GIG a gofal cymdeithasol am eu perfformiad o dan amgylchiadau anodd.

4. Yn credu y gellir cynnal gwelliannau yn y GIG yn y tymor hir dim ond:

a) os caiff gwasanaethau gofal cymdeithasol yr un parch â'r GIG, ac yn gresynu nad yw gwasanaethau gofal cymdeithasol wedi'u hariannu'n ddigonol ar draul y GIG;

b) os ceir buddsoddiad sylweddol mewn gwasanaethau sy'n atal salwch;

c) os ceir gwelliannau i amodau gwaith a chynllunio'r gweithlu er mwyn gwella'r broses o recriwtio a chadw staff y GIG a gofal cymdeithasol.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr iawn. Mae'n bleser gwneud y cynnig yn ffurfiol, cynnig yn enw Siân Gwenllian. Mi oedd hi'n demtasiwn mawr heddiw yma i atgyfodi neu ail-bobi hen araith ar gyfer y ddadl yma, oherwydd er fy mod i wedi bod i ffwrdd oddi wrth y portffolio iechyd ers rhyw flwyddyn a hanner, mae yna lawer gormod o bethau, dwi'n ofni, sydd ddim wedi newid yn fy absenoldeb.  

Mae gormod o bethau, ar ôl dychwelyd i'r portffolio iechyd ar ôl absenoldeb byr, yn aros yr un fath. Credaf fod perfformiad gwael y GIG wedi bod yn debyg i gyflwr cronig i'r Llywodraeth bresennol. Mae'n gwanhau, gan achosi problemau i'r Llywodraeth wrth gynllunio ar gyfer y tymor hir, ond eto, nid ydym yn gweld y math o newidiadau enfawr yr hoffem eu gweld. Mewn llawer o wledydd eraill sy'n wynebu cyd-destun tebyg, does bosibl na fyddem wedi gweld Gweinidog yn colli ei swydd, neu newid Gweinidog. Mae'n bryder nad yw'n ymddangos bod unrhyw atebolrwydd sy'n bodoli o fewn y GIG yng Nghymru yn cynnwys atebolrwydd gan y Gweinidog iechyd ei hun. Ac os caf ddweud, mae'n drueni mawr nad yw'r Gweinidog yn gallu bod yma heddiw i gael ei ddwyn i gyfrif yn y ddadl hon; Dirprwy Weinidog sy'n mynd i ymateb i'r ddadl. Nid yw'n ddigon da.  

Gwelaf o welliannau'r Llywodraeth nad yw sail ganolog ein cynnig, y gresynu at berfformiad gwael a  

'[ch]anslo llawdriniaethau a oedd wedi'u cynllunio er mwyn ymdrin â phwysau'r gaeaf'

wedi'i ddiwygio y tro hwn. Efallai ein bod o'r diwedd yn symud oddi wrth y cam cyntaf o wadu erbyn hyn, ac mae hynny'n dda. Ond yn lle hynny, rydym yn gweld bai'n cael ei roi ar Lywodraeth y DU am gyni, sydd o leiaf yn awgrymu cydnabyddiaeth y dylai pethau fod yn well ac wrth gwrs, rwy'n cytuno bod cyni wedi'i lywio gan ideoleg wedi bod yn hynod niweidiol i ddarpariaeth gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, ond y broblem yw bod hyn, gan Lywodraeth Cymru heddiw, braidd yn gamarweiniol ar lawer o fesurau perfformiad.

Mae Cymru wedi bod yn llusgo ar ôl yr Alban, a Lloegr i raddau llai, am y rhan fwyaf o'r degawd diwethaf, er bod cyni wedi effeithio ar bob gwasanaeth ar draws y DU. Yn wir, roedd Llafur eu hunain yn clodfori'r ffaith eu bod wedi bod yn gwario mwy ar iechyd a gofal cymdeithasol, ac rydym yn gofyn y cwestiwn syml: pam nad yw pethau wedi gwella yn y cyd-destun hwnnw? Oherwydd y gwir amdani yw ein bod wedi cael degawd lle mae Llywodraeth Cymru wedi achub croen y GIG dro ar ôl tro mewn achosion o berfformiad gwael, a hynny'n aml ar draul gwasanaethau llywodraeth leol, a gwyddom mor niweidiol y gall hynny fod. Ychydig iawn, os o gwbl, o weledigaeth neu reolaeth strategol a fu ar arian ychwanegol, lle roedd modd dod o hyd iddo. Ac rwy'n credu bod hynny'n fwy gwir wrth edrych ymlaen at y flwyddyn ariannol sydd i ddod nag y bu hyd yn oed dros y degawd diwethaf.

Er eu bod yn honni eu bod am gael mwy o wasanaethau yn y gymuned, er enghraifft, gan honni eu bod am newid y ffocws tuag at atal afiechyd, mae'r rhan fwyaf o arian yn dal i fynd tuag at ymladd tanau mewn gofal eilaidd, yn cael ei lifo tuag at ymgynghorwyr rheoli allanol, i asiantaethau sy'n cyflenwi staff y GIG a fyddai wedi parhau mewn cyflogaeth uniongyrchol pe bai'r amodau'n well. Yn wir, y bwrdd iechyd y bu gan Lywodraeth Cymru y mwyaf o reolaeth drosto, sef Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, yw'r un lle mae'r berthynas rhwng y rheolwyr a'r staff ar ei gwaethaf erioed oherwydd yr argymhellion sydd bellach wedi'u dileu ar amseroedd egwyl nyrsys. Dyma'r bwrdd iechyd gyda'r amseroedd aros gwaethaf ar gyfer triniaeth wedi'i chynllunio ac adrannau damweiniau ac achosion brys, ac mae'n hysbys iawn fod y bwrdd iechyd, wrth gwrs, yn hytrach na buddsoddi mewn gwasanaethau rheng flaen, wedi afradu cannoedd o filoedd o bunnoedd ar ymgynghorwyr rheoli allanol sy'n gweithio o gartref yn Marbella. Yn amlwg, nid yw cyni wedi eu taro hwy.  

Nid yw'n ymwneud ag arian yn unig, er, wrth gwrs, fel y dywedais, mae cyni wedi taro'n galed drwyddi draw, ac nid ym maes iechyd yn unig. O edrych ar y meysydd lle gwyddom fod y perfformiad yn wael, ni allwn ond barnu ar sail mesurau perfformiad sydd ar gael i'r cyhoedd. Mae llawer gormod o fesurau yr hoffem eu cael ac nid oes gennym fesurau perfformiad ar eu cyfer, lle gallwn feintioli'r dystiolaeth anecdotaidd ynghylch amseroedd aros hir am apwyntiadau meddygon teulu er enghraifft; y gofal y tu allan i oriau nad yw'n bodoli; methiannau gofal cymdeithasol i gadw pobl yn eu cartrefi. Mae cymaint o ddata ar goll, ac nid wyf yn meddwl y byddai'r data hwnnw, pe bai ar gael, yn adrodd stori'n well na'r data sydd gennym mewn gwirionedd.  

Mae'r holl fesurau perfformiad a gyhoeddir yn rheolaidd yn cyfeirio, i bob golwg, at ofal eilaidd, er bod eu methiannau ym maes gofal eilaidd yn aml iawn yn adlewyrchu methiannau mewn gofal sylfaenol, methiant i fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol. Ac yn ogystal ag adroddiadau misol ar y methiant i gyrraedd targedau amseroedd aros, gadewch i ni ddychmygu sut y byddai'r sgwrs yn newid pe bai gennym adroddiad misol hefyd ar yr effaith y mae toriadau i wasanaethau lleol a chyllid awdurdodau lleol yn ei chael ar y gallu i addasu cartrefi pobl yn amserol, neu i roi pecynnau gofal yn eu lle mewn pryd. Felly, pan fyddwn yn myfyrio ar yr amseroedd aros hir a gyhoeddir bob mis, er mor annerbyniol ydynt wrth gwrs, gadewch inni fod yn glir mai'r hyn a welwn yw un arwydd gweladwy o fethiant yn y system sydd wedi'i wreiddio'n ddwfn ac sy'n methu cael ei drawsnewid. Rydym yn dal i aros am y trawsnewid hwnnw ac ni welwn lawer o arwyddion ohono.

I droi at welliannau'r Ceidwadwyr, mae gennym fân wrthwynebiad i'r cyntaf. Yn ein barn ni, cynlluniau hirdymor gwael ar gyfer y gweithlu sydd ar fai am y problemau a welsom yn ddiweddar. Byddai'n well gennym ganolbwyntio ar hynny. Ond mae gwelliant 3, rwy'n meddwl, yn dangos pa mor anaddas yw'r Ceidwadwyr i redeg gwasanaethau iechyd yng Nghymru. O drafodaethau blaenorol yma, credwn fod—

17:05

Cyn i chi benderfynu ceisio ein goleuo ynglŷn â'r hyn y credwch y byddaf yn ei ddweud, buaswn yn falch iawn o—. Pan fyddwn yn siarad am welliant 3, byddaf yn dweud wrthych yn union pam ein bod wedi dileu hwnnw a rhoi dau arall yn ei le, a gobeithio y bydd hynny'n ateb eich pryderon.

O'r gorau. Ond mae'n amlwg, onid yw, lle mae'r Ceidwadwyr yn awgrymu rywsut na allwn ganolbwyntio ar y niwed a achosir gan ddiffyg buddsoddiad mewn gofal cymdeithasol, nad oes ond angen inni edrych ar Loegr i weld beth a wnaeth Llywodraethau Ceidwadol yno drwy amddifadu awdurdodau lleol o arian a'r effaith ddinistriol a gafodd hynny ar ysbytai, yn enwedig adrannau damweiniau ac achosion brys, yn Lloegr? Mae'n codi amheuon clir iawn yn fy meddwl ac ym meddyliau llawer o bobl eraill rwy'n siŵr ynghylch pa mor ddifrifol y mae'r Ceidwadwyr ynglŷn â'r angen i adeiladu system integredig lle mae'n rhaid i chi gael cynaliadwyedd ar draws gofal cymdeithasol yn ogystal â'n hysbytai. Ac mae'r Ceidwadwyr, yn yr unig le y gallwn eu beirniadu, o fod yn llywodraethu yn Lloegr, wedi gwneud llanast llwyr o'r gallu i ddod â gofal cymdeithasol parhaus at ei gilydd er mwyn cynnal ein hysbytai.  

Byddwn yn cefnogi gwelliant 4, ond byddwn yn gwrthod gwelliant 5. Mae'n ddigon posibl y bydd y grant bloc yn codi yn y flwyddyn ariannol sydd i ddod mewn termau real, ond mae ymhell o fod yn lefel wirioneddol o gyllid y dylai Cymru ei gweld. Er enghraifft, nid yw'n adlewyrchu'r arian y dylai Cymru fod yn ei gael o gynlluniau fel HS2, sy'n sugno cymaint o arian Llywodraeth y DU, ac nid yw Cymru'n cael ei chyfran deg ohono, felly ni allwn gefnogi hwnnw.  

Ond mae angen inni ganolbwyntio yn awr ar wella perfformiad a chael gwell gwerth am arian am yr hyn a wariwn. Ac yn dal i fod, heddiw, rydym yn rhoi cyfle i'r Dirprwy Weinidog—nid y Gweinidog—i roi awgrym bach i ni o ble mae'r Llywodraeth hon yn ail-ganolbwyntio ar weddnewid y gwasanaeth iechyd sydd gennym heddiw yn wasanaeth iechyd y bydd ei angen arnom yn y dyfodol. Mae angen inni gynnwys y mathau o newidiadau, y mathau o gronfeydd trawsnewid a all fynd â ni i'r fan honno, oherwydd, ar hyn o bryd, mae rheoli, neu'n anffodus, camreoli'r GIG yn golygu ein bod yn parhau yn y rhigol hon lle cawn yr un araith dro ar ôl tro, mae'n ymddangos, pwy bynnag fydd yn llefarwyr iechyd ar ran pleidiau'r wrthblaid, cyhyd â bod Llafur yn parhau mewn grym, oherwydd nid oes arwydd o gwbl o'r trawsnewid sydd ei angen ar ein GIG.  

Rwyf wedi dewis y pump gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 2, bydd gwelliannau 3 a 4 yn cael eu dad-ddethol. Dwi'n galw Angela Burns, felly, i gynnig gwelliannau 1, 3, 4 a 5, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Angela Burns.

17:10

Gwelliant 1—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 2 ac ailrifo yn unol â hynny:

Yn gresynu bod rhai o fyrddau iechyd Cymru yn gohirio recriwtio oherwydd pwysau ariannol sy'n gwaethygu perfformiad gwael a phwysau ar staff rheng flaen.

Gwelliant 3—Darren Millar

Ym mhwynt 4 (a) dileu ', ac yn gresynu nad yw gwasanaethau gofal cymdeithasol wedi'u hariannu'n ddigonol ar draul y GIG'.

Gwelliant 4—Darren Millar

Cynnwys is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 4:

'os caiff y rhwystrau artiffisial rhwng iechyd meddwl ac iechyd corfforol eu dileu.'

Gwelliant 5—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu'r cyfleoedd i fuddsoddi adnoddau ychwanegol yn y GIG yng Nghymru a'r gwasanaethau gofal cymdeithasol er mwyn hybu perfformiad o ganlyniad i gynnydd mewn termau real yn grant bloc Cymru.

Cynigiwyd gwelliannau 1, 3, 4 a 5.

Diolch, Lywydd. Hoffwn gynnig yn ffurfiol y gwelliannau a gyflwynwyd yn enw fy nghyd-Aelod, Darren Millar. Hoffwn ddiolch i Helen Mary Jones am allu cytuno ac anghytuno â hi mor dda yn y portffolio iechyd dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf—byddaf yn gweld eich colli. A chroeso'n ôl, Rhun. Rydym wedi bod yma o'r blaen, ond mae'n dda eich gweld. Ac wrth gwrs, rydym wedi bod yma o'r blaen mewn sawl ffordd arall, ac rwy'n deall eich synnwyr o déjà vu, oherwydd yn eich absenoldeb byr o'r portffolio iechyd, ychydig iawn sydd wedi gwella, ychydig iawn sydd wedi newid, ac mae hynny'n bryder mawr iawn.

Dyna pam nad yw'r cynnig a gyflwynwyd gan Blaid Cymru yn un yr anghytunwn ag ef yn sylfaenol; mae'n datgan ffaith ac yn mynegi pryderon am berfformiad GIG Cymru. Fodd bynnag, teimlwn y gallai'r cynnig fod yn llawer cryfach, a dyna pam y byddwn yn gwrthwynebu'r cynnig er mwyn ceisio cefnogaeth i'r gwelliannau y byddaf yn sôn amdanynt yn fy nghyfraniad.

Yr hyn nad ydym yn cytuno ag ef yn sicr, Ddirprwy Weinidog, yw gwelliant 2 Llywodraeth Cymru, sydd, yn ôl ei arfer, yn datganoli pob cyfrifoldeb dros bopeth sy'n digwydd yma yng Nghymru i unrhyw un a phawb arall y gallwch feddwl amdanynt er mai eich plaid chi, mewn gwirionedd, eich Llywodraeth chi, gyda chymorth Plaid Cymru, sydd wedi bod yn rhedeg y GIG yng Nghymru ers 20 mlynedd. A gwelwn o'ch gwelliant pam yn union ein bod yn y sefyllfa rydym ynddi heddiw. Mae'r GIG yng Nghymru yn methu'n rhannol oherwydd y penderfyniadau a wnaed gan ei harweinyddiaeth a'r diffyg arweinyddiaeth a gaiff o'r lefel uchaf. Mae eich gwelliant yn ceisio rhoi'r bai ar eraill, ac nid yw'n mynd i'r afael â'r rhesymau pam eich bod wedi gwneud y penderfyniadau a wnaethoch ers i'r setliad datganoli gael ei gytuno.

Nawr, un peth rwyf am ei wneud yn glir iawn—ac rwy'n meddwl y byddai pob un ohonom yn cyd-fynd â hyn—mewn unrhyw ddadl a gawn ar y mater hwn, rwyf bob amser yn ymwybodol o'r niwed y gellir ei achosi i forâl y gweithlu rheng flaen sy'n trin cleifion o ddydd i ddydd, sy'n gorfod ymdrin â chanlyniad penderfyniadau gwleidyddion ac uwch reolwyr. Rwyf am gofnodi fy niolch i'r staff hynny unwaith eto am eu hymroddiad a'u parodrwydd i fynd y tu hwnt i'r hyn a ddisgwylir ganddynt i weithio'r oriau ychwanegol hynny, yn aml heb dâl. Ac a bod yn onest, fy neges i'r rhai sy'n gweithio yn y GIG yng Nghymru ac ym maes gofal cymdeithasol, yw: rydych chi'n haeddu gwell. A thrwy dynnu sylw at y problemau fel y gwnawn yn y dadleuon a gyflwynir yma, neu welliannau a luniwn i ddadleuon, ein bwriad, bwriad fy mhlaid, yw ceisio rhoi pwysau ar Lywodraeth Cymru a rheolwyr byrddau iechyd i hwyluso'r newid y mae angen inni ei weld.

Gan droi at ein gwelliannau—ac rwy'n ymddiheuro am hyn—hoffwn eu gwneud yn groes i'w trefn. Gwelliant 5: rydym yn croesawu'r hwb i'r grant bloc a gyhoeddodd y Canghellor yn ei adolygiad o wariant yr hydref yn ôl ym mis Medi, a hoffwn atgoffa'r Cynulliad fod y Gweinidog Cyllid wedi disgrifio'r ychwanegiad hwn at y grant bloc fel rhywbeth i 'dynnu sylw cyn yr etholiad'. A hoffwn nodi'n barchus, oni bai am y ffordd y gwnaeth ei phlaid gamreoli'r economi drwy'r DU, ni fyddai rhaid i'r gostyngiad yn y gwariant a oedd yn ofynnol i gael yr economi yn ôl ar y trywydd iawn fod wedi digwydd. Felly, nid yw wedi'i ysgogi'n ideolegol—

Gwnaf mewn munud, Mick. Rwyf am orffen fy mhwynt.

Nid yw wedi'i ysgogi gan ideoleg, Rhun ap Iorwerth; roedd yn gwbl angenrheidiol. A hoffwn annog y Dirprwy Weinidog i siarad â'r Gweinidog iechyd a gofyn iddo ddefnyddio cyfran ei adran o'r cyllid ychwanegol mewn ffordd strategol i edrych ar ble y bydd yr arian ychwanegol yn gwneud gwahaniaeth go iawn. Oherwydd yn rhy aml, mae'r Llywodraeth hon yn meddwl y gallant greu newid gwirioneddol drwy daflu arian at yr un hen beth, yr un hen beth. Os nad yw'n gweithio, mae'n rhaid i chi wneud rhywbeth am y peth. Mae'n ddrwg gennyf—fe dderbyniaf yr ymyriad.

Diolch am ei dderbyn. Yn amlwg, byddwn yn mynegi ein barn yn ystod y cynnig hwn, ond mae ailadrodd y camsyniad fod cyni ar ôl 2010, ar ôl y cwymp ariannol, yn ganlyniad i wariant gan y Llywodraeth Lafur wedi'i wrthbrofi'n economaidd; mae'n ffeithiol anghywir. Ar y pryd, ychydig cyn y cwymp ariannol, roedd benthyca ar 35.7 y cant o'r cynnyrch domestig gros, a oedd 0.1 y cant yn uwch na hynny pan ddaeth Llafur i rym yn 1997. Nawr, gallwch gyflwyno eich dadleuon, ond mae'n ffeithiol anghywir. Nid canlyniad y Llywodraeth Lafur oedd y cwymp ariannol, ac rwy'n credu ei fod yn gamliwio, ac mae'n annheg i chi barhau i ailadrodd hynny.

Rwy'n credu eich bod am siarad yn nes ymlaen yn y ddadl, Mick Antoniw. Roedd hwnnw'n ymyriad eithaf hir, ac efallai y bydd angen i chi dynnu ychydig o amser oddi ar eich ymyriad yn nes ymlaen.

Ac ni thrafferthaf ateb eich ymyriad oherwydd rwy'n siŵr y gallwch siarad amdano yn eich rhan chi. Fodd bynnag, hoffwn fynd i'r afael â gwelliannau 3 a 4 oherwydd, mewn gwirionedd, gadewch i mi fod yn glir iawn: rydym wedi newid y gwelliannau hynny oherwydd ein bod yn credu bod rhwystr artiffisial yn rhy aml rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn yr un modd, fod yna rwystr artiffisial rhwng iechyd corfforol ei natur ac iechyd meddwl. Nawr, Rhun ap Iorwerth, rydych chi wedi eistedd gyda mi ar lawer o bwyllgorau pan fuom yn siarad am gyfanrwydd llesiant ac integreiddio'r unigolyn. Credwn fod angen i'n gwasanaeth iechyd cyfan symud y ffocws ac edrych ar bobl pan ânt i'r ysbyty, pan fyddant yn mynd i ofal sylfaenol, pan fyddant yn defnyddio gwasanaethau cymdeithasol mewn modd cyfannol, oherwydd un o'r meysydd mawr lle rydym yn colli arian a lle nad ydym yn cyflawni yw ein bod ond yn datrys y peth heb edrych ar yr unigolyn cyfan, eu hanghenion gofal cymdeithasol, eu hanghenion tai, eu hanghenion corfforol, eu hanghenion iechyd meddwl, a'u rhoi yn ôl at ei gilydd fel y gallant fynd yn ôl i'r gymdeithas a byw beth bynnag sydd ar ôl o'u bywydau gystal ag y gallant. A dyna yw ein bwriad yno, rhoi mwy o arian—rydym eisoes yn cael £8 biliwn ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ac mae angen arian ar Gymru mewn meysydd eraill. Felly, mae angen adleoli'r £8 biliwn mewn ffordd lawer mwy clyfar a dilys lle rydym yn edrych ar y person cyfan, a dyna'r newid rydym yn ceisio ei sicrhau gyda gwelliannau 3 a 4.

Mae'n ddrwg iawn gennyf, gwn fod fy amser wedi dod i ben, ond roeddwn am ychwanegu'n gyflym ein bod yn sôn am recriwtio oherwydd pwysau ariannol am ein bod yn credu bod yna bwysau recriwtio enfawr yn bodoli, nid yn unig gyda meddygon a nyrsys, ond rydym yn anghofio am y staff ystafell gefn. Rydym bob amser yn siarad am y rheng flaen, ond os ydych chi'n feddyg ymgynghorol a bod rhaid i chi anfon llwyth o ganlyniadau allan at rywun ac nad oes gennych ysgrifennydd a all deipio'r llythyr hwnnw i fynd allan at yr unigolyn a'u ffonio i ddod yn ôl i gael rhagor o driniaeth, mae'n broblem enfawr. Rwyf am ei gadael ar hynny, rwy'n sylweddoli nad oes amser gennyf ar ôl. Diolch yn fawr am eich eiliadau ychwanegol, ond rwy'n cymeradwyo ein gwelliannau i'r Siambr.

17:15

Rwy'n galw ar y Dirprwy Weinidog iechyd i gynnig yn ffurfiol welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans.

Gwelliant 2—Rebecca Evans

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod effaith degawd o gyni annheg o gyfeiriad y DU ar yr adnoddau sydd ar gael i ariannu gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn credu mai dim ond trwy’r dulliau canlynol y gellir cynnal gwelliannau yn y GIG yn y tymor hir:

a) os bydd y GIG a gofal cymdeithasol yn cydweithio fel partneriaid cyfartal;

b) os bydd buddsoddi yn parhau ar draws y ddwy system i helpu pobl i gadw’n iach ac allan o’r ysbyty;

c) drwy barhau â’r ffocws ar recriwtio a chadw ein gweithlu iechyd a gofal, ynghyd â’u llesiant, gyda chymorth y strategaeth ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd.

Cynigiwyd gwelliant 2.

Mae nifer ohonon ni, wrth gwrs, yn ingol ymwybodol ym mis Mehefin y bydd bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn cyrraedd carreg filltir anffodus eithriadol yn y ffaith y bydd wedi bod mewn mesurau arbennig am bum mlynedd. Nawr, dyna ichi hyd tymor Cynulliad cyfan o fesurau arbennig, sydd, dwi'n meddwl, yn rhywbeth efallai sydd yn tanlinellu pa mor ddifrifol yw'r sefyllfa honno. Ac mae rhywun yn ffeindio'i hun yn gofyn i'w hunan, 'Beth mae mesurau arbennig wedi'u cyflawni o safbwynt Betsi Cadwaladr?' Beth yw pwynt y mesurau arbennig yma os nad ydyn ni'n gweld, ar ôl pum mlynedd, y cynnydd y byddai rhywun yn gobeithio ei weld a byddai rhywun yn teimlo sy'n deg inni ddisgwyl ei weld? Yn wir, mae mesurau arbennig wedi mynd yn rhyw fath o norm i fwrdd iechyd Betsi Cadwaladr erbyn hyn, ac ambell i un, â thafod yn y boch, yn gofyn, 'Oes yna ryw extra special measures y byddem ni'n gallu eu gosod o safbwynt y bwrdd?' Mae'r Llywodraeth, wrth gwrs, er eu bod nhw yn y cyfnod hynny â rheolaeth uniongyrchol dros y bwrdd yn barod iawn, yn rhy aml o lawer, i wadu unrhyw gyfrifoldeb, a dyw hynny, wrth gwrs, ddim yn dderbyniol chwaith.

Felly, pa wahaniaeth mae pum mlynedd wedi'i wneud? Wel, mi ddywedaf i wrthych chi: yn ystod y cyfnod lle mae'r Llywodraeth, i bob pwrpas, wedi bod â goruchwyliaeth uniongyrchol dros y bwrdd, rŷn ni wedi gweld ceisio preifateiddio gwasanaethau dialysis yn Wrecsam ac yng Nghroesoswallt; rŷn ni wedi gweld yr honiadau ynglŷn â cheisio preifateiddio fferyllfeydd yn yr ysbytai; rŷn ni'n sicr wedi gweld ymdrechion i newid sifftiau gwaith 4,000 o nyrsys ar draws y gogledd, yn eu gorfodi nhw, i bob pwrpas, i weithio'r hyn sy'n gyfwerth â sifft ychwanegol y mis yn ddi-dâl, gan chwalu morâl y nyrsys yn llwyr. A dwi mor falch bod y cynnig fel y mae e gan Blaid Cymru yn cydnabod y gwaith aruthrol ac yn llongyfarch staff y gwasanaeth iechyd a gofal cymdeithasol ar yr hyn maen nhw'n ei gyflawni er gwaethaf ffaeleddau'r rheolwyr, a Llywodraeth Cymru yn yr achos yma—rheolwyr, gyda llaw, sy'n amlwg ddim yn gwneud eu gwaith yng ngogledd Cymru, oherwydd, fel rŷn ni wedi clywed, maen nhw'n gorfod tynnu i mewn ddwsinau lawer o reolwyr ymgynghorol ar ffioedd eithriadol o uchel, a hynny pan fo'r bwrdd yn cario dyledion o gwmpas £40 miliwn. Maent yn gwario degau o filiynau o bunnau wedyn ar staff o asiantaethau preifat tra bo nifer ohonom ni yn y Cynulliad yma wedi bod yn galw ers blynyddoedd lawer am ymdrechion mwy effeithiol a mwy sylweddol i recriwtio a hyfforddi staff yn ychwanegol.

Rŷn ni'n gweld dwsinau o gleifion iechyd meddwl yn cael eu hanfon i sefydliadau anaddas, gannoedd o filltiroedd i ffwrdd o'u teuluoedd, yn Lloegr. Rŷn ni wedi gweld ffraeo ynglŷn â thaliadau am gytundebau i ysbytai yn Lloegr, sy’n golygu bod ysbytai fel y Countess of Chester wedi gwrthod cymryd cleifion o Gymru. Rŷn ni wedi gweld colli bron i 100 o welyau yn ychwanegol o ysbytai’r gogledd yn ystod y cyfnod o fesurau arbennig, heb sôn am golli gwelyau a cholli ysbytai cymunedol ar yr un pryd—29 o welyau wedi mynd yng Nglan Clwyd; 29 arall wedi mynd yn y Maelor—a hynny’n arwain, wrth gwrs, at y delayed transfers of care rŷn ni’n clywed amdano fe yn gyson. Y rhestrau aros gwaethaf yng Nghymru; y rhestrau aros adrannau brys gwaethaf yng Nghymru yn Ysbyty Wrecsam Maelor—prin hanner y cleifion sy’n cael eu gweld o fewn pedair awr. Ac mae gen i stori bersonol gallwn i ddweud wrthych chi am fod yn aros 12 awr am gael fy ngweld mewn adran frys. Nawr, mae hynny, wrth gwrs, yn golygu—[Torri ar draws.] Wnaf i ddim cymryd, mae’n ddrwg gen i; mae gen i lot o bethau i’w cael mewn.

Mae rhestrau o ambiwlansys wedyn, wrth gwrs, yn ciwio y tu allan yn sgil y diffyg llif yna o gleifion, ac rŷn ni’n clywed, wrth gwrs, beth sydd wedi digwydd mewn llefydd fel Gwersyllt, Rhosllanerchrugog a Fairbourne, pan fo cleifion yn gorfod aros oriau lawer am ambiwlans, a’r canlyniadau wrth gwrs yn rhai difrifol a thrist iawn yn rhai o’r achosion hynny.

Ddoe ddiwethaf fe amlygodd Adam Price fod dros hanner o’r holl ddigwyddiadau a oedd yn arwain at farwolaethau yn ysbytai Cymru yn ardal Betsi Cadwaladr, ac mae yna gwestiwn yn dal i fod am ddiogelwch cleifion iechyd meddwl yn y gogledd. Roedd adroddiad eto heddiw yn dweud bod gwasanaeth cwnsela iechyd meddwl y gogledd yn anaddas. Dyw pethau ddim yn gwella fel y byddem ni’n gobeithio ei weld. Yn wir, mewn rhai agweddau, mae’n rhaid imi ddweud, mae’r sefyllfa yn waeth nawr nag oedd hi bum mlynedd yn ôl.

Felly, beth mae mesurau arbennig wedi’u cyflawni? Y Prif Weinidog presennol oedd y Gweinidog iechyd a orfodwyd i fynd â Betsi Cadwaladr i mewn i fesurau arbennig, a’r Gweinidog iechyd presennol, pan oedd e’n Ddirprwy Weinidog ar y pryd, a gafodd y cyfrifoldeb penodol dros sefyllfa bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Mae’n hen bryd, yn fy marn i, i brif weithredwr y bwrdd i fynd. Mae wedi cael hen ddigon o amser inni weld cynnydd mwy sylweddol nag yr ydyn ni wedi ei weld erbyn hyn. Gallaf i ddim credu, a bod yn onest, ei fod e’n dal yn ei swydd. Byddem ni eisiau clywed gan y Dirprwy Weinidog pa drafodaethau sydd wedi bod rhwng Llywodraeth Cymru a’r bwrdd am ddyfodol y Prif Weinidog presennol—y prif weithredwr presennol. Mae’r drafodaeth ynglŷn â dyfodol y Prif Weinidog yn un arall allem ni ei chael mewn dadl arall efallai. Ond, yn fwy difrifol hefyd, mae gyda ni sefyllfa lle, gyda record y Gweinidog iechyd presennol, fel dwi wedi amlinellu, oll yn ystod y cyfnod yma o fesurau arbennig a rheolaeth uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru, yn fy marn i, does amheuaeth, mae’n rhaid i’r Gweinidog fynd hefyd.

17:20

Rwy'n credu y dylem fod o ddifrif ynglŷn â'r hyn y mae Angela Burns yn ei ddweud am yr effaith y mae ein dadleuon ar y pwnc hwn yn ei chael ar y gweithlu. Felly, er i ni glywed yn gynharach am y problemau a wynebir gan Ysbyty Brenhinol Morgannwg gyda'r unig feddyg ymgynghorol parhaol achosion brys ar fin ymddeol, ac mae Llyr newydd fod yn siarad am y problemau parhaus yn Betsi Cadwaladr, ac nid wyf yn dymuno eu bychanu mewn unrhyw ffordd, ond mae'n rhaid i chi feddwl am effaith atgoffa pobl yn barhaus o'r heriau sydd o'u blaenau heb ddarparu atebion. Credaf fod rhaid inni edrych ar beth y gallwn ei wneud a'r hyn rydym yn ei wneud ynglŷn â hyn.

Felly, roeddwn am roi sylw i'r hyn sydd yng ngwelliant 2 oherwydd credaf ei bod yn bwysig iawn cydnabod na ellir cynnal gwelliannau yn y GIG yn hirdymor os nad yw staff y GIG a'r gweithlu gofal cymdeithasol yn gweithio gyda'i gilydd fel partneriaid cyfartal. Oherwydd pwysleisiodd y Prif Weinidog yn ddiweddar mai ffigurau 2019 yw'r ffigurau gorau a gofnodwyd ar gyfer achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal o gymharu â'r ddwy flynedd flaenorol, ond mae wedi cael cryn effaith ar y gweithlu gofal cymdeithasol sydd wedi gorfod ysgwyddo'r baich am ein bod yn awyddus iawn, yn naturiol, i gael pobl allan o'r ysbyty pan nad oes angen gofal ysbyty arnynt mwyach.

Rwyf newydd fod yn darllen y cynllun drafft a ddeilliodd o 'Cymru Iachach', ac a ysgrifennwyd gan y gweithlu gofal cymdeithasol yn ogystal ag Addysg a Gwella Iechyd Cymru, sy'n cynnwys y ddeoniaeth, y gwasanaethau addysg a datblygu, a'r fferyllwyr. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fod gennym raglen ar gyfer y gweithlu sy'n mynd ati o ddifrif i gydgysylltu'r dotiau rhwng y ddau wasanaeth, ac rwy'n meddwl—. Maent yn amlinellu'n glir iawn fod angen inni drawsnewid rolau traddodiadol a ffyrdd traddodiadol o weithio i gefnogi modelau gofal newydd, a'u bod eisoes yn cael eu datblygu drwy'r byrddau partneriaeth rhanbarthol, yn ogystal ag mewn gofal sylfaenol a thrwy gynlluniau cymorth yn y cartref.

Mae'n pwysleisio pwysigrwydd meithrin diwylliant o arweinyddiaeth dosturiol a chynhwysol, ac mae'n wirioneddol bwysig fod unrhyw un sy'n gweithio yn y gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn gorfod edrych ar yr unigolyn o'u blaenau a gwrando arnynt, yn hytrach na dim ond dweud, 'Wel, rydych chi'n mynd i gael y peth hwn' ac 'Rydych chi'n mynd i gael y peth arall'. Rhaid inni ailadrodd yr egwyddorion a nodir yn 'Gofal Iechyd Darbodus' a 'Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy', sy'n ymwneud â'r bartneriaeth rhwng y dinesydd a'r darparwr gwasanaethau.

Yr ail bwynt a wnaed yng ngwelliant 2 yw'r buddsoddiad i helpu pobl i aros yn iach ac allan o'r ysbyty. Nawr, wrth gwrs, yn y tymor hir, mae angen inni gael pobl i fwyta bwyd glân, ffres a cherdded neu feicio yn hytrach na dibynnu ar y bws neu'r car ar gyfer teithiau byr, ond rwy'n sylweddoli na fydd hynny'n digwydd dros nos. Felly, yn y tymor byr, rwy'n credu ei bod yn bwysig mynd i'r afael â'r ffaith bod Cydffederasiwn y GIG yng Nghymru yn dweud y gallai cynifer ag un o bob pump o'r rhai sy'n dod i'r adran damweiniau ac achosion brys gael eu trin yn rhywle arall mewn gwirionedd. Ac os bydd y broblem honno gennym o hyd, mae gwir angen inni barhau i weithio ar hynny. Ac yn amlwg, mae Dewis Doeth yn ffordd o annog y dinesydd i beidio â mynd i'r adran achosion brys oni bai fod gwir angen gwasanaethau brys arnynt. Mae Cydffederasiwn y GIG yn cynnig rhestr wirio o'r hyn y gall pobl ei wneud i aros yn iach dros y gaeaf, a bydd pob un ohonom yn gyfarwydd â'r mathau o bethau sy'n gysylltiedig â hynny—gwneud yn siŵr fod pobl yn gwisgo'r mathau o ddillad ac yn trefnu dodrefn mewn ffordd sy'n eu helpu i osgoi cwympo.

Ond rwy'n credu bod angen dull mwy cyfannol ar gyfer llawer o bobl nad ydynt yn darllen rhestrau gwirio, ac nad ydynt yn gweithredu yn y modd hwnnw—mae'n fwy na thebyg fod llawer ohonynt yn profi unigedd—ac felly hoffwn gymeradwyo un neu ddau o bethau y mae bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro yn ei wneud: (1) mae ganddo rywbeth o'r enw rhaglen iechyd a ysgogir gan ddinasyddion, lle maent yn gweithio gyda Chymdeithas Tai Cadwyn, gyda staff a gwirfoddolwyr, sy'n mynd i mewn i gartrefi pobl, yn dod i adnabod pobl hŷn, yn nodi eu hanghenion a'u dyheadau a chanfod beth yr hoffent ei gyfrannu o ran sgiliau a diddordebau. Ac rwy'n meddwl bod hynny'n crisialu'r hyn a olygwn wrth ofal cyfannol—gyda'r person hŷn, a'u grymuso i wneud pethau, pethau y gallant eu gwneud drostynt eu hunain, a'u rhoi mewn cysylltiad â gwasanaethau a fydd yn trechu unigrwydd ac yn eu helpu i deimlo'n well am eu bywydau.

Yn yr un modd, ceir menter arall o'r enw Wellbeing 4U y maent wedi'i chomisiynu gan Gymdeithas Tai United Welsh, sy'n gweithredu gyda chyllid gofal sylfaenol i gyflawni mewn practisau meddygon teulu mewn ardaloedd difreintiedig er mwyn trechu unigedd, pryder, iselder a lefelau uchel o yfed alcohol, y gwyddom ei fod (a) yn arwain at bobl yn cwympo, a (b) yn arwain at sirosis yr afu.  

17:25

Mae angen i chi ddod â'ch cyfraniad i ben yn awr—rwyf wedi bod yn hael iawn yn barod.

Diolch. Mae'n ddrwg gennyf. Dim ond dweud ei fod wedi bod yn effeithiol iawn, a'i fod wedi lleihau'r—. Mae pobl yn teimlo'n well yn gorfforol ac yn feddyliol ac yn gwneud llawer llai o apwyntiadau i weld meddygon teulu.

Mae'r camreoli a'r perfformiad gwael a amlygwyd gan fy nghyd-Aelodau yng ngogledd Cymru yn frawychus yn wir, ond ni allaf ond teimlo bod hyn hefyd yn rhywbeth y gallai fy etholwyr i fod yn ei wynebu, felly rwyf am siarad am y problemau sy'n wynebu pobl ym mwrdd iechyd Cwm Taf, wrth i'r amrywiaeth o fesurau arbennig barhau i ddod yn fwyfwy arferol. Er nad yw amseroedd aros cynddrwg ag yn y gogledd, mae'r perfformiad yn parhau i fod yn wael, gyda rhestr gyfan o dargedau wedi'u methu.  

Ceir derbyniad ei bod hi'n iawn i bobl aros am amser hir i gael triniaeth, ond nid yw'n iawn o gwbl, nid yw'n dderbyniol. Gall dadleuon ynghylch amseroedd aros fod ychydig yn sych weithiau, ond mae yna bobl y tu ôl i'r ffigurau. Mae gennyf enghraifft o achos, nad wyf yn credu ei fod yn unigryw, gwaetha'r modd. Mae'r person hwn wedi bod yn aros am dros 16 mis i gael triniaeth, ac mae'n ysgrifennu am yr aros, ac rwy'n dyfynnu, 'Mae hyn wedi cael effaith sy'n cyfyngu'n fawr ar ansawdd fy mywyd. Hyd nes fy diagnosis, roeddwn yn ystyried fy mod yn ddyn a wnâi lawer o weithgarwch corfforol. Roeddwn yn chwarae golff dair gwaith yr wythnos ac yn mwynhau garddio ar fy rhandir hefyd. Rwy'n teimlo ei bod hi'n hynod o bwysig i mi gadw'n heini yn fy oedran i, ac mae'r aros diddiwedd am y llawdriniaeth yn gwneud i mi deimlo'n ddigalon iawn am fy mod yn ymwybodol o'r ffaith nad wyf yn mynd yn iau a hoffwn fod mewn sefyllfa i fwynhau'r blynyddoedd sy'n weddill o fy mywyd, yn lle aros mewn limbo. Dywedwyd wrthyf y byddwn yn cael y llawdriniaeth cyn y Nadolig, ac yna rywbryd ym mis Ionawr. Ymddengys bod y terfynau amser hyn yn mynd a dod, ac wrth iddynt wneud hynny, mae fy iselder yn gwaethygu.'

Os ydym o ddifrif ynghylch atal salwch, rheoli cyflyrau cronig yn y gymuned a chynorthwyo pobl i ddilyn ffordd iach o fyw, rhaid i sicrhau triniaeth brydlon pan fo'i hangen fod yn rhan o hynny. Ac os ydyw, pam y dywedir wrthym nad yw'n bosibl parhau â'n gwasanaethau brys?

Wel, mae'n bosibl cael gwasanaethau da mewn gofal sylfaenol sy'n atal salwch ac sy'n helpu pobl i gadw'n iach—cystal ag sy'n bosibl—a chael gwasanaethau ysbyty hefyd pan fo'u hangen. Bydd yna bob amser adegau pan fydd angen triniaeth frys ar bobl ar unwaith. Efallai y gallwn leihau nifer y bobl sy'n cael trawiad ar y galon, strociau ac ati drwy wella iechyd cyhoeddus, ond nid oes neb yn credu y byddai'r holl risgiau'n cael eu dileu. Bydd angen ysbytai a meddygaeth frys bob amser ac o'r herwydd, mae angen darparu gwasanaethau o fewn pellter rhesymol i bawb ym mhob rhan o Gymru.  

Ac mae'n rhaid i bellter rhesymol adlewyrchu realiti amseroedd teithio yn ystod tywydd garw, rhaid iddo adlewyrchu diffyg perchnogaeth ar geir mewn cymunedau difreintiedig, a dylid ei gynllunio mewn ffordd sy'n mynd i'r afael â deddf gofal gwrthgyfartal, sy'n golygu ysbytai i wasanaethu'r poblogaethau lleol drwy'r Cymoedd. Ond fel y gwelsom, mae'r Llywodraeth bresennol wedi bod yn fodlon caniatáu i Ysbyty Brenhinol Morgannwg waethygu a dirywio fel pe bai ganddi obsesiwn ideolegol ynglŷn â chael llai o unedau arbenigol ar gyfer y Cymoedd.  

Y Gweinidog iechyd sy'n gyfrifol am gyfeiriad strategol y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Mae wedi'i wanhau ers cytuno rhaglen de Cymru yn ôl yn 2014. Pam y byddai unrhyw un am fynd i weithio mewn adran sy'n cael ei gwanhau? Mae'r gymhareb o feddygon ymgynghorol yn frawychus. Er bod cyfartaledd y DU yn 7,000 o bobl i bob meddyg ymgynghorol, lle dylai fod yn nes at 4,000, mae'n 15,000:1 yn ein bwrdd iechyd lleol ni. Mae hynny'n sgandal.  

Ac mae wedi digwydd oherwydd bod nifer o Weinidogion iechyd wedi rhoi eu bysedd yn eu clustiau ac wedi gwrthod bod yn fwy arloesol mewn perthynas â recriwtio. Mae'n bosibl recriwtio. Deallaf fod Caerdydd yn recriwtio drwy gynnig bonysau cadw staff. Datgelodd sgwrs ddiweddar gyda chyn-feddyg ymgynghorol yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg fod Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn lle deniadol i feddygon ymgynghorol weithio ynddo. Mae gan y Gweinidog bŵer i ymyrryd yma.

Ddirprwy Weinidog, rydych wedi gwrando ar farn Aelodau sy'n cynrychioli'r etholaethau cyfagos—nid mater i'r Rhondda a Phontypridd yn unig yw hwn. Bydd yn cael effaith ganlyniadol ar bobl yng nghwm Cynon, Merthyr Tudful, Pen-y-bont ar Ogwr, Caerdydd a thu hwnt. A wnewch chi annog y Gweinidog i ymyrryd? Rhowch un cyfle olaf inni achub y gwasanaeth hwn y mae cymaint o bobl yn pryderu'n ddifrifol am ei golli.  

17:30

Diolch i Blaid Cymru am gyflwyno'r ddadl bwysig hon heddiw. Ar ddechrau degawd newydd, pan fydd ein meddyliau'n troi at y dyfodol, mae ein GIG unwaith eto'n cael ei lethu gan broblemau'r gorffennol. Mae adrannau damweiniau ac achosion brys Cymru newydd weld eu hamseroedd aros gwaethaf erioed. Yn ôl ffigurau amseroedd aros y mis diwethaf, dim ond 72 y cant a dreuliodd lai na phedair awr mewn adran damweiniau ac achosion brys yn aros i gael eu trin, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau, o gymharu â'r targed o 95 y cant. Mae'r ffigurau hyn yn sylweddol waeth na'r llynedd ac mae'n rhaid inni ystyried a gofyn i'n hunain pam y mae hynny.

Bu mwy o gleifion nag erioed yn aros dros 12 awr—ymhell dros 6,500 —pan fo'r targed yn dynodi na ddylai neb aros mor hir â hynny. Methodd y gwasanaeth ambiwlans gyrraedd ei darged ar gyfer ymateb i alwadau a oedd yn bygwth bywyd yn uniongyrchol am yr eildro ers cyflwyno'r targed bum mlynedd yn ôl. Ac er iddi fod yn aeaf mwyn, mae ein GIG unwaith eto wedi cael ei ymestyn i'r pen. Mae gennym sefyllfa lle na all ein GIG ymdopi â phwysau arferol, ac os bydd yn rhaid inni ymdrin â llif o gleifion sy'n dioddef o ffliw tymhorol, neu'r bygythiad sy'n dod i'r amlwg o Tsieina, mae arnaf ofn y bydd ein system gofal iechyd yn chwalu. A hyn er i Lywodraeth Cymru ddyrannu £30 miliwn ychwanegol yn ogystal â £10 miliwn ychwanegol yr wythnos diwethaf.

Er mwyn dod o hyd i ateb i'n problemau, mae angen gwneud mwy na darparu mwy o arian yn unig, a dyna pam rwy'n annog yr Aelodau i wrthod gwelliant y Llywodraeth. Rhaid inni ofyn i ni'n hunain pam fod ein canlyniadau'n waeth, ein hamseroedd aros yn hwy a'n mynediad at wasanaethau yn waeth er ein bod yn gwario cryn dipyn yn fwy y pen ar iechyd nag yn Lloegr neu'r Alban. Felly mae'n rhaid i ni gwestiynu sut y mae'r £7.5 biliwn a ddyrannwn i iechyd bob blwyddyn yn cael ei wario. Nid yw'n gwestiwn cyfrifo haniaethol am gyllidebau; mae'n gwestiwn sylfaenol am iechyd pobl. Ac rydym yn gweld dinasyddion Cymru'n mynd yn ddall yn disgwyl am driniaeth, dinasyddion Cymru'n methu gweithredu am eu bod yn treulio'u dyddiau mewn poen, ac rydym yn gweld dinasyddion Cymru'n marw o ganser oherwydd ein bod yn methu gwneud diagnosis ohono'n gynt.

Mae ein GIG wedi'i ddal at ei gilydd gan ymdrechion anhygoel ei feddygon, ei nyrsys a'i weithwyr gofal iechyd proffesiynol, ond ni all hynny bara, ac mae pethau eisoes wedi cyrraedd pen eu tennyn. Rhaid inni sicrhau bod y swm sylweddol o arian a wariwn ar iechyd yn cael ei wario'n effeithiol. Mae angen inni ganolbwyntio ein hymdrechion yn hytrach na thaflu arian at y problemau yn y gobaith y byddant yn diflannu—ni fydd hynny'n digwydd. Mae angen inni fuddsoddi mewn gofal cymdeithasol hefyd. Ac mae blocio gwelyau yn dal i fod yn broblem sylweddol. Dywedodd un meddyg ymgynghorol yn Ysbyty Treforys ei fod yn gwybod am 106 o gleifion a oedd yn ffit yn feddygol ond yn dal yn yr ysbyty am nad oedd pecyn gofal ar gael. Ac eto, ar yr un pryd, dyma ni'n canslo llawdriniaethau, gan adael pobl mewn poen, a allai rwystro eu hadferiad a chynyddu cost triniaeth.

17:35

A ddywedodd hefyd faint o bobl na châi eu rhyddhau o'r ysbyty neu na allent fynd adref am nad oedd y fferyllfa'n barod i roi eu meddyginiaeth iddynt? A faint oedd yn ddigon iach i fynd adref, ond nad oedd meddyg ymgynghorol wedi dod o gwmpas i'w rhyddhau?

Rwy'n deall, Mike, fod y fferyllfa'n broblem mewn llawer o ysbytai, oherwydd ni allant ddosbarthu'r feddyginiaeth ar adeg addas i bobl fynd adref, ac mae llawer yn y pen draw yn dod gyda'r nos a chaiff pobl eu cadw'n hwy na'r angen. Felly, yn bendant mae angen edrych ar hynny, a diolch ichi, Mike, am godi hynny.

Mae Llywodraethau olynol wedi methu cynllunio ar gyfer y dyfodol, felly mae cyfran fawr o'n cyllideb yn mynd ar staff asiantaeth. A phrin iawn fu'r cynllunio ar gyfer y gweithlu, sydd wedi golygu nad yw ein GIG yn gallu ymdopi â phoblogaeth sy'n tyfu ac sy'n heneiddio, a diffyg cynllunio, sydd wedi arwain at y cyfraddau goroesi canser gwaethaf yng ngorllewin Ewrop. Felly, mae angen dull newydd o ymdrin â gofal iechyd yng Nghymru ac mae hyn yn golygu sicrhau bod ein sector gofal sylfaenol yn cael ei ariannu'n briodol. Mae gennym gynllun cenedlaethol ar gyfer y gweithlu ac rydym yn rhoi blaenoriaeth i atal yn y maes iechyd. Rhaid inni hefyd sicrhau bod ein sector gofal cymdeithasol yn cael ei ariannu'n briodol. Ni all ein GIG fforddio pum mlynedd arall o'r camreoli hwn ac rwy'n annog fy nghyd-Aelodau i gefnogi'r cynnig.

Ceir llawer iawn o heriau yn ein gwasanaeth iechyd. Rydym yn gweld y rhain yng Nghymru, y DU, Ewrop ac ym mhob rhan o'r byd, ac nid wyf yn mynd i fynd drwy'r dadansoddiadau hynny. Yr hyn rwyf am ei wneud, er hynny, yw sôn am bwysigrwydd yr ysbyty sydd ond ychydig funudau o ble rwy'n byw, sef Ysbyty Brenhinol Morgannwg, a'r perfformiad yn y fan honno a phwysigrwydd yr ysbyty arbennig hwnnw i'r gymuned leol, a pham fod angen edrych ar y ffigurau ac adolygu rhaglen chwe blwydd oed sydd bellach wedi dyddio.

Mynychodd 5,152 o bobl adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg ym mis Rhagfyr 2019; mynychodd 4,800 Ysbyty Tywysoges Cymru; a mynychodd 4,947 Ysbyty'r Tywysog Siarl. Yn y ffigurau perfformiad 12 awr, roedd Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar 95 y cant a'r ddau ysbyty arall ar 90 y cant yn y drefn honno. Roedd perfformiad amseroedd aros pedair awr yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg unwaith eto yn well na'r ddau ysbyty arall. Credaf fod hynny'n tanlinellu, pan ddechreuwn geisio llunio cymariaethau, nad yw'n ymwneud â'r ffigurau'n unig, ond mae Ysbyty Brenhinol Morgannwg mewn sefyllfa bwysig ac yn cyflawni i safon uwch mewn rhyw ffordd neu'i gilydd, ac mae'n bwysig iawn, ac yn bwysig mewn ardal lle ceir cynnydd enfawr yn nifer y tai: 20,000 o gartrefi yn ardal Taf Elái dros y degawd nesaf. Felly, mae'r twf yno a materion sy'n codi ynglŷn â mynediad yn sylfaenol bwysig.

Ond rwyf am ddweud hyn: mae cyllid ac arian yn bwysig wrth gwrs, ac mewn gwirionedd mae'n sylfaenol mewn sawl ffordd. Er enghraifft, dros y degawd diwethaf, mae effaith cyni yn sgil rhewi cyflogau gweithwyr y sector cyhoeddus wedi bod yn wirioneddol arwyddocaol mewn perthynas â morâl staff ac o ran cadw staff, ac mae wedi bod yn ffactor enfawr. Y ffactor arall fu'r tangyllido neu'r diffyg arian sydd ar gael i ariannu'r GIG fel y dylai. Pan enillodd Llafur yr etholiad yn 1997 a dweud, 'Mae gennych 24 awr i achub y GIG', roeddent yn iawn. Ac mewn gwirionedd, fe wnaeth y Llywodraeth Lafur honno achub y GIG. Rhwng 1997 a 2010—mae'n ddrwg gennyf, 2009—gwelwyd cynnydd o 6 y cant mewn termau real bob blwyddyn yn arian y GIG gan y Llywodraeth Lafur honno. Gwnaeth hynny wahaniaeth enfawr ac fe achubodd y GIG. Pan ddaeth Llywodraeth y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol i mewn, roedd y cyllid yn 1.1 y cant. Gyda Cameron a May, yn eu Llywodraethau Ceidwadol rhwng 2014 a 2019, nid oedd ond yn 1.6 y cant. Pan fydd pobl yn cwyno am y maniffesto Llafur—[Torri ar draws.]—y maniffesto Llafur yn bod yn afradlon, y cynnig Llafur—.

17:40

Gwnaf, fe dderbyniaf ymyriad, ond gadewch i mi orffen hyn. Roedd y cynnig Llafur yn 4.3 y cant mewn termau real. Iawn, fe dderbyniaf ymyriad.

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am dderbyn yr ymyriad a gallwn ddadlau am y ffigurau, ac rydym wedi gwneud hynny lawer o weithiau. Y peth allweddol, fel y dywedais yn y cwestiwn brys i'r Gweinidog iechyd y prynhawn yma, yw ei fod yn gyfrifol am gyfeiriad strategol y GIG yng Nghymru. Gallai gyfarwyddo'r bwrdd iechyd i gadw'r adran damweiniau ac achosion brys honno'n agored a dyfeisio achos busnes i wneud yn siŵr fod hynny'n digwydd. A ydych yn cefnogi hynny ac a ydych yn cefnogi'r camau y dylai'r Gweinidog iechyd eu cymryd i gadw'r adran honno ar agor?

Credaf i chi glywed fy araith yn gynharach pan ddywedais fy mod yn credu bod y rhaglen wedi dyddio erbyn hyn ac y dylid adolygu'r rhaglen honno cyn ystyried unrhyw gynigion pellach. Roeddwn yn gwbl glir ynglŷn â'r pethau a ddywedais yn gynharach, a oedd yn bethau a ddywedais lawer o flynyddoedd yn gynharach pan wnaethom achub yr adran damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg i bob pwrpas.

Ond yr hyn na allwch ei osgoi yw bod 10 mlynedd o gyni'r Torïaid wedi ein hamddifadu o symiau enfawr o arian: £4 biliwn. Ac yna pan soniwn hefyd—[Torri ar draws.] Pan soniwn hefyd am yr effaith ar wasanaethau llywodraeth leol—gwn nad ydynt yn hoffi clywed y ffigurau hyn—yn Lloegr, cafwyd toriad o 25 y cant mewn termau real i'r gwasanaethau cymdeithasol; yng Nghymru, cafwyd toriad o 8 y cant. Dyma ganlyniad cyni'r Torïaid. Mewn unrhyw asesiad o berfformiad, rhaid i chi edrych ar yr amgylchedd rydym ynddo ac nid oes amheuaeth o gwbl mai cyni'r Torïaid oedd un o'r pethau a gyfrannodd fwyaf at y gallu i ymdopi â'r pwysau sydd ar y GIG yn Lloegr ac yng Nghymru hefyd.

Wel, rydym newydd glywed yr economeg ffantasïol arferol gan y Blaid Lafur fel pe bai'r arian—[Torri ar draws.] Wel, rwy'n credu y dylwn gyrraedd o leiaf bum brawddeg cyn inni gael ymyriad. [Torri ar draws.] Mae angen i mi wneud rhywfaint o gynnydd yn awr.

17:45

Mae fel pe na bai argyfwng ariannol 2010-11 erioed wedi digwydd. Ar un olwg, mae'r Aelodau'n iawn, wrth gwrs, fod y GIG yn cael ei thanariannu ym mhobman. Bob blwyddyn, mae'n rhaid iddo gystadlu, o ystyried ei fod yn fonolith wedi'i wladoli, pan ddaw'r gyllideb a chylch gwariant y Llywodraeth. Rhaid iddo gystadlu â'r holl flaenoriaethau gwariant eraill sydd gan Lywodraethau. Felly, mae'n rhwym o gael ei danariannu hyd dragwyddoldeb, o'i gymharu â'r anghenion y mae'n rhaid iddo ymdrin â hwy. Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yw pa mor dda y defnyddiwch yr arian sydd gennych. Ac rwy'n ofni, os ydym am farnu datganoli yn ôl ei ganlyniadau, rhaid inni ddod i'r casgliad fod datganoli wedi methu.

Na wnaf, rwyf am wneud y pwynt hwn yn gyntaf cyn i mi ildio. Fe ildiaf, ond rwyf am wneud y pwynt hwn yn gyntaf.

Ydy, mae Cymru'n gwneud yn wael o fformiwla Barnett. Rwy'n derbyn hynny'n llwyr. A phe bai'n seiliedig ar anghenion, byddai gan Gymru lawer mwy o arian a byddai gennym fwy o arian i'w roi i'r gwasanaeth iechyd. Ond mae'r syniad fod Llywodraeth Dorïaidd yn San Steffan yn mynd i roi mwy o arian i Lywodraeth Lafur yng Nghymru, wrth gwrs, yn nonsens llwyr. Ac o gofio bod Cymru, dros fy oes, wedi ethol mwyafrif helaeth o Aelodau Seneddol asgell chwith, mae yna anhawster systemig yma na ellir ei ddileu, cyhyd â bod gennym y setliad datganoli sydd gennym.

Fe ildiaf i Mick Antoniw.

I gael eglurder ar yr un pwynt hwn. A ydych yn credu bod y £4 biliwn rydym wedi'i golli i bob pwrpas ers i Lywodraeth Dorïaidd fod mewn grym wedi effeithio ar ansawdd y gwasanaethau y gallwn eu darparu yng Nghymru, ac yn Lloegr yn wir?

Wel, yn amlwg, pe bai gennym fwy o arian, byddem yn gallu gwneud mwy o bethau. Rwy'n derbyn hynny'n llwyr wrth gwrs. Ond mae'r syniad y gallai Llywodraeth y DU anwybyddu'r gwaddol ariannol a gafodd gan y Llywodraeth Lafur yn 2010 yn hurt. Edrychwch ar y ffigurau. Ers i Gordon Brown dynnu'r breciau oddi ar wariant cyhoeddus yn 2001, aeth popeth yn gawl potsh. Ni lwyddodd y Llywodraeth Lafur i drwsio'r to tra oedd yr haul yn tywynnu. Yn 2001—[Torri ar draws.] Oherwydd yn y Llywodraeth Lafur gyntaf—[Torri ar draws.] Na, ni wnaf oherwydd fy mod i'n ateb— rhaid i mi orffen ateb yr ymyriad hwn cyn i mi dderbyn un arall.

Dilynodd Llywodraeth Lafur gyntaf Tony Blair gynlluniau gwariant Kenneth Clarke wrth gwrs, ac mewn gwirionedd disgynnodd gwariant cyhoeddus yn ystod y Llywodraeth Lafur honno fel canran o gynnyrch domestig gros. Ac yna o 2001 ymlaen, fe gododd yn ddi-baid, o 27 y cant yn 2001 i 50 y cant o'r cynnyrch domestig gros erbyn i'r argyfwng ariannol daro. Felly, roedd llawer llai o le i symud er mwyn ymdopi â'r argyfwng ariannol. A chynyddodd gwariant y Llywodraeth, fel cyfran o gynnyrch domestig gros, o 35 y cant yn 2000 i 40 y cant yn 2009, i 45 y cant yn 2012. Mae'r syniad y gellid anwybyddu hyn ac na fyddai'n rhaid tynhau'r gwregys mewn rhyw fodd oherwydd y gorwario cynharach yn hollol afrealistig.

Felly, y broblem fawr sydd gennym yma yw, ie, nid oes digon o arian, ond sut y cawn ragor o arian? Yr unig ffordd y cawn ragor o arian yw drwy gadw'r adnoddau sydd gennym a'u dargyfeirio o rai blaenoriaethau gwario i rai eraill. Os yw'r Llywodraeth yn gwario bron £150 miliwn ar ymchwiliad cynllunio ar yr M4, nad yw'n digwydd wedyn, mae hwnnw'n wastraff arian, a cheir pob math o wastraff arian arall y gallem ei enwi hefyd. [Torri ar draws.] Nid oes gennyf lawer o amser, ond fe ildiaf.

Tybed a ydych hefyd yn credu ei bod yn wastraff llwyr ar arian fod Llywodraeth y DU wedi newid y lwfansau treth pensiwn heb ystyried y canlyniadau gwrthnysig sydd wedi golygu nad yw 27,000 o gleifion yn cael y gwasanaeth sydd ei angen arnynt?

Nid wyf yma i amddiffyn y Llywodraeth Geidwadol. Nid wyf yn Aelod Ceidwadol o'r Cynulliad hwn.

Rwyf am gadw at y gwasanaeth iechyd. Mae iechyd yn amsugno hanner cyllideb Llywodraeth Cymru, ac mae'n tyfu, ac mae'n rhwym o dyfu am fod yr anghenion yn tyfu'n gyflymach na'r dull o fynd i'r afael â hwy, ac mae hynny'n wir am y boblogaeth gyfan ledled y Deyrnas Unedig. Felly, mae'n rhaid inni dyfu i fyny pan fyddwn ni'n sôn am ariannu'r gwasanaeth iechyd. Mae'r syniad, oherwydd bod rhannau o'r gwasanaeth iechyd wedi'u preifateiddio fel y'i gelwir—soniodd Llyr Gruffydd am rai ohonynt yng ngogledd Cymru yn ei araith. Mae hyn, rwy'n credu, yn anochel i raddau helaeth. Beth sydd o'i le ar roi gwasanaethau penodol allan ar gontract os gallwch gyflawni'r swyddogaethau hynny'n fwy costeffeithiol, gan roi mwy o arian i chi ei ddefnyddio ar rannau eraill o'r gwasanaeth sy'n parhau yn y sector cyhoeddus?

Mae gan wledydd eraill yn Ewrop systemau iechyd cymysg ac nid ydynt yn cael y ddadl gyntefig hon a gawn yn y wlad hon rhwng y preifat a'r cyhoeddus. Er mwyn datrys yr anghenion iechyd cymhleth a'r cymhlethdodau ariannol mwy cymhleth fyth, efallai, y tu ôl i'w hariannu, maent yn cydnabod bod angen inni gael system fwy hyblyg sy'n gallu denu mwy o arian i mewn. Rhaid perswadio pobl i wario mwy o'u harian eu hunain, os na all y Llywodraeth ei drethu ganddynt; yn y pen draw, dyna yw'r ffordd o gael gwell gwasanaethau iechyd.

17:50

Diolch yn fawr, Lywydd. Yn gyntaf, hoffwn ddweud wrth y Siambr fod y Gweinidog iechyd mewn cyfarfod COBRA am y coronafeirws, felly dyna pam rwy'n cymryd ei le.

Ar y cychwyn, hoffwn ddiolch eto i staff ar draws GIG Cymru, gofal cymdeithasol a'r holl bartneriaid eraill, sy'n parhau i weithio bob dydd i ddarparu gofal i bobl Cymru. Mae eu hymroddiad i barhau i ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel yn yr amgylchedd prysuraf, mwyaf anodd a gofnodwyd erioed yn anhygoel, a gwn ein bod i gyd am gydnabod hynny.

Yn natganiad ysgrifenedig y Gweinidog ar bwysau ar ofal heb ei drefnu, dywedodd fod y galw ar draws y system gyfan dros y gaeaf eleni wedi bod yn fwy nag a welwyd erioed, ac rwy'n credu bod y galw di-baid hwnnw wedi'i weld ar draws y DU i gyd. Fe ddechreuaf gyda'r gwasanaeth ambiwlans. Wrth gwrs, rydym yn siomedig na allodd gwasanaeth ambiwlans Cymru gyrraedd y targed cenedlaethol am yr ail fis, ond mae'n bwysig cofio bod hyn yn erbyn cefndir o gyflawniad dros y 48 mis blaenorol. Er na chyflawnwyd y targed o ran canrannau, cafodd mwy o bobl ymateb o fewn y targed wyth munud o'i gymharu â Rhagfyr 2018, a'r rheswm am hyn yw'r cynnydd yn y niferoedd. Yn ddiweddar, cyhoeddodd y Gweinidog nifer o gamau i wella argaeledd ambiwlansys, a bydd hyn yn cynnwys sefydlu tasglu gweinidogol ar argaeledd gwasanaeth ambiwlans. Bydd hwn yn canolbwyntio nid yn unig ar ymatebolrwydd y gwasanaeth ambiwlans, ond hefyd ar yr angen am welliannau ehangach i'r system gyfan er mwyn adlewyrchu'r amgylchedd newidiol ac ymateb iddo. Disgwylir i'r tasglu hwn ddarparu safbwyntiau cynnar erbyn diwedd mis Mawrth 2020, a bydd y Gweinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y datblygiadau hynny.

Gwelwyd ffactorau ychwanegol y tu allan i ofal heb ei drefnu sydd wedi cael effaith wirioneddol ar berfformiad. Un maes o'r fath yw newidiadau i drethi a phensiynau Llywodraeth y DU, ac mae'r rhain yn parhau i effeithio'n sylweddol ar argaeledd staff meddygol i gyflawni cynlluniau gofal wedi'u trefnu a gytunwyd yn flaenorol. Dros y tair blynedd diwethaf, ar ofal wedi'i gynllunio, gwelsom welliannau sylweddol o ran lleihau amseroedd aros hir, gyda gostyngiad o 20 y cant o'n pwynt uchaf yn 2015. Fodd bynnag, oherwydd y newidiadau i drethi a phensiynau, ein gwybodaeth ddiweddaraf yw bod tua 3,200 o sesiynau wedi'u colli rhwng mis Ebrill a mis Rhagfyr 2019 gan effeithio ar bron 27,000 o gleifion mewn gofal wedi'i gynllunio. Ac rydym hefyd wedi colli sesiynau mewn gofal heb ei drefnu a meddygon teulu y tu allan i oriau am yr un rhesymau. Mae'r Gweinidog wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth y DU i ddatrys y mater hwn ar frys. Mae'r broblem yn ganlyniad uniongyrchol i reolau treth Llywodraeth y DU, a theimlir y niwed i'n GIG ar draws y DU yn ei gyfanrwydd. Rydym yn poeni'n fawr am golli ewyllys da cenhedlaeth o staff.

Nid ydym eisiau amseroedd aros hir, ac rydym yn parhau i fuddsoddi arian i gefnogi gwelliannau. Fodd bynnag, nid yw hyn yn unigryw i Gymru, ac effeithir ar rannau eraill o'r Deyrnas Unedig hefyd. Mae'r ffigurau diweddaraf gan GIG Lloegr yn dangos eu perfformiad gwaethaf o ran perfformiad pedair awr adrannau damweiniau ac achosion brys, y nifer uchaf o rai'n aros am 12 awr, y perfformiad gwaethaf o ran amseroedd atgyfeirio i driniaeth o fewn 18 wythnos, ac nid ydynt wedi cyrraedd eu targedau canser brys ers mis Rhagfyr 2015. Mae perfformiad yr Alban wedi wynebu trafferthion hefyd, gyda pherfformiad damweiniau ac achosion brys pedair awr 6 phwynt canran yn is na'r hyn ydoedd o gymharu â'r un cyfnod y llynedd, a'r isaf a fu ers mis Rhagfyr 2017. Felly, rwy'n gwneud y pwynt er mwyn nodi bod hyn yn rhywbeth sy'n effeithio ar y DU gyfan, ac effeithir arno gan gynnydd enfawr yn y galw.

Yn achos perfformiad canser, rydym yn parhau i drin mwy o gleifion o fewn y targed bob blwyddyn. Yn y 12 mis a ddaeth i ben ym mis Tachwedd 2019, dechreuodd bron i 8,200 o bobl ar driniaeth frys benodol yn sgil amheuaeth o ganser, 3 y cant yn uwch na'r flwyddyn flaenorol, a dechreuodd 18 y cant yn fwy o bobl na phum mlynedd yn ôl ar driniaeth benodol o fewn yr amser targed. Bydd y llwybr canser sengl yn pennu mesur mwy defnyddiol, cywir a gonest yn lle'r hen fesurau maes o law.

Mae pwysau ar ofal heb ei drefnu hefyd wedi effeithio ar lawdriniaeth ddewisol. Fodd bynnag, lliniarodd byrddau iechyd yr effaith ar ofal dewisol drwy leihau gweithgarwch wedi'i gynllunio yn fwriadol yn ystod pythefnos gyntaf mis Ionawr i gefnogi'r galw am dderbyniadau brys. Caiff pob claf ei asesu ar sail ei angen clinigol. Os oes angen, efallai y bydd yn rhaid gohirio derbyniadau wedi'u cynllunio—a gwyddom eu bod wedi'u gohirio—ond darperir gofal yn ddiweddarach. Mae unrhyw ohiriadau yn ddewis olaf er mwyn sicrhau bod diogelwch cleifion yn cael ei gynnal a'i flaenoriaethu. Ac er gwaethaf y pwysau ar ofal heb ei drefnu, parhaodd y gweithgarwch gofal wedi'i gynllunio ledled Cymru yn nyddiau cynnar mis Ionawr 2020, gydag oddeutu 70 y cant o'r gweithgarwch a gynlluniwyd wedi'i gyflawni gan ddal i ateb y galw brys.

Dechreuodd y cynllunio ar gyfer gaeaf 2019-20 yn gynnar yn 2019, wedi'i lywio gan yr adolygiad o gadernid iechyd a gofal cymdeithasol dros aeaf 2018-19. Fel y crybwyllodd Aelodau yn y Siambr heddiw, rhyddhaodd y Gweinidog £30 miliwn i fyrddau iechyd ac awdurdodau lleol—yn gynharach yn y flwyddyn nag erioed o'r blaen, ar eu cais hwy—i gefnogi cynlluniau ar gyfer y gaeaf. Ac am y tro cyntaf, fe wnaethom ddewis dyrannu rhan sylweddol o'r cyllid i fyrddau partneriaeth rhanbarthol. Nod hyn oedd sicrhau bod byrddau iechyd a phartneriaid awdurdodau lleol yn cydweithio â phartneriaid eraill i gynllunio gwasanaethau ar y cyd ar draws y gymuned iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hynny'n adleisio rhai o'r sylwadau a wnaethpwyd yn y Siambr yma heddiw gydag Angela Burns yn sôn am y rhwystr artiffisial rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, a Jenny Rathbone hefyd yn cyfeirio at lawer o'r prosiectau a ddefnyddir i fynd i'r afael â'r broblem honno. Rwy'n credu bod hwn yn bwynt pwysig iawn: rhaid inni fynd i'r afael â'r broblem hon. Nod ein cronfeydd trawsnewid yw dod ag iechyd a gofal cymdeithasol at ei gilydd a cheisio trin y system gyfan mewn ffordd fwy cyfannol.

Hefyd, dyrannodd y Gweinidog £10 miliwn ychwanegol yr wythnos diwethaf i ychwanegu capasiti ar draws y system ac i helpu i leddfu'r pwysau ar wasanaethau er mwyn gwella llif drwy ysbytai ac i mewn i ofal cymdeithasol. Ac fel gyda'r £30 miliwn, cafodd hyn ei ariannu drwy fyrddau partneriaeth rhanbarthol i annog cydweithio ar draws y maes iechyd a gofal cymdeithasol. Siaradais â llawer o'r bobl sy'n rhan o'r byrddau partneriaeth rhanbarthol, a dywedant wrthyf fod y gwaith partneriaeth yn datblygu a'i fod yn dod yn llawer cryfach, a chredaf mai dyma lle rydym yn mynd i weld y trawsnewid sydd ei angen arnom yn ein gwasanaethau. Mae cynlluniau'r gaeaf y cytunwyd arnynt rhwng partneriaid iechyd a gofal cymdeithasol yn cydnabod pwysigrwydd atal a'r angen am weithio mewn partneriaeth effeithiol. Rwy'n credu bod y buddsoddiad drwy bartneriaethau rhanbarthol yn egluro ein bod yn gweld iechyd a gofal cymdeithasol fel partneriaid go iawn.

Comisiynwyd Addysg a Gwella Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru i gynhyrchu strategaeth ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Cafodd y strategaeth honno ei chymeradwyo gan y ddau fwrdd ym mis Rhagfyr y llynedd a'i chyflwyno i Lywodraeth Cymru, ac rydym yn awr yn ystyried y strategaeth a'r broses o'i gweithredu wedyn. Mae prosesau recriwtio byrddau iechyd yn parhau i fod yn fater gweithredol, ac maent wedi bod yn glir ynglŷn â sicrhau nad yw'r camau a gymerir yn effeithio ar ofal cleifion nac ar ansawdd y gwasanaeth. Mae recriwtio staff nyrsio a staff meddygol yn parhau fel y bo'r angen i ddarparu gwasanaethau diogel.

Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £0.5 biliwn ychwanegol yn y GIG eleni. Gwelsom ostyngiad o 35 y cant yn niffyg sylfaenol y GIG rhwng 2016-17 a 2018-19, ac rydym yn disgwyl gweld gwelliannau pellach yn y flwyddyn hon, gan arddangos gwell rheolaeth ariannol. Gwrandewais ar yr holl sylwadau gan Aelodau unigol yn y ddadl hon ac rwyf wedi'u nodi'n ofalus. Gallaf eich sicrhau ein bod eisiau dweud yn glir iawn fod ein grym—y bobl sy'n gweithio yn ein gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol—yn ymwybodol o'n hymrwymiad a'n diolch iddynt. Diolch.

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

17:55

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl. Diolch am ymateb y Dirprwy Weinidog. Dwi'n teimlo drostoch chi, mewn llawer o ffyrdd, yn gorfod amddiffyn yr anamddiffynadwy yn fan hyn. Cyfres o esgusodion a sbin ydw i'n ei glywed, mae gen i ofn, gan y Llywodraeth, hynny ydy, yn mynd drwy’r targedau mae hi’n honni sy’n cael eu cyrraedd a’r heriau trwm yma sy’n digwydd yn ystod y gaeaf. Wrth gwrs bod yna bwysau gaeaf, ond adeiladwch i mewn i’r system y capasiti i ymateb i’r pwysau yna yn ystod y gaeaf. Rydym ni, fel pwyllgor iechyd dros y blynyddoedd, wedi bod yn argymell i’r Llywodraeth adeiladu’r capasiti yna ar yr adeg yna o’r flwyddyn. Efallai bod pethau wedi bod yn waeth na’r arfer y Nadolig yma. Dwi’n clywed tystiolaeth, o bosib, ei fod o. Wel, mae angen yr hyblygrwydd yna yn ein system ni neu does gennym ni ddim system sydd yn gynaliadwy. Dŷn ni’n gwybod nad ydy hi’n gynaliadwy.

Diolch am y cyfraniadau unigol. Llefarydd y Ceidwadwyr yn gyntaf, ydy, mae’n groundhog day yma. Dwi’n synnu eich clywed chi’n gwadu impact llymder. Toriadau sydd wedi digwydd dros y blynyddoedd diwethaf dan arweinyddiaeth y Ceidwadwyr, ac mae hynny’n gorfod cael impact.

Ond ar welliant 3—os caf fi ddod yn ôl at welliant 3—rydych chi’n tynnu allan o’n cynnig ni y darn sydd yn dweud,

'yn gresynu nad yw gwasanaethau gofal cymdeithasol wedi'u hariannu'n ddigonol'

Onid ydym ni’n cytuno bod gofal cymdeithasol wedi cael ei dangyllido? O bosib mai embaras sydd gennych chi fel plaid am yr effaith gafodd penderfyniadau gan Lywodraethau Ceidwadol yn San Steffan ar y gwasanaeth iechyd oherwydd toriadau i wasanaethau cymdeithasol yn Lloegr.

18:00

Diolch i chi am dderbyn yr ymyriad. Gadewch i mi fod yn glir iawn, rydych yn dweud

'yn gresynu nad yw gwasanaethau gofal cymdeithasol wedi'u hariannu'n ddigonol ar draul y GIG'

a cheisiais ei gwneud yn gwbl glir, yn ein barn ni, ei fod yn ymwneud â sicrhau bod y GIG, gofal cymdeithasol, iechyd meddwl, i gyd yn cael eu gweld yn eu cyfanrwydd, a dyna yr aethom ymlaen i'w wneud yng ngwelliant 4; rydym yn ceisio ei gryfhau. Mae'n anodd iawn. Mae £8 biliwn eisoes yn mynd tuag at y GIG/gwasanaethau gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae'n ymwneud ag adleoli'r arian hwnnw mewn modd llawer mwy effeithiol fel ein bod yn atal syndrom y drysau troi.

Ond y pwynt rwy'n ei wneud yw bod yn rhaid inni anelu at adleoli'r arian hwnnw o iechyd i ofal cymdeithasol; dyna'r ail-gydbwyso y mae angen inni weithio tuag ato.

Diolch i Llyr am wneud sylwadau ynglŷn â chyflwr y gwasanaeth yn y gogledd a rhoi ffocws ar hynny. Beth sy’n drawiadol, wrth gwrs, ydy mai dyma'r bwrdd lle mae gan Lywodraeth Cymru y cyfrifoldeb mwyaf a’r dylanwad mwyaf drosto fo.

Dwi’n cytuno’n llwyr efo’r Aelod dros Ganol Caerdydd ynglŷn â’r angen i edrych ar beth allwn ni ei wneud, a dyna pam rydym ni’n canolbwyntio ar wahanol elfennau, fel yr angen i godi safonau rheolaeth o fewn y gwasanaeth iechyd, ac edrych o ddifrif ar sut i roi arian i mewn i’r agenda trawsnewidiol.

Diolch i’r rhai sydd wedi gwneud sylwadau ynglŷn â'r sefyllfa yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg ar hyn o bryd—sefyllfa, wrth gwrs, sydd wedi cael cryn sylw oherwydd bod yna benderfyniadau yn cael eu gwneud rŵan sydd wedi cael eu cymryd unwaith nôl yn 2014—iawn, cafon nhw mo’u gweithredu. Dŷch chi’n dweud, Mick Antoniw, bod Llafur wedi gwarchod ac wedi atal cau A&E bryd hynny, wrth gwrs. Mi gafodd y penderfyniad ei wneud i israddio A&E, a chafodd o mo’i weithredu. Mae’r bygythiad wedi parhau yno. A dwi’n meddwl enghraifft arall ydy hyn o’r methiant i fod yn strategol ac i edrych ar yr ysbyty hwnnw neu unrhyw ran o'r gwasanaeth iechyd i feddwl go iawn pa rôl mae hwn yn ei chwarae o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru drwyddo draw. 

I gloi, mae’r gwrthdaro rydym ni wedi‘i glywed yn ôl ac ymlaen rhwng Llafur a’r Ceidwadwyr ynglŷn â phenderfyniadau gwariant yn Whitehall nôl rhwng 2008 a 2010 yn adrodd cyfrolau. Oes, mae yna gyd-destun ehangach o lle mae arian yn dod ac ati. Ydw, dwi’n condemnio dyfnder y toriadau dwfn mewn gwariant cyhoeddus dros y ddegawd ddiwethaf, ond oherwydd nad dim ond arian sydd wrth wraidd problemau’r NHS yng Nghymru, dwi’n condemnio hefyd diffyg rheolaeth y Blaid Lafur o’r gwasanaeth iechyd yng Nghymru. A dwi ddim yn gweld arwyddion o le mae’r Llywodraeth yma yn mynd i sylweddoli, 'Dŷch chi’n gwybod beth? Dŷn ni yn methu; dŷn ni angen cyfaddef ein bod ni’n methu ar yr NHS yng Nghymru.' Allwn ni ddim rhoi Llywodraeth mewn mesurau arbennig, ond mi allwn ni newid Llywodraeth. Dydy Llafur ddim yn gallu rhedeg y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Rydym ni’n gwybod o’r profiad yn Lloegr bod y Ceidwadwyr wedi chwalu'r NHS yn y fan honno. Rhowch gyfle i Blaid Cymru a gadewch i ni edrych ar roi y gwasanaeth iechyd yng Nghymru ar sylfeini mwy cadarn a chynaliadwy, fel bod y staff o fewn yr NHS a chleifion yr NHS yng Nghymru yn cael y gefnogaeth maen nhw eu hangen. 

18:05

Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

8. Dadl y Blaid Brexit: Pysgodfeydd

Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, gwelliant 2 yn enw Darren Millar, gwelliant 3 yn enw Siân Gwenllian a gwelliannau 4, 5 a 6 yn enw Darren Millar. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol.

Yr eitem nesaf ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl Plaid Brexit ar bysgodfeydd, a galwaf ar David Rowlands i gyflwyno'r cynnig—David.

Cynnig NDM7243 Caroline Jones 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd hanesyddol pysgodfeydd i Gymru.

2. Yn croesawu'r ffaith y bydd y Deyrnas Unedig, ar ôl blynyddoedd o ddiffyg gweithredu, yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ddiwedd yr wythnos hon.

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i sicrhau'r manteision gorau i Gymru o ran pysgodfeydd Cymru wrth i ni gwblhau'r broses Brexit.

Cynigiwyd y cynnig. 

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Am 11 yr hwyr ar 31 Ionawr—ddydd Gwener yma—bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Byddwn yn symud wedyn i gyfnod pontio, pan fydd y gwaith go iawn yn dechrau, gallech ddweud.

Un o'r meysydd trafod nad yw'n eglur fydd sefyllfa pysgota yn nyfroedd Prydain, a ddylai, o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Gyfraith y Môr, ddychwelyd i'r sefyllfa o ymestyn i 200 milltir oddi ar arfordir Prydain. Mae hyd yn oed yr arweinydd Brexit, Nigel Farage, wedi dweud y bydd angen consesiynau. Ond nid yw hynny'n golygu'r math o drefniant a amlinellwyd gan yr Arlywydd Macron, sy'n ymestyn yr hawl i gychod Ewropeaidd ysbeilio dyfroedd Prydain am 25 mlynedd arall—[Torri ar draws.] Ie.

Rwy'n ymddiheuro, rwy'n gwybod bod yr Aelod newydd ddechrau ei gyfraniad. Nid yw'r terfyn 200 milltir yn bodoli. Mewn dau le ar y cyrion y mae'n bodoli—tua'r gogledd-orllewin tuag at Rockall ac i'r de-orllewin oddi ar Ynysoedd Scilly. Y rheswm pam nad yw'r terfyn 200 milltir yn bodoli i'r DU yw oherwydd bod gwledydd eraill yn y ffordd.

Wel, fe dderbyniaf hynny, Carwyn.  

Tra oedd yn yr UE, ni allai'r DU reoli pwy, nac i ba raddau, y gallai gwledydd eraill bysgota yn nyfroedd y DU. Arweiniodd hynny at yr hyn na ellid ond ei alw'n ysbeilio'r moroedd o amgylch ein harfordiroedd. Mae anrheithio'r stociau pysgod wedi arwain at lawer iawn o rywogaethau a oedd unwaith yn doreithiog yn cael eu disbyddu i'r fath raddau fel eu bod yn agos at fethu adfer eu niferoedd. Nid oes unrhyw amheuaeth y byddai parhau â pholisi pysgodfeydd cyffredin yr Undeb Ewropeaidd yn cael effaith drychinebus ar yr holl stociau pysgota. Un enghraifft o hyn yw'r ffordd y rhoddwyd trwyddedau gan yr UE i longau o'r Iseldiroedd yn bennaf i ddefnyddio dulliau o bysgota drwy stynio trydanol y dywedir eu bod yn dinoethi gwelyau'r môr o'u rhywogaethau o gramenogion a fu unwaith mor doreithiog.  

Mae gadael yr UE ac adennill rheolaeth ar ddyfroedd arfordirol Prydain yn cynnig cyfle i'r DU ailsefydlu ei diwydiant pysgota, a fu gynt yn ffyniannus, ac a oedd, ar un adeg, yn cyflogi mwy na 100,000 o bobl. Ni fydd y trawsnewid hwn yn digwydd dros nos ac felly, byddai'n bragmatig i'r DU sefydlu cyngor pysgodfeydd cenedlaethol, a allai oruchwylio'r gwaith o drwyddedu cychod tramor i bysgota yn nyfroedd Prydain yn ystod y cyfnod pontio, tra byddwn yn adeiladu'r seilwaith a'r galluoedd pysgota a fodolai ar un adeg o gwmpas y DU gyfan. Gallai hyn gynnwys cyfleusterau warysau modern a ffatrïoedd prosesu pysgod.  

Mae diwydiant pysgota Cymru, fel y mae ar hyn o bryd, yn gymharol fach yn economaidd. Er ei bod yn wir i ddweud bod dros 90 y cant o'r bwyd môr a ddaw i'r lan gan bysgotwyr Cymru yn cael ei werthu i'r UE, nid oes unrhyw dystiolaeth o gwbl i awgrymu y dylai gadael yr UE effeithio ar y fasnach hon, sy'n werth tua £38 miliwn. Fodd bynnag, pe bai hynny'n digwydd, gellid defnyddio'r refeniw sylweddol iawn a geir o werthu trwyddedau i longau tramor yn y cyfnod pontio i roi cymorthdaliadau i ddiwydiant pysgota Cymru hyd nes y gwneir addasiadau i'w arferion pysgota.

Yn wahanol i'r UE, lle mae'r rhan fwyaf o economïau'n farwaidd, mae economïau'r dwyrain pell yn ehangu'n gyflym. Gallai diwydiant pysgota Cymru fanteisio ar y marchnadoedd hyn lle ceir potensial enfawr i'w cynnyrch premiwm. Dylem nodi yma fod Llywodraeth y DU wedi datgan yn bendant y bydd yn cynyddu'r cyllid ar gyfer pysgodfeydd ledled gwledydd y DU. Mater bach iawn fydd rhoi cymhorthdal i ddiwydiant pysgota Cymru o ystyried y potensial ar gyfer ehangu'r diwydiant hwnnw yn y dyfodol.  

Fel y gwyddom, mae rheoli pysgodfeydd yn fater sydd wedi'i ddatganoli, ac rwy'n cydnabod ar hyn o bryd nad yw'n glir i ba raddau y bydd pŵer dros gyfrifoldebau pysgota yn parhau, neu'n wir, wedi'i ddatganoli i'r Cynulliad Cenedlaethol ar ôl Brexit. Ond nid oes rheswm i awgrymu na fydd Llywodraeth y DU yn datganoli'r pwerau a ddychwelir i Lywodraeth y DU i Gymru hefyd. Byddwn ni ym Mhlaid Brexit yn gwneud popeth sydd ei angen i gynorthwyo Llywodraeth Cymru i adfer pwerau o'r fath.

Yng Nghymru, ceir potensial ar gyfer enillion sylweddol i'r diwydiant pysgota drwy adael yr UE a'r polisi pysgodfeydd cyffredin. Dylid ystyried hwn yn gyfle gwirioneddol i ailfeddwl yn llwyr beth yw strwythur diwydiant pysgota'r DU yn ei gyfanrwydd drwy weddnewid ble, sut a chan bwy y manteisir ar stociau pysgod y DU. Y broblem oedd bod poblogaethau byd-eang cynyddol wedi dwysáu'r chwilio am fwyd, gyda physgod yn cynnig cyflenwad ymddangosiadol doreithiog a thechnoleg fodern yn ei gwneud yn haws i ddal niferoedd enfawr ohonynt. Mae hyn wedi gwneud gorbysgota a disbyddu stociau pysgod yn broblem ddifrifol. Ers iddi ymuno â'r Undeb Ewropeaidd a'i bolisi pysgodfeydd cyffredin, mae hyn wedi bod yn arbennig o wir i'r DU, sydd, hyd yma, wedi bod yn ddi-rym i unioni hyn.  

Caiff tua 80 y cant o'r pysgod a ddelir yn nyfroedd y DU eu dal gan longau nad ydynt yn llongau'r DU yn ôl British Sea Fishing. Maent wedi gwneud hynny mewn ffyrdd mor niweidiol fel eu bod wedi diraddio stociau pysgod yn aruthrol, ac yn fwy pryderus, maent wedi lleihau gallu nifer o rywogaethau i adfer eu niferoedd. Mae buddiannau breintiedig, lobïo ac amddiffyniad gwleidyddol i fuddiannau cenedlaethol wedi mynd â mwy allan o'r môr nag y gall ei adfer yn naturiol. Mae cadwraethwyr wedi lobïo am ddiwygio arferion pysgota'r UE ers blynyddoedd lawer, ond yn ofer i raddau helaeth. Mae'n bryd archwilio a mynd ar drywydd polisïau amgen. Y bleidlais yn y refferendwm ar 23 Mehefin 2016 oedd i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r bleidlais honno'n golygu y bydd y DU yn awr yn adfer rheolaeth ar lawer o feysydd a oedd gynt yn ddarostyngedig i reoliadau a phenderfyniadau'r UE. Yn fwyaf arbennig, golyga y bydd y DU yn tynnu'n ôl o bolisi pysgodfeydd cyffredin yr UE, a bydd yn rhydd i weithredu camau annibynnol i ddiogelu stociau pysgod yn ei dyfroedd, ac adfywio diwydiant pysgota a gafodd ei leihau'n helaeth pan ymunodd y DU â'r UE a mabwysiadu ei bolisi pysgodfeydd cyffredin.  

Ceir cyfle i'r DU briodi buddiannau masnachol â rhai amgylcheddol yn awr, ac i weithredu polisi pysgota a fydd yn gwneud pysgota yn y DU yn ddiwydiant proffidiol a chynaliadwy. Gall harneisio buddiannau ei physgotwyr i amddiffyn a diogelu eu bywoliaeth yn y dyfodol, drwy roi perchnogaeth iddynt ar y pysgod sy'n nofio yn ein dyfroedd. Gall ddysgu o'r polisïau llwyddiannus a roddwyd ar waith mewn gwledydd eraill—polisïau sydd wedi gweld stociau pysgod yn dychwelyd i'w lefelau arferol; creu sefydliad ymchwil morol gyda'r dasg o fonitro stociau pysgod, archwilio lefelau gwahanol rywogaethau, mapio mannau bridio a chofnodi pob dalfa a wneir yn nyfroedd y DU; creu cyngor pysgodfeydd cenedlaethol i bennu cyfanswm y ddalfa a ganiateir ar gyfer pob rhywogaeth ac i bennu cwota i'w rannu a'i fasnachu ar gyfer pob cwch pysgota cofrestredig, lle mae'n rhaid glanio pob dalfa ac os bydd unrhyw ddalfa'n fwy na'r cwota, rhaid i'r cwch fasnachu neu brynu cwotâu gan eraill; lle caiff dyfeisiau olrhain drwy loeren eu gosod ar bob cwch, a'u safle wedi'i fynegeio'n gyson; lle caiff maint a rhywogaeth pob dalfa ei chofnodi wrth eu glanio, gyda gwybodaeth yn cael ei lanlwytho i gronfa ddata gyhoeddus—rhywbeth nad yw ond yn bosibl mewn gwirionedd os yw stociau pysgod a ddaliwyd yn nyfroedd Prydain yn cael eu glanio ym mhorthladdoedd Prydain; lle mae dyfroedd pysgota'r DU wedi'u rhannu'n barthau gweinyddol, a'r cyngor pysgodfeydd cenedlaethol yn gallu atal pysgota yn syth mewn unrhyw ardaloedd lle mae cynaliadwyedd unrhyw stociau pysgod yn ymddangos fel pe baent mewn perygl; lle ceir archwiliadau gan y cyngor pysgodfeydd cenedlaethol ddwywaith y flwyddyn ar gyfer unrhyw gwch pysgota dros bwysau penodol; a lle mae'r cyngor pysgodfeydd cenedlaethol a'r cyngor ymchwil morol yn cyhoeddi eu holl wybodaeth ar-lein, mewn modd hygyrch i aelodau'r cyhoedd, yn ogystal ag i ddiwydiant.  

Os rhoddir y polisïau a'r strwythurau hyn ar waith, mae ganddynt botensial i adfywio diwydiant pysgota Cymru yn llwyr a gwrthdroi'r dirywiad y buom yn dyst iddo dros ddegawdau lawer. Diolch.  

18:10

Diolch.

Rwyf wedi dethol y chwe gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Ac os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliant 3 ei ddad-ddethol. A gaf fi ofyn i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol?

18:15

Gwelliant 1—Rebecca Evans

Dileu popeth a rhoi yn ei le:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd hanesyddol pysgodfeydd i ddiwydiannau, amgylchedd a chymunedau arfordirol Cymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gymryd yr holl gamau angenrheidiol er mwyn diogelu dyfodol pysgodfeydd Cymru.

Cynigiwyd gwelliant 1.

Diolch. Galwaf ar Andrew R.T. Davies i gynnig gwelliannau 2, 4, 5 a 6 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.

Gwelliant 2—Darren Millar

Dileu pwynt 2.

Gwelliant 4—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn cydnabod y byddwn, ar ôl gadael yr UE, yn gadael y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin ac yn dod yn wladwriaeth arfordirol annibynnol, gan gymryd rheolaeth yn ôl dros ein dyfroedd ym mis Rhagfyr 2020.

Gwelliant 5—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn croesawu ymrwymiad Llywodraeth y DU i: cynyddu'r cyllid ar gyfer pysgodfeydd ledled gwledydd y DU drwy'r senedd bresennol, a chefnogi'r broses o adfywio ein cymunedau arfordirol.

Gwelliant 6—Darren Millar

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyflwyno strategaeth bysgota newydd a fyddai'n seiliedig ar yr egwyddor o 'gynnyrch cynaliadwy mwyaf', ac a fyddai'n ei gwneud yn ofynnol yn gyfreithiol i Lywodraeth Cymru gynnal cynaliadwyedd pysgod ar gyfer pob stoc.

Cynigiwyd gwelliannau 2, 4, 5 a 6.

Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd, a chroesawaf y cyfle i gymryd rhan yn y ddadl y prynhawn yma a hefyd i gynnig y gwelliannau yn enw Darren Millar ar ran grŵp y Ceidwadwyr.  

Mewn gwirionedd, o edrych ar y prif gynnig, mae bron yn anodd anghytuno â'r teimladau ynddo ac yn amlwg, rwy'n gobeithio bod ein gwelliannau diweddarach yn ychwanegu at y cynnig ac yn pwyntio at y camau heddiw yn San Steffan, er enghraifft, a chyflwyno Bil Pysgodfeydd y DU, y ddeddfwriaeth gyntaf ar bysgodfeydd sy'n benodol i'r DU ers 45 o flynyddoedd.

Yn amlwg, mae gwelliant 2 yn ceisio dileu pwynt 2 yn y cynnig ar y sail ei fod yn sôn am y diffyg gweithredu. A bod yn deg â Llywodraeth y DU, rwy'n credu ei bod wedi ymdrechu'n galed drybeilig ers tair blynedd i geisio mynd â ni allan o'r Undeb Ewropeaidd a pharchu canlyniad y refferendwm. Heb y geiriau 'diffyg gweithredu', gallem fod wedi cefnogi'r cynnig heb ei ddiwygio, ond dyna pam y mae gwelliant 2 wedi'i gyflwyno, a gobeithio y bydd Plaid Brexit yn deall pam y cyflwynwyd y gwelliant hwnnw, gan mai ni yw'r blaid sy'n llywodraethu yn San Steffan.

Mae gwelliant 4 yn sôn amdanom yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ddydd Gwener. Fel yr amlygodd y sawl a agorodd y cynnig, ac fel y clywsom mewn dadl gynharach yn tynnu sylw at yr hyn a fydd yn digwydd ddydd Gwener am 11 o'r gloch, yn amlwg, byddwn yn gadael y polisi pysgodfeydd cyffredin ac yn dod yn wladwriaeth arfordirol annibynnol. Mae hyn yn hunanamlwg yn sgil canlyniad y refferendwm yn 2016. Ac rwy'n tynnu sylw'r Aelodau at gyflwyno Bil Pysgodfeydd y DU heddiw a'r mesurau a gynhwysir yn y Bil Pysgodfeydd hwnnw sy'n sôn, yn amlwg, am greu diwydiant pysgota cynaliadwy a fydd â rheolau caeth ar ddalfeydd a'r ffordd y caiff ei lywodraethu, y ffordd y caiff llongau eu cofrestru, a'r ffordd y bydd y dalfeydd hynny'n cael eu glanio yma yn Lloegr, yn amlwg, oherwydd rwy'n sylweddoli mai Bil ar gyfer Lloegr yn unig yw'r Bil penodol hwn gyda rhai cysyniadau datganoledig cyffredinol eu cynnwys wedi'u atodi wrtho.

Buaswn yn croesawu barn y Gweinidog ar ei barn hi ar Fil Pysgodfeydd y DU fel y'i cyflwynwyd a pha drafodaethau y gallai ei swyddogion fod wedi'u cael, oherwydd o fewn darpariaethau'r Bil mae'n sôn am bysgota cynaliadwy i danategu gofyniad Llywodraeth y DU a'r Llywodraethau datganoledig i gyhoeddi datganiad pysgodfeydd ar y cyd i gydlynu'r gwaith o reoli pysgodfeydd lle bo'n briodol, a'r cynlluniau rheoli pysgodfeydd i sicrhau stociau pysgota cynaliadwy. Felly, buaswn yn falch iawn o glywed gan y Gweinidog pa fewnbwn a gafodd, neu y mae ei swyddogion wedi'i gael, wrth ddyfeisio'r protocol y mae'r Bil yn sôn amdano.

Mae gwelliant 5 yn sôn hefyd am y cynnydd yn y cyfleoedd o bysgodfeydd ledled y DU ac yn arbennig, y ffordd y mae maniffesto'r Ceidwadwyr, a gefnogwyd yn etholiad cyffredinol 2019, wedi tynnu sylw at ymrwymiadau clir ar ran cymunedau arfordirol a chymunedau pysgota, ac yn enwedig mewn perthynas â chymorth ariannol ac yn wir, mwy o gefnogaeth strwythurol i'r cymunedau hynny. Unwaith eto, pwysleisiaf fod yna groesi drosodd rhwng cyfrifoldebau datganoledig o ran cyfrifoldebau Cymru a'r DU, ond yn lle edrych ar hyn fel rhwystr, dylem edrych arno fel cyfle, oherwydd o ddifrif, ni allaf feddwl am neb a all bwyntio at y polisi pysgodfeydd cyffredin fel cyfundrefn gadarnhaol sydd wedi gwella gallu pysgota'r Deyrnas Unedig a chymunedau arfordirol y Deyrnas Unedig.  

Mae'n bwysig iawn ein bod yn clywed gan y Gweinidog heddiw, fel y mae gwelliant 6 yn dweud, am y strategaethau pysgota newydd a allai gael eu cyflwyno sy'n seiliedig ar reoli ein pysgodfeydd yn gynaliadwy ac yn wir, ein bywyd gwyllt morol a'n hardaloedd morol. Pan fydd y Gweinidog yn rhoi safbwynt y Llywodraeth i ni, rwy'n gobeithio y bydd yn dweud wrthym pa gynnydd y mae'r Llywodraeth yn ei wneud wrth baratoi ei Bil pysgota ei hun, ac rwy'n derbyn ei fod yn annhebygol iawn o ddod ger ein bron cyn etholiadau'r Cynulliad yn 2021 o ystyried y cyfyngiadau deddfwriaethol ar amser ar hyn o bryd. Ond hoffwn feddwl bod swyddogion yn gweithio ar y cynigion ar y modd nad yw pysgod yn parchu ffiniau, fel y mae Bil Pysgodfeydd y DU yn ei nodi; mae'n amlwg eu bod yn byw yn y moroedd a'u bod yn symud o amgylch cymunedau'r arfordir. Mae'n hanfodol fod meddwl cydgysylltiedig rhwng yr Alban, Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon, ac yn wir, gyda'n cyfeillion a'n cydweithwyr ar gyfandir Ewrop, ein bod yn gwneud yn siŵr fod gennym bolisi cynaliadwy wedi'i reoli ar gyfer y dyfodol.

Ond yn hytrach nag edrych ar hyn fel cam yn ôl, fel y byddai rhai Aelodau yn y Siambr yn edrych arno, rwy'n meddwl wrth ddarllen Bil Pysgodfeydd y DU heddiw y gallwn weld y pethau cadarnhaol a ddaw yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd ddydd Gwener, a gwrthdroi dirywiad y diwydiant pysgota yma, nid yn unig yng Nghymru ond ar draws gweddill y DU, gyda'r cyfleoedd y gallwn ni fel llunwyr polisi ymwneud â hwy a rhoi'r pethau ar waith sydd wedi bod ar goll, yn anffodus, mewn llawer o gymunedau arfordirol ers 45 mlynedd ac ers llunio'r polisi pysgodfeydd cyffredin.

Felly, rwy'n gobeithio y cefnogir ein gwelliannau heno ac y byddant yn ychwanegu at y cynnig y mae Plaid Brexit wedi'i gyflwyno heddiw. Yn y pen draw, rwy'n galw ar y Llywodraeth, yn debyg i alwad arweinydd Plaid Brexit, i dynnu eu gwelliant dinistriol yn ôl, gwelliant sy'n dileu popeth unwaith eto. Ni allaf weld sut y gallwch ddileu cynnig cyfan sy'n dangos cryn ddealltwriaeth yn yr hyn y mae'n ei ddweud am weithred hunanamlwg sy'n mynd i ddigwydd ddydd Gwener, a beth fydd hynny'n ei olygu i ni yma fel llunwyr polisi ac yn wir, cymunedau'r arfordir a chymunedau pysgota ledled y DU. Yn hytrach nag edrych ar hyn fel rhwystr, dylem edrych arno fel cyfle, a dyna pam rwy'n gobeithio'n fawr y bydd pobl yn cefnogi ein gwelliannau, ac yn wir, yn cefnogi'r cynnig fel y caiff ei gyflwyno.    

18:20

Gwelliant 3—Siân Gwenllian

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

Yn cydnabod pwysigrwydd sylweddol yr Undeb Ewropeaidd fel cyrchfan ar gyfer cynnyrch bwyd môr Cymru ac yn ceisio sicrhau bod y farchnad hon yn parhau i fod ar agor ac yn hawdd cael gafael arni yn y dyfodol.

Yn galw ar fil pysgodfeydd arfaethedig Llywodraeth y DU i sicrhau bod deddfwriaeth y DU ac unrhyw ddeddfwriaeth ddatganoledig yn darparu rheolaeth pysgodfeydd sy'n wirioneddol gynaliadwy ac atebol ac sy'n lleihau'r effaith ar yr amgylchedd morol ac yn cefnogi cymunedau sy'n ddibynnol ar yr arfordir.

Cynigiwyd gwelliant 3.

Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd, am y cyfle i siarad i welliant Plaid Cymru ac ynglŷn â'r cynnig yn ehangach. Mae yna dri chymal i'r cynnig gwreiddiol, ac mae yna ddau ohonyn nhw lle dwi ddim yn meddwl bod gen i broblem â nhw, ar hyd y llinellau a awgrymwyd yn gynharach. Hynny yw, mae yna ddatganiadau digon amlwg: cydnabod pwysigrwydd hanesyddol pysgodfeydd Cymru yn y cymal cyntaf, ac wedyn yn galw ar y Llywodraethau i sicrhau'r manteision gorau i Gymru wrth i broses Brexit gael ei chwblhau. Yr un cymal dwi ddim yn gyfforddus ag ef, wrth gwrs, yw'r ail un, sy'n croesawu'r ffaith y byddwn ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd. Fydd e o ddim yn syndod i unrhyw un nad ydw i'n croesawu'r ffaith ein bod ni'n gadael. Yn sicr, dwi'n derbyn y byddwn ni yn gadael, ond dwi ddim yn credu ei fod e'n destun dathlu, yn sicr ddim o’m safbwynt i. Felly, mae Plaid Cymru yn dymuno dileu'r ail bwynt yna yn benodol, ond rŷn ni hefyd eisiau ychwanegu ambell i gymal, wedyn, yn sgil hynny.

Yn gyntaf, ein bod ni'n cydnabod pwysigrwydd sylweddol yr Undeb Ewropeaidd fel cyrchfan ar gyfer cynnyrch bwyd môr Cymru, ac ein bod ni am geisio sicrhau bod y farchnad honno yn parhau i fod ar agor ac yn hawdd cael mynediad iddi yn y dyfodol. Rŷn ni'n gwybod, wrth gwrs, dyn ni wedi clywed wrth glywed agoriad y ddadl yma, am werth y sector pysgod a physgod cregyn Cymru yn benodol. Rŷn ni'n allforio dros 90 y cant o'r cynnyrch, a llawer iawn ohono fe i'r Undeb Ewropeaidd, ac mae pysgodfeydd Cymru, cynhyrchwyr amaeth y môr, a chadwyni cyflenwi bwyd môr yn arbennig o agored i niwed yn sgil unrhyw rwystrau a all godi wrth gludo eu cynnyrch, boed yn dariffau neu’n rhwystrau eraill. Mi ddyfynnaf i chi yr hyn ddywedodd James Wilson o Bangor Mussel Producers—dwi'n siŵr bod nifer ohonoch chi yn ei adnabod ef—mi ddywedodd e rai misoedd yn ôl, a dwi'n dyfynnu o erthygl:

Mae lori'n aros ar y cei pan fyddwn yn glanio. Rydym yn tynnu'r cregyn gleision oddi ar y cwch a chânt eu rhoi yn y lori, mae'r lori'n gyrru i ffwrdd. Ac yna mae'n amser teithio o 16 i 18 awr o ogledd Cymru i ogledd Ffrainc neu i dde'r Iseldiroedd. Os byddant yn archebu gennyf ar ddydd Llun, maent yn disgwyl i'r lori gyrraedd ar ddydd Mawrth am eu bod eisiau eu gwerthu ar ddydd Mercher. Mae mor ddi-dor â hynny. Mae unrhyw beth sy'n creu oedi neu ansicrwydd neu beth bynnag rydych yn ei alw yn y broses honno yn dod yn broblem o ran y gadwyn gyflenwi. Nid problem fach yw honno.

Felly, mae pwysigrwydd cymal cyntaf gwelliant Plaid Cymru, yn fy marn i, yn glir: hynny yw, ein bod ni am gadw'r symudiadau yna mor ddilyffethair ag sy'n bosib.

Mae'r ail gymal, wedyn, yn galw ar Fil Pysgodfeydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau bod unrhyw ddeddfwriaeth yn darparu rheolaeth pysgodfeydd sy'n wirioneddol gynaliadwy ac atebol, ac sy'n lleihau'r effaith ar yr amgylchedd morol, ond sydd hefyd yn cefnogi'r cymunedau sy'n ddibynnol ar yr arfordir. Dwi'n meddwl bod taro'r cydbwysedd yna yn bwysig oherwydd y ffordd orau i sicrhau cynaliadwyedd y cymunedau yma sy'n dibynnu ar y pysgodfeydd yw sicrhau cynaliadwyedd y pysgodfeydd eu hunain, a chynaliadwyedd amgylchedd y môr. Nawr, fel rŷn ni wedi clywed, mae Bil Pysgodfeydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi'i osod heddiw. Dwi ddim wedi cael cyfle i bori drwyddo fe, felly wnaf i ddim mynegi barn ar y pwynt yna, dim ond i ddweud ei bod hi yn bwysig ein bod ni yn sicrhau cynaliadwyedd y pysgodfeydd yna, a bod angen hefyd mynd ymhellach na dim ond hynny, ac mae angen inni fod yn glir bod yna warantu'r cyllid a dderbyniwyd gan yr Undeb Ewropeaidd ar gyfer ymchwil ac arloesedd wrth inni symud ymlaen ar y siwrne yma, oherwydd mae hynny yn ganolog i sicrhau gwydnwch a hyblygrwydd i'r sector yn y blynyddoedd anwadal, ansicr, efallai, sydd o'n blaenau ni.

Ond yr elfen bwysig arall hefyd, wrth gwrs, sydd yn gorfod bod yn rhan ganolog o'r drafodaeth yma yw: lle mae llais Cymru yn y trafodaethau? Lle mae llais Cymru, a sut y mae llais Cymru yn mynd i gael ei chlywed? Mi wnaeth Michael Gove ddoe, ar ei ymweliad, fethu ymrwymo i rôl ffurfiol i Gymru mewn trafodaethau, ac mae hynny'n destun gofid i fi. Ac mae'n bwysig ein bod ni'n cofio natur wahanol sector pysgodfeydd Cymru hefyd. Felly, mi fydd ein gofynion a'n disgwyliadau ni, efallai, yn wahanol iawn i rannau eraill o'r Deyrnas Unedig, a dyw hi dim ond yn deg bod rheini'n cael eu clywed yn yr un modd. Felly, mae yna rôl bwysig nid yn unig i Lywodraeth y Deyrnas Unedig, ond yn sicr i Lywodraeth Cymru hefyd er mwyn sicrhau bod llais a buddiannau pysgotwyr Cymru'n flaenllaw iawn yn y trafodaethau pwysig iawn sydd o'n blaenau ni.

18:25

Mae'r ddadl hon heddiw'n bwysig iawn. Fel Aelodau, byddwn yn gwybod bod Llywodraeth y DU wedi rhyddhau'r Bil Pysgodfeydd heddiw, gan ddweud ei fod yn sicrhau pysgota cynaliadwy a physgota doeth yng nghyd-destun yr hinsawdd ar ôl Brexit. Rwy'n croesawu'r ffaith bod Bil y DU yn dweud yn glir na fydd gan longau'r UE fynediad awtomatig i ddyfroedd pysgota y DU mwyach gan y bydd y cyfleoedd a fydd ar gael i bysgotwyr Cymru yn sylweddol iawn.

Mae'r 40 mlynedd a mwy diwethaf wedi gweld ein moroedd yn cael eu hysbeilio drwy'r polisi pysgodfeydd cyffredin a stociau pysgod yn cael eu dinistrio, rhywbeth y bydd yn cymryd llawer iawn o flynyddoedd inni ddechrau ei gywiro yn y wlad hon. Drwy adfer rheolaeth ar ein dyfroedd arfordirol a rhannau eraill o'r môr, cawn gyfle nid yn unig i ddatblygu adnodd economaidd enfawr i Gymru, ond hefyd i wella cadwraeth yn nyfroedd Cymru.

Y bore yma, darllenais erthygl ddiddorol ar wefan newyddion BBC Cymru yn rhoi sylw i stori newyddion am bysgotwr o Sir Benfro a bleidleisiodd i adael. Dywedodd

Mae treillongau tramor yn cymryd tunelli o bysgod heb lanio eu dalfeydd yn lleol— [Torri ar draws.].

Ai treillongau brodorol oeddent? Iawn.

Dywedodd—[Torri ar draws.]. Sut y gallaf ganolbwyntio pan fyddwch chi'n siarad? Mae'n ddrwg gennyf. Dywedodd

Mae treillongau tramor yn cymryd tunelli o bysgod heb lanio eu dalfeydd yn lleol sy'n golygu nad ydynt yn dod ag unrhyw fusnes i borthladdoedd Cymru.

Dywedodd hefyd, ac rwy'n dyfynnu,

Nid ydym yn gwneud unrhyw arian ohono.

Dylai dysgu o bryderon y rhai yr effeithir arnynt fwyaf fod yn ganolog i'r ddadl hon wrth symud ymlaen. Cyn y ddadl hon, darllenais adroddiad Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad ar Fil Pysgodfeydd y DU 2019, a chymeradwyaf argymhellion y pwyllgor yn yr adroddiad ar bysgodfeydd Cymru ac edrychaf ymlaen at gael y wybodaeth ddiweddaraf am hynny.

Rwyf wedi cadw fy nghyfraniad yn fyr heddiw gan fy mod yn credu y bydd Aelodau eraill y grŵp a phobl eraill wedi ymdrin â llawer o'r cyfleoedd a fydd ar gael ar ôl Brexit. Mae'n bwysig nad ydym ni yma yn y Senedd yn caniatáu i Lywodraeth y DU negodi ein pysgodfeydd ymaith mewn unrhyw gytundeb masnach. Diolch.

Wel, fe welwn yn fuan beth yw realiti 'adfer rheolaeth ar ein dyfroedd'. A fydd Prydain yn rheoli'r tonnau neu a fydd Boris Johnson yn gwerthu pysgodfeydd y DU gan eu defnyddio fel arf bargeinio yn y negodiadau masnach sydd ar y ffordd? Mae nifer o wleidyddion yr UE wedi datgan eu bwriadau'n glir: maent am i Brydain gael mynediad at farchnadoedd gwasanaeth ariannol yr UE yn amodol ar fynediad at ddyfroedd y DU. O gofio mai 0.04 y cant yw cyfraniad ychwanegol gros pysgota a dyframaethu i economi'r DU, tra bod cyfraniad gwasanaethau ariannol ac yswiriant yn 7.1 y cant, fe adawaf i chi wneud y fathemateg drosoch eich hun.

Fel y dywedodd un ASE o Blaid Brexit yr wythnos diwethaf, rwy'n ofni 'Yn wir, gallai pysgod Prydain gael eu cosbi am eu safiad ar Brexit'. Ond cawn weld. Ond yr hyn a wyddom, yn gyffredinol, yw bod y DU ar hyn o bryd yn mewnforio 70 y cant o'r pysgod rydym yn eu bwyta a'n bod yn allforio 80 y cant o'r hyn a ddaliwn. Credaf y gallwn i gyd gytuno, o ran cynaliadwyedd, y byddai'n well inni fwyta mwy o'r hyn a ddaliwn yma ac unioni'r anghydbwysedd yn y tymor hir, ond y ffaith amdani yw bod cynnal mynediad at farchnadoedd yr UE yn hollbwysig.

Cymerwch bysgod cregyn er enghraifft: mae mwy na 80 y cant o'r pysgod cregyn, y cimychiaid, y crancod a'r langwstîn a ddelir gennym yn cael eu gwerthu i'r UE—Ffrainc a Sbaen yn bennaf. Mae'n fwy na chwarter yr holl allforion pysgod o'r DU yn ôl eu gwerth. Bydd dau beth yn digwydd felly: os ydych yn allforio, rhaid i chi wneud hynny yn unol â rheolau'r UE. Os ydych am allforio i wlad, ni allwch wneud hynny heb gydymffurfio â'u rheolau derbyn hwy. Y peth arall a fydd yn berthnasol hefyd, os oes unrhyw oedi ar y ffin, a chrybwyllodd Llyr hynny eisoes, mae'n golygu na ellir cyflenwi nwyddau ffres yn brydlon, ni fyddant yn mynd i unman. Felly, rwy'n siŵr fod Plaid Brexit yn gwybod hyn i gyd, ac mae'n siŵr iddo gael sylw yn yr unig gyfarfod o'r pwyllgor pysgodfeydd a fynychodd Nigel Farage, cyfaill y pysgotwr, yn y tair blynedd y bu'n aelod ohono. Un cyfarfod mewn tair blynedd. Cwbl warthus.

Pan edrychodd ein pwyllgor amgylchedd ein hunain ar hyn ddwy flynedd yn ôl, pwysleisiwyd yr angen am berthynas newydd rhwng gwledydd cyfansoddol y DU ar ôl Brexit, ac mae hynny'n arbennig o wir mewn perthynas â rheoli pysgodfeydd. Fel arall, mae risg, ac rwy'n dyfynnu o'r adroddiad hwnnw, y bydd

'un o’r canfyddiadau negyddol mwyaf trawiadol o aelodaeth yr UE a physgodfeydd—bod rhai gwledydd yn elwa o ddyraniad cwota sydd wedi’i chwyddo’n annheg— yn cael ei drosglwyddo i’r DU.'

Rydym yn ei glywed heddiw eisoes. Onid yw hynny'n anhygoel? Ond efallai y cymerwch chi sylw'n fwy aml na Nigel Farage, na lwyddodd i fynychu mwy nag un cyfarfod. Ond o leiaf fe ddarllenoch chi'r papurau, mae'n debyg.

Y cwestiwn arall, ar ôl Brexit, yw a fyddwn yn symud tuag at ymestyn yr egwyddor o dalu am nwyddau cyhoeddus i gynnwys ein moroedd, ac unwaith eto, crybwyllwyd hynny. Ac rwy'n credu mai dyna'r peth pwysicaf, mae'n debyg, y mae angen i ni ei wneud yma, gan fod y rhan fwyaf o'r bobl sy'n pysgota yng Nghymru ar hyn o bryd yn gwneud hynny o gwch bach iawn. Os ydynt yn mynd i dyfu mewn unrhyw ffordd, mae'n hanfodol i'r rheini fod y môr y maent yn gobeithio dod o hyd i'w cynnyrch ynddo yn cyrraedd safon wirioneddol dda. Felly, byddai'r egwyddorion amgylcheddol yn gwbl hanfodol er mwyn i'r rheini allu goroesi, fel y bydd y parthau cadwraeth morol sy'n diogelu rhai o'r ardaloedd hynny.

Felly, rwy'n credu mai dyna'r pethau y gallwn eu gwneud. Edrychaf ymlaen at eich ymateb, Weinidog.

18:30

Mae Joyce Watson yn y fan honno'n ceryddu Nigel Farage am fethu mynychu mwy nag un o bwyllgorau pysgodfeydd yr Undeb Ewropeaidd. Mae wedi gwneud rhywbeth ychydig yn fwy gwerthfawr i bysgotwyr drwy ein cael allan o'r UE a'u cael allan o'r polisi pysgodfeydd cyffredin.

Diolch i Andrew R.T. Davies a Llyr Gruffydd am eu sylwadau hael am ein cynnig. Rwyf am fynegi fy siom na fyddant yn ei gefnogi yng ngoleuni'r sylwadau hynny. Rwy'n meddwl bod Andrew R.T. yn iawn, efallai, i dynnu sylw at y 'blynyddoedd o ddiffyg gweithredu'. Efallai fod gennym Theresa May mewn cof wrth ei ddweud, ac mae ef bellach yn ailddyfeisio cyfnod Theresa May mewn grym fel un o weithredu deinamig.

Rwy'n synnu mwy ei bod hi'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu'r pwynt hwn hefyd, gan fy mod yn credu mai blynyddoedd o ddiffyg gweithredu ar Brexit oedd eu polisi hwy nes iddynt gael eu gorfodi gan y Democratiaid Rhyddfrydol a'r SNP i fynd am etholiad.

Yn fwy cyffredinol, rwy'n siomedig unwaith eto fod Llywodraeth Cymru yn dilyn eu trywydd 'dileu popeth a rhoi yn ei le', ond yn enwedig pan fyddant wedi dileu popeth, a'u bod wedyn yn rhoi cryn dipyn o gynnig amryw o bobl yn ôl, yn aml yn yr un geiriau am linellau bwygilydd, sy'n cymryd gwaith da swyddogion y Swyddfa Gyflwyno yn ganiataol braidd yn hynny o beth.

Fodd bynnag, o ran y newidiadau y maent wedi'u gwneud, credwn fod eu pwynt 1 ychydig yn anfoesgar. Rydym yn cydnabod 'pwysigrwydd pysgodfeydd i Gymru', ond nid yw hynny'n dderbyniol iddynt, ac nid ydynt ond yn bwysig i'r rhannau arbennig hyn o Gymru.

Ac yna ar ein pwynt olaf, nid wyf yn deall pam eu bod yn gwrthwynebu'r cyfan. Rydym yn galw ar Lywodraethau Cymru a'r DU, ac i bob golwg, nid ydym wedi cael y gystrawen yn hollol gywir nac wedi trin Llywodraeth Cymru gyda digon o barch a ffurfioldeb. Maent yn dweud y dylem alw, yn hytrach, ar 'Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU'.

Ond serch hynny, fe wnawn fwrw ymlaen â'n cynnig a diolch eto i Blaid Cymru am eu gwelliannau, sydd, fel gyda phopeth y maent i'w gweld yn ei ddweud am Brexit yr wythnos hon, wedi bod yn adeiladol iawn, ac rwyf o ddifrif yn eu canmol ar eu hymagwedd.

Rwy'n cytuno â pharagraff cyntaf eu gwelliant ynghylch pwysigrwydd yr Undeb Ewropeaidd fel cyrchfan ar gyfer pysgod, ac yn enwedig y molysgiaid a'r bwyd môr y maent wedi siarad amdanynt heno, a chredaf ei fod yn bwynt teg, ond ni fuaswn yn ei orbwysleisio, oherwydd mae'r pwynt yn wir y ddwy ffordd. Mae'r Undeb Ewropeaidd yn ddibynnol iawn ar ein pysgod, ac oni bai eu bod yn prynu'r pysgod gennym ni, byddai'n her enfawr iddynt geisio prynu'r un cynnyrch o rywle arall, a her rwy'n amheus y byddent yn mynd i'r afael â hi. A phe baent yn ceisio gwneud hynny, rwy'n credu y byddent yn talu mwy o lawer gyda'r tariffau yn ogystal, ond hefyd rwy'n meddwl, er mwyn cael y bwyd yn ffres, a'r enghraifft a roddodd Llyr o folysgiaid yn Ffrainc a Sbaen, o ystyried ble y daw'r molysgiaid hynny i fodolaeth a thyfu, nid wyf yn gweld ble y gallent gael y cynnyrch yn foddhaol ac yn gosteffeithiol, gyda'r lefel honno o ffresni, o fannau eraill.

Mae gwelliant Plaid Cymru hefyd yn sôn am y Bil Pysgodfeydd, sydd bellach wedi'i gyhoeddi, yn hytrach na'i fod ar y ffordd. Ac rwy'n ymddiheuro i'r Siambr nad wyf wedi gallu darllen ac ystyried y Bil hwnnw hyd yn hyn oherwydd ymrwymiadau yma ac mewn mannau eraill. Ond rwy'n edrych ymlaen at wneud hynny, ac rwy'n gobeithio y bydd yn cyflawni amcanion a gobeithion synhwyrol iawn Plaid Cymru ar ei gyfer.

Efallai mai'r gwelliant pwysicaf yn fy marn i yw pwynt 4 gan y Ceidwadwyr, a chredaf fod hyn yn bwysig iawn, oherwydd o dan Theresa May fe deimlwn, ac rwy'n credu bod llawer o Geidwadwyr wedi teimlo hefyd, fod cryn dipyn o betruso ynghylch y pwynt hwn a ddylai fod yn gwbl glir—y byddwn, wrth adael yr UE, yn dod yn wladwriaeth arfordirol annibynnol gyda phob dim y mae hynny'n ei awgrymu. Ac mae unrhyw awgrym y byddai hynny wedi cael ei fasnachu ymaith mewn cytundeb ymadael neu ddatganiad gwleidyddol, neu hyd yn oed yn awr na fyddai'n digwydd efallai oherwydd cytundeb masnach yn y dyfodol, yn anghywir. Fe fyddwn yn wladwriaeth arfordirol annibynnol—. Fe ildiaf i Andrew R.T.

18:35

Mae'r pwynt y mae arweinydd Plaid Brexit yn ei wneud yn cael ei bwysleisio yn y gyfraith yn awr. Os aiff y Bil drwy Dŷ'r Cyffredin, mae'r Bil Pysgodfeydd yn gwneud y pwynt hwnnw ac yn ei wneud yn bwynt cyfreithiol. Felly, nid yw'n rhywbeth y gellir ei fasnachu ymaith yn hawdd.

Mae'r Aelod yn hollol gywir ac rwy'n ei ganmol ef a'i blaid yn y Llywodraeth am yr hyn y maent wedi'i wneud yn y maes hwn bellach.

Rydym yn cefnogi gwelliant 5 hefyd, a gwelliant 6—y cynnyrch cynaliadwy mwyaf. Credaf yr ymddengys bod yna gonsensws eithaf eang ar y dull hwnnw o weithredu—. Felly, dyna pam roeddwn yn synnu braidd ynghylch ymyriad Huw Irranca yn gynharach. Nid oeddwn yn siŵr iawn pam ei fod wedi gadael, oherwydd roeddwn yn meddwl bod Darren yn cytuno ag ef, o ran bod hwnnw'n ddull synhwyrol, ac nid oes gennyf ei lefel ef o ddealltwriaeth o reidrwydd, ond rwy'n gobeithio y gallwn ddod at ein gilydd i gefnogi hynny.

Felly, fe wnaf ddau bwynt terfynol byr iawn. Mae'n bwysig iawn, ar bysgota wrth ymadael â'r UE, ein bod yn cael gwared ar yr holl ymgyfreitha Factortame hwn. Ac mae'r syniad fod Llys Cyfiawnder Ewrop wedi defnyddio'r achos hwnnw am y tro cyntaf i gael yr effaith uniongyrchol o gyfraith yr UE yn gwrthdroi statud y DU yn benodol, yn sef Deddf Llongau Masnach 1988 yn yr achos hwnnw, mor anghywir ac rwyf mor falch ein bod ni'n mynd i fod allan o hynny.

Ac yn olaf, pob dymuniad da i'r Gweinidog gyda'n cychod diogelu pysgodfeydd. Cefais y fraint, pan oeddwn yn cadeirio'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig o fynd i fae Ceredigion i weld y cychod newydd hynny ar waith. Rwy'n dymuno'n dda iddi yn ei dyletswyddau yn eu goruchwylio.

Rwy'n codi fel rhywun a gafodd chwe blynedd fel Gweinidog pysgodfeydd, ac sy'n cytuno'n llwyr fod y polisi pysgodfeydd cyffredin yn drychineb. Mae wedi annog gor-bysgota, wedi annog ffurfiau mecanyddol o bysgota sydd wedi carthu bywyd o wely'r môr yn llythrennol ac sy'n dal i fod yn broblem yn awr. Felly, ni fyddaf yn wylo dagrau dros y polisi pysgodfeydd cyffredin, ond credaf ei bod yn bwysig ein bod yn realistig ynglŷn â'r hyn y gellir ei gyflawni yma.

Dechreuodd pysgodfeydd Prydain ddirywio ddegawdau lawer yn ôl, ac erbyn y 1960au roedd y rhan fwyaf o'r pysgodfeydd wedi marw, ymhell cyn inni ymuno â'r Undeb Ewropeaidd. Ac rwy'n rhybuddio'r Aelodau sy'n awgrymu bod y stociau hynny rywsut yn gallu llamu'n ôl yn sydyn dros nos; mae'n amlwg na fyddant yn gallu gwneud hynny. Roeddem ni lawn mor euog o or-bysgota ag y mae'r UE wedi bod gyda'r polisi pysgodfeydd cyffredin.

Yn ail, rwy'n credu ei bod yn werth pwysleisio eto nad yw'r parth 200 milltir y gofynnais i David Rowlands yn ei gylch yn bodoli at ei gilydd i'r DU o gwmpas yr ynysoedd hyn mewn gwirionedd. Mae Iwerddon 80 milltir i ffwrdd o Gymru. Felly, yn amlwg, nid oes parth 200 milltir o gwmpas y DU yn y rhan orllewinol, fel arall byddai Iwerddon gyfan wedi'i chynnwys ynddo, ac mae'r un peth yn wir yn y rhan fwyaf o Fôr y Gogledd. Ac mae'n golygu, wrth gwrs, nid yn unig fod yn rhaid rheoli pysgodfeydd rhwng pedair gwlad y DU, ond os cymerwn fôr Iwerddon fel enghraifft, rhaid rheoli ar y cyd â'r UE. Fel arall, nid yw rheoli'r pysgodfeydd yn gweithio, oherwydd bydd pysgod, fel y dywedodd Andrew R.T. Davies yn gywir, yn nofio'n ôl ac ymlaen dros y ffiniau. Felly, bydd angen parhau i gydweithredu â'r UE yn y dyfodol.

18:40

Yn amlwg, y llinell derfyn 200 milltir neu'r llinell gymedrig ydyw, a bydd rhai pysgod yn croesi ffiniau. Ond onid yw'n wir, mewn gwirionedd, nad yw'r rhan fwyaf o stociau pysgod yn gwneud hynny?

Ond nid oes 200 milltir—nid yw'n bodoli ar gyfer y DU. Sut y gall fodoli? Mae gennych Iwerddon ar un ochr; mae'r gwledydd Sgandinafaidd ar y llall; mae Ffrainc 20 milltir i ffwrdd o'r DU. Felly, mae'r terfyn 200 milltir yn bodoli fel rhan o Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Gyfraith y Môr yn 1982, ond dim ond os nad oes unrhyw wlad arall yn y ffordd, ac mae'r DU wedi'i hamgylchynu. Ac wrth gwrs, y broblem y mae hynny'n ei chreu hefyd, er ei bod yn gywir dweud na fydd cychod pysgota eraill yn gallu cael mynediad i ddyfroedd y DU, mae'n golygu hefyd na fydd cychod pysgota'r DU yn gallu cael mynediad i'r dyfroedd o fewn yr UE mwyach, gan gynnwys y rhan fwyaf o fôr Iwerddon, oherwydd bydd y rhan fwyaf o hwnnw'n cael ei reoli gan yr UE oherwydd ei fod o fewn dyfroedd tiriogaethol Gweriniaeth Iwerddon. Felly, bydd yn gwbl hanfodol rheoli pysgodfeydd ar y cyd yn y dyfodol.  

Ni fydd y stociau'n gwella dros nos; rwy'n credu bod hynny'n weddol glir. Os edrychwn ar y Grand Banks fel enghraifft, byddai'n cymryd degawdau i adfer y stociau hynny, y stociau penfras a arferai fod mor helaeth. Ac felly, rwy'n poeni y bydd y diwydiant pysgota yn meddwl, yn sydyn, dros nos, y bydd pethau'n dychwelyd i fod yr hyn yr arferent fod. Ni fydd hynny'n digwydd. Mae llawer o'n prosesau, yn enwedig os edrychwn ar Grimsby, a'r stori am Grimsby yr wythnos diwethaf, yn dibynnu ar bysgod wedi'u mewnforio i allu prosesu. Os nad ydynt yn cael y pysgod hynny, ni allant eu prosesu. Nawr, mae'n bosibl y gallant ddal pysgod yn eu lle yn y tymor hwy, ond ni allant ddal pysgod yn lle'r pysgod na fyddant yn eu cael yn y tymor byrrach.  

Os edrychwn ar bysgodfeydd Cymru, caiff 90 y cant o'n pysgod eu hallforio. Nid yw er ein lles ni i allforio ymhellach nag Ewrop, oherwydd mai pysgod ydynt yn y pen draw, ac os ydych yn mynd i allforio pysgod ffres, mae terfyn ar ba mor bell y gallwch fynd â hwy. Nid tariffau'n unig yw'r broblem, ond oedi. Mae unrhyw fath o oedi gyda physgod yn amlwg yn golygu yn y pen draw y bydd gennych lori lawn o bysgod wedi pydru nad ydynt o ddefnydd i neb. A'r realiti yw y byddai diwydiant pysgota Cymru'n chwalu heb gael yr un math o fynediad o ran amser at y farchnad Ewropeaidd ag sydd ganddo ar hyn o bryd, yn syml iawn am nad oes llawer o bobl ym Mhrydain yn bwyta'r pysgod sy'n cael eu hallforio—mae cyllyll môr yn un enghraifft; anaml iawn y gwelwch y rheini ar werth yng Nghymru, ond mae'n bysgodfa fawr iawn i'r farchnad yn Sbaen.  

Felly, mae angen inni feddwl am hyn gyda dos o realiti. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r angen am reoli pysgodfeydd yn gynaliadwy, ond credaf y bydd pwysau gan rai yn y gymuned bysgota i symud at rywbeth sy'n anghynaliadwy oherwydd ei bod yn haws gwneud hynny yn awr. Buaswn yn sicr yn rhybuddio pob Gweinidog yn y DU rhag dilyn y trywydd hwnnw, ac unwaith eto, hoffwn bwysleisio bod cael mynediad i'r farchnad Ewropeaidd yn gwbl hanfodol i'n diwydiant pysgota yng Nghymru. A gadewch i ni beidio â chodi disgwyliadau na ellir mo'u bodloni. Ie, wrth gwrs, gadewch inni hyrwyddo ein pysgodfeydd; wrth gwrs, gadewch inni hyrwyddo cynaliadwyedd yn ein pysgodfeydd, ond gadewch inni wynebu realiti. Dechreuodd y dirywiad ddegawdau lawer cyn inni ymuno â'r UE, a gadewch inni fod yn ofalus ynglŷn â'r hyn a ddywedwn wrth bobl yn ein cymunedau pysgota fel na chaiff eu disgwyliadau eu codi'n afrealistig, a'u bod yn mynd yn gynyddol ddig o ganlyniad i hynny.  

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths?

Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Mae pysgodfeydd Cymru wedi llunio ein hunaniaeth a'n cymunedau dros ganrifoedd. Ac eto, heddiw, mae llawer o'n cymunedau arfordirol yn ofni mai'r genhedlaeth hon fydd yr olaf i wybod am y traddodiadau a'r diwydiannau sydd wedi cynnal ein cymunedau ac wedi denu cymaint o ymwelwyr. Nid bygythiad Brexit anhrefnus ac ansicr gan y Torïaid yn unig sy'n eu poeni. Mae'r pryderon hyn hefyd yn adlewyrchu'r dirywiad graddol y maent wedi'i weld yn y bywyd morol y mae eu bywoliaeth yn dibynnu arno. Byddai lleihau pwysigrwydd pysgodfeydd yn hanesyddol ac yn y dyfodol drwy fabwysiadu safbwynt rhy syml ar Brexit yn gwneud anghymwynas â'n cymunedau a'u pryderon. Dyna pam rwy'n gobeithio y bydd pob plaid yn cefnogi gwelliant Llywodraeth Cymru, sy'n galw nid yn unig am fabwysiadu safbwynt penodol ar Brexit, ond i Lywodraethau Cymru a'r DU weithredu pob cam sy'n angenrheidiol i warchod ein cymunedau a'n diwydiannau arfordirol, a'r amgylchedd y mae ein lles yn dibynnu arno.

Y llynedd, cyhoeddais 'Brexit a'n Moroedd', sef ymgynghoriad i ddechrau'r sgwrs ynglŷn â sut y rheolwn ein pysgodfeydd pan na fyddwn yn rhan o bolisi pysgodfeydd cyffredin yr UE mwyach. Byddaf yn gwneud datganiad pellach ar yr ymateb i'r ymgynghoriad a'n camau nesaf yn ddiweddarach y tymor hwn. Fodd bynnag, mae'r camau nesaf y mae angen i Lywodraeth y DU eu cymryd yn glir iawn. Rhaid iddynt sicrhau mynediad at farchnadoedd yr UE i ganiatáu i'r berthynas hanfodol barhau rhwng busnesau yng Nghymru a'u partneriaid ffyddlon ledled Ewrop. Rhaid iddynt sicrhau mynediad at fywyd yr UE, at y rhaglen INTERREG ag Iwerddon, ac â'r rhaglenni eraill sy'n galluogi llywodraethau a chymdeithas sifil ledled Ewrop i gydweithio er budd ein hamgylchedd cyffredin.

Heb gryfhau amddiffyniad i'r amgylchedd morol ac osgoi effeithiau gwaethaf y newid yn yr hinsawdd, ni fydd unrhyw ddiwydiannau'n bodoli. Rwy'n cytuno â'r teimlad a fynegir yng ngwelliant Plaid Cymru, ond credaf fod angen inni fynd ymhellach. Gwn fod gan Aelodau Plaid Cymru ddiddordeb ehangach o lawer yn ein hamgylchedd morol na physgodfeydd yn unig. Rwyf wedi cael gohebiaeth a thrafodaeth reolaidd gydag Aelodau ynglŷn â chydweithredu ehangach gyda'n partneriaid Ewropeaidd a gwella'r sylfaen dystiolaeth i gefnogi gwell rheolaeth ar fioamrywiaeth forol. Nid mater o ddatganiadau diystyr am reolaeth o'r math a welwn yng ngwelliant y Torïaid yw sicrhau'r cydweithrediad hollbwysig ac eang hwn gyda'n cymdogion Ewropeaidd. Dim ond un cefnfor sydd gennym, ac ni ellir rheoli bioamrywiaeth forol yn syml drwy dynnu llinell ar fap. Mae'n gofyn am gydweithredu a negodi hirdymor, nid datganiadau bachog am reoli'r naill ochr neu'r llall.

Synnais hefyd o weld gwelliant y Torïaid ynghylch mwy o arian gan Lywodraeth y DU ar gyfer pysgodfeydd. Mae'n ymddangos eu bod wedi anghofio am ddatganoli, ac yng Nghymru, ein bod yn gwneud ein penderfyniadau ariannu ein hunain yn y meysydd y mae'r Senedd hon yn gyfrifol amdanynt. Ar bob cyfrif, gadewch i'r wrthblaid adleisio ein galwadau am roi terfyn pendant ar gyni ac am gynnydd sylweddol yn ein cyfran o wariant cyhoeddus o dan fformiwla Barnett. Ond a ydynt o ddifrif eisiau dadlau yn erbyn gallu'r Senedd hon i benderfynu ar ddyraniadau cyllidebol o fewn y cymhwysedd datganoledig? Fodd bynnag, y gwelliant mwyaf annisgwyl gan y Torïaid oedd yr un am ddyletswydd gyfreithiol i Lywodraeth Cymru warantu stociau pysgod. Gwelwn nad yw Bil Pysgodfeydd y DU, a gyhoeddwyd heddiw gan eu plaid, yn cynnwys unrhyw ddyletswydd gyfreithiol o'r fath. Gall yr Aelodau ddod i'w casgliadau eu hunain ynglŷn â faint o bwyslais y mae'r Torïaid yn San Steffan yn ei roi ar y cyngor a gânt gan eu cymheiriaid yng Nghymru. Ni allwn warantu'r stociau pysgod yn gyfreithiol fwy nag y gallwn warantu cynnydd yn lefel y môr yn gyfreithiol. Rhaid inni weithredu ar y cyd â gwledydd eraill yn Ewrop ac ym mhob cwr o'r byd er mwyn gwireddu'r ymrwymiadau hynny.

Fodd bynnag, mae llawer y gallwn ei wneud a'i wneud fel Llywodraeth Cymru, waeth beth fydd canlyniad proses Brexit, er mwyn i bysgodfeydd Cymru ffynnu yn y dyfodol. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, fel rhan o'r Undeb Ewropeaidd, cawsom statws gwarchodedig i gyfres o fwydydd o bysgodfeydd Cymru, gan eu rhoi ar yr un lefel â'r bwydydd gorau yn y byd—cregyn gleision Conwy, bara lawr Cymreig, Halen Môn, ac eogiaid a sewiniaid wedi'u dal o gwrwgl. Mae eu statws gwarchodedig yn cydnabod sgiliau anhygoel cynhyrchwyr y bwydydd hyn—mewn llawer o achosion, sgiliau a drosglwyddwyd ac a feistrolwyd dros genedlaethau. Ond wrth gwrs, mae'r statws gwarchodedig hwnnw hefyd yn dibynnu ar ansawdd yr amgylchedd morol a'n gallu i ofalu amdano. Er mai un enghraifft yn unig o werth pysgodfeydd Cymru yw bwydydd â statws gwarchodedig, maent yn cyfleu'n berffaith y camau y mae angen inni eu cymryd fel Llywodraeth Cymru i alluogi ein pysgodfeydd i ffynnu: hynny yw, rhaid inni fuddsoddi yn y bobl y mae eu sgiliau a'u hymroddiad yn cynnal ein diwydiannau, a rhaid inni ofalu am yr amgylchedd y mae'r diwydiannau hynny a lles ein cymunedau'n dibynnu arno. Rhaid i Lywodraeth Cymru gefnogi'r sectorau bwyd môr a dyframaethu i ddatblygu sgiliau newydd a chysylltiadau newydd, fel bod mwy o bobl yn gallu mwynhau'r cynnyrch o'r radd flaenaf a gynigiant. A dyna'n union y mae ein menter clwstwr bwyd môr Cymru yn ei wneud. Mae'r gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru i sector bwyd a diod Cymru wedi gweld ei dwf yn rhagori ar bob disgwyl, gan gyrraedd mwy na £7.4 biliwn flwyddyn yn gynt na'r targed. Mae'r camau y byddwn yn eu cymryd wedi'u cynllunio i gefnogi pysgodfeydd Cymru i wneud cyfraniad hyd yn oed yn fwy at y twf hynod hwn.

Rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau hefyd fod yr holl weithgareddau yn nyfroedd Cymru yn cael eu rheoleiddio a'u cydlynu'n briodol fel ein bod yn diogelu bioamrywiaeth y môr ac yn atal y dirywiad sy'n bygwth dyfodol pysgodfeydd Cymru. Mae ein cynllun morol a'n strategaeth tystiolaeth forol a gyhoeddwyd y llynedd yn dangos sut y gallwn ni fel Llywodraeth Cymru gefnogi hynny'n llwyr. Mae arnom angen gwell tystiolaeth a gorfodaeth, a dyna pam y gwnaethom fuddsoddiadau newydd sylweddol yn y meysydd hyn i ddiogelu ein moroedd yn well ar gyfer ein diwydiannau hanesyddol a chenedlaethau'r dyfodol. Rwy'n gobeithio y bydd ein cymunedau arfordirol a'r nifer fawr o bobl yng Nghymru sy'n uniaethu â physgodfeydd Cymru, beth bynnag fo'u barn am Brexit, yn gweld o'r ddadl heddiw ein bod ni, ar draws y Senedd, yn barod i roi pob cam angenrheidiol ar waith i ddiogelu eu dyfodol.

18:45

Diolch, Lywydd. A gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau? Soniaf yn fyr am rai ohonynt. Soniodd Andrew R.T. Davies am Fil Pysgodfeydd y DU, sydd i'w groesawu, yn amlwg, a nododd y posibilrwydd o roi polisïau pysgota cynaliadwy ar waith a phwysleisiodd y cyfleoedd a all fod ar gael inni yn awr ar draws y DU i gyd.

Soniodd Llyr Gruffydd yn ddealladwy am y ffaith ei fod am i eitem 2 gael ei dileu, oherwydd, yn amlwg, mae hynny'n mynd yn groes i egwyddorion Plaid Cymru, ac rwy'n deall hynny'n iawn. Mae'n dweud ei bod yn bwysig sicrhau bod y farchnad ar gyfer cynhyrchion pysgod o Gymru yn parhau yn yr UE, ac ni allaf anghytuno â hynny o gwbl. Ac nid oes unrhyw reswm pam nad yw'r sianeli hynny'n cael eu cadw ar agor. Soniodd Llyr hefyd fod rhaid inni gael sicrwydd o gyllid ar gyfer diwydiant pysgota Cymru, ac rwy'n ei gefnogi'n llwyr, a byddai ein plaid yn cefnogi unrhyw gamau sy'n angenrheidiol i sicrhau bod hynny'n digwydd. Fe sonioch chi hefyd, Llyr, fod angen inni gael llais—mae angen i'r Cymry gael llais yn yr holl negodiadau, ac rwy'n cytuno'n llwyr â chi.

Soniodd Mandy Jones am ffermwr o Sir Benfro a siaradodd am effaith niweidiol cychod pysgota anfrodorol i'w fusnes. A soniodd Joyce Watson, yn gwbl ddealladwy, am ei hamheuon ynghylch yr hyn a allai ddigwydd, a soniodd mai dim ond 0.04 y cant o'r cynnyrch domestig gros yw'r diwydiant pysgota yn awr, ond yr holl syniad yw y dylid ei ehangu'n ddirfawr a dylem fod yn rhywbeth fel 20 y cant o'r cynnyrch domestig gros. A siaradodd am y mewnforion a ddaw i mewn i'r wlad hon, sef 70 y cant, mewnforion pysgod sy'n dod i mewn i'r wlad hon, ond y gwir amdani, wrth gwrs, yw eu bod yn dod o wledydd lle mae eu llongau wedi pysgota'r pysgod hynny o ddyfroedd Prydain ac maent yn eu mewnforio i ni.

Yn amlwg, tynnodd Mark Reckless sylw at yr agwedd adeiladol rydym yn ei defnyddio ar gyfer y ddadl hon. Dywed Carwyn Jones nad yw'n colli dagrau dros y polisi pysgodfeydd cyffredin a dywedodd fod diwydiant pysgota Prydain wedi bod yn dirywio ers canrifoedd mae'n debyg. Mae'n hollol iawn, ond pan aethom yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd, roedd 100,000 o bobl o hyd yn gweithio yn y diwydiant pysgota yn y Deyrnas Unedig. Ac mae'n hollol iawn, wrth gwrs, i ddweud na chaiff stociau mo'u hadfer yn y tymor byr. Fe gymer beth amser i wneud hynny. Ond mae mor bwysig fod gennym gyfle yn awr i wneud yn siŵr nad yw'r stociau hynny'n cael eu hysbeilio ar y raddfa a ddigwyddodd yn y gorffennol. A phan ddywed ar hynny nad yw'n 100 neu 200 o filltiroedd, nodaf y byddwn yn dal i allu pysgota'r ardaloedd o gwmpas Ynysoedd Prydain na fu'n bosibl inni eu pysgota ein hunain tra oeddem yn yr Undeb Ewropeaidd. Gyda llaw, cafodd cychod Prydeinig eu gwahardd rhag pysgota ym Môr y Canoldir, a dyna rywbeth nad yw'r rhan fwyaf o bobl yn ei wybod.

Soniodd y Gweinidog am bryderon y pysgotwyr, a gallwn ddeall hynny'n iawn—bydd ganddynt bryderon—ond cawsom sicrwydd gan Lywodraeth Prydain y byddant yn eu hariannu i raddau a fydd yn sicrhau na fydd ganddynt unrhyw bryderon ariannol sylfaenol. Ond fe fethoch chi sôn bod diwydiant pysgota Cymru wedi bod yn dirywio'n fawr ers inni ymuno â'r UE ac mae hwn yn gyfle gwirioneddol inni adeiladu'r diwydiant hwnnw yn ôl i ble roedd o'r blaen. Rydym ni yn Brexit yn cytuno â sylw'r Gweinidog ar gadw pob sianel yn agored i'r UE. Mae hynny'n gwbl hanfodol, a dyna sydd angen inni ei wneud, ac rwy'n eithaf sicr mai dyna fydd yn digwydd.

Felly, diolch i chi i gyd am eich cyfraniadau ac rydym yn cyflwyno'r ddadl hon ger bron y Siambr, Ddirprwy Lywydd, ar adeg pan fydd hi'n bosibl adfer rheolaeth ar ardaloedd pysgota'r DU. Mae'n gynnig a ddylai gael cefnogaeth pawb yn y Siambr hon, oherwydd y cyfan y mae'n ceisio'i wneud yw tynnu sylw at y pwerau a ddylai fod gennym yn awr i adfywio diwydiant pysgota Cymru. Yn wir, Lywydd, nid oes dim yng ngwelliannau'r pleidiau eraill sy'n gwrthddweud y dadleuon a gyflwynais yn y cynnig hwn. Felly, rwy'n annog y rheini ar y meinciau eraill i anghofio gwleidyddiaeth bleidiol, i sefyll dros ddiwydiant pysgota Cymru ac i bleidleisio dros y cynnig tra rhesymol hwn.

18:55

Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.

Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.

9. Cyfnod Pleidleisio

Eitem 9 ar ein hagenda yw'r cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, rwy'n bwriadu symud ymlaen at y bleidlais gyntaf. O'r gorau.

Felly, symudwn yn awr at y cynnig i addasu enw a chylch gwaith y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Elin Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 42, neb yn ymatal, saith yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.

NDM7242 - Cynnig i addasu enw a chylch gwaith y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol : O blaid: 42, Yn erbyn: 7, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

Symudwn yn awr at ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar yr ymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os gwrthodir y cynnig, fe bleidleisiwn ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 15, roedd saith yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

NDM7241 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 15, Yn erbyn: 28, Ymatal: 7

Gwrthodwyd y cynnig

Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 27, roedd saith yn ymatal, 16 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.

NDM7241 - Gwelliant 1: O blaid: 27, Yn erbyn: 16, Ymatal: 7

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM7241 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi bod pobl Cymru wedi pleidleisio i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn y refferendwm a gynhaliwyd ar 23 Mehefin 2016 ac y bydd Cymru, ynghyd â gweddill y Deyrnas Unedig, yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd am 23.00 ar 31 Ionawr 2020.

2. Yn cydnabod bod buddion yn ogystal â heriau yn codi o ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd.

3. Yn credu y gall yr heriau gynnwys bygythiad sylweddol i ddyfodol y Deyrnas Unedig ei hun; bod felly angen diwygio’r cyfansoddiad yn sylweddol i ymwreiddio datganoli yn llwyr; ac y gallai negodi Cytundebau Masnach Rydd â’r UE a gwledydd eraill, heb gynnwys y gweinyddiaethau datganoledig yn ystyrlon, fod yn risg o ran tanseilio’r setliad datganoli; ac yn gresynu na chydnabuwyd hyn gan Lywodraeth y DU wrth basio Deddf yr UE (Y Cytundeb Ymadael) yn Senedd y DU.

4. Yn cefnogi’r cynllun 20 pwynt a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru yn ‘Diwygio ein Hundeb’ a fydd yn sicrhau bod datganoli yn dod yn rhan sefydledig o’r cyfansoddiad unwaith y mae’r DU yn ymadael â’r UE.

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i barhau i ymgysylltu'n gadarnhaol â Llywodraeth y DU ac i godi llais dros fuddiannau Cymru wrth i'r Deyrnas Unedig ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 27, saith yn ymatal, 16 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.

NDM7241 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 27, Yn erbyn: 16, Ymatal: 7

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Trown yn awr at ddadl Plaid Cymru ar berfformiad y GIG, ac unwaith eto, galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Ac unwaith eto, os gwrthodir y cynnig, fe bleidleisiwn ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 13, un yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

NDM7244 - Dadl Plaid Cymru - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 13, Yn erbyn: 36, Ymatal: 1

Gwrthodwyd y cynnig

Trown yn awr at bleidlais ar y gwelliannau, a galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 15, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1.

NDM7244 - Gwelliant 1: O blaid: 15, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Os derbynnir gwelliant 2, caiff gwelliannau 3 a 4 eu dad-ddethol. Ac yn awr galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 27, neb yn ymatal, 23 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 2.

NDM7244 - Gwelliant 2: O blaid: 27, Yn erbyn: 23, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliannau 3 a 4 eu dad-ddethol.

Pleidleisiwn yn awr ar welliant 5. A galwaf am bleidlais ar welliant 5, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 42, neb yn ymatal, wyth yn erbyn. Felly, derbyniwyd y gwelliant.

NDM7244 - Gwelliant 5: O blaid: 42, Yn erbyn: 8, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cynnig NDM7244 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn nodi'r ystadegau perfformiad diweddaraf ar gyfer y GIG ac yn gresynu at y methiant parhaus i gyrraedd targedau perfformiad ar draws amrywiaeth o arbenigeddau a gwasanaethau.

2. Yn gresynu at ganslo llawdriniaethau a oedd wedi'u cynllunio er mwyn ymdrin â phwysau'r gaeaf ac yn credu ei bod yn bosibl cynllunio ar gyfer ymdrin â phwysau'r gaeaf a sicrhau bod llawdriniaethau a oedd wedi'u cynllunio yn parhau.

3. Yn credu y dylid llongyfarch staff y GIG a gofal cymdeithasol am eu perfformiad o dan amgylchiadau anodd.

4. Yn cydnabod effaith degawd o gyni annheg o gyfeiriad y DU ar yr adnoddau sydd ar gael i ariannu gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys iechyd a gofal cymdeithasol, ac yn credu mai dim ond trwy’r dulliau canlynol y gellir cynnal gwelliannau yn y GIG yn y tymor hir:

a) os bydd y GIG a gofal cymdeithasol yn cydweithio fel partneriaid cyfartal;

b) os bydd buddsoddi yn parhau ar draws y ddwy system i helpu pobl i gadw’n iach ac allan o’r ysbyty;

c) drwy barhau â’r ffocws ar recriwtio a chadw ein gweithlu iechyd a gofal, ynghyd â’u llesiant, gyda chymorth y strategaeth ar gyfer y gweithlu iechyd a gofal cymdeithasol ar y cyd.

5. Yn croesawu'r cyfleoedd i fuddsoddi adnoddau ychwanegol yn y GIG yng Nghymru a'r gwasanaethau gofal cymdeithasol er mwyn hybu perfformiad o ganlyniad i gynnydd mewn termau real yn grant bloc Cymru.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 34, neb yn ymatal, 16 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.

NDM7244 - Dadl Plaid Cymru - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 34, Yn erbyn: 16, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd

Pleidleisiwn yn awr ar ddadl Plaid Brexit ar bysgodfeydd, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. Ac unwaith eto, os gwrthodir y cynnig, fe bleidleisiwn ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig hwnnw. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig saith, neb yn ymatal, 43 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig.

NDM7243 - Dadl y Blaid Brexit - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 7, Yn erbyn: 43, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Pleidleisiwn yn awr ar y gwelliannau. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 28, neb yn ymatal, 22 yn erbyn. Felly, derbyniwyd gwelliant 1.

19:00

NDM7243 - Gwelliant 1: O blaid: 28, Yn erbyn: 22, Ymatal: 0

Derbyniwyd y gwelliant

Cafodd gwelliannau 2 a 3 eu dad-ddethol.

Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 14, roedd naw yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 4.

NDM7243 - Gwelliant 4: O blaid: 14, Yn erbyn: 27, Ymatal: 9

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 5 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 14, roedd wyth yn ymatal, 28 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 5.

NDM7243 - Gwelliant 5: O blaid: 14, Yn erbyn: 28, Ymatal: 8

Gwrthodwyd y gwelliant

Galwaf am bleidlais ar welliant 6 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 22, roedd un yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 6.

NDM7243 - Gwelliant 6: O blaid: 22, Yn erbyn: 27, Ymatal: 1

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynnig NDM7243 fel y'i diwygiwyd:

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

1. Yn cydnabod pwysigrwydd hanesyddol pysgodfeydd i ddiwydiannau, amgylchedd a chymunedau arfordirol Cymru.

2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i gymryd yr holl gamau angenrheidiol er mwyn diogelu dyfodol pysgodfeydd Cymru.

Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 47, neb yn ymatal, tri yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.

NDM7243 - Dadl y Blaid Brexit - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 47, Yn erbyn: 3, Ymatal: 0

Derbyniwyd y cynnig

10. Dadl Fer: Cymru a'r economi ddiwylliannol: Manteision economaidd y diwydiannau creadigol a'r celfyddydau mewn Cymru greadigol

Symudwn yn awr at y ddadl fer. Felly, os oes Aelodau'n bwriadu gadael y Siambr, gwnewch hynny'n gyflym ac yn dawel.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n dymuno rhoi munud o'r amser a neilltuwyd i mi yn y ddadl hon i fy nghyd-Aelodau yn Llafur Cymru, Mick Antoniw AC a Mike Hedges AC. Ddirprwy Lywydd, mae hon yn ddadl amserol i'w chyflwyno i Siambr y Senedd, gan fod Llywodraeth Cymru, heddiw, wedi lansio Cymru Greadigol yn ffurfiol i hyrwyddo'r diwydiannau creadigol yng Nghymru. Bydd yr Aelodau'n gwybod fy mod yn gefnogwr brwd i'r rhan y mae'r sector creadigol yn ei chwarae ym mywyd Cymru, gan ddyrchafu Cymru nid yn unig yn ariannol, ond yn bwysicach fyth, drwy gyfoethogi enaid ein dinasyddion a'n cenedl. Dywed yr Arglwydd Elis-Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yn ei ddatganiad ysgrifenedig a gyhoeddwyd heddiw:

'Bydd Cymru Creadigol yn cynnig gwasanaeth mwy syml, deinamig ac arloesol i sector y diwydiannau creadigol, sy'n cyd-fynd ag anghenion y diwydiant. Rwy‘n bwriadu elwa ar y manteision a ddaw i'r sector o ddau gyfeiriad—yr economi a diwylliant.'

Bydd y camau gweithredu gan Lywodraeth Cymru wrth lansio Cymru Greadigol felly yn cyflawni ymrwymiad maniffesto pwysig a wnaed gan Lafur Cymru yn 2016. Yng Nghymru, cawn ein cydnabod yn rhyngwladol heddiw fel grym cyffredinol ym maes cynhyrchu ffilm, drama a theledu. Mae sioeau a gynhyrchwyd yng Nghymru, megis Doctor Who, Sherlock a His Dark Materials, wedi cael cydnabyddiaeth ledled y byd. Mae blodeuo diwydiant sgrin Cymru wedi bod yn un o lwyddiannau mawr datganoli. Ers 1999, mae gwerth ychwanegol gros cynhyrchiant ffilm, fideo a rhaglenni teledu yng Nghymru wedi cynyddu o £59 miliwn i £187 miliwn, sy'n gynnydd o 217 y cant, gyda llawer mwy i ddod.

Mae'n iawn ein bod yn dathlu llwyddiannau'r sector hwn, yn aml mewn partneriaeth â chymorth Llywodraeth Cymru. Mae Y Gwyll/Hinterland ac Un Bore Mercher/Keeping Faith yn enghreifftiau o gynyrchiadau dwyieithog a wnaed ar gyfer S4C yn wreiddiol, ond sydd wedi llwyddo ymhell y tu hwnt i lwyfannau Cymru. Mae gwelededd cyffredinol pwysig o'r fath hefyd wedi rhoi amlygrwydd i'r Gymraeg i gynulleidfa fyd-eang. Wrth drafod teledu yng Nghymru, buaswn ar fai pe na bawn yn sôn am Gavin & Stacey—y rhaglen deledu dros y Nadolig a gafodd 17.4 miliwn o wylwyr, y nifer fwyaf yn y DU ers degawd—mae hyn yn unig wedi dod â miloedd o ymwelwyr yn haid i'r Barri bob blwyddyn i ymweld â rhai o leoliadau eiconig y rhaglen.

Mae'r economi greadigol yn dwyn manteision economaidd yn ei sgil, nid yn unig drwy wariant ar gynhyrchu, ond mewn sectorau eraill fel twristiaeth, sy'n helpu i ddenu ymwelwyr i Gymru. Mae'r diwydiannau creadigol yn hyrwyddo Cymru ledled y byd fel cyrchfan i ymweld ag ef, ac i fyw a gweithio ynddo. Rydym wedi adeiladu sylfaen gadarn ar gyfer ein diwydiant sgrin yng Nghymru, ond mae potensial iddo ddod â hyd yn oed mwy o fudd economaidd. Nododd ymchwiliad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu fod prinder sgiliau posibl yn y diwydiant. Rhaid i Cymru Greadigol helpu i fynd i'r afael â hyn a hyrwyddo llwybrau gyrfaol clir ar gyfer talent o Gymru.

Felly, Weinidog, sut y gall Cymru Greadigol helpu ein pobl ifanc i gamu ymlaen mewn gyrfaoedd yn ein diwydiannau ffilm a theledu ffyniannus? Mae Doctor Who neu Sherlock yn llwyddiant i'r diwydiant yng Nghymru, ond yn aml caiff lleoliadau Cymreig eu defnyddio yn lle rhai yn Llundain neu rannau eraill o'r DU. Mae'n rhaid inni wneud mwy i gefnogi cynyrchiadau o Cymru sy'n dathlu ein tirweddau gwych a'n diwylliannau ffyniannus. A all y Gweinidog egluro sut y bydd Cymru Greadigol yn cefnogi llwyfannau sy'n dathlu ein tirweddau prydferth a'n hunaniaeth?

Ddirprwy Lywydd, bydd yr Aelodau'n cofio, o'r blaen, fy mod wedi dathlu diwylliant perfformio cerddorol Cymru yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru. Cynhaliwyd digwyddiad perfformio o'n talent cerddorol ysblennydd o Gymru, ac fe gasglodd torfeydd mawr o wahoddedigion ac aelodau o'r cyhoedd i glywed perfformwyr ifanc gorau Cymru. Roedd yn cynnwys cerddorion o wasanaeth cerdd Caerffili, Ysgol Gymraeg Cwm Gwyddon yn Aber-carn, Celfyddydau Cenedlaethol Ieuenctid Cymru, gwasanaeth cerdd sirol Caerdydd a Bro Morgannwg, yn ogystal â Catrin Finch, y delynores a'r cyfansoddwr o fri rhyngwladol. Pwrpas y digwyddiad oedd tynnu sylw at bwysigrwydd sylfaenol caniatáu i dalent gerddorol ifanc o Gymru ffynnu—a gweld y canlyniad.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n sosialydd ymroddedig. Yn y celfyddydau a'r sector creadigol, fel ym mhob agwedd ar fywyd Cymru, credaf fod cyfiawnder naturiol yn mynnu cyfle cyfartal. Lle'n well i hynny ddigwydd nag wrth fanteisio ar gyfleoedd addysgol a diwylliannol, fel bod pob un o'n disgyblion, waeth beth yw incwm eu rhieni, yn gallu blodeuo a thyfu, boed o ran hyder neu lesiant neu sgiliau cerddorol datblygedig neu fynediad at lwybrau gyrfaol? Ni all neb warantu canlyniad cyfartal pan fydd plentyn yn codi offeryn cerdd neu gynnig tiwtora lleisiol. Fe wyddom hynny. Ond rhaid rhoi chwarae teg a chyfle cyfartal i ddysgu i bob plentyn yng Nghymru, waeth ble maent yn byw a waeth beth fo'u cyfoeth teuluol neu eu gallu.

Mae'r byd yn adnabod Cymru drwy ei chyfraniad unigryw i gerddoriaeth. Mae rheswm pam y cawn ein galw'n wlad y gân, fel y mae'r adroddiad a gomisiynais gan yr Athro Paul Carr yn amlinellu'n glir iawn. Nid oes amheuaeth fod y polisïau cyni a orfodwyd ar fywyd cyhoeddus yng Nghymru gan Lywodraeth Dorïaidd y DU dros y degawd diwethaf wedi bygwth yn sylfaenol ein gallu i sicrhau nad oes unrhyw rwystrau i fod yn Gymry ac i allu darganfod rhyfeddod y profiad o gyfranogi mewn cerddoriaeth.

Cyfarfûm â'r Gweinidog addysg, Kirsty Williams, yr wythnos diwethaf i drafod cyhoeddiad Llywodraeth Cymru o'u hastudiaeth ddichonoldeb o wasanaethau cerddoriaeth. Gwyddom fod hwn yn faes cymhleth iawn, ond mewn gwirionedd ceir rhai atebion syml iawn. Rwy'n argyhoeddedig o'r angen dwys a dybryd i Gymru ddatblygu strategaeth perfformio cerddoriaeth yng Nghymru a ategir gan gymorth ariannol cynaliadwy Llywodraeth Cymru a chynllun datblygu i dyfu a rhaeadru gwasanaethau cerddoriaeth o safon y gall plant ysgol eu defnyddio drwy Gymru gyfan mewn modd unffurf, cyson ac wedi'i gynllunio. Ni allwn ganiatáu i'r cyni ariannol a orfodir o Lundain, sydd heddiw'n effeithio'n ddifrifol ar wasanaethau anstatudol wrth i awdurdodau lleol frwydro i ariannu gwasanaethau rheng flaen, amddifadu Cymru o'r hyn sy'n ein gwneud yn falch o fod yn Gymry.

Byddaf yn pwyso ar fy mhlaid i archwilio ac i ddarparu ymrwymiad yn ei maniffesto nesaf y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd cyfrifoldeb am sicrhau bod awdurdodau lleol yn gallu galw ar wasanaethau cefnogi cerddoriaeth yng Nghymru i roi'r ddarpariaeth addysg offerynnol a lleisiol orau i'n plant. Mae addewid Llywodraeth Cymru heddiw—mai un o'r prif flaenoriaethau ar gyfer Cymru Greadigol fydd mabwysiadu rôl arweiniol yn y gwaith o farchnata a hyrwyddo'r diwydiannau creadigol yng Nghymru i'r byd drwy frand newydd Cymru Greadigol—yn dangos yr ewyllys yn llawn ynghyd â phwysigrwydd sylfaenol sicrhau bod gwreiddiau ein diwylliant creadigol Cymreig yn cael eu diogelu. Pa werth dangos blodyn hardd yn falch i'r byd os yw ei wreiddiau mewn perygl o farw'n araf?

Gwn y bydd yr Arglwydd Elis-Thomas, y Dirprwy Weinidog, yn ymrwymo ar ei ran ei hun a'i swyddogion i archwilio pob ffordd y gall Llywodraeth Cymru gefnogi aelodau ieuengaf cymunedau creadigol Cymru, a gwn y bydd y Dirprwy Weinidog a minnau'n dilyn gwaith grŵp ymgynghori'r astudiaeth o addysg cerddoriaeth, a gyfarfu mor ddiweddar â ddoe, i archwilio effeithiolrwydd cynllun cenedlaethol ar gyfer addysg gerddorol. Mae'n rhaid ei gael, Ddirprwy Weinidog. A nawr yw'r amser. Os ydym yn gweld gwerth popeth sy'n gyfoethog yn ein treftadaeth ddigyffelyb a'n henw da byd-eang mewn cerddoriaeth, rhaid i ni weithredu.

I gloi, Ddirprwy Lywydd, rwy'n croesawu'r cyhoeddiad o £120,000 o gyllid ar gyfer ariannu lleoliadau cerddoriaeth ar lawr gwlad. Mae gweithredoedd fel y rhain yn hanfodol er mwyn sicrhau y caiff diwydiannau creadigol Cymru eu diogelu ac y byddant yn blodeuo ar gyfer y dyfodol. Ond rwyf hefyd yn credu y bydd pob un ohonom yn y lle hwn yn cefnogi camau i gryfhau Cymru Greadigol ac yn yr un modd, ni allwn anwybyddu'r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen i gynnal a gwireddu ein gwir botensial cenedlaethol pwerus yn llawn.

19:10

Diolch am roi munud. Mae cerddoriaeth a dawns yn cyfoethogi bywydau. Mae'n hyrwyddo heddwch a chyfeillgarwch o gwmpas y byd. Gyda'r asedau diwylliannol a cherddorol sydd gennym yng Nghymru, credaf mai ein cyfrifoldeb yw arddangos diwylliant Cymru a cherddoriaeth Cymru i'r byd. Yn y byd ar ôl Brexit y byddwn yn byw ynddo, ni fu erioed fwy o reswm dros wneud hynny mewn gwirionedd: ymgysylltu, creu cysylltiadau newydd.

Mae gennym y Cory Band gwych, a gwn fy mod yn sôn amdano'n rheolaidd iawn. Mae gennym gorau. Yn fy etholaeth i yn unig: côr Llantrisant, côr Pontypridd. Mae'r Dawnswyr Nantgarw gwych yn ymddangos ym mhedwar ban byd, mewn gwledydd lle mae'n amlwg fod gennym ddiddordeb economaidd a diwylliannol.

Ymddengys i mi mai'r hyn sydd angen inni ei wneud yn awr yw datblygu strategaeth hyrwyddo lle rydym yn ymgysylltu â gwledydd eraill, yn cynorthwyo ein cyrff diwylliannol i fynd allan i'r byd, a chael y manteision sy'n deillio o hynny, sy'n rhannol economaidd, ond sydd hefyd o fudd i ddiwylliant, heddwch a chyfeillgarwch.

A gaf innau hefyd ddiolch i Rhianon Passmore am roi munud o'i hamser i mi? Rwy'n cynrychioli etholaeth sydd â thraddodiad corawl mawr. Ar hyn o bryd yn Nwyrain Abertawe, mae gennym y prif gorau canlynol: côr Orffiws byd-enwog Treforys, clwb rygbi Treforys, meibion Abertawe, Phoenix Wales—sydd oll yn gorau meibion—côr merched Treforys, lle mae'n fraint gennyf fod yn llywydd, côr cymysg y Tabernacl, a chôr plant a phobl ifanc Twrw Tawe.

Ar wahân i'w pwysigrwydd i iechyd a lles y cantorion a'r cynulleidfaoedd sy'n mynychu'n rheolaidd, mae'r corau hyn hefyd yn hyrwyddo Abertawe a Chymru dramor. Maent yn denu twristiaid ac maent yn mynd â'n henw allan i'r byd. Cawn ein cysylltu â chanu o safon uchel.

Pan feddyliwch am nifer y gwahanol fannau lle mae corau—fel merched Treforys ac yn enwedig y côr gwych hwnnw, Côr Orffiws Treforys—wedi perfformio ar draws y byd mewn gwirionedd, gan gynnwys Tŷ Opera Sydney ac Efrog Newydd, fe ddowch i sylweddoli pa mor bwysig yw'r corau hyn.

Diolch. A gaf fi alw ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn awr i ymateb i'r ddadl? Dafydd Elis-Thomas.

Diolch yn fawr iawn, ddirprwy lefarydd. Cyn i mi ddechrau'r ddadl hon, ni fydd yn syndod i Mike Hedges nac i eraill yma y buaswn yn hoffi nodi ein bod wedi colli un o hyrwyddwyr mawr y diwylliant Cymreig, Sybil Crouch, y byddwn yn ffarwelio â hi'n derfynol—yn y bywyd hwn, beth bynnag—yfory yn Abertawe, ac estyn ein cydymdeimlad â David Phillips, a'i theulu i gyd, a'i channoedd os nad miloedd o gyfeillion yn ardal Abertawe.

Rwy'n ddiolchgar iawn i Rhianon Passmore am ddewis y pwnc amserol hwn, a byddaf yn ymateb drwy fynd i'r afael â rhai o'r materion sy'n ymwneud â Cymru Greadigol. Rwy'n falch iawn o gael cyfle i wneud hynny yn y Cynulliad cyn i mi ei wneud i lawr y ffordd yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro.

Cyn i mi wneud hynny, hoffwn ymateb i'r pwyntiau cyffredinol a wnaed am bwysigrwydd y diwydiant cerddoriaeth, ac rwy'n falch fod fy nghyd-Aelodau Mick Antoniw a Mike Hedges wedi sôn am werth ein traddodiad corawl, gan fod yr holl agweddau traddodiadol hyn ar ein bywyd yn rhywbeth y mae'n rhaid inni barhau i'w ddathlu.

Rwyf hefyd yn deall pa mor angerddol y mae Rhianon Passmore ynghylch addysg gerddorol. Byddaf yn sicr yn barod i gydweithredu â fy nghyd-Aelod, Gweinidog y Cabinet dros Addysg a hithau, ac unrhyw Aelodau eraill o'r Cynulliad neu'r tu allan iddo sy'n dymuno mynd ar drywydd y posibilrwydd o gael dull gweithredu strategol newydd. Oherwydd rwy'n cydnabod, oni bai fod gennym ddull gweithredu strategol, nad oes unrhyw ddiben cael strategaeth ar gyfer y diwydiant creadigol os nad oes gennym y bobl greadigol, yn enwedig ym myd cerddoriaeth, i gyflawni'r rôl honno.

Fel y dywedais i gynnau, rydym ni yn lansio Cymru Greadigol heno, ac er bod pob diwydiant yng Nghymru yn cyfrannu mewn ffordd allweddol tuag at ein cymdeithas ni, mae gan y diwydiannau creadigol ffordd unigryw o gyfrannu. Nid yn unig ydy'r sector creadigol yn creu swyddi a chyfoeth yn rhan o'r economi, fel diwydiannau eraill, ond mae'r sector creadigol yn cyfrannu tuag at greu hunaniaeth a brand cenedlaethol i Gymru yn rhyngwladol. Ac mae hyrwyddo brand, a hunaniaeth a diwylliant Cymru yn codi proffil Cymru yn fyd-eang.

Dwi'n gwybod bod fy nghydweithwraig, y Gweinidog sy'n gyfrifol am faterion rhyngwladol a'i hadran yn awyddus iawn ein bod ni'n parhau i gydweithio gyda'n gilydd a gyda'r Gweinidog Addysg, yn y rhan yna o'n gwaith, oherwydd mae'n ffordd uniongyrchol i ni gyfrannu. Fel pob gwlad o faint canolig yn y byd, rydym ni'n gallu defnyddio ein diwylliant i ddathlu, nid yn unig ein hunaniaeth ein hunain, ond i gyfrannu'r diwylliant unigryw yna y tu allan i'n ffiniau. 

Mae hefyd yn bwysig, fel dywedodd Rhianon, i ailadrodd bod y sector diwydiannau creadigol yn fusnes economaidd aruthrol o bwysig; mae wedi tyfu yn gyflymach nag unrhyw fusnes cyfatebol arall yn y blynyddoedd diwethaf. Ac, fel y clywson ni, mae cyfraniad uniongyrchol y diwydiannau creadigol at economi Cymru yn sylweddol—tua £2.2 biliwn y flwyddyn o drosiant, a dros 56,000 o bobl yn cael eu cyflogi yn uniongyrchol yn y diwydiant.

Mae'n bwysig pwysleisio hefyd bod effaith economaidd y diwydiannau creadigol yn ymestyn y tu hwnt i'r diwydiannau hynny, gan fod rhannau eraill o'r economi yn gallu elwa ar sgiliau ag allbynnau'r rheiny sy'n gweithio yn y sector creadigol. Er enghraifft, mae'r diwydiant moduro, y diwydiant dylunio artistig a'r diwydiannau sy'n ymwneud â pheirianneg ddigidol i gyd yn elwa ar brofiad yn y diwydiannau creadigol, yn enwedig wrth hyfforddi. 

Fel y clywsom ni gan Rhianon, mae Cymru'n cael ei chydnabod yn rhyngwladol fel canolfan ragoriaeth ar gyfer dramâu a ffilmiau ac wedi dod yn ganolfan, fel dwi wedi clywed gan neb llai na NBC Universal sawl gwaith yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. A chwmni teledu Amblin Television, sydd yn gyfrifol am ddarlledu'r gwaith cawn ni weld yn weddol fuan yn sicr, Brave New World—. Dwi'n edrych ymlaen yn fawr at y gyfres newydd yna ar gyfer teledu yn fyd-eang sydd wedi cael ei chynhyrchu yn Dragon Studios yn rhannol, wrth gwrs, nid ymhell o'r fan yma. Ac mae'r cynyrchiadau yma yn dangos bod Cymru'r un mor ddibynadwy, yn gallu bod yn fwy dibynadwy, ac yr un mor ddibynadwy yn gyffredinol, â Llundain a de-ddwyrain Lloegr, o ran y diwydiant sgrin. A dwi wedi clywed nifer o gwmnïau, yn y ddwy flynedd ddiwethaf dwi wedi bod yn y swydd yma, yn dweud mor ardderchog y mae y profiad o weithio gyda'r timoedd sydd gyda ni yn y maes yma. 

Yn ystod y cyfnod rhwng 2016 a 2019 mae gwariant Cymru yn y diwydiant sgrin wedi cynyddu o £35 miliwn i £55 miliwn a does yna ddim arwydd fod hyn yn lleihau.

Ond rydym yr un mor awyddus i sicrhau bod gyda ni gefnogaeth i ddiwydiant cyhoeddi llwyddiannus dwyieithog yng Nghymru. Mae hyn hefyd yn rhan o strategaeth twf economaidd, oherwydd mae ein busnes llyfrau, a Chyngor Llyfrau Cymru yn arbennig, yn cyfrannu yn uniongyrchol i gynnal llenyddiaeth yn y ddwy iaith, ond hefyd mae'r straeon sy'n cael eu hysgrifennu yng Nghymru, fel y mae gwaith Philip Pullman yn ddiweddar, yn dangos fod cymaint o'r hyn sy'n digwydd yn y diwydiant ffilm ar ein sgriniau ni yn cychwyn o fewn cloriau llyfrau. A dwi'n meddwl ei fod o'n bwysig ein bod ni wastad yn dathlu hynny yn ogystal. Dwi'n sicr bod His Dark Materials yn enghraifft dda iawn i'w dewis ar hyn o bryd.

Fel y clywsom ni oddi wrth Rhianon yn huawdl iawn, nid mytholeg ydy siarad am Gymru fel gwlad y gân. Ac mae cyfraniad y diwydiant cerddoriaeth i'r economi yn parhau i wneud marc. Wrth gwrs, yn ein stadiymau—beth bynnag ydy lluosog 'stadiwm' yn y Gymraeg—mae'r canolfannau anferthol yma a'r gwahanol arenas perfformio yn denu pobl yma, yn denu twristiaid yma o bob rhan o'r Deyrnas Unedig ac o rannau eraill o'r byd, a dwi'n sicr y bydd hynny'n parhau i ddigwydd. Mae twristiaeth ddiwylliannol yn rhan ganolog o'r hyn rydym ni yn ei ddilyn ar hyn o bryd, fel Llywodraeth, ac yn gweld pwysigrwydd y digwyddiadau mawr, fel rydym ni wedi bod yn eu galw nhw. Ond mae'r digwyddiadau mawr yma yn cael eu gweld bellach fel ffordd allweddol i bobl weld Cymru fel llwyfan sy'n werth ymweld ag o.

Mae datblygiad seilwaith economaidd ar gyfer cerddoriaeth ar y lefel fawr yma, dwi'n gobeithio, yn mynd i barhau i gefnogi'r pwysigrwydd o ddatblygu cerddoriaeth yn y strydoedd, yn y dinasoedd ac ar lawr gwlad yn gyffredinol. Ac, fel y cyfeiriwyd ato gan Rhianon—a dwi'n gwybod bod hyn yn rhywbeth cyffredinol yn ein teimlad ni ar draws y Cynulliad—mae colli mwy a mwy o leoliadau cerddoriaeth fyw yn fater o bryder mawr, a dyna pam y gwnaethpwyd y cyhoeddiad heddiw ein bod ni'n mynd i fuddsoddi ac i wahodd cynigion ar gyfer adfer neu greu o'r newydd ganolfannau perfformio ar draws Cymru.

Mae'r rhesymau am golli canolfannau fel hyn yn aml yn gymhleth, ac nid anawsterau ariannol ydy'r rhesymau bob tro, ond heb gerddoriaeth fyw mewn lleoliadau, heb y profiad unigryw yna o allu gweld y perfformwyr a bod yn rhan o'r digwyddiadau, dwi ddim yn credu bod yna fywyd cerddorol yn bosibl. Ac felly, dyna pam bod y gronfa lleoliadau cerdd leol yn mynd i fod yn allweddol ar gyfer datblygiad.

Ac yna yn olaf, gaf i ddweud fy mod yn cytuno'n llwyr â'r ymrwymiad yma o'r posibilrwydd i berson ifanc, beth bynnag ydy eu cefndir nhw, allu mwynhau mynediad i addysg gerddoriaeth a chyfleoedd i ddatblygu eu doniau? Mae'n rhaid inni bob amser sicrhau bod pobl ifanc greadigol—a dwi'n siarad fel tad i un sydd nid yn unig yn gerddor creadigol, ond yn berfformiwr mewn dawns yn greadigol—mae'n rhaid inni allu rhoi'r cyfle i'r bobl ifanc yma i ddatblygu, oherwydd heb hynny, does gyda ni ddim sylwedd na sylfaen i'n diwydiannau creadigol. Ac felly, dwi'n ddiolchgar iawn am y cyfle yma sydd wedi'i gael heno i wyntyllu yn y Cynulliad hwn yr hyn y byddwn ni'n ei wneud yn nes ymlaen—

Rhywbeth a baratois yn gynharach—

Blaenoriaethau ar gyfer datblygu sector y diwydiannau creadigol yng Nghymru, ac mi fydd hwn yn cael ei lansio i lawr y ffordd—mae yna groeso ichi ymuno â ni—yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro yn yr hanner awr nesaf. Diolch yn fawr.

19:20

Daeth y cyfarfod i ben am 19:24.