Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
22/01/2020Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Paul Davies.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wella gwasanaethau band eang yng ngorllewin Cymru? OAQ54942
Drwy Cyflymu Cymru, rydym wedi darparu band eang ar gyflymder cyfartalog o 82 Mbps i dros 111,350 o safleoedd ledled gorllewin Cymru, gan fuddsoddi dros £32.3 miliwn. Bydd ein cynllun olynol yn darparu cysylltedd i 1,348 o safleoedd eraill, ynghyd â chefnogaeth gan Allwedd Band Eang Cymru a'r Cynllun Talebau Band Eang Gigabid. Ac mae cronfa gymunedol newydd yn cael ei datblygu hefyd.
Rwy'n gwerthfawrogi'r ymateb hwnnw gan y Dirprwy Weinidog. Rwyf eisoes wedi codi'r sefyllfa sy'n wynebu pobl Mynachlog-ddu yn fy etholaeth, sydd, yn anffodus, yn cael gwasanaeth band eang araf ac ysbeidiol, ynghyd â thechnoleg segur lle mae gwifrau'n hongian ar bolion i bob pwrpas. Fel y gŵyr y Dirprwy Weinidog, ar hyn o bryd, Sir Benfro yw’r ugeinfed o'r 22 awdurdod lleol o ran nifer y safleoedd yng Nghymru lle mae gweithredwyr seilwaith band eang yn bresennol. Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru wedi lansio cronfa band eang gwledig gwerth £10 miliwn yn ddiweddar. Felly, a gaf fi ofyn i'r Dirprwy Weinidog sut y mae'n bwriadu sicrhau bod y cyllid hwn yn cyrraedd siroedd fel Sir Benfro, a phryd y bydd yr arian mawr ei angen hwnnw'n cael ei ddarparu fel y gall cymunedau fel Mynachlog-ddu fod yn hyderus fod eu sefyllfa'n cael sylw?
Wel, diolch yn fawr iawn, ac rwy’n cydymdeimlo â phobl Mynachlog-ddu, oherwydd yn amlwg, mae hwn yn gysylltedd hanfodol y mae pob un ohonom yn dibynnu arno bellach. Ond ailadroddaf eto wrth yr Aelod nad yw hwn yn fater datganoledig. Llywodraeth y DU sydd â'r cyfrifoldeb arweiniol am gysylltu pobl drwy bolisïau telathrebu, ac mae hwn yn faes lle dylent fod yn arwain, ac maent wedi methu arwain. Nawr, oherwydd y methiant hwnnw, rydym wedi camu i'r adwy yn eu lle, ac rydym wedi gwneud cynnydd sylweddol—mae 95 y cant o bobl yng Nghymru bellach wedi'u cysylltu â chynlluniau band eang cyflym iawn, ac rydym wedi dargyfeirio cyllid o feysydd datganoledig i'r maes hwn sydd heb ei ddatganoli oherwydd methiant y farchnad a diffyg gweithredu gan Lywodraeth y DU. Mae cyfanswm o oddeutu £200 miliwn wedi'i wario.
Felly, rwy'n blino ar gael llythyrau gan ASau Ceidwadol yn arbennig, yn gofyn beth arall y mae'r Llywodraeth yn mynd i'w wneud ynglŷn â hyn, er bod hyn yn gyfrifoldeb i'w Llywodraeth eu hunain nad ydynt wedi'i gyflawni. Rwy'n sylweddoli nad dyna'r ateb y mae'r Aelod yn chwilio amdano, ond mae'n wirionedd y mae'n rhaid iddo ei wynebu.
Cefais gyfarfod da iawn ddydd Llun gyda'r cynghorydd Paul Miller, yr aelod cabinet dros yr economi yn Sir Benfro, ac yn amlwg, mae'r awdurdod lleol yn chwarae rhan weithredol iawn, ac rwy’n eu canmol am hynny. Maent bellach wedi penodi tîm digidol, fel y mae Sir Gaerfyrddin wedi’i wneud, ac rwy’n canmol hynny. Maent yn gweithio gyda Llywodraeth y DU ar gynnig am £4 miliwn drwy'r rhaglen Rhwydweithiau Ffibr Llawn Lleol i gysylltu 80 o safleoedd sector cyhoeddus, y dylent allu eu rhannu wedyn i gysylltiadau preifat. Ac maent hefyd yn edrych ar sut y gallant gydgrynhoi'r talebau sydd ar gael drwy greu 88 parth a all gysylltu aelwydydd ymhellach.
Fel y nododd Paul Davies, rwyf wedi cyhoeddi cronfa gwerth £10 miliwn, sy'n edrych yn benodol ar ddulliau anghonfensiynol o gyflawni hyn, oherwydd yn enwedig mewn ardaloedd gwledig iawn, mae darparu cysylltiad ffeibr llawn yn uniongyrchol i safleoedd, i dai, gyda llawer ohonynt heb eu cysylltu â charthffosiaeth neu nwy o’r prif gyflenwad, yn anodd, yn enwedig os nad yw Llywodraeth y DU yn barod i ymyrryd. Yn ei ymgyrch am yr arweinyddiaeth, fe wnaeth Boris Johnson addewidion mawr ynglŷn â hyn, ac edrychaf ymlaen at weld mwy o fanylion amdanynt, gan ei fod yn llygad ei le yn dweud bod hwn yn faes o seilwaith digidol y mae taer angen mwy o sylw iddo.
Ond mae'r gronfa £10 miliwn yn cael ei chydgynhyrchu gyda'r awdurdodau lleol, gan gynnwys Sir Benfro. Rydym yn gobeithio cael y cynigion hynny erbyn mis Ebrill i ddechrau gwario'r arian hwnnw, ac i edrych i weld sut y gallwn gysylltu'r bobl hynny sydd eto i elwa o'r ymyrraeth a gafwyd gan Lywodraeth Cymru pan fethodd Llywodraeth y DU â gweithredu.
Rwy'n cytuno â chi, Weinidog, y byddai'n well pe bai Paul Davies yn gofyn i'w feistri yn San Steffan am rywfaint o arian yma i ariannu rhywbeth y maent yn gyfrifol amdano yn y pen draw. A'r peth arall, wrth gwrs, gan y bu’n rhaid i ni, Lywodraeth Cymru, fuddsoddi arian mewn maes heb ei ddatganoli, yw y byddant yn gofyn i ni am arian ar gyfer rhywbeth arall sydd wedi'i ddatganoli, ac rydym wedi gorfod defnyddio ein harian i lenwi'r bwlch y maent wedi gwrthod ei lenwi.
Ond mae bwlch posibl arall ar y gorwel, ac mae llawer iawn o arian yr UE wedi'i fuddsoddi mewn darparu band eang cyflym iawn. Felly, credaf mai'r cwestiwn arall yw: ble a pha mor siŵr rydych chi y bydd modd i ni gael mynediad at y cronfeydd hynny yn y dyfodol, drwy eich swyddfeydd, gan gymryd eich bod wedi cael y sgyrsiau hynny â San Steffan? Ac rwy'n cymryd hefyd, gan fod Paul Davies yn poeni cymaint am y mater, ei fod yntau wedi cael y sgyrsiau hynny hefyd.
Diolch yn fawr iawn. Mae Joyce Watson yn llygad ei lle yn tynnu sylw at y dimensiwn Ewropeaidd yn hyn, gan fod y £200 miliwn a fuddsoddwyd gennym yn Cyflymu Cymru yn gyfuniad o gyllid Llywodraeth y DU, cyllid Ewropeaidd, a chyllid Llywodraeth Cymru. Felly cafwyd cyfraniad gan Lywodraeth y DU, ond bu'n rhaid dibynnu ar arweinyddiaeth Llywodraeth Cymru er mwyn rhoi'r pecyn hwnnw at ei gilydd, a defnyddio'r arian hwnnw, a rheoli'r arian hwnnw, mewn maes a ddylai fod wedi'i wneud o San Steffan. A bellach, wrth i ni edrych at yr hyn sy'n digwydd ar ôl i ni adael yr UE, mae bwlch yno o hyd. Ar hyn o bryd, rydym yn cynnal adolygiad o'r farchnad agored, sy'n ein galluogi i gasglu gwybodaeth am gynlluniau darparwyr masnachol i'w cyflwyno yn y dyfodol. A thrwy hynny, bydd gennym ddarlun cywir wedyn o ble mae bylchau'n parhau. Byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau ein bod yn gallu rheoli a denu'r buddsoddiad i lenwi'r bylchau hynny. Ond dywedaf eto, mae angen i arweinyddiaeth Llywodraeth y DU gamu i'r bwlch hwnnw mewn maes heb ei ddatganoli er mwyn darparu'r buddsoddiad a gwneud i hynny ddigwydd, yn hytrach na dibynnu arnom ni i wneud hynny.
2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i wahardd parcio ar balmentydd yng Nghymru? OAQ54962
Gwnaf. Rydym wedi creu grŵp tasglu arbennig i ymchwilio i'r materion sy'n ymwneud â pharcio ar balmentydd a phenderfynu ar y ffordd orau o weithredu ateb i'r broblem hon. Disgwylir i'r grŵp adrodd ar ei ganfyddiadau ym mis Mehefin eleni.
Mynegwyd pryderon i mi, mewn e-byst a llythyrau, gan etholwyr sy'n poeni am barcio ar balmentydd. Mae llawer o ddatblygiadau tai newydd yn cael eu hadeiladu gyda cherbytffyrdd cul iawn a heb ddigon o le i geir. Mae hynny'n wir mewn perthynas ag un o ddatblygiadau Redrow yn fy etholaeth, Cwm Calon, sy'n ddatblygiad cymharol newydd, ac nid oes gan bobl unrhyw ddewis ond parcio ar y palmentydd oherwydd cynllunio gwael ar ran Redrow. Un mater penodol y mae'n rhaid i unrhyw gamau pellach ei ystyried hefyd yw cerbydau contractwyr a cherbydau gwaith y mae pobl yn eu gyrru adref o'r gwaith. Mae'r rhain wedi achosi rhwystrau sylweddol mewn gwahanol rannau o fy etholaeth, a chredaf ei fod yn fater cynllunio lawn cymaint â mater trafnidiaeth, ac mae angen mynd i'r afael ag ef. Rwy'n teimlo mai'r ffordd ymlaen, yn dilyn y grŵp gorchwyl, fyddai archwilio sut y bydd gwaith ymgynghori pellach yn mynd rhagddo, ac mae'n rhaid cynnwys preswylwyr yn y gwaith hwnnw, a datblygwyr hefyd. Felly, a allwch ddweud wrthyf, pan fydd y grŵp gorchwyl yn adrodd, beth fydd y cynlluniau pellach a sut y bydd hynny'n cael ei ddatblygu wedyn?
Diolch. Credaf fod gan bob un ohonom brofiad diweddar o gerdded milltiroedd yn ein hetholaethau dros y misoedd diwethaf, a byddwn wedi gweld drosom ein hunain fod hon yn broblem mewn amryw o gymunedau. Ac mae Hefin David yn llygad ei le: mewn rhai mannau, yn enwedig ar yr ystadau mwy newydd, yn aml nid oes ganddynt fawr o ddewis ond parcio ar y palmant, yn enwedig os oes ganddynt fwy nag un car. Dyna pam rwy'n awyddus, wrth i mi sefydlu'r tasglu hwn, i ni gael ateb i'r hyn sy'n digwydd yn ein cymunedau ar hyn o bryd.
Felly, mae Phil Jones, a wnaeth waith rhagorol i Lywodraeth Cymru ar lunio ein canllawiau cynllunio teithio llesol, yn arwain y tasglu hwn i ni, a'r tasglu ar derfynau cyflymder 20 mya. A hoffwn weld y ddau ohonynt yn rhan o'r un ateb. Oherwydd mae parcio ar balmentydd yn symptom o ddibyniaeth ein cymdeithas ar geir—nid yw'n un o'r achosion. Ac mae angen inni fynd i'r afael ag effeithiau negyddol yr hyn sydd, i bob pwrpas, yn ymddygiad gwrthgymdeithasol mewn sawl achos—y ffordd ddiofal a'r ffordd ddifeddwl y mae llawer o bobl yn parcio—ond gan gofio hefyd, fel y dywed Hefin David, nad oes fawr o ddewis ond gwneud hynny mewn rhai ardaloedd.
Felly, dyna pam fod y tasglu y mae Phil Jones wedi'i ddwyn ynghyd yn un pragmatig. Mae'n rhaid iddo ddod o hyd i ateb sy'n gweithio, nad yw'n dieithrio pobl ac yn gwneud iddynt ymbellhau oddi wrth y newid ymddygiad ehangach rydym yn ceisio'i gyflawni, ac nad yw'n gwneud bywyd yn anos i awdurdodau lleol sydd eisoes dan bwysau. Mae'n rhaid i hyn fod yn rhywbeth sy'n mynd i weithio. Felly, mae gennym ystod o ffrydiau gwaith: mae cyfathrebu'n un ohonynt, gan fod angen i hyn ymwneud, yn y pen draw, â newid ymddygiad. Mae'n rhaid iddo ymwneud hefyd â gorfodaeth. Felly, yn y bôn, mae gennym ddau ddewis: naill ai dull cyffredinol, a cheisio gwahardd parcio ar balmentydd yn gyfan gwbl, ac mae cwestiynau'n codi ynglŷn ag a oes gennym y pwerau i wneud hynny ai peidio, neu ddull mwy gwahaniaethol, sy'n rhoi’r pwerau i awdurdodau lleol fynd i’r afael â mannau problemus drwy orfodaeth sifil fel y gwelant yn addas. Nawr, nid wyf am ragfarnu argymhellion y panel arbenigol ar hyn, ond fel y dywedais, y peth pwysig yw bod angen inni fynd i'r afael â'r broblem gan ei bod yn broblem, ond mae angen inni fynd i'r afael â hi mewn ffordd nad yw'n cosbi pobl a gwneud bywyd yn anos, ac mae'n rhaid iddi weithio yn y tymor hwy.
A gaf fi gytuno â Hefin? Credaf fod pob un ohonom wedi gwneud gwaith achos yn ogystal â gweld arferion gwael iawn. Hoffwn ganmol Living Streets Cymru, a gomisiynodd arolwg ymchwil o dros 1,000 o bobl—felly llawer o bobl yng Nghymru—a ganfu fod 83 y cant o’r ymatebwyr o blaid gwahardd parcio ar balmentydd. Nawr, yn ymarferol, gwn y byddai hynny'n creu problemau, yn enwedig mewn ardaloedd sydd wedi'u cynllunio mor wael fel nad oes fawr o ddewis ond parcio ar y palmant neu ar ran o'r palmant, ond dylai peidio â rhwystro palmentydd fod yn egwyddor sylfaenol. Beth ar y ddaear y mae rhieni â phramiau neu bobl sy'n ddibynnol ar gadeiriau olwyn, neu gerddwyr, hyd yn oed, i fod i'w wneud?
Nid dyma'r ffordd y dylem fod yn dylunio mannau trefol newydd. Ond mae'n broblem ers amser maith mewn sawl ardal lle nad oes yn rhaid i bobl barcio ar y palmant mewn gwirionedd, ond maent yn gwneud hynny gan fod hynny wedyn yn caniatáu i draffig lifo'r ddwy ffordd mewn ardaloedd trefol. Weithiau, dylem ystyried ciw traffig fel rhan o reolaeth draffig, ac nid oes gennych hawl i rasio drwodd ar ba gyflymder bynnag er mwyn mynd o A i B. Y cerddwr ddylai fod bwysicaf yn y cyswllt hwn.
Diolch i David Melding. Yn ogystal â chanmol Living Streets am eu hymchwil, buaswn wedi gobeithio y byddai wedi canmol Llywodraeth Cymru am gymryd camau yn y maes hwn. Rydym yn gweithio'n agos gyda Living Streets. Fel y dywedaf, mae wedi tynnu sylw at rai o'r cymhlethdodau sy'n gysylltiedig â chyflwyno gwaharddiad, a byddwn yn mynd i'r afael â'r rheini. Oherwydd mae'r ddeddfwriaeth gyfredol yn gymysgedd cymhleth o sancsiynau troseddol a sifil.
Felly, bydd yn cymryd amser i benderfynu beth yw'r dewis gorau er mwyn bwrw ymlaen â hyn i Gymru, ond rwy'n gobeithio parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau dros y misoedd nesaf a darparu sesiynau briffio ynglŷn â sut yn union y bwriadwn wneud hynny. Ond fel y dywedaf, mae angen inni ystyried hyn yn rhan o'r gyfres ehangach o fesurau sydd gennym, ynghyd â therfynau cyflymder 20 mya, i ddechrau sicrhau newid moddol a mynd i'r afael â thra-arglwyddiaeth y car yn ein cymdeithas, ond ni fydd hynny'n gweithio oni bai ein bod yn rhoi dewisiadau amgen i bobl hefyd.
Rwy'n ddiolchgar fod y mater hwn wedi'i godi gan fod mater arall yng Nghaerffili y byddwch yn ymwybodol ohono, rwy'n siŵr, lle nad yw preswylwyr lleol yn gallu parcio, sef ym Mryn Heol ym Medwas, lle mae'r preswylwyr wedi cael llond bol ar ddiffyg penderfyniadau gan Gyngor Bwrdeistref Sir Caerffili neu ddiffyg unrhyw gamau i fynd i'r afael â'r broblem. Dywedir wrthynt na allant barcio y tu allan i'w tai ar y stryd, ond ni allant barcio ar y palmant chwaith, am resymau amlwg. Ac roedd y cyngor wedi cyhoeddi y byddent yn rhoi camau ar waith i'w helpu, ond maent wedi tynnu'n ôl o wneud hynny. Felly, yn amlwg, er fy mod yn llwyr gefnogi’r hyn y mae’r Llywodraeth yn ei wneud o ran ei huchelgais i wahardd parcio ar balmentydd, a fyddai’r Dirprwy Weinidog yn cytuno â mi, er mwyn i hyn weithio, fod yn rhaid i awdurdodau lleol ddarparu lleoedd parcio priodol fel y gall preswylwyr barcio'n ddiogel y tu allan i'w cartrefi eu hunain?
Ni chredaf y dylem ladd ar awdurdodau lleol yma gan eu bod mewn sefyllfa anodd iawn. Y broblem, yn y bôn, yw nifer y ceir y mae llawer ohonom bellach yn berchen arnynt. Ac yn syml, ni ddyluniwyd y strydoedd i ddarparu ar gyfer nifer y cerbydau sy'n ceisio gwasgu i mewn i stryd a gynlluniwyd ar gyfer ceffyl a throl.
Felly, mae hyn yn fwy na mater o ddarparu mwy o dir i geir gael parcio, oherwydd lle fydd pen draw hynny? Ac ai dyma'r defnydd gorau o dir yn ein cymuned—ei ddarparu ar gyfer ceir? Does bosibl nad yr ateb go iawn yw ceisio rhoi dewisiadau amgen i bobl fel nad oes angen i aelwydydd fod yn berchen ar fwy nag un car, a bod ffyrdd eraill o fynd o le i le.
Credaf fod dyfodiad ceir trydan a cheir di-yrrwr, lle mae ceir yn llawer llai tebygol o fod yn eiddo i rhywun, maent yn fwy tebygol o gael eu prydlesu a'u rhannu gan y bydd y costau cyfalaf mor uchel—bydd yn gludiant ymatebol ar alw, a dim ond 15 i 20 mlynedd i ffwrdd yw hyn. Felly, mae technoleg yn cynnig rhyw lun o ateb i ni y hyn o beth.
Yn y tymor byr, mae gan gynghorau broblem anodd iawn wrth geisio cymrodeddu rhwng galwadau sy'n gwrthdaro gan bobl sy'n awyddus i barcio mor agos â phosibl i'w cartref. Credaf fod angen i ni roi set o arfau iddynt lle gallant ddefnyddio eu crebwyll o ran yr hyn sy'n iawn i'w cymunedau, ac anfon neges glir iawn hefyd nad yw'n dderbyniol iddynt barcio ble y mynnant pryd y mynnant pan fo hynny'n rhwystro pobl â phramiau ac anableddau rhag symud o gwmpas.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Russell George.
Diolch, Lywydd. Weinidog, a ydych chi'n credu bod cefnogaeth Llywodraeth Cymru i fusnes yn cynrychioli gwerth am arian?
Yn sicr, ac rwy’n siŵr y byddai'r Aelod yn croesawu’r ffaith ein bod, o ganlyniad i’r gwaith caled gan fusnesau a sefydliadau, ac wrth gwrs, Llywodraeth Cymru, bellach wedi cyflawni’r gyfradd ddiweithdra isaf erioed yng Nghymru, y lefel isaf ers dechrau cadw cofnodion, 3 y cant yn is na chyfartaledd y DU, sef 3.8 y cant. Yn ychwanegol at hynny, rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn croesawu'r ffaith bod gwerth ychwanegol gros a gwerth ychwanegol gros y pen yng Nghymru yn tyfu'n gyflymach na lefel y DU a bod gennym gyfradd uwch na'r DU o fusnesau yn dechrau yng Nghymru.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Roedd fy nghwestiwn yn ymwneud yn benodol â gwerth da am arian mewn perthynas â chymorth Llywodraeth Cymru i fusnesau. Yn dilyn y gwaith a edrychai ar gymorth ariannol Llywodraeth Cymru i fusnesau, mae'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, wrth gwrs, wedi cwestiynu cefnogaeth Llywodraeth Cymru i fusnesau ac wedi dweud ei bod yn destun pryder ac yn annerbyniol fod Llywodraeth Cymru wedi methu cyflawni ei hymrwymiad ei hun i adrodd yn gyhoeddus ar ei chynnydd yn cyflawni ei strategaeth economaidd flaenorol. Roedd y pwyllgor yn eithaf deifiol, yn fy marn i, pan ddywedodd fod y methiant wedi rhwystro atebolrwydd a chraffu effeithiol gan y Senedd hon. Felly, tybed a yw'r methiant yn deillio o embaras eich Llywodraeth ynglŷn â'i chyflawniad ar yr economi dros yr 20 mlynedd diwethaf. Ac er atebolrwydd a thryloywder, a allwch amlinellu pa gamau penodol y byddwch yn eu cymryd yn y dyfodol i adrodd ar yr allbynnau a gyflawnir bob blwyddyn gan weithgarwch cymorth busnes Llywodraeth Cymru?
A gaf fi ateb y pwynt olaf yn gyntaf, Lywydd? Rydym wedi defnyddio cymorth y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd i archwilio dangosyddion perfformiad allweddol ac i fonitro allbynnau datblygu economaidd yng Nghymru. Ond o ran edrych ar y cyflawniad mewn perthynas â chyflogaeth a'r economi dros yr 20 mlynedd diwethaf, yn ogystal â'r ffaith bod gennym bellach y lefel isaf o ddiweithdra ers dechrau cadw cofnodion, mae gennym hefyd y nifer uchaf erioed, neu'n agos at y nifer uchaf erioed, o bobl mewn gwaith; mae cyfraddau anweithgarwch wedi bod yn gostwng yn gyson dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Bellach, yn nhymor y Cynulliad hwn yn unig, mae gennym 75,000 o gyfleoedd prentisiaeth wedi'u sefydlu a'u cymryd gan bobl uchelgeisiol yng Nghymru. Mewn cyferbyniad â hynny, dros y ffin yn Lloegr, mae ffigurau prentisiaethau wedi cwympo oddi ar glogwyn, gan eu bod wedi cael gwared ar ddull sefydledig o ddarparu cymorth prentisiaethau a chyflwyno mecanwaith rhyfedd o drethu busnesau am gyflogi pobl.
Rwy'n hyderus ein bod, o ganlyniad i'n hymyriadau, gan gynnwys y rheini a wnaed gan Busnes Cymru, wedi gallu sefydlu cymuned fusnes gref a gwydn yng Nghymru sy'n cyflogi'r nifer uchaf erioed o bobl ac yn cynyddu cyfraddau gwerth ychwanegol gros a chynhyrchiant ar gyfradd uwch a chyflymach na'r DU.
Wel, diolch am eich ateb, Weinidog, ond rydym ar y bedwaredd strategaeth economaidd—ac yn anffodus, mae pob un ohonynt wedi methu gwella economi Cymru, a dywedaf hynny ac edrychaf ar eich Gweinidog addysg sydd wedi dweud o'r blaen ei bod yn pryderu bod dod yn olaf ym mhob tabl gwasanaeth cyhoeddus bellach yn dod yn arfer. O ran cynhyrchiant economaidd, yn anffodus, rydym ar waelod y tabl, ac o ran enillion wythnosol, rydym ar waelod y tabl eto. Ac o ran anghydraddoldeb rhanbarthol, mae Ynys Môn ymhell y tu ôl i Gaerdydd, a dywed eich Dirprwy Weinidog ei hun mai'r gwir amdani yw na wyddom mewn gwirionedd beth rydym yn ei wneud ar yr economi.
Yr hyn y buaswn yn awgrymu sydd ei angen arnom yw Llywodraeth Cymru ffres ac uchelgeisiol sy'n falch o adrodd yn gyhoeddus ar ei chynnydd mewn perthynas â darparu'r cyfeiriad economaidd newydd sydd ei angen ar ein gwlad, yn hytrach na chuddio tu ôl i graffu cyhoeddus. Mae arnom angen Llywodraeth sy'n cefnogi busnesau bach, er enghraifft drwy ddileu ardrethi busnes ar gyfer busnesau bach, a Llywodraeth a fydd yn cyflwyno band eang cyflym iawn ar gyfer pob busnes, ac sydd â'r seilwaith rheilffyrdd a ffyrdd cywir i helpu busnesau i dyfu.
Felly, a fyddech yn cytuno â mi fod angen Llywodraeth Cymru arnom sydd â'r un uchelgais a gweledigaeth gadarnhaol ar gyfer economi Cymru ag sydd gan Lywodraeth newydd y DU, ac sy'n manteisio ar gyfleoedd Brexit a gwerthu Cymru i'r byd a rhyddhau potensial Cymru? A ydym—Weinidog, hoffwn ofyn pryd fydd gennym y math o gymorth busnes y gall y Llywodraeth ei hun fod yn falch ohono a dangos gwerth cyffredinol am arian mewn perthynas â'i chefnogaeth ariannol ei hun i fusnesau?
Yr hyn y mae'r bobl yn dymuno'i gael yw mynediad at swyddi o ansawdd uchel. Dyna'n union y mae'n strategaeth economaidd wedi'i gyflawni ac yn ei gyflawni. Rydym yn creu'r nifer uchaf erioed o swyddi, swyddi o ansawdd uwch, swyddi y gall pobl gael mynediad atynt. Mae gennym system hyfforddi sgiliau sy'n destun cenfigen i weddill y Deyrnas Unedig, a gallwch gymryd, fel y dywedais yn awr, y cyfraddau cwblhau prentisiaethau, er enghraifft, sy'n parhau i fod yn uwch na chyfartaledd Lloegr—yn uwch o lawer na chyfartaledd Lloegr. Mae gennym hefyd fynediad at fanc datblygu sydd, unwaith eto, yn destun cenfigen i weddill y DU. Mae llywodraethau yn yr Alban a thu hwnt yn edrych ar Fanc Datblygu Cymru, gan archwilio sut y gallant efelychu'r gwasanaethau a gynigir yma yn ein gwlad.
Buaswn yn croesawu unrhyw fynegiant o optimistiaeth ynghylch dyfodol disglair, ond mae'n rhaid i chi gynnal hynny gydag arian, mae'n rhaid i chi ei gynnal â buddsoddiad. A'r gwir amdani yw, dros y 10 mlynedd diwethaf, fod £1 biliwn wedi'i ysbeilio o'r seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru. Nawr, wrth inni agosáu at y gyllideb ym mis Mawrth, rwy'n addo hyn, Lywydd: byddaf yn gweithio law yn llaw â Llywodraeth y DU i ddarparu gwell seilwaith rheilffyrdd yng Nghymru os gwnânt yr hyn y maent i fod i'w wneud, sef buddsoddi ynddo'n iawn. Mae'n rhaid rhoi terfyn ar y tanfuddsoddi yn seilwaith rheilffyrdd Cymru, a gall hynny ddigwydd yn y gyllideb ym mis Mawrth.
Llefarydd Plaid Cymru, Helen Mary Jones.
Diolch yn fawr, Lywydd. Mae'n bleser gennyf annerch y Siambr hon am y tro cyntaf yn fy rôl newydd fel Gweinidog yr wrthblaid dros yr economi, trechu tlodi a thrafnidiaeth.
Roedd yn ddiddorol clywed y Gweinidog yn dweud yn ei ymateb i Russell George ei fod yn teimlo bod ein heconomi'n gwneud yn dda a bod yn rhaid i ni dderbyn, oes, fod gennym gyfradd ddiweithdra isel. Ond tybed a fyddai'r Gweinidog yn derbyn bod hynny'n adlewyrchu tangyflogaeth—gyda llawer o bobl mewn swyddi rhan-amser. Mae'n adlewyrchu sefyllfa lle mae llawer o deuluoedd yn gweithio'n galed iawn am gyflogau isel iawn, ac er eu bod yn gyflogedig, prin eu bod yn byw'n dda pan fo traean o'n plant yn byw mewn tlodi. Credaf mai un o'r pethau rwy'n mawr obeithio yn y rôl hon yw y byddwn yn osgoi unrhyw hunanfodlonrwydd ar ran Llywodraeth Cymru, oherwydd er bod pethau efallai'n well nag y byddent heb rai o ymyriadau Llywodraeth Cymru, fel y dywedaf, mae traean o'n plant yn byw mewn tlodi o hyd, ac mae gan y rhan fwyaf o'r plant hynny sy'n byw mewn tlodi rieni sy'n gweithio, weithiau dau riant sy'n gweithio.
Hoffwn droi at fuddsoddiad mawr penodol diweddar gan Lywodraeth Cymru. O ystyried maint buddsoddiad a chyfran Llywodraeth Cymru yn Aston Martin, a gaf fi ofyn i'r Gweinidog pa asesiad y mae wedi'i wneud o'r sefyllfa ddiweddar, y sefyllfa sy'n datblygu, mewn perthynas â sefyllfa'r cwmni?
Iawn. A gaf fi, yn gyntaf oll, groesawu Helen Mary Jones i'r rôl? Credaf mai chi yw’r trydydd llefarydd ar ran Plaid Cymru i ymgymryd â'r rôl benodol hon yn ystod fy nghyfnod fel Gweinidog yr economi, a gobeithiaf fod hon yn enghraifft o dri chynnig i Gymro, y byddwch yn para tan yn yr etholiad nesaf, ac y cawn lawer o gyfleoedd i drafod yr economi a'r system drafnidiaeth yn ein gwlad.
Buaswn yn cytuno, o ran ffigurau cyflogaeth, eu bod yn aml yn cuddio heriau eraill, a bod gennym her o hyd o ran tangyflogaeth ac o ran presenoliaeth, a dyna'n union pam fod y Llywodraeth hon yn benderfynol o fwrw ymlaen â'r agenda gwaith teg.
Mewn perthynas ag Aston Martin, Lywydd, mae hwn yn fuddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn falch iawn ohono, a buaswn yn hoff iawn o weld yr Aelod yn croesawu’r buddsoddiad y mae’r Llywodraeth wedi’i wneud yn Aston Martin a’r buddsoddiad y mae’r cwmni’n ei wneud yng Nghymru, gan y byddant yn cyfrannu, dros y 30 mlynedd nesaf, £0.5 biliwn i economi Cymru. Bydd hyn yn arwain at gyflogi 1,000 o bobl yn ne Cymru, a llawer iawn mwy o gyfleoedd yn y gadwyn gyflenwi.
Nawr, wrth gwrs, mae llawer o ddyfalu wedi bod yn ddiweddar ynglŷn â sefyllfa ariannol Aston Martin, yn enwedig gan y bu sïon y gellid cymryd cyfran fawr yn y cwmni. Cawn sicrwydd cyson mai safle Bro Tathan yw dyfodol Aston Martin, mai dyna yw eu prif ffocws ar hyn o bryd ac yn y blynyddoedd i ddod, wrth iddynt ddatblygu'r cyfleuster yn ne Cymru fel cartref trydaneiddio yng Nghymru.
Gwyddom hefyd, Lywydd, fod bron i 2,000 uned o'r model newydd, y DBX, eisoes wedi eu harchebu. Mae hynny'n llwyddiant ysgubol i frand moethus mor fuan ar ôl cyhoeddi datblygiad cerbyd SUV o'r math hwn ac mor fuan ar ôl ei gyflwyno. Mae dyfodol y cwmni'n ddisglair iawn yn wir. Byddant yn cyflwyno car newydd bob blwyddyn am y saith mlynedd nesaf, gan gynyddu nid yn unig nifer yr unedau y maent yn eu cynhyrchu, ond eu proffidioldeb hefyd.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei eiriau caredig ynglŷn â fy mhortffolio newydd ac ynglŷn â'r hyn y mae wedi'i ddweud wrthym am sefyllfa Aston Martin. Ond buaswn yn awgrymu bod rhai cwestiynau angen eu hateb o hyd, a bod rhai pryderon yn codi. Y gwir yw bod gwerthiant Aston Martin wedi gostwng 16 y cant yn gyffredinol rhwng Gorffennaf 2019 a Medi 2019. Mae Llywodraeth Cymru wedi addo £18.8 miliwn, sy'n fuddsoddiad sylweddol iawn, ac wrth gwrs, yn gyfnewid, fel y dywedodd y Gweinidog, mae Aston Martin wedi dweud y byddant yn gwneud safle Sain Tathan yn gartref trydaneiddio. Ond rydym yn gweld adroddiadau bellach y bydd y cwmni'n rhoi'r gorau i ddatblygu'r car trydan blaenllaw, ac mae angen i ni wybod a yw hynny'n wir gan ein bod yn awyddus, rwy'n siŵr, i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru gefnogi'r economi werdd.
Yn benodol, hoffwn ofyn i'r Gweinidog, yng ngoleuni'r sicrwydd 30 mlynedd a roddwyd gan Lywodraeth Cymru a fydd yn golygu y byddai arian trethdalwyr Cymru yn talu'r rhent ar ran Aston Martin pe baent yn penderfynu gadael ffatri Sain Tathan—a gobeithiaf yn fawr fod y Gweinidog yn iawn ac na fydd hynny byth yn digwydd, ond pe baent yn gwneud hynny—credaf fod angen mwy o dryloywder arnom o ran y trefniadau a'r ymrwymiadau i Aston Martin, yn enwedig y sicrwydd 30 mlynedd. Beth fyddai'r gost i bwrs y wlad pe bai'n rhaid i Aston Martin adael?
Mae'n gwestiwn diangen, gan fod dyfodol Aston Martin yn arbennig o ddisglair. Nid wyf wedi clywed unrhyw un o lefarwyr Plaid Cymru yn croesawu’r ffaith bod Aston Martin wedi ymgartrefu yng Nghymru. Roedd hon yn enghraifft o lwyddiant ysgubol i Lywodraeth Cymru. Roedd yn foment hanesyddol pan allasom gyhoeddi'r ffaith bod Aston Martin yn dod i Gymru, gan mai dyma'r tro cyntaf i geir gael eu cynhyrchu yn ein gwlad ers dros 50 mlynedd. Oedd, roedd gwerthiant yn isel, ond roedd costau gweithredu a chostau gwerthu uwch hefyd yn cyfrannu at y gostyngiad mewn elw. Fodd bynnag, gwyddom o ffigurau gwerthiant y DBX fod sefyllfa'r cwmni'n gwella. Ac wrth iddynt gyhoeddi a chyflwyno mwy o fodelau, bydd hynny'n cynyddu nifer y gwerthiannau ymhellach.
Wel, rwy'n siomedig, Lywydd, na chlywodd y Gweinidog yr hyn a ddywedais, gan i mi ddweud fy mod yn mawr obeithio y byddai hyn yn llwyddiant, ond rwy'n credu bod yna bryderon. Mae'n rhaid i'r Gweinidog gydnabod bod yna bryderon. Mae Aston Martin o dan faich dyled o $1 biliwn, £138 miliwn yn unig a oedd ganddynt mewn arian parod ddiwedd y llynedd, ac nid yw hynny'n swnio i mi fel cwmni y gallwn fod 100 y cant yn sicr ei fod yn ddiogel.
Nawr, buaswn yn awgrymu wrth y Gweinidog fod y math hwn o fuddsoddiad mewn gwirionedd yn adlewyrchu dull hen ffasiwn o benderfynu ble mae angen inni wario ein harian datblygu economaidd. Efallai fod lle i gwmnïau blaenllaw, ond does bosibl na ddylem fod yn rhoi’r lefel hon o fuddsoddiad—fel y mae'r Dirprwy Weinidog wedi'i ddweud yn y gorffennol, nid yw’r dull hen ffasiwn o ddenu cwmnïau rhyngwladol mawr i mewn yn gweithio’n arbennig o dda, a buaswn yn cytuno bod angen i ni ganolbwyntio ein buddsoddiad ar dyfu cwmnïau canolig eu maint, ar edrych ar gyfraniad yr economi sylfaenol a'r economi werdd.
Felly, os yw'r Gweinidog mor hyderus fod dyfodol Aston Martin yn ddiogel—a gobeithiaf ei fod yn iawn, gadewch i mi ddweud hynny'n gwbl glir, a phawb arall ar y meinciau hyn—mae'n rhaid i mi bwyso ar y Gweinidog i gyhoeddi ei ohebiaeth ag Aston Martin cyn iddynt lunio'r cytundeb. Rwy'n deall yn iawn y gallai'r sgyrsiau sy'n mynd rhagddynt fod yn fasnachol gyfrinachol, ond ar ôl i'r cytundeb gael ei gwblhau, dylai'r pethau hyn fod yn gyhoeddus fel y gall pob un ohonom graffu ar y lefel hon o fuddsoddiad a sicrhau ei fod mor ddiogel ag y byddai'r Gweinidog am i ni feddwl, ac rwy'n mawr obeithio ei fod.
Edrychwch, rydym wedi ei glywed. Ni fyddai Plaid Cymru wedi cefnogi buddsoddiad yn Aston Martin Lagonda. Rydym wedi ei glywed yma. Mae'n glir iawn: ni fyddai Plaid Cymru wedi buddsoddi mewn 1,000 o swyddi mewn cwmni blaenllaw ar gyfer economi Cymru. Credaf ei bod yn bwysig yn awr fod pobl Cymru yn cydnabod mai dyna safbwynt Plaid Cymru. Byddech wedi gwario'r arian yn rhywle arall.
Rydym eisoes wedi treblu gwerth cronfa'r economi sylfaenol, cronfa sydd wedi'i chynllunio i hybu arloesedd yn yr economi sylfaenol, ac mae'n swnio'n debyg i mi, yn hytrach na chroesawu—nad wyf wedi'i glywed o hyd—Aston Martin i Gymru, fod yna ddymuniad i'w gweld yn methu. Nawr, y gwir amdani yw bod brand Aston Martin Lagonda wedi bod gyda ni ers sawl degawd. Fe'i hystyrir yn fyd-eang yn un o'r brandiau modurol o'r ansawdd uchaf, ac ymhell o—[Torri ar draws.] Mae'n newyddion da. Mae'n newyddion da, a dylai'r Aelodau yn y Siambr hon ddechrau croesawu'r ffaith bod gennym y ffigurau cyflogaeth uchaf erioed yn y wlad hon, fod gennym y ffigurau diweithdra isaf erioed yn y wlad hon, fod cyfradd cynhyrchiant y wlad hon yn codi'n gyflymach na'r DU, a dylai pobl roi'r gorau i fychanu Cymru.
Llefarydd Plaid Brexit, David Rowlands.
Diolch, Lywydd. Wel, a gaf fi ddechrau drwy ddweud bod Plaid Brexit yn dal i'ch llongyfarch ar ddenu cwmni mor eiconig i Gymru, ac y cewch ein cefnogaeth barhaus yn eich gwaith gyda'r cwmni hwnnw?
A fyddai'r Gweinidog yn ystyried cefnogi'r defnydd o fentrau cydweithredol i adfywio canol ein trefi a'n strydoedd mawr?
Buaswn, yn sicr, ac mae hyn yn rhywbeth y gwn fod y Dirprwy Weinidog yn edrych arno'n frwdfrydig iawn, yn ogystal â fy Nirprwy Weinidog, yn enwedig mewn perthynas â thyfu'r economi sylfaenol—y meysydd o weithgarwch economaidd cyffredin, os mynnwch, sy'n cyfrannu cymaint at gyflogaeth yng Nghymru.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Y rheswm y gofynnais y cwestiwn yw i gydnabod cwmnïau cydweithredol fel sector deinamig, ffyniannus o economi Cymru. Nid yn unig fod llawer o gwmnïau cydweithredol unigol yn gwneud yn dda, mae'r sector yn gyffredinol yn perfformio'n well na mathau eraill o fusnesau. Mae wyth o gwmnïau cydweithredol Cymru ymhlith y 100 uchaf, o ran trosiant, o gwmnïau cydweithredol y DU. Mae gan yr wyth cwmni hynny'n unig drosiant o fwy na £165 miliwn.
Gyda dirywiad ein strydoedd mawr a chanol ein trefi, onid yw'n bryd edrych ar hyrwyddo cwmnïau cydweithredol lle ceir bylchau yng nghyfansoddiad manwerthu tref? Mae Plaid Brexit yn credu y dylai Llywodraeth Cymru roi cefnogaeth ariannol a gweinyddol i fentrau o'r fath, ac annog Banc Datblygu Cymru a Busnes Cymru hyd yn oed i roi adrannau penodol ar waith i fynd i'r afael â sefydlu cwmnïau cydweithredol. Gallai fod modd alinio cwmnïau cydweithredol â sefydliadau undebau credyd hefyd.
Mae fy Nirprwy Weinidog newydd fy atgoffa ein bod yn ariannu'r academi entrepreneuriaid cymdeithasol. Rydym hefyd yn ariannu Busnes Cymru, wrth gwrs, i ofalu am anghenion busnesau cymdeithasol yng Nghymru. Ac rydym hefyd yn cefnogi Canolfan Cydweithredol Cymru, lle gwneir gwaith gwych i gefnogi mentrau cydweithredol ledled y wlad. Rwy'n credu bod mentrau cydweithredol yn gwbl hanfodol ar gyfer sbarduno twf cynhwysol—twf teg—ar draws pob cymuned yng Nghymru, yn ogystal â chyfrannu at yr agenda bwysig honno rwyf eisoes wedi'i chrybwyll, sef gwaith teg.
3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cysylltiadau trafnidiaeth yng Nghymru? OAQ54949
Wel, mae llawer ohonynt, yn cynnwys cytundeb masnachfraint rheilffyrdd gwerth £5 biliwn a channoedd o filiynau o bunnau ar gyfer gwella ffyrdd; yn benodol, £600 miliwn ar gyfer ffyrdd gwell yn rhanbarth yr Aelod yng ngogledd Cymru.
Rwy'n ddiolchgar iawn am yr ymateb hwnnw. Un o'r llwybrau allweddol yng Nghymru, wrth gwrs, yw'r llwybr o'r dwyrain i'r gorllewin ar hyd coridor yr A55, sydd, fel rydych eisoes wedi'i ddweud, yn mynd drwy fy etholaeth. Nawr, rwy'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud rhywfaint o ymdrech i fuddsoddi mewn rhai o'r mannau cyfyng ar hyd y ffordd honno. Ond a fyddech yn cytuno â mi ei bod yn bryd inni wella'r A55 yn sylweddol, fel y gallwn ei chodi i statws traffordd, lle mae'n cael y buddsoddiad sylweddol sydd ei angen er mwyn ymdopi â'r gofynion a roddir arni? Fel y brif ffordd i mewn ac allan o ogledd Cymru, mae'n hollbwysig i'r rhanbarth, ac mae angen inni wneud yn siŵr ein bod yn mynd i'r afael â'r tagfeydd sy'n digwydd yn rheolaidd yno mewn ffordd lawer mwy sylweddol nag rydym wedi'i wneud hyd yma.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Mae'n rhoi cyfle i mi roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddo ef ac i eraill ynglŷn â faint rydym yn ei wario ar welliannau a mannau cyfyng ar y ffyrdd yng ngogledd Cymru. Mae ein rhestr o welliannau yn £600 miliwn, ac mae'n ymestyn o ben gorllewinol gogledd Cymru, yr holl ffordd ar draws at y ffin â Lloegr—rhaglenni gwaith pwysig iawn ar yr A55 a fydd yn gwella trafnidiaeth drawsffiniol a thrawsgymunedol, gan ddefnyddio prif ffordd gogledd Cymru.
Ond mae'n rhaid dweud nad yw'n ymwneud â ffyrdd yn unig, mae rheilffyrdd yn hanfodol bwysig hefyd ar gyfer teithio rhwng y dwyrain a'r gorllewin. Dyna pam rwy'n obeithiol y bydd Llywodraeth y DU, yn y gyllideb, yn gwneud taliad o £215 miliwn, sef, yn fras, y swm y byddem wedi disgwyl ei weld yn cael ei wario yng ngogledd Cymru pe bai Llywodraeth y DU wedi darparu'r un faint o fuddsoddiad y pen i'r rhanbarth ag y gwnaeth i rannau eraill o Loegr.
Weinidog, mae rhwydweithiau trafnidiaeth yn fwy effeithiol pan fyddant yn cyfuno dulliau o deithio—bysiau sy'n cysylltu â gorsafoedd rheilffordd a chysylltiadau rheilffordd. Fel y dywedodd y Dirprwy Weinidog mewn ymateb i gwestiwn cynharach, mae'r dull hwnnw'n caniatáu inni fod yn fwy effeithiol yn ein system drafnidiaeth. Fodd bynnag, pan nad oes bysiau'n mynd, mae gennym broblemau wrth roi'r cyfuniad hwnnw at ei gilydd.
Rydym yn gweld llawer o broblemau gyda bysiau. Gwn y bydd Bil ar wella bysiau yn cael ei gyflwyno drwy Lywodraeth Cymru, ond os na fydd y bysiau yno ymhen blwyddyn neu ymhen dwy flynedd, pan fydd gan awdurdodau lleol allu i'w rheoleiddio, bydd gennym broblem enfawr, oherwydd bydd y bobl hynny ar eu colled.
Beth allwch chi ei wneud yn awr i sicrhau bod gwasanaethau bysiau'n gweithio i bobl, yn y Cymoedd, yng nghwm Afan, ac ar draws llawer o gymunedau eraill? Rydym yn gweld gwasanaethau bysiau'n cael eu torri oherwydd bod y gweithredwr yn gweld cyfleoedd masnachol yn diflannu. Maent yn gweld nad yw'n fasnachol hyfyw mwyach. Nawr, os ydym eisiau i'r bobl hynny weithio o gwmpas yr ardal a gallu cael mynediad at swyddi oherwydd eu bod yn defnyddio cyfuniad o rwydweithiau, yr un sylfaenol yw'r bws. A wnewch chi sicrhau bod gennym wasanaethau bysiau, os gwelwch yn dda?
Tri pheth sydd gennyf i'w ddweud mewn ymateb i gwestiwn Dai Rees. Yn gyntaf oll, rydych yn iawn: bydd y Bil yn cyflawni llawer o ran darparu amrywiaeth o arfau i awdurdodau lleol y cawsant eu hamddifadu ohonynt ers sawl degawd. Ond ni fydd y Bil ar ei ben ei hun yn datrys y problemau sy'n ein hwynebu mewn perthynas â gwasanaethau bysiau ledled Cymru. Mae'r grant cynnal gwasanaethau bysiau yn hanfodol bwysig. Rydym wedi gallu ei gynnal drwy gyfnod hir o gyni ar £25 miliwn y flwyddyn, ond mae angen i mi wneud datganiad clir iawn ynghylch parhad y grant cynnal gwasanaethau bysiau. Disgwylir y bydd yr arian hwn y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i awdurdodau lleol yn ychwanegol at, nid yn lle, cyllid yr awdurdodau lleol eu hunain. Mae'n gwbl hanfodol fod awdurdodau lleol, hyd yn oed yn ystod y cyfnod hwn o gyni, yn gallu gwneud cyfraniadau i wasanaethau bysiau lleol. Ac mae'r trydydd pwynt rwyf am ei wneud, Lywydd, yn ymwneud â'r ddeddfwriaeth sy'n cael ei datblygu gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, ac yn benodol, gallu awdurdodau lleol i gynllunio ymyriadau trafnidiaeth, a gwasanaethau bysiau yn benodol, ar sail ranbarthol. Bydd sefydlu cyd-bwyllgorau corfforaethol yn amhrisiadwy yn hyn o beth.
Weinidog, fel y gwyddoch, mae llawer iawn o rwystredigaeth a diffyg amynedd ynghylch y ffaith nad yw'r cyswllt rheilffordd i deithwyr rhwng Casnewydd a Glynebwy wedi'i sefydlu eto. A allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni heddiw am y gwaith sydd angen ei wneud i sefydlu'r cysylltiad hwnnw?
Wrth gwrs. Fel y gŵyr yr Aelod, mae Trafnidiaeth Cymru wedi cynnal astudiaeth achos busnes amlinellol o linell Glynebwy ar ran Llywodraeth Cymru, ac rydym yn awr yn adolygu eu canfyddiadau er mwyn nodi'r camau nesaf. Gallaf gadarnhau hefyd fod yr achos busnes amlinellol wedi amcangyfrif cyfanswm y gost gyfalaf i redeg pedwar trên yr awr ar linell Glynebwy.
Mae'n bwysig nodi mai Network Rail sy'n berchen ar y llwybr hwn ac yn ei gynnal ac o'r herwydd, mae'n atebol i'r Adran Drafnidiaeth. Felly, bydd y gallu i gyflawni unrhyw welliannau i'r seilwaith dros y blynyddoedd nesaf yn dibynnu'n llwyr ar gymorth llawn gan Lywodraeth y DU. Byddaf yn gwneud cyhoeddiad arall ar gyfleoedd yn y dyfodol i wella gwasanaethau cyn bo hir, Lywydd.
Cwestiwn 4, Gareth Bennett.
Diolch, Lywydd. Weinidog, cafwyd rhywfaint o drafodaeth yn y Siambr ddoe am y cynnig—
A wnewch chi ofyn y cwestiwn ar y papur trefn? Cwestiwn 4.
Mae'n ddrwg gennyf. Ymddiheuriadau.
4. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella trafnidiaeth gyhoeddus yng Nghanol De Cymru? OAQ54944
Diolch. Rydym yn parhau i weithio gyda Thrafnidiaeth Cymru a chydag awdurdodau lleol i weddnewid ein rhwydwaith trafnidiaeth, nid yn unig yng Nghanol De Cymru, ond ledled Cymru gyfan, fel y gall fod yn gwbl gynaliadwy ac yn addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Ie, diolch am yr ateb. Roeddwn yn ceisio dweud, cafwyd rhywfaint o drafodaeth ddoe ynglŷn â'r tâl tagfeydd arfaethedig—y byddwch yn helpu i lunio'r adroddiad gyda chyngor sir Caerdydd, ac mae hynny'n newyddion da, y bydd rhywfaint o gyswllt ystyrlon, gobeithio, rhyngoch.
Nawr, a gaf fi godi un o'r nifer o faterion y mae'n bosibl y bydd angen i chi eu hystyried? Mae'n gysylltiedig â rhywbeth y mae cwpl o Aelodau o'ch plaid eich hun yn y Cymoedd wedi'i godi yn ddiweddar, sef pobl na allant gyrraedd Caerdydd mewn pryd ar gyfer gwaith oherwydd problemau'n ymwneud â gwasanaethau hwyr neu newidiadau i wasanaethau, ac maent weithiau'n wynebu gweithdrefnau disgyblaeth yn eu gweithle. Mae hyn yn ymddangos ar ei hôl hi braidd, mewn llawer o swyddfeydd, gellir cofnodi a monitro allbwn. Nid wyf yn gweld yr angen, ym mhob achos, i bobl fod yn y gwaith am 9 o'r gloch. Tybed a oes unrhyw gyfle i gymell cwmnïau yng Nghaerdydd i ganiatáu gweithio mwy hyblyg, a allai, o bosibl, edrych ar y broblem o safbwynt y galw, a lleihau'r galw am drafnidiaeth yn ystod oriau brig i mewn i Gaerdydd.
Mae'r Aelod yn swnio fel rhywun sy'n cefnogi'r agenda gwaith teg mewn gwirionedd. Yr hyn rydym yn ei wneud drwy'r contract economaidd yw annog cyflogwyr i ymddwyn yn fwy cyfrifol, nid yn unig ar gyfer yr amgylchedd ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol, ond ar gyfer eu gweithlu presennol. O ganlyniad i'r contract economaidd, rydym yn disgwyl i fusnesau allu dangos sut y maent yn gwella llesiant ac iechyd meddwl eu gweithwyr, ac rydym eisoes yn canfod bod yr ymyrraeth benodol hon yn cymell busnesau i gymhwyso'r math hynny o strwythurau gweithio hyblyg y mae'r Aelod wedi'u hamlinellu.
Mae'r Aelod hefyd yn sôn am y gwaith y bydd Llywodraeth Cymru yn ei gomisiynu mewn perthynas â dyfodol rheoli ffyrdd a rheoli galw. Rwy'n credu ei bod yn gwbl hanfodol fod gwaith yn cael ei wneud oherwydd bydd gan Lywodraeth y DU gwestiwn mawr iawn i ymgodymu ag ef yn y blynyddoedd sydd i ddod, sef beth y maent yn bwriadu ei wneud gyda threth car a threth tanwydd. Bydd y newid i gerbydau allyriadau isel iawn yn golygu y bydd y dreth bosibl a gymerir o ran treth car a threth tanwydd yn gostwng yn ddramatig. Ar hyn o bryd, mae oddeutu £35 biliwn y flwyddyn. Mae hynny rhwng 4 y cant a 5 y cant o refeniw i Drysorlys y DU. Os yw'r newid i geir trydan yn digwydd yn gyflymach wrth inni symud tuag at ddiwedd y degawd fel rydym yn disgwyl iddo ei wneud, bydd y refeniw hwnnw'n gostwng yn ddramatig, a bydd yn rhaid i Lywodraeth y DU wneud rhywbeth er mwyn mynd i'r afael â hynny. Dyna pam rwy'n awyddus iawn i sicrhau bod ein gwaith yn cydweddu ag unrhyw waith a wneir gan Drysorlys y DU neu'r Adran Drafnidiaeth.
Yn amlwg, gyda'r argyfwng hinsawdd sy'n ein hwynebu, rydym i gyd yn deall yr angen i ddatgarboneiddio ein teithio ar frys. Mae'r papur gwyn y mae Cyngor Caerdydd wedi'i gynhyrchu, sy'n edrych ar deithio o amgylch y ddinas, yn amlwg yn rhan o'r agenda honno. Ond hoffwn gysylltu fy hun â rhai o'r sylwadau a godwyd gan rai o fy nghyd-Aelodau Llafur eraill ar y meinciau cefn o Gymoedd de Cymru. Fy mhryder i yw na all hon, os aiff rhagddi, fod yn dreth ar rai o'r cymunedau mwyaf heriol o amgylch Caerdydd lle nad yw trafnidiaeth gyhoeddus, ar hyn o bryd, yn effeithiol o ran cael pobl i mewn i'r ddinas ac i'w gweithle. Hyd yn oed pan fydd y metro wedi'i sefydlu ac yn weithredol, Weinidog, rwy'n pryderu bod yr ystadegau'n dangos y bydd nifer fawr o bobl yn dal i ddefnyddio'u ceir i fynd i mewn i'r ddinas—oni bai, wrth gwrs, ein bod yn gallu datrys problem teithio ar fysiau. Felly, hoffwn wybod eich barn, yn benodol, am y cyfeiriad yn y papur gwyn at y prosiect bysiau cyflym rhanbarthol a sut y gallai teithio ar fws fod yn rhan hanfodol o'r agenda hon.
A gaf fi ddiolch i Vikki am ei chwestiwn? Cytunaf yn llwyr, o ran y cynigion sydd wedi'u gwneud, ei bod yn gwbl hanfodol fod angen inni archwilio ac ystyried yr holl faterion cydraddoldeb a thegwch yn fanwl, nid yn unig o ran sut y gallai tâl atal tagfeydd fod yn berthnasol, ond hefyd sut y gellir gwario unrhyw refeniw a godir ohono. O ran y weledigaeth o well gwasanaethau bysiau, nid yn unig o fewn y ddinas, ond hefyd yn y rhanbarth, rwy'n croesawu'n gynnes y weledigaeth gref, feiddgar y mae'r cyngor wedi gallu ei darparu.
Yn amlwg, mae gan y Llywodraeth amryw o ysgogiadau y gall eu defnyddio ym maes trafnidiaeth gyhoeddus a modelau trafnidiaeth y gall eu cefnogi. Buaswn yn awgrymu bod cyswllt awyr Ynys Môn, yn amlwg, yn un model o drafnidiaeth gyhoeddus sy'n cael ei gefnogi gan y Llywodraeth, ac mae'n rhaid i mi ddweud, mae'r gwasanaeth wedi gwella'n ddramatig dros y 12 i 18 mis diwethaf, ac mae nifer fawr wedi manteisio ar y llwybr hwn. Yn ei chyfweliad ar Sharp End, nododd Ysgrifennydd yr amgylchedd mewn gwirionedd fod hwn yn faes gwariant cyhoeddus y dylai'r Llywodraeth ei ailystyried oherwydd y datganiad argyfwng hinsawdd. A yw hwnnw'n un o bolisïau’r Llywodraeth, ailystyried y cymhorthdal y mae'n ei ddarparu ar gyfer y llwybr hedfan hwnnw, o gofio'r sylwadau a wnaeth Ysgrifennydd yr amgylchedd ar Sharp End ddydd Llun?
Yng ngoleuni'r ffaith ein bod wedi datgan argyfwng hinsawdd, wrth gwrs, mewn blynyddoedd i ddod, pan fyddwn yn ystyried a ddylid parhau â'r gwasanaeth hwn, byddwn yn rhoi mwy o sylw i'r allyriadau a achosir o ganlyniad i weithredu'r gwasanaeth. Ond yn y cyfamser, rwy'n falch fod yr Aelod wedi cydnabod gwelliannau yn y gwasanaeth hwnnw. Mae'n darparu gwasanaeth gwerthfawr i lawer o bobl yng Nghymru, ond yn union fel rydym yn ei wneud gyda phob math arall o gymorth trafnidiaeth drwy strategaeth drafnidiaeth Cymru, heb amheuaeth byddwn yn edrych ar drafnidiaeth carbon isel fel maes blaenoriaeth i fuddsoddiad Llywodraeth Cymru.
Rwyf am ddychwelyd at y bysiau, sy'n ffordd hollbwysig o deithio mewn ardaloedd fel y Rhondda Fach sydd heb unrhyw orsaf drenau ac sydd â ffordd osgoi sy'n dod i ben hanner ffordd i fyny'r cwm. Ni fyddai hyn mor ddrwg, wrth gwrs, pe bai'r gwasanaeth bws yn wych, ond nid dyna'r sefyllfa. Yn wir, credaf ei bod yn deg dweud, ar brydiau, ei fod yn druenus. Gall y llwybrau i Gaerdydd gymryd dwy awr, gan fod y rhan fwyaf o deithiau—gydag ambell eithriad—yn gallu aros mewn bron i 100 safle bws ar hyd y ffordd. Mae noson allan yng Nghaerdydd yn amhosibl i unrhyw un sy'n byw yn y Rhondda Fach os ydynt yn dibynnu ar drafnidiaeth cyhoeddus. Felly, yn ddealladwy, mae pobl yn teimlo eu bod wedi'u datgysylltu'n llwyr, ac maent yn haeddu gwell. A allwch chi ddarparu rhagor o wybodaeth am y ffordd y mae'r Llywodraeth yn bwriadu gwella trafnidiaeth bysiau ar gyfer lleoedd fel y Rhondda Fach, a'r Rhondda yn fwy cyffredinol yn wir? A ydych yn hyderus mai'r system arfaethedig ar ffurf system fysiau Llundain, sy'n ceisio annog gweithredwyr i wneud cais am y gwaith o ddarparu gwasanaethau, yw'r ateb i'r problemau hyn?
A gaf fi ddiolch i Leanne Wood am ei chwestiwn? Rwy'n rhannu ei phryderon ynghylch diffyg cyfleoedd i lawer o bobl mewn llawer o ardaloedd anghysbell allu cyrraedd y gwaith a gwasanaethau, oherwydd diffyg gwasanaethau bws neu oherwydd eu bod yn rhy ddrud i bobl eu defnyddio. Mae'n wir y bydd y Bil bysiau yn gwneud gwahaniaeth sylweddol drwy roi mwy o bŵer i awdurdodau lleol fel eu bod yn gallu ymyrryd, a gweithredu gwasanaethau eu hunain yn wir. Bydd yn sicrhau bod y prif gymhelliad ar gyfer gweithredu gwasanaethau bws yng Nghymru yn newid o wneud elw i fodloni disgwyliadau teithwyr. Rwy'n hyderus y bydd y Bil yn cyfrannu'n fawr at y gwaith o wella gwasanaethau bysiau lleol yng Nghymru. Yn ogystal â hynny, fel y dywedais mewn ymateb i Dai Rees, mae'n gwbl hanfodol ein bod yn cynllunio gwasanaethau'n fwy rhanbarthol fel y gallwn gael pobl o Rondda Fach i Gaerdydd yn gyflymach a chyda gwasanaethau mwy dibynadwy, a hefyd, ein bod yn sicrhau bod y gyfundrefn gymorthdaliadau yn y dyfodol yn ychwanegol at gyllid ac nid yn disodli cyllid.
Oni ddylai Gweinidog yr economi fod wedi bod yn gliriach yn ei lythyr at arweinydd ei blaid yng Nghyngor Caerdydd ei bod yn gwbl annerbyniol, wrth geisio codi arian ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus, i dâl gael ei strwythuro yn y fath fodd fel na chaiff ond ei dalu gan bobl o'r tu allan i ardal ei gyngor, tra bod pawb o fewn yr ardal wedi'u heithrio'n llwyr?
Rwy'n credu fy mod wedi dweud yn glir iawn, nid yn unig yn y llythyr ond hefyd yn fy atebion heddiw, fod unrhyw gynnig o'r fath—ac ar hyn o bryd, syniad yn unig ydyw—yn cael ei gymhwyso mewn ffordd deg; nad yw cynnig fel hwn yn arwain at gymunedau'n teimlo'n eu bod yn cael eu gosod yn erbyn ei gilydd, fod eu buddiannau'n cael eu blaenoriaethu'n is neu'n uwch na buddiannau cymuned arall; fod pawb yn teimlo eu bod yn elwa o gyfundrefn o'r math hwn; a bod pawb yn cyfrannu'n gyfartal tuag ati.
Dywedais yn fy llythyr at arweinydd y cyngor fy mod yn awyddus iawn i weithio gyda'r awdurdod lleol a chydag awdurdodau'r rhanbarth i archwilio'r mecanweithiau y gallwn eu defnyddio i ddiwallu anghenion y cyhoedd sy'n teithio, ond hefyd i wneud yn siŵr ein bod yn ymateb yn ddigonol ac yn briodol i'r argyfwng hinsawdd. Ac mae hynny'n golygu bod angen inni ysbrydoli newid moddol yn well, nid yn unig yn y rhanbarth hwn, ond ledled Cymru.
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ymdrechion Llywodraeth Cymru i leihau tagfeydd traffig rhwng cyffordd 44 a chyffordd 46 o'r M4? OAQ54936
Gwnaf. Yn ogystal ag ystyried gwella cysylltedd ar draws y rhanbarth, mae astudiaeth cam 1 Llywodraeth Cymru o ganllawiau arfarnu trafnidiaeth wedi nodi opsiynau gwella rhwng cyffyrdd 43 a 47 ar yr M4. Caiff atebion eu datblygu drwy astudiaeth cam 2, gyda'r nod o fynd i'r afael â thagfeydd, diogelwch, amseroedd teithio gwael ac ansawdd aer gwael hefyd.
Pan fo problemau traffig ar yr M4 yn cael eu trafod, mae problemau tagfeydd traffig yn ystod cyfnodau brig rhwng cyffyrdd 44 a 46 yn tueddu i gael eu hanwybyddu, ond nid gan y rhai ohonom sy'n teithio ar hyd y ffyrdd hynny. Mae'r rhesymau dros dagfeydd traffig yn cynnwys cerbydau sy'n newid lonydd a cherbydau sy'n cyrraedd ac yn gadael y draffordd—yr un pethau ag sy'n achosi tagfeydd traffig ym mhobman arall ar yr M4. Rwy'n galw am arwyddion ar yr M4 i gyfeirio traffig sy'n mynd i'r ardal fenter i ddefnyddio cyffordd 45 yn hytrach na chyffordd 46, gan fod cyffordd 45 yn gyffordd uwchraddol ac mae ganddi'r fantais, drwy wneud hynny, nad oes rhaid i draffig arafu ar y draffordd er mwyn ymuno â'r gylchfan.
A gaf fi ddiolch i Mike Hedges am ei awgrym? Byddaf yn sicr yn trosglwyddo'r awgrym am arwyddion gwell ar gyffordd 45 i swyddogion. Fel rwyf eisoes wedi'i ddweud, bydd astudiaeth cam 2 Llywodraeth Cymru ar ganllawiau arfarnu trafnidiaeth rhwng cyffyrdd 43 a 47 yn penderfynu beth yw'r atebion gorau i fynd i'r afael â thagfeydd, diogelwch ac amseroedd teithio gwael. Yn amlwg, os tybir, am resymau diogelwch neu amseroedd teithio gwell, y dylid gosod arwyddion gwell lle mae'r Aelod wedi awgrymu, byddwn yn ymateb yn gadarnhaol.
6. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith buddsoddi economaidd yn Islwyn ers 2016? OAQ54939
Rydym yn parhau i roi cymorth i nifer o fusnesau yn etholaeth Islwyn, wedi'i gefnogi gan lansiad ein cynllun gweithredu economaidd. Rydym yn parhau i helpu busnesau Cymru i ddechrau, tyfu a ffynnu drwy Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru ochr yn ochr â sefydlu swyddfa ranbarthol benodol.
Weinidog, diolch i ymyriadau Llywodraeth Cymru rhwng 2011 a 2016, mae nifer y bobl sydd mewn gwaith yn fy etholaeth i, sef Islwyn, wedi cynyddu 10.9 y cant, ac mae hynny'n uwch na chynnydd Cymru o 10.6 y cant. Yn ogystal â hyn, mae nifer y bobl ddi-waith yn Islwyn dros y cyfnod hwnnw wedi mwy na haneru, sydd unwaith eto yn fwy na'r gostyngiad a welwyd yng Nghymru a'r Deyrnas Unedig. A fyddai'r Gweinidog yn cytuno â mi, er mwyn adeiladu ar y perfformiad economaidd pwysig hwn, fod buddsoddi mewn seilwaith trafnidiaeth o ansawdd uchel yn hanfodol er mwyn parhau i ddenu mewnfuddsoddiad cryf a chynorthwyo mwy o bobl i gael swyddi sgiliau uchel o ansawdd da, fel yng Nglynebwy ac mewn cymunedau cyfagos? A fyddai felly'n rhoi amlinelliad o fuddsoddiadau metro arfaethedig ar reilffordd Rhymni, sydd hefyd yn gwasanaethu etholwyr Islwyn, dros y pum mlynedd nesaf?
Wel, a gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn? Mae'r Aelod yn llygad ei lle—mae perfformiad yr economi leol yn Islwyn yn rhywbeth i'w ddathlu. Soniodd Aelod yn gynharach fod enillion wythnosol yn destun pryder yng Nghymru. Wel, rwy'n falch o ddweud, o ganlyniad i'n gwaith caled, mae enillion wythnosol gros amser llawn yn Islwyn oddeutu £598 ar gyfartaledd. Mae hynny'n sylweddol uwch na chyfartaledd Cymru a chyfartaledd y DU. Mae'n rhywbeth y mae'r Aelod, rwy'n siŵr, yn falch iawn ohono. Ond mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig fod yn rhaid i ni fuddsoddi mewn seilwaith cysylltiol er mwyn sbarduno twf economaidd parhaus sy'n deg i bob cymuned, a dyna pam ein bod yn buddsoddi £738 miliwn i uwchraddio'r rheilffyrdd i Aberdâr, Coryton, Merthyr Tudful, Treherbert a Rhymni wrth gwrs. Rydym yn buddsoddi £800 miliwn mewn cerbydau newydd erbyn 2023, ac rydym yn trydaneiddio oddeutu 170 km o drac. Rydym yn uwchraddio ein holl orsafoedd a signalau, ac yn adeiladu o leiaf bum gorsaf newydd ar gyfer y metro.
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am effaith y newid diweddar yn yr amserlenni tren ar orsafoedd llai? OAQ54951
Newidiadau amserlen mis Rhagfyr oedd y newid mwyaf i wasanaethau ers dros dri degawd. Mae hyn wedi bod o fudd i rai defnyddwyr rheilffyrdd, tra bo gwasanaethau eraill, yn anffodus, wedi cael eu heffeithio. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi ceisio cyflwyno mesurau amgen lle effeithiwyd ar wasanaethau, ac maent yn adolygu posibiliadau pellach ar gyfer diwygio'r amserlen fel rhan o newidiadau amserlen mis Mai.
Mae hwn yn achos o gwestiwn yn cael ei ateb cyn i mi gael ei ofyn o ar lafar, ond mae yna faterion pwysig sydd yn dal angen eu trafod. Mi wnaeth nifer o etholwyr gysylltu efo fi yn dilyn newidiadau amserlenni yn siomedig bod gwasanaethau i orsafoedd llai Môn—Fali, Rhosneigr, Tŷ Croes, Bodorgan a Llanfairpwll—wedi cael eu lleihau. Oes, mae eisiau gwasanaethau cyflym, ond mae angen gwasanaethu ein cymunedau ni hefyd.
Dwi yn falch bod Trafnidiaeth Cymru wedi dod yn ôl ataf i rŵan, ers i mi gyflwyno'r cwestiwn yma, i ddweud bod yna newidiadau wedi cael eu gwneud i amserlenni sydd yn bodloni nifer o'r cwynion a gafodd eu gwneud. Wedi dweud hynny, mae yna sawl bryder o hyd ynglŷn ag argaeledd trenau i orsafoedd llai ar ddiwedd y diwrnod ysgol ac yn y blaen. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyfaddef i mi, 'Na, wnaethon ni ddim efallai ymgynghori digon efo'r cymunedau wrth wneud y penderfyniadau', a dwi'n meddwl bod y pryderon eraill yma ynglŷn â threnau diwedd y dydd yn enghraifft arall o rywbeth fyddai wedi cael ei fflagio i fyny pe bai ymgynghori iawn wedi cael ei wneud. Ydy'r Gweinidog yn cytuno efo fi bod yn rhaid cael ymrwymiad i ymgynghori yn ofalus iawn efo cymunedau ynglŷn â sut mae newidiadau arfaethedig yn mynd i effeithio arnyn nhw?
Ydw, rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod, ac mae ymgynghori priodol yn rhywbeth rwyf wedi'i godi gyda Trafnidiaeth Cymru wrth inni nesáu at newidiadau amserlen mis Mai. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol fod grwpiau rhanddeiliaid, a chymunedau, yn cael eu hysbysu ymhell cyn y newidiadau arfaethedig fel y gallant gyfrannu rhywfaint o fewnbwn i weld a yw'r newidiadau hynny'n fuddiol ai peidio. Ceir rhwymedigaeth gytundebol, wrth gwrs, i sicrhau nad yw gorsafoedd yn cael llai o wasanaethau nag a oedd ganddynt pan gafodd y fasnachfraint ei gosod, ac mae'n rhaid cynnal y rhwymedigaeth honno, a dyna'r rheswm pam fod Trafnidiaeth Cymru wedi bod yn gweithio i bennu gwasanaethau amgen hyd at fis Mai, pan eir i'r afael â'r gwasanaethau a dynnwyd yn ôl o rai o'r gorsafoedd llai o faint.
Ac, yn olaf, cwestiwn 8—Neil Hamilton.
8. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am sut y mae Trafnidiaeth Cymru yn ymateb i unrhyw achosion o darfu ar reilffyrdd yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ54967
Ie. Mae'r ffordd y mae Trafnidiaeth Cymru yn ymateb i darfu yn dibynnu ar nifer o ffactorau, fel yr amser, y lleoliad a'r adnoddau sydd ar gael lle mae'n digwydd. Bydd Trafnidiaeth Cymru bob amser yn ceisio gweithredu gwasanaethau lle bo hynny'n bosibl, gan ddefnyddio canslo os oes angen i adfer y gwasanaeth ac i osgoi tarfu pellach yn ddiweddarach yn y dydd.
Diolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Hoffwn godi achos etholaeth y gallai fod wedi'i weld. Roedd un o fy etholwyr yn teithio ar drên o Birmingham i Aberystwyth, a bu'n rhaid iddo fynd allan yn Amwythig oherwydd un methiant ar y rheilffordd o Amwythig i'r Trallwng, ond collodd y bws a ddarparwyd yn lle'r gwasanaeth y cysylltiad trên yn y Trallwng ac felly bu'n rhaid iddo barhau'r daith gyfan i Aberystwyth, tair awr o hyd, ar fws, ond roedd yn fws deulawr gyda lle i gant o bobl a dim mynediad i gadeiriau olwyn, ac i mi, nid yw'n ymddangos ei fod yn gerbyd addas ar gyfer gwasanaeth yn lle trên am gymaint o amser ar ffyrdd o'r fath. Felly, tybed a allai'r Gweinidog ddweud wrthyf faint o'r hen fysiau a'r bysiau anaddas hyn y mae Trafnidiaeth Cymru yn eu gweithredu neu'n eu contractio gyda chwmnïau allanol a pha gynlluniau sydd ar y gweill i'w dileu'n raddol a chyflwyno cerbydau mwy addas yn eu lle.
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn? Rwy'n ymwybodol o'r achos, ac rwy'n credu bod yr etholwr dan sylw wedi derbyn ymddiheuriad. Yn amlwg, ar yr achlysur hwnnw, roedd yn fethiant signal. Nid Trafnidiaeth Cymru sy'n gyfrifol am hynny; cyfrifoldeb Network Rail ydyw. Ond mae'r Aelod yn iawn nad yw gwasanaethau bysiau yn lle trenau bob amser yr hyn y dylai teithwyr ei ddisgwyl—nid ydynt yn cyrraedd y safon y dylent allu ei disgwyl. Am y rheswm hwnnw, rwyf wedi gofyn i Trafnidiaeth Cymru archwilio'r posibilrwydd, pan fyddant yn gallu dod allan o'r contract a drefnwyd gan eu rhagflaenydd, Trenau Arriva Cymru, i sefydlu fflyd o fysiau ar gyfer gwasanaethau amgen, gan fy mod yn credu ei bod yn gwbl hanfodol fod teithwyr yn gwybod, os darperir gwasanaeth bws amgen, y bydd yn eu cludo yn y ffordd y dylai gwasanaeth trên fod wedi eu cludo, ac mewn modd amserol.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel Gweinidog Brexit heddiw. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Joyce Watson.
1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch cyllid buddsoddi rhanbarthol yng Nghymru ar ôl Brexit? OAQ54960
4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch y gronfa ffyniant gyffredin? OAQ54935
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y trafodaethau mae'n eu cael gyda Llywodraeth y DU am y gronfa ffyniant gyffredin? OAQ54940
Lywydd, rwy'n deall eich bod wedi rhoi caniatâd i gwestiynau 1, 4 a 5 gael eu grwpio. Cefais gyfarfod ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru ar 9 Ionawr ac ailadroddais safbwynt Llywodraeth Cymru, fel gwneuthum wrth Weinidogion eraill Llywodraeth y DU, sef 'Heb golli'r un geiniog, heb golli'r un grym' mewn perthynas â'r arian a ddaw yn lle arian yr UE yng Nghymru.
Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog, ond credaf mai'r ddau gwestiwn mawr ynglŷn â chronfa ffyniant gyffredin y DU yw: a fydd yn darparu yr un faint o arian ag y mae Cymru'n ei gael gan Ewrop ar hyn o bryd, ac fel yr addawyd gan gefnogwyr Brexit?' ac 'a fydd wedi'i ddatganoli?' A yw Llywodraeth y DU wedi gweld yn dda i rannu ei chynlluniau â Chymru eto, neu, o ran hynny, yr Alban neu Ogledd Iwerddon?
Wel, diolch i'r Aelod am y cwestiwn pellach hwnnw. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i roi'r un faint o arian ag a gollir i Gymru drwy gronfeydd strwythurol Ewropeaidd. Rydym wedi gofyn faint ydyw ac iddo ddod drwy addasiad i'r grant bloc fel bod gwariant yr arian hwnnw, cant y cant o'r arian hwnnw, yn unol â'r setliad datganoli ac yn galluogi Llywodraeth Cymru, fel y mae'n ei wneud heddiw, i ddefnyddio'r cyllid hwnnw yng Nghymru er budd gorau pobl Cymru ac i wneud hynny mewn ffordd lle gall integreiddio â'r ffynonellau eraill o gyllid rhanbarthol ledled Cymru.
Weinidog, gofynnais gwestiwn i'ch cyd-Aelod, y Prif Weinidog, rai wythnosau'n ôl ynglŷn â'r gronfa ffyniant gyffredin, a rhoddodd y Prif Weinidog ateb eithaf cadarnhaol i mi. Ond wrth lunio cynllun newydd, a allwch roi rhywfaint o wybodaeth i ni ynglŷn â sut y bydd y cynllun newydd hwnnw'n mynd i'r afael â meysydd nad ydynt wedi llwyddo, yn y gorffennol, i sicrhau cyllid drwy gronfeydd strwythurol yr UE?
Wel, bydd yr Aelod yn gwybod bod cronfeydd strwythurol yr UE wedi'u cynllunio i ymdrin ag anghydraddoldebau incwm ac yn y blaen mewn rhannau penodol o Gymru sy'n gymwys ar gyfer gwario'r arian hwnnw. Wrth gynllunio cronfeydd yn lle'r rheini, mater i Lywodraeth Cymru yw bwrw'r rhwyd yn ehangach yn ddaearyddol yng Nghymru. Rydym wedi ystyried y cyfle hwnnw ac wedi gweithio, fel rhan o'r gwaith y bu grŵp llywio Huw Irranca-Davies yn gweithio arno, wel, mae hyn wedi bod yn un o'r materion sy'n codi. Rydym yn awyddus i sicrhau bod cyfle i bob cymuned mewn gwahanol rannau o Gymru fanteisio ar y cronfeydd hynny, ac mae'r blaenoriaethau rydym wedi'u pennu ar gyfer ariannu rhanbarthol yn ymwneud â chymunedau iach a thecach, anghydraddoldebau incwm, busnesau cynhyrchiol a Chymru ddi-garbon, sy'n faterion y byddai pob rhan o Gymru, rwy'n credu, yn eu hystyried yn flaenoriaethau, ac yn wir, yn gyfleoedd i elwa o gyllid dilynol. Gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn cymryd y camau rydym yn galw arnynt i'w gwneud, er mwyn sicrhau y gellir rhoi'r gwaith y buom yn ei wneud gyda rhanddeiliaid ledled Cymru—a diolch i'r rhanddeiliaid hynny am eu gwaith—ar y gweill mewn ffordd a all fod o fudd i bob rhan o Gymru.
Mae yna sawl elfen i'r hyn rydym ni angen sicrwydd ynglŷn â fo o ran dyfodol yr arian a ddaw i gymryd lle arian cymorth strwythurol Ewropeaidd. Mae'r swm arian a ddaw yn y blynyddoedd nesaf yn un mater, ac mewn ffordd, hwnna ydy'r peth hawdd i Lywodraeth Prydain ei wneud: wrth gwrs byddan nhw eisiau trio cael eu gweld yn rhoi yr un fath o arian ag sydd wedi bod yn ddiweddar ar gyfer y cyfnod sydd i ddod rŵan. Ond, wrth gwrs, mae'r cwestiwn yma o sut mae'r arian yn cael ei reoli. Dydw i ddim yn cytuno efo popeth sydd wedi cael ei wneud efo gwariant arian Ewropeaidd yng Nghymru; mae yna benderfyniadau gwariant dwi ddim yn cyd-fynd â nhw. Ond lle mae'r arian wedi cael impact go iawn, mae hynny wedi cael ei arwain mewn difrif gan y ffaith bod penderfyniadau yn cael eu gwneud yma yng Nghymru gan bobl sydd yn deall y cyd-destun Cymreig. Ydych chi fel Gweinidog yn cytuno efo fi mai dyna ydy'r peryg mawr rŵan, nad oes gan Lywodraeth Prydain y capasiti na'r ddealltwriaeth i benderfynu sut i wario arian yn synhwyrol yng Nghymru, ac mai cadw rheolaeth ar le i fuddsoddi arian er mwyn sicrhau tegwch i'r economi Gymreig sydd yn bwysig rŵan, llawn cyn bwysiced bron iawn â'r swm ei hun?
Wel, mae'r cwestiwn hwnnw o gapasiti a dealltwriaeth yn bwysig, ac mae'r cwestiwn hefyd o bwerau cyfansoddiadol yn dod i'r cwestiwn hwnnw hefyd. Mae hynny yn anorfod yn digwydd yn sgil y ffaith bod y penderfyniadau hynny wedi cael eu gwneud yma yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru am ddau ddegawd, ac ychydig yn fwy na hynny. Ac, felly, rwy'n cytuno â phwynt yr Aelod, hynny yw, bod yn rhaid cael eglurder a chytundeb i'r egwyddor sylfaenol honno o safbwynt cyfansoddiadol, ond hefyd—ac rwy'n credu bod hyn ynghlwm yng nghwestiwn yr Aelod—o safbwynt ymarferol, hynny yw, y gallu i wario'r arian hwnnw mewn ffordd sydd yn cael impact ac yn gallu gweithio ar y cyd â ffynonellau eraill sydd ar gael i Lywodraeth Cymru a chyrff eraill yng Nghymru. Ac rwy'n credu hefyd fod yr elfen yn bwysig bod cyfle i ni yma i wneud penderfyniadau ar lefel rhanbarthol y tu fewn i Gymru hefyd, ynghyd â gwneud hynny ar draws Cymru fel cenedl.
David Melding.
Na, mae'n ddrwg gennyf.
David Rees.
Diolch, Lywydd. Weinidog, fel y dywedwyd yn glir, nid oes gennym syniad beth fydd y gronfa ffyniant gyffredin yn ei wneud eto, ond rydym eisiau gallu sicrhau y byddai'r arian a ddaw o'r gronfa ffyniant gyffredin i Gymru yn cymryd lle'r arian y byddem wedi'i gael o gyllid Ewropeaidd, ac y bydd yn caniatáu i Lywodraeth Cymru benderfynu ar yr hyn sydd orau i Gymru. Rydych wedi cael trafodaethau gydag Ysgrifennydd Gwladol Cymru. Dywedodd yr Ysgrifennydd Gwladol blaenorol ei fod yn bwriadu cynnal proses ymgynghori. A ydym yn gwybod a yw'r broses ymgynghori honno'n mynd i ddigwydd? Beth y maent yn ei wneud? Pryd y cawn ddatganiad pendant gan Lywodraeth y DU ynglŷn â beth fydd y gronfa ffyniant gyffredin; sut y gallwn gael mynediad ati? A fydd unrhyw fesurau rheoli'n cael eu gosod i edrych ar beth y maent eisiau ei wario, neu a fydd gennym ryddid? Mae'n bwysig ein bod yn parhau i gael y manylion hyn, oherwydd heb y manylion, rydym yn dal i siarad am ddim byd; nid oes gennym syniad beth sy'n digwydd.
Rwy'n rhannu rhwystredigaeth yr Aelod. Rydym yn croesawu'r ymrwymiadau bras, rhaid cyfaddef, ond cadarnhaol gan Lywodraeth y DU i gydweithio â ni mewn modd cydsyniol mewn perthynas â hyn. Ond mae angen inni symud ymlaen i weithredu'n ymarferol, ac mae'n gwbl hanfodol fod Llywodraeth y DU yn awr yn rhannu manylion yr hyn y mae'n ei gynnig gyda ni. Rydym wedi bod yn gweithio—ac rwyf wedi bod yn agored ynglŷn â hyn gyda Llywodraeth y DU—rydym wedi bod yn gweithio'n fanwl ar gynigion y credwn eu bod wedi'u cynllunio'n dda ar gyfer ymgynghori, fel petai, ond mae'n bwysig yn awr fod Llywodraeth y DU yn cyflwyno ymrwymiad syml, rwy'n credu, y gellir defnyddio'r arian sydd ar gael i Gymru ar hyn o bryd drwy'r cronfeydd hynny yng Nghymru, a bod pob un ohonynt yn ddarostyngedig i'r pwerau presennol sydd gan Lywodraeth Cymru ar ran pobl Cymru, a'u bod, i bob pwrpas, yn ffurfio addasiad i'r grant bloc, fel y gellir eu defnyddio'n effeithiol ar ran pobl Cymru. Ond rwy'n rhannu rhwystredigaeth yr Aelod: nid ydym wedi cael y manylion a'r wybodaeth y dylem fod wedi'u cael ar y pwynt hwn, ac rwy'n gobeithio y caiff hynny ei unioni yn hwyr yn hytrach na'n hwyrach.
2. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ynghylch nifer y dinasyddion Ewropeaidd sydd wedi cofrestru i aros yng Nghymru ar ôl i'r DU ymadael â'r UE? OAQ54966
Byddaf yn cael trafodaethau rheolaidd, fel y bydd fy swyddogion, gyda Llywodraeth y DU, a chyda rhanddeiliaid o Gymru, ynghylch nifer y dinasyddion UE sydd wedi gwneud cais am y cynllun preswylio'n sefydlog yng Nghymru. Rydym ni fel Llywodraeth wedi rhoi ystod eang o wasanaethau ar waith i gefnogi gwladolion yr UE gyda'u ceisiadau, ac rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i roi cymorth pellach i ddinasyddion yr UE yma yng Nghymru.
Mae'r adroddiad a gyhoeddwyd yr wythnos hon gan sefydliad the3million yn crynhoi'r pryder, y dicter a'r teimlad fod neb eu heisiau roedd yr holl bobl a holwyd yn ei deimlo, hyd yn oed pan oedd ganddynt statws preswylydd sefydlog eisoes. Roedd yn ddigalon darllen, yng ngoleuni sgandal Windrush, fod menywod, pobl hunangyflogedig, y di-waith, pensiynwyr, myfyrwyr, a'r rheini nad oeddent yn gweithio am resymau meddygol i gyd yn fwy tebygol o gael eu holi am wybodaeth ychwanegol. A statws preswylydd cyn-sefydlog yn unig y mae llawer o'r bobl hyn wedi'i gael. Yng ngoleuni'r pryder a fynegwyd gan yr holl ymatebwyr, a'r ymdeimlad fod ymadroddion torri a gludo am gyfeillgarwch a diogelu hawliau dinasyddion Ewropeaidd wedi'u cynnwys yn yr ymatebion, yn lle taro'r bong ar 31 Ionawr gydag ymdeimlad o orchest, mae'n bwysig iawn ein bod yn estyn llaw cyfeillgarwch i'r holl bobl sydd wedi byw yn y wlad hon ers blynyddoedd lawer. Felly, roeddwn yn meddwl tybed pa sicrwydd y gall Llywodraeth Cymru ei roi i bobl, ar sail eich sgyrsiau â Llywodraeth y DU, na fydd teuluoedd yn cael eu rhannu yn y tymor hir, ac bod statws preswylydd sefydlog yn fwy na dim ond ymarfer, cyn ceisio cael gwared ar bobl sy'n anghyfleus.
Diolch i'r Aelod am dynnu sylw at y pryder difrifol iawn sydd gan nifer o bobl, ac mae pobl wedi'i fynegi wrthyf yn uniongyrchol hefyd—fwy neu lai yn yr un ffordd ag y cawsant eu disgrifio gan yr Aelod heddiw. Mae gennym rhwng 70,000 ac 80,000 o ddinasyddion yn byw yng Nghymru a gafodd eu geni mewn rhannau eraill o'r UE, y tu allan i'r DU, ac rydym eisiau iddynt aros yng Nghymru a pharhau i wneud y cyfraniad llawn a wnânt i'n cymdeithas ac i'n heconomi. Rwy'n llwyr gydnabod y pwynt y mae'n ei wneud am y pryder y mae llawer o bobl yn ei deimlo, yn enwedig mewn perthynas â'r cwestiwn o gael statws preswylydd cyn-sefydlog yn unig. Rwy'n credu bod nifer y ceisiadau sy'n arwain at hynny ledled y DU oddeutu 44 y cant ar hyn o bryd, sy'n eithaf rhyfeddol mewn gwirionedd. Codais y pwynt hwnnw gyda Llywodraeth y DU, pan gyfarfûm â Gweinidogion yr wythnos cyn y ddiwethaf, a dywedwyd wrthyf fod statws preswylydd cyn-sefydlog yn troi'n statws preswylydd sefydlog yn awtomatig dros amser i bob pwrpas, ac nid yw hynny o reidrwydd yn wir, fel y gwyddom. Ac rwyf wedi ysgrifennu atynt i nodi hyn, ac i wneud y pwynt fod angen inni wneud mwy i fynd i'r afael â'r mater pryder hwn.
Fel Llywodraeth, rwy'n credu ein bod wedi ymrwymo oddeutu £2 filiwn hyd yma, fwy neu lai, ar gyfer ceisio cyfathrebu â phobl a ddylai fod yn cymryd camau i geisio statws preswylwyr sefydlog yng Nghymru. Rydym wedi gwneud hynny drwy—. Rydym wedi cael ymgyrch ar-lein newydd yn ddiweddar, ond ceir carfan fawr o bobl na fyddai'r rhyngrwyd yn brif gyfrwng cyfathrebu iddynt. Felly rydym wedi bod yn gweithio gyda Settled ac eraill i hysbysebu, fel petai, argaeledd y cynllun, a'r ystod amrywiol o gymorth y mae Llywodraeth Cymru, a sefydliadau eraill, yn ei ddarparu, a cheisio targedu pobl mewn lleoedd fel siopau a chaffis ac eglwysi, lle gallai dinasyddion yr UE gael gafael ar y wybodaeth honno mewn ffyrdd eraill heblaw ar-lein. Felly rydym yn ceisio dod o hyd i wahanol ffyrdd o gyfathrebu â phobl, ac ar yr un pryd byddaf yn cyfarfod yn eithaf rheolaidd â swyddogion y Swyddfa Gartref, ac yn manteisio ar bob cyfle i dynnu sylw at rai o'r pwyntiau ymarferol y mae'r Aelod yn eu gwneud yn ei chwestiwn sy'n peri pryder i gynifer o bobl yng Nghymru.
Weinidog, rwy'n credu eich bod wedi ateb fy nghwestiwn i raddau yn eich ateb i Jenny Rathbone. Pa gynlluniau sydd gan eich Llywodraeth i weithio gyda Llywodraeth San Steffan mewn perthynas â statws preswylydd sefydlog dinasyddion yr UE, a pha rolau ychwanegol rydych yn eu rhagweld ar gyfer Llywodraeth Cymru, ar wahân i'r hyn rydych yn ei wneud yn awr?
Byddwn yn parhau â'r gwaith rydym wedi bod yn ei wneud. Rydym wedi bod yn ariannu gwahanol wasanaethau cynghori yn ogystal ag ymgyrch gyfathrebu. Rydym wedi bod yn pwyso ar Lywodraeth y DU hefyd mewn perthynas ag argaeledd canolfannau sganio digidol yng Nghymru. Efallai fod yr Aelod yn ymwybodol mai dim ond un oedd yna ar y dechrau. Rydym yn edrych ar oddeutu saith, rwy'n credu, ar hyn o bryd, ac yn pwyso hefyd am ehangu darpariaeth y ganolfan cymorth technoleg ddigidol, sy'n galluogi dinasyddion yr UE sydd angen cymorth ychwanegol i wneud y cais. Credaf fod 26 o'r rheini yng Nghymru bellach, ac rydym wedi bod yn pwyso'n galed iawn dros y cyfnod i sicrhau bod y niferoedd hynny'n cynyddu, a chyda pheth llwyddiant.
I'r rhan fwyaf o bobl, ni fydd angen cael y cymorth ychwanegol hwnnw, ond bydd carfan sylweddol a fydd angen yr help ychwanegol er mwyn gallu cofrestru. Ond mae rhai diffygion dylunio yn y cynllun ei hun, ac rydym hefyd yn pwyso ar Lywodraeth y DU mewn perthynas â hynny. Un mater y bydd yr Aelodau'n ymwybodol ohono, rwy'n credu, yw diffyg ardystiad neu ddogfen ffisegol sy'n arddangos y statws preswylydd sefydlog. Er y byddai'r rhan fwyaf ohonom yn fodlon cael cydnabyddiaeth ar-lein o hynny, mae'n debyg, rhywbeth y gallwn ei rannu â sefydliadau, cyrff ac asiantaethau os dymunwn, unwaith eto, bydd llawer o bobl yn teimlo'n llawer mwy diogel o gael darn o bapur neu fathodyn ffisegol, ac felly, rydym wedi bod yn pwyso i'r perwyl hwnnw hefyd.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Dai Lloyd.
Diolch, Lywydd. Er bod Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru, Simon Hart, wedi dweud yr wythnos diwethaf na fyddai cronfa ffyniant gyffredin y DU y clywsom gryn dipyn amdani eisoes, ac rwy'n dyfynnu,
yn gyrru ceffyl a throl drwy'r setliad datganoli,
yn anffodus, nid yw wedi rhoi sicrwydd pendant mai Llywodraeth Cymru fyddai'n rheoli'r gronfa newydd hon. Byddai unrhyw golli rheolaeth ar gyllid Ewropeaidd, wrth gwrs, yn gipio pŵer. Yr wythnos hon, mae arweinwyr llywodraeth leol yng Nghymru hefyd wedi mynegi pryder ynglŷn â'r ansicrwydd ynghylch lefel y cyllid yn y gronfa, o ystyried ei bwysigrwydd mewn perthynas â chynlluniau adfywio mewn sawl rhan o Gymru. Felly, a gaf fi ofyn: a ydych wedi siarad ag Ysgrifennydd Gwladol Cymru ers yr wythnos diwethaf? Beth yw eich dealltwriaeth ddiweddaraf o gynnig Llywodraeth y DU, ac a wnewch chi roi ymrwymiad i sicrhau bod llais arweinwyr llywodraeth leol yng Nghymru yn cael ei glywed?
Diolch i Dai Lloyd am y cwestiwn hwnnw ac rwy'n ei groesawu i'w rôl newydd. Rwyf wedi siarad yn fyr â'r Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â mater arall yng nghyd-destun cyfarfod mwy, ond nid yw'n ymwneud yn benodol â'r pwynt hwnnw. Rydym yn dal i ddisgwyl, fel y crybwyllais yn fy nghwestiwn cynharach, am fanylion mewn perthynas â chydnabyddiaeth, i bob pwrpas, fod y cronfeydd hynny'n ddarostyngedig i bwerau datganoledig. Mae'n bwynt syml iawn i gytuno arno ac i'w gydnabod. Y pwynt yn syml yw y dylai'r symiau cyfatebol sy'n dod i Gymru ar hyn o bryd gael eu trosglwyddo i Lywodraeth Cymru drwy addasiad i'r grant bloc ac i Lywodraeth Cymru allu defnyddio'r cronfeydd hynny'n llawn yn y ffordd y mae cwestiwn yr Aelod yn ei awgrymu, gyda phartneriaid eraill yng Nghymru—felly, gyda llywodraeth leol, sydd ei hun yn fuddsoddwr sylweddol yn y swyddi a'r seilwaith sy'n elwa o'r math hwnnw o fuddsoddiad. A dyna'r cyfle, sy'n sicr yn bwysig o safbwynt datganoli, ond mae hefyd yn bwysig o ran gallu integreiddio'r buddsoddiad hwnnw gyda buddsoddiadau eraill y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud.
A gaf fi ddiolch i'r Gweinidog am fy nghroesawu i fy rôl newydd? Yn amlwg, ni fyddaf mor wefreiddiol â fy nghyd-Aelod, Delyth Jewell, yn y swydd, ond rwy'n gobeithio straffaglu drwyddi beth bynnag yn fy ffordd dawel fy hun. [Chwerthin.]
Yn eich datganiad ysgrifenedig ddoe, fe nodoch eich bod yn cynnal cyfarfod negodiadau nesaf Cydbwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau'r UE) yng Nghaerdydd yn ddiweddarach y mis hwn, a'ch bod yn gobeithio y byddai'r cyfarfod hwnnw'n canolbwyntio ar gwblhau cynigion terfynol, gan gynnwys cadarnhau rôl y Llywodraethau datganoledig yn negodiadau'r UE yn y dyfodol. Felly, a ydych wedi cael unrhyw arwyddion gan Lywodraeth y DU eu bod yn barod i wrando neu dderbyn unrhyw rai o'ch awgrymiadau er mwyn sicrhau bod gan Lywodraeth Cymru ryw fath o sedd wrth y bwrdd, os nad y bwrdd cyfan ei hun, neu unrhyw fath arall o ddodrefnyn?
Rwyf am ymwrthod â'r demtasiwn i ymestyn y trosiad penodol hwnnw. Ond rwy'n credu mai'r hyn rwyf am ei ddweud wrth yr Aelod yw, ydy, mae'n wir y byddaf yn cynnal cyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r UE) yma yng Nghaerdydd yr wythnos nesaf. Yng nghyfarfod diwethaf y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r UE), manteisiais ar y cyfle, fel y gwneuthum, ac fel y mae Gweinidogion eraill wedi'i wneud, dros fisoedd lawer i egluro ein safbwynt ynghylch beth yw'r rôl briodol i Lywodraeth Cymru yn ein barn ni yng nghyd-destun y negodiadau a fydd yn dilyn dros y misoedd sydd i ddod. Felly, credaf ei bod yn hollbwysig na all fod gan Lywodraeth y DU unrhyw amheuaeth beth yw ein disgwyliadau rhesymol iawn, rwy'n credu, o'n rôl, h.y. ni ddylai Llywodraeth y DU gynnig safbwynt negodi sy'n ymwneud â chymhwysedd datganoledig heb ei bod fel arfer wedi ceisio cytuno ar y safbwynt hwnnw gyda Llywodraeth ddatganoledig ymlaen llaw. Credaf fod honno'n ffordd ymarferol ymlaen. Mae'n rhoi hyder i'n partneriaid negodi dramor fod Llywodraeth y DU yn gallu cyflawni'r ymrwymiadau a wna yn y negodiadau hynny ac wrth gwrs, yn bwysig, ei bod yn cydnabod rôl Llywodraeth Cymru a'r cymhwysedd a'r setliad datganoli.
O ran yr hyn rwy'n ei ddisgwyl o gyfarfod nesaf y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r UE), rwy'n gobeithio y bydd yn gyfle i Lywodraeth y DU gynnig ymateb o sylwedd i'r cynigion hynny a chyflwyno ei chynigion ei hun ar gyfer ein cynnwys yn y misoedd sydd i ddod. Yng nghyfarfod diwethaf y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau'r UE), yr arwyddion yn y drafodaeth oedd eu bod yn bwriadu gwneud hynny a'u bod wedi clywed, i ryw raddau yn sicr, yr hyn y buom yn galw amdano ers misoedd lawer. Rwy'n gobeithio'n fawr y byddant yn rhoi sylw llawn i'r hyn rydym ni a'r Llywodraethau datganoledig eraill wedi bod yn pwyso amdano ers amser maith bellach.
Weinidog, drwy fwrw ymlaen â chymal 21 o'r Bil ymadael â'r UE ac anwybyddu confensiwn Sewel, mae Llywodraeth y DU yn dangos yn union beth y mae'n ei feddwl mewn gwirionedd o ddeddfwrfeydd datganoledig yn y Deyrnas Unedig. Ynghyd â'r ffaith nad oes gan y Blaid Geidwadol fwyafrif yng Nghymru, yr Alban na Gogledd Iwerddon, onid ydych yn rhannu fy mhryderon fod Llywodraeth y DU yn siarad ar ran un genedl yn unig o fewn y Deyrnas Unedig, a beth y mae hyn yn ei olygu, yn eich barn chi, i ddyfodol yr undeb?
Wel, rwy'n credu bod ddoe yn foment gyfansoddiadol bwysig oherwydd mae pob un o'r tair deddfwrfa ddatganoledig bellach wedi mynegi eu barn glir mewn perthynas â Bil y cytundeb ymadael. Roeddwn yn teimlo bod y ddadl a gawsom yn y Siambr hon ddoe yn nodi'r achos dros amddiffyn hawliau cyfansoddiadol y sefydliad hwn a Llywodraeth Cymru yn glir iawn, ac roedd y rhai ohonom a bleidleisiodd yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ddoe yn gwneud hynny am y rheswm hwnnw. Ac rwy'n falch iawn fod barn Cynulliad y Senedd mor glir. Rwy'n credu y dylai Llywodraeth y DU gymryd sylw o hynny ac na ddylai fwrw ymlaen yn wyneb y gwrthwynebiad hwnnw.
Mae confensiwn Sewel yn nodi, wrth gwrs, ei bod yn bosibl nad oedd yr amgylchiadau yn amgylchiadau arferol, a byddaf yn cael rhywfaint o gysur o'r geiriau yn llythyr yr Ysgrifennydd Gwladol ddydd Llun yr wythnos hon y byddai'n ystyried yr amgylchiadau'n rhai 'penodol'. Ond rwy'n credu ei bod yn sicr yn wir fod confensiwn Sewel yn gonfensiwn pwysig nad yw, fel y mae wedi'i gynllunio ar hyn o bryd, yn gwbl addas at y diben. Mae'n rhoi gormod o ddisgresiwn i Lywodraeth y DU; nid yw'n rhoi dealltwriaeth ddigon clir o ran pryd y mae'n gymwys a phryd na ddylai fod yn gymwys. Rwy'n credu bod achos dros fynd ymhellach na'r confensiwn i'w gwneud yn glir na ddylai Senedd y DU fyth ddeddfu pan fo cydsyniad wedi'i gadw'n ôl mewn perthynas â mater datganoledig.
Yr hyn a ddywedaf am ddyfodol yr undeb, ac rwyf wedi'i ddweud o'r blaen—credaf fod dewisiadau o'n blaenau yn y misoedd sydd i ddod, a bydd natur y dewisiadau hynny'n effeithio ar allu'r undeb i oroesi. Rwy'n mawr obeithio y bydd Prif Weinidog y DU yn dilyn y trywydd y gwnaethom ni fel Llywodraeth ei amlinellu yn ein cyhoeddiad yn gynharach yr wythnos hon, oherwydd os awn ar hyd llwybr Brexit caled iawn, a chytundeb masnach rydd cyfyngedig iawn, rwy'n ofni y bydd y pwysau sydd ar yr undeb ar hyn o bryd yn gwaethygu.
Llefarydd y blaid Dorïaidd, Darren Millar.
Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, pa ddadansoddiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r cyfleoedd sy'n codi yng Nghymru o ganlyniad i Brexit?
Wel, bydd yr Aelod gyferbyn yn ymwybodol ein bod, yn gynharach yr wythnos hon, wedi cyhoeddi ein barn ar y math o berthynas y dylai Cymru a'r DU ei chael gyda'r Undeb Ewropeaidd, gan gydnabod bod Prif Weinidog y DU wedi ennill mandad yn yr etholiad cyffredinol diweddar ac y bydd yn cychwyn y negodiadau hynny o safbwynt cytundeb masnach rydd. Ein barn ni yw bod cytundeb masnach rydd, fel y'i hystyriwyd yn y datganiad gwleidyddol, yn niweidiol i Gymru, ac rydym yn gobeithio llywio'r cyfeiriad teithio oddi wrth hynny i fan lle ceir mwy o gyfleoedd i Gymru barhau i elwa ar y math hwnnw o berthynas â'r Undeb Ewropeaidd.
Rwy'n meddwl weithiau ein bod yn cael ein gwahodd i feddwl bod y mathau o ryddid sy'n bodoli, fel petai, i negodi cytundebau â gwledydd eraill, o ganlyniad i'r math o ddisgrifiad o'r berthynas y mae Prif Weinidog y DU wedi'i nodi yn y datganiad gwleidyddol, yn wobr enfawr i ni. Er y byddwn bob amser yn manteisio ar y cyfle, ar ran busnesau ac allforwyr Cymru, i ddatblygu marchnadoedd newydd, y gwir amdani yw bod manteision y cytundebau hynny i economi Cymru yn ymylol o'u cymharu â'r farchnad a gollir, pe bai hynny'n digwydd, i'r Undeb Ewropeaidd.
Weinidog, diolch am eich ateb, ond i mi, fel y rhan fwyaf o bobl yng Nghymru ac ar draws y Deyrnas Unedig gyfan yn wir, rwy'n edrych ymlaen yn arw at wythnos i ddydd Gwener, am 11 o'r gloch, pan fydd cloch yn canu yn fy nhŷ i ddathlu'r ffaith y bydd Cymru'n gadael yr Undeb Ewropeaidd, ynghyd â gweddill y Deyrnas Unedig. A bydd yn gadael yr Undeb Ewropeaidd er gwaethaf ymdrechion gorau Llywodraeth Lafur Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru yn wir, sydd i gyd wedi bod yn ceisio rhwystro ewyllys ddemocrataidd y bobl rhag cael ei gweithredu yn y wlad hon. Ac wrth i ni symud ymlaen at y bennod nesaf yn hanes ein cenedl, yn y Blaid Geidwadol, gwelwn fod Brexit yn gyfle, ac mae'n gyfle i gyflawni dros Gymru mewn ffordd nad yw eich Llywodraeth chi, a bod yn onest, wedi'i wneud ers dros 20 mlynedd. Mae yna bobl, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus a fydd yn elwa o'r cytundebau a'r trefniadau masnach rydd y bydd gennym ryddid bellach i'w llunio gyda gwahanol wledydd a blociau masnachu ym mhob cwr o'r byd. Ac wrth gwrs, ni fyddwn yn cael ein cyfyngu i lunio cytundebau â'r Undeb Ewropeaidd yn unig. Fel chithau, rwyf eisiau cytundeb masnach rydd gweddus gyda'r Undeb Ewropeaidd. Ac wrth gwrs, byddwn yn gallu gwario arian ein trethdalwyr ein hunain ar gynllun buddsoddi rhanbarthol newydd ac uchelgeisiol nad yw'n ffafrio rhai rhannau o Gymru yn unig, fel gorllewin Cymru a'r Cymoedd, ond hefyd gallwn ganolbwyntio sylw ar ardaloedd difreintiedig eraill y tu hwnt i'r lleoedd hynny.
Nawr, rwy'n credu mai'r hyn sydd wedi bod braidd yn ddigalon yn ystod yr wythnosau diwethaf, ers yr etholiad cyffredinol—ac mae'n ymddangos bod rhywfaint o newid yn y sylwebaeth sy'n dod gan Lywodraeth Cymru, yn sicr heddiw, ac rwy'n croesawu hynny. Ond mae'r un hen ddadleuon wedi cael eu hailgyflwyno, rwy'n credu, ac nid oes gennym yr agwedd gadarnhaol y credaf yn gryf ein bod ei hangen yma yng Nghymru o ran sut y gallwn ymgysylltu â Llywodraeth ei Mawrhydi, wrth symud ymlaen, i wneud yn siŵr ein bod wrth y bwrdd a bod gennym lais cryf a phwerus. Felly, a gaf fi ofyn pa sicrwydd y gallwch ei roi i ni y byddwch chi a'ch cyd-Aelodau yn Llywodraeth Cymru yn dechrau ymgysylltu'n gadarnhaol yn awr, ac nid mewn ffordd elyniaethus, gyda Llywodraeth y DU wrth iddi geisio sicrhau Brexit cadarnhaol ar gyfer y Deyrnas Unedig gyfan, gan gynnwys Cymru?
Wel, nid yw'n glir i mi i ba raddau y bu'r Aelod yn talu sylw i'r hyn rydym wedi bod yn ei ddweud dros yr ychydig wythnosau diwethaf mewn perthynas â chysylltiadau â Llywodraeth newydd y DU. Rwyf am ei atgoffa, gan ei fod yn fy ngwahodd i wneud hynny, i bob pwrpas. Yr hyn rydym wedi'i ddweud, fel rydym wedi'i ddweud erioed, yw y bydd Llywodraeth y DU yn gweld ein bod yn Llywodraeth sy'n cydweithredu, ac yn ceisio gweithio er budd gorau Cymru, ond ni fyddwn yn gwneud hynny lle na chaiff y ffin ddatganoli ei pharchu. Mae rôl i Lywodraeth Cymru ac mae rôl i Lywodraeth y DU, a bydd y berthynas yn gweithio orau ac ar ei mwyaf adeiladol pan gaiff y ffin honno ei deall a'i pharchu'n ymarferol.
Nid wyf yn hollol siŵr fy mod wedi clywed dadl y Ceidwadwyr Cymreig yn mynd y tu hwnt i'r rhethreg ar unrhyw un o'r pwyntiau hyn o sylwedd. Nid wyf yn ymwybodol o unrhyw gyhoeddiad gan Blaid Geidwadol Cymru sy'n nodi ei barn ei hun am y math o Brexit a fyddai'n gweithio er budd gorau Cymru. Drwy gydol y broses hon, nid yw wedi gwneud fawr ddim mwy na dilyn safbwynt y blaid yn San Steffan.
Yr hyn rydym wedi'i gael ar yr ochr hon i'r Siambr yw cyfres o gynigion rhesymegol a dogfennau polisi sy'n ystyried buddiannau Cymru yn benodol. Ni chafwyd lefel gyffelyb o feddwl ar ochr arall y Siambr, ac mae'n amlwg i mi nad yw'r Aelod yn dilyn dadansoddiad ei Lywodraeth ei hun hyd yn oed, sydd, yn ôl eu ffigurau eu hunain, yn dweud wrthym mai manteision dychmygol i economi Cymru a ddaw yn sgil y nirfana masnach rydd y mae'n ei disgrifio.
Mewn gwirionedd, yr hyn rydym wedi'i weld gan Lywodraeth Lafur Cymru yw dogfen ar ôl dogfen yn proffwydo gwae. Wrth gwrs, mae eich pesimistiaeth ynghylch Brexit yn gwbl anghymesur â realiti. Lle rydym ni'r Ceidwadwyr, fel y nodir yn ein maniffesto a'n dogfennau eraill, yn gweld cyfle a ffyniant hirdymor y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, mae arnaf ofn eich bod chi'n gweld anobaith diddychymyg, a'r cyfan rydych chi i'ch gweld yn ei wneud yw ceisio dychryn pobl a chodi bwganod. Mae hi fel pe baech chi eisiau i Gymru fethu er mwyn i chi allu dathlu bod eich proffwydoliaethau Nostradamus wedi dod yn wir. Ond rydym ni'n gweld dyfodol lle gall busnesau yng Nghymru allforio nwyddau o amgylch y byd mewn ffordd gystadleuol a chystadlu yn y marchnadoedd y mae'r UE wedi'u blocio ar hyn o bryd.
Ac wrth gwrs, bydd gennym system fewnfudo deg—system fewnfudo sy'n gweithio i'r Deyrnas Unedig gyfan, un sy'n deg ac a fydd yn gweithio i fusnesau, yn gweithio dros Gymru, ond a fydd hefyd yn deg i bobl ni waeth o ble yn y byd y deuant, boed hynny yn yr UE neu o'r tu allan i'r UE. Yn bersonol, rwy'n obeithiol. Rwy'n llawn cyffro ynglŷn â'r cyfleoedd a ddaw yn sgil Brexit.
Gwn nad ydych yn hoffi siarad am y cyfleoedd hynny, ac nad ydych yn hoffi siarad am y manteision hynny, ond a wnewch chi o leiaf gydnabod bod rhai cyfleoedd, yn enwedig mewn perthynas â'r system fewnfudo newydd hon a fydd gennym, a fydd yn system sy'n seiliedig ar bwyntiau sy'n deg i bawb o bob rhan o'r byd, lle gall pobl ddod i fyw a gweithio yng Nghymru, lle gallant ddod â budd i'r cymunedau y byddant yn byw ynddynt ac i Gymru fel gwlad?
Wel, nid wyf yn siŵr a glywodd yr Aelod yr atebion i'r cwestiynau blaenorol am yr heriau y mae dinasyddion yr UE sydd eisoes yn byw yng Nghymru yn eu hwynebu o ganlyniad i bolisïau ymfudo Llywodraeth y DU. Rwy'n awgrymu ei fod yn darllen y cofnod o'r drafodaeth a gawsom ynglŷn â hynny. Byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn clywed ei farn ar system fewnfudo lle mae lefelau'r cyflogau'n gwbl anghydnaws ag anghenion economi Cymru, lle nad yw'r proffil sgiliau'n cyfateb mewn unrhyw ffordd i anghenion ein heconomi a lle mae wedi'i gynllunio yn gyfan gwbl o safbwynt de-ddwyrain Lloegr. [Torri ar draws.] Credaf fod cyfle yma mewn gwirionedd. Credaf yma, i Lywodraeth y DU, wrth ailgynllunio—. Byddem eisiau gweld system ymfudo wahanol iawn. Byddem eisiau gweld system—[Torri ar draws.]—sy'n rhoi trefniadau ffafriol i'r Undeb Ewropeaidd—[Torri ar draws.]—ac yn clymu hynny'n agosach wrth gyflogaeth. Ond os yw Prif Weinidog y DU yn cyflwyno newidiadau i'r system honno, mae cyfle yma iddo adlewyrchu anghenion yr economi yng Nghymru mewn ffordd nad yw'n cael ei wneud o gwbl yn y cynigion presennol.
A gaf fi wneud y pwynt, pan fydd Gweinidog yn ceisio ateb cwestiwn, nad yw'n helpu os yw'r Aelod sydd wedi gofyn y cwestiwn yn gweiddi 'Sothach' ar draws y Siambr—[Anghlywadwy.] Nid yw'n help i graffu da.
Cwestiwn 3—Mick Antoniw.
3. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ynghylch ehangu mynediad at gyfiawnder yng Nghymru ar ôl Brexit? OAQ54955
Mae'r Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru wedi canfod nad oes mynediad priodol at gyfiawnder ar gael yng Nghymru, ac na ellir ond mynd i'r afael ag ef o ddifrif drwy drosglwyddo'r awdurdod cyfiawnder i Gymru. Bydd Brexit yn lleihau mynediad at gyfiawnder ymhellach, er enghraifft drwy amddifadu mynediad i bobl Cymru at Lys Cyfiawnder yr Undeb Ewropeaidd a siarter hawliau sylfaenol yr UE.
Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Gwnsler Cyffredinol. Mae'n bwysig iawn ein bod yn deall rhai o'r newidiadau sy'n debygol o ddigwydd yn dilyn Brexit. Mae'n amlwg iawn na chawn amddiffyniadau sylfaenol yr Undeb Ewropeaidd o ran hawliau cyflogaeth. Yn barod, mae nifer o ganlyniadau anffafriol i'r hyn a allai ddigwydd o ran deddfwriaeth cyflogaeth. Mae Llywodraeth y DU wedi nodi ei bod yn bwriadu diddymu Deddf Hawliau Dynol 1998. Mae hefyd yn bwriadu dileu neu gyfyngu ar allu adolygiad barnwrol mewn perthynas â gweithredoedd y Llywodraeth. Mae hefyd wedi nodi ei bod eisiau ymyrryd ag annibyniaeth y farnwriaeth drwy newid y system benodi ar gyfer barnwyr.
Mae i bob un o'r rhain ganlyniadau arwyddocaol iawn o ran tanseilio rheolaeth y gyfraith, ac mae hynny'n gwneud eich pwynt penodol ynghylch colli, mae'n debyg, ymbarél cyfreithegol Llys Cyfiawnder Ewrop yn un arwyddocaol iawn. A ydych yn cytuno â mi mai un o'r ffyrdd ymlaen yn awr, efallai, nid yn unig o ran datganoli swyddogaethau cyfiawnder, ond bod angen inni edrych ar ffyrdd o rymuso ein dinasyddion ein hunain yng Nghymru mewn gwirionedd, ac mae angen inni ystyried creu cynllun cymorth a chynghori cyfreithiol Cymreig sy'n sefyll ar ei draed ei hun yng Nghymru i rymuso dinasyddion yn y byd newydd hwn rydym yn debygol o'i wynebu?
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn atodol pwysig. Gwn y bydd yn rhannu fy siom nad yw'r Bil cytundeb ymadael bellach yn cynnwys yr amddiffyniad i hawliau gweithwyr sy'n deillio o'r UE a oedd wedi'i gynnwys yn y Bil blaenorol, heb i unrhyw achos synhwyrol na rhesymol gael ei wneud dros y newid hwnnw. Mewn cyd-destun lle mae Llywodraeth y DU yn ceisio bwrw ymlaen ag agenda ddadreoleiddiol radical, gwn y bydd yn rhannu fy mhryderon ynghylch yr hyn y mae hynny'n ei olygu yn ymarferol. Mae'n sôn am y Goruchaf Lys, a gwelsom, wrth gwrs, y penderfyniad yn achos Unsain lle roedd Llywodraeth y DU yn ceisio cyfyngu mynediad at dribiwnlysoedd cyflogaeth, ac roeddwn yn falch iawn ynglŷn â phenderfyniad y Goruchaf Lys mewn perthynas â hynny.
O ran y cwestiwn penodol y mae'n ei godi mewn perthynas â chymorth cyfreithiol a chyngor cyfreithiol, mae comisiwn Thomas yn cynnig, yn ddiddorol iawn yn fy marn i, y dylid dod â chyllid ar gyfer cymorth cyfreithiol a chyllid ar gyfer cyngor y trydydd sector ynghyd yng Nghymru mewn un gronfa o dan gyfarwyddyd strategol corff annibynnol. Credaf fod hynny'n argymhelliad pwysig iawn i'r comisiwn ei wneud. Yn amlwg, fel gyda llawer o argymhellion eraill, byddwn yn ystyried yn ofalus sut y cyflwynwn ein safbwynt i Lywodraeth y DU.
6. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael ynghylch effaith Brexit ar y sector modurol yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ54963
Rydym yn cael trafodaethau rheolaidd â chwmnïau yn y sector, gyda Fforwm Modurol Cymru, a chyda chyrff cenedlaethol y sector ynghylch effaith bosibl Brexit. Mae cael perthynas fasnachu barhaus a dirwystr gyda'r UE yn bwysig iawn i'r sector modurol, ac yn wir, i sectorau eraill.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei ateb. Wrth gwrs, fe fydd yn ymwybodol fod blwyddyn wedi bod, bron i'r diwrnod, ers i ffatri fodurol Schaeffler yn Llanelli gyhoeddi y byddai'n cau gan arwain at golli 220 o swyddi—ac nid swyddi yn unig, ond swyddi o ansawdd da, swyddi a allai gynnal teuluoedd yn gynhyrchiol. Ni fydd angen i mi ddweud wrth y Gweinidog fod pryderon gwirioneddol yn y sector ynghylch mynediad at farchnadoedd. Pa drafodaethau pellach y gallai eu cael gyda Llywodraeth y DU i geisio sicrhau bod gennym lais—Llywodraeth Cymru ar ran y diwydiant—o amgylch y bwrdd yn ystod y negodiadau, mewn perthynas â'r cytundeb masnach newydd a fydd gennym, gobeithio, gyda'r Undeb Ewropeaidd ac unrhyw gytundebau masnach rydd eraill, i sicrhau na cheir unrhyw ganlyniadau anfwriadol? Er enghraifft, caniatáu mynediad at farchnadoedd i gerbydau a rhannau cerbydau o'r tu allan i Gymru a allai gael effaith negyddol ar y gadwyn gyflenwi y mae cwmnïau wedi gwneud llawer o ymdrech i'w datblygu dros nifer o flynyddoedd.
Diolch i Helen Mary Jones am ei chwestiwn pellach. Credaf mai un o'r pwyntiau sy'n amlwg o'i chwestiwn yw lefel yr integreiddio yn y sector gweithgynhyrchu ceir drwy wahanol rannau o'r DU. Gall effeithiau mewn un rhan o'r DU effeithio'n sylweddol iawn ar gwmnïau yn y gadwyn gyflenwi a allai fod mewn gwledydd eraill yn y DU. Credaf fod hyn yn mynd at wraidd yr angen i sicrhau bod y math o berthynas sydd gan Gymru a'r DU â'r Undeb Ewropeaidd yn dilyn Brexit yn un sydd—.
A chroesawaf yr arwydd yn y datganiad gwleidyddol fod Prif Weinidog y DU yn ceisio sicrhau perthynas di-dariff; yn amlwg, mae hynny i'w groesawu. Mae'r tariffau, tariffau Sefydliad Masnach y Byd, ar geir oddeutu 10 y cant, fel y gŵyr, a byddent yn niweidio'r sector yng Nghymru a ledled y DU yn ddifrifol. Ond mae hefyd yn bwysig sicrhau cyn lleied â phosibl o rwystrau di-dariff yn y negodiadau hynny hefyd. Mewn gwirionedd, ni roddir y sicrwydd hwnnw yn yr un modd yn hollol yn y datganiad gwleidyddol, er fy mod yn gobeithio mai i'r cyfeiriad hwnnw y mae Llywodraeth y DU yn ceisio mynd â'r berthynas.
Amcangyfrifodd PricewaterhouseCoopers yn ddiweddar y gallai cludo nwyddau i'r Almaen o'r DU, sy'n siwrnai y gellir ei chyflawni mewn 12 awr ar hyn o bryd, gymryd hyd at 72 awr pan na fydd y DU yn rhan o'r undeb tollau. Yn amlwg, mewn sector lle mae cludo cydrannau mewn amser byr ac ati mor bwysig i gynhyrchiant, gallai'r math hwnnw o oedi ychwanegol fod yn anfanteisiol iawn. Dyna'r mathau o ystyriaethau—nad ydynt efallai'n unigryw i Gymru, ond mae gennym gwmnïau yn y gadwyn gyflenwi sy'n croesi'r DU—y byddem yn dymuno dadlau drostynt os bydd gennym rôl yn y negodiadau hynny, fel y dylai fod gennym.
Nid yw John Griffiths yma i ofyn cwestiwn 7. Cwestiwn 8, Vikki Howells.
Ni ofynnwyd cwestiwn 7 [OAQ54968].
8. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o effaith Brexit ar hawliau plant? OAQ54948
Bydd deddfwriaeth Llywodraeth Cymru sy’n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn wrth ddatblygu neu adolygu polisïau neu ddeddfwriaeth yn gymwys ar ôl Brexit, a bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i hyrwyddo hawliau plant yn ein trafodaethau â Llywodraeth y DU ar y berthynas â'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Gwn fod penderfyniad Llywodraeth Dorïaidd y DU i roi'r gorau i gynigion i amddiffyn plant sy'n ffoaduriaid rhag y Bil ymadael â'r UE wedi'i drafod yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog yr wythnos diwethaf, ac rwy'n siŵr, fel finnau, eich bod wedi bod yn gwylio'r datblygiadau mewn perthynas â gwelliant Dubs hefyd. Mae llawer o ffoaduriaid yn blant, felly mae hon yn weithred arbennig o greulon, yn enwedig o gofio mai 5 y cant yn unig o geisiadau am loches i blant yn Ewrop a wneir yn y DU mewn gwirionedd; mae hynny'n llai na 5,000 o blant agored i niwed, o'r ffigurau ar gyfer hanner cyntaf 2019. Cawsom ymosodiad chwyrn gan y Prif Weinidog ar y polisi, ond a gaf fi ofyn: a wnewch chi, fel Gweinidog Brexit, ymrwymo i godi'r penderfyniad hwn ym mhob trafodaeth briodol gyda Gweinidogion y DU, a sicrhau nad yw plant yn dioddef yn anghymesur yn sgil Brexit?
Mae'r mater y mae'r Aelod wedi'i godi heddiw yn y Siambr yn un pwysig iawn. Yn amlwg, rwy'n adleisio'r pwynt a wnaeth y Prif Weinidog yr wythnos diwethaf mewn perthynas â’r mater pwysig hwn. Yr hyn sy'n hynod i mi yw bod y ddeddfwriaeth flaenorol yn cynnwys dyletswydd ar ran Llywodraeth y DU mewn gwirionedd i negodi parhad trefniadau Dulyn III—y trefniadau ar gyfer aduniadau teuluol ffoaduriaid—ac felly mae gwanhau hynny, yn fy marn i, yn weithred eithriadol. Fe fydd yn ymwybodol fod y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip, ac yn wir, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref i egluro safbwynt Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r mater hwn. Credaf fod hynny'n mynd at wraidd y math o wlad y dymunwn i'r DU fod wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, a chredaf fod gwanhau'r ddeddfwriaeth yn beryglus yn hynny o beth. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn parhau i ddatblygu ei safbwynt datganedig blaenorol, hyd yn oed os nad yw hynny ar wyneb y ddeddfwriaeth. Gwn y byddai hi a llawer o Aelodau eraill yn y Siambr hon yn teimlo'n gryf iawn y dylent wneud hynny, fel rwyf innau.
Nid yw David Rowlands yn y Siambr i ofyn cwestiwn 9. Felly, cwestiwn 10, Janet Finch-Saunders.
Ni ofynnwyd cwestiwn 9 [OAQ54950].
10. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Llywodraeth y DU ar ffyrdd o gryfhau undeb Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon ar ôl Brexit? OAQ54945
Yn ddiweddar, cyfarfûm ag uwch Weinidogion y DU a chefais drafodaethau adeiladol ar yr ymrwymiad a rennir gennym i'r undeb. Ond fis Mawrth, bydd dwy flynedd wedi bod ers dechrau'r adolygiad o gysylltiadau rhynglywodraethol, a fis Mehefin, bydd tair blynedd wedi bod ers ein papur 'Brexit a Datganoli'. Mae angen inni wneud cynnydd ar unwaith ar ddiwygio.
Gwych. Yn gynharach y tymor hwn, fe sonioch chi am yr angen i rannu mwy o weledigaeth ynglŷn â'r modd y llywodraethir y Deyrnas Unedig, a diwylliant newydd o barch cyffredin a chydraddoldeb yn y math o gysylltiadau rhynglywodraethol. Mae neges debyg yn cael ei chyfleu yn y ddogfen 'Diwygio ein Hundeb: Cydlywodraethu yn y DU'. Er enghraifft, mae cynnig 1 yn sôn am gynghrair wirfoddol o genhedloedd, a chynnig 8 am yr angen i'r pedair Llywodraeth weithio ar sail partneriaeth gyfartal. Croesawaf y ffaith nad ar ein perthynas â Senedd Ei Mawrhydi yn unig y mae'r ffocws, ond ar bob un o’r pedair deddfwrfa yn wir. Un o ganlyniadau Brexit yw ein bod wedi gweld Llywodraeth Cymru yn gweithio ar y cyd â Llywodraeth yr Alban. Gan fod Cynulliad a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon wedi ailgychwyn bellach, a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw fwriad i gryfhau ei pherthynas rynglywodraethol ei hun â Stormont? Ac os felly, sut?
Yn gyntaf, a gaf fi achub ar y cyfle a gyflwynir gan gwestiwn yr Aelod i ddweud fy mod yn croesawu ailgychwyn rhannu grym yng Ngogledd Iwerddon ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at weithio gyda Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon? Os caf, hoffwn achub ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i waith gwasanaeth sifil Gogledd Iwerddon sydd, o dan amgylchiadau anodd, wedi cynrychioli Gogledd Iwerddon mewn llawer o fforymau rhynglywodraethol yn effeithiol dros ben, os caf ddweud.
Mae'n llygad ei lle i ddweud, a chredaf ei fod ymhlyg yn ei chwestiwn, y bydd Llywodraeth Cymru bob amser yn manteisio ar bob cyfle, lle mae ganddi fuddiannau a rennir gydag unrhyw Lywodraeth arall yn y DU, Llywodraeth ddatganoledig neu Lywodraeth y DU, i gynrychioli buddiannau pennaf Cymru. Credaf ein bod wedi bod yn greadigol ac yn ddychmygus yn y cynigion a ddatblygwyd gennym ar gyfer cryfhau cysylltiadau rhynglywodraethol a sicrhau eu bod yn seiliedig ar barch cyffredin a chydraddoldeb a chyfranogiad, fel y noda'r cwestiwn.
Ceir sawl ffordd y caiff hynny ei amlygu, ac mae'r ddogfen 'Diwygio ein Hundeb' yn eu nodi mewn mwy o fanylder. Mae'n adeg bwysig, yn fy marn i, i Lywodraeth y DU gydnabod ein bod mewn byd gwahanol wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd, a bod angen iddynt edrych o'r newydd ar gyfansoddiad y DU. Rydym wedi ymgysylltu'n adeiladol â chynigion cadarnhaol. Credwn eu bod yn rhesymol, credwn eu bod yn synhwyrol, credwn eu bod yn angenrheidiol ar gyfer llwyddiant yr undeb yn y dyfodol, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn eu derbyn yn y ffordd honno.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf, felly, ar ein hagenda ni yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol). Dwi'n galw ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i wneud y cynnig, Lesley Griffiths.
Cynnig NDM7231 Lesley Griffiths
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai darpariaethau yn y Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol), i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gael eu hystyried gan Senedd y DU.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Lywydd. Croesawaf y cyfle i egluro cefndir y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Cyflwynwyd y Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol), y Bil taliadau uniongyrchol, gan Lywodraeth y DU ar 9 Ionawr 2020. Mae'r Bil hwn yn rhoi sylfaen gyfreithiol i Lywodraethau'r pedair gwlad barhau i weithredu'r cynllun taliadau uniongyrchol yn 2020, gan roi sefydlogrwydd mawr ei angen i’n ffermwyr yn y cyfnod hwn o ansicrwydd wrth i'r Deyrnas Unedig baratoi i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Bydd Bil y cytundeb ymadael, os caiff ei dderbyn gan Senedd y DU, o’i ddarllen ynghyd â’r cytundeb ymadael, yn datgymhwyso rheoliad y taliadau uniongyrchol a deddfwriaeth gysylltiedig arall yr UE sy’n llywodraethu cynllun 2020 yma yn y DU. Bydd y Bil taliadau uniongyrchol yn ymgorffori deddfwriaeth yr UE sy'n llywodraethu'r cynllun taliadau uniongyrchol yn 2020 mewn cyfraith ddomestig, ac yn darparu pwerau gwneud rheoliadau â therfyn amser i ddiwygio'r ddeddfwriaeth gorfforedig, gan sicrhau ei bod yn weithredadwy ar ôl i'r DU adael yr UE. Nid yn unig y bydd hyn yn caniatáu i ni barhau i wneud taliadau i ffermwyr yn 2020, bydd hefyd yn caniatáu i ni barhau i fonitro, archwilio a gorfodi safonau trawsgydymffurfio.
Er mwyn sicrhau bod y pwerau cyfreithiol angenrheidiol ar waith erbyn y diwrnod ymadael, mae Llywodraeth y DU wedi cyflwyno'r Bil taliadau uniongyrchol drwy broses gyflym, a disgwylir i Gydsyniad Brenhinol gael ei roi erbyn 31 Ionawr. O ganlyniad i'r daith seneddol gywasgedig hon, ni fu modd i bwyllgor graffu ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil hwn. Fodd bynnag, wrth benderfynu a ddylid argymell cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil hwn, rwyf wedi ystyried y sylwadau a wnaed gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig a'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn ystod eu gwaith craffu ar Fil amaethyddiaeth y DU.
Mae'r darpariaethau yn y Bil taliadau uniongyrchol wedi'u cyfyngu i reoliadau taliadau uniongyrchol sy'n berthnasol i flwyddyn gynllun 2020 yn unig, ac maent yn hanfodol i sicrhau bod cymorth y taliadau uniongyrchol i'r sector amaethyddol yn parhau’n syth ar ôl Brexit. O ystyried yr amser sydd ar gael, credaf fod Bil y DU yn gyfrwng priodol i gyflawni hyn. Gan fod diben y Bil taliadau uniongyrchol yn ymwneud ag amaethyddiaeth a'r polisi amaethyddol cyffredin, rwyf o'r farn ei fod yn gwneud darpariaeth ynghylch materion datganoledig. Fodd bynnag, rwy'n fodlon y dylid gwneud y darpariaethau hyn yn y Bil ar gyfer Cymru, er mwyn sicrhau bod gennym y pwerau angenrheidiol mewn pryd i barhau i gefnogi ffermwyr drwy'r cynllun taliadau uniongyrchol.
Fel rydym wedi'i ddweud yn glir wrth Lywodraeth y DU, roedd ein hargymhelliad i'r Senedd wrthod rhoi cydsyniad i Fil y cytundeb ymadael yn seiliedig ar bryderon penodol gyda'r Bil penodol hwnnw. Nid yw'r argymhelliad hwn, na phenderfyniad y Senedd, yn effeithio ar gysylltiadau rhynglywodraethol ehangach. Felly, gofynnaf i Aelodau'r Cynulliad gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn ar gyfer y Bil taliadau uniongyrchol, ac rwy'n gwneud y cynnig.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, Mike Hedges.
Diolch, Lywydd. Rwy’n falch o allu cyfrannu at y ddadl heddiw ar ran y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig. Cyn trafod ein barn ynglŷn â’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol, hoffwn nodi mai ychydig iawn o amser a gawsom i'w ystyried ac i adrodd arno. Yn yr amser a oedd ar gael, ni fu modd ystyried y cynnig cydsyniad deddfwriaethol na darpariaethau'r Bil yn fanwl iawn. Wedi dweud hynny, yr hyn a wyddom yw y bydd y Bil yn galluogi Llywodraeth Cymru i barhau i dalu ffermwyr ar ffurf taliadau uniongyrchol yn y cyfnod yn syth ar ôl Brexit.
Ers canlyniad y refferendwm ar Ewrop, mae'r pwyllgor wedi dangos cryn ddiddordeb yn nyfodol cymorth amaethyddol ar ôl Brexit. Yn ein hadroddiad ar Fil amaethyddiaeth blaenorol y DU, gwnaethom dynnu sylw at yr ansicrwydd digyffelyb a oedd yn wynebu ffermwyr Cymru yn y cyfnod yn arwain at Brexit. Rydym wedi nodi’n glir yr angen i ddarparu sefydlogrwydd i ffermwyr drwy sicrhau parhad y taliadau uniongyrchol yn y cyfnod yn syth ar ôl Brexit. Gwyddom fod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno system newydd o gymorth ariannol i ffermwyr, ac edrychwn ymlaen at graffu ar gynigion terfynol y Llywodraeth pan gânt eu cyflwyno.
Ond mae unrhyw system newydd yn bell i ffwrdd o hyd. Tan hynny, bydd angen i ffermwyr ddibynnu ar y system y byddwn yn ei hetifeddu gan yr Undeb Ewropeaidd, y mae taliadau uniongyrchol yn rhan fawr iawn ohoni. Bydd y Bil yn galluogi Llywodraeth Cymru i barhau i ddarparu taliadau uniongyrchol i ffermwyr Cymru wrth i ni adael yr UE. Gyda therfyn amser Brexit ychydig ddyddiau i ffwrdd yn unig, nid yw peidio â deddfu yn opsiwn—mae cynnwys darpariaethau yn y Bil yn bragmatig ac yn angenrheidiol. Felly, nid yw'r pwyllgor yn gweld unrhyw reswm dros wrthwynebu i’r Cynulliad gytuno ar y cynnig sy’n gysylltiedig â’r cynnig cydsyniad deddfwriaethol, a buaswn yn gobeithio y bydd pob Aelod yn gwneud hynny, gan y byddai peidio â gwneud hynny'n drychinebus i ffermwyr Cymru.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw.
Diolch, Lywydd. Fe wnaethom ystyried y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil Taliadau Uniongyrchol i Ffermwyr (Parhad Deddfwriaethol) yn ein cyfarfod ddydd Llun yr wythnos hon, a chyflwynasom ein hadroddiad ddoe. O ystyried yr amser cyfyngedig a oedd gennym, ni fu modd i ni edrych yn fanwl ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol a'r cynigion yn y Bil. Fodd bynnag, rydym wedi dod i dri chasgliad. Cyn sôn am ein casgliad cyntaf, hoffwn nodi'n fyr y pŵer gwneud rheoliadau yng nghymal 3. Mae gan gymal 3, sy’n ymwneud â chadw deddfwriaeth yr UE, bum pŵer gwneud rheoliadau, ac mae pob un ohonynt yn caniatáu addasu deddfwriaeth sylfaenol, ac felly, maent yn bwerau Harri'r Wythfed. Rydym yn croesawu'r ffaith y bydd rheoliadau cymal 3 yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol a wnaed neu'r weithdrefn gadarnhaol ddrafft.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Mae ein casgliad cyntaf yn ymwneud â'r pwerau gwneud rheoliadau yng nghymal 6(1), y gall Gweinidogion Cymru a'r DU eu harfer. Mae'n bŵer Harri'r Wythfed, ond bydd y rheoliadau'n cael eu gwneud o dan y weithdrefn negyddol. Ein safbwynt ers tro yw y dylai rheoliadau sy'n caniatáu i ddeddfwriaeth sylfaenol gael ei haddasu fod yn ddarostyngedig i'r weithdrefn gadarnhaol. Mae ein casgliad cyntaf yn ailadrodd y pwynt hwn.
Mae'r pŵer Harri'r Wythfed yng nghymal 6(1) hefyd yn berthnasol i’n hail gasgliad, sy’n ymwneud â diwygio Deddf Llywodraeth Cymru 2006, mater a godwyd ddoe yn ystod y ddadl ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer Bil y cytundeb ymadael â'r UE. Rydym yn pryderu ynghylch diffyg ymddangosiadol unrhyw gyfyngiad ar wyneb y Bil hwn o ran atal diwygio Deddf 2006. Mae hyn yn arbennig o bwysig gan y gall y pŵer Harri'r Wythfed yng nghymal 6(1), pŵer y gellid ei ddefnyddio i ddiwygio Deddf 2006, gael ei arfer gan reoliadau sy'n ddarostyngedig i'r weithdrefn negyddol. Mae ein hail gasgliad yn ailadrodd ein safbwynt sefydledig y dylid cyflawni unrhyw addasiad i Atodlen 7A neu 7B i Ddeddf 2006 drwy'r broses a nodir yn adran 109 y Ddeddf honno.
Mae ein trydydd casgliad yn ymwneud â Gweinidogion y DU yn gwneud rheoliadau mewn meysydd datganoledig. Ar hyn o bryd, mae Rheol Sefydlog 30C yn ymwneud â Gweinidogion y DU yn gwneud rheoliadau mewn meysydd datganoledig o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018. Ein barn gyffredinol yw y dylid ymestyn Rheol Sefydlog 30C i fod yn berthnasol i reoliadau a wneir gan Weinidogion y DU mewn meysydd datganoledig gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru o dan unrhyw Ddeddf sy'n gysylltiedig â Brexit. Mae ein trydydd casgliad yn adlewyrchu'r safbwynt hwn.
Cyn cloi, hoffwn sôn am y ddarpariaeth fachlud sy'n berthnasol i reoliadau a wneir o dan adran 3. Rydym yn cydnabod y bydd y pwerau gwneud rheoliadau yng nghymalau 3(1) a 3(3) i wneud y ddarpariaeth briodol i atal neu unioni unrhyw ddiffyg yng nghyfraith yr UE a gedwir sy'n llywodraethu cynllun taliadau uniongyrchol y PAC yn machlud ar 31 Rhagfyr 2020. Fe wnaethom nodi bod y Gweinidog wedi ei alw'n amddiffyniad pwysig. Fodd bynnag, hoffwn dynnu sylw at gymal 6. Nid yw'r pwerau gwneud rheoliadau yng nghymal 6 yn ddarostyngedig i derfyn amser o'r fath.
Diolch, Ddirprwy Lywydd.
Diolch. A gaf fi alw ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i ymateb?
Diolch, Ddirprwy Lywydd, a diolch i Mike Hedges, Cadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, ac i Mick Antoniw, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, am eu sylwadau. Credaf fod Mike Hedges wedi egluro'n gryno iawn pam fod angen y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, a diolch iddo am ei gefnogaeth.
Mewn perthynas â sylwadau Mick Antoniw, rwyf wedi darllen eich adroddiad a ddaeth o'ch cyfarfod ddydd Llun, ac os caf ddweud, mewn perthynas â'r pwerau Harri'r Wythfed, nodaf fod yn well gennych weithdrefn gadarnhaol, ond o ystyried cwmpas cul iawn y pŵer a'r ffaith bod unrhyw ddarpariaethau canlyniadol a wneir yn debygol o ymwneud â materion technegol iawn, rydym o'r farn fod y weithdrefn penderfyniad negyddol yn briodol.
Mewn perthynas â'r ddarpariaeth fachlud sy'n berthnasol i bwerau gwneud rheoliadau, unwaith eto, o ystyried cwmpas cyfyngedig iawn y pŵer yng nghymal 6(1), nad yw ond yno, mewn gwirionedd, i fynd i'r afael ag unrhyw faterion canlyniadol sy'n codi o'r darpariaethau eraill yn y Bil cul iawn hwn, mae terfyn amser ar y pŵer yn ddiangen yn yr achos hwn.
O ran eich trydydd casgliad ynghylch Gweinidogion y DU yn gwneud rheoliadau mewn meysydd datganoledig, rwy'n gobeithio fy mod wedi egluro yn fy sylwadau agoriadol pam y gwnaethom hyn, ond mewn perthynas ag ymestyn Rheol Sefydlog 30C, mater i'r Pwyllgor Busnes fyddai hynny, Ddirprwy Lywydd, ond mae'n dal i fod yn fwriad gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod sylw'r Senedd yn cael ei dynnu at unrhyw reoliadau a wneir gan Weinidogion y DU mewn meysydd datganoledig gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru. Diolch.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cwestiynau amserol oedd eitem 4. Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau amserol.
Eitem 5 yw'r datganiadau 90 eiliad, ac mae gennym un y prynhawn yma—y Llywydd, Elin Jones.
Hanner can mlynedd yn ôl, ym mis Ionawr 1970, sefydlwyd elusen arloesol yng Ngheredigion ar gyfer pobl ddall, gan gynnig y gwasanaeth cyntaf o'i fath yng Nghymru ac yn y Deyrnas Gyfunol, gwasanaeth a fyddai'n galluogi pobl ddall Ceredigion i glywed darlleniadau o'r newyddion lleol diweddaraf yn y wasg. Papur Sain Ceredigion oedd hwnnw.
Sefydlwyd y papur sain gan Ronald Sturt, darlithydd yng Ngholeg Llyfrgellyddiaeth Cymru yn Llanbadarn Fawr. I ddechrau, 18 o bobl oedd yn derbyn recordiadau o leisiau lleol yn darllen straeon o'r wasg leol ar gasetiau tâp. Erbyn heddiw, mae'r recordiadau ar declyn USB, gyda dros 100 o wrandawyr rheolaidd i'r papur sain a mwy na 60 o wirfoddolwyr yn cyfrannu'n rheolaidd. Mae'r recordiadau'n cael eu cyhoeddi'n wythnosol ac mae'r arlwy'n cynnwys y Cambrian News, Golwg, ac Y Cymro. Mae un darllenwraig, Eileen Sinnet Jones, wedi gwirfoddoli am yr hanner can mlynedd yn ddi-dor. Am gyfraniad gan Eileen.
Hoffwn longyfarch Papur Sain Ceredigion am dorri tir gwbl newydd yn 1970, am hanner can mlynedd o wasanaeth, ac am ddod â'r newyddion yn fyw i'r bobl hynny sy'n methu ei weld na'i ddarllen, yn y Gymraeg a'r Saesneg, yng Ngheredigion a thu hwnt.
Eitem 6 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r Ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv): Cefnogaeth mewn Profedigaeth ar ôl Hunanladdiad, a galwaf ar Lynne Neagle i gyflwyno'r cynnig. Lynne.
Cynnig NDM7211 Lynne Neagle, Dai Lloyd, David Melding
Cefnogwyd gan Angela Burns, David Rees, Jack Sargeant, Jayne Bryant, Joyce Watson, Mark Isherwood
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod bod colli rhywun i hunanladdiad yn golled unigryw o ddinistriol i deuluoedd, ffrindiau a chymunedau cyfan.
2. Yn nodi'r cymorth cyfyngedig sydd ar gael yng Nghymru i gefnogi'r rhai sy'n dioddef profedigaeth drwy hunanladdiad.
3. Yn nodi bod colli rhywun i hunanladdiad yn ffactor risg mawr ar gyfer marw drwy hunanladdiad a bod cymorth i'r rhai sydd wedi cael profedigaeth yn rhan hanfodol o atal hunanladdiad.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau ar frys bod cymorth ar gael i'r rhai sydd mewn galar ar ôl hunanladdiad ledled Cymru fel rhan o lwybr ôl-gyflawni cynhwysfawr i Gymru. Wrth wneud hynny, rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau bod gwelliannau i wasanaethau a'r llwybr newydd yn cael eu llunio ar y cyd gan y rhai sydd wedi byw drwy brofedigaeth hunanladdiad.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon ar brofedigaeth ar ôl hunanladdiad. Hoffwn ddiolch i Dai Lloyd AC a David Melding AC am gyd-gyflwyno'r cynnig gyda mi heddiw, ac i Dai Lloyd am gloi'r ddadl. Hoffwn ddiolch hefyd i'r holl Aelodau sydd wedi cefnogi'r cynnig.
Heddiw, rwyf am ddechrau drwy gydnabod bod colli rhywun i hunanladdiad yn golled unigryw o ddinistriol. Mae'n gadael pobl mewn lle tywyll iawn. Nawr, gwn fod galar yn beth personol iawn, a bod pawb yn ei brofi yn eu ffordd eu hunain ac yn ymdopi'n wahanol. Nid wyf yn bwriadu bychanu effaith profedigaethau eraill mewn unrhyw ffordd, ond er mwyn sicrhau y rhoddir y gefnogaeth gywir i'r rheini sydd wedi cael profedigaeth drwy hunanladdiad, mae'n rhaid i ni gydnabod y ffyrdd y mae'n wahanol i fathau eraill o brofedigaeth a pha mor unigryw o ddinistriol ydyw. Yn wir, mae'n anodd ei roi mewn geiriau, hyd yn oed. Yn ogystal â'r brofedigaeth dorcalonnus o golli rhywun rydych yn eu caru, yn aml ceir stigma ac arwahanrwydd, teimladau dinistriol o euogrwydd, ac oes o ofyn, 'Beth os?', 'O na bai', ac yn anad dim, 'Pam?'—cwestiwn na fydd rhai pobl byth yn gallu dod o hyd i'r ateb iddo.
Gall colli rhywun i hunanladdiad gael effaith fawr hefyd ar bobl ymhell y tu hwnt i deulu a ffrindiau agos yr ymadawedig. Rwyf wedi disgrifio hunanladdiad o'r blaen fel craig fawr yn cwympo i mewn i bwll. Mae'r tonnau'n crychdonni tuag allan ac maent yn eang ac yn bellgyrhaeddol.
Bob blwyddyn yng Nghymru, collir oddeutu 300 i 350 o fywydau drwy hunanladdiad. Arferid dweud bod pob hunanladdiad yn effeithio ar chwech o bobl, ond mae ymchwil fwy diweddar wedi canfod bod 135 o bobl yn cael eu heffeithio mewn gwirionedd. Mae colli rhywun i hunanladdiad yn dinistrio teuluoedd, ffrindiau a chymunedau cyfan. Gwyddom hefyd fod colli rhywun i hunanladdiad yn ffactor risg sylweddol ar gyfer marw drwy hunanladdiad, yn enwedig i bobl ifanc sydd mewn grŵp risg uchel. Felly, cefnogaeth i'r rheini sydd mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad yw un o'r pethau mwyaf effeithiol y gallwn eu gwneud i atal pobl rhag marw drwy hunanladdiad.
Bydd yr Aelodau'n cofio i’r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, o dan gadeiryddiaeth fedrus Dai Lloyd, gynnal ymchwiliad pwysig i atal hunanladdiad yng Nghymru yn 2018, gan gynhyrchu adroddiad o'r enw 'Busnes Pawb'. Fel rhan o'r ymchwiliad hwnnw, fe wnaethom edrych yn ofalus ar y gefnogaeth sydd ar gael i bobl sydd mewn profedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad, gan gynnwys cyfarfod â phobl sy'n byw gyda cholli rhywun i hunanladdiad.
Rwyf wedi siarad o’r blaen yn y Siambr hon am ymweliad y pwyllgor â Sefydliad Jacob Abraham yng Nghaerdydd lle cyfarfuom â grŵp o berthnasau, pob un ohonynt wedi colli meibion, gwŷr, tadau, a brodyr i hunanladdiad. Roedd un ddynes wedi colli nid un ond dau fab i hunanladdiad—sy'n atgoffa rhywun, yn gwbl dorcalonnus, o'r risg y mae profedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad yn ei chreu. Mae'n arswydus meddwl nad oedd unrhyw un o’r teuluoedd hynny wedi cael unrhyw gymorth arbenigol, heblaw am y gefnogaeth a gynigiai'r sefydliad. Nid oeddent wedi cael 'Cymorth wrth Law Cymru' hyd yn oed, llyfryn rhagorol Llywodraeth Cymru ar brofedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad. Nawr, nid yw Sefydliad Jacob Abraham yn cael unrhyw arian statudol ac mae wedi bod yn gweithredu o'r llaw i'r genau ers ei sefydlu gan Nicola Abraham ar ôl iddi golli ei mab Jacob i hunanladdiad yn 2015. Yn ‘Busnes Pawb', dywedodd y pwyllgor yn glir iawn, a dyfynnaf:
'Cawsom ein syfrdanu i glywed am y diffyg cymorth sydd ar gael i’r rhai sydd wedi dioddef profedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad.’
Dyna pam fod y pwyllgor wedi gwneud tri argymhelliad ar gymorth profedigaeth. Fe wnaethom alw am ddatblygu llwybr ôl-ymyrraeth ledled Cymru ar gyfer hunanladdiad fel blaenoriaeth ar unwaith. Fe wnaethom alw am hyrwyddo 'Cymorth wrth Law Cymru' yn fwy gweithredol, ac fe wnaethom alw ar Lywodraeth Cymru i roi ystyriaeth weithredol i ddarparu cyllid ar gyfer grwpiau cymorth i'r rheini sydd mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad. Fe wnaethom yr argymhellion hynny yn ôl ym mis Tachwedd 2018, a bellach, fwy na blwyddyn yn ddiweddarach, nid oes digon wedi newid o bell ffordd.
Croesawais y cyllid ychwanegol o £500,000 a ddarparwyd mewn ymateb i adroddiad y pwyllgor iechyd i ariannu swydd arweinydd atal hunanladdiad cenedlaethol newydd yng Nghymru a chydgysylltwyr rhanbarthol. Rwy'n cydnabod y bu oedi wrth benodi'r unigolyn hwnnw, a bod hynny wedi arafu cynnydd, ond gan fod penodiad wedi'i wneud bellach, mae gwir angen i ni symud yn gyflym. Croesawaf hefyd y 1,500 copi o 'Cymorth wrth Law Cymru' a argraffwyd gan Lywodraeth Cymru yn dilyn ein hadroddiad, ond rwy'n dal i gyfarfod pobl sydd wedi cael profedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad nad ydynt wedi cael copi o’r adnodd hanfodol hwn, nac wedi cael gwybod amdano. Ac ni wnaed unrhyw fuddsoddiad mewn grwpiau cymorth, ac yn wir, mae’r grŵp olaf ar gyfer goroeswyr profedigaeth ar ôl hunanladdiad yng Nghymru wedi dod i ben.
Bob tro y mynegais fy mhryderon ynghylch profedigaeth ar ôl hunanladdiad dros y flwyddyn ddiwethaf, tynnwyd fy sylw at adolygiad Llywodraeth Cymru o wasanaethau profedigaeth, er fy mod wedi dweud dro ar ôl tro nad wyf yn credu bod angen adolygiad arnom i ddweud wrthym fod gwasanaethau profedigaeth ar ôl hunanladdiad yn druenus o annigonol yng Nghymru. Mae'r adolygiad hwnnw bellach wedi cyflwyno ei adroddiad, ac mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n wirioneddol siomedig ag ef. Nid wyf yn cydnabod y darlun y mae'n ei baentio o'r gefnogaeth y mae'n honni ei bod ar gael ar gyfer profedigaeth ar ôl hunanladdiad. Yn ôl pob tebyg, mae chwe gwasanaeth yn cynnig cymorth profedigaeth ar ôl hunanladdiad yn Nhorfaen. Mae Caerffili, Caerdydd, Sir y Fflint, Sir Benfro, a Rhondda Cynon Taf yn gwneud yn well byth, gydag wyth yr un. Pwy fyddai'n meddwl? Yn sicr, nid y bobl y cyfarfûm â hwy sydd mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad. A bod yn deg â'r adroddiad, mae'n amlwg fod y mwyafrif—81 y cant o ddarparwyr—yn cynnig gwybodaeth a chefnogaeth ac yn cyfeirio at wasanaethau cymorth eraill, ac mae hynny, i mi, yn codi llawer o gwestiynau ynglŷn â sut beth yw'r gefnogaeth hon. A yw'n daflen, e-bost, galwad ffôn? Ac oni ddylai'r adroddiad fod wedi nodi’n glir pa fath o gefnogaeth sy'n cael ei chynnig a chan bwy? Gwyddom o'r adroddiad fod cefnogaeth arbenigol yn brin ar lawr gwlad, ond nid yw'n dweud unrhyw beth wrthym am bwy sy'n darparu'r gefnogaeth honno, pa mor hir y mae'n rhaid i bobl aros amdani nac unrhyw beth am ansawdd y gwasanaethau, nac unrhyw beth arall yn ei gylch.
Gŵyr y Gweinidog yn iawn fod hunanladdiad ymhlith pobl ifanc yn achos sy'n agos iawn at fy nghalon. Mae elusen 2 Wish Upon a Star yn darparu cefnogaeth mewn profedigaeth i deuluoedd sy'n colli plentyn neu oedolyn ifanc mewn ffordd sydyn a thrawmatig, gan gynnwys drwy hunanladdiad. Fe’i sefydlwyd gan Rhian Mannings, yn dilyn marwolaeth ei babi bach, George, a hunanladdiad trasig ei gŵr, Paul, bum niwrnod yn unig yn ddiweddarach. Yn union fel Nicola Abraham, mae Rhian wedi defnyddio'i phrofiad byw o brofedigaeth ar ôl hunanladdiad i geisio atal teuluoedd eraill rhag dioddef yr hyn y mae hi wedi'i ddioddef. Maent yn gwneud gwaith gwych ledled Cymru. Mae'r blychau cofio y maent yn eu darparu ar gyfer teuluoedd sydd wedi colli plentyn yn yr ysbyty yn rhoi ychydig gysur ar yr adeg dywyllaf, heb os, ym mywyd unrhyw riant. Mae eu gallu i gynnig cefnogaeth yn fuan ar ôl y brofedigaeth, neu pan fo angen y gefnogaeth honno, yn achub bywydau, yn llythrennol, i rai teuluoedd. Maent hefyd yn darparu cefnogaeth fawr ei hangen ar gyfer brodyr a chwiorydd sydd mewn profedigaeth. Ac eto, er eu bod yn derbyn atgyfeiriadau gan bob bwrdd iechyd yng Nghymru, ac yn darparu gwasanaeth ym mhob adran ddamweiniau ac achosion brys a'r rhan fwyaf o adrannau gofal critigol, nid yw 2 Wish Upon a Star yn cael ceiniog o arian cyhoeddus gan unrhyw un o'r byrddau iechyd. Mae hynny'n gwbl anghywir.
Mae angen i Lywodraeth Cymru weithredu’r argymhellion yn 'Busnes Pawb' ar frys i ddatblygu strategaeth ôl-ymyrraeth ar gyfer hunanladdiad. Dylai'r strategaeth honno gael ei chydgynhyrchu gyda phobl sydd â phrofiad o brofedigaeth ar ôl hunanladdiad, a sicrhau bod cefnogaeth hyblyg ar gael i bobl pan fydd ei hangen arnynt, boed hynny’n syth ar ôl hunanladdiad, mewn chwe wythnos, neu ddwy, dair neu 10 mlynedd yn ddiweddarach. Mae’n rhaid i hynny hefyd gynnwys mynediad amserol at driniaeth arbenigol ar gyfer anhwylder straen wedi trawma, a ddioddefir yn aml gan rai sydd mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad, yn enwedig y rhai a ddaeth o hyd i'w hanwylyd.
Rydym ar ei hôl hi o gymharu â rhannau eraill o'r DU ar hyn. Mae gan Loegr lwybr ôl-ymyrraeth eisoes a allai helpu i lywio ein llwybr ni, ac mae enghreifftiau gwych o gefnogaeth mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad yn Lloegr, a llawer ohonynt wedi'u cydgynhyrchu gyda theuluoedd sydd wedi cael profedigaeth. Ond mae'n ymwneud â mwy na chefnogi unigolion yn unig; mae'n ymwneud hefyd ag ôl-ymyrraeth mewn sefydliadau lle bu marwolaeth drwy hunanladdiad, boed hynny mewn ysgol, gwasanaeth tân, ysbyty, practis meddyg teulu neu orsaf drenau. Dylem ni yn y Cynulliad hwn fod yn fwy ymwybodol na llawer am bwysigrwydd hanfodol ymateb ôl-ymyrraeth i golli ffrind a chydweithiwr i hunanladdiad. Mae'r angen am ôl-ymyrraeth hunanladdiad ym mhob ysgol yng Nghymru yn arbennig o agos at fy nghalon. Yn Lloegr, cyhoeddwyd canllawiau newydd sy'n nodi y dylid trin un achos o hunanladdiad mewn ysgol fel clwstwr posibl am fod pobl ifanc mor agored fel grŵp risg uchel ar gyfer hunanladdiad.
Rwy’n canmol y canllawiau newydd a gomisiynodd Llywodraeth Cymru gan yr Athro Ann John ar siarad am hunanladdiad gyda phobl ifanc sy'n hunanladdol ac yn hunan-niweidio, ond nid ydynt yn ddigon. Mae angen inni sicrhau bod iechyd meddwl ac atal hunanladdiad wedi'i ymgorffori yn y cwricwlwm yng Nghymru, er mwyn cyrraedd y bobl ifanc nad oes unrhyw un yn gwybod eu bod yn hunanladdol tan eu bod, yn drasig, yn cyflawni hunanladdiad. Mae’n rhaid inni sicrhau hefyd fod pob ysgol yn ymgymryd ag ôl-ymyrraeth yn dilyn hunanladdiad. Gwn fod rhai ysgolion wedi bod yn barod iawn i ddefnyddio rhaglen ôl-ymyrraeth Cam wrth Gam y Samariaid, ond mae eraill y gwn amdanynt heb wneud unrhyw beth o gwbl, heblaw am ambell sesiwn gwnsela. Rwy'n falch iawn fod gan Papyrus ganolfan yng Nghymru bellach, ac mae’n rhaid i ni sicrhau bod ysgolion yn defnyddio gwasanaethau’r sefydliad hwnnw a'r Samariaid. Ni all fod yn ychwanegiad dewisol; mae'n rhy hwyr pan fydd unigolyn ifanc arall wedi marw.
A bydd, fe fydd angen adnoddau ychwanegol i wneud hyn, ond wrth unrhyw sy'n dweud na allwn fforddio gwneud hyn, rwy'n dweud na allwn fforddio peidio. Amcangyfrifwyd bod pob achos o hunanladdiad yn costio £1.6 miliwn i bwrs y wlad. Faint yn well fyddai gwneud yr hyn y mae'r Llywodraeth yn siarad cymaint amdano a buddsoddi mewn cymorth ac ymyrraeth gynnar i'r rheini sydd mewn profedigaeth? Mae gennym bobl a sefydliadau gwych yn gweithio yn y maes hwn yng Nghymru. Hoffwn dalu teyrnged i'r Athro Ann John, sy'n cadeirio grŵp cynghori cenedlaethol Llywodraeth Cymru ar atal hunanladdiad. Mae Ann yn gweithio'n ddiflino, a diolch iddi am hynny. Ond mae'n rhaid inni sicrhau bod gan bobl fel Ann adnoddau ac ymrwymiad llawn Llywodraeth Cymru i wneud y gwaith y maent yn dymuno’i wneud.
Mae'r cyfryngau cymdeithasol yn aml yn cael sylw gwael, ac rwy'n siŵr y gall pob un ohonom ddeall hyn yma. Fodd bynnag, rwyf wedi gweld bod Twitter yn gyfle gwych i rwydweithio â phobl o'r un anian. Drwy Twitter, rwyf wedi dod i adnabod grŵp o famau sydd wedi colli plant drwy hunanladdiad. Daw rhai ohonynt o Gymru; daw eraill o fannau eraill yn y DU. Maent wedi llysenwi eu hunain yn 'The Warrior Mums', ac maent yn rhyfelwyr go iawn, a hynny bob dydd.
Felly, hoffwn gloi heddiw drwy dalu teyrnged twymgalon i'r holl famau dewr, y tadau dewr, ac i ddewrder pawb sy'n byw bob dydd gyda cholli rhywun i hunanladdiad. Ein dyletswydd ni, Weinidog, yw anrhydeddu eu dewrder, drwy weithio gyda hwy i ddarparu'r cymorth profedigaeth ar ôl hunanladdiad y mae ei ddirfawr angen yng Nghymru, ac achub bywydau wrth wneud hynny.
David Melding.
Diolch, Ddirprwy Lywydd, am fy ngalw yn y ddadl hollbwysig hon. A gaf fi ddechrau drwy dalu teyrnged i Lynne Neagle, sy'n llais ac yn arweinydd rhagorol yn y maes hwn, fel Cadeirydd y pwyllgor, ac yn gyffredinol yn ein dadleuon yma, ac sydd wedi gwneud cymaint i ddwyn y Llywodraeth i gyfrif, i ganmol y Llywodraeth pan fo'n gwneud yn dda, ond hefyd i'w hatgoffa pan fo bwlch enfawr sy'n dal i fod angen ei lenwi?
Credaf y bydd pob un ohonom sydd wedi gwasanaethu fel Aelodau Cynulliad am unrhyw gyfnod o amser wedi cael gwaith achos yn y maes hwn sy'n anodd ac yn boenus tu hwnt. Mae’n rhaid i mi ddweud bod o leiaf ddau achos yn dod i’r meddwl yn fy mhrofiad fy hun, ac roedd cymhlethdod yr achosion, yr amser oedd ei angen yn ein hymdrechion i gefnogi’r rheini yr effeithiwyd arnynt, yn aruthrol, ac o ryw werth o ran gwella gwasanaethau cyhoeddus, ond wrth gwrs, fel therapi uniongyrchol nid oedd o unrhyw ddefnydd i'r bobl roeddem yn eu cefnogi. A dyna pryd y gwelais mai'r tro cyntaf y byddai rhai o fy etholwyr yn siarad â rhywun y tu allan i'w teulu neu grŵp o ffrindiau agos ynglŷn â hyn oedd pan ddeuent i siarad am yr anawsterau a gaent i gael mynediad at gefnogaeth ddigonol.
Mae’n rhaid i mi ddweud, rwyf wedi cyfarfod â phobl sydd wedi siarad amdano hefyd—a soniodd Lynne am hyn—ac wedi rhoi tystiolaeth anhygoel. Am weithred hael yw dod i gyfarfod yma, yn yr Oriel neu'r Neuadd efallai, neu'n wir i sesiwn pwyllgor ffurfiol hyd yn oed, ac i’r grŵp hollbleidiol y mae Lynne wedi'i sefydlu hefyd, ac i sôn am eu profiadau, i roi'r dystiolaeth honno, fel y gellir lleddfu’r boen ofnadwy hon i eraill. Ac roeddech yn llygad eich lle, Lynne, yn talu teyrnged i bawb sydd wedi gwneud hynny.
Mae'n eithriadol o boenus pan fydd hunanladdiad yn digwydd ymhlith plant a phobl ifanc. Ac rwy'n talu teyrnged yma i waith Prifysgol Abertawe ac Iechyd Cyhoeddus Cymru am eu hastudiaeth thematig a gyhoeddwyd yn ddiweddar, sy’n gymorth mawr yn fy marn i i roi dealltwriaeth lawnach i ni. Ac roedd hon yn astudiaeth o bawb rhwng 10 a 17 oed a oedd, yn ôl pob tebyg, wedi cyflawni hunanladdiad. Anaml y digwyddai eu marwolaethau o ganlyniad i un rheswm yn unig, a deillient o gyfuniad cymhleth o ffactorau risg, amgylchiadau a phrofiadau niweidiol. Ond yn aml, bydd teuluoedd yn beio'u hunain ac yn dioddef euogrwydd echrydus, ac mae hynny ynddo’i hun yn cynyddu'r risg o hunanladdiad. Ac ar y pwynt hwnnw, gan y credaf ei bod yn duedd naturiol i lawer ofyn y cwestiwn, ‘Beth y gallwn fod wedi'i wneud?', neu hyd yn oed, 'Beth na wnes i?' Nid yw'r rhain yn gwestiynau y gellir eu cyfiawnhau. Mae'r amgylchiadau hyn yn llethol, ond dyna’r pethau sy'n dod i'r meddwl, ac maent yn feddyliau tywyll ac annymunol, ac yn feddyliau sy'n tanseilio penderfyniad pobl yn aml iawn, oni bai eu bod yn gallu siarad amdanynt, a chael eu cefnogi gan bobl sy'n sylweddoli mai dyma'r ymateb anochel, yn aml, y bydd pobl sydd wedi dioddef trawma o'r fath yn ei brofi.
Yn amlwg, gall gwasanaethau profedigaeth chwarae rhan hanfodol yn cefnogi'r rhai yr effeithir arnynt gan hunanladdiad. Mae'r sector gwirfoddol yn chwarae rhan fawr yma, ac maent yn arloesol iawn, ac fel y dywedodd Lynne, mae 2 Wish Upon a Star yn enghraifft ardderchog o hyn yn fy marn i. Ond ceir pethau fel Gofal mewn Galar Cruse hefyd. Maent yn darparu cefnogaeth i oddeutu 360 o bobl sydd mewn profedigaeth o ganlyniad i hunanladdiad, ac yn rhoi cymorth un i un a chymorth grŵp, a hefyd yn cynnig gwybodaeth anhygoel ynghylch y mathau o wasanaethau sydd eu hangen. Ac mae Cruse yn nodi ei bod yn hanfodol fod y gefnogaeth iawn ar gael ar yr amser iawn, a bydd hynny'n wahanol i wahanol bobl. Efallai na fydd dulliau strwythuredig iawn a dulliau therapiwtig yn bosibl ar unwaith nac yn ddymunol ar unwaith i’r rhai yr effeithir arnynt, ond bydd eu hangen yn fawr yn nes ymlaen. Felly, mae angen i chi edrych ar yr achos cyfan a'r llwybr cyfan. Ond mae Cruse wedi tynnu sylw at y ffaith mai prin iawn yw'r gwasanaethau cymorth cwnsela sydd ar gael i rai sydd mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad, a chredaf fod hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni ganolbwyntio arno y prynhawn yma yn ein dadl.
Credaf ei bod yn briodol cydbwyso ein sylwadau drwy ganmol y gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi'i ddechrau. A sylwais o’r adolygiad canol tymor, a gynhaliwyd gan Brifysgol Abertawe a Hybu Iechyd Cymru, fod strategaeth bum mlynedd Llywodraeth Cymru ar gyfer atal hunanladdiad wedi gweld cynnydd rhagorol ac wedi gwireddu’r gwaith o ddatblygu cynlluniau gweithredu lleol ar atal hunanladdiad, a’u bod yn dod yn weithredol. Ond mae angen i bob un ohonynt edrych ar ba wasanaethau profedigaeth sydd ar gael. Mae hwnnw’n faes allweddol o ran atal hunanladdiad. Fel rydym newydd glywed, mae'r rheini sydd wedi colli ffrind agos neu berthynas i hunanladdiad mewn perygl eu hunain, ond maent hefyd wedi rhoi'r mewnwelediad sydd eu hangen arnom i gynllunio gwasanaethau effeithiol. Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd.
Hoffwn ddechrau drwy ddiolch i Lynne Neagle ac eraill am gyflwyno'r ddadl hon y prynhawn yma. Fodd bynnag, mae'n hynod drist fod yn rhaid i ni wneud hyn a thrafod y pwnc hwn heddiw, nid yn unig am fod cymorth profedigaeth ar ôl hunanladdiad yn gyfyngedig, a heb fod yn ddigon da a dweud y gwir, ond am fod hunanladdiad yn dal i ddigwydd ar raddfa enfawr ac yn argyfwng iechyd cyhoeddus.
Y llynedd, siaradais yn ystod y ddadl ar atal hunanladdiad a gosodais her i bob un ohonom. Yr her oedd i bob un ohonom wneud yn well a deall a derbyn bod hunanladdiad yn fusnes i bawb. Gofynnais i'r Aelodau ac aelodau o'r cyhoedd wneud mwy i gefnogi ei gilydd ac i wneud mwy i atal hunanladdiad. Nawr, gwneuthum hyn, Ddirprwy Lywydd, am nad wyf eisiau i deulu arall brofi’r hyn y bu’n rhaid i fy nheulu i fynd drwyddo a'r hyn rydym yn parhau i fynd drwyddo. Felly, gadewch inni gofio, Ddirprwy Lywydd, na ddylem byth roi'r gorau i geisio helpu eraill, yn enwedig pan all hynny achub bywydau.
Ar ddechrau’r ddadl, soniodd Lynne Neagle fod pobl sydd mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad mewn perygl o gyflawni hunanladdiad ac mewn mwy o berygl o gyflawni hunanladdiad, ac nid yw hynny’n syndod i mi. Yn dilyn fy mhrofiad, rwy'n dioddef o iselder ac anhwylder straen wedi trawma. Felly, rwyf am i aelodau'r cyhoedd ac Aelodau'r Siambr ddeall sut beth yw bywyd i bobl mewn profedigaeth a pham ei bod mor bwysig ein bod yn gwneud mwy, a bod Llywodraeth Cymru a Llywodraethau ledled y Deyrnas Unedig yn gwneud yn well—yn gwneud yn well i gefnogi'r rheini sydd mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad ac i gefnogi'r rheini sy'n dioddef cyn ei bod yn rhy hwyr.
Felly, beth yw profedigaeth ar ôl hunanladdiad? Mae'n cynnwys nosweithiau di-gwsg; hunllefau pan fyddwch yn cysgu; methu codi o'r gwely i wynebu'r byd; ôl-fflachiadau a phryderon pan fyddwch yn codi; gwybod bod bywyd rhywun wedi dod i ben yn rhy fuan; y teimlad na fyddwch byth yn mynd i weld pêl-droed gyda'ch ffrind gorau eto; ac er y bydd eraill yn gallu symud ymlaen, y sylweddoliad na fydd eich bywyd byth yr un fath eto.
Ddirprwy Lywydd, mae’n rhaid gwella ymwybyddiaeth o sut y gall ymddygiad effeithio ar y rheini sydd wedi colli rhywun. Mae adroddiadau ar hunanladdiad yn enghraifft benodol a dylai'r rhai sy'n ceisio llywio'r mathau hyn o adroddiadau ateb y cwestiwn syml hwn: pa effaith fydd fy ngweithredoedd yn ei chael ar y rheini sydd mewn profedigaeth?
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, hoffwn sôn am wasanaethau iechyd meddwl yn gyffredinol a'r rôl y gallant ei chwarae yn atal hunanladdiad. Nawr, rydym yn llawer mwy agored wrth siarad am y mater erbyn hyn, ond fel y dywedais ar y dechrau, mae hunanladdiad a salwch meddwl yn argyfwng iechyd cyhoeddus. Rydym bob amser yn dweud y dylid trin iechyd meddwl gyda'r un brys a pharch ag iechyd corfforol, wel, mae'n bryd gweld prawf o hynny.
Ac i gloi, os caf ddweud, yn niffyg cefnogaeth ddigonol i'r rheini sydd mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad a'r rheini sy'n dioddef o salwch meddwl, ceir byddin o wirfoddolwyr ac aelodau'r cyhoedd sy'n camu i'r adwy bob dydd i ddarparu cefnogaeth. A hoffwn gloi, Ddirprwy Lywydd, drwy ddiolch iddynt, bob un ohonynt, am newid bywydau, am achub bywydau. Diolch.
Fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar angladdau a phrofedigaeth, rwy'n croesawu'r ddadl hon. Deallwn fod rhwng 300 a 350 o bobl yn marw drwy hunanladdiad bob blwyddyn yng Nghymru, yn ôl Samariaid Cymru, gyda’r gyfradd hunanladdiad ymysg dynion bron dair gwaith yn uwch na’r gyfradd ar gyfer menywod.
Mae Samariaid Cymru yn nodi’r ffigur y cyfeiriodd Lynne Neagle ato, fod pob achos o hunanladdiad yn effeithio'n ddifrifol ar o leiaf chwech o bobl. Nododd Lynne, mewn gwirionedd, fod y lluosydd yn llawer iawn uwch na hynny, a bod unigolyn sydd mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad yn llawer mwy tebygol o geisio cyflawni hunanladdiad eu hunain. Ac maent yn ychwanegu bod llawer o bobl sydd mewn profedigaeth o'r fath yn ei chael hi'n anodd cael y cymorth sydd ei angen arnynt a bod yn rhaid inni ddarparu gwell gwybodaeth a chefnogaeth i'r rheini sydd mewn profedigaeth neu yr effeithiwyd arnynt gan hunanladdiad, a bod yn rhaid cydnabod bod cymorth i'r grŵp hwn yn elfen allweddol yn y gwaith o atal hunanladdiad.
Cyfeiriwyd at Rhian Mannings, sylfaenydd yr elusen Cymru gyfan 2 Wish Upon a Star, ac mae'r elusen a Rhian yn rhan o’r grŵp trawsbleidiol. Mae'r elusen hon, fel y clywsom, yn darparu cymorth profedigaeth hanfodol i deuluoedd sydd wedi colli plentyn neu oedolyn ifanc o dan 25 oed yn sydyn ac yn drawmatig o ganlyniad i hunanladdiad neu drwy ddamwain neu salwch. Dywedodd wrthyf mai marwolaeth sydyn yw'r farwolaeth sy’n cael ei hanghofio yng Nghymru. Ac er bod yr elusen wedi dod yn wasanaeth statudol i bob pwrpas yng Nghymru, gan weithio, fel y clywsom, gyda phob bwrdd iechyd a phob heddlu, nid ydynt yn cael unrhyw gymorth statudol o gwbl, ac mae’n rhaid iddynt godi pob ceiniog eu hunain, er eu bod yn lleihau'r pwysau ar dimau iechyd meddwl, gan helpu i fynd i'r afael â thrawma annisgwyl marwolaeth a cholled na ellid bod wedi'u rhagweld.
Dywed Rhian Mannings iddi ddechrau ei brwydr ar ôl iddi golli ei gŵr a’i mab yn sydyn—dim paratoi, dim rhybudd ac yna dim byd, meddai—a bod y diffyg cymorth a gawsant wedi arwain yn uniongyrchol at hunanladdiad ei gŵr.
Lansiodd Gofal mewn Galar Cruse eu maniffesto ar gyfer pobl mewn profedigaeth ddeufis yn ôl. Credant y gall mynediad at y gefnogaeth gywir, wedi'i theilwra i anghenion pob unigolyn mewn profedigaeth, eu helpu i oresgyn heriau galar ac adeiladu bywyd ystyrlon, gan gofio a dathlu bywydau'r rheini y maent wedi'u colli. Dywedant y gall hyn, yn ei dro, helpu i wella iechyd meddwl a lleihau'r effaith ar wasanaethau'r GIG.
Ymhlith pethau eraill, mae Cruse yn galw am Weinidog penodol gyda chyfrifoldeb am brofedigaeth a strategaeth drawsadrannol, ac am gyllid lleol ar gyfer cymorth profedigaeth o ansawdd uchel, lle dywedant fod gormod o bobl yn dal i fethu cael cymorth ar ôl profedigaeth, lle nad oes cyllid statudol mewn gormod o ardaloedd ar gyfer yr asiantaethau a'r elusennau sy'n helpu pobl sydd mewn profedigaeth. Ac maent yn galw am gymunedau mwy tosturiol lle mae pawb yn gwybod digon am alar i chwarae eu rhan yn cefnogi pobl pan fo rhywun yn marw.
Dywed Marie Curie fod sicrhau cefnogaeth ddigonol i deuluoedd sydd wedi cael profedigaeth yn rhan bwysig o broses marwolaeth a marw. Ac mae 2 Wish Upon a Star yn nodi'r gydberthynas rhwng y sefydliadau hynny a ariennir gan Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol neu fyrddau iechyd sy'n cyfeirio neu'n atgyfeirio’n bennaf at sefydliadau a'r rheini sy'n darparu gwasanaethau profedigaeth ond nad ydynt yn cael fawr o gyllid, os o gwbl. A dywedant fod angen i wasanaethau fod yn dra hysbys, ac y dylid defnyddio dull amlasiantaethol i sicrhau y gellir darparu cymorth ledled Cymru ac y gellir lleihau canlyniadau hirdymor difrifol.
Mae'r grŵp trawsbleidiol ar ofal lliniarol a hosbisau, a gadeirir gennyf hefyd, yn cynnig pedwar argymhelliad i wella gofal a chefnogaeth i bobl sydd mewn profedigaeth yng Nghymru, er mwyn sicrhau gwell canlyniadau i bobl ar ôl iddynt golli rhywun annwyl. Yn gyntaf, gwella data ar yr angen am gefnogaeth mewn profedigaeth lle mae'n anodd iawn ar hyn o bryd, oherwydd diffyg asesiad cadarn o anghenion, i wasanaethau gynllunio i ddiwallu anghenion neu ddeall pa adnoddau y gallai fod eu hangen arnynt i wneud hynny. Yn ail, sicrhau bod profedigaeth yn nodwedd allweddol o'r holl bolisi perthnasol sydd i'w ystyried a'i ymgorffori yn strategaethau a pholisïau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys lles ac iechyd meddwl oedolion a lles ac iechyd meddwl plant. Yn drydydd, ymgorffori cymorth profedigaeth mewn ysgolion. Ac yn bedwerydd, sicrhau bod darpariaeth gofal profedigaeth yn gynaliadwy lle ceir tystiolaeth o ddiffyg blaenoriaethu strategol a pholisi ar gyfer cymorth profedigaeth yn y lefelau isel iawn o gyllid statudol ar gyfer gofal i bobl mewn profedigaeth.
Cyfeiriodd Lynne Neagle at gyhoeddi 'Arolwg cwmpasu o wasanaethau profedigaeth yng Nghymru: Adroddiad Diwedd Astudiaeth' y mis diwethaf a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru. Nodai fod mwy o wasanaethau profedigaeth ar gael yn ne-ddwyrain Cymru, gyda'r nifer leiaf yng ngogledd a gorllewin Cymru. Roedd yn nodi hyn:
Disgrifiodd yr ymatebwyr nifer o fylchau a heriau yn y ddarpariaeth o wasanaeth profedigaeth... Ymddengys bod llawer yn ymwneud â diffyg fframwaith clir ar gyfer comisiynu a darparu gwasanaethau profedigaeth gan gynnwys diffyg blaenoriaeth i ofal profedigaeth mewn sefydliadau, diffyg mynediad at gyllid a mynediad cyfyngedig i hyfforddiant a chyfleusterau priodol.
Un ystyriaeth allweddol—
A ydych yn dirwyn i ben, os gwelwch yn dda? Dowch i ben, os gwelwch yn dda.
Iawn. Un ystyriaeth allweddol o'r canlyniadau, felly, yw datblygu fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer gofal profedigaeth. Mae hyn yn fater o frys ac mae'n rhaid iddo gynnwys cymorth i'r rheini sydd mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad, a chael ei gydgynhyrchu gan bobl sydd â phrofiad o hynny. Diolch.
Credaf fod hon yn ddadl bwysig ond anodd iawn, ond yr hyn yr hoffwn ei wneud yw defnyddio fy mhum munud i ganolbwyntio ar yr agenda ataliol, oherwydd yn amlwg, o ran yr adolygiad seneddol a gynhaliwyd o bobl rhwng 13 a 17 oed—yn ffodus, 33 o bobl yn unig yr effeithiwyd arnynt. Ond yn amlwg, mae mwy o lawer o bobl y gallent fod wedi cyflawni hunanladdiad, ac mae’n rhaid inni ganolbwyntio ar yr hyn y gallwn ei wneud i geisio atal hunanladdiad lle bo modd.
Rydym wedi gwneud cryn dipyn o gynnydd, yn hanesyddol, ers y stigma a oedd yn gysylltiedig â hunanladdiad pan laddodd fy nhaid ei hun ym 1928, oherwydd bryd hynny, byddai eglwysi’n gwrthod caniatáu i'r teulu gladdu eu hanwylyd ym mynwent yr eglwys hyd yn oed. Roedd y rhan fwyaf o bobl yn ceisio cuddio’r hyn a oedd wedi digwydd ac yn esgus bod rhyw achos arall dros eu marwolaeth. Felly, mae’r ffaith ein bod bellach yn gallu siarad yn agored am hunanladdiad, ac mae Jack, yn amlwg, yn enghraifft ragorol o hynny—.
Mae'n rhaid inni geisio sicrhau bod yr holl wasanaethau cyhoeddus, a rhanddeiliaid eraill yn wir, yn rhan o’r gwaith o atal hunanladdiad. Felly, er bod llawer o bobl ifanc yn cael teimladau hunanladdol, nifer fach yn unig sy'n marw yn y ffordd honno, ac mae hynny wedi'i nodi yn yr adolygiad seneddol. Felly, mae'n rhaid i ni ganolbwyntio ar y rheini a all wynebu'r fath anobaith fel eu bod yn cyflawni hunanladdiad, a gwyddom am rai o'r arwyddion ac mae angen inni sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â hwy. Maent yno yn y cyfleoedd a argymhellir ar gyfer atal.
Gwyddom fod hunan-niweidio yn arwydd posibl, ac mae angen inni ddod yn llawer gwell am sicrhau bod pawb yn gwybod pwy sy'n hunan-niweidio a pha wasanaethau rydym yn darparu ar eu cyfer, gan fod hunan-niweidio yn alwad am help tan ei fod yn troi'n hunanladdiad.
Atal camddefnyddio alcohol a sylweddau: camau parhaus i gyfyngu ar fynediad plant a phobl ifanc at alcohol. Euthum i weld drama ragorol o'r enw Smashed a oedd wedi'i hanelu at ddisgyblion blwyddyn 8 yn Ysgol Bro Edern yn fy etholaeth. Mae'n bwysig iawn dangos i ddisgyblion sy'n credu bod arbrofi gydag alcohol yn beth cŵl i'w wneud eu bod, mewn gwirionedd, yn gwneud eu hunain yn agored i gael eu hecsbloetio gan bobl os ydynt allan o reolaeth, ddim yn gwybod beth sy'n digwydd, yn methu cyrraedd adref yn ddiogel. Dyma rai o'r ffactorau risg y mae angen i bobl ifanc eu deall, ac nid oes unrhyw ddiben mewn dweud wrth bobl am beidio ag yfed gan ei fod i'w gael ym mhob man. Ond mae angen iddynt wneud hynny mewn ffordd synhwyrol a diogel.
Lliniaru profiadau niweidiol yn ystod plentyndod: gwyddom fod pethau fel mabwysiadu, pethau fel rhiant yn y carchar, cam-drin rhywiol—mae pob un o’r rhain yn ffactorau risg. Mynychodd Lynne Neagle a minnau lansiad Papyrus yng Nghanol Caerdydd ddydd Gwener diwethaf, ac roedd y Prif Weinidog yno hefyd, sy'n dangos y pwyslais y mae'n ei roi ar y mater hwn. Roedd yn sobreiddiol iawn clywed profiad cadeirydd Papyrus, a esboniodd y bu’n rhaid iddo roi'r gorau i ddod yn bennaeth pan laddodd ei fab mabwysiedig ei hun. Ond ni wnaeth hynny am nad oedd ei deulu’n un cwbl gariadus. Y cefndir, y rhesymau pam y cafodd y plentyn hwn, a oedd yn oedolyn ifanc ar y pryd, ei fabwysiadu—dyna oedd yn ei boeni. Pan fydd pobl yn mynd drwy'r glasoed, gwyddom y gall hyn fod yn fater o bwys mawr. Dywedodd yr adroddiad a wnaethom gyda'r Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc yn y pedwerydd Cynulliad wrthym pa mor gymhleth yw hynny.
Ond mae angen inni sicrhau bod pob ysgol o ddifrif ynghylch yr agenda hon. Mae rhai ysgolion yn gwneud yn hollol wych, ac mae ysgolion eraill o'r farn mai problem rhywun arall yw hi. Credaf yr hoffwn dynnu sylw at yr adroddiad a gyhoeddwyd gan y Samariaid dros yr haf, a oedd yn ymwneud â gwahardd disgyblion o'r ysgol yng Nghymru, a'r gost gudd. Gwyddom y bydd rhai ysgolion yn defnyddio pob cyfle i ddadlwytho plant ar rywun arall a chael gwared arnynt am nad ydynt eisiau iddynt ymddangos yn eu hystadegau arholiadau. Nid yw hyn yn ddigon da o gwbl. Mae angen inni sicrhau bod pob ysgol yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau lles tuag at bobl ifanc, ac mae'n rhaid inni fod yn wyliadwrus nad yw pobl yn defnyddio ffyrdd cudd o gael gwared ar bobl a’u gwneud yn gyfrifoldeb i rywun arall—. Oherwydd gwyddom fod y bobl sy'n byw mewn tlodi yn siŵr o wynebu mwy o broblemau’n ymwneud â statws, â hunan-werth, ac mae'r rhain yn bobl y mae'n rhaid inni sicrhau bod yr ysgol yn gofalu amdanynt fel eu hail deulu os na all eu teulu cyntaf ddarparu'r cartref cariadus y mae’r rhan fwyaf ohonom yn ddigon lwcus i’w gael.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r ddadl heddiw ar fater sy’n hynod o emosiynol a phwysig. Mae effaith colli rhywun i hunanladdiad yn ddinistriol, a heb os yn cael effeithiau pellgyrhaeddol ar deuluoedd, ffrindiau a chymunedau, fel y nododd Lynne Neagle wrth agor y ddadl, ac fel yr ychwanegodd pob Aelod arall mewn ffordd wahanol yn ystod y ddadl.
Rwy’n cydnabod, fel y mae'r llefarwyr yn ei wneud, fod profedigaeth ar ôl hunanladdiad yn fath unigryw o golled, a bod pobl yn profi ystod eang o emosiynau. Ni all unrhyw un ragweld sut yn union y bydd pobl yn ymateb i ddigwyddiad o'r fath, ond mae'n bwysig fod cefnogaeth ar gael yn y mannau iawn ac ar yr adegau iawn i'r rhai sydd ei hangen. Rwy'n cydnabod y gall pobl sydd mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad fod mewn perygl eu hunain, felly mae sicrhau bod y gefnogaeth ôl-ymyrraeth briodol honno ar gael yn hanfodol bwysig. Rwyf wedi ymrwymo i wella cefnogaeth ôl-ymyrraeth fel rhan o'n rhaglen waith ehangach i atal hunanladdiad a hunan-niweidio.
Mae deall cymhlethdod yr amgylchiadau a’r ffactorau risg sy'n cyfrannu at hunanladdiad yn allweddol os ydym am atal marwolaethau drwy hunanladdiad yn y dyfodol. Mae'r adolygiad diweddar gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, y cyfeiriwyd ato yn gynharach a'r wythnos diwethaf, i farwolaethau plant a phobl ifanc drwy hunanladdiad tebygol yn rhan o’r hyn a fydd yn ein helpu i ddeall hyn. Amlygodd yr adolygiad y nifer sylweddol o blant a phobl ifanc roedd gwasanaethau cyhoeddus yn gwybod amdanynt, er enghraifft gwasanaethau iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau cyfiawnder troseddol, gan herio'r holl wasanaethau cyhoeddus i ystyried cyfleoedd yn y dyfodol i ymyrryd yn gynnar i atal marwolaeth drwy hunanladdiad. Mae'n amlwg na all unrhyw un unigolyn neu asiantaeth atal hunanladdiad a hunan-niweidio. Felly, mae gweithio mewn partneriaeth ac ar draws y sectorau yn hanfodol er mwyn sicrhau y ceir cymaint o gyfleoedd â phosibl i atal. Mae creu diwylliant—fel rydym wedi cymryd rhai camau tuag at ei wneud—sy’n annog pobl i siarad, a mabwysiadu dull iechyd y cyhoedd o gefnogi lles emosiynol hefyd yn rhan hanfodol o sicrhau gwelliant.
Yn sail i'n strategaeth 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' ceir partneriaethau a chydweithredu ystyrlon gan ystod o sefydliadau, o'r sector cyhoeddus i'r trydydd sector, a chânt eu goruchwylio gan fwrdd partneriaeth cenedlaethol amlasiantaethol. Mae cyhoeddiad diweddar yn y gyllideb ddrafft yn ymrwymo £20 miliwn ychwanegol i wasanaethau iechyd meddwl, gan godi'r arian sydd wedi'i glustnodi i £712 miliwn, sy'n dangos ein hymrwymiad parhaus i wella'r gwasanaethau. Mae hynny'n adeiladu ar y £0.5 miliwn ychwanegol a gyhoeddwyd eleni yn benodol ar gyfer atal hunanladdiad a chymorth. Rwyf hefyd wedi ymrwymo, gyda'r Gweinidog addysg, i ddyblu'r cyllid ar gyfer gwaith y dull ysgol gyfan, ac wrth gwrs, daw’r cyllid hwnnw o’r portffolios addysg ac iechyd.
Mae'r cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' newydd, a gyhoeddir ddydd Gwener yr wythnos hon, yn nodi bod atal hunanladdiad a hunan-niweidio yn gam gweithredu allweddol, gan wneud hynny'n flaenoriaeth ar gyfer y tair blynedd nesaf. Ymhlith y camau gweithredu, mae datblygu a gweithredu llwybr cymorth profedigaeth ar gyfer hunanladdiad, yn ogystal ag ymrwymiad i wella mynediad at adnoddau gwerthfawr, megis yr adnodd 'Help wrth Law' y cyfeiriwyd ato sawl gwaith heddiw.
Bydd hyn yn adeiladu ar y gwaith rydym eisoes wedi'i wneud i wella lles emosiynol ein plant a'n pobl ifanc. Roedd ein gwaith diweddar yn cynnwys ymestyn y cynllun peilot mewngymorth i ysgolion er mwyn ehangu capasiti, galluogi staff arbenigol i weithio gyda mwy o ysgolion, a chyhoeddi canllawiau newydd ar hunanladdiad a hunan-niweidio. Nod y canllawiau yw cynorthwyo athrawon a gweithwyr proffesiynol eraill i ymyrryd yn gynnar a hunanreoli hunan-niwed a meddyliau hunanladdol pan fyddant yn digwydd. Mae'r dull ysgol gyfan yn elfen allweddol o'n ffocws ar atal a sicrhau mynediad cynnar at gymorth. Fel y crybwyllwyd, yr wythnos diwethaf, mynychodd y Prif Weinidog lansiad Papyrus, sefydliad arbennig ar gyfer atal hunanladdiad ymhlith pobl ifanc yng Nghymru, gan gadarnhau cefnogaeth ar draws y Llywodraeth yn y maes hwn.
Yn y flwyddyn ariannol hon, rydym hefyd wedi cefnogi amrywiaeth o raglenni rhanbarthol ar atal hunanladdiad, gan gynnwys dulliau arloesol fel gweithio gyda thimau rygbi i annog dynion i siarad am iechyd meddwl, a darparu sesiynau cwnsela profedigaeth ychwanegol. Ddiwedd y mis, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am ein camau gweithredu i gyflawni ein hymateb i'w hadroddiad ar atal hunanladdiad, 'Busnes Pawb', a bydd hynny'n cynnwys ein gwaith ar wella gwasanaethau profedigaeth yng Nghymru. Gwyddom fod mynediad at ofal profedigaeth o ansawdd da o'r pwys mwyaf. Mae'n helpu rhai sydd mewn galar i fynd drwy broses alaru iach a dylai gynnwys mynd ati'n weithredol i gadw mewn cysylltiad â phawb sydd wedi cael profedigaeth, hyd yn oed os gwrthodir cymorth ar y cychwyn.
Cyhoeddwyd yr adolygiad cwmpasu ar wasanaethau profedigaeth a gyflwynwyd gan fwrdd gofal diwedd oes Marie Curie ym Mhrifysgol Caerdydd ym mis Rhagfyr, ac fel y crybwyllwyd yn y ddadl, mae'n mapio'r cymorth presennol, yn amrywio o gyfeirio, i gwnsela arbenigol, a nodi meysydd lle mae angen rhagor o adnoddau. Roedd yr adroddiad yn cynnwys yr ystod eang o gymorth profedigaeth, gan gynnwys hunanladdiad. Mae'n tynnu sylw at fylchau a heriau o ran darparu gwasanaethau profedigaeth, ac yn crybwyll nifer o ystyriaethau ar gyfer datblygu a gwella. Mae'r rhain yn canolbwyntio ar yr angen i ddatblygu fframwaith cenedlaethol ar gyfer darparu gofal profedigaeth yng Nghymru. Byddai hyn wedyn yn hwyluso'r gwaith o flaenoriaethu cymorth profedigaeth ar lefel sefydliadol a rhanbarthol, ac yn helpu i sicrhau tegwch a mynediad at fathau a lefelau priodol o gymorth sy'n ymatebol i anghenion lleol.
Byddai fframwaith cyflawni cenedlaethol hefyd yn cefnogi'r broses o sefydlu llwybrau cyfeirio clir, dulliau o asesu risg ac angen, hyfforddiant ar gyfer staff a gwirfoddolwyr, a datblygu cyfeirlyfr o'r ddarpariaeth sydd ar gael ar gyfer profedigaeth. Yn olaf, bydd fframwaith profedigaeth cenedlaethol yn cefnogi gwelliannau yn y ffordd y caiff gwasanaethau eu gwerthuso a'u hasesu, a gellid datblygu safonau ymhellach wedyn i'w defnyddio i archwilio a gwella ansawdd. Er mwyn bwrw ymlaen â'r broses o ddatblygu'r fframwaith, rydym wrthi'n recriwtio rheolwr prosiect penodedig. Rydym wedi gofyn i'r arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer gofal diwedd oes, Dr Idris Baker, sefydlu grŵp llywio cenedlaethol ar brofedigaeth i gefnogi'r gwaith hwn. Fel y bydd llawer ohonoch yn gwybod, mae gan Dr Baker gryn wybodaeth a phrofiad mewn gofal profedigaeth.
Fel mesur dros dro, yn ddiweddar cytunais i roi cyllid ychwanegol yn ystod y flwyddyn i gryfhau'r cymorth a roddir ar hyn o bryd gan y trydydd sector i rai sydd wedi colli rhywun i hunanladdiad. Cafodd pum sefydliad eu cefnogi. Yn ogystal, mae cyllid rhanbarthol Llywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio i greu gwasanaeth cymorth profedigaeth newydd ar gyfer gogledd Cymru. Byddaf yn gwneud datganiad ysgrifenedig cyn y toriad hanner tymor i amlinellu ein cynlluniau mwy hirdymor.
Gallaf gadarnhau hefyd ein bod bellach wedi penodi cydlynydd atal hunanladdiad cenedlaethol ar gyfer Cymru a fydd yn allweddol er mwyn uno dulliau ac arwain y broses o ddatblygu a gweithredu camau newydd i atal hunanladdiad a hunan-niwed mewn ffordd lawer mwy cydgysylltiedig ac effeithiol. Caiff swydd y cydgysylltydd ei chefnogi gan dair swydd ranbarthol i gyflawni cynlluniau gweithredu ledled Cymru. Bydd cynnwys pobl sydd wedi byw drwy brofedigaeth hunanladdiad yn allweddol i ddatblygiad y llwybr ymyrraeth ar ôl hunanladdiad. Bydd y cydgysylltydd cenedlaethol yn canolbwyntio ar ddatblygu'r llwybr ymyrraeth ar ôl hunanladdiad fel rhan o'n gwaith ehangach i wella cymorth profedigaeth. Mae'r grŵp cynghori cenedlaethol ar hunanladdiad a hunan-niweidio bellach yn cynllunio tri gweithdy rhanbarthol i randdeiliaid i lywio'r gwaith hwnnw.
Rwy'n gobeithio bod hyn yn helpu i ddangos y pwyslais rydym yn parhau i'w osod ar yr agenda hon, ac yn amlinellu'r camau rydym yn eu cymryd i atal hunanladdiad a hunan-niwed, a hefyd i wella cymorth profedigaeth. Rwy'n cydnabod uchelgais yr Aelodau ar draws y Siambr i gyflawni'r gwelliant hwnnw'n gyflymach. Byddaf yn cynnwys mwy o fanylion am amserlenni ar gyfer y llwybr profedigaeth yn y datganiad ysgrifenedig y bwriadaf ei gyhoeddi cyn y toriad hanner tymor.
Diolch. Galwaf ar Dai Lloyd i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddweud, yn gyntaf oll, pa mor falch wyf fi o allu cymryd rhan yn y ddadl hon? Oherwydd cawsom ddatganiadau pwerus ac emosiynol o deimladau dwfn a didwyll gan bawb sydd wedi cyfrannu. Mae hi wedi bod yn ddadl wirioneddol wych, a dweud y gwir. Rwy'n gwybod na fydd yn cael fawr o sylw y tu allan, ond mae wedi bod yn fraint cael bod yma i dystio i'r hyn y mae pawb wedi'i ddweud. Oherwydd, fel y dywedodd Lynne Neagle wrth agor, mae profedigaeth trwy hunanladdiad yn gwbl ddinistriol, ac fe amlinellodd, mewn rhai achosion, brinder y gefnogaeth sydd ar gael yn benodol i'r rhai sydd wedi colli rhywun i hunanladdiad.
Gwelwyd 360 o farwolaethau trwy hunanladdiad flwyddyn neu ddwy yn ôl yng Nghymru; dyna un y dydd. Pe bai unrhyw beth arall yn achosi un farwolaeth y dydd yng Nghymru, byddai pobl allan yn protestio a phethau, byddai gennym gwestiynau brys yma bob yn ail wythnos yn dweud, 'Beth sy'n digwydd?' Nawr, rwy’n clywed y Gweinidog yn dweud bod llawer o bethau’n digwydd, ac rwy’n cymeradwyo dull y Llywodraeth, ond mae angen cymaint mwy arnom, oherwydd mae yma gyfle.
Ceir dwy agwedd ataliol wahanol. Y gyntaf yw atal hunanladdiad yn y lle cyntaf, ac mae hynny'n ymwneud â sut rydym yn ymdrin â phobl sy'n hunan-niweidio—nid yw pob un ohonynt yn mynd ymlaen i wneud unrhyw beth arall heblaw rhoi gwaedd am help. Ond yr her i ni ym maes gofal sylfaenol yw nodi pwy sy'n debygol o fynd ymlaen i wneud rhywbeth llawer mwy dinistriol. A phan fyddwn yn penderfynu fel meddygon teulu fod angen gweld yr unigolyn dan sylw yn y fan a'r lle, mae angen eu gweld yn y fan a'r lle.
Rydym yn parhau i siarad ynglŷn â sut y dylid rhoi parch cydradd i iechyd corfforol ac iechyd meddwl, ond os yw rhywun yn ddifrifol wael yn feddyliol, nid yw'r cydraddoldeb hwnnw'n amlwg i mi fel meddyg teulu. Ugain mlynedd yn ôl, pe bai rhywun yn dweud eu bod yn hunanladdol, buaswn yn ffonio'r ysbyty seiciatryddol agosaf a byddai meddyg yn eu gweld yn y fan a'r lle; fel a fyddai'n digwydd pe baech chi'n dod i fy ngweld pe bai gennych boen yn y frest, a minnau yn eich cyfeirio at yr adran iechyd corfforol agosaf yn y fan a'r lle. Nid yw hynny'n digwydd mwyach gyda salwch meddwl acíwt. Mae angen inni edrych ar sut yr ymdrinnir ag argyfyngau iechyd meddwl acíwt.
Y sefyllfa bresennol yw y bydd timau argyfwng yn ffonio'r meddyg teulu yn ôl yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, y diwrnod canlynol, neu'n cynnig apwyntiad ar gyfer yr wythnos ganlynol. Nid yw'n ddigon da. Oherwydd mae meddygon teulu yn gwybod cryn dipyn am salwch seiciatryddol a hunanladdiad, rhywbeth nad yw bob amser yn cael ei gydnabod yn y sector gofal eilaidd. Fel arall, mae pobl yn cael eu gadael mewn gofid a chawn ein gadael yn y sefyllfaoedd dinistriol hyn a ddisgrifiwyd mor huawdl gan Lynne, David, Jack Sargeant—rwy'n talu teyrnged eto, Jack, at eich dirnadaeth unigryw yn hyn o beth—a Mark Isherwood, yn ogystal â Jenny.
Ceir atal hunanladdiad yn y lle cyntaf, ond yn y cyd-destun rydym yn siarad amdano heddiw, mae atal hunanladdiad yn y rhai sydd eisoes wedi colli rhywun i hunanladdiad yn bwysig. Rydym bob amser yn dweud, ac roedd yn amlwg yn adroddiad y pwyllgor iechyd 'Busnes Pawb', fod hunanladdiad yn fusnes i bawb. A gaf fi ddweud, byddwch yn fwy caredig wrth eich gilydd, bobl, iawn? Fel y mae Jack bob amser yn dweud, 'Byddwch yn garedig wrth eich gilydd.' Os yw rhywun yn edrych yn ofidus, gofynnwch iddynt sut maent. Dyna ran dda o atal hunanladdiad. Efallai mai chi yw'r unig berson sydd wedi siarad â hwy y diwrnod hwnnw.
Nawr, nid yw siarad am hunanladdiad, yn y lle cyntaf, yn ei gwneud hi'n fwy tebygol y bydd hunanladdiad yn digwydd—mae'n bwysig cofio hynny. Ond pan fydd hunanladdiad wedi digwydd mewn teulu, mae aelod o'r teulu’n fwy tebygol o farw trwy hunanladdiad o ganlyniad i ddinistr yr hunanladdiad yn y teulu hwnnw. A dyna lle gallwn gael cyfle unigryw, trwy i'r gwasanaethau cymorth profedigaeth yn sgil hunanladdiad ddod i mewn ar y pwynt hwnnw, i atal hunanladdiad pellach yn y teulu hwnnw. Felly, dyna sydd o'n blaenau.
Mae angen newid perfformiad yn sylweddol. Rwy’n croesawu’r holl waith caled sy’n digwydd, ac rydym wedi clywed am y gwaith rhagorol yn y trydydd sector: Papyrus, 2 Wish Upon A Star, Cruse, y Samariaid, a Survivors of Bereavement by Suicide—am sefydliad aruthrol—a dyna bobl sydd wedi byw drwy brofedigaeth hunanladdiad. Mae angen i ni fanteisio ar hynny. Mae angen i'r newid sylweddol mewn ymddygiad ddal ati i gamu ymlaen a newid.
I orffen, soniodd Lynne fod llwyth o famau rhyfelgar a thadau rhyfelgar allan yna yn y sefyllfaoedd teuluol anodd hyn. Rwy'n edrych ar un neu ddau o ACau rhyfelgar, mae'n rhaid i mi ddweud, yn Lynne, Jack ac eraill. Mae angen i bawb ohonom fod yn ACau rhyfelgar gyda Llywodraeth ryfelgar yn y sefyllfa hon. Diolch yn fawr .
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Felly, gohiriwn y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 7 ar yr agenda yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, 'Iechyd Meddwl yng nghyd-destun Plismona a Dalfa'r Heddlu', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i gyflwyno'r cynnig, Dai Lloyd.
Cynnig NDM7233 Dai Lloyd
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon ar Iechyd meddwl yng nghyd-destun plismona a dalfa’r heddlu, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 30 Hydref 2019.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser gen i agor y ddal yma y prynhawn yma ynghylch adroddiad y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon i iechyd meddwl yng nghyd-destun plismona a dalfa'r heddlu.
Yn ystod dau ymchwiliad gan wahanol bwyllgorau yn y Cynulliad yma, mae Aelodau'r Cynulliad wedi clywed gan gynrychiolwyr yr heddlu bod mwy a mwy o adnoddau'r heddlu yn cael eu defnyddio i reoli argyfyngau iechyd meddwl. Cytunodd y pwyllgor, felly, i gynnal ymchwiliad byr gan ganolbwyntio ar weithio mewn partneriaeth rhwng yr heddlu, gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ac eraill. Roeddem yn arbennig o awyddus i weld pa mor effeithiol y mae gwasanaethau'n gweithio gyda'i gilydd i atal pobl sydd efo problemau iechyd meddwl rhag cael eu cymryd i ddalfa'r heddlu, ac i roi sicrwydd i ni ein hunain bod pobl sy'n agored i niwed ac yn profi argyfwng iechyd meddwl yn cael y gofal a'r cymorth sydd eu hangen arnyn nhw.
Mae adrannau 135 a 136 o Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yn rhoi pwerau i swyddogion yr heddlu mewn perthynas ag unigolion sydd ag anhwylder meddwl, neu sy'n ymddangos fel pe baent ag anhwylder meddwl. Gwnaeth Deddf Plismona a Throsedd 2017 rai newidiadau sylweddol i adrannau 135 ac 136. Bwriad y rhain oedd gwella dulliau o ymateb i bobl mewn argyfyngau iechyd meddwl y mae angen cymorth ar frys arnyn nhw gyda'u hiechyd meddwl mewn achosion lle mai swyddogion yr heddlu ydy'r cyntaf i ymateb.
Yn flaenorol, roedd adran 136 yn gymwys i bobl mewn man cyhoeddus, roedd adran 135 yn ei gwneud yn ofynnol i heddwas gael warant gan ynad i fynd i fangre breifat i symud unigolyn i le diogel ar gyfer asesiad. Cyflwynodd Deddf 2017 newidiadau a oedd yn caniatáu i'r asesiad hwnnw ddigwydd yng nghartref unigolyn neu mewn mangre breifat o dan amgylchiadau penodol, ac mae'n dileu'r angen iddynt fod mewn man cyhoeddus.
Cyflwynodd y Ddeddf nifer o newidiadau eraill, gan gynnwys gwahardd defnyddio gorsafoedd heddlu fel man diogel i bobl o dan 18 oed. Yn achos oedolion, ni cheir defnyddio gorsafoedd heddlu fel man diogel heblaw mewn amgylchiadau eithriadol penodol. Nawr, rydym yn cydnabod bod yr heddlu'n aml yn ymateb i bobl â phroblemau iechyd meddwl, ond at ddibenion ein hymchwiliad rydym wedi canolbwyntio ar y defnydd o adran 136, oherwydd fel arfer defnyddir yr adran hon pan fydd pobl yn fwyaf agored i niwed.
Yn rhy aml, ac ers gormod o amser, mae pobl agored i niwed sy'n dioddef argyfyngau iechyd meddwl, ond nad ydynt wedi cyflawni unrhyw drosedd, wedi cael eu rhoi mewn cell heddlu am nad oes unman arall iddynt fynd. Felly rydym yn croesawu'r sicrwydd a gawsom gan uwch swyddogion yr heddlu, arolygwyr a swyddogion Llywodraeth Cymru nad yw dalfa'r heddlu'n cael ei ddefnyddio mwyach fel man diogel ar gyfer y rhai a gedwir o dan adran 136, ac eithrio mewn amgylchiadau eithriadol.
At hynny, cawsom ein calonogi wrth glywed na fu unrhyw achosion o ddefnyddio cell heddlu fel man diogel i berson o dan 18 oed yng Nghymru ers 2015. Roeddem hefyd yn falch o glywed bod arolygiadau o ddalfeydd yr heddlu yng Nghymru wedi canfod, lle caiff oedolion eu cadw yn nalfa'r heddlu mewn amgylchiadau eithriadol, fod y ddarpariaeth gofal iechyd meddwl yn dda at ei gilydd.
Er bod nifer y bobl mewn argyfwng iechyd meddwl a gedwir yn nalfa'r heddlu wedi gostwng, mae'n ymddangos bod nifer y rhai a gedwir o dan adran 136 yn cynyddu. Dangosodd data a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref fod 2,256 o bobl wedi'u cadw yng Nghymru o dan adran 136 yn 2018-19, o'i gymharu â 1,955 yn 2017-18. Mae'r heddlu hefyd yn adrodd am gynnydd yn y galw gan bobl mewn argyfyngau iechyd meddwl.
Rydym yn argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda'r heddlu i gasglu tystiolaeth ynglŷn â pham y mae nifer y rhai a gaiff eu cadw o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yn cynyddu, ac i ddarparu dadansoddiad o ddata cenedlaethol a lleol i esbonio'r amrywiadau rhanbarthol. Yn ei ymateb i'r argymhelliad hwn, mae'r Gweinidog yn pwysleisio bod casglu a dadansoddi tystiolaeth am nifer y rhai a gaiff eu cadw o dan Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 a darparu dadansoddiad o ddata cenedlaethol a lleol i esbonio'r amrywiadau rhanbarthol yn gyfrifoldeb canolog i grŵp sicrwydd y concordat gofal mewn argyfwng iechyd meddwl.
Dywedwyd wrthym hefyd fod y ddarpariaeth o wasanaethau brysbennu iechyd meddwl yn amrywio ac nad yw'n cael ei hariannu'n gyson ledled Cymru. Gall gwasanaethau brysbennu chwarae rhan bwysig yn y gwaith o leihau nifer y bobl a gaiff eu cadw o dan adran 136 ac yng nghelloedd yr heddlu, a'r nifer sy'n mynd i'r ysbyty drwy'r adran achosion brys neu wasanaethau iechyd meddwl acíwt. I'r perwyl hwnnw, rydym wedi argymell bod Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â'r heddlu i adolygu'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg ar effeithiolrwydd y gwahanol gynlluniau brysbennu yng Nghymru.
Roedd y dystiolaeth a gawsom am y cyswllt a gafodd pobl â'r heddlu pan fyddent yn dioddef argyfwng iechyd meddwl yn gadarnhaol iawn ar y cyfan. Dywedwyd wrthym fod unigolion a'u teuluoedd sydd wedi ffonio'r heddlu yn ystod argyfwng iechyd meddwl wedi bod yn ddiolchgar am y cymorth a gawsant. Mae hyn yn herio'r dybiaeth gyffredinol fod gan bobl sy'n dioddef argyfwng iechyd meddwl farn negyddol am gael eu cadw yn nalfa'r heddlu.
Felly, rydym yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru weithio gydag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru i sicrhau bod yr adolygiad thematig o ofal argyfwng a gofal y tu allan i oriau yn cynnwys adolygiad o'r llwybr gofal ar gyfer pobl sy'n cael eu cadw o dan adran 136, i edrych ar ansawdd, diogelwch ac ymatebolrwydd y gofal a ddarperir i bobl a gedwir o dan adran 136.
Mae adran 136 hefyd yn caniatáu i berson gael ei gadw yn y ddalfa ar gyfer eu hasesu gan feddyg a gweithiwr proffesiynol iechyd meddwl cymeradwy er mwyn gallu gwneud trefniadau ar gyfer triniaeth neu ofal. Clywsom, fodd bynnag, fod y rhan fwyaf o bobl a gedwir o dan adran 136 yn cael eu rhyddhau yn dilyn asesiad heb driniaeth bellach. Mewn ffigurau a ddarparwyd gan Mind Cymru, ni chafodd 68 y cant o'r rhai a aseswyd yn 2016-17 eu derbyn i'r ysbyty am driniaeth. Mae hyn yn ddwy ran o dair o gyfanswm y nifer a gadwyd o dan adran 136 yn ystod y flwyddyn honno. Mae'n destun pryder fod y rhan fwyaf o bobl a gedwir o dan adran 136 yn cael eu rhyddhau yn dilyn asesiad am nad ydynt angen triniaeth frys yn yr ysbyty ar gyfer cleifion iechyd meddwl.
Mae'r cod ymarfer i Ddeddf Iechyd Meddwl 1983 yn ei gwneud yn ofynnol bob amser i fynd â phobl sy'n cael eu cadw o dan y Ddeddf i'r ysbyty yn y modd mwyaf tebygol o warchod eu hurddas a'u preifatrwydd—hynny yw, nid mewn car heddlu. Fodd bynnag, roedd y dystiolaeth a glywsom yn awgrymu nad yw hyn yn digwydd. Yn wir, dywedodd grŵp partneriaeth Heddlu De Cymru wrthym fod
mwyafrif helaeth y rhai a gedwir o dan adran 136 yn dal i gael eu cludo i fan diogel gan yr heddlu.
Clywsom hefyd fod y pwysau gweithredol ar y gwasanaeth ambiwlans a'r gwasanaethau iechyd meddwl yn golygu bod yr heddlu'n llenwi'r bwlch, a bod cerbydau'r heddlu'n cael eu defnyddio'n gyson i gludo pobl i sefydliadau iechyd meddwl.
Cawsom wybod gan y Gweinidog fod cynlluniau peilot yn mynd rhagddynt yn ardaloedd bwrdd iechyd Aneurin Bevan a Hywel Dda i edrych ar gludiant heb fod mewn argyfwng. At hynny, gofynnodd i uned gomisiynu cydweithredol y gwasanaeth iechyd gynnal adolygiad o fynediad a chludiant brys o ran iechyd meddwl i edrych ar sut a ble y darperir mynediad.
Rydym felly'n argymell bod Llywodraeth Cymru, fel mater o frys, yn rhoi ei hadolygiad ynghylch cludiant ar waith. Dylai hefyd nodi sut y bydd yn sicrhau y bydd cludiant amgen i gleifion yn cael ei ddarparu ar gyfer unigolion sy'n wynebu argyfyngau iechyd meddwl, a thrwy hynny gyfyngu ar y defnydd o gerbydau'r heddlu wrth gludo unigolion sy'n cael eu cadw o dan y Ddeddf Iechyd Meddwl i'r ysbyty.
Er fy mod yn croesawu'r ffaith bod y Gweinidog yn derbyn yr argymhelliad hwn, mae'n siomedig, er gwaethaf galwadau'r pwyllgor am frys yn y maes hwn, na fydd canfyddiadau'r adolygiad mynediad a chludo brys ar iechyd meddwl ar gael tan fis Ebrill, ac y bydd camau pellach yn ddibynnol ar ystyriaeth y grŵp sicrwydd.
I gloi, credaf ein bod ni i gyd yn gytûn ei bod yn annerbyniol cadw unigolion sydd efo salwch meddwl yn nalfa’r heddlu, ac y dylai'r arfer o gadw pobl o dan adran 136 o'r Ddeddf Iechyd Meddwl ond digwydd mewn amgylchiadau eithriadol. Rydym ni'n croesawu'r cynnydd sydd wedi'i wneud hyd yma, ond rydym o'r farn fel pwyllgor bod angen symud yn gyflymach erbyn hyn. Diolch yn fawr.
A gaf fi ddiolch i'r Cadeirydd am ei gyflwyniad a'i esboniad manwl o'r adroddiad? Nid yw'n gadael llawer i ni ei ddweud. A gaf fi hefyd ddiolch i'r tîm clercio a'r tystion a ddaeth gerbron y pwyllgor?
Ddirprwy Lywydd, yn y Siambr hon rydym yn trafod yn rheolaidd y ffordd y mae Cymru'n mynd i'r afael â darpariaeth iechyd meddwl. Yn wir, rydym newydd gael dadl a oedd yn tynnu llawer o sylw at iechyd meddwl a sut yr awn i'r afael â hynny ac atal hunanladdiad. Rydym yn aml yn myfyrio ar y gallu i ddarparu gofal mewn argyfwng a chynllunio gofal a thriniaeth, sydd weithiau'n gysylltiedig â gofal iechyd corfforol ac weithiau, yn ogystal, â gofal iechyd meddwl. Edrychwch yn ôl ar ddadleuon yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ar adroddiadau'r pwyllgor iechyd a gofal cymdeithasol ac ar adroddiadau'r pwyllgor plant a phobl ifanc. Maent wedi cynhyrchu sawl adroddiad ar iechyd meddwl yn arbennig.
Nawr, rydym i gyd yn gwybod y ffigurau. Gwn ei fod yn cael ei ddyfynnu'n aml: bydd un o bob pedwar yn dioddef o broblemau iechyd meddwl. Ac mae'n rhwystredig iawn fod hyn yn dal i fodoli yn y gymdeithas. Mae stigma'n parhau ynglŷn ag iechyd meddwl, ac mae hynny, yn ddi-os, yn atal pobl rhag siarad a chael y cymorth sydd ei angen arnynt, ond rwy'n falch o weld bod camau'n cael eu cymryd i newid hynny ac rwy'n cefnogi'n fawr yr holl gamau sydd ar waith i wneud hynny.
Mae llawer o argymhellion yn yr adroddiad, ac rwy'n falch fod y mwyafrif wedi'u derbyn gan y Llywodraeth neu wedi'u derbyn mewn egwyddor. Fodd bynnag, mae gennyf bryderon ynghylch gwrthod argymhelliad 11. Cefais sylwadau gan nifer o sefydliadau yn fy rôl fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar iechyd meddwl ynglŷn â gofal mewn argyfwng a chynllunio gofal a thriniaeth, a pha mor gyflym y cyflawnwyd argymhellion a chamau gweithredu blaenorol o ganlyniad.
Nawr, rydym i gyd yn cydnabod bod y concordat gofal mewn argyfwng iechyd meddwl yn gytundeb uchelgeisiol rhwng Llywodraeth Cymru a phartneriaid i wella'r gofal a'r cymorth i bobl sy'n wynebu argyfwng iechyd meddwl neu sydd mewn perygl o wneud hynny. Mae'r concordat yn seiliedig ar y pedair egwyddor graidd a'r canlyniadau disgwyliedig canlynol: mynediad effeithiol at gymorth cyn cyrraedd pwynt argyfwng; mynediad brys at ofal mewn argyfwng; triniaeth a gofal o ansawdd mewn argyfwng; ac adferiad a chadw'n iach. Mae darparu gofal rhagorol mewn argyfwng yn galw am ffocws pendant ar y person sy'n dioddef yr argyfwng, gan eu cydnabod fel unigolion mewn angen ac ymateb mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn. Mae'r concordat yn nodi'n glir fod cefnogi unigolion sy'n wynebu argyfwng yn gyfrifoldeb amlasiantaethol, sy'n galw am ddull gweithredu cydgysylltiedig, a rhaid inni beidio â cholli golwg ar y mater allweddol: anghenion y sawl sy'n dioddef argyfwng iechyd meddwl.
Clywodd y pwyllgor fod gostyngiad o 90 y cant wedi bod yn nifer yr unigolion mewn argyfwng iechyd meddwl a gafodd eu cadw mewn celloedd heddlu ers 2015, pan gyflwynwyd y concordat, felly mae'n gallu helpu. Er bod yr ymchwiliad hwn wedi edrych yn benodol ar ddefnyddio adran 136, gall argymhellion, os cânt eu rhoi ar waith yn effeithiol ac yn gyflym, gael effaith ehangach a chefnogi'r broses o sicrhau newid trawsnewidiol, sef uchelgais y concordat gofal mewn argyfwng. Mae Noddfa Gyda'r Hwyr yn Llanelli—y gyntaf o'i bath yng Nghymru—yn enghraifft o weithio mewn partneriaeth o dan y concordat gyda Heddlu Dyfed Powys, Cyngor Sir Caerfyrddin a Bwrdd Iechyd Hywel Dda, ar ôl comisiynu'r gwasanaeth i weithio gyda Mind a Hafal. Edrychaf ymlaen at weld myfyrio ar yr arferion da yn Llanelli yn digwydd ledled Cymru.
Hoffwn drafod argymhelliad 8 hefyd, sy'n seiliedig ar gynllunio gofal a thriniaeth. Mae cynllunio gofal a thriniaeth yn hollbwysig i bobl, boed eu bod yn dioddef o gyflwr iechyd corfforol neu gyflwr iechyd meddwl. Fodd bynnag, i'r rheini sy'n byw gyda salwch meddwl, gall methu darparu cynllun gofal a thriniaeth holistaidd fod yn hynod niweidiol, a gallwn weld nifer yn cael eu dal yn y drws troi o ddod allan, mynd yn ôl i mewn, dod allan, mynd yn ôl a chael eu cadw yn y ddalfa. Nid ydym wedi gweld digon o gynnydd o hyd o ran cynllunio gofal a thriniaeth. Mae cynlluniau gofal a thriniaeth effeithiol yn arf gwych i atal argyfyngau rhag digwydd, yn ogystal â sicrhau bod pobl, boed eu bod yn dioddef salwch meddwl eu hunain, neu eu gofalwyr a'u teuluoedd, yn gwybod sut i gael cymorth brys pan fydd arnynt ei angen. Fodd bynnag, dengys tystiolaeth sylweddol na chaiff cynlluniau gofal a thriniaeth, yn enwedig cynlluniau argyfwng, mo'u defnyddio'n effeithiol. Rydym yn methu yn y maes hwn, ac fel Llywodraeth Cymru mae'n bwysig inni sicrhau bod sylw'n cael ei roi i hyn fel mater o frys.
Nawr, codais hyn yn ystod cwestiynau busnes yn ôl ym mis Tachwedd, ac fe'i codaf yma eto: rhaid inni gael y cynlluniau gofal a thriniaeth yn iawn a rhaid inni sicrhau bod gan y bobl sy'n eu defnyddio ffydd yn eu cynlluniau gofal a thriniaeth ac nad ydynt yn teimlo mai geiriau'n unig ydynt nad ydynt yn cyflawni ar eu cyfer hwy. Ddirprwy Lywydd, rhaid i ofal iechyd meddwl, boed yn y gymuned neu yn nalfa'r heddlu, barhau i wella a rhaid inni wneud mwy.
Diolch i'r pwyllgor am gyflawni'r adroddiad hwn. Er bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn saith o'i 11 o argymhellion, rwy'n annog y pwyllgor i fonitro'r camau gweithredu a argymhellir gan Lywodraeth Cymru lle mae ond wedi derbyn argymhellion mewn egwyddor.
Mae adran 136 o'r Ddeddf iechyd meddwl wedi'i chynllunio i ganiatáu i swyddogion yr heddlu symud rhywun o fan cyhoeddus er eu diogelwch eu hunain neu ddiogelwch y cyhoedd os credant eu bod mewn argyfwng iechyd meddwl, a mynd â hwy i fan diogel. Fel y dywed yr adroddiad, mae'r defnydd o ddalfa'r heddlu fel mannau diogel wedi gostwng yn sylweddol dros y pedair blynedd diwethaf. Yn ogystal, dywedodd cadeirydd grŵp sicrwydd y concordat gofal mewn argyfwng iechyd meddwl fod gostyngiad o 90 y cant wedi bod yn nifer yr unigolion a gedwir yng nghelloedd yr heddlu sydd mewn argyfwng iechyd meddwl ers cyflwyno'r concordat gofal mewn argyfwng yn 2015. Fel y mae'r adroddiad yn ychwanegu, mae'r concordat, a thaith Deddf Plismona a Throsedd 2017 yn dilyn hynny, wedi arwain at leihad sylweddol yn y defnydd o orsafoedd heddlu fel mannau diogel, er gwaethaf y duedd gynyddol gyffredinol a welwyd yn y nifer a gadwyd o dan adran 136. Fodd bynnag, fel y clywsom, mae nifer y rhai a gadwyd mewn unedau eraill wedi codi rhwng 2017-18 a 2018-19. Felly, mae angen deall yn well pam y gwelodd rhai heddluoedd wahanol gyfraddau o gynnydd yn nifer y rhai a gadwyd yn y ddalfa ac i weld a ellir dysgu gwersi gan heddluoedd fel Gwent, lle disgynnodd y ffigurau mewn gwirionedd.
Roedd y ffigurau hefyd yn dangos gwahanol ddulliau o weithredu yn y modd y gweithredwyd cynlluniau brysbennu iechyd meddwl. Bwriad y cynlluniau hyn yw dod â'r heddlu ac ymarferwyr iechyd meddwl at ei gilydd i asesu digwyddiad iechyd meddwl ar y cyd er mwyn lleihau'r defnydd o adran 136. Er bod Heddlu Gogledd Cymru wedi gweld cynnydd o 70 y cant yn nifer y rhai a gadwyd o dan adran 136 rhwng 2014 a 2019 i 795, mae clinigwyr iechyd meddwl yn gweithio ochr yn ochr â Heddlu Gogledd Cymru i ddarparu gwasanaeth brysbennu newydd wedi'i leoli yng nghanolfan rheolaeth yr heddlu. Nod hyn yw helpu pobl y nodwyd eu bod mewn argyfwng iechyd meddwl a gwella'r llif gwybodaeth rhwng Heddlu Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
Derbyniodd Llywodraeth Cymru argymhelliad 2, sy'n nodi bod angen gwell dealltwriaeth o ba fodel o gydweithio rhwng yr heddlu a staff iechyd sy'n helpu i roi'r cymorth a'r gefnogaeth gywir i bobl mewn argyfwng, ac a all gyfrannu at leihau'r defnydd o adran 136 yn gyffredinol. Roedd tystiolaeth Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu yn awgrymu yn yr adroddiad fod y ddarpariaeth o fannau diogel sy'n seiliedig ar iechyd yn dameidiog ledled Cymru, o safbwynt gwasgariad daearyddol ac amseroedd mynediad.
Nododd byrddau iechyd fod gan lawer gyfleusterau addas ond nad oeddent wedi'u staffio'n ddigonol neu y gallai eu defnydd achlysurol olygu nad oedd gan staff a ddefnyddid yn y cyfleusterau hyn sgiliau cywir i ymdrin ag achosion cymhleth yn ymwneud â chleifion mewn gwahanol fathau o drallod emosiynol. Roedd y dystiolaeth a gafodd y pwyllgor yn manylu ar amrywiaeth o fodelau arferion da, megis y cynllun ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, a oedd wedi datblygu un pwynt cyswllt sy'n hygyrch 24 awr y dydd i unigolion, teulu neu weithwyr proffesiynol.
Derbyniodd Llywodraeth Cymru argymhelliad 5, sy'n amlinellu'r angen i ddatblygu mannau diogel ychwanegol yn seiliedig ar iechyd lle bo angen. Fodd bynnag, mae'n dibynnu ar y byrddau iechyd felly i roi sicrwydd fod eu capasiti presennol yn bodloni'r galw er mwyn eu helpu hwy a'u partneriaid i ddeall pa elfennau o'r llwybr argyfwng y mae angen eu hatgyfnerthu. Felly, mae angen sicrwydd arnom y bydd y costau cysylltiedig yn cael eu talu pe bai angen mannau diogel ychwanegol yn seiliedig ar iechyd.
Nid yw awtistiaeth yn gyflwr iechyd meddwl, ond mae llawer o bobl awtistig yn datblygu problemau iechyd meddwl ar wahân sy'n deillio o ddiffyg cymorth priodol ac yn golygu y gall pobl awtistig ddatblygu anghenion mwy arwyddocaol. Fodd bynnag, er y credir bod y gyfran o bobl awtistig yng ngharchardai'r DU yn fwy na dwbl yr hyn ydyw yn y boblogaeth gyffredinol, fod strategaeth Llywodraeth y DU ar awtistiaeth yn cynnwys carcharorion, a bod Carchar EM Parc wedi ennill achrediad awtistiaeth y Gymdeithas Awtistiaeth Genedlaethol, ni allaf ddod o hyd i unrhyw gyfeiriad at awtistiaeth yn yr adroddiad hwn. Mae'n destun pryder fod cynlluniau Ysbytai'r Brawdlys ar gyfer holi rhywun sydd ag anhwylder sbectrwm awtistiaeth, gan gynnwys canllawiau ar syndrom Asperger, sy'n gymwys ar gyfer tystion a diffynyddion, yn cael eu hanwybyddu'n rhy aml. Ond fel y mae'r rhain yn datgan—ac mae'n neges i bawb—rhaid rhoi ystyriaeth nid yn unig i'r mathau o gwestiynau a ofynnir ond hefyd i'r modd y gwneir hynny. Diolch.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Doeddwn i ddim yn aelod o'r pwyllgor yn ystod yr ymchwiliad yma, a dwi'n edrych ymlaen at ailymuno â'r pwyllgor wrth i fi ailafael yn fy rôl fel Gweinidog cysgodol dros iechyd. Ond, dwi yn ddiolchgar iawn i'r pwyllgor am gynhyrchu adroddiad sydd yn ddiddorol tu hwnt, a dwi'n meddwl sy'n dysgu llawer iawn inni. Mae'r mater penodol a'r hyn rydyn ni'n trio ei gyflawni fan hyn yn rhywbeth lle mae yna gonsensws eithaf clir wedi bod arno fo ers nifer o flynyddoedd. Ond mae'r dull gweithredu a'r camau gweithredu sydd angen eu cymryd er mwyn cyflawni'r nod yna yn rhai, o bosib, lle mae yna beth anghytuno.
Does yna neb wir yn credu ei bod hi'n addas i bobl fregus sydd yn profi argyfwng iechyd meddwl gael eu hanfon i orsaf heddlu, ond yn rhy aml yn y gorffennol, wrth gwrs, dyna sydd wedi bod yn digwydd, a hynny gan nad oedd yna unman i'r heddlu fynd â'r person neu'r bobl hynny. Mi oeddwn i'n falch iawn o ddarllen yn yr adroddiad yma nad oes yna unrhyw berson dan 18 oed sy'n profi argyfwng iechyd meddwl wedi cael eu hanfon i orsaf heddlu ers 2015 bellach ac mae niferoedd yr oedolion sydd yn diweddu mewn gorsaf heddlu yn lleihau.
Ond rydyn ni hefyd yn gweld yn yr adroddiad yma fod nifer y carchariadau yn adran 136 wedi cynyddu ar y cyfan, ac mi oedd yr heddlu hefyd wedi dweud wrth y pwyllgor eu bod nhw'n teimlo mai nhw'n dal sydd yn cael eu galw yn rhy aml at faterion sydd, mewn difrif, yn ymwneud ag iechyd a gofal neu ofal cymdeithasol. Beth sy'n cael ei amlygu mewn difrif ydy'r ffaith nad ydy'r math o wasanaethau iechyd meddwl 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos y byddem ni'n licio eu gweld yn bodoli, felly mae pobl yn cael eu gorfodi o hyd i ddefnyddio'r gwasanaethau sydd yno bob awr o'r dydd—yr heddlu, adran gwasanaethau brys ysbyty, ac ati.
Felly, rydyn ni'n dod yn ôl, onid ydym, at thema sydd wedi ymddangos droeon mewn nifer helaeth o ymholiadau ac ymgynghoriadau eraill—gallaf i ond cyfeirio nôl at y ddadl ddiwethaf a gawsom ni ynglŷn ag hunanladdiad, er enghraifft—y teimlad a'r dystiolaeth nad ydy ein gwasanaethau iechyd a gofal ni yn addas, yn sicr y tu allan i oriau, a bod hynny yn rhoi pwysau ar wasanaethau eraill sydd yn rhai 24 awr y dydd.
Thema gyffredinol arall rydw i'n meddwl sy'n cael ei hamlygu yn yr adroddiad ydy'r ffaith bod cyfathrebu yn annigonol rhwng gwasanaethau, yn enwedig gwasanaethau sydd yn ddatganoledig â gwasanaethau sydd ddim yn ddatganoledig. Mae'n rhaid mynd i'r afael â hynny.
Felly, themâu yn fanna sydd yn rhai cyfarwydd iawn inni mewn difrif, a themâu rydw i'n teimlo nad ydyn nhw wedi cael y sylw y maen nhw wedi ei haeddu a sydd ei angen arnyn nhw yn ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yma. Felly, mi orffennaf i drwy ofyn i'r Gweinidog sut mae'r Llywodraeth yma yn bwriadu gwella'r ddarpariaeth o ofal argyfwng y tu allan i oriau yn arbennig, fel bod pobl sydd yn profi argyfwng neu'r rhai sydd yn gofalu amdanyn nhw yn gwybod pwy i ffonio, ac yn fwy na hynny, yn gwybod y bydd cefnogaeth yn cael ei darparu pan fyddan nhw'n gwneud yr alwad honno.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething?
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i aelodau'r pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon am eu gwaith yn cynhyrchu'r adroddiad 'Iechyd meddwl yng nghyd-destun plismona a dalfa'r heddlu'. Mae'n bwysig cydnabod rôl yr heddlu yn helpu pobl mewn argyfwng iechyd meddwl. Mewn llawer o achosion, yr heddlu yw'r pwynt cyswllt cyntaf ac mae'r cymorth a roddant i rai o'n pobl fwyaf agored i niwed yn dyngedfennol.
Mae'r argymhellion a wnaed gan y pwyllgor yn ceisio cryfhau ein dull o wella gofal mewn argyfwng, sef un o'r prif flaenoriaethau a gynhwyswyd yng nghynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' Llywodraeth Cymru y disgwyliaf ei gyhoeddi ddiwedd yr wythnos hon. Mae'r argymhellion a wnaed yn adroddiad y pwyllgor yn cyd-fynd â'r dull a weithredwn gyda phartneriaid i gefnogi pobl sy'n wynebu argyfwng drwy'r concordat gofal mewn argyfwng iechyd meddwl, ac roeddwn yn falch fod llawer o bobl yn cydnabod y gwelliannau a wnaed o ran nifer y bobl sy'n cael eu cadw yn nalfa'r heddlu. Nid yw hynny wedi digwydd yn ddamweiniol; mae wedi digwydd drwy weithio mewn partneriaeth ar draws y maes iechyd, yr heddlu a sectorau eraill.
Ond rwy'n cydnabod y pryderon parhaus a godwyd gan yr heddlu o ran amser swyddogion a dreulir yn ymateb i faterion lle tybir bod iechyd meddwl yn ffactor. Bydd rhywfaint o'r galw hwn yn ddefnydd cwbl briodol o rôl ac amser yr heddlu o dan y ddeddfwriaeth iechyd meddwl bresennol. Ond bydd hefyd yn cynnwys gwneud yn siŵr fod pobl sy'n agored i niwed yn gallu cael y cymorth cywir, a'i fod yn cael ei ddarparu ar draws amrywiaeth o asiantaethau. O safbwynt y GIG, rwyf wedi gwneud gwella gofal mewn argyfwng yn flaenoriaeth, gyda chymorth arian ychwanegol. Fodd bynnag, rwy'n cydnabod mai un partner yn unig yn y llwybr argyfwng yw'r GIG. Rydym yn gweithio'n agos gydag amrywiaeth o bartneriaid, gan gynnwys yr heddlu, awdurdodau lleol a'r trydydd sector, i wella cymorth a chanlyniadau i bobl. Roeddwn yn falch o gytuno felly, neu gytuno mewn egwyddor, i dderbyn 10 o'r 11 argymhelliad yn adroddiad y pwyllgor.
Rwy'n cytuno â'r pwyllgor ynglŷn â phwysigrwydd data a thystiolaeth gadarn ar ganlyniadau. Mae grŵp sicrwydd gofal mewn argyfwng iechyd meddwl wedi datblygu set ddata ddiwygiedig ar gyfer y rhai a gedwir o dan adran 135 ac adran 136, set ddata a gyhoeddwyd am y tro cyntaf ar 5 Rhagfyr. Mae'r data'n darparu mwy o wybodaeth nag a gyhoeddwyd yn flaenorol, er enghraifft drwy gynnwys ethnigrwydd a math o gludiant, a chaiff ei gyhoeddi bob chwarter o hyn ymlaen. Rydym yn bwriadu parhau i weithio gyda phartneriaid i ddadansoddi'r data ymhellach er mwyn helpu i lywio ein dull gweithredu a'n harferion dros amser. Mae pob partner yn cytuno, er mwyn gwella'r llwybr gofal mewn argyfwng, fod arnom angen system sy'n gallu ymateb i'r amrywiaeth o ffyrdd y mae pobl yn wynebu argyfwng personol. Nid oes un ateb sy'n addas i bawb. I wneud hyn, mae angen inni ddeall yn well a bod â dealltwriaeth gyffredin o'r galw a ddisgrifir ar hyn o bryd fel galw iechyd meddwl yn ein system gyfan.
Mewn ymateb, rydym wedi comisiynu uned gomisiynu genedlaethol gydweithredol y GIG i gynnal adolygiad mynediad a chludo brys ar gyfer iechyd meddwl. Mae'r adolygiad hwnnw'n cael ei oruchwylio gan grŵp llywio amlasiantaethol ac mae'n dadansoddi data ar draws ystod o bartneriaid, gan gynnwys yr heddlu, awdurdodau lleol, 111, a theulu ehangach y GIG, gan gynnwys gwasanaeth ambiwlans Cymru. Bydd yr adolygiad, a fydd yn cyflwyno'i adroddiad ym mis Ebrill, fel y crybwyllwyd, yn ein helpu i ddeall y galw ar hyn o bryd, er enghraifft os yw'n salwch meddwl neu'n ofid oherwydd ffactorau cymdeithasol. Bydd hyn yn galluogi pob partner i ystyried ei rôl yn sicrhau bod anghenion yn cael eu diwallu wrth inni wella gofal mewn argyfwng a chanlyniadau i bobl.
Derbyniais argymhellion yn galw ar y Llywodraeth i weithio mewn partneriaeth â'r heddlu i adolygu'r dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg ar effeithiolrwydd y gwahanol gynlluniau brysbennu ledled Cymru. Un o nodau allweddol grŵp sicrwydd y concordat yw cyd-ddealltwriaeth o ba ddulliau sy'n fwyaf effeithiol ar gyfer gwella canlyniadau i unigolion. Mae'n ofynnol i bartneriaid rhanbarthol roi gwybod am ddatblygiadau a mentrau lleol i grŵp sicrwydd y concordat er mwyn galluogi'r dysgu hwnnw ac i rannu gwelliannau. Rydym yn gweithio gyda chlinigwyr iechyd meddwl, byrddau iechyd lleol ac 111 i nodi cyfleoedd i ddatblygu llwybr argyfwng iechyd meddwl. Bydd hynny'n caniatáu inni nodi pa ddulliau y gellid eu huwchraddio wedyn ar lefel genedlaethol.
Yn unol ag argymhellion y pwyllgor, rydym wedi ymrwymo'n llawn i fuddsoddi mewn ymyrraeth gynnar ac atal er mwyn lleihau'r risg o argyfwng iechyd meddwl yn y lle cyntaf. Mae cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' a'r cynllun cyflawni ar gyfer argyfwng iechyd meddwl yn adlewyrchu'r ffocws hwnnw. Bydd gan yr holl bartneriaethau iechyd meddwl a chyfiawnder troseddol rhanbarthol gynlluniau lleol ar waith i sicrhau ymyrraeth gynnar ac atal.
Felly, mae gofal mewn argyfwng a gofal y tu allan i oriau yn parhau i fod yn flaenoriaeth, i'r GIG ac yn y cynllun cyflawni 'Law yn Llaw at Iechyd Meddwl' newydd ar gyfer y tair blynedd nesaf. Byddwn yn parhau i weithio ar y cyd â'n partneriaid i wella'r ymateb gyda phobl mewn argyfwng iechyd meddwl ac ar eu cyfer, ac wrth gwrs, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd a wnawn.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Dai Lloyd i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Dirprwy Lywydd, a diolch am eich amynedd, a dweud y gwir, achos dwi'n sylweddoli bod llai na dim amser gyda fi i ymateb i'r ddadl yma. Ond, a allaf ddiolch, felly, yn yr amser prin sydd ar gael, i bawb am eu cyfraniadau? Hefyd, dwi'n credu ei bod hi'n berthnasol inni allu talu teyrnged am waith yr heddlu yn y cyd-destun anodd yma o fynd i'r afael efo argyfyngau iechyd meddwl mewn achosion brys fel hyn. Dros y blynyddoedd, dwi wedi bod yna efo nhw, yn aml yng nghanol y nos ac ati. Pan fydd yna bethau mawr yn digwydd yn hanes pobl, mae'r heddlu yno i'n helpu ni, fel meddygon, allan o dwll hefyd, yn ogystal â'r teuluoedd. Felly, dwi'n falch iawn o allu cael y cyfle yna i dalu teyrnged i'r heddlu am eu gwaith.
A allaf bellach gydnabod cyfraniadau pwysig gan David Rees, Mark Isherwood, Rhun ap Iorwerth a hefyd, wrth gwrs, y Gweinidog? A allaf hefyd ddiolch i'r holl dystion a wnaeth ddarparu tystiolaeth mor fendigedig inni yn ystod ein hymchwiliad fel pwyllgor? Wrth gwrs, gwnaf hefyd achub ar y cyfle i ddiolch am waith dygn a chaled y clercod a'r ymchwilwyr ar y pwyllgor iechyd, achos dwi ddim wastad, bob tro, yn cofio gwneud hynny. Felly, diolch yn fawr iddyn nhw.
I gloi, felly, mae yna gamau breision wedi'u cymryd yn y maes yma. Mae o'n parhau yn faes dyrys, anodd, achos fel rydym ni i gyd yn gwybod, dydy'r heddlu ddim wedi'u datganoli i'r fan hyn. Mae iechyd a iechyd meddwl wedi'u datganoli i'r fan hyn, ond mae profiad yn gynyddol yn dangos bod yna gydweithio bendigedig yn gallu digwydd. Wedi dweud hynna, erys nifer o heriau yn y maes. Diolch yn fawr.
Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Eitem 8 ar yr agenda y prynhawn yma yw dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, 'Newidiadau i ryddid i symud ar ôl Brexit—goblygiadau i Gymru', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor hwnnw i gyflwyno'r cynnig, David Rees.
Cynnig NDM7237 David Rees
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar ei ymchwiliad i Newidiadau i ryddid i symud ar ôl Brexit—y goblygiadau i Gymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Tachwedd 2019.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o agor y ddadl heddiw a chyflwyno'r cynnig a gyflwynwyd yn fy enw ar ein hadroddiad ar y newidiadau i ryddid i symud ar ôl Brexit a'i oblygiadau i Gymru. Gadewch i mi gofnodi ein diolch i bawb a gyfrannodd at ein gwaith, yn enwedig dinasyddion yr UE sydd wedi gwneud Cymru yn gartref newydd iddynt.
Mae ein hadroddiad yn edrych ar dri maes cyffredinol sy'n ymwneud â newidiadau i ryddid pobl i symud ar ôl Brexit, sef polisi mewnfudo ar ôl Brexit, gweithrediad cynllun preswylio yr UE, a'r achos posibl dros amrywiadau rhanbarthol i bolisi mewnfudo yn y dyfodol.
Cyhoeddasom yr adroddiad mewn tirlun polisi ansicr iawn. Dylwn nodi hefyd, er bod cenedligrwydd a mewnfudo yn faterion a gadwyd yn ôl o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, mae nifer o gynigion penodol i Gymru ym Mhapur Gwyn Llywodraeth y DU a'r ddadl ehangach ynghylch polisi sy'n haeddu ystyriaeth fanwl gan y Cynulliad hwn. At hynny, mae dyletswydd arnom i gynrychioli buddiannau pobl Cymru. Mae hynny'n cynnwys sicrhau bod yr effaith ar feysydd datganoledig yn cael ei hadlewyrchu ym mholisi'r DU.
Gan droi at ein hargymhellion ac ymateb Llywodraeth Cymru, gwnaed cyfanswm o 12 o argymhellion gennym ac rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn 11 yn llawn, ac un mewn egwyddor. Rwy'n cydnabod y rheswm a roddwyd yn ymateb Llywodraeth Cymru i'r rhesymau pam mai mewn egwyddor yn unig y gallent ei dderbyn.
Yn ogystal â'n hargymhellion, rydym yn gwneud nifer o gasgliadau. Y casgliadau hyn oedd sail cyflwyniad ein pwyllgor i'r Swyddfa Gartref, ac mae'n ymwneud yn bennaf â gweithredu cynllun preswylio yr UE y byddaf yn ymdrin ag ef yn fanylach yn nes ymlaen. Byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa mewn perthynas â'r cynllun a bwriadwn ddod â'r achos i sylw'r Ysgrifennydd Cartref gan fod canlyniad etholiad cyffredinol 2019 tu ôl i ni bellach.
Bydd ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd yn arwain at rai o'r newidiadau mwyaf i bolisi mewnfudo ers degawdau. Yr hyn sy'n hollbwysig yw mai polisi'r Llywodraeth yw y bydd y rhyddid i symud yn dod i ben ac y bydd system fewnfudo newydd debyg i un Awstralia sy'n seiliedig ar bwyntiau yn disodli'r system bresennol.
Yn ganolog i hyn, ceir y cynigion ar gyfer trothwy cyflog o £30,000 y flwyddyn i'w gymhwyso i'r rhan fwyaf o fewnfudwyr sy'n dod i mewn i'r DU o'r UE ar ôl Brexit. Bydd hyn yn cyd-fynd â'r system bresennol ar gyfer gweithwyr nad ydynt yn weithwyr o'r UE. Roedd y rhan fwyaf o'r dystiolaeth a gawsom yn tynnu sylw at bryderon ynghylch y trothwy cyflog arfaethedig. Roedd llawer o bobl yn tynnu sylw at y ffaith bod y mwyafrif helaeth o wladolion yr UE sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd yn ennill llai na'r trothwy cyflog hwnnw, hyd yn oed y rhai mewn swyddi canolig a medrus.
Roedd ein hadroddiad yn croesawu'r ffaith bod y pwyllgor cynghori ar ymfudo wedi cael y dasg o adolygu'r trothwy hwn. Wrth gynnal yr adolygiad, roedd yn amlwg i ni y dylai'r pwyllgor cynghori ar ymfudo ystyried y byddai trothwy cyflog o £30,000 yn gosod y bar ar lefel uwch na'r enillion cyfartalog yng Nghymru. Mae ein set gyntaf o gasgliadau ac argymhellion yn tynnu sylw at y pryderon hyn ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddefnyddio popeth a all i sicrhau bod y trothwy'n cael ei ostwng er mwyn adlewyrchu'r cyd-destun Cymreig yn well. Rwy'n nodi bod yna adroddiadau heddiw'n rhagweld y bydd y trothwy naill ai'n cael ei ddileu neu ei ostwng. Fe arhosaf am gyhoeddiad adroddiad y pwyllgor cynghori ar ymfudo, sydd i fod i gael ei gyhoeddi cyn bo hir. Os yw'r adroddiadau hynny'n gywir, rwy'n croesawu'r posibilrwydd y caiff hyn ei newid.
Clywsom bryderon amrywiol hefyd ynglŷn â gweithrediad cynllun preswylio yr UE yng Nghymru. Llywiwyd ein gwaith ar gynllun preswylio yr UE gan fforwm ar-lein a thrafodaethau wyneb yn wyneb â dinasyddion o wledydd eraill yr UE sy'n byw yng Nghymru a chynrychiolwyr elusennau a sefydliadau sy'n gweithio gyda hwy fel unigolion a theuluoedd.
Yn benodol, clywsom am lefelau cofrestru isel yng Nghymru o'u cymharu â gwledydd eraill y DU. Roedd y ffigurau ym mis Tachwedd 2019 yn nodi bod oddeutu 59 y cant o ddinasyddion yr UE yng Nghymru wedi gwneud cais i'r cynllun, o'i gymharu â 79 y cant yn Lloegr, 63 y cant yn yr Alban, a 66 y cant yng Ngogledd Iwerddon. Felly, rydym ar waelod y lefelau hynny. Tynnwyd sylw at bryderon ynghylch yr elfennau digidol diofyn o'r cynllun a'r ymwybyddiaeth gyffredinol o sut a ble i gael gafael ar y cyngor a'r cymorth. Nawr, rydym yn rhannu'r pryderon hyn, a nodasom farn pwyllgor Tŷ'r Arglwyddi ar gyfiawnder yr UE fod y diffyg dogfennaeth ffisegol a ddarperir i ddinasyddion yn dangos elfennau sy'n debyg i sgandal Windrush.
Mae'n amlwg fod gan y ddwy Lywodraeth rôl i'w chwarae yma o ran rhoi cyngor a chymorth i ddinasyddion yr UE ddefnyddio'r cynllun, a hefyd o ran rhoi sicrwydd y bydd eu statws yn ddiogel ac yn barhaol ar ôl Brexit. Dyma pam y galwn ar Lywodraeth Cymru i roi arweiniad cryfach o ran cyfeirio dinasyddion at y pecyn o fesurau sydd ganddi i'w cefnogi, ac i ailadrodd ei negeseuon o gefnogaeth yn uchel i ddinasyddion yr UE yma. Wrth gyfleu'r neges hon, dylem gofio hefyd fod ein cydweithwyr yn Senedd Ewrop hefyd wedi dangos diddordeb brwd yn hawliau dinasyddion ar ôl Brexit. Yn wir, mae ffigurau allweddol yn Senedd Ewrop wedi dweud dro ar ôl tro y bydd hawliau dinasyddion yr UE ymysg eu prif ystyriaethau pan ddaw'n fater o roi eu barn a ddylid cefnogi cytundeb ymadael y DU â'r UE ai peidio, ac os wyf yn iawn, bydd hynny'n digwydd yr wythnos nesaf.
A dylem fod yn gwbl ymwybodol, felly, fod Senedd Ewrop wedi pasio cynnig yr wythnos diwethaf—gyda 610 o blaid, 29 yn erbyn, a 68 yn ymatal, felly mwyafrif go fawr—yn mynegi pryderon eang am ddull Llywodraeth y DU o sicrhau hawliau dinasyddion ar ôl Brexit. Mewn llawer o feysydd, roedd y pryderon hyn yn debyg i'n rhai ni, gan gynnwys diffyg dogfennaeth ffisegol ar gyfer ymgeiswyr llwyddiannus, a materion yn ymwneud â hygyrchedd y cynllun. Felly, rwy'n ailadrodd galwadau ein pwyllgor am i'r materion hyn gael sylw fel mater o frys.
Roedd ein trydedd thema ganolog yn ystyried a oes achos dros reolau mewnfudo gwahanol i Gymru ar ôl Brexit. Cawsom gryn dipyn o dystiolaeth a oedd yn amlygu heriau demograffig ac anghenion economaidd penodol Cymru. Mae'r heriau, yn enwedig poblogaeth sy'n heneiddio, yn debygol o waethygu wrth i ryddid i symud ddod i ben. Ar ben hynny, mae'n wir fod rhai sectorau o'r economi yn debygol o ddioddef yn waeth nag eraill wrth i ryddid i symud ddod i ben. Ni ddaethom i gasgliad cadarn ynglŷn ag a ddylai Llywodraeth Cymru wasgu am fwy o reolaeth dros y system fewnfudo yng Nghymru ar ôl Brexit. Fodd bynnag, hoffem dynnu sylw'r Cynulliad at enghreifftiau mewn gwledydd eraill, yn fwyaf nodedig yng Nghanada ac Awstralia, lle mae gwahaniaethu o'r fath yn digwydd.
Ac yn yr un modd, cytunasom y dylai Llywodraeth Cymru wneud gwaith i archwilio polisi mewnfudo sy'n gwahaniaethu'n ofodol ar ôl Brexit. Dylai hyn gynnwys ymchwil ar dueddiadau demograffig yn y dyfodol ac effaith bosibl lefelau is o ymfudo ar economi Cymru. Hyd nes y gwneir hynny, ni fydd gennym y sylfaen dystiolaeth gadarn sydd ei hangen i lywio polisi yn y maes hwn yn y dyfodol, wedi'i deilwra i anghenion Cymru. A nodais yn ymateb Llywodraeth Cymru fod yr awgrym o ostyngiad yn y boblogaeth yn y blynyddoedd i ddod yn rhywbeth y mae angen i ni fyfyrio yn ei gylch, yn enwedig gan ein bod yn boblogaeth sy'n heneiddio. Os bydd y boblogaeth yn lleihau, mae'n fwy tebygol nad yw'r bobl iau yn mynd i fod yma.
Yn olaf, cyn cloi fy sylwadau agoriadol, hoffwn ystyried y neges bwysicaf o bosibl a gesglais o'n gwaith yn y maes hwn. Clywsom yn uniongyrchol gan ddinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru am y dreth y mae rhethreg negyddol ynghylch ymfudo yn ei chael ar eu lles emosiynol hwy a'u ffrindiau a'u teuluoedd. Galwaf ar bob un o fy nghyd-Aelodau yn y Siambr hon a chynrychiolwyr etholedig eraill ar bob lefel, o bob plaid wleidyddol, i ystyried yr effeithiau niweidiol y mae peth o'r rhethreg a'r iaith a ddefnyddiwyd mewn perthynas â mewnfudo yn eu cael ar y bobl yr effeithir arnynt. Efallai nad ydym bob amser yn deall y geiriau a ddefnyddiwn a'r effaith y maent yn ei chael ar bobl. Mae angen inni fod yn ofalus. Mae dyletswydd arnom i weithredu ar ran y bobl a ddywedodd wrthym eu bod yn teimlo nad oes croeso iddynt ac nad oes mo'u heisiau yn ein gwlad oherwydd yr iaith a ddefnyddir, a'r iaith honno'n cael ei hailadrodd gan unigolion yn ein bywyd cyhoeddus. Mae dyletswydd arnom i arwain ar hynny. Mae angen inni sicrhau bod y bobl hyn—sydd yma i helpu a gweithio, pobl nad ydynt yma am unrhyw reswm arall—yn teimlo'n gartrefol, eu bod yn teimlo'n rhan o'n cymuned. Maent am fod yn rhan o'n cymuned. Ein gwaith ni yw sicrhau bod y genedl yn siarad un iaith groesawgar wrth y bobl hyn. Dyna pam rwy'n dweud heddiw ein bod yn sefyll gyda chi.
Felly, cyflwynaf y cynnig a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi'r adroddiad.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Diolch i David Rees, Cadeirydd y pwyllgor am y ffordd y mae—wel, mae bob amser yn arwain y pwyllgor mewn modd rhagorol. Roedd hwn yn ymchwiliad pwysig iawn, ac rwy'n hapus i gefnogi'r cynnig a'r adroddiad heddiw.
Credaf fod David wedi ymdrin â'n prif bwyntiau, ond gadewch i mi ymhelaethu arnynt. Nid wyf yn meddwl y cânt eu lleihau mewn unrhyw fodd wrth eu hailadrodd. Mae'n amlwg mai'r trothwy cyflog o £30,000 oedd y prif fater a wynebwyd gennym ac fel y nodwyd, mae hwnnw gryn dipyn yn uwch na lefel y cyflog cyfartalog yng Nghymru, ac rwyf innau hefyd yn falch o weld bod hynny'n cael ei adolygu erbyn hyn. Ac rwy'n credu ein bod yn hollol iawn i argymell caniatáu rhywfaint o amrywio yng Nghymru pe bai'n aros ar £30,000, fel y gallem o leiaf ei addasu. Ond o ran y cynllun cyfan, clywsom gan gyflogwyr am y gost uwch y gallant ei hwynebu am recriwtio, yr anhawster penodol mewn sectorau mwy bregus, a hyd yn oed pe bai'r trothwy'n gostwng, efallai na fydd modd cael digon o weithwyr, fel y rhai mewn gofal cymdeithasol—yn enwedig os ydynt yn weithwyr rhan-amser, er enghraifft—bwyd-amaeth, lletygarwch. Mae'r rhain i gyd yn feysydd allweddol i economi Cymru.
Nodais innau hefyd y gyfradd is ymhlith dinasyddion yr UE yng Nghymru sy'n gwneud cais am y cynllun statws preswylydd sefydlog, ac mae gryn dipyn yn is na rhannau eraill o'r DU. Ac i ryw raddau, rhaid i mi ddweud bod hyn yn adlewyrchu fy mhrofiadau fy hun dros y flwyddyn neu'r 18 mis diwethaf gyda'r gymuned Roegaidd yn ne Cymru. Maent wedi lleisio'r pryderon hyn ynglŷn â gwybodaeth a sut i fynd ati, ac mae llawer ohonynt wedi bod yma ers degawdau, a rhai ohonynt yn Gypriaid Groegaidd sydd wedi bod yma er y 1970au. Rwy'n credu bod llawer iawn o ansicrwydd a phryder, a rhywfaint ohono'n gyfeiliornus mae'n siŵr, ond roedd y diffyg eglurder hwnnw'n broblem wirioneddol.
Ac os caf hysbysu'r cyd-Aelodau, Lywydd, y bydd cyflwyniad yn cael ei gynnal wythnos i heddiw yn ystafell gynadledda C a D ar gyfraniad y gymuned Roegaidd dros y 150 mlynedd diwethaf i Gaerdydd yn benodol, felly rwy'n annog yr Aelodau i ddod draw. Yn sicr, byddai'n gwneud y pwynt y mae David wedi'i wneud yn fyw iawn am ein hangen i groesawu mewnfudwyr gan eu bod yn rhoi cymaint i ni ac yn cyfoethogi ein treftadaeth ddiwylliannol ein hunain yng Nghaerdydd a de Cymru, ac mewn rhannau eraill o Gymru mae'n siŵr.
A gaf fi ddweud y byddai cynllun pwyntiau, os mai dyna a gawn yn y pen draw, yn caniatáu ar gyfer mwy o amrywio rhanbarthol o bosibl? Rwy'n deall bod Llywodraeth Cymru yn gyndyn o fynd ar drywydd y math o gynllun a fyddai'n rhoi llawer o allu i amrywio rhywbeth fel y trothwy, a all fod yn anodd ei weinyddu, ond gallai caniatáu mwy o bwyntiau i fewnfudwyr sy'n dod yma i chwilio am waith, a gallu ymgartrefu yng Nghymru ac yn enwedig swyddi, efallai, fod yn ffordd ymlaen, a chredaf y dylid ystyried hynny'n ofalus iawn. Rwy'n gwerthfawrogi'r meddwl a aeth i mewn i hynny gan Lywodraeth Cymru.
A hefyd, credaf y gellid cyfuno hyn â'r angen am restr o alwedigaethau lle ceir prinder o weithwyr, fel y bydd ganddynt yn yr Alban, a dechrau caniatáu'r hyblygrwydd mwyaf posibl i ni, gan fod ein heconomi yn wahanol iawn i'r rhai sy'n eithaf agos atom o gwmpas Bryste, ac yn sicr o gwmpas Llundain a dyffryn y Tafwys. Felly, rwy'n credu bod y pethau hyn yn bwyntiau y gellid cyfiawnhau eu codi a'u hystyried, oherwydd rydym ar fin cael newid mawr i ymarfer o ran pobl o weddill Ewrop a fydd yn ceisio byw a gweithio ym Mhrydain ac yn ein hachos ni yn arbennig, yng Nghymru. Rhaid rheoli'r newidiadau'n ofalus iawn. Gallent effeithio ar lawer o bobl—y rhai sydd eisoes wedi ymgartrefu; mae mwy o duedd i'w perthnasau ddod yma i weithio lle mae ganddynt gysylltiadau teuluol. Felly, mae'r rhain yn bwyntiau eithriadol o bwysig.
Er ein bod bellach ar fin mynd drwy holl realiti Brexit a'r newidiadau mawr, mae llawer o gyfleoedd o hyd i ymateb i'r pryderon digon dealladwy a gawn, hyd yn oed ar y cam hwn, drwy'r ymgynghoriadau a'r ymchwiliadau. Ac rwy'n croesawu'r ffaith bod Llywodraeth Cymru yn ymateb yn yr ysbryd cywir, ac adeiladol buaswn yn dweud, wrth nodi'r pwyntiau hyn a gwneud awgrymiadau, a hyrwyddo rhai o'r pwyntiau sydd gennym a allai wella'r cynllun yn fawr, heb fod ynddynt unrhyw fwriad yn y bôn i danseilio'r agweddau ymarferol ar yr hyn a fydd yn ein hwynebu yn y byd ôl-Brexit. Diolch yn fawr iawn, Lywydd.
Yr wythnos hon yw fy olaf fel aelod o'r pwyllgor materion allanol, a hoffwn gymryd y cyfle hwn i ddiolch i'r Cadeirydd, David Rees, a phob aelod arall o'r pwyllgor am y croeso a'r cyfeillgarwch dros y flwyddyn ddiwethaf, wrth inni graffu ar wahanol elfennau o gynlluniau Llywodraethau Cymru a'r Deyrnas Gyfunol o ran ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.
Un agwedd ar waith y pwyllgor wnaeth argraff arnaf i o'r ddechrau oedd, er taw cymryd trosolwg rhyngwladol oedden ni—serch hynny, mae effaith y polisïau, y ddeddfwriaeth a phenderfyniadau yn rhai lleol, ac, mewn sawl achos, yn unigol. Roedd hyn yn enwedig yn wir o ran yr ymchwiliad rydyn ni'n ei drafod heddiw, sef y newidiadau i ryddid i symud wedi inni adael yr Undeb Ewropeaidd.
Hoffwn gysylltu fy hun â'r sylwadau sydd eisoes wedi cael eu gwneud o ran diolch i'r bobl a'r sefydliadau wnaeth gyfrannu at ein gwaith, yn enwedig y dinasyddion o'r Undeb Ewropeaidd wnaeth gymryd rhan yn ein grŵp ffocws.
Pan ddigwyddodd y refferendwm yn 2016, doedd dim llawer o eglurder ynghylch ystyr y bleidlais. Mae nifer bellach yn credu bod pobl wedi pleidleisio er mwyn lleihau mewnfudo, er nad oes tystiolaeth gadarn fod hyn yn wir ymhob achos. Felly, mae e'n destun tristwch inni ein bod yn gorfod colli'r pedwar rhyddid nad oes modd eu rhannu.
Mae rhyddid i symud yn agor gorwelion. Mae pobl sy'n byw yn ein plith yn ein cymunedau wedi elwa o'r rhyddid hwn—pobl a fydd yn awr yn gweld y gorwelion hynny'n diflannu. Mae'n ffenomen hynod a thrist iawn, ond dyma ni.
Crybwyllais y grwpiau ffocws a gynhaliwyd gennym fel pwyllgor, ac roedd eu tystiolaeth yn drychinebus: pobl sydd wedi byw am lawer o'u hoes yng Nghymru nad ydynt yn teimlo mwyach eu bod yn cael croeso oherwydd polisi'r Llywodraeth, oherwydd ansicrwydd ac oherwydd y rhethreg niweidiol iawn sydd wedi gwenwyno'r ddadl—y diafoliaid a gafodd eu dihuno gan rai elfennau o ddadl y refferendwm. Soniodd y bobl yn y grwpiau ffocws am y sefyllfa ddystopaidd oedd yn eu hwynebu, y rhwystrau yn eu ffordd rhag gwneud cais am statws preswylydd sefydlog, y cylchoedd y mae'n rhaid iddynt neidio drwyddynt, y pryder sy'n gysylltiedig â darganfod mai dim ond statws preswylydd cyn-sefydlog a roddwyd i chi, a'r ffaith Kafkaesgaidd, hyd yn oed os ydych chi'n cael statws preswylydd sefydlog, nad ydych yn cael unrhyw brawf copi caled o'r statws hwnnw—fel rhyw rith hunllefus. Y peth a'm trawodd i'r byw oedd y straeon a glywsom am blant yn dod yn destun gwawd yn yr ysgol—mor ifanc â phump neu chwech oed—am nad yw eu rhieni wedi'u geni yma, neu am na chawsant hwy mo'u geni yma, a bod eu cyd-ddisgyblion yn dweud wrthynt, 'Fe wnaethom bleidleisio dros eich gweld chi'n mynd adref.' Pa fath o wlad ydym ni eisiau bod: un lle mae pobl sydd wedi dewis byw eu bywydau yma yn cael croeso a chefnogaeth, neu un lle rydym yn codi rhwystrau?
Mae'r adroddiad hefyd yn egluro pa mor ddinistriol a niweidiol fydd y trothwy cyflog o £30,000 i'n heconomi. Nid yw'r pris y mae Llywodraeth y DU wedi dewis ei roi ar y croeso a roddwn i rai dinasyddion yn cyd-fynd â'n hanghenion yng Nghymru. Ac mae ein hadroddiad yn dweud yn glir fod y mwyafrif helaeth o wladolion yr UE sy'n byw ac yn cyfrannu at ein heconomi yng Nghymru eisoes yn ennill llawer llai na'r trothwy hwnnw. Ac maent yn cyfri. Maent yn cyfrannu. Hwy yw ein cymdogion, ein cydweithwyr, ein ffrindiau. Oni chaiff hyn ei herio a'i newid fe gaiff effaith ofnadwy ar ein gwasanaethau, ar ein GIG, ond hefyd arnom ni fel pobl.
Lywydd, os ymwelwch â Shakespeare and Company ym Mharis—er y gallai hynny fod yn anos i'w wneud ar ôl Brexit, pwy a ŵyr? Ond os ewch yno, mae ganddynt ddyfyniad bendigedig ar y wal:
Peidiwch â bod yn anfoesgar wrth ddieithriaid rhag ofn mai angylion mewn cuddwisg ydynt.
Nawr, yn hyn o beth, rwy'n un o ddisgyblion John Donne. Rwy'n credu nad oes yr un ohonom yn ynys, nad ydym yn ddieithriaid go iawn i'n gilydd, ni waeth ble y cawsom ein geni. Rwy'n rhyngwladolwr, a chredaf yn gryf fod y ffordd rydym yn trin ein cyd-ddyn yn talu ar ei ganfed.
Mae gwladolion yr UE yn cyfrannu at ein cymdeithas. Ni fydd y cyfraniad hwnnw'n lleihau ar ôl Brexit, ac ni ddylai ein gwerthfawrogiad ohonynt leihau ychwaith. Dylem ni a'n polisïau ddilyn yr elfennau gwell yn ein natur, nid y rhai gwaethaf.
A gaf fi ddweud ar y dechrau y byddwn yn cefnogi'r cynnig hwn? Fodd bynnag, rhaid i mi nodi fy mod yn credu bod pob plaid yn y Siambr wedi mynegi ei chred a'i chefnogaeth i ddinasyddion yr UE sy'n gweithio yn y DU ar hyn o bryd, a sut y dylid caniatáu iddynt—na, eu hannog hyd yn oed—i aros, ac mae hynny'n arbennig o berthnasol i'r rhai sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymru. Felly, ni fydd y ddadl hon ar yr adroddiad materion allanol yn ychwanegu fawr ddim os o gwbl at yr hyn sydd wedi cael ei ddweud a'i gytuno yn y Siambr o'r blaen. Yr hyn na ddylem ei anghofio—[Torri ar draws.]
A wnaiff yr Aelod ildio?
Gwnaf.
Diolch i'r Aelod am dderbyn yr ymyriad. Roedd yn rhaid i mi godi oherwydd fy mod i wedi bod yn eistedd yn y Siambr ac wedi clywed sylwadau am 'estroniaid' yn y Siambr hon. A ydych yn cytuno nad yw'r math hwnnw o sylw'n helpu'r agenda pan fyddwn yn siarad â phobl? Maent yn rhan o'n cymunedau, maent yn rhan o'n cymdeithas, ac mae siarad amdanynt fel 'estroniaid' yn amhriodol.
Yn sicr. Rwy'n credu bod hwnnw'n ymadrodd anffodus iawn, David. Nid oes amheuaeth am hynny o gwbl. [Torri ar draws.] Wel, nid wyf fi wedi ei ddefnyddio yn y Siambr.
Yr hyn na ddylem ei anghofio, fodd bynnag, yw mai rhyddid i symud oedd y prif fater oedd yn codi gan bobl y DU, yn enwedig pobl yng Nghymru. Mae'r blaid Lafur, ac i ryw raddau, Plaid Cymru, wedi talu pris mawr am anwybyddu pryderon ei chyn-gefnogwyr dosbarth gweithiol.
Rwyf wedi darllen drwy'r adroddiad hwn, ac ymatebion y Llywodraeth, sydd wrth gwrs yn cynnwys yr holl ystrydebau arferol tra'n anwybyddu gwir realiti yr hyn y mae mewnfudo torfol wedi ei olygu, nid yn unig i'r boblogaeth frodorol ond i'r niferoedd helaeth o fewnfudwyr sydd wedi cael eu hecsbloetio'n greulon heb ddim o'r hawliau a roddwyd iddynt gan ddeddfwriaeth hawliau gweithwyr Ewropeaidd sy'n aml yn cael ei chanmol. Nid yw llawer ohonynt yn fawr mwy na chaethweision, ac rwy'n cyfeirio yma nid yn unig at y fasnach ryw, ond at lawer o alwedigaethau honedig eraill, fel y rhai sy'n golchi ceir, rhywbeth rwyf wedi'i godi sawl gwaith yn y Siambr.
Nid oes unrhyw sôn yn yr adroddiad nac yn ateb y Llywodraeth am fanteisio ar gyfle Brexit i fynd i'r afael â'r galwedigaethau camfanteisiol hyn a cheisio helpu'r rhai sy'n gwneud gwaith o'r fath i gael y rhyddid i ddychwelyd adref a rhyddhau eu hunain o'r caethiwed a orfodir gan y sefydliadau troseddol sy'n manteisio arnynt. Rwy'n atgoffa'r Siambr nad oedd gennym arferion o'r fath yn y DU hyd nes y cyflwynwyd mewnfudo torfol, yn enwedig o hen wledydd dwyrain Ewrop. Does bosibl nad yw mynd i'r afael â'r arferion hyn yn angen llawer mwy dybryd a dyngarol na llu o fentrau a gynlluniwyd i roi gwybod i'r rheini sydd eisoes yn ymwybodol iawn yn ôl pob tebyg o'u hawl i aros ar ôl Brexit. Yn wir, mae miloedd lawer eisoes wedi ffeilio'r papurau angenrheidiol i sicrhau eu bod yn parhau i breswylio yma.
Yr hyn nad yw'r adroddiad yn mynd i'r afael ag ef yw pam fod angen y bobl hyn o wledydd eraill yn y lle cyntaf. Wedi'r cyfan, mae 22.7 y cant o boblogaeth Cymru—bron chwarter—yn economaidd anweithgar. Mae'r ateb, wrth gwrs, i'w ganfod yn esgeulustod y blaid Lafur a'r blaid Dorïaidd o ran darparu'r cyfleusterau a'r cyfleoedd hyfforddi i'n poblogaeth frodorol. Clywn yn aml na allem weithredu ein gwasanaeth iechyd gwladol heb wladolion tramor, ac eto, bob blwyddyn, caiff 80,000 o ymgeiswyr hyfforddiant nyrsio sydd â'r cymwysterau angenrheidiol eu gwrthod, ac mae miloedd lawer sy'n dymuno dychwelyd i'r gwasanaeth iechyd ar ôl gadael am gyfnod o absenoldeb yn cael eu gwrthod am fod eu sgiliau'n eu gwneud yn gymwys ar gyfer bandiau cyflog uwch. Gwell yw manteisio ar lafur rhad o dramor. Mae prinder lleoedd hyfforddi meddygon ledled y DU, gan gynnwys Cymru, wedi cael sylw lawer gwaith yn y Siambr hon.
Felly, nid yw Plaid Brexit yn gweld fawr ddim yn yr adroddiad nac yn ymatebion y Llywodraeth na chafodd sylw o'r blaen, naill ai gan Lywodraeth y DU neu Lywodraeth Cymru, na dim nad yw llawer o ymatebion Llywodraeth Cymru wedi'i gadarnhau. Rwy'n siŵr nad yw pobl Cymru eisiau gweld gweithwyr Ewropeaidd da a gweithgar yn cael eu hel oddi yma, eu hailwladoli neu weithredu unrhyw fath arall o wrthodiad. Ond yr hyn y maent yn amlwg am ei gael yw polisi mewnfudo rheoledig sy'n dilyn system Awstralia sy'n seiliedig ar bwyntiau, ac sydd bellach yn cael ei hargymell yn rhannol gan y Torïaid, ond un y mae rhai ohonom wedi'i hargymell ers amser hir iawn.
Rwyf wedi cefnogi'r rhyddid i symud yn frwd ar hyd fy oes fel oedolyn. Fel person ifanc yn fy arddegau, rwy'n cofio sefyll wrth yr arolygfeydd ffin a arferai fodoli yn ein cartref Ewropeaidd cyffredin. Mae gennyf stamp ar basbort o Ffrainc. Rwy'n cofio gorfod dangos fy mhasbort i groesi afonydd a ffyrdd ein cyfandir. Un o'r rhoddion mwyaf a gawsom gan yr Undeb Ewropeaidd oedd dileu'r ffiniau hynny a chael gwared ar yr arolygfeydd ffin, a dileu'r angen i ddangos na allem symud o un darn o dir i'r llall.
Daeth ein cartref Ewropeaidd cyffredin, yn aml y man lle buom yn ymladd ein rhyfeloedd sifil, yn fan lle gallem estyn allan a pheidio ag adeiladu waliau pellach. Nid yw'n gyd-ddigwyddiad fod arolygfeydd ffin wedi'u marcio gan luniau rhyfel hefyd. Mae symud y tu hwnt i'r ffiniau hynny ac edrych ar fyd drwy sbectol, 'A ydych chi'n frodorion? A wyf fi'n frodor? A yw rhywun arall yn frodor?', wedi arwain at un o'r mathau mwyaf o ryddid y mae pawb ohonom wedi'u mwynhau.
Ond mae'r rhyddid i symud hefyd yn un o'r mathau o ryddid a gamddeallwyd ac a gamliwiwyd fwyaf. Wrth gwrs, rhyddid i lafur symud ydyw. Gallu pobl i symud ac i weithio ar draws 28 o diriogaethau gwahanol. Nid yw'n rhyddid y byddant hwy'n ei golli, ond mae'n un y byddwn ni yn ei golli. Mae'n rhyddid sydd wedi galluogi pobl, yn y Siambr hon a'r bobl y mae pawb ohonom yn eu cynrychioli, i fwynhau'r cyfleoedd na allai ein hynafiaid ond breuddwydio amdanynt. Ond mae hefyd yn rhyddid, wrth gwrs, a gafodd ei droi'n arf mewn sawl ffordd, a gwelsom benawdau gwasg y gwter, y papurau tabloid, yn defnyddio hil fel modd o greu rhagfarn, ac rydym wedi clywed hynny y prynhawn yma yn y ddadl hon.
Gadewch i mi ddweud hyn wrth Blaid Brexit: mae Cymru'n genedl a gafodd ei hadeiladu gan fewnfudwyr ac ar fewnfudo. Fy nghymuned i—[Torri ar draws.] Na, nid wyf am ildio i chi. Rwyf wedi cael digon arnoch. Mae Cymru'n wlad a adeiladwyd ar fewnfudo a chan fewnfudwyr, a fy etholwyr i yw canlyniadau'r mewnfudo hwnnw, fel y rhan fwyaf ohonom yn yr ystafell hon, yn y Siambr heddiw. Symudodd ein cyndadau i'r wlad hon a'i gwneud y wlad ydyw, y wlad rydym yn ei dathlu, y wlad rydym yn ei charu, y wlad rydym yn buddsoddi ein bywydau ynddi; fe'i hadeiladwyd ar, a'i chreu gan don ar ôl ton o fewnfudwyr, a dylem groesawu hynny.
Mae hefyd yn un o'r meysydd lle mae Llywodraeth y Deyrnas Unedig wedi cam-drin pobl yn y modd mwyaf gwarthus. Mae methiant cynllun preswylio yr UE wedi creu mwy o drallod diangen na bron unrhyw faes polisi arall, ac eithrio credyd cynhwysol o bosibl. Fel Delyth Jewell, siaradais â'r bobl hynny, edrychais i'w llygaid a gwelais y siom, y loes a'r trallod a achoswyd, nid o ganlyniad anfwriadol i bolisi ond fel canlyniad bwriadol i bolisi, a chan y geiriau a ddefnyddiwyd gan Weinidogion y DU a'r rhagfarn a glywsom yn y Siambr y prynhawn yma. Mae hynny wedi creu trallod yn ein cymunedau ymhlith y bobl y ceisiwn eu cynrychioli, a dylem fod â chywilydd mawr o hynny.
A hefyd, gwyddom fod Llywodraeth y DU wedi gwneud camgymeriad gyda'r polisi hwn. Gwyddom y bydd y cap cyflog, y trothwy cyflog, yn creu anawsterau i'n GIG, yn creu anawsterau i'n gwasanaethau cyhoeddus, ac yn creu anawsterau i'n heconomi. Ond a wyddoch chi beth fydd y polisi hwn a'r dull gweithredu hwn yn ei wneud yn fwy nag unrhyw beth arall a fydd yn effeithio arnom i gyd? Bydd yn rhoi'r argraff ein bod ni'n bobl gul ac yn wlad gul, gwlad lle mae'r term 'brodorol' yn cael ei ddefnyddio mewn dadleuon gwleidyddol. Ac fe ddywedaf yn hollol glir wrthych, yr unig dro arall y clywais y gair 'brodorol' yn cael ei ddefnyddio gan wleidydd oedd gan Blaid Genedlaethol Prydain a'r Ffrynt Cenedlaethol, lle mae hil yn cael ei ddefnyddio i wahaniaethu.
Ac fe ddylem bob amser, bob un ohonom sy'n rhannu'r gwerthoedd rhyddfrydol sydd wedi creu'r gymdeithas sydd gennym heddiw, ymladd ac ymladd ac ymladd yn erbyn y rhagfarn honno, a'i hymladd eto. Ac fe wnawn ni wynebu'r bobl sy'n lledaenu'r rhagfarn honno, ac a wyddoch chi beth? Fe wnawn eu trechu. Oherwydd nid yw hon yn wlad gul ac nid yw'n genedl gul. Rydym yn wlad sy'n croesawu pobl i'n cymunedau, gwlad sy'n croesawu pobl i'n trefi a'n pentrefi, ac rydym yn wlad sy'n cydnabod ac yn deall ein hanes. Ac o ganlyniad, fe ymladdwn yn erbyn rhagfarn ac fe wnawn ni ennill.
Mandy Jones.
[Anghlywadwy.]—a phobl ddu.
Rydych chi'n hiliol.
Diolch, Lywydd. Mae'n ddrwg gennyf, Alun, ond pobl fel chi sy'n ysgogi'r rhaniadau mewn gwirionedd lle nad oes rhai.
Fel aelod o'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, hoffwn fanteisio ar y cyfle i ddiolch i staff cymorth y pwyllgor am eu help a'u cymorth drwy gydol yr adroddiad hwn. Mae hefyd yn bwysig cydnabod cyfraniad dinasyddion yr UE a'r rhai o wledydd eraill sydd wedi ymgartrefu yma yng Nghymru ac a roddodd o'u hamser i ddod i siarad â'r pwyllgor, gan ychwanegu gwerth a chrebwyll go iawn hefyd i'r adroddiad. Yn olaf, hoffwn ddiolch i'r holl randdeiliaid am eu cyfraniad ac wrth gwrs, diolch i David Rees fel Cadeirydd y pwyllgor am ei holl waith caled.
Yn ystod refferendwm yr UE, roedd mewnfudo a diffyg rheolaeth yn bryder amlwg i ran helaeth o'r cyhoedd, pa un a ydych yn hoffi hynny ai peidio. Ond mae hefyd yn bwysig iawn deall bod y pryderon yn ymwneud yn bennaf â system fewnfudo sydd wedi torri ac nid rhagfarn lwyr yn erbyn y rhai sy'n dod o genedl-wladwriaethau'r UE neu fel arall. Fel y dywedais o'r blaen, pobl ac areithiau fel hynny sy'n creu rhaniad lle nad oes un mewn gwirionedd.
Wrth gasglu tystiolaeth ar gyfer yr adroddiad hwn, cynhaliodd y pwyllgor ddau grŵp ffocws, ac o'r rhai a fynychodd, mae'n glir fod yn rhaid i Lywodraeth y DU wneud mwy i gyfathrebu â dinasyddion o wledydd eraill ynglŷn â sut y maent yn gwneud cais am eu statws preswylydd sefydlog a darparu'r sicrwydd sydd ei angen. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y newyddion heddiw ynglŷn â gostwng neu hyd yn oed ddileu'r trothwy o £30,000 yn cael ei wireddu. Diolch.
Mae wedi bod yn ddadl ddiddorol y prynhawn yma eisoes. Mae'n fy atgoffa o'r dyfyniad gan ddyn a aned yn 1911, Max Frisch, a ddywedodd:
Gofynasom am weithwyr. Cawsom bobl yn lle hynny.
Daw pobl â'u diwylliannau eu hunain, eu diddordebau a'u safbwyntiau eu hunain, a deuant â thapestri cyfoethog a dwfn o'u cefndir eu hunain a'u hanghenion teuluol gyda hwy. Nid dod yma fel gweithwyr yn unig a wnânt, deuant yma i ymgartrefu, ac i fod yn rhan o'r gymdeithas hon. Deuant yma ac weithiau, wyddoch chi, maent am ddod â'u teuluoedd gyda hwy? Nid ydynt am ddod am gyfnod byr er eu mwyn eu hunain yn unig, oherwydd os ydynt eisiau dod yma a chyfrannu a thalu eu trethi, byddent yn hoffi dod â'u gwraig a'u plant hefyd weithiau.
Gofynasom am weithwyr. Cawsom bobl yn lle hynny.
Mae hyn lawn mor wir yn awr ag yr oedd bryd hynny. Ac mae'n fy nharo ein bod—. A diolch i David am gadeirio'r pwyllgor hwn, a'r holl aelodau am eu cyfranogiad da yn y dystiolaeth a glywsom, a oedd yn rymus, yn bersonol iawn ac yn ddynol iawn. Ond mae'n fy nharo'n aml fod ein safbwyntiau ar fewnfudo yn gyffredinol yn gwrthdaro'n eithafol.
Un maes nad ydym yn ei drafod heddiw, er enghraifft, yw'r cannoedd o bobl sy'n dod i mewn i Lundain yn bennaf bob blwyddyn ar fisâu aur. Nid ydym yn trafod y rhai a all roi £2 filiwn y flwyddyn i Lywodraeth y DU er mwyn prynu mynediad i'r DU, a llawer o'r arian hwnnw—. Fe'i ataliwyd ar un adeg oherwydd ofnau ynghylch gwyngalchu arian a llygredd, ac arian Rwsia, ac arian a oedd yn cael ei drosi ar draws sawl gwlad wahanol cyn dod i'r lan yma, a'r effaith ar farchnad dai Llundain. Cafodd ei atal am gyfnod byr; mae'n ôl fel y bu. Mae bellach ar ei uchaf ers pum mlynedd. Felly, nid ydym yn trafod hynny heddiw.
Mae ein hagweddau at fewnfudo'n gwrthdaro braidd. Yr hyn rydym yn ei drafod yw pethau fel y bobl sydd islaw'r cap o £30,000. Mae'r cyflog cyfartalog yng Nghymru yn £26,000 y flwyddyn, nid £30,000. Os caiff y cap o £30,000 ei gadw fel y mae—ac rwy'n gobeithio y byddant yn newid eu barn ar hyn—dengys ymchwil y gallai gael effaith mor sylweddol â 57 y cant ar fewnfudo dros y 10 mlynedd nesaf yng Nghymru. Wel, bydd yr effaith o 50 y cant ar ein mewnfudo i'w deimlo. Gweithwyr gofal fyddant—nid dim ond y bobl sy'n gweini coffi i chi, er y bydd yn cynnwys y rheini—gweithwyr gofal fyddant, a gweithwyr iechyd, a'r bobl yn y diwydiant gweithgynhyrchu sy'n gweithio ar y llinellau cynhyrchu, a hynny i gyd.
Nawr, dyna pam rwy'n credu bod rhaid i Lywodraeth y DU ailfeddwl ynglŷn â hyn. Neu fel arall, fel y maent wedi bod yn gwthio'n ddi-baid amdani, ynglŷn â system fewnfudo sy'n seiliedig ar bwyntiau fel yn Awstralia, sef y zeitgeist. Mae'n ymadrodd sy'n cynnwys popeth ac yn y blaen—. Yn Awstralia, mae ganddynt allu i sicrhau amrywio rhanbarthol yn hynny. Felly, gall llywodraethau rhanbarthol fynnu amrywio mewn gwirionedd; gallant ddweud, 'Wel, ar gyfer ein sectorau penodol a'n meysydd penodol, ac ar gyfer ein lefelau cyflog, rydym angen rhywbeth gwahanol. Rydym angen cymhellion i annog pobl i symud o Lundain a de-ddwyrain Lloegr a symud i Gymru, i'r Alban, i'r gogledd-ddwyrain, i'r gogledd-orllewin, ac ati'. Felly, rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn hyblyg yn hynny o beth.
Hoffwn nodi un agwedd ddiddorol ar hyn, ac fe'i crybwyllwyd, mewn gwirionedd, mewn cyfweliad a wnaeth ein Cadeirydd yr wythnos hon. Rwy'n credu ei fod yn ymddangos heddiw neu ddoe yn y wasg. Roeddwn yn teimlo'i fod yn eithaf diddorol oherwydd fe ddyfynnodd un o'r bobl a roddodd dystiolaeth inni—Pwyliad, a oedd yn gweithio, yn talu treth yn Abertawe, a ddywedodd:
Mae'n ymddangos bod y neges a ailadroddir gan wleidyddion yr un fath: 'Fe gewch chi ganiatâd i aros—'
—dyma'r gwahaniaeth rhwng y bobl sydd â thocyn aur sy'n cyrraedd Llundain a'r bobl o'r UE sy'n gweithio, yn talu cyflog—nid yn gwneud eu miliynau, ond sy'n gweithio yn economi Cymru.
Mae'n ymddangos bod y neges a ailadroddir gan wleidyddion yr un fath: 'Fe gewch chi ganiatâd i aros. Rydym am i chi aros.' Wrth gwrs, yn economaidd, maent angen i ni aros, am y tymor byr o leiaf. Ond mae gwahaniaeth mawr rhwng cael caniatâd i aros, a chael eich croesawu.
Dyma beth yw hyn hefyd. Dyma yw naws y ddadl a osodwn. Rwy'n croesawu rhai o'r cyfraniadau heddiw oherwydd eu bod yn ceisio cael y cywair hwnnw'n iawn. Ond mae'n rhaid i mi feddwl am aelodau o fy nheulu pan gawsant eu herio, yn gyntaf oll, gyda'r cyfle i gael statws preswylwyr sefydlog ac ar y pwynt hwnnw, i dalu am y fraint o wneud hynny mewn gwirionedd—. Fe atgoffodd rai ohonom—oherwydd rwy'n dod o gefndir Gwyddelig-Eidalaidd cymysg, yn ogystal â'r ochr Gymreig hefyd—fod yna adegau yn ystod gwrthdaro'r rhyfel pan gafodd Eidalwyr eu cloi allan o'r gymdeithas ehangach. Dyna a ddigwyddodd i fy nheulu. Mae statws preswylydd sefydlog yn atgoffa o hynny: yr 'arall' ydych chi.
Nawr, rhaid inni fod yn eithriadol o ofalus yn y fan hon wrth fwrw ymlaen â hyn, ond rwy'n falch o weld bod y Llywodraeth wedi derbyn yr holl argymhellion, ac un ohonynt mewn egwyddor. Rwy'n credu bod hynny'n ddoeth. Buaswn yn eu hannog i barhau i ymgysylltu'n adeiladol â Llywodraeth y DU, a gobeithio y byddant yn gwrando. Mae a wnelo hyn â gweithwyr. Mae a wnelo hyn â llenwi cyfleoedd cyflogaeth. Ond fel y dywedodd Max Frisch: 'Gofynasom am weithwyr. Cawsom bobl yn lle hynny.' Dyna yw hyn. Rydym i gyd yn fewnfudwyr.
Y Gweinidog Brexit i gyfrannu at y ddadl—Jeremy Miles.
Diolch, Llywydd. A gaf i ddechrau drwy groesawu adroddiad y pwyllgor a'r dystiolaeth helaeth a gasglwyd yn ystod yr ymchwiliad? Hoffwn i hefyd ddiolch i bawb am eu cyfraniad.
Roedd y rhan fwyaf o'r cyfraniadau, beth bynnag, yn feddylgar ac yn adeiladol.
Cyn imi droi at sylwedd yr adroddiad a'r tri phwnc dan sylw ynddo fe, sef y cynigion ar gyfer system fewnfudo yn y dyfodol, gweithredu'r cynllun preswylio'n sefydlog i ddinasyddion yr Undeb Ewropeaidd, a'r dadleuon dros wahaniaethau mewn dulliau mewnfudo rhwng cenhedloedd a rhanbarthau'r Deyrnas Unedig ar ôl Brexit, gaf i, cyn hynny, fanteisio ar y cyfle hwn i siarad yn uniongyrchol â'r dinasyddion hynny o rannau eraill o Ewrop sydd wedi dewis ymgartrefu yma yng Nghymru, i fwrw eu gwreiddiau ac i gyfoethogi ein cymunedau ni? Hoffwn i eich sicrhau chi ein bod ni'n gwerthfawrogi eich cyfraniad chi at Gymru, ac y bydd bob amser croeso i chi yma.
Gan droi yn gyntaf at y system fewnfudo yn y dyfodol, mae'n parhau'n aneglur beth fydd y system a sut y bydd yn cael ei gweithredu. Heblaw am y dywediadau ynglŷn â rhoi diwedd ar y rhyddid i symud ac adennill rheolaeth dros ein ffiniau, doedd dim manylion, a dweud y gwir, ar gael am dros ddwy flynedd cyn cyhoeddi'r Papur Gwyn ym mis Rhagfyr 2018. Ond, ers ethol Boris Johnson, nid yw hi bellach hyd yn oed yn glir a yw hynny'n adlewyrchu safbwynt y Llywodraeth bresennol.
Er gwaethaf hynny, rŷm ni'n dal i gael ar ddeall mai'r bwriad o hyd yw i'r system fewnfudo newydd fod ar waith yn llawn o'r 1 Ionawr 2021, llai na blwyddyn i ffwrdd erbyn hyn. Ond, gadewch inni fod yn gwbl glir: bydd polisi mudo'r Deyrnas Unedig yn cael effaith ddofn ar gymunedau ac ar economi Cymru. Yn wahanol i'r dryswch o fewn Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol, rŷm ni wedi egluro ein blaenoriaethau ni ar gyfer polisi mudo yn eglur. Yn 'Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl', gwnaethom gynnig y dylid cadw rhyddid symud, ond ei gysylltu'n agosach â chyflogaeth, ac rŷm ni'n dal i gredu hynny.
Rydym wedi defnyddio tystiolaeth i gefnogi ein heriau i Lywodraeth y DU ynglŷn â natur eu cynigion, yn enwedig y cynnig presennol ar gyfer dull detholus o ymdrin â mewnfudo yn y dyfodol yn seiliedig ar sgiliau a chyflog gyda'r trothwy posibl o £30,000 y cyfeiriodd llawer o'r Aelodau ato. Tanlinellodd yr adroddiad y comisiynwyd Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru gennym i'w gyflawni y llynedd ar effaith ymfudo yng Nghymru ar ôl Brexit y difrod y byddai trothwy cyflog yn ei achosi i Gymru, ac os yw'r damcaniaethu yn y wasg a nodwyd gan yr Aelodau ar gael gwared ar y gofynion cyflog yn gywir, byddai Llywodraeth Cymru yn croesawu'r datblygiad hwnnw.
Gwyddom hefyd y bydd rhai sectorau i'w gweld yn rhai sy'n arbennig o agored i ostyngiadau yn y dyfodol yn y nifer o ymfudwyr o'r UE. Mae'r rhain yn cynnwys gofal cymdeithasol, iechyd a gweithgynhyrchu wrth gwrs, gan gynnwys bwyd-amaeth, twristiaeth, lletygarwch, manwerthu ac addysg uwch. Bydd yr effaith yn arbennig o llym ar y sector gweithgynhyrchu bwyd yng Nghymru, lle mae dros 80 y cant o weithwyr yn ennill llai na £30,000. Mae ein gwrthwynebiad i drothwy cyflog, yn enwedig un a osodwyd ar lefel mor uchel, wedi taro tant gyda rhanddeiliaid, yn enwedig o fewn y gymuned fusnes, a rhaid inni obeithio y bydd y pwyllgor cynghori ar ymfudo, y gofynnwyd iddo ailedrych ar hyn, yn cynnig trothwy is a llai niweidiol, neu ddim trothwy o gwbl, pan fydd yn adrodd ymhen wythnos neu ddwy.
Bydd yr adroddiad hwnnw hefyd yn edrych ar y system sy'n seiliedig ar bwyntiau yn Awstralia a gafodd sylw gan nifer o'r Aelodau unwaith eto. Er bod Prif Weinidog y DU wedi siarad yn ffafriol am gyflwyno system o'r fath, nid yw'n glir o gwbl sut y byddai hynny'n gydnaws â system a arweinir gan gyflogwyr wedi'i chyfyngu gan drothwy cyflog. Felly, byddwn yn parhau i ddadlau dros bolisi ymfudo sy'n diwallu anghenion Cymru, a gobeithiwn y bydd Llywodraeth y DU yn gwrando ac yn gweithredu ar y safbwyntiau hynny. Hyd yma, ni fu hanner digon o ymgysylltu ystyrlon rhyngom a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill.
Mewn perthynas â chynllun preswylio yr UE, rwy'n dal yn bryderus iawn fod llawer o bobl nad ydynt yn gwybod, neu nad ydynt yn deall yn iawn o bosibl, beth y mae'r cynllun yn ei olygu iddynt hwy. Mae yna rai sy'n ei chael hi'n anodd dilyn y broses gyfan gwbl ddigidol. Mae yna ddryswch ynglŷn â chael statws preswylydd sefydlog neu statws preswylydd cyn-sefydlog, a beth y mae hynny'n ei olygu i bobl mewn gwirionedd. Mae hyd yn oed Gweinidogion y DU yn ddryslyd ynglŷn â hyn. Dywedodd un wrthyf ychydig wythnosau yn ôl yn unig y byddai'r rhai sydd â statws preswylwyr cyn-sefydlog yn cael eu huwchraddio'n awtomatig i statws preswylwyr sefydlog ar ôl iddynt gyflawni'r maen prawf o fod wedi preswylio yma ers pum mlynedd. Nid yw hynny'n wir, wrth gwrs.
I fod yn glir, nid yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r cynllun; byddai'n llawer gwell gennym gael system nad yw'n dibynnu ar dystiolaeth a all fod yn anodd ei darparu, ac sy'n darparu copi caled o'r dystiolaeth o hawl i fyw a gweithio yn ein gwlad, yn hytrach na chopi digidol yn unig. Fodd bynnag, rydym wedi ymrwymo i wneud popeth yn ein gallu i gefnogi gwladolion yr UE yng Nghymru i fynd drwy'r broses ymgeisio yn llwyddiannus. Felly, fel Llywodraeth, rydym wedi darparu cyngor a chymorth ychwanegol i ddinasyddion yr UE yma yng Nghymru. Mae hyn yn cynnwys ariannu gwasanaethau cynghori cynllun preswylio yr UE drwy Newfields Law, drwy Cyngor ar Bopeth Cymru, a hefyd cyllid ychwanegol i Settled i reoli rhwydwaith o wirfoddolwyr sy'n rhoi cyngor a chymorth i ddinasyddion yr UE. Yn ddiweddar hefyd, rydym wedi darparu cyllid ychwanegol o gronfa bontio'r UE, i gynyddu ein cysylltiadau â dinasyddion yr UE, yn ogystal â rhoi adnoddau ychwanegol i awdurdodau lleol i gynyddu eu rhan hwy yn y broses.
Rwyf wedi ymrwymo i wneud popeth yn ein gallu i gefnogi gwladolion yr UE yng Nghymru i sicrhau eu statws, yn enwedig y rheini sy'n agored i niwed ac anoddaf eu cyrraedd. Rydym wedi ymrwymo i'w cefnogi, a gofynnwn i Lywodraeth y DU hefyd gydnabod yr angen i roi cyhoeddusrwydd digonol i'w chynllun.
Yn olaf, o ran y posibilrwydd o gael polisi mewnfudo mwy gofodol wahaniaethol, gadewch i mi ddweud y canlynol: fel y mae adroddiad Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn nodi, mae gennym ni yng Nghymru achos sy'n gyffredin â gweddill y DU y tu allan i Lundain a de-ddwyrain Lloegr o ran effaith niweidiol y trothwy o £30,000. Dylai ein blaenoriaeth gyntaf ganolbwyntio ar weithio gydag eraill, gan gynnwys busnesau ac undebau llafur, sy'n amheus at ei gilydd o gael dulliau gwahanol o weithredu mewn gwahanol rannau o'r DU, er mwyn sicrhau na orfodir trothwy ar economi'r DU yn ei chyfanrwydd. Ond os byddwn yn aflwyddiannus, fe wnawn ailystyried wrth gwrs. Yn y cyfamser, os yw Llywodraeth y DU o ddifrif ynglŷn â system sy'n seiliedig ar bwyntiau, nad wyf yn credu ei bod yn gydnaws â throthwy cyflog caled mewn system a arweinir gan gyflogwyr rhaid i mi ddweud, yna o ran y pwynt a wnaeth David Melding, byddwn yn sicr yn awyddus i drafod gyda Llywodraeth y DU a rhanddeiliaid y potensial i roi pwyntiau ychwanegol i unigolion sy'n bwriadu symud i Gymru, neu'n wir i rannau eraill o'r wlad, lle mae'r lefelau ymfudo yn is a lle mae tueddiadau demograffig yn anffafriol o bosibl.
A wnaiff y Gweinidog ildio?
Gwnaf, yn bendant.
Cyn i'r Gweinidog orffen ei sylwadau, roeddwn am grybwyll rhywbeth nad yw wedi cael sylw heddiw. Tybed a yw wedi cael amser i gael unrhyw eglurder gan Lywodraeth y DU ynglŷn â'r effaith ar gyflogwyr Cymru? Oherwydd yn ôl yr hyn rwy'n ei ddeall, ceir gordal am weithwyr haen 2 o'r tu allan i'r UE sy'n dod i'r DU—o'r tu allan i'r UE, sef yr hyn a fydd i gyd bellach—gordal sgiliau mewnfudo, sef £1,000 y flwyddyn y gweithiwr fel arfer. Rwy'n edrych o gwmpas ar bobl busnesau bach yma yn y Siambr sydd â phrofiad. Gallai effaith hynny ar fusnesau bach a chanolig fod yn sylweddol os caiff ei gymhwyso'n gyffredinol i bawb, ac rwy'n tybio y bydd hynny'n digwydd yn awr.
Wel, yn sicr, mae'r math hwnnw o fater, yn y nifer o gyfarfodydd bwrdd crwn a gawsom gyda busnesau mawr a bach ledled Cymru, mae'r mathau hynny o bryderon yn agos iawn at frig eu rhestr. Yn arbennig, fel y dywed yr Aelod, mewn perthynas ag effaith costau ar fusnesau llai o faint.
Wrth gloi, a gaf fi bwysleisio bod ymfudo yn ymwneud â mwy na syniadau haniaethol yn unig ynghylch economeg a demograffeg; mae'n ymwneud â phobl go iawn sydd â bywydau go iawn, doniau go iawn a theimladau go iawn?
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ganiatáu i mi gyfrannu ar y cam hwyr hwn. Wrth wylio'r ddadl hon, clywais y gair 'brodorol' yn cael ei ddefnyddio. Nid wyf yn gwybod beth yw ystyr 'brodorol', oherwydd mae pawb yn y Siambr hon yn ddisgynyddion i fewnfudwr. Nid yw ond yn fater o ba bryd y daeth ein teuluoedd yma. A fyddech yn cytuno â mi, pan ddefnyddir y gair 'brodorol', fod modd iddo gael ei ddefnyddio mewn ffordd lawer casach nag y byddai'n ymddangos ar yr olwg gyntaf?
Wel, buaswn yn uniaethu â'r sylwadau y mae'r Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr wedi'u gwneud. Rwy'n credu mai'r hyn sydd wedi taro tant gyda mi yn y drafodaeth hon a thrafodaeth y pwyllgor yw pwysigrwydd iaith a rhethreg. A thrwy gydol y tair blynedd a hanner ddiwethaf, cefais fy syfrdanu gan beth o'r iaith ddifeddwl a ddefnyddiwyd gan wleidyddion ar brydiau, yn enwedig yng nghyswllt dinasyddion yr UE yn y wlad hon, a chefais fy nychryn wrth glywed y defnydd o iaith megis 'poblogaethau brodorol' a 'mewnfudo torfol', sydd wedi hen ennill eu plwyf fel ymadroddion 'chwiban y ci', ac rydym wedi'u clywed heddiw yn y Siambr gan wleidyddion mewn ffordd nad yw'n ddifeddwl, mewn gwirionedd, ond yn fwriadol. A thros y flwyddyn hon, byddwn ni fel Llywodraeth yn gwneud popeth a allwn helpu i ffurfio'r hinsawdd gyhoeddus yng Nghymru er mwyn ceisio gwrthdroi peth o'r niwed a achoswyd gan y defnydd o'r iaith honno, ac i wneud yn siŵr, pan fydd dinasyddion yr UE yn gwrando ar drafodion y Siambr hon, y byddant yn parhau i deimlo bod croeso iddynt yma yng Nghymru a'u bod yn gwybod faint rydym yn eu gwerthfawrogi. Ac fel y dywedodd David Rees yn ei gyfraniad, o ran gwneud i ddinasyddion yr UE sy'n byw yng Nghymru deimlo eu bod yn cael eu croesawu, rydym i gyd yn arweinwyr wrth wneud hynny.
David Rees i ymateb i'r ddadl.
Hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau am y cyfraniadau i'r ddadl heddiw, ac i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit am nodi safbwynt Llywodraeth Cymru. A chyn i mi barhau â fy nghyfraniad i gloi, hoffwn gofnodi fy niolch i'r tîm clercio a'r tîm ymchwil a drefnodd hyn oll mewn gwirionedd, oherwydd heb eu gwaith caled a'u hymroddiad, ni fyddem wedi cael y fforymau i siarad â'r bobl. Mae'n cael ei werthfawrogi'n fawr. Fe geisiaf dynnu sylw at rai o'r pwyntiau a godwyd yn ystod y ddadl, ac fe geisiaf ei gadw mor gyflym ag y gallaf gan fy mod yn ymwybodol o'r amser.
David Melding, rwy'n croesawu'n fawr eich cyfraniad gwerthfawr i'r pwyllgor. Rydych bob amser wedi cynnig syniadau dwfn i ni ac rydych yn ein hatgoffa'n aml am gyfraniad hanesyddol mewnfudo i'n gwlad, yn enwedig yn eich achos chi, er enghraifft rydych wedi sôn am y grwpiau Groegaidd—ond mae llawer o rai eraill o wledydd eraill yr UE ac o wledydd y tu allan i'r UE hefyd—a sut rydym wedi elwa. Gwnaethoch ein hatgoffa hefyd fod angen ystyried y cynllun pwyntiau er mwyn sicrhau nad yw Cymru ar ei cholled, a thynnodd y Cwnsler Cyffredinol sylw at hynny hefyd.
Delyth, rydych yn rhyngwladolwr angerddol ac fe ddangosoch chi unwaith eto eich rhinweddau cryf yn y maes hwnnw. A chawsom ein hatgoffa ganddi am ein pedwar rhyddid, a chanlyniad y refferendwm yw y byddwn yn colli'r pedwar rhyddid hwnnw.
A'r straeon a glywsom gan y bobl, yn enwedig y plant a'r ffordd y maent wedi cael profiad o'r hyn y buaswn yn ei alw'n ymddygiad gwarthus gan blant eraill a'i dysgodd gan eu rhieni yn ôl pob tebyg. Mae'n rhywbeth na ddylem fyth ei dderbyn yma yng Nghymru. Ni ddylai unrhyw blentyn orfod clywed 'Cer adref' gan blentyn arall am ei fod yn dod o wlad wahanol. Ni ddylai ddigwydd.
Cawsom ein hatgoffa eto gan Alun am ryddid llafur i symud. Roedd hwnnw'n fater a oedd yn codi gyda phobl yn dod i Gymru, ac mae yna lawer sy'n dod i Gymru, ac fe wnaeth y cyn-Brif Weinidog yn ei ymyriad ein hatgoffa hefyd ein bod ni oll yn fewnfudwyr. Ac fe fyddaf yn onest: roedd fy mam yn dod o wlad Belg. Mae hanes fy nhad yn mynd yn ôl ychydig o gannoedd o flynyddoedd ym Mhort Talbot, ond roedd fy mam yn dod o wlad Belg felly, yn dechnegol, roedd fy mam yn fewnfudwr a ddaeth yma ar ôl yr ail ryfel byd. Felly, rydym yn genedl o hiliau ac amgylchiadau cymysg, ac rydym yn gweithio gyda'n gilydd, rydym yn byw gyda'n gilydd a dyna sut y dylem fod bob amser. Ni ddylem herio gorffennol neu hanes rhywun arall byth; dylem edrych tua'r dyfodol, ac rwy'n gobeithio y gwnawn hynny.
Nododd Huw fater yr unigolyn o wlad Pwyl, a dywedodd hyn hefyd: fod yr EUSS—atgoffwch fi beth ydyw—cynllun preswylio—ni allwn gofio—ac mae'r cynigion mewnfudo Ewropeaidd ar ôl Brexit yn ymwneud â mwy na phrosesau gweinyddol yn unig; maent yn ymwneud â phobl. A chawsom ein atgoffa gan Huw, pan fyddwn yn sôn am weithwyr, mae'n ymwneud â phobl. Pan soniwn am hyn heddiw, rydym yn sôn am bobl. Nid ydym yn sôn am gysyniad haniaethol; mae'n ymwneud â phobl—y person sy'n byw drws nesaf i chi, eu plentyn, y plentyn sy'n chwarae gyda'ch plentyn chi—am y rheini rydym yn sôn, a gadewch inni beidio ag anghofio hynny. Pan ddaw sylwadau mewn perthynas â—. Nid wyf am ailadrodd y sylwadau hynny oherwydd nid wyf yn credu eu bod yn briodol. Ni ddylid chwerthin am hyn, ni ddylid ei gefnogi; dylid ei ddileu ar unwaith a'i herio. Ni ddylem byth ddefnyddio iaith sy'n newid hynny.
A Mandy, rwy'n croesawu eich safbwynt nad ydych yn chwilio am raniadau ac nad ydych yn credu bod rhaniad yn digwydd, ond yn anffodus, fe wnaethoch chi a David ddal ati i dynnu sylw at fewnfudo fel problem. Rwy'n cytuno â chi: rwy'n credu bod mewnfudo yn broblem yn y refferendwm, ond dim ond am ei iddi gael sylw fel hysteria. Os edrychwn ar y cyfraniadau y mae mewnfudwyr yn eu gwneud i'n gwlad—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rwy'n hapus iawn i wneud hynny.
Onid ydych yn meddwl bod yr hysteria'n dod, dyweder, oddi ar feinciau Llafur a Phlaid Cymru? Rydych yn cymell yr holl raniadau hyn. O ddifrif.
Fe ddywedoch chi fod Twrci'n dod yn aelod o'r UE.
Wnes i?
Na, nid wyf yn meddwl ei fod yn dod o'n meinciau ni. Rwy'n credu bod ein meinciau ni'n ceisio adlewyrchu, yn anffodus, yr hyn sy'n digwydd yn y gymdeithas oherwydd sylwadau eraill a wneir, yn bennaf gan bleidiau asgell dde, a chredaf ei fod yn rhywbeth y dylem fod yn ei herio ar bob achlysur am ein bod yn sôn am bobl sydd am fyw yma, sydd am weithio yma, sydd am gyfrannu yma, ac mae'r rheini'n bwysig i ni. Dylem wneud iddynt deimlo bod croeso iddynt bob amser. Ni ddylem byth geisio eu cysylltu â chysyniad o fewnfudo torfol. Ni ddylem byth geisio eu cysylltu â'r cysyniad nad oes croeso iddynt. Dylem bob amser eu cysylltu—. O, mae'n ddrwg gennyf. Dylem bob amser eu cysylltu â'r cysyniad o groeso.
Diolch i'r Aelod am ildio. A yw'n rhannu fy nhristwch na fydd dinasyddion y DU ond yn gallu byw a gweithio mewn dwy wlad bellach—y DU a Gweriniaeth Iwerddon—tra bydd dinasyddion yr UE yn gallu gweithio mewn 28 o wledydd a bydd dinasyddion Iwerddon yn gallu gweithio mewn 29 o wledydd, fel fy ngwraig a fy nau blentyn? Ac onid yw'n drist gweld hynny, ac onid yw'n wir mai'r dinasyddion a fydd fwyaf ar eu colled o ganlyniad i roi diwedd y rhyddid i symud yw dinasyddion y DU mewn gwirionedd?
Diolch i'r Aelod am ei gyfraniad. Mae'n llygad ei le: dinasyddion y DU yw'r unigolion a fydd yn wynebu fwyaf o gyfyngiadau arnynt mae'n debyg, ac mae'n siomedig mai dyna fydd y sefyllfa. A gadewch i ni beidio ag anghofio pobl ifanc y DU sydd am fynd i weld y byd. Rydym yn cyfyngu ar eu cyfleoedd hwythau mewn bywyd hefyd.
Tynnodd y Gweinidog Brexit sylw at weithgarwch Llywodraeth Cymru, ac rwy'n ei werthfawrogi'n fawr. Rwy'n gallu gwerthfawrogi'n fawr yr heriau parhaus rydych chi'n mynd i'w cyflwyno i Lywodraeth y DU er mwyn sicrhau bod y polisi mewnfudo yn gweithio i Gymru. Mae'n bwysig dros ben ein bod yn gwneud hynny.
Lywydd, mae'n faes polisi sy'n esblygu ac rwy'n derbyn hynny. Bwriad ein pwyllgor yw cadw golwg ar weithgarwch y ddwy Lywodraeth wrth inni ddisgwyl am ganlyniad adolygiad y pwyllgor cynghori ar ymfudo y disgwyliaf iddo gael ei gyhoeddi cyn bo hir. Ac rwyf am ailadrodd fy neges, a'r neges gan fwyafrif helaeth yr Aelodau yma heddiw, fod pobl sydd wedi dod yma i weithio, sydd wedi dod yma i fod yn rhan o'n cymuned, sydd wedi dod yma i adeiladu bywyd i'w croesawu'n fawr, yn cael eu cefnogi'n gadarn, a pha un a oes gennych ddarn o bapur ai peidio, rydym yn ystyried eich bod yn ffrindiau i ni.
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Rydym ni'n derbyn, felly, y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 3 a 4 yn enw Siân Gwenllian, a gwelliant 2 yn enw Rebecca Evans.
Yr eitem nesaf yw dadl y Blaid Geidwadol ar sgiliau'r gweithlu ar ôl Brexit, a dwi'n galw ar Mohammad Asghar i wneud y cynnig. Mohammad Asghar.
Cynnig NDM7234 Darren Millar
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd darpariaeth addysg bellach o ran datblygu sgiliau gweithlu Cymru i fodloni gofynion economi Cymru ar ôl Brexit.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi ym mhobl Cymru drwy:
a) gynyddu'r cyllid i addysg bellach;
b) ehangu nifer y prentisiaethau gradd yng Nghymru;
c) creu lwfans dysgu oedolion i helpu pobl i wella a meithrin eu sgiliau; a
d) datblygu Sefydliad Technoleg yng ngogledd Cymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Lywydd. Mae'n rhoi pleser mawr i mi agor y ddadl hon heddiw ar gydnabod pwysigrwydd addysg bellach yn y broses o ddatblygu sgiliau'r gweithlu yng Nghymru. Mae economi Cymru'n methu cyflawni ei photensial llawn. Mae'n wynebu nifer o heriau sylfaenol. Mae'r rhain yn cynnwys bwlch sgiliau mewn uwch-dechnoleg, a'r gofyniad am weithlu sydd â'r hyblygrwydd i addasu i economi fyd-eang sy'n newid yn barhaus.
Mae pwysigrwydd sicrhau bod gan Gymru weithlu digon medrus a hyblyg i helpu i greu economi wydn ac ateb gofynion cyflogwyr yn glir. Dywed Llywodraeth Cymru ei hun:
'Dylai pob unigolyn feddu ar y sgiliau y mae eu hangen arno i ddod o hyd i swydd, a dylai gael y cyfle i feithrin sgiliau newydd drwy gydol ei fywyd gwaith.'
Cau'r dyfyniad. Fodd bynnag, mae bwlch sgiliau wedi datblygu yng Nghymru sy'n costio tua £155 miliwn i fusnesau.
Yn 2019, canfu 'Baromedr Busnes y Brifysgol Agored' fod 67 y cant o uwch arweinwyr busnes yn dweud bod eu sefydliad yn profi prinder sgiliau ar hyn o bryd; dywedodd 54 y cant o gyflogwyr na allent recriwtio digon o staff â'r sgiliau sydd eu hangen arnynt, yn enwedig ym maes peirianneg. Canfu adroddiad diweddar gan Barclays LifeSkills fod mwy na hanner y rhai dros 16 oed yng Nghymru yn methu arddangos yr holl sgiliau cyflogadwyedd sydd eu hangen yn y gweithle yn y dyfodol. Mae'r ffigurau ar gyfer sgiliau digidol hefyd yn destun pryder. Yn ôl y Swyddfa Ystadegau Gwladol, Cymru sydd â'r gyfran isaf o ddefnyddwyr y rhyngrwyd sy'n meddu ar y pum sgìl digidol sylfaenol. Dim ond 66 y cant o ddefnyddwyr y rhyngrwyd yng Nghymru sydd â'r pum sgìl sylfaenol, o'i gymharu â chyfartaledd y DU o 79 y cant.
Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd addysg bellach i fynd i'r afael â'r problemau hyn. Fodd bynnag, nododd ColegauCymru fod angen rhoi trefniadau ariannu mwy hirdymor ar waith. Mae'r cylch ariannu un flwyddyn cyfredol yn llesteirio meddwl a chynllunio hirdymor. Mae cyfanswm y cyllid grant ar gyfer y sector addysg bellach wedi gostwng 13 y cant mewn termau real rhwng 2011-12 a 2016-17. Gostyngodd cyllid ar gyfer darpariaeth ran-amser a rhaglenni penodol dros 70 y cant mewn termau real. Cred y Ceidwadwyr Cymreig fod yn rhaid i'r ansicrwydd ariannol hwn ddod i ben er mwyn galluogi colegau addysg bellach i barhau i ddarparu hyfforddiant sgiliau blaenllaw ac annog mwy o bobl i mewn i addysg bellach a dysgu gydol oes.
Nid yw pawb yn gallu cymryd amser o'r gwaith i gael addysg amser llawn. Dywed y Brifysgol Agored yng Nghymru na ddylai addysg fod yn gynnig untro i bobl ifanc; dylai fod yn gynnig gydol oes, drwy gydol gyrfa rhywun. Mae arnom angen cynllun cyllido addysg, sgiliau a chyflogaeth cynhwysfawr ar gyfer oedolion i dyfu ein gweithlu ein hunain. Er bod Llywodraeth Cymru yn darparu grant i'r rhai 19 oed a throsodd sy'n astudio mewn addysg bellach, mae nifer y ceisiadau a nifer yr ymgeiswyr llwyddiannus wedi gostwng. Byddem yn cyflwyno lwfans dysgu i oedolion i'w ddefnyddio ar gyfer cwrs gradd, hyfforddiant technegol neu gyrsiau penodol. Byddai hyn yn gwneud y sgiliau, y cyrsiau a'r hyfforddiant yn fwy hygyrch i bobl, waeth beth fo'u sefyllfa ariannol.
Mae Cymru ar ei hôl hi o ran cyflwyno prentisiaethau gradd. [Torri ar draws.] Mae Cymru ar ei hôl hi o ran cyflwyno prentisiaethau gradd. Mewn ymateb i alwadau cynyddol gan gyflogwyr am sgiliau lefel uwch a llwybrau dysgu seiliedig ar waith ar lefel gradd, mae prentisiaethau gradd wedi dod yn ddull mwyfwy deniadol o gyflwyno addysg. Yng Nghymru, mae nifer y llwybrau prentisiaeth gradd yn gyfyngedig. Yn Lloegr, ar hyn o bryd mae 70 o safonau prentisiaeth gradd wedi'u cymeradwyo i'w cyflwyno. Mae angen inni ehangu nifer y prentisiaethau gradd sydd ar gael yn sylweddol, yn enwedig yn y sectorau newydd. Mae angen inni gael mwy o gyfleoedd ledled Cymru hefyd, drwy sicrhau bod pawb yn gallu cyflawni eu potensial, waeth ble maent yn byw neu o ble y deuant.
Mae gan Gymru tua 14 o golegau addysg bellach, ond dim ond dau sydd wedi'u lleoli yng ngogledd Cymru. Credwn y dylai potensial gogledd Cymru gael ei wella a'i feithrin i fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd a fydd yn cael eu creu gan fargen twf gogledd Cymru. Byddem yn mynd i'r afael â'r anghydbwysedd hwn yn y ddarpariaeth drwy ddatblygu sefydliad technoleg yng ngogledd Cymru, sy'n canolbwyntio ar bynciau STEM—gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg.
Lywydd, er mwyn cyrraedd y nod o gryfhau economi Cymru, rhaid inni ganolbwyntio ar rai o'r materion allweddol sy'n ein hwynebu. Mae'r rhain yn cynnwys y bwlch sgiliau sy'n bygwth gadael gweithwyr Cymru yn llusgo ar ôl gweddill y Deyrnas Unedig. Tan hynny, ni allwn fanteisio ar y cyfleoedd a grëir gan gynnydd technolegol. Mae'n rhaid inni gymryd y camau sy'n ofynnol i helpu pobl i ddiwallu anghenion economi Cymru, y Deyrnas Unedig a'r byd sy'n newid yn barhaus. Gallwn chwarae rhan fawr yn y broses o wella ein bywydau. Diolch.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Diolch. Rwyf wedi dethol y pedwar gwelliant i'r cynnig a galwaf ar Bethan Sayed i gynnig gwelliannau 1, 3 a 4, a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Bethan.
Gwelliant 1—Siân Gwenllian
Ym mhwynt 2, mewnosod fel is-bwynt newydd ar ôl is-bwynt (b) ac ail-rifo yn unol â hynny:
'cynyddu rhwydweithiau cymorth i brentisiaid drwy drefniadau partneriaeth ffurfiol gyda cholegau addysg bellach;'
Gwelliant 3—Siân Gwenllian
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod pwysigrwydd Erasmus+ o ran denu pobl i Gymru i ddiwallu anghenion economi Cymru drwy’r sectorau addysg bellach ac addysg uwch, ac ymrwymo i wrthwynebu unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i adael y rhaglen yn 2021.
Gwelliant 4—Siân Gwenllian
Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i greu gwell amodau ar gyfer datblygu sgiliau gweithlu Cymru drwy gynyddu isafswm cyflog y flwyddyn gyntaf ar gyfer prentis i’r isafswm cyflog cenedlaethol safonol, yn unol â grŵp oedran y person.
Cynigiwyd gwelliannau 1, 3 a 4.
Diolch. Rwy'n falch o allu cymryd rhan yn y ddadl hon. Nid wyf am fynd drwy'r cynnig cyfan, oherwydd credaf ein bod wedi mynegi llawer o hynny mewn dadl flaenorol, felly fe af drwy'r gwelliannau.
Credaf ei bod braidd yn eironig fod y Torïaid yn dweud eu bod am i bobl gyflawni eu potensial, gan fod ein gwelliant cyntaf yn rhywbeth a allai gael ei fygwth gan hynny, oherwydd yr ansicrwydd posibl ynghylch dyfodol Erasmus+, a fu'n rhan hanfodol o'r cymysgedd addysg mewn addysg uwch ac addysg bellach ers nifer o flynyddoedd, a gall sefydliadau ieuenctid ac ysgolion ymgeisio am Erasmus yn ogystal ag oedolion sy'n dysgu. Mae'r potensial ar gyfer gwella sgiliau yn glir a gall Erasmus gynnig profiad gwerthfawr o ffyrdd newydd o weithio ac astudio, gan roi cipolwg ar arferion gwahanol o bob rhan o Ewrop a gwella cyflogadwyedd a rhagolygon y rhai sy'n cymryd rhan. Y llynedd, sicrhaodd ColegauCymru £1.57 miliwn o gyllid Erasmus+ ar gyfer colegau addysg bellach ac mae'r colegau'n parhau i fod yn ymrwymedig i gefnogi symudedd Ewropeaidd ar gyfer eu dysgwyr a'u staff, er gwaethaf ansicrwydd Brexit. A bydd y cyllid hwn yn galluogi dros 640 o ddysgwyr galwedigaethol, prentisiaid a staff o golegau ledled Cymru i gymryd rhan yn y rhaglen hyfforddi gyffrous honno.
I rai myfyrwyr sy'n dod o gefndiroedd cymdeithasol difreintiedig iawn yng Nghymru, mae hwn yn brofiad sy'n newid bywyd. Nid oedd gan un myfyriwr gofal plant a aeth i wneud lleoliad gwaith am bythefnos yn yr Eidal basbort hyd yn oed ac nid oedd erioed wedi teithio ar ei phen ei hun cyn hynny. Felly, mewn gwirionedd, pe na bai wedi cael y cyfle hwnnw, efallai na fyddai erioed wedi cael cyfle i astudio mewn gwlad arall ac ehangu ei gorwelion, a chredaf fod angen i rai ohonom yn yr ystafell hon wneud mwy o hynny.
Mae Llywodraeth y DU wedi dweud, ac rwy'n dyfynnu:
Mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i barhau'r berthynas academaidd rhwng y DU a'r UE, gan gynnwys drwy'r rhaglen Erasmus+ nesaf os yw o fudd i ni wneud hynny.
Sut nad yw er budd Cymru i fod yn rhan o'r rhaglen hon? Nid wyf yn gwybod pam roeddent hyd yn oed yn trafferthu defnyddio'r gair hwnnw. Gallant weld, oni allant, pa mor bwysig yw Erasmus i bobl Cymru? Byddent yn ffôl i roi'r gorau i'w hymwneud â'r rhaglen.
O ran ein gwelliant 1, dylid ystyried prentisiaeth nid yn unig yn bwynt mynediad i un math o gyflogaeth fedrus, ond yn brofiad addysgol hefyd. Ac mae llawer o brentisiaid yn dweud wrthym, ac maent wedi dweud wrth fy swyddfa, y byddent yn hoffi cael opsiwn a mynediad at gyfleoedd i gymryd rhan mewn addysg a sgiliau eraill. Ac yn fwyaf arbennig, mae prentisiaid ifanc a'r rheini ar brentisiaethau lefel sylfaen yn dweud wrthym y gallant deimlo, ar adegau, eu bod wedi'u hymddieithrio a heb fod yn rhan o'r gymuned addysg bellach ehangach. Mae cynnal ansawdd yn hanfodol hefyd, ac er bod y mwyafrif helaeth o ddarparwyr yn cynnig prentisiaethau o safon uchel, gan ganolbwyntio ar y sgiliau a'r gwaith a fwriadwyd, nid yw rhai ohonynt yn gwneud hynny ac mae rhai'n well na'i gilydd.
Rwyf wedi dweud o'r blaen yn y Siambr hon, ac fe'i dywedaf eto: dywedwyd wrthym am un enghraifft lle roedd menyw ifanc ar brentisiaeth mewn cwmni pensaernïaeth yng Nghymru pan ddaeth yn amlwg fod derbynnydd, ar ryw bwynt yn ystod y brentisiaeth, yn absennol oherwydd salwch, a chafodd ei thynnu i mewn yn lle'r derbynnydd ac ni ddychwelodd i wneud y cwrs prentisiaeth roedd hi yno i'w wneud. Felly, rwy'n credu bod hynny'n dramgwydd mawr, mewn gwirionedd, fod dynes wedi cael ei hamddifadu o'r profiad hwnnw.
Dengys hyn fod angen proses well, fwy ffurfiol ac unffurf, o sicrhau ymgysylltiad parhaus â phrentisiaethau, a gallai gynnwys partneru pob prentis dan 21 oed yn ffurfiol â choleg addysg bellach er mwyn sicrhau cymorth priodol, gan gynnwys mynediad i ddiwrnodau coleg neu hyfforddiant/addysg oddi ar y safle mewn sgiliau allweddol neu ddewisiadau addysg eraill y gallai'r prentis fod eu heisiau, ac mewn partneriaeth â cholegau addysg bellach i sicrhau mynediad at leisiau myfyrwyr yn y sefyllfa addysg bellach honno.
Mae amser yn brin, felly ein gwelliant 4: costau byw a chyflogau yw un o'r rhwystrau mwyaf arwyddocaol i brentisiaethau a hyfforddiant sgiliau yn y gwaith. Er y byddem ni ym Mhlaid Cymru eisiau i'r Cynulliad gael pwerau dros lefelau cyflog statudol, nid yw'r pwerau hynny gennym. Ond mewn egwyddor, dylem gydnabod bod tâl yn rhwystr sylweddol.
Cydnabu Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yr wyf yn aelod ohono y broblem hon mewn adroddiad a gyflwynwyd yn 2018, lle dywedasom fod angen grant cynhaliaeth ar gyfer prentisiaethau, sy'n debyg i gynhaliaeth a roddir i'r rhai sy'n aros mewn addysg amser llawn. Ar hyn o bryd, yr isafswm cyflog cenedlaethol ar gyfer pob prentis blwyddyn gyntaf, boed yn 16, 26 neu 46 oed, yw £3.90 am bob awr o waith, hyfforddiant neu astudio. Dyna £7,605 y flwyddyn. Sut y mae hyn yn caniatáu i rywun a allai fod ag ymrwymiadau ariannol ac sydd am gael prentisiaeth allu ailhyfforddi? Ni chredwn fod hynny'n digwydd yn dda iawn ar hyn o bryd a chredwn y dylid unioni hyn i gynyddu tâl y flwyddyn gyntaf i'r isafswm cyflog cyfatebol sy'n berthnasol i oedran rhywun.
Mae llawer o bwyntiau eraill y byddem wedi hoffi eu hychwanegu at y cynnig hwn, ond ni allwn drafod hynny heddiw. Dylem edrych ar adolygiad Augar ar gyfer Lloegr fel ein bod yn annog mwy o astudio rhan-amser. Gwn fod y Gweinidog wedi gweithio'n galed iawn yn y maes ac wedi gwella'r ystadegau hynny. Hoffem weld prentisiaethau gradd yn ehangu ymhellach, a deall yr angen i weld y niferoedd sy'n cymhwyso yn cyfateb i'r sgiliau sydd eu hangen, ond ni all hyn fod yn unig ffocws gan na fydd yn gynaliadwy.
Y pwynt olaf yr hoffwn ei wneud yw'r un a wneuthum mewn cwestiynau i'r Gweinidog yr wythnos hon. Mae'n ymwneud ag edrych yn fanwl ar sut y gallwn fynd i'r afael â'r draen dawn yma yng Nghymru a sut y gallwn gefnogi ac annog pobl i aros yn sefydliadau Cymru fel y gallwn annog y sefydliadau hynny i lwyddo ac i ffynnu yn y dyfodol.
Rwy'n mynd i alw ar y Gweinidog Addysg i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans, yn ffurfiol.
Gwelliant 2—Rebecca Evans
Ym mhwynt 2, dileu is-bwynt 2(d) a rhoi yn ei le:
'gweithio gyda sefydliadau addysg bellach, prifysgolion a chyflogwyr i sicrhau bod y ddarpariaeth yn diwallu anghenion technoleg esblygol yr economi.'
Cynigiwyd gwelliant 2.
Cynnig yn ffurfiol.
Diolch. Paul Davies.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl hon y prynhawn yma. Mae'r siaradwyr blaenorol wedi hyrwyddo pwysigrwydd y sector addysg bellach yma yng Nghymru, ac wedi tynnu sylw at enghreifftiau rhagorol o'r sgiliau a'r cyrsiau y mae ein darparwyr addysg bellach yn eu cyflwyno. Wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, mae'n hanfodol fod ein darparwyr yn gallu parhau i gyflwyno'r sgiliau hanfodol hyn.
Yn fy etholaeth fy hun, fel y gŵyr y Gweinidog, mae Coleg Sir Benfro yn cynnig cyfoeth o wahanol raglenni, o'r Safon Uwch draddodiadol i brentisiaethau a chyrsiau dysgu sy'n seiliedig ar waith, a'r amrywiaeth hon o ddewis sy'n gwneud addysg bellach mor atyniadol i lawer o bobl ar draws Cymru.
Nawr, nid yw pawb yn gallu astudio rhwng 9 y bore a 5 yr hwyr, nid yw mynd ar drywydd gradd academaidd strwythuredig yn addas i bawb, ac felly mae'r cyfleoedd dysgu hyblyg sy'n cael eu cynnig gan ddarparwyr addysg bellach yn hanfodol i rieni, pobl hŷn a'r rhai mewn gwaith amser llawn. Mae darparwyr addysg bellach fel Coleg Sir Benfro yn agor eu drysau i fyfyrwyr o bob oed, nid yn unig i bobl ifanc rhwng 16 a 21 oed, ac felly maent yn ganolog iawn i'r gwaith o wella sgiliau'r genedl a darparu cyfleoedd dysgu gydol oes.
Wrth gwrs, mae'n arbennig o bwysig cydnabod y cyfraniad hanfodol y mae addysg bellach a sgiliau galwedigaethol yn ei wneud i ddysgwyr, ond maent hefyd yn gwneud cyfraniad pwysig iawn i economi Cymru. Dangosodd astudiaeth ddiweddar a gyflawnwyd gan y cwmni modelu economaidd, Emsi, ein bod yn derbyn £7.90 am bob £1 a fuddsoddir mewn colegau addysg bellach yng Nghymru, gyda'r gyfradd enillion flynyddol gyfartalog ar eu buddsoddiad yn 24 y cant. Rwy'n credu y dylem ystyried am eiliad pa mor werthfawr yw'r buddsoddiad hwnnw.
Mae colegau'n dod â chyfoeth i mewn i'w rhanbarth trwy gyflogi staff sy'n gwario ar nwyddau a gwasanaethau, a sgiliau'r gweithlu a ychwanegir at y rhanbarth gan fyfyrwyr sy'n dod o hyd i waith yn yr ardal ar ôl gadael. Yn hynny o beth, mae colegau a darparwyr addysg bellach yn fentrau cymdeithasol, sy'n gweithio gyda dysgwyr o bob oed trwy wella eu cyflogadwyedd a gwella eu potensial fel unigolion. Bydd yr Aelodau wedi fy nghlywed yn galw am fwy o'r math hwn o weithgarwch yn ein system ysgolion fel ffordd o hyrwyddo sgiliau bywyd a mentergarwch, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn edrych ar annog ysgolion uwchradd i sefydlu mentrau cymdeithasol i'w rheoli a'u rhedeg gan y disgyblion.
Wrth gwrs, un o'r ffyrdd pwysicaf o ddarparu sector addysg bellach cryf yng Nghymru yw drwy sicrhau bod y sector yn cael ei ariannu ar sail fwy hirdymor, fel y crybwyllodd Mohammad Asghar yn gynharach. Yn y gorffennol, mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi galw am ddull mwy integredig a mwy hirdymor o ddarparu cyllid addysg bellach, gan y byddai dull mwy hirdymor yn sicr yn helpu colegau i gynllunio'n fwy effeithiol yn y tymor canolig ac yn mynd i'r afael â materion cynaliadwyedd yn y sector.
Nawr, nid wyf wedi fy argyhoeddi bod y newid i gyflwyno dyraniadau cyllid un flwyddyn wedi arwain at gymorth gwell i sefydliadau addysg bellach allu cynllunio ar gyfer y tymor canolig, ac mewn gwirionedd, mae'n fwy tebygol o fod yn wir ei fod wedi cael effaith negyddol ar ddenu myfyrwyr. Mae'r trefniadau ariannu anghyson yn y sector wedi effeithio ar niferoedd staff hefyd. Gwyddom fod cyfanswm y staff sydd gan ddarparwyr addysg bellach ychydig dros 9,300 yn 2012-13. Gostyngodd i oddeutu 7,800 yn 2015-16, cyn cynyddu i oddeutu 8,500 yn 2017-18. Felly, mae'n eithaf clir fod angen buddsoddi yn y gweithlu addysg bellach er mwyn sicrhau bod ei sgiliau a'i arbenigedd yn parhau i fod yn gyfredol ac y gall gynnal cysylltiadau â diwydiannau eraill.
Mae Cymru'n wlad uchelgeisiol, ond yn awr mae angen inni gynnal yr uchelgais hwnnw â'r rhwydweithiau cywir i sicrhau bod cyfleoedd lleol ar gael. Hefyd, mae angen inni sicrhau bod unrhyw strategaeth yn cael ei chydlynu ag adrannau eraill y Llywodraeth er mwyn gallu gweld y darlun llawn. Er enghraifft, mae'n hanfodol fod gan ardaloedd lleol rwydweithiau trafnidiaeth gyhoeddus sy'n annog dysgwyr i ddilyn cyrsiau, yn enwedig dysgwyr mewn ardaloedd gwledig. Mae angen inni sicrhau hefyd fod dysgwyr yn cael cyfle i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg, a sicrhau bod dysgwyr sydd ag anghenion ychwanegol hefyd yn gallu manteisio ar gyfleoedd addysg bellach. Felly, pan fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y ffordd orau o gefnogi'r sector addysg bellach yng Nghymru, mae'n hanfodol ei bod yn mabwysiadu dull o weithredu sy'n cwmpasu pob adran, fel bod Gweinidogion yn ystyried y darlun ehangach pan ddaw'n fater o gefnogi'r sector.
Ddirprwy Lywydd, er mwyn i Gymru ffynnu yn y dyfodol, rhaid inni sicrhau bod y sector addysg bellach yn cael digon o gefnogaeth a bod dysgwyr yn gallu dilyn y cyrsiau a'r rhaglenni y maent yn eu cynnig. Mae darparwyr addysg bellach yn ymateb i anghenion sgiliau eu hardal leol ac yn gweithio'n agos gyda chyflogwyr lleol. Yn ddiweddar, cynhaliodd Coleg Sir Benfro ei bumed digwyddiad cinio i gyflogwyr, a noddwyd gan Dragon LNG ac a gefnogwyd gan gyflogwyr lleol fel porthladd Aberdaugleddau, Cyngor Sir Penfro a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda. Dyma'r math o gydweithredu y mae'n rhaid i ni adeiladu arno a'i ddatblygu er mwyn helpu i sicrhau bod dysgwyr yn gadael addysg yn meddu ar y sgiliau sydd eu hangen arnynt ar gyfer y gweithle. Felly, rwy'n annog y Gweinidog i weithio gyda rhanddeiliaid i ystyried ffurf y sector addysg bellach yn y dyfodol yn ofalus a sicrhau ei fod yn cael y buddsoddiad hollbwysig sydd ei angen arno, ac felly rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi ein cynnig.
Teimlaf fod yn rhaid i mi ddechrau fy nghyfraniad drwy gydnabod y nifer enfawr o fentrau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyflwyno dros y blynyddoedd diwethaf i wella'r ddarpariaeth o weithlu medrus yng Nghymru, yn enwedig lle maent wedi newid y ffocws i hyfforddiant galwedigaethol. Dylem hefyd gydnabod yr effaith gadarnhaol y mae gweithwyr ymfudol medrus wedi'i chyfrannu at economi Cymru, ond erys y ffaith ein bod wedi dod yn llawer rhy ddibynnol ar lafur mewnfudwyr, yn aml iawn ar draul ein poblogaeth frodorol. Rwy'n defnyddio'r gair 'brodorol', ond hoffwn nodi bod y Llywodraeth Lafur, yn eu dogfen 'Ffyniant i Bawb', wedi defnyddio'r gair 'brodorol' droeon. [Torri ar draws.] Fel y crybwyllais yn y ddadl gynharach, mae'r gwasanaeth iechyd yn y DU yn gwrthod—[Torri ar draws.] Mae'r gwasanaeth iechyd yn y DU yn gwrthod 80,000 o ymgeiswyr nyrsio cymwys o Brydain bob blwyddyn am ei bod yn rhatach i ysbeilio gwledydd y trydydd byd am eu staff hyfforddedig.
Nid oes unrhyw amheuaeth fod Llywodraeth Cymru, yn enwedig yn ystod y blynyddoedd diweddar, wedi ehangu ei chyfleusterau gwella sgiliau yn fawr, yn y sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch. Mae'r cyfleusterau ariannu hyblyg sydd bellach ar waith wedi gwella gallu myfyrwyr i gynyddu eu sgiliau ar sail ran-amser, ac mae nifer yn manteisio ar y cyfleoedd a gynigir gan y Brifysgol Agored i ennill cymwysterau uwch. Gwelwyd newid sylweddol yn yr agwedd tuag at gymwysterau galwedigaethol, a chredaf fod hyn yn dechrau dwyn ffrwyth yn awr yn y nifer o brentisiaethau galwedigaethol newydd a geir. Er ein bod i gyd yn cydnabod y bydd yn cymryd peth amser i'n gwneud yn llai dibynnol ar lafur Ewropeaidd—yn wir, fe fyddwn bob amser yn dibynnu i ryw raddau ar weithwyr o bob cwr o'r byd i lenwi swyddi na allant, am amryw o resymau, gael eu llenwi gan y boblogaeth frodorol. Ond mae hon, mewn sawl ffordd, yn sefyllfa ddymunol; cymysgedd o bobl o wahanol wledydd yn helpu i bwysleisio pa mor debyg ydym i'n gilydd a pham y dylai ein gwlad gydweithredu er lles pob un ohonom.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Gwnaf, wrth gwrs.
Mae'n ymddangos bod rhywfaint o wrthwynebiad gan Aelodau Llafur i'w ddefnydd o'r gair 'brodorol'. Pan ddaw pobl i wneud eu bywydau yng Nghymru, tybed a yw hi'n iawn inni eu croesawu fel y dymunwn neu a ddylem ddifrïo'r unigolion hynny drwy eu galw'n 'ymwelwyr'.
Yn hollol. Os deuant i fyw yng Nghymru, credaf eu bod yn dod yn rhan o economi Cymru.
Felly, gadewch i ni beidio ag edrych ar Brexit fel rhywbeth negyddol, ond yn hytrach fel cyfle i adeiladu cenedl fywiog, allblyg, sy'n cofleidio ein diaspora gyda'r byd yn gyffredinol, nid Ewrop yn unig. Drwy adeiladu economi gref, fywiog yn y ffordd honno, byddwn yn ddiofyn yn creu gweithlu medrus sy'n hyblyg, gan newid y sgiliau i addasu i newidiadau sy'n digwydd naill ai yn eu hamgylchedd gwaith eu hunain neu wrth chwilio am gyfleoedd gwaith newydd.
Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu yn y ddadl heddiw. Mae'n werth ystyried nad yw dwy ran o dair o bobl ifanc yn mynd i'r brifysgol, ac mewn gwirionedd, y sector addysg bellach, boed yn rhan-amser neu'n amser llawn, yw'r prif lwyfan dysgu ar eu cyfer er mwyn iddynt wella eu rhagolygon gyrfa. Rwy'n credu bod honno'n ystyriaeth bwysig. Crybwyllodd arweinydd yr wrthblaid y nifer enfawr o staff sy'n gysylltiedig ag addysgu yn ein colegau addysg bellach ar hyd a lled Cymru, sef 9,330 yn 2013, a gostyngodd hynny, gwaetha'r modd, i 7,815 yn 2015-16, cyn y gwelwyd gynnydd i'w groesawu i tua 8,500 , ond mae hynny'n dal i fod oddeutu 800 o swyddi addysgu yn llai na'r hyn a oedd gennym tua chwech neu saith mlynedd yn ôl, ac mae honno'n rhan hanfodol o'r elfen addysgu y mae angen ei hunioni os ydym am gynyddu cynhyrchiant a gwella sgiliau ein gweithlu yma yng Nghymru.
Mae'n werth ystyried hefyd er enghraifft fod bron i 170,000 o fyfyrwyr yn ein colegau addysg bellach yn cymryd rhan mewn profiad addysgol ar ryw ffurff neu'i gilydd mewn colegau addysg bellach ar hyd a lled Cymru, ond hoffwn ganolbwyntio ar y sector amaethyddol ac yn enwedig, yn anffodus, y nifer fach iawn o brentisiaethau amaethyddol a gynigir yma yng Nghymru. Ymddengys mai 1 y cant o brentisiaethau a gynigiwyd ym maes amaethyddiaeth yng Nghymru yn ystod y ddwy flynedd academaidd ddiwethaf, ac mae hynny'n sicr yn bryder mawr. Oherwydd, yn amlwg, yn fy mhrofiad personol i, os caf gyffwrdd ar hynny am eiliad, y ffordd y mae'r diwydiant amaethyddol wedi datblygu dros y 30 mlynedd diwethaf, mae hi bron yn amhosibl dirnad heddiw ble roeddem yn y 1990au. A chaiff hynny ei yrru gan ddewis y defnyddiwr, oherwydd yn amlwg mae gan ddefnyddwyr allu i ddewis y cynnyrch y dymunant ei brynu ac mae'r defnyddiwr eisiau bod yn fwy gwybodus am y modd y datblygwyd y cynnyrch hwnnw a sut y cynhyrchwyd y cynnyrch hwnnw, ac yn benodol, sut y caiff y cynnyrch hwnnw ei gyflwyno ar silffoedd ein harchfarchnadoedd.
Felly, mae angen gweithlu amaethyddol sy'n fedrus ac sydd mewn cysylltiad â'i sylfaen ddefnyddwyr, ond 30 i 40 mlynedd yn ôl o bosibl, yn draddodiadol, byddai llawer o ffermwyr, cyn gynted ag y byddent wedi gadael gât y fferm, yn cymryd dim sylw o gwbl i'r ffordd y câi'r cynnyrch ei gyflenwi a pha werth ychwanegol y gellid ei roi i'r cynnyrch hwnnw. A hoffwn awgrymu mai dyna lle mae gan golegau addysg bellach rôl hanfodol i'w chwarae. Ac felly mae taer angen inni gynyddu'r ganran honno o fyfyrwyr amaethyddol sy'n gweld eu hamgylchedd dysgu yn y sector addysg bellach. Buaswn yn ddiolchgar pe gallai'r Gweinidog, yn ei hymateb heddiw, roi rhyw syniad inni sut y bydd Llywodraeth Cymru yn ystyried cynyddu'r niferoedd o brentisiaethau amaethyddol sydd ar gael drwy'r sector addysg bellach, gan nad yw aros ar 1 y cant yn mynd i fod yn dderbyniol yn y dyfodol, yn enwedig gan fod bron i 4 y cant o'r gweithlu'n gweithio yn y diwydiant amaethyddol.
Ac mae'n werth nodi hefyd, wrth i economi Cymru wynebu ei heriau unigryw, demograffeg yw un o'r heriau mwyaf a wynebwn, oherwydd rhwng 2016 a 2041 rhagwelir y bydd nifer y bobl 16 i 64 oed yn gostwng bron 5 y cant. Felly, os ydym yn mynd i gynyddu cynhyrchiant ein gweithlu, ac yn arbennig ein heconomi gyffredinol, mae angen inni wneud yn siŵr fod lefelau sgiliau'n codi fel y gellir sicrhau mwy o waith a gwaith cynhyrchiol sy'n ychwanegu gwerth i'n heconomi gyffredinol gan bob gweithiwr yn y pen draw. A bydd hynny wedyn yn codi lefelau cyflog, sy'n brawf o economi fwy ffyniannus. A sut y mae codi lefelau cyflog? Wel, drwy wella sgiliau'r union weithlu rydym yn treulio cymaint o amser, wythnos ar ôl wythnos, yn siarad amdano yma.
Ac felly, unwaith eto, buaswn yn hapus iawn i allu deall sut y bydd y Gweinidog, ynghyd â'n colegau addysg bellach a'r rhai o fewn y sector, yn ceisio hybu'r cynhyrchiant hwnnw sydd, ysywaeth, wedi llusgo ar ôl gweddill y Deyrnas Unedig. Rwy'n credu fy mod yn gywir i ddweud, o ran gwerth ychwanegol gros yr awr a weithiwyd, mai'r unig ran o'r Deyrnas Unedig sydd oddi tanom yw Gogledd Iwerddon. Yn sicr, gyda'r 14 coleg sydd gennym yma yng Nghymru a rhai o'r cyfleusterau rhagorol y mae'r colegau hynny wedi buddsoddi ynddynt yn ystod y blynyddoedd diwethaf—. Mae Coleg Caerdydd a'r Fro sy'n agos at y fan hon ar Heol Dumballs yn batrwm o gynnydd da, ac yn fy rhanbarth i, mae llawer o fyfyrwyr hefyd yn mynd i Goleg Pen-y-bont a champws Pencoed. Felly, mae gennym y campysau, ond yr hyn a welwn yw diffyg cynhyrchiant yn bwydo i'r economi yn gyffredinol. Yn fwyaf arbennig, os yw'r Gweinidog yn edrych ar ei hardal ei hun ym Mhowys, er enghraifft, lle mae cynhyrchiant 35 y cant yn is na chyfartaledd y DU, rwy'n siŵr fod hynny'n rhywbeth y bydd y Gweinidog yn canolbwyntio arno, ac yn ceisio mynd i'r afael â'r gostyngiad o 35 y cant yn y cynhyrchiant sy'n golygu bod Powys, er enghraifft—y sir fwyaf yng Nghymru, a sir amaethyddol fawr—yn llusgo mor bell ar ei hôl hi. Oherwydd nid yw hynny'n dda i wasanaethau lleol ac nid yw'n dda i'r economi leol yn arbennig, oherwydd mae'n cadw lefelau cyflog yn isel yn yr ardal honno.
Felly, rwy'n gobeithio y bydd trafodaeth gadarnhaol am y rôl bwysig sydd gan addysg bellach i'w chwarae yn ein hystâd addysg yma yng Nghymru—cydnabod maint y sector addysg bellach, ond pwysigrwydd dysgu rhan-amser a dysgu amser llawn yn y maes penodol hwnnw o addysg yma yng Nghymru. A gadewch inni beidio ag anghofio bod yna newyddion da i'w adrodd am addysg bellach, ond ni ddylem dynnu ein sylw oddi ar y bêl o ran lle mae rhai o'r problemau ystyfnig hyn yn bodoli o ran cynhyrchiant, o ran cywiro'r problemau demograffig a wynebwn gyda gweithlu rhwng 16 a 64 oed sy'n crebachu. Ac yn anad dim, sicrhau ein bod yn gallu hybu'r profiad sy'n annog mwy o bobl i fanteisio ar addysg bellach, drwy fuddsoddi'n ariannol a buddsoddi yn y cyrsiau sydd ar gael, ac mae hynny'n golygu rhoi mwy o ddarlithwyr a mwy o athrawon yn y colegau hynny er mwyn inni fynd i'r afael â'r prinder. Rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cefnogi'r cynnig sydd gerbron y prynhawn yma.
Mae sgiliau wedi dod yn ddraenen yn ystlys y ddraig Gymreig. Mae 67 y cant o uwch arweinwyr busnes wedi dweud bod eu sefydliad yn profi prinder sgiliau ar hyn o bryd; dywedodd 54 y cant o gyflogwyr na allent recriwtio digon o staff gyda'r sgiliau sydd eu hangen arnynt. Ac mae'r prinder sgiliau yn costio tua £155.2 miliwn i fusnes yng Nghymru.
Er mwyn i fusnesau Cymru allu gwneud yn fawr o'r manteision a ddisgwylir yn sgil Brexit, mae'n rhaid datblygu sgiliau ein gweithlu er mwyn ateb galwadau economi Cymru. Os nad ydych yn fy nghredu, canfu Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru
fod tystiolaeth dda fod sgiliau... yn ffactorau pwysig ar gyfer hybu twf mewn rhanbarthau sydd ar ei hôl hi.
Yn ganolog i gryfhau sgiliau, wrth gwrs, mae cyllid teg ar gyfer addysg bellach. Mae ColegauCymru wedi tynnu sylw at y ffaith bod y cylch ariannu cyfredol o flwyddyn yn llesteirio cynllunio mwy hirdymor, ac argymhellodd adolygiad Graystone y dylech symud tuag at gylch cynllunio tair i bum mlynedd. Hefyd, mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi galw am ddull hirdymor o gyllido addysg bellach. Felly, mewn gwirionedd, nid oes esgus yn awr dros beidio â gweithredu'r argymhellion hyn.
Yn yr un modd, rwy'n cefnogi galwadau i greu lwfans dysgu oedolion. Fel y dadleuodd y Brifysgol Agored yng Nghymru, ni ddylai addysg fod yn gynnig untro ar gyfer pobl ifanc. Mae nifer yr ymgeiswyr llwyddiannus am y grant dysgu i'r rheini sy'n 19 oed neu'n hŷn wedi lleihau. Mae llai nag 1 y cant o'r rheini sy'n cymryd rhan mewn prentisiaethau a chynlluniau dysgu yn y gweithle yn bobl hŷn. Mae'r ffeithiau hyn yn gwrthddweud eich nod eich hun o roi cyfleoedd cyfartal i bobl gael sgiliau am oes. Mae'r newyddion yn waeth byth wrth ystyried canfyddiad Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru fod yr economi bellach yn mynd yn fwyfwy dibynnol ar ein gweithwyr hŷn. Yn amlwg, buaswn yn gobeithio eich clywed yn mynd i'r afael â hyn heddiw ac yn ystyried yn ofalus ein cynllun i roi hwb i ddysgu gydol oes drwy gyflwyno lwfans dysgu oedolion.
Nawr, yr un mor ddiddorol i Aberconwy, sut y gellir gwella sgiliau ar draws gogledd Cymru yn fwy cyffredinol. Bûm yn gweithio gydag eraill i roi hyn ar waith y tymor diwethaf, gyda chwestiwn ysgrifenedig yn y Cynulliad yn gofyn am ddylanwad y sector preifat ar y sgiliau a addysgir mewn addysg bellach. Mae cyflogwyr i fod i allu dylanwadu drwy'r bartneriaeth sgiliau rhanbarthol. Fodd bynnag, canfu Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau fod rôl y partneriaethau yn datblygu sylfaen sgiliau Cymru yn parhau i fod yn aneglur.
Mae gennym ddau goleg addysg bellach rhagorol yng ngogledd Cymru, a hoffwn dalu teyrnged arbennig i waith rhagorol Mr Lawrence Wood, Prifathro Coleg Llandrillo. Yn ddiweddar, mae wedi gweld gwaith adnewyddu helaeth ar y sefydliad iechyd a gofal cymdeithasol, sy'n galluogi myfyrwyr i archwilio pob agwedd ar ofal ystafell wely a dysgu mewn ystafelloedd ar ffurf ward rithwir mewn ysbyty, gan ddefnyddio offer rhithwir i archwilio organau a gwaed—yn union fel bod y tu mewn i gorff dynol. Hefyd, mae ei goleg yn gweithio gyda bargen twf gogledd Cymru, Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru i gyflawni prosiect gwerth £14 miliwn.
Mae nodau canolfan ragoriaeth gogledd Cymru ar gyfer twristiaeth a lletygarwch hefyd yn cynnwys darpariaeth ddatblygu sgiliau wedi'i thargedu yn y rhanbarth er mwyn cyflymu twf y sector twristiaeth a lletygarwch. Mae hyn yn newydd sbon, mae'n ysbrydoliaeth, ond mae angen inni wneud mwy i gysylltu addysgu o ansawdd â busnesau. Un ateb fyddai creu sefydliad technoleg sy'n canolbwyntio ar wyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg yng ngogledd Cymru. Yn sicr, byddai'n helpu i sicrhau y gall fy nhrigolion a busnesau ddylanwadu a sicrhau'r sgiliau sydd eu hangen yn y rhanbarth hwn. A dweud y gwir, gallai fod yn un o'r triniaethau sydd eu hangen i dynnu'r ddraenen o ystlys y Ddraig economaidd Gymreig—sef sgiliau. Diolch.
A gaf fi alw ar y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams?
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Mae wedi bod yn ddiddorol, ac weithiau'n ddadlennol, clywed y cyfraniadau y prynhawn yma, ond rwy'n credu y gallwn i gyd gytuno bod datblygu sgiliau'r gweithlu yn hanfodol os yw Cymru am lwyddo a ffynnu ar ôl Brexit.
Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i gefnogi addysg bellach, addysg uwch a phrentisiaethau er mwyn sicrhau bod gan ein pobl y sgiliau sydd eu hangen i ateb heriau'r economi ar ôl Brexit ac wedi'r cyfan, yn unigryw o fewn y DU, ymatebodd Cymru i'r her o adael yr UE drwy greu cronfa bontio benodol, ac mae hon eisoes wedi arwain at £10 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol yn benodol ar gyfer addysg a sgiliau. O'r gronfa hon, bydd dros £6 miliwn yn cefnogi cyflogwyr yn y sectorau modurol ac awyrofod, gan eu galluogi i gyflwyno prosiectau i fynd i'r afael â phrinder sgiliau posibl a waethygir drwy adael yr UE. Ochr yn ochr â hyn, dyrannwyd £3.5 miliwn i wella ein cysylltiadau addysg rhyngwladol, gan gynnal ein henw da fel lle croesawgar i fyfyrwyr er gwaethaf y penderfyniad i adael yr UE, yn ogystal â'n cynllun pwrpasol i gynnig mwy o gyfleoedd i fyfyrwyr o Gymru allu teithio oddi yma.
Nawr, mae'r cynnig gan y Ceidwadwyr a drafodir gennym heddiw yn galw'n bennaf am fuddsoddi mewn prentisiaethau gradd, mewn lwfansau dysgu oedolion ac yn y sector addysg bellach yn fwy cyffredinol, ac mae pob un o'r rhain, Ddirprwy Lywydd, yn cael sylw yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru. Yn ei chyfraniad, dywedodd Janet Finch-Saunders nad oedd yn deall beth oedd yn ein hatal rhag symud i gylch cyllido tair blynedd. Wel, gadewch i mi roi rheswm da iawn i chi—un rheswm da iawn—Janet: nid oes gennyf gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Ni allaf—[Torri ar draws.] Nid oes unrhyw fodd y gallaf roi cyllideb tair blynedd i golegau addysg bellach gan mai cyllideb un flwyddyn yn unig rwy'n ei chael.
Nawr, gyda'i gilydd—[Torri ar draws.] Gyda'i gilydd, yn y flwyddyn newydd—[Torri ar draws.] Gyda'i gilydd, disgwylir cynnydd o dros £25 miliwn yn y gyllideb addysg bellach ar ddechrau'r flwyddyn ariannol newydd hon, gan gynnwys cyllid ychwanegol i gefnogi iechyd meddwl, cyllid ar gyfer dysgu proffesiynol i'r rhai sy'n gweithio ym maes addysg bellach, a chyllid i gynnali pwysau pensiynau a chyflogau. [Torri ar draws.] Ie.
Roeddwn eisiau gwybod, o'r £24 miliwn—. Gan fy mod yn cadeirio'r Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu; fe ofynasom i'r Gweinidog a ddaeth yno faint o'r arian hwnnw a fyddai'n mynd tuag at brentisiaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Oherwydd ni chawsom wybodaeth lawn ynglŷn â faint fyddai hynny, ac os gallech egluro, byddai hynny'n ddefnyddiol iawn.
Wel, bydd yn rhaid i fy nghyd-Weinidog, Gweinidog yr economi, egluro hynny, oherwydd mewn gwirionedd mae prentisiaethau'n dod o dan ei adran ef, nid o fewn yr adran addysg. Ond byddaf yn sicrhau bod y wybodaeth honno ar gael i chi.
Mae'r cynnig yn trafod—[Torri ar draws.] Mae'r cynnig yn trafod prentisiaethau gradd, sydd unwaith eto i'w gweld eisoes yn y gyllideb ddrafft. Mae Gweinidog yr economi a minnau'n parhau'n ymrwymedig i ehangu prentisiaethau gradd lle maent yn gweithio er budd cyflogwyr a dysgwyr. Nawr, roedd fel pe bai wedi'i fethu gan rai o'r siaradwyr, ond mae gennym gynllun peilot sy'n gweithredu eisoes ar gyfer creu rhaglen integredig sy'n meddu ar hygrededd a bri gradd academaidd a'r sgiliau diwydiant cymhwysol y byddech yn disgwyl eu cael mewn prentisiaeth. Mae'r cynlluniau peilot hynny eisoes ar waith, gyda myfyrwyr yn cael eu recriwtio ac ar hyn o bryd yn astudio ar gyfer prentisiaethau gradd mewn technoleg ddigidol, peirianneg a gweithgynhyrchu uwch. Nawr, mae hyn yn rhywbeth rwy'n siŵr y gallwn i gyd gytuno sy'n rhaid inni ei gael yn iawn, a gadewch inni beidio ag anghofio, y mis hwn, honnodd melin drafod a weithredir gan gyn-ymgynghorydd i Lywodraeth San Steffan y gellid ystyried hanner y cyrsiau prentisiaeth yn Lloegr yn rhai ffug, a chanfu enghreifftiau lle roedd rhaglenni israddedig presennol, i bob pwrpas, yn cael eu hail-labelu fel prentisiaeth, yn hytrach na'r dull rydym yn ei weithredu yma yng Nghymru. Felly, gadewch i mi fod yn glir y bydd datblygiad y rhaglen prentisiaethau gradd yng Nghymru yn y dyfodol yn dibynnu ar ganlyniad gwerthusiad annibynnol ac ystyriaethau gwerth am arian, a chredaf fod hynny'n gwrthgyferbynnu'n llwyr â'r hyn a welwn yn digwydd dros y ffin.
Mae'r cynnig hefyd yn galw am greu lwfans dysgu oedolion, ac yn amlwg mae rhai o'r siaradwyr Ceidwadol wedi methu'r ffaith ein bod yn arwain y ffordd yn y maes hwn yng Nghymru gyda sefydlu cyfrifon dysgu personol. Nawr, mae'r fenter hon, sy'n cael ei threialu ar hyn o bryd gan Goleg Gwent a Llandrillo Menai, ar gael i bobl sydd mewn gwaith ar hyn o bryd ond sy'n ennill llai na £26,000 y flwyddyn. Mae'n sicrhau bod pobl yn cael cyfle i gael y sgiliau, y wybodaeth a'r cymwysterau sydd eu hangen arnynt naill ai i newid gyrfa i swydd sy'n talu'n well neu i allu dod o hyd i gyfleoedd yn eu gwaith presennol ar gyfer camu ymlaen. Rwy'n chwilio am gyfle cynnar i ehangu'r cynllun peilot hwnnw i leoliad arall yng Nghymru.
Treuliodd Mohammad Asghar lawer o amser yn dyfynnu'r Brifysgol Agored a'r angen i gefnogi addysg ran-amser. Mae'r wlad hon yn unigryw yn yr ystyr nad ydym yn gwahaniaethu rhwng cymorth sydd ar gael naill ai i israddedigion neu raddedigion, yn rhan amser neu'n amser llawn, ac rwy'n falch iawn, ers cyflwyno ein pecyn diwygio cyllid myfyrwyr, fod y Brifysgol Agored yma yng Nghymru yn nodi cynnydd o 46 y cant yn nifer y bobl sy'n dechrau astudio am radd gyda hwy—cynnydd o 46 y cant—a dim ond yn ail flwyddyn academaidd y diwygiadau hynny rydym ni.
A gaf fi ddweud hefyd—a gaf fi ddweud hefyd—fod angen inni edrych ar sgiliau ar lefel ehangach? Er bod angen i ni sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â sgiliau ar lefel is, rydym hefyd am weld mwy o bobl yn astudio ar lefel uwch, gan gynnwys graddau Meistr, ac rwyf wedi gosod targedau ymestynnol iawn i mi fy hun ar gyfer y nifer o fyfyrwyr o Gymru rwyf am eu gweld yn astudio am radd Meistr. Ond ers dechrau'r sesiwn hon o Gynulliad Cenedlaethol Cymru, rhaid i mi ddweud ein bod wedi gweld cynnydd o 33 y cant yn nifer y rhai sy'n dechrau rhaglenni gradd Meistr—cynnydd o 33 y cant.
Mae gennym gynllun arloesol hefyd i gefnogi rhaglenni graddau Meistr ar gyfer rhai dros 60 oed. Oherwydd rheolau'r Trysorlys yn Llundain, ni allwn ganiatáu i bobl dros 60 oed gael mynediad at y llyfr benthyciadau i fyfyrwyr, ond llwyddasom i oresgyn hynny, ac felly, os ydych dros 60 oed yng Nghymru a'ch bod am astudio ar gyfer gradd Meistr, fe gewch gymorth gan Lywodraeth Cymru trwy ein prifysgolion yng Nghymru.
Yn gwbl briodol, holodd Bethan am yr hyn a wnawn i ddenu mwy o bobl i ddychwelyd i Gymru. Nawr, mae gennym gymorth cyffredinol i fyfyrwyr graddau Meistr ni waeth pa ran o'r DU y maent yn astudio ynddi, ond os dychwelwch i Gymru neu ddod i Gymru i astudio ar gyfer gradd Meistr mewn rhai meysydd allweddol fe gewch chi fwrsariaeth ar ben yr hyn y gallwch ei hawlio a'r hyn y gallwch wneud cais amdano gan y system gymorth arferol i fyfyrwyr.
Crybwyllodd Paul Davies y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg. Rwyf wedi ymrwymo i ehangu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y sector addysg bellach. Dyna pam, ers inni ddod i rym, ein bod wedi cynyddu rôl y coleg cenedlaethol, nid yn unig mewn addysg uwch, ond i gynnwys addysg bellach hefyd. Rwyf wrth fy modd gyda'r gwaith y maent wedi'i wneud, ochr yn ochr â ColegauCymru, ar sefydlu cynllun clir iawn ar gyfer sut y gallwn gynyddu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg yn y sector addysg bellach.
Andrew R.T. Davies, rydych yn llygad eich lle—mae angen dadeni mewn hyfforddiant amaethyddol ar gyfer ein pobl ifanc os ydym am gael sector amaethyddol bywiog yn y dyfodol, a chefais nifer o sgyrsiau eisoes gyda'r darparwyr sydd gennym yn barod ar lefel addysg bellach ynglŷn â sut y gall cwricwlwm diwygiedig edrych, gan wneud yn siŵr fod plant sy'n dod o'r—'plant', maent oll yn blant i mi; pobl ifanc, mae'n ddrwg gennyf—pobl ifanc sy'n dod o'r colegau hynny yn meddu ar y cymwysterau, y sgiliau a'r cymwyseddau parod ar gyfer gwaith ac i fod yn wirioneddol lwyddiannus yn y diwydiant hwnnw. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.
[Anghlywadwy.] Ar y pwynt penodol hwn, oherwydd mae wedi bod yn ystyfnig o isel ar ddim ond 1 y cant—nifer y prentisiaethau amaethyddol—allan o ffigur o fwy na 30,000 o brentisiaethau. Gyda'r trafodaethau hyn, ble y credwch y gallai'r ffigur hwnnw fod ymhen dwy neu dair blynedd? A ydym yn mynd i weld cynnydd yn nifer y prentisiaethau amaethyddol yn gyffredinol? Rwy'n siŵr nad oes neb am ei gadw ar y lefel honno, ond mae angen inni weld cynlluniau ar gyfer cynyddu'r niferoedd hyn.
Fel y dywedais, nid wyf yn gyfrifol am brentisiaethau, ond rwy'n gyfrifol am ein darpariaeth addysg bellach, ac rwyf am allu gweithio gyda'n colegau i wneud yn siŵr fod y ddarpariaeth honno a chymwysterau amaethyddol cystal ac mor berthnasol ag y mae angen iddynt fod ar gyfer y sector yn y dyfodol.
Mae'n ddrwg gennyf, rwy'n gwybod fy mod yn profi amynedd y Dirprwy Lywydd, ond rwyf am droi at welliant Plaid Cymru, yn enwedig ar fater Erasmus+, oherwydd rwy'n credu bod hwnnw o bwys gwirioneddol i'r Siambr hon. Dros y pum mlynedd diwethaf, amcangyfrifir bod 10,000 o fyfyrwyr a staff yng Nghymru wedi cael budd o gymryd rhan yn rhaglen Erasmus+, ac mae'n hynod siomedig gweld safbwynt Llundain ar y mater ar hyn o bryd.
I gloi, mae cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru yn un sy'n sicrhau buddsoddiad sylweddol i'n sefydliadau addysg bellach, er mwyn codi safonau a chefnogi myfyrwyr. Rwy'n falch ein bod ni, yn wahanol i Loegr, yn darparu buddsoddiad i sicrhau bod darlithwyr addysg bellach yng Nghymru yn cael yr un faint â'u cyd-addysgwyr yn yr ysgolion. Rwy'n falch ein bod yn parhau i ddarparu buddsoddiad i gefnogi colegau sydd dan bwysau yn ariannol o ganlyniad i bensiynau. Fel y dywedais: £2 filiwn ar gyfer iechyd meddwl; £5 miliwn ar gyfer dysgu proffesiynol; a £10 miliwn ar gyfer y gronfa datblygu sgiliau. Rydym yn cefnogi ein sefydliadau addysg bellach, yn cefnogi ein myfyrwyr a'n dysgwyr, ac rydym yn datblygu'r sgiliau sydd eu hangen ar Gymru i ateb gofynion ein heconomi.
Diolch. A gaf fi alw ar David Melding i ymateb i'r ddadl?
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n credu ein bod wedi cael dadl ddiddorol iawn, a hoffwn ddiolch i'r holl Aelodau sydd wedi cyfrannu. Dechreuodd Mohammad Asghar yn gadarn iawn a fframiodd ei ddadl yn gadarnhaol iawn yn fy marn i. Mae angen inni gyrraedd ein potensial llawn fel pobl ac fel economi, a chredaf ein bod i gyd yn cytuno â hynny. Mae gweithlu medrus yn ganolog i economi wydn; unwaith eto, mae hwnnw'n wirionedd mawr. Ond ar brydiau, mae prinder sgiliau yn ein dal yn ôl, ac wrth geisio unioni'r diffyg hwn, mae addysg bellach yn gwbl hanfodol. Nid wyf yn credu bod neb yn anghytuno â hynny fel cnewyllyn gwirioneddol bwysig y ddadl hon. Yn wir, Oscar, clywais lawer o fwmian o'r fainc flaen yn cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedoch chi, ac yn cymeradwyo eich ymagwedd.
Soniodd Bethan Jenkins am Erasmus+ a materion eraill, a hoffwn—[Torri ar draws.] Mae'n flin gennyf, mae'n ddrwg gennyf. Soniodd am Erasmus+, ac rwyf am dreulio ychydig o amser ar hyn oherwydd rwy'n credu ei fod yn fater pwysig iawn. Rwy'n credu bod Erasmus+ wedi bod o fudd enfawr i fyfyrwyr Cymru, gan gyfoethogi eu profiad a gadael iddynt ffynnu, ac mae iddo fanteision economaidd mawr. Byddaf yn annog Llywodraeth y DU i sicrhau ein bod yn negodi'n dda fel y gallwn gymryd rhan yn y rhaglen hon mewn ffordd a fydd yn sicrhau manteision yn y dyfodol. Ond rwy'n meddwl y byddai ei roi ym Mil ymadael yr UE wedi cyfyngu'n fawr ar ein polisi negodi, ac nid wyf yn credu mai dyna'r ffordd orau o fynd ati. Ond—ac mae fy nghyd-Aelodau'n cytuno â mi—byddwn yn pwysleisio pa mor bwysig yw hyn wrth Lywodraeth y DU, fel y gwnaeth y Gweinidog. Felly, rydym yn cytuno ar hynny.
Soniodd Paul Davies am Goleg Sir Benfro. Cafwyd llawer o gyfeiriadau penodol at golegau addysg bellach lleol a'r modd y maent yn ganolog i gymaint o fywyd yn ein heconomïau lleol rhanbarthol. Mae drysau ar agor yno i bobl o bob oed, ac rwy'n credu o ddifrif mai dyna'r peth clasurol y mae addysg bellach wedi'i ddarparu. Mae gennym hanes da iawn yn draddodiadol yng Nghymru. Cymru oedd un o'r ychydig leoedd ar ôl yr ail ryfel byd lle gwelwyd colegau technegol yn llwyddo o ddifrif. Un o fethiannau'r diwygiadau yn y cyfnod hwnnw oedd na lwyddodd addysg dechnegol i ennill y math o amlygrwydd ag a roddwyd i lwybrau mwy academaidd. Ond yng Nghymru, fe wnaethom yn dda yn y sector hwnnw mewn gwirionedd, ac rydym wedi gweld ein colegau addysg bellach yn bwrw ymlaen â'r traddodiad. Ond pwysleisiodd Paul yr angen am fodel ariannu mwy hirdymor, ac roedd honno'n dipyn o ddadl yn ystod ein trafodaeth hefyd. Fe ddychwelaf at hynny mewn munud o bosibl.
Wedyn, gwnaeth nifer o'r Aelodau y cysylltiad rhwng colegau addysg bellach a chyflogwyr, unwaith eto. Dechreuodd David Rowlands, yn deg iawn yn fy marn i, drwy dalu teyrnged i raglenni galwedigaethol Llywodraeth Cymru, fel y dywedodd, a chanmolodd yr hyn a oedd wedi bod yn llawer o weithgarwch cadarnhaol yn ei farn ef. Yna, dychwelodd at ei araith flaenorol yn y ddadl a gawsom yn gynharach, a chafwyd llawer o anghydfod geiriol ynglŷn ag un gair penodol, nad wyf yn mynd i'w grybwyll. Ond rwy'n credu bod angen inni fod ychydig yn fwy caredig wrth ein gilydd weithiau. Rwy'n meddwl mai cywair, cyd-destun a bwriad yw'r hyn sy'n gyrru'r defnydd o eiriau, ac mae'n rhaid i mi ddweud bod gennyf rywfaint o gydymdeimlad â'r rhwystredigaeth a deimlai yn gynharach.
Yna siaradodd Andrew R.T. Davies am golegau addysg bellach fel y prif lwybr i lawer o bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau. Rydym yn sôn llawer am brifysgolion, a hynny'n ddigon priodol, ond i lawer o fyfyrwyr, mae colegau addysg bellach yn llawer mwy perthnasol, ac roeddwn yn meddwl bod hynny wedi adfer cydbwysedd y ddadl. Soniodd, wrth gwrs, am y sector amaethyddol—byddem yn disgwyl hynny—ond gyda'r fath rym, ac ef oedd yr unig un i fynd i'r afael â hyn yn y ddadl y prynhawn yma. Yn anffodus, oddeutu 1 y cant yn unig o brentisiaethau sydd yn y sector amaethyddol ar hyn o bryd, ac mae honno'n ystyriaeth ddigon digalon. Soniodd am y buddsoddiad cyfalaf mawr a welwyd yng Ngholeg Caerdydd a'r Fro, a deallaf fod yna enghreifftiau eraill. I unrhyw un sy'n mynd i safle Heol Dumballs—mae'n bleser pur gweld y myfyrwyr yno wedi'u hamgylchynu gan y cyfleusterau rhagorol hyn. Rwy'n argymell y bwyty yno, ymysg llawer o bethau eraill sydd ganddynt.
Janet Finch-Saunders, roeddwn yn meddwl mai chi oedd â'r ddelwedd orau heddiw: sgiliau yw'r ddraenen yn ystlys y ddraig Gymreig. Gwnaeth y ddelwedd honno argraff ar bobl a gwneud iddynt feddwl pa mor bwysig yw hi ein bod yn unioni'r llyffethair a welwn ar hyn o bryd mewn gormod o feysydd am nad ydym yn cryfhau sgiliau cymaint ag y dylem. Oherwydd maent yn ysgogi gwelliant mewn perfformiad economaidd yn ogystal â dod â budd mawr i unigolion. Fe sonioch chi hefyd fod dylanwad y sector preifat yn bwysig, a'r partneriaethau sydd yno fel y gall cyflogwyr yrru llawer o'r dulliau strategol o ddatblygu sgiliau. Rwy'n credu bod y rhain yn bwyntiau pwysig iawn. O ran sgiliau, buaswn yn ychwanegu mai dyna'r ysgogiad gorau sydd gennym yn ôl pob tebyg. Mae gennym lawer o bŵer yno, a dylid dweud ein bod yn gwario llawer o arian hefyd. Mae angen inni wneud hynny'n effeithlon ac yn effeithiol. Mae hyn yn rhywbeth y credaf ei fod yn cael ei anghofio weithiau—pa mor bwerus yw'r ysgogiad hwnnw i sefydliad datganoledig.
Atebodd Kirsty wedyn, a chytuno â llawer o'r hyn a gyflwynwyd gennym, rwy'n credu. Wrth gwrs, mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i wella sgiliau, fel y dywedodd y Gweinidog, er mwyn i Gymru allu ffynnu. Nid wyf yn credu bod neb yn amau nad yw'r ymrwymiad hwnnw'n un diffuant iawn a bod hyn hyd yn oed yn bwysicach ar gyfer economi ôl-Brexit. Ac unwaith eto, rwy'n credu y byddai pawb yn y Siambr yn cytuno.
Gyda'ch caniatâd, Ddirprwy Lywydd, ar y pwynt hwn, awgrym o feirniadaeth. Fe feddyliais fod rhywfaint o naws ddidactig yn eich anerchiad ar y pwynt hwnnw wrth i chi ddweud y drefn wrthym am fod â chynnig a oedd yn cyfeirio at yr hyn a oedd eisoes wedi'i wreiddio yn null Llywodraeth Cymru o weithredu. 'Wel, mae hon yn rhyw fath o ganmoliaeth mewn ffordd', meddyliais, ond wedyn fe wnaethoch chi ryw lun o'i difetha drwy ddweud ei bod yn amhosibl cael cyllidebau tair blynedd. Mae'r amgylchedd ariannol wedi bod yn heriol iawn—mae hynny'n sicr yn wir. Rydym wedi cael newidiadau mawr o ran gweinyddiaethau, ac etholiad cyffredinol wedyn, ac mae llawer o hyn wedi arwain at heriau pellach. Rwy'n eich atgoffa'n gwrtais mai eich plaid chi a'r Blaid Lafur a'n rhwystrodd rhag cael etholiad cyffredinol cynharach. Pe bai hynny wedi digwydd yn gynharach yn yr hydref—[Torri ar draws.]—efallai y byddai'r pethau hyn wedi bod ychydig yn haws i'w rheoli.
Rwy'n derbyn y pwynt nad yw ein dulliau cyllidebu yn y DU wedi gweddu'n dda iawn i gyllidebau tair blynedd. Mae angen i ni wella yma, fel ein bod yn datblygu cyllidebau dangosol a dulliau gweithredu lle ceir rhyw fath o sicrwydd ynglŷn â'r lefel a fydd yn cael ei rhoi. Nid wyf yn meddwl—o leiaf, rwy'n gobeithio'n fawr na fyddwn yn gweld y math o aflonyddwch ariannol sydyn a gawsom yn ystod yr argyfwng ariannol. Felly, nid wyf yn credu y cawn newid sydyn yn null Llywodraeth y DU o weithredu, ac maent wedi dweud ein bod bellach yn symud tu hwnt i'r cyfnod o gyni ariannol.
A gaf fi ddweud yn olaf fy mod yn credu bod y pwynt a wnaethoch am yr angen i edrych ar sgiliau uwch wedi'i wneud yn dda iawn ac wedi ychwanegu llawer at y ddadl? Rhaglenni gradd Meistr: mae llawer o dystiolaeth eto eu bod hyd yn oed yn bwysicach i economi na'r nifer sy'n cwblhau PhD, oherwydd mae llawer o bobl sy'n gwneud rhaglenni Meistr yn awyddus i'w defnyddio wedyn mewn modd entrepreneuraidd. Felly, roeddwn yn meddwl bod y pwynt a wnaethoch yn ffordd gadarnhaol iawn o orffen.
Diolch i bawb am eu cyfraniadau y prynhawn yma, ac rwy'n eich annog i gefnogi ein cynnig heb ei ddiwygio.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Diolch. Felly, gohiriwn y pleidleisio ar hyn tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Symudwn ymlaen yn awr at y cyfnod pleidleisio, oni bai fod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu. Na. O'r gorau.
Felly, symudwn ymlaen yn awr at y cyfnod pleidleisio. Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma, felly, ar y ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv), cefnogaeth mewn profedigaeth ar ôl hunanladdiad, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Lynne Neagle. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 35, roedd 12 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig hwnnw.
NDM7211 - Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Cefnogaeth mewn Profedigaeth sy’n deillio o Hunanladdiad: O blaid: 35, Yn erbyn: 0, Ymatal: 12
Derbyniwyd y cynnig
Symudwn ymlaen yn awr i bleidleisio ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar sgiliau'r gweithlu ar ôl Brexit. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig 13, neb yn ymatal, 34 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd y cynnig a symudwn ymlaen at welliant 1.
NDM7234 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 13, Yn erbyn: 34, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Felly, galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant, 20, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1.
NDM7234 - Gwelliant 1: O blaid: 20, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Galwaf am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 34, roedd un yn ymatal, 12 yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 2.
NDM7234 - Gwelliant 2: O blaid: 34, Yn erbyn: 12, Ymatal: 1
Derbyniwyd y gwelliant
Galwaf am bleidlais ar welliant 3 a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant 34, roedd 13 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbynnir gwelliant 3.
NDM7234 - Gwelliant 3: O blaid: 34, Yn erbyn: 0, Ymatal: 13
Derbyniwyd y gwelliant
Galwaf am bleidlais ar welliant 4 a gyflwynwyd yn enw Siân Gwenllian. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y gwelliant naw, roedd wyth yn ymatal, 30 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 4.
NDM7234 - Gwelliant 4: O blaid: 9, Yn erbyn: 30, Ymatal: 8
Gwrthodwyd y gwelliant
Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Cynnig NDM7234 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd darpariaeth addysg bellach o ran datblygu sgiliau gweithlu Cymru i fodloni gofynion economi Cymru ar ôl Brexit.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i fuddsoddi ym mhobl Cymru drwy:
a) gynyddu'r cyllid i addysg bellach;
b) ehangu nifer y prentisiaethau gradd yng Nghymru;
c) creu lwfans dysgu oedolion i helpu pobl i wella a meithrin eu sgiliau; a
d) gweithio gyda sefydliadau addysg bellach, prifysgolion a chyflogwyr i sicrhau bod y ddarpariaeth yn diwallu anghenion technoleg esblygol yr economi.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod pwysigrwydd Erasmus+ o ran denu pobl i Gymru i ddiwallu anghenion economi Cymru drwy’r sectorau addysg bellach ac addysg uwch, ac ymrwymo i wrthwynebu unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i adael y rhaglen yn 2021.
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid y cynnig fel y'i diwygiwyd 38, roedd naw yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig fel y'i diwygiwyd.
NDM7234 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 38, Yn erbyn: 0, Ymatal: 9
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer. Os oes pobl yn gadael, a allant wneud hynny'n gyflym ac yn dawel os gwelwch yn dda?
Symudwn ymlaen yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Hefin David i siarad am y pwnc a ddewiswyd ganddo. Hefin.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'r ffordd rwy'n mynd ati i wneud y ddadl fer hon yn un rwyf wedi'i thrafod gyda'r Gweinidog. Nid wyf wedi ysgrifennu araith mewn gwirionedd. Mae gennyf nodiadau, ond nid wyf wedi ysgrifennu araith, felly nid wyf yn gwybod beth rwy'n mynd i'w ddweud yn yr araith hon. Ond rwyf hefyd wedi cytuno gyda'r Gweinidog nad yw yntau wedi ysgrifennu fawr o araith chwaith, ac nid yw'n dibynnu ar nodiadau'r gwasanaeth sifil; mae'n mynd i ateb yr hyn rwy'n ei ddweud. Efallai y bydd rhai pobl yn dweud ei fod yn ddull unigryw o gynnal dadl fer; hoffwn ei galw'n 'ddadl fer heb ei pharatoi ymlaen llaw.' Dyna rwy'n mynd i'w galw, er i'r Gweinidog ei galw'n rhywbeth arall, na ellir ei ailadrodd yn y Siambr hon.
Yr hyn yr hoffwn edrych arno yw adroddiad Sefydliad Bevan ar drefi angor, sef eu cyfraniad at rywfaint o'r ddadl, a chredaf ei fod wedi canolbwyntio ar beth o'r ddadl mewn perthynas â thasglu'r Cymoedd, a'r hyn y mae tasglu'r Cymoedd yn ei wneud, er eu bod yn dweud yn glir y gellir cymhwyso'r cysyniadau yn yr adroddiad hwn i Gymru gyfan. A'r hyn yr hoffwn ei wneud yw edrych ar y cysyniad o drefi angor, 'anchor towns' nid 'Irranca towns' fel y dywedodd Huw pan oedd yn eistedd wrth fy ymyl. Pe bai'n ymwneud â hynny, meddai, byddai wedi aros i wrando ar y ddadl, ac addewais y buaswn yn cynnwys y jôc honno.
Mae arnaf eisiau siarad am y cysyniad o drefi a threfi angor, a'r gwahaniaeth rhwng y ddau, a chanolbwyntio wedyn ar rai o'r pethau cadarnhaol a rhai o'r anawsterau gyda'r cysyniad yn fy marn i, a cheisio cael gwybod gan y Gweinidog beth yw ei farn ef. Beth, yn ei farn ef, y dylai Llywodraeth Cymru ei nodi o'r adroddiad hwn, a'i wneud yn sgil hynny? Rwy'n meddwl bod trefi angor yn esblygiad o'r hybiau strategol, a oedd yn nhasglu gwreiddiol y Cymoedd, ac mae'r cyn-Weinidog yma wedi bod mor garedig ag aros i wrando ar y ddadl hon; rwy'n gobeithio y bydd yn aros ar gyfer y ddadl gyfan ac na fydd yn cerdded allan—
Wel, mae hynny'n dibynnu ar ba mor ddiddorol fydd hi. [Chwerthin.]
Dywedodd ei fod am aros cyhyd ag y byddaf yn ei gwneud yn ddiddorol, felly os yw'n mynd, rydym yn gwybod beth fydd yn ei feddwl.
A'r diffiniad yn yr adroddiad—maent yn disgrifio trefi angor fel canolfannau is-ranbarthol ar gyfer cyflogaeth, addysg a gwasanaethau allweddol, gyda chysylltiadau trafnidiaeth cryf, ac maent yn cefnogi busnesau newydd a rhai sy'n tyfu ac sy'n darparu sylfaen gwsmeriaid sy'n ddigon mawr i fusnesau lleol fel siopau bwyd, bwytai a chaffis a gwasanaethau lleol, fel swyddfeydd post a banciau, allu ffynnu ochr yn ochr â chynnig diwylliannol a chymunedol cryf. Nawr, bydd y rhai ohonom yn y Siambr hon sy'n cynrychioli cymunedau â threfi sydd mewn trafferthion yn gwybod mai dyna'r greal sanctaidd bron iawn; mae'n eithaf anodd inni gyflawni hynny, mae honno'n her go fawr inni ei chyflawni. Ac mae'n cysylltu'r economi sylfaenol o fewn yr adroddiad yn ogystal, Ddirprwy Weinidog. Mae hwnnw'n ddatganiad cadarnhaol iawn ar yr economi sylfaenol y credaf ei fod wedi dechrau a datblygu ar feinciau cefn Llafur ac wedi lledaenu ar draws y Siambr a'i chynnwys o fewn y Llywodraeth yn effeithiol iawn gan y Dirprwy Weinidog. Y rheswm pam y cafodd yr economi sylfaenol ei hyrwyddo yn y Llywodraeth yw oherwydd y Dirprwy Weinidog yn y fan honno; nid wyf yn ei ganmol yn aml iawn, felly, os gwelwch yn dda, Weinidog, gwnewch y gorau o hynny.
Ceir nifer gyfyngedig o drefi y gellir eu categoreiddio'n drefi angor, ac nid yw pob un ohonynt yn arddangos y nodweddion hynny. Yn anochel felly, oherwydd maent mor benodol ac anodd eu cyflawni. Ac eto, yn ôl Sefydliad Bevan, mae trefi bach yn gartref i 40 y cant o boblogaeth Cymru, ac mae llawer yn byw'n agosach at dref nag at ddinas fawr. Ac rwy'n cofio tyfu i fyny yn Mhenpedairheol, sy'n bentref; byddem yn sôn am fynd allan am y diwrnod gyda fy nhad-cu i Fargoed—dyna lle byddech yn mynd am y diwrnod, nid i Gaerdydd, nid i'r Coed-duon, ond i Fargoed. Rwy'n amheus iawn a yw'r bobl ym Mhenpedairheol yn sôn y dyddiau hyn am fynd am y diwrnod i Fargoed. Dyna ran o'r drasiedi. Mae pobl yn hoff iawn o'u trefi—mae pobl yn caru eu trefi—ac maent yn anobeithio pan fydd y trefi dan orthrwm a heb fod mor effeithiol ag yr arferent fod. Rwy'n meddwl hefyd, Alun Davies, am Fryn-mawr, a'r ymgyrch i achub Sinema Neuadd y Farchnad. Dyna enghraifft o gariad tuag at dref, a bu'r ymgyrch honno'n weithredol drwy dref Bryn-mawr i gyd, a theimlai'r bobl yn anhygoel o gryf am y peth, a gwn eich bod chithau hefyd.
Ac yn fy etholaeth i, ymysg eraill, mae gennym Fargoed, Senghennydd, Bedwas, Nelson, Ystrad Mynach, ac wrth gwrs, Caerffili, a byddai pob un ohonynt yn ystyried eu hunain yn drefi i ryw raddau neu'i gilydd. Felly, gadewch inni feddwl am drefi angor. A allant fod yn drefi angor, a beth yw manteision y cysyniad hwn? Gadewch i ni feddwl am hynny.
Wel, yn gyntaf oll, fel y dywedais, rwy'n credu bod yr adroddiad hwn wedi bod yn gyfraniad gwerthfawr i'r ddadl, a chredaf fod yna bethau yma a ddylai lywio strategaeth Llywodraeth Cymru yn y dyfodol. Mae'n cyd-fynd yn dda â'r fersiwn wreiddiol o dasglu'r Cymoedd—fersiwn wreiddiol y Gweinidog o dasglu'r Cymoedd. Rwy'n credu ei fod yn cyd-fynd yn dda â hynny, ac efallai'n cyd-fynd yn well â hynny nag â'r fersiwn ddilynol a ddatblygwyd gan y Gweinidog. Wedi dweud hynny, mae hefyd yn symud y tu hwnt i'r cysyniad diffygiol hwnnw o hybiau strategol. Ac rwy'n credu eu bod yn ddiffygiol, ac fe ymhelaethaf ar hynny yn nes ymlaen. Ac mae'r cysyniad o drefi angor yn sôn mwy am wasanaethau sydd wedi'u hintegreiddio i'r cysyniad o le mewn ffordd nad oedd yr hybiau strategol yn ei wneud yn fy marn i.
Ffactor cadarnhaol arall hefyd, rwy'n credu, yw bod trefi angor i ffwrdd oddi wrth goridor yr M4. Felly, rydym yn sôn am ail-gydbwyso teithio, oddi wrth y gogledd i'r de yn y bore, a dechrau symud o'r de i'r gogledd—mwy am y dwyrain a'r gorllewin mewn munud. Ac rwy'n credu bod hynny'n beth da iawn, ac yn sicr bydd yn gwneud mwy i dynnu ceir allan o Gaerdydd na'r tâl atal tagfeydd gwarthus, sy'n dreth mewn gwirionedd, pan nad oes unrhyw ddewisiadau eraill yn lle defnyddio'u ceir ar gael i bobl ddod i mewn i Gaerdydd. Felly, rwy'n credu bod y cysyniad hwn o drefi angor yn llawer mwy cadarnhaol gan ei fod yn cynnig dewis arall yn lle teithio i mewn i Gaerdydd.
Mae hefyd, fel y dywedais, yn ymgais i ategu polisi'r Llywodraeth ar yr economi sylfaenol. Ac ar dudalen 8, mae'n siarad mewn gwirionedd am y gallu i fyw'n sylfaenol, ac mae'n dweud,
Mae llwyddiant yn ymwneud â pha un a yw lleoedd yn gweithio mewn ffordd y gellir byw ynddynt i lawer o fathau o aelwydydd. Nid a ydynt yn ddiffygiol yn ôl mesur gwerth ychwanegol gros neu a ydynt yn brin o baraffernalia byw ffasiynol y dosbarth canol.
Rwy'n hoff o hynny, a dyna'u barn am fyw sylfaenol, sy'n cyd-fynd yn dda iawn â'r modd y mae'r Gweinidog yn hyrwyddo'r economi sylfaenol. Mae'n ystyried y gwasanaethau sy'n bodoli'n barod hefyd, rhywbeth roeddwn yn ei feirniadu mewn perthynas â'r hybiau strategol.
Ond gadewch i ni fod yn gadarnhaol—ceir rhai pethau yn y cysyniad sy'n dweud y dylai'r pethau hyn gysylltu â threfi angor, a'r pethau hynny yw: ysbytai a byrddau iechyd, sefydliadau addysgol, llywodraeth leol, cyrff cyhoeddus eraill fel swyddfeydd llywodraeth a chymdeithasau tai. Felly, os edrychaf ar fy etholaeth i, gallaf weld, yn Ystrad Mynach, Ysbyty Ystrad Fawr, gallaf weld Coleg y Cymoedd, gallaf weld swyddfeydd y cyngor, Tŷ Penallta, a swyddfeydd busnes Tredomen, gallaf weld cymdeithasau tai—wel, bron iawn, gallaf weld United Welsh, sydd ar Ffordd Beddau, yn nes at Gaerffili, ond gallech wneud hynny i raddau. Ac rwyf wedi ychwanegu fy nghategori bach fy hun—gweithgareddau chwaraeon. Oherwydd lleolwyd Canolfan Ragoriaeth Dreigiau Casnewydd Gwent ar draws y ffordd i Ysbyty Ystrad Fawr. Felly, mae gennych hynny yn ogystal. Ond y pwynt a wnânt—y pwynt a wnânt—yw mai dim ond os yw'r sefydliadau hyn yn cydweithio â'i gilydd y mae'n gweithio. Ac os siaradwch ag unrhyw un yn Ystrad Mynach, ni fyddent yn gweld canolfan ragoriaeth y Dreigiau fel cyfleuster cymunedol; caiff ei weld fel cyfleuster elitaidd, sy'n achosi mwy o broblemau i glwb rygbi Penallta nag y mae'n eu datrys mewn gwirionedd. Felly, gwelir y ganolfan ragoriaeth fel cyfleuster hyfforddi elitaidd, ac mae'n anodd ac yn ddrud iawn i'r gymuned ei defnyddio. Felly mae yna ffyrdd y gall y trefi angor hyn wella mynediad. Yn y ffordd y soniwn am ysgolion cymunedol, wel, pam nad cyrff cyhoeddus sy'n canolbwyntio ar y gymuned a chyrff busnes hefyd? Mae angen iddynt ganolbwyntio ar economi deg a chynhwysol.
Felly beth am yr anawsterau? Mae yna bethau cadarnhaol, a dyma rai o'r pethau sy'n anodd am y cysyniad o drefi angor yn fy marn i. Rwy'n credu ei fod yn seiliedig ar un o gysyniadau blaenorol tasglu'r Cymoedd yr ydym yn symud oddi wrtho. Felly beth y mae hynny'n ei olygu ar gyfer meddwl yn strategol? A yw'n golygu y bydd y Gweinidog, felly, yn gwrthod trefi angor? A yw hynny'n golygu, Ddirprwy Weinidog, eich bod yn teimlo bod trefi angor yn gysyniad nad yw'n werth ei ystyried gan Lywodraeth Cymru, neu a oes pethau yno y byddech yn hoffi eu defnyddio? Ond mae'n sicr yn cyd-fynd yn well â barn eich rhagflaenydd ynglŷn â'r hyn y dylai tasglu'r Cymoedd fod—rwy'n credu—na'r hyn rydych chi'n ei weld ydyw ar hyn o bryd.
Yn ôl y diffiniad mwyaf llym hefyd—dyma feirniadaeth blwyfol—yr unig dref angor go iawn yn fy etholaeth i yw Ystrad Mynach. Ni fyddai Bargoed, Senghennydd, Nelson, na Chaerffili hyd yn oed—Caerffili ar binsh—yn cael eu categoreiddio fel trefi angor. Mae hynny'n creu rhywfaint o anhawster os ydych yn pryderu am yr effaith luosydd y gallai trefi angor ei chreu. Mae 'A oes effaith luosydd?', yn gwestiwn da iawn i'w ofyn, oherwydd gallai fod yn fantais atgyfnerthol. Mae'r holl wasanaethau hyn gan Ystrad Mynach eisoes; nid yw hynny'n wir am Fargoed, na Senghennydd. Beth a wnawn dros y cymunedau hynny? Mae hi'r un broblem ag a oedd gennyf gyda hybiau strategol. Datblygwyd hybiau strategol mewn cymunedau fel Ystrad Mynach a Chaerffili, lle mae pobl am adeiladu tai, lle mae pobl am dyfu busnesau. Ond beth am y cymunedau nad ydynt yn drefi angor? Sut y gallant gysylltu â'r cymunedau hynny? Sut y gall lluosydd weithio tu hwnt i'r eirlin? Sut y gallwch wneud i hynny ddigwydd? Ac mae hwn yn gwestiwn rwy'n ei ofyn i chi, Weinidog.
Mae fy etholaeth yn eithaf llinol—mae'n symud o'r gogledd i'r de. A yw ond yn gweithio—ai dim ond mewn mannau consentrig y gall trefi angor weithio? Mae Ystrad Mynach yn gonsentrig; dyna'r unig dref gonsentrig yn fy nghymuned—mae pob un o'r lleill yn llinol. A yw hynny'n rhan o'r rheswm dros eu llwyddiant?
Nawr, nid ydym yn sôn chwaith am greu trefi newydd—rydym yn gweithio gyda'r hyn sydd gennym eisoes. A phe baem yn adeiladu trefi newydd, byddem yn eu hadeiladu fel trefi angor, ond nid ydym yn gwneud hynny; rydym yn gweithio gyda'r hyn sydd gennym, ac efallai nad yw'r hyn sydd gennym yn ei gwneud hi'n hawdd creu hynny. Mae'n galw am seilwaith trafnidiaeth a chysylltedd er mwyn llwyddo. Mae gan Ystrad Mynach hynny, ond rydym ymhell o fod â system trafnidiaeth gyhoeddus effeithiol eto. Y bore yma, roeddwn ar y gwasanaeth trên i Gaerffili. Ynghyd â'r holl deithwyr eraill, roedd yn rhaid i ni ddod oddi ar y trên yng Nghaerffili a mynd ar fws Stagecoach poeth a chwyslyd, ac o ganlyniad, fe gollais bwyllgor—ni chyrhaeddais tan 10:38. Pe bawn yn weithiwr a gyflogid fesul awr neu pe na bai gennyf gyflogwr caredig, buaswn mewn anhawster mawr. Nid ydym wedi sicrhau cysylltedd trafnidiaeth eto. Yn ffodus, cefais faddeuant gan y prif chwip heddiw.
A'r peth arall, wrth gwrs, yw bod angen cymhorthdal cyhoeddus mawr ar gyfer hyn—y mathau hyn o weithgarwch trafnidiaeth. Ar hyn o bryd, mae cyngor Caerffili yn talu £81,000 y flwyddyn i'r gwasanaeth bysiau i redeg bws sy'n cysylltu'r Coed-duon â gorsaf Ystrad Mynach, dwyrain a gorllewin. Mae hynny o dan fygythiad oherwydd toriadau llywodraeth leol. A'r peth arall yw ein bod yn tueddu i beidio ag edrych i'r dwyrain a'r gorllewin yn y Cymoedd. Nodir yn yr adroddiad fod Merthyr Tudful yn dref angor bosibl. Gadewch i mi ddweud wrthych, nid wyf ond wedi bod ynghanol tref Merthyr Tudful dair gwaith yn fy mywyd, ac un o'r adegau hynny oedd i ymweld â Dawn Bowden. Nid wyf wedi bod yno. Bûm ym Mharc Cyfarthfa—[Torri ar draws.] Wel, mi wnaf bwynt o fynd yno, gan fy mod yn cael argymhellion o'r llawr. Bûm ym Mharc Cyfarthfa ac rwyf wedi bod yn y parc manwerthu, ond canol tref Merthyr Tudful—ni fûm yno. Nid yw'n rhywbeth rydym yn meddwl amdano yn fy nghymuned i. Nid ydym yn edrych i'r dwyrain a'r gorllewin. Rwyf wedi bod yn Aberdâr ychydig yn fwy aml yn ddiweddar nag yn y gorffennol, ond mater o raid oedd hynny.
Felly, beth sy'n cyd-fynd â'r adroddiad hwn? Rwy'n credu bod yn rhaid i ni weithio gyda sut y mae pobl yn byw mewn gwirionedd, nid gyda'r ffordd y mae gweision sifil Llywodraeth Cymru yn meddwl ein bod ni'n byw, ac felly, mae angen iddo gael ei ddatblygu gan y bobl eu hunain. Mae angen ei wneud ar y cyd â phrifddinas-ranbarth Caerdydd, gan weithio tuag at gynllun datblygu strategol, a gafodd ei danseilio, gyda llaw, gan yr argymhelliad ynglŷn â thâl atal tagfeydd ar gyfer Caerdydd. Mae angen inni weithio gyda'n gilydd ac yn gydweithredol arno, ac nid yw hynny'n digwydd.
Mae'n dangos rôl werthfawr y byrddau gwasanaethau cyhoeddus. Rwy'n hoffi hynny, ond a wyddoch chi beth? Ar ddiwedd Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau yr wythnos diwethaf, gofynnais i Aelodau o bob plaid o amgylch y bwrdd faint o ran roeddent wedi'i gael gyda'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus, a dywedasom, 'Beth yw bwrdd gwasanaethau cyhoeddus?' Nid ydym wedi ymwneud â hwy; nid ydym wedi ymgysylltu â nhw. Nid ydynt wedi cysylltu â ni. Russell George, Bethan Sayed—mae hynny'n wir, onid yw? Nid ydym wedi gwneud hynny. Cawsom y drafodaeth honno, ac felly, os yw byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn mynd i chwarae rhan, mae'n rhaid iddynt fod yno'n gwneud hynny, yn ein cynnwys ni ac yn cydweithio. Ar hyn o bryd, nid wyf yn ei weld.
A'r cwestiwn arall yw bod Sefydliad Bevan yn cyfeirio at y Bil partneriaeth gymdeithasol, gan gysylltu'r sector cyhoeddus, y sector preifat a'r sector gwirfoddol gyda'i gilydd er y lles cyffredin. Gwych—peth ardderchog—ond beth fydd manylion hynny, Ddirprwy Weinidog? Sut y bydd y Bil partneriaeth gymdeithasol yn galluogi pethau fel trefi angor i ffynnu? Nid wyf yn gwybod; hoffwn gael mwy o fanylion.
Dadl yw hon, ac rwyf wedi nodi ambell gwestiwn. Er nad wyf wedi fy argyhoeddi'n llwyr gan y cysyniad o drefi angor, mae egwyddorion sylfaenol cydweithredu cymunedol, cydgynhyrchu ac egwyddorion o'r bôn i'r brig yn rhywbeth rwy'n ei gefnogi ac rwy'n eu cefnogi'n fawr iawn. Ond Ddirprwy Weinidog, y Llywodraeth sydd i ateb y cwestiwn ynglŷn â sut y caiff yr egwyddorion hynny eu gweithredu yn ymarferol. Y cwestiwn mawr rwy'n ei ofyn o ganlyniad i'r ddadl hon, ac o ganlyniad i'r cysyniad o drefi angor yw: ble mae tasglu gweinidogol y Cymoedd yn dymuno mynd gyda hyn? Ac efallai y gallech ateb y cwestiwn yn eich anerchiad.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ymateb i'r ddadl? Lee Waters.
Ie, diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Roedd agoriad Hefin David yn fy atgoffa o'r sylwadau a wnaed am A. J. Cook, yr undebwr llafur—nad oedd yn gwybod beth y byddai'n ei ddweud hyd nes y byddai'n dechrau ei ddweud; ni wyddai beth a ddywedai tra roedd yn ei ddweud, ac ni allai gofio'r hyn a ddywedodd ar ôl iddo orffen ei ddweud. Fe af yn yr ysbryd y mae wedi ei gofyn i mi wneud, ac mae'n bosibl fod hon yn un o'r dadleuon hynny i Aelodau eraill ymyrryd ar y Gweinidog sy'n ymateb, felly rwy'n hapus i dderbyn ymyriadau gan yr ychydig Aelodau sy'n weddill, os ydynt am ymyrryd.
Rwy'n gwerthfawrogi'r ysbryd y mae wedi cynnig y pwnc hwn i'w drafod, oherwydd rwy'n credu ei bod yn hen bryd ei drafod. Ac fel mae'n digwydd, rwyf wedi gwahodd Sefydliad Bevan i fynychu cyfarfod nesaf tasglu'r Cymoedd i drafod yr union bapur hwn. Oherwydd, fel yntau, fe'i darllenais ac roedd yn ddiddorol ac roedd llawer ohono'n fy argyhoeddi'n reddfol, er fy mod yn amheus ynghylch rhannau eraill ohono, ac rwy'n awyddus iawn iddynt ddod i mewn, a mynd drwyddo a'i drafod. Rwyf hefyd, gyda llaw, wedi cyhoeddi gwahoddiad parhaol iddynt fynychu holl gyfarfodydd y tasglu yn y dyfodol, ond yn benodol gyda mandad i herio. Nid wyf am eu rhwymo i'r tasglu ac maent yn gyndyn o wneud hynny, ond mae yna eitem sefydlog ar yr agenda iddynt ddod i mewn a chyfrannu os dymunant wneud hynny, oherwydd yn union fel Alun Davies a arweiniai ar hyn yn flaenorol, a Hefin David yn ysbryd ei sylwadau, nid wyf yn credu bod gennym dempled yma, yn hollol. Rydym yn ceisio dod o hyd i ffordd yn erbyn llanw sy'n gwthio trefi i gyfeiriad penodol, llanw sydd wedi eu hamddifadu o lawer o'u diben economaidd. Ac fel y dywedodd Hefin, er bod pobl yn caru eu trefi, yn anffodus mae pobl yn defnyddio llai a llai arnynt, a dyna baradocs trefi a'r rôl a gawn fel gwleidyddion, rwy'n meddwl, o fod eisiau iddynt ffynnu a gwneud llwyth o bethau i wneud iddynt ffynnu.
Yr unig ran o nodyn briffio'r gwasanaeth sifil a ddefnyddiaf yw sôn yn fyr iawn am bedwar peth rydym yn eu gwneud i helpu trefi. Mae gennym raglen adfywio £100 miliwn wedi'i thargedu. Mae gennym gronfa adeiladu ar gyfer y dyfodol o £54 miliwn ar gyfer caffael ac ailddatblygu adeiladau segur. Mae gennym gynllun benthyca gwerth £31.5 miliwn ar gyfer canol trefi, ac rydym yn gwario £23.5 miliwn ar ryddhad ardrethi busnes. Felly, rydym yn gwneud llawer. Tybiaf mai'r her o bosibl yw gweld a oes digon o ffocws i hynny, ac a ydym yn glir ynglŷn â beth yw'r weledigaeth. Mae hyn yn aml yn wir am awdurdodau lleol. Yn sicr, mae fy un i yn Sir Gaerfyrddin wedi bod yn dda iawn am adnewyddu hen adeiladau, ond nid yw'n glir i mi beth yw'r strategaeth a'r cynllun ar gyfer canol y dref, ac mae hwnnw'n bwynt y mae'r Ffederasiwn Busnesau Bach wedi'i wneud yn eu gwaith.
Felly, nid wyf yn credu bod gennym ni i gyd ateb clir ar gyfer hyn eto, ond mae'r her yn un gywir, ac rwyf am barhau i drafod sut i siapio dull y Llywodraeth o fynd ati er mwyn ceisio gwneud hynny mor gywir ag y gallwn.
Os nad oes ots ganddo i mi ddweud hynny, credaf ei fod yn gor-ddweud y gwahaniaethau rhyngof ac Alun Davies i raddau ar rôl yr hybiau strategol, a pha un a yw'r cysyniad blaenorol yn wahanol i'r un presennol a sut y mae hynny'n cyd-fynd â chysyniad Sefydliad Bevan. Credaf fod rhywfaint o wirionedd yn hynny, yn yr ystyr mai cyfrwng ariannu oedd yr hybiau strategol yn y fersiwn wreiddiol ac nad ydynt yn gyfrwng ariannu bellach, ond maent yn dal i fod yn rhan bwysig iawn o waith y tasglu a gwaith y Llywodraeth am eu bod yn rhoi ffocws gofodol i'n gwaith.
A wnaiff y Gweinidog dderbyn ymyriad?
Rwy'n hapus i dderbyn ymyriad.
Gan mai fi oedd y Gweinidog a ddyfeisiodd y pethau hyn a'u bod wedi cael eu trafod nifer o weithiau, efallai y byddai'n ddefnyddiol i mi ddweud beth oedd y tu ôl iddo ar y pryd. Nid oedd yr hybiau strategol erioed yn ffordd o wneud dim heblaw canolbwyntio buddsoddiad mewn mannau penodol, oherwydd y feirniadaeth a glywsom a'r feirniadaeth a wnaed—yn deg, rwy'n credu, yn y gorffennol—oedd mai adnoddau cyfyngedig oedd gan Lywodraeth Cymru a'i bod wedi'u rhannu mor denau fel nad oedd iddynt effaith wirioneddol. A'r ystyriaeth oedd os ydym am gael effaith ddifrifol a chyflawni'r targedau a osodwyd ar ein cyfer dros dymor o bedair neu bum mlynedd, roedd hynny'n galw ac yn gofyn am fuddsoddi mewn lleoedd penodol.
Ond defnyddiasom y term 'hybiau' yn rhannol oherwydd bod pawb arall yn defnyddio'r term ac yn ail, am ein bod wedi ceisio osgoi'r ddadl ar drefi angor. Er enghraifft, yn fy etholaeth i, byddai hynny'n golygu dweud wrth Lynebwy, 'Rydych yn cael yr holl fuddsoddiad hwn', a dweud wrth Dredegar yn yr un modd, wrth Fryn-mawr, wrth Nant-y-glo, wrth Flaenau, wrth Abertyleri, 'Nid ydych yn cael y buddsoddiad hwnnw.' Ac roedd yn bwysig felly i ni ddweud ein bod am ganolbwyntio buddsoddiad o gwmpas mannau penodol sy'n hybiau trafnidiaeth y dyfodol, a phopeth, ond a fyddai wedyn yn arwain at fuddsoddiad pellach. Ni chaent eu gweld fel holl hanfod a diben y polisi.
Rwy'n cytuno â hynny ac wrth gwrs, roedd yna fethodoleg yn sail i'r dewis.
Oedd, yn wir.
Felly, nid ymarferiad cefn pecyn sigarennau oedd hwn; gwnaed llawer o waith ar eu dewis. Rwy'n credu bod Alun Davies wedi taro'r hoelen ar ei phen o ran hanfod y broblem gyda'r hybiau strategol fel rwyf wedi eu gweld, ac mae hefyd yn berthnasol i'r trefi angor. Nid y cysyniad sy'n anghywir; plwyfoldeb cymunedol yw'r her, oherwydd faint o bobl ydych chi'n penderfynu eu cynnwys? Pan drosglwyddwyd y briff hwn i mi, dywedais wrth y gweision sifil, 'Pam fod gennym saith hyb strategol? Mae hynny i'w weld yn llawer', ac atebodd y gwas sifil, 'Roeddem yn eithaf balch ein bod wedi'i gadw i gyn lleied â saith.' A dyna'r her a osodais i Sefydliad Bevan wrth noddi'r syniad hwn oherwydd nid wyf yn gwrthwynebu'r egwyddor, ond sut ydych chi'n mynd i atal—? Pe baech yn gallu penderfynu ar dri byddai grym i'r ddadl, ond nid ydym byth yn mynd i benderfynu ar dri, felly a yw'n werth y drafferth mewn gwirionedd?
Teimlaf fod Alun Davies am ymyrryd unwaith eto.
Buaswn yn dweud nad oedd y fersiwn gyntaf yn cynnwys unrhyw hybiau strategol yn y Cymoedd chwaith, felly roedd yn broses hwy nag y byddai pobl yn ei feddwl o bosibl.
Yn hollol. Ac fel y dywedais, rydym yn cadw hybiau strategol fel offeryn cynllunio gofodol. Gyda Chaerffili er enghraifft, gwnaed llawer o waith, a buddsoddwyd llawer, ym mhrif gynllun Caerffili na fyddai wedi bodoli pe na bai cysyniad yr hybiau strategol wedi bod yno. [Torri ar draws.] Rwy'n hapus i ildio.
Cefais gyfarfod gyda phrif weithredwr cyngor Caerffili, ac rydych chi'n hollol gywir, y rheswm pam yr aethant am brif gynllun Caerffili oedd oherwydd yr hybiau strategol. Y broblem yw bod Senghennydd wedi'i hepgor ynddo. Felly cafodd hynny yr union effaith honno.
Do, a dyma ni'n dod at y broblem eto.
Felly, beth a wnawn ynglŷn â hyn? Soniaf yn fras am hyn fel prif bwynt olaf: y byrddau gwasanaethau cyhoeddus a'r rôl sydd ganddynt, a sut y mae cysyniad yr economi sylfaenol yn cyd-fynd â hynny. Dylwn gydnabod yn briodol fod yr economi sylfaenol yn fudiad cefnogwyr roedd Hefin David, Vikki Howells, Jeremy Miles a Jenny Rathbone ar ein meinciau ni yn rhan ohono, ac roedd Adam Price a David Melding ar y meinciau eraill yn rhan ohono hefyd. Roedd yn fudiad trawsbleidiol, ac mae'n bwysig ei fod yn parhau felly.
Fel y gwyddoch, rydym wedi treblu maint cronfa her yr economi sylfaenol, ond y wir wobr yw lledaenu a thyfu arferion da, a dyna lle mae gan y byrddau gwasanaethau cyhoeddus botensial i gyflawni eu diben. Buaswn yn cytuno â'i sylwadau nad oes llawer yn eu deall hyd yn hyn, a thu hwnt i gynhyrchu strategaethau, nid ydynt eu hunain wedi cael effaith mewn gwirionedd. Felly, mae fy her i'r byrddau gwasanaethau cyhoeddus yn dechrau nawr, gan ein bod ar fin penodi partner i weithio gyda phedwar clwstwr ohonynt i ledaenu ac i rannu model caffael Preston ac yna, fel y dengys y cronfeydd arbrofol—ac roeddwn yn swyddfeydd United Welsh yn etholaeth Hefin David ddydd Llun i gyfarfod â phrosiectau'r Cymoedd y gronfa arbrofol—rydym yn awyddus i ledaenu a thyfu'r rheini'n gyflym ar draws y byrddau gwasanaethau cyhoeddus.
Ac os cawn hynny'n iawn, yn enwedig o ran caffael, bydd budd y gwariant cyhoeddus, sy'n £6 biliwn y flwyddyn yng Nghymru, yn llifo i'r cymunedau yn ei etholaeth sydd ar hyn o bryd yn teimlo eu bod yn cael eu hesgeuluso. Ac yna, rwy'n meddwl, bydd pa un a ydym yn eu galw'n 'drefi angor' a'r nifer sydd gennym yn faterion bron yn ymylol. Y pwynt yw: sut y gallwn feithrin ac annog gwead ein cymunedau sydd wedi teimlo eu bod wedi'u hesgeuluso, ac am reswm da? A dyna yw holl ddiben ein dull o weithredu ar yr economi bob dydd a rôl byrddau gwasanaethau cyhoeddus wrth wneud hynny. Pa un a allwn ei wneud ac a allwn ei wneud yn ddigon cyflym i ddangos effaith, wel cawn weld am hynny, ond rwy'n sicr yn canolbwyntio fy egni ar geisio gwneud hynny. Ond mae yna gryn rwystredigaethau, rhwystrau ac oedi ar y daith.
Hoffwn orffen ar y pwynt a wnaeth Hefin David ynglŷn â'r tâl atal tagfeydd. Rwy'n credu bod y pwynt a wnaeth am gysylltedd trafnidiaeth yn un allweddol ar gyfer y modd y mae pobl yn teimlo eu bod wedi'u cysylltu â'u trefi, a'r cyfyng-gyngor y nododd fod ei awdurdod lleol ei hun yn ei wynebu wrth ymdrechu i gynnal y cymorthdaliadau i wasanaethau cymdeithasol sy'n angenrheidiol ond nad ydynt yn fasnachol hyfyw. Mae ein model bysiau preifat wedi torri, ac rydym yn ceisio ei ddal at ei gilydd ac mae'n mynd yn anos bob blwyddyn. Er clod i arweinyddiaeth cyngor Caerdydd, maent wedi edrych ar dagfeydd cynyddol yn eu dinas, sgil-effaith y model crynodref a ganmolwyd gennym yn y lle hwn ers amser maith, sef yn y bôn fod pobl yn gweithio yng Nghaerdydd ond yn byw mewn mannau eraill ac rydym yn datblygu'r ddinas. Y broblem gyda hynny, wrth gwrs, yw bod pobl yn teithio pellteroedd i mewn i'r ddinas i gyrraedd y gwaith, ac mae hynny wedi arwain at brifddinas brysur gyda lefelau peryglus a marwol o lygredd aer. A rhaid gwneud rhywbeth am hynny. Nid yw edrych ar yr ochr gyflenwi o gynhyrchu mwy byth o gapasiti'n gweithio. [Torri ar draws.] Rwyf am orffen y pwynt a'ch gadael i mewn wedyn. I fod yn deg â hwy, maent yn dechrau'r sgwrs i fynd i'r afael ag ochr y galw.
Ond rwy'n meddwl mai'r broblem gyda'u cynnig ar hyn o bryd yw nad oes ffordd arall i bobl fynd i mewn i'r ddinas. Mae'r trenau'n llawn, mae'r bysiau'n rhedeg yn llawer rhy hwyr ar gyfer y gwaith. Cefais broblemau enfawr y bore yma. Bydd y bobl yn dal i deithio yn yr un niferoedd yn union, byddant yn talu'r tâl, dyna i gyd. Mae'n dreth, fel y mae'r cynigion wedi'u gosod ar hyn o bryd, hyd nes y gallwch sicrhau bod trafnidiaeth gyhoeddus yn gwella'n sylweddol a bod gan bobl hyder ynddi.
Nid wyf yn cymryd y cynigion y mae Caerdydd wedi'u cyflwyno fel y gair olaf ar y mater. Rwy'n credu mai dechrau sgwrs ydynt.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Nid wyf wedi gorffen y pwynt, ond os oes gennyf amser, rwy'n hapus i wneud hynny.
Maent wedi dweud—. Mae'n ddrwg gennyf, Ddirprwy Lywydd, a ydych yn ceisio rhoi arweiniad imi?
Mae gennych amser. Mae gennych hyd at 15 munud.
Gwych.
Ond ar ôl 15 munud, bydd y meic yn diffodd.
A bydd pawb yn mynd adref. Gwych. Gadewch i mi ymateb yn fyr i bwynt Hefin cyn gofyn i Alun ddod i mewn.
Rydym ar ddechrau sgwrs. Ni chânt eu cyflwyno am bedair blynedd. Mae rhesymau ymarferol dros wneud hyn yn y ffordd y maent wedi ei wneud, gan fod y pwyntiau mynediad i'r ddinas yn llai niferus, a gallwch osod y seilwaith i nodi rhifau ceir, ond pe baech yn ei gymhwyso i holl drigolion Caerdydd, byddai angen camerâu ym mhob rhan o'r ddinas a bydd hynny'n anodd ac yn ddrud i'w wneud. Felly gallaf ddeall yn ymarferol pam eu bod wedi ei wneud yn y ffordd hon. Ond ymhen pedair blynedd, erbyn i hyn gael ei gyflwyno, os caiff y Bil llywodraeth leol y mae Julie James yn ei gyflwyno ei gymeradwyo gan y Senedd hon, bydd trafnidiaeth yn cael ei rheoli ar sail ranbarthol. Nid yw'n wir y gall y dinas-ranbarth gyflwyno cynllun trafnidiaeth sy'n ymwneud â Chaerdydd yn unig. Bydd arweinwyr yr awdurdodau lleol o amgylch y bwrdd hwnnw'n mynnu dull gweithredu ar draws y rhanbarth cyfan.
Felly, rwy'n credu mai dechrau sgwrs yw hyn. Bydd yr holl awdurdodau lleol dros y pedair blynedd nesaf yn gallu siapio hynny, fel y gall pobl Caerdydd, yn wir, drwy etholiadau llywodraeth leol, ac rwy'n tybio y bydd y cynigion a fydd gennym yn y diwedd yn wahanol i'r cynigion a oedd gennym ar y dechrau. Ond rwy'n credu y dylem roi sicrwydd a hyder a chefnogaeth i arweinyddiaeth Caerdydd am fod yn barod i fynd i'r afael â mater anodd rheoli galw, oherwydd nid yw mynd i'r afael â chyflenwad yn unig yn mynd i weithio. Rwy'n hapus i ildio i Alun Davies.
Rwy'n ddiolchgar i chi, Weinidog. Rwy'n dod i mewn i gefnogi'r sylwadau a wnaethpwyd gan fy nghyfaill o Gaerffili, oherwydd mae'n creu amgylchedd 'ni a nhw' rhwng y gefnwlad a dinas Caerdydd, a'r un peth y mae hanes wedi ei ddysgu inni yw, os llwydda Caerdydd, bydd y Cymoedd yn llwyddo, ac os llwydda'r Cymoedd, mae Caerdydd yn llwyddo. Ni fydd gwahanu a rhannu yn galluogi'r naill na'r llall ohonom i lwyddo.
Rwy'n croesawu'r Papur Gwyn gan y cyngor yng Nghaerdydd. Hoffwn pe bai gan awdurdodau lleol eraill yr un gallu i ddatblygu cynigion tebyg. Ond mae'r pwynt a wnaed am dreth ar y Cymoedd yn un da, ac ni fydd yn dderbyniol i'r Aelodau sy'n cynrychioli etholaethau'r Cymoedd canol a dwyreiniol.
Ond buaswn yn dweud wrthych, Weinidog, fy mod yn cymeradwyo byrdwn eich dadl, ond byddai'r pwynt a wnewch am fysiau yn un gwell pe na bai Llywodraeth Cymru yn bwriadu torri'r cymhorthdal presennol i fysiau yn y gyllideb bresennol. Yr hyn sydd angen inni ei wneud yn sicr yw cael y ddeddfwriaeth rydych wedi'i thrafod a dadlau yn ei chylch, ac rwy'n hapus iawn i gefnogi hynny, ond yn y cyfamser, mae angen inni gynnal a chefnogi'r gwasanaethau bysiau sydd gennym ar hyn o bryd.
Ar y pwynt am raniadau â'r Cymoedd, credaf fod Ken Skates, Gweinidog yr economi, wedi gwneud y pwynt yn ei lythyr at gyngor Caerdydd, sydd wedi'i ryddhau, fod yn rhaid gwneud hyn ar sail ranbarthol. Fel rwyf newydd ei ddweud, rwy'n meddwl mai dyna fydd yn digwydd am nifer o resymau.
Ar y pwynt am wasanaethau bysiau, rwy'n cefnogi trafnidiaeth gynaliadwy yn frwd. Mae gennym gyfres o broblemau ymarferol, yn enwedig setliad cyllideb anodd iawn a fu'n boenus i'w gytuno, sydd wedi golygu rhewi'r grant cymorth—nid ei dorri. Rwy'n derbyn bod yr effaith mewn termau real yr un fath fwy neu lai, ond mae hwnnw wedi bod yn setliad anodd iawn ac mae gennym broblem ymarferol gan fod y cyllid refeniw sydd ar gael i ni—a chyllid refeniw yw'r hyn sy'n rhedeg gwasanaethau bysiau—ym maes trafnidiaeth yn gyfyngedig iawn, a'r broblem sydd gennym oll os ydym yn ddiffuant ynglŷn â mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd yw bod angen inni fynd i'r afael â newid ymddygiad. Mae newid ymddygiad yn ymwneud â phobl, mae'n ymwneud â gwasanaethau, mae'n ymwneud â chyllid refeniw. Mae problem strwythurol gennym yng nghyllideb Llywodraeth Cymru na all yr un Gweinidog ei datrys yn hawdd, oherwydd er mwyn sicrhau newid moddol mae angen mwy o arian refeniw arnom, ac nid oes gennym hynny. Mae'n haws dod o hyd i gyllid ar gyfer cyfalaf. Felly, mae hynny'n rhywbeth y bydd yn rhaid i bawb ohonom ei wynebu wrth i strategaeth drafnidiaeth Cymru gael ei chyhoeddi eleni, ac wrth i ni fwrw ymlaen â'n hymrwymiad i newid moddol, ac mae'n rhaid gwireddu hynny er mwyn cyflawni'r weledigaeth a nodwyd gan Hefin David ar gyfer adnewyddu ac ailfywiogi ein trefi. Rwy'n addo parhau i drafod hyn gyda'r holl Aelodau.
Da iawn. Diolch yn fawr iawn. Daw hynny â thrafodion heddiw i ben.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:59.