Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

21/01/2020

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Angela Burns. 

Gwella'r Gwasanaeth Iechyd

1. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwella'r gwasanaeth iechyd dros y flwyddyn sydd i ddod? OAQ54972

Llywydd, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna.

Ymhlith ein blaenoriaethau ar gyfer y flwyddyn i ddod mae buddsoddi'r symiau uchaf erioed ar draws ein system iechyd a gofal cymdeithasol, hyfforddi'r nifer uchaf erioed o weithwyr clinigol proffesiynol i greu gweithlu'r dyfodol ac amddiffyn Cymru rhag unrhyw ymgais gan Lywodraeth y DU i roi'r GIG ar werth.

Wel, Prif Weinidog, fel y gwyddoch, mae'r pwysau presennol sy'n wynebu GIG Cymru wedi dod i'r amlwg yn yr wythnosau diwethaf—'pwysau'r gaeaf', fel yr ydym ni'n hoffi eu galw, er mai'r realiti yw eu bod nhw yno yn ystod y rhan fwyaf o'r flwyddyn. Nawr, yng ngeiriau Dr Phil Banfield, Cadeirydd pwyllgor ymgynghorol Cymdeithas Feddygol Prydain Cymru, dywedodd

Mae'n amlwg o'r datblygiadau diweddaraf bod pethau'n mynd yn waeth nid yn well.

Aeth ymlaen hefyd i ddweud

Bydd gofal yn dioddef os na wneir rhywbeth am hyn nawr. Mae'n rhaid cymryd hyn o ddifrif. Mae'n gwbl bosibl y gallai bywydau gael eu colli'n ddiangen.

Prif Weinidog, mae Cymdeithas Feddygol Prydain hefyd yn mynd ymlaen i awgrymu, fel y mae llawer ohonom ni yn y Siambr hon wedi awgrymu, y gwahanol bethau y mae angen eu gwneud i leddfu pwysau'r gaeaf a'r mathau o feysydd y mae angen i ni eu hystyried, o gynyddu nifer y gwelyau mewn ysbytai, i gynyddu gallu pobl i ddod allan o'r ysbyty a chael eu cynorthwyo yn y gymuned, i sicrhau mai dim ond y bobl y mae angen iddyn nhw fynd i'r ysbyty sy'n mynd i'r ysbyty. Felly, mae pedair blynedd wedi mynd heibio, ac roedd hyn yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru. A allwch chi ddweud wrthym ni, os gwelwch yn dda, yn y flwyddyn sydd gennym ni ar ôl, a fyddwch chi'n gallu mynd i'r afael â'r mater difrifol iawn hwn o'r diwedd? Ac mae'n ddifrifol, oherwydd rwyf i eisiau cloi ar yr un nodyn hwn. Mae Dr Banfield, sy'n cynrychioli llawer iawn o bobl yn y GIG iechyd, yn mynd ymlaen i ddweud bod y pwysau ar staff yn annioddefol, a bod bywydau cleifion mewn perygl. Nid yw hon yn sefyllfa dderbyniol.

Wel, Llywydd, gadewch i mi gytuno â rhywbeth a ddywedodd yr Aelod ar ddechrau ei chwestiwn, oherwydd mae naw o'r 11 mis diwethaf yn y GIG yng Nghymru wedi bod y misoedd prysuraf o'r math hwnnw a gofnodwyd erioed. Felly, mae hi'n iawn i ddweud bod y pwysau yn y GIG yng Nghymru yn ddi-baid; bod y galw'n tyfu drwy'r amser. Ond mae hi wedyn yn mynd ymlaen i ganolbwyntio ar yr ochr gyflenwi yn unig, fel pe byddai'r ateb i'r gwasanaeth iechyd yw parhau i ehangu'r gwasanaethau a ddarperir yn unig, gan fynd ar drywydd galw bythol gynyddol. Ac nid yw hwnnw'n ateb i'r gwasanaeth iechyd. Rydym ni'n gwneud hynny i gyd. Rydym ni'n parhau bob blwyddyn. Mae gennym ni'r nifer uchaf erioed o weithwyr proffesiynol yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru. Erbyn hyn mae gennym ni fwy o bobl yn gweithio yn y GIG yng Nghymru nag yn holl Fyddin Prydain. Cyflogir mwy na 92,000 o bobl i ddarparu'r gwasanaeth y mae Angela Burns yn cyfeirio ato. O ganlyniad i gynllunio ar gyfer pwysau'r gaeaf, bydd 400 yn fwy o welyau, neu wasanaethau sy'n cyfateb i welyau, ar gael y gaeaf hwn nag a fyddai wedi bod ar gael fel arall.

Cyfeiriodd yr Aelod at y gwasanaethau sydd ar gael i gadw pobl allan o'r ysbyty. Fy nealltwriaeth i, o wybodaeth reoli, yw y byddwn ni wedi gweld gostyngiad i nifer yr achosion o oedi wrth drosglwyddo gofal ym mis Rhagfyr y llynedd oherwydd yr ymdrechion aruthrol a wneir gan ein hawdurdodau lleol i ddarparu'r gwasanaethau hynny. Ond pan fydd llanw cynyddol o bobl yn dod drwy'r drws; pan fydd y bobl hynny yn aml yn oedrannus, pan fo'u hanghenion yn aml yn gymhleth, pan fo angen iddyn nhw fod yn yr ysbyty—. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn a ddywedodd Angela Burns, ond dim ond rhywun sydd angen bod mewn ysbyty ddylai fod yn yr ysbyty. Ond mae nifer y bobl dros 75 oed sy'n cyflwyno eu hunain wrth ddrws ffrynt GIG Cymru, sydd wedyn angen—a gwir angen—gwely mewn ysbyty, wedi bod ar ei uchaf erioed yn ystod y gaeaf hwn.

Felly, lle bynnag y gallwn ni, rydym ni angen gwasanaethau sy'n dargyfeirio pobl o'r lefel uchaf o ddwyster yn y sector ysbytai, gan leihau angen, defnyddio fferyllfeydd cymunedol cyn i chi fynd at y meddyg, yr holl bethau hynny—maen nhw i gyd yn digwydd yn y GIG yng Nghymru, ond maen nhw'n digwydd yn erbyn patrwm o alw sy'n golygu bod yn rhaid i chi redeg hyd yn oed yn gyflymach dim ond i sefyll yn llonydd.

Her sylfaenol ydy symud tuag at system sydd yn wirioneddol ataliol ei natur. Dŷn ni ddim yn gweld hynny o ran polisi ar hyn o bryd; dŷn ni ddim yn ei weld o o ran y ffordd mae cyllidebau yn cael eu rhannu. A wnaiff y Prif Weinidog sylweddoli bod angen blaenoriaethu go iawn rŵan yr angen i ffeindio ffyrdd o bontio at fath newydd o NHS, o allu buddsoddi yn yr ataliol—yn cynnwys isadeiledd ataliol, adnoddau chwaraeon, adnoddau ymarfer corff, adnoddau cadw'n heini, ac ati—neu, fel arall, pwll diwaelod fydd yr NHS? Mae angen y trawsnewidiad yna nad ydym ni'n ei weld ar hyn o bryd.

13:35

Wel, wrth gwrs dwi'n cytuno, Llywydd. A beth rŷm ni'n gallu ei wneud i atal pobl heb gael—. Sori.

—i atal pobl rhag bod angen mynediad at y gwasanaeth iechyd, mae hwnnw, wrth gwrs, yn fuddsoddiad priodol yn y dyfodol; nid yw'n ateb i'r sawl sydd dros 75 oed sydd angen gwasanaethau yn y fan a'r lle. Mae'r adolygiad seneddol, y cymerodd pleidiau ar draws y Siambr hon ran ynddo, yn darparu pont o'r math hwnnw. Mae'n disgrifio sut y gallwch chi newid y system gam wrth gam—oherwydd dyna'r unig ffordd y gallwch chi ei wneud—fel bod mwy o bwyslais ar atal, ac felly llai o angen i bobl geisio cymorth yn rhan fwyaf dwys y system. Nid yw hynny'n helpu pobl y mae eu hanghenion am y math hwnnw o gymorth yn bodoli nawr, ac na allwch chi beidio â rhoi sylw i'r anghenion hynny.

Ac nid cyfrifoldeb y gwasanaeth iechyd gwladol yw atal; mae atal yn rhywbeth y gallwch chi ei gyflwyno dim ond pan fo gennych chi'r holl wasanaethau cyhoeddus wedi ymrwymo i wneud hynny a phan fo gennych chi berthynas gyda'r defnyddiwr lle mae hwythau hefyd yn chwarae eu rhan. Rydym ni'n siarad yn aml ar lawr y Cynulliad am gyd-gynhyrchu, a'r angen i gofnodi'r cyfraniad y mae defnyddwyr yn ei wneud, ac nid oes unrhyw amgylchiadau lle mae cofnodi'r cyfraniad hwnnw yn bwysicach nag os ydym ni wir yn mynd i gael gwasanaethau ataliol. Oherwydd yn anad dim, mae hynny'n dibynnu ar yr hyn y gall unigolion ei wneud i sicrhau bod y niwed a fyddai'n digwydd fel arall yn eu bywydau eu hunain yn cael ei osgoi.

Gweinidog, rwy'n gweld bod astudiaeth fyd-eang wedi datgelu bod sepsis yn lladdwr mwy na chanser erbyn hyn, a bod enghreifftiau ohono ar gynnydd yng Nghymru a Lloegr. Pa asesiad mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o hyn, a sut mae eich Llywodraeth yn mynd i sicrhau bod GIG Cymru yn barod am hyn yn ystod y flwyddyn nesaf?

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn atodol pwysig yna. Dylwn ei gwneud yn eglur bod niferoedd sepsis yng Nghymru yn gostwng a ddim yn codi, felly nid yw'r ffigurau a gyhoeddwyd yn ffigurau ar gyfer Cymru—maen nhw wedi gostwng yng Nghymru ers 2016. Ac mae hynny oherwydd gwaith arloesol iawn a wnaed gan glinigwyr yma yng Nghymru, o dan arweiniad rhai clinigwyr craff ac ymroddedig iawn, sydd wedi datblygu'r system arwyddion rhybudd cynnar sydd gennym ni ar gyfer sepsis yma yng Nghymru, sydd bellach yn cael ei mabwysiadu mewn rhannau eraill o'r gwasanaeth iechyd yn fwy cyffredinol, sy'n sicrhau bod pobl yn effro i'r arwyddion cynnar hynny y gellir eu drysu'n ddigon hawdd fel arwydd o rywbeth heblaw sepsis, i ddilyn y chwe cham y mae angen i chi eu cymryd fel clinigydd i brofi ai sepsis yw'r hyn yr ydych chi'n ei weld o'ch blaen, ac yna cymryd camau cyflym. Mae'n fater pwysig iawn, ond rwy'n credu y gallwn ni hawlio'n wirioneddol ein bod ni wedi bod y tu blaen i'r ddadl hon yng Nghymru, a dyna pam mae'r ffigurau yng Nghymru wedi bod yn gostwng.

Prif Weinidog, rwyf i wedi codi gyda chi eich hun y sefyllfa ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg lawer gwaith, o ran trosglwyddiadau ambiwlansys. Ac mae'n deg dweud eu bod nhw, dros y blynyddoedd diwethaf, wedi datblygu model rhagorol, lle maen nhw'n derbyn y cleifion o'r ambiwlans, er mwyn rhyddhau'r ambiwlansys. Ond wrth gwrs mae hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol bod buddsoddiad ar y pen arall o ran y rhai sydd mewn gwelyau yn gallu gadael; eu bod nhw'n cael y cymorth priodol gan y gwasanaethau cymdeithasol, ac yn y blaen. Nawr, mae'n amlwg bod hynny wedi bod yn gweithio eleni, ond ceir pwysau sylweddol, felly rwyf i wedi cael fy hysbysu am nifer o enghreifftiau.

Rwy'n credu bod dau fater, mewn gwirionedd, yr hoffwn i eu hystyried. I ba raddau y mae'r model hwnnw a ddatblygwyd yng Nghwm Taf wedi cael ei gyflwyno ymhlith byrddau iechyd eraill? Ond yn ail, pa werthusiad sy'n cael ei gynnal o'r pwysau sy'n amlwg yn bodoli ar y cydgysylltiad gyda'r ochr gwasanaethau cymdeithasol, fel bod gwelyau—bod pobl yn gallu gadael yr ysbyty pan fyddan nhw'n barod i wneud hynny, gan ryddhau lle, yn amlwg, a hefyd rhyddhau'r gwasanaeth ambiwlans wedyn? Ac yn olaf ynglŷn â hynny mae'n debyg, mae'r gydnabyddiaeth, rwy'n credu, o broffesiynoldeb ac ymroddiad ein gwasanaethau ambiwlans. Oherwydd, ar yr adeg hon o'r flwyddyn, mae eu hymatebion a'u hymrwymiad heb eu hail.

13:40

Wel, Llywydd, rwy'n falch iawn o gofnodi gwerthfawrogiad Llywodraeth Cymru i bawb sy'n gweithio ar reng flaen ein gwasanaethau iechyd o dan y pwysau di-baid sydd wedi bod yno, nid yn unig dros y gaeaf, ond fel y dywedodd Angela Burns, dros fisoedd lawer cyn hynny. Mae llawer y gall pobl eraill ei ddysgu o brofiad Cwm Taf o drosglwyddo pobl o ambiwlansys i ysbytai a dyna pam mae gennym ni ddull cenedlaethol o ddatblygu gwasanaethau ambiwlans.

Mae Mick Antoniw yn iawn, wrth gwrs, i gyfeirio at y pwysau sydd yn ein gwasanaethau cymdeithasol, yn ogystal â'r gwasanaeth iechyd. Soniais yn fy ateb i Angela Burns bod 400 o wasanaethau gwelyau neu'n cyfateb i welyau yn cael eu cynhyrchu dros y gaeaf hwn yn ychwanegol i'r gwasanaethau arferol. Mae tua 160 o'r rheini mewn gofal cymdeithasol mewn gwirionedd, yn cynnig lleoedd lle gellir gofalu am bobl yn ddiogel yn y gymuned, naill ai wedi'u rhyddhau'n gyflym o'r ysbyty neu'n atal derbyniad yn y lle cyntaf.

Ond, fel yr wyf i hefyd wedi ei ddweud o'r blaen ar lawr y Cynulliad, mae'r hyn y mae awdurdodau lleol yn ei wynebu, mewn rhai ffyrdd, yn ganlyniad i'r llwyddiant y maen nhw wedi ei gael o ran lleihau'r angen am ofal preswyl yma yng Nghymru. Rwy'n cofio darllen rhagfynegiadau ar ddechrau datganoli a oedd yn dweud wrthym y byddai miloedd yn fwy o bobl hŷn mewn gofal preswyl yng Nghymru erbyn heddiw, a bod angen i ni ddechrau paratoi ar gyfer hynny. Mewn gwirionedd, yr hyn y mae awdurdodau lleol wedi ei wneud yw cryfhau gwasanaethau cymunedol fel nad yw'r ffrwydrad hwnnw yn yr angen am ofal preswyl wedi digwydd.

Ond pan eich bod chi'n gofalu am fwy o bobl—pobl fwy bregus, pobl â lefelau uwch o angen a gwasanaeth mwy dwys yn y gymuned—yna mae'r her o gadw'r bobl hynny'n iach, eu cadw nhw'n egnïol, eu dychwelyd nhw i'w cartrefi pan fyddan nhw'n cael achos o ofal acíwt, yn her wirioneddol. Rydym ni'n olrhain hynny wrth gwrs; rydym ni'n trafod drwy'r byrddau partneriaeth rhanbarthol a chyda'n cyd-Aelodau wrth gwrs, a byddwn yn dysgu'r gwersi o'r gaeaf hwn, wrth i ni ddechrau cynllunio—fel y byddwn ni'n fuan—ar gyfer gaeaf y flwyddyn nesaf.

Cam-drin Domestig

2. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â cham-drin domestig yng Nghymru? OAQ54954

Diolchaf i'r Aelod am hynna. Rydym ni'n mynd i'r afael â cham-drin domestig drwy amrywiaeth o fentrau wedi eu llywio gan oroeswyr. Mae'r rhain yn cynnwys codi ymwybyddiaeth a herio agweddau drwy ymgyrchoedd cyfathrebu; hyfforddi gweithwyr proffesiynol; darparu addysg ar gydberthnasoedd iach; pennu safonau ar gyfer gweithio gyda chyflawnwyr troseddau; a darparu cyllid refeniw a chyfalaf i ddarparwyr gwasanaethau.

Diolch am yr ateb yna. Gwn fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno llawer o wahanol arferion o ran rheolaeth drwy orfodaeth, ac rwyf i'n croesawu hynny, a byddwch yn gwybod, o'r ddadl yr wythnos diwethaf a gawsom ar dreisio—dadl Plaid Cymru—fy mod i wedi cynnal digwyddiad gyda David a Sally Challen yn adeilad y Senedd. A'r hyn a'm trawodd i oedd na fydd llawer o'r dioddefwyr yn gwybod bod rhai o'r nifer o fathau o gamdriniaeth sy'n ymwneud â rheolaeth drwy orfodaeth yn rhywbeth nad ydyn nhw'n ei nodi yn y cydberthnasoedd hynny. Ac felly mae ceisio mynd i'r afael â hynny yn rhywbeth—. Pan oedd comisiynwyr yr heddlu yn bresennol, roedden nhw'n dweud bod cam-drin domestig yn epidemig erbyn hyn a bod digwyddiadau sy'n gysylltiedig â rheoli drwy orfodaeth wedi cynyddu ynghynt ac ynghynt yn ardal yr heddlu penodol hwnnw.

Felly, fy nghwestiwn i yw, o'r noson honno, clywsom fod rhaglen Freedom yn llwyddiannus iawn, a fyddwch chi'n gallu cyflwyno honno mewn ysgolion? Rydym ni'n gwybod ei bod yn edrych ar systemau credo camdrinwyr a sut y galla nhw newid eu hagweddau.

Ac fy ail gwestiwn yw—. Roedd gennym ni lond ystafell o bobl yno, ond dim ond pump neu chwech o ddynion oedd gennym ni. Pa un a ydyn nhw'n cael eu cam-drin neu'n gamdrinwyr, os nad ydyn nhw yn yr ystafell nid ydyn nhw'n gwrando ac nid ydyn nhw'n cymryd rhan yn y prosesau hynny. Felly, sut gallwn ni wneud hwn yn fater cymdeithasol?

Ac mae'r trydydd un yn ymwneud â sut y gallwch chi wneud yn siŵr, pan ddaw'r rhaglen rheolaeth drwy orfodaeth bresennol sydd gennych chi, fel Llywodraeth Cymru, i ben, beth ydych chi'n mynd i'w wneud ar ôl hynny, fel y gallwn ni wneud yn siŵr bod gennym ni bobl yn y mathau hyn o gydberthnasoedd yn y dyfodol sy'n gallu cael eu cefnogi a'u helpu pan fydd angen iddyn nhw ddianc o'r cydberthnasoedd hynny, ond mewn modd y gallan nhw ei wneud gyda chefnogaeth cymdeithas y tu ôl iddyn nhw?

Wel, Llywydd, diolchaf i Bethan Sayed am y cwestiynau yna ac am y digwyddiad a gynhaliwyd ganddi, y gwn ei fod wedi denu llawer o ddiddordeb y tu hwnt i'r Cynulliad o ran dysgu o'r hyn a ddywedwyd a'r sesiwn holi ac ateb gyda David a Sally Challen. A dywedwyd yno, rwy'n gwybod, i gynifer o ddioddefwyr rheolaeth dan orfodaeth mai'r cam cyntaf yw cydnabod bod hyn yn digwydd iddyn nhw a deall nad yw hon yn ffordd normal o gynnal perthynas. Felly, i gymryd y cwestiynau penodol gan gychwyn gyda'r olaf, bydd gan yr ymgyrch gyfathrebu 'Nid Cariad yw Hyn. Rheolaeth yw Hyn', a gynhaliwyd drwy'r llynedd, olynydd. Byddwn yn bwrw ymlaen o'r fan honno. Mae'n sicr, rydym ni'n credu, trwy dystiolaeth gan heddluoedd, wedi arwain at gynnydd i nifer yr achosion o reolaeth drwy orfodaeth yr adroddir amdanynt, sy'n awgrymu bod yr ymgyrch ymwybyddiaeth yn cael effaith. Ond fel y dangosodd y digwyddiad yn y fan yma, mae'n rhaid mai'r cam cyntaf yw codi ymwybyddiaeth. Rwy'n credu y gwnaed pwynt pwysig iawn ynghylch sut y dylem ni ehangu'r sgwrs fel bod dynion yn ogystal â menywod yn cymryd rhan lawn ynddi, yn deall yr hyn sy'n cael ei drafod ac yn gallu bod eu hunain, fel y dywedodd Bethan, yn ddioddefwyr rheolaeth drwy orfodaeth ond hefyd angen deall y rhan y maen nhw'n ei chwarae yn ei gynnal mewn rhai perthnasoedd, neu'n ei herio pan gaiff ei weld.

Cyn belled ag y mae ysgolion yn y cwestiwn, wedyn, wrth gwrs, mae'r cwricwlwm newydd yn cynnwys dull cytbwys o ymdrin â'r ffordd y caiff iechyd, llesiant a chydberthnasoedd personol eu haddysgu yn ein hysgolion mewn ffordd sy'n briodol i oedran y plant, fel bod pobl ifanc yn wybodus, yn deall a, gobeithio, yn fwy cymwys i fod y math o ddinasyddion yr hoffem ni eu gweld nhw'n ei fod yma yng Nghymru erbyn yr adeg y byddan nhw eu hunain mewn cydberthynas.

13:45

Roeddwn i'n bresennol yn y sesiwn holi ac ateb gyda Sally a David Challen. Wrth gwrs, mae rheolaeth drwy orfodaeth hefyd yn berthnasol i blant o ran oedolion. Testun gofid yw bod dadansoddiad gan Gymdeithas y Plant wedi dangos nad yw tua 85 y cant o droseddau rhywiol yn erbyn plant a hysbysir i'r heddlu yng Nghymru a Lloegr yn arwain at gymryd unrhyw gamau yn erbyn y cyflawnydd, ac mae'r ffigurau y maen nhw'n eu cynnwys yn dangos bod 70 y cant o droseddau rhywiol yn erbyn plant dan 13 oed yn droseddau rhywiol teuluol; mewn geiriau eraill, domestig neu'n digwydd o fewn eu teulu neu gartref. Sut, felly, ydych chi'n ymateb i'r alwad ar Lywodraeth Cymru gan Gymdeithas y Plant i adolygu'r achos dros wneud y cynnig o ôl-drafodaethau yn dilyn dychweliad plentyn o achos o fod ar goll yn ofyniad statudol, lle ceir cysylltiadau'n aml rhwng plant yn mynd ar goll o'u cartref a'u profiad o gam-drin neu gamfanteisio rhywiol? Maen nhw'n dweud y bydd hyn yn arwain at gasglu gwell gwybodaeth i helpu i hysbysu achosion o gam-drin a chamfanteisio, pobl ifanc yn cael eu hatgyfeirio i wasanaethau am gymorth ac at rannu gwybodaeth am blant sydd mewn perygl rhwng yr heddlu a gofal cymdeithasol, gan nodi y cynigir ôl-drafodaeth yn Lloegr.

Llywydd, rwy'n credu bod nifer o wahanol elfennau yn y cwestiwn yna. Dechreuodd yr Aelod drwy dynnu sylw'n briodol at y ffaith bod plant y camfanteisir yn rhywiol arnynt yn fwy tebygol o gael hynny'n digwydd iddyn nhw yn y cartref a chyda phobl y maen nhw'n eu hadnabod na dieithriaid. Mae plant sy'n rhedeg i ffwrdd o ofal preswyl a ddarperir gan y wladwriaeth mewn sefyllfa wahanol. Maen nhw'n agored i niwed mewn gwahanol fath o ffordd ac i amrywiaeth lawer ehangach o gyflawnwyr posibl.

Nid wyf i'n ymwybodol o'r pwynt penodol iawn yng nghyngor Cymdeithas y Plant. Fy nealltwriaeth i o'r achosion yr wyf i fy hun wedi ymdrin â nhw yw, pan fydd person ifanc yn rhedeg i ffwrdd ac yn cael ei ddychwelyd, y siaredir â hwy bron bob amser a bod eu profiadau'n cael eu trafod gyda nhw. Mae pa un a yw hynny'n gyfweliad ôl-drafodaeth yn ystyr adroddiad Cymdeithas y Plant yn rhywbeth y byddai angen i mi edrych arno'n fwy manwl, a pha un a oes achos dros wneud hynny'n statudol, pan, fel y mae'n ymddangos i mi, mai dim ond arfer da ar ran unrhyw weithiwr cymdeithasol gofal plant fyddai hynny, i fod wedi trafod gyda pherson ifanc ar ôl iddo dychwelyd yr hyn sydd wedi digwydd iddo yn y cyfamser, rwy'n hapus i edrych ar hynny hefyd.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau—arweinwyr y pleidiau, hyd yn oed. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, mae ffigurau diweddaraf Llywodraeth Cymru yn dangos bod dros 12,000 o wartheg wedi cael eu lladd oherwydd twbercwlosis mewn gwartheg. Mae hyn yn gynnydd anhygoel o 24 y cant o'r flwyddyn flaenorol. Dyma'r ffigurau uchaf erioed. Ym mhle mae polisi eich Llywodraeth yn methu?

Yn sicr, nid yw polisi'r Llywodraeth yn methu ar y sail y mae'r Aelod newydd ei hamlinellu. Gadewch i mi ddechrau, fodd bynnag, trwy gydnabod yr effaith enfawr y mae TB yn ei chael yn y gymuned ffermio, y trawma a'r niwed a geir mewn teuluoedd ffermio pan geir TB mewn gwartheg, ond mae'r ffigurau lladd yn ganlyniad i fwy o sensitifrwydd o ran profi, mwy o gyfundrefnau profi—. Rydym ni'n darganfod mwy o TB, ac, felly, mae'r ffigurau lladd wedi codi. Nid yw'n wir bod hwn yn TB nad oedd yno o'r blaen. Roedd yno o'r blaen, ac nid oedd yn cael ei ganfod, a chan nad oedd yn cael ei ganfod, roedd yn dal i beri risg o drosglwyddiad pellach. Felly, mae'r ffaith ein bod ni'n darganfod mwy o TB, ac rwy'n deall yr holl ofid a ddaw yn sgil hynny—ond nid yw'r ffaith bod y ffigurau lladd wedi cynyddu yn arwydd o gwbl ar ei ben ei hun bod y polisi'n methu.

13:50

Wel, Prif Weinidog, rydych chi newydd ei ddweud eich hun: rydych chi'n canfod mwy o achosion o TB. A gadewch i ni fod yn eglur: nid yw eich polisi'n gweithio, neu fel arall byddai nifer y gwartheg sy'n cael eu difa oherwydd TB mewn gwartheg yn gostwng, ond yn hytrach, rydym ni'n gweld cynnydd. A pha ffordd bynnag yr ydych chi eisiau edrych ar hyn, mae'r ffaith yn parhau bod y sector ffermio yng Nghymru o dan bwysau enfawr. Rhoddodd y brecwast ffermdy a gynhaliwyd gan Undeb Amaethwyr Cymru y bore yma gyfle i ni glywed mwy am yr heriau sy'n wynebu ffermwyr Cymru, ac yr oedd TB mewn gwartheg yn sicr ar frig eu hagenda.

Prif Weinidog, rydych chi'n iawn, rwyf i fy hun wedi cael profiad uniongyrchol o weld mor anodd a dinistriol y gall TB mewn gwartheg fod i'r ffermwyr hynny y mae'r clefyd yn effeithio arnyn nhw, ac maen nhw'n disgwyl ac yn haeddu mwy gan Lywodraeth Cymru. Methiant eich Llywodraeth chi i fynd i'r afael â'r clefyd hwn yn gyfannol sy'n gyfrifol am y nifer anghynaladwy o uchel o wartheg sy'n cael eu lladd yng Nghymru, ac yn y cyfamser, mae cymunedau ffermio ledled Cymru yn teimlo eu bod ar wahân, yn cael eu hanwybyddu ac yn cael eu hesgeuluso.

Felly, gyda hynny mewn golwg, Prif Weinidog, ac o ystyried yr effaith ddifrifol iawn y mae TB mewn gwartheg yn parhau i'w chael ar ffermydd Cymru, yn ariannol ac yn emosiynol, a allwch chi ddweud wrthym ni pa gamau newydd y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd nawr i fwrw ymlaen â'r gwaith o ddileu TB mewn gwartheg yng Nghymru? Ac a allwch chi ddweud wrthym ni hefyd pa sicrwydd y gallwch chi ei gynnig i ffermwyr Cymru bod eich Llywodraeth yn gwrando ac y byddwch chi'n diogelu cynaliadwyedd y diwydiant ffermio ar gyfer y dyfodol?

Wel, o ran Llywodraeth Cymru yn gwrando, Llywydd, anerchais gyngor Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr fy hunan brynhawn ddoe, fel y gwneuthum i gynhadledd flynyddol yr FUW y llynedd yn Aberystwyth, wrth i mi gyfarfod gyda'r FUW gyda Lesley Griffiths i siarad â nhw am TB yn benodol. Hoffwn gydnabod y synnwyr o straen sy'n bodoli mewn cymunedau ffermio yma yng Nghymru wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, gyda'r holl ansicrwydd a ddaw yn sgil hynny i gymunedau ffermio, ac mae hynny'n wirioneddol iawn, fel y dywedwyd wrthyf ddoe pan gefais gyfarfod â nhw, wedi eu dychryn gan yr hyn yr oedd gan Ganghellor y Trysorlys i'w ddweud dros y penwythnos am beidio â mynd ar drywydd aliniad rheoleiddiol, er enghraifft.

Cyn belled ag y mae dangosyddion hirdymor o TB yng Nghymru yn y cwestiwn, bu gostyngiad o 37 y cant i ddigwyddiadau newydd dros y degawd diwethaf, gostyngiad o 4 y cant i nifer yr achosion o ladd anifeiliaid yn ystod yr holl gyfnod hwnnw, ac roedd 393 yn llai o fuchesi yn destun cyfyngiadau ar ddiwedd 2018 nag ar ddiwedd 2009. Mae angen i ni wneud mwy. Rwy'n cydnabod hynny. Dyna pam y cefais gyfarfod â'r Athro Glyn Hewinson, gyda Lesley Griffiths, nid yr wythnos diwethaf ond yr wythnos gynt—arbenigwr blaenllaw'r byd ar TB mewn gwartheg yr ydym ni wedi dod ag ef yma i Gymru, yr ydym ni wedi'i sefydlu gydag athrofa newydd yn Aberystwyth o dan raglen Sêr, gan ddenu ffigurau blaenllaw eraill o'r byd hwn. Dywedodd wrthym ei fod yn credu bod pethau newydd y byddem ni'n gallu rhoi cynnig arnynt yng Nghymru o ganlyniad i'r gwaith ymchwil y mae e'n ei wneud ac mai'r hyn y bydd ei angen arnom ni yw pecyn gwahaniaethol i ymdrin â TB. Mae TB yn wahanol mewn gwahanol rannau o Gymru, mae'r achosion sylfaenol yn wahanol mewn gwahanol rannau o Gymru, ac o ganlyniad i'w waith ef a'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud gyda phobl eraill, er enghraifft ym Mhenrhyn Gwyr, lle mae gennym ni brosiect penodol iawn law yn llaw â ffermwyr, byddwn yn dod o hyd i ffyrdd newydd o fynd i'r afael â chlefyd sy'n cael effaith mor ddinistriol ar deuluoedd ffermio.

Mae'n eithaf eglur, Prif Weinidog, nad yw ffermwyr ac undebau amaethyddol yn credu bod eich polisi cyfredol ar TB mewn gwartheg yn gweithio a dyna pam mae'n hanfodol nawr bod eich Llywodraeth yn ailystyried y polisi hwn er mwyn mynd i'r afael â'r clefyd hwn mewn ffordd fwy cyfannol o lawer.

Mae mater brys arall a godwyd gyda mi y bore yma, lle mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb hefyd, yn ymwneud â pharthau perygl nitradau. Ceir rhai pryderon difrifol iawn ynghylch y cynigion hyn a allai roi baich enfawr ar ffermwyr ac, o ganlyniad, gorfodi llawer allan o fusnes. Felly, mae ffermwyr, yn gywir ddigon, yn gweld y cynigion hyn fel ergyd arall i'r gymuned amaethyddol. Mae'n rhaid, o leiaf, cyhoeddi asesiad o effaith rheoleiddiol, o ystyried yr effaith enfawr y bydd cynigion eich Llywodraeth yn ei chael ar bob fferm yng Nghymru. Prif Weinidog, mae NFU Cymru yn llygad eu lle wrth ddweud bod Llywodraeth Cymru yn profi diwydiant ffermio Cymru y tu hwnt i'w derfynau. A wnewch chi gadarnhau felly beth yn union yw cynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer parthau perygl nitradau yng Nghymru, o gofio eich bod chi wedi addo cyflwyno'r rhain ddechrau'r flwyddyn hon? A wnewch chi gyhoeddi asesiad o effaith rheoleiddiol manwl nawr ar y cynigion hyn ac a wnewch chi ei gwneud yn berffaith eglur nawr pa gymorth yn union a fydd ar gael i'r ffermwyr hynny a fydd yn cael eu rhoi dan anfantais ariannol oherwydd cynigion eich Llywodraeth?

13:55

Wel, Llywydd, roeddem ni wedi ymrwymo i gyflwyno rheoliadau ddechrau mis Ionawr, a'r union reswm pam yr ydym ni wedi gohirio hynny am nifer o wythnosau yw er mwyn gallu parhau'r sgwrs gyda ffermwyr sydd wedi dod drwy'r broses ymgynghori gyda syniadau newydd ynghylch sut y gellir cyflawni diben y rheoliadau yn ymarferol. Ond gadewch i mi fod yn gwbl eglur: ni wnaiff Llywodraeth Cymru gamu'n ôl o fynd i'r afael â llygredd mewn amaethyddiaeth yma yng Nghymru.

Mae achosion o lygredd yn rhy uchel—maen nhw wedi bod yn tyfu, maen nhw'n gwneud difrod. Maen nhw'n gwneud difrod i gyrsiau dŵr yma yng Nghymru, maen nhw'n gwneud niwed i'r amgylchedd ac maen nhw'n gwneud niwed i enw da y diwydiant ffermio, ar yr union adeg y mae angen i enw da cynhyrchu bwyd yma yng Nghymru fod ar ei orau. Dyna pam, yn dilyn blynyddoedd o gynllun gwirfoddol y cytunwyd arno gyda'r NFU, nad yw'n cael ei anrhydeddu wedyn ar lawr gwlad, byddwn yn cymryd camau i reoleiddio, ond byddwn yn ei wneud ar y cyd â'n cymunedau ffermio, mewn trafodaethau gyda nhw. Dyna pam yr ydym ni wedi dal yn ôl rhag cyflwyno'r rheoliadau, gan y gallai fod ffyrdd y gallwn ni gyflawni'r nodau na fyddwn yn cilio rhagddynt mewn ffordd y byddai ffermwyr yn ei chael yn fwy ymarferol yn y ffordd y cânt eu cymhwyso. Ac yna byddwn yn darparu cymorth ariannol i'w cynorthwyo—nid i gyrraedd y safonau sydd yno eisoes mewn rheoliadau ac y dylai pob fferm yng Nghymru fod yn eu bodloni eisoes, ond i fodloni unrhyw faich rheoleiddiol ychwanegol a ddaw yn sgil y mesurau rheoli llygredd. Pum miliwn o bunnau yng nghyllideb y flwyddyn nesaf i helpu i fynd i'r afael â llygredd i ansawdd dŵr. Byddwn yn gweithio gyda'r gymuned ffermio. Dyma'r peth iawn i'w wneud. Rydym ni eisiau ei wneud ochr yn ochr â nhw, ond nid yw hynny'n golygu am eiliad y byddwn ni'n camu yn ôl o'r her y mae llygredd amaethyddol yn ei pheri i ni yma yng Nghymru.

Diolch, Llywydd. Er gwaethaf pryderon ynghylch diogelwch y cyhoedd, fe wnaeth yr Ysgrifennydd cyfiawnder ar y pryd yn San Steffan, Chris Grayling, fwrw ymlaen â'r rhan o breifateiddio'r gwasanaeth prawf yn 2014. Flwyddyn yn ddiweddarach, llofruddiwyd Conner Marshall o'r Barri gan David Braddon, a oedd dan oruchwyliaeth cwmni adsefydlu cymunedol sy'n cael ei redeg yn breifat. Mae'n ymddangos mai hwn fu un o'r penderfyniadau polisi mwyaf trychinebus gan Lywodraeth San Steffan. Mae mam Conner, Nadine, a oedd yn y Senedd heddiw, wedi arwain ymgyrch ddiflino i gael cyfiawnder i Conner. Prif Weinidog, sut orau allwn ni ei gofio ef ac anrhydeddu ei gwaith hithau?

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna a dechreuaf trwy gytuno ag ef bod dinistrio'r gwasanaeth prawf, y cyfeiriwyd ato'n aml fel prif drysor system cyfiawnder troseddol Cymru a Lloegr, yn fefl ar hanes y Llywodraeth Geidwadol flaenorol ac yn fefl a arweiniodd at ganlyniadau ymarferol mor ddinistriol yn yr achos y mae Adam Price wedi cyfeirio ato. Talaf deyrnged enfawr i'r ymgyrch a arweiniwyd gan fam Conner. Gwn pa effaith y mae hynny wedi ei chael ar y teulu ehangach ac ar ei dyfodol ei hun. Rwy'n gwybod hynny, oherwydd iddi gyfarfod ddwywaith â'm rhagflaenydd fel Prif Weinidog i gyflwyno'n uniongyrchol iddo ef ei phrofiad hi a'i theulu ac i ofyn am ein cymorth i roi pwysau ar Lywodraeth y DU i unioni'r camweddau a wnaed, a ddilynwyd yn ddyfal gan fy rhagflaenydd.

Gofynnodd yr Aelod beth allem ni ei wneud i nodi ein gwahaniaeth yma yng Nghymru. Wel, rwyf i wedi dadlau ers tro y dylai'r gwasanaeth prawf gael ei ddatganoli yma yng Nghymru. Rhoddais dystiolaeth gyntaf ym 1995, ar ran Cymdeithas Genedlaethol y Swyddogion Prawf, i gomisiwn a oedd yn paratoi deddfwriaeth ar gyfer datganoli a dadleuais y dylai'r gwasanaeth prawf a chyfiawnder ieuenctid fod wedi bod ar y rhestr gynnar o wasanaethau i'w datganoli, oherwydd mae'r pethau y mae swyddog prawf yn dibynnu arnyn nhw i gyflawni ei gyfrifoldebau'n effeithiol i gyd wedi eu datganoli eisoes. Os ydych chi'n chwilio am wasanaeth iechyd meddwl, mae'n cael ei reoli yng Nghymru. Os ydych chi'n chwilio am gwrs i rywun fynd arno i wella ei ragolygon cyflogaeth, mae wedi ei ddatganoli i Gymru. Os ydych chi'n chwilio am rywle i rywun fyw, mae gwasanaethau tai wedi eu datganoli i Gymru. Mae'r cyfochri rhwng y gwasanaeth prawf a'r gwasanaethau sydd wedi eu datganoli eisoes mor gryf fel y dylid datganoli'r gwasanaeth prawf fel y byddai'r staff ymroddgar sy'n dal i weithio yn y gwasanaeth prawf, o dan amodau amhosibl o anodd yn aml, mewn sefyllfa well i wneud y gwaith y maen nhw eisiau ei wneud, a gallem ni gael gwasanaeth prawf o'r math yr hoffem ni ei weld yma yng Nghymru.

14:00

Diolch, Prif Weinidog. Pan gafodd y system ei phreifateiddio, fel y gwyddom, dyfarnwyd y contractau gwerth ychydig llai na £4 biliwn i wyth sefydliad. Working Links oedd y cwmni a oedd yn goruchwylio David Braddon. Yn 2015, blwyddyn y llofruddiaeth, adroddodd The Financial Times bod staff yn ysgrifennu at y cwmni yn cwyno am lwythi gwaith gormodol. Yr wythnos diwethaf, daeth y crwner i'r casgliad bod rheolaeth a goruchwyliaeth y gweithiwr prawf a oedd newydd ei benodi a oedd yn gyfrifol am David Braddon yn druenus o annigonol. Fodd bynnag, nid yw'n eglur bod llawer wedi newid yn y cyfamser. Dywedodd adroddiad yr arolygiaeth prawf ym mis Gorffennaf y llynedd bod 60 y cant o swyddogion adrodd yn credu bod eu llwyth gwaith yn amhosibl i'w reoli. A gafodd y pryderon a godwyd gan weithwyr prawf eu dwyn i sylw bwrdd rheoli troseddwyr integredig Cymru neu fwrdd cyfiawnder troseddol Cymru gyfan, y cynrychiolir Llywodraeth Cymru arno am y rhesymau y mae'r Prif Weinidog newydd eu hamlinellu, ac, yn benodol, a oedd y byrddau yn ymwybodol o unrhyw gynnydd mewn risg, o bosibl, i'r cyhoedd yn ne Cymru ar adeg llofruddiaeth Conner Marshall o ganlyniad i'r diffygion a nodwyd?

Llywydd, yr hyn y gallaf ei ddweud yn gyffredinol yw bod ein pryderon am dynged y gwasanaeth prawf, am ei breifateiddio, am ei chwalu'n gydrannau, wedi cael eu codi yn rheolaidd iawn drwy'r peirianwaith sydd gennym ni yma yng Nghymru ac yn ein cyswllt gyda Llywodraeth y DU. Yn wir, rwy'n cofio'n dda iawn yr ymdrechion dyfal a wnaethom pan oedd Chris Grayling yn cychwyn ar y diwygiad hollol gyfeiliornus hwn, pryd y dadleuwyd gennym ni y dylid eithrio Cymru ohono, oherwydd os oedd marchnad yn unman—a byddwn wedi amau hynny'n fawr iawn—os oedd marchnad y gellid ei defnyddio i ddarparu gwasanaethau, nid oedd marchnad yng Nghymru. Yn syml, nid oedd darparwyr ar gael yn aros i ymgymryd â'r gwaith hwn. Felly, dadleuwyd yn ddygn gennym ar y pryd y dylem ni gael ein heithrio o'r diwygiadau hyn, oherwydd nid oedden nhw byth yn mynd i weithio ar lawr gwlad yma, a chyflëwyd hynny gennym drwy'r holl wahanol fecanweithiau a oedd gennym ni.

Llywydd, gofynnodd Adam Price gwestiwn penodol iawn i mi ar y diwedd ynghylch trafodaethau'r byrddau ar eitem benodol. Nid yw'r wybodaeth honno gen i yn syth i law, ond rwy'n ffyddiog iawn y byddwn ni'n dod o hyd iddi ac yn ei hysbysu am y canlyniad.FootnoteLink

Prif Weinidog, rydych chi'n dadlau'r achos yn huawdl iawn, yn sicr, y dylai'r gwasanaeth prawf fod wedi cael ei ddatganoli ymhell yn ôl, ac mae'n sicr yn wir, rwy'n credu, pe byddai'r system gyfiawnder wedi cael ei datganoli yna ni fyddem wedi dilyn y newidiadau trychinebus a gyflwynwyd gan Lywodraeth y DU, ac rwy'n meddwl bod yn rhaid i chi ofyn: a yw hi'n bosibl na fyddai bywyd diniwed wedi cael ei golli? Yn amlwg, mae comisiwn Thomas wedi cyhoeddi ei adroddiad, gan ddadlau'r achos yn fras dros ddatganoli cyfiawnder a phlismona. Dylid nodi yn y cyd-destun hwn mai enw iawn y cwmni adsefydlu cymunedol newydd a gymerodd drosodd gan Working Links, mewn gwirionedd, a bron yn anesboniadwy, yw is-adran Cymru Caint, Surrey a Sussex, sydd mewn rhai ffyrdd yn dweud y cyfan, onid yw, am y cyfyng-gyngor yr ydym ni ynddo? A all y Prif Weinidog ddweud wrthym ni pryd y bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb yn ffurfiol i argymhellion comisiwn Thomas, ac a fydd yr ymateb hwnnw'n un cadarnhaol o ran ei gynnig craidd, sef datganoli cyfiawnder a phlismona a'r gwasanaeth prawf? Ac onid dyna fyddai'r ffordd orau o barchu coffadwriaeth Conner?

14:05

Llywydd, byddwn yn sicr yn ymateb yn gadarnhaol i gomisiwn Thomas. Un o'r argymhellion oedd mwy o gydgysylltiad o'r gwaith y mae'n ymddangos sy'n cael ei wneud ar draws Llywodraeth Cymru yn y maes hwn nad yw eisoes wedi ei ddatganoli—un o'r pethau trawiadol a ddywedodd yr Arglwydd Thomas iddo ei ganfod nad oedd wedi ei ragweld o anghenraid.

Ddoe, cawsom gyfarfod cyntaf is-bwyllgor y Cabinet y byddaf i yn ei gadeirio i oruchwylio'r broses o weithredu argymhellion comisiwn Thomas a gwaith ehangach Llywodraeth Cymru ym maes cyfiawnder. Bydd dadl ar lawr y Cynulliad yn y fan yma yn amser y Llywodraeth yn fuan iawn, pryd y byddwn yn adrodd ar y camau yr ydym ni wedi eu cymryd yn syth ar ôl cyhoeddi'r adroddiad. Rwy'n deall bod cynhadledd wedi'i chynllunio ar gyfer mis Ebrill eleni dan arweiniad Prifysgol Abertawe, a fydd yn gyfle arall i ddod â'r buddiannau hynny at ei gilydd, oherwydd, Llywydd, ni ddylem anghofio bod llawer o'r argymhellion gan gomisiwn Thomas wedi eu bwriadu ar gyfer y proffesiwn yma yng Nghymru—pethau y mae angen i'r proffesiwn ei hun eu gwneud i gryfhau ei allu i ddarparu gwasanaeth o'r math y mae comisiwn Thomas yn ei ragweld. Bydd y gynhadledd honno ym mis Ebrill yn gyfle cynnar i ni adrodd ar gynnydd, a gwneud hynny gyda'r buddiannau eraill hynny sy'n angenrheidiol os ydym ni'n mynd i sicrhau llwyddiant yr argymhellion yng Nghymru.

Prif Weinidog, un o elfennau allweddol bargeinion dinesig, o leiaf fel y mae Llywodraeth y DU wedi eu hyrwyddo dros yr wyth mlynedd diwethaf, yw integreiddio trafnidiaeth ar sail ranbarthol. A yw cyhoeddiad cyngor Caerdydd yr wythnos diwethaf yn golygu bod gwahanol ddull yn cael ei fabwysiadu yng Nghymru? Nid yn unig y mae'n ymddangos bod un ardal cyngor, Caerdydd yn cael cyfran anghymesur o fuddsoddiad trafnidiaeth gyhoeddus ar gyfer dinas-ranbarth Caerdydd, dywedir wrthym nawr bod cyngor Caerdydd eisiau gwneud i eraill dalu amdano trwy godi £2 bob tro ar bobl nad ydynt yn drigolion Caerdydd i ddod â'u ceir i ganol dinas Caerdydd, gan eithrio holl drigolion Caerdydd ei hun. Prif Weinidog, a ydych chi'n cefnogi trethu Casnewydd, Pen-y-bont ar Ogwr a'r cymoedd i dalu am Gaerdydd?

Wel, Llywydd, rwy'n credu bod yr Aelod yn drysu nifer o wahanol elfennau wrth geisio clymu'r fargen ddinesig a'i mecanweithiau a'i chyllid gyda'r cynigion ymgynghori y mae cyngor Caerdydd wedi eu llunio. Hoffwn dynnu sylw'r Aelod, rhag ofn nad yw wedi cael cyfle i'w weld eto, at lythyr a gyhoeddwyd gan fy nghyd-Weinidog Ken Skates ar ran Llywodraeth Cymru at arweinydd cyngor Caerdydd. Mae'r llythyr yn gyhoeddus, a dyfynnaf o'r paragraff perthnasol: mae angen i Lywodraeth Cymru ystyried yn fanwl y bwriad i gyflwyno unrhyw fecanwaith rheoli galw newydd gan y cyngor a'i effaith ar y rhanbarth ehangach o amgylch Caerdydd, sy'n cynnwys rhai o'r cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru. I'r perwyl hwn, gallaf gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn comisiynu astudiaeth fanwl bellach o ddulliau rheoli galw, eu manteision a'u heriau, i hysbysu safbwynt cenedlaethol ar y mater hwn, a all helpu i gyfrannu at safbwyntiau rhanbarthol yn ei gylch.

Rwy'n falch o glywed y bydd y Llywodraeth yn edrych ar hyn yn fanwl ac yn ymateb i'r ymgynghoriad. Fodd bynnag, onid yw hyn yn mynd i werthoedd? £583 yr wythnos yw'r cyflog cyfartalog yng Nghaerdydd. £458 yr wythnos ydyw ym Mlaenau Gwent. Pam ddylai pobl sy'n ennill £125 yn llai yr wythnos dalu treth newydd tra bod pobl sy'n ennill £125 yn fwy yr wythnos yn cael eu heithrio? Beth mae hynny'n ei ddweud am werthoedd y Prif Weinidog, ei blaid a'i Lywodraeth? Er efallai y bydd yn ymateb yn gyffredinol maes o law, pam na all ef ddweud nawr nad yw'n iawn i gyngor Caerdydd geisio gwneud i bawb arall dalu ffi atal tagfeydd gan eithrio ei drigolion ei hun? Darganfuwyd gennym yn y gyllideb ddrafft y bydd bysus trydan newydd crand ddwywaith y pris arferol i Gaerdydd, ac eto mae gwasanaethau bws yng Nglynebwy wedi cael haneru o ran amlder wrth i Lywodraeth Cymru wneud toriadau mewn termau real i gymorthdaliadau bysiau. [Torri ar draws.] Ac mae'r Gweinidog iau yn heclo. Ei gyllideb ef—toriadau mewn termau real i gymorthdaliadau bysiau. Dyna werthoedd y Llywodraeth Cymru hon. Dywedodd pennaeth Trysorlys Cymru wrth y Pwyllgor Cyllid yr wythnos diwethaf mai'r rheswm am hyn oedd y gallai Llywodraeth Cymru roi cymorth cyfalaf, ond nid mwy o refeniw. Prif Weinidog, a yw hyn yn wir mewn gwirionedd? Oni fyddai bysiau newydd yn lleihau costau gweithredu ac yn denu mwy o deithwyr, gan leihau drwy hynny yr angen am gymhorthdal refeniw? Ac os gall Llywodraeth y DU anwybyddu rheolau'r Trysorlys er mwyn cael buddsoddiad o Lundain a gogledd Lloegr, pam mae Trysorlys Cymru yn mynnu cael dull sy'n gwrthod buddsoddiad i'r cymoedd er mwyn ei ganolbwyntio yng Nghaerdydd?

14:10

Wel, Llywydd, dyma'r cawdel arferol o syniadau a gynigir i ni gan yr Aelod. Mae bysus trydan newydd crand yn cael eu darparu yng Nghasnewydd a Chaerffili hefyd. Onid yw ef eisiau eu gweld nhw yno ychwaith? Onid yw ef eisiau gweld y £29 miliwn yr ydym ni wedi ei roi yn ein cyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesaf i gefnogi cerbydau trydan yma yng Nghymru? Wrth gwrs bod angen i ni weld mathau newydd o gludiant cyhoeddus, gan fod yn rhaid i ni berswadio pobl i ddod oddi wrth y car a defnyddio gwahanol fathau o gludiant. Caerdydd yw'r ddinas y cymudir iddi fwyaf yn y Deyrnas Unedig gyfan—mae 70,000 o gerbydau yn teithio i mewn i Gaerdydd bob dydd. Os ydym ni o ddifrif ynghylch ansawdd aer, os ydym ni o ddifrif am yr argyfwng hinsawdd, yna ni allwn ni edrych i'r cyfeiriad arall a dweud, 'Peidiwch â phoeni; gadewch iddo gario 'mlaen.' Nawr, mae tegwch yn ganolog i'r ffordd y mae'n rhaid datrys y broblem honno, ac mae hynny'n gwbl ganolog i'r llythyr y mae Ken Skates wedi ei roi i arweinydd cyngor Caerdydd. Ond nid yw wfftio'r holl ffyrdd y gallwn ni wneud gwahaniaeth yn y dyfodol fel pe na bydden nhw'n berthnasol o gwbl i bobl sydd yn byw naill ai yn y brifddinas neu yn yr ardaloedd o'i hamgylch yn ddim ffordd o gwbl i fynd i'r afael â'r hyn sy'n her polisi cyhoeddus sylfaenol ddifrifol yma yng Nghymru, yn ein prifddinas ac ymhell y tu hwnt.

Trosglwyddiadau Ambiwlansys

3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am wella trosglwyddiadau ambiwlansys yng Nghymru? OAQ54941

Diolchaf i'r Aelod. Cyhoeddodd y Gweinidog iechyd ddatganiad ysgrifenedig ar 15 Ionawr yn nodi camau i wella gwasanaethau ambiwlans yng Nghymru ymhellach, gan gynnwys trosglwyddiadau rhwng ambiwlansys ac adrannau derbyn mewn ysbytai.

Diolch yn fawr, Gweinidog. Cafodd elusen Ambiwlans Awyr Cymru ei blwyddyn brysuraf yn 2019, gyda'i thîm gweithgar yn ymateb i 3,627 o alwadau brys—i fyny gan 1,200 o 2018. Gall yr awyren deithio dros 2 filltir y funud a chyrraedd unrhyw le yng Nghymru o fewn 20 munud. Nawr, mae effeithiolrwydd cyrraedd, trin a chludo cleifion yn eglur, felly rwyf nawr yn cefnogi nod yr ambiwlans awyr iddo ddod yn wasanaeth 24 awr. Mae David Gilbert OBE, cadeirydd yr ymddiriedolaeth, wedi dweud:

gyda chymorth y cyhoedd yng Nghymru, rydym ni eisiau gwneud ein gweledigaeth o ddarparu gwasanaeth 24 awr yn realiti.

Mae angen £1.5 miliwn yn ychwanegol ar gyfer hyn. Pa gamau allech chi fel Llywodraeth Cymru eu cymryd i helpu i wneud gwasanaeth ambiwlans awyr 24 awr yn realiti?

Diolchaf i'r Aelod am hynna, a hoffwn ddweud cymaint yr wyf i'n rhannu'r farn gadarnhaol y mae hi wedi ei mynegi ar Ambiwlans Awyr Cymru, y gwaith gwych y mae'n ei wneud. Mae'r ambiwlans awyr wedi bod yn eglur iawn gyda ni erioed fel Llywodraeth nad yw eisiau i arian cyhoeddus gael ei dalu'n uniongyrchol iddo, gan ei fod yn credu y byddai'n amharu ar ei allu i godi arian gan y cyhoedd, y mae'n ei wneud o flwyddyn i flwyddyn mewn ffordd mor wych, gyda chymaint o wirfoddolwyr ymroddedig.

Rydym ni'n cefnogi'r elusen mewn ffyrdd eraill. Rydym ni'n ei chefnogi drwy hyfforddiant, yn enwedig y parafeddygon y mae'n eu cyflogi. Rydym ni'n ei chefnogi drwy'r gwasanaeth EMRTS, y gwasanaethau adalw meddygol brys sy'n gweithio'n agos gydag ef, ac rydym ni'n sicr yn cefnogi gwaith Ambiwlans Awyr Cymru drwy egluro i bobl y gwaith gwych y mae'n ei wneud, sut y bydd ei wneud yn wasanaeth 24 awr yn caniatáu iddo wneud mwy fyth yn y dyfodol, gan ei gefnogi yn y gwahanol fannau yng Nghymru y mae'n gweithredu ohonynt, a'i gwneud yn eglur i bobl yng Nghymru bod Llywodraeth Cymru yn ei gefnogi i'r eithaf yn ei waith ac yn ei uchelgais.

14:15
Treftadaeth a Diwylliant Casnewydd

4. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo treftadaeth a diwylliant Casnewydd? OAQ54977

Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi'n uniongyrchol mewn elfennau allweddol o dreftadaeth a diwylliant cyfoethog Casnewydd. Ar yr un pryd, rydym ni'n gweithredu gydag eraill—yr awdurdod lleol, busnesau preifat, Cronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol a Cadw, er enghraifft—i hyrwyddo atyniadau niferus y ddinas, gartref a thramor.

Diolch, Prif Weinidog. Fel y dywedasoch, mae gennym ni hanes cyfoethog ac amrywiol iawn yng Nghasnewydd yr ydym ni'n falch iawn ohono, o'n treftadaeth Siartwyr i'n pont gludo ardderchog a'n hanes morwrol, Tŷ Tredegar ysblennydd a'n caer Rufeinig yng Nghaerllion.

Pleser oedd croesawu'r Dirprwy Weinidog i Gaerllion yr wythnos diwethaf ar gyfer ailagoriad Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru. Er bod yr amgueddfa wedi bod ar gau i'r cyhoedd oherwydd gwaith ailwampio, parhaodd yr ymweliadau addysgol, gyda dros 20,000 o ymwelwyr y llynedd. Yng Nghaerllion, mae gennym ni etifeddiaeth Rufeinig gydag amffitheatr, baddonau a barics cystal ag mewn unrhyw le yn y DU. Fodd bynnag, er mwyn gwneud y gorau o'r safle gwych hwn, mae'n rhaid i Amgueddfa Cymru, Cadw a Chyngor Dinas Casnewydd, ynghyd â Llywodraeth Cymru, gydweithio i hyrwyddo Caerllion fel cyrchfan boblogaidd i dwristiaid, nid yn unig yng Nghasnewydd, ond yng ngweddill Cymru a denu ymwelwyr o fannau pellach i ffwrdd.

Yn gyntaf, a wnaiff y Prif Weinidog ymuno â mi i gydnabod gwaith addysgol pwysig cynnig Amgueddfa Genedlaethol Cymru i ysgolion a'n pobl ifanc yng Nghaerllion, ac edrych hefyd ar ffyrdd ymarferol y gall Llywodraeth Cymru gynyddu ei hymdrechion i gynorthwyo cyngor Casnewydd, Amgueddfa Genedlaethol Cymru a Cadw i ddod ynghyd i sicrhau bod yr hyn sydd gennym ni i'w gynnig yng Nghaerllion yn cael ei bwysleisio a'i ddefnyddio'n llawn?

A gaf i ddiolch i Jayne Bryant am hynna? Rwy'n gweld bod y Dirprwy Weinidog yn ymwelydd rheolaidd â Chasnewydd, ar ôl bod i'r bont gludo yn ddiweddar hefyd, ac edrychaf ymlaen at ddatblygu posibiliadau ar gyfer gwneud mwy o'r atyniad hwnnw yng Nghasnewydd yn y dyfodol.

Wrth gwrs, mae Jayne Bryant yn iawn yn yr hyn y mae'n ei ddweud am bwysigrwydd tref Rufeinig hynafol Caerllion—yr amffitheatr Rufeinig fwyaf cyflawn ym Mhrydain, yr unig farics lleng Rufeinig sydd i'w gweld yn unman yn Ewrop—ac mae'n wych gweld bod y gwaith a wnaed i'w drin, rhywfaint o'r gwaith hanfodol ar do'r amgueddfa, wedi ei gwblhau erbyn hyn a'i fod yn gwbl agored i'r cyhoedd.

Hoffwn dalu teyrnged i'r bobl sy'n gweithio yn yr amgueddfa am y ffordd iddyn nhw barhau'r gwasanaethau addysgol hynny, hyd yn oed pan nad oedd yr amgueddfa ei hun ar agor i'r cyhoedd yn y ffordd y bu gynt. Mae'n rhan bwysig iawn o'r hyn y mae'n ei wneud i wneud yn siŵr bod y profiadau byw hynny y mae'n eu cynnig i bobl ifanc—sy'n dod â hanes Caerllion a hanes Cymru yn fyw iddyn nhw—yn parhau ac yn datblygu erbyn hyn. Ac, wrth gwrs, bydd Llywodraeth Cymru, fel y dywedais yn fy ateb gwreiddiol, yn gweithio, mewn partneriaeth â'r awdurdod lleol, gyda Cadw ac eraill, i wneud y gorau posibl o'r safle gwirioneddol bwysig hwnnw.

Newid yn yr Hinsawdd

5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn ne Cymru i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd? OAQ54956

Llywydd, rydym ni'n mynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd trwy leihau allyriadau a datblygu cydnerthedd. Yn y de, rydym ni'n buddsoddi mewn cludiant cyhoeddus, adeiladau carbon isel, datgarboneiddio ein system ynni, gwella bioamrywiaeth, a datblygu'r gallu i wrthsefyll effeithiau'r newid yn yr hinsawdd mewn meysydd fel atal llifogydd a rheoli adnoddau naturiol.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Hoffwn fynd â chi'n ôl yn fyr at fater tagfeydd ar y ffyrdd a'r effaith ar y newid yn yr hinsawdd. Rwy'n croesawu'n fawr yr ystyriaeth sy'n cael ei rhoi erbyn hyn i fater tagfeydd a llygredd oddi wrth y traffig sy'n mynd i mewn i Gaerdydd. Wrth gwrs, nid yw'r traffig hwnnw'n ymddangos yn wyrthiol yng Nghaerdydd, mae'n mynd drwy etholaethau fel fy un i i mewn i Gaerdydd, ac mae tagfeydd a llygredd yn cael eu teimlo drwy bob un o nifer eithaf helaeth o'n hetholaethau. Ond, yn arbennig, nid yng Nghaerdydd yn unig y mae'r ateb i dagfeydd a llygredd, mae'n ymhellach drwyddo o lawer.

Er mwyn ennill cefnogaeth, rwy'n credu, y bobl niferus yn etholaeth Pontypridd a thu hwnt, mae'n ymddangos i mi bod ystyried holl fater codi ffi tagfeydd yn dibynnu ar nifer o fathau o sicrwydd egwyddorol yr wyf i'n credu y mae pobl eu heisiau. Yr un cyntaf yw nad yw'r costau'n disgyn yn anghymesur ar y cymunedau tlotaf. Yr ail un yw bod cyfran o'r enillion yn cael ei hailddosbarthu a'i buddsoddi yn ein system drafnidiaeth ehangach. Ac, yn drydydd, bod y dewis amgen o gludiant cyhoeddus fforddiadwy ar gael, Prif Weinidog.

14:20

Diolchaf i Mick Antoniw am y pwyntiau ychwanegol yna ar y mater hwn. Wrth gwrs, mae'n iawn bod traffig sy'n llifo drwy ei etholaeth ef ac yn aml iawn o'i etholaeth ef i mewn i'm hetholaeth i ac ymlaen i Gaerdydd yn cael ei gynhyrchu mewn mannau eraill. Hoffwn gydnabod yr hyn a ddywedodd Mick Antoniw am yr angen i fynd i'r afael â hyn. Yn syml, nid yw'r syniad y gallwch ei anwybyddu ac edrych y ffordd arall yn ateb i'r hyn sy'n ein hwynebu. Ond mae'n rhaid i'r ateb yr ydym ni'n ei ddylunio fod â'r mathau o nodweddion y soniodd ef amdanynt.

Dywedais yn yr ateb i'm cwestiwn blaenorol, i'r rhai a oedd yma i'w glywed, bod llythyr y Gweinidog yn rhoi tegwch wrth wraidd ymateb Llywodraeth Cymru iddo, a bod ailddosbarthu unrhyw symiau a godir, fel eu bod o fudd i ardaloedd y tu allan i Gaerdydd, yn rhan annatod o unrhyw gynllun hefyd. Ac wrth gwrs, mae'n rhaid i gludiant cyhoeddus fforddiadwy o'r math y gwn fod yr Aelod wedi ymgyrchu'n arbennig drosto, am ailagor hen reilffyrdd a fyddai'n gwasanaethu ei etholaeth ef ac yn darparu'r math hwnnw o gludiant cyhoeddus fforddiadwy, fod yn rhan annatod o'r cynllun hefyd. A dyna pam, yn yr ateb a roddais i Mark Reckless, y darllenais y rhan honno o lythyr y Gweinidog i Gyngor Caerdydd sy'n rhoi'r pethau hynny i gyd yn y cyd-destun ehangach hwnnw.

Dioddefwyr Troseddau

6. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i helpu dioddefwyr troseddau yng Nghymru? OAQ54975

Llywydd, rydym ni'n gweithio'n agos gyda'r pedwar heddlu a'n comisiynwyr heddlu a throseddu yng Nghymru a phartneriaid eraill, gan gynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, i gefnogi dioddefwyr troseddau ac i leihau'r risg y gallai pobl ddioddef troseddau.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Nifer o fisoedd yn ôl, gofynnais i chi a fyddech chi'n cefnogi fy ngalwad i dadau plant sy'n cael eu cenhedlu drwy weithred o dreisio gael eu gwahardd rhag cael yr hawl i weld y plant hynny. Ar y pryd, fe wnaethoch wrthod rhoi ateb pendant i mi, gan ddweud nad oedd yn fater datganoledig, er eich bod chi'n galw'n aml yn y lle hwn ar Lywodraeth San Steffan i weithredu ar faterion nad ydyn nhw wedi eu datganoli i'r lle hwn. Mae Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd Cymru wedi'i ddatganoli, fodd bynnag, a gall wneud argymhellion i'r llysoedd teulu yng Nghymru efallai na allai llys teulu yn Lloegr neu yn rhywle arall yn y DU ei wneud, ac mae gwasanaethau cymdeithasol wedi eu datganoli hefyd.

Sut y gall dioddefwr trais fyth ganfod unrhyw beth yn agos at ddiweddglo os oes yn rhaid iddi boeni y gallai ei hymosodwr, ryw ddiwrnod, ddychwelyd a bod yn rhan o fywyd ei phlentyn, ac y gallai ei phlentyn gael ei orfodi i fod mewn cysylltiad â'r sawl a dreisiodd ei fam ei hun? Felly, rwy'n gofyn i chi am yr eildro: a ydych chi'n cytuno â mi—ac mae gennych chi rai o'r cyfrifoldebau sydd eu hangen i allu gwneud hyn—na ddylai'r llys teulu roi unrhyw hawliau mynediad i dadau plant sy'n cael eu geni yn sgil trais weld y plant hynny, ac a wnewch chi ymdrechu i gyflwyno gwaharddiad o'r fath yng Nghymru? Os na wnewch chi, pam?

Llywydd, mae'n debyg na allaf i fynd ymhellach nag a wneuthum yn fy ateb diwethaf i'r Aelod. Hoffwn gydnabod pwysigrwydd y pwyntiau y mae'n eu gwneud a'r ddadl y mae hi wedi ei sbarduno ynghylch y mater hwn. Y rheswm pam na allaf gynnig y sicrwydd y mae'n dymuno i mi ei ddarparu yw nad yw'r pwerau i wneud hynny wedi eu lleoli yn y Cynulliad hwn. Roedd hynny'n wir y tro diwethaf iddi ofyn y cwestiwn i mi ac mae'n wir eto heddiw. Ni ellir gwneud newid i'r gyfraith o'r math y mae wedi fy holi yn ei gylch yn y fan yma, ni waeth faint o weithiau y mae'n gofyn i hynny ddigwydd. Felly, ni allaf roi sicrwydd iddi, oherwydd ni fyddai'n onest i wneud hynny.

Ni all gwleidyddion wneud y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud yn y llys teulu. Maen nhw'n cael eu gwneud yn y llys teulu gyda chyngor y gweithwyr proffesiynol sy'n adrodd ar achosion unigol. Wrth gwrs, dylen nhw roi ystyriaeth ddifrifol iawn i'r pwyntiau y mae'r Aelod wedi eu gwneud. Rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Ond mater i—[Torri ar draws.] Mae'r Aelod yn ceisio ymyrryd, Llywydd, o'r man lle mae'n eistedd, ond nid yw'r pwynt y mae'n ei wneud yn ddim gwell o'i ailadrodd nag yr oedd y tro cyntaf iddi ei wneud. Mae hi'n gofyn i mi roi sicrwydd ynghylch rhywbeth nad yw'r grym gen i i'w warantu. Ni wnaf i wneud hynny, oherwydd byddai hynny'n golygu cynnig sicrwydd ffug i bobl sydd, yn gwbl briodol, yn pryderu am y pwyntiau y mae'r Aelod wedi eu codi ac sydd, fe ailadroddaf, yn haeddu cael eu cymryd o ddifrif.

14:25
Ffordd A465 Blaenau'r Cymoedd

7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr amserlen arfaethedig ar gyfer deuoli adrannau 5 a 6 o ffordd A465 Blaenau'r Cymoedd? OAQ54947

Diolch i'r Aelod am hynna, Llywydd. Y disgwyl yw y bydd tendrau ar gyfer deuoli rhannau 5 a 6 o'r A465 yn cael eu derbyn y mis nesaf. Bydd y Gweinidogion wedyn yn ystyried achos busnes llawn y prosiect. Ar yr amod bod hynny'n parhau'n foddhaol, rydym ni'n disgwyl i gontract gael ei osod yn ystod haf 2020, gydag adeiladu i ddechrau erbyn diwedd y flwyddyn.

Diolch, Prif Weinidog. Fe wn eich bod chi wedi bod yn gefnogwr brwd i'r prosiect hwn, sydd wedi bod mor bwysig i'm hetholwyr, yn enwedig yn eich swydd flaenorol fel Gweinidog Cyllid pryd y gwnaethoch chi gyflwyno'r model buddsoddi cydfuddiannol a fydd yn sicrhau bod y prosiect hwn yn cael ei gyflawni. Gwn i y bu rhai pryderon am effaith yr oedi a'r costau cynyddol wrth ddeuoli rhannau cynharach o'r ffordd, ac mae modd gosod hyn yn erbyn adroddiadau diweddar nad oedd y gwaith arolwg daearegol ar yr adran rhwng Hirwaun a Dowlais wedi'i gynnal hyd at fwy na blwyddyn ar ôl dechrau caffael contractau. Mewn un achos o leiaf, mae drilio archwiliadol wedi'i ohirio tan fod yr adeiladu yn cychwyn. Mae'n rhaid bod hyn yn codi rhai pryderon am y ffordd y lluniwyd y technegau a chostau a pheirianneg ar gyfer yr adran hon hyd yma, a gyda hynny mewn golwg, pa wersi y mae Llywodraeth Cymru wedi eu dysgu wrth ddeuoli adran 2 yr A465, a sut y byddan nhw yn cael eu cymhwyso i ddeuoli adrannau 5 a 6?

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pwysig. Mae hi yn llygad ei lle wrth ddweud bod gwersi i'w dysgu o'r ffordd y cafodd adran 2 o'r A465 ei deuoli, o ran y ffordd y caiff contractau eu llunio a'r ffordd y caiff y risgiau rhwng Llywodraeth Cymru a'r contractwr eu rhannu. Yn wir, i droi at y pwynt penodol a wnaeth Vikki Howells, yn y contract hwnnw, y contractwr oedd yn gyfrifol am gasglu data—er enghraifft, drwy arolygon cyflwr tir; rwy'n credu mai un o'r pethau y byddwn ni wedi'i ddysgu o hynny yw y byddai'n well, yn y dyfodol, pe byddai Llywodraeth Cymru yn derbyn cyfrifoldeb am hynny, o ystyried rhai o'r pethau sydd wedi digwydd ers hynny.

Ond rwy'n ddiolchgar iawn i Vikki Howells am y cyfle i fod yn glir o leiaf—oherwydd rwy'n meddwl efallai y bu peth dryswch ynglŷn â hyn—nad oedd adran 2 yr A465 yn rhaglen model buddsoddi cydfuddiannol, ond bod y contract sydd i'w ddefnyddio ar gyfer adrannau 5 a 6 i'w gyflawni drwy'r trefniant MIM. Mae'n ddull sylfaenol gwahanol; mae'n gontract cyfandaliad, pris penodol, sy'n golygu na fydd Llywodraeth Cymru yn talu am y gwasanaeth tan ei fod yn weithredol. Bydd hynny'n cymell y contractwyr i gwblhau'r rhaglen yn brydlon. Mae'r risg o gostau cynyddol ac oedi mewn rhaglenni yn disgyn yn llwyr ar y darparwr gwasanaeth penodedig yn y model buddsoddi cydfuddiannol. Byddwn ni'n dysgu'r gwersi o adrannau cynharach, ond bydd gan y model y byddwn ni’n ei ddefnyddio ar gyfer adrannau 5 a 6 yr holl fanteision ychwanegol hynny yr ydym ni o'r farn, yn yr achos hwn, a ddaw yn sgîl defnyddio'r math hwnnw o gontract.

Gwasanaethau Damweiniau ac Achosion Brys

8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddyfodol gwasanaethau damweiniau ac achosion brys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg? OAQ54953

Llywydd, deallaf i y bydd y bwrdd iechyd lleol yn trafod y mater hwn yn ei gyfarfod bwrdd cyhoeddus nesaf ar 30 Ionawr.

Prif Weinidog, mae gennyf i adroddiad sy'n edrych ar sut y bydd cymunedau sy'n cael eu gwasanaethu gan Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn cael eu heffeithio os caiff y gwasanaethau damweiniau ac achosion brys dan arweiniad meddyg arbenigol eu symud oddi yno. Mae'r cymunedau yr effeithir waethaf arnyn nhw yng nghanol y Rhondda. Gall y trefi a'r pentrefi ym mhen uchaf y Rhondda Fach a'r Rhondda Fawr fynd i ysbyty'r Tywysog Siarl yn gymharol gyflym drwy ddefnyddio heolydd mynydd y Maerdy a'r Rhigos. Fodd bynnag, mae trigolion y Rhondda sy'n defnyddio'r ffordd honno'n rheolaidd yn gwybod ei bod hi'n beryglus cymryd hynny yn ganiataol, oherwydd yn y gaeaf mae'r ffyrdd hynny yn aml ar gau. A ydych chi o blaid cadw gwasanaethau dan arweiniad meddyg arbenigol yn adran damweiniau ac achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg a'i gallu i ymdrin â derbyniadau trawma? Ac a fyddwch chi'n barod i wrando ar farn cleifion a staff, yn enwedig y pryderon hynny sy'n ymwneud ag amseroedd teithio, cyn i unrhyw benderfyniad terfynol ynghylch dyfodol gwasanaethau damweiniau ac achosion brys dan arweiniad meddyg arbenigol yn yr ysbyty hwnnw gael ei wneud?

14:30

Llywydd, hoffwn i ddiolch i'r Aelod am y pwyntiau hynny. Nid wyf wedi gweld yr adroddiad y cyfeiriodd hi ato, ac nid wyf wedi gweld y papur y bydd y bwrdd yn ei gyflwyno i'w gyfarfod cyhoeddus ar 30 Ionawr. Fodd bynnag, rwy'n deall y bydd y bwrdd yn cynnig cyfle i Aelodau Cynulliad lleol gael eu briffio ddydd Gwener yr wythnos hon, er mwyn deall yr hyn y maen nhw i'w adrodd i'r bwrdd hwnnw. Rwy'n sicr yn disgwyl y byddai'r bwrdd yn gweithredu yn y ffordd a awgrymwyd gan Leanne Wood, gan wrando ar farn cleifion, staff, a chynrychiolwyr etholedig, a gobeithiaf y bydd y cyfarfod ddydd Gwener yn ddechrau da i'r broses honno.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes. Dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud ei datganiad—Rebecca Evans. 

Diolch, Llywydd.

Mae dau newid i fusnes yr wythnos hon. Yn gyntaf, bydd y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) yn cael ei drafod yn syth ar ôl y datganiad busnes hwn, gyda phleidlais yn cael ei chynnal yn syth wedyn. Yn ail, mae hyd y ddadl ar Fil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) wedi'i gwtogi yn unol â nifer y gwelliannau a gyflwynwyd. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfodydd sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.

Trefnydd, a gaf i alw am ddatganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, os gwelwch yn dda, ynghylch ymdrechion Llywodraeth Cymru i ddiogelu rhywogaethau sydd mewn perygl a dan fygythiad yng Nghymru? Efallai eich bod chi'n ymwybodol ei bod yn Ddiwrnod Gwerthfawrogi Gwiwerod o amgylch y byd heddiw, ac fel pencampwr y wiwer goch yn y Cynulliad Cenedlaethol, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn fy mod yn achub ar y cyfle hwn i godi mater pwysig cadwraeth y wiwer goch ar draws y wlad.

Ers y 1940au, mae poblogaeth y wiwer goch, a arferai fod dros y rhan fwyaf o Gymru, bellach yn boblogaeth sydd mewn tair prif ganolfan yn unig, un ar Ynys Môn, un yn y Canolbarth, ac un yng Nghoedwig Clocaenog yn fy etholaeth i fy hun. Rwy'n gwybod bod nifer o rywogaethau'n cael eu cynrychioli gan lawer o unigolion yn y Siambr hon, ond rwy'n credu y byddai'n amser da i ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf am y camau sy'n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru i ddiogelu gwiwerod coch, ac, yn wir, rywogaethau eraill sydd dan fygythiad ledled y wlad.

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Diolch i Darren Millar am y cwestiwn, a dymunaf ddiwrnod gwerthfawrogi'r wiwer hapus iawn iddo, fel pencampwr y rhywogaethau yn y Cynulliad hwn. Ac, yn sicr, roedd y Gweinidog yma i glywed eich cais am ddiweddariad ar y camau i amddiffyn rhywogaethau dan fygythiad, ac rwy'n siŵr y bydd yn rhoi ystyriaeth briodol iddo.

Rwyf i eisiau codi'r mater datganoli'r system cyfiawnder troseddol. Yn ystod yr wythnos diwethaf mae'r dadleuon dros ddatganoli wedi cryfhau'n sylweddol, yn unol â'r hyn sydd eisoes yn bodoli yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Mae achos trasig Conner Marshall wedi tynnu sylw at yr hyn yr oedd llawer ohonom ni eisoes yn ei wybod—sef bod preifateiddio'r gwasanaeth prawf wedi bod yn drychineb llwyr. Sawl bywyd arall fydd angen ei golli cyn y bydd trefn yn cael ei rhoi ar y gwasanaeth prawf? A fyddwn ni byth yn deall yn llwyr wir gost y penderfyniad i breifateiddio'n rhannol y gwasanaeth prawf?

Mae ysgrifennydd cyfiawnder y Torïaid wedi dweud ei fod yn awyddus i fwrw ymlaen â chynlluniau ar gyfer carchar newydd arall yng Nghymru, er mai gennym ni y mae'r gyfradd garcharu uchaf yng ngorllewin Ewrop. Mae nifer y bobl sy'n marw o ganlyniad i ddefnyddio sylweddau wedi cyrraedd lefel uwch nag erioed, ac mae'r cyfraddau euogfarnau am drais yn plymio o lefelau sydd eisoes yn isel. Mae'n amlwg nad yw system cyfiawnder troseddol Lloegr yn gweithio i ni. Fel y canfu'r Comisiwn Thomas ar ddatganoli cyfiawnder, mae pobl yng Nghymru yn cael eu siomi gan y system yn ei chyflwr presennol. Pe bai Cymru'n cynnal ei system cyfiawnder troseddol ei hun, gallem ganolbwyntio ar leihau niwed a gwella canlyniadau.  

Yn ymateb cychwynnol y Prif Weinidog i Gomisiwn Thomas, addawodd y byddai'n cychwyn deialog gyda Llywodraeth y DU ar ôl yr etholiad. Nawr, mae mwy na mis wedi mynd heibio ers yr etholiad hwnnw, felly a gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth yn amlinellu a yw'r ddeialog honno wedi dechrau? A allwch chi ddweud wrthyf hefyd pa waith paratoi yr ydych chi'n bersonol wedi'i ddechrau o ran cyllideb y Llywodraeth hon, oherwydd gallwch chi ddangos bod Cymru o ddifrif ynghylch datganoli'r system cyfiawnder troseddol i Gymru, ac nad ydym ni'n fodlon gweld canfyddiadau'r comisiwn hwn yn cael eu taflu o'r neilltu drwy ymrwymo adnoddau i'r mater hwn? A ydych chi'n bwriadu gwneud hynny?

14:35

Wel, yn y lle cyntaf, byddwn i'n dweud, gyda phob parch, rwy'n credu bod y Prif Weinidog wedi ateb rhai o'r cwestiynau hynny. Ond bydd cyfle i gael trafodaeth fanylach mewn dadl yn amser y Llywodraeth, a fydd yn cael ei chynnal yn ystod yr wythnosau nesaf, yn ôl yr hyn yr wyf i'n ei ddeall.

A gawn ni ddatganiad neu ddadl ynghylch ddarparu triniaethau priodol ar gyfer anhwylderau personoliaeth ffiniol mewn modd cyson ledled Cymru? Mae etholwr huawdl a hyddysg iawn wedi cysylltu â mi—yn wybodus drwy brofiad personol a drwy ymchwil academaidd—sydd wedi codi'r anhawster o gael therapi ymddygiad dialectig, DBT, yn ardal Bwrdd Iechyd Prifysgol Morgannwg Cwm Taf, ac mae wedi holi a allai'r un peth fod yn berthnasol ar draws ardaloedd byrddau iechyd gwahanol yng Nghymru. Ac yna gallem hefyd drafod, felly, i ba raddau y dylai unigolyn sydd ag anhwylder personoliaeth ffiniol fod yn gallu ymgysylltu â chlinigwyr ar yr hyn y mae'r unigolyn yn ei ystyried y ffurf fwyaf priodol o driniaeth iddyn nhw eu hunain, yn hytrach na dim ond derbyn pa driniaeth bynnag a all fod ar gael, neu beidio, o fewn un ardal Bwrdd Iechyd.

A gawn ni ddatganiad hefyd am y newidiadau i amserlennu trenau, er mwyn galluogi cymudwyr yn y Cymoedd i gyrraedd y gwaith yn brydlon yng Nghaerdydd? Dim ond dau drên o Faesteg sydd wedi'u hamserlennu i gyrraedd Caerdydd cyn 9 a.m. ar ddyddiau'r wythnos. Mae'r cyntaf yn gadael am 6.44 a.m. ac yn cyrraedd am 7.38 a.m.—digon o amser i gyrraedd y gwaith erbyn 8 a.m. neu 8.30 a.m. Fodd bynnag, effeithiwyd ar yr ail gan newid i'r amserlen ym mis Tachwedd, a wthiodd amser ymadael y trên yn ôl i 8.04 a.m., gan gyrraedd Caerdydd am 8.54 a.m. os nad oes oedi. Gweinidog, mae oedi bob tro—weithiau pum munud, weithiau 10 munud, weithiau'n fwy. Felly mae'n golygu bod cymudwyr oedd â phenaethiaid deallgar a ddywedai, 'cyn belled â'ch bod chi wrth eich desg erbyn 9 a.m., peidiwch â phoeni, rydych chi'n iawn', bellach yn cyrraedd eu desgiau'n yn hwyrach na 9 a.m. yn rheolaidd, i ddarganfod eu penaethiaid yn dweud, 'os bydd hyn yn digwydd o hyd, fydd ddim swydd i chi.' Felly, rwyf wedi ysgrifennu at Weinidogion, at Drafnidiaeth Cymru, at KeolisAmey, at Network Rail, ac eraill, iddyn nhw roi'r trên hwn yn ôl i amser cynharach pan ddaw'r newidiadau i'r amserlen fis Mai. Felly byddwn i'n croesawu datganiad ar amserlen mis Mai.

Ac yn olaf, a gawn ni ddadl ar gyflwyno credyd cynhwysol, sydd, fel yr wyf i'n ei weld yn fy nghymorthfeydd wythnos ar ôl wythnos, yn gwthio llawer o'n hetholwyr i yn drwm i ddyled, i mewn i dlodi, ac i anobaith? Ac a oes modd inni gael yr wybodaeth ddiweddaraf am yr ymchwil gan Policy in Practice a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi'i chynllunio i helpu Llywodraeth Cymru i wneud penderfyniadau polisi mewn modd sy'n helpu awdurdodau lleol a phreswylwyr yn y ffordd orau bosibl gyda chredyd cynhwysol, ac i ddeall sut mae hyn yn effeithio ar deuluoedd yng Nghymru? Gwelsom y gwaith ymchwil y llynedd gan Cartref, sy'n dangos effaith rhewi'r credyd cynhwysol, gan arwain at ostyngiad o 6 y cant ar gyfartaledd yn incwm pobl sy'n hawlio budd-daliadau oedran gweithio ers 2016. Dangosodd fod ar 84 y cant o'r tenantiaid sy'n hawlio Credyd Cynhwysol rywfaint o rent bellach i'w cymdeithasau tai, naill ai drwy beidio â thalu neu faterion technegol. Ac mae ar y tenantiaid hynny ar Gredyd Cynhwysol sydd mewn ôl-ddyledion fwy na dwywaith swm y rhent o'u cymharu â chyfoedion sy'n hawlio budd-dal tai o dan yr hen drefn. Felly byddai'n dda cael datganiad neu ddadl ar hyn, felly gallwn ni fynd i'r afael o ddifrif ag effeithiau gwaethaf polisi Llywodraeth y DU sy'n creu tlodi ac sydd wedi'i ddylunio'n wael.

Rwy'n ddiolchgar i Huw Irranca-Davies am godi tri mater pwysig iawn. Roedd y cyntaf iddo ei godi yn ymwneud â chyfle i gael DBT ar gyfer unigolion ag anhwylder personoliaeth ffiniol. Mae gwella'r cyfle i fynd at amrywiaeth o therapïau yn flaenoriaeth ar hyn o bryd i Lywodraeth Cymru, ac yn ystod y blynyddoedd diwethaf, rydym wedi parhau i weithredu ein hymrwymiad i wella'r cyfle i gael therapïau seicolegol. Darparwyd £4 miliwn ychwanegol i fyrddau iechyd yng 2018-19 i gefnogi hynny. Darparwyd £3 miliwn arall hefyd fel rhan o'r cyllid ar gyfer gwella'r gwasanaeth iechyd meddwl o'r flwyddyn ariannol hon. Gallaf sicrhau y bydd gwella ansawdd ac amrywiaeth y therapïau seicolegol a'r cyfle i'w defnyddio, yn parhau'n brif flaenoriaeth yn y 'Cynllun Cyflawni Law yn Llaw at Iechyd Meddwl 2019-2022' sydd ar y gweill a bwriad y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yw cyhoeddi hwnnw'n fuan iawn.

Yr ail fater a godwyd oedd y pryder y mae Huw Irranca-Davies wedi'i godi o'r blaen yn y Siambr, mewn gwirionedd, o ran teithio i Gaerdydd o Faesteg. Yn y lle cyntaf, mae'n fater gweithredol ar gyfer trafnidiaeth Cymru a KeolisAmey, sy'n gorfod bodloni ymrwymiad y fasnachfraint, sef bod y ddau drên hynny o Faesteg i Gaerdydd yn cyrraedd cyn 9 y bore. Ond i gydnabod y materion penodol a ddisgrifiodd, rwy'n deall bod cynrychiolwyr Trafnidiaeth Cymru wedi cynnal gweithdy i randdeiliaid i ystyried y mater hwn. Mae gwasanaeth y bore rhwng Maesteg a Chaerdydd a'r heriau yr ydych chi'n eu disgrifio yn cael eu hystyried ar hyn o bryd, a gwn y byddan nhw'n awyddus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf yn dilyn y gweithdai rhanddeiliaid hynny.  

Y trydydd mater oedd diwygio lles, a chredyd cynhwysol yn benodol, a'r effaith ddinistriol y mae hynny wedi'i chael ar lawer o bobl ledled Cymru. Darn arall o dystiolaeth sy'n ychwanegu, mae'n debyg, at ein dealltwriaeth o effaith cyflwyno credyd cynhwysol, yw'r darn o waith ymchwil a gyhoeddais i ar gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor yng Nghymru. Ac mae Huw Irranca-Davies wedi disgrifio'r effaith y mae'n ei gael ar bobl o ran ôl-ddyledion rhent. Dyna un darn o ymchwil yr ydym ni wedi'i gyflawni sy'n ymwneud â'r dreth gyngor ac ardrethi annomestig, ac wrth inni gasglu rhagor o'r darnau hynny o ymchwil ynghyd, byddan nhw'n helpu i lywio ein ffordd ymlaen, ac yn amlwg byddwn ni'n awyddus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau maes o law. 

14:40

A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch lleoli adweithyddion modiwlaidd bach yn y Gogledd? Deallwn ni fod y consortiwm o dan arweiniad Rolls Royce yn ystyried adeiladu adweithyddion modiwlaidd bach, gyda Thrawsfynydd yng Ngwynedd wedi'i awgrymu fel prif darged. Roeddem hefyd yn credu bod yna gynlluniau i leoli un ar y safle Wylfa ar Ynys Môn ac roedd adroddiadau i'w gweld yn cadarnhau hynny. Ond mae datganiad gan bŵer niwclear Horizon wedi ceisio egluro nad yw hyn yn gywir. Dywedasant:

Nid oes unrhyw gynlluniau i ddefnyddio adweithydd modiwlaidd bach Rolls Royce ar safle Wylfa newydd ac mae'r straeon diweddar yn y cyfryngau yn nodi hynny'n anghywir. 

A allai'r Gweinidog wneud sylwadau ar y datganiad hwn?

Fe wnaethant ychwanegu:

Mae gweithgarwch ar y prosiect Horizon wedi'i atal ar hyn o bryd, ond rydym yn gweithio'n galed i sefydlu'r amodau ar gyfer ailgychwyn gan ddefnyddio cynllun adweithyddion a brofwyd gennym, sydd eisoes wedi clirio proses asesu rheolyddion y DU. 

Dywedasant fod

cais cynllunio i gyflenwi dau o'r adweithyddion hyn–gan ddarparu digon o bŵer glân ar gyfer dros 5 miliwn o gartrefi a buddsoddiad gwertho biliynau o bunnoedd i'r rhanbarth.

A all y Gweinidog roi gwybodaeth glir ynglŷn â'r sefyllfa gyda'r ddau safle hyn?

A gaf i ofyn i chi, yn y lle cyntaf, ysgrifennu at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, a fydd, rwy'n credu, yn y sefyllfa orau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch ei ddealltwriaeth o'r sefyllfa?

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Trefnydd, nid oedd y Prif Weinidog, mewn ymateb i arweinydd yr wrthblaid, wedi cadarnhau pryd y byddai'r asesiad effaith rheoleiddiol ar gael i'r cyhoedd ei ystyried. Mae hon yn ddogfen hanfodol bwysig er mwyn deall effaith cynigion o'r fath dan ystyriaeth y Llywodraeth ar hyn o bryd ynghylch parthau perygl nitradau i'w gweithredu yma yng Nghymru. A gaf i erfyn arnoch i weithio gyda'r Gweinidog i sicrhau bod y ddogfen honno ar gael i'r Aelodau, fel y gallwn ni ddeall yn union yr hyn y mae'r asesiad effaith rheoleiddiol yn ei ddweud wrth Weinidogion a'r effaith a gaiff, pe bai'r rheoliadau hyn yn cael eu rhoi ar waith ledled Cymru, yn ôl y cynnig, cyn bod y Gweinidog yn penderfynu cynnal ymgynghoriadau pellach ag undebau'r ffermwyr a sefydliadau eraill?

Rwy'n derbyn diffuantrwydd y Llywodraeth wrth gychwyn ar y trafodaethau hynny, ond mae'r rhain yn benderfyniadau mawr a gaiff eu gwneud yma ar sail Cymru gyfan. Ac roedd panel y Llywodraeth ei hun, a sefydlwyd gyda'r rheoleiddiwr, Cyfoeth Naturiol Cymru, a oedd yn ymrwymo i'r adroddiad a gyflwynwyd gan y panel rheoleiddiol hwnnw, yn gofyn am ddull gwirfoddol o weithredu'r materion hyn a fyddai'n ceisio mynd i'r afael â'r achosion o lygredd amaethyddol a grybwyllwyd gan y Prif Weinidog.

Hoffwn i dynnu sylw'r Prif Weinidog at y ffaith na fu cynnydd sylweddol mewn llygredd amaethyddol ledled Cymru yn ystod y 20 mlynedd diwethaf. Mae hyn wedi amrywio o 190 o achosion ar ei huchaf i oddeutu 120 neu 130 o achosion ar ei hisaf. Ac o'r achosion hynny, dim ond 20 i 30 sydd wedi bod yn ddifrifol. Wrth gwrs, mae un yn ormod—rwy'n derbyn hynny. Ond wrth feddwl am ollyngiadau dŵr Cymru, er enghraifft, mewn achosion o lygredd carthion sy'n digwydd ledled Cymru, ac nid yw'n edrych fel bod y Llywodraeth yn dymuno ymgymryd â'r materion penodol hynny, ymddengys fod hwn yn ddull llawdrwm iawn pan fod gennych eisoes gytundeb ar y bwrdd y mae'r rheoleiddiwr wedi ymrwymo iddo, a bod y sefydliadau sydd wedi dod o amgylch y bwrdd, wedi trafod hyn ac wedi cyflwyno cynnig. Byddwn i'n erfyn ar Lywodraeth Cymru i ddychwelyd at y ddogfen honno a gweithio i'r ddogfen honno, yn hytrach na chyflwyno'r cynigion llym hyn.  

Gwn fod y Gweinidog sy'n gyfrifol am yr amgylchedd, ynni a materion gwledig yn awyddus iawn i barhau i weithio ochr yn ochr â ffermwyr a'u cynrychiolwyr undeb ar y mater penodol hwn. Fel yr ydych chi'n ei ddweud, mae'r rhain yn benderfyniadau mawr, a dyna pam y mae Llywodraeth Cymru yn cymryd yr amser sydd ei angen arni er mwyn datblygu cynigion a'u hystyried. Rwy'n deall y bydd y Gweinidog yn cael cyngor, gan gynnwys yr asesiad effaith rheoleiddiol, o fewn yr wythnosau nesaf, erbyn diwedd y mis gobeithio, ac yn amlwg, bydd hi'n awyddus i drafod pethau ymhellach gyda rhanddeiliaid maes o law.

14:45

A gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog perthnasol yn y Llywodraeth ynghylch y tân diweddar yn Kronospan yn y Waun, sydd wedi achosi cryn bryder yn lleol, wrth gwrs? Dyma'r trydydd tân yno mewn cwta dair blynedd, a bu'n llosgi am wythnos, gan achosi llygredd ledled y dref a thu hwnt. Cymerodd 48 awr i roi offer monitro ansawdd aer yn ei le, a gollodd, wrth gwrs, y gwaethaf o'r llygredd, ond er hynny fe ganfu fformalin, sydd wedi'i gydnabod yn garsinogen, yn yr awyr, sydd, fel y gallwch chi ei ddychmygu, yn achosi pryder enfawr i'r boblogaeth leol.

Mae angen esboniad arnom ni yn sgil y digwyddiadau hyn. Mae angen inni glywed yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau na fydd hyn yn digwydd eto. A wnewch chi ymuno â mi i alw am ymchwiliad annibynnol i ddarganfod pam yr oedd y tân wedi llosgi'n ffyrnig gyhyd a hefyd pam yr oedd yr ymateb gan asiantaethau mor araf? Hefyd mae angen lleoli offer monitro ansawdd aer annibynnol yno'n barhaol. Rwy'n deall bod yr offer dros dro presennol wedi cael ei symud yno o Abertawe. Nawr, mae trigolion lleol yn haeddu ymateb cadarn gan Lywodraeth Cymru ar hyn, ac, ar hyn o bryd, rwy'n ofni nad ydyn nhw'n cael yr ymateb hwnnw.

Hefyd, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog Addysg yn sgil adroddiad hynod feirniadol gan Arolygiaeth Gofal Cymru o Ysgol Rhuthun, a gafodd ei gyhoeddi yn ddiweddar? Dywed yr adroddiad, a dyfynnaf:

Canfuwyd bod yr arweinyddiaeth, y rheolaeth a'r llywodraethu sy'n ymwneud â diogelu yn annigonol ac, o ganlyniad, nid oedd pobl ifanc yn cael eu hamddiffyn yn llawn.

Ac mae'r adroddiad yn nodi:

Pryderon sylweddol a chyffredin o ran llesiant pobl ifanc.

Hefyd,

Roedd y trefniadau ar gyfer ymdrin â phryderon am ddiogelu pobl ifanc yn annigonol.

Mae hynny'n gwbl annerbyniol, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno. Felly, a wnaiff y Gweinidog ddatganiad ynghylch swyddogaeth Llywodraeth Cymru o ran diogelu plant mewn ysgolion preifat a phreswyl? A wnaiff ddatganiad hefyd ynghylch yr ymyriadau sydd ar gael mewn ysgolion yng Nghymru nad ydynt dan reolaeth awdurdodau lleol? Pa oruchwyliaeth sydd gan awdurdodau statudol, megis diogelu plant, dros ysgolion preifat yng Nghymru? Ac onid oes achos i'w wneud bod angen ymyrryd yn gynharach pan fo diogelu plant yn broblem? Dyma'r ail adroddiad mewn blwyddyn sy'n tynnu sylw at bryderon am faterion diogelu yn yr ysgol ac mae angen atebion gan Lywodraeth Cymru i'r cwestiynau hyn.

O ran yr ail fater a godwyd, yn ymwneud ag Ysgol Rhuthun, byddaf i'n gofyn i'r Gweinidog gwasanaethau cymdeithasol ysgrifennu atoch mewn ymateb i'r cwestiynau penodol a oedd gennych chi ynghylch diogelu a swyddogaeth Llywodraeth Cymru o sicrhau diogelu plant a phobl ifanc mewn ysgolion preifat a phreswyl, a hefyd yr oruchwyliaeth sydd gan y cyrff statudol. Mae'r rheini'n gwestiynau manwl ac rwy'n siŵr bod angen ateb manwl arnyn nhw.

Y mater cyntaf, wrth gwrs, oedd y tân yn Kronospan a'r materion a oedd yn ymwneud â'r mwg o ganlyniad i'r tân hwnnw. Mae'n amlwg bod y Gweinidog wedi bod yma i glywed eich sylwadau ar hynny ac mae'n amlwg ei fod wedi cymryd diddordeb ynddo. Rwy'n siŵr y byddai eich swyddogion wedi bod mewn cysylltiad â Chyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, sef, yn amlwg, y corff arweiniol o ran ymateb i hyn. Ond os caf i ofyn ichi ysgrifennu at y Gweinidog, rwy'n siŵr y byddai hi'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y mater yn gyffredinol.

Byddwn i, rheolwr busnes, yn hoffi gofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth, os oes modd. Mae'r cyntaf yn ymwneud â mater a gafodd ei godi yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog, sef y tâl atal tagfeydd y mae cyngor sir Caerdydd wedi'i gynnig fel rhan o'i waith o wella trafnidiaeth yn y ddinas. Bydd llawer ohonom ni'n croesawu'r weledigaeth a ddangosodd awdurdodau lleol Caerdydd yn eu Papur Gwyn, a bydd llawer ohonom yn cefnogi eu huchelgeisiau. Ond ni fydd llawer ohonom ni'n goddef treth y Cymoedd i dalu amdani. Mae'n bwysig, rwy'n credu, bod unrhyw dâl sy'n cael ei godi ar ddinasyddion y wlad hon yn cael ei wneud yn deg ac yn gyfartal. Mae'r tâl atal tagfeydd a gynigodd cyngor sir Caerdydd yn methu â chyflawni'r ddau fesur hynny. Wrth gwrs, Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am y rhwydwaith cefnffyrdd a'r prif ffyrdd i mewn ac allan o Gaerdydd. Rwy'n deall y bydd cyngor dinas Caerdydd, cyngor sir Caerdydd, yn cymryd cyfrifoldeb am y ffyrdd hynny yn y ddinas ei hun, ond hyd at y fynedfa i'r ddinas, cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw'r rhain. Byddai'n ddefnyddiol, felly, pe gallem ddeall beth yw polisi Llywodraeth Cymru ar godi tâl am ffyrdd ac a fu ymgynghori â Llywodraeth Cymru fel rhan o hyn ac a yw Llywodraeth Cymru wedi awgrymu ei bod yn cydsynio neu gefnogi'r dreth bosibl hon o gwbl. Ac i lawer ohonom, rydym yn pryderu'n ddirfawr am y ffordd y cafodd hyn ei gyhoeddi ac yn pryderu'n fawr am yr effaith a gaiff ar ein hetholwyr. Felly, byddwn i'n ddiolchgar pe gallai Llywodraeth Cymru roi datganiad inni am y materion hynny.

Yr ail yw—hoffwn i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog iechyd ar faterion sy'n ymwneud â chyffuriau a sbeicio ddiodydd. Codwyd y mater hwn gyda mi yn ystod yr wythnosau diwethaf. Yr wythnos diwethaf, cawsom ddadl dda iawn, yn fy marn i, ar drais rhywiol a sut y mae treisio yn cael ei drin o fewn y system cyfiawnder troseddol. Credaf fod llawer ohonom wedi croesawu'r ddadl honno ac rwy'n credu bod cytundeb eang ar bob ochr i'r Siambr hon ynglŷn â'r angen i wella profiad pobl sydd wedi dioddef trais rhywiol o fewn y system cyfiawnder troseddol. Ond mae'n rhaid inni hefyd gydnabod—mae menywod ifanc yn arbennig mewn perygl o gael rhywun yn sbeicio eu diodydd ym mhob un o'n prif drefi a dinasoedd. Ac mae myfyrwyr a menywod ifanc yn enwedig yn wynebu cael eu heffeithio'n fawr ac yn ofni y gall eu diodydd gael eu sbeicio ac y gellir ymosod arnyn nhw wrth iddyn nhw fwynhau noson allan. Mae hyn yn rhywbeth sydd, yn fy marn i, yn arwyddocaol iawn i bob un ohonom ni, ac mae'n rhywbeth yr wyf yn gobeithio y gallai Llywodraeth Cymru geisio cymryd camau i fynd i'r afael ag ef.

14:50

Rwy'n ddiolchgar i Alun Davies am godi'r ddau fater hyn. Credaf fod y llythyr y mae Gweinidog yr economi wedi'i anfon at arweinydd Cyngor Caerdydd yn dechrau ateb rhai o'r pryderon sydd gennych chi, yn enwedig o ran pryder Llywodraeth Cymru ynghylch tegwch, ond hefyd y pryder y dylai unrhyw benderfyniadau gael eu gwneud mewn ffordd sy'n ystyriol iawn o'r effaith ar y rhanbarth ehangach hefyd. Felly, rwy'n credu y bydd y gwaith a gaiff ei wneud o ganlyniad i'r llythyr hwnnw yn fan cychwyn ar gyfer y trafodaethau hynny, a byddaf i'n sicrhau bod y llythyr hwnnw'n cael ei ddosbarthu i'r Aelodau.

Ac ar yr ail fater o sbeicio diodydd, gwn fod y Gweinidog iechyd i fod i gyhoeddi datganiad yn y dyfodol agos a fydd yn lansio'r cynllun cyflawni newydd ar gamddefnyddio sylweddau ac, yn amlwg, mae addysg a chadw pobl yn ddiogel wrth wraidd y cynllun penodol hwnnw.

Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar y grant cymorth tai? Mae cyllid ar gyfer cymorth sy'n gysylltiedig â thai wedi gostwng £27 miliwn mewn termau real ers 2012. Mae awdurdodau lleol, darparwyr cymorth y trydydd sector a landlordiaid cymdeithasol yn dweud ei bod eisoes yn anodd diwallu anghenion pobl y mae angen gwasanaethau cymorth arnyn nhw o fewn y cyfyngiadau presennol ar y gyllideb. Maen nhw'n honni, heb fuddsoddiad ychwanegol yn y grant cymorth tai, fod perygl na fydd gan wasanaethau'r gallu i ddiwallu anghenion pobl ac y gallai digartrefedd fod yn llawer gwaeth yng Nghymru. A gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog mewn ymateb i'r pryderon hyn ynghylch pa gamau y bydd yn eu cymryd i sicrhau bod gan wasanaethau yr adnoddau i ddiwallu anghenion pobl sy'n dioddef effeithiau digartrefedd?

A'r ail ddatganiad yr hoffwn i ofyn amdano gan y Gweinidog diwylliant, os gwelwch yn dda. Rwy'n credu bod y Prif Weinidog wedi sôn yn gynharach am safleoedd treftadaeth yng Nghasnewydd. Roedd yn braf iawn deall ei bryder. Ond fandaliaeth mewn safleoedd treftadaeth yw fy mhryder i. Yn gynharach y mis hwn, adroddwyd bod difrod dychrynllyd wedi'i wneud i domen gladdu sy'n dyddio'n ôl i'r Oes Efydd yng Nghoed Gwent ger Casnewydd, ac mae'r heddlu'n dweud mai dim ond cerbydau oddi ar y ffordd a allai fod wedi gwneud hynny. Nid yw'n dderbyniol mewn unrhyw gymdeithas. Cyn inni hyrwyddo treftadaeth a diwylliant Casnewydd, rhaid inni sicrhau eu bod yn cael eu diogelu'n ddigonol. Felly, Gweinidog, a gawn ni ddatganiad gan y Llywodraeth bod ein holl safleoedd treftadaeth yn cael eu diogelu'n briodol rhag y fandaliaid hyn? Diolch.

14:55

Diolch am godi'r materion hyn. Y cyntaf yw'r grant cynnal tai. Mae'r mater penodol y cyfeiriwch chi ato yn rhan o'r gyllideb ar gyfer 2020-1. Byddwn i'n awgrymu, efallai, mai'r lle priodol i graffu ar hynny yw o fewn y trafodaethau ar y gyllideb, felly bydd cyfle arall i gael y dadleuon hynny yma ar lawr y Cynulliad, a hefyd drwy'r broses o graffu ar y gyllideb y mae pwyllgorau yn ymgymryd â hi. Felly, rwy'n credu mai dyna fyddai'r lle priodol i fod yn craffu ar elfennau o gyllideb 2020-1.

Gofynnaf i'r Gweinidog ysgrifennu atoch o ran sut yr ydym ni'n gwarchod ein safleoedd treftadaeth yn eu cyfanrwydd, ond hefyd gyda rhai syniadau penodol ar fater y cerbydau oddi ar y ffordd a ddisgrifiwyd gennych chi, sydd yn amlwg wedi cael effaith niweidiol dros ben yn ardal Coed Gwent, y cyfeirioch ati.

Hoffwn i ofyn am ddau ddatganiad gan y Llywodraeth. Mae'r cyntaf yn cyfeirio at Iaith Arwyddion Prydain a darparu cyrsiau, yn enwedig ar gyfer rhieni plant byddar. Cawsom a thrafodwyd deiseb gan Deffro!, a gafodd ei chefnogi gan y Llywodraeth ac Aelodau ar draws y Siambr, ac mae pobl yn Deffro! yn dweud wrthyf i, 'beth sy'n digwydd ar hyn o bryd?' A gawn ni ddatganiad ynglŷn â pha gamau sydd wedi'u cymryd a pha gamau sydd wedi'u cynllunio yn dilyn y ddeiseb honno, oherwydd bod pryderon difrifol o fewn y gymuned fyddar? Nid wyf yn siŵr fy mod eisiau datgan buddiant: mae fy chwaer yn hollol fyddar ac yn aelod o'r gymuned fyddar, ond nid wyf i yn rhiant i blentyn byddar.

Mae'r ail gais ar bwyntiau gwefru trydan sydd ar gael i'r cyhoedd. Rydym ni'n ceisio hyrwyddo ceir trydan; rydym ni'n ceisio hyrwyddo ynni gwyrdd. A oes modd i'r Gweinidog wneud datganiad ynghylch ar gyfer ble y maen nhw wedi'u cynllunio, pa bryd y maen nhw'n debygol o gael eu gosod, faint sy'n debygol o gael eu gosod wrth bob pwynt a pha fath? Oherwydd deallaf oddi wrth un o fy etholwyr fod y rhan fwyaf o'r pwyntiau gwefru yng ngorsaf wasanaeth Sarn yno ar gyfer cerbydau Tesla, nid y gwefrydd mwy cyffredin. Nid wyf i'n arbenigwr yn y pethau hyn, ond mae fy etholwr yn dweud os oes gennych gerbyd Tesla, does dim ciw; os oes gennych chi gerbyd trydanol cyffredin, mae ciw. Rydyn ni'n ceisio cael pobl i ddefnyddio cerbydau trydanol. Mae angen rhyw fath o gynllun, a hoffwn i gael datganiad gan y Llywodraeth ar y cynllun hwnnw.

Gallaf weld y Gweinidog yn ymateb yn gadarnhaol i'ch cais am ddatganiad ynglŷn â phwyntiau gwefru ceir trydan. Ar hyn o bryd mae dros 930 o gysylltwyr pwynt gwefru sy'n hygyrch i'r cyhoedd ledled Cymru, i fyny o 670 ym mis Ebrill y llynedd. Felly, yn amlwg, rydym yn dechrau gweld rhywfaint o gynnydd yn y maes hwn, ond mae Mike Hedges yn codi pwynt pwysig, onid ydyw, fod y pwyntiau gwefru penodol yn briodol ar gyfer y cerbydau y mae pobl yn dewis eu gyrru? Felly, byddai Ken Skates wedi clywed y sylwadau hynny, ac rwy'n siŵr y bydd yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf ar hynny.

Ar fater penodol Iaith Arwyddion Prydain a'r ddeiseb y mae Deffro! wedi'i chyflwyno i'r Cynulliad, byddaf i'n siŵr o gysylltu â chyd-Aelodau—gwn fod hwn yn faes o ddiddordeb i nifer o'n cydweithwyr, mewn gwirionedd, ym mhob rhan o'r Llywodraeth, ym maes addysg ac ym maes iechyd—i sicrhau eich bod yn cael diweddariad addas.FootnoteLink

Hoffwn i godi mater, fel cefnogwr chwaraeon yng Nghymru, o'r angen i ddathlu hanes chwaraeon Cymru, a hefyd fel ffan o ddinas Caerdydd a chynrychiolydd etholedig nifer nid ansylweddol o gefnogwyr yr Adar Gleision o Ynys Môn—Caergybi yn arbennig—sydd wedi bod yn ffyddlon iawn i'r Clwb dros y blynyddoedd. Mae Ymddiriedolaeth Cefnogwyr Dinas Caerdydd wedi dod yn ymwybodol o gasgliad gwerthfawr ac anhepgor o gofiannau hanesyddol clwb pêl-droed Dinas Caerdydd a fydd yn mynd i ocsiwn ar 25 Ionawr. Nawr, mae'r Ymddiriedolaeth wedi annog clwb pêl-droed Dinas Caerdydd i brynu'r casgliad fel sail i amgueddfa i ddathlu hanes y clwb. Cafwyd rhai adroddiadau nad oedd yr eitemau bellach ar werth. Ond mae'n ymddangos y byddant yn mynd ar werth ar 25 Ionawr. Does dim llawer o amser ar ôl i atal y golled hon o dreftadaeth chwaraeon Gymreig bwysig iawn. A gaf i ofyn am ymyriad gan y Gweinidog chwaraeon a threftadaeth chwaraeon, gan gynnwys cysylltu â'r clwb i weld pa gymorth y gellid ei roi i gadw hyn mewn dwylo cyhoeddus, neu o leiaf ei fod ar gael i'r cyhoedd, a chael datganiad ysgrifenedig ar y camau posibl y gallai Lywodraeth Cymru eu cymryd i gefnogi'r clwb i brynu'r cofiannau gwerthfawr iawn hyn?

15:00

Wrth gwrs, mae'r Dirprwy Weinidog sydd â chyfrifoldeb dros chwaraeon wedi bod yma i glywed eich cais am ymyrryd yn y mater penodol hwn o ran sicrhau bod y pethau cofiadwy i ddathlu hanes y clwb yr ydych chi wedi'i ddisgrifio yn dal i fod ar gael i gefnogwyr y clwb, ac rwy'n siŵr y bydd yn rhoi ystyriaeth deilwng iddo.

Drwyddoch chi, Gweinidog, hoffwn gael datganiad gan y Dirprwy Weinidog dros blant ar ddiogelu plant. Rydym ni’n byw yng Nghymru, sy'n wlad lle mae plentyn sy'n agored i niwed, neu blant sy'n agored i niwed, mewn gwirionedd, yng ngofal cwmnïau preifat yn gallu honni camdriniaeth, ond nid ydynt yn cael eu cymryd o ddifrif, ni fyddant yn cael eu cludo i fan diogel er mwyn siarad â nhw, ac os oes gan blentyn anawsterau dysgu ni fydd yn cael eiriolwr, ac ni fydd yn siarad ag arbenigwr ar ddiogelu plant. Ac os meddyliwch chi am y sgandalau ledled y DU bellach am blant sydd wedi dioddef y creulondeb mwyaf mewn gofal, ac os edrychwch chi ar hanes cartrefi gofal yng Nghymru—yn y ddinas hon, â dweud y gwir—yna fy nghwestiwn i neu'r datganiad yr wyf i'n dymuno ei gael gan y Llywodraeth mewn gwirionedd yw: beth y mae'r Llywodraeth yn mynd i'w wneud i ddiogelu plant yng Nghymru? Mae'n sefyllfa anobeithiol. Rhaid gwrando arnyn nhw.

Mae diogelu plant, a phlant sy'n agored i niwed yn benodol, yn amlwg yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, a byddaf i'n sicr yn gofyn i'r Gweinidog gwasanaethau cymdeithasol roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer diogelu plant yng Nghymru.

Ategaf i'r sylwadau am y tân yn Kronospan a nodaf fod cyngor Wrecsam wedi cynnal cyfarfod amlasiantaeth i drafod hyn ddydd Mawrth diwethaf, a bod AS De Clwyd yn cyfarfod â phrif weithredwr y cyngor ddydd Gwener diwethaf ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Ysgrifennydd Gwladol ar hyn.

Ond rwy'n galw am ddau ddatganiad. Yn gyntaf, o ran atal canser ceg y groth, efallai eich bod yn ymwybodol mai Wythnos Atal Canser Ceg y Groth yw hon. Mae Ymddiriedolaeth Canser Ceg y Groth Jo, sy'n ymgyrchu i roi terfyn ar y stigma sy'n ymwneud â haint y firws papiloma dynol, neu'r feirws HPV, ac i godi ymwybyddiaeth o'r firws gwirioneddol gyffredin hwn a swyddogaeth sgrinio canser ceg y groth wrth atal canser ceg y groth, yn datgan bod y rhaglen sgrinio yng Nghymru bellach yn profi pob sampl ar gyfer HPV yn gyntaf, ond yn nodi ymhlith pethau eraill fod llawer o fenywod yn dal i fod—. Maen nhw'n clywed yn rheolaidd gan fenywod bob dydd sy'n teimlo cywilydd ac embaras ac yn ddryslyd ar ôl cael gwybod bod HPV ganddyn nhw. Gall y mythau ynghylch HPV annog menywod i beidio â mynd am brofion sgrinio. Felly, a fyddai modd imi alw am ddatganiad yn ymateb i'w galwad am fanylion gan Lywodraeth Cymru ar y camau y mae'r Ysgrifennydd Iechyd yn eu cymryd i gynyddu dealltwriaeth o HPV yn dilyn sgrinio ceg y groth yn symud i fod yn sgrinio sylfaenol HPV?

Yn ail ac yn olaf, a gaf i alw am ddatganiad ar gymorth i bobl ifanc sy'n wynebu caledi ariannol? Dyma gyd-destun yr elusen a sefydlwyd gan Ally Elouise yn Llandudno yn 2015, sy'n cynnig dros 3,000 o siwtiau a ffrogiau prom ar fenthyg am ddim i gannoedd o fyfyrwyr na allant fel arall fforddio i ddathlu gorffen yn yr ysgol. Mae Ally wedi ennill gwobr Points of Light Prif Weinidog y DU, ac roedd hi wedi anfon e-bost yr wythnos diwethaf yn datgan, 'Byddwn i'n ddiolchgar pe gallech rannu neu hyrwyddo hyn er mwyn helpu cynifer â phosib o bobl ifanc sy'n wynebu caledi ariannol i fynd i'w proms ysgol eleni.' Galwaf am ddatganiad yn unol â hynny.

Yn gyntaf, rwy'n llongyfarch Ally ar bopeth y mae hi wedi'i gyflawni a'r ffaith ei bod wedi cael cydnabyddiaeth am syniad rhagorol, ymarferol a all wneud gwahaniaeth mawr i bobl ifanc. Gwyddom y gall y gost o fynd i prom fod yn afresymol o ddrud ac yn bryder i rai teuluoedd, felly rwy'n canmol Ally a'i dyfeisgarwch wrth sicrhau y gall pobl ifanc fwynhau moment arbennig iawn yn eu bywyd ysgol, neu ddiwedd eu bywyd ysgol.

Mae mater canser ceg y groth a godwyd gennych yn bwysig dros ben hefyd. Rydym ar fin cael Wythnos Ymwybyddiaeth Canser Ceg y Groth, a gwn i y bydd Vikki Howells yn cynnal digwyddiad ar gyfer holl Aelodau'r Cynulliad yn y Senedd i glywed am ffyrdd y gall pawb ohonom ni chwarae ein rhan wrth godi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd cynnal profion yn lleol. Roedd y Gweinidog iechyd, pan oeddech chi'n siarad, yn awyddus iawn imi wneud y pwynt nad oes unrhyw gywilydd yn gysylltiedig â hyn o gwbl, a'i bod yn bwysig bod y profion yn cael eu cynnal. Mae gennym ni brofion mwy sensitif yma yng Nghymru, a fydd yn golygu ein bod ni'n gallu ymyrryd ac achub bywydau'n gynnar, a hefyd nawr, wrth gwrs, rydyn ni'n cyflwyno'r brechiadau i fechgyn hefyd. Gwn fod hynny wedi cael croeso cynnes iawn ledled Cymru.

15:05

Trefnydd, yr wythnos diwethaf, fe'n hatgoffwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder yn Llywodraeth y DU ei fod yn dal i gredu bod angen carchar newydd yn y de. Nawr, rydym wedi clywed y ddadl hon o'r blaen, ac mae fy nghymuned i wedi bod yn chwyrn iawn yn ei gwrthwynebiad i leoliad y cynnig diwethaf. Ond y cwestiwn a gawsom yn y ddadl honno oedd a oedd angen uwch garchar newydd arnom, a beth oedd y prosesau cymwys. A fydd gennych ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ynghylch pa drafodaethau a gawsoch â Llywodraeth y DU ar syniadau o'r fath gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Gyfiawnder, a'r hyn y mae ef yn ei olygu, mewn gwirionedd, pan fo'n sôn am fanteision cael uwch garchar newydd? Oherwydd, yn y dadleuon y tro diwethaf, buom yn siarad am y ffyrdd y gallwn wella ansawdd bywyd i garcharorion, ac edrych ar y ffordd yr ydym ni'n hepgor cyfiawnder. Siaradwyd yn helaeth am ddatganoli cyfiawnder a datganoli gwasanaethau carchardai i Gymru fel y gallem wneud hynny'n briodol ar gyfer Cymru. Nawr, mae'n ymddangos bod y datganiad hwn yn anwybyddu'r holl gysyniadau hynny ac unwaith eto yn ein gorfodi ni i gael carchar newydd. Felly, rwy'n gobeithio y cawn ni ddatganiad gan y Gweinidog, neu bwy bynnag yw'r Gweinidog perthnasol, ynglŷn â pha drafodaethau sy'n digwydd a pha gynlluniau sydd ganddo ar gyfer Cymru.

Fe fyddaf i'n sicr o ofyn i'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y trafodaethau diweddaraf a all fod wedi digwydd yn y maes penodol hwn a dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â'r materion perthnasol a godwyd.

3. Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael)

Eitem 3 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael), ac rwy'n galw ar y Prif Weinidog i gynnig y cynnig—Mark Drakeford.

Cynnig NDM7232 Mark Drakeford

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 29.6, yn cytuno y dylai Senedd y DU ystyried y darpariaethau ym Mil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) i’r graddau y maent yn dod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Dirprwy Lywydd, diolch yn fawr. Mae'r cynnig gerbron y Cynulliad heddiw yn un pwysig a hanesyddol. Mae angen inni ystyried cydsyniad deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael). Wrth drafod hwn heddiw, fe fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried y Bil o safbwynt beth sydd er lles Cymru. Dirprwy Lywydd, mae Brexit yn mynd i ddigwydd. Nawr, mae'n rhaid canolbwyntio ar sut y mae Brexit yn digwydd, a sut i gael perthynas gydag Ewrop sy'n amddiffyn buddiannau Cymru. Dyna'r man cychwyn i edrych ar y cwestiwn o gydsyniad deddfwriaethol i'r Bil tyngedfennol hwn.

Dirprwy Lywydd, a gaf i ddiolch i chi ac i'r Llywydd am yr hyblygrwydd yr ydych chi wedi ei ddangos ynglŷn â'r ddadl, amseriad y ddadl, ar y Bil cytundeb ymadael, y darn pwysicaf o ddeddfwriaeth San Steffan y bu'n rhaid inni ei ystyried yn ystod 20 mlynedd o hanes y Senedd hon? Nawr, gadewch imi fod yn glir am yr hyn nad yw'r ddadl hon yn ei olygu. Nid yw'n golygu atal Brexit; nid yw'n ymwneud â pheri rhwystredigaeth i'r Bil. Mae'n ymwneud â ffurf Brexit, ac nid ffaith Brexit. Mae'n ymwneud â gwella'r Bil ac nid ei daflu oddi ar y cledrau. Mae Brexit yn mynd i ddigwydd—mae honno'n ffaith. Er hynny, mae'r ffordd y bydd Brexit yn digwydd ymhell o fod wedi ei sefydlu.

A wnaiff y Prif Weinidog ildio? Onid dyna'n union y gwnaethoch chi ei ddweud yn 2016 ar ôl y refferendwm? O ystyried eich camau gweithredu yn ystod y tair blynedd a hanner diwethaf, pam ddylai pobl eich credu chi nawr?

Wel, rwy'n tybio bod yr Aelod wedi bod yn cysgu drwy gydol mis Rhagfyr pan gynhaliwyd etholiad cyffredinol, ac mae gennym Lywodraeth sy'n eglur am y ffaith ein bod ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd. Roeddwn i'n credu bod hynny'n rhywbeth y dywedodd ef ei fod wedi ymgyrchu drosto am flynyddoedd lawer, ac rwyf innau newydd ddweud, mor glir ag y gallaf, ar goedd, fod honno, beth bynnag oedd barn rhai ohonom ni, yn ffaith sefydlog erbyn hyn. Yr hyn nad yw'n sefydlog, a dyma bwnc ein hystyriaeth ni'r prynhawn yma, yw sut y dylai Brexit ddigwydd, ac mae ffurf Brexit wedi troi a throi lawer tro eisoes yn nwylo Llywodraethau Ceidwadol olynol. Yn wir, nid y Bil y mae gofyn inni gydsynio ag ef heddiw yw'r Bil y byddai'r Prif Weinidog presennol wedi gofyn inni gydsynio ag ef ddechrau mis Rhagfyr.

Nawr, Dirprwy Lywydd, mae Llywodraeth y DU yn gwthio'r Bil hwn drwy San Steffan gyda chyflymder sy'n hollol amhriodol o ystyried ei arwyddocâd. Mae hynny'n ddiangen ac yn annoeth. Dyma'r penderfyniad pwysicaf a gymerwyd gan San Steffan mewn cenhedlaeth neu fwy, ac mae'n sicr bod y ddeddfwriaeth yn haeddu'r craffu llawnaf a mwyaf trwyadl posibl. Mae'r methiant i roi cyfle i'r Senedd wneud hynny yn effeithio arnom ni yma'n uniongyrchol. Fel rheol, fe fyddem ni ar lawr y Cynulliad yn trafod mater cydsyniad deddfwriaethol ar Fil gan wybod beth fyddai ei ffurf derfynol ar gyfer pleidleisio arno yn  San Steffan. Ni wyddom hynny y prynhawn yma. Mae'r ffaith na fydd bwlch rhwng adroddiad a thrydydd darlleniad yn Nhŷ'r Arglwyddi yn golygu y bydd ein gallu ni i roi penderfyniad cywir gerbron y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn cael ei gyfaddawdu hefyd.

15:10

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Y cwestiwn sydd ger ein bron, serch hynny, yw hwn: a yw'r Bil hwn, fel y mae'n cael ei eirio ar hyn o bryd, yn bodloni buddiannau Cymru? A'r ateb y mae'r Llywodraeth hon yn ei awgrymu ichi'r prynhawn yma, y casgliad clir yr ydym ni wedi dod iddo, yw na allwn ni ofyn ichi roi cydsyniad i'r Bil, gan ei bod yn bendant nad yw buddiannau Cymru'n cael eu bodloni ynddo. Nid yw mandad ar gyfer Brexit yn fandad ar gyfer deddfwriaeth wael, a chyn belled ag y mae Cymru yn y cwestiwn, mae'r ddeddfwriaeth hon yn dal i fod yn wael iawn. Fe fydd yn tanseilio ein heconomi ni mewn ffyrdd niweidiol ac, yn bwysicach fyth, Llywydd, mewn ffyrdd y gellid eu hosgoi.

Gadewch imi amlinellu rhai o'r ffyrdd y mae'r ddeddfwriaeth hon yn niweidio buddiannau hanfodol Cymru. Yn gyntaf oll, mae amddiffyn hawliau gweithwyr, a gafodd eu cynnwys yn y ddeddfwriaeth arfaethedig flaenorol, yn cael eu hepgor yn y Bil sydd gerbron Tŷ'r Cyffredin a Thŷ'r Arglwyddi heddiw. Mae'r darpariaethau a oedd ar gael mewn fersiynau blaenorol wedi cael eu tynnu allan o'r Bil, ac ni allwn ni ddychmygu mai ar ddamwain y digwyddodd hynny. Fe fyddai Llywodraeth a oedd yn cymryd diogelu buddiannau gweithwyr o ddifrif wedi gadael y darpariaethau hynny yn y Bil, fel yr oedd Llywodraeth Geidwadol flaenorol yn hapus i'w wneud.

Yn ail, Llywydd, mae protocol Iwerddon-Gogledd Iwerddon yn gosod cyfres newydd o rwystrau i fasnachu nad oedd yn bresennol yn y fargen flaenorol. Mae'r dadansoddiad a gyhoeddwyd gennym ddoe, a gynhaliwyd gan Arsyllfa Polisi Masnach y DU ym Mhrifysgol Sussex, yn nodi'r gwrthdaro anochel a'r bygythiad i fusnes ym mhorthladdoedd Cymru a fydd yn codi o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth. Ac mae'n werth cofio, onid yw, fod y peryglon hyn yn rhai y bu i'r Prif Weinidog fynd yr holl ffordd i Belfast yn benodol i'w diystyru pan addawodd i'r gymuned unoliaethol yno na fyddai ef byth yn cytuno i ffin ym Môr Iwerddon. Mae'r ffin honno ym Môr Iwerddon yn effeithio'n uniongyrchol ac yn niweidiol arnom ni yma yng Nghymru ac fe ofynnir i ni gydsynio i'r effeithiau niweidiol hynny, ac mae'r Llywodraeth hon yn dweud wrth Aelodau'r Senedd hon na ddylem ni wneud hynny.

Yn drydydd, mae'r aliniad deinamig â'r rheolau a'r rheoliadau Ewropeaidd hynny sy'n angenrheidiol i osgoi rhwystrau newydd i fasnachu yn cael sylw yng nghytundeb blaenorol Mrs May, ond rhoddwyd hyn o'r neilltu bellach hefyd. Nawr, yn lle hynny, mae Canghellor y Trysorlys yn ymffrostio'n agored am wahanu oddi wrth yr Undeb Ewropeaidd fel pe bai'n erthygl ffydd. Wel, mae hon yn erthygl ffydd a fydd yn gwneud bywyd yn fwy anodd i fusnesau yng Nghymru sy'n masnachu ag Ewrop ac yn sicr dylem ni yn y Siambr hon ddeall bod economi Cymru yn fwy agored i niwed yn hyn o beth na'r DU yn gyffredinol oherwydd ein dibyniaeth ar y diwydiant gweithgynhyrchu a'r economi wledig. Siawns na ddylai cefnogwyr y ddeddfwriaeth hon ddisgrifio sut y maen nhw'n credu y bydd rhwystrau newydd i fasnachu, drwy wyro'n fwriadol oddi wrth y safonau cyffredin, yn caniatáu ar gyfer gwneud allforio i farchnadoedd mewn mannau eraill yn Ewrop yn fwy anodd i'n ffermwyr ni—i fynd yn ôl at yr hyn a gawsom ni'n gynharach y prynhawn yma.

Mae'r ddeddfwriaeth yn mynd â ni yn ein holau ac nid yn ein blaenau. Nid yw hynny'n anochel; mae o ganlyniad i ddewisiadau gwleidyddol gan Lywodraeth y DU ac mae gwell deddfwriaeth ar gael. Dyna pam rydym ni wedi gweithio mor galed, Llywydd, gyda'n cyd-Aelodau yn San Steffan dros y dyddiau diwethaf i gynnig gwelliannau a fyddai wedi unioni rhai o'r pethau y mae'r ddeddfwriaeth hon yn eu gwneud mor wael.

A gaf i, wrth imi ymdrin â'r mater hwn, roi teyrnged i'r ymdrechion aruthrol a wnaeth yr Arglwyddi o Gymru yn Nhŷ'r Arglwyddi? Arglwyddi o wahanol bleidiau ac Arglwyddi meinciau croes hefyd, lawer ohonyn nhw'n gyn-Aelodau o'r Senedd hon, ond rhai eraill hefyd. Mae'n annheg enwi unrhyw un yn arbennig, Llywydd, ond fe hoffwn grybwyll yr Arglwydd John Morris. Y tro diwethaf imi gael sgwrs gyda'r Arglwydd Morris, tua diwedd y flwyddyn y llynedd, fe ddywedodd ef y stori am sut, yn ddyn ifanc yn ei 20au, y bu iddo gael ei ddewis i godi hwyl cyn cyflwyno'r prif siaradwr, Clem Attlee, yn isetholiad Caerfyrddin ym 1957. A dyma ni, fwy na 60 mlynedd yn ddiweddarach. Ar ôl bod yn Ysgrifennydd Gwladol Cymru dan Harold Wilson a James Callaghan, ac yn Dwrnai Cyffredinol yng Nghabinet Tony Blair, roedd ef yno ddoe—fe fydd yn 90 mlwydd oed y flwyddyn nesaf—yn brwydro'n galed i ddiwygio'r Bil hwn fel y byddai'n amddiffyn buddiannau hanfodol Cymru. Os gall yr Arglwydd John Morris frwydro i amddiffyn buddiannau Cymru, yna siawns y dylem ninnau yma yn y Siambr hon allu gwneud yr un peth.

Gadewch imi hefyd am ennyd, Llywydd, rifo'r diffygion penodol yn y Bil hwn o safbwynt datganoli. Yn gyntaf oll, y cymal cwbl sarhaus sef rhif 21, lle mae Llywodraeth y DU yn defnyddio pwerau Harri'r Wythfed fel y'u gelwir, i ddiddymu neu ddiwygio unrhyw ran o unrhyw Ddeddf Seneddol, gan gynnwys Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae yna Aelodau o feinciau'r Ceidwadwyr yn y fan hon sydd, yn anrhydeddus a thros flynyddoedd lawer, wedi plismona'r ffin rhwng pwerau a roddir i Weinidogion Cymru a phwerau y dylid eu harfer yma ar lawr y Senedd. Nid wyf wedi cytuno bob amser â rhai o'u casgliadau nhw, ond rwyf bob amser wedi edmygu'r ymdrech a wnaethon nhw i gadw'r berthynas honno'n ddidwyll. Heddiw, fe fyddan nhw'n pleidleisio i gefnogi Bil lle gall Gweinidogion y DU ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru drwy ddeddfwriaeth eilaidd a heb unrhyw ganiatâd gan y Senedd hon o gwbl. Sut yn y byd y gallwn ni gydsynio i hynny?

Rydym ni'n dymuno pob llwyddiant i brotocol Gogledd Iwerddon, ond nid yw cefnogaeth i ddatganoli a heddwch yng Ngogledd Iwerddon yn gofyn am ailysgrifennu'r setliad datganoli gan Weinidogion y DU yn unochrog. Dyna oedd dadl fawr Arglwydd Thomas o Gwmgïedd, y cyn Arglwydd Brif Ustus, ar lawr Tŷ'r Arglwyddi wrth geisio perswadio Gweinidogion y Deyrnas Unedig. Ond, er pob dadl a ddefnyddiwyd ganddo ef, nid ydym wedi elwa ar hynny o gwbl.

Nid yw'r Bil cytundeb ymadael yn rhoi unrhyw sicrwydd y bydd sefydliadau datganoledig yn cael swyddogaeth ystyrlon yn y trafodaethau ar y cyd â'r bartneriaeth, y mae'n paratoi'r ffordd ar eu cyfer nhw—trafodaethau a fyddai'n cael effaith fawr ar faterion o fewn cymhwysedd datganoledig. Fe ddylem ni gael gwarant yn sgil y ddeddfwriaeth y bydd llais y Senedd hon yn cael ei glywed yn y trafodaethau hynny ond, er gwaethaf y gwelliannau a argymhellwyd gennym ni i'r Bil, fe wrthodwyd pob un o'r ymdrechion hynny. Fel y dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, nid yw hi'n iawn i'n gorfodi ni i gydymffurfio â rhwymedigaethau rhyngwladol sy'n effeithio ar gymhwysedd datganoledig os nad ydym ni wedi bod yn rhan o gytuno arnynt.

Yn olaf, a does dim esgus dros hynny, Llywydd, mae Gweinidogion y Llywodraeth hyd yma wedi gwrthod ymgais i ychwanegu unrhyw gydnabyddiaeth o gonfensiwn Sewel at gymal sy'n haeru sofraniaeth ddiwrthdro'r Senedd—cymal a ddisgrifiwyd yn gofiadwy gan fy rhagflaenydd fel naill ai darn o graffiti cyfansoddiadol, oherwydd nid yw'n golygu dim, neu gymal sydd ag ymgais wirioneddol i dresmasu yn y setliad datganoli mewn ffordd ddifrifol iawn.

Llywydd, nid wyf yn fy nhwyllo fy hun y bydd gwrthod cydsyniad deddfwriaethol gan y Senedd hon yn atal y Bil rhag cael ei ddeddfu, ond rwy'n gobeithio, hyd yn oed nawr, y bydd Llywodraeth y DU yn aros i fyfyrio ynghylch eu hagwedd nhw at ddatganoli ac yn ystyried y difrod y maen nhw'n ei achosi i wead y Deyrnas Unedig. Rwy'n nodi'r awgrym yn y llythyr gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd fod yr amgylchiadau sy'n ymwneud â'r Bil hwn yn neilltuol, yn benodol ac yn eithriadol. Dylent ddangos eu bod nhw'n credu mewn gwirionedd yn yr hyn y maen nhw'n ei ddweud drwy ddilyn ein cyngor ni ar sut y gellid codio Sewel i wneud yn siŵr bod y penderfyniad hwn yn cael ei gadarnhau mewn gwirionedd yn y dyfodol.

Mae'r Bil yn rhoi'r Deyrnas Unedig ar drywydd newydd, un sy'n llawn peryglon, gan gynnwys peryglon diangen y gellid bod wedi eu hosgoi. Ni chawsant eu hosgoi yn y ffordd y mae'r Bil wedi mynd trwy ddau Dŷ Seneddol; yn hytrach, yn y Bil hwn, maen nhw wedi cynyddu eto fyth ar draul datganoli ac ar draul Gymru. Ein gwaith ni yw amddiffyn ein buddiannau ni, gan y bydd Senedd yr Alban yn amddiffyn buddiannau'r Alban, ac fel y credaf y bydd Cynulliad Gogledd Iwerddon yn ei wneud ar ran eu poblogaeth nhw hefyd. Mae cyfle inni wneud hyn y prynhawn yma, a dyna pam yr wyf i'n gofyn i'r Senedd hon bleidleisio yn erbyn y cynnig a gwrthod ein cydsyniad ni i'r Bil niweidiol hwn.  

15:20

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, David Rees. 

Diolch, Llywydd. Mae'r cyhoeddiad o adroddiad y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ar Fil cytundeb ymadael yr UE yn canolbwyntio ar ddadansoddiad o'r cymalau yn y Bil yr ydym ni'n ystyried bod angen cael cydsyniad y Cynulliad ar eu cyfer nhw. Yn yr amser byr sydd ar gael, nid ydym wedi gallu ystyried rhai o'r pryderon ehangach y mae Llywodraeth Cymru wedi eu rhoi yn ei memorandwm, yn enwedig gan fod rhai o'r pryderon hyn yn ymwneud â materion nad ydyn nhw wedi eu cynnwys yn y Bil wrth ei gyflwyno.

Yn fras, mae llawer o'r pryderon a godwyd gennym ni o ran dirprwyo pwerau i Weinidogion y DU a Llywodraeth Cymru yn Neddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 yn parhau o ran y Bil penodol hwn. Er hynny, oherwydd rhesymau ymarferol a gwleidyddol, rydym wedi penderfynu peidio â'u hailddatgan nhw yn ein hadroddiad ni. Yn hytrach, rydym wedi canolbwyntio ar y darpariaethau y mae angen cydsyniad deddfwriaethol ar eu cyfer, gyda golwg ar sicrhau na fydd lleihad yn swyddogaeth y Cynulliad wrth graffu ar gyfraith yr UE yn ystod y cyfnod gweithredu, ac mae hynny wedi tynnu sylw at y pwynt hwn: sicrhau swyddogaeth y Cynulliad yn y craffu ar gyfraith yr UE. Felly, rydym wedi canolbwyntio ein hadroddiad ni ar y sefydliad hwn, i sicrhau na chaiff effaith andwyol.

Rydym ni'n cytuno ag asesiad Llywodraeth Cymru o'r darpariaethau yn y Bil y mae angen cydsyniad deddfwriaethol arnyn nhw, gydag un ychwanegiad—cymal 42—ac rydym ni'n gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn helpu i lywio dadl y Cynulliad ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol y prynhawn yma.

Fel pwyllgor, rydym wedi bod yn ystyried mater swyddogaeth y Cynulliad wrth ystyried deddfwriaeth yr UE yn ystod y cyfnod pontio neu weithredu, ac rydym wedi bod yn gwneud hynny ers 2018. Rydym wedi ysgrifennu at Lywodraeth y DU a chyd-Aelodau Seneddol y DU sawl gwaith ers hynny. Rydym o'r farn na ddylai swyddogaeth y Cynulliad leihau wrth graffu ar ddeddfwriaeth yr UE yn ystod y cyfnod gweithredu, er ein bod ni'n cydnabod y gallai fod angen i'r swyddogaeth addasu yn ôl telerau'r cytundeb ymadael.

Er ein bod ni'n croesawu'r swyddogaeth a ddarperir i bwyllgorau San Steffan o dan gymal 29, credwn fod angen ei chryfhau drwy gynnwys swyddogaeth i bwyllgorau perthnasol y deddfwrfeydd datganoledig pan fydd deddfwriaeth yr UE yn cael ei hadolygu, yn enwedig pan fydd yn ymwneud â meysydd o gymhwysedd datganoledig. Ar 8 Ionawr 2020, ysgrifennwyd at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd i gyflwyno'r achos o blaid dau welliant i gymal 29 yn y Bil i gynnwys swyddogaeth i'r deddfwrfeydd datganoledig hynny. Rydym wedi cyhoeddi'r llythyr hwn mewn atodiad i'n hadroddiad ni ar y cydsyniad deddfwriaethol.

Llywydd, rwy'n siŵr y bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod Joan McAlpine ASA, sy'n Gynullydd Pwyllgor Diwylliant, Twristiaeth, Ewrop a Materion Allanol yn Senedd yr Alban, wedi ysgrifennu hefyd at yr Ysgrifennydd Gwladol i gefnogi ein gwelliannau arfaethedig ni. Mae ein hachos ni dros y gwelliannau hyn yn syml. Ar hyn o bryd, mae gan y Cynulliad swyddogaeth o ran ystyried cydymffurfiaeth â chyfraith ddrafft yr UE gyda'r egwyddor o sybsidiaredd. Mae hyn yn deillio o erthygl 6 o brotocol 2 i'r cytuniad ar weithrediad yr Undeb Ewropeaidd. Ni fydd y ddarpariaeth hon yn gymwys mwyach pan fydd y DU yn ymadael â'r UE yr wythnos nesaf.

Mae cymal 29 y Bil yn darparu ar gyfer mecanwaith Seneddol i adolygu deddfwriaeth yr UE yn ystod y cyfnod gweithredu. Yn ein hadroddiad ni, rydym yn nodi nad yw hyn yn weithredol ynglŷn â mater cydymffurfio ag egwyddor sybsidiaredd. Yn hytrach, caiff ei seilio ar gwestiwn ynghylch a yw darn o ddeddfwriaeth yr UE yn codi mater o ddiddordeb cenedlaethol hanfodol i'r Deyrnas Unedig. Mae profiad y Cynulliad o adolygu cyfraith ddrafft yr UE yn y gorffennol wedi dangos, ar adegau, fod materion penodol wedi codi sydd o ddiddordeb i Gymru a heb eu nodi ar lefel y Deyrnas Unedig. Er enghraifft, yr effaith bosibl ar bysgodfeydd Cymru neu waharddiad ar bysgota rhwydi drifft a newidiadau i reoliadau organig i amaethyddiaeth yng Nghymru.

Fe ellir ystyried y materion hyn, drwy estyniad, yn faterion o ddiddordeb cenedlaethol y DU. Roeddem ni'n dadlau y byddai'r Cynulliad, wrth gynnal adolygiad o ddeddfwriaeth yr UE sy'n canolbwyntio ar y meysydd polisi a ddatganolwyd iddo, yn ychwanegu gwerth at y broses graffu gyffredinol ar gyfer y DU gyfan. Felly, i sicrhau nad yw swyddogaeth y Cynulliad yn lleihau wrth adolygu cyfraith yr UE yn ystod y cyfnod pontio, fe hoffem ni weld swyddogaeth gyfatebol i'r Cynulliad yn cael ei chydnabod yng nghyfraith y DU, yn union fel y cydnabyddir hynny ar hyn o bryd yn nhestun cyfreithiol y cytuniadau. Felly, rydym ni'n gweld lleihad yn ein swyddogaeth ni yma mewn gwirionedd.

Er i'r achos hwn gael ei gyflwyno i'r Ysgrifennydd Gwladol, mae'n ymddangos yn annhebygol y bydd unrhyw ddiwygiad yn cael ei wneud i gymal 29. Os bydd cymal 29 yn parhau i fod heb ei ddiwygio, fe fyddwn ni'n ceisio gweithio gyda phwyllgorau yn y ddau Dŷ Seneddol i sicrhau y gallwn chwarae rhan wrth ystyried deddfwriaeth yr UE yn ystod y cyfnod pontio, er gwaethaf y diffyg cydnabyddiaeth i'r swyddogaeth honno yn y Bil.

Llywydd, rhoddodd y pwyllgor yr adroddiad hwn ynghyd gyda barn ar rai o'r materion, ac ni wnaethpwyd unrhyw argymhellion, oherwydd roeddem ni'n teimlo ei bod hi'n bwysig inni roi gwybod i'r Aelodau am y pwyntiau yr oedd angen eu hystyried yn y ddadl hon. Fel y cyfryw, fe hoffwn i efallai gynnwys barn bersonol yn hytrach na barn y pwyllgor ar rai o'r pwyntiau hyn.

Llywydd, rwyf i'n cytuno â'r Prif Weinidog, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig tynnu sylw at hyn, mae'n rhaid i'r ddadl hon beidio â bod—peidio â bod—yn ddadl ynglŷn ag a yw Brexit am ddigwydd ai peidio. Mae hynny'n amherthnasol. Mae'n ymwneud â Bil sy'n pennu cyfraith sy'n nodi sut y gallwn ni gyflawni ein dyletswyddau yn y Siambr hon ac a yw'r gyfraith honno'n ddigon da.

Mae Llywodraeth Cymru wedi tynnu sylw at y gwendidau yn y Bil hwn a'r ffordd y mae wedi newid cryn dipyn ers yr etholiad cyffredinol. Ein gwaith ni yw edrych ar fuddiannau'r bobl sy'n ein hethol ni a cheisio gwneud penderfyniadau a chymryd camau sy'n gwella ansawdd eu bywydau nhw. Mewn gwirionedd, mae'r diffygion yn y Mesur hwn—y gellid bod wedi eu cynnwys nhw, ond oherwydd dewis Llywodraeth y DU i beidio eu cynnwys—wedi arwain at leihad yn y craffu ar gamau gweithredu'r Llywodraeth. Mae'n bwysig, felly, ein bod ni'n sicrhau bod y newidiadau hynny'n cael eu cyflawni. Os na chân nhw eu cyflawni, yna ni ddylem gefnogi Bil nad yw'n ein helpu ni i gyflawni ein swyddogaeth. Ni ddylid ystyried awydd i sicrhau bod Brexit yn cael ei gyflawni ar frys yn rheswm dros ymwrthod â'n cyfrifoldebau ni a'n dyletswyddau ni yma yn y Senedd.

Fe fyddaf i'n pleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw gan nad wyf i'n credu bod y Bil hwn yn rhoi digon o allu inni wneud ein gwaith: sef sicrhau bod buddiannau pobl Cymru yn cael eu digoni. Pe bai Llywodraeth y DU wedi gwneud rhywbeth gwirioneddol ac wedi derbyn rhai o'r gwelliannau—. Rydym wedi gweld gwelliannau yn cael eu cyflwyno i Lywodraeth y DU. Rydym ni wedi cyflwyno rhai i Lywodraeth y DU. Maen nhw'n anwybyddu popeth. Nid ydyn nhw'n dymuno hynny. Maen nhw wedi cael gwared ar lawer iawn o faterion a oedd ganddyn nhw ar waith. Nid yw hwn yn Fil sy'n cyflawni. Felly, fe fyddaf i'n gwrthwynebu hwn ar gyfer sicrhau ein bod ni'n cael ein gweld yn cefnogi'r bobl sy'n ein hethol ni.  

15:25

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw. 

Diolch, Llywydd. Fe gawsom ni dystiolaeth gan y Prif Weinidog ynglŷn â memorandwm cydsyniad deddfwriaethol Llywodraeth Cymru ar Fil ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn ein cyfarfod ni ar 13 Ionawr 2020 ac adroddwyd ar hyn ddydd Gwener diwethaf, 17 Ionawr. Daeth ein hadroddiad ni, gyda chytundeb unfrydol aelodau'r pwyllgor, i bump o gasgliadau. Roedd y cyntaf o'r rhain yn adlewyrchu'r sylwadau a wnaed gennym ni ar sawl achlysur ynglŷn â swyddogaeth sylfaenol confensiwn Sewel wrth weithredu cyfansoddiad y DU. Fe ddaethom ni i'r casgliad, pe byddai'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu peidio â chydsynio i'r Bil ar y materion y mae angen cydsyniad arnynt a bod Senedd y DU, er hynny, yn penderfynu bwrw ymlaen heb gydsyniad, y byddai hynny'n golygu canlyniadau cyfansoddiadol andwyol sylweddol i ddyfodol confensiwn Sewel a datganoli.

Ers hynny, rydym wedi gweld y llythyr gan Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU dros ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, Stephen Barclay, yn nodi y bydd Llywodraeth y DU, yn absenoldeb caniatâd gan y Senedd hon, yn bwrw ymlaen er gwaethaf hynny. Hwn fydd y tro cyntaf i hyn ddigwydd, ac fel y nododd y Goruchaf Lys yn erthygl 50 o ddyfarniad Miller, confensiwn gwleidyddol yw Sewel ac fe geir canlyniadau gwleidyddol pan gaiff confensiynau eu torri. Yn amlwg, fe fydd yna ganlyniadau difrifol ac andwyol i strwythur cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig, sydd yn fregus eisoes.

Nodwyd bod y Prif Weinidog wedi ceisio gwelliannau i'r Bil yn Nhŷ'r Arglwyddi, gyda'r bwriad o ddiogelu buddiannau Cymru. Fe ddaethom ni i'r casgliad nad oedd y gwelliannau hyn yn tanseilio prif amcan y Bil, sef ymadael â'r Undeb Ewropeaidd ar 31 Ionawr 2020, ond yn hytrach, roedd yn ceisio gwella rhannau o'r Bil mewn meysydd pwysig. Nawr, fel y dywedodd y Prif Weinidog, fe fyddai cymal 21 y Bil yn caniatáu addasu Deddf Llywodraeth Cymru 2006 gan reoliadau Llywodraeth y DU i'r graddau yr oedd Llywodraeth y DU yn ystyried bod addasiad o'r fath yn briodol i weithredu'r protocol ar gyfer Iwerddon/Gogledd Iwerddon. Er y byddai angen cymeradwyaeth y ddau Dŷ Seneddol ar gyfer rheoliadau o'r fath, nid oes swyddogaeth ffurfiol i'r Cynulliad Cenedlaethol wedi ei nodi yn y Bil, ac mae hyn yn peri pryder gan nad ydym yn gwybod i ba raddau y gellid addasu Deddf 2006.

Nodwyd bod un o welliannau Llywodraeth Cymru yn ceisio mynd i'r afael â'i phryder ynghylch maint y pŵer a geir yng nghymal 21. Tynnwyd sylw hefyd at bryderon y pwyllgor ar bwerau dirprwyedig a diwygio rheoleiddio a chyfansoddiad Tŷ'r Arglwyddi ynghylch maint y pwerau yng nghymal 21.

Ein trydydd casgliad ni, a gytunwyd gyda'r ddau bwyllgor o Dŷ'r Arglwyddi, sef pe gellid cyfiawnhau cymal 21 a'i fformat presennol, y dylid cyfyngu ar y pwerau sydd ynddo. Roedd ein pedwerydd casgliad yn ailadrodd ein barn hirsefydlog y dylai unrhyw addasiad o Atodlen 7A neu 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru, o ran cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol, gael ei gyflawni drwy'r broses a nodir yn adran 109 o'r Ddeddf.

Mynegodd ein casgliad terfynol ni bryder ynghylch cynnwys cymal 38 yn y Bil—y cymal sofraniaeth seneddol. Rydym ni o'r farn mai darpariaeth ddiangen yw hon mewn Bil sy'n ymwneud yn bennaf ag ymadael â'r UE, yn hytrach na fframwaith cyfansoddiadol ehangach y Deyrnas Unedig. Mae dadleuon pwysig i'w cael ynglŷn â natur sofraniaeth yn y DU, ond mae sefydlu'r ddarpariaeth hon mewn statud, ac, yn benodol, mewn Bil nad yw'n ymwneud â'r cyfansoddiad yn y DU, neu'r setliadau datganoli, yn gallu arwain at ganlyniadau cyfansoddiadol anfwriadol.

Llywydd, yng ngoleuni'r datblygiadau diweddar yn y llythyr oddi wrth Lywodraeth y DU, yn rhinwedd fy swydd i fel Cadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, fe fyddaf i'n gwneud y sylwadau ychwanegol hyn. Nid yw proses seneddol y Bil hwn wedi dod i ben eto. Mae'n iawn fod pryderon y Senedd hon yn cael eu hadlewyrchu yn y broses hon, ac, wrth gwrs, mae'r Bil wedi cael ei ddiwygio erbyn hyn gan Dŷ'r Arglwyddi, ac ni phenderfynwyd ar ei fformat terfynol eto. Mae rhwymedigaeth ar Lywodraeth y DU i geisio a sefydlu consensws. Fe fyddai bwrw ymlaen heb ganiatâd yn golygu diwedd ar Sewel yn fy marn i. Nid yw canlyniadau cyfansoddiadol tymor hwy yn sicr eto ynglŷn â hyn. Rwyf hefyd am wneud pwynt personol, sef: mae methu â dod i gonsensws a diystyru Sewel, yn absenoldeb unrhyw ddiwygiad cyfansoddiadol arall, yn golygu bod y broses o ddatgymalu a thorri'r DU wedi dod un cam yn nes.  

15:30

Wrth gwrs, mae egwyddor Sewel yn seiliedig ar y ffaith nad yw cydsyniad yn cael ei ddal yn ôl yn afresymol, ac mae hynny'n gryn dipyn o brawf hefyd.

Ydy, ond y broblem yn yr achos hwn yw nad yw prif amcan y Bil yn rhywbeth sy'n cael ei wrthwynebu; ansawdd a statws a chyfansoddiad y Bil hwnnw yw'r mater sy'n peri pryder i ni. A dyna pam mae Sewel mor bwysig, oherwydd, drwy beidio â cheisio cael consensws, drwy beidio â gweithredu i gael hynny, a diystyru Sewel er hynny, mae hynny, mewn gwirionedd, yn torri egwyddorion sylfaenol y confensiwn.

Ac felly, yn fy marn i, mae Llywodraeth y DU yn hapchwarae â chyfanrwydd y DU i'r dyfodol. Mae'r achos dros gonfensiwn cyfansoddiadol yn cynyddu o ddydd i ddydd gyda phob un o weithrediadau'r Llywodraeth hon. Diolch, Llywydd.

Diolch, Llywydd.

Rwy'n falch o gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon ac egluro safbwynt y Ceidwadwyr Cymreig. Mae'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol heddiw yn gyfle clir i'r Senedd hon gyflawni'r canlyniad y pleidleisiodd pobl Cymru o'i blaid yn refferendwm yr UE yn 2016. Bron i bedair blynedd ar ôl y refferendwm hwnnw, rydym ni, ar yr ochr hon i'r Siambr, yn credu ei bod hi'n bryd i ni fwrw ymlaen â'r gwaith o ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Mae'n bryd inni gyflawni ewyllys glir pobl Cymru a'r DU, ac mae'n bryd inni ddwyn ein gwlad ni ymlaen ac archwilio ffyrdd o sicrhau llwyddiant Cymru ar y llwyfan rhyngwladol, ar ôl Brexit.

Nawr, nid yw'r ansicrwydd parhaus sydd wedi cael ei achosi gan rai gwleidyddion wedi gwneud dim i ennyn hyder yn ein gwlad. Ac felly, yn dilyn y mandad clir a roddwyd i Lywodraeth y DU yn yr etholiad cyffredinol diweddar, mae'n amser bwrw ymlaen â'r gwaith erbyn hyn. O'r diwedd, fe fydd bwrw ymlaen â'r gwaith yn dod â'r ansicrwydd i ben, ac yn helpu i adfer hyder yn economi'r DU.

Bydd yr Aelodau yn ymwybodol o sylwadau Airbus yn ddiweddar, sy'n adlewyrchu hyder newydd. Dyma a ddywedodd y prif weithredwr yn ddiweddar, ac rwy'n dyfynnu,

Rydym ni'n gweld potensial mawr i wella ac ehangu ein gweithrediadau ni yn y DU eleni.

Ac mae Airbus yn gwbl gywir i ddweud bod cytundeb Brexit y Prif Weinidog wedi gwneud pethau'n fwy sicr. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn rhoi ystyriaeth i'r sylwadau hynny, yn ogystal â barn y bobl a'r cymunedau y maen nhw'n eu cynrychioli, pan fyddan nhw'n pleidleisio yn ddiweddarach heddiw.

Nawr, fe wn i fod y Prif Weinidog Cymru wedi honni y bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn peri i ddatganoli ledled y DU fod yn agored i niwed, ac eto, mae Llywodraeth y DU wedi datgan yn gwbl glir y bydd unrhyw benderfyniad a wneir ar hyn o bryd gan y gweinyddiaethau datganoledig yn aros yn gyfrifoldeb iddyn nhw ar ôl i'r DU ymadael â'r UE. Yn wir, mae Llywodraeth y DU wedi cynnig hefyd y dylai mwyafrif helaeth y pwerau sy'n cael eu dychwelyd o Frwsel egino yng Nghaeredin, Caerdydd a Belfast. Ac rwy'n falch o weld Llywodraeth y DU yn gweithredu o'r safbwynt hwnnw, ac yn parchu'r setliad datganoli.

Yn wir, rwyf i o'r farn y byddem ni i gyd yn ddiofal pe byddem ni'n methu â gweld bod y cytundeb hwn yn cynnig rhai cyfleoedd cyfansoddiadol hefyd ar gyfer y DU gyfan. Er enghraifft, mae'r Bil yn adfer sofraniaeth y DU drwy wneud llysoedd Prydain, yn hytrach na Llys Cyfiawnder Ewrop, yn llysoedd uchaf y wlad, gan ddod â dyfarniadau barnwrol hanfodol bwysig yn nes at ein pobl ni. Er hynny, rwy'n derbyn y bydd tynnu allan o'r UE yn newid y berthynas rhwng rhannau cyfansoddol y Deyrnas Unedig. Wrth i Brydain fynd ymhellach ar hyd y broses hon, fe fydd y cysylltiadau rhynglywodraethol rhwng pob rhan o'r DU yn hollbwysig ar gyfer diogelu sefydlogrwydd y cyfansoddiad i'r undeb. Ac mae'n bwysig bod Cymru â rhan lawn yn hynny.

Nawr, rwy'n digwydd credu hefyd, ar ôl Brexit, y bydd gan Lywodraeth Cymru gyfle i osod agenda uchelgeisiol ar gyfer Cymru drwy alw am ddatganoli adnoddau naturiol Cymru ei hun ymhellach, er enghraifft, fel y gallwn ni harneisio ei phŵer a'i farchnata'n fyd-eang. Fel y mae fy nghydweithwyr a minnau'n ei gweld hi, yn wahanol iawn i dorri ymrwymiadau amgylcheddol, fe allai ymadael â'r Undeb Ewropeaidd ein galluogi ni i weddnewid ein dulliau o ddiogelu'r amgylchedd, gan gyflwyno Bil newydd i osod nodau cyfreithiol sy'n rhwymo. Mae yna gyfleoedd inni.

Nawr, os yw pobl yn hoffi hynny neu beidio, fe fydd ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn rhyddhau cyfreithiau'r UE i Gymru, gan gynnwys ymadael â'r polisi amaethyddol cyffredin a'r polisi pysgodfeydd cyffredin, lle mae'r rheolau hynny o'r UE wedi ein rhwymo ni hyd yn hyn. Fe fydd Llywodraeth Cymru yn rhydd i ddatblygu polisïau cynaliadwy i ddiogelu bywoliaeth ffermwyr Cymru, ac, yn wir, bysgotwyr Cymru. Rwy'n credu mai dyma'r amser i feddwl am syniadau arloesol i drawsnewid y diwydiannau hynny yma yng Nghymru. Fe ddylem ni fod yn llawer mwy optimistaidd, ac nid mabwysiadu dull Llywodraeth Cymru weithiau o alaru ac anobeithio.

Llywydd, fe bleidleisiodd pobl Cymru o blaid ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn 2016, ac, yn yr etholiad cyffredinol fis diwethaf, fe wnaethon nhw godi eu llais yn uchel ac yn hyglyw unwaith eto. Fe bleidleisiodd pobl Cymru i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, ac maen nhw'n awyddus i ddatgloi'r cyfleoedd sydd ar gael inni y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd. Mae gennym ni gyfarwyddiadau eglur gan y bobl a'r cymunedau yr ydym ni'n eu cynrychioli, a'r neges bennaf o'n gwlad ni yw ei bod yn dymuno ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Heddiw, Llywydd, mae'n ddyletswydd arnom i gyflawni hynny, ac rwy'n annog yr Aelodau i gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, a dechrau gweithio gyda'n gilydd i wneud Cymru yn genedl fyd-eang sy'n wirioneddol gystadleuol.

15:35

Ambell waith mewn gwleidyddiaeth, mae'n fanteisiol inni edrych i'r pellteroedd i weld sut yr ydym ni wedi cyrraedd y fan lle'r ydym ni. Hwn fydd fy nghyfraniad olaf i yn y Siambr hon fel llefarydd fy mhlaid ar Brexit, gan fy mod i'n ymgymryd â swydd newydd sy'n cyd-fynd yn addas iawn â'n hamseriad ni o ran ymadael â'r UE. Anrhydedd rhyfedd fu hwn—yn heriol ac yn peri rhwystredigaeth ar yr un pryd—siarad ynglŷn â'r mater hwn dros fy mhlaid yn ystod fy mlwyddyn gyntaf yn wleidydd etholedig. Dyma'r gwaith a etifeddais i gan Steffan Lewis, a wnaeth waith mor arwyddocaol, ynghyd â Llywodraeth Cymru, wrth gynhyrchu 'Diogelu Dyfodol Cymru'. Roedd y ddogfen honno'n nodi map eglur ar gyfer ymadael â'r UE a fyddai'n osgoi codi rhwystrau diangen. Ac fe hoffwn i dalu teyrnged i Steffan unwaith eto am ei holl ymdrechion ef yn hyn o beth. Bydd hanes yn edrych yn garedig ar ei ymgais egwyddorol ef i geisio cael cytundeb ar gyfaddawd a oedd yn adlewyrchu canlyniad agos y refferendwm. Ond nid oedd gan San Steffan ddiddordeb mewn cyfaddawdu. Yn wir, roedd hwn yn un o blith llawer o gyfleoedd a gollwyd gan Lywodraethau olynol yn San Steffan i gyflawni Brexit mewn ffordd a oedd yn gweithio—yr holl gyfleoedd a aeth i'r gwellt.

Gan fod San Steffan wedi gwrthod cyfaddawdu, fe ddaeth Plaid Cymru i'r casgliad nad oedd gennym ddewis ond ceisio perswadio Llywodraeth y DU i ennill mandad ar gyfer eu cynlluniau penodol nhw, sef ail refferendwm. Fe wnaethom ni weithio gyda phleidiau eraill i hybu hynny, ond fe danseiliwyd cynlluniau doeth gan ryfyg Llafur a'r Democratiaid Rhyddfrydol yn San Steffan, a'u hargyhoeddodd nhw eu hunain mai'r ffordd i goncro Boris Johnson oedd rhoi iddo'r hyn yn union yr oedd yn ei ddymuno—etholiad cyffredinol; etholiad yr oedden nhw'n credu y gallen nhw ei hennill pan oedd yr holl dystiolaeth yn awgrymu nad oedd Corbyn, Swinson na'r amgylchiadau yn rhoi unrhyw obaith iddyn nhw. Wel, rydym yn y fan lle'r ydym ni. Fe'u profwyd yn anghywir. Llwyddodd Boris Johnson i ennill y mwyafrif yr oedd yn ei ddymuno ac mae hi'n anorfod erbyn hyn y byddwn ni'n ymadael â'r UE ymhen 10 diwrnod, a bydd Brexit caled Torïaidd yn cael ei gyflawni. Felly, ein gwaith ni nawr yw craffu ar y cynlluniau ac amddiffyn buddiannau'r bobl yr ydym ni'n eu cynrychioli.

Mae yna bump o brif resymau pam mae Plaid Cymru wedi dod i'r casgliad nad oes gennym unrhyw ddewis ond pleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol heddiw: (1) mae'r Bil yn caniatáu i Lywodraeth y DU ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru heb gydsyniad y Senedd hon—mae hynny'n annerbyniol; (2) nid yw'n rhoi unrhyw swyddogaeth i'r Senedd wrth graffu ar fesurau fel masnach a fydd yn cael effaith enfawr ar fywoliaeth pobl Cymru; (3) mae'r diffyg asesiadau o effaith economaidd yn gadael sectorau a phorthladdoedd allweddol yng Nghymru yn y tywyllwch ac yn agored i niwed; (4) mae'r Bil yn dwyn hawliau oddi wrth ffoaduriaid, gweithwyr a dinasyddion yr UE ac, o bosibl, hawliau myfyrwyr Cymru i astudio dramor; (5) mae diystyru estyniad i'r cyfnod pontio yn anghyfrifol ac yn gwneud cytundeb esgyrn noeth neu 'heb gytundeb' yn ganlyniad mwyaf tebygol.

Llywydd, mae Plaid Cymru yn derbyn bod Brexit yn digwydd ac fe fyddwn ni'n gwneud popeth o fewn ein gallu i geisio cael y cytundeb gorau posibl i Gymru. Nid yw'r ddadl hon yn ymwneud ag a fydd Brexit yn digwydd—fe fydd—ond yn hytrach, mae'n ymwneud â sut wlad fyddwn ni yn y blynyddoedd sydd i ddod, oherwydd mae hon yn diriogaeth hollol newydd. Ni chafwyd enghraifft erioed o'r blaen o genedl-wladwriaeth yn ceisio cytundebau masnach lle mae hi'n bwriadu codi rhwystrau a pheidio â'u tynnu nhw i lawr. Mae'n fyd ar ei ben i lawr.

Pan oedd yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol ychydig wythnosau yn ôl, fe ddyfynnodd y Prif Weinidog sylwebydd a oedd wedi dweud bod blwch Pandora yn cael ei agor gan Brexit. Llywydd, mae blwch Pandora fel arfer yn ffordd o fynegi anhrefn mawr; y rhybudd fod yna angenfilod ar ymyl y map neu, fel y cyfaddefodd David Cameron, roedd refferendwm 2016 yn debygol o ryddhau cythreuliaid, nad oeddem ni'n gwybod dim amdanyn nhw.

Ond, fe fyddai hefyd yn dda inni gofio, ar ôl i bopeth ddod allan o flwch Pandora, roedd un peth ar ôl ynddo—sef gobaith. Fe all gobaith fod ar sawl ffurf. Fe allai fod yn obaith am gytundebau masnach; yn obaith am ddiogelwch; yn obaith am Fil cytundeb ymadael gwell sy'n ystyried barn y Senedd hon mewn gwirionedd; yn obaith am flynyddoedd i ddod sydd ar sawl ffurf eto. I'r rhai ohonom ni sydd ar y meinciau hyn, mae'r gobaith hwnnw yn y pen draw yn ein hannog ni i geisio cael Cymru sy'n bwriadu gweithio'n rhyngwladol, sy'n edrych tuag allan, sef cenedl annibynnol falch ar lwyfan y byd. Felly, gadewch inni ganolbwyntio nid yn unig ar yr hyn a allai fod wedi digwydd; gadewch inni ganolbwyntio ar yr hyn sydd eto i ddod ac wrth wraidd yr holl bethau hyn, y symbyliad pwysicaf un—gobaith.  

15:40

Rwy'n diolch i'r Prif Weinidog am ei gynnig i roi cydsyniad i Fil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael), fel y dylem ni ei wneud, yn dilyn penderfyniad pobl Cymru mewn refferendwm. Mae'n rhyfeddol bod y Prif Weinidog yn pleidleisio yn erbyn ei gynnig ef ei hun, i bob pwrpas yn cadw at wrthwynebiad Llywodraeth Cymru i Brexit. Fe ddylai'r ddadl honno fod wedi dod i ben; fe ddylai fod wedi dod i ben ar 24 Mehefin 2016. Dywedodd rhagflaenydd y Prif Weinidog wrthym ni bryd hynny fod y ddadl honno drosodd; eich bod chi am barchu'r refferendwm; bod Brexit am ddigwydd a mater o 'sut' fyddai hynny'n digwydd oedd hi, ac nid 'pe' byddai hynny'n digwydd. Felly, pan ddywedwch yr un peth heddiw ag y gwnaethoch chi bryd hynny, pam y dylem ni eich credu chi? Nid oes gwahaniaeth sawl gwaith y mae pobl Cymru yn dweud wrthych eu bod nhw'n dymuno cael Brexit, nid ydych chi'n clywed hynny: 'Rydym ni'n gwybod yn well. Fe wnaethoch chi gamgymeriad, ac felly rydym ni wedi gwneud ichi bleidleisio tair gwaith, ond rydym eisiau pleidleisio yn erbyn hyn heddiw eto.'

Rydych chi'n dweud bod y Bil hwn, bod Brexit, sut rydym ni am ymadael, heb gael digon o graffu arno. Y methiant i fynd drwy'r Senedd, y cyfle i gael craffu priodol. Beth ar y ddaear ydych chi'n credu sydd wedi bod yn digwydd dros y tair blynedd a hanner diwethaf?

Ar ôl y refferendwm, fe wnaethoch chi ddewis gwneud eich gwely gyda Phlaid Cymru i ddatblygu dogfen, 'Diogelu Dyfodol Cymru', sef Brexit mewn enw yn unig i bob pwrpas. Ac eto, pan wnaeth Theresa May gynnig Brexit fel hyn ichi ar gyfer y rhai oedd yn dymuno aros, gydag undeb tollau, gydag aliniad deinamig, fe wnaethoch chi bleidleisio yn ei erbyn. Dro ar ôl tro, fe wnaethoch chi gydweithio â Phlaid Cymru, ac mewn amgylchiadau eraill gyda'r SNP, i geisio rhwystro Brexit rhag digwydd. Fe bleidleisiodd yr Alban i adael, mae'r SNP yn dymuno torri'r Deyrnas Unedig, fel y mae Plaid Cymru. Fe ddylech chi, y Blaid Lafur, y Llywodraeth Lafur yng Nghymru, barchu'r bobl yr ydych chi'n honni eich bod yn eu cynrychioli, sef pobl Cymru a bleidleisiodd i ymadael mewn refferendwm ac sy'n dymuno aros yn y Deyrnas Unedig.

Felly, Prif Weinidog, roeddwn i'n diolch i chi ac i Lafur ac i Lywodraeth Cymru yr wythnos diwethaf am yr hyn yr oeddech chi wedi ei wneud, yn anfwriadol, i sicrhau bod Brexit yn digwydd. Ac eto i gyd, yr wythnos hon rydych chi'n gwrthod cydnabod bod canlyniadau i'r siawns yr ydych chi wedi ei gymryd. Yn gyntaf, fe wnaethoch chi benderfynu gwrthod bargen Theresa May, er ei bod fwy neu lai'r hyn a oedd gennych chi yn 'Diogelu Dyfodol Cymru', ac er i'r Cwnsler Cyffredinol ddweud ei fod ef yn ddigon hapus gyda'r cytundeb ymadael, ac y byddai'n hoffi, efallai, gweld rhai newidiadau i'r datganiad gwleidyddol nad yw'n rhwymol. Felly, ar ôl gwneud hynny, rydych nawr yn cwyno nad yw rhai darnau o'r cytundeb ymadael, yr oedd May yn mynd i'w cael, yno mwyach. Wel, wrth gwrs, nad ydynt. Fe wnaethoch chi gymryd eich siawns. Cafodd Theresa May ei disodli yn yr etholiad Ewropeaidd. Fe geisiodd hi wneud hynny. Nid hi yw'r Prif Weinidog erbyn hyn oherwydd hynny. [Torri ar draws.] Fe fyddwn i'n falch o dderbyn eich ymyriad chi.

15:45

Felly, pam ydych chi'n dweud—? Diolch ichi am dderbyn yr ymyriad. Pan ddywedwch chi nad yw'r eitemau hynny o ran amddiffyn cyflogaeth yn bodoli erbyn hyn, 'wrth gwrs nad ydynt', pam ydych chi'n dweud, 'wrth gwrs nad ydynt'? Pam y dylid eu tynnu nhw allan? Beth sy'n cyfiawnhau eu tynnu nhw allan pan oedden nhw'n gwbl dderbyniol o'r blaen? Nid gêm o bocer mo hon; gêm o ddeddfwriaeth dda ydyw. Felly, pam ydych chi'n dweud ei bod yn briodol hepgor amddiffyn hawliau cyflogaeth?

Wel, oherwydd bod y cyfreithiau hyn gennym cyn inni ymuno â'r Undeb Ewropeaidd a bod yr Undeb Ewropeaidd yno. Roedd gennym lawer mwy o amddiffyniadau i hawliau gweithwyr yn y wlad hon nag a oedd gan y rhan fwyaf o'r gwledydd Ewropeaidd hynny, a gafodd eu hennill, i raddau helaeth, gan yr undebau llafur. Eto i gyd, rydych chi'n anwybyddu hynny nawr ac yn datgan mai rhodd gan yr Undeb Ewropeaidd oedd hon rywsut yn hytrach na chan yr undebau a grëwyd eich plaid eich hun. [Torri ar draws.] Beth ddigwyddodd? Roedd gennych gydbwysedd yn y Senedd. Fe gollodd Theresa May y mwyafrif. Fe wnaeth ei gwely gyda'r DUP. Roedd y sefyllfa hon gennych ac roeddech chi'n ceisio manteisio arni. Ond, yn y pen draw, ar ddau achlysur, fe gymeroch chi eich siawns a cholli wnaethoch chi. Yn y lle cyntaf, nid oeddech chi'n cytuno â Brexit Theresa May mewn enw yn unig, er eich bod wedi dadlau drosto pan ddywedasoch eich bod chi'n parchu canlyniad y refferendwm, ac yna, dan Boris Johnson, fe wnaethoch chi bleidleisio yn erbyn cynnig y rhaglen. Fe gafwyd mwyafrif, prin, yn yr Ail Ddarlleniad, ond wedyn fe wnaethoch chi benderfynu pleidleisio yn erbyn cynnig y rhaglen ar gyfer Bil a oedd yn cynnwys llawer o'r pethau yr oeddech chi'n dweud eich bod chi'n awyddus i'w cael—er eu bod nhw gennym ni cyn ymuno â'r UE, ac fe fyddan nhw gennym ni eto, oherwydd mae Boris Johnson a'r Ceidwadwyr wedi ennill etholiad. Mae ganddyn nhw fwyafrif o 80. Fe wnaethoch chi bleidleisio i gael yr etholiad hwnnw, fe bleidleisiodd y Democratiaid Rhyddfrydol o blaid yr etholiad hwnnw, roedd yr SNP yn dadlau dros gael yr etholiad hwnnw cyn iddyn nhw ymatal, a dyma yw canlyniad hynny. Ac rydych chi'n dweud nad ydych chi eisiau rhwystro Brexit, ond rydych chi wedi dweud hynny o'r blaen. Pam ddylem ni gredu hynny nawr?

A'r hyn yr ydych chi'n ei wneud wrth i Lywodraeth Cymru wylltio fel hyn unwaith eto yw peryglu confensiwn Sewel. Rydych chi'n gorfodi Llywodraeth y DU i dorri'r Confensiwn hwnnw, er bod pobl Cymru wedi pleidleisio dros Brexit mewn refferendwm, ond nid ydych chi'n hoffi hynny. Rydym ni'n mynd i gael Brexit, mae'n mynd i ddigwydd, mae'n mynd i ddigwydd ar y telerau a osodwyd gan y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan gyda mwyafrif o 80 oherwydd y dewisiadau a wnaethoch chi. Fe fyddwn ni'n gadael ddiwedd y mis hwn, ac rwy'n croesawu'r llythyr y bore yma at fy nghyd-Aelod Mandy Jones yn cadarnhau y bydd y baneri y tu allan i'r lle hwn yn cael eu tynnu i lawr.

15:50

Y cyfan i gyd? Pob un ohonyn nhw?

Mae'n eironig iawn, Llywydd, cael pregeth ar ddemocratiaeth gan Mark Reckless, ond gadewch i mi ddweud hyn: dadl y Ceidwadwyr a roddwyd iddyn nhw gan eu penaethiaid yn Llundain yw nad oes gennym ni hawl i wrthwynebu'r Bil hwn, bod yn rhaid i ni dderbyn pa bynnag Fil a gaiff ei ysgrifennu yn Stryd Downing a'i anfon drwy Dŷ'r Cyffredin, nad oes gan y Senedd hon unrhyw hawl i farn, nad oes gan y Senedd hon unrhyw hawl i fynegi ei barn ar ba gymalau bynnag a gaiff eu drafftio gan Boris Johnson, nad oes gennym ni ddim hawliau—[Torri ar draws.]—nad oes gennym ni ddim hawliau. Dydym ni ddim yn adennill rheolaeth. Nid yw'r hawliau hyn gennym ni mwyach.

Dywedwyd wrthym ni nad oedd gennym ni hawl, wrth gwrs, i wrthwynebu'r Biliau blaenorol. Dyma drydydd fersiwn y Bil penodol hwn, a dywedwyd wrthym ni, yn amlwg gan yr un bobl, nad oedd gennym ni hawl i wrthwynebu na nodi sylwadau ar y fersiwn gyntaf na'r ail fersiwn o'r ddeddfwriaeth hon. Dywedwyd yr un peth wrthym ni. Yn y ddemocratiaeth Brydeinig newydd hon, nid oes gennym ni'r hawl i wrthwynebu'r hyn y mae'r Weithrediaeth yn galw amdano gennym, y cyfan sydd gennym ni yw'r hawl i gytuno. Nid yw hynny'n fawr o ddemocratiaeth, ydy e'?

Dywedwyd wrthym ni y byddai hyn yn gwella swyddogaeth Senedd Prydain a Senedd Cymru a Senedd Yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon. Ac yna dywedir wrthym ni y bydd y cymalau sy'n cyflwyno'r Weithrediaeth i reolaeth y Senedd yn cael eu dileu o'r Bil hwn. Felly, ni fydd unrhyw archwiliad o fandad negodi, ni fydd unrhyw adrodd naill ai i'r Senedd hon nac i Senedd y DU, ni fydd unrhyw graffu democrataidd ac ni fydd unrhyw atebolrwydd democrataidd. Ac yna dywedir wrthym bod yn rhaid i ni bleidleisio o'i blaid—bod yn rhaid i ni bleidleisio o'i blaid—beth bynnag arall sy'n cael ei gymryd a'i ddileu o'r Bil hwn, mae'n rhaid i ni eistedd yno a derbyn hynny. Nid yw hynny'n swnio fel democratiaeth i mi.

Ac yna dywedir wrthym ni, oherwydd bod Bill Cash wedi cael y ffantasi hwn o sofraniaeth seneddol bod yn rhaid i ni dderbyn cymal arall sy'n gorfodi sofraniaeth Senedd Prydain ar fuddiannau pobl Cymru, y bobl, Mark, sydd wedi ein hethol ni—sydd wedi ein hethol. Fe ddangosaf i eiriadur i chi. Y bobl y byddwn ni'n atebol iddyn nhw y flwyddyn nesaf. Pan fyddaf i'n wynebu'r etholwyr ym Mlaenau Gwent, gadewch i mi ddweud hyn wrthych chi: ni fyddaf i'n rhedeg—[Torri ar draws.] Dydych chi ddim yn adnabod pobl Blaenau Gwent; dydyn nhw ddim yn eich adnabod chithau ychwaith. Fyddan nhw ddim yn gofyn i mi beth nad wyf i wedi ei wneud; byddan nhw'n gofyn i mi beth yr wyf i wedi ei wneud. Beth wnes i i amddiffyn ein democratiaeth? Bydd y Prif Weinidog yn cofio'r rali ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn Nhredegar yr haf diwethaf pryd y buom yn siarad dros ddemocratiaeth yng Cymru, ac ni fyddwn yn cydsynio heddiw i lastwreiddio'r ddemocratiaeth honno.

Felly, bydd y Senedd hon yn sefyll dros graffu. Byddwn yn sefyll dros atebolrwydd a byddwn yn sefyll dros ein hawliau. Byddwn yn sefyll dros ein hawl ddemocrataidd i anghytuno, i wrthwynebu ac i sefyll dros yr hyn y cawsom ein hethol i'w wneud.

Gadewch i mi ddweud hyn: gwrandewais ar fy nghyd-Aelodau Ceidwadol yn dweud wrthym na allwn ni wrthwynebu. Nid ydyn nhw wedi gwneud dim ond gwrthwynebu am 20 mlynedd, a byddan nhw'n gwrthwynebu yn ddiweddarach y prynhawn yma, ac rwy'n eu cefnogi nhw yn eu hawl i wrthwynebu deddfwriaeth y Llywodraeth hon. Mae'n iawn ac yn briodol bod y Ceidwadwyr yn cael y cyfle i wrthwynebu, ac i fynegi a dadlau eu hachos. Mae hefyd yn iawn ac yn briodol bod y lle hwn yn cael yr un cyfle.

Gadewch i mi gloi drwy ddweud hyn: mae hwn yn ddarn difrifol iawn o ddeddfwriaeth, nid yn unig oherwydd yr hyn y mae'n ei wneud o ran Brexit, ond yr hyn y mae'n ei wneud o ran ein cyfansoddiad ein hunain. Mae hyn yn chwalu Confensiwn Sewel. Roedd y pwyntiau a wnaed gan yr Aelod dros Bontypridd yn gwbl glir. Mae Llywodraeth y DU yn anghywir ynglŷn â hyn. Nid yw hwn yn gyfle i ddeddfu heb gydsyniad y lle hwn, Senedd yr Alban, Cynulliad Gogledd Iwerddon, oherwydd mae hyn yn eithriadol. Oherwydd bod hwn yn gyfnod eithriadol mae'n rhaid mynnu'r cydsyniad hwnnw ac mae'n rhaid cydnabod nad yw'r caniatâd hwnnw'n cael ei roi. Ni allaf feddwl am adeg pan fo Senedd y DU wedi bod mor ddiofal o ran pwerau Seneddau'r Deyrnas Unedig, a dweud wrthym wedyn nad oes gennym ni unrhyw ddewis heblaw cydsynio. Mae hwn yn Fil a fydd nid yn unig yn cyflawni Brexit, ond a allai ddechrau cyflawni datgymaliad a datgysylltiad y Deyrnas Unedig.

15:55

Swydd athro mor haeddiannol.

Diolch eto, Llywydd. Wel, mae wedi bod yn ddadl ddiddorol heddiw, ond rwy'n credu mewn gwirionedd bod yn rhaid bod y Prif Weinidog, wrth wrthwynebu'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, yn mwynhau cael ei gosbi. Ers gweld ei ochr ef yn colli'r ddadl Brexit yn 2016, pan wnaethon nhw golli'r refferendwm nid yn unig yn y DU ond yma yng Nghymru hefyd, mae wedi bod wrth wraidd ceisio atal Brexit rhag digwydd dros y tair blynedd a hanner diwethaf. Canlyniad hynny fu bod Llafur newydd gael ei chwalu yn yr etholiad cyffredinol. Efallai fod rhywbeth y mae angen i'r Prif Weinidog a'i Blaid Lafur Gymreig ei sylweddoli: po hwyaf ac uchaf eu cloch y maen nhw'n parhau i wrthwynebu Brexit, y mwyaf y byddan nhw'n dioddef mewn etholiadau. Peidiwch â meddwl mai etholiad cyffredinol 2019 yw'r pwynt isaf. Efallai na fydd. Mae'n bosibl y bydd gwaeth i ddod ar eu cyfer nhw eto. Dim ond rhywbeth i feddwl amdano—ac mae'n dda bod un o'ch ffrindiau yn ei heglu hi am Aberystwyth er mwyn ei osgoi.

Rwy'n gweld bod y Prif Weinidog heddiw yn dilyn esiampl Senedd yr Alban. Yn anffodus i'r Prif Weinidog, o leiaf gall Miss Sturgeon hawlio bod ei rhanbarth hi o'r DU wedi pleidleisio dros aros. Ni all y Prif Weinidog hyd yn oed hawlio hynny, oherwydd pleidleisiodd Cymru, wrth gwrs, i adael. Beth bynnag, ni chafodd cyrff datganoledig y DU eu sefydlu ar gyfer y math hwn o ddiben. Fe'u sefydlwyd er mwyn caniatáu ar gyfer craffu mewn meysydd polisi datganoledig penodol megis iechyd, tai ac addysg. Nid oedden nhw i fod i ymyrryd yng ngwaith Llywodraeth y DU mewn meysydd y mae'n amlwg nad ydyn nhw wedi'u datganoli fel polisi tramor a chytundebau masnach rhyngwladol. Mae'r Prif Weinidog a'i gyd-Aelodau, fel Mick Antoniw ac Alun Davies, yn dal i wthio'r ffiniau ar hyn, ond dylen nhw fod yn ymwybodol, y tu allan i swigen Bae Caerdydd, na fydd unrhyw rai o'u geiriau yn gwneud argraff dda ar y rhan fwyaf o bobl gyffredin yng Nghymru. Efallai y daw llawer o bobl i'r casgliad rhesymegol, os bydd y Prif Weinidog a'r Cynulliad yn fwriadol yn rhwystro dymuniadau pobl Cymru am gyhyd â hyn ac mor uchel â hyn, yna bydd yn rhaid dileu'r Prif Weinidog ei hun a chael gwared ar y Cynulliad hefyd. Mae'r rheini, wrth gwrs, yn gasgliadau yr wyf i fy hun wedi dod iddyn nhw gryn amser yn ôl. Diolch yn fawr. [Torri ar draws.]

Beth ddigwyddodd yn y fan yna? [Chwerthin.] O, dyna oedd y diwedd. Iawn, o'r gorau. David Melding.

Diolch yn fawr, Llywydd. Clywsom y Prif Weinidog yn cyfaddef yn haelionus fod Brexit yn mynd i ddigwydd, ac mae hyn o leiaf yn gam ymlaen, gan nad wyf i'n hollol siŵr am y llynedd, pryd y gwnaethoch chi wrthod cytundeb Mrs May er gwaethaf fy apeliadau angerddol bod hynny yn Brexit mor gadarnhaol ag yr oeddem ni'n debygol o'i gael. Wrth gwrs, roeddwn i'n frwd dros aros ac nid wyf i'n hapus ein bod ni yn y sefyllfa hon, ond rydym ni ynddi, yn sgil pleidlais ddemocrataidd enfawr a gafodd, yn fy marn i, drwy unrhyw ddehongliad, ei chryfhau ymhellach yn yr etholiad cyffredinol. Rwy'n credu mai dyna'r unig esboniad rhesymol o'r datblygiadau gwleidyddol diweddar.

Fodd bynnag, mynnodd y Prif Weinidog wedyn mai'r unig ffordd y byddai'n cefnogi unrhyw berthynas â'r UE yn y dyfodol oedd pe byddai hynny'n bodloni buddiannau Cymru fel y mae ef yn eu gweld nhw. Wedyn daeth y rhan fwyaf o'i araith—treuliodd ddwy ran o dair o'i amser ar hyn—rhestr faith o resymau pam mae Brexit yn ddrwg i ni ac y dylai ein gwneud ni ei weithredu mewn modd mor wan â phosibl, felly i bob pwrpas rydych chi'n aros yng nghylch dylanwad gwleidyddol ac economaidd yr UE. Ond nid yw hynny'n realiti. Mae'n rhywbeth y gwnes i ei dderbyn yn syth ar ôl y refferendwm. Wrth gwrs, roeddwn i'n gobeithio y byddem ni'n aros yn gyfan gwbl yn y cylch dylanwad economaidd a gwleidyddol gyda holl hawliau aelodaeth, ond mae canlyniadau os byddwn ni'n symud allan, sef y byddwn ni'n mynd ar drywydd llwybrau eithaf gwahanol mewn rhai meysydd, ac mae ceisio dileu pob ystyr ar Brexit, yn fy marn i, yn broses hynod amheus ar sail ddemocrataidd. Ond o leiaf, yn ei ddull o weithredu, fe wyddom mai gwrthwynebiad gwleidyddol sydd ganddo ac nad oes gan hynny fawr i'w wneud â phriodoldeb cyfansoddiadol. Nid yw'r hyn y mae'n ceisio ei wneud y prynhawn yma yn waradwyddus o gwbl. Mae e'n dymuno gwneud Brexit yn fater sy'n eiddo i'r Blaid Geidwadol yn unig, ac mae hyn yn rhan o'r neges fawr sydd ganddo i'r cyhoedd—'Dim byd i'w wneud â ni. Ni wnaethom ni erioed ei gefnogi na'i hwyluso mewn unrhyw ffordd.' Ac, ar sail resymol, rwy'n gweld bod rhyw fath o resymeg os ydych chi'n credu bod yna lwybr yn ôl i Lafur ar y mathau hyn o sail, yn enwedig yn rhai o'u cyn gadarnleoedd. Fe adawaf i i chi benderfynu ar eich tactegau ar y materion hyn.

Ond yr hyn nad ydym ni wedi ei gael yw esboniad ar sail egwyddor gyfansoddiadol uchel pam y dylai'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn gael ei wrthod. A gadewch i ni gofio, mae'n ymwneud â deddfu, gweithredu, penderfyniad refferendwm ar fater cyfansoddiadol hynod bwysig. Nid yw'r rhain yn ddibwys—rwy'n cytuno â rhai o'r Aelodau Llafur sydd wedi siarad i'r perwyl hwnnw—ond maen nhw wir yn funudau difrifol iawn, iawn.

Treuliodd y Prif Weinidog rywfaint o amser fel ôl-ystyriaeth—. Fe wnaf i ildio.

16:00

Diolch. Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod am ganiatáu i mi ymyrryd. Pa gyngor y byddai'n ei roi i'r rhai hynny ohonom ni sy'n pryderu'n eithriadol ynghylch cymal 38(1), ac yn enwedig yr effaith a gaiff hynny pe byddai'n dod yn Ddeddf?

Fe wnaf roi cyngor llawn ac ystyriol iddo ar y rhan honno pan fyddaf wedi ei darllen ac fe wnaf ysgrifennu ato. Nawr, dyna'r math o ateb yr arferwn i ei gael ganddo fe yn aml iawn, felly rwy'n gobeithio y bydd yn fodlon. [Chwerthin.]

Aeth y Prif Weinidog yn ei flaen wedyn, fel rhyw ôl-ystyriaeth, yn fy marn i, i'r seiliau cyfansoddiadol, ac mae rhai ohonyn nhw yn gofyn am ymateb—nid yw'n beth afresymol i'w ystyried—nad yw Sewel wedi'i ymwreiddio; bod gan Weinidogion y DU o dan y Bil hwn bŵer i gysoni cyfraith y Cynulliad i adlewyrchu'r cytundeb yn y pen draw; materion sy'n ymwneud â ffin Gogledd Iwerddon fel y mae'n effeithio ar Iwerddon, ac, i bob pwrpas, y ffin Brydeinig—wrth gwrs, bod gweithredu'r dewis blaenoriaethol a oedd gan yr UE o'r cychwyn cyntaf ar ôl pleidlais Brexit—ac yna sofraniaeth seneddol. Nawr, efallai fod rhai pobl yn meddwl ei bod hi'n naïf ailadrodd y ffaith fod y Senedd yn San Steffan yn sofran yn y pen draw, ond mae hi, ac rwy'n atgoffa Aelodau Llafur bod hynny yn rhan annatod o'ch Deddfau datganoli chi o 1997 neu 1998. Felly, mae'r pethau hyn yno. Ac os nad yw'r rhain yn amgylchiadau anarferol pryd y caniateir, yn gyfansoddiadol, i Lywodraeth y DU ddiystyru penderfyniadau yn y fan yma a bod yn atebol am hynny, yna nid wyf i'n gwybod beth sy'n anarferol. Felly, nid wyf i'n derbyn, mewn unrhyw ffordd, nad ydym ni'n parchu hawliau. Rydym ni'n arfer ein hawliau, ac os na fyddwn ni'n cytuno ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol, byddwn ni wedi cael yr hawl i wneud hynny. Yr hyn nad oes gennym yr hawl i'w wneud yw—rwy'n ofni fy mod i wedi gweld Jenny yn gyntaf—chwythu cledrau Brexit a'i atal rhag digwydd. Mae dyletswydd ar Senedd y DU i sicrhau nad yw hynny'n digwydd. Fe wnaf i ildio, gyda'ch goddefgarwch.

David Melding, diolch i chi am ildio, ac roeddwn i'n meddwl tybed a ydych chi, fel llawer ohonom ni, yn wffti at y ffaith fod y gwelliant Dubs wedi'i ddileu, sy'n rhoi'r hawl i ffoaduriaid sy'n blant gael eu haduno gyda'u teuluoedd.

Mae llawer o bethau a fyddai'n well o lawer gennyf yn ymagwedd Mrs May. Mae pawb yn gwybod yn y Siambr hon cymaint o blaid Ewrop ydw i, ac rwy'n teimlo'n anesmwyth iawn. Rwy'n credu bod yr heriau cyfansoddiadol hirdymor a wynebwn i gadw'r undeb gyda'i gilydd yn llawer anoddach nag y bydden nhw wedi bod pe byddem ni wedi aros yn yr undeb, ac fel cyn ddirprwy gyfarwyddwr Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru a swyddog Unicef yng Nghymru, mae'r rhain yn faterion sy'n fy mhryderu. Fodd bynnag, credaf y byddai'n well o lawer pe byddai Llywodraeth Cymru wedi derbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn ac wedi'i gefnogi, ac yna wedi dweud wrth Lywodraeth y DU, fel y gwnaeth y llynedd, pan ddiddymodd y Bil parhad neu'r Ddeddf—wel, gallai fod wedi mynd yn Ddeddf, ond, beth bynnag, fe'i diddymwyd yn y diwedd—a defnyddio ei dylanwad i gyflawni amcanion hirdymor a fyddai'n cryfhau'r undeb Prydeinig ar ôl Brexit. Oherwydd mae gennych chi ddylanwad o'i gymharu â Llywodraeth yr Alban, sy'n amlwg ar gwrs gwahanol iawn, gyda'r nod yn y pen draw o dorri'n rhydd oddi wrth y Deyrnas Unedig. Ac, ar y pwynt hwnnw, byddech chi'n cael llawer o gefnogaeth, fel yr ydych chi wedi'i chael, o'r meinciau hyn ar faterion fel cysylltiadau rhynglywodraethol cryfach, wedi'u ffurfioli yn fwy o lawer, ar eich hawliau ar gytundebau masnach yn y dyfodol—nid yn y cytundeb ymadael hwn y dylem ni fod yn chwilio am hynny, ond mae'n fater gwirioneddol bwysig yn y dyfodol—ac ar fframweithiau cyffredin a'u trefniadau llywodraethu. Dyna ble y dylech chi fod wedi bod yn mynd. Dyna ble y dylech chi fod wedi bod yn defnyddio eich dylanwad gwleidyddol. Yn hytrach, rydych chi'n ceisio apelio at bobl sydd o blaid aros sydd yn dal i fodoli, ac rwy'n credu bod hynny yn gamgymeriad.

Rwy'n ddiolchgar iawn i chi, Llywydd, am eich goddefgarwch.

16:05

Ni ellir cael cyd-destun gwell i'n dadl heddiw a'r rhuthr mawr i adael yr UE ddiwedd y mis na'r pantomeim hurt ynghylch canu cloch Big Ben ar 31 Ionawr. Yn gyntaf, mae'n wastraff llwyr o amser ac egni, yn ail, mae'r Prif Weinidog, wedi ei ysgogi gan ei Aelodau adain dde Ewrosgeptig, fel petai'n meddwl ei fod yn syniad da erbyn hyn, ac, yn drydydd, mae ef eisiau i'r cyhoedd dalu amdano. Ni allai symboleiddio Brexit yn fwy agos na phe byddai'r holl beth wedi'i sgriptio gan Quentin Tarantino. O leiaf, serch hynny, byddai Tarantino yn rhoi trac sain da i ni ar gyfer y gyflafan sydd i ddilyn, yn hytrach na sŵn gwag un gloch.

Nawr, mae digon i'w ddweud am fethiant fy mhlaid fy hun yn ymgyrch aros 2016 a cholli etholiad cyffredinol Brexit 2019 wedi hynny. Mae bod ag agwedd saith allan o 10 yn y cyntaf yn ei gwneud hi'n amheus iawn y byddwn i'n rhoi unrhyw beth yn agos at 10 allan o 10 i arweinydd ein plaid yn y DU ar gyfer yr olaf. Ac felly mae angen i'r rhai ohonom ni yn y Siambr hon sy'n falch o fod yn Ewropeaidd ofyn nifer o gwestiynau i ni ein hunain ynglŷn â sut y daethom ni i'r pwynt hwn, ond nid yw hynny'n fater ar gyfer heddiw. Er fy mod i'n derbyn, gyda'r galon drymaf, fod canlyniad yr etholiad cyffredinol ym mis Rhagfyr yn golygu bod ein hymadawiad o'r UE bellach yn sicr, nid yw hynny yr un fath â chytuno â'r syniad chwerthinllyd hwn y gallwn ni yn awr gyflawni Brexit yn rhwydd.

Ni ellir rhoi rhyddid llwyr i'r Prif Weinidog wrth iddo ruthro'r wlad tuag at ddrws yr allanfa, ac mae gennym ni swyddogaeth bwysig yn y lle hwn i wneud yn siŵr nad yw'n gwanhau sylwedd ein heconomi na'n cymdeithas. Ac ni allai'r cyfiawnhad dros ein gwyliadwriaeth o'r newydd fod yn gliriach na phan edrychwn ni ar yr hyn y gofynnir i ni gytuno iddo heddiw: lleihau ymrwymiadau yn gysylltiedig â llais Cymru hyd yn oed o'r ddeddfwriaeth is na'r safon ofynnol a gynigiwyd ym mis Hydref. Fel y mae'r memorandwm gan Lywodraeth Cymru a'r adroddiadau pwyllgor cysylltiedig yn ei wneud yn glir, mae'r Bil fel y mae wedi'i ddrafftio yn datgan awdurdod San Steffan mewn ffordd nad yw erioed wedi digwydd o'r blaen ac mae'n mynd yn groes i'r holl ddeialog sydd wedi digwydd rhwng y Llywodraethau dros y blynyddoedd diwethaf. Ond wedyn ni ddylai hynny ein synnu o gwbl.

Mae'n amlwg fod y Blaid Geidwadol wedi penderfynu nad yw'r hyn y maen nhw yn ei ddweud yn gyhoeddus yn bwysig erbyn hyn. Pan oedden nhw'n gofyn am gefnogaeth busnesau yn y refferendwm ac yn ystod trafodaethau Brexit, fe wnaethon nhw ddweud y bydden nhw'n cymryd y galwadau am aliniad rheoleiddiol o ddifrif, ond cafodd blynyddoedd o eiriau gwresog a sicrwydd eu golchi i ffwrdd mewn un cyfweliad gan y Canghellor y penwythnos hwn. Roedd y dyn a ddisgrifiodd y farchnad sengl, fis cyn y refferendwm, fel dyfais wych bellach yn gwrthod pryderon busnes gan ddweud, 'Rydym ni'n sôn am gwmnïau sy'n gwybod ers 2016 ein bod yn gadael yr UE.' Fyddai waeth iddo fod wedi dweud, 'Wel, wrth gwrs nad oeddem ni'n dweud y gwir. Beth oedden nhw'n ei ddisgwyl?'

Efallai ei fod wedi ei ysgwyd gan y dadansoddiad newydd sy'n dangos y rhagwelwyd eisoes y bydd cost Brexit yn cyrraedd £200 biliwn eleni, sef cyfanswm o fwy nag y mae'r DU wedi ei dalu i mewn i'r UE dros 47 mlynedd. Beth bynnag fo'r rheswm dros dro pedol brawychus y Canghellor, mae'n dilyn patrwm cyfarwydd y blaid. Yn y Senedd yr wythnos diwethaf, gwnaeth ASau Ceidwadol hefyd wrthod gwelliannau nad oedden nhw'n effeithio mewn unrhyw ffordd ar y penderfyniad i adael yr UE. Mewn gwirionedd, bydden nhw wedi anrhydeddu nifer o ymrwymiadau a wnaed ganddyn nhw yn flaenorol i'r wlad hon—ar hawliau dinasyddion yr UE, ar hawliau gweithwyr, ffoaduriaid sy'n blant, pwerau gweinidogol, Gogledd Iwerddon, y farchnad sengl a hawl i'r Senedd a'r gweinyddiaethau datganoledig fynegi eu barn ar y berthynas gyda'r UE yn y dyfodol. Hyd yn oed ar raglen Erasmus, gwrthododd y Llywodraeth gynnig y cyfle anhygoel hwnnw i genedlaethau'r dyfodol. Gwn yn uniongyrchol beth y gall y math hwnnw o gyfle ei olygu i bobl ifanc na allan nhw fforddio gwyliau teuluol dramor a theithiau ysgol drud. Mae cyfyngu ar orwelion pobl ifanc yn y wlad hon y tu hwnt i unrhyw fath o amddiffyniad.

Dyma'r Llywodraeth sydd yn dymuno i ni yn y Cynulliad hwn ddibynnu ar eu hewyllys da a'u bwriadau anrhydeddus ynghylch swyddogaeth y sefydliadau datganoledig wrth lunio deddfau yn y dyfodol. Dim ar unrhyw gyfrif, ddywedwn i. Dyma'r Llywodraeth sydd yn dymuno i ni drosglwyddo'r cyfrifoldeb dros bolisi cyllido rhanbarthol i Swyddfa Cymru a Whitehall. Dim ar unrhyw gyfrif, ddywedwn i.

Efallai eu bod nhw wedi ennill refferendwm 2016, efallai eu bod nhw wedi ennill etholiad cyffredinol 2019, ond nid yw hynny'n golygu eu bod yn cael dad-wneud degawdau o gonfensiwn, cyfraith a chytundeb. Mae hyn yn gyfystyr â Chymru yn mynnu chwarae pob un o gemau'r chwe gwlad gartref eleni gan mai nhw yw'r pencampwyr presennol. Gall hynny ymddangos yn atyniadol iawn i'r enillydd, ond mewn gwirionedd mae'n hurt ac yn annheg. Mae Llywodraeth y DU wedi ennill hawl ddilys i fwrw ymlaen â Brexit, ond nid yn y ffordd ffwrdd â hi hon. Mae'r wlad yn haeddu gwell na Brexit 'Eton-mess'. Felly, fe ychwanegaf fy llais innau at lais Llywodraeth Cymru ac aelodau eraill yn y fan yma heddiw drwy ddweud 'na'.

Nid yw Llywodraeth y DU wedi ennill yr hawl i sathru dan draed ein heconomi, ein democratiaeth na'n cymdeithas. Er mwyn datblygu'r wlad hon gyda'n gilydd, mae'n rhaid i Lywodraeth y DU wella ei ffordd o weithredu, gwella ei chysylltiadau ag eraill a diwygio'r ddeddfwriaeth hon.

16:10

Deg diwrnod a saith awr i fynd tan ddydd Gwener nesaf. Hwrê.

Iawn. Nid oes dim celu'r ffaith y cafodd Llafur grasfa yn yr etholiad cyffredinol ac y safodd Plaid Cymru unwaith eto yn ei hunfan. Fe wnes i feddwl y byddai rhyw fath o wers wedi ei dysgu o'r canlyniadau hyn, ond yn amlwg ddim. Fe wnes i wylio â chryn syndod wrth i ASau etholedig newydd Llafur Cymru a Plaid ddechrau fel yr oedden nhw'n bwriadu symud ymlaen yn llwyr yn y Senedd newydd, trwy fynd ar drywydd rhwystro Brexit er bod y freuddwyd honno yn farw, a'r realiti yw eu bod nhw yn amherthnasol erbyn hyn, oherwydd mwyafrif llethol Llywodraeth Geidwadol. Diolch i Dduw am hynny.

Wrth iddyn nhw barhau â'u golwg ar yr un peth hwn, nid yw'n ymddangos eu bod nhw wedi clywed ein bod ni yn gadael. Roedd y neges gan yr etholwyr ym mis Rhagfyr yn glir iawn: 'Cyflawni Brexit'. Fel arfer—. Beth fydd Llafur a Plaid Cymru yn ei wneud yma? Fel arfer, byddan nhw'n defnyddio eu rhifau cyfunol i bleidleisio yn erbyn y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Nid ydych yn gwrando ar eich pobl yng Nghymru o hyd. [Torri ar draws.] Nid oes rhaid i mi wrando arnoch chi; chi yw'r wrthblaid.

Pleidleisiodd y wlad unwaith eto o blaid Brexit ym mis Rhagfyr, ar ôl gwneud hynny ym mis Mai 2019, Mai 2017 a Mehefin 2016. Digon nawr. Waeth i chi gyfaddef: mae eich Llywodraeth yn dal i godi bwganod a chafodd hynny ei wrthod o ddifrif unwaith eto fis Rhagfyr diwethaf. Ni fydd yn syndod mai fy marn i yw y dylai'r Cynulliad roi ei gydsyniad heddiw a chaniatáu i'r wlad hon symud ymlaen o'r diwedd i'n dyfodol. Mae angen gwirioneddol i Lafur Cymru a Plaid Cymru roi'r gorau i atal Cymru, oherwydd dyna yr ydych yn ei wneud ac mae'n siŵr y byddwch yn parhau i wneud hynny.

Rwyf i wedi gweld llythyr Stephen Barclay, â dyddiad ddoe arno, ac rydym ni i gyd yn gwybod, beth bynnag fydd yn digwydd, bydd y Bil ymadael yn mynd drwyddo ac y byddwn yn gadael yr UE ddydd Gwener nesaf, ar yr unfed ar hugain. Felly, mae'r hyn y mae'r Cynulliad hwn yn ei benderfynu heddiw yn gwbl academaidd. Yn olaf, hoffwn i atgoffa bob un ohonoch yn y Siambr hon bod y cytundeb ymadael sy'n destun y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn heddiw wedi ei gytuno gan dîm negodi yr UE hefyd. Felly, mae'r UE yn ei gefnogi hefyd. Felly, a gawn ni i gyd yn awr gefnogi Llywodraeth y DU mewn ysbryd o ffurfio'r berthynas newydd â'n cyfeillion yn Ewrop? Mae'n rhaid bod hynny er lles pawb. Diolch.

O mi wn i. Mae'n cynhesu calon onid yw, Llywydd? Ydy.

Wyddoch chi, yr hyn sy'n lletchwith am wrthodiad Llafur a Plaid i gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn yw nad wyf i'n siŵr a wyf i wedi synnu ai peidio. Mae fel pe na bai'r etholiad cyffredinol diweddar wedi digwydd. Roedd pawb yn ymwybodol bod yr etholiad yn ymwneud yn bennaf â Brexit a bod y cyhoedd wedi ailddatgan ei lais. Mae pobl wedi cael llond bol ar eu barn yn cael ei hanwybyddu, felly fe wnaethon nhw gefnogi safbwynt Boris Johnson y dylai'r DU adael yr UE ar ddiwedd y mis hwn, hyd yn oed heb gytundeb.

Cymaint yw'r awydd yng Nghymru i adael yr UE nes i'r Torïaid bron â dyblu eu nifer o seddi yma, gan hyd yn oed ennill sedd Wrecsam, a fu'n Llafur ers 1930, ac mae Llafur bellach yn dal gafael bregus ar sedd Alun a Glannau Dyfrdwy yn San Steffan. Roedd y Prif Weinidog yn ymgyrchu dros ail refferendwm ac, fel y gwelwyd, dyna'n union sut y bu i'r bobl drin yr etholiad cyffredinol. Felly, cafodd Llafur eu hail refferendwm i bob pwrpas a chollodd yn enfawr.

Ac ni allwch chi ddweud mai'r pleidiau sy'n cefnogi'r ymgyrch aros enillodd y dydd oherwydd, er bod y Prif Weinidog yn dadlau dros ail refferendwm ac ymgyrch i aros, roedd neges y darpar Brif Weinidog Llafur mor ddryslyd nad oedd neb yn gwybod beth yr oedd Llafur yn sefyll amdano. Am yr ail dro, gwelodd y cyhoedd drwy'r codi bwganod. Ar ôl mynd yn ddig ynglŷn â'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio peidio â chyflawni canlyniad y refferendwm, mae'r cyhoedd wedi bod hyd yn oed yn fwy uchel eu cloch wrth ddweud wrth y gwleidyddion bod yn rhaid i ni adael yr UE gyda chytundeb neu heb un.

Mae hyd yn oed ffrind gorau Plaid, Nicola Sturgeon, wedi dweud ei bod hi o'r farn bod gan Boris Johnson fandad i adael yr UE, ac eithrio i'r Alban, a bleidleisiodd mewn gwirionedd i aros yn 2016. Ac eto, mae'r rhan fwyaf o'r pleidiau yn y lle hwn yn ceisio aros yn yr UE neu adael mewn enw yn unig. Gadewch i ni fod yn gywir ynglŷn â hyn, mae cydgynllun Llafur a Plaid ar gyfer Brexit, i bob pwrpas, gystal ag aros yn yr UE. Hefyd, mae'n rhaid i ni wynebu rhywbeth arall, ni fydd unrhyw beth yn llai nag aelodaeth iawn yn ddigon da i Plaid neu Llafur yn y lle hwn.

Felly, ar y naill law rwy'n synnu bod Llafur a Plaid yn dal i geisio tarfu ar y broses Brexit, ond ar y llaw arall nid wyf i'n synnu o gwbl—[Torri ar draws.] Na. Nid wyf i'n synnu o gwbl, oherwydd eu bod nhw wedi anwybyddu'r safbwyntiau—[Torri ar draws.] Rydych chi i gyd wedi cael eich cyfle i ddweud eich dweud. Rydych chi wedi cael digon o gyfle i ddweud eich barn—digon o gyfle i ddweud eich barn. Gadewch i mi ddweud fy marn i. Nid wyf i yn synnu o gwbl, oherwydd eu bod nhw i gyd wedi anwybyddu barn y pleidleiswyr am rai blynyddoedd bellach, hyd yn oed yn wyneb dirywiad neu ddiffyg twf etholiadol.

Yn wahanol i'r Blaid Lafur, gwnaeth Boris Johnson ei safbwynt yn gwbl glir, a dangosodd yr etholiad cyffredinol yn ddiamwys i ni y dylem ni adael yr UE gyda chytundeb neu heb un. O leiaf, dyna mae'n ei ddangos i'r rhai hynny ohonom ni nad ydyn nhw'n credu bod yr etholwyr yn dwp. Felly, pam mae Llywodraeth Cymru a llawer o'r ACau yn dal i geisio rhwystro Brexit? Protestiwch faint y mynnwch chi, mae'r bobl allan yn y fan yna yn gwybod beth yw agenda Llywodraeth Cymru trwy wrthwynebu'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Sawl gwaith y mae'n rhaid i'r bobl ddweud wrthych chi beth i'w wneud cyn y byddwch chi'n gwrando arnyn nhw? Faint o seddi y mae'n rhaid i chi eu colli cyn i chi wrando ar lais democrataidd y bobl? Rydym ni'n clywed rhai yn cwyno bod y Bil cytundeb ymadael yn annemocrataidd oherwydd nad yw'n caniatáu llawer o fewnbwn gan Lywodraeth Cymru, ac eto nid yw'r Llywodraeth Cymru hon yn meddwl dim am geisio anwybyddu ewyllys democrataidd etholwyr Cymru.

Mae Boris Johnson yn iawn i wadu i Lywodraeth Lafur Cymru unrhyw ymwneud sylweddol â'r broses Brexit, oherwydd byddan nhw yn gwneud popeth posibl i sicrhau ei bod yn methu. Roedd etholwyr Cymru yn gwybod y dylid cadw Llafur draw oddi wrth y trafodaethau Brexit, oherwydd y byddan nhw yn y diwedd yn ildio gormod o reolaeth i Frwsel ac yn ein cadw'n gyson iawn â'r UE. Roedd etholwyr Cymru yn gwybod y byddai cael Llafur yn agos at y broses Brexit yn golygu, ar y mwyaf, y byddem ni'n gadael mewn enw yn unig, ac yn amlwg nid dyna maen nhw'n ei ddymuno. Felly, rwy'n siŵr y bydd Boris Johnson yn anwybyddu unrhyw wrthodiad o'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn gan y Cynulliad hwn, ac felly y dylai wneud. Nid oes angen mandad arno gan Gynulliad Cymru. Mae ganddo fandad gan bobl Prydain. Mae'n ymddangos ei fod ef yn barod i barchu ewyllys pleidleiswyr Cymru, hyd yn oed os nad yw Llafur, Plaid a'r Democratiaid Rhyddfrydol. Diolch.    

16:15

Nid wyf yn bwriadu treulio llawer o amser yn sôn am y materion y mae Aelodau eraill wedi sôn amdanyn nhw; rwyf wedi traethu'n huawdl neu'n gras arnyn nhw, yn dibynnu ar eich safbwynt, dros y flwyddyn a hanner diwethaf. Ond dau bwynt yr wyf i'n awyddus i'w gwneud, sef na phleidleisiodd pobl Cymru dros y Ceidwadwyr ac na wnaethon nhw bleidleisio dros Lywodraeth Geidwadol. Gadewch i ni fod yn glir am hynny. Rwy'n ildio i'r Ceidwadwyr y ffaith ei fod yn ganlyniad da iawn yn hanesyddol o'u safbwynt nhw, ond gadewch i ni beidio ag esgus bod y Ceidwadwyr yn cynrychioli Cymru.

Yn ail, mae fy nghyd-Aelod Alun Davies wedi awgrymu bod rhai yn y Siambr hon—[Torri ar draws.] Wel, mae'r fathemateg yno i bawb ei gweld. Mae rhai yn y Siambr hon sydd o'r farn nad oes gennym ni'r hawl i fynegi barn ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Yn wir, dywedodd yr Aelod gyferbyn, rwyf wedi anghofio ei enw, yn ogystal â pheidio â bod â'r hawl i wrthwynebu'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, y dylem ni mewn gwirionedd gael ein diddymu rhag gwrthwynebu'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Wel, fy ngwlad i yw hon, fy Senedd i yw hon, rwy'n gweld fy Llywodraeth i o fy mlaen, ac rwyf i'n awyddus i fy ngwlad barhau i fodoli, diolch yn fawr iawn.

Rwyf am ganolbwyntio'n llwyr ar gymal 38. Roeddwn i'n synnu nad oedd David Melding yn gallu ymdrin ag ef ac, yn ôl ei safonau ef, rwy'n siŵr y bydd yn ymateb maes o law. Ond mae'n dweud hyn yn syml, cymal 38(1):

'Cydnabyddir bod Senedd y Deyrnas Unedig yn sofran.'

Efallai byddai rhai yn dweud, 'Beth yw'r broblem gyda hynny?' Wel, beth yw'r pwynt? Beth yw pwynt rhywbeth—os yw Senedd y DU eisoes yn sofran, pam rhoi hynny yn y gyfraith? Oherwydd nid yw mewn unrhyw gyfraith arall. Graffiti llwyr yw hi. Neu ai'r gwirionedd amdani yw bod Llywodraeth y DU wedi sylweddoli nad yw Senedd y DU yn sofran mewn gwirionedd? Nid oes dim mewn cyfraith sy'n dweud bod Senedd y DU yn sofran o gwbl. Dim. Mae'n gonfensiwn. Ac mae'r llysoedd wedi parchu'r confensiwn hwnnw. Ond mae'r llysoedd wedi dweud mewn barn, yn y dyfodol os ydynt o'r farn bod Deddf Seneddol yn ormesol, yn ddidostur, yn amlwg yn chwerthinllyd, y bydden nhw'n cadw'r hawl iddyn nhw eu hunain ymyrryd os byddai hynny'n briodol, ond y byddai hynny o dan amgylchiadau eithriadol yn unig. Yr hyn y mae'r cymal hwn yn ei wneud yw dileu hawl y llysoedd i edrych ar unrhyw ddeddfwriaeth sylfaenol a ddrafftiwyd gan Lywodraeth y DU. Mae hwnnw'n gam gweithredu peryglus.

Yr Arglwydd Hailsham, arglwydd Ceidwadol, a ddywedodd tua diwedd y 1970au fod cyfansoddiad Prydain i bob pwrpas yn unbennaeth ddewisol, ac felly y mae hi. A thrwy gynnwys y cymal hwn, mae'n ei gwneud yn waeth byth. Mae'n dweud y gall Senedd y DU wneud beth a fynno, pryd bynnag y dymuna, heb unrhyw ymyrraeth o gwbl yn ystod ei chyfnod mewn grym. Ni all hynny fod yn ddemocrataidd ac ni all fod yn iawn cyn belled ag y mae'r cyfansoddiad yn y cwestiwn.

Ac nid oes dim yn y gyfraith sy'n dweud bod Senedd y DU yn sofran. Dim. Felly, dyna pam yr wyf i'n amau ei bod wedi ymddangos, i wneud yn iawn am y ffaith nad yw confensiwn, er iddo gael ei barchu dros y blynyddoedd, yn gyfraith mewn gwirionedd. Ond trwy ei wneud yn gyfraith, rydych chi'n ei gwneud hi'n llawer anoddach, er enghraifft, i'r llysoedd roi barn ar gyfreithiau.

16:20

Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog Emeritws. Rydym ni mewn system cyfraith gyffredin. Yn y 1690au mynegwyd sofraniaeth seneddol gyntaf gan y llysoedd, a'r rheswm na ellir ei hamgodio yw mai'r Senedd ei hun yw'r mynegiant eithaf ac uchaf o'r gyfraith. Dyna'r system sydd gennym ni, oni bai ein bod yn symud i system wahanol.

Mae'r hyn y mae David Melding yn cyfeirio ato yn gywir: ym 1689, dywedodd Iarll Shaftesbury fod Senedd Lloegr yn sofran; ond nid yw Senedd Lloegr yn bodoli mwyach. Diflannodd Senedd Lloegr ym 1707, a Senedd yr Alban yn yr un modd. Senedd y Deyrnas Unedig: nid oes unrhyw gyfraith o gwbl sy'n dweud bod honno yn sofran. Y rheswm pam mae hynny'n bwysig yw oherwydd yn yr Alban nid oes unrhyw gysyniad o gwbl o sofraniaeth seneddol. Mae datganiad Arbroath ym 1380, byddwn ni i gyd yn gyfarwydd ag ef, wrth gwrs, yn dweud bod sofraniaeth yn yr Alban yn gorffwys gyda'r bobl. Mae hynny'n dal i fod yn wir heddiw yng nghyfraith gyfansoddiadol yr Alban; mae'n dal yn wir, ac mae llysoedd yr Alban wedi mynegi barn ar hynny, yn enwedig mewn achosion yn y 1950au hyd at y 1970au.

Beth mae hynny yn ei olygu'n ymarferol? Mae'n golygu, os daw'r cymal hwn yn gyfraith, y bydd yr Alban yn cael ffurf o sofraniaeth wedi'i orfodi arno nad yw, yn gyntaf, yn bodoli yn yr Alban ac, yn ail, sy'n torri ar draws y Cytundeb Undeb ym 1707. Mae llysoedd yr Alban wedi dweud bod hynny yn rhywbeth y maen nhw'n fodlon edrych arno o ran y gallu i'w gyfiawnhau.

Nid yw'n effeithio arnom ni yng Nghymru, mae'n wir, oherwydd cafodd ein system lysoedd ei diddymu yn raddol rhwng 1536 a 1830, ond mae hyn mewn gwirionedd yn ymosodiad sylfaenol ar Gytundeb Undeb 1707 yn yr Alban. Byddaf yn gadael i'r Albanwyr ymladd eu brwydr eu hunain, ond mae'n rhywbeth sydd wedi mynd heb roi sylw iddo. Nid yw sofraniaeth seneddol erioed wedi bod yn rhan o gyfraith y Deyrnas Unedig o ran Senedd y Deyrnas Unedig, ar wahân i nawr. Ac rwyf eisoes wedi esbonio canlyniadau hynny.

Yn olaf, y pwynt arall yr hoffwn i ei wneud yw hyn: ni allaf i gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn—mae llawer o resymau eraill y mae Aelodau eraill wedi eu crybwyll, ac nid yw'n ymwneud â Brexit o gwbl—oherwydd nid wyf yn cefnogi'r syniad o sofraniaeth seneddol. Mae'n gysyniad hen ffasiwn ac mae'n hen bryd i'r DU gael cyfansoddiad mwy modern. Gallwn edrych ar sofraniaeth a rennir. Pam sefydlu system sy'n flinedig ac nad yw'n addas at y diben? Mae hwnnw yn welliant nodweddiadol o fyd bach San Steffan ac sydd wedi ei roi yn y ddeddfwriaeth hon, gan anwybyddu realiti bodolaeth Seneddau eraill yn y DU. Mae sofraniaeth yn gorffwys gyda phobl Cymru. Fe wnaethon nhw fynegi'r sofraniaeth honno drwy refferendwm ym 1997 ac yn 2011, ac fe wnaethon nhw fynegi'r farn honno yn 2016 trwy ddweud, 'Rydym ni eisiau gadael yr UE.' Nid wyf i'n amau hynny. Ond mae'r sofraniaeth honno yn gorffwys gyda phobl Cymru fel y'i mynegir drwy'r refferenda hynny.

A beth fydd gennym ni os bydd y cymal hwn yn cael ei basio? System heb unrhyw rwystrau na gwrthbwysau. Pum mlynedd lle gall Llywodraeth wneud unrhyw beth a fynno heb unrhyw fath o gyfyngiad. Mae hyn yn newid sylfaenol i'r ffordd y mae'r DU yn cael ei llywodraethu. Mae'n annemocrataidd. Nid yw'n rhan o faniffesto unrhyw blaid. Mae'n mynd â ni tuag yn ôl. Mae'n sefydlu yn y gyfraith rywbeth nad yw erioed wedi bod yno o'r blaen. Mae'n gamddealltwriaeth sylfaenol ac o bosibl yn ymosodiad ar natur datganoli o fewn y DU. Ac am y rheswm hwnnw, ynghyd â llawer o rai eraill, ni allaf i gefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn.

16:25

Yn ei haraith angerddol yn gynharach, soniodd Lynne Neagle am y Bil hwn yn sathru ar ddemocratiaeth. Ond wrth gwrs, nid yw'n sathru ar ddemocratiaeth, mae'n cyflawni democratiaeth. Yn ystod y traethawd athrawiaethol yr ydym ni newydd wrando arno, cyfeiriodd Carwyn Jones at ddatganiad Arbroath i ddweud yng nghyfraith yr Alban fod sofraniaeth yn gorffwys yn nwylo'r bobl. Wel, penderfynodd y bobl ym mis Mehefin 2016—17.4 miliwn, y bleidlais ddemocrataidd fwyaf yn hanes Prydain i gyd—i adael yr UE. Am y tair blynedd a hanner diwethaf, mae'r Blaid Lafur, Plaid Cymru a'r SNP wedi bod yn trio pob ffordd bosibl o osgoi canlyniadau'r bleidlais honno. Rwy'n ildio.

Ni allwch chi gael sofraniaeth boblogaidd a sofraniaeth seneddol. Rydych chi'n dadlau nawr nad yw sofraniaeth seneddol yn bodoli mewn gwirionedd.

Na. Nid wyf yn credu fy mod i am dreulio llawer o amser yn dadlau faint o angylion sy'n gallu dawnsio ar ben pin. Mae'r mathau hyn o weithgareddau academaidd o flaen yr Aelod ar gyfer Pen-y-bont ar Ogwr; sedd a gollwyd, wrth gwrs, yn etholiad San Steffan ychydig wythnosau yn ôl. Nid yw'n ymddangos bod y ffeithiau hyn wedi taro ar ymwybyddiaeth Aelodau Llafur, ac Aelodau Plaid Cymru o bosibl, o gwbl.

Roedd hwyliau digon amlwg yn y wlad, rwy'n credu, i fwrw ymlaen â'r gwaith o gyflawni Brexit. Nid dyna'r unig reswm pam y collodd Llafur gynifer o seddi yn yr etholiad hwnnw, ond yn sicr yr oedd yn rhan arwyddocaol iawn ohono. Y broblem sydd wedi bod, ar gyfer y sefydliad hwn sydd wedi ei boblogi'n bennaf gan y rhai hynny a oedd yn cefnogi'r achos 'aros' yn y refferendwm, yw nad ydych chi erioed wedi derbyn canlyniad y refferendwm ei hun. Ac rydych chi wedi gwneud popeth o fewn eich gallu i darfu ar y broses a cheisio oedi, a rhwystro o bosibl, a thrwy ymgyrchu dros bleidlais y bobl honedig, i wrthdroi canlyniad y refferendwm ym mis Mehefin 2016. Wel, rydych chi wedi colli, a nawr mae'n bryd i chi gydnabod eich bod wedi colli. Ac os oes unrhyw warth cyfansoddiadol wedi ei gynnwys yn y Bil hwn, y rheswm dros hynny yw oherwydd eich gwrthwynebiad di-ildio chi i'r hyn y pleidleisiodd y bobl drosto dair blynedd a hanner yn ôl.

Nid oes gen i y pryderon hynny y mae'r Aelodau eraill wedi eu mynegi yn y ddadl hon, ond rwyf yn credu bod hwn yn achos hynod eithriadol, fel yr eglurodd David Melding yn ystod ei araith. Nid ydym yn mynd i gael refferenda o'r pwys cyfansoddiadol hwn yn aml iawn, os yn wir byth eto yn y wlad hon. Ac o ganlyniad i'r oedi sydd wedi digwydd wrth gyflawni canlyniad y refferendwm hwnnw, mae awydd dybryd a hollbwysig erbyn hyn y dylem ni gyflawni'r hyn yr oedd y bobl wedi pleidleisio drosto.

Rydym ni wedi clywed areithiau drosodd a throsodd, unwaith eto, yn trafod yr holl ddadleuon yr ydym ni wedi eu clywed hyd ddiflastod yn ystod ymgyrch y refferendwm a thros y tair blynedd a hanner diwethaf. Mae'r ddadl ynghylch a yw'n beth da i adael yr UE ai peidio wedi dod i ben. Mae'r bobl wedi penderfynu. Ond polisi Llywodraeth Cymru yw ein bod yn cyflawni Brexit mewn enw yn unig; maen nhw eisiau aros yn yr undeb tollau, maen nhw eisiau aros yn y farchnad sengl. Wel, ni ellir disgrifio hwnnw fel Brexit mewn unrhyw ffordd. Holl bwynt hyn, i ddychwelyd at bwynt y cyn Brif Weinidog ynghylch sofraniaeth seneddol, yw adfer pŵer deddfwriaethol i'r deddfwyr, nid yn unig yn San Steffan, ond, cyhyd ag y mae'r setliad datganoli yn bodoli, i ddeddfwyr yma yn hyn lle hwn. Rwy'n ildio eto, ydw.

Diolch i'r Aelod am dderbyn ail ymyriad. Rwy'n derbyn ei bwynt ynglŷn â derbyn canlyniad y refferendwm yn 2016. A wnaiff ef wedyn dderbyn canlyniad y refferenda ym 1997 a 2011?

Wel, fe wnaethom ni gyflawni canlyniadau'r refferenda ym 1997 a 2011. Ac rwy'n berffaith hapus i weld y Blaid Lafur yn ymrwymo i fynd yn ôl i'r UE pan fyddwn wedi gadael; yr hyn nad oedd ganddi'r hawl foesol i'w wneud oedd ceisio rhwystro canlyniad y refferendwm cyn iddo gael ei gyflawni mewn gwirionedd. Mae'n safbwynt gwbl anrhydeddus i bleidiau eraill ddweud, 'Rydym yn well ein byd y tu mewn i'r UE', ac i ymgyrchu. Rwy'n credu y byddai'n gam dewr iddyn nhw ei gymryd, ac rwy'n gobeithio, yn wir, y byddan nhw'n ei gymryd, oherwydd bydd hynny, rwy'n credu, yn helpu i gadarnhau eu bod mor amherthnasol ag y maen nhw ar hyn o bryd ar gyfer y dyfodol rhagweladwy.

Ond nid yw'r ddadl hon yn ymwneud â hawliau gweithwyr nac unrhyw elfen arall o gynhwysion ymgyrch y refferendwm. Nid wyf i'n awyddus i weld unrhyw gamu yn ôl ar hawliau gweithwyr yn fwy nag y mae unrhyw Aelod arall yn ei wneud yn y tŷ hwn. Mae hyn i gyd yn ymwneud â chymhwysedd deddfwriaethol. Dyma beth yw democratiaeth. Cenhedloedd, er da neu ddrwg, yn gwneud penderfyniadau. Trwy etholiadau, maen nhw'n ethol Llywodraethau i gyflwyno cyfreithiau ac i newid cyfreithiau. Ac os nad ydym ni'n mynd i gael Senedd sofran yn y cyswllt hwnnw, yna, i bob pwrpas, nid ydym ni wedi gadael yr UE o gwbl yn y manylion hynny.

Felly yn y pen draw, mae hyn yn ymwneud â pha fath o wlad yr ydym ni a pha fath o genedl yr ydym ni. Pa fath o system etholiadol i gyflawni ewyllys democrataidd y bobl sydd gennym ni? Mae'n rhyfeddol bod gennym ni blaid cenedlaetholwyr, fel y'i gelwir, yn y lle hwn nad yw'n credu mewn gwirionedd mewn annibyniaeth genedlaethol fel y mynegir drwy sefydliadau cynrychioliadol; byddai'n well o lawer ganddyn nhw gael eu llywodraethu gan elît technocrataidd nad ydym ni'n ei ethol ac nad ydym yn gallu ei enwi hyd yn oed yn y rhan fwyaf o achosion, wedi'i leoli ym Mrwsel.

Roedd hon yn bleidlais gan bobl Prydain a phobl Cymru dros annibyniaeth a goruchafiaeth eu sefydliadau seneddol, gan gynnwys hon yma yng Nghaerdydd. Mae cyflawni'r hyn y pleidleisiodd y bobl drosto dair blynedd a hanner yn ôl yn foment hanesyddol i'r wlad hon, ac mae arnaf ofn bod y Blaid Lafur, a Phlaid Cymru yn arbennig, wedi siomi'r bobl sydd wedi eu hethol.

16:30

Diolch, Llywydd. Gaf i ddiolch i bob Aelod sydd wedi cymryd rhan yn y ddadl hon am eu cyfraniad ac am waith y pwyllgorau o dan gadeiryddiaeth David Rees a Mick Antoniw am eu hasesiadau o'r Bil?

Ar ddechrau'r ddadl hon, dywedodd y Prif Weinidog y byddem ni'n sicr yn clywed ein gwrthwynebwyr yn honni bod y penderfyniad i argymell pleidleisio ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol wedi'i seilio ar ein gwrthwynebiad i'r cytundeb tynnu yn ôl ei hun, ac rwy'n falch na wnaeth Mark Reckless a Neil Hamilton ein siomi yn hynny o beth yn yr hyn sy'n gorfod bod yn ymgais parhaus ac, rwy'n meddwl, fwyfwy taer am berthnasedd fod Mandy Jones, wrth gyfri'r diwrnodau tan Brexit, yn ein hatgoffa ei bod yn gyfyngedig erbyn hyn diolch byth. Ond gadewch i mi ddweud yn gwbl onest bod y penderfyniadau hyn bob tro yn benderfyniadau pwysig i Lywodraeth sy'n dymuno gweld Undeb mwy effeithiol.

Am 20 mlynedd, rydym ni a Llywodraethau olynol y DU, mewn gwirionedd, wedi ymdrechu'n galed i osgoi sefyllfa lle y torrir cytundeb Sewel, oherwydd er bod y Goruchaf Lys wedi dyfarnu nad yw'n gyfiawnadwy, y mae, fel yr amlinellodd Mick Antoniw yn ei gyfraniad, ag arwyddocâd enfawr. Dylai confensiynau mewn cyfansoddiad heb ei ysgrifennu fod yn bwysig. Mae'n gonfensiwn nad yw'r sofran yn gwrthod llofnodi Deddfau Seneddol a gaiff eu pasio'n briodol gan y ddau Dŷ; ni all yr un statud na llys ei gorfodi i wneud hynny. Mae'n gonfensiwn nad yw Tŷ'r Arglwyddi yn ceisio rhwystro deddfwriaeth sydd wedi ymddangos mewn maniffesto etholiad y blaid fuddugol.

Felly, mae'n amlwg ein bod ni wedi meddwl yn hir ac yn galed cyn cynghori'r Senedd i wrthod cydsyniad. Yn groes i ddadl arweinydd yr wrthblaid, nid yw hyn yn ymwneud ag atal Brexit na phwdu, gan fod yr etholiad cyffredinol yn ddi-os wedi rhoi mandad i Lywodraeth y DU negodi perthynas â'r UE ar sail y cytundeb masnach rydd y maen nhw wedi ei amlinellu. Fel y mae ein dogfen ar negodiadau a blaenoriaethau i Gymru yn y dyfodol yn ei nodi, er nad ydym yn credu bod hynny er budd gorau Cymru, rydym yn derbyn mai dyna fan cychwyn y trafodaethau, ac rydym yn pennu'r cyfeiriad yr ydym ni o'r farn y mae angen iddyn nhw ei gymryd.

Mae ein gwrthwynebiad i'r Bil wedi ei seilio ar yr hyn y mae'n bygwth ei wneud i'r setliad datganoli, ac mae'n iawn i ni sefyll dros y setliad hwnnw. Fel y dywedodd Alun Davies yn ei gyfraniad, 'Nid yw'r dewis arall yn swnio fel democratiaeth i fi', ac rwy'n credu ei fod yn iawn yn hynny o beth. Rwy'n gwrthod dadl David Melding nad yw'r rhesymau a roddir yn faterion sy'n ymwneud ag egwyddor gyfansoddiadol, a byddwn i'n rhoi llai o bwys efallai ar ei gyfraniadau pwysig nag y byddwn i fel arfer yn ei wneud yn y math hwn o ddadl, oherwydd fy mod i'n credu ei fod wedi methu â mynd i'r afael â'r pwynt a wnaeth Carwyn Jones mor huawdl ynghylch effaith arwyddol cymal 38, sy'n honni rhyw fath o sofraniaeth seneddol na ddylem ni yn y lle hwn ei gefnogi yn rhwydd, oherwydd ei fod yn camddeall yn sylfaenol gyfansoddiad Cymru sydd wedi newid a'r Deyrnas Unedig mewn ffordd rwy'n gobeithio y byddai'r Aelodau yn y Siambr hon yn ei chydnabod.

Wrth wraidd ein dadl yw'r ffaith y gall Llywodraeth y DU, o dan Ddeddf Llywodraeth Cymru, geisio gorfodi'r Senedd hon yn y pen draw i roi mesurau ar waith i weithredu rhwymedigaethau rhyngwladol nad ydym ni, i bob pwrpas, yn cytuno â nhw ac a all rwystro'r Senedd rhag deddfu mewn ffordd sy'n iawn yn ei barn hi ac sydd fel arall o fewn—

Ar y pwynt hwn y bydd gwladwriaeth y DU a Llywodraeth y DU yn cymryd y swyddogaeth i orfodi rhai newidiadau cyfreithiol, wrth gwrs, mae hynny'n efelychu'r sefyllfa ar hyn o bryd—mae gan yr UE yr hawl i gyfarwyddo ein cyfraith ni mewn rhai ffyrdd ac rydym ni yn derbyn bod hynny yn rhan o'r trefniant cyfansoddiadol.

16:35

Dydw i ddim yn ceisio dweud nad yw'n rhan o'r trefniant cyfansoddiadol. Yr union bwynt a wnaf yw y bu'r bygythiad o ddefnyddio'r pwerau hynny yn ddamcaniaethol, hyd yn hyn, ond mae'r negodiadau ar berthynas yn y dyfodol a'r negodiadau masnach rydd gyda thrydydd gwledydd yn mynd i esgor ar nifer enfawr o faterion sydd yn effeithio'n uniongyrchol ac yn allweddol ar gymwyseddau datganoledig. Mae'r rhain yn ddewisiadau a fydd yn effeithio ar fywydau pobl yng Nghymru. Pa gymwysterau ydym ni yn eu cydnabod neu ddim yn eu cydnabod ar gyfer ein hathrawon a'n gweithwyr iechyd? Pa derfynau sydd i'r cymorth ariannol y gallwn ni ei roi, gan gynnwys drwy Fanc Datblygu Cymru? A allwn ni barhau i wrthod caniatáu i gig eidion wedi'i drin â hormonau ddod i'r farchnad? Fel y dywedodd Lynne Neagle yn ei chyfraniad, a all ein pobl ifanc barhau i gymryd rhan yn y cynllun Erasmus, sydd wedi bod â rhan mor enfawr o ran agor Cymru i'r byd a'r byd i Gymru?

Rydym ni wedi bod yn glir gyda Llywodraeth y DU bod ganddynt ddewis. Gallant geisio, lle bynnag y bo'n bosib, gytuno â ni a safbwyntiau negodi'r gweinyddiaethau datganoledig eraill ar y rhain a llawer o faterion eraill sy'n effeithio ar ein cymwyseddau, ac os felly, byddwn yn cefnogi'r sefyllfa y cytunwyd arni ac yn rhoi'r cytundebau hynny ar waith. Gobeithio, wrth alw ar Gymru i gymryd rhan lawn yn y cyfnod sydd o'n blaenau, y bydd Paul Davies yn perswadio'i gyd-Aelodau yn y Senedd i alluogi hynny i ddigwydd. Mae wedi methu â gwneud hynny hyd yn hyn.

Fel arall, gallai'r DU anwybyddu ein safbwyntiau, trafod ar eu pen ein hunain ac yna wynebu brwydr gyfansoddiadol i'n gorfodi ni i weithredu canlyniad y gallem ni ei wrthwynebu ac na fyddwn ni wedi bod ag unrhyw ran yn penderfynu arno. Yn anffodus, er gwaethaf y drafodaeth ynglŷn â throsoledd yn y ddadl hon, nid yw'r Llywodraeth hyd yn hyn wedi rhoi unrhyw sicrwydd inni, er gwaethaf, os caf ddweud—ac ategaf eiriau'r Prif Weinidog yn y fan yma—y gwaith clodwiw gan Dŷ'r Arglwyddi i'w hannog i wneud hynny. At hynny, maent wedi gwrthod diystyru gweithredu ar eu pen eu hunain i ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru, os yw hynny'n angenrheidiol iddynt roi eu sicrwydd i Ogledd Iwerddon. Llywydd, os bu achos erioed o ddwyn gan y naill i dalu'r llall o ran datganoli, dyna, yn sicr, yw hynny.

Felly, mae ein cyngor i'r Senedd i bleidleisio yn erbyn y cynnig yn seiliedig yn llwyr ar amddiffyn datganoli. A gaf i gydnabod cefnogaeth Delyth Jewell i'r cynnig hwnnw yn ei chyfraniad a diolch iddi am ei gwaith yn craffu a herio yn ei swyddogaeth yn llefarydd Plaid Cymru ar Brexit? Sylwaf ei bod yn anffodus wedi methu â gwrthod y cyfle i daflu ensyniadau pleidiol braidd gynnau, ond rwyf yn diolch iddi am y cyfleoedd i gydweithio ar un neu ddau o'r materion sydd wedi codi yng nghyd-destun Brexit.

Nid cyd-ddigwyddiad, Llywydd, yw bod Senedd yr Alban a Chynulliad Gogledd Iwerddon wedi dod i'r un farn, ac felly mae Llywodraeth y DU yn wynebu sefyllfa na welwyd ei thebyg o'r blaen lle y bydd hi o bosib yn bwrw ymlaen â'r Bil er iddi fethu â chael cydsyniad deddfwriaethol gan y tair deddfwrfa ddatganoledig. Yn wyneb y sefyllfa honno, byddwn yn apelio ar Lywodraeth y DU i wneud dau beth: yn gyntaf, i'w gwneud hi'n glir nad yw hi'n diystyru confensiwn Sewel. Caf fy nghysuro gan lythyr yr Ysgrifennydd Gwladol ddoe a ddyfynnodd y Prif Weinidog, a gobeithiaf nawr y caiff y sicrwydd hwnnw ei ailadrodd yn y Senedd. Ac yn ail, i ystyried o ddifrif ei hymateb i'n gofynion dilys am ran yn nhrafodaethau'r dyfodol. Maent wedi addo rhoi ateb inni yng nghyfarfod nesaf Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau’r UE), a gynhelir yn fuan iawn, yng Nghaerdydd—gadewch inni weld beth yw'r ateb hwnnw.

Bydd y bleidlais ar y cynnig yma yn digwydd nawr, yn unol â Rheol Sefydlog 11.15(i), oni bai bod tri Aelod yn dymuno i fi ganu'r gloch. Os na, dwi'n symud i bleidlais ar y mater yma. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid, 15, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.

NDM7232 - Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael): O blaid: 15, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y cynnig

Mae'r Senedd nawr, felly, wedi cytuno i beidio â rhoi cydsyniad i Fil cytundeb ymadael Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol. Bydd y penderfyniad yma yn cael ei gyfathrebu ar frys i'r ddau Senedd-dŷ San Steffan i'w ystyried yn ofalus fel rhan o'u trafodaethau.

4. Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am wasanaethau mamolaeth ac ymyrraeth wedi'i thargedu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Yr eitem nesaf o'n busnes ni'r prynhawn yma yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y wybodaeth ddiweddaraf am wasanaethau mamolaeth ac ymyrraeth wedi'i thargedu ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg. Galwaf ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad—Vaughan Gething.  

16:40

Diolch, Llywydd. Yn sgîl fy natganiad ysgrifenedig ddoe, roeddwn eisiau achub ar y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am yr amrywiaeth o gamau sydd ar y gweill i sicrhau a chynnal gwelliannau mewn gwasanaethau mamolaeth a'r trefniadau ansawdd a llywodraethu ehangach ledled Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.

Ddoe, cyhoeddais ail ddiweddariad gan y panel trosolwg annibynnol ar wasanaethau mamolaeth. Rwy'n siŵr ein bod ni, ym mhob rhan o'r siambr, yn llawenhau o weld yn yr asesiad cyffredinol a ddarparwyd gan y panel annibynnol fod cynnydd da wedi'i wneud o ran gweithredu'r argymhellion a wnaed gan y colegau brenhinol yn dilyn eu hadolygiad o wasanaethau mamolaeth y gofynnais amdano ac yr adroddais yn ei gylch y llynedd.

Yr hyn sy'n bwysig, ac yng ngeiriau aelodau annibynnol y panel, maent yn lled-gadarnhaol nawr y llwyddir i sicrhau gwelliannau cynaliadwy yn y tymor hwy. Mae'r panel wedi asesu tystiolaeth sydd wedi rhoi sicrwydd rhesymol iddynt fod 25 o argymhellion pellach wedi'u cyflawni ers yr adroddiad diwethaf. Mae hyn yn cynnwys: gwella ansawdd hyfforddiant ar gyfer staff meddygol a bydwreigiaeth a chynyddu'r niferoedd sy'n elwa arno, yn seiliedig ar gynlluniau cadarn i barhau i ddarparu gwasanaethau; bod â fframwaith llywodraethu clinigol cynhwysfawr ar waith sy'n arwain at welliannau mewn arferion clinigol; gwelliannau o ran adrodd, ymchwilio a dysgu o ddigwyddiadau difrifol; ac, yn bwysig iawn, cadarnhad bod y lefelau staffio ym maes bydwreigiaeth yn y bwrdd iechyd dros y naw mis diwethaf, bellach yn unol â'r lefelau a argymhellir gan Birthrate Plus.

Bydd y panel yn ailymweld â'r rhain a meysydd eraill o bryd i'w gilydd dros y chwech i 12 mis nesaf i sicrhau eu bod yn effeithio ar arferion a bod gwelliannau felly'n parhau, gan hefyd asesu cynnydd yn unol â'r argymhellion sy'n weddill.

Er mai testun calondid imi yw gweld y gwelliannau hyn o ran diogelwch ac ansawdd gofal clinigol, rwy'n arbennig o falch o'r adborth cadarnhaol am y profiad o ofal a geir gan fenywod a theuluoedd sy'n defnyddio gwasanaethau ar hyn o bryd. Yn ogystal â phrosesau'r byrddau iechyd ar gyfer cofnodi profiadau pobl wrth iddynt eu cael, caiff yr adborth hwn hefyd ei ategu gan ganfyddiadau ymweliadau'r cynghorau iechyd cymuned dros y misoedd diwethaf. At hynny, canfu adroddiad arolygu diweddar Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru fod gofal yn cael ei ddarparu mewn modd diogel ac effeithiol yng nghanolfan eni Tirion, sy'n uned dan arweiniad bydwragedd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg.

Fodd bynnag, fel y mae'r panel wedi'i wneud yn glir, mae llawer mwy i'w wneud eto i adeiladu ar y cynnydd hwn. Cadarnheais yn fy natganiad ysgrifenedig ddoe mai un o elfennau pwysig swyddogaeth y panel yw cynnal rhaglen o adolygiadau clinigol sy'n edrych ar ansawdd y gofal a ddarparwyd yn flaenorol. Mae hyn yn bwysig er mwyn sicrhau y nodir pob agwedd bosib ar ddysgu ac y gweithredir arnynt, ond yn yr un modd, i geisio ateb unrhyw gwestiynau gan fenywod a theuluoedd am eu gofal sydd heb eu hateb eto.

Rwy'n ddiolchgar i'r panel am y gwaith helaeth sydd wedi'i wneud i ddatblygu proses gadarn a thrylwyr, a gefnogir gan dîm mawr o adolygwyr clinigol profiadol, annibynnol sydd bellach wedi'u recriwtio. Maen nhw ac rwyf i yn benderfynol y bydd menywod a theuluoedd wrth wraidd y gwaith hwn ac y byddant yn cael cymorth i gymryd rhan os dymunant. Mae'r cyngor iechyd cymuned hefyd yn darparu cymorth eirioli ychwanegol i helpu gyda hyn.

Roeddwn yn falch o gael y cyfle i gyfarfod â menywod a theuluoedd yr wythnos diwethaf, ochr yn ochr â'r panel. Mae gwrando'n uniongyrchol ar eu profiad bob amser yn anodd, ond mae'n hanfodol deall sut yr ydym ni'n sicrhau gwelliannau cynaliadwy wrth ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar fenywod a theuluoedd.

Cyn y Nadolig, cyfarfûm hefyd â staff yn ysbyty'r Tywysog Siarl ac Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Dywedwyd wrthyf eu bod bellach yn teimlo bod mwy o gydlyniant a hygrededd yn bodoli o ran arwain a darparu eu gwasanaeth. Cefais ymdeimlad gwirioneddol o ymrwymiad, perchenogaeth a balchder unwaith yn rhagor yn y gwelliannau yr oeddent yn ceisio eu cynnal ac adeiladu arnynt. Mae hyn, heb os, wedi bod yn gyfnod anodd iawn i staff, ac rwyf eisiau diolch iddynt am yr hyn y maent wedi'i gyflawni mewn cyfnod byr o amser, ac mae hynny wedi ei gydnabod yn glir gan y panel annibynnol.

Mae llawer o'r hyn a ddysgwyd o wasanaethau mamolaeth bellach yn helpu i lywio gwelliannau sefydliadol ehangach. Ers fy natganiad diwethaf ym mis Hydref, bydd Aelodau'n ymwybodol bod Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru wedi cyhoeddi eu cydadolygiad o drefniadau llywodraethu ansawdd. Amlygodd hyn nifer o wendidau sylfaenol yn y trefniadau hynny, ac mae'r adroddiad yn gwneud argymhellion eang eu cwmpas i fynd i'r afael â nhw. Fodd bynnag, cefais fy nghalonogi hefyd gan y ffaith eu bod yn cadarnhau bod arweinyddiaeth newydd y sefydliad wedi llwyr gydnabod yr heriau, yr angen am newid a bod llawer o'r gwaith hwnnw eisoes yn mynd rhagddo. Mae hyn yn cynnwys gwneud newidiadau er mwyn sicrhau bod eu prosesau llywodraethu yn gadarn, yn agored ac yn dryloyw, gyda llinellau uwchgyfeirio a llinellau atebolrwydd clir pan fydd pryderon yn codi.

Mae nifer o ffrydiau gwaith ar y gweill i ymgysylltu â staff i fynd i'r afael â'r pryderon a godwyd ynghylch y diwylliant o fewn y sefydliad, ynghyd â'r camau gweithredu hynny sydd eu hangen i ailennyn ffydd ac ymddiriedaeth cleifion, y cyhoedd a rhanddeiliaid. Disgwyliaf yn arbennig weld gwelliannau cyflym a chynaliadwy yn y modd y mae'r sefydliad yn ymateb i bryderon a chwynion cleifion. Mae hyn yn hanfodol er mwyn ysgogi dysgu a gwella yn ogystal ag er mwyn i'r sefydliad gael ei gydnabod fel sefydliad sy'n agored ac yn dryloyw ym mhob peth a wna.

Mae'r gwahanol adolygiadau sydd wedi'u cynnal erbyn hyn ac sydd wedi adrodd yn ôl dros y misoedd diwethaf wedi rhoi darlun cynhwysfawr a disgrifiad o'r newidiadau sydd eu hangen. Mae hynny'n cynnwys ffyrdd o weithio a'r gwerthoedd a'r arferion sylfaenol y disgwylir iddynt sicrhau ansawdd a safonau gofal y mae gan bawb yr hawl i'w disgwyl. Rwy'n ffyddiog bod y bwrdd yn llwyr gydnabod difrifoldeb y materion a maint yr her sy'n eu hwynebu o hyd o ran sicrhau newid a gwelliant cynaliadwy, ac maent yn sylweddol.

Fel y dywedais yn fy natganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf ar uwchgyfeirio ac ymyrryd yn y GIG, mae'r lefelau uwchgyfeirio presennol yn parhau ar draws holl sefydliadau'r GIG. Felly, yng Nghwm Taf, mae gwasanaethau mamolaeth yn parhau mewn mesurau arbennig ac mae Cwm Taf Morgannwg yn parhau i fod yn destun ymyrraeth wedi'i thargedu.

Erbyn hyn mae cynlluniau gwella clir yn datblygu i ymateb i'r ystod o newidiadau sydd eu hangen. Bydd fy swyddogion yn parhau i weithio'n agos gyda'r bwrdd iechyd i sicrhau y cânt eu cefnogi a'u herio i gyflawni'r gwelliannau hynny. Mae'n bosib ac yn angenrheidiol cyflawni llawer yn gyflym, tra bydd eraill yn cymryd mwy o amser i'w cyflawni ac i ymwreiddio er mwyn sicrhau gwelliant cynaliadwy. Wrth gwrs, byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y cynnydd.

16:45

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Rwy'n ddiolchgar iawn, Gweinidog, am y sesiynau briffio sydd wedi'u darparu ar yr adroddiad hwn, er fy mod yn credu bod yn rhaid i ni gofio—ac, unwaith eto, hoffwn estyn fy nghydymdeimlad dwysaf a chywiraf i bawb yr effeithir arnynt—y loes ynghylch y diffygion y mae gwasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf wedi ei beri i lawer iawn, iawn o rieni ac ar adeg a ddylai fod yn un o'r adegau mwyaf llawen yn eu bywydau. Mae'n rhaid i mi gyfaddef, rwyf hefyd wedi synnu o ddarllen penawdau yn y cyfryngau yn dilyn cyhoeddi'r diweddariad oedd yn dweud ei fod wedi gwneud cynnydd sylweddol, oherwydd fy nealltwriaeth i o hynny hyn yw bod y panel yn lled-gadarnhaol, a dyna rwy'n credu dylai fod yn sylfaen i'n disgwyliadau.

Rwyf eisiau talu teyrnged i waith y panel trosolwg annibynnol ar wasanaethau mamolaeth. Maen nhw wedi defnyddio'u profiad i helpu i ysgogi newid yn y bwrdd iechyd hwn. A gaf i hefyd, Gweinidog, fanteisio ar y cyfle hwn i ganmol y staff rheng flaen diwyd y mae'n rhaid eu bod wedi teimlo loes calon a digalondid mawr oherwydd methiannau gwasanaethau mamolaeth yn y bwrdd iechyd hwn a'r beirniadu a fu arnynt? Gobeithiaf fod agweddau cadarnhaol yr adroddiad hwn yn dangos bod pethau'n dechrau gwella a bod gwasanaethau mamolaeth ac, yn wir, y bwrdd iechyd cyfan bellach yn gwneud cynnydd a bod adolygiad gwirioneddol yn cael ei gynnal nid yn unig ym mhob agwedd ar y gwasanaethau mamolaeth ond mewn mannau eraill yn y bwrdd.

Roeddwn yn falch iawn o glywed bod y lefel staffio bellach ar raddfa briodol a bod arolygon ddwywaith yr wythnos o wasanaethau cyngor a chyswllt â chleifion wedi bod yn gyson gadarnhaol. Roedd hi hefyd yn galonogol iawn, Dirprwy Lywydd, clywed am yr adborth cadarnhaol yn dilyn ymweliadau dirybudd y cyngor iechyd cymuned a'r adroddiadau cadarnhaol gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ynglŷn â Chanolfan Eni Tirion yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Rwyf, fodd bynnag, yn gochel rhag barnu faint y mae pethau wedi newid nes inni glywed am yr adroddiad sydd i'w gyhoeddi ddiwedd y mis hwn am yr uned famolaeth yn Ysbyty y Tywysog Siarl ei hun.

Mae meysydd sy'n peri pryder o hyd, yn enwedig mewn cysylltiad â chyflymder y newid a chyflymder yr ymateb i geisiadau am wybodaeth a ddarperir i'r panel, felly, mae gennyf ambell gwestiwn yn y fan yma, Gweinidog. Deallaf nad yw'r panel ond wedi gallu cymeradwyo 25 o'r 79 cam gweithredu y gwnaethant gais i'r bwrdd eu cwblhau. Mae rhai o'r camau gweithredu hyn sy'n parhau heb eu cymeradwyo yn cynnwys gwelliannau mewn hyfforddiant, llywodraethu clinigol ac archwiliadau clinigol. Ydych chi'n fodlon â chyflymder y cynnydd, a pha amserlenni sydd gennych chi mewn golwg i gymeradwyo gweddill y camau hyn?

Rwy'n dal yn bryderus o ddarllen, Gweinidog, fod angen cyflymu pethau a gwell disgyblaeth weinyddol o hyd yn y ffordd y caiff y broses newid ei rheoli gan y bwrdd iechyd. Yn benodol, ni fu cymaint o gynnydd yn y fframwaith sicrwydd na chyda'r asesiad perfformiad integredig, sy'n fodd o fonitro ac asesu gwelliant hirdymor mewn canlyniadau. Gofynnwyd am gyflawni hyn erbyn mis Rhagfyr, ond mae wedi cael ei ohirio i fis Ebrill. Byddwn wedi meddwl bod hyn yn allweddol mewn gwirionedd i gyflawni'r newid hwnnw; tybed a wnewch chi ddweud wrthym ni pa sicrwydd y gallwch ei roi inni y caiff y terfyn amser hwnnw ei gyflawni, ar ôl cael ei ohirio unwaith yn barod.

Dywedodd y panel hefyd fod gwaith i'w wneud o hyd i ddatblygu'r cynllun gwella gwasanaethau mamolaeth yn gynllun cyfrifol gyda cherrig milltir, targedau a chanlyniadau clir. Unwaith eto, Gweinidog, mae'n peri pryder imi nad yw hyn ar waith eto ac mae'r ffaith nad yw'n bod, byddwn yn awgrymu i chi, yn rhoi negeseuon cymysg iawn. Gan y byddai cael y cynllun gwella gwasanaethau mamolaeth hwnnw pan fo'r holl fater hwn yn ymwneud â darparu gwasanaethau mamolaeth yn allweddol. Mae angen inni ailennyn ymddiriedaeth yn y system. Mae angen i ni sicrhau bod teuluoedd yn teimlo'n ffyddiog yn y dyfodol. Hoffwn pe baech chi'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynghylch pryd yr ydych chi'n disgwyl i hynny ddigwydd.

Mae'r dull o ymdrin â chwynion a phryderon yn parhau'n anghyson. Mae heriau sylweddol o hyd o ran mynd i'r afael â'r ôl-groniad hanesyddol o gwynion ac nid yw'n ddigon da. Dylai hyn fod wedi bod yn fater o flaenoriaeth i helpu rhieni sy'n galaru i symud ymlaen. Oherwydd rydym ni i gyd yn gwybod pan ddaw etholwyr i'n gweld ni am unrhyw fater pryd byddant yn credu y bu camweinyddiad cyfiawnder, ei bod hi'n anodd iawn symud ymlaen. Ac ni all y rhieni hyn wneud hynny. Deallais o ddarllen erthygl newyddion ddoe fod mam wedi colli ei baban cynamserol yn 2015. Cytunodd y bwrdd iechyd eu bod wedi torri eu dyletswydd gofal, ond nid yw hi eto wedi cael ymddiheuriad gan y bwrdd. Rwy'n credu bod gwir angen i ni wneud cynnydd cyflym yn hyn o beth.

Bu bylchau o ran capasiti a gallu o fewn y tîm gwella. Er enghraifft, bu'n rhaid iddynt ohirio'r broses o weithredu'r rhaglen adolygiadau clinigol o un mis gan nad oedd y panel yn ffyddiog bod gan y bwrdd iechyd y trefniadau angenrheidiol ar waith i gefnogi a sicrhau y gellid diwallu anghenion menywod a theuluoedd. Felly, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynghylch a ydych chi'n credu bod y tîm gwella bellach yn addas at y diben ac a all gyflawni hyn?

Yn olaf, Gweinidog, rwyf yn derbyn bod newidiadau derbyniol wedi'u gwneud, ond mae problemau sylfaenol o hyd, sef materion sy'n treiddio drwy'r holl fwrdd iechyd. Gwelsom ddiffygion bach a diffygion mwy, efallai, hyd yn oed, mewn meysydd eraill. Mae llawer o'r personél allweddol wedi newid ac rwy'n croesawu hyn. Rwy'n derbyn bod angen amser i staff newydd ymgartrefu, ymgynefino, bwrw iddi a symud ymlaen. Ond a ydych chi'n ffyddiog—yn wirioneddol ffyddiog—fod y bwrdd newydd, gyda'r Cadeirydd a fu'n goruchwylio rhai o'r pethau a ddigwyddodd o'r blaen, mewn sefyllfa briodol, a bod gennym y personél cywir mewn swyddi dylanwadol iawn i gael y maen hwn i'r wal nawr? Oherwydd mae angen i ni allu cau pen y mwdl ar y bennod drist iawn hon o ran darparu gofal i famau a theuluoedd yn y GIG.

16:50

Diolch am y rhestr o gwestiynau. Rwyf eisiau dechrau gyda'r sylw am yr effaith ar deuluoedd. O ran cwrdd â theuluoedd mae'n anodd tanbwysleisio yr effaith ar y teuluoedd hynny, nid ar un adeg yn unig, ac mae gwahanol bobl ar wahanol adegau o ran gwneud cynnydd, naill ai o ran gallu symud ymlaen neu beidio. Wrth gwrs, gwahanol bobl gyda gwahanol gyfrifoldebau. Mae'n un o'r anawsterau gwirioneddol a sylweddol sy'n ein hwynebu, nid yn unig fel cynrychiolwyr, ond wrth gwrs o ran y gwasanaeth ac yn wir yr hyn yr ydym ni'n ei wneud i wella hynny. Ond mae'r ymgysylltu uniongyrchol â theuluoedd wedi ychwanegu at hynny yn bendant a dyna un o'r pethau mwyaf calonogol, rwy'n credu, am yr hyn a wnaed o ran gwella hyd yma, sef ei fod yn mynd ati'n rhagweithiol i chwilio am fwy o adborth gan bobl sy'n defnyddio'r gwasanaeth ar hyn o bryd, yn ogystal ag ymgysylltu â theuluoedd sydd wedi dod ymlaen ac y bydd nifer ohonynt nawr yn mynd drwy'r broses adolygu clinigol ar wahanol adegau.

Mae wedi bod yn ddefnyddiol, rwy'n credu, gyda'r ddau ddigwyddiad a fu, un ym Merthyr ac un yn Llantrisant, i ofyn mewn gwirionedd i fenywod ddod ymlaen i roi eu barn eu hunain am arferion diweddar hefyd. Felly, rwy'n credu bod y rheini'n galonogol. Rwyf i, hefyd, yn edrych ymlaen at weld adroddiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ar eu hymweliad diweddar ag Ysbyty'r Tywysog Siarl, hefyd, i roi'r sicrwydd a'r gonestrwydd hynny ynghylch faint o gynnydd sy'n cael ei wneud.

Yn hynny o beth, mae eich sylw ynglŷn â'r ffordd yr adroddwyd hyn—wel, wrth gwrs, nid wyf yn gyfrifol am y ffordd y mae pobl eraill yn rhoi gwybod am hynny, ond yr hyn a ddywedodd y panel eu hunain oedd y bu cynnydd da a'u bod bellach yn lled-gadarnhaol ynghylch y dyfodol, a dyna sy'n arwyddocaol. Felly, nid oes unrhyw ddatganiad pendant yn dweud bod popeth yn iawn ac nad oes angen rhagor o waith, ac, yn yr un modd, mae rhan o'r optimistiaeth yn ymwneud â'r cynnydd a wnaed, ond, yn yr un modd, mae rhywfaint o'r pryder yn ymwneud â'r ffaith bod angen ichi weld rhai o'r agweddau hynny'n cael eu cynnal. Felly, ynglŷn â nifer o'ch cwestiynau am y cynnydd o gymharu ag argymhellion adolygiad y coleg brenhinol, ynglŷn â chyflymder y cynnydd y gwnaed sylwadau arno yn yr adroddiad ar dudalen 35, yn ogystal â thudalen 37 a 36 ar y pryd, am y cynllun gwella gwasanaethau mamolaeth. Ac mae a wnelo hynny i raddau â gonestrwydd ynghylch pa mor gyflym y mae'r bwrdd iechyd wedi gwneud cynnydd, yn yr un modd, ynglŷn â lle gwelwyd cynnydd, o ran bod eisiau gweld hynny yn ymwreiddio ac yn parhau mewn difrif. Felly, mae'r panel eu hunain wedi dweud, er eu bod yn cydnabod bod nifer o argymhellion wedi cael eu cyflawni, dyna pam eu bod nhw eisiau dychwelyd i ailedrych eu hunain ar hyn yn y chwech i 12 mis nesaf i wneud yn siŵr eu bod dal yno. Ac o ran rhai o'r agweddau hyn, maent yn cydnabod fod gwaith ar y gweill.

Felly, o ran un o'ch cwestiynau am gyflymder y cynnydd hwnnw, yr ateb gonest yw 'ydw' a 'nac ydw'. Ydw, rwy'n fodlon eu bod yn gwneud cynnydd a'u bod yn gwneud hynny mor gyflym â phosib. Fodd bynnag, nid wyf yn arbennig o fodlon oherwydd rwyf wastad eisiau iddynt allu gwneud y cynnydd hwnnw yn gyflymach, ond rhaid i mi gael cydbwysedd o ran y gofynion yr wyf yn eu rhoi ar y system, fel petai, oherwydd mae'n ymddangos mai'r pwynt cyffredinol yw nad ydynt yn gwneud unrhyw beth i beryglu diogelwch ac ansawdd y gwasanaeth, a'r gwelliannau y maen nhw'n eu gwneud. Ac yn sicr nid wyf eisiau gwneud unrhyw beth sy'n gwneud i bobl fod o dan gamargraff ynghylch sut y cawsom ni rywfaint o'r llanast hwn yn y lle cyntaf. Mae pobl eisiau cynnydd cyflym ac yn ceisio rhyw bennawd bachog, cyfleus, yn hytrach na gwneud rhywbeth sy'n gwneud y gwahaniaeth gorau posib i'n staff a'r bobl y maent yn gweithio gyda nhw ac yn eu gwasanaethu.

O ran eich sylw am gefnogi anghenion yn ystod adolygiadau clinigol a chyflymder gweithredu hynny, yna, ydw, rwyf wedi fy nghalonogi, yn enwedig ar ôl cael sgyrsiau dros yr wythnos diwethaf yn uniongyrchol gyda theuluoedd yn ogystal â phobl o'r bwrdd iechyd a'r panel gwella. Ac er y byddwn wedi dymuno i hynny fod wedi'i sefydlu o'r blaen, roedd y dewis bwriadol i beidio â dechrau tan fis Ionawr yn un anodd oherwydd, ar y naill law, roeddwn yn awyddus iawn i'r adolygiadau hynny ddechrau yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach. Cafwyd her onest wedyn ynghylch a ydych chi'n ysgrifennu at bobl ganol mis Rhagfyr, ychydig cyn y Nadolig, ac yn dweud wrthynt fod eu hadolygiadau ar fin dechrau, ac nid yw hynny'n ddewis syml i'w wneud. Rwy'n credu, ar y cyfan, mai'r peth priodol oedd gohirio hynny tan fis Ionawr cyn dechrau ar y broses honno, felly mae llythyrau wedi'u cyflwyno ddechrau mis Ionawr. Ond hefyd, mae hynny wedi rhoi mwy o amser i roi cymorth ar waith, ac mae a wnelo hynny â gwneud yr hyn sy'n iawn a'r hyn sy'n briodol, a pheidio â gwneud rhywbeth sy'n gyflym. Ac yn yr un modd, mae'n bwysig bod yn onest.

Gobeithiaf fod yr ail adroddiad gan y panel annibynnol yn rhoi'r sicrwydd hwnnw—bod gwir onestrwydd yn yr hyn a wnaed a pha mor hir y bydd yn ei gymryd cyn y gallwn ni gadarnhau bod y diwylliant a'r cynnydd wedi ymwreiddio, yn hytrach na dim ond ceisio gwneud rhywbeth sy'n gyfleus i mi neu i aelodau o'r bwrdd iechyd. Ac mae gennyf ffydd yn aelodau'r bwrdd, o'r aelodau gweithredol, y prif weithredwr dros dro a'r cyfarwyddwr meddygol newydd a'r cyfarwyddwr nyrsio, ac mae sylwadau yn yr adroddiad am yr effaith a gafodd y ddau unigolyn hynny wrth helpu i newid peth o'r diwylliant er gwell a oedd yn anodd i amrywiaeth o staff, ond hefyd pan gyfarfûm â staff, roeddent yn gadarnhaol ynghylch arweinyddiaeth y gwasanaeth ac roedd y gwahaniaeth yn y cyfarfodydd yn amlwg o gymharu â'r cyfarfod blaenorol a gefais gyda'r staff. Ond roedd ffydd hefyd yn y cadeirydd a'r aelodau annibynol, ac maen nhw'n hollol o ddifrif ynghylch y methiant a fu, ac y maen nhw wedi llwyr gydnabod hynny. Ac maen nhw wedi cydnabod nad oedd rhai o'r ffyrdd y cyflwynwyd neu na chyflwynwyd yr wybodaeth iddyn nhw yn dderbyniol, ac mae yna drylwyrdeb gwirioneddol yn ogystal â phenderfyniad, ac rwy'n credu bod capasiti a gallu gan y bwrdd a'i aelodau, gan gynnwys y cadeirydd, i wneud y peth priodol.

16:55

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am y datganiad? A gaf i yn gyntaf ddweud bod rhaid i ni fod yn bwyllog iawn wrth fesur pa mor bell rydyn ni wedi dod yn fan hyn? Oes, mae yna wella wedi bod, ond rydyn ni yn siarad yma am sgandal lle y bu farw babanod, lle cafodd bywydau eu chwalu. Ac mae'r adroddiad diweddaraf yn dangos lle'r oeddem ni wedi dod yn y daith wrth ymateb i'r sgandal honno, ac mae'n dangos yn glir fod yna ffordd bell i fynd i ateb hyd yn oed rhai o'r cwestiynau mwyaf sylfaenol.

Rhaid inni fod yn ofalus wrth awgrymu bod cynnydd sylweddol wedi'i wneud, oherwydd mae darllen y diweddariad diweddaraf yn dangos bod pryderon sylweddol o hyd, ac, mewn sawl ffordd, ar lefel eithaf sylfaenol. Fe wnaf i gyfeirio at sawl elfen o'r adroddiad:

'Mae mwy na dwy ran o dair...o'r camau gweithredu yn y cynllun gwella mamolaeth yn dal i fod yn waith ar y gweill';

'mae gwaith sylweddol o hyd i'w wneud er mwyn cyrraedd y safonau perfformiad y mae byrddau iechyd eraill yn eu cyflawni';

diffyg

'cerrig milltir, targedau a chanlyniadau clir';

'mae ffordd bell i fynd o hyd i wella systemau a phroses busnes hanfodol fel y rhai ar gyfer ymdrin â chwynion a phryderon'—

Mae'n rhestr eithaf hir—

'diffyg gallu mewn meysydd hollbwysig megis dadansoddi perfformiad, gwella ansawdd ac ymgysylltu â chleifion'.

Fe wnaf i grynhoi rhai o'm cwestiynau allweddol, tri neu bedwar cwestiwn efallai. Pam nad ydym ni eto wedi gweld datblygiad y metrigau a'r cerrig milltir allweddol a fydd yn caniatáu i'r panel trosolwg fesur yn union lle yr ydym ni arni er mwyn darparu asesiad cynnydd sy'n fwy seiliedig ar dystiolaeth

'gan ddefnyddio cyfuniad grymus o fesurau ansoddol a meintiol',

i ddyfynnu o'r adroddiad? Rwy'n credu bod angen i ni weld datblygu ffyrdd o fesur yn llawer mwy eglur faint o gynnydd a wnaed wrth ymateb i'r sgandal.

O ran lefelau staffio, cwestiwn penodol: rydych chi'n cadarnhau yn eich datganiad, yn bwysig iawn, bod y lefelau staffio ym maes bydwreigiaeth y bwrdd iechyd dros y naw mis diwethaf, bellach yn cyd-fynd â'r lefelau y mae Birthrate Plus yn eu hargymell. Yn ôl yr hyn yr wyf yn ei weld o'r adroddiad, nid yw'r panel yn gallu cymeradwyo hynny eto, oherwydd nid ydynt wedi gweld y cynllun gweithredu o hyd. Ar adeg ysgrifennu'r llythyr hwn, nid oedd pob swydd wag wedi'i llenwi. Felly, efallai y gallwch chi ddweud wrthym ni os oes rhywbeth wedi digwydd dros y tair wythnos diwethaf sy'n golygu bod y trothwy hwn bellach wedi'i gyrraedd, ond nad oedd hynny'n wir, mewn gwirionedd, adeg ysgrifennu'r adroddiad.

A wnewch chi egluro—y trydydd cwestiwn—pam rydych chi'n credu bod y panel yn dweud ei fod yn gynyddol bryderus ynghylch diffyg capasiti i sicrhau gwelliannau? Mae'n fy nharo, ar hyn o bryd, os oes elfennau sy'n destun pryder cynyddol, fod hynny'n rhywbeth a ddylai fod yn destun cryn bryder yn wir, ac efallai y dylai arwain at ymyrraeth ychwanegol i wneud yn siŵr fod y mater hwnnw o gapasiti yn y cam hwn yn cael sylw.

Yn olaf, pam, mewn perthynas â chwynion, yr ymddengys hi fod y diwylliant yn dal i fod mor amddiffynnol pan amlygir hynny fel mater o bwys? Rwy'n credu ein bod yn dal i glywed am staff clinigol yn dweud eu bod yn ei chael hi'n anodd cwyno. Ac o ran yr holl fater o newid diwylliant sydd ei angen, rwy'n credu, bod angen i ni fod â phwyslais clir o hyd, a bod yn rhaid cael fframwaith, rwy'n credu, ar gyfer dwyn rheolwyr y GIG i gyfrif yn y ffordd y mae staff clinigol yn cael eu dwyn i gyfrif er mwyn cynorthwyo i newid diwylliant a gweithredu hynny. Mae gennym ni reolwyr GIG rhagorol ym mhob rhan o'r GIG—fe wnes i gyfarfod â rhai rheolwyr rhagorol ac arloesol yn Ysbyty Gwynedd yr wythnos diwethaf—ond, yn amlwg, bydd gennych chi reolwyr gwael ac mae arnom ni angen fframwaith i sicrhau y cânt eu dwyn i gyfrif yn union fel y byddem ni yn dwyn meddygon neu nyrsys i gyfrif, y gellir eu diswyddo os ydynt yn tangyflawni.

Rydym ni'n sôn yn y fan yma fel pe bai angen inni gael ein hatgoffa am rywbeth sydd yn un o'r materion mwyaf difrifol y gallem ni ymdrin ag ef erioed yn ein Senedd, y fath fater, fel y crybwyllwyd yma o'r blaen, y byddai wedi arwain at ymddiswyddiad Gweinidogion mewn gwledydd eraill, a fyddai wedi arwain at ddisgyblu neu ddiswyddo uwch reolwyr. Rwy'n credu bod angen i ni atgoffa ein hunain bod y ffaith nad yw'r pethau hynny wedi digwydd yma yn awgrymu bod rhai o'r gwersi mwyaf sylfaenol a ddylai fod wrth wraidd hyn oll yn dal heb eu dysgu.

17:00

Fe wnaf i roi sylw i rai o'r pwyntiau mwyaf sylweddol, ac, unwaith eto, tynnu sylw at y ffaith nad wyf yn sicr wedi mynd ati i geisio gorbwysleisio maint y cynnydd na maint yr her sy'n dal i fodoli, ac, yng ngeiriau'r panel, mae'r bwrdd iechyd wedi gwneud cynnydd da ac mae'r panel yn lled-gadarnhaol ynghylch rhagolygon gwella yn y dyfodol. Nid oes awgrym o gwbl fod popeth wedi ei ddatrys, ac ni fyddech yn disgwyl hynny ar hyn o bryd, yn rhannol oherwydd bod rhai o'r heriau yn rhai tymor hwy, o ran newid, gwella ac ymgorffori diwylliant a'r newid diwylliannol hwnnw. A phe bawn yn sefyll ar fy nhraed heddiw ac yn ceisio honni bod yr holl newid diwylliannol hwnnw wedi digwydd a'i fod wedi ymwreiddio, ni fyddai neb yn yr ystafell hon yn fy nghymryd o ddifrif, ac ni ddylech chi ychwaith, ac, yn yr un modd, y teuluoedd a'r staff eu hunain. Felly, mae gonestrwydd ynglŷn â hyn—ni allwch chi fynnu newid a disgwyl gweld hynny. Bydd rhywfaint o hyn yn cymryd amser o reidrwydd, a pha un a yw'n wasanaeth cyhoeddus neu, yn wir, o fewn y sector preifat, nid yw newid diwylliant ac ail-lunio yn digwydd yn gyflym nac o reidrwydd yn hawdd.

Y rheswm arall pam na fyddech yn disgwyl gweld popeth yn cael ei ddatrys nawr, wrth gwrs, yw ein bod ar fin dechrau'r broses adolygu clinigol, ac rydym yn disgwyl dysgu llawer o hynny. Ac, ar ddiwedd y broses adolygu clinigol, byddwn yn gallu casglu ynghyd y gwahanol bethau a ddysgwyd a deall sut rydym yn disgwyl i hynny gael ei gymhwyso a sut rydym yn disgwyl i bobl weld tystiolaeth o'r cynnydd hwnnw. A chredaf fod hynny'n arwain at eich sylw ynghylch sut y byddwn yn gwybod a beth yw'r metrigau. A dyna arwyddocâd yr hyn sy'n cael ei ddatblygu nawr rhwng y bwrdd iechyd a throsolwg y panel annibynnol a'r matrics aeddfedrwydd y mae'r panel wedi'i amlinellu, ac i siarad am y lefelau a'r camau cynnydd, ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig. Felly, mae yna, wedyn, fesur gwrthrychol ar faint o gynnydd sydd wedi'i wneud a pha mor drylwyr ydyw, i ddarparu gwasanaeth da ac yna, o bosib, gwasanaeth enghreifftiol hefyd. A bydd y matrics aeddfedrwydd hwnnw y cyfeiriodd y panel ato, rwy'n credu, yn fesur pwysig i bob un ohonom ni yn y fan yma, ond hefyd yn allanol i'r cyhoedd ac i staff hefyd, ac, unwaith eto, y gonestrwydd yn asesiad y panel ynghylch faint o gynnydd a wnaed.

O ran eich sylw bod y panel yn pryderu fwyfwy am rai meysydd cynnydd, mae'n anodd, heb gyd-destun priodol yr ymadroddion yr ydych chi wedi'u dewis, ond rwy'n credu, pan edrychwch chi ar yr hyn y mae'r panel ei hun yn ei ddweud, eu bod yn cydnabod, gyda'r heriau y maent yn eu datgelu, fod y bwrdd iechyd yn ymateb yn briodol iddynt ac yn sicrhau bod adnoddau ar gael i wneud yn siŵr y gwneir cynnydd. Ac, yn amlwg, fel Llywodraeth, rydym ni wedi neilltuo mwy o adnoddau i'r rhaglen wella hon hefyd. Mae hynny'n cynnwys yr arian ychwanegol yr ydym ni wedi'i ddarparu i'r cyngor iechyd cymuned hefyd. Ond mae'r panel eu hunain yn cydnabod, o ystyried cynnydd ac ymrwymiad parhaus proses wella'r bwrdd iechyd, nad ydynt yn teimlo bod angen gwneud unrhyw argymhellion penodol ar hyn o bryd. Dylai hynny roi rhywfaint o ffydd i bob un ohonom ni, lle bynnag yr ydym ni'n eistedd yn y Siambr, ynglŷn â'r cynnydd, sef faint a wnaed mewn difrif, oherwydd disgwyliaf i'r panel hwn, os teimlant fod angen gwneud argymhellion, wneud hynny yn ddiduedd, a byddant yn cyhoeddi'r argymhellion hynny yn ogystal â'u dwyn at fy sylw i. Felly, rwy'n credu bod adnoddau priodol ar gael.

Ac, o ran bydwreigiaeth a Birthrate Plus, mewn gwirionedd, ddoe, wrth gael ei holi'n uniongyrchol a'i gyfweld, llwyddodd cadeirydd y panel i gadarnhau bod y bwrdd iechyd bellach yn cydymffurfio â Birthrate Plus. Ac mae a wnelo hynny â'r staff sydd yn ei le, yn ogystal â chyllido'n briodol, yn unol â'r nifer priodol o staff ar gyfer y sefydliad, a recriwtio mwy o staff. Nawr, nid yw hi byth yn wir y gallwch chi dynnu un llinell ac rydych chi naill ai un safle yn uwch neu un yn is ac rydych chi'n cydymffurfio â Birthrate Plus neu beidio. Felly, mewn gwirionedd, mae a wnelo hyn â pha mor llwyddiannus ydych chi o ran cynnal y niferoedd staff, a bod yn ymrwymedig mewn gwirionedd i gael sefydliad a ariennir yn briodol a'r gallu i recriwtio ar gyfer hynny. Ac, unwaith eto, dylai pob un ohonom ni gysuro'n hunain gyda'r ffaith bod y bwrdd iechyd wedi llwyddo i recriwtio pobl i ddod i weithio yn y sefydliad. Ar un adeg, roedd pryder na fyddent yn gallu gwneud hynny oherwydd y camau a gymerwyd a sut y cafodd y sefydliad ei labelu.

Yn olaf, eich sylw am reolwyr yn y gwasanaeth iechyd—nid wyf yn credu ei bod hi'n ddefnyddiol o gwbl awgrymu fy mod yn ochri gyda rheolwyr ac nid gyda phobl yr effeithiwyd arnynt yn uniongyrchol. Yn sicr nid dyna'r sgwrs uniongyrchol iawn yr wyf wedi'i chael gyda theuluoedd nac, yn wir, y staff. Yr hyn sydd arnaf eisiau ei weld yw'r gwelliant sy'n ofynnol i ddarparu'r ansawdd, y diogelwch a'r tosturi yn y gwasanaeth, ac i'r staff gael yr amodau gwaith a'r arweinyddiaeth i allu gwneud eu gwaith a'i wneud yn dda. Byddwn yn trafod y mater o gael rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer rheolwyr lawer gwaith eto, rwy'n credu, ond dydw i ddim yn meddwl bod hynny'n ein helpu ni o ran symud ymlaen gyda'r gwelliant angenrheidiol. Byddai'n gofyn am newid deddfwriaethol sylweddol, ac, os oes gan Blaid Cymru gynigion mwy pendant yr hoffent eu cyflwyno ar hyn o bryd, neu mewn Senedd yng Nghymru'r dyfodol, yna byddaf yn hapus i drafod â nhw. Ond rwy'n canolbwyntio ar gyflawni'r gwelliant y mae'n amlwg bod ar y teuluoedd hynny ei angen ac yn ei haeddu.

17:05

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i chi, Gweinidog, am eich datganiad? Fel eraill, hoffwn gydymdeimlo'n ddiffuant, a hynny ar goedd, â'r teuluoedd hynny yr effeithiwyd arnynt gan fethiannau uned famolaeth Cwm Taf. Rwy'n parhau i gysylltu â rhai o'r teuluoedd hynny, ac rwy'n gweld, yn sgil y cyswllt hwnnw a'r trafod parhaus â nhw, yn uniongyrchol yr effaith y mae hynny wedi'i chael ar eu bywydau, ac mae hynny'n rhywbeth na ddylem ni byth golli golwg arno. Ond a gaf i hefyd ddiolch i'r panel trosolwg am eu datganiadau a'r cyfathrebu gwell rwy'n credu sydd rhyngom ni nawr a'r bwrdd iechyd, sydd i'w groesawu yn fy marn i?

Nawr, nid wyf yn mynd i sôn am yr holl faterion a grybwyllwyd yn yr adroddiad—rwy'n gwybod na fyddai'r Dirprwy Lywydd yn caniatáu i mi beth bynnag—felly, tri phwynt byr gennyf fi. Yn gyntaf, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig dweud ar goedd fy mod yn dal i fyfyrio ar y ffaith bod y sefyllfa yn uned famolaeth Cwm Taf, mewn sawl agwedd, wedi bod yn sioc i mi, a dywedaf eto y tanseiliwyd fy ymddiriedaeth yn y bwrdd iechyd, ac mae'n mynd i gymryd peth amser a rhywfaint o dystiolaeth ddiriaethol o welliant tymor hir i'r ymddiriedaeth honno gael ei hadfer.

Yn ail, rwy'n credu ei bod hi'n deg cydnabod rhywfaint o ryddhad bod y panel trosolwg annibynnol ac arbenigol wedi nodi cynnydd yn ystod y cyfnod dan sylw. Fel Angela Burns, roeddwn yn falch o weld bod y panel i'w weld yn fodlon bod y broses o adrodd am ddigwyddiadau difrifol yn dechrau cydymffurfio, oherwydd mae'n bwysig cael dealltwriaeth glir o brofiadau cleifion. Rydym ni wedi gweld arwyddion gwirioneddol o welliant o'r adborth pythefnosol gan fenywod a'r teuluoedd eu hunain ar yr uned, sy'n wahanol iawn i'r hyn a adroddwyd o'r blaen, ac fel yr ydych chi newydd gyfeirio ato mewn ymateb i Rhun ap Iorwerth, mae lefel staffio bellach yn cydymffurfio â Birthrate Plus o ran bydwragedd, felly mae mwy o ffydd nawr o ran diogelwch. Felly, mae'n amlwg y croesewir yr holl gynnydd hwnnw.

Ond, yn olaf, sylwaf fod llawer i'w wneud eto. Gwaith ar y gweill yw hyn o hyd, ac nid wyf yn credu am un funud y gallwn ni laesu dwylo, fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol. Byddwch yn gwybod, Gweinidog, ein bod wedi cael adroddiadau yn y gorffennol pan gafodd camau gweithredu eu rhoi ar waith, y dechreuwyd llaesu dwylo a gwelsom bethau'n dirywio, ac mae'n bosib mai dyma sut y daethom ni i'r sefyllfa yr oeddem ynddi ddeunaw mis yn ôl. Felly, mae'n amlwg yn mynd i gymryd faint bynnag o amser a gymer hi er mwyn adolygu achosion y gorffennol ac i deuluoedd gael atebion, oherwydd mae angen yr atebion hynny ar deuluoedd er mwyn iddyn nhw gael symud ymlaen a sicrhau eu hunain na chaiff methiannau o'r fath eu hailadrodd yn y dyfodol. Gan fod y broses adolygu honno'n golygu gwaith hynod o dringar, roeddwn yn falch iawn o'ch clywed yn dweud y bydd teuluoedd yn ganolog iawn i'r gwaith hwnnw.

Felly, nawr, rwyf unwaith eto yn gofyn am sicrwydd gennych chi bod y panel annibynnol yn cael yr holl gymorth sydd ei angen arno er mwyn cwblhau ei waith mewn modd amserol, ond heb frysio, ac y bydd teuluoedd yr effeithir arnynt hefyd yn parhau i gael pa bynnag gymorth sydd ei angen arnynt tra bod hyn yn parhau, oherwydd, er gwaethaf y ffaith bod hyn yn mynd i gymryd peth amser i fynd i'r afael â'r holl faterion hyn, credaf fod cyfle yn y fan yma, gyda'r holl gymorth yn ei le, ac o ystyried y buddsoddiad enfawr mewn seilwaith cyfalaf, yn enwedig yn ysbyty'r Tywysog Siarl, y gallai ac y dylai hyn fod yn uned enghreifftiol. Nid wyf yn credu bod hynny'n ddim llai nag y mae menywod a theuluoedd ardal bwrdd iechyd Cwm Taf yn ei haeddu.  

17:10

Diolch am y sylwadau a'r cwestiynau, ac, yn wir, yn amlwg, rwyf wedi cwrdd â nifer o etholwyr Dawn Bowden yn y cyfarfodydd teulu, ac â nifer o etholwyr Dawn Bowden sy'n gweithio yn y gwasanaeth iechyd wrth imi gyfarfod â staff.

Mae'r sylw ynglŷn â meithrin ymddiriedaeth y mae Dawn Bowden yn ei wneud yn un yr wyf yn ei gydnabod. Ymhlith yr Aelodau dros etholaethau sy'n ymgysylltu'n rheolaidd â'r bwrdd ac Aelodau rhanbarthol, rwy'n credu bod hynny'n deimlad cyffredin, ac, yn yr un modd, o safbwynt y Llywodraeth, mae yna broblem wedi bod, ac mae hynny'n rhan o'r rheswm pam mae'r gwasanaeth mewn mesurau arbennig a bod y sefydliad yn destun ymyrraeth wedi'i thargedu. Mae angen iddynt feithrin yr ymddiriedaeth honno yn y ffordd y maent yn ymddwyn, a dyna pam mae adroddiad y panel ar gynnydd yn bwysig, ond mae'n nodi'r hyn y mae'r bwrdd iechyd yn ei wneud mewn gwirionedd i ymateb i'r heriau a wynebant, yn adweithiol ac yn rhagweithiol, ar y daith hon o wella.

Mae adrodd am ddigwyddiadau difrifol yn un arwydd o hynny. Mae'r ffaith eu bod nawr yn cydymffurfio'n briodol â lefelau Birthrate Plus yn arwydd arall o hynny, oherwydd, mewn gwirionedd, roedd pryderon ynghylch Birthrate Plus yn rhan o'r arwyddion o bryder, pan, ar ôl cael sicrwydd drwy swyddfa'r prif nyrs eu bod yn cydymffurfio â Birthrate Plus, roedd hi'n amlwg nad oeddent. Roedd hynny'n un o'r materion yr oedd y staff eu hunain yn cwyno amdano, ynglŷn â diffyg staff cyson ac am beidio â cheisio recriwtio'n briodol i'r swyddi gwag hynny. Felly, mae'r rheini'n bwysig iawn, gan fod angen eu cynnal er mwyn meithrin yr ymddiriedaeth y mae Dawn Bowden yn cyfeirio ati.

Ac o ran eich sylwadau ynghylch y panel ac a ydynt yn cael yr adnoddau priodol, 'ydynt', rwy'n credu yw'r ateb syml i hynny. Ac os bydd angen mwy o adnoddau iddynt wneud eu gwaith, yna wrth gwrs byddaf eisiau sicrhau eu bod yn parhau i gael yr adnoddau i wneud yr hyn sydd angen iddynt ei wneud. Enghraifft dda o'r hyn rydym ni eisoes wedi'i wneud, fodd bynnag, yw'r ffaith bod gennym y tîm llawer mwy hwn o adolygwyr clinigol. Gyda'r cynnydd yn nifer yr adolygiadau sydd angen eu cynnal, mae'n amlwg ein bod wedi gorfod sicrhau bod gennym ni fwy o adolygwyr; fel arall, byddai wedi bod yn gyfnod annerbyniol o hir i'r holl adolygiadau hynny gael eu cynnal. Bydd yn cymryd cymaint o amser ag y mae'n ei gymryd, ond mae llawer mwy o bobl yn ymgymryd â'r swyddogaeth nawr nag yr oeddem yn credu y gallem eu cael ar y dechrau, pan oedd dim ond tua 40 o achosion, mae'n debyg, i edrych arnynt. Bellach, fel yr ydym ni nawr, mae tua 140. Ond mater i'r panel edrych arno fydd hynny, yn ogystal â phobl sy'n gallu eu cyfeirio eu hunain i'r broses hefyd.

O ran eich sylw ynglŷn â sicrhau bod teuluoedd yn ganolog i'r adolygiadau clinigol a'r gefnogaeth iddynt, un peth sydd wedi bod yn ddefnyddiol yw'r ffordd y mae'r panel wedi cynhyrchu siart i helpu pobl i fynd drwy'r broses, gyda'r 12 cam ynddi. Nid yw wedi'i hysgrifennu fel dogfen ar gyfer gweithwyr gofal iechyd proffesiynol; mae wedi'i hysgrifennu ar gyfer y cyhoedd ehangach. Ac rwy'n credu y bu hi'n ddefnyddiol iawn i mi edrych ar honno a deall sut y bydd yn gweithio. Ar y cychwyn cyntaf, siaradais am y cyfle i deuluoedd adrodd eu hanes, a gallu gwneud hynny ac yna cael eu cefnogi i wneud hynny hefyd.

Oherwydd, fel y dywedais yn gynharach, nid oes modd cau pen y mwdl ar yr hyn sydd wedi digwydd ym mhob un o'r grwpiau teuluol ar ôl cyfnod penodol. Felly, mae'r cymorth parhaus y bydd ei angen ar bobl ar ôl y posibilrwydd o golled neu niwed a achosir i rywun. A hyd yn oed os nad oes unrhyw niwed corfforol wedi'i achosi, yna bydd y ffordd y caiff pobl eu trin yn elfen pan fydd angen cymorth. Ac yn y digwyddiadau teuluol, rydym ni wedi cael grŵp Teardrop a'r grŵp Sands yno i roi cymorth hefyd, i wneud yn siŵr bod pobl yn cael eu cefnogi drwy'r broses gyfan hon, ac i'r bwrdd iechyd ddeall yr anghenion gofal parhaus sy'n bodoli.

Unwaith eto, mae hynny i gyd yn rhan o ailennyn ymddiriedaeth a ffydd. Cawsom gymorth yn hynny o beth gan y ffaith y bu nifer o deuluoedd y gwyddom iddynt ddioddef niwed a cholled yn fodlon rhoi o'u hamser i helpu'r bwrdd iechyd i wella, ac mae'n gymhelliad gwirioneddol anhunanol ein bod yn cydnabod mewn llawer o bobl, nad ydyn nhw eisiau i bobl eraill fynd drwy'r hyn y maen nhw wedi'i brofi, ac maen nhw wedi aberthu llawer eu hunain i geisio gwneud yn siŵr nad yw hynny'n digwydd. Mae'n ddyletswydd ar bob un ohonom ni i sicrhau nad yw amser, egni ac ymdrech yn cael eu gwastraffu.

17:15

Fe hoffwn innau hefyd gydymdeimlo ar goedd â'r holl deuluoedd yr effeithiwyd arnynt.

Diolch am eich datganiad, Gweinidog, ac am hwyluso'r briffio gyda'r panel annibynnol a'ch swyddogion. Rwy'n croesawu'r cynnydd sy'n cael ei wneud i sicrhau bod gwasanaethau mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn ddiogel i'm hetholwyr.

Fel y mae'r panel yn tynnu sylw ato, mae ffordd bell i fynd. Mae'r panel yn lled-gadarnhaol. Felly, gofynnaf i chi, Gweinidog, pa mor gadarnhaol ydych chi? Un o'r prif bethau sydd i'w weld o'r diweddariad chwarterol hwn yw nad yw'r bwrdd iechyd lleol yn gwneud digon. Yng ngeiriau'r panel annibynnol, mae angen iddynt brysuro. Gweinidog, pa bwysau allwch chi ei roi i sicrhau bod y bwrdd iechyd lleol yn gwneud cynnydd cyflymach?

Fel y mae'r panel yn tynnu sylw ato, mae ymdrin â chwynion yn dal yn destun pryder. Mae'r bwrdd iechyd lleol yn cael trafferth gyda'r broses. Gweinidog, gan fod adroddiad Andrews wedi gwneud argymhellion ynghylch prosesau cwyno bum mlynedd yn ôl, mae'n destun pryder bod y byrddau iechyd yn dal i'w chael yn anodd ymdrin â chwynion a phryderon. Oes gennych chi unrhyw ffydd y gall byrddau iechyd lleol ddysgu gwersi o achosion mewn byrddau iechyd eraill? Sut gallwn ni fod yn sicr nad yw'r methiannau yng Nghwm Taf yn cael eu hailadrodd mewn byrddau iechyd eraill? Wedi'r cyfan, roedd y methiannau mamolaeth yng Nghwm Taf yn digwydd o dan drwyn pobl am flynyddoedd. Gweinidog, ydych chi'n ffyddiog bod model y bwrdd iechyd lleol yn gweithio i gleifion yng Nghymru? Sut y gallwch chi ein sicrhau ni o hyn?

Yn olaf, Gweinidog, mae'r cyngor iechyd cymuned wedi chwarae rhan hanfodol yn ystod y broses hon ac mae wedi parhau i eiriol dros y menywod a'r teuluoedd y mae'r sefyllfa hon wedi effeithio arnynt. Mae'n galonogol y cafwyd adborth cadarnhaol yn sgil ymweliadau dirybudd diweddar. Gweinidog, ydych chi'n cytuno bod yr ymweliadau dirybudd hyn yn rhan hanfodol o dawelu meddyliau'r cyhoedd bod gwasanaethau'r GIG yn ddiogel? Ac os felly, a wnewch chi ddiwygio eich Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) i sicrhau y gall ymweliadau dirybudd barhau o dan y corff newydd y bwriedir iddo ddisodli'r cynghorau iechyd cymuned?

Croesawaf y cynnydd a wnaed yng Nghwm Taf a gobeithiaf y byddwch yn gwneud popeth a allwch chi i sicrhau bod adroddiad nesaf y panel annibynnol yn dangos cynnydd cyflymach tuag at weithredu pob un o'r 79 cam gweithredu yn y cynllun gwella gwasanaethau mamolaeth. Diolch yn fawr.

17:20

Wel, fel y byddech yn ei ddisgwyl, pan fyddaf yn cwrdd â chadeirydd a phrif weithredwr y bwrdd iechyd, dyma un o'r pynciau yr ydym yn eu trafod: pa mor effeithiol a pha mor gyflym y mae'r bwrdd iechyd yn ymateb i'r gwelliannau sydd eu hangen, ac yn wir, lefel yr ansawdd a diogelwch sy'n cael ei ddarparu mewn gwasanaethau mamolaeth heddiw ac yn y dyfodol.

Ac fel y dywedais yn fy natganiad, ac yn adolygiad Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a gyhoeddwyd ym mis Rhagfyr ar ganolfan eni Tirion, mae menywod yn rhoi adborth da ar hyn o bryd, ac mae ymdrech llawer mwy rhagweithiol i fynd ati i sicrhau bod adborth gan fenywod i ddeall beth sy'n digwydd yn y gwasanaeth heddiw.

Mae angen i'r holl fyrddau iechyd ddysgu, o ran ymdrin â chwynion, lle yr ydym ni wedi gweld cynnydd gwirioneddol, ac mewn gwirionedd mae pethau'n llawer gwell ar hyn o bryd o ran ymdrin â chwynion yng Nghwm Taf, ond mae her o hyd ynghylch newid diwylliant a ffordd o weithio amddiffynnol iawn. Felly, mae'r panel annibynnol eu hunain yn gwneud sylwadau ar hynny, ac yn sicr, mae mwy o ddysgu a gwella i ddod, nid yn unig yn y bwrdd iechyd hwn, ond mewn rhai eraill hefyd.

O ran eich sylw am gynghorau iechyd cymuned ac eiriolaeth, wel, wrth gwrs, rydym ni wedi darparu adnoddau ychwanegol ar gyfer yr anghenion eiriolaeth ychwanegol y disgwyliwn i'r cynghorau iechyd cymuned eu cael. Ac o ran eich sylw am ymweliadau, mae Cyfnod 2 o'r Bil ar y gweill ddydd Iau, ac nid wyf eisiau gweld datganiad heddiw—sy'n ymwneud â gwasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf—yn mynd ar goll yn hynny. Bydd cyfle i edrych yn fanwl ar yr ymrwymiadau a roddwyd gennyf yn flaenorol ynghylch y dymuniad i gael canllawiau statudol a rhagdybiaeth o blaid ymweliadau. Ond ni ddylid drysu rhwng swyddogaeth y cynghorau iechyd cymuned ac ymweliadau dirybudd yr arolygiaeth, sydd wedi digwydd, ac wrth gwrs y darn mwy o waith thematig y maent yn ei wneud ar wasanaethau mamolaeth ar draws y wlad—edrychaf ymlaen at gyhoeddiad hwnnw yn ddiweddarach yn y flwyddyn.

Ond, nid oedd yr hyn a ddigwyddodd yn digwydd cymaint o dan drwynau pobl pan oedd pobl yn ymwybodol ohono, yr her oedd bod hyn yn digwydd yn y dirgel ac o olwg y rhai a oedd yn gwneud penderfyniadau a'r bwrdd, ac mae hynny'n sicr yn un o'r pethau yr ydym ni wedi eu dysgu am y rheolaeth honno o ran nifer cyfyngedig o bobl yn y sefydliad.

Diolch. Rydym ni wedi cael siaradwyr o bob un o'r prif bleidiau. A gaf i ofyn i'r ddau siaradwr nesaf grynhoi eu cyfraniadau, ac a all y Gweinidog hefyd grynhoi ei atebion ychydig, ac wedyn ni fyddwn ni ymhell ar ei hôl hi? Mick Antoniw.

Gweinidog, mae'r rhan fwyaf o'r sylwadau yr oeddwn eisiau eu gwneud eisoes wedi'u gwneud, ac rydych chi wedi ateb y rhan fwyaf ohonynt. Dim ond un pwynt sydd, yn amlwg, yn peri pryder, sef y cyfeiriadau at y diwylliant o gosbi sy'n bodoli yn y gwasanaethau mamolaeth. Wrth gwrs, mae'n rhywbeth sydd wedi bod yn destun sôn a phryder ers cryn amser. Ac rydych chi'n dweud yn eich datganiad, wrth gwrs, eich bod wedi cyfarfod â staff. Mae newid y diwylliant hwnnw yn gwbl sylfaenol i lwyddiant y gwaith o lwyr wyrdroi sut mae'r gwasanaethau mamolaeth yn gweithio, a chyflawni hynny. Tybed pa drafodaethau ydych chi efallai wedi'u cael, er enghraifft, gyda'r undebau llafur sy'n cynrychioli'r staff hynny a beth fu'r adborth gan y staff, a sut ydych chi'n gwerthuso'r cynnydd? Oherwydd yn yr adroddiad, mae'n dweud bod ymdeimlad o hyd bod y diwylliant o fewn y gwasanaeth yn dal i fod yn un sy'n cosbi. Mae'n sôn am waith sy'n mynd rhagddo, ac wrth gwrs mae'n cydnabod bod newid mewn diwylliant yn cymryd amser, ond gwaith sydd ar y gweill yw hyn i raddau helaeth. Ond mae'n ymddangos i mi mai dyma un o'r pwyntiau craidd am newid, tybed sut yr ydych chi'n gwerthuso ac yn monitro'r agwedd benodol honno.

Mae hwnnw'n sylw sydd nid yn unig yn deg, ond yn un pwysig, a rhan o'n her ni ynghylch dymuno ffeirio diwylliant o gosbi am un sy'n dysgu yw cydbwyso hynny â galwadau'r bobl am atebolrwydd, boed ar y brig, neu yn y canol, neu ar waelod sefydliad hefyd. Felly, mae ofn y caiff pobl eu cosbi os byddant yn sôn am eu pryderon—mae hynny'n rhan o'r hyn a barodd i hyn gael ei guddio—ac mae'n ymwneud wedyn â'n gallu i dorri drwy hynny.

Mae hefyd, er hynny—. Pan edrychwch chi ar yr adroddiadau gan fenywod a theuluoedd a'r ffordd yr oedd rhai wedi cwyno am y modd y cawsant eu trin, roedd angen mewn gwirionedd ymrafael â'r diwylliant cyffredinol hwnnw oedd yn bodoli mewn rhai rhannau o'r tîm staff ac i chwalu rhywfaint ohono. Roedd hynny'n anodd oherwydd bod y staff hynny, pan gawsant eu symud, yn teimlo bod yna weithredu yn eu herbyn a'u bod yn cael eu cosbi. Felly, nid yw'n syml, ond rwy'n credu bod y cyfarwyddwr nyrsio yn arbennig wedi ymyrryd i wneud y peth priodol, o ran newid rhai o'r patrymau rota ac o ran yr arweinyddiaeth ar werthoedd ac arferion hefyd.

Mae'n bendant yn cynnwys undebau llafur, yn enwedig Coleg Brenhinol y Bydwragedd ac Unsain fel y ddau undeb llafur mwyaf, ac maent yn trafod yn uniongyrchol â'r bwrdd iechyd i geisio newid a gwella rhywfaint o hyn. Yn sicr, daeth hynny i'r amlwg yn y cyfarfodydd staff a gefais. Roedd yn newid sylweddol, o ddicter a siom a rhai pobl ddim yn teimlo balchder yn eu gwisg, i ragolwg llawer, llawer gwell gan y staff eu hunain. Felly, mae rhywfaint o gynnydd wedi'i wneud, ond mae angen gwneud mwy. 

17:25

Diolch, Gweinidog, am eich datganiad heddiw. Mae'n sicr yn awgrymu y bu peth cynnydd o ran unioni pethau yng ngwasanaethau mamolaeth Cwm Taf Morgannwg. Rwyf hefyd yn ddiolchgar iawn eich bod wedi ymgysylltu â menywod a theuluoedd a chyda staff, gan gynnwys teuluoedd o'm hetholaeth fy hun, sydd wedi ymgysylltu â'r fath urddas yn y broses er mwyn ceisio sicrhau nad oes unrhyw deuluoedd eraill yn profi'r math o golled y maen nhw wedi'i dioddef. Byddant yn gwybod pwy ydynt, gan fy mod yn sôn amdanynt yma heddiw, ac rwy'n parhau i gydymdeimlo'n ddwys iawn â nhw a'r holl deuluoedd eraill yr effeithiwyd arnynt.

Fe wnaethoch chi sôn am y broses adolygu clinigol, ac rwy'n cytuno ei bod hi'n bwysig iawn y clywir llais y teulu yn rhan o hyn. Rwy'n gwybod y bu rhai pryderon ynghylch ail-archwilio cofnodion er mwyn i ni fynd i wraidd yr hyn a aeth o'i le. Pa sicrwydd allwch ei roi o ran hynny'n benodol? Sylwaf hefyd ar eich sylwadau ynghylch disgwyl gwelliannau cyflym a chynaliadwy yn yr ymateb i bryderon a chwynion cleifion, a hoffwn ategu hynny'n gryf. Pan fyddaf yn codi materion gwaith achos gyda'r bwrdd iechyd ar amrywiaeth o bethau, nid dim ond materion mamolaeth, rwy'n synnu'n aml faint o amser y gall ei gymryd i ymateb i gwynion, heb sôn am eu datrys. Yn eich barn chi, beth yn union fyddai'r gwelliannau yn y broses hon? A oes unrhyw enghreifftiau o arferion gorau gan fyrddau iechyd o ran ymdrin â chwynion? A sut caiff hyn ei fonitro fel y gellir nodi unrhyw dueddiadau neu batrymau?

O ran y sylw am gwynion, rydych chi yn llygad eich lle, a soniais yn gynharach am gefnu ar ddull amddiffynnol o wneud pethau. Rwy'n gwybod, a minnau'n Aelod etholaeth, pan ddeuthum i'r fan yma gyntaf, fod yr ymateb gan y swyddogaeth gwynion ym Mwrdd Iechyd Caerdydd a'r Fro yn wahanol iawn, o ran prydlondeb ond hefyd o ran ansawdd ymatebion. Rwy'n credu'n llwyr fy mod, fel Aelod etholaeth nawr, yn cael ymateb llawer gwell gan y bwrdd iechyd nag a gefais ar y dechrau—ac nid yw hynny'n ymwneud â'r newid yn fy sefyllfa yn y Llywodraeth, rwy'n credu ei fod yn ymwneud mewn gwirionedd â'r ffordd y mae'r bwrdd iechyd yn ymdrin â'r cwynion hyn nawr.

Yn sicr, nid yw'r gwelliant yn y swyddogaeth gwynion sy'n digwydd yng Nghwm Taf wedi'i gwblhau, ond mae ymarfer o fewn y GIG i edrych ar hynny ac i ddysgu o hynny eisoes. Ond yn arbennig, elfen bwysig o hyn yw'r teuluoedd hynny sydd wedi mynd drwy'r broses eisoes ac sydd wedi cael canlyniad, hyd yn oed fel yr ydym ni nawr, gan sicrhau nad yw hynny'n rhwystro bwrdd iechyd rhag ymddiheuro. Ymhell o fod yn wahoddiad i gamau cyfreithiol, yn aml, dyna'r hyn y mae teuluoedd yn chwilio amdano. Nid yw'n effeithio ar y prawf ar dorri dyletswydd gyfreithiol ai peidio, ond mae'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i'r teuluoedd pan dderbyniant ohebiaeth sydd yn ymddangos yn fwy agored ac yn ymddiddori ynddyn nhw a'u profiad, yn hytrach na rhywbeth sy'n ymddangos yn llym ac yn gyfreithiol ei naws—a dywedaf hynny a minnau'n gyn-gyfreithiwr.  

O ran eich sylw am y profiad teuluol, mae hyn yn wirioneddol bwysig ei ailadrodd. Bydd y profiad teuluol yn un o elfennau cyntaf y broses adolygu clinigol. Felly, bydd pobl yn cael cyfle priodol i adrodd eu hanes ac yn cael cymorth i wneud hynny. Dyna ran o'r rheswm pam yr ydym ni wedi rhoi adnoddau ychwanegol i gynghorau iechyd cymuned. Ac ni fydd y broses honno yn ystyried y nodiadau yn unig, gan fod a wnelo rhai o'r cwynion sydd gan deuluoedd â'u cred nad yw'r hyn sydd yn y nodiadau yn gywir a bod hynny'n rhan o'r hyn sy'n cael ei herio yn rhywfaint o'r broses gyfreithiol sy'n mynd rhagddi. Ond hefyd, bydd yr ohebiaeth ynghylch y gofal hwnnw hefyd yn rhan o'r hyn y mae'r broses adolygu clinigol yn ei ystyried. Felly, ni fydd yn unig yn fater o ddarllen nodiadau clinigol a derbyn y cynnwys fel gwirionedd pur; bydd cyfle i gleifion adrodd eu stori. Oherwydd bod rhywfaint o hyn yn ymwneud â'r ffordd y mae pobl wedi teimlo yn ystod y broses, ac ni allwch chi ddirnad hynny o'r nodiadau yn unig bob tro.

Rwy'n credu ei bod hi hefyd yn bwysig dweud, yn y broses adolygu clinigol, ar ôl yr haen gyntaf o adolygiadau sy'n digwydd, bod cyfle o hyd i hunangyfeirio. Maen nhw bellach wedi cytuno ar y ffordd y gall pobl sy'n pryderu am eu gofal eu cyfeirio eu hunain ac yna cael penderfyniad, sy'n cynnwys y panel annibynnol, ynghylch a fyddan nhw'n derbyn adolygiadau ar gyfer pryderon mwy hirsefydlog hefyd.

Ond fe hoffwn i orffen, Llywydd, drwy gytuno â'r sylw a wnaeth Vikki Howells am urddas teuluoedd—rwy'n rhyfeddu at yr urddas y mae pobl wedi'i ddangos—ond hefyd y loes barhaus a'r effaith y mae'n ei chael heddiw.

17:30
5. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Canfasiad Blynyddol) (Diwygio) (Cymru) 2020

Eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma yw Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Canfasiad Blynyddol) (Diwygio) (Cymru) 2020, a galwaf ar y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol i gynnig y cynnig. Hannah Blythyn.

Cynnig NDM7230 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Canfasiad Blynyddol) (Diwygio) (Cymru) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 10 Rhagfyr 2019.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch heddiw o gael dod â chynnig gerbron i gymeradwyo Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Canfasiad Blynyddol) (Diwygio) (Cymru) 2020. Mae'r canfasiad blynyddol presennol ar gyfer etholwyr yn hen ffasiwn ac yn feichus, mae'n ddrud ac yn gymhleth i'r swyddog cofrestru etholiadol ei weinyddu a gall arwain at ddryswch i'n dinasyddion. O gofio hyn, rydym wedi gweithio gyda llywodraethau'r Alban a'r DU i foderneiddio a symleiddio'r canfasiad blynyddol er mwyn sicrhau ei fod yn addas i'r diben ar draws y cenhedloedd ar gyfer pob un o'n hetholiadau. Mae'r gwaith hwn yn rhan o ystod o ddiwygiadau etholiadol, gan gynnwys ymestyn yr etholfraint ar gyfer etholiadau datganoledig a gyflawnwyd yn rhannol gan Ddeddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020, a fydd yn cael ei gwblhau gan Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru).

Bydd Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) hefyd yn cynnwys rhai darpariaethau pwysig eraill sydd â'r nod o wella cofrestru pleidleiswyr yn yr hirdymor, megis cofrestru ar gyfer ceisiadau, sydd weithiau yn cael ei alw'n cofrestru awtomatig, a'r opsiwn i greu cronfa ddata Cymru gyfan o wybodaeth cofrestru etholiadol. Ynghyd â'r newidiadau yn y canfasiad blynyddol a gyflwynir gan y rheoliadau hyn, bydd ein diwygiadau etholiadol yn cydweithio i foderneiddio'r prosesau cofrestru yn ogystal â gwella effeithlonrwydd a phrofiad pleidleiswyr. Gyda'i gilydd, maen nhw'n cynrychioli newid sylweddol yn ein system etholiadol ac yn ein rhaglen eang o waith.

Amcanion y diwygiadau canfasiad yw gwneud y broses yn symlach ac yn gliriach i ddinasyddion, rhoi mwy o ddisgresiwn lleol i swyddogion cofrestru etholiadol a diogelu cywirdeb ac uniondeb y gofrestr etholiadol. Bydd y diwygiadau canfasiad hyn hefyd yn mynd i'r afael â'r gost ychwanegol a gynhyrchir drwy gofrestru etholiadol unigol ac yn gwella cywirdeb ein cofrestr etholiadol. Wrth i'r fasnachfraint ehangu i gynnwys pobl 16 ac 17 oed a dinasyddion tramor cymwys, mae'n hanfodol sicrhau cywirdeb ac uniondeb parhaus y gofrestr etholiadol i'r eithaf.

Mae'r gymuned etholiadol yng Nghymru wedi cyflawni ei chyfrifoldebau cofrestru ac ethol i safonau uchel iawn yn gyson. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae wedi bod o dan amgylchiadau anodd iawn. Mae cadernid ein hetholiadau yn barhaus, diolch i'r gymuned bwysig hon o weithwyr proffesiynol, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i gofnodi ein diolch am eu gwaith caled a'u hymroddiad parhaus.

Felly, anogaf yr Aelodau yma i gymeradwyo'r cynnig hwn er mwyn inni barhau i ddwyn prosesau etholiadol i mewn i'r unfed ganrif ar hugain a helpu ein democratiaeth i ffynnu.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Ystyriwyd y rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ar 13 Ionawr a gosodwyd ein hadroddiad gerbron y Cynulliad ar 14 Ionawr. Cododd ein hadroddiad un pwynt rhinweddau o dan Reol Sefydlog 21.3. Gwnaethom nodi a chroesawu'r wybodaeth drylwyr a ddarparwyd ym memorandwm esboniadol y rheoliadau. Hefyd, fe wnaethom nodi sut y mae'r rheoliadau, a osodwyd ar 10 Rhagfyr 2019, yn dibynnu ar Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) (Gorchymyn) 2019. Ni ddaeth y Gorchymyn hwn i rym tan 18 Rhagfyr 2019. Cytunasom ei bod yn briodol gosod y rheoliadau hyn cyn gwneud y Gorchymyn adran 109 er mwyn rhoi digon o amser i'r Cynulliad graffu arnynt. Diolch, Dirprwy Lywydd.

Hapus. Iawn. Y cynnig yw bod y cynnig yn cael ei gytuno. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

6. Cyfnod Pleidleisio

Nid oes gennym unrhyw eitemau i bleidleisio arnynt yn y cyfnod pleidleisio.

Cyn i ni symud i'r ddadl Cyfnod 3 ar Fil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru), byddaf yn atal y Trafodion tan 17:40. Felly, dyna chwe munud. A dydyn ni ddim yn canu'r gloch felly mae'n rhaid i reolwyr busnes wneud yn siŵr bod eu Haelodau i gyd i mewn. Felly, am 17:40, byddwn yn ailymgynnull ar gyfer Cyfnod 3 y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru).

Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:34.

Ailymgynullodd y Cynulliad am 17:40, gyda'r Llywydd yn y Gadair.

17:40
7. Dadl: Cyfnod 3 y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru)

Dwi'n ailgychwyn y sesiwn, a dyma ni'n cyrraedd Cyfnod 3 y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru).

Grŵp 1: Dyletswydd i hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd (Gwelliannau 1, 2, 3, 4, 5)

Rydym ni'n trafod yn gyntaf grŵp 1 o welliannau, ac mae'r grŵp cyntaf o welliannau yn ymwneud â'r ddyletswydd i hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd. Gwelliant 1 yw'r prif welliant yn y grŵp yma, a dwi'n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliant yma a'r gwelliannau eraill yn y grŵp—Janet Finch-Saunders. 

Cynigiwyd gwelliant 1 (Janet Finch-Saunders).

Diolch, Llywydd. Rwy'n siarad am welliannau 1 i 5, sy'n ymwneud â'r ddyletswydd i hybu ymwybyddiaeth y cyhoedd. Wrth gwrs, fe wnaethom ni gyflwyno'r gwelliannau hyn yng Nghyfnod 2 gyda'r farn, gan fod hwn yn ddarn o ddeddfwriaeth mor ddadleuol gydag effeithiau pellgyrhaeddol ar rieni cyffredin, sydd fel arall yn parchu'r gyfraith, bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru barhau â'i hymgyrchoedd i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd y tu hwnt i Gydsyniad Brenhinol y Bil. Unwaith eto, er gwaethaf bwriad y Bil i atal math penodol o ymddygiad, byddwn yn dadlau na allai goblygiadau posib dileu'r amddiffyniad o gosb resymol fod yn fwy arwyddocaol. Mae hyn yn gwneud rhieni yn agored i gosbau troseddol, yn hytrach na throseddau sifil llai, fel yn achos y gwaharddiad ar ysmygu, sy'n golygu, i rieni a theuluoedd, y gallai hyn arwain at gofnodion troseddol parhaol, difetha cyfleoedd cyflogaeth ac o bosib gwahanu. Felly, rhaid i ymwybyddiaeth gyhoeddus fod yn elfen ganolog o weithrediad y Bil.  

Felly, gwelliannau 1 a 5: gan droi at welliant 1, yng Nghyfnod 2, sicrhaodd y Dirprwy Weinidog y pwyllgor y byddai ymgyrchoedd ymwybyddiaeth gyhoeddus y tu hwnt i Gydsyniad Brenhinol y Bil, ac felly roedd hi'n credu nad oedd angen y gwelliant hwn. Nawr, os yw Llywodraethau Cymru yn y dyfodol i adrodd ar effeithiolrwydd a goblygiadau'r Bil i'r Cynulliad, yna siawns nad yw ymwybyddiaeth gyhoeddus yn ganolog i lwyddiant y Bil o ran newid ymddygiad a dylai'r Llywodraeth hefyd ei ystyried ar y cyd. Mae'n wir nad oes terfyn amser ar gyfer y gwelliant hwn, ond nid ydym yn disgwyl i hyn gael ei weithredu'n barhaus ac yn ddiddiwedd. Bwriad gwelliant 1 yw sicrhau bod y Cynulliad, wrth asesu a chael mewnbwn yng ngweithrediad y Bil, yn gallu dod i gasgliad ynghylch pa mor ymwybodol yw'r cyhoedd o oblygiadau'r Bil ac a oes angen i Lywodraethau Cymru yn y dyfodol fynd ymhellach yn eu hymgyrchoedd eu hunain.

Yn ystod hynt Bil yr Alban, nododd rhanddeiliaid a roddodd dystiolaeth gerbron y Pwyllgor Cydraddoldebau a Hawliau Dynol, ar wahân i ymgyrchoedd ymwybyddiaeth y cyhoedd adeg gweithredu'r ddeddfwriaeth, fod yn rhaid cydnabod hefyd, gan fod pobl yn dod yn rhieni drwy'r amser, bod rhaid cael ymrwymiad parhaus i ymgyrchu ynghylch ymwybyddiaeth. Mae hwn yn bwynt rhagorol mewn gwirionedd sy'n dangos yn glir yr angen am ymgyrch ymwybyddiaeth barhaus. Nid yw rhianta'n dod i ben adeg Cydsyniad Brenhinol Bil, ac nid yw'n dod i ben chwe blynedd yn ddiweddarach. Dirprwy Weinidog, credaf mai eich dyletswydd chi yw cael y cyhoedd yng Nghymru ar eich ochr chi, yn hytrach na chreu awyrgylch o elyniaeth ac ymwrthedd, ac mae ymwybyddiaeth gyhoeddus barhaus yn hanfodol er mwyn i chi gyrraedd y nod hwnnw.

Er i'r Bil hwn gael ei osod ger ein bron am flwyddyn fwy neu lai, mae'r adborth a gawsom yn hynod negyddol. Dangosodd ymgynghoriad y pwyllgor nad oedd bron i ddwy ran o dair o'r ymatebwyr yn cefnogi'r Bil hwn. Dangosodd arolwg y Ceidwadwyr Cymreig eu hunain fod 79 y cant o'r ymatebwyr yn erbyn y gwaharddiad, gyda sylwadau'n cynnwys y canlynol: 'Ni ddylai'r wladwriaeth ddweud wrth bobl sut i fod yn rhiant. Mae Deddfau ar waith eisoes', ac 'Nid oes angen gwneud rhieni'n droseddwyr. Mae effaith yr heddlu yn mynd â rhiant oddi ar blentyn yn cael mwy o effaith ar y plentyn na chaiff smacen fechan.'

Mae cryfder barn o'r fath yn awgrymu bod angen i Lywodraeth Cymru wneud llawer mwy o waith i gael derbyniad i'r syniad hwn y tu allan, wrth gwrs, i'r cylchoedd proffesiynol arferol.

Mae gwelliant 5 yn ymestyn yr ymgyrch codi ymwybyddiaeth i ymwelwyr â Chymru. Yng Nghyfnod 2, fe wnes i amlinellu, er i brif erlynydd y Goron ddweud,

nid yw anwybodaeth ynghylch y gyfraith yn amddiffyniad,

y byddai mwy o achosion yng Nghymru yn pasio'r cam tystiolaethol nag yn Lloegr, gan godi materion yn ymwneud ag ymwybyddiaeth o droseddu ymhlith pobl o Loegr sy'n teithio i Gymru. At hynny, er fy mod yn croesawu'n fawr ohebiaeth y Dirprwy Weinidog â'r grŵp gweithredu strategol a'i hymrwymiad i ystyried codi ymwybyddiaeth ymwelwyr â Chymru, byddwn yn ddiolchgar pe bai'n ateb cwestiwn o bryder a godais yng Nghyfnod 2. Yn fy araith i'r pwyllgor, holais y Dirprwy Weinidog am y dewisiadau y bydd yn eu hystyried gyda'r grŵp gweithredu strategol, yn benodol ynghylch ymwelwyr â Chymru. Felly, rwy'n annog yr Aelodau i ystyried y gwelliant hwn yn ofalus a chefnogi'r ystyr y tu ôl iddo, fel nad yw rhieni yn y dyfodol yn cael eu rhoi dan anfantais gan y Bil hwn.

Gwelliant 2. Wrth siarad am welliant 2, mae hwn yn ymwneud â gwybodaeth sydd ar gael i rieni am ddewisiadau eraill heblaw cosb gorfforol. Addawodd y Dirprwy Weinidog y byddai'n sicrhau bod grwpiau sy'n anos eu cyrraedd yn cael yr wybodaeth hon, ond credwn y byddai dyletswydd i ddarparu gwybodaeth am ddewisiadau amgen i gosb gorfforol yn gwarantu cynnal ymgyrch codi ymwybyddiaeth lwyddiannus.

Felly, cefais fy siomi bod y Dirprwy Weinidog wedi gwrthod fy nadleuon yng Nghyfnod 2. Anghytunaf â'i dadleuon ei hun a gyflwynwyd sef y byddai meddylfryd y grŵp arbenigwyr rhianta am ymgyrchoedd yn y dyfodol yn cael ei gyfyngu gan y gwelliant hwn. Sut? Bwriedir i hyn fod yn adeiladol ac mae'n annhebygol iawn y byddai unrhyw grŵp arbenigol neu Lywodraeth Cymru yn y dyfodol yn anghytuno â'r angen i ddangos i rieni y gefnogaeth sydd ar gael iddynt, fel nad ydynt yn defnyddio cosb gorfforol.

Yn ystod y dystiolaeth, cododd rhanddeiliaid bryderon dwys ynghylch grwpiau o rieni a allai fod yn llawer anos eu cyrraedd. Clywsom hefyd fod pecyn cymorth presennol Llywodraeth Cymru, 'Magu plant. Rhowch amser iddo' yn druenus o annigonol, yn methu â chyrraedd croestoriad hanfodol o gymdeithas Cymru oherwydd ei fod ar gael ar-lein yn unig. Gyda'r gwelliant hwn, nid ydym yn rhoi gormod o bwyslais ar rai grwpiau o rieni, Dirprwy Weinidog; rydym ni eisiau cynnwys pawb. Mae'r asesiad effaith rheoleiddiol diweddaraf wedi dweud bod ystod oedran 'Magu plant. Rhowch amser iddo', yn cael ei ehangu ac yn y flwyddyn ariannol ddiwethaf, dynodwyd oddeutu £30,000 mewn gwirionedd i ddatblygu adnoddau newydd. Felly, a wnaiff y Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am sut y mae hyn yn mynd yn ei flaen ac a yw'r dulliau ar gael nawr i bobl sydd heb fynediad i'r rhyngrwyd?

Yn olaf, mae'n rhaid imi bwysleisio wrth yr Aelodau yma heddiw nad yw'r gwelliant hwn yn ceisio sicrhau Bil cyfyngedig mwy cymhleth, ond rydym eisiau rhywfaint o fewnbwn fel Senedd i'r modd y sicrheir yr ymwybyddiaeth o waharddiad ar smacio. Deddf y Cynulliad fydd hon, nid Llywodraeth Cymru, os caiff ei phasio yng Nghyfnod 4. Felly, anogaf y Dirprwy Weinidog ac Aelodau i ystyried sut yr eglurwn i'n hetholwyr ledled Cymru ynghylch sut y byddant yn codi ymwybyddiaeth rhieni o oblygiadau'r Bil.

Gan droi at welliant 3, o ran gwelliant 3, mae hwn yn sicrhau bod y cyhoedd yn cael gwybodaeth am yr hyn y gallant ei wneud os gwelant rywbeth. Credaf nad yw geiriau ailadroddus y Dirprwy Weinidog yng Nghyfnod 2 yn dweud fod diogelu yn fusnes i bawb yn lleddfu ein pryderon. Rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod aelodau'r cyhoedd yn ddigon hyderus i deimlo eu bod nhw wedi barnu sefyllfa arbennig yn gywir. A barnu yw'r gair allweddol yma. Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn i bawb fod yn ddigon medrus i weld y byddai digwyddiad yn bendant angen ymyrraeth yr heddlu neu'r gwasanaethau cymdeithasol. Dim ond ar ôl ymweliad gan yr heddlu neu'r gwasanaethau cymdeithasol y gellid penderfynu ar y cyd-destun. Erbyn hynny, wrth gwrs, gallai'r difrod fod wedi ei wneud eisoes.

Yn eu tystiolaeth, roedd Conffederasiwn GIG Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe yn pryderu nad yw memorandwm esboniadol y Bil yn rhoi digon o eglurder ynghylch y diffiniad o ymddygiad derbyniol ar ôl cael gwared ar yr amddiffyniad, a allai arwain at fwy o atgyfeiriadau. Felly, rwy'n credu felly bod angen i'r Dirprwy Weinidog ail-ystyried ei sylwadau blaenorol mai cyfrifoldeb yr unigolyn yw gwneud yr hyn y mae'n credu sy'n briodol yn y sefyllfa honno, oherwydd, a bod yn blwmp ac yn blaen, osgoi cyfrifoldeb yw hynny. Nid oedd yr atebion a gawsom ni yng Nghyfnod 2 yn fy sicrhau y byddai unigolion yn ddigon hyderus i wybod beth i'w wneud pe byddent yn gweld neu'n clywed fod plentyn yn cael ei gosbi'n gorfforol. Os yw'r Dirprwy Weinidog o'r farn mai penderfyniad yr unigolyn ydyw, yna mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y rhai sy'n rhoi gwybod am ddigwyddiadau yn gwbl ymwybodol a ddylent fod yn gwneud hynny ai peidio, ac a ydynt yn gwneud pethau'n well neu'n waeth i'r plentyn. Fel arall, os nad yw hyn yn wir, dylai Llywodraeth Cymru egluro, os caiff amddiffyniad cosb resymol ei ddileu, na ellir amddiffyn cosb gorfforol mewn cyfraith droseddol. Felly, byddai'n rhaid i'r cyhoedd ei adrodd ni waeth beth fo'r amgylchiadau. Felly, unwaith eto, gofynnaf i'r Aelodau ystyried hyn yn ofalus iawn a chefnogi ein gwelliant.

Gwelliant 4: Rwyf wedi ail-gyflwyno gwelliant 4 gan fy mod yn teimlo na chawsom ni ymateb llawn na boddhaol gan y Dirprwy Weinidog ynghylch hybu ymwybyddiaeth o'r gwaharddiad ar smacio ymhlith plant eu hunain a phobl ifanc. Er fy mod i yn parchu addewidion y Dirprwy Weinidog yng Nghyfnod 2, af yn ôl at y pwynt bod y gwelliant hwn yn seiliedig ar argymhelliad gan y pwyllgor. Beth yw diben cael pwyllgorau os anwybyddwn eu hargymhellion? Y rheswm am hyn oedd nad oeddem yn fodlon ar atebion y Dirprwy Weinidog o ran sut y cai'r gwaharddiad ar smacio ei ddysgu yn y cwricwlwm newydd. Ni allaf dderbyn y byddai amcanion y Bil ond yn cael eu hystyried fel rhan o ddatblygu'r cwricwlwm newydd. Mae arnom ni angen ymateb clir gan y Dirprwy Weinidog a'r Gweinidog Addysg ynghylch sut y mae hyn yn mynd i weithio. Bydd y ddeddfwriaeth hon yn rhagflaenu deddfwriaeth y cwricwlwm, felly ni allwn ni fod yn sicr y bydd yn cael ei chynnwys ym mhob ysgol. Cyfaddefodd y Dirprwy Weinidog hefyd na fyddai'r cwricwlwm newydd yn cael ei gynllunio i fanylu ar restrau manwl o bynciau ar gyfer athrawon, felly gallai hyn olygu bod y gwersi ymwybyddiaeth yn amrywio o ysgol i ysgol, gan arwain o bosib at wybodaeth dameidiog o'r gyfraith a'i goblygiadau.

Croesawaf y memorandwm esboniadol sydd wedi'i ddiweddaru ac sy'n esbonio bod gwaith yn cael ei wneud i ystyried amcanion y ddeddfwriaeth wrth ddatblygu'r cwricwlwm newydd, ond mae yn nodi bod ymarferwyr sy'n datblygu'r meysydd dysgu a phrofiad yn dal i ddarllen yr adborth ac yn ystyried sut y gellir mireinio'r canllawiau. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe bai'r Dirprwy Weinidog yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y gwaith maen nhw'n ei wneud ar hyn o bryd, yn ogystal ag amserlen er mwyn i'r Cynulliad gael gweld y canllawiau hyn.

Yn ystod trafodaethau Cyfnod 2, ni wnaeth y Dirprwy Weinidog ymateb i'm cwestiynau penodol yn llwyr, felly byddwn yn ddiolchgar felly pe bai'r Dirprwy Weinidog yn ateb y canlynol heddiw: Dirprwy Weinidog, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am y trafodaethau yr ydych chi'n eu cael gyda'r Gweinidog Addysg i ymgorffori addysgu unffurf ar wahardd smacio yn y cwricwlwm newydd? Hefyd, a wnewch chi roi gwybod sut y dysgir plant mewn modd cytbwys am y gwaharddiad ar smacio? A hefyd, sut mae'r Dirprwy Weinidog yn mynd i'r afael â'r risgiau a wynebir gan blant iau nad ydynt yn gallu mynegi eu pryderon? Ac wrth gwrs, ni chafodd y rhain eu cynnwys yn asesiad y Bil o'r effaith ar gydraddoldeb. O gofio bod y Dirprwy Weinidog yn ceisio amddiffyn hawliau'r plentyn drwy'r Bil hwn, mae'n briodol i Aelodau'r Cynulliad gael gwybod sut y caiff plant eu hunain eu haddysgu yn y dyfodol. Felly, galwaf ar bob Aelod i gefnogi'r gwelliant hwn.

Gan ddod â'r gyfres hon o welliannau ar godi ymwybyddiaeth i ben, hoffwn orffen gyda'r sylw hwn, a wnaed mor fedrus gan fy nghyd-Aelod Suzy Davies AC yng Nghyfnod 2. Dywedodd, oni bai fod rhai o'r gwelliannau hyn yn cael eu derbyn gan Aelodau o Senedd Cymru, y sefyllfa gyda'r Bil hwn yw na fydd gennym ni ronyn o ddylanwad dros gynnwys ymgyrch i godi ymwybyddiaeth. Felly, anogaf yr Aelodau i ystyried y gwelliannau hyn yn ofalus cyn bwrw eu pleidlais. Diolch.

17:55

Codaf i siarad yn y ddadl hon ar ran fy nghyd-Aelod Siân Gwenllian, sydd yn anffodus yn sâl ac yn methu bod gyda ni heddiw. Ond rwyf hefyd yn codi fel unigolyn sydd wedi ymgyrchu dros 25 mlynedd i sicrhau'r newid hwn. Ac mae hyn, wrth gwrs, wedi bod yn fater a drafodwyd droeon yn y Cynulliad hwn, ymhell cyn inni gael y pŵer, ac yr oedd yr ewyllys yno. Wel, nawr mae gennym yr ewyllys a'r pŵer.

Siaradaf am y grŵp hwn o welliannau ac yna sôn yn fyr am safbwynt ein grŵp ar y lleill, ond gwnaf rai sylwadau cyffredinol byr i ddechrau. Nid yw hyn yn golygu gwneud newid dramatig yn y ffordd y mae'r gyfraith yn gweithio ar hyn o bryd. Ar hyn o bryd, mae'n amhosib i deulu ddefnyddio'r amddiffyniad o gosb resymol os yw plentyn wedi'i daro a bod marc wedi'i adael. Mae hon yn gyfraith anodd iawn i'w gorfodi, oherwydd bod pobl yn wahanol o ran sensitifrwydd. Rwy'n digwydd bod yn un sy'n cleisio'n hawdd iawn, felly pe bai fy rhieni wedi rhoi smacen imi, byddent wedi mynd i lawer mwy o drafferthion na phe bai nhw wedi rhoi smacen i fy mrawd mawr nad yw byth yn dangos marc nac yn cleisio o gwbl. Felly, mewn gwirionedd mae'n anodd iawn i rieni wybod beth sy'n cael ei ganiatáu o dan y gyfraith bresennol.

Nid ydym yn y ddadl hon ychwaith yn awgrymu chwyldro mewn arferion rhianta, oherwydd y gwir amdani yw bod yr holl arolygon barn a'r holl ymchwil bellach yn awgrymu mai dim ond lleiafrif o rieni sy'n parhau i ddefnyddio cosb gorfforol, a bod y rhan fwyaf o'r rhai sy'n gwneud hynny, pan fyddant yn cael eu holi amdano, yn dweud eu bod yn gwneud hynny yn eu tymer, eu bod yn difaru, a dydyn nhw ddim mewn gwirionedd yn credu ei fod wedi dysgu fawr ddim i'r plant.

Felly, er fy mod yn derbyn bod gan yr Aelodau gyferbyn rai pryderon gwirioneddol, ac rwy'n credu ei bod hi'n briodol ein bod yn eu gwyntyllu ac yn eu trafod, rwy'n credu mewn gwirionedd bod angen i ni ddeall, er bod y newid y mae'r Llywodraeth yn ei gynnig drwy'r ddeddfwriaeth hon yn bwysig, nid yw mor fawr ag y mae rhai ohonom ni efallai yn teimlo ei fod ef.

Rwy'n deall, wrth droi at y grŵp hwn o welliannau, fod angen gwneud y cyhoedd yn ymwybodol o newid yn y gyfraith. Mae'n rhaid i mi ddweud, rwy'n credu bod ymrwymiad y Llywodraeth ar hyn yn sylweddol. Dydym ni ddim fel arfer yn cael ymgyrchoedd gwybodaeth enfawr i'r cyhoedd pan fyddwn ni'n newid y gyfraith. Rydym yn disgwyl i bobl wybod bod y gyfraith wedi newid. Ond pan fyddwn ni weithiau'n cynnig newid sy'n cael dylanwad mawr ar arferion pobl, o bosib, yna mae'n briodol eu gwneud yn ymwybodol o'r newid. Ond dydw i ddim yn credu mai wyneb y Bil yw'r lle priodol ar gyfer hyn. Dydym ni ddim fel arfer yn rhoi'r mathau hyn o bethau ar wyneb Bil. [Torri ar draws.] Gwnaf, wrth gwrs.

Dim ond ar y pwynt penodol yna, wrth gwrs, gwnaethom benderfyniad i roi'r math hwn o eitem ar wyneb y Bil o ran cyfraith rhoi organau, a oedd unwaith eto'n ddarn arwyddocaol o ddeddfwriaeth a fyddai'n effeithio ar fywydau llawer o bobl. Rwy'n credu ei bod hi'n gwbl briodol ein bod yn cymryd ymagwedd debyg gyda hyn, o ystyried mai dyna safbwynt polisi'r Llywodraeth, ac, wrth gwrs, maen nhw wedi bod yn dadlau yn gynharach heddiw y dylid rhoi safbwyntiau polisi ar wyneb Bil.

Gallech ddilyn y trywydd yna. Byddwn i'n dadlau bod y newid yn y gyfraith ar roi organau mewn gwirionedd yn llawer mwy o ran ei ddylanwad ar arferion pobl na hyn. Ond wedi dweud hynny, mae'r Llywodraeth—os edrychwn ni ar y dystiolaeth, ac mae'r darn mwyaf diamwys o dystiolaeth yn y gyllideb. Mae gennym ni ddywediad yn Gymraeg, 'diwedd y gân yw'r geiniog'. Ac mae'r Llywodraeth yn ymrwymo, yng nghyllideb ddrafft eleni, i ymgyrch £600,000 i godi ymwybyddiaeth. Rwy'n ymwybodol, ac rwy'n ddiolchgar i'r Dirprwy Weinidog am ei gwybodaeth yn hyn o beth, eu bod yn ymgynghori â grwpiau ffocws, gyda phobl o gymunedau lleiafrifol, pobl o grwpiau ffydd, i sicrhau bod y negeseuon yn cael eu cyfleu yn y ffordd fwyaf priodol i bob rhiant a allai fod eu hangen. Nid wyf yn gweld yr anghenraid, felly, i'w gael ar wyneb y Ddeddf. Byddwn, yn fy nghyfraniad yma, yn gofyn i'r Gweinidog roi sicrwydd inni, wrth gwrs, y bydd yr wybodaeth hon ar gael yn ddwyieithog, ond byddwn yn erfyn ar i'r dyluniad fod yn ddwyieithog o'r dechrau, ac i'r wybodaeth yn y Gymraeg fod yn fwy na chyfieithiad o'r wybodaeth Saesneg yn unig, dim ond oherwydd bod hynny'n eithaf lletchwith fel arfer.

Rhaid imi ddweud, Llywydd, pan gyflwynwyd deddfwriaeth gyffelyb yng Ngweriniaeth Iwerddon, nid oedd y Llywodraeth yno'n teimlo bod angen gwneud unrhyw fath o godi ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd, gan fod y ddadl wedi cael sylw helaeth yn y wasg, ac roedd pawb yn ymwybodol o'r newid yn y gyfraith. O'm safbwynt personol i, gallaf feddwl am bethau eraill y byddai'n fuddiol i'r Llywodraeth eu gwneud gyda'u £600,000, ond credaf y dylai'r meinciau gyferbyn gydnabod yr ymrwymiad y mae'r Gweinidog yn ei ddangos yn hyn o beth.

Trof yn fyr at y grwpiau eraill o welliannau, er y dychwelaf atynt ar yr adeg briodol. Grŵp 2, am ofynion adrodd, unwaith eto, credaf fod y Llywodraeth yn hael wrth gytuno i dderbyn hyn; nid yw'n arferol, o anghenraid, gosod ar wyneb deddfwriaeth ddwy amserlen wahanol ar gyfer adrodd yn ôl, ond credaf, wrth wneud hynny, fod y Dirprwy Weinidog yn cydnabod bod pryderon gwirioneddol, a bod angen inni sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon yn gweithio'n effeithiol ac nad oes unrhyw ganlyniadau anfwriadol.

Eto, grŵp 3, mewn cysylltiad â chyllid digonol, wel, byddwn yn dweud, ac rwy'n credu mai dyma safbwynt y Llywodraeth, ei bod hi'n annhebygol y bydd llawer mwy o gostau, oherwydd ni fyddwn yn gweld lluoedd a lluoedd o rieni'n mynd drwy systemau na fyddent fel arall yn mynd trwyddyn nhw, ond os oes costau ychwanegol, mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i'r cyrff cyhoeddus priodol gwrdd â'r rheini, ac, unwaith eto, nid ydym yn gweld yr angen i roi hyn ar wyneb y Bil.

Mae'r gwelliant yng ngrŵp 4 yn ddiangen, oherwydd, wrth gwrs, gall y Cynulliad hwn bob amser ddiwygio neu ddiddymu deddfwriaeth os bydd y mwyafrif ohonom yn penderfynu ei bod yn amhriodol.

Ac o ran y pumed grŵp o welliannau, gwelliant 10, effaith y gwelliant hwn, pe baem yn ei basio, fyddai rhoi yn nwylo cyrff sydd heb eu datganoli—er cymaint y byddem yn dymuno i'r cyrff cyfiawnder troseddol hyn gael eu datganoli, byddai'n rhoi yn nwylo'r cyrff sydd heb eu datganoli y pŵer i benderfynu pryd neu a ddylid gweithredu'r darn hwn o ddeddfwriaeth.

Nawr, mae'n fater, Llywydd, i'r Siambr hon, ac nid i mi ei ddweud efallai, a yw hyn yn fwriadol ar ran y Ceidwadwyr—rydym ni wedi gweld enghreifftiau ohonynt yn ymddangos fel petaen nhw eisiau dadwneud datganoli. Mae'r materion hyn, Llywydd, yn amlwg wedi'u datganoli, a dyna sut y dylent aros. Wrth gwrs, mae'n briodol i Lywodraeth Cymru gyd-drafod â'r cyrff cyfiawnder troseddol priodol nad ydynt wedi'u datganoli a chyda'r heddlu i sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon yn cael ei gweithredu'n briodol; nid yw hi'n briodol caniatáu i'r Swyddfa Gartref benderfynu a gaiff ei gweithredu o gwbl.

Llywydd, edrychaf ymlaen at weddill y ddadl hon.

18:00

Diolch yn fawr iawn. A gaf i ddechrau drwy ddiolch i Aelodau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am graffu ar y Bil hwn, ac i'r Aelodau am ystyried y ddeddfwriaeth bwysig iawn hon?

Mae'r Bil hwn yn un syml, gyda diben clir iawn: ei nod yw dileu amddiffyniad cosb resymol. Mae'n dileu'r amddiffyniad i drosedd sy'n bodoli eisoes, nid yw'n creu trosedd newydd, ac mae'n ceisio rhoi'r un maint o amddiffyniad i blant rhag cosb gorfforol ag oedolion.

Rwyf wedi ystyried yn ofalus gwelliannau 1 i 5, sy'n ymwneud â'r ddyletswydd i godi ymwybyddiaeth. Fel y gwyddoch chi, mae'r Bil eisoes yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i godi ymwybyddiaeth, ac rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i wneud hynny. Mae gwelliant 1 yn cyflwyno cyfeiriad at ddealltwriaeth y cyhoedd, a chredaf—yn fy marn i—nad yw'n ychwanegu dim at y Bil.

Bydd codi ymwybyddiaeth yn un agwedd ar ein hymdrechion i roi gwybod i'r cyhoedd, gan gynnwys rhieni, am y newid yn y gyfraith. Rydym ni eisoes yn darparu pecyn cymorth eang i rieni, sy'n cynnwys 'Magu Plant. Rhowch amser iddo' yn ogystal â Dechrau'n Deg, Teuluoedd yn Gyntaf a'n gwasanaeth ymwelwyr iechyd cyffredinol. Rydym yn ymgysylltu ag amrywiaeth eang o weithwyr proffesiynol sy'n darparu'r gwasanaethau wyneb yn wyneb hyn i rieni, gan gynnwys drwy ein grŵp gweithredu arbenigol ar rianta, sydd wedi'i sefydlu yn rhan o'n grŵp gweithredu. Mae'n amlwg bod ganddynt swyddogaeth allweddol o ran sicrhau bod rhieni'n ymwybodol o'r newid yn y gyfraith a sut y gallant ddefnyddio dulliau cadarnhaol o reoli ymddygiad.

Mae ein strategaeth gyfathrebu yn cynnwys ymarfer cynhwysfawr i ymgysylltu â rhanddeiliaid, a fydd yn digwydd cyn gweithredu'r strategaeth. Bydd hyn yn cynnwys amrywiaeth eang o sefydliadau ac unigolion sy'n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a'u teuluoedd yng Nghymru. Cyflwynodd Janet Finch-Saunders y cynnig hwn am ddyletswydd codi ymwybyddiaeth benagored, ac fe'i trafodwyd a'i wrthod yng Nghyfnod 2, ac nid yw fy marn ynghylch hynny wedi newid.

Ond gadewch imi eich sicrhau, os caiff y gyfraith hon ei phasio, y bydd y negeseuon am y newid yn y gyfraith yn cael eu hymgorffori'n llwyr i'r ohebiaeth y mae rhieni yn ei chael gan weithwyr iechyd a gweithwyr proffesiynol eraill ac mewn ystod eang o adnoddau rhianta, gan gynnwys yr adnoddau gwybodaeth newydd i rieni sy'n disodli 'Bwmp, Babi a Thu Hwnt', a roddir i bob menyw feichiog a rhieni newydd.

Rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i godi ymwybyddiaeth, a diolchaf i Helen Mary Jones am ei sylwadau. Mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo'n llwyr i godi ymwybyddiaeth ac wedi cytuno i ymgyrch codi ymwybyddiaeth amlwg a phenodol. Os caiff y Bil hwn ei basio, bydd yr ymgyrch yn para am o leiaf chwe blynedd a bydd yn cael ei fireinio yn seiliedig ar ymchwil reolaidd, gan gynnwys graddau ymwybyddiaeth a newidiadau mewn agwedd. Felly, yn fy marn i, nid oes angen dyletswydd barhaus sy'n cyfeirio'n benodol at y newid yn y gyfraith.

Mae'r memorandwm esboniadol sydd wedi'i ddiweddaru yn nodi ein cynlluniau i godi ymwybyddiaeth gyda phlant, gan gynnwys ein bwriad i ymgynghori â chynrychiolwyr pobl ifanc. Yn yr un modd, gan nodi'n benodol y pynciau y mae angen ymdrin â hwy yn yr ymgyrch codi ymwybyddiaeth, a awgrymir yng ngwelliannau 2 a 3, nid wyf yn credu bod hynny ar gyfer wyneb y Bil. Fodd bynnag, gadewch imi eich sicrhau, y mae cynllun clir a fydd yn sicrhau bod yr ymgyrch yn effeithiol ac yn cael ei gwerthuso'n briodol.

Hefyd, na foed i ni anghofio'r gwasanaeth gwybodaeth i deuluoedd ym mhob awdurdod lleol, ein hymgyrch 'Magu plant. Rhowch amser iddo', a gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda rhieni, ac maen nhw eisoes yn cyfeirio rhieni i'r cymorth sydd ar gael.

Mae'r holl faterion hyn yn cael eu hystyried gan y grŵp gweithredu arbenigol ar rianta ac ni ddylid cyfyngu ar eu syniadau mewn unrhyw fodd gan fanylebau ar wyneb y Bil. Mae gennym ni ddyletswydd i gynnal ymgyrch ymwybyddiaeth, ond nid wyf yn credu bod angen yr holl fanylion hyn arnom ni ar wyneb y Bil.

Nid yw'r Bil hwn yn creu trosedd newydd. Yn y cyd-destun hwn, nid yw'n gwneud synnwyr i gynnwys darpariaeth sy'n ei gwneud hi'n ofynnol darparu gwybodaeth am sut y gall unigolyn godi pryderon os yw'n ymddangos iddynt fod plentyn wedi cael ei gosbi'n gorfforol. Ac rwy'n ailadrodd: mae diogelu yn gyfrifoldeb ar bawb. Fel ar hyn o bryd, mae gan y cyhoedd ran i'w chwarae wrth dynnu sylw at wasanaethau perthnasol os ydynt yn pryderu am blentyn. Nid yw'r Bil hwn yn newid hynny.

Yn fy marn i, nid yw'n ddefnyddiol tynnu sylw at agweddau penodol ar godi ymwybyddiaeth ar draul rhai eraill. Credaf y dylai fod hyblygrwydd i addasu a theilwra'r ymgyrch codi ymwybyddiaeth, gan gynnwys ystyried gwaith ymchwil sy'n mynd rhagddo, a bydd gwerthuso yn rhan annatod o'r ymgyrch hon. Bydd hyn yn sicrhau ein bod yn dod o hyd i'r ffordd orau o gyfathrebu ag unigolion, teuluoedd, grwpiau a chymunedau gan y bydd angen iddynt i gyd fod yn ymwybodol o'r newid hwn yn y gyfraith. Gwybodaeth, codi ymwybyddiaeth: bydd yr wybodaeth yn cael ei chynnwys yn yr adnoddau a ddarperir i rieni yn rhan o ddatblygiad proffesiynol parhaus. Felly, byddwn yn gwneud yn siŵr bod y caiff yr holl wybodaeth hon ei lledaenu'n eang iawn. Dydw i ddim yn credu bod angen tynnu sylw grwpiau penodol, fel ymwelwyr â Chymru. Bydd hyn yn cael ei gynnwys yn ein holl ohebiaeth. Yn wir, rwy'n gwybod y bu aelodau'r Senedd yn mynegi barn mewn erthyglau mewn gwahanol rannau o'r wasg, ac rwy'n credu bod hynny'n dda iawn, oherwydd ei fod hefyd yn tynnu sylw at hyn.

Rwyf eisoes wedi dweud ein bod yn estyn allan at grwpiau anodd eu cyrraedd, a soniodd Janet Finch-Saunders am y rhai nad ydynt yn defnyddio'r rhyngrwyd. Rydym ni eisoes yn darparu gwybodaeth mewn trafodaethau wyneb yn wyneb, cymorth ac mewn deunydd printiedig. Rwyf yn credu bod angen i ni ymddiried yn y cyhoedd, fel y gwnawn ni ar hyn o bryd. Ac mae pobl yn gwneud penderfyniadau nawr ynghylch a ddylid codi pryderon gyda'r gwasanaethau cymdeithasol a'r heddlu. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ein bod yn sicrhau bod rhieni'n cael eu cyfeirio at leoedd y gallant gael cymorth, cefnogaeth a chyngor ar rianta cadarnhaol, a dyma'r hyn yr ydym yn ei ddatblygu gyda'r grŵp gweithredu.

Mae gennym ni ymrwymiad a brwdfrydedd gwych yn y grwpiau gweithredu. Ni allaf feddwl mewn gwirionedd am waith mwy ymdrechgar y mae ein swyddogion yn ei wneud, gan—[torri ar draws.] Iawn, yn sicr.

18:05

Rwy'n gwrando arnoch chi yna yn sôn am amddiffyn plant, ac rwyf wedi bod yn dweud—gannoedd o weithiau ar gyfryngau cymdeithasol, yn y Siambr hon—fod plant yn honni eu bod yn cael eu cam-drin yn ddifrifol mewn cartrefi gofal preifat yng Nghymru ac nad oes neb yn gwrando arnyn nhw. Felly, rydym yn trafod hyn yn awr—pa un a yw hynny'n rhywbeth troseddol ai peidio. Rwy'n cael gwybod gan blant eu hunain, mewn gwirionedd, rhai ohonynt sydd wedi gadael gofal, y buont yn dioddef ymosodiadau mewn gofal ac nad oes dim yn cael ei wneud. Mae pawb bron yn dawel yn y Siambr hon, ac rydym ni'n trafod hynny.

18:10

Rydym yn trafod cael gwared ar yr amddiffyniad o gosb resymol yma heddiw, ac os gallaf fynd ymlaen dim ond i wneud sylwadau ar y cwricwlwm newydd, mae canllawiau'r cwricwlwm yn glir: dylai dysgwyr ddatblygu dealltwriaeth o'r ystod o hawliau cyfreithiol ac amddiffyniadau sydd ganddyn nhw. Byddwn yn sicrhau bod hynny'n digwydd wrth i'r cwricwlwm gael ei ddatblygu.

Felly, anogaf yr Aelodau i wrthod y gwelliannau a gynigiwyd gan Janet Finch-Saunders, gan nad wyf yn credu eu bod yn ddefnyddiol o ran yr hyn y mae angen i'r ddyletswydd codi ymwybyddiaeth, sy'n bodoli eisoes, ei sicrhau.

Diolch, Llywydd. Os caf ddweud ar y dechrau, cyn imi ddechrau fy rhan nesaf, rwy'n ceisio bod o gymorth. Mae hyn yn mynd i basio; gwyddom eisoes lle mae'r pleidleisiau heddiw o ran Llafur a Phlaid Cymru. Fodd bynnag, rhan o'm swyddogaeth yn Aelod Cynulliad wrth graffu yw herio hefyd, ac rwyf fi, yn fy ffordd fy hun, yn ceisio bod o gymorth.

Nawr, nid yw'r hyn yr wyf yn gofyn amdano yn amhriodol. Mae enghreifftiau o ddyletswydd benagored o ran ymwybyddiaeth i'w gweld yn y Bil Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru), a'r dyletswyddau a roddir ar y cyrff iechyd ac awdurdodau lleol i hybu ymwybyddiaeth o'r corff llais dinasyddion arfaethedig. Nid oes dim i awgrymu bod hyn yn gyfyngedig o ran amser. Felly, nid oes rheswm pam na ellid bod wedi ymdrin â'r Bil hwn yn y ffordd honno mewn gwirionedd.

Rwy'n dal i gredu bod ymgyrch i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd yn hanfodol. Yn Seland Newydd, canfu arolwg cenedlaethol fod hanner pobl Seland Newydd yn credu bod cyfraith 2007 yn erbyn taro plant wedi achosi dirywiad mewn disgyblaeth. Mae bron i 40 y cant o famau plant ifanc yn dweud eu bod wedi taro eu plentyn er gwaetha'r newid yn y gyfraith, ac roedd pôl piniwn Ymchwil y Farchnad Curia o 1,000 o ymatebwyr a holwyd eu barn ddechrau mis Rhagfyr hefyd wedi canfod bod teuluoedd incwm isel—63 y cant—yn llawer mwy tebygol o herio'r gyfraith. Dywedodd 70 y cant na fyddent yn rhoi gwybod am riant a welsant yn taro plentyn ar ei ben-ôl neu ar ei law, tra byddai 20 y cant yn gwneud hynny. Dywedodd 22 y cant o rieni â phlant ifanc fod eu plentyn wedi bygwth rhoi gwybod i'r awdurdodau pe baent yn cael eu taro. Dywedodd 15 y cant o rieni â phlant ifanc eu bod yn ymwybodol o deulu y cafodd y gyfraith effaith negyddol arnyn nhw, a dywedodd 17 y cant o rieni â phlant ifanc fod y gyfraith wedi eu gwneud yn llai hyderus fel rhieni; 21 y cant o dadau.

Felly, dyna fy marn i, y gofynnaf i'r Aelodau ei chefnogi—. Ni allaf weld, yn fy meddwl fy hun—ac mae aelodau o'r cyhoedd wedi gofyn imi, pam y byddai yna unrhyw dawedogrwydd, ac os yw'r gyfraith hon yn mynd i gael ei chyflwyno, pam na fyddech chi mewn gwirionedd eisiau gwneud yr ymgyrch ymwybyddiaeth mor gryf ag y gallai fod, a thrwy hynny, rwy'n golygu ei rhoi ar wyneb y Bil.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Dwi'n symud i'r bleidlais, felly, ac yn agor y bleidlais ar welliant 1. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 1 wedi ei wrthod.

Gwelliant 1: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 2 (Janet Finch-Saunders).

Y cwestiwn yw: a ddylid gwelliant 2? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Dwi'n agor y bleidlais, felly, ar welliant 2. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi ei wrthod.

Gwelliant 2: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 3 (Janet Finch-Saunders).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 3? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, dwi'n agor y bleidlais ar welliant 3. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 3 wedi ei wrthod.

Gwelliant 3: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 4 (Janet Finch-Saunders).

Mae gwelliant 4 wedi ei symud. Felly, y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 4? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, dwi'n agor y bleidlais ar welliant 4. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac felly mae gwelliant 4 wedi'i wrthod.

18:15

Gwelliant 4: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 5 (Janet Finch-Saunders).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 5? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, dwi'n agor y bleidlais ar welliant 5. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 5 wedi'i wrthod.

Gwelliant 5: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 2: Gofynion adrodd (Gwelliannau 6, 11)

Daw hyn â ni at yr ail grŵp o welliannau, ac mae'r grŵp yma yn ymwneud â gofynion adrodd. Gwelliant 6 yw'r prif welliant yn y grŵp yma. Dwi'n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig y prif welliant ac i siarad am y gwelliannau yn y grŵp yma. Janet Finch-Saunders.

Cynigiwyd gwelliant 6 (Janet Finch-Saunders).

Diolch, Llywydd. Hoffwn droi yn awr at welliannau 6 ac 11 ar yr adolygiad ar ôl gweithredu, ond yn gyntaf hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog a'i thîm am ein cynorthwyo gyda'r gwelliannau hynny, fel y nodwyd yn ei llythyr dyddiedig 11 Rhagfyr at y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Mae fy nghyd-Aelod Suzy Davies a minnau'n croesawu naws adeiladol ein trafodaeth â'r Dirprwy Weinidog.

Yn ail, rwy'n croesawu'n fawr llythyr y Dirprwy Weinidog dyddiedig 11 Rhagfyr at y grŵp gweithredu strategol, a ofynnodd am farn y grŵp ar y gwelliannau a gyflwynais yng Nghyfnod 2 ynghylch cynnwys yr adolygiad ôl-weithredu, gan gynnwys nifer y bobl a gafodd eu herlyn am gosb gorfforol yng Nghymru; nifer yr adroddiadau i'r heddlu am achosion o gosbi plentyn yn gorfforol a oedd yn digwydd yng Nghymru; nifer yr adroddiadau a gyflwynwyd i adrannau gwasanaethau cymdeithasol ynghylch cosbi corfforol; costau a ysgwyddwyd gan awdurdodau datganoledig Cymru; a nifer y staff a gyflogir gan unrhyw awdurdod Cymreig datganoledig sydd wedi cael hyfforddiant o ganlyniad i'r Bil hwn.

Felly, yn fyr, mae gwelliant 6 yn galluogi Gweinidogion Cymru i baratoi dau adroddiad ar effaith y newidiadau a ddaw yn sgil y Bil hwn a'u cyflwyno gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Bydd yr adroddiad cyntaf dair blynedd o ddechrau blwyddyn 1, a'r ail ar ôl pum mlynedd.

Mae gwelliant 11 yn ganlyniadol ac yn dechnegol ei natur, gan ddarparu ar gyfer newidiadau oherwydd dileu ac amnewid adran 3 o'r Bil. Yng Nghyfnod 1, argymhellodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y dylid cysoni'r cyfnod adrodd â'r amserlen arferol ar gyfer craffu ar ôl deddfu, ond tair blynedd ar ôl cychwyn y ddeddfwriaeth. Felly, fel y mae hi ar hyn o bryd, byddai'r amserlen craffu ar ôl deddfu yn y Bil yn golygu na fyddai ei effaith yn cael ei asesu'n ffurfiol tan i saith mlynedd fynd heibio. Felly, rwy'n ddiolchgar bod y Dirprwy Weinidog, yn gwbl briodol, wedi cydnabod ein pryderon ni a phryderon y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol drwy ein trafodaethau yng Nghyfnod 3. Felly, rwy'n argymell i Aelodau gefnogi'r gwelliant hwn.

Bydd grŵp Plaid Cymru yn cefnogi'r gwelliannau hyn. Yn bersonol, teimlaf fod y Llywodraeth wedi bod yn hael iawn wrth eu derbyn. Nid wyf yn rhagweld y bydd canlyniadau negyddol i'r Llywodraeth adrodd arnynt. Yn sicr, nid yw'r profiad yng Ngweriniaeth Iwerddon yn awgrymu hyn.

Wrth ymateb i'r ddadl flaenorol, cyfeiriodd Janet Finch-Saunders at yr arolwg yn Seland Newydd. Wrth gwrs, dyna'n union oedd y bleidlais yn Seland Newydd—roedd yn arolwg barn a gomisiynwyd gan y grŵp ymgyrchu a oedd wedi ymgyrchu yn erbyn diddymu'r amddiffyniad o gosb resymol, ac mae tuedd hanesyddol gref yma, onid oes, Llywydd? Y mae tuedd bob amser, o amser Aristotle a Pliny, i fyfyrio ar y genhedlaeth iau na ni a'u gweld yn ymddwyn yn waeth nag yr oeddem ni. Anaml iawn y caiff hyn, wrth gwrs, ei gadarnhau gan y ffeithiau. Byddwn yn cyfeirio Aelodau at brofiad Iwerddon, lle nad oedd yr un o'r anawsterau a ragwelwyd wedi digwydd, ond gan fod y Llywodraeth yn barod i dderbyn y gwelliant hwn, a chan ei fod yn creu gwaith iddynt hwy ac nid i ni, bydd Plaid Cymru yn falch o gefnogi'r gwelliannau fel y maen nhw ar hyn o bryd, er y byddem, wrth gwrs, yn gobeithio mai ni fydd y Llywodraeth gyfrifol yn ystod rhywfaint o'r cyfnod adrodd.

Diolch. Rwy'n croesawu'r gwelliant hwn, a pharodrwydd Janet Finch-Saunders a Suzy Davies i weithio gyda mi i ddod o hyd i ffordd ganol, mewn gwirionedd, o ran yr adolygiad ar ôl gweithredu. Rwy'n ddiolchgar i Janet am weithio gyda mi a'm swyddogion i ddrafftio'r gwelliant hwn, a diolchaf eto i Helen Mary Jones am ei chefnogaeth a chefnogaeth ei grŵp.

Yn dilyn Cyfnod 2 a chyfarfod cynhyrchiol gyda'm cyd-Aelodau Ceidwadol, gallaf gadarnhau fy mod wedi ysgrifennu at y grŵp gweithredu strategol i ofyn iddynt ystyried dichonoldeb cynnwys materion a godwyd yn ystod Cyfnod 2 yn rhan o'r adolygiad ôl-weithredu. Bydd angen amser arnynt i ystyried y materion hyn yn drylwyr, felly byddwn yn disgwyl cael ymateb cychwynnol dros yr haf. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r pwyllgor am eu hymateb.

Roedd yn amlwg o'r argymhellion a wnaed gan y pwyllgorau yng Nghyfnod 1 eu bod yn rhannu fy marn am bwysigrwydd adolygiad ôl-weithredu o effaith diddymu'r amddiffyniad cosb resymol. Am y rheswm hwn, fe wnes i gyflwyno gwelliant Cyfnod 2 i gynnwys dyletswydd i gynnal adolygiad o'r fath ar wyneb y Bil, a gytunwyd.

Ni fydd yr adolygiad ôl-weithredu o'r Bil hwn yn un darn o waith, ond yn rhaglen barhaus o waith yn ystod y blynyddoedd ar ôl cychwyn adran 1. Yn gyntaf, byddwn yn parhau i gynnal arolygon o agweddau, a ddefnyddir i olrhain newidiadau mewn agweddau tuag at gosbi plant yn gorfforol a nifer y rhieni sy'n dweud eu bod yn defnyddio cosb gorfforol. Bydd yr arolygon hefyd yn cael eu defnyddio i fonitro effeithiolrwydd ein hymgyrch codi ymwybyddiaeth. Ac yna, yn ail, drwy grŵp gorchwyl a gorffen penodedig, rydym yn gweithio gyda sefydliadau i sefydlu trefniadau i bennu dulliau cadarn o gasglu data ystyrlon sy'n ymwneud â'r Bil ac i ystyried yr effaith bosibl ar wasanaethau. Mae'r grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o'r sefydliadau canlynol: yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron Cymru, Gwasanaeth Cynghori a Chynorthwyo Llys i Blant a Theuluoedd Cymru, Gwasanaeth Llysoedd a Thribiwnlys ei Mawrhydi, cyfarwyddwyr addysg, cyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol a phlant a rhwydwaith diogelu'r GIG. Mae hwn yn grŵp brwdfrydig iawn, sy'n gweithio'n galed iawn ar y mater hwn.

Felly, rwy'n cefnogi'r gwelliant hwn a'r gwelliant canlyniadol.  

18:20

Ocê. Ymateb, felly. Os gwrthodir gwelliant 6, bydd gwelliant 11 yn methu. Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 6? A oes unrhyw wrthwynebiad? Nac oes. Felly derbynnir gwelliant 6 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 3: Dyletswydd i sicrhau cyllid digonol (Gwelliannau 7, 8)

Grŵp 3 yw'r trydydd grŵp o welliannau, sydd yn ymwneud â dyletswydd i sicrhau cyllid digonol. Gwelliant 7 yw'r prif welliant yn y grŵp yma, a dwi'n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig y prif welliant ac i siarad i'r gwelliannau—Janet Finch-Saunders. 

Cynigiwyd gwelliant 7 (Janet Finch-Saunders).

Gan droi at welliannau 7 ac 8 ar ddyletswydd i sicrhau cyllid digonol ar gyfer awdurdodau datganoledig, dygwyd y rhain ymlaen o Gyfnod 2, pan amlinellais ein bod yn dal i bryderu am y costau posib i awdurdodau datganoledig Cymru yn ogystal â'r diffyg costau mesuradwy yn asesiad effaith rheoleiddiol y Bil.

Er bod gwelliant 7 yn cyfeirio at gostau a delir gan awdurdodau lleol a byrddau iechyd, nodaf fod gwelliant 8 yn mynd â hyn ymhellach drwy gynnwys awdurdodau datganoledig eraill nad ydynt yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru. Gan ragweld ymateb y Dirprwy Weinidog y byddai'r Bil dim ond yn effeithio ar ychydig o dan y categori hwn, os o gwbl, rydym yn dilyn egwyddor yn hyn o beth, a'r hyn a geisiwn yw i'r Dirprwy Weinidog a'r Aelodau sy'n bresennol heddiw gytuno ar yr egwyddor o ddarparu cyllid digonol.

Rwy'n derbyn dadl y Dirprwy Weinidog yng Nghyfnod 2 nad oedd rhai o'r tystion yn credu y byddai'r elfen o gost yn fawr iawn, er i mi ddangos tystiolaeth groes o ran hynny yn flaenorol. Nid ydym wedi cyrraedd y pwynt o hyd lle gallwn ddweud yn ffyddiog na fydd hyn yn effeithio ar ein gwasanaethau cyhoeddus. Diolchaf hefyd i'r Dirprwy Weinidog am ddarparu'r asesiad effaith rheoleiddiol diweddaraf cyn trafodion Cyfnod 3 heddiw, ac eto, cyfaddefodd y Dirprwy Weinidog i Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg mewn llythyr dyddiedig 7 Ionawr ei bod yn dal yn methu â llunio amcangyfrif cyflawn ar gyfer atgyfeiriadau o ran cosb gorfforol ar lefel Cymru gyfan. Nawr, mae hyn yn hanfodol er mwyn darganfod y gost i'n gwasanaethau cyhoeddus.

Nodaf yn benodol nad oedd tîm y Dirprwy Weinidog ond yn gallu dangos amcangyfrifon ar gyfer tri—ie, tri—o'r 22 awdurdod lleol, ac roedd y ffigurau hynny hyd yn oed yn llawn amodau. Felly, rwyf yn dal yn ochelgar ynghylch yr effeithiau posibl y gallai'r Bil eu cael ar gyllidebau cyrff cyhoeddus sydd eisoes yn gyfyngedig, a dyna pam y cyflwynais y ddau welliant eto. Mae'r Dirprwy Weinidog wedi dweud o'r blaen y gall Cynulliad Cenedlaethol Cymru bob amser ddadlau dros gael arian ychwanegol drwy'r broses pennu cyllideb, ac y bydd blaenoriaethau gwariant Llywodraeth Cymru yn y dyfodol yn newid. Mae'r ymateb hwn yn fy mhoeni'n fawr. Yn y bôn, os bydd Llywodraeth Cymru yn pleidleisio yn erbyn awgrym cyllideb ynghylch cyllid ychwanegol neu fod eu blaenoriaethau gwariant yn newid, yna cyrff cyhoeddus eu hunain fydd yn gorfod ysgwyddo'r baich a'r costau a fydd yn deillio o addewid gan Lywodraeth Cymru. [Torri ar draws.] Iawn.

18:25

Rydych chi wedi sôn am y costau ychwanegol. Beth am yr arbedion a all ddigwydd drwy osgoi'r niwed seicolegol y gall plant ei ddioddef yn sgil cael eu taro, a beth am yr arbedion y gellir eu gwneud o ran atal rhieni rhag dechrau taro plentyn yn ysgafn ac o bosib symud ymlaen i'w taro'n galetach?

Wel, o ran hynny, rwy'n credu, pe byddech chi wedi bod yn rhan o'r dadleuon drwy'r Cyfnodau i gyd, un o'r dadleuon croes yw y gall plant ddioddef niwed seicolegol mawr iawn yn sgil rheolaeth drwy orfodaeth a mathau eraill o gosbi sy'n cael effaith ar eu hiechyd meddwl a'u lles. Felly, dydw i ddim wir eisiau cytuno ynglŷn â'r effaith seicolegol pan fo plentyn yn cael yr hyn y mae llawer o rieni'n ei ystyried yn gosb resymol.

Yn olaf, tynnaf sylw'r Aelodau at dystiolaeth gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, a ddywedodd yng Nghyfnod 1 fod yn rhaid cael:

ymrwymiad y caiff y costau hynny eu talu, beth bynnag yw'r costau, oherwydd ei bod yn ddeddfwriaeth y mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn arwain arni.

Rydym yn amau mai dyma fel bydd hi. Felly, rwy'n argymell cefnogi'r gwelliant hwn.

Er ein bod yn derbyn bod y pryderon y mae'r Aelod yn eu codi yn rhai gwirioneddol, rydym yn methu â gweld lle mae'r dystiolaeth sy'n dangos bod cyrff cyhoeddus yn debygol o wynebu pwysau ariannol ychwanegol gwirioneddol sylweddol o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth hon. Cyfeiriaf yr Aelodau gyferbyn eto at enghraifft Gweriniaeth Iwerddon, lle nad oedd pwysau ychwanegol ar wasanaethau cyhoeddus.

Nawr, wrth gwrs, rydym newydd gytuno i welliannau y bydd y ddeddfwriaeth, os caiff ei phasio yn y pen draw, yn sicrhau bod proses adrodd ar effaith y ddeddfwriaeth. Rwy'n gwbl sicr, os bydd y broses adrodd honno'n cyflwyno tystiolaeth sy'n dangos bod pwysau sylweddol ar ein gwasanaethau cyhoeddus, na fydd ein gwasanaethau cyhoeddus yn oedi cyn rhoi pwysau ar bwy bynnag yw Llywodraeth Cymru wedyn i sicrhau bod yr adnoddau ychwanegol angenrheidiol ar gael. Gwyddom fod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, onid ydym, yn effeithiol iawn, iawn o ran sicrhau eu bod yn codi pryderon os oes pwysau ychwanegol.

Felly, nid ydym yn barod i gefnogi'r gwelliannau hyn, oherwydd rydym yn credu bod y pwysau ychwanegol a ragwelwyd yn annhebygol iawn o ddigwydd, ac oherwydd nad ydym yn credu beth bynnag ei bod yn well gwneud y mathau hyn o benderfyniadau cyllidebol ar wyneb darn o Ddeddfwriaeth. Os yw blaenoriaethau Llywodraeth Cymru'n anghywir, cyfrifoldeb y Siambr hon yw eu dwyn i gyfrif am hynny a cheisio'u hargyhoeddi i newid eu meddyliau. Os byddwn yn gosod gofynion cyllidebol penodol mewn darnau penodol o ddeddfwriaeth, yna bydd gofynion cyllidebol eraill na fydd Llywodraethau Cymru yn y dyfodol yn gallu eu bodloni o bosibl.

Felly, er fy mod yn derbyn y gallai pryderon Janet Finch-Saunders fod yn ddidwyll, nid wyf yn credu bod y pryderon hynny yn seiliedig ar dystiolaeth ddigonnol ac, ar y sail honno, ni fyddwn yn cefnogi'r gwelliannau hyn.  

Diolch. Gallaf ddeall bod yr Aelod yn pryderu am effeithiau'r Bil hwn ar wasanaethau cyhoeddus, a derbyniaf yn llwyr fod hynny'n bryder gwirioneddol. Fodd bynnag, fe welwch chi o'r memorandwm esboniadol sydd wedi'i ddiweddaru, ac o'r llu o ddatganiadau effaith a gyhoeddwyd gyda'r Bil, ein bod wedi gwneud gwaith trwyadl a diwyd iawn o ystyried effeithiau posibl y Bil hwn, cyn ei gyflwyno ac yn ystod y broses graffu. Ac, fel y dywedodd Helen Mary Jones, nid oedd Iwerddon yn gwneud dim o'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud mewn gwirionedd, a, hyd y gwn i, nid oes yr un wlad arall wedi gwneud mwy na ni i ystyried effeithiau deddfwriaeth debyg neu i baratoi ar gyfer gweithredu mewn modd mor gynhwysfawr.

Buom yn gweithio fel lladd nadroedd i wneud popeth y gallwn ni i baratoi ar gyfer y ddeddfwriaeth hon. Archwiliwyd y data cyhoeddedig sydd ar gael o wledydd eraill ar effaith y mesurau a weithredwyd i wahardd cosbi plant yn gorfforol a buom yn trafod ag amrywiaeth eang o bobl yn Iwerddon, Seland Newydd a Malta, sydd â systemau tebyg i'n rhai ni. Ac, yn y gwledydd hyn, nid oes unrhyw dystiolaeth y llethwyd gwasanaethau cyhoeddus yn dilyn diwygio'r gyfraith. Ac mae rhanddeiliaid, yma yn y wlad hon wedi bod yn glir wrth roi tystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg—rwy'n siŵr y bydd Janet Finch-Saunders wedi clywed hyn—nad ydynt o'r farn y bydd costau ychwanegol, a chredaf y dylem ni ymddiried yn eu barn ar hyn.

Fel y nododd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ei adroddiad Cyfnod 1, mae'r rhai sy'n darparu gwasanaethau yn y rheng flaen wedi dweud, yn ddieithriad, fod y Bil:

yn gwella eu gallu i amddiffyn plant sy'n byw yng Nghymru oherwydd bydd yn gwneud y gyfraith yn glir.

A dyna pam ein bod yn gwneud hyn. Dywedodd Sally Jenkins o Gymdeithas Cyfarwyddwyr y Gwasanaethau Cymdeithasol wrth y pwyllgor:

O ran y trothwyon ar gyfer gwasanaethau plant, ni fyddem yn rhagweld cyfeirio nifer enfawr o achosion atom ni. Efallai y bydd nifer fach o atgyfeiriadau. Yr hyn a wyddom ni o genhedloedd eraill yw y bydd yn cyrraedd uchafbwynt ac yna bydd cysondeb. Rydym yn cydnabod bod hynny'n debygol o ddigwydd.

Dywedodd Jane Randall, Cadeirydd y Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol:

Nid oes disgwyl y bydd cynnydd enfawr yn nifer yr achosion a gaiff eu cyfeirio at wasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol, rwy'n credu yr ymdrinnid â nhw o fewn eu hadnoddau presennol.

Ac mae Dr Rowena Christmas, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol, wedi dweud:

Ni allaf weld y bydd yn ymestyn ymgynghoriadau. Ni allaf weld y bydd yn cynyddu nifer yr ymgynghoriadau, ac nid wyf yn credu y bydd yn cynyddu nifer yr atgyfeiriadau yr wyf yn eu gwneud i'r ymwelydd iechyd neu'r gwasanaethau cymdeithasol, oherwydd petawn i'n poeni, byddwn yn gwneud yr atgyfeiriadau hynny nawr, ni waeth beth fo'r Bil.

A'r un oedd y stori, yn unfrydol, gan yr holl arbenigwyr sy'n gweithio ym maes gofal plant: nad ydynt yn disgwyl y bydd hyn yn arwain at gynnydd enfawr yn nifer yr atgyfeiriadau. A dywedodd y Seneddwr Gwyddelig Jillian Van Turnhout wrth nifer ohonom ni yr wythnos diwethaf, pan ymwelodd â'r fan yma:

Mae gweithwyr proffesiynol yn Iwerddon yn teimlo bod y newid yn y gyfraith wedi dod ag eglurder. Mae wedi newid y berthynas rhwng gweithwyr proffesiynol a rhieni gan eu galluogi i siarad am yr hyn y gallant ei wneud yn hytrach na'r hyn na allant ei wneud. Ceir ymdeimlad y bu hyn yn ataliol oherwydd y gellir darparu cyngor a gwybodaeth yn gynharach.

Nawr, mae'r Bil hwn yn dileu amddiffyniad i drosedd o ymosodiad cyffredin, sydd wedi ffurfio rhan o gyfraith gyffredin Cymru a Lloegr ers amser maith. Mae'r gwasanaethau cymdeithasol eisoes yn cael adroddiadau ac yn ymchwilio i adroddiadau am blant sy'n dioddef ymosodiad, gan gynnwys o adrannau iechyd ac addysg, felly nid yw hwn yn faes cwbl newydd o weithgarwch costus i unrhyw un ohonynt. Rydym ni'n gweithio gyda sefydliadau i roi trefniadau ar waith i gasglu data am yr effaith bosibl ar eu gwasanaethau. A chaiff hyn ei ddadansoddi yn rhan o'r adolygiad ôl-weithredu. Gallwn ystyried gyda'r sefydliadau perthnasol y ffordd orau o reoli unrhyw effaith ar lwyth gwaith neu adnoddau, ac unrhyw oblygiadau o ran cost.

Felly, mae'r hyn sy'n cael ei gynnig y tu hwnt i'r trefniadau ariannu arferol sy'n gweithredu o fewn y Llywodraeth ac nid yw'n glir pam, yng nghyd-destun y dystiolaeth a glywyd yng Nghyfnod 1, fod angen darpariaethau o'r fath. Rwy'n siŵr y bydd Aelodau'n cytuno bod angen i lywodraethau'r dyfodol ystyried, yng nghyd-destun y broses pennu cyllideb, beth yw eu blaenoriaethau. A byddai angen gwneud yr ystyriaethau hyn yn y cyd-destun ar y pryd, er enghraifft, gan ystyried yr hyn sy'n digwydd mewn cysylltiad â Brexit neu unrhyw effaith arall nas rhagwelwyd ar economi neu wead cymdeithas yng Nghymru. Mae angen i Lywodraethau'r dyfodol allu gwneud y penderfyniadau hynny.

At hynny, fel sy'n digwydd nawr, mae'r Senedd yn craffu ar gyllideb Llywodraeth Cymru bob blwyddyn, felly gallai ddadlau o blaid cyllid ychwanegol i gyrff cyhoeddus pe bai'n ystyried bod angen gwneud hynny. Ond rwy'n credu y dylem ni wrando ar yr holl bobl hynny sy'n gweithio yn y gwasanaethau a'r gwasanaethau cyhoeddus yr ydym yn sôn amdanynt, ac felly rwy'n annog Aelodau i wrthod y gwelliannau hyn, sy'n ddiangen yn fy marn i.

18:30

Diolch, Llywydd. Hoffwn ddweud ar goedd, fel yr aelod etholedig dros Aberconwy, fod fy adran gwasanaethau cymdeithasol fy hun, yn enwedig o ran gweithio gyda theuluoedd, dan bwysau mawr, ac mae hynny'n amlwg o ganlyniad i ddiffyg setliad teg iddo. Gallaf ddweud wrthych chi, nid yw'n adlewyrchu'n dda ar y Siambr hon a ninnau ar fin pasio deddfwriaeth heb welliannau ar gost, o gofio mai dim ond tri o'r 22 awdurdod lleol y gofynnwyd iddynt am amcangyfrifon sydd wedi gallu ymateb. Rwy'n gweld hynny'n sefyllfa wan iawn i'r Llywodraeth Lafur hon sydd gan Gymru. Ond symudaf ymlaen i'r gwelliannau nawr, os gwelwch yn dda.

18:35

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 7? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, dwi'n agor y bleidlais ar welliant 7. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 7 wedi'i wrthod. 

Gwelliant 7: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 8 (Janet Finch-Saunders).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 8? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Felly, dwi'n agor y bleidlais ar welliant 8. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Ac felly, mae gwelliant 8 wedi'i wrthod. 

Gwelliant 8: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Grŵp 4: Pwerau gwneud Rheoliadau yn y Bil (Gwelliant 9)

Y grŵp nesaf o welliannau yw grŵp 4, a'r grŵp yma'n ymwneud â phwerau gwneud rheoliadau yn y Bil. Gwelliant 9 yw'r prif welliant, a'r unig welliant. Rwy'n galw ar Janet Finch-Saunders i gynnig gwelliant 9—Janet Finch-Saunders.

Cynigiwyd gwelliant 9 (Janet Finch-Saunders).

Diolch, Llywydd. Siaradaf am welliant 9, a gyflwynwyd hefyd gan fy nghyd-Aelod Suzy Davies yng Nghyfnod 2. Mae hwn yn diwygio adran 4 o ran y pwerau sydd gan Weinidogion Cymru i wneud rheoliadau. Fel y dywedodd Suzy yng Nghyfnod 2, nid yw'r hyn sydd bellach yn adran 4 yn bŵer cychwyn ar wahân i adran 1, ac mae'n debygol y bydd angen pwerau rheoleiddio arnoch i gyflwyno'r adroddiadau i effeithiolrwydd y Bil yn ogystal â'r ymgyrch ymwybyddiaeth. Fe y mae wedi'i drafftio, mae'n bosibl na fydd adran 4 yn rhoi digon o bwerau i'r Dirprwy Weinidog yn ystod y Bil i gyflawni ei hamcanion. Fel y cyfryw, mae'r gwelliant hwn yn sicrhau gallu'r Cynulliad i gyflwyno unrhyw beth y dymuna'r Dirprwy Weinidog ei gyflwyno o dan adran 1 o'r Bil gerbron y Senedd hon.

Yn ei hymatebion yng Nghyfnod 2, dywedodd y Dirprwy Weinidog fod y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol wedi dod i'r casgliad na ddylid cael gweithdrefn Cynulliad, ac nad oedd angen pwerau ehangach yn ei barn hi. Er fy mod yn derbyn y pwyntiau hyn, nid ydym yn glir o hyd a fyddai'r ddarpariaeth y mae'n bwriadu ei chyflwyno yn fwy addas i weithdrefnau cadarnhaol neu weithdrefnau negyddol.

Yn olaf, cadarnhaodd y Dirprwy Weinidog y byddai'n parhau i arolygu'r pwerau wrth nesáu at Gyfnod 3. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe bai'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau heddiw am ei barn am oblygiadau pwerau cyfyngedig, yn enwedig os oes cysylltiadau rhwng y Bil hwn a deddfwriaeth arall a allai fod angen pŵer ehangach.

Y sefyllfa naturiol ar y meinciau hyn, wrth gwrs, yw ein bod wastad eisiau cadw llygad ar beth bynnag y mae'r Llywodraeth yn ei wneud. Yn hynny o beth, mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â'r hyn y mae Janet Finch-Saunders yn ceisio'i gyflawni gyda'r gwelliant hwn, ond yn yr achos yma mae'n ymddangos yn ddianghenraid. Mae hyn yn ddiddymiad syml, nid yw hyn yn ddarn cymhleth o ddeddfwriaeth, ac os yw'r Dirprwy Weinidog yn fodlon bod hyn yn ddianghenraid, yna rydym yn fodlon ei chefnogi a pheidio â chefnogi'r gwelliant.

Diolch. Mae'r gwelliant yn dechnegol ei natur ac roedd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn fodlon, yn hyn o beth, nad oedd yr un weithdrefn yn briodol. Nid yw'r ffaith nad oes gweithdrefn Cynulliad yn golygu na all Aelodau graffu ar benderfyniadau Gweinidogion mewn cysylltiad â phwerau trosiannol. Gallai unrhyw bryderon am gynigion Gweinidogion Cymru gael eu cyflwyno i mi yn y Senedd. Cyflëwyd hyn i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ac, fel y dywedais, eu casgliad terfynol oedd: nid oes unrhyw weithdrefn sy'n weithdrefn briodol ar gyfer pŵer o'r fath.

Mae cyflwyno'r posibilrwydd o ddirymu yn anfon negeseuon cymysg i'n rhanddeiliaid allweddol pan fo sicrwydd wedi'i roi ar wyneb y Bil ynghylch pryd y bydd y newid yn y gyfraith yn dechrau. Oherwydd hyn, anogaf yr Aelodau i wrthod gwelliant 9 gan Janet Finch-Saunders, sy'n mynd yn groes i adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 9? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Agor y bleidlais felly ar welliant 9. Cau'r bleidlais. O blaid 15, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 9. 

18:40

Gwelliant 9: O blaid: 15, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Cynigiwyd gwelliant 11 (Janet Finch-Saunders).

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 11? A oes unrhyw wrthwynebiad? Felly, derbynnir gwelliant 11.

Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Grŵp 5: Cychwyn (Gwelliant 10)

Grŵp 5 yw'r grŵp nesaf, y grŵp olaf o welliannau, sy'n ymwneud â chychwyn. Gwelliant 10 yw'r prif welliant, yr unig welliant. Dwi'n galw ar Janet Finch-Saunders i gyflwyno gwelliant 10. 

Cynigiwyd gwelliant 10 (Janet Finch-Saunders).

Diolch, Llywydd. Gan droi at welliant 10, mae tair rhan i hyn: gohirio cychwyn adran 1, gan gynnwys diwygio canllawiau Gwasanaeth Erlyn y Goron; sefydlu llwybr amgen i ffwrdd o'r system cyfiawnder troseddol; a sefydlu cymorth rhianta.

Mae'n siŵr y bydd y Dirprwy Weinidog yn gyfarwydd â dadleuon y Ceidwadwyr Cymreig pan fu inni gyflwyno y rhain fel gwelliannau ar wahân yng Nghyfnod 2, ond credaf y dylai Cynulliad Cenedlaethol Cymru fod yn ymwybodol o'n rhesymeg y tu ôl i'r oedi. Rhaid imi ailadrodd y bydd y Bil hwn yn cael effeithiau pellgyrhaeddol, nid yn unig ar hawliau'r plentyn, ond hefyd ar fywydau eu rhieni. Mae'r Dirprwy Weinidog wedi dweud yn gyson yn ystod hynt ddeddfwriaethol y Bil bod arni eisiau i hyn ennyn newid mewn ymddygiad. Fodd bynnag, gallai fod wedi gwneud hyn drwy godi ymwybyddiaeth neu orfodi sifil, yn hytrach na gwneud rhieni'n destun atebolrwydd troseddol.

Mae effeithiau posibl o fod yn destun y fath atebolrwydd mor ddifrifol a gallent gael effeithiau negyddol difrifol ar rieni, plant a theuluoedd, ac rwyf wedi amlinellu hynny o'r blaen yn fy ngwelliannau yng ngrŵp 1. Nid ydym yn argyhoeddedig y bydd cymorth rhianta wedi ei sefydlu'n briodol erbyn i'r Bil ddod i rym yn llawn. Rydym yn ymwybodol iawn yn y Siambr hon o'r defnydd tameidiog o Dechrau'n Deg, ac mae gwir angen i'r Dirprwy Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y cynnydd o ran capasiti a chyrhaeddiad Plant Iach Cymru, o ystyried y dywedwyd wrthym y cysylltwyd â dim ond ychydig dros hanner y plant o dan y cynllun. Dyna pam mae sefydlu ffordd amgen a chymorth rhianta cyn cyflwyno gwaharddiad ar smacio yn hanfodol.

At hynny, mae cynnwys Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r heddlu, drwy'r canllawiau diwygiedig ynghylch cyhuddo, yn achosi i ni grwydro ychydig i faterion a gadwyd yn ôl. Soniodd Suzy am hyn a'i nodi yng Nghyfnod 2. Mae dyletswyddau'r ddau gorff y tu allan i'n cymhwysedd ni. Felly, drwy basio'r Bil hwn heb weld y canllawiau hyn ymlaen llaw, byddem ni fel deddfwrfa ddatganoledig yn rhoi ystyriaethau difrifol, megis cydberthnasau teuluol, yn nwylo dau gorff nad ydynt wedi'u datganoli. A'i roi'n hollol syml, ni fyddai gennym ni reolaeth dros y canllawiau, a allai yn y pen draw fod yn gwbl anghymesur â'r hyn y mae'r Dirprwy Weinidog yn bwriadu ei wneud.

Ac, yn y pen draw, y rhieni a'r teuluoedd fydd yn dioddef yn sgil polisi sydd heb ei ystyried yn drwyadl. Cyfaddefodd y Dirprwy Weinidog i'r pwyllgor nad oedd y grŵp gweithredu strategol ond yn y camau cynnar o drafod sut beth yn union fyddai natur y canllawiau hyn, gan olygu mai ni wedyn sy'n pasio darn o ddeddfwriaeth nad yw'n rhoi unrhyw reolaeth na mewnbwn ynghylch sut y gallai rhieni gael eu cosbi am smacio eu plant. Mae hynny'n wirioneddol frawychus.

Rwy'n anghytuno'n llwyr â honiadau'r Dirprwy Weinidog y byddem yn rhoi pŵer i gorff nad yw wedi'i ddatganoli o ran y ffordd yr ydym yn deddfu yng Nghymru. Mae'r rhain yn welliannau wedi'u geirio'n ofalus iawn nad ydynt yn ceisio rhoi'r pŵer hwnnw. Ar y llaw arall, atgoffaf yr Aelodau fod Atodlen 7B i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn gosod cyfyngiadau ar ein gallu, heb ganiatâd Llywodraeth y DU, i orfodi, addasu neu ddileu swyddogaethau awdurdodau a gadwyd yn ôl. Felly, rhaid inni fod yn ofalus ynglŷn â chydsyniad y Goron. Yn hytrach, rydym yn ceisio sicrwydd y gall y Cynulliad weld ychydig ar y canllawiau cyhuddo cyn i'r Bil ddod i rym.

Nawr, wrth gwrs, gellid osgoi canlyniadau posibl y camau hyn pe baech chi wedi penderfynu amddiffyn hawliau'r plentyn drwy orfodaeth sifil. Nid oes yr un ohonom ni eisiau troi rhieni'n droseddwyr yn ddiangen, ac felly mae'n bwysig iawn bod gennym ni'r trefniadau amgen ar waith cyn i ddarpariaethau'r Bil ddechrau. Ein dyletswydd ni fel Cynulliad yw sicrhau ein bod yn cael pethau'n iawn cyn i'r Bil ddechrau, ac felly rwyf yn wirioneddol annog yr Aelodau i gefnogi'r gwelliant penodol hwn. Diolch yn fawr.

18:45

Darllenais i'r gwelliant a chefais i fy nrysu braidd gan ei fwriad. Roeddwn i wedi gobeithio y byddai cyfraniad Janet Finch-Saunders i'r ddadl yn fy ngoleuo. Mewn gwirionedd, mae hwnnw wedi fy nrysu i ymhellach, oherwydd yr oedd rhai pwyntiau yn ei chyfraniad pan oedd yn swnio fel pe bai'n galw am ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol i alluogi'r lle hwn i gael rheolaeth dros Wasanaeth Erlyn y Goron a'r heddlu—a byddwn i'n croesawu hynny, wrth gwrs, gyda breichiau agored. Ac os yw Janet wedi dod i'r safbwynt hwnnw, rwyf wrth fy modd.

Mae'r gwelliant ei hun yn ddryslyd, ac yng nghyfraniad Janet ychydig iawn o ffydd y mae hi'n ei ddangos yng ngwasanaeth yr heddlu yng Nghymru ac yng Ngwasanaeth Erlyn y Goron yma i weithio mewn modd cydweithredol gyda Llywodraeth Cymru, gyda'r weinyddiaeth ddatganoledig. Mae'r profiad o hyn mewn meysydd eraill yn gwbl groes; mae Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r heddlu yn agored iawn i fod yn gydweithredol ac yn gefnogol.

Rwy'n barod i ildio.

Diolch am ildio. Fel y gwnaethoch chi ei nodi, yn y gwaith a wnaed ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod ac atal, ond hefyd ar gam-drin domestig, yn wir mae'r heddlu yn bendant yn gweithio o fewn fframweithiau polisi sydd wedi'u pennu gan Lywodraeth Cymru. Does gen i ddim rheswm i ragweld y bydden nhw'n gweithio mewn unrhyw ffordd wahanol gyda hyn.

Byddwn i'n cytuno'n llwyr â Huw Irranca-Davies ar hyn.

Gadewch i mi gymryd y tair adran un ar y tro yn fyr. Mae'n rhaid bod Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi diwygio ei ganllawiau: wel, rwy'n barod i dderbyn y sicrwydd a roddodd y Gweinidog i mi heddiw ar ran fy mhlaid, ei bod hi yn bendant yn rhagweld y bydd y canllawiau, erbyn y caiff y ddeddfwriaeth hon ei rhoi ar waith, wedi'u diwygio, a'i bod wedi cael sicrwydd gan Wasanaeth Erlyn y Goron i'r perwyl hwnnw, ac rwyf fi yn barod i gredu Gwasanaeth Erlyn y Goron.

Mae adran (b) yn galw ar Lywodraeth y DU, yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron i sefydlu llwybr dewis amgen yn hytrach nag erlyn. Wel, nid yw erioed wedi bod yn waith Llywodraeth y DU i sefydlu hynny'n uniongyrchol, hyd yn oed yn y dyddiau cyn datganoli. Bydd yr heddlu'n arwain, gydag eraill, i gynnig dewisiadau amgen yn hytrach nag erlyn. Ond nid wyf i'n credu ein bod yn debygol o weld dwsinau a dwsinau o deuluoedd yn wynebu erlyniad na fydden nhw wedi'i wneud fel arall. Mae'r profiad yn Iwerddon wedi dangos bod eu deddfwriaeth wedi arwain at un teulu yn unig, ledled y genedl gyfan, yn ystod holl gyfnod ei gweithredu, yn mynd i mewn i'r broses na fydden nhw fel arall wedi gwneud. A hynny oherwydd bod aelod o'r cyhoedd wedi gweld ymddygiad mewn man cyhoeddus yr oedd hi'n pryderu yn ei gylch, wedi adrodd ar hynny i'r heddlu, a phan wnaethon nhw ymchwilio, fe wnaethon nhw weld, o dan y smac gyhoeddus honno, fod patrwm cam-drin difrifol iawn, na fyddai fel arfer, wrth gwrs, yn wir. Felly, nid yw adran (b) yn gwneud synnwyr fel y mae.

Mae adran (c) yn gofyn i Weinidogion Cymru sefydlu gwasanaethau cymorth rhianta. Wel, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio ar sefydlu gwasanaethau cymorth rhianta mewn sawl ffordd ers blynyddoedd lawer. A ydym ni ar y meinciau hyn yn gwbl ffyddiog eu bod yn gwneud popeth y gallan nhw ei wneud, y dylen nhw ei wneud, ac y byddan nhw yn ei wneud? Wel, wrth gwrs nad ydym ni; ein gwaith ni yw craffu a'n gwaith ni yw codi pryderon. Ond mae'n ymddangos, i ni, yn ffôl i roi ar wyneb y Bil ei bod yn ofynnol i Lywodraeth Cymru wneud rhywbeth y maen nhw wedi bod yn ei wneud ers tua 18 mlynedd beth bynnag.

Rwyf bob amser yn hapus i dderbyn ymyriad gan Darren Millar.

Rwy'n ddiolchgar iawn. Rwyf i wedi fy nrysu ychydig gan yr hyn sy'n ymddangos yn agwedd wahanol iawn ar feinciau Plaid Cymru—ac yn wir, ar feinciau cefn Llafur—tuag at y darn hwn o ddeddfwriaeth o'i gymharu â Bil ymadael yr UE yr oeddem ni'n ei drafod yn gynharach y prynhawn yma, lle y bu rhai datganiadau clir iawn am fwriad polisi Llywodraeth y DU, ac eto rydych chi i gyd eisiau gwelliannau ar y Bil er mwyn dangos bod ymrwymiad clir i'r pethau hynny, oherwydd mae arnoch chi ofn y bydd pobl yn mynd yn ôl ar bethau. Ac eto, ar y Bil penodol hwn, mae rhai arwyddion clir o fwriad polisi gan y Llywodraeth, ac mae'n eithaf amlwg bod y Llywodraeth wedi gwneud ei safbwynt—

Mae'n ddrwg gen' i, Darren, mae angen i mi barhau â fy sylwadau. Rwyf yn derbyn eich pwynt.

Rwy'n gwerthfawrogi hynny, ond nid wyf yn siŵr pam mae'r dull mor wahanol.

Mae gwahaniaeth—ac mae'n dibynnu'n llwyr ar bwy mae rhywun yn ei gredu, wrth gwrs. Ond yr hyn mae'r ddau beth hyn yn ei wneud—[Torri ar draws.]

Rwyf i wedi caniatáu i Darren Millar wneud ymyriad; hoffwn i iddo ef, os gwnaiff ef, wrando ar fy ateb. A fy ateb i yw hyn: y pethau sydd gan y Bil yr oeddem ni wedi'i drafod yn gynharach—Bil San Steffan—a hwn yn gyffredin yw, o'u darllen y ffordd anghywir, bod y ddau yn gyfystyr â San Steffan yn cipio pŵer Os byddwn ni'n pasio'r gwelliant hwn, byddai cyrff nad ydyn nhw wedi'u datganoli, y mae Janet Finch-Saunders, yn gwbl briodol, wedi tynnu sylw atyn nhw, yn gallu atal darn o ddeddfwriaeth rhag cychwyn yma, petaent yn gwrthod cydweithredu. Nid oes gennyf i unrhyw reswm—dim rheswm o gwbl—i feddwl y byddai'r heddlu na Gwasanaeth Erlyn y Goron yng Nghymru eisiau gwneud y fath beth, ond mae'r gwelliant hwn yn cyfeirio'n benodol at y ffaith bod angen i Lywodraeth y DU wneud rhywbeth cyn bod modd rhoi deddfwriaeth yr ydym ni wedi'i phasio yn y lle hwn ar waith. Nid yw hynny'n dderbyniol. Yr hyn sydd gan y ddau beth yn gyffredin yw ymgais i leihau grym ac awdurdod y lle hwn ac nid wyf i yn barod i oddef y naill na'r llall ohonyn nhw.

18:50

Er y byddai'n well gan fy ngrŵp i petai'r Bil hwn yn cael ei wrthod yn ei gyfanrwydd, byddwn ni’n cefnogi'r gwelliant hwn gan Janet Finch-Saunders. Y gwir amdani yw bod hwn yn ddarn gwael o ddeddfwriaeth. Mae'n dileu'r amddiffyniad o gosb resymol. Rhesymol. Nid yw'r hyn y byddai unrhyw un ohonom ni y Siambr hon wedi'i ystyried yn gosb resymol yn amddiffyniad mwyach. Felly, yr hyn y mae'n ei wneud yw ystyried manylion smacio plentyn, taro plentyn ar ei law. Dyma le mae hwn yn ddarn gwael o ddeddfwriaeth yn ôl unrhyw safonau o gwbl.

Mae gennym ni amddiffyniad y gyfraith ac rwyf i'n gwbl sicr bod pawb yn y Siambr hon yn poeni ynghylch diogelu plant, ond mae ein plant yn dioddef llawer iawn o gam-drin geiriol. Nid yw hyn yn effeithio mewn unrhyw ffordd ar gam-drin plant yn eiriol, sy'n llawer mwy niweidiol yn seicolegol na chael eu taro'n ysgafn ar y llaw.

A fyddech chi hefyd yn cytuno bod dieithrio rhieni'n yn fath enfawr o gam-drin plant, sy'n cael ei anwybyddu'n llwyr gan lawer o Aelodau'r Cynulliad hwn? Mae llawer o Aelodau'n ei anwybyddu. Dyma'r unig fath o gam-drin plant sy'n cael ei dderbyn. Dylem ni fod â Bil ar hynny.

Gadewch i mi ystyried sefyllfa lle mae cwpl gyda phlentyn ifanc mewn bwyty neu gaffi. Mae ganddyn nhw gwpanau poeth o goffi neu gynhwysydd o goffi poeth ar y bwrdd ac mae'r plentyn yn mynd i fachu'r coffi, ac mae'r fam, yn reddfol, yn tapio llaw'r plentyn i'w rybuddio yn erbyn hynny. [Torri ar draws.] Ac yna, mae gennych chi selotiaid yn y caffi hwn, a allai fod yn ACau Plaid Cymru neu ACau Llafur, sy'n dewis rhoi gwybod i'r heddlu am yr hyn sydd wedi digwydd. Gallech chi gael y senario lle mae rhiant yn cael ei lusgo allan o'r caffi—

A allwn ni ganiatáu i'r Aelod gario ymlaen mewn rhywfaint o dawelwch, os gwelwch yn dda?

—gan yr heddlu. Dyna'r math o gyfraith rydych chi'n ceisio ei chyflwyno i'r Siambr hon. Rwy'n cefnogi gwelliant Janet, y mae pawb sydd wedi cysylltu â mi ynglŷn â'r Bil hwn yn ei gefnogi'n ysgubol. Mae'n debyg fy mod i wedi cael mwy o ohebiaeth ynghylch y Bil arbennig hwn nag ynghylch unrhyw beth arall sydd wedi cael ei ddwyn drwy'r Siambr hon. A gan academyddion, a gan bobl sy'n gweithio yn y maes hwn. A phob un ohonyn nhw'n condemnio'r Bil hwn. Mae'n ddarn gwael o ddeddfwriaeth.

Fe wnaethoch chi ddweud eich bod wedi cael llawer o ohebiaeth gan weithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y maes hwn. A ydych chi'n ymwybodol bod pob un gweithiwr proffesiynol a roddodd dystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg o feysydd iechyd, addysg, yn gyffredinol, yn cefnogi'r ddeddfwriaeth hon?

Y cyfan y gallaf i ei ddweud yw'r hyn sy'n dod drwy fy negeseuon e-bost a drwy fy mlwch llythyrau, sy'n gwbl groes i'r hyn yr ydych chi newydd ei ddweud.

Darren Millar a gododd—

Mae pwynt wedi'i wneud ynglŷn â'r gefnogaeth neu fel arall ar gyfer y darn penodol hwn o ddeddfwriaeth. A ydych chi'n derbyn mai ychydig iawn o rieni sy'n ei gefnogi gan fod pleidlais ar ôl pleidlais wedi dangos nad yw rhieni eisiau i'r ddeddfwriaeth hon gael ei phasio, ac yn wir wrth ofyn i aelodau o'r cyhoedd bleidleisio ar hyn, mae dwy ran o dair neu dri chwarter ohonyn nhw yn gyson wedi pleidleisio o blaid cadw'r trefniadau presennol?

Yn hollol. Rydym ni wedi clywed yn y Siambr hon am y broses o drosi'r hyn sydd wedi digwydd yn Iwerddon. Un erlyniad. Dyna'r cyfan a ddeilliodd ohoni. A sawl ymchwiliad? Faint o amser ac ymdrech a fu gan y gwasanaethau cymdeithasol yn ymwneud â'r nifer fawr o achosion a fu, heb os, yn dod ger eu bron—cost hynny oll pan ddylen nhw fod yn ymchwilio i feysydd llawer mwy difrifol o gam-drin plant?

Gwyddom ni yn y wlad hon, pa un ag ydym ni'n hoffi hynny ai peidio, fod diwylliant gwrth-risg yn ein gwasanaethau cymdeithasol. Dyna pam yr ydym ni'n gweld plant yn derbyn gofal pan na ddylen nhw fod wedi bod yn derbyn gofal, oherwydd gorfrwdfrydedd y gwasanaethau cymdeithasol, yn aml, a dyna'n union y byddwn ni'n ei gael gyda'r Bil hwn am gost enfawr i'r wlad hon.

18:55

Wel, fel y dywedais i pan gawsom ni ddadl ar y Bil hwn ym mis Medi, rwy'n rhiant i chwech, pob un ohonyn nhw bellach yn oedolion cyfrifol a gofalgar, yn rhiant bedydd, taid, ewythr a hen ewythr. Mae tair o fy merched yn feichiog ar hyn o bryd hefyd. Mae dwy o'r rhain bellach yn byw ychydig filltiroedd i ffwrdd yn Lloegr. Maen nhw wedi dweud wrthyf i eu bod yn ddiolchgar na fydd y Bil hwn yn berthnasol iddyn nhw. Fodd bynnag, mae ein merch feichiog arall, sy'n dal i fyw yng Nghymru, yn poeni am yr hawl i fusnesa y mae'r Bil hwn yn bygwth ei chyflwyno, ac felly hefyd ei ffrindiau, ei chydweithwyr a'i grwpiau cyfoedion.

Canfu arolwg cenedlaethol annibynnol yn Seland Newydd—a gynhaliwyd yn annibynnol—lle y mae smacio eisoes yn drosedd, fod 70 y cant yn dweud na fydden nhw'n adrodd am riant y bydden nhw'n ei weld yn smacio ei blentyn, ond byddai 20 y cant yn troi'n fusneslyd.

Mae'n ymddangos bod y bobl sydd y tu ôl i'r Bil hwn yn byw yn swigen anghynrychioliadol Bae Caerdydd lle mae barnu pobl eraill a phenderfynu ar yr hyn sy'n dda iddyn nhw'n cael blaenoriaeth dros wrando ar y bobl y maen nhw i fod i'w cynrychioli. Maen nhw'n honni eu bod yn amddiffyn plant ac maen nhw'n dweud bod angen cyrsiau rhianta cadarnhaol ar y rhai hynny sy'n anghytuno â nhw. Fodd bynnag, mae mwyafrif llethol y rhieni eisoes yn gwybod am yr ymyriadau rhianta cadarnhaol y maen nhw'n eu hargymell ac maen nhw'n eu defnyddio, gan hefyd gadw'r opsiwn o smacio ysgafn yn eu dull o rianta cadarnhaol i'w ddefnyddio ar adegau prin pan fo perygl neu fel dewis olaf.

Fel y dywed Gwasanaeth Erlyn y Goron, ni ellir defnyddio amddiffyniad cosb resymol:

ar gyfer mân ymosodiadau a gyflawnir gan oedolyn ar blentyn sy'n arwain at anafiadau fel crafiadau, sgriffiadau, mân gleisiau, chwyddo, toriadau arwynebol neu lygad du, y cyhuddiad priodol fel arfer fyddai gwir niwed corfforol.

Mae'r amddiffyniad cosb resymol dim ond ar gael, maen nhw'n nodi, mewn achosion lle: 

mae'r anaf yn fyrhoedlog ac yn ddibwys.

Canfu arolwg diweddar o gynghorwyr lleol Cymru fod saith o bob 10 yn erbyn gwaharddiad smacio, gan gynnwys mwyafrif o bob un o'r prif bleidiau, a bod naw o bob 10 yn dweud nad oes gan gynghorau yr adnoddau i ymdopi ag un, ac mae pryder wedi'i godi nad yw Llywodraeth Cymru wedi rhoi—

Un funud, Helen Mary.

—asesiad o gost y Bil hwn i'r gwasanaethau cymdeithasol o ran cynnydd yn nifer yr atgyfeiriadau a baich cynyddol ar weithwyr cymdeithasol.

Nid wyf yn siŵr a yw'r Aelod yn ymwybodol, o ran cyfraddau ymateb i'r arolwg hwnnw, mai dim ond llai na 13 y cant o'r aelodau awdurdodau lleol a arolygwyd a ymatebodd o gwbl. Byddai rhywun yn disgwyl, o dan yr amgylchiadau hynny, y bydden nhw'n aelodau a oedd yn gwrthwynebu. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn eithaf gofalus ynglŷn â sut yr ydym ni'n defnyddio'r ffigurau hynny, ac rwyf eisoes wedi gwneud y pwynt ynghylch arolwg Seland Newydd, sef yr union beth hwnnw—roedd yn bôl piniwn a gomisiynwyd gan y sefydliad a oedd wedi gwrthwynebu'r gwaharddiad yn y lle cyntaf.

Fel arfer, byddai 13 y cant yn cael ei ystyried yn ymateb uchel ar gyfer y rhan fwyaf o ymgynghoriadau Llywodraeth Cymru a llawer o'r polau a'r arolygon eraill yr ydym ni fel Aelodau yn eu dyfynnu'n aml.

Wrth siarad yma ar y Bil hwn ym mis Medi, dyfynnais uwch-swyddog profiadol gyda heddlu Cymru, a ddywedodd:

Rwyf i wedi fy nghyfyngu rhag siarad yn gyhoeddus'

—fel llawer o weithwyr proffesiynol eraill yng Nghymru ar gyflogres Llywodraeth Cymru—

ond mae'n rhaid i mi wneud rhywbeth—

er fy mod yn amlwg yn gwerthfawrogi nad yw swyddog heddlu ar gyflogres Llywodraeth Cymru—

ond mae'n rhaid i mi wneud rhywbeth i geisio annog y Cynulliad i beidio â chefnogi cynlluniau i wahardd smacio.

Fe ddywedodd, 'Mae'r amddiffyniad cosb resymol ond yn cwmpasu'r math ysgafnaf o smacio. Mae'n atal rhieni rhag cael eu trin fel troseddwyr heb reswm da. Byddai dileu'r amddiffyniad'—dywedodd y swyddog heddlu hwn—'yn dileu unrhyw ddisgresiwn sydd gennym ni. Bydd yn arwain at brofiad trawmatig i deuluoedd gweddus.'

Dywedais yma ym mis Medi fy mod wedi cael llawer o ohebiaeth gan etholwyr ynglŷn â'r Bil hwn, ac fe gefais, pob un ohonyn nhw yn gofyn imi ei wrthwynebu. Nid oedd yr un yn gofyn i mi ei gefnogi. Bedwar mis yn ddiweddarach, nid wyf wedi cael yr un cais gan unrhyw etholwr i gefnogi'r Bil hwn—dim un—ond rwyf i wedi derbyn nifer o negeseuon e-bost gan etholwyr yn gofyn i mi gefnogi gwelliant 10, a gynigiwyd heddiw gan Janet Finch-Saunders, a fyddai'n atal y gwaharddiad ar smacio rhag dod i rym tan fod Llywodraeth y DU, yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi sefydlu llwybr fel dewis amgen yn hytrach nag erlyn ar gyfer y rhai hynny y mae'r newidiadau i'r gyfraith yn effeithio arnyn nhw. Mae hyn yn dilyn argymhelliad i'r perwyl hwn yn adroddiad Cyfnod 1 y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar y Bil, sy'n cydnabod bod plismona a chyfiawnder yng Nghymru yn gyfrifoldeb nad yw wedi'i ddatganoli, a dyna'r rheswm dros y geiriad.

Er mwyn cynrychioli fy etholwyr, fe rannaf i rai o'u sylwadau diweddar, fel a ganlyn: 'Yr oedd y ddau ohonom ni ymhlith y 76 y cant o oedolion sy'n byw yng Nghymru a bleidleisiodd yn yr arolwg ComRes yn 2017 i wrthwynebu troseddoli smacio. Mae'r gyfraith eisoes yn amddiffyn plant rhag trais, a bydd y Bil hwn yn llethu'r heddlu a gweithwyr cymdeithasol â gormod o gofnodion tra bydd achosion go iawn o gam-drin plant difrifol yn cael eu hanwybyddu.'

Un arall: 'Hyderwn y byddwch chi'n cefnogi gwelliant Janet Finch-Saunders, sy'n galw am ddewis amgen yn hytrach nag erlyn. Er nad ydym ni'n cymeradwyo taro plentyn pan fydd yn camymddwyn, nid yw smacio ysgafn yn niweidiol ac ni ddylid ei wneud yn drosedd. Rydym ni'n deall bod angen amddiffyn plant rhag cael eu cam-drin, ond nid yw smacio'n gam-drin.' 

Un arall: 'Nid oes unrhyw un yn cefnogi cam-drin plant, ond bydd y gyfraith hon yn wrthgynhyrchiol. Mae'n gwbl annemocrataidd gan fod pob pôl piniwn yr wyf i wedi'i weld yn dangos bod rhieni wedi'i wrthod. Rwy'n eich annog i ystyried pa effaith a gaiff hyn ar yr heddlu, gwasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau'r llysoedd. Gallai hefyd arwain at chwalu teuluoedd cariadus yn ddiangen.'

Un arall: 'Os caiff ei basio ar ei ffurf bresennol, effaith y Bil arfaethedig fyddai gadael rhieni cariadus yn agored i gael eu troi'n droseddwyr oherwydd smac ysgafn i'w plentyn, yn cyflwyno ymchwiliadau diangen gan yr heddlu ac ymchwiliadau amddiffyn plant gan wasanaethau gorbrysur ar gyfer achosion dibwys iawn a gadael achosion go iawn o gam-drin plant heb eu datrys.'

Un arall: 'Mr Isherwood, a fyddech cystal â chefnogi gwelliant 10, a gyflwynwyd gan Janet Finch-Saunders, i sicrhau nad yw'r gwahardd smacio yn dod i rym, gan y byddai'r gwaharddiad hwn yn troi rhieni da yn droseddwyr. A wnewch chi amddiffyn rhyddid teulu, os gwelwch yn dda?'

Un arall: 'Mae'r Bil hwn yn sarhad ar bob rhiant normal, yn ogystal â bod yn ymyrraeth ddiangen ar fywyd teuluol.'

Dau arall: 'Rydym ni, fel meddygon teulu sydd wedi ymddeol yn ddiweddar, yn ymwybodol o'r llwyth gwaith trwm sydd gan weithwyr proffesiynol yn y sectorau gofal cymdeithasol a gofal iechyd o ran canfod risg ac amddiffyn plant rhag cam-drin gwirioneddol a sylweddol. Ein hofn ni yw y gallai'r Bil, ar ei ffurf bresennol, arwain at lethu gwasanaethau amddiffyn plant wrth i adnoddau gael eu dargyfeirio i ffwrdd o amddiffyn plant sy'n wynebu risg go iawn tuag at ymchwilio ac erlid rhieni cariadus cyfrifol.'

A dyfyniad terfynol: 'Rwy'n erfyn arnoch chi i gefnogi gwelliant 10. Rwy'n pryderu'n fawr y gallai hyn arwain at droseddoli rhieni cariadus ac achosi i deuluoedd chwalu.'

Sampl bach yn unig yw'r rheini o'r rhai sydd wedi eu derbyn yn y dyddiau diwethaf.

Bod heb gyfyngiadau sy'n cyfrannu at fywydau di-drefn sydd wedi'u niweidio, aflonyddwch a drwgweithredu, nid bod â chyfyngiadau. Yn lle troseddoli rhieni normal, gweddus a chariadus sy'n defnyddio smacio o bryd i'w gilydd, mae'n rhaid i ni gydnabod y gwahaniaeth amlwg rhwng smacio a cham-drin plentyn, y mae'r mwyafrif helaeth o rieni'n gallu ei gydnabod. Mae'r ddadl hon yn tynnu ein sylw'n llwyr, pan ddylem ni fod yn canolbwyntio ar adroddiadau cynyddol ynghylch plant yn cael eu cam-drin yn rhywiol, eu hecsbloetio a'u gorfodi i weithio, yn hytrach. Gadewch i ni ddangos i bobl Cymru ein bod ni'n gwrando, gadewch i ni ddangos i rieni Cymru nad sefydliad rhith-wirionedd yw hwn, fel y mae'r Senedd hon yn rhy aml yn ei gyflwyno, a gadewch i ni gefnogi gwelliant 10 a rhoi cyfle i'r darn hwn o ddeddfwriaeth wneud rhywfaint o dda.  

19:00

Diolch.

Gwrandewais yn astud ar yr hyn a ddywedodd y rhanddeiliaid a'r tri phwyllgor yn ystod Cyfnod 1 am bwysigrwydd sicrhau bod digon o amser ar gael i ddiddymu'r amddiffyniad cosb resymol cyn y newid yn y gyfraith. O ganlyniad, fe wnes i gyflwyno gwelliannau yng Nghyfnod 2 i ddarparu sicrwydd ynghylch y dyddiad ar gyfer y newid yn y gyfraith ac am gyfnod o ddwy flynedd rhwng y Cydsyniad Brenhinol a dechrau gweithredu'r ddeddf. Credaf mai dyma'r ffordd fwyaf priodol o hyd i gyflwyno'r newid hwn.

Bydd y sicrwydd hwn, o ran yr amserlen, yn caniatáu i'n holl bartneriaid allweddol, gan gynnwys yr heddlu, y gwasanaethau cymdeithasol a Gwasanaeth Erlyn y Goron, gynllunio ar gyfer newidiadau i ganllawiau, hyfforddiant a chasglu data a gallu ei wneud mewn modd mwy effeithiol oherwydd eu bod yn gwybod yr union gyfnod o amser sydd ganddynt. Bydd hefyd yn darparu pwyslais i'n hymgyrch codi ymwybyddiaeth.

Rwyf wedi gwrando ar y dadleuon a gyflwynwyd gan Janet Finch-Saunders ac Aelodau eraill, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cydnabod, fel y dywedwyd eisoes—ac mae Helen Mary Jones wedi gwneud y pwynt hwn yn gryf iawn—os derbynnir y gwelliant hwn, bydd yn gwneud cychwyn y Bil yn amodol ar i rywbeth arall ddigwydd gyntaf, boed hynny'n aros i ganllawiau Gwasanaeth Erlyn y Goron gael eu diwygio, neu sefydlu llwybr ar gyfer dargyfeirio o'r system cyfiawnder troseddol, neu ddarparu  gwasanaethau cymorth magu plant. Drwy wneud dechreuad y ddeddfwriaeth hon yn amodol ar ddiwygio canllawiau Gwasanaeth Erlyn y Goron, byddem yn caniatáu i gyrff nad ydynt wedi eu datganoli fod y cymrodeddwyr terfynol ar ein deddfwriaeth, ac rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn.

Hefyd, rydych chi'n awgrymu ein bod ni'n caniatáu i Lywodraeth y DU leisio barn ynghylch pa bryd y cychwynnir deddfwriaeth Cymru mewn maes a ddatganolwyd yn benodol i'r Senedd o dan Ddeddf Cymru 2017, a pham yn y byd y byddem ni eisiau gwneud hynny? Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron yn gwbl annibynnol ar y Llywodraeth a bydd yn gwneud ei benderfyniadau ei hun ynghylch sut a phryd y bydd yn diwygio ei ganllawiau. Gadewch i ni beidio ag anghofio, yn ystod Cyfnod 1, bod Gwasanaeth Erlyn y Goron wedi sicrhau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y bydd diwygiadau'n cael eu gwneud i'w canllawiau.

Mae ansicrwydd ynglŷn â'r prawf a gymhwysir gan y newid arfaethedig o ran pryd y gallai'r cychwyniad ddigwydd yn gyfreithlon. Os caiff y gwelliant hwn ei basio, byddai'n anodd iawn, os nad yn amhosibl, barnu pryd y gellid dechrau adran 1. Mae hyn yn groes i'r hyn y mae rhanddeiliaid a phwyllgorau wedi gofyn amdano, ac mae'n codi ansicrwydd mawr a allai beryglu'r Bil. Gofynnwyd i ni roi sicrwydd, a dyna'r hyn yr ydym wedi rhoi.

Rwyf eisiau eich sicrhau bod gennym ni berthynas waith dda iawn gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r heddlu. Cyfeiriodd Huw Irranca-Davies at sut maen nhw wedi gweithio'n agos gyda ni mewn meysydd eraill, ac yn sicr mae gennym ni berthynas waith dda erbyn hyn. Rydym wedi gweithio gyda hwy i ddarparu'r amcangyfrifon o'r costau yn yr asesiad o effaith rheoleiddiol, ac maen nhw'n aelodau gweithredol o'r grŵp gweithredu strategol a'i grwpiau gorchwyl a gorffen. Maen nhw'n cymryd rhan lawn yn ein holl baratoadau.

Ni ddylai'r gwaith a wnawn yn y grwpiau hyn effeithio ar amseriad cychwyn y Bil. Mewn gwirionedd, mae i'r gwrthwyneb: mae cyfnod o ddwy flynedd rhwng Cydsyniad Brenhinol a chychwyniad sydd yn golygu y gall y grwpiau hyn gynllunio eu gwaith yn ôl amserlen hysbys a'i gyflawni mewn da bryd cyn i'r gyfraith ddod i rym.

O ran cymorth magu plant, mae ystod eang o wasanaethau eisoes ar gael i rieni a gofalwyr ledled Cymru i gefnogi magu plant mewn modd cadarnhaol, gan gynnwys cyngor wyneb yn wyneb drwy ymweliadau iechyd, y gwasanaeth ymwelwyr iechyd cyffredinol, a thrwy ein rhaglenni cymorth teulu, Dechrau'n Deg a Teuluoedd yn Gyntaf. Hefyd, mae ein hymgyrch 'Magu plant. Rhowch Amser Iddo' yn rhoi cyngor cadarnhaol i rieni ar fagu plant drwy wefan, Facebook ac amrywiaeth o adnoddau eraill, ac fe'u defnyddir yn helaeth.

Rwyf wedi dyrannu £325,000 i'r ymgyrch 'Magu plant. Rhowch Amser Iddo' eleni, ac rwy'n bwriadu darparu lefel debyg o fuddsoddiad y flwyddyn nesaf. Ond yn sicr, nid wyf yn hunanfodlon. Mae'r Aelodau yn gwybod fy mod wedi ymrwymo i adolygu'r ddarpariaeth bresennol o ran cymorth i rieni, ac mae gwaith yn mynd rhagddo eisoes ar yr union fater hwn drwy'r grŵp gweithredu arbenigol ar fagu plant. Bydd y grŵp hwn o arbenigwyr ar fagu plant a gweithwyr proffesiynol yn ystyried pa gymorth, os o gwbl, sydd ei angen o ran magu plant, a chyngor a gwybodaeth ychwanegol i gefnogi newid mewn ymddygiad ynghyd â'r ddeddfwriaeth hon, yn ogystal â nodi unrhyw fylchau yn y ddarpariaeth bresennol. Yn ôl yr arwyddion cynnar o'r ymarfer a gynhaliwyd i fapio cymorth magu plant, ceir amrywiaeth dda ar y cyfan o gymorth a ddarperir gan awdurdodau lleol ar draws gwahanol ystodau oedran, ond, fel y dywedais yn gynharach, bydd y grŵp yn ystyried sut y gellid gwella hyn i gyflawni'r effaith fwyaf.

Dim ond i sôn am rai o'r cyfraniadau a wnaed yn y fan yma heno, rwyf am bwysleisio unwaith eto bod yr holl weithwyr proffesiynol eisiau i'r gyfraith fod yn eglur. Maen nhw'n gofyn i'r gyfraith fod yn glir. Mae ymwelwyr iechyd, pobl yn y rheng flaen, yn awyddus i gael yr eglurder hwnnw. Ond rwyf hefyd eisiau ei gwneud yn gwbl glir nad oes unrhyw beth yn y ddeddfwriaeth hon sy'n atal y rhiant rhag amddiffyn plentyn sydd mewn perygl. Os yw plentyn yn rhedeg tuag at heol, wrth gwrs y caiff rhiant ddal gafael ar y plentyn. Os yw plentyn yn debygol o gael ei sgaldio gan goffi poeth, wrth gwrs y caiff y rhiant dynnu'r plentyn oddi wrth y perygl. Mae hyn yn gwbl dderbyniol. [Torri ar draws.] Os yw plentyn mewn perygl, mae'n rhaid i'r rhiant weithredu er mwyn achub y plentyn. Yn yr enghraifft a ddefnyddiodd yr Aelod, byddech yn tynnu'r plentyn oddi wrth y perygl a byddai hynny'n gwbl dderbyniol.

A'r pwynt arall yr wyf yn dymuno ei wneud yw bod yr holl—. [Torri ar draws.]

19:10

Os caf i barhau, mae Aelodau wedi cyfeirio at farn y cyhoedd, ac rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn i ddweud bod 58 y cant eisoes yn credu nad yw'n gyfreithlon i daro plentyn. Felly, mewn gwirionedd, mae mwyafrif yn credu bod y gyfraith hon ar waith eisoes ac, ar y cyfan, mae barn y cyhoedd yn newid. Mae mwy a mwy o bobl yng Nghymru yn credu nad yw cosbi corfforol yn dderbyniol ac rydym ni'n cadw golwg ar hynny, a byddwn yn parhau i gadw golwg arno ar ôl i'r ddeddfwriaeth hon gael ei phasio. A'r hyn sy'n arbennig o arwyddocaol, rwy'n credu, yw mai'r rhieni sy'n magu plant—rhieni sydd â phlant ifanc—sydd fwyfwy mewn mwyafrif yn credu nad yw'n dderbyniol niweidio eu plentyn yn gorfforol.

Ac felly, rwyf wir yn teimlo bod y ddeddfwriaeth hon yn cyd-fynd ag ysbryd yr oes. Mae'n cyd-fynd â barn y cyhoedd. Ac rwy'n gwybod y bu safonau gwahanol yn y gorffennol a bod pobl yn gweithredu mewn ffordd wahanol, ond nawr rydym wedi symud ymlaen ac mae gennym ni lawer mwy o wybodaeth; mae gennym ni lawer mwy o ymchwil sy'n dangos y niwed posibl. Ac felly, rwy'n teimlo ein bod ni'n gwneud yr union beth iawn wrth gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon heddiw, ac rwy'n eich annog felly i beidio â chefnogi gwelliant 10, a fyddai'n achosi anawsterau mawr o ran dwyn y ddeddfwriaeth hon i rym.

Iawn. Diolch, Janet.

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 10? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Rydym ni'n symud i'r bleidlais felly, ac agor y bleidlais ar welliant 10. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 10. 

Gwelliant 10: O blaid: 16, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0

Gwrthodwyd y gwelliant

Rydym ni felly wedi cyrraedd diwedd ein ystyriaeth Cyfnod 3 o'r Bil Plant (Diddymu Amddifyniad Cosb Resymol) (Cymru). Dwi'n datgan bod pob adran o'r Bil a phob Atodlen wedi eu derbyn, a daw hynna â'n trafodion am y Cyfnod 3 yma i ben. 

Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil.

Daeth y cyfarfod i ben am 19:12.