Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

07/01/2020

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Fe fyddwn ni'n cychwyn y flwyddyn yma gyda'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Gareth Bennett. 

Cefnogi Busnesau yng Nghanol De Cymru

1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i gefnogi busnesau yng Nghanol De Cymru? OAQ54892

Lywydd, mae gweithredoedd Busnes Cymru, Banc Datblygu Cymru a sefydlu swyddfa ranbarthol benodedig ymhlith y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi busnesau yng Nghanol De Cymru.

Diolch am y diweddariad yna. Un ffactor sydd wedi achosi llawer o ansicrwydd i fusnesau yng Nghymru yw Brexit. Nawr, mae eich plaid chi newydd ymladd etholiad cyffredinol ar sail polisi o wrthwynebu Brexit. Efallai eich bod wedi sylwi, Prif Weinidog, na wnaeth y strategaeth hon weithio'n dda iawn i chi. A dweud y gwir, gadewch i ni fod yn onest, cafodd Llafur gweir go iawn. Nid yn unig y cawsoch chi eich curo; cawsoch eich dinistrio. Ond, er hyn, rwy'n gweld eich bod chi'n dal i sôn am wrthwynebu Brexit yn y fan yma yn y Cynulliad. Onid yw'n amlwg, er lles busnesau Cymru, bod angen i chi chwarae eich rhan nawr i roi diwedd ar yr ansicrwydd a chefnogi Bil Brexit Llywodraeth y DU.

Wel, Llywydd, bydd y Deyrnas Unedig yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 31 Ionawr, a bydd busnesau yn canfod wedyn bod Brexit ymhell o fod drosodd, oherwydd, am fisoedd a blynyddoedd i ddod, byddwn yn parhau i weld yr angen i negodi cytundebau masnach rydd a threfniadau eraill, gyda'r Undeb Ewropeaidd a chyda rhannau eraill o'r byd. Mae gen i ofn bod unrhyw un sy'n credu y bydd sicrwydd wedi disodli ansicrwydd ar 1 Chwefror yn mynd i gael ysgytiad trist iawn.

Prif Weinidog, rwy'n siŵr y gwnewch chi ymuno â mi i groesawu'r newyddion ddoe bod Grŵp Bancio Lloyds yn disgwyl cefnogi cwmnïau yng Nghymru eleni trwy hyd at £1.1 biliwn mewn benthyciadau. Mae hyn yn rhan o'u haddewid i fuddsoddi £18 biliwn mewn busnesau yn y DU yn 2020, ac maen nhw'n edrych ar fusnesau newydd, microfusnesau sy'n ceisio cynyddu eu maint i fod yn fusnesau bach, a'r rhai sydd wedyn yn ystyried masnachu'n rhyngwladol am y tro cyntaf.

Pan fyddaf yn siarad â'm hetholwyr a phobl busnes, maen nhw'n tynnu sylw at yr angen i gael gafael ar ffynonellau cyllid masnachol rhesymol. Beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau, pan fo hynny'n briodol, bod ffynonellau a rhaglenni Llywodraeth Cymru hefyd yn cymryd i ystyriaeth y cyfleoedd sy'n bodoli ar gyfer partneriaethau masnachol yn y rhaglenni hyn?

Diolchaf i David Melding am y cwestiwn yna. Mae'n ddiddorol, onid yw, a byddwn yn disgwyl ei fod wedi cael rhywfaint o'r un profiad, sef pan fyddwch chi'n siarad â benthycwyr masnachol, maen nhw'n dweud wrthych chi nad oes prinder hylifedd, a'u bod nhw'n rhoi symiau mawr o arian o'r neilltu ar gyfer buddsoddi mewn busnesau, ac eto, pan fyddwch chi'n siarad â busnesau, maen nhw'n aml yn cwyno am ba mor anodd yw cael y buddsoddiad sydd ei angen arnyn nhw i gyflawni'r cynlluniau y maen nhw'n ei ddweud fyddai'n ehangu eu busnesau.

Felly, rhan o'r hyn yr ydym ni'n ei wneud fel Llywodraeth yw siarad â'r benthycwyr mawr i geisio eu perswadio nhw bod yn rhaid iddyn nhw ddod o hyd i wahanol ffyrdd o gael sgyrsiau gyda phobl sy'n ceisio benthyg arian i'w perswadio nhw bod eu gwasanaethau ar gael iddyn nhw mewn gwirionedd.

Pan nad yw benthycwyr masnachol mawr yn barod i ymuno â'r farchnad, dyna pam mae gennym ni Fanc Datblygu Cymru—gwariwyd £5.2 miliwn yn y 12 mis diwethaf, Llywydd, gan helpu 240 o fusnesau yng Nghymru gyda micro fenthyciadau, o'r fath nad yw benthycwyr masnachol yn barod i'w cynnig. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu i geisio bod yn frocer rhwng y rhai sy'n chwilio am fuddsoddiad, a'r rhai sy'n gallu ei ddarparu ar sail fasnachol, oherwydd pan fo modd ei ddarparu'n fasnachol, dyna'r hyn y dylid ei wneud, a phan fo benthyciad masnachol yn annhebygol o fod ar gael, yna rydym ni'n ceisio defnyddio'r offerynnau sydd ar gael gennym i lenwi'r bylchau hynny yn y farchnad.

Prif Weinidog, cefais gyfarfod yn ddiweddar gyda'r Ffederasiwn Busnesau Bach i drafod eu hadroddiad 'Are We There Yet?', sy'n ystyried y ffordd orau o ddefnyddio gwariant ar seilwaith yng Nghymru i gefnogi twf busnesau bach a chanolig eu maint. Sut mae Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu hyn o fewn ei gwariant cyfalaf?

Diolchaf i Vikki Howells am hynna. Mae'n rhan gwbl annatod o'n rhaglenni gwariant cyfalaf ein bod ni'n ceisio gwneud yn siŵr bod cymaint o fusnes â phosibl yn cyrraedd dwylo cyflenwyr lleol a mentrau cynhenid. I roi un enghraifft yn unig i chi, mae gan raglen ysgolion a cholegau'r unfed ganrif ar hugain hanes o weithio gyda chyflenwyr lleol, ac mae wedi datblygu cyfresi ar wahân o dargedau ar gyfer cynnwys y gadwyn gyflenwi leol yn y rhaglen honno—y rhaglen fuddsoddi fwyaf mewn ysgolion a cholegau mewn 50 mlynedd, a thuedd fwriadol o blaid gwneud yn siŵr bod arian cyhoeddus Cymru yn cyrraedd busnesau Cymru, gan greu rhagor o swyddi yng Nghymru.

13:35
Hunanladdiad

2. Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymateb i'r adolygiad diweddar o farwolaethau plant a phobl ifanc drwy hunanladdiad neu achos honedig o hunanladdiad? OAQ54862

Diolchaf i Lynne Neagle am y cwestiwn yna, Llywydd. Nodwyd rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i'r adolygiad yn ein cyllideb ddrafft, a gyhoeddwyd ar 16 Rhagfyr, gyda buddsoddiad ychwanegol mewn gwasanaethau atal hunanladdiad, dyblu ein buddsoddiad yn y dull ysgol gyfan o ymdrin ag iechyd meddwl, ac estyniad i raglen arbrofol Mewngymorth i Ysgolion y gwasanaeth iechyd meddwl plant a'r glasoed.

Prif Weinidog, mae colli pob un o'r 33 o bobl ifanc sydd wedi eu cynnwys yn yr adolygiad hwnnw yn drychineb enfawr, a fydd wedi achosi trallod mawr i deuluoedd, ysgolion, ffrindiau, a chymunedau cyfan. Rwy'n credu mai'r adolygiad hwnnw yw'r peth agosaf sydd gennym ni i glywed lleisiau pobl ifanc sydd wedi marw drwy hunanladdiad; y peth agosaf sydd gennym ni i argymhellion ôl-weithredol gan y bobl ifanc hynny ynghylch yr hyn a allai fod wedi eu helpu, a sut y gallem ni atal marwolaethau yn y dyfodol. Prif Weinidog, a wnewch chi ymrwymo i ystyried yr adolygiad hwn yn ofalus iawn, ac, ar ran eich Llywodraeth gyfan, sicrhau bod yr holl argymhellion sydd ynddo yn cael eu gweithredu yn ddiymdroi ac yn egnïol?

Diolchaf i'r Aelod am hynna. Rwyf i wedi cael cyfle yn barod i ddarllen yr adolygiad, i ddarllen ei rhagair ei hun iddo, a'r rhagair gan Gomisiynydd Plant Cymru, ac i edrych ar ei argymhellion. Ac wrth gwrs mae Lynne Neagle yn iawn, Llywydd, fod marwolaeth drwy hunanladdiad yn gadael tonnau o effeithiau sydd yn ymestyn allan i fywydau'r bobl sydd ar ôl, nid yn unig yn y teulu agos, ond ymhlith ffrindiau a sefydliadau eraill a fyddai wedi adnabod y plentyn hwnnw neu'r person ifanc hwnnw.

Ymhlith argymhellion yr adroddiad, rwy'n credu mai un pwysig iawn yw o'r 33 o bobl ifanc y mae eu hachosion yn cael eu hadolygu yn yr adroddiad, bod un o bob tri ohonyn nhw yn hysbys i'r gwasanaethau iechyd meddwl. Ac eto, roedd llawer mwy ohonyn nhw yn hysbys i wasanaethau cyhoeddus eraill, efallai nad oedd hunanladdiad neu atal hunanladdiad yn flaenllaw yn eu meddyliau pan oedden nhw'n gweithio gyda'r person ifanc hwnnw—boed hynny yn nalfa'r ifainc, lle'r ydym ni'n gwybod y bu cynnydd dychrynllyd i achosion o hunanladdiad mewn lleoliadau gwarchodol; boed hynny'n gysylltiad â'r heddlu; boed yn bobl ifanc sy'n hysbys i'r gwasanaethau cymdeithasol mewn gwahanol ffyrdd. Felly, wrth gwrs y bydd y Llywodraeth yn ymrwymo i ymgorffori argymhellion yr adroddiad, ar draws y Llywodraeth gyfan. Oherwydd nid mater i'r Gweinidog iechyd yw hwn, er bod Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhan o'r broses o lunio'r adroddiad; mae'n adroddiad ar gyfer y Llywodraeth gyfan, gan edrych i weld, pryd bynnag y bydd pobl ifanc agored i niwed mewn cysylltiad â gwasanaethau cyhoeddus—datganoledig ac annatganoledig—bod yr arwyddion a allai fod yno, yr achosion y gellir eu hadnabod, yn cael eu cydnabod ac y cymerir camau ar eu sail, yn unol ag argymhellion yr adroddiad.

Wel, wrth gwrs, mae'r adroddiad hwn yn rhan o ddarlun ehangach o adolygiadau sydd wedi bod yn cael eu cynnal dros flynyddoedd lawer. I'r teuluoedd a chyfeillion hynny o'r bobl ifanc a laddodd eu hunain ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn 2007 a 2008 a thu hwnt, yn amlwg, iddyn nhw, nid yw'r digwyddiadau hynny'n teimlo mor bell yn ôl. Ac wrth gwrs, y defnydd o'r rhyngrwyd a oedd yn ymhlyg yn y clwstwr hunanladdiad hwnnw, sydd bellach wedi'i wreiddio mor ddwfn ym mywydau ein plant ifanc a'n pobl—wel, pobl ifanc yn gyffredinol—i mi, mae'n teimlo bron yn amhosibl ceisio amddiffyn yn erbyn y drygioni hynny, pan fo gennym ni gyn lleied o reolaeth dros ei ddefnydd cadarnhaol.

Yn 2015, argymhellodd Canolfan Ymchwil Hunanladdiad Prifysgol Rhydychen fesurau i'r gwasanaethau lleol hynny, i ymdrin â heintiau hunanladdiad—ymadrodd annymunol iawn, ond rwy'n credu eich bod chi'n gwybod yr hyn yr wyf i'n ei olygu. Dogfen ar gyfer Lloegr oedd hi, ond rwy'n siŵr y bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi ei gweld hefyd. A allwn ni briodoli'r gostyngiad i nifer y clystyrau hunanladdiad hyn i wasanaethau lleol yn gweithredu ar waith ymchwil o'r math hwnnw? Oherwydd os gallwn ni, mae hynny'n rhoi mwy o ffydd i ni y bydd gwasanaethau lleol yn gweithredu'r argymhellion yr ydym ni newydd fod yn eu trafod heddiw, a gweld eu bod nhw'n gwneud gwahaniaeth mewn gwirionedd.

Diolchaf i Suzy Davies am hynna. Dysgwyd gwersi yn uniongyrchol yng Nghymru, ac yn rhannol gan awduron yr adroddiad y cyfeiriodd Lynne Neagle ato o ganlyniad i glwstwr Pen-y-bont ar Ogwr, ac roedd un ohonyn nhw yn ymwneud â'r cyfryngau yn gohebu'n gyfrifol ar ddigwyddiadau o'r fath. Ac rwy'n credu ein bod ni wedi bod yn ffodus yma yng Nghymru y bu gennym ni gyfryngau lleol sydd wedi bod yn barod i ddysgu gwersi'r clwstwr hunanladdiad hwnnw ac nad ydyn nhw wedi gohebu ar ddigwyddiadau ers hynny mewn ffordd sy'n tynnu sylw brawychol atyn nhw sy'n arwain at bobl ifanc agored i niwed weithredu yn y pen draw mewn ffordd na fydden nhw, efallai, wedi eu hystyried fel arall.

Ac mae Suzy Davies yn sicr yn iawn, Llywydd, ei bod hi'n anodd iawn ymgorffori gwarchodaeth lwyr mewn unrhyw system sy'n ymdrin â bodau dynol. Ond rydym ni'n gwybod bod ffactorau sy'n helpu ac rydym ni'n gwybod bod ffactorau sy'n llesteirio pobl sy'n agored i niwed ac sy'n ystyried camau eithafol yn eu bywydau eu hunain. Rwy'n credu ein bod ni wedi dysgu rhai o'r gwersi yma yng Nghymru ac mae rhan o'r rheswm nad yw'r adroddiad hwn yn cyfeirio at ffenomen glwstwr ymhlith y 33 o bobl ifanc yr oedd eu hachosion yn cael eu hadolygu, yn rhannol o ganlyniad i ddysgu rhai o'r gwersi hynny.

13:40

Fel rhan o ymchwiliad y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr diweddar, pan ofynnodd yr Organisation for Economic Co-operation and Development i ddisgyblion am eu teimladau am eu profiadau bywyd, fe ddarganfuwyd fod 54 y cant o ddisgyblion yng Nghymru weithiau neu o hyd yn teimlo'n ddiflas—39 y cant ydy'r cyfartaledd rhyngwladol. Mae 63 y cant o ddisgyblion weithiau neu o hyd yn teimlo yn bryderus. Mae'r rhain yn ganlyniadau sydd yn codi braw ar rywun, dwi'n siŵr eich bod chi'n cytuno hefo fi. Rydych chi wedi ymrwymo i wneud llesiant ac iechyd meddwl yn flaenoriaeth genedlaethol, ond lle mae'r arwydd o symud i'r cyfeiriad hwnnw—symud arwyddocaol i'r cyfeiriad hwnnw—yn eich cyllideb ddrafft chi? 

Wel, mae lot o enghreifftiau yn y gyllideb ddrafft, Llywydd, sy'n dangos beth rŷm ni'n ei wneud i ymateb i beth oedd yn yr adroddiad PISA a beth rŷm ni'n ei wneud yn ein hysgolion ni yn enwedig yw i gryfhau'r gwasanaethau sydd yna bob dydd i ymateb i'r plant sydd yn teimlo'n ddiflas, ddim yn teimlo fel bod eu dyfodol nhw yn y lle ble roedden nhw eisiau ei weld e. Dyna pam, yn y gyllideb ddrafft, mae mwy o arian—dwi'n mynd i droi i'r Saesneg.  

Mae mwy o arian yn y gyllideb ddrafft ar gyfer gwasanaethau hunanladdiad a hunan-niweidio, er mwyn cryfhau ymhellach y gwasanaethau sydd gennym ni mewn ysgolion trwy gwnsela mewn ysgolion. Ac mae'r gwasanaeth cwnsela mewn ysgolion yn enghraifft dda o sut y gall ymyrraeth o'r fath helpu pobl ifanc heb fod angen eu hatgyfeirio wedyn at wasanaethau pellach a dwysach. Nid oedd 87 y cant o'r 11,365 o bobl ifanc a dderbyniodd wasanaethau cwnsela yn ein hysgolion y llynedd angen ymyrraeth bellach; roedd 3 y cant ohonyn nhw angen atgyfeiriad at wasanaeth iechyd meddwl arbenigol yn unig, a dyna pam mae'r gyllideb ddrafft yn buddsoddi mwy o arian yn y dull ysgol gyfan hwnnw, yn union am y rhesymau y mae Siân Gwenllian yn cyfeirio atyn nhw yn gwbl briodol.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid—Paul Davies. 

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, o ystyried y problemau yr ydym ni wedi eu gweld yn ddiweddar, y mae'n ymddangos eu bod nhw'n tyfu a ddim yn gwella, a wnewch chi gytuno â mi nad yw Trafnidiaeth Cymru yn cyflawni dros bobl Cymru?

Wel, nid wyf i'n cytuno â'r Aelod bod y problemau'n gwaethygu. Mae miloedd yn fwy o seddi i gymudwyr ar gael yng Nghymru heddiw ers 15 Rhagfyr pan gyflwynwyd capasiti newydd i'r gwasanaeth. Gostyngodd prisiau tocynnau i deithwyr yng Nghymru gan 1.1 y cant ddechrau mis Ionawr er iddyn nhw godi 2.8 y cant dros ein ffin. Mae wedi bod yn flwyddyn gyntaf anodd i Trafnidiaeth Cymru, ond rwy'n credu bod y gornel wedi ei throi eisoes ac y bydd teithwyr yn parhau i weld y gwahaniaeth yn ystod 2020.

Wel, yn ddigon amlwg, nid ydym ni'n troi'r gornel honno. Gadewch i mi roi rhai o'i ffaeleddau i chi: roedd perfformiad o ran amser teithwyr a gollwyd trwy ganslo trenau yn waeth rhwng mis Gorffennaf a mis Tachwedd y llynedd na'r flwyddyn flaenorol; mae wedi ei chael hi'n anodd sicrhau cerbydau hirdymor; mae wedi methu â bodloni safonau'r Gymraeg ar sawl achlysur; ac rydym ni wedi gweld anhrefn ynghylch y broses adnewyddu ar gyfer pasys bws. Felly, mae'n amlwg yn methu, Prif Weinidog.

Nawr, wrth sôn am fethiannau trafnidiaeth, gadewch i ni edrych ar un arall o'ch methiannau o ran trafnidiaeth: mae'n ymddangos bod Maes Awyr Caerdydd yn mynd o ddrwg i waeth. Mae'r maes awyr wedi cyhoeddi colled o bron i £19 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Mae hyn bron dair gwaith yn uwch na'r flwyddyn flaenorol, ac eto mae eich Llywodraeth yn parhau i ymestyn y cyfleusterau benthyciad. Ac erbyn hyn, mae gwerth y maes awyr wedi gostwng yn sylweddol i £15 miliwn, prin draean o'r swm y'i prisiwyd yn 2014, y flwyddyn y cymerodd eich Llywodraeth chi reolaeth dros y maes awyr. Nawr, mewn cyferbyniad, ychwanegodd Maes Awyr Bryste fwy na 400,000 o deithwyr y llynedd, ychydig o dan draean o gyfanswm teithwyr Caerdydd yn 2019, gan gyhoeddi elw o £35 miliwn. Prif Weinidog, wrth i'r cadeirydd sy'n ymadael ddweud bod y maes awyr yn disgwyl colli 150,000 o deithwyr y flwyddyn nesaf, faint yn fwy o arian trethdalwyr ydych chi'n fodlon ei daflu at y maes awyr cyn i chi ddweud digon yw digon?

13:45

Wel, Llywydd, mae'n dda gweld bod y Blaid Geidwadol yng Nghymru, ar ddechrau blwyddyn arall, yn parhau i ymosod ar un o asedau hanfodol Cymru. Ers i'r maes awyr gael ei gymryd i berchnogaeth gyhoeddus, mae ei niferoedd teithwyr wedi cynyddu gan dros 70 y cant, cynyddodd ei drosiant £2.9 miliwn y llynedd dros y flwyddyn flaenorol. Gwn fod unrhyw dystiolaeth o lwyddiant yn peri siom i'r Blaid Geidwadol, ond dyna'r ffeithiau: mae nifer y teithwyr wedi cynyddu gan dros 70 y cant, a bu twf o dros 34 y cant mewn refeniw. Nawr, gadewch i ni obeithio bod gennym ni erbyn hyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru a fydd yn siarad o blaid Maes Awyr Caerdydd, yn union fel y mae ASau Bryste wedi siarad o blaid y maes awyr hwnnw. Nawr, mae gennym ni Ddirprwy Weinidog yn Swyddfa Cymru sy'n credu mai datganoli'r doll teithwyr awyr i Gymru yw'r ateb cywir; gadewch i ni obeithio y gall berswadio ei Lywodraeth i wneud yr un peth. Yna, byddwn yn gweld y math o faes awyr yr ydym ni eisiau ei weld ar yr ochr hon, tra bod ei blaid ef ddim ond, yn llwyr erioed ddim ond wedi ceisio bychanu'r maes awyr, gwadu ei bwysigrwydd i economi Cymru, a byth ag unrhyw awgrym adeiladol i'w wneud amdano.

Prif Weinidog, mae'n amlwg nad ydych chi'n gwrando. Ond nid yw'n syndod nad ydych chi'n gwrando ar bobl Cymru: dydych chi ddim yn gwrando ynghylch Brexit, dydych chi ddim yn gwrando pan ddaw i'r maes awyr hwn. Nid yw pobl Cymru eisiau maes awyr cenedlaethol beth bynnag fo'r gost; maen nhw eisiau maes awyr sy'n cynnig dihangfa ddi-straen iddyn nhw. Dydyn nhw ddim eisiau i chi wastraffu'r arian y maen nhw'n gweithio'n galed amdano heb unrhyw ddiwedd mewn golwg.

Nawr, unwaith eto, Prif Weinidog, mae cymudwyr yn wynebu dechrau diflas i'r flwyddyn newydd, wrth i drenau gael eu hoedi, eu canslo neu hyd yn oed, yn anarferol, gadael yn gynnar. Y tro hwn, mae Trafnidiaeth Cymru yn rhoi'r bai ar brinder staff a hyfforddiant am yr oedi, ond, Prif Weinidog, yr un yw'r problemau, ond â gwahanol esgus bob tro. Fel Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, pryd ydych chi'n mynd i gymryd rheolaeth dros Trafnidiaeth Cymru, sy'n siomi pobl Cymru?

Llywydd, nid oes gan yr Aelod air da i'w ddweud am Gymru o gwbl. Beth bynnag fo'r gwasanaeth, mae ef eisiau ei fychanu. Mae'n sôn am yr hyn y mae pobl Cymru ei eisiau gan eu maes awyr. Mi ddywedaf wrthych chi yr hyn y mae ef ei eisiau: nid yw ef eisiau maes awyr o gwbl.

Wrth i ni gychwyn blwyddyn newydd, hoffwn ddechrau, ar wahân i ddymuno blwyddyn newydd dda i chi, gyda'ch fideo diwedd blwyddyn. Na, nid yr un James Bond enwog, ond yr un lle'r ydych chi'n nodi eich llwyddiannau mwyaf yn eich blwyddyn gyntaf fel Prif Weinidog. Rydych chi wedi tynnu sylw, fel un o'r llwyddiannau hynny, at adeiladu bron i 480 o dai bob mis yn 2019. A allwch chi ddweud wrthym ni pa gyfran, yn fras, o'r cartrefi hynny a fyddai'n cael eu hystyried yn rhai fforddiadwy, ac a allwch chi ddweud a yw'r ffigur hwnnw o bron i 480 y mis yn uwch neu'n is na'r ffigur cyfatebol ar gyfer y tair blynedd blaenorol?

Diolch i'r Aelod, a blwyddyn newydd dda iddo fe, wrth gwrs, hefyd.

Mae'n wych gwybod ei fod yn gwylio fy fideos yn eu holl wahanol ddimensiynau. [Chwerthin.] Yr hyn y byddaf yn ei ddweud wrtho yw hyn: mae gan y Llywodraeth hon ymrwymiad i adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy yn ystod tymor y Cynulliad hwn. Mae hynny ddwywaith nifer y tai fforddiadwy a adeiladwyd yn ystod tymor diwethaf y Cynulliad, ac rydym ni'n ffyddiog y byddwn ni'n cyrraedd y ffigur hwnnw cyn i ni gyrraedd yr etholiadau ym mis Mai 2021.

13:50

Wel, fel yr ydym ni'n ei ddweud fel rheol o dan yr amgylchiadau hyn, gallaf helpu'r Prif Weinidog, gan fod Gwasanaeth Ymchwil y Cynulliad, yn dyfynnu ystadegau eich Llywodraeth eich hun, yn dweud mai 552 a 574 y mis, yn y drefn honno, oedd y ffigurau cyfatebol ar gyfer 2016 a 2017. Roeddech chi hyd yn oed rhyw fymryn yn is nag yn 2018, felly nid yw'n ymddangos bod hynny'n rhywbeth, Prif Weinidog, i ymffrostio yn ei gylch—rydych chi'n mynd am yn ôl.

Un o'r llwyddiannau eraill yr ydych chi'n cyfeirio ato yn y fideo hwnnw yw plannu 14,000 o goed y dydd. Nawr, rwyf i wedi eich eich ceryddu ynghylch hanes gwael y Llywodraeth yn y maes hwn yn y gorffennol, felly mae unrhyw gynnydd i'w groesawu, ond onid y ffigur cyfunol yw hwn ar gyfer Cymru ac Uganda? Er ein bod ni'n amlwg yn croesawu gwaith arloesol rhaglen Cymru o Blaid Affrica, a allwch chi ddweud, yn fras, pa gyfran o'r 5 miliwn o goed hyn a blannwyd yng Nghymru? Ac a wnaethoch chi gyrraedd eich targed y llynedd o 2,000 hectar o goetir newydd y flwyddyn?

Wel, Llywydd, hoffwn fynd yn ôl at y ffigur tai am ennyd, oherwydd nid wyf i'n derbyn am eiliad bod dyblu nifer y cartrefi fforddiadwy sy'n cael eu hadeiladu yng Nghymru yn nhymor hwn y Cynulliad, rywsut, yn ddirywiad i berfformiad dros dymor diwethaf y Cynulliad—nid yw hynny'n wir, ac mae hwnnw'n darged y byddwn ni'n ei gyrraedd.

Mae angen i ni wneud mwy o ran plannu coed. Mae'r coed yr ydym ni'n eu plannu yn Uganda yn bwysig iawn—yn bwysig iawn fel ein cyfraniad at gynhesu byd-eang ac yn bwysig iawn yn y cyfraniad yr ydym ni'n ei wneud at yr ymdrechion y mae pobl leol yn y rhan honno o Uganda yn eu gwneud. Ond mae angen i ni wneud mwy. Mae angen i ni wneud mwy yma yng Nghymru—dyna pam yr ydym ni wedi ymrwymo i'r goedwig genedlaethol a dyna pam mae buddsoddiad sylweddol wedi ei neilltuo ar gyfer y goedwig genedlaethol yn y gyllideb ddrafft. Mae'n gyfraniad pwysig y gallwn ni ei wneud yma yng Nghymru at ddatgarboneiddio ac at fioamrywiaeth, a byddwn ni'n gwneud yn well ac yn gwneud mwy yn y dyfodol.

O ran tai, y cwbl yr oeddwn i'n ei wneud oedd gofyn i chi beth oedd y sefyllfa dros y flwyddyn ddiwethaf, blwyddyn gyntaf eich cyfnod yn y swydd, o'i chymharu â'r tair blynedd flaenorol o dan eich rhagflaenydd. Yr hyn sydd gennyf i'w ddweud wrthych chi yw eich bod chi wedi mynd am yn ôl, o ran y tair blynedd diwethaf.

O ran coed, nid ydych chi wedi gallu ei gadarnhau, ond rwy'n amau, unwaith eto, nad ydych chi wedi cyrraedd y targed ar gyfer coetir newydd yng Nghymru. Nid oes dim yn digwydd ar frys o dan y Llywodraeth hon. Y goedwig genedlaethol—ydy, mae wedi cael ei chyhoeddi, ond nid yw wedi cael ei gwireddu eto. Ni fydd y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol yn cyhoeddi ei bapur cyflwr y genedl tan 2022—bedair blynedd ar ôl iddo gael ei greu; bydd y cwricwlwm cenedlaethol newydd yn cael ei weithredu flwyddyn yn ddiweddarach na'r disgwyl; ac nid yw'r trenau newydd, yr addawyd yn wreiddiol y bydden nhw mewn gwasanaeth y gwanwyn diwethaf, wedi ymddangos eto.

Wrth i ni gychwyn ein hunfed flwyddyn ar hugain o ddatganoli yng Nghymru, mae Cymru wedi blino ar gael ei rhedeg mewn modd mor araf. Onid oedd Alun Davies yn siarad ar ran y rhan fwyaf ohonom ni pan ddywedodd, wrth gyfeirio atoch chi, 'Roeddwn yn amlwg yn dymuno iddo fod yn fwy radical'?

Wel, Llywydd, mae unrhyw syniad y gallwch chi gyhoeddi coedwig genedlaethol a'i bod yn tyfu o'ch blaen chi yn chwerthinllyd fel awgrym. Mae'r goedwig genedlaethol yn rhaglen 20 mlynedd a bydd angen buddsoddiad arni dros y cyfnod maith hwnnw, a bydd yn ased cenedlaethol pwysig i Gymru.

Fframwaith adrodd y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol yw'r un a argymhellwyd i ni gan bwyllgor y Cynulliad a ymchwiliodd iddo, felly y cwbl yr ydym ni'n ei wneud yw ymateb i'r cyngor y mae'r Cynulliad ei hun wedi ei roi i ni.

Llywodraeth yw hon, Llywydd, â rhaglen radical a fydd yn sicrhau bod y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn cymryd rhan lawn a gweithredol drwy gydol gweddill y flwyddyn hon mewn ffordd heriol iawn. Wrth i ni gymryd camau i ddeddfu i ddod â bysiau o dan reolaeth gyhoeddus, i roi'r cwricwlwm cenedlaethol newydd ar y llyfr statud, i roi amddiffyniadau newydd i rentwyr preifat yma yng Nghymru ac i ddileu amddiffyniad cosb resymol, ar draws y Llywodraeth gyfan hon, byddwn yn cymryd camau y bydd y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn rhan o'u cymryd. Mae'n rhaglen radical, mae'n rhaglen hynod ymroddedig a phrysur, ac rwy'n edrych ymlaen at weithio arni drwy gydol y flwyddyn i ddod.

Prif Weinidog, yn ogystal â dymuno blwyddyn newydd dda i chi, a gaf i ddiolch i chi, eich Llywodraeth a'ch plaid am yr hyn yr ydych chi wedi ei wneud i sicrhau Brexit? Fe wnaethoch chi gyflwyno cynllun ar gyfer Brexit mewn enw yn unig, ond pan y'i cynigiwyd i chi gan Theresa May, gan gynnwys undeb tollau, fe wnaethoch chi bleidleisio yn ei erbyn. Yn hytrach, eich dewis oedd gamblo y gallech chi gynllwynio ail refferendwm trwy berswadio pobl Prydain i ethol Jeremy Corbyn yn Brif Weinidog y DU. O edrych yn ôl, a ydych chi'n difaru hynny?

13:55

Llywydd, bydd gan yr Aelod ei fersiwn ei hun o hanes. Nid dyna fu un i, yn sicr. Er bod adeg pan oedd yn bosibl y gallem ni fod wedi rhoi'r penderfyniad ynghylch Brexit yn ôl yn nwylo'r bobl a'i gwnaeth ef yn y lle cyntaf, roeddwn i'n credu ei bod hi'n bwysig dros ben i ddangos unwaith eto yr hyn a ddywedasom fel plaid yn ein maniffesto yn 2016, ac a ddywedasom fel Llywodraeth yn 2016 yn y refferendwm—bod dyfodol Cymru yn well ei byd y tu mewn i'r Undeb Ewropeaidd. Tra bod posibilrwydd y gallai hynny fod wedi cael ei roi yn ôl i bobl mewn refferendwm, roedd yn bwysig iawn yn wir ein bod ni'n cefnogi'r posibilrwydd hwnnw. Mae'r posibilrwydd hwnnw ar ben. Bydd Llywodraeth newydd y DU yn mynd â ni allan o'r Undeb Ewropeaidd ddiwedd y mis hwn ac yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb am y canlyniadau.

Nid wyf i'n siŵr a oes gan y Prif Weinidog hanes amgen yn y fan yna, ond rwy'n credu mai'r agosaf y daeth yn Nhŷ'r Cyffredin oedd pleidlais pan gafodd ei drechu er bod y Cabinet cyfan wedi ymatal arno. Rwy'n cofio eich Cwnsler Cyffredinol yn y fan yma yn dweud ei fod yn fodlon yn gyffredinol â'r cytundeb ymadael, ac efallai yr hoffai ddim ond ychydig o newidiadau a datganiad gwleidyddol nad oedd yn rhwymo, ond serch hynny, pleidleisiodd Llafur yn erbyn hynny. Cynigiwyd y trafodaethau undeb tollau i chi gan Theresa May a phenderfynasoch gamblo, ac enillodd fy mhlaid i yr etholiadau Ewropeaidd a ddilynodd ac enillodd y Ceidwadwyr yr etholiad cyffredinol a ddilynodd. Nawr rydym ni'n mynd i gael Brexit, ac nid Brexit mewn enw yn unig y dywedasoch chi eich bod ei eisiau. Felly, unwaith eto, diolchaf i chi am yr hyn yr ydych chi wedi ei wneud i gynorthwyo yn yr achos hwnnw.

Er gwaethaf canlyniad y refferendwm, er gwaethaf canlyniad etholiad y mis diwethaf, ac ni wnaethoch chi ateb y cwestiwn hwn yn gynharach—roeddwn i'n meddwl eich bod chi wedi gwneud hynny ddoe, ond a gaf i gadarnhau ar gyfer y cofnod mai eich bwriad yw parhau i bleidleisio yn erbyn Brexit pan fyddwn ni'n ystyried y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil ymadael yn ddiweddarach y mis hwn? Ac wrth i chi bennu eich trywydd parhad Corbyn, a ydych chi'n bwriadu newid unrhyw beth oherwydd sut y pleidleisiodd pobl? A ydych chi wedi dysgu unrhyw wersi o bleidlais y mis diwethaf?

Llywydd, bydd yr Aelod wedi gweld y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol a gyhoeddwyd ddoe. Nid Brexit y mae'n ei ddadansoddi, mae'n dadansoddi Bil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael). Daw i'r casgliad nad yw'r Bil mewn cyflwr a fyddai'n caniatáu i'r Llywodraeth argymell i'r Cynulliad Cenedlaethol y dylai roi ei gydsyniad i'r Bil hwnnw, am y rhesymau a nodir ynddo. Bydd cyfle i drafod hynny yma ar lawr y Cynulliad Cenedlaethol a chawn weld lle mae barn y mwyafrif yn y Siambr hon yn gorffwys.

Y Gronfa Ffyniant Gyffredin

3. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Phrif Weinidog y DU ynghylch y Gronfa Ffyniant Gyffredin? OAQ54889

Diolchaf i'r Aelod am hynna. Rwy'n manteisio ar bob cyfle i godi'r gronfa ffyniant gyffredin gyda Prif Weinidog y DU, ar lafar ac yn ysgrifenedig, ac rwyf i wedi gwneud hynny eto ers canlyniad etholiad cyffredinol 2019.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna, ac mae wedi sefyll yn gadarn iawn, a hynny'n briodol, ar yr egwyddor 'dim ceiniog yn llai, dim un grym wedi'i golli' o ran y gronfa ffyniant gyffredin. Ac eto, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, ychydig iawn o ymgysylltu, os o gwbl, a fu gan Lywodraeth y DU â Llywodraeth Cymru, a phrin fu'r manylion y tu hwnt i'r pennawd hwnnw. Yn y cyfamser, yn dawel ond yn ddyfal yn y cefndir, mae grŵp llywio buddsoddi rhanbarthol Cymru, yr wyf i â'r fraint o'i gadeirio, wedi bod yn cwmpasu cynigion ariannu ar gyfer Cymru yn y dyfodol a fyddai'n parchu'r fframwaith polisi ar wahân yng Nghymru, yn parchu egwyddorion datganoli a sybsidiaredd yng nghyswllt Bae Caerdydd a'r Senedd hon a'r tu hwnt iddynt, a hefyd yn parchu'r angen i ymateb i flaenoriaethau lleol a rhanbarthol. Ond mae hefyd yn nodi'r angen i weithio mewn ffordd drawsffiniol ar gyllid a mentrau ar draws y DU ac yn wir ar draws Ewrop yn y dyfodol. Felly, ni fydd y Prif Weinidog yn synnu o glywed y byddai'r grŵp llywio'n croesawu ymgysylltiad llawer mwy agored a thryloyw gan Lywodraeth newydd y DU, ac Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru, o ran y gronfa ffyniant gyffredin. A wnaiff ef a'r Gweinidog Brexit geisio ymgysylltiad adeiladol ac ar frys gyda Llywodraeth y DU ar y materion hyn nawr, ond ar delerau eglur iawn dim ceiniog yn llai hefyd, fel y sicrhawyd i ni, a dim un grym wedi'i golli?

Diolchaf i Huw Irranca-Davies am hynna, ac a gaf i ddechrau, Llywydd, drwy ddiolch iddo ef ac Aelodau'r grŵp llywio am y darn o waith hynod ymgysylltiedig y maen nhw wedi cymryd rhan ynddo drwy  gydol y llynedd? Gwn fod y grŵp yn bwriadu cyfarfod eto ym mis Chwefror, ac y byddwn ni'n cael ymgynghoriad ffurfiol gan ddefnyddio ei gynigion unwaith eto ym mis Mawrth, oherwydd ni all y Llywodraeth hon barhau i oedi ynghylch mater y gronfa ffyniant gyffredin yn y ffordd y gwnaeth ei rhagflaenydd oedi yn ei chylch yn barhaus.

Nawr, rwyf i wedi cael sgwrs gydag Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru, Llywydd. Rhoddodd sicrwydd i mi ei fod wedi ymrwymo i weithio mewn ffordd gydsyniol gyda'r weinyddiaeth ddatganoledig, y bydd yn chwilio am ffyrdd o gytuno ar ffyrdd ymarferol ymlaen ar faterion polisi allweddol, ac rwy'n cymryd y sicrwydd hwnnw ar ei olwg ac edrychaf ymlaen at gyfarfod ag ef i drafod y gronfa ffyniant gyffredin a materion eraill sydd o ddiddordeb i'r ddwy ochr. Ond, pan fyddwn ni'n dod i'r trafodaethau hynny, bydd yn rhaid iddo fod, fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, ar sail yr egwyddorion yr ydym ni eisoes wedi eu cyfleu yn y fan yma.

Addawyd i bobl yng Nghymru a bleidleisiodd i adael yr Undeb Ewropeaidd na fyddai Cymru yr un geiniog yn waeth ei byd. Mae'n rhaid i hynny gael ei sicrhau drwy'r gronfa ffyniant gyffredin. Datganolwyd polisi economaidd rhanbarthol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ers 1999. Nid yw'n ychwanegiad newydd at y gyfres o gyfrifoldebau sydd gan y Cynulliad Cenedlaethol hwn, a phan ddaw'r gronfa ffyniant gyffredin i'r amlwg ac y caiff pawb ohonom ni gyfle i allu edrych arni'n iawn a'i thrafod, yna mae'n rhaid iddi gyflawni hynny hefyd. Ond, dylai'r cyfrifoldeb am ddefnyddio'r arian hwnnw fod mor agos â phosibl at y man lle gellir gwneud y gwahaniaeth.

Dyna'r hyn y mae'r holl lenyddiaeth yn ei ddweud wrthym ni am ddatblygu economaidd rhanbarthol, dyna mae'r OECD, yr ydym ni'n gweithio gydag ef ar hyn, yn ei ddweud wrthym ni hefyd, a dyna pam mae gwaith y grŵp llywio y mae Huw Irranca-Davies wedi ei gadeirio wedi cael ei gefnogi gan Ffederasiwn y Busnesau Bach, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Prifysgolion Cymru, CCAUC, CGGC, yn ogystal â melinau trafod y tu allan i Gymru fel Sefydliad Joseph Rowntree a'r grŵp seneddol hollbleidiol yn San Steffan. Mae ein hegwyddorion yn egwyddorion sy'n cael eu rhannu'n eang y tu hwnt i'r Siambr hon ac rydym ni'n disgwyl iddyn nhw gael eu hanrhydeddu yn y gronfa ffyniant gyffredin.

14:00

Wrth gwrs, dim ond i rannau penodol o Gymru y mae cronfeydd strwythurol yr UE ar gael, ac o ystyried yr hyn yr ydych chi newydd ei ddweud yn eich ateb blaenorol o ran bod yn ymwybodol bod arian yn cael ei wario ac yn cael ei benderfynu yma yng Nghymru, tybed, Prif Weinidog, a fyddech chi'n cytuno â mi bod y gronfa ffyniant gyffredin yn gyfle newydd i fuddsoddi mewn rhannau o Gymru y tu allan i'r Cymoedd a'r gorllewin—yn wir, ar gael i'w gwario mewn ardaloedd fel y canolbarth.

Wel, Llywydd, o'i wneud yn iawn, byddai gan gronfa ffyniant gyffredin y potensial i gynnig hyblygrwydd newydd yn y ffordd y gallai cyllid economaidd rhanbarthol gael ei wario yng Nghymru, ac efallai fod hynny'n ddaearyddol—er y byddai gan y rhannau hynny o Gymru sy'n elwa ar y cyllid hwnnw ar hyn o bryd yn sicr rhywbeth i'w ddweud pe bydden nhw'n credu bod y dyfodol yn un lle byddai'r cymorth y maen nhw wedi ei gael hyd yn hyn yn cael ei wanhau.

Ond, ceir ffyrdd eraill y gellid cyflwyno hyblygrwydd pe byddai'r gronfa ffyniant gyffredin yn cael ei chynllunio'n iawn, fel bod arian o Ewrop wedi bod ar gael at ddibenion penodol. Ac yna efallai bod dibenion eraill a fyddai'n cael effaith datblygu economaidd rhanbarthol mwy y gallem ni ddefnyddio cyllid ar ei gyfer mewn gwahanol fath o gronfa. Mae wedi bod yn anodd o dan gyllid Ewropeaidd weithiau i gyfuno cyllid sydd yn nwylo Llywodraeth Cymru at ddibenion eraill gyda chyllid yr Undeb Ewropeaidd, a gallai cronfa ffyniant gyffredin, o'i chynllunio yn briodol, fod yn fwy hyblyg o ran y ffordd y gellid dod â gwahanol ffrydiau ariannu at ei gilydd i gael yr effaith sydd ei hangen arnom.

Felly, nid wyf i'n anghytuno â rhagosodiad sylfaenol cwestiwn Russell George, ond o'i wneud yn iawn, mae'n bosibl y bydd hyblygrwydd newydd y gallwn ni ddod o hyd iddo. Byddai'n rhaid ei ystyried yn ofalus a chytuno arno gyda phartneriaid darparu yma yng Nghymru i wneud yn siŵr na fyddai'n cael canlyniadau negyddol anfwriadol yn ogystal ag effeithiau cadarnhaol newydd posibl.

Os gaf i wthio ychydig bach ymhellach ar hynny, rydyn ni yn symud tuag at fywyd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd rŵan, a rydyn ni'n gorfod edrych ar warchod buddiannau Cymru yn y cyd destun newydd hwnnw, a rydyn ni i gyd yn gytûn nad dim ond faint o arian ddaw yn lle arian yr Undeb Ewropeaidd sy'n bwysig, ond sut mae'r arian hwnnw yn cael ei wario. Ond, rydych chi'n sôn yn y fan yna am yr hyblygrwydd newydd a allai ddod mewn rhai meysydd. Pa sicrwydd ydych chi wedi'i gael hyd yma a pha fygythiadau ydych chi wedi sylwi arnyn nhw hyd yma ar yr egwyddor hwnnw y dylai blaenoriaethau gael eu gosod a phenderfyniadau gwariant gael eu gwneud yng Nghymru dan y gronfa newydd?

14:05

Wel, dŷn ni ddim wedi cael sicrwydd o gwbl am unrhyw agwedd o'r gronfa newydd, a does dim manylion ym maniffesto'r parti Ceidwadol, a dŷn ni ddim wedi clywed dim byd eto gan y Llywodraeth newydd. Dyna pam y dywedais i mae'n hollol bwysig i'r Llywodraeth newydd gyhoeddi'r manylion a siarad gyda ni am y manylion. Bydd yn rhaid i ni yma yng Nghymru—ac nid jest yn y Llywodraeth, ond gyda phob un sydd wedi bod yn rhan mor bwysig yn y ffordd rydym ni wedi gwario'r arian sydd wedi bod gyda ni o dan yr Undeb Ewropeaidd—fod yn glir am beth yw awgrymiadau'r Llywodraeth newydd, i roi sicrwydd i ni am yr egwyddorion rydym ni wedi sôn amdanynt heddiw, a chydweithio gyda ni i gynllunio cynllun effeithiol am y dyfodol.

Bil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael)

4. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud o'r goblygiadau i Gymru sy'n deillio o Fil yr UE (Cytundeb Ymadael)? OAQ54890

Diolchaf i Delyth Jewell am hynna, Llywydd. Cyflwynwyd safbwynt Llywodraeth Cymru ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Cytundeb Ymadael) yn y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol a gyhoeddwyd ddoe. Nid yw'n argymell bod y Senedd yn rhoi ei chydsyniad i'r Bil hwn.

Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Cawsom drafodaeth ddiddorol yn y pwyllgor materion allanol ddoe ynglŷn â'r memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer y Bil hwn, pryd y gwnaethoch chi esbonio eich syniadau ar hynny yn eglur iawn. Nawr, rwyf i wedi darllen y memorandwm ers hynny, ac rwy'n cytuno yn gyffredinol gyda'ch dadansoddiad. Mae Plaid Cymru yn derbyn bod Brexit yn mynd i ddigwydd, ond nid yw hynny'n golygu y dylai Boris Johnson gael rhwydd hynt i orfodi beichiau niweidiol ar Gymru, i wanhau hawliau gweithwyr nac i ddileu craffu seneddol.

Rwy'n pryderu'n arbennig am y diffyg cyfyngiad ar y grym y mae protocol Iwerddon-Gogledd Iwerddon yn ei roi i'r Ysgrifennydd Gwladol, gan y byddai'n caniatáu iddo, mewn egwyddor, ddiwygio Deddf Llywodraeth Cymru heb ganiatâd y Senedd hon. Felly, Prif Weinidog, a allwch chi fy sicrhau y bydd eich Llywodraeth yn ei gwneud yn gwbl eglur i Lywodraeth y DU, yng nghyfarfod y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE) ddydd Iau, fod hyn yn hollol annerbyniol ac yn mynnu bod y Bil yn cael ei ddiwygio fel na ellir byth defnyddio'r grym penodol hwn?

Diolchaf i Delyth Jewell am hynna. Gofynnwyd i mi yn y pwyllgor ddoe, Llywydd, a oedd gen i unrhyw synnwyr o hierarchaeth ymhlith y gwrthwynebiadau i'r Bil a nodir yn y memorandwm. Roeddwn i'n amharod i'w rhoi nhw yn y math hwnnw o drefn, ond mae'n sicr yn annerbyniol, a dylai fod yn annerbyniol i bob Aelod o'r Cynulliad hwn, bod y Bil cytundeb ymadael yn rhoi'r grym i'r Ysgrifennydd Gwladol ddiwygio, drwy is-ddeddfwriaeth, y ddeddfwriaeth sylfaenol sydd wedi sefydlu'r Cynulliad Cenedlaethol Cymru hwn, ac a allai wneud hynny heb ein caniatâd ni o gwbl. Nawr, mae hwnnw'n rym cwbl annerbyniol. Ni ddylai fod yn y Bil hwn. Nid yw yno oherwydd Cynulliad Cenedlaethol Cymru; mae yno, fel yr eglurodd Delyth Jewell, oherwydd protocol Iwerddon-Gogledd Iwerddon. Ni fyddai'n costio dim i Lywodraeth y DU ei gwneud yn eglur nad yw'n bwriadu defnyddio'r grym hwnnw o ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a dyna y dylai ei wneud.

Nawr, mae fy nghydweithiwr, y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, wedi ysgrifennu ar fwy nag un achlysur ar yr union fater hwn at Mr Barclay, yr Ysgrifennydd Gwladol yn yr Adran dros Ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Bydd yn destun sgwrs yn y Cyd-bwyllgor Gweinidogion (Negodiadau’r UE) ddydd Iau. Mae gan unrhyw Lywodraeth sydd wedi ennill etholiad fandad, Llywydd, a dyna pam yr ydym ni'n derbyn ein bod ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd, ond nid yw mandad yn siec wag nac yn rhwydd hynt, ac nid yw'n iawn y dylai Llywodraeth gredu ei bod y tu hwnt i graffu a'r tu hwnt i her. Yn sicr, byddwn yn sicrhau bod yr her honno'n cael ei chyfleu'n gadarn i Lywodraeth y DU ar bob cyfle.

A ydych chi'n derbyn bod gennym ni bellach Lywodraeth Geidwadol y DU sydd â mwyafrif, mwyafrif pendant, a mandad eglur i sicrhau bod Brexit yn digwydd? Ac ar y sail honno, yn hytrach na chwyno a cheisio cael yr hen ddadleuon a oedd, a bod yn blaen, yn digwydd cyn yr etholiad cyffredinol, onid yw'n hen bryd i chi a'ch Llywodraeth symud ymlaen, ymuno â thîm y DU, a batio ar yr un ochr â Llywodraeth y DU i gael y cytundeb Brexit gorau posibl wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd? Rwy'n falch ein bod ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd ar 31 Ionawr, dyna'r hyn y pleidleisiodd pobl Cymru drosto ac mae'n bryd i ni ei weithredu ac i ni gael Llywodraeth Cymru sy'n cefnogi'r weledigaeth honno hefyd.

14:10

Wel, Llywydd, rwy'n deall wrth gwrs bod yr aelod o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd, a bod ganddo erbyn hyn Lywodraeth a fydd yn cyflawni drosto yr hyn y mae wedi dymuno ei gael. Nid yw hynny'n golygu, does bosib—nid yw hynny, does bosib, yn golygu ei fod yn credu bod ei Lywodraeth yn San Steffan y tu hwnt i gwestiynu? Ei bod yn anghywir rywsut i ni ddweud wrthyn nhw bod rhoi'r grym i'r Ysgrifennydd Gwladol ddiwygio'r setliad datganoli drwy is-ddeddfwriaeth yn rhywbeth nad yw'n dderbyniol i Gynulliad Cenedlaethol Cymru.

Ar yr ochr hon, rydym ni'n sicr yn dweud bod yr amddiffyniad i hawliau gweithwyr a oedd ym Mil ymadael diwethaf ei Lywodraeth Geidwadol—ac nid oes amheuaeth ei fod wedi cefnogi'r Bil hwnnw ar y pryd—nid yw'r ffaith bod yr amddiffyniadau hynny i hawliau gweithwyr wedi diflannu o'r Bil hwn yn dderbyniol i ni. Roedd yn dderbyniol iddo fe pan yr oedd yn y Bil, mae'n dderbyniol iddo fe pan nad yw yn y Bil—bydd unrhyw beth y bydd ei Lywodraeth yn ei wneud yn dderbyniol iddo fe, ond ni fydd yn dderbyniol i ni.

Y ffaith ein bod ni wedi dod i gytundeb gyda'i Lywodraeth flaenorol ar yr awdurdod monitro annibynnol i wneud yn siŵr y byddai rhywun yn yr awdurdod monitro a fyddai'n deall ac yn cynrychioli buddiannau Cymru—roeddem ni'n falch o ddod i'r cytundeb hwnnw. Ond mae'r Bil newydd yn caniatáu i Ysgrifennydd Gwladol roi cyfrifoldebau'r awdurdod monitro annibynnol i gorff cyhoeddus arall heb unrhyw ddiogelwch i fuddiannau Cymru o gwbl. Nid yw hynny'n dderbyniol i ni. Dyna pam y byddwn ni'n craffu ar y ddeddfwriaeth hon, gan geisio sicrhau ei bod yn cael ei gwella, fel ei bod yn gweithio'n well i Gymru. Ac nid oes dim o gwbl o'i le yn y ffaith ein bod ni'n cyflawni ein dyletswydd ddemocrataidd yn y ffordd honno.

Prif Weinidog, fel yr ydych chi newydd ei ddweud, trafodwyd y mater hwn gennym yn drylwyr yn y pwyllgor ddoe pan wnaethoch chi haeru, drwy argymell i'r Cynulliad na roddir ei gydsyniad deddfwriaethol, nad ydych chi'n disgwyl argyfwng cyfansoddiadol. Os bydd y Cynulliad yn gwrthod ei gydsyniad, fel y dymunwch, beth fydd y canlyniadau yn eich barn chi?

Yr hyn a ddywedais yn y pwyllgor, Llywydd, oedd nad Llywodraeth sy'n edrych am argyfwng cyfansoddiadol yw hon. Nid ydym yn gwrthwynebu'r Bil cytundeb ymadael Ewropeaidd er mwyn cael ffrae gyda Llywodraeth newydd y DU. Y cwbl yr ydym ni'n ei wneud yw arfer yr hawliau democrataidd sydd gan y Cynulliad Cenedlaethol hwn i ystyried y Bil a phleidleisio arno. Ac os bydd mwyafrif Aelodau'r Cynulliad Cenedlaethol hwn yn dewis peidio â rhoi cydsyniad, bydd hwnnw'n ddatganiad pwysig iawn o'r penderfyniad democrataidd y bydd y corff hwn wedi ei wneud. Bydd canlyniadau, Llywydd, wrth gwrs. Bydd yn rhaid i Lywodraeth y DU benderfynu a fydd, am y tro cyntaf mewn 20 mlynedd, yn diystyru'r farn a fynegwyd yn ddemocrataidd gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru. Mae hwnnw'n benderfyniad pwysig iawn ac ni ellir disgwyl iddo fod yn rhydd o ganlyniadau.

Prif Weinidog, rydym ni i gyd yn gwybod bod y cytundeb ymadael y mae'r Bil yno i'w weithredu wedi cael ei negodi ym mis Hydref gan y Prif Weinidog gyda'r UE mewn gwirionedd. Does dim byd wedi newid ers y trafodaethau hynny. Roedd gennym ni Fil a gyflwynwyd gan Brif Weinidog y DU ym mis Hydref a fethodd, a phenderfynodd wedyn na fyddai'n bwrw ymlaen â'r Bil penodol hwnnw. Daeth yn ôl gyda Bil, yn dilyn ei fuddugoliaeth yn etholiad mis Rhagfyr, gyda newidiadau mawr i'r Bil hwnnw. A ydych chi'n cytuno â mi ac yn pryderu bod y newidiadau hynny mewn gwirionedd wedi gwanhau hawliau pobl yn y wlad hon o ganlyniad, a hefyd yn gwanhau'r craffu ar y trafodaethau yn y dyfodol gyda'r UE y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu eu cael?

Wel, Llywydd, mae David Rees yn gwneud pwynt pwysig iawn. Mae'r newidiadau i Fil a gyflwynwyd gan Brif Weinidog y DU ei hun gerbron Tŷ'r Cyffredin ddim ond ym mis Hydref—y Bil yr oedd yn barod i'w gefnogi ar y pryd. Mae'r newidiadau yn fersiwn ddiweddaraf y Bil yn gwneud pethau'n waeth o safbwynt Cymru ac nid yn well. Pam mae Prif Weinidog y DU wedi torri'r ymrwymiad a wnaeth ym mis Hydref ar ffoaduriaid sy'n blant ar eu pennau eu hunain? Pam y tynnwyd hynny o'r Bil hwn? Pam mae'r trosolwg seneddol yr oedd yn barod i gytuno arno ym mis Hydref, pam mae hwnnw wedi ei dynnu o'r Bil hwn nawr? Pam, pan roedd cytundeb gyda'i ragflaenydd y gellid ymestyn cyfnod pontio pe byddai'r Deyrnas Unedig yn credu ei fod er budd y Deyrnas Unedig iddo gael ei ymestyn—nid oedd neb yn gorfodi estyniad, roedd pe byddai Llywodraeth y DU yn credu mai dyna fyddai'r peth iawn i'w wneud—pam mae'n amddifadu ei Lywodraeth ei hun o'r gallu i wneud hynny? Ar gynifer o bwyntiau a nodir yn ein memorandwm cydsyniad deddfwriaethol, mae'r Bil hwn yn Fil gwaeth na'r un a luniwyd gan yr un Prif Weinidog ym mis Hydref.

14:15
Gofal Cymdeithasol drwy Gyfrwng y Gymraeg

5. A wnaiff y Prif Weinidog roi diweddariad ar y ddarpariaeth gofal cymdeithasol drwy gyfrwng y Gymraeg? OAQ54864

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Mae gan 38 y cant o weithwyr cymdeithasol sy'n cael eu rheoleiddio gan Arolygiaeth Gofal Cymru allu yn yr iaith Gymraeg. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithredu i annog mwy o siaradwyr Cymraeg i weithio yn y sector pwysig hwn.

Mae'r ffaith y gall bwrdd iechyd sy'n gweithredu o dan safonau'r iaith Gymraeg hyd yn oed ystyried symud claf dementia Cymraeg ei iaith i Loegr lle na fyddai gofal yn y Gymraeg, mae hynny yn brawf diamheuol fod safonau'r Gymraeg yn y maes iechyd yn gwbl, gwbl ddiffygiol. Dyma ddigwyddodd dros y Nadolig yn achos claf dementia oedrannus o Ynys Môn. Mae Plaid Cymru ac eraill wedi dadlau o'r cychwyn cyntaf fod y safonau iechyd yn llawer rhy wan. Onid ydy'r achos yma yn golygu bod yn rhaid cyflwyno safonau newydd, cadarn a hynny ar frys? Ac onid ydy'r achos yma hefyd yn profi diffyg dealltwriaeth am bwysigrwydd gofal yn y Gymraeg? Mae'r achos yn dangos bod y Gymraeg yn cael ei gweld fel rhywbeth ymylol neu ddymunol i'r gofal yn hytrach nag yn rhan hanfodol ohono fo o safbwynt diogelwch ac ansawdd bywyd yr unigolion. Beth ydych chi'n bwriadu ei wneud er mwyn gwreiddio'r egwyddor pwysig yma yn ein cyfundrefn gofal ac iechyd yng Nghymru?

Wel, Llywydd, mae'n un peth i ddweud bod achos yna i wneud mwy yn y maes i reoleiddio sut mae'r iaith Gymraeg yn cael ei defnyddio yn y maes iechyd, ac y mae lan i bob un ohonom ni i gytuno neu anghytuno â hwnna, ond beth dwi ddim yn cytuno â'r Aelod arno yw i dreial tynnu'r achos gyffredinol i'r un achos o'r claf yn Ynys Môn. Fel dwi'n deall, mae e'n dal i fyw yma yng Nghymru; dydy e ddim wedi symud. A'r rhesymau oedd rhesymau clinigol. Dyna pam roedd y penderfyniad wedi cael ei wneud. Nawr, mae'r sefyllfa wedi gwella, mae'r claf ei hun wedi gwella ac mae'n bosib i roi triniaeth iddo fe yma yng Nghymru. 

Mae'r claf, fel yr wyf i'n ei deall hi, ac rwy'n dibynnu ar y wybodaeth ddiweddaraf sydd gen i, mae'r claf ei hun yn dal i dderbyn gofal yng Nghymru, ac roedd y rheswm yr ystyriwyd y gallai fod angen gofal arno y tu allan i Gymru am resymau clinigol a diogelwch. Ond mae cyflwr yr unigolyn wedi gwella i'r pwynt lle mae'n dal yn bosibl, fel sy'n ddymunol wrth gwrs, y dylai barhau i dderbyn gofal yma yng Nghymru. Nid yw'r achos unigol hwnnw yn arwain at y casgliadau cyffredinol y ceisiodd yr Aelod eu tynnu ohono.

Mae'r ddadl gyffredinol y mae'n ei gwneud yn wahanol ac mae dadl briodol i'w chael yn hynny o beth ynghylch pa un a yw sefyllfa bresennol y rheoliadau sydd gennym ni yn ddigonol i sicrhau—. A gadewch i mi ddweud fy mod i'n cytuno'n llwyr â'r pethau olaf a ddywedodd Siân Gwenllian: nad dewis atodol yng Nghymru yw cael gwasanaeth drwy eich iaith o ddewis. Mae'n rhan sylfaenol ohonoch chi'n cael y gofal sydd ei angen arnoch. Weithiau, bydd rhesymau clinigol pam mae angen gofal y tu allan i Gymru ar gyfer rhywun ac yna mae'n rhaid gwneud penderfyniad unigol. Ond mae'r pwynt cyffredinol a wnaeth Siân Gwenllian yn un yr wyf i'n credu ynddo ac y mae'r Llywodraeth yn credu ynddo: bod y gallu i gael gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg neu'r Saesneg, o'ch dewis chi, yn ddewis i'r claf ei wneud a dylid ei anrhydeddu.

14:20
Lefelau Staff Nyrsio

6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am lefelau staff nyrsio yng Nghymru? OAQ54861

Llywydd, bu cynnydd o 500 i nifer y nyrsys a bydwragedd ar y gofrestr broffesiynol yng Nghymru rhwng mis Ebrill a mis Medi y llynedd—y gyfradd dwf gryfaf o blith unrhyw un o bedair gwlad y DU.

Diolch am yr ateb, Gweinidog, ond yn ddiweddar, lluniodd Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru adroddiad ar weithrediad Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru), ac mae'r adroddiad yn dweud bod y gweithlu nyrsio yng Nghymru yn wynebu argyfwng cenedlaethol gyda nifer fawr o swyddi gwag a'r posibilrwydd o golledion sylweddol o nyrsys i ymddeoliad dros y pump i 10 mlynedd nesaf yng Nghymru. Galwodd y Coleg Nyrsio Brenhinol hefyd ar Lywodraeth Cymru i ganolbwyntio ar wella'r gallu i gadw nyrsys drwy sicrhau lefelau diogel o staff nyrsio, mynediad at ddatblygiad proffesiynol a gweithredu mesurau i gefnogi llesiant, cyfraddau tâl da, oriau gweithio hyblyg a chyfleoedd. Prif Weinidog, pa gamau mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i ddatblygu strategaeth cadw staff i liniaru'r argyfwng o ran lefelau staff nyrsio yng Nghymru, os gwelwch yn dda?

Llywydd, oherwydd ein bod ni'n deall proffil oedran y proffesiwn nyrsio yng Nghymru yr ydym ni wedi cynyddu nifer y lleoedd hyfforddi yng Nghymru gan 89 y cant ers 2014, a phan ddaw'n fater o gadw staff, Llywydd, rydym ni wedi cadw bwrsariaethau nyrsys yma yng Nghymru, tra bod ei blaid ef wedi cefnu arnyn nhw ar draws ein ffin ac yn gorfod eu hailgyflwyno eto i wneud iawn am eu camgymeriad. Nawr, mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol, wrth gwrs, wedi croesawu'r cyhoeddiad a wnaed ychydig cyn y Nadolig gan fy nghyd-Weinidog, y Gweinidog iechyd, y byddwn, yn y tymor Cynulliad hwn, yn ymestyn cwmpas y Ddeddf lefelau staff nyrsio yma yng Nghymru o'r wardiau meddygol a llawfeddygol acíwt i oedolion, sef lle y dechreuodd, i wardiau pediatrig cleifion mewnol cyn diwedd tymor y Cynulliad hwn, ac mae'r Gweinidog wedi ymestyn hefyd y cyllid ar gyfer y gwaith sy'n cael ei wneud i ymestyn y Ddeddf honno ymhellach i wardiau iechyd meddwl i oedolion sy'n gleifion mewnol, i ymwelwyr iechyd ac i nyrsio ardal. Dyna pam mae cael 500 yn rhagor o nyrsys a bydwragedd yn GIG Cymru mewn cyfnod o chwe mis rhwng mis Ebrill a mis Medi y llynedd mor bwysig. Mae hynny'n rhan o'r rheswm pam yr ydym ni'n gallu bwrw ymlaen ag ymestyn cwmpas y Ddeddf bwysig iawn honno.

Cyllid Teg i Gymru

7. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda Phrif Weinidog y DU ynghylch sicrhau cyllid teg i Gymru? OAQ54876

Llywydd, ceisiwyd sicrwydd dro ar ôl tro gan Brif Weinidog y DU a'r Trysorlys y bydd ei Lywodraeth yn dosbarthu grym gwario ar draws y Deyrnas Unedig mewn modd sy'n caniatáu i lefel ac ansawdd cyfatebol o nwyddau a gwasanaethau cyhoeddus gael eu darparu ym mhob un o'r pedair gwlad.

Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Pe byddai'r Llywodraeth Geidwadol wedi cynyddu gwariant y Cynulliad hwn yn unol â thwf yr economi er 2010, byddem ni £4 biliwn yn well ein byd nag yr ydym ni nawr. I bob pwrpas, mae rhaglen cyni cyllidol y Torïaid wedi dwyn £4 biliwn oddi ar y wlad hon ac oddi ar pobl Cymru. Prif Weinidog—[Torri ar draws.]—Prif Weinidog, pe byddem ni wedi cael y £4 biliwn hynny a ddylai fod wedi eu rhoi i ni, pa wahaniaeth y gallai fod wedi ei wneud i fywydau pobl Cymru ac ansawdd ein gwasanaethau cyhoeddus?

Llywydd, wrth gwrs, pe byddai'r gwariant a oedd ar gael i'r Cynulliad Cenedlaethol wedi parhau fel y gyfran yr oedd gennym ni yn ôl yn 2010, byddai gennym ni gwmpas ychwanegol enfawr i fuddsoddi yn y gwasanaethau cyhoeddus sy'n gwneud gwahaniaeth bob dydd ym mywydau pobl yma yng Nghymru. Pe byddai'r Llywodraeth Geidwadol honno wedi gallu cyfateb lefel y buddsoddiad mewn gwasanaethau cyhoeddus a sicrhawyd gan Mrs Thatcher a chan John Major, byddem ni wedi bod dros £6 biliwn yn well ein byd erbyn yr adeg hon yn hanes y Cynulliad. Dyna'r lefel yr oedd Llywodraethau Ceidwadol blaenorol yn ei gredu—[Torri ar draws.] Wel, gallaf ddeall pam mae Aelodau Ceidwadol yn synnu o glywed, yn ystod y cyfnod y maen nhw wedi bod yn gyfrifol am stiwardiaeth gwasanaethau cyhoeddus, ein bod ni wedi syrthio mor bell y tu ôl i'r hyn a gyflawnwyd gan eu rhagflaenwyr eu hunain. Byddai'r buddsoddiad hwnnw wedi gwneud gwahaniaeth, oni fyddai, ym mhob agwedd ar y cyfrifoldebau y mae'r Cynulliad hwn yn eu cyflawni. Byddai wedi caniatáu i ni wneud hyd yn oed mwy i ddarparu tai fforddiadwy i bobl yng Nghymru. Byddai wedi gwneud yn siŵr bod y buddsoddiad y gallem ni ei wneud mewn addysg, mewn iechyd, mewn gwasanaethau cymdeithasol, yn ein heconomi—. Meddyliwch beth y gallem ni fod wedi ei wneud yma yng Nghymru pe na byddai'r £4 biliwn hynny wedi cael eu dwyn oddi wrthym gan y polisïau diffygiol a methiannus o gyni cyllidol y mae'r blaid gyferbyn yn cefnu arnyn nhw erbyn hyn, ac mae'n siŵr y cawn ni glywed bloeddio ganddyn nhw wrth iddyn nhw sefyll ar eu pennau i ddathlu tro diweddaraf eu holwyn bolisi.

14:25
Blaenoriaethau ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd

8. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer y gwasanaeth iechyd dros y deuddeg mis nesaf? OAQ54880

Diolch i'r Aelod am hynna. Un o'n blaenoriaethau fydd buddsoddi mwy nag erioed o'r blaen yn y GIG yng Nghymru—£342 miliwn ychwanegol wedi ei ddynodi yn y gyllideb ddrafft a gyhoeddwyd ar 16 Rhagfyr i gryfhau gofal sylfaenol, er mwyn adeiladu ymhellach ar y nifer mwyaf erioed o feddygon a nyrsys sydd gennym ni yng Nghymru ac i ymateb i heriau poblogaeth hŷn.

Prif Weinidog, ddoe, fe wnaethoch chi honni'n ffyddiog mewn cynhadledd i'r wasg fod cynlluniau ar gyfer ysbytai a byrddau iechyd i ymdopi â phwysau dros gyfnod y gaeaf yn dal eu tir. Fe wnaethoch chi hyd yn oed dynnu sylw at y ffaith bod eich Llywodraeth wedi darparu £30 miliwn—y mae croeso mawr iddo—yn gynharach nag erioed yn y flwyddyn i helpu byrddau iechyd i baratoi ar gyfer y gaeaf. Fodd bynnag, rwy'n credu o fewn tua hanner awr i'ch cynhadledd i'r wasg, cyhoeddodd fy mwrdd iechyd lleol, Hywel Dda, eu bod wedi profi mwy o gynnydd mewn achosion na welwyd o'r blaen—rydym ni wedi bod yn y sefyllfa hon o'r blaen, onid ydym ni, dîm—ac y byddent yn canslo pob llawdriniaeth ar gleifion mewnol ymhob un o'u hysbytai er lles diogelwch cleifion. Mae hyn yn frawychus. Dyma ddiwedd ar lawdriniaethau dewisol ym mwrdd iechyd Hywel Dda ar hyn o bryd.

Prif Weinidog, mae'n gwbl amlwg nad oedd y rhethreg a gyflwynoch chi i'r wasg wedi'i seilio ar ffeithiau, neu nad ydych chi eich hun yn gwbl ymwybodol o'r sefyllfa bresennol yn ein hysbytai yma yng Nghymru. Prif Weinidog, pryd y bydd eich Llywodraeth yn derbyn bod angen arweiniad cryf gan GIG Cymru oherwydd bod y pwysau hyn dros y gaeaf i'w gweld—coeliwch neu beidio—bob gaeaf? Ac rydym ni wedi bod yn y sefyllfa hon o'r blaen. Unwaith eto, mae'r bobl yn fy etholaeth yn gorfod aros yn ddiddiwedd am lawdriniaethau pen-glin, llawdriniaethau clun, pob math o lawdriniaethau dewisol. Ymddengys nad oes diwedd iddo.

Wel, Llywydd, yn anffodus, nid oes gan yr Aelod lawer o wybodaeth am y cynlluniau yn Hywel Dda, oherwydd ynghyd â'r holl fyrddau iechyd eraill yng Nghymru, ychydig iawn o lawdriniaethau a drefnwyd ar gyfer yr wythnos hon, oherwydd yr wythnos hon yw'r wythnos brysuraf o ran derbyniadau heb eu cynllunio i'n hysbytai. Bob blwyddyn, fel y dywed, mae'n gwbl ragweladwy, ac oherwydd hynny, cynlluniwyd ar ei gyfer gan y bwrdd iechyd lleol hwnnw.

Nawr, mae hi wedi bod yn bythefnos brysur iawn a heriol iawn yn y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru, ond mae'r system wedi bod yn gydnerth oherwydd y cynlluniau y mae'r byrddau iechyd lleol, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru a'r buddsoddiad ychwanegol, wedi eu rhoi ar waith. Fy nealltwriaeth i yw y bydd rhywfaint o lawdriniaethau a oedd wedi'u cynllunio wedi ailddechrau yn Hywel Dda heddiw, ac rwyf eisiau diolch ar goedd i staff y bwrdd iechyd hwnnw a staff ledled Cymru am eu hymdrechion mawr tra bu'r Cynulliad hwn yn cael egwyl dros y Nadolig a'r flwyddyn newydd i ymdrin â'r galwadau digynsail, ac i'w cydweithwyr yno ym maes gofal cymdeithasol yn ardal bwrdd iechyd Hywel Dda a oedd, ddoe a thros y penwythnos, yn gweithio'n ddi-baid i sicrhau, ble bynnag yr oeddent yn gallu helpu i symud cleifion i'r gymuned, eu bod yn mynd ymhell y tu hwnt i'r hyn y byddai disgwyl iddynt ei wneud fel arfer i helpu i wneud hynny. Dyna pam mae'r system wedi bod yn gydnerth, oherwydd ymrwymiad aruthrol y bobl sy'n gweithio ynddi, ac rwy'n credu ei bod hi'n dda iawn cael y cyfle i ddweud ar goedd cymaint yr ydym ni'n gwerthfawrogi hynny y prynhawn yma.

2. Cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit (mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel 'swyddog cyfreithiol')

Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan David Melding. 

Cryfhau Undeb Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon

1. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion eraill y gyfraith yn y DU ar ffyrdd o gryfhau Undeb Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon? OAQ54884

Byddaf yn trafod yn aml gyda phobl eraill ein perthynas o fewn y Deyrnas Unedig ac am gryfhau ein lle ynddi. Credwn fod Cymru ar ei hennill o fod yn rhan o'r Deyrnas Unedig, a bod y Deyrnas Unedig yn well ac yn gryfach o gael Cymru ynddi.

A gaf i ddweud cymaint yw'r gefnogaeth i'r teimladau hynny ar yr ochr hon i'r Cynulliad hefyd? Efallai y clywsoch chi Brif Weinidog Cymru yn cyflwyno tystiolaeth ddoe i'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol yn dweud y bydd Prif Weinidog y DU yn cymryd canfyddiadau adolygiad Dunlop o ddifrif, gymaint ag y gwnaiff y Llywodraeth a gomisiynodd yr adolygiad hwnnw. Ac rwy'n sylwi bod yr adolygiad hwn, wrth gwrs, yn edrych ar ffyrdd o gryfhau a chynnal yr Undeb. Ac un o'r pethau a adroddir fel canfyddiad tebygol—a dyfynnaf awdurdod mawr Herald yr Alban, yr wyf yn siŵr y bydd y cyd-Aelodau gyferbyn yn ei gael yn galonogol iawn—yw y bydd argymhelliad i ddisodli system Cyd-bwyllgor y Gweinidogion gyda strwythur rhynglywodraethol, wedi'i wasanaethu gan ysgrifenyddiaeth annibynnol, i ennyn mwy o hyder o'r gweinyddiaethau datganoledig. Bu hyn yn un o apeliadau craidd Llywodraeth Cymru, ac rwyf fi, yn y Siambr hon, wedi cymeradwyo llawer o'r gwaith y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud i gryfhau strwythurau llywodraethu y Deyrnas Unedig, a bu cefnogaeth frwd i lawer o hynny ar yr ochr hon i'r Siambr.

Felly, a allwch chi ein sicrhau nawr y byddwch yn parhau i weithio gyda hyn mewn golwg, gan ein bod mewn maes cyfansoddiadol newydd oherwydd y ffaith y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd cyn hir, a dyna'r ysbryd y dylech fod yn cydweithio â Llywodraeth y DU ynddo, a defnyddio eich dylanwad i'r eithaf a chyflawni canlyniadau cynhyrchiol fel yr un yr ydych yn debygol o'i gyflawni pan fyddwn yn clywed argymhellion adolygiad Dunlop?

14:30

Diolch i'r Aelod am y cwestiwn arall yna. Rwyf wedi bod yn dilyn gyda diddordeb ei gyfres o bostiadau ar Twitter am ddyfodol yr undeb. Yr allwedd yw bod angen i'r trefniadau cyfansoddiadol ar gyfer undeb o bedair gwlad barchu hunaniaeth a dyheadau pob un o'r cenhedloedd hynny, gan warchod cyd-ddiddordeb y cyfan. Rwy'n gwybod y bydd wedi darllen cyhoeddiad Llywodraeth Cymru ym mis Hydref y llynedd, 'Diwygio ein Hundeb: cydlywodraethu yn y DU', sy'n disgrifio, rwy'n credu, y math o ymgysylltu cadarnhaol y mae'r Aelod yn sôn amdano yn ei gwestiwn, sef yr ymagwedd a fu gan Lywodraeth y DU erioed at y gyfres hon o heriau—heriau sydd wedi dwysau ymhellach yng nghyd-destun y pwysau y mae Brexit wedi'i roi ar y perthnasoedd o fewn y Deyrnas Unedig.

Mae angen inni dderbyn—ac fe ddywedaf, yn benodol efallai gan Lywodraeth y DU, nad yw bob amser wedi derbyn, er gwaethaf y pwyntiau y mae wedi'u gwneud yn ei gwestiwn—yr angen am fwy o weledigaeth a rennir o ran llywodraethu'r Deyrnas Unedig yn y dyfodol, a diwylliant newydd lle yr ydym ni i gyd yn parchu ein gilydd a lle mae cydraddoldeb yn y math o gysylltiadau rhynglywodraethol sydd wedi bod yn heriol yn aml.

Rydym ni wedi gweld ar sawl achlysur y diffygion yn nhrefniadau Cyd-bwyllgor y Gweinidogion, ac mae gennym ni ddewis arall cadarnhaol ac adeiladol yn lle hynny. Os yw'r cynigion sy'n deillio o argymhellion Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn adlewyrchu'r mathau hynny o egwyddorion a chynigion, mae'n amlwg y byddwn yn croesawu hynny. Ond ynghyd â'r dull gweithredu hwnnw, mae angen i Lywodraeth y DU gydnabod bod angen inni weithredu mewn system sy'n seiliedig ar reolau, ac nid un sy'n rhoi llawer iawn o benrhyddid iddyn nhw weithredu yn y ffordd a ddewisan nhw. A'r her fydd, a'r prawf i Lywodraeth y DU fydd, ei pharodrwydd, neu fel arall, i fod yn rhan o system sy'n seiliedig ar reolau, a gytunir rhwng pedair rhan gyfansoddol y Deyrnas Unedig. Dyna'r unig ffordd i'r undeb barhau'n gynaliadwy yn y dyfodol.

Gan fod yr etholiad cyffredinol bellach yn hen hanes, mae'n amlwg bod cenhedloedd unigol y Deyrnas Unedig unwaith eto wedi dewis llwybrau gwahanol, a dim ond yn Lloegr y mae gan y Ceidwadwyr fwyafrif. Bydd Cymru unwaith eto dan reolaeth Llywodraeth Geidwadol er na phleidleisiodd dros un. Unwaith eto, mae Cymru'n cael y Llywodraeth y mae ar Loegr ei eisiau. Am faint yn rhagor y bydd Llywodraeth Cymru yn caniatáu i'r sefyllfa hon barhau? A ydych yn cytuno eich bod yn cael cyfle i ffurfio llwybr gwahanol? A pham felly nad ydych yn ymrwymo i fynnu newidiadau cyfansoddiadol sylweddol, i fynnu mwy o bwerau i'r Senedd hon fel a wnaed yn refferendwm 2011, er mwyn sicrhau y gellir cyflawni ystod o bolisïau gan Lywodraeth yr ydym ni yng Nghymru wedi'i hethol mewn gwirionedd?

Wel, efallai nad yw'r Aelod wedi dilyn y ddadl y mae'r Llywodraeth wedi bod yn ei harwain yma yng Nghymru, sydd wedi bod yn galw am ddatganoli mwy o bwerau i'r Cynulliad hwn, yn bennaf, ac yn fwyaf diweddar, ym maes cyfiawnder. Ac rwy'n gwybod ei fod yn rhannu'r dyhead hwnnw'n gryf iawn. Yng nghyd-destun yr undeb sy'n newid, mae angen dadl barhaus, ac mae cyhoeddiad Prif Weinidog Cymru tua diwedd y flwyddyn ddiwethaf yn ceisio cyfrannu at y ddadl honno, ac arwain y ddadl honno. Ac rwy'n credu bod tystiolaeth yn awgrymu ein bod wedi llwyddo i newid dirnadaeth pobl o'r ddadl yma yng Nghymru, ac, i ryw raddau, dirnadaeth Llywodraeth y DU, a byddwn yn parhau i wneud hynny er budd pobl Cymru.

14:35

Waeth beth fo datblygiad hanesyddol undeb y Deyrnas Unedig, mae'r undeb fodern yn un o gydsyniad, ac mae'r cydsyniad hwnnw'n gofyn am barch ymysg llywodraethau cenedlaethol a rhanbarthol a seneddau'r Deyrnas Unedig. Ond mae'r undeb hwn hefyd yn gyfnewidiol ac yn llawn straen, sy'n gallu ei ddal gyda'i gilydd ond sy'n gallu yn yr un modd fygwth ei dynnu ar wahân, mewn ymateb i densiynau cymdeithasol ac economaidd a gwleidyddol, yng ngwahanol rannau y Deyrnas Unedig honno. Ac mae'r broses Brexit, a'r etholiadau diweddar, wedi dwysáu'r tensiynau hynny. Felly, wrth inni weld bod proses Brexit a'r etholiadau diweddar wedi dwysáu'r tensiynau hynny, a wnaiff y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit roi ei asesiad hyddysg i ni o'r goblygiadau i Gymru, a'r Deyrnas Unedig, o'r tensiynau hyn, yn enwedig y galw gan Blaid Genedlaethol yr Alban am refferendwm arall ar annibyniaeth yn yr Alban, ac absenoldeb parhaus llywodraeth weithredol yng Ngogledd Iwerddon? O'i safbwynt goleuedig, a ninnau newydd nodi diwedd un degawd, ac yn edrych ymlaen at un arall, a wnaiff ddweud wrthym ni: beth yw dyfodol Cymru yn y Deyrnas Unedig? Meddyliais y byddwn i'n dechrau'r flwyddyn newydd gyda chwestiwn hawdd.

Wel, fel mae ei gwestiwn yn awgrymu, ni oedd y Llywodraeth gyntaf i dynnu sylw, dros ddwy flynedd yn ôl, at yr heriau cyfansoddiadol y mae Brexit yn eu cyflwyno, ac mae'n tynnu sylw at hynny yn ei gwestiwn. Ac mae'r 20 o gynigion o ran diwygio ein hundeb yn disgrifio'r DU fel cymdeithas wirfoddol o genhedloedd. Mae Cymru'n dal yn ymrwymedig i'r gymdeithas honno, ond rhaid iddi fod yn seiliedig ar gydnabod sofraniaeth boblogaidd ym mhob rhan o'r DU, ac nid y fersiwn hen ffasiwn o sofraniaeth seneddol, a grybwyllwyd gennym yn aml. Rwy'n gobeithio'n fawr y bydd y comisiwn cyfansoddiad, democratiaeth a hawliau, y mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i'w sefydlu o fewn y 12 mis nesaf, yn ystyried y cynigion hynny, yn hytrach na chanolbwyntio ar fuddiannau mwy cul. Nid yw'r DU, fel y mae ei gwestiwn yn ei awgrymu, wedi'i llunio mewn gwirionedd drwy unrhyw gynllun ymwybodol, ond o ganlyniad i benderfyniadau pragmatig a gwleidyddol hwylus. Ond sefydlwyd sefydliadau datganoledig Cymru, a rhannau eraill o'r DU, ar sail cefnogaeth boblogaidd, drwy refferenda, sy'n dod â'u ffynhonnell eu hunain o ddilysrwydd iddynt, a bydd hynny'n hanfodol er mwyn i Lywodraeth y DU ei gydnabod mewn unrhyw drafodaethau yn y dyfodol a thrafodaethau dros ddyfodol yr undeb.

Deddf Cymru 2017

2. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU mewn perthynas â Deddf Cymru 2017? OAQ54877

Mae fy nhrafodaethau â chymheiriaid yn aml yn ymdrin â'n priod setliadau datganoli. Gan fod polisi cyfansoddiadol Llywodraeth Cymru, 'Diwygio ein Hundeb: cydlywodraethu yn y DU', yn nodi, o ganlyniad i Ddeddf Cymru 2017, mai'r model cadw pwerau bellach yw'r model a ffefrir ar gyfer datganoli deddfwriaethol. Ond, yn bwysig ddigon, mae anghymesuredd annefnyddiol yn parhau.

Cwnsler Cyffredinol, yr hyn a oedd yn bwysig am Ddeddf 2017, wrth gwrs, oedd ei bod yn ymgorffori confensiwn Sewel. Fodd bynnag, fe'i hymgorfforwyd mewn ffordd lle mae amwysedd ynghylch sut i'w ddehongli ac ansicrwydd ynghylch ei statws gwirioneddol. Nawr, yn yr amgylchedd ôl-Brexit, lle rydym yn gweld pwysau cynyddol ar yr ymyrryd mewn meysydd cyfrifoldeb datganoledig, ymddengys i mi fod holl statws confensiwn Sewel bellach dan fygythiad difrifol. A ydych chi'n credu mai dyma'r amser i roi ystyriaeth ddifrifol i sefydlu gweithdrefn anghydfodau rhwng cenhedloedd y DU, mewn perthynas â'r hyn sydd wedi'i ddatganoli a'r pwerau cyfrifoldeb datganoledig? Ac a ydych chi'n cytuno â mi hefyd ei bod hi bellach yn bryd ystyried y dylid rhoi confensiwn Sewel mewn diwyg sy'n rhoi sail gyfreithiol iddo?

Diolch i'r Aelod am y gyfres arall yna o gwestiynau. O ran y sylw am ddatrys ac osgoi, yn ddelfrydol, wrth gwrs, anghydfodau rhwng Llywodraethau'r DU, bu hynny'n rhywbeth y bu Llywodraeth Cymru yn galw amdano ers tro byd, a bu'n fater y buom yn pwyso arno mewn trafodaethau, gyda gweinidogion a swyddogion, gyda Llywodraeth y DU a chyda Llywodraethau datganoledig eraill ledled y DU.

Mae confensiwn Sewel yn parhau i fod yn gonfensiwn pwysig iawn, iawn er nad oes sail gyfreithiol iddo. Ond mae'n rhoi cryn ryddid i Lywodraeth y DU ynghylch pa amgylchiadau sy'n arferol neu'n anarferol, sef yr allwedd i gymhwyso'r confensiwn. Nid yw hynny, yn ein barn ni, fel Llywodraeth, yn ffordd gynaliadwy ymlaen ac rydym eisiau gweld manyleb glir o'r amgylchiadau lle gallai Llywodraeth y DU, mewn cyfyngder, fwrw ymlaen â deddfwriaeth i herio diffyg cydsyniad y sefydliad hwn. Dylem ystyried gosod hynny mewn statud, a fyddai wedyn yn ei gwneud hi'n bosib cael trosolwg barnwrol ar weithrediad y confensiwn. Ond ni fydd hynny, ar ei ben ei hun, yn ddigon, mae'n ymddangos i mi, i ddatrys y broblem sy'n ein hwynebu.

Pan wrthododd Senedd yr Alban ei chydsyniad yn 2018 i Fil ymadael yr UE, ni chafodd unrhyw un o dai'r Senedd unrhyw gyfle gwirioneddol i ystyried goblygiadau bwrw ymlaen heb gydsyniad. Felly, rydym ni eisiau gweld cyfnod seneddol mwy penodol ar gyfer ystyried goblygiadau symud ymlaen heb gydsyniad sefydliad datganoledig, gan gynnwys, efallai, datganiadau gan Weinidogion y DU i'r Senedd. Wrth gwrs, mae ateb cliriach a mwy radical hefyd, sef, yn syml, sicrhau na all y Senedd ddeddfu mewn meysydd sydd wedi'u datganoli heb ganiatâd y sefydliadau datganoledig democrataidd.

14:40
Cydraddoldeb yn y Gyfraith

3. Pa drafodaethau mae’r Cwnsler Cyffredinol wedi eu cael hefo'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ynglŷn â chydraddoldeb yn y gyfraith, yn sgil adroddiad Comisiwn Thomas? OAQ54863

Cyhoeddodd y Prif Weinidog yn y Siambr hon fod pwyllgor Cabinet ar gyfiawnder yn cael ei greu i fwrw ymlaen gydag argymhellion y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru. Mae'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip a minnau yn aelodau o'r pwyllgor Cabinet hwnnw, a bydd mynediad at gyfiawnder a chydraddoldeb gerbron y gyfraith yn faterion allweddol wrth inni ystyried sut i fwrw ymlaen gydag argymhellion yr adroddiad.

Mae'n glir bod system gyfiawnder wan yn arwain at anghydraddoldeb drwyddi draw, ac mae anghydraddoldeb i'w weld yng Nghymru, yn ôl yr adroddiad gan gomisiwn Thomas, ac mae o'n sôn am orgynrychiolaeth pobl o leiafrifoedd ethnig fel troseddwyr yn y system gyfiawnder a diffyg cyfleusterau i fenywod a diffyg gwasanaethau iechyd ac iechyd meddwl tu mewn i'r system. Ac mae'r adroddiad yn sôn y gallai'r system gyfreithiol bresennol arwain at anfanteision difrifol i bobl Cymru ac, yn wir, fod hynny'n digwydd ar hyn o bryd—anfanteision nad ydy pobl yn Lloegr, yr Alban na Gogledd Iwerddon yn eu profi. Beth ydy eich gweledigaeth hirdymor chi ar gyfer dyfodol y system gyfiawnder yng Nghymru o ran creu cydraddoldeb? Dwi'n clywed y camau cyntaf dŷch chi'n mynd i gymryd, ond beth ydy eich gweledigaeth tymor hir chi?

Wel, rŷn ni fel Llywodraeth, wrth gwrs, yn galw am ddatganoli pwerau dros gyfiawnder yma i Gymru, fel ein bod ni'n gallu darparu gwasanaeth cyfiawnder sydd yn gymwys i bob elfen o gymdeithas yma yng Nghymru, a sicrhau—wnaeth Siân Gwenllian sôn am rôl menywod a sôn am leiafrifoedd ethnig yn y system gyfiawnder—bod darpariaeth wahanol ar gael i fynd i'r afael â'r sialensiau yn y ddau cohort hynny. Er enghraifft, rŷn ni wedi bod yn glir iawn, fel Llywodraeth, ein bod ni ddim yn credu bod digon o gyfleusterau yma i fenywod yng Nghymru. Dŷn ni ddim eisiau gweld carchar i fenywod, ond rŷn ni eisiau gweld darpariaeth amgen mewn canolfannau lle mae'n bosib i fenywod gadw cysylltiad â'u teuluoedd ac â'u plant, er enghraifft. Mae gormod o fenywod yn y system garchar yn gyffredinol a buasai cael darpariaeth amgen yma yng Nghymru yn gallu'n helpu ni i ddelio gyda rhai o'r sialensiau pwysig hynny.

Mae argymhellion pwysig hefyd yn yr adroddiad, gyda llaw, ynglŷn â mynediad i'r gyfraith drwy'r Gymraeg yn y system gyfiawnder. Mae pennod 11 yn frith o argymhellion ynglŷn â darpariaeth well drwy gyfrwng y Gymraeg yn ein llysoedd ni, yn ein haddysg gyfreithiol ni, yn llysoedd y crwner ac ati. Felly, mae hyn yn rhan bwysig o agenda'r comisiwn, ac yn un o'r pethau y bydd pwyllgor y Cabinet y mae'r Prif Weinidog wedi'i sefydlu yn edrych arno'n gynnar.

14:45

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Rôl Goruchaf Lys y DU yn y Dyfodol

4. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda swyddogion cyfatebol yn Llywodraeth y DU ynghylch rôl Goruchaf Lys y DU yn y dyfodol? OAQ54885

Wel, nid wyf wedi trafod hyn yn benodol gyda swyddogion cyfraith Llywodraeth y DU, ond dylent fod yn gwbl sicr o ymrwymiad cryf Llywodraeth Cymru i annibyniaeth y Goruchaf Lys. Roeddwn hefyd yn croesawu eisteddiad cyntaf y llys yng Nghaerdydd yr haf diwethaf, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at eisteddiadau'r llys yma yng Nghymru yn y dyfodol.

Mae'n siŵr y byddwch wedi clywed cyn arweinydd y Blaid Geidwadol, lai na phythefnos yn ôl, yn honni bod y farnwriaeth yn 'ystumio' y gyfraith, ac rwy'n dyfynnu, 'i gael y canlyniad y maen nhw eisiau ei gyflawni.' Adleisiwyd hyn, yn anffodus, gan wleidyddion Torïaidd eraill sy'n ymddangos eu bod yn paratoi i geisio tanseilio annibyniaeth y farnwriaeth—rwy'n siŵr nad oedd yn gysylltiedig â phenderfyniad y Goruchaf Lys bod penderfyniad Llywodraeth Boris Johnson i addoedi'r Senedd yn anghyfreithlon. Ond, pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda Gweinidogion y DU ynghylch y syniad y dylid newid y broses benodi ar gyfer ynadon newydd i'r Goruchaf Lys i'w gwneud yn fwy gwleidyddol ac felly'n llai annibynnol ar y weithrediaeth?

Wel, mae Deddf 2005 a sefydlodd y Goruchaf Lys yn nodi'n glir iawn y sail ar gyfer penodi ustusiaid y Goruchaf Lys. Ailystyriwyd hynny gan y Llywodraeth Geidwadol yn 2013, a'u dewis doeth oedd peidio â dilyn y camau gweithredu y mae'r rheini fel Michael Howard wedi bod yn eu hybu yn y wasg. Fe'm trawyd gan ei sylw ei fod wedi dweud mai gwleidyddion etholedig, atebol ddylai lunio'r gyfraith, gan anghofio'r ffaith, wrth gwrs, ei fod yn eistedd yn Nhŷ'r Arglwyddi ac nad yw wedi'i ethol. Gan anghofio hefyd, ar ôl llunio'r gyfraith, ei bod yn ddyletswydd ar wleidyddion, yn enwedig efallai, i ufuddhau i'r gyfraith, sef yr union sefyllfa yr oedd ymyriad y Goruchaf Lys—y mae'n cyfeirio ati yn ei chwestiwn—yn bwriadu ei datrys. Holl ddiben ymyriad y Goruchaf Lys oedd galluogi'r Senedd i eistedd nes cael ei gohirio'n briodol, gan roi i aelodau etholedig, atebol, yn iaith Michael Howard, yr hawl barhaus i lunio cyfreithiau a dwyn y Llywodraeth i gyfrif.

Rwyf eisiau bod yn glir iawn ein bod wedi ymrwymo fel Llywodraeth yma yng Nghymru i annibyniaeth lwyr y Goruchaf Lys, ac nad ydym yn ystyried y mathau o gynigion yr oedd Michael Howard yn eu hystyried yn ddim mwy na cham sylweddol iawn yn ôl. Nid yw hynny, gyda llaw, yn golygu na fyddem yn cefnogi unrhyw ddiwygio ar y Goruchaf Lys. Unwaith eto, rwyf wedi cyfeirio sawl gwaith at y ddogfen 'Diwygio ein Hundeb'. Mae hynny'n amlinellu'r newidiadau y credwn y byddai'n ddefnyddiol eu gweld yn y Goruchaf Lys i sicrhau y caiff buddiannau cyfraith Cymru eu hadlewyrchu yn y llys, ac rwy'n falch o ddweud bod Y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru yn dod i gasgliad tebyg yn ei gyfres o argymhellion.

Lesddeiliadaeth ar Dai

5. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o bwerau deddfwriaethol Llywodraeth Cymru mewn perthynas â lesddeiliadaeth ar dai? OAQ54883

Mae Llywodraeth Cymru wrthi'n ystyried dewisiadau i ddiwygio lesddaliadau. Disgwylir adroddiad Comisiwn y Gyfraith, yn dilyn ei ymgynghoriad ar ddiwygio cyfraith lesddaliad yng Nghymru a Lloegr, yn ystod y gwanwyn eleni a bydd yn helpu i fod yn sail i gamau gweithredu Llywodraeth Cymru o ran dewisiadau deddfwriaethol.

Cwnsler Cyffredinol, rwy'n siŵr y bydd yr ateb hwnnw yn galonogol iawn i lawer o ddeiliaid tai ledled Cymru, gan gynnwys yn fy rhanbarth i. Er enghraifft, ym mhentref Sant Edern yng Nghaerdydd, mae llawer o drigolion wedi bod mewn anghydfod gyda'r adeiladwyr tai Persimmon ac yn teimlo'n ddig iawn bod deiliadaeth lesddaliad yn cael ei gyflwyno ar safleoedd a fyddai wedi bod yn rhydd-ddaliad gynt. Weithiau, gallwch gael cyfuniad o'r ddau ar yr un safle, gan greu gwahaniaeth rhyfeddol mewn rhwymedigaethau. Rwyf yn sylweddoli bod papur ymgynghori Comisiwn y gyfraith ar y diwygiadau rydych chi newydd gyfeirio ato yn dweud, ac rwy'n dyfynnu:

Nid yw'n glir i ba raddau y mae rhyddfreinio lesddaliadau wedi'i ddatganoli i Gynulliad Cymru. Yn y gorffennol, mae agweddau ar ryddfreinio wedi cael eu trin fel mater datganoledig.

A ydych yn disgwyl i'r adroddiad egluro'r sefyllfa hon? Ac ar ôl ei egluro, a chan dybio y gallwch weithredu, a fyddwch yn gweithredu'n gyflym?

Wel, byddaf yn gwneud fy asesiad fy hun o'r cymhwysedd ar ran y Llywodraeth ynglŷn ag unrhyw ddewis deddfwriaethol a gyflwynir. Bydd yr Aelod yn gwybod—. Ni wnaf wneud dadansoddiad hirfaith o'r cwestiynau cymhwysedd, ond rwy'n credu, yn amlwg, efallai, ar y naill law, tra bod tai wedi'u datganoli'n benodol, mae cyfraith eiddo, yn fras, gydag eithriadau, wedi'i chadw'n ôl. Ac felly, mae'n fater o lywio o amgylch ffiniau'r rhannau perthnasol o Ddeddf Llywodraeth Cymru.

Rwy'n credu y bydd adroddiad Comisiwn y Gyfraith yn bwysig o ran gosod y cyd-destun hwnnw ar gyfer ystyried dewisiadau deddfwriaethol. Ac rwy'n gwybod hefyd fod y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn ystyried adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen a gyflwynodd adroddiad yn ystod yr haf y llynedd, ac sy'n bwriadu gwneud datganiad, yn yr wythnosau nesaf, rwy'n credu, o ran ei myfyrdodau ar waith yr adroddiad hwnnw, gan adeiladu ar y mesurau anneddfwriaethol yr ydym ni fel Llywodraeth wedi gallu eu cymryd, yn y tymor byr o leiaf, sydd wedi cael rhywfaint o effaith, i bob golwg, o ran lleihau nifer y tai lesddaliad a gaiff eu hadeiladu o'r newydd, yn benodol. Ond, yn amlwg, rydym yn rhannu'r amcan o sicrhau y caiff hynny ei leihau i'r lleiafswm lleiaf posibl.

14:50
Y Gronfa Ffyniant Gyffredin

6. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'r sector cyfreithiol ynghylch effaith y Gronfa Ffyniant Gyffredin? OAQ54872

Gan fod Llywodraeth y DU wedi bod yn fwriadol amwys o ran ei chynlluniau ar gyfer y gronfa ffyniant gyffredin yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf, ni fu trafodaethau â'r sector cyfreithiol ei hun yn bosibl. Fis diwethaf, ysgrifennodd Prif Weinidog Llywodraeth Cymru at Brif Weinidog y DU i atgyfnerthu ein sefyllfaoedd ar gyfer cyllid newydd yn llawn, ac i sicrhau bod datganoli yng Nghymru yn cael ei barchu, ac ategaf sylwadau'r Prif Weinidog yn ei gwestiwn yn gynharach ynglŷn â hynny.

Diolch, Cwnsler Cyffredinol, am yr ateb hwnnw, ac rwy'n credu ei bod yn glir o'r cwestiynau i'r Prif Weinidog ein bod yn parhau i fod â diddordeb penodol yn swyddogaeth y gwledydd datganoledig wrth ddarparu'r gronfa ffyniant gyffredinol sydd wedi'i haddo ers tro. Rwy'n credu ei bod yn ddiddorol ein bod eisoes wedi gweld blaenoriaethau'r Torïaid, gyda Russell George yn awgrymu bod cymorth yn symud allan o'r Cymoedd—fel yr oeddem ni wedi rhybuddio ar stepen y drws fyddai'n digwydd os nad yw'r gronfa ffyniant gyffredinol yn cael ei datganoli i ni yng Nghymru. Fodd bynnag, rwy'n un o sawl Aelod o'r Cymoedd yn y Senedd hon sy'n llwyr werthfawrogi pwysigrwydd buddsoddi cyfalaf yn ein seilwaith a buddsoddi yn sgiliau ein pobl a byddwn ni eisiau i hynny barhau. Felly, gan gofio'r hyn yr ydych chi eisoes wedi'i ddweud, pryd yr ydych chi'n rhagweld y bydd trefniadau cyfreithiol ar gyfer y trefniadau ariannu newydd yn debygol o fod ar gael i graffu arnyn nhw?

Yn gyntaf, gwn pa mor bwysig yw hyn i'r Aelod, fel y mae hi'n nodi yn ei chwestiwn. Ers 2007, mae prosiectau a gefnogwyd gan gronfeydd strwythurol yr UE ym Merthyr Tudful, er enghraifft, wedi creu dros 1,000 o swyddi a dros 300 o fusnesau newydd. Gwn fod ystad ddiwydiannol Lawntiau yn Rhymni, er enghraifft, wrth inni siarad, yn cael cymorth gwerth dros £1 miliwn o arian yr UE. Dyna un enghraifft o'r budd y mae arian yr UE wedi'i sicrhau ledled Cymru.

Fel y dywedodd y Prif Weinidog yn ei ateb yn gynharach, rydym yn dal i aros am gynigion gan Lywodraeth y DU. Nid yw hwn yn fater o ni'n mynd allan o'n ffordd i geisio gwrthdaro â Llywodraeth y DU. Rydym yn awyddus i ddod o hyd i ffordd o weithio gyda Llywodraeth y DU i gael cyllid UE arall i Gymru, ond rhaid i hynny fod ar sail cyfranogiad gwirioneddol a gwir gytundeb ar draws pedair Llywodraeth y DU, nid ar sail ateb y mae Llywodraeth y DU yn ceisio ei orfodi. Rhaid parchu'r setliad datganoli o ran hynny, barn a leisiwyd gan y Senedd hon ar fwy nag un achlysur.

Mae ymgynghoriad y bwriadwn ei gyflwyno, a lywiwyd gan waith y Pwyllgor y mae Huw Irranca-Davies wedi bod yn ei gadeirio yn ymwneud â hyn, a'r cyfan a ddywedaf i yw: rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth y DU yn derbyn y cynnig y mae'r Prif Weinidog, yr wyf i ac mae eraill wedi'i wneud i gyflwyno'r cynigion y bydden nhw'n hoffi eu gweld ac yna i gydweithio â ni er mwyn cadw at y ffin ddatganoli a chyflawni'r ymrwymiadau a wnaed i bobl yng Nghymru—na ddylen nhw golli ceiniog o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd.

3. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Eitem 3 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Rebecca Evans.

Mae un newid i fusnes yr wythnos hon: mae llai o amser wedi'i neilltuo ar gyfer cwestiynau yfory i Gomisiwn y Cynulliad. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfodydd sydd ar gael i'r Aelodau'n electronig.

14:55

Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd ynghylch y gost i'r GIG yng Nghymru o reoli plâu yn ein hysbytai? Yn ôl gwybodaeth a gafwyd gan y BBC, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg wedi talu bron £94,000 yn ystod y pedair blynedd diwethaf i'w gontractwr i ymdrin â'r pla, gwariodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe fwy na £52,000,  a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys dros £51,000, ac nid oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cadw unrhyw gofnod o'i ddata ynghylch rheoli plâu yno. A gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd ar yr hyn y mae'n ei wneud i sicrhau cysondeb o ran cadw cofnodion ar draws y byrddau iechyd yng Nghymru, a pha gamau y mae'n bwriadu eu cymryd o ran cadw costau yn ein hysbytai ar gyfer glanhau a chadw'n rhydd o lygod mawr a phryfed?

Rwy'n credu bod buddsoddi mewn sicrhau bod ysbytai, yn enwedig, yn lân ac yn ddiogel yn ddefnydd da o arian, a gwn fod strategaethau rheoli plâu yn bwysig iawn er mwyn cynnal a chadw mannau cyhoeddus yn iawn, ac yn arbennig y mannau hynny lle mae aelodau'r cyhoedd yn ymgynnull, fel ysbytai. Byddwn yn eich annog i ysgrifennu at y Gweinidog iechyd, oherwydd mae hwnnw'n gwestiwn eithaf penodol, efallai, nid yn rhywbeth ar gyfer datganiad llafar, ond yn sicr, rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog Iechyd yn awyddus i ymateb ichi mewn gohebiaeth.

Rwy'n siŵr y bydd llawer o'r Aelodau yma yn rhannu fy mhryderon am y sefyllfa yn Iran. Er na fyddwn i mewn unrhyw ffordd yn amddiffyn y cadfridog a laddwyd, na'r gyfundrefn y mae'n ei gynrychioli, mae rhyfel hir a gwaedlyd yn bosibilrwydd gwirioneddol o ganlyniad i weithredoedd Arlywydd yr Unol Daleithiau. Gyda Phrif Weinidog y DU mor awyddus i sefydlu cytundeb masnach rydd gyda'r Unol Daleithiau, nid oes llawer o obaith y bydd y DU yn osgoi cael ei denu i wrthdaro a allai gael canlyniadau mwy na'r penderfyniad trychinebus i ymosod ar Irac, o ran anafiadau a mwy o ansefydlogrwydd yn y dwyrain canol. Mae Cymru yn darparu mwy na'i siâr o bersonél i'r lluoedd arfog. Bydd effaith unrhyw wrthdaro sy'n cynnwys milwyr ar lawr gwlad felly'n cael ei deimlo'n gryf iawn yng Nghymru, fel yr oedd hi gyda'r rhyfel yn erbyn Irac a'r gweithredu milwrol yn Affganistan. Rydym ni'n dal i ymdrin â chanlyniadau Anhwylder Straen wedi Trawma a digartrefedd yn sgil gwrthdaro blaenorol. Nid yw llawer iawn o'r cyn-filwyr wedi cael yr help y mae angen iddyn nhw ei gael gan eu Llywodraeth. Hoffwn i gael datganiad gan Lywodraeth Cymru yn amlinellu pa sylwadau sy'n cael eu cyflwyno i Lywodraeth y DU i ddadlau yn erbyn cymryd rhan mewn gwrthdaro. Yr hyn sydd ei angen ar hyn o bryd yw diplomyddiaeth dawel, bwyllog ac ystyrlon. Mae gan weithredoedd Trump, nad ydyn nhw'n ymddangos yn rhan o unrhyw gynllun, hefyd y potensial o ennyn rhyfel, a dylai hynny gael ei gondemnio. Felly, hoffwn i weld datganiad gan y Llywodraeth yn condemnio gweithredoedd byrbwyll a difeddwl Arlywydd yr Unol Daleithiau gan gyflwyno'r achos dros atebion heddychlon mor gryf ag y gallwch chi.

Yn ychwanegol at hynny, heddiw dedfrydwyd merch yn ei harddegau o Brydain a gafwyd yn euog o ddweud celwydd ynghylch cael ei threisio gan gang i bedwar mis yn y carchar, wedi'i ohirio am gyfnod o dair blynedd. Cafodd ddirwy hefyd o €140. Dywedodd ei bargyfreithiwr y bydd y teulu'n brwydro i wrthdroi'r gollfarn, a bydd yn mynd â'r achos i Lys Hawliau Dynol Ewrop. Cododd y sefyllfa hon oherwydd bod ei chŵyn i'r heddlu, ei bod wedi'i threisio gan gang, wedi cael ei thynnu'n ôl mewn datganiad a lofnodwyd ar ôl wyth awr o holi mewn gorsaf heddlu. Yn ystod yr wyth awr hynny, nid oedd ganddi gynrychiolaeth gyfreithiol ac ni chofnodwyd ei chyfweliadau. Mae amheuaeth gref fod rhywun wedi arddweud y datganiad iddi. Dywedwyd bod y cleisiau lluosog ar ei chorff yn gyson ag ymosodiad treisgar, yn ôl un arbenigwr. Credaf fod erchylltra wedi digwydd yn erbyn y ferch ifanc hon. Mae hyn o bosibl yn gamweinyddiad cyfiawnder. Nid yw'n unrhyw syndod ei bod wedi cael diagnosis o Anhwylder Straen Wedi Trawma a’i bod yn fregus yn feddyliol. Yn fyr, rwy'n ei chredu, ac rwyf wedi gwylltio ynghylch yr hyn sydd wedi digwydd. Mae cwmni teithiau'r DU a oedd wedi trefnu'r gwyliau gwaith ar gyfer y ferch hon bellach wedi rhoi'r gorau i bob trip i'r gyrchfan honno yn Cyprus. Mewn datganiad, fe ddywedon nhw:

Mae diogelwch ein cwsmeriaid yn bwysig iawn.

Felly, o ystyried y pryderon dilys ynglŷn â system gyfiawnder Cyprus a'r neges y mae'r digwyddiad hwn yn ei gyfleu i bobl a allai fod yn ymosodwyr, a yw Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyhoeddi unrhyw gyngor i ddinasyddion Cymru a allai fod yn ystyried ymweld â'r ynys honno?

15:00

Diolch i Leanne Wood am godi dau fater hanfodol bwysig yn y Siambr y prynhawn yma. Cafodd y Prif Weinidog gyfle yn ei gynhadledd fisol i'r wasg ddoe i nodi ei safbwyntiau cychwynnol ar y sefyllfa a welwch chi yn Iran, ac roedd yn glir iawn mai ateb heddychlon a siarad a deialog a thrafodaeth ddylai fod y ffordd ymlaen. Rydym wedi bod mewn cysylltiad â Llywodraeth y DU a'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad oherwydd, yn amlwg, mae polisi tramor yn gyfrifoldeb ar Lywodraeth y DU. Bydd y Siambr yn ymwybodol bod Prif Weinidog y DU wedi cyhoeddi datganiad ar y cyd ddoe gyda'r Arlywydd Macron a'r Canghellor Merkel ynghylch y camau a gymerwyd gan yr Unol Daleithiau a'r farwolaeth a'r sefyllfa gysylltiedig yn Iran. Mae'r datganiad ar y cyd yn condemnio'r ymosodiadau diweddar ar luoedd y glymblaid yn Irac ac yn datgan pryderon am swyddogaeth Iran yn y rhanbarth. Maen nhw ar hyn o bryd yn galw am angen brys i beidio â gwaethygu'r sefyllfa yn y rhanbarth ac i'r holl bleidiau weithredu ataliaeth a chyfrifoldeb. Maen nhw'n galw ar Iran i ymatal rhag cymryd camau treisgar pellach neu amlhau trais. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn ceisio'n galed i hyrwyddo ateb heddychlon i fater difrifol iawn.

O ran yr ail bwynt, wrth gwrs y byddem ni eisiau gweld menywod, lle bynnag y maen nhw yn y byd, yn gallu mynd at yr heddlu a'r holl awdurdodau priodol pe baent mewn sefyllfa lle'r ymosodwyd arnyn nhw mewn unrhyw ffordd ac yn enwedig y rhai sydd wedi dioddef ymosodiad rhywiol. A byddem ni eisiau'r un peth i fenywod lle bynnag y maen nhw yn y byd fel yr ydym ni'n ei ddymuno iddyn nhw yma, sef eu bod yn cael eu credu a'u bod yn cael eu trin â pharch ac urddas. Credaf ei bod yn hollol iawn i'r fenyw a'i theulu fanteisio ar y cyfle i fynd â'u hachos yn ei flaen yn awr at Lys Hawliau Dynol Ewrop.  

A gaf i ofyn am un ddadl heddiw yn unig? Mae'n wych gweld y Gweinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth yn ei le hefyd, oherwydd mae'r ddadl yr wyf i eisiau gofyn amdani'n ymwneud â threftadaeth ddiwylliannol gerddorol anhygoel Cymoedd y De. Roeddwn i'n falch iawn rai blynyddoedd yn ôl—mae'n rhaid bod hynny tua 13 mlynedd yn ôl—o ddadorchuddio plac i goffáu perfformiad cyhoeddus cyntaf erioed 'Hen Wlad fy Nhadau' yn hen gapel Tabor ym Maesteg, sydd bellach wedi'i hen ddymchwel. Erbyn hyn mae'n glwb Gweithwyr Maesteg. Roeddem wedi dadorchuddio'r plac yno er mwyn coffáu'r unigolyn ifanc 16 oed a ganodd 'Hen Wlad fy Nhadau' am y tro cyntaf yn festri'r Capel yno. Ac mae'r plac yno.

Mewn gwirionedd, yn bwysig iawn, cyn bo hir bydd coffâd cyffrous yn digwydd y bydd fy nghydweithiwr Mike Hedges yn gwybod popeth amdano: mae'n cynnwys Daniel James Gwyrosydd, y 'bachgen drwg', a oedd wrth gwrs yn awdur geiriau 'Calon Lân '. Mae'n hynod ddiddorol wrth gwrs, oherwydd ei threftadaeth fel un o hoff ganeuon ac emynau Cymru. Bydd llawer o bobl yn gwybod hynny. Cafodd ei ganu yn angladd fy nhad yno hefyd. Ond yr hyn na fydd y rhan fwyaf o bobl yn ei wybod yw'r adeg y cafodd Daniel James Gwyrosydd ei alw'n 'fachgen drwg'—. Pam 'bachgen drwg '? Oherwydd ei fod mor hoff o'r tŷ tafarn ag yr oedd o'r pwlpit. Cyfansoddwyd 'Calon Lân', yn ôl y sôn, ond nid oes unrhyw reswm i amau hynny, ar gefn papurau sigarét yng Ngwesty Blaengarw ochr draw'r ffordd. Felly rydym ni'n coffáu hynny'n fuan iawn a bydd côr yn dod i mewn a bydd digwyddiad cymdeithasol y byddai Daniel James Gwyrosydd wedi ei garu, ynghyd â'r digwyddiadau coffáu yn Abertawe hefyd—ei dref enedigol, y man lle bu farw hefyd—i gydnabod hynny.

Ond oni fyddai'n wych cael dadl yma a allai ddathlu'r hanes cyfoethog dwfn hwnnw sydd gyda ni o hyd? Maen nhw'n bethau yr ydym ni'n eu cymryd yn ganiataol nawr pan safwn yn y terasau yn canu'r caneuon hyn, yn anthemau neu'n ganeuon, ac i gydnabod bod y rhain wedi dod o bobl dosbarth gweithiol mewn cymunedau dosbarth gweithiol a bod y gwreiddiau'n yn mynd yn ddwfn i'r cymunedau hynny o hyd. Gadewch i ni gael dadl ar hynny.

Wel, rwyf i bob amser yn mwynhau ymyriadau Huw Irranca-Davies yn y datganiad busnes yn fawr gan eu bod bob amser mor angerddol dros y dreftadaeth a'r cymunedau y mae'n eu cynrychioli. Gwn fod llawer o ddiddordeb, yn enwedig yn ystod y canmlwyddiant o ran 'Calon Lân'—Gwn fod Mike Hedges wedi cael rhai trafodaethau'n lleol ynghylch sut y gellir ei gofnodi a sut y gellir ei ddathlu'n lleol hefyd. Fel y dywedwch, mae'r Gweinidog yma i glywed eich cais am ddatganiad, ac rwy'n siŵr y bydd yn ei ystyried.

15:05

A gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog ynghylch dad-ddofi tir pori'r ucheldir? Mae aelodau o'r gymuned ffermio wedi cysylltu â mi yn pryderu o ddifrif am ddirywiad ardaloedd a oedd yn cael eu pori'n flaenorol, yn aml am genedlaethau lawer, gan wartheg, defaid a da byw eraill. Cafodd yr ardaloedd hyn eu ffermio gan ddefnyddio dulliau rheoli traddodiadol sydd wedi'u profi. A wnaiff y Gweinidog hefyd wneud datganiad ynghylch pam yr ydym ni'n colli arferion ffermio cost-effeithiol fel y rhai a ddefnyddir mewn lleoedd fel Rhaeadr Gwy, lle mae da byw wedi pori drwy gydol y flwyddyn ers dros 40 o flynyddoedd heb ymyrraeth, ac yn hytrach na diraddio'r tir, mae wedi arwain at y nifer fwyaf erioed o rywogaethau o blanhigion, sef dros 130, ac mae wedi atal porfeydd rhostir annymunol fel Molinia a Nardus, ac mae hefyd wedi cyfyngu ar ymlediad rhedyn yn yr ardaloedd mynyddig hyn?

Yn sicr, byddaf i'n sicrhau bod y Gweinidog sy'n gyfrifol am ffermio a materion gwledig yn ymwybodol o'r cais am ddatganiad heddiw, ac yn enwedig ei bod yn clywed eich pryderon am y cymorth i'r ucheldiroedd yng Nghymru.

Mae nifer o bryderon wedi cael eu codi gyda mi ynglŷn â sbwriel, yn enwedig dros gyfnod y Nadolig. A gaf i ofyn am ddatganiad gan Lywodraeth Cymru ar y camau sy'n cael eu cymryd i atal gollwng sbwriel? Dau awgrym a gefais i yw bod troseddwyr tro cyntaf yn mynd ar gwrs ymwybyddiaeth sbwriel tebyg i'r cwrs ymwybyddiaeth cyflymder a bod bwytai bwyd cyflym yn argraffu rhif plât y car ar becynnau'r cludfwyd sy'n cael ei brynu wrth yrru.

A gaf i ofyn yn garedig am eich sylw o ran Daniel James a Calon Lân? Ym mis Mawrth eleni y bydd y canmlwyddiant. Rwyf wedi bod mewn cysylltiad â'r Comisiwn yma i ofyn iddo gael ei ganu ar y safle hwn. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried iddi gael ei chanu ar safle Llywodraeth Cymru ar hyd a lled Cymru? Oherwydd mae'n wir—wel mae'n debygol—mai hwn yw emyn mwyaf adnabyddus Cymru.

Wel, nid ydyn nhw'n fy ngalw i'n Rebecca Evans am ddim. [Chwerthin.] Dwi'n hoffi ymarfer y llais yn achlysurol, felly bydda i'n hapus i ymuno ag unrhyw ganu.

Ond ar bwynt difrifol y sbwriel a gollwng sbwriel, dywedaf hyn, fod Llywodraeth Cymru yn gweithio'n agos iawn gydag awdurdodau lleol a chymunedau ledled Cymru i fynd i'r afael â sbwriel, ac mae hyn yn cynnwys datblygu cynllun gweithredu atal sbwriel newydd. Rydym yn gweithio'n agos iawn â sefydliadau'r trydydd sector megis Cadwch Gymru'n Daclus, a gwn y bydd y Gweinidog yn awyddus iawn i archwilio'r ddau awgrym penodol hynny fel rhan o'r cynllun gweithredu hwnnw. Rwy'n gwybod ei bod hefyd yn bwriadu cyfarfod â chynrychiolwyr y diwydiant pecynnu bwyd cyflym, ac unwaith eto, rwy'n credu bod hwn yn gyfle i archwilio'r mater hwnnw gyda nhw.

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar ddarpariaeth y byrddau iechyd o lawdriniaeth ddewisol yn ystod misoedd y gaeaf? Nid llawdriniaeth ddewisol yn unig, ond y sefyllfa ddiweddaraf mewn gwirionedd o ran sut y maen nhw'n rheoli pwysau'r gaeaf. Nid Hywel Dda yn unig, mae pwysau gennym ni yn Betsi ac mae pwysau yng Nghwm Taf. Ac rwy'n credu bod yn rhaid inni ddweud—oherwydd ein bod ni yma bob un flwyddyn—bod y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol wedi cyflwyno adroddiadau di-ben-draw. Rydym yn cydnabod bod £30 miliwn ychwanegol wedi cael ei wario ar gynllunio paratoadau ar gyfer y gaeaf, ond mae'n amlwg nad yw'n cyrraedd y rheng flaen, ac mae'r broblem yn ymwneud naill ai â rheoli'r gweithlu'n wael neu oedi wrth drosglwyddo gofal i bobl na ddylen nhw fod yn yr ysbyty fel eu bod yn gallu mynd yn ôl i'w cartrefi gyda chymorth, ac felly sicrhau bod gwelyau ar gael mewn ysbytai.

Felly, rwy'n credu bod angen dadl ar hyn, oherwydd mae angen inni drafod pethau fel: a ddylai'r £30 miliwn fod wedi'i roi yn uniongyrchol i ofal cymdeithasol? A fyddai'r defnydd o'r arian hwnnw wedi bod yn well, ac felly wedi rhyddhau ein hysbytai o ganlyniad i gael trefn ar rywfaint o'r ôl-groniad sydd gennym o ran cael gofal cymdeithasol priodol i bobl? Felly, yn y bôn, rwy'n gofyn am ddiweddariad difrifol iawn, oherwydd roedd y Prif Weinidog yn iawn i wneud y pwynt mewn ymateb i fy nghwestiwn i bod staff rheng flaen yn gweithio'n galed, ac mae'n rhaid bod hynny mor ddigalon, oherwydd nid dim ond y gaeaf hwn sy'n broblem—bu'r gaeaf diwethaf yn broblem, a'r gaeaf cyn hynny, yn wir rwy'n credu ein bod wedi trafod hyn bron bob gaeaf ers i mi fod yn AC.

Mae cynlluniau ar gyfer y gaeaf yn cael eu rhoi ar waith yn gynnar yn y flwyddyn, ac yna maen nhw'n cael eu cyflwyno i Lywodraeth Cymru, ac mae Llywodraeth Cymru wedyn yn darparu elfen o her gadarn i sicrhau bod y cynlluniau hynny ar gyfer y gaeaf yn cael eu datblygu ymhellach er mwyn dysgu gwersi o'r flwyddyn flaenorol, a hefyd i ystyried heriau a allai ddatblygu y gaeaf hwn. Y gaeaf hwn, llwyddwyd i ddarparu'r arian ychwanegol hwnnw yn gynharach yn y flwyddyn nag yr ydym ni erioed wedi ei wneud o'r blaen, ac rwy'n credu bod hynny wedi helpu er i'r Prif Weinidog, serch hynny, amlinellu'r heriau sydd yn bodoli, o ran pwysau'r gaeaf. Yn amlwg, byddaf yn gwneud yn siŵr bod y Gweinidog iechyd yn clywed y cais am y ddadl neu'r datganiad, fel yr ydych chi wedi'i ddisgrifio.

15:10

Hoffwn i ailadrodd y pwyntiau y mae Angela Burns wedi'u gwneud am yr angen brys i gael dadl—byddwn i'n dadlau, lawn, ond os nad yw hynny'n bosibl, datganiad yn amser y Llywodraeth am gyflwr pwysau'r gaeaf. Rydym i gyd yn gwybod am sefyllfa Hywel Dda ac mae'r pwynt a wnaeth y Prif Weinidog am staff rheng flaen, wrth gwrs, yn hollol gywir, ond mae'n ddigon posibl ei fod ef ac eraill wedi clywed Cyfarwyddwr Coleg Brenhinol y Nyrsys ar y radio y bore yma yn gofyn i Lywodraeth Cymru—dyma oedd ei geiriau hi— 'Ewch yn ôl i'r ystafell', i siarad â phobl ynghylch pam mae'r sefyllfa hon yn digwydd flwyddyn ar ôl blwyddyn. Fel y dywedodd Angela Burns, yn ystod tymor y Cynulliad hwn yn ei gyfanrwydd, ac, yn wir, mae'n debyg, cyn hynny, mae'r gaeaf yn dod bob blwyddyn, mae pobl yn cael y ffliw bob blwyddyn, mae gennym ni norofeirws bob blwyddyn, ac mae gwir angen i Lywodraeth Cymru egluro sut y mae'n mynd i ddychwelyd i'r ystafell, fel y mae'r nyrsys yn gofyn inni ei wneud, oherwydd ni ellir caniatáu i'r sefyllfa hon barhau flwyddyn ar ôl blwyddyn. Credaf fod angen inni hefyd sicrhau mai trafodaeth am iechyd a gofal cymdeithasol yw hon. Un o'r pethau y mae'r gymuned nyrsio yn sicr yn ei gyfleu i mi yw mai un o'r problemau mawr ar yr adeg hon o'r flwyddyn yw, os yw'r adrannau gwasanaethau cymdeithasol, er enghraifft, wedi cau am gyfnodau hir yn y gaeaf oherwydd absenoldeb staff, nid oes modd iddyn nhw wedyn ryddhau cleifion, nid yw'n bosibl iddyn nhw gael asesiadau.

Darllenais â diddordeb ddatganiad Llywodraeth Cymru i'r wasg ar y mater hwn, a rhaid imi ddweud fy mod yn ei ystyried i fod braidd yn hunanfoddhaus. Wrth gwrs, mae'r £30 miliwn i'w groesawu, ond oni bai ei fod yn cael ei ddefnyddio'n iawn, nid yw'n mynd i ddatrys y broblem. Felly, byddwn i'n ail-bwysleisio’r cais am ddatganiad—datganiad o leiaf, dadl os oes modd—yn amser y Llywodraeth ar frys. Rwy'n ymwybodol bod gennym gwestiynau i'r Gweinidog iechyd, rwy'n credu, yr wythnos nesaf, ond ni fydd y rheini'n rhoi digon o gyfle inni archwilio'n fanwl beth sy'n digwydd ynghylch yr hyn sydd yn sicr yn argyfwng yn Hywel Dda, a gwn gan gyd-Aelodau fod hyn yn broblem wirioneddol ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr hefyd.

Gwn fod y Coleg Nyrsio Brenhinol, ynghyd ag arweinwyr clinigol eraill, yn cwrdd â phrif weithredwr y GIG yfory i drafod pwysau'r gaeaf sy'n cael eu teimlo ledled y GIG. Felly, bydd hynny'n gyfle i'r unigolion penodol hynny gael y sgwrs honno, a gwn, fel y dywedais, fod Llywodraeth Cymru mewn cysylltiad cyson â phob un o'r byrddau iechyd o ran eu cynlluniau gaeaf a'r pwysau y maen nhw'n eu teimlo, ond, unwaith eto, rwyf i wedi clywed y cais am y datganiad. Byddaf i'n gwneud yn siŵr bod y Gweinidog iechyd yn ymwybodol ohono.

Hoffwn i ofyn am dri datganiad y prynhawn yma. Yn gyntaf, cyn y Nadolig, cyhoeddodd comisiwn yr M4 dri mesur carlam i'w rhoi ar waith. Hyd heddiw, nid ydynt yn eu lle, a gostwng y terfyn cyflymder i 50 mya oedd un o'r rheini. Rwy'n credu y byddai llawer o bobl sy'n defnyddio'r rhan hon o'r draffordd yn rheolaidd yn teimlo ei bod yn ddiwrnod anarferol i gyrraedd 50 milltir nawr. Fodd bynnag, a gawn ni ddatganiad ynghylch pryd y bydd y mesurau hyn yn cael eu rhoi ar waith a sut y byddan nhw'n cael eu mesur ar gyfer eu heffeithiolrwydd, ar eu pen eu hunain ac o ran newidiadau arfaethedig eraill?

Cafodd y cyswllt rheilffordd rhwng Glynebwy a Chasnewydd ei addo ers tro ac mae fy etholwyr ac eraill yng nghymoedd cyfagos Gwent yn disgwyl yn eiddgar amdano. Ym mis Mehefin y llynedd, ymrwymodd y Gweinidog dros drafnidiaeth i gyflwyno gwasanaeth bob awr rhwng Glynebwy a Chasnewydd yn 2021. Gan fod y dyddiad hwnnw'n prysur agosáu, hoffwn i gael datganiad ar gynnydd y gwasanaeth hwn. Gyda phwysigrwydd trafnidiaeth gyhoeddus a'r awydd i gael gwared ar fwy o draffig o'n ffyrdd, mae'n rhwystredig iawn, os ydych chi'n byw yn Nhŷ-Du neu ger Pye Corner, i gyrraedd Casnewydd ar y trên mae'n rhaid ichi fynd i Gaerdydd ac yn ôl.

At hynny, hoffwn i gael datganiad arall am y newidiadau diweddar i bris tocynnau trenau gan Trafnidiaeth Cymru. Er bod pobl sy'n teithio o orsaf Casnewydd i ganol Caerdydd wedi cael gostyngiad a groesewir yn fawr ar docyn dwyffordd o £5.40 i £4.80, mae'r rhai sy'n teithio o Pye Corner neu Dŷ-Du i Gaerdydd yn wynebu cynnydd o £7.40 i £7.60. Mae Tŷ-Du a Pye Corner yn agosach yn ddaearyddol i Gaerdydd ac mae'r gwahaniaeth mewn pris yn ymddangos yn afresymegol i lawer o bobl .

Diolch yn fawr i Jayne Bryant am godi'r tri mater hynny heddiw. Ynghylch y cyntaf, o ran y cyfyngiadau cyflymder o 50 mya, gwn fod Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi bod yn cynnal rhai trafodaethau gyda'r heddlu ynghylch y ffordd orau o orfodi hyn, a gobeithio y bydd y trafodaethau hynny'n cael eu datrys yn llwyddiannus cyn gynted â phosibl.

O ran y rheilffordd rhwng Glynebwy a Chasnewydd, gofynnaf i'r Gweinidog roi diweddariad ysgrifenedig ichi y gallwch chi ei rannu gyda'ch etholwyr, ond gallaf i ddweud bod trafnidiaeth Cymru wedi cyflwyno trenau dosbarth 170 mwy modern ar linell Glynebwy fel rhan o'u hamserlenni newydd o fis Rhagfyr 2019. Mae'r trenau hynny'n darparu gwell profiad i gwsmeriaid, gan gynnwys gwybodaeth electronig ynghylch teithwyr, aerdymheru, socedi trydan a rhagor o gapasiti. Byddan nhw hefyd yn cyflwyno trenau newydd sbon i Flaenau Gwent o 2022, fel rhan o fuddsoddiad £800 miliwn a fydd yn cynnwys mynediad gwastad a mwy o le ar gyfer beiciau. Gwn hefyd fod Trafnidiaeth Cymru wedi cynnal astudiaeth o linell Glynebwy ar ran Llywodraeth Cymru, ac mae hynny'n canolbwyntio ar gynyddu amlder y gwasanaethau hynny a hefyd ddarparu gwasanaeth newydd rhwng Glynebwy a Chasnewydd. Ond, fel y dywedaf, byddaf yn gofyn i'r Gweinidog roi diweddariad ysgrifenedig manylach ichi.

O ran pris tocynnau trenau, gwn fod nifer o wahanol ffactorau yn rhan o'r anghyfartaledd hwn, megis y ffioedd mynediad trac, y costau cynnal a chadw amrywiol a'r galw gan gwsmeriaid am eu gwasanaethau. Felly, mae'n anodd iawn gwneud y cymariaethau uniongyrchol hynny ledled llwybrau'r rhwydwaith, ond mae'r Grŵp Cyflenwi Rheilffyrdd, sy'n cynrychioli holl weithredwyr trenau Prydain, wedi cynnal ymgynghoriad yn ddiweddar ar sut y gellir gwneud tocynnau trenau yn symlach er budd teithwyr. Cymerodd Trafnidiaeth Cymru ran lawn yn yr ymgynghoriad hwnnw, a chefnogi llawer o'r argymhellion a ddaeth yn ei sgil. Rydym ar hyn o bryd yn aros am ymateb ffurfiol gan Lywodraeth y DU, sydd yn y pen draw yn gyfrifol am system prisiau tocynnau rheilffyrdd y DU. Felly, unwaith eto, byddaf y gofyn i'r Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi pan fydd y manylion hynny gennym.

15:15

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan Lywodraeth Cymru? Y cyntaf gan fy nghyd-Aelod ar y dde i mi, yn eistedd wrth fy ymyl, o ran yr amgueddfa gelf gyfoes y mae sôn wedi bod amdani a'r cynnydd sydd ar hynny. Yn amlwg, cyn y Nadolig, roeddem wedi dathlu blwyddyn ers i'r Banksy ymddangos yn Nhaibach ac erbyn hyn mae wedi symud i ganolfan siopa yn Station Road ym Mhort Talbot, gyferbyn â'r orsaf reilffordd. Nid yw'n weladwy i'r cyhoedd eto o ran bod yn agored, oherwydd mae gennym broses i'w dilyn o hyd, ond mae'n bwysig ein bod yn deall ble rydym ni arni gyda'r cynnydd o ran yr amgueddfa gelf gyfoes a lle y gallwn ni fod yn rhan o hynny.

Mae'r ail un yn ymwneud â dur, yn dilyn y cyfweliad a gyhoeddwyd yn y Sunday Times gyda Mr Chandrasekaran, Cadeirydd Tata Sons, sef rhiant-gwmni Tata Steel, mewn cysylltiad â datganiad lle mae'n teimlo bod Tata wedi rhoi mwy o gymorth na'r disgwyl i Bort Talbot a bod yn rhaid iddo wneud ei hun yn hunangynhaliol yn y dyfodol. Mae hyn wedi'i ddeall—mae'r gweithlu'n deall hynny; maen nhw wedi bod yn rhan o'r rhaglen weddnewid erioed. Ond mae'r ffaith fod hynny wedi'i wneud mor glir ac yn blwmp ac yn blaen gan gadeirydd y rhiant gwmni yn peri pryder felly ynglŷn â'r dyfodol y bydd Tata'n ei weld yn y busnes ym Mhort Talbot. Mae llawer o'r ffactorau hyn, mewn gwirionedd, y tu allan i reolaeth y gweithwyr eu hunain. Maen nhw wedi ymdrechu i'w gwneud mor gynhyrchiol â phosibl. Maen nhw wedi lleihau swyddi, maen nhw'n gwneud gwelliannau o ran cynhyrchiant, ond mae marchnadoedd byd-eang yn anodd ar hyn o bryd.

Ond, hefyd, mae'n ymddangos bod Llywodraeth y DU yn methu â chymryd unrhyw gamau o ran helpu'r diwydiant dur yn y DU. A gaf fi ddatganiad gan y Gweinidog ynglŷn â pha gamau y mae wedi'u cymryd gyda Llywodraeth y DU, yn enwedig cyngor y sector dur a fethodd â chwrdd â y llynedd? Wn i ddim a yw wedi cwrdd eto. Ble'r ydym ni arni o ran hynny? Mae'n bwysig, mae'n ddiwydiant sylfaen yn y DU. Mae cynhyrchu dur yng Nghymru yn hanfodol, felly mae'n hanfodol ein bod yn cael asesiad o ran ein sefyllfa gyda Tata a chynhyrchu dur yng Nghymru, lle mae Llywodraeth y DU yn gweld cynhyrchu dur yng Nghymru a'r hyn y byddan nhw yn ei wneud i'w wella, yn enwedig o ran costau ynni a chostau ac agweddau eraill y maen nhw'n gyfrifol amdanyn nhw ac y mae ganddyn nhw ddylanwad drosynt.

Diolch i David Rees am godi'r materion hyn, ac, wrth gwrs, mae'r Dirprwy Weinidog wedi clywed eich cais am yr wybodaeth ddiweddaraf am yr amgueddfa gelf gyfoes, a gwn y bydd yn gallu rhoi diweddariad llafar ichi neu fe fydd yn sicr o ysgrifennu atoch gyda'r diweddaraf ar hynny.

Rydych chi yn llygad eich lle bod gweithwyr Tata yn sicr wedi gwneud eu rhan. Cafodd Ken Skates y cyfle i gyfarfod ag Ysgrifennydd Gwladol newydd Cymru ddoe, ac roedd e'n glir iawn ei fod bellach yn bryd i Lywodraeth y DU gamu ymlaen a chefnogi Tata a'i weithlu hefyd. Roedd Dai yn cydnabod mai prisiau ynni yw un o'r materion allweddol, ac, unwaith eto, roedd yn rhywbeth y gwn i fod Ken wedi cael cyfle i'w gyfleu i'r Ysgrifennydd Gwladol newydd ei fod yn un o'r arfau sydd gan Lywodraeth y DU at ei defnydd, a'r gefnogaeth i Tata a'r gweithlu fydd un o'r heriau allweddol cyntaf y bydd yr Ysgrifennydd Gwladol newydd yn eu hwynebu.

15:20
4. Dadl ar Ddatganiad: Cyllideb Ddrafft 2020-21

Eitem 4 ar yr agenda yw'r ddadl ar ddatganiad am gyllideb ddrafft 2020 i 2021, ac rwy'n galw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Rebecca Evans.

Rwy'n falch o gael y cyfle hwn i roi datganiad ar gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020-1.

Ar 16 Rhagfyr, gosodais gyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru gerbron y Senedd. Cafodd y penderfyniad i osod y gyllideb ddrafft yn ystod y toriad ei gymryd gyda chytundeb y Pwyllgor Busnes a'r Pwyllgor Cyllid, ac fe hoffwn i fynegi fy niolch ar gofnod am gydweithrediad y ddau bwyllgor wrth gytuno ar y trefniadau anarferol.

Mae methiant Llywodraeth y DU i gyflawni o ran ei hadolygiad cynhwysfawr o wariant aml-flwyddyn yn golygu nad oes cyllideb gennym y tu hwnt i 2020-1. Yn lle hynny, fe gyflwynwyd cylch gwariant 'llwybr carlam' inni ym mis Medi, gan roi cynlluniau ar gyfer 2020-1 yn unig. O ganlyniad, ni allaf ond gosod cynlluniau refeniw a chyfalaf am un flwyddyn.

Er yr honiadau bod cyni wedi dod i ben, fe fydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn 2020-1 bron £300 miliwn yn is mewn termau gwirioneddol o'i gymharu â 2010-11. Yn dilyn misoedd o ansicrwydd a gohirio'r gyllideb, mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi ei chynlluniau heddiw ar gyfer cyllideb ar 11 Mawrth, wythnos ar ôl inni drafod ein cyllideb derfynol yn y Siambr hon—enghraifft arall o ddiffyg rhagweladwyedd Llywodraeth y DU pan ddaw'n fater rheoli arian y genedl. Ond, er gwaethaf yr anhrefn hwn, rwy'n bwriadu bwrw ymlaen â'n cynlluniau ni i gyhoeddi'r gyllideb derfynol ar 25 Chwefror er mwyn rhoi'r sicrwydd a'r sefydlogrwydd sydd eu hangen ar wasanaethau cyhoeddus, busnesau a chymunedau Cymru, ac fe fyddaf i'n ceisio adlewyrchu unrhyw newidiadau sylweddol i'n cynlluniau ni mewn cyllideb atodol gynnar.

Cyn y Nadolig, fe ysgrifennais i at y Canghellor yn galw ar Lywodraeth y DU i gyflawni'r cynnydd cyson sydd ei angen o ran cyllido ein gwasanaethau cyhoeddus ni. Mae'r gyllideb yn gyfle cynnar i Lywodraeth y DU wireddu ei haddewid i roi diwedd ar gyni.

Rwy'n troi nawr at gonglfeini'r gyllideb hon a'r penderfyniadau ariannol sy'n cael eu gwneud yng Nghymru erbyn hyn. O 2019-20, fe gaiff tua £5 biliwn o refeniw treth lleol a datganoledig ei godi yng Nghymru a bydd yn aros yng Nghymru. Mae hyn yn rhoi'r gallu inni ystyried sut y gall ein polisïau treth gyfrannu at ein huchelgeisiau ehangach ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Yn unol â'r ymrwymiad yn ein maniffesto ni, ni fyddwn yn codi cyfraddau treth incwm Cymru yn 2020. Nid wyf yn bwriadu gwneud unrhyw newidiadau i gyfraddau na bandiau'r dreth trafodiadau tir, ond fe fyddaf yn parhau i gadw golwg arnyn nhw. Bydd cyfraddau'r dreth gwarediadau tirlenwi yn cynyddu yn unol â chwyddiant.

Am y tro cyntaf, ac yn unol â'r trefniadau rhagweld i'r tymor hwy, mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi cynhyrchu ei rhagolwg annibynnol o refeniw yn sgil trethiant datganoledig i gyllideb Llywodraeth Cymru. Rwy'n diolch iddyn nhw am eu gwaith, ac fe gaiff yr Aelodau gyfle i glywed gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn uniongyrchol ddydd Iau mewn sesiwn friffio.

Gan droi at gronfeydd wrth gefn, rwyf wedi ceisio manteisio i'r eithaf ar gronfa wrth gefn newydd Cymru. Rwy'n bwriadu mynd ar ôl uchafswm y refeniw blynyddol o gronfa wrth gefn Cymru, sef £125 miliwn yn 2020-1.

Rwy'n troi nawr at fenthyca ar gyfer gwariant cyfalaf. Yn y Siambr hon, rwyf i a gweinidogion cyllid blaenorol wedi sôn dro ar ôl tro am ein dull ni o fenthyca. Fe fyddwn bob amser yn ceisio defnyddio'r ffurfiau rhataf o gyfalaf cyn symud ymlaen i ffynonellau eraill. Wrth bennu cynlluniau cyfalaf pendant ar gyfer y flwyddyn nesaf, rydym yn cadw at gynlluniau a gyhoeddwyd eisoes i fenthyca £125 miliwn o gyfalaf.

Byddaf i'n nodi nawr sut y bydd ein hadnoddau refeniw a chyfalaf cyfun yn cael eu defnyddio ledled y Llywodraeth. Bydd y gyllideb ddrafft yn mynd â buddsoddiad y Llywodraeth hon yn y GIG yng Nghymru i £37 biliwn ers 2016, sy'n brawf o'r flaenoriaeth yr ydym ni'n ei rhoi o hyd i'r gwasanaeth cyhoeddus a drysorir fwyaf yng Nghymru. Mae hon yn gyllideb hefyd sy'n cyrraedd lefel newydd o uchelgais yn y frwydr i ddiogelu dyfodol ein planed ni, sy'n cynnwys cymorth ar gyfer tai a thrafnidiaeth carbon isel a datblygiad coedwig genedlaethol i Gymru.

Rwy'n falch bod y bumed gyllideb hon—a'r un derfynol—yn y tymor Cynulliad hwn yn cyflawni'r addewidion o ran y gwariant allweddol a wnaed gennym ni i bobl Cymru yn 2016 ar brentisiaethau i bobl o bob oedran, gwella ysgolion, gofal plant, cymorth i fusnesau bach, triniaethau newydd ar gael yn gyflym, tai fforddiadwy a llawer mwy. Bydd cyfanswm ein buddsoddiad ni mewn iechyd a gofal cymdeithasol yn fwy nag £8.7 biliwn yn 2020-1, gyda chynnydd uwch na chwyddiant o fwy na £400 miliwn.

15:25

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Rydym wedi ceisio amddiffyn llywodraeth leol bob amser rhag effeithiau gwaethaf cyni. Gan gyflawni'r ymrwymiad i'r setliad gorau posibl, fe fydd awdurdodau lleol yn cael £200 miliwn yn ychwanegol drwy setliad refeniw a chyfalaf y flwyddyn nesaf. Bydd hyn yn dod â buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru mewn cyllid refeniw craidd ac ardrethi annomestig, i'w gwario ar ddarparu gwasanaethau allweddol, gan gynnwys ysgolion a gwasanaethau cymdeithasol, i bron £4.5 biliwn. Mae hyn yn golygu cynnydd mewn termau gwirioneddol i bob awdurdod lleol, ac fe gaiff hyn ei gydnabod gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn setliad cyllid eithriadol o dda. Rwy'n ddiolchgar i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru am eu hymgysylltiad cadarnhaol â Gweinidogion ac am y cydweithrediad a ddangoswyd wrth reoli amserlen heriol ar gyfer cyllideb y flwyddyn hon.

Drwy'r setliad llywodraeth leol a thrwy ein cyllideb addysg ni o £1.8 biliwn, mae'r gyllideb ddrafft yn cefnogi'r genhadaeth genedlaethol am system addysg o safon fyd-eang, sy'n cynnwys mwy na £200 miliwn i'n seilwaith addysgol ni. Llywydd, gyda'r arian newydd i lywodraeth leol a'r arian ychwanegol yr ydym yn ei roi i ysgolion a gofal cymdeithasol drwy ffrydiau ariannu eraill, rydym wedi llwyddo i gyfateb y cyllid ychwanegol a'r hyn a gawsom yn y cylch gwariant o ran ysgolion a gofal cymdeithasol yn Lloegr, ac rydym wedi mynd ymhellach na hynny.

Rydym wedi cyflawni hyn er gwaethaf y baich oherwydd prinder y cyllid a roddwyd gan Drysorlys y DU. Rwyf wedi diweddaru'r Aelodau cyn hyn ar y diffyg o £36 miliwn a gawsom ni'r flwyddyn hon oherwydd i Lywodraeth y DU fethu â thalu'r costau cynyddol yn llawn sy'n ein hwynebu ni o ran pensiynau yn y sector cyhoeddus. Bydd y diffyg hwnnw'n codi i tua £50 miliwn yn 2020-1. Mae hyn yn gwbl groes i egwyddorion Trysorlys y DU ei hunan fel y nodir yn ei 'Ddatganiad o bolisi cyllido', ac mae'n dileu £50 miliwn y gallwn i fod wedi ei ddyrannu fel arall i'n gwasanaethau cyhoeddus ni.

Rydym yn cydnabod swyddogaeth hanfodol yr awdurdodau lleol wrth ddarparu gwasanaethau ataliol. Mae atal wedi bod wrth wraidd y gwaith ar ein wyth blaenoriaeth drawsbynciol, sef y blynyddoedd cynnar, gofal cymdeithasol, tai, cyflogadwyedd a sgiliau, iechyd meddwl gwell, datgarboneiddio, tlodi a bioamrywiaeth. Dyma'r meysydd lle mae ymyrraeth gynnar o fantais fawr inni, ac yn hanfodol ar gyfer cyflawni canlyniadau hirdymor. Drwy'r dull gweithredu newydd, rydym wedi gweithio ledled y Llywodraeth, a'r tu allan i ffiniau gweinidogol traddodiadol, i fanteisio i'r eithaf ar ein cyfraniad cyfunol i'r meysydd blaenoriaeth hyn. O ganlyniad, rydym yn dyrannu cyllid newydd yn ogystal â'r mesurau presennol, i helpu i ddiogelu dyfodol ein planed ni a mynd i'r afael â thlodi.

Rydym yn gwybod nad oes her fwy yn wynebu'r Llywodraeth, cyrff cyhoeddus, busnesau a sefydliadau'r trydydd sector a chymunedau ledled Cymru na newid hinsawdd. Dyna pam, yn y gyllideb gyntaf ers ein datganiad ni am argyfwng hinsawdd, rydym yn dyrannu pecyn newydd o £140 miliwn o gyllid cyfalaf i gefnogi ein huchelgeisiau ni o ran datgarboneiddio ac amddiffyn ein hamgylchedd ardderchog.

Gan ddefnyddio cyngor Pwyllgor y DU ar Newid Hinsawdd, rydym ni'n buddsoddi yn y meysydd lle y gallwn gael yr effaith fwyaf posibl ar ein hamgylchedd ni. Mae hyn yn cynnwys buddsoddi mewn teithio llesol a fflyd o fysiau trydan, dulliau newydd o adeiladu cartrefi, gwella ein safleoedd pwysicaf yn ecolegol, a datblygu coedwig genedlaethol a fydd yn ymestyn o un pen y wlad i'r llall. Fel y gwnaeth WWF Cymru ei gydnabod, mae'r buddsoddiad ychwanegol hwn yn gam cadarnhaol ar ein taith ni tuag at Gymru sy'n wyrddach.

Llywydd, mae'r gyllideb ddrafft hon hefyd yn diogelu'r buddsoddiadau sylweddol parhaus yr ydym ni'n eu gwneud i gefnogi ein cynllun cyflawni carbon isel. Mae hyn yn cynnwys buddsoddiadau yn ein prif fuddsoddiad ni o £738 miliwn ym Metro De Cymru a'r £20 miliwn ychwanegol yr ydym ni'n ei fuddsoddi'r flwyddyn hon ym Metro Gogledd Cymru. Rydym hefyd yn  gwneud gwelliannau o ran effeithlonrwydd ynni mewn 25,000 o gartrefi drwy gynlluniau Nyth ac Arbed. Drwy fuddsoddi £240 miliwn yn y rhaglen hon ers 2010, rydym wedi gallu tynnu miloedd o aelwydydd ar incwm isel allan o dlodi tanwydd.

Y peryglon ffisegol mwyaf a ddaw yn sgil newid hinsawdd yw stormydd cynyddol enbyd, llifogydd ac erydu arfordirol. Yn y gyllideb hon rydym yn ymrwymo £64 miliwn i ddiogelu cymunedau rhag effeithiau mwyaf difrifol newid hinsawdd.

O ran mesurau ehangach, rydym yn ystyried ymgyrch gyfathrebu gyhoeddus hefyd ynglŷn â'r hinsawdd a'r argyfwng ecolegol, a chynulliad o ddinasyddion, ac fe fyddwn ni'n dweud rhagor am hyn wrth i'n cynlluniau ni gael eu datblygu yn ystod y flwyddyn.

Gan adeiladu ar y camau traws-lywodraethol presennol, sef cyfanswm o fwy nag £1 biliwn, rydym yn dyrannu £19 miliwn yn ychwanegol mewn pecyn o fesurau sy'n cael eu hanelu yn benodol i helpu rhai o'r bobl sy'n fwyaf agored i niwed sy'n byw mewn tlodi yn ein cymunedau ni. Mae hyn yn cynnwys arian newydd i ymestyn argaeledd y grant amddifadedd disgyblion ar gyfer gwisg ysgol a hanfodion eraill mewn ysgolion, cyllid parhaus i fynd i'r afael â thlodi am gyfnod, yn ogystal ag ymestyn cyllid i'r rhaglen i gyfoethogi gwyliau'r ysgol.

Mae ein gwaith blaenoriaeth ym meysydd iechyd meddwl a'r blynyddoedd cynnar wedi darparu cyllid ychwanegol hefyd ar gyfer y dull ysgol gyfan, i ddarparu cwnsela a chymorth emosiynol yn yr ysgol, yn ogystal ag arian ychwanegol ar gyfer Dechrau'n Deg, gan ganiatáu i'r rhaglen gael ei hymestyn i 3,500 yn ychwanegol o blant.

Mae tai o ansawdd da yn ganolog i gefnogi pobl mewn tlodi. Ynghyd â chyfalaf ychwanegol o £175 miliwn y flwyddyn hon, fe fyddwn ni wedi buddsoddi mwy na £2 biliwn mewn tai fforddiadwy yn ystod y tymor Cynulliad hwn. Ac mae hwnnw'n fuddsoddiad sylweddol sy'n cael ei groesawu gan Gartrefi Cymunedol Cymru.

Gan adeiladu ar y camau a gymerwyd gennym yn ystod y blynyddoedd diwethaf a'r 'gwiriwr siwrnai' a ddatblygwyd gan gomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, rydym wedi cyhoeddi, am y tro cyntaf, gynllun i wella'r gyllideb, sy'n nodi sut yr ydym ni'n bwriadu cymryd camau parhaus i ymgorffori gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ym mhroses y gyllideb. Rwy'n croesawu datganiad y comisiynydd y dylid canmol Cymru am fod ar flaen y gad o ran symud tuag at gyllidebu ar gyfer llesiant.

Er bod cyni parhaus a orfodir ar lefel y DU yn tanseilio ein gallu ni i roi'r buddsoddiad y mae ein gwlad ni'n ei haeddu, rwy'n falch o gyflwyno cyllideb sy'n parhau i fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol gan gefnogi ein dyheadau ni ar gyfer Cymru sy'n fwy cyfartal, yn fwy llewyrchus ac yn fwy gwyrdd. Diolch ichi.

15:30

Wel, mae'n rhaid imi ddweud, roedd gennym ni obeithion mawr am y gyllideb hon, oherwydd, wrth gwrs, gwyddom fod Boris Johnson eisoes wedi dechrau cyflawni yn ôl ei addewid i ddod â chyni i ben a gwneud buddsoddiad ychwanegol sylweddol yn bosibl i'r economi a'r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. [Torri ar draws.] Ac rwy'n clywed y cleber, ond o ganlyniad mae Llywodraeth Cymru wedi cael £600 miliwn ychwanegol, sy'n golygu bod y grant bloc i Gymru ar gyfradd uwch nag erioed.

Ac, wrth gwrs, yn ogystal â hynny, mae gan Lywodraeth Cymru y pŵer i amrywio lefelau treth incwm hefyd, a allai, wrth gwrs, fod yn offeryn grymus, yn ein barn ni, i greu economi o drethiant isel, i annog busnesau i ymsefydlu yma, a chreu'r swyddi crefftus sydd eu hangen ar bobl. Felly, yng ngeiriau un cyn-Brif Weinidog, 'You've never had it so good'. Ni fu pethau erioed yn well arnoch chi. Mae cyfle euraidd yn y gyllideb hon, cyfle euraidd i fuddsoddi ym mlaenoriaethau pobl, i ysgogi economi sy'n fwy deinamig, i ddarparu ar gyfer pobl sy'n gweithio, ac adeiladu ar gyfleoedd i Gymru fel y'u cyflwynir wrth inni adael yr Undeb Ewropeaidd.

Ond, rwy'n ofni mai cyfle yw hwn y mae'r Gweinidog Cyllid wedi ei golli. Roedd yna gyfle i fod yn llawn dychymyg, ond  rydych chi wedi dewis y dinod. Roedd yna gyfle i ymateb i'r her a bod yn uchelgeisiol dros ein gwlad, y cyfan yr ydym ni wedi ei weld yw eich bod chi'n eistedd yn ôl. Roedd yna gyfle i fod yn radical, rydych chi wedi glynu at yr hen ddull aflwyddiannus a fu gan Lywodraethau Cymru yn y gorffennol.

Nawr, o ran yr economi, un o'r rhwystrau mwyaf i dwf a buddsoddiad, yn enwedig yn y De, yw'r diffyg capasiti ar rwydwaith ein ffyrdd ni. Y llynedd, fe gafodd ffordd liniaru'r M4 ei diddymu gan y Prif Weinidog, yn groes i gyngor annibynnol, ar ôl gwario £144 miliwn o arian y trethdalwyr yn barod, ac fe wnaeth hynny heb unrhyw ddewis amgen i'r tagfeydd cronig a'r llygredd aer a welwn ni yn y De. Ac fel y dywedodd Prif Weinidog arall yn ddiweddar, mae Twneli Brynglas fel 'ffroenau'r Ddraig Gymreig' wedi cael eu blocio. Maen nhw'n rhwystro buddsoddiad i'r gorllewin o Gasnewydd, gan lusgo economi'r De i lawr yn gyfan. Mae Prif Weinidog Cymru hyd yn oed wedi dweud, pe bai Llywodraeth y DU yn darparu'r cyllid i ariannu'r prosiect hwn yn llawn, ar gost o dros £1 biliwn, y byddai'n gwrthod derbyn yr arian hwnnw. Wel, mae hynny'n ofnadwy.

Ac, wrth gwrs, nid yn y De y mae'r problemau. Maen nhw yn y Gogledd hefyd, ac yn wir yn y Gorllewin. Collwyd y cyfle i uwchraddio'r A55, a buddsoddi yn y gwaith o ddeuoli'r A40. Nawr, fe ddywedir wrthym mai un o'r rhesymau dros beidio â bwrw ymlaen â'r buddsoddiad mawr yng nghapasiti'r ffyrdd yw oherwydd yr argyfwng newid hinsawdd. Ac eto, rydym ni ar drothwy, Prif Weinidog—rwy'n gweld eich bod chi'n gwrando—rydym ni ar drothwy chwyldro o ran ceir trydan, a anwybyddwyd gan eich penderfyniad chi pan wnaethoch y penderfyniad i ddiddymu'r M4. Ac wrth gwrs, fe wyddom ni i gyd fod y dystiolaeth yn awgrymu, pe byddech yn lleihau'r tagfeydd, y byddech chi'n lleihau'r llygredd aer hefyd. Ac yn eironig—. Ydw, rwy'n fodlon derbyn ymyriad.

15:35

Tybed a allai egluro rhywbeth ym maniffesto ei blaid ei hun, lle'r oedd yn dweud pe byddai yna Lywodraeth Geidwadol i Gymru, fe fyddai'n cyflawni ffordd liniaru'r M4. Ond, o ran yr A55, roedd y maniffesto'n dweud, heb unrhyw eglurhad, 'Fe fyddwn ni'n uwchraddio'r A55' yn y Gogledd.

Roeddem ni'n glir iawn ein bod ni'n awyddus i weithio gyda Llywodraeth y DU i sicrhau gwelliannau mewn gwahanol rannau o rwydwaith ein ffyrdd, gan gynnwys ar yr A55 a'r M4.

Ond, er gwaethaf y rhethreg a glywn ni gan Lywodraeth Cymru ynglŷn â newid hinsawdd, pan fyddwch chi'n edrych ar y mathau o drafnidiaeth a fuddsoddir ynddyn nhw, mewn gwirionedd y math sy'n llygru fwyaf—sef awyrennau. Yn eironig, fe welwn ni, eleni, fod £4.8 miliwn eto wedi cael ei roi i faes awyr Caerdydd sy'n eiddo i'r wladwriaeth, yn ychwanegol i fenthyciad o fwy na £21 miliwn, ac mae hynny ar ben y benthyciad o £36 miliwn a roddwyd eisoes. Wrth gwrs, y llynedd, fe welsom ni'r colledion mwyaf a wnaeth y maes awyr hwn erioed—dros £18.5 miliwn, o'i gymharu â llai na £1 miliwn yn ystod blwyddyn lawn olaf perchenogaeth breifat y maes awyr yn ôl yn 2012. Ac wrth gwrs, fe glywsom ni eisoes yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog fod gwerth llyfr net y maes awyr wedi gostwng i lawer yn is nag oddeutu'r £50 miliwn a dalwyd gan Lywodraeth Cymru am y maes awyr.

Fe wrandewais i ar yr hyn a ddywedwyd gennych—rwy'n gwrando bob amser ar eich cyfraniadau chi â diddordeb mawr, fel y gwyddoch. Beth yw eich dewis amgen chi o ran y maes awyr?

Fe wnaethom ni gynhyrchu glasbrint manwl iawn ynglŷn ag awyrennau yn ôl yn 2013, a oedd yn mynegi ein safbwynt ni ar yr hyn sydd angen ei wneud o ran y diwydiant awyrennau. Fe anfonaf i gopi ohono atoch.

Y gwir amdani yw hyn: fe ddylai'r Gweinidogion yma yn y Siambr hon wynebu ffeithiau—nid oes gennych chi'r arbenigedd angenrheidiol i wneud llwyddiant o'r fenter hon a dylid ei dychwelyd i'r sector preifat cyn gynted ag y bo modd. Dyma ragor o dystiolaeth i ategu'r honiad a wnaeth eich Dirprwy Weinidog chi dros yr Economi a Thrafnidiaeth nad yw Llywodraeth Cymru yn gwybod beth mae'n ei wneud ynglŷn â'r economi. [Torri ar draws.] Rwy'n hapus i ildio i'r cyn Brif Weinidog.

Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod gyferbyn. Dau beth yn unig. Yn gyntaf, ei atgoffa bod y maes awyr, pan oedd dan berchnogaeth breifat, ar fin cau, ac fe ddywedwyd hynny wrthyf i gan y perchenogion ar y pryd. Yr unig ffordd o ymdrin â hynny oedd ei brynu—ei gymryd i berchnogaeth gyhoeddus. Yn ail, os yw'n dweud na ddylai'r Llywodraeth fuddsoddi mewn hedfan, a yw hynny'n golygu ei fod ef o'r farn y dylai'r maes awyr—ac wrth gwrs maes awyr Ynys Môn, sydd bellach yn rhan o'r un grŵp—gau?

Rwy'n credu eich bod wedi talu mwy nag y dylech chi am faes awyr os oeddech yn credu ei fod ar fin cau, gan wastraffu degau o filiynau o bunnoedd o arian trethdalwyr.

Nawr, os caf i droi—oherwydd mae'n rhaid imi fwrw ymlaen—at ardrethi busnes. Wrth gwrs, rydym wedi colli'r cyfle i fynd i'r afael â'r ffaith mai gan Gymru y mae'r amgylchedd ardrethi busnes lleiaf cystadleuol yn y DU gyfan, gan drethu busnesau cymaint fel eu bod yn gorfod gadael y stryd fawr. Does dim rhyfedd mai gennym ni y mae'r gyfradd uchaf o siopau gwag ar y stryd fawr yn y Deyrnas Unedig. Ac wrth gwrs, yn lle gwneud hynny, ein barn ni yw y dylech chi fod yn manteisio ar y cyfle i leihau trethi ar fusnesau, i'w denu nhw'n ôl i'r stryd fawr, inni allu gwella cyfleoedd yng nghanol ein trefi.

O ran y GIG, fe'i disgrifiwyd gan y Gweinidog cyllid fel y gwasanaeth cyhoeddus a drysorir fwyaf gennym. Rydym ninnau'n cytuno'n llwyr, a dyna pam ein bod ni'n falch iawn o weld rhywfaint o fuddsoddiad ychwanegol yn cyrraedd ein GIG o'r diwedd. Ond, ni ddylem byth adael i'r cyhoedd anghofio mai Prif Weinidog Cymru oedd wrth y llyw pan gafwyd yr unig doriadau a welwyd erioed mewn cyllideb i'r GIG yn holl hanes y Deyrnas Unedig. Mae'n gywilyddus mai Llywodraeth Lafur, Llywodraeth Lafur—nid oes unrhyw Brif Weinidog Ceidwadol wedi torri cyllideb y GIG erioed—Llywodraeth Lafur yn y fan hon a wnaeth y penderfyniad i wneud hynny. Ac wrth gwrs, y Gweinidog Iechyd bryd hynny yw'r Prif Weinidog nawr sy'n eistedd o'n blaenau ni yn y Siambr hon heddiw. Does dim rhyfedd bod perfformiad y GIG yng Nghymru y tu ôl i berfformiad Lloegr mewn llawer o fesurau amrywiol. Ac a yw hi'n unrhyw syndod fod gennym gynifer o ymyriadau wedi'u targedu yn achos llawer o fyrddau iechyd yng Nghymru? Ac wrth gwrs, mae gennym ni'r enghraifft glasurol yn fy ardal i o Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, sydd wedi bod yn rhan o fesurau arbennig ers bron pum mlynedd bellach ac sy'n dangos dim ond y mymryn lleiaf o welliant. Mewn gwirionedd, mewn rhai ardaloedd, mae'n dangos arwyddion o waethygu.

Nawr, os caf i droi at addysg, dim ond am ychydig eiliadau. Yn ôl yr NASUWT—nid swyddfa friffio'r Ceidwadwyr Cymreig, yr NASUWT, undeb athrawon uchel ei pharch yma yng Nghymru—mae ysgolion yng Nghymru'n parhau i gael eu tanariannu ar gyfradd o tua £645 y disgybl y flwyddyn o'u cymharu ag ysgolion yn Lloegr. [Torri ar draws.] Rwy'n gwybod eich bod chi'n herio hynny, ond nid ydych chi erioed wedi anfon—. Rwy'n fodlon derbyn ymyriad, ydw.

15:40

[Anhyglyw.]—y £300 miliwn hwn y flwyddyn y cawsom ni ein hamddifadu ohono gan y Llywodraeth Dorïaidd, sy'n dod i gyfanswm o £4 biliwn, pe byddem ni wedi cael hwnnw, a ydych chi'n credu y byddai'r arian hwnnw wedi unioni rhai o'r diffygion a nodwyd gennych?

Rwy'n credu mai'r hyn sy'n rhyfeddod i mi yw bod Cymru yn derbyn £1.20 am bob £1, ac eto i gyd mae'n gwario £645 yn llai ar bob disgybl yn flynyddol. Ni ellir esgusodi'r tanariannu hwn o gwbl. Efallai y byddech chi'n dymuno ei amddiffyn, Mick, ond nid wyf i'n mynd i'w amddiffyn, ac fe fyddaf i'n herio eich Llywodraeth chi i'r eithaf er mwyn i ni weld chwarae teg rhwng Cymru a Lloegr fel y gall ein plant ni gael yr un cyfleoedd ag a gaiff y plant dros y ffin yn Lloegr.

Llywodraeth leol—fe wyddom ni fod yna elfennau cryf o ffrindgarwch wedi bod ar rai setliadau llywodraeth leol. Rydym wedi gweld awdurdodau lleol yn y Gogledd yn cael setliadau sy'n is nag awdurdodau lleol yn y De, ac mae hi'n ymddangos mai lliw gwleidyddol eich awdurdod lleol chi sy'n effeithio ar gyfran yr arian ychwanegol y gallech chi ei gael. [Torri ar draws.] Unwaith eto, rwy'n gallu clywed y cwyno ac rwy'n hapus iawn i roi rhywfaint o wybodaeth i'r Siambr am hyn.

Beth am gymharu setliad y flwyddyn hon. Beth am gymharu setliad y flwyddyn hon. Rwyf wedi cymryd llawer o—. Nid oes gennyf i lawer o amser ar ôl—[Torri ar draws.] Os caf i gyfeirio at setliad y flwyddyn hon, y setliad drafft arfaethedig. Mae'r cynnydd mewn cyllid yn amrywio o 3 y cant yn Sir Fynwy sy'n cael ei rhedeg gan y Ceidwadwyr i 5.4 y cant y drws nesaf yng Nghasnewydd Lafur—dau awdurdod lleol sydd y drws nesaf i'w gilydd. Ac rydym ni'n gwybod bod y codiadau cyfartalog ar gyfer y Gogledd yn llawer gwaeth nag y maen nhw yn y De.

Felly, a gaf i annog y Llywodraeth i ystyried cyflwyno cyllid gwaelodol fel y gallwn unioni rhai o'r gwahaniaethau hyn? Oherwydd, a bod yn onest, mae'n annerbyniol bod rhai rhannau—[Torri ar draws.] Nid oes yna gyllid gwaelodol yn ei le ar gyfer y flwyddyn hon. Os caf i gywiro eich cyd-Aelodau yn y Cabinet, nid ydych chi wedi cyhoeddi cyllid gwaelodol ar gyfer y flwyddyn hon, fel y gwyddoch chi'n dda, Gweinidog cyllid. Ond, fe fydd yn ddiddorol gweld beth fyddai'r cyllid gwaelodol hwnnw ac efallai y gwnewch chi roi mwy o gig ar yr esgyrn a dweud ychydig wrthym ni am hyn.

Roeddech chi'n sôn am rywfaint o'r pwysau sydd ar faterion gofal cymdeithasol. Rydych chi wedi sôn am y gronfa gofal integredig, er enghraifft, yn eich datganiad chi. Yr hyn na wnaethoch chi yw diystyru treth gofal cymdeithasol o unrhyw fath, y gwyddom fod eich plaid chi wedi ei hystyried o'r blaen i ryw raddau. Efallai y gwnewch chi roi ychydig mwy o wybodaeth inni ynghylch a ydych chi'n dymuno trethu pobl o ran gofal cymdeithasol, oherwydd fe hoffem gael rhywfaint o sicrwydd nad ydych chi am gynyddu baich trethiant ar bobl Cymru i dalu am hwnnw.

O ran yr amgylchedd, rydym wedi clywed bod hyn yn un o'ch blaenoriaethau chi ac eto i gyd nid ydych hyd yn oed yn gallu sefydlu rhwydwaith addas o bwyntiau i wefru cerbydau trydan yma yng Nghymru. Ni sydd â'r enw gwaethaf yn y Deyrnas Unedig gyfan. Beth ar y ddaear ydych chi'n ei wneud? Rydych chi wedi cael rhywfaint o arian yn swm canlyniadol i fformwla Barnett ar gyfer gwella'r rhwydwaith ac eto i gyd ni allwch gynnig digon o wefru ar y daith rhwng y Gogledd a'r De i yrru car trydan i fyny ac i lawr ein ffyrdd ni. Nid yw hyn yn dderbyniol ac mae angen gwella pethau.

Felly, i gloi, Llywydd, os caf i, rwy'n gresynu, er gwaethaf y cyfleoedd mawr a ddaw yn sgil y gyllideb newydd hon sydd ar gael ichi, eich bod chi'n parhau i fethu â rhoi sylw i flaenoriaethau'r bobl yma yng Nghymru. Nid ydym yn gweld y gwelliannau ym mherfformiad y GIG sy'n angenrheidiol i bobl a chleifion eu gweld nhw. Nid ydym yn eich gweld chi'n mynd i'r afael â'r tanariannu yn ein hysgolion yng Nghymru ac nid ydym yn eich gweld chi'n cau'r bwlch hwn rhwng Cymru a Lloegr o ran y gwariant sydd ar bob disgybl. Nid ydym yn gweld yr uchelgais sydd ei angen arnom i gefnogi busnesau i wella twf a chyfoeth ein cenedl. Ac rydym yn gweld syrthni llwyr, a dweud y gwir, o ran yr agenda newid hinsawdd. Rwy'n mawr hyderu y byddwch chi'n ystyried y pethau hyn ac yn newid y gyllideb hon cyn y daw hi yn ei hôl i'r Siambr fel y gallwn ni ymdrin â blaenoriaethau pobl wrth inni gyflawni Brexit fel cenedl.  

Beth sydd gennym ni yn y gyllideb yma yn syml iawn, dwi'n ofni, ydy cyfle wedi cael ei golli. Oes, mae yna ragor o arian ar gael i wario ar wasanaethau cyhoeddus. Ydyn, mi rydyn ni mewn sefyllfa lle mae pob pennawd, dwi'n credu, o wariant y Llywodraeth yn gweld cynnydd. Ac ar ôl degawd o dorri parhaus yn y mwyafrif llethol o feysydd, ydy, mae hynny yn rhyddhad. Ond, beth sydd yn fy siomi i a ni ar y meinciau yma fwy na dim ydy diffyg arwydd bod y Llywodraeth Lafur yma yn barod i ddefnyddio'r cyfle yma i newid cyfeiriad gwirioneddol, i newid diwylliant mewn unrhyw ffordd sylweddol neu i feddwl yn wirioneddol yn yr hir dymor. Beth sydd gennym ni yma ydy cyllideb arall sy'n rheoli ond yn dangos, mewn gwirionedd, dim dychymyg nac arloesedd.

Mae'r gyllideb hon yn gweld y pwrs yn dechrau agor, ond nid yw'r Llywodraeth Lafur hon yn agored i feddwl yn wahanol, i bob golwg, i roi ystyriaeth arloesol o ran sut y mae penderfyniadau'r gyllideb heddiw yn effeithio ar y dyfodol, ac yn hynny o beth rwy'n golygu'r tymor canolig i'r hirdymor.

Nawr, mae cyhoeddiadau diweddar gan Lywodraeth y DU wedi cael eu clodfori gan rai fel rhai sy'n nodi diwedd ar gyni. Rydym wedi clywed yr honiad hwnnw eto heddiw, er, yn anffodus, bod y rhan fwyaf o'r asesiadau yr wyf i wedi eu darllen yn awgrymu bod hwn yn fwy tebygol o fod yn rhyddhad dros dro. Ond pe byddai'n ddim ond cam dros dro hyd yn oed oddi wrth y math o gyni a ysgogir gan ideoleg, y toriadau dwfn—gadewch inni roi ei enw iawn iddo—dros y degawd diwethaf, yna'r hyn y dylem fod yn ei weld yn y gyllideb hon yw cyfle i fuddsoddi nawr i gael gwasanaethau a fydd yn fwy cynaliadwy yn y dyfodol. Fe fyddaf i'n edrych ar dri maes yn bennaf: iechyd, cyllid llywodraeth leol, ac, mewn gwirionedd, y ffordd y dylai cyllid iechyd a llywodraeth leol fod yn rhyngweithio gyda'i gilydd yn well, a'r newid yn yr hinsawdd.

Ni allaf i yn fy myw weld arwydd yn y gyllideb hon o Lywodraeth sy'n mynd i'r afael o ddifrif â'r argyfwng hinsawdd a ddatganwyd ganddi, ac a ddatganodd y Cynulliad hwn—y Senedd gyntaf yn unrhyw fan yn y byd i wneud hynny—gyda'r brys gwirioneddol y mae'n ei haeddu. Yn wir, roedd yr argoelion yn peri rhywfaint o ofid yn syth ar ôl y datganiad hwnnw gan y Llywodraeth pan ddywedodd y Prif Weinidog nad oedd ef yn credu bod datgan argyfwng yn yr hinsawdd yn bolisi newydd i'r Llywodraeth hon nac, yn wir, i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn, oherwydd mae'r egwyddorion amgylcheddol sydd wedi bod yn bwysig ar draws y Siambr hon ac ar hyd cyfnod datganoli yn cael eu crynhoi yn y penderfyniad hwnnw. Ond siawns nad oes raid i ddatganiad mor gofiadwy, os yw'n golygu unrhyw beth, gael ei weld yn drobwynt arwyddocaol. Ac er bod y Prif Weinidog, rwy'n credu, yn ddiweddarach yn yr un sesiwn, wedi dweud y byddai ef yn cefnogi rhai ymatebion arloesol i newid hinsawdd—ansawdd a rheoli dŵr, diogelu bioamrywiaeth a chynefinoedd lleol unigryw ac yn y blaen—y gwir amdani yw, os ydym ni'n dymuno camu ymlaen o ddifrif yn ein penderfyniad ni i fynd i'r afael â'n cyfrifoldebau amgylcheddol, fe ddylid gweld yr edefyn hwnnw'n rhedeg yn amlwg drwy'r gyllideb hon i gyd, ond nid yw hynny i'w weld.

Rwyf eisoes wedi crybwyll fod yna gynnydd mewn cyllidebau adrannol yn gyffredinol. Ond o edrych ar gyllideb yr amgylchedd, ynni a materion gwledig, y cynnydd mewn termau gwirioneddol yw 0.7 y cant yn unig—rwy'n credu bod Mike Hedges o'r meinciau Llafur wedi mynd ar ôl y Gweinidog mewn cyfarfod arbennig o'r Pwyllgor Cyllid cyn y Nadolig ynglŷn â'r mater hwn. A chan edrych ar wariant cyfalaf, gan ymrwymo £140 miliwn yn unig i brosiectau amgylcheddol fel y £29 miliwn a glustnodwyd ar gyfer bysiau trydan, er enghraifft, er bod hynny i'w groesawu ynddo'i hun, mae'n amlwg nad yw'n mynd i hybu'r math o newid cyfeiriad y mae cynifer yn edrych tuag at y Llywodraeth am yr arweiniad arno y dyddiau hyn.

Rwy'n gofyn i'r Gweinidog: ble mae'r dystiolaeth o newid dull gwirioneddol? A oes gennych fformwla, hyd yn oed, efallai y gwnewch chi ateb hynny, i ganfod beth yw effaith penderfyniadau gwariant ym maes newid hinsawdd? A ydych chi'n gwybod hyd yn oed pa effaith y byddwch chi'n ei chael yn sgil yr elfennau o wariant ar atal newid hinsawdd sydd gennych chi yno? Ymhle mae'r dystiolaeth o newid yn niwylliant y Llywodraeth sy'n rhedeg drwy fesurau i atal newid hinsawdd, ar draws yr adrannau? Ac er bod y Llywodraeth yn dweud bod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn cael ei defnyddio fel canllaw yn ei phroses gyllidebu, ers pryd y mae deddfwriaeth wedi bod yn ddim ond canllaw? Mae atal newid trychinebus yn yr hinsawdd gymaint â phosibl, gan gynnal rhan Cymru yn y gwaith hwnnw i'r eithaf, mor ddifrifol ag y gallai fod o ran yr angen i ganolbwyntio ar fesurau ataliol yn hytrach na dim ond ar reoli gwariant tymor byr. Ac yn union fel y mae'r gyllideb hon yn ddiffygiol o ran ei phwyslais ar yr ataliol o ran yr amgylchedd, rwy'n credu ei bod hi'n parhau yn druenus o ddiffygiol o ran gwariant ataliol mewn meysydd eraill hefyd. Fe wnes i gyfarfod ag aelodau o Gymdeithas Genedlaethol y Prifathrawon, amser cinio heddiw, fel y gwnaeth Aelodau eraill hefyd, fe wn. Roedden nhw'n tynnu sylw at gynnydd annigonol, yn eu barn nhw, o ran addysg, ac yn enwedig o ran anghenion dysgu ychwanegol. Rwyf i'n cytuno: mae gan ariannu ysgolion arbennig yn ddigonol, er enghraifft, botensial ataliol enfawr o ran cyllidebau addysg ehangach, o ran gofal cymdeithasol, a hyd yn oed o ran y gyllideb iechyd. Rwy'n gofyn, os caf i, ar hyn o bryd, pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei wneud o'r symiau canlyniadol a allai ddod i Gymru yn sgil y cyhoeddiadau diweddar ar wariant ar gyfer addysg gynradd yn Lloegr yn benodol? Dyna gwestiwn sy'n dod yn uniongyrchol oddi wrth gynrychiolwyr yr NAHT wrth iddyn nhw wneud cais am gyllid newydd ar gyfer y sector hwn.

Ond fe drof i at iechyd nawr, os caf i.

Mae'n gonsyrn difrifol i fi bod agwedd y Llywodraeth yma at gyllido iechyd yn canolbwyntio gormod ar y swm o arian sydd yn mynd i'r NHS heddiw, er mor bwysig ydy hynny, wrth gwrs, a dim digon ar sut i wneud gwasanaethau iechyd a gofal yn fwy cynaliadwy yn yr hirdymor. Mae yna fwriad i gynyddu'n sylweddol yr arian refeniw sy'n mynd i iechyd, ac ar yr arwyneb, pwy fyddai'n anghytuno efo hynny?

Y broblem, wrth gwrs, ydy bod y rhan fwyaf o'r holl arian ychwanegol sydd ar gael ar gyfer 2020-21 yn mynd i'r NHS—cynnydd o £341 miliwn, 2.6 y cant mewn termau real. Gallwn ni ddim anwybyddu'r ffaith bod cynyddu'r gyllideb iechyd o hyd ar draul meysydd eraill yn gwanhau'r meysydd hynny, ac mae hynny, yn ei dro, yn gallu ychwanegu at gostau'r NHS yn y pen draw—mae o'n gylch dieflig. Yn wir, mae gwariant iechyd wedi cynyddu drwy'r blynyddoedd o lymder o ryw 16 y cant mewn termau real, tra bod cyllidebau eraill wedi gostwng tua'r un faint. Os cariwn ni ymlaen heb wneud y buddsoddi, a heb wneud penderfyniadau polisi arloesol, ataliol fel y dylem ni rŵan, parhau i gynyddu gwnaiff y darn o gacen gyllidol sydd angen ei roi i iechyd, a rŵan, siawns, wrth i'r cyfyngiadau ariannol lacio rhywfaint, ydy'r amser i wneud y math yna o newid arloesol.

Felly, pan dwi'n gweld symiau pitw yn cael eu clodfori yn y gyllideb, yn y datganiad ar 16 Rhagfyr—£2.7 miliwn i helpu plant cynradd i fod yn heini ac iach; £5.5 miliwn i raglen Pwysau Iach, Cymru Iach; pan mae diabetes, a llawer ohono fo yn gysylltiedig â gordewdra, yn costio rhyw 10 y cant o holl gyllideb yr NHS—gallaf i ddim peidio â meddwl, er enghraifft, ein bod ni'n colli tric enfawr mewn methu buddsoddi arian iechyd a lles mewn isadeiledd gweithgarwch corfforol a chwaraeon er mwyn ein gwneud ni'n genedl iachach yn yr hirdymor.

Dwi'n gweld cyfeiriadau at ryw £190 miliwn ar fesurau iechyd ataliol yn y gyllideb yma. Mae hynny ond ychydig dros 2 y cant o gyfanswm y gwariant ar iechyd. Mae'n rhaid i'r geiriau cynhesach sydd y dyddiau yma ar yr agenda ataliol gael eu match-io efo arian hefyd. Mae'r un peth yn wir am iechyd meddwl, lle mae yna dal diffyg gwariant ataliol yn y gyllideb yma, dwi'n meddwl, yn enwedig ar bobl ifanc. Hefyd, wrth gwrs, dŷn ni'n methu meddwl yn yr hirdymor drwy barhau i beidio â chefnogi'n ddigonol y ddarpariaeth gofal cymdeithasol a gofal sy'n cael ei ddarparu gan ein hawdurdodau lleol ni. Oes, mae yna gynnig i gynyddu cyllidebau llywodraeth leol i ryw £184 miliwn, ond mi oedd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ei hunain yn dweud y byddai angen £254 miliwn, a hwnnw i sefyll yn llonydd. Mae'r costau yn gysylltiedig â chyflogau'n pwyso yn drwm, mae'r pwysau'n dod o wasanaethau cymdeithasol a gwasanaethau plant hefyd wedi cynyddu yn arw, a dŷn ni'n gwybod os ydy llywodraeth leol ddim yn cael y gefnogaeth angenrheidiol ar gyfer darparu gofal cymdeithasol, yr NHS sydd yn talu yn y pen draw—cylch dieflig unwaith eto.

Mi allwn i fynd ymlaen i sôn am gymaint o feysydd lle mae rheolaeth fyrdymor yw'r thema yma yn hytrach nag arloesedd hirdymor. Felly, yr iaith Gymraeg, fel enghraifft arall. Dŷn ni i gyd yn gallu cytuno ynglŷn â'r nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg. Pam felly gostwng y gyllideb i'r iaith Gymraeg yn benodol?

Llywydd, er ein bod ni wedi clywed heddiw bod disgwyl cyllideb gyntaf y Llywodraeth Geidwadol newydd ar 11 Mawrth, gwnaf sylw am hynny yn sydyn—enghraifft arall ydy ohonom ni'n gorfod newid ein trefniadau ni oherwydd mympwyon Llywodraeth San Steffan. Cyllideb yn y fan honno'n penderfynu ar wariant yn fan hyn ar ôl i ni gwblhau'r broses gyllidol yn fan hyn. Mae yna ffordd amgen i ddelio â hyn, drwy gymryd y cyfrifoldeb ein hunain. Ond dŷn ni'n gwybod, oherwydd rhagolygon am arafu yn yr economi, addewid i beidio â chynyddu treth incwm, yswiriant gwladol na threth ar werth, ac ati, sgôp bychan sydd yna i gynyddu gwariant cyhoeddus ymhellach. Mae'r ansicrwydd economaidd ynghlwm â gadael yr Undeb Ewropeaidd yn rhan o'r broblem, wrth gwrs.

Ond i gloi, dydyn ni ddim heddiw yn sôn am gynigion gan y Llywodraeth i newid cyfraddau trethiant yng Nghymru, ond efo'r pwrs cyhoeddus yn debyg o fod o dan bwysau sylweddol a chynyddol i ddarparu'r mathau o wasanaethau y mae pobl yn eu mynnu, a hynny mewn cyd-destun economaidd ansicr, mae'r drafodaeth ar sut gallwn ni ddefnyddio'n pwerau trethiant cyfyngedig yn mynd i orfod dod, dwi'n meddwl, yn elfen mwy amlwg o drafodaethau cyllideb mewn blynyddoedd i ddod.

15:55

Rwy'n llongyfarch y Gweinidog Cyllid ar ei chyllideb a'r broses a ddefnyddiwyd ganddi. Rwy'n nodi, yn union o'r hyn y mae Rhun newydd ei ddweud, fod ei sylwadau'n weddol fwyn wrth geryddu Llywodraeth y DU am y newidiadau yn amseriad ei chyllidebau a'r modd y cafodd hynny ei gyfathrebu. Mae'n gwrthgyferbynnu â'r hyn a glywsom ni'n gynharach yn Senedd yr Alban, lle mae'n ymddangos y cafwyd ffrae wirioneddol ddifrifol ynghylch yr amharch llwyr i Senedd yr Alban, mae'n ymddangos, a'r risgiau difrifol a thrychinebus y bydd y newid mewn amseriad yn arwain atynt. Mae'n ymddangos eu bod nhw'n disgwyl i'w cyllideb nhw ddod ar ôl un y DU ond cyn 11 o fis Mawrth, sef eu dyddiad cyfreithiol nhw ar gyfer ariannu llywodraeth leol. Felly, ni wn yn iawn sut y maen nhw'n mynd i ddatrys hynny, ond ymddengys bod yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yn y fan hon yn fwy synhwyrol ac yn llai o ddrama na'r hyn yr ydym ni'n ei weld yn y fan honno.

Sylwaf fod y Gweinidog Cyllid yn dweud y bydd yn darparu'r sicrwydd a'r sefydlogrwydd y mae ar wasanaethau cyhoeddus Cymru eu hangen nhw drwy wneud hyn, ac yna fe gawn ni gyllideb y DU ar 11 o fis Mawrth. Gan ei bod hi'n dod â'r £125 miliwn o gronfa wrth gefn Cymru, a gaf i ofyn, a yw hwnnw'n ddull gweithredu safonol wrth symud ymlaen neu a yw hynny wedi ei ysbrydoli gan ei gwybodaeth hi bod cyllideb y DU am ddod yn ddiweddarach ac, efallai, yn disgwyl y bydd symiau canlyniadol Barnett pellach i ddod i'r amlwg ar ôl 11 o fis Mawrth?

Rwyf wedi beirniadu'r Gweinidog Cyllid o'r blaen am ei phwyslais hi ar gwyno am gyni pan nad yw'n cwyno am Brexit. Fe gawsom ni dipyn yn llai o hynny heddiw. Ond fe wnes i nodi neges drydar gan adran wleidyddiaeth BBC Cymru am 11 o'r gloch neithiwr yn dweud,

Rhaid i Lywodraeth y DU ysgwyddo'r cyfrifoldeb, meddai @fmwales,

ac fe wnes i glicio drwyddi i weld pa stori yr oedd yn cyfeirio ati neu beth oedd yn credu y dylen nhw fod yn cymryd cyfrifoldeb amdano, ac nid oedd yna unrhyw stori y tu ôl iddi. Dim ond sylw cyffredinol o berthnasedd oedd hwn. Nid oeddwn i'n yn siŵr at beth yr oedd yn ceisio cyfeirio.

Ond rwy'n credu mai'r hyn y mae pobl Cymru yn awyddus i'w glywed yw'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud gyda'r dulliau sydd ar gael iddi. Wrth gwrs, nid yw'r holl ysgogiadau ganddi hi. Wrth gwrs, cafwyd cyfnod o wariant cyhoeddus a oedd yn llai na'r trywydd cwbl anghynaladwy a oedd yn ei ddilyn o'r blaen, ond o ystyried y defnydd sydd gennym ni, sut ydym ni am ei dorri a beth yw ein blaenoriaethau ni? Ac rwy'n siŵr imi weld golwg braidd yn hiraethus ar wyneb y Prif Weinidog o ran y gyllideb y mae ei Weinidog Cyllid ef yn ei chyflwyno, sy'n rhoi llawer mwy o arian i lawer mwy o wahanol feysydd nag y llwyddodd ef i'w wneud pan oedd yn y swydd honno.

Credaf fod angen inni edrych nid yn unig ar y gymhariaeth â 2010, y mae'r Gweinidog Cyllid bob amser mor awyddus i'w wneud, ond ar beth yw'r cynnydd yr ydym ni'n ei weld y flwyddyn hon. Mae yna gwyno am y £36 miliwn neu'r £50 miliwn nad yw'n dod drwodd ar gyfer pensiynau. Ond ymhle yn y datganiad hwn y mae cyfeiriad at yr hyn fydd swm canlyniadol cyffredinol Barnett, yr arian ychwanegol sydd gennym ni i'w wario yng Nghymru'r flwyddyn nesaf oherwydd y penderfyniadau a gymerwyd gan Lywodraeth y DU a chan y gwelliant cymharol yn yr economi o'i gymharu â'r trywydd anghynaladwy yr oeddem ni arno o ran gwariant o'r blaen?

Nid wyf i'n gweld yn y gyllideb hon yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei gyfleu am ei blaenoriaeth graidd, yn enwedig o ran y meysydd mwyaf  o wariant. Rydym yn clywed llawer o gondemnio gan y Ceidwadwyr, ond roeddwn i'n teimlo, ychydig o flynyddoedd yn ôl, o leiaf, fod rhywfaint o gysondeb o fewn beirniadaeth y Ceidwadwyr o wariant Llywodraeth Cymru, a oedd, o'i gymharu â Lloegr, wedi torri'r gwariant ar iechyd. Fe welais i ymateb y Prif Weinidog i'r awgrym fod toriad wedi bod, ond, yn sicr, o'i gymharu â Lloegr, yng Nghymru rydym ni neu Lywodraeth Cymru wedi dewis gweithredu cyni drwy fod yn llai hael gydag iechyd a bod yn fwy hael gyda llywodraeth leol na'r hyn sydd wedi digwydd yn Lloegr. A dyna'r gyllideb a'r penderfyniad ariannol mwyaf a gafodd ei wneud o bell ffordd. Eto i gyd, y flwyddyn hon, pan ddaw'r cyfyngiadau i ben, pan fydd gennym ni arian sylweddol i'w ddosbarthu, mae'r swm a drosglwyddir yn ganrannol bron yr un faint i iechyd ac i lywodraeth leol. Felly, o hynny, ni allaf i benderfynu ymhle y mae blaenoriaethau Llywodraeth Cymru. Ac rwy'n sylwi bod gostyngiadau wedi bod, ond mae'r gostyngiadau sydd wedi cael eu gwneud o ran llywodraeth leol yn Lloegr yn fwy o lawer na'r rhai sydd wedi cael eu gwneud o ran llywodraeth leol yng Nghymru. Rwy'n gofyn a oes yna gyfleoedd pellach i sicrhau arbedion effeithlonrwydd yng Nghymru sydd wedi cael eu gwneud yn Lloegr. Rwy'n derbyn y sylwadau a wneir ynghylch gofal cymdeithasol a'r rhyngweithio â'r GIG.  Credaf ei fod yn sylw teg, ond nid yw'n esbonio'r holl wahaniaeth yn y dull a ddefnyddiwyd.

Ac fe fyddwn i'n gofyn pam, yng Nghymru, y mae cynghorwyr yn cael eu talu, rwy'n credu, £13,868 eleni? Y flwyddyn nesaf, a fydd hynny'n fwy na £14,000? Pam nad yw'r cynghorau'n cael gwneud arbedion yn y maes hwnnw? Pan oeddwn i'n gwasanaethu yn fy nghyngor lleol yn Lloegr a oedd yn wynebu gostyngiadau mawr mewn gwariant oherwydd cyni, un o'r pethau cyntaf a wnaed oedd torri lwfansau cynghorwyr yn llawer is na'r rhai sydd gennym ni yng Nghymru. Eto i gyd, mae gennym ni 22 o gynghorau o hyd, ac rydym yn dal i fod â nifer llawer mwy o gynghorwyr sy'n cael swm sylweddol iawn o arian. Onid yw hwnnw'n faes lle dylem ni fod yn chwilio am arbedion ynddo?

Mae'r Llywodraeth yn sôn llawer am flaenoriaethu newid hinsawdd. Rwy'n cofio cyllideb gyntaf y Cynulliad hwn, lle'r oeddwn i'n gwisgo sawl het, ac fe gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ostyngiadau sylweddol iawn yn ei gwariant ar brosiectau newid  hinsawdd. Yr hyn yr wyf yn ei ofyn i'r Prif Weinidog a'r Gweinidog Cyllid yw: a gawn ni wybod, er mwyn gallu cymharu, faint y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei wario nawr o'i gymharu â'r hyn yr oedd yn ei wario bryd hynny? Gallaf gofio'r fanllef o brotest, a chafodd cyfran fechan o'r toriadau hynny eu hepgor. Ble rydym ni arni nawr o'i gymharu â phryd hynny, ac a allwn ni geisio ystyried hynny ar sail gymaradwy, o ran cyfalaf a refeniw fel ei gilydd?

Roeddwn i'n teimlo bod Rhun wedi gwneud sylw da iawn ynghylch blaenoriaethu gwariant ar newid hinsawdd, ac rwy'n pryderu'n fawr nad ydym yn gwybod beth fydd budd cymharol y gwahanol fathau o wariant. Felly, rydym wedi cael buddsoddiad mewn teithio llesol, yn y fflyd o fysiau trydan, dulliau o adeiladu tai; beth yw'r enillion cymharol o ran yr effaith y gallwn ei chael o ran gollyngiadau yn sgil gwariant yn y meysydd amrywiol hyn? Bysiau trydan—fe fyddwn i wrth fy modd yn gweld mwy ohonyn nhw, yn anad dim oherwydd yr effaith ar ansawdd aer, ond maen nhw'n ddrud iawn, a cheir tystiolaeth weddol dda fod inswleiddio cartrefi ac edrych ar yr effeithlonrwydd ynni yn ffordd effeithiol iawn o leihau allyriadau gyda gwariant cymharol fychan. Ond mae gennym ni'r goedwig genedlaethol hon i Gymru—mae'n swnio'n beth rhagorol, rydym ni'n gwario swm penodol ar hynny, rydym ni'n gwario swm penodol ar blannu coed yn Uganda hefyd. Beth yw'r enillion cymharol o wariant yn y meysydd hynny? Siawns na ddylai Llywodraeth Cymru fod yn buddsoddi mewn ymchwil i geisio deall hynny, gan edrych ar yr arferion gorau mewn mannau eraill, ac o wneud y cymariaethau hynny, wybod bod yr arian, o leiaf, yn cael ei wario yn y ffordd fwyaf effeithiol posibl, yn hytrach nag ystyried ei wario ar ymgyrch gyfathrebu fel y gallwn ni ymgyrchu yn ôl i'r rhai sy'n ymgyrchu inni wneud mwy dros newid hinsawdd. Yr hyn y mae angen inni ei wneud yw ystyried pa fesurau sydd fwyaf effeithiol ar gyfer y swm o arian sydd ar gael, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn gwthio i'r cyfeiriad hwnnw.

Rwy'n dymuno'n dda iddyn nhw gyda'r gyllideb, ac edrychwn ymlaen yn y Pwyllgor Cyllid ddydd Iau i edrych yn fanylach ar hyn gyda gwahanol grwpiau diddordeb, ac rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru yn cymryd sylw o'r hyn a ddywedir gan y rhain. Rwy'n gobeithio hefyd y bydd yn meithrin proses gyllidebol well a mwy effeithiol i'r dyfodol. Rwy'n credu bod y broses hon sydd gennym ni ar gyfer gwario yn Senedd Cymru yn well nawr na'r un a oedd ganddyn nhw yn San Steffan. Nid wyf wedi fy narbwyllo ei bod ar gyfer treth eto, ond rwy'n gobeithio y gall y Pwyllgor Cyllid a Llywodraeth Cymru gydweithio i edrych ar y cynlluniau tymor canolig ar y ffordd orau inni redeg cyllidebau yn y lle hwn yn y dyfodol. Diolch.

16:00

A gaf i, wrth agor fy sylwadau, ddiolch i Lywodraeth Cymru, hyd yn oed gyda'r anawsterau o fethu â llwyddo i gwblhau setliad hirdymor amlflwydd, hyd yn oed gyda'r anawsterau o orfod aros tan fis Mawrth, ar ôl inni gyflawni ein cyllideb derfynol ni, ac yna gyflwyno cyllideb atodol i gynnwys yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud—yn wyneb y cyfan, hyd yn oed, dyma'r tro cyntaf mewn degawd imi weld dau arweinydd fy nghyngorau lleol i yn gwenu? [Chwerthin.] Ac rwy'n dymuno diolch ichi am hynny, oherwydd mae wedi bod yn ddiflas iawn, ac mae wedi bod yn ddigalon oherwydd, flwyddyn ar ôl blwyddyn—roedd yn ddiddorol yn dilyn sylwadau Mark. Nid y rhyngweithiadau iechyd a gofal cymdeithasol yn unig mo'r rhain, ac rydym wedi rhoi arian i ofal cymdeithasol. Rydym wedi ei godi i £30 miliwn, rydych chi'n ei godi i £40 miliwn nawr, ac mae hynny'n rhagorol i'w weld ac yn y blaen, ac fe gaiff hynny effaith ar wariant cyffredinol ar iechyd a gofal cymdeithasol. Ond, mewn gwirionedd, y swyddogion cynllunio a'r swyddogion datblygu economaidd a'r swyddogion safonau amgylcheddol a'r swyddogion teithio llesol, ac yn y blaen—dyna'r rhai sy'n cael eu gorlethu, yn y cefndir. Nid oes llawer ohonynt i'w cael erbyn hyn. Ni chawsant eu chwalu'n llwyr, ni chollwyd un mewn 10—rwy'n tybio mai un mewn pedwar, pump, chwech, saith o bob 10 sydd wedi mynd erbyn hyn.

Felly, mae hyn yn gyfle nawr o leiaf i arweinwyr yr awdurdodau lleol godi eu pennau a meddwl nid yn unig am ofal cymdeithasol, ond gofyn yn gyffredinol, 'Beth yw'r blaenoriaethau ar hyn o bryd, wrth symud ymlaen?' Mae'n dal i fod yn anodd, oherwydd, er gwaethaf hyn, rydym ni'n dal i fod mewn cyfnod anodd iawn. Rydym yn mynd i'r afael â phethau ar ôl 10 mlynedd o doriadau diddiwedd mewn awdurdodau lleol. Nid yw'n fater o agor y llifddorau yn sydyn a disgwyl i bopeth lifo; mae pethau wedi mynd ar goll yn y cyfnod yna, yn y degawd hwn o gyni. Ond rwy'n cael sgyrsiau gwirioneddol ddiddorol nawr gydag arweinwyr cynghorau ynghylch meysydd i fuddsoddi ynddyn nhw, yn hytrach na gofyn 'O ble y cawn ni £30 miliwn arall o doriadau, neu hyn, y llall neu'r arall, yn yr awdurdod lleol?'

Ond rwyf i am fyfyrio hefyd, yn fy sylwadau agoriadol, ar y ffaith ein bod ni'n anghofio weithiau beth yr ydym ni wedi llwyddo i'w wneud hyd yn oed yn y cyfnod anodd hwn, y degawd hwn o gyni y buom ynddo. Rydym wedi gallu cyflawni rhai ymrwymiadau sylweddol a gyflwynwyd gennym ym maniffesto 2016. Rydym wedi cyflwyno ychydig yn llai na £600 miliwn i ariannu prentisiaethau o ansawdd, yn wir, 100,000 o brentisiaethau o ansawdd, yng Nghymru. Fe wn i fod hynny'n digwydd yn fy etholaeth i gyda chyflogwyr lleol, lle'r wyf i'n siarad â phobl ifanc neu bobl ar ochr y caeau chwarae sy'n dweud, 'Mae gan fy nghrwt i waith mewn prentisiaeth dda i lawr y ffordd mewn gweithgynhyrchu oherwydd y cyllid hwnnw a roddodd Llywodraeth Cymru, ein Llywodraeth ni yng Nghymru.'

Ynglŷn â'r ardrethi—fe wn i nad yw'r rhyddhad ardrethi ar fusnesau bach yn cyrraedd pob man, ond, rwy'n dweud wrthych chi, ei fod yn mynd ffordd bell mewn cymunedau fel Pontycymer a Bro Ogwr a hyd yn oed ym Maesteg. Nid stryd fawr y Bont-faen ydyn ni, nid stryd fawr Trefynwy. Ni yw'r rhai lle ceir trosiant isel ac ni ddaw cymaint â hynny o bobl i siopa, a dyma'r rhai sy'n cael budd o'r eithriadau hyn yr ydym ni wedi gallu eu rhoi. Dyma nhw. Dyna pam maen nhw'n gallu parhau i fasnachu. Oherwydd, a bod yn onest, dydy nhw byth yn mynd i allu ennill $1 miliwn, ar y strydoedd hyn, ond yr hyn y maen nhw yn ei wneud yw rhoi gwasanaeth lleol gwirioneddol dda, gwerthiant lleol, cefnogaeth leol yn y stryd fawr honno ar gyfer stryd fawr leol sy'n hyfyw, ac mae'r cymorth o ychydig yn llai £600 miliwn ar gyfer ardrethi busnes wedi bod yn help gwirioneddol.

A hefyd y £100 miliwn sydd wedi mynd tuag at safonau ysgolion, gan wella safonau ysgolion—mae yna chwyldro tawel yn digwydd yma ym myd addysg yng Nghymru, ac rydym wedi llwyddo i wneud hynny ac roedd hynny'n rhan o'n hymrwymiad ni.

Ac wrth gwrs y gronfa triniaethau newydd—£80 miliwn i'r gronfa triniaethau newydd. Erbyn hyn, mae hyn yn cwtogi amseroedd aros am gyffuriau newydd o 90 diwrnod, fel yr oedd, i ddim ond 10 diwrnod. Ac rwy'n awyddus i sôn yn fyr am un maes lle'r hoffwn i ein gweld ni'n mynd ymhellach hefyd. Ydym, rydym wedi cyflwyno £200 miliwn ar gyfer darparu gofal plant i rieni sy'n gweithio. Rydym wedi cyflawni hyn yn gynt nag y bwriadwyd. Ond, fel y dywedaf o hyd wrth y Llywodraeth, pe bai gennyf i lath hud a digonedd o arian, fe fyddwn i'n rhoi ystyriaeth i holl dirwedd y ddarpariaeth gofal plant. Mae arian yma ar gyfer Dechrau'n Deg—rwy'n cydnabod hynny. Mae arian ar gyfer mentrau eraill gyda phobl ifanc. Ond edrychwch chi ar y peth yn ei gyfanrwydd, o addysg y blynyddoedd cynnar a'r ddarpariaeth gofal plant sy'n mynd drwodd. Pe byddai mwy o arian ar gael i mi, pe byddai gennym fwy o arian yn sydyn yn y blynyddoedd nesaf, yna byddwn yn dymuno ei weld yn mynd i'r blynyddoedd cynnar hynny ac i'r plant a'r bobl ifanc hynny, y tu hwnt i'r cynnig gofal plant ond yn ehangach i hynny.

Ond rydym eisoes wedi gwneud pethau mawr o fewn y gyllideb hon. Rydym eisoes wedi edrych ar y blynyddoedd pontio allweddol hynny yn saith ac yn 11 oed, ac rydym wedi rhoi cyllid ychwanegol y tu cefn i'r rhain. Nawr, mae hynny'n mynd i wneud gwahaniaeth enfawr, oherwydd gwyddom nad Dechrau'n Deg yn unig yw hyn, nid y ddarpariaeth blynyddoedd cynnar iawn yn unig yw hyn, ond bydd hyn hefyd wrth iddyn nhw bontio wedyn i'r ysgol drws nesaf, ac wrth iddyn nhw drosglwyddo i'r ysgol fawr hefyd, fe wnaiff hynny wahaniaeth gwirioneddol.

Ac mae pethau gwych o fewn hyn hefyd. Pethau fel—. Ni fydd hyn yn cyffroi pawb, ond credaf fod y cysyniad wrth wraidd coedwig genedlaethol yn un uchelgeisiol iawn. Fe hoffwn i ddweud yn syml, wrth ei sbarduno—ac fe wn i y bydd y Gweinidog yn ymwybodol iawn o hyn—ei bod yn rhaid inni gydymffurfio â'r syniad mai honno yw'r goeden addas i'r fan honno, felly nid gweld gostyngiadau carbon yn unig yr ydym ni, rydym yn gweld enillion o ran bioamrywiaeth ar yr un pryd yn yr holl lecynnau sydd gennym ni.

Mae llawer o bethau da yn hyn, ond wrth gloi hoffwn ofyn cwpl o bethau allweddol. Roeddwn i'n siomedig o weld Darren yn llwyr ddiystyru unrhyw ddyfodol o gwbl i unrhyw arian ychwanegol o fewn gofal cymdeithasol yng Nghymru. [Torri ar draws.] Na, rwy'n ystyried bod—. Rwyf am orffen fy mhwynt. Mae'n ymddangos eich bod chi'n—. Roeddwn i'n gweld hwnnw'n gam yn ôl, oherwydd rydym wedi bod yn aros am y Papur Gwyrdd ar ofal cymdeithasol yn Llundain ers amser maith. A ydych chi'n diystyru hynny, gan ei bod hi'n swnio felly i mi, yn wir?

16:05

A gaf i wneud fy mhwynt yn gwbl glir i chi, oherwydd nid wyf i'n credu eich bod chi wedi talu digon o sylw, croesewais y buddsoddiad ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ym maes gofal cymdeithasol, ond fe ddywedais yn glir fod fy mhlaid yn dymuno gwybod pa un a oedd Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno treth gofal cymdeithasol yma yng Nghymru. Nid yw'n rhywbeth y byddem ni'n ei argymell, ac yn sicr fyddwn ni ddim yn mynd i etholiadau nesaf y Cynulliad yn ei argymell. Os hoffech chi wneud hynny, byddem yn gwerthfawrogi rhywfaint o eglurder yn ei gylch. Nid ydym wedi cael unrhyw eglurder gennych, felly rhowch rywfaint o eglurder i ni.

Wel, unwaith eto—. Llywydd, rwy'n gallu gweld bod yr amser yn drech na mi. Unwaith eto, rwy'n wirioneddol siomedig, oherwydd bod y methiant i symud ymlaen—[torri ar draws.]

16:10

Oherwydd bod methiant Llywodraethau olynol, ond gan gynnwys y Llywodraeth Geidwadol bresennol, i allu sicrhau consensws yn San Steffan yn golygu y bydd yn rhaid i ni wneud penderfyniadau llawn dychymyg, creadigol ac anodd ynghylch sut yr ydym yn ariannu nid dim ond iechyd, ond iechyd a gofal cymdeithasol gyda'i gilydd. Un o'r penderfyniadau, Darren, y bydd yn rhaid i ni ei wneud fel gwladweinwyr aeddfed cyfrifol yw pa un a ydym ni'n credu bod digon o arian yn y system i roi'r telerau a'r amodau y mae pobl yn eu haeddu ar y rheng flaen er mwyn darparu gofal cymdeithasol fforddiadwy ac o safon uchel. Nawr, os nad ydych chi'n fodlon cael y drafodaeth honno, yna mae arnaf i ofn—[torri ar draws.] Yna, mae arnaf i ofn eich bod chi'n anwybyddu cenedlaethau o bobl.

Felly, mae'n drueni bod y wleidyddiaeth wrth arwain at etholiad nesaf—[torri ar draws.] Rydych yn gwneud yn union yr un fath ag y mae Llywodraethau Ceidwadol olynol wedi ei wneud—

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Diolch. Mae'r gyllideb ddrafft wedi cyhoeddi cynnydd o fwy na £400 miliwn yn y gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol ar gyfer 2020-1, ac rwy'n amlwg yn croesawu hynny. O ystyried bod hyn yn golygu bod cyfanswm o ryw £8.7 biliwn o fuddsoddiad mewn iechyd a gofal cymdeithasol, sef bron i hanner cyllideb Cymru, felly mae'n fwy hanfodol byth bod yr arian hwn yn cael ei ddwyn i gyfrif yn briodol a'i fod yn darparu iechyd a gofal cymdeithasol effeithiol i bobl Cymru.

Fodd bynnag, mae'n rhaid i mi ddweud nad yw atebolrwydd erioed wedi bod yn gryfder i Lywodraeth Cymru. Er bod y Llywodraeth yn dweud y bydd yn canolbwyntio ar ofal cymdeithasol ac iechyd meddwl yng nghyllideb 2020-1, mae gennym y nesaf peth i ddim manylion am sut y bydd y gyllideb yn cefnogi ac yn gwella'r modd y caiff y GIG ei redeg o ddydd i ddydd.

Gweinidog, yn naratif cyllideb ddrafft 2020-1, mae Llywodraeth Lafur Cymru yn honni:

'Mae buddsoddi yn ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) a'n gwasanaethau cymdeithasol wrth wraidd ein cynlluniau gwario',

gan amlinellu bod £37 biliwn wedi'i fuddsoddi ers 2016. Ac eto, er gwaethaf yr holl fuddsoddiad hyn, mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos y perfformiad gwaethaf mewn hanes o ran amseroedd aros mewn adrannau damweiniau ac achosion brys am yr ail fis yn olynol; bu oddeutu 23,000 o gleifion yn aros am fwy na phedair awr ym mis Tachwedd 2019 a bu bron i 6,000 yn aros am fwy na 12 awr; ni chyrhaeddwyd targed ymateb gwasanaeth ambiwlans Cymru ar gyfer galwadau coch; ac nid yw Cymru wedi cyrraedd ei tharged ar gyfer 95 y cant o gleifion sy'n cael diagnosis o ganser i ddechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod ers 2008. Ie, 2008, Gweinidog. Mae'n rhaid i mi ofyn: a yw'r llwybrau canser brys a'r rhai nad ydynt yn rhai brys a unwyd yn ddiweddar i un targed 62 diwrnod yn ymarfer taflu llwch i'r llygaid? Nid yw'r targed o 95 y cant o gleifion yn aros llai na 26 wythnos i gael eu hatgyfeirio i driniaeth wedi ei gyrraedd, a dyma'r gwaethaf ers mis Medi 2017. Mae pedwar o'r saith Bwrdd Iechyd yng Nghymru mewn mesurau arbennig neu ymyrraeth wedi'i thargedu—y lefel uchaf posibl o ymyrraeth gan Lywodraeth Cymru. Ac mae gwasanaethau Betsi Cadwaladr wedi bod mewn rhyw fath o fesurau arbennig am dros bedair blynedd a hanner—yn hwy nag unrhyw fwrdd iechyd arall yn y DU, a disgwylir iddo barhau mewn mesurau arbennig yn y tymor canolig o leiaf. A chawsom y profiad Cwm Taf, a dyna'r cwbl a ddywedaf am hynny.

Felly, Gweinidog, mae Betsi Cadwaladr wedi cael bron i £83 miliwn gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cymorth ymyrryd a gwella a miliynau lawer mewn meysydd eraill. Sut byddwch chi'n sicrhau bod rhagor o arian yn cyflawni'r newidiadau sydd eu hangen yn ddybryd ar gleifion yn y gogledd? A fydd y gyllideb yn cael ei defnyddio'n syml i ateb y diffyg rhagamcanol o £35 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon? A gaiff ei wario ar fwy o ymgynghorwyr £2,000 y dydd? Byddem ni'n dwlu ar glywed yr hyn sydd gennych i'w ddweud ynghylch sut y gall yr arian hwn yn y gyllideb gefnogi Betsi Cadwaladr.

Mae prinder gweithlu, Gweinidog, hefyd yn rhemp yn y gwasanaeth iechyd. Er bod y Gweinidog iechyd yn gweithredu ar hyn o bryd, mewn ffordd gyfyng mae hynny. Rydym ni mewn argyfwng. Mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol wedi amlinellu bylchau difrifol yn y gweithlu nyrsio, gan nodi bob wythnos bod nyrsys yng Nghymru yn rhoi oriau ychwanegol i'r GIG gwerth 976 o nyrsys amser llawn. Mae hwnnw'n ystadegyn brawychus. Gwariodd GIG Cymru £63.8 miliwn y llynedd ar nyrsys asiantaeth—cynnydd sylweddol o 24 y cant. Er bod y Gweinidog iechyd wedi cyhoeddi mwy o leoedd hyfforddi i nyrsys yn ddiweddar, bydd hyn ymhell o fod yn ddigon i ateb yr hyn sydd ei angen arnom, ac nid yw'n ymdrin â nyrsys pediatrig, nyrsys ardal, nyrsys anableddau dysgu, ac nid yw'n ymdrin ychwaith â'r prinder cronig sydd gennym o weithwyr proffesiynol perthynol i ofal iechyd. O gofio bod yr holl ymdrech i ddarparu gofal iechyd yng Nghymru yn ymwneud â gwasanaethau yn y gymuned, yr hyn sydd ei angen arnom yw mwy o ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, rheolwyr gofal cronig a'r gweddill ohono. Nid oes gen i unrhyw syniad sut y bydd y gyllideb hon yn cefnogi hynny.

Felly, Gweinidog, a wnewch chi amlinellu i ni sut y byddwch chi'n sicrhau bod y gyllideb yn cefnogi'r cynllunio gweithlu hwnnw, a sut y bydd yn sicrhau, yn ogystal â recriwtio'r staff sydd eu hangen arnom ni heddiw, ein bod hefyd yn hyfforddi'r niferoedd priodol ar gyfer yfory? Mae'n rhaid i mi ddweud y byddai'n esgeulus i mi beidio â thynnu sylw at y ffaith fod 42 y cant o feddygon teulu yn dweud ei fod yn anghynaliadwy yn ariannol i redeg practis. Pan ofynnwyd pam mae rhedeg practis yn anghynaliadwy, dywedodd 82 y cant o feddygon teulu nad oes digon o arian craidd. Gweinidog, a wnewch chi ddweud wrthyf i sut y bydd y gyllideb hon yn cefnogi'r meddygon teulu? Oherwydd ni allwn fforddio colli unrhyw un ohonyn nhw.

Nawr, o ran y gweiddi ar draws arferol o'r meinciau cefn, mae gen i restr faith iawn, mewn gwirionedd, y byddwn i'n hynod hapus i'w rhannu—rywbryd arall, gan fod fy amser bron ar ben—gyda'r Gweinidog iechyd, o'r hyn y byddai'r Ceidwadwyr Cymreig yn ei wneud. Mae gennym ni restr hir a chlir iawn o sut y byddem ni yn cefnogi ein GIG a'n gwasanaethau cymdeithasol.

Hoffwn i gloi ar un nodyn cyflym iawn, am ofal cymdeithasol. Mae'n un o'r heriau mwyaf yr ydym ni'n eu hwynebu. Mae gennym ni ateb clir iawn ynghylch sut y gallwn ni wneud hynny. Efallai na fydd yr un fath â'r ffordd yr ydych chi'n meddwl y dylem ni ariannu a rheoli gwasanaethau cymdeithasol, ond mae gennym ni gynllun ac mae wedi ei nodi'n glir iawn ym maniffesto'r Ceidwadwyr. Felly, yn hytrach na dim ond gweiddi a sgrechian a dweud nad oes gennym ni unrhyw syniad, ac nad oes gennym ni gynllun, a gaf i anfon copi o'n maniffesto i'ch swyddfa, Mr Irranca-Davies? A gobeithio y bydd yn taflu rhywfaint o oleuni i chi.

16:15

Yn sicr, ni fyddaf yn cymryd amser y Siambr drwy ailadrodd pwyntiau y mae pobl wedi'u gwneud, ond hoffwn ymhelaethu arnyn nhw, ac rwy'n credu bod angen i mi ddechrau trwy ddweud bod llawer ym mholisi Llywodraeth Cymru sy'n anhygoel o anodd anghytuno ag ef mewn gwirionedd. Yn sicr, nid ydym yn anghytuno ag ymrwymiadau yn ymwneud â newid yn yr hinsawdd, ac yn sicr nid ydym yn anghytuno â'r polisïau sy'n ymwneud â gofal iechyd darbodus, ond cefais fy magu bob amser i edrych ar yr hyn y byddai pobl yn ei wneud yn hytrach na'r hyn yr oedden nhw'n ei ddweud. Ac mae yna ddywediad yn y Gymraeg, onid oes, 'Diwedd y gân yw'r geiniog'? A'r hyn sy'n peri rhwystredigaeth, fel y mae Rhun ap Iorwerth eisoes wedi ei nodi, yw i ba raddau y mae gennym ni Lywodraeth sydd weithiau'n gallu cyflwyno polisi sy'n swnio'n arloesol, ond sydd wedyn yn methu â gwneud y pethau mwyaf sylfaenol i sicrhau bod y polisi hwnnw yn digwydd. Hoffwn i ddweud ychydig mwy i ymhelaethu ar yr hyn y mae Rhun wedi ei ddweud, ac i raddau i gefnogi'r hyn y mae Angela Burns newydd ei ddweud am y gyllideb iechyd a gofal cymdeithasol.

Mae'n ddiffiniad ystrydebol o wallgofrwydd i ddal ati i wneud yr un peth a disgwyl cael canlyniad gwahanol. Nawr, nid oes neb yn mynd i gwyno am wariant ychwanegol ar iechyd, ond oni bai ein bod yn chwalu'r gweithio ar wahân rhwng iechyd a gofal cymdeithasol, bydd y pwysau hynny'n codi dro ar ôl tro. Rwy'n siŵr nad yw'n syndod i Lywodraeth Cymru bod y gaeaf yn dod bob blwyddyn, a'n bod yn canfod ein hunain bob blwyddyn, un ffordd neu'r llall—weithiau mewn un bwrdd iechyd, weithiau mewn un arall—mewn argyfwng gwirioneddol. Dyma beth sydd gennym ni yn Hywel Dda. Rydym ni newydd gael y datganiad i'r wasg heddiw yn dweud eu bod yn parhau i ohirio llawdriniaethau nad ydynt yn hanfodol. Nawr, os nad ydym yn gwneud dim mwy na pharhau i bentyrru mwy o adnoddau i'r gyllideb iechyd ei hun—a gallaf weld pam mae hynny'n demtasiwn i'r Llywodraeth, oherwydd, wrth gwrs, mae honno'n gyllideb maen nhw yn ei rheoli; wel, y dylen nhw ei rheoli—os byddwn yn parhau i wneud hynny, ni fyddwn yn newid y problemau sylfaenol. Rydym ni ym Mhlaid Cymru wedi gwneud rhywfaint o waith ymchwil i hyn, ac am £470 miliwn y flwyddyn, sy'n swnio yn arian mawr, ond o gyllideb iechyd o £8 biliwn, nid yw'n fawr ddim, gallem ni ddarparu gofal cymdeithasol am ddim yn y wlad hon i bawb sydd ei angen. Nawr, oni fyddai hynny'n gam tuag at ryddhau'r broblem honno sydd gennym ni lle nad yw pobl yn gallu mynd i mewn i'r lleoliadau gofal sydd eu hangen arnynt? [Torri ar draws.] Rwyf yn fodlon iawn i dderbyn ymyriad.

Diolch ichi am hynna, Helen Mary. Rwy'n credu bod hynna'n swnio'n sylw diddorol iawn yr ydych chi newydd ei wneud, a byddai gen i ddiddordeb mawr mewn trafod hynny ymhellach gyda chi, oherwydd mae angen i ni ddod o hyd i ateb i hyn. Mae gennych chi un ffordd o ddatrys y mater hwn, rydym ni wedi dod o hyd i ffordd arall, rwy'n siŵr bod gan Lafur—yn rhywle—ffordd arall, ac efallai bod hynny'n rhywbeth y gallwn ni i gyd ddod at ein gilydd i'w drafod.

Wel, wrth gwrs, dywedodd y Gweinidog iechyd a gwasanaethau cymdeithasol wrthym y byddem yn clywed ganddo am ei gynlluniau hirdymor ar gyfer gofal cymdeithasol yn ôl yn yr hydref. Efallai nad oes gen i afael ar y Gymraeg, ond nid wyf i'n credu bod mis Ionawr yn yr hydref. Ond, yr hyn rwyf yn cytuno ag Angela Burns yn ei gylch—ac rwy'n credu, mae'n debyg, y byddem yn cael cytundeb ar draws y Siambr—yw bod angen i ni ddatrys y broblem hon yn y tymor hir, ac y byddwn yn gwneud hynny orau os gallwn ni siarad â'n gilydd ac, yn bwysig iawn, gwrando ar ein gilydd, gwrando ar y bobl sy'n darparu gwasanaethau, a gwrando ar y teuluoedd y mae eu hangen arnyn nhw.

Ond, wrth gwrs, fel y mae Rhun wedi ei ddweud, o ran atal pobl rhag mynd yn sâl yn y lle cyntaf, nid y gwasanaeth iechyd yw'r lle i wario'r arian, ac mae'n troi'n gylch dieflig. Os nad ydym yn gwario digon ar dai, os nad ydym yn gwario digon ar y darnau cywir o addysg, os na fyddwn yn newid polisi addysg i'w gwneud yn orfodol, fel yr argymhellodd y pwyllgor, i blant ysgolion cynradd, er enghraifft, wneud nifer penodol o oriau o ymarfer corff bob dydd, bob wythnos, byddwn yn parhau i ddod o hyd i bobl sydd â'r problemau diabetes, â'r holl broblemau iechyd eraill. Felly, mae'n rhaid i ni edrych mewn ffordd radical ar y ffordd y caiff ein harian ei wario.

Nawr, nid wyf i'n awgrymu am eiliad, Llywydd, fod hyn yn hawdd. Mae'n un o'r pethau anoddaf yn y byd i wneud i arian ddilyn polisi; mae pawb yn gwybod hynny. Ond, fel y mae Rhun eisoes wedi ei ddweud, mae hwn yn gyfle lle mae rhywfaint o gyfle i anadlu. Pa mor gynaliadwy y bydd y cyfle i anadlu hwnnw, nid ydym yn gwybod eto, ond mae'n wirioneddol siomedig nad ydym ni'n gwybod ar draws portffolios sut y mae blaenoriaethau allweddol yn mynd i gael eu cyflawni.

Hoffwn i ofyn yn benodol i'r Gweinidog heddiw sut y cafodd yr holl bolisïau ar draws yr holl bortffolios eu prawfesur yn unol â'r nodau cynaliadwyedd, nid yn unol â'r hyn rwy'n credu y cyfeiriwyd ato fel 'arweiniad'. Mae hyn yn gyfraith. Dyma'r hyn sydd i fod i lywio pob polisi. Ac rwy'n ceisio peidio â bod yn amheus ynghylch yr hyn a ddylai fod yn ddarn o ddeddfwriaeth arloesol, ond oni bai wrth basio'r ddeddfwriaeth arloesol honno bod y cyllid yn dilyn wedyn, byddwn ni'n mynd i drafferthion.

Pa effaith a gafwyd? Pa asesiad o'r effaith ar hawliau plant a wnaed yn y gyllideb hon ar draws portffolio? Ceir rhywfaint o arian ychwanegol sydd i'w groesawu'n uniongyrchol ar gyfer plant a phobl ifanc, wrth gwrs mae hynny'n newyddion da, ond a ydym ni wedi asesu sut y bydd y gwariant ar ddatblygiad economaidd yn dylanwadu ar blant a phobl ifanc? A ydym ni wedi asesu sut y bydd gwariant ar drafnidiaeth yn dylanwadu ar blant a phobl ifanc ar adeg pryd y gwyddom fod pobl ifanc yn cael trafferth i gael cludiant priodol i'r ysgol yn rhai o'n cymunedau?

Mae hyn yn siomedig. Mae hwn yn gyfle sydd wedi'i golli. Ond, os gwelwch yn dda, gadewch i ni beidio â chael rhagor o'r rhain. Mae gan y Llywodraeth y syniadau cywir weithiau. Mae'n ymddangos mai'r diffyg sydd ganddyn nhw yw'r dewrder i'w rhoi ar waith.

16:20

Rydym ni wedi cael cadarnhad gan Lywodraeth Geidwadol San Steffan mai polisi gwleidyddol ac nid economaidd oedd cyni cyllidol. Rydym ni'n gweld twf gwirioneddol yn yr arian sydd ar gael ar gyfer cyllideb Cymru tra bod economi Prydain yn parhau i aros yn ei hunfan. Mae'n rhaid croesawu'r twf mewn termau real yn yr arian sydd ar gael. Rwy'n credu bod yn rhaid croesawu unrhyw gynnydd mewn twf gwirioneddol. Byddai'n anfoesgar i beidio â gwneud hynny.

Rwy'n siomedig nad yw'r Ceidwadwyr na Phlaid Cymru wedi llunio cyllideb amgen, ac nid yn unig tynnu sylw at eu blaenoriaethau, oherwydd bu gennym ni lawer o flaenoriaethau—[torri ar draws.]

Gallwn i roi dewis arall i chi. Mi wnaf i roi dewis arall i chi: byddwn i'n cymryd arian o gyllideb yr economi a byddwn i'n ei roi yn y gyllideb amgylcheddol a byddwn i'n ei roi yn y gyllideb addysg. Dim ond newidiadau pen uchaf yr wyf i'n gofyn i chi eu gwneud. Ond, rwy'n credu, lle byddech chi'n tynnu arian i ffwrdd—. Oherwydd bod yn rhaid i chi dynnu arian o rywle i'w roi yn rhywle arall.

A gaf i ddechrau gyda chais sy'n hawdd iawn? A gawn ni'r £1 miliwn yn ôl ar gyfer nofio am ddim i'r rhai dros 60 oed? Dywedir wrthyf fod hyn wedi dilyn adolygiad annibynnol a oedd yn ei argymell. A wnaiff y Llywodraeth yn awr dderbyn bod yr adolygiad annibynnol o nofio am ddim i'r rhai dros 60 oed yn anghywir ac ailgyflwyno'r arian? Mae'r gred mewn anffaeledigrwydd adolygiadau ac arolygwyr annibynnol yn peri pryder mawr i mi—nad yw'r bobl hyn yn anffaeledig. Mae hwn yn arian sy'n ddefnyddiol iawn gan ei fod yn annog pobl i fynd allan a gwneud ymarfer corff—y bobl dros 60 oed—ac yn eu cadw allan o'r ysbyty.

Rwy'n croesawu'r twf mewn termau real yn y gyllideb ar gyfer iechyd a gwasanaethau cymdeithasol, ond rwy'n ofni, os caiff ei roi i fyrddau iechyd, sy'n amrywio o'r hyn sy'n gamweithredol ar ei orau i'r hyn sy'n methu ar ei waethaf, na welwn ni fawr o welliant mewn perfformiad iechyd er gwaethaf y twf mewn termau real mewn gwariant. Mae rhai problemau iechyd yn amlwg iawn: gwasanaeth gofal iechyd sylfaenol sydd wedi ei danbrisio, ei danariannu, ac mewn rhai achosion, sy'n tangyflawni. Yr adran damweiniau ac achosion brys yw lle mae pobl yn mynd yn gyntaf, yn hytrach na'r meddyg teulu yn llawer rhy aml pan fydd pobl yn sâl, weithiau yn dilyn argymhelliad y meddyg teulu,  rhai ohonyn nhw nad ydynt yn darparu apwyntiadau brys, gan gynnwys i blant ifanc iawn a babanod. Oni bai bod gofal sylfaenol yn cael ei ariannu'n ddigonol a bod yr holl ofal sylfaenol yn cael ei ddarparu i safon dderbyniol, yna bydd ciwiau mewn adrannau damweiniau ac achosion brys yn parhau i dyfu.

Diolch. Rwy'n ddiolchgar iawn. Felly, a fyddech chi'n cytuno â mi y dylem ni ddefnyddio'r broses gyllidebu i sicrhau bod rhai o'r adnoddau hynny yn dod o rai agweddau ar ofal eilaidd pryd y gallwn ni a rhoi hynny yn uniongyrchol i ofal sylfaenol? Ac a fyddech chi'n cytuno â mi ei bod hi'n amlwg na allwn ni ymddiried yn y byrddau iechyd i wneud hynny eu hunain?

Byddwn, a do, fe ddywedais i'r un peth yn union y llynedd a'r flwyddyn flaenorol. Felly, croeso.

Un enghraifft o sefydliad mawr nad yw'n gweithio'n effeithiol yw gwasanaeth ambiwlans Cymru. Mae angen taer i redeg hwn ar gyfres o olion traed llawer llai.

Mae gennym ni restri aros orthopedig hir, ac mae angen rhoi sylw i'r rhain. Mae gen i rywun sydd wedi bod yn aros rhwng pedair ac wyth mlynedd, yn dibynnu ar ba restr y byddwch yn edrych arni, i gael llawdriniaeth ar ei ysgwydd.

16:25

Cafwyd adroddiad, wrth gwrs, adroddiad annibynnol ar wasanaeth ambiwlans Cymru nifer o flynyddoedd yn ôl a oedd yn argymell y dylid rhannu'r gwasanaeth ambiwlans rhwng cludiant brys a chludiant arferol i ysbytai. Fe'i croesawyd ar bob ochr i'r Siambr hon, ond ni wnaed unrhyw gynnydd mewn gwirionedd—[torri ar draws.] Ni wnaed unrhyw gynnydd. Yr oedd i fod i gael ei rannu'n llwyr. Dyna gytunodd y Cynulliad hwn iddo a dyna oedd polisi'r Llywodraeth ar y pryd. A ydych chi'n gresynu nad yw hynny'n wir?

Wel, nid wyf i'n siŵr y byddai ei rannu yn arbennig o fuddiol mewn gwirionedd. Rwy'n credu bod ei gael dan reolaeth ysbytai fel mai nhw sy'n gyfrifol am yr ambiwlansys sy'n aros y tu allan, yn hytrach na'i fod yn gyfrifoldeb ar rywun arall—nid yw'n gwneud dim synnwyr o gwbl. Mae'r ambiwlansys yn aros y tu allan, ac nid yw o fudd i'r bwrdd iechyd gael y bobl allan gan nad nhw sy'n gyfrifol amdano.

Mae angen mwy o reolaeth ar reolwyr ac ymgynghorwyr ysbytai unigol dros yr hyn y maen nhw'n ei wneud. Mae angen cyllid ychwanegol ar wasanaethau cymdeithasol i gyflymu'r broses o ryddhau o'r ysbyty. Mae angen i arian fynd i'r ysbytai, nid i ymgynghorwyr rheoli.

O ran yr economi, yr hyn y dylem ni fod wedi ei ddeall erbyn hyn yw nad yw cynnig cymhellion ariannol mawr i gwmnïau i symud ffatrïoedd cangen i Gymru yn gweithio yn y tymor hir. Os oes rhaid i chi roi cymhellion ariannol gwell nag unman arall—nid ydyn nhw eisiau dod yma, a byddan nhw'n gadael pan fyddan nhw'n cael gwell cynnig gan wledydd fel Hwngari.

Y gwariant gorau i dyfu'r economi yw gwariant addysgol. Mae cwmnïau'n dod i mewn oherwydd ansawdd eu gweithwyr, ac addysg yw'r ffordd o'i dyfu. Faint ydych chi'n ei feddwl y mae California yn ei gynnig i gwmnïau fynd i California i dyfu? Dydyn nhw ddim. Faint y mae'n rhaid i Gaergrawnt ei gynnig? Dydyn nhw ddim. Os yw'r ansawdd gennych chi yn yr addysg, nid oes angen i chi geisio llwgrwobrwyo'r cwmnïau i ddod i mewn.

O ran yr amgylchedd, mae Llywodraeth Cymru wedi galw argyfwng newid yn yr hinsawdd ac maen nhw'n rhoi'r cynnydd refeniw lleiaf mewn termau real i bortffolio'r amgylchedd. Os yw'r newid yn yr hinsawdd a'r hinsawdd yn flaenoriaeth, dylai cyllid ychwanegol mewn termau real ar gyfer portffolio'r amgylchedd fod yn flaenoriaeth.

A gaf i geisio gorffen trwy sôn am dreth incwm? Nid yw'n mynd i gynyddu. Ni wnaeth yr Alban ei gynyddu, er gwaethaf yr holl gyfleoedd a gawson nhw, pryd y gallen nhw ei symud i fyny 3 y cant yn fwy neu'n llai. Byddwn i'n gwarantu, ymhen 10 mlynedd, na fydd neb yn ei newid y naill ffordd na'r llall. Os byddwch chi'n tynnu 1 y cant, byddwch yn colli £200 miliwn, yn fras. Os byddwch chi'n ychwanegu 1 y cant, byddwch yn ennill £200 miliwn, ac ni fydd hyn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol, ond bydd yn cythruddo llawer o bobl.

Gall hyn, wrth gwrs, fod yn gyllideb twf untro mewn termau real. Wrth i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, byddwn yn darganfod pwy sy'n gywir. A fydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn achosi i'n harian a'n heconomi i dyfu, neu a fydd yn peri iddi grebachu? Byddwn yn darganfod pa un sy'n iawn yr adeg hon y flwyddyn nesaf.

Croesewir y cynnydd yn setliad refeniw llywodraeth leol drafft 2020-21, sy'n bosibl, wrth gwrs, yn sgil rheolaeth economaidd ddarbodus gan Lywodraeth y DU ers 2010, pan oedd diffyg yng nghyllideb y DU y gwaethaf yn y G20, ac y tu ôl i Iwerddon a Gwlad Groeg yn unig yn yr UE. Pe byddai Llywodraeth y DU wedi tyfu'r diffyg mawr a etifeddodd yn hytrach, rhywun arall fyddai wedi bod yn berchen ar economi'r DU a byddai toriadau mwy wedi bod yn ofynnol.

Fis diwethaf, heriais unwaith eto y Gweinidog llywodraeth leol yn y fan yma ynghylch fformiwla cyllido llywodraeth leol Llywodraeth Cymru, gan nodi bod naw o'r 22 awdurdod yng Nghymru wedi cael cynnydd yn y flwyddyn ariannol bresennol, yn ôl y fformiwla hon, gan gynnwys Caerdydd sydd wedi cael cynnydd o 0.9 y cant ac Abertawe gynnydd o 0.5 y cant, ond bod Wrecsam wedi gostwng 0.1 y cant, a Sir y Fflint 0.3 y cant, er bod y boblogaeth yn cynyddu ar raddfa gyfwerth yn y ddau le.

Ynghyd â Sir y Fflint, roedd y cynghorau â'r toriadau mwyaf o 0.3 y cant yn cynnwys Conwy ac Ynys Môn, er bod Conwy ac Ynys Môn ymhlith y pum awdurdod lleol yng Nghymru lle mae 30 y cant neu fwy o weithwyr yn cael llai o dâl na'r cyflog byw gwirfoddol. Lefelau ffyniant y pen yn Ynys Môn yw'r isaf yng Nghymru, ychydig yn llai na hanner y rhai hynny yng Nghaerdydd, ac mae gan gyngor Conwy y gyfran uchaf o bobl dros 65 oed yng Nghymru, sef 25 y cant, o'i gymharu â Chaerdydd sydd â 13 y cant, sef y lleiaf. Mae'n wych bod mwy ohonom ni yn byw yn hwy—rwyf i yn fy 60au—ond mae hyn yn ychwanegu at y pwysau cost yn y siroedd hynny sydd â phoblogaethau uwch o bobl hŷn.

Yn ei hateb, dywedodd y Gweinidog unwaith eto:

Mae'r pot hwnnw yn cael ei rannu drwy brosesau democrataidd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Felly, sut y mae'r Gweinidog cyllid yn ymateb i'r datganiad a wnaed gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i Wrexham.com:

Nid yw Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn chwarae rhan wrth benderfynu ar y setliad ac nid oes ganddi fanylion llawn am y setliad na dyraniadau'r awdurdodau tan iddo gael ei gyhoeddi?

Ac ar y gair, mae pedwar o'r—. Mike, ie, wrth gwrs, Mr Hedges.

16:30

Dau bwynt sydyn. A wnewch chi gytuno â mi mai'r hyn y dylem ni fod yn ei weld yw Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi'r cyfrifiadau er mwyn i bob un ohonom ni allu gweld sut yr ydych chi'n cyrraedd y rhifau hynny? Pe byddai'r rheini'n cael eu cyhoeddi, byddem wedyn yn gweld pwy oedd yn gywir a phwy oedd yn anghywir.

Yr ail bwynt yr hoffwn i ei wneud, ac rwy'n gobeithio eich bod yn cytuno â mi, yw bod y swm o arian y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi—. Y 'grant cynnal ardrethi' y'i gelwid gynt, sef yr arian a oedd yn cael ei roi i gefnogi awdurdodau lleol ar ôl rhoi ystyriaeth i'w hardrethi. A gwyddom fod gan Drefynwy fand cyfartalog—eiddo band canolrifol yn Nhrefynwy yw band D, ac ym Mlaenau Gwent, band A ydyw.

Rwyf erioed wedi bod o'r farn, mewn gwirionedd, bod Llywodraeth Cymru a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi bod yn berffaith fodlon i rannu'r briffiau hynny ar y cyfrifiadau hynny. Nid y ffordd y gwneir y cyfrifiadau yw'r broblem graidd, oherwydd fy mod i'n derbyn eu bod yn cael eu gwneud yn gywir; y fformiwla yw'r broblem, sydd erbyn hyn yn bron i ddau ddegawd oed ac mae angen ei hadolygu.

Ac ar y gair, mae pedwar o'r pum awdurdod i weld y cynnydd mwyaf yn 2020-21 yn gynghorau Llafur yn y de. Mae Bro Morgannwg, a oedd gynt yn cael ei redeg gan y Ceidwadwyr, wedi mynd o ostyngiad o 0.1 y cant eleni i un o'r codiadau uchaf, sef 4.9 y cant, nawr mai Llafur sydd â'r awenau. Fodd bynnag, pedwar o'r pum awdurdod isaf o ran cynnydd mewn cyllid yw unwaith eto yr un awdurdodau yn y gogledd.

O'i gymharu â'r cynnydd mwyaf o 5.4 y cant yng Nghasnewydd sy'n cael ei redeg gan Llafur, mae Conwy yn yr unfed safle ar hugain o 22, gyda chynnydd o 3.4 y cant; Wrecsam, yw'r ugeinfed, gyda 3.5 y cant; Y Fflint, yn bedwaredd ar bymtheg, gyda 3.7 y cant; ac Ynys Môn, deunawfed, gyda 3.8 y cant; tra bo Sir Fynwy dan arweiniad y Ceidwadwyr ar y gwaelod unwaith eto, gyda chynnydd o 3 y cant. Bydd yr ystumio sylweddol hwn ar y cyllid yn anfanteisiol i'r cynghorau a gaiff eu hariannu waethaf wrth geisio mynd i'r afael â'r pwysau cyllid a nodwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ddiweddar. Felly, sut y mae'r Gweinidog yn ymateb i'r llythyr a anfonwyd ati ym mis Hydref gan Gyngor Sir y Fflint, a lofnodwyd gan ei arweinydd ac arweinwyr yr holl grwpiau, a oedd yn dweud:

Mae Sir y Fflint wedi ymgysylltu â Llywodraeth Cymru i gyflwyno ein hachos dros gyfres o flynyddoedd o bennu cyllidebau. Rydym yn dal i ddadlau ein bod ni, yn gyngor â chyllid isel y pen yn unol â'r Fformiwla Ariannu Llywodraeth Leol, yn fwy agored na'r rhan fwyaf,

gan ychwanegu:

Byddem yn croesawu trafodaeth breifat gyda chi ynghylch ein hachos dros gymorth.

Sut y mae'r Gweinidog yn ymateb i'r datganiad gan arweinydd Sir Fynwy:

Rwy'n siomedig gyda'r setliad hwn. Rhoddodd Llywodraeth y DU ddigon o adnoddau i Lywodraeth Cymru i wneud yn llawer gwell na hyn ac mae wedi siomi llywodraeth leol yng Nghymru unwaith eto. Hefyd,

dywedodd,

unwaith eto gwelwn ystumio enfawr ar yr arian y mae rhai cynghorau yn ei gael o'u cymharu ag eraill. Mae gwahaniaeth o rhwng 3% a 5.4% yn afresymol yn yr oes sydd ohoni. Mae angen gwneud rhywbeth i fynd i'r afael â'r amrywiad hwn?

Sut y mae'r Gweinidog yn ymateb i'r datganiad gan arweinydd cyngor Conwy:

Rwyf i'n siomedig unwaith eto nad yw Conwy a Gogledd Cymru yn cael eu cyfran deg o gyllid?

Sut y mae hi'n ymateb i'r etholwr a ysgrifennodd yn gofyn sut y gellir cyfiawnhau rhoi'r cynnydd trydydd lleiaf yng Nghymru i Wrecsam pan fo gan Wrecsam:

dair o'r pedair ward sydd â'r cyfraddau tlodi uchaf yng Nghymru?

Sut y mae hi'n ymateb i'r datganiad gan arweinydd Wrecsam:

Rwy'n gandryll ynghylch y setliad gan Lywodraeth Cymru, mae'n warth y ffordd y mae Wrecsam yn cael ei drin yn cael dim ond briwsion o'r bwrdd unwaith eto?

Ac, yn olaf, a fydd maniffesto Llafur Cymru ar gyfer 2021 yn cynnwys yr ymrwymiad a fydd ym maniffesto Ceidwadwyr Cymru i gynnal adolygiad annibynnol o'r fformiwla ariannu llywodraeth leol er mwyn sicrhau y darperir setliad teg i bob awdurdod lleol sy'n darparu'r adnoddau cynaliadwy sydd eu hangen arnynt o'r pot sydd ar gael?

Fel yr Aelod sydd yn arwain ar lywodraeth leol dros Blaid Cymru, dwi'n falch iawn i allu cymryd rhan yn y drafodaeth yma y prynhawn yma.

Dŷn ni i gyd yn ymwybodol o'r pwysau sydd ar wasanaethau llywodraeth leol a'r pwysau ariannol cynyddol. Roedd rheini'n amlwg yn ôl yn y dyddiau hynny pan oeddwn i arfer bod yn gynghorydd sir yn Ninas a Sir Abertawe, a gwaethygu mae'r pwysau a thynhau mae'r cyllidebau ers y dyddiau hynny pan oeddwn i'n gynghorydd sir. Nawr, mae'n wir i ddweud bod mwy o arian i'w gael i lywodraeth leol yn y gyllideb ddrafft yma, ond eto dim digon i ymateb i'r galwadau cynyddol am wasanaethau llywodraeth leol, fel y mae Rhun a Helen eisoes wedi ei olrhain. Mae cymaint o sôn am wasanaethau ataliol, ac yn llywodraeth leol mae nifer ohonyn nhw yn bodoli, megis iechyd amgylcheddol, tai, addysg ac, wrth gwrs, gofal cymdeithasol.

Ddoe, fel rydym ni wedi clywed eisoes, fe glywsom ni am heriau'r gwasanaeth iechyd yn Hywel Dda, gyda phwysau’r gaeaf yn golygu canslo mesurau nad oedd yn argyfwng. Ac, yn wir, gaeaf ar ôl gaeaf, os nad blwyddyn ar ôl blwyddyn, mae canran helaeth o gleifion ar wardiau ein hysbytai acíwt ni ddim ond yna yn aros am drefniant gofal cymdeithasol. Maent yn iach i adael yr ysbyty, ond eto, nid ydynt yn gallu gadael. Chwe chan punt y dydd yw’r gost i fod mewn gwely mewn ysbyty. Chwe chan punt yr wythnos ydy’r gost i fod mewn cartref preswyl. Pan mae yn agos i hanner y cleifion ar ambell ward heddiw—. Ar ambell ward yng Nghymru heddiw mae yn agos i hanner y cleifion yn iach i adael yr ysbyty yna yn feddygol. Mae’r sefyllfa yna’n warthus. Mae angen camau breision nawr i newid hyn—step change nawr. Mae’r bobl yma yn ein hysbytai ni; dylan nhw ddim bod yna. Dylai’r drefniadaeth fod ar waith. Mae angen cymryd y camau breision hynny nawr.

Hynny, yn ogystal â diffyg gwlâu a diffyg staff, ydy’r problemau oesol sydd yn dal yn heriau. Fel y mae eraill wedi dweud, rydym ni wedi bod yn ymdrin ac rydym ni wedi bod yn trafod blwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae angen camu i fyny i’r bwlch a gweithredu, fel dywedodd Helen Mary Jones. Felly, o feddwl am yr holl arian sydd yn mynd i mewn i ofal cymdeithasol ar hyn o bryd, ond mewn i system sydd yn ffaelu ac sydd yn rhanedig, gyda phobl, gyda chleifion yn dal i ddioddef ac yn marw cyn amser, system gofal sydd yn ddrud ac yn gymhleth, gyda staff gofal ar gytundebau tymor byr a zero hours a dim hyfforddiant ac yn y blaen—rydym ni i gyd yn gwybod—onid yw hi’n amser i gael cynllun radical newydd a chael gwasanaeth gofal cymdeithasol i Gymru wedi ei hariannu o drethiant cyffredinol yn union fel ein gwasanaeth iechyd gwladol ni ac yn cyd-weithio mewn partneriaeth wedi ei hariannu allan o drethiant cyffredinol, gwasanaeth gofal cenedlaethol i Gymru yn union fel ein gwasanaeth iechyd cenedlaethol ni? Diolch yn fawr.

16:35

Fel eraill yn y ddadl hon y prynhawn yma, rwyf i'n dymuno croesawu'r gyllideb a'r ymrwymiad sy'n rhedeg drwy'r gyllideb i ddarparu'r cyllid sydd ar gael i wasanaethau cyhoeddus. Hoffwn i'n arbennig groesawu'r £8 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol. Mae'n rhywbeth yr wyf i wedi sôn amdano ar sawl achlysur. Nid yw'r £20 miliwn y gwnaethom ei ddyrannu i anghenion dysgu ychwanegol wrth gyflawni'r agenda ddiwygio, yr agenda drawsnewidiol, yn ddigonol ar hyn o bryd, o ystyried yr amser a gymerir i gyflawni'r diwygiad hwn. Felly, mae'n iawn ac yn briodol bod arian yn cael ei ddarparu ar gyfer addysg anghenion dysgu ychwanegol ac mae'n iawn ac yn briodol bod yr arian hwnnw'n cael ei glustnodi ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol. Ac rwy'n croesawu hynny'n fawr iawn.

Rwyf hefyd yn croesawu'r gefnogaeth fwy cyffredinol i gyllid ar gyfer addysg. Cawsom ddadl ragorol, yn fy marn i, yn y fan yma rai wythnosau yn ôl, rai misoedd yn ôl, ar sut yr ydym yn ariannu ein hysgolion ac rwy'n falch bod y Llywodraeth a'r Gweinidog wedi sicrhau bod cymorth ychwanegol ar gyfer addysg yn rhan o'r gyllideb hon.

Rwyf hefyd yn croesawu'r cyllid ar gyfer polisi hinsawdd. Rydym ni wedi gweld yn ddramatig ac yn drasig yn ddiweddar effaith yr hinsawdd ar bobl a'n planed. Rwy'n credu ei bod yn iawn ac yn briodol ein bod ni yn sicrhau ein bod yn darparu ar gyfer polisi hinsawdd yn y gyllideb.

A gaf i ddweud, rwy'n gresynu yn fawr iawn tôn ymyriadau'r Ceidwadwyr yn y ddadl hon ar gyllid ar gyfer llywodraeth leol? Mae'n iawn ac yn briodol ein bod yn dadlau ac yn trafod cyllid ar gyfer llywodraeth leol ac mae'n iawn ac yn briodol i ni gael dadl ynghylch pa un a yw'r fformiwla yn ddigonol ac yn darparu'r cyllid sydd ei angen mewn gwirionedd. Mae'n iawn ac yn briodol ein bod yn cael y ddadl honno. Ond yng nghyfraniad agoriadol y Ceidwadwyr ac yn yr un mwy diweddar, roedd cyhuddiad neu awgrym bod cyllid wedi'i drefnu rywsut i fynd i un rhan o'r wlad yn hytrach na rhan arall o'r wlad, bod pobl yn y gogledd yn cael eu gosod yn erbyn pobl yn y de neu ryw fan arall. Rwyf i'n gresynu hynny yn fawr iawn.

16:40

Rwy'n credu, os ystyriwch chi'r setliadau cyllid cyfartalog dros yr 20 mlynedd diwethaf, bod y dystiolaeth yn eithaf clir o ran pa ardaloedd sy'n dueddol o gael mwy o gynnydd neu lai o ostyngiad yn y grant cynnal refeniw o'u cymharu â'r rhai hynny nad ydynt. Llywodraeth Cymru sydd i egluro hyn, ond a fyddech chi'n cytuno â mi mai un peth y mae angen i ni geisio ei gyflwyno, er mwyn cael hyder yn fformiwla ariannu llywodraeth leol, yw y dylai Llywodraeth Cymru ddechrau comisiwn annibynnol er mwyn edrych ar y fformiwla hon i gael pethau'n iawn ac yn addas ar gyfer y dyfodol?

Rwyf i wedi clywed Aelodau Ceidwadol yma dros y blynyddoedd yn gwneud y pwynt hwn a chynghorwyr Ceidwadol yn dweud wrthym ni am beidio â'i gyffwrdd—[Torri ar draws.] Mae'r pwynt sylfaenol—[Torri ar draws.] Mae'r pwynt sylfaenol yr wyf i'n ei wneud, fodd bynnag, yn un gwahanol—hynny yw, y ffordd ddinistriol y lluniwyd y ddadl. Mae'n fater o ogledd yn erbyn de, dwyrain yn erbyn gorllewin, gwledig yn erbyn trefol. Roedd Blaenau Gwent yn ddeunawfed, rwy'n credu, yn yr ystod bresennol o gyllid. Nid yw erioed wedi bod yn gyntaf, nid yw erioed wedi bod ar y brig, ond nid wyf i erioed wedi gwneud honiad o'r math sydd wedi'i wneud o feinciau'r Ceidwadwyr y prynhawn yma, a byddwn i'n gwahodd Aelodau Ceidwadol i ailystyried eu tôn a'u hagwedd at y ddadl honno.

A gaf i hefyd ddweud fy mod yn gresynu nad yw'r Llywodraeth yn dod o hyd i'r arian i gefnogi'r cymhorthdal bysiau yn parhau ar y lefelau presennol? Clywsom ni yn y Pwyllgor Cyllid y bydd gostyngiad yn y cymhorthdal sydd ar gael i ddarparu ar gyfer gwasanaethau bysiau. Dywedaf i'n dawel fach wrth y Gweinidog Cyllid ei bod yn ddigon hawdd darparu bysiau trydan i rai ohonom ni, ond os nad oes gennym ni unrhyw fysiau o gwbl, a dweud y gwir, nid yw hynny'n fawr o ymrwymiad. Felly mae angen i ni weld—. Ac os yw'r Llywodraeth yn gallu edrych ar y gyllideb yn ystod y broses hon, ac sicrhau bod cynnydd yn y cymhorthdal sydd ar gael ar gyfer gwasanaethau bysiau, byddwn i'n gwerthfawrogi hynny'n fawr.

Ond y pwynt sylfaenol yr wyf i eisiau ei wneud, yn hytrach nag edrych ar linellau'r gyllideb yn unig, yw hyn: rydym ni wedi gweld yn y fan hon nad yw holl eiriau Theresa May wedi'u gwireddu—bod cyni wedi dod i ben—ond rydym ni wedi gweld y cyfyngiadau ariannol yn llacio ac rydym ni wedi gweld arian ychwanegol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Rwy'n gresynu nad ydym ni hefyd yn gweld y diwygio radical ar wasanaethau cyhoeddus i sicrhau bod yr arian hwnnw'n cael ei wario'n dda. Nid oedd y ddadl a gawsom ni ynghylch ariannu addysg yn ymwneud â maint y cyllid yn unig, ond yn hytrach cymhlethdod strwythur y cyllid hwnnw wrth adael y lle hwn a chyrraedd yr ystafell ddosbarth. Nid oes unrhyw ddiben o gwbl mewn cynyddu maint y cyllid sydd ar gael os yw'r system yn parhau i fod mor gymhleth fel ei bod yn sicrhau nad yw athrawon ac eraill yn gallu cael gafael ar y swm hwnnw o gyllid. Felly mae angen i ni nid yn unig gynyddu'r cyllid sydd ar gael yn y dull traddodiadol, hen ffasiwn, mae angen i ni hefyd ddiwygio'r ffordd yr ydym ni'n gweithredu ein gwasanaethau cyhoeddus, ac mae hyn yn bwysicach heddiw nag y bu yn y gorffennol, oherwydd pan ddarllenwch chi ddogfennau'r gyllideb, boed yn adroddiad y prif economegydd, dadansoddiad y Swyddfa dros Gyfrifoldeb am y Gyllideb, neu hyd yn oed adroddiad polisi treth Llywodraeth Cymru ei hun, y gair sy'n eich taro chi dro ar ôl tro yw 'ansicrwydd'—ansicrwydd ynghylch refeniw treth, ansicrwydd am y sylfaen drethi, ansicrwydd ynghylch lefelau ariannu yn y dyfodol, ansicrwydd ynglŷn â pherfformiad economaidd yn y dyfodol, ansicrwydd ynghylch ein gallu i ddarparu'r cyllid sydd ei angen a chodi'r cyllid y mae eu hangen arnom ni.

Mewn sefyllfa lle mae gennych chi ansicrwydd ynghylch y dyfodol, lle mae gennych chi adnoddau, fy marn i yw y dylai'r Llywodraeth fod wedi bod yn llawer iawn mwy radical yn yr hyn y mae'n ei gynhyrchu heddiw. Dull y Ceidwadwyr oedd cynyddu'r holl gyllidebau gan radd deg yn unig, ac mae pob un ohonom ni'n croesawu hynny yn y tymor byr, ond byddai'r gyllideb radical wedi bod yn gyllideb ar gyfer diwygio, cyllideb a fyddai wedi sicrhau nad yw ein gwasanaethau cyhoeddus ond yn derbyn yr arian yn y mae ei angen arnyn nhw i oroesi'r flwyddyn nesaf ac eleni, ond eu bod mewn cyflwr da i oroesi yn yr hirdymor. Rwy'n cytuno yn fawr iawn â'r pwynt a wnaeth Huw Irranca yn gynharach yn y ddadl hon am y wasgfa y mae llywodraeth leol yn ei hwynebu, ond os ydym ni'n parhau i ariannu'r gwasanaeth iechyd ar y lefelau presennol, fel y mae pob un ohonom ni yn ymrwymo ar bob ochr i'r Siambr hon i'w wneud, yna bydd pob gwasanaeth arall yn dioddef o ganlyniad i'r penderfyniad unigol hwnnw.

A gwnaf i hynny, Llywydd. Yr ydych chi'n garedig iawn ac yn cydymdeimlo'n fawr â mi, yr wyf i'n cytuno.

Gofynnaf i fod y Llywodraeth, wrth gloi, nid yn unig yn cyflawni'r lefelau cyllido, ond yn cyflwyno'r diwygiad radical y dylai Llywodraeth Lafur fod yn ei wneud i sicrhau bod gennym ni wasanaethau cyhoeddus sy'n addas ar gyfer y dyfodol.

Mae hon wedi bod yn ddadl ddiddorol iawn. Rwy'n gobeithio bod y Gweinidog yn gwrando ar hyn ac o gofio ei bod yn ddadl ar ddatganiad ac rydym ni i gyd yn edrych ymlaen at glywed rhai atebion i gwestiynau yn eich ymateb i'r ddadl hon.

Ac rwy'n meddwl mai'r cyntaf o'r cwestiynau hynny yr wyf yn mynd i ddwyn oddi ar Helen Mary, yw 'sut?' Ac, yn anffodus, mae Alun Davies wedi achub y blaen arnaf i oherwydd yr wyf eisiau sôn am ariannu ysgolion, oherwydd yr wyf i eisiau gwybod sut yr ydych yn bwriadu gweld bod unrhyw gynnydd yn y gyllideb yn cyrraedd ysgol yng Nghymru, rhywbeth sydd, mewn gwirionedd, angen sylw ar unwaith eleni ac ni all fforddio aros am ganlyniadau adolygiad Sibieta. Oherwydd yn ystod y degawd diwethaf—a gallwn ni ddadlau ynglŷn â'r symiau ar hyn—mae Cymru wedi gweld degawd hir o wario is fesul disgybl nag yn Lloegr. Mae wedi cael effeithiau.

Rydym ni yn y sefyllfa hon ar hyn o bryd lle mae gennym ni nifer is o athrawon yn gobeithio hyfforddi yma yng Nghymru. Rydym ni wedi gweld mwy o ostyngiad yn niferoedd yr athrawon nag yn rhannau eraill o'r DU, ac ni welaf i ddim byd yn y gyllideb hon ynglŷn â sut i ddenu athrawon ychwanegol. Mae yna arian yno; rydym ni'n sôn am Datblygiad Proffesiynol Parhaus a sut i gael athrawon presennol yn barod ar gyfer y cwricwlwm newydd, ond nid yw'n dweud unrhyw beth am sut yr ydym yn mynd i gynyddu nifer yr athrawon, nid yw'n dweud unrhyw beth am sut i wella adnoddau addysgu. Roedd diffyg y rheini wedi'i nodi yn sylwadau PISA—mae'n ddrwg gennyf, adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar PISA. Fe wnaeth bwynt bod problem yng Nghymru ynghylch adnoddau addysgu, ac ni welais i unrhyw beth ychwaith, er yn amlwg y gallwn i fod wedi'i golli, ynghylch y modd y mae ysgolion nad ydyn nhw'n ceisio cyllid ysgolion yr unfed ganrif ar hugain ar gyfer ysgol newydd sbon, sut ar y ddaear y maen nhw'n yn mynd i allu fforddio parhau i gynnal y gwaith cynnal a chadw o ddydd i ddydd ar yr ysgolion sydd ganddyn nhw pan fo hynny'n un o brif ffynonellau eu cwynion. Ac mae'n mynd yn ôl at bwynt a wnaeth Mike Hedges yn gynharach ynghylch atal. O, rydych chi'n ceisio cymryd—

16:45

Mae gen i ymyriad cyflym. Wrth gwrs, fe wyddoch chi am yr arian y mae awdurdodau lleol yn ei ddal, mae rhywfaint o hwnnw ar gyfer peth o'r gwaith atgyweirio mawr hyn. Os byddaf i'n sôn am ysgol Plasmarl yn eich rhanbarth chi a fy etholaeth i, maen nhw wedi cael to newydd, ac maen nhw wedi cael ail-wifro trydanol llawn. Felly, dyna sut y mae'r arian sy'n cael ei ddal yn ganolog yn cael ei ddefnyddio, yn rhannol, a dyna'r yr ydych chi newydd ofyn amdano.

Ond, wrth gwrs, nid oes gan bob cyngor yr arian hwnnw, hyd at y swm hwnnw, wedi'i ddal yn ganolog. Rwy'n falch iawn dros ysgol Plasmarl, mewn gwirionedd, ac fe wna i ddod at yr asesiadau wedi'i seilio ar ddangosyddion yma mewn munud. Oherwydd y pwynt a wnaeth argraff arnaf i yn eich sylwadau cynharach oedd hwnnw yn ymwneud ag atal. Ac, wrth gwrs, nid yw ysgolion yn ymwneud ag addysg academaidd yn unig; maen nhw'n adeiladwyr cymunedol. I mi, maen nhw'n un o'r gwasanaethau ataliol mawr, ac fel y soniodd Mike ei hun yn y fan yna, os ydym ni yn addysgu ein plant mewn ffordd y byddem ni i gyd yn awyddus i'w gweld, rwy'n credu, y dylen nhw ddod yn beiriannau i'n heconomi hefyd.

Fel yr ydym wedi'i glywed, mae ysgrifennydd addysg y DU wedi ymrwymo y £14 biliwn hyn ar gyfer ysgolion yn Lloegr. Mae hynny dros gyfnod o amser, a bydd cyllid canlyniadol o £2.4 biliwn i'w wario fel y dymunwch maes o law, Trefnydd. Mae hynny ar ben, wrth gwrs, y £135 miliwn o gyllid canlyniadol ar gyfer addysg o adolygiad gwariant eleni, eto i'w wario fel y dymunwch. Ac rwy'n gwahaniaethu rhwng y cyllidebau addysg a chyllid ysgolion, oherwydd y byddwch chi'n dweud, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n dweud wrthyf i, fod y gyllideb addysg wedi'i diogelu, bod mwy o arian wedi mynd i mewn iddi, a byddwn i y cyntaf i gydnabod a chroesawu'r arian ychwanegol sy'n mynd i mewn i'r terfynau gwariant adrannol hynny, ond mae hynny'n wahanol iawn i ddweud bod cyllidebau ysgolion yn cael eu gwarchod. Maen nhw'n dod, fel y gwyddom ni, o lywodraeth leol. Cafodd llywodraeth leol gynnydd eleni hefyd, ond fel y crybwyllodd Huw Irranca Davies yn gynharach, maen nhw wedi cael cyfnod anodd yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf, ac oherwydd aneglurder y fformiwlâu cyllido ar gyfer ysgolion, y cyfeiriodd Alun Davies atyn nhw, mae hi wedi bod bron yn amhosibl deall sut y gellir atgyweirio hyn yn gyflym iawn.

Rwy'n credu bod yn rhaid i ni i gyd gydnabod hefyd, eleni, yn fwy nag unrhyw flwyddyn, ein bod ni wedi gweld cynghorau, athrawon, arweinwyr ysgolion ac ati, yn siarad mewn niferoedd, ac ag un llais mewn ffordd nad ydym ni wedi'i chlywed o'r blaen. Mae angen yr arian arnyn nhw, ac er bod y ffigurau ar gyfer Asesiad wedi'i Seilio ar Ddangosyddion yr ysgol a ddefnyddiwyd eleni wedi cynyddu, ac rwy'n mynd i groesawu hynny mewn egwyddor, rydym ni i gyd yn gwybod mai dangosyddion yn unig yw'r rheini. Nid oes unrhyw reidrwydd ar awdurdodau lleol i wario'r arian hwnnw ar roi'r arian hwnnw'n uniongyrchol i ysgolion, o gwbl. Ac i ddwyn eich trosiad chi, Huw Irranca Davies, nid yw rhai ysgolion yn cael y cyfle i ddechrau troi tapiau ymlaen, ac mae dal angen mynd i'r afael â hynny eto.

Felly, os ydym ni'n mynd i fod yn sôn am rywbeth radical yma, os ydych chi'n gwrthwynebu cyllido ysgolion yn uniongyrchol, Trefnydd, sut y bydd y gyllideb hon yn gwarantu twf ystyrlon mewn cyllid craidd ysgolion, a mewn gwirionedd, nid lleiaf ar gyfer plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol, gan fod yr arian a oedd yn dod eich ffordd chi yn £35 miliwn ar gyfer hynny, ac nid yw £8 miliwn i £9 miliwn yn adlewyrchiad teg o'r arian yr ydych chi'n ei gael ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol?

Rwyf i eisiau gorffen yn gyflym iawn, iawn a chodi rhywbeth a gafodd ei grybwyll gan Rhun: setliad gwastad iawn, os mynnwch chi, ar gyfer y Gymraeg, a rhai sylwadau amwys iawn y tu ôl i hynny. Byddwn i'n falch iawn o wybod a fydd arian ychwanegol ar gael ar gyfer Cymraeg i Oedolion eleni ac a yw'r arian ychwanegol ar gyfer prentisiaethau, sydd i'w groesawu, yn cynnwys gwaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn prentisiaethau, neu a yw hwnnw o gyllideb wahanol. Ac—nid wyf yn mynd i gael amser i gael ateb priodol ar hyn, rwy'n gwybod—beth yn union fydd cyllideb y comisiynydd, yn enwedig gan ei bod yn ymddangos bod gofynion ei swydd yn mynd i fod yn dra gwahanol i'r hyn a oedd ganddo o'r blaen? Diolch.

16:50

Dwi'n cyfrannu i'r ddadl yma, wrth gwrs, yn fy rôl fel llefarydd fy mhlaid ar yr amgylchedd. Ac fel mae ambell un eisoes wedi ei awgrymu, mae yna deimlad o fusnes fel arfer yn perthyn i'r gyllideb yma. Ac mae hynny'n siomedig, yn enwedig yn sgil datgan argyfwng hinsawdd. Fel rŷn ni wedi ei glywed, byddech chi'n disgwyl y byddai yna drawsnewidiad yn y ffordd y mae'r Llywodraeth yn defnyddio'i chyllideb i fynd i'r afael â'r argyfwng hynny. Ond, byddwch yn onest, pe baech chi'n edrych ar y gyllideb yma a'i chymharu hi â chyllideb y llynedd, ydych chi yn gweld newid sylfaenol, newid go iawn? Oes yna rywbeth yn y gyllideb ddrafft yma sy'n rhoi signal clir bod yna shifft sylfaenol tuag at daclo yr argyfwng hinsawdd wedi digwydd ym mlaenoriaethau y Llywodraeth? Ac os na allwch chi weld gwahaniaeth sylfaenol, yna mae e yn dwyn i gwestiwn, yn fy marn i, hygrededd y datganiad o argyfwng hinsawdd hwnnw, ac, yn wir, pa mor o ddifrif y mae'r Llywodraeth yma i daclo'r her fwyaf sy'n wynebu dynoliaeth heddiw.

Nawr wrth gwrs mae yna ambell i eitem o wariant unigol i'w groesawu, a fyddwn i ddim yn peidio â chroesawu unrhyw arian ychwanegol, ond wrth gwrs dyw e ddim i'r graddau y byddwn i wedi ei obeithio. Mae'r £140 miliwn yma o wariant cyfalaf tuag at ddadgarboneiddio wedi cael ei gyfeirio ato fe—nid yr unig un, wrth gwrs, mae yna rai eraill. Mae £140 miliwn i'w groesawu, wrth gwrs, ond gadewch i ni ein hatgoffa ein hunain bod y Llywodraeth yma wedi gwario £100 miliwn ar baratoadau ar gyfer ffordd lliniaru'r M4 na fydd byth yn digwydd. Mae hynny'n rhoi'r swm yna yn ei gyd-destun, yn fy marn i.

Nawr, mi gyhoeddodd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru gynllun 10 pwynt y llynedd i amlygu lle roedd angen blaenoriaethu gwariant. Ac roedd hi'n sôn am drafnidiaeth, retroffitio tai, defnydd tir, ynni adnewyddadwy. Mae gennym ni sector ynni hydro sy'n dal i aros i glywed gan y Llywodraeth a fydd yna rhyddhad treth yn parhau yn y flwyddyn ariannol nesaf, er wrth gwrs eu bod nhw wedi ei gwneud hi'n glir y byddai hynny yn golygu, heb y newid yna, y byddai llawer iawn o fusnesau hydro yn anghynaliadwy. Nawr, mae'r comisiynydd safonau, Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol—mae yna ormod o gomisiynwyr yn y byd yma, dwi'n meddwl—wedi amlinellu, o safbwynt retroffitio, £5 biliwn dros 15 mlynedd ar gyfer hynny. Nawr, mae hynny'n swm uchel iawn; dros 15 mlynedd, wrth gwrs, mae e'n dipyn mwy fforddiadwy. Ond nid dim ond stryd un ffordd yw'r gwariant yna, wrth gwrs, oherwydd mae e'n wariant i arbed yn y pen draw, mae e'n wariant i greu twf. Rŷn ni'n gweld sut y byddai, yn ôl y comisiynydd, GVA economaidd Cymru yn cynyddu o £2.2 biliwn o wneud y buddsoddiad yna. Mi fyddai'n arbed £350 y flwyddyn i fil y teulu cyffredin. Mi fyddai hefyd yn arbed bron i £70 miliwn bob blwyddyn i'r gwasanaeth iechyd yng Nghymru, oherwydd byddai'n help i ni fynd i'r afael â rhai o'r problemau iechyd sy'n wynebu ein pobl ni. Ac wrth gwrs, dŷn ni'n sôn felly am yr economaidd, yr amgylcheddol, a'r cymdeithasol, a dyna ni'r greal sanctaidd o safbwynt Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Ond bedair blynedd ar ôl pasio y Ddeddf yna, dŷn ni'n dal i aros i weld y shifft yna yn digwydd yn y modd y mae Llywodraeth Cymru yn creu ac yn blaenoriaethu ei chyllideb.

Nawr, fel Aelod dros y gogledd hefyd, roeddwn i'n gweld bod yna, yn naratif y gyllideb, gyfeiriad at £200 miliwn cyfalaf ar gyfer metro de a metro gogledd Cymru. Ond dwi'n gweld wedyn wrth gwrs mai £20 miliwn o hwnnw—prin 10 y cant o hwnnw—sydd yn dod i'r gogledd. Mi fydd y Llywodraeth, dwi'n tybio—yn sicr ar ôl yr etholiad cyffredinol—yn ymwybodol bod yna ddisgwyliad gan etholwyr y gogledd i gael y buddsoddiad a'r swyddi y maen nhw'n eu haeddu, nid o reidrwydd y buddsoddiad y maen nhw wedi ei gael yn y gorffennol. A byddwn i'n galw ar y Llywodraeth i graffu'n ofalus ar ei chyllideb yn y cyd-destun hwnnw hefyd, er mwyn sicrhau tegwch o safbwynt buddsoddiad ar draws Cymru.

Ac fe wnaf gau, os caf i—fel eraill, roeddwn i'n siomedig â rhai o'r sylwadau agoriadol o gyfraniadau'r Ceidwadwyr i'r ddadl hon. Rydych chi'n fwy na pharod i godi yma heddiw a chymryd y clod am unrhyw gynnydd mewn cyllidebau; wrth gwrs, ni chawsom na siw na miw gennych chi pan oedd angen cymryd y bai am doriadau. Rydych chi'n ddigon haerllug i ddweud wrthym ni yma, yn y Siambr hon, nad ydym ni erioed wedi bod mewn sefyllfa gystal. Dydw i ddim yn cofio i chi ddod yma ddwy neu dair blynedd yn ôl, nac yn wir yn ystod unrhyw un o'r 10 mlynedd diwethaf o Lywodraeth Geidwadol y DU, yn dweud wrthym ni nad ydym ni erioed wedi bod mewn sefyllfa waeth.

16:55

Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn ymyriad. A wnewch chi achub ar y cyfle—

Na, nid oedd yn angharedig. Roedd Llyr Gruffydd wedi bod yn gryno yn ei gyfraniad, ac rwyf yn arbennig o ddiolchgar am hynny. Mae gennym ni dri siaradwr arall a byddaf i'n eich galw chi i gyd, ac rwy'n annog pob un ohonoch chi i fod mor gryno â Llyr Gruffydd. Joyce Watson.

Byddaf i'n gryno, a byddaf i'n parhau ar yr un trywydd. Rwyf i eisiau croesawu dau faes penodol a gaiff effaith sylweddol ar fywydau menywod. Oherwydd gwyddom ni dros y blynyddoedd, gyda chyni 10 mlynedd y Torïaid—. Ac rwyf yn gwrthod ei alw'n 'gyni': roedd yn ddewis gwleidyddol i beidio â buddsoddi ym mywydau pobl. Dyna beth ydoedd. Gadewch i ni ddweud yn onest beth yr oedd. Felly, am y 10 mlynedd hynny, dioddefodd menywod yn sylweddol o ganlyniad i'r dewis hwnnw.

Un o'r meysydd yr ydym ni'n buddsoddi ynddo, gan wella bywydau menywod, yw'r £3.1 miliwn tuag at urddas mislif ar gyfer cynnyrch mislif am ddim mewn ysgolion ac addysg bellach, a fydd yn caniatáu i 140,000 o ddisgyblion a 53,000 o fyfyrwyr i gael cynhyrchion am ddim. Mae hyn yn amhosibl ei ddychmygu, bod yn rhaid i ni fuddsoddi arian y Llywodraeth, ac rydym ni'n gwneud hynny o wirfodd, ac rwyf eisiau gwneud hynny'n glir, oherwydd methiant yn y system sydd wedi'i gweithredu—y system fudd-daliadau'n bennaf—gan Lywodraeth y DU ac mae hynny dal i fod. Felly, rwy'n gobeithio y byddwch chi'n ymddiheuro am hynny.

Maes arall yr ydym ni'n buddsoddi ynddo hefyd, sy'n mynd i wneud gwahaniaeth enfawr i fywydau menywod, yw'r cynnig o £40 miliwn ar gyfer gofal plant i Gymru. Dyma'r gorau yn y DU. Gwn i fod rhai pobl eraill yn ofalwyr, a gwn i fod yna ofalwyr gwrywaidd hefyd, ond mae 30 awr o addysg gynnar neu ofal plant ar gyfer plant rhieni sy'n gweithio yn helpu'r rhieni hynny i ddychwelyd i'r gwaith.

Gwn i y byddai rhai pobl yn hoffi gweld gwelliannau yn hynny o beth—byddem ni i gyd yn dymuno hynny. Ond gadewch i ni fod yn glir: fe wnaethom ni ddewis, gyda'r arian cyfyngedig a oedd gennym ni, fuddsoddi yn hynny i sicrhau bod rhieni yn gallu achub ar y cyfle i ddychwelyd i'r gwaith fel y byddai, pe baent yn defnyddio 20 awr o ofal plant am ddim, £90 ar gael iddyn nhw, yn eu pocedi, i wario ar eu haelwydydd fel y gallen nhw o leiaf geisio negyddu rhai o'r toriadau a orfodwyd ar yr aelwydydd hynny gan y 10 mlynedd o'r dewis gwleidyddol i beidio â buddsoddi yn eu teuluoedd.

Felly, fy nghwestiwn i i'r Gweinidog yw hyn: a allwch chi ein sicrhau y byddwn ni'n cadw'r cynnig gofal plant gorau yn y DU, y byddwn ni'n ariannu hynny oherwydd dyma'r llwybr gorau? Pan fydd rhieni'n gweithio, dyma'r llwybr gorau sydd gan y plant i sicrhau eu bod yn gallu dod allan o dlodi.

Hoffwn i ofyn dau gwestiwn penodol iawn i'r Gweinidog—cwestiynau yr wyf i wedi'u gofyn droeon yn y Siambr hon, ac rwyf i hyd yn oed wedi gorfod troi at Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 er mwyn ceisio cael atebion i'r cwestiynau hyn, a hynny'n ofer o hyd. Nid wyf i wedi cael atebion eto. Ond yr hyn yr wyf i wedi'i ofyn droeon yn y gorffennol yw: faint sydd wedi'i glustnodi ar gyfer gwelliannau a chreu swyddi a datblygu economaidd yn y Cymoedd yn rhan o Dasglu'r Cymoedd?

Rwyf i hefyd wedi gofyn yn benodol faint a pha fath o fuddsoddiad y gallwn ni ddisgwyl ei weld yn y Rhondda, uwchben yr hyn yr ydych chi eisoes yn ei fuddsoddi ym mhobman mewn bysiau, mewn cartrefi gwag ac yn y blaen. Mae atebion blaenorol wedi sôn am wariant sydd wedi'i gynllunio ar gyfer rhannau eraill o Rondda Cynon Taf, ond nid y Rhondda. Felly, mae fy nghwestiynau'n glir ac yn benodol a buaswn i'n ddiolchgar iawn pe bawn i'n gallu cael atebion clir a phenodol y tro hwn. Faint o arian newydd y mae Tasglu'r Cymoedd yn ei gael, a faint o arian newydd y mae'r Rhondda—nid Pontypridd, nid Llantrisant, nid Aberdâr, nid Aberpennar, nid Blaenau Gwent hyd yn oed—ond faint o arian y gallwn ni ddisgwyl i gael ei fuddsoddi yn y Rhondda yn rhan o waith tasglu'r Cymoedd o'r gyllideb hon, a beth y gallwn ni ddisgwyl ei weld o ganlyniad?

17:00

Credaf fod llawer i'w groesawu yng nghyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru ac rwy'n cymeradwyo'r Gweinidogion am eu hymrwymiad i fuddsoddi yn y gwasanaethau cyhoeddus yr ydym ni'n dibynnu arnyn nhw, ac yn wir yn nyfodol ein cenedl, ac mae hynny, wrth gwrs, er gwaethaf, fel y mae Aelodau eraill wedi cyfeirio ato, y ffaith bod cyllideb Cymru yn dal i deimlo canlyniadau, yn fawr iawn, effaith degawd o fesurau cyni diangen San Steffan sydd wedi eu seilio ar ideoleg.

Hoffwn sôn am un agwedd ar y gyllideb y gwn y bydd croeso iddi ar y stryd fawr ac mewn trefi a phentrefi yng Nghwm Cynon, sef yr ymrwymiad i ymestyn cynllun gwella strydoedd mawr a rhyddhad ardrethi manwerthu Llywodraeth Cymru am flwyddyn arall. Mae'r cymorth hwn i fanwerthwyr yng Nghymru sydd â gwerth ardrethol hyd at £50,000 yn fantais wirioneddol i'r busnesau bach sydd yn asgwrn cefn i'r economi leol yn fy etholaeth i, ac rwy'n siŵr bod hynny'n wir mewn etholaethau eraill ar hyd a lled Cymru. Siopau ac unedau manwerthu yw'r rhain, ond hefyd y caffis, tafarndai a'r bwytai sy'n arwain at amgylchedd canol tref ffyniannus a'r teimlad cymunedol go iawn hwnnw hefyd. Gwyddom fod yr ymyrraeth hon, gyda chefnogaeth arian ychwanegol, yn golygu y bydd dros 1,500 o fusnesau bach a chanolig eu maint yn 2020-1 yn cael cymorth tuag at eu hardrethi. Ac yn bwysig, rwy'n credu, i fusnesau â gwerth ardrethol o hyd at £9,100, mae'n golygu y bydd eu biliau ardrethi'n cael eu gostwng i sero ar gyfer eiddo manwerthu. Bydd gwerthoedd uwch yn cael cymorth hanfodol o hyd at £2,500, ac mae hynny, wrth gwrs, yn ychwanegol at gynllun rhyddhad ardrethi parhaol Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau bach.

Yn yr un modd, rwy'n credu bod y rhyddhad ardrethi dewisol ychwanegol a ddyrennir i awdurdodau lleol i ymdrin ag anghenion lleol penodol yn bwysig iawn, ac mae'n dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i rymuso llywodraeth leol hefyd. Croesawaf gyhoeddiad y Gweinidog y bydd hi'n dyblu'r arian a ddyrennir i'r elfen hon o'r pecyn.

Rwy'n credu ei bod hefyd yn bwysig cofio, ar y cyd, fod polisi Llywodraeth Cymru yn golygu bod cyfran uwch o fusnesau bach a chanolig yn cael cymorth nag yn Lloegr na'r Alban. Yng Nghymru ar hyn o bryd mae'r cynllun yn cefnogi bron i 70 y cant o fusnesau bach yma, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y dylem ni fod yn falch iawn ohono. Dim ond 38 y cant yw'r ffigurau cymharol ar gyfer Lloegr, a 45 y cant ar gyfer yr Alban. Gyda'i gilydd, beth mae hyn yn ei ddangos i mi yw bod gennym Lywodraeth Cymru sydd ar ochr busnesau bach yng Nghymru ac mae'n ategu Gorchymyn Ardrethu Annomestig (Lluosydd) (Cymru) 2019 cyn y Nadolig. Rwy'n falch o gefnogi cyllideb ddrafft Llywodraeth Cymru heddiw, ac rwy'n canmol y Gweinidog Cyllid am yr hyn yr wyf yn credu yw ei chyllideb ddrafft gyntaf.

Diolch, Llywydd. Rwy'n croesawu'r ddadl yr ydym ni wedi'i chael y prynhawn yma a'r rhan fwyaf o'r sylwadau a'r safbwyntiau yr ydym wedi'u clywed gan fy nghyd-aelodau. Ac fel yr amlinellais yn fy natganiad agoriadol, mae hon yn gyllideb sy'n digwydd mewn cyfnod o ansicrwydd ac amgylchiadau sy'n esblygu, ac mae hefyd yn gyllideb a osodwyd yng nghysgod hir degawd o gyni a orfodwyd gan Lywodraeth y DU ac er gwaethaf yr honiadau nid yw'r cyni hwnnw wedi dod i ben hyd yn hyn. Ac mae hefyd yn gyllideb a bennwyd heb unrhyw eglurder ynghlych ein hymadawiad o'r Undeb Ewropeaidd na darlun clir ar y rhagolygon ar gyfer gwariant cyhoeddus y tu hwnt i'r flwyddyn nesaf. A bydd angen inni hefyd, yn amlwg, reoli canlyniadau cyllideb y DU ar ôl i ni gwblhau ein cynlluniau gwariant ar gyfer 2020-1. Dyma, mewn gwirionedd, yw'r cefndir heriol i'r ddadl a gawsom heddiw.

Gallaf dawelu meddwl Suzy Davies fy mod bob amser yn gwrando'n astud ar bob cyfraniad yn ystod fy nadleuon, a cheisiaf ymateb i gynifer o'r pwyntiau a godwyd y prynhawn yma, ond, wrth gwrs, mae pob un o'm cyd-Aelodau yn edrych ymlaen at fynychu eu pwyllgorau pwnc ar gyfer craffu yr wythnos hon a'r wythnos nesaf, a bydd cyfleoedd i ystyried mewn rhagor o fanylder rai o'r materion hyn hefyd.

Fel Llyr Gruffydd, cefais fy synnu bod Darren Millar yn dweud wrthym ein bod mewn sefyllfa well nag erioed. Hoffwn weld Darren Millar yn dweud hynny wrth y bobl sy'n dod i fy nghymhorthfa i yn gwbl anghenus ac yn anobeithio, o dan lawer o straen ac yn pryderu am y sefyllfaoedd y maen nhw'n eu hwynebu. Mae pobl yn dioddef o ganlyniad i gyni a diwygio lles. Dywedwch hynny wrth bobl sy'n ymweld â banciau bwyd. Dywedwch hynny wrth bobl sy'n gweithio yn yr economi gig sydd â chytundebau dim oriau, heb wybod pa fath o sicrwydd y gallant gynllunio ar ei sail.

17:05

Mae'r Gweinidog yn fy ngwahodd i fynd gyda hi i'w hetholaeth; byddwn i wrth fy modd pe byddai hi'n ymweld â fy etholaeth i i gwrdd â chleifion sydd wedi bod yn aros 12 awr a mwy i gael eu gweld mewn adrannau achosion brys, unigolion sydd wedi bod yn aros am ddwy flynedd i gael eu llawdriniaeth ar y glun, y pen-glin a'r ysgwydd, ac i weld y nifer fawr o bobl mewn ysgolion sy'n poeni am lefel y gwahaniaeth rhwng cyllido ysgolion yng Nghymru—yng Nghonwy ac yn Sir Ddinbych—o'i gymharu â chyllid ysgolion dros y ffin yn Lloegr. Byddwn i wrth fy modd pe byddech chi'n dod i egluro wrthyn nhw pam mae pethau mor ddrwg yma yng Nghymru o gymharu â thros y ffin.

A dof at faterion iechyd ac addysg wrth i mi symud drwy fy ymateb i'r ddadl, ond fe ddechreuaf drwy ddweud bod Llywodraeth Cymru yn awyddus iawn i wneud yr hyn y gallwn ni i gadw arian ym mhocedi pobl. Mae rhai o'r camau yr ydym ni'n eu cymryd ar draws y Llywodraeth i sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â thlodi yn golygu mewn gwirionedd y gallai pobl mewn rhai amgylchiadau fod â £2,000 yn fwy yn eu pocedi yn sgil y penderfyniadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i'w cefnogi. Mae enghreifftiau yn y gyllideb ddrafft yn cynnwys £8.4 miliwn ar gyfer mynediad i'r grant amddifadedd disgyblion, a'r arian hwnnw ar gyfer teuluoedd i helpu i brynu gwisg ysgol a chitiau chwaraeon, offer ar gyfer tripiau y tu allan i oriau ysgol, ac offer ar gyfer gweithgareddau allgyrsiol hefyd, ac yn y gyllideb rydym yn darparu £3.2 miliwn ychwanegol i ymestyn y cynllun ymhellach i fwy o grwpiau blwyddyn o ganlyniad i lwyddiant y cynllun hwnnw hyd yn hyn. Mae £7 miliwn ar gyfer prydau ysgol am ddim yn y gyllideb ddrafft, £2.7 miliwn ar gyfer y rhaglen cyfoethogi gwyliau ysgol, cyfleoedd i blant rhwng 7 ac 11 oed i fod yn fwy egnïol, bwyta'n iach, datblygu cyfeillgarwch, gan hefyd elwa i'r eithaf ar gyfleusterau ysgolion lleol mewn ardaloedd difreintiedig yn ystod gwyliau'r haf. Caiff £1.8 miliwn ychwanegol ei ddyrannu yn y gyllideb ddrafft hon er mwyn gallu ymestyn y rhaglen hon i hyd at 7,600 o blant eraill, gyda £1.1 miliwn ar gyfer y cynllun peilot Gwaith Chwarae Newyn Gwyliau, gan ddarparu estyniad i'r gwaith yr ydym ni'n ei wneud ar y mater pwysig hwn. Cyfeiriodd Joyce Watson at y cyllid pwysig o £3.1 miliwn ar gyfer urddas mislif; mae £200,000 arall ar gyfer y cynllun tlodi mislif hefyd. Mae hefyd y gwaith yr ydym ni'n ei wneud i gynorthwyo pobl i gael hyfforddiant a chyflogaeth. Cyfeiriodd Joyce Watson hefyd at y ffaith bod gennym y cynnig gofal plant mwyaf hael yma yng Nghymru, a £60 miliwn yn y gyllideb ddrafft ar gyfer hynny, sydd yn gynnydd o £20 miliwn ar gyllid y cynllun hwn y llynedd. Ac rydym wedi rhoi sicrwydd i awdurdodau lleol, pe bai'r galw hyd yn oed yn fwy na hynny, y byddwn yn ceisio ariannu unrhyw alw ychwanegol fel nad oes angen i awdurdodau lleol boeni am hynny.

A wnaiff y Gweinidog ildio? A gaf i nodi ar hynny, pan fyddwch yn ystyried elfen ddynol y stori honno—rwy'n siarad ag etholwyr mewn teuluoedd sy'n gweithio am gyflog isel iawn sydd, waeth beth fo'r feirniadaeth ynghylch faint ymhellach y gallem ni fynd â'r cynnig gofal plant, yn dweud wrthyf eu bod £200 neu £250 yr wythnos yn well eu byd oherwydd nad ydyn nhw'n talu am ofal plant mwyach ac maen nhw wedi gallu cymryd mwy o sifftiau yn eu gwaith a dod â mwy o arian i'r cartref. Nid oes gennym reolaeth dros les, ond mae'r pethau y gallwn ni eu gwneud yn gwneud gwahaniaeth sylweddol. Y perygl, fodd bynnag—a tybed a fyddai hi'n cytuno â mi ar hyn—yw fod pethau ychydig fel pan gyflwynom ni'r lwfans tanwydd gaeaf i bensiynwyr. Mae'n digwydd nawr, mae'n cyrraedd yn y siec, mae pobl yn dweud, 'O, rydym ni bob amser wedi cael hynny', ond mae'r pethau hyn ond ganddyn nhw oherwydd bod Llywodraeth Lafur yma neu yn San Steffan.

Mae hynny'n hollol gywir. Mae'r holl bethau hyn yr ydym ni'n eu gwneud i sicrhau bod pobl yn cadw arian yn eu pocedi yn ddewisiadau gwleidyddol yr ydym ni wedi'u gwneud ynglŷn â'r ffordd yr ydym ni'n gwario ein cyllideb, a'r math o gyllidebau drafft yr ydym ni'n eu cyflwyno gerbron y Cynulliad hwn o flwyddyn i flwyddyn. Felly, enghreifftiau eraill fyddai'r lwfans cynhaliaeth addysg—£30 yr wythnos i bobl ifanc 16 i 18 mlwydd oed sy'n byw mewn cartrefi incwm isel. Clywaf Rhianon yn dweud 'ni fyddech chi'n cael hynny yn Lloegr', ac mae hi yn llygad ei le. Mae £4.4 miliwn ar gael ar gyfer grant Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg bellach, felly mae hynny hyd at £1,500 ar gyfer cwrs amser llawn, neu £750 ar gyfer cwrs rhan-amser ar gyfer myfyrwyr 19 oed neu'n hŷn, eto o'r cartrefi incwm isel hynny. A gallwn i fynd ymlaen ac ymlaen, gan gynnwys pethau fel y £244 miliwn yr ydym yn ei fuddsoddi yng nghynllun gostyngiadau'r dreth gyngor. Y gronfa cymorth dewisol—£12.6 miliwn, sy'n rhoi cymorth ariannol brys i bobl sy'n wirioneddol yn eu cael eu hunain yn anghenus, er mwyn gallu prynu bwyd, talu am eu nwy a'u trydan a phrynu eitemau hanfodol eraill ar gyfer y cartref. Unwaith eto, rydym ni o hyd yn edrych i weld beth y gallwn ni ei wneud i gryfhau'r gronfa benodol honno, oherwydd rydym ni'n gwybod pa mor bwysig yw hi i bobl sydd, yn ôl pob tebyg, mewn sefyllfa well nag erioed.

Felly, ar draws Llywodraeth Cymru, gallwn ni weld bod tua £1 biliwn o arian yn mynd yn uniongyrchol i gynlluniau gwrthdlodi ar draws bob portffolio, a chredaf fod hynny'n rhywbeth y dylem ni i gyd fod yn falch iawn ohono, gan ei fod yn gwahaniaethu hon fel cyllideb Llywodraeth Lafur o'i gymharu ag eraill.

Bu cwestiynau ynghylch yr hyn y disgwyliwn ei gyflawni o'n cyllid ychwanegol gan y GIG. Wel, wrth gwrs, rydym ni'n parhau i ddisgwyl i GIG Cymru wneud cynnydd o ran lleihau amseroedd aros, a sicrhau bod y pwyslais ar y bobl hynny sy'n aros yr amser hiraf ar hyn o bryd. Rwy'n gwybod bod disgwyl i sefydliadau'r GIG gyflwyno eu cynlluniau cyllideb ar gyfer 2020-1 ddiwedd mis Ionawr, ac rydym yn gobeithio bydd y cynlluniau hynny yn cyflawni gwelliannau perfformiad ar gyfer cleifion y flwyddyn nesaf. A gwn fod y Gweinidog iechyd yn edrych ymlaen at archwilio'r cynlluniau hynny, ac yna bydd yn penderfynnu cymeradwyo neu beidio â chymeradwyo'r cynlluniau hynny.

Mae rhai o'r pethau penodol y gallwch chi eu gweld yn ein cyllideb ddrafft heddiw yn y maes iechyd yn cynnwys buddsoddiad gan GIG Cymru yn y prif rwydwaith trawma ar gyfer de Cymru, gorllewin Cymru a de Powys. A nod y rhwydwaith trawma mawr hwnnw yw gwella canlyniadau a phrofiadau cleifion ar draws llwybr cyfan y claf o'r adeg y caiff ei glwyfo i pan gaiff ei wella, a bydd y rhwydwaith hwnnw'n gwella canlyniadau i gleifion drwy achub bywydau ac atal anabledd y gellir ei osgoi, dychwelyd mwy o gleifion i'w teuluoedd, i'r gwaith ac i addysg.

Rydym ni hefyd yn buddsoddi mewn triniaethau newydd, ac mae £16 miliwn y flwyddyn yn cael ei ddyrannu i fyrddau iechyd i gefnogi ein hymrwymiad i fuddsoddi £80 miliwn dros gyfnod y weinyddiaeth hon, gan ostwng yr amser y mae pobl yn aros am y triniaethau hynny o 90 diwrnod i lawr i 10 diwrnod, ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y dylem ni fod yn falch iawn ohono.

Rydym ni hefyd yn buddsoddi mewn meddygaeth fanwl, drwy genomeg a therapïau celloedd a genynnau, a bydd y dull hwn o ddiagnosio a thrin yn golygu y bydd cleifion yn gallu cael diagnosis a thriniaethau mwy personol, gyda chanlyniadau llawer gwell. Ac, eto, roedd cwestiwn am ofal sylfaenol, a byddwn yn parhau i fuddsoddi mewn gofal sylfaenol, gan ychwanegu £10 miliwn i gyllid y clwstwr gofal sylfaenol yn y flwyddyn ariannol nesaf, a bydd hynny'n canolbwyntio ar weithredu'r model gofal sylfaenol ar gyfer Cymru a chydweithio drwy'r clystyrau gofal sylfaenol hynny.

Yn 2019-20, cyhoeddwyd cynnydd o £25 miliwn yn y contract gwasanaethau meddygol cyffredinol, gan ei gynyddu i fwy na £536 miliwn. Yn ogystal, mae'r gronfa datblygu gofal sylfaenol o dros £40 miliwn yn cefnogi'r gweithlu gofal sylfaenol a gweithio mewn clystyrau. Ac, wrth gwrs, mae pwyslais cryf iawn ar atal ac ymyrraeth gynnar yn ein cynlluniau gwario drafft, ac mae rhywfaint o'r gwariant newydd yn cynnwys y £5.5 miliwn i gefnogi'r strategaeth 'Pwysau Iach: Cymru Iach'. Ac mae hefyd nifer o fuddsoddiadau cyfalaf gwirioneddol bwysig. Felly, rydym ni'n buddsoddi dros £374 miliwn yn y seilwaith gofal iechyd yng Nghymru yn 2021, a bydd rhywfaint o hynny'n cefnogi prosiectau mawr iawn. Er enghraifft, y camau adeiladu olaf yn ysbyty'r Grange yng Nghwmbrân, a'r cam nesaf o adnewyddu Ysbyty'r Tywysog Siarl ym Merthyr, a chredaf bod hwn yn gyfnod cyffrous i'r GIG yng Nghymru.

Codwyd cwestiynau ynglŷn â'r setliad llywodraeth leol a sut yr ydym yn pennu'r symiau o arian y mae awdurdodau lleol yn eu derbyn. Rwy'n credu bod unrhyw awgrym bod unrhyw beth rhagfarnllyd am y penderfyniadau sy'n cael eu gwneud drwy'r fformiwla yn gwbl gywilyddus. Nid oes unrhyw dystiolaeth o gwbl bod unrhyw awdurdodau, unrhyw awdurdodau gwledig neu fathau eraill o awdurdodau, yn cael eu rhoi dan anfantais drwy'r fformiwla ariannu llywodraeth leol. Caiff y cyllid refeniw craidd a ddarparwn i awdurdodau lleol bob blwyddyn ei ddosbarthu yn ôl fformiwla angen gymharol, ac mae hynny'n ystyried ystod o wybodaeth am nodweddion demograffig, ffisegol, economaidd a chymdeithasol awdurdodau. Ond mae'n ffaith bod y dyraniadau i awdurdodau'r gogledd eleni, yn gyffredinol, yn is na chyfartaledd Cymru, ac mae hynny o ganlyniad i'r newid cymharol is yn y boblogaeth a niferoedd y disgyblion o'i gymharu â gweddill Cymru yn ei chfanrwydd. Nawr, mae hynny'n nodwedd o'r fformiwla ariannu, ac mae'r fformiwla ariannu honno wedi'i datblygu drwy ymgynghori â llywodraeth leol drwy'r is-grŵp dosbarthu, sef gweithgor technegol y mae ei aelodau'n cynnwys uwch swyddogion llywodraeth leol o bob rhan o Gymru. Mae'n cynnwys Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru ac arbenigwyr annibynnol, i sicrhau bod y gwahanol ffactorau hynny'n cael eu trin yn deg. Ac yn gynwysedig yn y fformiwla mae nifer o ddangosyddion sy'n cyfrif am raddau amrywiol teneurwydd poblogaeth ar draws awdurdodau, ac maent yn defnyddio ysgolion yn rhan o'r fformiwla. Ac mae'r holl bethau hyn yn cael eu goruchwylio'n agos iawn, iawn gan aelodau annibynnol yr is-grŵp dosbarthu er mwyn sicrhau nad oes unrhyw ragfarn, naill ai o blaid neu yn erbyn buddiannau unrhyw awdurdod penodol.

O ran gwneud yr wybodaeth yn gyhoeddus, mae manylion y fformiwla a'i chymhwysiad yn cael eu nodi yn yr wybodaeth gefndirol ar gyfer yr asesiadau gwariant safonol, ac mae hynny'n cael ei adnabod yn gyffredin fel y Llyfr Gwyrdd. Cyhoeddir y Llyfr Gwyrdd yn flynyddol, ac mae hefyd yn cynnwys y fformiwla a'r cyfrifiadau a ddefnyddir i benderfynu ar yr asesiadau o wariant safonol ar gyfer pob maes gwasanaeth unigol. Caiff ei gyhoeddi yma yng Nghymru ar ôl i'r setliad llywodraeth leol gael ei gyhoeddi, sef y cyhoeddiad terfynol, sydd wedi'i drefnu ar gyfer 25 Chwefror.

Rwy'n mynd i fod yn gyflym iawn, iawn yn awr, Llywydd, wrth fynd i'r afael â rhai o'r materion ynghylch buddsoddi mewn ysgolion. Ac wrth gwrs, rydym ni'n cynyddu ein buddsoddiad i awdurdodau lleol, sef y brif ffordd y mae arian yn cyrraedd ysgolion. Felly, mae £1.8 biliwn yn mynd i addysg ar draws awdurdodau lleol a phrif grwpiau gwariant addysg. Roedd rhai cwestiynau penodol yn ymwneud, er enghraifft, â'r dyraniad tair blynedd o gyllid. Wel, nid ydym ni'n gallu darparu'r dyraniad cyllid tair blynedd; mae ysgolion yn Lloegr wedi gallu cael setliad tair blynedd, ond wrth gwrs dim ond y setliad blwyddyn hwnnw sydd gennym ni, felly ni allwn roi'r tawelwch meddwl a'r sicrwydd yr hoffem ei gael. ADY—yn falch iawn ein bod wedi gallu darparu cyllid ychwanegol o fewn anghenion dysgu ychwanegol, a'r cyllid ar gyfer lleoliadau ôl-arbenigol hefyd. Mae'r ddau wedi cynyddu, ac nid yw'r rhai hynny'n ymwneud â'r rhaglen trawsnewid ADY—mae hynny'n arian ychwanegol, atodol ar ben hynny.

Mae datgarboneiddio wedi bod yn gwbl hanfodol i'n huchelgais eleni. A'r hyn yr wyf wir eisiau ei wneud yn glir yw mai dim ond rhan o'r darlun yw'r £96 miliwn ychwanegol, mewn gwirionedd, yn rhan o'r £140 miliwn hwnnw o wariant cyfalaf. Felly, lle byddwch chi'n gweld y rhan fwyaf o'r pethau cyffrous yn digwydd, o ran datgarboneiddio, maen nhw eisoes yn digwydd mewn portffolios o fewn gweddill y gyllideb. Felly, byddwch chi'n gweld enghreifftiau drwy lefel y grant tai cymdeithasol yr ydym ni'n ei ddarparu. Mae'r holl dai yn awr—tai cymdeithasol i gyd—wedi'u hadeiladu yn ôl safon ansawdd tai Cymru. Mae hynny'n rhan o'n hagenda datgarboneiddio, ond wrth gwrs ni fyddwch yn ei weld yn yr arian ychwanegol. A'r un peth ar gyfer yr holl eitemau yn ein cynllun cyflenwi carbon isel, a'r gwaith y mae Ken Skates yn ei arwain drwy'r cynllun gweithredu economaidd, sy'n ysgogi twf cynaliadwy a mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd. Oherwydd dyna un o'r galwadau am weithredu i fusnesau preifat, ac mae'n rhaid iddynt wneud hynny os ydyn nhw am ddefnyddio'r gronfa dyfodol economaidd. Ac wrth gwrs, mae'n chwarae rhan bwysig yn y cytundeb economaidd hefyd.

Hoffwn dawelu meddyliau yr aelodau nad oes unrhyw doriadau wedi bod yng nghyllidebau'r Gymraeg, a gwn y bydd y Gweinidog yn medru rhoi rhagor o wybodaeth am hynny. Mae'n un o'r sefyllfaoedd hynny lle rydych yn gweld arian yn symud rhwng llinellau yn y gyllideb, ond nid yw hyn yn golygu bod yna doriad, fel pe bai.

Felly, rwy'n credu fy mod eisoes wedi nodi ein hagwedd at drethi yn fy sylwadau agoriadol, ac wrth gwrs, byddwch wedi ei weld yn y dogfennau. Nid oes unrhyw gyfrinachau ar y ffordd, nid oes unrhyw beth yr ydym ni'n ei guddio. fel yr oedd Darren Millar yn ei awgrymu—y gallem ni fod yn cyflwyno trethi newydd o fewn y flwyddyn; nid yw hyn yn mynd i ddigwydd. Felly, er yr holl heriau yr ydym ni wedi'u trafod, rwyf am ail-bwysleisio bod y buddsoddiadau yr ydym ni wedi'u cymryd yn y gyllideb hon, a thros dymor y Llywodraeth hon, wedi gwarchod ein gwasanaethau cyhoeddus gwerthfawr, ac wedi ein helpu i fuddsoddi yn ein meysydd blaenoriaeth, gyda'r bwriad o gefnogi ein huchelgais i greu Cymru sy'n fwy cyfartal, yn fwy llewyrchus ac yn fwy gwyrdd. Diolch.

17:15
5. Datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Bolisi Masnach

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol ar y wybodaeth ddiweddaraf am bolisi masnach. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Eluned Morgan.

Diolch, Llywydd. Wrth i'r Deyrnas Unedig baratoi i ddechrau ar gyfnod newydd o negodiadau, a allai newid economi Cymru a'r Deyrnas Unedig am ddegawdau i ddod, mae polisi masnach wedi dod yn fwy amlwg. Mae'r etholiad cyffredinol wedi dangos yn glir y bydd Brexit yn digwydd, ac y gallai esgor ar nifer o negodiadau masnach, a fyddai'n digwydd ar yr un pryd. Ond, mae'n werth nodi hefyd i'r etholiad cyffredinol ddangos fod cyfran Plaid Lafur Cymru o'r bleidlais yn uwch nag oedd hi yn 2010 a 2015, ac yn holl etholiadau'r Senedd, ar wahân i 2011. Felly, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i fod â mandad clir o roi llais cryf i Gymru ledled y Deyrnas Unedig, yn enwedig ar faterion sydd wedi eu datganoli.

Pasiodd y Senedd gynnig ym mis Rhagfyr yn galw am gael rôl ffurfiol i sefydliadau datganoledig mewn negodiadau ar gytundebau rhyngwladol. Mae'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol hefyd wedi cyhoeddi adroddiad sy'n darparu argymhellion manylach. Mae'r rheini i gyd i weld i fi yn synhwyrol, a byddaf yn ymateb yn ffurfiol iddynt yn ystod y mis nesaf. Rwy'n awyddus i weithio'n agos gyda'r pwyllgor i wneud yn siŵr eu bod nhw'n cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau.

Felly, sicrhau rôl ystyrlon mewn negodiadau rhyngwladol yw ein prif flaenoriaeth yn yr wythnosau nesaf, wrth i baratoadau ar gyfer negodiadau gynyddu. Er mwyn sicrhau bod llais Cymru i'w chlywed, bydd yn hollbwysig inni gael dulliau cadarn, nid yn unig er mwyn gallu cynrychioli Cymru yn effeithiol, ond ar gyfer unoliaeth y Deyrnas Unedig hefyd.  

Rŷm ni'n awyddus i sicrhau rôl glir i Lywodraeth Cymru ym mhob agwedd ar negodiadau masnach y dyfodol. Ein nod ni yw i fod yn bartner adeiladol, a chredwn y bydd safbwynt cyfunol yn y Deyrnas Unedig, sy'n adlewyrchu a pharchu gwahanol flaenoriaethau ar draws pob un o'i gwledydd, yn fanteisiol wrth ymgymryd â negodiadau cymhleth â phartneriaid masnach pwerus.

Gallwch fod yn glir y bydd yr Undeb Ewropeaidd yn ceisio cydbwyso blaenoriaethau pob un o'i 27 aelod-wladwriaeth, gan eu cynnwys wrth osod mandad a llywio negodiadau. Mae hyn yn cyfrannu at yr hyn sy'n eu gwneud yn negodwyr cadarn. Gall y Deyrnas Unedig gydbwyso blaenoriaethau ei phedair gwlad yn gyfartal, a bydd hi hefyd wedyn mewn gwell sefyllfa i negodi o'r herwydd.

Fel y Deyrnas Unedig, mae'n hanfodol ein bod ni'n dysgu gwersi o broses negodi erthygl 50 a sicrhau nad ydym ni'n gwneud yr un camgymeriadau â'r rheini a wnaeth Ysgrifenyddion Gwladol blaenorol. Rwyf am dynnu sylw at ddwy agwedd benodol, ond mae rhagor ohonynt, yn sicr. Y rhain yw: yn gyntaf, yr angen i gael consensws, a'r ail yw bod yn agored am gyfnewidiadau sy'n rhan hanfodol o unrhyw gytundeb masnach.

Yn gyntaf, rhaid inni greu gweledigaeth a rennir ledled y Deyrnas Unedig ynghylch sut economi a chysylltiadau masnach yr ydym eisiau eu gweld yn y dyfodol. Rhaid i'r weledigaeth fod yn seiliedig ar dystiolaeth ac ymgysylltiad â rhanddeiliaid allweddol. Rhaid i holl wledydd y Deyrnas Unedig ddod at ei gilydd i lunio mandadau negodi, a chytuno arnyn nhw. Bydd y mandadau hyn yn cydbwyso buddiannau pob rhan o'r Deyrnas Unedig a phob rhan o'r gymdeithas, nid Lloegr yn unig. Mae craffu a thrafod yn rhan hanfodol o unrhyw ddemocratiaeth, a dylid croesawu hynny fel ffordd o wella polisi masnach a dod at gonsensws trawsbleidiol. Bydd hyn yn atal Llywodraethau dilynol rhag ceisio ailagor neu ail-negodi cytundebau, pan ddaw nhw i rym.

Pan fydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn ailgyflwyno'r Bil masnach, sydd yn delio â chytundebau masnach dyblyg sy'n bodoli eisoes yn yr Undeb Ewropeaidd, byddwn yn rhoi pwysau ar Lywodraeth y Deyrnas Unedig i ddiogelu'r diwygiadau a arweiniodd at gael cydsyniad yn y Senedd yma. Ond, os byddan nhw nawr yn cyflwyno deddfwriaeth a fyddai'n darparu sail ar gyfer negodi cytundebau rhyngwladol newydd, fe fyddwn ni'n mynnu y cawn ni hefyd rôl fel sefydliad datganoledig, a bod hwnna'n cael ei gynnwys yn y ddeddfwriaeth newydd. Yn yr un modd, byddwn hefyd yn ceisio sicrhau cefnogaeth yn Nhŷ'r Arglwyddi i ddiwygio Bil y cytundeb ymadael er mwyn ffurfioli rôl o'r fath yng nghyswllt negodiadau'r Undeb Ewropeaidd.

Rhaid i gonsensws cyffredinol adlewyrchu safbwyntiau busnesau, cymunedau a dinasyddion ledled y Deyrnas Unedig hefyd. Dylem o leiaf fod yn hafal i'r Undeb Ewropeaidd a'r Unol Daleithiau drwy ddangos tryloywder ac annog y ddadl gyhoeddus. Rydym yn barod i weithio mewn ffordd adeiladol gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig er mwyn helpu i ddod i'r consensws yma. Mae hyn yn cynnwys bod yn glir ynghylch sut mae diogelu ein gwasanaeth iechyd gwladol mewn cytundebau masnach.

17:25

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Mae'n werth nodi y bydd ein trafodaethau masnach gyda'r UE yn ddigynsail, gan y byddant yn y pen draw yn arwain at rwystrau cynyddol i fasnachu, yn hytrach na'u dileu. Mae'r holl bosibiliadau a ragwelwyd gan y Torïaid yn arwain at fwy o wrthdaro â'n partner masnachu agosaf a phwysicaf. Ac mae'r holl dystiolaeth gredadwy yn dangos na fydd y manteision sy'n gysylltiedig â chytundebau masnach uchelgeisiol â'r Unol Daleithiau, Awstralia a Seland Newydd gyda'i gilydd yn gwneud iawn am y gostyngiad mewn masnach â'r UE. Rydym yn cydnabod manteision a chyfleoedd cytundebau masnach newydd, ond rhaid i ni roi blaenoriaeth yn syth i leihau effaith y rhwystrau newydd i fasnachu â'r UE.

Felly, daw hyn â mi at yr ail fater allweddol. Mae angen i ni fod yn agored ac yn dryloyw ynghylch y cyfaddawdu sy'n gysylltiedig â phob cytundeb masnach—y cyfaddawdu rhwng trafodaethau lluosog yn digwydd ar yr un pryd. Bydd yn rhaid gwneud dewisiadau, a bydd rhai ar eu hennill a rhai ar eu colled.

Mewn trafodaethau unigol, rhaid inni beidio â cholli golwg ar fuddiannau defnyddwyr, yn ogystal â rhai'r cynhyrchwyr. Mewn rhai achosion, byddai'r manteision i ddefnyddwyr o gael prisiau is yn fwy na'r risgiau i sectorau anghystadleuol, a gellid trafod cyfnod o addasu graddol fesul cam. Mewn achosion eraill, bydd yr angen i gynnal swyddi a diogelu cyflogwyr rhag arferion rheibus mewn gwledydd eraill yn amlwg yn hollbwysig. Mae angen hefyd inni gydbwyso ein buddiannau economaidd gyda'n cyfrifoldebau ehangach o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, ac rydym ni eisiau sicrhau ein bod yn hyrwyddo, nid tanseilio, safonau yn ymwneud â'r amgylchedd a'r farchnad lafur a gweithredu byd-eang i fynd i'r afael â'r argyfwng newid hinsawdd.

Un cyfaddawd clir rhwng gwahanol drafodaethau masnach yw i ba raddau y mae'r DU yn blaenoriaethu perthynas fasnachu agos â'r UE o gymharu â chael cytundeb masnach uchelgeisiol â'r Unol Daleithiau. Bydd ar y naill a'r llall eisiau cysondeb â'i reoliadau, megis diogelwch bwyd. Felly, gallai parhau i gydymffurfio â'r UE gyfyngu ar y gost economaidd i'r DU a pharhau i sicrhau didwylledd marchnad fewnol y DU. Ar y llaw arall, bydd cydymffurfio â'r Unol Daleithiau yn golygu costau economaidd uwch a'r perygl o ddarnio'r farchnad fewnol yn y DU yn ogystal â'r posibilrwydd o wanhau'r undeb.

Rydym ni wedi bod yn glir bod y dystiolaeth i'r graddau mwyaf posib yn dangos y dylem flaenoriaethu ein perthynas â'r UE fel ein partner masnachu pwysicaf. Mae hyn yn adlewyrchu consensws eang ymysg busnesau ac academyddion. Mae hefyd yn cydnabod realiti deuol polisi 'America yn gyntaf' ymosodol, sef, heb gytundeb masnach sylweddol gan yr UE, y bydd yn rhaid i ni ddibynnu ar reolau Sefydliad Masnach y Byd. Ac mae posibilrwydd o hyd y gallem ni adael yr UE heb unrhyw gytundeb, a fydd yn achosi difrod economaidd diangen ledled y DU. Bydd hyn yn arbennig o beryglus ar adeg pan fo corff apeliadol Sefydliad Masnach y Byd i ddatrys anghydfodau yn cael ei danseilio gan yr Unol Daleithiau. Mae'r cyfyngiadau amser hunanosodedig ac afrealistig gan Lywodraeth y DU yn gwanhau ein sefyllfa yn y ddwy drafodaeth.

O fewn Llywodraeth Cymru, rydym ni'n meithrin gallu newydd i ymateb i'r heriau newydd hyn ac i adnabod y cyfleoedd newydd a fydd yn codi. Rydym yn dwyn ynghyd ein gwaith ar negodiadau'r UE, trafodaethau masnach yn y dyfodol gyda thrydydd gwledydd, datblygu fframweithiau cyffredin ledled y DU, a'n syniadau ar farchnad fewnol y DU. Fel gwlad fach, ystwyth sy'n edrych tuag allan, gallwn gefnogi Llywodraeth y DU i helpu adnabod effeithiau rhanbarthol dewisiadau polisi masnach a chyfaddawdu. Gallwn ddefnyddio ein rhwydweithiau ledled Cymru, a gwneud cysylltiadau ar draws meysydd polisi sy'n anodd i fiwrocratiaethau mawr yn Whitehall eu hadnabod.

Rydym yn bwriadu sefydlu grŵp cynghori arbenigol i randdeiliaid i lywio ein blaenoriaethau masnach ar gyfer Cymru ac i'w rhoi ar brawf wrth i'r trafodaethau fynd rhagddynt. Bydd hyn yn sicrhau y bydd llais gan fusnesau Cymru, cymdeithas sifil a defnyddwyr, a byddaf wrth gwrs yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Senedd ar ein gwaith ar bolisi masnach.

Felly, fy mlaenoriaethau yn yr wythnosau nesaf fydd gwneud cynnydd ar sefydlu peirianwaith rhynglywodraethol ffurfiol a sicrhau swyddogaeth glir i Lywodraeth Cymru mewn trafodaethau yn y dyfodol. Ac yn rhan o hyn, byddaf yn pwyso am dryloywder ym mholisi masnach y DU, gan ddechrau drwy gytuno ar fandadau negodi ledled y DU, ac i gyhoeddi'r rheini. Byddaf yn parhau i gyflwyno'r achos dros flaenoriaethu ein cysylltiadau masnachu gyda'r UE, gan edrych i weld a oes cyfleoedd i lunio cytundebau masnach yn y dyfodol sy'n cynnig cyfleoedd i fusnesau a defnyddwyr Cymru. Diolch, Llywydd.

17:30

Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i'r Gweinidog am gopi ymlaen llaw o'i datganiad heddiw? Rwy'n synnu braidd at gywair y datganiad, oherwydd, wrth gwrs, rydych chi'n dweud bod arnoch chi eisiau perthynas waith agos â Llywodraeth y DU ac eto rydych yn gwneud popeth a allwch chi i'w tramgwyddo o ran y pethau, a dweud y gwir, yr ydych chi newydd eu dweud. 

Rydych chi'n dechrau eich datganiad drwy ganmol perfformiad y Blaid Lafur yn yr etholiad cyffredinol diweddar, pan golloch chi nifer sylweddol o seddi yng Nghymru, ac rwy'n credu y byddai llawer o bobl yn cael hynny braidd yn hy, gan gynnwys rhai ar eich meinciau eich hun.

Rydych chi hefyd, wrth gwrs, wedi gwneud nifer o fygythiadau ofer ynghylch yr hyn yr ydych chi'n mynd i'w wneud os nad yw Llywodraeth y DU yn gwrando arnoch chi. Rydych chi'n mynd i gyflwyno gwelliannau yn Nhŷ'r Arglwyddi a byddwch chi'n rhoi terfyn ar hyn a therfyn ar llall pan, mewn gwirionedd, y gwir amdani yw nad oes gennych chi lawer o allu i atal beth bynnag y mae Llywodraeth y DU eisiau ei wneud. Felly, fel y dywedais yn fy nghyfraniad yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog heddiw, rwy'n credu y byddai'n well o lawer petaech yn mynd ati yn rhan o dîm y DU o ran ceisio cael y bargeinion gorau posibl i Gymru o ran ein trefniadau masnach yn y dyfodol yn rhyngwladol, yn hytrach na bod â'r agwedd ymosodol hon drwy'r amser. Nawr, fi yw'r un cyntaf i ddweud fy mod i'n ymosodol iawn fy hun ac i gydnabod—[torri ar draws.]—ac i gydnabod fy ngwendidau yn hynny o beth. Fodd bynnag, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn gweithredu'n briodol o ran perthnasoedd rhynglywodraethol. Mae gennym ni Lywodraeth newydd yn y DU, mae gennym ni Ysgrifennydd Gwladol newydd i Gymru a Gweinidog newydd i Swyddfa Cymru hefyd, ac rwy'n credu, a dweud y gwir, y byddai'n well o lawer petai Llywodraeth Cymru ychydig yn fwy cefnogol yng nghyswllt y berthynas honno, yn y dyfodol.

Rydych chi hefyd, wrth gwrs, yn ymddangos fel pe baech yn rhygnu ymlaen am ddadleuon cyn yr etholiad cyffredinol—yr un hen godi bwganod am y niwed y mae Brexit yn mynd i'w wneud i economi Cymru. Nawr, eich dewis chi yw a ydych yn mynd i barhau i rygnu ymlaen yn dragwyddol, ond, unwaith eto, nid wyf yn hollol siŵr bod hynny'n ddefnyddiol. Rwy'n credu bod pobl Cymru a phobl y Deyrnas Unedig wedi symud ymlaen, a dweud y gwir—maen nhw eisiau gwireddu Brexit, maen nhw'n cefnogi Llywodraeth y DU, sydd â mandad clir iawn a llawer mwy na'r hyn sydd gan eich Llywodraeth yma yng Nghymru o ran y rhifyddeg yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn, a chredaf, yn hytrach na chodi bwganod, mai'r hyn y dylech fod yn ei wneud yw rhoi sylw i'r cyfleoedd sydd ar gael i fusnesau Cymru ac edrych am y lleoedd yr ydych chi'n tybio y gallai busnesau Cymru yn rhyngwladol ffynnu.

Rydych chi'n sôn yn eich datganiad eich bod yn mynd i sefydlu grŵp cynghori arbenigol i randdeiliaid. Tybed a wnewch chi ddweud ychydig mwy wrthym ni am yr amserlen ar gyfer sefydlu'r grŵp hwnnw, pa mor fawr y dylai fod yn eich barn chi, pa ddiwydiannau y dylid ac na ddylid eu cynrychioli arno, a fydd hwnnw'n grŵp cynghori ffurfiol i randdeiliaid lle caiff Aelodau eu talu, ac, os felly, beth fydd eu tâl, oherwydd credaf y bydd o bosib—o ystyried y dylanwad yr ydych yn amlwg ei eisiau ym mhob cytundeb masnach, o ystyried yr hyn yr ydych chi wedi'i ddweud yn eich datganiad, rwyf yn credu y bydd problem o ran capasiti, problem arbenigedd a her i chi o fewn Llywodraeth Cymru os ydych chi eisiau dylanwad o'r fath, os ydych, i bob pwrpas, eisiau sedd wrth bob bwrdd trafod, y credaf ei fod braidd yn anymarferol i siarad yn blaen. 

Rwyf fi, o'm rhan fy hun, yn ymddiried yn Llywodraeth y DU, gyda Swyddfa Cymru a'r Adran Masnach Ryngwladol, i gynrychioli pob rhan o'r Deyrnas Unedig a buddiannau'r Deyrnas Unedig yn gyffredinol. Ac, wrth gwrs, bydd cyfaddawdu. Yn Lloegr hefyd, bydd cyfaddawdau rhwng gwahanol ranbarthau yn Lloegr, heb sôn am rhwng gwahanol genhedloedd y Deyrnas Unedig. Ac, wrth gwrs, lle Llywodraeth ei Mawrhydi, a dweud y gwir, yw cloriannu'r agweddau hyn, a phenderfynu pa gytundebau masnach ddylai fynd rhagddynt ac ar ba sail.

Nawr rwy'n derbyn—rwy'n derbyn—ac rwy'n credu ei bod hi'n hollol briodol y dylai Llywodraeth Cymru gael ei hysbysu, y dylid ei diweddaru, y dylid caniatáu iddi ddatgan ei blaenoriaethau. Rwy'n credu bod y rhain i gyd yn bethau cwbl resymol i unrhyw Lywodraeth eu gwneud. Ond rwy'n credu bod awgrymu—. Ac rwy'n credu mai pendraw yr hyn yr oeddech yn ei ddweud oedd y byddwch yn gallu rhoi feto ar bethau, ac efallai y gwnewch chi ddweud wrthym ni ai dyna'ch bwriad datganedig fel Llywodraeth. Ni fydd hynny o reidrwydd yn ddefnyddiol iawn. Felly, edrychaf ymlaen at gyhoeddi eich strategaeth fasnach ryngwladol. Credaf y gallai strategaeth o'r fath fod yn ddefnyddiol ichi, oherwydd nid wyf yn hollol siŵr ein bod wedi cael yr holl fanylion yr oedd eu hangen arnom ni heddiw. Rwy'n gwybod bod gennych chi strategaeth ryngwladol, ond rwy'n credu y byddai strategaeth fasnach ryngwladol yn eithaf defnyddiol o ran o ble yr hoffech chi i'r buddsoddiad ddod, lle yr ydych chi'n credu y gallwn ni fasnachu yn y byd fel cenedl fach o fewn y DU. Ac, os ydych chi wedi gwneud unrhyw beth o'r gwaith cwmpasu hwnnw, efallai y gwnewch chi ei rannu gyda ni fel Aelodau Cynulliad.

Ond fe hoffwn i chi wybod hyn, wrth gloi. Fe hoffwn i chi wybod hyn: ar yr ochr hon i'r Siambr rydym yn barod i weithio gyda Llywodraeth Cymru a'r sylfaen rhanddeiliaid ehangach yma yng Nghymru er mwyn hybu masnach. Un o'r pethau yr ydym ni wedi galw amdano dros y blynyddoedd yw i Lywodraeth Cymru benodi llysgenhadon masnach o bob plaid wleidyddol a rhai nad ydynt yn rhan o unrhyw blaid wleidyddol er mwyn cyflwyno'r achos dros well cysylltiadau masnach rhwng Cymru a'r byd ehangach. A wnewch chi ystyried hynny nawr er mwyn inni gael bwrw iddi fel tîm Cymru, yn rhan o dîm y DU, mewn modd fydd yn gweithio mewn gwirionedd er budd pawb?

17:35

Yn gyntaf, gwrandewch, rwy'n cydnabod inni golli seddi yn yr etholiad cyffredinol, ond serch hynny fe wnaethom ni ennill mwy o seddi na'r Torïaid ac mae hynny'n golygu bod gennym ni fandad o hyd i siarad dros bobl Cymru. Mae gennym ein mandad ein hunain yma yn y Siambr hon a'n cyfrifoldeb ni yw hynny, a dyna pam y mae gennym ni gyfrifoldeb i sicrhau ein bod yn cyfrannu at y trafodaethau masnach hyn.

Mae'n rhaid i mi ddweud wrthych ein bod, mewn gwirionedd, yn awyddus i gydweithio'n adeiladol â'r Deyrnas Unedig ac y buom ni yn cydweithio yn adeiladol â Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Rwyf eisoes wedi cael nifer sylweddol o sgyrsiau gyda'r comisiynydd masnach newydd, Conor Burns, ac roeddem yn obeithiol y byddai'r corff gweinidogol newydd y bwriedid ei sefydlu i edrych ar y materion masnach yn y gwahanol adrannau datganoledig—. Roedd y corff hwnnw i fod i gwrdd ychydig cyn yr etholiad cyffredinol, felly rydym ni'n edrych ymlaen at weld hynny eto. Rydym yn siomedig, fodd bynnag, ynghylch y ffaith y buom yn siarad am y concordat a sut y bydd y berthynas honno'n edrych am fisoedd a hoffem weld pethau'n gwneud cynnydd, oherwydd rydym ni'n brin iawn o amser erbyn hyn.

Felly, rydym ni wrth gwrs yn awyddus i sicrhau ein bod yn ymgysylltu ac y byddwn yn parhau i ymgysylltu â Llywodraeth y DU. Wrth gwrs rydym ni bellach yn derbyn y caiff Brexit ei wireddu, ond rwy'n credu hefyd bod yn rhaid i ni fod yn glir ein bod yn credu—er bu etholiad cyffredinol nid yw hynny'n golygu nad ydym yn credu y bydd niwed yn deillio o Brexit. Mae academyddion wedi dweud wrthym ni mai dyna fydd yn digwydd, mae economegwyr wedi dweud wrthym ni mai dyna fydd y sefyllfa, a'r ffaith yw bod 60 y cant o'n masnach mewn nwyddau gyda'r UE. Felly, mae unrhyw beth sy'n mynd i adeiladu rhwystrau rhyngom ni a'r UE yn debygol o gael effaith negyddol ac nid wyf yn credu ei bod hi'n esgeulus ar ein rhan i dynnu sylw at hynny.

Byddwn yn sefydlu'r grŵp cynghori arbenigol hwn a byddaf yn rhoi mwy o wybodaeth i chi am hynny fis nesaf, ond yr hyn y gallaf ei ddweud wrthych chi yw ein bod eisoes wedi cynnal dadansoddiad helaeth o'r sectorau allweddol sy'n allforio yng Nghymru. Nid ydym ni wedi dadansoddi'r wybodaeth honno eto, ond y peth allweddol inni pan fyddwn yn dechrau ar y trafodaethau hyn yw, lle bo modd, y bydd ein dadl yn gryfach o lawer os gallwn ei seilio ar dystiolaeth. Dyna pam y mae cael y panel cynghori arbenigol hwn, rwy'n credu, yn hollbwysig.

Nid wyf wedi dweud yn unman ein bod yn gofyn am feto o ran masnach. Rydym ni'n cydnabod mai Llywodraeth y DU yw'r partner arweiniol o ran masnach. Ond, yn amlwg, gyda materion datganoledig, rydym yn disgwyl cael dweud mawr ac rydym ni eisiau sicrhau bod y Cynulliad hwn hefyd yn cael cyfle i gyfrannu at hynny.

Yn olaf, o ran y llysgenhadon masnach, rwyf wedi bod yn cyfarfod â rhai o lysgenhadon masnach y DU er mwyn sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r hyn y mae Cymru yn ei gynnig ac mae hynny'n rhywbeth yr ydym yn bwriadu gwneud llawer mwy ohono yn y dyfodol i wneud yn siŵr bod pobl yn deall beth mae Cymru yn ei gynnig, a bydd rhywfaint o hynny i'w weld yn yr adroddiad rhyngwladol yr wythnos nesaf.

Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw a dymuno blwyddyn newydd dda ar ddechrau blwyddyn dyngedfennol i Gymru. 

Rydych yn dweud bod Llywodraeth Cymru bellach yn cydnabod y bydd y Deyrnas Gyfunol yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ac mae Plaid Cymru'n cytuno. Nawr bod gan y Ceidwadwyr fwyafrif, rydym yn gwybod am ffaith y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ddiwedd y mis. Byddwn felly'n defnyddio ein hegni oll o hyn ymlaen er mwyn gwneud popeth o fewn ein gallu i warchod buddiannau Cymru a'i phobl wrth i'r broses fynd yn ei blaen. Ac felly, rwy'n croesawu'r datganiad amserol yma.

Mae'n destun pryder nad oes strwythurau rhynglywodraethol wedi'u sefydlu eto fel dŷch chi newydd gyfeirio atyn nhw er mwyn galluogi Llywodraethau a Seneddau datganoledig i ddylanwadu ar y trafodaethau masnach cyn iddyn nhw ddechrau. Roedd sôn—a dŷch chi wedi cyfeirio at hyn yn barod—am sefydlu cydbwyllgor gweinidogol, neu JMC, yn benodol yn ymwneud â masnach. A all y Gweinidog roi diweddariad i ni ynghylch a oes bwriad i sefydlu'r corff hwn? Oherwydd, hebddo, mae'n anodd iawn gen i i weld sut y bydd eich Llywodraeth yn llwyddo i sicrhau bod buddiannau Cymru'n cael eu cynrychioli. Allaf i ofyn hefyd a ydych chi wedi cael cyfle i gwrdd â'r Ysgrifennydd masnach, Elizabeth Truss, ers yr etholiad i bwysleisio'r angen bod llais Cymru'n cael ei chlywed?

Rwy'n cytuno gyda chi y bydd y gwaith o graffu ar y Mesur masnach yn San Steffan yn hanfodol, felly, a allwch chi roi syniad i ni ynglŷn â sut y bydd y Senedd hon yn cael cyfle i gyfrannu at y gwaith yma, gan y bydd yn cael effaith uniongyrchol ar ein heconomi yng Nghymru? Mae gen i ddiddordeb hefyd ynghylch eich cynlluniau i gyflwyno gwelliannau i'r Bil cytundeb masnach yn Nhŷ'r Arglwyddi. Allwch chi roi syniad i ni o ran pa fath o welliannau y byddwch chi'n ceisio amdanynt?

Gan droi nawr at fanylion y cytundebau masnach bydd yn cael eu negodi gan Lywodraeth y Deyrnas Gyfunol, fe gawsom ni ddadl danbaid ar ddiwedd y tymor diwethaf ynglŷn â sut byddai'r ffordd orau o warchod ein gwasanaeth iechyd yn wyneb bygythiadau posib o gytundeb masnach â'r Unol Daleithiau. Mae Plaid Cymru eisiau feto Gymreig dros unrhyw gytundeb, ond safbwynt eich Llywodraeth chi, fel dŷch chi newydd ddweud, oedd y byddai sicrhau rôl swyddogol i'r Senedd yn fwy addas. A ydych chi wedi gwneud unrhyw gynnydd o ran ceisio sicrhau hyn?

Nid America, yn amlwg, yw'r unig wlad y byddwn yn gwneud cytundebau â nhw. Mi fydd Awstralia a Seland Newydd, fel dŷch chi wedi cyfeirio atyn nhw, hefyd yn uchel ar y rhestr. Rwy'n gwybod y bydd sector amaeth Cymru eisiau clywed datganiad cadarn gennych y bydd eich Llywodraeth yn gwneud popeth er mwyn gwarchod ei buddiannau yn ystod y trafodaethau, gan fod llawer yn poeni y gallai gig eidion a chig oen rhad o'r gwledydd hyn lifo i farchnad, gan roi ffermwyr Cymru dan anfantais. Byddwn hefyd yn erfyn arnoch i'w gwneud hi'n glir i Lywodraeth Prydain y byddai corff investor-state dispute settlement yn annerbyniol i ni yng Nghymru, gan y byddai hyn yn galluogi busnesau i 'sue-io'r Llywodraeth am roi cytundebau cyhoeddus i gyrff cyhoeddus.

Rydych wedi sôn bod angen blaenoriaethu parhad masnach gydag Ewrop, yn hytrach na'r gwledydd pellennig rydw i wedi sôn amdanynt. Felly, hoffwn wybod os oes gennych unrhyw gynlluniau i gyflwyno Mesur parhad er mwyn sicrhau bod ein rheoliadau ni'n cadw lan gyda newidiadau yn Ewrop.

Yn olaf, mae'r holl faterion rydym wedi bod yn eu trafod heddiw yn digwydd yn absenoldeb strategaeth ryngwladol gan Lywodraeth Cymru. Mae strategaeth o'r fath yn gwbl angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y Llywodraeth yn gweithredu mewn modd cydlynol ac yn ceisio tuag at dargedau a chanlyniadau pendant. Dyw hi ddim yn ddigon da bod hyn dal heb ei chyhoeddi a ninnau'n gadael yr Undeb Ewropeaidd mewn 24 diwrnod. Allwch chi felly sicrhau y byddwch yn cyhoeddi'r strategaeth hon mewn amser i'r deadline diweddaraf, sef diwedd y mis hwn? Bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn gosod heriau anferth i ni fel cenedl, ond rydym ni wedi goroesi heriau o'r fath yn y gorffennol. Er mwyn sicrhau'r canlyniad gorau i bobl Cymru, mae dyletswydd ar bawb ohonom yn y Senedd hon i dorchi’n llewys a gweithio'n galed er mwyn dyfodol Cymru ac mae hynny'n golygu cael cynllun masnach cadarn mewn lle. Rwy'n gobeithio eich bod yn barod i gwrdd â'r her hon, Weinidog.

17:40

Diolch yn fawr, a blwyddyn newydd dda i chi, hefyd. Dwi'n cytuno gyda chi mai'n prif nod ni nawr yw sicrhau ein bod ni'n gwarchod buddiannau Cymru. Fy mhryder i hefyd yw'r ffaith bod y fforwm gweinidogol dal heb gyfarfod. Dyw e ddim oherwydd diffyg ymyrraeth a gofyn gennym ni; dŷn ni wedi bod yn gofyn am hyn fis ar ôl mis. Yn anffodus, mi ddaeth yr etholiad cyffredinol fis Hydref, achos roedd yna ddyddiad wedi cael ei baratoi. Yn y command paper oedd wedi'i ysgrifennu ar fasnach yn 2009, roedd yna ymrwymiad i greu'r fforwm yma, felly, rŷm ni'n hyderus y bydd hi'n dod i fodolaeth. Dwi ddim wedi cwrdd ag Elizabeth Truss eto, ond dwi wedi cael sawl cyfarfod gyda'r person sy'n cymryd y trafodaethau ymlaen, Conor Burns, ac wedi siarad gyda fe ar sawl achlysur.

O ran craffu, dwi'n meddwl ei fod e'n hollbwysig fod y Senedd yma yn cael cyfle i graffu ar unrhyw gytundebau sy'n dod gerbron. Wrth gwrs, o ran y gwelliannau yn y cytundeb masnach gafodd ei stopio yn Nhŷ'r Arglwyddi, beth oedd yn drueni oedd ein bod ni wedi llwyddo i gael lot o bethau wedi'u cytuno eisoes tra bod hwnna'n mynd drwy Dŷ'r Arglwyddi. Dwi wedi trafod hyn gyda'r Gweinidog ac roedd e'n hollol glir y byddai'n hapus i sicrhau bod y rheini yn cael eu parchu pan mae'r Ddeddf newydd yn dod gerbron, pan mae'r ddeddfwriaeth newydd yn cael ei chyflwyno yn y Senedd. 

Dwi yn meddwl ei bod hi'n bwysig bod y Cynulliad yn cael cyfle i graffu, ond mae'n ddiddorol i weld, onid yw hi, o ran y withdrawal agreement Bill, mae gwthio nôl wedi bod gan y Llywodraeth Dorïaidd o ran beth yw rôl y Senedd yn San Steffan o ran i ba raddau y maen nhw'n cael gweld yr hyn sy'n digwydd wrth fod y trafodaethau'n mynd ymlaen. Wrth gwrs, dwi'n meddwl y byddai'n anodd iawn i ni ofyn am fwy fan hyn nag y maen nhw eisoes yn cael yn y Senedd yn San Steffan. Ond, dwi'n siŵr y bydd yna lot o wthio nôl ar hynny wrth fod hynny'n mynd drwy'r ddau Dŷ yn San Steffan. 

Wrth gwrs, ein blaenoriaeth ni yw i sicrhau'r ddêl gyda'r Undeb Ewropeaidd. O ran Mesur parhad, dwi'n meddwl ei fod e'n rhy gynnar i ni edrych ar hynny. Y peth gorau yw ein bod ni'n gweld i ba raddau y mae'r sefyllfa bresennol yn gallu cael ei pharhau. Ac ar y strategaeth ryngwladol, fe allai ddweud wrthych chi mai'r wythnos nesaf y bydd hwnna'n cael ei gyhoeddi. Diolch.

17:45

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw, ac yn arbennig am ei gwerthfawrogiad o waith y pwyllgor a'r gydnabyddiaeth ei bod yn credu ein bod wedi darparu argymhellion synhwyrol mewn gwirionedd? Ond mae gen i ambell gwestiwn. Yr hyn y cyfeiriwyd ato—ac rwy'n credu ei fod yn bwysig i ni ei gofio—nid yw hyn yn ymwneud â gadael yr UE, mae hynny wedi'i wneud, rydym i gyd yn gwybod hynny, rwy'n ceisio gwneud hynny'n glir mewn gwirionedd, ond mae a wnelo hyn â sut y gall Cymru elwa unwaith y byddwn wedi gadael yr UE ac i sicrhau bod unrhyw gytundebau masnach sy'n digwydd o fudd i bobl Cymru ac nad ydynt yn niweidiol i bobl Cymru. Mae hynny'n hollbwysig inni ddeall hynny. Anghofiwch y dadleuon, mae hyn yn ymwneud â'n dyfodol a gwneud pethau'n iawn.

Gweinidog, yn eich datganiad, rydych chi wedi nodi ambell beth, ac fe hoffwn i ofyn ambell gwestiwn sy'n ymwneud â hynny. Fe wnaethoch chi sôn am fasnach y Cyd-bwyllgor gweinidogion, ac mae Delyth Jewell eisoes wedi codi cwestiwn ynglŷn â hynny. Mae'n bwysig pa mor bell yr ydym wedi mynd o ran hynny, oherwydd dywedwyd wrthym yn y pwyllgor droeon fod hyn yn cael ei drafod, nid ydym ni eto wedi cael y maen i'r wal. Byddwn yn ymadael â'r UE mewn wythnosau, pan fydd negodi wedyn yn dechrau ar y berthynas yn y dyfodol, ac mae angen inni ddeall ble'r ydym ni arni a ble mae Llywodraeth y DU arni o ran hynny a beth yw eu dyheadau ar gyfer hynny. Oherwydd bod gan Ewrop ei negodwyr ei hun yn barod, mae Michel Barnier wedi'i benodi ac mae wedi penodi ei ddirprwy. Mae eu hochr nhw yn barod. Ble mae ein hochr ni yn ystyr y cenhedloedd datganoledig?

Felly, a ydych hefyd yn trafod gyda'ch cymheiriaid yn yr Alban i sicrhau bod llais unfrydol unedig yng nghyfarfodydd y Cyd-bwyllgor gweinidogion i roi hyn ar yr agenda, i sicrhau y caiff lleisiau Cymru a'r Alban, a Gogledd Iwerddon pan fyddant yn sefydlu Llywodraeth, eu clywed yn rhan o'r broses negodi? Oherwydd credaf fod Prif Weinidog Cymru wedi sôn am hyn o'r blaen—mae cael y cyfle hwnnw i fynegi barn ynglŷn â'r sefyllfa negodi yn llawer mwy manteisiol i holl rannau'r DU na gorfod cael gwybod ar y diwedd. Felly, fel y dywedais ar y dechrau, bydd gallu cydweithio felly a bod yn rhan ohono o fudd enfawr i'r DU gyfan, heb os nac oni bai.  

Fe wnaethoch chi sôn hefyd am gyfaddawdu. Y cwestiwn, mae'n debyg, yw pa fath o gyfaddawdu a fydd yn dderbyniol, ac a fydd y Llywodraeth yn dod yn ôl i'r Cynulliad i drafod y cyfaddawdu hwnnw, oherwydd efallai nad yw'r hyn a allai fod yn dderbyniol i'r Llywodraeth yn dderbyniol i'r Cynulliad. Ac mae gen i enghraifft, oherwydd ein bod yn siarad am ddata—mae data yn adnodd pwysig, ond a fydd data a throsglwyddo data yn un agwedd ar y cyfaddawdu hynny? Felly, a fydd gennym ni—? Mae gan bobl ddata, mae gan fusnesau ddata. Ond, os ydych chi'n trosglwyddo'r data hwnnw i rai cwmnïau mewn rhai gwledydd, pwy a ŵyr i le fydd yn mynd? Felly, y cwestiwn yw: beth yw'r cyfaddawdu, ac a ddewch chi'n ôl i'r Cynulliad gyda'ch ystyriaeth o'r hyn sy'n dderbyniol fel cyfaddawdu?

A fydd Llywodraeth Cymru yn adolygu cyfreithiau a rheoliadau'r UE? Gan ichi sôn am gysoni rheoliadau, ac mae'n debygol y byddwn yn ymwahanu mewn perthynas yn y dyfodol. Fel arall, pam ydym yn gadael os nad ydym yn mynd i ymwahanu? Felly, bydd ymwahanu. Ond sut y byddwn ni yng Nghymru yn edrych ar y cyfreithiau a'r rheoliadau hynny o eiddo'r UE ac a fydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu, drwy'r offerynnau statudol, oherwydd credaf fod y Prif Weinidog wedi crybwyll hynny ddoe, er mwyn parhau i gydymffurfio â'r rheoliadau lle mae cyfrifoldebau wedi eu datganoli fel y gall ein hallforion barhau i fodloni'r rheoliadau y bydd yr UE yn eu gweithredu, hyd yn oed os nad yw'r DU yn parhau i gydymffurfio'n rheoleiddiol?

A fyddwch yn gweithredu drwy Swyddfa Brwsel i gryfhau'r berthynas â'r UE? Oherwydd, unwaith y byddwn y tu allan i'r UE, ni fydd gennym ni gyswllt uniongyrchol â'r UE, ond daw Swyddfa Brwsel yn rhan bwysig o'r swyddogaeth sydd gan Lywodraeth Cymru wrth ddechrau trafod gyda'r UE. Efallai nad ydym ni yn negodwyr, ond mae bob amser yn ymwneud â dylanwadu, siarad, cael cyfle i ehangu ein sefyllfa fel bod gan yr ochr negodi ar ochr arall y bwrdd ddarlun ehangach.

Fe wnaethoch chi sôn hefyd yn eich datganiad am y grŵp cynghori rhanddeiliaid. A gaf i ofyn o le daw'r wybodaeth yr ydych yn bwriadu ei rhoi? A fydd honno'n dod o Lywodraeth y DU? Felly, os ydych chi'n mynd i roi'r wybodaeth honno i'r grŵp cynghori a gofyn am eu barn, a fydd honno'n dod o—? Oherwydd mae'r cyfan yn ymwneud â'r trafodaethau. O le fydd yn dod? A fydd Llywodraeth y DU yn rhoi'r wybodaeth y gallwch ei throsglwyddo i'r grŵp ymgynghorol, ac a fyddwch yn cael rhannu hynny gyda'r Cynulliad? Oherwydd yn aml iawn dywedir wrthym ni fod Llywodraethau'n rhoi gwybodaeth i Lywodraethau ac na allwn ei throsglwyddo oherwydd ei bod yn gyfrinachol. Felly, sut y byddwn yn gwybod beth mae'r grŵp rhanddeiliaid yn ei wneud ac a yw'n gwneud hynny'n iawn—sut gallwn ni graffu ar y prosesau hynny?

Rydych chi wedi sôn am y Bil Masnach a'r gwelliannau, ac mae Delyth wedi sôn amdano—a Darren—beth sy'n digwydd os nad yw'r gwelliannau'n cael eu derbyn, ond, yn gyntaf oll, y cwestiwn cyntaf yw: a yw'r Bil Masnach newydd yr un fath â'r hen Fil Masnach? Oherwydd rydym ni wedi gweld newidiadau ym Mil cytundeb ymadael yr UE. Oes gennych chi unrhyw syniad ynghylch a fydd newidiadau yn y Bil Masnach? Oherwydd bu angen Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar gyfer y Bil Masnach hwnnw; efallai na fydd angen Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ar Fil Masnach newydd, ar Fil Masnach diwygiedig. Felly, a oes gennym ni unrhyw argoel ynghylch sefyllfa'r Bil Masnach ar hyn o bryd, ac a fydd yr un fath?

Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gofio un peth, yn enwedig ar y meinciau hyn. Roedd y bartneriaeth masnach a buddsoddi trawsatlantig yn broblem fawr. Cafodd ei threchu mewn gwirionedd gan Senedd Ewrop—fe wnaethon nhw ddiystyru rhai pethau. Fel y crybwyllwyd, roedd y broblem ynghylch y setliad o ran y ddadl buddsoddwr-gwladwriaeth yn fater enfawr. A does dim rhaid iddo fod yr Unol Daleithiau, gyda llaw, oherwydd mae Sweden yn ei wneud i'r Almaen nawr. Nid ydym ni eisiau gweld ailadrodd hynny, ac felly mae agwedd bwysig o ran sut y mae sefydliadau ledled y DU—Senedd yr Alban, Senedd Cymru—yn cael cyfle i ddweud eu dweud am bethau o'r fath. Yn bersonol, ni fyddwn i eisiau gweld TTIP yn cael ei hymgorffori mewn unrhyw gytundeb yn y fan yma, ond mae yna bosibilrwydd cryf iawn y gallai hynny gael ei ailgyflwyno gan yr Americanwyr, sydd, fel y gwyddom ni i gyd—a dywedodd Donald Trump hyn yn ei araith pan ddaeth yn Arlywydd—yn rhoi America yn gyntaf, a byddant yn edrych i weld beth yn union y gallant ei wneud â'r broses honno. Mae angen i ni fod yn wyliadwrus iawn o'r materion hyn.

17:50

Ydw, rwyf yn dirwyn i ben, Dirprwy Lywydd. Mae hi'n bwysig i bob un ohonom ni atgoffa ein hunain mai'r hyn yr ydym yn ceisio'i wneud yw sicrhau bod ein busnesau'n gallu gweithredu ar ôl Brexit, ac felly mae'r trafodaethau hyn yn hollbwysig.

Yn gyntaf oll, a gaf i ddiolch i Gadeirydd y pwyllgor am y papur da iawn, y llwyddais i'w ddarllen dros y Nadolig? Roeddwn yn credu bod hynny'n ddefnyddiol iawn, ac rwy'n credu, os oes gan bobl ddiddordeb yn y mater hwn, yn enwedig yr agweddau cyfreithiol ar ein safbwynt fel corff yma yn y Senedd, ei bod yn werth edrych ar hynny.

Ynghylch masnach y Cyd-bwyllgor Gweinidogion, gwrandewch—pob eiliad a chyfle sydd gennym rydym yn pwyso am sefydlu hynny. Un o'r pethau yr ydym yn ceisio'i wneud yw gweld a allwn ni sefydlu'r cylch gorchwyl, fel ein bod yn barod i gychwyn arni unwaith y bydd yn dechrau. Rwy'n gobeithio, nawr bod yr etholiad wedi ei gynnal, y byddwn yn gweld rhywfaint o brysuro o ran y sefyllfa hon. Y peth allweddol i mi yw, yn y gymeradwyaeth gan Senedd y DU yn y gorffennol, yr hyn y maen nhw wedi'i ddweud yw eu bod eisiau gweld, bod Llywodraeth y DU eisiau gweld tryloywder a chynhwysedd yn rhan greiddiol o sut y maen nhw'n cyd-drafod cytundebau masnach. Wel, nid yw mor dryloyw a chynhwysol ag y byddem ni efallai wedi hoffi ei weld, ond, gwrandewch, rydym yn dal yn bryderus ac yn awyddus i wneud yn siŵr bod gennym ni berthynas adeiladol.

Roedd eich cwestiwn arall yn ymwneud â deddfwrfeydd datganoledig ac i ba raddau y gallwn ni weithio gyda'n gilydd. Wel, gobeithio, y bydd y corff traws-weinidogol hwn yn fforwm inni wneud hynny, ac mae cyfleoedd, yn amlwg, inni gyfarfod â'r deddfwrfeydd datganoledig eraill cyn hynny. Ond nid mater i'r deddfwrfeydd datganoledig yn unig yw hyn, mewn gwirionedd mae llawer o wahanol adrannau'r Llywodraeth nad oes ganddynt, o bosibl, yr un blaenoriaethau o fewn Llywodraeth y DU â'r bobl sy'n arwain ar fasnach. Felly, mae Lesley Griffiths, er enghraifft, yn ymwneud yn helaeth â dyfodol amaethyddiaeth. Nawr, efallai y bydd ganddynt lais gwahanol a barn wahanol ynghylch sut y dylai hynny edrych, ac efallai na fydd hynny yr un farn ag, er enghraifft, adran y Trysorlys. Felly, mae'n rhaid i ni chwilio am ein cynghreiriaid lle gallwn ni o ran y drafodaeth fasnach hon, a dyna le bydd yr hyblygrwydd hwn yn elfen, a bydd angen i ni sicrhau ein bod yn datblygu'r blaenoriaethau hynny.

Bydd yna gyfaddawdu. Mae hyblygrwydd ac amseriadau yn bethau y bydd angen inni eu cadw mewn cof. Po fwyaf yr ydym yn ymwahanu o'r UE o ran rheoliadau, y mwyaf anodd y bydd i ni fasnachu gyda nhw. Felly, rwy'n glir iawn y byddem ni yng Nghymru yn hoffi gweld y cydymffurfio rheoleiddiol hwnnw'n parhau hyd y gellir, oherwydd mae hynny'n golygu bod 60 y cant o'n masnach yn parhau i allu defnyddio'r farchnad honno os ydynt yn cytuno i hynny. Oherwydd nid yw'n ymwneud â dim ond tariffau ac ati; mae'r rhwystrau di-dariff cyn bwysiced, os nad yn fwy pwysig. 

O ran swyddfa Brwsel, byddaf yn mynd i swyddfa Brwsel yr wythnos nesaf a byddaf yn cael cyfle, gobeithio, i siarad â nhw am sut y gallant helpu i roi gwybodaeth inni ynglŷn â chael gwybodaeth o du Brwsel ar bethau mewn perthynas â masnach.

O ran y grŵp cynghori, credaf y byddai'n anodd iawn dychmygu y byddem yn gallu rhoi gwybodaeth i grŵp cynghori allanol nad yw'n bosib ei roi i Aelodau'r Cynulliad, felly rwy'n sicr yn credu y byddai hynny'n sefyllfa ryfedd. Ond mae grŵp cynghori gan Lywodraeth y DU wedi'i sefydlu ac mae rhywun o Gymry ar y grŵp hwnnw. Dydyn nhw ddim yn cynrychioli Cymru, ond rydym ni'n gwneud yn siŵr bod gennym ni berthynas â'r cynrychiolydd hwnnw. 

O ran y Bil masnach, nid ydym yn gwybod eto a fydd y Bil masnach newydd yr un fath â'r Bil masnach diwethaf. Os bydd dilyniant o gytundebau masnach yn cysylltu â rhai'r gorffennol, yna, yn amlwg, ni fydd yn gymaint o broblem, ond os mai'r hyn y maen nhw'n ei awgrymu yw eu bod eisiau cyflwyno cytundebau masnach newydd, yna byddwn yn sicr eisiau i gyrff datganoledig gael lleisio barn a bod â swyddogaeth yn y broses honno, sydd ychydig yn wahanol.

O ran TTIP—gwrandewch, roedd hwn yn gytundeb mawr iawn o ran y trafodaethau rhwng yr UE a'r Unol Daleithiau. Chwalodd y cwbl ac ni weithiodd, ond nid wyf yn amau o gwbl na fydd Llywodraeth yr Unol Daleithiau yn pwyso i gynnwys swyddogaeth y setliad anghydfod buddsoddwr-gwladwriaeth mewn trafodaethau masnach. Yr hyn y mae hynny'n ei olygu yw, os yw gwlad sy'n fuddsoddwr yn teimlo y gwahaniaethir yn ei herbyn, gall ofyn am iawndal, ond nid drwy'r llysoedd. Mae'n ymwneud â system hollol annelwig nad yw'n dryloyw, ac mae hynny'n sicr yn rhywbeth nad wyf yn credu y byddem eisiau bod yn rhan ohono.

17:55

Diolch am eich datganiad heddiw, Gweinidog. A minnau wedi ymgyrchu'n frwd dros bolisi masnach annibynnol ar gyfer y DU fel gwlad annibynnol, credaf mewn Teyrnas Unedig fyd-eang yn masnachu'n rhydd gyda'r byd i gyd. Credaf y gall hyn ddarparu'r sylfaen ar gyfer dyfodol disglair a llewyrchus i Gymru. Cytunaf â chi pan ddywedwch fod yr etholiad cyffredinol wedi datgan yn glir y bydd Brexit yn digwydd bellach. Cadarnhaodd y penderfyniad a wnaed yn 2016 a nawr mae gan Lywodraeth y DU fandad clir i wireddu Brexit, i gyfieithu bloedd ymgyrch y Ceidwadwyr.

Fel aelod o'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, edrychaf ymlaen at eich ymateb i'n hadroddiad rywbryd yn ystod y mis hwn ac i'w drafod yn fanylach gyda chi ar ôl y mis nesaf.

Yn y datganiad, rydych yn galw am swyddogaeth glir i Lywodraeth Cymru mewn cytundebau masnach yn y dyfodol. Gweinidog, a wnewch chi fanylu ar beth fydd natur y swyddogaeth honno, a dweud ymhle, yn y setliad datganoli presennol, y mae'r pwerau i alluogi hyn i ddigwydd? Ar faterion datganoledig, ie, ond unrhyw rai eraill? Yn y datganiad hwn, mewn datganiadau diweddar i'r wasg gan aelodau o Lafur Cymru a phlaid Lafur y DU, rwyf yn gweld bod eich Llywodraeth a'ch Plaid yn feirniadol iawn o gytundeb masnach gydag economi fwyaf y byd, a'n cynghreiriad agosaf, sef Unol Daleithiau America. Rwyf yn gweld hyn braidd yn rhyfedd oherwydd, yn 2017, dywedodd Prif Weinidog Cymru ar y pryd, yr Aelod dros Ben-y-bont ar Ogwr, ar ymweliad â Washington DC, a dyfynnaf:

Yn fy nhrafodaethau â busnesau, gwleidyddion a diplomyddion o America, byddaf yn sôn am y pwysigrwydd o ddatblygu masnach rydd ymhellach rhwng ein gwledydd a dileu rhwystrau i wneud masnachu rhyngom yn haws ac yn gyflymach.

Felly, Gweinidog, pryd y gwnaeth Llywodraeth Cymru newid ei safbwynt ar fasnach gyda'r Unol Daleithiau, ac, yn fwy penodol, pa neges y mae hynny'n ei chyfleu i'r 250 o gwmnïau sy'n eiddo i Americaniaid yma yng Nghymru? A gadewch i ni gofio bod yr Unol Daleithiau yn gyfrifol am bron i 40 y cant o brosiectau mewnfuddsoddi.

Gweinidog, mae gadael yr UE hefyd yn rhoi'r cyfle i ni ddwysau diogelu lles anifeiliaid, fel cwtogi ar gludo anifeiliaid byw i'r cyfandir. Rwyf wedi siarad am hyn o'r blaen. Er nad yw gwaharddiad ar allforio anifeiliaid byw yn bosib ar hyn o bryd oherwydd rheolau masnach rydd yr UE, gellid cyflwyno gwaharddiad unwaith y bydd y DU yn gadael yr UE ar ddiwedd y mis. A wnaiff Llywodraeth Cymru ystyried rhoi terfyn ar gludo anifeiliaid byw? Dyna gwestiwn arall yr wyf wedi ei holi o'r blaen hefyd.

Rwy'n cytuno, ar ôl inni adael yr UE, fod adhawlio sedd ar Sefydliad Masnach y Byd yn bwysig iawn, wrth inni geisio taro bargen fasnach gyda nifer o wledydd ar draws y byd. Gweinidog, a yw eich Llywodraeth wedi ystyried y posibilrwydd o gynnal uwchgynhadledd fasnach newydd ar gyfer gwledydd y Gymanwlad? Gallai hyn hyrwyddo masnach a hefyd dathlu diwylliannau, hanes a chydberthnasau yn y dyfodol. Gallem fod y cyntaf. Mae gan Gymru hanes balch o gynnal digwyddiadau gwych, o Gwpan Rygbi'r Byd, Cwpan Ryder i uwchgynhadledd NATO. Mae gennym y ddawn ac mae gennym y gallu. Gallwn i gyd gytuno ein bod yn gadael yr UE, felly nawr a allwn ni i gyd gytuno i wneud popeth yn ein gallu i wneud i hyn weithio? Diolch.

18:00

Yn gyntaf oll, wrth gwrs mae gennym ni ddiddordeb mewn hybu masnach. Ond rydym yn gwneud hyn ar adeg anodd iawn. Mae Sefydliad Masnach y Byd mewn sefyllfa ar hyn o bryd lle mae'r Unol Daleithiau wedi rhoi'r gorau i benodi barnwyr, felly gall unrhyw beth sy'n deillio o Sefydliad Masnach y Byd dim ond cyrraedd rhyw gam o ran y broses gyfreithiol, a gallai pobl i bob diben anwybyddu beth y maen nhw'n ei awgrymu a herio hynny, a gallai hynny gymryd blynyddoedd i fynd drwy'r system. Felly, ar adeg pan mai dibynnu ar Sefydliad Masnach y Byd yw ein sefyllfa wrth gefn,  nid dyma'r amser i wneud hynny.

O ran masnach, wrth gwrs, yr hyn yr ydym wedi ei bwysleisio yw datganoli lle mae'n rhaid i ni yn bendant gael llais, lle mae gennym ni'r pwerau hynny. A rhaid i chi gofio inni ymuno â'r UE ar adeg pan nad oedd datganoli yn bodoli; rydym ni'n gadael i ymuno â byd gwahanol iawn, lle mae'r pwerau hynny'n bodoli yn y fan yma. Ac mae'n wych bod Llywodraeth y DU wedi cydnabod hynny a'u bod nhw'n awyddus i ymgysylltu a'n cynnwys ni, oherwydd maen nhw'n gwybod mai ni, yn y pen draw, yw'r bobl sy'n gorfod gwireddu hynny ar lawr gwlad. Felly nid yw'n fuddiol iddyn nhw ymrwymo i gytundebau masnach a fyddai'n anodd eu gweithredu ar lawr gwlad. Felly, rydym ni'n ymddiried yn eu gair, rydym ni eisiau ymgysylltu; ar hyn o bryd, dydyn nhw ddim yn ymgysylltu yn y ffordd yr hoffem ni iddyn nhw wneud hynny.

O ran yr Unol Daleithiau, rwy'n deall yn iawn ei fod yn un o'r buddsoddwyr mwyaf yng Nghymru. Fel y dywedwch chi, rydych chi wedi pwysleisio nifer y cwmnïau sydd wedi ymgartrefu yma yng Nghymru. Mae'n un o'n marchnadoedd allforio mwyaf. Mae hynny i gyd yn digwydd heb gytundeb masnach, peidiwch ag anghofio. Felly, y pwynt yw, nid oes angen cytundeb masnach arnoch chi bob amser er mwyn masnachu. Ac rwyf yn credu, ar hyn o bryd, a ninnau wedi ein tynghedu ein hunain o ran y dyddiad cau yr ydym ni wedi'i osod i ni ein hunain ar gyfer yr UE ers blwyddyn, mae gennym ni arlywyddiaeth Trump sy'n dweud, 'Rhowch America'n gyntaf', mae hynny'n lle digon anodd i'ch rhoi eich hun ynddo—nid oes gennych chi fawr o bosibiliadau yn y sefyllfa honno. Ond gadewch i ni obeithio am y gorau, a gadewch i ni weld beth all Llywodraeth y DU ei gynnig.

Rwy'n credu bod gan Brydain enw gwirioneddol dda o ran lles anifeiliaid. Yn sicr, o ran cludo anifeiliaid byw, roedd Llywodraeth y DU yn wirioneddol ddylanwadol o ran lleihau yn sylweddol nifer yr oriau y caniatawyd i anifeiliaid gael eu cludo o fewn yr UE.

O ran y Gymanwlad, mae hyn yn rhywbeth y mae llawer o bobl yn ei ddweud: 'Pam na awn yn ôl i hen ddyddiau'r Gymanwlad?' Os edrychwch chi ar faint yr ydym yn masnachu gydag Awstralia, gydag India, a Chanada, nid yw hynny i gyd gyda'i gilydd yn gyfystyr â faint yr ydym ni'n masnachu gydag Iwerddon. Felly, wyddoch chi, rwy'n credu bod yn rhaid i ni wneud yn siŵr ein bod ni'n cael rhywfaint o grebwyll o ran lle mae ein partneriaid masnach agosaf, ac mae difrifoldeb masnach yn chwarae rhan bwysig iawn yma.

18:05

Hoffwn godi dau fater gyda chi'r prynhawn yma, Gweinidog, ac rwy'n ddiolchgar iawn i chi am y datganiad. Yn gyntaf oll, i bwysleisio eto pwysigrwydd trefniadau rhynglywodraethol a pheirianwaith Llywodraeth. Mae gennym ni rywfaint o brofiad o weithio mewn negodiadau rhyngwladol gyda Llywodraeth y Deyrnas Unedig drwy ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd, ac mae gennym ni sawl templed wrth law y gallwn eu defnyddio, rwy'n credu, er mwyn sicrhau bod gennym ni'r math o berthynas yr ydych wedi'i thrafod a'i disgrifio'r prynhawn yma ac ar adegau eraill.

Credaf fod y memorandwm cyd-ddealltwriaeth y gwnaethom ni gytuno arno yn 2012 ar gyfer ymgysylltu â'r Undeb Ewropeaidd yn fan cychwyn da ar gyfer strwythur newydd a fydd yn sicrhau bod Llywodraethau Cymru a'r Alban, yn enwedig—ond Gogledd Iwerddon hefyd—yn gallu cydweithio â Llywodraeth y Deyrnas Unedig i sicrhau bod gennym ni safbwynt y mae'r Deyrnas Unedig gyfan yn ei gefnogi, nid dim ond Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Gobeithio bod hynny'n bwysig.

Mae hi hefyd yn bwysig—a chyfeiriaf y sylw hwn at y Cadeirydd hefyd, y Dirprwy Lywydd—i sicrhau bod ein democratiaeth yn gallu parhau i sicrhau bod gennym ni'r dulliau a'r cyfryngau atebolrwydd i sicrhau, pa bynnag strwythurau newydd sydd ar gael, fod atebolrwydd democrataidd priodol ar gyfer y strwythurau hynny. Mae a wnelo hynny â'r fan yma—nid â'r Llywodraeth, ond â'r fan yma—a hefyd â'r trefniadau sydd gennym ni ar waith gyda Senedd y DU a Senedd yr Alban i sicrhau bod atebolrwydd priodol a democratiaeth briodol yn elfen o oruchwylio unrhyw beirianwaith rhynglywodraethol sy'n cael ei roi ar waith.

Yr ail bwynt yr hoffwn ei wneud yw hwnnw am werthoedd. Rydym ni'n sôn, o ran masnach, weithiau fel petai hynny'n digwydd mewn gwactod. I mi, mae'n rhaid i fasnach a'n dull o fasnachu a'n polisi fod yn seiliedig ar ein gwerthoedd. Pan rydym yn llunio cytundebau â thrydydd gwledydd, nid mater o sicrhau bod gennym ni dariffau a'r mecanweithiau ar y ffin a thu ôl i'r ffin yn unig yw hyn er mwyn sicrhau y gellir masnachu'n ddi-ffwdan, ond mater o fod â pherthynas o werthoedd hefyd, fel bod y dadleuon a gawn ni yn y fan yma—boed yn ymwneud â chynaliadwyedd neu gydraddoldeb neu hawliau lles neu hawliau pobl sy'n gweithio—yn rhan anhepgor o'r cytundebau hyn hefyd.

Roeddwn yn falch iawn o'ch clywed yn dweud, Gweinidog, eich bod yn cryfhau gallu Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r materion hyn. Credaf fod hynny'n gwbl hanfodol ac yn bwysig. Ond, mae hi hefyd yn bwysig nad dim ond yr arbenigedd technegol a'r gallu strwythurol sydd gennym ni i roi pwysau o ran y materion hyn a dylanwadu yn eu cylch, ond ein bod hefyd yn gwneud hynny gydag ymdeimlad cryf o allu cyflawni ein gwerthoedd craidd.      

Diolch. Credaf eich bod yn llygad eich lle. Rwy'n credu bod rhai o'r templedi eisoes yn bodoli ac rydych chi wedi bod yn rhan o'r dulliau hynny yn y gorffennol, lle mae Llywodraethau'r Deyrnas Unedig yn dod at ei gilydd, rydych chi'n cytuno ar safbwynt cyffredin, cytûn, ac yna rydych chi'n mynd i siarad yn yr UE gyda'ch gilydd. Felly, nid yw hyn yn gymhleth. Mae'r holl elfennau'n bodoli. Mae angen ailgydio ynddi. Mae'n amlwg mae San Steffan wedi ei pharlysu ers cyhyd, ond gadewch i ni weld nawr os daw'r dagfa honno'n i ben.

Credaf fod atebolrwydd democrataidd yn gwbl hanfodol, ond nid oes diben rhoi hynny ar ddiwedd y broses. Dylai Erthygl 50 ddysgu rhywbeth i ni. Gallant fynd i drafod beth bynnag y dymunant. Os dônt â'r mater hwnnw'n ôl i'r Senedd a'r Senedd yn ei wrthod, yna pa ddiben? Mae'n offeryn eithaf aneffeithiol. Mae'n rhaid i chi ymgysylltu â phobl yn gynharach yn y broses, a chredaf fod hynny'n bwysig iawn.

Rydych chi'n llygad eich lle o ran gwerthoedd. Mae hynny'n bwysig a dyna pam yr ydym ni wedi nodi hynny yn y papur y bu inni ei lunio, y materion polisi masnach i Gymru, lle rydym ni wedi pwysleisio rhai o'r gwerthoedd allweddol sy'n bwysig yng Nghymru yn ein tyb ni: datblygu cynaliadwy, diogelwch economaidd a chymdeithasol. Nid ydym eisiau gweld safonau llafur yn cael eu glastwreiddio. Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol: rydym ni eisiau gwneud yn siŵr bod yna dryloywder a thegwch. Rydym ni wedi amlinellu'r holl bethau hynny eisoes, felly rwy'n credu bod hynny'n gwbl sylfaenol i'r ffordd ymlaen.

18:10

Dywedodd y Gweinidog yn y datganiad fod yn rhaid inni, yn y DU, feithrin cydweledigaeth o'r math o economi a'r cysylltiadau masnachu sydd arnom eu heisiau â'r UE yn y dyfodol. Wrth gwrs, rwy'n cymeradwyo'r farn honno, ond nid yw'n dal dŵr mewn gwirionedd gan fod holl iaith y datganiad a'r agweddau y mae'r Gweinidog ei hun, yn benodol, wedi'u coleddu yn y blynyddoedd diwethaf, yn gwrthddweud hyn. Nid yw'n rhannu gweledigaeth Llywodraeth y DU ynglŷn â Brexit o gwbl.

Mewn gwirionedd, mae'r datganiad ei hun a'r hyn a ddywedodd wrth ateb cwestiynau eraill yn gynharach yn cyfeirio at y ffaith ei bod yn dal i ymladd yr un dadleuon a gawsom ni yn ymgyrch y refferendwm a'r etholiad cyffredinol yn 2017 ac, yn wir, hyd yn oed yr etholiad cyffredinol dim ond ychydig wythnosau yn ôl, gan siarad am yr angen am gydymffurfiaeth reoleiddiol. Wel, os ydych chi'n dechrau trafodaethau ar y sail, 'Ydym, rydym yn mynd i ofyn am bopeth sydd gennych eisoes ac nid ydym yn mynd i ildio unrhyw beth', yna mae'n anochel nad ydych yn mynd i ddychwelyd o drafodaethau gyda chanlyniad llwyddiannus. Nid oes unrhyw Lywodraeth sydd gan y Deyrnas Unedig yn mynd i dalu'r sylw lleiaf i Lywodraeth Cymru os yw'n rhygnu ymlaen am y themâu hyn.

Yr un hen gân yw hi. Y cyfan sydd wedi digwydd o ganlyniad i'r etholiad cyffredinol yw eu bod wedi newid y cyweirnod. Fel arall, mae'r dôn yn union yr un fath â'r un y buont yn ei chanu'n aflwyddiannus am y tair blynedd a hanner diwethaf. Byddech yn meddwl y dylai'r Blaid Lafur o'r diwedd fod wedi dysgu rhywbeth o'r chwalfa ddinistriol yn yr etholiad cyffredinol, yn enwedig yng Nghymru, lle mae gan y Ceidwadwyr bellach nifer digyffelyb o seddau yn San Steffan fel cyfran o'r cyfanswm.

Os yw Llywodraeth Cymru wirioneddol eisiau i Lywodraeth y DU ei chymryd o ddifrif, mae'n rhaid iddynt gefnogi'r neges y mae Llywodraeth y DU ei hun yn ei chyflwyno ac ers hynny mae Theresa May, o barchus goffadwriaeth, wedi ymadael â'r sefyllfa. Mae Boris Johnson yn fath gwahanol o arweinydd i Theresa May. Mae'n mynd i gymryd golwg gadarnhaol, optimistaidd ar drafodaethau yn y byd, a bydd, rwy'n ffyddiog, yn llawer mwy caled yn ein trafodaethau gyda Monsieur Barnier. Mae Theresa May wedi methu'n llwyr â chyflawni canlyniad y refferendwm oherwydd mabwysiadodd yr un agwedd rwy'n credu, yn anffodus, â'r un sy'n parhau gan y Gweinidog sy'n gwneud y datganiad hwn heddiw. Dydw i ddim yn credu ei bod hi eisiau cael ei hadnabod yn benodol fel Theresa May gwleidyddiaeth Cymru, ond mae hi mewn perygl, rwy'n credu, o leiaf yn y cyswllt hwn, o ennill y llysenw hwnnw.

Mabwysiadodd Llywodraeth Cymru bolisi ar gyfer y tair blynedd a hanner diwethaf o wrthdaro bwriadol â Llywodraeth y DU. Methodd hynny'n llwyr. Nawr, mae'n bryd nid yn unig troi tudalen lân, ond mewn gwirionedd agor llyfr newydd, os yw Llywodraeth Cymru i gael unrhyw ddylanwad o gwbl ar Lywodraeth y DU, yr hoffwn ei weld, wrth gwrs. Mae buddiannau Cymru ychydig yn wahanol i fuddiannau rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, yr un fath ag y mae rhai'r Alban ac yr un fath ag y mae buddiannau Gogledd Lloegr ychydig yn wahanol i fuddiannau pawb arall hefyd. Mae economi Cymru'n dangos nodweddion penodol, yn enwedig pwysigrwydd allforion i'r UE yng Nghymru, sy'n fwy o lawer, rwy'n cydnabod, nag yn unman arall yn y Deyrnas Unedig. Ond, pan ddywed yn ei datganiad bod yn rhaid inni beidio â cholli golwg ar fuddiannau defnyddwyr yn ogystal â rhanddeiliaid, rwy'n ei chanmol am hynny oherwydd mae pawb yn ddefnyddiwr yng Nghymru. Mae pawb yn bwyta bwyd, er enghraifft.

Mae amaethyddiaeth yn elfen bwysig mewn unrhyw drafodaethau masnach yn y dyfodol gyda'r UE, ond ni allwn edrych ar hyn o safbwynt grwpiau buddiannau cynhyrchwyr yn unig. Dylem hefyd weld pwysigrwydd negodi er budd defnyddwyr. Yng Nghymru, yn arbennig, gan mai ni yw'r rhan dlotaf o'r Deyrnas Unedig o ran incwm a gwerth ychwanegol gros, lles cyfran fwy o boblogaeth Cymru yw cael bwyd rhad ac, yn wir, popeth rhad o'r negodiadau hyn: agor marchnadoedd, lleihau prisiau, creu economi fwy cystadleuol i weithredu ynddi.

Felly, y meddylfryd sydd ei angen, yn fy marn i, ar Lywodraeth Cymru, fel ar y DU, yw cadernid o ran diben. Na, nid ydym yn mynd i'r trafodaethau fel rhai sy'n erfyn ar yr UE. Mae ganddynt lawer mwy i'w golli nag sydd gennym ni—diffyg o £66 biliwn y flwyddyn gyda'r UE mewn nwyddau yn 2018. Mae gennym ni warged enfawr mewn gwasanaethau gyda'r byd yn gyffredinol. Nid yw hynny'n rhan o'r trafodaethau gyda'r UE. Mae gan yr UE ddiddordeb mewn taro’r fargen orau bosibl y gall ei chael iddi hi ei hun a dylem fod â diddordeb mewn taro’r fargen orau bosibl y gallwn ei chael ar gyfer Prydain. Ond os yw Llywodraeth Cymru yn ystyried ei hun yn rhyw fath o geffyl pren Caerdroea ar gyfer buddiannau'r UE yn y trafodaethau hyn, ni fydd hynny'n tycio dim. Mewn gwirionedd bydd yn dwyn anfri pellach arni ei hun ac yn ymddieithrio ei hun ymhellach o Lywodraeth y DU, a chaiff hynny sgil-effeithiau pellach o ran y berthynas rhwng y Llywodraethau datganoledig a Llywodraeth y DU ar faterion eraill. Felly, rwy'n erfyn ar y Gweinidog, hyd yn oed mor hwyr â hyn yn y dydd, i newid cywair a newid safbwynt gan mai dyna'r ffordd i wneud cynnydd.

18:15

Nid wyf yn credu fy mod yn ymdebygu i Theresa May o gwbl, heblaw am y ffaith, fel y mae fy Ngweinidog Cyllid newydd gyfeirio ato, ein bod ni'n dwy yn ferched ficeriaid, felly hithau hefyd. Ond rydym yn ferched ficeriaid tra gwahanol. [Chwerthin.] A gaf fi ddim ond dweud—? Gwrandewch, dydw i ddim yn gwybod pa ran o 'rydym ni'n derbyn y bydd Brexit yn digwydd' na wnaethoch chi ei ddeall, ond dyna'r hyn yr ydym ni wedi'i wneud yn glir, rwy'n credu, heddiw.

Y gwir amdani yw bod gweledigaeth ar gyfer y Deyrnas Unedig, ond mae pedair rhan i'r Deyrnas Unedig hefyd a chredaf y byddai o fudd mae'n debyg i Lywodraeth y DU gofio hynny. Yr hyn sy'n bwysig yw nad yw'r weledigaeth ar gyfer y Deyrnas Unedig yn canolbwyntio'n unig ar Lundain a de-ddwyrain Lloegr. Am y tro cyntaf bellach bydd yn rhaid i Lywodraeth y DU, ar ffurf y Tori Boris Johnson, ystyried anghenion lleoedd lle mae sylfaen weithgynhyrchu o hyd. Felly, rwy'n obeithiol y bydd Llywodraeth y DU yn dechrau bod yn fwy ystyriol o sefyllfa Cymru nag y bu yn y gorffennol.

Mae'n gwbl anghywir dweud bod ymdrech fwriadol i wrthdaro. Mae gennyf berthynas dda iawn â Conor Burns, y Gweinidog Masnach. Dim ond dweud yr wyf i, 'allwch chi gyflymu ychydig oherwydd mae amser yn ein trechu ni?' O ran cael cydbwysedd rhwng defnyddwyr a chynhyrchwyr, wrth gwrs mae'n rhaid i ni gael y cydbwysedd hwnnw'n gywir, ond pa ddefnyddwyr a pha gynhyrchwyr? Yr hyn nad wyf yn barod i'w weld yw bwyd rhad yn cael ei aberthu ar gyfer y 58,000 o weithwyr amaethyddol yng Nghymru. Mae hynny'n gydbwysedd y mae'n rhaid inni ei drafod. Dydw i ddim eisiau gweld hynny'n cael ei aberthu. A minnau'n ferch i ficer rwy'n cael defnyddio'r mathau hyn o ddelweddau ar allor dinas Llundain, felly rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn cyflawni hyn i gyd a'n bod yn ceisio gweithio gyda'n gilydd er lles y wlad. Mae o fudd i ni i gyd. Os yw hyn yn mynd i ddigwydd, gadewch i ni sicrhau ei fod y cytundeb gorau posibl nid i bobl Cymru yn unig, ond i bobl y Deyrnas Unedig.

Dylem obeithio am y gorau, ond rhaid inni baratoi am y gwaethaf. Rwy'n ofni na allaf rannu'r weledigaeth o gyfleoedd toreithiog a phorfeydd gwelltog ar ôl Brexit. Ni allaf eu gweld nhw ar hyn o bryd.

Does dim byd ond ansicrwydd ynghylch beth fydd safbwynt Llywodraeth y DU yn y trafodaethau masnachu hyn. Fel y dywedwch yn eich datganiad, bydd rhai ar eu hennill a bydd rhai ar eu colled. Felly, yr hyn yr oeddwn eisiau sôn amdano yn arbennig oedd materion diogelwch bwyd a diogelu'r cyflenwad bwyd, y soniodd Neil Hamilton amdano yn fyr. Ond mae'r bwgan o gyw iâr clorinedig a chig eidion llawn hormonau yn dal i fod yn un mawr mewn unrhyw drafodaethau y gallem eu cael â'r Unol Daleithiau, os ydym eisoes wedi cytuno i lastwreiddio ein safonau bwyd yn ein trafodaethau â'r Undeb Ewropeaidd.

Beth fydd yn digwydd i'n hymrwymiadau i leihau carbon yn yr argyfwng hinsawdd os ydym yn fodlon i'n bwyd gael ei gynhyrchu mewn amodau ffermydd ffatri nad oes unrhyw reoleiddio arnynt, sy'n gwbl anghynaladwy yn y tymor hir? Beth mae hynny'n ei olygu i'n diogelwch bwyd yn ogystal ag i les cenedlaethau'r dyfodol, sy'n amlwg yn cynnwys ein cyfrifoldebau byd-eang? Nid wyf yn gwybod a allwch chi daflu unrhyw oleuni ar safbwynt Llywodraeth y DU o ran y materion hyn, ond nid dyma'r math o bethau sy'n cael eu trafod yn y sloganeiddio a glywsom gan Lywodraeth y DU hyd yma. Felly, byddai unrhyw beth y gallwch ei ddweud am hyn yn ddefnyddiol.

Yn fyr iawn, rwy'n ymwybodol bod amser yn brin. Felly, ydy, mae ansicrwydd yn broblem fawr. O ran diogelwch bwyd, ceir y cwestiwn â phwy yr ydym yn mynd i gyfochri. Oherwydd os byddwn yn cyfochri â'r Unol Daleithiau, ac yn caniatáu i gig eidion wedi'i drin gan hormonau ddod i mewn, yna bydd y rhwystrau gyda gweddill y cyfandir yn codi gan na fyddan nhw eisiau i hwnnw fynd i mewn i'w marchnad. Felly, mae yna gyfaddawdu, ac mae'r drefn a'r dilyniant i hyn yn mynd i fod o bwys aruthrol. Mae hynny'n rhan o'r anhawster o gael cyd-drafodaethau lluosog yn digwydd ar yr un pryd. Rydym wedi ei gwneud yn glir: yr UE sy'n dod gyntaf.

O ran yr hyn a wyddom gan Lywodraeth y DU, rhan o'r broblem yw nad ydym yn gwybod beth yw'r mandad trafod. Mae'r Americanwyr wedi cyhoeddi eu rhai nhw. Mae'r cyfan yn dryloyw. Dydyn ni ddim yn gwybod beth yw mandad y DU. Mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni ddechrau bwrw ymlaen ag ef, oherwydd mae ein hamser yn prinhau, fel yr oeddwn i'n ei ddweud.

18:20
6. Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2020

Eitem 6 ar yr agenda yw Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2020. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i gynnig y cynnig—Rebecca Evans.

Cynnig NDM7223 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5:

1. Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau’r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a’r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2020 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 26 Tachwedd 2019.   

Cynigiwyd y cynnig.

Rwy'n croesawu'r cyfle i gyflwyno'r rheoliadau diwygio hyn heddiw, a hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am ei adroddiad ar y rheoliadau. Mae Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (Gofynion Rhagnodedig a'r Cynllun Diofyn) (Cymru) (Diwygio) 2020 yn diwygio Rheoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor 2013. Mae'r cynllun yn rhoi cymorth uniongyrchol i gartrefi ledled Cymru drwy leihau eu biliau treth gyngor.

Diddymodd Llywodraeth y DU fudd-dal y dreth gyngor ar 31 Mawrth 2013, a phasiodd gyfrifoldeb dros ddatblygu trefniadau newydd i Lywodraeth Cymru. Fel rhan o'r penderfyniad, cafwyd toriad o 10 y cant yn y cyllid ar gyfer y cynllun. Ymatebodd Llywodraeth Cymru drwy lenwi'r bwlch ariannu er mwyn cadw hawliau i gefnogaeth. Ar hyn o bryd, mae'r cynllun yn cefnogi tua 280,000 o aelwydydd tlotaf Cymru. Mae angen deddfwriaeth ddiwygio bob blwyddyn i sicrhau bod y ffigurau a ddefnyddir i gyfrifo hawl pob aelwyd i ostyngiad yn cael eu cynyddu i gymryd i ystyriaeth y cynnydd mewn costau byw. Mae'r rheoliadau uwchraddio felly'n cadw'r hawl bresennol i gymorth.

Mae'r ffigurau ariannol ar gyfer 2020-1 sy'n ymwneud â phobl o oedran gweithio, pobl anabl a gofalwyr yn cael eu cynyddu yn unol â'r mynegai prisiau defnyddwyr, 1.7 y cant. Mae ffigurau sy'n ymwneud ag aelwydydd pensiynwyr yn dal i gael eu cynyddu yn unol â gwarant sylfaenol safonol Llywodraeth y DU ac maent yn adlewyrchu uwchraddio'r budd-dal tai. Yn sgil gohirio cyllideb yr Hydref, mae Llywodraeth Cymru wedi defnyddio ffigurau dros dro ar gyfer rhai o'r ffactorau uwchraddio lle bo angen. Mae hyn er mwyn sicrhau ein bod yn diogelu teuluoedd ar incwm isel yr effeithiwyd arnyn nhw gan ddiwygio lles o doriadau pellach i'w hincwm.

Wrth wneud y rheoliadau hyn, rwyf hefyd wedi manteisio ar y cyfle i gynnwys mân newidiadau technegol ac i wneud diwygiadau ychwanegol i adlewyrchu newidiadau eraill i fuddion cysylltiedig, er enghraifft diwygio'r rheoliadau i sicrhau bod pobl o'r un rhyw sydd mewn partneriaethau sifil â'r un hawliau â phobl mewn partneriaethau sifil o ryw arall, priodasau rhwng cyplau o'r un rhyw, a phriodasau rhyw arall. Bydd y newidiadau yn sicrhau bod awdurdodau bilio yn asesu'r hawl i ostyngiadau yn y dreth gyngor mewn modd cyson.

Mae'r rheoliadau hyn yn cadw'r hawl i ostyngiad yn y biliau treth gyngor i aelwydydd yng Nghymru. O ganlyniad i'r cynllun hwn, bydd tua 220,000 o'r aelwydydd sydd dan y pwysau ariannol mwyaf yn parhau i beidio â thalu'r dreth gyngor yn 2020-1. Gofynnaf i'r Aelodau gymeradwyo'r rheoliadau hyn heddiw.

Diolch, Dirprwy Lywydd. Rhoddwyd ystyriaeth i'r rheoliadau hyn yn ein cyfarfod ar 9 Rhagfyr 2019, a gosodwyd ein hadroddiad ar 10 Rhagfyr. Nododd ein hadroddiad un pwynt teilyngdod i'w adrodd o dan Reol Sefydlog 21.3, a oedd yn ymwneud â phwynt drafftio.

Mae'r Rheoliadau'n cyfeirio at erthygl 3 o Orchymyn Mewnfudo (Gwladolion yr Ardal Economaidd Ewropeaidd) (Ymadael â'r UE) 2019, a wnaed o dan adran 3A o'r Ddeddf Mewnfudo 1971. Gofynnwn pam yr oedd yn angenrheidiol yn y rheoliadau hyn i ddyfynnu'r pŵer galluogi yn Neddf Mewnfudo 1917 wrth gyfeirio at erthygl 3 o Orchymyn 2019. Cyfeiriodd ymateb Llywodraeth Cymru at gynsail ar gyfer y dull drafftio a ddilynir. Gofynnwyd am gael eglurhad pellach gan y Llywodraeth, ac rydym yn croesawu ymateb diweddar y Gweinidog Dros Gyllid a'r Trefnydd, a roddodd gefndir ychwanegol i'r dewis drafftio yr oeddem wedi gofyn amdano.

Yn olaf, hoffwn nodi bod ein hadroddiad hefyd wedi tynnu sylw at oblygiadau yn y rheoliadau o ganlyniad i ymadawiad y DU â'r Undeb Ewropeaidd. Diolch, Llywydd.

18:25

Rwy'n ddiolchgar iawn i Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol am y gwaith a wnaeth y Pwyllgor i graffu ar y rheoliadau. Roeddwn yn falch o ddarparu'r eglurder hwnnw o ran y dewis drafftio ar gyfer y dull gweithredu yr oedd gan y pwyllgor ddiddordeb arbennig ynddo. Bydd angen y rheoliadau uwchraddio hyn bob blwyddyn er mwyn sicrhau bod pob cartref cymwys yng Nghymru yn cadw'r hawl i gael cymorth ac, wrth gwrs, rydym wedi ymrwymo i gyflwyno'r rheoliadau'n flynyddol.

Diolch. Y cynnig yw bod y cynnig yn cael ei dderbyn. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl: Egwyddorion Cyffredinol y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru)

Mae eitem 7 yn ddadl ar egwyddorion cyffredinol y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru). Galwaf ar Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig i gynnig y cynnig—Lesley Griffiths.

Cynnig NDM7222 Lesley Griffiths

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:

Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru).

Cynigiwyd y cynnig.

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch iawn o agor y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru).

Rwy'n ddiolchgar i Mike Hedges, Llyr Huws Gruffydd, Mick Antoniw a'u pwyllgorau am eu hagwedd drylwyr ac ystyriol at waith craffu Cyfnod 1 ar y Bil hwn. Hoffwn hefyd gydnabod cyfraniad pwysig yr unigolion a'r sefydliadau a lywiodd waith craffu'r pwyllgorau drwy dystiolaeth ysgrifenedig a llafar. Roedd cryfder y teimladau ar y pwnc emosiynol hwn, ar ddwy ochr y ddadl, yn amlwg yn ystod y sesiynau tystiolaeth. Mae'r cyhoedd yng Nghymru a mudiadau'r trydydd sector wedi lobïo'n frwd iawn dros wahardd anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol. Ni ellir cyfiawnhau defnyddio anifeiliaid gwyllt fel hyn, ar gyfer ein hadloniant ni yn unig. Mae'n hen ffasiwn ac yn anfoesegol.

Nod Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru) yw mynd i'r afael â phryderon moesegol drwy wahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol. Byddai gwaharddiad yng Nghymru yn golygu bod un dull gweithredu cyson ar draws Prydain Fawr. Gwaharddwyd hynny gan Lywodraeth yr Alban yn 2018 a daw gwaharddiad yn Lloegr i rym yn ddiweddarach y mis hwn.

Ymdriniaf yn awr â'r argymhellion a wnaed gan y pwyllgorau yn eu hadroddiadau Cyfnod 1. Mae'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig yn argymell bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil. Rwy'n croesawu'r argymhelliad hwn, ond yn cydnabod nad penderfyniad unfrydol ydoedd.

Yn eu hail argymhelliad, mae'r Pwyllgor yn ceisio mwy o eglurhad ynghylch cwmpas y Bil, ac yn benodol ynghylch tri mater. Y cyntaf yw pam nad yw'r gwaharddiad yn ymestyn i anifeiliaid gwyllt sy'n teithio gyda syrcasau teithiol. Amcan y Bil hwn yw atal y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol ar sail foesegol. Bydd perchnogion syrcas yn cael cadw eu hanifeiliaid o hyd a byddai eu hatal rhag gwneud hynny yn mynd y tu hwnt i'r amcan hwn.

Yn ail, gofynnodd y pwyllgor pam mae'r ddadl foesegol dros wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau sefydlog yn wannach nag ar gyfer syrcasau teithiol. Mae syrcasau yn ôl eu natur yn teithio. Nid oes syrcasau sefydlog yng Nghymru a phe bai endid yn sefydlu ei hun yng Nghymru y gellid ei ystyried yn syrcas sefydlog bydd un ai'n dod o dan ddarpariaethau Deddf Trwyddedu Sŵau 1981 neu'r rheoliadau arddangosfeydd anifeiliaid. Byddai awdurdod lleol yn penderfynu ar y drwydded briodol.

Yn drydydd, gofynnodd y Pwyllgor pam nad yw'r ddadl foesegol dros wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt yr un mor berthnasol i anifeiliaid dof. Nid oes yr un gwrthwynebiad moesegol sylfaenol i'r defnydd o anifeiliaid domestig mewn syrcasau teithiol. Mae llawer o weithgareddau sy'n cynnwys anifeiliaid dof yn teithio i roi perfformiadau sy'n cael eu hystyried yn hollol dderbyniol gan gymdeithas. Er enghraifft, os yw'n dderbyniol i geffylau gael eu defnyddio mewn sioeau neidio ceffylau, byddai'n anodd dadlau na ddylent gyflawni gweithgaredd tebyg mewn syrcas deithiol. Mae'n fwy priodol rheoleiddio'r defnydd o anifeiliaid dof mewn syrcasau teithiol yn hytrach na gwahardd y gweithgaredd hwn. Bydd hyn yn cael ei gyflawni drwy'r rheoliadau arddangosfeydd anifeiliaid yr wyf yn bwriadu eu cyflwyno yn ddiweddarach eleni.

Mae'r pwyllgor yn argymell diwygio'r Bil i gynnwys darpariaeth i Weinidogion Cymru gyhoeddi canllawiau statudol i gefnogi'r broses o roi gwaharddiad ar waith ac i'r canllawiau gynnwys eglurhad ar ystyr 'anifail gwyllt', 'dof' a 'syrcas deithiol', a hefyd eglurhad ynghylch pryd y byddai arddangos anifeiliaid gwyllt yn anffurfiol y tu allan i brif gylch y syrcas yn drosedd. Rwyf eisoes wedi ymrwymo i gynhyrchu canllawiau a byddwn yn ymgynghori â rhanddeiliaid wrth eu llunio. Fodd bynnag, mae'n fwy priodol i'r canllawiau fod yn anstatudol gan na fyddant yn nodi gofynion na rhwymedigaethau ychwanegol. Yn hytrach, byddant yn rhoi eglurder ynghylch sut y bydd y Ddeddf yn gweithio'n ymarferol, ac mae hyn yn gyson â'r dull gweithredu a ddilynir yn yr Alban.

Mae argymhellion terfynol pwyllgor yr amgylchedd yn ymwneud â'r effaith ar y syrcasau a'u hanifeiliaid. Mae'r ddwy syrcas yr effeithir arnynt wedi'u lleoli yn Lloegr. Mae'n debygol bod unrhyw benderfyniad ar ddyfodol eu hanifeiliaid gwyllt wedi'i wneud eisoes, o gofio'r gwaharddiad sydd ar fin dod i rym yn Lloegr. Ni allwn orfodi'r syrcasau i ailgartrefu eu hanifeiliaid neu i beri iddynt ymddeol. Os ydynt yn cadw eu hanifeiliaid, fel y maent wedi awgrymu, gallant beri iddynt ymddeol neu ddewis eu defnyddio mewn ffordd wahanol. Mae hawl ganddynt wneud hynny, cyn belled â'u bod yn gwneud hynny o fewn y gyfraith.

Gwnaeth y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol un argymhelliad. Gofynnodd y pwyllgor am eglurhad o'r diffiniadau o 'anifail gwyllt' a 'syrcas deithiol', ac eglurhad o unrhyw wahaniaethau rhwng y rhai a ddefnyddir yn y Deddfau cyfatebol ar gyfer yr Alban a Lloegr yn unig.

Mae'r Bil yn diffinio 'anifail gwyllt' fel:

'anifail o fath nad yw wedi ei ddomestigeiddio yn gyffredin yn yr Ynysoedd Prydeinig'.

O dan y Bil, byddai anifeiliaid sy'n cael eu hystyried yn ddof yn gyffredinol yn eu gwlad enedigol ond nid yn fath sy'n ddof yn gyffredin yn Ynysoedd Prydain yn 'anifeiliaid gwyllt'. Mae ein diffiniad yn debyg i ddiffiniad Deddf Trwyddedu Sŵau 1981, ac mae'n osgoi'r sefyllfa lle gellid ystyried un rhywogaeth yn wyllt mewn sw ond yn ddof mewn syrcas. Mae'r diffiniad yn debyg i'r un a geir yn Neddfau Lloegr a'r Alban. Ceir rhai mân amrywiadau yn y drafftio, ond nid wyf yn rhagweld y bydd y rhain yn arwain at wahaniaeth yn yr effaith gyffredinol.

Mae 'syrcas deithiol' yn golygu:

'syrcas sy’n teithio o un man i fan arall at ddiben darparu adloniant yn y mannau hynny'.

Mae'r diffiniad yn cydnabod mai syrcas deithiol yw syrcas, er gwaethaf y cyfnodau pan nad yw'n teithio. Mae hyn yn debyg i'r diffiniad yn Neddf yr Alban. Nid yw Deddf Lloegr yn darparu diffiniad o syrcas deithiol. Mae Adran 11 o'r Bil yn rhoi pwerau i Weinidogion Cymru wneud rheoliadau i egluro'r telerau hyn os oes unrhyw ansicrwydd yn y dyfodol. Mae Deddf yr Alban yn cynnwys pwerau tebyg. Nid yw Deddf Lloegr yn gwneud hynny. Mater i Lywodraeth y DU yw pam y penderfynodd hepgor y rhain.

Hoffwn hefyd gydnabod ystyriaeth y Pwyllgor Cyllid o'r Bil. Mae'r Pwyllgor yn cydnabod bod y goblygiadau ariannol yn gymharol fach. Mae llawer o ansicrwydd ynghylch rhai o'r effeithiau, gan nad yw'r costau'n hysbys. Ychydig o wybodaeth ychwanegol a gafwyd yn ystod yr ymarfer ymgynghori, ond credwn y bydd unrhyw effaith yn gyfyngedig. Llywydd, rwy'n croesawu'r cyfle hwn i drafod y Bil a chlywed barn yr Aelodau.

18:30

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig—Mike Hedges.

Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl heddiw ar ran y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig ac i wneud sylw ar y goblygiadau ariannol, y disgwylir iddynt, fel y dywedodd y Gweinidog, fod yn fach iawn ac yn debygol o fod mor fach fel nad ydynt yn effeithio ar y cynghorau na'r syrcasau eu hunain. Hoffwn ddiolch ar goedd i bawb a roddodd dystiolaeth neu a gyflwynodd eu barn i lywio ein gwaith.

Pan gyfeiriwyd y Bil i'r pwyllgor, credem y byddai hwn yn ddarn syml, didrafferth o waith, ond daeth yn amlwg pan ddechreuwyd cymryd tystiolaeth nad oedd hyn yn wir. Nid oedd hyn oherwydd materion yn ymwneud â'r Bil ei hun. At ei gilydd, mae'n gwneud yr hyn y mae'n bwriadu ei wneud: gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol. Ond, cododd yr anhawster oherwydd y sail y mae Llywodraeth Cymru'n ei defnyddio i geisio cyflwyno'r gwaharddiad, a'r ffaith ei bod yn ymddangos bod sefyllfa foesegol y Llywodraeth wedi'i chymhwyso'n anghyson. Er bod y pwyllgor yn unfryd ei gefnogaeth i les yr holl anifeiliaid, ni allai ddod i farn unfrydol ynghylch a ddylai'r Bil fynd yn ei flaen. Mae'r rhan fwyaf o aelodau'r pwyllgor yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil ac, felly, rydym yn argymell bod y Cynulliad yn cytuno ar yr egwyddorion cyffredinol.

Yn ddiau, mae defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yn fater sy'n ennyn teimladau cryf. Clywsom ddadleuon argyhoeddiadol ar ddwy ochr y ddadl ynglŷn â'r angen, neu fel arall, i wahardd yr arfer. Mae anifeiliaid gwyllt wedi bod yn perfformio mewn syrcasau teithiol ers canrifoedd. Byddai rhai yn dadlau bod yr arfer wedi addasu dros amser i adlewyrchu chwaeth ac agweddau cyfnewidiol cymdeithas tuag at anifeiliaid. Mae'r rhai sy'n ymwneud â'r diwydiant syrcas yn siarad am eu hanifeiliaid fel estyniad o'u teulu, sy'n cael cariad a gofal. Roedden nhw'n awyddus i bwysleisio bod dyddiau'r eirth yn dawnsio wedi hen ddod i ben. Dywedwyd wrthym fod perfformiadau heddiw yn ymwneud â dangos galluoedd unigryw anifeiliaid gwyllt, a'u bod yn enghraifft ardderchog o gydweithredu rhwng pobl ac anifeiliaid.

Mae'r rhai sy'n cynrychioli sefydliadau lles anifeiliaid yn dadlau nad oes posib diwallu anghenion anifeiliaid gwyllt mewn amgylchedd syrcas deithiol. Credant y dylai'r anifeiliaid hyn gael byw eu bywydau mor agos â phosib at anifeiliaid eraill o'r un rhywogaeth â nhw nad ydynt yn gaeth a gyda chyn lleied o ymyrraeth ddynol â phosib. Dywedodd rhai cynrychiolwyr lles anifeiliaid wrthym fod gorfodi anifeiliaid gwyllt i berfformio ar gyfer adloniant yn enghraifft o gamfanteisio ar anifeiliaid ar ei waethaf, a'u bod wedi ymgyrchu ers degawdau am waharddiad.

Mae'n anodd cysoni'r safbwyntiau pegynol hyn. Ond, yr hyn y bu'n rhaid i ni ei wneud wrth ystyried y Bil oedd parhau i ganolbwyntio ar y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn ceisio gwaharddiad nid ar sail lles anifeiliaid, ond ar sail foesegol.

Cyn symud ymlaen at y rhesymau moesegol dros waharddiad, hoffwn roi sylw i fater lles anifeiliaid. Er gwaethaf barn sefydliadau lles anifeiliaid, mae'r Gweinidog wedi ei gwneud hi'n glir nad oes tystiolaeth bod anifeiliaid gwyllt a ddefnyddir mewn syrcasau teithiol yn y DU yn cael eu cam-drin, sy'n galonogol. Ar hyn o bryd mae'r syrcasau hyn yn destun yr hyn y mae'r Gweinidog ei hun wedi'u disgrifio fel rheoliadau a gofynion trwyddedu llym iawn. Nid oes dim yn atal Llywodraeth Cymru rhag deddfu i barhau â'r drefn reoleiddio bresennol, ond mae wedi dewis peidio â gwneud hynny. Yn hytrach, mae'n ceisio cael gwaharddiad.

Gwyddom fod yr Alban a Lloegr eisoes wedi deddfu ar gyfer gwaharddiad. Mae'r Gweinidog wedi dadlau bod yn rhaid i Gymru ddilyn eu hesiampl er mwyn osgoi bod yn noddfa i syrcasau teithiol yn y DU sy'n defnyddio anifeiliaid gwyllt. Ond, gadewch i ni beidio â cholli golwg ar raddfa'r mater y mae'r Bil hwn yn ceisio mynd i'r afael ag ef. Ar hyn o bryd, mae dwy syrcas a chyfanswm o 19 o anifeiliaid gwyllt ar daith o amgylch y DU. Mae hyn yn peri i chi ofyn: pam mae Llywodraeth Cymru wedi dewis gwahardd yr arfer penodol hwn ar sail foesegol pan fo amrywiaeth o faterion brys yn ymwneud â lles anifeiliaid y mae taer angen mynd i'r afael â nhw? Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae angen gwaharddiad gan fod defnyddio anifeiliaid gwyllt i berfformio yn anfoesegol. Y broblem i'r Llywodraeth yw'r diffyg tystiolaeth bendant i gefnogi ei safbwynt. Daeth hyn yn rhywbeth y bûm yn edrych arno—anfoesegol neu foesegol—mae'n anodd iawn ei brofi, a barn unigolyn yn aml yw pa un a yw rhywbeth yn foesegol ai peidio.

Bu'n rhaid i'r Llywodraeth ddibynnu'n helaeth ar y galwadau parhaus gan grwpiau lles anifeiliaid ac ar gefnogaeth y cyhoedd i waharddiad fel tystiolaeth fod yr arfer yn anfoesegol a bod angen gwaharddiad. Oes, mae'n rhaid ystyried barn y cyhoedd, ond ni ddylai hyn fod yn brif ffynhonnell tystiolaeth ar gyfer deddfwriaeth. Yr hyn sy'n bwysig, yn achos y Bil hwn, yw nad yw hi'n glir beth yw barn y cyhoedd o ddifrif. A yw eu cefnogaeth i waharddiad yn seiliedig ar ystyriaethau moesegol, neu ar y dybiaeth na chaiff yr anifeiliaid eu trin yn dda, sydd, yn ôl y Gweinidog, yn ddi-sail?

Gan droi at gwmpas y gwaharddiad, dyma lle mae dadleuon moesegol Llywodraeth Cymru yn dod yn arbennig o broblemus. Os yw'n anfoesegol, fel yr awgryma'r Llywodraeth, peri i anifeiliaid gwyllt berfformio ar gyfer adloniant dynol, mae'n dilyn y gall wneud i'r un anifeiliaid berfformio ar gyfer adloniant mewn lleoliadau eraill fod yn anfoesegol hefyd. Ond, mae cwmpas y gwaharddiad yn gyfyngedig i syrcasau teithiol yn unig. Bydd yr un anifeiliaid yn cael perfformio mewn sioeau a digwyddiadau eraill o hyd, cyn belled â'u bod wedi'u trwyddedu o dan gynllun arddangosfeydd anifeiliaid newydd y Llywodraeth. Byddant hefyd yn cael cymryd rhan mewn ffilmiau. Nid yw Llywodraeth Cymru yn gyson wrth weithredu'i safbwynt moesegol. Yn ein hadroddiad, fe wnaethom ni alw ar y Gweinidog i egluro'n well pam nad dyma'r achos. 

Llywydd, hoffwn orffen fy nghyfraniad yn yr un lle ag y dechreuais. Nid oedd ystyriaeth y pwyllgor o'r Bil yn orchwyl hawdd. Dyma'r Bil Cynulliad cyntaf i gael ei gyflwyno ar sail foesegol, ac mae wedi codi rhai cwestiynau diddorol am y dull hwn o ddeddfu. Yn y pen draw, mae'r cwestiwn a yw rhywbeth yn foesegol yn fater o farn bersonol, fel gwneud barn foesol. Fel yn achos aelodau'r Pwyllgor, mater i'r Aelodau yn y Siambr heddiw fydd penderfynu ar ba ochr i'r ddadl foesegol y maen nhw. Mae'r pwyllgor, fodd bynnag—er nad yw'n unfrydol—yn argymell bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil, a gobeithiaf y byddwn yn gwneud hynny heddiw.  

18:35

Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, Mick Antoniw.

Diolch, Llywydd. Cyflwynwyd adroddiad ar y Bil hwn ar 4 Rhagfyr a dim ond un argymhelliad a wnaethom ni. Mae'r argymhelliad hwnnw'n ymwneud â'r diffiniadau o 'anifail gwyllt' a 'syrcas deithiol' y darperir ar eu cyfer yn y Bil. Dywedodd y Gweinidog wrthym fod y diffiniad o 'anifail gwyllt' a 'syrcas deithiol' a ddefnyddir yn y Bil yr un fath â'r diffiniadau a ddefnyddir yn y Deddfau cyfatebol yn yr Alban a Lloegr yn unig. Fodd bynnag, fe wnaethom ni sylwi fod y diffiniad o 'anifail gwyllt' yn y Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau Teithiol (yr Alban) 2018 yn ymddangos fel pe bai'n rhoi diffiniad mwy manwl a phenodol na'r diffiniad a geir yn y Bil hwn. Nawr, er ein bod yn cydnabod bod y Gweinidog wedi ysgrifennu atom ar 28 Tachwedd i gynnig rhywfaint o eglurhad, daeth y llythyr i law dros bum wythnos ar ôl i'r Gweinidog roi tystiolaeth i ni ac un wythnos yn unig cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad. Nid oedd yn glir i ni pam y cymerodd gymaint o amser ar ôl y sesiwn dystiolaeth i ysgrifennu atom.

O ganlyniad i'r amserlenni hynny, prin oedd y cyfle a gawsom i ystyried goblygiadau tystiolaeth ychwanegol y Gweinidog. Am y rheswm hwnnw, rydym yn argymell y dylai'r Gweinidog ddefnyddio dadl Cyfnod 1 fel cyfle i egluro'r diffiniadau o 'anifail gwyllt' a 'syrcas deithiol' y darperir ar eu cyfer yn y Bil. Fe wnaethom ni hefyd ofyn iddi egluro sut a pham mae'r diffiniadau hyn yn wahanol i'r rhai a ddefnyddir yn y Deddfau cyfatebol ar gyfer yr Alban a Lloegr yn unig. A heddiw, rwy'n croesawu, yn amlwg, sylwadau'r Gweinidog ar y mater hwn a'r eglurhad ychwanegol a ddarparwyd heddiw, yn unol â chais y pwyllgor. Diolch, Llywydd.

Ar ran y Ceidwadwyr Cymreig, a gaf i groesawu dadl heddiw ar egwyddorion cyffredinol y Bil Anifeiliaid Gwyllt a Syrcasau (Cymru)? Galwodd y Ceidwadwyr Cymreig, wrth gwrs, am y tro cyntaf am wahardd anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yng Nghymru yn ôl yn 2015. Felly, mae'n anffodus braidd bod Cymru mewn gwirionedd ar ei hôl hi wrth weithredu deddfwriaeth lles anifeiliaid, gyda Llywodraeth y DU yn pasio Deddf debyg yn Lloegr ym mis Gorffennaf 2019, a Llywodraeth yr Alban yn yr un modd ym mis Ionawr 2018.

Serch hynny, mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn cytuno ag egwyddorion y Bil, ac rydym yn cefnogi ei amcanion o wella lles anifeiliaid drwy gydnabod mai'r ffordd orau o ddiwallu anghenion anifeiliaid gwyllt yw mewn amgylcheddau gwahanol a rhai y tu allan i syrcas deithiol. Fodd bynnag, rydym yn credu bod nifer o welliannau y gellid eu gwneud i sicrhau bod y Bil yn hollgynhwysol, yn cau bylchau posibl ac yn lleihau amwysedd o fewn y ddeddfwriaeth a allai gael ei chamddefnyddio o hyd.

Bu llawer o ddadlau ynghylch y diffiniad o 'anifail gwyllt'. Mae'r diffiniad o 'anifail gwyllt' yn cyd-fynd â Deddf Trwyddedu Sŵau 1981, ac mae'r Bil hefyd yn rhoi'r pŵer i Weinidogion wneud rheoliadau ynghylch pa anifeiliaid y gellir eu hystyried ac na ellir eu hystyried yn anifeiliaid gwyllt. Fodd bynnag, yn ei memorandwm esboniadol, mae Llywodraeth Cymru yn datgan:

'Mae’n bosibl y gall fod ansicrwydd neu safbwyntiau croes ynghylch a ddylid ystyried math o anifail yn wyllt ai peidio'.

Yn ei sesiwn dystiolaeth i Bwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig y Cynulliad, mae Dr Rebekah Humphreys yn nodi fod

y term 'gwyllt' ei hun yn gysyniad amwys. 

Awgryma Dr Humphreys felly y gallai'r anifeiliaid a gwmpesir gan y ddeddfwriaeth arfaethedig gael eu cynnwys ar wyneb y Bil fel canllaw i gynorthwyo'r gwaith gorfodi.

Mae adran 4 o'r Bil yn egluro bod 'syrcas deithiol' yn golygu:

'syrcas sy’n teithio o un man i fan arall at ddiben darparu adloniant',

sy'n rhoi'r pŵer eto i Weinidogion wneud rheoliadau sy'n nodi gweithred o adloniant sydd i'w hystyried, neu nad yw i'w hystyried, yn syrcas deithiol. Fodd bynnag, mae'r dystiolaeth a roddwyd yn amlygu diffyg dealltwriaeth o'r hyn yw syrcas deithiol. Dylai'r diffiniad a ddefnyddir yn y Bil fod yn fwy manwl i atal syrcasau rhag ceisio osgoi'r ddeddfwriaeth drwy ail-frandio eu hunain fel atyniad addysgol yn hytrach nag atyniad adloniant. Mae RSPCA Cymru yn argymell y gellid cysoni'r diffiniad â Rheoliadau Lles Anifeiliaid Gwyllt mewn Syrcasau Teithiol (Lloegr) 2012, sy'n diffinio syrcas deithiol fel

un sy'n teithio o le i le at y diben o roi perfformiadau ac arddangosfeydd.

O ran cryfhau'r modd y caiff y Bil ei orfodi, mae RSPCA Cymru hefyd wedi dadlau y dylai Cymru gynnwys darpariaethau tebyg i Ddeddf yr Alban, gan ganiatáu i gwnstabliaid yr heddlu gael yr un pŵer ag arolygydd a ddiffinnir o fewn yr Atodlen. At hynny, mae adran 9 o'r pwerau arolygu yn amlinellu y gall arolygydd archwilio neu brofi unrhyw beth a ganfyddir ar y safle, gan gynnwys cymryd sampl o anifail. Fodd bynnag, nid yw'r Bil yn dweud ar hyn o bryd bod yn rhaid i'r sampl gael ei chymryd gan weithiwr proffesiynol, ac felly dylid galluogi gweithwyr proffesiynol i gynorthwyo'r arolygydd, yn enwedig gan y gallai fod angen cymorth arbenigol ar yr anifeiliaid y mae'r ddeddfwriaeth yn ymwneud a nhw. At hynny, nid yw'r Bil ar ei ffurf bresennol yn cynnwys pŵer i atafaelu unrhyw anifail a ganfyddir ar safle ac sy'n dystiolaeth o dorri'r ddeddfwriaeth arfaethedig.

Mae rhai rhanddeiliaid yn awgrymu bod peidio â meddu ar y pŵer i atafaelu anifail yn cyfyngu ar bŵer yr arolygydd, ac y gall fod angen i anifeiliaid gael eu hailgartrefu mewn rhai achosion os ceir materion amlwg yn ymwneud â lles anifeiliaid. Felly, byddai cynnwys darpariaeth benodol, sy'n caniatáu ar gyfer atafaelu anifeiliaid os yw lles anifeiliaid yn ymddangos yn annigonol, yn caniatáu i arolygwyr weithredu'n effeithlon yn erbyn syrcasau neu, yn wir, unigolion yr ymddengys eu bod yn torri deddfwriaeth lles anifeiliaid.

Rydym ni hefyd yn pryderu am rai o ganlyniadau anfwriadol y Bil, gan gynnwys y diffyg darpariaeth ar hyn o bryd o ran dyfodol yr anifeiliaid gwyllt sy'n cael eu defnyddio ar hyn o bryd mewn syrcasau teithiol yn y DU ar ôl rhoi gwaharddiad o'r fath ar waith. Mae'n bosibl y bydd perchnogion syrcasau'n penderfynu rhoi'r gorau i gadw eu hanifeiliaid os nad yw'n ariannol bosibl teithio gyda nhw mwyach, ac rydym o'r farn y byddai'n ddefnyddiol pe bai Llywodraeth Cymru yn llunio cyfarwyddiadau i syrcasau ynghylch y cymorth y gellir ei roi iddynt wrth ddatblygu cynllun ymddeol ar gyfer pob anifail gwyllt, a ddefnyddir ar hyn o bryd i sicrhau bod yr anifeiliaid yn parhau i fod mewn cyflwr llesol. 

I gloi, mae hi'n amlwg iawn i bawb bod cefnogaeth gyhoeddus i wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Ac mae'n rhaid i mi sôn yn y fan yma am y gwaith a wnaeth Mike Hedges cyn hynny pan roedd yn Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau a'r gwaith a wnaed yn y fan yna, ac am y deisebwyr. Roedd hwnnw'n gam gwirioneddol ymlaen o ran gwireddu'r Bil hwn. Mae hwn yn gam i'r cyfeiriad cywir, ac fel cenedl a Chynulliad rydym i gyd eisiau gweld Cymru'n arwain y ffordd ac yn dod y genedl fwyaf caredig wrth anifeiliaid yn y byd. Diolch yn fawr.

18:45

Does dim amheuaeth yn fy marn i fod gwahardd anifeiliaid gwyllt o syrcasau teithiol y peth cywir i'w wneud. Mi oedd e'n sicr yn rhan o faniffesto Plaid Cymru yn yr etholiad diwethaf. Mae ecsbloetio anifeiliaid gwyllt i'r perwyl yma yn annerbyniol. Wrth gwrs, dŷn ni'n gwybod bod agweddau cymdeithas wedi newid. Mae yna sawl ymchwil a pôl piniwn yn dangos hynny, a dŷn ni hefyd yn gwybod bod rhyw 45 o wledydd ar draws y byd wedi cyflwyno gwaharddiad neu gyfyngiadau i'r perwyl hwnnw.

Mae yn siomedig, a dwi'n ategu sylwadau blaenorol, fod y Llywodraeth wedi cymryd cyhyd i gyrraedd y pwynt yma. Mi oedd sôn ein bod ni tu ôl i'r curve. Wrth gwrs, mi oeddem ni ar flaen y curve, fel y rhan gyntaf o'r Deyrnas Unedig oedd yn awyddus i ddeddfu yn y maes yma. Ond, fel mae'n digwydd nawr, ni fydd y wlad olaf yn y Deyrnas Unedig i lwyddo i wneud hynny. Ac, wrth gwrs, mi oedd bron iawn—fel dŷn ni wedi clywed awgrym gan y Cadeirydd, mi oedd bron iawn i'r Bil beidio â chael cydsyniad yn y pwyllgor amgylchedd i ganiatáu neu i dderbyn yr egwyddor cyffredinol tu ôl i'r Bil yng Nghyfnod 1. Dim ond o drwch blewyn y cytunodd y pwyllgor i wneud hynny.

Mi wnes i bleidleisio o blaid caniatáu i'r Bil fynd yn ei flaen, ac mi fyddaf i yn gwneud hynny eto heddiw, er gwaethaf y ffaith, mae'n rhaid i mi ei ddweud, fod y Gweinidog wedi gwneud gwaith caled iawn o gyfiawnhau pam fod y Llywodraeth wedi defnyddio sail foesegol dros ddeddfu ar hyn. Eto, fel clywom ni gan Gadeirydd y pwyllgor amgylchedd, os yw hi'n anfoesegol i ganiatáu anifeiliaid gwyllt i berfformio mewn syrcasau symudol, wel ydy hi'n anfoesegol iddyn nhw berfformio mewn sefyllfaoedd eraill? Pam dim ond syrcasau teithiol? Er nad oes syrcas statig yng Nghymru, does dim byd i ddweud na fydd yn y dyfodol.

'O', meddai'r Llywodraeth, 'mi fydd anifeiliaid sy'n cael eu harddangos at ddiben adloniant mewn lleoliadau heblaw syrcasau yn cael eu rheoleiddio.' 'A da o beth hynny', meddai fi. Ond nid ar sail foesegol, wrth gwrs—ar sail lles anifeiliaid. Fe fethodd y Gweinidog yn lân ag esbonio'r rhesymeg pam fod un grŵp o anifeiliaid yn cael eu gwarchod ar sail foesegol, ac un arall ar sail lles anifeiliaid—yn wir, yr un anifeiliaid mewn gwahanol gyd-destunau mewn rhai achosion. Dyna ni. Fe ddywedodd un o'r tystion fod yn rhaid i foesegau fod yn gyffredinol, yn unifersal, neu maen nhw'n peidio â bod yn foesegau. A dyna i chi efallai awgrym o'r cyfyng-gyngor roedd rhai o aelodau'r pwyllgor wedi ffeindio eu hunain ynddo fe.

Ond, wedi dweud hynny, mae gennym ni Fil o'n blaenau ni. Mae'n Fil cul sydd yn mynd i effeithio, yn y cyd-destun sydd ohoni, ar 19 o anifeiliaid—nid 19 o rywogaethau, ond 19 o anifeiliaid yn unig. Ond dwi yn meddwl bod angen diolch i bawb gyfrannodd at y dystiolaeth. Mae angen gwella'r Bil, ac mae'r dystiolaeth a dderbyniom ni, dwi'n meddwl, wedi bod yn dystiolaeth gryf iawn o'r ddwy ochr, ac wedi peri tipyn o waith pwyso a mesur. A dwi eisiau talu teyrnged i bawb sydd wedi ymgyrchu yn ddiflino dros ddeddfwriaeth o'r fath. Fe wnaf i gyfeirio yn benodol at un person sy'n etholwraig i mi ac sydd yma heddiw, Linda Joyce-Jones, sydd wedi bod ar flaen y gad yn yr ymgyrch yma ac wedi brwydro'n ddiflino i drio cael y maen i'r wal. Wel, gobeithio y byddwn ni gam yn nes ar ôl y ddadl yma y prynhawn yma. 

Ond mae angen gwella'r Bil, fel roeddwn i'n ei ddweud, ac mae hynny wedi dod yn glir o'r dystiolaeth. Mi gyfeiriodd y Gweinidog at hyn yn gynharach: er na fydd anifeiliaid gwyllt yn cael perfformio, mi fyddan nhw'n dal i gael mynd ar daith gyda syrcas. Dydy hynny ddim yn dderbyniol yn fy marn i. Mae'r teithio a'r cadw mewn amgylchiadau symudol cyfyng yn gymaint yn rhan o'r broblem i fi ac yw'r perfformio ei hunan. Felly, mae hwnna'n rhywbeth y byddwn i'n awyddus i weld y Llywodraeth yn ei gywiro. 

Mae angen cryfhau'r pwerau gorfodi i gynnwys pwerau'r heddlu, fel sydd yn yr Alban. Yn fy marn i nawr, wrth gwrs, mi fyddai hynny'n gofyn cydsyniad gan San Steffan, ond dwi yn meddwl bod angen inni wneud hynny nawr tra ein bod ni'n deddfu, fel bod y pŵer yna yn ei le ar gyfer y posibilrwydd o'i angen e yn y dyfodol. Mi ddylem ni hefyd fedru gwahardd troseddwyr rhag cadw anifeiliaid gwyllt am gyfnodau penodol er mwyn atal ailadrodd troseddu. Mi fyddwn i'n licio gweld y Llywodraeth yn ymgorffori hynny oddi fewn i'r Bil yma yn ogystal. Nawr, bwriad y Llywodraeth yw i'r Ddeddf ddod i rym ar 1 Rhagfyr eleni. Pan osodwyd y Bil nôl yng Ngorffennaf, a phan fuom ni’n trafod yn y Siambr yma y Bil y tro diwethaf, yr adeg honno mi wnes i ofyn i'r Llywodraeth am y posibilrwydd iddo fe ddod i rym yn gynharach. Mi ddywedodd y Gweinidog ar y pryd ei bod hi'n agored iawn i hynny a fyddwn i'n hoffi clywed os ydy hi'n dal i deimlo felly. Oherwydd dwi'n gwybod yn ymarferol, efallai, y byddai'n golygu cryn ymdrech, ond mi fyddwn i'n awyddus i weld gwaharddiad yn dod i rym yn hytrach na'n bod ni'n gorfod gweld haf arall o anifeiliaid gwyllt yn teithio trwy Gymru yn y syrcasau symudol yma. Felly, gadewch i ni weithredu'r ddeddfwriaeth yma ar frys er mwyn rhoi stop ar y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol eleni ac nid gorfod aros am flwyddyn arall.

18:50

Mae synnwyr ac ymwybyddiaeth y cyhoedd o ran trin anifeiliaid wedi newid yn sylweddol dros y degawdau diwethaf. Nid yw'r hyn a oedd yn dderbyniol yn y 1950au yn dderbyniol mwyach yn yr unfed ganrif ar hugain. Dylai lles anifeiliaid, nid eu gwerth o ran adloniant, fod wrth wraidd unrhyw ddadl ynghylch eu defnydd mewn syrcasau ac yn wir mewn unrhyw sefyllfa o adloniant.

Mae anifeiliaid gwyllt yn perthyn i'w cynefin naturiol. Yn yr un modd ag y mae ffwr anifeiliaid bob amser yn edrych yn well ar yr anifail, eu cynefin naturiol sy'n darparu'r amodau byw gorau ar gyfer unrhyw greadur o'r fath. Mae bywyd syrcas deithiol yn peryglu lles anifeiliaid gwyllt yn ddifrifol. Mae caethiwo, cludo dan straen, hyfforddiant dan orfodaeth a grwpiau cymdeithasol annormal i gyd yn realiti annymunol i'r anifeiliaid, sy'n dangos yn glir pam mae angen i'r sioeau hen ffasiwn hyn fynd i ebargofiant.

Mae arwyddion clir hefyd o gryfder y teimlad cyhoeddus yn erbyn y defnydd o anifeiliaid gwyllt sy'n cael eu harddangos mewn syrcasau. Nid yw anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau a sioeau teithiol eraill yn byw yn unol â'u hanghenion lles arferol. Felly, byddai tystiolaeth yn cefnogi gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol a sŵau symudol ar sail lles anifeiliaid. Nid yw eu bywydau yn fywydau da nac hyd yn oed yn fywydau o ansawdd derbyniol.

Mae 45 o genhedloedd naill ai wedi gwahardd neu gyfyngu ar y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau. Mae'n bryd bellach i Gymru ychwanegu ei henw at y rhestr honno drwy wahardd y math hwn o gam-fanteisio ar anifeiliaid gwyllt yn llwyr. Rydym ni ym mhlaid Brexit yn cefnogi'r Bil hwn yn llwyr, ond rydym ni hefyd yn cefnogi argymhellion yr RSPCA gan eu bod o'r farn bod rhannau o'r Bil yn rhy gul o ran atal anifeiliaid gwyllt rhag teithio gyda syrcas, pwerau gorfodi ac anghymhwyso. Ni ddylai Cymru'r unfed ganrif ar hugain ganiatáu i'r math hwn o adloniant barhau.  

Nid wyf am gymryd rhan yn y ddadl fetaffisegol bron a gafwyd am natur foesegol y Bil, ond byddaf yn cefnogi'r hyn sydd wedi cael ei ddweud gan Llyr Gruffydd a David Rowlands am y ffaith bod angen y lefel honno o reoleiddio ar anifeiliaid sy'n teithio gyda'r syrcasau. Rwy'n cytuno â hynny ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae angen ei gryfhau yn y Bil.

Achubodd Llyr y blaen arnaf. Roeddwn yn mynd i dalu teyrnged i Linda Joyce-Jones hefyd. Fe wnaethoch chi ddweud ei bod hi yn yr oriel. Ni allaf ei gweld hi, ond mae hi'n ymgyrchydd sydd i'w chroesawu'n fawr ac fe wnaethom ni gynnal digwyddiad ar y cyd ar 8 Hydref yn galw am wahardd pob anifail gwyllt, a phob anifail, mewn syrcasau a sioeau teithiol yn gynharach eleni. Felly, mae hyn yn rhywbeth sydd i'w groesawu, ac fel y mae Aelodau eraill wedi'i ddweud—nid wyf am roi halen ar y briw, Gweinidog—rhywbeth y mae'n hen bryd ei weld. Mae croeso mawr iawn iddo.

Pan fydd pobl ifanc yn dod i'r Senedd o'r ysgol, un o'r pethau yr wyf yn ceisio ei bwysleisio iddynt yw ein bod yn gwneud pethau go iawn a fydd yn effeithio ar eu bywydau. Yng nghynllun Tir-y-berth, bu syrcas Mondao yn arddangos anifeiliaid gwyllt yno ac roedd protest fawr yn fy etholaeth i, yn Nhir-y-berth—roedden nhw'n ei alw'n Bargoed, ond nid dyna oedd e'; roedd yn bellach i fyny'r cwm. Roedd plant o'r ardal honno wedi mynd i'r syrcas. A'r cwestiwn yr wyf wedi ei ofyn dro ar ôl tro i'r plant hynny sy'n ymweld yw, 'a ydych chi o blaid anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau?' Gan ddilyn y drafodaeth a'r math o drafodaeth a gawsom ni yn y fan yma, mae'r canlyniad bron bob amser yn unfryd yn erbyn—hyd yn oed y plant hynny a fu yn y syrcas. Y nhw yw eu cynulleidfa. Roedden nhw wedi bod yn y syrcas ac roedden nhw'n dweud nad oedd angen yr anifeiliaid gwyllt yn y syrcas, ac felly mae'r gwaharddiad hwn yn amserol.

A dyna ichi syrcas Mondao—maen nhw wedi ymosod arna i ar Facebook. Fe wnes i fideo yn dilyn cwestiwn a ofynnais i'r Prif Weinidog. Roedd 14,000 wedi ei wylio gan gyrraedd cyn belled ag Awstralia ac roedden nhw'n ymosod arnaf am alw am y gwaharddiad hwn, felly mae hynny'n dweud wrthyf ei fod yn sicr yn werth ei wneud, oherwydd pan fydd rhywun yn ymosod arnoch chi, rydych chi'n gwybod eich bod chi'n iawn. Rwy'n credu ei fod yn sicr—[torri ar draws.] Mae'n sicr—[torri ar draws.] Mae'n sicr—[torri ar draws.] Wel, dyma synnwyr y fawd i mi; mae bob amser yn gweithio i mi [chwerthin.] Mae'n sicr yn wir—[torri ar draws.] Mae'n sicr yn wir ei fod yn symleiddio deddfwriaeth hefyd. Cyn i mi gael fy ethol yn Aelod Cynulliad yn y fan yma, tynnwyd cais am drwydded syrcas gan Thomas Chipperfield oherwydd nad oedd DEFRA yn hapus ag amodau byw rhai o'u hanifeiliaid, ond roeddent yn dal yn cael cynnal sioe gyhoeddus yng nghynllun Tir-y-berth am nad oedd y rheoliadau'n berthnasol yng Nghymru. Felly, mae angen i'r ddeddfwriaeth hon fynd i'r afael â hynny ac rwy'n credu y bydd y ffaith y bydd y gwaharddiad yn weithredol ledled y DU yn mynd i'r afael â hynny.

Roedd llawer o'r bobl a oedd yn y digwyddiad yr oeddwn yn ei gyd-lywyddu â Llyr yn galw am ddeddfwriaeth ehangach, gryfach, ond rydym ni hefyd yn ymwybodol o'r rheoliadau lles anifeiliaid (trwyddedu arddangosfeydd anifeiliaid) y mae'r Gweinidog wedi'u crybwyll, a byddwn yn gobeithio y byddai cyfle i ymdrin â materion drwy'r rheini hefyd, er fy mod i wedi cael sylwadau gan etholwyr sy'n pryderu am effaith hynny ar sioeau cŵn. Felly, wyddoch chi, rydych chi'n ceisio gwneud un peth ac mae rhywbeth arall yn mynd o'i le, felly mae gwleidyddiaeth. Ond rwy'n credu, yn fyr, fy mod yn fodlon croesawu'r ddeddfwriaeth hon ac, er gwaethaf yr amheuon hynny sydd wedi cael eu mynegi yn y Siambr hon, rwy'n falch o'i gweld yn mynd yn ei blaen.

18:55

Rwy'n croesawu'r darn yma o ddeddfwriaeth. Fe wnes i bleidleisio drosto ac rwy'n falch iawn ei fod yma o'n blaenau. Rwy'n cytuno â'r hyn a ddywedodd Llyr ac rwyf hefyd yn cytuno â'r hyn a ddywedodd Janet. Rwy'n credu mai dyna'r peth: byddai'r bobl sy'n ei gefnogi yn hoffi, os yn bosibl a lle bo'n bosibl, iddo gynnwys ychydig mwy. Cytunaf â—ac roeddwn yn bwriadu dyfynnu o ymateb RSPCA Cymru, ond nid wyf am drafferthu oherwydd ni fyddwn i ond yn gwastraffu amser, ond rwy'n credu ac yn cytuno â'r hyn a ddywedon nhw, a chredaf fod angen inni gymryd sylw o'r hyn y maen nhw wedi'i ysgrifennu atom ni, ac rwy'n siŵr atoch chi hefyd, Gweinidog. Pan fyddwn yn pasio'r ddeddfwriaeth hon, byddwn yn ymuno â 50 o wledydd eraill—yn ôl fy ymchwil i—ac mae hynny'n cynnwys Lloegr a'r Alban, ac rwy'n drist ein bod ni ar ei hôl hi, ond rwyf hefyd yn falch iawn ein bod yn mynd i'w gweithredu nawr.

Ni allaf alw hyn yn fath o adloniant mewn unrhyw ffordd. I rai pobl, efallai ei fod e' o bosib. Ond, i'r anifeiliaid, fy nadl fyddai nad yw'n adloniant. Felly, nid wyf yn credu—a dyma'r hyn yr ydym yn ceisio ei atal—y dylai unrhyw anifail gwyllt fod mewn syrcas, a dyna yw barn 74 y cant o bobl yng Nghymru a gefnogodd hynny mewn arolwg yn 2015. Felly, mae'n ddyletswydd arnom ni mewn achosion fel hynny, pan fyddwn yn gofyn i bobl ac yn ymgynghori ac yn dweud, 'ai dyma'r hyn yr hoffech ei weld?', i geisio gweithredu hynny, ac rwy'n falch ein bod wedi gwneud hynny. Mae yna deimladau gwirioneddol gryf ynghylch hyn. 

Rwyf hefyd eisiau talu teyrnged i'r bobl sydd wedi ymgyrchu, yn llwyddiannus nawr, i weld hwn yn cael ei ddwyn ger ein bron. Nid yw byth yn hawdd, onid yw, i fod yn llais unig neu i deimlo eich bod yn llais unig wrth geisio sicrhau newid, ond mae hefyd yn brawf, onid yw, fod y Pwyllgor Deisebau hefyd yn sbarduno newid. Mae'n debyg y gallai Dafydd Elis-Thomas, pan sefydlodd y Pwyllgor Deisebau am y tro cyntaf, weld gwerth hynny fel ffordd o newid.

19:00

Diolch, Llywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau am eu sylwadau a'u cyfraniadau heddiw. Rwyf eisiau i hwn fod y darn gorau o ddeddfwriaeth, felly rwy'n croesawu sylwadau a safbwyntiau pobl ynghylch sut y gallwn ei wneud yn ddarn gwell o ddeddfwriaeth ac edrychaf ymlaen at weithio gydag Aelodau yn y dyfodol.

Mae'n anodd iawn, iawn cyflwyno dadl foesegol, a chredaf—. Mae'n ddrwg gennyf glywed bod Llyr yn credu fy mod wedi 'gwneud gwaith caled iawn' ohono, ond mae'n wirioneddol anodd, oherwydd yn amlwg rhywbeth personol yw moeseg, mae'n fath o god moesol a moesegol unigol, os mynnwch chi. Mae'n farn bersonol iawn, iawn. Ond roeddwn yn gwbl ymwybodol na allem ni wneud hyn ar sail lles. Pan edrychais ar—. Wyddoch chi, un o'r manteision, os mynnwch chi, o fod y wlad olaf i wneud hynny, oedd y ffaith y gallem ni edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd yn yr Alban, gallem edrych ar yr hyn sydd wedi digwydd yn Lloegr, sydd wedi cymryd yr un llwybrau, a buom yn ystyried yr holl ddewisiadau. Rwy'n awyddus iawn i sicrhau'r Aelodau mai dyna oedd y sefyllfa. Roedd pob llwybr deddfwriaethol yn cyflwyno risgiau a chyfleoedd ac roeddwn yn gwbl argyhoeddedig bod angen inni gyflwyno'r ddeddfwriaeth hon. Rwy'n credu mai dyma'r llwybr cywir i ni.

Ailadroddodd Mike Hedges yr hyn a ddywedais yn y pwyllgor: nid wyf eisiau i Gymru fod yn noddfa i'r ddwy syrcas yna. Mae'r ffaith bod yr Alban eisoes wedi cyflwyno'r gwaharddiad a Lloegr yn gwneud hynny yn ddiweddarach y mis hwn, yn golygu dyna'n union a allai fod wedi digwydd. Felly, rwy'n credu, er nad oes tystiolaeth o gamdriniaeth ddiweddar o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol, ac rwyf eisiau dweud hynny ar goedd—. Ac rwy'n gwybod y gallai hynny fod yn amhoblogaidd iawn ymhlith rhai pobl a roddodd dystiolaeth. Nid oes tystiolaeth o hynny. Rwy'n credu y bu dau achos, dau erlyniad yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf, felly mae'n amlwg mai'r ddadl foesegol, yn ein barn ni, yw'r ffordd gywir ymlaen.

I Mick Antoniw, rwy'n gobeithio i mi roi'r eglurder yr oeddech yn gofyn amdano. Ymddiheuraf na chawsoch y llythyr gennyf mor gynnar ag y byddech wedi'i ddymuno, ond rwy'n falch fy mod wedi cael rhoi'r eglurhad hwnnw heddiw.

Cododd sawl Aelod bwyntiau tebyg. Holodd David Rowlands ynghylch y cwmpas—pam nad yw cwmpas y gwaharddiad yn ymestyn i wahardd anifeiliaid gwyllt sy'n teithio gyda syrcasau teithiol. Wel, amcan y Bil hwn yw atal y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau ar sail foesegol. Felly, os yw syrcasau'n dewis cadw eu hanifeiliaid gwyllt a'u defnyddio mewn ffordd wahanol, fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, eu hawl nhw yw hynny, cyn belled â'u bod yn gwneud hynny o fewn y gyfraith.

Soniodd Janet Finch-Saunders am ddyfodol anifeiliaid gwyllt. Wel, unwaith eto, gan fod yr Alban eisoes wedi cyflwyno gwaharddiad, a Lloegr yn cyflwyno un yn ddiweddarach y mis hwn, mae'n debyg y bydd penderfyniadau am ddyfodol yr anifeiliaid gwyllt wedi'u gwneud eisoes. Holodd Janet Finch-Saunders hefyd ynglŷn â beth pe bai syrcas deithiol yn ail-frandio’i hun. Rwy'n credu eich bod wedi rhoi'r enghraifft o sioe addysgol, er enghraifft. Mae'r Bil yn ymwneud yn benodol ag anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol, ac rwy'n credu ei bod hi'n fwy priodol ein bod yn rheoleiddio'r defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn lleoliadau eraill ar hyn o bryd, yn hytrach na cheisio ehangu cwmpas y Bil.

Gofynnodd Llyr Huws Gruffydd am y dyddiad dod i rym. Fel y dywedais, rwy'n hapus iawn i roi sylw i hynny. Yn sicr y ffordd y datblygodd y Bil—ac mae Llywodraeth y DU wedi gwneud cynnydd llawer cyflymach na'r disgwyl ac os yw hynny'n digwydd i ni yna, byddwn, byddwn yn hapus iawn i wneud hynny. Fodd bynnag, credaf fod angen inni ganfod a yw'r syrcasau'n teithio dros yr haf; fel arfer bydd y daith yn dod i ben erbyn diwedd mis Tachwedd a dyna un o'r rhesymau pam roeddem yn credu mai 1 Rhagfyr fyddai'r dyddiad cywir. Ond, fel rwyf wedi'i ddweud o'r blaen, rwy'n hapus iawn i ystyried hynny.

Gofynnodd Janet Finch-Saunders pam nad oedd pwerau gorfodi yn ymestyn i'r heddlu. Nid wyf yn rhagweld y bydd yr heddlu'n rhan o'r gwaith o orfodi'r ddeddfwriaeth hon. Os ydych yn ystyried y peth, mae'r drosedd yn debygol o ddigwydd yn gyhoeddus a byddai'n rhaid i'r anifail berfformio neu gael ei arddangos, felly rwy'n credu ei bod yn annhebygol y bydd llawer o achosion a fyddai'n gofyn am ymchwiliad wedyn. Ond petai byth angen presenoldeb yr heddlu yna mae'n amlwg y gallai swyddogion yr heddlu arfer eu pwerau presennol i fynd i mewn i leoliad i ymdrin â throsedd o'r fath.

Joyce Watson, rwy'n credu eich bod yn llygad eich lle o ran y Pwyllgor Deisebau. Os meddyliwch am y gwaharddiad ar fagiau plastig, mae wedi cyflwyno rhai syniadau gwych, ac rwyf yn talu teyrnged, fel y mae ambell un arall wedi sôn, i Linda Joyce-Jones ac ymgyrchwyr eraill. Yn sicr, rwy'n gwybod pan fydd gennych chi syrcas yn eich etholaeth chi mae cynnwys y bag post yn cynyddu oherwydd y bobl sy'n credu y dylem fod yn cyflwyno gwaharddiad. Yn sicr, yn rhinwedd fy swydd yn Weinidog, rwyf wedi derbyn gohebiaeth bob tro y daw syrcas i Gymru.

Gofynnodd Janet Finch-Saunders hefyd am y rhestr o anifeiliaid. Nid wyf yn credu ei bod yn ymarferol rhoi rhestr o anifeiliaid gwyllt, nac anifeiliaid dof o ran hynny, ar wyneb y Bil oherwydd, yn amlwg, gallent newid. Felly, rwy'n credu bod angen i ni sicrhau bod hynny'n cael ei ystyried mewn mannau eraill.

Felly, rwy'n diolch o waelod calon i'r Aelodau am eu cyfraniadau ac yn edrych ymlaen yn fawr iawn, gobeithio gyda chefnogaeth y Siambr, at weld yr egwyddorion cyffredinol yn mynd rhagddynt i'r cam nesaf. Diolch.

19:05

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn yn unol â Rheol Sefydlog 12.36 sy'n dod â'n trafodaethau ni am y dydd heddiw i ben.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Daeth y cyfarfod i ben am 19:05.