Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
11/12/2019Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Rhun ap Iorwerth.
1. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad am y trafodaethau sydd wedi eu cynnal gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol am y cyfeiriadau at gynhyrchu ynni yn Ynys Môn sydd wedi eu cynnwys yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol drafft? OAQ54845
Cyfarfûm â’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol y mis diwethaf, i drafod y polisïau ynni drafft yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol, gan gynnwys y rheini sy’n effeithio ar Ynys Môn. Daeth ymgynghoriad y FfDC i ben ar 15 Tachwedd. Mae swyddogion wrthi'n adolygu'r 1,100 o ymatebion a gafwyd, a bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb i'r ymgynghoriad yn y gwanwyn.
Wel, rwy'n gobeithio i chi ganu rhai larymau swnllyd iawn yn y cyfarfod hwnnw gyda'r Gweinidog. Fel y dywed y cwestiwn, gwn nad yw'r fframwaith datblygu yn rhan o’ch briff, ond buaswn yn eich cynghori i fod yn ofalus iawn wrth bwyso am atebion ynghylch yr hyn y mae'r fframwaith yn ei olygu i'ch maes cyfrifoldeb—neu un o'ch meysydd cyfrifoldeb—sef ynni. Os edrychwn ar y FfDC ehangach, ble rwy'n dechrau? Nid yw’n cynnwys unrhyw gyfeiriad at Gaergybi; nid ymddengys ei fod yn cyd-fynd ag egwyddorion lledaenu cyfoeth; nid yw’n cynnwys gweledigaeth ar gyfer y Gymraeg; nid yw’n cynnwys unrhyw sôn go iawn am ganolfannau rhanbarthol. Nid oedd uwch swyddogion—y swyddogion uchaf—yng ngogledd Cymru yn gwybod unrhyw beth am yr hyn y byddai’r fframwaith datblygu cenedlaethol hwn yn ei gynnwys, yn ôl yr hyn a ddeallaf, tan iddo gael ei gyhoeddi. Nid oes unrhyw gyfeiriad ynddo at drydedd bont y Fenai—mae’n mynd ymlaen ac ymlaen.
Nawr, deallaf fod pwyllgor yn y Cynulliad hwn yn debygol o gynnig ymbellhau oddi wrth y model gofodol mewn perthynas â chynhyrchu ynni yn y dyfodol. Yn sicr, mae’r dull gofodol, mewn perthynas ag Ynys Môn, gyda thyrbinau 250m—sy’n uwch na'r tir uchaf yn unrhyw le ar Ynys Môn—yn chwerthinllyd. Felly, buaswn yn galw arnoch i wrthod yr hyn sy'n cael ei argymell o ran cynhyrchu ynni. Ac a fyddech yn rhannu fy mhryder, o ran ynni, fod y fframwaith datblygu cenedlaethol, fel cymaint o feysydd eraill, yng ngeiriau swyddogion a glywais, yn debyg i brosiect TGAU gwael iawn?
Na; na, ni fuaswn yn cytuno â hynny. Ymgynghoriad ydoedd, ac fel y dywedaf, mae swyddogion Llywodraeth Cymru o adran y Gweinidog wrthi’n adolygu'r 1,100 o ymatebion a gawsom. Gwn fod adolygiad cychwynnol o'r ymatebion wedi datgelu bod rhai aelodau o'r cyhoedd wedi mynegi pryderon am effaith y polisïau ar eu cymunedau—credaf fod hynny'n amlwg yn rhywbeth y mae angen edrych arno—yn ogystal â'r diwydiant ynni adnewyddadwy. Maent hefyd wedi cyflwyno eu safbwyntiau, ac maent wedi gofyn am gael gwared ar y dull gofodol, er mwyn caniatáu iddynt ddatblygu yn unrhyw le. Wel, yn amlwg, mae Llywodraeth Cymru yn dangos arweinyddiaeth, drwy gyflwyno'r FfDC hwn, a fydd yn sicrhau ein bod yn gallu cyrraedd ein targedau ar gyfer ynni adnewyddadwy. Ond, fel y dywedaf, ymgynghoriad ydoedd, ac mae'r ymatebion yn cael eu hadolygu ar hyn o bryd.
Dywed y fframwaith datblygu cenedlaethol drafft, yng nghyd-destun Ynys Môn:
'Gallai’r cynllun arfaethedig i adeiladu gorsaf ynni niwclear Wylfa Newydd ddod â manteision sylweddol o ran cyflogaeth, hyfforddiant a manteision economaidd cysylltiedig eraill ledled y rhanbarth cyfan os penderfynir bwrw ymlaen â’r cynllun.'
Wel, pan gyfarfûm â Horizon Nuclear Power—yn fy nghyfarfod diweddaraf â hwy—yr haf hwn, dywedasant wrthyf nad oedd y prosiect yn farw, a phe bai cynlluniau a chyllid, gan gynnwys y pris streic, yn cael eu trefnu, byddai'n cael ei gyflwyno eto, ac roedd pethau'n eithaf bywiog a chadarnhaol. Ond byddai oddeutu 18 i 24 mis o amser arwain yn y senario orau, ac yn hollbwysig, roeddent yn parhau i weithio â Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU i geisio datblygu'r amodau cywir i adfer y prosiect. Er bod pethau wedi eu gohirio yn San Steffan, beth yw eich dealltwriaeth o’r datblygiadau ar hyn o bryd, yng nghyd-destun eu hymgysylltiad â chi?
Wel, roeddem yn amlwg yn siomedig iawn fod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi'r oedi cyn rhoi gorchymyn caniatâd datblygu ar gyfer Wylfa Newydd. Ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn y broses o adolygu llythyr yr Ysgrifennydd Gwladol ar 23 Hydref, a byddwn yn darparu'r holl fanylion y gofynasant amdanynt gennym erbyn diwedd mis Rhagfyr.
2. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd a wnaed o ran plannu coed ledled Cymru? OAQ54842
Diolch. Mae dogfen bolisi Llywodraeth Cymru, strategaeth 'Coetiroedd i Gymru’, yn amlinellu ein hymrwymiadau a'n hamcanion mewn perthynas â choedwigaeth yng Nghymru. Mae £1 miliwn yn ychwanegol wedi’i roi i’r rownd gyfredol o greu coetiroedd Glastir, ac rydym yn datblygu rhaglen goedwigoedd genedlaethol i gynyddu gwaith plannu a rheoli coetiroedd yng Nghymru.
Diolch i'r Gweinidog am ei hateb. Ond yn dilyn eich datganiad ddoe ar eich cynllun aer glân, ymddengys bod y Llywodraeth yn hoff o rethreg, ond braidd yn brin o ymrwymiad. Soniasoch am bethau fel cadernid iach, gostyngiad mewn llygredd aer o ddiwydiant a thrafnidiaeth, a'r angen dirfawr i wella ansawdd aer. Ac eto, nid ydych yn sôn am un ymyrraeth a fyddai’n eich helpu i gyflawni eich holl amcanion—plannu coed. O ystyried bod Llywodraeth Cymru hefyd wedi datgan argyfwng hinsawdd, pam fod y Llywodraeth yn methu mor ddifrifol mewn perthynas â’i thargedau ei hun o ran plannu coed? Mae'n ffaith a dderbynnir gan bawb fod gan goed botensial enfawr i leihau lefelau carbon deuocsid, ac eto, mae'r targedau rydych wedi'u gosod ar eich cyfer eich hunain, os ydych, yn wir, yn wirioneddol ymrwymedig i dargedau, o 2,000 hectar y flwyddyn yn unig, yn warthus ynddynt eu hunain, ond rydych yn druenus o bell o’r targed hwnnw hyd yn oed. Fe neilltuoch chi £1 filiwn ar gyfer cyfnod plannu 2018-19, sy'n cyfateb i 240 hectar, neu 43,000 o goed yn unig—12 y cant o'ch targed blynyddol. Cymharwch hyn â'r ffigurau ar gyfer yr Alban, a hyd yn oed Iwerddon. Bydd yr Alban yn plannu dros 11,000 erw o goetir eleni yn unig—mae hynny’n 20 miliwn o goed. Mae Iwerddon wedi cyflawni 5,000 hectar o goetir newydd—mae hynny bron yn 10 miliwn o goed y flwyddyn am y pedair blynedd diwethaf.
Onid yw’n wir, Weinidog, fod Llywodraeth Cymru yn esgeuluso ei dyletswydd i sefydlu targedau synhwyrol ar gyfer plannu coed, a hyd yn oed yn fwy esgeulus o ran darparu’r gyllideb i gyflawni unrhyw beth tebyg i nifer y coed sydd eu hangen i fynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd? A dywedaf eto, Weinidog, onid enghraifft yw hon o Lywodraeth Cymru yn llawn o rethreg ynglŷn â mynd i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, ond yn methu cyflawni rhai o'r ymyriadau pwysicaf sy'n angenrheidiol i gyflawni'r amcan ar gyfer newid yn yr hinsawdd. Ac un pwynt olaf—
Na. Mae'n Nadolig, ond mae hyd yn oed cwestiwn o ddau funud a hanner o hyd yn fy ymestyn i a fy ysbryd Nadoligaidd. Felly, gofynnaf i'r Gweinidog ymateb.
Wel, o ran rhethreg, ni chredaf y gallaf gystadlu â Phlaid Brexit. Soniais am blannu coed ddoe pan lansiais yr ymgynghoriad ar gyfer y cynllun aer glân. Fi fydd y cyntaf i gyfaddef nad ydym wedi bod yn plannu'r nifer o goed y buaswn yn dymuno'u gweld ac y bydd eu hangen arnom os ydym am gyrraedd ein targedau datgarboneiddio. Mae llawer iawn o waith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd, ac wedi bod yn mynd rhagddo, buaswn yn dweud, dros y flwyddyn ddiwethaf, ar nifer y coed y gallwn eu plannu. Credaf ein bod wedi plannu dros 16 miliwn o goed yn ystod y tair blynedd diwethaf. Ailstocio oedd llawer o hynny; mae angen i ni edrych ar ardaloedd newydd. Fe fyddwch yn gwybod am ymrwymiad maniffesto’r Prif Weinidog i gael coedwig genedlaethol, ac mae fy swyddogion wedi bod yn canolbwyntio ar hynny dros yr ychydig fisoedd diwethaf a byddaf yn darparu mwy o wybodaeth am y goedwig genedlaethol pan fyddwn yn dychwelyd yn y flwyddyn newydd.
Credaf mai'r hyn y bydd y goedwig genedlaethol yn ei wneud yw y cyflymu ailgoedwigo, ond bydd hefyd yn edrych tuag at eraill. Ni allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain. Ni all Llywodraeth Cymru wneud hyn ar ein pen ein hunain. Mae arnom angen i eraill ein helpu, a bydd hynny'n rhan o'r goedwig genedlaethol.
Mae hanner fy nghwestiwn wedi'i ateb beth bynnag. Honnodd y Cydffederasiwn Diwydiannau Coedwigoedd yn ddiweddar fod lefel y cyllid ar gyfer plannu coed draean yn unig o'r lefel y dylai fod os yw Llywodraeth Cymru am gyrraedd ei thargedau sylfaenol. Aethant ymlaen i ddweud bod angen gwario miliynau o bunnoedd yn rhagor ar y gwaith o blannu coed os yw Cymru am gael unrhyw obaith o wireddu'r dyhead i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Weinidog, rydych newydd ddweud bod llawer iawn o waith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd. A yw'r cyllid ar gael, a beth yw eich amserlen a'ch targedau ar gyfer cyflawni'r hyn rydych eisoes wedi'i addo—o leiaf 2,000 hectar y flwyddyn? Felly, pa mor hir y bydd hynny'n ei gymryd, a phryd y byddwch yn agosáu at y targed, sef 80 y cant yn llai ar hyn o bryd? Diolch.
Felly, dychwelaf at yr hyn a ddywedais yn fy ateb i David Rowlands. Ni all Llywodraeth Cymru wneud hyn ar ein pen ein hunain. Mae arnom angen i eraill ein helpu i wneud hyn. Mae arnom angen i eraill ddarparu cyllid. Mae arnom angen i eraill ddarparu tir. Rhoesom gyllid sylweddol tuag at ein cyfnod mynegi diddordeb ar gyfer cynlluniau coed a choetiroedd mewn perthynas â Glastir. Mae cyllid ar gael hefyd drwy brosiectau’r cynllun rheoli cynaliadwy. Yn ein hymgynghoriad 'Ffermio Cynaliadwy a’n Tir', un peth y credaf fod pawb yn cytuno arno yw y gallai ffermwyr geisio plannu mwy o goed ar eu tir efallai, ac yn sicr, ymddengys eu bod yn awyddus iawn i wneud hynny pan fyddwn yn bwrw ymlaen â'r cynllun hwnnw.
Rwy'n gwneud llawer iawn o waith gyda Cyfoeth Naturiol Cymru. Mae bwrdd CNC eisoes wedi cymeradwyo rhaglen ambarél i greu coetiroedd, gyda chyllid ar gael. Bydd honno'n ymgorffori cynlluniau a phrosiectau newydd a rhai sy'n bodoli eisoes.
Os ydym am sicrhau bod nifer fawr o goed yn cael eu plannu, mae angen cynllun arnom, nid targed cenedlaethol. A wnaiff Llywodraeth Cymru osod targedau blynyddol ar lefel awdurdod lleol, dynodi tir ar gyfer plannu coed, neu ofyn i awdurdodau lleol ddynodi tir ar gyfer plannu coed fel y gwnânt yn y cynllun datblygu lleol ar gyfer tai, a gosod isafswm o goed i'w plannu fesul tŷ ar gyfer pob datblygiad tai newydd, fel bod gennym ffordd o fwrw ymlaen, yn hytrach na dyheadau yn unig?
Ar hyn o bryd, nid oes gennym unrhyw gynlluniau i osod targedau ar lefel awdurdod lleol. Fodd bynnag, credaf fod gan awdurdodau lleol ran bwysig iawn i'w chwarae. Byddwch newydd fy nghlywed yn dweud na allwn wneud hyn ar ein pen ein hunain; mae angen i eraill weithio gyda ni. Gwn fod llawer o awdurdodau lleol yn gweithio i gynyddu brigdwf yn eu hardaloedd ac yn awyddus i blannu mwy ar dir sy'n eiddo i awdurdodau lleol ac i annog mwy o seilwaith. A ddoe, yn y datganiad llafar ar y cynllun aer glân, efallai i chi fy nghlywed yn dweud mai un peth rydym yn ei ystyried yw coedwigoedd bach, sef darnau bach o dir, ac yn aml yn dir sector cyhoeddus mewn ysbytai neu ysgolion, er enghraifft, lle gallwn blannu nifer fechan o goed yn unig. Yn amlwg, byddai gan awdurdodau lleol ran i'w chwarae yn hynny o beth.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Andrew R.T. Davies.
Diolch, Lywydd. Weinidog, ai eich bwriad o hyd yw cyflwyno'r rheoliadau a gorfodi'r rheoliadau hynny ar ansawdd dŵr o 1 Ionawr y flwyddyn nesaf?
Byddaf yn gwneud datganiad cyn diwedd y tymor.
Diolch. Mae'n siomedig, yn amlwg, y bydd hynny ar ffurf ysgrifenedig, yn hytrach nag ar lafar, ond rwy'n derbyn bod pwysau o ran amser. Rwy'n synhwyro rhywfaint o symud, efallai, a byddai'r sector yn croesawu hynny, rwy'n siŵr. Fe gynhalioch chi asesiad effaith rheoleiddiol ar y mater penodol hwn. A allwch gadarnhau heddiw faint o ffermydd a faint o swyddi a allai gael eu colli, a'r hyn a amlygwyd yn yr asesiad effaith rheoleiddiol hwnnw, oherwydd mae'n siŵr mai ar hynny y bu'n edrych os yw'r rheoliadau hyn i'w gweithredu fel y mae'r diwydiant yn deall?
Ni allaf roi'r wybodaeth honno i chi ar hyn o bryd. Mae llawer iawn o waith yn mynd rhagddo—rydych yn llygad eich lle. Y rheswm nad wyf wedi gallu rhoi'r datganiad hyd yn hyn yw am fy mod wedi gofyn i fy swyddogion fynd yn ôl sawl gwaith a chael cyngor pellach. Cyfarfûm ag undebau'r ffermwyr eto bythefnos yn ôl, rwy'n credu, i drafod y mater gyda hwy. Fe fyddwch yn ymwybodol o fforwm rheoli tir a dŵr Cymru. Maent yn cyfarfod eto ddydd Llun. Felly, hoffwn gael cymaint o gyngor ag y gallaf cyn cyflwyno'r rheoliadau.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Hoffwn geisio deall o'r asesiad effaith faint o ffermydd a swyddi a fyddai'n cael eu colli, a phe gallech wneud hynny i mi ar ffurf ysgrifenedig, buaswn yn ddiolchgar am hynny, gan y buaswn yn disgwyl i asesiad effaith wneud y cyfrifiad hwnnw. Ond fe gyfeirioch chi at fforwm tir Cymru a'r sector yn dod at ei gilydd i gyflwyno 45 o argymhellion yn y maes penodol hwn y cytunodd y rheoleiddiwr a'r diwydiant y byddent yn gwella ansawdd dŵr yn sylweddol yma yng Nghymru. A ydych yn bwriadu ystyried yr argymhellion hynny yn eich trafodaethau newydd yn y maes penodol hwn? Neu a fyddwch yn dal i weithredu'r rheoliadau fel yr amlinellwyd, ond y dyddiad fydd yn symud yn hytrach na mwy o'r sylwedd, efallai?
Rwy'n fwy na pharod i ystyried yr holl argymhellion, wrth gwrs. Ni fyddai'n werth eu cael pe na bawn yn mynd i wneud hynny. Felly, rydych yn llygad eich lle—gwnaeth y fforwm nifer o argymhellion. Cyflwynodd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr nifer o argymhellion. Credaf mai'r hyn oedd yn siomedig gyda rhai o'r argymhellion a gefais oedd fod pob un ohonynt, bron â bod, ar gyfer y Llywodraeth. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod y diwydiant yn cydnabod bod lefel y llygredd amaethyddol rydym yn ei weld yng Nghymru yn annerbyniol. Cododd yn sylweddol y llynedd, ac nid ydym am i hynny barhau. A chredaf fod pawb yn cytuno bod y lefelau hyn o lygredd amaethyddol yn embaras i'r sector amaethyddol a bod angen i ni wneud rhywbeth yn ei gylch. Felly, roeddwn yn awyddus i fy swyddogion edrych yn ofalus iawn ar yr holl argymhellion, yr holl dystiolaeth. Un maes yr addewais edrych arno fy hun oedd mewn perthynas â'r cyfnodau gwaharddedig arfaethedig ar gyfer gwasgaru gwrtaith, a byddaf yn gwneud penderfyniad terfynol ar ôl i'r asesiad effaith rheoleiddiol gael ei gwblhau.
Llefarydd Plaid Cymru, Llyr Gruffydd.
Ydy, mae'n embaras i sectorau eraill hefyd, onid yw? Nid yw eu perfformiad yn wych. Cafwyd 30,000 o ollyngiadau carthion yn y wlad hon yn ôl yn 2017, ac nid wyf yn clywed y Llywodraeth yn gwneud môr a mynydd o hynny. Ond, dyna ni—mater arall yw hynny.
Ond a ydych yn derbyn y gall gwasgaru yn ystod cyfnodau gwaharddedig a chael dyddiadau penodol ar gyfer gwasgaru slyri a ffermio yn ôl y calendr fod yn wrthgynhyrchiol? Rydym yn clywed pobl fel Tony Juniper, pennaeth Natural England, yn dweud hynny. Felly, a yw hynny'n rhywbeth rydych yn ei dderbyn bellach, a'ch bod chi, wrth gwrs, yn ymbellhau oddi wrth y dull hwnnw o weithredu?
Ni chredaf fod ffermio yn ôl y calendr erioed wedi bod yn rhywbeth y gallaf ei ddeall yn iawn. Rwyf wedi dweud wrth y sector amaethyddol bob amser ei fod yn un maes rwy'n deall yn iawn pam eu bod yn meddwl y dylem fod yn edrych ar hynny. Fodd bynnag, mae'n rhaid ei haeddu—mae'n rhaid haeddu'r math hwnnw o hyblygrwydd. A chredaf fod hynny'n sicr yn un o'r trafodaethau a gefais yn enwedig gydag Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr.
Wel, os nad ydych yn ei ddeall, efallai y gofynnwch i'r bobl sy'n gwybod orau, sef y bobl sy'n ffermio'r tir hwnnw o ddydd i ddydd. Rwy'n siŵr y byddant yn dweud wrthych beth yn union sydd angen i chi ei wybod.
Nawr, wrth gwrs, rydych yn argymell, neu rydym yn meddwl eich bod yn dal i argymell, rhoi'r rheoliadau hyn ar waith yn gyffredinol ledled Cymru. Ac fe gofiwch, rwy'n siŵr, adolygiad 'Hwyluso’r Drefn', a oedd, ymhlith ei argymhellion, yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru weithredu egwyddor o ddull gweithredu sy'n seiliedig ar risg ac wedi'i dargedu ar gyfer rhoi rheoliadau amgylcheddol ar waith yng Nghymru.
Nawr, buaswn yn deall pe baech yn bwriadu rhoi rheoliadau mwy llym ar waith mewn rhai rhannau o Gymru. Nid wyf yn siŵr—. Ni chredaf fod gennym broblem gyda hynny, pe bai'r rhesymeg yno i wneud hynny. Ond nid yw eich dull gweithredu arfaethedig ar gyfer Cymru gyfan yn seiliedig ar risg nac wedi'i dargedu o gwbl. Felly, a ydych yn derbyn bod cyflwyno cyfnod gwaharddedig yn debygol o gynyddu'r risg o lygredd amaethyddol? Ac wrth gwrs, fel rydym wedi clywed, bydd cost bodloni'r rheoliadau newydd hynny'n golygu cost o ddegau o filoedd o bunnoedd i ffermwyr Cymru. Ac a ydych chi, fel Llywodraeth, yn barod i chwarae eich rhan i'w cefnogi i gyflawni'r her honno os gofynnir i chi wneud hynny?
Os caf ddechrau gyda'ch sylw cyntaf, yn sicr, rwyf wedi siarad â'r sector amaethyddol i weld beth yw anawsterau ffermio yn ôl y calendr, gan fy mod ar eu hochr hwy. Dyna rwy'n ei ddweud; rwy'n deall hynny.
Fodd bynnag, fi hefyd yw Gweinidog yr amgylchedd, ac mae nifer annerbyniol o achosion o lygredd amaethyddol wedi bod. Rwyf newydd gael un y penwythnos hwn. Pan fyddaf yn agor fy nghyfrifiadur ar y penwythnos, yn ddi-ffael, caf e-byst am achosion o lygredd amaethyddol. Mae'n ormod ac mae'n embaras a chredaf fod pawb am weld llai o lygredd. Nid wyf yn dweud bod hyn yn ymwneud â'r sector amaethyddol yn unig wrth gwrs, ond mae'n amlwg fod fy rheoliadau'n ymwneud â'r sector amaethyddol.
Rydym wedi bod yn ymweld â ffermydd godro gydag arolygwyr llaeth Cyfoeth Naturiol Cymru. Credaf ein bod bellach—. Credaf fod ymweliadau wedi'u cynnal ag oddeutu 250 ohonynt bellach, ac nid yw dros 50 y cant o'r ffermydd hynny'n cydymffurfio ar hyn o bryd mewn perthynas â rheoliadau amaethyddol. Mae hynny'n annerbyniol. Rwyf wedi dweud bob amser y byddwn yn helpu i gefnogi'r gofynion ychwanegol gyda chyllid. Fodd bynnag, ni fyddaf yn rhoi cyllid i sicrhau bod pobl yn cydymffurfio â'r gyfraith fel y mae ar hyn o bryd. Os nad ydynt yn cydymffurfio, nid wyf am dalu iddynt gydymffurfio, ond byddwn yn sicr yn ceisio darparu cyllid, os bydd hynny'n ofynnol maes o law.
Ar fater arall, tybed a allech roi diweddariad i ni ynghylch Tomlinson's Dairies, a aeth i'r wal, wrth gwrs. Ac a allech gadarnhau i ni pa un o Weinidogion y Llywodraeth sydd bellach yn arwain y gwaith hwn, gan y deallaf, o gofio'r ffaith ei fod yn cynrychioli’r etholaeth leol, nad yw Gweinidog yr economi mewn sefyllfa i wneud hynny? Felly, byddem yn gwerthfawrogi rhywfaint o eglurder ynghylch pwy sy'n arwain y gwaith hwn i Lywodraeth Cymru. A hefyd, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud nid yn unig i gefnogi’r ffermwyr yr effeithiwyd arnynt gan y cau, ond mae safle enfawr a modern yno, sy'n segur, felly pa fath o gymhellion ac ymdrechion y mae’r Llywodraeth yn eu gwneud i ddenu proseswyr eraill i'r safle?
Fel y gwyddoch, gwnaethom gryn dipyn o waith—gwnaeth fy adran gryn dipyn o waith—gyda Tomlinson's cyn iddynt gau i geisio eu cefnogi, dros y 18 mis diwethaf mewn gwirionedd, i geisio eu helpu i ddatrys eu problemau busnes parhaus.
Rydych yn llygad eich lle ei fod yn etholaeth Ken Skates, sef De Clwyd. Ar hyn o bryd, rwy'n arwain y gwaith. Yn amlwg, os oes penderfyniadau i'w gwneud mewn perthynas â rhaglen ReAct, er enghraifft—os oes angen ei defnyddio—gall y Dirprwy Weinidog edrych ar y materion hynny ar ran Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wrth gwrs. Gofynnais am ddiweddariad y bore yma ynghylch unrhyw newyddion o ran cwmni arall yn prynu Tomlinson's ac nid wyf yn ymwybodol fod hynny'n digwydd. Yn amlwg, y gweinyddwr sy'n ymdrin â hynny bellach.
Mewn perthynas â chymorth i ffermwyr, cyfarfûm a dau undeb y ffermwyr a gofynnais iddynt, os oedd ganddynt ffermwyr y gwyddent eu bod yn cael anawsterau penodol, i roi gwybod i mi, a gwn fod fy swyddogion wedi gweithio—. Credaf ein bod wedi cefnogi oddeutu 15 o wahanol fusnesau fferm mewn perthynas â chau Tomlinson's.
3. Pa ymdrechion sy'n cael eu gwneud gan Lywodraeth Cymru i adfer mawndiroedd? OAQ54822
Diolch. Ein nod yw rheoli pob ardal o fawndir yn gynaliadwy yng Nghymru, ac o leiaf 25 y cant o fawndir wedi'i addasu sy'n cynnal cynefinoedd lled-naturiol. Byddaf yn lansio rhaglen genedlaethol ar gyfer adfer mawndiroedd y gwanwyn nesaf a fydd yn nodi ein hymrwymiad i adfer mawndiroedd yn 2020.
Diolch am eich ateb calonogol. A gaf fi ddweud, Weinidog, fod Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru wedi cynnal cynhadledd ryngwladol y mis diwethaf o dan yr enw 'Rheoli’r Tanwydd: Lleihau’r Risg', er mwyn edrych ar beryglon tanau gwyllt? Roedd y gynhadledd hon yn canolbwyntio ar arferion rheoli tir rhyngwladol a rhai gwersi gwerthfawr iawn. Mae prosiect Mawndiroedd Coll De Cymru hefyd yn ceisio ailwlychu hen fawnogydd mewn ardaloedd a elwir, yn ddeniadol iawn, yn 'Alpau Morgannwg', felly rwy'n gobeithio y byddwch yn talu sylw i'r datblygiadau hyn.
Nid oeddwn yn ymwybodol o'r gynhadledd honno. Efallai yr ysgrifennaf at y prif swyddog tân mewn gwirionedd i weld a allaf ddarganfod mwy o wybodaeth am hynny, gan ein bod yn ariannu cryn dipyn o weithgaredd mewn perthynas â mawndiroedd, gan y gwyddom, unwaith eto, fel rhan o'n cynlluniau datgarboneiddio, fod angen i ni sicrhau ein bod yn adfer cymaint â phosibl. Fel y dywedaf, mae cryn dipyn o gynlluniau ar waith. Efallai eich bod yn ymwybodol o Adfywio Cyforgorsydd Cymru—mae hwnnw'n brosiect a ariennir gan raglen LIFE yr UE, ac rwyf wedi ymweld ag ef mewn gwirionedd, yng nghanolbarth Cymru.
Weinidog, a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot a Chyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf ar eu cais prosiect llwyddiannus i'r Loteri Genedlaethol i adfer mawndiroedd yng nghwm Afan uchaf a draw i ardal Rhondda Cynon Taf ger Glyncorrwg? Fel y gwyddoch, gall fod yn rhan o alpau Morgannwg, fel y dywedodd David Melding. A wnewch chi edrych hefyd, felly, ar yr hyn y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi'r prosiect hwnnw, gan eich bod newydd ddweud eich bod yn edrych ar y rhaglen fawndiroedd gyfan ar gyfer 2020, ac mae hon yn enghraifft berffaith o sut y gallwn weithio gydag awdurdodau lleol mewn ardal sydd eisoes yn mynd i fod yn gweithio ar ddatblygu mawndiroedd?
Diolch. Rwy'n croesawu'r dull partneriaeth gan gynghorau Castell-nedd Port Talbot a Rhondda Cynon Taf yn fawr. Mae'n wych eu bod wedi cael y cais llwyddiannus hwnnw gyda chyllid y Loteri Genedlaethol—prosiect pwysig iawn, fel y dywedwch, dros 500 hectar o dirwedd mawndirol hanesyddol, a chredaf eu bod wedi cael oddeutu £0.25 miliwn, efallai ychydig dros £0.25 miliwn, i ddatblygu eu cynlluniau ymhellach.
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisïau Llywodraeth Cymru ar gyfer cefnogi'r economi wledig? OAQ54840
Diolch. Rydym yn parhau i gefnogi'r economi wledig drwy ystod o bolisïau Llywodraeth Cymru a gweithio rhanbarthol. Bydd hyn, ynghyd â chynigion 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir', yn creu'r amodau ar gyfer datblygu economi wledig amrywiol ac iach.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol mai dydd Sadwrn diwethaf oedd Dydd Sadwrn y Busnesau Bach. Roeddwn i, fel llawer o Aelodau eraill y Cynulliad, allan yn ymgyrchu dros fusnesau lleol. Ymwelais â Neil James, cigydd lleol bach yng nghefn gwlad Sir Fynwy, y mae ei deulu wedi bod yn cefnogi ffermwyr Cymru ac yn cyflenwi cynnyrch lleol ers y 1950au. Enwebir y busnes yn aml ar gyfer gwobrau'r Gynghrair Cefn Gwlad, ac nid yw eleni'n eithriad. Rydym yn sôn yn aml yn y Siambr hon am gefnogi busnesau lleol, ond pa gefnogaeth benodol rydych chi—a dylwn ychwanegu, Gweinidog yr economi hefyd, gan fod hwn yn amlwg yn faes trawsbynciol—yn ei darparu i gwmnïau bach, yn enwedig busnesau gwledig fel Neil James, fel y gall pobl mewn ardaloedd gwledig barhau i brynu'n lleol, cefnogi busnesau lleol a chefnogi cadwyni cyflenwi lleol, siopau lleol, ac wrth gwrs, y gymuned ffermio sydd y tu ôl i'r holl gadwyni cyflenwi lleol hynny?
Diolch. Mae'r sector bwyd-amaeth yn amlwg yn sector pwysig iawn i Lywodraeth Cymru ac i Gymru, ac mae'n bwysig iawn fod gennym y busnesau bach hyn, fel y cigyddion y cyfeirioch chi atynt, i gefnogi ein ffermwyr. Yn amlwg, gwn fod ffermwyr yn teimlo dan fygythiad ar hyn o bryd o ran cynhyrchu cig coch, er enghraifft, ac rwyf bob amser yn dweud, 'Os ydych am gefnogi ein ffermwyr, y ffordd i wneud hynny yw prynu'n lleol, gan y gwyddoch fod cig wedi'i gynhyrchu'n gynaliadwy ac nad yw wedi teithio milltiroedd lawer.'
Rwy'n falch iawn, yn eich ymateb i Nick, eich bod wedi sôn am brynu'n lleol, a dyna roeddwn am ganolbwyntio arno. Gobeithio y bydd y Gweinidog—os nad yw wedi'i weld eto, fe'i anfonaf ati—wedi gweld yr adroddiad a gomisiynwyd yn ddiweddar gan Blaid Gydweithredol Cymru ac aelodau o'r grŵp Cydweithredol yma yn y Cynulliad, gan Athrofa Lleoedd Cynaliadwy Prifysgol Caerdydd, o'r enw 'Working co-operatively for sustainable and just food systems'. Fe sylwch, ym maniffesto Llafur ar lefel y DU, eu bod bellach wedi dweud y byddant yn cyflwyno Bil ar yr hawl i fwyd—bwyd cynaliadwy, fforddiadwy, iach a hygyrch.
Ond tybed—o ran y pwynt hwn ynghylch y lleol, lleoliaeth—beth arall y gallwn ei wneud, er gwaethaf Brexit, i gyflenwi'r rhwydweithiau bwyd lleol hynny lle rydych yn gweithio gyda'r tyfwyr bach, cydweithredol, ond rydych hefyd yn gweithio gyda'r ffermydd teuluol a phawb arall. Mae'n chwerthinllyd ein bod mewn sefyllfa bellach lle mai Cymru yw'r wlad fwyaf gwledig o'r holl wledydd, gallech ddadlau, o ran ein hagosrwydd at gynhyrchwyr bwyd gwledig, ac eto, mae gennym dros 500,000 o bobl ledled y DU yn dibynnu ar fanciau bwyd, 10 y cant o gyllideb y GIG yn mynd i drin diabetes math 2, ac 8 miliwn o bobl yn y DU yn ei chael hi'n anodd rhoi bwyd ar y bwrdd. Yng Nghymru, does bosibl na allwn ddatblygu’r math o rwydweithiau bwyd lleol sy'n rhoi bwyd ar y bwrdd yn lleol i bobl. Ac nid oes angen Bil arnom i wneud hyn, mewn gwirionedd. Ond yr hyn sydd ei angen arnom yw ymgorffori hyn yn y cerrig milltir rydym yn eu datblygu ar hyn o bryd—y cerrig milltir cenedlaethol i Gymru.
Diolch. Nid wyf wedi darllen yr adroddiad mewn gwirionedd, ond mae gennyf gopi ohono, felly efallai y byddaf yn ei ddarllen dros y Nadolig, gan y credaf, fel y dywedwch, fod cryn botensial i ni ddatblygu'r rhwydweithiau hynny. Mae gennyf un yn fy etholaeth—cydweithfa fwyd—sy'n gweithio mewn ardal ddifreintiedig iawn, ac mae'n hollol wych.
Fe fyddwch yn gwybod fy mod wedi gwneud datganiad llafar ar glystyrau bwyd yr wythnos diwethaf—credaf mai'r wythnos diwethaf oedd hi—a chredaf fod hynny wedi bod yn un o brif lwyddiannau ein sector bwyd a diod yma yng Nghymru, lle rydym yn cael cwmnïau'n dod at ei gilydd i weithio gyda'i gilydd, rhannu arferion gorau, a chredaf—wyddoch chi, mae'n cyd-fynd yn dda ag ethos y gydweithfa.
Trosglwyddwyd cwestiwn 5 [OAQ54820] ar gyfer ateb ysgrifenedig. Cwestiwn 6, felly. Vikki Howells.
6. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am baratoadau ar gyfer strategaeth newydd Llywodraeth Cymru ar gyfer tlodi tanwydd? OAQ54829
Diolch. Rwy'n disgwyl y bydd y cynllun newydd ar gyfer trechu tlodi tanwydd yn cael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghori ym mis Chwefror 2020. Mae ein cynigion yn cael eu llywio gan yr adolygiad tirwedd, a gyhoeddwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru ar 3 Hydref, yn ogystal â gwaith ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol, gan gynnwys y cyfarfod bwrdd crwn a gynhaliwyd gennyf ym mis Mehefin.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Yn amlwg, mae llu o bethau y gallwch edrych arnynt wrth ystyried tlodi tanwydd, ac rwy'n derbyn nad yw llawer o'r ysgogiadau wedi'u datganoli. Yn ddiweddar, cyfarfûm â Smart Energy, a ddywedodd wrthyf am y gwaith y mae'n ei wneud i annog pobl i osod mesuryddion deallus. Mae 40 y cant o aelwydydd yng Nghwm Cynon eisoes wedi newid i fesuryddion deallus, roeddwn yn falch o ddarganfod, ac mae hynny'n llawer uwch na'r cyfartaledd, sy'n dda i ddefnyddwyr ond hefyd yn gadarnhaol i'r amgylchedd. Beth yw eich barn, Weinidog, ynglŷn â rôl mesuryddion deallus ar gyfer trechu tlodi tanwydd? A sut y gellir sicrhau bod mentrau Llywodraeth Cymru yn y dyfodol yn annog pobl i newid?
Diolch. Yn sicr, mae'r ffigurau hynny yng Nghwm Cynon yn galonogol iawn. Credaf mai oddeutu 28 y cant yw'r cyfartaledd cenedlaethol. Felly, gallwch weld eich bod ymhell uwchlaw'r cyfartaledd yng Nghwm Cynon, felly mae hynny'n dda iawn. Gall mesuryddion deallus wneud cyfraniad gwerthfawr i'n hymdrechion i leihau gwastraff ynni. Mae'n helpu talwyr biliau i arbed arian. Gall helpu i leihau faint o ynni sydd ei angen i gynnal cartref diogel a chyffyrddus, ac yn amlwg, gall leihau’r gost os gallwch gael bargen well drwy newid, gan y gwn fod rhai pobl yn gyndyn i newid neu nid ydynt yn gwybod sut i newid. Felly, credaf fod y cyngor a ddarperir ochr yn ochr â'r gwaith o osod y mesurydd deallus yn ddefnyddiol iawn.
Mae hefyd yn gwneud y gwaith o reoli cyflenwad a galw am ynni yn haws ac yn fwy costeffeithiol. Rwy'n gobeithio gyfarfod â'r cwmni sydd—. Yn amlwg, menter Llywodraeth y DU yw hon, mesuryddion deallus, ac mae'r Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol wedi penodi cwmni—cwmni comisiynau data, rwy'n credu. Felly, rwy'n gobeithio cyfarfod â hwy ym mis Ionawr i drafod beth arall y gallwn ei wneud, gan fy mod yn awyddus iawn i Lywodraeth Cymru gefnogi Llywodraeth y DU mewn perthynas â hyn.
Weinidog, nodaf fod Llywodraeth yr Alban wedi newid y diffiniad o dlodi tanwydd, ac wedi gwneud hyn yn dilyn her gyfreithiol, ac fe'i diffinnir bellach fel cartref lle mae preswylwyr ar incwm isel ac mae angen iddynt wario cyfran uchel o'r incwm hwnnw ar danwydd. Y diffiniad cyfredol yw aelwydydd sy'n gwario 10 y cant o'u hincwm ar danwydd, a gallai hynny gynnwys cwpl cyfoethog iawn sy'n penderfynu byw mewn adeilad hanesyddol a dewis gwario 10 y cant ar ei gynhesu, ac nid hynny rydym am fynd i'r afael ag ef mewn gwirionedd. Mae angen gwell data arnom er mwyn inni gyrraedd y rheini sydd fwyaf o angen y cymorth.
Nid oeddwn yn ymwybodol fod yr Alban yn gwneud hynny, ond rwy'n sicr yn awyddus i edrych ar hynny. Ac unwaith eto, fel rhan o'r strategaeth newydd, ac yn amlwg, yr ymgynghoriad, rwy'n siŵr y bydd hynny'n rhywbeth a fydd yn codi. Fel y dywedwch, dyna'r peth gyda thargedau; rydych yn cael canlyniadau gwrthnysig weithiau. Yn amlwg, nid oeddwn wedi meddwl am hynny, ond yn sicr, nid hynny y byddem yn gobeithio'i wella.
7. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y sector bwyd-amaeth yng Ngogledd Cymru? OAQ54821
Rydym yn cefnogi busnesau bwyd-amaeth yng ngogledd Cymru, fel ym mhob rhan o Gymru, i ddod yn fwy proffidiol, cynaliadwy, gwydn ac wedi'u rheoli'n broffesiynol. Bydd y Ganolfan Ymchwil i Weithgynhyrchu Uwch newydd ym Mrychdyn, a ariennir gan Lywodraeth Cymru ac a agorodd ym mis Tachwedd, yn bwysig iawn ar gyfer datblygu ymchwil ac arloesedd yn y diwydiant bwyd-amaeth ledled Cymru yn y dyfodol.
Diolch. Weinidog, mae pob un ohonom yn poeni am les anifeiliaid, ac rwyf wedi lleisio fy mhryderon am allforio anifeiliaid byw yn y Siambr hon o'r blaen. Rwy'n falch o weld bellach y bydd Llywodraeth y DU yn gwahardd allforio anifeiliaid byw pan fyddwn yn gadael yr UE o'r diwedd. A fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud yr un peth?
Os ydym yn gadael yr UE, mae'n rhywbeth y bydd yn rhaid i ni edrych arno bryd hynny.
8. Pa gynnydd y mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi'i wneud o ran rheoli coedwigaeth? OAQ54843
Diolch. Mae'r ddogfen 'pwrpas a rôl' yn nodi gweithgarwch rheoli coedwigoedd CNC mewn perthynas ag ystâd coetiroedd Llywodraeth Cymru. Fe'i cynlluniwyd i alluogi coetiroedd Cymru i gael eu rheoli'n gynaliadwy yn hirdymor er mwyn darparu cyfleoedd i bobl yn awr ac yn y dyfodol fyw, gweithio a chwarae yn ein coedwigoedd rhagorol.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae rheoli coedwigaeth yn amlwg yn faes eang, ond mae hefyd yn cynnwys ystyried cynaeafu ac ailblannu rhannau o'r goedwigaeth. Pan fyddwn yn sôn am gynaeafu, mae angen i ni geisio sicrhau hefyd nad ydym yn gadael sbwriel ar lawr, a'n bod yn defnyddio'r pren yn effeithiol ac yn effeithlon, gan fod llawer o fusnesau'n dibynnu ar rywfaint o'r pren hwnnw. Yn fy etholaeth i, gwelaf drenau'n mynd i ogledd Cymru o dde Cymru gyda boncyffion wedi'u pentyrru arnynt. Felly, y cwestiwn y buaswn yn gobeithio y byddech yn edrych arno yw: sut y gallwn gefnogi busnesau lleol i gael mynediad at goed a phren o ardaloedd coedwigaeth lleol pan fyddant yn cael eu cynaeafu, yn hytrach na gorfod anfon y pren hanner ffordd ar draws Cymru, ac weithiau, yr holl ffordd ar draws Cymru, a chynyddu ein hôl troed carbon o ganlyniad i hynny, pan allwn leihau’r ôl troed carbon drwy gael mynediad at fusnesau lleol, at y goedwigaeth, ei chwympo a'i hailblannu, a sicrhau wedyn fod y busnesau sy’n defnyddio'r pren hwnnw hefyd yn lleol?
Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn, ac yn amlwg, mae hynny'n rhywbeth y gall CNC edrych arno yn eu contractau ar gyfer pren. Gwn ein bod yn cyfarfod yn nes ymlaen heddiw i drafod y materion hyn, ond yn amlwg, os ydym am leihau ein hôl troed carbon, mae hynny'n amlwg yn faes lle dylem allu gwneud hynny'n eithaf hawdd, buaswn wedi meddwl.
Fel y dywedwch, mae'r cynllun rheoli yn cynnwys cryn dipyn o ailblannu, ac yn ôl ym mis Hydref, roeddech yn swnio'n gadarnhaol iawn ynghylch y syniad o CNC ac ysgolion yn gweithio gyda'i gilydd fel y gallai plant ddysgu plannu coed fel rhan o'u haddysg ehangach. Fel y mae'n digwydd, ar yr union ddiwrnod hwnnw, cyfarfu Sophie Howe, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, â CNC i drafod eco-lythrennedd, a chytunodd fod yr awgrym, a dyfynnaf, yn 'syniad gwych', i gyfrannu at y gwaith hwnnw ar eco-lythrennedd. Felly, pa drafodaethau a gawsoch ers hynny gyda CNC, yn enwedig ynglŷn â sut y gall rheoli coedwigaeth ac ailgoedwigo chwarae rhan yn yr eco-lythrennedd hwnnw? A yw'n glir eto gyda phwy y dylai CNC siarad er mwyn iddynt allu dylanwadu ar gwricwla lleol? Mae arnaf ofn efallai na fyddwch yn gallu ateb y rhan olaf honno, a bod yn deg.
Ni allaf gofio a drafodais hynny gyda CNC cyn neu ar ôl ein trafodaeth ddiwethaf yn y Siambr, ond yn amlwg, mae'n rhywbeth y maent yn ei ystyried, ac, fel y dywedwch, mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol hefyd yn awyddus i ymgysylltu. Rwy'n fwy na pharod i siarad â'r Gweinidog Addysg os yw CNC yn awyddus i mi wneud hynny, neu'n amlwg, gallant gael cyfarfod gyda fy nghyd-Weinidog Kirsty Williams, os byddai'n well ganddynt wneud hynny.
9. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella tâl ac amodau ar gyfer gweithwyr fferm? OAQ54834
Amddiffynnodd Llywodraeth Cymru yr isafswm cyflog amaethyddol ar ôl i Fwrdd Cyflogau Amaethyddol Cymru a Lloegr gael ei ddiddymu yn 2013. Mae'r panel cynghori ar amaethyddiaeth yn negodi ac yn cynghori Gweinidogion i sicrhau cyfraddau cyflog ac amodau teg i weithwyr fferm, ac yn hyrwyddo gyrfaoedd a datblygu sgiliau amaethyddol.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Hoffwn drafod amodau gwaith yn fanylach, gan y gall ffermydd fod yn lleoedd peryglus i weithio, ac er bod cryn dipyn o gynnydd wedi'i wneud o ran diogelwch mewn sectorau eraill fel adeiladu, mae'r un gwelliant—. Mae llawer iawn o farwolaethau'n dal i ddigwydd ar ffermydd Prydain. Mae’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch wedi adrodd bod chwech o bobl wedi’u lladd ar ffermydd Cymru eleni, gyda chyfartaledd pum mlynedd o bump o bobl y flwyddyn. Nawr, rwy'n siŵr y byddwch yn cytuno â mi fod marwolaeth un unigolyn yn ormod, ond a fyddech hefyd yn cytuno, wrth i 2019 ddirwyn i ben, y dylai helpu i wella diogelwch ar gyfer gweithwyr fferm fod yn un o weledigaethau'r Llywodraeth hon ar gyfer 2020, ac efallai mai'r flwyddyn nesaf fydd y flwyddyn y byddwch yn canolbwyntio ar leihau nifer marwolaethau gweithwyr fferm i ddim?
Cytunaf yn llwyr fod un farwolaeth, yn amlwg, yn un farwolaeth yn ormod, ac rydym wedi gweld gormod o farwolaethau ar ein ffermydd, yn sicr yn ystod y tair blynedd a hanner ers i mi fod yn y swydd. Mae'n rhywbeth sy'n fy nigalonni'n fawr, ac maent yn lleoedd peryglus. Mae'n rhaid i bobl barchu eu gweithleoedd mewn perthynas â hynny. Mae un neu ddau o gynlluniau ar waith yng Nghymru rwyf bob amser yn fwy na pharod i'w cefnogi. Yn Sioe Frenhinol Cymru, rydym bob amser yn gwneud gwaith ar hyn ac mae'n rhywbeth rwyf am barhau i ganolbwyntio arno, yn amlwg. Mae'n rhaid i mi ddweud, yn fy mhortffolio, y diwydiant pysgota hefyd, rwy'n credu, unwaith eto, gwn ein bod wedi rhoi rhywfaint o arian fel y gellir defnyddio offer i geisio sicrhau bod pobl yn ymwybodol o'r peryglon ac i helpu i'w diogelu.
Wrth gwrs, cafodd gweithwyr fferm yn yr Alban hwb cadarnhaol yr wythnos hon gan y byddant yn cael codiad cyflog o 3 y cant. Yma yng Nghymru, cynigiodd y panel cynghori ar amaethyddiaeth y dylai isafswm cyfraddau tâl ar gyfer gweithwyr amaethyddol gynyddu 1.8 y cant ar draws yr holl fandiau cyflog. [Torri ar draws.] Daeth yr ymgynghoriad ar hyn i ben ar 16 Hydref 2019 ac ni fydd unrhyw grynodeb o'r ymatebion yn cael ei gyhoeddi. Nawr, rwy'n croesawu'r ffaith bod ein gweithwyr fferm yn mynd i gael mwy—[Torri ar draws.] Onid ydynt—?
Parhewch â'ch cwestiwn, Janet Finch-Saunders.
Diolch. Rwy'n sylweddoli ei bod hi'n dymor pantomeim.
Na, nid yw'n dymor pantomeim yma. Parhewch â'ch cwestiwn.
Rwy'n croesawu'r ffaith bod ein gweithwyr fferm yn mynd i gael rhagor o dâl, ond yn amlwg, bydd hyn yn effeithio ar gostau fferm uwch. Pa gamau rydych yn eu cymryd i gydweithredu â phrynwyr i helpu i sicrhau eu bod yn ystyried baich cyflogres fferm uwch wrth bennu prisiau am gynnyrch fferm?
Wel, gan ddychwelyd at y cwestiwn ynghylch cyflogau ein ffermwyr a’n gweithwyr fferm, fel y dywedaf, sefydlwyd y panel cynghori ar amaethyddiaeth gan Lywodraeth Cymru ar ôl i Fwrdd Cyflogau Amaethyddol Llywodraeth y DU ar gyfer Cymru a Lloegr gael ei ddiddymu. Cefais ychydig o gyngor yr wythnos diwethaf gan y panel, ac rwy'n ddiolchgar iawn am eu gwaith manwl, ond, yn anffodus, gall y cyhoeddiad hwyr am yr isafswm cyflog cenedlaethol a'r cyfraddau cyflog byw cenedlaethol ar gyfer 2020 oherwydd yr etholiad cyffredinol olygu y bydd angen i'r panel ailedrych ar yr isafswm cyflog amaethyddol. Rwyf am sicrhau bod gennym dâl ac amodau teg a phriodol ar gyfer ein gweithwyr amaethyddol yma yng Nghymru.
Roedd cwestiwn 10 i fod i gael ei ofyn gan Dawn Bowden, nad yw'n bresennol. [Torri ar draws.]—Rwy'n siarad nawr. Tynnwyd cwestiwn 11 yn ôl. Roedd cwestiwn 12 i fod i gael ei ofyn gan Jayne Bryant, nad yw'n bresennol. Daw hynny â'ch sesiwn gwestiynau i ben, Weinidog. A gadewch i hyn fod yn wers i'r holl Aelodau sy'n cyflwyno cwestiynau, fod y Gweinidog Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig yn arbennig o effeithlon wrth ateb cwestiynau, a gallai pob cwestiwn fod wedi'i ofyn a'i ateb heddiw. Nawr, dyna'r her i'r Gweinidog nesaf.
Ni ofynnwyd cwestiynau 10 [OAQ54815] a 12 [OAQ54839]. Tynnwyd cwestiwn 11 [OAQ54835] yn ôl.
Cwestiynau, felly, i'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, a daw'r cwestiwn cyntaf gan Mohammad Asghar.
1. Pa fesurau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cyflwyno i gefnogi pobl ddigartref yn 2020? OAQ54817
Bydd y Llywodraeth hon yn parhau i gyflawni yn erbyn ein hymrwymiad i fynd i'r afael ac atal pob math o ddigartrefedd. Mae ein strategaeth a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn nodi ein ffocws ar atal a gwasanaethau cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys cefnogi'r rhai sy'n ddigartref ar hyn o bryd i gael llety, gan sicrhau ein bod yn buddsoddi mewn ymyriadau cynharach i atal pobl rhag dod yn ddigartref.
Diolch am eich ateb, Weinidog, ond mae Deddf Crwydradaeth 1824 yn dyddio'n ôl i 1824 ac yn gwneud cysgu allan neu gardota yn drosedd yng Nghymru a Lloegr. Nid yw'r Ddeddf hon yn gwneud unrhyw beth i ddatrys achosion sylfaenol digartrefedd, ac mewn gwirionedd, mae'n fwy tebygol o wthio rhywun ymhellach oddi wrth y gwasanaethau hanfodol sy'n eu helpu oddi ar y strydoedd. Weinidog, a ydych yn cytuno â mi na ddylai unrhyw un gael eu troseddoli am fod yn ddigartref neu'n ddiymgeledd? A pha gamau a gymerwch i ddiddymu'r Ddeddf crwydradaeth yng Nghymru?
Ie, cytunaf yn llwyr â chi. Nid yw'r Ddeddf crwydradaeth wedi'i datganoli i Gymru—Llywodraeth y Torïaid yn San Steffan a ddylai fod wedi'i diddymu. [Torri ar draws.] Mae'n ddyletswydd ar Lywodraeth y Torïaid yn San Steffan, Janet Finch-Saunders. Mae angen iddynt hwy ei diddymu. Pe gallwn, buaswn yn gwneud hynny. Ni allwn wneud hynny.
Weinidog, mae Cymorth i Fenywod Cymru wedi nodi nad yw 77 y cant o'r plant sy'n profi cam-drin domestig wedi cael cefnogaeth gan wasanaeth arbenigol. Nawr, gŵyr pob un ohonom fod cam-drin domestig yn un o'r ffactorau a all achosi digartrefedd, ac mae Cymorth i Fenywod Cymru wedi canfod na fu modd rhoi llety mewn lloches i 512 o oroeswyr, gyda llawer ohonynt â phlant wrth gwrs, oherwydd diffyg lle. Dyna 512 o oroeswyr a'u dibynyddion yn cael eu gorfodi i ofalu amdanynt eu hunain ar ôl dianc o amgylchedd peryglus. A ydych yn derbyn nad yw hyn yn ddigon da ac a wnewch chi roi addewid cadarn inni y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod pawb sy'n ceisio cymorth mewn lloches yn y dyfodol yn ei gael? Ac er mwyn cyflawni hyn, a wnewch chi ystyried ehangu'r cymhwysedd i blant dan 16 oed sy'n byw mewn llochesi ac edrych ar ba gyllid grant cymorth tai y gellir ei alinio â chyllid grant cymunedol a phlant i sicrhau bod pob plentyn yr effeithir arnynt gan gam-drin domestig yn cael cymorth digonol?
Ie, cytunaf â hi'n llwyr fod cam-drin domestig yn un o'r pethau sy'n achosi'r mathau hyn—wel, yr angen am lochesi yn y lle cyntaf, yn ogystal ag ansefydlogrwydd o ran tai. Mae ystod eang o faterion y mae angen i ni eu hystyried i sicrhau bod pobl yn gallu, er enghraifft, dal gafael ar eu tenantiaeth, felly os oes rhaid iddynt adael tŷ y byddai ganddynt hawl i fyw ynddo fel rheol, nid y sawl sy'n cam-drin sy'n aros yn y tŷ ac nid yw'r dioddefwr yn cael eu gyrru allan. Felly, mae nifer enfawr o bethau—rwy'n cytuno â chi.
Un o'r pethau a ddywedais yn fy natganiad ar dlodi plant ddoe oedd ein bod yn adolygu nifer o systemau sydd gennym ar waith ar hyn o bryd i sicrhau nad oes gennym bobl yn cwympo rhwng y craciau, ac mae'r maes y mae hi newydd ei amlinellu yn un ohonynt. Nid yw'n rhan uniongyrchol o fy mhortffolio, mae ym mhortffolio’r Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip mewn gwirionedd, ond mae hithau a minnau’n cydweithio fel rhan o’r adolygiad rhywedd a nifer o fentrau eraill i wneud hynny, ac rwy’n fwy na pharod i gynnwys yr Aelod yn y trefniadau hynny.
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu llawer o gefnogaeth i bobl sy'n ddigartref, ond fel y gŵyr pob un ohonom, mae gormod o lawer o bobl yn cysgu ar y strydoedd a gormod lawer o bobl nad ydynt yn gwybod ble y byddant yn cysgu heno, ac maent yn gobeithio y bydd ffrind neu berthynas yn rhoi llety iddynt. Mae honno'n sefyllfa wael inni fod ynddi yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain. A yw'r Gweinidog yn cytuno mai'r unig ateb hirdymor i ddigartrefedd yw adeiladu tai cyngor ar raddfa'r 1950au a'r 1960au, sy'n cynnwys Llywodraethau Ceidwadol? Deallaf o ddarllen papurau lleol yn ddiweddar fod Harold Macmillan, yn ôl pob sôn, wedi'i ddisgrifio fel Marcsydd.
Wel, nid hynny yw fy nealltwriaeth i o'r diffiniad o Farcsydd, mae'n rhaid i mi ddweud. Cytunaf yn llwyr â'r Aelod fod angen i ni adeiladu'r cyfuniad iawn o dai o'r math iawn yn y lle iawn sy'n fforddiadwy i bobl. Ac yn amlwg, mae'n rhaid cyplysu hynny â chymorth i sicrhau y gall pobl gynnal tenantiaeth. Felly, mae a wnelo â mwy nag adeiladu cartrefi fforddiadwy yn unig; rydym hefyd yn dweud yn gwbl glir mai ein huchelgais yw adeiladu tai cymdeithasol ar raddfa fawr ac yn gyflym, ac mae hynny'n cynnwys tai cyngor, ac mewn gwirionedd, mae nifer fawr o'n landlordiaid cymdeithasol cofrestredig yng Nghymru yn adeiladu nifer fawr o dai cymdeithasol. Dyma pam fod y Llywodraeth hon wedi amddiffyn cyllid grant i sicrhau cymorth tenantiaeth hyblyg drwy ein grant cymorth tai hefyd, a dyna pam fod ein rhaglenni Cefnogi Pobl yn bwysig iawn i sicrhau nid yn unig fod pobl yn cael lle i fyw ond eu bod yn gallu cynnal eu hunain yn y denantiaeth honno.
Gofynnodd Mohammad Asghar, wrth agor hyn, i’r Gweinidog edrych ar achosion sylfaenol digartrefedd, a buaswn yn ymestyn hynny i gynnwys cysgu allan hefyd. Dywedodd Shelter, mewn astudiaeth yn gynharach y mis hwn, er gwaethaf, mae'n rhaid imi ddweud, er gwaethaf y mesurau a oedd yn cael eu cymryd mewn lleoedd fel Cymru a'r Alban, y bydd cymaint â 4,000 neu fwy o blant yn cael eu gwneud yn ddigartref erbyn 25 Rhagfyr. A hoffai'r Gweinidog ehangu ar yr hyn y mae hi'n ei ddeall yw'r achosion sylfaenol sy'n golygu, er gwaethaf ein hymyriadau gorau, fod digartrefedd a chysgu allan, gan gynnwys ymhlith plant a phobl ifanc, bellach yn cynyddu'n ddiwrthdro?
Ydy, mae'n gwbl glir mai un o achosion sylfaenol digartrefedd yw anallu pobl i gael mynediad at y math cywir o dai cymdeithasol, gan nad ydym wedi bod yn adeiladu digon ohonynt o ganlyniad i gapiau'r Torïaid ar y cyfrifon refeniw tai, a'r ffordd roedd y system honno'n gweithio, a oedd yn hollol wrthwynebus i adeiladu tai cymdeithasol. Ceir nifer o broblemau hefyd sy'n ymwneud â chredyd cynhwysol; y ffordd y mae'r lwfans tai lleol wedi'i gapio ers pedair blynedd gan wneud pobl yn ddiymgeledd; y cynnydd mewn lefelau uchel o ddyled bersonol yn arwain at chwalu teuluoedd; a materion trais domestig, fel y nododd Leanne Wood, o ganlyniad i rai o'r problemau hynny. Ceir ystod o faterion cymhleth, pob un yn seiliedig ar dlodi ac anallu pobl i ennill digon o arian i gadw eu tai. A'r rheswm am hynny yw fod costau tai yn uchel iawn yn y sector rhentu preifat ac nid yw credyd cynhwysol yn ddigon i'w talu, a dyna'n bendant sydd wrth wraidd y broblem.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i'r diwydiant adeiladu tai? OAQ54814
Gwnaf. Rydym yn darparu ystod o gefnogaeth i adeiladwyr tai, gan gynnwys cefnogaeth yn benodol ar gyfer busnesau bach i ganolig. Rwy'n cydnabod bod adeiladu tai yn heriol; rwy'n cyfarfod ag adeiladwyr yn rheolaidd er mwyn trafod rhai o'r heriau sy'n eu hwynebu. Cyfarfu Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth a minnau â chynrychiolwyr y sector ddiwethaf ym mis Hydref, gan ganolbwyntio ar fynd i’r afael â'r heriau ym maes adeiladu.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae Hughes Architects yn fusnes sy'n gweithredu ledled canolbarth Cymru, ac maent wedi dweud nad yw'r fframwaith datblygu cenedlaethol drafft yn rhoi fawr ddim ystyriaeth i ganolbarth Cymru. Dywedant ei fod yn edrych am yn ôl heb unrhyw weledigaeth go iawn, a'i fod hefyd yn debyg i strategaethau blaenorol, sydd, yn eu barn hwy, wedi methu cyflawni. Mae Mr Hughes yn mynd ymlaen i sôn yn benodol am y ffocws parhaus ar dai fforddiadwy ar draul tai yn gyffredinol sydd wedi taro rhanbarthau gwledig yn galed, ac mae cynllunwyr strategol wedi camddeall hynny i raddau helaeth. Ceir pwynt ehangach hefyd ynglŷn â bod ardal canolbarth Cymru yn cael ei chynnwys mewn rhanbarth llawer ehangach, yn cael ei chynnwys yn rhanbarth de Cymru, ond maent yn economïau gwahanol iawn. A gwn fod rhanddeiliaid eraill wedi lleisio'r pryder hwn wrthych chi hefyd. Tybed sut rydych yn ymateb i'r pryderon hyn, ac a wnewch chi ymrwymo, Weinidog, a'ch swyddogion, i roi ystyriaeth ofalus i ymatebion rhanddeiliaid o ganolbarth Cymru sydd wedi rhybuddio bod dogfen bolisi'r fframwaith datblygu drafft cyfredol yn methu mynd i'r afael â'r hyn y bwriadwyd iddo ei gyflawni?
Wel, ymgynghoriad drafft yw'r ddogfen gyfredol, fel y gwn fod Russell George yn gwybod. Mae'r ymgynghoriad bellach wedi dod i ben. Cawsom dros 1,000 o ymatebion iddo ac mae'r ymatebion hynny wrthi'n cael eu dadansoddi. Byddwn yn cyhoeddi'r adroddiad ar ymatebion yr ymgynghoriad wedyn a byddwn yn cyflwyno unrhyw newidiadau a argymhellir o ganlyniad i'r ymgynghoriad hwnnw. Felly, rwy'n cymryd bod y cwmni y mae'n sôn amdano wedi cyflwyno ymateb i'r ymgynghoriad.
O ran pam rydym yn pwysleisio tai cymdeithasol, mae'r holl dystiolaeth yn dangos ein bod yn adeiladu digon o dai'r farchnad agored yng Nghymru. Yn amlwg, mae angen inni barhau i adeiladu cymaint â hynny yn y dyfodol, ond rydym filoedd yn brin o gartrefi cymdeithasol yn enwedig. Mae angen inni adeiladu oddeutu 4,000 o gartrefi cymdeithasol y flwyddyn am y 10 mlynedd nesaf. Nid ydym yn agos i gyrraedd hynny, er ein bod yn adeiladu digon o dai'r farchnad agored. Felly dyna'r pwyslais, er fy mod yn derbyn y pwynt a wna, sef, fel y dywedais mewn ymateb i Mohammad Asghar, fod angen inni sicrhau ein bod yn adeiladu'r math iawn o dŷ yn y lle iawn ar gyfer y bobl iawn. Felly mae yna nifer o bethau cymhleth.
Bwriedir hefyd i'r Fframwaith Datblygu Cenedlaethol gael ei ddarllen ochr yn ochr â 'Polisi Cynllunio Cymru', a bydd yn gwybod ein bod newydd ddechrau pasio Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) drwy'r Senedd, ac mae gan hwnnw drefniadau rhanbarthol penodol ynghylch cynllunio strategol, a fydd yn mynd i'r afael â rhai o'r materion sy'n codi ynghylch materion gofodol ac ardaloedd penodol.
Felly, rwy'n derbyn y pwynt. Rydym yn edrych ar ymatebion yr ymgynghoriad ar hyn o bryd a chyn gynted ag y byddaf mewn sefyllfa i rannu'r ymatebion hynny a'n hymateb iddynt gyda'r Cynulliad, byddaf yn gwneud hynny—yn gynnar iawn yn y flwyddyn newydd, yn ôl pob tebyg, Lywydd.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Dai Lloyd.
Diolch, Lywydd. Weinidog, efallai y byddwch wedi sylwi y bydd etholiad cyffredinol yn digwydd cyn bo hir, ond o gofio hynny, daeth yn amlwg fod myfyrwyr yng Nghaerdydd wedi cael gwybod na fyddant yn gallu pleidleisio yfory oherwydd camgymeriad gweinyddol heb unrhyw fai arnynt hwy. Dywedir wrthyf fod cyngor Caerdydd wedi cyfaddef nad ydynt wedi mynd i'r afael hyd yma â'r oddeutu 200 o'r 1,000 o bobl a roddodd gyfeiriadau annilys wrth gofrestru. Felly, ar y cam hwyr hwn, beth y gallwch ei wneud fel Gweinidog i geisio unioni'r sefyllfa anffodus hon?
Nid oeddwn yn ymwybodol o hynny, mae'n rhaid i mi ddweud, felly os gall roi'r manylion i mi cyn gynted â phosibl, gallaf fynd ar ei drywydd gyda chyngor Caerdydd. Nid wyf yn siŵr o'r ateb, felly, gan nad oeddwn yn ymwybodol o'r broblem, ond os gallwch rannu'r manylion gyda mi, byddaf yn gweld beth y gallwn ei wneud. Yn sicr, rydym yn amlwg yn awyddus i sicrhau bod cymaint o bobl â phosibl yn gallu pleidleisio.
Diolch am hynny. Gan ddychwelyd at faterion tai a chysgu allan, fel y gwyddoch, mae'r grant cymorth tai yn hanfodol i alluogi amryw asiantaethau, fel Cymorth Cymru, Cartrefi Cymunedol Cymru a Cymorth i Fenywod Cymru i ddarparu'r gwasanaethau sydd mor werthfawr wrth fynd i'r afael â digartrefedd a chysgu allan ar ein strydoedd, ond serch hynny, mae cyllid ar gyfer cymorth sy'n gysylltiedig â thai wedi gostwng £37 miliwn yng Nghymru ers 2012 mewn termau real, yn ôl adroddiad diweddar. Felly, a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw gynlluniau i gynyddu'r grant cymorth tai yn y cylch cyllidebol nesaf?
Wel, fel y nododd Dai Lloyd, mae gennym etholiad cyffredinol yn digwydd ar hyn o bryd a bydd yn gwybod, felly, ein bod wedi gorfod gohirio'r gwaith o cyhoeddi'r gyllideb. Bydd y gyllideb ddrafft, ochr yn ochr â'r setliad llywodraeth leol—ar yr un pryd, yn anarferol, oherwydd cyfyngder yr amserlenni—yn cael ei chyhoeddi mewn datganiad ysgrifenedig ar y dydd Llun ar ôl yr etholiad cyffredinol. Felly, ddydd Llun nesaf.
Diolch am hynny, gan fod ystadegau gan y Wallich yn dangos cynnydd yn nifer y bobl sy'n cysgu allan ar strydoedd Abertawe, a phan wyf wedi bod allan gyda'r daith cawl i'r digartref—ac mae Leanne wedi bod allan hefyd ar y daith cawl i'r digartref yn Abertawe—mae'r dystiolaeth yn amlwg, mewn gwirionedd. Mae'n arbennig o drist wrth agosáu at y Nadolig, fel rydym ar hyn o bryd. Felly, gyda'r addewid o wariant cyhoeddus gwyllt gan bwy bynnag sy’n ennill yr etholiad cyffredinol yfory, a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i sicrhau bod atal digartrefedd yn flaenoriaeth mewn unrhyw benderfyniadau gwariant yn y dyfodol?
Iawn. Yn amlwg, rydym am atal digartrefedd. Bydd Dai Lloyd yn ymwybodol fod gennym y grŵp gweithredu ar dai, o dan gadeiryddiaeth prif weithredwr Crisis, yn gweithio i ni. Rydym wedi derbyn holl argymhellion yr adroddiad cyntaf, y gofynasom amdano yn fwriadol er mwyn mynd i’r afael â chysgu allan a'r enghreifftiau gwaethaf o ddigartrefedd yn y cyfnod cyn y Nadolig. O ganlyniad i hynny, mae gennym yr hyfforddiant allgymorth grymusol ar waith eisoes ledled Cymru. Rydym wedi darparu hyfforddiant penodol i'r holl weithwyr perthnasol yn Abertawe, Caerdydd, Wrecsam a Chasnewydd, ond nid yw hynny'n golygu bod rhannau eraill o Gymru heb gael eu cynnwys yn yr holl leoedd acíwt hynny lle mae pobl yn ymgynnull.
Rwyf innau hefyd wedi bod allan ar wahanol deithiau cawl, teithiau brecwast, ac ati, yn Abertawe a Chaerdydd. Nid wyf am addo dod â phawb i mewn oddi ar y stryd gan fod hynny'n amhosibl; byddai unrhyw un a fyddai'n gwneud yr addewid hwnnw'n sicr o'i dorri. Yr hyn rydym wedi'i ddweud yw y byddwn yn gwybod pwy yw pawb sy'n cysgu allan, a bydd gennym gynllun ar eu cyfer. Os gallwn ddod â hwy i mewn oddi ar y stryd, wrth gwrs, byddwn yn gwneud hynny. Fel arall, bydd gennym y gweithwyr allgymorth grymusol yn estyn allan atynt. Cyfarfûm â dau ohonynt o Gaerdydd yr wythnos diwethaf. Roedd rhai o'r straeon a ddywedasant wrthyf yn dorcalonnus iawn, ond gwnaethant bwysleisio hefyd y gall gymryd chwech i naw mis i gael rhywun i ymddiried digon ynoch i dderbyn eich bod yn rhoi'r help a'r gefnogaeth gywir iddynt.
Felly, nid ydym yn ceisio gorfodi pobl i wneud pethau'n groes i'w dymuniadau, ond rydym am sicrhau eu bod yn ddiogel a bod ganddynt gynllun gofal ar waith, a bod gennym y gweithwyr allgymorth yn gweithio gyda hwy. Felly, yr hyn rwy'n ei ddweud yw y byddwn yn gwybod pwy yw pawb, bydd gennym gynllun ar eu cyfer, a lle bo modd, byddwn yn dod â hwy i mewn oddi ar y stryd cyn gynted â phosibl i un o'n trefniadau tai yn gyntaf, neu'r trefniadau penodol rydym wedi'u rhoi ar waith yn y pedair dinas.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Mark Isherwood.
Diolch, Lywydd. O dan fformiwla ariannu llywodraeth leol Llywodraeth Cymru, derbyniodd naw o'r 22 awdurdod yng Nghymru gynnydd yn y flwyddyn ariannol gyfredol: cynnydd o 0.9 y cant i Gaerdydd, cynnydd o 0.5 y cant i Abertawe, toriad o 0.1 y cant i Wrecsam, toriad o 0.3 y cant i sir y Fflint, er bod cynnydd cyfatebol wedi bod ym mhoblogaethau pob un ohonynt. Ochr yn ochr â sir y Fflint, roedd y cynghorau a welodd y toriadau mwyaf o 0.3 y cant yn cynnwys Conwy ac Ynys Môn, er bod Conwy ac Ynys Môn ymhlith y pum awdurdod lleol yng Nghymru lle mae 30 y cant neu fwy o weithwyr yn cael llai o dâl na'r cyflog byw gwirfoddol. Lefelau ffyniant y pen ar Ynys Môn yw'r isaf yng Nghymru, ychydig yn llai na hanner y lefelau yng Nghaerdydd, a chyngor Conwy sydd â'r gyfran uchaf o bobl dros 65 oed yng Nghymru, sef 25 y cant o gymharu â Chaerdydd ar 13 y cant, sydd â'r lleiaf. Pan ofynnais i chi ynglŷn â hyn yma ar 9 Hydref, fe ateboch chi,
'rydym yn cynnig, drwy'r amser, i awdurdod lleol sy'n credu nad yw'r dulliau o fesur yn iawn gynnig ei awgrymiadau ynghylch addasiadau i fformiwla'r is-grŵp dosbarthu'.
A oes unrhyw awdurdodau lleol wedi cynnig awgrymiadau ers i chi wneud y sylw hwnnw ar 9 Hydref, ac os felly, a allwch eu nodi?
Hyd y gwn i, nid oes unrhyw un wedi gwneud hynny, ond byddaf yn edrych i weld dros Mark Isherwood er mwyn bod yn hollol sicr, ond hyd y gwn i, nid oes unrhyw awdurdod lleol wedi gwneud cynnig ffurfiol i newid fformiwla'r is-grŵp dosbarthu.FootnoteLink Ond rhoddaf y cynnig eto: os yw awdurdod yn awyddus i awgrymu newid i fformiwla'r is-grŵp dosbarthu, rydym yn fwy na pharod i edrych arno ac i ystyried y ffigurau, a’i drin gyda'r prosesau democrataidd sydd gennym ar waith i wneud hynny. Mae'r cyngor partneriaeth a Llywodraeth Cymru yn cytuno ar fformiwla'r is-grŵp dosbarthu bob blwyddyn. [Torri ar draws.] Beth ar y ddaear y mae hynny'n ei olygu, Darren Millar? Yr hyn rydym yn credu ynddo yw democratiaeth leol a strwythur democrataidd lleol. Mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a ninnau'n gweithio'n ofalus iawn yn y cyngor partneriaeth i wneud hyn.
Nid oes angen i chi ateb Darren Millar. Atebwch Mark Isherwood.
Diolch.
Wel, mewn gwirionedd, mae'r—.
Mark Isherwood, os gallwch barhau, ac os gellir caniatáu iddo barhau, yn enwedig gan bobl yn ei grŵp ei hun.
Mewn gwirionedd, yn ystod yr union wythnos y gwnaethoch y sylw hwnnw i mi, anfonwyd llythyr at y Prif Weinidog a chithau a'r Gweinidog Cyllid a’r Trefnydd gan Gyngor Sir y Fflint, wedi'i lofnodi gan ei arweinydd ac arweinydd pob grŵp. Dywedai, 'Mae sir y Fflint wedi ymgysylltu â Llywodraeth Cymru i ddadlau ein hachos dros gyfres o flynyddoedd gosod cyllideb. Rydym yn parhau i ddadlau ein bod ninnau, fel cyngor sy'n cael lefel isel o gyllid y pen o dan fformiwla ariannu llywodraeth leol, yn fwy agored na'r rhan fwyaf i effeithiau degawd o gyllideb genedlaethol ostyngol.'—dyna'r term y gwnaethant ei ddefnyddio—'Mae'r dystiolaeth yno.' A daethant i'r casgliad, 'Byddem yn croesawu trafodaeth breifat gyda chi ynglŷn â'n hachos i'w gefnogi ac rydym yn dibynnu ar eich barn i wneud y defnydd gorau o'r cynnydd yng nghyllideb refeniw Cymru i gefnogi'r achos cyfunol dros lywodraeth leol.'
Fe ateboch chi ar ran Llywodraeth Cymru ar 4 Tachwedd, 'Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddarparu'r canlyniad gorau posibl i lywodraeth leol o'n proses gyllidebol', ond wedyn, aethoch yn eich blaen i sôn am faint y gacen yn unig, pan oedd eu llythyr yn ymwneud â sut y caiff y gacen ei thorri. Felly, mewn ymateb i'r llythyr a anfonasant atoch yn ystod yr un wythnos ag y gwnaethoch ymateb i mi, ac rydych wedi ailadrodd eich cynnig iddynt, a ydych wedi cytuno i gyfarfod â hwy, fel y gofynasant, i drafod yr agenda a godasant gyda chi yn y llythyr hwnnw?
Nid oes gennyf unrhyw gof o hynny, felly rwy'n ymddiheuro. Rydym yn cael cryn dipyn o ohebiaeth. Rwy'n fwy na pharod i edrych arno eto.
Cyfarfûm â phob un o swyddogion gweithredol CLlLC yng ngogledd Cymru, yn swyddfeydd Cyngor Sir y Fflint. Roedd gan Hannah a minnau nifer o gyfarfodydd y diwrnod hwnnw, ac roedd arweinydd Wrecsam yn bresennol. Rwy'n fwy na pharod i gyfarfod â hwy eto. Yn amlwg, ni wyddoch sut olwg sydd ar y setliad eleni gan nad ydym wedi'i ryddhau. Ond buaswn yn dweud, Mark Isherwood, yn ôl yr arfer, ei bod hi'n hawdd i chi sefyll yno a dweud wrthyf y dylwn roi mwy o arian i awdurdodau lleol, ond onid ydych chi'n un o benseiri naw mlynedd o gyni? Chi yw'r rhai sydd wedi torri ein cyllideb, chi yw'r rhai nad ydynt wedi anfon digon o arian i ni, chi yw'r rhai sydd wedi sicrhau bod ein fformiwla ariannu yn is yn awr nag yr oedd naw mlynedd yn ôl, felly chi'ch hunain yn unig sydd ar fai.
Wel, nid wyf am ailadrodd y wers economeg y ceisiais ei rhoi i chi ddoe ar y pwynt hwnnw—
A ydych yn dymuno cael yr un ateb?
Ydw, gan nad yw'n ymddangos eich bod yn deall economeg sylfaenol, ond dyna ni—
Esgusodwch fi.
Nid yw fy nghwestiwn yn ymwneud â hynny—
Gofynnwch eich cwestiwn yn awr a gall y Gweinidog ymateb hefyd.
Mae fy nghwestiwn yn ymwneud â sut y caiff y gyllideb ei rhannu, ni waeth beth yw ei maint. Mae'n ymwneud â'r fformiwla, nid y maint. Mae pob un ohonom yn disgwyl yn eiddgar i glywed beth fydd maint y gyllideb nesaf—
Rwyf wedi cael fy nhrin yn nawddoglyd gan bobl lawer gwell na chi, Mark Isherwood.
Arhoswch i'r cwestiwn gael ei ofyn, a gadewch i ni beidio â chynhyrfu yn y Siambr, os gwelwch yn dda.
Felly, eu cais i chi, llythyr yn ateb gennych chithau, wedi'i lofnodi ar 4 Tachwedd, maent wedi gofyn am drafodaeth breifat.
A ydych am ei ddarllen yn uchel unwaith eto?
Felly, buaswn yn ddiolchgar pe gallech edrych ar hynny.
Yn yr un modd, cefais ohebiaeth gan—nid wyf am eu henwi—aelod gweithrediaeth o sir y Fflint yr haf hwn am yr effeithiau deddfwriaethol heb eu hariannu ar lywodraeth leol. Dywedasant fod llywodraeth leol wedi dadlau nad yw’r asesiadau effaith rheoleiddiol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynhyrchu ochr yn ochr â deddfwriaeth ddrafft bob amser yn amcangyfrif nac yn rhagamcanu holl oblygiadau tebygol rhoi deddfwriaeth ar waith. Fe wnaethant ddarparu dwy enghraifft—anghenion dysgu ychwanegol a chyrff draenio cynaliadwy—a dywedasant, yn eu hachos hwy yn unig, y byddai'r pwysau cyllidebol heb eu hariannu y flwyddyn nesaf dros £0.5 miliwn, ledled Cymru, dros £10 miliwn. Unwaith eto, sut rydych yn ymateb i'r pryderon hyn? Codwyd yr achos hwn, mewn gwirionedd, yn baradocsaidd, gan aelod o'ch plaid eich hun, ond wrth siarad ar ran y teulu llywodraeth leol ledled Cymru, ac mae'n amlwg, o ystyried y manylion a'r dystiolaeth yn y llythyr, yn seiliedig ar dystiolaeth yn hytrach na barn yn unig.
Wel, Mark Isherwood, fel arfer, chi yw'r un nad yw'n deall y ffordd sylfaenol y mae economeg y setliad llywodraeth leol yn gweithio. Mae Cymru wedi cael ei thanariannu gan y Llywodraeth Geidwadol am y naw mlynedd ddiwethaf. Hyn a hyn o arian yn unig sydd gennym—llai o lawer nag y dylem ei gael er mwyn ei rannu. Caiff y pot hwnnw ei rannu drwy brosesau democrataidd CLlLC. Rydym yn cynnal cyfarfodydd cyswllt â phob un ohonynt, drwy'r amser. Mae arweinwyr y cynghorau y soniwch amdanynt yn bresennol yn llawer o'r cyfarfodydd hynny. Rwyf wedi cyfarfod â phrif weithredwyr ac arweinwyr pob cyngor yng Nghymru. Rwy'n fwy na pharod i ystyried unrhyw awgrym y maent am ei gynnig eto. Nid wyf yn gwybod sawl gwaith—. Nid oes ots os ydych yn chwifio darnau o bapur ataf. Nid wyf yn gwybod sawl gwaith y mae'n rhaid i mi ddweud yr un peth wrthych. Efallai y dylech wrando.
3. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu i gyn-filwyr yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro? OAQ54844
Mae ein cefnogaeth i gyn-filwyr y lluoedd arfog ledled Cymru, gan gynnwys y rheini sy'n byw yng Ngorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro, wedi'i nodi yn ein hadroddiad blynyddol, a gyhoeddwyd ym mis Mai. Mewn cydweithrediad â'n grŵp arbenigol ar y lluoedd arfog a phartneriaid allweddol eraill, rydym yn parhau i adeiladu ar y gwaith pwysig hwn.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Hyderaf na fydd hyn yn ddadleuol, oherwydd wrth gwrs, mae hwn yn faes y mae pob un ohonom yn malio amdano. Mae'n rhaid inni ofalu am yr unigolion hyn sydd wedi gwasanaethu ein gwlad ac sydd bellach yn troi at y wladwriaeth am gefnogaeth.
Mae gennyf un etholwr yn ei 30au sydd wir yn cyfateb i'r disgrifiad o gyn-filwr: mae ei berthynas wedi chwalu, mae'n cael trafferth gyda phroblemau caethiwed a theimlo’n ynysig ers gadael y lluoedd arfog, ac mae'n dioddef o ryw fath o straen wedi trawma, yn ôl pob golwg. Nawr, pan mae fy swyddfa wedi ceisio ymgysylltu â gwasanaethau lleol, rydym wedi'i chael hi'n anodd iawn eu cael i dderbyn y ffaith ei fod yn gyn-filwr. Mae sefydliadau lleol, fel y VC Gallery yn Hwlffordd a rhai o'r eglwysi ym Mhenfro, wedi bod yn gwbl ardderchog ac wedi ceisio cynnig cefnogaeth ym mhob ffordd y gallant.
Nawr, gwn fod gennych lwybr cyn-filwyr, ond beth y gallech ei wneud, Weinidog, yn eich barn chi, i sicrhau bod hwnnw wedi'i gyfeirio'n ddigonol i sicrhau bod cyn-filwyr yn cael eu cyfeirio'n awtomatig at y gwasanaethau cywir wrth geisio cymorth gan y cyrff statudol?
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Gwn fod hyn yn rhywbeth y bu gennych ddiddordeb ynddo ers amser ac rydych wedi dadlau'n gryf drosto. A chredaf eich bod yn llygad eich lle ei fod yn fater na ddylai fod yn ddadleuol—mae'n rhywbeth y dylai pob un ohonom falio yn ei gylch, a chydnabod pwysigrwydd cefnogi'r bobl sydd wedi gwasanaethu ein gwlad yn y lluoedd arfog. Yn anffodus, nid yw'r enghraifft a roddwch, a phrofiad eich etholwr, yn un sy'n anghyfarwydd, ac mae'n stori rwyf wedi'i chlywed dro ar ôl tro wrth imi ymweld â'r gwahanol sefydliadau a grwpiau sy'n cefnogi ein cyn-filwyr. Rydych yn nodi enghraifft y VC Gallery yn Noc Penfro, sy'n gwneud gwaith rhagorol. Ac yn ddiweddar, cynhaliwyd ymarfer cwmpasu gennym, a fu'n edrych ar bethau, i geisio edrych ar yr hyn roeddem yn ei wneud ar hyn o bryd a lle roedd hynny'n gweithio, ond hefyd i nodi rhai o'r bylchau, ac mae cyfeirio yn un ohonynt. Felly, wrth inni symud ymlaen yn awr yn y flwyddyn newydd, rwy'n gobeithio y gallwn ystyried y materion hynny a godwyd, i geisio llenwi rhai o'r bylchau mewn gwirionedd. Roedd y pontio a'r cyfeirio yn un o'r pethau roedd pobl—. Dim ond gwybod ble i fynd i gael y gwasanaethau cymorth hynny, a sut y mae pobl yn nodi'n well pa bobl sy'n gyn-filwyr, a sicrhau bod y gefnogaeth iawn yno, ar waith, yn y lle iawn—. Ond os yw'r Aelod am i mi ymchwilio i'r enghraifft benodol yn fwy manwl, cysylltwch â ni, ac rwy'n fwy na pharod i edrych ar hynny ar ei rhan.
4. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y materion diogelwch tân a ganfuwyd yn fflatiau cyfadeilad Celestia ym Mae Caerdydd? OAQ54825
Rwy'n ymwybodol o'r materion a wynebir yn yr eiddo hyn ac rwy'n deall bod cynlluniau ar waith i fynd i'r afael â materion a godwyd gan wasanaethau tân ac achub perthnasol a chan yr awdurdod lleol.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae fy nghais yn gymharol syml. Rwy'n deall i chi nodi, mewn cyfarfod pwyllgor, yr hoffech ymweld â'r bloc fflatiau, a byddai'r preswylwyr yn awyddus iawn i'ch croesawu ar ymweliad o'r fath. A allwch nodi p'un a fydd ymweliad o'r fath yn digwydd mewn gwirionedd, ac unrhyw adegau yn y dyddiadur y gallech fod wedi sicrhau eu bod ar gael fel y gallent gyfarfod â chi, oherwydd yn amlwg, mae'r materion yn bwysig? Gwnaed rhywfaint bach o gynnydd ar rai o'r materion, ond mae oddeutu 450 o breswylwyr pryderus iawn yn y bloc penodol hwnnw. Rwy'n derbyn bod cyfyngiadau ar yr hyn y gall y Llywodraeth ei wneud, ond gan eich bod wedi nodi parodrwydd i ymweld, a allech roi syniad p'un a allai'r ymweliad hwnnw ddigwydd cyn y Nadolig?
Mae'n annhebygol o ddigwydd cyn y Nadolig gan fod yr hysbysiadau gorfodi a roddwyd gan Wasanaeth Tân ac Achub De Cymru yn destun apêl. Ac yn anffodus, tra bo'r apêl yn mynd rhagddi, nid yw'n briodol i mi ymweld, rhag ofn y bydd Llywodraeth Cymru yn dod yn rhan o'r achos hwnnw. Cyn gynted ag y byddwn yn sicr beth sydd wedi digwydd i'r achos cyfreithiol, rwy'n fwy na pharod i ymweld, ond ni allaf wneud hynny tra bo'r ymgyfreitha presennol yn mynd rhagddo. Felly, rwy'n ymddiheuro. Hoffwn ymweld cyn gynted ag y bo modd i mi wneud hynny, felly cyn gynted ag y bydd hynny wedi'i gwblhau. Mae nifer o Aelodau wedi gofyn i mi fynd gyda hwy i ymweld ag etholwyr, felly fe drefnwn amser i mi wneud hynny.
Lywydd, mae'n rhaid i mi ddatgan buddiant, gan fy mod yn byw yn y cyfadeilad hwn fy hun, a gwn fod sawl Aelod Cynulliad yn byw yno, a'u staff. Yr hyn sy'n fy synnu i yw'r diffyg gwybodaeth llwyr am hyn. Ni chafwyd unrhyw ohebiaeth drwy'r blwch llythyrau yn y fflatiau nac unrhyw beth felly, ni chafwyd unrhyw hysbysiad ynghylch cyfarfodydd, ni chafwyd unrhyw newyddion ar wahân i'r hyn a glywaf yn y Siambr hon. Mae hyn yn codi cwestiwn ynglŷn â sut y caiff preswylwyr, gyda llawer ohonynt yn rhentwyr, eu hysbysu ynghylch yr hyn sy'n digwydd. Hoffwn glywed eich barn ar hyn, os gwelwch yn dda.
Mae'n ddyletswydd ar yr asiant cyfrifol i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi. Os nad yw hynny wedi bod yn digwydd, byddaf yn gofyn i swyddogion sicrhau eu bod yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau. Nid cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw hynny, ond rwy'n fwy na pharod i gysylltu â'r asiantau rheoli a sicrhau bod hynny'n digwydd.FootnoteLink
5. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i lochesi ar gyfer y digartref? OAQ54823
Gwnaf. Mae'r Llywodraeth hon yn mynd i'r afael â digartrefedd ar ei holl ffurfiau. Rydym am symud oddi wrth atebion dros dro fel llochesi brys, a thuag at gynorthwyo pobl yn gyflym i gael llety cynaliadwy, hirdymor. Fodd bynnag, yn y tymor byr, mae llochesi yn parhau i fod yn elfen allweddol wrth gefnogi pobl i ddod oddi ar y strydoedd.
Rwy'n cytuno ag egwyddor y polisi a rhan olaf eich datganiad—fod angen y llochesi brys dros dro hyn arnom o hyd. A gaf fi dynnu eich sylw at y bygythiad i loches nos y Wallich yng Nglan yr Afon? Fel y gwyddom, mae cysgu allan wedi cynyddu dros y tair blynedd diwethaf—yn ôl mesurau'r arolwg, beth bynnag, ymddengys bod hynny'n wir. Ac mae angen inni sicrhau bod arferion gorau, fel y rheini a ddatblygwyd gan y Wallich, sydd wedi bod yn gwasanaethu'r gymuned hon ers dros 20 mlynedd, yn cael eu cynnal cyhyd ag y bo'u hangen.
Ie, rwy'n cytuno â hynny. Nid wyf yn ymwybodol o'r amgylchiadau penodol, ond os yw David Melding am roi gwybod i mi am unrhyw amgylchiadau penodol, mae'n gwybod fy mod yn fwy na pharod i edrych arnynt. O'n safbwynt ni, rydym yn sicrhau bod cynghorau'n cael eu hariannu'n ddigonol, er mwyn gwneud yn siŵr fod pobl yn cael y lloches sydd ei hangen arnynt, fod yr allgymorth grymusol ar waith. A hoffwn ailadrodd yn y Siambr, rydym wedi dweud wrth gynghorau i wneud yr hyn y mae angen ei wneud ac y byddwn ninnau'n datrys y gwaith plymio wedyn. Felly, ni ddylai unrhyw gyngor fod yn dweud wrthych fod ganddynt anawsterau gweinyddol neu anawsterau eraill wrth wneud hynny; dylid darparu'r gwasanaethau, ac mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatrys unrhyw drefniadau talu neu drefniadau eraill wedi hynny, ac rydym hefyd wedi dweud na fydd unrhyw awdurdod ar eu colled o ganlyniad i gamu i'r bwlch hwnnw.
Weinidog, yn dilyn cwestiwn diweddar a ofynnais i'r Prif Weinidog, fe fyddwch yn gwybod ein bod bellach yn gweld pobl yn cysgu allan yn ein holl gymunedau, fel Cei Connah a Shotton yn fy etholaeth. Nawr, mae'n rhaid i mi ddweud, Weinidog, mai naw mlynedd o gyni Torïaidd, wedi'i dargedu'n fwriadol at y tlotaf a'r mwyaf agored i niwed, sydd wedi dod â ni at y pwynt hwn. Heb do uwch eu pennau, mae'n amhosibl i leisiau'r bobl hyn gael eu clywed. Felly, ein gwaith ni yn y Siambr hon, a siambrau ledled y DU, yw sefyll o'u plaid yn gadarn ac yn falch, a dyna'n union y dylem fod yn ei wneud.
Mae grant cymorth tai Llywodraeth Cymru yn darparu’r math o gymorth hyblyg i ni sy’n galluogi cynghorau i fynd i’r afael â’r lleoedd anoddaf, a sicrhau bod pobl yn dod o lochesi ac i mewn i atebion tai hirdymor. Weinidog, a fydd buddugoliaeth i Lafur yfory yn eich galluogi i ariannu'r grant hwn ymhellach a dechrau mynd i'r afael â realiti naw mlynedd o gyni Torïaidd?
Yn wir. Gobeithiwn yn fawr y bydd gennym Lywodraeth sy'n deall bod targedu gwariant at y tlotaf yn ein cymunedau yn fesur o warineb. Rydych yn mesur cymdeithas, nid yn ôl yr hyn y mae'n ei wneud i'r rhai cyfoethocaf sydd ar y brig, ond yn ôl yr hyn y mae'n ei wneud i'r rheini sydd ar y gwaelod sy'n agored i niwed ac yn dlawd. Mae'n rhaid i mi ddweud bod hanes y Llywodraeth hon yn siarad drosto'i hun, gyda nifer y bobl ar y strydoedd, gyda throsedd yn cynyddu, niferoedd llai o heddlu, anawsterau mewn ysbytai, a gwasanaethau awdurdodau lleol yn gwywo. Yn yr adroddiad 'Materion Tai', a gyflwynwyd i ni'n ddiweddar gan Cymorth Cymru, Cartrefi Cymunedol Cymru a Cymorth i Fenywod Cymru, mae'r adroddiad yn adrodd stori, fel y nododd Leanne Wood hefyd, am y pwysau ar wasanaethau sy'n wynebu galw cynyddol a llai o rym gwario. Roeddent yn cyfeirio at broblemau cysgu allan, rhoi terfyn ar droi pobl allan i fod yn ddigartref a mynd i'r afael ag effaith trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol. Dywedant y dylai'r rheini fod yn flaenoriaethau i unrhyw Lywodraeth sy'n werth ei halen. Byddai'r rhain yn flaenoriaethau i Lywodraeth Lafur ar lefel y DU, fel y Llywodraeth hon, fel y maent bob amser wedi bod yn flaenoriaethau i'r Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru.
6. Pa gynlluniau sydd gan Lywodraeth Cymru i adeiladu ar lwyddiannau'r gronfa tai arloesol? OAQ54838
Eleni, mae gormod o bobl wedi manteisio ar y rhaglen, ac mae hynny'n dangos gwir awydd ymhlith sector tai Cymru i adeiladu cartrefi mewn ffyrdd newydd a chreadigol. Felly, rwyf wedi darparu £20 miliwn i gefnogi busnesau bach a chanolig Cymru i gynhyrchu mwy o gartrefi yn arloesol, ac rydym yn ystyried cyllid pellach ar gyfer y rhaglen.
Ychydig wythnosau yn ôl, ymwelais ag Ebwy Court yn Nhrelái, fel rhan o ymchwiliad pwyllgor i dlodi tanwydd. Ac roedd y cartrefi un a dwy ystafell wely a oedd ar fin cael eu meddiannu gan y preswylwyr newydd yn enghraifft anhygoel o'r hyn y gellir ei wneud gyda chartrefi fframiau pren, wedi'u saernïo yn bennaf mewn ffatri. Cwblhawyd y prosiect hwn ddeufis cyn y dyddiad a ragwelwyd, a bydd y tai di-garbon, sy'n cael eu pweru drwy ynni ffotofoltäig a thyllau turio pympiau gwres o'r ddaear, yn darparu cartrefi fforddiadwy iawn i bobl. Roedd llawer o nodweddion cyffrous eraill hefyd, gan gynnwys y sied feiciau, a'r opsiwn i dyfu eu llysiau eu hunain.
Ond o ystyried llwyddiant y prosiectau hyn a pha mor boblogaidd y byddant, roeddwn yn awyddus i wybod pa lwyddiant, os o gwbl, a gawsoch yn perswadio'r chwe chwmni adeiladu tai mawr i roi'r gorau i adeiladu'r pethau dyddiedig, ugeinfed ganrif y maent yn parhau i'w hadeiladu, ac yn lle hynny, adeiladu'r cartrefi di-garbon hyn a fydd gymaint yn fwy addas i'r holl breswylwyr?
Ie, rwy'n cytuno'n llwyr. Mae'n eithaf posibl i adeiladwyr tai preifat adeiladu cartrefi sydd bron yn ddi-garbon. Agorwyd blwyddyn 2 ein rhaglen tai arloesol i gwmnïau preifat fel y gallent ddangos eu bod yn gallu gwneud hynny, ac maent wedi dangos, yn wir, y gallant wneud hynny, ac mae gennym nifer fawr o dai ledled Cymru, gyda chefnogaeth y rhaglen tai arloesol, sy'n dangos gwahanol ffyrdd o fod yn ddi-garbon. Mae gennym hefyd arddangoswyr ar gyfer adeiladu tai modiwlar, adeiladu tai yn gynaliadwy, defnyddio pren o Gymru, cadwyni cyflenwi Cymreig, dim carbon yn y gadwyn gyflenwi ac wrth ddymchwel y tai yn y pen draw—felly, tŷ sy'n ddi-garbon drwy gydol ei oes.
Byddwch wedi fy nghlywed yn sôn sawl gwaith am fy mhryderon ynghylch safon y cartrefi sy'n cael eu hadeiladu gan rai o'r cwmnïau adeiladu cartrefi preifat mawr, ac yn wir, mae gan lawer ohonynt gwsmeriaid sy'n bryderus iawn ac yn siarad yn uchel â hwy am hynny. Erbyn diwedd y flwyddyn nesaf gobeithio, byddwn wedi diwygio gofynion Rhan L ar gyfer adeiladwyr tai yng Nghymru. Mae tai cymdeithasol yn arwain yn hynny o beth ac yn gosod y safon, ond rwy'n gweithio'n galed i sicrhau ein bod yn cysoni safonau gan y credaf mai hynny sydd wir yn newid pethau. Felly, os gallwn basio rheoliadau drwy'r Senedd hon sy'n golygu ein bod yn gosod yr un safon ar gyfer pob math o ddeiliadaeth ar gyfer adeiladau newydd yng Nghymru, byddwn wedi gwneud cryn dipyn o gynnydd tuag at sicrhau bod ein rhaglen adeiladu tai ar gyfer y dyfodol yn ddi-garbon.
Rwy'n cytuno â'r pwyntiau a wnaed gan Jenny Rathbone. Ym maes cartrefi di-garbon, rwy'n credu y gall Cymru arwain yn y maes hwn os dymunwn. Weinidog, mae'r gronfa tai arloesol wedi galluogi Cymdeithas Tai Sir Fynwy i barhau i wneud eu gwaith rhagorol, yn datblygu dau safle tai arloesol yng Nghas-gwent, gan weithio mewn partneriaeth ag Ysgol Pensaernïaeth Cymru, a daw hyn ar ôl prosiect blaenorol yn fy etholaeth yn y Fenni.
Bydd datblygiad diweddaraf Cymdeithas Tai Sir Fynwy yn darparu ffordd hyblyg, gynaliadwy o fyw i bobl sy'n symud i gartrefi llai o faint a deiliaid tro cyntaf. Mae gan y gymdeithas dai hon y soniais amdani hanes o ddarparu tai arloesol cynaliadwy. Lle mae arferion da gan y gymdeithas dai hon yn digwydd mewn un rhan o Gymru, sut rydych yn sicrhau bod yr arferion da hynny'n cael eu harneisio? A chan mai canlyniad y gronfa rydych yn ei darparu ar gyfer cymdeithasau tai a chynghorau ledled Cymru yw'r arferion da hynny, sut rydych yn eu lledaenu ledled Cymru i sicrhau bod pobl o bob rhan o Gymru yn gallu elwa ohonynt?
Oes, mae sawl prosiect da. Ymwelais â'r prosiect cam-i-lawr yn ddiweddar iawn, a siaradais â gŵr a oedd yn byw yno ac a oedd yn hynod frwd ynglŷn â holl fanteision symud i dŷ llawer mwy cynaliadwy, gan gynnwys y gymuned o'i gwmpas. Felly, mae'n bwysig cofio mai cartrefi pobl yw'r rhain. Nid yw'n ymwneud ag adeiladwaith yr adeilad yn unig; mae'n ymwneud â'r gymuned o'u cwmpas hefyd. Felly, rwy'n cytuno ei fod yn brosiect diddorol a da iawn. Mae cofio'r sgyrsiau a gawsom yno'n gwneud i mi wenu.
Yr hyn rydym yn ei wneud, o ganlyniad i'r adolygiad o dai fforddiadwy, yw edrych ar y ffordd rydym yn defnyddio grantiau tai cymdeithasol yng Nghymru i hybu canlyniadau amrywiol, ac mae tai sydd bron yn ddi-garbon ac sy'n gynaliadwy yn hirdymor yn un ohonynt, a'r hyn y gallwn ei wneud i ddefnyddio ein dulliau i gynorthwyo cymdeithasau tai i adeiladu'r mathau o dai rydym am eu cael ar gyfer y dyfodol. Holl bwynt y rhaglen tai arloesol yw dadrisgio rhai o'r modelau mwy arloesol i weld a ydynt yn gweithio, ac os ydynt yn gweithio, eu rhoi ar waith ar raddfa fwy.
Felly, yn y gyfran nesaf hon o dai arloesol, rydym yn edrych i weld a allwn roi rhai o'r llwyddiannau ar waith ar raddfa fwy. Felly, mae'r rhaglenni y sonioch amdanynt yn ymwneud â gwaith adeiladu cymharol fach. Yr hyn rydym am ei weld nawr yw p'un a allwn wneud hynny ar safle o 175 o dai neu beth bynnag. Felly, y cam nesaf yw gwneud hynny ar raddfa ychydig yn fwy a gweld a allwn wneud hynny ar raddfa fwy yn gyffredinol, a bydd mwy nag un model ar gyfer hynny. Mae sawl un ohonynt wedi gweithio'n dda iawn. Felly, dyna ran nesaf ein rhaglen.
7. Pa gamau y mae'r Gweinidog yn eu cymryd i alluogi gweithwyr awdurdodau lleol a deiliaid swyddi i sefyll mewn etholiad ar gyfer yr awdurdod hwnnw? OAQ54830
Y mis diwethaf, cyflwynais y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru). Mae'r Bil hwn yn cynnwys darpariaethau i ddiddymu'r gwaharddiad sy'n atal y rhan fwyaf o weithwyr awdurdodau lleol rhag sefyll i gael eu hethol yn yr awdurdod y cânt eu cyflogi ynddo.
Diolch. Ym mis Mawrth, nododd y Gweinidog Hannah Blythyn AC yr anghysondeb nad yw pobl sy'n gweithio mewn llywodraeth leol yn gallu sefyll i gael eu hethol ar gyfer yr un awdurdod, ac y byddai hyn yn cael sylw yn y Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru). Nawr, yn ôl adran 24, mae unigolyn sydd mewn swydd neu gyflogaeth berthnasol wedi'u gwahardd rhag bod yn aelod o awdurdod lleol yng Nghymru, ond byddai modd iddynt gael eu hethol yn aelod wedyn. Ond ar hyn o bryd, er enghraifft, mae disgwyl i weithwyr awdurdodau lleol ymddiswyddo o'u swyddi ar unwaith er mwyn dechrau yn y swydd honno, ac mae hynny, heb os, yn atal athrawon, cogyddion ysgol a llawer o bobl eraill rhag gwneud hynny.
Nawr, mae sefyllfa'n bodoli ar hyn o bryd lle na allwch sefyll fel aelod etholedig os ydych yn darparu gwasanaeth i awdurdod lleol, fel hyfforddwr ffitrwydd neu hyfforddwr nofio, ac yn derbyn tâl gan yr awdurdod lleol hwnnw. Felly, pa ystyriaeth a roddwch i ddiwygio'r Bil fel y gallwn ddenu aelodau etholedig mwy amrywiol i'n hawdurdodau lleol?
Mae'r Bil yn gwneud dau beth. Mae'n cael gwared ar y cyfyngiad i grŵp cyfan o weithwyr awdurdodau lleol nad oes ganddynt unrhyw ran yn y broses wleidyddol—felly, gweithwyr ysgol ac ati. Mae'n cadw cap cyflog ar gyfer y rhai a gyflogir yng nghanol yr awdurdod lleol ac yn amlwg ar gyfer y rheini sy'n ymwneud â'r broses wleidyddol ar bwyllgorau cynghori a deiliaid swyddi statudol, ac ati. Ond i'r rheini sydd wedi'u gwahardd, mae'n caniatáu iddynt sefyll etholiad, heblaw ar gyfer swyddi o dan gyfyngiadau gwleidyddol, er mwyn bod yn glir—felly, sawl grŵp o bobl—ac mae'n rhaid i chi ymddiswyddo o'ch swydd flaenorol wrth gychwyn yn y swydd. Felly, gallwch gael eich ethol, gallwch ystyried eich sefyllfa ac yna gallwch ymddiswyddo. Mewn gwirionedd, mae'r Bil yn dweud bod eich ymddiswyddiad yn dod i rym ar unwaith, felly nid oes gennych unrhyw broblemau gyda chyfnodau rhybudd ac ati. Felly, golyga y gallwch gael eich ethol, ac yna, wrth ddechrau yn eich swydd etholedig, rhaid eich bod wedi ymddiswyddo. Felly, mae'n rhyddhau pobl i allu sefyll i gael eu hethol pan fyddant wedi'u cyflogi, gan y cytunaf yn llwyr â chi mai'r rheini sy'n darparu gwasanaethau awdurdodau lleol yw llawer o'r bobl sydd â'r diddordeb mwyaf yn y gwasanaethau hynny, ac mae'r cyfyngiad hwn wedi bod yn rhy gaeth o ran sicrhau amrywiaeth mewn llywodraeth leol.
8. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Chyngor Sir Caerfyrddin ynghylch rhoi hwb i adeiladu tai cyngor yn y sir? OAQ54833
Rydym yn siarad â phob un o’r 11 cyngor sydd â chyfrif refeniw tai, gan gynnwys sir Gaerfyrddin, am y gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i roi hwb i'r gwaith o adeiladu tai cyngor lleol ar raddfa fawr ac yn gyflym. Cyfarfodydd un i un yw'r rhain i helpu i ddarparu cefnogaeth bwrpasol i bob awdurdod unigol, ac mae'r trafodaethau gyda sir Gaerfyrddin wedi bod yn gadarnhaol iawn.
Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am ei hateb, ac rwy'n siŵr y bydd yn ymuno â mi i longyfarch sir Gaerfyrddin, gyda'u cynlluniau uchelgeisiol i adeiladu 900 o dai cyngor dros y 10 mlynedd nesaf, a fydd yn golygu eu bod bron â chyrraedd y targed, a gwn y bydd trafodaethau'r Gweinidog â hwy yn eu cynorthwyo i gynnwys y 100 tŷ ychwanegol o bosibl. Ond ar hyn o bryd, maent hefyd yn sicrhau bod dros 180 eiddo gwag hirdymor yn cael eu defnyddio unwaith eto, sy'n ffordd arall y gallwn weithio i ddarparu tai fforddiadwy. A all y Gweinidog ddweud wrthym a fydd Llywodraeth Cymru yn gallu ymrwymo mwy o arian i gyflymu'r rhaglen i allu defnyddio mwy o gartrefi gwag hirdymor unwaith eto ar gyfer pobl leol?
Rwy’n derbyn yn llwyr y bydd y Gweinidog, heb os, yn dweud wrthyf na all ymrwymo i unrhyw beth hyd nes y bydd yn gwybod beth yw ei chyllideb, ond tybed a all ymrwymo mewn egwyddor i fuddsoddi yn yr hyn a all fod yn ffordd effeithiol iawn o ddarparu tai fforddiadwy yn enwedig i gymunedau bach, lle nad ydych am gael mwy o adeiladau mawr efallai, ond mae gennych eiddo gwag.
Mewn egwyddor, yn sicr. Rydym wedi bod yn gweithio gyda sir Gaerfyrddin a nifer o awdurdodau eraill i wneud yn union hynny. Felly, mae ystod o gynlluniau ar waith: caffael eiddo newydd—felly, cyhyd â'u bod wedi'u hadeiladu i'r safonau cywir, gall yr awdurdod eu caffael. Rwyf am dalu teyrnged i Llinos yn Ynys Môn, mewn gwirionedd, sef yr un a roddodd y syniad yn fy mhen beth amser yn ôl bellach, gan iddi sôn am brynu eiddo ym Miwmares, rwy'n credu, lle mae prinder mawr o dai cymdeithasol. Daeth un ar y farchnad, ac roeddent yn gwybod bod ganddynt bobl a oedd yn chwilio am dŷ cymdeithasol yno, ac fe'i prynasant. Felly, mae'n dangos bod modd gwneud hyn gydag arweinydd cyngor arloesol, a hoffwn dalu teyrnged iddi am roi'r syniad hwnnw yn fy mhen yn y lle cyntaf.
Felly, rydym yn awyddus iawn i awdurdodau lleol ystyried pob ffordd o wneud hynny—felly, prynu eiddo presennol, prynu adeiladau newydd, sicrhau bod eiddo gwag yn cyrraedd y safon a'u defnyddio unwaith eto. Mae gennym ddau gynllun ar gyfer hynny, un gyda fy nghyd-Weinidog Lee Waters—nid yw yn y Siambr ar hyn o bryd—lle rydym yn rhoi cymysgedd o fenthyciad a grant i bobl sydd â thai is na'r safon na ellir byw ynddynt ar hyn o bryd—efallai eu bod wedi'u hetifeddu neu beth bynnag—i sicrhau ei fod yn cyrraedd y safon. Ceir rheolau ynghylch pa mor hir y mae'n rhaid i chi fyw ynddo. Rydym hefyd yn eu hannog i roi'r tai hynny i'r awdurdod lleol i'w gosod ar rent cymdeithasol am bum mlynedd. Amlinellais y cynllun hwnnw yn ddiweddar yn y Siambr. A'r hyn rwyf am ei ddweud yw bod unrhyw syniadau eraill—felly, unrhyw syniadau eraill i wella'r stoc tai cymdeithasol, rydym yn fwy na pharod i edrych arnynt ac rwy'n mawr obeithio y byddwn yn gallu eu cefnogi gydag arian ac arbenigedd, gorchmynion prynu gorfodol a phopeth arall.
Fel Helen Mary, rwy'n croesawu'r ymgyrch i adeiladu mwy o gartrefi fforddiadwy yn sir Gaerfyrddin, ond roeddwn yn awyddus i drafod mater dosbarthu gyda chi. Oherwydd edrychais ar y map o ble maent wedi adeiladu cartrefi yn ystod yr ychydig flynyddoedd diwethaf a ble maent yn bwriadu adeiladu llawer o'r cartrefi hyn, a tybed a allech roi amlinelliad i ni o ba ganllawiau rydych yn eu rhoi i gynghorau sir er mwyn sicrhau bod gennym gymunedau digon cymysg yn y pen draw, gan fod gennym lawer o drefi a phentrefi llai sy'n cynnwys cryn dipyn o gartrefi newydd, ond nifer anghymesur o isel o gartrefi awdurdodau lleol neu gartrefi fforddiadwy sy'n cael eu hadeiladu. Ac felly, yn y pen draw, mae gennych gymuned anghytbwys lle mae llawer o bobl yn dod i mewn iddi heb fod ganddi'r gymysgedd go iawn honno o bobl sydd eu hangen arnoch i sicrhau cymunedau cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
Mae 'Polisi Cynllunio Cymru' wedi newid—yr adeg hon y llynedd, mewn gwirionedd—i roi pwyslais ar greu lleoedd, ac mae adeiladu cymunedau cymysg yn rhan fawr o greu lleoedd—felly, cymuned gymysg gyda llwyth o ddeiliadaethau cymysg. Rydym am annog pobl leol i aros yn eu cymunedau lleol—rydym yn awyddus iawn i archwilio gwahanol ffyrdd o sicrhau bod trefniadau deiliadaeth gymysg ar waith: rhannu ecwiti, rhentu i brynu, modelau cydweithredol ac ati. Felly, rydym yn fwy na pharod i weithio gydag awdurdodau lleol i gyflwyno ystod eang o'r pethau hynny.
A hefyd—rwy'n ceisio peidio â gwneud hyn yn wleidyddol, ond rwyf am ddweud ein bod wedi cael tipyn o ergyd, oherwydd, ym mis Hydref, cynyddodd Trysorlys y DU gyfradd sylfaenol y Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus o 1.8 y cant i 2.8 y cant, ac mae hynny'n ei gwneud yn llawer anos i'r awdurdodau fenthyca ac i wasanaethu'r benthyciadau roeddem wedi'u cynllunio ar eu cyfer. Felly, os oes gennych unrhyw ddylanwad o gwbl, os gallech sicrhau eu bod yn adolygu hynny, gan fod hynny wedi dod yn annisgwyl ac wedi cael effaith wirioneddol ar allu rhai o'n cynghorau i gynllunio eu rhaglen adeiladu ar gyfer y dyfodol. Felly, nid wyf yn croesawu hynny o gwbl. Ond fel y dywedais wrth Helen Mary yn awr, rydym yn cefnogi pob un o'r 11 cyngor yng Nghymru sydd â stoc dai wrth gefn i ddatblygu cartrefi cymdeithasol newydd ar raddfa fawr ac yn gyflym yn y lle iawn—y cartref iawn yn y lle iawn ar gyfer y bobl iawn ar yr adeg iawn.
Ac yn olaf, cwestiwn 9—Darren Millar.
9. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella safonau diogelwch tai Cymru? OAQ54826
Rwy'n synhwyro thema heddiw. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddatblygu pecyn cynhwysfawr o ddiwygiadau deddfwriaethol i wella diogelwch tai yng Nghymru. Rydym eisoes wedi gwneud gwelliannau i'r system ddiogelwch adeiladau gyfredol drwy gyflwyno diwygiadau i reoliadau adeiladu a fydd yn gwahardd y defnydd o gladin llosgadwy ar adeiladau preswyl uchel.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Un maes lle gallem roi mwy o gamau ar waith, yn fy marn i, yw mewn perthynas ag ansawdd llety rhent. Yn amlwg, mae gennym safon ansawdd tai Cymru, sy'n beth calonogol iawn yma yng Nghymru, ond un o'r llofruddion distaw, llofrudd anweledig, sy'n amlwg yn lladd pobl yng Nghymru ac mewn rhannau eraill o'r DU, yw carbon monocsid. Yn anffodus, nid oes gan lawer o gartrefi synwyryddion carbon monocsid cymharol rad lle mae offer sy'n defnyddio nwy yn bresennol. Pa gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r llofrudd distaw ac anweledig hwn fel y gallwn fod yn sicr fod pobl, yn enwedig y rheini mewn llety rhent, yn cael eu diogelu rhagddo?
Bydd Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016, a basiwyd gan y Senedd hon yn ôl bryd hynny, pan fydd ar waith, yn ei gwneud yn ofynnol i landlordiaid sicrhau bod eu hannedd yn addas i bobl fyw ynddi. Mae'n ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru osod rheoliadau ar gyfer pennu a yw adeilad yn addas i bobl fyw ynddo, ac mae hynny'n cynnwys gofyniad i gael larymau carbon monocsid a larymau mwg sy'n gweithio a phrofion diogelwch trydanol mewn unrhyw dŷ yn y sector rhentu preifat. Felly, mae'r Bil eisoes yn cynnwys hynny. Rydym wrthi'n rhoi'r Bil hwnnw ar waith. Pan ddaw'n weithredol, bydd y drefn honno'n weithredol hefyd.
Diolch i'r Gweinidog am yr atebion hynny.
Ni dderbyniwyd unrhyw gwestiynau amserol heddiw.
Felly, y datganiadau 90 eiliad sydd nesaf, ac mae'r datganiad cyntaf gan Helen Mary Jones.
Diolch yn fawr, Lywydd. Bydd yr Aelodau’n gyfarwydd â’r ddau sefydliad yr hoffwn dynnu sylw atynt yn y datganiad hwn heddiw: Urdd Gobaith Cymru, wrth gwrs, y sefydliad ieuenctid ag aelodaeth wirfoddol mwyaf yn Ewrop, a’r elusen ddigartrefedd ieuenctid Llamau. Ar 19 a 18 Rhagfyr, bydd canolfan yr Urdd yng Nghaerdydd yn agor ac yn darparu llety ac yn gweini cinio Nadolig i 240 o bobl ifanc rhwng 17 a 24 oed sy'n ymwneud â mentrau Llamau. Efallai fod y bobl ifanc hyn yn symud o un soffa i'r llall, mewn llety ansefydlog, efallai'n ceisio gadael perthynas gamdriniol. Mae llawer ohonynt yn wynebu gwahaniaethu ac mae rhai mewn perygl o ddod yn gwbl ddigartref y Nadolig hwn. Mae'n ddigon posibl mai eu Nadolig gyda'r Urdd yw'r unig Nadolig y byddant yn ei gael.
Wrth gwrs, bydd yr Aelodau'n gwybod mai cred ganolog Llamau yw na ddylai unrhyw unigolyn ifanc na menyw agored i niwed orfod bod yn ddigartref yng Nghymru—dyhead rwy'n siŵr fod pob un ohonom yn ei rannu, ac rwy'n falch iawn o weld yr Urdd yn gweithio mewn partneriaeth â Llamau i gefnogi'r bobl ifanc agored i niwed hyn. Mae'r Urdd eu hunain yn darparu adnoddau ar gyfer y cinio a'r llety, ond maent yn brysur yn casglu anrhegion i bobl ifanc, a chafwyd rhai rhoddion hael iawn. Er enghraifft, mae Cymdeithas Bêl-droed Cymru wedi rhoi crys i'r holl bobl ifanc sy'n mynychu. Ond maent yn dal i chwilio am fwy o roddion i wneud y ddau ddigwyddiad yn wirioneddol arbennig, a bydd yr Aelodau wedi derbyn e-bost o fy swyddfa yn gofyn am unrhyw gyfraniadau y gallwch eu rhoi ar gyfer rhoddion priodol. Mae amser o hyd i ddarparu'r rheini, ac yn wir, byddem yn croesawu rhoddion gan aelodau o staff hefyd. Byddaf yn casglu rhoddion yn y swyddfa tan ddechrau'r wythnos nesaf, felly os oes gan unrhyw un unrhyw beth y gallant ei rannu, byddem yn ddiolchgar tu hwnt.
Bydd yr Aelodau hefyd wedi cael eu gwahodd i fynychu lansiad ffurfiol y bartneriaeth, sydd i'w gynnal—. Un o'r mynychwyr fydd ein Prif Weinidog. Mae'n digwydd ddydd Mercher 18 Rhagfyr, felly bydd llawer ohonom wedi dychwelyd i'n hetholaethau, ond os oes unrhyw un o gwmpas am 11 o'r gloch yng Nghaerdydd ar y diwrnod hwnnw, ewch i ganolfan yr Urdd a llongyfarch y ddau sefydliad arbennig iawn hyn ar eu partneriaeth newydd ac arbennig iawn.
Suzy Davies.
A gaf fi ddweud ei bod yn bleser gennyf atgoffa'r Siambr fod 18 Rhagfyr yn nodi deugain mlynedd ers mabwysiadu Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Pob Math o Wahaniaethu yn Erbyn Menywod, CEDAW? Bil hawliau i fenywod yw'r confensiwn, ac mae'n cynnwys popeth o hawliau menywod i gymryd rhan mewn bywyd gwleidyddol, i gael yr hawl i'r un cyfleoedd gwaith â dynion o ran cyflogau cyfartal, dyrchafiad ac amodau gwaith, yn ogystal â hawliau menywod a merched yng nghefn gwlad i gael mynediad cyfartal at wasanaethau cyhoeddus.
Yn 2018, cyhoeddodd a chyflwynodd y Rhwydwaith Cydraddoldeb Menywod, sef WEN, adroddiad i'r Cenhedloedd Unedig ar CEDAW, yn tynnu sylw at faterion allweddol a godwyd gan aelodau WEN ledled Cymru. Cododd y materion hynny bryderon ynghylch diffyg menywod du a menywod o leiafrifoedd ethnig yn y Siambr hon, er enghraifft; yr awgrym o dargedau ar gyfer cynrychiolaeth 50:50 mewn gwleidyddiaeth; sefydlu drws i ddemocratiaeth neu gronfa mynediad at swyddi etholedig i sicrhau bod mwy o ferched anabl, LHDT a menywod du a menywod o leiafrifoedd ethnig yn cymryd rhan mewn gwleidyddiaeth ar bob lefel; ac wrth gwrs, mynd i’r afael â phris gofal plant i fenywod, ymhlith pethau eraill.
Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i holl Aelodau'r Cynulliad sy'n parhau i ddangos eu cefnogaeth i ymgorffori confensiwn CEDAW yng nghyfraith Cymru, ac sy'n ymdrechu i godi ymwybyddiaeth o'r materion fel y gallwn amddiffyn a gwella hawliau menywod, gyda'r nod o ddod yn Gymru sy'n rhydd o wahaniaethu ar sail rhywedd. Diolch.
Caroline Jones.
Diolch, Llywydd. Rai wythnosau yn ôl, cynhaliodd Sefydliad y Merched Cwm Brombil ddigwyddiad i Age Connects Castell-nedd Port Talbot yn Abaty Margam, fel rhan o ymgyrch Sefydliad y Merched i greu cysylltiadau er mwyn lleddfu unigrwydd. Rwy'n falch o fod yn aelod o Sefydliad y Merched Cwm Brombil.
Yn ogystal â gweithio'n galed i fynd i'r afael ag unigrwydd ac unigedd, mae'r menywod yng Nghwm Brombil yn gweithio hefyd i leihau effaith dementia, codi arian ar gyfer elusennau a thynnu sylw at waith ein milwyr. Cododd eu bore coffi diweddar dros £700 ar gyfer canolfan gofal canser Maggie yn Abertawe. Aethant ati hefyd i greu rhaeadr pabïau ac arddangosfa yn Abaty Margam yn anrhydeddu aberth dynion a menywod lleol.
Nid grŵp o ferched sy'n gwneud dim mwy na rhannu ryseitiau bara brith yw Sefydliad y Merched. Rydym yn mynd ati'n frwd i fynd i'r afael â phroblemau cymdeithas fodern, o newid hinsawdd i ymelwa'n annheg ar ffermwyr. Does neb yn hyrwyddo newid fwy na Sefydliad y Merched. Mae Sefydliad y Merched Cwm Brombil yn arwain y frwydr yn y de-orllewin, ac rwy'n falch iawn o fod yn aelod a gallu eu galw nhw'n ffrindiau. Diolch yn fawr.
Mae'r cynnig o dan yr eitem nesaf, eitem 5, wedi'i dynnu yn ôl.
Felly, yr eitem nesaf yw dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) ar lefelau staff nyrsio. Dwi'n galw ar Helen Mary Jones i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7215 Helen Mary Jones, Dai Lloyd, David Rees
Cefnogwyd gan Delyth Jewell
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad Coleg Nyrsio Brenhinol Cymru, Cynnydd a Her: Gweithredu Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016.
2. Yn nodi bod mwy o nyrsys yn gadael y GIG nag sy'n ymuno.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i nodi sut y bydd GIG Cymru yn cynyddu'r cyfleoedd i weithio'n hyblyg fel rhan o strategaeth genedlaethol ar gyfer cadw nyrsys.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n falch iawn o wneud y cynnig hwn ar ran Dai Lloyd, David Rees a minnau. Mae Delyth Jewell yn ei gefnogi, ond rwy'n siŵr y byddai wedi cael cefnogaeth gan fwy o Aelodau ar draws y Siambr pe baem wedi cael mwy o amser i'w gyflwyno.
Hoffwn ganmol adroddiad y Coleg Nyrsio Brenhinol i'r Siambr hon. Mae'n cynnwys ymchwil gadarn. Mae'n tynnu sylw at y cynnydd ar weithredu'r Ddeddf, lle mae hynny wedi'i gyflawni, ond mae hefyd yn galw, yn cwestiynu, lle nad yw pethau'n mynd cystal ag y dylent. Mae'n nodi cyfres o gwestiynau ar gyfer pob bwrdd iechyd mewn perthynas â gweithredu’r Ddeddf, a naw argymhelliad manwl ar gyfer Llywodraeth Cymru sy'n ymdrin â nifer o faterion, gan gynnwys yr angen i fonitro'r gweithredu yn fwy cadarn, mwy o gefnogaeth i nyrsys rheng flaen sy'n codi pryderon ynghylch gweithredu'r ddeddfwriaeth yn effeithiol, a datblygu llwybr TG cenedlaethol i gefnogi'r gweithredu.
Mae argymhellion yr adroddiad hefyd yn canolbwyntio ar gadw staff, ac mae hyn, wrth gwrs, wedi'i adlewyrchu yn ein cynnig. Nawr, rydym wedi, ac wrth gwrs, mae'n rhaid i ni gydnabod bod y Gweinidog wedi gwneud rhywfaint o gynnydd mewn perthynas â recriwtio nyrsys a chyda'r gweithlu nyrsio—mwy o leoliadau hyfforddi, er enghraifft. Ond mae cadw staff yn parhau i fod yn broblem ddifrifol iawn, ac mae'r adroddiad hwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i'w gwneud yn ofynnol i bob bwrdd iechyd lunio strategaeth gadw staff fel rhan o strategaeth gadw staff genedlaethol. Mae'n rhaid i'r strategaeth gadw staff genedlaethol honno, dywedant, gynnwys ymagwedd genedlaethol tuag at weithio hyblyg.
Mae'n rhaid inni gael dull hirdymor ar gyfer cadw ein staff nyrsio. Rydym wedi bod yn sôn ers 20 mlynedd, hyd y gwn i, am yr angen am weithio hyblyg. Wrth gwrs, mae heriau i'w cael, ac mae'n bwysig iawn sicrhau bod lleoliadau nyrsio wedi'u staffio'n effeithiol. Ond gweithio hyblyg yw'r norm yn y rhan fwyaf o broffesiynau bellach, ac nid yw byrddau iechyd lleol wedi gweithredu ac mae angen arweinyddiaeth genedlaethol arnom. Mae arferion da i'w cael, wrth gwrs. Ond unwaith eto, rydym yn wynebu'r broblem nad yw arferion da yn cael eu rhannu'n effeithiol.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Nid wyf am gymryd gormod o amser yn y ddadl hon, Ddirprwy Lywydd, gan fod yr achos wedi'i nodi'n glir yn yr adroddiad, a gwn ei fod ar gael i'r holl Aelodau. Ond rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog, yn ei ymateb, yn derbyn, er bod gennym, fel y dywed y cynnig, fwy o nyrsys yn gadael ein GIG nag sy'n ymuno ag ef, yn aml yn mynd i weithio mewn asiantaethau ac yn dychwelyd mewn gwirionedd i'r un lleoliadau ag y maent wedi'u gadael, er bod hynny'n digwydd—ac mae'r nyrsys yn gwneud hynny am eu bod yn cael gwell telerau ac amodau, ac yn bwysig iawn, hyblygrwydd—a thra bod gennym 1,600 amcangyfrifedig o swyddi nyrsio heb eu llenwi, mae'n argyfwng ar hyn o bryd yn ein gweithlu nyrsio. Rwy'n gobeithio'n arbennig y bydd y Gweinidog yn derbyn yr angen am strategaeth genedlaethol ar gyfer cadw nyrsys fel y gellir cyflwyno'r dulliau da, lle maent yn gweithio, ar raddfa ehangach, a gallwn sicrhau nad ydym yn hyfforddi'r aelodau staff gwerthfawr hyn ac yna'n eu colli.
Bydd yr Aelodau wedi derbyn gohebiaeth gan nyrsys yn eu hetholaethau. Credaf fod pob un ohonom wedi cael nifer o gardiau post yn ein hannog i gefnogi'r cynnig hwn a chefnogi'r galwadau am weithredu yn yr adroddiad. Maent yn gofyn i ni gefnogi, ymhlith pethau eraill, strategaeth gadw staff genedlaethol, ac mae angen hyn, oherwydd fel y dywedodd un nyrs o Lanelli mewn cerdyn post ataf, mae angen inni gadw staff, lleihau gorweithio ymhlith staff, ac yn anad dim, cadw cleifion yn ddiogel.
Cymeradwyaf y cynnig hwn i'r Senedd. Rwy'n edrych ymlaen at y ddadl, at ymateb y Gweinidog i'r cynnig ac at ymateb David Rees i'r ddadl. Rwy'n cymeradwyo'r cynnig i'r Senedd.
Hoffwn ddiolch i'r Aelodau sydd wedi cyflwyno'r ddadl hon heddiw oherwydd rwy'n credu ei bod yn amserol dros ben. Rwy'n credu ei bod yn werth ailadrodd un neu ddwy o'r ffeithiau: fod nyrsys yng Nghymru, bob wythnos, yn rhoi oriau ychwanegol i'r GIG sy’n cyfateb i 976 o nyrsys amser llawn. Os ydych yn ei ddweud yn gyflym, nid yw'n golygu cymaint â hynny, ond mewn gwirionedd, os ydych yn arafu ac yn meddwl am y peth mewn gwirionedd, rydych yn siarad am 976 o gyrff ychwanegol y mae ein nyrsys yn eu rhoi o'u gwirfodd eu hunain, oherwydd bod ganddynt ymrwymiad i'r ddyletswydd y maent yn credu bod yn rhaid iddynt ei chyflawni. Felly hoffwn ddiolch i'r holl nyrsys hynny am bopeth y maent yn ei wneud.
Rydym yn gwybod bod GIG Cymru yn dibynnu’n fawr ar barodrwydd nyrsys i weithio goramser, ond wrth gwrs mae gwaith diddiwedd a goramser diddiwedd yn creu straen diddiwedd, ac yn lle cymell ein nyrsys i aros, yn lle edrych ar sut y gallem liniaru hyn, un o'r pethau rwy’n eu gweld yn arbennig o od yw bod GIG Cymru yn ceisio annog nyrsys i beidio â gadael drwy fesurau fel gwrthod llogi nyrsys asiantaeth sydd hefyd yn gweithio i fyrddau iechyd neu ymddiriedolaethau, neu ganiatáu i nyrsys symud o gwmpas. Felly rydych yn gweld y cymhelliant gwrthnysig hwn lle gallai fod gennych nyrs, er enghraifft yn Hywel Dda, sydd angen ennill ychydig o oriau ychwanegol ond nid yw’n gallu gweithio’r oriau ychwanegol hynny yn Hywel Dda. Mae'n rhaid iddo ef neu hi fynd dros ffin i fwrdd iechyd arall lle maent wedi'u cofrestru i weithio’r oriau ychwanegol hynny. I mi, mae hynny'n ymddangos yn hollol afresymegol, yn enwedig pan fo’r bwrdd iechyd y maent yn ei adael fel arfer yn talu hyd yn oed mwy o arian i nyrsys asiantaeth. Mae’n gymaint gwell talu goramser i bobl i gydnabod y cyfraniad y maent yn ei wneud, er mwyn caniatáu iddynt barhau i weithio yn y man lle maent yn teimlo fwyaf cyfforddus.
Mae pryder ynghylch hyfforddi, ond rwyf am adael eraill i siarad am hynny. Roeddwn eisiau cyffwrdd â'r ffaith mai ychydig iawn o nyrsys cofrestredig sydd gennym yn y gweithlu cartrefi gofal yng Nghymru, a chredaf fod hwn yn faes sy'n gwbl hanfodol. Nid yn unig nad oes gennym lawer iawn o nyrsys mewn cartrefi gofal—ac wrth i fwy a mwy o gartrefi gofal ymdrin â phobl â chyflyrau mwy a mwy cymhleth, mae mwy o angen nyrsys, mwy o angen y gweithwyr meddygol proffesiynol hynny—nid yn unig nad oes gennym ddigon ohonynt, nid ydynt hyd yn oed yn cael yr un faint o arian ag y byddai nyrs mewn ysbyty yn cael ei thalu, neu’r un faint o arian ag y byddai nyrs yn y gymuned yn cael ei thalu, nad yw mewn cartref gofal. Unwaith eto, rwy'n credu bod yn rhaid i ni ddweud, os ydych wedi cyrraedd y lefel hon yn eich gyrfa nyrsio, os oes gennych gymaint o hyfforddiant a hyn i’ch enw, os ydych yn y band hwn, ym mha bynnag sefyllfa y byddwch ynddi, dylai fod llawer mwy o degwch o ran y cyflog a delir i chi.
Felly, Weinidog, roeddwn yn meddwl tybed a allech roi unrhyw wybodaeth inni am yr hyn a allai gael ei ystyried o ran y ddau brif gwestiwn—cwestiwn 1: sut rydym yn cadw nyrsys ac yn talu goramser iddynt i wneud y goramser yn y bwrdd iechyd y maent yn perthyn iddo yn hytrach na'u gorfodi i deithio ac ychwanegu at eu straen, gydag oriau teithio i gyrraedd bwrdd iechyd arall fel y gallent ennill yr arian ychwanegol hwnnw? A chwestiwn 2: sut rydym yn sicrhau nad yw nyrsys mewn cartrefi gofal dan anfantais annheg?
Yn olaf, Ddirprwy Lywydd, roeddwn eisiau siarad am weithio hyblyg, oherwydd mae adroddiad diddorol iawn wedi cael ei gynhyrchu ar gyfer Ymddiriedolaeth GIG Llundain o'r enw 'Timewise' ac mae'n sôn am gynnwys hyblygrwydd mewn amgylchedd sy'n seiliedig ar sifftiau, a sut yr effeithir arno gan amrywioldeb neu ragweladwyedd yr amserlen, faint o fewnbwn neu reolaeth sydd gan unigolyn dros yr amserlen honno, a faint o rybudd ymlaen llaw. Ac mae gweithio hyblyg yn wirioneddol allweddol. Mae angen i GIG Cymru ddod o hyd i ffordd o fynd i'r afael â'r tair elfen os ydym am ddenu a chadw'r staff rydym eu hangen i weithio ein sifftiau.
Roedd y pum prif achos o anfodlonrwydd swydd i feddygon a nyrsys ysbytai yn y DU yn dweud yn glir iawn mai cydbwysedd gwaith a bywyd a ddaeth yn gyntaf i nyrsys o dan 35 oed—yn llawer pwysicach na chyflog—ac yn ail i nyrsys 36 oed a hŷn. Roedd yn ail ar ôl cyflog. Gallai gweithio hyblyg fod yn ffordd ymarferol o ymlithro tuag at ymddeoliad, a gallai helpu i gadw staff profiadol yn eu gwaith yn hwy.
Roedd y prosiect a gynhaliwyd mewn dau ysbyty yn Lloegr yn 2017 yn edrych ar greu proses amserlennu sy’n seiliedig ar dimau, ac edrychai nid yn unig ar ofal plant, ond ar yr holl anghenion cydbwysedd gwaith a bywyd, a chydweithiodd eu tîm arweiniol, nid yn unig ar gynhyrchu rota, ond hefyd ar gyfathrebu a thrafod gyda grwpiau. Felly, Weinidog, credaf y gallai gwella cydbwysedd gwaith a bywyd a mynediad at weithio hyblyg gael effaith uniongyrchol ar gadw gweithwyr, yn enwedig gweithwyr proffesiynol clinigol iau y mae eu disgwyliadau yn wahanol iawn i ddisgwyliadau’r genhedlaeth hŷn. Felly, hoffwn ddeall pa gamau pendant y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella cydbwysedd gwaith a bywyd, a hoffwn eich annog i edrych ar y treial hwn, y cynllun peilot hwn, a gynhaliwyd yn Llundain, oherwydd mae wedi bod yn llwyddiannus, ac efallai y bydd yna wersi cadarnhaol y gallwn eu dysgu i helpu i gadw'r bobl hynod werthfawr a gweithgar hyn yn ein GIG.
A allaf i longyfarch Helen Mary Jones am ddod â'r ddadl yma ynghyd ac am ei hagoriad bendigedig sy'n olrhain yr holl benderfyniadau sydd angen eu gwneud? Gaf i hefyd longyfarch y Coleg Nyrsio Brenhinol ar yr adroddiad bendigedig yma 'Gweithredu Deddf Lefelau Staff Nyrsio (Cymru) 2016: Cynnydd A Her'? Mae yna gynnydd wedi bod, fel y dywedodd Helen, ond erys sawl her. Cawsom ni'r ddadl yr wythnos diwethaf ar adroddiad y pwyllgor iechyd ar nyrsio a nyrsio cymunedol, ac mae nifer o ffactorau sy'n cyd-dorri, wrth gwrs. A allaf i hefyd dalu teyrnged i waith y grŵp amlbleidiol ar nyrsio a bydwreigiaeth o dan gadeiryddiaeth David Rees yn hyn o beth, sydd wedi arwain y ffordd ac a wnaeth arwain y ffordd yn wir at yr adroddiad a wnaeth y pwyllgor iechyd ei gyhoeddi a chawsom ni drafodaeth yr wythnos diwethaf?
Wrth gwrs, rydym ni i gyd yn gwybod am yr heriau yn y gwasanaeth iechyd, yn enwedig o ochr y nyrsio. Does yna ddim digon o nyrsys, yn y bôn yn y lle cyntaf. Mae yna swyddi gwag. Mae angen dyblu, gallwch chi ddweud, nifer y nyrsys sydd dan hyfforddiant. Mae yna system o dan straen, ac mae ein staff ni o dan straen. Mae ein nyrsys ni o dan straen ac yn gorweithio ac yn mynd i ffwrdd ac yn colli gwaith achos mae yna ormod o straen yn eu bywydau nhw. Wrth gwrs, mae yna ofynion newydd hefyd, mae yna ddatblygiadau meddygol newydd, ac mae yna ofyn mwy o'n nyrsys ni, yn enwedig yn y gymuned, sydd nawr yn trin a thrafod pobl yn ein cymuned a oedd yn arfer bod ar ein wardiau ni yn yr ysbyty, ond nawr sy'n aros adref.
Mae hefyd angen gwarchod y sawl sy'n chwythu'r chwiban am bryderon yn y system. Dydyn ni dal ddim yn gwneud hynny'n dda iawn, ac fel y mae eraill wedi'i ddweud, mae angen bod yn llawer mwy hyblyg efo rotas ac oriau sifft ac ati i wneud yn siŵr bod nyrsys yn aros yn ein gwasanaeth iechyd ni. Ac ie, mae angen gweithredu'r ddeddfwriaeth yma, y ddeddfwriaeth lefelau staff nyrsio. Allaf i'ch atgoffa chi pam oedd angen y ddeddfwriaeth yma yn y lle cyntaf? Wel, achos bod y gyfraith yma yn gwarchod cleifion. Mae'r ymchwil wedi dangos, fel mae'r adroddiad yma'n dweud, bod lefelau staffio nyrsio gwael wedi arwain at gynnydd o hyd at 26 y cant i farwoldeb o'i gymharu â wardiau lle mae lefelau staff gwell. Hynny yw, dim digon o nyrsys yn arwain at bobl yn marw. Mae pob cynnydd o 10 y cant i nifer y nyrsys efo gradd mewn ysbyty yn gysylltiedig efo gostyngiad o 7 y cant mewn marwolaethau cleifion. A hefyd, wrth gwrs, yn naturiol, nid oes angen lefelau diogel o staff mewn rhai wardiau ysbyty yn unig, mae eu hangen ym mhob sefydliad iechyd, yn y gymuned, yn nyrsio plant, ac ati, ddim jest yn y wardiau arbenigol sydd gyda ni rŵan.
Ond yn benodol mae'r gweithlu nyrsio yng Nghymru yn wynebu argyfwng cenedlaethol, fel mae'r adroddiad yma yn ei gwneud hi'n glir. Mae yna niferoedd uchel o swyddi gwag, fel dwi wedi cyfeirio eisoes—o leiaf rhyw 1,600 yn ôl amcangyfrif yr RCN o swyddi gwag nyrsio yng Nghymru—wedi'i ategu gan brinder mawr yn y sector cartrefi gofal, fel mae Angela Burns wedi olrhain eisoes.
Felly, mae yna her sylweddol, ac fel mae pwynt y ddadl a'r cynnig yma'n ei ddweud, mae angen hyblygrwydd yn y tymor byr er mwyn inni allu cadw'r staff. Allwn ni sôn bod angen hyfforddi rhagor o staff nawr ac yn y dyfodol, ond mae angen cadw'r rheina sydd gyda ni ar ein wardiau ac yn y gymuned ar hyn o bryd. Mae angen i Lywodraeth Cymru, felly, nodi sut y bydd y gwasanaeth iechyd yng Nghymru yn cynyddu'r cyfleoedd i weithio'n hyblyg yn rhan o'r strategaeth genedlaethol i gadw'r nyrsys, fel mae Helen ac Angela eisoes wedi'i ddweud. Achos mae yna lawer o nyrsys yng Nghymru yn gyfrifol am bethau eraill yn eu bywydau. Maen nhw angen yr hyblygrwydd yna, yn ogystal ag y maen nhw angen y swydd a'r arian. Maen nhw'n gyfrifol am blant ifanc, am rieni hŷn, ac yn dewis gweithio i gyflogwr lle maent yn gallu rheoli eu horiau gwaith. Dyna pam maen nhw'n mynd i weithio i asiantaethau preifat ac ati. Mae'n rhaid i'r gwasanaeth iechyd fod yn gallu cyfleu'r un un math o ddarpariaeth, fel ein bod ni'n gallu cadw nyrsys yn ein gwasanaeth iechyd gwladol. Diolch yn fawr.
Diolch i Helen, Dai a David am gyflwyno'r ddadl hon. Fel rwyf wedi'i ddweud sawl gwaith o'r blaen, nyrsys yw asgwrn cefn ein GIG. Yn anffodus, mae Llywodraethau olynol wedi methu recriwtio a chadw digon o nyrsys, ac mae gan Gymru hanes gwael o gynllunio'r gweithlu, ac rydym yn gweld y canlyniadau, oherwydd mae mwy o nyrsys yn gadael y proffesiwn na sy'n ymuno.
Mae'r ffaith bod angen inni gyflwyno deddfwriaeth i sicrhau bod digon o nyrsys ar wardiau ysbytai i ganiatáu amser i ofalu yn ddigon damniol, ond mae'r ffaith nad yw'r gyfraith yn berthnasol i bob ward a phob lleoliad iechyd yn warth. Cyflwynwyd y Ddeddf lefelau staff nyrsio i wella diogelwch cleifion. Gallai niferoedd isel o nyrsys arwain at hyd at chwarter yn fwy o farwolaethau cleifion.
Yma yng Nghymru, rydym yn gwario bron i 12 y cant o'n gwerth ychwanegol gros ar iechyd, ein gwariant iechyd—yn ail i'r Alban sydd ar £2,310 y pen—bron £200 yn fwy y pen na Lloegr. Ac eto, rydym yn aros yn hwy, ac rydym wedi gorfod pasio deddfwriaeth i sicrhau bod gennym lefelau staffio diogel, nid oherwydd nad ydym yn buddsoddi digon yn ein GIG—gwerir hanner cyllideb Cymru ar iechyd. A chyflwynwyd y ddeddfwriaeth lefelau staffio diogel gan AC yr wrthblaid oherwydd bod camreoli wedi arwain at arferion anniogel mewn ysbytai ledled Cymru. Mae diffyg cynllunio'r gweithlu yn genedlaethol a methiannau ad-drefnu wedi gadael GIG Cymru mewn anhrefn. Mae sefydliadau iechyd a chlinigwyr wedi cwyno am y gwahanol ddulliau sy'n cael eu mabwysiadu gan fyrddau iechyd lleol. Mae polisïau cenedlaethol yn cael eu gweithredu mewn saith ffordd wahanol, gyda chleifion yn wynebu loteri cod post cynyddol mewn perthynas â gofal iechyd.
Gallwn weld hyn yn glir yn y ffordd y mae'r Ddeddf lefelau staff nyrsio yn cael ei gweithredu, oherwydd mae'r byrddau iechyd lleol i gyd ar lefelau gwahanol o ran cydymffurfio â'r Ddeddf. Dywed Betsi Cadwaladr fod risg uchel ynghlwm wrth gydymffurfio â'r Ddeddf ac nad yw'n gosteffeithiol o fewn y model presennol. Yn fy rhanbarth i, nid oes gan Gwm Taf unrhyw gynllun cadw staff ac er y dyfarnwyd ei fod yn cydymffurfio, mae prinder staff ar wardiau Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, a bydd hynny'n effeithio ar ddiogelwch cleifion. Mae Bae Abertawe wedi cael 11 o gwympiadau yn arwain at anaf difrifol neu farwolaeth, lle barnwyd bod methu cynnal lefelau staffio yn ffactor. Nid yw hyn yn ddigon da.
Mae ein hetholwyr yn haeddu ac yn galw am lefelau staffio diogel yn ein hysbytai. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru dderbyn bod y cyfrifoldeb ar eu hysgwyddau hwy. Mae'n rhaid gweithredu'r Ddeddf lefelau staff nyrsio yn llawn ym mhob lleoliad iechyd. Rydym angen strategaeth recriwtio a chadw staff sydd wedi'i chynllunio'n dda ac sy'n gwneud nyrsio'n ddeniadol i bob unigolyn sydd eisiau hyfforddi fel nyrs, er mwyn mynd i'r afael â'r ffaith bod nyrsys yn gadael y proffesiwn yn heidiau.
Mae gennym Ddeddf lefelau staffio diogel ar waith am reswm. Mae angen lefelau staffio diogel ar draws yr holl leoliadau gofal iechyd ac nid ar wardiau penodol yn unig. Faint yn rhagor o gleifion a gaiff eu hanafu'n ddifrifol neu a fydd yn colli eu bywydau oherwydd rheolaeth wael a chynllunio gwael? Felly, rwy'n annog fy nghyd-Aelodau i gefnogi'r cynnig hwn.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Vaughan Gething?
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn ddiolch i'r Aelodau sydd wedi cyflwyno'r ddadl heddiw a'r cyfle i drafod gweithrediad deddfwriaeth lefelau staff nyrsio arloesol Cymru. Mae'n dda gweld cymrawd o'r Coleg Nyrsio Brenhinol, a oedd yn Aelod cyfrifol ar gyfer y ddeddfwriaeth honno, yn y Siambr heddiw hefyd.
Ynghyd â chyd-Aelodau o bob rhan o'r Siambr, rwy'n cydnabod y rôl allweddol y mae nyrsys yn ei chwarae yn ein timau amlddisgyblaethol, yn darparu gofal iechyd ledled Cymru. Mae darparu gwasanaethau diogel a chynaliadwy yn dibynnu ar ein gallu i hyfforddi, recriwtio a chadw nyrsys, ynghyd â staff eraill y GIG, yn ein system gofal iechyd cyhoeddus yma yng Nghymru. Mae sicrhau bod gennym y nyrsys rydym eu hangen yn her yma yng Nghymru ac yn llawer mwy eang ar draws y DU a thu hwnt. Yn Lloegr, er enghraifft, mae cyfradd y swyddi gwag yn y gweithlu nyrsio bron ddwywaith cymaint â'r gyfradd yng Nghymru. Ond yng Nghymru, rydym wedi dewis peidio â gwanhau'r gweithlu nyrsio drwy gyflwyno nyrsys cyswllt, fel y maent yn ei wneud yn Lloegr.
Mae'r camau gweithredu sydd eu hangen i ateb yr heriau a wynebwn yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r Ddeddf lefelau staff nyrsio. Fodd bynnag, mae adroddiad y Coleg Nyrsio Brenhinol a nodwyd yn cydnabod nifer o effeithiau cadarnhaol y Ddeddf hyd yma. Er enghraifft, wedi i'r Ddeddf ddod i rym, gwyddom fod mwy na £17 miliwn o arian ychwanegol wedi cael ei fuddsoddi i gynyddu ein gweithlu nyrsio mewn wardiau meddygol a llawfeddygol acíwt i oedolion. Mae hwnnw'n fudd uniongyrchol a gweladwy i'n nyrsys rheng flaen, i'r staff y maent yn gweithio gyda hwy ac yn anad dim, i'r cleifion y maent yn gofalu amdanynt.
Clywn yn rheolaidd gan nyrsys, hyd at y lefelau uchaf, fod y Ddeddf wedi gwneud gwahaniaeth clir i'r pwys a roddir ar eu barn broffesiynol pan fyddant yn cael yr hyn sy'n gallu bod yn sgyrsiau anodd am lefelau staff nyrsio gyda'u cydweithwyr. Roedd hwn yn un o'r rhesymau allweddol dros basio'r ddeddfwriaeth fel ag yr oedd, ac mae wedi bod yn galonogol iawn clywed ei bod eisoes yn gwneud gwahaniaeth.
Ar y cyfan, rwy'n gadarnhaol ynglŷn â pha mor gyflym y mae ein byrddau iechyd wedi addasu i'w dyletswyddau newydd, a dylai'r Cynulliad hwn fod yn wirioneddol falch o'r ddeddfwriaeth a basiwyd yn unfrydol gennym dair blynedd yn ôl. Ac roeddwn yn sicr yn falch o gyhoeddi yr wythnos diwethaf y bydd y Llywodraeth hon yn ymestyn ail ddyletswydd y Ddeddf i gynnwys wardiau cleifion mewnol pediatrig cyn diwedd tymor y Cynulliad hwn.
Mae fy swyddogion yn gweithio'n agos gyda staff o bob bwrdd iechyd drwy'r rhaglen staffio nyrsio Cymru. Yn y modd hwn, rydym wedi nodi a dechrau mynd i'r afael â nifer o'r materion sy'n cael eu cynnwys fel argymhellion yn adroddiad y Coleg Nyrsio Brenhinol. Yn ddiweddar, dyrennais gyllid ar gyfer dwy swydd gwybodeg yng Ngwasanaeth Gwybodeg Cenedlaethol Cymru i weithio gyda rhaglen staff nyrsio Cymru i fwrw ymlaen ag ateb TG cenedlaethol. A bydd hynny'n helpu byrddau iechyd i gyflawni eu dyletswyddau adrodd o dan y Ddeddf.
Rydym hefyd yn cydnabod yr angen i allu mesur effaith y ddeddfwriaeth arloesol hon yn gywir. A chan mai dynwared yw'r ganmoliaeth eithaf, mae'n dda gweld bod yr Alban wedi dilyn ein harweiniad, ac mae sgyrsiau difrifol ar y gweill yn Lloegr hefyd. Ac edrychaf ymlaen at weld Llywodraeth yn y dyfodol yn dilyn ein harweiniad yn Lloegr.
O ran gwerthuso, byddaf yn comisiynu gwerthusiad annibynnol trylwyr a drefnwyd i gyd-fynd â diwedd y cyfnod adrodd tair blynedd cyntaf ym mis Ebrill 2021.
Fodd bynnag, nid ydym yn hunanfodlon o bell ffordd, ac rwyf eisiau mynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau a wnaethpwyd ynghylch niferoedd, yn ogystal â chadw staff. Mae'n demtasiwn nodi, dyweder, ein bod wedi cadw 1,900 o nyrsys ychwanegol dros y pum mlynedd diwethaf oherwydd ein hymdrechion ac felly, pan feddyliwch am y peth, yn hytrach na chael gostyngiad bach yn y niferoedd hyn y llynedd, mewn gwirionedd rydym wedi cynyddu nifer y nyrsys dros bum mlynedd. Ond rwy'n credu y dylem adael y siarad dwbl i bobl eraill, oherwydd y gwir amdani yw ein bod, o fewn y tymor Cynulliad hwn, wedi cynyddu nifer y nyrsys cofrestredig ac aelodau o'r teulu nyrsio sy'n gweithio gyda'n gwasanaeth iechyd gwladol. Ond y llynedd, am y tro cyntaf, gwelsom 65 yn fwy o nyrsys yn gadael GIG Cymru nag a ymunodd ag ef.
Er hynny, bydd yr Aelodau'n ymwybodol o'r buddsoddiad sylweddol a wnaethom mewn addysg a hyfforddiant i weithwyr iechyd proffesiynol, a arweiniodd at gynnydd mewn lleoedd hyfforddi nyrsys o 1,053 yn 2014 i 1,987, yn dilyn fy nghyhoeddiad diweddar ar fuddsoddi mwy fyth mewn hyfforddiant i nyrsys. Mae'r buddsoddiad hwnnw hefyd yn cynnwys 140 o leoedd ar raglenni dychwelyd i weithio ar gyfer nyrsys. Ac eleni, graddiodd 970 o nyrsys yng Nghymru, o gymharu â 778 yn 2018. Felly rydym yn gwneud cynnydd bwriadol a phendant wrth hyfforddi mwy o'n nyrsys ein hunain. Rwy'n hapus i dderbyn yr ymyriad.
Diolch.
Rwy'n teimlo efallai eich bod ychydig yn sensitif ar y mater hwn, oherwydd nid wyf yn cofio cyfraniad neb yn dweud yn benodol nad oedd Llywodraeth Cymru yn gwneud cynlluniau i wella cyfraddau cadw staff. Rwy'n credu mai'r hyn rydym yn ceisio'i ddweud yw bod cymaint o brinder nyrsys, beth arall y gallwn ei wneud, sut arall y gallwn wella hyn a chadw'r nyrsys sydd gennym, yn ogystal â recriwtio mwy, a dyna pam y cyflwynais y cynllun peilot sy'n cael ei gynnal yn ysbytai Llundain ar hyn o bryd i chi, a'r gwaith y maent wedi'i wneud ar weithio hyblyg.
A byddaf yn symud ymlaen at gadw nyrsys yn nes ymlaen yn fy nghyfraniad.
Ond y GIG yw'r unig ran o'r sector cyhoeddus sydd wedi parhau i gynyddu niferoedd staff er gwaethaf degawd o gyni, ac mae hwnnw'n bwynt y mae aelodau eraill o'r gwasanaethau cyhoeddus yn cael trafferth ei gydnabod. Mae ein cydweithwyr yn y byd addysg, ein cydweithwyr ym mhob rhan o lywodraeth leol yn cydnabod mai iechyd yw'r sector mawr y buddsoddwyd ynddo. Ond mae'r ddadl heddiw yn dangos bod yr awydd i gynyddu'r niferoedd ymhellach yr un mor fawr. Er mwyn cyrraedd y lefelau y mae pawb ohonom eisiau eu gweld ledled y DU, bydd angen buddsoddiad sylweddol a pharhaus gan bob gwlad yn y DU, dull gweithredu gwahanol, mewn perthynas â buddsoddiad mewn iechyd a gofal cymdeithasol, gan bwy bynnag yw Llywodraeth newydd y DU, ac yn arbennig, dull gwahanol o recriwtio o Ewrop a chael gwared ar y cap arfaethedig hurt a niweidiol ar gyflogau, i gael effaith go iawn ar ein gallu i recriwtio mwy o staff.
Yr wythnos diwethaf, yn fy natganiad i'r Siambr, tynnais sylw at y diddordeb cadarnhaol a gynhyrchwyd gan ein hymgyrch 'Hyfforddi. Gweithio. Byw'; bydd mwy i ddod yn 2020, sef Blwyddyn y Nyrs a'r Fydwraig. Ond wrth gwrs, mae angen i ni wneud mwy i gadw ein gweithlu nyrsio medrus. Mae hynny'n golygu darparu modelau gwasanaeth sy'n bodloni disgwyliadau ein gweithlu presennol a'n gweithlu yn y dyfodol, cynnig iechyd a lles effeithiol, a dewisiadau gweithio hyblyg i ddarparu cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith, fel y mae nifer o siaradwyr wedi nodi. Ac mae gennyf ddiddordeb yn yr hyn sy'n cael ei wneud yma yng Nghymru a ledled y DU i wneud yn union hynny. Rwyf eisiau gweld cyfleoedd gyrfaol ac addysgol, a sicrhau bod GIG Cymru yn lle gwych i weithio.
Felly, bydd strategaeth genedlaethol y gweithlu sy'n cael ei datblygu gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Gofal Cymdeithasol Cymru yn cefnogi cynaliadwyedd y gweithlu iechyd a'r gweithlu gofal cymdeithasol yn y dyfodol, yn enwedig y modd y cynlluniwn ein modelau gweithlu ar gyfer y dyfodol, sut y nodwn y staff sydd eu hangen gyda gwahanol grwpiau proffesiynol ac yn bwysig, sut y cefnogwn ac y datblygwn ein staff. Felly, byddaf yn gofyn i fforwm partneriaeth GIG Cymru ystyried, gyda'i gilydd, pa gamau pellach y gallem ac y dylem eu cymryd yn lleol ac yn genedlaethol i gefnogi camau i gadw staff, gan gynnwys ein nyrsys. Bydd hwnnw'n ystyried arferion cyfredol, gan gynnwys yr arferion gorau i'w lledaenu sydd eisoes yn bodoli mewn byrddau iechyd ac wrth gwrs, bydd yn nodi arferion gorau ar gyfer cyflwyno gweithio hyblyg ymhellach.
Byddaf yn derbyn yr ymyriad cyn i mi orffen.
Diolch. Rwy'n ddiolchgar iawn i chi, Weinidog, ac rwy'n meddwl ein bod wedi cydnabod, fel y dywedodd Angela Burns, y bu rhywfaint o gynnydd gwirioneddol, ond a ydych yn cytuno â'r Coleg Nyrsio Brenhinol fod angen strategaeth gadw staff genedlaethol arnom, oherwydd, er bod rhai enghreifftiau o arferion da, rwy'n credu mai'r hyn y maent yn galw amdano yw i'r arferion hynny ddod yn norm? Fel y dywedais, rydym wedi bod yn siarad am faterion cadw staff am amser hir iawn yn awr, ac a ydych yn teimlo ei bod yn bryd i ni ddod â'r holl arferion da sydd ar gael at ei gilydd a sicrhau eu bod yn dod yn norm?
Wel, cefais y sgwrs hon heddiw gyda'r Coleg Nyrsio Brenhinol ac fel rwyf newydd ei ddweud, rwy'n gofyn i fforwm partneriaeth GIG Cymru, sy'n dod ag ochr undebau llafur staff, y Llywodraeth a chyflogwyr GIG at ei gilydd i wneud yn union hynny, fel rwyf newydd ei ddweud, i edrych yn lleol ac yn genedlaethol ar yr hyn sy'n bodoli a'r hyn a ddylai fodoli ar gyfer y dyfodol hefyd.
Bydd y Llywodraeth yn ymatal heddiw, fel y gwnawn fel arfer ar ddadleuon Aelodau. Fodd bynnag, ni waeth beth fo canlyniad y bleidlais, mae llawer y gellir ymfalchïo ynddo yma yng Nghymru, a llawer mwy i'w wneud. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda'n teulu nyrsio i ddarparu'r gofal a'r amgylchedd gwaith y byddem i gyd eisiau eu gweld, gyda'r niferoedd cywir o staff wrth gwrs i ddarparu'r gofal cywir ar yr adeg gywir ac yn y lle cywir.
Diolch. A gaf fi alw ar David Rees yn awr i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd, ac a gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau am eu cyfraniadau y prynhawn yma? Cyn imi fynd ymlaen i edrych ar y drafodaeth a chyfraniadau'r Aelodau, a gaf fi hefyd ymuno i ddiolch i'r aelod Cabinet, y Gweinidog Addysg, oherwydd hi a lywiodd y Bil hwn drwy'r Cynulliad diwethaf, a'i yrru ymlaen, a byddwch yn cofio'r trafodaethau a gawsom yn y pwyllgor ar sawl achlysur? Rwy'n credu y dylai fod yn falch o'r Ddeddf fel y mae yn awr, a'r cynnydd y mae'n ei wneud. Rwy'n credu y dylem gofnodi ein diolch iddi, oherwydd mae'n hanfodol fod y Ddeddf honno bellach yn darparu ar gyfer cleifion.
A gaf fi ddechrau gyda chyfraniad Helen Mary Jones, a agorodd y drafodaeth ac amlinellu'r materion pwysig y mae'r adroddiad yn eu hamlygu, yn benodol er mwyn asesu goblygiadau'r Ddeddf a'r hyn y gallwn ni fel Aelodau Cynulliad ei wneud yn ein byrddau iechyd ein hunain i ofyn cwestiynau i'r byrddau iechyd hynny ynglŷn â sut y maent yn gweithredu'r Ddeddf, i ble maent yn mynd? Os edrychwch ar y gwahanol gwestiynau, fe welwch rai themâu cyffredin yn amlygu eu hunain drwy'r cwestiynau hynny hefyd.
Tynnodd Helen sylw at y strategaeth cadw a recriwtio hefyd, sy'n un o'r themâu cyffredin mawr, ac fe leisiodd y pryderon yn ei chylch. Yn arbennig, rwy'n credu, soniodd am un peth. Rydym yn siarad yn aml iawn am gadw staff a straen, ond rydym hefyd yn anghofio weithiau fod llawer o'n staff yn cael eu llethu oherwydd eu bod, fel y dywedodd Angela, wedi gweithio oriau ychwanegol i'r hyn y maent yn ei wneud fel arfer a'r hyn y cawsant eu contractio i wneud. Ac mae hynny'n helpu—wel, mae'n helpu i'w llethu, oherwydd mae'n ychwanegu mwy at eu hymrwymiad. Maent yn cyrraedd adref yn flinedig, maent yn treulio oriau hwy yno, oherwydd eu hawydd i ddiogelu a helpu cleifion. Mae'n rhywbeth y mae angen i ni fynd i'r afael ag ef.
Tynnodd Angela sylw, unwaith eto, at fater gweithio hyblyg. A gawn ni edrych ar ffyrdd y gallwn edrych ar nyrsys? A gawn ni annog byrddau iechyd i edrych ar ymagwedd hyblyg tuag at gyflogaeth? Maent yn dda, asiantaethau, oherwydd mae asiantaethau'n cynnig gweithio hyblyg. A gawn ni, fel GIG, gynnig y gweithio hyblyg y mae asiantaethau'n ei gynnig a cheisio sicrhau y gallwn eu cadw o fewn y gwasanaeth iechyd gwladol, oherwydd mae cadw staff yn un o'r elfennau allweddol yn yr adroddiad hwn? Soniwn yn aml am—. Mae gennym etholiad cyffredinol ar y gweill ac rydym wedi clywed y niferoedd gan Boris Johnson a ddywedodd 50,000—gyda 20,000 ohonynt yn staff a gedwir. Felly, maent hwy hyd yn oed yn cydnabod bod cadw staff yn hollbwysig er mwyn sicrhau bod gennym weithlu priodol ar gael i ddarparu gofal yn ein hysbytai, yn yr achos hwn, ac mewn lleoliadau eraill hefyd. Rydych chi'n iawn: ai nyrsys cronfa, ai nyrsys asiantaeth? Pam na allwn ni roi goramser iddynt? Pam na allant weithio yn y man lle maent yn arfer gweithio—eu man gwaith arferol? Rwy'n credu bod angen i ni fynd i'r afael â hyn.
Atgoffodd Dai Lloyd ni am yr heriau sy'n parhau. Mae cynnydd wedi'i wneud ond mae yna heriau o hyd. A chredaf, unwaith eto, fod yr adroddiad hwn yn tynnu sylw at hynny. Mae'n dweud ein bod yn edrych ar y ffaith bod byrddau iechyd yn trafod y Ddeddf hon, ac maent yn trafod ei gweithrediad a lle maent yn cyflawni eu dyletswyddau o fewn y Ddeddf hon. Ond mae llawer o heriau i'w hwynebu o hyd gan fod strategaeth y gweithlu yn hollbwysig yn yr holl drafodaethau hyn. Tynnodd sylw hefyd at y ffaith mai diben y Ddeddf hon yw gwella gofal a chanlyniadau i gleifion, nid gwella, o anghenraid, bywydau nyrsys, sef yr hyn y bydd yn ei wneud, ond, mewn gwirionedd, mae'n ymwneud â'r claf. Oherwydd os ydych yn cael y lefelau nyrsio'n iawn, rydych yn cael y canlyniadau i gleifion yn iawn, ac mae hynny'n hollbwysig.
Atgoffodd Caroline ni eto am gynllunio'r gweithlu a byddaf yn gofyn iddi rywbryd, o ran rhai o'r sylwadau a wnaeth, i edrych ar y trafodaethau a gawsom yn y pwyllgor yn ystod Cyfnod 1 a Chyfnod 2 y Bil. Gallant ateb rhai o'r pwyntiau a gododd, oherwydd codwyd llawer o'r materion hynny a chredaf fod yr Aelod a arweiniodd y Bil wedi gwneud hynny am resymau eraill nag a amlygwyd yn briodol. Ac mae lefelau gwahanol o gydymffurfiaeth ar draws y byrddau iechyd. Mae honno'n broblem. Mae'n rhaid inni roi sylw i hynny. Oherwydd roedd cydymffurfio'n un o'r materion a godwyd gennym fel rhywbeth y gellid ei archwilio, er mwyn sicrhau bod cysondeb ledled Cymru.
Mae'n sôn ei bod eisiau Deddf ym mhob lleoliad iechyd, ond un o'r dadleuon a gyflwynwyd gennym ynglŷn â hynny oedd y dystiolaeth a gyflwynwyd i gefnogi pa feysydd o leoliadau iechyd y canolbwyntid arnynt mewn gwirionedd. Os ydym am wneud hyn, mae'n bwysig ei fod yn cael ei arwain gan dystiolaeth. Roedd y wardiau meddygol acíwt i oedolion yn cael eu harwain gan dystiolaeth, ac mae'r wardiau pediatreg yn cael eu harwain gan dystiolaeth, felly rwyf eisiau edrych i weld ble rydych chi'n mynd nesaf—ble mae'r dystiolaeth yn ein harwain nesaf? Mamolaeth, iechyd meddwl, nyrsio cymunedol? Mae angen i ni ddeall y meysydd rydych yn edrych arnynt, beth yw eu blaenoriaethau ac o ble y daw'r dystiolaeth, er mwyn sicrhau ein bod yn defnyddio hyn fel sylfaen sy'n cael ei harwain gan dystiolaeth er mwyn sicrhau bod y lleoliadau yn iawn. Felly, dyna sy'n rhaid i ni ei wneud. Nid yw'n ddigon dweud 'y cyfan', oherwydd mae'n swnio'n dda i ddweud 'y cyfan', ond mae angen i ni wneud yn siŵr ei fod yn iawn a'i fod yn mynd i'r lleoedd iawn.
Mae'r Gweinidog wedi nodi'n glir ei fod yn falch iawn i gynnwys pediatreg. Rydym hefyd yn falch iawn o weld pediatreg yn cael ei gynnwys ers y Bil, oherwydd un o'r pethau a ddywedasom oedd ein bod eisiau gweld mwy o feysydd yn cael eu cynnwys, a dyna pam y cyflwynwyd y rheoliadau, er mwyn caniatáu i chi wneud hynny heb orfod cyflwyno rhagor o ddeddfwriaeth ychwanegol. Felly, mae hynny'n bwysig. Yn amlwg, rydym eisiau mynd ymhellach ac ymhellach. Rwy'n falch iawn o glywed eich bod yn bwriadu cynnal gwerthusiad annibynnol trylwyr ar gyfer Ebrill 2021 i gyd-fynd â hynny, fel y gallwn edrych yn ofalus iawn ar y gwerthusiad hwnnw, yn ogystal â'r gwerthusiad tair blynedd a fydd yn cael ei gynnal.
Ac rydych yn iawn, Weinidog, mae'n dda gweld eich bod wedi cynyddu'r niferoedd o 1,053 i 1,987 ers 2014—mae hynny i'w groesawu'n fawr, ond mae angen mwy, oherwydd un o'r pryderon a oedd gennym pan aeth y Bil drwyddo oedd a oes gennym ddigon o nyrsys i'w gyflawni ym mhob lleoliad, neu'r lleoliadau roeddem eu hangen. Mae angen inni hyfforddi mwy. Ac rwyf am roi enghraifft o pam fod angen mwy o nyrsys arnom. Roedd ŵyr cyfaill i'r teulu yn cael llawdriniaeth ar daflod hollt, ac roedd angen dau lawfeddyg yn ogystal â staff theatr. Bum munud cyn y llawdriniaeth honno, cafodd ei chanslo, oherwydd cafodd y nyrs arbenigol roedd gofyn iddi fod gyda'r plentyn hwnnw ar ôl y llawdriniaeth ei throsglwyddo i ran arall oherwydd y sgiliau a oedd ganddi. Nawr, gallwch ddeall bod hynny'n angenrheidiol, oherwydd bod achos brys wedi dod i mewn, ond mae angen mwy o nyrsys arbenigol arnom felly i sicrhau'r pethau hynny. Ond mae hynny'n gost i'r GIG, oherwydd roedd gennych dîm cyfan wedi'i ddyrannu eisoes, yn aros yno, y bu'n rhaid ei ganslo wedyn. Felly, mae angen inni edrych ar nifer y nyrsys. Rydym angen mwy o nyrsys arbenigol.
Felly, rwy'n falch iawn o weld 1,987, ond rwyf eisiau mwy; mae mor syml â hynny. Mae angen mwy, ac mae angen inni gadw mwy. Mae hwnnw'n bwynt pwysig. Ac rwy'n cytuno â chi, gyda llaw, am oblygiadau posibl polisi mewnfudo a allai effeithio ar recriwtio o wledydd tramor. Mae'n warthus y gallai unrhyw beth o'r fath effeithio ar ein GIG, a dylem fod yn ei ymladd bob cam o'r ffordd, ac rwy'n disgwyl i bob Aelod o bob plaid herio polisïau mewnfudo o'r fath, sy'n effeithio ar y gofal a gaiff ein cleifion yn y GIG.
Gallaf eich sicrhau, Weinidog, fod pob un ohonom yn y Siambr hon yn falch o'n GIG. Ac rydym yn falch o'r staff yn ein GIG; nid ydych ar eich pen eich hun yn hynny o beth.
Nawr, rwy'n falch iawn hefyd fod y fwrsariaeth nyrsio yn dal yma yng Nghymru. Mae hynny'n hollbwysig, oherwydd mae'n annog mwy i ddod. Diolch, a daliwch ati i wneud hynny—peidiwch byth â'i golli, oherwydd credaf ei bod o fudd i annog mwy o nyrsys i'r proffesiwn. Ond mae'n rhaid inni sicrhau, pan fyddant yn y proffesiwn, eu bod yn cael amgylchedd iach i weithio ynddo, amgylchedd diogel ar gyfer eu cleifion, ac amgylchedd mor ddi-straen ag sy'n bosibl, fel nad ydynt yn cael eu llethu. Ac mae hynny'n hollbwysig. A dyna y mae'r Coleg Nyrsio Brenhinol yn ceisio'i gyflawni a byddant yn parhau i lobïo ar hynny. Ac a gaf fi gofnodi fy niolch i'r Coleg Nyrsio Brenhinol am y gwaith y maent yn ei wneud yn y maes hwn, oherwydd maent wedi cynhyrchu nid yn unig yr adroddiad hwn ar weithredu'r Bil staffio diogel ond hefyd yr adroddiad ar niferoedd y gweithlu a nyrsys cymunedol? Maent yn llywio agenda i edrych ar y proffesiwn nyrsio ac i sicrhau ei fod yn tyfu a'i fod yno, mewn gwirionedd, i gefnogi cleifion.
Felly, mae'n hanfodol ein bod yn parhau i wrando arnynt ac yn parhau i weithio gyda hwy. Ddirprwy Lywydd, nid wyf erioed wedi cael cymaint o amser ar y diwedd i gloi sesiwn—
Nid oes raid i chi ddefnyddio'r amser i gyd.
Nid wyf am greu geiriau, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig, wrth i ni fwrw ymlaen â'r agenda hon, ein bod yn atgoffa ein hunain am y bobl go iawn rydym yn gofalu amdanynt, sef y cleifion. Ac os gallwn wneud popeth yn ein gallu i wneud gofal y claf yn well, dylem allu gwneud hynny. Ac os yw'r Bil lefelau staff nyrsio, y Ddeddf—mae'n rhaid i mi gofio ei gael yn iawn—am gyflawni hynny mewn gwirionedd, mae angen inni sicrhau ein bod yn gallu llunio strategaeth ddigonol ar gyfer y gweithlu sy'n cadw ac yn recriwtio nifer briodol o nyrsys, gweithwyr cymorth iechyd a phroffesiynau perthynol eraill a fydd yn helpu i gyflawni hynny, oherwydd fe wnaethom siarad, ar un adeg, nid yn unig am nyrsys, ond am staff eraill ar y ward sy'n gweithio gyda nyrsys fel rhan o'r tîm sy'n darparu'r gofal hwnnw. Ac os gellir datblygu hynny hefyd, mae'n bwysig iawn ein bod yn cyflawni hynny.
Felly, a gaf fi ddiolch i'r holl Aelodau y prynhawn yma? A gaf fi annog y Llywodraeth, felly, i barhau â'i chynnydd, i sicrhau ei bod yn cael ei harwain gan dystiolaeth, ac i sicrhau bod nyrsys yn gallu dod i'r proffesiwn a gwneud yr hyn y maent eisiau ei wneud, sef darparu gofal i gleifion?
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 7 ar ein hagenda yw dadl ar adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, 'Mynediad at Fancio', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i gyflwyno'r cynnig—Russell George.
Cynnig NDM7219 Russell George
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau ar ei Ymchwiliad i: Mynediad at Fancio a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 17 Hydref 2019.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cyflwyno'r cynnig yn fy enw.
Ysgogwyd yr ymchwiliad hwn yn rhannol gan ffigurau brawychus y grŵp defnyddwyr Which? ynglŷn â chyfradd cau banciau, a'r anawsterau y mae pobl yn eu cael wrth geisio cael mynediad at arian parod. Mae llawer o gwestiynau a dadleuon wedi bod yn y Siambr hon ynglŷn â chau banciau, ond roeddem eisiau deall yr effaith ar fusnesau a chymunedau unigol yn ein gwaith.
Dywedodd tua thraean o'r bobl a ymatebodd i'n harolwg ar-lein eu bod yn gorfod teithio awr ychwanegol i gael mynediad at fanc, ac roedd 13 y cant ohonynt yn gorfod teithio dros awr. Mae pobl hŷn a chwsmeriaid sy'n agored i niwed, megis y rheini ag awtistiaeth neu ddementia, yn ei chael yn anodd rheoli eu harian yn ddiogel. Yn gynyddol, ni all siaradwyr Cymraeg gael mynediad at wasanaethau yn eu dewis iaith. A gwelsom fod Cymru dan anfantais ddwbl am nad yw bancio ar-lein yn ddewis amgen ymarferol i lawer o bobl, naill ai oherwydd diffyg cysylltedd, neu am resymau eraill. Ac mae'r effaith ar fusnesau yn ddifrifol. Mae'n anos i fusnesau llai dalu enillion i mewn, mae'n rhaid iddynt gau'n gynt i wneud eu bancio, mae'n anos cael benthyciadau, mae cau banciau'n effeithio ar nifer y cwsmeriaid, ac mae twristiaeth a busnesau eraill yn dioddef am na all ymwelwyr gael gafael ar arian parod. Felly, clywsom straeon erchyll am drefi heb arian parod. A gwyddom yn sicr nad yw Cymru'n barod i fynd heb arian parod—bydd gormod o bobl yn cael eu gadael ar ôl ac yn cael eu hallgáu'n ariannol. Mae LINK, rhwydwaith peiriannau arian parod mwyaf y DU, wedi dweud wrthym fod mynediad am ddim at arian parod i ddefnyddwyr yn wasanaeth cenedlaethol hanfodol.
Roedd pennod 5 ein hadroddiad yn tynnu sylw at yr heriau penodol sy'n wynebu Cymru o ran cysylltedd digidol. Ac roedd ymateb Llywodraeth Cymru i'n hadroddiad yn gadarnhaol ar y cyfan. Yn amlwg, nid yw rhai meysydd wedi'u datganoli, ond mae rhai ysgogiadau polisi wedi'u cadw'n ôl—neu heb eu cadw'n ôl yn hytrach—ond mae gan Lywodraeth Cymru ysgogiadau at ei defnydd. Yr ymateb i argymhelliad 8 oedd y dylai Llywodraeth Cymru fapio'r bylchau yn y gwasanaethau bancio yng Nghymru, ac mae'n awgrymu bod rhywfaint o waith cynnar yn cael ei wneud yn y maes hwn. Felly, rwy'n credu bod hynny'n galonogol dros ben.
Clywsom lawer yn ystod yr ymchwiliad am grŵp JACS, Grŵp Strategaeth Arian Parod yr Awdurdodau ar y Cyd, a arweinir gan Drysorlys ei Mawrhydi. I Aelodau sy'n anghyfarwydd â hwnnw, neu'r hyn y mae'n ei olygu, mae'n dwyn ynghyd y rheoleiddwyr mynediad at arian parod i weithredu'r argymhellion a wnaed gan yr adolygiad annibynnol ar fynediad at arian parod. A rhybuddiodd yr adolygiad na ddylai'r DU gerdded yn ei chwsg i mewn i gymdeithas heb arian parod. Mae'r pwyllgor eisiau i Lywodraeth Cymru weithio gyda JACS i sicrhau bod anghenion Cymru yn cael eu diwallu, ond nid yw graddau'r ymgysylltiad yn glir yn yr ymateb gan y Llywodraeth. Mae'n dweud y bydd
'yn mynnu bod JACS yn sefydlu sianeli cyfathrebu clir, gan gynnwys cyfleoedd rheolaidd a digon aml i ymgysylltu’n effeithiol.'
Sefydlwyd JACS ym mis Mai, felly credaf y byddai'n ddefnyddiol iawn gwybod pa mor fuan y mae'r Gweinidog yn disgwyl i'r sianeli hynny gael eu hagor, a pha mor hyderus yw'r Gweinidog y bydd JACS yn effeithiol.
Rydym wedi gweld rhai symudiadau cadarnhaol, megis cyhoeddiad diweddar LINK am gronfa gyflenwi, lle gall cymunedau ofyn yn uniongyrchol am beiriant ATM yn eu hardal. Ond mae hyn, wrth gwrs, yn rhoi'r cyfrifoldeb ar gymunedau eu hunain. Nid yw banciau'r stryd fawr, fel y'u gelwir, sydd wedi diflannu o'n strydoedd mawr i raddau helaeth, yn gwadu bod cau canghennau'n effeithio ar gwsmeriaid, ond ymddengys eu bod yn canolbwyntio'n llwyr ar arloesi digidol, heb gydnabod y nifer enfawr o bobl sydd wedi'u hallgáu’n ddigidol. A dywedodd adroddiad Which? bythefnos yn ôl, nad yw un o bob pump oedolyn yn teimlo'n hyderus yn eu gallu i wirio eu balans ar-lein.
Felly, mae rhai banciau wedi ceisio cael faniau symudol yn lle canghennau—dyma lle byddaf yn aml yn drysu, oherwydd gall bancio symudol fod yn faniau symudol neu'n dechnoleg symudol, ond faniau symudol yw'r rhain—ond roedd y rhain yn annigonol at ei gilydd. Ac mae rhwydwaith Swyddfa'r Post yn cael ei ystyried yn ddarparwr amgen, ond nid yw'n cynnig yr un lefel o wasanaeth mewn gwirionedd, ac mae ganddo anfanteision eraill. Roedd y diffyg ymwybyddiaeth am wasanaethau bancio Swyddfa'r Post yn peri pryder i ni, felly rydym eisiau gweld mwy o ymdrech i roi cyhoeddusrwydd iddynt. Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn tynnu sylw at y ffaith nad yw materion Swyddfa'r Post wedi'u datganoli, ac nid oes ganddi gynlluniau i ailgyflwyno cefnogaeth i'r rhwydwaith yng Nghymru fel y gwnaeth ei ddarparu ar un adeg. Mae hefyd yn dweud—
A wnewch chi dderbyn ymyriad byr?
Gwnaf, yn sicr.
O'r dystiolaeth a gawsom, a fyddai hefyd yn cofio, pan oeddem yn sôn am ganghennau swyddfa'r post, mai un o'r darnau o dystiolaeth a gawsom oedd bod canghennau swyddfa'r post yn arbennig o anaddas ar gyfer gweithgarwch busnesau bach a microfusnesau yn enwedig? Roedd yn un o'r pethau a ddywedwyd wrthym.
Ydw, rwy'n cofio hynny ac mae'n bwynt dilys i'w wneud. Credaf fod problemau gyda'r ffaith nad yw Swyddfa'r Post yn gallu darparu'r gwasanaeth llawn ar gyfer busnesau, fel y mae banciau'n gallu ei wneud, hyd yn oed pethau fel cael gafael ar arian parod neu newid, er enghraifft, lle mae'n rhaid rhoi rhybudd ymlaen llaw, ymysg problemau eraill hefyd. Ond na, mae'r pwynt wedi'i wneud yn dda gan Hefin David.
Roedd ein hymchwiliad hefyd yn canolbwyntio ar ymrwymiad uchelgeisiol y Prif Weinidog yn ei faniffesto—ac roedd yn uchelgeisiol—i roi cefnogaeth i greu banc cymunedol yng Nghymru cyn etholiadau'r Cynulliad yn 2021. Felly, clywsom lawer o amheuaeth am ddichonoldeb cynnig bancio cymunedol Banc Cambria, ac roedd cryn dipyn o amheuaeth mewn gwirionedd. Felly, mae ein hadroddiad yn adlewyrchu'r dystiolaeth honno. Mae'n amlwg fod y model gwasanaeth bancio cyfredol yn methu, a cheir dadleuon cymhellol, rwy'n credu, ac mae'r pwyllgor yn credu, o blaid dull newydd. Ond nid yw'r model bancio cymunedol wedi'i brofi. Rwy'n credu bod hynny'n allweddol yma: nid yw'r model hwnnw wedi'i brofi.
Un o'r pryderon allweddol i'r pwyllgor yw sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu rheoli'r risgiau hirdymor sy'n gysylltiedig â'i chymorth ariannol i Banc Cambria, ac nid wyf fi—na'r pwyllgor ychwaith, nid wyf yn credu—yn argyhoeddedig fod ymateb y Llywodraeth yn ateb y cwestiwn hwnnw'n llawn. Yn amlwg, mae yna sensitifrwydd masnachol ac mae angen amser ar Banc Cambria i fynd drwy'r broses drwyddedu, ond bydd angen inni gadw llygad barcud ar y datblygiadau. Mae Llywodraeth Cymru yn dweud ei bod yn ystyried yr effaith bosibl y gallai Banc Cambria ei gael ar undebau credyd a rhwydwaith Swyddfa'r Post. Credaf fod y gydnabyddiaeth na ddylid cael unrhyw ddyblygu nac effaith negyddol ar y gwasanaethau sy'n bodoli eisoes yn bwysig iawn, a chroesewir y cynllun arfaethedig ar gyfer ymgysylltu â rhanddeiliaid.
Roeddem hefyd yn galw am fynd ar drywydd syniadau partneriaeth eraill ac er ei bod yn siomedig na chafodd argymhelliad 14 ond ei dderbyn mewn egwyddor, mae'n swnio fel pe bai Llywodraeth Cymru yn agored i gyfleoedd eraill i wella'r ddarpariaeth fancio. Mae'n bwysig parhau i archwilio pob trywydd, yn enwedig gan nad yw'n glir o hyd sut y gall Banc Cambria ddiwallu anghenion pobl hŷn, cwsmeriaid anabl a chwsmeriaid agored i niwed sydd angen gwasanaethau wyneb yn wyneb priodol.
Mae'r ymateb i argymhelliad 10 ar gamau i gefnogi cynhwysiant digidol hefyd yn gadarnhaol, ac yn arbennig, credaf fod cynlluniau Llywodraeth Cymru i gefnogi athrawon sy'n darparu addysg ariannol i'r genhedlaeth iau fel y gallant fod yn ddinasyddion sy'n llythrennog yn ariannol i'w croesawu'n fawr hefyd. Mae hwn yn faes polisi hynod gymhleth, lle mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru weithio'n galed gyda'r ysgogiadau sydd ar gael iddi. Nid oedd ein hymchwiliad ond yn gallu crafu'r wyneb, ond rwy'n gobeithio ein bod wedi taflu goleuni ar yr anawsterau y mae pobl yng Nghymru'n eu hwynebu o ran cael mynediad at fancio a gwasanaethau bancio.
Felly, rwy'n edrych ymlaen at glywed barn cyd-aelodau o'r pwyllgor ac eraill ac mae'r Gweinidog a minnau, wrth gwrs, yn cymeradwyo'r adroddiad hwn i'r Cynulliad, Ddirprwy Lywydd.
Un o'r cymhellion i ni gynnwys ein hunain yn yr ymchwiliad hwn yw ein bod ni i gyd wedi gweld canghennau o fanciau'n cau. Rwyf eisiau sefyll dros gymunedau fel Nelson, a welodd fanc Barclays yn cau; Ystrad Mynach, a welodd fanc Nat West yn cau; a Bargoed, y gymuned fwyaf gogleddol yn fy etholaeth, yr un sydd â'r angen mwyaf am dwf yng nghanol y dref, a welodd fanc HSBC yn cau, ac yn ddiweddar, eleni, ar ddiwedd y flwyddyn hon, mae Lloyds Bank yn gadael y gymuned. Felly, rydym yn teimlo cryn ysgogiad i fynd i'r afael â'r mater hwn ar draws y pleidiau a gweld Llywodraeth Cymru yn gweithredu.
Hoffwn grybwyll rhai argymhellion a chroesawu argymhelliad 2 yn arbennig, a'r ffaith bod y Llywodraeth wedi'i dderbyn. Mae Russell George eisoes wedi cyfeirio at y ffaith bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda LINK a'r rheoleiddwyr i gryfhau cefnogaeth i wasanaethau ATM am ddim sy'n bodoli eisoes. Gydag argyfwng arian parod yn debygol yn y dyfodol, mae'r gwasanaethau rhad ac am ddim hyn yn hanfodol yn y cymunedau yn y cymoedd gogleddol, yn enwedig, a gynrychiolir gennyf, ac rwyf eisoes wedi cyfeirio at Fargoed. Felly, mae'n rhaid adolygu'r strategaeth cynhwysiant ariannol a'i chynllun cyflawni cysylltiedig yn rheolaidd er mwyn sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â hynny.
Hoffwn gyfeirio'n fyr at argymhelliad 6, sy'n cyfeirio at y grŵp JACS, y cawsom wybod amdano yn ystod ein hymchwiliad. A wyf yn iawn, Gadeirydd, yn dweud bod hynny wedi digwydd yn ystod yr ymchwiliad—ein bod wedi cael gwybod am waith grŵp JACS y DU? Ac roeddem yn gofyn a oedd y safon mynediad at fancio'n ddigon cadarn. Roeddwn ychydig yn siomedig gydag ateb Llywodraeth Cymru, pan ddywedasant,
'Er bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r egwyddor yn yr argymhelliad, ni all dderbyn yr argymhelliad, oherwydd mai mater i Lywodraeth y DU yw hwn.'
Wel, gallem fod â Llywodraeth wahanol yn y DU, a allai fod â barn wahanol ymhen ychydig wythnosau, neu gallem gael yr un Llywodraeth gyda'r un ymagwedd. Y naill ffordd neu'r llall, hoffwn weld Llywodraeth Cymru—a gwn nad yw'n mabwysiadu rôl ymgyrchu fel arfer—yn gwthio'r mater hwn yn galed iawn gyda Llywodraeth y DU, ni waeth pwy fydd mewn grym.
Mae argymhelliad 7 yn sôn am Lywodraeth Cymru yn adolygu ei chefnogaeth i rwydwaith y swyddfeydd post er mwyn ehangu'r sector bancio. Nid yw'r Gweinidog ond wedi penderfynu derbyn hwn yn rhannol, a dywed,
'Nid oes unrhyw gynlluniau i ailgyflwyno cymorth i Rwydwaith Swyddfa'r Post yng Nghymru.'
Roeddwn yn siomedig, oherwydd yn 2003-2004, cafodd swyddfa'r post ym Margoed bron i £37,000, diolch i gronfa ddatblygu hen swyddfeydd post Llywodraeth Cymru, a sicrhaodd hyn fod swyddfa'r post ym Margoed yn ddiogel ar gyfer y dyfodol. Ac un o'r pethau a welais oedd gwerthusiad a wnaed gan hen Lywodraeth Cynulliad Cymru o'r gronfa ddatblygu swyddfeydd post, a ddywedai fod wyth swyddfa'r post wedi eu cadw ar agor oherwydd y gronfa honno. Felly, Weinidog, rwyf am ofyn cwestiwn uniongyrchol i chi: onid ydych yn credu y byddai cronfa ddatblygu swyddfeydd post yn bwysig ar gyfer cynnal dyfodol swyddfeydd post lle mae'r banciau'n gadael?
Ac yn olaf, rwyf am droi at y banc cymunedol. Rydym wedi treulio llawer iawn o amser—a gallwch weld yn argymhellion 13 a 14—yn ystyried y syniad o fanc cymunedol. Yn nyddiau cynnar gweinyddiaeth Drakeford, roedd Banc Cambria yn gwneud cais am £600,000 o arian Llywodraeth Cymru er mwyn cynnal gwaith dichonoldeb, ac fe gawsant yr arian hwnnw wedyn ac maent bellach yn y broses o sefydlu eu hunain fel banc. Cawsom y cwestiynau y mae Russell George wedi'u crybwyll: beth am yr effaith ar bethau fel undebau credyd? Sut y bydd undebau credyd yn gweithio gyda banc cymunedol? Sut y bydd y rhwydwaith o swyddfeydd post yn gweithio gyda banc cymunedol? Ond hefyd, cwestiynau sydd gennyf am le a darpariaeth: sut y byddant yn edrych yn y cymunedau—sut beth fydd banc cymunedol?
Wel, mae Llywodraeth Cymru wedi gwario ac yn awr mae angen inni weld pa strategaeth sydd gan Lywodraeth Cymru i gefnogi'r gwariant hwnnw yn y dyfodol. Mae banc cymunedol ym mhob tref yn swnio fel syniad gwych, ond a oes gennym y lleoedd a'r galw i wneud i hynny weithio? Cyfrifoldeb y banc cymunedol yw gwneud iddo ddigwydd, ond roedd hefyd ym maniffesto arweinyddiaeth y Prif Weinidog—[Torri ar draws.] Ie.
Rwy'n croesawu'r ffaith eich bod yn cyfeirio at swyddfeydd post. Wrth gwrs, rwy'n cofio'r gronfa y cyfeirioch chi ati'n cael ei chyflwyno, ond nid oedd gennym gytundeb fframwaith bancio swyddfa'r post rhwng swyddfa'r post a 28 o fanciau bryd hynny i ddarparu mynediad at wasanaethau ar y stryd fawr lle mae ganddynt gangen. A ydych yn cytuno y dylem hefyd fod yn annog Llywodraeth Cymru, lle bo'n ymarferol, i weithio gyda'r fframwaith hwnnw er mwyn iddynt allu cefnogi canghennau lleol o'n swyddfeydd post?
Ie. Mae angen imi gymryd ychydig o gamau yn ôl yn yr hyn roeddwn yn ei ddweud, i fynd yn ôl at y pwynt hwnnw. Yn rhyfedd ddigon, yn yr adroddiad lle roedd Llywodraeth Cymru'n gwerthuso'r fframwaith hwnnw, gwnaethant yr union bwynt hwnnw—eu bod yn aros i weld sut y byddai hynny'n datblygu cyn gwneud argymhellion pellach am y gronfa. Felly, ydw, rwy'n credu ei bod yn bryd inni edrych ar sut y gellir gwella'r ddarpariaeth honno. Felly, ydw, rwy'n cytuno ei fod, o fewn y cyd-destun hwnnw, yn ceisio gwneud hynny. Fodd bynnag, ceir cyfyngiadau ariannol hefyd na fyddent wedi bodoli pan gafodd y gronfa honno ei gwerthuso. Felly, byddai gennyf ddiddordeb mewn clywed yr hyn sydd gan y Gweinidog i'w ddweud.
Ddirprwy Lywydd, cymerais gam yn ôl yn fy araith, ac yn awr rwy'n—. Roedd gennyf ddiweddglo bendigedig, ond yn anffodus, mae Mark Isherwood wedi peri i mi golli fy ffordd braidd. Rwyf am gloi drwy ddweud—yn hytrach na'r diweddglo bendigedig a oedd gennyf—rwyf am gloi drwy ddweud—
Ewch ymlaen gyda'ch diweddglo bendigedig—mae'n Nadolig, ewch ymlaen. [Chwerthin.]
—fod hwn yn un o'r adroddiadau mwyaf pleserus rwyf wedi ymwneud ag ef ac mae'n amserol ei fod yn cael ei gyflwyno ar yr adeg hon o'r tymor i orffen y tymor hwn mewn modd adeiladol. Nadolig llawen, Ddirprwy Lywydd, i chi ac i bawb arall yn y Siambr hon.
Ceir pryder cynyddol am nifer y banciau sy'n cau yng Nghymru ynghyd â pha mor gyflym y maent yn cau, fel y crybwyllwyd yn gynharach. Mae'n peri pryder fod Cymru wedi colli dros 40 y cant o'i changhennau bancio mewn pum mlynedd. Mae Cymru ar y brig o ran cau banciau yn y Deyrnas Unedig; dim llai na 239 o ganghennau wedi'u cau rhwng Ionawr 2015 ac Awst 2019. Dwy gangen yn unig sydd yn Nwyrain Casnewydd, o lle rwy'n dod, lle mae fy swyddfa, ac mae pobl yn cael amser caled iawn pan fyddant angen codi arian neu dalu arian i mewn, yn enwedig dinasyddion hŷn. Mae rhai rhannau o Gymru wedi dioddef yn llawer gwaeth, gan golli 85 y cant o'u banciau ers 2015. Mae'r gyfradd frawychus hon o gau banciau'n peri'r risg o gau llawer o bobl allan o wasanaethau ariannol hanfodol ac mae'n effeithio ar eu gallu i godi eu harian eu hunain. Mae'r gostyngiad yn nifer y peiriannau arian parod am ddim wedi golygu bod mwy o bobl yn cael eu gorfodi i ddefnyddio peiriannau arian bancio am ddim i godi eu harian eu hunain.
Rhwng Ionawr 2018 a Mai 2019, gostyngodd nifer y peiriannau arian am ddim yng Nghymru bron i 11 y cant. Dywedodd y grŵp defnyddwyr Which? fod ei ddadansoddiad yn dangos bod cymunedau tlotach wedi cael eu taro'n galetach gan fanciau'n cau na'r rhai mwy cefnog—pobl sy'n byw mewn cymunedau tlotach, y rheini sy'n dibynnu fwyaf ar arian parod, yw'r rhai sy'n lleiaf tebygol o allu fforddio talu am godi arian, ond maent yn wynebu gorfod teithio i godi arian parod heb orfod talu am wneud hynny. Mae cau banciau'n effeithio'n arbennig o ddrwg ar bensiynwyr. Cymru sydd â'r gyfran uchaf o bobl hŷn yn y Deyrnas Unedig, gydag un rhan o bump o'r boblogaeth yn 65 oed neu'n hŷn.
Er bod llawer o bobl yn gyfarwydd â rheoli eu harian ar-lein a thalu am nwyddau â chardiau plastig, mae pobl hŷn wedi arfer â dulliau mwy traddodiadol o dalu am nwyddau a gwasanaethau drwy ddefnyddio sieciau neu gardiau. Roedd llai na hanner y bobl 75 oed neu hŷn yng Nghymru yn defnyddio'r rhyngrwyd yn 2018 a 2019, gan gyflymu'r broses o gau canghennau banc a pheiriannau arian parod am ddim i amddifadu ein dinasyddion hŷn o wasanaethau bancio a mynediad at arian parod, sef eu harian parod hwy eu hunain mewn gwirionedd.
Mae'n amlwg, felly, fod cau banciau'n cael effaith economaidd a chymdeithasol ddofn ar gymunedau yng Nghymru. Mae'r cymunedau'n cydnabod bod banciau'n fater a gadwyd yn ôl, ond mae gan Lywodraeth Cymru rai ysgogiadau polisi y gall eu defnyddio ar y cyd â defnyddio'i dylanwad gyda rheoleiddwyr a Llywodraeth y DU i sicrhau'r newid. Mae'r adroddiad hwn yn gwneud 14 o argymhellion i geisio sicrhau'r newid rydym eisiau ei weld. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn 12 o'r argymhellion hynny, rhai'n llawn, eraill mewn egwyddor neu'n rhannol. Un agwedd ar y mater hwn lle mae gan Lywodraeth Cymru bŵer i wneud gwahaniaeth yw bancio cymunedol, fel y crybwyllwyd yn gynharach.
Fis Ionawr diwethaf, dywedodd y Gweinidog Cyllid fod trafodaethau cynnar iawn yn cael eu cynnal gyda nifer o randdeiliaid a oedd yn awyddus i ymchwilio i ddichonoldeb sefydlu banc cymunedol yng Nghymru. Ym mis Awst, cymeradwyodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth y cynnig i ddarparu cyllid cyfnod cychwynnol i gefnogi'r cynnig hwn. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau diwydrwydd dyladwy yn y broses er mwyn sicrhau bod y model banc cynilion cymunedol hwn, nad yw wedi cael ei brofi, yn bodloni'r angen am wasanaethau bancio wyneb yn wyneb yng Nghymru. Mae hefyd yn hanfodol, Ddirprwy Lywydd, nad yw'r cynnig hwn yn effeithio'n andwyol ar yr undebau credyd. Mae mynediad at fancio yn faes cymhleth sy'n cyfuno materion cymdeithasol ac economaidd nad yw'r adroddiad hwn ond megis dechrau mynd i'r afael â hwy. Nid yn unig y mae banciau'n darparu gwasanaeth i'r cyhoedd fel ysgolion, colegau neu ysbytai, mewn gwirionedd mae banc yn wasanaeth cymunedol sy'n angenrheidiol ar gyfer talu arian i mewn, benthyca, trosglwyddo a gwahanol feysydd eraill—morgeisiau. Ac os nad ydynt o fewn cyrraedd, mae'n rhaid i bobl fynd yn rhy bell i gael mynediad at y gwasanaethau hynny, sy'n sicr yn faich ar rai pobl. Mae amser, arian ac egni'n cael ei wastraffu ar y mathau hynny o wasanaethau, ac mae hynny'n gwbl annerbyniol.
Mae mynediad at fancio yn faes cymhleth sy'n cyfuno materion cymdeithasol ac economaidd nad yw'r adroddiad hwn ond megis dechrau mynd i'r afael â hwy. Fodd bynnag, credaf fod hwn yn gyfraniad pwysig i'r broses o wrthdroi'r dirywiad mewn gwasanaethau bancio yng Nghymru, ac fe'i cymeradwyaf i'r Cynulliad. Diolch yn fawr iawn.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Nid wyf am ailadrodd rhai o'r argymhellion y mae pobl wedi sôn amdanynt eisoes, ond hoffwn ddweud bod hwn yn ymchwiliad gwirioneddol bwysig a wnaethom ar fancio yma yng Nghymru. Adleisiaf rai o'r sylwadau a wnaethpwyd ynglŷn â pham fod gan bob un ohonom ddiddordeb yn y mater hwn, oherwydd mae canghennau'n cau ar hyd a lled Cymru, sy'n atal pobl sy'n agored i niwed rhag cael mynediad at wasanaethau yn ogystal ag atal pobl, yn gyffredinol, rhag cael mynediad wyneb yn wyneb.
Credaf ei bod braidd yn eironig fod y banciau'n dweud eu bod am symud i wasanaethau ar-lein, oherwydd pan fyddwch eisiau cael morgais, neu os ydych eisiau am i drafodion go bwysig gael ei wneud, os oes angen iddynt drafod pethau ymhellach gyda chi, maent bob amser yn gofyn i chi alw i mewn i gangen. Os yw hynny'n golygu teithio, gall olygu cryn bellter i lawer o bobl, ac felly byddai'n dda gennyf pe baent yn ceisio cyfleu eu strategaeth yn well. A yw'r gwasanaeth ar-lein neu a yw mewn canghennau? Os ydynt yn benderfynol o wneud mwy ar-lein, oni allant symud mwy o'u gwasanaethau i'w gwneud yn haws i'r bobl sydd eisiau eu defnyddio ar-lein?
Roeddwn eisiau dweud hefyd fy mod wedi nodi wrth y sector bancio mewn rhai o'r sesiynau craffu eu bod yn gwneud elw enfawr ac yna'n dweud wrthym na allant fforddio cadw canghennau ar agor. Felly, mae HSBC wedi gwneud elw, a ffigurau mis Mehefin 2019 yw'r rhain, o £11.8 biliwn; Lloyds—£4.3 biliwn; Barclays—£2.4 biliwn. Elw cyfunol o £22 biliwn, ac maent yn dweud wrthym na allant fforddio cadw canghennau yn Llanystumdwy, Bethesda, Rhondda neu Gastell-nedd ar agor. Nid wyf yn credu hynny. Maent yn dweud ei fod yn rhan wahanol o'r cwmni, ond diwedd y gân yw ei fod yn ymwneud â'r elw i'w cyfranddalwyr, a dyna lle maent yn cyfeiliorni'n llwyr, felly nid oes gennyf lawer o gydymdeimlad â hwy, os o gwbl, yn hynny o beth.
Mae argymhelliad 10 yn un rwy'n angerddol yn ei gylch, ac mae'n sôn am gynhwysiant digidol, cynhwysiant ariannol, nid yn unig i bobl ifanc mewn ysgolion, ond i bobl yn gyffredinol. Gwn, er enghraifft, pe bai gan bob un ohonom allu i ddeall ein harian yn llawer iawn gwell, efallai na fyddai angen inni fynd i'r banc, neu efallai na fyddai angen inni fynd i ddyled mor eithafol, oherwydd byddai'r gallu gennym eisoes i ddeall yr adnoddau a fyddai gennym. Felly, rwy'n ddiolchgar fod newidiadau'n mynd i gael eu gwneud i'r broses addysg, ond nid wyf yn deall sut y bydd hynny'n digwydd heb unrhyw adnoddau o gwbl. Mae'n sicr y bydd angen ychydig bach mwy o adnoddau i roi mesurau newydd ar waith ar gyfer addysg ariannol o dan Donaldson, felly mae hynny'n peri ychydig o ddryswch i mi.
Gwyddom hefyd fod cynlluniau cynhwysiant ariannol wedi bod ar y gweill er 2016, ond hoffwn weld gwaith craffu'n digwydd ar y cynlluniau cynhwysiant ariannol hynny, oherwydd mae rhai awdurdodau lleol yn gwneud gwaith rhyfeddol, ond nid yw rhai awdurdodau lleol yn gwneud dim i sicrhau bod eu pobl yn manteisio ar gyrsiau neu raglenni cynhwysiant ariannol a fydd o fudd iddynt.
Yr argymhelliad arall roeddwn eisiau canolbwyntio arno, ac mae wedi cael ei grybwyll gryn dipyn heddiw, yw cysyniad Banc Cambria, y banc cymunedol. Rwyf wedi gweithio'n eithaf caled gydag Undeb Credyd Celtic yng Nghastell-nedd Port Talbot. Maent yn eithaf pryderus am rywfaint o'r dyblygu a allai ddigwydd pe bai Banc Cambria yn cael ei sefydlu. Nawr, rwy'n cefnogi'r cysyniad o fanc cymunedol, rydym yn cefnogi'r cysyniad hwnnw fel plaid, ond y cyfan a ddywedaf yw bod angen inni sicrhau bod unrhyw fanc cymunedol newydd yn gweithio ar y cyd, yn gweithio mewn cytgord, â'r sector undebau credyd. Maent yn rhoi benthyciadau, maent yn helpu pobl yn eu cymunedau. Nid ydym eisiau gweld y rhwydwaith hwnnw'n cael ei fygwth gan unrhyw fanc cymunedol newydd.
Credaf mai mater arall roeddwn eisiau ei ystyried, yn deillio o'r hyn a ddywedodd Russell George, oedd cyllid unrhyw fanc cymunedol newydd. Rydym yn gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi £600,000 i gefnogi'r arian cychwynnol neu'r arian sbarduno ar gyfer Banc Cambria, ond maent yn dweud wrthym y byddai'n costio £20 miliwn i sefydlu Banc Cambria gyda'r holl reoliadau ac ati. Mae ymateb Llywodraeth Cymru yn cyfeirio'n fanwl at yr arian sbarduno, ac yn dweud,
'nid yw’r holl fuddsoddiad yn debygol o fod yn fwy na £600,000'.
Fodd bynnag, roedd adroddiad y pwyllgor yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru egluro lefel y cymorth y mae'n rhagweld y bydd yn ei gynnig i'r banc cymunedol yn y dyfodol. Ond buaswn yn awgrymu y gallai ymateb Llywodraeth Cymru fod yn gliriach. Er enghraifft, a dyfynnaf o ymateb Llywodraeth Cymru,
'Y buddsoddiad cychwynnol a gynigir i Fanc Cambria yw profi dichonoldeb a phrawf o’r cysyniad yn y cam cyntaf er mwyn galluogi'r banc i ymgysylltu â’r Awdurdod Rheoleiddio Darbodus (PRA) a’r Awdurdod Ymddygiad Ariannol (FCA) gyda’r bwriad o gael caniatâd i sefydlu banc; nid yw wedi cyrraedd y cam o ddarparu'r buddsoddiad mwy sylweddol y bydd ei angen i gyfalafu'r banc os bydd yn llwyddo i gael trwydded fancio.'
Nawr, mae geiriad y frawddeg olaf ychydig yn aneglur, a hoffwn gael rhywfaint o eglurder gan Lywodraeth Cymru. A ydych yn agor y drws i fwy o fuddsoddiad yn y dyfodol? Mae £600,000 yn dân siafins o'i gymharu â'r £20 miliwn sydd ei angen, a buaswn yn meddwl y byddai Llywodraeth Cymru—[Torri ar draws.] Nid wyf yn gwybod a oes gennyf amser.
Roeddwn i'n mynd i ddweud yn gyflym: nid wyf yn cofio Banc Cambria yn awgrymu eu bod angen rhagor gan Lywodraeth Cymru, yn ôl yr hyn rwy'n ei gofio.
Mae hynny'n iawn, ond byddai hynny wedyn yn rhoi llawer o bwysau arnynt i gyrraedd yr £20 miliwn. Os ydynt yn gyfforddus yn gwybod y gallant wneud hynny, heibio'r £600,000, mae hynny'n iawn. Ond dim ond gofyn ydw i, oherwydd y ffordd y maent wedi ymateb i'n hargymhelliad, lle maent yn dweud
'nid yw wedi cyrraedd y cam o ddarparu'r buddsoddiad mwy sylweddol',
mae'n awgrymu i mi y gellid cael drws agored. Nid yw'n dweud, 'Ni fyddem yn ystyried rhoi mwy i Banc Cambria.' Dyna'r hyn rwy'n ceisio'i ddeall: pe bai Banc Cambria yn gofyn iddynt eto am ragor o arian, a fyddai'r Llywodraeth yn ystyried trafod hynny ymhellach? Os nad oes angen yr arian hwnnw ar Banc Cambria, yna mae'n amlwg y byddem i gyd yn hapus o wybod na fyddai'n gwbl ddibynnol ar Lywodraeth Cymru.
Hoffwn orffen drwy ddweud, yn gyffredinol, fy mod yn meddwl y byddem yn cefnogi'r cysyniad hwnnw. Ond wrth gwrs, byddai angen inni ddeall sut y byddai hynny'n effeithio ar Swyddfa'r Post a'r sector undebau credyd, er mwyn inni allu gwneud yn siŵr y gallai'r banc cymunedol i Gymru fod mor llwyddiannus ag y gallai fod.
Efallai fod llawer o fy nghyfraniad wedi cael ei ddweud neu ei grybwyll eisoes, ond mae hwn yn fater mor bwysig fel ei fod yn werth ei ddweud sawl gwaith, neu hyd yn oed mwy na hynny. Ledled Cymru, gwelsom ddiwedd ar y gallu i gyflawni trafodion ariannol yn y modd traddodiadol—hynny yw, drwy'r banc ar y stryd fawr. Mae cau banciau, ynghyd â swyddfeydd post, wedi achosi anhawster mawr i bobl yn gyffredinol, ond yn enwedig—fel y crybwyllodd Russell George—i fusnesau mewn ardaloedd gwledig, sydd bellach yn gweld bod yn rhaid iddynt deithio milltiroedd lawer ar gyfer eu hanghenion bancio; ac wrth gwrs, yr henoed, gyda llawer ohonynt yn gyfyngedig o ran eu symudedd ac felly mae prinder canghennau banc yn effeithio'n fawr arnynt.
Mae'r ffaith bod gennym beiriannau ATM am ddim yn ffactor sy'n bwysig iawn. Gwn, yn anecdotaidd, fod gan Dredegar Newydd—tref fechan yn y Cymoedd gogleddol—beiriant ATM yn awr lle mae'n rhaid i'r cwsmeriaid dalu. Mae'n rhaid iddynt dalu swm penodol am bob trafodyn. Rydym yn sôn am bobl sydd ar incwm isel iawn o bosibl, felly mae'r ganran y mae'n rhaid iddynt ei thalu am godi arian yn llyffethair mawr.
Mae argymhelliad 8 yn yr adroddiad yn nodi nad ydym yn gallu gweld lle mae bylchau yn y gwasanaethau ariannol sydd ar gael. Byddem i gyd yn cytuno ei bod yn gwneud synnwyr y dylid cael map sy'n nodi'n fanwl lle ceir ardaloedd heb gyfleusterau o'r fath, ac un sy'n cael ei ddiweddaru'n rheolaidd. Heb hynny, ni allwn ddechrau ymchwilio i atebion posibl. Mae ymateb y Llywodraeth yn tynnu sylw at y ffaith ei bod yn ofynnol yn ôl y gyfraith i Swyddfa'r Post gyhoeddi adroddiad blynyddol ar ei rwydwaith. Mae hefyd yn wir bod y rhwydwaith ATM mwyaf, LINK, yn cyhoeddi cyfeirlyfr o ble mae ei gyfleusterau arian parod ar gael. Mae'n debyg bod y pedwar banc mawr hefyd yn cyhoeddi data o'r math hwn, ynghyd â nifer o fanciau llai o faint y stryd fawr o bosibl, a gallai hyn oll helpu i hwyluso'r broses o greu map cynhwysfawr ar gyfer bancio a chyfleusterau arian parod.
Mae argymhellion 9 a 10 yn cyfeirio at gysylltedd a'r angen i wella dealltwriaeth a defnydd o fancio ar-lein. Fodd bynnag, ceir problem gynhenid mewn bancio ar-lein, o ran yr henoed yn arbennig unwaith eto. Ceir cynnydd amlwg o hyd mewn gweithgarwch bancio ar-lein twyllodrus yn ôl ffigurau a ryddhawyd gan Financial Fraud Action UK. Cafwyd cyfanswm o £63 biliwn o golledion ar drafodion ar-lein neu dros y ffôn lle nad oedd deiliad y cerdyn yn bresennol hyd at, a chan gynnwys, y llynedd.
Mae argymhelliad 11 yn ymwneud ag effaith cau banciau a pheiriannau ATM am ddim i bawb ar ganol trefi a chymunedau. Rhaid inni dderbyn, fodd bynnag, fod banciau'n cau oherwydd y gostyngiad yn nifer y cwsmeriaid sy'n defnyddio canghennau banc, gyda mwy a mwy o gwsmeriaid yn dewis defnyddio bancio ar-lein. Wrth gwrs, mae'r duedd hon yn rhywbeth y mae banciau wedi bod yn awyddus i'w chefnogi, gan ei bod yn galw am lai a llai o safleoedd a llai o staff, heb ostyngiad cyfatebol yn eu ffrydiau refeniw. Mae'n ffaith ddiymwad fod colli banciau o drefi wedi gwaethygu dirywiad canol trefi gan ei fod yn cael effaith ddramatig ar nifer yr ymwelwyr â chanol y dref. Ond mae hefyd yn wir dweud bod ardrethi masnachol, a osodir fel arfer ar 48 y cant o'r gwerth ardrethol, hefyd yn cael effaith negyddol ar allu masnachwyr y stryd fawr i gadw presenoldeb yng nghanol trefi.
Nodaf yma ymwneud posibl Llywodraeth Cymru â Banc Cambria er mwyn archwilio'r posibilrwydd o sefydlu seilwaith bancio dielw, a'u dymuniad i hyrwyddo presenoldeb undebau credyd yng nghanol ein trefi yn lle hen fanciau'r stryd fawr lle bo'n bosibl. Credaf efallai mai seilwaith bancio masnachol dielw, cryf yw'r unig ffordd o wrthsefyll y dirywiad yn hygyrchedd gwasanaethau ariannol, ac felly hygyrchedd canol y dref, ond er mwyn cymryd lle banciau'r stryd fawr yn llwyr, rhaid iddynt gynnig yr un cyfleusterau ag yr arferai banciau masnachol eu cynnig i'r gymuned fusnes—a benthyciadau busnes a chyfleusterau trafod arian parod yn enwedig.
Rwy'n credu y dylai pob un ohonom atgoffa hen fanciau'r stryd fawr fod yna atebolrwydd cymdeithasol, fel y crybwyllwyd yn gynt, yn yr ystyr eu bod wedi gwneud elw enfawr ar gefn y cymunedau, ac mae ganddynt ddyletswydd gymdeithasol tuag atynt i gadw banciau lle bynnag y bo modd. Diolch.
Fel aelod o Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ein hymchwiliad yn ogystal â'r Cadeirydd a'r tîm clercio am eu gwaith rhagorol ar y pwnc hynod bwysig hwn. Mae'r rhestr o randdeiliaid a gyfrannodd yn faith ac yn amrywiol dros ben ac nid yw hynny'n syndod i mi mewn gwirionedd, oherwydd fe wyddom oll pa mor bwysig yw mynediad at fancio, a pha mor gryf y mae pobl yn teimlo ynglŷn â chau banciau mawr ar ein stryd fawr ar hyd a lled Cymru.
Fel aelod o'r meinciau cefn, mae llawer o'ch amser yn mynd ar waith pwyllgor ac yn aml iawn gallwch gael eich llesteirio gan ymchwiliadau sy'n bwysig ac yn deilwng iawn, yn craffu ar bolisi presennol neu'n edrych tua'r dyfodol, a meddwl, 'Er mor bwysig y credaf yw hyn, nid wyf yn siŵr iawn y byddai gan fy etholwyr gymaint â hynny o ddiddordeb yn yr hyn rwy'n ei wneud yma.' Ond ni fu hynny erioed yn wir gyda'r ymchwiliad hwn i fynediad at fancio. Roeddwn yn gwybod pe bawn yn egluro i bobl yng Nghwm Cynon beth roeddem yn edrych arno a pham, byddent yn cyfrannu, yn barod i leisio barn, ac yn awyddus i wybod beth yw'r canlyniad a lle gallai'r Cynulliad hwn a Llywodraeth Cymru wneud gwahaniaeth.
Er enghraifft, fel llawer o Aelodau eraill y Senedd hon, mae gennyf dudalen Facebook y byddaf yn cyfathrebu â fy etholwyr drwyddi, ac o'r holl negeseuon rwyf wedi'u postio ers i mi gael fy ethol yn 2016, yr un a gafodd fwy o sylw na'r un o'r lleill o bell ffordd, gwaetha'r modd, oedd neges a ysgrifennais i hysbysu etholwyr ynglŷn â chau'r Co-operative Bank yn Aberdâr. Nid hwn oedd y banc cyntaf yn y dref i gau ac yn wir, rhaid imi ddweud, yn anghyffredin iawn, mae gan y dref gynrychiolaeth dda o fanciau a chymdeithasau adeiladu, ond yr hyn a wnaeth y neges honno oedd adlewyrchu'r meddylfryd cyhoeddus a'r teimlad cyffredinol sydd gan bobl fod gan ein banciau ddyletswydd gymdeithasol i gynnal presenoldeb ar y stryd fawr, ac ni ddylent gael eu gyrru gan elw gormodol a'r symudiad at fancio ar-lein yn unig. Un o'r prif gwynion sydd gan bobl ynghylch cau banciau yw'r diffyg ymgynghori cymunedol cyn i'r canghennau gau, a'r amddiffyniad mynych a dall gan y sector bancio, sydd bob amser yn dweud mai penderfyniad masnachol yn unig ydoedd.
Felly roedd y broses o gau banciau yn un maes roeddem yn awyddus i ymchwilio iddo fel pwyllgor. Archwiliwyd y safon mynediad at fancio, y gall banciau a chymdeithasau adeiladu ymrwymo iddi, er nad oes rhaid iddynt wneud hynny, safon sy'n nodi sut y dylid hysbysu a chynorthwyo cwsmeriaid yn well ac yn amserol ar ôl gwneud penderfyniad i gau cangen o fanc. Mae'r adroddiadau diweddaraf yn awgrymu bod y diwydiant bancio wedi cydymffurfio'n dda â'r safon, sy'n fy arwain, yng ngoleuni'r problemau rydym yn ymwybodol iawn ohonynt, i gwestiynu a yw'r safon ei hun yn ddigon cryf ai peidio. Adlewyrchwyd hyn yn argymhelliad 6 ein hadroddiad, lle galwyd ar Lywodraeth y DU a Grŵp Strategaeth Arian Parod yr Awdurdodau ar y Cyd (JACS) i adolygu a yw'r safon mynediad at fancio yn ddigon cadarn i fynd i'r afael ag effaith cau banciau, neu a oes angen camau rheoleiddio neu gamau eraill. Yn ddealladwy, ni allodd Llywodraeth Cymru dderbyn ein hargymhelliad gan nad oes ganddi unrhyw bwerau datganoledig yn y maes hwn, ac mae hyn yn dangos y cymhlethdodau sy'n wynebu Llywodraeth Cymru wrth geisio dwyn banciau i gyfrif am eu hymddygiad yng Nghymru. A oes ffordd o amgylch hyn? A oes yna ateb sydd wedi'i wneud yng Nghymru? Wel, banc cymunedol i Gymru, o bosibl, ac mae hynny'n rhywbeth y byddaf yn dychwelyd ato'n ddiweddarach.
Wrth amddiffyn eu penderfyniad i gau banc, mae banciau bob amser yn awyddus i nodi'r rôl y gall swyddfeydd post ei chwarae yn darparu gwasanaethau bancio a chyfeirio'u cwsmeriaid presennol i'w cangen leol o Swyddfa'r Post. Ond a yw Swyddfa'r Post yn ateb amgen ymarferol mewn gwirionedd? Wel, fe edrychwyd ar hyn a gwelsom nad yw banciau'n gallu cynnig yr ystod lawn o wasanaethau mewn gwirionedd fel y nododd Aelodau eraill, a gwaethygir hyn gan y diffyg ymwybyddiaeth ymhlith y cyhoedd o wasanaethau bancio Swyddfa'r Post hefyd, gyda 55 y cant o oedolion heb fod yn ymwybodol, mae'n debyg, y gallant ddefnyddio Swyddfa'r Post ar gyfer bancio. Felly, arweiniodd hynny at argymhelliad 7 lle gofynasom i Lywodraeth Cymru adolygu ei chefnogaeth i rwydwaith Swyddfa'r Post a chodi ymwybyddiaeth o'r gwasanaethau hyn ar draws Cymru. Ac unwaith eto, daeth cymhlethdodau datganoli i'r amlwg yn ymateb Llywodraeth Cymru yma, wrth iddynt dderbyn ein hargymhelliad yn rhannol yn unig, gan mai mater i Lywodraeth y DU yw cyllid ar gyfer swyddfeydd post. Felly, unwaith eto, roedd hyn yn gwneud i mi feddwl a oes angen ateb wedi'i wneud yng Nghymru i osgoi'r cyfyngiadau hyn.
Ac mae hynny'n fy arwain at fanc cymunedol i Gymru, gyda'i fwriad i gynnig cyfrifon cyfredol, bancio wyneb yn wyneb a darparu benthyciadau gan staff profiadol. A allai hwn fod yn ateb y mae pawb ohonom yn ei geisio? Wel, mae llawer iawn yn y fantol gan fod disgwyliad y cyhoedd wedi'i adeiladu ar y polisi hynod boblogaidd hwn gan y Llywodraeth. Pan holasom Mark Hooper o Banc Cambria, sydd wedi cael y cyllid sbarduno i ddatblygu banc cymunedol i Gymru, dywedodd wrthym y gallai'r banc yn ymarferol greu mwy na 50 o ganghennau yng Nghymru o fewn pump i saith mlynedd, ac amcangyfrifodd y byddai tua 12 o'r rheini wedi'u staffio'n llawn a'r gweddill yn cynnig darpariaeth awtomataidd. Nawr, er y gallai hwn fod yn gam i'w groesawu i gefnogi ein cymunedau sy'n dioddef yn sgil cau banciau, rwy'n credu bod angen rheoli disgwyliadau i ryw raddau yma, ac mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn glir gyda phobl os mai dim ond tua un rhan o bump o ganghennau a fyddai wedi'u staffio'n llawn. Gwn y byddai cymunedau yn fy etholaeth sydd heb fanc yn falch iawn o feddwl y gallai Banc Cambria sefydlu cangen yno, ond a fyddent mor awyddus pe gwyddent mai darpariaeth awtomataidd yn unig y byddai'n ei chynnig? Felly, er bod Llywodraeth Cymru wedi derbyn ein hargymhelliad ar hyn, rwy'n dal i deimlo ei fod yn faes a allai alw am fwy o graffu wrth i gynlluniau ddatblygu.
Ac i gloi, mae hwn wedi bod yn ymchwiliad hynod bwysig, ac edrychaf ymlaen at weld cynnydd Llywodraeth Cymru yn y maes hwn.
Fel y dywedwyd, mae rhai ymchwiliadau pwyllgor yn denu mwy o sylw nag eraill, ond roedd yr ymchwiliad hwn yn taro tant gyda'r cyhoedd yn fwy na'r rhelyw, ac mae'n hawdd gweld pam, oherwydd bod mwy na 200 o fanciau wedi cau yng Nghymru ers 2008. Cawsom 874 o ymatebion i'r arolwg ar-lein, a dywedodd 87 y cant o gwsmeriaid bancio personol wrthym eu bod wedi cael eu heffeithio gan gau banciau, ac ar yr un pryd, dywedodd 78 y cant o gwsmeriaid bancio i fusnesau yr un peth.
Cafodd fy rhanbarth i ei tharo'n waeth na'r un, gyda chymunedau gwledig yn dioddef yn waeth na neb, a phe bawn yn ceisio enwi pob tref yr effeithiwyd arni, byddai fy amser yn dod i ben. Dyna pa mor wael yw'r sefyllfa hon. Mae gennym sefyllfa erbyn hyn lle nad oes gan drefi nodedig fel y Gelli Gandryll hyd yn oed unrhyw fanc stryd fawr ar ôl. Mae Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr wedi colli pedair rhan o bump o'u rhwydwaith bancio yn y pum mlynedd diwethaf.
Felly, dyna yw cefndir a chyd-destun yr ymchwiliad hwn, a gwnaethom waith da, ac edrychasom ar syniadau diddorol, fel model Preston, sy'n ddull cydweithredol sy'n canolbwyntio ar roi benthyg arian i fusnesau lleol hybu'r economïau lleol hynny.
Ond y realiti yw bod tua 86 y cant o bobl yn bancio gyda'r banciau mawr, a'r hyn nad yw yn yr adroddiad sy'n dweud fwyaf wrthyf fi, sef bod banciau mawr y stryd fawr wedi gwrthod rhoi tystiolaeth lafar. A pham y dylent? Fe roddasom £500 biliwn i achub y rhan fwyaf ohonynt gwta ddegawd yn ôl—£500 biliwn yn y 10 mlynedd diwethaf. Bedair blynedd yn ôl, cytunodd y diwydiant ar brotocol i leihau effaith cau banciau, mae'n ymddangos. Ond yn hollbwysig, mae Llywodraeth y DU wedi gadael iddynt ymryddhau o'u cytundeb banc-olaf-yn-y-dref a fyddai wedi eu hatal rhag amddifadu'r lleoedd y mae pawb ohonom yn eu gwasanaethu. Felly, pan gaeodd y gangen olaf yn y Gelli eleni, gwelaf fod rhai pobl yn galw ar gyngor Powys i gynnig ardrethi busnes is fel cymhelliad i'r banc aros. Rwy'n credu bod angen i ni wynebu'r gwir yma. Rydym yn sôn am fusnesau gwerth biliynau o bunnoedd. Maent yn gadael am eu bod yn gallu; nid ydynt yn gadael am na allant fforddio'r rhent neu am na allant fforddio aros. A beth bynnag, pam ar y ddaear y dylem ni, bwrs y wlad, sybsideiddio'r bobl hyn unwaith eto? Na.
Wrth wrthod rhoi tystiolaeth lafar i'n hymchwiliad, o'm rhan i mae'r banciau mawr wedi dangos yr un agwedd anystyriol ag y maent wedi'i dangos tuag at y cymunedau y maent wedi cefnu arnynt. Ac maent wedi cael gwneud hynny gan Lywodraethau Torïaidd olynol. Yn union fel y defnyddiodd y Torïaid yr argyfwng ariannol byd-eang fel esgus sinigaidd am ymosodiad ideolegol ar y wladwriaeth, i rwygo tyllau yn y system les a chwtogi gwasanaethau cyhoeddus a chilio'n gyffredinol rhag eu cyfrifoldebau cymdeithasol, cafodd ei ddefnyddio gan y banciau i ddiswyddo degau o filoedd o weithwyr a chau drysau'r siop i gael mwy fyth o elw.
Wrth gwrs, rwyf am fod yn glir yma fy mod yn siarad am y banciau mawr; nid wyf yn sôn am y cwmnïau cydfuddiannol yr aethom i'w gweld ac a oedd â'u gwreiddiau'n ddwfn yn eu cymunedau am eu bod yn teimlo'n rhan o'r cymunedau hynny, ac a oedd am barhau i wasanaethu'r cymunedau hynny. Felly, roeddwn eisiau gwneud hynny'n glir.
A wnewch chi ildio?
Rwy'n mynd i barhau.
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud yr hyn a all i lenwi'r bylchau. Mae wedi rhoi cefnogaeth sylweddol i undebau credyd—ac rwyf am ddatgan fy mod yn aelod o undeb credyd—ac mae wedi rhoi'r arian y gall ei roi i rwydwaith Swyddfa'r Post, ac mae'n edrych, ac rydym wedi'i glywed yma heddiw, ar greu banc cymunedol i Gymru. Rwy'n credu bod hwnnw'n bosibilrwydd cyffrous, ac rwy'n siŵr y bydd yn helpu'r bobl sydd ei angen, y bobl a fydd yn dibynnu ar fancio yn y gymuned i roi rhyw obaith iddynt allu cael gafael ar arian parod yn eu cymunedau. A dyna pam y bydd Llywodraeth Lafur y DU yn rhoi diwedd ar gau swyddfeydd post, a bydd yn dod â'r Post Brenhinol yn ôl i berchnogaeth gyhoeddus.
Mae a wnelo hyn â chyfrifoldeb ac atebolrwydd cyhoeddus ym maes bancio, ac rwy'n falch iawn ein bod wedi gwneud yr ymchwiliad hwn, ac rwy'n falch iawn ein bod yn gobeithio symud ymlaen gyda'n gilydd i sicrhau y gallwn wasanaethu'r bobl sydd ei angen yn ddybryd.
Jack Sargeant.
Diolch yn fawr, Lywydd. Rwy'n gwerthfawrogi eich bod yn caniatáu i mi siarad y prynhawn yma, ac ni fyddaf yn cymryd gormod o'ch amser, oherwydd rwy'n credu bod yr Aelodau wedi dweud y sylwadau'n briodol, ond yn benodol fe ganolbwyntiaf ar argymhellion 13 a 14 ynghylch banciau cymunedol. Bydd y Gweinidog yn gwybod, fel y mae'r Prif Weinidog, fy mod wedi bod yn gweithio'n galed i geisio dod â banc cymunedol i Fwcle ac wedi ymgyrchu i atal banc olaf y dref rhag cau.
Weinidog, rwy'n croesawu'r ffaith bod argymhellion y pwyllgor wedi'u derbyn, yn ogystal â'r gwaith a wnaed gan Banc Cambria hyd yn hyn, felly rwy'n gobeithio y gwnewch chi ymuno â mi i osod y bar yn uchel ar gyfer Banc Cambria yn y dyfodol: i fod y gorau y gall fod, gan gydweithio ag eraill, gan gynnwys undebau credyd, i ateb y gofynion a osodwyd ar gyfer yr holl fanciau ond nad ydynt yn cael eu cyflawni gan lawer ohonynt, sef sicrhau mynediad i bawb sydd eisiau mynediad at gyfrifon cyfredol mewn banc, gan gynnwys pobl heb gartref sefydlog, ac yn gyffredinol, i fod yn fanc i bawb.
Nawr, rwy'n credu ein bod wedi clywed mewn cyfraniadau ar draws y Siambr fod consensws clir yn bodoli. Oes, mae angen mwy o graffu yn y camau wrth symud ymlaen, ac rwy'n siŵr y byddwn yn eu dwyn i gyfrif, gan gynnwys y Llywodraeth, ond rwyf hefyd yn credu bod bron pob un ohonom yn cytuno bod angen i hyn ddigwydd—mae angen i fanc cymunedol ddigwydd. Felly, fy nghwestiwn yw—i chi, Weinidog, i'r Llywodraeth—sut y gallwn gyflymu hyn? Sut y gall Llywodraeth Cymru symud y broses hon yn ei blaen fel mater o frys a sefydlu banc cymunedol i Gymru yn gynt yn hytrach nag yn hwyrach?
Rwyf am orffen. Dywedais y buaswn yn gryno, Lywydd, a'r cyfan rwyf am orffen gydag ef yw: y cyfan rwyf ei eisiau ar gyfer y Nadolig yw banc ym Mwcle, yn ogystal â'r holl leoedd eraill sydd wedi cael eu taro'n galed yn sgil cau banciau ar hyd y blynyddoedd.
Galwaf ar Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates.
Lywydd, mae wedi bod yn bleser gwrando ar y cyfraniadau y prynhawn yma, a hoffwn ddiolch yn arbennig i Russell George am gadeirio ymchwiliad y pwyllgor i fynediad at fancio, yn ogystal ag Aelodau ei bwyllgor wrth gwrs. Mae'n amlwg fod llawer o ymdrech wedi mynd i gynhyrchu'r adroddiad rhagorol hwn, gan ymgysylltu â phartneriaid a rhanddeiliaid perthnasol, a hoffwn ddiolch i bob aelod o'r pwyllgor am eu gwaith caled.
Fel y noda adroddiad y pwyllgor, nid yw colli banciau a'r gwasanaethau a gynigiant i ddinasyddion ac i fusnesau o'n strydoedd mawr yn broblem newydd. Fodd bynnag, mae graddau'r cau yn dal i waethygu ar raddfa frawychus, a chlywsom am nifer o gymunedau heddiw sydd wedi colli eu banciau stryd fawr yn ddiweddar oherwydd bod banciau traddodiadol yn cilio o bob cymuned ledled Cymru, a dyma pam y cynhwyswyd yr ymrwymiad, gan weithio gyda rhanddeiliaid, i archwilio'r egwyddor a sefydlu banc cymunedol i Gymru ym maniffesto arweinyddiaeth y Prif Weinidog.
Fel y cadarnhaodd y Prif Weinidog yn gynharach y mis hwn, mae'r bartneriaeth a grëwyd gan Banc Cambria a'r Gymdeithas Banc Cynilion Cymunedol yn cwblhau cynllun prosiect manwl, ac mae asesiad cychwynnol o'r farchnad ac astudiaeth ddichonoldeb ar y gweill, gyda mewnbwn gan Banc Datblygu Cymru a Phrifysgol Caerdydd. Ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr iawn at dderbyn yr adroddiad hwnnw.
Nawr, rwy'n nodi bod gan y pwyllgor rai pryderon ynglŷn â dichonoldeb y cynnig bancio cymunedol a'i effaith bosibl ar undebau credyd yn arbennig, ond mae gwaith eisoes ar y gweill i sicrhau bod undebau credyd a'r banc cymunedol a chymdeithasau adeiladu'n cydweithio i ddod o hyd i'r atebion gorau i wella mynediad at wasanaethau bancio. Ac mae'r gwaith hwn yn canolbwyntio'n llwyr ar sicrhau cynhwysiant ariannol i bawb ym mhob rhan o'n gwlad.
Nawr, mae swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd wedi cyfarfod â rhwydwaith undebau credyd Cymru i archwilio cyfleoedd i gydweithio lle bynnag y bo modd. Gall cau banciau a cholli peiriannau ATM am ddim mewn cymunedau effeithio'n negyddol ar lawer o bobl, ond yn enwedig ar y rheini sy'n agored i niwed ac wedi'u hallgáu'n ariannol. Mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i sicrhau nad yw pobl ar incwm isel, yr henoed a phobl sy'n byw mewn cymunedau gwledig yn cael eu gadael ar ôl. Er y gallai bancio ar-lein a thrafodion heb arian parod fod yn opsiwn i lawer, rhaid inni beidio ag anghofio y bydd rhai pobl yn ei chael hi'n anodd, a bydd angen i grwpiau mwy agored i niwed gael mynediad at arian parod neu at ganghennau o fanciau yn lleol o hyd.
Nawr, ein gweledigaeth ar gyfer cynhwysiant ariannol yw i bawb sy'n byw yng Nghymru allu cael mynediad at wasanaethau ariannol priodol a fforddiadwy. Ac mae adroddiad y pwyllgor yn cydnabod yn gywir fod llawer o elfennau'r mater hwn wedi'u cadw'n ôl gan Lywodraeth y DU. Nawr, sylwaf fod y pwyllgor yn galw ar Lywodraeth y DU a'r grŵp JACS i adolygu a yw'r safon mynediad at fancio yn ddigon cadarn i fynd i'r afael ag effaith cau banciau ar bobl sy'n agored i niwed, ar fentrau bach a chanolig a chymunedau lleol. Fodd bynnag, rydym wrthi'n chwilio, a byddwn yn parhau i chwilio, am gyfleoedd i ymgysylltu ac i ddylanwadu ar lefel y DU. Rhaid i ni sefydlu sianeli cyfathrebu clir lle gallwn sicrhau bod anghenion penodol dinasyddion Cymru yn cael eu clywed, ac yn cael eu diwallu wedyn hefyd.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Ym mis Mawrth—. Gwnaf, wrth gwrs.
A gaf fi ddweud fy mod i wedi mynegi'r pryder hwnnw gydag argymhelliad 6 yn fy araith? Rwy'n credu bod y Gweinidog wedi tawelu fy meddwl, felly diolch. Ac mae'n braf—. Rwy'n credu bod hynny'n werth ei gofnodi.
Diolch. A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei sylw caredig?
Yn ôl ym mis Mawrth 2016, fe wnaethom nodi sut y mae Llywodraeth Cymru yn awyddus i ymuno â sefydliadau partner, yng Nghymru ac ar lefel y DU, i weithio tuag at gymdeithas sy'n fwy cynhwysol yn ariannol yng Nghymru. Mae cynhwysiant digidol yn dal yn fater allweddol o ran cyfiawnder cymdeithasol a chydraddoldeb. Mae'r rhai nad ydynt yn defnyddio technoleg ddigidol yn bersonol neu sy'n ddefnyddwyr cyfyngedig ar ei hôl hi o ran mynediad at wybodaeth, at wasanaethau, at well bargeinion ac at nwyddau rhatach a sicrwydd ariannol. Mae ein fframwaith cynhwysiant digidol a'n cynllun cyflawni yn cydnabod bod cael eich cynnwys yn llawn yn ddigidol yn broses barhaus, sy'n galw am gymorth parhaus. Mae hwn yn fater na all Llywodraeth Cymru fynd i'r afael ag ef ar ei phen ei hun ac mae'n un sy'n galw am ymrwymiad yr holl bartneriaid a'r gymdeithas ehangach.
Nawr, mae llawer o rwystrau i ddefnyddio gwasanaethau ar-lein: diffyg sgiliau, mynediad a chymhelliant, yn enwedig i'r rheini ar incwm isel, pobl hŷn a phobl sy'n wynebu rhwystrau sy'n anablu mewn cymdeithas. Yn aml, cwsmeriaid sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol sydd wedi'u hallgáu fwyaf yn ariannol hefyd, felly ni ddylent gael eu cosbi ymhellach gan y newid anochel i wasanaethau mwy digidol.
Gwn fod llawer o fanciau'n cynnig gweithgareddau cynhwysiant digidol ac yn wir, mae Cymunedau Digidol Cymru wedi gweithio gyda Lloyds, Barclays a Nat West i gydgysylltu gweithgareddau cynhwysiant digidol yn well ar draws cymunedau. Fodd bynnag, dylai banciau helpu i sicrhau bod eu cwsmeriaid yn cael cyfleoedd i ennill hyder a sgiliau digidol i gael mynediad at yr ystod lawn o wasanaethau bancio sydd eu hangen arnynt, a darparu mesurau amgen i rai na allant neu na wnânt ddefnyddio gwasanaethau ar-lein.
Mae mynediad at fand eang cyflym a dibynadwy, wrth gwrs, yn anghenraid cynyddol, gan gynnwys darparu mynediad at wasanaethau bancio, ac mae Cyflymu Cymru wedi darparu mynediad at fand eang cyflym i fwy na 733,000 o safleoedd. Mae wedi trawsnewid y tirlun digidol ar draws Cymru, ac ni fyddai'r un o'r safleoedd hyn wedi cael mynediad at fand eang cyflym a dibynadwy heb ein hymyrraeth ni. Yn ogystal, gall cynlluniau datblygu lleol fynd i'r afael ag ystod eang o broblemau'n ymwneud â datblygu a defnyddio tir, gan gynnwys anghenion seilwaith. Gall cynlluniau datblygu lleol gynnwys polisïau i gefnogi seilwaith arian parod lle mae'n ymwneud â datblygu a defnyddio tir.
Nawr, mae'r math o bolisïau cynllunio manwl sy'n effeithio ar beiriannau ATM, er enghraifft, yn sicrhau eu bod mewn lleoliadau sensitif mewn perthynas ag adeiladau rhestredig, neu wedi'u gosod mewn mannau lle nad yw ciwiau'n effeithio ar ddiogelwch priffyrdd. Mae'r rhain yn faterion y mae awdurdodau cynllunio lleol yn ymdrin â hwy'n rheolaidd mewn cynlluniau datblygu lleol eisoes, ac nid ydynt yn rhywbeth y dylai Llywodraeth Cymru fod angen eu cefnogi wrth ddrafftio.
Er yr argymhellir y bydd banciau'n parhau i gau canghennau nad ydynt yn hyfyw yn fasnachol, teimlwn fod gan fanciau ymrwymiad i liniaru effeithiau cau banciau mewn cymunedau ledled Cymru. Mae angen iddynt sicrhau bod y newid yn cael ei reoli fel nad yw pobl sy'n agored i niwed yn cael eu hallgáu a bod cwsmeriaid yn dal i allu cael gafael ar gynhyrchion bancio yn eu cymuned leol.
Wrth gloi, hoffwn gadarnhau fy ymrwymiad i gymdeithas sy'n fwy cynhwysol yn ariannol yng Nghymru. Mae adroddiad y pwyllgor wedi tynnu sylw at nifer o feysydd y bydd angen i ni eu hystyried dros yr ychydig fisoedd nesaf, ac rwy'n falch ein bod eisoes yn datblygu meysydd a fydd yn helpu i liniaru effeithiau niweidiol cau banciau ac anawsterau gyda mynediad at fancio.
Russell George i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Lywydd. Credaf fod ein hadroddiad yr wythnos diwethaf ar bartneriaethau sgiliau rhanbarthol wedi cael ymateb gwahanol iawn, ac roeddem yn eithaf beirniadol, efallai, o ymateb y Llywodraeth i'n gwaith, ond ar y gwaith hwn, rwy'n croesawu'n fawr fod y Gweinidog yn amlwg o ddifrif ynglŷn â hyn, ac rwyf wrth fy modd fod y rhan fwyaf o'n hargymhellion wedi'u derbyn, ac roedd yr ymateb i'n gwaith yn gadarnhaol ar y cyfan, buaswn yn dweud, er bod prinder manylion mewn rhai mannau o bosibl, ond yn gadarnhaol at ei gilydd.
Hoffwn ymateb efallai i rai o'r pwyntiau y mae Aelodau eraill wedi'u gwneud yn ystod y ddadl. Tynnodd Hefin sylw at sut y dysgasom gymaint yn ystod ein gwaith. Dysgasom am y grŵp JACS, ond mae yna bethau eraill yn codi. Buaswn yn dweud bod yr holl waith a wnawn yn bleserus, wrth gwrs, ac yn ddiddorol, ond roedd hon i'w gweld yn elfen fwy pleserus o'r gwaith hwn, gan i ni ddysgu cymaint wrth inni fynd drwy'r adroddiad. Ac wrth i'r tystion roi tystiolaeth i ni, daeth pethau i'r amlwg nad oeddem wedi eu disgwyl ar y cychwyn o bosibl. Nododd Hefin hefyd, yn gwbl briodol, na chafodd rhai o'r argymhellion eu derbyn am fod y Llywodraeth wedi ymateb gan ddweud mai materion i Lywodraeth y DU oedd y rhain, ond yr hyn y byddem ni'n ei ddweud, a'r pwynt roedd Hefin yn ei wneud, yw y gallai Llywodraeth Cymru dderbyn yr argymhellion hynny a defnyddio'i rôl i lobïo'r Llywodraeth.
Aeth Bethan i'r afael â rhai o'r problemau ynghylch yr elw enfawr a wna'r banciau, a thynnodd Joyce Watson sylw at y pwyntiau hyn hefyd. Rydym yn sicr yn teimlo fel pwyllgor y dylai fod gan fanciau gyfrifoldeb cymdeithasol. Yn aml, dywedir wrthym fod banciau'n breifat a'u bod yn endidau masnachol, ond wrth gwrs, mae'n rhaid inni gofio, fel y dywedodd Joyce, ein bod ni, fel trethdalwyr, wedi achub croen y banciau, felly mae ganddynt gyfrifoldeb. Roedd pwyntiau eraill a wnaeth Joyce nad wyf am roi sylwadau arnynt fel Cadeirydd o bosibl—
A wnewch chi dderbyn ymyriad, os gwelwch yn dda?
Iawn, David.
Nid cyfrifoldeb ydyw, does bosibl—mae'r banciau'n atebol i'r cymunedau.
Wel, fel pwyllgor, roeddem yn sicr yn teimlo bod gan y banciau gyfrifoldeb cymdeithasol, a dylent fod yn chwarae'r rôl honno. Fe ymhelaethaf ychydig rhagor ar hynny efallai.
Ond mae rhai heriau penodol o ran y math o adnoddau y bydd eu hangen ar Banc Cambria, a chodwyd hynny gan nifer o gyfranwyr—credaf fod Bethan a Hefin wedi gwneud y pwynt hwnnw. Felly, rydym yn awyddus iawn i beidio â gadael i hyn fynd fel pwyllgor. Rydym am archwilio'n ofalus iawn wrth i Banc Cambria ddatblygu. Rwy'n credu bod Jack Sargeant wedi nodi hefyd pa mor gyflym rydym am i hyn ddigwydd. Ond efallai fod angen deall rhai o'r heriau gwirioneddol sy'n bodoli o ran datblygu Banc Cambria, ac yn sicr rydym am edrych ar hyn yn fanylach, rwy'n meddwl, fel y nododd Vikki hefyd.
David Rowlands—diolch i David am ei gyfraniad. Tynnodd David sylw at y pwynt ein bod ni yn y fan lle rydym oherwydd gostyngiad yn y niferoedd. Mae pobl yn llai tebygol o ddefnyddio'r banc. Mae nifer y rhai sy'n mynd iddynt wedi gostwng. Dyna'r pwynt amlwg na wneuthum ei ddweud o bosibl, ac ni wnaeth eraill ei ddweud. Dyna pam ein bod yn y fan lle rydym. Ond mae'r banc, wrth gwrs, yn dweud wrthym mai dyna'r rheswm ac y gall pawb fynd ar-lein, ond y pwynt yma yw na all pawb fynd ar-lein, sef y pwynt yr aeth yn ei flaen i'w wneud—mae yna rai pobl na allant wneud hynny am ba reswm bynnag, naill ai am nad oes ganddynt gysylltedd, am nad oes sgiliau ganddynt, neu am fod yna broblemau diogelwch y maent yn pryderu amdanynt. Ac am amryw o resymau, nid yw pobl yn barod i wneud hynny, ac nid ydym eto'n barod i symud i'r sefyllfa y mae'r banciau mor barod inni symud iddi.
O ran ymateb y Gweinidog i'n gwaith, rwy'n credu hefyd fod llawer o hyn wedi'i gadw'n ôl, ond mae'n hanfodol i bobl yng Nghymru. Felly, rwy'n credu y byddai'r pwyllgor yn croesawu mwy o fanylion am ganlyniad yr ymgysylltiad Cymreig â JACS a sut y mae'n trosi'n weithgaredd. Rydym hefyd am weld ei bod yn bwysig parhau i archwilio pob trywydd, yn enwedig gan nad yw'n hollol glir sut y gall Banc Cambria fodloni anghenion pobl hŷn, pobl anabl—cwsmeriaid agored i niwed sydd angen gweithredu priodol a gwasanaethau wyneb yn wyneb. Ac rwy'n credu mai Joyce Watson a dynnodd sylw at y ffaith nad ydym yn gwybod yn union eto sut olwg fydd ar Banc Cambria. A yw'n mynd i fod yn fanc sy'n gweithredu gwasanaethau wyneb yn wyneb, neu a yw'n mynd i fod yn fanc lle gallwch fynd i mewn a gweld mwy o dechnoleg?
A wnewch chi ildio?
Gwnaf, Mark.
Rwy'n meddwl tybed pa ystyriaeth a roesoch i gwmnïau cydfuddiannol hefyd. Clywsom gyfeiriad at rai preifat, sy'n golygu cronfeydd yswiriant a chronfeydd pensiwn wrth gwrs, ond aeth llawer o gwmnïau cydfuddiannol a chymdeithasau adeiladu i'r wal, ac mae'r canghennau sydd wedi cau yn cynnwys llawer o gymdeithasau adeiladu, sydd wedi cael gwared ar beiriannau arian hefyd. Felly, mae'n ymwneud â sut yr edrychwn ar y sector cyfan, yn hytrach nag edrych ar fanciau preifat yn unig.
Rwy'n derbyn pwynt Mark Isherwood. Mae hwn yn faes cymhleth iawn. Er inni weld uchelgais Banc Cambria, yr hyn roeddem yn pryderu yn ei gylch fel pwyllgor yw'r canlyniadau i undebau credyd a chyrff eraill, o ran cael effaith negyddol, ac efallai y canlyniadau anfwriadol ar wasanaethau eraill. Ond mae'n faes hynod gymhleth, ac rwy'n credu bod rhaid i Lywodraeth Cymru weithio'n galed ar y dulliau sydd ar gael iddi. Prin grafu'r wyneb a wnaeth ein hymchwiliad yn fy marn i, ond gobeithio ein bod wedi taflu rhywfaint o oleuni ar hyn efallai o ran beth sy'n rhaid i fanciau ei wynebu.
Rwy'n dod â fy nghyfraniad i ben. Dywedodd Jack Sargeant ei fod am ddymuno Nadolig llawen o ran—. Rwy'n credu iddo ddweud ei fod eisiau dymuno i bawb—. Ei ddymuniad ar gyfer y Nadolig oedd banc ym Mwcle—a yw hynny'n gywir? Mae hynny'n gywir. Y cyfan y mae arno ei eisiau ar gyfer y Nadolig yw banc ym Mwcle. Ond hoffwn ddweud y dylem ddiolch i bawb a gymerodd ran yn yr ymchwiliad hwn. Roedd y dystiolaeth a ddarparwyd o safon uchel ac yn arbennig, hoffwn ddymuno Nadolig llawen i'r rhai sy'n ein cefnogi fel Aelodau Cynulliad wrth i ni gyflwyno ein hymchwiliadau, o ran eu drafftio a'r ymchwil a wneir ar eu cyfer yn ogystal. Felly, Nadolig llawen i'r staff sy'n rhoi cymaint o gymorth inni wneud hyn.
Rwy'n credu yr hoffwn orffen—. Mae'n siomedig—cyfeiriodd Joyce Watson at hyn—na chymerodd y banciau eu hunain ran yn ein hymchwiliad fel y byddem wedi'i ddymuno. Mae hyn yn wirioneddol siomedig, mae arnaf ofn. Cawsant gyfle i gymryd rhan ac ni wnaethant hynny. Felly, nid ydym yn dymuno Nadolig llawen iddynt hwy. [Chwerthin.]
Y cwestiwn yw: a ddylid nodi adroddiad y pwyllgor? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Rebecca Evans, a gwelliant 2 yn enw Rhun ap Iorwerth. Os derbynnir gwelliant 1, caiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Yr eitem nesaf yw dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar addysg ysgolion, a dwi'n galw ar Suzy Davies i wneud y cynnig.
Cynnig NDM7218 Darren Millar
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi canlyniadau PISA 2018 y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD).
2. Yn gresynu:
a) na fu unrhyw welliant ystadegol sylweddol yn sgoriau PISA Cymru mewn darllen a mathemateg ers 2006;
b) bod sgoriau Gwyddoniaeth Cymru yn sylweddol waeth nag yn 2006;
c) bod Cymru wedi'i gosod ar waelod gwledydd y DU mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth;
d) mai Cymru yw'r unig genedl yn y DU sydd â sgôr is na chyfartaledd yr OECD ym mhob un o fesurau PISA.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) cydnabod ei methiant i wella addysg yng Nghymru;
b) ymddiheuro i ddisgyblion, rhieni ac ysgolion am eu siomi;
c) gwarantu bod adnoddau ychwanegol yn deillio o wariant ychwanegol ar ysgolion gan Lywodraeth y DU yn cael ei fuddsoddi mewn ysgolion yng Nghymru.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Llywydd, ac a gaf i ddymuno Nadolig llawen i bawb hefyd cyn ichi gredu dwi ddim yn ei feddwl ar ôl y ddadl hon?
A gaf fi ddiolch i chi, Lywydd? Ac rwy'n mynd i wneud y cynnig, fel y mae ar y papurau heddiw.
Nawr, mae'n ddiddorol, onid yw, unwaith eto, i weld o welliant Llywodraeth Cymru, sut y mae plaid sydd wedi bod mewn grym ers 20 mlynedd yn trin beirniadaeth a wneir gan yr wrthblaid swyddogol yn y Cynulliad hwn? Mae seiborgiaid gwleidyddiaeth Cymru yn parhau i ddileu'r gwirionedd os yw'n rhwystro'r hyn y maent am i bobl Cymru ei wybod am gyflawniad eu Llywodraeth. Felly, yn ystod y ddadl hon, rwy'n gobeithio y bydd y Cynulliad yn gwrthod 'meddwl grŵp Cymru' ac yn cydnabod yr hyn a wnaeth gwleidyddiaeth un blaid i'n system addysg er 2006—y dyddiad y dechreuasom gymryd rhan yng nghanlyniadau PISA. Oherwydd pa newidiadau bynnag a fu o dan y Gweinidog Addysg, o blaid wahanol, Prif Weinidogion Llafur olynol sy'n atebol yn y pen draw.
Pam y mae'r Llywodraeth wedi dileu ein cynnig cyfan? Pam rydych chi'n wfftio'r hyn y mae gan ein hetholwyr hawl i'w wybod ac anwybyddu'r cwestiynau y cawsom ein hethol i'w gofyn? Buaswn yn barod i gydnabod gwelliannau ar ffigurau 2015, ond mae'r Llywodraeth yn gwbl dawedog ynglŷn â'r ffaith bod ffigurau 2015 ymysg y gwaethaf a gawsom erioed. Mae'r ddadl hon yn edrych yn llawer pellach na hynny.
Fe ddywedwch fod gwelliant mewn gwyddoniaeth, nid gwelliant sylweddol, yn ôl y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd—tri phwynt—ond da iawn, athrawon a disgyblion ar gael hynny. Ond mae'n dal i fod yn ostyngiad o 17 pwynt ers 2006. A ydych chi wir yn disgwyl inni groesawu hynny? Nid yw cynnydd o ddau bwynt mewn darllen a chynnydd o bedwar pwynt mewn mathemateg ers 2006, eto, yn sylweddol yn ôl y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Unwaith eto, mae'n rhaid imi ddweud, eu sylw hwy, nid fy sylw i, er fy mod yn credu bod gwelliant mewn mathemateg ers i gyflawniad yn y pwnc fod ar ei isaf erioed yn 2012 yn werth canmol athrawon yn ei gylch. Rwy'n credu eu bod wedi gwneud yn wych ar hynny.
Yr argraff a gaf fi yw eich bod yn gobeithio y bydd y gwelliannau cymedrol hyn eleni yn celu dirywiad yn yr wybodaeth a'r sgiliau a nodwyd yn y profion PISA dros y 12 mlynedd diwethaf—blynyddoedd pan gawsom ein llywodraethu gan y Blaid Lafur. Ac os nad yw ein sgoriau gwyddoniaeth yn ddigon i adael y botel siampaen honno, neu ei thynnu oddi ar y silff, nid yw'r ffaith bod sgoriau darllen a mathemateg Cymru eto ond yn ôl i lle dechreuasant 12 mlynedd yn ôl yn rheswm dros ddathlu. Dylem fod ar y blaen yn y degawd diwethaf, nid yn dal i lusgo ar ôl gwledydd eraill y DU. Dyna 12 mlynedd o'n plant a'n pobl ifanc nid yn unig yn llusgo ar ôl eu cyfoedion yn yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr, ond ar ôl y plant a'r bobl ifanc yng Nghymru a aeth o'u blaenau. Dyna rydym yn gofyn i'r Llywodraeth ymddiheuro amdano. Mae eich dathliad yn sgil ailgyrraedd y status quo, pan oedd y status quo hwnnw ei hun yn destun pryder, yn fynegiant perffaith o gyffredinedd nad yw'n adnabod dim sy'n uwch nag ef ei hun, ac felly, gwrthodwn eich gwelliant.
Ac mae'n ddrwg gennyf orfod ei wneud. Hoffwn groesawu'r lleihad yn y bwlch rhwng ein dysgwyr mwyaf difreintiedig a'u cyfoedion a'r canlyniadau gwell i gyflawnwyr uwch, oherwydd mae hynny'n awgrymu bod rhai o'r cyflawnwyr uwch hynny'n dod o gefndiroedd difreintiedig—plant sydd, at ei gilydd, yn cael eu gorgynrychioli o hyd yn y carfanau sy'n perfformio ar lefelau is. Rwy'n credu y byddai ein cynlluniau ar gyfer premiwm disgybl i blant sy'n derbyn gofal yn cyfrannu at leihau'r bwlch hwnnw yn ogystal â chodi cyrhaeddiad cyffredinol.
Er hynny, mae'r grant datblygu disgyblion yn ddull sylweddol a sefydledig o wella canlyniadau i'n disgyblion mwyaf difreintiedig. Ond mae ein plant mwyaf difreintiedig yn dal i gael sgoriau is mewn darllen, sef yr archwiliad dwfn eleni, na phlant tebyg yng ngwledydd eraill y DU. Ac ar gyfer ein disgyblion lleiaf difreintiedig, mae'r bwlch hwnnw'n tyfu hyd nes y bydd eu sgôr darllen yn 40 pwynt y tu ôl i'w cyfoedion yn Lloegr ac yn 20 pwynt y tu ôl i gyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Mae bwlch cyrhaeddiad arall yma—un enfawr, Weinidog—ac ni ellir ei anwybyddu.
A chyn bod unrhyw un eisiau siarad amdanynt, cyfartaleddau'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, gadewch i ni gofio, at ei gilydd, nad ydynt wedi gwella'n arbennig eleni. Ac nid ydynt yn gyfartaledd y gwledydd sy'n cymryd rhan hyd yn oed. Nid ydynt erioed wedi cynnwys y sgorwyr uchaf yn y profion hyn fel taleithiau Tsieina a Singapôr. Fel gyda chyllid fesul disgybl, ni allwch hawlio gwelliant am ddim rheswm gwell na bod y rhai o'ch cwmpas yn gwaethygu.
Nawr, rwy'n sylweddoli y bydd rhai ohonoch chi eisiau peintio hyn fel beirniadaeth o blant, athrawon ac arweinwyr ysgolion, ond nid yw hynny'n wir o gwbl. Mae'r ffaith bod yna welliant o gwbl yn dyst, yn wir, i waith disgyblion ac athrawon. Dyma'r bobl sydd â phrofiad beunyddiol o fywyd ysgol ac sy'n gorfod ymdopi â newid polisi, blaenoriaethau addysgol, academaidd a lles sy'n newid, newidiadau mewn dulliau magu plant, cyllid is fesul disgybl dros nifer o flynyddoedd, setliadau cyllido mwyfwy anodd gan gynghorau, gostyngiad yn niferoedd athrawon, a phrinder adnoddau. Er bod 79 y cant ohonynt wedi bod ar gyrsiau datblygiad proffesiynol yn ddiweddar, y ffaith bod athrawon yn llwyddo i gael unrhyw lwyddiant, mewn gwirionedd, yn y newid ffocws hwn o gaffael gwybodaeth i gymhwyso gwybodaeth, yn erbyn y cefndir hwn yw'r un peth rwy'n credu y gallwn ei longyfarch. Mae'n newid pwyslais y mae pob un ohonom yn cytuno ag ef mewn egwyddor. Cytunwn â rhan (a) o welliant Plaid Cymru, ond rydym yn rhannu eu pryderon ynglŷn â sut y bydd hyn yn gweithio'n ymarferol, a hyd nes y gwelwn y cynigion manwl ar gyfer y cwricwlwm newydd ym mis Ionawr, rhaid i'n cefnogaeth barhau i fod yn un mewn egwyddor.
Rwy'n cytuno â chi, Weinidog. Mae gwir raid i rywbeth newid. Fel Ceidwadwyr Cymreig, credwn y dylai athrawon fod yn rhydd i addysgu, heb eu llyffetheirio ac eithrio gan fframwaith llywodraethu rhagorol ac atebolrwydd cadarn, credadwy a pherthnasol. Rydym am i hyn weithio, ond o gofio sgoriau is yr Alban mewn gwyddoniaeth a mathemateg yng nghyfnod Donaldson, mae angen i ni fod yn wyliadwrus hefyd. Ac mae angen i ni fod yn wyliadwrus gan fod y canlyniadau TGAU, canlyniadau pellach diwygiadau a gynlluniwyd i alinio'n well â PISA wedi'r cyfan, yn is yn yr ystod A* i C, er gwaethaf y cynnydd yn y sgoriau A*. Ymddengys bod hynny'n cael ei adlewyrchu yng nghanfyddiadau PISA hefyd. Mae'r canlyniadau PISA hynny'n dangos yn ogystal fod perfformiad gwell gan ein cyflawnwyr uchaf, sy'n dod â ni'n nes at gyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, yn dal i fethu mynd â ni dros y llinell. Nid yw'r perfformiad yn well nag yn 2006, ac wrth gwrs, mae'n waeth o 17 o bwyntiau mewn gwyddoniaeth.
Efallai y cofiwch imi fynegi pryderon fod y rhai a fydd yn y garfan nesaf o ddisgyblion sy'n gwneud profion PISA eisoes yn dangos cyrhaeddiad is yng nghyfnod allweddol 2 a chyfnod allweddol 3 nag ar unrhyw adeg ers 2007, felly blwyddyn yn unig ar ôl 2006. Ni fydd gorfodaeth bellach ar ysgolion i osod targedau ar gyfer Cymraeg neu Saesneg a mathemateg. Os nad yw'r disgyblion hyn yn gwneud cystal ar y cam hwn yn eu taith ysgol na'r rhai a aeth ymlaen i wneud yn siomedig mewn profion PISA yn y 12 mlynedd diwethaf, dylai hyn fod yn canu larymau yn awr os yw'r arwyddion cynnar hyn o welliant i ddatblygu'n unrhyw beth o werth.
Ac felly down at bwynt 3 ein cynnig. Mae Plaid Cymru'n hoffi newid unrhyw gyfeiriadau cadarnhaol at Lywodraeth y DU, felly ni fyddwn yn cefnogi gwelliant diangen, ond rydym yn dod o'r un lle yma fwy neu lai. Weinidog, fe fyddwch wedi gweld adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar gyllido ysgolion. Nid yw sicrhau mwy o arian yn y gyllideb ar gyfer addysg yr un fath â sicrhau mwy o arian i ysgolion. Mae ein cynnig ni a gwelliant Plaid Cymru'n sôn am arian i ysgolion. Mae adroddiad PISA yn sôn am gwynion athrawon ynglŷn â diffyg adnoddau. Credaf fod hyn wedi dod i'r pen yn awr, a bydd angen i chi ddweud wrthym, er nad chi yw'r Gweinidog llywodraeth leol, sut y bwriadwch sicrhau y bydd unrhyw arian ychwanegol i ysgolion yn y gyllideb y mis nesaf yn cyrraedd yr ysgolion hynny mewn gwirionedd.
Byddaf yn eich deall yn buddsoddi yn y blynyddoedd cynnar—mae'n flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru a dyma lle bydd angen gwneud gwaith sylfaenol, gan gynnwys buddsoddi mewn dysgu Cymraeg. Deallwn mai dyna'n rhannol pam y mae Estonia yn gwneud yn dda. Ond mae £195 miliwn yn dod i floc Cymru o ymrwymiad addysg y DU a £35 miliwn ar gyfer anghenion dysgu ychwanegol. Mae ein hysgolion angen hynny'n gyflym ac yn uniongyrchol, a byddwn yn edrych ar gyllideb mis Ionawr i weld sut y bwriadwch ei gael iddynt. Fel arall, bydd y broses o ddenu athrawon newydd i'r proffesiwn yn arafu ymhellach. Fe gofiwch i ni drafod targedau Cyngor y Gweithlu Addysg a'u diffyg cysylltiad â nifer yr athrawon sy'n cymhwyso yng Nghymru eleni. Nid oes unrhyw un am weithio mewn sefydliad heb ddigon o fuddsoddiad a chwestiynau ynglŷn â lle mae arian y gallent fod wedi'i gael yn mynd mewn gwirionedd. Mae'n rhaid i mi ddweud mai'r un canfyddiad PISA rwy'n ei gael yn eithaf anodd ei ddeall oedd bod gan ysgolion yng Nghymru ddigon o athrawon, pan fyddwn yn clywed, yn y pwyllgor ac yn y Siambr hon, am absenoldeb athrawon a dibyniaeth ar asiantaethau cyflenwi wedi'u rheoleiddio'n wael.
Ond mae llawer i'w gasglu o'r adroddiad PISA hwn, ac rwy'n gobeithio y bydd eraill yma heddiw'n nodi, efallai, y manylion y tu ôl i'r sgoriau darllen hynny; problem barhaus bosibl gyda gwerthusiad athrawon o faterion disgyblu; a rôl y sgrin ddigidol mewn dysgu a llesiant—y canfyddiadau siomedig, mewn gwirionedd, ar lesiant o gymharu, efallai, â'r hyn a glywsom gan Estyn ychydig fisoedd yn ôl yn unig.
Bydd y canlyniadau PISA nesaf yn cael eu craffu gan y Senedd Cymru nesaf. Mae'r targed cyffredinol o 500 yn ymddangos mor bell heddiw ag y byddai wedi edrych yn 2006. Eto i gyd, mae angen inni ei gyrraedd; mae angen i ni gyflawni ar yr holl flynyddoedd rydym wedi siarad yn y Siambr hon am blant yn cyflawni eu potensial, er mwyn eu hunain, er mwyn cydlyniant cymunedol, er mwyn gwell ffyniant economaidd. Oherwydd hynny, nid yw'r cyfartaledd byth yn mynd i fod yn ddigon da i'n haddysg.
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf ar y Gweinidog Addysg i gynnig yn ffurfiol gwelliant 1.
Gwelliant 1—Rebecca Evans
Dileu popeth ar ôl pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi mai Cymru yw'r unig genedl yn y DU i wella ym mhob maes.
Yn croesawu:
a) sgoriau gorau Cymru erioed mewn darllen a mathemateg, a gwelliant mewn gwyddoniaeth;
b) gostyngiad yn y bwlch rhwng ein dysgwyr mwyaf difreintiedig a'u cyfoedion;
c) gwelliant ym mherfformiad myfyrwyr uchel eu perfformiad.
Yn credu bod y gwelliant yn sgoriau PISA yn brawf o waith caled athrawon a disgyblion ledled Cymru.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Rwy'n cynnig.
Rwy'n galw nawr ar Helen Mary Jones, felly, i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.
Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth
Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) barhau ar y trywydd o ddiwygio’r cwricwlwm newydd a gadael iddo wreiddio fel rhan o’r ymgais i godi safonau;
b) gwarantu bod yr adnoddau angenrheidiol ar gael i ysgolion er mwyn gallu gwella amodau gwaith athrawon ac i ddenu mwy o athrawon newydd i’r proffesiwn.
Cynigiwyd gwelliant 2.
Diolch, Lywydd. Rwy'n codi i gyfrannu at y ddadl hon yn lle fy nghyd-Aelod Siân Gwenllian, sef ein llefarydd wrth gwrs, ac nid yw'n bresennol heddiw.
Rwy'n teimlo fy mod—ac fel grŵp, rydym yn teimlo—ein bod mewn sefyllfa amhosibl i ryw raddau. Mae gennyf gydymdeimlad â llawer o'r hyn y mae Suzy Davies wedi'i ddweud heddiw. Rydym yn rhannu rhai o'r pryderon y mae'r Ceidwadwyr yn eu lleisio. A dweud y gwir, pe baem wedi clywed cyfraniad Suzy Davies yn hytrach na dim ond darllen y cynnig, efallai y byddem wedi bod yn fwy awyddus i'w gefnogi. Oherwydd os darllenwch y cynnig fel y mae, nid yw'n cydnabod y gwaith da y mae athrawon wedi'i wneud. Mae'n gofyn am ymddiheuriad, wyddoch chi, ac mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad â hynny eto, ond mae'n annheg braidd. O'i ddarllen, edrychai i ni fel pe bai'n mynd i fod yn un o'r dadleuon dibwynt hynny rydym wedi'u cael yma, sy'n ymwneud mwy â phethau nad ydynt yn digwydd yn y lle hwn ond sy'n digwydd mewn mannau eraill mewn gwirionedd.
Y peth arall y mae angen imi ei ddweud am y Ceidwadwyr yn y cyd-destun hwn yw bod angen iddynt ysgwyddo rhywfaint o gyfrifoldeb am y problemau sy'n ymwneud ag adnoddau. Nid wyf yn dweud, Lywydd, mai bai unrhyw Aelod Ceidwadol sy'n eistedd yn y Siambr hon yw bod y lle hwn—ein Llywodraeth genedlaethol a'n Senedd genedlaethol—wedi gweld ei adnoddau'n diflannu. Mae angen dweud wrth gyd-Aelodau ar y meinciau Llafur fod hynny wedi dechrau digwydd dan oruchwyliaeth Gordon Brown, felly nid yw dwylo neb yn hollol lân yma. Ond rwy'n credu ei bod braidd yn hyf i'r Ceidwadwyr ymosod ar Lywodraeth Cymru am beidio â buddsoddi pan nad oes arian i'w fuddsoddi.
Felly, ni allwn dderbyn cynnig y Ceidwadwyr fel y mae ar hyn o bryd, ond gwnaethom—[Torri ar draws.] Iawn, pam ddim?
Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am dderbyn ymyriad. Clywais eich cyfeiriadau at fod eisiau llongyfarch y proffesiwn addysgu am yr hyn y mae wedi'i gyflawni, ond nid wyf yn gweld gwelliant gan Blaid Cymru i'r perwyl hwnnw o gwbl. Felly, nid wyf yn siŵr pam fod eich beirniadaeth mor sylweddol. Ac o ran eich sylwadau ar gyllid, fe fyddwch yn gwybod, cystal â minnau, fod Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn cael cyllid o £1.20 am bob £1, sy'n ddigon o arian, felly nid oes unrhyw esgus.
Darren, mae'n ddrwg gennyf. Rwy'n mynd i orfod torri ar eich traws oherwydd fy mod yn brin o amser. Efallai yr hoffech orffen eich pwynt drwy ymyrryd ar un o'ch cyd-Aelodau. Roeddwn yn cyfeirio at bwyntiau a wnaethpwyd yn yr araith, nid o reidrwydd at y cynnig. Ond fe wnaeth Suzy egluro ar wahân fod yna bethau i longyfarch disgyblion a staff ar yr hyn a gyflawnwyd ganddynt.
Felly, ni allwn gefnogi cynnig y Ceidwadwyr heb ei ddiwygio. Ond rwy'n credu ei bod yn gywir gadael y darnau ffeithiol yn rhan gyntaf y cynnig lle maent, am mai ffeithiau'n unig ydynt. Ond yn sicr, ni allwn gefnogi gwelliant y Llywodraeth ychwaith. Rwy'n cael llond bol ar ba mor aml yn y lle hwn, gan wisgo fy het portffolio fy hun, y mae'n rhaid i mi ddefnyddio'r geiriau 'hunanglodforus' a 'hunanfodlon', ac rwy'n gorfod gwneud hynny yn lle Siân Gwenllian heddiw. Clywais y Gweinidog yn dweud bod mwy o waith i'w wneud, ac nid ydym lle rydym eisiau bod. Ond byddai rhywfaint o gydnabyddiaeth yn y gwelliant fod yna broblemau wedi ei gwneud yn haws i ni ystyried ei gefnogi. Felly, fel y dywedais, Lywydd, sefyllfa amhosibl, ac fe drof yn fyr yn awr at ein gwelliant ni.
Mae'n briodol ein bod yn trafod hyn heddiw. Mae'n bwysig iawn. Rwy'n ddiolchgar i'r Ceidwadwyr am roi hyn ar yr agenda. Nid yw eu disgrifiad o'r sefyllfa, er yn rhannol, yn anghywir. Ond mewn egwyddor, credwn y gallai'r cyfeiriad y mae'r Llywodraeth yn teithio iddo yn awr gyda'r cwricwlwm newydd fod yn weddnewidiol. Os gallwn wneud hyn, os gallwn wneud iddo weithio, gallai hyn arwain at drawsnewid y cyfleoedd a gynigiwn i blant a phobl ifanc yn ein system addysg. Ond ni fydd hynny'n digwydd oni bai fod yna ddigon o adnoddau ar ei gyfer.
Rydym yn gofyn i'r proffesiwn addysgu—ac rwy'n datgan buddiant fel cyn-athrawes fy hun, ac mae hanner fy mrodyr a fy chwiorydd, ac mae yna lawer ohonynt, yn athrawon—. Rydym yn gofyn iddynt wneud llawer iawn. Rydym yn gofyn iddynt newid y ffordd y maent yn gweithio yn radical. Mae angen eu hyfforddi a'u cynorthwyo i wneud hynny. Os bydd yn gweithio, rwy'n credu y byddwn yn denu rhai o'r bobl ifanc fwyaf disglair a gorau i weithio yn ein system addysg, oherwydd bydd yn lle llawer gwell i weithio ynddo na rhywbeth sy'n cael ei yrru gan dargedau a chanlyniadau.
Rwy'n credu ei bod yn werth dweud hefyd mai darlun rhannol yn unig yw canlyniadau PISA, er eu bod yn bwysig. Nid ydynt yn dweud popeth y mae angen i ni ei wybod, ac nid oes gennyf amser heddiw i siarad am fy mhryderon ynglŷn â llesiant pobl ifanc. Mae'n eithaf amlwg, os yw pobl ifanc yn ddigalon, nad ydynt yn mynd i fod yn ddysgwyr effeithiol, ac nid ydynt yn mynd i fyw'r bywydau rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom am iddynt eu byw.
Felly gobeithio y bydd y Gweinidog yn derbyn ein gwelliant—. Rwy'n gwybod na fydd yn cefnogi ein gwelliant, ond rwy'n gobeithio y bydd yn gwrando ar y neges yn ein gwelliant yn astud iawn. Mae angen inni edrych ymlaen yn awr yn ogystal ag edrych yn ôl, ac mae angen inni gydnabod, os ydym am i'r trawsnewidiad hwn ddigwydd, fod yn rhaid rhoi adnoddau a chefnogaeth iddo. Dyna lle mae Plaid Cymru yn sefyll. Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog—. Bydd gennyf gydymdeimlad â'r Gweinidog os yw'n dweud na all ddweud llawer am beth allai fod yn y gyllideb nesaf gan nad yw'r gyllideb honno yma eto, ac nid ydym yn gwybod pa arian fydd yno, ond mewn egwyddor mae'n rhaid inni gael sicrwydd fod y trawsnewidiad radical hwn i'n system yn cael ei ariannu'n iawn, oherwydd fel arall, os na chaiff ei ariannu'n iawn, ni fydd yn gweithio. Rwy'n annog y Siambr hon i gefnogi ein gwelliant.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
Nid yn unig fod Cymru wedi tangyflawni, mae ei pherfformiad yn dirywio.
Nid fy ngeiriau i yw'r rhain. Dyma eiriau pennaeth addysg a sgiliau y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, yn siarad cyn cyhoeddi'r set ddiweddaraf o ganlyniadau PISA. Ni waeth faint o gysur y mae Llywodraeth Cymru yn ei geisio o'r gwelliant bach yn y sgoriau PISA, mae'n ffaith bod Cymru yn dal i fod ar waelod cynghrair PISA y DU.
Ers 2006, pan gymerodd Cymru ran yn y prawf PISA am y tro cyntaf, ni fu unrhyw welliant ystadegol arwyddocaol mewn darllen a mathemateg, ac mae sgoriau Cymru mewn gwyddoniaeth yn waeth o lawer. Mae'r perfformiad truenus hwn yn ganlyniad uniongyrchol i dangyllido ysgolion yn barhaus ar ran y Blaid Lafur yng Nghymru. Mae arweinwyr ysgolion a rhanddeiliaid wedi honni'n gyson bod tangyllido cronig ac ariannu annigonol wedi rhoi ysgolion o dan bwysau ariannol difrifol. Mae ffigurau diweddaraf NASUWT yn amcangyfrif bod y bwlch cyllido rhwng disgyblion Cymru a Lloegr yn £645—ffigur syfrdanol. Ond mae'r bwlch gwario hwn yn cael ei ailadrodd rhwng awdurdodau lleol yng Nghymru, diolch i fformiwla ariannu ddiffygiol Llafur. Mae'r arwyddion rhybudd wedi bod yno ers peth amser. Y llynedd, lluniodd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd adroddiad lle roeddent yn dadlau bod y gwahaniaethau yn y modelau ariannu lleol yn peri pryder ynghylch triniaeth anghyfartal ysgolion mewn amgylchiadau tebyg. Aethant ati i alw ar Lywodraeth Cymru i ystyried adolygu ei modelau cyllido ysgolion os yw'n dymuno gwireddu ei huchelgais ar gyfer tegwch o ran addysg a lles myfyrwyr.
Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad hirsefydlog i ddiogelu cyllid ysgolion ym mhedwerydd a phumed tymor y Cynulliad, ond nid yw cyllid ysgol hyd yn oed wedi cadw'n wastad â chwyddiant. Ers 2010, mae'r gwariant ar ysgolion wedi gostwng bron 8 y cant mewn termau real. Yn y gyllideb ddiwethaf, dywedodd y Gweinidog Addysg ei bod yn buddsoddi £100 miliwn er mwyn codi safonau ysgolion yn ystod pumed tymor y Cynulliad, ond ni ddyrannwyd yr arian tuag at gyllid craidd ysgolion, penderfyniad a feirniadwyd gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Mae'n bryd cael dadl onest, agored ac aeddfed am gyllidebau ysgolion yng Nghymru. Rhaid inni gydnabod y rhwystredigaeth a'r digalondid a grëir gan yr argyfwng ariannu difrifol yn ysgolion Cymru, a'r effaith andwyol y mae'n ei chael ar ein pobl ifanc. Gellir gweld canlyniadau hyn yn y cynnydd ym maint dosbarthiadau, nifer gostyngol o staff chwaraeon a'r cwtogi ar nifer o weithgareddau y tu allan i'r cwricwlwm gorfodol. Mae arnom angen system sy'n ariannu ysgolion yn uniongyrchol, un sy'n rhoi mwy o reolaeth ar wariant i athrawon, rhieni a llywodraethwyr, gan gyfeirio mwy o arian i'r ystafell ddosbarth.
Ddirprwy Lywydd, mae'r canlyniadau PISA hyn wedi amlygu'r tlodi uchelgais wrth wraidd strategaeth addysg Llafur. Ni fydd safonau'n gwella oni bai fod y Gweinidog yn cydnabod yr angen i fynd i'r afael â thanariannu dybryd ysgolion yng Nghymru. Mae arnom angen rhaniad adnoddau tecach a mwy cyfartal. Mae arnom angen fformiwla ariannu newydd. Ar draws y sector addysg, derbynnir bod y system bresennol yn annigonol a bod angen newid yn ddybryd. Mae addysg dda yn hanfodol i roi'r cyfleoedd gorau mewn bywyd i ddisgyblion Cymru. Gofynnaf i'r Gweinidog gymryd y camau angenrheidiol i sicrhau bod pob plentyn yn cael addysg o'r safon uchaf yng Nghymru, fel y maent yn ei haeddu. Diolch.
Rwy'n dweud hyn fel bachgen ysgol gyfun balch: ni allwn fyth fod yn hunanfodlon ynglŷn ag ymdrechu i gael canlyniadau uwch o'n haddysg ysgol a choleg, ac mae angen i ni weld gwelliant parhaus a chyflym ar y llwybr rydym bellach yn ei weld. Ond wrth inni agosáu at dymor y dathlu ac ewyllys da, nid wyf am ladd ar gyflawniadau ein myfyrwyr a'n hathrawon a'n llywodraethwyr a'n consortia addysgol, ein hysgolion a'n colegau. Mewn gwirionedd, rwy'n mynd i ddiolch iddynt a chanmol eu cyflawniadau dros y flwyddyn ddiwethaf, oherwydd mae'r diwygiadau addysgol y mae Llywodraeth Cymru yn eu cyflawni yn canolbwyntio'n llwyr ar ragoriaeth addysgol, ar degwch a llesiant i’n holl ddysgwyr, ar arweinyddiaeth a chydgyfrifoldebau.
Ac mae'r diwygiadau hyn yn sicr yn dangos arwyddion cynnar o lwyddo, gyda pherfformiad TGAU cyffredinol yn gwella eto eleni, a chanlyniadau Safon Uwch yn parhau i fod yn uwch nag erioed. Felly, gadewch i ni gael golwg fanwl ar rai o'r canlyniadau hyn, gan ddechrau gyda chanlyniadau TGAU 2019. Roedd canlyniadau TGAU yr haf hwn yn nodi diwedd ar gyfnod sylweddol o ddiwygio TGAU yng Nghymru. Cyflwynwyd y saith pwnc TGAU diwygiedig diwethaf yn gynharach eleni, gan gynnwys hanes, cyfrifiadureg a Chymraeg ail iaith. At ei gilydd, cyflwynwyd 28 o gymwysterau diwygiedig ers 2015, a rhaid dweud, mae disgyblion ac athrawon wedi ymdopi’n dda â chyflwyno'r cymwysterau diwygiedig hyn. Mae'r cymwysterau diwygiedig yn rhoi'r sgiliau cywir i ddisgyblion ar gyfer y byd modern, a byddant yn chwarae rhan hanfodol yn codi safonau. Ac mae'r prif ffigurau ar gyfer canlyniadau TGAU haf 2019 yn cynnwys cynnydd cyffredinol yn y perfformiad, gyda bron i 63 y cant o ddysgwyr yn cyflawni A* i C yn gyffredinol—i fyny 1.2 pwynt canran—er gwaethaf y cynnwrf cymharol a ddeilliodd o ddiwygio'r cymwysterau. Mae'r gyfradd basio A* i A wedi aros yn sefydlog ar 18.4 y cant. Bu cynnydd yn y cofrestriadau a'r niferoedd sy'n cyflawni'r graddau uchaf mewn gwyddoniaeth a mathemateg, pynciau creiddiol yn yr asesiadau PISA. Mae'r perfformiad mewn gwyddoniaeth yn parhau i wella. Mae canran y disgyblion sy'n cael graddau A* i A ac A* i C ym mhob gwyddor unigol—gan gynnwys bioleg, cemeg a ffiseg—wedi codi. Mae nifer y disgyblion a safodd arholiad TGAU mewn llenyddiaeth Saesneg wedi cynyddu bron i 23 y cant, gyda dros 2,800 yn fwy o ddisgyblion yn cyflawni graddau A* i C o gymharu â 2018, cyflawnodd 58.1 y cant o fyfyrwyr radd A* i C mewn TGAU mathemateg rhifedd, a chyflawnodd 59 y cant radd A* i C mewn TGAU mathemateg. Nawr, rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y bydd yr Aelod gyferbyn eisiau codi i’w gymeradwyo.
Mae'r hyn rydych chi wedi'i ddweud yn gredadwy iawn, ond mae gennyf gwestiwn i chi: faint o ysgolion ydych chi wedi ymweld â hwy yn eich etholaeth yn ystod y chwe wythnos ddiwethaf?
Yn ystod y chwe wythnos ddiwethaf?
Yn ystod y chwe wythnos ddiwethaf.
A ydych chi'n golygu yn ystod yr ymgyrch etholiadol?
Yn ystod y chwe wythnos ddiwethaf.
Rwyf wedi ymweld â phob ysgol yn fy etholaeth yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Wel, yn y chwe wythnos ddiwethaf—.
Mae'n ddrwg gennyf, ni allaf gael dau berson ar eu traed. Rydych chi wedi gofyn eich cwestiwn. A wnewch chi ateb neu symud ymlaen?
Dyma'r flwyddyn gyntaf i ddisgyblion sefyll y TGAU newydd mewn Cymraeg ail iaith ar ôl dileu opsiwn y cwrs byr. Mae'n fwy heriol, ond mae'r cynnydd yn niferoedd y cofrestriadau wedi arwain at gynnydd o 12.5 y cant yn y dysgwyr a gafodd A* i C yn y cymhwyster cwrs llawn. Eleni, fe wnaeth 1,500 o ddysgwyr ychwanegol sefyll arholiadau TGAU mewn gwyddoniaeth, gan adeiladu ar y nifer sylweddol o gofrestriadau a gafwyd y llynedd hefyd. Ac mae'r newid diwylliant parhaus hwn yn ganlyniad i'r symud oddi wrth gofrestru pawb yn ddiwahân i gymwysterau gwyddoniaeth galwedigaethol yn 16 oed. Mae arferion cofrestru wedi sefydlogi eleni, cafwyd ymateb cadarnhaol gan ysgolion i'r polisi mynediad cynnar diwygiedig a gyhoeddwyd yn 2018. Mae'n golygu bod llai o'n dysgwyr dan bwysau i sefyll arholiadau cyn eu bod yn barod, ac mae'n golygu llai o straen.
Ac os caf droi’n fyr at ganlyniadau Safon Uwch 2019, mae'r canlyniadau Safon Uwch eleni yng Nghymru yn uwch nag erioed. Llwyddodd y nifer uchaf erioed o fyfyrwyr i ennill graddau A* ac A, gyda Chymru’n perfformio'n well na holl ranbarthau Lloegr a Gogledd Iwerddon yn y niferoedd sy'n cyflawni'r radd uchaf un. Canlyniadau sy’n uwch nag erioed a gyflawnwyd drwy waith caled myfyrwyr ac athrawon. Ac mewn cyferbyniad, gyda llaw, mae cyfran y cofrestriadau Safon Uwch a gafodd radd A ac uwch wedi gostwng i'r lefel isaf ers dros ddegawd yn Lloegr a Gogledd Iwerddon—er mwyn dangos y cyferbyniad.
Ond gadewch inni droi at godi safonau ysgolion yn fy sylwadau i gloi. Mae cenhadaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg yn anelu at godi safonau, lleihau'r bwlch cyrhaeddiad a darparu system addysg sy'n destun balchder cenedlaethol. Mae diwygiadau a gyflwynwyd eisoes, megis y fframwaith llythrennedd a rhifedd, y safonau proffesiynol newydd ar gyfer athrawon, y ddarpariaeth hyfforddiant cychwynnol i athrawon a gryfhawyd, y trefniadau asesu ffurfiannol ac yn allweddol, sefydlu academi genedlaethol ar gyfer arweinyddiaeth addysgol, mae'r rhain oll yn pwyntio i’r cyfeiriad cywir. Ni allwn fyth fod yn hunanfodlon, ond rwyf am ddweud, Ddirprwy Lywydd, wrth gloi, fy mod am ddymuno’r gorau o dymor y Nadolig i'n holl fyfyrwyr a'n hathrawon a'n llywodraethwyr. Boed i chi gael seibiant haeddiannol a'r gorau ar gyfer 2020 hapus a llwyddiannus, gan adeiladu ar y cynnydd cyson rydym yn ei wneud, mewn partneriaeth agos â Llywodraeth Cymru sy'n uchelgeisiol o ran canlyniadau addysgol ac yn uchelgeisiol ar ran ein pobl ifanc yng Nghymru.
A gaf fi ddechrau trwy ganmol gwaith Cymdeithas y Plant? Rwy'n credu bod llawer ohonom wedi derbyn eu briff ar y sgoriau llesiant. Maent yn gostwng yn y DU; ni chaiff ei wneud ar sail gwledydd y DU. Canfu’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd fod y DU yn ddeugeinfed allan o 44 o’r gwledydd a gymerodd ran, a bod hwnnw’n berfformiad gwaeth na phan gafodd ei fesur ddiwethaf, dair blynedd yn ôl rwy’n credu. Felly, credaf fod hynny'n rhywbeth y mae angen i ni i gyd ei ystyried. Rydym am i'n plant a'n pobl ifanc fod mor hapus â phosibl yn amgylchedd yr ysgol. Mae'n rhan mor bwysig o fywyd wedi'r cyfan. [Torri ar draws.]
Newydd ddechrau ydw i, ond fe ildiaf.
Roeddwn eisiau gofyn i chi a ydych chi hefyd wedi darllen adroddiad y Samariaid, sy'n ymwneud â'r rôl y gall ysgolion ei chwarae’n atal hunanladdiad, oherwydd rwy'n credu bod hwnnw'n adroddiad rhagorol hefyd ar yr agenda llesiant.
Buaswn yn sicr yn cytuno bod llesiant da, iach yn amddiffyniad gwych yn erbyn canlyniadau iechyd meddwl gwael iawn, a all arwain yn y pen draw mewn gormod o achosion, yn anffodus, at hunan-niweidio sylweddol a hyd yn oed at hunanladdiad. Felly, rwy’n cymryd y pwynt hwnnw.
Ond mae Cymdeithas y Plant yn cydbwyso eu nodyn briffio, gan ein hatgoffa y bydd y cwricwlwm newydd yng Nghymru yn caniatáu i un o'r saith maes dysgu a phrofiad ganolbwyntio ar iechyd a llesiant. Rwy'n croesawu hyn, oherwydd yn ogystal â galluogi ein pobl ifanc i gael yr addysg orau bosibl i gael canlyniadau cynhyrchiol, rwy'n credu bod a wnelo addysg ysgol hefyd â'u gwneud yn ddinasyddion iach, ac ni ddylem fyth anghofio hynny.
Un peth da am PISA, er gwaethaf rhai o'r anawsterau a gawsom ers 2006, yw ei fod yn gwneud inni fod o ddifrif ynglŷn â’r gymuned ysgol gyfan—ni allwch ryw fath o ddewis a dethol a dim ond canolbwyntio ar y grwpiau elitaidd a fydd yn anochel mewn unrhyw system addysg yn cyflawni rhyw lefel o ragoriaeth. Mae'n ymwneud â'r disgyblion na roddir ffocws arnynt sydd weithiau'n cael eu gadael ar ôl. Felly, mae'r mesurau hyn yn briodol, ac rwy'n falch ein bod o ddifrif yn eu cylch.
Rwyf hefyd yn credu bod Cymdeithas y Plant yn gywir i alw am gynnwys rhai o'r ffactorau llesiant goddrychol hyn yn fframwaith arolygu Estyn. Rwy'n credu ei bod yn bwysig i pobl ifanc wneud ffrindiau a bod ganddynt gyfeillion yn yr ysgol—ac os nad oes, mae hynny'n anfon neges wael iawn—fod ganddynt deimlad cadarnhaol am yr ardal y maent yn byw ynddi ac y gallant ddylanwadu arni, ac archwilio sut y maent yn teimlo am y dyfodol. Mae hynny'n arwydd allweddol o lesiant.
Mae'n rhaid i mi ddweud, yn y sgoriau hyn, gwelwn yng Nghymru fod 48 y cant weithiau'n teimlo'n drist, roedd 44 y cant weithiau'n teimlo'n bryderus—mae hynny'n uwch na chyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, nid o lawer iawn, ond yn uwch—ond roedd 46 y cant weithiau'n teimlo'n ddiflas, ac roedd hynny gryn dipyn yn uwch na chyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, mae arnaf ofn.
A gaf fi droi at blant â phrofiad o ofal? Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn, wrth inni edrych ar PISA, ein bod yn cofio bod rhai o'n disgyblion yn parhau i gyflawni ymhell islaw eu potensial a bod eu profiadau bywyd yn cael effaith sylweddol ar eu gobaith o lwyddo yn ddiweddarach mewn bywyd a chael bywyd cynhyrchiol a hapus fel oedolion. Rwy'n credu bod gennym broblem wirioneddol rhwng cyfnod allweddol 2 a'r hyn y maent yn ei gyflawni yng nghyfnod allweddol 4, ac rwy'n croesawu'r ffaith bod y Llywodraeth wedi edrych ar holl fater cyrhaeddiad addysgol y grŵp hwn. Mae'r ffordd y maent yn llithro ar ôl eu grŵp cyfoedion erbyn iddynt gyrraedd cyfnod allweddol 4 yn destun pryder gwirioneddol yn fy marn i. Nawr, wrth gwrs, mae llawer o blant yn cael eu rhoi mewn gofal yn ystod blynyddoedd y glasoed, ac yng nghyfnod allweddol 4 ceir effaith ddramatig iawn weithiau, ond yng nghyfnod allweddol 2, mae pethau weithiau'n llai diwyro ac anodd eu newid neu eu rheoli. Ond rwy'n dal i feddwl bod hynny'n destun pryder gwirioneddol i ni.
Yn olaf, a gaf fi ddweud, ar lythrennedd, fy mod yn bryderus i nodi bod disgyblion Cymru yn llai tebygol o ddarllen llyfrau na disgyblion ar draws y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd a bod gan lawer ohonynt agweddau negyddol tuag at ddarllen. Rwy'n credu bod hyn yn rhywbeth diwylliannol, yn ogystal â'r hyn sy'n digwydd yn ein hysgolion. Mae gan bob un ohonom ein rhan i'w chwarae yma yn hyrwyddo llythrennedd a llawenydd darllen. Ac mae hynny'n rhywbeth a arferai fod gennym mor helaeth yn y gymdeithas Gymreig. Pan feddyliwch am sefydliadau'r glowyr, rwy'n credu bod ganddynt, ar gyfartaledd—mae rhywun wedi cyfrif—3,000 o gyfrolau yn eu llyfrgelloedd, ac mae'r holl fudiad llyfrgelloedd, yn amlwg, yn rhywbeth arall rydym wedi'i drafod yma.
Ond rwyf am ddod i ben trwy ddweud ei bod yn briodol ein bod yn dewis mesurau cadarn a heriol iawn, ac y dylem gofio hynny o ran PISA. Rwy'n gobeithio y bydd y Llywodraeth yn parhau ei haelodaeth o PISA ac yn bod o ddifrif ynglŷn â’r canlyniadau hyn, a'n bod yn nodi lle ceir gwelliannau a chyfaddef hynny. Ond yn amlwg, rydym am fynd yn uwch na chyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Dyna ddylai fod yn nod i ni.
Os caf atgoffa'r Aelodau fod y cynnig hwn yn nodi ac yn gresynu—. Rydym ni, fel Ceidwadwyr yn gresynu na fu unrhyw welliant ystadegol arwyddocaol yn sgoriau PISA Cymru mewn darllen a mathemateg er 2006, fod sgoriau gwyddoniaeth Cymru yn sylweddol waeth nag yn 2006, a bod Cymru ar y gwaelod ymhlith gwledydd y DU mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth, a Chymru yw'r unig wlad yn y DU i sgorio'n is na chyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ym mhob mesur PISA. Ond hefyd, mae'n gynnig adeiladol. Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i gydnabod ei methiant i wella addysg yng Nghymru ac rydym am weld sicrwydd y bydd adnoddau ychwanegol sy'n deillio o wariant cynyddol ar ysgolion gan Lywodraeth y DU yn cael eu buddsoddi yn ein hysgolion yng Nghymru.
A wnaiff yr Aelod ildio?
Soniodd na fu gwelliant ystadegol arwyddocaol ers 2006. Yna dywedodd fod y sgoriau’n is na chyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar gyfer 2019. A fyddai hi'n derbyn nad ydynt yn ystadegol yn sylweddol is na'r cyfartaledd ym mhob un o'r tri mesur ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf?
Rydym wedi cael addewidion, yn y blynyddoedd y bûm yn y sefydliad hwn, y byddem yn gweld gwelliant, ac nid ydym wedi gweld unrhyw welliant. Dyna fy mhwynt.
Felly, fel y nodir yn yr adroddiad 'PISA 2018 Insights and Interpretations', dros y ddau ddegawd diwethaf, mae PISA wedi dod yn brif ffon fesur y byd ar gyfer cymharu ansawdd, tegwch ac effeithlonrwydd mewn canlyniadau dysgu ar draws gwledydd, ac yn rym dylanwadol ar gyfer diwygio addysg. Mae'r brif ffon fesur hon wedi dangos mai yng Nghymru y cafwyd y canlyniadau gwaethaf o bob un o wledydd ein Teyrnas Unedig. Mae gwyddoniaeth ar 488 pwynt yma; mathemateg, 487; a darllen, 483. Mae'r rhain i gyd yn is na Lloegr, Gogledd Iwerddon a'r Alban. Nawr, mae hyd yn oed swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cyfaddef yn eu briff technegol eu hunain nad oes yr un o'r ystadegau'n cynrychioli unrhyw welliant arwyddocaol ers 2015. Mewn gwirionedd, ni fu unrhyw welliant ystadegol arwyddocaol yng Nghymru yn y sgoriau PISA mewn mathemateg a darllen ers 2006.
Nawr, rwy'n arbennig o bryderus ynglŷn â darllen. Roeddem 20 pwynt y tu ôl i'r sgôr isaf—Gogledd Iwerddon. Mae disgyblion Cymru yn llai tebygol o ddarllen llyfrau na disgyblion ar draws y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, ac anaml, os o gwbl, y bydd 44 y cant o ddisgyblion Cymru yn darllen llyfrau. Nawr, mae diffyg cyllid ac adnoddau sylfaenol yn cyfrannu’n fawr at hyn wrth gwrs. Roedd bron i hanner penaethiaid Cymru o'r farn fod diffyg deunydd addysgol, fel gwerslyfrau, llyfrgell ac offer TG yn rhwystro eu gallu i addysgu. Y mis diwethaf, heriais y Prif Weinidog ar gynnwys yr adroddiad a gyhoeddwyd gan Great School Libraries: 67 y cant yn unig o ysgolion Cymru sydd â mynediad at ofod llyfrgell penodol yn yr ysgol. Mae hynny, unwaith eto, yn llai na Lloegr. A chredir mai 9 y cant yn unig o ysgolion Cymru sydd â chyllideb llyfrgell. Yn amlwg, mae angen mwy o arian.
Cefnogir hyn gan ffigurau diweddaraf NASUWT, a amcangyfrifodd fod y bwlch cyllido rhwng Cymru a Lloegr yn £645. Mae hyn yn warthus o ystyried bod £1.20 yn dod i Lywodraeth Cymru am bob £1 sy'n cael ei wario ar addysg yn Lloegr. Rwy'n gweld pobl yn ysgwyd eu pennau. Mae’n etholiad cyffredinol yfory, a gallaf ddweud wrthych fod pobl wedi blino ar y sefydliad hwn yn beio Llywodraeth y DU, yn beio cyni. Mae'r arian yn dod yma. Y ffordd rydych chi'n ei wario yw'r ffactor allweddol.
Mae difrifoldeb y sefyllfa yn glir wrth ystyried bod Sibieta Economics of Education wedi amcangyfrif, er mwyn cynnal gwariant ar ysgolion ar yr un lefel mewn termau real â 2016-17, fod yn rhaid i Lywodraeth Cymru wario £120 miliwn ychwanegol y flwyddyn erbyn 2021. Nawr, mewn cymhariaeth, mae ein Prif Weinidog, Boris Johnson, yn rhoi hwb i’r gyllideb addysg, gan y bydd £1.24 biliwn o gyllid ychwanegol yn dod i Gymru o ganlyniad i gyllid ychwanegol ar gyfer addysg yn Lloegr. Y cwestiwn y mae pawb ohonom yn ei ofyn fel ACau yn y Ceidwadwyr Cymreig yw: sut fydd yr arian hwnnw'n cael ei wario yma yng Nghymru? Dyna'r cwestiwn.
Yn wir, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru wedi cyfleu’r sefyllfa’n hyfryd—'Mae ychydig fel ceisio rhedeg marathon gyda phwysau plwm wedi'i glymu o amgylch eich gwddf. Y cyllid yw'r eliffant yn yr ystafell bob amser '. Eu geiriau hwy, nid fy rhai i. Mae yna opsiynau y gallwch eu hystyried, megis diwygio cyllid ysgolion. Yn ôl yr Adran Addysg, bydd y trefniadau newydd yn darparu enillion o hyd at 6 y cant y disgybl ar gyfer ysgolion sydd wedi'u tanariannu erbyn 2019-20.
I fod yn glir, os na welwn newid mawr, mae'n debygol y bydd y targed 500 ar gyfer 2021 yn cael ei fethu. Felly, mewn ymateb i’r canlyniadau PISA, credaf fod angen i ni weld gweithredu cadarnhaol, gan gynnwys sicrwydd heddiw yn awr y bydd yr holl arian ychwanegol gan Lywodraeth y DU yn cael ei wario ar ein hysgolion, a dau, y byddwch yn ystyried y modd y diwygiwyd y fethodoleg gyllido yn Lloegr fel model ar gyfer newid yma yng Nghymru yn y dyfodol. Diolch.
A gaf fi ymddiheuro i’r sawl a gyflwynodd y cynnig am fethu ychydig funudau cyntaf ei haraith?
Rwy’n cydymdeimlo â Helen Mary Jones sy’n dweud bod ei grŵp mewn sefyllfa amhosibl wrth ymdrin â’r cynnig hwn a’r gwelliannau heddiw. Gwnaethom edrych ar gynnig y Ceidwadwyr ac yn benodol, ar bwynt 3b) sy’n ei gwneud yn ofynnol i'r Llywodraeth
'ymddiheuro i ddisgyblion, rhieni ac ysgolion am eu siomi'.
Yn sicr, nid oedd yn estyn allan i ddod o hyd i gonsensws ar draws y Siambr ar y pwnc hwn, ond rwy’n deall hynny ar y diwrnod cyn yr etholiad. Ond er hynny, roeddwn i'n meddwl bod araith Suzy yn bwyllog a meddylgar iawn, ond roedd yna ddeuoliaeth gyda'r cynnig, a hefyd gyda’r gwelliant. Nid wyf yn siŵr a oedd Helen Mary yn rhan o gynnig y gwelliant, ond unwaith eto, fe wyrodd ei haraith yn eithaf sylweddol oddi wrth y gwelliant. Cyfeiriodd at welliant y Llywodraeth fel un hunanglodforus a hunanfodlon, ac rwy’n deall beth mae hi’n ei feddwl wrth hynny. Er gwaethaf hynny, roeddem o'r farn ei bod yn anodd dadlau â manylion yr hyn y mae'n ei ddweud. Rwy'n credu mai dewis a dethol cyn penderfynu beth sydd orau iddynt ei gynnig yw hynny, ond beth fyddech chi'n ei ddisgwyl yn gyffredinol, heb sôn am ddiwrnod cyn etholiad? Yn sicr, byddai’n well pe bai wedi cynnwys rhai o'r awgrymiadau a wnaeth Helen Mary.
Serch hynny, rydym yn bwriadu cefnogi'r cynnig a gwelliant y Llywodraeth. Nid wyf yn argyhoeddedig ynghylch cefnogi gwelliant Plaid Cymru, a byddwn yn ymatal arno, oherwydd nid wyf yn gwybod am y cwricwlwm o ran rhoi cymaint o gefnogaeth a chytundeb iddo ymlaen llaw; rwy'n credu yr hoffem ymatal rhag rhoi barn arno. Nid ydym yn glir chwaith a yw Plaid Cymru’n awgrymu y dylid cyllido ysgolion yn uniongyrchol os daw sicrwydd gan Lywodraeth Cymru.
Yn yr un modd, roeddwn i'n meddwl ei bod hi'n eithaf cyffrous clywed cyfraniad Oscar. Nid wyf yn siŵr a oedd yn bwriadu torri tir polisi newydd i'r Ceidwadwyr ar y diwrnod cyn yr etholiad cyffredinol, ond o leiaf roedd yn ymddangos fel pe bai’n awgrymu y dylid cyllido ysgolion yn uniongyrchol. Nid oeddwn yn glir a oedd am i Lywodraeth Cymru wneud yr ariannu uniongyrchol hwnnw, neu a allai fod cynnig i Lywodraeth y DU gamu i mewn ac ariannu ysgolion Cymru’n uniongyrchol i sicrhau eu bod yn cael y swm o arian y mae ef, a’i grŵp o bosibl, yn datgan y dylent ei gael.
Yn y cyfraniad a glywsom gan Janet Finch-Saunders, er fy mod bob amser yn mwynhau clywed ganddi, roedd yna ddewis a dethol yn sicr pryd i fynnu arwyddocâd ystadegol, ac os ydym am ddefnyddio'r cysyniad hwnnw, awgrymaf y dylid ei ddefnyddio'n gyson, yn hytrach na dewis a dethol fel sy'n gyfleus i chi'ch hun.
O ran y Gweinidog, buom yn siarad yr wythnos diwethaf yn eithaf manwl am y canlyniadau PISA ac nid wyf am ailadrodd y sylwadau hynny, ond er fy mod yn gymharol gefnogol iddi hi a'r hyn roedd y Llywodraeth ac ysgolion wedi'i gyflawni, o leiaf mewn cymhariaeth â'r set flaenorol o ganlyniadau, pan wnaethom siarad yr wythnos diwethaf, rwy'n teimlo ychydig yn llai caredig heddiw, ac mae hynny'n rhannol oherwydd natur y sylw yn y cyfryngau i'r canlyniadau. Gwnaethom siarad yn y Siambr—roedd un ymadrodd penodol a ddefnyddiodd, sef 'cadarnhaol ond nid yn berffaith', wrth hyrwyddo'r canlyniadau. Ac roeddwn yn teimlo bod disgrifio hyn fel rhywbeth nad oedd yn berffaith wedi tanddatgan faint o broblem sydd gennym o hyd a faint yn fwy sydd angen inni ei wella. A’r ymadrodd hwnnw a gafodd ei gyfleu’n glir i’r holl gyfryngau ac a oedd yn brif bwyslais y sylw, a theimlwn—
Nid fi sy’n gyfrifol am y sylw ar y cyfryngau.
Na, na. Wel, efallai bod ochr Lafur ei Llywodraeth wedi manteisio ac eisiau’r sylw gorau cyn yr etholiad. Ond roeddwn i'n teimlo bod hynny wedi ystumio’r darlun o'r canlyniadau ar draws y wlad. Ac rwy'n credu bod rhywfaint o'r hyn y mae'r Ceidwadwyr yn ei ddweud heddiw yn gywiriad teg i hynny.
Rwy'n gwybod bod yr ymadrodd 'cadarnhaol ond nid yn berffaith' wedi'i nodi, i ryw raddau, gan The Guardian heddiw, sy'n dweud
blaengar ond nid yn berffaith
wrth ddadlau dros bleidlais i Lafur, er gwaethaf drewdod gwrth-semitiaeth. Felly, nid wyf yn siŵr a oedd hynny'n dod gan ddewiniaid delwedd Llywodraeth Cymru ei hun o'r wythnos flaenorol.
Ond, ar y cyfan, rwy'n credu bod angen inni dderbyn bod y canlyniadau PISA hyn yn welliant sylweddol o gymharu â'r gyfres ddiwethaf o ganlyniadau, a oedd yn wael iawn. Ac yn hytrach na chydnabod hynny, gwelwn y cyfeiriadau yng nghynnig y Ceidwadwyr at 2006, er mwyn rhoi cymhariaeth sy'n ffafrio eu hymosodiad ar Lywodraeth Cymru, ac yna gwelwn Lywodraeth Cymru yn dewis a dethol yr elfennau gorau yn eu cynnig heb gydnabod y meysydd a ddylai gael sylw fel rhai sydd angen eu gwella. Mae'r areithiau wedi bod ychydig yn well na'r cynigion, ond rydym yn gwneud ein gorau i geisio dod ag ychydig o gonsensws a dadansoddiad diduedd i'r canlyniadau hyn. Ac yn benodol, mae PISA yn gwneud gwaith gwych yn cyflwyno'r prif ffon fesur hon, a chredaf ei bod yn dda iawn fod gennym y cymariaethau hyn rhwng gwahanol wledydd y DU a gwledydd ym mhedwar ban byd. Diolch.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Gweinidog Addysg, Kirsty Williams?
Diolch yn fawr iawn, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i ymateb i'r pwyntiau sydd wedi'u gwneud yn y ddadl heddiw. Rwy'n credu mai Oscar a ddefnyddiodd yr ymadrodd 'rhwystredigaeth a digalondid'. Wel, gallaf ddweud wrtho fy mod yn rhwystredig ac rwy'n ddigalon ei fod ef a rhai o'i gyd-Aelodau yn parhau i ddyfynnu data anghywir ac i'w gweld yn enbyd o anymwybodol o'r hyn sy'n digwydd o ran y genhadaeth genedlaethol i ddiwygio addysg. Ac wrth gwrs, rwy’n dweud hynny gydag eithriad anrhydeddus Mr Melding, a roddodd ymateb meddylgar iawn a chydlynol ddeallusol i'r ddadl, fel bob amser.
Mae'n siomedig—[Torri ar draws.] Mae'n siomedig ar ôl cyhoeddi canlyniadau PISA yr wythnos diwethaf, fod y ddadl hon wedi'i chyflwyno nad yw'n cydnabod yr ymdrechion a'r cynnydd a wnaed gan ein disgyblion a'n hathrawon. Nawr, ers gormod o amser, mae pawb ohonom wedi dymuno gweld cynnydd yn PISA, gan ei fod yn tynnu sylw at system addysg Cymru i bawb ei gweld. A'r wythnos diwethaf, mae’n wir i mi ddweud, Mark Reckless, fod y canlyniadau'n gadarnhaol ond nid yn berffaith. Pe bai’r cyfryngau’n dyfynnu fy ngeiriau bob wythnos buaswn yn hapus. Ond rydych hefyd yn gwybod imi ddweud yn glir iawn yr wythnos diwethaf fod mwy i ni ei wneud. Ar ôl cael dros wythnos i fyfyrio ar y canlyniadau, does bosibl—does bosibl—na allwn gydnabod ein bod, am y tro cyntaf, yn perfformio ar gyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ym mhob un o'r tri maes: mewn darllen, mewn gwyddoniaeth, mewn mathemateg. Ac nid wyf yn gofyn i'r Senedd gymryd fy ngair i. Dyma brif gasgliad y Sefydliad Cenedlaethol er Ymchwil i Addysg sy’n sefydliad annibynnol. Hwy oedd, ac yw, y ganolfan genedlaethol ar gyfer PISA ym mhob gwlad yn y DU.
Am y tro cyntaf, roedd ein holl sgoriau crai yn uwch yn yr holl feysydd a brofwyd, ac rydym ymhlith set fach iawn o wledydd drwy'r byd sydd wedi gwneud hyn. Ac rydym wedi cyrraedd ein sgoriau darllen a mathemateg gorau erioed.
A gaf fi nodi’r pwynt a gododd Suzy Davies ynghylch cyfartaleddau’r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd? Gadewch imi fod yn hollol glir—gadewch imi roi darllen i chi fel enghraifft. Sgôr o 487 yw cyfartaledd darllen y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar gyfer darllen. Dyma'r cyfartaledd ar gyfer gwledydd y Sefydliad, h.y. 36 o genedl-wladwriaethau. Y cyfartaledd darllen ar gyfer yr holl gyfranogwyr yw 455 mewn gwirionedd, a byddai hynny'n cynnwys y gwledydd nad ydynt yn y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd sy’n perfformio ar lefel uchel iawn. Felly, rhaid bod yn glir ynglŷn â chyfartaleddau. Fel y dywedais yr wythnos diwethaf, rydym wedi cyflawni hyn ar yr un pryd â chau'r bwlch cyrhaeddiad. Nawr, rwy'n credu imi glywed Suzy Davies yn cyfeirio at awydd y Ceidwadwyr Cymreig i gyflwyno premiwm disgybl i blant sy'n derbyn gofal. Wel, mae'n rhaid i mi ddweud wrth yr Aelod fod y premiwm disgybl i blant sy’n derbyn gofal eisoes yn bodoli. Gadewch imi roi enghraifft ichi o sut y mae rhanbarth gwasanaeth cyflawni addysg yn gwario eu premiwm disgybl ar blant sy’n derbyn gofal. Mae ganddynt aelod penodol o staff ym mhob un o'r ysgolion uwchradd yn rhanbarth y gwasanaeth cyflawni addysg i fynd i'r afael â materion dysgu ac addysgu ar gyfer y plant penodol hynny. Felly, nid yw awgrymu mai dyma fyddech chi'n ei wneud yn newydd, oherwydd rydym eisoes yn ei wneud.
Rydym hefyd wedi estyn ein grant datblygu disgyblion i addysg heblaw yn yr ysgol, a'r plant nad ydynt mewn sefyllfa ysgol reolaidd. Wrth gwrs, fel y nododd David Melding yn gywir, mae gennym lawer iawn mwy i'w wneud ar gyfer y grŵp hwn o ddysgwyr sy’n arbennig o agored i niwed y mae eu cyflawniadau addysgol, naill ai o fewn PISA neu y tu allan i PISA, yn parhau i fod yn llai nag y dylent fod. Rwy’n gobeithio, yn y flwyddyn newydd, y byddaf mewn sefyllfa i gyhoeddi dulliau newydd, gan ddysgu o arferion gorau mewn mannau eraill, ynglŷn â sut y gallwn wella nid yn unig y grant datblygu disgyblion i blant sy’n derbyn gofal ond darpariaeth newydd hefyd i geisio gwneud gwahaniaeth i’r plant penodol hynny.
Nawr, y peth pwysig i mi yw bod y bwlch anfantais yng Nghymru gryn dipyn yn llai na gwledydd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd. Adroddir bod disgyblion yng Nghymru hefyd yn fwy abl mewn cymhariaeth i oresgyn anfantais eu cefndir na'r cyfartaledd ymysg gwledydd y Sefydliad. Ond gadewch i ni fod yn hollol glir: sgoriodd disgyblion sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim 34 pwynt yn is na disgyblion nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim ar gyfartaledd. Nawr, mae hynny'n cau'r bwlch o ryw saith pwynt o fewn y gwelliant cyffredinol mewn perfformiad, felly mae’n gynnydd. Ond bydd angen i ni wneud hyd yn oed yn well, a dyna pam rwy’n parhau i fod yn ymrwymedig i ehangu’r grant datblygu disgyblion, gan ddarparu mwy fyth o gefnogaeth, fel y dywedais, i blant sy’n derbyn gofal, i’n plant mwyaf agored i niwed, yn ein hymgais i godi safonau i bawb. Rydym hefyd yn cyflawni cynllun gweithredu cyntaf erioed Cymru ar gyfer disgyblion mwy galluog a thalentog, ac rydym yn ehangu ein rhaglen Seren hynod lwyddiannus. Ac yn olaf, rydym yn blaenoriaethu arweinyddiaeth o fewn ein hysgolion a'n system addysg.
Fel rwyf wedi’i ddweud erioed, ac fel yr eglurir yng nghynllun gweithredu cenhadaeth ein cenedl, mae PISA yn arwydd pwysig i rieni, i gyflogwyr a buddsoddwyr. Ond mae hefyd yn llawer mwy nag ymarfer meincnodi i Lywodraeth Cymru. Mae'n darparu ffynhonnell werthfawr o ddata a dadansoddiadau sydd, ynghyd â ffynonellau data ac ymchwil eraill, yn darparu'r sylfaen dystiolaeth i ni allu gwneud gwelliannau allweddol a fydd yn dwyn ffrwyth, ac rydym wedi gweld hynny gyda'r gwelliannau mewn mathemateg dros ddau gylch PISA.
Rydym hefyd wedi cydnabod ein bod wedi gweld perfformiad gwell ar lefel uwch yn y rownd hon: cynnydd mewn darllen, lle mae gennym bellach 7 y cant yn perfformio ar lefel uchel yn hytrach na 3 y cant yn y rownd ddiwethaf. Rydym hefyd wedi cynyddu'r gyfran yn ein dau faes arall—cynnydd tebyg ar gyfer mathemateg, ac mae ychydig yn llai ar gyfer gwyddoniaeth. Nawr, gosodais yr her i gynyddu'r canrannau hyn dair blynedd yn ôl, ac rwy'n falch ein bod wedi gweld cynnydd. Ond rwyf hefyd yn hollol glir nad ydym eto ar gyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ar gyfer perfformwyr uchel. Felly, unwaith eto, dyma grŵp arall o fyfyrwyr lle mae mwy o gynnydd i'w wneud o hyd. A byddwn yn ymchwilio i'r ffynhonnell ddata gyfoethog hon y mae'r rownd gyfredol wedi'i darparu, a byddwn yn edrych eto ar ba welliannau y gellir eu gwneud o'r hyn y mae'r data yn ei ddweud wrthym ac o gydweithio parhaus â gwledydd eraill. Felly, er enghraifft, ar ddarllen, sydd wedi bod ar flaen meddyliau pobl heddiw, ac yn briodol felly, byddwn yn edrych yn benodol ar ba gamau y gallwn eu cymryd mewn perthynas â darllen. Mae gennym berthynas waith gref gyda'r adran addysg yng Ngweriniaeth Iwerddon, sydd wedi gwneud yn dda iawn yn eu sgoriau darllen, a byddwn am allu parhau i edrych ar beth arall y gallwn ei wneud. Ond ni allaf ddweud yn ddigon cryf: byddwn yn cadw at y llwybr rydym wedi'i osod ar gyfer addysg yng Nghymru, ac rydym yn glynu wrth egwyddorion cenhadaeth ein cenedl i godi safonau, i fynd i'r afael â'r bwlch cyrhaeddiad, ac i sicrhau bod gennym system sy'n destun balchder cenedlaethol ac yn ennyn hyder y cyhoedd.
Nawr, dangosodd canlyniadau’r wythnos diwethaf lwyddiant yn erbyn yr amcanion hynny, ac rydym wedi profi bod gwelliant yn bosibl, y gallwn ei gael o fewn ein system er mwyn gwneud cynnydd. Mae mwy i'w wneud, ond rwy'n hyderus, oherwydd bod ein hathrawon wedi cofleidio cenhadaeth ein cenedl, ein bod gyda'n gilydd, yn anelu i'r cyfeiriad cywir. Y bore yma, roeddwn yn siarad â'n cenhedlaeth nesaf o athrawon yn y Drindod Dewi Sant yn Abertawe. Roeddent yn dweud wrthyf eu bod yn falch, yn falch iawn, o fod yn ymuno â'r proffesiwn ar yr adeg gyffrous hon sy’n amser hollbwysig i addysg yng Nghymru. Ac mae'n rhaid i mi ddweud, Ddirprwy Lywydd, byddaf yn talu mwy o sylw i'w brwdfrydedd, eu huchelgais a'u hysbryd cadarnhaol nag i beth o'r sinigiaeth sydd wedi’i ddangos yn y Senedd y prynhawn yma.
I gloi, Ddirprwy Lywydd, rwyf am achub ar y cyfle hwn, unwaith eto, i ddiolch i'n hathrawon a'n myfyrwyr. Mae'r canlyniadau hyn yn dyst i'w gwaith caled, eu hymdrech a'u hymrwymiad. Rwy'n gwybod eu bod yn rhannu fy uchelgais i sicrhau y bydd y gyfres nesaf o ganlyniadau PISA yn dangos cynnydd pellach, ac maent yn ymroddedig ac yn ymrwymedig i wneud i hynny ddigwydd. Ac rwyf am iddynt fod yn sicr fy mod i fel Gweinidog, a’r Llywodraeth hon yn gwerthfawrogi eu hymdrechion, eu profiad a'u harbenigedd, ac rydym yn gwerthfawrogi'r cyfle i weithio gyda hwy, oherwydd pan gawn bethau’n iawn ar gyfer addysg ein plant, byddwn yn eu cael yn iawn ar gyfer dyfodol ein cenedl.
Diolch. A gaf fi alw ar Darren Millar i ymateb i'r ddadl?
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at ddadl bwysig yn fy marn i, lle rydym i gyd yn rhannu'r uchelgais i weld ein system addysg yma yng Nghymru yn gwella? Os caf ddechrau gyda'r pethau lle rydym yn rhannu tir cyffredin gyda'r Llywodraeth, rydym ninnau hefyd eisiau llongyfarch yr athrawon sydd wedi helpu disgyblion yn ein hysgolion i lwyddo yn eu haddysg. Rydym am i'r llwyddiant fod hyd yn oed yn fwy amlwg yn y gwelliannau i sgoriau PISA yn y dyfodol, ond ni ellir gwadu bod angen i ni wneud gwelliannau sylweddol o hyd.
Mae'n amlwg iawn o'r araith agoriadol gan Suzy Davies, a oedd yn cyfleu hyn yn dda iawn yn fy marn i, ein bod wedi bod yn dathlu cyrraedd y cyfartaledd i bob pwrpas yr wythnos diwethaf, dathlu bod yn y canol o ran sgoriau PISA y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd—ychydig yn is, er nad yn sylweddol is na'r cyfartaledd efallai, yn ystadegol. Ond serch hynny, mae'r cyfartaledd hwnnw, wrth gwrs, wedi symud i lawr ers y canlyniadau PISA blaenorol, felly nid yw'n rhywbeth y dylem fod yn anelu ato mewn gwirionedd. Dylem fod yn anelu at fod ymhell uwchlaw'r cyfartaledd hwnnw, ac wrth gwrs, yr un genedl sy'n sylweddol uwch na'r cyfartaledd hwnnw yn y DU yw Lloegr, lle bu diwygiadau addysgol sylweddol sydd wedi cael cryn dipyn o lwyddiant. A dyna pam rwy'n cytuno â datganiad Helen Mary Jones yn gynharach lle dywedodd—ac mae gennym, unwaith eto, welliant hunanglodforus a hunanfodlon arall wedi’i gyflwyno gan y Llywodraeth, ac mae'n siomedig nad ydynt wedi cydnabod difrifoldeb y sefyllfa rydym ynddi mewn gwirionedd.
Cyfeiriodd Huw Irranca -Davies—yn wir, parablodd yn huawdl—am y diwygiadau a gafwyd yng Nghymru. Nawr, rydym wedi cefnogi rhai o'r diwygiadau hynny, ond rydym yn poeni braidd ynglŷn â chyflymder y gwelliant a welsom yma yng Nghymru, ac rydym yn pryderu hefyd ei bod hi'n ymddangos bod llawer o'r diwygiadau i raddau helaeth, er nad yn gyfan gwbl, yn efelychu diwygiadau a fu’n digwydd yn yr Alban. Wrth gwrs, gwyddom eu bod wedi dioddef dirywiad sylweddol yn y system addysg yn yr Alban wrth gael eu mesur yn erbyn canlyniadau a sgoriau PISA.
Nawr, fel y nodwyd yn ystod y ddadl, rwy'n cydnabod mai dim ond un o'r pethau y byddwch yn edrych arnynt wrth ystyried ansawdd eich system addysg yw PISA. Mae'n rhaid i chi ei driongli â data a gwybodaeth arall, a gwnaed y pwynt hwn gan nifer o bobl yn y ddadl. Dyna pam rwy'n credu ei bod hi'n bwysig ystyried canlyniadau TGAU, ac roedd rhai elfennau o welliant yn y canlyniadau hynny y llynedd, ond roedd rhai elfennau hefyd nad oeddent wedi gwella, ac roedd peth llithro’n ôl mewn rhai meysydd. Felly, rwy'n credu ei fod yn ddarlun cymysg, a dweud y gwir, o ran TGAU. Ac wrth gwrs, cyfeiriodd David Melding at y ffaith ein bod wedi gweld dirywiad eithaf sylweddol mewn rhai o'r cyfnodau allweddol eraill hefyd, ac nid wyf yn credu bod hynny o reidrwydd yn argoeli'n dda ar gyfer y dyfodol.
Cyfeiriwyd hefyd, wrth gwrs, at y ffaith bod adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn edrych ar fwy na’r sgoriau mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth, a'i fod hefyd yn edrych ar bethau eraill a allai fod yn effeithio ar y system addysg. Mae rhai o'r canfyddiadau hynny, a ddarllenwyd i ni, am ddarllen a phethau eraill, yn peri cryn bryder. Ond roedd rhai o'r pethau eraill na chyfeiriwyd atynt a gynhwyswyd yn yr adroddiad hwnnw yn bethau fel yr ymgysylltiad ar gamddefnyddio sylweddau yng Nghymru o gymharu â rhannau eraill o'r DU. Rydych chi ddwywaith mor debygol o fod wedi yfed alcohol neu gymryd cyffuriau ymhlith y garfan PISA honno o gymharu â'r sefyllfa yn Lloegr, ac mae hefyd yn gyfradd uwch nag yn yr Alban. Rwy'n credu bod hynny'n achos pryder difrifol, mewn gwirionedd, a chredaf fod angen i ni weithredu i fynd i'r afael â hynny.
Roeddwn yn falch iawn o glywed David Melding yn cyfeirio’n gwbl briodol at y ffaith bod angen inni ystyried llesiant a phlant sy'n derbyn gofal yn ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol, ac rwyf am ganmol y Llywodraeth am gydnabod bod hyn yn rhywbeth y mae angen i'r cwricwlwm newydd ganolbwyntio ychydig mwy arno, yn enwedig o ystyried yr ystadegau eraill sydd hefyd fel pe baent yn dangos bod gennym broblem fwy yma nag mewn rhannau eraill o'r DU.
Yn olaf, os caf, rwyf am droi at adnoddau, sy'n amlwg yn rhwystro gallu ein hathrawon i wneud eu gwaith. Nid fi’n unig sy'n dweud hynny. Nid y Ceidwadwyr Cymreig yn unig sy'n dweud hynny. Dyna mae adroddiad y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ei hun yn ei ddweud, a'r athrawon a samplwyd. Felly, dywedodd 41 y cant o'r athrawon yng Nghymru a gymerodd ran yn yr arolwg nad oedd ganddynt adnoddau i allu gwneud eu gwaith—fod hynny'n rhwystro eu gallu. Mae hynny'n cymharu â 22 y cant o'r rhai a holwyd yn Lloegr, gwahaniaeth enfawr. Felly, rwy'n credu bod dweud nad yw adnoddau'n broblem fawr yn peri pryder gwirioneddol.
Wrth gwrs, nododd Mohammad Asghar y bwlch cyllido sylweddol yr amcangyfrifodd yr NASUWT ei fod yn £640 y flwyddyn y disgybl—bwlch enfawr. Gwyddom nad yw'n gyllid nad yw gennych; mae gennych £1.20 am bob £1 a roddir ar gyfer addysg pob disgybl yn Lloegr. Ac eto, gwyddom o'ch ffigurau eich hun, a ryddhawyd gan y Gweinidog Cyllid ychydig wythnosau yn ôl, mewn gwelliant i'n dadl, nad ydych ond yn gwario £1.06 o'r £1.20 ar hyn o bryd. Hoffwn ofyn i chi—ac os ydych am ymyrryd, buaswn yn hapus iawn i ildio—ble mae gweddill yr arian wedi mynd?
Na, mae eich amser wedi dod i ben.
I ble mae gweddill yr arian yn mynd? Credwn—credwn yn gryf—y dylid ei fuddsoddi yn ein hysgolion. Dyna pam rwyf am annog pobl i gefnogi'r cynnig hwn heddiw, heb ei ddiwygio. Mae gennym £1.24 biliwn ychwanegol yn dod i Gymru i gefnogi ein system addysg. Credwn y dylai pob ceiniog ohono fynd i gefnogi ein hysgolion.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Symudwn yn awr at y cyfnod pleidleisio oni bai fod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu. Iawn. Symudwn at y bleidlais. Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar y ddadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21 (iv) ar lefelau staff nyrsio. Galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Helen Mary Jones. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid y cynnig 32, 14 yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig.
NDM7215 - Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) - Lefelau Staff Nyrsio: O blaid: 32, Yn erbyn: 0, Ymatal: 14
Derbyniwyd y cynnig
Symudwn yn awr at bleidlais ar ddadl y Ceidwadwyr Cymreig ar addysg ysgol. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Os gwrthodir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliannau a gyflwynwyd i'r cynnig. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid y cynnig 14, neb yn ymatal, 32 yn erbyn. Felly gwrthodwyd y cynnig.
NDM7218 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig heb ei ddiwygio: O blaid: 14, Yn erbyn: 32, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y cynnig
Symudwn at bleidlais ar y gwelliannau. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Rebecca Evans. Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid y gwelliant 29, neb yn ymatal, 17 yn erbyn. Felly, derbynnir y gwelliant a chaiff gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
NDM7218 - Gwelliant 1: O blaid: 29, Yn erbyn: 17, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Cynnig NDM7218 fel y'i diwygiwyd:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi canlyniadau PISA 2018 y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd (OECD).
2. Yn nodi mai Cymru yw'r unig genedl yn y DU i wella ym mhob maes.
3. Yn croesawu:
a) sgoriau gorau Cymru erioed mewn darllen a mathemateg, a gwelliant mewn gwyddoniaeth;
b) gostyngiad yn y bwlch rhwng ein dysgwyr mwyaf difreintiedig a'u cyfoedion;
c) gwelliant ym mherfformiad myfyrwyr uchel eu perfformiad.
4. Yn credu bod y gwelliant yn sgoriau PISA yn brawf o waith caled athrawon a disgyblion ledled Cymru.
Agor y bleidlais. Cau’r bleidlais. O blaid y cynnig 29, neb yn ymatal, 17 yn erbyn. Felly, derbynnir y cynnig fel y'i diwygiwyd.
NDM7218 - Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 29, Yn erbyn: 17, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Symudwn yn awr at y ddadl fer. Os oes Aelodau'n gadael, a allwch chi wneud hynny'n gyflym? Symudwn yn awr at y ddadl fer, a galwaf ar Vikki Howells i siarad ar y pwnc y mae wedi'i ddewis—Vikki.
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ar gyfer fy nadl fer, rwyf am edrych ar rai o'r heriau sy'n gysylltiedig â darparu gofal cymdeithasol yn yr unfed ganrif ar hugain. Gan fod hwn yn bwnc mor eang, ni allaf ymdrin â phob agwedd ar y ddadl. Er enghraifft, byddaf yn canolbwyntio fy sylwadau'n bennaf ar ddarparu gofal cymdeithasol i oedolion. Fodd bynnag, rwy'n gobeithio taflu digon o oleuni ar rai heriau allweddol, a chyffwrdd â rhai atebion posibl lle bo'n briodol.
Mae'r her gyntaf sy'n ein hwynebu yn ymwneud â demograffeg. Bydd y niferoedd dros 65 oed yn cynyddu'n bendant ac yn gymesur dros y degawd nesaf, a gallai fod cynnydd o chwarter yn y niferoedd fydd angen gofal. Mae gan Gymru boblogaeth sy'n heneiddio, ac mae'n mynd yn hŷn. Bydd hyn, ynghyd â chostau cynyddol a chyflyrau cynyddol gymhleth a chronig, yn creu costau economaidd. Dyna'r her sy'n rhaid inni ei hwynebu.
Nododd y Sefydliad Iechyd fod Cymru'n gwario bron i £400 y pen ar ofal cymdeithasol i oedolion. Amcangyfrifwyd y byddai'r costau'n codi dros 4 y cant y flwyddyn dros y 15 mlynedd nesaf. Erbyn 2030-31, byddem yn gwario £1 biliwn yn ychwanegol ar ofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae tua thraean o wariant llywodraeth leol yng Nghymru wedi'i ddyrannu ar gyfer gofal cymdeithasol i bobl dros 65 oed, ac mae tueddiadau poblogaeth yn golygu mai cynyddu y bydd yn ei wneud. Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi arian ychwanegol i helpu gyda'r gwaith o ddarparu gofal cymdeithasol. Er enghraifft, mae cyllideb 2019-20 yn cynnwys £50 miliwn ychwanegol i liniaru'r pwysau rheng flaen ar lywodraeth leol. Ond mae Age Cymru, ymysg eraill, yn awgrymu bod y gwasanaeth eisoes yn cael ei danariannu, a hynny o ran diwallu'r angen presennol yn unig.
Mae cynnig gofal cymdeithasol am ddim yn y fan a'r lle yn rhywbeth y dylem anelu ato, a chroesawaf y ffaith bod fy mhlaid yn sefyll ar faniffesto yfory sy'n ein hymrwymo'n glir i ymestyn hyn os cawn yr hwb ariannu teg y gallem ei ddisgwyl gan Lywodraeth Lafur yn y DU. Awgryma Age Cymru yn rymus fod hynny'n hollbwysig o ran sicrhau cydgyfrifoldeb cymdeithasol am gyllid gofal cymdeithasol. Dywedant y dylai'r cyfrifoldeb am ariannu symud o'r unigolyn i'r gymdeithas. Maent yn galw am fodel ariannu newydd a chynaliadwy sy'n deg, yn gyfiawn ac yn dryloyw ac yn cefnogi cynlluniau ar gyfer costau gofal yn y dyfodol.
Darperir un model posibl yn adroddiad yr Athro Holtham ar dalu am ofal cymdeithasol. Archwiliodd Holtham y dadleuon a'r gwahanol fodelau ar gyfer pennu canlyniad cynaliadwy wedi'i ariannu'n deg, ond roedd ei gasgliad yn glir: byddai codi ardoll benodol i dalu am ganlyniad penodol yn ateb pryderon y cyhoedd. Mae hynny'n arbennig o wir pe bai'r ardoll yn dibynnu ar oedran ac incwm ac yn gyfrannol. Byddai rôl i'r system nawdd cymdeithasol gamu i mewn i helpu'r rheini sydd ei hangen. Mae Holtham hefyd yn esbonio pam y byddai system wedi'i hariannu yn fwy effeithlon na system talu wrth fynd; gallai'r cyfraddau fod yn llyfn ac yn deg rhwng y cenedlaethau. Byddai canlyniadau wedi'u neilltuo yn darparu gwarantau pendant ar gyfer mewnbwn wedi'i neilltuo. Mae'n bosibl y gallai unrhyw gronfa gynnig manteision economaidd ehangach fel catalydd ar gyfer twf cenedlaethol. Fel y noda Holtham i gloi, gallai cynllun cyfrannol wedi'i ariannu gynnig ateb dichonadwy i broblem ariannu gofal cymdeithasol mewn cyfnod o newid demograffig. Byddai cynllun o'r fath yn ymateb i newidiadau ym mhroffil oedran dinasyddion Cymru ac yn hunangynhaliol.
Yn wir, rhag i ni oedi gormod gyda'r costau, dylem gofio mai hanfod hyn yw darparu ateb pragmatig i'r anghenion mwyaf hollbwysig yn y dyfodol—sef sicrhau ein bod yn diwallu anghenion gofal cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol, a'n bod yn gwneud hynny mewn ffordd sy'n ymgorffori urddas a'r safonau gorau. Byddai hyn yn cynnig un ffordd arloesol o ddefnyddio'r pwerau newydd sydd gan y Senedd hon mewn perthynas â threthiant. Edrychaf ymlaen at weld canfyddiadau'r grŵp rhyngweinidogol ar dalu am ofal cymdeithasol maes o law.
Rwyf hefyd am roi amser i siarad am y modd y mae fy awdurdod lleol i, Rhondda Cynon Taf, yn ymateb i'r pwysau. Mae'r cyngor yn mabwysiadu llwybr gweithredu uchelgeisiol i weddnewid ei ddarpariaeth o ofal cymdeithasol, yn seiliedig ar y weledigaeth a nodir yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Rwy'n ddiolchgar i gynghorwyr, swyddogion a staff rheng flaen am roi amser i siarad â mi. Gwnaeth Cadw'n Iach yn y Cartref argraff arbennig arnaf. Dyma fenter hyblyg a chymunedol a ddatblygwyd gan gyngor Rhondda Cynon Taf ynghyd â chyngor Merthyr a bwrdd iechyd Cwm Taf Morgannwg gan ddefnyddio arian o gronfa gofal canolraddol Llywodraeth Cymru. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys tîm amlddisgyblaethol o weithwyr cymdeithasol, therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion ac eraill. Mae'n gweithredu saith diwrnod yr wythnos, o wyth tan wyth, a chaiff ei gefnogi gan ystod o ymatebion yn y gymuned, gan ddod â grwpiau fel Gofal a Thrwsio, toogoodtowaste ac eraill i mewn. Ei nod yw atal derbyniadau diangen i'r ysbyty a sicrhau bod y bobl sydd angen eu derbyn i’r ysbyty yn cael eu rhyddhau'n amserol. Ac mae hynny'n dangos un o ganlyniadau methiant ar ein rhan i gyflawni'r her gofal cymdeithasol, sef blocio gwelyau. Disgwylir i'r gwasanaeth hanfodol hwn ehangu y flwyddyn nesaf.
Mae ymatebion eraill gan gyngor Rhondda Cynon Taf yn cynnwys defnyddio technoleg. Bydd llinell fywyd technoleg gynorthwyol Rhondda Cynon Taf yn cael ei gwella i ddarparu gwasanaeth ymateb cyflym, symudol 24 awr a 365 diwrnod y flwyddyn i bobl sy'n defnyddio mwclis llinell fywyd Rhondda Cynon Taf. Ac wrth gwrs, mae'r cyngor hefyd wedi ymrwymo i fuddsoddi mewn cyfleusterau gofal ychwanegol ar draws Rhondda Cynon Taf, ac mae'r rheini wedi creu argraff fawr arnaf pan fyddaf yn ymweld â hwy. Maent yn rhan o ymrwymiad y cyngor i foderneiddio gwasanaethau preswyl a dydd pobl hŷn, ac rwy'n falch y bydd Aberaman ac Aberpennar yn fy etholaeth yn cynnig cyfleusterau gofal ychwanegol cyn bo hir.
Mae'r model economi sylfaenol hefyd yn ein galluogi i fynd i'r afael â gofal cymdeithasol o bersbectif newydd. Rwy'n gobeithio bod y dadleuon ynghylch yr economi sylfaenol bellach yn gyfarwydd. Mae hyn yn cydnabod pwysigrwydd economaidd yr eitemau a'r gwasanaethau hanfodol bob dydd hynny sydd, hyd yn ddiweddar, wedi eu gwthio i'r cyrion wrth lunio polisïau economaidd. Ochr yn ochr â chyfleustodau, cynhyrchu bwyd ac angenrheidiau a weithgynhyrchir, ceir y gwasanaethau lles cyffredinol y mae dinasyddion yn eu disgwyl ac yn eu defnyddio’n ddyddiol, ac edefyn allweddol yma yw’r ddarpariaeth gofal cymdeithasol.
Fel y canfu'r Ganolfan Ymchwil ar Newid Cymdeithasol-Ddiwylliannol, gall methiant i feithrin y rhan hon o'r economi sylfaenol yn briodol arwain at ganlyniadau pellgyrhaeddol. Er enghraifft, mae mentrau preifat gyda llawer o adnoddau wedi cyflwyno llety mwy o faint a mwy pwrpasol yn lle cartrefi gofal teuluol llai o faint. Mae'r rhain yn blaenoriaethu elw cyfranddalwyr ac yn arwain at weithlu ar gyflogau annigonol, gwariant cyhoeddus uchel, a chanlyniadau gofal gwael. Felly, rwy'n croesawu'r ymrwymiad newydd i'r economi sylfaenol sy’n ganolog i Lywodraeth Cymru. Ar ben hynny, caiff adnoddau eu halinio â rhethreg yma, ac mae'n dda gweld cyllid yn cael ei ddyrannu i ystod o brosiectau gofal cymdeithasol drwy gronfa her yr economi sylfaenol. Roedd 12 prosiect gofal cymdeithasol yn llwyddiannus o dan yr elfen honno o her yr economi sylfaenol, megis y £100,000 a roddwyd i PeoplePlus Cymru i ddatblygu prosiectau uwchsgilio gyda chyflogwyr gofal cymdeithasol i ddarparu hyfforddiant o safon i staff. Rwy’n edrych ymlaen at ledaenu a chynyddu arferion gorau, a'r ffocws o'r newydd ar dyfu'r canol coll.
Gallai modelau cydweithredol ar gyfer darparu gofal cymdeithasol gynnig ateb ychwanegol hefyd. Mae cydweithfeydd gofal cymdeithasol yn adeiladu dulliau sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn o ddarparu gwasanaethau. Yn lle prif swyddfeydd anghysbell a blaenoriaethu cyfranddalwyr, maent yn arwain at fusnesau sydd wedi'u hangori yn y gymuned go iawn, buddsoddiad economaidd lleol a manteision cymdeithasol. Gellir adeiladu sefydliadau yn y modd hwn o amgylch gweithwyr sy'n cael eu cymell drwy gael llais uniongyrchol yn y gwaith o redeg y ddarpariaeth ofal, ei moeseg, ei gweithrediad a'i chynhyrchiant strategol. Caiff refeniw a fyddai fel arall yn cael ei golli mewn difidendau a dyraniadau eraill ei fuddsoddi yn y gwasanaeth, ac mae’r berthynas â defnyddwyr y gwasanaeth yn allweddol. Ar ben hynny, mae gan bobl sy'n defnyddio gwasanaethau lles a gofal personol yn cael mwy o lais yn y modd y gweithredir y gwasanaethau hynny a'r hyn sy'n cael ei gynnig. Maent yn gosod pobl sy'n defnyddio gwasanaethau wrth wraidd y gwaith o lunio a darparu gwasanaethau. Wrth wneud hynny, maent yn darparu gwasanaethau ymatebol a gyfeirir gan ddinasyddion, gan roi llais cryfach a mwy o reolaeth i bobl sydd angen gwasanaethau a'r rhai sy'n gofalu amdanynt. Mae hyn yn aml yn arwain at wasanaethau o ansawdd gwell, ac wedi'u targedu'n dda.
Rwy'n ddiolchgar i Ganolfan Cydweithredol Cymru am dynnu sylw at sawl enghraifft ragorol o'r model cyflenwi hwn. Mae amser yn fy atal rhag rhestru pob un o'r rhain, ond rwyf am sôn am Gydweithfa Cartrefi Cymru sy’n cefnogi pobl ag anableddau dysgu yng Nghymru i fyw bywydau cyflawn, gartref ac yn y gymuned. Daethant yn gydweithfa ychydig dros dair blynedd yn ôl. Mae aelodaeth yn wirfoddol ac yn agored i’r bobl y maent yn eu cynorthwyo, gweithwyr, a chefnogwyr cymunedol weithio gyda'i gilydd ar ddau nod cydweithredol.
Rwyf am archwilio mater hanfodol bwysig y gweithlu gofal cymdeithasol fel her allweddol arall. Rwy'n ddiolchgar am sgyrsiau gyda nifer o sefydliadau ac unigolion ynglŷn â hyn, ac yn enwedig sgyrsiau a gefais gyda dynes hyfryd o’r enw Mrs Bishop y treuliais brynhawn gwerthfawr iawn gyda hi, pan ddisgrifiodd yr effaith gadarnhaol a gafodd gofalwyr Rhondda Cynon Taf a gwasanaethau'r cyngor ar ei bywyd. Rwyf hefyd am gofnodi fy niolch i fy undeb llafur, y GMB, am drafodaeth ar sut y maent yn cefnogi aelodau sy'n gweithio yn y sector gofal.
Rwy’n croesawu’r cyfeiriad polisi a welwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf mewn perthynas â phroffesiynoli’r gweithlu gofal cymdeithasol a chydnabod y gwaith hanfodol y gallant ei wneud, ond rhaid wrth adnoddau priodol i gefnogi hyn, er mwyn rhoi cyflogau i weithwyr gofal sy’n adlewyrchu pwysigrwydd eu galwedigaeth. Fel arall, gallai staff symud yn weddol ddi-dor i’r maes nyrsio yn y pen draw, oherwydd bod y cyflogau gymaint yn uwch yno, gan waethygu’r prinder o staff gofal cymdeithasol.
Mae'n ymyrraeth gadarnhaol fod yn rhaid i'r gweithlu gofal cartref gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru bellach, fod yn rhaid iddynt fodloni meini prawf o ran cymwysterau: cymwysterau sy'n golygu ein bod yn cydnabod yr hyn yw gofalu, sef galwedigaeth fedrus iawn sydd o’r pwys mwyaf i'n cymunedau. Rwy'n credu ei bod hi'n deg dweud bod y gweithwyr gofal hyn yn fedrus iawn, ond yn rhy aml o lawer nid yw eu sgiliau'n cael eu cydnabod na'u gwerthfawrogi'n ffurfiol. Gan symud hyn ymlaen, mae heriau yn y gwahanol gyflogau a thelerau ac amodau rhwng y sectorau preifat a chyhoeddus. Er enghraifft, mae gweithiwr gofal sector preifat yn ennill £2 yr awr yn llai ar gyfartaledd na'u cymheiriaid yn yr awdurdodau lleol.
Gall fod heriau ynghlwm wrth negodi gyda'r sector preifat. Cefais ychydig o syndod o glywed bod dros 25,000 o ddarparwyr gofal cymdeithasol preifat cofrestredig yn y DU. Fel y gwnaeth y Pwyllgor Cyllid ein hatgoffa y llynedd, mae yna heriau hefyd yn yr ystyr fod cyfran uchel o staff yn heneiddio, a cheir dibyniaeth ar staff o dramor. Hoffwn weld mesurau pellach i broffesiynoli'r gweithlu, gydag unrhyw gynnydd yn y cyllid yn cael ei ddyrannu i'r perwyl hwn. Rhaid i hyn fynd law yn llaw â mwy o gydnabyddiaeth i'r rôl bwysig y mae gofalwyr yn ei chyflawni i atal y gyfradd trosiant staff o 33 y cant. Mae ymyriadau Llywodraeth Cymru, megis rhoi diwedd ar gontractau dim oriau gorfodol a sicrhau tâl am amser teithio, nid yn unig yn allweddol i gyflawni hyn, maent hefyd yn foesol gywir ac yn deg.
Hoffwn weld gwaith yn cael ei wneud i sicrhau parch cydradd rhwng y sector preifat a'r sector cyhoeddus, a rhwng y gweithlu gofal cymdeithasol a'r rhai sy'n ymwneud â sectorau cysylltiedig fel gofal iechyd, gan atgoffa gweithwyr gofal o'r hawliau sydd ganddynt. Nid yw ond yn deg ein bod yn rhoi’r hyn sy’n ddyledus i'r gweithwyr hyn. Wrth wneud hynny rwy'n gobeithio y byddwn yn galluogi pobl i ystyried gofal cymdeithasol yn opsiwn gyrfa deniadol. Bydd hyn yn annog recriwtiaid newydd i ymuno, gan roi'r gefnogaeth sydd ei hangen arnynt i ddod yn aelodau profiadol o staff, a sicrhau eu bod yn aros yn y sector yn hirdymor.
Yr her olaf rwyf am ei hystyried yw sut rydym yn cefnogi gofalwyr di-dâl yn briodol. Mae tua 96 y cant o ofal yn cael ei ddarparu gan ofalwyr di-dâl. Mae proffil 'Cyflwr Gofalu' Gofalwyr Cymru yn cynnig mewnwelediad pwysig yn y maes hwn. Gan dynnu ar eu gwaith yn 2018, mae rhai canfyddiadau allweddol yn sefyll allan. Mae hwn yn fater sy’n ymwneud â rhywedd: roedd mwy o fenywod na dynion yn ofalwyr. Mae bron i un o bob tri gofalwr yn anabl eu hunain. Mae gan bron i un o bob pedwar gyfrifoldeb gofal plant. Mae bron i draean yn gweithio, ac o’r rheini mae bron eu hanner yn gweithio amser llawn. Mae tua 56 y cant yn gofalu am fwy na 90 awr yr wythnos. Mae un o bob pedwar gofalwr yn gofalu am ddau neu fwy o bobl.
Mae ymchwil a gyhoeddwyd gan Carers UK ar Ddiwrnod Hawliau Gofalwyr yn darparu allwedd arall i raddau’r mater. Ceir tebygolrwydd o 50:50 y bydd y person cyffredin yng Nghymru yn ofalwr erbyn y bydd yn 45 oed, ymhell cyn oedran ymddeol. Ac yng Nghymru, bydd menywod yn ofalwyr erbyn eu bod yn 42 oed. Mae gofalu yn ystod ein bywydau gwaith yn dod yn fwy a mwy tebygol wrth i bobl fyw’n hwy ac angen mwy o help gyda'u bywydau bob dydd. Gall menywod sy'n ysgwyddo mwy o rôl gofalu ac ar oedran iau gyfyngu ar eu cyfranogiad economaidd, eu henillion oes, a'u hincwm yn ddiweddarach mewn bywyd.
Pwysleisir yr her pan gofiwn fod tebygolrwydd o 70 y cant y bydd rhywun sy'n byw yng Nghymru yn darparu gofal di-dâl i berson arall. Dyna'r gyfradd uchaf yn y DU. Gwyddom fod cyfraniad gofalwyr di-dâl yn llythrennol amhrisiadwy. Pe na byddai, byddai cost ychwanegol i'r pwrs cyhoeddus o tua £8 biliwn. Ond gall y ddeuoliaeth rhwng darparu gofal amser llawn ac angen gweithio achosi cyfyng-gyngor poenus. Rwyf wedi ymdrin ag etholwyr sydd wedi bod angen rhoi'r gorau i weithio er mwyn gofalu am anwyliaid. Nid yw'r iawndal a ddarperir gan y lwfans gofalwyr yn mynd agos digon pell i ddiwallu angen. Mae rhywfaint o gymorth ar gael, ac rwy’n croesawu’r cymorth ymarferol a ymgorfforwyd yn Neddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014. Ond ceir rhwystrau eraill sy'n rhaid i ni eu goresgyn o hyd.
Diben fy nadl oedd edrych ar rai o'r heriau a wynebwn wrth geisio braslunio rhai o'r atebion. Ni all dadl fer fyth ddarparu'r holl atebion, ond wrth imi gloi, rwyf am orffen o leiaf trwy ddweud 'Diolch' wrth bawb sy'n darparu gofal mor hanfodol o un diwrnod i'r llall.
Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl. Julie Morgan.
Hoffwn ddechrau trwy ddiolch i Vikki Howells am gyflwyno’r ddadl hon heddiw ar y pwnc pwysig hwn. Rwy'n credu bod y dadleuon byr yn ddefnyddiol iawn er mwyn tynnu sylw at feysydd pwnc penodol, ac rwy'n credu ei bod wedi gwneud hynny'n dda iawn heddiw.
Mae gofal cymdeithasol yn faes gwasanaethau cyhoeddus sy'n cael llawer mwy o sylw, a chredaf mai'r rheswm am hynny yw y gallwn i gyd weld y gofynion ar ofal cymdeithasol sy'n cynyddu’n fawr, ac yn sicr mae wedi bod yn fater sy’n codi yn ymgyrch yr etholiad cyffredinol. Mae'r angen yn cynyddu ac mae'r adnoddau y gall llywodraeth leol a Llywodraeth genedlaethol eu codi i ddiwallu'r angen yn cael trafferth dal i fyny â’r angen hwnnw. Nid wyf am oedi ar y pwynt hwn yn fy nghyfraniad i'r ddadl hon, a fydd, gobeithio, yn gadarnhaol ac yn optimistaidd, ond rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod, wrth inni edrych ymlaen, fod ein man cychwyn yn llawer anos nag y gallai fod wedi bod pe bai gwahanol benderfyniadau wedi'u gwneud ar lefel y DU.
Y pwynt cyntaf rwyf am ei wneud ynglŷn ag ateb heriau gofal yr unfed ganrif ar hugain yw bod ein polisi a’n fframwaith deddfwriaethol yn ein gwasanaethu'n dda yn hynny o beth. Mae'r sylfaen gyfreithiol ar gyfer gofal cymdeithasol, a’i ddatblygu, yn edrych tua'r dyfodol. Soniodd Vikki Howells am y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, ac yn sylfaenol, mae hon yn rhoi’r unigolyn yng nghanol y broses o gynllunio ei anghenion gofal a chymorth. Mae hwn yn gam ymlaen ac yn adlewyrchu'n gryf ein gwerthoedd ein hunain o gefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas. Mae pawb yng Nghymru yn haeddu cael eu hanghenion gofal a chymorth wedi’u diwallu, ac mewn ffordd lle caiff eu llais ei glywed a lle gweithredir ar eu dymuniadau. Felly, mae gennym y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant yn ddeddfwriaeth sylfaenol yma yn y Cynulliad, sy'n bwysig iawn ar gyfer gofal cymdeithasol. Mae Deddf Lles Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 hefyd yn bwysig iawn, oherwydd mae wedi ymgorffori'r syniad fod angen inni ystyried y dyfodol hirdymor yn yr holl benderfyniadau a wnawn, a chredaf fod hwn yn gam enfawr ymlaen i'r Llywodraeth a chyrff cyhoeddus yng Nghymru.
Wedyn, o ran y cyfeiriad polisi, 'Cymru Iachach', ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yw'r sylfaen ar gyfer ein gweithredu. Ac rwy'n credu mai Cymru, mewn gwirionedd, yw'r unig genedl yn y DU sydd â chynllun strategol sy'n canolbwyntio ar y dyfodol ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol. Fel cynllun, mae'n sicr yn mynd i'r afael â'r prif dueddiadau hirdymor a fydd yn effeithio ar Gymru. Ac yn ysbryd y ddadl hon, hoffwn gyfeirio'n fyr at rai o'r tueddiadau hynny yn y dyfodol.
Mae newid demograffig, fel y soniodd Vikki Howells, eisoes gyda ni a bydd ei effeithiau’n cyflymu, gyda’r rhagamcan y bydd nifer y bobl dros 85 oed yn dyblu dros yr 20 mlynedd nesaf. A'r newid demograffig hwn mewn gwirionedd yw ein cyflawniad mwyaf fel cymdeithas o bosibl. Mae'n fuddugoliaeth i'r GIG ac yn sicr yn rhywbeth i'w ddathlu, ond mae'n rhaid inni fod yn realistig ynglŷn â’i effaith ar ein gwasanaethau cyhoeddus, ac mae Vikki Howells wedi cyfeirio at hynny. Mae Gofal Cymdeithasol Cymru yn amcangyfrif y bydd angen 20,000 o weithwyr gofal cymdeithasol ychwanegol arnom i ymateb i'r anghenion gofal cynyddol a ddaw gyda'r boblogaeth oedrannus gynyddol hon. Ac mae ein cymdeithas sy'n heneiddio yn her nid yn unig i ofal cymdeithasol, ond i'r Llywodraeth gyfan a dyna pam, y flwyddyn nesaf, y byddaf yn ymgynghori ar strategaeth ar gyfer cymdeithas sy'n heneiddio. Bydd yn nodi'r camau y mae'n rhaid i ni eu cymryd mewn ymateb i newid demograffig, a hefyd yn gosod gweledigaeth sy'n herio Llywodraeth Cymru a'n holl bartneriaid i gyflawni mwy eto yn yr amser sydd i ddod.
Wrth ddweud hyn, mae'n rhaid i ni gofio mai plant yn hytrach na phobl hŷn yw'r maes sydd wedi gweld y cynnydd mwyaf mewn gwariant yn adrannau gwasanaethau cymdeithasol awdurdodau lleol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf mewn gwirionedd. Cynhyrchwyd llawer mwy o gostau er mwyn gofalu am blant, yn enwedig plant ag anghenion cymhleth, nag ar gyfer pobl hŷn. Ac rwy'n credu mai’r rheswm am hyn yw oherwydd bod plant yn byw o adeg eu geni gyda chyflyrau mwy cymhleth ac mae eu gofal yn dod yn llawer mwy dwys o ran adnoddau. Ac rydym hefyd yn gweld mwy o blant yng Nghymru yn derbyn gofal, a bydd yr Aelodau'n gwybod bod y Llywodraeth hon yn gweithio gyda'n partneriaid llywodraeth leol i geisio gwrthdroi’r tueddiad yn nifer y plant sy'n derbyn gofal yng Nghymru. Rwy'n credu bod y ddadl hon yn cynnig persbectif diddorol ar hyn.
Fodd bynnag, gwn fod Vikki yn canolbwyntio ar oedolion yn ei chyfraniad, ond credaf nad yw pobl yn aml yn sylweddoli mai plant sy'n achosi’r gost fwyaf. Rydym yn ceisio gostwng nifer y plant sy'n rhaid eu gosod mewn gofal, ond diogelwch yw'r sylfaen ar gyfer gostwng y niferoedd hynny. Mae'n rhaid inni gefnogi teuluoedd a chymunedau yn well, ac adeiladu ymatebion a fydd yn ein galluogi i wrthdroi’r tueddiad, a phan fydd angen i blant gael eu gosod mewn gofal mae angen inni sicrhau bod darpariaeth ar gael yn agos at eu cartref.
Nawr, ar fater adnoddau, soniodd Vikki am y grŵp rhyngweinidogol ar dalu am ofal cymdeithasol sy'n edrych ar yr heriau ar gyfer y dyfodol. Mae bob amser wedi bod yn well gennym weld Cymru'n rhan o ddull o weithredu ar draws y DU i sicrhau nad yw pobl yn wynebu costau gofal mawr yn ddiweddarach mewn bywyd, ac fe welwn beth a ddaw yn sgil yr etholiad yr wythnos hon yn hynny o beth. Ond os bydd methiant polisi yn parhau ar lefel y DU, mae'r grŵp rhyngweinidogol yn gweithio i ddatblygu ateb a wnaed yng Nghymru sy'n iawn ar gyfer anghenion gofal yr unfed ganrif ar hugain. Dim ond rhan o'r ateb yw adnoddau ychwanegol, er mor bwysig ydynt, a soniodd Vikki Howells am yr argymhellion a ddeilliodd o waith Gerry Holtham; rydym yn edrych ar hynny yn y grŵp rhyngweinidogol.
Ond tuedd fyd-eang arall yw effaith technoleg ac mae sut y bydd hyn yn effeithio ar ofal cymdeithasol yn faes pwysig iawn. Credaf fod yn rhaid i ofal cymdeithasol bob amser fod yn ymdrech gynhenid wyneb yn wyneb, ond ar yr un pryd, bydd y defnydd priodol o dechnoleg yn dod yn bwysicach er mwyn diwallu anghenion gofal. Ac yn amlwg byddai'n ffôl ceisio rhagweld newidiadau technoleg ymhell yn y dyfodol; yn hytrach, rôl y Llywodraeth yn y maes yw annog a chynorthwyo darparwyr gofal cymdeithasol i wneud y defnydd gorau o dechnoleg sydd eisoes yn bodoli, a hefyd eu helpu i feddwl yn greadigol am y dyfodol.
Gwn fod Vikki Howells wedi crybwyll yr economi sylfaenol, ac yn sicr mae hynny'n rhywbeth rydym yn gefnogol iawn iddo yn Llywodraeth Cymru. Fel y dywedodd, mae'r gronfa a sefydlwyd wedi cefnogi nifer o ffyrdd arloesol o fynd i'r afael â gofal cymdeithasol, ac roeddwn yn falch iawn o ymweld â rhai o'r rheini pan gyhoeddwyd y rhai diwethaf. Ac rwy'n falch iawn o glywed am nodau uchelgeisiol cyngor Rhondda Cynon Taf, yn enwedig y cynllun Cadw’n Iach yn y Cartref y gwn amdano hefyd, sy'n dda iawn.
Hoffwn ddweud am un o'r pethau sy'n ein hwynebu yn y dyfodol, sef newid hinsawdd sydd, yn amlwg, yn un o'r heriau mwyaf sy'n ein hwynebu. Mae’n argyfwng hinsawdd a boed yn dywydd mwy eithafol neu fewnfudo i'r DU wedi'i yrru gan y caledi y bydd newid hinsawdd yn ei achosi mewn rhannau eraill o'r byd, mae angen inni gyrraedd sefyllfa lle gall gwasanaethau cyhoeddus yma addasu, ac mae hynny'n cynnwys gofal cymdeithasol. Mae angen i ni weithio hefyd fel y gall y cannoedd o ddarparwyr gofal cymdeithasol yng Nghymru gefnogi'r uchelgais cyffredinol o symud yn gyflym i fod yn garbon niwtral, sy'n bwysig iawn yn fy marn i pan feddyliwn am y nifer enfawr o staff sydd gennym yn gweithio yn y system gofal cymdeithasol, a llawer ohonynt fel unigolion.
Yn 2020, rwyf hefyd yn bwriadu cyflwyno cynllun cenedlaethol ar gyfer gofalwyr. Siaradodd Vikki yn rymus am gyfraniad gofalwyr. Ledled Cymru, ceir tua 370,000 o ofalwyr di-dâl o bob oed sy'n cefnogi rhywun annwyl sy'n hŷn, yn anabl neu'n ddifrifol wael heb gael eu talu i wneud hynny. Maent yn cyfrannu'n aruthrol at gymdeithas Cymru, a chredaf ei bod yn bwysig dweud bod mwyafrif llethol y gofalwyr hynny’n falch o'i wneud ac eisiau ei wneud, ac yn gofalu am rywun annwyl, a dylem wneud ein gorau glas i'w cynorthwyo i wneud hynny. Ond rydym yn gwybod o adroddiadau a gafwyd ar ofalwyr eu bod yn ei chael hi’n anodd, ac yn aml maent yn wynebu llawer o anawsterau. Ond rwy'n credu ei bod mor bwysig ein bod yn cydnabod y rôl hynod bwysig y mae gofalwyr yn ei chwarae, darparu cefnogaeth iddynt a galluogi pobl hefyd i gael bywyd ar wahân i ofalu. Byddaf yn gweithio gyda'r grŵp cynghori gweinidogol ar ofalwyr a rhanddeiliaid eraill yn 2020 i ddatblygu cynllun cenedlaethol ar gyfer gofalwyr yn 2020.
I orffen, hoffwn wneud dau bwynt arall. Dylai'r system gofal cymdeithasol yng Nghymru yn y dyfodol fod yn system gytbwys. Bydd darparwyr annibynnol yn parhau i fod yn rhan allweddol o'r system, ac mae gennym ddarparwyr annibynnol gwych yng Nghymru, ac rydym yn ddibynnol arnynt. Ac mae rhai ohonynt ar flaen y gad yn eu hymarfer. Fel Llywodraeth, rydym am i ddarparwyr annibynnol o ansawdd uchel chwarae rhan allweddol. Ond byddwn hefyd yn cefnogi awdurdodau lleol sydd am ddod â mwy o ddarpariaeth o dan eu rheolaeth uniongyrchol. Rydym hefyd eisiau gweld cydweithfeydd yn chwarae mwy o ran mewn marchnad ofal gytbwys, fel y crybwyllodd Vikki Howells. Yn y flwyddyn newydd rwy'n bwriadu darparu datganiad sy'n gosod fframwaith ar gyfer ailgydbwyso gofal cymdeithasol.
Yn olaf, felly, yn y pen draw, rwy’n credu bod y ddadl hon yn ymwneud yn y bôn â'r pwynt pwysig iawn a wnaeth Vikki: sut y gallwn dyfu capasiti a gallu'r gweithlu i fanteisio ar y cyfleoedd ac ymateb i'r heriau sydd o'n blaenau. Rwy'n ymwybodol iawn o'r heriau y mae gweithwyr gofal cymdeithasol proffesiynol yn eu hwynebu wrth ddarparu gofal o ansawdd uchel sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn ar sail gyson. Mae adrannau gwasanaethau cymdeithasol a darparwyr gofal cymdeithasol yn llawn o bobl ymroddedig, medrus a gweithgar. Galwedigaeth yw gofal cymdeithasol i lawer iawn o bobl, nid swydd yn unig. Yr hyn sy'n rhaid inni ei wneud yw gwella statws y gweithlu—soniodd Vikki Howells am y drefn gofrestru rydym yn ei chyflwyno. Mae angen inni fynd i’r afael â’r gwahaniaeth rhwng cyflogau a grybwyllwyd ganddi hefyd. Mae hi wedi sôn am y cynnydd a wnaethom ar gontractau dim oriau, ac rwy'n credu bod hwn yn ôl pob tebyg yn un o'r materion cwbl allweddol y mae'n rhaid inni roi sylw iddynt. Rhaid i'n prif sylw fod ar gynyddu capasiti a gallu'r gweithlu. Yn fwyaf arbennig, rwyf am i weithwyr cymdeithasol gael amser i uniaethu â phobl a gofalu amdanynt. Yn yr un modd, ni chaiff gweithlu'r dyfodol ei alluogi i wynebu'r her sydd o'n blaenau os yw, fel y dywedais, ar gyflog isel ac yn ansefydlog. Fel Llywodraeth rydym yn canolbwyntio ar waith teg, ac mae gofal cymdeithasol ar y blaen yn y datblygiadau hyn.
I gloi, rydym yn dweud weithiau yn ein dadleuon nad yw'r status quo yn opsiwn; ni fu hynny erioed yn fwy gwir am ofal cymdeithasol wrth edrych allan ar weddill yr unfed ganrif ar hugain. Mewn sawl ffordd, rydym mewn lle da, ond mae llawer o waith i'w wneud. Rwy'n credu ein bod yn gwybod i ba gyfeiriad rydym eisiau mynd, ond diolch yn fawr i Vikki Howells am godi'r cwestiwn hwn yn y Siambr heno, ac edrychaf ymlaen at weithio ar draws y Senedd i ateb yr heriau hyn yn yr amser sydd i ddod. Diolch.
Diolch. A daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:03.