Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

05/11/2019

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Prif Weinidog

Yr eitem gyntaf yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Joyce Watson. 

Adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru

1. Pa asesiad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud o adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru a gyhoeddwyd y mis diwethaf? OAQ54638

Llywydd, diolch. Mae adroddiad y comisiwn yn garreg filltir bwysig, sy'n haeddu ystyriaeth o ddifrif a gofalus. Byddaf yn gwneud datganiad llafar ar yr adroddiad yn ddiweddarach y prynhawn yma.

Diolch am yr ateb yna. Daeth yr adroddiad i'r casgliad bod toriadau'r Torïaid i gymorth cyfreithiol wedi taro Cymru yn anghymesur o galed—eu geiriau nhw, nid fy rhai i. Ers y gostyngiad sylweddol i'r gyllideb yn 2013, mae nifer y cwmnïau sy'n darparu cymorth cyfreithiol yng Nghymru wedi gostwng gan bron i draean, gan greu'r hyn y mae'r adroddiad yn ei alw'n 'ardaloedd dim cyngor' mewn sawl rhan o'r wlad. Felly, mewn ymateb i adroddiad y comisiwn, sut y gwnaiff eich Llywodraeth hyrwyddo mynediad teg at gyfiawnder wrth i system gyfreithiol neilltuol i Gymru ddod i'r amlwg yn y blynyddoedd i ddod?

Wel, Llywydd, hoffwn ddiolch i Joyce Watson am y cwestiwn pwysig yna. Mae hi yn llygad ei lle, wrth gwrs—mae'r adroddiad yn nodi, er bod y toriadau i gymorth cyfreithiol yn Lloegr wedi cyrraedd y ffigur syfrdanol o 28 y cant mewn termau real, mae'r toriad wedi bod yn 37 y cant yng Nghymru ac mae hynny wedi gadael cymaint o bobl agored i niwed heb fynediad at y cyngor sydd ei angen arnyn nhw wrth ddibynnu ar y system gyfiawnder. Ac yn union fel y bu toriadau i gymorth cyfreithiol, felly hefyd toriadau eraill yn y system. Cau llysoedd yng Nghymru—50 o lysoedd yn 2010, 28 o lysoedd ar ôl heddiw, a disgwyl i bobl deithio 20, 30 milltir i fynd i wrandawiad llys. Gwelaf yn yr adroddiad, Llywydd, bod y Weinyddiaeth Gyfiawnder o'r farn ei bod yn rhesymol, os ydych chi'n ymgyfreithiwr neu'n dyst, y byddech chi'n gadael eich cartref erbyn 7 o'r gloch y bore ac na fyddech chi'n dychwelyd yno tan 7.30 yr hwyr a bod hwnnw'n ddisgwyliad rhesymol gan rywun a allai fod yn gwneud hynny ddau neu dri diwrnod yn olynol i fynd i wrandawiad. Nid ydym ni'n credu bod hynny'n dderbyniol yma yng Nghymru, ac nid oedd yr Arglwydd Ustus Thomas yn credu hynny yn ei adroddiad ychwaith.

Llywydd, mae'r adroddiad yn amlinellu'r ffordd y bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru ddefnyddio ein cyllideb i wneud iawn am y diffygion a grëwyd gan doriadau a orfodwyd arnom ni gan Lywodraeth y DU—un gronfa gyngor â thros £8 miliwn o arian grant ar gael i wasanaethau gwybodaeth a chyngor ar gyfer 2020. Mae hyn yn llenwi bylchau na ddylen nhw fod yno, ac mae'n arian a fyddai fel arall yn cael ei ddyrannu i wasanaethau y mae'r Cynulliad hwn yn gyfrifol amdanynt. Ond rydym ni'n ei wneud oherwydd maint yr her sy'n bodoli yn hynny o beth—maint her y mae'r adroddiad hwn yn ei amlygu.

Mae manteision datganoli'r system cyfiawnder troseddol wedi bod yn eglur ers tro i Blaid Cymru. Dyna oedd sail papur polisi a ysgrifennais i yn ôl yn 2008, o'r enw 'Gwneud Ein Cymunedau'n Fwy Diogel'. Felly, roedd hi'n galonogol gweld canfyddiadau'r comisiwn ar gyfiawnder yn cefnogi'r safbwynt hwn pan gyhoeddwyd yr adroddiad. Roedd y dystiolaeth a ddarparwyd gan y comisiwn annibynnol hwn yn fforensig ac yn ddigamsyniol. Rwy'n cytuno â chi pan ddywedwch fod y sefyllfa bresennol yn annerbyniol. Gyda hynny mewn golwg, a fydd datganoli'r system cyfiawnder troseddol, ac yn benodol argymhellion adroddiad Thomas, yn rhan o faniffesto Llafur y DU?

Wel, Llywydd, mae nifer ohonom ni yn y Siambr sydd â hanesion maith o ddadlau dros ddatganoli agweddau ar y system cyfiawnder troseddol. Rhoddais dystiolaeth ar y pwnc hwn gyntaf yn 1985, pan roddais dystiolaeth i gomisiwn y Blaid Lafur, pryd y dadleuais y dylai'r gwasanaeth prawf fod ymhlith yr eitemau cyntaf i fod yn rhan o'r datganoli yr oedd y Blaid Lafur yn ei gynllunio bryd hynny. Nid yw adroddiad y comisiwn ar gyfiawnder yn bythefnos oed eto, ac mae'n haeddu ystyriaeth ofalus. Bydd yn cael hynny gan fy mhlaid i, yn sicr, ac edrychaf ymlaen at gael Llywodraeth Lafur ar ben arall yr M4, pryd y gallwn ni gael y sgyrsiau aeddfed hynny.

Cymorth i'r Rhai sy'n Dioddef Profedigaeth ar ôl Hunanladdiad

2. Pa drafodaethau y mae'r Prif Weinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol ynghylch gwella'r cymorth i'r rhai sy'n dioddef profedigaeth ar ôl hunanladdiad yng Nghymru ? OAQ54616

Diolchaf i Lynne Neagle am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae trafodaethau rheolaidd yn cael eu cynnal rhyngof i a'r Gweinidog ar amrywiaeth eang o faterion iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Mae'r trafodaethau hyn wedi cynnwys cymorth i'r rhai sydd wedi dioddef profedigaeth trwy hunanladdiad yng Nghymru.

13:35

Diolch, Prif Weinidog. Cynhaliwyd cyfarfod sylweddol cyntaf y grŵp trawsbleidiol newydd ar atal hunanladdiad gennym yn ddiweddar, gan ganolbwyntio ar brofedigaeth yn sgil hunanladdiad. Cawsom gyflwyniad grymus iawn gan Angela Samata, ar sut y datblygwyd, gan weithio gyda'r rhai sydd wedi dioddef profedigaeth yn sgil hunanladdiad, amrywiaeth o brosiectau arloesol yn Lloegr, i gefnogi'r rhai sydd wedi dioddef profedigaeth trwy hunanladdiad ac i atal hunanladdiadau pellach. Yn ei hymateb i adroddiad 'Busnes Pawb' y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gynnal adolygiad brys o'r llwybr ôl-ofal sydd ar waith yn Lloegr erbyn hyn, er mwyn ei addasu ar gyfer Cymru. O ystyried ein bod ni'n gwybod bod profedigaeth drwy hunanladdiad yn ffactor risg mawr ar gyfer marw drwy hunanladdiad, a bod ôl-ofal, felly, yn ataliad, pryd y gallwn ni ddisgwyl i lwybr o'r fath fod ar waith yng Nghymru, ac a wnewch chi sicrhau bod profiad byw yn cael ei gymryd i ystyriaeth yn llawn yn ei ddatblygiad?

A gaf i ddiolch i Lynne Neagle am y cwestiwn atodol yna, a chroesawu ffurfio'r grŵp trawsbleidiol ar y pwnc pwysig iawn hwn? Mae hi'n iawn i ddweud ein bod ni wedi ymrwymo i ddatblygu llwybr profedigaeth ôl-ofal cenedlaethol yma yng Nghymru. A bydd hyn yn flaenoriaeth allweddol i'r arweinydd cenedlaethol newydd ar atal hunanladdiad, a'r tri gweithiwr rhanbarthol a fydd yn eistedd ochr yn ochr â'r arweinydd cenedlaethol, i wneud yn siŵr ein bod ni'n gallu datblygu system nad yw'r cymorth sydd eisoes ar gael i bobl sy'n dioddef profedigaeth drwy hunanladdiad ar gael iddyn nhw yn oddefol ac nad yw hynny'n dibynnu arnyn nhw i fynd allan i ddod o hyd i'r cymorth sydd ar gael, ond bod y cymorth sydd ar gael yn cael ei drefnu mewn modd sy'n sicrhau bod y cymorth hwnnw ar gael yn weithredol i bobl sy'n eu canfod eu hunain yn y sefyllfa hon, ac yn canfod ei ffordd atyn nhw nid unwaith, ond dro ar ôl tro dros y cyfnod y bydd profedigaeth yn digwydd. Oherwydd rydym ni'n gwybod nad yw pobl sydd yn y sefyllfa ofnadwy honno o ddioddef profedigaeth drwy hunanladdiad yn aml ddim mewn sefyllfa eu hunain i gymryd y cam cyntaf i gael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. A hyd yn oed weithiau pan ddaw cymorth iddyn nhw, efallai mai dyna'r adeg anghywir—efallai nad dyma'r adeg pan eu bod yn gallu manteisio ar y cymorth a gynigir. Felly, mae angen llwybr ôl-ofal arnom ni sy'n weithredol o ran mynd â'r cymorth hwnnw i'r unigolion hynny a gwneud yn siŵr eu bod nhw'n ymwybodol o'r hyn sydd ar gael iddyn nhw, a bod cymryd y cymorth hwnnw'n cael ei wneud mor hawdd â phosibl. A dangosir hynny'n berffaith yn y pwynt olaf a wnaeth Lynne Neagle—bod y ffordd honno o wneud pethau yn deillio'n uniongyrchol o brofiad byw pobl sydd wedi canfod eu hunain yn y sefyllfa ofnadwy hon. Ac rydym ni'n lwcus eu bod nhw wedi bod yn barod i gyfrannu'r profiad hwnnw i ni yng Nghymru, i helpu gyda datblygiad y llwybr profedigaeth ôl-ofal.

Bythefnos yn ôl, fel Cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar angladdau a phrofedigaeth, cefais gyfarfod â Rhian Mannings, sef sylfaenydd a phrif weithredwr yr elusen Cymru gyfan 2 Wish Upon a Star, i drafod eu gwaith yn darparu cymorth profedigaeth hanfodol i deuluoedd sydd wedi colli plentyn neu oedolyn ifanc 25 oed ac iau yn sydyn ac yn drawmatig, a all fod yn sgil hunanladdiad, neu drwy ddamwain neu salwch. Fel y dywedodd hi, marwolaeth sydyn yw'r farwolaeth yr anghofir amdani yng Nghymru. Ac er eu bod nhw wedi dod yn wasanaeth statudol, i bob pwrpas, yng Nghymru, gan weithio gyda phob bwrdd iechyd, pob heddlu, nid ydyn nhw'n derbyn unrhyw gymorth statudol o gwbl, ac yn gorfod codi pob ceiniog eu hunain. Dywedodd hi eu bod nhw'n lleihau pwysau ar dimau iechyd meddwl, gan helpu i fynd i'r afael â thrawma annisgwyl marwolaeth a cholled na ellir eu rhagweld. Sut, felly, ydych chi'n ymateb i'w datganiad bod angen, felly, i'w gwasanaethau fod yn hysbys iawn, gan fabwysiadu dull amlasiantaeth, i sicrhau y gellir darparu'r cymorth hwn ledled Cymru ac y gellir lleihau'r canlyniadau hirdymor difrifol i'r goroeswyr?

Wel, ymatebaf yn gyntaf oll drwy ddweud pa mor ffodus yr ydym ni yng Nghymru, Llywydd, i gael grwpiau fel 2 Wish Upon a Star, sefydliadau fel Sands, a Bliss, y mae pob un ohonyn nhw yn manteisio ar ymdrechion enfawr gwirfoddolwyr i roi cymorth i deuluoedd sy'n canfod eu hunain yn y sefyllfaoedd hynod ofidus hynny. Dim ond ychydig wythnosau yn ôl, Llywydd, y cynhaliwyd Wythnos Ymwybyddiaeth Colli Babanod, a chawsom y digwyddiad blynyddol yr wyf i wedi cael y fraint o'i noddi dros nifer o flynyddoedd bellach, pryd yr oedd nifer o Aelodau Cynulliad, o bob rhan o'r Siambr, yn bresennol yn adeilad y Pierhead, lle'r oeddem ni'n gallu cyfarfod yn uniongyrchol â phobl o'r gwasanaethau hynny, ond hefyd pobl a oedd wedi colli plentyn yn gynnar iawn ym mywyd y plentyn hwnnw, a oedd yn dioddef loes nad yw byth yn diflannu, a'r angen am y cyfle i siarad â phobl eraill sydd wedi cael yr un profiad eu hunain, i gael y cymorth arbenigol y gall 2 Wish Upon a Star a sefydliadau eraill ei ddarparu, ac roedd hyn yn rhan flaenllaw iawn o'r digwyddiad a gynhaliwyd yn adeilad y Pierhead. Felly, rwy'n cymeradwyo'n llwyr y gwaith y maen nhw'n ei wneud. Gwn fod y gwasanaeth iechyd yng Nghymru eisiau gweithio'n ofalus law yn llaw â nhw, ond byth i gymryd lle'r cynhwysyn ychwanegol sy'n dod gyda phobl sydd wedi cael y profiad hwnnw eu hunain, gan geisio sicrhau bod hynny ar gael i eraill a'u helpu drwy brofiad y maen nhw eu hunain wedi gorfod ei fyw, weithiau ar eu pennau eu hunain.

13:40
Cwestiynau Heb Rybudd gan Arweinwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau, ac arweinydd Plaid Cymru, Adam Price. 

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a allwch ddweud ai sicrhau sgôr o 500 yn holl feysydd tablau addysg byd-eang PISA, mewn darllen, mathemateg a gwyddoniaeth, yw polisi eich Llywodraeth o hyd? Ac a allwch chi gadarnhau y bydd y ffigurau ar gyfer Cymru yn cael eu cyhoeddi ochr yn ochr â'r holl ffigurau rhyngwladol eraill ar 3 Rhagfyr, heb eu llesteirio gan y rheolau ynghylch cyhoeddiadau yn ystod y cyfnod cyn etholiad?

Wel, Llywydd, mae ein huchelgais ar gyfer PISA wedi ei nodi yn ein cenhadaeth genedlaethol ar gyfer addysg. Nid wyf i wedi cael unrhyw gyngor sy'n awgrymu i mi na fydd y ffigurau hynny'n cael eu cyhoeddi, ond byddwn yn edrych i weld beth fydd gweinyddiaethau eraill ledled y Deyrnas Unedig yn ei wneud, a byddwn yn cymryd cyngor, fel y byddai'r Aelod yn ei ddisgwyl, gan y rhai sy'n gyfrifol am blismona unrhyw reolau sy'n bodoli ynghylch cyhoeddi data o'r fath yn ystod cyfnod etholiad cyffredinol.

Prif Weinidog, rwy'n credu ei bod hi'n arferol i'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd roi hysbysiad ymlaen llaw i Lywodraethau, yn crynhoi'r sgoriau cyn y cyhoeddiad swyddogol. A ydych chi eisoes wedi cael hysbysiad ymlaen llaw o'r fath, ac a allwch chi ddweud pa un a ydych chi'n disgwyl y bydd cynnydd sylweddol wedi ei wneud tuag at gyrraedd eich targed?

Lywydd, nid oes unrhyw wybodaeth ymlaen llaw wedi ei chyfleu i Lywodraeth Cymru, ac, wrth gwrs, mae Adam Price yn gwneud pwynt pwysig mai ffigurau'r OECD yw'r rhain, ac y bydd eu cyhoeddi, i raddau, yn eu dwylo nhw, nid ein rhai ni. Ond nid ydym ni wedi cael unrhyw hysbysiad ymlaen llaw am ganlyniadau'r rownd ddiweddaraf a fydd yn cael eu cyhoeddi yn ddiweddarach y mis hwn—

Ym mis Rhagfyr, mae'n ddrwg gen i. Ac, wrth gwrs, rydym ni'n obeithiol y bydd y canlyniadau hynny'n adlewyrchu'r ymdrechion gwirioneddol y mae ein pobl ifanc yn ein hysgolion yn eu gwneud yn y profion PISA hynny.

Prif Weinidog, dywedodd eich Gweinidog addysg yn 2017 bod angen i ni wneud cynnydd yn y gyfres nesaf o ganlyniadau PISA os ydym ni'n mynd i gyrraedd y targed nesaf. Os nad yw'r newyddion i Gymru ar 3 Rhagfyr yn gadarnhaol o gwbl, neu ddim yn ddigon cadarnhaol, beth fydd ymateb y Llywodraeth yn y sefyllfa honno? A wnewch chi dderbyn nad yw'r strategaeth yn gweithio? Bu gennym ni darged PISA ers 2006 wedi'r cyfan. A fydd yn gatalydd i hwb y mae angen mawr amdano o ran cyllid ar gyfer y system addysg yng Nghymru? Neu a fyddwch chi'n cael eich temtio i wneud yr hyn yr ydych chi'n aml yn ei wneud o dan yr amgylchiadau hyn, sef anwybyddu'r targed?

Wel, Llywydd, nid wyf i'n cydnabod yr hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud, ac yn sicr nid wyf i'n mynd i ddyfalu y prynhawn yma ynglŷn â'r hyn y byddwn i'n ei ddweud o dan gyfres o amgylchiadau damcaniaethol nad oes gen i syniad beth y bydden nhw'n ei olygu. Mae'n ymddangos fel cwestiwn cwbl ddiystyr, ac nid wyf i'n mynd i allu rhoi ateb ystyrlon iddo.

Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch chi eisiau cydnabod mai dyma ail ben-blwydd marwolaeth drasig ein cyd-Aelod a'n cyfaill, Carl Sargeant, ac rwy'n siŵr y byddwch chi eisiau ymuno â mi i anfon ein meddyliau a'n gweddïau at ei deulu, ei anwyliaid a phawb yr effeithir arnynt ar yr adeg hon.

Prif Weinidog, a yw'n dderbyniol talu bron i £2,000 y dydd i reolwr GIG a chaniatáu iddo weithio o'i gartref yn Sbaen?

Wel, Llywydd, gadewch i mi ddechrau drwy adleisio'r hyn a ddywedodd Paul Davies. Mae hon yn wythnos pan fydd llawer o bobl yn y Siambr hon yn meddwl am ein cyd-Aelod a'r loes sydd yno o hyd ar ôl ei farwolaeth cyn pryd ddwy flynedd yn ôl. Felly, rwy'n falch iawn o roi ar y cofnod yr ymrwymiad sydd gan yr ochr hon o'r Siambr i gofio hynny ac i feddwl am y rhai sydd â'r cysylltiad agosaf ag ef.

Llywydd, mae'r Aelod yn cyfeirio at gyfarwyddwr yn ymddiriedolaeth Betsi Cadwaladr a benodwyd yn dilyn cyngor y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, a ddywedodd y dylai'r bwrdd iechyd gymryd camau brys ac ar unwaith i benodi cyfarwyddwr i gynorthwyo'r bwrdd iechyd i gyflawni'r diwygiadau angenrheidiol. Felly, mae'r bwrdd iechyd wedi dilyn cyngor y pwyllgor, o dan gadeiryddiaeth ei gydweithiwr, ac rwy'n siŵr y bydd yn falch bod y bwrdd iechyd wedi gwrando mor astud ar y cyngor hwnnw.

13:45

O, dewch nawr, Prif Weinidog. Ni ddywedodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wrth y bwrdd iechyd y dylid talu bron i £2,000 y dydd iddo ac y dylai weithio o'i gartref yn Sbaen. Wnaethon nhw ddim dweud hynny. A gadewch i ni edrych ar y ffeithiau, ie? Deallir y bydd y cytundeb a gytunwyd gyda'r bwrdd iechyd, y bydd yr ymgynghorydd rheoli, Phillip Burns, yn ennill mwy na £360,000 am gontract naw mis—£360,000 y gellid ei ddefnyddio i recriwtio meddygon a nyrsys go iawn, o gofio bod gan ogledd Cymru y gymhareb ail-waethaf o gleifion i uwch feddygon yn y Deyrnas Unedig, £360,000 y gellid ei wario yn mynd i'r afael â'r nifer fawr o gleifion sy'n aros am fwy na 12 awr mewn adrannau damweiniau ac achosion brys, neu £360,000 y gellid ei ddefnyddio i helpu i baratoi'r bwrdd iechyd ar gyfer misoedd y gaeaf. Prif Weinidog, a ydych chi'n derbyn bod eich Llywodraeth wedi gwneud cam â chleifion ar draws y gogledd, o gofio y gellid bod wedi defnyddio'r arian hwn i ddarparu gwasanaethau rheng flaen? Ac a allwch chi ddweud wrthym ni beth yr ydych chi'n ei wneud i unioni'r sefyllfa hon sy'n achosi cymaint o gywilydd?

Wel, gadewch i mi wneud dau neu dri o bwyntiau ynglŷn â chwestiynau'r Aelod. Yn gyntaf oll, rwy'n gweld pa mor gyflym y mae'n rhedeg i ffwrdd oddi wrth gyngor un o bwyllgorau'r Cynulliad pan nad yw'n ei blesio.

Mae'r aelod o'r farn ei fod yn druenus. Gadewch i mi ei herio, gan mai ef oedd Cadeirydd y Pwyllgor hwn ar un adeg, ac roedd yn awyddus iawn yn wir i'w gyngor gael ei ddilyn. Mae'r pwyllgor yn gwneud cyngor. Dywedodd y dylai'r bwrdd iechyd hwn benodi rhywun o'r math hwn ar frys ar gyfer y diben hwn. Mae'r bwrdd iechyd yn mynd ati i wneud hynny. Nid yw'n ei blesio wedyn, felly mae eisiau ei droi yn gwestiwn yn y fan yma. Y rheswm y mae'n rhaid i'r person hwn gael ei dalu yr hyn a delir iddo yw oherwydd y farchnad y mae ei Lywodraeth ef wedi ei chreu yn y GIG dros ein ffin. [Torri ar draws.] Llywydd, dyma'r union symiau o arian y mae ei gydweithwyr yn Lloegr yn gorfod eu talu bob dydd, ac oherwydd bod marchnad wedi ei chreu gan bobl o'r math hwnnw sy'n credu y dylai'r GIG gael ei redeg yn yr un ffordd â marchnad, rydym ni'n gorfod talu symiau o arian o'r math hwn yn y pen draw. Mae hyn yn cyd-fynd yn union â'r hyn y mae sefydliadau dros ein ffin sy'n cael eu rhedeg dan Lywodraeth ei blaid ef yn gorfod ei dalu bob dydd, ac rydym ni'n cael ein dal yn adlach y system y mae ei blaid ef wedi ei chreu.

Prif Weinidog, nid yw hynny'n ddigon da o gwbl. Chi sy'n gyfrifol am y bwrdd iechyd hwn. Chi sy'n gyfrifol am redeg y bwrdd iechyd hwn yng ngogledd Cymru, a gadewch i mi ddweud wrthych, o dan eich stiwardiaeth chi, nid yw bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr yn addas i'w ddiben, ac mae pobl y gogledd yn haeddu gwell. Mae'n annerbyniol, tra eich bod chi'n caniatáu i reolwyr dorheulo yn Sbaen, bod pobl yn disgwyl yn daer am driniaethau ac am wasanaethau. Yn gynharach eleni, adroddodd Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus y Cynulliad bod cymorth Llywodraeth Cymru wedi bod yn annigonol, ac mai prin oedd yr effaith ymarferol yr oedd camau gweithredu yn ei chael ar newid perfformiad y bwrdd iechyd. Dyna ddywedodd y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus yn gynharach eleni. Felly, pryd y bydd eich Llywodraeth yn camu ymlaen ac yn dangos rhywfaint o arweiniad gwirioneddol ar y mater hwn, a pha dargedau penodol ydych chi wedi eu gosod i dynnu Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr allan o fesurau arbennig?

Felly, pan fo cyngor y pwyllgor yn addas ar ei gyfer, Llywydd, mae eisiau gwneud sioe o hynny yn y fan yma. Pan nad yw'n addas ar ei gyfer, mae eisiau ei ddiystyru. Yn syml, nid yw'n ffordd dderbyniol o geisio cyflawni busnes cyhoeddus. A gaf i am eiliad amddiffyn rhywun yr ymosodir arno ar lawr y Cynulliad, ond nad yw yma, wrth gwrs, i amddiffyn ei hun, oherwydd mae'r unigolyn y mae wedi ei feirniadu y prynhawn yma yn gweithio pedwar diwrnod yr wythnos yn y bwrdd iechyd yng ngogledd Cymru mewn gwirionedd, er gwaethaf y pethau y mae wedi eu dweud ar y llawr yn y fan yma y prynhawn yma?

Llywydd, yr hyn a welwn yw'r hen dric Torïaidd. Rydym ni'n ei weld bob tro y bydd etholiad. Maen nhw'n meddwl—fel y dywedodd darparwyr yn Lloegr wrth ei Lywodraeth ef ddoe—y gallan nhw droi'r GIG yn arf, y gallan nhw ei wneud yn rhan o'u hymgyrch. Gadewch i mi ddweud wrtho nawr: mae wedi rhoi cynnig ar hyn o'r blaen, ni weithiodd bryd hynny, ac nid yw'n mynd i weithio nawr ychwaith.

13:50

Prif Weinidog, gwrthododd 10 AS Llafur Cymru gefnogi etholiad. Mae un o'ch ACau yn fy rhanbarth i wedi dweud ei fod yn gamgymeriad ar raddau hanesyddol. Mae un arall wedi dweud nad yw'n ddiogel cael unrhyw etholiad tan fod y system etholiadol yn cael ei diwygio ac yr ymdrinnir â phroblemau cam-drin gwleidyddion. Ers i'r AC Llafur hwnnw, er gwaethaf ein polisïau ein hunain, ddweud wrth aelod benywaidd o'm grŵp i 'eff off' gwta bythefnos yn ôl, a'r gwir—. Onid ydych chi'n cytuno ei fod yn rhagrith llwyr ac mai'r gwir reswm y gwrthwynebodd Llafur gael etholiad yw eich bod chi'n ofni y byddwch chi'n colli a'i bod yn well gennych chi atal Brexit yn y Tŷ'r Cyffredin hwn?

Wel, Llywydd, os oes gan yr Aelod honiadau i'w gwneud am ymddygiad unrhyw Aelod o'r Cynulliad hwn, yna mae ffyrdd a ddeallir yn dda o fynd ati i godi ac ymchwilio i'r mater yn briodol ac nid gwneud honiad o'r math hwnnw i mi yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog yw'r ffordd i ddatrys hynny, yn sicr.

Rwyf i wrth fy modd bod etholiad yn cael ei gynnal. Rwy'n edrych ymlaen at bopeth y byddaf yn ei wneud ynddo i berswadio pobl Cymru i barhau i wneud yr hyn y maen nhw wedi ei wneud ers cynifer o flynyddoedd: cefnogi ymgeiswyr Llafur i sicrhau Llywodraeth Lafur a fydd yn gwneud y gwahaniaeth gwirioneddol y maen nhw eisiau ei weld yn eu bywydau.

Prif Weinidog, chi sy'n gyfrifol am ddisgyblaeth yn eich grŵp, a sylwaf eich bod chi'n ceisio golchi eich dwylo o faterion o'r fath. Dros yr wythnosau nesaf, Prif Weinidog, rydych chi, eich ACau a'ch ASau yn mynd i ddarganfod yn union sut y mae pleidleiswyr yn teimlo am y ffordd yr ydych chi wedi eu trin. Dywedasoch wrthyn nhw eich bod chi'n cefnogi'r refferendwm. Dywedasoch wrthyn nhw y byddech chi'n parchu'r canlyniad. Ac eto, ers hynny, rydych chi wedi ceisio atal Brexit ac atal eu pleidlais ddemocrataidd. Nawr y byddwch chi'n cael eich dwyn i gyfrif, a fyddwn ni'n gweld yr un gweithgarwch dadleoli anobeithiol gennych chi ag a welwn ni gan Blaid Cymru? Mae eu cyn-arweinydd, Leanne Wood, mor frwd dros Lywodraeth San Steffan fel ei bod wedi dweud:

Mae'r etholiad hwn hefyd yn ymwneud â gwasanaeth iechyd, addysg a gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

A allwn ni hefyd edrych ymlaen eto at weld ASau Llafur Cymru yn ymgyrchu ar sail methiannau ein GIG?

Wel, Llywydd, gadewch i mi ddweud unwaith eto wrth yr Aelod, os oes ganddo honiadau y mae eisiau eu gwneud, bod ffyrdd a ddeallir yn dda y gellir ac y dylid eu gwneud, ac nid yw ei ymddygiad y prynhawn yma yn gydnaws â'r cyfrifoldebau y dylai eu hymarfer fel arweinydd ei blaid ddiweddaraf.

Wrth gwrs, mae'r etholiad yn ymwneud a mwy na Brexit yn unig. Mae'n ymwneud â dyfodol ein gwlad, am y math o wlad yr ydym ni eisiau ei chael, am Lywodraeth a fydd yn buddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus, a fydd yn rhoi terfyn ar y cyfnod cyni cyllidol, a fydd yn cynnig gobaith i bobl y gellir paratoi dyfodol gwell ar eu cyfer yn y dyfodol. Dyna pam mae'r Blaid Lafur mor falch o fod yn ymladd yr etholiad hwn. Dyna'r neges y byddwn ni'n ei rhannu ar garreg y drws. Ond mae'r dewis yn yr etholiad hwn rhwng Plaid Geidwadol sy'n edrych i'r gorffennol ac sydd wedi cynnig 10 mlynedd o ddim ond toriadau a dinistr yn ein gwasanaethau cyhoeddus, a Llywodraeth Lafur, sydd wedi ymrwymo i ddyfodol y bobl niferus yn y wlad hon, nid dim ond y breintiedig rai, a bydd hynny'n cyflwyno prosbectws a fydd yn cynnig dyfodol i bob un ohonom ni pryd y gall Cymru ffynnu y tu mewn i Deyrnas Unedig lewyrchus, ac, fel y gobeithiaf, y tu mewn i Undeb Ewropeaidd llewyrchus.

Cefnogi'r Economi

3. Pa strategaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei dilyn i gefnogi'r economi yng Nghymru? OAQ54634

Diolch i John Griffiths am y cwestiwn yna, Llywydd. Mae ein strategaeth ar gyfer economi Cymru yn canolbwyntio ar dwf cynhwysol a gwaith teg. Mae buddsoddiad cyhoeddus mewn pobl a lleoedd yn cefnogi'r dibenion strategol hyn.

Prif Weinidog, mae Casnewydd mewn sefyllfa dda iawn i helpu Llywodraeth Cymru i wireddu ei huchelgeisiau o ran datblygu cynaliadwy. Gallai chwarae rhan lawer mwy, rwy'n credu, mewn twf economaidd, creu swyddi, ynghyd â'r math o amddiffyniadau amgylcheddol yr ydym ni eisiau eu gweld yn ein gwlad—datblygu cynaliadwy yn ei gyfanrwydd. Mae ei lleoliad daearyddol rhwng ein prifddinas a Bryste yn fy marn i yn rhoi manteision mawr iddi, ac mae ganddi gysylltiadau trafnidiaeth a chyfathrebu da iawn, ynghyd â phobl ddyfeisgar a chymunedau cryf.

Felly, a wnewch chi, Prif Weinidog, ymuno â mi i groesawu'r dull gweithredu arfaethedig yn y fframwaith datblygu cenedlaethol i roi Casnewydd ar flaen y gad o ran y math hwnnw o ddatblygiad yn ne-ddwyrain Cymru a'i helpu i wireddu ei photensial, a thrwy wneud hynny, potensial Cymru yn ei chyfanrwydd?

13:55

Llywydd, a gaf i ddiolch i John Griffiths am dynnu sylw at y fframwaith datblygu cenedlaethol? Mae'n dal i fod allan ar gyfer ymgynghoriad. Mae gan yr Aelodau tan 15 Tachwedd i gynnig sylwadau arno, ac edrychaf ymlaen at ddarllen y sylwadau niferus sydd eisoes wedi eu hanfon ar y fframwaith. Fel y dywed John Griffiths, mae'n nodi Casnewydd fel rhywle sydd â swyddogaeth strategol gynyddol yn y rhanbarth yn y dyfodol. Mae llawer o resymau da pam y dylai hynny fod yn wir, fel y mae John Griffiths, fel y byddech chi'n ei ddisgwyl, wedi eu nodi.

Casnewydd, sydd eisoes yn ddinas lle mae'r gyfradd cyflogaeth yn uwch na chyfartaledd Cymru, rhywle lle mae'r gyfradd diweithdra wedi gostwng yn gyflymach nag mewn rhannau eraill o Gymru, lle ceir 11,475 o fentrau gweithredol erbyn hyn—yr uchaf ers i gofnodion ddechrau erioed—dyna pam mae'r fframwaith datblygu cenedlaethol yn nodi'r ddinas fel rhywle lle y gellir datblygu datblygu cynaliadwy ym maes tai, mewn gwasanaethau hanfodol, mewn seilwaith digidol, yn y dyfodol. Ac rydym ni'n edrych ymlaen at weithio gyda chyngor y ddinas a chwaraewyr pwysig eraill yn yr ardal i gyflawni'r uchelgais y mae'r fframwaith datblygu cenedlaethol yn ei gyflwyno ar gyfer dinas Casnewydd.

Prif Weinidog, rwy'n siŵr y byddwch chi'n cytuno â mi bod gennym Faes Awyr Caerdydd sy'n ffynnu yn hanfodol i economi'r de. Nawr, mae'r benthyciadau a roddwyd i'r maes awyr wedi cynyddu erbyn hyn i fwy na £50 miliwn, bron cymaint ag a gostiodd i brynu'r maes awyr yn ôl yn 2013, ac mae'r colledion a wneir gan y maes awyr yn parhau i dyfu. Dywedodd eich rhagflaenydd, Prif Weinidog, mai bwriad Llywodraeth Cymru erioed oedd dychwelyd y maes awyr i'r sector preifat. Cadarnhawyd gennych yn ddiweddar nad dyna yw eich safbwynt. Os wyf i wedi camgymryd yn hynny o beth, yna fy nghwestiwn yw gofyn am eglurhad. Ai bwriad Llywodraeth Cymru erbyn hyn yw rhedeg y maes awyr yn yr hirdymor, neu a ydych chi'n dal i ymchwilio'n weithredol i'r modelau busnes i gael y maes awyr i sefyllfa i'w droi'n sefydliad sector preifat? Ac os ydych chi wedi cymryd gwahanol safbwynt i'ch rhagflaenydd, a allwch chi esbonio pam mae hynny'n bod?

Llywydd, croesawaf dröedigaeth yr Aelod i gefnogi Maes Awyr Caerdydd a chroesawaf y pethau y mae wedi eu dweud am y ffordd y mae'r maes awyr yn ffynnu bellach o dan berchnogaeth gyhoeddus—ymhell iawn o'r gwirionedd pan yr oedd o dan ei—. Rwy'n credu bod yr Aelod wedi cyfeirio at Faes Awyr Caerdydd sy'n 'ffynnu'— fe'i hysgrifennais i lawr—maes awyr sy'n ffynnu, sydd, fel y mae'n gwybod yn iawn, o dan berchnogaeth gyhoeddus. Felly, croesawaf ei dröedigaeth i'r ddau achos hynny.

Bydd buddiant cyhoeddus hirdymor yn y maes awyr hwn gan fod Cymru angen maes awyr fel buddsoddiad hirdymor yn nyfodol ein heconomi. Wrth i'r maes awyr barhau i ffynnu a pharhau i dyfu, wrth gwrs byddwn eisiau sicrhau bod y ffordd y caiff ei redeg a'r ffordd y caiff ei drefnu yn adlewyrchu ei lwyddiant newydd.

Mae'n debyg bod y Prif Weinidog yn gwybod bod Cyllid a Thollau ei Mawrhydi wedi cyfrifo bod Cymru yn cyfrannu tua £5,800 y pen mewn treth, ac mae Trysorlys ei Mawrhydi yn cyfrifo bod gwariant cyhoeddus, ar bob lefel yng Nghymru, yn cyfateb i tua £10,300 y pen. Ac felly mae hynny, i bob pwrpas, yn gymhorthdal enfawr, yn bennaf gan drethdalwyr Llundain a de-ddwyrain Lloegr. Felly, mae dyfodol economi Prydain yn hanfodol bwysig i ffyniant economaidd Cymru. Ond ni fu unrhyw awydd ar ran Llywodraethau Llafur na Cheidwadol yn yr 20 mlynedd diwethaf i addasu fformiwla Barnett, sy'n creu anghyfiawnder sylweddol i bobl yng Nghymru, oherwydd nad yw'n seiliedig ar anghenion gwirioneddol. Ac o ystyried hyn, a yw'n credu bod y broses ddatganoli mewn gwirionedd wedi creu'r canlyniad anfwriadol hwn bod Cymru bellach yn cael ei hanghofio i raddau helaeth gan bleidiau yn San Steffan oherwydd y gellir arfer y pwerau sydd gan y Cynulliad hwn yn y fan yma, ond mae'n rhaid i drethdalwyr yn Lloegr, i raddau helaeth, dalu amdanyn nhw? Felly, mae'n fater o allan o olwg, allan o feddwl, ac felly efallai nad yw'r broses ddatganoli wedi bod mor fuddiol i Gymru ag y gallem ni fod wedi meddwl.

14:00

Am ddadl wyrgam, Llywydd. Gadewch i mi ddechrau: roedd yr Aelod yn gywir yn yr hyn a ddywedodd ar y cychwyn—bod y ffigurau CThEM hynny yn dangos bod £12 biliwn yn fwy yn cael ei wario ar wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru nag a godir yng Nghymru. Mae hynny'n £4,000 ar gyfer pob teulu yng Nghymru. Lle nad wyf i'n credu ei fod yn iawn yw o ddweud nad yw'r pethau hyn yn cael sylw nac yn cael eu hystyried.

Gadewch i mi, am funud, dalu teyrnged i David Gauke, ac yna i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys, yr Aelod Ceidwadol y cafwyd gwared arno erbyn hyn, a gytunodd ar y fframwaith cyllidol gyda Llywodraeth Cymru sy'n darparu lluosydd o 105 y cant ar gyfer unrhyw wariant a ddaw at ddibenion Lloegr tan y bydd y llawr y soniodd Gerry Holtham amdano yn ei adroddiad wedi ei gyflawni. Felly, rwy'n credu bod llawer o waith wedi ei wneud yn gynnar yn y tymor Cynulliad hwn i edrych ar y trefniadau ariannol hynny. Dywedasom ar y pryd—rydym ni'n ei ddweud eto nawr—er bod y cynnydd hwnnw i'w groesawu, yr hyn y mae ei wir angen yw diwygiad sylfaenol o'r ffordd y mae trefniadau ariannol yn digwydd o amgylch y DU fel bod sail angen iddo, ac nid yw Barnett wedi ei seilio ar angen o gwbl.

Gwasanaethau Iechyd Meddwl i Bobl Ifanc

4. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru i wella gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc? OAQ54645

Diolch i David Rees am hynna, Llywydd. Rydym ni'n parhau i gynyddu ein buddsoddiad i wella gwasanaethau iechyd meddwl i bobl ifanc. Mae'r buddsoddiad hwn yn rhan o raglen waith ehangach Llywodraeth Cymru gydag amrywiaeth o bartneriaid i ymateb i anghenion iechyd meddwl newidiol plant a phobl ifanc.

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ateb? Yn amlwg, fel cyn Weinidog iechyd, mae'n gwbl ymwybodol o'r heriau y mae gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed yn eu hwynebu yn ystod y cyfnod anodd hwn. Ond a gaf i hefyd ofyn cwestiwn am yr asesiadau sydd eu hangen? Rwy'n siŵr ei fod ef, fel minnau, yn cael llawer o etholwyr yn dod ato yn mynegi pryder, rhwystredigaeth ac anobaith dwys ynghylch yr heriau y mae eu plant yn eu hwynebu wrth gael eu hasesu. Weithiau, nid oes angen gwasanaethau CAMHS ar yr asesiadau hynny, ond mae angen gwasanaethau iechyd meddwl eraill arnyn nhw sy'n eu hatal rhag mynd i'r CAMHS. A allwch chi ddweud wrthym ni pa gamau yr ydych chi'n eu cymryd i sicrhau bod y plant hynny'n gallu cael mynediad at yr asesiadau hynny a chael mynediad at y gwasanaethau a'r therapïau hynny a fydd yn eu hatal rhag bod angen CAMHS yn ddiweddarach yn eu bywydau?

Wel, diolchaf i David Rees am hynna ac rwy'n cytuno'n llwyr y bu angen angen ailgyfeirio'r system fel ei bod yn canolbwyntio ar wasanaethau dwysedd is sy'n atal pobl ifanc rhag cael eu huwchgyfeirio at y gwasanaeth arbenigol y mae CAMHS yn ei gynrychioli. Yn wir, Llywydd, rwy'n cofio egluro lawer gwaith ar lawr y Cynulliad pa oeddwn i'n Weinidog iechyd bod anfon person ifanc yn syth i wasanaeth iechyd meddwl arbenigol pan mai'r hyn sydd wir ei angen arno yw gwahanol fath o wasanaeth dwysedd is pryd y gallai siarad ag oedolyn am y busnes anodd o dyfu i fyny—bod hynny'n well buddsoddiad yn nyfodol y bobl ifanc hynny. Ac, fel mae gwaith ymchwil gan Hafal, yr elusen iechyd meddwl yma yng Nghymru wedi ei ddangos, dyna'r hyn y mae pobl ifanc eu hunain yn ei ddweud wrthym y maen nhw ei eisiau.

Dyna pam, ers y cyfnod hwnnw, yr ydym ni wedi buddsoddi yn y gwasanaethau hynny—y dull ysgol gyfan sydd wedi deillio o'r gwaith a wnaed gan y pwyllgor dan arweiniad Lynne Neagle, lle'r ydym ni'n buddsoddi £2.5 miliwn i wireddu hynny. Y gwasanaeth cwnsela sydd gennym ni mewn ysgolion: fe wnaeth 11,365 o bobl ifanc elwa ar y gwasanaeth hwnnw y llynedd, Llywydd; nid oedd 87 y cant ohonyn nhw angen atgyfeiriad ymlaen, a dim ond 3.5 y cant ohonyn nhw oedd angen atgyfeiriad at CAMHS. Nawr, dyna'r union bwynt y credaf y mae David Rees yn ei wneud, sef, lle mae gennych chi wasanaethau addas ar gael sy'n gallu ymateb yn gyflym i anghenion person ifanc, yna yn aml iawn bydd yn golygu nad oes angen i'r person ifanc hwnnw gael gwasanaeth mwy dwys a mwy arbenigol. Pan nad yw'r pethau hynny ar gael ac nad ydyn nhw'n cael eu rhoi ar waith mewn modd amserol, y perygl yw y bydd cyflwr y person ifanc hwnnw yn gwaethygu ac y bydd yn cael ei ruthro i ben dwysach y sbectrwm. Dyna'r hyn y byddem ni eisiau ei osgoi. Byddem ni eisiau gwneud yn siŵr bod y gwasanaeth cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol, er enghraifft—un o lwyddiannau mawr y Cynulliad hwn, rwy'n credu, yn deillio o Fesur Iechyd Meddwl (Cymru) 2010—. Ceir 2,384 yn fwy o atgyfeiriadau bob mis at y gwasanaeth gofal sylfaenol hwnnw erbyn hyn nag a oedd pan ddechreuodd yn 2014. Gwelwyd ei fod yn boblogaidd iawn ymhlith cleifion, ac mae'n gwneud yr hyn a ddywedodd David Rees: mae'n mynd law yn llaw â pherson ifanc—gan ei fod yn ymdrin â phobl dan 18 oed yn ogystal ag oedolion—mae'n mynd law yn llaw â nhw yn gynnar, ac yn ceisio gwneud yn siŵr y gellir datrys anawsterau heb i'r problemau hynny ddod yn rhai sy'n gofyn am y dwyster a'r wybodaeth arbenigol y mae CAMHS ei hun yn eu darparu.  

14:05

Mae'r data diweddaraf yn dangos, Prif Weinidog, bod 335 o unigolion wedi aros dros 56 diwrnod o gael eu hatgyfeirio i gael asesiad gwasanaethau cymorth iechyd meddwl sylfaenol lleol. Nawr, dyma'r nifer uchaf ar gofnod ers dechrau'r pumed Cynulliad ym mis Mai 2016. Nawr, yn anffodus, mae oddeutu traean y bobl sy'n aros dros 56 diwrnod am asesiad ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, a gallaf ddweud wrthych chi yma heddiw bod nifer o'r rhain yn fy etholaeth i. Mae gennyf, ar adegau rheolaidd, pobl ifanc, ac, mewn gwirionedd, pobl o bob oed, yn dod ataf i mewn anobaith llwyr gan na allan nhw gael gafael ar unrhyw wasanaeth na chymorth ar gyfer problemau iechyd meddwl, a rhai'n dweud eu bod yn dioddef meddyliau hunanladdol.

Nawr, mewn cais rhyddid gwybodaeth diweddar, mae Llywodraeth Cymru wedi gwario tua £82 miliwn ar ymyrraeth a chymorth gwella i'r bwrdd iechyd penodol hwn. Nawr, nid yw hyn yn cynnwys y £2,000 y diwrnod y cyfeiriodd fy nghyd-Aelod, Paul Davies, ato—mae hyn yn £83 miliwn dim ond ar y manylion technegol a'r prosesau sy'n ymwneud ag ymyrraeth a gwella. Nawr, Prif Weinidog, fi fyddai'r cyntaf yn y fan yma i'ch cymeradwyo pe byddwn i'n credu bod y gwelliannau gwirioneddol hynny yn cael eu gwneud ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, ond mae'n ddrwg gennyf orfod dweud wrthych chi heddiw: mae angen i chi fynd i'r afael â hyn. Gofynnwyd i'ch Gweinidog ymddiswyddo sawl gwaith, a gallaf ddweud wrthych chi nawr, wrth i ni agosáu at yr etholiad cyffredinol hwn, pan fyddwch chi'n dod i'r gogledd, bydd y bobl yn dweud wrthych chi sut yn union yr ydych chi'n siomi fy nghleifion, fy etholwyr, yn Aberconwy a'r bobl yn ehangach ar draws y gogledd. Mae'n gwbl warthus eich bod chi'n gallu sefyll yn y fan yna ac amddiffyn £2,000—

—y dydd ar gyflog un person. Felly, gydag amseroedd aros am asesiadau sydd nawr yn gwaethygu, er gwaethaf buddsoddiad aruthrol—

Iawn. Pa gamau ydych chi'n eu cymryd i graffu ar yr arian gwirioneddol y mae eich Gweinidog wedi caniatáu iddo gael ei wario ar yr ymyraethau gwella hyn? Pa waith craffu ydych chi'n ei wneud fel Prif Weinidog i sicrhau nad ydych chi'n llythrennol yn arllwys yr arian hwn i lawr y draen? Nid ydym yn gweld y gwelliannau, ac rwyf i eisiau i chi, fel Prif Weinidog—

Llywydd, gallaf ddweud wrthych, pan fyddaf yn mynd i'r gogledd, yr hyn y mae pobl yn ei ddweud wrthyf yw y bydden nhw'n falch pe byddai ganddyn nhw Aelod Cynulliad a fyddai'n siarad dros y gwasanaeth iechyd yn y gogledd, y bydden nhw'n falch pe byddai ganddyn nhw Aelodau Cynulliad, yn enwedig o'r Blaid Geidwadol, a fyddai ambell waith, dim ond ambell waith, yn dod o hyd i un gair da i'w ddweud am y gwasanaeth iechyd y maen nhw'n dibynnu arno.

Ac mae'n rhaid i mi ddweud, Llywydd, mae'n lol llwyr bod yr Aelod yn cyfeirio at wario £83 miliwn ar fanylion technegol. Y manylion technegol y mae'n cyfeirio atyn nhw yw'r arian yr ydym ni wedi ei ddarparu i wneud yn siŵr bod staff Betsi Cadwaladr yn parhau i gael eu talu a bod cleifion yn Betsi Cadwaladr yn parhau i gael eu trin. Byddaf yn amddiffyn pob ceiniog o'r arian yr ydym ni wedi ei wario oherwydd mae eich etholwyr, o ganlyniad, yn cael y driniaeth y mae'r gwasanaeth iechyd yn ei darparu. Mae'r ffaith eich bod chi'n beirniadu—eich bod chi'n beirniadu—Llywodraeth Cymru sy'n barod i ddod o hyd i arian ychwanegol i gleifion yn y gogledd yn dangos i mi safbwynt mor wyrdroëdig o flaenoriaethau sydd gan y Blaid Geidwadol yn y gogledd.

Gofal Iechyd yng Ngorllewin De Cymru

5. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wella mynediad cleifion at ofal iechyd yng Ngorllewin De Cymru? OAQ54644

Llywydd, diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn. Mae byrddau iechyd yng Nghymru yn parhau i gymryd amrywiaeth o gamau i wella mynediad at bob gwasanaeth gofal iechyd sy'n ddiogel, yn gynaliadwy ac mor agos â phosibl i gartrefi pobl.

Diolch, Prif Weinidog. Wrth gwrs, er y bu rhywfaint o gynnydd o ran gwella mynediad, ceir un maes lle'r ydym ni'n dal i berfformio'n wael, sef yr amseroedd ymateb brys. Dros y toriad, cysylltodd etholwr â mi yr oedd ei riant oedrannus wedi dioddef strôc. Ond, ar ôl aros dros awr a hanner am ambiwlans, fe wnaethon nhw benderfynu gyrru i'r adran damweiniau ac achosion brys eu hunain. Nawr, nid dyma'r tro cyntaf i hyn ddigwydd, ac ychydig fisoedd yn ôl arhosodd un arall o'm hetholwyr am oriau am ymateb brys yn dilyn strôc hefyd. Felly, Prif Weinidog, pam mae cleifion strôc yn wynebu'r oedi hwn a allai fygwth eu bywydau, a beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i wella amseroedd ymateb brys?

14:10

Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn atodol ac am ei chydnabyddiaeth o'r cynnydd a wnaed mewn agweddau ar y gwasanaeth iechyd. Bydd yn gwybod bod diwygiadau i'r gwasanaeth ambiwlans yn golygu bod ymatebion coch wedi eu bodloni erbyn hyn uwchlaw'r targed a osodwyd gennym ni ar eu cyfer am 47 mis yn olynol. Mae amseroedd ymateb oren—y categori nesaf i lawr—wedi bod yn destun adolygiad oren, ac rydym ni'n cydnabod bod pethau y mae angen i ni eu gwneud i fireinio'r categori hwnnw, ac mae cleifion strôc yn destun pryder penodol yn y categori hwnnw. A gwn fod y Gweinidog iechyd yn effro i hynny, mae'n gweithio gyda swyddogion ar hynny. Mae'n fater yr ydym ni'n ei gymryd o ddifrif, a byddwn yn parhau i weld beth y gellir ei wneud i'w wella o fewn y system sydd gennym ni.

Wel, nid yw hyn yn ymwneud ag amseroedd aros am ambiwlansys yn unig, ond amseroedd rhyddhau o ambiwlansys hefyd.

Yn ddiweddar, pasiodd eich Llywodraeth ei datganiad brys ar yr hinsawdd, ac eto mae gennym ni gleifion ac ymwelwyr yn gyrru rownd a rownd mewn cylchoedd mewn mannau parcio yn ysbytai Treforys, Singleton a Thywysoges Cymru, gan gyfrannu'n ddiangen at lygredd lleol. Mae hefyd yn atal, yn llythrennol, mynediad at ofal iechyd drwy apwyntiadau wedi ei colli i rai, ond mae o leiaf yn peryglu lles pobl eraill y mae eu hymwelwyr yn rhoi'r ffidil yn y to. Ni all hwn fod yn gwestiwn ar gyfer teithio llesol a chludiant cyhoeddus a thechnoleg yn unig. A allwch chi ddweud wrthym ni beth mae byrddau iechyd yn ei wneud i geisio datrys y broblem benodol hon?

Wel, Llywydd, nid wyf i'n siŵr beth mae'r Aelod yn ei awgrymu—pa un a yw'n awgrymu mai'r ateb yw ei gwneud hi'n haws i geir barcio mewn ysbytai. Mae ein hymdrechion ni ac ymdrechion byrddau iechyd yn canolbwyntio ar gynlluniau teithio cynaliadwy, gan wneud yn siŵr bod cludiant cyhoeddus yn cyd-fynd ag ysbytai fel y gall pobl deithio'n hawdd yn y modd hwnnw i ysbytai, a thrwy wasgaru rhai o'r amseroedd y caiff apwyntiadau eu trefnu ac y cynhelir oriau ymweld, fel nad oes gennych chi nifer fawr o bobl yn cydgyfarfod ar safle ar adeg benodol. Mae'n rhaid i ni gael cynlluniau teithio cynaliadwy, ac ni fydd dibynnu'n syml ar fwy a mwy o geir yn gallu gwneud eu ffordd i ysbytai yn darparu hynny, ac yn sicr ni fydd yn darparu unrhyw ateb i argyfwng hinsawdd.

Y Gronfa Ffyniant Gyffredin

6. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ynghylch gweithredu'r gronfa ffyniant gyffredin arfaethedig? OAQ54640

Llywydd, roedd y gronfa hon yn ymrwymiad maniffesto gan y Blaid Geidwadol yn 2017, mewn etholiad pryd y methodd y blaid honno â sicrhau mwyafrif. Yn ein trafodaethau ers hynny, gan gynnwys drwy Gydbwyllgor y Gweinidogion ar Ewrop, mae cynlluniau Llywodraeth y DU wedi eu hoedi dro ar ôl tro a'u cadw'n gyfrinachol dro ar ôl tro.

Diolch, Prif Weinidog. Roeddwn i'n poeni'n fawr o ddarllen y papurau briffio o Araith ddiwethaf y Frenhines a oedd yn awgrymu y bydd y gronfa ffyniant gyffredin, a fydd yn disodli cyllid strwythurol yr UE, yn cael ei thrin yng nghyd-destun datganoli yn Lloegr. Y gobaith yw y bydd etholiad yn arwain at newid dull yn San Steffan, ond, yng ngoleuni pwysigrwydd unrhyw gynllun olynol i Gymru, a ydych chi'n cytuno â mi y dylid gwneud penderfyniadau ynghylch gweithrediad y gronfa yng Nghymru i sicrhau'r budd mwyaf posibl i bobl mewn etholaethau fel Cwm Cynon?

Llywydd, diolchaf i Vikki Howells am hynna. Mae hi'n iawn i ddweud bod cyfeiriadau yn y papurau cefndir i Araith y Frenhines at gronfa ffyniant y DU. Roeddent yn ymddangos ar dudalen 91 a 92 y papurau cefndir—gallwch weld yn union pa mor bwysig ydoedd i Lywodraeth y DU wneud môr a mynydd o hynny. Nawr, rydym ni wedi dweud dro ar ôl tro, pan welwn ni fyth fanylion y gronfa ffyniant gyffredin, bod yn rhaid i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn beidio â cholli ceiniog ac na ddylid dwyn unrhyw rym oddi wrtho. Mae'r ffaith bod y cyfeiriadau hynny yn hwyr yn y ddogfen yn cael eu cyflwyno'n gwbl amlwg yng nghyd-destun datganoli yn Lloegr yn ymddangos i mi yn arwydd gwael iawn pellach o'r hyn y gallwn ni ei ddisgwyl os a phan y daw cynlluniau o'r fath i'r amlwg. Ac a gaf i ddweud, Llywydd, bod y brys i ddatrys y mater hwn yn symud o fod yn fater cwbl ddamcaniaethol i fater ymarferol gwirioneddol hefyd? Nid oes gennym ni gyllid arall i gymryd lle rhaglenni presennol yr UE ar ôl 1 Ionawr 2020, ac nid oes dim yng nghyllideb Llywodraeth y DU ar gyfer 2020-21 ddim yn chwarter olaf y flwyddyn ariannol honno i wneud iawn am yr arian y bydd Cymru yn ei golli, arian y sicrhawyd pobl yng Nghymru gan yr Aelodau yn y Siambr hon bod sicrwydd llwyr na fyddem yn ei golli. Ac, os oes sicrwydd llwyr o'r fath, pam nad yw'r arian hwnnw'n ymddangos yn unman yn y gyllideb a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ar gyfer blwyddyn ariannol 2020-21, pan fydd angen yr arian hwnnw ar 1 Ionawr y flwyddyn honno? Rydym ni wedi cael misoedd a blynyddoedd o anwadalu ac oedi erbyn hyn. Mae'n bryd iddo fod ar ben ac mae Cymru angen i'r addewidion a wnaed iddi gael eu gwireddu.

14:15
Addysg Cyfrwng Cymraeg yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru

7. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i addysg cyfrwng Cymraeg yng Nghanolbarth a Gorllewin Cymru? OAQ54623

Diolchaf i'r Aelod am hynna. Un o'r camau a gymerwyd gan Lywodraeth Cymru yw'r buddsoddiad newydd o £7 miliwn yn y canolbarth a'r gorllewin i gefnogi darpariaeth blynyddoedd cynnar cyfrwng Cymraeg, gan gynnwys chwe phrosiect ym mhob un o Siroedd Caerfyrddin, Ceredigion a Phowys.

Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ei ateb. Hoffwn dynnu ei sylw at y sefyllfa sy'n wynebu disgyblion a staff Ysgol Gymraeg Dewi Sant yn Llanelli, sef, fel y bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol, ysgol Gymraeg hynaf Cymru, lle dechreuodd addysg cyfrwng Cymraeg a ariennir yn gyhoeddus. Efallai y bydd yn cofio hefyd fod y sefyllfa a wynebir gan ddisgyblion a staff yn yr ysgol yn ddifrifol. Mae dosbarthiadau cyfan yn cael eu haddysgu mewn coridorau ac mae cyflwr ffisegol yr adeilad yn wael iawn. Roedd staff a disgyblion a rhieni yn ddiolchgar iawn o dderbyn cyllid trwy raglen ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, ond mae'r cynllun wedi cael ei alw i mewn gan ran arall o Lywodraeth Cymru oherwydd problemau yn ymwneud â'r system gynllunio a rhai pryderon am botensial llifogydd.

Ni fyddwn yn awgrymu am eiliad, Llywydd, y byddwn yn gofyn i'r Prif Weinidog ymyrryd mewn unrhyw ffordd yn y broses briodol y mae angen ei dilyn o ran y mater cynllunio, ond yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae'r dyddiad terfyn cychwynnol ar gyfer gwneud y penderfyniad hwnnw wedi mynd heibio, a hoffwn ofyn i'r Prif Weinidog heddiw siarad â'r Gweinidogion perthnasol—y Gweinidog Addysg, y Gweinidog â chyfrifoldeb am gynllunio—fel y gellir dweud wrth y disgyblion a'r teuluoedd a'r athrawon yn yr ysgol honno pryd y daw'r broses hon i ben, a chyda'r nod o sicrhau nad yw buddsoddiad arfaethedig Llywodraeth Cymru yn cael ei golli oherwydd yr oedi yn y system gynllunio.

Diolchaf i Helen Mary Jones am y cwestiwn atodol yna ac am dynnu sylw at hanes ysgol Dewi Sant a'r lle sydd ganddi yn hanes addysg Gymraeg yma yng Nghymru. Byddaf yn sicr yn gwneud ymholiadau, fel y dywed yr Aelod, nid i ymyrryd mewn unrhyw ffordd yn y broses, ond i sicrhau bod gwybodaeth amdani yn hysbys mewn modd priodol i'r rhai sydd â buddiant uniongyrchol ynddi.

Cyflogau'r Sector Cyhoeddus

9. Pa ganllawiau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cyhoeddi ynghylch cyflogau'r sector cyhoeddus yng Nghymru? OAQ54614

Diolchaf i'r Aelod am hynna. Rydym ni'n darparu canllawiau ar gyflogau sector cyhoeddus yng Nghymru drwy wahanol ddulliau, fel llythyron cylch gwaith i gyrff a noddir gan Lywodraeth Cymru a chyrff adolygu cyflogau, ac rydym ni ar fin ymgynghori ar gyfres o egwyddorion cyffredin a fydd yn sail i'n dull o ymdrin â chyflogau'r sector cyhoeddus ledled Cymru.

Cyfeiriwyd eisoes yn y Siambr hon, Prif Weinidog, at y dicter sy'n bodoli ar draws y gogledd o ganlyniad i'r £2,000 y dydd hwn sy'n cael ei dalu i'r cyfarwyddwr adfer ym mwrdd iechyd Betsi Cadwaladr. Byddwch yn gwybod bod y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus wedi cyflwyno adroddiad yn flaenorol ar gyflogau uwch reolwyr yn y sector cyhoeddus gan wneud argymhellion eglur ynghylch canllawiau ar gyfer penodi ymgynghorwyr, ac uwch reolwyr yn wir, yn y sector cyhoeddus i sicrhau y ceir tryloywder ac atebolrwydd.

Un peth sy'n gwbl syfrdanol yn fy marn i yw nad yw'n ymddangos bod aelodau'r bwrdd iechyd, aelodau annibynnol y bwrdd iechyd hwn, wedi bod ag unrhyw ran na gwybodaeth am benodiad arbennig hwn yr unigolyn penodol hwn, ac yn wir unigolion eraill sydd hefyd yn cael symiau sy'n ymddangos yn anhygoel o uchel. A allwch chi ddweud wrthym ni pa un a fydd canllawiau newydd yn cael eu cyhoeddi o ganlyniad i'r sefyllfa yn y gogledd, a fydd Llywodraeth Cymru yn ymyrryd i wneud yn siŵr bod arian yn cael ei wario'n briodol, ac a oes gan Lywodraeth Cymru ffydd yn nhîm gweithredol y bwrdd iechyd ei hun, o gofio ei bod yn ymddangos bod cymaint o gapasiti allanol sydd ei angen er mwyn cefnogi'r bwrdd iechyd penodol hwn? Mae gennym ni bobl yn y bwrdd iechyd hwnnw, y prif weithredwr, sydd cael ei dalu mwy na £200,000. Os nad yw'n gymwys i wneud y swydd, pam ar y ddaear y mae ef yn dal i fod yno?

14:20

Wel, Llywydd, mae'r cymorth allanol y mae'r bwrdd wedi ei gaffael, fel yr wyf i wedi ei ddweud lawer gwaith y prynhawn yma, yn ganlyniad i gyngor a roddwyd i Lywodraeth Cymru gan y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus, a ddywedodd fod angen cymorth o'r fath ar frys, ac fe'i rhoddwyd erbyn hyn. Nid wyf i'n dilyn y pwynt a wnaeth yr Aelod ynghylch nad yw hyn, rywsut, yn hysbys. Mae gen i gais rhyddid gwybodaeth o'm blaen, ac felly mae'n gwbl hysbys i'r cyhoedd. Mae'n nodi teitlau'r swyddi, mae'n nodi eu dyddiadau penodi, mae'n nodi hyd y contractau, mae'n dweud wrthych chi pwy yw'r cyflenwr yn y farchnad y mae ei blaid ef wedi ei chreu, o ble y mae'n rhaid cael gafael ar bobl, ac mae'n dweud wrthych chi pa mor hir y bydd y bobl yn y swydd. Nid yw'r syniad nad oedd pobl yn gwybod am hyn, rywsut, yn gallu gwrthsefyll archwiliad. Ac rwy'n siŵr y gwnaed yr holl benodiadau hyn yn unol â'r canllawiau y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi eu darparu, ar sail y cyngor yr ydym ni'n ei gael gan bwyllgorau'r Cynulliad.

2. Datganiad a Chyhoeddiad Busnes

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes, a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud y datganiad hwnnw. Rebecca Evans. 

Ceir un newid i fusnes yr wythnos hon: bydd pleidlais yfory ar y ddadl o dan Reol Sefydlog 25.15 ar Orchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 2006 (Diwygio) 2019 yn digwydd yn syth ar ôl y ddadl, yn hytrach nag yn ystod y cyfnod pleidleisio. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos eistedd nesaf wedi ei nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, sydd i'w weld ymhlith papurau'r cyfarfodydd sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.

A gaf i alw am ddau ddatganiad, un gennych chi yn rhinwedd eich swydd, Trefnydd, fel y Gweinidog cyllid, ynghylch cefnogaeth i gymuned y lluoedd arfog? Mae Ffederasiwn Teuluoedd y Fyddin wedi codi pryderon am yr hyn sy'n ymddangos fel tuedd i rai awdurdodau lleol beidio â rhoi'r gostyngiad priodol i deuluoedd y lluoedd arfog o ran eu treth gyngor. Byddwch yn ymwybodol fod hyn yn rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru wedi ei hyrwyddo yn y gorffennol, a byddwn yn awyddus iawn i'ch gweld yn atgyfnerthu'r modd y caiff y gostyngiad hwnnw ei hyrwyddo i deuluoedd y lluoedd arfog sy'n gymwys.

Yn ogystal, codwyd pryderon hefyd am y defnydd o ardrethi annomestig i neuaddau cadetiaid y fyddin. Nawr, byddwch yn gyfarwydd â lluoedd cadetiaid, yn ôl pob tebyg, yn eich etholaeth eich hun. Yn draddodiadol, nid yw eu cyfleusterau wedi bod yn destun ardrethi annomestig. Maen nhw wedi eu heithrio ar sail y cyfleoedd a'r gwasanaethau y maen nhw'n eu darparu i bobl ifanc yn eu cymunedau, ac rwy'n credu ei fod yn gam yn ôl os yw rhai awdurdodau lleol yn dewis codi tâl arnyn nhw erbyn hyn sy'n tanseilio eu hyfywedd.

Ac yn drydydd, a gaf i alw am yr wybodaeth ddiweddaraf gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynglŷn â bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr a'r holl broses mesurau arbennig? Yn amlwg, rydym ni wedi cael rhywfaint o wybodaeth sy'n peri pryder ynghylch penodi cyfarwyddwyr gwyrdroi a chapasiti ychwanegol yn y bwrdd iechyd hwnnw. Nawr, rydym ni'n derbyn bod y bwrdd iechyd hwnnw yn amlwg mewn trafferthion. Hyd yma, nid yw'r ymyraethau gan Lywodraeth Cymru wedi gweithio i gefnogi gwelliannau sylweddol yn y bwrdd iechyd hwnnw, ac mae llawer o bobl yn bryderus dros ben bod hwn yn fwrdd iechyd sydd â gorwariant sylweddol y disgwylir iddo, erbyn diwedd y flwyddyn ariannol, fod yn ddegau o filiynau o bunnau, sy'n gwneud newidiadau i rotâu staff nyrsio sy'n amhoblogaidd ac yn anghymhelliad i nyrsys fynd i weithio yn y bwrdd iechyd hwnnw, ac sydd, ar yr un pryd, yn gwario miliynau o bunnau ar bobl sy'n cael eu contractio fel ymgynghorwyr i'r bwrdd iechyd yn gwneud swyddi y dylai'r tîm gweithredol fod â'r gallu i'w gwneud, a bod yn onest. [Torri ar draws.] Felly, rwy'n credu bod angen datganiad arnom ni gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, sy'n gweiddi ar draws ar hyn o bryd tra fy mod i'n ceisio gofyn am y datganiad hwn. Os oes ganddo rywbeth i'w ddweud, gadewch i ni ei glywed mewn datganiad ffurfiol, yn hytrach na'r heclo y mae'n ei roi i mi o'r rhes flaen, ynghyd â chyd-Aelodau eraill yn y rhes flaen honno, ar hyn o bryd.

Wel, o ran y mater yn ymwneud â gostyngiadau'r dreth gyngor ac ardrethi annomestig ar gyfer neuaddau cadetiaid y fyddin, byddaf yn sicr yn ystyried y ddau fater hynny ac yn rhoi llythyr i chi, ond bydd y Dirprwy Weinidog Hannah Blythyn yn gwneud datganiad yn nodi Dydd y Cofio ac yn cefnogi ein cymuned lluoedd arfog yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos nesaf.

O ran yr ail fater a godwyd gennych, ynghylch Betsi Cadwaladr, credaf fod sawl cyfle i godi hynny gyda'r Gweinidog yr wythnos hon, gan gynnwys dadl y bydd y Gweinidog yn ymateb iddi yfory, a fydd yn sicr yn rhoi sylw i'r materion hynny yr ydych chi wedi eu disgrifio.

14:25

Rwyf eisiau mynegi fy arswyd ar ôl gweld y cyfweliad diweddar ar newyddion ITV â meddyg y gofynnwyd iddo gan glaf, cyn y llawdriniaeth, a fyddai'n gallu cael person gwyn i wneud y llawdriniaeth yn ei le. Roedd y loes hon a achoswyd i weithiwr meddygol proffesiynol, sydd wedi rhoi degawdau o lafur caled, tosturi ac arbenigedd o fewn y GIG, yn amlwg i'w weld. Yr hyn a oedd yn cymhlethu pethau oedd nad oedd yn gwybod sut i ymateb i'r weithred ddigywilydd hon o hiliaeth, gan nad oedd yn siŵr sut y byddai'n cael ei gefnogi gan ei gyflogwyr. Rydym ni'n gwybod nad yw hiliaeth yn bodoli mewn gwagle. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru anfon neges glir a diamwys bod yn rhaid i'r holl bobl dduon ac Asiaidd sy'n gweithio yn ein GIG gael cefnogaeth cyflogwyr mewn sefyllfa o'r fath, ac na chaiff hiliaeth ei derbyn na'i goddef.

Rwy'n siŵr y byddwch chi, fel minnau, yn ffieiddio at y datgeliadau bod Ross England, aelod o staff yr Ysgrifennydd Gwladol Torïaidd, Alun Cairns, wedi dymchwel, yn fwriadol ym marn uwch farnwr, achos llys yn ymwneud â threisio. Mae llawer o gwestiynau y mae angen eu hateb ynglŷn â hyn, ac nid yw cuddio y tu ôl i'r celwydd bod achosion cyfreithiol yn parhau, fel y dywedodd y Prif Weinidog yn anghywir ac yn gywilyddus, yn dderbyniol. Mae stori wedi dod i'r amlwg o fewn yr awr ddiwethaf sy'n dweud bod neges e-bost wedi'i hanfon at Alun Cairns gan gynghorydd arbennig ym mis Awst y llynedd ynglŷn â dymchwel yr achos llys hwnnw. Mae hyn yn groes i honiadau bod ffigurau'r blaid Dorïaidd, gan gynnwys Cairns, yn clywed am ddymchwel yr achos llys yn ymwneud â threisio am y tro cyntaf pan ddaeth y stori i'r amlwg yr wythnos diwethaf. Os yw hyn yn wir, mae'n anhygoel, yn hytrach na dechrau achos disgyblu o ganlyniad i'r gwarth a fynegwyd gan y llys a'r canlyniadau a ddeilliodd o hynny, sef bod dioddefwr agored i niwed wedi gorfod dioddef ail achos llys, bod England wedi cael ei enwi'n ymgeisydd mewn sedd darged allweddol gan y Torïaid ychydig fisoedd yn ddiweddarach. Mae hyn yn rhyfeddol; yn rhyfeddol oherwydd y difaterwch ac mae'r Torïaid wedi'i ddangos i ddioddefwr trosedd mor ddifrifol, ac yn rhyfeddol oherwydd y gamfarn mor ddifrifol gan ffigyrau uwch y Torïaid, ac mae'n rhaid iddyn nhw ymddiswyddo os oedden nhw'n gwybod am yr ymddygiad ffiaidd hwn.

Rwyf hefyd yn pryderu bod neges wedi'i hanfon allan, nid yn unig bod gwleidyddion yn ddifater ynghylch y cyfraddau euogfarnu gwarthus o isel mewn achosion o dreisio, sydd ar eu hisaf mewn degawd yng Nghymru a Lloegr, ond eu bod yn cymryd rhan weithredol wrth barhau â'r ystadegau arswydus hyn ac yn rhoi llwyfan i'r rhai sy'n dymchwel achosion llys yn ymwneud â threisio. A wnaiff y Senedd hon, os gwelwch yn dda, anfon neges glir a diamwys nad yw pob gwleidydd yr un fath, bod rhai ohonom ni'n cael dim i'w wneud â phobl sy'n dymchwel achosion llys yn ymwneud â threisio? A wnaiff y Llywodraeth Cymru hon hefyd ddwysáu'r ymdrechion i ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol er mwyn i ni allu mynd i'r afael â'r anghydraddoldeb yn y cyfraddau erlyn isel am dreisio yn y wlad hon? A wnewch chi ymuno â mi i gondemnio unrhyw wleidyddion a oedd yn gwybod am hyn ac na wnaethant ddim? Ac os profir eu bod yn gwybod, a ydych chi'n cytuno â mi y dylen nhw ymddiswyddo?  

Diolch i Leanne Wood am ddod â'r ddau fater hynod bwysig hyn i lawr y Cynulliad y prynhawn yma. O ran y cyfweliad ar ITV, yr oedd yn gwbl dorcalonnus gweld meddyg yn disgrifio'r hiliaeth yr oedd wedi'i brofi, ond yna hefyd yn disgrifio'r ffaith nad oedd yn gwybod sut i ymateb i'r unigolyn hwnnw, ac nad oedd yn gwybod y byddai'n cael cefnogaeth lawn ei gyflogwyr a'r GIG. Wrth gwrs, yng Nghymru, nid oes lle o gwbl i hiliaeth yn unrhyw un o'n gwasanaethau cyhoeddus na'n cymdeithas yn ehangach, ac os oes angen gwneud mwy o waith i roi hyder i bobl o leiafrifoedd ethnig fod y GIG neu eu cyflogwr gwasanaeth cyhoeddus yno i'w cefnogi mewn unrhyw amgylchiadau pan fyddan nhw'n profi hiliaeth, yna fe wnawn ni yn sicr geisio darparu'r hyder hwnnw a gwneud mwy o waith yn y maes hwnnw.

O ran ymddygiad gwarthus wrth achosi dymchwel achos llys yn ymwneud â threisio yn fwriadol, rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn y mae Leanne Wood wedi'i ddweud yma heddiw. Rwy'n ymgysylltu â'r sylwadau yr ydych chi wedi'u gwneud ac yn cytuno â chi bod yna, yn sicr, gwestiynau i'w hateb. Byddwn i'n awgrymu nad fi yw'r person i ateb y cwestiynau hynny, ond mae'n rhaid eu hateb o hyd, ac rwy'n credu bod anfon neges glir gref nad yw pob gwleidydd yr un fath yn beth gwirioneddol bwysig i'w wneud.

Roeddwn i eisiau codi'r mater pwysig o sgrinio am ganser ceg y groth. Yr wythnos diwethaf, dangosodd y ffigurau diweddaraf nad yw un fenyw o bob pedair yn cael prawf i sgrinio am ganser ceg y groth drwy gael prawf ceg y groth syml. Ac, o ystyried mai dyma'r achos mwyaf o ladd menywod ifanc, mae'n destun pryder arbennig bod y niferoedd, ymysg pobl ifanc yn eu 20au, wedi gostwng i un o bob tri heb gael prawf. Y prawf syml hwn yw'r hyn a all achub bywydau pobl. Hefyd, yr wythnos diwethaf, adroddwyd mewn cynhadledd wyddoniaeth y gallai prawf wrin newydd ddisodli prawf ceg y groth, a fyddai'n amlwg yn llawer llai ymwthiol. Nid oes yn rhaid i fenywod fynd i ganolfan feddygol i'w gael. Dim ond cymryd prawf wrin a'i anfon o'u cartrefi. Felly, mae pethau cadarnhaol a negyddol yn deillio o hyn. Yn gyntaf, byddai'n wych pe gallem gael datganiad gan y Gweinidog iechyd ynglŷn â phryd y mae'n credu y bydd y prawf wrin hwn yn debygol o fod wedi cwblhau'r prawf ymchwil a fydd yn ein bodloni ni y gellir ei ddefnyddio yn hytrach na phrofion ceg y groth. Mae'n debyg ei fod eisoes yn dangos ei fod yn fwy cywir. Yn ail, a gawn ni ddatganiad hefyd ar sut yr ydym yn mynd i geisio cael mwy o fenywod, yn enwedig menywod ifanc, i ddod i gael profion ceg y groth yn y cyfamser?

14:30

Diolch yn fawr i Jenny Rathbone am godi'r mater arbennig o bwysig hwn y prynhawn yma. Rwy'n credu bod gennym stori dda i'w hadrodd yma yng Nghymru o ran y gwaith yr ydym ni wedi bod yn ei wneud hyd yn hyn, oherwydd, wrth gwrs, Cymru yw'r unig genedl yn y DU sydd wedi gweithredu profion Feirws Papiloma Dynol ar gyfer y rhai sy'n cymryd rhan yn y rhaglen sgrinio serfigol, ac mae'r rhaglen bellach yn cynnal profion ar 14 o'r mathau o Feirws Papiloma Dynol sydd â risg uchel, a dyna'r rhai sy'n achosi 99.8 y cant o ganserau serfigol. Ac mae hwn yn brawf llawer mwy sensitif a bydd yn atal mwy o ganserau, a'r gobaith yw y bydd y prawf newydd yn gwella'r defnydd dros amser.

Ond cyhoeddodd y Gweinidog iechyd ddatganiad ysgrifenedig yn gynharach eleni yn dweud na fydd hunan-brofi'n cael ei gyflwyno ledled Cymru na gweddill y DU hyd nes y dangoswyd bod y cynllun treialu yn Lloegr yn ddiogel ac yn effeithiol ac wedi'i argymell gan Bwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU. Ond, yn amlwg, rydym ni'n awyddus iawn i wylio'r cynnydd ar hynny ac i ddeall gwerthusiad y cynllun treialu hwnnw. Fe wnaf archwilio beth yw'r amserlenni ar gyfer y cynllun treialu hwnnw gyda'r Gweinidog iechyd a sicrhau eich bod yn cael gwybod y diweddaraf ynglŷn â pha fath o amserlen y gallem ni fod yn edrych arni ar gyfer cwblhau'r rhaglen a'r gwerthusiad.FootnoteLink

Trefnydd, a gaf i ofyn am ddatganiad gan yr ysgrifennydd iechyd ynghylch y stori a dorrodd yr wythnos diwethaf ar amseroedd aros yn ardal Cwm Taf? Rwy'n credu ei bod yn deg dweud, ac, i fod yn deg, roedd yr adroddiad yn nodi nad oedd hyn yn achos o hepgor pobl yn fwriadol o'r rhestrau aros, ac rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt allweddol i'w gadw mewn cof. Ond roedd yn tynnu sylw at ddiffyg llywodraethu a diwylliant a oedd efallai braidd yn esgeulus, a dweud y lleiaf, o amgylch yr ymylon a oedd yn caniatáu i bron i 3,000 o bobl gael eu hepgor o gyfres o restrau aros, sef tua 5 y cant o'r cyfanswm. Ac rydym yn gwybod yn iawn mai diffyg llywodraethu a arweiniodd at y drasiedi yn y gwasanaethau mamolaeth yng Nghwm Taf, ac nid ydym ni eisiau gweld yr un peth yn digwydd yma.

Mae gwaith yn mynd rhagddo o hyd i geisio deall yr effaith gyffredinol, ac, yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae 750 o unigolion eraill yn cael eu hystyried o hyd i weld a ydyn nhw hefyd wedi'u hepgor o'r rhestrau aros. Ond rwy'n credu bod hyn yn deilwng o ddatganiad llafar gan y Gweinidog iechyd, er mwyn i ni—yn fy achos penodol i, fel Aelod dros Ganol De Cymru, ond rwy'n siŵr bod Aelodau eraill—yn gallu gofyn am atebion a sicrwydd gan y Gweinidog o ran pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wneud yn siŵr bod llywodraethu'n cael ei ailgyflwyno ac, yn y pen draw, nad yw'r math hwn o broblem yn bodoli eto.

Hoffwn hefyd gofnodi fy niolch i gadeirydd y bwrdd iechyd, a wnaeth gwrdd â mi ar y mater penodol hwn i'w drafod, ond nid yw cyfarfod â'r cadeirydd a chael datganiad llafar gan y Gweinidog iechyd, sydd yn y pen draw yn gyfrifol am y gwasanaethau iechyd yma yng Nghymru, yr un peth. Felly, rwy'n gobeithio y byddwch yn gallu hwyluso datganiad o'r fath, o ystyried yr anawsterau y mae Bwrdd Iechyd Cwm Taf wedi'u hwynebu yn ddiweddar ym maes gwasanaethau mamolaeth. Nid oes yr un ohonom ni eisiau gweld hynny'n mynd i feysydd cyflenwi eraill ar gyfer y bwrdd iechyd penodol hwn.  

Diolch. Rwy'n falch iawn bod cadeirydd y bwrdd iechyd wedi gallu cyfarfod â chi i drafod eich pryderon yn hyn o beth. Ac, wrth gwrs, byddaf yn sicrhau bod y Gweinidog iechyd yn ymwybodol o'r cais yr ydych chi newydd ei wneud am ddatganiad, ac rwy'n gwybod y bydd yn rhoi ystyriaeth briodol i'r ffordd orau o roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y mater hwn.

A gaf i ofyn am ddatganiad ar fesurau i fynd i'r afael â hen eiddo masnachol gwag, gan gynnwys gorsafoedd petrol segur fel yr un sydd wrth y fynedfa i Fro Ogwr, neu'r gragen o ffatri wag ac adfeiliedig wrth y fynedfa i Evanstown yn fy etholaeth i, sydd, yn union fel tai gwag a thai wedi'u gadael, yn gallu anharddu cymunedau'n ofnadwy. Eto i gyd, gall perchenogion busnes a landlordiaid absennol fod yn eistedd ar yr eiddo hyn gyda gostyngiadau neu esemptiadau ardrethi busnes am flynyddoedd a blynyddoedd, a degawdau hyd yn oed, ac, er gwaethaf ymdrechion gorau awdurdodau lleol i weithio gyda'r perchnogion a'r landlordiaid hynny, ac asiantau, maen nhw'n parhau i fod yn ddolur llygad. Nawr, oes, mae gan awdurdodau lleol fesurau y gallan nhw eu cymryd ar faterion megis iechyd a diogelwch amgylcheddol a diogelwch, ond y cyfan y mae hyn yn ei wneud yw cynnal yr adeiladau mewn cyflwr sydd bron â bod yn adfeiliedig—adeiladau masnachol sombi ydyn nhw, ac maen nhw'n difetha cymuned. Felly, a gawn ni ddatganiad ar sut y gall Llywodraeth Cymru ymchwilio i fesurau symlach newydd ar gyfer awdurdodau lleol i fynd i'r afael â'r adeiladau sombi masnachol gwag hyn, a'r wybodaeth ddiweddaraf am ba bwerau a chymhellion sy'n bodoli ar hyn o bryd hefyd?

Ac, yn ail, a gaf i alw am ddatganiad neu ddadl ar bwnc y mudiad Siediau Dynion, yn tynnu sylw at dwf y mudiad gwych hwn, sy'n gwneud cymaint dros iechyd meddwl a lles dynion, o'i ddechreuad yng Nghymru, yn Squirrel's Nest yn Nhondu, yn fy etholaeth i, ac sydd bellach yn rhwydwaith cenedlaethol o siediau, yn cynnwys, ie, dynion aeddfed, ond hefyd siediau menywod a siediau ieuenctid. A byddaf hefyd yn tynnu sylw yn ystod yr wythnosau nesaf at y dathliad hwn o Siediau Dynion yma yn y Senedd, gan y byddaf yn cynnal digwyddiad lansio yma yn y Senedd ddydd Mawrth 19 Tachwedd, gyda chymorth siediau o bob rhan o Gymru, ac yn gwahodd yr holl gydweithwyr i ymuno â mi, a byddai'n wych cael dadl i gyd-fynd â hynny.

14:35

Diolch yn fawr i Huw Irranca-Davies. Mae nifer o bwerau ar gael i'r awdurdodau lleol i helpu i ddod â'r eiddo masnachol segur hynny yn ôl i ddefnydd, fel y gwnânt ar gyfer eiddo preswyl. Mae'r pwerau hynny'n cynnwys Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990, Deddf Adeiladu 1984, a hefyd y pwerau prynu gorfodol hynny. Fodd bynnag, rwy'n credu mai'r hyn y mae'r Llywodraeth yn awyddus iawn i'w sicrhau yw bod gan bob awdurdod lleol y sgiliau a'r wybodaeth a'r hyder i ddefnyddio'r pwerau hynny i'r defnydd gorau i'w cymunedau. Mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol wedi cytuno i ddod ag arbenigwr diwydiant yn y maes hwn i mewn i Lywodraeth Cymru, i sicrhau bod yr holl awdurdodau lleol yng Nghymru'n meddu ar y sgiliau y mae arnyn nhw eu hangen er mwyn mynd i'r afael â'r mater penodol hwn. Ac mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn ymdrin ag eiddo gwag drwy weithgareddau adfywio—y rhaglen adfywio wedi'i thargedu, y gwn eich bod chi'n gyfarwydd iawn â hi. Ond mae'r Gweinidog tai wedi awgrymu eich bod yn ysgrifennu ati, efallai, i gael rhagor o wybodaeth ynglŷn â'r achosion penodol yr ydych chi wedi'u disgrifio.

Ac ydw, rwy'n rhannu eich brwdfrydedd am Siediau Dynion. Maen nhw'n gwbl anhygoel o ran cefnogi iechyd meddwl, ond maen nhw hefyd yn helpu i fynd i'r afael ag unigrwydd ac ynysigrwydd mewn cymunedau. Ac rwy'n credu bod eu gweld yn cael eu cyflwyno'n rheolaidd iawn yn gyffrous iawn, ac rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y dathliad y byddwch chi'n ei gynnal yma yn y Cynulliad ar 19 Tachwedd.

Gweinidog, mewn Cyfarfod Llawn blaenorol, dywedais wrth y Llywodraeth am sefyllfa enbyd trigolion Pont-y-pŵl, sy'n canfod eu hunain wedi'u hynysu ar ôl 7 p.m., pan fydd pob gwasanaeth bws lleol yn dod i ben. Mae diffyg trafnidiaeth yn cael effaith ddifrifol ar y fasnach drwyddedig yng nghanol y dref, ac mae'r anawsterau hyn yn cael eu gwaethygu ymhellach yn sgil cau'r clwb cymunedol olaf sy'n cwmpasu Trefddyn, St Cadocs a Phen-y-garn. Nid oes gan bobl y gymuned honno unman i gymdeithasu bellach, gan nad yw mynd i ganol y dref yn ddewis gan nad oes unrhyw bosibilrwydd o ddychwelyd ar drafnidiaeth gyhoeddus ar ôl 7 p.m. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad ar sut y mae'r Llywodraeth yn bwriadu cymryd camau i liniaru'r methiannau trafnidiaeth hyn, sydd nid yn unig yn effeithio ar y cymunedau a grybwyllwyd, ond ar lawer mwy ledled Cymoedd y De, gan gynnwys, yn arbennig, yr anawsterau a brofir yng Nglynebwy?

Wel, roedd dadreoleiddio'r diwydiant bysiau dan y Llywodraeth Geidwadol yn ôl yn y 1980au yn amlwg yn ddinistriol i lawer o gymunedau, ac rwy'n credu bod yr enghraifft yr ydych chi wedi'i rhoi yn y fan yna yn amlygu'n fawr y mathau o faterion sydd wedi codi o ganlyniad i hynny. Dyna pam yr wyf mor falch bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cyflwyno deddfwriaeth a fydd yn helpu i ymdrin â rhai o'r materion penodol hyn. A gwn y bydd Ken Skates yn cyflwyno datganiad maes o law, gan ei fod yn ceisio cyflwyno'r darn hwnnw o ddeddfwriaeth i'r Cynulliad, a fydd, gobeithio, yn cael effaith fuddiol iawn ledled Cymru.

Tybed a gaf i wahodd yr Aelodau i ymuno â mi i longyfarch Bad Wolf ar y bennod gyntaf o'u cynhyrchiad gwych His Dark Materials, a ddarlledwyd nos Sul. Wedi dweud hynny, fodd bynnag, rwy'n credu bod lle o hyd, gan eu bod bellach yn meddiannu Pinewood Studios, i Lywodraeth Cymru gyflwyno datganiad i egluro beth sydd wedi digwydd mewn gwirionedd gyda Pinewood, pam mae'r trefniant gyda nhw wedi dod i ben, ac i ddweud wrthym beth yw cost lawn y trefniant hwnnw gan ei fod bellach wedi dod i ben. Rwy'n meddwl y gallwn ni hefyd ddisgwyl mewn datganiad ychydig o fanylion efallai am y trefniant gyda Bad Wolf Studio, gan gofio buddiant y lle hwn yn y cwmni hwnnw ac yn Pinewood dros y cyfnod diweddar. Efallai y gallem ni gael sicrwydd bod y cwmni wedi mynd i mewn ar delerau masnachol llawn, er enghraifft, er nad oes gennym ni efallai hawl i wybod y ffigurau penodol. Yn gyffredinol, rwy'n gofyn am rywfaint o dryloywder ar fater sydd wedi bod o ddiddordeb i Aelodau yn y blynyddoedd diwethaf. Rwy'n siŵr ei fod yn newyddion da ac rwy'n credu y byddai'n helpu'r Llywodraeth i ganiatáu i ni weld a chlywed hynny. Diolch.

14:40

Yn sicr, rwy'n ymuno â chi wrth longyfarch Bad Wolf am y cynhyrchiad His Dark Materials. Rwy'n gwybod ei fod wedi cael derbyniad da iawn a'i fod wedi achosi cryn dipyn o sylw, ac unwaith eto mae'n rhywbeth sy'n rhoi Cymru ar y map nid yn unig o ran y wlad wych sydd gennym ni i'w chynnig, ond mewn gwirionedd y sgiliau anhygoel sydd gennym ni yma yn ein diwydiannau creadigol. Ac mae'n gyffrous iawn bod y diwydiannau creadigol yn un o'r meysydd allweddol y mae Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol wedi rhoi blaenoriaeth iddo yn ei strategaeth ryngwladol.

O ran Pinewood yn benodol, rydym ni wedi gweithio'n agos gyda nhw drwy gydol eu hamser yma yng Nghymru, ac wedi defnyddio gwybodaeth y cwmni yn y diwydiant i gael y canlyniadau economaidd gorau i Gymru a'i wneud yn lleoliad llewyrchus a sefydledig ar gyfer gwneuthurwyr ffilmiau. Mae Pinewood yn gadael Cymru i ganolbwyntio ar ei gynlluniau twf ei hun yn Shepperton, ar adeg pan fo pob un o'r tair stiwdio yn ne-ddwyrain Cymru, gan gynnwys Gwynllŵg, yn gweithredu hyd eithaf ei gallu gyda chynyrchiadau fel His Dark Materials a Brave New World. Rydym ni'n falch iawn o'n cysylltiad â Pinewood dros y pum mlynedd diwethaf, ac mae ein diwydiant creadigol bywiog wedi gweld canlyniadau gwych. Mae Pinewood a Bad Wolf wedi gwario dros £100 miliwn yma yng Nghymru, gan greu swyddi da a bod o fudd i'r cadwyni cyflenwi lleol a channoedd o fusnesau ledled Cymru. Ond os oes cwestiynau penodol gennych chi, byddwn i'n eich gwahodd i ysgrifennu at y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, neu, ddylwn i ddweud, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, a bydd e'n gallu rhoi'r manylion yr ydych chi'n chwilio amdanyn nhw i chi.

Trefnydd, hoffwn ofyn am ddatganiad llafar gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol. Rwy'n gwerthfawrogi'n fawr ei ddatganiadau ysgrifenedig dros yr wythnosau diwethaf ynglŷn ag Orkambi a Symkevi, ac rydym ni yn awr mewn sefyllfa lle'r ydym ni'n ceisio cael bargen gyda Vertex ar y mynediad i'r cyffuriau hynny, a darllenais hefyd o lythyr Simon Stevens fod cytundeb GIG Lloegr, mewn gwirionedd, yn seiliedig ar y ffaith bod gan Gymru a Gogledd Iwerddon gytundebau tebyg ar waith. Nawr, mae'r Gweinidog wedi anfon trydariad y bore yma—diddorol iawn, ond mae cwestiynau yn ei gylch yr ydym ni eisiau eu gofyn iddo, ac, felly, datganiad llafar ynglŷn â ble'r ydym ni—. Efallai erbyn y tro nesaf byddwn ni mewn sefyllfa lle mae gennym gytundeb, ond mae'n cyflwyno cwestiynau y mae arnom angen atebion iddyn nhw, nad ydyn nhw bob amser yn dod o ddatganiad ysgrifenedig. Felly, os gallwn ni gael datganiad llafar ganddo, byddai hynny'n ddefnyddiol iawn.

Ac yn dilyn ymlaen o bwyntiau Jenny Rathbone am sgrinio, hoffwn i hefyd ofyn am ddatganiad ar sgrinio'r coluddyn, yn enwedig am adroddiad ar lwyddiant y prawf newydd. Nid ydw i eisiau aros 12 mis i weld sut beth yw'r cyfnod 12 mis, oherwydd rwy'n credu bod hynny'n bell yn y broses, ond dylem ni gael safbwynt tri mis o leiaf yn awr ynghylch sut y mae'r prawf hwnnw'n gweithio. A fyddai asesiad ynglŷn â sensitifrwydd y prawf a pha un a ellir ei wella, oherwydd yr ydym yn gweithio ar y sensitifrwydd, sy'n cyfyngu ar ein gallu, rydym yn y bôn yn sefyll yn llonydd ar lefelau'r profion—. Gallwn ni wella, ond mae hynny'n dibynnu hefyd ar adnoddau'r agenda diagnosteg, a'r endoscopi'n benodol. Felly, a gawn ni ddatganiad ganddo ynglŷn â sut y mae'n gweld sgrinio'r coluddyn yn gweithio? Ydy'r prawf newydd yn fwy effeithiol? A ydym ni'n cael gwell cyfradd ymateb o ganlyniad i'r prawf? A pha adnoddau sydd wedi'u rhoi ar waith i sicrhau y gallwn ni wella'r sensitifrwydd, sy'n ein galluogi i ddal canserau'n gynharach fel y gallwn ni gael gwell canlyniadau?  

Yn sicr, fe wnaf sicrhau bod y Gweinidog iechyd yn ymwybodol o'r ddau gais yna am ddatganiad, ac rwy'n gwybod y byddai'n awyddus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau yn arbennig am fater sgrinio'r coluddyn, pan fydd gwybodaeth ar gael, o ran y dadansoddiad sy'n cael ei wneud o'r effaith a gaiff y gyfradd FIT a beth yw'r opsiynau o ran cynyddu sensitifrwydd hynny, ond hefyd o ran y gwaith yr ydym ni'n ei wneud i geisio sicrhau bod grwpiau penodol a fu'n arafach yn dod ymlaen i ymgymryd â'r sgrinio hwnnw yn cymryd rhan lawn.

Ac ar fater Orkambi, wrth gwrs, mae'r Gweinidog iechyd wedi bod yn glir iawn, iawn heddiw y byddai'n cytuno heddiw ar yr un cytundeb pro rata â'r cytundeb a gynigiwyd i Loegr, pe byddai hwnnw'n cael ei gyflwyno, ac edrychwn ymlaen at ymateb cadarnhaol gan y cyflenwyr cyn gynted ag y bo modd.

14:45

Gweinidog, a gaf i ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd am derfynu'r contract â Microtest Health i ddarparu'r meddalwedd cyfrifiadurol newydd ar gyfer ymdrin â phresgripsiynau a chofnodion meddygol cleifion yng Nghymru? Adroddir bod swyddogion y GIG yng Nghymru yn dweud na allai'r cwmni fodloni'r amserlen ofynnol i gyflawni'r prosiect hanfodol hwn. Gweinidog, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog Iechyd ar oblygiadau'r weithred hon i feddygon teulu a chleifion yng Nghymru, ac a fydd yna oedi yn y broses o foderneiddio system gyfrifiadurol hen ffasiwn ein GIG ni o ganlyniad i hyn?

Nid oedd yn hawdd gwneud y penderfyniad i derfynu'r contract, gyda sawl ffactor yn cyfrannu at hynny, gan gynnwys yr effaith y byddai'r oedi yn ei chael ar bractisau wrth gynllunio'r trosglwyddo i'r system newydd. Felly, bydd meddygon teulu yn parhau â'u systemau technoleg gwybodaeth glinigol presennol, wrth aros am adolygiad o systemau clinigol meddygon teulu yng Nghymru, y disgwylir y bydd yn cael ei gwblhau yn gynnar y flwyddyn nesaf. Er mai siomedig yw'r canlyniad, mae'r gost i'r GIG wedi bod yn isel, ac rwy'n gwybod pe byddech chi'n ysgrifennu at y Gweinidog Iechyd y byddai ef yn rhoi mwy o wybodaeth ichi pe bai angen. Ond mae'r cyflenwr systemau llwyddiannus arall, Vision, yn cydymffurfio â'r contract, a hyd yn hyn mae dros 100 o bractisau yn elwa ar ddarpariaeth gwasanaethau ychwanegol, fel meddalwedd ymarferoldeb clwstwr symudol Vision Anywhere, meddalwedd INR, a meddalwedd fferyllfa, yn rhad ac am ddim.

Trefnydd, gwn fod llawer o'r Aelodau yn y Siambr yn cefnogi gwaith gwerthfawr Tŷ Hafan a mudiadau hosbisau yn gyffredinol ledled Cymru, Ac rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cydnabod, yn drawsbleidiol, pa mor werthfawr yw'r cymorth y maen nhw'n ei roi i unigolion a theuluoedd, ar safleoedd yr hosbisau eu hunain ac allan yn y gymuned hefyd. Rwy'n siŵr hefyd y bydd llawer o'r Aelodau wedi gweld y cyhoeddusrwydd dros y penwythnos i'r gwaith adnewyddu uchelgeisiol arfaethedig yn Nhŷ Hafan, y prosiect 'addas i'r dyfodol'. Mae'r sylw i'r ymgyrch hon yn codi mater y cymorth sydd ar gael gan y Llywodraeth i hosbisau a gofal lliniarol pediatrig. Felly, a gaf i ofyn a wnaiff y Llywodraeth ddod â datganiad gerbron ar y gefnogaeth i fudiad hosbisau plant yng Nghymru? Ac a wnaiff y Trefnydd ymuno â mi i ddymuno'r gorau i Dŷ Hafan gyda'u hymgyrch nhw i godi arian ar gyfer adnewyddu eu hadeiladau?

Diolch yn fawr iawn. Rwy'n rhannu eich edmygedd o Dŷ Hafan yn llwyr ac o'r gwaith anhygoel y maen nhw'n ei wneud. Cefais y pleser o ymweld â'r hosbis, beth amser yn ôl erbyn hyn, ac fe wnaeth y cynhesrwydd a'r awyrgylch groesawgar iawn sy'n cael ei greu yno argraff fawr iawn arnaf i. Byddaf i'n sicr o siarad eto â'r Gweinidog Iechyd ynglŷn â'ch cais chi am yr wybodaeth ddiweddaraf am gymorth i hosbisau a gofal lliniarol i blant, ac yn gofyn iddo ysgrifennu atoch i roi'r sefyllfa ddiweddaraf ar y sefyllfa.

3. Datganiad gan y Prif Weinidog: Adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru

Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan y Prif Weinidog ar adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru. Dwi'n galw'r Prif Weinidog i wneud ei ddatganiad—Mark Drakeford.

Diolch, Llywydd. Roedd cyhoeddi adroddiad y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru ar 24 Hydref yn drobwynt pwysig iawn. Rwyf am ddechrau, felly, drwy dalu teyrnged i fy rhagflaenydd fel Prif Weinidog, a fu'n gyfrifol am sefydlu'r comisiwn yn y lle cyntaf. Rwyf hefyd am ddiolch i'r Arglwydd Thomas a phob aelod o'r comisiwn.

Roeddem ni'n gwybod o'r dechrau ein bod ni'n apwyntio panel o bobl uchel eu parch, pobl o gefndir amrywiol a phobl o feddylfryd annibynnol, ond doeddwn i ddim yn gwybod pa mor eang fyddai'r dasg a dderbyniwyd ganddynt. Yn syml, dyma'r astudiaeth fwyaf cynhwysfawr erioed o'r system gyfiawnder yng Nghymru. Mae'n haeddu ystyriaeth fanwl a gofalus gan bob Aelod o'r Cynulliad. 

Llywydd, yn wir mae hwn yn adroddiad nodedig iawn. Mae'n rhoi nid yn unig 78 o argymhellion penodol inni, ond mae'n drysor gwirioneddol o dystiolaeth a chyngor, sy'n rhoi ystyriaeth i lawer iawn o dystiolaeth a gafwyd ar lafar gan fwy na 200 o bobl a sefydliadau, a niferoedd tebyg yn ysgrifenedig. Mae'n taflu goleuni ar bob agwedd ar ein system cyfiawnder.

Nawr, mae adroddiad o'r maint hwn yn haeddu ystyriaeth lawnach o lawer nag y gellir ei roi heddiw. Ond gadewch imi ddechrau drwy nodi, yn fy marn i, gasgliad mwyaf trawiadol yr adroddiad, a hefyd drwy sôn rhywfaint am ein dull ni o ymateb iddo.

Y canfyddiad mwyaf trawiadol, mae'n ymddangos i mi, ym mharagraff cyntaf un yr adroddiad, yw bod pobl Cymru yn cael eu siomi gan y system gyfiawnder. Dyna yw casgliad diamwys y comisiwn. Ac rwy'n credu na ddylem danbrisio arwyddocâd y canfyddiad hwnnw. Mae system gyfiawnder sy'n deg, yn effeithiol ac yn hygyrch yn un o gonglfeini rhyddid a democratiaeth. Nid yw hyn, neu ni ddylai hyn fod, yn rhywbeth y gellir ei negodi. Rhaid inni beidio â chaniatáu ein hunain i ymgyfarwyddo â methiannau annatod, heb sôn am eu derbyn nhw, er mwyn bodloni'r safonau hynny.

Llywydd, gadewch imi sôn am rai materion penodol yn yr adroddiad. Nid yw cyfiawnder ar gael, meddai, fel y dylai fod. Mewn sawl ardal yng Nghymru, fel yr awgrymodd y cwestiwn gan Joyce Watson yn gynharach y prynhawn yma, mae pobl yn wynebu teithiau hir ac anodd i'w llys agosaf. Ceir risg ddifrifol, medd yr adroddiad, i gynaliadwyedd ymarfer y gyfraith, yn enwedig o ran gwasanaethau cyfreithiol traddodiadol ar y stryd fawr. Ac mae hyn i gyd yn digwydd ar adeg pan fo gan Gymru, fel y dywed yr adroddiad, un o'r poblogaethau mwyaf o garcharorion fesul pen yng ngorllewin Ewrop, er mai'r dystiolaeth yw bod dedfrydau cymunedol cadarn yn cyflawni gwell canlyniadau mewn cymaint o achosion. Yn y cyfamser, mae nifer yr erlyniadau yn gostwng. Nid oes gennym  gyfleusterau ar gyfer menywod sy'n troseddu ac mae gormod o fylchau yn y ddarpariaeth trwy gyfrwng yr iaith Gymraeg. Llywydd, natur gronnol y casgliadau sy'n eu gwneud nhw'n fwy grymus byth.

Nawr, ni ellir goresgyn yr her hon heb newid i swyddogaethau penodol San Steffan a'r sefydliadau datganoledig, a hefyd mewn ymarfer proffesiynol yn y gwahanol agweddau niferus ar y system gyfiawnder. Mewn un canfyddiad allweddol, mae'r comisiwn yn dweud wrthym:

Ni allwn weld sut mae modd gwneud y newidiadau sydd eu hangen mewn ffordd sy'n darparu ateb hirdymor ymarferol ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl Cymru,

heb ddatganoli'n sylweddol swyddogaethau cyfiawnder. Fel y dywed yr adroddiad, nid ynys yw cyfiawnder, ac mae'n rhaid i'r penderfyniadau ynghylch sut y dylai'r system weithredu gyd-fynd â blaenoriaethau cymdeithasol ac economaidd eraill. Ac fel y dywed yr awduron, mae angen sicrhau atebolrwydd clir a democrataidd o ran y ffordd y mae'r system yn gweithredu yng Nghymru. Mae'r canfyddiad canolog hwn yn gyson â safbwynt hirsefydlog Llywodraeth Cymru, a gadarnhawyd yn fwyaf diweddar yn ein papur ni, 'Diwygio'r Undeb ', a gyhoeddwyd fis diwethaf.

Nawr, yn y gorffennol, Llywydd, rydym wedi dadlau hyn yn aml o safbwynt cyfansoddiadol—sef y dylai cenedl sy'n pennu ac yn gweithredu ei chyfreithiau ei hun eu plismona nhw hefyd, yn ystyr ehangaf y gair hwnnw. Ond yr hyn y mae'r adroddiad hwn yn ei ddweud wrthym yw bod heriau ymarferol gwirioneddol yn deillio o rannu cyfrifoldebau rhwng San Steffan a Chymru. Sut, felly, y dylid gweithredu argymhellion yr adroddiad a'i gynigion niferus eraill? Wel, fel y bydd yr Aelodau yn gwybod, o fewn llai nag wythnos ar ôl cyhoeddi'r adroddiad, bu galwad am etholiad cyffredinol. Mae hyn yn golygu y bydd bwlch anorfod yn ein gallu ni i ddechrau trafod â Llywodraeth y DU, ond bydd angen i'r drafodaeth honno ddechrau cyn gynted ag y gwelwn ni Lywodraeth mewn grym unwaith eto.

Yn y cyfamser, nid yw hynny'n ein rhwystro ni, wrth gwrs, rhag canolbwyntio ar yr agweddau hynny o'r adroddiad sy'n eiddo i lawer o weithredwyr cyfiawnder yma yng Nghymru. Rhof un enghraifft yn unig, Llywydd: mae'r adroddiad yn herio ysgolion gwych y gyfraith yng Nghymru i weithio'n fwy effeithiol gyda'i gilydd i gydnabod safle cyfraith Cymru mewn addysg gyfreithiol a sicrhau bod deunyddiau addysgu ar gael yn y ddwy iaith. Ac mae'r adroddiad, wrth gwrs, hefyd yn ystyried hanes cysylltiad Llywodraeth Cymru, yn ystod cyfnod llawn datganoli, â materion cyfiawnder troseddol, ac yn gwneud cynigion ar gyfer y dyfodol.

Yn wir, un peth y bydd llawer o ddarllenwyr yn synnu ato, rwy'n credu, yw'r amcangyfrif bod 38 y cant o'r holl wariant ar gyfiawnder yng Nghymru yn dod eisoes oddi wrth Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol Cymru, a hynny er gwaethaf ein swyddogaeth gyfyngedig iawn o ran llunio polisi a sicrhau bod yr arian hwnnw'n cael ei wario'n fuddiol ac mewn ffordd sy'n gyson â'n blaenoriaethau ni.

Felly, mae'r comisiwn yn eglur bod angen gwneud llawer mwy. Ac yn yr achosion lle bydd Llywodraeth Cymru yn gyfrifol am gyflawni rhai o'r argymhellion yn yr adroddiad, byddwn nawr yn ystyried eu rhoi nhw ar waith. A'r prynhawn yma, rwyf eisiau rhoi tair enghraifft gryno o'r ffordd y byddwn ni'n mynd ati i wneud y gwaith pwysig hwnnw.

Mae'r comisiwn yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu prentisiaethau cyfreithiol sydd wedi cael eu hariannu'n llawn fel llwybr newydd i mewn i'r proffesiwn, llwybr a all helpu pobl a fyddai o bosib yn dewis ymarfer mewn rhannau o'r wlad lle nad oes digon o ymarferwyr i'w cael erbyn hyn. Byddwn yn gweithio nawr gyda'r proffesiynau i ystyried y ffordd orau o gyflawni hyn, gan adeiladu ar y dewisiadau o brentisiaethau uwch sydd gennym eisoes ym meysydd profiant a thrawsgludo yma yng Nghymru.

Yn ail, mae'r comisiwn yn galw hefyd am greu Cyngor y Gyfraith i Gymru i hyrwyddo buddiannau addysg gyfreithiol ac ymwybyddiaeth o gyfraith Cymru. Nid yw hynny'n rhywbeth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud ar ei phen ei hun, ond byddwn yn cymryd y cam cyntaf i gefnogi sefydlu hyn a chael y Cyngor i gychwyn ar ei waith pwysig.

Mewn ymateb uniongyrchol i alwad y comisiwn am fuddsoddi mewn datblygiadau technolegol, efallai y bydd yr Aelodau wedi gweld bod cyllid o £4 miliwn wedi cael ei roi tuag at labordy arloesi cyfreithiol newydd ym Mhrifysgol Abertawe.

Yn olaf, Llywydd, mewn ymateb i alwad y comisiwn am gryfhau'r arweinyddiaeth o fewn Llywodraeth Cymru ar faterion cyfiawnder, rwyf wedi penderfynu sefydlu pwyllgor cyfiawnder newydd yn y Cabinet, ac mae hwnnw'n bwyllgor Cabinet y byddaf i'n ei gadeirio. Bydd y pwyllgor hwn yn gyfrifol am fwrw ymlaen â'r argymhellion hyn, y rhai sy'n dod i ran Llywodraeth Cymru, a goruchwylio'r trafodaethau gyda'r Llywodraeth newydd ar lefel y DU.

Llywydd, fel y dywedais yn fy sylwadau agoriadol, bydd yr adroddiad yn gofyn am drafodaeth lawnach a thrafodaeth ehangach nag y gallwn ni ei rhoi'r prynhawn yma. Ond mae'n briodol y bydd y Cynulliad yn awyddus i wybod am y cynnydd sy'n cael ei wneud. Felly gallaf roi sicrwydd y prynhawn yma y bydd y Llywodraeth, fel cam cyntaf, yn cyflwyno dadl ar yr adroddiad yn y flwyddyn newydd. Yn y cyfamser, gadewch imi ddiolch unwaith eto i'r comisiwn am ei holl waith ac am ffrwyth y gwaith hwnnw, sef yr adroddiad pwysig hwn yr wyf i'n falch o'i groesawu yn y fan hon y prynhawn yma.

14:55

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad y prynhawn yma? Fe hoffwn i ychwanegu hefyd fy niolch innau i'r comisiynwyr ac i'r Arglwydd Thomas o Gwmgiedd, a fu ar gael i Aelodau'r Cynulliad wrth lunio'r adroddiad hwn.

Er i rai dadleuon clodwiw iawn fodoli ynglŷn â datganoli cyfiawnder i Gymru, rydym ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn parhau i fod heb ein hargyhoeddi mai datganoli yw'r ffordd briodol ymlaen. Eto i gyd, nid yw hynny'n golygu nad oes llawer iawn o deilyngdod yn perthyn i rai o'r canfyddiadau yn adroddiad y comisiwn. Mae Pennod 10 yr adroddiad yn ystyried gwybodaeth, sgiliau ac arloesedd, ac yn galw am greu cynllun gweithredu i gefnogi a hyrwyddo addysg gyfreithiol i'r cyhoedd, yn enwedig i blant a phobl ifanc, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf i'n ei groesawu'n fawr iawn.

Nawr, mae datganiad heddiw yn cydnabod, yn gywir, wrth i Lywodraeth Cymru ystyried datganoli cyfiawnder i'r dyfodol, y ceir mwy o ganolbwyntio ar y sector cyfreithiol yng Nghymru ac y caiff sylfaen wybodaeth y wlad ei ehangu. Felly, efallai y gall y Prif Weinidog ddweud wrthym pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd yn y maes arbennig hwn i helpu i wella hyrwyddo ymwybyddiaeth a datblygu sgiliau yn y diwydiant cyfreithiol yng Nghymru.

Rwy'n croesawu'n gynnes y newyddion bod £4 miliwn o gyllid ar gael i Brifysgol Abertawe ar gyfer ei labordy arloesi cyfreithiol. Serch hynny, fel y noda'r datganiad heddiw, rhoddir mwy o her i ysgolion y gyfraith yng Nghymru gydweithio'n effeithiol. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog ddweud wrthym a fydd Llywodraeth Cymru yn datblygu ac yn gweithredu strategaeth benodol ar lefel addysg uwch i ddatblygu rhaglenni astudiaethau cyfreithiol Cymru ym mhob rhan o'r wlad?

Wrth gwrs, rwy'n cydnabod bod cymhlethdodau mewn rhai meysydd rhwng y gwaith a wneir gan Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, ac mae adroddiad y comisiwn yn egluro bod cyfiawnder teuluol yn faes sy'n peri anhawster rhwng cyfrifoldebau'r ddwy Lywodraeth. Mae'r adroddiad yn gywir i gydnabod pwysigrwydd camau ataliol, ac mae hyn yn rhywbeth y gallai ac y dylai Llywodraeth Cymru fod yn gweithio mwy arno. Felly, yn ei ymateb, efallai y gwnaiff y Prif Weinidog ddweud ychydig mwy wrthym am y gwaith y mae'r Llywodraeth wedi ei wneud ar gyfiawnder teuluol.

Nawr, wrth ymateb i ymgynghoriad y comisiwn, nododd tystiolaeth Cymdeithas y Cyfreithwyr, ac rwy'n dyfynnu:

Mae gennym ni system gyfreithiol fyd-enwog gyda barnwyr o'r radd flaenaf. Mae'r manteision hyn wedi datblygu dros gannoedd o flynyddoedd a byddant yn parhau am flynyddoedd i ddod, ni waeth beth fydd canlyniadau ein hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd.

Diwedd y dyfyniad. Ac felly mae'n codi'r cwestiwn y gallai'r manteision hyn gael eu colli mewn awdurdodaeth ar wahân. Felly, pa sicrwydd y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i'r rhai sydd o'r farn arbennig honno?

Cododd Cymdeithas y Cyfreithwyr hefyd fater ymarfer y gyfraith yng nghefn gwlad a'r angen i fynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â seilwaith. Fel y mae'r datganiad heddiw'n cydnabod, bydd yn gwbl hanfodol ymdrin â'r materion pwysig hyn o ran seilwaith i sicrhau bod y rheini sydd angen gwasanaethau cyfreithiol yn gallu cael gafael arnynt. Gyda lleihad yng ngwasanaethau'r stryd fawr, y mannau gwan ar gyfer band eang yn frith, a thrafnidiaeth gyhoeddus yn annibynadwy ac yn gostus yn aml, gallai hynny effeithio ar argaeledd cyfiawnder a chynaliadwyedd hirdymor gwasanaethau cyfreithiol mewn ardaloedd gwledig. Felly, o ystyried daearyddiaeth Cymru, pa mor hyderus yw'r Prif Weinidog y gellid rheoli'r rhwystrau hyn ar y seilwaith fel bod y rheini sydd angen defnyddio gwasanaethau cyfreithiol yn gallu gwneud hynny yn y dyfodol?

Wrth gwrs, mae daearyddiaeth Cymru'n golygu nad yw datganoli cyfiawnder troseddol yn hollol syml, ac fe geir rhai pryderon dealladwy ynglŷn â'r effaith y gallai datganoli cyfiawnder troseddol ei chael ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr. Nid yw'r alwad am ddatganoli cyfiawnder troseddol i Gymru yn cydnabod nad yw gweithgarwch troseddol yn ystyried ffiniau cenedlaethol neu ranbarthol a bod tua 48 y cant o'r cyhoedd yn byw o fewn 25 milltir i'r ffin â Lloegr a—[Torri ar draws.] Ac mae 90 y cant o bobl—[Torri ar draws.] Ac mae 90 y cant o bobl—[Torri ar draws.] Ac mae 90 y cant o bobl yn byw o fewn 50 milltir i'r ffin. Mae hyn, wrth gwrs, yn cyferbynnu'n fawr â'r ffaith mai dim ond 5 y cant o boblogaeth gyfunol yr Alban sy'n byw o fewn 50 milltir i'r ffin. Felly, efallai—.

15:00

Felly, efallai y gwnaiff y Prif Weinidog ddweud ychydig wrthym ni am yr effaith y gallai datganoli cyfiawnder troseddol ei chael ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr a dweud wrthym pa drafodaethau sydd wedi bod eisoes ar y mater penodol hwn.

Nawr, bydd y Prif Weinidog yn ymwybodol hefyd o rai o'r pryderon dilys ynghylch y gallu sy'n angenrheidiol i gyflwyno system cyfiawnder troseddol effeithiol. Ar hyn o bryd, nid yw carchardai Cymru yn cynnig systemau integredig o driniaethau cyffuriau, a gwyddom ers y mis diwethaf yn unig nad yw Panel Cynghori Llywodraeth Cymru ar gamddefnyddio sylweddau wedi cyfarfod yn y flwyddyn ddiwethaf. Yn wir, mae bron hanner y bobl a gafodd eu hatgyfeirio at i adsefydlu camddefnyddio sylweddau yng Nghymru yn cael eu triniaeth yn Lloegr, ac, er bod Llywodraeth Cymru wedi neilltuo £50 miliwn i'r byrddau iechyd, mae canolfannau rhagorol ledled Cymru yn cau. Yn ogystal â chanolfannau positif ar gyfer adsefydlu, mae'n amlwg nad oes gan Gymru gyfleusterau addas ar gyfer ein carcharorion ni, fel y mae'r adroddiadau ar y newyddion heddiw yn ei gadarnhau. Felly, pa waith paratoi y mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ei wneud i sicrhau bod gan Gymru yr adnoddau a'r capasiti i ddarparu system cyfiawnder troseddol a all weithredu yn effeithiol mewn gwirionedd?

Llywydd, wrth i'r drafodaeth ymhlith y cyhoedd ynghylch datganoli cyfiawnder troseddol barhau i dyfu, mae'n bwysicach nag erioed fod gan Gymru berthynas effeithiol â Gweinyddiaeth Gyfiawnder y Deyrnas Unedig. Felly, y dasg i Lywodraeth Cymru yw mynd ati i annog mwy o ymgysylltu i sicrhau bod penderfyniadau sy'n effeithio ar Gymru yn adlewyrchu amgylchiadau ein gwlad. Efallai y gallai'r Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y modd y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod hynny'n digwydd.

Felly, wrth gloi, a gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ei ddatganiad? Er bod rhai pwyntiau ac argymhellion diddorol iawn wedi cael eu gwneud gan y comisiwn yn sicr, ni fydd yn syndod i'r Prif Weinidog nad ydym eto'n argyhoeddedig mai datganoli cyfiawnder yn ei gyfanrwydd yw'r ffordd briodol ymlaen i Gymru. Ond rwy'n edrych ymlaen at weld cyhoeddiadau pellach gan Lywodraeth Cymru, wrth symud ymlaen.

Llywydd, a gaf i ddiolch i Paul Davies am ei gyfraniad? Fe ddechreuodd drwy gyfeirio at y modd y bu'r Arglwydd Thomas ar gael i Aelodau'r Cynulliad wrth baratoi'r adroddiad. Ni chefais i'r cyfle yn fy natganiad i ddweud hynny a thynnu sylw at y modd y mae'r comisiwn wedi mynd ati i wneud ei waith drwy siarad â chymaint o wahanol grwpiau, cymaint o wahanol ddiddordebau yng Nghymru, gan fod ar gael yn uniongyrchol yn y modd hwnnw. Ac mae canlyniad hynny i'w weld yn yr adroddiad ei hun.

Mae Paul Davies yn dweud nad yw ef wedi ei argyhoeddi o'r achos dros ddatganoli'r system cyfiawnder troseddol. Tybed beth all ei argyhoeddi os nad yw'r adroddiad hwn yn gwneud hynny, oherwydd ni allwch gael achos sy'n fwy cymhellol na'r un yn yr adroddiad hwn. Rwyf i o'r farn, Llywydd, fod a wnelo diffyg argyhoeddiad y Blaid Geidwadol â'r ffaith na fydd y Blaid Geidwadol byth yn barod i gael ei hargyhoeddi o'r achos hwn oherwydd, yn syml, nid yw'n adlewyrchu'r ffordd y maen nhw'n ystyried datganoli.

Nawr, gadewch imi ddweud, wedi dweud hynny, roedd nifer o bwyntiau a wnaeth Paul Davies a oedd yn cynrychioli ymdrech gadarnhaol rwy'n credu i dynnu sylw at yr agweddau hynny ar yr adroddiad y mae ef yn cytuno â nhw. Rwy'n edrych ymlaen at allu parhau i'w trafod nhw gydag ef wrth i'r adroddiad fynd rhagddo.

Mae ef yn iawn, wrth gwrs—mae'r adroddiad yn sôn llawer am addysg gyfreithiol a chryn dipyn am gyflwr y proffesiwn cyfreithiol. Dyna pam y sefydlodd fy nghydweithiwr, y Cwnsler Cyffredinol, adolygiad cyflym o'r sefyllfa yma yng Nghymru yn ystod y cyfnod pan oedd Arglwydd Thomas yn eistedd, ar gyfer llywio'r adroddiad. Ceir tystiolaeth dda o hynny yn nhudalennau'r adroddiad, ac rydym wedi defnyddio'r hyn y mae'r proffesiwn wedi ei ddweud wrthym. Ac un o'r pethau y credaf fod yr adroddiad yn ei ddweud—. Ac rwy'n credu efallai nad oeddwn i'n cytuno'n hollol â'r hyn a ddywedodd Paul Davies. Mae'r adroddiad yn nodi'n glir na all y proffesiwn na'r sefydliadau addysg uwch yng Nghymru ddisgwyl i Lywodraeth Cymru gymryd yr awenau bob amser. Mae ysgolion y gyfraith yng Nghymru yn cael eu staffio gan bobl ar lefel uchel iawn, sy'n fawr eu parch a chanddynt enw da iawn, ac nid oes angen inni wneud pethau drostyn nhw. O ran y pethau yn yr adroddiad sy'n gyfrifoldeb iddyn nhw, mae'r adroddiad yn dweud bod yn rhaid iddyn nhw roi arweiniad. Mae'n rhaid i'r proffesiwn roi arweiniad wrth ymdrin â'r materion y mae'r adroddiad yn eu nodi fel rhai sy'n bwysig iddyn nhw. Byddwn yn dymuno bod yno gyda nhw, gan eu cefnogi nhw yn y gwaith hwnnw, ond nid yw'r adroddiad byth yn dweud, 'Bob tro mae 'na broblem, Llywodraeth Cymru sy'n gorfod dod o hyd i ateb.' Mae'n rhaid iddo fod yn llawer ehangach na hynny.

Hoffwn i ddiolch i Paul Davies am dynnu sylw at y bennod yn yr adroddiad, Pennod 7, ar gyfiawnder teuluol. Mae hwn yn adroddiad sylweddol iawn. Mae dadleuon yr adroddiad yn gymhellol. Nid wyf am ailadrodd unwaith eto ran o'r drafodaeth a gefais i ar lawr y Cynulliad bythefnos yn ôl ynglŷn â dull Llywodraeth Cymru o ymdrin â materion plant sy'n derbyn gofal. Ond fe welwch chi yn yr adroddiad hwn yr hyn y mae'n cyfeirio ato fel tystiolaeth anorchfygol o'r angen am ddiwygio'r ffordd y mae'r gwasanaeth hwnnw'n cael ei ddarparu yma yng Nghymru; gallai'r ffordd y gellid gwario'r costau yn y system gyfredol ar gyfer cyllid fod yn llawer gwell, medd yr adroddiad, drwy osgoi'r angen i blant gael eu cymryd i ofal awdurdodau lleol; y dystiolaeth y mae'n ei nodi gan y bobl ifanc eu hunain a gafodd eu rhoi mewn gofal, a ddywedodd wrth Arglwydd Thomas, pe byddai cyfran fechan o'r arian a wariwyd ar ofalu amdanyn nhw mewn gofal wedi cael ei wario ar eu teuluoedd i'w helpu i barhau i ofalu amdanyn nhw, byddai hynny wedi bod yn ganlyniad gwell iddyn nhw ac ar gyfer y teuluoedd hynny. Mae hwn yn adroddiad y gallai unrhyw Aelod Cynulliad nad yw'n ystyried hyn yn rhywbeth sy'n ganolog i'w fuddiannau yma—pe bai un bennod unigol yn yr adroddiad hwn y byddwn i'n gofyn i'r Aelod hwnnw ei ddarllen, y bennod am gyfiawnder teuluol fyddai'n teilyngu'r ystyriaeth honno, yn fy marn i.

Tynnodd Paul Davies sylw at fater awdurdodaeth ar wahân. Nid yw'r adroddiad mewn gwirionedd yn argymell, gan ddefnyddio'r geiriau hynny, 'awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân', ond mae yn argymell gwahanu'r farnwriaeth—ac y dylid creu llysoedd Cymru a barnwriaeth i Gymru yn ffurfiol, Ac rwy'n credu bod hyn dangos, yn llawn argyhoeddiad, pam na fyddai hynny'n arwain at unrhyw rai o'r anawsterau a nodwyd gan Paul Davies yn ei ddatganiad. Wrth gwrs, nid yw'n syml datganoli rhywbeth mor enfawr â'r system gyfiawnder, ond nid yw allan o gyrraedd chwaith. Mae rhai o'r materion a gododd Paul Davies yn wir yn hen esgusodion yr ydym wedi eu clywed dro ar ôl tro yn y ddadl hon. Mae 50 o daleithiau yn America lle mae pobl yn gallu symud rhwng y naill a'r llall, ac nid yw hynny'n llesteirio'r system gyfiawnder, fel nad yw'n cael ei llesteirio gan y ffaith fod yna system ar wahân yn yr Alban ac yn Lloegr.

Wrth gwrs ein bod ni'n awyddus i gael perthynas effeithiol â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder, ac yn ystod y cyfnod byr hwnnw pan oedd gennym ni Ysgrifennydd Gwladol yn David Gauke a Gweinidog yn Rory Stewart, roeddem yn gallu cytuno ar lasbrintiau ar gyfer troseddwyr benywaidd, glasbrintiau ar gyfer troseddwyr ifanc—i gael dull o garcharu y byddem wedi bod yn barod i gydweithio arno yma yng Nghymru. Y broblem yr ydym yn ei hwynebu, Llywydd, yw hyn. Cyn gynted ag y byddwch chi'n meithrin perthynas gyda thîm o Weinidogion, bydd y chwrligwgan yn San Steffan yn eu symud nhw i rywle arall ac rydym yn ôl yn y dechrau un unwaith eto. Fe fyddwn ni'n parhau gyda'r ymdrechion hynny, ond weithiau mae'n teimlo fel gwaith caled iawn ac yn groes i'r graen o ran y ffordd y mae Whitehall yn gweithredu ar y materion hyn.

15:10

Gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am y datganiad, ac wrth gwrs diolch i'r Arglwydd Thomas ac aelodau'r comisiwn am eu gwaith rhyfeddol o drwyadl yn cyrraedd at y pwynt lle y cyflwynwyd yr adroddiad arbennig yma i ni fel Cynulliad Cenedlaethol? Dechrau taith ydy hwn rŵan mewn difrif. Dwi'n falch ein bod ni'n cael datganiad heddiw a chyfle i wneud ychydig o sylwadau. Dwi'n falch hefyd bod amser yn mynd i gael ei neilltuo yn gynnar yn y flwyddyn newydd er mwyn cael dadl lawnach er mwyn gallu gwyntyllu'r pwyntiau mewn dipyn mwy o fanylder. Ond wedyn mi fydd angen cydweithio ar draws pleidiau gwleidyddol, ar draws Seneddau hefyd, wrth gwrs, er mwyn mynd â'r argymhellion yma yn eu blaen.

Dwi'n croesawu’r ffaith bod y Ceidwadwyr, sydd ddim yn gweld gwerth ar hyn o bryd mewn gwireddu'r argymhellion yma—eu bod nhw yn gofyn cwestiynau ynglŷn â sut i symud hyn ymlaen. Mae o'n fater o rywfaint o bryder i fi bod y mathau o gwestiynau sydd wedi cael eu gofyn heddiw gan arweinydd y Ceidwadwyr ar lefel mor sylfaenol—mae o bosib yn codi amheuon i fi o ran faint o sylw sydd wedi cael ei gymryd gan y blaid Geidwadol o'r argymhellion manwl yma a'r gwaith trwyadl sydd wedi cael ei wneud gan yr Arglwydd Thomas a'i dîm. Ond dwi'n barod i dderbyn bod yn rhaid gofyn cwestiwn ar bob lefel er mwyn inni allu symud ymlaen.

Mae yna gymaint o resymau pam dylem ni fel deddfwrfa fod yn gafael yn annwyl iawn yn yr argymhellion yma sydd wedi cael eu rhoi o'n blaenau ni. Ar bwynt o egwyddor yn unig, fel llunwyr deddfau, mae'n bwysig i lawer ohonom ni fan hyn ein bod ni'n gallu troi yn Senedd sy'n gorff deddfwriaethol sydd yn ymwneud â'r system gyfiawnder fel mater o egwyddor. Mae yna elfennau ymarferol o'r anhawster gennym ni ar hyn o bryd mewn gallu cael cydlyniad rhwng cyfiawnder a'r mathau o bolisïau sydd yn effeithio ar y system gyflawnder.

Wrth gwrs, yn Lloegr a'r Alban, maen nhw'n gallu llunio polisi o fewn cyd-destun gwahanol. Ond y prif reswm—a'r prif reswm sy'n cael ei amlinellu'n glir iawn yn yr adroddiad gan yr Arglwydd Thomas—dros fod eisiau bwrw ymlaen efo'r argymhellion yma ydy bod y diffygion sydd wedi cael eu hamlygu yn effeithio ar fywydau pobl go iawn yng Nghymru a'r ffordd mae'r system gyfiawnder yn ymdrin â nhw, p'un ai sut ydym ni'n trin merched o fewn y system gyfiawnder, sut ydym ni'n trin pobl o leiafrifoedd ethnig o fewn y system gyfiawnder, sut rydym ni yn gweithredu deddfwriaeth o fewn y llysoedd teulu mewn ffordd sydd yn sensitif i anghenion ein pobl ifanc ni a'n plant ni yng Nghymru, fel y cyfeiriodd y Prif Weinidog ato fo. 

Mi fydd llawer ohonoch chi, dwi'n siŵr, fel finnau, wedi darllen—neu wedi dechrau darllen yn fy achos i—The Secret Barrister, sydd yn edrych ar wendidau y system gyfiawnder ym Mhrydain, neu yng Nghymru a Lloegr i gyd ar hyn o bryd. Wel, mae gennym ni gyfle yng Nghymru erbyn hyn i fynd i'r afael â'r gwendidau yna, sydd yn hysbys i gymaint o bobl sy'n gweithio o fewn y system gyfiawnder, ac i weithredu mewn ffordd am y tro cyntaf sy'n gadael i ni lunio system sydd yn sensitif i anghenion pobl Cymru yn benodol. Felly, mi gydweithiwn ni efo'n gilydd ar y cwestiynau yma.

Cwpwl o gwestiynau ichi: dwi'n croesawu'r ffaith y bydd yna is-bwyllgor o'r Cabinet, wedi ei gadeirio gan y Prif Weinidog; beth am rôl y gwasanaeth sifil yn hyn oll? Mae yna gwpwl o bethau yn codi amheuon ynof i ynglŷn ag agwedd y gwasanaeth sifil. Mi ddywedodd y gwasanaeth sifil Cymreig y byddai angen 200 yn fwy o swyddogion polisi, ar gost o ryw £14 miliwn, er mwyn gweithredu'r math yma o newidiadau. Awgrym yr Arglwydd Thomas oedd mai 10 o bobl fyddai eu hangen ac y byddem ni'n gallu creu model newydd o weithio, yn tynnu ar arbenigedd ein prifysgolion ni, ac ati, yn adlewyrchu mantais gwlad fach fel Cymru o ran effeithlonrwydd. Nid copïo beth maen nhw'n ei wneud ar lefel Cymru a Lloegr, ond llunio rhywbeth neilltuol Gymreig. Buaswn i'n croesawu sylwadau gan y Prif Weinidog ynglŷn â'r hyder sydd ganddo fo y gall y gwasanaeth sifil ddod i fod yn bartner pwysig wrth ddelifro hyn.

O ran, wedyn, yn olaf, y rôl y bydd yna, wrth gwrs, i wleidyddion ar lefel Brydeinig i ddelifro'r newidiadau yma, mi glywsom ni'r Prif Weinidog yn dweud yn gynharach ei fod o'n ymgyrchu ers 1985 yn galw am y mathau yma o newidiadau. Wel, mae'n rhaid imi godi cwestiynau ynglŷn â'r dylanwad rydych chi wedi ei llwyddo i'w gael ar eich cyd-aelodau Llafur chi yn San Steffan. Rydym ni'n gwybod, onid ydym, fod Aelodau Seneddol Llafur ymhell iawn, iawn, iawn ar ôl 1985, wedi bod yn floc ar ddatganoli elfennau o gyfiawnder. Felly, yn y cyd-destun hwnnw, pa mor hyderus ydych chi rŵan y gallwch chi berswadio eich plaid chi ar lefel Brydeinig, (1) i roi'r argymhellion yma mewn maniffesto ar gyfer etholiad rŵan? Mae'r argymhellion sydd o'n blaenau ni mor eglur, mor ddiamwys, does yna ddim rheswm pam na allai unrhyw blaid, mwy neu lai, symud ymlaen at addo gweithredu'r rhain. Felly, dangoswch i ni fod gennych chi'r dylanwad o fewn eich plaid chi, achos dwi'n addo ichi mi fydd gweithredu ar argymhellion yr Arglwydd Thomas yn gryf iawn yn ein maniffesto ni wrth fynd i mewn i'r etholiad yma rŵan.

15:15

Llywydd, diolch yn fawr i Rhun ap Iorwerth am ei gwestiynau. Dwi'n cytuno â beth ddywedodd e ar ddechrau beth roedd e'n ei ddweud. Rŷn ni ar ddechrau taith yn fan hyn, ac mae'n mynd i gymryd amser i fynd i lawr y llwybr i gyd, ac i wneud hynny, mae'n bwysig i gydweithio'n drawsbleidiol. Croesawais i nifer o bethau roedd Paul Davies wedi eu dweud a oedd yn adeiladol am nifer o bethau yn yr adroddiad. Mae diddordeb ganddo fe i weld sut rŷn ni'n gallu rhoi pethau fel yna ar waith, a bydd yn rhaid inni hefyd weithio nid jest yn fewnol yn y Cynulliad, ond gyda phobl y tu fas i'r Cynulliad yng Nghymru a hefyd gyda phobl yn San Steffan. 

Dwi'n cytuno hefyd gyda beth ddywedodd Rhun ap Iorwerth am y pethau ymarferol sydd yn yr adroddiad. I nifer o bobl fan hyn, mater o egwyddor yw e i gael system cyfiawnder yn nwylo pobl yma yn y Cynulliad. Ond, yn yr adroddiad, maen nhw jest yn gwneud yr achos yn fwy ymarferol na hynny. Mae jest yn dangos yr effaith y mae'r system bresennol yn ei chael ar fywydau pobl bob dydd yma yng Nghymru.

I droi at y cwestiynau am y gwasanaeth sifil, wel, roeddem ni wedi dweud 200 o bobl am fod 300 o bobl yn Llywodraeth yr Alban yn gweithio ar y pethau y mae'r adroddiad eisiau eu trosglwyddo inni yng Nghymru. Nawr, mae'r Arglwydd Thomas yn dweud 10 o bobl—10 o bobl i wneud popeth yn yr adroddiad yma. Dwi yn cytuno gyda fe a gyda Rhun hefyd nad oes yn rhaid inni jest gwneud pethau yn y ffyrdd rydym ni wedi gwneud pethau o'r blaen, ac i gydweithio â phobl yn y prifysgolion, i wneud mwy o waith i dynnu pobl i mewn i gydweithio â ni—dwi'n hollol agored i'w wneud e fel yna—ond os ydyn ni'n mynd i redeg y system i gyd—y llysoedd, prawf, cyfiawnder i bobl ifanc, y proffesiwn, popeth sydd i mewn fan hyn—mae'n anodd i mi ar hyn o bryd i weld sut y bydd 10 o bobl yn gallu gwneud hynny. Ond mae hynny'n rhywbeth i ni siarad â'n gilydd amdano pan fyddwn ni ar y daith, fel roedd Rhun yn dweud.

Llywydd, dwi wedi ymdrechu mewn mwy nag un peth heb lwyddo am gyfnod hir. Dwi'n siwr ei fod e wedi ymdrechu am annibyniaeth am amser hir hefyd, a dydy e ddim wedi llwyddo i berswadio pobl am hynny ychwaith. Mae e'n dal yma yn trio perswadio pobl, a dwi'n dal i drio perswadio pobl hefyd, ac mae'r adroddiad yn help mawr i ni jest i ddangos y dystiolaeth gan griw o bobl hollol annibynnol sydd wedi dod at y casgliadau maen nhw wedi dod atynt.

15:20

A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am ddod â'r datganiad hwn gerbron heddiw, ac yn fwy byth os caf i ddiolch i Arglwydd Thomas a'i gyd-gomisiynwyr am gyflwyno'r adroddiad hynod drawiadol hwn? Hoffwn i longyfarch y cyn-Brif Weinidog hefyd am yr adroddiad trawiadol iawn hwn a sefydlodd ar ein cyfer.

Hoffwn i ddilyn yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog sef bod yr adroddiad hwn yn haeddu ystyriaeth lawnach o lawer nag y gellir ei rhoi heddiw. Roeddwn wedi cynllunio ymlaen llaw i roi ymateb mwy pendant efallai, ond rwy'n credu mai'r peth iawn yw ymatal er mwyn ei ystyried ymhellach ac ymgynghori'n ehangach. Rwy'n credu bod yr hyn a ddywedodd ef am ei ddull o ymateb i'r adroddiad yn synhwyrol, ac rwy'n edrych ymlaen at gael y ddadl lawn honno a chyfrannu yn llawnach ar rai o'r materion yno.

Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud o ran un pwynt o egwyddor, o bosib, yw bod y Comisiwn yn cyfeirio at yr 'ymyl garw', a ddisgrifiwyd, er yn fwy rhyddieithol yn y cyd-destun hwn, yn natganiad y Prif Weinidog yn

'heriau ymarferol yn deillio o rannu cyfrifoldebau rhwng San Steffan a Chymru'

Ac fe sylwais i pan oedd arweinydd yr wrthblaid yn rhoi ei ymateb ef, y cafodd ei heclo gryn dipyn am fod yn wrthwynebus i ddatganoli. Ond rwy'n credu, yn anochel, i rai ohonom ni, beth bynnag fo'r rhaniadau rhwng yr hyn sydd wedi'i ddatganoli a'r hyn sydd heb ei ddatganoli, bydd yn parhau i fod yn rhyw fath o ymyl garw; bydd yna rywfaint o anhawster bob amser ar y lefel honno pan fydd dwy wahanol ffurflywodraeth yn cwrdd â'i gilydd. Ond mae'r adroddiad hwn yn cymryd yn ganiataol, lle bynnag y digwydd hynny—er enghraifft, ynglŷn â chyfiawnder—mai'r ateb yw datganoli i Gymru bob amser. Mae rhai ohonom wedi dechrau pryderu, os yw datganoli yn llwybr unffordd parhaol a phellach o bwerau cynyddol bob amser ac ym mhob achos, efallai nad yw hynny'n rhywbeth y mae pobl Cymru'n dymuno ei weld, ac y bydd hefyd yn peryglu'r llif sylweddol iawn o adnoddau ariannol y mae Cymru'n eu cael o Loegr mewn amgylchiadau lle mae gennym fwlch o £13.7 miliwn o ran cyllid. Credaf fod angen cadw hynny mewn cof.

Hefyd, os caf i fynd ar ôl pwynt Rhun, a oedd yn un da iawn yn fy marn i. Fe ddyfynnodd ef lyfr o'r enw The Secret Barrister, yr wyf innau wedi ei ddarllen hefyd, a'i gael yn frawychus iawn o ran cyflwr system y llysoedd yng Nghymru a Lloegr. Pan oeddwn i'n Aelod Seneddol yn Lloegr fe welais i rywfaint ar hyn, ond, a dweud y gwir, mae wedi gwaethygu llawer ers hynny, ac mae'r gostyngiad mewn gwariant ar y system gyfiawnder wedi bod yn fwy sylweddol bron nag yn unrhyw faes arall o weithgarwch y Llywodraeth, ac mae'r goblygiadau yn gwbl ddychrynllyd. Credaf fod yr adroddiad hwn nid yn unig yn dweud wrthym ni am Gymru; mae'n dweud wrthym ni am y system gyfiawnder yng Nghymru a Lloegr, ac i fod yn onest, nid i ni'n unig y mae'n ddefnyddiol, ond fe ddylai fod yn ddefnyddiol i Lywodraeth y DU a Senedd y DU. Os nad yw'r Ceidwadwyr yn argyhoeddedig o'u safiad cyffredinol, rwy'n  gobeithio y byddan nhw'n defnyddio'r adroddiad hwn i ddangos yr hyn sy'n digwydd i ardal yng Nghymru a Lloegr sydd wedi gweld yr ymdrech ryfeddol hon a'r meddyliau dawnus a gweithio deheuig i dynnu sylw at sylwedd y problemau. Rwy'n gobeithio y bydd hwn yn cael ei ddarllen y tu hwnt i Gymru yn unig, ac mae llawer o'r problemau hyn yn cael eu hachosi o ganlyniad i Lywodraeth y DU ar lefel Cymru a Lloegr, ac mae angen mynd i'r afael â nhw.

A gaf i groesawu rhai o'r materion penodol y mae'r Prif Weinidog wedi eu nodi heddiw, yn benodol y cynlluniau ar gyfer prentisiaethau yn y proffesiwn cyfreithiol a chefnogaeth Llywodraeth Cymru i hynny? Rwy'n credu bod hwnnw'n syniad da; rwyf i'n croesawu hynny. Rwy'n credu ar y cychwyn efallai y dylem ganolbwyntio ar gynllun peilot ar gyfer hynny, a hoffwn i dynnu sylw'r Prif Weinidog at weithredwyr cyfreithiol siartredig a'r cefndir a'r effaith gadarnhaol y maen nhw'n ei chael ar y gyfraith. Efallai, o ystyried sut mae eu system gymwysterau a chymorth nhw'n gweithio, fe allai fod yn fan da ar gyfer ymgysylltiad cychwynnol ac ystyried sut y gall Llywodraeth Cymru helpu hynny i ddatblygu.

O ran rhai o'r meysydd eraill, Cyngor y Gyfraith, y labordy arloesedd cyfreithiol ym Mhrifysgol Abertawe, pwyllgor cyfiawnder yn y Cabinet, os caf fenthyca ymadrodd gan Lywodraeth Cymru, rwy'n credu bod y rhain yn bethau y byddem ni'n eu cefnogi nhw mewn egwyddor.

Un pwynt pwysig yr wyf yn awyddus i'w wneud—ac fe fydd ymateb y Prif Weinidog o ddiddordeb i mi—ynglŷn â'r adroddiad ar lefel fwy technegol yw ym maes penodi i'r Goruchaf Lys. Rwyf wedi fy siomi gan y dull gweithredu a'r sail dystiolaeth yn yr adroddiad yn hyn o beth oherwydd mae'n rhywbeth y gwnaethom ni ei drafod ychydig wythnosau yn ôl yn y Siambr ac rwy'n cytuno â'r argymhelliad pwysig a wna'r adroddiad fod yn rhaid i'r Goruchaf Lys gael barnwr sydd â'r wybodaeth a'r profiad o ymarfer â chyfraith Cymru, ond hefyd o'r cynllun datganoli i Gymru a Chymru yn rhan ar wahân o'r Deyrnas Unedig. Rwy'n credu bod hynny'n iawn ac rwy'n credu y dylid rhoi hynny ar waith beth bynnag a ddigwyddith o ran argymhellion eraill, ond fe ddywed yr adroddiad eu bod nhw'n argymell rhoi Cymru

mewn sefyllfa debyg i'r Alban a Gogledd Iwerddon yn y Goruchaf Lys o ran penodi barnwyr i'r Goruchaf Lys.

Yn anffodus, nid yw'r hyn y maen nhw'n ei gynnig yn ddigonol i wneud hynny, a'r rheswm, mae arnaf ofn, yw bod y comisiwn cyfiawnder wedi camddisgrifio sut y penodir barnwyr i'r Goruchaf Lys ar hyn o bryd. Ym mharagraff 2.90, maen nhw'n dweud,

Gwneir penodiadau i'r Llys Apêl ac i'r Goruchaf Lys ar sail argymhelliad Comisiynau lle mae Comisiynwyr o'r Comisiwn Penodiadau Barnwrol yn ffurfio'r mwyafrif.

Nawr, mae hynny'n gywir o ran y Llys Apêl, ond nid yw'n gywir o ran y Goruchaf Lys ac nid yw'r cyfeiriad at 'y Comisiwn Penodiadau Barnwrol' yn ddefnyddiol o ystyried y canolbwyntio ar ddatganoli a natur y Goruchaf Lys. I edrych ar ddatganiad y Goruchaf Lys ei hun ar ei wefan am y weithdrefn ar gyfer penodi ynad Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig, mae'n cyfeirio at banel o bump, Llywydd y Goruchaf Lys, ac yna mae hi'n enwebu uwch farnwr o unrhyw le yn y Deyrnas Unedig, ond ni all y barnwr hwnnw fod yn ynad yn y Goruchaf Lys, ac yna, yn ogystal â hynny, ceir aelod o bob un comisiwn penodiadau barnwrol ar gyfer Cymru a Lloegr, y bwrdd penodiadau barnwrol yn yr Alban, a'r comisiynydd penodiadau barnwrol yng Ngogledd Iwerddon. Mae'n rhaid i o leiaf un o'r cynrychiolwyr hynny fod yn lleygwr. Caiff enwebiadau eu gwneud gan gadeirydd y Comisiwn neu'r bwrdd perthnasol.

Felly, mae'r adroddiad yn cydnabod y bydd barnwriaeth ar wahân yn gofyn am ddull annibynnol o benodi barnwrol a cheir cyfeiriad yn nes ymlaen at system benodi, ond rwy'n credu bod angen inni ddeall, yn arbennig felly os ydym am gael cydraddoldeb ym mhenodiadau i'r Goruchaf Lys, y goblygiadau o gael ein comisiwn penodiadau barnwrol ni ein hunain ar wahân, neu rywbeth o leiaf y byddai'r Goruchaf Lys yn cydnabod ei fod yn gyfystyr er mwyn caniatáu inni gael swyddogaeth gyfatebol yr awdurdodaethau eraill. Ac rwy'n credu bod hynny hefyd yn mynd i'r afael â hyn sef, 'a yw hi'n realistig mewn gwirionedd i fod â 10 yn unig o bobl ychwanegol?' Rwy'n gwybod bod y cyn Arglwydd Brif Ustus wedi gwneud adolygiad o gyfiawnder ac wedi llwyddo i wneud hynny gyda 10, ond rwy'n cytuno â'r Prif Weinidog, nid yw hynny'n realistig i Lywodraeth. A tybed a ellid rhoi rhywfaint o ystyriaeth i hyn oherwydd rydym mewn gwirionedd yn haeddu gwell triniaeth yn y Goruchaf Lys na dim ond yr Alban yn cael un o bump, Gogledd Iwerddon yn cael un o bump, ac yna fe geir un arall o'r pump sy'n cynrychioli Cymru a Lloegr. Pe byddem ni'n dilyn y trywydd hwn o wahanu, fe fyddai hwnnw'n mynd yn gomisiwn penodiadau barnwrol ar gyfer Lloegr, ac nid oes unrhyw beth yn yr adroddiad a fyddai'n sicrhau ein bod ni'n cael ein trin yn gyfartal ac yn deg o ran y broses benodi ar gyfer y Goruchaf Lys. Felly, hoffwn i godi hynny gyda chi a gofyn i Lywodraeth Cymru, o leiaf, ymateb, o ystyried y camddehongliad hwnnw.

15:25

Llywydd, rwy'n diolch i'r Aelod am ei ymateb hynod ymroddedig ef i'r adroddiad. Fe ddechreuodd drwy gyfeirio at yr hyn y mae'r adroddiad yn ei weld yn 'ymyl garw' rhwng y cyfrifoldebau yr ydym ni eisoes yn eu hymarfer yma yng Nghymru ac mae gweithrediad effeithiol y system gyfiawnder yn dibynnu arnyn nhw. Er y bydd rhywfaint o ymylon garw  bob amser, lle bynnag y byddwch chi'n tynnu'r llinell, rwyf i o'r farn fod yr adroddiad yn gwneud gwaith llawn argyhoeddiad o ddangos sut y mae'r system gyfredol honno â'r ymylon garw hynny wedi eu gwreiddio'n ddwfn yng nghrombil ei dull o weithredu, a sut y gallwch  ailgynllunio hynny fel eu bod nhw'n mynd yn fwy ymylol i'r ffordd y mae'r system yn gweithredu yn hytrach na bod rhwystrau cyson yng nghanol hynny i gyd. Rwyf i'n cytuno'n llwyr ag ef fod yr adroddiad yn arwyddocaol ymhell y tu hwnt i Gymru. Mae'r toriadau i gymorth cyfreithiol, y toriadau i'r gwasanaeth llys, y ffordd y cafodd y gwasanaeth prawf ei breifateiddio a cholli hyder y llysoedd yn y broses, mae'r rhain i gyd yn bethau sy'n bodoli nid yn unig yng Nghymru ond yn Lloegr hefyd.

Rwy'n diolch i Mark Reckless am yr hyn a awgrymodd ef o ran prentisiaethau, a sut y gellid eu cynllunio nhw. Byddwn yn ystyried hynny'n ofalus. Bob hyn a hyn, Llywydd, wrth ddarllen yr adroddiad, a lyncodd gryn dipyn o'm gwyliau hanner tymor i, roeddwn i'n cael fy hun ar eithafion fy nealltwriaeth dechnegol o ran rhai o'r materion y mae'n ymdrin â nhw. Cyn belled ag y mae'r Goruchaf Lys yn y cwestiwn, yn ôl yr hyn a ddeallais i, mae adroddiad y llys yn awgrymu y dylid penodi Barnwr o Gymru i'r Goruchaf Lys yn ffurfiol, a'r pwyntiau a wnaeth Mark Reckless—ac roeddwn i'n ceisio gwneud yn siŵr fy mod i'n eu dilyn nhw—oedd nid anghytuno â'r canlyniad hwnnw, ond gofyn inni edrych yn ofalus ar yr hyn y dywed yr adroddiad am y dull o gyflwyno hynny. Ac roedd y Cwnsler Cyffredinol yn eistedd yma yn gwrando'n astud ar hynny, a byddwn yn gwneud yn siŵr ein bod yn archwilio'r pwyntiau hynny gyda'r manylder sy'n ddyledus iddyn nhw.

15:30

Prif Weinidog, mae hwn nid yn unig yn adroddiad trawiadol, ond yn banel o arbenigedd hynod drawiadol, o statws byd-eang gwirioneddol, ac fel y byddai rhywun yn ei ddisgwyl gan gyn-Arglwydd Brif Ustus, mae'r adroddiad bron ar ffurf dyfarniad miniog iawn ynglŷn â chyflwr y gyfraith yng Nghymru. Ac mae'r adroddiad, rwy'n credu, o'r fath gymhwysedd ac arbenigedd—cannoedd o dudalennau—fel ei fod wedi cymryd tua 15 munud i'r Weinyddiaeth Gyfiawnder drydar eu bod wedi gwrthod ei ganfyddiadau ond y byddent yn rhoi ystyriaeth bellach iddynt, beth bynnag oedd ystyr hynny. Ac rwy'n credu bod hynny fwy na thebyg yn dweud mwy am gyflwr cyfiawnder yn y DU na dim arall.

Rwy'n ddiolchgar iawn am y ffaith y bydd adroddiad llawn a manwl yn cael ei gyflwyno, ar yr adeg briodol, fel y gallwn ni drafod y pethau hyn yn iawn. Felly, dim ond eisiau gwneud sylwadau wyf i, mewn gwirionedd, ar yr un maes, ac mae'n faes yr wyf wedi'i godi dro ar ôl tro, rwy'n credu, byth ers i mi fod yn y Cynulliad, ac yn fy holl flynyddoedd, mewn gwirionedd—33 mlynedd—yn gweithio fel cyfreithiwr gweithredol, yn gweithio i undebau llafur, yn gweithio i bobl sy'n gweithio. A dyma ni: rydym ni wedi colli, ar hyd y ffordd, y ddealltwriaeth nid yn unig o bwysigrwydd cyfiawnder a rheolaeth cyfraith, ond pwysigrwydd mynediad iddo. Ac roedd hyn yn ddealltwriaeth a gawsom ni yn y Llywodraeth Lafur ar ôl 1945, pan gyflwynwyd Deddf 1949, pan roedd Viscount Simon, pan roedd ef yn cyflwyno'r Ddeddf, yn dweud mai'r hyn yr oeddem yn ei greu oedd gwasanaeth iechyd gwladol ar gyfer y gyfraith, oherwydd yr hyn a ddeallwyd ac a gydnabuwyd yn hanfodol mewn unrhyw gymdeithas oedd nad yw'r gyfraith yn golygu dim oni bai bod pobl gyffredin yn gallu ei defnyddio, a'u bod yn cael eu grymuso i allu defnyddio'r gyfraith honno. Felly, mae amgylchedd lle, i bob pwrpas, yn y 10 mlynedd diwethaf, y bu toriad o 27 y cant bron mewn termau real o ran ariannu materion sy'n ymwneud â chyfiawnder, yn dangos mor bell yr ydym ni wedi colli ein dealltwriaeth o bwysigrwydd cyfiawnder i'r bobl. Ac mae bod yn ddeddfwrfa nawr yn golygu bod gennym ni gyfle i roi'r egwyddorion sylfaenol hynny yn ôl wrth wraidd system deddfwriaeth a chyfiawnder Cymru sy'n datblygu mewn gwirionedd.

Roedd dealltwriaeth eang ynghylch canlyniadau hyn—mynegodd yr Arglwydd Neuberger hyn droeon pan oedd yn Llywydd y Goruchaf Lys, pan ddywedodd:

Fy mhryder i yw cael gwared ar gymorth cyfreithiol i bobl gael cyngor.

Mae hynny nid yn unig yn tanseilio'r holl system gyfreithiol, mae'n arwain at bobl yn dechrau diystyru'r gyfraith a chymryd y gyfraith i'w dwylo eu huanin. Ac yn fwy diweddar, rwy'n credu bod pennaeth comisiwn y Bar yn y bôn yn cyfeirio unwaith eto, ac yn gyson, at y bygythiad enfawr i fynediad at gyfiawnder yn y wlad, ac effaith y toriadau, yn enwedig ar y bobl dlotaf a mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas.

Y rhan y carwn gyfeirio ati ac yr hoffwn eich holi amdani mewn gwirionedd yw'r rhan ym mhennod 3, lle gwneir argymhelliad y dylai'r arian ar gyfer cymorth cyfreithiol, ac ar gyfer y trydydd sector—sy'n darparu cyngor a chymorth—gael ei ddwyn ynghyd yng Nghymru mewn un gronfa. Mae hyn yn rhywbeth yr ydym ni wedi'i drafod dros nifer o flynyddoedd, ac rwy'n gwybod fod gwaith wedi'i wneud ynghylch hyn, a'r ffaith bod symiau enfawr o arian Cymru yn mynd i wahanol agweddau wrth wneud iawn am y diffygion hyn yn y system gyfiawnder, er mwyn sicrhau bod rhai o'r rhai mwyaf agored i niwed yn cael cymorth, boed drwy Cyngor ar Bopeth, boed drwy Cymorth i Fenywod, boed drwy gyfrwng y gwahanol gyrff yn y trydydd sector. A thybed a fyddech yn cytuno â mi bod cyfle nawr i ddechrau'r broses o greu system cymorth cyfreithiol i Gymru, gan adfer hynny i'r craidd, efallai mewn dwy ran, oherwydd, wrth gwrs, mae datganoli cyllid a chyfrifoldebau yn bwysig, ac ni ellir gwneud rhai pethau nes i hynny ddigwydd. Ond mae llawer o weinyddiaeth a biwrocratiaeth y system honno'n bodoli eisoes, a gellid eu dwyn o fewn cwmpas Llywodraeth Cymru pe bai'r cyllid yn dod gyda hynny. Ac, yn amlwg, mae'r cyllid ar gyfer swyddogaethau cymorth cyfreithiol yn rhywbeth na fyddai'n gofyn am feddyliau mawr i'w drosglwyddo mewn gwirionedd, ond byddai'n creu proses dau gam efallai, gan baratoi ar gyfer hynny'n awr, ond dechrau gyda llety hanner ffordd—efallai y system gymorth led-gyfreithiol nawr—tra byddwn yn dwyn hynny ynghyd. Ac rydym ni hefyd yn cydnabod y cyfraniadau pwysig y mae cyrff fel yr undebau llafur yn eu gwneud i ddarparu cyngor cyfreithiol a chefnogaeth gyfreithiol—am flynyddoedd lawer, arianwyr llawer o'r system gyfreithiol ar gyfer pobl gyffredin sy'n gweithio. A beth oedd eu gwobr gan Lywodraethau Torïaidd yn y gorffennol? Yn y bôn, y wobr oedd deddfwriaeth gyson a oedd yn ei gwneud hi'n fwy a mwy anodd i undebau llafur weithredu ac, mewn gwirionedd, i recriwtio aelodau. Felly mae'n amlwg bod ganddyn nhw ran i'w chwarae yn hyn o beth, fel sydd gan lawer o gyrff eraill. Ond rwy'n credu y dylem ni ymrwymo, neu y dylem ni ddechrau trafod ymrwymo, i greu ffordd newydd o allu cael cyngor a chymorth cyfreithiol, ffordd Gymreig gyfansawdd a fyddai'n destun balchder i system gyfiawnder gyfreithiol yng Nghymru.

15:35

Llywydd, a gaf i ddiolch i Mick Antoniw am hynna? Dechreuodd drwy gyfeirio at natur drawiadol y panel. A phan gefais y fraint o helpu i gyflwyno'r adroddiad ar y diwrnod y cafodd ei lansio, cofiaf ddweud fy mod yn credu mai un o'r swyddi allweddol y bu'n rhaid i Weinidogion—ac, yn yr achos hwn, y cyn-Brif Weinidog—ei wneud, wrth gyflawni'r math hwn o waith, yw dewis y bobl briodol i wneud hynny. Ac mae'r rheini'n benderfyniadau anodd yn aml iawn. Ond os edrychwch chi ar y panel oedd yn ffurfio'r comisiwn hwn, roedd y penderfyniadau hynny yn rhai doeth iawn, ac wedi arwain at yr adroddiad sydd gennym ni heddiw.

Gwnaeth Mick Antoniw bwynt pwysig iawn, ac mae yma yn yr adroddiad, bod yr hawl i gael cyfiawnder, yn setliad gwladwriaeth les 1945, yn elfen sylfaenol yn y ffordd yr oedd y rhai a oedd yn creu hawliau newydd i bobl—hawliau cymdeithasol newydd, yn ystyr Marshall, ond hawliau newydd i gyfiawnder hefyd—roedd hyn yn rhan annatod o'r ffordd y credent y byddai hawliau dinasyddiaeth yn y Deyrnas Unedig yn cael eu cyflawni yn y dyfodol. Ac mae'r toriadau a welsom yn y degawd diwethaf, y toriadau hynny i gymorth cyfreithiol ac agweddau eraill ar hawl i gyfiawnder, i'w gweld yn glir yn yr adroddiad hwn. Os nad oeddech eisiau darllen unrhyw baragraffau eraill ynddo, darllenwch yr hyn y mae'r adroddiad hwn yn ei ddweud am ymgyfreithwyr yn bersonol—pobl sy'n cael eu gorfodi i gynrychioli eu hunain yn y llys, oherwydd na allent gael cyngor, oherwydd nad oes neb arall i siarad drostynt, y baich ofnadwy y mae hynny'n ei roi arnyn nhw, a'r ffordd y mae'n arafu holl system y llysoedd, oherwydd bod yn rhaid eu helpu o'r fainc dro ar ôl tro i ddeall yr hyn sy'n digwydd a gwneud y pwyntiau y mae ganddyn nhw hawl i'w gwneud. Mae'n economi mor ffug, onid yw, gan nad yw ond yn taflu costau i rannau eraill o'r system?

Cefais fy synnu yn ystod y drafodaeth, Llywydd, wrth sylweddoli faint yn fwy y mae rhai Aelodau yma'n ei wybod am agweddau ar y system gyfiawnder nag yr wyf fi. Mae syniad Mick Antoniw o system cymorth cyfreithiol i Gymru wrth gwrs yn un y byddwn eisiau edrych arno wrth inni fwrw ymlaen â hyn. Dywed yr adroddiad, yn y drydedd bennod honno, am yr hawl i gael cyfiawnder, fod Llywodraeth Cymru wedi gorfod dargyfeirio arian

i fynd i'r afael â swyddogaethau nad oeddent wedi'u datganoli yn hytrach na defnyddio'r adnoddau ar gyfer swyddogaethau a ddatganolwyd.

Ac yna mae'n dweud

mai hyn oedd y peth iawn i'w wneud.

Ond nid oedd—ni ddylai fod wedi bod y peth angenrheidiol i'w wneud. Ond byddwn nawr yn gallu defnyddio rhywfaint o'r profiad hwnnw, a'r arian yr ydym ni wedi'i ddarparu i fudiadau'r trydydd sector, yn y system newydd honno y mae Mick Antoniw wedi'i hamlinellu y prynhawn yma.

Mi wnaf i ymestyn yr amser ar gyfer y datganiad yma rhyw gymaint, oherwydd pwysigrwydd y datganiad, ond a gaf i ofyn i'r siaradwyr sy'n weddill i fod yn fyr ac yn fachog yn eu cwestiynau? Alun Davies.

Diolch yn fawr iawn, Llywydd. [Chwerthin.] Mae gennych arferiad gwych o wneud y datganiadau hynny cyn imi godi i siarad. [Chwerthin.] Rwyf bob amser yn ddiolchgar iawn am gael fy ngalw, wrth gwrs.

Prif Weinidog, rwy'n ddiolchgar i chi am wneud y datganiad hwn y prynhawn yma. Rwy'n credu, fel Aelodau eraill yma, ein bod ni i gyd yn ddiolchgar iawn i'r Arglwydd Thomas a'i dîm. Roedd rhoi tystiolaeth y llynedd i'r Arglwydd Thomas, ac i'r Comisiynwyr, yn brofiad eithaf brawychus, rhaid imi ddweud, ac roedd maint y craffu a maint y pwyslais ar y materion a oedd yn cael eu trafod yn rhywbeth a oedd yn drawiadol iawn ar y pryd, ac rwy'n credu y gwelir hyn yn yr adroddiad sydd wedi'i gynhyrchu. I mi, mae hwn yn sicr yn adroddiad am y system gyfiawnder, ond mae hefyd yn adroddiad am bobl. Mae'n ymwneud â thegwch, mae'n ymwneud â chyfiawnder cymdeithasol ac mae'n ymwneud â sefydlogrwydd cyfansoddiad y wlad hon.

Roeddwn yn darllen adroddiad Peter Clarke—y prif arolygydd carchardai—ynglŷn â charchar Caerdydd y bore yma, ac mae'r hyn a ddywed yno yn drawiadol iawn: mae rhywbeth fel hanner yr holl bobl a ryddhawyd, yr holl ddynion a ryddhawyd, o garchar Caerdydd yn ddigartref pan gânt eu rhyddhau; mae gan 65 y cant broblemau iechyd meddwl; mae 38 y cant yn gaeth i gyffuriau ac alcohol wrth gyrraedd carchar Caerdydd. Ac mae'r ffigurau hyn yn cael eu gweld fel ffigurau eithaf da, eithaf rhesymol. Dyna yw byrdwn ei adroddiad, a bod hyn yn welliant ar y sefyllfa y buom ni ynddi. Ond yr hyn y mae hynny mewn gwirionedd yn ei ddweud wrthych chi—yr hyn y mae hynny'n ei ddweud wrthych chi mewn gwirionedd yw ein bod wedi arfer â system sy'n siomi pobl Cymru mor enbyd nes ein bod wedi arfer â system sy'n gweithio i bron neb. Ac mae hynny'n annerbyniol—mae'n annerbyniol. Ac nid yw'n dderbyniol dweud chwaith, 'Mae hwn yn adroddiad da iawn, rydym yn mynd i'w ffeilio', ac 'Mae hwn yn adroddiad da iawn, rydym yn mynd i gael seminar efallai neu droi i rywle arall am gyfarwyddyd.' Mae hwn yn adroddiad sy'n gofyn am weithredu, ac mae'n gofyn am weithredu o'r lle hwn.

Rwy'n falch iawn fod y Prif Weinidog wedi ymateb gyda'r brys y mae'r adroddiad hwn yn gofyn amdano y prynhawn yma. Rwy'n croesawu'n fawr yr hyn y mae'r Prif Weinidog wedi'i ddweud am is-bwyllgor Cabinet i fwrw ymlaen â'r materion hyn. Rwy'n gobeithio hefyd y byddwn yn gallu sicrhau ein bod yn gallu symud tuag at greu adran gyfiawnder yn Llywodraeth Cymru. Mae'r Prif Weinidog yn llygad ei le, wrth ateb cwestiwn cynharach, ynglŷn â phwysau niferoedd a'r adnoddau sydd ar gael i gyflawni hynny. Ond mae gwaith i'w wneud eisoes, hyd yn oed heb ddatganoli'r materion hyn, i gydgysylltu'n well ac i reoli systemau a rhyngwynebau gwasanaethau yn y wlad hon. Mae'r adroddiad yn gerydd i bobl sydd wedi llywodraethu'r wlad hon yn y gorffennol, yn gerydd i gyfansoddiad y wlad hon, ac mae'n ceryddu'r holl bobl hynny sy'n dweud, 'Mae'n rhy anodd, felly rwy'n mynd i wrthod ymwneud â hyn.' Gwrthod ymwneud, nid yn unig â'r anhawster sy'n ein hwynebu, ond gwrthod ymwneud ag oblygiadau dynol hefyd.

Ac felly, Prif Weinidog, rwy'n croesawu'n fawr iawn yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud y prynhawn yma, wrth ateb cwestiynau ac yn eich datganiad. Gobeithiaf y byddwn yn gallu cael dadl resymol yn y flwyddyn newydd, fel yr ydych chi wedi awgrymu. Ond, Prif Weinidog, gobeithiaf y gallwch chi hefyd roi sicrwydd i bob un ohonom ni yma y byddwch chi, wrth symud ymlaen, yn gwneud hynny gyda'r brys a'r cyflymder y gwnaethoch chi sôn amdanynt y prynhawn yma, gyda'r ddealltwriaeth o'r materion dynol yr ydych chi wedi eu crybwyll y prynhawn yma, ond hefyd gyda dealltwriaeth glir o sut y bydd hyn yn effeithio ar Gymru ac ar berthynas Cymru â gweddill y Deyrnas Unedig.

Un o'r cwestiynau a ofynnodd yr Arglwydd Thomas imi yn ystod fy nhystiolaeth oedd bod angen cael natur gymesur i ddatganoli. Roeddem yn sôn am Brydain Fawr, yn hytrach na'r Deyrnas Unedig gyfan. Ac rwy'n credu, gyda fy mhrofiad yn y Llywodraeth, bod angen y system gymesur honno o ddatganoli arnom ni. Roedd system anghymesur yn dderbyniol yn 1999, pan roeddem yn sefydlu llywodraeth ddatganoledig yng Nghymru, ond nid yw'n darparu sefydlogrwydd llywodraethu a sefydlogrwydd setliad a fydd yn darparu'r gwasanaethau sydd eu hangen arnom ni a'r math o sefydlogrwydd cyfansoddiadol y bydd ei angen arnom ni yn y dyfodol.

Felly, Prif Weinidog, fel eraill y prynhawn yma, rwy'n ddiolchgar iawn i chi am y datganiad hwn, a gobeithio y gallwch ein sicrhau y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i fwrw ymlaen â hyn, a bwrw ymlaen â hyn ar fyrder.

15:40

Llywydd, hoffwn ddiolch i Alun Davies am hynna. Gadewch imi ymateb i dri neu bedwar pwynt yn gyflym iawn. Mae'n llygad ei le i gyfeirio at oblygiadau dynol y methiannau y mae'r adroddiad yn eu hamlinellu, ac mae'r oblygiadau dynol i'w gweld drwy'r adroddiad. Maen nhw'n amlwg iawn pan fyddwch chi'n eu darllen. Y pwynt a wneuthum yn gynharach y prynhawn yma ynglŷn â derbynioldeb ymddangosiadol dweud wrth dyst, 'mae'n rhaid i chi adael eich tŷ am 7 o'r gloch y bore, efallai nad ydych yn dychwelyd yno tan 7.30 y nos'—mae hynny'n briodol cyn belled ag y mae'r Weinyddiaeth Gyfiawnder yn y cwestiwn. Nid wyf yn credu bod hynny'n rhywbeth y byddech yn ei ddisgwyl i berson agored i niwed, gyda straen achos llys o'i flaen, allu ei wneud heb unrhyw oblygiadau. Felly, rhan ddynol yr adroddiad hwn—diolchaf i Alun Davies am dynnu sylw at hynny.

Nid ydym wedi siarad am adnoddau y prynhawn yma, Llywydd, ond fe'm hatgoffwyd gan Alun, a dylwn fod wedi dweud yn gynharach, y bydd yn rhaid i'r cyllid hwnnw ddilyn y swyddogaeth os yw'r adroddiad hwn i wneud yr hyn yr ydym ni eisiau iddo ei wneud. Ni all yr un Llywodraeth ymgymryd â'r cyfrifoldebau a amlinellir yn yr adroddiad hwn heb gael yr arian sy'n angenrheidiol i'w cyflawni'n briodol.

Mae gennyf ddiddordeb, wrth gwrs, yn y sylw a wnaeth Alun Davies tua'r diwedd am ddatganoli cymesur. Yr hyn yr wyf yn sicr yn credu y mae'r adroddiad yn anelu ato yw datganoli sefydlog. Mae'n anelu at ffordd gydlynol o fynd ati i sicrhau'r cyfrifoldebau hyn, gan eu rhoi at ei gilydd mewn pecyn a fydd yn darparu cydlyniad a sefydlogrwydd. Mae taer angen bwrw ymlaen â hyn. Byddwn yn gwneud hynny o ran yr argymhellion sy'n dod yn uniongyrchol i'n rhan. Ac yna byddwn yn anochel yn dibynnu ar barodrwydd eraill i wneud cynnydd ar hyn gyda'r un ymdeimlad o benderfyniad.

15:45

Prif Weinidog, fel yr ydym ni wedi clywed, mae angen gwella'r system cyfiawnder troseddol yng Nghymru a Lloegr yn fawr. Mae yna gorff o dystiolaeth sy'n sefydlu hynny, ac rwy'n credu bod yr adroddiad awdurdodol hwn yn ychwanegu'n sylweddol ato. Gwyddom y caiff llawer gormod o bobl eu hanfon i'r carchar, fel y gwnaethoch chi grybwyll yn eich datganiad agoriadol, o'u cymharu â'n cymdogion yng ngorllewin Ewrop, er enghraifft, ac mae hynny'n creu gorlenwi, sy'n gwneud adsefydlu'n anodd iawn, yn wir.

Gwyddom fod gan lawer o'r bobl yno broblemau iechyd meddwl, problemau alcohol a chyffuriau, na chânt sylw priodol neu ddigonol. Ac rydym yn gwybod bod llawer o orgyffwrdd rhwng y gwasanaethau y mae Llywodraeth Cymru yn gyfrifol amdanyn nhw o ran y problemau hynny a'r agweddau ar gyfiawnder troseddol nad ydynt wedi'u datganoli. Rydym yn gwybod bod angen i'r cyfan fod yn gydgysylltiedig yn llawer mwy effeithiol, a byddai datganoli yn gwneud y cydgysylltu hwnnw gymaint yn haws. Byddai hefyd yn galluogi, wrth gwrs, gwaith craffu cydgysylltiedig gan y Cynulliad a chyrff allanol.

Felly, credaf fod yr hyn sydd gennym ni ar hyn o bryd yn methu'n foesol ac yn methu'n fawr iawn mewn termau ymarferol. Yr hyn sydd gennym ni o ganlyniad yw mwy o ddioddefwyr troseddau yng Nghymru, yn ein cymunedau, felly mae ein cymunedau yn gyffredinol yn dioddef o fwy o droseddu nag a fyddai'n digwydd fel arall. Ac, wrth gwrs, mae teuluoedd troseddwyr yn dioddef, yn ogystal â'r troseddwyr eu hunain. Mae'n ddarlun llwm iawn, ac mae'n rhaid imi ddweud, digalon, sydd wedi parhau'n rhy hir o lawer.

Felly, rwy'n credu mewn difrif calon fod yr adroddiad hwn bellach, yr adroddiad awdurdodol hwn, yn gyfle i wneud cynnydd ar y materion hyn gyda datganoli tymor canolig a thymor hwy, ond hefyd gyda'r camau tymor byrrach y tynnwyd sylw atynt. Ac rwy'n gobeithio'n fawr iawn, Prif Weinidog, y bydd Llywodraeth Cymru, maes o law, yn gallu amlinellu ei hymateb yn y termau hynny—y mesurau tymor byr y gellir eu cymryd yn ogystal â'r gwelliannau tymor canolig a thymor hwy o ran datganoli. A byddwn yn gobeithio, ac rwy'n gwybod y byddai llawer yma heddiw yn gobeithio, y bydd Llywodraeth Cymru yn gallu amlinellu hynny cyn gynted â phosib yn y modd mwyaf ymarferol.

Rwy'n diolch i John Griffiths am hynna Llywydd. Mae'n adroddiad awdurdodol, yn bendant, ac rwy'n cytuno'n llwyr ag ef. Caiff llawer gormod o bobl eu hanfon i'r carchar yng Nghymru. Rydym ni wedi gweld y ffigurau o Ganolfan Llywodraethiant Cymru, ac mae hynny'n fethiant o ran cael system gydlynol, ond mae hefyd yn fethiant o ran diben yn y system hefyd.

Dywedwyd wrthyf yn ddiweddar, gan rywun a oedd wedi ymweld â charchar i fenywod, lle'r oedd degau o fenywod o Gymru yn y carchar hwnnw, fod mwy na'u hanner yno oherwydd eu bod wedi methu â chadw at yr amodau yr oedd eu swyddog prawf wedi'u gosod arnyn nhw. Nid oedden nhw, hyd y gallwn ddweud, wedi cyflawni trosedd arall; nid oedden nhw, yn syml, wedi cadw at amodau eu goruchwyliaeth. Nawr, pe bawn i wedi llwyddo i gael y maen i'r wal flynyddoedd lawer yn ôl i gael y gwasanaeth prawf i ddwylo'r Cynulliad Cenedlaethol hwn, ni allaf ddychmygu am eiliad y byddem wedi ystyried canlyniad lle câi menywod eu gwahanu o'u teuluoedd, gyda'r holl ddifrod yr ydym yn gwybod a ddoi yn sgil hynny, am beidio â chyflawni trosedd, ond am ddim ond peidio â chadw at y rheolau y mae'n rhaid i'r gwasanaeth prawf weithredu yn unol â nhw ar hyn o bryd.

Felly, byddai, byddai gennym ni system fwy cydgysylltiedig yn ymarferol, ond byddai gennym ni ymdeimlad gwahanol o ddiben ar gyfer y system hefyd, a byddem yn gallu gwneud hynny'n rhan o ddiben y system drwyddi draw fel bod pob agwedd ar y system yn gweithredu fel yr hoffem ei gweld yn gweithredu, ac mae'r adroddiad yn rhoi'r cyfle hwnnw inni.

15:50

Diolch, Llywydd. Mae'r adroddiad yn cyfeirio at nifer o faterion. Clywsom gyfeiriad at gamddefnyddio sylweddau, digartrefedd, efallai addysg ac iechyd hefyd, sy'n ymwneud â gwasanaethau datganoledig. Rydych chi hefyd wedi cyfeirio at nifer o faterion sydd heb eu datganoli, megis gwasanaethau prawf, ond rydym yn gwybod eu bod yn cael eu hailintegreiddio gyda'r system carchardai, ac mae cynigion Llywodraeth y DU yn cydnabod y ffactor datganoli wrth gynllunio systemau newydd. Gwyddom eisoes fod Llywodraeth y DU wedi cytuno â Llywodraeth Cymru nad oes arnom ni angen rhagor o garchardai i fenywod, mae arnom ni angen canolfannau cymunedol. Wrth gwrs, rydym ni i gyd yn cefnogi o leiaf un o'r rheini yng Nghymru. Rydym ni eisoes yn gwybod bod Llywodraeth y DU yn symud tuag at isafswm dedfrydau hirach, gan gydnabod bod dedfrydau byr yn niweidio adsefydlu ac yn aml yn gwneud pobl yn droseddwyr a fyddai fel arall yn gallu dod o hyd i ffordd fwy annibynnol a hapus o fyw.

Fy mhryder, felly, yw bod yr adroddiad fel pe bai'n canolbwyntio i raddau helaeth, neu i raddau sylweddol, ar bolisïau Llywodraethau yma ac acw, sy'n mynd a dod—mae llywodraethau'n dod i ben—mae polisïau'n mynd a dod, yn hytrach na chanolbwyntio, unwaith ac am byth, yn barhaol, ar ba un a fyddai'r egwyddor gyfansoddiadol o ddatganoli cyfiawnder troseddol yn creu system decach, fwy cyfiawn i bawb, er gwaetha'r ffaith y bydd Llywodraethau a pholisïau'n newid dros amser. Mae'n agwedd wahanol a mwy gwleidyddol. Tybed a fyddech chi felly'n gwneud sylwadau ynghylch yr angen i ganolbwyntio ar y mater cyfansoddiadol hwnnw yn barhaol, yn hytrach nag ein barn nawr ac yn y dyfodol am bolisïau'r Llywodraeth neu bleidiau'r Llywodraeth.

Efallai mai'r broblem amlwg sydd wedi’i hanwybyddu, unwaith eto, i mi yw natur drawsffiniol troseddu a chyfiawnder yng Nghymru. Felly y bu hi erioed. Nid yw'n ddim byd newydd—nid yw'n fygythiad i genedligrwydd, da na drwg, mae'n wir bod y rhan fwyaf o droseddau yng Nghymru yn symud rhwng y gorllewin a'r dwyrain a bod mesur troseddu, ynghyd â chymorth ac ymyrryd, wastad wedi cael eu datblygu ar y sail honno. Sut, felly, ydych chi'n ymateb i'r ffaith na allaf ond canfod un cyfeiriad yn yr adroddiad at unrhyw droseddu trawsffiniol, yng nghyd-destun llinellau cyffuriau, ar hyd coridor yr M4 a Gogledd Cymru? A'r ateb y mae'n ei gynnig yw cydweithio rhwng y pedwar heddlu yng Nghymru mewn cydweithrediad ag asiantaethau eraill, ond does dim cyfeiriad at bartneriaid yn gyffredinol. Felly, sut, eto, ydych chi'n ymateb i'r realiti bod Heddlu Gogledd Cymru yn dweud y buont yn cydweithio mwy gyda lluoedd Glannau Mersi a swydd Gaer ynghylch arfau, cudd-wybodaeth, gwarchodaeth, eiddo, gwaith fforensig, a'u bod hyd yn oed yn rhannu eu huned troseddau cyfundrefnol rhanbarthol gyda lluoedd cyfagos, sydd wedi'i leoli yn Warrington? Felly, sut mae cysoni'r realiti hwnnw, nad oes ganddo ddim i'w wneud â chenedligrwydd na hunaniaeth genedlaethol, dim ond demograffeg, daearyddiaeth a hanes, fod gennym ni'r symud hwnnw rhwng y dwyrain a'r gorllewin?

Ac mae fy nghwestiwn olaf yn ymateb i rywbeth y soniasoch amdano'n gynharach ynglŷn â system yr Unol Daleithiau, ac, os yw'n gweithio yno'n effeithiol, pam na allai weithio yma. Wrth gwrs, mae gan yr Unol Daleithiau rwydwaith integredig o systemau cyfiawnder troseddol ar lefel ffederal a gwladwriaethol. Mae'r Llywodraeth ffederal yn Washington a'r llywodraethau gwladwriaethau unigol yn goruchwylio gwahanol agweddau ar gyfiawnder troseddol ac, yn y cyd-destun hwnnw, os ydym i esblygu i fod yn system fwy effeithiol sy'n cydnabod natur fwy ffederal y DU, a'r ffederaleiddio parhaus, onid oes angen inni hefyd edrych ar system mwy rhwydweithiedig, gan gydnabod bod angen ymyrryd ar sawl haen, yn hytrach na dim ond ceisio tynnu llinellau rhwng systemau yn ôl lle mae'r ffiniau cenedlaethol?

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Dirprwy Lywydd, a gaf i groesawu'r hyn a ddywedodd Mark Isherwood ar y dechrau am gefnogaeth ei blaid i'r ymagwedd at garcharu menywod y mae'r Llywodraeth hon wedi ei mabwysiadu ac wedi gweithio gyda rhai o'i gydweithwyr yn Llundain arni hefyd? Fe wnaethom ni groesawu polisi David Gauke, pan oedd yn Ysgrifennydd Gwladol yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder, o ddiddymu dedfrydau byr o garchar. Ofnaf, Dirprwy Lywydd, yn y ffordd y dywedodd Mark Isherwood fod polisïau'n mynd a dod, ei bod yn bosib bod y polisi hwn wedi'i gyflwyno, ac efallai ei fod eisoes yn cael ei ddiddymu, gan aelod nesaf y Weinyddiaeth Gyfiawnder.

Holodd Mark Isherwood fi am y ddadl gyfansoddiadol, ac rwy'n credu, i mi, mae wedi bod yn gymharol syml erioed, mewn gwirionedd: dim ond pobl yng Nghymru ddylai wneud penderfyniadau sy'n effeithio yn unig ar bobl yng Nghymru. O gofio bod y penderfyniadau hyn yr ydym ni'n sôn amdanyn nhw yn effeithio ar bobl yng Nghymru, mae datganoli'r gwasanaethau hynny i'w penderfynu arnynt gan bobl sydd wedi'u hethol i'r Cynulliad Cenedlaethol hwn yn ymddangos i mi yn gwbl gyson â'r egwyddor gyfansoddiadol sylfaenol honno.

Nid wyf fi fy hun yn credu bod y mater trawsffiniol yn gymaint o faen tramgwydd ag y mae rhai Aelodau yma'n ceisio'i awgrymu. Hyd yn oed mewn gwasanaeth sydd wedi'i ddatganoli'n llwyr fel y gwasanaeth iechyd, mae gennym ni uned losgiadau yn Ysbyty Singleton sy'n adnodd rhanbarthol sy'n gwasanaethu De-orllewin Lloegr hefyd. Mae'n gwbl bosib, hyd yn oed pan fydd materion wedi'u datganoli, i gael cydweithio priodol ac i weithio gydag eraill er mwyn ymgyrraedd at uchelgeisiau cyffredin, ac rwy'n siŵr y byddem yn gallu gwneud hynny. Mae'r adroddiad mewn gwirionedd yn ymdrin â materion trawsffiniol yn fwy helaeth o lawer, yn fy marn i, na dim ond dal sylw ar linellau cyffuriau. Mae'n ymdrin â'r holl agwedd o benodi ynadon, sut mae cyfreithwyr yn cymhwyso ar sail Cymru a Lloegr; mae'n mynd i'r afael â materion trawsffiniol yn rheolaidd.

Ond, yn yr ysbryd adeiladol y cynhaliwyd y drafodaeth hon, terfynaf drwy ddiolch i Mark Isherwood am y sylwadau a wnaeth ar y diwedd ynghylch y modd y byddai gwahanol drefnau cyfansoddiadol o fewn y Deyrnas Unedig yn ei gwneud hi'n ofynnol inni edrych yn wahanol ar sut y cai rhai o'r materion trawsffiniol hyn eu datrys, ac yn edrych ymlaen at weithio gydag Aelodau ym mhob rhan o'r Siambr er mwyn gwneud y gorau y gallwn ni o'r adroddiad pwysig hwn.

15:55
4. Datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol: Cefnogi Awdurdodau Tai Lleol i sicrhau opsiynau tai tymor hir yn y Sector Rhentu Preifat

Eitem 4 ar yr agenda yw datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, ar gefnogi awdurdodau tai lleol i sicrhau opsiynau tai tymor hir yn y sector rhentu preifat, a galwaf ar y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James.

Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'r datganiad hwn yn rhoi manylion am gynllun arbrofol newydd sydd â'r nod o gynyddu'r stoc tai sydd ar gael i awdurdodau lleol o ran cyflawni eu dyletswyddau tai, ac, yn fwy arbennig, eu dyletswyddau ynghlwm wrth Ran 2 Deddf Tai (Cymru) 2014. Mae'r broses o gyflawni'r dyletswyddau hyn gan awdurdodau lleol wedi gwneud llawer i atal unigolion a theuluoedd rhag bod yn ddigartref. Fodd bynnag, mae llawer gormod o bobl na lwyddir i'w cadw rhag digartrefedd. Mae'r arbrawf hwn yn cynnig defnyddio'r sector rhentu preifat i gynyddu'r stoc sydd ar gael i awdurdodau lleol wrth gyflawni eu dyletswyddau Rhan 2 drwy gynnig tai o ansawdd da am renti fforddiadwy i denantiaid, gyda chymorth priodol. Rydym yn rhoi'r cynllun ar brawf mewn nifer fach o awdurdodau lleol er mwyn profi'r cysyniad a darparu'r sylfaen dystiolaeth angenrheidiol er mwyn datblygu model i'w gyflwyno ledled Cymru.  

Mae 'Ffyniant i Bawb' yn pwysleisio swyddogaeth cartrefi o ansawdd da ym mhob agwedd ar fywyd unigolyn a phwysigrwydd tai diogel, fforddiadwy fel sail ar gyfer byw bywyd gwell ac iachach. Gall ansicrwydd deiliadaeth neu dai o ansawdd gwael, wrth gwrs, achosi neu waethygu pryder ac afiechyd, a chyfyngu ar allu rhentwyr i ymwneud â'u cymuned neu ar allu eu plant i ymgynefino mewn addysg.

Mae atal a datrys digartrefedd o bob math yn flaenoriaeth allweddol i'r Llywodraeth hon. Mae'r sefyllfa o ran nifer yr aelwydydd sydd mewn perygl, neu deuluoedd eisoes yn ddigartref, yng Nghymru wedi gwaethygu oherwydd cynni a thoriadau i fudd-daliadau. Mae'r Llywodraeth hon wedi ymrwymo i adeiladu cartrefi cymdeithasol ar raddfa fawr ac yn gyflym, ond rydym ni hefyd yn derbyn nad yw cartrefi'n cael eu hadeiladu mewn diwrnod. Rydym ni'n edrych ar ddulliau ychwanegol, arloesol o gynyddu'r stoc tai, a gallai model fel hyn wneud gwahaniaeth sylweddol a phwysig i Gymru.

Yn gynyddol, mae awdurdodau lleol yn disgwyl i'r sector rhentu preifat ddod o hyd i gartrefi ar gyfer y teuluoedd a'r unigolion maen nhw'n eu cefnogi. Fodd bynnag, yn gynyddol, mae ystod lawer ehangach o bobl nag oedd yn y gorffennol yn dewis rhentu yn y sector preifat yn gynyddol. Mae'r dyddiau pan oedd rhentu yn rhywbeth i fyfyrwyr a gweithwyr proffesiynol ifanc cyn iddyn nhw 'fwrw gwreiddiau' wedi hen ddiflannu. Heddiw, mewn rhai ardaloedd, mae'r farchnad ar gyfer eiddo rhent yn gystadleuol iawn. Gall landlordiaid ddewis i bwy y maen nhw'n rhentu ac, o ganlyniad, maen nhw wedi gwthio rhai o'n haelwydydd mwyaf agored i niwed allan o'r farchnad honno.

Mae llawer o awdurdodau lleol yn gweithio'n galed i ddarganfod landlordiaid sy'n fodlon derbyn teuluoedd ar fudd-daliadau ac i dderbyn y rhenti isel a gynigir gan fudd-daliadau. Mae'r gwaith caled hwn yn glodwiw, ond yn aml nid yw ond yn arwain at ateb tymor byr. Gyda dim ond chwe mis o sicrwydd a phrin ddim cymorth, gwyddom fod y tenantiaethau hyn yn aml yn chwalu a bod y teulu yn mynd yn ôl i'r cylch dieflig.

I'r rheini sy'n cael trafferth ariannol, mae'r gwahaniaeth rhwng cyfraddau'r lwfans tai lleol a rhenti'r farchnad yn cyfyngu ar eu gallu i rentu yn y sector preifat. Caiff y broblem hon ei dwysáu gan rywfaint o'r dystiolaeth anecdotaidd sy'n awgrymu bod landlordiaid preifat yn llai tebygol o rentu i'r rhai sy'n cael budd-daliadau. Mae gwerthuso a buddsoddi mewn cynllun arbrofol sy'n canolbwyntio ar ei gwneud hi'n haws i grwpiau o'r fath gael cartref sicr o ansawdd yn fenter deilwng ac yn werth ei gwneud.

Gan weithio ar y cyd â rhanddeiliaid presennol, rydym ni wedi datblygu model a fydd, yn ein barn ni, yn rhoi adnodd ychwanegol sylweddol i awdurdodau lleol i helpu atal a lliniaru digartrefedd. Mae dod o hyd i gynnig sydd hefyd yn gweithio i landlordiaid wedi bod yn rhan bwysig o ddatblygu'r model hwn. Mae hwn yn gynllun lle bydd pawb yn elwa, gan gynnig bargen dda i'r rhai sy'n chwilio am gartref sefydlog o ansawdd da, a bargen dda i landlordiaid sydd eisiau sefydlogrwydd incwm rhent hirdymor heb y cyfrifoldeb beunyddiol o fod yn landlord.

Yn gyfnewid am ymrwymiad gan landlordiaid sector preifat i brydlesu eu heiddo i awdurdod lleol am gyfnod o hyd at bum mlynedd, bydd y perchnogion eiddo hynny yn cael gwarant o rent, bob mis, am gyfnod y brydles, a dealltwriaeth, gan dderbyn y bydd rhywfaint o draul resymol ar ddiwedd y pum mlynedd, y cânt eu heiddo yn ôl yn yr un cyflwr ag yr oedd pan gafodd ei brydlesu. Hefyd, bydd perchnogion eiddo yn gymwys i gael grant a benthyciad di-log i ddod â'u heiddo i safon ofynnol, os nad yw eu heiddo yn bodloni'r gofynion sylfaenol ar gyfer y cynllun arbrofol. Bydd landlordiaid sector preifat sydd â diddordeb yn cael rhent ar y cyfraddau lwfans tai lleol perthnasol—mae hynny'n eithaf anodd ei ddweud—gyda swm wedi ei dynnu sy'n cyfateb i ffi rheoli gystadleuol.

Bydd safon ofynnol eiddo a dderbynnir ar y cynllun arbrofol yn gysylltiedig â safonau Safon Ansawdd Tai Cymru ac, fel y dywedais, bydd elfen o grant a benthyciad i sicrhau bod unrhyw eiddo sy'n rhan o'r arbrawf hwn o safon uchel. Mae'r teuluoedd yr ydym yn ceisio eu cartrefu yma yn haeddu cartrefi a dewis o ansawdd uchel gymaint ag unrhyw deulu arall, ond bydd y cymhellion y byddwn yn eu darparu hefyd yn helpu i wella safonau'r sector rhentu preifat yn fwy cyffredinol yng Nghymru.

Bydd tenantiaid sy'n byw yn yr eiddo, ar yr amod eu bod yn anrhydeddu telerau eu contract, yn cael sicrwydd o hyd at bum mlynedd o lety yn y sector rhentu preifat ar gyfraddau'r lwfans tai lleol. Yn bwysig, i'r tenant a'r landlord, bydd y teuluoedd sy'n ymgartrefu yn yr eiddo yn cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i'w helpu i ffynnu yn eu cartrefi newydd.

Fel y dywedais, mae hwn yn gynllun lle mae pawb yn elwa; mae'n gweithio i landlordiaid ac awdurdodau lleol gymaint ag y mae'n gweithio i denantiaid. Bydd tenantiaid yn gallu rhentu tai sector preifat o ansawdd da a fforddiadwy, gyda'r math o gymorth na allent fel arfer ond ei gael mewn tai cymdeithasol. Gall landlordiaid fod yn ffyddiog y byddant yn cael rhent rheolaidd bob mis a bod rhywun yn gofalu am eu heiddo ac nad oes angen iddyn nhw boeni am lawer o'r cyfrifoldebau beunyddiol sy'n ymwneud â bod yn landlord gan y cânt eu cyflawni gan yr awdurdod lleol fel yr asiant rheoli. Bydd awdurdodau lleol yn elwa ar gael adnodd ychwanegol i'w helpu i gyflawni eu hamcanion ar gyfer atal a lleihau digartrefedd.

Rydym ni i gyd yn ymwybodol bod tenantiaid hirdymor sy'n cael cefnogaeth, sy'n hapus a sefydlog yn helpu i adeiladu cymunedau mwy integredig. Bydd cryn gefnogaeth ar gael i denantiaid a gartrefir drwy'r arbrawf hwn, os bydd ei angen arnynt, a rhan hanfodol o'r arbrawf fydd hyrwyddo annibyniaeth a'r sgiliau bywyd sydd eu hangen i leihau'r baich ar y cyflenwad o dai cymdeithasol.

Mae awdurdodau lleol mewn sefyllfa ddelfrydol i arwain y fenter hon. Mae gan eu timau yn y sector rhentu preifat eisoes gysylltiad â nifer o landlordiaid sector preifat a allai fod â diddordeb mewn prydlesu eu heiddo drwy fodel o'r fath ac maen nhw eisoes yn adnabod ac yn gweithio gyda'r teuluoedd sydd angen y cartrefi hyn.

Byddwn nawr yn gwahodd awdurdodau lleol i gyflwyno datganiadau o ddiddordeb o ran cynnal yr arbrawf. Byddwn yn penodi tri awdurdod lleol i weithredu'r cynllun arbrofol, a dewisir y rhain ar sail cyfres o fesurau ansoddol a meintiol. Byddaf yn rhoi rhagor o fanylion am yr ardaloedd llwyddiannus maes o law.

Y nod yw i'r arbrawf hwn ddarparu model y gellid ei gyflwyno mewn mannau eraill fydd yn arwain at gynllun cenedlaethol a fydd yn darparu llawer mwy o dai fforddiadwy, o ansawdd gwell, gyda mwy o sicrwydd o ran llety ledled Cymru. Diolch.

16:00

Rwy'n falch o roi croeso cyffredinol i'r cynllun arbrofol hwn yng Nghymru, ac edrychaf ymlaen at gael yr adroddiadau parhaus ar ei dderbyniad gan y sector. Yn amlwg mae gennyf rai cwestiynau ynghylch sut y bydd yn gweithredu, ac rwyf wedi bod yn trafod gyda'r sector.

Sylwaf fod gan y Gymdeithas Landlordiaid Preswyl rai amheuon, yn enwedig ynghylch yr hyblygrwydd a fydd ar gael i landlordiaid os bydd y cynllun yn parhau, dyweder, am bum mlynedd. Ydych chi'n meddwl am o leiaf dwy hyd at bum mlynedd, neu pa fath o ystod? A hefyd, a ddylid cael rhyw fath o derfyniad rhesymol yn y contract hwnnw o dan amgylchiadau eithriadol neu pe bai'r landlord yn gorfod gwerthu eiddo? Felly, rwy'n credu bod angen i ni fod yn eithaf clir ynglŷn â natur y rhwymedigaeth. Yn amlwg, mae clymu pobl wrth wariant ar lefel awdurdod lleol yn bwysig. Ac am y sefydlogrwydd hwnnw, maen nhw wedyn yn cael tair, pedair, pum mlynedd o rent gwarantedig. Felly, mae'n ffactor gwirioneddol. Ond hefyd, mae hyn yn ôl pob tebyg yn llai na chyfradd y farchnad mewn sawl achos. Felly, rwy'n credu bod angen i ni fod yn ymwybodol o gydbwysedd y contract, ond rwyf yn derbyn ei bod yn fargen briodol i'w tharo, ac y gall weithio, fel y dywedwch, i'r ddwy ochr a bod y ddwy ochr ar eu hennill.

Credaf yr arbrofwyd gyda chynlluniau tebyg mewn awdurdodau lleol yn Lloegr, felly tybiaf y gallech chi edrych ar rai arferion gorau yno, ond yn amlwg mae'r mathau hyn o gynlluniau wedi cael eu profi i ryw raddau beth bynnag, ac er fy mod yn derbyn bod arbrofi mewn tair ardal awdurdod lleol yn ffordd ymlaen, rwy'n gobeithio y bydd y cyfnod arbrofi yn un eithaf sionc, fel y gallwn brofi'r cysyniad ac yna dyfnhau'r bartneriaeth rhwng y sector preswyl preifat a llywodraeth leol. Credaf fod angen i'r gwaith cydweithredol hwnnw fod yn fwy trylwyr ac rydym ni wedi'ch annog ar sawl achlysur i gofio'r adnoddau sydd gennym ni yn y sector preifat. Mae'n sector llawer mwy ac, fel y gwnaethoch chi ddweud, mae bellach yn apelio at ystod eithaf eang o bobl. Felly, rwy'n credu, yn hytrach na'i weld fel cystadleuydd, mae angen i ni fanteisio ar yr adnoddau hynny a gweld ble mae modd eu defnyddio.

Credaf hefyd fod angen annog awdurdodau lleol i wneud hyn, a sicrhau eu bod yn cael y math o sgyrsiau polisi ynglŷn â phethau fel digartrefedd a thai gwag, er enghraifft, a'r swyddogaeth y gallai'r sector rhentu preifat ei chynnig, ac yna eu hatgoffa y gall grwpiau sy'n agored i niwed, fel cyn-droseddwyr, pobl sy'n gadael gofal, ac aelwydydd incwm isel, fod yn denantiaid sefydlog iawn, gyda—a chredaf fod yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud yn hanfodol —y systemau cymorth a fydd yn rhan o'r cynlluniau hyn. Yna, mae yna gynnig gwirioneddol yn y fan yna. Sylwais, er enghraifft, ym Mryste, fod ganddyn nhw gynllun bond i dawelu ofnau landlordiaid—a landlordesau, mae'n debyg—ac mae hynny'n gysylltiedig ag arolygu a bod eiddo mewn cyflwr priodol, ond mae hynny'n rhoi rhywfaint o sicrwydd hefyd, rwy'n siŵr, i landlordiaid a landlordesau.

Ond yn gyffredinol, rwy'n gobeithio bod hyn yn fan cychwyn i bartneriaeth wirioneddol dda, weithgar, arloesol a mentrus rhwng Cymdeithas y Landlordiaid Preswyl a Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol, gan fod y problemau cymdeithasol hyn yn destun pryder i bob un ohonom ni, ac rwy'n meddwl bod gan y sector preifat ran i'w chwarae lle bo'n briodol, a lle mae wedi'i rwymo i amodau rhesymol a thrylwyredd dyladwy. Felly, yn fras, rwy'n croesawu hyn ac yn edrych ymlaen at yr adroddiadau ar y tri chynllun ac rwy'n gobeithio y byddant yn symud yn eu blaenau yn gyflym.

16:05

Diolch. Yn ôl yr arfer, David, rydym ni'n cytuno ynghylch llawer mwy na'r hyn yr ydym ni'n anghytuno yn ei  gylch. Felly, rwy'n cytuno'n llwyr â chi fod angen inni gael gwell berthynas â'r sector rhentu preifat. Bydd a wnelo rhan o hynny wrth gwrs â dod â'n Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 newydd i rym, sy'n rhoi mwy o sicrwydd deiliadaeth i bobl beth bynnag, dim ond yn y sector rhentu preifat arferol. Ond mae hwn yn gynllun cwbl wahanol sy'n caniatáu i'r awdurdodau lleol gyflawni eu dyletswyddau tai o dan Ran 3 o'r Ddeddf Tai mewn ffordd fwy effeithiol gan ddefnyddio'r sector rhentu preifat, felly dyna'r peth cyntaf i'w wneud yn hollol glir.

Os yw landlord eisiau gadael y cynllun, yn amlwg bydd yn gallu gwneud hynny, mae'n eiddo iddo wedi'r cyfan, ond mae sawl dewis ar gael yn hynny o beth. Yn gyntaf oll, os oes unrhyw drefniant grant neu fenthyciad wedi bod er mwyn dod â'r eiddo i safon, caiff hynny ei ad-dalu ar yr adeg honno, yn gymesur â faint o amser y maen nhw wedi cael ei dŷ yn y cynllun. Hefyd wrth gwrs, mater i'r awdurdod lleol fydd prynu'r tŷ pe bai'r landlord yn ei werthu, ac rwy'n gobeithio drwy hynny y byddem mewn gwirionedd yn troi'r tai yn dai cymdeithasol, i bob diben. Felly, rydym ni eisiau cael y tair ardal brawf i weld pa fath o drosiant yn y system a allai fod.  

Mae gennyf ddiddordeb mewn cynlluniau arloesol eraill hefyd, nad wyf yn eu cyhoeddi heddiw, ond y mae gennym ni ddiddordeb mawr mewn: canfod, er enghraifft, buddsoddwyr a allai fod yn awyddus i adeiladu ar gyfer y sector hwn mewn gwirionedd—adeiladu ar gyfer y sector hwn yn benodol. Ac er na fyddent yn landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, byddent yn gallu trosglwyddo eu heiddo am gyfnod hir o amser i'r math hwn o drefniant rheoli tai. Felly, rwy'n awyddus iawn ein bod yn edrych ar hynny.

Gyda'm cydweithiwr Lee Waters rydym ni wedi bod yn edrych ar eiddo gwag ledled Cymru a'r hyn y gallwn ei wneud i gymell perchnogion i ddod â'r tai gwag hynny yn ôl i ddefnydd buddiol, a chynllun arall yw hwn i wneud yr union beth hwnnw. Felly, os oes gennych chi eiddo yng Nghymru ac nad oes gennych y modd i'w addasu fel y gellir byw ynddo, bydd hon yn ffordd o wneud hynny, ac yn gyfnewid rydych chi'n caniatáu i'r awdurdod lleol ei gael am bum mlynedd, byddent yn ei roi ar rent, a bydd yn cael ei ddychwelyd ichi mewn cyflwr llawer gwell nag y byddech, mae'n debyg—fel arfer—wedi'i etifeddu.

Mae yn golygu y gallwn ni roi gwarantau i'r landlord a fydd yn ei helpu i ddeall dibynadwyedd grwpiau mwy agored i niwed, oherwydd mae llawer o straeon ar gerdded am natur annibynadwy pobl ar fudd-daliadau, ac yn y blaen. A beth mae hyn yn ei wneud, mewn ffordd debyg, yn rhyfedd, i'r hyn a wnaeth y cynllun Twf Swyddi Cymru i bobl ifanc, yw y bydd yn dangos i bobl nad yw'r hyn a gredant yn wir a bod pobl, mewn gwirionedd, yn ddibynadwy iawn. Mae llawer o bobl yn cael budd-daliadau pan fyddant mewn gwaith llawn amser, ac ati. Felly, rwyf yn credu y bydd yn profi'r cysyniad hwnnw hefyd.

Ni fydd angen cynllun bond oherwydd, mewn gwirionedd, wrth gwrs, yr awdurdod lleol yw'r asiantau rheoli, ac felly diogelir y landlord drwy'r awdurdod lleol. Mae gennym gynlluniau bond, er mwyn caniatáu i bobl rhentu yn y sector preifat lle na fyddai'r arian ganddynt fel arall, ond nid yw hynny'n rhan o'r cynllun hwn, oherwydd yr awdurdod lleol fydd yn gyfrifol am y tŷ. Byddwn yn hapus iawn i roi'r newyddion diweddaraf ichi rheolaidd. Rwy'n gobeithio'n fawr y gallwn wneud y cyfnod prawf hwn yn gyflym iawn. Caf ar ddeall y bydd landlordiaid ac awdurdodau lleol yn eiddgar iawn i gymryd rhan. 

16:10

Bu hi wastad yn wir fod y sector preifat yn ddrutach i'r trethdalwr na thai cymdeithasol, hyd yn oed ar ôl toriadau budd-dal, ac mae'n wir o hyd bod arnom ni angen mwy o dai cymdeithasol yn y tymor hir ac y bydd hyn yn rhatach. Fodd bynnag, mae eich datganiad yn cydnabod bod taliadau nawdd cymdeithasol eu hunain yn cyfyngu ar y dewis sydd gan bobl yn y sector rhentu preifat felly, i mi, nid yw'n glir a fydd y cynllun hwn yn cyflwyno mwy o gymhorthdal i bontio'r bwlch hwnnw, neu a ydych chi fel Gweinidog yn gobeithio y bydd landlordiaid yn derbyn rhent is yn gyfnewid am bum mlynedd o daliadau sicr. Felly a wnewch chi egluro a yw cymhorthdal ychwanegol yn cael ei gyflwyno yma i helpu galluogi pobl ar fudd-daliadau i gael tai rhent preifat drutach nag a fyddai'n digwydd fel arall?

Yr ail gwestiwn sydd gennyf yw: un o'r problemau eraill yn y sector rhentu preifat yw ansicrwydd deiliadaeth, ac mae'r cynllun hwn yn synhwyrol yn ceisio osgoi hyn drwy ddarparu prydlesau pum mlynedd. A wnewch chi gadarnhau na fydd landlordiaid yn gallu gadael y cynllun hwn er mwyn gallu gwerthu'n gyflym unwaith y byddant wedi prydlesu?

Ac yna, yn olaf, yn y pen draw, a wnewch chi hefyd ystyried caniatáu i awdurdodau lleol brynu'r tai y gallent eu caffael drwy'r cynllun hwn, oherwydd, yn y tymor hir, mae angen mwy o stoc dai? Rydym ni wedi colli llawer o stoc tai o ganlyniad i'r rhaglen hawl i brynu, ac mae angen i ni osgoi cynlluniau fel hyn yn dod yn ffordd arall eto i'r sector rhentu preifat gael cymhorthdal cyhoeddus. Diolch.

Ydw, unwaith eto, rwy'n cytuno i raddau helaeth â hanfod eich cwestiynau. Felly, er mwyn bod yn gwbl glir, yr hyn yr ydym ni'n gofyn iddyn nhw ei wneud yw derbyn y lwfans tai lleol fel rhent yn gyfnewid am warant o'r rhent hwnnw heb unrhyw gyfnodau gwag neu unrhyw anfantais arall am gyfnod o bum mlynedd. Gwyddom o sgyrsiau gyda'r Gymdeithas Landlordiaid Preswyl a landlordiaid eraill drwy Rhentu Doeth Cymru fod hynny'n gynnig y bydd llawer ohonynt eisiau ei dderbyn. Felly, dim ond i fod yn glir, nid ydym yn sybsideiddio rhent uwch; yr hyn yr ydym yn ei wneud yw ei warantu dros gyfnod o bum mlynedd. Fel y dywedais, rydym yn gobeithio y bydd yn cynyddu'r safon yn y sector rhentu preifat hefyd, oherwydd bydd yn rhaid i bobl sicrhau bod eu heiddo'n cyrraedd y safon angenrheidiol er mwyn gallu ei rentu yn y modd hwn ac, yn gyfnewid, unwaith eto, maent yn cael y warant pum mlynedd.

Mae sicrwydd deiliadaeth yn broblem. Felly, bydd tenantiaid yn cael sicrwydd deiliadaeth. Bydd yn rhaid i'r awdurdod lleol eu hail-gartrefu pe bai'n rhaid iddyn nhw, am ba reswm bynnag, adael yr eiddo. Felly byddai disgwyl iddyn nhw roi cynllun yn ei le i wneud hynny. Ond byddwn yn disgwyl, pe bai'n rhaid iddyn nhw adael oherwydd gwerthu, y byddai'r awdurdod lleol yn ystyried o ddifrif prynu'r eiddo a'i gyflwyno i'r sector rhentu cymdeithasol. Efallai fod rhesymau eraill, megis y landlord eisiau'r eiddo iddo'i hun, er enghraifft, ac os felly, byddai'r dyletswyddau digartrefedd yn dod i rym a byddai'r holl ddarpariaethau rhoi rhybudd yn dod i rym a byddai'n rhaid ailgartrefu'r teulu mewn eiddo deiliadaeth sicr.

Felly, rwy'n credu ei fod yn sefyllfa lle mae pawb yn elwa, mewn gwirionedd, i fod yn onest. Mae'n dod ag eiddo gwag yn ôl i ddefnydd buddiol; mae'n galluogi perchenogion na fyddai'r arian ganddynt fel arall i ddod â'r tai hynny i safon; mae'n rhoi i ni faes ychwanegol y mae mawr angen amdano lle gall awdurdodau lleol gyflawni eu dyletswydd Rhan 3 i deuluoedd; mae'n rhoi sicrwydd deiliadaeth i'r teuluoedd; mae, fel y dywedais wrth David Melding, yn annog pobl i ddeall, nad yw'r ffaith bod rhywun yn cael budd-daliadau yn golygu ei fod yn denant gwael. Mae'n ticio llawer iawn o flychau, mae'n ymddangos i mi, ac rwy'n gobeithio, yn y ffordd y dangosodd twf swyddi Cymru i gyflogwyr fod pobl ifanc yn werth eu cyflogi, y bydd hyn yn dangos i landlordiaid fod pobl ar fudd-daliadau yn werth eu cael yn denantiaid.  

Rwy'n croesawu'r datganiad hwn yn fawr. Mae llawer gormod o blant yn newid cartref rhwng unwaith a dwywaith y flwyddyn. Mae'n amlwg yn amharu ar addysg wrth iddyn nhw symud o ysgol i ysgol. Bydd tai o ansawdd uchel, diogel a fforddiadwy, yn gwella iechyd a bywyd llawer iawn o'm hetholwyr. Mae dwy farchnad ar wahân ar gyfer rhentu preifat: mae yna farchnadoedd o ansawdd uchel a drud sy'n darparu cartrefi o ansawdd da iawn i lawer iawn o bobl, ac mae pob un ohonyn nhw yn hynod o hapus gyda'r tai a ddarperir; mae hefyd y sector rhentu cost is, ond nid cost isel. Rwy'n croesawu'r gofyniad i gyrraedd safon ansawdd tai Cymru i fod yn rhan o'r cynllun—rwy'n adnabod pobl sy'n byw mewn tai nad ydynt yn bodloni'r amodau gwrth-wynt a dal dŵr, heb sôn am unrhyw beth arall. A byddai cynnig tenantiaethau sicr pum mlynedd mewn gwirionedd yn golygu y byddai plentyn a oedd yn symud i mewn pan oedd yn 11 oed yn dal i fod yn yr un tŷ yn mynd i'r un ysgol i sefyll ei arholiadau TGAU bum mlynedd yn ddiweddarach. Mantais aruthrol i'r plant hynny, yn hytrach na mynd o bosibl i ddwy neu dair ysgol gyfun wahanol, yn gorfod gwneud ffrindiau newydd, gorfod ymgartrefu, ac yn darganfod bod yr ysgol wedi gwneud pethau mewn trefn wahanol, fel eu bod yn gwneud rhai pethau ddwywaith a ddim yn gwneud rhai pethau o gwbl. Rwy'n credu bod y rhain yn bwysig iawn. Fel y gwyddoch chi, credaf yn gryf iawn mewn tai cyngor, a gobeithiaf y byddwch yn ymuno â mi i gondemnio sylwadau a wnaethpwyd gan Jacob Rees-Mogg am drychineb Tŵr Grenfell.

Mae gennyf i dri chwestiwn i chi. Faint o ddiddordeb a ddisgwyliwch gan landlordiaid mewn ardaloedd fel Caerdydd ac Abertawe, lle mae galw sylweddol, nad yw'n cael ei ddiwallu'n aml, am dai? Gallaf weld, mewn meysydd eraill lle nad yw'r galw a'r cyflenwad rywbeth yn debyg, neu hyd yn oed rannau o rai ardaloedd lle mae'r cyflenwad a'r galw rywbeth yn debyg, lle mae'n ddigon posib y caech chi landlordiaid yn dweud, 'mae hyn yn gwarantu incwm'. Onid yr ateb tymor hir yw adeiladu neu brynu digon o dai cyngor, lle mae gennym ni reolaeth mewn gwirionedd dros ansawdd y tai y mae pobl yn symud iddyn nhw? Bydd hefyd yn rhyddhau llawer o'r eiddo ar gyfer prynwyr tro cyntaf. Y bobl sydd ar eu colled fwyaf, oherwydd bod landlordiaid preifat yn prynu tai, yw darpar brynwyr tro cyntaf nad ydyn nhw, yn y geiriau anfarwol hynny, yn cael troedle ar ris gyntaf yr ysgol gan eu bod eisoes wedi cael eu prynu ar gyfer rhentu'n breifat. Y trydydd cwestiwn yw: sut mae cynnig y cynllun newydd hwn i helpu i adnewyddu tai yn wahanol neu'n well na'r cynllun sy'n bodoli ar hyn o bryd ar gyfer dod â thai sy'n wag ar hyn o bryd yn ôl i ddefnydd?

16:15

Diolch am y gyfres yna o gwestiynau, Mike, ac, unwaith eto, rwy'n cytuno'n gyffredinol â byrdwn eich cwestiynau. Felly, i ateb y cwestiwn olaf hwnnw yn gyntaf, mae'r cynllun y mae Lee Waters yn ei hyrwyddo i ddod â thai yn ôl i ddefnydd buddiol yn golygu bod yn rhaid i chi fyw yn y tŷ eich hun am bum mlynedd er mwyn peidio â cholli'r grant. Yr hyn a wnaiff hyn yw eich galluogi i'w rentu drwy'r cynllun hwn, felly mae'n ffordd arall o ddod â'r tŷ yn ôl i ddefnydd buddiol. Mae gennym ni nifer o gynlluniau eraill yr ydym ni'n edrych arnyn nhw ar hyn o bryd ar gyfer pobl sy'n byw mewn tŷ nad yw'n cyrraedd y safon. Euthum i ymweld ag un ym mhen uchaf Rhondda Cynon Taf y diwrnod o'r blaen, gydag Andrew Morgan, arweinydd y Cyngor, lle'r oedd menyw mewn gwirionedd yn byw yn ei thŷ er ei fod yn is na'r safon. Drwy gyfuniad o grantiau a oedd ar gael gan y cyngor hwnnw a gofal a thrwsio, llwyddasom i sicrhau ei fod yn cyrraedd y safon tra oedd hi—wel, bu'n rhaid iddi symud allan i fyw gyda'i merch am ychydig wythnosau, ond tra oedd hi'n byw yno, yn gyffredinol, ac roedd hynny'n dda hefyd. Felly, dim ond ffordd arall yw hon o ddod ag eiddo preswyl gwag yn ôl i ddefnydd.

O ran y farchnad dai yn Abertawe, Caerdydd neu farchnad dai gystadleuol, credwn fod galw am hyn, oherwydd er bod galw mawr am dai yn y sector rhentu preifat yn y ddau le hynny y gwnaethoch chi eu crybwyll, ac mewn nifer o leoedd eraill yng Nghymru, mae hyn yn golygu nad oes rhaid i'r landlord boeni am unedau gwag, trosiant, difrod—y pob math o bethau y mae'n rhaid iddyn nhw ymdrin â nhw. Ac, mewn gwirionedd, gwyddom o'n hymgynghoriad y byddai'n llawer gwell gan landlordiaid gael yr incwm cyson y gwyddant y cânt dros bum mlynedd na'r symiau amrywiol a gânt mewn marchnad gyfnewidiol. Felly, rwy'n credu y bydd galw am hyn ar hyd a lled Cymru.

Fe wnaethoch chi sôn am y sylwadau a wnaeth Jacob Rees-Mogg am Dŵr Grenfell, a hoffwn ddweud fy mod yn cytuno â chi bod y sylwadau hynny'n ansensitif iawn ac yn niweidiol iawn i oroeswyr Grenfell a theuluoedd y rhai a fu farw. Credaf ei fod wedi ymddiheuro wedyn, ond mae'n rhyfeddol y gallai rhywun wneud sylwadau o'r fath ar hyn o bryd ac yn wyneb yr adroddiadau sy'n cael eu rhyddhau ar Grenfell yr ydym ni wedi eu gweld. Er mwyn bod yn glir, diben y polisi 'aros lle'r ydych chi' yw sicrhau nad yw pobl sy'n ceisio gadael adeilad yn dod wyneb yn wyneb â diffoddwyr tân sy'n ceisio dod â'u hoffer i fyny'r un grisiau. Gwyddom na weithiodd hynny yn Grenfell, gyda chanlyniadau trasig, ond nid oedd hynny am nad oedd y bobl yn y tŵr yn synhwyrol, neu, mewn gwirionedd, yn dilyn cyfarwyddiadau'r gwasanaeth tân, fel y gwyddom o'r adroddiad. Felly, rwy'n credu bod hwnnw'n sylw syfrdanol iawn gan Jacob Rees-Mogg, ond, fel rwy'n dweud, rwy'n deall ei fod bellach wedi ymddiheuro.

Gan fynd yn ôl at y datganiad sydd ger ein bron, rydym yn awyddus iawn mai safon ansawdd tai Cymru ddylai fod y safon a ddefnyddir i ddod â'r tai hyn i fyny i safon er mwyn manteisio ar y cynllun hwn, ac, wrth gwrs, Mike, rydych chi yn llygad eich lle ynghylch sicrwydd deiliadaeth, a'r angen penodol i deuluoedd â phlant allu cadw eu plant yn yr un ysgol. Ac i roi iddyn nhw y gefnogaeth gymdeithasol y mae arnyn nhw ei hangen er mwyn gallu gwneud hynny yw un o'r prif resymau pam yr ydym ni eisiau cyflwyno'r cynllun hwn.

16:20

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad? O ran cefndir, mae'r sector rhentu preifat ar hyn o bryd yn cyfateb i 11 y cant o stoc dai Cymru, gyda 71 y cant yn eiddo i berchen-feddianwyr a 18 y cant o'r tai yn cael eu rhentu oddi wrth gymdeithasau tai ac awdurdodau lleol. Rydym ni i gyd yn cydnabod bod galw cynyddol am lety rhent, nid yn unig gan y grwpiau hanesyddol hynny, megis myfyrwyr, ond hefyd gan weithwyr mudol, tramor a brodorol, ac yn gynyddol o aelwydydd nad ydynt yn gallu fforddio perchen-feddiannaeth. Mae'r sefyllfa, wrth gwrs, yn cael ei gwaethygu gan y nifer cyfyng o dai cymdeithasol sydd ar gael, o gofio'r blynyddoedd o esgeulustod o ran adeiladu tai yn y sector hwn.

Mae'n rhaid i mi ddweud, Gweinidog, ei bod hi'n anodd beirniadu cynnwys y datganiad hwn, gan ei fod yn amlinellu dull arloesol iawn, ac, rydym yn credu, un effeithiol iawn o gynyddu'r stoc tai preifat sydd ar gael i'w rentu. Cytunwn hefyd â'r cysyniad mai cynghorau lleol yw'r cyfrwng gorau i weinyddu'r datblygiadau arloesol hyn. Dylai'r adenillion gwarantedig hirdymor i landlordiaid preifat fod yn gymhelliant go iawn iddynt, yn ogystal â chael eu rhyddhau o'r dyletswyddau cynnal o ddydd i ddydd. Ac mae'n rhaid bod cyfleuster benthyca i wella'r eiddo unwaith eto yn gymhelliant mawr i landlordiaid preifat.

Dim ond un gair o rybudd sef ei bod hi'n hanfodol bod y pris a bennir ar y rhenti'n gorfod adlewyrchu elw da ar fuddsoddiad cyfalaf y landlord preifat. Rwyf yn credu, fel y dywedodd eraill yn y Cynulliad hwn, y bydd y sefydlogrwydd y gall hyn ei roi i deuluoedd oherwydd eu bod yn gwybod y byddant mewn llety am ryw bum mlynedd yn cael effeithiau cymdeithasol enfawr, nid yn unig i'r teulu ei hun ond i gymdeithas yn gyffredinol, oherwydd gwyddom, os yw teuluoedd yn cael eu symud o un ardal i'r llall, fel y mae Mike Hedges wedi nodi, nid yw o fudd i'w haddysg na llawer o bethau eraill, nac, wrth gwrs, i iechyd y teuluoedd hynny hefyd. Felly, mae'n effeithio ar yr ochr honno o'r ddadl hefyd.

Felly, ar y dechrau, fe wnes i longyfarch y Llywodraeth a'r Gweinidog am gychwyn yr hyn sy'n addo bod yn gynnig cadarn i ddenu landlordiaid preifat i osod eiddo i'r teuluoedd hynny nad ydynt, o bosib, wedi'u hystyried o'r blaen.

Wel, Diolch am hynny, David Rowlands. Fe wnaethoch chi ddau bwynt y credaf fod angen eu hateb—un ohonynt a wnaed gan Mike Hedges ac yr anghofiais ei grybwyll, sef y mater sy'n ymwneud â'r cyflenwad o dai cymdeithasol ledled Cymru. Byddwch yn gwybod, ers dileu'r cap ar gyfrifon refeniw tai mewn llywodraeth leol, bron i flwyddyn yn ôl bellach, rydym ni wedi gweithio'n galed iawn gyda llywodraeth leol ledled Cymru i gael eu benthyca darbodus i sefyllfa lle gallant adeiladu tai mewn niferoedd priodol ac yn gyflym, ac rwy'n falch iawn o ddweud bod y rhan fwyaf o awdurdodau ledled Cymru wedi mynd ati'n ddiymdroi i dorchi eu llewys yn sgil ein cais, felly rydym yn gweld mwy o gynnydd nawr, mewn gwirionedd, yn nifer y rhai sy'n dechrau ym maes tai cymdeithasol, a disgwyliaf weld hynny'n cynyddu'r flwyddyn nesaf hefyd.

Fe wnaethoch chi sôn hefyd am yr incwm rhent—ynglŷn â'i fod yn gyfradd gystadleuol. Wel, dim ond i fod yn glir, mae hyn ar y gyfradd lwfans tai lleol. Felly, Llywodraeth y DU sy'n pennu'r lwfans tai lleol hwnnw. Yn y gorffennol, mewn dadl yn y Senedd hon, dywedais y dylai'r Aelodau fod yn ymwybodol bod hynny wedi'i rewi yn 2016 ac nad yw wedi cynyddu ers hynny. Deallwn fod y Llywodraeth, cyn iddi alw'r etholiad, yn dweud y byddai'n adolygu'r sefyllfa honno y flwyddyn nesaf, a gobeithiaf yn fawr y bydd unrhyw Lywodraeth a ddaw i rym ar ôl yr etholiad nesaf yn gwneud hynny, oherwydd, yn amlwg, mae ar lefel is ar hyn o bryd. Ond mae'r cynnig ar lefel y lwfans tai lleol. I fod yn glir, Dirprwy Lywydd, nid ydym yn bwriadu rhoi cymhorthdal ar gyfer rhenti yn y sector rhentu preifat ar hyn o bryd.

5. Datganiad gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd: Diweddariad Blynyddol ar Ddiwygio Cyllid Llywodraeth Leol

Eitem 5 ar yr agenda yw datganiad gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd ar y diweddariad blynyddol ar ddiwygio cyllid llywodraeth leol. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Rebecca Evans.

16:25

Rwy'n falch o gyhoeddi'r trydydd mewn cyfres o ddiweddariadau blynyddol i'n rhaglen waith i ddiwygio cyllid Llywodraeth Leol yng Nghymru. Mae'n nodi'r diwygiadau y mae Llywodraeth Cymru yn eu gwneud i wella trethi lleol a fframwaith cyllid llywodraeth leol ehangach er mwyn sicrhau ei fod yn ymateb i anghenion gwasanaethau lleol yn y dyfodol mewn cyfnod anodd.

Mae gwasanaethau lleol yn hanfodol i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant, gan helpu i dynnu aelwydydd allan o dlodi, ein helpu i fyw bywydau gwyrddach a mwy cyfrifol, a sicrhau bod pobl hŷn a phobl agored i niwed yn cael gofal. Ni allai'r gwasanaethau hyn, ynghyd â llawer mwy, fodoli heb system ariannu llywodraeth leol sefydlog ac effeithiol—un sy'n bodloni ein dyheadau polisi ac yn ymdrechu i gael tegwch.

Mae ein rhaglen raddol o ddiwygio yn y byrdymor, y tymor canolig a'r hirdymor yn gynhwysfawr, a bu ar waith ers dechrau 2017. Mae wedi cyflawni, ac mae'n cyfrannu at gyflawni, nifer o'r ymrwymiadau a'r nodau yn 'Symud Cymru Ymlaen' ac yn ein strategaeth genedlaethol, 'Ffyniant i Bawb'. Yn 'Symud Cymru Ymlaen', gwnaeth Llywodraeth Cymru gyfres o ymrwymiadau i wneud y dreth gyngor yn decach, i gefnogi busnesau bach gyda'u biliau ardrethi annomestig a chyflawni bargeinion dinesig a thwf ar gyfer rhanbarthau ledled Cymru.

Mae'r diweddariad a gyhoeddais heddiw yn amlinellu'r cynnydd yr ydym ni wedi'i wneud dros y flwyddyn ddiwethaf wrth weithio tuag at ein nodau. Hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i gydweithwyr mewn llywodraeth leol am eu cymorth parhaus i sicrhau gwelliannau sylweddol. Mae swyddogion awdurdodau lleol ac aelodau etholedig ledled Cymru wedi cymryd rhan weithredol yn y gwaith hwn ac wedi bod yn gyd-gyfrifol am lawer o'r gwelliannau a welwn heddiw. Hoffwn hefyd ddiolch i Gyngor ar Bopeth Cymru, Money Saving Expert a gwasanaethau cynghori eraill am ddarparu mewnbwn ymarferol y mae ei ddirfawr angen ar lawr gwlad.

Mae adroddiad eleni yn egluro'r hyn yr ydym ni wedi'i wneud i wneud y dreth gyngor yn decach. Ar 1 Ebrill eleni, dilëwyd y bygythiad o garchar am beidio â thalu'r dreth gyngor yng Nghymru, sy'n dynodi newid sylweddol yn ein dull o drin trethdalwyr lleol. Am y tro cyntaf, mae pob awdurdod lleol yng Nghymru wedi mabwysiadu protocol treth gyngor cyffredin sy'n crisialu safonau newydd ynghylch sut y bydd aelwydydd sy'n agored i niwed ac yn cael trafferthion yn cael eu trin.

Rydym yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau gwelliannau i'r broses o gasglu'r dreth gyngor a rheoli dyledion, ac i leihau camau gweithredu gan feilïaid. Mae lefel yr ôl-ddyledion wedi sefydlogi yng Nghymru dros y cyfnod ers yr adeg cyn cyflwyno cymorth gyda'r dreth gyngor yn lleol yn 2013-14, tra bo'r cyfanswm sy'n ddyledus yn Lloegr wedi cynyddu 36 y cant.

Mewn partneriaeth ag eraill, rydym ni hefyd wedi cynnal ymgyrch genedlaethol i godi ymwybyddiaeth o gymorth gyda'r dreth gyngor, ac rwy'n falch o ail-lansio'r ymgyrch hon heddiw. Yn y cam nesaf bydd aelwydydd incwm isel ac aelwydydd ar gredyd cynhwysol yn cael eu targedu i sicrhau ein bod yn tynnu sylw at yr ystod lawn o gymorth a allai fod ar gael i bobl i gyflawni eu rhwymedigaethau o ran y dreth gyngor. Mae ein hymgyrch hyd yn hyn wedi gweld dros 60,000 o bobl yn elwa o gael gafael ar wybodaeth ar ein gwefan.

Drwy ein cynllun gostwng y dreth gyngor, rydym ni wedi parhau i sicrhau bod gan aelwydydd sy'n agored i niwed ac aelwydydd incwm isel ledled Cymru ledled Cymru yr hawl i gael gostyngiad ar eu treth gyngor. Cyn bo hir byddwn yn cyflwyno'r rheoliadau i ddiweddaru'r cynllun ar gyfer y flwyddyn nesaf, a byddwn unwaith eto'n buddsoddi £244 miliwn yn y cynllun.

Mae un o bob pum aelwyd yng Nghymru yn cael cymorth ar gyfer eu biliau treth gyngor drwy'r cynllun hwn, ac nid yw 220,000 o aelwydydd yn talu treth gyngor o gwbl. Mae'r cynllun hwn yn gweithredu yn ychwanegol at yr ystod o ostyngiadau ac eithriadau eraill sydd ar gael. Gyda'i gilydd, maen nhw'n golygu bod ymhell dros 0.5 miliwn o aelwydydd yng Nghymru yn cael rhyw fath o ostyngiad i'w bil treth gyngor. Mae ein hymgyrch ymwybyddiaeth yn helpu i sicrhau bod pawb yn deall eu hawliau.

Rydym ni wedi canolbwyntio ar wneud y dreth gyngor yn decach i grwpiau agored i niwed. Ym mis Ebrill, fe wnaethom ni ddarparu eithriadau newydd ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal. Gan weithio gyda llywodraeth leol, rydym ni hefyd wedi lansio proses ymgeisio wedi ei safoni ar gyfer gostyngiadau ac eithriadau ar gyfer pobl â nam meddyliol difrifol. Gall y ddau grŵp hyn bellach ddisgwyl cael eu trin yn gyson ledled Cymru, ble bynnag y maen nhw'n byw.

Yn 'Symud Cymru Ymlaen', fe wnaethom ni ymrwymo i roi cymorth i fusnesau bach gyda'u biliau ardrethi annomestig. Deddfwyd yn 2017 i wneud ein cynllun rhyddhad ardrethi i fusnesau bach yn barhaol. Ym 2018, cyflwynwyd cynllun gwell gennym sy'n rhoi rhyddhad ardrethi gwell i ddarparwyr gofal plant, gan ddangos sut rydym ni'n defnyddio ein holl ddulliau cyflawni polisi mewn ffordd gydgysylltiedig i greu'r cynnig gofal plant mwyaf hael yn unrhyw le yn y DU.

Rydym ni'n ymateb i drafferthion ein strydoedd mawr a chanol ein trefi drwy barhau i fuddsoddi mewn adfywio wedi'i dargedu. Rydym ni wedi cefnogi hyn drwy ymestyn ein cynllun rhyddhad ardrethi'r stryd fawr a manwerthu i'r drydedd flwyddyn a'i wneud yn fwy hael. Rydym ni eisiau helpu busnesau i gynnal y cyfleusterau y mae pobl eu heisiau a'u hangen, er mwyn sbarduno ffyniant, trechu tlodi a lleihau anghydraddoldeb. Rydym ni'n darparu cyfanswm o dros £230 miliwn o ryddhad eleni i helpu busnesau gyda'u hardrethi.

Rhan allweddol o'n rhaglen yw uchelgais i archwilio diwygiadau mwy sylfaenol ar gyfer y tymor nesaf a thu hwnt. Rwy'n falch o fod wedi ymuno â sefydliadau arbenigol, gan gynnwys Prifysgol Bangor a'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid, i ymchwilio'n fwy trylwyr i syniadau fel trethi lleol yn seiliedig ar werth tir, treth gyngor fwy blaengar, neu drethi lleol yn seiliedig ar incwm. Bwriadaf archwilio'r rhain yn agored, ac mewn ffordd gymhwysol ac ymarferol i Gymru. Byddaf yn sicrhau bod yr holl adroddiadau ymchwil ar gael i Aelodau'r Cynulliad pan gânt eu cyhoeddi. Mae llawer o'r adroddiad yr wyf wedi'i gyhoeddi heddiw yn tynnu sylw at y newidiadau yr ydym ni wedi'u gwneud i'r trethi lleol—y dreth gyngor ac ardrethi annomestig—sy'n rhan o'm portffolio. Mae'r newidiadau hyn, er hynny wedi'u pennu o fewn cyd-destun ehangach o ddiwygio llywodraeth leol.

Cyn bo hir, bydd y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn cyflwyno Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) i'r Cynulliad hwn. Bydd yn darparu fframwaith newydd ar gyfer cydweithio rhwng awdurdodau, gan gydnabod y trefniadau rhanbarthol sydd eisoes yn bodoli ar gyfer rhai gwasanaethau lleol mewn rhai rhannau o Gymru, a chan adlewyrchu datblygiadau eraill sy'n dod i'r amlwg, megis bargeinion dinesig a thwf. Mae Llywodraeth Cymru wastad wedi ymdrechu i roi'r setliad ariannol gorau i lywodraeth leol, drwy fwy na degawd o gyni Llywodraeth y DU. Rydym ni hefyd wedi gweithio i roi i lywodraeth leol yr adnoddau sydd eu hangen arni i fynd i'r afael â'r heriau sy'n codi o ofynion cynyddol a mwy cymhleth.

Rwy'n gwybod fod gan lawer o gyd-Aelodau yn y Siambr hon eu barn a'u syniadau eu hunain ynglŷn â sut y dylid ariannu gwasanaethau lleol yn y dyfodol. Mae pob un o'r heriau yn y rhaglen wedi bod yn, neu byddant yn, destun ymgynghoriad manwl. Rwyf yn croesawu pob cyfraniad at y meddylfryd ynghylch y mater pwysig hwn, gan unrhyw un ar unrhyw adeg. O ran dulliau amgen, nod y Llywodraeth hon o hyd yw cyhoeddi ein tystiolaeth yn nhymor yr hydref 2020 i fod yn sail i'r ddadl cyn y tymor Cynulliad nesaf.

Rhaid galluogi llywodraeth leol i ddarparu gwell gwasanaethau cyhoeddus i bawb. Mae'r rhaglen waith hon yn gwneud cyfranu at nodau strategol y Llywodraeth hon, ac rydym yn defnyddio pob dull sydd gennym ni i wneud Cymru'n gymdeithas fwy cydradd, ffyniannus a gwyrddach.

16:30

A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad y prynhawn yma ac am y diweddariad blynyddol—y diweddaraf, fel y dywedwch, mewn cyfres o ddiweddariadau? Fel y gwnaethoch chi ddweud, mae gwasanaethau lleol yn hanfodol i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant, gan helpu i roi amgylchedd gwyrddach, mwy cyfrifol inni a'n galluogi ni i fyw bywyd mwy cyfrifol—credaf y gallem ni i gyd gytuno â'r ymadrodd hwnnw a ddefnyddiwch. A byddwn, byddwn yn cytuno â chi bod angen system gyllido llywodraeth leol sefydlog ac effeithiol arnom ni. Mae rhai ohonom ni'n credu ein bod yn dal i fod ychydig yn bell o hynny heddiw. Sylweddolaf fod cyllid wedi bod yn dynnach dros y blynyddoedd diwethaf nag yn y gorffennol, ond bydd y Gweinidog yn ymwybodol o'm galwadau mynych am adolygiad o fformiwla ariannu llywodraeth leol—galwadau ystrydebol bron erbyn hyn. Rwy'n gwybod fod gan Mike Hedges rai safbwyntiau gwahanol ynghylch hyn, ond hoffwn glywed gan y Gweinidog a oes unrhyw fwriad i ailedrych ar y fformiwla bresennol neu'r fformiwlâu presennol sy'n ei ffurfio—rwy'n gwybod ei bod yn gymhleth —yn arbennig o gynnwys materion fel poblogaeth denau a natur wledig ardaloedd a chostau darparu gwasanaethau dros ardaloedd gwledig ehangach, fel sydd gennym ni yn fy rhan i o Gymru ac yn arbennig i fyny tuag at y canolbarth. Felly, byddai gennyf ddiddordeb clywed y newyddion diweddaraf am hynny.

Fe aethoch ymlaen i drafod y dreth gyngor ac ardrethi busnes, a gwyddom fod y dreth gyngor wedi cynyddu tua 6.6 y cant yn 2019-20, neu £99 ar gyfer eiddo band 2 cyfartalog. Felly, byddwn yn gofyn i chi, Gweinidog, a yw'n wirioneddol deg a blaengar neu a yw'r dreth gyngor yn cael ei defnyddio mewn gwirionedd fel arf i sicrhau bod pobl leol mewn ardaloedd awdurdod lleol yn ysgwyddo mwy o faich dros amser, gan ryddhau arian yn ganolog felly? Os mai dyna yw bwriad Llywodraeth Cymru, yna mae hwnnw'n amcan polisi y dylech fod yn glir yn ei gylch, oherwydd yn eich datganiad y llynedd fe wnaethoch chi ddweud eich bod eisiau archwilio'r cydbwysedd rhwng cyllid a godwyd yn lleol ac a ddarparwyd yn ganolog. Felly, a ydych chi'n dal i ystyried hynny, gan ei bod hi'n ymddangos, dros amser, fod y baich yn symud o'r Llywodraeth ganolog i lywodraeth leol, rhywbeth nad wyf yn credu y byddai'r Blaid Lafur yn y gorffennol wedi'i gefnogi?

O ran ôl-ddyledion gyda'r dreth gyngor, a grybwyllwyd gennych chi, rydych chi'n dweud bod maint yr ôl-ddyledion wedi sefydlogi dros y cyfnod ers yr adeg cyn gwneud y dreth gyngor yn lleol yn 2013-14. Mae'n ddigon posibl bod hyn yn wir, ond hoffwn atgoffa'r Gweinidog hefyd fod Canolfan Polisi Cyhoeddus Cymru wedi beirniadu dull Llywodraeth Cymru o ymdrin ag ôl-ddyledion o ran y dreth gyngor. Mewn gwirionedd, mae'n dweud, er bod Llywodraeth Cymru wedi llunio canllawiau ar hyn, fod y graddau y mae Llywodraeth Cymru yn cyflawni ei nod yn cael ei gwestiynu, ac mae loteri cod post posib ar waith o ran pobl mewn dyled. Felly, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am waith y gweithgor a sefydlwyd gennych chi i edrych ar hyn? Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno ei bod hi'n hanfodol bwysig y caiff rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed mewn cymdeithas, rhai o'r rheini sydd mewn perygl o fod yn y sefyllfa fwyaf difrifol o ddyled, eu trin yn deg ac y gallent gael y cymorth hwnnw y mae cymaint o'i angen arnyn nhw.

Gan symud ymlaen at drethi annomestig, rwy'n falch eich bod yn cydnabod anawsterau ein strydoedd mawr a chanol ein trefi. Mae'r rheini wedi'u gwyntyllu, ac rydym yn croesawu cymorth ychwanegol i'n strydoedd mawr, gan eu bod yn dioddef o ddifrif ar hyn o bryd. Mae angen i'r cynllun rhyddhad ardrethi manwerthu fod yn fwy hael, oherwydd bod busnesau angen cymaint o gymorth ag y gallant ei gael ar hyn o bryd. A wnewch chi ystyried eto cyfeirio cymorth i'r busnesau hynny yn yr ardaloedd hynny sydd wedi dioddef waethaf—mewn rhai achosion, pocedi o ardaloedd mewn ardaloedd sydd fel arall yn fwy llwyddiannus o ran ein strydoedd mawr? Rwy'n gwybod, pan edrychwyd ar hyn ychydig flynyddoedd yn ôl gan y Pwyllgor Menter a Busnes, inni ddatguddio rhai o'r problemau sy'n effeithio ar ein strydoedd mawr. Ers hynny, wrth gwrs, mae gennym ni broblemau o ran ailbrisio ardrethi, ac effeithiwyd ar bocedi yn fy etholaeth i yn benodol, fel Cas-gwent.

Edrychwn ymlaen at gyflwyno'r Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau a grybwyllwyd gennych chi. Gobeithio y bydd yn darparu fframwaith gwell ar gyfer cefnogi cydweithio rhwng awdurdodau lleol a hefyd yn ategu'r model dinas-ranbarth, megis yr un sy'n gweithredu yn y de-ddwyrain. Rwy'n credu bod cyfleoedd yma i roi gwell cefnogaeth yn y dyfodol.

Yn olaf, Dirprwy Lywydd, o ran cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, fe wnaethoch chi sôn am y nifer sy'n manteisio arno. Mae'r niferoedd presennol rhwng 55 y cant a 66 y cant, rwy'n credu, felly croesawaf y ffaith eich bod yn ail-lansio'r ymgyrch heddiw i geisio hyrwyddo'r cynllun gostyngiadau hwnnw. Credaf fod yn rhaid i hynny ddigwydd. Hoffwn wybod mwy am y rhesymau pam rydych chi'n credu fod y nifer sy'n manteisio yn is na'r hyn a fu yn y gorffennol ac am rai o'r polisïau yr ydych chi'n bwriadu eu cyflwyno i wneud yn siŵr bod pobl sydd angen y cymorth hwnnw, sy'n haeddu'r cymorth hwnnw ac sydd angen y cymorth hwnnw fwyaf, yn cael gwybod ei fod yn bodoli ac yn gallu cael gafael arno pan fydd ei angen.

16:35

Diolch yn fawr i Nick Ramsay am y gyfres o gwestiynau. Roedd y cyntaf yn ymwneud â'r fformiwla ariannu ar gyfer llywodraeth leol, a bu'r Gweinidog llywodraeth leol a minnau'n glir iawn wrth awdurdodau lleol yn gyson, pe baen nhw eisiau cynnig syniadau ynghylch sut y dylid diwygio'r fformiwla ariannu, yna, yn amlwg, rydym yn barod i gael y trafodaethau hynny. Credaf fod yr is-grŵp dosbarthu sydd gennym gyda'r cyrff hynny yn gyfle perffaith i gynnal trafodaethau ynglŷn â hynny. Nid oes awydd gan lywodraeth leol ar hyn o bryd am adolygiad o'r fformiwla ariannu, ond, fel y dywedais, mae modd trafod hynny os oes syniadau ynghylch sut y gellid newid y fformiwla ariannu yn y dyfodol.

Roedd cyfres o gwestiynau'n ymwneud â'r dreth gyngor, ac yn enwedig yng nghyswllt cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor. Mae hwnnw wedi bod yn gynllun eithriadol o lwyddiannus a phwysig. Wrth gwrs, rydym yn gwneud cyfraniad o £244 miliwn i awdurdodau lleol drwy ein setliad blynyddol i ariannu'r cynllun hwnnw.

Mae'n wir dweud bod nifer yr aelwydydd sy'n derbyn cymorth drwy leihau'r dreth gyngor wedi gostwng ym mhob ardal awdurdod lleol, mewn gwirionedd, ers 2013-14, ond rydym wedi gwneud—neu wedi comisiynu, dylwn i ddweud—rhywfaint o ymchwil gan Policy in Practice, a fydd yn caniatáu inni ddeall sut y gallwn ni helpu i wella'r llwyth achosion a lle y gallai fod angen gwneud newidiadau yn y dyfodol i sicrhau y bydd yn parhau i fod yn deg i bob aelwyd. Oherwydd un o'r rhesymau, rwy'n credu, pam ein bod wedi gweld gostyngiad yn nifer yr aelwydydd sy'n elwa ar y cymorth sydd ar gael yw cyflwyno diwygiadau lles Llywodraeth y DU. Mae'n effeithio ar allu teulu neu unigolyn i ddeall a dirnad yr ystod lawn o gymorth sydd ar gael, ac un o'r rhesymau yw bod cymhwysedd ar gyfer cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor yn gysylltiedig yn uniongyrchol â system fudd-daliadau'r DU. Felly, wrth i nifer o fanteision, gan gynnwys budd-dal tai, gael eu disodli'n raddol gan gredyd cynhwysol, mae'n bwysig ein bod yn deall yr effaith y mae hynny'n ei gael ar y nifer sy'n manteisio ar gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor.

Dyna un o'r rhesymau pam, ym mis Ionawr, y gwnaethom ni gomisiynu'r ymchwil i daflu rhywfaint o oleuni ar y mater hwnnw. Mae'n astudiaeth blwyddyn o hyd, a bydd yn golygu cryn dipyn o ddadansoddi data i olrhain amgylchiadau aelwydydd Cymru wrth iddyn nhw symud o'r hen fudd-daliadau hynny i gredyd cynhwysol. Ond, fel yr ymrwymais yn fy natganiad, pan fyddwn ni mewn sefyllfa pan allwn ni rannu gwybodaeth am yr adroddiadau hynny, rwyf yn gwbl ymrwymedig i wneud hynny, oherwydd rwy'n gwybod fod diddordeb gan bob rhan o'r Cynulliad, mewn gwirionedd, i wneud hyn yn briodol.

Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid, mae'n rhaid i mi ddweud, yn amcangyfrif bod 3.6 miliwn o aelwydydd o oedran gweithio yn Lloegr, a fyddai wedi bod yn gymwys i gael cymorth o dan yr hen system budd-daliadau treth gyngor, bellach â'r hawl i £196 y flwyddyn yn llai ar gyfartaledd, felly credaf fod ein system yn sicr yn fwy blaengar yng Nghymru. Ond rwy'n credu y gallwn ni wneud mwy i'w wneud yn fwy blaengar yn y tymor hwy. Felly, un o'r meysydd yr ydym ni'n ei ystyried yw effaith ailbrisio. Mae eiddo sy'n agored i'r dreth gyngor yn cael eu gosod, ar hyn o bryd, mewn un o naw band treth gyngor, yn seiliedig ar werth yr eiddo fel yr aseswyd gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio. Maen nhw'n seiliedig ar werth eiddo ar 1 Ebrill 2003. Mae hynny, yn amlwg, yn llawer mwy diweddar na'r sefyllfa yn Lloegr a'r Alban, sydd â gwerthoedd o 1991. Ond rydym yn ystyried pa wahaniaeth y byddai ailbrisio yn ei wneud yng Nghymru, gan ei fod yn gryn fenter. Felly, unwaith eto, rydym ni wedi gofyn i'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid a Phrifysgol Sheffield i roi rhywfaint o wybodaeth i ni ynghylch hynny er mwyn bos yn sail i'n hystyriaeth o'r ffordd ymlaen, ac ochr yn ochr â hynny rydym ni'n edrych ar bethau fel trethi gwerth tir lleol neu drethi lleol yn seiliedig ar incwm i geisio sicrhau bod gennym ni system fwy blaengar yn y tymor hir.

O ran ôl-ddyledion, mae rheoli dyledion a gorfodi yn gwbl hanfodol. Mae'n rhywbeth yr wyf wedi ymddiddori ynddo'n benodol yn ystod fy nghyfnod yn y portffolio hwn. Yn ystod y flwyddyn hon, rydym ni wedi cyflwyno'r ddeddfwriaeth sy'n golygu bod y bygythiad o garchar am beidio â thalu'r dreth gyngor bellach wedi'i ddileu. Rwy'n credu bod hynny'n wirioneddol flaengar—nid yw mynd i ddyled yn drosedd. Mae carcharu yn ymateb sydd wedi hen ddyddio ac yn anghymesur i ymdrin â dyled sifil, ac mae ffyrdd eraill, llawer mwy priodol y gallwn ni eu defnyddio i ymdrin â hynny.

Ond rydym ni hefyd, yn hollbwysig, wedi cyflwyno protocol newydd ar gyfer y dreth gyngor i Gymru, a chafodd hwnnw ei ddatblygu ar y cyd â llywodraeth leol a'i gymeradwyo gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, ac mae wedi cael ei weithredu ym mhob awdurdod lleol yng Nghymru. Ac mae hynny'n ymwneud â chymorth arfer da i deuluoedd sydd mewn trafferthion, teuluoedd sydd wedi bod yn ei chael hi'n anodd talu eu treth gyngor, ac mae'n ymwneud â cheisio ymyrryd cyn gynted â phosib i ddarparu'r cymorth y gallai fod ei angen arnyn nhw, i'r unigolion hynny a'r teuluoedd hynny er mwyn iddyn nhw allu talu eu treth gyngor yn y dyfodol.

Roedd cyfres o gwestiynau hefyd ynglŷn ag ardrethi annomestig, ac wrth gwrs, rydym yn falch iawn o fod wedi cyflwyno ein cynllun rhyddhad ardrethi parhaol i fusnesau bach. Mae'n darparu dros £120 miliwn o ryddhad eleni, wedi'i ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru, rhywbeth nad yw, wrth gwrs, yn digwydd dros y ffin, lle gwelwch chi rai busnesau, eu cyfraniadau, yn cael eu defnyddio i gefnogi busnesau eraill. Mae mwy na 70,000 o drethdalwyr ledled Cymru yn cael rhyw fath o ryddhad erbyn hyn, felly nid yw hanner yr holl fusnesau yng Nghymru yn talu ardrethi o gwbl, o'i gymharu â thua thraean o'r busnesau o dan y cynllun yn Lloegr. Felly, unwaith eto, rwy'n credu ein bod wedi gallu cynnig dull hael o roi rhyddhad ardrethi i fusnesau bach yma yng Nghymru.

Y mater o ailbrisio ar gyfer ardrethi annomestig—wel, mae'n rhywbeth yr oeddem yn amlwg yn gweithio tuag ato, wrth inni gyflwyno'r ailbrisiad nesaf ar gyfer ardrethi annomestig yn 2021 yn hytrach na 2022. Ac mae dod â'r dyddiad hwnnw ymlaen yn golygu, yn amlwg, y gallwn ni gynhyrchu biliau sy'n seiliedig ar sefyllfa fwy diweddar y farchnad, ac, yn amlwg, mae'n galluogi'r trethdalwyr hynny i gynllunio ar gyfer y dyfodol. Fodd bynnag, roedd atal y Senedd ym mis Medi yn golygu bod y ddeddfwriaeth angenrheidiol wedi methu bryd hynny, a mater i'r Llywodraeth newydd fydd penderfynu ei hailgyflwyno wedyn. Felly, rydym yn gweithio'n agos iawn â swyddogion Llywodraeth y DU i geisio sicrhau y bydd cyfle deddfwriaethol yn codi i ddeddfu i ymgymryd â'r ailbrisiad hwnnw cyn gynted â phosib.

16:40

Diolch i'r Gweinidog am y datganiad heddiw. Rydym ni'n siarad am sut i ddod ag arian i mewn i goffrau llywodraeth leol, ac allwn ni ddim anwybyddu'r pwysau sydd yna ar sut mae'r arian hwnnw'n cael ei wario wedyn, wrth gwrs. A gallwn ni ddim edrych ar gyllid llywodraeth leol yn ynysig yn hynny o beth. Hynny ydy, mae'n rhaid i'r Llywodraeth, ym mhopeth mae'n ei wneud, mewn gwariant iechyd a tai ac ati, i weithredu mewn ffordd llawer mwy ataliol er mwyn tynnu'r pwysau oddi ar gyllidebau llywodraeth leol, sydd yn gorfod camu mewn yn aml iawn ar adegau pan fydd hi'n hwyr iawn yn y dydd, a lle gallai problemau fod wedi cael eu datrys yn llawer cynharach. 

Ond, yn troi at y drefn sydd gennym ni ar hyn o bryd, rydyn ni ym Mhlaid Cymru wedi teimlo ers blynyddoedd lawer fod y dreth gyngor yn dreth regressive. Dydyn ni ddim yn credu mai dyma y ffordd orau i ddod ag arian i mewn. Dydyn ni ddim yn credu ei fod o'n deg yn lle mae'r pwysau yn gorwedd o fewn cymdeithas, lle mae'r gofynion mwyaf ar bobl i dalu ac yn y blaen. Ac yn yr un ffordd, rydyn ni'n edrych ymlaen yn fawr at allu bod mewn Llywodraeth yn defnyddio’r capasiti sydd gan y gwasanaeth sifil i edrych ar sut mae dod â chynllun gwirioneddol arloesol i mewn ar gyfer treth ardrethi busnes. Iawn, rydyn ni wedi cefnogi a wedi gwthio o ran rhyddhad ardrethi busnes ers blynyddoedd, ond mae'r ffaith bod rhyddhad yn gorfod cael ei roi ar raddfa mor fawr yn awgrymu'n glir i fi fod yna rywbeth ddim yn iawn efo'r system ardrethi ei hun.

Dwi yn croesawu'r ffaith bod y cam wedi cael ei gymryd yn gynharach eleni i dynnu i ffwrdd y bygythiad o garcharu pobl am fethu â thalu'r dreth gyngor. Mi oedd hynny y peth iawn i wneud. Mae'n bwysig hefyd fod y gwaith i godi ymwybyddiaeth ynglŷn â'r dreth gyngor yn digwydd, yn enwedig yn y cymunedau hynny lle mae yna nifer uchel o gartrefi incwm isel, sydd yn aml iawn yn ansicr iawn ynglŷn â lle i droi am gefnogaeth. Mae hefyd i'w groesawu bod y Llywodraeth wedi delifro eithriadau ar gyfer pobl ifanc yn gadael gofal, ond mae yna wastad wrth gwrs ffyrdd, tra yn aros am y newid ehangach yna i'r system, o ddod ag arian i mewn i lywodraeth leol. Mae'n bwysig wastad edrych am ffyrdd newydd o ddeall problemau penodol y mae rhai grwpiau yn eu cael.

Mi wnaf i gloi y sylwadau yma drwy dynnu un consýrn penodol i'ch sylw chi. Mi wnaeth etholwraig gysylltu efo un o'm nghyd-Aelodau i ynglŷn â gostyngiadau yn y dreth gyngor. Mae partner yr etholwraig yma yn anabl a hi ydy'r brif ofalwraig. Mi gysylltodd yr unigolyn yma yn dweud nad oedd hi yn gymwys i gael unrhyw fath o ostyngiad yn y dreth gyngor oherwydd dydy'r rheolau ddim yn caniatáu i ostyngiad gael ei roi lle mae'r prif ofalwr yn gofalu am ei gŵr neu'i wraig. Ydy'r Gweinidog yn ymwybodol o hynny? Ac os felly, ydy Llywodraeth Cymru yn neu am allu ystyried mesurau i fynd i'r afael â'r broblem honno a'r consýrn hwnnw yn benodol?

16:45

Diolch i Rhun am godi'r materion hynny. Rwy'n credu bod ei bwynt cyntaf yn wirioneddol bwysig, yn yr ystyr na allwn ni edrych ar lywodraeth leol ar wahân i rannau eraill o'r sector cyhoeddus a thu hwnt, oherwydd wrth gwrs roedd cydnabyddiaeth gref iawn i'r mater o atal. Rwy'n credu ein bod yn gwneud gwaith caled gyda phob rhan o'r Llywodraeth i sicrhau ein bod ni'n canolbwyntio ein hymdrechion ar atal. Felly, o fewn cyd-destun y gyllideb, wrth gwrs, rwy'n arbennig o awyddus ein bod yn edrych ar wariant ataliol. Rwy'n gwybod fod comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol yn cadw llygad barcud ar y mater penodol hwn hefyd. Felly, mae'n bwysig cydnabod bod hyn yn rhan o gyd-destun ehangach, fel y gwnaeth Rhun ap Iorwerth yn sicr.

Ydw, rwy'n cytuno, mae'r dreth gyngor yn dreth atchweliadol, a dyna pam rydym ni'n edrych mor ofalus ar yr hyn y gallwn ni ei wneud i'w gwneud hi'n fwy blaengar yn y dyfodol. Byddai un o'r pethau hynny'n ymwneud ag edrych ar effaith ailbrisio, edrych ar ba gyfleoedd sydd ar gael. Felly, efallai creu bandiau newydd neu greu system hollol newydd. Felly, heb ailbrisio'r 1.4 miliwn o eiddo domestig sydd gennym ni yng Nghymru, rydym ni wedi ein cyfyngu, rwy'n credu rhag gwneud newidiadau sylfaenol iawn o ran y system honno'n arbennig, ac yn amlwg ni fyddem eisiau ymrwymo i ailbrisiad heb ryw ddealltwriaeth o'r effaith, a dyna pam ei bod hi mor bwysig ein bod wedi comisiynu'r ddau ddarn o ymchwil hynny a ddisgrifir yn yr adroddiad sydd ger bron Aelodau heddiw, gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid a Phrifysgol Sheffield, i'n helpu ni i roi sail i'n meddylfryd wrth inni fwrw ymlaen â hynny.

Ond nid dyna'r unig ffordd y gallem ni o bosib wneud trethi yn fwy blaengar, wrth gwrs. Rwy'n gwybod fod llawer o ddiddordeb mewn treth gwerth tir lleol ac, i'r perwyl hwnnw, rydym ni wedi comisiynu Prifysgol Bangor i archwilio pa un a allai trethi lleol yng Nghymru fod yn seiliedig ar werth tir, yn hytrach na'r sefyllfa bresennol, sy'n gyfuniad o werth tir a gwerth eiddo. Amcan Llywodraeth Cymru wrth archwilio treth gwerth tir i ddisodli un neu ddwy o'r trethi lleol yw codi refeniw sefydlog ar gyfer gwasanaethau lleol yn y ffordd decaf. Ond, yn amlwg, rwy'n credu bod yna ganlyniadau manteisiol eraill posib y gellid eu hystyried. Mae Prifysgol Bangor yn disgwyl cyhoeddi'r adroddiad manwl hwnnw tua diwedd y flwyddyn ac, yn amlwg, byddaf yn ei rannu â chyd-Weinidogion. Ac rydym ni'n parhau i fonitro'r ddadl o ran trethi gwerth tir lleol mewn mannau eraill. Felly, mae gennym ni gysylltiadau parhaus â'r Alban. Mae Comisiwn Tir yr Alban wedi cymryd diddordeb arbennig mewn treth gwerth tir lleol, felly rydym ni'n rhoi sylw mawr i'r gwaith hwnnw.

Ffordd arall yr ydym yn ei hystyried o greu system a allai fod yn fwy blaengar yn y dyfodol yw y byddai trethi lleol yn seiliedig ar incwm. Rydym ni ar ddechrau'r darn hwn o waith ar hyn o bryd, felly rydym ni'n ceisio comisiynu arbenigedd allanol i gynnal rhywfaint o ymchwil annibynnol. Felly byddai hynny'n debyg i'r darnau eraill o waith yr wyf wedi'u disgrifio. Ond rydym ni'n glir iawn, pe baem ni'n ystyried treth incwm lleol, bod yn rhaid ei harchwilio i raddau helaeth fel cyfundrefn leol. Felly, eu gweinyddu'n lleol, eu defnyddio i ariannu gwasanaethau lleol a gwariant awdurdodau lleol, cefnogi gwneud penderfyniadau lleol a chodi refeniw tebyg i'r system bresennol. Felly, unwaith eto, mae gennym ni rywfaint o waith a wnaed gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, a ymchwiliodd i'r mater hwn. Ond, unwaith eto, mae hyn yn rhan o'r gwaith yr ydym ni'n gobeithio ei ddwyn ynghyd wrth i ni ystyried y ffordd ymlaen.

Nawr, rwyf newydd ddisgrifio tair ffordd bosib o wneud y system yn fwy blaengar, ac mae pob un o'r rhain yn fenter enfawr ac mae'n debyg y byddai'n cymryd o leiaf un tymor Cynulliad i fynd drwy'r newid mawr posibl hwnnw. Felly, fel y dywedodd Rhun ap Iorwerth, mae'n bwysig, yn y tymor byr ac yn yr amser sydd gennym ni yn uniongyrchol, ein bod yn ceisio gwneud pethau sy'n gwneud treth yn fwy blaengar. Felly, mae'r pethau eraill yr ydym ni wedi sôn amdanyn nhw, o ran y rhai sy'n gadael gofal, y gwaith yr ydym ni'n ei wneud i sicrhau bod pobl sy'n gymwys i gael gostyngiadau yn y dreth gyngor yn ymwybodol o hynny ac yn eu hawlio, rwy'n credu yn bwysig iawn. Ond, o ran yr amgylchiad penodol a ddisgrifiwyd, byddaf yn sicr yn edrych ar hynny. Os wnewch chi efallai anfon e-bost ataf gyda manylion yr achos penodol, fe wnaf archwilio beth allai fod yn bosib.  

16:50

Rwyf yn aml yn meddwl, petai dod o hyd i fecanwaith ariannu arall ar gyfer Llywodraeth Leol yn hawdd, byddai hynny wedi cael ei wneud amser maith yn ôl. Ac rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth y mae angen efallai inni ei ystyried yn ofalus. Rwy'n cofio pan ddisodlodd y cyllid allanol cyfun y grant cynnal ardrethi ar ôl canoli ardrethi busnes i gydbwyso incwm yn yr awdurdodau hynny a oedd â'r gallu lleiaf i godi treth leol.

Mae dosbarthiad yr eiddo ym mhob band yn amrywio'n fawr ac, er bod gan rai awdurdodau dros hanner eu heiddo yn y ddau fand isaf, mae gan eraill, yn arbennig Trefynwy, dros hanner eu heiddo ym mand D ac yn uwch. Felly byddem ni'n disgwyl mai'r cynghorau a fydd yn cael y cymorth mwyaf y pen gan Lywodraeth Cymru fydd Blaenau Gwent, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf a'r tri y bydd yn cael y cymorth lleiaf y pen fydd Caerdydd, Bro Morgannwg a Mynwy, a dyna'r hyn yr ydym ni'n ei gael i bob pwrpas.

Rydym ni'n gwybod bod y dreth gyngor yn taro'r aelwydydd tlotaf yn arbennig o galed, gyda rhai ar gyflogau isel yn talu cyfartaledd o 7 y cant o'u hincwm mewn treth gyngor, tra bod y cartrefi cyfoethocaf yn talu 1.5 y cant yn unig. O ran y dreth gyngor, mae gennyf i'r awgrymiadau canlynol: byddwn i'n awgrymu band J yn £1 miliwn band K yn £5 miliwn a band L yn £10 miliwn. Byddai hyn yn golygu y byddai'r rhai mewn eiddo drud iawn yn talu llawer mwy. Diwygiad arall fyddai gordal treth plasty, dyweder, o 1 y cant ar eiddo sy'n werth dros £1 miliwn neu £2 miliwn, 2 y cant ar £2 miliwn a 3 y cant ar yr eiddo hynny sy'n werth mwy na £3 miliwn. A wnaiff y Gweinidog ystyried yr awgrymiadau hyn?

O ran treth incwm lleol, er ei bod yn ymddangos yn system decach, mae treth incwm, fel treth gorfforaeth, yn hawdd i'w hosgoi, a dyna sy'n digwydd yn aml. Gallai pobl nad ydyn nhw'n hanu o Gymru sy'n berchen ar blastai yng Nghymru dalu dim. Byddai'n trosglwyddo'r cydbwysedd talu i'r rhai sydd ar incwm is a chanolig. Rwy'n annog y Gweinidog i ddiystyru treth incwm lleol oherwydd y bobl ag incwm canolig a fydd yn talu am y rhai sy'n gallu osgoi talu treth ar symiau enfawr o incwm.

Rhywbeth rydym ni'n siarad amdano yn rheolaidd, ac roeddwn i''n meddwl y byddai Siân Gwenllian wedi ei chodi heddiw, yw: a allwn ni ddileu rhyddhad ardrethi i fusnesau bach o fflatiau a thai, i gael gwared ar y cymhelliad i'w troi o fod yn gartrefi gwyliau i fod yn fusnesau? Yn fy marn i, nid oes rheswm da dros barhau i roi rhyddhad ardrethi iddyn nhw.

Mae gan ein treth ar werth tir lawer o fanteision ond os defnyddiwch chi hynny i ddisodli'r dreth gyngor, ni fyddai gennych chi unrhyw dai cymdeithasol yn rhai o'r ardaloedd lle mae tir yn ddrutaf. Ni fyddai pobl yn gallu fforddio talu'r dreth gyngor ar yr eiddo hynny yn yr ardaloedd lle mae gennym ni werthoedd tir uchel iawn; rwy'n gwybod fod gennych chi dir o'r fath yn eich etholaeth eich hun, Gweinidog. Felly, rwy'n credu mai'r hyn y byddech chi'n ei gael yn y pen draw, yn ddiofyn, o ganlyniad i benderfyniad, yw, yn yr ardaloedd mwy cefnog hynny ac ardaloedd cefnog iawn lle mae gwerth tir ymhell dros £1 miliwn yr erw, ni fyddai gennych chi unrhyw dai cymdeithasol o gwbl.

Felly, rwy'n credu bod angen ymchwilio i lawer o'r pethau hyn, ond rwy'n credu weithiau fod yn rhaid ystyried rhai o anfanteision yr anghenion hyn, neu pam rydym ni yn y sefyllfa yr ydym ni ynddi nawr.  

16:55

Diolch i Mike Hedges am ei gyfraniad yn y fan yna, a dechreuodd drwy sôn am yr amrywiad yn lefelau'r dreth gyngor. Mae hynny'n sicr yn rhywbeth yr ydym ni'n ymwybodol iawn ohono. Mae'r cyfartaledd ar gyfer eiddo band D yn amrywio o £1,092 yn Sir Benfro i £1,648 ym Mlaenau Gwent, ac rwy'n credu fod hynny'n rhannol o ganlyniad i'r ad-drefnu ym 1996 a greodd sefyllfa gymysg iawn o ran maint a nodweddion y 22 awdurdod unedol hynny, gan gynnwys rhai awdurdodau bach iawn sydd ag angen cymharol uchel am wasanaethau lleol a sylfaen drethi fach. Felly, mae hynny'n rhywbeth, yn amlwg, rydym ni'n ymwybodol ohono, ond mae hefyd yn adlewyrchu'r hyblygrwydd a roddwyd i awdurdodau lleol o ran gosod y dreth gyngor yn eu hardaloedd eu hunain. Wrth gwrs, penderfyniadau gwleidyddol ydyn nhw ac mae gosod y dreth gyngor yn wirioneddol wleidyddol ei natur mewn llawer o achosion.

Roedd cyfraniad Mike Hedges yn dangos yn glir iawn pa mor gymhleth yw'r mater hwn, ac mae angen archwilio'n llawn i'r holl faterion hyn a'r holl ffyrdd posib hyn o fwrw ymlaen i ddeall yr holl oblygiadau posib, yn gadarnhaol ac yn negyddol. Ac mae'n bwysig iawn gwneud hynny mewn ffordd sy'n ystyried y gwahanol fathau o aelwydydd, a'r ffordd y gallai unrhyw newid penodol effeithio ar wahanol fathau o unigolion. Ond rwy'n gwbl glir nad ydym ni'n ceisio gwneud newidiadau er eu mwyn eu hun, ond ein bod yn ceisio gwneud newidiadau er mwyn sicrhau bod y system yn well na'r un sydd gennym ni ar hyn o bryd.

O ran rhyddhad ardrethi i fusnesau bach ar gyfer ail gartrefi yn benodol, rwy'n gwybod fod hwn yn fater a drafodwyd yn frwd gennym ni yn y Cynulliad mewn dadl a noddwyd gan Blaid Cymru yn ddiweddar iawn. Y gwir yw, pan wnaethom ni ystyried hyn o'r blaen, rwy'n gwybod y rhoddwyd rhywfaint o ystyriaeth i ddileu rhyddhad ardrethi o rai mathau o eiddo, ond yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio'i wneud yw sicrhau cydbwysedd rhwng cefnogi'r diwydiant twristiaeth lleol yn lleol, ond yna hefyd deall y pwysau sydd gan awdurdodau lleol o ran sicrhau bod digon o dai yn eu hardaloedd.

O ran y sector twristiaeth, yn amlwg, caiff y manteision sylweddol eu cydnabod yn ein cynllun gweithredu economaidd, ac mae bod â llety hunanddarpar o ansawdd da sydd ar gael yn rhwydd yn rhan bwysig iawn o'r arlwy twristiaeth sydd gennym ni yma yng Nghymru. Mae'r ystadegau swyddogol diweddaraf yn dangos bod llety hunanddarpar wedi cyfrif am bron £370 miliwn o wariant twristiaeth yma yng Nghymru yn 2017. Ond wedi dweud hynny, rydym ni'n ymwybodol iawn o'r heriau y gall canrannau uchel o ail gartrefi eu hachosi mewn rhai cymunedau nad ydyn nhw'n dibynnu ar dwristiaeth. Felly, rydym ni wedi trafod yn faith fod Llywodraeth Cymru yn ystyried y ffordd ymlaen yn hyn o beth, a sicrhau bod y bobl hynny sy'n hawlio rhyddhad ardrethi yn gwneud hynny'n ddiffuant. Rwy'n credu mai'r prif bryder sydd gan bobl yw'r amheuaeth bod pobl yn hawlio rhyddhad ardrethi ar eiddo nad ydyn nhw wir yn bodloni'r meini prawf ar eu cyfer. Roedd hynny, rhaid imi ddweud, wedi'i gytuno gan y Cynulliad cyfan hwn o ran ceisio sicrhau'r cydbwysedd hwnnw rhwng yr angen lleol am dai a phwysigrwydd twristiaeth i wahanol gymunedau ledled Cymru.

Rhoddodd Mike Hedges rai syniadau ychwanegol o ran sut i symud pethau ymlaen. Dywedais yn fy natganiad, ac mae'n glir yn yr adroddiad heddiw, fy mod yn croesawu unrhyw syniadau gan unrhyw Aelod neu unrhyw randdeiliad â diddordeb ar unrhyw adeg, ac rwy'n awyddus iawn i gael y trafodaethau hynny ynghylch sut y gallwn ni wella'r system a'i gwneud yn decach, yn fwy blaengar, a sicrhau bod ein system ardrethi annomestig a'n system treth gyngor yn cyfrannu at amcanion ehangach Llywodraeth Cymru hefyd.

17:00

Un o'r awgrymiadau ychwanegol hynny oedd cael band treth cyngor newydd ar gyfer eiddo gwerth mwy na £10 miliwn. A gaf i awgrymu, cyn cyflwyno hynny, ein bod yn edrych i weld a oes unrhyw eiddo o'r fath yng Nghymru?

Rwy'n rhannu anesmwythder y Gweinidog ynghylch carcharu pobl am beidio â thalu eu treth gyngor. Dywedodd hi na ddylem ni garcharu pobl am fynd i ddyled, a byddai pobl yn cytuno â hynny yn gyffredinol, rwy'n credu, ond yn draddodiadol, gwahaniaethwyd o ran a ellid carcharu pobl am beidio â thalu eu trethi, a thybed, wrth i'r Gweinidog ystyried lefel yr ôl-ddyledion, beth fyddai'n digwydd mewn sefyllfa pan fydd rhywun yn gwrthod, ddim yn dymuno talu ei dreth gyngor, ddim yn ymateb i unrhyw beth, maen nhw'n cael dirwy, ond nid ydyn nhw'n talu'r ddirwy, os ydyn nhw'n cael gwasanaeth cymunedol ond nad ydyn nhw'n ei gyflawni. Beth yn y pen draw sy'n mynd i wneud i bobl dalu, yn enwedig y rhai sy'n gwrthod talu yn hytrach na'r rhai y gallem ni fod â mwy o gydymdeimlad drostyn nhw?

Fe wnaethoch chi gyfeirio at y ffaith bod lefel yr ôl-ddyledion wedi sefydlogi yng Nghymru dros y cyfnod ers cyn gwneud cymorth y dreth gyngor yn fater lleol yn 2013-14. Onid oedd yn fater o'i wneud yn fater lleol yn Lloegr i lawr i lefel y cyngor lleol ac oni wnaethom ni yn lle hynny yng Nghymru gyflwyno cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor yn genedlaethol? Felly, rwy'n drysu braidd ynglŷn â'r cyfeiriad at leoleiddio hyn mewn perthynas â Chymru. Tybed, wrth edrych ar y cynnydd hwn mewn ôl-ddyledion yn Lloegr o 36 y cant, a oes unrhyw dystiolaeth ar gael i'r Gweinidog o'r mathau o gynlluniau sydd wedi gweithio'n dda ai peidio mewn gwahanol fannau yn Lloegr a sut y mae'r rheini'n cymharu â'i chynllun gostyngiadau'r dreth gyngor ei hun yn y fan yma.

Rydych chi'n dweud y bydd hynny yn £244 miliwn eto y flwyddyn nesaf. A wnaiff y Gweinidog gadarnhau y bydd hynny'n doriad mewn termau real? O ran dosbarthu'r arian hwn, yn amlwg, a minnau'n cynrychioli'r de-ddwyrain, croesawaf fod pobl mewn ardaloedd cyngor tlotach yn cael cymorth sylweddol gan Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, rwy'n sylwi mai gan rai o'r cynghorau hynny y mae'r lefelau uchaf o dreth gyngor yng Nghymru. A allai fod unrhyw gysylltiad rhwng y rheini? Os nad yw niferoedd sylweddol o bobl yn gorfod talu'r dreth gyngor, a yw hynny'n lleihau'r gwrthwynebiad democrataidd i lefelau uwch o dreth gyngor? Ac yn arbennig mewn ardal fel, dyweder, Blaenau Gwent, gyda chyfrannau mawr iawn o dai teras sydd ym mand B y dreth gyngor, mae llawer o bobl yn y tai hynny, sydd mewn trafferthion gwirioneddol, ond sydd efallai ychydig yn uwch na'r trothwy, yn talu treth gyngor lawer yn uwch. A allai fod unrhyw ryngberthynas rhwng y ddau bwynt hynny?

Fe wnaethoch chi gyfeirio hefyd at y prosesau ymgeisio safonol ar gyfer gostyngiadau ac eithriadau ar gyfer pobl sydd â nam meddyliol difrifol. Rwy'n casglu o hynny nad oes dull safonol ar gyfer pobl eraill. Os oes gennym ni un cynllun cenedlaethol i Gymru, os yw'r Gweinidog wedi penderfynu nad oes manteision o ganiatáu i gynghorau gael eu cynlluniau eu hunain i adlewyrchu amgylchiadau lleol, a oes unrhyw fantais mewn cael llawer o wahanol ffyrdd o wneud cais am ostyngiadau ar gyfer pawb arall heblaw'r rhai sydd â nam meddyliol?

Mae'r adroddiadau ymchwil a gyflwynwyd i Aelodau wrth iddyn nhw gael eu cyhoeddi, rwy'n credu bod y rheini yn ymwneud â'r gwahanol drethi sy'n dod o fewn eich portffolio a'r newidiadau hyn yr ydych chi eisiau eu gosod o fewn cyd-destun ehangach diwygio llywodraeth leol. A ddylem ni hefyd eu gosod yng nghyd-destun ehangach datganoli trethu, ac yn benodol y dreth trafodiadau tir a'r rhyngberthynas, o bosib, â hynny a'r dreth gyngor, pan fyddwch chi'n ystyried y pethau hyn yn y dyfodol? Ac a allwch chi egluro a yw'r cyfeiriadau hynny'n wahanol i'r un yn nes ymlaen, lle rydych chi'n sôn am wasanaethau lleol a sut y dylid eu hariannu ar gyfer y dyfodol? Ac o ran hynny, rydym ni'n mynd i gael yr adroddiadau ymchwil i gyd yn nhymor yr hydref 2020—a yw hynny'n beth ar wahân? Ac a yw hynny'n ymwneud â fformiwla'r dreth gyngor yn unig, o bosib, neu a ydych chi'n edrych ar faterion ehangach o ran beth ddylai'r rhaniad fod rhwng y dreth gyngor, ardrethi busnes a grant y Llywodraeth o ran ariannu awdurdodau lleol?

Diolch i Mark Reckless am grybwyll nifer o faterion diddorol iawn yn y fan yna. Wrth gwrs, dechreuodd drwy groesawu, mewn gwirionedd, rwy'n credu, y ffaith fod Llywodraeth Cymru wedi dileu'r gosb o garchar am beidio â thalu'r dreth gyngor.

Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod mai bwriad y system dreth gyngor a'r system sydd gennym ni o orfodi dyled, yn arbennig, yw gwneud yn siŵr bod y bobl hynny sydd â'r modd i dalu yn gwneud hynny. Ac mae gennym ni dystiolaeth o drafodion traddodi a ddangosodd fod y broses yn flaenorol, mewn llawer o leoedd, yn cael ei defnyddio'n amhriodol ar gyfer pobl nad oedd ganddyn nhw'r modd i dalu. Ac, wrth gwrs, mae hynny, wedyn, yn faich ychwanegol ar bwrs y wlad o ran carcharu unigolion. Nid yw'n gwneud dim i fynd i'r afael â'r problemau sylfaenol o ran pam mae'r unigolyn hwnnw'n methu talu'r ddyled yn y lle cyntaf. Ac, wrth gwrs, mewn llawer o achosion, mae'n gwneud y sefyllfa'n waeth.

Ym mis Medi eleni, cyhoeddodd y Money Advice Trust adroddiad newydd o'r enw 'Stop the Knock', ac roedd llawer o'r argymhellion hynny yn canolbwyntio ar Loegr, ond mewn gwirionedd roedd sawl un yn ymwneud â Chymru, wedi'u cyfeirio at Lywodraeth Cymru ac rydym ni eisoes wedi dechrau bwrw ymlaen â'r pethau hynny. Rhan o'r gwaith hwnnw yw protocol y dreth gyngor i Gymru, yr oeddwn i wedi'i chrybwyll o ran amlinellu'r ffordd y dylai awdurdodau lleol ymdrin nawr â'r unigolion hynny nad ydyn nhw'n gallu talu'r dreth gyngor. Ac mae'n golygu methu â thalu'r dreth gyngor, nid eu bod yn amharod i wneud hynny. Ac rydym ni'n gweithio'n agos iawn gyda llywodraeth leol nawr i sicrhau bod y protocol hwnnw'n seiliedig i raddau helaeth ar y ffordd y mae awdurdodau lleol yn gweithio. Mae dynodi'n gynnar yr unigolion hynny y mae eu hamgylchiadau ariannol yn golygu y gallen nhw ei chael hi'n anodd talu'r dreth gyngor yn bwysig iawn yn yr agenda honno hefyd.

Mae gan awdurdodau lleol bwerau disgresiwn i leihau neu eithrio unigolion rhag talu eu treth gyngor. Fe gawsom ni enghraifft yn gynharach o unigolyn penodol a oedd mewn sefyllfa lle'r oedd yn cael trafferth yn talu'r dreth gyngor, felly mae awdurdodau lleol yn gallu cynnig y budd hwnnw i unigolion, os ydyn nhw'n penderfynu gwneud hynny.

Nid yw ôl-ddyledion gyda'r dreth gyngor wedi codi i'r graddau yr adroddwyd arnyn nhw yn Lloegr, ac mae hynny'n rhannol oherwydd y ffaith bod ein cynllun gostyngiadau mor llwyddiannus a'n bod wedi llwyddo i gadw'r cymorth hwnnw ar gyfer cartrefi incwm isel. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod hefyd, o ran casglu'r dreth gyngor yng Nghymru, mae'r cyfraddau mewn gwirionedd, yn hynod uchel, yn wir, ac yn sicr yn uwch nag yn Lloegr a'r Alban. Wrth gwrs, ni allwn ni gymharu â Gogledd Iwerddon oherwydd bod ganddyn nhw system dreth wahanol yno. Felly, o ran casglu, credaf fod ein cyfraddau yn uchel iawn.

Roedd y broses o safoni ffurflen gais Cymorth ar gyfer Llog ar Forgais yn bwysig iawn, oherwydd cyn hynny, yn arbennig o ran namau difrifol ar yr ymenydd, nid oedd awdurdodau lleol—y staff eu hunain—yn aml yn ymwybodol o'r budd penodol hwn a oedd ar gael i bobl. Pan oedden nhw, nid oedden nhw o reidrwydd yn ymdrin â'r bobl hynny mewn ffordd systematig a chlir ledled Cymru. Felly, dyna'r rheswm pam ein bod wedi cyflwyno'r ffurflen safonol benodol honno, a hynny gyda chefnogaeth Money Saving Expert, a oedd yn cydnabod, rwy'n credu, ar gyfer yr unigolion arbennig hyn, sef rhai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn aml, nad oedd dealltwriaeth, ac nad oedden nhw'n cael eu trin yn gyson hyd a lled Cymru.

Nawr, rwy'n credu bod y protocol yn darparu fframwaith i sicrhau bod pobl eraill yn cael eu trin yn gyson ledled Cymru gyda rhesymau eraill pam y dylen nhw gael help gyda'r dreth gyngor. Ac unwaith eto, gwnaethpwyd y pwynt bod yn rhaid gweld trethiant lleol yn y cyd-destun ehangach. Felly, o ran y trethi lleol sydd yn bodoli ochr wrth ochr ein trethi Cymreig a chyfraddau treth incwm Cymru, mae'r pethau hynny gyda'i gilydd, rwy'n meddwl, yn darparu cyfres o fesurau inni. Ac, wrth gwrs, rydym ni wedi cyflwyno ein cynlluniau o ran y trethi ychwanegol y byddwn ni efallai'n ystyried eu cyflwyno yn y dyfodol, pe byddem ni'n gallu cael y pwerau hynny wedi'u datganoli i Gymru. Felly, yn hollol, rhaid i'r darlun treth cyfan gyd-fynd fel jig-so, o gofio'r ymrwymiadau sydd gennym ni o ran gwariant a'r pwysau sydd arnom ni fel Llywodraeth.

O ran yr ymchwil, erbyn tymor yr hydref 2020, byddwn ni'n cael, rwy'n credu, yr holl adroddiadau ymchwil yr wyf i wedi'u disgrifio gyda'i gilydd, felly byddwn ni'n gallu edrych arnyn nhw fel cyfres a gobeithio, o bosib, nodi i ba gyfeiriad yr hoffem ni fynd â phethau nesaf. Felly, gallai olygu diystyru rhai o'r syniadau oherwydd rhai o'r rhesymau yr amlygodd Mike Hedges yn gynharach, neu fe allai fod yn fater o orfod nodi meysydd penodol lle y teimlwn ni y gallai fod angen gwneud mwy o waith, a gobeithio y bydd yr adroddiadau hynny yn helpu cyfeirio meddwl pob plaid wleidyddol wrth i ni anelu at etholiadau nesaf y Cynulliad.

17:10
6. Dadl: Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg 2018-19

Eitem 6 ar yr agenda yw dadl ar adroddiad blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2018-19. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol i gynnig y cynnig—Eluned Morgan.

Cynnig NDM7173 Rebecca Evans

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi Adroddiad Blynyddol Comisiynydd y Gymraeg ar gyfer 2018-19 a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Hydref 2019.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch yn fawr. Mae'r adroddiad blynyddol sydd o'n blaenau'r prynhawn yma yn adrodd ar flwyddyn olaf tymor saith mlynedd Meri Huws fel Comisiynydd y Gymraeg, a hoffwn fanteisio ar y cyfle yma i roi diolch i Meri am ei holl waith yn ystod ei chyfnod hi fel Comisiynydd y Gymraeg. Hi, wrth gwrs, oedd y comisiynydd cyntaf ac mae hi wedi gosod sylfeini cadarn iawn. Dwi'n ddyledus iawn i Meri am y cyfraniad allweddol mae hi wedi'i wneud, yn arbennig wrth roi cyfundrefn safonau'r Gymraeg yn ei lle.

Rŷm ni wedi clywed dros y flwyddyn ddiwethaf fod cefnogaeth wedi datblygu ar draws Cymru i'r drefn safonau a bod y safonau wedi codi amlygrwydd y Gymraeg o fewn sefydliadau ac wedi rhoi hawliau i siaradwyr Cymraeg. Mae adroddiad blynyddol y comisiynydd yn amlygu'r gwaith a wnaed i barhau i weithredu'r safonau, gan gynnwys ymchwilio i gwynion yn ystod y cyfnod adrodd o dan sylw.

Mae'r adroddiad hefyd yn amlinellu'r gweithgareddau a gyflawnwyd i hybu'r Gymraeg, ac un enghraifft o'r gwaith hwn yw'r adroddiad a gyhoeddwyd ar y cyd gyda'r Alzheimer's Society yng Nghymru, hynny am brofiadau siaradwyr Cymraeg o wasanaethau dementia. Mae'r cydweithio gyda chyrff fel hyn yn allweddol i brif-ffrydio'r Gymraeg ar draws meysydd polisi, sy'n flaenoriaeth i ni fel Llywodraeth. Mae'r adroddiad hefyd yn amlygu rôl y comisiynydd yn sicrhau'r Gymraeg ar draws adrannau'r Llywodraeth, ac mae'r her allanol yna'n bwysig y tu fewn i'r Llywodraeth er mwyn sicrhau lle canolog i'r Gymraeg.

Ond dwi ddim am dreulio'r prynhawn yma'n edrych nôl. Bellach, mae gyda ni gomisiynydd newydd, Aled Roberts, sydd wedi bod yn ei swydd ers 1 Ebrill eleni. Mae tymor Aled yn cyd-fynd â dechrau cyfnod newydd, cyffrous i'r Gymraeg. Mae'r misoedd ers imi gyhoeddi na fyddem ni'n cyflwyno Bil wedi rhoi cyfle i ni, fel Llywodraeth, ac i'r comisiynydd gynllunio sut sydd orau i symud ymlaen, a hynny gan gydweithio er mwyn gwireddu targedau Cymraeg 2050: miliwn o siaradwyr erbyn 2050 a dyblu'r defnydd dyddiol o'r Gymraeg.

Mae rhai newidiadau wedi digwydd yn barod ers mis Ebrill. O ran y gwaith o symleiddio'r drefn safonau, mae'r comisiynydd wedi penderfynu gweithredu'n wahanol wrth ymchwilio i amheuaeth o dor safon. Yn dilyn adolygiad mewnol yn swyddfa’r comisiynydd yn seiliedig ar wersi o weithredu'r broses gwynion, mae'r comisiynydd wedi penderfynu defnyddio mwy o ddisgresiwn am bryd i gynnal ymchwiliadau. Mae'r cam yma'n golygu bod modd cau achosion syml yn fwy amserol er mwyn rhoi atebion i'r cyhoedd yn gynt, er enghraifft, os yw'r cyrff eu hun wedi datrys y broblem yn gyflym. Mae'r newidiadau bach yma hefyd yn arbed adnoddau prin i'r comisiynydd ac i sefydliadau eraill.

Nawr, fel y clywsom ni yma yn y Senedd rai wythnosau nôl, mae'r dystiolaeth ar gyfer ymchwiliad y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu i gefnogi a hybu'r Gymraeg a thu hwnt yn dangos pryderon bod y gwaith i hybu'r Gymraeg wedi mynd ar goll yn y blynyddoedd diwethaf a bod angen eglurder o ran pa gorff sy'n arwain ar wahanol ffrydiau gwaith. Dyma oedd sail y Papur Gwyn, a dwi'n dal i gredu bod y dadansoddiad yma'n wir. Mae'n werth ailddatgan y camau rwy wedi'u cymryd mewn ymateb i'r pwyntiau yma. Dwi wedi cyhoeddi fy mwriad i sefydlu prosiect 2050, uned newydd, amlddisgyblaethol o fewn Llywodraeth Cymru a fydd yn gyfrifol am yrru strategaeth Cymraeg 2050 yn ei blaen.

Mae datblygu partneriaeth weithio newydd gyda Chomisiynydd y Gymraeg wedi bod yn flaenoriaeth i mi yn ystod misoedd cyntaf Aled yn ei waith. Ac roeddwn yn falch o gytuno memorandwm o gyd-ddealltwriaeth newydd ym mis Awst eleni. Nawr, bwriad y memorandwm yw rhoi eglurder i'r Llywodraeth ac i'r comisiynydd ynghylch sut y byddwn ni'n gweithio gyda'n gilydd, ac i gynnig eglurder i chi, fel Aelodau, i randdeiliaid eraill a'r cyhoedd ynghylch pa gorff sy'n arwain ar beth, o safbwynt ysgogi cynnydd yn nefnydd y Gymraeg.

Rŷn ni wedi cytuno mai'r comisiynydd fydd yn arwain ar weithredu swyddogaethau Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, gan gynnwys gosod, monitro a gorfodi safonau, a rhoi cyngor i sefydliadau ar sut i gydymffurfio â'r safonau. Ac a gaf i bwysleisio y bydd rhaid i'r gwaith rheoleiddio yma fod yn hollol annibynnol?

Bydd y comisiynydd hefyd yn gweithio gyda banciau, archfarchnadoedd a busnesau mawr i gynyddu darpariaeth gwasanaethau Cymraeg. Yn ganolog i hynny bydd cael mwy o bobl i ddefnyddio'r Gymraeg ac yn enwedig gwasanaethau Cymraeg.

Y Llywodraeth sy'n gyfrifol am sicrhau bod egwyddorion cynllunio ieithyddol yn cael eu dilyn wrth weithredu polisi, yn unol â rhaglen waith Cymraeg 2050. Mae'r Gymraeg yn gyfrifoldeb y Llywodraeth gyfan, a'n dymuniad ni, drwy arweiniad project 2050, yw prif-ffrydio'r Gymraeg ymhob agwedd o'n gwaith, fel y gallwn gyrraedd amcanion Cymraeg 2050.

Ond i droi at hybu'r Gymraeg, mae gan y Llywodraeth a'r comisiynydd gyfraniad heb os, ond mae'r maes yn perthyn i bob un ohonon ni, ac i bob un o'n prif bartneriaid. Mae cydweithio yn effeithiol â'r rhai sy'n gweithredu ar lawr gwlad yn elfen bwysig iawn, felly, o'r gwaith hybu. Mae gan bob partner rôl allweddol yn y gwaith yma er mwyn sicrhau ein bod yn llwyddo i gyrraedd ein nod. Mae'n bwysig ein bod yn ymateb i'r pryderon bod rhai agweddau o'r gwaith hybu wedi mynd ar goll yn ystod y cyfnod diwethaf. Dwi felly wedi gofyn i fy swyddogion gynllunio cyfarfod pellach â'r prif bartneriaid er mwyn trafod hyn. Mae llawer wedi digwydd yn y maes, ond, wrth gwrs, mae yna wastad le i wella, yn arbennig ar sut ŷn ni'n codi ymwybyddiaeth a rhannu gwybodaeth am y gwaith sydd yn cael ei wneud.

Dwi'n credu'n gryf mai gyda'n gilydd mewn un llais y mae gweithredu amcanion Cymraeg 2050 i gyrraedd y filiwn yna a dyblu defnydd y Gymraeg, ac fe fydd cydweithredu â'r comisiynydd yn ganolog i hyn. Ac a gaf i ddiolch yn fawr yn gyhoeddus i'r comisiynydd am ei adroddiad cyntaf ef?

17:15

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

A gaf i hefyd ddechrau drwy roi fy niolch personol i Meri Huws? Hi wnaeth baratoi'r ffordd, wedi pob peth, a doedd y ffordd honno ddim bob amser yn syth ac yn llyfn: gorymateb y Gweinidog blaenorol i ddechrau'n anghywir ar safonau, erydu ei chyllideb a'i rhyddid i gyflawni ei dyletswyddau hi i hyrwyddo'r Gymraeg—nad oedd yn hawdd ymdrin â hwy. Ac i fi, yn dod at y portffolio hwn heb unrhyw gefndir a gyda sgiliau iaith Gymraeg mwy cyfyngedig, roedd ei hanogaeth a'i chefnogaeth yn rhywbeth rwyf i dal yn gwerthfawrogi. Felly, diolch yn fawr i chi, Meri.

Yn sicr, roeddem yn cytuno bod angen newid y system o ymchwilio i gwynion. Does dim llawer am hyn yn yr adroddiad hwn, fwy na thebyg oherwydd methiant y cynigion ar gyfer deddfwriaeth newydd. Fodd bynnag, fe'i codwyd eto yn adroddiad y pwyllgor diwylliant yn ddiweddar, a gobeithio bod Aled Roberts yn parhau i bwyso am ddiwygio'r system yma. Rhaid ymchwilio cwynion yn llawn, ond mewn ffordd sy'n gymesur â'u difrifoldeb, gyda chryn ddisgresiwn am farn broffesiynol, fel y dywedodd y Gweinidog, o ran y ffordd orau o ddatrys y gŵyn.

Felly, rwy'n falch o weld dau beth penodol yn yr adroddiad hwn: dealltwriaeth y gall rhai hawliau fod yn fwy gwerthfawr na rhai eraill—ac fe fyddaf yn dod nôl at hynny mewn munud—a sut y defnyddiwyd pwerau gorfodi'r comisiynydd. Rwy'n nodi amlder ac amrywiaeth y cwynion, ond ymddengys fod y pwyslais yn y rhan fwyaf ohonynt wedi bod ar berfformiad cadarnhaol y dyfodol yn hytrach na chosb am fethu, ac i safonau barhau i lwyddo, mae'n llawer gwell ein bod ni'n gweld hawliau'n cael eu harloesi'n fwyfwy, a dealltwriaeth gynyddol o pam fod hynny'n beth da, yn hytrach na chosb a drwgdeimlad.

A dyna pam roeddwn yn arbennig o falch o weld y gwaith ar ddementia. Dyma achos lle nad yw'r hawl i wasanaethau Cymraeg i lawer yn fater o ddewis, mae'n fater o angen. O ran blaenoriaethau, mae rhai hawliau yn fwy gwerthfawr na rhai eraill. Ond cyhoeddwyd yr adroddiad hwn ar y gwaith hwn flwyddyn yn ôl, a dyw hi ddim yn dderbyniol i aros cyhyd am ymateb gan y Llywodraeth ar hyn. Bydd yr ymateb hwn yn sylweddol—bydd yn ein helpu i ddeall agwedd Llywodraeth Cymru tuag at hawliau eraill o angen yn lle dewis: darparu therapi lleferydd, er enghraifft; cyfathrebu'n arbenigol â phobl gydag anawsterau dysgu a gwybyddiaeth; ac mae'n cadw pwnc mynediad at glinigwyr sy'n siarad Cymraeg ar agor ac yn fyw.

Rwyf hefyd yn edrych ymlaen at well dealltwriaeth o rôl y comisiynydd ynglŷn â deddfu ar y cwricwlwm newydd hefyd, gweithredu'r continwwm a chreu arholiadau teg. Ac mae'r adroddiad yn cyfeirio at waith y comisiynydd ar addysg cyfrwng Cymraeg. Nawr, byddwn wedi hoffi gweld cyfeiriad penodol at fathau gwahanol o lefydd dysgu, nid dim ond cyfrwng Cymraeg, achos mae hawliau iaith Gymraeg, fel y diogelir gan y safonau, yn berthnasol i bawb, ond dydyn ni ddim eto wedi cyrraedd sefyllfa lle gallwn fod yn sicr bod dysgwyr yn gwerthfawrogi'r hawliau hynny ac yn awyddus i alw arnyn nhw.

Dwi ddim yn gwybod pam fod Llywodraeth Cymru yn cymryd cymaint o amser i gymeradwyo'r canllawiau arfer da newydd, ond dim ond hanner y stori ydyn nhw beth bynnag. Gan fod y comisiynydd bellach wedi ailgaffael y rhyddid i hyrwyddo'r Gymraeg, rwy'n gobeithio y bydd e'n hyrwyddo hawliau iaith Gymraeg i siaradwyr y dyfodol, nid yn unig y siaradwyr presennol.

Dylai pob corff sy'n gweithio yn y maes ehangach hwn—y cynghorau, ysgolion, y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, y mudiadau a'r mentrau—i gyd gael eu barnu yn ôl eu heffaith, nid eu gweithgareddau. A dylai'r un peth fod yn wir am y comisiynodd. Nid heddlu'r iaith yn unig yw e, wrth gwrs—mae'n un o fydwragedd Cymru ddwyieithog.

Ac, yn olaf, y gyllideb. Os yw comisiynydd y Llywodraeth yn mynd i barhau i rannu'r cyfrifoldeb am hyrwyddo, wel, felly rhaid rhannu'r arian hefyd a chynyddu'r pot. Cawn ni weld sut mae'r memorandum of understanding yn mynd i weithio. Gobeithio y bydd e.

Ond mae gyda fi rai pryderon eraill ynglŷn â'r gyllideb, yn benodol y methiant ymddangosiadol i gynllunio ar gyfer codiadau cyflog a chyfiawnhad dros y ffigur penodol ar gyfer hapddigwyddiadau. Rwy'n credu y gellid bod wedi egluro'r rheini dipyn bach yn llawnach yn yr adroddiad, ond y brif stori yw'r pwysau i ddefnyddio'r cronfeydd wrth gefn. Mae CWLC wedi clywed am hynny, ond os oes yna unrhyw ffordd i'r Llywodraeth a'r comisiynydd gydweithio ar gyfnod addas ar hyn, wel buaswn i'n hapus i weld hynny. Diolch.

17:20

Dwi hefyd yn diolch yn fawr iawn am yr adroddiad yma gan y comisiynydd ar y gwaith sydd wedi'i gwblhau rhwng 2018 a 2019—cyfnod sydd, fel rydyn ni wedi sôn yn barod, yn pontio cyfnod dau gomisiynydd, sef Meri Huws, sydd wedi gorffen ei thymor erbyn hyn, ac Aled Roberts, y comisiynydd hyd 2026. A hoffwn innau hefyd ddiolch yn fawr iawn i'r ddau ohonyn nhw am fod mor barod i gyfarfod yn rheolaidd ac i fy niweddaru'n gyson am waith swyddfa'r comisiynydd ar draws ei hamryfal gyfrifoldebau.

Mae'n wir i ddweud bod y cyfnod sydd dan sylw'r adroddiad yma wedi bod yn gyfnod o gryn ansicrwydd i waith y comisiynydd. Yn ystod haf 2017, fe gyhoeddodd y Llywodraeth gynigion a fyddai wedi arwain at ddileu swydd Comisiynydd y Gymraeg. Mae’n anodd credu hynny erbyn hyn, oherwydd, diolch byth, 18 mis ers i'r cynigion yna gael eu cyhoeddi, fe gafwyd tro pedol ac fe roddwyd y gorau i'r cynllun i gyflwyno Bil y Gymraeg, yn wyneb gwrthwynebiad gan wahanol sefydliadau, mudiadau, ymgyrchwyr ac arbenigwyr, a hefyd, wrth gwrs, yn wyneb tystiolaeth gadarn gafodd ei gyflwyno gan bron bob tyst fu gerbron y pwyllgor diwylliant a'r Gymraeg. Mi oeddem ni ym Mhlaid Cymru hefyd yn gwrthwynebu'r bwriad, oherwydd mi fyddai o wedi arwain at wanio sylweddol ar hawliau siaradwyr Cymraeg.

Mae'r adroddiad yn cyfeirio at y tro pedol yma a ddigwyddodd ac yn dweud bod bellach, a dwi'n dyfynnu, sicrwydd iddyn nhw barhau â'u gwaith. Mae angen y sicrwydd hynny. Un pryder sydd gen i ydy bod yna leihad sylweddol wedi bod yn lefelau staffio swyddfa'r comisiynydd dros y blynyddoedd diwethaf, er gwaethaf swyddogaeth bwysig y comisiynydd fel rheoleiddiwr annibynnol sy'n gyfrifol am sicrhau hawliau siaradwyr Cymraeg a lles cyffredinol yr iaith.

Mi fyddai ariannu swyddfa'r comisiynydd yn uniongyrchol gan y Cynulliad yn gam pwysig y gellid ei ystyried, ac yn gam pwysig ymlaen, dwi'n credu, o safbwynt rhoi sicrwydd ariannol, ond hefyd er mwyn cryfhau annibyniaeth y comisiynydd. Mae'r adroddiad yn dweud hyn am dro pedol y Llywodraeth a'r penderfyniad i barhau efo'r swydd:

'Mae’n golygu hefyd bod modd i’r Llywodraeth fwrw ymlaen i gyflwyno mwy o reoliadau safonau fydd yn ein galluogi ni i osod safonau ar sefydliadau eraill maes o law.'

Ac mae'r adroddiad hefyd yn dweud:

'Rydyn ni eisoes wedi cyflawni’r cam cyntaf o gyflwyno safonau, sef cynnal ymchwiliad safonau i’r sectorau dŵr, ynni, trafnidiaeth a thai cymdeithasol…bu’r broses…ar stop.'

Dwi wedi codi hwn nifer o weithiau, a dwi ddim yn ymddiheuro am ei godi fo eto. Yn anffodus, mae'n amlwg nad oes gan y Llywodraeth lawer o fwriad, nag yn wir ewyllys, i symud y gwaith pwysig yma ymlaen, er gwaethaf beth sydd yn y ddeddfwriaeth. Dwi wedi sôn droeon fod angen i'r Llywodraeth gyhoeddi a gweithredu amserlen i ganiatáu i'r comisiynydd osod safonau ar yr holl sectorau sy'n weddill ym Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, a hyn er mwyn cryfhau hawliau siaradwyr, er mwyn creu mannau gwaith cyfrwng Cymraeg, ac er mwyn sicrhau cysondeb yn y fframwaith deddfwriaethol y mae cyrff yn gweithio oddi mewn iddo o ran defnyddio'r Gymraeg. A hyn oll er mwyn cynnal momentwm y gyfundrefn safonau mewn cyfnod lle rydyn ni i gyd yn deisyfu cyrraedd at y nod o filiwn o siaradwyr.

Felly, fe wnaf i ofyn i'r Gweinidog unwaith eto i gyhoeddi'r amserlen, ond dwi ddim yn hyderus y caf i ateb. Ac mae'n rhaid imi ddweud, mae methiant Llywodraeth Cymru i gyhoeddi a gweithredu amserlen ar gyfer ehangu hawliau ieithyddol, yn oes Brexit a'r holl fygythiadau sydd yn wynebu'r Gymraeg, yn fater siomedig tu hwnt.

Un maes sy'n wan iawn o ran darparu gwasanaethau Cymraeg sylfaenol ydy'r gwasanaethau rheilffordd yng Nghymru. A tybed a fedrwn ni gael eglurdeb y prynhawn yma ynglŷn â dyletswyddau iaith KeolisAmey a Thrafnidiaeth Cymru a pha drafodaethau sydd yn digwydd efo'r cyrff hynny.

Ac yn olaf dwi'n troi at faes sy'n rhan o gyfrifoldebau'r comisiynydd. Rydyn ni wedi sôn amdano fo'n fras yn barod, sef cynnal ymchwiliadau statudol i gwynion. Rŵan, dwi'n sylwi bod yna gwymp sylweddol wedi bod mewn ymchwiliadau, ac rydych chi wedi esbonio rhywfaint ar hynny. Ond dydy'r Cynulliad yma ddim wedi cytuno i unrhyw newidiadau i'r ddeddfwriaeth sydd yn ymwneud â'r gyfundrefn gwynion statudol. A dwi newydd dderbyn copi o lythyr yr anfonodd y Gweinidog at Gomisiynydd y Gymraeg, ar 4 Medi eleni, yn ei longyfarch o ar lwyddo i ostwng nifer yr ymchwiliadau. Rŵan, dwi'n mawr obeithio nad ydy hynny ddim yn golygu bod yna gysylltiad rhwng y gostyngiad yn yr ymchwiliadau a newidiadau i gyllideb y comisiynydd. Hefyd, fedrwch chi esbonio sut mae hi'n briodol i Lywodraeth wneud ymdrech benodol i ddylanwadu ar reoleiddiwr annibynnol yn y fath fodd? Diolch.

17:25

Jest yn fyr, diolch yn fawr i Suzy a hefyd i Siân am gymryd rhan yn y ddadl yma. Dwi yn meddwl ei fod e'n bwysig ein bod ni'n cydnabod bod newid yn y system o ran sut i ymchwilio i gwynion yn amlwg yn rhywbeth sydd yn annibynnol—i'r comisiynydd benderfynu. Mae e'n annibynnol; fe sy'n penderfynu ar y gyfundrefn. Ond dwi yn meddwl ein bod ni i gyd yn croesawu'r ffaith bod y system yn symud yn gyflymach, ac mae hynny'n help, dwi'n meddwl, i bob un.

Mae eisiau i bob un wybod ble maen nhw'n sefyll, ond hefyd bod yn rhaid—mae'n bwysig cael rhyw fath o system yn ei le lle mae'r comisiynydd yn gallu helpu, fel roedd Suzy'n ei ddweud, ynglŷn â gweld ble mae safonau'n mynd yn y dyfodol—so, nid jest ynglŷn ag edrych yn ôl ar sut mae pethau'n cael eu gwneud nawr, ond sut y gallwn ni wella'r gwasanaeth tu fewn i'r mudiadau yma yn y dyfodol. Dwi yn meddwl bod y gwaith monitro yna a rhannu arfer da yn rili bwysig o ran beth mae'r comisiynydd yn ei wneud. 

Dwi hefyd yn meddwl bod rhoi blaenoriaeth i Alzheimer's wedi bod yn rhywbeth sy'n adeiladol dros ben ar ran y comisiynydd. Ac byddwch chi'n ymwybodol, o ran Llywodraeth Cymru, ein bod ni wedi ariannu technoleg i helpu pobl i fyw gyda dementia. Mae lot o aps ac ati yn cael eu datblygu i helpu pobl yn y maes yma. 

O ran hawliau, mae Suzy'n eithaf reit: dyw ein diddordeb ni ddim jest mewn siaradwyr Cymraeg presennol, ond siaradwyr Cymraeg y dyfodol. Ac oes ŷm ni eisiau cyrraedd y targed yna o 1 miliwn, mae'n rhaid inni gydnabod bod yn rhaid inni roi lot fawr yn fwy o help i'r rheini sy'n dysgu'r Gymraeg, a rhoi help iddyn nhw gael cyfle defnyddio'r Gymraeg yn eu lle gwaith neu mewn awyrgylch cymdeithasol hefyd. 

Roedd arian ychwanegol wedi cael ei roi llynedd er mwyn helpu gydag arian pensiynau tu fewn i adran y comisiynydd. Ond, wrth gwrs, Suzy, rŷn ni'n awyddus i gydweithio'n agos iawn gyda'r comisiynydd lle bod hynny'n bosibl, dwi yn meddwl, a dwi'n gobeithio ein bod ni ar yr un dudalen. Dwi'n falch bod Siân Gwenllian wedi cydnabod bod y Llywodraeth wedi gwrando. Wrth gwrs, mae diddordeb gyda ni mewn datblygu beth yw'r safonau newydd. Rŷch chi'n ymwybodol ein bod ni wedi dweud eisoes ein bod ni'n mynd i ddod â safonau newydd i mewn ar gyfer dŵr ac ar gyfer rhai o'r bobl sy'n gweithio yn y maes iechyd hefyd flwyddyn nesaf. Ac, wrth gwrs, dwi yn meddwl bod rhoi amserlen bendant—. Rŷch chi wedi dweud na ddylai Brexit fod yn y ffordd, ond mae Brexit yn ffordd popeth. Felly mae cloi i lawr yr union ddyddiadau, wrth gwrs, yn rhywbeth sy'n anodd. 

17:30

Beth roeddwn i'n ei ddweud ynglŷn â Brexit, wrth gwrs, oedd bod Brexit yn bygwth bodolaeth yr iaith Gymraeg oherwydd ei fod o'n bygwth bodolaeth cymunedau lle mae'r iaith Gymraeg yn iaith bob dydd. Felly, dyna oedd fy nghyfeiriad i at Brexit. 

Dwi ddim yn licio'r iaith yma o 'fygwth' a bod hwn yn mynd i gael—agwedd negyddol. Dwi'n meddwl bod yn rhaid inni sicrhau ein bod ni'n gweithredu mewn ffordd rili positif ynglŷn â'r Gymraeg, a dyna pam beth rŷm ni wedi bod yn ei wneud yn ddiweddar yw sicrhau ein bod ni'n gwneud mwy o ran cael dealltwriaeth o'r linc rhwng yr iaith Gymraeg a'r economi, ac rŷm ni wedi bod yn gwneud lot mwy o waith ar hynny yn ddiweddar, achos rŷm ni'n pryderu am y sefyllfa o ran Brexit. Ac mae hynny'n rhywbeth, wrth gwrs, mae'n rhaid inni ei gydnabod. Ond mae hynny, wrth gwrs, wedyn, yn cael effaith ar yr amserlen ynglŷn â phryd rŷm ni'n mynd i ddod â'r safonau nesaf ymlaen. Ond rŷm ni wedi dweud yn glir, fel roeddwn i'n ei ddweud, fod y safonau newydd ar gyfer dŵr yn dod i mewn flwyddyn nesaf. 

Ond, o ran y gyfundrefn newydd, wrth gwrs mae hynny'n rhywbeth sy'n fater i'r comisiynydd. Dŷn ni ddim wedi ymyrryd. Wrth gwrs, rŷm ni eisiau gweld pethau'n symud yn gyflymach, ac rŷm ni eisiau rhywbeth sy'n symlach, achos dyna oedd y math o dystiolaeth oedd wedi cael ei rhoi yn y pwyllgor roeddech chi'n eistedd arno. Ac roedd symleiddio yn rhywbeth a ddaeth drosodd yn glir iawn yn yr ymchwiliadau hynny. Felly, wrth gwrs, mae'n fater i'r comisiynydd; dŷn ni ddim yn ymyrryd mewn unrhyw beth sy'n ymwneud â rheoleiddio pan fo'n dod at y comisiynydd. Ond gaf i jest dweud ein bod ni yn croesawu'r adroddiad yma gan Aled Roberts? Dwi'n meddwl ei fod e wedi gwneud dechreuad arbennig o dda yn ei waith e, ac rŷm ni'n gobeithio y bydd y cydweithrediad yma yn parhau i'r dyfodol. Diolch. 

17:35

Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Daeth y cyfarfod i ben am 17:35.