Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
05/09/2019Cyfarfu’r Cynulliad am 13:00 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliant 1 yn enw Caroline Jones, gwelliannau 2, 3, 4 a 6 yn enw Rhun ap Iorwerth, a gwelliant 5 yn enw Neil McEvoy.
Ac, yn unol â Rheol Sefydlog 12.3, ac ar gais y Prif Weinidog, dwi wedi galw'r Cynulliad y prynhawn yma i drafod Brexit ac addoediad Senedd y Deyrnas Gyfunol. Ac, i gyflwyno'r cynnig hwnnw, dwi'n galw ar y Prif Weinidog, Mark Drakeford.
Cynnig NDM7128 Rebecca Evans, Rhun ap Iorwerth
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cyd-weld â Llefarydd Tŷ’r Cyffredin ei bod yn warth cyfansoddiadol fod Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi cynghori’r Frenhines i addoedi’r Senedd am bum wythnos a mwy, a’r wlad mewn argyfwng.
2. Yn ailadrodd ei farn y byddai Brexit heb gytundeb yn tarfu’n sylweddol ar Gymru yn y tymor byr ac yn achosi niwed difrifol iddi yn y tymor hir, ac na ddylai’r Deyrnas Unedig, felly, ymadael â’r UE heb gytundeb ar unrhyw gyfrif; ac yn credu nad yw refferendwm 2016 nac Etholiad Cyffredinol 2017 yn rhoi mandad ar gyfer gweithredu yn y fath fodd.
3. Yn galw ar Aelodau Seneddol i ddefnyddio unrhyw ddull cyfreithiol a chyfansoddiadol sydd ar gael i atal Llywodraeth y DU rhag dilyn trywydd a fydd yn golygu na cheir cytundeb yn sgil y negodiadau Brexit; ac i sicrhau, yn wyneb y sefyllfa sydd ohoni, fod y penderfyniad ynglŷn ag ymadael â’r UE ai peidio yn cael ei roi yn ôl yn nwylo’r etholwyr mewn refferendwm.
Cynigiwyd y cynnig.
Llywydd, diolch yn fawr, ac a gaf i ddechrau drwy ddiolch i chi am gytuno i adalw Cynulliad Cenedlaethol Cymru, a diolch i Aelodau o'r holl bleidiau am ddod yma heddiw? Ac a gaf i hefyd ddiolch i Plaid Cymru am gyflwyno'r cynnig sydd ger ein bron heddiw ar y cyd, a hynny er mwyn i'r Cynulliad unwaith eto allu mabwysiadu neges ddiamwys ar Brexit heb gytundeb?
Mae eisoes yn cliché i ddweud ein bod yn byw mewn cyfnod anghyffredin. I'r rheini ohonom ar yr ochr hon o'r Siambr, mae'r peryglon sy'n ein hwynebu yn rhai eithriadol hefyd.
Lywydd, gofynnais ichi ystyried ad-alw’r Cynulliad pan gyhoeddodd Prif Weinidog y DU ei fwriad i atal y Senedd rhag eistedd am fwy na mis, neu fel y dywedodd David Lidington, y Dirprwy Brif Weinidog blaenorol, i gagio'r Senedd yn y dyddiau tra allweddol hyn i’n gwlad. Os gwrthodir llais i Aelodau Seneddol, mae'n bwysicach fyth i ni yma allu siarad dros Gymru, dros ein heconomi a'n dyfodol. Pan fydd ein cynnig yn dweud bod gweithredoedd y Prif Weinidog yn warth, rydym yn golygu yn union hynny. Mewn ychydig wythnosau byr, rydym wedi gweld Llywodraeth yn troi ei chefn ar weddusrwydd sylfaenol democratiaeth weithredol—diffyg parch llwyr tuag at y gwirionedd, diffyg parch llwyr tuag at y Senedd, diffyg parch llwyr tuag at wasanaethau'r menywod a'r dynion profiadol yn ei blaid ei hun sy'n meiddio anghytuno ag ef.
Gadewch imi ddechrau, Lywydd, gyda mater dweud y gwir. Nawr, bûm mewn gwleidyddiaeth yn ddigon hir i wybod y gellir disgrifio'r un gwrthrych mewn gwahanol ffyrdd o wahanol safbwyntiau, ond pan fydd llefarydd swyddogol Stryd Downing yn cael ei anfon i ddweud nad oes gan y Prif Weinidog unrhyw gynlluniau i addoedi'r Senedd, pan fydd llys yn yr Alban yn darganfod ei fod eisoes wedi penderfynu gwneud yn union hynny, nid dim ond dweud eich fersiwn eich hun o'r gwir yw hynny. Gadewch inni ei alw yr hyn ydyw: celwydd ydyw, celwydd bwriadol. Ac un enghraifft yn unig yw hon, Lywydd, ac mae llawer mwy i'w cael, gwaetha’r modd.
Caiff Michael Gove ei anfon i ddweud yn hyderus na fydd prinder cynnyrch ffres ar silffoedd archfarchnadoedd ar ôl Brexit heb gytundeb. Ond mae Consortiwm Manwerthu Prydain y mae ei aelodau'n stocio'r silffoedd hynny yn dweud bod hyn yn gwbl anghywir. Neu’r Ysgrifennydd iechyd, Matt Hancock, yn ein sicrhau y bydd y GIG yn hollol barod i adael heb gytundeb erbyn 31 Hydref, pan fo’r gwasanaeth iechyd gwladol ei hun yn dweud bod tebygolrwydd cryf o brinder o gyffuriau hanfodol—cyffuriau hanfodol sy’n trin sgitsoffrenia, anhwylder deubegynol ac epilepsi, ymhlith pethau eraill—oherwydd na ellir eu pentyrru. A phan ddywed Cymdeithas Feddygol Prydain y bydd gadael heb gytundeb yn peri niwed di-droi'n-ôl i'r GIG ac iechyd y genedl.
Nawr, y Michael Gove sydd bellach yn amddiffyn strategaeth y Llywodraeth fel un sydd â mandad o refferendwm 2016 yw’r un Michael Gove ag a ddywedodd mor ddiweddar â mis Mawrth
ni wnaethom bleidleisio dros adael heb gytundeb. Nid dyna oedd neges yr ymgyrch y gwneuthum helpu i’w harwain.
Lywydd, mae Llywodraeth sydd wedi colli pob parch at y gwir wedi colli ei chwmpawd moesol. Mae'n arwain at y gred mai'r ffordd orau o fynd i'r afael ag anghyfleustra Senedd yw drwy ei gorfodi i ddistewi. Mae'n arwain at y gred, fel y nododd Syr Nicholas Soames ddoe, fod plaid a oedd ar un adeg yn cynnwys amrywiaeth eang o ddaliadau wedi crebachu’n sect gul trwy ddiarddel y rhai sy'n arddel safbwynt gwahanol. Lywydd, mae Llywodraeth nad oes ganddi barch at y gwir wedi fforffedu'r parch y mae ein democratiaeth yn dibynnu arno. Dyna pam ei bod hi'n gwbl hanfodol inni anfon neges glir o gefnogaeth heddiw—cefnogaeth i'r rheini yn San Steffan ac yn y llysoedd sydd, hyd yn oed yn awr, yn brwydro yn erbyn y camarfer pŵer hwn. Ac rwyf am ddweud pa mor falch ydw i ein bod ni fel Llywodraeth Cymru wedi gallu ymuno â'r achos a arweinir gan Gina Miller, sy'n cael ei glywed yn yr Uchel Lys wrth i ni gyfarfod yn y Cynulliad hwn y prynhawn yma.
Nawr, wrth gwrs, rydym yn gwrthwynebu’n gryf yr hyn y mae Llywodraeth y DU yn ceisio ei gyflawni yn ogystal â'r dulliau y mae'n eu defnyddio. Mae'r Cynulliad hwn eisoes, lawer gwaith, wedi mynegi ei wrthwynebiad llwyr i adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb. Ac nid yw'r wybodaeth am baratoadau Whitehall ar gyfer canlyniad o'r fath, sydd bellach yn wybodaeth gyhoeddus, ond yn tynnu sylw at yr aflonyddwch anhrefnus tymor byr y gallwn ddisgwyl ei wynebu os bydd Boris Johnson yn ein gwthio dros ymyl y clogwyn hwnnw ar 31 Hydref. Nawr, fel Llywodraeth, rydym wedi bod yn gweithio’n galetach fyth wrth i’r bygythiad hwn ddod yn agosach. Ar bob pwynt yn y broses, rydym wedi cyhoeddi gwybodaeth fanwl yn dangos sut y byddai Brexit yn effeithio ar Gymru a'r camau a gymerwyd gennym yn ddiflino i ddeall y risgiau, a chyn belled ag y gallwn, i’w lliniaru. Pan fydd y Cynulliad yn ailymgynnull, bydd y Llywodraeth hon yn cyhoeddi rhagor o wybodaeth i'r Aelodau a'r cyhoedd yng Nghymru, gan nodi'r cynllun gweithredu a roddir ar waith gennym ar gyfer yr hydref hwn.
Lywydd, nid niwed dros dro fydd y niwed a achosir drwy adael heb gytundeb. Mae'n bygwth difrod systematig difrifol i'n heconomi. Dywed Banc Lloegr y bydd canlyniad o’r fath yn lleihau potensial allforio’r DU, a hynny’n barhaol. Cred y Trysorlys y bydd yn arwain at economi 8 y cant i 10 y cant yn llai ymhen 15 mlynedd na phe baem yn aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae llywydd Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr, Minette Batters, wedi dweud y byddai’n drychinebus yn gymdeithasol ac yn economaidd i ffermio ym Mhrydain—neges a adleisiwyd dro ar ôl tro dros yr haf pan fynychais sioeau amaethyddol ledled Cymru gyda fy nghyd-Aelod, Lesley Griffiths. Ac mae Make UK, sefydliad y gweithgynhyrchwyr, wedi dweud y byddai'n drychinebus i fwyafrif gweithgynhyrchwyr y DU a bywoliaeth y miliynau o bobl y maent yn eu cyflogi a'u teuluoedd.
Lywydd, nid gor-ddweud yw honni mai’r hyn y mae'r Prif Weinidog hwn a'i Brexit heb gytundeb yn ei fygwth yw dileu haenau cyfan o economi Cymru, gan golli llawer o swyddi medrus ar gyflogau da, yn union fel y gwnaeth Llywodraeth Thatcher yn yr 1980au. Efallai ei fod yn Brif Weinidog sy’n barod i ddiarddel yr Aelod Seneddol sydd wedi gwasanaethu hiraf, ŵyr Winston Churchill, ei berthnasau ei hun o’i blaid, ond ni fydd byth yn gallu cael gwared ar y niwed bwriadol a wnaed i Gymru yn ystod blynyddoedd Thatcher ac y mae bellach yn bygwth ei ail-greu yn ein hamser ni. Gallai'r arafu yn yr economi a achosir gan Brexit heb gyfnod pontio gostio 40,000 i 50,000 o swyddi yng Nghymru yn unig.
A does bosibl, Lywydd, nad y cyfeiliornad mwyaf o Brexit heb gytundeb Boris Johnson yw'r syniad y bydd yn osgoi'r angen am negodi gyda'r Undeb Ewropeaidd. Y diwrnod ar ôl gadael heb gytundeb mewn modd anhrefnus, bydd yr angen am berthynas strategol, gadarnhaol gyda'n marchnad fwyaf ac agosaf yn aros. Mae'r Prif Weinidog yn siarad yn uchel am ddatblygu cytundeb masnach rydd dwfn ac eang. Cyn y gall ef neu unrhyw un o’r eithafwyr Brexit y mae wedi’u casglu o’i gwmpas gamu drwy’r drws hyd yn oed ym Mrwsel, bydd yr Undeb Ewropeaidd yn galw am setlo'r tri mater heb eu datrys yn y cytundeb ymadael a ddiystyrir ganddynt: hawliau dinasyddion, talu ein biliau a’r ffin ar ynys Iwerddon. Bydd gadael ar 31 Hydref heb gytundeb yn gadael gwaddol o gywilydd a chwerwder a fydd yn ei gwneud yn anos byth dod i gytundeb ar y tri mater anosgoadwy hynny.
Felly, mae'n rhaid i ni yn y Siambr hon wrthsefyll Brexit heb gytundeb gyda'n holl nerth. Fel y nododd y Cynulliad hwn yn ôl ym mis Mehefin, rhaid inni gefnogi’r penderfyniad i fynd yn ôl at y bobl, naill ai mewn refferendwm lle byddwn ni, fel Llywodraeth Cymru, yn rhoi ein cefnogaeth lwyr i aros yn yr Undeb Ewropeaidd neu, fel sy'n ymddangos yn debygol bellach, mewn etholiad cyffredinol.
Llywydd, bydd y Llywodraeth yn pleidleisio yn erbyn pob gwelliant heddiw. Rydym yn gwneud hyn oherwydd, ar y diwrnod pan fo angen i'r Cynulliad hwn anfon neges glir ar ddau brif bwnc y cyfnod, sef y bygythiad i'n democratiaeth a'r bygythiad o ymadael â'r Undeb Ewropeaidd heb gytundeb, mae'r gwelliannau hyn yn tynnu sylw oddi wrth y dibenion canolog hyn.
Maent yn cyflwyno deunydd sy'n amherthnasol ar y gorau, ac ar y gwaethaf yn amlwg yn peri rhwyg. Yn hytrach na chryfder un datganiad, byddent yn drysu ac yn gwanhau ein neges. Yn hytrach na dod o hyd i gymaint â phosibl o dir cyffredin, byddent yn culhau'r tir hwnnw mewn ffordd sy'n gwthio cefnogaeth i ffwrdd yn hytrach na'i ddenu i mewn.
Ar yr ochr hon, byddwn yn cefnogi'r cynnig a roddwyd ger bron y Cynulliad hwn gan Blaid Cymru a chan y Llywodraeth—cynnig sy'n mynd at wraidd y dewis sy'n wynebu'r wlad hon: i amddiffyn ein democratiaeth rhag y rhai a fyddai'n sathru arni ac i amddiffyn dinasyddion Cymru rhag trychineb gadael heb gytundeb. Dyna'r hyn y bydd y Llywodraeth yn pleidleisio drosto y prynhawn yma, ac rwy'n annog holl Aelodau'r Cynulliad yma i wneud yr un peth.
Rwyf wedi dethol y chwech gwelliant i'r cynnig a dwi'n galw ar Mark Reckless i gyflwyno gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. Mark Reckless.
Gwelliant 1—Caroline Jones
Dileu'r cyfan a rhoi yn ei le:
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. O'r farn bod yn well i ddeddfwrfeydd gael eu llywyddu gan aelod sy'n wleidyddol niwtral ac yn ymatal rhag arddel safbwyntiau dadleuol neu bleidiol a allai danseilio didueddrwydd ei swydd.
2. Yn cefnogi Brexit sy'n gadael yr UE yn llwyr yng ngoleuni'r ffaith bod llawer o Aelodau Seneddol yn gwrthod derbyn canlyniad refferendwm 2016 a diffyg hyblygrwydd yr Undeb Ewropeaidd yn ei safbwynt negodi.
3. Yn galw ar Lywodraeth y DU i ddefnyddio'r holl ddulliau angenrheidiol a phriodol i weithredu canlyniad refferendwm 2016, lle y pleidleisiodd y DU a Chymru o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Cynigiwyd gwelliant 1.
Rwy'n cynnig gwelliant 1 yn enw Caroline Jones. A gaf fi ddechrau drwy fynegi peth cydymdeimlad â'r BBC wrth iddynt ymdrechu i esbonio i'w gwrandawyr a'u gwylwyr beth yw diben ein had-alw heddiw? Dywedant na chaiff y ddadl unrhyw effaith ar broses Brexit, ond y gallai roi syniad o farn ACau. Wrth gwrs, mae'r Prif Weinidog yn dweud, 'Byddwn yn gwrthsefyll hyn â'n holl nerth', ond wrth gwrs, mae'n fater sydd i'w benderfynu gan San Steffan, beth bynnag a ddywedwn yma heddiw.
Dywed ei fod am anfon neges ddiamwys fod y Blaid Lafur a Phlaid Cymru wedi mabwysiadu cynnig ar y cyd i anfon neges ddiamwys, ond nid dyna mae'n ei wneud. Nid oedd ei araith yn awr yr un fath â'i gynnig. Mae ei gynnig yn sôn am roi'r penderfyniad
'yn ôl yn nwylo'r etholwyr mewn refferendwm.'
Nid dyna a ddywedodd yn ei araith na'r hyn a ddywedodd ei Weinidog Brexit ar Wales Live neithiwr. Felly, rydym wedi gweld y datblygiad yn safbwynt Llywodraeth Lafur Cymru o honni ei bod yn derbyn y refferendwm i hyrwyddo Brexit mewn enw'n unig i ddweud bod yn rhaid cael refferendwm arall am fod Cymru wedi gwneud camgymeriad: dylid dweud wrth bobl am bleidleisio eto am eu bod hwy'n gwybod yn well. Ond yn awr, nid ydym yn gwneud hynny hyd yn oed. Mae gennym yn y cynnig sydd ger ein bron heddiw rywbeth sy'n dweud bod angen iddo fynd yn ôl at y bobl mewn refferendwm, ac eto, dyma Brif Weinidog sydd newydd ddweud yn awr nad yw hynny'n wir, nid yw am gael refferendwm, nad oes unrhyw ailnegodi'n mynd i fod. Beth bynnag y mae Corbyn yn ei ddweud, safbwynt Llywodraeth Cymru yw eu bod am ganslo Brexit heb ail refferendwm hyd yn oed. Faint yn rhagor o ddirmyg y gallech ei ddangos tuag at eich pleidleiswyr na hynny?
Ni ddywedodd y Prif Weinidog sut oedd yn mynd i bleidleisio ar welliannau Plaid Cymru. Mae'n dweud eu bod wedi—[Torri ar draws.] Rwy'n hapus i dderbyn ymyriad os yw'r Prif Weinidog yn dymuno hynny. [Torri ar draws.] A yw'r Prif Weinidog yn ymyrryd? [Torri ar draws.] Na, mae'n—[Torri ar draws.] Rydych yn dweud hynny o'ch sedd, Lee Waters. Fe ildiaf i'r cyn-Brif Weinidog.
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod. Clywais y Prif Weinidog yn ymdrin â safbwynt y Llywodraeth mewn perthynas â gwelliannau Plaid Cymru yn glir. Nid wyf yn gwybod pam na chlywodd hynny; efallai nad oedd yn gwrando.
Wel, mae areithiau'r Prif Weinidog bob amser yn ddiddorol ac yn ennyn sylw pawb; rwy'n siŵr nad yw angen unrhyw wersi areithio gan ei ragflaenydd. Ond rydym yn gweld y Blaid Lafur a Phlaid Cymru—. Ac nid dyma'r tro cyntaf i hyn ddigwydd; rwyf wedi colli cyfrif o sawl gwaith y maent wedi cytuno ar gynnig ar y cyd gyda Phlaid Cymru ac yna mae Plaid Cymru wedi ceisio ymosod ar y cynnig hwnnw a gytunwyd gyda'u gwelliannau eu hunain gan geisio manteisio ar raniadau Llafur. [Torri ar draws.] Byddwn yn gwylio'r bleidlais ac yn gweld lle mae Llafur yn sefyll, ond nid yr hyn y mae'r Prif Weinidog newydd ei ddweud yn awr yw'r hyn a ddywedai eu cynnig. Mae newydd ddweud, 'Dim refferendwm; byddwn yn cynnal etholiad, yna byddwn yn canslo Brexit'. Ac eto, hyd yn oed yn eu cynnig, nid ydynt yn meiddio dweud hynny; maent yn cyfeirio at refferendwm. [Torri ar draws.] Mae'n ddrwg gennyf, mae llawer iawn o Aelodau'n ymyrryd o'u seddau. Rwy'n hapus iawn i dderbyn ymyriadau gan Weinidogion y Cabinet sydd eisiau cofnodi unrhyw beth sydd ganddynt i'w ddweud. Na? Trof, felly, at fanylion ein cynnig, ein gwelliant.
Felly, yn eich cynnig, rydych yn cyfeirio at Lefarydd Tŷ'r Cyffredin, a'i 'warth cyfansoddiadol'. Rydych yn cynnwys hwnnw yn eich cynnig fel petai'n ychwanegu awdurdod i'ch cynnig, fel pe bai'n ganolwr diduedd a niwtral. Ond mewn gwirionedd, mae'n chwarae i'ch tîm chi, a'r broblem y mae Tŷ'r Cyffredin a'r Senedd wedi'i chael yr wythnos hon, yn hytrach na chael canolwr niwtral yn y gadair, yn gweithredu'n amhleidiol, mae ganddynt aelod rhagfarnllyd o'r ochr 'aros'. Rwy'n ildio.
Ym mhwynt cyntaf y cynnig, mae'n cyfeirio at ddeddfwrfeydd lluosog; nid yw'n cyfeirio at Dŷ'r Cyffredin yn unig. A all egluro beth y mae'n ei olygu wrth 'deddfwrfeydd'?
Wel, rwy'n credu ei fod yn dal dŵr fel pwynt cyffredinol. Yr hyn y buaswn yn ei ddweud yw nad yw'r Llywydd yma wedi dod â fy mhlant i mewn i'r peth. Mae ganddi bolisi urddas a pharch hefyd, polisi y mae hi, hyd y gwn i, yn arwain arno drwy esiampl bersonol, ond yn y Senedd, yn Nhŷ’r Cyffredin, gwelwn Lefarydd gyda'r honiadau mwyaf gwaradwyddus a difrifol o'r ffynonellau agosaf posibl o fwlio gwarthus dros flynyddoedd lawer, ac eto dywedodd Margaret Beckett, dros blaid yr Aelod—ac wrth gwrs, hi oedd arweinydd y blaid honno am gyfnod, ac roedd yn ddirprwy arweinydd am gyfnod hwy—fod Brexit yn 'waeth nag ymddygiad drwg'. Felly, nid yw wedi cael ei gosbi am hynny, am fod Llafur yn credu ei fod yn eu cefnogi.
A gaf fi gyfeirio at bedair enghraifft lle mae Llefarydd Tŷ’r Cyffredin wedi torri rheolau'r sefydliad hwnnw? Rydym yn dibynnu ar gyfreithiau'n cael eu pasio'n briodol yn ôl y Rheolau Sefydlog, ac eto, yn Nhŷ'r Cyffredin, rydym wedi gweld dehongliad ar y cychwyn gan Lefarydd y Llywodraeth i dderbyn cynigion busnes ar unwaith. Dehonglodd ef hynny nid fel ar unwaith, ond 'gadewch i ni ganiatáu gwelliant a gadewch i ni ganiatáu i rywun arall fod yn gyfrifol am y papur Trefn yn gyntaf', er ei fod yn y Rheolau Sefydlog. Yn yr un modd, gwelsom ddadl Rheol Sefydlog 24 ddydd Mawrth y mae'n ofynnol iddi fod mewn termau cyffredinol heb bleidlais. Anwybyddodd hynny a dweud, 'Wel, gadewch i ni gael pleidlais, cynnig i reoli'r papur trefn—gwnewch fel y mynnwch', oherwydd mae'n cytuno â hwy. Mae'n aelod rhagfarnllyd o'r ochr 'aros'. Nid yw'r Senedd yn gweithio oherwydd ni allwn ymddiried yn y cadeirydd i fod yn ddiduedd. Mae gennym hefyd ddeddf a basiwyd gan Dŷ’r Cyffredin—a chawsom ein had-alw i drafod hyn, cawsom ein had-alw i drafod addoediad rhywun arall; nid fy mhenderfyniad i, ond eich un chi—ond rydym yn gweld y Llefarydd yn gwneud dau benderfyniad o arwyddocâd enfawr.
Yn gyntaf, mae'n penderfynu nad oes angen cydsyniad y Frenhines. Mae dau brif reswm pam nad ydym wedi gweld y Goron yn rhoi feto ar Fil ers cyfnod y Frenhines Anne, a'r rheswm cyntaf yw, lle mae deddfwriaeth yn effeithio o ran ei sylwedd ar yr uchelfraint, mae angen cydsyniad y Frenhines. Mae cytuno i ymestyn erthygl 50 mewn cytuniad—nid ei geisio'n unig, ond ei gytuno—yn dangos yn amlwg fod gwneud cytuniad yn effeithio ar yr uchelfraint. Eto i gyd, mae Bercow ar ei liwt ei hun wedi penderfynu nad oes angen cydsyniad y Frenhines arno, nad yw'n effeithio o ran ei sylwedd ar yr uchelfraint. Mae hynny'n anghywir, ond mae'r cadeirydd yn rhagfarnllyd. Yn bwysicach fyth, gwelwn y penderfyniad i beidio â'i gwneud yn ofynnol i gael cynnig ariannol ar gyfer Bil a fydd yn galw am wariant net o £1 biliwn y mis am gyfnod amhenodol. Mae Bercow wedi penderfynu, 'Ni chawn gynnig ariannol'. Ond mewn gwirionedd, mae cyfansoddiad y DU yn gweithio ar sail y Goron, yn y Senedd, ac uchelfreintiau'r Llywodraeth a Thŷ’r Cyffredin. Mae hynny wedi'i anwybyddu yr wythnos hon. Os byddwch yn caniatáu i unrhyw Aelod gynnig Bil gyda gwariant sylweddol, ac os derbynnir y Bil hwnnw a bod yn rhaid i'r Llywodraeth wario'r arian, nid oes rheolaeth dros yr holl wariant. Mae gennym broses gyllidebol yn y fan hon, fel sydd ganddynt yn Nhŷ'r Cyffredin. Mae rhywun yn penderfynu'n ganolog faint y gellir ei fforddio, ac yna mae'r gwariant hwnnw'n cael ei rannu. Yn lle hynny, os gallwch wario, ar sail Bil meinciau cefn, £1 biliwn y mis heb ganiatâd y Llywodraeth, rydych yn anwybyddu eich cyfansoddiad. A dyna sydd wedi digwydd yr wythnos hon, a Llefarydd Tŷ'r Cyffredin sydd wedi galluogi hynny.
Gan droi at ail bwynt ein gwelliant, rydym yn cefnogi Brexit 'toriad glân'. Nawr, nid dyma oedd fy newis cyntaf. Byddai wedi bod yn well gennyf gael cytundeb. Gallaf ddychmygu cytundeb a fyddai'n well na bod heb gytundeb. Ond yn anffodus, nid yw hynny wedi digwydd, ac nid yw wedi digwydd am ddau reswm cydgysylltiedig. Yn gyntaf, mae'r UE wedi bod yn anhyblyg, yn enwedig gyda'r 'backstop' (y trefniadau os metha popeth arall) sy'n dweud na allwn fyth adael yr undeb tollau na'r farchnad sengl ar gyfer Gogledd Iwerddon heb eu caniatâd. Ac rydym wedyn wedi gweld ASau ac phobl amlwg eraill a bleidleisiodd dros 'aros' yn gwrthod derbyn y canlyniad. Ac yn waeth na hynny, rydym wedi gweld cydweithredu rhwng y ddau, gyda'r olaf yn dweud wrth yr Undeb Ewropeaidd, 'Os gwnewch y cytundeb cyn waethed â phosibl, fe bleidleisiwn yn ei erbyn, ac fe ddywedwn "O, ni allwn adael heb gytundeb", ac felly ni fyddwn yn gadael'. Dyna y maent yn ceisio ei wneud. Maent yn honni bod hyn yn atal gadael heb gytundeb, ond eu gwir nod yw atal Brexit. Yma mae gennych gynnig sy'n dweud na ddylem adael heb gytundeb o dan unrhyw amgylchiadau, neu os oes gennych Fil yn y Senedd sy'n dweud bod yn rhaid i ni dderbyn unrhyw estyniad, unrhyw delerau a gynigir gan yr UE, yna ni allwn fyth adael, neu ni allwn ond gadael ar delerau sydd mor erchyll am mai hwy sydd wedi'u gosod ac nid oes gennym hawl i adael. Felly, maent yn symud o safbwynt lle maent yn honni eu bod yn derbyn yr hyn a benderfynwyd yn y refferendwm i safbwynt lle maent yn atal Brexit er mwyn gwadu democratiaeth. Dyna beth ydynt. Diolch byth, maent mewn swigen, ac yn hwyr neu'n hwyrach byddwn yn cynnal etholiad a bydd pobl y wlad yn gallu lleisio eu barn.
Galwaf ar Adam Price i gynnig gwelliannau 2, 3, 4 a 6, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.
Gwelliant 2—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Os bydd yn wynebu’r posibilrwydd o Brexit heb gytundeb, a dim mandad iddo, yn galw ar i Erthygl 50 gael ei dirymu.
Gwelliant 3—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Os caiff yr etholwyr gynnig etholiad cyffredinol yn hytrach na refferendwm i ddatrys yr argyfwng Brexit, yn galw ar bleidiau sydd o blaid aros, i ymgyrchu dros bolisi o ddirymu Erthygl 50 a pharhau yn yr UE.
Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn paratoi at y posibilrwydd o ganlyniad heb gytundeb yn y pen draw drwy alw ar Lywodraeth Cymru i sefydlu Confensiwn Cyfansoddiadol Cenedlaethol i Gymru, gan gynnwys Cynulliad Dinasyddion; ystyried pob opsiwn ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru, gan gynnwys annibynniaeth, a dechrau paratoi at refferendwm i bobl Cymru benderfynu ar eu dyfodol cyfansoddiadol.
Gwelliant 6—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu manylion llawn y dogfennau bras melyn sy'n ymwneud â senario dim cytundeb a ddarparwyd ar ei chyfer.
Cynigiwyd gwelliannau 2, 3, 4 a 6.
Diolch o galon, Llywydd, a diolch i chi hefyd am gytuno i'r alwad gan y Prif Weinidog ar gyfer yr adalwad yma. A dweud y gwir, mae'n dilyn cynnig tebyg gyda ni yn gynharach yn ystod yr haf, oherwydd roedden ni'n rhagweld bryd hynny y cwrs di-hid oedd yn cael ei ddilyn gan Boris Johnson fel Prif Weinidog. Mae'n sicr yn gyfnod argyfyngus i ni fel cenedl, ac mae yn briodol bod ein Senedd genedlaethol yn cwrdd ar adeg fel hyn i leisio barn ar ran pobl Cymru.
Ar hyn o bryd, nid yn unig y mae'r Llywodraeth yn San Steffan yn benderfynol o geisio gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn y modd mwyaf diofal posibl, ond maent hefyd yn barod i gyflawni eu bygythiadau i ddefnyddio unrhyw ddull o wneud hynny, gan gynnwys—y prif ffocws i ni heddiw, wrth gwrs—addoedi'r Senedd, ond hefyd, fel y gwelsom—rydym wedi clywed cyfeiriadau at rai o'r achosion cyfreithiol—y modd y mae'r gyfraith ei hun yn cael ei diystyru, wrth chwifio'r ddyletswydd gonestrwydd sydd ar y Llywodraeth yn yr achosion cyfreithiol ar addoedi; y datgeliad hwyr iawn, iawn o beth o'r wybodaeth y cyfeiriodd y Prif Weinidog ati ychydig funudau yn ôl.
Mae hwn yn gyfnod difrifol iawn. Mae democratiaeth yn pylu ac mae unbennaeth yn cryfhau, nid mewn un foment, ond mewn cyfres o fomentau marwol. Hyd yn oed yn Rhufain—wrth gwrs, mae Prif Weinidog y DU yn hoffi siarad am ei addysg glasurol, er i mi weld efallai fod ei diwtoriaid clasurol yn anghytuno—ond hyd yn oed yn Rhufain, ni allai unben a benodwyd gan y Senedd anwybyddu'r Senedd, nes y daeth unben un diwrnod a benderfynodd fel arall a honni ei fod ef a'i bobl yn un. Nid oedd y Prif Weinidog yn fodlon ar fodelu ei hun ar Churchill yn unig, ac rwy'n credu ei fod bellach yn gweld ei hun fel Cesar bach. Mae'n rhaid i chi ddweud y byddai hyd yn oed Cicero wedi colli'r chwip o dan y Prif Weinidog hwn. Mae mwy o Weinidogion y Cabinet wedi colli'r chwip yn ystod y dyddiau diwethaf nag sydd erioed wedi digwydd mewn hanes. Mae hyd yn oed ei frawd ei hun bellach yn dweud na fydd yn sefyll yn yr etholiad nesaf. Beth y mae hynny'n ei ddweud am yr hyn rydym yn ymdrin ag ef, y cyfnod unigryw hwn rydym yn ei wynebu?
Nid yw unbennaeth yn digwydd mewn un cam ond mewn cyfres o glwyfau bach sydd, dros amser, yn crawni ac yn heintio'r corff cyfan. Nid wyf yn credu fy mod yn gor-ddweud wrth ddweud bod cael Prif Weinidog Prydeinig sy'n diystyru gonestrwydd a democratiaeth mewn ffordd mor fwriadol yn golygu ein bod yn byw mewn cyfnod mor beryglus â'r 1930au, ac nid wyf ond yn dweud hynny oherwydd mai'r addoediad pum wythnos hwn yw'r hiraf ers 1930 ac mai dyddiad etholiad y 15 Hydref sydd wedi cael ei hyrwyddo eto heddiw gan Arweinydd y Tŷ fyddai'r cyntaf i beidio â bod ar ddydd Iau ers 1931. Mae cenedlaetholdeb Seisnig boblyddol Boris Johnson yn atgoffa rhywun yn fwy o Oswald Mosley na Ramsay MacDonald. Am y rheswm hwn, nid ydym yn petruso o gwbl rhag ymuno â'r Blaid Lafur i hyrwyddo'r prif gynnig sydd ger ein bron, a gobeithiaf y byddwn yn ei basio yn y Siambr hon heddiw, a gobeithio y gallwn berswadio'r meinciau Llafur i gefnogi rhai o'r gwelliannau hefyd.
Mae ein gwrthwynebwyr yma yn datgan bod y ddadl hon yn ddibwrpas ac na fydd yn cyflawni dim. Wrth wneud hynny, maent yn datgelu eu dirmyg tuag at ddemocratiaeth Cymru. Wrth wneud hynny, maent yn arddangos eu hanghymhwyster llwyr eu hunain. Ers sefydlu'r Senedd—nid wyf am gyfeirio at y blaid ar fy llaw dde yma, ar y dde eithafol ac ymhellach hefyd, mwy na thebyg—mae'r Ceidwadwyr wedi cael trafferth diosg eu hunaniaeth a'u henw fel y blaid Seisnig yng Nghymru. Mewn cyfnod o 20 mlynedd, mae rhai ohonynt wedi llwyddo i fabwysiadu ambell arlliw o wyrdd, efallai, ond dywedaf wrth arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig fod eich ymddygiad annemocrataidd fel plaid ac fel Llywodraeth yn San Steffan dros yr wythnosau a'r misoedd diwethaf hyn wedi lladd y syniad o Geidwadwyr Cymreig. Mae'r un faint o ddilysrwydd yn perthyn i Alun Cairns fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn y wlad hon yn awr, ag sy'n perthyn i Carrie Lam yn Hong Kong.
Nawr, dof at y gwelliannau. Rwy'n credu ei bod yn bwysig dweud—[Torri ar draws.] Ie, ewch ymlaen.
Rydych newydd ddweud, cyn eich ymosodiad ar Ysgrifennydd Gwladol Cymru, eich bod yn teimlo bod yr arlliw o wyrdd, fel y cyfeirioch chi ato, rwy'n credu, y mae'r blaid ar yr ochr hon i'r Siambr wedi'i fabwysiadu dros y 10 mlynedd diwethaf yn cael ei olchi ymaith, ac yna aethoch yn eich blaen i beintio pawb ar yr ochr hon i'r Siambr gyda'r un brwsh â'r blaid yn San Steffan. Yn sicr, nid ydych yn dangos parch at ddatganoli, oherwydd rydym yma heddiw i glywed eich dadleuon, i wrando ar y ddadl hon, gan bob plaid yma, ac i benderfynu drosom ein hunain, ac eto nid ydych yn ymddangos yn barod i wrando arnom.
Edrychwch, nawr yw eich cyfle i ddangos y dŵr gwyrdd clir hwnnw, os mynnwch. Mae yna gynnig y byddwch yn pleidleisio o'i blaid, neu yn ei erbyn, y prynhawn yma. Manteisiwch ar y cyfle hwnnw i ddatgan eich annibyniaeth os mai dyna rydych yn dymuno ei wneud.
Nawr, rwy'n credu bod y gwelliannau rydym wedi'u cyflwyno yn yr ysbryd o geisio creu undod ar draws y Siambr hon. Yn sicr, nid ydynt yn ymgais i'n rhannu'n ddiangen mewn unrhyw ffordd. Nid wyf yn credu eu bod yn amherthnasol, oherwydd maent naill ai'n ymwneud ag argyfwng Brexit yn uniongyrchol neu maent yn codi cwestiwn ehangach ynglŷn â'r argyfwng democrataidd sydd, mewn gwirionedd, wedi'i grisialu gan arweinydd Plaid Brexit yma, oherwydd fe ddywedodd, 'Beth bynnag a ddywedwn yma, wrth gwrs, mae'n amherthnasol, oherwydd gall San Steffan ein hanwybyddu', ac mae wedi taro ar her ganolog a wynebir gennym ac a amlygwyd yn ystod y cyfnod hwn, er mai'n ddamweiniol y gwnaeth hynny yn ôl pob tebyg. Ac nid fi yw'r unig un sydd wedi gwneud y ddadl honno, wrth gwrs, ond sawl uwch aelod o'r Blaid Lafur a gynrychiolir yma hefyd.
Mae gwelliant 6, y buaswn yn gobeithio y byddai Llywodraeth Cymru mewn sefyllfa i'w gefnogi, yn galw ar Lywodraeth Cymru i gyhoeddi'r asesiadau a gynhaliwyd gan Swyddfa'r Cabinet o'r effaith niweidiol o adael yr UE heb gytundeb—yr adroddiad bras melyn fel y'i gelwir—yn llawn. Rwy'n deall bod Ysgrifennydd Brexit yr wrthblaid, Keir Starmer, wedi dweud ar 4 Medi y byddai'n gofyn i'w gyd-Aelodau yn Llywodraeth Cymru wneud yr achos hwnnw. Dywedodd, 'Mi wnaf, ond nid wyf yn siŵr y bydd y ffaith fy mod i'n galw amdano'n ddigon i'w gael wedi'i gyhoeddi', cyfaddefodd, ond roedd yn cytuno y byddai ei gyhoeddi'n ddefnyddiol i Lywodraeth Cymru, ac yn wir, mae'n siarad fel cyn-gyfarwyddwr erlyniadau cyhoeddus.
Mae gwelliant pellach, gwelliant 2 a gyflwynwyd gennym,
'yn galw ar i Erthygl 50 gael ei dirymu'
os ydym yn wynebu'r posibilrwydd uniongyrchol o Brexit heb gytundeb. Unwaith eto, credaf y dylid cael cytundeb trawsbleidiol ar hyn. Yn ei hanfod, mae'n defnyddio dirymiad fel dewis olaf pan fetho popeth arall a chredaf fod cefnogaeth wedi'i mynegi i hynny gan Aelodau Llafur, ac felly, unwaith eto, byddem yn gobeithio bod modd i ni sicrhau rhyw fath o undod trawsbleidiol yma.
Mae trydydd gwelliant a gyflwynwyd gennym yn nodi, pe bai etholiad cyffredinol yn cael ei alw cyn neu yn lle refferendwm, dylai pleidiau sydd o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd ymgyrchu ar bolisi o ddirymu erthygl 50 a pharhau i fod yn rhan o'r UE. Y rheswm syml iawn am hyn, i bob pwrpas, er y byddai'n well gennym gynnal refferendwm, fel y nodir yn y cynnig, yw oherwydd ein bod yn credu mai dyna'r ffordd orau o ddatrys argyfwng Brexit, ac os gwrthodir hynny fodd bynnag, i bob pwrpas, mae etholiad cyffredinol yn troi'n refferendwm ddirprwyol a bydd gennych, ar y naill law, bleidiau sydd o blaid Brexit â neges syml iawn, sef, yn y bôn, Brexit heb gytundeb. Rydym ni ar ochr aros angen neges glir hefyd, ac os yw'n cymryd lle refferendwm i bob pwrpas, yna rydym angen i bleidiau sydd o blaid aros fabwysiadu polisi syml o ddirymu ac aros, ac yn wir, credaf fod y Cwnsler Cyffredinol ei hun wedi mynegi'r farn honno ar 9 Gorffennaf yn y Senedd—ei fod yn gobeithio y byddai'r Blaid Lafur yn hyrwyddo aros yn ei maniffesto mewn etholiad cyffredinol o dan y math o amgylchiadau rwyf wedi'u hamlinellu.
Mae'r gwelliant olaf yn cyfeirio at yr argyfwng democrataidd sy'n ein hwynebu. Mae'n ymgais ddiffuant i ddod â phleidiau at ei gilydd yng Nghymru, i ddefnyddio'r argyfwng presennol mewn modd creadigol, i ddefnyddio'r foment i lansio dadl adeiladol ar ddyfodol Cymru drwy gonfensiwn cyfansoddiadol a chynulliad i ddinasyddion, a fyddai'n edrych ar bob opsiwn ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru. Yn amlwg, mae gan fy mhlaid safbwynt cyfansoddiadol clir iawn o ran annibyniaeth, ond gallem edrych ar yr holl opsiynau sydd ar gael i ni er mwyn datrys yr argyfwng democrataidd y mae Brexit wedi'i amlygu yn fy marn i. Rydym yn cyflwyno'r cynnig hwn mewn ysbryd ecwmenaidd. Ni all creu Cymru newydd fod yn waith i un blaid yn unig. Mae'n waith i genedl gyfan, ei holl bobl a'i holl safbwyntiau. Felly, gadewch i ni ddefnyddio'r ddadl hon, nid yn unig i sefyll yn erbyn y niwed y mae'r Llywodraeth leiafrifol annemocrataidd yn Llundain yn ceisio ei orfodi ar ein gwlad yn fwriadol; gadewch i ni ei defnyddio i lansio symudiad cadarnhaol o blaid newid i ddechrau'r gwaith o greu Cymru newydd a fydd yn cynnig cyfle i ddylanwadu ar, a chymryd rhan mewn Ewrop newydd hefyd.
Galwaf ar Neil McEvoy i gyflwyno gwelliant 5, a gyflwynwyd yn ei enw. Neil McEvoy.
Gwelliant 5—Neil McEvoy
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn cydnabod y gallai canlyniad Brexit heb gytundeb, ac agenda genedlaetholaidd yr asgell dde a gaiff ei dilyn gan Lywodraeth y DU yn Llundain arwain, yn fuan iawn, at wahanu gwleidyddol llawn y cenhedloedd sydd, ar hyn o bryd, yn ffurfio gwladwriaeth y DU ac, i baratoi at y posibilrwydd hwn, yn penderfynu:
a) ymgysylltu â gwleidyddion etholedig ar bob lefel yng Nghymru i sefydlu confensiwn cyfansoddiadol, gyda'r dasg o lunio sut y byddai Cymru sofran y dyfodol yn ymddangos, gan nodi ei pherthynas yn y dyfodol â rhannau cyfansoddol yr hen Deyrnas Unedig;
b) creu cynulliadau'r bobl, i gynnwys aelodau o'r cyhoedd yng Nghymru sydd â diddordeb, gan gynnwys Senedd Ieuenctid Cymru, i gyfrannu at waith y confensiwn cyfansoddiadol hwn;
c) ymgysylltu â'r meddyliau cyfreithiol gorau yng Nghymru a thu hwnt i ysgrifennu cyfansoddiad drafft ar gyfer Cymru sofran y dyfodol, i'w drafod, ei ddiwygio a'i fabwysiadu yn y pen draw gan gonfensiwn cyfansoddiadol;
d) ymgysylltu â'r economegwyr gorau o Gymru a thu hwnt, sydd wedi ymrwymo i ddyfodol economaidd ac amgylcheddol cynaliadwy Cymru sofran, i lunio dulliau realistig i gyflawni hyn;
e) ffurfio pwyllgor o'r Cynulliad hwn, a fyddai'n cynnwys Aelodau Cynulliad sydd â diddordeb, beth bynnag fo'u cysylltiadau pleidiol, i ddiffinio'r cylch gorchwyl a phenodi cadeirydd ac is-gadeiryddion ar gyfer y confensiwn cyfansoddiadol a goruchwylio ei effeithiolrwydd a'i gynnydd;
f) rhoi'r dasg i Lywodraeth Cymru o ddarparu'r adnodd angenrheidiol i alluogi'r uchod yn llawn.
Cynigiwyd gwelliant 5.
Diolch, Lywydd. Os ydych chi erioed wedi pendroni pam y mae angen Senedd sofran arnom yng Nghymru, nid oes ond angen ichi edrych ar San Steffan. Mae'n ffaith fod y Llywodraeth yn Llundain bellach yn cael ei harwain gan genedlaetholwyr asgell dde yn y DU. Gall Cymru wneud yn well. Ni allwn ddibynnu ar San Steffan, felly rhaid inni ddechrau paratoi ar gyfer sefyll ar ein traed ein hunain, ac mae angen inni sicrhau rheolaeth dros Gymru.
Mae'r gwelliant a gyflwynais yn edrych ymlaen. Mae'n rhywbeth cadarn y gellir ei wneud gyda'r pwerau sydd gennym yn y Cynulliad hwn. Nid geiriau gwag ydyw—maent yn bethau y gallwn eu gwneud mewn ffordd bendant.
Rwy'n cefnogi ysbryd gwelliant 4 gan Blaid Cymru, ond mae fy ngwelliant yn fwy manwl gywir ac mae'n mynd ymhellach. Bydd y gwelliant yn ein galluogi i greu confensiwn cyfansoddiadol gyda chynulliadau'r bobl. Mae'r gwelliant hefyd yn cynnwys cyfranogiad y Senedd Ieuenctid, felly gall pob un ohonom ddechrau mapio sut beth fydd Cymru sofran yn y dyfodol. Ni fyddaf yn pleidleisio yn erbyn y cynnig cyffredinol, ond rwy'n anghytuno bod addoedi Senedd San Steffan yn warth cyfansoddiadol, oherwydd nid oes gan y DU gyfansoddiad, ac nid oes gan Gymru un ychwaith, ac nid oes rhaid i bethau fod felly. Mae gan Iwerddon gyfansoddiad, mae gan Ffrainc gyfansoddiad, mae gan Dde Affrica gyfansoddiad, mae gan Japan gyfansoddiad. Mae gan bob talaith yn Unol Daleithiau America gyfansoddiad ysgrifenedig, sy'n dangos nad oes angen i chi fod yn annibynnol i gael un hyd yn oed. Felly, pam na chaiff Gymru un?
Felly, rwy'n dweud bod yn rhaid i ni ymgysylltu â'r meddyliau cyfreithiol gorau yng Nghymru a thu hwnt er mwyn drafftio cyfansoddiad ar gyfer Cymru. Mae angen inni ymgysylltu â'r economegwyr gorau i helpu i adeiladu economi a fydd yn gweithio ar ran ein cenedl. Cawn weld diwedd ar Lywodraeth Lafur yn eistedd yma yn aros i'r cwmni neu'r gorfforaeth nesaf gau un o'i ffatrïoedd yng Nghymru a dweud yn y bôn, 'O, onid yw hynny'n drueni?', ond heb wneud dim byd mewn gwirionedd, neu Weinidogion y Llywodraeth neu is-Weinidogion efallai yn cyfaddef nad yw'r Llywodraeth yn gwybod beth mae'n ei wneud ar yr economi. Heddiw, mae gennym gyfle i ddechrau paratoi ar gyfer Cymru sofran yn y dyfodol. Yn bennaf, mae angen i ni ymgysylltu â'n pobl, a dyna pam y mae angen cynulliadau'r bobl arnom. Y Cymry yw'r gwir arbenigwyr ar sut y dylid rhedeg ein gwlad. Felly, mae'n rhaid i ni ddod at ein gilydd a phenderfynu ar y Gymru rydym ei heisiau. Gallai Cymru gynnwys hawliau yng nghyfansoddiad ein Cymru ni ar gyfer y dyfodol—hawl i gartref, hawl i gael gofal iechyd am ddim, hawl i gael addysg am ddim, hawl i gael swydd, a hawl i ryddid barn. Mae ar Gymru angen senedd y bobl—un sofran sy'n deddfu er budd cenedlaethol Cymru. Mae'n hen gysyniad—democratiaeth yw'r enw arno. Dylid gwneud penderfyniadau am Gymru yng Nghymru. Ac os ydym am rannu ein sofraniaeth, mae honno'n hawl inni hefyd. Dylai fod yn hawl i ni. Nid dyna y mae'r DU yn ei wneud. Mae'r DU yn wladwriaeth ganoledig sy'n gwneud yr hyn sy'n iawn nid i Loegr hyd yn oed, ond i dde-ddwyrain Lloegr. Mae'n bryd i ni yng Nghymru baratoi ar gyfer y Gymru y gallwn ac y byddwn yn ei chreu yn y dyfodol. Mae gwelliant 5 yn gwneud hynny. Rwy'n annog pob un ohonoch i'w gefnogi. Diolch yn fawr.
Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Lywydd. Pan bleidleisiodd pobl Cymru yn 2016, gwnaethant hi'n gwbl amlwg eu bod am adael yr Undeb Ewropeaidd. Dewisodd 52 a hanner y cant o bleidleiswyr yng Nghymru adael yr UE, a phleidleisiodd pob ardal ond pump o'r wlad dros adael. Mae'n bosibl fod pleidleiswyr Cymru wedi pleidleisio am nifer o resymau gwahanol, ond erys y canlyniad fod Cymru wedi pleidleisio dros adael. Wrth gwrs, ers hynny, rydym wedi cael nifer o ddadleuon ar gymhlethdodau Brexit, ei oblygiadau i fusnesau a chymunedau Cymru a sut y gall y Cynulliad baratoi'r wlad yn y ffordd orau ar gyfer bywyd wedi inni adael yr Undeb Ewropeaidd yn y pen draw. Yn yr amser hwnnw, rwyf wedi gofyn llawer o gwestiynau i'r Prif Weinidog am barodrwydd Cymru ar gyfer Brexit, y trafodaethau parhaus y mae ef a'i Lywodraeth yn eu cael gyda chymheiriaid yn y DU, a sut y gallwn weithio gyda'n gilydd i osgoi Brexit heb gytundeb.
Yn anffodus, mae ASau Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru yn San Steffan yn gwneud y trafodaethau'n anos gyda'u gweithredoedd. Yn ystod y cyfnod hwn o anhawster cyfansoddiadol, rhaid inni i gyd gofio pam ein bod yma, a'r rheswm sylfaenol yw er mwyn gwneud Cymru'n lle gwell. Fel gwlad, mae angen inni symud oddi wrth y cyfyngder presennol, ac mae angen inni symud ymlaen gyda'n gilydd. Ac fel Ceidwadwr, rwy'n gobeithio'n fawr iawn y bydd fy mhlaid yn parhau i gynnwys amrywiaeth eang o bobl sy'n gwrando ac yn parchu safbwyntiau gwahanol a barn wahanol.
Yn gynharach, ceisiodd arweinydd Plaid Cymru awgrymu na allaf arwain y Ceidwadwyr Cymreig yn y lle hwn mwyach, ac fe fyddai'n disgwyl imi anghytuno'n fawr â'r pwynt hwnnw. Yr hyn y ceisiais ei wneud ers refferendwm Brexit yw parchu canlyniad y refferendwm, pan bleidleisiodd pobl o blaid gadael yr Undeb Ewropeaidd. Ac rwy'n awgrymu wrth arweinydd Plaid Cymru na ddylai ef a'i blaid alw eu hunain yn 'Blaid Cymru' mwyach, o gofio ei fod yn ceisio gwrthdroi canlyniad y refferendwm, pan bleidleisiodd y rhan fwyaf o bobl Cymru dros adael yr Undeb Ewropeaidd.
Nawr, mae safbwyntiau pob un o arweinwyr y pleidiau gwleidyddol yn y Cynulliad hwn yn wybyddus, ac nid yw'r ddadl heddiw ond yn gyfle arall i beidio â dweud dim sy'n newydd neu'n wahanol, ac i ailadrodd brawddegau treuliedig a llawer o'r hyn y mae Aelodau'r Cynulliad wedi dweud o'r blaen. Ac rydym wedi clywed hynny i gyd eisoes y prynhawn yma.
Nawr, rwy'n deall, yn parchu ac yn derbyn safbwynt y Llywydd wrth ganiatáu i'r ddadl hon gael ei chynnal yn dilyn y cais gan Lywodraeth Cymru ac yn wir gan Blaid Cymru. Er fy mod yn derbyn yn llwyr y safbwyntiau cryf a'r amrywiaeth o safbwyntiau, fodd bynnag, pa un a ydym yn hoffi hynny ai peidio, nid oes gan y Cynulliad gymhwysedd uniongyrchol yn y mater hwn. Dylai'r Aelodau ymgysylltu â'u Haelodau Seneddol, eu busnesau a'u cymunedau i sicrhau eu bod yn barod ar gyfer gadael yr Undeb Ewropeaidd. Er ei bod yn ymddangos bod gan Lywodraeth Cymru a Phlaid Cymru amser i ddadlau'n ddiddiwedd, rydym ni'n gweithio ar draws Cymru i sicrhau bod Cymru'n barod ar ôl Brexit. Rwy'n pryderu bod y Cynulliad—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf mewn munud.
Rwy'n pryderu bod y Cynulliad yn trafod y cynnig hwn heddiw, gan fynd yn groes i'r broses ddatganoli, ac yn defnyddio cymhwysedd San Steffan i wneud gorchest. Cynrychiolir pob etholaeth yng Nghymru gan Aelod Seneddol, a'u gwaith hwy yw cynrychioli safbwyntiau etholwyr ar Brexit yn uniongyrchol, a'r ffordd y mae Llywodraeth y DU yn arwain y wlad allan o'r Undeb Ewropeaidd. Nid yw pobl Cymru heb lais ar y mater hwn.
Nawr, byddai hawl gan Aelodau'r Siambr hon i fod yn bryderus pe bai cymheiriaid yn San Steffan yn penderfynu defnyddio eu proses i alw am ddadl arbennig ar gyflwr ein gwasanaethau iechyd yng ngogledd Cymru, neu danariannu ein system addysg. Ac fe ildiaf i'r Aelod o Ganolbarth a Gorllewin Cymru.
Diolch i chi am ildio, ond rwyf ychydig yn ddryslyd ynglŷn â rhai o'r pethau rydych wedi'u dweud, ac rwyf am roi cyfle i chi eu gwneud ychydig yn gliriach. A oeddech yn dweud mewn gwirionedd mai gwastraff amser yw heddiw, na ddylem fod wedi trafferthu dod yma i glywed safbwyntiau pobl Sir Benfro, lle rwy'n byw, a lle rwy'n ei gynrychioli, fel chithau? Hoffwn fod yn glir ynglŷn â hynny, eich bod yn meddwl bod addoedi'r Senedd yn iawn, am eich bod yn cefnogi hynny, ond yn yr un modd, fod tawelu lleisiau pobl Cymru yn y Cynulliad hwn yn iawn hefyd.
Na, rwy'n gwneud y pwynt nad oes gennym gyfrifoldebau uniongyrchol dros yr hyn rydym yn siarad amdano heddiw mewn gwirionedd. Dyna'r pwynt rwy'n ei wneud i'r Aelod dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru. Ac fe ildiaf yn awr i'r cyn-Brif Weinidog.
Rwy'n ddiolchgar. Dau sylw, mewn gwirionedd. Yn gyntaf oll, mae'n eithaf cyffredin yn San Steffan i drafod materion sy'n ymwneud â gwledydd eraill. Ac felly mae Steffan wedi trafod, yn ystod y blynyddoedd diwethaf yn sicr, y sefyllfa yn Yemen, yn Syria, i roi dwy enghraifft yn unig lle nad oes gan Lywodraeth y DU a Senedd y DU ddylanwad o gwbl. Nid yw bod â dylanwad uniongyrchol neu bŵer uniongyrchol yn golygu nad oes gennych hawl i gael dadl ar fater.
Yn ail ac yn fyr iawn—rwy'n ddiolchgar iddo am yr ymyriad—rwy'n cytuno ag ef o ran yr hyn y mae'n ei ddweud am ei blaid yn cynnwys amrywiaeth eang o ddaliadau. Gan hynny, a wnaiff gondemnio'r modd y cafodd ASau Ceidwadol eu diarddel dros yr ychydig ddyddiau diwethaf?
Rwyf wedi ei gwneud yn gwbl glir y dylai fy mhlaid barhau i gynnwys amrywiaeth eang o ddaliadau. Credaf fod y Blaid Geidwadol yn cynnwys amrywiaeth eang o ddaliadau ac mae ei llwyddiant yn dibynnu ar y sylfaen honno, a buaswn yn gobeithio y byddai'r Aelodau Ceidwadol ffyddlon hynny'n dod o hyd i lwybr yn ôl i lle maent i fod yn y Blaid Geidwadol.
Nawr, wrth gwrs, nid oes unrhyw amheuaeth fod penderfyniad y Prif Weinidog i addoedi'r Senedd wedi'i gollfarnu gan Lafur Cymru ac yn wir, gan Blaid Cymru, er gwaethaf y ffaith, fel y byddai'r Aelodau wedi'i weld rwy'n siŵr, fod addoedi'r Senedd yn gyfreithiol yn gyfansoddiadol. Fodd bynnag, yn dilyn digwyddiadau yn San Steffan dros y dyddiau diwethaf, nid yw'r cynnig hwn yn gyfredol bellach a dweud y gwir. Mae'n debygol iawn erbyn hyn y byddwn yn cael etholiad cyffredinol yn y dyfodol agos yn lle Araith y Frenhines.
Nawr, roeddwn wedi gobeithio, os oedd dadl yn mynd i fod yn y Cynulliad, y byddai Llywodraeth Cymru o leiaf yn ei defnyddio fel cyfle i ddweud wrthym ble yn union rydym arni yn awr gyda pharatoadau Cymru ar gyfer Brexit heb gytundeb a pha waith roeddent yn ei wneud i helpu i sicrhau cytundeb, ond yn anffodus nid yw hynny'n wir. Yn lle hynny, mae'r cynnig y prynhawn yma yn ceisio parhau i dynnu sylw at fethiant y cysylltiadau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, er mai'r hyn y dylai Llywodraeth Cymru fod yn ei wneud mewn gwirionedd yw gweithio gyda hwy i sicrhau cytundeb. Dylai'r cynnig heddiw fod wedi bod yn gyfle i graffu ar waith Llywodraeth Cymru fel y mae Aelodau'r Siambr hon wedi cael eu hethol i wneud, yn hytrach na defnyddio amser ac adnoddau'r Cynulliad i bwyntio bys at Brif Weinidog y DU a Llywodraeth y DU.
Yn gyfansoddiadol, mae Llywodraeth y DU wedi cymryd cam mawr—cam mawr tuag at sicrhau'r canlyniad y pleidleisiodd pobl Cymru drosto. Os nad yw Llywodraeth Cymru am weld Brexit heb gytundeb, mae angen iddynt ymostwng i wneud beth bynnag y gallant ei wneud i gynorthwyo Llywodraeth y DU i gael cytundeb sy'n cyflawni ar ran, ac yn diogelu busnesau a chymunedau Cymru. Ni fydd cael dwy awr o drafodaeth stranclyd yn y Siambr yn helpu busnesau Cymru a diwydiant Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud wrthym fod Brexit heb gytundeb yn golygu llai o swyddi, incwm is, mwy o risg o dlodi i bobl mewn cymunedau ledled Cymru. Felly, fy nghwestiwn yw hwn: beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud am y peth? Yn fy marn i, nid yw cynnal dadl i feirniadu Llywodraeth y DU yn gwneud unrhyw beth i Gymru. Nid yw'n hysbyseb wych i fuddsoddwyr ddod i Gymru na'r ddelwedd rydym am ei chyfleu ledled y byd. Nid yw'r ddadl heddiw'n ddim mwy nag arddangosiad mawr o anaeddfedrwydd gwleidyddol.
Er ei holl siarad am Brexit heb gytundeb a'i effaith ar Gymru, mae Llywodraeth Cymru a'i chyfeillion ym Mhlaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol wedi penderfynu bod sgorio pwyntiau gwleidyddol yn bwysicach na chyflwyno cytundeb sy'n diwallu anghenion pobl Cymru. Fodd bynnag, mae'n amlwg na all Senedd y DU wneud penderfyniad ar Brexit mwyach. Yr unig ddewis arall sydd ger ein bron i gyd yn awr yw etholiad cyffredinol yn y DU i ethol Senedd newydd sy'n cynrychioli ewyllys y bobl. Rwy'n gobeithio y bydd y Prif Weinidog a'r Aelodau eraill yn defnyddio'u dylanwad ar gymheiriaid yn San Steffan i sicrhau y gall hyn ddigwydd ar y cyfle cyntaf, yn enwedig gan fod y Prif Weinidog wedi dweud yn gwbl glir y dylid galw etholiad cyffredinol.
Felly, i gloi, Lywydd, ni fydd yn syndod y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn pleidleisio yn erbyn y darllediad gwleidyddol hwn o gynnig, ac rwyf am orffen drwy wneud darllediad gwleidyddol fy hun i bobl Cymru: yr unig blaid sy'n parchu llais y Cymry ac a fydd yn cyflawni eu dymuniadau yw'r Ceidwadwyr Cymreig, a byddwn yn gweithio'n ddiflino lle y gallwn gyda'n cyd-Aelodau yn San Steffan i gyflwyno cytundeb sy'n sicrhau y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn y ffordd fwyaf esmwyth sy'n bosibl.
Rwyf am ddechrau drwy ddweud ei bod yn hollol iawn inni fod wedi dod ynghyd i drafod Brexit heddiw. Mae'r digwyddiadau digynsail a welwyd yn San Steffan, y bygythiad go iawn o Brexit heb gytundeb gwrth-ddemocrataidd a dinistriol yn ei gwneud hi'n ofynnol i Gymru drafod y materion hyn yma yn ein Cynulliad Cenedlaethol ein hunain. O ystyried yr effaith enfawr y byddai Brexit heb gytundeb yn ei chael ar bobl Cymru ac ar y cyllidebau, y polisïau a'r rhaglenni a roddir mewn grym gan Lywodraeth Cymru, mae'n rhyfeddol y gallai unrhyw un wrthwynebu'r syniad y dylid cynnal dadl ar hyn ar frys. Felly, wrth gwrs ei bod hi'n hollol iawn inni fod yn trafod hyn heddiw. Nid dilysrwydd y ddadl hon yw'r hyn y dylai meinciau'r Ceidwadwyr gnoi cil arno, ond dilysrwydd eu hawl i edrych arnynt eu hunain yn y drych bore yfory. Maent hwy'n gwybod, rwy'n gwybod, mae pawb yn gwybod bod llawer o'u plith heb fod yn credu'r brawddegau y maent yn teimlo bod yn rhaid iddynt eu lleisio er mwyn rhoi rhywfaint o hygrededd i gambl Boris Johnson gyda dyfodol y wlad hon. Rwy'n talu teyrnged i David Melding a'r ffordd y mae wedi darparu sylwebaeth ddeallusol onest a chraff drwy'r dyddiau cythryblus diwethaf hyn. Y tu hwnt i'r sylw hwnnw, nid wyf am enwi enwau, ond rydych chi'n gwybod pwy ydych chi ar y meinciau hynny, ac nid oes gennych yr esgus eich bod yn cael eich arwain gan Andrew R.T. Davies mwyach.
Mae gan Gymru hawl i ddisgwyl gwell. Gallwch sicrhau bod eich llais yn cael ei glywed yn yr un ffordd ag y sicrhaodd 21 o'ch cyd-Aelodau fod eu lleisiau hwy'n cael eu clywed yn y Senedd—ASau'n cynnwys Tad y Tŷ, ŵyr Winston Churchill a Changhellor blaenorol y Trysorlys. Rwy'n gofyn hyn ichi heddiw, yn yr eiliad hon o argyfwng i Gymru a'r DU, os gall Philip Hammond sefyll a chael ei gyfrif, oni allwch chi wneud yr un fath? Oni allwch chi ddweud y gwir wrthym—eich bod wedi eich dychryn gan y syniad o Brexit heb gytundeb, wedi eich brawychu gan gastiau gwrth-ddemocrataidd y Prif Weinidog ac yn cywilyddio wrth weld aelodau da o'ch plaid, gan gynnwys cyn-aelod o'r Cynulliad hwn, yn cael eu diarddel gan y sect sydd wedi goresgyn eich plaid yn San Steffan? Fe ildiaf i Andrew R.T. Davies.
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod dros Dorfaen am ildio. A ydych yn dweud ei fod yn annemocrataidd pan fo'r Prif Weinidog wedi bod ar ei draed am y 24 awr ddiwethaf yn galw am etholiad cyffredinol er mwyn iddo allu cyflwyno'i ddadl i'r bobl, i'r bobl allu penderfynu a ydynt am gael y ddadl honno? Ac mae'r Prif Weinidog ei hun wedi pwysleisio'r pwynt ei fod am gael cytundeb. Felly, pam na wnewch chi gefnogi etholiad cyffredinol er mwyn i'r bobl gael lleisio barn?
Nid wyf yn ymddiried yn y Prif Weinidog, sydd wedi osgoi ac ochrgamu, a throi a throelli, ac sydd heb unrhyw hygrededd ar y mater hwn, gydag etholiad ar Brexit. Rwy'n credu ei bod yn gwbl gywir i wrthwynebu etholiad cyffredinol ddoe, i geisio ffrwyno'r Prif Weinidog hwn ar fater pwysicaf ein hoes.
Yr unig amddiffyniad y mae'r Prif Weinidog yn ei gynnig am ei ymddygiad yw ei fod yn ceisio anrhydeddu pleidlais Brexit 2016. Ond gadewch i ni edrych ar beth y mae pobl yn ei ddweud heddiw. Roedd arolwg barn yr wythnos hon yn gwbl ddinistriol ynglŷn â dull gweithredu'r Prif Weinidog. Yn ôl y pleidleiswyr, roedd 46 y cant o bobl yn credu bod y modd y mae Johnson wedi atal y Senedd yn annemocrataidd o gymharu â 32 y cant a gredai fel arall. Mae penderfyniad y Prif Weinidog i gael gwared ar 21 o'i ASau, gan gynnwys dau gyn-Ganghellor y Trysorlys, ac ŵyr Winston Churchill, o'i blaid hefyd yn cael ei weld yn annemocrataidd gan 45 y cant o bobl o'i gymharu â 32 y cant a gredai fel arall. Dim ond un rhan o bump o bleidleiswyr sy'n credu bod pobl wedi pleidleisio dros adael heb gytundeb yn 2016. Nid oes gan y Prif Weinidog fandad i adael heb gytundeb gan y Senedd, gan y bobl ac yn sicr nid gan y Cynulliad hwn, sydd wedi pleidleisio yn erbyn Brexit heb gytundeb dro ar ôl tro. Mae pleidleiswyr yn credu, o 2:1, fod Johnson yn poeni mwy am ei les personol na lles y wlad. Mae'r arolwg barn hefyd yn dangos bod pleidleiswyr yn credu, o 3:1, y byddai gadael heb gytundeb yn ddrwg i safonau byw eu teuluoedd, ac o 2:1 y bydd yn gwneud economi Prydain yn wannach ac yn gwaethygu'r GIG. Yn olaf, canfu'r arolwg barn nad yw pobl am gael etholiad cyffredinol ond maent am gael pleidlais arall i'r bobl.
Clywsom lawer yn y Cynulliad hwn am barchu safbwyntiau'r cyhoedd yng nghyd-destun Brexit, a gobeithio bod yr Aelodau'n hapus i roi'r hyn y maent ei eisiau i'r bobl a rhoi llais terfynol iddynt ar hyn, oherwydd mae cost ddynol barhaus i hyn oll. Yr wythnos hon gwelsom gyhoeddiad Tata Steel yng Nghasnewydd, ac rydym i gyd yn gwybod bod busnesau ar hyd a lled Cymru yn gwneud penderfyniadau gweithredol i beidio â buddsoddi, i beidio â chyflogi pobl, tra bo bygythiad gadael heb gytundeb yn llercian ar y gorwel.
Nawr, mae'n ddyletswydd arnom yn y Cynulliad hwn gan hynny i weithio gyda'n gilydd ar draws ffiniau pleidiau. Rydym yn hoff o ddweud ein bod yn wahanol i San Steffan ac yn gwrthod gwleidyddiaeth frygowthlyd Tŷ'r Cyffredin, ond yr wythnos hon rydym ar ei hôl hi o gymharu â'r ASau. Dangosasant yr hyn y gellir ei gyflawni wrth i Lafur, y Democratiaid Rhyddfrydol, Plaid Cymru, yr SNP ac, ie, rhai Torïaid, weithio gyda'i gilydd er lles y wlad i wrthwynebu gambl beryglus Boris Johnson. Mae angen inni wneud yr un peth yma.
Rwy'n credu mai'r ddelwedd a fydd yn parhau yn y cof o Lywodraeth Boris Johnson—a fydd yn un fyrhoedlog iawn yn fy marn i—fydd y darlun o Jacob Rees-Mogg yn gorweddian ar y fainc flaen yn y Senedd: delwedd berffaith o fraint ddi-hid, rhywun sy'n gallu fforddio peidio â malio. Os na wnawn ddim byd arall yn y Siambr hon heddiw, rwyf am inni ystyried beth fydd y darlun a fydd yn parhau yn y cof o'r lle hwn pan ysgrifennir hanes Brexit. Mae gennym gyfle o hyd i'w wneud yn ddarlun o oddefgarwch, cydweithrediad a her yn wyneb fandaliaeth economaidd. Erfyniaf ar Aelodau o bob rhan o'r Siambr—yn enwedig draw acw—i sefyll a chael eu cyfrif, i ychwanegu eu llais yn erbyn gadael heb gytundeb, i ychwanegu eu cefnogaeth i roi eu llais yn ôl i'r bobl. Rhowch y gair olaf i'r bobl.
Felly, ar ôl misoedd o bendroni beth fydd y Prif Weinidog yn ei wneud, gwyddom bellach beth yw ei galibr, ac nid wyf yn ei ddweud gydag edmygedd. Mae Boris Johnson yn ddyn heb unrhyw ymdeimlad o gywilydd nac yn wir, unrhyw ofal ynglŷn â pha mor ddiffygiol y caiff ei weld gan hanes. Pan etholwyd Johnson, câi ei weld yn gyffredinol fel arbrawf, un ymdrech arall i fynd ben-ben â'r UE, damwain car cyfle olaf pan fetho popeth arall, yn aros i ddigwydd. Ac mae'r ddamwain honno'n bendant wedi digwydd bellach. Fel y dywedodd Robert Peston, nid argyfwng cyfansoddiadol yw'r digwyddiadau yn San Steffan—yr addoedi a aeth o chwith, y rhai a orfodwyd i gael eu diarddel o'u plaid, y bygythiadau amlwg; na, methiant cyfansoddiadol ydynt. Mae yna bydredd wedi treiddio i'r system yn San Steffan sydd mor ddwfn fel na ellir ei ddifa. Bydd yn parhau i fwyta'r sefydliad hwnnw wrth i'r adeilad o'i amgylch droi'n llwch, ac yng nghanol y cyfan, Boris Johnson, ein Ozymandias, yn annog partneriaid masnachu posibl i edrych ar waith ei ddwylo ac anobeithio, tra bo dim yn aros ond ef ei hun.
Felly, daethom at y foment hon pan welir pa mor ffug yw'r Llywodraeth yn San Steffan a'r cyfan er mwyn gwireddu celwydd a ysgrifennwyd ar ochr bws. Ni all Johnson feio neb ond ef ei hun am fethiant cynnar ei Lywodraeth. Roedd May wedi gosod ei llinellau coch ei hun. Lapiodd ei hun ynddynt a chafodd ei chlymu ganddynt, ond aeth Johnson, y rebel fel ag erioed, ar drywydd gwahanol. Ysgrifennodd ei linellau coch ef mewn inc anweledig, fel y gellid eu dileu pryd bynnag y tyfai'r fersiwn honno o bethau i fod yn anghyfleus. Ond nid oedd yn sylweddoli bod yr inc wedi baeddu ei ddwylo a'i fod yn ddyn a gaiff ei ddwyn i gyfrif, yn union fel y mae ei ddyddiau yn y swydd wedi'u cyfrif.
Felly, wrth iddo ysgrifennu cyfarwyddiadau ar gyfer ei negodwyr ag un llaw, gyda'r llall, roedd yn eu dileu, gan ddangos eu bod wedi'u cynllunio i fethu. Twyll â'r dwylo, tric, gêm. Ond yn y gêm arbennig hon, mae bywydau fy etholwyr yn y fantol, bywydau pobl sy'n dibynnu ar feddyginiaethau ac sy'n ofni a fyddant yn gallu cael gafael arnynt. Mae Boris Johnson hefyd yn fodlon achosi trallod i fywydau dinasyddion yr UE sydd wedi gwneud eu cartrefi yn ein cymunedau. Wel, nid wyf fi, ac nid yw fy mhlaid ychwaith yn fodlon gweld hynny'n digwydd. Lywydd, rwy'n falch ein bod wedi cael ein had-alw heddiw, oherwydd bydd yr hyn sy'n digwydd yn San Steffan yr wythnos hon yn effeithio'n ddirfawr ar fywydau ein hetholwyr. Ac nid wyf yn rhannu'r diffyg uchelgais ar gyfer y lle hwn a leisiwyd gan Aelodau o rai o'r meinciau anflaengar, na allent brin drafferthu i ddod yma o gwbl. Rhaid inni ysgwyddo ein cyfrifoldeb.
Mae gwelliant 4 Plaid Cymru yn galw ar y Llywodraeth i sefydlu confensiwn cyfansoddiadol Cymreig. Yn ddiweddar, yn yr Eisteddfod Genedlaethol, gwrandewais ar y cyn Brif Weinidog, Carwyn Jones, yn egluro y gallai ragweld y byddai annibyniaeth yn dod pa un a ydym yn hoffi hynny ai peidio. Rwy'n hoffi hynny, gyda llaw, er efallai nad yw ef. Ceir Brexit heb gytundeb; mae'r Alban yn ennill ei hannibyniaeth; cynhelir pleidlais lwyddiannus ar y ffin. Beth wedyn? A oes unrhyw un yn y Siambr hon yn credu o ddifrif y byddai Teyrnas Unedig Lloegr a Chymru yn ymarferol, heb sôn am fod yn ddymunol? Felly, mae'n hanfodol i Lywodraeth Cymru ddechrau gwneud y gwaith paratoi yn awr: sefydlu confensiwn neu gomisiwn cyfansoddiadol Cymreig, rhoi iddo gylch gorchwyl i nodi'r opsiynau a'r heriau i'w bodloni o dan senarios gwahanol yn y dyfodol, sicrhau bod y bobl yn rhan o'r gwaith drwy gynulliadau dinasyddion, pennu llwybrau democrataidd ar gyfer pob dewis, dewis a wneir gan bobl Cymru yn y pen draw. Nid oes rheswm dros beidio â gwneud hyn, ac eithrio ymlyniad ideolegol i undeb sy'n marw o flaen ein llygaid. Os methwch wneud hyn, gallai gael ei weld fel yr enghraifft waethaf o esgeuluso dyletswydd yn hanes datganoli. Fe fyddwch yn meddwl am y geiriau hyn pan fydd Cymru'n cael ei bwrw ymaith heb gwmpawd. Oherwydd rwy'n credu bod y dydd yn dod, ac yn fuan, pan fydd angen i ni adael San Steffan ar ôl.
Ychydig fisoedd yn ôl, dywedodd Donald Tusk fod 'lle arbennig yn uffern' wedi'i neilltuo ar gyfer y rhai a hyrwyddodd Brexit heb y syniad cyntaf o sut y byddai'n gweithio. Wel, yn union fel ar ddechrau Inferno Dante, rydym yn canfod ein hunain
mewn coedwig dywyll, am fod y llwybr o'n blaenau wedi'i golli.
Mae angen i ni newid cwrs. Nid oes dim yn wrol nac yn arwrol mewn mynd ar drywydd Brexit a fyddai'n achosi anhrefn di-ben-draw i'n cymunedau. Os nad oes refferendwm, ac nid oes arwydd fod un ar y ffordd ar hyn o bryd, dylid dirymu erthygl 50. Ond mae'r llannerch heulog a ddaw â ni allan o'r goedwig honno yn llydan agored o'n blaenau, a Chymru annibynnol yw honno.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Ddirprwy Lywydd, rwy'n gwneud y cyfraniad hwn yn bennaf fel unoliaethwr—nid fel un o'r unoliaethwyr olaf gobeithio. Ond mae'n bryd, rwy'n credu, i bob unoliaethwr gydnabod y perygl rydym ynddo. Dyma'r argyfwng mwyaf mewn cyfnod o heddwch ers argyfwng Iwerddon.
Yr her yw sicrhau Brexit ystyrlon nad yw'n peri chwerwder i'r Alban, a'r rhai sydd eisiau aros yn yr UE yng Nghymru a Lloegr. Dim ond via media a all gydnabod dyfnder canlyniad y refferendwm yn ei holl gymhlethdod mewn gwirionedd. Via media: y ffordd ganol a ffafrir gan gynifer o'r diarhebion Rhufeinig. Rwy'n gwybod ein bod wedi cael cyfeiriadau clasurol yn gynharach gan y clasurydd mawr sydd gennym yn y Siambr hon, y Prif Weinidog. Yn anffodus, mae'r via media sy'n cael ei chynnig, sef cytundeb rhesymol a negodwyd gan y DU a'r UE, wedi cael ei diystyru oherwydd bod gormod o bobl wedi mynd ar drywydd ateb swm sero. Ni all canlyniadau swm sero gynhyrchu undod. Heb ysbryd cryf o undod, nid oes unrhyw setliad cyfansoddiadol byth yn ddiogel.
Mae'n rhaid i mi ddweud fy mod yn cytuno â Stephen Kinnock AS: mae'r cytundeb sydd bellach yn cael ei gynnig gan yr UE, a addaswyd ar ôl trafodaethau gyda mainc flaen Llafur, o fudd i'r wlad i raddau helaeth iawn. Dylem uno a'i dderbyn. Mae'r syniad ei fod yn cael ei atal rywsut gan 'backstop' annemocrataidd yn hurt. Mae mwyafrif o bobl yng Ngogledd Iwerddon yn cefnogi'r 'backstop', fel y mae'r mwyafrif ym Mhrydain. Dim ond un blaid sy'n ei wrthwynebu mewn gwirionedd. Dywedir wrthym yn y Senedd mai prin 100 o ASau sy'n credu ei fod yn annerbyniol. Ac am hynny, byddwn yn colli canlyniad rhesymol a ffordd ganol ar gyfer cyflawni Brexit mewn ffordd sy'n parchu holl gymhlethdod y refferendwm yn briodol. Rydym mewn sefyllfa druenus o ganlyniad i agwedd o'r fath.
Ac ni chynigiwyd gadael heb gytundeb erioed fel canlyniad difrifol gan y rhai a gefnogai Brexit yn y refferendwm; yn wir roeddent yn dueddol o redeg milltir pan gâi ei grybwyll. A hyd yn oed pe baent yn ei ddeisyfu'n dawel bach, mae pethau wedi newid ers 2016. Mae Sefydliad Masnach y Byd—y corff gwych hwnnw sy'n mynd i'n hachub yn awr—mae Sefydliad Masnach y Byd yn wynebu argyfwng. A oes unrhyw rai ohonoch chi erioed wedi darllen am eu sefyllfa bresennol? Mae ei fecanweithiau cyflafareddu, holl sail masnach rydd, dan ymosodiad gan yr UDA a Tsieina—tua'r unig beth y mae'r UDA a Tsieina yn cytuno arno ar hyn o bryd mewn masnach. Dyna'r perygl rydym ynddo ar hyn o bryd.
Y gwir yw bod gadael heb gytundeb yn strategaeth risg uchel, ond mae'n risg uchel i'w orfodi ar y rhai mwyaf agored i niwed, ac ni fyddaf yn rhan o hynny. Ddirprwy Lywydd, ar drothwy cyflafan Peterloo, 200 o flynyddoedd yn ôl, ysgrifennodd William Hazlitt y geiriau canlynol sydd wedi taro tant mewn democratiaethau byth ers hynny:
Cariad at eraill yw cariad at ryddid; hunangariad yw cariad at rym.
Mae hynny'n wir yn achos yr unigolyn, y blaid, y wlad. Hunangariad yw cariad at rym.
Mewn cyfnod o argyfwng, mae angen inni gael calonnau hael. Y peth olaf y dylem ei wneud yw troi ar ein partneriaid yn yr UE a'u galw'n elynion. Gartref—[Torri ar draws.] Gartref, mae angen inni ddehongli, bargeinio—ie, bargeinio—ac addasu yn ôl yr amgylchiadau. Oherwydd, fel yr ysgrifennodd Edmund Burke:
Heb golli golwg ar egwyddorion, dylai gwladweinydd gael ei arwain gan amgylchiadau; a gallai ddifetha ei wlad am byth trwy farnu'n groes i alwadau'r funud.
Ddirprwy Lywydd, dechreuais fel unoliaethwr; hoffwn orffen fel Ceidwadwr. Cafodd ein plaid yn ei hanfod ei hadeiladu yn y 1920au gan Stanley Baldwin. Fe'i gwnaeth yn gartref i ryddfrydwyr. I bob pwrpas, symudodd dros hanner y Blaid Ryddfrydol at y Blaid Geidwadol, wedi'i harwain, wrth gwrs, gan Winston Churchill. Roeddem mewn grym am 63 o'r 95 mlynedd wedyn. Nid dyma'r amser i ddiarddel y rhyddfrydwyr o'r Blaid Geidwadol.
Roedd Harold Macmillan yn Brif Weinidog Ceidwadol a oedd, fel y dywedodd Neil Kinnock unwaith, yn cynrychioli cenhedlaeth o Dorïaid a oedd yn cydnabod dyletswydd ac yn mynd ar drywydd yr amcan o un genedl. Mae'r Prif Weinidog Torïaidd presennol, Boris Johnson, ar y trywydd iawn i fod y Prif Weinidog a dreuliodd yr amser byrraf yn 10 Stryd Downing, ac nid oes ganddo unrhyw fwriad o lywodraethu er lles un genedl. Felly, rwy'n croesawu'r cyfle hwn yn fawr—yn wahanol i eraill—fel Aelod Cynulliad etholedig Llafur Cymru dros Islwyn, i eistedd yn y Siambr hon heddiw, yn Senedd Cymru, i drafod dryswch presennol yr hyn a elwir yn Llywodraeth y Torïaid a'i ganlyniadau pwysig i'r bobl rwy'n eu cynrychioli.
Pan ofynnwyd i Harold Macmillan beth oedd yn fwyaf tebygol o daflu Llywodraethau oddi ar eu llwybr, fe ddywedodd 'Digwyddiadau, gyfaill, digwyddiadau.' Ers i Gynulliad Cenedlaethol Cymru gael ei ad-alw, a hynny'n briodol, rydym wedi gweld digwyddiadau ac ymosodiadau digynsail ar ein democratiaeth seneddol gan gabál Ceidwadol trychinebus. Ac efallai fod wythnos yn amser hir mewn gwleidyddiaeth o'r blaen, ond mae'r 24 awr ddiwethaf wedi dangos bod diwrnod yn amser eithaf hir hefyd. Felly, rwy'n llwyr gefnogi'r cynnig o sylwedd a gyflwynwyd inni ar y cyd heddiw. Yn wir, mae'n warth cyfansoddiadol fod Prif Weinidog y DU wedi ceisio cau'r Senedd am fwy na phum wythnos yn y cyfnod mwyaf o argyfwng cenedlaethol ers yr ail ryfel byd. A gwelsom yr un Boris Johnson ar garreg drws Rhif 10 ddyddiau'n unig yn ôl yn dweud yn glir nad oedd am gael etholiad cyffredinol—nid oedd am gael etholiad cyffredinol. Ddoe, dywedodd wrth Dŷ'r Cyffredin ei fod am gael un. Felly, pyped yw hwn, pwdl o Brif Weinidog sy'n cael ei reoli gan Dominic Cummings, rebel o gynghorydd gwleidyddol, sy'n chwarae mathau peryglus o gemau heb unrhyw ofal am y canlyniadau real a difrifol i'n gwlad a'n dinasyddion. Ac wrth gynrychioli fy etholwyr yn Islwyn, fy ngwaith i hefyd yw sicrhau nad ydynt hwy a'u teuluoedd yn dioddef yn sgil canlyniadau negyddol dramatig a thrychinebus Brexit heb gytundeb a'i ganlyniadau mwy hirdymor.
Dylai fy nghydweithiwr Llafur, yr Aelod Seneddol dros Islwyn, Chris Evans, gael cyfle i ddwyn Gweithrediaeth y Deyrnas Unedig hon i gyfrif, ac mae ymdrechion gan Lywodraeth y DU i dawelu a gwrthod ein mam-ddeddfwrfa yn sinistr, ac yn fy marn i, mae'n rhaid eu gwrthsefyll doed a ddêl. Mae'r modd digynsail y diarddelwyd ASau Ceidwadol anghydsyniol yn dystiolaeth bellach o weithredu sinistr gan unben pot jam o Brif Weinidog. Mae democratiaeth yn mynnu, ac yn ei gwneud hi'n ofynnol i'r broses o wneud penderfyniadau gael ei hamlygu, ac yn sgil cydsyniad Tŷ'r Arglwyddi, bydd deddfwriaeth yn cyrraedd y llyfr statud sy'n sicrhau nad yw'r DU yn llithro'n awtomatig i Brexit trychinebus.
Yn fy marn i, ni ellir datrys yr argyfwng yn ein gwladwriaeth ac yn ein bywyd cenedlaethol bellach heb alw etholiad cyffredinol amserol yn y pen draw, a bydd hynny o fudd i'r wlad ar adeg o argyfwng cenedlaethol a chyfansoddiadol. Rhaid i etholwyr Prydain benderfynu mewn refferendwm a ddylai'r DU adael yr UE yng ngoleuni'r cyfan sydd wedi dod yn hysbys ers 2016, gyda'r ffeithiau llawn o'u blaenau. Ni all, ac ni ddylai unrhyw ddemocrat ofni'r gair olaf a wneir gan y cyhoedd ym Mhrydain drwy etholiad cyffredinol a refferendwm unwaith ac am byth. Rydym yn gwasanaethu, bob un ohonom, fel cynrychiolwyr y bobl, ac rwy'n hynod ymwybodol fod y bobl a gynrychiolaf yn dymuno gweld y mater wedi'i ddatrys, a llais terfynol iddynt eu hunain, er mwyn dyfodol eu teuluoedd, eu swyddi, eu lles, ac yn olaf, er mwyn sicrhau undod y wlad a chydlyniant cenedlaethol.
Bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn drychineb i Gymru ac i'r Deyrnas Unedig. Dŷn ni wedi clywed eraill y prynhawn yma yn olrhain yr her ddychrynllyd sydd o'n blaenau os na ellir atal Brexit heb gytundeb. Rwy'n clywed y crochlefain, 'Mae'r bobl wedi pleidleisio i adael'—ydyn, wir, ond ni wnaeth y 52 y cant pleidleisio i adael heb unrhyw gytundeb o unrhyw fath o gwbl yn y byd. Na, pleidleisio i adael, ond heb unrhyw weledigaeth o beth y mae 'gadael' yn ei olygu. Dyna beth ddigwyddodd a dyna beth sydd wedi esgor ar y cawl gwleidyddol a'r rhwygiadau yn ein cymdeithas ni a'r polareiddio a'r dicter a'r casineb nawr.
Ac, ie, mae dioddefaint eisoes yn y byd iechyd wrth i gyffuriau a meddyginiaethau ar bresgripsiwn fynd yn gynyddol fwy anodd i'w cael dros y misoedd diwethaf hyn nawr, wrth i gwmnïau cyffuriau rhyngwladol bentyrru cyflenwadau i baratoi am Brexit heb gytundeb nawr. Yn y feddygfa'r wythnos diwethaf, doedd dim cyflenwad o Epilim, tablets gogyfer epilepsi, na Sinemet, tablets gogyfer Parkinson's, ar gael yn unman. Mae pobl yn wynebu mynd heb dabledi nawr, gan beryglu eu hiechyd a'u bywydau nawr, tra bo pob fferyllydd yn rhedeg o gwmpas yn wallgof yn trio ffeindio cyflenwad o'r feddyginiaeth briodol ac yn ceisio perswadio meddygon teulu i ragnodi cyffur gwahanol, ond rhain ydy'r cyffuriau gorau i'r claf ar y pryd, sydd wedi eu dewis yn wreiddiol gan arbenigwyr yn yr ysbyty, a rŷch chi eisiau'r meddyg teulu i ddod i fyny efo dewis amgen sy'n mynd i weithio cystal. Mae ein cleifion yn crwydro o fferyllfa i fferyllfa yn chwilio am y cyffur ar y presgripsiwn, gan boeni a phryderu nawr. Dyna'r realiti ar y llawr yn ein cymunedau heddiw.
A gyda'r gaeaf yn dod, mae angen brechiadau yn erbyn y ffliw, a bydd her sylweddol i gael gafael ar y brechiadau yma heb gytundeb efo Ewrop. Mae 'Just get on with it', felly, yn golygu epidemig o ffliw, gyda salwch difrifol a marwolaethau ymhlith ein pobl fwyaf bregus yn absenoldeb y prif arf i atal hynny. Mae epidemig ffliw yn dod eleni. Mae wedi bod yn Awstralia eisoes—mae ar y ffordd. Felly, byddwn yn wynebu epidemig o ffliw heb y prif amddiffyniad yn ei erbyn. Bydd 'Just get on with it' yn golygu edrych ar fy nghleifion yn dioddef, a gwaeth.
Mae nifer o'n cyffuriau mwyaf cyffredin ni—rhai dŷn ni'n gwbl ddibynnol arnyn nhw, fel insulin—ar hyn o bryd ddim yn cael eu cynhyrchu ym Mhrydain o gwbl. Dŷn ni'n gyfan gwbl ddibynnol ar Ewrop am y cyflenwad i gyd. Dyna pam mae ein Colegau Brenhinol ni mor bryderus. Mae meddygaeth, mae iechyd, mae ymchwil—maent i gyd yn rhan o rwydwaith Ewropeaidd fendigedig sydd wedi dylifro gogyfer pobl Cymru, pobl y Deyrnas Unedig i gyd. Ac y mae'r partneriaethau yn y byd datblygu cyffuriau, datblygu triniaethau, cynnal treialon ymchwil rhyngwladol, i gyd yn y fantol ac yn disgwyl cael eu rhwygo'n ddarnau gan Brexit dim cytundeb. Mae cytundeb Euratom yn y fantol, sydd yn gwarantu cyflenwad o eisotopiaid meddygol ymbelydrol sy'n cael eu cynhyrchu ar y cyfandir ac yn diflannu mewn oriau—half life o chwe awr—pethau fel technetium a molybdenum. Mae hanner bywyd rhain yn fyr iawn ac mae eu defnyddio i drin canser ym Mhrydain yn dibynnu'n llwyr ar gydweithio rhyng-Ewropeaidd o'r radd flaenaf i warantu llwyddiant triniaeth canser yma yng Nghymru. Bydd rhwygo'r rhwydwaith yma'n ddeilchion gyda dim cytundeb yn hynod, hynod niweidiol i'n pobl ni yma yng Nghymru.
Ac efo'r prorogation—addoedi—atal Senedd y Deyrnas Unedig, sy'n golygu cau Senedd San Steffan i lawr yn gyfan gwbl—nid jest rhyw fath o recess ydy hwn, ond ei gau i lawr yn gyfan gwbl—ni fydd yn bosib trafod manylion argaeledd cyffuriau a meddyginiaethau na dim byd arall am bum wythnos. Ar adeg mor dyngedfennol yn hanes ein cenedl—gwarth. Cefnogwch ein gwelliannau a'r cynnig.
Hoffwn ddechrau drwy fynegi fy syndod fod Llywodraeth Cymru wedi gweld yn dda i ad-alw'r Cynulliad hwn ar fater nad yw wedi'i ddatganoli ac sy'n ymwneud â gweithdrefnau mewn man arall. Ni allaf ond dyfalu beth fyddai'r ymateb yma pe bai San Steffan yn cael ei ad-alw, er enghraifft, i drafod rhyw argyfwng yn y GIG yng Nghymru yn y dyfodol. Y gwir amdani yw mai'r sesiwn seneddol bresennol yn San Steffan oedd yr hwyaf ers bron i 400 o flynyddoedd, ac mae wedi bod yn un o'r rhai lleiaf gweithredol. Mae araith newydd y Frenhines yn hwyr ac yn angenrheidiol os yw Llywodraeth y DU am ganolbwyntio ar flaenoriaethau cyhoeddus hollbwysig. Ond mae Llywodraeth Cymru wedi dewis anwybyddu'r angen hwn ac wedi dewis ymroi i ystumio gwleidyddol dibwrpas ac aneffeithiol. Rydym wedi gweld yr olygfa warthus o Aelodau Cynulliad Llafur a Phlaid Cymru yn ymdrechu'n daer i weld pwy all edrych fwyaf dig.
Rydym eisoes yn gwybod beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar Brexit. Byddant yn ymgyrchu dros 'aros' mewn unrhyw refferendwm ar yr UE yn y dyfodol. Mae'n debyg fod hynny'n golygu y byddant yn ymgyrchu yn erbyn unrhyw gytundeb i adael yr UE a negodir gan Lywodraeth Corbyn. Rwy'n credu y dylem gofio rhai ffeithiau ar y cam hwn. Drwy fwyafrif clir pleidleisiodd pobl Prydain dros adael yr Undeb Ewropeaidd mewn refferendwm yn 2016. Mae'r Prif Weinidog wedi ymrwymo i weithredu cyfarwyddyd y bobl, yn ddelfrydol gyda chytundeb, a heb gytundeb os oes angen. Yn dilyn y cyfarfod diweddar yn Ewrop, gan gynnwys y G7, mae'r teimladau'n fwy cadarnhaol o blaid y posibilrwydd o gael cytundeb. Fodd bynnag, mae hynny'n cael ei danseilio gan ASau sy'n honni eu bod am atal Brexit heb gytundeb er mai eu nod yw atal Brexit yn gyfan gwbl. Pe bai gwleidyddion Llafur, y Democratiaid Rhyddfrydol, Plaid Cymru a'r SNP am atal Brexit heb gytundeb, dylent fod wedi pleidleisio dros gytundeb ymadael Mrs May yn hytrach na chwarae gemau er mantais wleidyddol i'w pleidiau.
Pan fydd y Senedd yn ailymgynnull ar 14 Hydref, ar ôl tymor cynadleddau'r pleidiau, bydd amser o hyd i drafod Brexit. Credaf yn gryf y bydd symudiad pellach yn Ewrop i gael cytundeb yn yr ychydig wythnosau nesaf. [Torri ar draws.] Ie, ewch ymlaen.
Roeddwn i eisiau holi am y peth hwn rydych chi'n ei ddweud yn gyson, fod yna negodiadau'n digwydd. Defnyddiodd Philippe Lamberts, ASE o Wlad Belg, air rheg a dywedodd nad oedd unrhyw negodiadau'n digwydd ar hyn o bryd—nad oes negodi oherwydd nad oes cyfaddawd ar y 'backstop'. Nid oes unrhyw negodiadau. A wnewch chi roi'r gorau i ddweud celwydd yn y Senedd hon fod yna rai ar y gweill?
Yr hyn ydyw, Bethan, rwy'n meddwl fy mod wedi derbyn eich pwynt, ond y ffaith amdani yw, peidiwch ag anghofio, fod negodi rhwng 27 o wledydd yn erbyn un. Ni yw'r un. Mae tair blynedd wedi mynd heibio eisoes. Rydych wedi gwastraffu—[Torri ar draws.] Edrychwch, cyflawnodd Theresa May hyd at 97 y cant o'r cytundeb. Mae pawb ohonom yn gwybod amdano. Ond 'backstop' gan y Blaid Lafur ydyw, nid Gogledd Iwerddon. Nid ydynt yn cytuno ag unrhyw beth. Rydych chi hefyd yn ymuno â hwy ym mhob un o'r meysydd eraill. Gobeithio y byddant yn llwyddiannus yn y negodiadau, ond credaf yn gryf mai'r gwarth cyfansoddiadol gwirioneddol yw bod Llafur Cymru a Phlaid Cymru wedi gwrthod parchu canlyniad y refferendwm a gweithredu ar gyfarwyddiadau clir pobl Cymru a Phrydain i adael yr Undeb Ewropeaidd.
Ddirprwy Lywydd, un pwynt rwy'n ei glywed yn aml—mae cryn nifer o Aelodau wedi sôn am Churchill. Roedd yn Brif Weinidog gwych ar y wlad hon. Bydd pobl yn gweld ei lun gyda chi tarw. Peidiwch ag anghofio, mae Boris Johnson yn ddaeargi tarw. Fe fydd yn amddiffyn buddiannau Prydain. Ar hyn o bryd rydym—[Torri ar draws.]
Diolch i'r Aelod am ildio. Onid yw'n sylweddoli bod Winston Churchill nid yn unig yn hyrwyddo Undeb Ewropeaidd, ond mewn gwirionedd, cyn yr ail ryfel byd, roedd am i'r DU a Ffrainc uno'n un wlad. Felly, os gwelwch yn dda, ni allwch ddefnyddio Winston Churchill fel rhywun y gallwch ei bortreadu fel rhywun gwrth-Ewropeaidd. Roedd yn hollol groes i hynny.
Na, ond y peth yw, rhoddais enghraifft yn unig am fod llawer o'r Aelodau wedi sôn am Churchill yma. Rwy'n siarad—. Rwy'n ei gymharu ychydig gyda Boris Johnson. Mae Boris Johnson yn ddyn teulu. Rwy'n gwybod ei fod yn berson gwahanol. Mae'n ceisio amddiffyn buddiannau Prydain Fawr, ac nac anghofiwch, rydym yn colli'r hanes. Mae'r byd i gyd yn gwylio. Mae democratiaeth yn y fantol, oherwydd y gwir amdani yw y cyfeirir atom—. Wyddoch chi, ein Senedd ni yw mam yr holl Seneddau. Edrychwch ar y gwledydd lle nad oes democratiaeth. Ni allwn gytuno ar un peth yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Yr hyn a ddywedwn yw ei bod hi gan y bobl ar gyfer y bobl. Fy mhwynt i yw, mae'r Deyrnas Unedig—. Mae ein cyhoedd yn y Deyrnas Unedig wedi penderfynu gadael yr Undeb Ewropeaidd. Pam eich bod chi'n llusgo'ch traed? Pam nad ydych chi'n cytuno i gael etholiad a'i wneud unwaith ac am byth? Diolch yn fawr iawn.
Hoffwn dynnu sylw at yr eglurhad a roddodd Mark Reckless am bwynt 1 yn ei gynnig, lle dywedodd fod y feirniadaeth ynglŷn â natur ddiduedd llywydd y ddeddfwrfa wedi'i hanelu at Lefarydd Tŷ'r Cyffredin. Buaswn i'n dweud, gadewch i ni fod yn gwbl glir fod y Dirprwy Lywydd a'r Llywydd yn gweithredu'n amhleidiol yn y Siambr hon, yma a thu allan i'r Siambr yn y cyfarfodydd a gawn gyda hwy. Credaf ei bod yn werth gwneud hynny'n glir.
Yr araith a wnaeth Neil McEvoy, sydd bellach wedi gadael—. Dywedodd Neil McEvoy nad yw'n warth cyfansoddiadol ond ei bod yn waradwyddus fod y cyfansoddiad yn dibynnu ar uniondeb Prif Weinidog y dydd. Yn wir, defnyddiais yr un termau bron yn y grŵp Llafur y bore yma pan ddisgrifiais sut y teimlwn am y cyfansoddiad. Mae'n wendid yng nghyfansoddiad y DU, a chredaf fod hynny wedi'i adlewyrchu yn y geiriau a ddefnyddiodd Mark Reckless yn ogystal am Dŷ'r Cyffredin: cyfansoddiad gwan yw hwn, ac yn wir, cyfansoddiad sy'n methu. A buaswn yn dweud y byddem yn dod o hyd i atebion gwahanol i'r cyfansoddiad diffygiol hwnnw mae'n debyg, ond serch hynny rwy'n credu ein bod bellach yn cytuno ar draws y Siambr hon fod angen i gyfansoddiad y DU newid.
Buaswn yn dweud bod arnom angen cyfansoddiad ysgrifenedig wedi'i godio yn y wlad hon sy'n amlwg yn gwahanu pŵer y weithrediaeth a phŵer seneddol ac sydd hefyd yn dilyn egwyddor sybsidiaredd. Mae egwyddor sybsidiaredd yn awgrymu bod pŵer yn cael ei ddatganoli i'r lefel fwyaf priodol i natur y penderfyniad sy'n cael ei wneud. Mae'n berffaith bosibl drwy gonsensws trawsbleidiol i sicrhau argymhelliad a fyddai'n cyflawni'r amcan hwnnw. Ond buaswn yn dweud nad refferendwm yw'r allwedd i ddatgloi'r diwygio cyfansoddiadol hwnnw. Rwyf wedi siarad yn faith yn y Siambr hon am fy ngwrthwynebiad i'r egwyddor o refferenda nad ydynt prin byth yn ddemocrataidd, ac rwy'n tynnu sylw'r Siambr at araith a wnaed gan Bernard Jenkin AS, un yr ystyrir ei fod yn un o brif gefnogwyr Brexit. Dywedodd yn y Senedd ddydd Mercher,
Mae chwerwder y dadleuon heno yn adlewyrchu methiant ein cyd-ddealltwriaeth ynglŷn â pha fandad sy'n gyfreithlon: y cynrychioliadol neu'r uniongyrchol. Mae gennym gyfansoddiad yn awr sy'n cynnwys syniadau am gyfreithlondeb sy'n cystadlu yn erbyn ei gilydd, ac oni chefnwn ar refferenda, dylai'r Tŷ hwn fod yn barod i weithredu penderfyniadau poblogaidd nad yw'n eu hoffi, ond mae wedi dangos peth amharodrwydd i wneud hynny.
Buaswn yn dadlau bod yr amser ar gyfer refferenda yn dod i ben. Ni allwn weld rhagor o refferenda yn y wlad hon heb rannu'r wlad mewn modd na ellir ei wrthdroi. Ac felly, beth a wnawn yn lle hynny? Wel, yr allwedd, yn fy marn i, i ddatgloi diwygio cyfansoddiadol yw diwygio etholiadol, a chyn y gallwn wneud unrhyw beth pellach gyda newid cyfansoddiadol, credaf fod angen diwygio etholiadol o'r gwraidd i'r brig yma yn y Senedd hon ac yn San Steffan. Rwy'n credu mai dyna'r allwedd sylfaenol i newid cyfansoddiad y wlad heb orfod cynnal refferendwm. Byddai system etholiadol gwbl gyfrannol yn ei gwneud yn ofynnol i fwy nag un blaid hyrwyddo newid cyfansoddiadol y gallant gytuno yn ei gylch, ac yn wir, byddai'n rhaid i'r pleidiau hynny gydweithio wedyn i'w gyflawni. Credaf y bydd y system honno o ddiwygio etholiadol yn caniatáu ac yn cyflawni hynny. Ond gyda'i alwad am refferendwm, nid dyna y mae gwelliant Plaid Cymru yn ceisio ei wneud, a dyna pam na fyddaf yn cefnogi'r gwelliant hwnnw gan Blaid Cymru.
Mae'n bwysig heddiw i ni egluro pa mor beryglus a gwrthun oedd gweithred Johnson i atal Senedd San Steffan rhag trafod mewn cyfnod mor argyfyngus, ac mae'n bwysig i ni ddweud pa mor niweidiol i Gymru ydy 'no deal', ond mae modd i ni wneud mwy na lleisio barn yn unig gan fod cyfle hefyd heddiw i drafod ffordd ymlaen drwy'r dryswch. Dwi'n credu bod cyfrifoldeb ar arweinwyr gwleidyddol i gynnig gobaith, i arwain trafodaeth, ac, yn y cyd-destun presennol, mae hynny'n golygu annog ein cydwladwyr i ystyried o ddifri sut ddyfodol sydd orau i gymunedau Cymru. Does dim dwywaith fod Brexit, a Brexit di-gytundeb yn enwedig, yn cael ei yrru gan ideoleg benodol sy’n codi o fath ddinistriol o genedlaetholdeb cul, asgell dde, breintiedig. Mae angen trechu’r ideoleg yma sy’n sathru pawb a phopeth ddaw yn ei ffordd. Ond mae hi’n bwysig cofio nad oedd pawb a bleidleisiodd dros Brexit yn cael eu gyrru'r ideoleg honno. Roedd gweithred cymaint o’n cydwladwyr ni yn ein cymunedau tlotaf wrth bleidleisio dros Brexit yn weithred yn codi o rwystredigaeth, yn codi o deimlad o annhegwch dwfn, yn waedd yn erbyn tlodi a theimlo’n ddiymadferth. Fe addawyd y byddai bywyd yn well gyda Brexit, ond yn raddol mae’r freuddwyd yn cael ei dryllio, ac mae mwy a mwy yn sylweddoli mai celwydd oedd y cwbl. A gyda’r sylweddoliad, daw’r teimlad o fod yn ddiymadferth unwaith eto, ac mae’n rhaid i ni ochel rhag hynny.
Mae dyletswydd arnom ni, gynrychiolwyr etholedig ein pobl, i beidio â gadael i anobaith gymryd gafael. Felly, dwi’n credu bod dau ddewis yn ein hwynebu ni fel seneddwyr. Fe fedrwn ni gladdu ein pennau yn y tywod a gobeithio, drwy ryw ryfedd wyrth, fod ffordd ymlaen o fewn y gyfundrefn gyfansoddiadol anghyfartal, doredig bresennol, neu fe fedrwn ni wynebu realiti. Y realiti hwnnw ydy bod yn rhaid i bethau newid. Dwi yn digwydd credu mai annibyniaeth i Gymru—cymryd yr awenau ein hunain a phenderfynu ein tynged ein hunain—ydy’r ffordd orau ymlaen. Rydych chi’n gwybod hynny. Rydych chi’n gwybod mai dyna ydy fy marn i. Ond edrychwch ar welliant 4. Dydy pleidleisio dros welliant 4 ddim yn ymrwymo Cymru i annibyniaeth, wrth gwrs. Beth mae’r gwelliant yn ei wneud ydy ein hymrwymo ni a phobl Cymru i feddwl o ddifri am ein dyfodol cyfansoddiadol ac yna dod ag opsiynau gerbron pobl Cymru. Dwi’n deall beth sydd gan Hefin i’w ddweud ynglŷn â refferenda, ond mae’n rhaid ffeindio ffordd o ddod ag opsiynau o flaen pobl Cymru.
Mae gwelliant 4 yn cynnig llwybr clir ymlaen: cynnal trafodaeth synhwyrol fydd yn adlewyrchu ac yn dod ynghyd yr amrediad gwahanol o safbwyntiau ar sut mae’n rhaid i ddemocratiaeth Cymru esblygu, a dyletswydd Llywodraeth, a neb arall, ydy arwain y gwaith. Rŵan, fydd y confensiwn ei hun ddim yn newid dim byd, wrth gwrs, ond gall ei gasgliadau greu newid a chreu gobaith am ddyfodol gwell. Nid siop siarad sydd ei angen, a dyna pam mae ein gwelliant ni’n cynnig mynd ag opsiynau manwl at ein pobl ar ddiwedd y trafod. Dewch i ni ystyried a dewch i ni gynnig gobaith i bawb, gan gynnwys y rhai yn ein cymunedau tlotaf, fel nad ydyn nhw’n mynd yn ôl i deimlo’n ddiymadferth a rhwystredig. A pha well ymateb gan Senedd Cymru i weithredoedd byrbwyll Johnson na rhoi cychwyn ar drafodaeth ystyriol a gobeithiol efo’n pobl am ddyfodol ein gwlad?
Rwy'n croesawu'r cyfle i godi yn y Siambr y prynhawn yma i siarad yn y ddadl hon, er fy mod yn cydnabod cyfyngiadau'r camau y gallwn eu cymryd. Rwy'n uniaethu â llawer o'r sylwadau a wnaeth David Melding—nid oes amheuaeth nad yw'r Blaid Geidwadol yn cynnwys amrywiaeth eang o ddaliadau. Efallai y bydd rhai pobl yn gweld hynny'n rhyfedd gennyf fi fel rhywun sy'n cefnogi Brexit, ond mewn gwirionedd, fel cefnogwr Brexit, rwy'n credu'n angerddol fod yn rhaid gwrando ar leisiau, ym mha blaid bynnag. Ond os yw'r bobl wedi siarad, mae'n rhaid i chi weithredu ar ddymuniadau a chyfarwyddiadau'r bobl. Ac ymwneud â hynny oedd y refferendwm yn 2016. Roedd yn ymwneud â cheisio cyfarwyddyd gan bobl Prydain—Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon—ynglŷn â sut roeddent am i'n perthynas fod gyda'r Undeb Ewropeaidd.
Roedd rhaid i mi atgoffa fy hun sut yn union yr edrychai'r papur pleidleisio, oherwydd rwyf wedi clywed cynifer o bobl dros y tair blynedd yn y cyfamser yn dweud, 'Wel, doedd hynny ddim ar y papur pleidleisio', 'Doedd hyn ddim ar y papur pleidleisio', 'Roedd hynny ar y papur pleidleisio'. I mi, roedd yn gymharol syml: roedd y gair 'aros' yno ac roedd y gair 'gadael' yno, a buaswn yn awgrymu bod y rhan fwyaf o bobl, os nad pawb, a gerddodd i mewn i'r bwth pleidleisio yn gwybod am beth roeddent yn pleidleisio. Nawr, gallwn ddadlau—[Torri ar draws.] Gallwn ddadlau—[Torri ar draws.] Gallwn ddadlau bod ystod eang iawn o bethau rhwng y 'gadael' a'r 'aros' yr oedd pobl yn dymuno eu cael. Ar yr ochr aros, ai'r ffaith ein bod i gael gwladwriaeth ffederal Ewrop fel y mae Juncker wedi amlinellu dros y tair blynedd diwethaf a chynyddu integreiddio—ac rwy'n clywed 'ie, ie' o rai cylchoedd—neu ai statws—[Torri ar draws.] Neu ai'r status quo? 'Gadael'—ai'r toriad y sonnir amdano ar 31 Hydref pan nad oes cytundeb ar waith, neu ai cytundeb i'w roi ar waith ac yna ein bod yn gadael? A dyna'r drafodaeth rydym wedi bod yn dadlau yn ei chylch dros y tair blynedd diwethaf. Nawr gall pobl ddadlau cymaint ag y dymunant am yr hyn y mae Boris Johnson wedi'i wneud dros y chwe wythnos diwethaf, ond mae wedi ceisio dod â hyn i ben, ac mae'n rhaid bod hynny'n rhywbeth—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
—mae'n rhaid croesawu hynny mewn gwleidyddiaeth. Rwy'n falch o dderbyn ymyriad.
Diolch. Soniasoch ar ddechrau'r hyn rydych newydd ei ddweud wrth y lle hwn fod pawb am gael plaid wleidyddol sy'n cynnwys amrywiaeth eang o ddaliadau a bu ichi gefnogi hynny yn ei hanfod, felly beth yw eich barn chi am y ffaith bod Boris Johnson wedi diarddel dogn fawr o'ch cymheiriaid Ceidwadol yn San Steffan?
Yr hyn sydd wedi digwydd yn sgil diarddel neu atal y 22 Aelod Seneddol oedd ei fod wedi dweud yn glir iawn wrthynt cyn iddynt bleidleisio ei fod yn fater o hyder ac roedd yn rhaid cadw at y bleidlais honno o hyder. Dewisasant beidio â chadw at y bleidlais o hyder, felly, yr egwyddor wleidyddol yw, os nad ydych chi'n pleidleisio dros hyder yn eich Llywodraeth neu'ch arweinyddiaeth, rydych chi'n gadael y blaid. Rydym yn gweld hynny yn y Blaid Lafur yn San Steffan ar hyn o bryd.
Ond y pwynt rwy'n ei wneud, yw bod yr hyn sydd wedi digwydd yn San Steffan yn ystod yr ychydig ddiwrnodau diwethaf wedi dangos bod San Steffan wedi gweithio. Rwy'n anghytuno â'r ddeddfwriaeth a gyflwynwyd, ond fe gafodd y ddeddfwriaeth honno ei chyflwyno ac mae'n atal yr hyn y mae'r Llywodraeth am ei wneud. Nawr, gallwch gytuno neu anghytuno â hynny, ac fel y dywedais, rwy'n anghytuno â'r ddeddfwriaeth honno, ond mae'n dangos bod y Senedd wedi gweithio.
Nawr, ymateb Boris Johnson a'i Lywodraeth yw dweud, 'Iawn, mae'r Senedd wedi fy atal. Gadewch i ni fynd i'r wlad; gadewch inni gael y sgwrs honno gyda'r wlad a cheisio mandad gan y wlad i gyflawni naill ai'r cytundeb a'n bod yn gadael, neu ein bod yn rhoi allweddi Rhif 10—[Torri ar draws.]—ein bod yn rhoi allweddi Rhif 10 i'r pleidiau eraill fel eu bod hwy'n gallu ei wneud'. Democratiaeth yw'r enw ar hynny, ac mae'n ofid mawr imi—mae'n ofid mawr i mi—fod arweinydd Plaid Cymru wneud y gymhariaeth rhwng Prif Weinidog y wlad hon a phrif weithredwr gweinyddiaeth Hong Kong, lle mae pobl ar y strydoedd yn brwydro am democratiaeth ac yn wir yn marw dros ddemocratiaeth yno. Dylech dynnu'r sylw hwnnw yn ôl, oherwydd, yn y pen draw, mae Prif Weinidog y wlad hon wedi dweud y bydd yn mynd ger bron y wlad a bydd yn cyflwyno ei ddadl i'r wlad. A chi a'r Blaid Lafur a'r pleidiau eraill yn San Steffan sy'n rhwystro hynny rhag digwydd. Ni allwch ddadlau yn erbyn hynny. Democratiaeth yw'r enw ar hynny. O rannau eraill o'r Siambr hon heddiw clywsom y gair 'unbennaeth', wel, nid oes unrhyw unbennaeth wrth i'r Prif Weinidog sefyll yn Nhŷ'r Cyffredin i ddweud, 'Gadewch inni droi at y wlad a gofyn iddynt sut y maent am i'r wlad hon weithredu ar Brexit'. Dyna'r cwestiwn y byddwn yn ei wynebu yn ystod y pedair i bum wythnos nesaf, a dyna sy'n rhaid inni ei ateb.
Ond yn anad dim, yr hyn na ddylem gilio rhagddo yw'r cyfarwyddyd a roddwyd i ni yn 2016. Rwy'n cefnogi Brexit fel y gŵyr pawb yn y Siambr hon, ond rwy'n credu mewn mewnfudo. Rwy'n credu bod mewnfudo'n beth da i'r wlad. Rwy'n credu mewn masnach; rwy'n credu bod masnach yn dda i'r wlad hon. A chredaf ein bod yn dysgu gan bobl eraill. Nid wyf yn credu mewn troi ein cefnau ar y byd, ond yr hyn a ddysgais ers i mi ddechrau mewn gwleidyddiaeth a'r hyn a welais ym Mrwsel yw endid rwyf fi wedi'i ddewis, a wyf am i'r wlad hon fod yn rhan ohoni. Cymerais ran yn y ddadl a'r drafodaeth yn y refferendwm. Rhoddais fy maner ar y mast. Cefnogodd y wlad yr hyn roeddwn i a 17.4 miliwn o bobl eraill yn dewis ei wneud. Ein lle ni yw deddfu a chefnogi'r mandad hwnnw a'i gyflawni, ac ymhen pump, 10, 15, 20 mlynedd, os yw gwleidyddion am wrthdroi hynny mewn maniffestos, boed hynny fel y bo—democratiaeth yw'r enw ar hynny. Ond bydd peidio â gweithredu canlyniad refferendwm 2016 yn ansefydlogi'r wlad yn fawr, a rhaid inni gymryd rhan yn yr hyn a ddaw yn y pedair neu'r pum wythnos nesaf drwy gynnal etholiad cyffredinol ac rwy'n annog y pleidiau gyferbyn i gefnogi hynny er mwyn i'r bobl gael Llywodraeth yn San Steffan a fydd yn cyflawni eu dymuniadau.
Ni feddyliais erioed y byddwn yn sefyll yma heddiw, nac yn unman o ran hynny, i dalu teyrnged i Aelodau Seneddol Ceidwadol, ond rwy'n mynd i wneud hynny. Rwy'n mynd i dalu teyrnged i'w dewrder a'u penderfyniad yn rhoi eu gwlad o flaen eu plaid. Mae'n cymryd dewrder. Rydym wedi gweld golygfeydd eithriadol yn San Steffan yn ystod y dyddiau diwethaf, hyd yn oed yn ôl safonau Brexit, ac rydym wedi gweld—ac rydych chi'n mynd i glywed y gair eto—symudiad i atal democratiaeth rhag digwydd, i addoedi'r Senedd ac i ddileu hawl y cynrychiolwyr hynny i gael llais mewn democratiaeth. Nawr, pa ffordd bynnag y ceisiwch ddarlunio hyn, os ydych yn ei symud i'w eithaf, fe'i gelwir yn unbennaeth. Un peth yw codi a gweiddi a dweud nad yw hynny'n wir, ond nid yw'n wir mwyach, oherwydd fe weithredodd pobl o argyhoeddiad ddoe er mwyn ei atal. Felly dyna pam nad ydym yn symud ar hyd y trywydd a oedd yn amlwg yn mynd i orffen gydag unbennaeth, ac nid yn unig bod yn unben ar y wlad gyfan, ond bod yn unben fel arweinydd eich plaid eich hun.
Nawr, mae llwyddo i wneud ac i gyflawni'r hyn y mae Boris Johnson wedi'i wneud, pan nad ydych ond wedi eistedd yn y Senedd fel Prif Weinidog ers tridiau, yn dipyn o gyflawniad onid yw. Nid wyf yn meddwl y bydd neb byth eto'n llwyddo yn y fath fodd i fethu cyflawni'r hyn y bwriadai ei wneud. Nid wyf yn credu y bydd neb arall byth yn llwyddo i fethu adfer rheolaeth yn y modd y mae ef wedi methu, gan golli rheolaeth yn llwyr yn lle hynny, oherwydd mae'n amlwg ei fod wedi gwneud hynny. Nawr, efallai y bydd yn cael ei weld fel tipyn o hwyl a sbri os ydych chi'n filiwnydd, os gallwch fetio'r ddwy ffordd yn llythrennol, fel Jacob Rees-Mogg, ac agor cronfeydd buddsoddi yn yr UE. Nid yw'n syndod mawr, felly, ein bod yn ei weld yn gorffwys, yn llythrennol, ar feinciau gwyrdd y Senedd. Ond nid yw'r opsiynau hynny ar gael i'r wlad a'r bobl rwy'n eu cynrychioli. Bydd y rhan fwyaf o bobl wedi gweld cipio grym y Torïaid am yn union yr hyn ydyw—cam-drin pŵer y Weithrediaeth mewn modd nas gwelwyd o'r blaen. Ac mae'n ymddangos bod gan y Torïaid hanes o hyn, oherwydd y tro diwethaf y galwyd am addoedi'r Senedd oedd pan wnaeth John Major yr un peth yn union yn 1997 fel y gallai gladdu'r ddadl 'arian am gwestiynau'. Dyna oedd y tro diwethaf. Felly, mae yna hanes i hyn.
Roedd cefnogwyr Brexit yn arfer mawrygu sofraniaeth y Senedd, ond erbyn hyn maent yn trin cynrychiolwyr etholedig gyda'r un dirmyg â'r barnwyr, y gweision sifil a'r newyddiadurwyr sy'n meiddio sefyll yn eu ffordd, ac maent yn eu galw yn elynion i'r bobl. Dyna'n union y maent yn eu galw. Diolch byth, mae fy mhlaid i a gwrthbleidiau eraill yn San Steffan, a'r ASau Ceidwadol hynny a grybwyllais yn awr wedi trechu'r bwlis. Gwelaf fod Jo Johnson newydd ymddiswyddo, er mwyn treulio llai o amser gyda'i deulu yn ôl pob tebyg. Byddai Brexit heb gytundeb yn drychinebus. Rydym wedi clywed heddiw am y dogfennau bras melyn, ac i mi y newyddion a wnaeth argraff go iawn oedd bod y Llywodraeth yn pentyrru bagiau cyrff. Bagiau cyrff—a allwch chi gredu hynny mewn difrif? Y gwir amdani yw nad oes awdurdod moesol gan gefnogwyr pybyr Brexit i orfodi'r wlad i adael heb gytundeb a gobeithio na fydd ganddynt hawl gyfreithiol yn fuan ychwaith, oherwydd, beth bynnag a ddywedwch yma heddiw, ni phleidleisiodd neb o blaid Brexit heb gytundeb yn 2016. Y cyfan a glywsom bryd hynny oedd, 'Gallwn gael ein cacen a'i bwyta', byddai'r cytundeb masnach yn hawdd—roeddent hyd yn oed yn cystadlu â'i gilydd i ddweud pa mor gyflym y gallem gyflawni hynny: un diwrnod, dau ddiwrnod. Mae'n chwerthinllyd. Dywedwyd wrthym y byddai'r DU yn cadw holl fanteision aelodaeth o'r UE ac na fyddai'n rhaid i ni dalu dim o'r costau, ac y byddai'r GIG yn cael £350 miliwn yr wythnos yn ychwanegol—ni chafodd hynny ei grybwyll yr wythnos hon, gyda llaw—ac na fyddai'n cael ei werthu i Donald Trump. Fel y dywedais, rwy'n credu mai dyna'n sicr yw'r bwriad. Ond rwy'n credu mai'r peth mwyaf a ddaeth yn amlwg yr wythnos diwethaf—ac rwy'n ei ystyried yn gwbl anghrediniol—oedd bod Gweinidogion y Llywodraeth yn awgrymu y byddent yn anwybyddu'r gyfraith a fyddai'n atal Brexit heb gytundeb, a phan welwn lunwyr rheolau yn dod yn dorwyr rheolau, anarchiaeth yw peth felly, a phan ddaw gan Lywodraeth, mae'n waeth byth.
Pan fo gwerthoedd craidd dan fygythiad ac egwyddorion sylfaenol yn cael eu sathru, mae’n ddyletswydd ar bob un ohonom ni i wneud popeth y gallwn ni i wrthsefyll hynny.
Dŷn ni heddiw’n falch o gyd-gyflwyno cynnig sy’n datgan bod gweithredoedd diweddar Llywodraeth Prydain yn warth gyfansoddiadol, ac sy’n atgoffa o beryglon dybryd Brexit heb gytundeb: y bygythiad i swyddi; y rhybudd o chaos gan Ffederasiwn y Busnesau Bach; y rhybudd gan y cwmnïoedd recriwtio bod Brexit yn barod yn achosi prinder gweithwyr mewn rhai sectorau; ofnau’r sector cig coch am adael efo allforion ar eu hanterth; y bygythiad ehangach i’r diwydiant amaeth a’r effaith gatastroffig y gallai hynny ei gael ar ein cymunedau gwledig ac ar y Gymraeg; y rhybudd gan bennaeth cwmni bwyd Iceland mai’r tlotaf a’r mwyaf bregus fyddai’n dioddef fwyaf; rhybudd yr OBR am y pwysau ar wariant a benthyciadau cyhoeddus; y rhybudd gan Airbus—sy’n cyflogi 7,000 o bobl yng Nghymru, cofiwch—fod paratoi am Brexit yn barod yn costio cannoedd o filiynau o bunnau iddyn nhw, a’r bygythiad go iawn i fuddsoddiadau posib ganddyn nhw yn y dyfodol. Yn ein porthladdoedd, mae’r rhybudd yn glir: mi fydd yna anrhefn. A chofiwch fod masnach drwy borthladd Caergybi, yn fy etholaeth i, wedi cynyddu bron 700 y cant ers creu’r farchnad sengl. Mae’r diwydiant ceir, wedyn, yn barod wedi rhoi mwy na rhybudd, dwi'n meddwl y cytunwch chi, am ei agwedd tuag at Brexit. Ydy, mae’r dystiolaeth yn glir iawn.
Er fy mod bob amser wedi gwrthwynebu unrhyw fath o Brexit erioed ac wedi ymgyrchu yn erbyn Brexit, mae'r dystiolaeth yn glir ynghylch y niwed penodol a difrifol a achosir gan Brexit heb gytundeb. Ond nid ni'n unig sy'n dweud hynny. Dyna pam rydym ni ar y meinciau hyn yn gofyn ichi gefnogi nid yn unig y prif gynnig heddiw ond ein gwelliannau hefyd, ac mae un ohonynt, sef gwelliant 6, yn galw am gyhoeddi'r ddogfen fras felyn, a fydd yn dangos, mae'n siŵr, fod Llywodraeth y DU ei hun yn llwyr ymwybodol o beryglon gadael yr UE heb gytundeb, ond mae'n dal i fod yn barod i orfodi hynny ar y boblogaeth.
Rydym hefyd yn ei gwneud yn glir mewn gwelliannau eraill fod yn rhaid inni gynnig ffordd allan i bobl o senario mor drychinebus, ac yn ein barn ni, mae dirymu erthygl 50 yn ffordd glir o wneud hynny os nad oes ffordd arall allan.
Ac rydym hefyd yn eich atgoffa yng ngwelliant 4 fod camau cadarnhaol eraill yn agored i ni fel cenedl fach, ac mae'n rhaid eu bod i gyd ar yr agenda yn awr. Rwyf bob amser wedi cefnogi annibyniaeth, nid fel diben ynddo'i hun, ond fel ffordd o greu dyfodol newydd a gosod cyfeiriad newydd i Gymru, ac mae'n bryd i ni gael y drafodaeth honno drwy gonfensiwn cyfansoddiadol cenedlaethol.
Gwn fod annibyniaeth yn air emosiynol. Gellir ei gamddefnyddio ac mae modd ei wyrdroi, fel sydd wedi digwydd, yn fy marn i, yng nghyd-destun Brexit, ond gwyddom yma beth y mae'n ei olygu a beth y gall ei olygu i Gymru, ac i mi, mae'n creu cyfle, ffresni—her, ie, yn sicr, ond gwir obaith hefyd. Gofynnwyd i mi sawl gwaith dros y tair blynedd diwethaf, 'Sut y gallwch fod eisiau annibyniaeth i Gymru, ond eich bod yn dal i fod eisiau bod yn yr UE?' Ac a wyddoch chi beth? Mewn sawl ffordd, mae Brexit wedi helpu i egluro beth yw annibyniaeth Cymru a'r hyn nad ydyw. Mae annibyniaeth i Gymru'n gwrthgyferbynnu'n llwyr â Brexit mewn sawl ffordd. Mae Brexit yn ynysig. Mae genedigaeth gwladwriaeth Gymreig yn golygu rhyng-genedlaetholdeb a phartneriaeth o fewn cyd-destun Prydeinig ac Ewropeaidd. Mae Brexit yn gaeedig. Mae annibyniaeth Cymru yn gynhwysol. Rydych chi wedi gwneud Cymru'n gartref i chi; beth am ei gwneud yn wlad i chi hefyd? Mae Brexit yn sgrechian ymerodraeth uwchraddol yn arddull Rees-Mogg. Fy mreuddwyd i yw i Gymru adeiladu ei dyfodol yn gydradd ag eraill; nid yn well, dim ond yn gyfartal. Ac mae Brexit yn adeiladu waliau; mae adeiladu Cymru newydd yn ymwneud ag adeiladu pontydd. 'Pam wyt ti'n wrth-Brydeinig?', gofynnant. Nid yw hynny'n wir. Ni chaf fy nghymell gan fod 'yn erbyn'; rwyf 'dros'. Rwyf dros roi dyfodol gwell i'n plant. Yn wir, gallwn ddatblygu gwir falchder o fod yn rhan o'r ynysoedd Prydeinig hyn pe bai Cymru'n wlad annibynnol. Ein cymdogion yn yr ynysoedd hyn yw ein cyfeillion. Ond rwy'n dweud hyn wrthych, mae'r hyn a welsom dros flynyddoedd Brexit—y celwyddau, yr anoddefgarwch, a'r bennod ddiweddaraf, gywilyddus hon o danseilio democratiaeth—yn gwneud imi deimlo cywilydd fy mod yn rhan o'r hyn sydd wedi datblygu'n wladwriaeth Brydeinig bydredig. Mae'n bryd ailadeiladu o'r newydd.
Gair ar welliant cywilyddus Plaid Brexit. Mae ymosod ar gadeirydd deddfwrfa neu lywydd yn ymosodiad ar ddemocratiaeth. Roeddwn yn Senedd Catalonia yr wythnos diwethaf yn sefyll o dan y llun o Carme Forcadell sydd yn y carchar ar hyn o bryd am arfer ei phwerau fel llywydd wedi'i hethol yn ddemocrataidd. Ac am eich Brexit 'toriad glân', nid oes dim byd yn lân yn eich bargeinion budr a fyddai'n sicrhau mai'r tlotaf yn y wlad hon fyddai'n cael eu gadael i bydru wrth i'ch arweinyddion breintiedig chi orweddian yn warthus ar feinciau braint. Pleidleisiwch o blaid y cynnig a'n gwelliannau heddiw. Gadewch i ni beidio â chael ein twyllo i feddwl bod ein tranc yn anochel.
Rydw i wedi bod yn lle hyn nawr am dros 20 mlynedd a dwi erioed wedi gweld sefyllfa fel hyn. Llanast, cawlach, rhacs, yfflon, jibidêrs—mae digon o eiriau’n Gymraeg i ddisgrifio’r sefyllfa rydym ni ynddi wrth gwrs, ond mae'n broblem fawr i’r Deyrnas Unedig ac, wrth gwrs, i Gymru. A gaf i ddweud bod yna berffaith hawl gyda hon, Senedd pobl Cymru, i gwrdd i drafod mater sy’n hollbwysig i bobl Cymru, wedi’i ddatganoli ai peidio? Mae yna hawl gyda'r sefydliad hwn i sicrhau ei fod yn rhoi llais i bryderon pobl Cymru. A dwi’n difaru’n fawr iawn nad yw rhai Aelodau wedi dod yma heddiw. Dyw rhai Aelodau ddim wedi dod yma heddiw, ac maen nhw wedi datgan hynny o flaen llaw—Gareth Bennett, er enghraifft. Dywedodd e nad oedd e'n mynd i ddod yma heddiw. Wel, tasai fe heb ddweud e, fyddai neb wedi sylwi, mae’n rhaid i mi ddweud. Ond efallai y byddai’n barod i roi ei bae dyddiol felly i elusen o achos y ffaith ei fod e wedi cymryd arian heddiw mewn tâl ond ddim wedi troi lan i wneud ei waith.
Ddirprwy Lywydd, mae gennym Brif Weinidog y DU nad yw wedi'i ethol gan y bobl, un a wrthododd alw etholiad pan oedd yn gyfleus iddo wneud hynny ym mis Gorffennaf a mis Awst, un a geisiodd gau Senedd y DU. Ac un o'r rhesymau pam ein bod ni'n cyfarfod heddiw yw oherwydd bod Senedd y DU yn cael ei mygu. Senedd y DU, gallwn ychwanegu, a gafodd ei hethol yn 2017 mewn gwirionedd—flwyddyn ar ôl y refferendwm. Senedd y DU a etholwyd ar ôl gofyn i bobl a oeddent am gefnogi Theresa May a Brexit eithaf caled, ac fe ddywedodd y bobl 'na'. Nid oes tystiolaeth, felly, fod y bobl am weld Brexit heb gytundeb. Ac wrth gwrs, rydym yn sôn am rywun sydd wedi diarddel rhai o'i Aelodau Seneddol uchaf eu parch, ac mae mwy. Rydym wedi gweld gwleidyddiaeth frawdladdol yn ein tro, ond y bore yma, fe aeth Jo Johnson â hynny i lefel arall eto.
Ac mae wedi gwneud honiadau sy'n amlwg yn ffug. Rydym i gyd yn dweud pethau yn y Siambr sy'n seiliedig ar ffeithiau, ond maent yn seiliedig ar sut rydym ni'n gweld y byd. Ond ni allwch ddweud y bu negodi gyda'r Undeb Ewropeaidd pan fo hynny'n amlwg yn anwiredd. Mae Gweinidog Tramor Iwerddon wedi dweud hyn, mae ASE wedi'i ddweud, mae'r Comisiynydd Barnier wedi'i ddweud—nid oes negodi'n digwydd. Nid yw'r DU wedi cyflwyno unrhyw syniadau o gwbl ynglŷn â lle i fynd yn y dyfodol. Mae'r syniad fod yna gytundeb ar y bwrdd yn aros i gael ei gytuno yn hurt ac yn rhywbeth y mae pobl Prydain yn cael eu twyllo yn ei gylch. A beth bynnag, pe bai etholiad ar 15 Hydref, beth fyddai hynny'n ei olygu? Gallai fod canlyniad amhendant. Beth wedyn? Mae Boris Johnson yn dal i fod yn Brif Weinidog er na fydd ganddo fwyafrif yn y Senedd hyd yn oed. Ac os ydym yn credu o ddifrif y bydd etholiad ar 15 Hydref yn arwain at well negodi ar 17 Hydref, rydym yn twyllo ein hunain. Nid oes unrhyw drafodaethau wedi'u cynllunio ar gyfer 17 Hydref hyd yn oed, oherwydd bod y trafodaethau hynny'n digwydd eisoes. Felly, gwyddom nad yw'r hyn y mae'n ei honni—fod cytundeb ar fin cael ei wneud—yn wir. Mae'n gwbl anwir a chaiff ei yrru gan awydd i weld Brexit heb gytundeb ac yna, pan fydd y canlyniadau'n taro, gall feio eraill—beio'r bobl sydd am aros, beio'r bobl nad oedd yn cefnogi math arbennig o Brexit. 'Nid ein bai ni, syr'—dyna yw'r strategaeth wleidyddol yma, mae gennyf ofn.
Cyfarfûm â Boris Johnson lawer gwaith pan oedd yn faer Llundain. Roedd yn berson rhyddfrydol iawn ei feddwl, yn gymdeithasol iawn ac yn rhywun y gallech gael sgwrs ag ef—Boris Johnson gwahanol iawn i'r un rwy'n ei weld yn awr. Dysgais yn gynnar, fodd bynnag, nad yw'n fawr mwy na llestr gwag a gâi ei lenwi â syniadau gan ei gynghorwyr. Pan oedd yn faer Llundain, bu'n ddigon ffodus i amgylchynu ei hun â phobl a oedd yn rhyddfrydol eu barn ac a oedd yn synhwyrol, a dyna'r hyn a glywech ganddo. Ond bellach, mae cynnwys y llestr wedi cael ei ddisodli gan rywbeth gwenwynig a llawn bustl. Yr hyn a welwn yn awr yw rhywun sy'n barod i aberthu ei blaid ei hun er mwyn cael yr hyn y mae ei eisiau.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Ac mae'n rhaid i mi ddweud ei fod yn dechrau yn San Steffan. Edrychaf ar feinciau'r Ceidwadwyr gyferbyn. Rwy'n gweld pobl rwyf wedi anghytuno â hwy lawer, lawer, lawer gwaith, ond nid yw anghytuno â rhywun yr un fath â pheidio â hoffi rhywun. Ac edrychaf ar y meinciau hynny a gofynnaf y cwestiwn imi fy hun: mae'n dechrau yn San Steffan—pwy fydd nesaf? Pwy sydd nesaf? A dywedaf hynny heb unrhyw bleser o gwbl, a heb wneud pwyntiau pleidiol, ond rwyf wedi gweld y safbwynt rhyddfrydol y mae David Melding wedi ei arddel mor huawdl yn y Siambr hon y prynhawn yma yn cael ei ddinistrio yn San Steffan, ac ni fydd yn diwedd yn y fan honno, o gofio'r bobl sydd o gwmpas y Prif Weinidog.
Ac rwyf bob amser wedi fy syfrdanu gan y lefel o anwybodaeth yng ngwleidyddiaeth Prydain am Iwerddon. Rwyf wedi dweud ers blynyddoedd fod Iwerddon yn broblem na ellid ei datrys. Gadewch imi ddweud hyn: 'Fe ddywedais i wrthych'. Dyna ni, rwyf wedi'i ddweud nawr. Ac nid oes modd ei datrys o hyd. Nid oes ateb technegol; mae'n nonsens. Roeddwn yn rhan o'r trafodaethau hyn ac nid yw'n bodoli—mae'n amhosibl cael ynys lle ceir dau drefniant tollau gwahanol ar y naill ochr a'r llall i ffin heb archwiliadau ffisegol. Fel arall, smyglo sydd gennych. Dyna'r gwirionedd, ac nid yw Llywodraeth y DU wedi cynnig dewis arall yn lle'r 'backstop'. Dyna'r gwirionedd. Maent wedi gwneud Iwerddon unedig yn fwy posibl nag ar unrhyw adeg yn ystod fy oes, oherwydd mae pobl yn dechrau symud i ffwrdd, yn araf iawn, oddi wrth y safbwyntiau sectyddol ac maent yn dechrau edrych yn awr ar yr hyn sydd orau i Ogledd Iwerddon. A'r broblem oedd bod Llywodraeth y DU wedi gwrando ar y DUP fel pe bai'r DUP yn cynrychioli holl bobl Gogledd Iwerddon. Nid yw hynny'n wir—mae'n un elfen o farn, ac ni fydd pobl Gogledd Iwerddon yn gwrando, a chofiwch mai hwy yw'r bobl a bleidleisiodd dros aros yn yr UE.
Rwy'n ymwybodol o'r amser, Lywydd, felly fe ddywedaf hyn: nid wyf yn ofni etholiad. Rhaid cael etholiad, oherwydd mae yna Lywodraeth yn awr heb fwyafrif. Wrth gwrs fod yn rhaid cael etholiad, ond i mi, mae'n rhaid cynnal yr etholiad hwnnw pan fydd y bygythiad o adael heb gytundeb wedi cael ei atal am nawr, cyn y cynhelir yr etholiad hwnnw. Ac mae hynny'n golygu bod yn rhaid iddo ddigwydd ar ôl 31 Hydref. Rhowch le ac amser i bobl feddwl am yr hyn y maent am ei wneud. Fy ofn i yw na fydd yr etholiad yn datrys dim a chawn refferendwm yn y diwedd beth bynnag, ond serch hynny, mae'n rhaid i'r bobl gael cyfle i ddweud eu barn. Nid oedd hynny'n rhywbeth roedd y Prif Weinidog yn dymuno ei gael ym mis Gorffennaf; nid oedd hynny'n rhywbeth roedd y Prif Weinidog yn dymuno ei gael ym mis Awst. Mae'n debyg ei fod hyn yn rhywbeth y mae'r Prif Weinidog am ei gael yn awr am ei fod mewn twll mor anobeithiol. Wel, o'm rhan i, ewch amdani, ond yn yr amgylchiadau iawn. Rhowch le i bobl anadlu i feddwl am yr hyn y maent am ei wneud yn y dyfodol, ac yn y pen draw, fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Lynne Neagle, rhowch y gair olaf i bobl Cymru ac i bobl Prydain.
Wel, gwyn fyd y rhai nad ydynt yn disgwyl dim gan na chânt eu siomi, ac nid oeddwn yn disgwyl clywed unrhyw ddadleuon newydd heddiw gan y penboethiaid 'aros' sydd wedi cyflwyno'r ddadl. Cawsom alargan huawdl gan David Melding, y teimlwn ei bod yn effeithiol iawn ac ymdriniaeth gyfansoddiadol ddiddorol gan Hefin David. Ond fel arall, rydym wedi mynd o gwmpas yr un cwrs ag y gwnaethom lawer, lawer gwaith o'r blaen, ac felly, efallai mai'r hyn y mae'r Cynulliad hwn wedi bod yn ei wneud heddiw yw'r hyn a wna orau, yn sicr mewn perthynas â Brexit, sef ystumio'n ddibwrpas a rhoi sglein ar ei gredoau gwrth-ddemocrataidd.
Y gwir plaen amdani yw bod 53 y cant o bobl Cymru wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd yn ddiamod yn 2016, ond mae 100 y cant o'r Aelodau Llafur, Aelodau Plaid Cymru a'r unig Ddemocrat Rhyddfrydol, wrth gwrs, yn gefnogwyr 'aros'. Mae diffyg cysylltiad rhwng y bobl a'r Cynulliad hwn, fel sydd yn San Steffan yn wir. Roeddwn yn meddwl bod arweinydd Plaid Cymru wedi tanseilio ei ddadl ei hun drwy'r ormodiaith hurt a ddefnyddiodd, yn cymharu Boris Johnson ag Oswald Mosley, ac ati. Soniodd am ddirmyg Boris Johnson tuag at ddemocratiaeth. Credaf mai'r dirmyg mwyaf yw dirmyg ei blaid a'r Blaid Lafur tuag at benderfyniad pobl Prydain, a oedd yn eithaf diamwys, dair blynedd yn ôl—neu dros dair blynedd yn ôl bellach. Yn sicr mae'n afrealistig cyhuddo'r Prif Weinidog o fod yn unben ag yntau wedi dweud ei fod am gael etholiad cyffredinol i ddod o hyd i ffordd drwy'r cyfyngder. Nid yw unbeniaid fel arfer yn galw am etholiadau y gallent hwy eu hunain yn hawdd eu colli.
Nawr, mae'r cyfnod o amser y dadleuwyd yn ei gylch heddiw pan fyddai'r Senedd wedi'i haddoedi, yn ôl yr hyn a ddywedir, yn golygu ein bod yn cael gwared ar gyfle i graffu, ond gwyddom mai'r gwir amdani yw bod yr holl graffu ar yr holl ddadleuon wedi'i wneud ar y ddwy ochr lawer, lawer gwaith. Nid oes a wnelo hyn â chraffu seneddol o gwbl. Mae'n ymwneud yn llwyr â phenderfyniad gwrth-ddemocrataidd doed a ddêl y rhai sydd am aros i wrthsefyll ewyllys y bobl yn y refferendwm, a'r broblem fawr sydd gennym yn awr, y broblem gyfansoddiadol fawr sydd gennym yn awr, yw bod gennym Senedd 'aros' yn erbyn pobl sydd am 'adael'. Mae'r Cynulliad hwn yn fwy fyth o Senedd 'aros' yn erbyn pobl sydd am 'adael' am fod 53 y cant o bobl Cymru, yn union fel Lloegr, wedi pleidleisio dros adael, ond yn y fan hon, mae'r mwyafrif sydd dros 'aros' hyd yn oed yn fwy nag yn San Steffan. Felly, mae'n hen bryd cael etholiad cyffredinol. Mae arnom angen etholiad cyffredinol yn San Steffan i ysgubo carthffosydd y gweddillion gwrth-ddemocrataidd sy'n blocio'r system, oherwydd bydd yr etholiad cyffredinol hwnnw'n ymwneud ag un peth ac un peth yn unig, sef y Senedd yn erbyn pobl y wlad hon. Rwy'n credu nad oes gwobrau am ddyfalu beth fydd canlyniad hynny.
Pan bleidleisiodd ASau o blaid cychwyn erthygl 50, roeddent i gyd yn gwybod beth oeddent yn ei wneud, ac roedd hynny'n cynnwys pleidleisio dros adael heb gytundeb os na ellid cytuno ar gytundeb. Nawr, credaf y gellid bod wedi cytuno ar gytundeb pe bai gennym Lywodraeth â safbwynt negodi credadwy, ond cafodd hwnnw ei danseilio bob cam o'r ffordd gan y penboethiaid 'aros' a oedd eisiau i adael heb gytundeb gael ei dynnu oddi ar y bwrdd, yn cynnwys Canghellor y Trysorlys a'r Ysgrifennydd busnes a hanner y Cabinet, a'r Prif Weinidog ar y pryd, Theresa May, a oedd yn gyson amhendant, heb fod yn credu yn yr hyn roedd hi'n ei wneud. O dan yr amgylchiadau hynny, ni allai'r un Llywodraeth Brydeinig fod wedi llwyddo i gwblhau cytundeb a fyddai'n dderbyniol i'r rhai oedd yn cefnogi Brexit. Hyd nes y ffurfiodd Boris Johnson lywodraeth newydd, y gwir amdani yw bod gennym Lywodraeth o ddifrodwyr. Gwnaeth Philip Hammond a Greg Clark yn arbennig bopeth a allent i danseilio'r broses negodi ac yn wir i rwystro Brexit y pleidleisiodd pobl Prydain drosto. Roedd gennym y Prif Weinidog mwyaf anobeithiol ers yr Arglwydd North, fel y dywedais o'r blaen. I bob pwrpas, roedd ganddi strategaeth i'n cadw yn yr UE, a chrëwyd yr awyrgylch o argyfwng sydd gennym yn awr gan ei diffyg penderfyniad, ac mae gwn wrth ein pennau bellach. Rwy'n cytuno â Mark Reckless. Nid oeddem am fod mewn sefyllfa lle na cheir cytundeb. Wrth gwrs, mae cael cytundeb o fudd i bawb—cytundeb masnach rydd. Dyna beth oedd y cyfnod o ddwy flynedd y mae erthygl 50 yn ei ddarparu i fod i'w gyflawni. Ond oherwydd anhyblygrwydd yr UE, fel y nododd Yanis Varoufakis, Gweinidog cyllid Gwlad Groeg, yn fanwl iawn yn ei lyfr gwych, Adults in the Room, gan ei fod wedi gweld y cyfan o safbwynt Gwlad Groeg, roedd y drefn a orfodwyd gan yr UE yn union fel y gwnaethant i Wlad Groeg, gwlad y mae'r UE wedi gorfodi llymder digynsail arni, lle gwelwyd dirywiad o draean yng nghynnyrch gwladol gros Gwlad Groeg. Nawr, dyna gyni gwirioneddol yn lle'r cyni ffug y clywn amdano'n aml yn y Siambr hon.
Y gwir amdani yw bod y penboethiaid 'aros' yn credu y dylai pobl Prydain ddal i bleidleisio nes iddynt roi'r hyn y maent am ei gael iddynt. Mae hyn yn draddodiadol iawn yn yr UE. Rydym wedi cael refferenda yn Nenmarc, yn yr Iseldiroedd, yn Iwerddon ddwywaith ac yn Ffrainc, ac yng ngeiriau anfarwol Monsieur Juncker—fe ildiaf os yw'r Llywydd yn caniatáu hynny—'os yw'n "ie"'—ac roedd hyn yn ymwneud â refferendwm Ffrainc—'os yw'n "ie", ymlaen â ni, ac os yw'n "na", fe wnawn ni barhau.'
Fe ildiaf i'r cyn-Brif Weinidog.
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am ildio. Beth yw'r dewis arall yn lle'r 'backstop'? Dyna'r cwestiwn rwy'n ei ofyn. Mae llawer o bobl wedi dweud nad ydynt ei eisiau, ond beth yw ei ddewis arall ef?
Yng ngeiriau Simon Coveney, ac maent ar y sgrin yma,
Rydym yn cydnabod y realiti y bydd gan Iwerddon gyfrifoldeb i ddiogelu ei lle ei hun yn y... farchnad sengl a bydd hynny'n golygu rhai archwiliadau. Ond gallaf eich sicrhau y byddwn yn ceisio gwneud hynny mewn ffordd sy'n cyfyngu ar y risg, a byddwn yn ceisio gwneud hynny... i ffwrdd oddi wrth y ffin.
Ef yw Gweinidog tramor Iwerddon, a dyna'r ateb i'r cwestiwn.
Rwy'n synnu, mewn gwirionedd, fod Plaid Cymru'n dal i alw ei hun yn blaid genedlaetholgar, er gwaethaf yr hyn y mae Rhun ap Iorwerth newydd ei ddweud. Yn wir, plaid ildiad ranbarthol ydynt. Eu syniad hwy o genedlaetholdeb yw trosglwyddo mwy a mwy o rym i ffwrdd nid yn unig o Gaerdydd, ond i ffwrdd o San Steffan hyd yn oed i Frwsel a'i roi i elît technocrataidd nad ydym yn gallu ei enwi hyd yn oed heb sôn am bleidleisio drostynt a'u pleidleisio allan o'u swyddi os nad ydym yn hoffi'r hyn y maent yn ei wneud. Felly, maent yn gwbl groes i blaid genedlaetholgar mewn gwirionedd. Ymwahanwyr rhanbarthol yn unig ydynt a phlaid genedlaethol dila iawn.
Ac rwy'n synnu hefyd fod y Blaid Lafur—y blaid a ddaeth i fodolaeth i amddiffyn buddiannau'r gweithwyr—bellach wedi crebachu'n weddillion fel y mae, yn gynllwyn globaleiddiol, a welwn yn yr UE, gyda'r hen giwed arferol, o Mark Carney ac elitwyr Goldman Sachs a'r holl lobïwyr rhyngwladol, y cwmnïau amlwladol yn aros eu tro i lenwi eu pocedi eu hunain ym Mrwsel drwy ddefnyddio cwmnïau lobio gwerth miliynau o bunnoedd, oll yn cyfuno i gyflwyno diffyndollaeth a llu o reoliadau a luniwyd i rwystro cystadleuaeth a chadw cwmnïau newydd entrepreneuraidd allan. Dyma gynllwyn enfawr yn erbyn buddiannau gweithwyr, ac yn awr mae'r Blaid Lafur wedi cefnu'n llwyr ar unrhyw hawl i gynrychioli pobl gyffredin yn y wlad hon. Plaid sy'n cefnogi mewnfudo ar raddfa fawr i ostwng cyflogau ac ehangu ei sylfaen gwota o fewnfudwyr, a phlaid sy'n anwybyddu'r mwyafrif er mwyn tawelu grwpiau lleiafrifol gwleidyddol anghywir a pharasitiaid gwleidyddol trydydd sector sy'n lledaenu propaganda, yn cynyddu tlodi tanwydd i gyfoethogi datblygwyr ffermydd gwynt sy'n lluosfiliwnyddion, a chydag arweinyddiaeth Farcsaidd a fyddai'n crebachu'r wlad hon i statws Feneswela. Dyna yw gweledigaeth y Blaid Lafur ar gyfer y dyfodol. Dewch ag etholiad cyffredinol, rwy'n dweud, er mwyn i 'magic grandpa' ddod yn agored i'w graffu gan bobl Prydain a gallwn gael Llywodraeth sy'n cefnogi Brexit fel y pleidleisiodd pobl Prydain drosti yn 2016, ac er mwyn inni adfer sofraniaeth go iawn y Senedd unwaith eto, a ddaw drwy ailwladoli pwerau o Frwsel i San Steffan ac yn wir, i Gaerdydd.
Wel, wel, Neil Hamilton—Neil Hamilton yn rhoi darlith i ni am bobl yn llenwi eu pocedi. Beth nesaf?
Fel y gallwch chi ei ddychmygu, dwi wedi bod yn treulio'r haf yn teithio o gwmpas y sioeau amaethyddol a dwi wedi bod yn gwrando ar beth mae pobl yn ei ddweud a dwi wedi clywed y neges yn glir gan amaethwyr a phobl sy'n byw yng nghefn gwlad yn enwedig: mae nifer wedi pleidleisio dros adael dair blynedd yn ôl, ond mae llawer iawn o'r rheini nawr, o weld beth mae hynny'n ei olygu, ac yn enwedig o weld yr hyn sydd o'u blaenau nhw drwy Brexit heb gytundeb, wedi newid eu meddwl.
Maen nhw'n sôn yn gyson am bwysigrwydd allforio. Naw deg y cant o'r cig oen sy'n cael ei allforio—dŷn ni wedi clywed hyn, wrth gwrs—yn mynd i'r Undeb Ewropeaidd. Saith deg dau y cant o holl allforion bwyd a diod Cymru'n mynd i'r Undeb Ewropeaidd, ac mae sicrhau mynediad di-dariff, dilyffethair i'r marchnadoedd hynny, y farchnad agosaf sydd gennym ni, y farchnad bwysicach a mwyaf gwerthfawr sydd gennym ni—500 miliwn o gwsmeriaid—mae amddiffyn mynediad i'r farchnad honno'n gorfod bod yn flaenoriaeth a dim byd arall.
Mae'r undebau amaeth, dwi'n gwybod, wedi dweud wrth bob un ohonoch chi sydd wedi ymweld â nhw yn y sioeau dros yr haf beth fyddai goblygiadau symud i dermau WTO: y tariffau ar gig oen, 46 y cant; rhwng 48 a hyd yn oed 84 y cant ar gig eidion. Mae ffermwyr, wrth gwrs, yn awyddus i gynnal a chadw'r safonau uchel o safbwynt lles anifeiliaid ac amgylcheddol maen nhw'n eu harddel ar hyn o bryd ac y byddai'n rhaid iddyn nhw barhau i'w harddel, wrth gwrs, petai nhw eisiau amddiffyn mynediad i'r farchnad Ewropeaidd, ond tra bo Boris Johnson yn cwyno am bobl yn torri ei goesau oddi tano fe yn y trafodaethau Brexit, mi fyddai ffermwyr Cymru'n cael eu coesau wedi torri oddi tanyn nhw hefyd wrth weld Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn dod i gytundebau masnach gyda'r Unol Daleithiau, er enghraifft, fyddai ddim, mae'n debyg, yn cwrdd â'r un safonau, ac mi fyddai hynny'n ergyd ddwbl i'n ffermwyr ni. A chofiwch fod pob punt sy'n mynd i ffermwyr Cymru o'r pwrs cyhoeddus yn cynhyrchu £7. Felly, dychmygwch am bob punt fydd yn cael ei golli faint o golled fydd hynny i'n cymunedau gwledig ni. Mae'r AHDB, wrth gwrs, wedi modelu nifer o senarios Brexit.
Maent wedi amlinellu y bydd gadael heb fynediad rhwydd, di-dariff i'r farchnad sengl yn gadael ein hincwm ffermydd da byw mewn ardaloedd llai ffafriol—ac mae hynny'n golygu Cymru, i raddau helaeth, wrth gwrs, sydd wedi cael ei tharo'n arbennig o galed—yn disgyn i ffigurau negyddol yn y senario waethaf.
A buaswn yn gofyn i'r Prif Weinidog roi sicrwydd i ni yn ei ymateb i'r ddadl hon, os cawn Brexit heb gytundeb, y gwnaiff ei Lywodraeth gefnu ar gynigion 'Ffermio Cynaliadwy a'n Tir'. Rwy'n credu y byddai'n ffôl i'r Llywodraeth beidio ag aros i weld beth fydd canlyniad Brexit cyn bwrw ymlaen ag unrhyw gynigion. Fe'm calonogwyd gan awgrym y Gweinidog y byddai ganddi feddwl agored am hynny yn Sioe Dinbych a Fflint eleni, a hoffwn glywed sicrwydd tebyg gan y Prif Weinidog y prynhawn yma.
Nawr, ar lefel amgylcheddol hefyd, wrth gwrs, rydym eisoes wedi ailadrodd rhai o'r pryderon amgylcheddol mewn dadleuon blaenorol, yn enwedig ynglŷn â'r goblygiadau ar gyfer llywodraethu amgylcheddol. Os byddwn yn gadael yr UE heb gytundeb, ni fydd unrhyw gorff gwarchod yr amgylchedd i ddwyn Llywodraeth Cymru ac eraill i gyfrif, wrth gwrs. Ac i'r bobl sy'n dweud wrthym, 'Beth y mae'r UE erioed wedi'i wneud i ni?', wel, fel mae'n digwydd, yr UE sy'n rheoleiddio ansawdd y dŵr rydym yn ei yfed, yr aer rydym yn ei anadlu a'r bwyd rydym yn ei fwyta. Felly, buaswn yn dadlau ei fod yn eithaf sylweddol. Ond wrth gwrs, os collwn yr atebolrwydd hwnnw a'r gallu i ddod â materion ger bron awdurdod uwch, nid yn unig y bydd natur yn dioddef, wrth gwrs, ond bydd ein hiechyd ein hunain yn dioddef yn y pen draw.
Rwy'n poeni am y goblygiadau i Gaergybi yn fy rhanbarth, wrth gwrs—yr ail borthladd fferi mwyaf yn y Deyrnas Unedig. Rwy'n poeni am gwmnïau fel Airbus—menter draws-Ewropeaidd, wrth gwrs, sef y cyflogwr uniongyrchol mwyaf yng ngogledd Cymru, a gallwch ddyblu hynny os ystyriwch y gadwyn gyflenwi helaeth sydd ganddo hefyd.
Oes, mae gan yr UE ddiffygion, ac mae angen ei ddiwygio, ond dywedaf wrthych fod gwladwriaeth y DU wedi methu a'i bod y tu hwnt i ddiwygio. Mae'n cael ei rhedeg gan fechgyn ysgolion bonedd gydag ymdeimlad o hawl ac uwchraddoldeb nad ydynt yn poeni affliw o ddim am ein cymunedau gwledig yng Nghymru, ein canol trefi sy'n ei chael hi'n anodd. Maent yn fwy cyfarwydd â Rifiera Ffrainc na chyrchfannau glan môr gogledd Cymru. Eto i gyd, byddent yn gadael i'r cymunedau hyn bydru a dadfeilio yn eu hawydd ideolegol i greu Prydain fach—Prydain fach yn rhydd o hawliau gweithwyr, Prydain fach yn rhydd o fesurau diogelwch amgylcheddol, Prydain fach sy'n rhydd i werthu'r GIG i'r sawl sy'n cynnig fwyaf amdano. Nid yw San Steffan yn gweithio i Gymru, ac mae'n bryd i Gymru gymryd cyfrifoldeb am ei thynged ei hun.
Mae Rhun ap Iorwerth ac eraill wedi tynnu sylw at bwysigrwydd y ddadl hon heddiw gan mai effaith gadael heb gytundeb fyddai taro—y tlodion fyddai'n cael eu taro galetaf. Nid dim ond y cymunedau gwledig a'n ffermwyr fydd yn cael eu taro gan hyn. Beth am y tlodion yn y trefi a fyddai heb fwyd pe bai'r bwyd yn mynd yn brin o ganlyniad i adael heb gytundeb? Ac fel y dywedodd Dai Lloyd, y bobl fwyaf agored i niwed fyddai'n marw oherwydd diffyg pigiadau ffliw a meddyginiaethau eraill. Felly, rwy'n llwyr ddiystyru'r rhai sy'n dadlau bod ad-alw'r Senedd yn ddim mwy na sioe ac yn wastraff amser—nid yw hynny'n wir o gwbl. Nid yma i drafod manylion Brexit ydym ni; rydym yma i drafod y bygythiad i ddemocratiaeth sef ymgais Boris Johnson i gau'r Senedd ac atal ei gwaith craffu ar ei Lywodraeth, a gweithredoedd Llywodraeth Boris Johnson i wneud pethau a fyddai'n niweidiol i'r Deyrnas Unedig. Dyna pam rydym yma heddiw.
Fel y dywedodd Adam Price, nid yw unbenaethau'n digwydd dros nos. Nid addoedi'r Senedd am bythefnos ychwanegol yw'r bygythiad mwyaf mewn gwirionedd—llwyddodd Siarl I i wneud hynny am dros ddegawd—ond rhag ofn i chi ei golli, mae Boris Johnson yn awr yn bygwth anwybyddu pa ddeddf bynnag y mae Senedd y DU yn ei phasio sy'n ei atal rhag gadael yr UE heb gytundeb. Y nod yw rhoi ei hun y tu hwnt i'r gyfraith. Gweithred unben yw honno, nid democrat. Felly, dyna pa mor ddifrifol yw hyn.
Ac rwy'n credu y dylem longyfarch pobl fel Guto Bebb ac Antoinette Sandbach a'r holl bobl eraill sydd wedi rhoi buddiannau'r wlad a'u hetholwyr o flaen eu huchelgeisiau gwleidyddol personol eu hunain. Ac mae'n dorcalonnus eu gweld yn cael eu diarddel gan eu plaid, plaid y dywedir wrthym yn awr gan Norman Baker—nad yw'n enwog am fod yn flaengar ei wleidyddiaeth—sydd wedi'i dominyddu gan 'ddelfrydwyr llygatgroes'—ei eiriau ef, nid fy ngeiriau i. I lawer ar feinciau'r Ceidwadwyr yma yn y Cynulliad Cenedlaethol, rwy'n siŵr fod hon yn foment ofidus a phoenus iawn, ond credaf nad yw honiad Paul Davies y bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn darparu setliad wedi'i negodi ar gyfer gadael yr UE yn argyhoeddi. Nid wyf wedi fy argyhoeddi, fel y mae Andrew R.T. Davies yn ceisio'i ddweud, fod Boris Johnson am gael cytundeb wedi'i negodi. Yn fy marn i, yn anffodus, nid yw Boris Johnson yn awyddus o gwbl i gael cytundeb. Mae am adael yr UE heb gytundeb. Pam? Oherwydd, iddo ef, nid yw'n ymwneud â chyflawni'r hyn roedd pobl yn credu eu bod yn pleidleisio drosto—aros neu adael—dim manylion yno a ydym am gael economi awtarchaidd, lle rydym yn gwbl hunangynhaliol, neu a ydym am barhau i fod yn genedl sy'n masnachu. Na, mae am adael heb gytundeb am ei fod am daro bargen gyda'i ffrindiau ar draws yr Iwerydd: Donald Trump ac eraill. Ac maent am sicrhau nad yw Prydain yn cael ei llyffetheirio—
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Rwy'n hapus i wneud hynny.
Ni allaf weld sut y gallwch ddweud hynny pan fo'r Prif Weinidog wedi cynnig rhoi ei ddadl ger bron y wlad mewn etholiad cyffredinol, a chwta ddwy i dair blynedd yn ôl, roedd yr Undeb Ewropeaidd yn ceisio llunio'r un math o gytundeb masnach ag America a oedd yn cynnwys y GIG.
A gwrthwynebwyd hynny'n llwyr gennym. Felly, rwy'n credu bod y—[Torri ar draws.] Ni chlywsoch yr hyn a ddywedais yn gynharach, sef bod Boris Johnson yn dweud na fydd yn cydymffurfio â'r ddeddf yn ei frwdfrydedd dros adael yr UE. Felly, nid ydynt am—. Nid oes unrhyw bwynt ystyried cytundebau trosiannol yn eu barn hwy. Maent am foddi ein gwlad—. Maent am daro bargen gyda Donald Trump a'i bartneriaid busnes oherwydd—. Ac maent am foddi ein gwlad gyda bwydydd wedi'u difwyno, a fyddai'n rhoi ein ffermwyr allan o fusnes ac yn gorfodi deiet arnom a fyddai'n ein gwneud yn ordew fel y deiet y mae'r rhan fwyaf o ddinasyddion America yn fodlon ei fwyta. Maent am sicrhau mai contractau dim oriau yw'r norm, gan ddinistrio'r tâl mamolaeth a thadolaeth gwarantedig a'r absenoldeb salwch a'r hawliau i wyliau a gawn ni diolch i'r UE, ac maent am gael gwared ar yr holl gyfyngiadau rheoleiddiol ar fusnesau. Rydym wedi gweld heddiw fod Amazon wedi anwybyddu'r rheolau hawlfraint yn eu hawch am elw drwy anfon copïau o dan embargo o The Testaments gan Margaret Atwood fel y gallant roi cystadleuwyr bach mewn siopau llyfrau allan o fusnes. A dyna sut y bydd cwmnïau monopoli eraill ar draws y byd, sy'n awyddus i wneud Prydain yn llwyfan ar gyfer eu gweithgareddau, yn ymddwyn. Ac nid cystadleuaeth yw hyn, nid dewis yw hyn: monopoli yw hyn. Dyna pam y buaswn i'n bersonol yn gwrthwynebu Brexit, er fy mod yn deall y safbwynt cydlynol y mae David Melding yn ei arddel ar y mater hwn, a Ken Clarke yn wir. Mae'r drafodaeth honno ar gyfer diwrnod arall. Ond i mi, yr hyn sy'n rhaid inni ei wneud yw amddiffyn yn fwyaf arbennig ein hetholwyr mwyaf agored i niwed, ac mae tynnu Prydain allan yn ddiymdroi o'r UE heb gytundeb yn gwbl groes i'w buddiannau.
Rydym yn gwybod nad oes gan Lywodraeth y DU gynllun ar gyfer unrhyw gytundeb newydd gyda'r UE, oherwydd mae Stephen Barclay ei hun wedi gofyn i 27 gwlad yr UE gynnig dewis amgen yn lle'r 'backstop', am nad oes ganddynt unrhyw syniadau eraill. Ac yn wir, mae Llywodraeth y DU bellach yn gwario'r arian a neilltuwyd yn wreiddiol i ymdopi â gadael heb gytundeb ar iro dwylo etholwyr cyn yr etholiad, oherwydd dyna sut y teimlant y byddant yn gallu gorfodi Brexit heb gytundeb. Felly, rwy'n credu ein bod yn wynebu sefyllfa beryglus iawn ac rwy'n credu ei bod yn gwbl gywir ein bod yn cael y ddadl hon heddiw.
Fel gyda fy nghyd-Aelod, Mark Reckless, ni allaf gymryd rhan yn y ddadl hon heb ofyn y cwestiwn sylfaenol pam y cawsom ein had-alw yn y modd hwn, o gofio na fydd beth bynnag a benderfynir yn y Cynulliad hwn heddiw yn cael unrhyw effaith o gwbl ar yr hyn sy'n digwydd yn San Steffan. Ac o ystyried cyn lleied o bobl sydd yn yr oriel yma heddiw, mae'n ymddangos bod pobl Cymru yn ystyried y ddadl hon yn un ddibwrpas hefyd.
Fy nghred i—
A wnaiff yr Aelod ildio?
Gwnaf.
Rwy'n ei chael hi'n rhyfedd fod Plaid Brexit bellach yn dadlau mai'r un peth na ddylai'r Cynulliad hwn ei wneud yw trafod Brexit.
Fy nghred i, David, yw mai dim ond cyfle arall yw hwn i'r rhai sy'n dymuno aros gael ailadrodd eu gwrthwynebiad i fandad y refferendwm gan bobl y DU—ac mae hynny'n cynnwys Cymru—i adael yr Undeb Ewropeaidd, ac nid oes dim a glywais yn y Siambr hon heddiw wedi newid fy marn ar hynny. Dywedir nad yw gwleidyddiaeth yn y wlad hon erioed wedi bod mor gynhennus. Wel, mae'n rhaid gofyn pwy sydd wedi achosi'r rhwyg, a'r ateb, wrth gwrs, yw gwrthodiad y rhai sy'n dymuno aros i dderbyn canlyniad yr hyn y gellid ei galw'r ddadl ddemocrataidd fwyaf gwybodus a gynhaliwyd erioed yn y wlad hon, ac a oedd, wrth gwrs, yn cynnwys pamffled 10 tudalen a ddosbarthwyd i bob aelwyd yn amlinellu'n glir yr achos o blaid ac yn erbyn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Gan fod y pamffled wedi dod gan Lywodraeth a oedd o blaid Ewrop i raddau helaeth, byddai rhai ohonom yn dadlau ei bod yn ddadl dros aros i raddau helaeth o ran y cynnwys a gyflwynwyd i bobl Prydain. Mae'r ochr 'aros', sy'n cynnwys Llafur, Plaid Cymru a'r Democratiaid Rhyddfrydol, yn dadlau nad oedd gadael heb gytundeb ar y papur pleidleisio. Efallai fod y rhan fwyaf ohonoch wedi dewis anwybyddu cynnwys eich maniffestos eich hun. Mae gennym sefyllfa chwerthinllyd bellach lle mae Llafur yn cefnogi'r ymgyrch 'aros', ac eto, eu maniffesto diweddaraf yw cyflawni—[Torri ar draws.] Wrth gwrs.
Roedd etholiad 2017, y cyfeiriwyd ato, flwyddyn ar ôl y refferendwm. Yn yr etholiad hwnnw, pleidleisiodd 54 y cant o'r pleidleiswyr ar draws y DU o blaid pleidiau gwleidyddol a oedd wedi dweud yn bendant yn eu maniffestos eu bod yn gwrthwynebu Brexit heb gytundeb. Felly, ceir mandad clir gan y bobl yn erbyn Brexit heb gytundeb.
Mae rhywun yn meddwl tybed beth y mae'n ei olygu wrth Brexit heb gytundeb, ond fe barhawn—[Torri ar draws.] Eu maniffestos, ynghylch gwladoli—. Mae'r Blaid Lafur yn cefnogi'r ymgyrch 'aros', ac eto mae eu maniffesto diweddaraf yn sôn am gyflawni addewidion economaidd am wladoli a chymorthdaliadau gwladwriaethol na ellir eu gweithredu o dan ddeddfwriaeth yr UE, pa un a ydynt yn fforddiadwy ai peidio. Mae 50 y cant o bolisïau economaidd Corbyn wedi'u gwahardd os ydym yn aros yn yr UE, ac fe welwch heddiw yn y gwelliannau i'r ddadl hon, oportiwnistiaeth lwyr Plaid Cymru, sydd, o dan yr honiad ei bod yn blaid ar gyfer Cymru, yn dymuno gwthio ei hagenda o wahanu oddi wrth Loegr. Felly, ar y naill law, maent yn dadlau y dylem gael ein rheoli'n wleidyddol gan Frwsel gan fod hynny'n rhoi mwy o gyfleoedd allforio inni i'r farchnad enfawr a gynigir gan yr UE, gan ddymuno ar yr un pryd ein gwahanu'n wleidyddol oddi wrth Loegr, sef ein marchnad allforio fwyaf o bell ffordd. Dadleuant y bydd gadael yr UE yn costio miloedd o swyddi i Gymru gan anwybyddu'r realiti economaidd y byddai gwahanu oddi wrth y DU yn golygu colli miloedd o swyddi mewn sefydliadau DU fel y DVLA, y swyddfa ystadegau a'r swyddfa batentau, a llawer mwy yn gysylltiedig â'n cysylltiad gwleidyddol â Lloegr a gweddill y DU. Ac wrth gwrs, mae'n bosibl iawn y bydd y cwmnïau sector preifat yn penderfynu adleoli i Loegr. Dyma'r union ddadleuon y bydd Plaid Cymru yn eu defnyddio fel y rheswm dros aros yn yr UE—y byddai cwmnïau'n gadael y DU am yr UE.
I ddangos cymaint o chwarae gemau gwleidyddol sydd wedi dod yn sgil canlyniad y refferendwm, ddoe yn y Senedd ymatalodd Llafur ar y bleidlais dros gynnal etholiad cyffredinol er bod eu harweinydd wedi bod yn galw'n barhaus dros y flwyddyn ddiwethaf am gael etholiad o'r fath, a gwnaeth hynny hyd yn oed ar y dydd Llun cyn y ddadl honno. Beth bynnag sy'n digwydd yn y Siambr hon heddiw, rwy'n argyhoeddedig fod pobl Cymru, a'r Deyrnas Unedig yn wir, wedi diflasu'n llwyr ar gastiau Maciafelaidd y dosbarthiadau gwleidyddol, yma yng Nghymru ac yn y DU yn gyffredinol. Rwyf yr un mor argyhoeddedig fod y Siambr hon allan o gysylltiad â theimladau pobl ddosbarth gweithiol Cymru a'i bod wedi colli ymddiriedaeth yr union bobl y maent i fod i'w cynrychioli. Mae'r Prif Weinidog yn dweud ein bod am anfon datganiad clir i San Steffan gyda'r neges y dylem aros yn yr UE. Mae hon yn neges sy'n anwybyddu'n llwyr ewyllys pobl Cymru fel y'i mynegwyd ar 23 Mehefin 2016.
Y prynhawn yma, rwyf am ganolbwyntio fy nghyfraniad ar y cynnig ei hun, sydd â dwy elfen iddo: yn gyntaf, y prosesau annemocrataidd sydd wedi'u mabwysiadu gan Lywodraeth y DU a'r Prif Weinidog, ac yn ail, effaith Brexit heb gytundeb ar y bobl rydym yn eu cynrychioli yma. A phan fyddaf yn clywed cyfraniadau—ac rwyf newydd glywed un—lle mae pobl yn gofyn y cwestiwn yn syml, 'Pam y cawsom ein had-alw?', gallaf ddweud wrthych pam: am fod y materion yn y cynnig yn effeithio ar y bobl a gynrychiolwn a'n gwaith, ac mae'r anallu i ddeall hynny mewn gwirionedd yn codi cwestiynau am eich rôl yn y sefydliad hwn, ac rwy'n credu bod hynny'n warthus.
Lywydd, tynnaf sylw at y ffaith bod effeithiau gwirioneddol ar bobl yn y ddadl hon. Roedd cyfraniad Dai Lloyd yn tynnu sylw at rai o'r pwyntiau. Soniodd am y problemau y bydd ein hetholwyr yn eu hwynebu pe bai Brexit heb gytundeb yn digwydd. Gadewch imi siarad yn gyntaf oll am effaith addoedi'r Senedd ar ein gwaith, gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud yn y sefydliad hwn gan bwyllgorau'r sefydliad, naill ai fy mhwyllgor i, y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, neu bwyllgor fy nghyd-Aelod, Mick Antoniw, a fyddai wedi bod yma ond mae wedi methu dod yn ôl o Kiev mewn pryd. Ond mae'r pwyllgorau hynny wedi gweithio'n ofalus ar baratoi ar gyfer Brexit a'r agenda ddeddfwriaethol sy'n gysylltiedig â hynny. Ac mae'n ymddangos ein bod yn anghofio rhai o'r pethau a wnawn a'r gwaith sydd gennym a'r cyfrifoldebau sydd gennym i fynd i'r afael â'r materion hynny.
Mae peth o'r ddeddfwriaeth honno eisoes wedi cael Cydsyniad Brenhinol. Maent wedi cael y caniatâd hwnnw. Ceir eraill sy'n dal i fynd drwy'r Senedd y byddai addoedi'r Senedd yn eu dileu: y Bil Amaethyddiaeth, y Bil Pysgodfeydd. Mae yna Fil Mewnfudo—. Gallem ddweud nad yw yn ein cylch gwaith ni, ond mae'n effeithio ar y gwaith a wnawn oherwydd y meysydd datganoli rydym yn gyfrifol amdanynt bellach. Ceir y Bil Masnach—mae pobl yn sôn am fasnach. Mae gennym gynnig cydsyniad deddfwriaethol yn y Bil Masnach. Mae hwnnw'n mynd i gael ei ddileu. Ac mae llawer o Filiau eraill yn mynd drwodd—y Bil diogelu'r amgylchedd. Bydd y rhain yn cael eu dileu ac maent yn feysydd lle mae gennym rôl bwysig iawn i'w chwarae. A bydd yn rhaid iddynt ddechrau o'r dechrau eto, a chyda llaw, cyn 31 Hydref, oherwydd os byddwn yn gadael heb gytundeb, fel y ceisiwyd ei wneud—. Nid yw'r ymgais sinigaidd hon yn ymwneud â chael Araith y Frenhines mewn gwirionedd. Mae'r ymgais sinigaidd go iawn yn ymwneud â chael Brexit heb gytundeb drwodd ar 31 Hydref. Gadewch inni fod yn onest am hynny a gadewch inni fod yn onest gyda'r bobl am hynny. Ac os digwydd hynny, lle fyddwn ni yn ddeddfwriaethol ar 31 Hydref neu 1 Tachwedd os na chawn ni'r Biliau hyn drwodd? Ac nid ydynt yn mynd i fynd trwodd yn yr amser hwnnw. A byddai hynny'n peri trafferth i waith ein pwyllgorau, a'r sefydliad hwn. Ac mae'n rhaid i ni gofio hynny am mai ein gwaith ni yw diogelu buddiannau Cymru a'r etholwyr a gynrychiolwn, a heb y gallu deddfwriaethol hwnnw, ni allwn wneud hynny. Felly, mae addoedi'r Senedd yn niweidio ein gallu i wneud ein gwaith. Mae gweithredoedd y Cabinet a arweinir gan hyrwyddwyr Brexit yn dangos yn glir eu cred fod goroesiad yr undeb a diogelu dinasyddion, gan gynnwys y rhai a gynrychiolwn, yn eilradd i'w huchelgais ar gyfer Brexit. Niwed cyfochrog y maent hwy'n ei dderbyn, ond nid wyf i am wneud hynny.
Nawr, mae cyd-Aelodau wedi sôn am ddiwygio cyfansoddiadol, ac ers blynyddoedd mae'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol a'r Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol wedi codi'r angen i gael trefniadau rhynglywodraethol cryfach, mwy ffurfiol, sy'n rhywbeth a gychwynnodd ddadl ar draws Seneddau'r DU. Yn y fforwm seneddol hwnnw—y dylwn fod ynddo heddiw, gyda llaw, ond rwy'n credu iddo gael ei aildrefnu—mae'r cynnydd hwn er budd hirdymor Cymru a'r DU yn hollbwysig, ac mae'r defnydd o'r uchelfraint frenhinol wedi'i danseilio i'r fath raddau nes bod rhaid inni yn awr sicrhau bod y diwygio hwnnw'n digwydd a'n bod ni yno i sicrhau bod ein llais yn cael ei glywed ynddo.
Gyda llaw, clywais y sylwadau am yr hyn sy'n bwysig, a buaswn yn dweud wrth y rhai sydd heb ddarllen adroddiadau'r pwyllgorau am eu darllen. Os ydych wedi eu darllen, mae'n amlwg nad ydych yn eu deall. Eich gwaith chi yw sicrhau bod yr hyn sydd yn yr adroddiadau hynny'n ddealladwy oherwydd efallai y byddant yn eich goleuo mewn perthynas â rhai o'r sylwadau a wnaethoch heddiw.
Lywydd, y rhan arall o'r ddadl, yn amlwg, yw'r effaith ar Brexit heb gytundeb. Y tro diwethaf i mi gofio cael fy ad-alw i'r Siambr hon oedd ar ddiwedd y Cynulliad diwethaf a materion Tata Steel. Cawsom ein had-alw ychydig cyn etholiadau'r Cynulliad, ychydig cyn i ni gael ein diddymu i drafod goblygiadau Tata Steel, a dyma ni'n sôn eto am Brexit heb gytundeb, cael ein had-alw, ac mewn gwirionedd, mae'r goblygiadau i Tata Steel yr un mor dyngedfennol heddiw ag yr oeddent bryd hynny, gan fy mod wedi cyfarfod â phobl, yn gysylltiedig â hynny, ac mae'r goblygiadau i'r diwydiant dur yn enfawr. Gallem fod yn gadael heb gytundeb a chyda rheolau Sefydliad Masnach y Byd. Mae pawb i'w gweld yn credu bod rheolau Sefydliad Masnach y Byd yn iawn ac yn wych: nid yw hynny'n wir. Byddwn mewn sefyllfa drychinebus yn y pen draw oherwydd bod traean o'r dur yn mynd i Ewrop o Bort Talbot. Bydd elfennau eraill yn mynd i'r diwydiant ceir. Mae pawb ohonom yn gwybod beth yw'r goblygiadau i'r diwydiant ceir. Ac yna, pan awn allan heb gytundeb, byddwn yn symud at reolau Sefydliad Masnach y Byd, sy'n golygu bod yn rhaid inni hefyd gael ein heffeithio gan reolau'r UE a roddwyd ar waith yn erbyn yr UDA, adran 232, i amddiffyn dur yr UE, a byddwn yn wynebu'r heriau hynny, a byddwn yn dal i wynebu adrannau 232 yr UDA a phethau eraill gyda dur o Dwrci o ganlyniad i Sefydliad Masnach y Byd. Nid yw pobl yn deall yn y Siambr hon beth fydd y goblygiadau i'n hetholwyr a bywoliaeth eu teuluoedd o ganlyniad i adael ar delerau Sefydliad Masnach y Byd. Mae angen iddynt ddihuno ac mae angen iddynt ddechrau deall, nid am ideoleg, ond am yr effaith ar fywydau pobl—y bobl rwy'n eu cynrychioli a'r bobl y dylem oll eu cynrychioli.
A wnewch chi dderbyn sylw?
Rwy'n fwy na pharod i dderbyn sylw.
Faint o filoedd o swyddi dur a gollwyd gennym yng Nghymru tra ydym yn yr Undeb Ewropeaidd ac oherwydd y rheoliadau sy'n dod o Ewrop? Ac oni chytunwch fod y maniffesto y mae eich arweinydd, Corbyn, yn ei awgrymu er lles pobl Cymru ac er lles pobl y DU, ac eto ni all ei weithredu am ei fod wedi'i atal rhag gwneud hynny os arhoswn yn yr Undeb Ewropeaidd? Beth am y miloedd o swyddi hynny?
Wel, rwyf newydd glywed diffyg dealltwriaeth llwyr o holl fusnes y diwydiant dur. Os ydych am sôn am golli swyddi, siaradwch am Margaret Thatcher a niweidiodd ac a ddistrywiodd y diwydiant dur a'r diwydiant glo. Nid yw'n ymwneud â'r UE—Llywodraeth Dorïaidd, asgell dde'r DU a wnaeth y difrod hwnnw, ac mae'n gwneud yr un peth nawr.
Felly, rwy'n mynd i ofyn i fy nghyd-Aelodau—. Mewn gwirionedd, oherwydd fy mod yn gweld yr amser sydd ar ôl, rwy'n mynd i ofyn i gyd-Aelodau, 'Gadewch inni gefnogi'r cynnig hwn.' Gadewch inni gyfleu un neges heddiw nad yw'r ymgais i niweidio democratiaeth yn dderbyniol gan ei bod yn effeithio ar ein swyddi a'n gwaith ni a'n hetholwyr, a bod gadael heb gytundeb yn niweidiol i'n pobl—y bobl rydym yn byw gyda hwy, y bobl sy'n byw drws nesaf inni, y bobl rydym yn eu cynrychioli.
Dyfyniadau bachog, sbin, celwyddau, dadleuon di-drefn, protestiadau, sloganau ar fysiau, addewidion wedi'u torri, ASau sy'n hanner gorwedd, ci cwtsh i dynnu sylw. Beth bynnag y bo, mae'n debyg o fod wedi digwydd yn ystod drama Brexit. Byddai'n sicr o roi dau dro am un i The Thick of It, beth bynnag. Ond mae sbin arwynebol a chwarae gemau'n un peth ym myd dirmygus y Senedd yn San Steffan sy'n llawn asbestos, ac mae realiti noeth yr hunan-niwed economaidd sy'n cael ei achosi gan gefnogwyr Brexit caled heb gytundeb yn fater arall yn gyfan gwbl ac yn un y dylem ochel rhag ei anwybyddu.
Roeddwn ychydig yn amheus ynglŷn â beth y gallai'r ddadl hon yma heddiw ei gyflawni pan glywais gyntaf ein bod yn cael ein had-alw. Yn union fel y gallai Greta Thunberg 16 oed fod wedi meddwl na fyddai ganddi unrhyw bŵer i wneud newid yn yr hinsawdd yn flaenoriaeth fyd-eang pan ddechreuodd ei hymgyrch streic ysgol, efallai y byddwn ninnau hefyd yn meddwl nad oes gennym bŵer i ddylanwadu ar Lywodraeth y DU yn hinsawdd wenwynig y wleidyddiaeth sydd ohoni ar hyn o bryd. Ond rydym yn gwneud cam â ni ein hunain os dechreuwn feddwl felly, ac rydym yn gwneud anghymwynas â'n hunain a'n rolau fel gwleidyddion etholedig yng Nghymru hefyd. Wedi'r cyfan, cyflwynasom y gwaharddiad ar ysmygu cyn y gallem ei weithredu'n gyfreithiol, fel safiad moesol, i ddangos beth oeddem yn barod i'w wneud pe bai'r pwerau hynny gennym ar flaen ein bysedd. Rydym wedi gwneud datganiadau o undod, fel y crybwyllwyd yn gynharach, gyda chenhedloedd eraill sy'n wynebu gwrthdaro a chythrwfl, ac wedi anfon staff meddygol i helpu'r rhai a glwyfwyd ym Mhalesteina. Os dychmygwn y gallwn fod yn ddigon cryf i wneud newidiadau, yn union fel y gwnaeth Greta, ac fel y mae'n dal i wneud, gallwn ninnau wneud hynny hefyd. Efallai nad ydym yn Senedd eto ar blac y tu allan i risiau'r Senedd, ond gallwn fod yn Senedd o ran ein gweithredoedd, ac yn y ffordd rydym yn cyfleu ein negeseuon i'r byd, ac yn yr ysbryd hwn yr ysgrifennais yr hyn roeddwn am ei ddweud heddiw.
Y diwrnod ar ôl canlyniad y refferendwm Brexit, ar wahân i sioc wrth ddeall y canlyniad, fel y rhan fwyaf ar y ddwy ochr, rwy'n dychmygu, fe ddeffrais i newyddion ynglŷn â sut y byddai Brexit yn effeithio ar Iwerddon a gogledd Iwerddon—ei phobl, ei ffiniau, ei heconomi a'i heddwch. Prin y gwelais unrhyw ran o'r ddadl hon yn ystod refferendwm Brexit ei hun. Roedd yr hyn a ddarllenais yn bethau y chwiliais yn ddygn amdanynt, fel merch i ddynes o'r Falls Road a oedd wedi byw drwy'r Trafferthion. Roeddwn i'n meddwl tybed pam nad oedd hyn yn uwch ar yr agenda wleidyddol. Wedi'r cyfan, os oedd Brexit yn mynd i daro rhywle'n galed, yn y fan honno y byddai'n gwneud hynny. Y diwrnod wedyn, roedd hi'n ymddangos bod pawb yn cydnabod pa mor anodd fyddai dod o hyd i ateb yno, a gallai camgymeriad neu dorri cytundeb arwain at fywydau a chymunedau toredig. Un peth yw i ba raddau y gwyddom am fanylion cytundeb Gwener y Groglith—ac nid wyf yn credu bod llawer yn Llywodraeth y DU yn gwybod llawer amdano—ond yr hyn y dylem oll ei wybod yn y Siambr hon yma heddiw yw pa mor drychinebus y byddai Brexit heb gytundeb i Iwerddon, a sut y bydd yn effeithio nid yn unig arnynt hwy, ond ar bob un ohonom yma yn y Siambr hon.
Mae gwleidyddion yn yr Unol Daleithiau eisoes wedi dweud na fyddent yn cefnogi cytundeb masnach UDA-DU pe bai telerau cytundeb Gwener y Groglith yn cael eu tanseilio—cytundeb sydd, mae'n siŵr, yn anhepgor i Boris a'i dîm os ydynt o ddifrif am gynnal yr hyn a elwir yn 'berthynas arbennig' â' r Unol Daleithiau. Mae'n rhaid eu bod yn gwybod pa mor ddwfn yw'r cysylltiadau rhwng cymunedau o bobl yn Iwerddon a'r Unol Daleithiau, y rôl annatod a chwaraeodd y Seneddwr George Mitchell ac eraill yn y trafodaethau pan oedd y Trafferthion ar eu hanterth. Ni fyddant fodlon gweld ffin galed Brexit heb gytundeb yn cael ei ffurfio.
A ydym hefyd yn credu na fydd y gymuned ehangach yn y byd yn ymateb os gwelir bod y DU yn anwybyddu ac yn diystyru'r cytundeb rhyngwladol hwn i'r fath raddau? Ofnaf fod y lleiafrif sydd am adael heb gytundeb na bargen doed a ddêl yn dod yn beryglus o agos i weithredoedd a fydd nid yn unig yn achosi niwed sylweddol i'n heconomi, ond hefyd i enw da'r DU y maent yn honni eu bod am ei ddiogelu. A ydynt o ddifrif eisiau pwyso'r botwm ar Brexit heb gytundeb a rhyddhau pwerau dieflig yn y wlad hon, yn enwedig yng ngogledd Iwerddon, na fyddwn yn sicr y gallwn eu rheoli'n hawdd?
Yn y wlad hon, rydym yn sôn yn rhy ysgafn am ryfel a thrais. Rydym yn coffáu'r rhai a ymladdodd mewn rhyfeloedd nad yw'r rhan fwyaf ohonom hyd yn oed yn eu cofio. Ond yng ngogledd Iwerddon, nid troednodyn i'r gorffennol yw trais. Mae llinellau heddwch yn dal i fodoli. Mae ymosodiadau'n dal i ddigwydd, fel gyda Lyra McKee, y newyddiadurwraig ifanc a gafodd ei saethu yn Belfast yn ddiweddar. Mae cefnogwyr Brexit heb gytundeb yn ddall ac yn hollol anghyfrifol i fod mor ddi-hid, pan fo heddwch mor fregus ar garreg ein drws.
Dyma baragraff byr a gefais gan fy mam, a symudodd i Gymru i ddianc rhag y trais a'r helynt ar strydoedd Belfast, pan ddywedais y byddwn yn siarad yma heddiw:
Fel plentyn a pherson ifanc yn fy arddegau, roedd tyfu fyny yn Belfast yn anodd. Bob dydd, gwelem saethu/ bomiau/ herwgipio/ chwiliadau. Ni châi llawer o hyn sylw ar y tir mawr. Nid oedd unrhyw deulu'n rhydd rhagddo a dioddefodd pob un ohonom ein trychinebau ein hunain.
Pan gafodd Bombay Street yn y Falls isaf ei rhoi ar dân gan deyrngarwyr, daeth y bobl i fod yn ffoaduriaid yn eu dinas eu hunain.
Rwy'n cofio eu helpu yn y canolfannau hamdden lle cawsant eu hadleoli, nes gallu dod o hyd i lety. Am wythnosau roedd gwrthgloddiau ar y ddau ben i'r stryd lle roeddwn i'n byw, a phreswylwyr yn cysgu ar y llawr, yn ofni rhagor o ymosodiadau.
Dyma'r realiti i'r bobl yng Ngogledd Iwerddon. Roedd pawb yn byw ar eu nerfau. Roedd rhieni'n poeni am eu plant, ac roedd lefelau recriwtio i grwpiau paramilwrol ar eu hanterth.
Nid oedd y rhan fwyaf o Gatholigion erioed wedi cyfarfod â Phrotestant ac i'r gwrthwyneb. Roedd anwybodaeth yn tanio anghytundeb.
Gyda chytundeb Gwener y Groglith, cafwyd awyrgylch newydd o obaith, wrth i hawl pobl Gatholig yn y gogledd i gael eu hystyried yn gydradd â'r gymuned deyrngarol gael ei chydnabod fel nod cyfreithlon.
Nid yw fy nghenhedlaeth i, sydd bellach yn eu 60au a'u 70au, yn dymuno gweld y lle'n dychwelyd i ddyddiau'r trafferthion. Rydym yn teimlo'n ddig wrth glywed sôn am gael ffin unwaith eto.
Ceir nifer gynyddol o bobl ifanc anfodlon, nad ydynt erioed wedi cael profiad o'r trafferthion, ac sy'n barod i ymgymryd â'r frwydr. Efallai mai ychydig yw'r nifer yn awr, ond gyda ffin i galedu calonnau a meddyliau, mae'n bosibl iawn y bydd y nifer yn tyfu.
Beth bynnag sy'n digwydd, ni ddylai heddwch yng Ngogledd Iwerddon fod yn elfen fargeinio yng nghynllun mawreddog Boris Johnson.
Pwy sy'n mynd i siarad dros bobl Gogledd Iwerddon?
Pwy sy'n mynd i hyrwyddo eu hachos?
A ydym am sefyll o'r neilltu a gwylio Iwerddon yn llithro i argyfwng sectyddol eto?
Mae angen i ni amddiffyn, a sefyll dros ein hawliau fel Ewropeaid a dinasyddion Iwerddon.
Dylem wrando ar ei geiriau hi ac eraill tebyg iddi. Nid ydym yn byw mewn gwagle. Bydd Brexit, wrth gwrs, yn effeithio ar Gymru'n uniongyrchol—ac mae fy nghyd-Aelodau wedi dweud hynny'n huawdl yma heddiw—a'r bywydau rydym yn eu byw yma yng Nghymru. Ond gadewch i ni beidio â thanamcangyfrif sut y gallai Brexit heb gytundeb newid bywydau pobl am byth yn agos at adref—yn nes at adref nag y gallwn byth ei ddychmygu.
Felly, gadewch inni beidio â sefyll o'r neilltu a gadael i hyn ddigwydd, a sefyll, siarad yn gadarn, a dweud wrth y byd na ddylai hyn ddigwydd.
Mae addoedi'r Senedd, neu o'i roi mewn ffordd y byddai'r rhan fwyaf ohonom yn ei deall, y penderfyniad i gau ein Senedd yn San Steffan, ar adeg mor dyngedfennol yn ein hanes, yn fwriadol ac yn sinigaidd, ac mae'n gwbl briodol fod ein Senedd yng Nghymru yn dod ynghyd heddiw i fynegi barn ar hynny, am yr holl resymau y mae eraill eisoes wedi'u nodi.
Nawr, a bod yn fanwl gywir, efallai ei bod yn gyfreithiol i wneud hynny—fe arhoswn am ganlyniad yr heriau cyfreithiol presennol—ond gadewch i ni beidio â chael ein twyllo na chafodd hyn ei wneud am un rheswm gwleidyddol yn unig, sef mewn ymgais i atal Senedd San Steffan rhag craffu ar weithredoedd Llywodraeth y DU mewn perthynas â'r mater pwysicaf yn ein cyfnod ni: ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd.
Ni allaf feddwl am ddim sydd ymhellach o fantra Brexit ynghylch adfer rheolaeth na cheisio tawelu'r union gorff y gwnaethant hwy eu hunain ymgyrchu i roi rheolaeth absoliwt iddo. Ceir cynseiliau mewn hanes ar gyfer y math hwn o weithredu gan lywodraeth wrth gwrs, ond nid oes yr un ohonynt yn dda, nid oes yr un ohonynt wedi arwain at ganlyniadau da, ac nid oes yr un ohonynt yn rhoi unrhyw fath o sicrwydd i ni ynglŷn â'r cyfeiriad teithio. Ond yn y ddadl hon, hoffwn ganolbwyntio a chyfyngu fy sylwadau i ddau fater sy'n codi o benderfyniad Prif Weinidog y DU yn fy marn i. Y mater cyntaf yw'r rhwyg yn ein cymdeithas y soniodd David Rowlands amdano eisoes, a'r ail yw natur yr arweinyddiaeth.
O ran y mater cyntaf, sef y rhwyg, rwy'n ei chael hi'n anodd cofio mater sydd wedi rhannu barn yn ei gwlad i'r graddau y mae'r ddadl barhaus am ein perthynas â'r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol wedi'i wneud. Yn wir, rwy'n ei chael hi'n anodd cofio pryd y cafodd iaith y rhwyg ei harfogi i'r fath raddau nes fy ngwneud yn ofnus ynglŷn â chyflwr ein cymdeithas sifil. Pan fo arddel barn wrthwynebus mewn democratiaeth yn cael ei bortreadu fel gweithred fradwrus, ac yn fwyaf diweddar, fel ildiad, rydym mewn cyfnod pryderus iawn. Mae'r iaith hon a'r delweddau y mae'n eu cyfleu, a gweithredoedd trasig fel llofruddiaeth Jo Cox, wedi creithio'r wlad hon yn ddwfn, ac ar adeg o argyfwng cenedlaethol, rwy'n disgwyl—ac mae ein profiad yn y gorffennol yn aml yn dweud wrthym—mai diben, cyfrifoldeb a rhwymedigaeth arweinwyr yw lleihau tensiynau, ceisio lleihau rhwygiadau, a cheisio meithrin cysylltiadau mwy cytûn. Ond nid yw'n ymddangos bod hynny'n wir ar hyn o bryd. Ar y foment, mae grymoedd ar waith, rhai ohonynt yn rymoedd sinistr iawn, sy'n ceisio meithrin a hybu rhwygiadau, gan arwain yn awr at ein Prif Weinidog yn atal Senedd sofran er mwyn rhwystro ASau a etholwyd gennym rhag gwneud penderfyniadau ar faterion y cawsant eu rhoi yno i'w penderfynu. Mae hyn wedi cael amryw o ganlyniadau, ac ofnaf y bydd hynny'n parhau.
Un canlyniad gwleidyddol amlwg yw cyfansoddiad y Deyrnas Unedig mewn cyflwr o fflwcs na wyddys ei hyd na'i led ar hyn o bryd, ac mae grymoedd ceidwadaeth sydd wedi defnyddio cyfansoddiad esblygol dros ganrifoedd er mwyn cynnal sefydlogrwydd bellach yn palu drwy ei seiliau. Ac yn hynny o beth, rwy'n rhannu pryderon David Melding y bydd i hyn ganlyniadau sy'n mynd ymhell y tu hwnt i'r hyn a welsom yn y ddadl bresennol ynglŷn â'n perthynas â'r UE. I raddau, mae rhywfaint o hynny wedi'i fynegi yn y gwelliannau i'r cynnig y mae Plaid Cymru wedi'u cyflwyno heddiw, a hefyd yn y modd cyflym y dychwelodd y ddadl am annibyniaeth yr Alban. Nid yw y tu hwnt i bosibilrwydd bellach y byddwn yn gweld y Deyrnas Unedig yn chwalu dan oruchwyliaeth y Blaid Geidwadol ac Unoliaethol—plaid sydd wedi tyfu'n fwy poblyddol yn ddyddiol, ac sydd, fel y dywedodd eraill, yn fawr mwy na phlaid cenedlaetholdeb Seisnig bellach.
Yr ail fater yr hoffwn wneud sylw arno yw cymeriad a natur yr arweinyddiaeth. Mae'n amlwg fod drwgdybiaeth sylfaenol o Brif Weinidog y Deyrnas Unedig wrth galon y ddadl yr wythnos hon. Nid yw'r ddrwgdybiaeth honno'n gyfyngedig i un blaid; caiff ei rhannu ar draws y pleidiau, gan gynnwys ei blaid ei hun, fel y mynegwyd gan y rhai sydd bellach wedi'u diarddel oddi ar feinciau'r Torïaid yn San Steffan. Yn wir, mae'n syndod fod cyn lleied o ymddiriedaeth gan bobl ym Mhrif Weinidog newydd y DU, ac ni allaf gofio hyn o'r blaen. Cafwyd anghytundebau, ond ni fu erioed y fath ddiffyg ymddiriedaeth lwyr a welwn heddiw. Ac fel y clywsom y bore yma, mae'r rhestr gynyddol o bobl nad ydynt i bob golwg yn ymddiried yn y Prif Weinidog mwyach yn cynnwys ei frawd ei hun. Yn amlwg, y rhai agosaf ato sy'n ei adnabod orau.
Eto i gyd, rwyf hefyd yn gwybod, wrth ddilyn y dadleuon yr wythnos hon ac wrth wylio gweithredoedd y rhai y mae'r Prif Weinidog wedi'u casglu o'i gwmpas, ei bod yn glir ac yn amlwg pam y mae cymaint o ddiffyg ymddiriedaeth. Mae'r dyn yn gelwyddgi llwyr. Mae'n hiliol, yn rhywiaethol, yn homoffobig—yn debyg iawn i'w gyfaill yn yr UDA—ac mae'n anaddas i fod yn y swydd uchaf yn y wlad hon. Mae'n dweud un peth, mae'n gwneud rhywbeth arall, ac ni ellir ymddiried ynddo i wneud yr hyn y mae'n dweud y bydd yn ei wneud. Ni ellir ymddiried ynddo gyda dyfodol ein gwlad.
Felly, rwy'n cefnogi'r cynnig heddiw. Peidiwch â gadael i ni a'n cymheiriaid synhwyrol yn San Steffan, ymhob plaid, fod yn ddynion a menywod da na wnaethant ddim wrth i Brif Weinidog geisio sathru ar ein democratiaeth. Bydd peidio ag eistedd am bum wythnos ar yr adeg fwyaf tyngedfennol yn ein hanes yn gwanhau ein democratiaeth yn ddifrifol, felly rwy'n gobeithio y gwneir popeth posibl yn San Steffan i ddiddymu addoediad y Senedd a defnyddio'r holl amser arall sydd ar gael, gan gynnwys, os oes angen, canslo toriad yr hydref er mwyn rhoi cymaint o amser â phosibl i ddatrys y sefyllfa hon a sicrhau na chawn Brexit heb gytundeb niweidiol.
Ond ar fater penodol addoedi'r Senedd, ni ddylai hon fod yn foment i greu rhwyg rhwng y rhai sy'n cefnogi gadael a'r rhai sydd am aros. Mae'n foment ar gyfer dod o hyd i achos cyffredin er mwyn amddiffyn ein democratiaeth, oherwydd os na wnawn hynny—ac ar y pwynt hwn rwy'n cytuno â sylwadau Adam Price ar ddechrau'r ddadl hon ynghylch symudiadau graddol tuag at unbennaeth—rydym yn caniatáu i arweinwyr presennol y Blaid Geidwadol unwaith eto i roi plaid o flaen gwlad, a thrwy hynny, fel y dywedodd Clem Attlee unwaith, rydym hanner ffordd tuag at unbennaeth.
Rydym wedi bod mewn argyfwng cenedlaethol, fel y mae llawer wedi'i ddisgrifio heddiw, ers rhyw dair blynedd bellach yn dilyn canlyniad y refferendwm a ffiasgo neu drychineb Brexit parhaus, ac mae pethau'n cyrraedd penllanw yn awr mae'n debyg, gydag arweinwyr newydd ar lefel Llywodraeth y DU yn gogwyddo llawer mwy tuag at adael heb gytundeb, gyda'r holl ddifrod y byddai hynny'n ei achosi. Rwy'n credu ei bod yn hollol iawn ein bod yn dod at ein gilydd heddiw, Lywydd, i drafod y materion hyn fel corff cynrychioliadol, fel llais ar ran pobl Cymru, oherwydd mae hi mor amlwg fod yna argyfwng cenedlaethol mawr yn y DU, gan gynnwys Cymru wrth gwrs.
Rydym yn gwybod y byddai gadael heb gytundeb yn niweidiol iawn i'n heconomi. Rydym wedi clywed Dai Rees yn sôn am yr effeithiau posibl ar y diwydiant dur. Mae'r effaith gythryblus ar fusnes wedi bod yn digwydd ers tair blynedd bellach. Mae mor niweidiol i fuddsoddiad a swyddi, ac rwy'n gwybod, Lywydd, fod y gweithwyr dur yng ngweithfeydd Orb, gweithfeydd Cogent yn fy etholaeth i, sef Dwyrain Casnewydd, yn teimlo'r pethau hyn yn enbyd iawn ac yn amlwg iawn. Ac maent yn disgwyl i ni, Lywydd, gyfarfod a thrafod ac ystyried yr hyn y gellir ei wneud i'w helpu a sefyllfa Brexit. Mae'r posibilrwydd o Brexit heb gytundeb yn berthnasol iawn i'w rhagolygon—rhagolygon cyffredinol a rhagolygon penodol yn y dyfodol agos a thu hwnt—ac maent yn disgwyl inni fynd i'r afael â'r holl faterion rydym wedi arfer mynd i'r afael â hwy yn y sefyllfaoedd hyn: cymorth gan Lywodraeth Cymru mewn perthynas ag ailhyfforddi, osgoi diswyddiadau gorfodol, cyfleoedd mewn mannau eraill yn Tata Steel, Llanwern, Port Talbot, er enghraifft, yn ogystal â chyfleoedd gwaith mwy cyffredinol, ailhyfforddi, yr holl gyngor a chymorth sy'n arferol, ond hefyd, wrth gwrs, fel y mae undeb llafur Community ac Unite yn dweud yn glir iawn, y posibilrwydd y bydd y gwaith hwnnw'n parhau gyda'r buddsoddiad angenrheidiol a fyddai'n caniatáu i'r peiriannau trydanol hynny gael eu defnyddio ar gyfer ceir trydan, er enghraifft, a defnyddiau eraill yn y dyfodol. Mae llawer wedi'u hargyhoeddi fod yna ddyfodol cryf iawn i'r gwaith hwnnw gyda'r lefel gywir o fuddsoddiad ac ymrwymiad.
Wrth gwrs, Lywydd, maent hefyd yn disgwyl i Senedd y DU barhau i gyfarfod a thrafod oherwydd, yn amlwg, mae ganddynt gyfrifoldebau go iawn tuag at y diwydiant dur, er mwyn gosod strategaeth a pholisi ar gyfer y diwydiant dur, ac i fynd i'r afael â'r problemau penodol yng ngwaith dur Orb. Felly, mae'r syniad o addoedi Senedd y DU am fwy na phedair wythnos ar adeg o'r fath yn amlwg yn anathema llwyr i'r rhai sy'n gweithio yn y gwaith hwnnw yn fy etholaeth. Mae'r gwaith hwnnw—Lywydd, bu gwaith dur yno ers diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac mewn gwirionedd, cafodd y bont gludo yng Nghasnewydd ei hadeiladu i gludo gweithwyr i'r gwaith a fodolai ar y pryd. Mae iddo hanes gwych. Mae llawer yn credu y gallai fod iddo ddyfodol cryf iawn o hyd. Mae'r rheini'n faterion y mae angen i Senedd y DU barhau i gyfarfod i'w trafod ac yn wir, i benderfynu pa gamau gweithredu sy'n briodol. Byddai peidio â gwneud hynny'n gwadu'r cyfrifoldeb sydd ganddynt. A gwn fod y gweithwyr a'r undebau llafur sy'n cynrychioli'r gweithwyr yn Orb yn disgwyl inni fynd i'r afael â materion cyfredol ac yn disgwyl i Senedd y DU wneud yr un peth, ac rwy'n gobeithio, Lywydd, y bydd pawb yma heddiw yn gallu deall hynny a deall arwyddocâd y ffaith ein bod yn cyfarfod yma heddiw yng ngoleuni'r digwyddiadau hynny.
Y Prif Weinidog i ymateb i'r ddadl.
Diolch yn fawr, Llywydd, a diolch i bob un sydd wedi cyfrannu at y ddadl. Mae mwy na 25 o Aelodau wedi siarad ar lawr y Cynulliad y prynhawn yma, a dwi’n ymddiheuro i ddechrau nad wyf i'n gallu siarad yn ôl â phob un sydd wedi cyfrannu.
Felly, ymddiheuriadau i'r rhai sy'n gwneud cyfraniadau na allaf ymateb iddynt yn yr amser sydd ar gael i mi. Gadewch imi ddechrau gyda'r hyn a ddywedodd arweinydd Plaid Cymru yn gynnar yn y ddadl. Gwrandewais yn astud iawn ar yr hyn oedd gan Adam Price i'w ddweud ac roeddwn yn cytuno ag ef ar lawer iawn o'r hyn a gyfrannodd—y pethau a ddywedodd am ddemocratiaeth, am reolaeth y gyfraith, am y modd digywilydd y cyfeiriodd Delyth Jewell ato'n ddiweddarach y mae Prif Weinidog y DU wedi diystyru safonau uniondeb democratiaeth. Ar y pethau hynny i gyd roeddwn yn cytuno â'r hyn a ddywedodd. A phan soniodd am y gwelliannau yn enw Plaid Cymru ar y papur trefn y prynhawn yma, mae'n gwbl gywir i ddefnyddio'r ddadl rydym wedi'i chael i wyntyllu'r materion hyn, a chyfres o Aelodau Llafur yn eu hatebion—yng nghyfraniad Hefin David ar faterion cyfansoddiadol a'r pethau oedd gan y Prif Weinidog blaenorol i'w dweud—. Rwy'n credu y byddwch wedi gweld bod Aelodau mewn rhannau eraill o'r Siambr wedi rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r materion hynny. Rwy'n siŵr y byddwn yn dychwelyd at nifer ohonynt yn y dyfodol.
Ond fel y dywedais wrth agor y ddadl, Lywydd, heddiw mae pob elfen fach a ychwanegir at y cynnig yn ei lethu, mae pob cymal newydd a ychwanegir ato yn gwanhau'r hyn y cyfeiriodd Adam Price ato fel prif ffocws ein trafodaethau ac yn bwysicach na hynny, rwy'n credu, yn creu perygl o wanhau'r effaith y gall ein trafodaethau ei chael, ac sy'n rhaid iddynt ei chael, y tu hwnt i'r Cynulliad hwn.
Nid wyf yn siŵr, Lywydd, pa mor ofalus y gwrandewais ar yr hyn oedd gan Mark Reckless i'w ddweud, ond gadewch imi ddweud hyn: fe wrandewais yn fwy astud arno ef nag y trafferthodd ef i wrando arnaf fi, oherwydd pe bai wedi mynd i'r drafferth i wrando, byddai wedi gwybod fy mod eisoes wedi ateb cyfres gyfan o gwestiynau a ofynnodd. Darllenais yn y papurau newydd, Lywydd, fod Mr Reckless wedi dweud y dylai'r Cynulliad Cenedlaethol lynu at ei weu, a dyna fe, yn wir, Madame Defarge ein sefydliad gwleidyddol, yn eistedd yno wrth droed y gilotin yn gweu tra bo economi Cymru o dan y llafn. Ni ddilynais beth o'r hyn oedd gan yr Aelod i'w ddweud, ond roedd y darnau y gallwn eu dilyn i'w gweld i mi yn rhan o ffantasi'r asgell dde a gynigir inni yma yn awr ar lawr y Cynulliad.
Dechreuodd ei gyn-gyfaill yn y ffydd, Neil Hamilton, gyda rhywbeth sy'n brin ar lawr y Cynulliad—rhybuddiodd na ddylem ddisgwyl llawer ac na fyddem yn cael ein siomi. Ac o leiaf yn hynny ni wnaeth ein siomi—10 munud o nonsens llwyr yn ôl a welwn. Nid wyf eisiau bod yn gas wrth yr Aelod, ond fe ddisgrifiodd y Llywodraeth y bu'n rhaid imi gyfarfod â hi dro ar ôl tro dros y ddwy flynedd ddiwethaf fel Llywodraeth o ddifrodwyr—difrodwyr a oedd yn cynnwys David Davis, Liam Fox, Boris Johnson, Dominic Raab, Andrea Leadsom, Chris Grayling. Dyma'r bobl y bu'n rhaid inni gyfarfod â hwy wythnos ar ôl wythnos, ac nid yw'r syniad mai cenhadaeth wleidyddol y bobl hyn oedd difrodi Brexit yn gredadwy mewn unrhyw fodd.
Ond Lywydd, gadewch imi wneud y pwynt mwy difrifol hwn: pan glywn yr iaith ar lawr y Cynulliad sy'n disgrifio pobl nad ydym yn cytuno â hwy fel difrodwyr, neu pan fydd rhywun yn defnyddio iaith 'cydweithredwyr' gyda'i holl adleisiau hanesyddol, pan fyddwn yn dweud y bydd yr etholiad cyffredinol yn un sy'n gosod y Senedd yn erbyn y bobl, bryd hynny mae gwynt ffasgiaeth wedi dod i lawr Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Ac nid wyf yn dweud hynny'n ysgafn, oherwydd rwy'n credu bod yr iaith a ddefnyddir yn cael ei defnyddio'n fwriadol. Iaith chwiban y ci ydyw; ei nod yw ysgogi ymateb lle mae'r bobl sy'n ei defnyddio'n gwybod yn iawn beth y maent yn ei wneud, a phan fyddant yn ei wneud, mae'n iawn ein bod ni, yn ein tro, yn defnyddio'r iaith y maent yn ei haeddu.
A gaf fi ofyn i'r Prif Weinidog ystyried a oedd yn wirioneddol briodol iddo alw Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn gelwyddgi ar lawr y tŷ hwn?
Lywydd, rwy'n meddwl yn ofalus iawn am yr iaith rwy'n ei defnyddio. Yr hyn a wneuthum oedd rhoi enghraifft benodol iawn o'r hyn sydd wedi digwydd o dan y Prif Weinidog hwn pan anfonodd ei lefarydd i ddweud rhywbeth ar ei ran y mae'n gwybod, ac rydym ni'n gwybod bellach, nad yw'n wir, a'r hyn a ddywedais oedd, os anfonwch rywun i ddweud rhywbeth y gwyddoch nad yw'n wir, celwydd yw hynny, ac nid wyf yn meddwl y dylem gilio rhag dweud hynny.
Nawr, gwrandewais yn astud ar yr hyn oedd gan Paul Davies i'w ddweud, ac rwy'n aml wedi teimlo rhywfaint o gydymdeimlad tuag at arweinydd yr wrthblaid ar lawr y Cynulliad hwn, oherwydd ei fod yn ddyn hoffus. Ac roedd popeth a ddywedodd y prynhawn yma a phopeth a ddywedodd Andrew R.T. Davies y prynhawn yma am y ffaith bod angen i'r Blaid Geidwadol gynnwys amrywiaeth eang o ddaliadau, gwn eu bod yn golygu hynny pan ddywedant hynny wrthym a dyna farn y blaid wleidyddol y maent wedi bod yn perthyn iddi. Ac fel y dywedais, roeddwn yn teimlo rhywfaint o gydymdeimlad ag arweinydd yr wrthblaid—ymgeisiodd am swydd sy'n galw am amddiffyn yr anamddiffynadwy ac mae'n dygnu arni bob wythnos ar lawr y Cynulliad.
Ond mae gennyf lai o gydymdeimlad ag ef ar y mater hwn, gan ei fod wedi cefnogi Boris Johnson yn etholiad arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol gan wybod bod prosbectws y person hwnnw ar Brexit yn fwy niweidiol na dim y gellid bod wedi ei gyflwyno mewn perthynas â Chymru, ac rydym yn gweld hynny. Rydym yn ei weld ac rydym wedi clywed, fel y nododd Carwyn Jones a Rhianon Passmore, yr eironi—yr eironi llwyr—fod Prif Weinidog y DU wedi cynnal ei ymgyrch Brexit yn 2016 ar neges adfer rheolaeth, dim ond i ganfod ei fod wedi trosglwyddo rheolaeth i unigolyn anetholedig sy'n cynllunio ac yn cynllwynio pob cam y mae'r Prif Weinidog yn ei wneud bellach, yn ôl y sôn.
Nawr, dywedodd Paul Davies a David Melding fod hon yn foment inni geisio symud ymlaen gyda'n gilydd, ac y dylem ddefnyddio'r dylanwad sydd gennym fel Llywodraeth i weithio gyda'r weinyddiaeth newydd yn San Steffan. Ac rwyf am ddweud ar lawr y Cynulliad, Lywydd, nad yw'r Llywodraeth hon erioed wedi colli cyfle i fod yn yr un ystafell â'r Llywodraeth Geidwadol a fu gennym ers 2017. Er bod y rheini'n aml yn achlysuron anghyfforddus iawn lle byddwn yn trafod gyda phobl rydym yn anghytuno'n sylfaenol â hwy, nid ydym erioed wedi methu cyfle i fod yno, i geisio bod yn ddylanwadol, i siarad dros Gymru. Ond ers ethol Mr Johnson, rydym wedi cael ein cau allan o'r trafodaethau hynny. O dan ei ragflaenydd, yr anghytunwn yn llwyr â hi, cawsom ein gwahodd i gyfarfodydd Cyd-bwyllgor y Gweinidogion ar Negodiadau Ewropeaidd. Mynychasom is-bwyllgor o'r Cabinet ei hun. Ers i uwch gynghrair Boris Johnson ddechrau, mae'r cyfleoedd hynny wedi diflannu. Roeddem i fod i fynychu cyfarfod ddydd Gwener yr wythnos hon, ond mae'r gwahoddiad hwnnw wedi'i dynnu'n ôl. Ni allwch ddylanwadu ar Lywodraeth nad oes ganddi unrhyw awydd i drafod gyda ni.
Cyfarfûm ag Antoinette Sandbach pan oeddwn yn Nhŷ'r Cyffredin ddiwethaf. Dywedodd wrthyf nad oedd unrhyw fodd o ddatrys Brexit heb barodrwydd ar ran ei phlaid i weithio gyda'r Blaid Lafur i ddod o hyd i dir cyffredin y gallem gytuno arno, ac rydym wedi gweld beth sydd wedi digwydd yn awr i bobl sy'n arddel yr un safbwynt â hi. Gwrandewais yn ofalus iawn ddoe, Lywydd, ar aelod Ceidwadol blaenllaw—wel, cyn-aelod Ceidwadol bellach, o Dŷ'r Cyffredin—yn dweud y byddai Brexit heb gytundeb yn niweidio ein heconomi, ein diogelwch, ein huniondeb a'n lle yn y byd, ac ailadroddwyd pob un o'r themâu hynny ar lawr y Cynulliad y prynhawn yma. Siaradodd Joyce Watson a Jenny Rathbone ar ran y bobl agored i niwed yn ein cymunedau y bydd eu dyfodol economaidd eu hunain yn cael ei niweidio gan Brexit heb gytundeb. Clywsom gan John Griffiths am y difrod a wnaed i Tata, a bydd yn wynebu mwy o hynny os gadawn yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.
Rwy'n ddiolchgar, ac rwy'n credu ein bod ni i gyd yn sefyll ysgwydd wrth ysgwydd gyda'r gweithwyr yng ngwaith dur Orb yng Nghasnewydd, ond fy nealltwriaeth i yw nad yw Tata wedi dweud mai Brexit yw'r rheswm dros gau. Yn wir, maent wedi bod wrthi'n ceisio marchnata'r gwaith ers peth amser. Y cynnydd enfawr yn y capasiti y mae Tsieina wedi'i roi i mewn i'r farchnad sydd ar fai. Rhaid gwneud pob ymdrech i geisio achub y gwaith hwnnw. Ond a ydych o ddifrif yn dweud mai Brexit sydd wedi cau'r gwaith hwnnw yng Nghasnewydd? Oherwydd os ydych chi, rydych chi'n gwrthddweud yr hyn y mae'r gwaith wedi'i ddweud.
Edrychwch, Andrew, pan fo cau economaidd mawr yn digwydd yng Nghymru, mae'n rhaid imi ddweud wrthych nad yw'r ymdrechion a wneir bob amser gan y bobl a oedd yn hyrwyddo Brexit i ddweud nad oedd a wnelo Brexit ddim â'r peth, yn gredadwy. Nid yw'n gweithio yn y byd y mae pobl gyffredin yn byw ynddo. Cyfarfûm ag uwch-swyddogion Tata ym Mhort Talbot pan ailagorwyd y ffwrnais chwyth newydd. Roeddwn yno i sôn am y llwyddiant roedd y cwmni wedi'i gael gyda chymorth Llywodraeth Cymru yn ail-leinio'r ffwrnais chwyth. Y cyfan y dymunent siarad â mi yn ei gylch oedd Brexit. Y cyfan y dymunent ei wneud oedd dweud wrthyf am eu hofnau am ddyfodol y cwmni mewn cyfnod pan nad oes gennym fynediad at y farchnad sengl, pan nad oes gennym y pethau sy'n caniatáu iddynt fasnachu'n llwyddiannus heddiw. Nid yw dweud nad yw'r pethau hyn yn bwysig pan gaiff y penderfyniadau hynny eu gwneud yn dal dŵr. Wrth gwrs eu bod yn bwysig.
Clywais i beth oedd Rhun ap Iorwerth a Llyr Gruffydd yn ei ddweud am yr effaith ar gefn gwlad, a dyna beth clywais i pan oeddwn i yn Ynys Môn, lawr yn sir Benfro—pobl yn ofnus, yn bryderus am y dyfodol. Mae lot o bobl yn dweud wrthyf eu bod nhw wedi newid eu meddwl, fel roedd Llyr yn ei ddweud. Ces i gyfle yn yr haf i gwrdd â phobl uwch yn Iceland hefyd, a jest i glywed beth oedden nhw'n ei ddweud am bobl sy'n byw mewn tlodi nawr a'r effaith arnyn nhw, a beth sydd wedi digwydd yn barod gyda'r punt a fel mae hwnna wedi symud dros yr haf.
Roedd yr ail beth y clywais yr aelod blaenllaw o'r Blaid Geidwadol yn ei ddweud yn ymwneud â diogelwch. Mae Carwyn Jones a Bethan Sayed wedi sôn am ffin Iwerddon a'r effaith ar ddiogelwch yno. Gwyddom na fyddwn yn rhan o'r trefniant Gwarant Arestio Ewropeaidd ar ôl Brexit.
Ac mae diogelwch yn fwy na hynny, hefyd, fel roedd Dr Dai Lloyd yn sôn—diogelwch i bobl lle mae'n rhaid iddyn nhw gael triniaeth, lle na fydd y feddyginiaeth ar gael. Pobl yn mynd heb dabledi. Dyna beth rŷm ni'n siarad amdano pan fyddwn ni'n sôn am ddiogelwch yn y dyfodol.
Uniondeb: rydym wedi clywed llawer am uniondeb yma y prynhawn yma, ynglŷn â'r ffaith bod gennym Brif Weinidog na ellir ymddiried ynddo, na ellir dibynnu ar ei air. Ond fel y dywedodd Dai Rees, nid uniondeb ar lefel yr unigolyn yn unig yw hyn; mae'n uniondeb ar y lefel sefydliadol hefyd. Yr oriau a dreuliwyd yn y sefydliad hwn, mewn pwyllgorau, ar lawr y Cynulliad, yn pasio deddfwriaeth ar y sail fod gennym Lywodraeth a fyddai yno wedyn i roi'r ddeddfwriaeth honno ar waith, ac sydd yn awr yn barod i ddileu honno a throi cefn ar hynny i gyd.
Lle'r Deyrnas Unedig yn y byd: dywedodd Andrew R.T. Davies yn ei gyfraniad, 'Dywedwch beth y dymunwch am Boris Johnson, mae'n sicr wedi dod â phethau i benllanw'. Ac rwyf wedi bod yn meddwl am y cyfeiriadau a gawsom ar draws y Siambr at bethau clasurol y prynhawn yma, ac fe wnaeth y sylw hwnnw fy atgoffa o'r chwedl Roegaidd wych am Icarws. A ydych chi'n cofio Icarws, y dyn a hedfanodd yn rhy agos at yr haul, yn or-hyderus, gan wybod ei fod yn gwybod yn well na neb arall? Hedfanodd yn rhy agos at yr haul ac fe blymiodd i'w farwolaeth yn y môr islaw. Wel, beth bynnag a ddywedwch, yn sicr fe ddaeth â phethau i benllanw. Ac mae lle Prydain yn y byd wedi ei niweidio oherwydd fod pobl wedi colli hyder ynom fel cenedl, ynglŷn â'n gallu i siarad mewn iaith ac mewn cywair a chydag ymdeimlad o gymesuredd y daethant i gredu bod y Deyrnas Unedig wedi sefyll drosto ar un adeg yn y byd ac sydd wedi'i daflu o'r neilltu gan y Prif Weinidog, pan oedd yn Ysgrifennydd Tramor ac yn yr ychydig wythnosau byr y bu'n Brif Weinidog hefyd.
Lywydd, nid oes unrhyw amheuaeth: mae'r olwynion wedi dod oddi ar y bws. Ymddengys nad oedd trwydded gan y gyrrwr, na mandad, na moesoldeb, na mwyafrif. Yr hyn a wnaethom y prynhawn yma, fel y dywedodd Dawn Bowden ar ddiwedd y ddadl, yw tynnu sylw at y materion sydd wrth wraidd y ddadl wleidyddol bresennol: yr angen i amddiffyn democratiaeth seneddol a hawl pobl i gael cynrychiolwyr ar eu rhan i siarad yn y dadleuon a fydd yn cael effaith mor ddwfn ar eu bywydau. Mae ein penderfyniad fod y niwed y gellir ei osgoi—nid yw'n niwed na allwch ei osgoi—. Dylid osgoi'r niwed osgoadwy y bydd Brexit heb gytundeb yn ei achosi. Dylem godi llais yma y prynhawn yma. Ni ddylem adael i neb amau beth yw barn y Cynulliad Cenedlaethol hwn, a byddwn yn siarad pan fyddwn yn gwneud hynny ar ran pobl Cymru.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais, felly, ar yr eitem tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Sy'n dod â ni at y cyfnod pleidleisio ar y ddadl yma, ac mae'r bleidlais gyntaf ar welliant 1. Galwaf am bleidlais, felly, ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid pedwar, neb yn ymatal, 38 yn erbyn, ac felly mae gwelliant 1 wedi'i wrthod.
Gwelliant 1: O blaid: 4, Yn erbyn: 38, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 2: pleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid naw, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi'i wrthod.
Gwelliant 2: O blaid: 9, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 3: pleidlais, felly, ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid naw, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 3 wedi'i wrthod.
Gwelliant 3: O blaid: 9, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 4: pleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid naw, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 4.
Gwelliant 4: O blaid: 9, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 5 sydd nesaf. Cyflwynwyd gwelliant 5 yn enw Neil McEvoy, felly pleidlais ar welliant 5. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid un, wyth yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 5 wedi'i wrthod.
Gwelliant 5: O blaid: 1, Yn erbyn: 35, Ymatal: 8
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 6 yw'r gwelliant nesaf a'r bleidlais nesaf. Cyflwynwyd gwelliant 6 yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid naw, neb yn ymatal, 35 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 6 wedi'i wrthod.
Gwelliant 6: O blaid: 9, Yn erbyn: 35, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Y bleidlais olaf ar y cynnig, y cynnig heb ei ddiwygio. Felly, pleidlais ar y cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 32, neb yn ymatal, 12 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
NDM7128 - Cynnig: O blaid: 32, Yn erbyn: 12, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
A dyna ddiwedd ar ein trafodaethau ni am y sesiwn yma.
Daeth y cyfarfod i ben am 16:05.