Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
17/09/2019Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn.
Cyn galw'r Prif Weinidog, dwi eisiau hysbysu'r Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod Deddf Deddfwriaeth (Cymru) 2019 wedi cael Cydsyniad Brenhinol ar 10 Medi.
Felly, cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan David Rees.
1. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda chymheiriaid yn Llywodraeth y DU ynghylch dyfodol y diwydiant dur yng Nghymru? OAQ54303
Llywydd, a gaf i ddiolch i'r Aelod am y cwestiwn yna, ac am ei eiriolaeth gyson o bwysigrwydd y diwydiant dur yng Nghymru? Fel y bydd e'n gwybod, rydym ni'n cynnal trafodaethau rheolaidd gyda Llywodraeth y DU. Rydym ni'n parhau i bwyso arnyn nhw i gyflawni eu cyfrifoldebau i gefnogi gweithgynhyrchu strategol yng Nghymru ac i chwarae eu rhan i sicrhau dyfodol hirdymor i'n diwydiant dur.
Diolch am yr ateb yna, Prif Weinidog. Rydych chi'n nodi'n gywir bod angen i Lywodraeth y DU chwarae ei rhan. Nid yw hyd yn oed wedi dod i gytundeb sector dur eto. Mae'n ymddangos bod yr Ysgrifennydd Gwladol blaenorol a'r Ysgrifennydd Gwladol presennol yn gwbl anymwybodol o bwysigrwydd mynd i'r afael â'r mater hwn o'n sector dur. Nawr, fel y gwyddoch chi, mae gwaith dur Port Talbot yn hollbwysig i'm hetholaeth i. Mae llawer o weithfeydd dur ar draws yr ardaloedd yng Nghymru yn anadl einioes i lawer o gymunedau lleol mewn gwirionedd, ac, er fy mod i eisiau siarad am Bort Talbot, rwy'n credu ei bod hi'n bwysicach ein bod ni'n siarad am yr agenda ddur ehangach a'r cyhoeddiad diweddar gan Tata ar gau gwaith yr Orb. Mae gwaith yr Orb yn rhan o'r teulu dur yng Nghymru, yn rhan o strwythur Cymru. Pa gamau mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i edrych ar y cymorth y gall ei roi i weithwyr gwaith yr Orb, oherwydd er bod Tata yn dweud y bydd yn adleoli llawer, yr hyn y mae hynny'n ei wneud mewn gwirionedd yw cymryd swyddi oddi ar bobl eraill a swyddi'r bobl a fydd yn dod i waith yr Orb yn y dyfodol. Bydd cyfleoedd yn diflannu. Felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i sicrhau bod gan waith yr Orb a'r gweithwyr ddyfodol?
Wel, Llywydd, diolchaf i David Rees am y cwestiwn dilynol yna. Wrth gwrs, mae'n iawn; mae'n hynod siomedig bod Llywodraeth y DU wedi methu â darparu cytundeb sector i'r diwydiant dur, er gwaethaf y llu o gyfleoedd yr ydym ni wedi eu cymryd i ddadlau'r achos hwnnw iddyn nhw. Ac ni wnânt ei wneud gan eu bod wedi methu â datrys rhai o'r materion sy'n uniongyrchol yn eu dwylo nhw eu hunain. Dro ar ôl tro, mae'r diwydiant a Llywodraeth Cymru wedi annog Llywodraeth y DU i fynd i'r afael â mater y gwahaniaeth mewn prisiau trydan diwydiannol rhwng y Deyrnas Unedig a chystadleuwyr Tata ar gyfandir Ewrop. Mor ddiweddar â 27 Awst, roedd fy nghyd-Weinidog, Ken Skates, yn trafod hyn gyda'r Ysgrifennydd Gwladol newydd yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol. Mae'n hen bryd i Lywodraeth y DU gamu ymlaen a chwarae ei rhan yn y gwaith o gefnogi'r diwydiant dur ym Mhort Talbot ac yn ehangach yng Nghymru. Ac, wrth gwrs, mae'n siomedig o fod wedi cael y newyddion ar 2 Medi nad oes yr un prynwr wedi ei ganfod ar gyfer safle yr Orb yng Nghasnewydd. Mae'n siomedig i Gymru ac mae'n peri pryder mawr i weithwyr yn y gwaith hwnnw.
Nawr, rwy'n croesawu'r ffaith bod Tata wedi dweud mai ei nod yw osgoi diswyddiadau gorfodol a chynnig swyddi eraill ar safleoedd eraill. Ond mae angen i'r ymgynghoriad hwnnw sy'n cael ei gynnal gyda staff fod yn un gwirioneddol, mae angen iddo roi sylw gofalus i'r achos sy'n cael ei gyflwyno gan yr undebau llafur ar ran eu haelodau, ac, fel Llywodraeth Cymru, byddwn yn gweithio gyda mudiad yr undebau llafur, yn ogystal â chyda'r cwmni, i wneud popeth y gallwn i gefnogi'r gweithlu hynod deyrngar a hynod fedrus hwnnw.
Wrth siarad yma yn 2015, yn y ddadl a alwodd ar Lywodraeth Cymru i fabwysiadu siarter ar gyfer dur cynaliadwy Prydain, sylwais fod Tata Steel Colors yn Shotton nid yn unig yn dibynnu'n hanfodol ar y gadwyn gyflenwi ar gyfer dur cynaliadwy ym Mhrydain, ond bod ganddyn nhw bwyslais hefyd ar ymrwymiad i fuddsoddi mewn gwella eu perfformiad amgylcheddol a'u cynaliadwyedd, pan eu bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru i fodloni'r cyfarwyddebau allyriadau diwydiannol. Pa ymgysylltiad y mae Llywodraeth Cymru wedi ei gael â Llywodraeth y DU ers ei chyhoeddiad ym mis Mawrth o ymgynghoriad ar gronfa trawsnewid ynni diwydiannol i helpu busnesau sy'n defnyddio llawer o ynni i dorri eu biliau, yn enwedig dur, wedi ei chefnogi gan £315 miliwn o fuddsoddiad?
Wel, Llywydd, Llywodraeth Cymru oedd llofnodwr cyntaf y siarter dur yn gynharach eleni. Ac, wrth gwrs, rydym ni'n gweithio gyda'r diwydiant a phan fo cyfleoedd, gyda Llywodraeth y DU. Trafodwyd y gronfa trawsnewid ynni diwydiannol gan fy nghyd-Weinidog Ken Skates ar y cyfle y soniais amdano ychydig funudau yn ôl. A byddwn hefyd yn mynd ar drywydd y gronfa dur glân a gyhoeddwyd ar 29 Awst, na fwriedir iddi fod yn weithredol cyn 2024, ond sy'n cynnig cyfleoedd ar draws y Deyrnas Unedig. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn yn wir ein bod ni'n pwysleisio hynny i Lywodraeth y DU—y bydd hon yn gronfa i'w gwario yng Nghymru, yn ogystal ag mewn mannau eraill, i gynorthwyo'r sector wrth iddo drosglwyddo i gynhyrchu haearn a dur carbon-isel trwy dechnolegau a phrosesau newydd. A bydd hynny'n bwysig iawn i ni yma yng Nghymru.
Roedd y cyhoeddiad am waith yr Orb yng Nghasnewydd, yn amlwg, yn drychinebus i'r gweithwyr dan sylw, ond mae hefyd yn drychinebus i botensial y diwydiant dur yng Nghymru. Rwy'n credu bod Tata wedi dweud y byddai addasu'r safle er mwyn cynhyrchu dur ar gyfer cynhyrchu cerbydau trydan yn y dyfodol yn costio dros £50 miliwn. Nawr, pa drafodaethau mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhan ynddyn nhw, naill ai o ran dod o hyd i'r math hwnnw o fuddsoddiad neu ei wneud, neu gyfrannu ato? Oherwydd byddai £50 miliwn wedi bod yn fargen wych o ran sicrhau dyfodol y gwaith a'r potensial yr oedd yn ei gynnig o ran y sector allweddol hwn.
Wel, Llywydd, dim ond un rhan o'r gyfres o resymau a nodwyd gan Tata wrth wneud ei benderfyniad yw'r buddsoddiad o £50 miliwn. Nid yn unig y gwnaethon nhw ddweud y byddai'n golygu buddsoddiad o'r maint hwnnw, ond nodwyd ganddyn nhw hefyd y ffaith bod Orb Electrical Steels yn rhan o grŵp Cogent Power, ac mae gan Cogent waith yn Sweden sydd eisoes yn gweithgynhyrchu dur sy'n cael ei ddefnyddio mewn cerbydau trydan. Felly, nid yr arian yn unig oedd y broblem; mae'n fater o adeiladu'r diwydiant dur yn fyd-eang, a lle mae cwmnïau yn dewis gwneud eu buddsoddiadau a lle maen nhw'n dewis cael gafael ar y dur sydd ei angen arnyn nhw. Nawr, wrth gwrs yr hoffem ni weld y buddsoddiad hwnnw yng Nghymru. Wrth gwrs ein bod ni'n credu bod achos cryf dros wneud yn siŵr bod cyflenwr yn y DU o'r math o ddur y bydd ei angen ar gyfer cerbydau trydan a'r diwydiant modurol ehangach, ac rydym ni'n dadlau'r achos hwnnw i Tata a chyda'n cydweithwyr yn yr undebau llafur. Ond mae'r diwydiant dur yn destun cyfres fyd-eang o drafferthion a phryderon, ac ni ellir ynysu Tata Steel a'r digwyddiadau yn Orb oddi wrth yr ystyriaethau ehangach hynny—ystyriaethau ehangach y mae'n rhaid i Lywodraeth y DU ysgwyddo cyfrifoldeb amdanynt.
Prif Weinidog, mae dur wedi cael ei wneud ar safle'r Orb yn Nwyrain Casnewydd ers diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac yn ystod y 120 o flynyddoedd hynny, mae'r gweithlu a'r cynhyrchu wedi newid ac addasu'n barhaus, ac mae buddsoddiad wedi ei wneud i fodloni'r galw sy'n esblygu am ddur. Ac rwy'n credu, o gofio'r hanes hwnnw, ei bod hi'n berffaith bosibl newid ac addasu ymhellach, gyda'r buddsoddiad angenrheidiol, i gynhyrchu dur trydanol ar gyfer cynhyrchu ceir trydan ar raddfa fawr yn y dyfodol. A does bosib nad oes achos cryf dros gynhyrchu'r dur trydanol yma, yn y DU, ac ar safle'r Orb. Felly, byddwn yn ddiolchgar iawn pe byddech chi'n dwysáu eich ymdrechion, Prif Weinidog, i weithio gyda Llywodraeth y DU, yr undebau llafur a'r diwydiant i ystyried hwyluso ac annog y buddsoddiad hwnnw a'r dyfodol cryf hwnnw i waith yr Orb.
Diolchaf i John Griffiths, sy'n siarad, rwy'n gwybod, ar ran yr unigolion a theuluoedd lawer hynny yn ei etholaeth ei hun y mae'r cyhoeddiad yn effeithio arnyn nhw. Siaradodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth â Tata Steel yn syth ar ôl y cyhoeddiad i wneud y pwyntiau hyn iddyn nhw—bod ganddyn nhw'r hanes maith hwn o weithlu hynod deyrngar ac ymroddedig, sydd wedi bod trwy lawer o newidiadau yn y gorffennol hwnnw ac a fyddai gyda nhw ar daith o newid pe bydden nhw'n fodlon mynd ar drywydd hynny yn y dyfodol. A cheir achos strategol, fel y dywedodd John Griffiths, ac fel y dywedais innau yn fy ateb i Rhun ap Iorwerth, dros sicrhau, yn y Deyrnas Unedig, bod gallu i weithgynhyrchu dur y bydd ei angen ar gyfer mathau newydd o gerbydau a phosibiliadau newydd yn y dyfodol. Rydym ni'n gwneud yr holl bwyntiau hynny i'r cwmni, pan fydd y cyfleoedd hynny gennym, gan ei gwneud yn eglur i'r gweithlu ar yr un pryd, os bydd angen cymorth Llywodraeth Cymru a'r dull gweithredu y byddwn yn ei roi ar waith pan fydd pobl angen dod o hyd i sgiliau newydd a swyddi newydd, byddwn yno i'w cynorthwyo pan ddaw'r adeg honno.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y cyllid ychwanegol a ddarparwyd yn ddiweddar i Lywodraeth Cymru gan Lywodraeth y DU? OAQ54326
Wel, Llywydd, hyd yn oed os yw'r cyllid ychwanegol y mae'r Aelod yn cyfeirio ato yn ymddangos, bydd cyllideb Llywodraeth Cymru 2 y cant neu £300 miliwn yn llai mewn termau real nag yr oedd yn 2010-11. Nid yw cyllid blwyddyn annibynadwy, hyd yn oed pan ei fod yn ychwanegol, yn gallu gwneud iawn am bron i ddegawd o gyni cyllidol.
Wel, yn gyntaf, Prif Weinidog, efallai y dylwn i fod wedi eich croesawu chi yn ôl o'ch byncer Brexit heddiw. Ond diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Rydym ni i gyd yn deall na fydd pa bynnag gyllid a roddir byth yn ddigon, ond onid yw'n wir i ddweud y byddai dull llai afradlon o reoli arian gan Lywodraeth Cymru yn rhyddhau mwy o gyllid i'n gwasanaethau cyhoeddus? Yr hyn a olygaf wrth hyn yw'r colledion a ddioddefwyd yn sgil prosiectau'r Llywodraeth fel ffordd liniaru'r M4, cytundeb tir Caerdydd, Blwyddyn y Môr, Cylchffordd Cymru a Cymunedau yn Gyntaf, a gostiodd gyda'i gilydd ryw fymryn yn llai na £600 miliwn—ffigur sydd fwy neu lai'n cyfateb i'r swm a roddir i Gymru gan Lywodraeth y DU. Ac, yn ddiau, mae llawer mwy o enghreifftiau o reolaeth ariannol wael gan Lywodraeth Lafur Cymru y gallwn fod wedi cyfeirio atyn nhw. Onid edrych ar y ffordd yr ydym ni'n ymdrin â rheolaeth ariannol y dylem ni, yn hytrach na chwilio am haelioni gan San Steffan.
Wel, rwy'n anghytuno'n llwyr â'r Aelod. Mae'n methu'r pwynt yn llwyr ac nid yw'r enghreifftiau y mae'n eu crybwyll yn gwrthsefyll archwiliad ychwaith. Gwnaeth yr arian a wariwyd yn Cymunedau yn Gyntaf waith rhagorol mewn llawer o gymunedau ledled Cymru. Roedd y cynllun wedi cyrraedd terfynau ei bosibiliadau, ac rydym ni wedi ei ddiwygio a'i newid. Y penderfyniad o ran Cylchffordd Cymru oedd peidio â gwario arian, nid taflu arian i ffwrdd. Roedd hynny er mwyn gwneud yn siŵr nad oedd arian yn cael ei wario'n wael.
Llywodraeth Cymru sydd â'r hanes gorau o unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig o ran gwario'r arian sy'n dod i ni yng Nghymru. Rydym ni'n gwario dros 99 y cant o'r gyllideb sydd ar gael i ni yng Nghymru, ac rydym ni'n gwneud hynny trwy fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus sydd o dan bwysau mawr—gwasanaethau cyhoeddus sydd wedi gorfod dioddef degawd o beidio â chael yr arian drwy Lywodraeth y DU a oedd yn angenrheidiol i'w cynnal yn wyneb y gofynion y gwyddom sy'n bodoli yng nghymdeithas Cymru. Byddai'n llawer gwell pe byddai'r Aelod yn barod i siarad dros bobl Cymru ac am y buddsoddiad sydd ei angen arnynt.
Wel, Prif Weinidog, dylech chi fod ar y llwyfan. Y ffordd y gwnaethoch chi lwyddo i roi gwedd negyddol ar yr ystadegau hynny heb dorri gwên hyd yn oed, dylid eich canmol chi am hynny. Clywaf yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud y bu cyfnod o doriadau yn San Steffan, a arweiniodd at doriadau yng nghyllideb Llywodraeth Cymru hefyd am gyfnod o amser, ond mae'n rhaid i chi hyd yn oed dderbyn y bydd yr adolygiad diweddar o wariant yn darparu y flwyddyn nesaf, pa un a ydych chi'n ei hoffi ai peidio—bydd yn darparu—cynnydd mewn termau real o 2.3 y cant yn ogystal â'r arian sydd yn y grant bloc sy'n dod i Gymru ar hyn o bryd. Mae hynny oddeutu £600 miliwn y flwyddyn, fel y dywedodd Dave Rowlands. Os edrychwch chi ar ffigurau manylach hynny, mae hynny oddeutu £195 miliwn sy'n cael ei glustnodi ar gyfer addysg yn San Steffan, £385 miliwn yn cael ei glustnodi ar gyfer iechyd. Bydd eich cynghorwyr yn gwybod hyn cystal â minnau.
A allwch chi roi sicrwydd i ni mai cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru nawr yw penderfynu sut yr ydych chi'n gwario'r arian hwnnw? A allwch chi roi sicrwydd i ni y bydd yr arian hwnnw'n cael ei drosglwyddo i'r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru sydd ei angen fwyaf, fel y gallwch chi fwrw ymlaen â'r gwaith, y cawsoch y cyfrifoldeb i'w wneud, o amddiffyn gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, o amddiffyn y ffordd Gymreig o fyw, oherwydd nid yw pobl yng Nghymru bob amser wedi cael eu hargyhoeddi bod hynny wedi digwydd yn y gorffennol? Mae gennych chi gyfle euraidd yn y fan yma, mewn sefyllfa berffaith, i brofi pobl sy'n negyddol yn anghywir ac i ddangos y gallwch chi sefyll yn gadarn dros wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Llywydd, rydym ni wedi cael pregeth gan Aelodau ar yr ochr yna i'r Siambr ers degawd: nid oedd modd osgoi cyni cyllidol, roedd cyni cyllidol yn rhywbeth nad oedd dewis yn ei gylch. Nid oedd coeden arian hud, mae'n debyg. Nawr eu bod nhw wedi chwalu hynny i gyd ac wedi gwneud penderfyniadau o'r diwedd i gefnu arno, maen nhw'n disgwyl i ni lawenhau ar yr ochr hon i'r Siambr. Byddai ychydig mwy o ostyngeiddrwydd yn briodol gan y blaid gyferbyn. A gadewch i mi ddweud wrth Nick Ramsay pam nad ydym ni'n barod i ymuno yn ysbryd ei gwestiwn. Yn gyntaf oll, pa sicrwydd sydd gennym ni y bydd yr arian hwn byth yn cyrraedd Cymru? Yr unig arian y gall llywodraethau ei wario yw arian y mae seneddau yn ei bleidleisio iddyn nhw, ac nid yw'r Senedd hon wedi pleidleisio ar y symiau o arian a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf. Pa bryd y bydd y Llywodraeth hon yn rhoi Bil arian gerbron Senedd San Steffan fel y gallwn ni fod yn hyderus y bydd y symiau arian hyn yn ymddangos? Dydyn nhw ddim yn mynd i wneud hynny tra bod y Senedd wedi ei gohirio, dydyn nhw ddim yn mynd i wneud hynny tra bod y Prif Weinidog yn ceisio cael etholiad cyffredinol, a dydyn nhw ddim yn mynd i wneud hynny pan nad oes ganddyn nhw fwyafrif ar lawr Tŷ'r Cyffredin i unrhyw beth y maen nhw'n ei gyhoeddi.
Felly, yn gyntaf oll, nid wyf i'n teimlo y gallwn ni fod yn ffyddiog y bydd yr arian hwn yn cyrraedd o gwbl. Pan fydd yn cyrraedd, Llywydd, wrth gwrs, bydd Llywodraeth San Steffan wedi gwario symiau mawr ohono ar ein rhan. Rydym ni'n darganfod nawr y bydd y cyfraniad o 85 y cant at y costau pensiwn y mae'r Llywodraeth honno wedi eu gorfodi arnom ni yn mynd i gael ei roi yn ein llinell sylfaen. Felly, nid yn unig yr oeddem ar ein colled o £50 miliwn eleni, ond rydym ni'n mynd i fod ar ein colled o £50 miliwn bob blwyddyn yn y dyfodol. Felly, mae'r arian hwnnw eisoes wedi cael ei wastraffu gan benderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth y DU. A pham, Llywydd, tra bod gwasanaethau cyhoeddus yn Lloegr yn cael eu hysbysu bod ganddynt setliad tair blynedd ac yn gwybod faint o arian a fydd ar gael ar gyfer addysg, nid yn unig y flwyddyn nesaf, ond am ddwy flynedd ar ôl hynny, nad ydym ni yng Nghymru yn cael setliad tair blynedd o gwbl? Wrth gwrs, bydd yr arian y byddwn ni'n ei gael yn cael ei fuddsoddi mewn gwasanaethau cyhoeddus. Dyna'n union yr ydym ni'n ei wneud gyda'r holl arian sy'n dod atom. Byddai'n braf pe byddem ni'n cael ein trin ar yr un sail ag adrannau mewn mannau eraill ac yn cael yr un cyfle.
Croeso nôl ichi i gyd yma heddiw.
Mae'r Prif Weinidog, wrth gwrs, yn iawn o ran nad ydym ni wedi gweld ceiniog o'r arian hwn eto. Rydym ni'n aros i'w weld. Rydym ni'n gobeithio y caiff ei weld, ond nid yw'n gwneud dim i gau'r bwlch cyni cyllidol cynyddol sydd wedi dod i'r amlwg dros ddegawd. Ond mae hyn hefyd yn ychwanegu, wrth gwrs, at y diffyg sicrwydd ynghylch dyfodol y gronfa ffyniant gyffredin, y diffyg cadarnhad, oherwydd gohirio'r Senedd, o ymrwymiadau'r Canghellor blaenorol ar gynnal ymrwymiadau ariannu presennol yr UE, sy'n hanfodol ar gyfer y gadwyn gyflenwi yn ogystal ag addysg uwch, hyfforddiant ac yn y blaen, a hefyd, wrth gwrs, y ffaith y mae wedi cyfeirio ati nad oes gennym ni setliad adolygiad gwariant cynhwysfawr amlflwydd hirdymor gan nad yw'r Senedd yno i eistedd a'i wneud. Nid oes dim wedi ei gadarnhau. Mae un peth, fodd bynnag, y mae gennym ni fwy o eglurder yn ei gylch, sef goblygiadau Brexit 'dim cytundeb'. Tybed a yw ef wedi cael amser i ddarllen yr adroddiad gan y grŵp UK in a Changing Europe, 'No Deal Brexit: Issues, Impacts, Implications', oherwydd mae hwnnw'n gwneud yn gwbl eglur beth fydd yr effeithiau yng Nghymru a phob rhan o'r DU os byddwn yn syrthio allan mewn sefyllfa 'dim cytundeb'.
Diolchaf i Huw Irranca-Davies am y cwestiwn yna. Roedd dau beth syfrdanol am yr adolygiad cynhwysfawr o wariant a gyhoeddwyd yn gynharach y mis hwn: yn gyntaf, ei fod yn para am flwyddyn yn unig, er yr addawyd i ni gan y Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan hyd at fis Gorffennaf mai setliad tair blynedd y byddem ni'n ei gael, a diflannodd hynny mewn mater o wythnosau. Ac mae'n sicr ei bod yn syndod i bawb yn y Siambr hon na wnaeth y Canghellor unrhyw gyfeiriad at y gronfa ffyniant gyffredin.
Fis ar ôl mis ar ôl mis, dywedir wrthym gan Weinidogion y DU y byddan nhw'n anrhydeddu eu haddewid i Gymru na fyddem ni yr un geiniog yn waeth ein byd o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd gan fod ganddyn nhw gronfa ffyniant gyffredin. Fis ar ôl mis, dywedir wrthym y byddan nhw'n cael ymgynghoriad ar y gronfa honno yn fuan iawn, ac y byddwn yn gallu gweld lliw eu harian. Nawr rydym ni'n gwybod nad ydym ni'n mynd i glywed dim tan y flwyddyn galendr nesaf, ac ni chyfeiriodd y Canghellor ati hyd yn oed unwaith. Byddai'r swm o arian yr ydym ni'n disgwyl ei gael drwy'r gronfa ffyniant gyffredin yn fwy na'r £600 miliwn y dywedodd Nick Ramsay a fyddai'n dod drwy'r adolygiad cynhwysfawr o wariant. Mae Huw Irranca-Davies yn llygad ei le i dynnu sylw at y ffaith nad yw ein partneriaid yma yng Nghymru, heb y sicrwydd hwnnw, yn gallu cynllunio ymlaen llaw fel y byddem ni'n dymuno iddyn nhw ei wneud.
Rwyf i wedi cael cyfle i weld adroddiad UK in a Changing Europe. Mae 'dim cytundeb' yn golygu cyfnod hirfaith o ansicrwydd; bydd tarfu ar hanner allforion nwyddau'r DU. Bydd yn lleihau diogelwch dinasyddion y DU; gallai enw da rhyngwladol y DU ddioddef. A oes unrhyw ryfedd pam, dro ar ôl tro ar ôl tro ar lawr y Siambr hon, ein bod ni wedi rhybuddio am yr effaith drychinebus y bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn ei chael yma yng Nghymru?
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, a ydych chi'n credu bod eich Llywodraeth yn ymateb yn briodol ac ar unwaith i anghenion pobl Cymru?
Mae'r Llywodraeth hon yn ymateb bob dydd i anghenion pobl Cymru—yn y gwasanaeth iechyd, trwy ddarparu tai i bobl, yn y gwasanaethau addysg yr ydym ni'n eu darparu. Mae wrth graidd yr hyn yr ydym ni'n ei wneud fel Llywodraeth.
Wel, Prif Weinidog, beth am i ni drafod rhai o'ch cynigion uniongyrchol, ife? Yn ôl ar ddechrau mis Mehefin, gwnaethoch y penderfyniad i ganslo ffordd liniaru'r M4 a gwastraffu £144 miliwn o arian trethdalwyr yn y broses. Nawr, yn rhan o'r datganiad hwnnw, fe'i gwnaed yn eglur gennych y byddai comisiwn yn cael ei greu ac yn cyflwyno cyfres gyntaf o gynigion uniongyrchol y gellir eu rhoi ar waith i ddechrau lleddfu'r problemau a geir ar yr M4. Dywedasoch hyd yn oed eich bod yn cydnabod bod y cam yn ofynnol yn fwy nag erioed o ystyried arwyddocâd y problemau hyn, cyn cloi trwy ddweud
'byddwn yn dechrau ar y gwaith hwnnw ar ein hunion.'
Fodd bynnag, ers 25 Mehefin ni chafwyd unrhyw ddiweddariad pellach ar waith y comisiwn hwn, yr aelodaeth na pha gynigion uniongyrchol sy'n cael eu gwneud. Yn wir, yn ôl yr hyn a ddeallaf, mae adroddiad cychwynnol y comisiwn wedi cael ei wthio yn ôl i wanwyn 2020 erbyn hyn, yn hytrach na mis Rhagfyr eleni, ac mae eich Llywodraeth wedi bod yn ffraeo am ei gyllideb. Fe wnaeth eich Llywodraeth oedi cyn gwneud y penderfyniad cychwynnol, a hyd yn oed cuddio y tu ôl i is-etholiad Gorllewin Casnewydd. Felly, Prif Weinidog, beth yw'r esgus nawr am yr oedi pellach hwn?
Mae'n siomedig clywed bod arweinydd y Blaid Geidwadol yma yng Nghymru mor ddiofal â chonfensiynau angenrheidiol ein bywyd gwleidyddol ag y mae ei arweinydd yn San Steffan. Y rheswm pam y gohiriwyd y cyhoeddiad gennym oherwydd is-etholiad Casnewydd oedd oherwydd mai dyna y mae rheolau is-etholiadau yn gofyn amdano. Nawr, rwy'n gwybod nad yw ei blaid yn hoff o reolau. Rwy'n gwybod nad ydyn nhw'n poeni pa a ydyn nhw'n cadw at y ffordd y dylid gwneud pethau. Ond mae'n siomedig clywed arweinydd yr wrthblaid yn y fan yma yn cyd-fynd â'r ffordd honno o ymgymryd â bywyd cyhoeddus yma yng Nghymru. Tra ei fod yn siarad am wastraffu arian cyhoeddus ar brosiectau seilwaith cyhoeddus mawr, rwy'n cymryd nad oedd yn darllen pan wnaeth ei Lywodraeth gyhoeddiad ar HS2 a'r biliynau o bunnoedd a wastraffwyd gan ei Lywodraeth ar hynny. Mae adolygiad Burns wedi bod yn gweithio'n galed dros yr haf. Mae'n gweithio'n ddiwyd, mae'n recriwtio aelodau eraill y comisiwn y bydd eu hangen. Byddwn yn cyhoeddi'r enwau hynny yn fuan iawn. Bydd yn cynnal ei ddigwyddiad ymgysylltu â'r cyhoedd cyntaf y mis nesaf, ac rwy'n disgwyl y bydd y gyfres nesaf o gynigion o'r adolygiad gyda ni erbyn diwedd y flwyddyn galendr hon, fel yr ydym ni wedi ei ddweud o'r cychwyn.
Wel, rydych chi wedi bod yn ffraeo ynghylch yr arian sydd ar gael i'r comisiwn hwn mewn gwirionedd, oherwydd ar 12 Gorffennaf dywedasoch mai'r Arglwydd Burns sydd â'r hawliad cyntaf ar y £1 biliwn hwnnw i gyd, ond bum niwrnod yn ddiweddarach, dywedodd eich Gweinidog yr economi
dydyn ni ddim yn mynd i fod yn gwahodd y comisiwn i wario £1 biliwn.
Felly, fel Llywodraeth, Prif Weinidog, rydych chi mewn anhrefn llwyr o ran y mater hwn. Pwy sy'n iawn? Chi ynteu eich Gweinidog yr economi?
Nawr, maes arall lle'r oedd eich Llywodraeth eisiau gweld gweithredu ar unwaith yw ar argyfwng y newid yn yr hinsawdd. Hyd yma, rydych chi wedi methu â chyflwyno cynigion uniongyrchol sylweddol i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd. Mwy o'r un fath yw'r hyn a gyhoeddwyd er ein bod ni'n gwybod mai nad mwy o'r un fath sydd ei angen arnom ni nawr, ond syniadau arloesol i leihau ein niwed i'r blaned.
Nawr, ni fydd y £30 miliwn ar gyfer teithio llesol yn gwneud unrhyw beth i helpu os bydd y trenau a'r bysiau ledled Cymru wedi eu hoedi'n gyson, yn llawn i'r ymylon, ac yn golygu na fydd gan bobl ddiddordeb mewn teithio, yn hytrach na'u hannog i deithio. Mae'r ffigurau diweddaraf ar deithiau bws yn dangos bod 20 miliwn yn llai o deithiau bws yn cael eu gwneud yng Nghymru. Pa syniadau radical oedd gan eich Llywodraeth mewn golwg pan ddatganodd yr argyfwng hinsawdd, a phryd y byddwch chi'n eu cyflwyno? Oherwydd mae gwledydd eraill wedi gwahardd plastigau untro, er enghraifft, ac eto'r cwbl y gall eich Llywodraeth chi ei ddweud yw ei bod wedi ymrwymo i waharddiad. Pryd y gwnaiff eich Llywodraeth, Prif Weinidog, gyflwyno gwaharddiad a rhoi'r gorau i'w ystyried yn unig?
Mae'n anodd canfod llawer o synnwyr yn yr hyn sydd newydd gael ei ofyn i mi, Llywydd. Ar fater yr arian ar gyfer comisiwn Burns, comisiwn Burns sydd â'r hawliad cyntaf ar yr £1 biliwn a neilltuwyd yn wreiddiol ar gyfer ffordd liniaru'r M4. Fe'i gwnaed yn glir gan yr Arglwydd Burns, pan gefais gyfarfod ag ef, fel cyn ysgrifennydd parhaol yn y Trysorlys, nad oedd hynny'n golygu ei fod yn disgwyl gwario £1 biliwn. Nid oedd yn bwriadu gwario £1 biliwn. Yr hyn y mae'n ei wybod yw os oes arno angen £1 biliwn y bydd yno ar gael iddo. Nid yw'n golygu ei fod yn uchelgais iddo wneud hynny.
Mae cysylltu'r cwestiwn argyfwng hinsawdd â ffordd liniaru'r M4 yn awgrymu bod eironi wedi ei golli ers amser ar y meinciau gyferbyn. Sut y mae ef ar y naill law eisiau cwyno am beidio â datblygu ffordd liniaru'r M4, ac yna cwyno nad ydym yn cymryd argyfwng hinsawdd o ddifrif? Does dim modd cadw'r ddau beth yn y meddwl ar yr un pryd. Rydym ni wedi cyhoeddi ystod lawn o gynigion ymarferol eraill y byddwn yn eu cymryd fel Llywodraeth i ymateb i'r argyfwng hinsawdd. Byddwn yn cyflwyno parthau 20 mya fel rhai safonol yn ein hardaloedd trefol a byddwn yn cyflwyno rheoliadau i fynd i'r afael â llygredd amaethyddol ym mis Ionawr y flwyddyn nesaf. Rydym ni'n canolbwyntio ar y pethau ymarferol hynny y gall Llywodraeth Cymru eu gwneud, a byddwn yn eu cyflawni yma yng Nghymru.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, pa un ydych chi'n ei gredu sy'n cynrychioli dyfodol mwy disglair i Gymru: Brexit neu annibyniaeth?
Wel, mae'n amlwg nad yw'n ddewis y byddai unrhyw un call yn ceisio ei wneud, Llywydd. Mae dyfodol disglair i Gymru yn deillio o Gymru gref â setliad datganoli wedi'i ymwreiddio, gan gymryd penderfyniadau domestig yma yn ein dwylo ni, mewn Teyrnas Unedig gref ac mewn Ewrop lwyddiannus. Dyna'r wyf i'n ei gredu fydd y dyfodol gorau i Gymru: Cymru yn y Deyrnas Unedig, y Deyrnas Unedig yn yr Undeb Ewropeaidd.
Fel y gwelsom dros yr haf, o Gaernarfon i Ferthyr, mae miloedd yn gorymdeithio yng Nghymru, ac mae'r llanw'n troi o ran annibyniaeth. A wyddoch chi, rydych chi mewn perygl, Brif Weinidog, o gael eich goddiweddyd gan ddigwyddiadau gan fod hanes yn cyflymu. Mae wedi digwydd, wrth gwrs, ar fwy nag un achlysur yn erbyn cefndir Brexit. Dros yr haf, roeddech yn dal i ddweud yn un o'ch fideos gweinidogol cyntaf eich bod chi eisiau gadael yr Undeb Ewropeaidd ar y telerau gorau posibl. Mae canghellor yr wrthblaid, a oedd eisiau cefnogi aros yn yr UE, wedi cael ei geryddu gan Len McCluskey, rhoddwr mwyaf y Blaid Lafur. Mae hyd yn oed eich Gweinidog iechyd eich hun yn dweud bod polisi eich plaid chi o fod o blaid 'gadael' ac 'aros' yn haeddu gwawd. A ydych chi?
Wel, Llywydd, gadewch i mi ddechrau drwy ddweud fy mod i'n deall y rhwystredigaeth a'r dicter y mae llawer o bobl yma yng Nghymru yn ei deimlo tuag at Lywodraeth bresennol y DU ac at y ffordd y mae digwyddiadau wedi datblygu ers y refferendwm. Nid yw'n syndod, yn fy marn i, bod pobl yn teimlo eu bod wedi cael eu siomi. Ond rwy'n glir yn fy meddwl nad annibyniaeth yw'r ateb i'r teimladau hynny o rwystredigaeth a dicter. Onid yr ateb, Llywydd, yw y dylai pobl ei gymryd o brofiad Brexit yw bod ffiniau yn creu rhaniadau, maen nhw'n creu rhaniadau y tu mewn i gymdeithasau a rhwng cymdeithasau, maen nhw'n niweidio economïau ac maen nhw'n lleihau amddiffyniadau. Mae grym yr undeb, fel y mae pobl ar yr ochr hon i'r Siambr yn ei ddeall, yn rym sy'n bodoli y tu mewn i undeb y Deyrnas Unedig a'r tu mewn i undeb yr Undeb Ewropeaidd. Dyna neges y mudiad Llafur, a dyna pam yr ydym ni'n credu mai'r ateb i'r rhwystredigaethau a'r dicter y mae pobl yn ei deimlo yw creu dyfodol llwyddiannus i Gymru yn rhan o'r ddwy gyfres ehangach hynny o drefniadau. A dyna safbwynt Plaid Lafur Cymru. Bydd y Blaid Lafur yn cynnig cyfle i bobl yn y Deyrnas Unedig bleidleisio eto—galwad y mae ef wedi ei gwneud yn y Siambr hon lawer, lawer gwaith. Bydd Llywodraeth Lafur yn cyflawni hynny, ac mewn ail refferendwm, bydd Plaid Lafur Cymru yn ymgyrchu i berswadio pobl yng Nghymru y bydd ein dyfodol yn well yn yr Undeb Ewropeaidd.
Mae 44 diwrnod erbyn hyn, wrth gwrs, tan y bydd Boris Johnson yn ceisio gorfodi Brexit 'dim cytundeb'. Nawr, ein dewis eglur ni, i atal hyn rhag digwydd, fyddai cynnal pleidlais y bobl cyn etholiad, ond os cawn etholiad cyffredinol yn hytrach, bydd yn dod yn bleidlais y bobl drwy ddirprwy, gyda 'dim cytundeb' Torïaidd ar y papur pleidleisio. Nawr, os bydd hyn yn digwydd, yna mae'n ymddangos yn hanfodol bwysig i mi bod dewis eglur i 'aros' ar y papur pleidleisio hefyd. Nawr, dywedodd eich Gweinidog Brexit, y Cwnsler Cyffredinol, ym mis Gorffennaf y dylai'r Blaid Lafur
fod yn dadlau dros aros yn y maniffesto hwnnw yn hytrach na refferendwm
a cheisio mandad i ddirymu ar y sail honno.
Ni wnaethoch chi ateb pa un a oeddech chi'n anghytuno â Vaughan Gething, ond a ydych chi'n anghytuno â Jeremy Miles?
Rwyf i wedi cyflwyno safbwynt Plaid Lafur Cymru, Llywydd, ac fe'i cyflwynaf eto. Rwyf i wedi ei gyflwyno yn y Cynulliad Cenedlaethol, gan fy mod i'n gyfrifol am safbwynt Plaid Lafur Cymru. Mewn etholiad cyffredinol, bydd y safbwynt yma yng Nghymru yn eglur: mae Plaid Lafur Cymru yn credu y bydd ein dyfodol yn cael ei sicrhau'n well y tu mewn i'r Deyrnas Unedig a byddwn yn dweud hynny'n eglur ac yn groyw. Byddwch chi'n dadlau dros dynnu Cymru allan o'r Deyrnas Unedig a byddwn ni'n dadlau y dylai Cymru aros mewn Teyrnas Unedig sy'n aros yn yr Undeb Ewropeaidd. Mae'r ddau beth hynny'n iawn i Gymru. Dim ond y Blaid Lafur fydd yn dadlau drostynt ill dau ac edrychaf ymlaen at y cyfle i wneud yn union hynny.
Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
Prif Weinidog, 12 diwrnod yn ôl, fe wnaethoch benderfyniad bwriadol i honni bod Prif Weinidog y Deyrnas Unedig wedi dweud celwydd. Sut byddech chi'n disgrifio'r datganiad:
Byddwn yn darparu ffordd liniaru ar gyfer yr M4?
Llywydd, rwyf i wedi ymdrin â chwestiwn y ffordd liniaru. Rwy'n ei gael gan ddyn sydd wedi sefyll ar sail nifer o faniffestos dros wahanol bleidiau ac sydd mor ymrwymedig i'r addewidion a wnaeth fel ei fod yn barod i'w bradychu ar lawr y Cynulliad a chamu'n igam-ogam ar draws y llawr yma. Felly, nid wyf i angen clywed cwestiynau ganddo ef am y math hwnnw o fater gan fod ei hanes ei hun yn dangos yn syml pa mor wag yw'r cwestiynau hynny.
Ni wnes i gyhuddo'r Prif Weinidog o ddweud celwydd. Fe'i cywirais ynghylch hynny y tro diwethaf iddo ddweud hynny. Nodais fod llefarydd swyddogol y Prif Weinidog wedi cael ei ofyn i ddweud rhywbeth y dangosodd dogfennau a ddatgelwyd wedyn gerbron llys yn yr Alban nad oedd yn wir. Nid wyf i'n credu ei bod hi'n anghywir i dynnu sylw at hynny.
O ran ffordd liniaru'r M4, rydym ni wedi ailadrodd y dadleuon yn y fan yma. Deuthum i'm penderfyniad, glynaf wrth y penderfyniad hwnnw, dyna oedd y penderfyniad cywir i'w wneud.
Felly, rydych chi'n glynu wrth eich penderfyniad. Rydych chi newydd ddweud nawr ei fod yn ymwneud â'r argyfwng newid yn yr hinsawdd ond ni ddywedasoch chi ddim am hynny yn eich hysbysiad am y penderfyniad, wnaethoch chi? [Torri ar draws.] Roedd yr hysbysiad am y penderfyniad yn sôn am yr amgylchedd a gwastatir Gwent; nid oedd yn sôn am y newid yn yr hinsawdd. [Torri ar draws.]
Mae angen i ni glywed y cwestiwn. A ellir clywed y cwestiwn mewn rhywfaint o dawelwch, os gwelwch yn dda? Mark Reckless.
Rwyf i wedi cefnogi Brexit erioed. Nid wyf i erioed wedi dweud celwydd am hynny. Nawr, defnyddiwyd y gair hwnnw gennych chi—o leiaf dyna'r hyn yr wyf i'n eich cofio chi'n ei ddefnyddio, neu ystyr yr hyn yr oeddech chi'n ei ddweud—ac eto dywedodd eich plaid, a bron pawb y tu ôl i chi, y byddech chi'n parchu'r refferendwm. Ac eto, nawr, eich polisi chi yw mynd at yr Undeb Ewropeaidd, os deallaf yn iawn, a dod i gytundeb fel y gallwch chi ddod yn ôl yma ac ymgyrchu yn ei erbyn. Ac mae'r cytundeb hwnnw yr ydych chi'n ceisio dod iddo yn fwy fyth o Brexit mewn enw yn unig na'r hyn y mae'r Ceidwadwyr wedi bod yn ei gynnig i ni.
A bod yn blwmp ac yn blaen, bydd yn refferendwm mewn/mewn. Mae'n anodd iawn barnu ai'r Democratiaid Rhyddfrydol neu Plaid sy'n dweud, 'Dirymwch, anwybyddwch y refferendwm, ni sy'n gwybod orau', neu ai chi sy'n gorfodi pobl drwy siarâd refferendwm mewn/mewn a fyddai'n fwy o fradychiad o bobl Cymru.
A gaf i ddarllen dau ddatganiad i'r Prif Weinidog? Daw'r cyntaf gan ei ragflaenydd, Carwyn Jones, o ragair 'Diogelu Dyfodol Cymru':
'Pleidleisiodd mwyafrif pobl Cymru dros ymadael â’r Undeb Ewropeaidd...ac mae Llywodraeth Cymru wedi dweud yn glir o’r cychwyn cyntaf bod rhaid parchu’r penderfyniad democrataidd hwn.'
Yna, yn fuan cyn hynny, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol dros y Llywodraeth:
Pleidleisiodd pobl y DU dros adael yr Undeb Ewropeaidd. Rwy'n parchu'r penderfyniad hwnnw ac ni fyddwn yn gweithio yn erbyn canlyniad y refferendwm.
Prif Weinidog, onid oedd y rhain yn gelwyddau?
Llywydd, ers dwy flynedd a mwy, dadleuodd y Llywodraeth Lafur hon o blaid ffurf ar adael yr Undeb Ewropeaidd a fyddai wedi parchu canlyniad y refferendwm, ond a fyddai wedi diogelu swyddi ac economïau yma yng Nghymru. Ymosododd ef ar y cynigion hynny dro ar ôl tro, gan eu disgrifio fel y mae wedi ei wneud eto heddiw fel gadael yr Undeb Ewropeaidd mewn enw yn unig.
Cyflwynwyd y cynigion hynny gennym oherwydd, gyda Phlaid Cymru yn sgil y refferendwm, roeddem ni'n deall bod pobl yng Nghymru wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd, ond fel y dywedodd Steffan Lewis, ein cyd-Aelod yma ar y pryd, ni wnaethon nhw erioed bleidleisio dros golli arnynt eu hunain. Ac roedd hynny'n golygu pe byddem ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd, bod yn rhaid gwneud hynny ar delerau ac mewn ffordd a fyddai wedi diogelu eu dyfodol, a dyna'r hyn y gwnaethom ni geisio ei hyrwyddo.
Daeth yn amlwg i ni, yn enwedig wrth i arweinydd newydd y Blaid Geidwadol gael ei ethol, bod y posibilrwydd hwnnw wedi diflannu—ni waeth pa mor galed yr oeddem ni'n dadlau drosto ac ni waeth pa mor gymhellol oedd ein safbwynt, nid oedd byth yn mynd i wneud gwahaniaeth i rywun, fel y dywedodd yr Aelod yn y fan yma, nad oedd ganddo ddiddordeb yn y dadleuon. Mae wedi bod o blaid Brexit erioed. Dywedwch yr hyn a hoffwch am y peth, dangoswch pa mor niweidiol y bydd, bydd ef o'i blaid doed â ddelo.
Felly, penderfynasom bryd hynny y dylai'r penderfyniad fynd yn ôl at y bobl. Bydd Llywodraeth Lafur yn gwneud yn union hynny. Bydd dewis 'gadael' credadwy ar y papur pleidleisio, felly bydd yn gallu parhau i ymgyrchu i adael yr Undeb Ewropeaidd, yn gyfeiliornus fel yr wyf i wedi credu ei fod erioed. Ond, i'r rhai hynny ohonom sy'n credu y byddai dyfodol Cymru yn well y tu mewn i'r Undeb Ewropeaidd, bydd ail gyfle i ofyn hynny i'r bobl, i gyflwyno'r dadleuon hynny ac i ddarbwyllo pobl ar sail popeth yr ydym ni wedi ei ddysgu yn y tair blynedd ers y refferendwm hwnnw mai dyna lle mae ein dyfodol. Edrychaf ymlaen at allu gwneud yn union hynny. Credaf y bydd ei ddadl ef yn cael ei datgelu unwaith eto fel y gyfres o gynigion wedi eu llywio gan ideoleg, di-dystiolaeth, di-hid am y dyfodol y buon nhw erioed.
3. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am ddiogelwch ar yr M4 yn ardal Abertawe? OAQ54294
Llywydd, mae Llywodraeth Cymru yn monitro diogelwch yr M4 yn barhaus ac yn mynd i'r afael ag unrhyw broblemau uniongyrchol fel mater o frys. Mae amrywiaeth eang o fesurau i wella diogelwch a chyfleoedd trafnidiaeth ar hyd coridor gorllewin yr M4 wedi eu nodi erbyn hyn a byddwn yn sicrhau bod yr adroddiad hwnnw ar gael i'r cyhoedd erbyn diwedd mis Medi.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna? Fel y mae'n gwybod yn iawn, bu nifer fawr o ddamweiniau o wahanol raddau o ddifrifoldeb rhwng cyffordd 45 a chyffordd 47, sy'n cwmpasu fy etholaeth i. Gallwn ei barhau i etholaeth David Rees hefyd, ond ni wnaf hynny—rwy'n credu y caiff ef gyfle yn ddiweddarach.
Credaf ei bod yn broblem yn y fan honno. Mae nifer o ddefnyddwyr rheolaidd y ffordd wedi cysylltu â mi yn pryderu am ddraeniad ac arwyneb y ffordd sydd, yn eu barn nhw, wedi cyfrannu at ddamweiniau yn yr ardal hon. A wnaiff y Prif Weinidog drefnu ymchwiliad i'r pryderon hynny ac, os profir eu bod yn gywir, trefnu i'r problemau gael eu datrys?
Diolchaf i Mike Hedges am y cwestiwn yna. Mae'n iawn i ddweud, wrth gwrs, y bydd unrhyw un sydd wedi dilyn y newyddion yn ystod mis Awst yn arbennig yn ymwybodol o ddamweiniau sydd wedi digwydd rhwng cyffyrdd 45 a 47 ar yr M4. Dyna pam mae astudiaeth cam 1 arweiniad ar arfarnu trafnidiaeth Cymru yn bwysig, Llywydd, oherwydd mae wedi nodi gwelliannau posibl i ddiogelwch a materion eraill ar y rhan honno o'r ffordd, a dyna pam y byddwn yn cyhoeddi'r cynigion hynny y mis hwn.
Mae problemau draenio a'r ffordd y caiff arwynebau ffyrdd eu hadeiladu yn fater o ddiogelwch. Mae'r 'Design Manual for Roads and Bridges' yn nodi'r safonau yr ydym ni'n eu defnyddio yng Nghymru, ond byddaf yn sicr yn gofyn i swyddogion ymchwilio i weld a wnaeth problemau yn ymwneud â draeniad a chyflwr arwyneb y ffordd gyfrannu, neu y credwyd eu bod wedi cyfrannu, at y damweiniau y mae Mike Hedges yn cyfeirio atynt.FootnoteLink
Diolch am yr ateb yna. Edrychaf ymlaen at weld yr adroddiad hwnnw, Prif Weinidog. Mae diogelwch yr aer yr ydym ni'n ei anadlu, wrth gwrs, yn parhau i fod yn broblem yn enwedig o amgylch rhan orllewinol yr M4 sy'n rhedeg drwy fy rhanbarth i. Byddwch yn cofio nad yw'r parth 50 mya dros dro estynedig i'r gorllewin o Bort Talbot yn un dros dro mwyach. Fodd bynnag, credaf fy mod i'n cofio bod swyddogion y Llywodraeth wedi dweud nad yw'r newid cyfreithiol o reidrwydd yn golygu y bydd y terfyn cyflymder is yn barhaol, gan ddatgan y bydd y Llywodraeth yn ailystyried cwestiwn y terfyn cyflymder yn yr ardal honno ar ôl i ansawdd yr aer wella y tu hwnt i'r lefelau gofynnol.
O wrando ar eich ymateb i Paul Davies yn gynharach, a allwch chi gadarnhau eich bod chi'n dal i fwriadu cynyddu'r terfyn cyflymder hwnnw o bosibl os ceir gostyngiad i'r llygredd aer a achosir gan gerbydau? Yn y cyfamser, pa gamau gweithredol ydych chi'n eu cymryd i annog defnydd o gerbydau sy'n llygru llai, sy'n cael eu caffael yn gyhoeddus ac yn cael eu trwyddedu'n gyhoeddus yn y rhan honno o'm rhanbarth i?
Diolchaf i Suzy Davies am hynna. Nid ydym ni'n cyflwyno parth 50 mya dim ond er mwyn lleihau cyflymder traffig. Fel y mae hi'n dweud, mae yno am reswm penodol, oherwydd y dystiolaeth yr ydym ni wedi ei gweld ac yn credu sy'n gymhellol y bydd gostwng cyfartaledd cyflymder i 50 mya yn gwneud gwahaniaeth i ansawdd aer—gwahaniaethau angenrheidiol i ansawdd aer—ac, wrth gwrs, byddwn yn monitro hynny yn ofalus iawn. Ni fyddem ni eisiau bod mewn sefyllfa lle'r ydym ni'n sicrhau gwelliannau o ran ansawdd aer ac yna'n codi terfynau cyflymder i ganfod bod ansawdd yr aer wedi gwaethygu unwaith eto. Felly, nid wyf i'n credu y gallwn ni gynnig sicrwydd ar unwaith os bydd safonau ansawdd aer yn gwella y bydd hynny'n golygu y bydd terfynau cyflymder yn mynd yn ôl i fyny eto. Ond yr hyn yr ydym ni'n rhoi sicrwydd amdano yw ein bod ni'n ei fonitro yn barhaus, a byddwn yn cadw'r cwestiwn hwnnw yn destun adolygiad priodol.
Wrth gwrs, mae Suzy Davies yn iawn, Llywydd, y tu hwnt i derfynau cyflymder, mae angen cerbydau arnom ni sy'n allyrru llai o lygredd, a dyna pam y bu'n newyddion mor dda bod Cymru wedi gwneud cystal yn y gystadleuaeth i gael cyllid ar gyfer bysiau trydan yng Nghymru. A thrwy newid natur y cerbydau yr ydym ni'n eu defnyddio, byddwn yn gwneud gwahaniaeth i ansawdd aer nid yn unig yn Abertawe ac ar y rhan o'r M4 y cyfeiriodd Mike Hedges ati, ond yr holl ffordd i Gaerdydd a Chasnewydd hefyd.
4. Pa gynlluniau wrth gefn ychwanegol y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud ar gyfer pobl Islwyn yn dilyn cyhoeddi'r ddogfen Operation Yellowhammer? OAQ54347
Diolchaf i Rhianon Passmore am hynna. Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ein cynllun gweithredu ar Brexit 'dim cytundeb' ddoe. Mae'n adlewyrchu ein hymgysylltiad ag Operation Yellowhammer ac, i bobl Islwyn, ein cydweithio agos â sefydliadau partner lleol, gan gynnwys Heddlu Gwent, awdurdodau lleol a fforwm cydnerth lleol Gwent.
Prif Weinidog, mae'r orfodaeth i gyhoeddi'r ddogfen Operation Yellowhammer yn cadarnhau'r hyn y mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn ei ddweud yn gyhoeddus yn gyson ers misoedd lawer, sef y gallai Brexit 'dim cytundeb' ymyl dibyn gael canlyniadau niweidiol enfawr i bobl Cymru, eu teuluoedd a'n cymunedau. Ymhlith tudalennau'r ddogfen y mae rhybuddion nad ydynt y sefyllfa waethaf bosibl y bydd rhai cyflenwadau bwyd ffres yn lleihau, ac y gallai dibyniaethau hanfodol i'r gadwyn fwyd, fel cynhwysion allweddol, fod yn brinach. Hefyd, gallai dinasyddion y DU sy'n mwynhau eu gwyliau dramor i wledydd yr Undeb Ewropeaidd fod yn destun mwy o archwiliadau mewnfudo gan hebryngwyr ffiniau'r UE gan achosi oedi difrifol ac, yn hollbwysig, prinder cyflenwadau meddygol. Efallai y bydd cynnydd hefyd—nid fy ngeiriau i yw'r rhain—o ran anhrefn cyhoeddus a thensiynau cymunedol.
Prif Weinidog, dim ond rhai o'r erchyllterau Calan Gaeaf y mae'r Torïaid yn barod i'w gorfodi ac eisiau eu gorfodi ar fy etholwyr yw'r rhain, er, fel y mae David Cameron wedi cyfaddef yr wythnos hon, nad oedd Boris Johnson, yn credu mewn Brexit ac wedi cefnogi'r ymgyrch 'gadael' dim ond i helpu ei yrfa wleidyddol ei hun. Pa obaith y gallwch chi ei roi i'm hetholwyr yn Islwyn y gall y dyfodol dystopaidd hwn wedi ei achosi gan Brexit Torïaidd ymyl dibyn 'dim cytundeb' gael ei liniaru mewn unrhyw ffordd gan Lywodraeth Lafur Cymru sydd bob amser o'u plaid?
Lywydd, mae'r ddogfen a gyhoeddwyd gennym ddoe yn nodi'r camau niferus y mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio arnynt dros y misoedd diwethaf i wneud popeth o fewn ein gallu i liniaru effaith Brexit 'dim cytundeb'. Mae'r ffaith ein bod ni wedi datblygu cadwyn gyflenwi 12 i 15 wythnos o ddyfeisiau meddygol a defnyddiau traul clinigol, bod gennym gronfa o frechlynnau anifeiliaid wedi ei sefydlu rhag ofn y bydd achosion o glefydau, ein bod ni wedi gweithio'n agos gyda'r holl brif archfarchnadoedd ynghylch cyflenwadau bwyd yma yng Nghymru ac, yn arbennig, y pethau yr ydym ni wedi eu gwneud i ddiogelu dyfodol pobl agored i niwed yng Nghymru pe byddai Brexit 'dim cytundeb' yn digwydd.
Mae dogfen Yellowhammer yn nodi: bydd Brexit 'dim cytundeb' yn cael ei hysgwyddo'n llawer llymach gan y rhai sydd â'r lleiaf o allu i ysgwyddo'r baich hwnnw na neb arall. Bydd prisiau bwyd yn codi, bydd prisiau tanwydd yn codi, bydd prisiau ynni yn codi, a bydd y rhain yn cael eu hysgwyddo gan deuluoedd yng Nghymru y mae eu budd-daliadau wedi cael eu rhewi ers 2015. Ac mae'r pethau yr ydym ni'n eu gwneud fel Llywodraeth Cymru, a nodir yn ein cynllun gweithredu, yn dangos ein penderfyniad i ganolbwyntio ar y rhai sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas wrth geisio eu hamddiffyn rhag yr hunan-niwed y byddai gadael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb yn ei olygu.
Prif Weinidog, a ydych chi'n derbyn nad yw'r ddogfen Operation Yellowhammer yn rhagfynegiad o'r hyn sy'n debygol o ddigwydd, ond yn disgrifio'r sefyllfa waethaf bosibl at ddibenion cynllunio'r Llywodraeth? Ac a ydych chi hefyd yn cydnabod bod Llywodraeth y DU yn Llundain wedi cynyddu'r paratoadau i liniaru unrhyw effaith Brexit 'dim cytundeb' i'r Deyrnas Unedig gyfan, gan gynnwys Cymru?
Rydych chi'n gweld, Llywydd, nad yw hyn yn gwrthsefyll archwiliad. Yellowhammer yw'r hyn y mae'r Llywodraeth yn ei ddisgrifio fel 'achos gwaethaf rhesymol'. Nid dyma'r achos gwaethaf posibl; nid yw'n grynodeb sydd wedi ei orliwio o'r niwed a fydd yn dod i'r Deyrnas Unedig. Dyma y byddai person rhesymol yn ei asesu fel effaith Brexit mewn achos gwaethaf, ac rydym ni'n wynebu'r achos gwaethaf hwnnw. Ac mae unrhyw syniad—unrhyw syniad—bod Llywodraeth y DU hon wedi bod yn gweithio'n galed mewn ffordd a fydd yn lliniaru a dileu effaith Brexit 'dim cytundeb'—nid ydyn nhw yn ei gredu, gallaf ddweud hynny wrthych chi. Dydyn nhw ddim yn ei gredu o gwbl ac ni ddylai neb yn y fan yma ychwaith.
Prif Weinidog, rwy'n arbennig o bryderus ynghylch cyflenwi cyffuriau a meddyginiaeth i'r rhai hynny fydd eu hangen ar ôl Brexit. [Torri ar draws.] Sut yr oeddwn i'n gwybod y byddech chi i gyd—?
Gadewch i ni glywed y rheswm am y pryder.
Diolch. Mae'n ymddangos bod honiadau, gwrth-honiadau a honiadau eto ynghylch diogelwch cyflenwadau. A allwch chi dawelu'r ofnau, yr ofnau gwirioneddol sydd gan lawer o etholwyr oherwydd yr holl bethau hyn y mae pobl yn eu dweud o hyd, a chadarnhau bod eich Llywodraeth chi wedi sicrhau'r feddyginiaeth sydd ei hangen arni i gadw GIG Cymru yn gweithio, gan liniaru'r holl straen y mae pobl yn gwrando arni?
Wel, Llywydd, gadewch i ni fod yn eglur gyda Mandy Jones ac Aelodau eraill yn y fan yma bod meddyginiaethau yr ydym ni'n dibynnu arnyn nhw yma yng Nghymru yn dod drwy'r culfor a bod Llywodraeth y DU yn ei rhagfynegiadau ei hun yn dweud y gallai traffig o'r UE i'r DU ostwng gan 40 i 60 y cant rhwng Calais a Dover os ceir Brexit 'dim cytundeb'. Dyna pam y bu'n rhaid i ni gymryd y camau yr ydym ni wedi eu cymryd i geisio lliniaru'r effaith y byddai hynny'n ei chael ar y cyflenwad o feddyginiaethau yma yng Nghymru. Mae'n anochel—nid yw'n fater o ysgwyd pennau a swnio fel pe byddai hwn yn rhyw fath o bwynt ideolegol, mae'n fater hynod o ymarferol: os na all y porthladdoedd hynny ddod â'r cyflenwadau o feddyginiaethau i mewn fel y maen nhw'n ei wneud heddiw, bydd effaith ar faint o'r meddyginiaethau hynny sydd ar gael yn y Deyrnas Unedig. A cheir rhai meddyginiaethau yr ydym ni'n dibynnu arnyn nhw nad ydynt yn gallu fforddio eistedd ac aros mewn ciw oherwydd bod ganddynt fywydau silff byr, ac mae hynny'n arbennig o wir am radioisotopau ar gyfer trin canser. Dyna pam mae cynllun gyda Llywodraeth y DU i ddatrys problem y porthladdoedd drwy hedfan y cyflenwadau hynny i mewn i'r Deyrnas Unedig. Ond os bydd y cyflenwadau hynny'n cyrraedd maes awyr gan arwain at anhrefn logistaidd oherwydd bod y lorïau yr ydych chi'n dibynnu arnyn nhw wedi eu dal mewn ciw rywle yng Nghaint neu ddim yn gallu symud yn ôl o'r cyfandir yn y ffordd a ddisgwylid, nid oes unrhyw sicrwydd y gall neb ei gynnig y bydd y cynlluniau hynny'n cyflawni popeth fel ag y maen nhw heddiw. Pwy yn y byd fyddai'n cychwyn ar y trywydd hwn o hunan-niweidio? Nid yw hyn yn anochel—gellid atal hyn. Dylid ei atal, ac yna ni fyddem ni'n cael y sgyrsiau hyn.
Rwy'n credu, wrth ddarllen drwy'r ddogfen y gorfodwyd Llywodraeth y DU i'w chyhoeddi gan y llysoedd, eich bod chi'n deall pam nad oedd Llywodraeth y DU eisiau i'r cyhoedd weld hyn. Rwy'n cael fy atgoffa o Aneurin Bevan pan ddywedodd wrthym:
Sut gall cyfoeth berswadio tlodi i ddefnyddio ei ryddid gwleidyddol i gadw cyfoeth mewn grym?
Dogfen yw hon sy'n disgrifio effaith Brexit ar bobl dlotaf y wlad hon. Mae'n disgrifio effaith 'dim cytundeb' ar bobl sâl ac agored i niwed. Mae'n disgrifio sut y bydd y y bobl sydd prin yn gallu fforddio prynu bwyd heddiw ac yn dibynnu ar fanciau bwyd yn gweld cynnydd i brisiau bwyd a llai o fynediad at fwyd ffres. Dyma ddogfen y ceisiodd Llywodraeth y DU ei chadw'n gyfrinach. Mae hefyd, Prif Weinidog, wrth gwrs, yn ddogfen nad yw'n sôn am Gymru. Cyfeirir at weinyddiaethau datganoledig yn y paragraff olaf ond un o ran diogelu pysgodfeydd. Nid oes dim yma, ac eto byddai Llywodraeth y DU, byddech wedi gobeithio, yn deall mai Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am lawer o'r materion hyn. Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am lawer o'r cyfrifoldebau o ran ymdrin â'r materion hyn. A, Prif Weinidog, a allwch chi ein sicrhau bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn deall mewn unrhyw ffordd effaith Brexit 'dim cytundeb' ar y bobl dlotaf yn y wlad hon? Ac a allwch chi ein sicrhau, Prif Weinidog, y bydd y Llywodraeth Lafur hon yng Nghymru yn parhau i sefyll dros bobl mewn cymunedau ar hyd a lled y wlad hon?
Wel, Llywydd, diolchaf i Alun Davies am y cwestiwn yna. Clywaf Aelodau o gwmpas y Siambr a berswadiodd pobl yng Nghymru i adael yr Undeb Ewropeaidd yn ceisio gwadu erbyn hyn yr effaith y bydd hynny'n yn ei chael yn eu bywydau, ac ni ellir ei wadu. Os darllenwch chi Yellowhammer, mae wedi ei gyflwyno mor eglur ag y gallech chi ei ddymuno yn y fan honno. Mae pobl sy'n byw ar yr incwm lleiaf yn ein cymdeithas yn gwario cyfran fwy o'u hincwm i sicrhau hanfodion bywyd bob dydd: bwyd, ynni, tanwydd. Mae'n cymryd cyfran lawer uwch o'u hincwm nag y mae i bobl yn y Siambr hon. Bydd yn rhaid iddyn nhw ddod o hyd i arian i ymdopi â chanlyniadau Brexit, a nhw fydd y bobl â'r lleiaf o allu i wneud hynny. Gallaf roi sicrwydd pendant i Alun Davies—roeddwn i yng nghyfarfod pwyllgor diweddaraf y DU yr wythnos diwethaf: cyfeiriais at y paragraff hwnnw yn Yellowhammer, gofynnais i Lywodraeth y DU pa gynllun oedd ganddi i roi arian ym mhocedi'r teuluoedd hynny yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig y mae eu hincwm wedi cael ei gadw i lawr, sydd wedi gweld prisiau'n codi ac y bydd gofyn iddyn nhw dalu cost Brexit 'dim cytundeb' nawr. Eu cyfrifoldeb nhw yw gwneud hynny; dyna'r peth lleiaf y dylen nhw ei wneud i amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed hynny.
5. Pa asesiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud ynghylch lefelau nitrogen deuocsid ar hyd coridor yr A470 yng Nghanol De Cymru? OAQ54316
Llywydd, mae lefelau nitrogen deuocsid wedi cael eu monitro cyn ac ar ôl cyflwyno'r terfyn cyflymder 50 mya hwnnw. Bydd y canfyddiadau'n cael eu monitro a'u hadrodd cyn diwedd y mis hwn, pan fydd gwerth 12 mis llawn o ddata ôl-gyflwyno wedi ei gasglu a'i ddadansoddi.
Diolch. Diolch am yr ateb ac, wrth gwrs, ceir pryderon mawr ynghylch faint o lygredd sy'n deillio o'r A470. Roeddwn i'n gwrando ar eich ateb yn gynharach i gwestiwn Suzy Davies, a oedd yn un cysylltiedig, er bod ei chwestiwn hi am yr M4. Nawr, rydych chi'n dweud bod tystiolaeth gymhellol; gallwn edrych ar hynny, wrth gwrs. Safbwynt llawer o'm hetholwyr i sy'n defnyddio'r ffordd honno'n rheolaidd i gymudo yw eu bod nhw'n gweld mwy o dagfeydd traffig yn digwydd ac, wrth gwrs, ceir perygl y gallai tagfeydd traffig dueddu i waethygu faint o docsinau llygredig sydd yn yr aer. Felly, pan fyddwch chi'n monitro'r dystiolaeth sy'n codi, os digwydd bod y sefyllfa wedi gwaethygu, a fyddech chi efallai'n ystyried cael gwared ar y parthau 50 mya?
Wel, Llywydd, byddwn yn sicr yn monitro'r sefyllfa yn ofalus iawn. Y dystiolaeth yw bod parthau 50 mya, pan gânt eu cadw'n briodol, yn atal ciwiau yn hytrach nag ychwanegu atynt. Mae rhan o'r A470 rhwng cyfnewidfeydd Upper Boat a Bridge Street yn ardal lle'r ydym ni'n gwybod bod y ffigurau'n dangos bod angen taer ar unwaith i sicrhau gwelliannau i ansawdd aer. Byddwn yn gwneud mwy dros yr hydref hwn i rannu gwybodaeth sy'n egluro i bobl pam y gofynnir iddyn nhw ufuddhau i'r terfyn cyflymder hwnnw o 50 mya ac esbonio iddyn nhw y gofynnir iddyn nhw ei wneud gan fod y dystiolaeth wyddonol yn dangos y byddant yn gwneud cyfraniad at wella ansawdd aer i'r cymunedau hynny y maen nhw'n gyrru drwyddynt.
Rwy'n credu ein bod ni wedi gallu gwneud apêl i bobl yng Nghymru erioed i ddeall bod cydymdrech yn cael effaith ar fywydau pobl eraill. Nid ydym ni wedi esbonio hynny'n ddigon da ac yn ddigon cyson i bobl hyd yn hyn. Rwy'n obeithiol y byddwn, pan fyddwn ni'n gwneud hynny, yn gweld pobl yn cadw at y terfyn cyflymder 50 mya hwnnw ac y bydd yn gwella ansawdd aer ac yn lleihau ciwio ac yn gwneud daioni ym mywydau pobl sydd, heddiw, yn dioddef effaith y camau y mae pobl eraill yn eu cymryd wrth deithio drwy'r cymunedau hynny.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am berfformiad y gwasanaethau a ddarperir gan Trafnidiaeth Cymru? OAQ54313
Llywydd, bydd Trafnidiaeth Cymru yn darparu masnachfraint rheilffyrdd Cymru a'r gororau drwy £5 biliwn o fuddsoddiad yn rheilffyrdd Cymru dros y 15 mlynedd nesaf.
Diolch am eich ateb, Prif Weinidog. Mae lefel y gwasanaeth ar y rhwydwaith rheilffyrdd yng Nghymru wedi bod yn gwbl annerbyniol dros yr haf. Rwyf i wedi derbyn dwsinau ar ddwsinau o gwynion, naill ai drwy bobl yn fy nghynnwys yn eu gohebiaeth eu hunain at Trafnidiaeth Cymru, neu etholwyr yn cysylltu â mi yn uniongyrchol—heb sôn am y problemau a godwyd ar gyfryngau cymdeithasol. Mae'r cwynion yn perthyn i nifer o gategorïau sy'n cynnwys trenau a ganslwyd, diffyg staff, trenau wedi eu gohirio, gorlenwi a lle i sefyll yn unig, problemau gyda signalau, diffyg cerbydau priodol a diffyg gwybodaeth o ansawdd pan fydd problemau'n codi. Pan gymerodd Trafnidiaeth Cymru y fasnachfraint drosodd y llynedd, codwyd disgwyliadau ganddyn nhw a dywedodd Llywodraeth Cymru hefyd wrth ddefnyddwyr y rheilffyrdd y bydden nhw'n gweld gwelliannau. A allwch chi ddweud wrth ddefnyddwyr y rheilffyrdd heddiw pryd y gallan nhw ddisgwyl gweld y gwelliannau a addawyd gennych y llynedd?
Llywydd, gwelais wybodaeth a gyhoeddwyd gan yr Aelod dros yr haf pryd yr oedd yn cwyno mai dim ond 97 y cant o drenau ar reilffordd y Cambrian a oedd wedi rhedeg dros yr haf. Rwy'n credu bod pobl yn Thameslink a fyddai'n meddwl eu bod nhw wedi cyrraedd nefoedd y rheilffyrdd pe byddai ei Lywodraeth yn gallu darparu 97 y cant o'r holl wasanaethau a gynlluniwyd ar y rheilffordd honno. Bydd yr Aelod wedi gweld y cyhoeddiad ddoe o fuddsoddiad gwerth £194 miliwn mewn gorsafoedd rheilffordd ledled Cymru, a bydd hynny'n sicr yn rhoi sylw i'r pwynt a wnaeth yr Aelod, a oedd yn bwynt teg, ynghylch—
Pam na wnaethoch chi ddweud hynny?
Bydd angen i'r Aelod wrando yn hytrach na siarad ac yna byddai ganddo siawns o glywed yr ateb i'w gwestiwn, oni fyddai? Bydd y buddsoddiad £194 miliwn a gyhoeddwyd ddoe yn sicr yn rhoi sylw i'r pwynt teg a wnaeth yr Aelod—dyna'r hyn yr oeddwn i ar fin ei ddweud pan ddechreuodd ef dorri ar fy nhraws—ynghylch darparu gwybodaeth i deithwyr. Dywedodd yr Aelod pan yr oedd yn torri ar fy nhraws bod Trafnidiaeth Cymru wedi dweud nad yw'r perfformiad ar rai rheilffyrdd, gan gynnwys rheilffordd y Cambrian, wedi bod yn dderbyniol yn ystod yr haf hwn, a'u bod yn gweithio'n galed gyda Network Rail i wneud yn siŵr bod trafferthion â signalau a gafwyd ar y rheilffordd honno yn cael eu datrys. Wrth gwrs, rydym ni eisiau gweld rhagor o welliannau. Bydd y buddsoddiad o £5 biliwn y cyfeiriais ato'n gynharach yn sicr yn cyflawni hynny. Credaf fod pobl eisoes yn gweld gwelliannau mewn sawl rhan o'r gwasanaeth rheilffyrdd yng Nghymru a dyna fyddan nhw'n parhau i'w weld wrth i'r fasnachfraint ddatblygu.
7. Pa gamau sydd ar waith i atal treth gyngor ychwanegol ar ail gartrefi rhag cael ei hosgoi? OAQ54350
Mae'r mesurau y mae'r Aelod yn cyfeirio atyn nhw wedi eu hamlinellu yn y Gorchymyn ardrethu annomestig diwygiedig ac a gryfhawyd, a basiwyd gan y Cynulliad hwn yn 2016. Awdurdodau lleol ac Asiantaeth y Swyddfa Brisio sy'n gyfrifol am weithredu'r gweithdrefnau hyn yn effeithiol.
Prif Weinidog, wrth wrando ar y radio yr wythnos diwethaf, cefais fy nharo gan hysbyseb a glywais ar orsaf fasnachol a ddechreuodd drwy roi gwybod i bobl sut y gallen nhw greu incwm ychwanegol o'u hail gartrefi ac a ddaeth i ben trwy ddweud, 'Cymerwch gamau nawr i osgoi'r dreth gyngor ychwanegol ar ail gartrefi.' A wnaiff y Prif Weinidog gytuno â mi ei bod yn foesol wrthun i gwmnïau neu fusnesau gynnig cyngor o'r math hwn? Mae'n rhywbeth sy'n creu sefyllfa lle gellir osgoi treth ac mae'n annog pobl i brynu ail gartrefi er mwyn eu gosod i bobl ar eu gwyliau, a thrwy hynny, wrth gwrs, creu sefyllfa lle na all pobl ifanc yn arbennig fforddio byw yn eu cymunedau gwledig eu hunain. A yw'r Prif Weinidog yn rhannu fy atgasedd at y neges a roddodd yr hysbyseb hwnnw ac a wnaiff ef gondemnio unrhyw ymdrechion i geisio osgoi'r gyfraith?
Wel, rwy'n sicr yn gwneud hynny ac yn ei wneud yr un mor gryf ag y mae'r Aelod newydd ei wneud. Mae osgoi trethi yn foesol wrthun. Mae osgoi talu trethi yn syml yn drosedd ac yn erbyn y gyfraith. Ni chlywais yr hysbyseb fy hun, ond byddai'n rhaid i mi rybuddio unrhyw un sy'n gwrando arno os bydd yn credu ei fod yn mynd i wneud trefniant o'r fath i osgoi'r dreth gyngor, yna bydd yn cael biliau cronedig mawr iawn pan fydd hynny'n cael ei ddarganfod. A phe byddai unrhyw gwmni yn cynnig cyngor i rywun gyda'r bwriad pendant o wneud trefniant lle gellir osgoi cyfraith y wlad, yna byddai, rwy'n credu, yn agored i erlyniad troseddol am dwyll. Ceir cyfres o ofynion eglur iawn a chyfreithiol. Os ydych chi'n mynd i osod eich tŷ fel llety hunanarlwyo, mae'n rhaid i chi roi'r eiddo hwnnw ar gael am 140 diwrnod mewn unrhyw flwyddyn, ac mae'n rhaid iddo gael ei osod am 70 o'r 140 diwrnod hynny o leiaf. Mae'r rhain yn ofynion cyfreithiol. Fe'u nodir yn y modd hwnnw yn ffurflenni Asiantaeth y Swyddfa Brisio y mae'n rhaid i bobl eu llenwi, ac mae tîm penodol yma yn Asiantaeth y Swyddfa Brisio yng Nghymru sy'n dilysu'r dystiolaeth sy'n cael ei chynhyrchu am eiddo hunanarlwyo ac yn cynnal hapwiriadau rheolaidd i sicrhau bod y gyfraith yn cael ei dilyn.
Bydd unrhyw un sy'n credu bod y gyfraith yn hawdd ei hosgoi yn y maes hwn, ac y gallwch chi ei hosgoi yn rhwydd, yn cael eu hun mewn trafferthion yn gyflym iawn. [Torri ar draws.] Mae pob un—. Dywedaf yn gyflym, mae pob un enghraifft y mae awdurdodau lleol yng Nghymru wedi eu darparu i Asiantaeth y Swyddfa Brisio wedi ei hymchwilio gan yr asiantaeth brisio. Ac rwy'n gwahodd awdurdodau lleol—fel y gwn y gwnaeth fy nghyd-Aelodau ddoe, mewn cyfarfod â nhw—rwy'n estyn gwahoddiad pendant i awdurdodau lleol ddarparu'r dystiolaeth honno. Os oes tystiolaeth ddilys nad yw'r gyfraith yn cael ei chymhwyso'n iawn, ac mae'n rhaid i'r tîm penodol sydd gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio wneud yn siŵr ei bod hi, yna, wrth gwrs, byddwn yn gweithredu. Ond dim ond os yw'r dystiolaeth ei hun yn cael ei chyflenwi y gallwn ni weithredu, a dim ond awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa iawn i wneud hynny. Gwnewch yn siŵr, os yw'r dystiolaeth ganddyn nhw, eu bod nhw'n ei hanfon ymlaen.
Ac yn olaf, cwestiwn 8—Rhun ap Iorwerth.
Gymaint â dwi eisiau ymuno yn y drafodaeth yna, mi ofynnaf i fy nghwestiwn i.
8. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am y penderfyniad i ddod â’r cynllun nofio am ddim presennol i ben? OAQ54351
Diolch am y cwestiwn. Wrth gwrs, dyw’r fenter nofio am ddim heb ddod i ben. Yn dilyn adolygiad annibynnol a gafodd ei gomisiynu gan Gyngor Chwaraeon Cymru, mae wedi cael ei ddiwygio. Bydd y fersiwn newydd yn rhoi mwy o gyfleoedd i bobl ifanc a’r rhai dros 60 oed yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru.
Mae'r cynllun presennol wedi dod i ben, wrth gwrs, ac mae yna oblygiadau i hynny. Yn gam neu yn gymwys, mae'r cynllun nofio am ddim wedi dod yn rhan allweddol o sut mae llywodraeth leol yn talu am eu gwasanaethau hamdden oherwydd y toriadau anghynaliadwy sydd wedi bod mewn cyllid. Rŵan, mae cyllid nofio am ddim Ynys Môn, er enghraifft, yn cael ei dorri yn ei hanner gan y penderfyniad i ddiwygio, a fydd y cyngor, yn syml iawn, ddim yn gallu fforddio llenwi'r gap o £30,000—mae ryw 20,000 o bobl y flwyddyn sy'n manteisio ar hwn. Mae'r ffigur yn mynd i fynd lawr.
Rŵan, yn gyntaf, mae'n rhaid inni gael ymrwymiad o gyllid ychwanegol go iawn i gynghorau yn y flwyddyn nesaf, ond, ar y mater penodol yma, o ystyried gwerth ataliol nofio am ddim yn gwella iechyd heddiw, yn taclo gordewdra heddiw, er mwyn atal afiechydon ac arbed arian i'r NHS yfory, a wnaiff y Prif Weinidog gyfaddef bod diwygio y cynllun yma a thorri'r gyllideb gymaint yn siŵr o arwain at ostyngiad yn nifer y defnyddwyr, ac felly yn groes i egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015?
Wel, dwi ddim yn meddwl bod y dystiolaeth yn dangos bod hwnna'n wir, Llywydd.
Roedd yn iawn i ddiwygio'r cynllun. Pan gyflwynwyd y cynllun gyntaf yn 2004-05, nofiodd pobl ifanc 800,000 o weithiau o dan y cynllun. Y llynedd, roedd wedi gostwng i 126,000. Os nad ydych chi'n credu bod y ffigurau hynny'n haeddu cael eu hadolygu, yna nid wyf i'n credu y byddai hwnnw'n gasgliad teg. Ac eto, mae'r nifer o weithiau y mae pobl ifanc yn nofio wedi cynyddu yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwnnw. Felly, nid yw'r syniad bod dileu'r cynllun fel y mae ar hyn o bryd yn arwain yn awtomatig at y canlyniadau anfwriadol, ac, fel y gwelaf i, rhai na fydd yn cael eu gwireddu, yn gwrthsefyll archwiliad. Mae mwy o bobl o dan 16 oed yn nofio yng Nghymru nag erioed o'r blaen, ac eto roedd llai a llai a llai ohonyn nhw yn manteisio ar y fenter nofio am ddim.
Mae'r arian nad yw'n cael ei neilltuo gan gyngor chwaraeon Cymru i'r cynllun hwn yn cael ei wario ganddyn nhw yn hytrach ar gyfres o brosiectau cronfa iach a gweithgar. Bydd pedwar o'r prosiectau newydd hynny yn digwydd ar Ynys Môn. Nid yw'r arian hwnnw'n cael ei gymryd oddi wrth y dibenion hyn; dim ond ei fod yn mynd i gael ei wario mewn ffordd wahanol, yn union er mwyn sicrhau'r mathau o ganlyniadau y cyfeiriodd Rhun ap Iorwerth atynt yn ei gwestiwn atodol.
Diolch i'r Prif Weinidog. Yr eitem nesaf yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol. Ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Janet Finch-Saunders.
1. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am gais diweddar Llywodraeth Cymru i'r Uchel Lys i ymyrryd mewn camau cyfreithiol yng nghyswllt addoediad? OAQ54312
3. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymyrraeth Llywodraeth Cymru yn achos addoediad yr Uchel Lys, cyn apêl y Goruchaf Lys? OAQ54308
Llywydd, rwy'n deall eich bod chi wedi rhoi caniatâd i gwestiynau 1 a 3 gael eu grwpio. Cyfeiriaf yr Aelodau at y datganiadau ysgrifenedig a gyhoeddais ddoe ac ar 2 Medi. Ymyrrais i yn yr achos gan ei bod yn briodol, yn angenrheidiol ac yn gymesur gwneud hynny er mwyn diogelu buddiannau Cymru a'r Cynulliad hwn.
Ddwywaith y mae eich Llywodraeth chi yng Nghymru wedi ymuno ag unigolyn—Gina Miller—i herio gweithredoedd Llywodraeth y DU. Yn fwyaf diweddar, rydych chi wedi ymyrryd mewn achosion cyfreithiol yn yr Uchel Lys, gan gefnogi'r achos cyfreithiol yn erbyn cyngor y Prif Weinidog i'r Frenhines addoedi'r Senedd. Roeddech chi'n honni nad oeddech chi wedi gwneud yr ymyriad yn ddifeddwl ac fe wnaethoch chi ddweud:
Fel swyddog y gyfraith, mae gennyf ddyletswydd i gynnal rheolaeth y gyfraith a'r cyfansoddiad.
Er fy mod yn sylweddoli bod y mater gerbron y Goruchaf Lys ar hyn o bryd, daeth yr Uchel Lys i'r casgliad nad oedd modd herio penderfyniad y Prif Weinidog. Felly, a wnewch chi ddatgelu i'r Siambr hon faint o arian ein trethdalwyr sydd wedi'i wario gan Lywodraeth Cymru yn eich ymdrechion i danseilio ffynhonnell ein sofraniaeth ddemocrataidd?
Wel, rwyf yn credu bod yr Aelod yn camddeall y sefyllfa yn sylfaenol. Nid yw Llywodraeth Cymru wedi ymuno â neb. Fel swyddog y gyfraith, rwyf wedi ymyrryd yn y trafodion hyn, ac rwyf wedi cael caniatâd i wneud hynny gan—
Faint gostiodd hynny?
—yr Uchel Lys a'r Goruchaf Lys. Efallai bod yr Aelod yn cofio y tro diwethaf i Lywodraeth Cymru ymyrryd mewn achos Miller roedd y Goruchaf Lys o blaid Miller, oherwydd deallodd y Goruchaf Lys fod gweithredoedd Llywodraeth y DU wedi'u cynllunio i wthio'r Senedd i'r cyrion. Yr amgylchiadau hynny yw'r un amgylchiadau yr ydym ni yn eu hwynebu heddiw, a Phrif Weinidog newydd sy'n ceisio gwthio'r Senedd i'r cyrion ar yr union adeg pan ddylai'r Senedd fod yn eistedd i graffu ar ei weithredoedd a gweithredoedd y Llywodraeth, a hefyd i basio deddfwriaeth i atal trychineb Brexit 'dim cytundeb'. Felly, nid wyf yn ymddiheuro am ymyrryd ar ran y Cynulliad hwn. Ac mae'r Aelodau yma wedi eistedd a dadlau ac ystyried deddfwriaeth a gofyn i'r Senedd ddeddfu ar ein rhan er mwyn sicrhau bod y llyfr statud deddfwriaethol mor ddidrafferth â phosibl ar ôl Brexit.
A gwrthodwyd y cyfle hwnnw i'r Senedd eistedd ac ystyried y ddeddfwriaeth honno gan yr addoediad. Felly, nid wyf yn ymddiheuro o gwbl am sefyll dros hawliau'r Cynulliad hwn.
Mae hi'n gweiddi cwestiwn am gostau oddi ar ei heistedd. Costau ymyrryd yng nghyfnod yr Uchel Lys oedd £8,937.91 yn ogystal â TAW—gydag ymddiheuriadau i Mark Reckless am y cwestiwn y bydd yn ei ofyn i mi yn nes ymlaen.
Canfu Llys Sesiwn yr Alban fod Boris Johnson wedi camarwain y Frenhines ynglŷn â'i resymau dros eisiau i'r Senedd gael ei haddoedi. Dywedodd y Prif Weinidog mai er mwyn cyflwyno Araith y Frenhines oedd hynny, ond gwnaethpwyd hi'n glir gan y dyfarniad fod tystiolaeth ddogfennol i'r perwyl mai'r gwir reswm oedd rhwystro gwaith craffu seneddol ar y Weithrediaeth. Nid oedd yr Uchel Lys yn Lloegr yn gwrth-ddweud hyn, felly nid oes dadl ynghylch a oedd Boris Johnson yn dweud celwydd wrth y Frenhines a phawb arall am wir natur ei resymau dros addoedi'r Senedd—fe wnaeth hynny. Roedd y pwynt lle'r oedd barn yr Uchel Lys yn amrywio o Lys y Sesiwn yn ymwneud â pha un a oedd dweud celwydd am y rhesymau y tu ôl i'r addoediad yn gyfiawn ai peidio—hynny yw, a yw'n fater cyfreithiol neu wleidyddol. A yw'r Cwnsler Cyffredinol mewn sefyllfa i esbonio ei sail gyfreithiol dros gredu bod hwn yn fater y gellir ei farnu, os yw'r Goruchaf Lys yn dyfarnu o'i blaid, y bydd, yn yr achos hwn, dyfarniad bod addoediad yn anghyfreithlon yn bosibl ei orfodi? Rwy'n gofyn oherwydd y briffiau gan Rhif 10 y gallen nhw geisio addoedi'r Senedd am yr eildro, beth bynnag.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol hwnnw. Mae hi'n iawn, wrth gwrs, i dynnu sylw at y ffaith bod Llys Sesiwn yr Alban wedi dod i'r casgliad, mai beth bynnag oedd y rhesymau a roddodd y Prif Weinidog i'r cyhoedd am geisio'r addoediad, y gwir reswm oedd rhwystro, yn eu geiriau nhw, ystyriaeth y Senedd, a daethant i'r casgliad bod hynny'n annerbyniol yn gyfansoddiadol ac yn anghyfreithlon. Mae hi'n iawn i ddweud, o ran yr Uchel Lys a Llys Sesiwn yr Alban, mai'r cwestiwn o farnadwyedd oedd wrth wraidd eu hystyriaethau. Bydd y cyflwyniadau a wneir ar fy rhan yn y Goruchaf Lys yn dweud bod y llys adrannol—yr Uchel Lys—yn anghywir yn ei gasgliad, a bod Llys y Sesiwn yn gywir, yn y ffordd y mae'r ddau lys yn ymdrin â chwestiwn cyfiawnder, h.y. ni ddylid cymryd camau gweithredol ac eithrio yn unol â safonau cyfraith gyhoeddus, a phan fo pwnc gwleidyddol yn sail ataliaeth farnwrol, nid yw'n sail imiwnedd gweithredol, a dyna rai o'r cyflwyniadau a fydd yn cael eu gwneud ar fy rhan yn y Goruchaf Lys yn ddiweddarach yr wythnos hon.
Ynghylch y cwestiwn o gasgliadau'r Goruchaf Lys, dywedaf yn glir yn awr y bydd y Llywodraeth hon yn cadw at beth bynnag yw casgliad y Goruchaf Lys, fel y byddai unrhyw Lywodraeth sy'n deilwng o'r enw, a gobeithiaf y bydd y Prif Weinidog yn sylweddoli bod yr osgoi a ddangosodd ar y cwestiwn hwnnw, ar ôl ystyried, yn amhriodol, ac y bydd ef yn gweithredu yn unol â chanlyniad dyfarniad y Goruchaf Lys, cyn gynted ag y'i rhoddir.
2. Pa drafodaethau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u cael gyda'i gyd-aelodau Cabinet ynghylch datblygu cynigion deddfwriaethol i sicrhau gostyngiadau mewn allyriadau cerbydau? OAQ54325
Nid yw pwerau deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru na Llywodraeth Cymru yn cynnwys rheoleiddio allyriadau cerbydau. Ond mae'r Llywodraeth yn cefnogi defnyddio safonau heriol newydd ar gyfer cerbydau i ostwng allyriadau trafnidiaeth. Mae'r Llywodraeth yn gweithredu mewn meysydd lle mae ganddi gymhwysedd ac wedi ymgynghori ar fframwaith awyr lân i arwain gweithredoedd awdurdodau lleol i wella ansawdd awyr a gostwng allyriadau.
Diolch yn fawr am yr ateb yna. Fel dŷch wedi ei ddweud, yn amlwg mae yna ystod o opsiynau deddfwriaethol ar gael i Lywodraeth Cymru wrth ddilyn yr agenda yma. Byddwch yn ymwybodol bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig, ar 15 Gorffennaf, wedi cyhoeddi eu bwriad i gyflwyno deddfwriaeth sy'n ei gwneud yn ofynnol i osod pwyntiau gwefru ar gyfer cerbydau trydan ym mhob tŷ newydd yn Lloegr, fel rhan o'r ymdrechion i leihau allyriadau erbyn 2050. Mae'r cynlluniau yn cynnwys newid rheoliadau adeiladau ar gyfer adeiladau preswyl newydd i gyflwyno gofynion ar gyfer pwyntiau gweithredu gwefrau cerbydau trydan a hefyd gofynion ar gyfer seilwaith pwyntiau gwefru cerbydau trydan mewn adeiladau di-breswyl. Felly, pa drafodaeth—pa drafodaethau yn wir—ydych chi wedi bod yn eu cael o fewn Llywodraeth Cymru ar y llwybr cyfreithiol gorau i sicrhau canlyniadau tebyg yma yng Nghymru?
Wel, wnaf i ddim ymhelaethu ar unrhyw drafodaethau cyfreithiol am y rhesymau bydd yr Aelod yn deall yn iawn, rwy'n credu. Ond mae'r cwestiwn am y camau gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau economi a chymdeithas carbon isel wastad yn destun trafodaeth fyw iawn ymhlith Aelodau'r Llywodraeth. Gwnaf i gyfeirio'r Aelod at y ddogfen bolisi, 'Prosperity for All: A Low Carbon Wales', sy'n disgrifio mewn manylder yr ystod eang o gamau mae'r Llywodraeth yn eu cymryd ar hyn o bryd, a'r camau mae'r Llywodraeth yn bwriadu edrych arnyn nhw yn y dyfodol ynglŷn â'r maes hwn a meysydd perthnasol eraill.
4. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol ddatganiad am y gost i'r trethdalwr yn sgil Llywodraeth Cymru'n ymuno â'r achos aflwyddiannus yn yr Uchel Lys mewn perthynas ag addoediad? OAQ54307
Cost ymyrryd yng nghyfnod yr Uchel Lys oedd £8,937.91, a TAW. Rwyf i'n ystyried bod hyn yn gymesur â phwysigrwydd sylfaenol y mater, o ran y lle hwn a'i allu i roi llais i fuddiannau Cymru, ac i reolaeth y gyfraith a'r cyfansoddiad yn fwy cyffredinol.
Onid yw'n rhan bwysig o reolaeth y gyfraith y dylai Prif Weinidog Cymru dderbyn penderfyniadau llysoedd o fewn ein hawdurdodaeth? Ac, yn dilyn penderfyniad y llys adrannol yn Llundain, o fewn awdurdodaeth Cymru a Lloegr, bod y penderfyniad i addoedi yn gyfreithlon, a yw'n briodol i'r Prif Weinidog ddisgrifio'r penderfyniad fel un anghyfreithlon?
Wel, mae dyfarniad Llys y Sesiwn yn yr Alban, sydd, yn groes—[Torri ar draws.]—yn groes i sylwadau llawer o Aelodau Seneddol Ceidwadol ar y meinciau cefn, mewn gwirionedd yn Llys sy'n uwch na Uchel Lys Cymru a Lloegr, wedi penderfynu o blaid y cynnig sydd union gyferbyn, sef, yn unol â'r cyflwyniadau yr ydym ni wedi'u gwneud, bod y penderfyniad yn anghyfreithlon. Ac mae'n sôn, o'i eistedd, nad ein hawdurdodaeth ni yw hon, fel y dywed ef. Y Senedd sy'n cael ei haddoedi yw Senedd yr Alban yn San Steffan, a hon hefyd yw Senedd Cymru o ran materion a gedwir yn ôl, ac ni ddylid gwawdio penderfyniadau Llys y Sesiwn yn ysgafn fel y mae'r Aelod yn ceisio ei wneud. Gobeithio y bydd y Goruchaf Lys yn ystyried yn llawn nid yn unig gasgliadau'r Uchel Lys, ond hefyd y dadleuon a gafwyd yn Llys y Sesiwn yn yr Alban a chefnogi'r dadleuon a wnaethpwyd ar ran Miller a Cherry, yr oeddwn i'n falch o ymyrryd ynddynt.
5. Pa gyngor cyfreithiol y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i ddarparu i Lywodraeth Cymru ar ddyfodol pwerau datganoledig yng Nghymru? OAQ54314
Er y bydd yr Aelod yn sylweddoli nad wyf i'n datgelu'r cyngor a roddaf i'r Llywodraeth, mae'r cwestiwn ynghylch y setliad datganoli a sut y gellid ei wella yn y dyfodol yn parhau i fod yn drafodaeth fyw o fewn y Llywodraeth.
Diolch. Fis diwethaf, cawsoch y pleser, fel y cefais innau a llawer yma, o ymweld ag Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Nawr, er gwaethaf y ffaith bod yr Ysgrifennydd Gwladol, y Gwir Anrhydeddus Alun Cairns AS, wedi gweithio'n galed i gyflawni setliad datganoli clir a sefydlog, fe wnaethoch chi gwyno cryn dipyn. A dweud y gwir, fe wnaethoch chi ddweud, ac rwy'n dyfynnu,
Mae'n amlwg bod angen i agwedd Llywodraeth y DU tuag at ddatganoli newid yn sylfaenol. Ar hyn o bryd, ymddengys bod ganddi amwysedd dwys ynghylch datganoli o hyd. Neu'n waeth, yr agwedd y bydd Llywodraeth y DU, yn garedig iawn, os byddwn ni'n ymddwyn yn dda, yn caniatáu rhyw bwerau cyfyngedig o hunanlywodraeth i ni. Y math o ddatganoli "rhaid i chi dderbyn yr hyn a gewch".
Nawr, er ichi nodi mai eich blaenoriaeth chi yw aros a diwygio o fewn undeb y Deyrnas Unedig, fy nghwestiwn i chi yw a yw'n wir na fydd Llywodraeth Cymru yn fodlon â datganoli hyd nes y bydd yr undeb hwn yn chwalu.
A gaf i ddiolch yn gyntaf i'r Aelod am dynnu sylw at fy araith yn yr Eisteddfod? Credaf y byddai wedi bod â chynulleidfa ychydig yn llai nag y mae hi bellach wedi'i rhoi iddo. Felly, rwy'n diolch iddi am hynny. Mae hi'n sôn am ymdrechion Ysgrifennydd Gwladol Cymru i gyflawni setliad sefydlog ar gyfer datganoli. Mae arnaf ofn fy mod i'n ei weld ychydig yn wahanol iddi hi, ac rwy'n cymryd, er enghraifft, y drafodaeth a grybwyllodd y Prif Weinidog yn gynharach ar y gronfa ffyniant gyffredin, sy'n fater a ddylai gael ei ddatganoli'n llwyr i Gymru, ac nid yw ef wedi cefnogi'r safbwynt hwnnw yn fy nhrafodaethau i ag ef. Rydym ni wedi galw ar sawl achlysur am ymgysylltu llawn ar y cwestiwn o gyllid rhanbarthol ar ôl ymadael â'r Undeb Ewropeaidd, ac nid yw hynny wedi'i dderbyn. Mae hynny'n un o lawer iawn o enghreifftiau, lle mae'r setliad datganoli presennol yn ddiffygiol a lle mae ymrwymiad Llywodraeth y DU i setliad datganoli sefydlog yn ddiffygiol.
Mae'n sôn yn ei chwestiwn i gloi am chwalu'r undeb fel pe byddai hynny'n rhywbeth y byddem ni'n ei argymell. Gadewch imi fod yn gwbl glir wrth yr Aelod mai'r bobl sydd wrthi'n dinistrio cyfansoddiad Prydain yw pobl fel y Blaid Brexit a phobl fel hi sy'n dadlau dros y math o Brexit caled 'dim cytundeb' sy'n creu risg ddifrifol iawn o rwygo'r DU ar wahân.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.
Y datganiad a chyhoeddiad busnes sydd nesaf, a dwi'n galw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i wneud ei datganiad—Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Mae tri newid i fusnes yr wythnos hon. Yn ddiweddarach y prynhawn yma, byddaf yn gwneud datganiad ar oblygiadau cylch gwariant 2019 Llywodraeth y DU i Gymru, a bydd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit yn gwneud datganiad ar Brexit. Er mwyn gwneud lle i hyn, bydd y datganiad am y Cynllun Gwên—10 mlynedd o wella iechyd y geg i blant yng Nghymru yn cael ei gyhoeddi fel datganiad ysgrifenedig. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i nodi yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, y gellir ei weld ymysg papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
A gaf i alw am ddatganiad gan y Gweinidog sy'n gyfrifol am drafnidiaeth ar gefnffordd yr A55 yng ngogledd Cymru? Bydd y Trefnydd yn ymwybodol bod llawer o gwynion wedi cyrraedd Aelodau'r Cynulliad o bob rhan o ranbarth Gogledd Cymru yn sgil gwaith ffordd sylweddol sy'n digwydd yn ardal Llanddulas. Nawr, sylweddolaf fod y gwaith ffordd hwn yn angenrheidiol o ran adfer diogelwch i'r bont yn Llanddulas, ond mae trefniadaeth y gwaith ffordd hwnnw, heb unrhyw wyriadau priodol yn eu lle i annog modurwyr i ddilyn llwybrau amgen, yn achosi anhrefn llwyr mewn cymunedau a threfi lleol ar draws fy etholaeth i, gan gynnwys Abergele, Hen Golwyn a Bae Colwyn. Mae plant yn methu cyrraedd yr ysgol ar amser, pobl yn methu cyrraedd y gwaith ar amser, mae yna ymwelwyr sy'n cael profiad gwael iawn o ymweld â gogledd Cymru o ganlyniad i'r gwaith ffordd yma, ac rwy'n bryderus iawn ei fod yn niweidiol bellach i enw da'r gogledd a'n heconomi ni. Felly, a gawn ni ddatganiad am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'w wneud i sicrhau ei bod yn cynllunio'r pethau hyn yn well yn y dyfodol fel na chawn ni'r math o aflonyddwch yr ydym ni wedi bod yn ei brofi?
Diolch i Darren Millar am godi'r mater hwn y prynhawn yma. Fel y mae'n cydnabod, mae'r gwaith a wneir ar yr A55 yn bendant yn cael ei wneud er mwyn sicrhau diogelwch y rhan honno o'r ffordd, ond mae'n amlwg bod unrhyw darfu ar fywydau pobl yn peri pryder. Felly, byddaf yn gofyn yn y lle cyntaf i swyddogion Llywodraeth Cymru ymchwilio i'r sefyllfa gyda'r bwriad o ddarparu rhywfaint o gyngor ynghylch y ffordd orau o osgoi sefyllfa o'r fath yn y dyfodol.
Hoffwn ychwanegu fy enw at y nifer cynyddol o bobl sy'n galw am uwchgynhadledd ar wasanaethau gofal cymdeithasol i oedolion ar sail genedlaethol, ar ddarparu gofal i bobl hŷn. Hoffwn hefyd weld moratoriwm yn y cyfamser ar gau rhagor o gyfleusterau, gan fod llawer o awdurdodau lleol wedi cau neu yn y broses o gau eu canolfannau gofal dydd a phreswyl, ac mae lleoedd gwag yn cael eu colli ym mhobman. Ar ben arall y sbectrwm oedran, mae prinder lleoedd gofal i bobl iau, ac mae cartrefi gofal preifat sy'n blaenoriaethu elw yn ceisio manteisio ar y sefyllfa hon. Mae angen gofal o ansawdd da, a ddarperir yn gyhoeddus, ar gyfer pobl hŷn, pobl anabl a phlant sy'n derbyn gofal. Ar hyn o bryd, mae preifateiddio'n digwydd yn llechwraidd. A allwn ni gael dadl gan y Llywodraeth ac ymateb i'r cais hwn am uwchgynhadledd a moratoriwm cyn gynted ag y bo modd, os gwelwch yn dda?
Mae'r Llywodraeth yn ymwybodol iawn o'r ymgyrch hir i ailagor twnnel y Rhondda fel llwybr cerdded a beicio. Mae ei photensial i ddenu twristiaeth, hwyluso teithio llesol ac annog gweithgarwch corfforol yn enfawr. Dyna pam mae'n rhan mor hanfodol o'r ddogfen bolisi hon a gynhyrchwyd gennyf i ar y cyd â Sustrans y mis hwn. Daw'r prif faen tramgwydd i agor y twnnel hwnnw o'r cwestiwn o'i berchnogaeth. Ar hyn o bryd, mae'n eiddo i Adran Drafnidiaeth Lloegr a chaiff ei reoli gan adran Priffyrdd Lloegr—anomaledd rhyfedd a ddylai fod wedi'i gywiro erbyn hyn. Hyd nes y caiff y cwestiwn perchenogaeth ei ddatrys, mae ymdrechion i godi arian ar gyfer y prosiect a'i gymryd i'r cam nesaf yn cael eu llesteirio, gan beryglu ei siawns o lwyddo. Mae'r prosiect hefyd yn cael ei lesteirio am nad yw'n cael ei ddynodi'n rhan o lwybr teithio llesol.
Rhaid imi ddatgan buddiant fel aelod o Gymdeithas Twnnel y Rhondda ac fel fy nghyd-Aelod Plaid, Bethan Jenkins AC, a'ch cyd-Aelod chi David Rees AC, rwyf wedi bod yn gweithio'n agos gyda Chymdeithas Twnnel y Rhondda i wireddu'r prosiect hwn. Codais y mater o berchnogaeth gyda Llywodraeth Cymru dros dair blynedd yn ôl, ac nid ydym wedi symud ymlaen ryw lawer ers hynny. Felly, a gawn ni ddatganiad yn esbonio sut y gall Llywodraeth Cymru helpu'r prosiect hwn a datrys y cwestiwn perchenogaeth? Gellid rhoi gwarantau ar waith er mwyn i Lywodraeth Cymru osgoi atebolrwydd ariannol. Y cwestiwn yn awr yw: a yw'r ewyllys gwleidyddol yno?
Diolch ichi am godi'r ddau fater hynny. Gwn fod y Gweinidog sy'n gyfrifol am ofal cymdeithasol yma yn y Siambr i glywed eich cais am ddatganiad a barn am y cynigion ar gyfer uwchgynhadledd. Rwy'n gwybod y bydd yn rhoi ystyriaeth ddyladwy i hynny.
O ran twnnel y Rhondda, rwy'n credu ei fod yn gynnig hynod gyffrous. Yn amlwg, mae materion yn codi o ran perchenogaeth a sut y byddai unrhyw waith yn cael ei ariannu yn y dyfodol—rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru yn barod iawn i'w wneud. Cefais drafodaeth heddiw gyda Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth am hyn, a gwn ei fod yn ymgysylltu â Sustrans hefyd i ofyn iddynt wneud darn o waith i archwilio sut y gallwn fwrw ymlaen â hyn, oherwydd credaf ein bod i gyd yn rhannu'r brwdfrydedd a'r ddealltwriaeth o'r hyn y gellid ei gyflawni.
Gweinidog, a gaf i ychwanegu fy llais at y cwestiwn olaf gan Leanne Wood mewn cysylltiad â Chymdeithas Twnnel y Rhondda a pherchnogaeth twnnel y Rhondda? Nid wyf am fynd ymhellach oherwydd eich bod eisoes wedi ateb y cwestiwn, ond rwy'n ychwanegu fy llais i'r alwad honno.
A gaf i ofyn am dri datganiad, os yw'n bosibl? Mae'r cyntaf ar y Mesur Teithio gan Ddysgwyr (Cymru) 2008. Nawr, yn gynharach eleni cyflwynodd Cyngor Castell-nedd Port Talbot gynigion a fyddai wedi cynyddu'r taliadau ar gyfer addysg ôl-16 mewn cysylltiad â'r rheini sy'n mynd i addysg cyfrwng Cymraeg, i ysgolion ffydd, a hefyd ym meysydd anghenion dysgu ychwanegol. Mae cyfle yma'n awr—ac rwy'n croesawu penderfyniad y cyngor i ohirio unrhyw benderfyniad ynglŷn â hyn ar ran y bobl leol—i edrych ar y Mesur teithio gan ddysgwyr i weld a allwn mewn gwirionedd geisio diwygio'r Mesur teithio gan ddysgwyr i sicrhau bod addysg ôl-16 yn dod yn rhan o'r gofynion teithio, er mwyn sicrhau y gall y bobl hyn fynd i ysgolion neu leoedd addysg heb y taliadau ychwanegol sy'n cael eu hystyried gan awdurdodau lleol. A wnewch chi felly, ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth, sydd, mi gredaf, â chyfrifoldeb dros y maes hwnnw, i ystyried a allwn adolygu'r Mesur teithio gan ddysgwyr i weld pa ddiweddariadau y gellid eu gwneud, pa welliannau y gellid eu gwneud, i sicrhau bod y plant hynny'n cael cludiant am ddim i'r ysgol, fel y bydd yn digwydd yn y dyfodol?
A gaf i hefyd edrych ar gwestiwn yn ymwneud ag addysg hefyd—y fframweithiau athrawon cyflenwi? Rwy'n deall bod fframweithiau newydd ar waith erbyn hyn. Wel, rwyf wedi gweld negeseuon e-bost gan un o'r asiantaethau sydd wedi elwa o'r fframweithiau hynny, sy'n awgrymu eu bod yn annog ysgolion i raddau i fynd oddi ar y fframwaith, yn eu hannog i symud pobl allan o'r fframweithiau ac felly'n talu cyfraddau is iddynt nag y mae ganddynt yr hawl iddynt. Mae hynny'n deillio o asiantaeth sydd wedi cael caniatâd yn y fframweithiau ac sydd mewn gwirionedd â'i bresenoldeb ar draws y 22 sir yng Nghymru. Mae angen inni edrych ar fonitro'r fframweithiau athrawon cyflenwi er mwyn sicrhau nad yw athrawon yn cael eu cam-drin gan y system hon ac nad yw asiantaethau'n cymryd yr opsiwn i geisio annog ysgolion i osgoi'r gofynion gwirioneddol, er mwyn sicrhau bod athrawon yn cael cyflog gweddus a'r amodau gweddus y maent yn eu haeddu fel athrawon cyflenwi. Ac felly, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog Addysg ynghylch beth sy'n cael ei wneud am y fframwaith hwnnw?
Yn olaf, mae wedi cael ei grybwyll gan Rhun ap Iorwerth yn ei gwestiwn i'r Prif Weinidog y prynhawn yma ynglŷn â nofio am ddim. Cawsom ddatganiad ysgrifenedig, a diolchaf i'r Dirprwy Weinidog am y datganiad ysgrifenedig yr wythnos diwethaf, yn rhoi rhyw syniad inni o'r hyn sy'n digwydd. Ond mae angen inni ofyn cwestiynau ynglŷn â'r consesiynau nofio am ddim a'r newidiadau sy'n cael eu rhoi ar waith. Oherwydd, os edrychwch arnynt, nid ydynt yn ffigurau enfawr mewn gwirionedd, ond mae hyn yn hollbwysig i lawer o'm hetholwyr i, ac mae nifer mawr wedi ysgrifennu ataf yn holi 'Pam ydym ni'n gwneud hyn?' Felly, mae angen inni allu gofyn cwestiynau i'r Dirprwy Weinidog am y consesiynau, o ran sut y gallwn symud ymlaen. Nid mater o nofio am ddim i bawb yn unig yw hyn; mae hyn yn rhoi cyfleoedd iddyn nhw, mae'n mynd â phobl allan o'u cartrefi, mae'n rhoi rhyngweithio cymdeithasol iddyn nhw, mae'n gwella eu hiechyd, ac mae pob cyfle fel hyn yn hanfodol i sicrhau y gall pobl dros 60 gymryd rhan weithredol yn ein cymdeithas. Ac mae'r penderfyniad hwn mewn gwirionedd yn mynd i ddod â hynny i ben i rai pobl. Hoffwn felly gael datganiad llafar fel y gallwn ofyn y cwestiynau'n benodol am y newidiadau i'r consesiynau nofio am ddim.
Diolch i Dai Rees am godi'r materion hynny. Gwn eich bod hefyd wedi ysgrifennu'n uniongyrchol at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn amlinellu eich cefnogaeth i gynnig twnnel y Rhondda a'ch pryderon am y berchnogaeth, ac yn y blaen. Gallaf ddweud bod Llywodraeth Cymru, fel y gwyddoch mae'n siŵr, wedi ariannu gwaith ar achos busnes lefel uchel ar gyfer y prosiect yn ogystal â darparu cyllid dilynol i gynnal asesiad ecolegol, arolwg ystlumod, arolwg tapio i asesu cyflwr y twnnel, a hefyd gwaith i wella mynediad i'r twnnel ar gyfer y gwaith arolygu sydd i'w wneud. Felly, credaf y gallwn ddangos ein cefnogaeth glir i'r cynigion, er bod y materion hynny sy'n ymwneud â pherchnogaeth a sut y gellid ariannu'r prosiect heb eu datrys eto.
O ran y Mesur Teithio gan Ddysgwyr a'ch pryderon ynghylch y modd y mae hynny'n effeithio ar allu'r dysgwyr hynny dros 16 oed i gyrraedd eu hamgylchedd dysgu, a chredaf yn benodol fod y rhai sy'n anabl yn peri pryder i chi, gofynnaf i'r Gweinidog trafnidiaeth ysgrifennu atoch gyda'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny, ond hefyd i ystyried yr achos yr ydych chi wedi'i wneud y prynhawn yma.FootnoteLink
O ran asiantaethau athrawon cyflenwi, gallaf ddweud bod swyddogion yn y gyfarwyddiaeth addysg wedi gweithio'n agos gyda'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol i ymdrin â nifer o ofynion ychwanegol yn y fanyleb contract fframwaith i gefnogi'r broses o gyflenwi cyflog ac amodau gwaith athrawon a'n hegwyddorion gwaith teg a phartneriaeth gymdeithasol. Ond, o ran y mater penodol a godwyd gennych, mae'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol wedi cyhoeddi canllawiau contract i'r holl asiantaethau penodedig, sy'n ei gwneud yn ofynnol iddynt roi gwybod am sefyllfaoedd o ddiffyg cydymffurfio fel y gallant gael cymaint o wybodaeth â phosibl am y defnydd a wneir o'r fframwaith a'i effeithiolrwydd. Ac os yw asiantaeth fframwaith yn ceisio gwyrdroi rheolau'r fframwaith yn gyson ac, yn fy marn i, ysbryd y rheolau hynny hefyd, bydd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn cymryd camau.
Ac o ran pryd fyddai'r cyfle cyntaf i holi'r Gweinidog ar fater nofio am ddim, gwn fod yna gwestiwn i'r Dirprwy Weinidog brynhawn yfory.
Trefnydd, hoffwn ofyn i chi am ychydig o ddatganiadau, os caf. Yn gyntaf oll, a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig yn y de-ddwyrain? Rwyf wedi cael gohebiaeth gan etholwyr am yr anawsterau wrth gymudo o sir Fynwy i Gasnewydd a Chaerdydd—ardal y dinas-ranbarth—ac amlder y gwasanaethau hynny. Rwyf i wedi gyrru i'r Cynulliad heddiw. Pe na bawn i wedi gyrru, yna gallwn i fod wedi cael y bws a'r trên yma, ond fyddwn i ddim wedi gallu mynd yn ôl ar ôl 5 o'r gloch gan nad oes gwasanaeth bws yn cysylltu ar ôl 5.30 p.m. o Gasnewydd neu 5.45 p.m. o'r Fenni i Raglan. Mae'n ddrwg gennyf eich diflasu gyda'm problemau domestig, ond mae hwnnw'n fater sy'n effeithio ar bob math o bobl sy'n cymudo i Gaerdydd. Rwy'n sylweddoli bod y metro'n edrych ar hyn. Efallai, fel y codais gyda'r Gweinidog yn y gorffennol, y gallai'r posibilrwydd o ganolbwyntio'r metro yn y ganolfan gonfensiwn newydd yn y Celtic Manor liniaru hynny. Felly, os bu unrhyw drafodaethau ynglŷn â hwnnw, byddai'n ddiddorol clywed hynny.
Yn ail, efallai fod yr Aelodau'n ymwybodol fod problem wedi bod yn yr Unol Daleithiau, sydd ar hyn o bryd yn y broses o wahardd e-sigaréts sydd â blas ynddynt. Mae cannoedd o bobl yn dioddef o salwch dirgel ar yr ysgyfaint. Gwn fod cynhyrchion e-sigaréts yn America yn wahanol i'r cynhyrchion yma—mae'r nicotin yn llawer cryfach, mae'r cemegau eraill ynddynt yn gryfach—ond serch hynny, mae problem yno ac mae rhai o'm hetholwyr wedi bod yn gofyn imi beth yw fy marn i. Dydw i ddim yn arbenigwr ar e-sigaréts, ond tybed a oes modd inni gael diweddariad ar ganllawiau Llywodraeth Cymru yng ngoleuni'r pryderon hynny.
Ac yn olaf, cynhaliwyd Sioe Brynbuga yn ddiweddar—digwyddiad a gefnogwyd yn dda iawn—a chododd y ffermwyr yno fater TB mewn gwartheg gyda mi ac maent yn poeni am y cynnydd diweddar yn y clefyd hwnnw. Tybed a oes modd cael yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru am yr ymdrechion a wneir i fynd i'r afael â'r clefyd, mewn da byw ond hefyd yn y gronfa anifeiliaid.
Ac yn olaf oll, Llywydd—rydych wedi bod yn hael gyda mi—ddoe oedd diwrnod osôn y byd y Cenhedloedd Unedig, y bûm yn sôn amdano ar Facebook ac yn trydaru yn ei gylch. Mae'r protocol Montreal, a waharddodd gemegau CFC sy'n dinistrio'r osôn o erosolau ac oergelloedd ac offer a theclynnau cartref eraill, yn dathlu ei ddeuddegfed pen-blwydd ar hugain. Roedd hynny'n llwyddiant ysgubol. Roedd yn gadarnhaol ac fe ddangosodd, pan fo cymuned y byd yn dod at ei gilydd, y gallant fynd i'r afael â materion amgylcheddol gwirioneddol fawr a gellir gwneud hynny mewn ffordd sydd, 30 mlynedd yn ddiweddarach, yn golygu nid yn unig fod y twll osôn yn yr Antartica bellach yn atgyweirio'i hun, ond fe amcangyfrifir, erbyn 2060, y bydd yn gwbl gyflawn. Mae hynny'n newyddion gwych. Gobeithio y byddwch chi ac awdurdodau lleol yng Nghymru, wrth wynebu argyfwng newid hinsawdd, yn gallu delio â mater cynhesu byd-eang ac yn y dyfodol, y byddwn yn edrych yn ôl ac yn dweud bod hynny'n llwyddiant tebyg.
Diolch yn fawr i Nick Ramsay am godi'r materion hynny. Roedd y cyntaf yn ymwneud â thrafnidiaeth gyhoeddus yn y de-ddwyrain a'ch diddordeb mewn canolbwynt yn y ganolfan gonfensiwn newydd yn y Celtic Manor, a sicrhau hefyd fod trafnidiaeth gyhoeddus ar adeg gyfleus i bobl allu mynd yn ôl ac ymlaen i'r gwaith. Byddaf yn gofyn i'r Gweinidog trafnidiaeth roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y gwaith diweddaraf o ran metro de Cymru a hefyd y farn ar drafnidiaeth gyhoeddus yn ehangach ac yn gynt yn yr ardal.
O ran e-sigaréts, gwn fod adroddiadau gan yr Unol Daleithiau o'r clwstwr o glefyd yr ysgyfaint difrifol ymysg pobl sy'n defnyddio e-sigaréts yn peri pryder mawr. Fodd bynnag, credaf ei bod yn deg dweud ar hyn o bryd nad ydym yn gwybod beth yn union sy'n achosi'r clefyd. Ond rydyn ni'n glir iawn yn Llywodraeth Cymru na ddylai e-sigaréts gael eu defnyddio gan bobl nad ydynt yn ysmygu, ac na ddylai pobl ifanc eu defnyddio. Ar yr un pryd, rydym yn cydnabod bod rhai pobl wedi'u cael yn ddefnyddiol o ran eu helpu i roi'r gorau i ysmygu, ond rydym yn glir iawn mai prin iawn yw'r dystiolaeth o effeithiau iechyd tymor hwy ar ddefnyddio e-sigaréts ar hyn o bryd. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid ar draws Cymru i ddatblygu consensws ar y cyd am e-sigaréts sy'n seiliedig ar dystiolaeth ac rwy'n siŵr y bydd gennym fwy i'w ddweud am hynny maes o law. Yn y cyfamser byddem yn sicr yn annog unrhyw un sydd am roi'r gorau i ysmygu i gysylltu â'n llinell gymorth genedlaethol am ddim, Helpa fi i Stopio, ar 0800 085 2219. Mae gennym hefyd ein gwefan helpafiistopio.cymru y gallwch ymweld â hi hefyd, os oes gan unrhyw un ddiddordeb.
O ran TB mewn gwartheg, rwy'n gwybod bod y Gweinidog dros yr amgylchedd a materion gwledig yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf yn rheolaidd i'r Cynulliad ar y mater hwnnw a gwn y bydd yn ceisio darparu diweddariad pellach pan fydd hi'n gallu gwneud hynny.
Ac rwyf yn rhannu eich brwdfrydedd am ddiwrnod osôn y byd ac mae'n sicr yn enghraifft o'r pŵer y gellir ei greu pan fydd gwledydd yn gweithio gyda'i gilydd am reswm pwysig.
Cyn toriad yr haf, fe gafwyd ymrwymiad gennych chi, a dwi'n dyfynnu,
'y bydd dadl ar 'Cynllun Gwên: 10 mlynedd o wella iechyd y geg ymhlith plant yng Nghymru' ar y diwrnod cyntaf yn ôl ym mis Medi'.
Wel, heddiw yw'r diwrnod cyntaf yn ôl, a does yna ddim dadl. Dwi'n gwybod bod y pwyllgor iechyd yn dod â dadl gerbron ddechrau mis nesaf, ond mae'r Llywodraeth eisoes wedi gwrthod eu hargymhellion nhw ar gyfer rhoi mwy o arian tuag at wasanaethau deintyddol, sydd ddim yn gwneud unrhyw synnwyr o gwbl i mi.
Mae hi yn argyfwng. Ar gyfartaledd, dim ond 15 y cant o feddygfeydd yng Nghymru sydd yn derbyn cleifion sy'n oedolion drwy'r NHS, a dim ond 27 y cant sy'n derbyn plant. Does yna ddim un o'r ymarferwyr deintyddol yn Arfon yn cymryd cleifion newydd ar yr NHS, ac mae hynny'n cynnwys plant.
Mae angen i'r Llywodraeth yma wynebu'r realiti yma, ond, ar hyn o bryd, dydych chi ddim hyd yn oed yn fodlon cynnal dadl ar y mater. Felly, gaf i ofyn am ddadl ac am ddiweddariad ar fyrder, ac eglurhad o beth fydd y camau gweithredu y byddwch chi yn eu cymryd a sut rydych chi'n mynd i daclo'r argyfwng yma ar draws Cymru, gan gynnwys Arfon?
Yn anffodus, bu'n rhaid inni symud yr eitem, fel y dywedais ar ddechrau'r datganiad busnes heddiw—yr eitem ar iechyd y geg ymysg plant—i ddatganiad ysgrifenedig, ac roedd hynny i gynnwys y datganiad y byddaf yn ei wneud y prynhawn yma ar yr effeithiau i ni o'r cylch gwario ac yn amlwg, y datganiad y bydd y Gweinidog yn ei wneud ar Brexit.
Rwy'n deall cymaint os nad yn fwy na'r rhan fwyaf o bobl y pwysau enfawr o allu darparu ar gyfer yr holl geisiadau a gawn yn y datganiad busnes. Rwy'n aml yn derbyn pedwar cais gan un unigolyn yn ystod datganiad busnes. Yn amlwg, ar ddiwrnod busnes arferol, dim ond pedair dadl neu ddatganiad y byddem yn eu cael. Felly, rydym yn gwneud ein gorau i dderbyn ceisiadau'r Aelodau cymaint â phosibl.
Y tro hwn, yn anffodus rydym wedi gorfod troi'r datganiad arfaethedig hwnnw'n ddatganiad ysgrifenedig. Ond mae'r Gweinidog wedi bod yma i glywed eich sylwadau a gwn y bydd yn awyddus i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am faterion deintyddol mewn ffordd briodol cyn gynted â phosibl.
A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y problemau sy'n wynebu fy etholwyr i o ran y cais gorfodol i adnewyddu eu tocyn bws, a hynny erbyn diwedd mis Rhagfyr? Mae'n debyg bod y safle ar gyfer llenwi'r cais ar-lein wedi cau'n llwyr, ac mae'r gwasanaeth ffôn wedi chwalu hefyd. Siawns na ddylid bod wedi rhagweld maint y ceisiadau a rhoi'r strwythurau ar waith i ymdopi â'r galw mawr. Rhaid gofyn cwestiwn sylfaenol: pam oedd angen y cam hwn yn y lle cyntaf? Byddai'r holl wybodaeth angenrheidiol eisoes yn cael ei chadw gan yr awdurdodau lleol, felly mae'n sicr y gallai'r wybodaeth fod wedi'i chasglu o'r ffynonellau hynny. Dim ond y rheini y mae eu manylion wedi newid fyddai angen ailymgeisio. Siawns nad yw hyn yn ddim ond enghraifft arall o wastraffu arian trethdalwyr, heb sôn am y pryder a achosir i gynifer o bobl sy'n dibynnu ar eu pas bws i deithio.
Mae Trafnidiaeth Cymru yn rheoli'r mater o gardiau teithio rhatach ar ffurf newydd ledled Cymru ar ran Llywodraeth Cymru a'r 22 awdurdod lleol. Y cynghorau lleol sy'n berchen ar y cynllun o hyd. Bydd y cardiau ar eu newydd wedd yn cynnig yr un hawliau a buddiannau teithio am ddim â'r cerdyn presennol, ac mae angen y cardiau ar ffurf newydd gan na fydd y tocynnau bws presennol yn cael eu cydnabod ar ddarllenwyr electronig ar fysiau ar ôl 31 Rhagfyr eleni. Yn hollbwysig, dyluniwyd y cardiau newydd hefyd i weithio fel rhan o rwydwaith teithio integredig yn y dyfodol. Mae'n wir dweud bod Trafnidiaeth Cymru wedi profi nifer aruthrol o uchel o ymweliadau â'u safle cerdyn teithio rhatach newydd ers ei lansio ar 11 Medi. Rwyf i, fel y bydd llawer o'r Aelodau, wedi cael nifer o aelodau'r cyhoedd yn cysylltu â mi ynglŷn â hyn. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi tynnu'r wefan newydd i lawr er mwyn cynyddu'r capasiti i reoli'r ceisiadau'n well, a deallaf y bydd yn cael ei rhoi ar waith heddiw eto. Ond, mewn gwirionedd, y neges i ddeiliaid cerdyn presennol yw bod digon o amser mewn gwirionedd i wneud cais am y cardiau newydd hynny. Bydd eu cardiau'n cael eu derbyn hyd at 31 Rhagfyr 2019, felly rydym yn annog ymgeiswyr i ymweld â'r wefan yn y dyddiau nesaf, pan fydd y galw wedi lleihau.
Hoffwn ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth am swyddogaeth arolygwyr cynllunio a'r rheolau y maent yn gweithio oddi tanynt. Mae'n hysbys nad wyf yn credu bod swyddogaeth i arolygwyr cynllunio sy'n goruwchreoli penderfyniadau democrataidd a wneir gan bwyllgorau cynllunio cynghorau, yn hytrach na'r ombwdsmon a'r adolygiad barnwrol ar gyfer pob penderfyniad arall a wneir gan gynghorau. Nid wyf yn deall pam y mae arolygwyr yn anwybyddu canllawiau cynllunio atodol sydd wedi'u cymeradwyo gan Lywodraeth Cymru. Efallai y gallai'r datganiad egluro pam y gall arolygwyr cynllunio anwybyddu polisi lleol a pholisi y cytunwyd arno'n genedlaethol.
Diolch, Mike. Yn y lle cyntaf, credaf y byddai'n ddefnyddiol petawn i'n cysylltu â'm cydweithiwr, Julie James, i gynnig briff technegol gan y swyddogion priodol yn y maes cynllunio er mwyn cael y cyfle hwnnw i ofyn y cwestiynau manwl sydd gennych.
Gweinidog, a gaf i ofyn am ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip ar gynllun gweithredu Llywodraeth Cymru i hyrwyddo cydraddoldeb i bobl drawsrywiol a gyhoeddwyd tair blynedd yn ôl, yn 2016? Bydd y Cynulliad yn ymwybodol bod yr asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb yn broses a luniwyd i sicrhau nad yw polisi, prosiect na chynllun yn gwahaniaethu yn erbyn unrhyw unigolyn neu bobl ddifreintiedig neu agored i niwed yn ein cymdeithas. Fodd bynnag, mewn ymateb i gais am gopi o'r asesiad sy'n ymwneud â'r cynllun gweithredu hwn yn ôl Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, atebodd Llywodraeth Cymru nad yw'n cadw'r wybodaeth ofynnol. Pan roddwyd pwysau i gael sylwadau pellach, yr ymateb a gafwyd oedd—ac rwy'n dyfynnu, Gweinidog—
Deallaf, ar adeg datblygu'r cynllun gweithredu, fod asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb wedi'i gynnal, i'w ddiweddaru drwy gydol y broses ymgynghori.
Mae'r dyfyniad yn parhau:
Rydym wedi gwneud archwiliad trwyadl, ac yn anffodus mae'n ymddangos bod y ddogfen hon wedi cael ei dileu o'n system cofnodion electronig ers hynny ac nad yw ar gael i'w chyrchu.'
Gweinidog, a gawn ni ddatganiad gan y Dirprwy Weinidog am y sefyllfa anfoddhaol hon, a pha gamau y mae'n bwriadu eu cymryd i adolygu'r cynllun i sicrhau ei fod yn cyflawni ei amcan o hyrwyddo cydraddoldeb i bobl drawsrywiol yng Nghymru, os gwelwch yn dda?
Diolch, Mohammad Asghar. Wrth gwrs, mae'r Dirprwy Weinidog yma i glywed eich sylwadau, ond mae'n amlwg yn destun gofid na ellir lleoli'r asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb sy'n ymwneud â chynllun gweithredu 2016 i hybu cydraddoldeb pobl drawsrywiol. Fodd bynnag, mae'n bwysig nodi i'r cynllun gweithredu ganolbwyntio ar hyfforddiant, cymorth a chodi ymwybyddiaeth, a herio agweddau trawsffobig, yn hytrach na bod yn arweiniad gweithredol. Mae diogelu yn hollbwysig, ac mae pob sefydliad yn rhwym wrth weithdrefnau diogelu perthnasol a phriodol. Ond gwn fod y Dirprwy Weinidog wedi clywed eich pryder am y mater hwn.
Ar y dydd Sadwrn cyntaf o'r mis hwn, ymgasglodd miloedd yn Sgwâr Penderyn ym Merthyr ar gyfer gorymdaith dros annibyniaeth. Fodd bynnag, nid oedd llawer o bobl yn gallu bod yno oherwydd diffyg capasiti digonol ar wasanaethau trenau i Ferthyr. Roedd llawer o drenau wedi'u llenwi i'r eithaf, gyda rhai trenau'n osgoi rhai gorsafoedd yn gyfan gwbl am fod y cerbydau'n llawn o orsaf Caerdydd Canolog. Nid yw'n ddigon da cael nifer fach o gerbydau ar ddiwrnodau pan fo digwyddiadau mawr yn cael eu cynnal, ac nid digwyddiad untro yw hyn. Pan fydd gemau rygbi rhyngwladol yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd, mae yna broblemau tebyg yn aml. Pa neges yr ydym yn ei hanfon i'r byd am Gymru pan na allwn ddarparu gwasanaethau trên i safon dderbyniol? Derbyniaf fod gwelliannau'n cymryd amser, ond rydym ymhell dros flwyddyn i mewn i'r contract newydd, ac mae'n ymddangos, er bod rhai gwasanaethau wedi gwella, fod rhai'n dal yn drenau Arriva ym mhob dim ond enw. A wnaiff Llywodraeth Cymru ddarparu datganiad ar yr hyn y bydd yn ei wneud mewn partneriaeth â Thrafnidiaeth Cymru i sicrhau bod digon o gapasiti yn y dyfodol ar gyfer digwyddiadau mawr o'r math hwn sydd wedi cael cyhoeddusrwydd da ymlaen llaw?
Bydd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn gwneud datganiad ar reilffordd i Gymru yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mawrth nesaf, felly byddai hyn yn gyfle da i glywed ganddo am y pryderon hynny.
Trefnydd, hoffwn ofyn am yr wybodaeth ddiweddaraf gan Lywodraeth Cymru ar golli swyddi a gyhoeddwyd gan BSW Sawmills Ltd o'r Bontnewydd ar Wy ym Mhowys. Cefais ohebiaeth ar y mater hwn ac mae'n dweud y bydd cyfanswm o 33 o ddiswyddiadau, ac mae 11 o'r rheini'n bobl sy'n cael eu cyflogi dros dro. Gwn nad yw'r ffigur hwn yn ymddangos yn uchel iawn i rai pobl yn y Siambr hon, ond i ardal o Bowys lle mae ychydig iawn o swyddi sy'n talu'n dda, mae hyn yn nifer uchel iawn, 33 o ddiswyddiadau. Felly, rwy'n awyddus i wybod pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael â'r melinau llifio ar y mater penodol hwn, a pha gymorth y gellid ei roi, neu sy'n cael ei roi, i'r rhai y mae'r newyddion hyn yn effeithio arnynt. Mae etholwyr yn pryderu y gall cyhoeddiad am golli rhagor o swyddi ddod yn y dyfodol agos iawn.
Diolch ichi, Joyce Watson, am godi'r mater hwn. Mae hi'n hollol iawn y gall 33 o swyddi a gollir mewn cymuned eithaf bach gael effaith enfawr ar y gymuned honno ac ar fywyd y gymuned honno. Byddaf yn gofyn i'r Gweinidog Economi a Thrafnidiaeth roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y trafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael ac unrhyw gymorth y gellir ei roi i'r gweithwyr yr effeithir arnynt.
A gaf i alw am ddau ddatganiad? Yn gyntaf, ar gyffuriau, yn ymwneud â gwenwyno gan gyffuriau yng Nghymru. Mae hyn yn dilyn y cyhoeddiad yn ystod toriad haf y Cynulliad o ffigurau'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos y marwolaethau sy'n gysylltiedig â gwenwyno gan gyffuriau yng Nghymru a Lloegr 2018. Datgelodd y rhain fod gan Gymru y ffigurau ail uchaf ymhlith 10 ardal—naw rhanbarth yn Lloegr a Chymru. Yng Nghymru y cafwyd y cynnydd mwyaf ond un yn ei chyfradd dros y 10 mlynedd diwethaf, cynnydd o 84 y cant, a'r gyfradd marwolaethau ail uchaf yn ôl oed safonedig ar gyfer marwolaethau fesul miliwn yn ymwneud â chamddefnyddio cyffuriau yn ôl gwlad a rhanbarth a gofrestrwyd yn 2018. O gofio bod Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyfrifol am fynd i'r afael â pholisi camddefnyddio sylweddau yng Nghymru ers dau ddegawd bellach, Llywydd, mae hyn yn haeddu datganiad ac rwy'n gobeithio y bydd hyn yn digwydd.
Yn ail, ac yn olaf, galwaf am ddatganiad ar gyllid ar gyfer sbardunwr menter gymdeithasol yn y gogledd. Dros y pum mlynedd diwethaf mae gwaith sy'n cynnwys Prifysgol Bangor a chydweithwyr yng Nghymru ac Iwerddon wedi bod yn mynd rhagddo i ddatblygu sbardunwr menter gymdeithasol. Maen nhw wedi cael gwybod sawl gwaith dros y ddwy flynedd ddiwethaf bod €3.4 miliwn o gyllid INTERREG wedi'i neilltuo ar gyfer eu prosiect. Fodd bynnag, mae'r oedi a fu dro ar ôl tro gan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru, rhan o Lywodraeth Cymru, bellach wedi arwain at sefyllfa lle gallai'r arian sydd wedi'i neilltuo gael ei ddychwelyd i Ewrop heb ei wario. Dywedant os oedd WEFO wedi penderfynu bod prosiectau gwell i'w hariannu, y byddai hynny'n cael ei ddeall, ond mae'r sbardunwr menter gymdeithasol eisoes wedi cael ei gais cychwynnol a chymeradwywyd ei gynllun busnes cyfnod 1. Mae'r broses o gymeradwyo'r prosiect wedi cymryd cymaint o amser fel ei bod yn edrych fel y gallent redeg allan o amser yn awr a chafwyd adegau pan oeddent yn aros tri mis hyd yn oed i gael ymateb i ohebiaeth. Dywedant y bydd yr oedi annerbyniol gan WEFO, os na ellir gwneud dim, wedi costio dros £1.7 miliwn o gyllid i economïau'r gogledd a'r gorllewin pan fo prosiect tebyg yn ne-orllewin Lloegr eisoes wedi cyflawni dros £16 miliwn o werth economaidd ac wedi cefnogi'r gwaith o greu dros 1,000 o swyddi. Felly, a wnewch chi ddarparu datganiad yn nodi eu bod wedi dweud wrthyf i, os nad ydym yn rhy hwyr, y byddent yn ddiolchgar pe gallech weld a ellir gwneud unrhyw beth o hyd i sicrhau y caiff y cynnig am brosiect ei asesu mewn pryd i sicrhau'r cyllid hwn sydd wedi'i glustnodi?
Diolch yn fawr iawn am godi'r materion hynny. Mae'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol yn ymgynghori ar hyn o bryd ar y cynllun cyflawni nesaf ar gyfer camddefnyddio sylweddau. Felly credaf y byddai hynny'n gyfle i Mark Isherwood archwilio'r cynllun hwnnw er mwyn sicrhau ei fod yn fodlon ei fod yn mynd i'r afael â'r math o faterion y mae'n eu disgrifio yn ymwneud â gwenwyno gan gyffuriau. Felly, gwn y byddai unrhyw gyfraniad y byddai'n ei gael i'r ymgynghoriad hwnnw yn cael ei groesawu, ac yna bydd y Gweinidog yn amlwg yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ar y mater pan fydd yr ymgynghoriad wedi cau.
O ran y sbardunwr mentrau cymdeithasol, byddaf yn sicr yn ymchwilio i'r mater hwnnw fy hun ac yna'n ceisio mynd at wraidd yr oedi.
Hoffwn i ofyn am ddiweddariad ynglŷn â'r hyn sydd wedi digwydd ynglŷn â thrafodaethau rhwng Llywodraeth Cymru a chwmni Ineos ynglŷn â'r potensial ar gyfer creu 500 o swyddi pan fydd Ford—. Wel, mae Ford wedi dweud y byddan nhw'n gadael safle Pen-y-bont. Os ydy hynny am ddigwydd, dŷn ni ar ddeall o'r Financial Times fod gan Jim Ratcliffe ddiddordeb yn y safle hwnnw. Mae'n rhaid imi ddweud bod gen i beth consýrn yn hynny o beth o ran ei drac record ar hawliau gweithwyr, ond yn ôl yr erthygl honno, mae yna drafodaethau wedi digwydd a hoffwn i gael datganiad gennych chi fel Llywodraeth i adael i ni wybod fel Aelodau—wel, nid jest Aelodau sydd yn cynrychioli'r ardal honno, ond pob un ohonom i wybod beth yw safon y trafodaethau hynny.
Mae'r ail gais am ddatganiad—ac rwy'n falch bod y Gweinidog iechyd yma i'm clywed gan fy mod yn mynd yn fwyfwy rhwystredig—yn ymwneud â'r ffaith nad ydym yn cael unrhyw gynnydd o gwbl ar y cyhoeddiad o ran yr hyn sy'n digwydd gyda'r fframwaith anhwylderau bwyta. Rwyf wedi bod yn eithaf goddefgar, rwy'n credu, wrth geisio aros am ganlyniad y fframwaith, ond rwyf wedi dod i'r pwynt yn awr lle'r wyf wedi gorfod ysgrifennu llythyr agored at y Gweinidog am nad yw wedi ateb llythyr a ysgrifennais ato ym mis Gorffennaf. Mae ymgyrchwyr a dioddefwyr a gymerodd ran yn ddidwyll fel rhan o'r adolygiad hwnnw o'r fframwaith anhwylderau bwyta, sydd am weld newidiadau cadarnhaol, sydd am weithio gyda'r Gweinidog, ond sy'n teimlo'n rhwystredig iawn wrth deimlo bod ef a'i dîm yn eu hanwybyddu. Os gwelwch yn dda, nid wyf eisiau sefyll yma wythnos ar ôl wythnos yn gofyn am ddatganiad ar hyn. Rydym yn sôn am fywydau pobl, pobl sydd wedi dioddef anhwylderau bwyta ar hyd eu hoes. Gweithredwch os gwelwch yn dda.
O ran eich diddordeb yn Ineos—ac rwy'n ymwybodol o'r erthygl FT hefyd—gwn, pan fydd cyhoeddiad i'w wneud, y bydd y Gweinidog economi a thrafnidiaeth yn gwneud y cyhoeddiad hwnnw.
O ran y fframwaith anhwylderau bwyta, mae'r Gweinidog iechyd yn fy nghynghori y bydd yn gwneud datganiad cyhoeddus yn ystod yr wythnosau nesaf.
Yn gyntaf, hoffwn gysylltu fy hun â'r pryderon a fynegwyd gan Nick Ramsay ynghylch e-sigaréts. Mae'n ddiddorol nodi bod Peter Black, a wrthwynebodd y ddeddfwriaeth ar e-sigaréts a gyflwynwyd gan y Gweinidog iechyd ar y pryd, sef y Prif Weinidog bellach, i roi'r un rheolaethau rheoleiddio iddo ag ysmygu sigaréts—. Felly, byddwn yn awyddus i ddeall yn glir pam mae'r rheoliadau yn y DU yn ein diogelu rhag y risgiau difrifol sydd wedi digwydd yn yr Unol Daleithiau. Rwy'n credu mai dyna'r peth penodol yr hoffwn ei weld. Ai'r ffaith yw bod y rheoleiddio'n well yn y DU, ac yn benodol yng Nghymru, i sicrhau nad ydym yn cael y marwolaethau sydd wedi bod yn gysylltiedig ag e-sigaréts yn yr Unol Daleithiau, a phobl yn mynd yn ddifrifol wael a oedd fel arall yn iach ym mhob ffordd?
Yn ail, hoffwn dynnu sylw at y ffaith bod Prifysgol Caerdydd wedi sicrhau £3.6 miliwn o arian Ewropeaidd yn ddiweddar ar gyfer ei chyfleuster microsgop electron i ddatblygu ymchwil flaengar mewn catalysis, a fydd yn cyflymu ffyrdd glanach, rhatach a mwy diogel o weithgynhyrchu nwyddau, ac yn gwbl berthnasol i bwyntiau John Griffiths a wnaed yng nghwestiynau'r Prif Weinidog am ddur trydanol. Dyma'r union fath o ymchwil y mae arnom ei hangen, ac rwyf eisiau cyferbynnu'r cyfle hwnnw i ddatblygu gweithgynhyrchu mwy diogel, mwy cynaliadwy a gwyrddach yng Nghymru, a gawn o ganlyniad i'r grant hwnnw gan yr UE, â'r rhybudd sy'n cael ei fynegi gan is-gangellorion prifysgol. Mae pedwar o bob pum is-ganghellor prifysgol yn gorfod poeni ynghylch lle maen nhw'n mynd i gael naill ai eu papur tŷ bach neu sut maent yn mynd i fwydo eu myfyrwyr mewn neuaddau preswyl yn achos Brexit 'dim cytundeb'. Yng Nghaerdydd yn benodol, mae dros 700 o staff yn ddinasyddion yr UE, a phwy fydd yn cymryd eu lle hwy? Maen nhw'n gwneud ymchwil gwirioneddol bwysig, felly byddai'n ddefnyddiol iawn cael datganiad gan y Llywodraeth am effaith 'dim cytundeb' ar ein sector prifysgolion, nid Prifysgol Caerdydd yn unig.
Ac yn olaf, cwestiwn penodol am y paratoadau 'dim cytundeb' y mae'r Llywodraeth yn eu gwneud mewn cysylltiad â'n dŵr glân, oherwydd deallaf, o ddatganiad Llywodraeth Cymru, fod cemegau sy'n dod o Ewrop sy'n helpu i gadw ein dŵr yn lân. Felly, hoffwn wybod beth yw'r manylion ar beth yw'r cemegau hyn, pam nad yw'n bosibl i ni eu cynhyrchu yn y DU, a sut, o dan yr amgylchiadau trychinebus ofnadwy hyn, yr ydym yn mynd i gynnal cyflenwad dŵr glân ar gyfer ein dinasyddion. Oherwydd, yn y pen draw, dyna'r peth pwysicaf y mae'n rhaid inni ei wneud.
Diolch i Jenny Rathbone am godi'r mater ac am gysylltu ei hun â sylwadau Nick Ramsay am e-sigaréts a'r pryder am yr hyn yr ydym wedi'i weld yn yr Unol Daleithiau. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid i gytuno ar safbwynt cyffredin, yn seiliedig ar y dystiolaeth orau a mwyaf diweddar. Ac yn amlwg, rwy'n credu y bydd Llywodraeth Cymru yn awyddus i rannu'r safbwynt cyffredin hwnnw pan fyddwn ni wedi cyrraedd y sefyllfa honno.
Mae datganiad gan y Gweinidog dros Brexit yn ddiweddarach y prynhawn yma—rwy'n credu mai dyma'r eitem nesaf o fusnes—felly byddai hynny'n gyfle i ofyn rhai o'r cwestiynau yr ydych chi newydd eu codi yn y cyfraniad mwyaf diweddar. Ond y ffordd yr ydych wedi disgrifio ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd—y gefnogaeth a gawsom ar gyfer arloesi ac ar gyfer gweithgynhyrchu diogel a chynaliadwy a'r potensial cyffrous yn y dyfodol—ac yna gyferbynnu hynny â'r pryderon a ddisgrifiwyd gennych am y pethau y mae is-gangellorion prifysgolion yn gorfod ymwneud â nhw a threulio eu hamser arnynt, mae hynny' n dangos yn wirioneddol y math o effaith y bydd Brexit yn ei chael arnom a'r hyn y byddem yn ei golli pe baem yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.
O ran dŵr, byddwch yn ymwybodol fod Llywodraeth Cymru wedi cynhyrchu'r cynllun gweithredu yn nodi'r risgiau strategol yr ydym yn ymwybodol ohonynt ac yn nodi'r hyn yr ydym yn ei wneud yn y meysydd hynny, a gallaf gadarnhau bod Dŵr Cymru'n gweithio gyda'r Llywodraeth a'r diwydiant dŵr ehangach i sicrhau cyflenwad parhaus o ddŵr yfed o safon uchel ar gyfer pob posibilrwydd.
Rwy'n edrych ar ddatganiad y Llywodraeth ar wneud y frwydr yn erbyn troseddau cyllyll yn un o flaenoriaethau absoliwt y Llywodraeth. Euthum i wylnos a gefnogwyd yn dda iawn yng Nghaerdydd yn ddiweddar gyda llawer o rieni a llawer o bobl ifanc, ac roedd yn addysg i wrando, yn enwedig ar y bobl ifanc a oedd yn sôn am sut y mae troseddau cyllyll yn effeithio arnynt. Tybed a fydd Gweinidogion neu swyddogion y Llywodraeth yn eistedd ac yn cyfarfod ag ymgyrchwyr i drafod ffyrdd o weithredu yn y dyfodol, oherwydd mae angen i hyn fod yn flaenoriaeth absoliwt.
Diolch am godi'r mater pwysig iawn hwn, sef y frwydr yn erbyn troseddau cyllyll. Rwy'n gwybod ei fod yn rhywbeth y mae'r comisiynydd heddlu a throseddu wedi cymryd diddordeb arbennig ynddo hefyd—comisiynydd heddlu a throsedd de Cymru sy'n gwasanaethu eich ardal chi. Byddaf yn holi'r Gweinidogion am y ffordd orau a mwyaf priodol ymlaen o ran ymgysylltu â phartïon â diddordeb ynglŷn â'r frwydr yn erbyn troseddau cyllyll.
A gaf i ofyn am ddatganiad gan y Llywodraeth am y swyddogaeth y mae chwaraeon yn ei chwarae wrth ddelio ag iechyd meddwl? Roedd Diwrnod Atal Hunanladdiad y Byd yn cael ei nodi'r wythnos diwethaf ac roeddwn i'n falch iawn o arwain ymgyrch i godi ymwybyddiaeth—ymgyrch lwyddiannus—gyda chlwb pêl-droed Dinas Caerdydd, clwb pêl-droed Dinas Abertawe, AFC Club Wrecsam, Clwb Newport County AFC ac elusen yr Ymddiriedolaeth Camsefyll. Yn anffodus, rydym i gyd yn gwybod y bydd 84 o ddynion, yn ystod yr wythnos honno, wedi cyflawni hunanladdiad erbyn diwedd gêm uwch gynghrair ar ddydd Sul. Nawr, i mi ac i lawer o bobl eraill yn y Siambr hon, mae'r ystadegau hynny'n frawychus ac yn amlwg yn annerbyniol.
Mae llawer ohonom hefyd yn gwybod, y rhai sy'n cael trafferth gydag iechyd meddwl, mai ein meddyliau ni, yn eithaf aml, sy'n achosi'r poen mwyaf yn hytrach nag unrhyw wrthrych. Felly hoffwn ddiolch, a gofyn i'r Trefnydd ddiolch hefyd, i unrhyw un o'r rhai a ymunodd mewn gwahanol ymgyrchoedd ar y diwrnod hwnnw a gwneud hynny'n ddyddiol. Rwyf yn sicr yn gwybod am y boen a deimlais yn ystod y diwrnod hwnnw ac yn y cyfnod cyn hynny a hyd yn oed yn awr wrth sefyll yma yn y Siambr.
Mae angen inni gydnabod bod iechyd meddwl a hunanladdiad, mewn gwirionedd, bellach yn argyfwng cenedlaethol. Rwyf wedi clywed rhai yn dweud, Llywydd, 'Pryd mae'r gefnogaeth yn dod i ben?' Wel, gadewch imi fod yn glir yn y Siambr hon: i mi, nid yw'r gefnogaeth yn dod i ben. Ni ddylai'r gefnogaeth yr ydym yn ei dangos i bobl byth ddod i ben, oherwydd rydym yn sôn am fywydau pobl a bywydau eu teuluoedd a'u ffrindiau. Fy neges i bobl yng Nghymru heddiw ac ar draws y DU inni weithio gyda'n gilydd er mwyn gwella iechyd meddwl ac atal hunanladdiad, a hynny fel Llywodraeth, fel Aelodau Cynulliad, fel ffrindiau, fel teulu, ond yn y bôn fel bodau dynol.
Diolch, Jack, am godi hynny a chredaf eich bod wedi dweud hynny'n llawer mwy huawdl nag y gallwn i, ond byddwn yn sicr yn talu teyrnged i bopeth yr ydych wedi'i ddweud ac yn rhoi ein cefnogaeth, fel Llywodraeth Cymru, i'r pryder sydd gennych am y mater hwn ac yn rhannu'ch barn a'ch diolch i bawb sy'n darparu'r glust i wrando honno i bobl sydd yn y sefyllfaoedd tywyll iawn hynny.
Rydym wrthi ar hyn o bryd yn ymgynghori ynglŷn â'r cynllun cyflawni ar gyfer iechyd meddwl, ac roedd eich awgrym ar y dechrau'n dweud bod angen inni sicrhau bod chwaraeon a'r maes hwnnw'n cael y gorau o ran cefnogi iechyd meddwl hefyd. Felly, rwy'n credu y byddwn yn gwneud yn siŵr bod y cynllun cyflawni iechyd meddwl yn sicrhau bod y synergeddau hynny ar draws chwaraeon yn y ffyrdd yr ydym eisoes yn gwybod ei fod ar gael i bethau fel camddefnyddio sylweddau a digartrefedd. Felly rwy'n credu bod hwnnw'n bwynt pwysig iawn y byddwn yn ei ddatblygu.
Tybed a allech roi gwybod i mi, Trefnydd, a yw Llywodraeth Cymru yn cynllunio dadl neu ddatganiad ar anghenion sgiliau Cymru yn fuan? Mae adroddiad i'w lansio yr wythnos nesaf gan ColegauCymru o'r enw 'Adeiladu Cymru Well—gwersi gan Ewrop', sy'n ymwneud ag anghenion sgiliau Cymru yn y dyfodol ac yn archwilio'r cysylltiad rhwng sgiliau lefel uwch a chydnerthedd economaidd rhanbarthol. Mae'n seiliedig ar dystiolaeth a chyfweliadau ar draws chwe gwlad yn Ewrop, a hefyd yma yng Nghymru ei hun. Ac mae'r ymchwil hon yn ceisio cyfrannu at bolisi Llywodraeth Cymru a'r sgwrs sy'n digwydd yng Nghymru ynglŷn ag anghenion sgiliau. Mae'r adroddiad yn bosibl oherwydd arian yr Undeb Ewropeaidd, ac mae'n cynnwys nifer o argymhellion allweddol, gan gynnwys y dylai ystod ehangach o sefydliadau busnes, yn enwedig busnesau bach a chanolig eu maint, gael eu cynnwys yn fwy manwl ac effeithiol wrth benderfynu pa sgiliau y dylid eu darparu yn y dyfodol, a sut y gallem gael dulliau effeithiol o gyflawni hynny. Mae hefyd yn galw am adolygiad o hyfforddiant sgiliau ôl-16 yng Nghymru, i ddarparu trefniadau ariannu tymor hwy sy'n cefnogi cydweithredu, ac y dylid cael cynllunio tymor hwy a chynllunio olyniaeth o ran anghenion sgiliau yn y dyfodol ar sail fwy effeithiol.
Dyma fydd pwnc y grŵp trawsbleidiol nesaf ar addysg bellach a'r cyfarfod sgiliau yn y dyfodol, a gynhelir yr wythnos nesaf, a byddai'n dda pe bai cynifer o ACau ag y bo modd yn mynd ati i gymryd rhan yn hynny. Ond, yn y bôn, Trefnydd, rwy'n credu, gyda Brexit yn dal i fod yn bosibilrwydd gwirioneddol a'r ergydion economaidd a allai ddod yn ei sgil, fod gwir angen inni ganolbwyntio ar anghenion sgiliau Cymru yn y dyfodol a sicrhau ein bod yn eu darparu mor effeithiol â phosibl.
Diolch, John Griffiths, am dynnu sylw at yr adroddiad hwnnw. Fel y gwyddoch chi, mae Prif Weinidog Cymru wedi gofyn i bob aelod o'r Cabinet ysgwyddo cyfrifoldeb dros un o feysydd trawsbynciol y Llywodraeth, er mwyn sicrhau ein bod yn gwneud y gorau o'r holl waith a wnawn ni ar draws gwahanol adrannau. Cefais y swyddogaeth o ymgymryd â'r agenda cyflogadwyedd a sgiliau yn rhan o'r gwaith trawsbynciol hwnnw, felly, yn sicr byddai gennyf ddiddordeb mawr mewn cael copi o adroddiad ColegauCymru i helpu i lywio ein syniadau wrth inni ddatblygu hynny, a byddaf yn ymchwilio hefyd i'r hyn efallai yw'r ffordd orau o roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y gwaith sy'n cael ei wneud ar sgiliau.
Diolch i'r Trefnydd am hynna.
Yr eitem nesaf, wedyn, yw'r datganiad gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar wella sicrwydd deiliadaeth. A dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad—Julie James.
Diolch, Llywydd. Mae'r datganiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynigion y Llywodraeth i ymestyn cyfnod byrraf yr hysbysiad ar gyfer troi allan heb fai o dan Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016. Daeth yr ymgynghoriad i ben yn gynharach y mis hwn ac mae'r ymatebion yn cael eu hystyried ar hyn o bryd, a byddaf, wrth gwrs, yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau maes o law. Cyn hynny, mae arnaf eisiau egluro'r hyn sy'n cael ei gynnig. Ein ffordd ni o fynd ati yw diwygio Deddf 2016 er mwyn anrhydeddu'r ymrwymiad i wella sicrwydd deiliadaeth yn y sector rhentu preifat, ac i weithredu'r Ddeddf ddiwygiedig cyn diwedd y tymor Cynulliad presennol.
Mae'r ymgynghoriad yn cynnig treblu, o ddau fis i chwe mis, y cyfnod hysbysu y mae'n rhaid i landlord ei roi wrth geisio terfynu contract meddiannaeth safonol o dan adran 173 o'r Ddeddf. Byddai hyn yn berthnasol yn yr achosion hynny lle nad oes rhaid i landlord roi rheswm dros ddod â'r contract i ben. Roedd yr ymgynghoriad hefyd yn cynnig cyfyngu'r cyfnod lle gellir cyflwyno hysbysiad adran 173 i chwe mis ar ôl y dyddiad meddiannu yn y contract. Ar hyn o bryd, pedwar mis yw hyn yn ôl y Ddeddf. Gyda'i gilydd, effaith y ddwy nodwedd allweddol hyn yw y byddai deiliaid contractau yn mwynhau 12, yn hytrach na chwe mis o sicrwydd deiliadaeth cychwynnol, yn amodol ar gydymffurfio â thelerau eu contract. Sylweddolaf fod rhai Aelodau'n teimlo nad yw hyn gystal â gwaharddiad ar droi allan heb fai, ond rwyf eisiau pwysleisio y bydd effaith ddeuol gweithredu'r Ddeddf rhentu cartrefi a cheisio ymestyn y cyfnod rhybudd ar gyfer meddiannu o dan adran 173 yn sicrhau cryn fanteision i ddeiliaid contractau. Rhoi mwy o sicrwydd deiliadaeth yw ein nod, ac rwy'n credu'n gryf mai dyna'r hyn y mae'r cynigion hyn yn ei gyflawni ac na fydd deiliaid contractau yng Nghymru ar eu colled o'u cymharu â phobl yn yr un sefyllfa â nhw mewn rhannau eraill o'r DU.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Yn yr Alban ar hyn o bryd, ac o dan y cynigion yr ymgynghorir arnyn nhw yn Lloegr, ceir sail pryd y gall tenantiaid nad ydynt ar fai gael eu troi allan o hyd gyda dim ond dau fis o rybudd, megis pan fydd y landlord yn dymuno gwerthu'r eiddo neu symud i mewn iddo ei hun. O dan ein cynigion ni, o dan unrhyw amgylchiadau, ac eithrio pan fydd y landlord yn ceisio meddiant am dorri elfen benodol o'r contract, bydd hawl gan y tenant neu'r deiliad contract i gael cyfnod rhybudd o chwe mis o leiaf.
Yn y pen draw, rwyf o'r farn bod y cyfnod o amser sydd gan rywun i ddod o hyd i gartref newydd yn fwy allweddol na pha un a oes gan y landlord reswm i geisio meddiant ai peidio. Felly, o dan ein cynigion, hyd yn oed pan fo landlord yn bwriadu gwerthu'r eiddo neu fyw ynddo ei hun, bydd gan ddeiliaid contractau lawer mwy o amser i wneud y trefniadau angenrheidiol ar eu cyfer nhw eu hunain neu eu dibynyddion, fel ysgol eu plentyn neu'r rhai y maen nhw'n gofalu amdanyn nhw, a dod o hyd i eiddo sy'n fwy addas i'w hanghenion. Byddai hefyd yn rhoi mwy o amser i'r rheini sy'n gallu cynilo, ac i'r rhai sy'n llai abl i gael y cymorth a'r gefnogaeth angenrheidiol.
Rwyf hefyd wedi ystyried sut orau i sicrhau'r gwelliannau mwyaf posibl i'r sector rhentu preifat cyn gynted ag y bo modd. Yn fy marn i, er mwyn gwneud hyn, mae angen i ni sicrhau y caiff manteision niferus y Ddeddf Rhentu Cartrefi (Cymru) eu gweithredu heb oedi pellach. Rwy'n siŵr nad oes angen i mi atgoffa Aelodau, ers pasio'r ddeddfwriaeth, na allom ni ei gweithredu oherwydd bod angen newid systemau'r llysoedd. Gan y daethpwyd i ganlyniad nawr, rwy'n awyddus i fwrw ymlaen i'w gweithredu'n llawn erbyn diwedd y tymor Cynulliad presennol. Cyn hir, byddaf yn ysgrifennu at bob aelod i'w hatgoffa am y newidiadau cadarnhaol a fydd yn dod i ran pob tenant yng Nghymru o ganlyniad i'r Ddeddf hon, ond rwyf eisiau nodi rhai o'r prif rai nawr.
Bydd y Ddeddf yn rhoi mwy o sicrwydd drwy ddisodli meysydd cymhleth presennol y gyfraith dai â fframwaith cyfreithiol tecach a symlach. Bydd hefyd yn ei gwneud hi'n ofynnol i landlordiaid gyhoeddi datganiad ysgrifenedig o'u contract meddiannaeth, sy'n nodi'n glir hawliau a chyfrifoldebau landlordiaid a'r rhai sy'n rhentu ganddynt. Daw buddion eraill yn sgil y Ddeddf hefyd, megis nodi rhwymedigaeth y landlord i sicrhau bod yr annedd yn addas i bobl fyw ynddi. Yma, gellir defnyddio rheoliadau i nodi materion ac amgylchiadau penodol y mae'n rhaid rhoi sylw iddynt, er enghraifft cynnwys gofynion ar gyfer profion diogelwch trydanol, larymau mwg a synwyryddion carbon monocsid. Mae'r rhain yn ddarpariaethau a fydd yn ei gwneud hi'n haws i ddibynyddion olynu—mae darpariaethau; esgusodwch fi, Dirprwy Lywydd, mae fy nhafod i mewn cwlwm. Mae darpariaethau hefyd a fydd yn ei gwneud hi'n haws i ddibynyddion neu berthnasau deiliad contract eu holynu ar gontract. Bydd gan y rheini sydd mewn llety â chymorth hefyd, am y tro cyntaf, gyfres o amodau wedi'u diffinio'n glir yn sail i'w preswyliaeth, a fydd yn eu helpu i ddeall ac arfer eu hawliau. Er mwyn helpu i sicrhau y caiff eiddo gadawedig ei ail-osod cyn gynted â phosibl, mae'r Ddeddf hefyd yn nodi gweithdrefn newydd ar gyfer meddiannu anheddau gadawedig.
Felly, mae dwy elfen i'n cynlluniau i roi mwy o sicrwydd cyn diwedd y tymor Cynulliad hwn: gweithredu'r Ddeddf rhentu cartrefi a rhoi amddiffyniadau pellach i ddeiliaid contractau pan fyddant yn destun hysbysiad adran 173, sef y mater yr ydym ni newydd ymgynghori yn ei gylch.
Gan ddychwelyd at yr ymgynghoriad hwnnw, rwy'n falch o ddweud bod dros 850 o bobl neu sefydliadau wedi ymateb. Landlordiaid ac asiantwyr oedd y rhelyw o'r rhain, sy'n ddealladwy, o gofio'r cyswllt uniongyrchol sydd gennym ni â nhw drwy Rhentu Doeth Cymru. Ond er y cawsom ni rai ymatebion yn uniongyrchol gan denantiaid unigol, rydym ni'n ymwybodol bod sefydliadau fel Shelter Cymru yn cynnal eu hymgynghoriadau eu hunain i lunio eu hymateb hwythau hefyd. Nid wyf yn synnu bod diddordeb o'r fath oherwydd mae'r ffordd y gall landlord geisio meddiant, a'r effaith y gall troi allan yn sgil hynny ei chael ar denantiaid, wastad wedi bod yn broblem sy'n ennyn teimladau cryfion. Felly, rwy'n falch gyda'r ymateb a fu, ac mae swyddogion wedi bod yn cyfarfod â rhanddeiliaid allweddol er mwyn casglu safbwyntiau pellach y gellir eu hystyried ar y cyd â'r dadansoddiad o'r ymatebion i'r ymgynghoriad.
Cyn ystyried yr ymatebion, mae dau beth pwysig i'w cofio. Yn gyntaf, er nad yw'n fwriad gennyf ddileu adran 173 yn llwyr, byddai'r newidiadau a gynigir, pe caent eu gweithredu, yn cael gwared ar y cymhellion i landlordiaid ei defnyddio yn yr un ffordd ag y maent yn defnyddio adran 21 o Ddeddf Tai 1988 ar hyn o bryd. Disgwyliaf i hyn gyfyngu'n sylweddol ar yr amgylchiadau lle y gellir ei defnyddio. Y rheswm am hyn yw y byddai'r newidiadau yn golygu, os yw tenantiaid yn talu eu rhent yn brydlon, yn gofalu am yr eiddo ac nad ydynt yn torri unrhyw delerau yn eu cytundeb tenantiaeth, y bydd ganddyn nhw gryn dipyn yn fwy o sicrwydd deiliadaeth—ddwywaith yn fwy, yn wir, gan y byddai 12 mis o sicrwydd ar y cychwyn yn hytrach na chwech. Hefyd, ni fydd ganddynt y pryder parhaus y gallai fod angen iddyn nhw symud gyda dim ond dau fis o rybudd.
Yr ail beth pwysig i'w gofio yw y bydd hi'n dal yn bosib i landlordiaid geisio meddiant os torrir y contract, gan gynnwys yn achos ôl-ddyledion rhent neu ymddygiad gwrthgymdeithasol. Mae Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) eisoes yn cynnwys y darpariaethau angenrheidiol, ac nid oedd yr ymgynghoriad yn cynnig ymestyn cyfnodau rhybudd yn yr amgylchiadau hyn.
Dirprwy Lywydd, rydym ni eisoes wedi gwneud llawer i sicrhau bod y sector rhentu preifat wedi'i reoleiddio'n dda ac yn gallu cynnig cartrefi o ansawdd uchel i'r rheini sy'n dewis rhentu. Ond mae mwy y gellir, ac y dylir, ei wneud. Dyna pam yr ydym ni wedi ymrwymo i roi mwy o sicrwydd i denantiaid, a chredaf fod fy nghynigion yn gwneud hynny'n union. Os cânt eu gweithredu, caiff eu heffaith ei adolygu'n barhaus fel y gallwn ni weld beth yw effeithiau'r polisi ar y farchnad rentu, p'un a yw wedi rhoi mwy o sicrwydd i ddeiliaid contractau ac a oes angen newid pellach. Diolch.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad ar y maes polisi cyhoeddus pwysig hwn? Dim ond eisiau gofyn wyf i, oherwydd i'r Gweinidog ddweud fod yr ymatebion yn cael eu hystyried ar hyn o bryd, pa mor gadarn yw eich polisi, oherwydd rwy'n credu ei bod hi'n ymddangos eich bod yn bendant iawn yr hoffech chi fynd ati yn y ffordd yr ydych chi newydd ei hamlinellu. Felly, hoffwn wybod pa mor hyblyg yw hynny, a sut gallai'r ymgynghoriadau hynny newid eich barn erbyn hyn, os o gwbl. Rwy'n credu bod pob un ohonom ni'n cytuno bod angen i'r system fod yn deg i denantiaid ac i landlordiaid. Mae'n faes y mae angen ei ddiwygio ac mae Llywodraeth y DU ei hun yn ymgynghori ar bolisi tai yn y maes hwn ar gyfer Lloegr, ac mae'r ymgynghoriad hwnnw, fel y gwyddoch chi o bosib, yn dod i ben ar 12 Hydref. Rwyf yn credu y gallai hi fod yn ddoeth rhoi rhywfaint o sylw i'r ymarfer ymgynghori hwnnw, ac yn wir iddyn nhw wneud yr un peth i'n rhai ni, gan fod yr hyn a gynigir yn Lloegr yn wahanol iawn, ond mewn ffyrdd eraill, mae hefyd yn gysylltiedig â'r amcan polisi.
Nid yw'r Gweinidog o blaid y cynnig yn Lloegr i ganiatáu troi allan gyda dau fis o rybudd fel y gall y landlord werthu neu fyw yn yr eiddo, a dadleuodd y Gweinidog yn gryf rwy'n credu fod angen cyfnod rhesymol i denant ddod o hyd i gartref newydd, ac mae hynny, iddi hi, yn flaenllaw, ac nid wyf yn anghytuno â hynny. Fodd bynnag, fel y cydnabu'r Gweinidog wrth fynd heibio, fel petai, fel arall yn Lloegr bydd troi allan heb fai yn dod i ben, ac mae hynny'n wahaniaeth mawr rhwng yr hyn yr ydych chi'n ei gynnig a'r hyn a fydd yn digwydd yn Lloegr. Yn hytrach, yn Lloegr, yn ystod cyfnod y contract, byddai'n rhaid i landlordiaid ddibynnu ar ddarpariaethau sy'n caniatáu troi allan pan fo contractau wedi'u torri, ac awgrym Llywodraeth y DU yw y dylid cyflymu'r system llysoedd i sicrhau bod unioni'r mater fel hyn yn effeithiol, ac rwy'n credu bod hynny'n arwydd o gydbwysedd rhwng buddiannau tenantiaid a buddiannau landlordiaid.
Felly, fy nghwestiwn yw: pam nad yw Llywodraeth Cymru yn ffafrio'r dull sydd i'w weld yn cael ei weithredu yn Lloegr, sef rhoi terfyn ar droi allan heb fai? A pha ystyriaeth y bydd hi'n ei rhoi i'r ymgynghoriadau yn Lloegr ac efallai adolygu ei phenderfyniad sylfaenol i beidio â dilyn trywydd tebyg a dweud, 'Ni chaniateir y math hwn o droi allan mewn cyfraith mwyach'?
Wel, rwy'n falch iawn o glywed David Melding yn dweud ei fod ar y cyfan yn cytuno â'r hyn yr ydym ni'n ei wneud. Yn amlwg, byddwn yn edrych yn ofalus i weld beth mae'r ymatebion yn eu dweud. Rwyf wedi cael trosolwg cryno o'r ymatebion, a dyna oeddem yn ei ddisgwyl i raddau helaeth, oherwydd yr ydym ni mewn cysylltiad eithaf cyson â'r sector beth bynnag. Ond, wrth gwrs, byddwn yn edrych ar y polisi yng ngoleuni'r ymatebion hynny. Dim ond eisiau atgoffa'r Aelodau oeddwn i o'r hyn yr oedd yr ymgynghoriad yn seiliedig arno.
O ran ystyried yr ymgynghoriad yn Lloegr, byddwn, wrth gwrs, yn edrych ar hynny, ond, fodd bynnag, mae ein Deddf rhentu cartrefi yn newid yn sylweddol y sefyllfa yng Nghymru, yn sylweddol iawn o'i chymharu â'r Ddeddf Tai fel y mae hi yn Lloegr. A'r hyn maen nhw wedi'i wneud yn Lloegr yw mynd ati mewn modd sy'n amlinellu amryfal ffyrdd o feddiannu, ond nid yw mewn gwirionedd yn rhoi terfyn ar achosion o droi allan heb fai. Ceir amgylchiadau yn Lloegr pryd y caniateir troi allan heb fai o hyd. Oes, sef pan fo landlord yn ceisio cael meddiant ar gyfer ei ddefnydd ei hun neu at ddefnydd ei deulu, sef i werthu. Felly, mae'r posibiliadau hynny'n dal i fodoli yn y fan yma. Yr hyn nad ydyn nhw wedi'i wneud yn Lloegr yw sicrhau'r darpariaethau sydd gan ein Deddf rhentu cartrefi ni ar waith i atal pethau fel troi allan dialgar ac yn y blaen. Felly, rwy'n ffyddiog iawn bod y cyfuniad o'n Deddf rhentu cartrefi a'n hestyniad ni o'r cyfnod amser mewn gwirionedd yn rhoi mwy o warchodaeth i ni yma yng Nghymru.
Ac mae'r sector yn sôn am ddileu achosion o droi allan heb fai, ond, mewn gwirionedd, pan siaradwch chi â'r sector—Shelter a Crisis ac yn y blaen—maen nhw'n cydnabod nad yw'n bosib gwneud hynny bob amser, oherwydd, wrth gwrs, byddai hawl gan y landlord, a fyddai fel arall yn ddigartref, o dan ddeddfwriaeth hawliau dynol, ymhlith eraill, i feddiannu ei dŷ ei hun pe bai yntau ei hun yn ddigartref. Ac rwy'n credu na fyddai hi'n—wel, na fyddai hi'n bosib cael deddfwriaeth a fyddai'n eich rhwystro rhag gallu cael yr eiddo hwnnw yn ôl byth. Yn hytrach, soniwn amdano yn nhermau mwy o sicrwydd deiliadaeth ar gyfer rhentu yn y sector preifat. Mae llond gwlad o bethau eraill y gallwn ni eu gwneud, wrth gwrs, ar gyfer cartrefi sy'n cael eu rhentu'n gymdeithasol, a byddaf yn dod at y rheini mewn datganiad pellach, maes o law, yn y Cynulliad.
Hoffwn ddweud fy mod yn synnu at y polisi hwn sydd wedi'i lastwreiddio, ond dydw i ddim. Mae'n dilyn llwybr cyfarwydd iawn lle mae Llywodraeth Lafur yn awgrymu sut caiff polisi blaengar ei gyflwyno, dim ond iddi golli dewrder ei hegwyddorion a chyflwyno yn hytrach rywbeth sy'n anfoddhaol ac yn wannach. Efallai nad wyf yn synnu, ond nid yw hynny'n dweud nad wyf yn siomedig—yn siomedig ar ran y miloedd lawer o bobl yng Nghymru sy'n byw dan fygythiad troi allan heb fai. Dyma'r union bobl a fyddai wedi elwa petai'r Llywodraeth Lafur hon wedi aros yn gadarn yn wyneb lobïo cryf a chyflawni'r hyn yr oedd ei angen. Yn hynny o beth, a yw hi'n deg ac yn gyfiawn mewn gwirionedd bod yna ddau gorff lobïo proffesiynol ar gyfer landlordiaid, a dim ond un person sy'n gweithio'n ddi-dâl i gynrychioli Generation Rent? Sut mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu mynd i'r afael â hyn a sicrhau tegwch?
Pa effaith allai polisi troi allan heb fai ei chael ar y wlad hon? Gwyddom o'r ffigurau a ddarparwyd gan Shelter Cymru nad oes gan o leiaf 42 y cant o denantiaid preifat yng Nghymru gytundeb tenantiaeth cyfnod penodol. Mae hyn yn golygu bod peryg y cânt eu troi allan os ydynt yn digio eu landlord, yn aml am rywbeth mor ddiniwed â gofyn am waith trwsio. Gwyddom hefyd fod y sefyllfa sydd ohoni yn anoddach i fenywod, oherwydd, yn ôl ymchwil gan Shelter Cymru, mae menywod yn fwy tebygol o gael cais am ryw yn lle rhent.
Treuliais beth amser gyda phobl ddigartref yn gynharach eleni pan ymunais ag aelodau Plaid Cymru sy'n gwirfoddoli i fynd allan ar strydoedd Abertawe bob wythnos i ddosbarthu bwyd a dillad cynnes. Soniodd un fenyw, a fu'n byw ar y strydoedd am beth amser, am galedi cysgu ar y stryd a sut, yn Abertawe, mae'r heddlu a'r cyngor i bob golwg yn llawdrwm iawn ynghylch cysgu ar y stryd pryd bynnag roedd digwyddiad mawr ganddyn nhw ar y gweill. Caiff pobl eu harestio'n rheolaidd o dan Ddeddf Crwydradaeth 1824. Gofynnodd y fenyw ifanc honno imi gwestiwn syml ond dwys: sut gall hi fod yn gyfreithlon i wneud rhywun yn ddigartref, ond yn anghyfreithlon i rywun fod yn ddigartref? Mae honno'n sefyllfa wyrdroëdig, ac ni fydd eich cynigion yn datrys y broblem hon.
Mae rhoi terfyn ar droi allan heb fai yn arf pwysig wrth fynd i'r afael â'r lefelau brawychus o ddigartrefedd yr ydym ni'n ei weld ar hyn o bryd, a chredaf fod hwn yn gyfle euraidd i gyflwyno rhywbeth cadarnhaol ac effeithiol, ac mae'n gyfle sydd bellach wedi'i golli. A wnaiff y Gweinidog gytuno i fonitro'r sefyllfa, ac, os canfyddir nad yw mesurau'r Llywodraeth yn cael digon o effaith ar y gyfradd troi allan heb fai, a wnewch chi gytuno i ailedrych ar hyn gyda golwg ar roi terfyn ar droi allan heb fai unwaith ac am byth?
Wel, mae'n ddrwg gennyf fod Leanne Wood wedi dewis gwleidyddoli'r peth yn y ffordd a wnaeth hi, oherwydd rwy'n credu bod cryn dipyn o gonsensws yn y Siambr ynglŷn â'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yma yng Nghymru. Rhestrodd nifer o faterion, ar ôl gwneud y pwyntiau gwleidyddol y dewisodd eu gwneud, nad yw'r amgylchiadau yr ydym ni'n sôn amdanyn nhw yma mewn gwirionedd yn effeithio arnynt.
Soniodd am felltith digartrefedd, y cytunaf yn llwyr â hi yn ei gylch, ond ni sylwodd yn fy natganiad, Dirprwy Lywydd, fy mod yn dweud bod ein Deddf rhentu cartrefi yn ei gwneud hi'n llawer haws i bobl mewn sefyllfaoedd o gam-drin domestig lle nad hwy yw'r tenant rhestredig i allu aros yn eu tenantiaeth, er enghraifft. Felly, mae nifer o bethau y mae'r Ddeddf rhentu cartrefi yn eu gwneud sy'n lliniaru rhai o'r amgylchiadau y soniodd amdanynt, nad yw'r un ohonyn nhw'n ymwneud â throi allan heb fai.
Mewn gwirionedd, nid yw'n bosib dileu achosion o droi allan heb fai yn llwyr oni bai eich bod yn dweud bod landlord sy'n rhentu ei dŷ, hyd yn oed os yw ei angen ei hun oherwydd ei fod yn ddigartref, yn methu â chael meddiant ohono, ac nid yw hynny'n rhywbeth y byddai unrhyw awdurdodaeth yn y DU, sydd mewn gwirionedd yn ddarostyngedig i Ddeddf Hawliau Dynol 1998, yn gallu ei wneud.
Felly, yr hyn yr ydym ni'n sôn amdano yw mwy o sicrwydd deiliadaeth i bobl. Ar ôl i ni roi'r darpariaethau hyn ar waith, yn amodol ar yr ymgynghoriad—rwy'n gwybod eisoes o'r ymatebion cyffredinol i'r ymgynghoriad nad yw pobl yn gwrthwynebu'r cyfnod yr ydym ni'n ei gyflwyno—yn y bôn bydd gennych chi lawer mwy o sicrwydd deiliadaeth yma yng Nghymru nag yn unman arall yn y DU.
Felly, byddaf yn ysgrifennu at holl Aelodau'r Cynulliad, Dirprwy Lywydd, i atgoffa ein hunain o Ddeddf mor radical y gwnaethom ei phasio yn ôl yn 2016. Rwy'n credu bod rhywfaint o amser wedi mynd heibio ers i ni ei gweithredu, ac felly rydym ni wedi anghofio pa mor radical yr oeddem ni. Ond bydd y sefyllfa ar gyfer tenantiaid yng Nghymru yn newid yn llwyr pan weithredir y Ddeddf, ac rwyf wrth fy modd y gallwn ni yn awr ei gweithredu cyn diwedd y tymor Cynulliad hwn.
Nid wyf yn gyfreithiwr, felly rwy'n awyddus i ddeall pam y gwnaethoch chi benderfynu cadw adran 173 ar ei ffurf ddiwygiedig pan fydd gan landlordiaid adran 21 o hyd i droi ati pan fydd angen iddyn nhw gael gwared ar denantiaid sy'n dinistrio eu heiddo. Dyna'r peth cyntaf, ac yna, yn ail, oherwydd fel eraill, mae arnaf i eisiau rhoi terfyn ar droi pobl allan heb fai, oherwydd, fel arall, nid yw tenantiaethau preifat yn ddewis ymarferol i deuluoedd â phlant a allai wedyn gael eu gorfodi i dynnu eu plant o'r ysgol lle maen nhw'n ffynnu, ac mae hynny'n amlwg yn cael effaith enfawr ar eu haddysg. Yn ail, tybed a allech chi ymhelaethu ar y canlyniad y daethpwyd iddo bellach gyda'r llysoedd i'n galluogi i weithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru), oherwydd bu hyn, rwy'n cytuno, yn faen tramgwydd ers cryn amser pan fuom ni'n trafod Deddfau pellach, oherwydd na fu'r Ddeddf honno ar waith. Felly, rwy'n awyddus iawn i ddeall hynny.
Felly, o ran y sylw olaf yna, roedd anawsterau difrifol gyda system TG y llys, yr ydym ni wedi bod yn eu trafod gyda nhw. Y cynnig ar draws Cymru a Lloegr yw adnewyddu'r system TG gyfan. Roedd i fod i gael ei hadnewyddu 'o fewn dwy flynedd' tua thair blynedd yn ôl, ac roeddem yn aros am yr adnewyddu hwnnw. Ond rydym ni wedi penderfynu peidio ag aros ac i weithredu'r newidiadau TG ar ein cost ein hunain mewn gwirionedd cyn i'r system llysoedd gyfan gael ei newid, gan y credaf ei bod hi'n eithaf clir y bydd yn cymryd llawer mwy o amser nag a fwriadwyd yn wreiddiol, am amryw o resymau na wnaf i mo'u hailadrodd.
O ran mater adran 21 ac adran 173, mae'n bwysig cofio, ar ôl i ni weithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru), na fydd y Ddeddf Tai bellach mewn grym yng Nghymru, felly ni fydd adran 21 mewn grym yng Nghymru mwyach. Felly, mae'n disodli'r Ddeddf Tai yn ei chyfanrwydd. Felly, dim ond adran 173 fydd gennym ni, a bydd hynny'n cyfyngu'n sylweddol ar yr amgylchiadau lle gellir troi allan heb fai. Mae gennym ni ddarpariaethau yn Neddf Rhentu Cartrefi (Cymru) i atal achosion dialgar o droi allan, felly, os ydych chi wedi gofyn am wella eiddo ac yna mae'r landlord yn darganfod yn sydyn ei fod eisiau gwerthu'r tŷ, gall y llys ystyried hynny. Gall Rhentu Doeth Cymru ystyried hynny hefyd wrth gloriannu a yw landlord yn berson addas a phriodol, ac rydym ni'n bwriadu monitro hynny.
Maddeuwch imi, Dirprwy Lywydd—wnes i ddim ateb cwestiwn olaf Leanne Wood, yr oeddwn yn bwriadu ei wneud, ac wrth gwrs byddwn yn ei fonitro. Rydym ni'n awyddus iawn i hyn weithio, ac felly dywedais yn fy natganiad y byddwn yn monitro'r newidiadau'n ofalus, ac, os nad ydynt yn effeithiol yn y ffordd y credwn y byddant, yna wrth gwrs byddwn yn ystyried beth arall y gallwn ni ei wneud i'w cryfhau. Felly, rwyf eisiau gwneud y sylw yna hefyd.
Cofiwch ein bod hefyd wedi pasio Bil Rhentu Cartrefi (Ffioedd etc) Cymru, felly ni allwch chi godi ystod eang o ffioedd mympwyol am, yn gyntaf oll, fynd i mewn i'ch cartref, ac wedyn am wneud amryw byd o bethau eraill yr ydym ni wedi eu trafod. Mae gennym ni hefyd—. Bydd y Bil newydd o ran rhentu cartrefi, pan gaiff ei weithredu, yn newid—bydd tenantiaeth fyrddaliol sicr, er enghraifft, yn newid i gyfnod o 12 mis o leiaf.
Yn hyn o beth, Dirprwy Lywydd, a gaf i gywiro'r cofnod? Dywedais mewn ymateb i gwestiwn gan Michelle Brown ar 17 Gorffennaf 2019 y byddai'r cynnig, pe câi ei weithredu, yn rhoi sicrwydd deiliadaeth o ddwy flynedd—nid oeddwn wedi dewis fy ngeiriau yn ddigon gofalus; sicrwydd deiliadaeth o un flwyddyn ydyw mewn gwirionedd, felly roeddwn i eisiau cywiro hynny—a chyfnod rhybudd o chwe mis o leiaf; ni allwch chi weithredu hyn o fewn chwe mis cyntaf unrhyw denantiaeth. Felly, roeddwn i eisiau cywiro'r cofnod yn hynny o beth, oherwydd tynnwyd fy sylw at y ffaith fy mod yn anfwriadol wedi dweud dwy flynedd yn lle un. Ond bydd hyn yn golygu y bydd gan bobl y cyfnod rhybudd hiraf o unrhyw awdurdodaeth yn y DU, ac, fel y dywedaf dro ar ôl tro, ni allwch eu dileu'n llwyr, gan mai dim ond un eiddo arall y mae'r mwyafrif helaeth o landlordiaid yng Nghymru yn berchen arno, ac yn aml pan fydd dau o bobl wedi dod ynghyd a ffurfio cwpl, dyna pryd maen nhw'n rhoi'r cartref arall ar rent, ac, os ydyn nhw'n gwahanu eto, ni allwch chi ddisgwyl i'r sawl sydd â'r tŷ fod yn ddigartref oherwydd ei fod wedi ei roi ar rent.
Yr hyn nad ydym ni ei eisiau yw i rentu eiddo fod yn rhwystr i landlordiaid ac felly gwneud y farchnad yn hesb. Felly, mae gennych chi hawl ddynol i feddiannu eich cartref eich hun os oes ei angen ar eich cyfer chi eich hun. Felly, ni fyddem yn gallu gwneud hynny. Felly, bydd y sector yn dweud wrthych ei fod yn ddatganiad bachog, 'terfynu troi allan heb fai ', ond nid yw hi'n bosib gwneud hynny yn llwyr, a'r hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yma yw gwneud cymaint ag sy'n bosib i roi'r sicrwydd deiliadaeth sydd ei angen ar bobl. Felly, ni fyddwch yn cael eich troi allan oherwydd dial, gallwch ofyn am waith trwsio, gallwch ddisgwyl i hynny gael ei wneud, ni fyddwch yn cael cyfnod rhybudd o ddeufis os yw'r landlord yn penderfynu gwerthu, bydd gennych chi chwe mis o leiaf—ac, os ydych chi'n denant newydd, mwy na hynny, oherwydd ni allwch chi wneud hynny yn y chwe mis cyntaf—i ddod o hyd i gartref newydd, oherwydd rwy'n derbyn yn llwyr y sylw a wnaethoch chi am addysg plant a threfniadau gofal ac ati. Felly, yr hyn yr ydym ni'n ceisio ei wneud yw rhoi sicrwydd i bobl, ond hefyd digon o amser i gynllunio os byddant yn canfod eu hunain yn yr amgylchiadau hynny.
Yna, i'r gwrthwyneb, Dirprwy Lywydd, hoffwn wneud y sylw yma hefyd, dim ond o safbwynt y landlord, wrth gwrs, os yw'r tenant yn torri ei gontract, yna mae pob un o'r posibiliadau arferol o ran meddiannu yn dal i fod ar gael iddynt. Felly, os oes gennych chi denant sydd mewn gwirionedd yn ymddwyn yn wael iawn, yna mae'r holl bosibiliadau arferol yn dal i fodoli o ran meddiannu.
Fel y gŵyr pob un ohonom ni, bu cynnydd sylweddol yn nifer y bobl mewn llety preifat ar rent gan fod nifer y tai cyngor wedi gostwng, ac mae llawer o'r tai hynny a fuasai ar gael i brynwyr am y tro cyntaf wedi cael eu prynu gan landlordiaid preifat a bellach yn cael eu rhentu'n breifat. Mae hyn yn sefyllfa lle mae pawb ar ei golled. Er fy mod yn croesawu treblu'r cyfnod rhybudd y mae angen i landlord ei roi o ddau fis i chwe mis, a bod yn rhaid cwblhau tenantiaeth chwe mis—mae hynny'n sicr yn gam i'r cyfeiriad cywir—mae'r effaith ar addysg plant a bywyd teuluol o orfod symud ar ôl blwyddyn yn ddifrifol.
Rwy'n dal i gefnogi terfynu achosion o droi allan heb fai. Rwy'n siomedig â'r penderfyniad i beidio â therfynu hynny. Rwyf wedi clywed yr hyn a ddywedodd y Gweinidog. Nid wyf yn deall o hyd pam na allech chi ddweud, 'byddai modd troi allan heb fai, ond rhaid ichi wneud—chwe mis yw'r cyfnod, ac wedyn chwe mis os dymunwch symud yn ôl i mewn i'r eiddo eich hun', yn hytrach na'i gael fel y mae nawr lle gallant roi chwe mis o rybudd ar ôl chwe mis am unrhyw reswm y dymunen nhw.
Ar bwynt cadarnhaol, rwy'n falch iawn o weld gweithredu o ran tai gwag, gadawedig. Nid oes yr un ohonom ni wedi bod allan yn ymgyrchu yn y strydoedd heb grwydro heibio tai gyda hysbysiadau ynddynt 'os nad ydych yn dychwelyd mewn 14 diwrnod' oherwydd eu bod yn amlwg wedi eu gadael. A wnewch chi egluro'n union sut y byddwch yn dod â thai gadawedig yn ôl i ddefnydd yn gyflymach, oherwydd nid yn unig y mae tai gadawedig yn effeithio ar y landlord, maen nhw'n effeithio ar yr holl bobl hynny sy'n byw yn yr ardal sy'n cael problemau difrifol o gael tŷ gadawedig yn eu hymyl, ac mae adegau pan gaiff tai gadawedig eu meddiannu gan gangiau o bobl ifanc ac eraill sy'n torri i mewn gan nad yw'r tŷ gadawedig wedi ei ddiogelu'n iawn.
O ran y chwe mis a chwe mis, sut mae Llywodraeth Cymru yn mynd i sicrhau bod landlordiaid yn gwneud hynny mewn gwirionedd, eu bod yn dilyn y rheolau o ddifrif, a beth fydd yn digwydd i landlordiaid nad ydyn nhw'n dilyn y rheolau?
Byddaf yn dechrau am yn ôl eto. Byddwn yn sicrhau hynny oherwydd, wrth gwrs, mae gennym ni Rhentu Doeth Cymru. Felly, yng Nghymru, mae'n rhaid i chi hefyd fod yn landlord cofrestredig. Felly, mae gennym ni sector sy'n llawer mwy rheoledig nag sydd gennym ni mewn mannau eraill yn y Deyrnas Unedig. Felly, yn gyntaf oll, mae'n bwysig cofio hynny. Os ydych yn torri'r rheolau hyn—. Felly, mae'r Ddeddf cartrefi rhent yn dweud bod yn rhaid i chi roi contract ysgrifenedig i'ch tenant. Felly, os nad ydych chi'n gwneud hynny, a bod y tenant yn cwyno nad ydych chi wedi gwneud hynny, byddwch wedi torri rheolau Rhentu Doeth Cymru. Felly, ni fyddwch yn landlord addas a phriodol. Felly, mae sawl agwedd i hyn.
Ni fyddwch yn gallu troi allan oherwydd dial. Felly, os yw eich tenant yn gofyn i chi drwsio'r nwy, er enghraifft, a'ch bod yn penderfynu bod angen i chi werthu'r tŷ yn lle hynny, ni chaniateir i chi wneud hynny, oherwydd ystyrir bod hynny'n beth dialgar, am gyfnod o amser—yn amlwg nid am byth, ond am gyfnod o amser na ellid ei ystyried yn ddialgar. Felly, bydd nifer o amddiffyniadau i'r Ddeddf ei hun, nid yn unig y newid hwn, ac rwy'n credu mai dyna pam mae Aelodau Cynulliad yn cael ychydig o drafferth â hi—ac roedd yn rhaid imi gael fy atgoffa hefyd; rwy'n credu ein bod ni i gyd wedi anghofio mor radical yw Deddf 2016 o'n heiddo ni mewn gwirionedd a'r newidiadau y mae'n eu gwneud.
O ran eiddo gadawedig, mae dau fath o eiddo gadawedig. Mae llawer o eiddo gadawedig yn eiddo i berchen-feddianwyr neu berchnogion nad ydynt yn feddianwyr y bu fy nghydweithiwr Lee Waters wrthi'n ceisio rhoi trefniadau grantiau ar waith ar eu cyfer, gyda'm cydweithrediad i, er mwyn rhoi hyd at £20,000 i bobl fel y gallant eu hadfer i gyflwr pryd y mae modd eu defnyddio at ddibenion buddiol unwaith eto, gyda'r amod eich bod yn gorfod byw ynddo eich hun am bum mlynedd yn dilyn y grant. Ond mae yna'r broblem arall pan fyddwch chi wedi rhentu eich tŷ ac mae'r tenant wedi cefnu arno, ond mae'n rhaid i chi fynd drwy broses weddol faith i brofi hynny, a'r hyn mae'r Ddeddf yn ei wneud yw cwtogi'r broses honno'n sylweddol iawn. Felly, os gallwch brofi bod yr eiddo wedi'i adael, gallwch gael gorchymyn meddiannu ar unwaith bron ar ei gyfer, a thrwy wneud hynny gallwn gael tenantiaid yn ôl i'r tŷ drachefn.
A'r trydydd peth yr ydym ni'n ei wneud, y mae hyn yn rhoi cyfle imi dynnu sylw ato, yw ein bod ni'n cynnig hyn i landlordiaid preifat yn y sector rhentu preifat, sef os ydynt yn rhoi eu cartref i ni ac yn caniatáu i ni ei rentu am rent cymdeithasol, yna byddwn yn sicrhau eu bod yn cael y gyfradd dai leol ar gyfer y tŷ hwnnw am y cyfnod o bum mlynedd yr ydym ni'n bwriadu gwneud hynny ar ei gyfer. Drwy wneud hynny rydym ni'n gobeithio sicrhau bod mwy o landlordiaid yn cael eu paratoi i rentu eu tai a rhoi i denantiaid yn y sector yr holl amddiffyniadau ychwanegol y mae tenantiaeth yn y sector rhentu cymdeithasol yn eu rhoi hefyd.
Rhaid imi ddatgan buddiant yn y fan yma, gan fy mod yn landlord ar ambell dŷ rhent yn y sector rhentu preifat. Mae tenantiaid bob amser wedi cael cytundeb tenantiaeth sicr gennyf, a bu'r rhent a ofynnwyd wastad yn unol â'r pris a roddwyd ar yr eiddo. Os oes ganddyn nhw broblem, maen nhw'n ffonio'r asiant sy'n gyfrifol, a chaiff y gwaith ei wneud ar unwaith. Felly, rwyf innau hefyd yn credu y dylem ni sicrhau diogelwch deiliadaeth, ond y dylai fod er budd y naill a'r llall—diogelwch i'r tenant a diogelwch i'r landlord. Ni fydd un yn goroesi heb y llall. Bydd y cynigion hyn yn erydu hawliau landlordiaid preifat ymhellach. Rwyf eisoes wedi cael nifer o berchnogion pryderus sydd ag eiddo ar rent yn dweud wrthyf eu bod yn gwerthu ac yn gadael y farchnad rhentu preifat. Felly, ar adeg pan fo dirfawr angen am gartrefi, y peth olaf y dylem ni fod yn ei wneud yw atal y rhai sy'n rhentu eu heiddo.
Rwyf wedi colli miloedd o bunnoedd oherwydd tenantiaid gwael, a byddai'n anodd iawn ichi ddod o hyd i landlord na fu, ar ryw adeg neu'i gilydd, yn yr un cwch. Ond mae llawer, fel fi, yn credu bod newidiadau diweddar yn ei gwneud hi'n anghynaladwy i barhau i rentu eu heiddo ac wedi penderfynu gwerthu. Mae'r cynigion hyn yn ychwanegu halen at y briw. Bydd landlordiaid sy'n ei chael hi'n anghynaladwy yn ariannol i barhau i rentu eu heiddo yn gorfod aros hyd yn oed yn hirach cyn y gallant ofyn i'w tenantiaid adael. Gallai hyn wthio llawer o landlordiaid i fwy o ddyled. Rwy'n credu y bydd hyn yn faen tramgwydd i ddarpar-landlordiaid y dyfodol, pobl sy'n ystyried rhentu ail eiddo hyd nes y byddant yn penderfynu gwerthu. Mae hyn yn rhan bwysig o'r sector rhentu preifat a dylem ni annog mwy o bobl i wneud hyn os ydym ni eisiau mynd i'r afael â'n hargyfwng tai—ac mae gennym ni argyfwng tai.
Felly, Gweinidog, rydych chi'n dweud y byddwch yn ei gwneud hi'n haws i ddibynyddion neu berthnasau deiliad contract eu holynu ar gontract. A wnewch chi ymhelaethu ar hynny? Onid ydych chi'n credu mai'r landlord ddylai benderfynu a ddylid cynnig y contract hwnnw ai peidio? Mae llawer o'r landlordiaid sydd wedi cysylltu â mi yn pryderu bod Llywodraeth Cymru'n dymuno cael gwared ar landlordiaid preifat. Byddwn yn gofyn i chi a wnewch chi ateb yr honiadau hynny os gwelwch yn dda. Yn olaf, Gweinidog, os ydym ni am fynd i'r afael â'n hargyfwng tai, mae arnom ni angen mwy o landlordiaid preifat, nid llai. Sut bydd eich Llywodraeth yn diogelu hawliau perchnogion eiddo sy'n ceisio gosod eu heiddo ar rent yn y tymor byr? Diolch.
Wel, i ddechrau rwy'n credu bod gennym ni anghytundeb gwleidyddol sylfaenol ynghylch swyddogaeth y sector rhentu preifat. Rwy'n credu mai'r ateb i'r argyfwng tai—ac argyfwng yw hi—yw adeiladu llawer mwy o gartrefi i'w rhentu'n gymdeithasol. Mae hynny'n ffordd well o lawer o wneud hynny, mae'n llwybr llawer mwy diogel, ac mae'n rhoi i bobl y dewis y mae arnyn nhw ei eisiau mewn gwirionedd o ran tai. Felly, mae gennym ni anghytundeb pur sylfaenol.
Ond, gan droi at y pethau penodol iawn, rwyf hefyd yn credu—a menywod fel arfer sydd yn y sefyllfa hon—os ydych chi wedi bod yn 'denant' mewn tŷ lle nad chi yw'r person a enwir ar y denantiaeth a'ch bod yn gweld bod eich partner yn penderfynu dod â'r denantiaeth honno i ben, gan eich gwneud yn ddigartref, dylai fod gennych chi hawliau, yn dibynnu ar ba mor hir yr ydych chi wedi aros yn y tŷ hwnnw ac yn y blaen, a'r hyn y gallwch chi ei ddangos o ran ei fod yn gartref ichi. Mae hynny'n bwysicach fyth pan fydd sefyllfa o drais yn y cartref. Felly, ni fyddech chi eisiau i sefyllfa barhau pryd na all menyw mewn llety rhent preifat nad yw ei henw ar y cytundeb tenantiaeth, gwyno am drais domestig oherwydd wrth wneud hynny y bydd yn gwneud ei hun yn ddigartref. Felly, rwy'n credu ein bod ni i gyd yn y Siambr o leiaf yn gytûn na ddylid caniatáu hynny.
Yn yr un modd, os yw gofalwr wedi treulio rhyw 20 mlynedd mewn eiddo ac nad yw ar y denantiaeth, neu os yw plentyn y tenant hwnnw wedi gwneud hynny, ni ddylent o anghenraid gael eu troi allan o'u cartref heb unrhyw reswm heblaw'r ffaith eu bod wedi'u hepgor o'r cytundeb tenantiaeth gwreiddiol. Felly, mae'r Ddeddf rhentu cartrefi yn darparu ar gyfer hynny. Nid dyma'r newid yr wyf i'n ymgynghori yn ei gylch. Rydym ni eisoes wedi gwneud hynny yn y Ddeddf rhentu cartrefi. Rwy'n atgoffa'r Aelodau, a byddaf yn ysgrifennu atoch chi i gyd yn eich atgoffa o'r hyn a basiwyd gennym ni, ac rwy'n credu y byddwch yn falch pan fyddwch yn gweld pa mor radical oedd hynny.
O ran yr hyn y gwnaethoch chi ei ddweud amdanoch chi eich hun a'ch arferion fel landlord, credaf fod hynny'n wir am 98 y cant o'r landlordiaid yng Nghymru. Mae'r rhan fwyaf o'n landlordiaid ni yn landlordiaid da. Yr hyn y mae'n rhaid inni ei wneud yma yw atal y landlordiaid diegwyddor rhag rhoi enw drwg i'r sector. Felly, ni fydd gan landlord sy'n ymddwyn yn y modd yr ydych chi newydd ei ddisgrifio unrhyw beth i'w ofni o'r Ddeddf hon nac unrhyw un o'r Deddfau eraill yr ydym ni wedi eu pasio. Dim ond y landlordiaid hynny sy'n ceisio gwneud pethau fel troi allan dialgar, sydd ag eiddo nad yw'n addas i bobl fyw ynddo, neu sy'n ceisio ystumio'r farchnad mewn ffordd—felly, er enghraifft, maen nhw'n ceisio meddiannu eu tŷ dim ond er mwyn cynyddu'r rhent—fydd yn cael problemau gyda hyn. Oherwydd ni allwch chi wneud hynny yn ystod chwe mis cyntaf tenantiaeth, ac yna bydd angen i chi roi chwe mis o rybudd. Felly, bydd gan bawb o leiaf 12 mis. Yna ar ôl hynny mae gennych chi chwe mis treigl. Os oes gennych chi rywun sy'n barod i rentu'r tŷ am ychydig yn fwy, ni fyddant yn dal yno chwe mis yn ddiweddarach.
Felly, rydym ni'n disgwyl i hyn wneud gwahaniaeth sylweddol i'r mathau hynny o droi allan. Rydym ni hefyd yn disgwyl i'r Ddeddf ei hun wneud gwahaniaeth sylweddol, oherwydd yr hyn y bydd yn ei wneud yw gwobrwyo'r landlordiaid da. Rydych chi'n llygad eich lle wrth ddweud bod angen i'r landlordiaid da aros yn y farchnad. Bydd yn faen tramgwydd i fwy fyth o'r landlordiaid twyllodrus yr ydym ni'n ceisio'u cael allan o'r sector—dyna'r gwir.
Diolch yn fawr iawn i chi. Diolch, Gweinidog.
Cafodd eitem 5, sef datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar Gynllun Gwên - 10 mlynedd o wella iechyd y geg plant yng Nghymru, ei chyhoeddi ar ffurf datganiad ysgrifenedig.
Felly, rydym ni am symud at eitem 6, sef datganiad gan y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd ynglŷn â goblygiadau Cylch Gwario 2019 Llywodraeth y DU i Gymru. Rwy'n galw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, Rebecca Evans.
Diolch. Heddiw, rwy'n gwneud datganiad arall i'r Aelodau ar gylch gwario Llywodraeth y DU, y goblygiadau i Gymru a'r camau yr ydym ni yn eu cymryd yn y Llywodraeth i ymateb i ymagwedd anrhagweladwy Llywodraeth y DU tuag at gyllid cyhoeddus. Ar 4 o fis Medi, cyflwynodd Canghellor y Trysorlys gylch gwario Llywodraeth y DU, gan nodi ei gynlluniau gwariant ar gyfer 2020-21. Yn syth wedi cylch gwario'r Canghellor, fe roddais i ddatganiad ysgrifenedig i'r Aelodau yn ystod y toriad yn amlinellu ymateb cychwynnol i'r prif benawdau ar gyfer Cymru.
Roedd cyhoeddiad y Canghellor mewn cyfnod o ansicrwydd cynyddol ynghylch Brexit a thystiolaeth bod y DU ar drothwy cyfnod arall o ddirwasgiad o bosibl. Yn y pythefnos ers y cylch gwario, fe welsom ni fwy o anhrefn, ansicrwydd a negeseuon cymysg gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig. Mae'r amrywiaeth o senarios y mae angen i ni eu hystyried nawr yn cynnwys y posibilrwydd o gyhoeddi ein cyllideb ddrafft ni mewn cyfnod cyn etholiad. Roedd cyhoeddiad y Canghellor yn cynnwys, am y tro cyntaf, fanylion ein cyllideb refeniw ar gyfer 2020-21, a fydd yn cynyddu £593 miliwn dros ben llinell sylfaen 2019-20. Mae hyn yn cynrychioli cynnydd o 2.3 y cant mewn termau real. Mae'r cylch gwariant yn cynnwys cynnydd o £18 miliwn i'n cyllideb gyfalaf hefyd, a oedd wedi ei phennu eisoes ar gyfer 2020-21. Fe fydd ein cyllideb gyfalaf ni 2.4 y cant yn uwch mewn termau real nag yn 2019-20.
Ar sail cyhoeddiad y Canghellor, bydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn 2020-21 yn parhau i fod yn 2 y cant, neu £300 miliwn yn is mewn termau real nag yn 2010-11. Nid yw'r arian ychwanegol yn cynyddu ein gallu ni i wario hyd at lefelau'r hyn a gafwyd ddegawd yn ôl, hyd yn oed. Rydym ni wedi galw'n gyson am ddiwedd ar bolisi cyni Llywodraeth y DU ac am fwy o fuddsoddi yn ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Er bod cyhoeddiad y Canghellor yn dangos rhai arwyddion o lacio llinynnau'r pwrs yn y tymor byr, nid yw'n gwneud yn iawn am bron i ddegawd o doriadau, ac nid yw'n dod yn agos at ddarparu'r sail gynaliadwy hirdymor ar gyfer trefnu ein gwasanaethau cyhoeddus.
Rydym ni yn y niwl o hyd ynghylch cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer cyllideb yr hydref. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi rhoi gwybod i Bwyllgor Trysorlys y DU nad oes neb wedi gofyn iddi baratoi rhagolwg diweddaredig ac fe fyddai angen 10 wythnos o rybudd fel arfer. Mae Llywodraeth y DU yn ymddwyn yn anghyfrifol wrth gyhoeddi cynlluniau gwariant ar hyn o bryd sy'n seiliedig ar ragolygon mis Mawrth, a oedd yn rhagdybio Brexit cymharol ddiniwed, a pholisi ariannol y llywodraeth flaenorol. Ers mis Mawrth, mae data swyddogol wedi dangos bod economi'r DU wedi crebachu yn yr ail chwarter ac mae'r data arolwg diweddaraf yn dangos ei bod hi'n egwan o hyd. Mae economi lai yn golygu y bydd refeniw treth yn is ac yn ei gwneud yn debygol y bydd Llywodraeth y DU yn dychwelyd yn gyflym at bolisi o gyni.
Yn wir, pe byddai'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi rhoi'r rhagolygon economaidd ac ariannol amserol sydd fel arfer yn gynsail i ddatganiad o'r fath, mae'n bosibl y byddai'r hyblygrwydd y mae'r Canghellor wedi manteisio arno wedi bod yn dwyllodrus. Bydd y cyhoeddiadau ar wariant yn ychwanegu ymhellach at fenthyca, ac ers hynny mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wedi datgan y gallai rheolau ariannol y Llywodraeth ei hunan ac addewid allweddol ym maniffesto'r Ceidwadwyr i sicrhau cyllidebau cytbwys erbyn canol y 2020au fod allan ohoni, gan ychwanegu at y tebygolrwydd mawr y bydd rownd arall o gyni yn debyg iawn yn y dyfodol agos.
Nid allwn fod yn ffyddiog o gwbl y bydd y cyhoeddiadau gwariant hyn yn gynaliadwy. Yn sicr, nid ydym ni'n gallu dibynnu ar y setliadau hirdymor honedig ar gyfer y GIG ac ar gyfer ysgolion yn Lloegr ac unrhyw swm canlyniadol posibl y gallen nhw ei gyflawni, gan y bydd y goblygiadau cyllido ar gyfer y setliadau hyn y tu hwnt i 2020-21 yn cael eu pennu mewn gwirionedd yn rhan o'r adolygiad cynhwysfawr nesaf o wariant. Y gwir amdani yw mai tric yw cyhoeddiad y Canghellor o flaen etholiad i dynnu sylw oddi wrth reolaeth Llywodraeth y DU o Brexit sy'n gynyddol anniben.
Cyhoeddodd y Canghellor £2 biliwn arall yn 2020-21 ar gyfer cyflawni Brexit. Rydym ni wedi dweud yn eglur na ellir rhoi'r cymorth i fynd i'r afael â hyd yn oed gyfran o effaith Brexit heb gynnydd llawer mwy sylweddol mewn gwariant cyhoeddus. Bydd angen cyllid a hyblygrwydd ychwanegol sylweddol arnom ni i allu ymateb yn ystyrlon i her Brexit, ac fe bwysleisiais i'r pwynt hwn i Brif Ysgrifennydd y Trysorlys mewn cyfarfod pedairochrog y gweinidogion cyllid ar ddiwedd mis Awst. Nid yw'r atebion a gawsom ni gan Lywodraeth y DU hyd yn hyn yn cynnig unrhyw sicrwydd y deuai'r arian y byddai ei angen arnom ni.
Mae'n amlwg bod y Prif Weinidog yn barod i fynd â'r DU dros y dibyn 'dim cytundeb'. Byddai hynny'n cael effaith drychinebus ar Gymru. Mae'r holl dystiolaeth yn dangos y bydd gadael y DU heb gytundeb yn creu dirywiad economaidd difrifol yn y DU a bod dirwasgiad maith yn debygol. O dan yr amgylchiadau hynny, fe wyddom ni fod yr economi yng Nghymru yn debygol o fod tua 10 y cant yn llai yn yr hirdymor, a byddai hynny'n cael ei adlewyrchu mewn incymau real a fyddai, ar delerau presennol, hyd at £2,000 yn llai i bob unigolyn nag y byddai hi fel arall.
Rwy'n pryderu'n fawr fod y Canghellor, a dydd yr ymadael gerllaw, wedi aros yn dawedog ynghylch cyllid newydd yn gyfnewid am gyllid o'r UE i gefnogi ein cymunedau a'n busnesau ni yng Nghymru. Ni allodd ef roi unrhyw fath o sicrwydd y bydd Llywodraeth y DU yn cadw addewidion y Prif Weinidog na fyddwn ni'n derbyn yr un geiniog yn llai nag y byddem ni wedi ei ddisgwyl o aros yn yr UE, ac yn unol â'r setliadau datganoli hirsefydlog, mae'n rhaid i ni gael ymreolaeth i ddatblygu a chyflawni trefniadau newydd yn lle rhaglenni ariannu'r UE. Mae'r egwyddorion hyn â chefnogaeth lawn y Cynulliad hwn.
Er gwaethaf y newidiadau hyn a'r ansicrwydd na welwyd erioed ei fath o'r blaen, rwy'n fwy penderfynol nag erioed o edrych yn gadarnhaol i'r dyfodol a chefnogi ein gwasanaethau cyhoeddus ni yng Nghymru y gorau gallwn ni. Rwyf i erbyn hyn yn cynnig cyflwyno ein cynlluniau a chyhoeddi cyllideb Llywodraeth Cymru yn fwy cynnar—ym mis Tachwedd—i roi cymaint o sicrwydd ag sy'n bosibl i'n partneriaid a'n rhanddeiliaid ni. Rwy'n cysylltu â'r pwyllgorau busnes a chyllid i ofyn am eu cefnogaeth i'r newid hwn. Rwy'n croesawu'r gefnogaeth a roddodd y pwyllgorau eisoes ac rwy'n gobeithio y bydd y trefniadau newydd hyn yn dderbyniol.
Bydd cyllideb Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar anghenion pobl Cymru, a'n nod ni fydd cyflwyno'r setliad tecaf posibl i wasanaethau cyhoeddus Cymru. Ategir yr ymrwymiad cyson hwn gan y ffaith fod gwariant ar iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru yn parhau i fod yn sylweddol uwch nag yn Lloegr, ac mae'r toriadau i awdurdodau lleol yn Lloegr wedi bod ddwywaith mor ddwfn ag yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru wedi datgan yn eglur iawn y bydd iechyd yn parhau i fod yn flaenoriaeth i ni, yn ogystal â chyflwyno'r setliad gorau posibl i lywodraeth leol. Rydym ni'n dal i fod yn benderfynol o sicrhau bod yr adnoddau sydd gennym ni'n cael yr effaith fwyaf bosibl. Yn fy natganiad ym mis Gorffennaf ar ddyfodol gwariant cyhoeddus, roeddwn i'n amlinellu fod ein paratoadau ar gyfer y gyllideb wedi cael eu llunio gan wyth maes ein blaenoriaeth, sef y blynyddoedd cynnar, gofal cymdeithasol, tai, sgiliau a chyflogadwyedd, gwell iechyd meddwl, datgarboneiddio, tlodi a bioamrywiaeth.
Rydym ni'n cydnabod mai'r wyth maes hyn yw'r rhai sy'n fwyaf tebygol o fod â'r cyfraniad mwyaf i'w roi i ffyniant a lles hirdymor. Maen nhw'n adlewyrchu'r amseroedd ym mywydau pobl pan fyddan nhw â'r angen mwyaf, a phan fydd y cymorth addas yn gallu cael dylanwad dramatig ar gwrs eu bywyd. Maen nhw'n feysydd o flaenoriaeth lle dangoswyd bod ymyrraeth gynnar—mynd i'r afael â'r achosion sylfaenol, yn hytrach na thrin y symptomau—yn talu ar ei ganfed. Os ydym ni am wireddu potensial llawn Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, mae integreiddio a chydweithio rhwng gweithgareddau a gwasanaethau, gydag ymyrraeth gynnar a dull o weithredu â phobl yn ganolog, yn hanfodol ar gyfer cyflawni canlyniadau hirdymor.
Fe fydd ein cyllideb ni'n canolbwyntio ar y meysydd lle gallwn gael y dylanwad mwyaf yn yr hirdymor, ac fe fydd yn ganolog i'r ffordd y bydd Cymru'n ymateb i'r heriau a gyflwynir gan y cylch gwario hwn.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad heddiw ac am ymateb arfaethedig Llywodraeth Cymru i gylch gwario 2019? Mae'n rhaid imi ddweud, ar ôl gwrando arnoch chi, y Gweinidog, a'r Prif Weinidog hefyd yn gynharach, fod argoel sicr o besimistiaeth, yn fy marn i, o safbwynt areithiau a chwestiynau Llywodraeth Cymru heddiw. Ni fyddem ni'n anghytuno â llawer o'r hyn a ddywedwyd gennych chi, ac nid wyf i o'r farn y byddai llawer o bobl yng Nghymru yn anghytuno chwaith. Fe wyddom ni'n iawn fod y degawd diwethaf wedi golygu cwtogi ar lefel y DU sydd wedi treiddio i lefel Llywodraeth Cymru. Nid yw'r rheswm dros y toriadau hynny yn cael ei drafod mor aml erbyn hyn, ond wrth gwrs nid yw o ganlyniad i'r Blaid Lafur yn y Siambr hon—roedd o ganlyniad i orwario gan y Blaid Lafur hyd at 2010 yn San Steffan, a benthyca hefyd. Felly, beth bynnag, dadl arall yw honno, ond rwy'n credu bod angen atgoffa pobl weithiau.
Roeddech chi'n sôn am ansicrwydd Brexit. Wrth gwrs, mae arlliw Brexit ar yr holl ddadleuon ar hyn o bryd, ac, unwaith eto, rydych chi'n iawn i ddweud bod ansicrwydd mawr ynghylch Brexit a'r modd y byddwn ni'n ymadael â'r Undeb Ewropeaidd a pha bryd y bydd hynny. Ond er hynny fe allwch chi barhau i ddangos eich gallu sylweddol fel Llywodraeth Cymru i gynllwynio a chynllunio a chynnig cynigion ar gyfer gwario a all wella bywydau pobl Cymru. Dyma pam yr ydym ni yma.
Yn ffeithiol, rydych chi wedi nodi'r newyddion da: bydd y gyllideb refeniw yn cynyddu ychydig o dan £600 miliwn neu 2.3 y cant mewn termau gwirioneddol dros ben llinell sylfaen 2019-20. Ac yna mae croeso hefyd i'r cynnydd o £18 miliwn yn y gyllideb cyfalaf, sef 2.4 y cant yn uwch mewn termau gwirioneddol. A'r gair allweddol yn y ddau achos hyn yw 'gwirioneddol'. Felly, dyma gynnydd yn yr ystyr wirioneddol, sy'n ffaith yr ydych chi'n ei derbyn. Felly, gan anwybyddu'r sefyllfa ychydig flynyddoedd yn ôl, mae'n rhaid inni gydnabod—mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru gydnabod—bod yr adolygiad hwn o wariant yn rhoi mwy o arian, mwy o arian gwirioneddol i Gymru ar ben yr hyn a oedd gennym ni o'r blaen. Ac o gymryd hyn ar y cyd â'r fframwaith cyllidol —sy'n fargen dda iawn, a negodwyd rhwng aelodau o Lywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU, enghraifft benigamp o bartneriaeth yn gweithio—o gymryd hyn ar y cyd â hwnnw, dros y flwyddyn ddiwethaf mae Cymru wedi gweld gwelliant gwirioneddol dda yn y fformiwla o ran y newidiadau i'r fformiwla a ddigwyddodd a'r cynnydd mewn cyllid sy'n golygu y gall Cymru fod—y gall hi fod—mewn sefyllfa lawer gwell pe byddai Llywodraeth Cymru yn buddsoddi'r arian yn ddoeth.
Nawr, Gweinidog, fel y dywedais i, roedd y Prif Weinidog braidd yn besimistaidd pan ddywedodd fod llawer o'r codiadau hyn heb eu cymeradwyo. A wnewch chi ddweud wrthym ni pa drafodaethau yr ydych chi wedi eu cael gyda Llywodraeth y DU a chyda'r Trysorlys o ran yr ymrwymiadau hyn o ran cyllid? A ydych chi o'r un farn besimistaidd â'r Prif Weinidog mai geiriau'n unig, mewn gwirionedd, yw llawer o'r arian hwn ac na fyddwn ni'n ei weld yma, neu a ydych chi'n hyderus bod yr arian hwn, y cyhoeddwyd gennych yn eich datganiad sydd i ddod i Gymru, yn dod i Gymru mewn gwirionedd? Oherwydd dyna'n sicr yw'r hyn a addawyd inni a'r hyn y mae angen inni ei weld yma. Roeddech chi'n dweud na ddylai Cymru fod yn brin o'r un geiniog ar ôl Brexit, rhywbeth a addawyd inni i gyd yn ymgyrch y refferendwm, a chredaf y byddem ni i gyd yn y Siambr hon yn awyddus i gytuno â hynny. Yn sicr, fe fyddwn i.
Rydych chi, yn wir, wedi galw am ddiwedd ar gyni ers amser maith iawn: gallaf eich canmol yn hynny o beth, Gweinidog. Nid ydych chi wedi gwyro oddi wrth y neges honno cyhyd ag yr wyf i wedi bod yn eich holi chi, ac, yn wir, yn eich swyddi blaenorol. Rydym ni i gyd yn awyddus i weld diwedd ar hynny, ac, fel yr oeddech chi'n dweud, mae'r gwregys yn llacio erbyn hyn. Mae'r gornel wedi ei throi. Felly, dylid croesawu hyn, yn sicr. Ac rwy'n sicr nad yw hyn wedi gwneud iawn am y nifer o flynyddoedd o doriadau a oedd yn angenrheidiol gan bobl mewn man arall, ond rydym ni yn troi'r gornel honno. Felly, pa gynlluniau sydd gennych chi ar gyfer yr arian newydd hwn? Pryd y byddwn yn gweld manylion hynny? Mae gan Lywodraeth Cymru ymreolaeth i'w wario fel y dymuna ar wahân i'r gwahaniaethau amlwg o ran cyfalaf a refeniw, yr wyf yn siŵr y bydd Mike Hedges yn eu trafod—gallaf ei weld yn ysgrifennu'n wyllt fan acw. Felly, mae angen i ni wybod beth fydd blaenoriaethau Llywodraeth Cymru.
Rydych wedi sôn am y gwasanaeth iechyd. Mae Llywodraeth y DU wedi addo swm sylweddol o arian i wasanaeth iechyd Lloegr. A wnewch chi ymrwymo y bydd yr arian hwnnw'n bwydo drwy'r system ac y bydd yn ein helpu ni i ymdrin â pheth o'r pwysau y mae cyllideb iechyd Cymru wedi bod yn ei ddioddef? Mae'r alwad arnoch chi i helpu gyda hyn wedi bod yn daer iawn.
Roeddech chi'n sôn am wariant ar addysg. Fel y gwyddom, nid yw cyllid ysgolion yng Nghymru wedi codi'n unol â chwyddiant dros y blynyddoedd diwethaf. Rhwng 2010 a 2019, cododd gwariant crynswth a gyllidebwyd 4.4 y cant ond, mewn gwirionedd, roedd hynny'n ostyngiad o 7.9 y cant mewn termau gwirioneddol. Yn ôl at y gair pwysig hwnnw: gwirioneddol. Felly, beth ydych chi'n ei wneud i rwystro hyn? Beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau y bydd modd mynd i'r afael â'r bwlch cyllido hollbwysig rhwng disgyblion yng Nghymru ac yn Lloegr, ac y gellir ei wynebu ac ymdrin ag ef. Rwy'n gwybod nad ystadegau yw'r ateb i bopeth. Rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog Addysg yn fy atgoffa i o hynny pe byddai ef yn siarad yn y datganiad hwn, ac rwy'n derbyn hynny. Ond, eto i gyd, mae yna fwlch ariannu a gydnabyddir ac fe hoffwn eich gweld yn rhoi sylw iddo.
Yn ôl ein harfer, fe gawsom ni'r drafodaeth ar Brexit o ran syrthio oddi ar ymyl y dibyn. Rwy'n credu bod fy marn i'n hysbys iawn gan fy mod yn sicr o'r farn y dylem ni ymadael gyda chytundeb. Credaf mai hynny fyddai orau er lles Cymru. Nid wyf i'n dymuno gweld yr effeithiau ar economi Cymru pe byddai Brexit 'dim cytundeb', ac rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn cytuno â hynny. Rwy'n credu ei bod yn resynus, yn San Steffan, pan drafodwyd hyn ac y cafwyd pleidlais arno, na wnaeth Aelodau Seneddol y Blaid Lafur—nid Aelodau'r Cynulliad, ond Aelodau Seneddol—bleidleisio o blaid cytundeb, ac felly rydym ni yn y sefyllfa alarus braidd yr ydym ni ynddi ar hyn o bryd. Ond rwy'n cytuno â chi y byddwn i'n hoffi ein gweld ni'n ymadael gyda chytundeb hollbwysig.
O ran y gyllideb, a gaf i groesawu'r cam i ddwyn cyllideb Llywodraeth Cymru ymlaen yn gynharach i fis Tachwedd, rwy'n credu ichi ddweud? Mae hynny i'w groesawu, yn sicr. Roeddech chi'n dweud eich bod chi am gynnal trafodaethau â'r Pwyllgor Cyllid ac â phwyllgorau eraill. Da o beth fyddai cynnal y trafodaethau hynny cyn gynted ag y bo modd a rhoi pethau ar waith. Mae eisoes yn fis Medi. Ac rwy'n cydnabod bod yr amser ar gyfer y llinellau cyllideb hyn yn gyfyng yn aml iawn ac, yn yr achos hwn, bydd yn fwy cyfyng byth. Ond rwyf i o'r farn y byddai'n dda o beth inni gynnal y trafodaethau hynny cyn gynted ag y bo modd fel ein bod ni i gyd yn gwybod beth yw ein sefyllfa ni ac y gallwn ni fwrw ymlaen â'r gwaith o roi'r arian hwnnw i'r gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru lle y dylai fod.
Rwy'n diolch i Nick Ramsay am ei gyfraniad ef. Diddorol iawn oedd ailysgrifennu hanes ar y cychwyn cyntaf, gan gadarnhau, yn ei farn ef, mai gwario gwirion yn hytrach na dirywiad economaidd byd-eang a effeithiodd ar yr economi yn y DU. Ond fe roddwn ni hynny o'r neilltu ac ystyried y cwestiynau eraill a ofynnwyd ganddo.
Y cyntaf oedd pa fath o ymgysylltu a gawsom â Llywodraeth y DU o ran y cylch gwario. Cawsom gyfarfod pedair ochrog gyda Gweinidogion cyllid ddiwedd mis Awst, lle roeddem ni'n ceisio cael rhywfaint o wybodaeth. Ni chafwyd llawer o wybodaeth, mae'n rhaid imi ddweud, ond fe wneuthum i bwysleisio'r pwynt, y gwnaeth Nick Ramsay sôn amdano hefyd, sef bod yr ymgyrch i 'ymadael' ac aelodau'r Llywodraeth Geidwadol wedi bod yn eglur iawn na fyddai Cymru ar ei cholled o ganlyniad i Brexit. Fe wneuthum i'r pwynt bod angen inni sicrhau bod yr addewid honno'n cael ei hanrhydeddu, ond roeddwn i'n bryderus iawn fod Prif Ysgrifennydd y Trysorlys wedi dweud 'Wel, addewid gan yr ymgyrch i "ymadael" oedd hynny; ac nid oedd yn addewid gan Lywodraeth Geidwadol.' Ond serch hynny, y Prif Weinidog oedd yn arwain yr ymgyrch i 'ymadael', ac felly rwyf i o'r farn y dylem ni fod yn ei ddwyn ef i gyfrif am yr addewid honno. Ar ddiwrnod y cylch gwario, fe gefais i sgwrs fer, unwaith eto, â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, sy'n draddodiadol, fel y gall ef roi gwybod inni am y dyraniadau cyn unrhyw ddatganiad ffurfiol.
Mae Nick Ramsay yn cyhuddo'r Prif Weinidog a minnau o fod braidd yn wangalon o ran ein hagwedd ni ar hyn. Ond fe gredaf i fod gennym ni bob hawl i hynny oherwydd, fel yr ydym ni wedi ei gydnabod ar sail tebyg am debyg, fe fydd ein cyllideb ni yn 2021 yn parhau i fod 2 y cant yn is, neu £3 miliwn yn is mewn termau gwirioneddol, na degawd yn ôl. A phe bai cyllideb Llywodraeth Cymru wedi tyfu'n unol â'r economi ers 2010-11, fe fyddai £4 biliwn yn uwch yn 2021. Dychmygwch yr hyn y gallem ni ei wneud gyda hynny. A phe bai cyllideb Llywodraeth Cymru wedi tyfu'n unol â'r duedd hirdymor mewn gwariant cyhoeddus, fe fyddai £6 biliwn yn uwch yn 2020-21. Felly, rwy'n credu bod hynny'n amlwg iawn yn gwrthgyferbynnu'n llwyr â'r hyn y gallem ni fod yn ei gyflawni a'r arian ychwanegol y gallem ni ei roi i'n heriau fyrdd a'r blaenoriaethau sydd gennym ni yma yng Nghymru.
Fe gawsom ni addewid o adolygiad cynhwysfawr o wariant yn ystod cyfarfod pedair ochrog blaenorol y Gweinidogion cyllid, ond yn anffodus, ni ddaeth hynny i fod. Mae hynny'n siomedig am sawl rheswm, ond un ohonyn nhw yw ein bod ni'n cydymdeimlo'n fawr â'r galwadau gan ein partneriaid yn y sector cyhoeddus sy'n awyddus i allu cyllidebu dros gyfnod hwy i gefnogi eu blaengynllunio ariannol nhw. Ond nid yw'r cylch gwario un flwyddyn hwn a gaiff ei gyflwyno'n gyflym yn caniatáu i'n cydweithwyr mewn Llywodraeth Leol a gwasanaethau eraill gael y cyfle i wneud hynny. Ac, fel y dywedais, nid ydym ni'n hyderus y bydd y cylch gwario arbennig hwn yn gynaliadwy, nac y bydd y cyhoeddiadau sydd wedi cael eu gwneud yn dod i'r golau o reidrwydd, gan fod y Prif Weinidog yn llygad ei le y bydd yn rhaid pleidleisio ar unrhyw gyllid yn ôl y Ddeddf cyllid yn Senedd y DU ac, fel y gwelwn ni, nid yw Senedd y DU yn eistedd ar hyn o bryd.
O ran croeso Nick Ramsay i'r ffaith ein bod ni'n bwriadu cyflwyno'r gyllideb yn gynharach, fel y dywedais, rwyf wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Cyllid a'r Pwyllgor Busnes eisoes. Cawsom sgwrs am hynny yn y Pwyllgor Busnes y bore yma a gwn fod y Pwyllgor Cyllid yn bwriadu mynd i'r afael â'r mater hwn yn eu cyfarfod nhw ddydd Iau. Felly, rwy'n gobeithio y byddwn ni'n gallu gwneud y cyhoeddiadau cyn gynted ag y bo modd. Ond mae'r gwaith ar y gyllideb wedi bod yn mynd rhagddo, mewn gwirionedd, ers—mis Mawrth diwethaf rwy'n credu imi ddechrau cael sgyrsiau gyda chydweithwyr yn y lle cyntaf Rydym yn cytuno ar ein strategaeth gyffredinol yn y Cabinet yn gynnar yn y gwanwyn bob blwyddyn, ac yna ceir cyfres o gyfarfodydd dwyochrog rhyngof fi a Gweinidogion eraill—ac rydym ni'n mynd drwy rownd arall o'r rhain ar hyn o bryd—gan nodi blaenoriaethau, cyfleoedd a gwasgfeydd ac ati. Bydd y rhain yn llywio'r gyllideb, fel y bydd y gyfres o ymweliadau a ymgymerais i dros yr haf a'r gyfres o gyfarfodydd eraill yr wyf i wedi eu trefnu gyda phartïon sydd â diddordeb yn ystod yr wythnosau nesaf.
Dwi'n meddwl bod y cyd-destun cyllidol yn newid cymaint a’r anrhefn rydyn ni’n ei wynebu yn dwysáu i’r graddau fel ei bod hi’n anodd iawn dod i gasgliadau pendant ynglŷn â beth fydd impact tebygol datganiad y Canghellor. Ni allwn ni ddweud beth ydy gwerth y £593 miliwn ychwanegol mewn difrif, ac mae’r gair 'ychwanegol' yna mewn dyfynodau gen i. Mae’n anodd iawn dweud beth fydd y costau ychwanegol a ddaw yn sgil llanast Brexit. Rydyn ni’n gwybod bod yna biliynau o bunnoedd yn ychwanegol yn cael eu rhoi gan Lywodraeth Prydain tuag at baratoi am Brexit—o, yr eironi—ond dydyn ni ddim yn gwybod, go iawn, beth fydd y costau o ymateb iddo fo o bwrs Llywodraeth Cymru, ac mi fydd costau, wrth gwrs, yn anochel.
Dydyn ni ddim yn gallu dweud beth fydd yr impact ar refeniw trethiant. Mae pob darn o dystiolaeth yn awgrymu mai impact negyddol bydd o’n ei gael—o bosib yr economi'n crebachu 10 y cant. A hyd yn oed os mai dim ond dros gyfnod byr fyddai o, mi fyddai effaith hynny’n andwyol iawn ac yn cael impact ar y pwrs cyhoeddus. Ond hefyd, cofiwch fod dim datganiad wedi dod gan Lywodraeth Boris Johnson ar y shared prosperity fund yma. Heb arian ychwanegol i gymryd lle cyllid Ewropeaidd os ydyn ni’n gadael yr Undeb Ewropeaidd, mi fyddwn ni ar ein colled o gannoedd o filiynau o’r cychwyn. Felly, dyna’r cefndir. Does dim modd mesur beth ydy gwerth yr arian yma.
Ychydig o gwestiynau gen i. Datganiad un flwyddyn oedd hwn, wrth gwrs, nid tair. A allwch chi ddweud wrthym ni a oes bwriad ar y pwynt yma i roi rhagor o arian i mewn i gronfeydd wrth gefn? Y rheswm, wrth gwrs, oherwydd ansicrwydd ar lefel eithaf sylfaenol o 2021-22 ymlaen, mi fydd angen paratoi ar gyfer yr ansicrwydd hwnnw. Hefyd, dwi’n croesawu, fel aelod o’r Pwyllgor Busnes a’r Pwyllgor Cyllid, yn digwydd bod, y bwriad i ddod â datganiadau’r gyllideb ymlaen. Y mwyaf o amser sydd gennym ni i sgrwtineiddio’r rheini, i fynd allan a thrafod efo rhanddeiliaid, y gorau, wrth reswm.
Ond, gaf i ofyn am sicrwydd buan bod yn rhaid i ddegawd o doriadau i gyllidebau llywodraeth leol yn benodol ddod i ben? Mae'n rhaid gweld cynnydd go iawn mewn cyllidebau rŵan. Dydy setliad fflat ar gyfer y flwyddyn nesaf ddim yn mynd i fod yn dderbyniol. Yn Ynys Môn, er enghraifft, mi fues i'n trafod efo swyddogion y cyngor yr wythnos yma, ac mi fydd angen rhywbeth fel £6 miliwn yn ychwanegol i aros yn llonydd. A dyna ydy'r realiti gwirioneddol. A do, mi fu'n rhaid i gyngor Ynys Môn wneud y penderfyniad anodd i godi'r dreth gyngor o bron i 10 y cant y llynedd. Ni allan nhw feddwl am godi o'r un faint yn y flwyddyn nesaf. Fyddai hynny ddim yn gynaliadwy i'm hetholwyr i, felly mae'r dewis yna wedi mynd allan o'r ffenest. Felly, all setliad fflat ddim rhywsut cael ei werthu fel newyddion da ar gyfer y flwyddyn nesaf; mae'n rhaid gweld cynnydd go iawn yn y cyllidebau hynny.
Ac efo hynny o gwestiynau am y tro, mi adawaf i hi.
Diolch i Rhun ap Iorwerth am godi'r materion hynny. Y cyntaf oedd cydnabod bod Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi £2 biliwn arall yn 2021 i ymateb i effeithiau tebygol ymadael â'r UE. Ond rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn cydnabod, ar sail yr hyn a ddywedodd y Canghellor, ei bod hi'n debyg na fydd Cymru yn gweld—neu yn sicr ni fydd Llywodraeth Cymru yn gweld—llawer o'r arian hwnnw, oherwydd ei fod yn canolbwyntio'n fawr ar feysydd polisi neilltuol. Felly, nid oes gennym unrhyw ddisgwyliad y bydd hynny'n cyrraedd Cymru, ac yn amlwg mae hynny'n destun pryder mawr inni. Cytunaf yn llwyr â'r pryderon bod y Canghellor, gyda llai na 60 diwrnod eto cyn diwrnod yr ymadael, yn gwbl dawedog ynglŷn â'r mater o gyllid newydd i gefnogi ein cymunedau a'n busnesau ni yng Nghymru. Nid oes gennym ddim hyd yma o ran cronfa ffyniant a rennir i'r dyfodol. Rydym ni'n deall fod yna bapur, ond rwy'n dechrau amau a yw'r papur hwnnw'n bodoli hyd yn oed ac a oes gwaith wedi cael ei wneud arno, oherwydd fe addawyd hwn lawer gwaith ond ni ddaeth i'r golwg eto.
Felly, bydd angen cyllid ychwanegol, ac fel y mae Rhun ap Iorwerth yn sylweddoli, mae'n anodd iawn inni fesur faint o arian a fydd ei angen, oherwydd mae cymaint o bethau i'w hystyried a chymaint o wahanol ffurfiau y gallai Brexit ei gymryd eto, er ein bod ni'n deall beth fydd y senarios mwyaf tebygol. Felly, rydym ni'n pwyso ar Lywodraeth y DU i roi rhagor o gyllid i liniaru effeithiau Brexit 'dim cytundeb' ac, unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth yr oeddem ni'n ei bwysleisio gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys yn y cyfarfod pedair ochrog ynglŷn â chyllid ddiwedd mis Awst.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig cydnabod ein bod ni hefyd, ynghyd â chyllid ychwanegol, yn chwilio am hyblygrwydd newydd i ymateb i Brexit 'dim cytundeb' a'n helpu i reoli'r newid hwnnw drwy gyfnod gwarant Trysorlys ei Mawrhydi. Felly, er enghraifft, gallai hynny gynnwys cynyddu'r terfynau blynyddol ac agregedig ar gyfer defnyddio cronfa wrth gefn Cymru ac yn y blaen. Felly, ceir gwahanol ystyriaethau a gwahanol sgyrsiau yr ydym yn ceisio eu cael â Llywodraeth y DU yn hyn o beth.
Fe dynnodd Rhun sylw hefyd at y ffaith ein bod ni wedi cael setliad blwyddyn yn hytrach na setliad tair blynedd. Yn ogystal â'i gwneud hi'n anodd inni gynllunio ymlaen llaw, mae yna rai ystyriaethau ymarferol iawn hefyd. Felly, pan fydd Llywodraeth y DU yn pennu'r dyraniad ar gyfer Llywodraeth Cymru, fel rheol, yng nghylch yr adolygiad cynhwysfawr o wariant, byddai adolygiad llawn o'r ffactorau cymharedd yn fformiwla Barnett cyn yr adolygiad hwnnw o wariant, ac fe fyddai hynny'n pennu'r gyfran o bob cyllideb adrannol Llywodraeth y DU sydd i'w gwario ar raglenni nad ydyn nhw wedi eu datganoli. Yna fe ddefnyddir gwybodaeth gyllidebol ddiweddar i sicrhau bod y cyfrannau hynny'n gyfredol ac yn adlewyrchu trefniadau adrannol diweddaraf y DU. Ond, yn anffodus, yn yr achos hwn, nid oes amser wedi bod na gwaith wedi digwydd ar ddatblygu'r rhain a mireinio'r ffactorau cymharedd hynny. Felly dim ond arolwg rhannol iawn a gafwyd o'r rhain, sy'n golygu nad yw fformiwla Barnett yn defnyddio'r wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer dosrannu gwariant i weinyddiaethau datganoledig. Felly, dyna reswm arall pam mae adolygiad un flwyddyn yn gwbl anfoddhaol, o'i gymharu â datganiad mwy cynhwysfawr o dair blynedd.
Gofynnwyd y cwestiwn hefyd ynghylch pa ystyriaeth fydd yn cael ei rhoi i gronfa wrth gefn Cymru. Wel, bydd hyn yn rhan o'r trafodaethau cyffredinol sydd gennym ni yn y Llywodraeth. Ac rwy'n rhannu edmygedd Rhun ap Iorwerth o lywodraeth leol. Rwy'n credu eu bod nhw wedi gwneud ymdrechion arwrol i sicrhau bod gwasanaethau lleol yn parhau mewn cyfnod anodd iawn, ac rydym ni'n gwerthfawrogi pa mor enfawr yw'r pwysau sydd ar Lywodraeth Leol. Felly, yn ein trafodaethau cynnar, ac fel y dywedais yn fy natganiad, rydym wedi bod yn awyddus iawn bod iechyd yn parhau i fod yn flaenoriaeth, ond, ar yr un pryd, mae rhoi'r setliad gorau posibl i lywodraeth leol yn ganolog i'n hystyriaethau ni.
Yn gyntaf oll, hoffwn i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Yn ail, hoffwn i ddiolch i'r Canghellor, Sajid Javid, am gadarnhau'r hyn yr wyf i wedi bod yn ei ddweud ers imi gael fy ethol yn 2011: polisi gwleidyddol yw cyni ac nid polisi economaidd. Mae'r ddyled genedlaethol wedi codi o £1.78 triliwn i £1.82 triliwn yn y flwyddyn ddiwethaf, felly nid oes gennym lai o ddyled fel gwlad. Ac nid wyf i'n credu mai gormod o athrawon, gormod o lyfrgellwyr a gormod o feddygon oedd achos y dirwasgiad. Rwyf i o'r farn iddo gael ei achosi gan fancwyr yn ymhél â chyfalafiaeth y casino.
Nid yw Llywodraeth y DU wedi ymgysylltu â'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol hyd yn hyn ar baratoadau ar gyfer cyllideb yr hydref, er bod y memorandwm cyd-ddealltwriaeth yn datgan y dylen nhw roi 10 wythnos o rybudd i'r swyddfa. Mae llythyr y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol at Lywodraeth y DU yn ei gwneud hi'n glir y byddai angen i'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol wybod ar ba senario Brexit y dylai ei diweddariad fod yn seiliedig: cytundeb neu heb gytundeb—mae hynny'n swnio fel rhaglen deledu—cyn egluro bod rhybudd diweddar yn golygu y bydd Trysorlys Ei Mawrhydi yn dibynnu ar ragolwg bras iawn gan y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol neu ddim un o gwbl.
Rwyf eisiau croesawu'r arian ychwanegol; mae codiadau mewn termau gwirioneddol o 2.3 a 2.4 y cant mewn refeniw a chyfalaf yn amlwg o fudd i economi Cymru. Mae'n siomedig iawn nad oedd hwn yn setliad tair blynedd yn seiliedig ar yr un union godiadau o 2.3 a 2.4 mewn termau gwirioneddol.
Mae gennyf dri chwestiwn i'r Gweinidog. Rydym wedi gweld yr hyn a gawsom ni gan San Steffan: a yw Llywodraeth San Steffan wedi dangos y cyfrifiadau a ddefnyddiwyd ganddyn nhw i gyfrifo cyfran Cymru ac a oes system i apelio mewn bodolaeth, sy'n annibynnol ar y Trysorlys? Rydym wedi siarad am hynny ers cryn amser—y gallu i apelio yn erbyn yr hyn a ddywedodd y Trysorlys. Ni allwn gael sefyllfa lle gall y Trysorlys wneud penderfyniad, a phan nad ydych chi'n hapus, y Trysorlys yn dweud wrthych, 'Wel, rydym ni wedi ailedrych arno eto a dyma'r hyn yr ydych chi'n mynd i'w gael.' A'r peth olaf yw hyn—ac mewn gwirionedd mae'n dilyn yr hyn a ddywedodd Rhun ap Iorwerth, a bydd pobl yn gwybod fy mod i'n gefnogwr brwd o lywodraeth leol Cymru, ni waeth pa blaid sy'n rhedeg y cyngor, neu ddim un—a yw'r Gweinidog yn derbyn bod angen arian ychwanegol ar gyfer gwasanaethau llywodraeth leol fel gofal cymdeithasol ac addysg? Ac os ydym yn cael cynnydd mewn termau gwirioneddol, pam na allwn ni ddweud nawr na fydd unrhyw awdurdod lleol yn gweld gostyngiad mewn termau gwirioneddol?
Diolch i Mike Hedges am godi'r pwyntiau hynny, a hefyd am dynnu sylw eto at y ffaith mai dewis gwleidyddol yw cyni a dim mwy na hynny. Yn sicr, nid anghenraid mohono.
O ran a yw Llywodraeth y DU yn rhannu ei chynllunio gyda ni, wel, mae hynny'n mynd yn ôl at y ffactorau cymharedd y mae Llywodraeth y DU yn eu defnyddio i weithio allan ein cyfran ni o fformwla Barnett ar gyfer y gwahanol adrannau. Ond, fel yr wyf i'n dweud, nid ydyn nhw wedi cael eu diweddaru i adlewyrchu cyfrifoldebau mwyaf diweddar yr adrannau, sy'n siomedig tu hwnt. Byddai'r darn hwnnw o waith fel arfer yn digwydd dros nifer o fisoedd, gyda Llywodraeth y DU a swyddogion Llywodraeth Cymru yn cydweithio yn agos, ond nid yw hynny wedi digwydd y tro hwn. Ond ceir pwynt diddorol arall yn y fan hon, oherwydd mae ein setliad cylch gwario ni'n cynnwys addasiad ar gyfer incwm ardrethi annomestig, ac mae honno'n elfen a gaiff ei derbyn o fformiwla Barnett sydd â'r bwriad o sicrhau nad yw'r gweinyddiaethau datganoledig sy'n cadw eu hardrethi annomestig eu hunain yn elwa hefyd ar y cynnydd mewn gwariant ar derfynau gwariant adrannol yn Lloegr a ariennir o'r ardrethi annomestig yn Lloegr. Heb addasiad o'r fath, yn amlwg, fe fyddai gweinyddiaethau datganoledig, i bob pwrpas, yn elwa ar y cynnydd yn eu refeniw ardrethi annomestig eu hunain ac yna ar y cynnydd yn refeniw ardrethi annomestig yn Lloegr hefyd. Er hynny, roedd maint yr addasiad yn y cylch gwario, sef bron i £180 miliwn, yn sicr yn annisgwyl, rwy'n credu, o ran yr hyn yr oedd swyddogion Llywodraeth Cymru wedi ei ddisgwyl. Felly, rydym ni mewn trafodaethau ynglŷn â hynny gyda Thrysorlys ei Mawrhydi. Ac mae'r addasiad hwnnw i raddau helaeth yn esbonio pam mae'r twf yn ein dyraniad ni yng Nghymru yn 2020-1—felly, y cynnydd o 2.3 y cant mewn termau gwirioneddol— yn llai na'r cynnydd yn adrannau'r DU fel iechyd ac addysg, sydd dros 3 y cant yn uwch mewn termau gwirioneddol. Gan hynny, gallem fod yn dymuno herio hynny, a'r ffordd arferol y byddem ni'n gwneud felly fyddai apelio drwy gyfrwng Cyd-bwyllgor y Gweinidogion. Nawr, mae honno'n ffordd gwbl anfoddhaol o ymdrin ag anghytundebau rhwng Llywodraeth y DU a'r gwledydd datganoledig, ac felly mae'n rhaid i ran o'r berthynas rynglywodraethol a'r isadeiledd sy'n cefnogi hynny yn y dyfodol gynnwys ffordd fwy boddhaol i genhedloedd datganoledig fynegi eu pryderon, yn enwedig pan fo hynny'n ymwneud â phenderfyniadau a dyraniadau cyllidebol.
Nid wyf i mewn sefyllfa heddiw i wneud unrhyw gyhoeddiadau ac nid wyf o'r farn y byddai'n deg gwneud hynny, oherwydd nid wyf wedi cwblhau'r rownd ddiweddaraf o gyfarfodydd dwyochrog y gyllideb gyda chydweithwyr. Mae gennyf lawer o randdeiliaid i siarad â nhw eto. Rwyf wedi cwrdd sawl gwaith â chomisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, ond rwy'n cwrdd â'r comisiynydd pobl hŷn, Comisiynydd y Gymraeg ac eraill hefyd i drafod eu barn nhw am y gyllideb, yn ogystal â'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol. Dros yr haf, bûm ar gyfres o ymweliadau, a oedd yn ddefnyddiol iawn. Fe wnes i ymweld â chynlluniau a oedd yn dod o dan bob un o wyth maes blaenoriaeth Llywodraeth Cymru, i ehangu fy ystyriaeth, mewn gwirionedd, o'r hyn y gellid ei gyflawni, yn enwedig pan fyddwn ni'n gweithio mewn dull traws-lywodraethol, cydweithredol, gan ddod â Deddf cenedlaethau'r dyfodol yn fyw.
Yn flaenorol rwyf wedi nodweddu rhai o gyfraniadau'r Gweinidog cyllid fel cwynion hirfaith am gyni ac weithiau Brexit. Pan wrandawais i ar ddatganiad y Canghellor a chlywed nid yn unig y datganiad bod cyni ar ben, ond bod cynnydd sylweddol mewn gwariant, a chan ddechrau ystyried beth y byddai hynny'n ei olygu o ran pa arian ychwanegol a ddaw i Gymru, meddyliais 'Beth ar y ddaear fydd gan Rebecca Evans i'w ddweud nawr?' Roeddwn i'n gobeithio y byddem ni efallai'n clywed mwy am eich cyfrifoldebau chi yn hytrach na'r cwynion am gyni, ond heddiw clywsom yr un hen gân eto. Mae fel pe bai dim newid wedi bod. Nid oes croeso yn unman yn eich datganiad chi i'r cynnydd hwn mewn gwariant. Os ydych chi'n poeni cymaint am gyni, pan fydd Llywodraeth y DU yn dechrau cynyddu gwariant, a'i gynyddu'n sylweddol, pam nad ydych chi'n ei groesawu? Ym mhobman yn eich datganiad rydym yn gweld y dehongliad mwyaf pesimistaidd. Gadewch imi roi ychydig o enghreifftiau i chi. Efallai y gall rhai o'ch meincwyr cefn fod o gymorth. Rydych chi'n dweud :
Ers mis Mawrth mae data swyddogol wedi dangos bod economi'r DU wedi crebachu yn yr ail chwarter ac mae data'r arolwg diweddaraf yn dangos ei bod yn egwan o hyd.
Pam ydych chi'n mynd ymlaen at y data arolwg diweddaraf? Pam nad ydych chi'n ystyried y data swyddogol diweddaraf? Cawsom ddata cynnyrch domestig gros ar gyfer mis Gorffennaf a oedd yn dangos ei fod wedi codi 0.3 y cant mewn un mis yn unig, o fis Mehefin i fis Gorffennaf. Oni bai y gwelir cwymp sylweddol ym mis Awst a Medi, byddwn yn gweld twf yn y trydydd chwarter. Pam nad oeddech chi'n sôn am hynny?
Yna, fe ewch chi yn eich blaen i ddweud:
Mae economi lai yn golygu refeniw treth is.
Eto i gyd, mae'n fwy cymhleth na hynny. Mae gennym system sy'n flaengar a heb ei mynegeio yn llawn, felly hyd yn oed os nad yw'r economi wirioneddol yn tyfu, mae chwyddiant, gyda phopeth arall yn gyfartal, yn arwain at rywfaint o refeniw treth dros amser. Yn llawer mwy arwyddocaol, roedd yn rhaid edrych nid yn unig ar y gyfradd dwf gyffredinol, ond ar y gymysgedd o dwf, oherwydd mae hynny'n gwneud gwahaniaeth enfawr i'r hyn yr ydym ni'n ei gael o ran refeniw treth. Roeddwn i'n bryderus adeg y gyllideb, nad oedd dim newid yn y rhagolygon chwe mis yn ddiweddarach ac, i bob golwg, nad oedd unrhyw ystyriaeth i'r hyn oedd cymysgedd y twf a'r goblygiadau ar gyfer treth. Onid yw'r Gweinidog dros Gyllid yn deall, pan ydym ni'n gweld twf, fel yr ydym ni wedi gwneud yn ddiweddar, fod hynny'n canolbwyntio'n fawr ar y defnyddiwr, rydym ni'n gweld marchnad lafur gref o ran cyflogaeth ac yn fwy diweddar o ran twf cyflogau—sy'n arwain ymlaen gyda lluosydd sylweddol at dderbyniad mwy o dreth? Eto i gyd, yn y mannau lle gwelwyd gwendid yn yr economi—yn enwedig mewn buddsoddiadau, i raddau mewn allforion—mae'r mannau hynny'n aml yn tynnu oddi wrth dderbyniad treth. Os ydych chi'n allforio, fe gewch chi ad-daliad treth ar werth. Os ydych chi'n buddsoddi, fe gewch chi lwfans cyfalaf ac fe fyddwch chi'n gwario llai mewn treth gorfforaethol. A wnaiff y Gweinidog ystyried y gymysgedd o dreth ac ymgysylltu â'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ynglŷn â'r materion hyn, gan ei bod hi ei hunan yn gyfrifol am gryn dipyn o dreth erbyn hyn?
A gaf i hefyd ei holi ynglŷn â'r sylw hwn:
Rydym yn gwybod bod yr economi yng Nghymru yn debygol o fod tua 10 y cant yn llai?
Nid ydym yn gwybod hynny. Cafwyd rhagolwg gan weision sifil yn y Trysorlys—yr union weision sifil a roddodd y rhagolygon hynny i ni y ceid dirwasgiad ar unwaith pe baem ni'n pleidleisio i ymadael ac y byddai cynnydd mewn diweithdra o 0.5 miliwn o fewn blwyddyn. Ni ddigwyddodd hynny, naddo? Mae'r rhagolwg hwnnw gan y Trysorlys wedi ei ddisodli gan nifer o ragolygon gan Fanc Lloegr. Pan gyhoeddodd y Trysorlys y rhagolwg hwnnw—allbwn o 10 y cant yn is—cafwyd rhagolygon tebyg gan Fanc Lloegr. Ac eto i gyd, maen nhw wedi ei ddiwygio ddwywaith ar ôl hynny. Y tro cyntaf i lawr i 8 y cant, ac yna i lawr i 5 y cant. Mae hyd yn oed eu rhagamcanion nhw o economi 5 y cant yn llai yn dibynnu ar ragdybiaeth fod Banc Lloegr yn ymateb i Brexit 'dim cytundeb' drwy godi cyfraddau llog o 0.75 i 4.5 y cant. Nid wyf i'n credu bod unrhyw un yn y sector preifat yn ystyried bod honno'n dybiaeth realistig, ond eto mae'r Gweinidog yn dweud 'rydym yn gwybod'.
Yn olaf, rydych chi'n cyfeirio at wyth maes blaenoriaeth ac maen nhw'n cynnwys datgarboneiddio a bioamrywiaeth. Ac yna fe ddywedwch chi:
Rydym yn cydnabod bod yr wyth maes hyn...yn adlewyrchu'r adegau ym mywydau pobl pan fo'r angen mwyaf am gymorth arnyn nhw.
A wnewch chi egluro sut mae hynny'n berthnasol i feysydd blaenoriaeth datgarboneiddio a bioamrywiaeth? Hefyd, os yw datgarboneiddio, fel y dywedwch chi, yn gymaint o flaenoriaeth, pam wnaeth y Llywodraeth hon haneru ei gwariant ar brosiectau newid hinsawdd yn ei chyllideb atodol gyntaf?
Wel, fe wnes i fwynhau'r ddarlith gyllidol ac economaidd gan Mark Reckless yn fawr iawn ac rwyf i am roi un arall iddo ef, oherwydd mae economi'r DU wedi tanberfformio o'i chymharu â'r prif economïau eraill i gyd ers cyhoeddiad y penderfyniad i gael refferendwm yr UE yn 2015. Oddi ar y refferendwm ei hunan, fe amcangyfrifir bod cynnyrch domestig gros—ac roedd Mark Reckless yn awyddus i sôn am gynnyrch domestig gros—rhwng 1 a 2 bwynt canran yn is nag y byddai wedi bod fel arall. I egluro, mae hynny'n cyfateb i rhwng £300 a £600 yr unigolyn bob blwyddyn yng Nghymru. Mae incwm cenedlaethol neu gynnyrch domestig gros wedi gostwng 0.2 y cant yn ail chwarter y flwyddyn hon. Gostyngodd cynnyrch domestig gros y pen 0.4 y cant. Mae arolygon busnes yn awgrymu bod momentwm wedi aros yn negyddol yn y trydydd chwarter. Os bydd cynnyrch domestig gros yn crebachu yn y chwarter presennol, bydd economi'r DU mewn dirwasgiad. Ar y gorau, mae rhagolygwyr prif ffrwd yn disgwyl i'r economi dyfu ar gyflymder cymedrol yn unig dros y ddwy flynedd nesaf, hyd yn oed os bydd y DU yn gadael yr UE mewn ffordd drefnus.
Mae benthyca—ac roedd Mike Hedges yn cyfeirio at fenthyca—wedi cynyddu'n sydyn yn ystod pedwar mis cyntaf y flwyddyn ariannol bresennol, ymhell y tu hwnt i ragolygon y Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol ar gyfer cyllideb y gwanwyn. Bydd cylch gwario Llywodraeth y DU yn ychwanegu ymhellach at fenthyca, fel y gall rheolau cyllidol Llywodraeth y DU ar fenthyca a dyled gael eu torri, sy'n golygu bod tebygolrwydd uchel y daw rownd arall o gyni i'r golwg yn y dyfodol agos. Benthyciodd Llywodraeth y DU £24 biliwn yn y flwyddyn ariannol ddiweddaraf, sy'n cyfateb i 1.1 y cant o'r cynnyrch domestig gros. Ym mhedwar mis cyntaf y flwyddyn ariannol bresennol, mae'r benthyciadau wedi cynyddu'n sylweddol o'u cymharu â blwyddyn yn ôl. Polisi Llywodraeth y DU ar Brexit yw taflu'r economi ar y domen. Mae'r data arolwg diweddaraf, fel y dywedodd Mark Reckless, yn dangos y gall y DU fod mewn dirwasgiad eisoes. Y data arolwg a ddefnyddir yw data o arolygon o fynegrifau rheolwyr prynu, sydd ar y cyfan ag enw da ac o fod yn rhesymol o ran rhagweld y data swyddogol. Maen nhw'n dangos y gallai cyfradd twf yr ail chwarter fod yn wastad neu fymryn yn negyddol, a bydd llawer yn dibynnu ar y canlyniadau ar gyfer mis Medi. Bydd y rheini yn eu tro yn cael eu dylanwadu gan y graddau y mae busnesau a defnyddwyr yn rhagweld Brexit 'dim cytundeb', a hyd yn oed os yw twf y trydydd chwarter yn gadarnhaol, efallai fod hynny'n cael ei sbarduno gan gasglu stoc wrth ragweld Brexit. Felly, pe byddai hyn yn digwydd, gallai twf sylfaenol aros yn negyddol. Felly, rwy'n gobeithio bod hynny wedi helpu i egluro'r sefyllfa ac wedi helpu i egluro'r sylwadau yn fy natganiad.
A gaf i ddiolch i chi am eich datganiad, Gweinidog? Mae'n amlwg, hyd yn oed gyda'r cynnydd cyfyngedig a welwn ni yn y cylch gwariant eleni, nad yw effaith 10 mlynedd o gyni yn cael sylw digonol a bod Cymru'n dal i wynebu sefyllfaoedd ariannol anodd iawn yn y blynyddoedd i ddod. Roedd hi'n ddiddorol clywed sylwadau Nick Ramsay wrth y Prif Weinidog yn gynharach ac mewn ymateb i chi, Gweinidog, pan roedd yn rhaid i hyd yn oed Nick gydnabod ein bod wedi cael rhywfaint o doriadau. Rwy'n credu eich bod chi'n dechrau meistroli'r grefft o gynildeb nawr, Nick. [Chwerthin.]
Ond mae hefyd yn glir o'r hyn—[Torri ar draws.] Mae hefyd yn glir o'r hyn y mae'r cyn-Brif Weinidog Torïaidd David Cameron wedi'i ysgrifennu yn ei atgofion ei fod yn credu y dylai ei Lywodraeth fod wedi gwneud toriadau mwy a chyflymach mewn gwirionedd. Awgrymodd y dylai ei Lywodraeth fod wedi bod yn llymach gyda'r diffyg ar ôl iddo ddod yn Brif Weinidog yn 2010. Dywedodd:
Fy asesiad i nawr yw na wnaethom ni, fwy na thebyg, dorri digon.
Ac mae'n mynd ymlaen i ddweud:
Byddai'r rhai a oedd yn gwrthwynebu cyni yn gwrthwynebu, a hynny'n hysterig iawn, beth bynnag a wnaem ni... cystal inni fod wedi rhwygo'r plastr ymaith gyda mwy o doriadau'n gynnar.
A fyddech chi'n cytuno â mi, Gweinidog Cyllid, er gwaethaf yr hyn y mae'r Ceidwadwyr Cymreig yn ei ddweud heddiw a'r galwadau rheolaidd ar Lywodraeth Cymru i wario mwy, ein bod yn gwybod erbyn hyn y byddai wedi bod yn well ganddyn nhw gwtogi mwy fyth ar ein cyllidebau mewn gwirionedd, ac y dylai hynny fod yn rhybudd plaen i etholwyr Cymru, pryd bynnag y daw'r etholiad hwnnw, ac, oddi tanyn nhw a'u cyfeillion newydd yn y Blaid Brexit, na fyddwn yn gweld y cynnydd y mae taer angen amdano mewn llywodraeth leol a gwasanaethau rheng flaen eraill? A wnewch chi hefyd ymuno â mi i gondemnio eu trahauster wrth alw'r rhai ohonom ni sydd wedi gwrthwynebu'r difrod a achoswyd gan gyni yn hysterig?
Rwy'n cytuno'n llwyr, wrth gwrs, â phopeth y mae Dawn Bowden wedi'i ddweud a'i dirmyg llwyr at sylwadau'r cyn-Brif Weinidog David Cameron y dylai fod wedi gwneud toriadau mwy a chyflymach. Dyna'r union fath o sylwadau y byddem ni'n eu dychmygu gan rywun nad oes ganddo unrhyw syniad o'r effaith a gaiff toriadau ar fywydau pobl gyffredin, unrhyw syniad o'r effaith a gaiff hynny ar y gwasanaethau a'r awdurdodau lleol, y gwasanaeth iechyd ac eraill sydd dan bwysau, gan nad yw bywyd cyffredin yn effeithio dim ar bobl fel David Cameron a Boris Johnson, a phawb ar haenau uwch y mudiad Brexit. Nid yw'r neges y maen nhw'n ei chyflwyno yn effeithio arnyn nhw, nid yw goblygiadau Brexit 'dim cytundeb' yn effeithio arnyn nhw. Byddant yn ddigon hapus; byddan nhw'n gyfoethog beth bynnag sy'n digwydd. Ond nid yw hynny'n wir am ein hetholwyr ac nid yw hynny'n wir am y mwyafrif helaeth o'r bobl yng Nghymru y bydd polisi anghyfrifol yn effeithio'n ddrwg arnynt.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.
Eitem 7 ar ein hagenda y prynhawn yma yw datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, y wybodaeth ddiweddaraf am Brexit a galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Brexit, Jeremy Miles, i wneud y datganiad.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Pan gafodd y Cynulliad ei ad-alw bythefnos yn ôl, soniodd y Prif Weinidog am y camau gwarthus roedd Prif Weinidog y Deyrnas Gyfunol wedi'u cymryd i fygu llais y Senedd ar adeg o argyfwng i'r wlad. Ar ddiwedd y ddadl honno, fe anfonon ni neges glir i Lywodraeth y Deyrnas Unedig na fyddem ni'n sefyll o'r neilltu tra bo penderfyniadau'n cael eu gwneud sy'n bygwth ein democratiaeth ni.
Pan gafodd y Senedd ei hatal yr wythnos diwethaf, roedd 52 diwrnod i fynd tan y diwrnod ymadael. Erbyn i'r Aelodau ddychwelyd ar ôl cael eu gorfodi o'r Senedd, dim ond 17 diwrnod fydd ar ôl. Am ddwy ran o dair o'r 52 diwrnod gwerthfawr hynny, mae'r Senedd wedi bod ar gau.
Nid oes pwynt ceisio dadlau bod cyfnod o doriad ar gyfer cynadleddau'r pleidiau wedi'i gynnwys yn yr amserlen yn barod. Penderfyniad i'r Senedd ei wneud oedd hwnnw, ac mae'n fwy na thebyg y byddai Tŷ'r Cyffredin wedi pleidleisio i'w ganslo neu ei gwtogi.
Felly, rwy'n croesawu penderfyniad Llys y Sesiwn, sydd, mewn gwirionedd, yn llys uwch na'r Uchel Lys yn Llundain, er gwaethaf sylwadau rhai Aelodau Seneddol Ceidwadol, a ddyfarnodd fod y camau a gymerwyd i atal y Senedd yn anghyfreithlon. Rŷm ni'n aros nawr, wrth gwrs, am y dyfarniad terfynol gan y Goruchaf Lys.
Yn ystod yr amser gwerthfawr hwnnw pan gyfarfu'r Senedd ar ôl toriad yr haf, fe welwyd Aelodau Seneddol o sawl plaid, gan gynnwys rhai Aelodau o feinciau'r Llywodraeth a oedd yn barod i roi buddiannau'r wlad o flaen buddiannau'r Blaid Geidwadol, yn dod ynghyd i gyflwyno deddfwriaeth a oedd wedi'i chynllunio i'n hatal rhag ymadael heb gytundeb ar 31 Hydref.
Fel swyddog y gyfraith ar gyfer Llywodraeth Cymru, rwy'n hollol o ddifrif ynglŷn â fy nyletswydd i sicrhau y dilynir rheol y gyfraith. Mae hon yn egwyddor sylfaenol y mae holl ddinasyddion y DU, ac, yn wir, dinasyddion unrhyw ddemocratiaeth aeddfed, yn dibynnu arni bob un diwrnod.
Dirprwy Lywydd, rydym ni wedi defnyddio iaith gref yn y Siambr hon yn ystod yr wythnosau diwethaf, ond nid wyf yn gwneud unrhyw esgusodion dros feirniadu Gweinidogion Llywodraeth y DU pan fyddant yn methu ag ymrwymo y byddant yn ufuddhau i'r gyfraith. Mae'n gwbl warthus na all pobl y DU ddibynnu ar y Prif Weinidog i ddilyn cyfraith y Deyrnas Unedig.
Yr wythnos diwethaf, yng Nghyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau'r Undeb Ewropeaidd), heriais Michael Gove ar hyn ac fe'm sicrhaodd y byddai'r Llywodraeth yn ufuddhau i'r gyfraith. Ond, ar yr un pryd, parhaodd i siarad fel y byddai'r DU yn bendant wedi gadael yr UE erbyn 31 Hydref. Ac mae'n rhaid inni gofio nad yw'r DU ar ei phen ei hun yn penderfynu ai dyna fydd yn digwydd; mae gan bob un o'r 27 aelod-wladwriaeth arall yn yr UE feto ar estyniad. Yr hyn sy'n glir, felly, yw bod peryglon o hyd y bydd y DU yn gadael heb gytundeb ar 31 Hydref ac mae angen i ni fwrw ymlaen â'n cynllunio ar gyfer sefyllfa o ymadael 'dim cytundeb'.
Ddoe, fe wnaethom ni gyhoeddi cynllun gweithredu ymadael 'dim cytundeb' Llywodraeth Cymru. Mae hyn yn adleisio'r dadansoddiad sobreiddiol o'r peryglon sy'n ein hwynebu fel y dangosodd cyhoeddi rhagdybiaethau Yellowhammer y Deyrnas Unedig i'r cyhoedd. Rydym ni, fel Llywodraeth, wedi bod yn dweud ers misoedd bod y math o ganlyniadau a grybwyllir yn y dogfennau hynny'n berygl go iawn o gael Brexit 'dim cytundeb' ac yn gwbl amhosibl ei ddychmygu, a dyna pam rydym ni wedi galw am ei ddiystyru. Rydym ni wedi bod yn glir: lle mae'r gallu gennym ni i weithredu i liniaru goblygiadau ymadael 'dim cytundeb', rydym ni wedi gwneud hynny.
Dros yr wythnosau nesaf, bydd fy nghyd-Weinidogion yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Siambr am y paratoadau a amlinellir yn y cynllun gweithredu. Bydd Llywodraeth Cymru hefyd yn dod â rhanddeiliaid o bob cwr o Gymru ynghyd i drafod goblygiadau ymadael 'dim cytundeb' ar Gymru a beth, os o gwbl, y gallwn ni ei wneud i gyfyngu ar y niwed a wneid.
Ond gadewch i mi fod yn glir: mae'r rhan fwyaf o'r mesurau lliniaru sydd eu hangen ar gyfer ymadael 'dim cytundeb' y tu hwnt i'n rheolaeth uniongyrchol—nid ydynt hyd yn oed dan reolaeth Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Yng nghyfarfodydd diweddar is-bwyllgor Cabinet y DU yr wyf i a Gweinidogion eraill Llywodraeth Cymru wedi bod yn bresenol ynddynt, mae canlyniadau enbyd gadael 'dim cytundeb' yn parhau i gael eu disgrifio. Mae'n rhyfeddol bod Llywodraeth y DU yn gallu ystyried difrod o'r fath i'r DU fel mater o ddewis gwleidyddol.
Ni ddylai pobl Cymru gael eu twyllo y bydd Brexit 'dim cytundeb' yn derfyn ar dair blynedd o ansicrwydd. Yn hytrach, bydd yn dechrau pennod newydd o gynnwrf aruthrol. Bydd yr economi'n dioddef poen economaidd sylweddol, gyda chwalfa yng ngwerth y bunt ac ansefydlogrwydd ehangach yn y marchnadoedd ariannol. Bydd pob dinesydd yng Nghymru a'r DU yn teimlo'r boen hon.
Mae'r holl dystiolaeth yn dangos y bydd y boen economaidd hon yn hirhoedlog ac yn barhaol. Bydd yr economi'n llai nag y byddai wedi bod fel arall, a bydd hynny'n taro incwm pob teulu yn y DU. At hynny, hyd yn oed o gael llechen lân, fel y'i gelwir, bydd yn rhaid i'r DU negodi perthynas newydd â'n partneriaid economaidd agosaf, a bydd Brexit 'dim cytundeb' yn gwneud y trafodaethau hyn yn anoddach.
Mae'n ymddangos y bydd y berthynas rhwng y DU a'r UE ar adeg yr ymadawiad yn fwyfwy chwerw, gyda diffyg cyfaddawdu, ychydig iawn o debygolrwydd cael cytundeb yn y dyfodol yn y tymor agos, a Llywodraeth y DU yn canolbwyntio ar feio'r Undeb Ewropeaidd. Ychwanegwch at hynny y bygythiad na fydd Llywodraeth y DU yn anrhydeddu'r ymrwymiadau ariannol mewn sefyllfa o adael 'dim cytundeb', ac mae'n amlwg y bydd angen i'r DU adeiladu pontydd newydd ac adfer cydberthnasau sydd wedi'u difrodi, hyd yn oed cyn i'r trafodaethau ddechrau.
Y gwir amdani yw y bydd y DU yn cyd-drafod yn gyson â'r UE am byth os byddwn yn gadael. Mae'r ffaith y bydd y berthynas newydd hon yn dechrau ar nodyn mor wael yn peri pryder mawr ac yn niweidiol i'n henw da yn rhyngwladol. Mae'r Senedd wedi rhoi cyfarwyddiadau clir i Brif Weinidog y DU. Mae'r broses ar gyfer osgoi ymadael 'dim cytundeb' wedi'i nodi mewn deddfwriaeth. Mae'r camau yno i'w cymryd. Ac eto, clywn gan Brif Weinidog y DU mai ei bolisi ef yw i'r DU adael ar 31 Hydref hyd yn oed os na ellir dod i gytundeb. Pe bai'r Prif Weinidog yn anwybyddu'r cyfarwyddyd gan y Senedd, yna byddai'n benderfyniad y byddai'n rhaid iddo fod â goblygiadau cyfansoddiadol a chyfreithiol difrifol.
Bydd ymadael 'dim cytundeb' yn drychinebus a dylai fod y tu hwnt i bob amgyffred. Rydym ni'n parhau'n ymrwymedig i'r llwybr amgen. Mae dyfodol mwy disglair i Gymru, sef dewis parhau yn aelod a helpu i lunio Undeb Ewropeaidd diwygiedig.
Pe gallwn i atgoffa'r Gweinidog heddiw, cyn diolch iddo am ei ddatganiad, gyda llaw, fod yna wirionedd anghyfleus, am ryw reswm, nad yw'r Blaid Lafur, y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru yn y Siambr hon eisiau ei gydnabod, a hynny yw bod pobl Cymru wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd. Rwy'n gwybod nad ydych chi'n hoffi hynny. Pleidleisiodd y bobl yn eich etholaeth eich hun i adael yr Undeb Ewropeaidd drwy fwyafrif, ac mewn llawer o'ch etholaethau ledled Cymru yn y lleoedd hynny lle'r ydych chi'n eiriol dros aros.
Nawr, rydych chi'n gwneud popeth o fewn eich gallu i rwystro ewyllys y bobl. Rydych chi newydd gyfeirio—rydych chi newydd gyfeirio at y Prif Weinidog yn cael cyfarwyddiadau clir gan y Senedd. Beth am y cyfarwyddiadau clir gan bobl y Deyrnas Unedig a Chymru a roddwyd i'r Senedd? Mae'n hen bryd inni gael ychydig o barch at benderfyniad ac ewyllys y bobl, a gweithredu'r Brexit y pleidleisiodd pobl drosto.
Nawr, gallaf weld yr holl—gallaf weld yr holl ymdrech i greu dychryn ymhlith y cyhoedd drwy'r prosiect codi bwganod, cyfres 2, yr ymddengys eich bod chi wedi cychwyn arno. Gwelsom y ddogfen denau iawn a gyhoeddwyd yr wythnos hon o ran paratoi Llywodraeth Cymru, a'r tybiaethau y mae Llywodraeth Cymru yn gweithio iddynt. Ond, wrth gwrs, fe glywsom ni i gyd yr un rhagfynegiadau o'r blaen, a dyma pam nad yw pobl yn cael eu perswadio gan y dadleuon rydych chi'n eu rhoi gerbron. Clywsom y rhagfynegiadau hyn o'r blaen ynglŷn â beth fyddai'n digwydd ar y diwrnod cyntaf un petaem yn pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd, ac ni wireddwyd yr un ohonyn nhw—ni wireddwyd yr un ohonyn nhw. Felly, rwy'n ofni fy mod yn ei chael hi'n anodd iawn clywed Llywodraeth Cymru yn rhygnu ar yr un hen ddadleuon eto yn y Siambr hon, ac ymddengys fod ymdrech fwy penderfynol fyth y dyddiau hyn i ddileu ewyllys y bobl a gwrthdroi'r mandad democrataidd hwnnw y dylai pawb fod yn canolbwyntio ar ei weithredu.
Clywsom heddiw fod Plaid Cymru wedi ymuno â'r eithafwyr Brexit yn y Democratiaid honedig Rhyddfrydol drwy fod eisiau mewn gwirionedd ddileu Brexit yn llwyr hyd yn oed heb refferendwm. Mae hynny'n rhyfedd. Mae eich safbwynt yn un rhyfedd gan eich bod eisiau ceisio negodi bargen ac yna annog pobl i bleidleisio yn ei erbyn mewn refferendwm. Dydw i ddim yn gwybod pam nad ydych chi'n meddwl bod hynny'n beth anarferol i'r Undeb Ewropeaidd ei feirniadu, a dyna pam, wrth gwrs, y buon nhw yn ei feirniadu. Felly, fe'i caf hi'n anodd gwrando ar y dagrau ffug o amgylch y Siambr pan fo'n gwbl amlwg bod pobl eisiau gadael, fod pobl eisiau inni fwrw ymlaen â hyn, eu bod ni wedi cael llond bol ar lusgo traed, a dyna pam fy mod i'n llwyr gefnogi'r Prif Weinidog wrth iddo geisio gweithredu'r penderfyniad hwn erbyn 31 Hydref.
Nawr, does neb—does neb yn y Siambr hon eisiau ymadael 'dim cytundeb'. Byddai'n well gan bawb gael cytundeb, ond dim ond un ochr i'r bwrdd bargeinio ydym ni. Mae'n ymddangos bod yr ochr arall i'r bwrdd bargeinio yn floc o genedl-wladwriaethau sy'n gwrthod cyfaddawdu ar eu hanhyblygbrwydd o ran diwygio'r cytundeb ymadael. Nawr, rydych chi'n dweud eich bod eisiau rhywfaint o ddilyniant, rydych chi'n dweud eich bod chi eisiau rhywfaint o sicrwydd, rydych chi'n dweud eich bod eisiau'r gallu i bobl barhau i fasnachu, ac, wrth gwrs, roedd hynny i gyd wedi ei gynnwys yn y cytundeb ymadael, y bu i bob un ohonoch chi bleidleisio'n gyson yn ei erbyn. Felly, rydym ni mewn sefyllfa lle mae gennym ni Brif Weinidog sy'n ceisio gwireddu ewyllys y Senedd wrth geisio sicrhau newidiadau i'r cytundeb ymadael, ac mae wedi'i gwneud hi'n glir os na all sicrhau cytundeb o ran y newidiadau angenrheidiol hynny y bydd yn benderfynol o adael heb gytundeb.
Nawr, a gaf i ofyn rhai cwestiynau i chi? Rydych chi wedi ei gwneud hi'n glir—. Rydych chi wedi awgrymu heddiw bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi sefyllfa lle, hyd yn oed os byddwn ni'n gadael yr UE heb gytundeb, rydych chi'n teimlo y dylem ni dalu'r cyfraniad hwnnw o £39 biliwn, sydd yn frawychus iawn i mi. A allwch chi gadarnhau mai dyna yw safbwynt Llywodraeth Cymru? Oherwydd dyna'r hyn yr oeddech chi fel petaech yn ei awgrymu wrth sôn am yr angen i anrhydeddu ymrwymiadau ariannol. Oherwydd mae'r ymrwymiadau hynny, wrth gwrs, yn gysylltiedig â'r cytundeb ymadael ar hyn o bryd.
A ydych chi'n derbyn bod y Senedd wedi cael cyfarwyddiadau clir gan bobl y Deyrnas Unedig, gan gynnwys pobl Cymru, i adael yr Undeb Ewropeaidd? A ydych chi'n derbyn—? Rydych chi'n sôn am oblygiadau cyfansoddiadol anufuddhau i'r Senedd, ond beth am y goblygiadau cyfansoddiadol a'r cymhlethdodau a fyddai'n ynghlwm wrth beidio â gweithredu canlyniad refferendwm? Dyma fyddai'r tro cyntaf yn hanes y Deyrnas Unedig na fyddai canlyniad refferendwm wedi'i gweithredu.
Ac os caf i droi at eich dogfen, os caf i, y cyhoeddwyd gennych chi y diwrnod o'r blaen, un peth nad ydych chi'n cyfeirio ato, i bob golwg—ac ychydig iawn o ddiweddariad sydd, mewn gwirionedd, yn nhestun eich datganiad heddiw—nid ydych chi'n cyfeirio at yr hyn sy'n digwydd mewn gwirionedd o ran pobl yn elwa ar y cymorth sydd ar gael gan Lywodraeth Cymru. Rydych chi wedi neilltuo cronfa drawsnewid o £50 miliwn. Nid yw hynny i gyd wedi'i ddyrannu eto. Hynny yw, pa mor agos y mae'n rhaid inni fod at y dyddiad cyn dechrau dyrannu'r arian hwn a'i gael o'r gronfa i bocedi'r sefydliadau y mae angen iddyn nhw baratoi ar gyfer Brexit? A gawn ni'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny? Byddai hynny wedi bod yn fwy defnyddiol na'r lol botes a glywsom ni y prynhawn yma.
A allwch chi ddweud wrthym ni hefyd faint o fusnesau sydd wedi defnyddio porthol Brexit Busnes Cymru? Oherwydd nid wyf yn credu bod llawer o bobl yn ei ddefnyddio, a dweud y gwir. Wyddoch chi, cewch fy nghywiro os ydych yn dymuno. Byddaf yn hapus i—. Os yw hynny'n wir, byddaf yn hapus os oes miloedd lawer wedi ac nid, mewn gwirionedd, yn clicio arno unwaith ond yn defnyddio'r wefan er mwyn elwa ar y cymorth sydd ei angen arnyn nhw.
A ydych chi'n dirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
A beth am wefan Paratoi Cymru, hefyd? Rwyf yn dirwyn i ben, Dirprwy Lywydd. A allwch chi ddweud wrthym ni faint o bobl sydd wedi manteisio ar hynny o ran y sefydliadau eraill nad ydynt yn fusnesau y gallai fod angen cymorth arnynt? Felly, yn hytrach na rhygnu ar yr un hen dant, hoffwn glywed yn union pa gynnydd rydych chi'n ei wneud trwy weithio gyda Llywodraeth y DU i wireddu ewyllys pobl Cymru wrth gyflwyno Brexit cyn gynted â phosib.
Y Gweinidog Brexit.
Rwy'n gobeithio y cafodd detholwyr Plaid Geidwadol Gorllewin Clwyd fwy o wybodaeth o hynny na'r gweddill ohonom ni yn y Siambr hon. Mae'r Aelod yn sôn am Brexit 'dim cytundeb' gyda rhyw ddihidrwydd y credaf fod y rhan fwyaf ohonom ar y meinciau hyn yn ei chael hi'n frawychus iawn. Mae'n honni ei fod yn poeni am elwa ar wasanaethau a ariennir gan y Llywodraeth a'r cyfraniadau yr ydym ni wedi'u gwneud i gadernid. Nid wyf yn credu am eiliad fod y rheini'n gyfres ddilys o ymholiadau, ond rwy'n hapus i ateb rhai o'r cwestiynau.
Mae'n sôn am anrhydeddu'r refferendwm. Beth am anrhydeddu'r addewidion a wnaed i bobl yn 2016? Gadewch i ni ddechrau gyda hynny. Gadewch i ni ddechrau gyda'r addewidion y byddai bargeinion masnach y pethau hawsaf yn y byd ac eto rydym ni bellach mewn sefyllfa lle rydym ni wedi normaleiddio'r syniad o droi cefn ar rwydwaith masnach, a fyddai'n ergyd farwol i rannau o'n heconomi, ac mae rhannau o'r Siambr hon yn ystyried hynny'n berffaith dderbyniol. Mae'n warth.
Mae'n sôn am ymgais i godi bwganod. Mae'r Llywodraeth y mae'n ei chefnogi yn San Steffan wedi datgelu eu rhagdybiaethau cynllunio. Dyna Lywodraeth sy'n fodlon cael Brexit 'dim cytundeb' er gwaethaf y darluniad llwm yn y ddogfen honno o'r niwed a gai ei achosi—[Torri ar draws.] Mae'n mwmian ar ei eistedd mai'r sefyllfa waethaf yw honno—[Torri ar draws.] Os yw'n gwrando, fe gaiff yr atebion. Dogfen yw honno sy'n dangos beth yw asesiad person rhesymol o ba mor wael y gall pethau fod.
Os nad yw hynny i gyd yn digwydd, beth y mae'n barod goddef iddyn nhw fynd o chwith yn y rhestr honno o bethau? Ai prisiau trydan yn cynyddu? Ai anghydfod sifil? Ai cynnydd mewn prisiau yn cael effaith anghymesur ar grwpiau incwm isel? Ai oedi i gael cyflenwad meddyginiaeth? Beth o blith hynny y mae'n barod i oddef wrth iddo ddisgrifio'n hollol bwyllog y posibilrwydd o Brexit 'dim cytundeb'? Rydym ni'n cymryd camau sy'n gymesur yn wyneb y math hwnnw o fygythiad er mwyn lliniaru, gorau y gallwn ni, y difrod ar Gymru. Ond gadewch i ni fod yn gwbl bendant: ni all faint bynnag o waith paratoi, waeth pa mor effeithiol, pa mor gydweithredol bynnag, gael unrhyw effaith sylweddol ar beth o'r difrod a ddisgrifir yn y ddogfen honno, a dylai ganolbwyntio ar hynny yn hytrach na'r dicter ffug y mae wedi'i ddangos heddiw.
A dim ond i fod yn glir, rydym ni yn credu y dylai Llywodraeth y DU dalu ei dyledion. Rydym ni yn credu y dylai Llywodraeth y DU dalu ei dyledion. Mae'r rhain yn gyfraniadau i raglenni cyfredol, i ymrwymiadau cyfredol i'r Undeb Ewropeaidd, ac mae'n troedio llwybr peryglus iawn os yw, mewn byd lle y mae'n credu y dylem ni fod yn negodi cytundebau masnach newydd, yn barod i lurgunio enw da'r DU drwy gefnu ar ei rwymedigaethau.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Diolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad. Am lanast llwyr y mae Llywodraeth y DU yn ei wneud o bethau. Canfyddir bod y Prif Weinidog wedi dweud celwydd wrth y Frenhines ac mae'n hapus i fygu'r Senedd a diystyru rheolaeth y gyfraith. Fel rydych chi wedi'i ddweud, Gweinidog, os yw'r gohiriad yn parhau—ac nid yw'n warant o gwbl, o ystyried hynt ymddangosiadol yr achos yn y Goruchaf Lys—ond os yw'r gwaharddiad yn parhau, bydd Aelodau Seneddol yn dychwelyd gyda dim ond 17 diwrnod cyn y diwrnod pan fydd Boris Johnson yn parhau i fynnu yn groes i'r gyfraith, yn groes i bob rheswm, y byddwn yn gadael yr UE, doed a ddêl. 'Peidiwch â gwastraffu'r amser hwn' yw'r rhybudd a gawsom ni Donald Tusk. Wel, mae Llywodraeth San Steffan wedi dangos pa mor ddi-glem y gall fod—pa mor fyddar i bob cri o reswm, tosturi neu synnwyr.
Prin fod y dogfennau Yellowhammer a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU yn sôn o gwbl am Gymru, felly mae'n ddefnyddiol bod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu cyhoeddi ei chynllun gweithredu ar gyfer sefyllfa o ymadael 'dim cytundeb'. O ystyried ei bod yn ddogfen swmpus, ni fentraf feirniadu'r cynlluniau cyn i mi orffen eu dadansoddi'n llawn, ond hoffwn hefyd ddiolch ar goedd i weithwyr yn y sector cyhoeddus sy'n gweithio'n ddiflino yn yr ystafelloedd cefn, y tu ôl i'r llenni, ac yn ddiwyd, i baratoi ar gyfer y drychineb bosib hon.
Ddoe, dywedodd Prif Weinidog Cymru wrth y Pwyllgor Materion Allanol fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn gwybodaeth fanylach gan Lywodraeth y DU nag a gyhoeddwyd yn y dogfennau Yellowhammer, ac mae'n amlwg y bu'r wybodaeth hon yn sail i'ch cynllun. Mae'r cynlluniau wrth gefn y mae Llywodraeth Cymru yn paratoi ar eu cyfer, yn seiliedig ar y cyngor hwnnw, yn ddim byd ond ffiaidd. Rwy'n credu ei bod hi'n gywilyddus bod llefarydd y Ceidwadwyr yn honni mai prosiect codi bwganod yw hyn ac y gall wfftio mor hawdd at darfu'n sylweddol ar symudiad pobl a nwyddau, anhrefn mewn porthladdoedd a meysydd awyr, prinder posib o ran bwyd a meddygaeth, tarfu'n sylweddol ar fasnach, a allai, ac rwy'n dyfynnu,
beryglu cynaliadwyedd rhai busnesau a chael effaith negyddol ar swyddi a chyflogau,
chwyddiant cynyddol, twf economaidd is, gydag aelwydydd incwm isel yn cael eu heffeithio waethaf, storm berffaith o golli swyddi, gostyngiad mewn cyflogau, a chostau cynyddol, y sectorau ffermio a physgota, a dyfynnaf eto, 'wedi taro'n arbennig o galed ', a gweithgynhyrchu uwch yn wynebu aflonyddwch oherwydd problemau gyda chadwyni cyflenwi union bryd, sectorau gwasanaethau sy'n debygol o gael eu heffeithio'n sylweddol, cynnydd mewn chwyddiant yn cael effaith sylweddol ar ddarparwyr gofal cymdeithasol, posibilrwydd o golli hawliau dinasyddion a gweld dyfodiad awyrgylch annifyr. Mae'r rhestr yn mynd ymlaen ac ymlaen.
A gadewch i ni fod yn gwbl glir am hyn. Er bod yr effeithiau hyn yn swnio'n debyg i oblygiadau rhyfel neu drychineb naturiol, maen nhw'n ganlyniadau disgwyliedig polisi presennol Llywodraeth y DU. Os byddan nhw'n ein tywys dros ymyl y dibyn, os byddan nhw'n gorfodi sefyllfa o ymadael 'dim cytundeb' ar Gymru a gweddill y DU, ni fyddan nhw byth yn cael maddeuant. Gallai hyn hyd yn oed fod yn drech na'r effeithiau trychinebus a gafodd polisïau dadddiwydiannu Thatcher ar Gymru.
Felly, rwy'n ei chael hi'n frawychus, Gweinidog, mai'r mater cyntaf un y mae'r cynllun gweithredu ymadael 'dim cytundeb' yn ei drafod yw dadlau'r achos dros undeb y Deyrnas Unedig. Siawns, pe bai Llywodraeth y DU yn gorfodi ymadawiad 'dim cytundeb' ar Gymru, ni fyddai unrhyw ddadl. Byddai gadael yr undeb yn flaenoriaeth, unwaith y byddwn ni wedi rhoi sylw i'r argyfwng tymor byr. Mae 41 y cant o boblogaeth Cymru yn dweud y bydden nhw'n pleidleisio dros annibyniaeth fel ffordd o aros yn yr UE, ac mae hynny nawr, cyn i drychineb ymadael 'dim cytundeb' ddigwydd, ac mae'r ffigur hwnnw'n digwydd nawr pan fo pobl yn gwybod mwy o'r ffeithiau hefyd. Rhaid i Lywodraeth Cymru roi'r gorau i gynnal undeb a fydd wedi ein siomi. Mae Prif Weinidog Cymru ei hun wedi dweud bod y DU yn undeb gwirfoddol. Os bydd cefnogaeth i annibyniaeth yn cynyddu ymhellach, yna ni fydd hi'n bosib anwybyddu'r galwadau am refferendwm annibyniaeth. Mae angen i chi ddechrau paratoi ar ei gyfer nawr.
Hoffwn orffen drwy ofyn ambell gwestiwn. A allwch chi ddweud wrthym ni faint mae Llywodraeth Cymru wedi'i wario yn paratoi ar gyfer sefyllfa o ymadael 'dim cytundeb' ac a ydych chi'n cytuno â mi y dylai'r arian hwn gael ei ad-dalu i Gymru'n llawn, gan mai polisi gan Lywodraeth y DU sydd wedi gwneud y gwariant yn angenrheidiol? Sylwais, hefyd, nad oedd sôn yn nogfennau Yellowhammer, na'ch cynllun gweithredu, am ddyfodol purfa olew Penfro, er bod straeon a ryddhawyd i The Sunday Times yn awgrymu y gallai cannoedd o swyddi fod mewn perygl. Yn ôl pob tebyg, dyma beth mae paragraff 15 dogfen Yellowhammer yn ei olygu. A ydych chi'n pryderu am y swyddi hyn, neu a yw Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn gywir i ddweud eu bod yn ddiogel? Ac yn olaf, a allwch chi roi sicrwydd heddiw y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod arian ychwanegol ar gael ar ben y £2 miliwn sydd eisoes wedi ei glustnodi ar gyfer banciau bwyd os yw ymadael 'dim cytundeb' yn arwain at argyfyngau ariannu ar gyfer teuluoedd ac unigolion sydd ag incwm isel, y bydd bron yn sicr yn wir?
Diolch i'r Aelod am ei chwestiynau. A gaf i yn gyntaf ategu ei sylwadau ynghylch y diolchiadau i'r holl bobl hynny yn y gwasanaethau cyhoeddus ac, yn wir, ym mhob agwedd ar gymdeithas yng Nghymru sy'n gweithio'n galed i fynd ati i baratoi Cymru ar gyfer rhai o'r mathau o bethau a ddisgrifiwyd yn nogfennau Yellowhammer?
Soniodd am yr achos yn y Goruchaf Lys. Hoffwn ddweud wrthi fy mod wedi cael adroddiadau o'r trafodion heddiw yn y llys a bod yr Ustusiaid yn cymryd gwir ddiddordeb yn effaith gohiriad y Senedd ar waith y Cynulliad a chanlyniad hynny ar y ddeddfwriaeth a'r gwaith y mae Aelodau yma wedi ei wneud yn craffu ac yn ystyried y rheini. Byddwn yn gobeithio, o leiaf, y byddai'r rhan fwyaf o bobl yn y Siambr yn cefnogi'r diddordeb sydd wedi'i ddangos yn yr effaith yma ar ein gwaith.
Mae hi'n gwneud sawl sylw am ddyfodol y DU o ganlyniad i Brexit caled neu 'dim cytundeb'. Yr hyn y byddwn i'n ei ddweud—ailadroddaf y sylw a wneuthum yn gynharach—yw mai'r rheini sy'n peri'r bygythiad mwyaf i'r undeb yw'r rheini sy'n dadlau dros Brexit caled neu 'dim cytundeb'. Gwyddom pa ganlyniadau y gallai hynny eu cael yn hawdd yn yr Alban ac yng Ngogledd Iwerddon, ac rwy'n credu bod dyfodol y DU yn cael ei beryglu mewn modd na fu o'r blaen oherwydd y mathau o drefniadau y mae'r bobl hynny yn berffaith fodlon eu hystyried, ac rwy'n cynnwys Prif Weinidog y DU yn hynny.
Mae'n gofyn yn benodol am y gwariant ac ati, ac rwy'n hapus iawn i gadarnhau iddi fy mod yn credu y gellid gwario arian sy'n cael ei wario yn gysylltiedig â pharatoi yn fwy cynhyrchiol ar bethau eraill. Nid oes yr un ohonom ni, rwy'n credu, o'r farn nad oedd modd gwario'r adnoddau a'r amser a dreuliwyd gan y Llywodraeth, gan lywodraeth leol a chan gyrff cyhoeddus a sefydliadau a busnesau ledled Cymru yn fwy cynhyrchiol mewn mannau eraill. A byddwn yn gwneud yn siŵr bod gennym ni gyfres o gynigion ariannol clir iawn i Lywodraeth y DU os bydd y mathau o amgylchiadau a ddisgrifir yn y dogfennau yr ydym ni wedi'u gweld yn ein hwynebu. Nid yw hi'n bosib inni ymdrin â'r canlyniadau a ragwelir yn y ddogfen honno heb gymorth ariannol sylweddol iawn, iawn gan Lywodraeth y DU, ac rwy'n gwybod fod y Gweinidog cyllid yn canolbwyntio'n fanwl iawn ar y gorchwyl hwnnw.
Wnaf i ddim gwneud sylw, os nad oes ots ganddi, am gwestiwn y burfa olew; gwnaf ei chyfeirio at y sylwadau cyhoeddus y mae'r cwmni eu hunain wedi'u gwneud am eu pryderon yn gysylltiedig â Brexit. A byddaf yn cadarnhau—a gobeithiaf y bydd wedi sylwi ar hyn o'r ddogfen a ddatgelwyd ddoe—rydym ni'n credu y caiff y mathau o Brexit a ddisgrifir yn y dogfennau hyn effaith sylweddol iawn ar grwpiau agored i niwed. A gallai effaith gronnol nifer o'r effeithiau hyn fod yn niweidiol iawn, iawn yn wir i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau. Mae'r cynllun yn cynnwys ymrwymiadau i gefnogi grwpiau amrywiol sy'n agored i niwed. Mae'r rheini'n dal i gael eu hadolygu, wrth gwrs, a byddwn yn gwneud popeth a allwn ni yn unol â'n grym â'n hadnoddau.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad? Rwyf innau hefyd yn diolch i Lywodraeth Cymru am eu cynllun gweithredu a gyhoeddwyd ddoe. O leiaf rydym ni yma yn y Cynulliad yn cael cyfle i graffu mewn gwirionedd ar y Llywodraeth o ran ei chynllun gweithredu, yn wahanol i'n cydweithwyr yn San Steffan sydd wedi cael eu rhwystro rhag craffu ar y gwaith ar ddogfennau Yellowhammer.
Gweinidog, digon hawdd yw dweud—. Wyddoch chi, rydym ni wedi cael areithiau gan wahanol aelodau. Nid oes a wnelo hyn ag areithiau; mae'n ymwneud â gofyn cwestiynau i chi. Felly, byddaf yn ceisio canolbwyntio ar gwestiynau, oherwydd yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud yw'r hyn yr ydym ni i gyd yn ei feddwl. Nawr, y pwynt yw—. Ychydig o bwyntiau. Byddwn wedi gobeithio y byddem ni wedi cael—[Torri ar draws.] A wnaiff yr Aelod roi cyfle i mi ofyn rhai cwestiynau. Diolch. Gweinidog, nid ydym ni wedi cael diweddariad ar y fframweithiau cyffredin, y byddwn wedi gobeithio amdano yn yr araith hon, oherwydd mae'n bwysig ein bod yn gwybod ble'r ydym arni yn y fframweithiau cyffredin hynny. Oherwydd os byddwn yn gadael heb gytundeb ar 31 Hydref, bydd yn braf gwybod yn union pa gynnydd a fu gyda'r fframweithiau cyffredin hynny fel y gallwn ni sicrhau bod pethau'n symud yn eu blaenau hefyd. Ond hefyd, efallai y gallech chi sôn am y gwahaniaethau rydych chi'n eu profi o ganlyniad i'r Llywodraeth newydd, oherwydd rwy'n gwybod gyda'r Llywodraeth flaenorol ei bod hi'n ymddangos ein bod yn symud ymlaen, lle cawsom yr adroddiad—cyhoeddwyd hynny gennym ni yn rhan o'n papurau ddoe yn y pwyllgor—ac nid yw tri o'r Aelodau sy'n rhan o'r adroddiad hwnnw bellach yn y Llywodraeth, felly mae'n ddiddorol gweld a yw'r Llywodraeth newydd o ddifrif ynglŷn â'r cynnydd gyda'r fframweithiau cyffredin ai peidio.
A allwch chi ddweud wrthym ni hefyd am unrhyw anghenion deddfwriaethol i Gymru yn y dyfodol? Unwaith eto, a oes unrhyw offerynnau statudol sy'n weddill y mae angen eu rhoi ar waith cyn 31 Hydref? A oes unrhyw offerynnau statudol yn Lloegr neu yn San Steffan y mae angen inni fod yn ymwybodol ohonyn nhw o hyd sy'n dal angen eu cymeradwyo er mwyn inni allu bod mewn sefyllfa lle mae'r ddeddfwriaeth yn ei lle ar gyfer Brexit 'dim cytundeb' ar 1 Tachwedd? Hefyd, unwaith eto, a ydych chi wedi asesu'r anghenion penodol gwirioneddol yng Nghymru? Rydym ni'n gwybod fod gohirio'r Senedd—rydym ni wedi trafod hyn, ac mae Prif Weinidog Cymru wedi sôn amdano'n eithaf clir. Roedd y penderfyniad i ohirio'r Senedd yn golygu bod yr holl Filiau hynny nad ydynt wedi'u cwblhau ac nad oedd Gorchymyn wedi'u gosod arnynt—ac nid oedd gan yr un ohonyn nhw orchymyn arno—i ganiatáu iddyn nhw barhau, mewn gwirionedd rhoddwyd y farwol iddynt, ac mae'n rhaid dechrau unrhyw beth eto. Mae nifer o Filiau sydd â chanlyniadau enfawr os nad oes gennym ni gyfnod pontio ar ôl gadael.
A ydych chi hefyd wedi gwneud unrhyw ddadansoddiad pellach, yn dilyn y gwaith a wnaed gan ysgol fusnes Prifysgol Caerdydd, a gyhoeddwyd gennych o'r blaen, oherwydd roedd hynny ychydig fisoedd neu beth amser yn ôl? Ble'r ydym ni arni heddiw yn eich dadansoddiad o'r effaith economaidd? Oherwydd rydych chi, rwy'n tybio—ac mae Delyth Jewell wedi sôn am hyn—wedi seilio'ch dadansoddiad a'ch cynlluniau gweithredu ar y data a gewch chi gan Lywodraeth y DU yn rhan o ddogfennau Yellowhammer. Ydych chi wedi gwneud unrhyw ddadansoddiad arall eich hun neu wedi gofyn am unrhyw ddadansoddiad o'r gwaith dilynol o waith ysgol fusnes Caerdydd?
Dydym ni ddim wedi trafod hyn heddiw, ond y gronfa ffyniant gyffredin— ble rydym ni arni? Pa drafodaethau ydych chi wedi'u cael ynglŷn â hynny? Mae Prif Weinidog Cymru eisoes wedi tynnu sylw at y ffaith y byddai hynny mewn gwirionedd yn fwy na'r £600 miliwn a gynigir i ni mewn cytundeb nad yw'r Senedd wedi ei basio eto. Felly, ble'r ydym ni arni, a sut mae hynny'n effeithio ar yr hyn y byddwch yn ei wneud a'r cynlluniau gweithredu hyn yn dilyn hynny, oherwydd, fel y nodwyd gennych chi yn y cynllun gweithredu hwnnw, mae rhai ohonyn nhw yn rhai tymor byr ac mae goblygiadau eraill tymor hwy i'r rhain?
Unwaith eto, un o'r pethau a amlygwyd imi yn y cynllun gweithredu oedd lle rydych chi'n dweud
mae Banc Lloegr wedi amcangyfrif bod aelwydydd £1,000 yn waeth eu byd bob blwyddyn.
Nawr rwy'n gwybod, beth bynnag a ddywedodd Darren Millar yn gynharach, na phleidleisiodd etholwyr yn fy etholaeth i wneud eu hunain na'u cymdogion £1,000 flwyddyn yn waeth eu byd. Felly, mae angen inni edrych ar beth yn union yw'r goblygiadau i'r rheini.
A gaf i ofyn un peth? Rydym ni wedi gweld y Prif Weinidog yn mynd i Ewrop yn y pen draw ac yn ceisio argyhoeddi Ewrop bod ei syniadau'n gweithio mewn gwirionedd a'u bod yn ystyrlon—mae'n amheus, ond mae wedi rhoi cynnig arni. Ond, ddoe, methodd ag ymddangos hyd yn oed mewn cynhadledd i'r wasg gyda Phrif Weinidog Lwcsembwrg. Penderfynodd ymneilltuo ohono. Nawr, nid yw hynny o gymorth i feithrin perthynas gyda'n partneriaid yn yr UE. Felly, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau ein bod yn cryfhau'r partneriaethau hynny a'r cydberthnasau hynny mewn sefyllfa lle gallem ni adael ar delerau drwg oherwydd y ffordd y mae Llywodraeth y DU yn ymddwyn? Oherwydd, i Gymru, bydd parhau i gael perthynas gref â chenhedloedd yr UE a'r rhanbarthau o fewn yr UE yn hanfodol ar gyfer yr anghenion busnes fydd gennym ni.
Diolch i'r Aelod am yr ystod honno o gwestiynau. Byddaf yn ymdrin â nhw mor gryno ag y gallaf. O ran y cwestiwn ynghylch fframweithiau cyffredin, mae gwaith yn parhau o ran y rheini. Bydd yn gwybod o sgyrsiau yn y pwyllgor a gawsom ni yn y gorffennol yr hoffem ni weld cynnydd cyflymach yn gysylltiedig â hynny, ond credaf fod y gwrthdyniad yr ydym ni wedi'i wynebu wrth gynllunio ar gyfer sefyllfa o ymadael 'dim cytundeb' wedi cael effaith, yn anffodus, ar yr amserlenni. Bydd hefyd yn gwybod mai bwriad y rheini yw cefnogi datblygiad polisi yn fwy hirdymor, a'r hyn sy'n amlwg yw y gall fod angen gwneud addasiadau polisi yn y cyfnod interim cyn cytuno ar fframwaith cyffredin penodol a chael craffu arno a chael mewnbwn gan randdeiliaid ac yn y blaen. Felly, rydym ni'n edrych ar hyn o bryd ar yr hyn y mae angen inni ei wneud er mwyn darparu ar gyfer yr angen hwnnw.
O ran effaith y Llywodraeth newydd ar y gwaith hwnnw, credaf y bu gwaith ar y gweill ar lefel swyddogol a chredaf fod gwaith yn mynd rhagddo yn gysylltiedig â'r rheini. Credaf y bu dau neu dri gyda rhanddeiliaid er mwyn cael eu sylwadau. Rydym ni'n ymwybodol iawn o'r ffaith—rwy'n credu bod pob Llywodraeth yn ymwybodol o'r ffaith bod angen i ni wneud yn siŵr bod amser i ddeddfwrfeydd a rhanddeiliaid graffu ar y fframweithiau hynny wrth iddyn nhw aeddfedu a chyn iddyn nhw gael eu cytuno.
Soniodd am ddeddfwriaeth ac effaith y broses o ohirio'r Senedd. Mae pum Bil wedi diffygio oherwydd y gohirio. Un o leiaf oedd yn un yr oeddem ni wedi rhoi caniatâd ffurfiol iddo yn y fan yma, ar gyfer y Bil hwnnw; un a fyddai wedi ymestyn ein cymhwysedd yma yn y Cynulliad; ac un a fyddai wedi rhoi pwerau pwysig i alluogi taliadau i ffermwyr ac ati. Felly nid darnau bach o ddeddfwriaeth amherthnasol yw'r rhain; maen nhw'n Filiau pwysig y mae'r Cynulliad yma yn disgwyl y byddai'r Senedd yn cael cyfle i'w pasio. Rydym ni'n ystyried ar hyn o bryd beth mae hynny'n ei olygu o ran deddfwriaeth ychwanegol bosibl yn y fan yma. Yn sicr, o ran offerynnau statudol, bydd angen cyflwyno offerynnau statudol pellach, naill ai oherwydd y pethau yr ydym ni wedi'u dysgu yn y cyfamser neu newidiadau a fu yng nghyfraith yr Undeb Ewropeaidd yn y cyfamser. Felly, caiff y rheini eu cyflwyno maes o law.
O ran yr effaith economaidd, gwyddom, wrth gwrs, fel yr amlinellodd yn ei gwestiwn, pa mor arwyddocaol fyddai effaith economaidd anffafriol ymadael 'dim cytundeb' neu Brexit caled, ac rydym ni hefyd yn gwybod na fydd unrhyw fath o Brexit mor fuddiol i economi Cymru ag aelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd. Bydd y Llywodraeth yn rhyddhau'r wybodaeth ddiweddaraf am effaith economaidd Brexit yn fuan. Bydd honno ar gael i'r Aelodau ei gweld.
Soniodd am y gronfa ffyniant gyffredin. Rwy'n ofni nad wyf mewn sefyllfa i roi unrhyw ddiweddariad iddo yn gysylltiedig â hynny. Yn syml iawn, nid ydym ni'n gwybod beth yw'r cynlluniau presennol yn San Steffan yn hynny o beth. Dywedodd y Gweinidog cyllid yn gynharach, rwy'n credu, ei bod wedi dechrau colli hyder bod cynllun gan Lywodraeth y DU hyd yn oed, ac mae'n anodd ymwrthod â'r casgliad hwnnw weithiau.
O ran y Prif Weinidog yn Lwcsembwrg, rwy'n credu ar ddiwedd y dydd ei bod hi'n bwysig bod ar gael ar gyfer craffu, onid yw e'? Rwy'n credu bod hynny'n dangos patrwm o ymddygiad wrth beidio â bod ar gael i'ch holi ac yn y blaen. Ond y pwynt ehangach yn y fan honno: roeddwn i yng Nghyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau'r Undeb Ewropeaidd) ddydd Iau diwethaf a gofynnais am ddiweddariad ar y trafodaethau y mae Llywodraeth y DU yn dweud eu bod yn eu cynnal, ac rwy'n ofni y gadewais heb unrhyw hyder o gwbl ein bod yn edrych ar negodi fel y byddem yn ei ddeall—proses drylwyr a manwl o fargeinio a chyfnewid. Felly nid wyf yn ffyddiog o gwbl y gallaf roi unrhyw sicrwydd iddo fod yna gyd-drafod yn y ffordd y byddem ni yn deall hynny, yn ystyrlon, yn mynd rhagddo.
Rwy'n falch o glywed y bydd y Llywodraeth yn cyhoeddi ei hamcangyfrif ei hun ar effaith economaidd ymadael 'dim cytundeb', gan fod y Gweinidog newydd fabwysiadu cyfeiriad David Rees at amcangyfrif Banc Lloegr—£1,000 sy'n dod o amcangyfrif o 5 y cant. Ac eto, cyfeiriodd ei gyd-Aelod gynnau, Rebecca Evans, at amcangyfrif o 10 y cant gan y Trysorlys, a arweiniodd at yr amcangyfrif hwn o £2,000. Eto, a yw'r Gweinidog yn cydnabod fod hyd yn oed yr isaf o'r amcangyfrifon hynny yn seiliedig ar ragdybiaeth gan Fanc Lloegr y bydd ymadawiad 'dim cytundeb' yn arwain at Fanc Lloegr yn codi ei gyfraddau llog o 0.75 y cant i 4.5 y cant, ac mae'n ymwybodol bod bron unrhyw economegydd sector preifat sydd wedi gwneud sylwadau ar hynny'n meddwl ei fod yn syml yn beth anhygoel i'w ddweud?
Nid wyf i'n dal ronyn callach, mewn gwirionedd, o ran beth yw polisi'r Gweinidog ynghylch sefyllfa gyffredinol Brexit. A yw eisiau gweld Llywodraeth y DU o dan ei blaid ef yn mynd i Frwsel i geisio negodi cytundeb newydd fel y gallant ddod yn ôl i'r wlad hon ac ymgyrchu yn ei herbyn mewn refferendwm? Ac a yw'n cytuno â'r ddwy lythyren a ddefnyddiodd ei gydweithiwr, yr Ysgrifennydd Iechyd, i ddisgrifio'r polisi hwnnw—BS?
Dywed yn ei ddatganiad fod Llywodraeth y DU yn canolbwyntio ar feio'r UE, ond bydd llawer o bobl sy'n gwrando ar ein dadleuon yn gweld Llywodraeth Cymru'n canolbwyntio ar feio Llywodraeth y DU. Pan fydd anghydfod, pryd bynnag y bydd yr Undeb Ewropeaidd yn gwrthod cyfaddawdu ac yn ystyfnigo, gellir cyfrif ar Lywodraeth bresennol Cymru i ochri â sefydliadau'r Undeb Ewropeaidd yn erbyn Llywodraeth y DU. Soniodd yr Aelod blaenorol am fygythiad i'r undeb. Onid yw'n fygythiad i'r undeb fod y Llywodraeth hon yng Nghymru yn gwrthod gweithredu dros bobl Cymru sydd eisiau aros yn y DU ond gadael yr Undeb Ewropeaidd? Dywedodd eich rhagflaenydd, y Cwnsler Cyffredinol
ni fyddwn yn gweithio yn erbyn canlyniad y refferendwm.
Pryd newidiodd y polisi hwnnw?
Rydych chi'n sôn am dalu ein dyledion. Onid ydych chi'n ymwybodol bod ein cytundeb â'r Undeb Ewropeaidd yn darparu ar gyfer dull ymadael? Rydym ni'n rhoi dwy flynedd o rybudd. Am y ddwy flynedd hynny, mae'n rhaid inni barhau i dalu popeth y byddem ni wedi ei wneud fel aelod. Ar ôl hynny nid oes ymrwymiad cyfreithiol rhyngwladol, parhaus. Nid ydym ni wedi'n contractio i dalu. Nid oes dyled. Dywedodd hyd yn oed y Pwyllgor Dethol ar yr Undeb Ewropeaidd yn Nhŷ'r Arglwyddi—sydd ymhell o fod yn noddfa o benboethiaid dros adael—nad oes rhwymedigaeth ariannol barhaus os byddwn yn gadael ar ddiwedd proses erthygl 50. Yr unig faes lle gallai hynny fod yn wahanol yw ar gyfer Banc Buddsoddi Ewrop, oherwydd ei fod wedi'i gyfansoddi ar wahân â'i gyfalaf ei hun. A phe baem yn mynd i'r Llys Cyfiawnder Rhyngwladol, pam ein bod ni'n cael yn ôl dim ond £3.5 biliwn o'r cyfalaf a roesom ni yn y lle cyntaf, nid ein cyfran ni o £7.5 biliwn ychwanegol o'r cronfeydd cronedig? Mae'n siŵr y gwnaiff gefnogi'r Undeb Ewropeaidd yn hynny o beth hefyd.
A gaf i ofyn am y sefyllfa gyfreithiol? Oherwydd mae'n disgrifio llys y sesiwn, gan ddweud,
sydd mewn gwirionedd yn uwchlys.
Ym mha ystyr y mae'n uwchlys? Mae mewn awdurdodaeth wahanol. Mae hefyd yn gwrando ar achosion yn y lle cyntaf mewn adolygiad barnwrol yn yr un modd ag y mae'r Uchel Lys yn Llundain yn ei wneud, neu yn wir, pan fo'n eistedd yng Nghaerdydd. Mae mewn awdurdodaeth wahanol. Pam mae'n uwchlys yn fwy nag y mae wythfed dosbarth o apeliadau ffederal yng Nghaliffornia efallai'n uwchlys? Nid yw; mae mewn awdurdodaeth wahanol. Onid yw hi'n wir mai dim ond darbwyllo y gall ei ddyfarniadau eu gwneud ar y gorau? Nid ydynt yn gyfrwymol yn ein hawdurdodaeth yng Nghymru a Lloegr. A, Cwnsler Cyffredinol, rydych chi'n cwyno na all y DU ddibynnu ar y Prif Weinidog i ddilyn cyfraith y DU. Oni all pobl Cymru ddibynnu ar eu Prif Weinidog a'u Cwnsler Cyffredinol i ddilyn cyfraith Cymru a Lloegr?
Iawn. I ddyn a gafodd addysg mor ddrud, yn sicr nid yw wedi dysgu gwneud ei waith cartref. Y pwynt olaf hwnnw: Mae'n ffaith bod Llys y Sesiwn yn uwchlys, ac nid yw'n gwrando ar yr adolygiad barnwrol hwn fel achos cyntaf, a byddwn wedi meddwl y byddai wedi gwybod hynny.
Mae'n honni ei fod yn gwybod beth yw barn y gymuned fusnes fel petai hynny'n unfrydol a bod ganddo ryw ddirnadaeth uniongyrchol ohono. Gwyddom o'n cyswllt â phobl ledled Cymru, busnesau ledled Cymru, mor ofnus ydyn nhw o'r graddau o ansicrwydd y mae Brexit a'r posibilrwydd y bydd Brexit 'dim cytundeb' yn eu hachosi. Dyna pam rydym ni wedi canolbwyntio cymaint ar roi'r holl gymorth y gallwn ni.
Rwy'n credu ei bod yn gwbl ddi-hid iddo siarad am y DU yn peidio â thalu'r symiau sydd yn ddyledus i'r Undeb Ewropeaidd. Hyd yn oed ar ei farn ef am y byd—nad wyf yn ei rannu mewn unrhyw fodd—does bosib nad yw hi'n wir bod yn rhaid i unrhyw lywodraeth sy'n ceisio negodi cytundebau rhyngwladol a rhwymedigaethau rhyngwladol â phartneriaid eraill allu cyfeirio at ei didwylledd a'i gonestrwydd a'i huniondeb pan ddaw'n fater o dalu symiau y mae eisoes wedi cytuno i'w talu. Ac rwy'n credu bod Llywodraeth y DU yn peryglu'r enw da hwnnw'n sylweddol os yw'n ceisio osgoi'r taliadau hynny.
Mae'n holi am ein polisi. Gadewch imi fod yn gwbl glir: ni allem ni fod yn fwy pendant ym Mhlaid Lafur Cymru mai ein safbwynt ni yw y dylai pobl gael cyfle i ddweud eu dweud ac y byddwn yn ymgyrchu dros aros. Gobeithio y gallwn ni argyhoeddi ein cyd-Aelodau yn y Senedd i ymrwymo i aros yn yr holl amgylchiadau hynny, ond gadewch inni fod yn gwbl glir mai dyna yw ein hymrwymiad. Rydym ni wedi gwneud hynny dro ar ôl tro yn y Siambr. Mewn gwirionedd, y sefyllfa yw, yn 2016, gwnaed cyfres o addewidion i bobl sydd wedi syrthio'n ddarnau. Ac er ei fod yn sôn am barchu canlyniad y refferendwm, mae'n hen bryd i bobl ddechrau parchu'r addewidion a wnaed i bobl yn 2016.
Ac yn olaf, yn fyr iawn, Jenny Rathbone.
Beth wnaethoch chi ymgyrchu drosto yn 2016?
Diolch. Gelwais ar Jenny Rathbone. Diolch.
Diolch. Mae un o'r cynlluniau wrth gefn a grybwyllir yn natganiad Llywodraeth Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar yn ymwneud â'r amhariad posib ar gemegau a ddefnyddir yn y diwydiant dŵr. Tybed a allech chi ddweud wrthym ni pa drafodaethau a gawsoch chi gyda Llywodraeth y DU ar hyn a pha drafodaethau gyda Dŵr Cymru. A allech chi ymhelaethu ar beth yw'r cemegau hyn a pham na ellir eu pentyrru, neu a ellir eu pentyrru am ddim ond cyfnod penodol o amser? A faint o amser y byddai'n ei gymryd i'r hyn a fewnforir ar hyn o bryd o rannau eraill o Ewrop gael ei weithgynhyrchu yng Nghymru? Dyna fy nghwestiwn cyntaf.
Mae'r ail gwestiwn sydd gennyf yn un am y diwydiant bwyd. Mae Prif Weinidog Cymru eisoes wedi dweud bod archfarchnadoedd wedi rhoi sicrwydd y byddant yn cyflenwi hyd yn oed y rhannau mwyaf anghysbell o Gymru, gan sicrhau bwyd i bobl, ond dim ond meddwl oeddwn i tybed pa gyngor a roddwyd i ysgolion ac i gymunedau ynghylch tyfu llysiau'r gaeaf fel na fydd yn rhaid i ysgolion ddibynnu ar lysiau tun a llysiau wedi'u rhewi yn lle llysiau ffres.
Diolch iddi am y cwestiwn yna. O ran y mater o gemegau trin dŵr—rwy'n credu ei bod hi'n holi ynghylch hynny—bu trafodaethau uwch gyda'r cwmnïau dŵr a chyda Llywodraeth y DU ynglŷn â hynny fel bod cynlluniau wrth gefn ar waith mewn cysylltiad â'r rhai sydd wedi'u profi.
Mae hi'n gywir, os caf ddweud, i dynnu sylw at bwysigrwydd cyflenwi bwyd a'r bwyd sydd ar gael yn gyffredinol. Rydym ni wedi bod yn glir wrth ganolbwyntio ar hynny yn rhan o'n cynlluniau a gwneud yn sicr bod gennym ni ymrwymiadau gan archfarchnadoedd a dosbarthwyr er mwyn sicrhau bod pob rhan o Gymru a phob rhan o'r DU, mewn gwirionedd, yn cael eu trin yn deg o ran dosbarthu bwyd. Rydym ni mewn cysylltiad rheolaidd ag awdurdodau addysg lleol ac, yn wir, ag ysgolion yn uniongyrchol ynghylch cynllunio o ran cyflenwi bwyd. Mae'n gwneud pwynt pwysig, rwy'n credu, sy'n gysylltiedig â Brexit ond sydd â dylanwad ehangach, onid oes, o ran gallu ysgolion a chymunedau i dyfu eu bwyd eu hunain a sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar gynnyrch ffres a dyfir yn lleol mewn unrhyw amgylchiadau? Ond gallaf dawelu ei meddwl o safbwynt sicrhau dosbarthiad teg a sicrhau y bydd bwyd ar gael i'n gwasanaethau cyhoeddus. Rydym yn canolbwyntio ar hynny fel blaenoriaeth.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1, 2, 3 a 7 yn enw Darren Millar, a gwelliannau 4, 5 a 6 yn enw Rhun ap Iorwerth.
Eitem 8 ar yr agenda y prynhawn yw dadl ar dasglu'r Cymoedd, a galwaf ar Ddirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i gynnig y cynnig—Lee Waters.
Cynnig NDM7129 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn cydnabod pwysigrwydd Y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De o ran cefnogi datblygu economaidd ar draws y rhanbarth.
2. Yn nodi’r diweddariad ar Y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De a gyhoeddwyd ar 18 Gorffennaf.
3. Yn croesawu’r saith maes blaenoriaeth, sydd wedi eu diweddaru, ac ehangiad cwmpas y Tasglu i gynnwys Cwm Gwendraeth a Dyffryn Aman.
4. Yn croesawu’r cynllun grant cartrefi gwag a gaiff ei gyflwyno i bob awdurdod lleol yn ardal y Tasglu yn ystod y flwyddyn ariannol hon.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am waith tasglu'r Cymoedd ac amlinellu ei gyfeiriad ar gyfer gweddill y Cynulliad hwn. Dylem ni i gyd fod yn ddiolchgar am y gwaith aruthrol a wnaethpwyd gan fy rhagflaenydd, Alun Davies, wrth sefydlu'r tasglu, ac i'r rhai a wnaeth gyfraniadau sylweddol fel ei aelodau.
Rwyf wedi bod yn awyddus i achub ar y cyfle i bwyso a mesur, ac fe wnes i nodi mewn datganiad ysgrifenedig i'r Aelodau ar 18 Gorffennaf sut y mae'r tasglu bellach wedi cytuno i ganolbwyntio ar saith maes blaenoriaeth, pob un ag is-grŵp ei hun o'r tasglu i fwrw ymlaen â'u maes gwaith. Mae rhai o'r aelodau gwreiddiol wedi manteisio ar y cyfle i gamu o'r neilltu a chaniatáu i aelodau newydd ymuno—rwy'n ddiolchgar am eu holl waith, ac rwy'n falch y bydd gan y prif grŵp nawr gytbwysedd rhwng y rhywiau.
Rwyf hefyd yn awyddus y creffir ar ein cynlluniau, ac mae'n bwysig ein bod heddiw yn cael dadl drwyadl i helpu i lywio ein camau nesaf. Rwyf eisoes wedi ymgysylltu ag Aelodau sy'n cynrychioli etholaethau'r Cymoedd ac rwyf wedi cwrdd â phob arweinydd cyngor yn yr ardal i brofi syniadau sy'n datblygu a gofyn am enghreifftiau o arferion gorau y gallem eu rhannu drwy'r ardal gyfan. Yn hytrach na gosod syniadau ar gymunedau, mae'n llawer gwell nodi arferion da lleol a cheisio'u lledaenu i gymoedd cyfagos.
Yn fy nghyfarfod cyntaf gyda'r Cynghorydd Andrew Morgan, arweinydd cyngor Rhondda Cynon Taf, esboniodd wrthyf y llwyddiant a gafodd ei gyngor wrth sicrhau bod cartrefi gwag yn cael eu defnyddio unwaith eto. Mae eu cynllun nhw eu hunain o roi grantiau i bobl sy'n cymryd cyfrifoldeb am eiddo sydd wedi bod yn wag am chwe mis neu fwy yn gynllun y mae arweinwyr cynghorau eraill yn gytûn y byddai o fudd iddyn nhw hefyd, ac maen nhw wedi cymeradwyo ein bwriad i dai fod y cyntaf o'n blaenoriaethau strategol newydd. Rydym yn neilltuo £10 miliwn ar gyfer y cynllun dros y ddwy flynedd nesaf ac, yn hollbwysig, dyma gyllid a fydd yn llifo ar draws y Cymoedd, nid yn unig i'r canolfannau strategol fel y bwriadwyd yn wreiddiol, ond yn y Cymoedd gogleddol hefyd. Byddwn yn efelychu cynllun RhCT ac yn ceisio ychwanegu ato lle gallwn. Er enghraifft, rydym yn ystyried sut y gallwn ni addasu mesurau arbed ynni wrth i ni adfywio'r stoc dai.
Yn fy nghyfarfod gydag arweinydd Cyngor Abertawe, y Cynghorydd Rob Stewart, fe'm perswadiwyd gan y ddadl dros ganiatáu i awdurdodau lleol gael yr arian hwn i ddod â chartrefi gwag i berchnogaeth y cyngor hefyd, er mwyn sicrhau eu bod ar gael i bobl sy'n aros am dai fforddiadwy i’w rhentu. Rwy'n falch bod fy nghydweithiwr, Julie James, y Gweinidog tai, wedi croesawu'r awgrym hwn yn frwd.
Fe'm darbwyllwyd gan brif weithredwr Cyngor Sir Gaerfyrddin i fabwysiadu'r model o arian cyfatebol a ddefnyddir ym mhrosiect ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, i wneud y gronfa arian hyd yn oed yn fwy gan roi cyfle i gynghorau fuddsoddi yn y cynllun i gyflawni'r nod hwnnw. Bwriadwn fabwysiadu'r syniadau hyn wrth i ni nesáu at ail flwyddyn y cynllun. Ein blaenoriaeth nawr yw mynd ati i gyflwyno'r prosiect. Ac fel enghraifft ragorol o gydweithredu rhanbarthol, mae cyngor Rhondda Cynon Taf yn ymgymryd â swyddogaeth yr awdurdod arweiniol, gan ddefnyddio eu harbenigedd a'u profiad i helpu i gyflawni hyn ar gyfer pob cyngor yn ardal y tasglu. Ac rwyf wrth fy modd y bydd y bobl yng nghymoedd Aman a Gwendraeth yn gallu elwa ar hyn hefyd, gan ein bod bellach wedi ymestyn ffin y tasglu i gwmpasu ymyl orllewinol yr hen faes glo.
Rwy'n obeithiol y bydd y cynllun yn dod â manteision amlwg i'n holl gymunedau yn y Cymoedd. Llywydd, mae eiddo gwag nid yn unig yn gartref sy'n cael ei wastraffu, mae hefyd yn falltod ar ardal: mae gerddi sydd wedi tyfu'n wyllt yn denu plâu ac mae ffenestri wedi eu torri fel craith ar stryd. Drwy fynd i'r afael â phroblem cartrefi gwag, byddwn yn meithrin gwead ein cymunedau a byddwn hefyd yn helpu'r ail o'n blaenoriaethau strategol: sef tyfu'r economi sylfaenol.
Y profiad yn RhCT yw hyn; wrth i gartrefi gael eu hadnewyddu defnyddir adeiladwyr a chrefftau lleol—mentrau bach a chanolig eu maint—sy'n ailgylchredeg gwariant yn eu hardal. Rydym hefyd yn defnyddio rhywfaint o ddyraniad y tasglu i gynyddu maint cronfa arbrofol yr economi sylfaenol, sy'n ein galluogi i ddyblu'r £1.5 miliwn y gwnaethom gytuno'n wreiddiol arno â Phlaid Cymru yn rhan o'n trafodaethau ar y gyllideb. Rwy'n gobeithio gwneud cyhoeddiadau ynghylch pa gynlluniau yr ydym yn eu cefnogi yn yr wythnosau nesaf.
Trydydd maes blaenoriaeth strategol yw entrepreneuriaeth a chymorth i fusnesau. Rwy'n ddiolchgar iawn am waith yr angel buddsoddi Andrew Diplock—y gwaith y mae wedi'i wneud fel aelod o'r tasglu yn y maes hwn. Mae wedi ein helpu i gynnal digwyddiad #PitchItCymoedd, lle ymgeisiodd 43 o entrepreneuriaid yn y Cymoedd i gymryd rhan. Mae chwech wedi cyrraedd y rownd derfynol erbyn hyn ac yn gweithio gyda mentoriaid cyn y sesiwn syniadau derfynol ddiwedd Tachwedd, lle bydd pob un yn gwneud cais am hyd at £75,000 o fuddsoddiad ecwiti.
Rydym hefyd yn treialu rhwydwaith o gymheiriaid i helpu busnesau sy'n bodoli eisoes i dyfu. Mae hwn yn syniad addawol iawn, rwy'n credu, i ddod â 10 o sylfaenwyr hyd yn hyn o gwmnïau lleol at ei gilydd i gynghori ei gilydd drwy ddefnyddio heriau twf busnes y byd go iawn, y gallant wedyn eu defnyddio yn eu busnesau eu hunain. Rydym yn gobeithio y gall hyn gynnig templed o ran sut y gallwn ni gefnogi cwmnïau sydd wedi'u sefydlu yng ngweddill Cymru.
Rydym hefyd yn gweithredu syniad a gyflwynwyd mewn gweithdy entrepreneuriaeth, a gynhaliais ym Medwas, o gymorthfeydd cyngor busnes lleol. Treialodd Aelod Cynulliad Caerffili, Hefin David, y syniad ym Margoed ym mis Mehefin, ac ers hynny rwyf wedi ysgrifennu at holl Aelodau Cynulliad etholaethau'r Cymoedd ac wedi cynnig gweithio gyda'n gilydd i gyflwyno model tebyg yn eu hardal, a bydd yr un nesaf yn cael ei gynnal yn Rhymni ddiwedd mis Tachwedd.
Dirprwy Lywydd, nid oes gennyf yr amser i sôn am yr holl weithgareddau ym mhob un o'r saith maes blaenoriaeth. Mae llawer yn digwydd, a byddwn yn cyhoeddi ein cynllun cyflenwi blynyddol ym mis Tachwedd, a fydd yn rhoi mwy o fanylion. Ond tynnaf sylw at ddau faes arall yn fy nghyfraniad agoriadol, os caf.
Gallu defnyddio trafnidiaeth reolaidd, ddibynadwy a fforddiadwy oedd y prif fater a amlygwyd yn ystod y cylch cychwynnol o ymgysylltu â'r tasglu. Buom yn cyd-gynnal ein digwyddiad cyntaf â Trafnidiaeth Cymru ym Merthyr yr wythnos diwethaf, dan gadeiryddiaeth Dawn Bowden, yr AC lleol, wrth gwrs, ac sydd erbyn hyn yn aelod llawn o'r tasglu. Byddwn yn cynnal digwyddiadau eraill ar draws y Cymoedd tan ddiwedd mis Hydref i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i bobl leol am y datblygiadau yn eu hardal. Mae'n bwysig, ar ôl gofyn iddyn nhw am adborth, ein bod nawr yn adrodd yn ôl iddyn nhw ar yr hyn yr ydym yn ei wneud o ganlyniad i hynny.
Mae Trafnidiaeth Cymru wrthi'n datblygu prosiect treialu i brofi gwasanaeth bws sy'n ymateb i'r galw yn ardal Glynebwy. Mae wedi cael ei ddisgrifio fel math o Uber ar gyfer bysiau—nid i efelychu pob agwedd ar y gwasanaeth sy'n seiliedig ar ap ond i roi darlun o sut y credwn y gallwn arloesi o ran y ffordd y mae gwasanaethau bysiau lleol yn gweithio. Rydym hefyd yn datblygu cynigion ar gyfer cynlluniau treialu trafnidiaeth gymunedol yng Nghastell-nedd.
Rydym wedi gwrando ar yr adborth am y tasglu gan yr Adran Gwaith a Phensiynau sy'n dweud bod rhai pobl yn ei chael hi'n anodd derbyn cynigion am waith ar stadau diwydiannol gan nad yw bysiau'n cydredeg â phatrymau shifft. Rydym felly'n ariannu cynllun treialu yn y Rhondda Fach uchaf i gael gweithwyr i ystadau diwydiannol Trefforest a Llantrisant mewn pryd i ddechrau gwaith. Mae hwn wedi bod yn rhedeg ers mis Mai, ac, hyd yn hyn, ceir arwyddion o lwyddiant, felly byddwn yn edrych ar sut y gellir cyflwyno hyn ar ol iddo gael ei werthuso.
Wrth gwrs, ar ben hyn i gyd mae'r gwaith sy'n digwydd ar y cynlluniau metro cyffrous—mae trenau newydd, gwasanaethau amlach a gorsafoedd gwell i ddod. Mae ymdrechion y tasglu i nodi canolbwyntiau strategol ar draws y Cymoedd wedi bod yn amhrisiadwy wrth ychwanegu gwerth i'r gwaith a gynlluniwyd. Rydym ni wedi darparu dros £600,000 o arian ychwanegol o'r tasglu i gynghorau Caerffili, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf i gomisiynu astudiaethau dichonoldeb a chynllunio i ddatblygu canolfannau trafnidiaeth integredig uchelgeisiol ar draws y Cymoedd. Disgwylir i'r rhain gael eu cyflwyno yng nghyfarfod nesaf y tasglu ym mis Hydref.
Rydym yn sefydlu is-grŵp o'r tasglu i weld sut y gallwn fanteisio i'r eithaf ar y buddsoddiad gwerth miliynau o bunnau yn ffordd Blaenau'r Cymoedd. Nid ydym eisiau i'r A465 fod yn ffordd osgoi o amgylch rhai o'n cymunedau sy'n wynebu'r heriau mwyaf, ond yn ffordd o ddod â swyddi a buddsoddiadau iddyn nhw. Mae fy nghydweithwyr sy'n cynrychioli'r etholaethau hyn wedi bod yn fy holi ynghylch hyn, ac rwyf yn falch bod Dawn Bowden wedi cytuno i arwain is-grŵp o'r tasglu i ganolbwyntio arno.
Yn olaf, Llywydd, yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd y Prif Weinidog a minnau bron i £7 miliwn o gyllid ar gyfer parc rhanbarthol y Cymoedd. Bydd 11 o brosiectau da yn elwa. Ym Mharc Penallta, ger Ystrad Mynach ac Amgueddfa Lofaol Cefn Coed yng Nghwm Dulais, rydym yn ariannu cyfleusterau cwbl newydd yn llawn. Mae gan bob un o'r prosiectau bwyslais cymunedol cryf a byddant yn gweithredu fel pyrth i barc rhanbarthol y Cymoedd, cysyniad a hyrwyddwyd yn gryf gan fy rhagflaenydd, yr Aelod Cynulliad dros Flaenau Gwent.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Wrth gwrs.
Un cwestiwn y mae etholwyr wedi'i godi ynglŷn â Pharc Penallta a'r hyn sy'n cael ei gynnig yno yw faint o arian sy'n cael ei wario a beth yn union sy'n mynd i gael ei leoli yno. Sut y bydd yn ymgysylltu â phobl yn yr ardal gyfagos a'r gymuned gyfagos? Beth yn union sydd wedi ei gynllunio?
Rwy'n fodlon ysgrifennu at yr Aelod gydag union fanylion y cynllun. Y prif ganolbwynt fydd adeilad ffrâm bren newydd a fydd yn safle ar gyfer allgymorth a chyfranogiad gan y gymuned, yn ogystal â chynlluniau amgylcheddol sylweddol hefyd, ond rwy'n fodlon rhoi'r manylion llawn iddo am hynny. Mae'n safle a oedd yn gais hwyr. Ail-agorwyd y cynigion i ganiatáu ceisiadau newydd. Roeddwn yn amheus ar y cychwyn ynghylch gwneud hynny, ond roedd ansawdd y cais a dyfnder ymgysylltiad y gymuned wrth lunio'r cais yn ddigon i'm perswadio, yn hytrach na rhannu'r holl arian yn gyfartal i wneud yn siŵr bod pawb yn cael rhywbeth, i ariannu cynlluniau o ansawdd da yn llawn, ac roeddwn yn falch mai hwnnw oedd yr un y cytunais i'w ariannu'n llawn. A holl ddiben y safleoedd hyn yw y byddan nhw'n ysgogiad i annog pobl leol ac ymwelwyr i archwilio'r ardaloedd cyfagos, i greu mwclis o barciau. Ac yn rhan o hynny, byddwn yn dychwelyd at y syniad gwreiddiol y tu ôl i barc rhanbarthol y Cymoedd a ddaeth o'r datblygiad dinas-ranbarth yn Stuttgart lle mae ganddyn nhw barciau wedi eu tirlunio, lle maen nhw'n gosod hyrwyddo'r dirwedd ochr yn ochr â datblygu economaidd traddodiadol i wella'r lle i gyd. Rwy'n falch iawn bod prifddinas-ranbarth Caerdydd, wrth ddatblygu'r cysyniad hwnnw, wedi cytuno i ymgorffori trefniadau llywodraethu parc rhanbarthol y Cymoedd yn eu strwythurau eu hunain. Felly, nid ydym yn creu strwythurau newydd o'r dechrau er mwyn gwneud hynny, ond rydym ni'n rhoi perchenogaeth i awdurdodau lleol ac yn trosglwyddo hyn iddyn nhw er mwyn iddyn nhw allu bwrw ymlaen â hyn y tu hwnt i gyfnod y grant, oherwydd rwy'n ymwybodol y tro diwethaf i barc rhanbarthol y Cymoedd fodoli, roedd yn rhan o gyllid Amcan 1, a phan ddaeth yr arian hwnnw i ben, arafodd y cysyniad. Felly, nid wyf eisiau i ni wneud hynny eto, a dyna pam rwy'n awyddus, ar ôl cyhoeddi'r cyllid, ein bod bellach yn trosglwyddo’r prosiect i awdurdodau lleol.
Ac yna enghraifft olaf o fabwysiadu arferion da: cafodd y gwaith y mae Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr wedi ei wneud yn ei ardal leol o ran cysylltwyr cymunedol argraff fawr arnaf. Felly, yn hytrach na chael parcmyn traddodiadol drwy barc rhanbarthol y Cymoedd, byddwn yn mabwysiadu dull gweithredu Pen-y-bont ar Ogwr, sef cael cysylltwyr cymunedol i gyfeirio pobl i'w hardal leol. Dywedodd Huw David, arweinydd Pen-y-bont ar Ogwr, wrthyf sut roedd y dull gweithredu hwn yn cynnwys gweithio gyda meddygon teulu lleol i annog pobl i wneud ymarfer corff gwyrdd, ac mae'r model presgripsiynu cymdeithasol hwn yn annog pobl i fynd allan a chwrdd â phobl, gwella eu lles a'u cydnerthedd. Ac rwy'n falch y bydd Pen-y-bont ar Ogwr bellach yn cymryd yr awenau drwy ledaenu'r model hwn ar draws parc rhanbarthol y Cymoedd yn gyfan gwbl.
Rwy'n ddiolchgar i arweinydd Tor-faen, y Cynghorydd Anthony Hunt, am gytuno i arwain y gwaith hwn ar ran y ddinas-ranbarth, ac am gynnwys Castell-nedd Port Talbot, Abertawe a sir Gaerfyrddin yn y gwaith hwnnw, er nad ydyn nhw'n rhan o'r brifddinas-ranbarth. A hoffwn hefyd, yn olaf, nodi'r cyfraniad y mae Jocelyn Davies wedi'i wneud yn y maes hwn yn benodol, y cyn AC dros dde-ddwyrain Cymru. Mae hi wedi gwneud cyfraniad sylweddol i ddatblygiad meddwl ynghylch y Parc.
Felly, Dirprwy Lywydd, i gloi, lledaenu arferion da, ymgysylltu, gwrando a gweithredu ar syniadau da yw'r ffyrdd yr ydym ni'n gweithio i greu newid parhaol yn ein cymunedau. Nid yw hyn yn ateb pob problem, ond rydym yn gwneud cynnydd, ac rwyf yn edrych ymlaen at drafod beth arall y gallwn ei wneud. Diolch.
Diolch. Rwyf wedi dethol y saith gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Russell George i gynnig gwelliannau 1, 2, 3 a 7 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Russell.
Gwelliant 1—Darren Millar
Dileu pwynt 1 a rhoi yn ei le:
Yn nodi mai'r ffordd orau o wella bywydau a chymunedau'r rhai sy'n byw yn y Cymoedd yw drwy ddarparu cyfleoedd cyflogaeth hirdymor o safon, grymuso pobl i gyflawni eu potensial a chymryd perchenogaeth yn eu cymunedau eu hunain.
Gwelliant 2—Darren Millar
Dileu pwyntiau 2 a 3 a rhoi yn eu lle:
Yn gresynu nad oes gan gynllun cyflawni 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' ddigon o uchelgais i helpu i gefnogi cymunedau'r Cymoedd.
Gwelliant 3—Darren Millar
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn nodi'r cynnydd o 40 y cant yn nifer y cartrefi gwag yng Nghymru ers 2009 a'r angen am atebion cyllido a gorfodi i sicrhau bod y rhain yn cael eu defnyddio unwaith eto er mwyn mynd i'r afael â'r problemau tai yn ardal y tasglu.
Gwelliant 7—Darren Millar
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn croesawu'r cyfleoedd i wella Ein Cymoedd, Ein Dyfodol o ganlyniad i gyhoeddiadau cyllido gan Lywodraeth y DU a fydd yn darparu £600 miliwn yn ychwanegol yn 2019-2020 i grant bloc Cymru.
Cynigiwyd gwelliannau 1, 2, 3 a 7.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf y gwelliannau hynny yn enw Darren Millar.
Hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am y newyddion diweddaraf am gynnydd tasglu'r Cymoedd a hefyd am ei ddiweddariad cynharach a anfonwyd drwy e-bost at yr Aelodau y prynhawn yma; nid wyf wedi cael amser i edrych ar hwnnw'n fanwl iawn. Hoffwn ailadrodd cefnogaeth y Ceidwadwyr Cymreig i dasglu'r Cymoedd. Credaf fod—. Mae'n gywir dweud fy mod yn credu bod ardal y tasglu yn cynnwys bron i 30 y cant o boblogaeth Cymru, ac ers cannoedd o flynyddoedd mae'r ardal hon wedi bod yn galon i economi Cymru. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol felly nad ydym yn siomi disgynyddion y rheini a oedd mor hanfodol wrth bweru'r chwyldro diwydiannol a gwneud Cymru'n gartref i'r contract £1 miliwn cyntaf. Mae llawer wedi newid, ysywaeth, ac nid yw ardaloedd y Cymoedd wedi gallu addasu i'r byd sy'n newid. Credaf fod gwleidyddion o bob plaid wedi gwneud tro gwael â'r Cymoedd ar adegau a rhaid inni wneud iawn am hynny er mwyn sicrhau bod y bobl sy'n byw yn y Cymoedd yn cael yr un cyfleoedd, yr un safon o fyw, tai gweddus a'r gallu i gyflawni mwy nag y creden nhw fyddai'n bosibl. Dyna pam y dylem ni, yn y ddadl heddiw, fod yn feirniadol o'r ymateb hyd yn hyn ond hefyd gefnogi'r cynigion ar yr amod eu bod yn gwella bywydau pobl yn y Cymoedd a'u plant, gan mai nhw yw ac a fydd dyfodol Cymru.
Ein gwelliant cyntaf heddiw yw ei gwneud hi'n glir mai'r ffordd orau i wella bywydau pobl, nid yn unig yn y Cymoedd ond, wrth gwrs, ledled Cymru, yw drwy ddarparu cyfleoedd cyflogaeth tymor hir. Mae'n destun pryder, ers i'r tasglu gael ei greu, bod llai na 2,000 o bobl economaidd anweithgar wedi cael cymorth i gael gwaith drwy raglenni cyflogaeth dan arweiniad Llywodraeth Cymru. Y targed, wrth gwrs, yw 7,000 erbyn 2021. Bydd diddordeb gennyf glywed os gall y Gweinidog yn ei sylwadau terfynol gadarnhau bod hwnnw'n darged y mae'n dal i gredu y gellir ei gyrraedd.
Mae ein gwelliant arall hefyd yn ymwneud â chael mwy o uchelgais. Rydym yn credu y dylai fod mwy o uchelgais yn y cynllun 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'. Credaf fod angen i'r Llywodraeth gyflawni'n well o lawer o ran cludiant cyhoeddus cydgysylltiedig y gall pobl ei fforddio. Rwy'n siŵr y byddai'r Dirprwy Weinidog yn cytuno â'r datganiad hwnnw; bu'n siarad am hynny yn ei sylwadau agoriadol. Ond rwy'n credu ei bod yn arbennig o bwysig inni edrych ar sut y caiff prisiau eu cyfrifo o ran teithiau bws, oherwydd mae'n ymddangos bod rhai cyfraddau annheg a rhai na ellir eu cymharu efallai pan edrychwch chi ar yr amserlenni bysiau a'r pellteroedd sy'n cael eu teithio mewn rhannau o Gymru.
A gadewch i ni beidio, wrth gwrs, ag anghofio—ni allaf fynd heb ddweud hyn; mae'n siom i mi fy mod yn gorfod dweud hyn, ond rydym yn edrych ar yr haf hefyd, a'r trenau o Gaerdydd yn ôl adref i'r Cymoedd. Os nad yw'r trenau'n llawn i'r ymylon o bobl wedi'u gwasgu fel sardîns mewn tun, maen nhw wedi eu gohirio. Felly, yr hyn y byddwn i'n ei ddweud yw: sut gall pobl lwyddo mewn bywyd fel yr hoffen nhw a darparu ar gyfer eu teuluoedd—sut gall hynny ddigwydd? Sut gellir cyflawni hynny pan fydd rhwystrau fel y rhain yn cael eu rhoi o'u blaen?
Gyda chynnydd o 40 y cant yn nifer y cartrefi gwag yng Nghymru, rwy'n awyddus i weld llwyddiant wrth i gartrefi gwag gael eu defnyddio unwaith eto. Cytunaf â sylwadau'r Dirprwy Weinidog ynglŷn â'r effaith negyddol a geir pan fydd gennych eiddo gwag mewn cymuned a'r malltod sy'n gysylltiedig â hynny. Rwy'n bryderus ynghylch y graddau y bydd y £10 miliwn y soniodd y Dirprwy Weinidog amdano yn ei sylwadau agoriadol yn sicrhau bod y prosiect hwn yn llwyddiant i fusnesau a chartrefi.
Ac fe wnaf i gloi, Dirprwy Lywydd, drwy groesawu, wrth gwrs, y £600 miliwn ar gyfer grant bloc Cymru ar gyfer y flwyddyn nesaf a byddwn, wrth gwrs, yn annog Llywodraeth Cymru i wario'r arian ychwanegol hwn ar GIG Cymru, ond yn bwysicach na hynny yn sicrhau y caiff y £195 miliwn ar gyfer ysgolion eleni ei wario'n uniongyrchol ar ysgolion fel y gall y bwlch cyllido sy'n bodoli ar hyn o bryd rhwng Cymru a Lloegr ddiflannu.
Diolch. Galwaf ar Leanne Wood i gynnig gwelliannau 4, 5 a 6, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth.
Gwelliant 4—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu gwybodaeth am y canlyniadau diriaethol disgwyliedig a chyflwyno cynllun manwl sy'n amlinellu manteision y tasglu fesul cwm, a chynnydd o ran cyflawni'r canlyniadau hynny.
Gwelliant 5—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd i lunio llinell gyllideb benodol ar gyfer tasglu'r Cymoedd a fydd yn cael ei chynnwys yng nghyllideb Llywodraeth Cymru sydd ar fin ymddangos.
Gwelliant 6—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw am sefydlu pwyllgor arbennig dros dro gyda chylch gwaith penodol i ddwyn y Gweinidog i gyfrif am waith Tasglu'r Cymoedd ac i aelodaeth y pwyllgor gynnwys Aelodau'r Cynulliad sy'n cynrychioli etholaethau'r cymoedd.
Cynigiwyd gwelliannau 4, 5 a 6.
Cynigiaf y gwelliannau yn enw Plaid Cymru. Mae'r etholaeth yr wyf fi'n ei chynrychioli, y Rhondda, o bosibl yn un o'r Cymoedd mwyaf adnabyddus ar draws y byd. Nawr, ar ôl cyflawni ei diben cyn belled ag y bo'r wladwriaeth Brydeinig yn y cwestiwn, gadawyd y Rhondda, fel llawer o gymoedd eraill, yn ogystal â chymunedau ledled y wlad nad ydyn nhw yn y Cymoedd, gan Lywodraethau olynol ar ddau ben yr M4 i bydru. Yn wahanol i rannau o'r DU a gafodd eu dad-ddiwydiannu'n fwriadol, ni chafodd y maes glo blaenorol yng Nghymru yr un gefnogaeth economaidd, ac, o ganlyniad, rydym ni ymhell y tu ôl i leoedd fel Sheffield, Caeredin, Nottingham, swydd Efrog o ran datblygu economaidd a chyfoeth. Mae gormod o lawer o bobl mewn gormod o'n cymunedau'n cael eu gorfodi i fyw gyda melltith tlodi, ac mae'n siomedig a dweud y lleiaf, ar ôl 20 mlynedd o ddatganoli, fod y Cymoedd ac yn benodol y cwm yr wyf i'n byw ynddo, y Rhondda—wedi gweld lefelau truenus o sylw a buddsoddiad.
Wrth gwrs, mae polisïau Llywodraethau yn San Steffan—yn bennaf cyni dros y degawd diwethaf neu fwy—wedi gwneud ein sefyllfa'n llawer iawn gwaeth. Mae rhai pobl ryfeddol yn cyflawni pethau rhyfeddol yn y Cymoedd, ond yn rhy aml mae hynny er gwaethaf y Llywodraeth, nid o'i herwydd. Pe bai'n rhaid i chi dalu am y gwaith a wneir gan wirfoddolwyr, byddai'n gwneud y Llywodraeth hon yn fethdalwr. Mae gweithwyr cymunedol ym mhobman yn rhedeg gorsafoedd radio, banciau bwyd, cynlluniau rhannu bwyd, canolfannau cymunedol a chlybiau ieuenctid, Sgowtiaid, Geidiaid, clybiau chwaraeon, pyllau padlo, cymorth i bobl hŷn ac anabl ac yn y blaen, i gyd am ddim, ond mae eu hymdrechion wedi'u llesteirio gan doriadau a chostau uwch—costau'r Llywodraeth yn aml.
Yr wythnos hon cefais gyfarfod â Chymdeithas Twnnel y Rhondda, grŵp o wirfoddolwyr sydd wedi gwneud gwaith rhagorol ers blynyddoedd lawer. Mae eu gwaith yn cael ei lesteirio gan ddiffyg gweithredu o ran y Llywodraeth, yn lleol ac yn genedlaethol: methu datrys y problemau perchenogaeth, methu dynodi'r ardal yn llwybr teithio llesol—rhwystrau, rhwystrau, drwy'r amser. Am symiau cymharol fach o arian, gallai llawer o'r prosiectau hyn a gweithredwyr cymunedol gyrraedd cymaint mwy o bobl ond, wrth gwrs, yr hyn y mae arnom ni ei angen mewn gwirionedd yw datblygu economaidd a swyddi. A dyna pam roeddwn i mor gyffrous pan glywais am gwmni cydweithredol a oedd wedi'i ffurfio yn y Rhondda a oedd yn cynnwys cyn-weithwyr Burberry. Ni wnaeth y cyffro hwnnw bara'n hir. Roedd y cwmni dillad cydweithredol hwn ar ddeall, pe baen nhw'n fusnes priodol, y byddai'r Llywodraeth yn eu hystyried ar gyfer contract i wneud gwisgoedd gweithwyr yn y sector cyhoeddus—gwisgoedd newydd i weithwyr trên, gwisgoedd y GIG ac yn y blaen. Mae'r rhain yn weithwyr medrus iawn sydd wedi arfer darparu cynnyrch o safon uchel. Mae ganddyn nhw safle yn yr hen ffatri Burberry a'u cynllun oedd defnyddio'r hanes eiconig hwnnw i adeiladu busnes i hyfforddi'r genhedlaeth nesaf. Dychmygwch pa mor dorcalonnus yr oedden nhw o glywed bod y contract yn mynd i gwmni hyfforddi sy'n gweithio mewn cwm arall, gyda chefnogaeth menter tasglu'r Cymoedd, a hwythau heb ddim syniad eu bod yn cystadlu yn erbyn eraill. Oes, efallai fod posibilrwydd y gall y cwmni hwn fod yn llwyddiannus—nid ydynt wedi anobeithio—ond mae cwestiynau i'w hateb, ac nid wyf wedi cael atebion credadwy hyd yn hyn.
Er gwaethaf ymdrechion lu, rwyf wedi methu â chael syniad o ba gymorth ariannol neu gefnogaeth arall a allai fod ar gael ar gyfer y math hwn o ddatblygu neu unrhyw fath arall. Pan fyddaf yn gwneud ymholiadau am symiau penodol o arian ar gyfer y Cymoedd, caf wybod nad oes unrhyw ffigur i'w roi. Pan ofynnaf beth allwn ni ddisgwyl ei weld yn y Rhondda, caf wybod pa fuddsoddiad sydd ar gael mewn lleoedd eraill. Yr wythnos hon, mae ymgynghoriad Trafnidiaeth Cymru'n esgeuluso'r Rhondda, a phan ofynnir iddyn nhw ar Twitter am hynny, dywedir wrthym ni fod cyfarfodydd ym Mhontypridd ac yn Aberdâr. Rwy'n holi am y Rhondda—a gaf i bwysleisio nad yw'r Rhondda ym Mhontypridd nac yn Aberdâr? Rwyf wedi colli cyfrif ar nifer y cyfarfodydd yr wyf wedi'u cael gyda'r cyn-Weinidog a sawl gwaith rwyf wedi gofyn cwestiynau yr ydym yn gobeithio yr ymdrinir â nhw drwy'r gwelliannau hyn, ac rwy'n dal i aros am atebion.
Faint o gyllideb a ddyrennir i dasglu'r Cymoedd? Faint, a beth yn union y gallwn ni ddisgwyl ei weld yn y Rhondda? Dydw i ddim eisiau gwybod am leoedd eraill; rwyf eisiau gwybod am eich cynlluniau ar gyfer y Rhondda, ac o gofio nad wyf wedi gallu cael atebion i'r cwestiynau hyn hyd yma, ceir pwyllgor dros dro lle gall y rhai ohonom ni sy'n poeni am hyn graffu ar y penderfyniadau, y gwariant, datganiadau'r Gweinidogion. Mae angen i'r Llywodraeth hon ddangos i mi fod tasglu'r Cymoedd yn werth rhywbeth; dydw i ddim yn ei weld hyd yn hyn.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Yn ddiau, gwnaeth Lywodraeth Cymru gamgymeriad strategol wrth gefnu ar Awdurdod Datblygu Cymru a'i lwyddiant. Roedd ganddo'r sgiliau, yr arbenigedd a'r cysylltiadau i wasanaethu Cymru ar sail hirdymor. Cafodd yr holl arbenigedd, sgiliau a chysylltiadau a ddatblygwyd gan staff cymwys a phrofiadol eu hanwybyddu a'u colli am byth, a gellid dweud nad yw Cymru erioed wedi dod ati ei hun ar ôl y penderfyniad trychinebus hwnnw. Mae mentrau Llywodraeth Cymru, megis tasglu'r Cymoedd, wedi disodli'r holl fentrau eraill yn y gorffennol: mae'n methu prawf cyntaf unrhyw gynllun—mesuradwyedd. Mae'r arwyddbyst ar goll, sydd, wrth gwrs, yn atal asesiad cyffredinol o'i gynnydd. Ar ôl darllen y ddwy set o gofnodion y tasglu, rydych yn dechrau sylweddoli nad oes unrhyw gynllun cydgysylltiedig manwl, ond yn hytrach cawdel digyswllt sy'n ymddangos fel petai'n dynwared y diweddar raglen, Cymunedau yn Gyntaf.
Ddwy flynedd ar ôl cynhyrchu llyfryn sgleiniog arall, nid oes pwyslais clir o hyd ac mae'n ymddangos bod ymdrechion yn cael eu rhannu dros ardal sy'n rhy fawr. Mae Sefydliad Bevan hefyd yn dweud bod atebion i'r diffyg sgiliau a chymwysterau yn amlwg absennol.
Rwy'n croesawu'r cynlluniau a amlinellwyd yn gynharach gan Ddirprwy Weinidog yr economi, ac rwy'n siŵr bod ei frwdfrydedd a'i ymrwymiad yn ddiffuant, ond nid yw wedi nodi eto sut y mesurir holl effeithiolrwydd y mentrau hyn. Os cymerwn un enghraifft o aneffeithiolrwydd y tasglu, mae Glynebwy wedi gweld gostyngiad o 50 y cant mewn gwasanaethau bysiau i ganol y dref, a chafodd Stagecoach 50 o achosion o fysys yn torri mewn un mis yn unig, gan gynnwys tân mewn bws yn ardal Blaenau Gwent. Siawns na ddylai'r tasglu fod yn ymchwilio i faterion o'r fath o gofio ei effaith ar fusnesau lleol a chysylltedd yn y Cymoedd yn gyffredinol, fel arall, ble mae ei gylch gwaith? Dylem hefyd godi'r cwestiwn ynglŷn â chyfansoddiad y tasglu. A yw cyfansoddiad y tasglu yn briodol ar gyfer y fenter hon? Dywedir y dylai'r cyfansoddiad cywir arwain at gynllunio cydlynol a goddrychol er mwyn cyflawni'r camau angenrheidiol. A yw'r sgiliau a'r cymwyseddau yn bresennol yn y strwythur llywodraethu presennol? Mae'r rhan fwyaf o'r mentrau yn llawer rhy fach i wneud gwahaniaeth ac, yn wir, prin y gellir galw'r gwaith o symud swyddi o un lle i'r llall yn greadigol.
Yng Nghymru, mae angen ailddyfeisio'r economi'n llwyr gyda phawb wedi ei gynnwys ac yn canolbwyntio ar gydweithio. Mae'n bryd rhoi terfyn ar y busnes o chwarae gwleidyddiaeth bleidiol a chanolbwyntio ar unioni pethau yng Nghymru, oherwydd mae'n rhaid i bawb ohonom ni gytuno bod gormod o bethau wedi mynd o chwith yng Nghymru. Fel y dywedodd cyn-gyfarwyddwr Awdurdod Datblygu Cymru rai blynyddoedd yn ôl, agweddau allweddol y broblem yw gwleidyddiaeth arwynebol, diffyg dadansoddi technegol a chanolbwyntio a diwylliant gwasanaeth sifil nad yw'n canolbwyntio ar dasgau.
A gaf i ddiolch i'r Llywodraeth am gyflwyno'r ddadl hon heddiw ar waith tasglu'r Cymoedd? Yr hyn y credaf y gallwn ei weld nawr yw'r newid hanfodol sy'n digwydd yng ngwaith y tasglu wrth iddo symud tuag at gyllido a chyflawni prosiectau. A, chyn imi fynd ymlaen, a gaf fi ychwanegu fy niolch innau at ddiolchiadau'r Dirprwy Weinidog i'm cyd-Aelod Alun Davies, a dreuliodd lawer iawn o amser ac egni ar gam cyntaf gwaith tasglu'r Cymoedd? Pan ymunais â'r tasglu'n gynharach eleni, roedd yn amlwg iawn bod sylfaen sylweddol o waith a syniadau ar gyfer prosiectau, felly diolch, Alun, am eich rhan yn hynny.
Mae sefydlu'r sylfaen gref honno wedi galluogi'r tasglu i symud i'r broses o weithredu a welwn yn awr o ran cyflawni prosiectau. Yn wir, mae'r cyhoeddiad yn y dyddiau diwethaf am becyn cyllid ar gyfer parciau a safleoedd treftadaeth yn rhan bwysig o droi rhywfaint o'r weledigaeth honno yn realiti. Y safleoedd hyn yw'r pyrth cychwynnol i weledigaeth strategol ehangach ar gyfer tirwedd ac amgylchedd cymunedau'r Cymoedd, ac mae llawer ohonyn nhw, fel Parc Cyfarthfa yn fy etholaeth i, wrth gwrs, yn cael eu gwerthfawrogi'n fawr gan y gymuned leol. Ac, er y gallai hyn fod yn ystyriaeth blwyfol, yn sicr, fy ngobaith i yw bod y cylch hwn o fuddsoddi ym Mharc Cyfarthfa yn gam tuag at yr uchelgais fwy o lawer sydd gennym ni i adrodd hanes y safle hwn a'r gymuned hon a'i hamgylchedd ehangach, wrth ddatblygu'r prosiect Crucible.
Mewn ffordd, y gair 'uchelgais' hwnnw sy'n cyflwyno fy ngobaith o ran gwaith parhaus y tasglu, oherwydd mae'r heriau dwfn yr ydym yn eu hwynebu mewn llawer o'n cymunedau yn y Cymoedd yn ei gwneud yn ofynnol inni fod ag uchelgais ar gyfer trawsnewid. Rydym ni'n gwybod nad oes un ateb i'r amrywiaeth o heriau yr ydym yn eu hwynebu, felly mae'n rhaid dod o hyd i ran allweddol o'n datrysiad yn ein huchelgais—ein huchelgais i fynd i'r afael â stereoteipiau negyddol a hen ffasiwn, ein huchelgais i barhau i gynyddu ein hymatebion yn seiliedig ar ymrwymiad hirdymor i'r Cymoedd, ymrwymiad hirdymor a fydd, yn fy marn i, yn allweddol i'w lwyddiant. Ac er mwyn yr uchelgais hwnnw nawr mae'n rhaid cyflawni cam olaf y gwelliannau i ffordd A465 Blaenau'r Cymoedd i sicrhau bod gennym y strategaeth economaidd sy'n cydlynu potensial y llwybr newydd. Felly, roeddwn yn falch iawn o glywed y Dirprwy Weinidog yn cadarnhau nad ydym wedi gwario biliynau o bunnoedd i ariannu ffordd osgoi yn unig, ond ein bod wedi buddsoddi mewn modd i ddatgloi potensial newydd yn y cymunedau ar hyd y llwybr hwnnw, ac edrychaf ymlaen at fod yn rhan o'r grŵp a fydd yn edrych i weld sut y gallwn wneud hynny.
Ac wrth gwrs mae'n rhaid ystyried llwybr Blaenau'r Cymoedd hefyd fel rhan o'r atebion trafnidiaeth ac economaidd ehangach i bwysau mewn rhannau eraill o ranbarth de Cymru. Felly, mae'n iawn fod Llywodraeth Cymru a'i phartneriaid yn parhau i chwarae eu rhan yn hynny o beth. Er enghraifft, mae'r buddsoddiad yn y system metro, y trenau, y bysiau a'r mathau eraill o drafnidiaeth a drafodwyd gennym yn y digwyddiad ym Merthyr yr wythnos diwethaf yn golygu y gallwn gyflymu amseroedd teithio a defnyddio grym y Llywodraeth i leoli swyddi yn y Cymoedd—sy'n hanfodol os ydym i gyflawni ein hamcanion o gael nifer o swyddi gwell yn nes at adref, ac mae Pontypridd yn enghraifft dda o hynny ar hyn o bryd. Ond pan glywaf bobl yn dweud wrthyf pa mor dda fydd cael amseroedd teithio cyflymach i Gaerdydd, fy ymateb bob amser yw y bydd hefyd yn dda i bobl yng Nghaerdydd orfod teithio 45 munud yn unig i weithio ym Merthyr Tudful neu Rymni. Mae'n rhaid i'n huchelgais ni newid y meddylfryd hwnnw.
Felly, a gaf i ofyn i'r Dirprwy Weinidog, yn ogystal â'r gwaith yr ydych wedi'i amlinellu eisoes yn y ddadl heddiw, a allwn ni sicrhau yn ystod y 12 mis nesaf mai'r ymrwymiad i dasglu'r Cymoedd yw'r ymrwymiad i'n huchelgais a'i fod wedi'i wreiddio yn y cynlluniau hirdymor ar gyfer ein Llywodraeth? Mae angen ymrwymiad o'r fath i sicrhau y bydd y prosiectau a gyflawnwn ni yn 2019, 2020 a 2021 yn fodd o gyflawni uchelgeisiau ehangach sydd gennym ar gyfer y Cymoedd, gyda chymunedau, economïau ac amgylchedd y gallwn ni i gyd ymfalchïo ynddyn nhw oherwydd ein bod ni wedi helpu i sicrhau dyfodol mwy disglair iddynt.
Wrth baratoi ar gyfer y ddadl hon y prynhawn yma, doeddwn i ddim yn siŵr fy mod wedi cael y cyfle i groesawu'r Gweinidog i'w swydd yn arwain tasglu'r Cymoedd, felly hoffwn gofnodi fy mod yn croesawu ei benodiad, ond rwyf hefyd yn croesawu'r meddylfryd newydd a ffres y mae'n ei gyflwyno i'r swydd. Rwy'n credu ei bod yn bwysig, o bryd i'w gilydd, bod angen adnewyddu holl swyddogaethau gweinidogion a bod syniadau newydd bob amser yn bwysig wrth fwrw ymlaen â'r prosiectau a'r tasgau hyn, fel y rhai y mae'r tasglu wedi'u gosod ar ei gyfer.
Rwyf hefyd wedi gwrando ar gyfraniad gan Weinidog sy'n gwrthgyferbynnu’n llwyr â'r cyfraniadau a glywsom gan bleidiau gwleidyddol eraill a gynrychiolir yma. Gwrandewais ar y rhestr o gwynion gan y Blaid Brexit a sylwais yn y papur trefn nad oeddynt hyd yn oed wedi trafferthu cyflwyno un gwelliant i'r ddadl hon heddiw. Dyna werth eu syniadau nhw. Dyna werth eu hymrwymiad i'r Cymoedd. Ni allent hyd yn oed ysgrifennu gwelliant i'r cynnig hwn y prynhawn yma.
Byddwn i hefyd yn dweud hyn: pan welaf fuddsoddiad yn digwydd mewn unrhyw ran o'r Cymoedd, rwy'n ei ddathlu ac rwy'n ei groesawu. Rwyf eisiau gweld y Cymoedd i gyd yn llwyddo. Rwyf eisiau gweld buddsoddi ar draws holl ranbarth Cymoedd y de. A dywedaf hyn wrth Blaid Cymru: yr unig dro imi weld buddsoddiad yn cael ei dynnu o'r Cymoedd oedd pan oedd Plaid Cymru yn gyfrifol am y brîff datblygu economaidd a gohiriwyd y gwaith o ddeuoli'r A465 er mwyn symud yr adnoddau hynny i rywle arall. Felly, gadewch i ni gael rhywfaint o realaeth ynghylch hyn.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Derbyniaf ymyriad.
Gofynnais ichi nifer o weithiau pan oeddech yn Weinidog faint o fuddsoddiad a fyddai ar gael i'r Rhondda. Rydym wedi clywed y prynhawn yma y bydd buddsoddi mewn bysiau a thai. Wel, dylai hynny fod yno eisoes. A wnewch chi fy ateb nawr: pa arian a roddwyd i'r Rhondda gan dasglu'r Cymoedd? Ac os nad oes arian wedi mynd hyd yn hyn, pa arian penodol sydd yna ar gyfer y Rhondda, nid Rhondda Cynon Taf, nid Glynebwy—pa arian sy'n dod o dasglu'r Cymoedd i'w fuddsoddi yn y Rhondda? Oherwydd rydych chi wedi methu ateb y cwestiwn hwnnw hyd yn hyn.
Yn eich gwelliant 5, rydych yn gofyn am y gyllideb honno.
Atebwch ef.
Hoffwn ofyn ichi dynnu'r gwelliant hwnnw yn ei ôl, a dweud y gwir—
Atebwch y cwestiwn yn gyntaf.
—oherwydd yn fy marn i, dylai pob un o'r Gweinidogion sydd yma fod yn Weinidog y Cymoedd a dylai pob un o'r Gweinidogion—
Ond dydyn nhw ddim, nac ydyn nhw?
—fod yn Weinidog dros bob rhan o gymuned Cymru. [Torri ar draws.] Dydw i ddim yn credu mewn cael Gweinidog dros wahanol rannau o'r wlad. [Torri ar draws.] Rwyf eisiau cael Llywodraeth a Gweinidogion yn gweithredu dros y wlad i gyd—[Torri ar draws.]—a dyna pam fy mod i'n gwrthod y dadleuon bod arnom ni angen cyllideb wedi'i phennu ar gyfer tasglu'r Cymoedd.
A gaf fi ddweud, Llywydd, cafwyd croeso cyffredinol yr wythnos diwethaf i'r cyhoeddiad cyllid i fuddsoddi mewn creu parc rhanbarthol yn y Cymoedd? Rwy'n credu bod hwn yn un o'r gweledigaethau mwyaf cyffrous, a mwyaf trawsnewidiol o bosibl, sydd gennym yng Nghymru heddiw. Mae'r cysyniad yn dwyn ynghyd ein huchelgeisiau economaidd a'n huchelgeisiau amgylcheddol a chymdeithasol i greu fframwaith cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Roeddwn yn falch o glywed y Gweinidog yn cyhoeddi ei fod wedi rhoi rhywfaint o ystyriaeth i'r strwythur a'r llywodraethu y mae eu hangen i gyflawni'r potensial hwn. Byddwn i'n gofyn iddo hefyd ystyried dynodiad ffurfiol sydd wedi'i wreiddio mewn statud. Dyma'n sicr y cyfeiriad yr oeddem yn ei ystyried yn y Llywodraeth yn ystod fy amser i, a gobeithiaf y byddwn yn gallu gwneud hynny eto.
Nid wyf yn siŵr, ond rwy'n barod i gael fy argyhoeddi o ran ei gynigion i'r ddinas-ranbarth ymgymryd â llywodraethu'r parc hwn. Rwy'n credu bod y Parc angen diffiniad a gweledigaeth glir, gytûn ac uchelgeisiol, gyda'r gallu i gyflawni'r weledigaeth honno. Mae'n fwy na chyfres o brosiectau a grantiau unigol, a mwy na chasgliad o barciau trefol neu led-drefol yn unig. Rwy'n gobeithio y bydd y ddinas-ranbarth yn gallu cyflawni hynny, ac rwy'n barod i gael fy argyhoeddi ganddo, ond ofnaf fod angen strwythur arnom a fydd yn sicrhau mwy o ganolbwyntio.
Diben y canolfannau strategol oedd canolbwyntio buddsoddiad cyhoeddus mewn saith rhan o'r Cymoedd, a fyddai yn ei rinwedd ei hun yn gatalydd i ddenu buddsoddiad preifat ychwanegol. Gallaf weld bod y dull hwn yn cael effaith, ac mae'r Gweinidog wedi cytuno ar hynny y prynhawn yma. Ond rydym i gyd hefyd yn nodi bod y cynnydd yn anwastad. Byddwn i'n ddiolchgar pe byddai'r Gweinidog yn gosod amcanion clir ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod er mwyn inni allu bod yn sicr bod cynnydd yn digwydd ar draws y rhanbarth cyfan ac y bydd y targed o greu swyddi yn cael ei gyrraedd erbyn diwedd mandad y Llywodraeth hon yn 2021.
Roeddwn hefyd yn falch o glywed gan y Gweinidog ei fod wedi penodi Dawn Bowden i weithio ar ddatblygu cynllun economaidd ar gyfer rhanbarth Blaenau'r Cymoedd. Hwn, i mi, yw'r un maes gwaith anorffenedig y credaf fod gwir angen inni ei flaenoriaethu. Nodwyd ers amser maith fod Blaenau'r Cymoedd yn rhanbarth lle mae angen y gefnogaeth gyhoeddus fwyaf a dwysaf. Mae'r gwaith o ddeuoli'r A465 yn parhau a chaiff ei gwblhau, ond mae'n rhaid i'r buddsoddiad hwn gael ei weld fel dull o ddatblygu economaidd. Rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu cyflwyno cynllun swyddi a fydd yn rhoi pwyslais i'n gwaith dros y blynyddoedd nesaf, ac rwy'n gobeithio y byddwn yn gallu gosod targedau clir eto i gyflawni hynny. Credaf fod hwn yn un maes lle y gall y strwythur dinas-ranbarth helpu i'w gyflawni.
Rwyf am gloi fy sylwadau, Llywydd, gyda nodyn sy'n nes at adref. Mae cynllun y Cymoedd Technoleg yn fuddsoddiad o £100 miliwn yn nyfodol Blaenau Gwent. Mae dros ddwy flynedd ers ei gyhoeddi, gydag ymrwymiad i wario £25 miliwn mewn buddsoddiadau erbyn 2021. Hoffwn nodi'n garedig nad cynllun tai yn unig yw hwn, ond prosiect i sbarduno gweithgarwch economaidd a darparu swyddi a chyfleoedd newydd yn y fwrdeistref. Nid yw hynny'n bychanu'r ymrwymiadau y mae'r Llywodraeth wedi'u gwneud i gefnogi datblygiadau tai y mae eu hangen yn amlwg yn y fwrdeistref, ond ni ddylai'r rhaglen fuddsoddi hon fod yn ganolbwynt i hynny. Rwyf yn cydnabod yn llwyr y gallai Brexit gael effaith negyddol ar allu'r Llywodraeth i gyflawni ei hymrwymiadau, ond rwyf eisiau gweld a deall yn llawnach yr uchelgais a'r weledigaeth sydd gan y Llywodraeth ar gyfer y Cymoedd Technoleg. Hoffwn weld y Llywodraeth yn cyhoeddi amserlen ar gyfer datblygu'r rhaglen fuddsoddi hon i 2021 a thu hwnt.
Llywydd, fe gredaf, yn y rhan fwyaf o'r Cymoedd ac yn y rhan fwyaf o'r Siambr hon, bydd croeso cynnes i ddatganiadau'r Llywodraeth y prynhawn yma, a chroeso cynnes i ymagwedd y Gweinidog a'r syniadau a'r egni newydd y mae wedi eu cyflwyno i'r tasglu hwn.
Hoffwn ddiolch i'r Dirprwy Weinidog am gyflwyno'r ddadl hon yn amser Llywodraeth Cymru a rhoi cyfle i bob un ohonom ni graffu ar waith tasglu'r Cymoedd ac, yn benodol, ar y newidiadau a wnaed dros y misoedd diwethaf—
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Fe wnaethoch chi sôn am graffu; rwy'n credu bod craffu'n bwysig iawn. A ydych yn rhannu fy mhryderon nad oes swm o arian wedi'i ddyrannu i gwm Cynon? Mae'r cwestiynau yr wyf wedi bod yn eu gofyn ynghylch y Rhondda yr un mor berthnasol i gwm Cynon. A ydych yn pryderu nad ydym yn cael atebion i'r cwestiynau hynny o safbwynt craffu?
Dydw i ddim yn rhannu eich pryderon ynghylch hynny, nac ydw, oherwydd nid arian yw'r ateb i bopeth yma—[Torri ar draws.]—o ran cyllidebau dyranedig. Mae Gweinidogion â chyfrifoldeb ym mhob rhan o'r Llywodraeth; er enghraifft, mae iechyd yn rhan bwysig iawn o'r ffordd y mae angen inni edrych ymlaen gyda'r Cymoedd, hefyd. Felly, rwy'n credu y byddai'n ddull rhy syml o geisio cael pot o arian y gellir ei wario. Mae'n well gennyf edrych ar y modd y mae tasglu'r Cymoedd yn rhyngweithio â Gweinidogion ar draws y Llywodraeth, a chredaf, os edrychwch yn fanwl, bod hynny'n eithaf hawdd ei weld.
Na, dyw e ddim.
Beth bynnag, roeddwn eisiau gwneud rhai sylwadau, gan ddechrau gyda chludiant, a gwn fod pob un ohonom ni, yn Aelodau Cynulliad yn y Cymoedd, wedi codi hwn ar un adeg neu'i gilydd. Mae cysylltiadau trafnidiaeth gwell o ran ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus yn gwbl hanfodol, ac rwy'n falch iawn o weld bod hwn yn un o'r meysydd blaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio arno.
Dechreuaf drwy sôn am ddeuoli ffordd Blaenau'r Cymoedd hefyd. Mae cymaint o angen manteisio i'r eithaf ar y budd y mae'r ffordd yn ei gynnig i gymunedau lleol. Mae hwn yn bwynt yr wyf wedi'i godi sawl gwaith ac rwy'n gwybod bod Aelodau Cynulliad eraill hefyd wedi ei godi, felly mae wedi bod yn dda iawn gweld bod y Dirprwy Weinidog wedi derbyn hynny drwy sefydlu'r is-grŵp hwn i weld sut y gallwn ni sicrhau'r manteision mwyaf posibl a ddaw yn sgil y ffordd honno ac edrych nid yn unig ar ofynion cytundebol o fewn y broses gaffael, ond hefyd ar bethau megis cyfleoedd lleol o ran cyflogaeth, prentisiaethau a chyfleoedd lleol i gwmnïau o fewn y broses honno hefyd, a'r gydnabyddiaeth bod yn rhaid i'r cyfleoedd hyn barhau pan fydd y ffordd ar agor drwy gysyniadau fel y gadwyn arloesi. Fel y bu i Sefydliad Bevan ein hatgoffa ni'n ddiweddar:
Mae'r A465 yn trawsnewid y berthynas rhwng lleoedd yn y Cymoedd a gweddill y DU.
Ond gadewch i ni hefyd wneud yn siŵr ei bod yn trawsnewid economïau lleol y Cymoedd hefyd.
Yn yr un modd, gallai cyflawni metro de Cymru fod yr un mor drawsnewidiol. Ond mae cymaint o bwyslais wedi bod ar y rhan y mae gwasanaethau rheilffyrdd yn ei chwarae o fewn hynny. Er mwyn gwireddu gwir weledigaeth y metro, rhaid i ni gofio'r rhan sylfaenol y mae bysiau'n ei chwarae. Yn aml, nhw yw'r unig wasanaeth cludiant cyhoeddus sy'n cwmpasu'r cymunedau mwyaf ynysig a difreintiedig, ac yn sicr mae ardal Blaenau'r Cymoedd yn enghraifft wych. Felly, hoffwn ofyn i'r Dirprwy Weinidog a fyddai'n ystyried cael rhywfaint o gynrychiolaeth gan gwmnïau bysiau o fewn ei is-grŵp yno, yn edrych ar ffordd Blaenau'r Cymoedd, a hefyd trafnidiaeth gymunedol. Ymddengys mai nhw yw'r rhai sy'n fodlon ac sydd â'r cwmpawd moesol i ddal y slac yn dynn pan fo gweithredwyr bysiau masnachol yn ein siomi'n aml.
Rwy'n siŵr nad fi yw'r unig Aelod Cynulliad sydd wedi cael llwyth o waith achos dros yr haf a achoswyd gan gwmnïau bysiau fel Stagecoach yn newid eu llwybrau, ac yn gwneud hynny heb unrhyw ymgynghori nac ystyriaeth go iawn o anghenion cymdeithasol ac economaidd ein hetholwyr. Yn wir, ymddengys mai eu hunig egwyddor yw maint yr elw. Felly, rwy'n croesawu'r ffordd y gall tasglu'r Cymoedd gysylltu â'r gwaith sy'n mynd rhagddo ar hyn o bryd gan Weinidog yr economi ar ddiwygio bysiau. Rwy'n credu bod honno'n enghraifft glir o le y mae angen i ni edrych y tu hwnt i ddim ond gweiddi pa un a oes pot o arian ai peidio, a sut y mae gwaith Gweinidogion eraill o fewn y Llywodraeth yn gwbl allweddol i waith tasglu'r Cymoedd.
Rwyf wedi dilyn gyda diddordeb gynllun treialu bws y Rhondda Llywodraeth Cymru—cynllun cyffrous iawn. Gobeithio y gallwn ddysgu gwersi o hwnnw a gweld lle y gellid ei gyflwyno i ardaloedd eraill yn y Cymoedd hefyd i alluogi'r rheini y mae angen iddynt gyrraedd y gwaith ar ystadau diwydiannol ac ar wahanol adegau i gyd-daro â'u sifftiau, i gael mynediad i'r farchnad swyddi.
Roeddwn yn falch iawn o glywed am y buddsoddiad ym mharc rhanbarthol y Cymoedd hefyd, gyda Pharc Gwledig Cwm Dâr yn elwa ar fuddsoddiad o £800,000, a rhannaf ag aelodau eraill o'r Cynulliad sydd wedi siarad, y brwdfrydedd dros barc rhanbarthol y Cymoedd fel cysyniad. Nodaf fod y Dirprwy Weinidog yn canolbwyntio'n sylweddol ar y manteision economaidd a all ddod yn sgil parc rhanbarthol y Cymoedd, ac, yn wir, fe all, yn enwedig o ran twristiaeth. Ond, hoffwn erfyn, mewn gwirionedd, inni beidio â symud oddi wrth y cysyniad gwreiddiol, a oedd yn canolbwyntio ar les corfforol a meddyliol hefyd. Rwy'n credu bod hynny'n wirioneddol bwysig. Os edrychwn ar ansawdd bywyd cyfan y bobl sy'n byw yn y Cymoedd, yna mae angen i wella eu lles corfforol a meddyliol fod wrth wraidd y weledigaeth honno. Mae hefyd yn cyd-fynd â syniadau fel prosiect Valleys Skyline, a oedd yn destun digwyddiad diddorol a gynhaliwyd gan yr Aelod dros Ogwr ychydig fisoedd yn ôl.
Yn olaf, hoffwn gyfeirio at bwynt olaf y cynnig. Roedd yn anrhydedd yn wir cael ymuno â Dirprwy Weinidog yr Economi a'r Gweinidog Tai yn Ynysybwl ym mis Gorffennaf i gyhoeddi y caiff y grant ar gyfer eiddo gwag ei gyflwyno. Rwy'n falch iawn o'r gwaith sydd wedi'i wneud gan Gyngor Rhondda Cynon Taf, sydd wedi adnewyddu tua 130 o dai gwag yn yr ardal, sy'n golygu bod gan 130 o deuluoedd bellach gartrefi modern, effeithlon o ran ynni, ac mae 130 llai o dai gwag a oedd yn peri dolur i'r llygad. Cael siarad â pherchnogion y tai hynny am y manteision a ddaeth yn sgil hyn, ynglŷn â defnyddio adeiladwyr lleol er mwyn cyflawni'r contractau hynny—. Edrychaf ymlaen at weld sut y gall cymunedau eraill y Cymoedd ddysgu o waith cyngor Rhondda Cynon Taf a lledaenu'r arferion da hynny ar draws yr ardal.
Diolch i'r Gweinidog am ei gyfeiriad at Barc Penallta. Nid wyf yn credu y dylem amau o gwbl y diddordeb cenedlaethol sydd yn rhai o barciau a thirnodau'r Cymoedd. Yn wir, cymerais ran yng ngaeaf 2015 mewn rhaglen genedlaethol y BBC lle cefais fy ngwahodd i gael fy nghyfweld ynghylch y 'Merlyn Pwll Glo', sef y twmpath ym Mharc Penallta a gerflunwyd i gofio am Sultan y merlyn pwll glo. Gwisgais fy siwt orau a dringais i ben tomen y merlyn pwll glo. Roedd hi'n bwrw glaw, roedd hi'n ganol gaeaf ac roedd fy nghoesau'n fwd i gyd, bron iawn at fy ngluniau, ond roeddwn i'n meddwl, 'o wel, bydd y darllediad yn fy nangos o fy nghanol i fyny' ond canfyddai wedyn fod y rhaglen ar BBC Radio 4. Felly dyna wers ynghylch paratoi ar gyfer unrhyw ddigwyddiad i'r cyfryngau yr wyf wedi ei dysgu, ond ni fyddaf yn ymddangos ar y rhaglen Sharp End mewn côt law a welingtons.
Rwy'n credu bod yr arian ar gyfer Parc Penallta yn cael ei groesawu'n fawr. Rydych chi wedi addo rhoi rhagor o wybodaeth i mi am yr hyn sydd wedi'i gynllunio'n benodol i ymgysylltu â'r gymuned yno. Gallaf weld y meddylfryd, ac mae wedi cael ei groesawu i raddau helaeth pan wyf wedi ei grybwyll ar y cyfryngau cymdeithasol. Ond rhai o'r cwestiynau sydd wedi'u codi hefyd yw, 'Wel, beth am yr olwyn weindio a baddonau'r pwll yng Nglofa Penallta, sydd dim ond dros y ffordd?' Y broblem yw bod hon yn eiddo preifat, a'i bod yn cysylltu' n uniongyrchol â Pharc Penallta, ac rwy'n credu bod angen ystyried sut y gellir defnyddio rhywfaint o ddylanwad y sector cyhoeddus i wneud rhywbeth gyda baddonau'r pwll a'r olwyn weindio yno.
Ac wrth gwrs, castell Caerffili—ni allwch fod yn ymgeisydd ysbrydoledig ar gyfer unrhyw swydd yng Nghaerffili heb gael eich llun wedi ei dynnu o flaen y castell. Mae'n cael llawer o sylw gan y Dirprwy Weinidog diwylliant. Mae'n dda gweld—mewn gwirionedd, dyma ei ail gartref bron, castell Caerffili, y nifer o weithiau rwyf wedi ei weld yno—ond mae'n braf gweld hefyd bod y dirwedd o amgylch y Castell yn cael ei hariannu nawr. Oherwydd un o'r pethau—. Roedd y Dirprwy Weinidog a minnau'n edrych allan tuag at dref Caerffili, ac un o'r pethau a deimlasom oedd bod angen gwaith ar y treflun, a chredaf mai dyna yw canolbwynt y cyllid ychwanegol hwn hefyd.
Ond gadewch i ni beidio ag anghofio ychwaith bod gennym ni gofeb lofaol genedlaethol Cymru yng Nghaerffili hefyd, a chredaf fod angen rhoi sylw i honno. Credaf i Alun Davies wneud y pwynt bod angen bwriad strategol i'r ariannu hwn, ac os yw'r bwriad strategol hwnnw i olygu unrhyw beth, yna mae'n rhaid i gofeb lofaol genedlaethol Cymru fod yn rhan o'r parth darganfod hwnnw, gan ei fod yn allweddol i dirlun diwylliannol etholaeth Caerffili.
Soniodd y cyn-Weinidog am y canolfannau strategol hefyd, a soniodd am y ffaith bod y ddarpariaeth yn anwastad mewn rhai mannau. Byddwn i'n dweud bod y canolfannau strategol wedi colli cyfle i ryw raddau yng Nghaerffili, oherwydd fy mod yn credu bod ardaloedd—. Roedd yn canolbwyntio ar Ystrad Mynach a de Caerffili; rwy'n credu bod ardaloedd yn etholaeth Caerffili sydd angen pwyslais strategol, ac rwy'n credu bod y rheini yn rhai o'r ardaloedd yr wyf eisoes wedi'u crybwyll: Senghennydd a chwm Aber, Nelson, a'r dref sydd agosaf at fy nghalon oherwydd dyma lle'r euthum i'r ysgol, Bargoed. Mae angen y sylw strategol hwnnw ar yr ardaloedd hyn, a gwn fod y Gweinidog wedi gwrando arnaf i raddau ynghylch hyn, ac rydym wedi cael y gweithdy busnes a gynhaliwyd ym Margoed, a oedd yn llwyddiannus ac yn gyfle dysgu da. Byddwn i'n dweud wrth yr Aelodau sy'n bwriadu gwneud hyn yn eu cymunedau bod yna bethau rydym ni wedi'u dysgu yno, yn enwedig ynglŷn â chael busnesau i wybod am yr hyn sy'n digwydd. Ond hefyd rwy'n credu bod angen i ni feddwl ynghylch sut y gall trefi fel Bargoed fod yn rhan o strategaeth fwy, ac rwy'n credu bod rhywfaint o waith i'w wneud o hyd o ran hynny, cysylltu'r Cymoedd gogleddol hynny. Ac efallai y byddwn i'n adleisio rhai o'r pethau yr oedd Leanne Wood yn cyfeirio atynt, bod angen rhywfaint o waith ar y cysylltiadau strategol hynny ar draws y Cymoedd o hyd.
Mae'r mater o dai a'r gwaith sydd i'w wneud yn y maes tai i'w groesawu'n fawr. Rwyf wedi galw ers amser am gynlluniau datblygu strategol, ac mae tasglu'r Cymoedd yn canfod patrwm da ar gyfer cynllun datblygu strategol, yn rhannol o leiaf, ar draws y rhanbarth hwnnw. A'r hyn yr oedd yn sôn amdano, drwy ddefnyddio cartrefi gwag unwaith eto, rydym yn sôn am symud tai ymhellach i'r gogledd a pheidio ag adeiladu yn yr ardaloedd hynny a or-ddatblygwyd eisoes yn ne etholaeth Caerffili. Mae gwneud defnydd o'r tai hynny sy'n bodoli eisoes a'u defnyddio unwaith eto yn faes allweddol.
Credaf y daw cyfleoedd gwirioneddol gyda thasglu'r Cymoedd, ond i adleisio'i ragflaenydd, rwy'n dal i gredu bod cyfleoedd i ddysgu hefyd, ac edrychaf ymlaen at glywed yr hyn a ddywed y Gweinidog yn ei ymateb. Un peth y byddwn i'n ei ddweud, yn olaf, yw y gallwch chi weld ôl ei bersonoliaeth ar hyn, ac mae hynny'n eithaf trawiadol.
Mae Islwyn yn etholaeth amrywiol, sy'n cynnwys cyfres o gymunedau Cymreig prydferth yng Nghymoedd Gwent, ac mae'n cynnwys rhyfeddodau tirluniau ffrwythlon naturiol Cymru ochr yn ochr â realiti llym cymdeithas sy'n parhau i ymrafael â heriau dad-ddiwydiannu: colli ei chymunedau mwyngloddio a dur a'r tebygolrwydd o ddatblygu afiechyd anadlol, gyda data mynegeion amddifadedd lluosog Cymru yn ategu ac yn cyd-fynd ag amrywiaeth economaidd-gymdeithasol mor erwin. Felly, fel un o blant Islwyn, rwy'n hynod falch o gael cynrychioli'r etholaeth hon yma yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru, sef Senedd Cymru.
Rwyf wedi hyrwyddo achosion lu, fel mae llawer o bobl wedi, ond un o'r rhai pwysicaf i mi yw gwaith tasglu'r Cymoedd Llywodraeth Lafur Cymru, ac mae hyn oherwydd bod ganddo gyfle a photensial i weddnewid bywydau rhai o'r cymunedau mwyaf amrywiol yng Nghymru. Felly hoffwn ddiolch i Brif Weinidog Cymru, Mark Drakeford, a Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Lee Waters, am y flaenoriaeth uchel y maent wedi parhau i'w rhoi i sicrhau bod tasglu'r Cymoedd yn parhau i fod yn un o brosiectau parhaus pwysicaf Llywodraeth Lafur Cymru.
Dim ond yr wythnos diwethaf, cyhoeddodd Llywodraeth Lafur Cymru fod ffordd goedwig Cwmcarn yn un o'r pum safle yng Ngwent a enwyd yn byrth darganfod a fydd yn rhannu mwy na £2 miliwn o gyllid tasglu'r Cymoedd. Rwyf wedi pwyso yn gyson yma ac yn breifat i ailagor ffordd goedwig Cwmcarn yn llwyr a'i hadfer i'w hen ogoniant, ac mae hyn yn dal yn flaenoriaeth i mi ac i'm hetholwyr. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru bellach wedi ymrwymo i ailagor ffordd goedwig Cwmcarn yn llawn erbyn Pasg 2020 oherwydd ei bod yn un o'r perlau byd natur a roddwyd i Gymru. A gwn fod y Gweinidog diwylliant wedi ymweld â'r fan honno'n ddiweddar, ac mae'n gwybod ei bod yn hollbwysig agor ffordd goedwig Cwmcarn ar gyfer Cymru a'r byd eto fel cyrchfan y mae'n rhaid ymweld â hi.
Yn ein hoes o argyfwng hinsawdd, lle nad yw gwerthfawrogiad a gwerth ein tirwedd naturiol erioed wedi bod yn fwy, rydym yn gwybod bod teuluoedd a ffrindiau eisiau treulio dyddiau yn yr awyr agored. Gwyddom yn fwy nag erioed am werth yr awyr agored i'n hiechyd meddwl. Bydd diwrnodau a dreulir yn archwilio tirweddau naturiol Islwyn o fudd i'n cymunedau lleol ac i bawb sy'n ymweld. Felly, dywedaf wrth yr Aelodau sy'n bresennol yn y Siambr: dewch i ymweld â'n safleoedd ar draws Islwyn. O ran twmpath Twmbarlwm, safleoedd hynafol fel y rhodfa olygfaol, cymoedd Gwyddon a Sirhywi—maen nhw o bwys mawr.
Bwriad bron i £500,000 o fuddsoddiad gan Lywodraeth Lafur Cymru yw cael y gymuned i fanteisio i'r eithaf, gyda'r addewid o le i'w rannu ar daith olygfaol Cwmcarn, gofod swyddfa dysgu gydol oes gyda wi-fi ar gyfer defnydd cymunedol, datblygu mannau dehongli tirwedd a llwybrau darganfod, ac mae'n hanfodol bod harddwch naturiol godidog ffordd goedwig Cwmcarn yn cael ei ddefnyddio'n llawn drwy ymgysylltiad aml ac ystyrlon gan y cyhoedd gyda'r mynediad sydd ei angen i wneud hynny. Felly, mae hyn yn dystiolaeth bellach o raglen uchelgeisiol o adnewyddu i'r Cymoedd ac i Islwyn gan Lywodraeth Lafur Cymru sy'n benderfynol o adfywio'r dirwedd a'r bobl yr ydym yn eu gwasanaethu.
Yn olaf, Llywydd, nos yfory, byddaf yn mynd i gyfarfod o Gyfeillion Ffordd Goedwig Cwmcarn yn Sefydliad a Chlwb Gweithwyr nodedig Cwmcarn, a bydd rhywfaint o drafod a sgwrsio parhaus â phobl sy'n byw ac yn gweithio yn y Cymoedd yn holl bwysig er mwyn sicrhau y caiff amcanion clodwiw y tasglu eu cyflawni a'u holynu. Ac felly byddaf yn parhau i weithio'n agos gyda phobl Islwyn a Llywodraeth Lafur Cymru a'r Gweinidog i sicrhau ein bod, gyda'n gilydd, yn manteisio i'r eithaf ar ffyniant ein tirluniau a'n trefi yn y Cymoedd, nid yn unig ar gyfer pob un unigolyn yma, ond i bob un o genedlaethau'r dyfodol.
Y Dirprwy Weinidog i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Llywydd. Nid oes gennyf lawer iawn o amser i ymateb, felly ni fyddaf yn gallu ymateb i bob un o'r sylwadau, ond rwy'n hapus i gael rhagor o drafodaethau gydag unrhyw un sy'n dymuno.
Fe wnaf geisio mynd i'r afael â rhai o'r pwyntiau sydd wedi aros gyda mi. I ddechrau, her Russell George ar y targed o gael 7,000 o bobl i mewn i waith. Nid wyf yn siŵr o ble y caiff ei ffigurau. Dyfynnodd mai dim ond 2,000 o bobl oedd wedi symud o fod yn ddi-waith i fod mewn gwaith. Mae ein ffigurau ni'n dangos bod 4,500 wedi cael cymorth i gael gwaith drwy raglenni cyflogaeth gymunedol ers Gorffennaf 2017. Felly, rydym ni ar y trywydd iawn i gyflawni'r 7,000 o swyddi yr ydym ni wedi ymrwymo iddynt, os bydd popeth arall yn gyfartal. Wrth gwrs, dydym ni ddim yn gwybod beth fydd effaith y dirwasgiad a Brexit ar ein heconomi yn ystod y 18 mis nesaf ac mae'n ddigon posibl y bydd yr ansicrwydd y mae ei Lywodraeth wedi ei orfodi arnom ni oherwydd Brexit yn effeithio ar hynny. Heddiw, rydym ni ar y trywydd iawn i gyflawni ein hymrwymiadau ym myd cyflogaeth.
Galwodd Vikki Howells ar i gynrychiolwyr cwmnïau bysiau a thrafnidiaeth gymunedol gael eu cynnwys yn y tasglu, ac fel y dywedais, bydd gennym ni is-grŵp ar wahân ar drafnidiaeth, a byddaf yn sicr yn gwneud fy ngorau i sicrhau y caiff y grwpiau hynny eu cynrychioli yn hynny o beth. Ac roedd yn llygad ei lle yn tynnu sylw at effaith bersonol ein hymweliad â menter cartrefi gwag Ynysybwl, lle gwelsom yr effaith ar y stryd o ddod â chartref adfeiliedig yn ôl i ddefnydd a rhoi cyfle i deulu a oedd yn gweithio yn y pentref gael cartref yn y pentref—cafodd hynny effaith wirioneddol a phendant.
Cyfeiriodd Hefin David ac Alun Davies at gwestiwn y canolfannau strategol. Roedd hwn yn benderfyniad a wnaed gennyf i. Roedd gennym ni £15 miliwn, rwy'n credu, a ddyrannwyd i'w wario yn y canolfannau strategol ac edrychais ar ansawdd y cynnig a gyflwynwyd gan yr awdurdodau lleol a chredais, pe byddem yn ariannu pob un o'r rheini, nad oeddwn yn teimlo y byddai gennym ni fwy na chyfanswm y rhannau i'w dangos ar y diwedd o effaith tasglu'r Cymoedd yr oeddwn eisiau ei weld. Felly, penderfynais beidio â gwneud hynny a defnyddio'r arian yn fwy strategol ac yn fwy creadigol fel bod y Cymoedd gogleddol yn elwa. A bydd y prosiect cartrefi gwag yn ymledu i bob cymuned yn hytrach nag yn aros mewn un ardal.
Ond i fynd i'r afael yn uniongyrchol â'r beirniadaethau a wnaeth Leanne Wood, byddwn yn dweud nad yw'r tasglu hwn yn ateb i bob problem. Mae cyflwr economaidd-gymdeithasol yr holl gymoedd yn deillio o 100 mlynedd o galedi economaidd ac nid ydym ni'n mynd i drawsnewid hynny yn y tymor byr. Rydym ni, serch hynny, yn gwneud pethau ymarferol, adeiladol. Ac mae'r gwahoddiad yn agored i Leanne Wood, fel yr Aelod Cynulliad dros y Rhondda, i ymgysylltu â ni mewn ffordd ymarferol ac adeiladol. Mae'n hawdd cwyno am yr holl bethau sydd o'i le yn y Rhondda. Rwy'n agored i gael sgwrs gyda hi am y pethau yr ydym ni'n eu gwneud—[Torri ar draws.] Mae arna'i ofn nad oes gen i amser.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na wnaf, mae gen i ofn. Ond gadewch i mi sôn wrthych chi am rai o'r pethau yr ydym ni'n eu gwneud yn y Rhondda—[Torri ar draws.] Mae gen i 30 eiliad ar ôl, Leanne Wood, ac rwyf wedi cytuno i gwrdd â chi yfory i drafod yn fanwl rai o'r materion yr ydych chi wedi'u codi. Nid oes amser gen i, mae arna'i ofn, ond rydym ni'n gwario £27 miliwn ar y Rhondda—
Bydd rhaid i chi eistedd i lawr, Leanne Wood. Nid yw'n ildio.
—£27 miliwn yn etholaeth y Rhondda yn unig o'r metro, na wnaethoch chi ei gydnabod. Bydd gan gronfa'r economi sylfaenol, rwy'n hyderus, brosiectau yn y Rhondda. Mae'r cynllun treialu teithio i'r gwaith yn y Rhondda Fach yn benodol, ac mae'r gronfa cartrefi gwag hefyd yn agored i'r Rhondda. Felly, ni chredaf ei fod yn gynrychiolaeth deg o'r gwaith yr ydym ni yn ei wneud yn eich etholaeth.
Ac o ran yr enghraifft benodol a ddyfynnwyd gennych o'r gydweithfa wnïo yn Nhreorci, mae'n bwynt yr ydych chi wedi ei wneud yn y Siambr hon o'r blaen. Rydym ni wedi ysgrifennu atoch chi'n nodi'r achos ers hynny. Rydych chi'n parhau i wneud y pwynt gwreiddiol a wnaethoch, nad yw, mae arna'i ofn, yn ddisgrifiad cywir o'r hyn sydd wedi digwydd, ond rwy'n cwrdd â chi yfory—[Torri ar draws.] Pe byddai amser gen i, Llywydd, byddwn yn falch o roi sylw i'r pwyntiau y mae'r Aelod dros y Rhondda yn eu gwneud ar ei heistedd, ond mae hi'n camddeall y sefyllfa ac rwyf eisiau ymgysylltu â hi mewn modd adeiladol a chwrtais yfory i geisio esbonio iddi y sefyllfa sydd gennym ni, i weld a allwn ni ddod o hyd i ffordd o sicrhau ein bod yn gallu dod â buddsoddiad i Dreorci hefyd. Nid yw'n fater o un cwm yn erbyn y llall. Mae gennym ni i gyd gyfrifoldeb i weithio gyda'n gilydd i roi hwb i'r Cymoedd i gyd ac rydym ni'n gwneud ein gorau glas, drwy'r prosiect hwn, i wneud hynny ac mae'r gwahoddiad yn agored i holl Aelodau'r Cynulliad gymryd rhan adeiladol yn y broses honno. Diolch.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gohiriaf y bleidlais felly ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Sy'n dod â ni at y ddadl olaf, a'r ddadl hynny ar egwyddorion cyffredinol y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru). Rwy'n galw ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i wneud y cynnig—Julie Morgan.
Cynnig NDM7130 Julie Morgan
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.11:
Yn cytuno i egwyddorion cyffredinol y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru).
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Llywydd. Mae'n bleser gen i agor y ddadl hon ar egwyddorion cyffredinol Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru). Bydd y Bil hwn, os caiff ei basio, yn sicrhau bod plant yng Nghymru yn cael yr un lefel o ddiogelwch rhag cosb gorfforol ag oedolion.
Hoffwn i ddechrau drwy ddiolch i'r tri phwyllgor sydd wedi gweithio mor galed i graffu ar y Bil hwn. Bydd eich cyfraniad yn amhrisiadwy wrth lunio'r ddeddfwriaeth bwysig hon. Rwyf i hefyd eisiau cofnodi fy niolch i'r bobl a'r sefydliadau niferus sydd wedi rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Mae'r Llywodraeth hon yn credu bod lleisiau plant a phobl ifanc yn bwysig. Mae'r Cynulliad wedi cefnogi sefydlu Senedd Ieuenctid Cymru, sydd yn ei thro wedi rhoi mwyafrif ei chefnogaeth i'r Bil hwn—pleidleisiodd 70 y cant o'i Haelodau i gefnogi'r ddeddfwriaeth hon. Felly dyna lais y bobl ifanc.
Mae llawer ohonom ni yn y Siambr hon wedi ymgyrchu ers blynyddoedd lawer dros y ddeddfwriaeth hon. Rwyf i wedi ymgyrchu mewn gwirionedd ers 20 mlynedd, ac rwy'n falch iawn ei fod yn ymrwymiad allweddol i'r Llywodraeth hon. Hoffwn ddiolch i Huw Irranca-Davies am gyflwyno'r Bil yn frwd, ac rwyf eisiau talu teyrnged i Carl Sargeant, ac am swyddogaeth y ddau wrth ddatblygu'r Bil. Llywydd, rwyf eisiau i'r Aelodau wybod fy mod wedi ystyried yn ofalus ac rwy'n bwriadu derbyn y rhan fwyaf o'r argymhellion a wnaed gan bob un o'r tri phwyllgor craffu.
Mae'r Bil hwn yn ymwneud â helpu i ddiogelu hawliau plant. Yn y wlad hon, gallwn ni ymfalchïo bod Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn ganolog i'n hymagwedd ni i roi'r dechrau gorau mewn bywyd i blant, ac i'w helpu i gyflawni eu potensial. Nod cyffredinol y Bil yw helpu i ddiogelu hawliau plant, yn unol ag erthygl 19 y Confensiwn—yr hawl i gael amddiffyniad rhag pob math o drais.
Mae angen i ni gydnabod bod termau fel 'smac ysgafn', neu 'smac gariadus' yn trin cosb gorfforol yn ysgafn. Mae gwahanol ddehongliadau ynglŷn â'r hyn y mae smacio ysgafn neu gariadus yn eu golygu, a pha mor aml y cânt eu defnyddio, yn aml gan rieni sy'n credu eu bod yn gwneud y peth iawn ar gyfer eu plentyn. Ac fel y clywodd y Pwyllgor yn ystod Cyfnod 1 y gwaith craffu ar y Bil, gall y term 'cosb resymol' ei hun gymylu ffiniau hefyd, gan ei gwneud yn anodd i weithwyr proffesiynol roi cyngor clir a diamwys i rieni. A dyna pam y mae cymaint o gefnogaeth gan bron pob un o'r cyrff proffesiynol, a'r holl weithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda phlant. A pha bynnag enw sy'n cael ei roi iddi, mae cosb gorfforol yn fater hawliau dynol, sydd, yn ôl y mwyafrif o ymchwilwyr, â'r potensial i achosi niwed i blant.
Waeth pa mor ysgafn y gallai ymddangos, mae CCUHP yn cydnabod bod unrhyw gosb gorfforol i blant yn anghydnaws â'u hawliau dynol. Mae llawer o ffyrdd amgen a mwy cadarnhaol o ddisgyblu plentyn nad ydynt yn cynnwys cosb gorfforol. Ni allaf fyth dderbyn ei bod yn dderbyniol i unigolyn mawr daro unigolyn bach. Mae'r Bil hwn yn dod â Chymru yn gwbl unol â CCUHP; mae hefyd yn cyd-fynd ag argymhellion Cyngor Hawliau Dynol y Cenhedloedd Unedig, Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Ddileu Gwahaniaethu yn Erbyn Menywod, ac â nod datblygu cynaliadwy 16 y Cenhedloedd Unedig.
Roeddwn i'n falch iawn bod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ar wahân i ddau o'i aelodau, wedi argymell cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil. Roedd y pwyllgor hwnnw a'r Pwyllgor Cyllid yn glir, er mwyn bod yn wirioneddol effeithiol, mae'n rhaid cael ymgyrch wybodaeth wedi'i chynllunio'n dda i gyd-fynd â'r Bil hwn. Rhaid i ni wneud yn siŵr bod rhieni yn ymwybodol o ac yn gwybod am hyn yr ydym ni'n ei wneud. Ac rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelodau ar y pwynt hwn, ac rwyf wedi addo y byddwn ni'n codi ymwybyddiaeth ynghylch dileu'r amddiffyniad cosb resymol, ac rwyf wedi cymeradwyo ymgyrch ymwybyddiaeth lefel uchel. Byddaf yn cyflwyno gwelliannau'r Llywodraeth i ychwanegu dyletswydd i godi ymwybyddiaeth ar wyneb y Bil.
Maes arall y canolbwyntiwyd arno yw pwysigrwydd cefnogi rhieni i fabwysiadu dulliau rhianta cadarnhaol. Rydym ni eisoes yn darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth i rieni drwy amrywiaeth o raglenni ac ymgyrchoedd, ond bwriadwn gynnal ymarfer mapio i nodi'r bylchau neu'r cyfleoedd i wneud mwy. Ac rwyf wedi cytuno i ddarparu gwybodaeth am ganlyniad yr adolygiad hwn yn dilyn dadansoddiad a thrafodaethau â'r grŵp arbenigwyr rhianta.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Yn sicr.
Diolch. Gwn fod llawer o bobl yn poeni am gael eu troi'n droseddwyr o ganlyniad i'r ddeddfwriaeth hon, ac mae'r pwynt yr ydych chi newydd ei wneud am gymorth i deuluoedd yn un pwysig iawn. A ydych chi'n rhagweld, os caiff teulu ei ddal o dan y ddeddfwriaeth hon na fydden nhw'n mynd i'r carchar, y byddai darpariaeth ar gyfer dedfrydu i gynnwys opsiynau i ddarparu rhianta cefnogol, cynadledda grŵp teulu—y math hwnnw o agwedd at hyn—yn hytrach na throseddoli, carcharu a gwahanu teuluoedd? Rwy'n credu mai o'r fan honno y daw llawer o'r ofn ynghylch y ddeddfwriaeth hon. Felly, a allwch chi sicrhau pobl, os gwelwch yn dda?
Ydw, rwy'n credu bod yr Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn. Mae'n hanfodol ein bod yn cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon gyda chymorth ar gyfer rieni. Yr hyn yr ydym ni eisiau ei wneud yw ceisio gwneud y gwaith rhianta'n haws, ac rwy'n credu ein bod ni i gyd yn gwybod bod rhianta'n anodd, ac mae rhieni'n croesawu'r holl gyngor a chymorth sydd ar gael iddynt. Felly, mae'n gwbl hanfodol, pan fyddwn ni'n cyflwyno'r ddeddfwriaeth hon, ein bod hefyd yn gwneud yn siŵr bod cefnogaeth a chymorth ar gael, a'n bod yn gweithio gyda'r gwahanol asiantaethau—rydym ni'n gweithio gyda'r heddlu i drafod cynlluniau dargyfeirio ac rydym ni'n gweithio gyda sefydliadau eraill i weld pa gymorth a chefnogaeth y mae'n bosibl eu rhoi. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n gwneud pwynt hollbwysig.
Felly, yng ngoleuni argymhellion y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, rwyf hefyd wedi ystyried gyda fy nghyd-Aelodau—y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a'r Gweinidog Addysg—ar swyddogaeth rhaglen Plant Iach Cymru a'r cwricwlwm yn cefnogi rhieni presennol, ac yn arfogi plant a phobl ifanc i ddod yn rhieni'r dyfodol. A chredaf bod hynny'n hanfodol iawn, bod yr hyn sy'n digwydd yn yr ysgol yn helpu i'w paratoi ar gyfer y dyfodol.
Rydym ni eisiau i rianta cadarnhaol fod ein ffordd ni o wneud pethau yng Nghymru, ac os caiff y Bil hwn ei basio, bydd y modd y caiff y Bil ei weithredu yn hollbwysig os yw'r Cynulliad yn pasio'r Bil hwn. Rydym ni wedi bod yn gweithio'n agos iawn gyda'r heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, CAFCASS Cymru a'r gwasanaethau cymdeithasol i ystyried ei effaith a'i weithrediad, gan gynnwys ystyried canllawiau ac anghenion hyfforddi. Rydym ni wedi sefydlu grŵp gweithredu strategol a phedwar grŵp gorchwyl a gorffen i fwrw ymlaen â'r gwaith hwn. Cytunaf hefyd â'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg y bydd angen digon o amser rhwng Cydsyniad Brenhinol a chychwyn er mwyn gwneud y gwaith codi ymwybyddiaeth a gweithredu pwysig.
Rwy'n croesawu bod pwysigrwydd casglu data er mwyn galluogi asesu a gwerthuso effaith y Bil yn cael ei gydnabod. Roedd dod o hyd i ddata a'i ddadansoddi yn flaenoriaeth, ac mae'n parhau i fod yn flaenoriaeth. Felly, byddwn ni'n parhau i weithio'n agos gyda rhanddeiliaid i ddod o hyd i ffyrdd o gasglu data perthnasol am gyfnod cyn gweithredu er mwyn sefydlu llinellau sylfaen, ac ar ôl cychwyn, i fonitro'r Bil. Byddaf yn cyflwyno gwelliant gan y Llywodraeth i roi ymrwymiad i gynnal gwerthusiad ar ôl gweithredu'r Bil. Byddwn ni hefyd yn cynnal arolygon rheolaidd i olrhain llwyddiant ein gweithgarwch codi ymwybyddiaeth a'r effaith ar y farn gyhoeddus am gosbi plant yn gorfforol.
Rwyf eisiau pwysleisio, fodd bynnag, nad oes unrhyw dystiolaeth ryngwladol sy'n awgrymu y caiff yr heddlu neu'r gwasanaethau cymdeithasol eu llethu gan benderfyniad i ddileu'r amddiffyniad cosb resymol, ac mae'r heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron a'r gwasanaethau cymdeithasol wedi cadarnhau hyn hefyd yn eu tystiolaeth i'r Pwyllgor. Hefyd, yr wythnos diwethaf cwrddais â Chomisiynydd Plant yr Alban. Fel y gwyddoch chi, mae'r Alban yn mynd drwy broses debyg. Maen nhw'n cyflwyno Bil ar yr un pryd â ni. Mae Comisiynydd Plant yr Alban yn hanu o Seland Newydd, ac ym mis Awst cyfarfu ef â'r heddlu, gweithwyr cymdeithasol a'r sefydliadau magu plant yn Seland Newydd—ac wrth gwrs, mae gan Seland Newydd awdurdodaeth gyfreithiol debyg i ni ein hunain, a gweithredon nhw hyn 10 mlynedd yn ôl—a dywedodd ef eu bod yn unfrydol eu bod yn gwbl gadarnhaol ynghylch y newid yn eu cyfraith yn y fan honno. Croesawodd gweithwyr cymdeithasol yr eglurder y mae'r gyfraith wedi'i ddarparu, a dywedodd yr heddlu nad oedd wedi arwain at fwy o erlyn. Yn hytrach, yr oedd wedi darparu eglurder i swyddogion ac wedi caniatáu ymyriadau cefnogol. Cyfeiriodd y gweithwyr rheng flaen hyn yn Seland Newydd at y newid cynyddol a fu yn agweddau'r cyhoedd dros y degawd diwethaf, a chefnogir hynny gan arolygon y boblogaeth gan y Llywodraeth. Felly, ystyriais ei bod yn dda iawn cael gwybodaeth uniongyrchol am yr hyn sy'n digwydd yn Seland Newydd.
Ac rwyf am gloi drwy ddweud bod datganoli wedi rhoi cyfle unigryw i Gymru arwain y ffordd ar nifer o faterion yn y DU. Dim ond dau ohonyn nhw: fe wnaethom ni gyflwyno'r tâl o 5c am fagiau siopa, sydd wedi cwtogi'n sylweddol nifer y bagiau siopa untro a ddefnyddir, ac wedyn rhannau eraill o'r DU; fe wnaethom ni newid y gyfraith ar roi organau ac mae gennym ni bellach y gyfradd gydsynio uchaf o holl wledydd y Deyrnas Unedig. Mae gennym ni gyfle yn awr i newid y gyfraith ar gosbi plant yn gorfforol a dileu'r amddiffyniad hwn, sydd wedi golygu bod plant yn cael eu trin yn wahanol yng ngolwg y gyfraith. Ni allaf i fy hun feddwl am ddim byd pwysicach y gallwn ni ei wneud nag amddiffyn ein plant mwyaf agored i niwed. Felly, yn y gorffennol, lle mae Cymru wedi arwain, mae eraill wedi dilyn. Gadewch i ni fod yn feiddgar yn yr achos hwn a gadewch i ni gefnogi'r ddeddfwriaeth hon heddiw. Diolch yn fawr.
Cadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, Lynne Neagle.
Diolch, Llywydd. Rwy'n falch o gyfrannu at y ddadl Cyfnod 1 hon i amlinellu prif argymhellion a chasgliadau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg o ran y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru).
Bydd yr Aelodau'n gallu gweld o'n hadroddiad bod y rhan fwyaf o'n pwyllgor yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn. Nid yw Suzy Davies a Janet Finch-Saunders yn cefnogi bod y Bil yn mynd y tu hwnt i Gyfnod 1, ac rwy'n siŵr y byddan nhw'n amlinellu'r rhesymau dros eu safbwynt yn ddiweddarach y prynhawn yma.
Cyn imi fanylu ar pam mae'r rhan fwyaf o'n pwyllgor yn cefnogi'r Bil, rwyf am ddiolch i bawb a gyflwynodd dystiolaeth yn nodi eu barn. Hoffwn ddiolch hefyd i'r rhieni a'r cynrychiolwyr hynny o sefydliadau a siaradodd yn uniongyrchol â ni. Mae'n cymryd amser ac ymdrech i bobl wneud hyn. Yn achos y rhai nad ydynt yn gyfarwydd â'r lle hwn, gall hefyd gymryd dewrder. Fel pwyllgor, hoffem ni gofnodi ein diolch i bawb a gyfrannodd. Hoffwn i hefyd gofnodi diolchiadau'r pwyllgor i'n tîm pwyllgor, fel sy'n wir bob tro, sydd wedi rhoi cefnogaeth eithriadol i'r pwyllgor wrth inni ymgymryd â'n gwaith craffu.
O'r cychwyn cyntaf, rwyf eisiau pwysleisio ein bod yn llwyr gydnabod y safbwyntiau cryf ar ddwy ochr y ddadl ynghylch a ddylai'r Bil hwn ddod yn gyfraith. Gobeithiaf fod hyd ein hadroddiad a'r manylion sydd ynddo'n dangos pa mor bwysig yw hi i ni ystyried pob math o safbwynt. Gwyddom ni na fydd cyfran o'r boblogaeth yn cytuno â'n casgliadau. Fodd bynnag, rydym yn gobeithio bod y dull yr ydym ni wedi'i ddefnyddio yn dangos i gefnogwyr a gwrthwynebwyr y Bil ymrwymiad y Pwyllgor i graffu teg a chadarn ac i ystyried y dystiolaeth a'r safbwyntiau a glywsom.
I'r perwyl hwn, gwahoddwyd campws gwyddor data y Swyddfa Ystadegau Gwladol i gynnal dadansoddiad diduedd o'r safbwyntiau a fynegwyd yn ein hymgynghoriad cyhoeddus ar y Bil. Hoffwn ni gofnodi ein diolch iddyn nhw am eu gwaith. Cawsom ni amrywiaeth eang o wybodaeth, clywsom amrywiaeth eang o safbwyntiau, a rhoddwyd ystyriaeth fanwl i ehangder y dystiolaeth a oedd ar gael i ni.
Rhan bwysig o'n gwaith oedd clywed gan y rhai sy'n gweithio yn y rheng flaen, yn darparu gwasanaethau ac yn meddu ar gyfrifoldeb statudol i amddiffyn plant a gweithredu er eu budd gorau. Roedd hyn yn cynnwys yr heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, gwasanaethau cymdeithasol, cynrychiolwyr athrawon ac amrywiaeth eang o weithwyr iechyd proffesiynol, gan gynnwys meddygon teulu, nyrsys, ymwelwyr iechyd, pediatregwyr a seiciatryddion. Dywedodd pob un wrthym ni y bydd y Bil hwn yn gwella eu gallu i amddiffyn plant sy'n byw yng Nghymru gan y bydd yn gwneud y gyfraith yn glir.
Dywedwyd wrthym ni y byddai bod â chyfraith gliriach o gymorth i'r rhai hynny sydd yn y rheng flaen i amddiffyn plant yn well, gan gynnwys y rhai hynny sydd fwyaf agored i niwed. Dywedodd gweithwyr proffesiynol wrthym ni y bydd y Bil hwn yn gwneud gwahaniaeth sylweddol oherwydd ei fod yn darparu llinell glir iddynt, ac yn bwysig, ffin glir y gall rhieni, plant a'r cyhoedd yn ehangach ei deall yn glir.
Rydym ni'n cydnabod nad oedd y rhan fwyaf o'r unigolion a ymatebodd i'n hymgynghoriad o safbwynt personol yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn. Clywsom ni amrywiaeth eang o resymau dros eu gwrthwynebiad ac rydym ni wedi adlewyrchu'r safbwyntiau hyn yn fanwl yn ein hadroddiad. Roedd mwyafrif yr ymatebion gan unigolion yn canolbwyntio ar sut y byddai dileu'r amddiffyniad yn effeithio ar rieni. Roeddem ni'n glir iawn mai ein prif nod fel pwyllgor yw pwyso a mesur yr hyn y mae'r dystiolaeth yn ei dweud wrthym ni am yr effaith y gallai'r Bil hwn, neu y bydd yn ei chael ar blant, ac a fydd yn gwella'r amddiffyniad y mae'r gyfraith yn ei ddarparu ar eu cyfer.
Ystyriwyd gennym ni hefyd y cyfoeth o dystiolaeth academaidd sy'n bodoli yn y maes hwn. Mae hyn yn amgylchynu amrywiaeth o faterion, gan gynnwys ystyried y dystiolaeth am effeithiau tymor byr a thymor hir cosbi corfforol ar blant, a'r effaith ar ganlyniadau plant mewn gwledydd sydd eisoes wedi'i wahardd.
At ei gilydd, mae'r rhan fwyaf o'n Pwyllgor o'r farn bod dadl gref y bydd y Bil hwn yn lleihau'r risg o niwed posibl i blant a phobl ifanc. Nid ydym ni'n argyhoeddedig y gallai nifer fawr o erlyniadau ddeillio o basio'r Bil hwn. Nid oes unrhyw dystiolaeth o hynny, ac nid barn yr heddlu na Gwasanaeth Erlyn y Goron yw honno ychwaith.
Fe welwyd bod Cymru'n arwain y ffordd i blant a phobl ifanc a chafodd gydnabyddiaeth ryngwladol pan gyflwynodd hi'r Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) yn 2011. Dyma'r ddeddfwriaeth gyntaf o'i math yn y DU, yn ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn mewn cyfraith ddomestig. Rydym ni, a'r pwyllgorau a'n rhagflaenodd, wedi dweud yn gyson wrth Lywodraeth Cymru fod yn rhaid i'r ymrwymiad deddfwriaethol hwn i hawliau gael ei wireddu ym mywydau plant.
Mae Pwyllgor y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn wedi bod yn glir iawn ei fod eisiau i'r gyfraith ar gosbi corfforol newid yn y DU. Yn fwyaf diweddar, yn 2016, dywedodd
y dylem wahardd fel mater o flaenoriaeth bob cosb gorfforol yn y teulu, gan gynnwys diddymu'r holl amddiffyniadau cyfreithiol, megis 'cosb resymol'.
Mae'r rhan fwyaf o'n pwyllgor yn credu na allwn ni, fel gwlad, ddewis a dethol erthyglau'r confensiwn yr ydym ni'n cydymffurfio â nhw. I ni, bydd pasio'r ddeddfwriaeth hon yn enghraifft glir o sut y mae'n bosibl troi'r dyletswyddau deddfwriaethol presennol hyn yn realiti ystyrlon i blant Cymru.
Yn yr amser sydd ar ôl, hoffwn i droi at y pethau y mae'r rhan fwyaf o'n pwyllgor o'r farn y mae eu hangen i sicrhau bod y Bil hwn yn cyflawni ei nodau datganedig. Wrth argymell y dylai'r Bil ddatblygu, rydym ni'n glir iawn ei bod yn hanfodol bod dau beth ar waith i sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon yn gweithio er lles plant a'u teuluoedd. Yn gyntaf, fe gredwn ni fod cael ymgyrch gynhwysfawr i godi ymwybyddiaeth yn hanfodol. Mae hyn yn sylfaenol i lwyddiant y ddeddfwriaeth hon. Nid ydym ni yn amau bwriad y Llywodraeth bresennol i gynnal yr ymgyrch hon i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd. Fodd bynnag, er y bydd gweinyddiaethau'r dyfodol yn etifeddu'r cyfreithiau yr ydym ni yn eu pasio, efallai na fyddant yn rhannu'r un lefel o ymrwymiad i'r dulliau sy'n allweddol i'w gweithredu'n effeithiol. Felly, rydym ni'n croesawu'r ffaith bod y Dirprwy Weinidog yn derbyn ein hargymhelliad y dylid diwygio'r Bil i osod dyletswydd ar Lywodraeth Cymru i ddarparu gwybodaeth a chynyddu ymwybyddiaeth o effaith y ddeddfwriaeth.
Yn ail, rydym ni'n argymell bod cymorth cyffredinol yn cael ei ddarparu i rieni ledled Cymru. Mae llawer mwy y mae'n rhaid ei wneud i gynorthwyo teuluoedd a'r heriau anochel a ddaw yn sgil rhianta. Rydym ni o'r farn bod rhoi cymorth i rieni ddysgu am ddewisiadau yn hytrach na chosb gorfforol, a'u defnyddio wrth ddisgyblu eu plant yn hanfodol i sicrhau bod y Bil yn cyflawni amcanion datganedig y Llywodraeth. Bydd hyn yn galw am newid sylweddol a buddsoddiad strategol.
O ystyried y pwysigrwydd y mae'r pwyllgor yn ei roi ar ddarparu cymorth cyffredinol digonol i rieni, hoffwn i holi'r Dirprwy Weinidog ychydig ymhellach am ei hymateb i argymhellion 7 a 18. Roeddem ni yn croesawu'r sicrwydd a roddwyd gan y Dirprwy Weinidog yn ystod y broses graffu bod ymarfer ar y gweill i fapio'r cymorth sydd ar gael i rieni yng Nghymru. Felly, rydym ni'n siomedig na fydd canlyniadau'r ymarfer mapio ar gael i ni mewn pryd i lywio cyfnodau diwygio'r Bil hwn. Mae hyn yn peri pryder arbennig i ni o gofio mai dymuniad y Dirprwy Weinidog i beidio ag achub y blaen ar yr ymarfer mapio yw'r rheswm a roddwyd dros fethu â derbyn ein hargymhelliad 18 yn llawn, sy'n galw am y newid sylweddol hwnnw o ran cymorth cyffredinol gyda rhianta cadarnhaol. Byddwn i yn ddiolchgar pe gallai'r Dirprwy Weinidog nodi pam na ddechreuwyd yr ymarfer mapio hwn yn gynharach er mwyn sicrhau bod gan y Cynulliad gymaint o wybodaeth â phosibl ar gael iddo. Er mwyn rhoi sicrwydd i gefnogwyr a gwrthwynebwyr y Bil hwn y bydd digon o gymorth ar gael i rieni law yn llaw â'r newid hwn yn y gyfraith, byddwn i'n annog y Dirprwy Weinidog i ailystyried yr amserlen bresennol ar gyfer yr ymarfer mapio.
Hoffwn i gloi drwy ddiolch i'r Dirprwy Weinidog a'i swyddogion am yr ymateb manwl a roddwyd cyn y ddadl, ac i ailadrodd fy niolch i bawb a gyfrannodd at ein gwaith craffu Cyfnod 1. Diolch yn fawr.
Dai Lloyd i siarad ar ran y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol.
Diolch, Llywydd. Cyflwynodd y pwyllgor adroddiad ar y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) ar 2 Awst eleni, gan wneud dau argymhelliad yn unig. Hoffwn dynnu sylw at rai pwyntiau ehangach cyn i mi symud ymlaen at ein hargymhellion.
Yn unol â’r drefn ar gyfer ein gwaith craffu ar bob Bil, bu’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn trafod materion yn ymwneud â chymhwysedd y Cynulliad, y defnydd arfaethedig o is-ddeddfwriaeth, a materion eraill yr ydym yn ystyried eu bod yn berthnasol i ansawdd y ddeddfwriaeth.
Er mwyn i Fil fod o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad Cenedlaethol, mae Deddf Llywodraeth Cymru yn ei gwneud yn ofynnol i bob un o’i ddarpariaethau gydymffurfio â'r Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol. Gwnaethom godi’r mater hwn gyda'r Dirprwy Weinidog yn ystod ein sesiwn dystiolaeth, yn benodol o ran taro cydbwysedd rhwng hawliau’r plentyn i gael ei amddiffyn a hawliau’r rhieni i ddisgyblu eu plentyn.
Rydym yn croesawu ymatebion y Dirprwy Weinidog i'r cwestiynau a ofynnwyd gennym, ac rydym yn nodi'r wybodaeth sydd wedi'i chynnwys yn yr asesiad effaith cydraddoldeb, sy'n ymdrin ag erthyglau perthnasol y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol.
Fodd bynnag, rydym wedi datgan yn gyson y dylai Llywodraeth Cymru sicrhau bod y wybodaeth am gymhwysedd deddfwriaethol sy’n ymddangos yn ei memoranda esboniadol yn cynnwys digon o fanylion i sicrhau tryloywder ac i hwyluso gwaith craffu effeithiol ar Filiau.
Credwn y dylid sicrhau bod esboniad mwy cynhwysfawr o'r asesiadau a gynhaliwyd mewn perthynas â hawliau dynol yn cael ei gynnwys y memoranda esboniadol. Nodwn ymrwymiad y Dirprwy Weinidog i adolygu'r cydbwysedd rhwng yr hyn sydd yn y memorandwm esboniadol a'r asesiadau effaith a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru ac a gyhoeddwyd ar ei gwefan.
Hoffwn fod yn glir nad ymgais ydy hwn i danseilio'r asesiadau o gymhwysedd deddfwriaethol a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru. Ein dull gweithredu yw sicrhau bod y materion hyn yn cael eu nodi mewn ffordd gydlynol, dryloyw a hygyrch, a hynny er mwyn hwyluso’r broses graffu a gwella dealltwriaeth ymhlith dinasyddion.
Gwnaethom nodi bod y Bil yn cynnwys un pŵer dirprwyedig sydd ar ffurf Gorchymyn. Bydd y Gorchymyn yn pennu’r dyddiad y daw darpariaethau'r Bil i rym, ac ni fydd yn destun gweithdrefn graffu. Felly, er ein bod yn fodlon â’r cydbwysedd rhwng yr hyn sydd wedi’i nodi ar wyneb y Bil a'r hyn sydd wedi’i adael i is-ddeddfwriaeth, rydym yn nodi’r ffaith y gall y Gorchymyn wneud darpariaeth drosiannol, ddarfodol neu arbed. Yn sgil hynny, mae ein hadroddiad yn awgrymu y dylai ein pwyllgor olynol yn y chweched Cynulliad ystyried yn ofalus y defnydd a wneir o'r pŵer cychwyn hwn.
Yn awr, hoffwn symud ymlaen at ein dau argymhelliad. Mae Gwasanaeth Erlyn y Goron, fel y prif wasanaeth erlyn cyhoeddus ar gyfer Cymru a Lloegr, yn darparu cyngor ynghylch cyhuddiadau mewn perthynas ag achosion mwy difrifol neu gymhleth, a hynny’n seiliedig ar y cod ar gyfer erlynwyr y Goron a chanllawiau erlyn. Rydym yn cytuno efo'r Dirprwy Weinidog y bydd canllawiau safonol cyhuddo Gwasanaeth Erlyn y Goron yn hynod bwysig o ran cyflawni amcanion y Bil.
Ar y sail honno, mae ein hargymhelliad cyntaf yn awgrymu y dylai'r Dirprwy Weinidog weithio gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron ac yn sicrhau bod y canllawiau safonol cyhuddo diwygiedig, ynghyd ag unrhyw ganllawiau cysylltiedig, ar gael i Aelodau'r Cynulliad ar ffurf drafft cyn trafodion Cyfnod 3 ar y Bil. Nodwn fod y Dirprwy Weinidog, er ei bod yn derbyn egwyddor yr argymhelliad hwn, wedi nodi nad oes modd iddi ddylanwadu ar Wasanaeth Erlyn y Goron ynghylch y broses o ddatblygu’r canllawiau neu’r amserlen gysylltiedig.
Yn olaf, rydym yn nodi bwriad y Dirprwy Weinidog i gynnal adolygiad ôl-weithredu. Yn ein barn ni, dylai'r Bil ei gwneud yn ofynnol i Weinidogion Cymru werthuso ei effeithiolrwydd wrth gyflawni'r amcanion polisi dan sylw. Rydym yn tynnu sylw at Ddeddfau Cymreig eraill sy'n cynnwys darpariaethau sy'n ei gwneud yn ofynnol bod gwerthusiad ôl-weithredu yn cael ei gynnal; er enghraifft, Deddf Sector Amaethyddol (Cymru) 2014 a Deddf Iechyd y Cyhoedd (Isafbris am Alcohol) (Cymru) 2018.
Ein hail argymhelliad, felly, yw y dylid diwygio'r Bil i'w gwneud yn ofynnol bod Gweinidogion Cymru yn cynnal gwerthusiad ôl-weithredu o'r Bil yma. Awgrymwn y dylid cynnal gwerthusiad o'r fath cyn pen tair blynedd ar ôl i'r ddeddfwriaeth ddod i rym, ac y dylai Gweinidogion Cymru gyflwyno adroddiad ar ganfyddiadau’r gwerthusiad i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Rydym yn croesawu datganiad y Dirprwy Weinidog y bydd yn cyflwyno gwelliant at ddibenion gweithredu’r argymhelliad hwn. Nodwn, fodd bynnag, y bydd y gwerthusiad hwnnw’n digwydd o fewn cyfnod o bum mlynedd, yn hytrach na chyfnod o dair blynedd, fel y nodir yn ein hargymhelliad. Diolch yn fawr.
Galwaf ar Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid, Llyr Gruffydd.
Diolch yn fawr, Llywydd. Rwy’n falch iawn o gael cyfrannu at y ddadl yma er mwyn amlinellu argymhellion y Pwyllgor Cyllid mewn perthynas, wrth gwrs, â goblygiadau ariannol y Bil sydd gennym ni dan sylw y prynhawn yma. Rŷn ni wedi gwneud, fel pwyllgor, naw o argymhellion i gyd ac rwy’n falch bod y Dirprwy Weinidog, wrth gwrs, wedi derbyn saith o’r rheini yn llawn ac wedi derbyn dau arall mewn egwyddor. Ac mi wnaf i ganolbwyntio, yn fy nghyfraniad i heno, ar ein canfyddiadau allweddol ni o blith y rheini.
Mae’r rhan fwyaf o gostau’r Bil, wrth gwrs, yn gysylltiedig â gwaith codi ymwybyddiaeth gan Lywodraeth Cymru. Yn ystod y sesiynau tystiolaeth, fe wnaethon ni glywed bod deddfwriaeth debyg yn cael ei hystyried gan Senedd yr Alban, ac yn wahanol i ddull Llywodraeth Cymru, mae Bil yr Alban yn rhoi dyletswydd ar wyneb y Bil sy’n ei gwneud hi'n ofynnol i Weinidogion yr Alban godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth y cyhoedd o effaith y Bil. Nawr, o ystyried y bydd yr ymgyrch yn hanfodol o ran gweithredu’r Bil, rŷn ni’n credu y dylid defnyddio’r un dull yng Nghymru. A dwi'n falch iawn nawr, wrth gwrs, fod y Dirprwy Weinidog wedi derbyn ein hargymhelliad cyntaf ac argymhelliad tebyg gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, ac y bydd yn cyflwyno gwelliant i’r perwyl hwnnw.
Rŷn ni hefyd yn falch o glywed bod y Dirprwy Weinidog wedi rhoi ei chymeradwyaeth ar gyfer ymgyrch ddwys, gan ddyrannu oddeutu £2.2 miliwn dros gyfnod o tua chwe blynedd, ac y bydd yn cyhoeddi rhagor o fanylion am yr ymgyrch i godi ymwybyddiaeth, yn benodol sut y mae'n bwriadu cyrraedd unigolion perthnasol. Rŷn ni’n edrych ymlaen at weld y wybodaeth hon yn cael ei chynnwys, wrth gwrs, mewn memorandwm esboniadol diwygiedig ar ddiwedd Cyfnod 2.
Yn ystod y sesiwn dystiolaeth, fe glywon ni nad oedd y costau i'r gwasanaethau cymdeithasol yn hysbys ar hyn o bryd oherwydd diffyg data sylfaenol. Nawr, gan fod yr amddiffyniad cosb resymol eisoes yn bodoli, dyw gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru ddim yn casglu gwybodaeth benodol am gosb gorfforol. O ystyried y cyfnod hir ar gyfer datblygu’r Bil hwn, rŷn ni yn credu y dylai mwy o gynnydd fod wedi cael ei wneud o ran pennu cost sylfaenol ar gyfer atgyfeiriadau i wasanaethau cymdeithasol. Fodd bynnag, rŷn ni yn falch bod y Dirprwy Weinidog wedi cytuno i flaenoriaethu'r gwaith hwn a bod swyddogion Llywodraeth Cymru bellach yn gweithio gydag awdurdodau lleol i geisio cael amcangyfrif o nifer yr atgyfeiriadau cyfredol i wasanaethau cymdeithasol.
Nawr, fe amcangyfrifir ei bod hi'n debygol y bydd rhyw 274 o atgyfeiriadau y flwyddyn i’r heddlu mewn perthynas â diddymu’r amddiffyniad, a bod yna gost fesul uned o £650, sy'n rhoi cyfanswm cost, felly, o £178,000. Mae'r Dirprwy Weinidog wedi dweud y byddai nifer yr achosion sy'n arwain at erlyniad yn lleihau dros amser o ganlyniad i'r ymgyrch ymwybyddiaeth. Mi ddywedodd y Dirprwy Weinidog wrthym ni hefyd y byddai erlyniadau yn digwydd dim ond os yw hynny er budd y cyhoedd ac er budd y plentyn, ac yr hoffai drafod atebion cymunedol megis cynlluniau dargyfeirio a rhai o'r materion gododd Leanne Wood yn gynharach. Rŷn ni'n falch ei bod hi wedi derbyn argymhelliad 5 gan y Pwyllgor Cyllid a bod gwaith yn cael ei wneud o ran y goblygiadau cost ar gyfer cynlluniau dargyfeirio.
Rŷn ni hefyd yn falch bod y Dirprwy Weinidog wedi cytuno ar argymhelliad 6 ac y bydd rhagor o waith yn cael ei wneud i ddarparu data sy'n dangos cysylltiad clir rhwng nifer yr achosion a gaiff eu hatgyfeirio i’r heddlu a nifer yr erlyniadau sy'n dod, wedyn, yn sgil hynny.
Dwi am gloi jest wrth sôn ychydig am y grŵp gweithredu. Mae’n ymddangos fel pe bai gan y grŵp gweithredu rôl allweddol i'w chwarae wrth asesu'r gweithgareddau sy’n ofynnol er mwyn cyflawni’r Bil yn llwyddiannus. Fodd bynnag, dyw’r asesiad effaith rheoleiddiol ddim yn cynnwys costau adnoddau’r grŵp. Mae’r pwyllgor yn credu bod yr amser y bydd gweithwyr proffesiynol yn ei dreulio fel aelodau o’r grŵp hwn yn gost cyfle—an opportunity cost—ac felly fod yn rhaid i’r grŵp gynnig gwerth am arian. Rŷn ni'n falch, felly, fod y Dirprwy Weinidog wedi cytuno ar argymhelliad 8 ac y bydd yn cyhoeddi cynllun gwaith lefel uchel ar gyfer y grŵp gweithredu. Ac felly, gyda hynny o sylwadau, gaf i ddiolch i chi am eich gwrandawiad?
Mae gen i lawer o siaradwyr sydd wedi mynegi awydd i siarad yn y ddadl hon. Os gall Aelodau fod mor gryno â phosibl, byddai hynny'n ddefnyddiol er mwyn ein galluogi i alw cynifer o siaradwyr â phosibl. Rwy'n disgwyl y bydd amrywiaeth o safbwyntiau yn cael eu mynegi y prynhawn yma ar y mater hwn, felly byddwn yn ceisio galw cynifer o siaradwyr â phosibl ond disgwyliwch i'r sesiwn hon ymestyn yn hwy na'r cyfnod 60 munud a neilltuwyd. Janet Finch-Saunders.
Diolch, Llywydd. Rwy'n codi i siarad yn erbyn egwyddorion sylfaenol y Bil hwn, Bil sy'n gweld y Llywodraeth hon yn ymyrryd yn amhriodol ac yn ormodol ym mywyd teuluol. Yr hyn sydd gennym ni yn y fan yma yw ymagwedd gwladwriaeth famaeth, sy'n anghytuno mai rhieni sydd yn y sefyllfa orau i benderfynu ar y gosb neu'r ddisgyblaeth briodol i blentyn. Rydym yn gwybod o adolygiad gan Lywodraeth y DU nad yw'n ymddangos bod llawer o ddefnydd o'r amddiffyniad. Yn yr un modd, rhwng 2009 a 2017, dim ond tair gwaith y codwyd yr amddiffyniad, mewn achosion pan wnaed penderfyniad i gyhuddo. Felly, nid yw'r amddiffyniad wedi bod yn llesteirio llawer o rieni sydd mewn gwirionedd wedi achosi dim mwy na chochi'r croen am gyfnod byr rhag cael eu dwyn i gyfrif. Felly, mae'n ymddangos bod yr honiad mai arwydd o ddangos rhinwedd yw'r ymarfer cyfan hwn yn hollol gywir. Yn yr achos hwn, ni ellir cyfiawnhau amharu ymhellach ar hawliau rhieni o ran bywyd preifat a theuluol, rhyddid meddwl, cydwybod a chrefydd.
Mae Llywodraeth Cymru yn dadlau bod yr ymyrraeth wedi'i chyfiawnhau gan yr angen i amddiffyn hawliau plant, ond ydy hi? Nac ydy yn fy marn i. Mae'r memorandwm esboniadol yn cydnabod ei bod yn annhebygol y bydd unrhyw dystiolaeth ymchwil sy'n dangos yn benodol bod effeithiau smac ysgafn yn awr ac yn y man yn niweidiol i blant. Yn wir, cefnogir hyn gan yr adolygiad 'Cosb Gorfforol Rhiant: Canlyniadau Plant ac Agweddau'.
Mae tystiolaeth i ddangos bod poen emosiynol yn cael ei brosesu yn yr un rhan o'r ymennydd â phoen corfforol mewn gwirionedd. Mae'r Cymdeithion Seicoleg annibynnol yn dweud wrthym fod cosb gorfforol yn llai niweidiol na rhai dulliau eraill nad ydyn nhw'n gorfforol, fel gemau meddwl, ac y byddai anfon plentyn i ystafell a'i gadw ar wahân am nifer o oriau yn beth niweidiol iawn, iawn i'w wneud. Nid oedd unrhyw syndod, felly, mai dim ond hanner y rhai a ymatebodd i'r ymgynghoriad oedd yn cytuno y bydd y cynnig deddfwriaethol yn cyflawni'r nod o amddiffyn hawliau plant. Felly, ni ellir anwybyddu cyngor yr Athro Larzelere—mai dewis gwell fyddai nodi'r gosb fwyaf priodol. Fel y mae hi, mae llawer o rieni da yng Nghymru ac rydym ni ar y trywydd iawn erbyn hyn i'w gwneud yn droseddwyr a hynny'n afresymol.
Cyfaddefir yn y memorandwm esboniadol y bydd rhieni, os cyflwynir adroddiad arnyn nhw, yn cael eu cyhuddo, eu herlyn a'u collfarnu, neu'n cael cynnig gwarediad statudol y tu allan i'r llys, a fyddai'n cael ei ddatgelu fel gwybodaeth am gollfarn ar wiriad uwch y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Gwaeth fyth yw bod prif gwnstabl de Cymru wedi cyfaddef y bydd adroddiadau am ymddygiad troseddol honedig yn dal i ymddangos, hyd yn oed os nad yw'r person hwnnw wedi'i erlyn.
Gofynnaf i'r Siambr hon: a ydym ni wirioneddol eisiau i rieni o'r fath weld eu cyfleoedd gyrfaol yn cael eu herio a llesteirio ar deithio i rai gwledydd o ganlyniad i fân ddigwyddiad a chael gwared ar yr amddiffyniad? A ydym ni hyd yn oed wedi meddwl am y ffaith y gall cosbi'r rhiant achosi niwed i'r plentyn hefyd? Nodwyd yn y pwyllgor bod uwch swyddogion yng Nghymru wedi rhybuddio y gellir symud plant o'u cartref teuluol wrth i achosion gael eu herlyn. Esboniwyd hefyd y gallai'r gwaharddiad beri oedi yn achos rhai o'r 6,500 o achosion llys lle na all rhieni gytuno ar drefniadau ar gyfer eu plant, a gwneud smacio yn arf mewn achosion o ysgariad.
Os nad ydych chi'n fy nghredu i, gwrandewch ar y Dirprwy Weinidog. Mae hi ei hun wedi cyfaddef bod adroddiadau maleisus yn debygol o ddigwydd gan gyn-bartneriaid. Mae'n wir bod yn rhaid i'r heddlu eisoes nodi achosion gwirioneddol, a bod hybiau diogelu amlasiantaeth yn cael eu defnyddio i ddeall cyd-destun teuluoedd. Er gwaethaf ymateb Llywodraeth Cymru i argymhelliad 17 yn eu portreadu fel bod yn ddigyffro am y ffaith nad oes hyb ym mhob ardal, mewn tystiolaeth, nododd comisiynydd heddlu a throseddu fod angen mwy o lefelau cyllid, a chytunodd yn y bôn ei fod yn destun pryder bod Llywodraeth Cymru yn cynnig cyfraith nad yw'n ei hariannu o ran yr effaith fwy ar ein heddlu. Mae cyllid yn broblem fwy fyth wrth gwestiynu effaith y Bil ar wasanaethau cymdeithasol. Yn syfrdanol, ymddengys bod y Dirprwy Weinidog yn anymwybodol o'r pwysau y bydd y ddeddfwriaeth hon yn ei roi ar yr argyfwng ariannol yn y gwasanaethau cymdeithasol.
Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.
A wnewch chi ddirwyn i ben, os gwelwch yn dda?
Gwnaf. Nid yw hi mewn gwirionedd wedi cyfrifo'r costau ychwanegol posibl, sy'n golygu ei bod yn gofyn i ni gefnogi Bil sydd â goblygiadau ariannol anhysbys difrifol i awdurdodau lleol sy'n ei chael hi'n anodd. Mae hynny'n anghyfrifol iawn. Os nad ydych chi'n fy nghredu i, edrychwch ar gasgliadau adroddiad y Pwyllgor Cyllid, ac argymhelliad 20 o adroddiad y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, y mae'r Dirprwy Weinidog wedi ymateb iddo drwy ddweud:
efallai na fydd hi'n bosibl darparu amcangyfrifon manylach
o'r costau anhysbys.
A wnewch chi ddod i ben, os gwelwch yn dda.
Iawn. Mae'r Dirprwy Weinidog wedi baglu o ran ymwybyddiaeth hefyd. Gwn fod y Bil yn un o'r ymrwymiadau ym maniffesto Llafur Cymru, ond rwy'n credu y byddai'n gyfrifol—
Mae'n ddrwg gen i. Mae'n ddrwg gen i. Na, mae'n ddrwg gen i. Dawn Bowden.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Ac, fel aelod o'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, sef un o'r pwyllgorau a fu'n craffu ar y Bil hwn, rwy'n falch iawn o gymeradwyo ei argymhellion i chi. Rwy'n credu bod ein gwaith craffu wedi bod yn drylwyr, ac a gaf i hefyd ychwanegu fy niolch innau at rai Lynne Neagle i'r unigolion a'r sefydliadau hynny a roddodd o'u hamser i ddod i mewn a thrafod gyda ni y materion sy'n codi o'r hyn sydd, ar wyneb y Bil, yn fater cul iawn? Ond, er bod y Bil yn gul o bosibl o ran ei gwmpas i ddileu'r amddiffyniad o gosb resymol i blant, roedd y dystiolaeth a glywsom yn eang iawn, ac yn hynod arwyddocaol yn y ddadl ynghylch hawliau'r plentyn. Fel pwyllgor, buom yn trafod y dystiolaeth mewn ffordd adeiladol, yn fy marn i, ond, y tro hwn, roedd hi'n anffodus nad oedd pob aelod o'r pwyllgor wedi gallu cytuno ar bob un o'r argymhellion—arwydd, yn ddiamheuol, o'r farn gref ar ddwy ochr y ddadl.
Ond, Llywydd, yn fy nghyfraniad i, hoffwn sôn am bedwar maes tystiolaeth a glywsom. Yn gyntaf, ac rwy'n credu wrth wraidd y newid hwn yn y gyfraith, mae cydnabod hawliau'r plentyn, ac, yn sgil hynny, angen i rieni ymwneud â ffurfiau mwy effeithiol o gamau unioni. A dyna pam rwy'n cefnogi'r angen am gyfnod i baratoi ar gyfer gweithredu'r newid yn y gyfraith, pe byddai'n cael ei basio gan y Cynulliad hwn. Oherwydd nid yw'n ymwneud â'r gyfraith yn unig; mae hefyd yn newid pwysig yn niwylliant rhianta. Ac felly rwy'n falch iawn o glywed y Dirprwy Weinidog yn dweud y bydd y Llywodraeth yn cyflwyno'r gwelliant i godi ymwybyddiaeth ar wyneb y Bil, yn unol â chais dau o'r pwyllgorau.
Felly, mae angen cyfnod o baratoi ar gyfer y gwaith sydd i'w wneud drwy ymgyrchoedd hysbysebu a gwybodaeth i'r cyhoedd, gyda bydwragedd ac eraill sy'n helpu rhieni, cyn i'r newid yn y gyfraith gael ei gyflwyno. Yn ail, fy niddordeb i yn y Bil hwn oedd deall, yn y ffordd orau posibl, goblygiadau ymarferol dileu'r amddiffyniad cyfreithiol hwn. Cyn cyflwyno'r Bil, roeddwn i wedi clywed llawer o ymgyrchwyr yn honni ei fod yn bwysig, yn symbolaidd efallai, er mwyn sicrhau hawliau llawn i blant yng Nghymru. Ond, hyd yn hyn, nid oeddwn wedi cael y cyfle i holi'n fanwl, gydag ymarferwyr gwaith cymdeithasol, gyda'r heddlu, Gwasanaeth Erlyn y Goron, ac ati, beth yn union fyddai'r cymhwysiad ymarferol—goblygiad, mae'n ddrwg gen i—y newid yn y gyfraith. Felly, roeddwn i, ac rwyf i, yn awyddus i gael sicrwydd, wrth gael gwared ar yr amddiffyniad hwn, nad ydym ni'n creu sefyllfa lle mae gwasanaethau cymdeithasol, heddluoedd ac erlynwyr sydd dan bwysau yn wynebu baich gweithgarwch llawer mwy. Ac, ar y pwynt hwn, mae'r dystiolaeth a glywsom wedi tawelu fy meddwl yn ddigonol i barhau i gefnogi'r Bil yn y maes arbennig hwnnw.
Yn drydydd, hoffwn i bwysleisio pwysigrwydd argymhelliad 4—pwysigrwydd llwybrau dargyfeiriol yr ydym wedi clywed eraill yn eu trafod hefyd, pan fydd achosion yn codi ar ôl i'r newidiadau a fyddai'n dod yn gyfraith pe byddai'r Bil hwn yn dod yn gyfraith. Mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru sicrhau y gwneir digon o baratoi er mwyn i gynlluniau dargyfeiriol allu canolbwyntio ar annog a chynorthwyo rhieni yn hytrach na'u cosbi. A gwn fod y Dirprwy Weinidog yn cytuno bod hon yn ystyriaeth bwysig, ac mae hi wedi cadarnhau hynny eto heddiw.
Ac mae hynny'n fy arwain at fy mhedwerydd pwynt a'r pwynt olaf, a grynhoir yn Argymhelliad 8 yr adroddiad hwn. Rwy'n credu y bydd costau ychwanegol yn deillio o'r Bil hwn o ran y cymorth ychwanegol y bydd ei angen ar rieni, ac ar gyfer sefydliadau statudol a'r trydydd sector sy'n ceisio darparu'r cymorth hwnnw. Ac er na allwn ni, ar hyn o bryd, fod yn glir ynglŷn â'r costau hynny, mae'n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i fonitro'r costau a'r gwasanaethau ariannu hynny y nodir eu bod yn hanfodol i'r newidiadau llwyddiannus sydd eu hangen.
Mae'r sicrwydd a roddwyd gan y Dirprwy Weinidog ar ran Llywodraeth Cymru yn gywir y bydd peth o'r ansicrwydd ynghylch y costau yn cael eu goresgyn. Ond bydd hynny'n dibynnu ar gael proses werthuso gadarn, ac rwy'n credu bod hynny wedi'i gynnwys yn argymhellion 13 ac 16 ein pwyllgor. Llywydd, mae'r gwerthusiad Cyfnod 1 hwn o'r ddeddfwriaeth hon wedi bod yn eang ac yn llawn gwybodaeth, ac mae'n iawn, yn fy marn i, ein bod yn bwrw ymlaen ag ef.
I gloi, rwyf i o'r farn na ddylem ni gael ein camgyfeirio drwy ddefnyddio terminoleg sy'n pylu'r difrifoldeb fel 'smacio' neu 'tap ysgafn', sy'n swnio'n iawn mewn ffordd, ond mewn gwirionedd nid yw'n iawn. Mae'n dal yn daro plentyn, a pha bynnag amheuon sydd gan bobl—ac rwy'n dweud hyn fel mam a oedd yn ei chael hi'n anodd disgyblu fy mhlant ar adegau pan oedden nhw'n fach—mae'n rhaid i ni gydnabod na all taro plentyn fod yn iawn. Yn ogystal â bod yn niweidiol i'r plentyn, gall anfon y neges gwbl anghywir iddyn nhw yn eu blynyddoedd ffurfiannol, sef bod defnyddio cosb gorfforol yn ffordd dderbyniol o sicrhau ymddygiad da. Bydd y ddeddfwriaeth yn cyflwyno eglurder nad yw'n bodoli ar hyn o bryd, a bydd y gyfraith ynghylch hawliau plant yn well o gael yr eglurder hwnnw. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Cynulliad hwn yn derbyn yr argymhellion fel y'u nodir yn adroddiad y pwyllgor.
Mae Plaid Cymru yn cytuno ag egwyddorion cyffredinol Bil plant (Cymru) sydd gerbron heddiw, ac, fel aelod o'r pwyllgor plant a phobl ifanc, dwi wedi cael llawer iawn o gyfleon i wrando yn ofalus ar y dadleuon o blaid ac yn erbyn cyflwyno Bil o'r math. Dwi wedi cael fy argyhoeddi yn llwyr mai dim ond daioni a ddaw i blant Cymru yn sgil y newid bychan yma i ddeddfwriaeth. Felly, yn sicr mi ddylid caniatáu i'r Bil symud ymlaen i gyfnod nesaf proses ddeddfwriaethol y Cynulliad.
Mae dadl gref y bydd y Bil hwn yn lleihau'r risg o niwed posibl i blant a phobl ifanc. Law yn llaw â chyflwyno'r Bil mae'n rhaid gwneud llawer mwy i helpu teuluoedd efo'r heriau anochel sy'n wynebu ni i gyd wrth fagu plant, ac mae Cadeirydd y pwyllgor plant a phobl ifanc wedi sôn am bwysigrwydd ehangu'r cymorth hwnnw, ac edrychwn ymlaen at weld beth fydd canlyniadau'r ymarferion mapio, ac, yn bwysicach, i weld beth fydd y camau i'w cymryd yn sgil hynny.
Yn sydyn iawn, pam ddylai'r gyfraith newid? Wel, mae yna nifer o resymau da iawn dros greu'r newid yma. Mi ddylai plant gael amddiffyniad cydradd i oedolion yn erbyn trais, a hynny drwy gyfraith. Dydy cosb resymol ddim yn cael ei derbyn fel amddiffyniad ar gyfer achos o ymosod cyffredin pan fydd y dioddefwr dros 16 oed, felly pam yn y byd bod angen un rheol i blant o dan 16 oed a rheol arall i bawb arall?
Yn ôl erthygl 19 o gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar hawliau'r plentyn, mae'n rhaid cymryd pob cam posib i amddiffyn plant tra eu bod nhw yng ngofal eu rhieni neu bersonau eraill. Mae Cymru wedi mabwysiadu'r confensiwn hwnnw fel sylfaen creu polisi dros blant a phobl ifanc yng Nghymru, a hynny nôl yn 2004. Felly, mae'n ddyletswydd, byddwn i'n dadlau, o dan ddeddfwriaeth hawliau dynol, i newid y gyfraith.
Mae cael gwared â'r amddiffyniad cosb resymol yn newid bychan iawn i'r gyfraith, ac fe fydd yn effeithio ar nifer bychan iawn o bobl. Mi fydd canllawiau dedfrydu erlyniaeth y Goron—fydd ddim yn rhaid i'r rheini newid, achos mi glywsom ni yn y pwyllgor mi fydd angen penderfynu ym mhob achos os yw erlyniaeth o fudd i'r cyhoedd ac o fudd i'r plentyn.
Roedd adolygiad gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig i effeithlonrwydd Deddf Plant 2004 wedi darganfod bod yna ddiffyg dealltwriaeth o'r gyfraith bresennol, a bod nifer yn meddwl bod adran 58 yn caniatáu cosb ffisegol. Mae ymarferwyr fel gweithwyr cymdeithasol sydd eisiau cynghori rhieni i beidio â tharo eu plant yn ei gweld hi'n anodd gwneud hynny oherwydd y safbwynt cyfreithiol. Felly, mi fyddai dileu'r amffddiffyniad yma yn gwneud eu gwaith nhw gymaint yn haws ac mi fyddai'r sefyllfa yn llawer mwy eglur i bawb.
Am yr holl resymau yna, felly, dwi'n falch o gefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil yma, a dwi'n diolch i Julie Morgan am ei gwaith manwl a'i dyfalbarhad efo hwn.
Nid yw fy safbwynt i ar y Bil hwn wedi newid ers y tro diwethaf iddo gael ei drafod yn y Siambr hon, pan rannais fy mhrofiad fy hun o gamdriniaeth fel plentyn ac fel oedolyn ifanc. I ddechrau, rwy'n credu y byddai werth i chi ddangos i'r Siambr hon ac, yn bwysicach, y cyhoedd yr hyn yr ydych chi yn ei olygu wrth 'smacio' mewn gwirionedd. Mae sbectrwm enfawr rhwng tap ar y llaw a phwniad yn yr wyneb, ac fe ddylwn i wybod hynny. Felly, a wnewch chi ddangos beth yr ydych chi'n ei gredu mewn gwirionedd yw 'smac' fel sy'n cael ei wahardd gan yr hyn a elwir yn waharddiad ar smacio?
Wedi dweud hynny, yn y ddadl ehangach hon, rwy'n credu ei bod yn naturiol, wrth feddwl am ddileu amddiffyniad, ac am lysoedd a throseddolrwydd, i feddwl ar unwaith am y mathau mwy eithafol o drais sy'n arwain at anafiadau fel cleisiau a llygaid duon. Ond nid dyna yr ydym ni'n siarad amdano yn y fan yma, nage, oherwydd cam-drin yw hynny. Yn fy marn i, mae'r Bil hwn yn ymyrraeth anghymesur ym mywyd teuluol gan y wladwriaeth, ac ni allaf gefnogi'r lefel honno o ymyrraeth. Gallai arwain at erlyn rhieni cariadus am ddefnyddio smac ysgafn. Ni fyddai hyn er lles y plant, ni fyddai hyn er lles y rhieni, nac er lles y gweithwyr proffesiynol fydd yn gorfod plismona hyn. Rwy'n cofio trafodaeth ddiweddar am ganlyniadau plant sy'n derbyn gofal, lle mae eich Llywodraeth, yn ddigon teg, yn annog mesurau ataliol i sicrhau bod llai o blant yn mynd i'r system ofal. Soniais bryd hynny am y galw sydd ar staff gwasanaethau cymdeithasol, yr un staff a fydd yn ymdrin â'u hachosion adweithiol blaenorol, eu hachosion ataliol newydd a'r achosion smacio newydd hyn. Nid yw rhieni sy'n defnyddio disgyblaeth gorfforol ysgafn ar eu plant yn ceisio eu brifo, ac nid yw'r dystiolaeth yn dangos bod tap ysgafn yn gwneud dim i niweidio plentyn o gwbl. Yn wir, mewn rhai sefyllfaoedd, mae'n gallu cyfleu perygl i blentyn mewn ffordd nad yw rhesymu geiriol yn gallu ei wneud.
Nid yw'n iawn bod y Llywodraeth Cymru hon yn gwneud rhieni'n droseddwyr os ydyn nhw'n dewis disgyblu eu plant yn y modd hwn. Dyma enghraifft berffaith o wleidyddion o'r tu allan yn gorfodi eu barn eu hunain ar rianta ar y cyhoedd yn gyffredinol. Os daw'r Bil hwn yn gyfraith, bydd yn rhaid i weithwyr proffesiynol ganlyn cannoedd o rieni sy'n smacio, yn hytrach na threulio'u hamser yn mynd i'r afael â cham-drin plant gwirioneddol. Rydych chi wedi amcangyfrif y byddai 548 o rieni y flwyddyn yn cael eu dal o dan waharddiad smacio. Mae hynny'n llwyth gwaith ychwanegol enfawr i weithwyr proffesiynol y rheng flaen. Trwy dynnu sylw swyddogion yr heddlu a gweithwyr cymdeithasol i'r achosion hyn, gall plant sydd yn yr un sefyllfa erchyll ag yr oeddwn innau flynyddoedd yn ôl gael eu hanwybyddu. Nid wyf i'n barod i gymryd y risg honno.
Bydd ymchwilio i deuluoedd ynghylch smacio plant yn drawmatig i blant hefyd. Clywodd y pwyllgor plant dystiolaeth y gallai plant gael eu symud oddi wrth eu teuluoedd yn ystod ymchwiliad i smacio. O ddifrif? A wnewch chi gadarnhau, pan fo mwy nag un plentyn mewn teulu o dan yr amgylchiadau hyn, a fyddai'r holl blant yn cael eu symud? Mae grwpiau heddlu'n mynd ymlaen i ddweud na ddylid tanbrisio effaith emosiynol symud rhiant o leoliad teulu ar blentyn, ac rwy'n cytuno'n llwyr â hynny. Lynne Neagle, fel Cadeirydd, fe wnaethoch chi ddweud eich hun nad yw'r rhan fwyaf o'r oedolion a oedd yn rhan o'r arolwg yn dymuno cael y gyfraith hon, ond, fel arfer, bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen i wneud hynny beth bynnag.
Llywydd, y rhai sy'n cam-drin plant yw'r rhai y mae angen iddyn nhw deimlo pwysau llawn y gyfraith, nid rhieni cariadus sy'n defnyddio smac ysgafn. Er nad ydym yn hyrwyddo cosb gorfforol o unrhyw fath, mae grŵp y Blaid Brexit yn hyrwyddo hawl rhieni i fagu eu plant fel y maen nhw'n gweld yn dda, o fewn cyfyngiadau'r gyfraith a'r amddiffyniadau sydd eisoes ar waith. Felly, ni fyddwn yn cefnogi'r Bil hwn.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am amlinellu rhywfaint o'r rhesymeg y tu ôl i'r Bil hwn? Fel y bydd y Gweinidog yn gwybod, rydym ni wedi anghytuno droeon yn y Siambr hon ar y mater penodol hwn, ac rwy'n credu bod pawb yn cael eu llywio gan eu profiadau eu hunain fel mam neu dad ac o ran eu magwraeth eu hunain yn y mater penodol hwn. Ond mae'n rhaid i mi ddweud na fyddaf i'n pleidleisio i ganiatáu i'r darn penodol hwn o ddeddfwriaeth fynd drwy'r Cynulliad heddiw, oherwydd, fel y mae eraill wedi dweud eisoes, gofynnir inni roi caniatâd i Fil symud ymlaen i'w gyfnod nesaf, i fod yn gyfraith, a fydd yn arwain at wneud degau o filoedd o rieni cariadus ledled Cymru sy'n defnyddio ambell i smac i ddisgyblu eu plant yn droseddwyr o bosibl.
Nawr, fel y dywedwyd eisoes, mae magu plant yn ddigon anodd fel y mae hi, ac mae angen i ni estyn ein cefnogaeth i rieni a'u hannog a'u galluogi i ddefnyddio ffurfiau eraill ar ddisgyblu. Nid oes gennyf unrhyw broblem â hynny. Rydych chi wedi dweud y byddwch chi'n dymuno annog hynny drwy raglenni rhianta, ond hoffwn i weld, fel yr hoffai'r pwyllgor hefyd, gynnig cyffredinol o'r rhaglenni hynny, yn yr un modd ag y ceir cynnig cyffredinol o bethau fel dosbarthiadau cynenedigol cyn i fabanod gael eu geni. Felly, yn hytrach na chosbi rhieni, rwy'n credu bod angen i ni gynnig y dewisiadau eraill hyn iddyn nhw a sicrhau bod y cyrsiau hynny ar gael yn gyffredinol.
Nid oes cefnogaeth gan y cyhoedd i'r darn penodol hwn o ddeddfwriaeth. Gwn y byddwch yn dweud, 'Cafodd ei gynnwys yn ein maniffesto, a dyna pam mae gennym fandad i'w wneud', ond y realiti, fel y gwyddom ni i gyd, yw nad yw'r rhan fwyaf o'n maniffestos, pa un a ydym yn hoffi hynny ai peidio, yn cael eu darllen yn fanwl. Nid oedd hyn yn rhywbeth y tynnwyd sylw ato ym mhob un daflen a roddwyd trwy ddrysau pobl. Pryd bynnag y gofynnwyd am farn y cyhoedd ar hyn, mae'r ymateb wedi bod yn glir iawn, hynny yw: nid yw'r mwyafrif llethol, rhwng dwy ran o dair a thri chwarter y bobl, o'r farn y dylid cyflwyno gwaharddiad ar smacio. Maen nhw'n cydnabod, wyddoch chi, fel y mae llawer ohonom ni sy'n gwrthwynebu'r Bil hwn heddiw, bod gennym ddeddfwriaeth gynhwysfawr ar waith eisoes y mae'r heddlu, y gwasanaethau cymdeithasol ac eraill yn ei defnyddio i erlyn achosion yn erbyn pobl sy'n cam-drin eu plant, a hynny'n gwbl briodol oherwydd, wrth gwrs, dylai'r bobl hynny deimlo pwysau llawn y gyfraith ac ateb i'r canlyniadau os ydyn nhw'n cam-drin eu plant. Ond mae'r rhan fwyaf o rieni sy'n defnyddio ambell i smac yn gwneud hynny o fewn perthynas gariadus â'r plentyn y maen nhw'n dymuno iddo dyfu i fyny i fod yn oedolyn cyfrifol ac yn rhywun a all gyfrannu at gymdeithas yn ddefnyddiol yn y dyfodol. Felly, nid wyf i'n credu ei bod yn briodol ein bod ni'n cosbi rhieni sydd â'r galon a'r ysgogaeth honno yn sail i'w disgyblaeth, yn wahanol, efallai, i rieni eraill sy'n cam-drin eu plant.
Rydym ni wedi sôn am rai o'r canlyniadau posibl—mae Aelodau eraill wedi gwneud hynny—o ran yr amser y bydd y gwasanaethau cymdeithasol a'r heddlu yn ei ddefnyddio er mwyn ymchwilio i'r mathau hyn o achosion pryd y gallai'r achosion o gam-drin gwirioneddol gael eu hanwybyddu. Ond, o ran y canlyniadau mewn gwledydd eraill—a chyfeiriodd y Gweinidog at Seland newydd yn gynharach—rydym ni'n gwybod bod cannoedd o achosion y flwyddyn yn Seland Newydd sy'n mynd drwy'r llysoedd. Cafwyd 55 o erlyniadau, er enghraifft, a hynny yn ystod y pum mlynedd cyntaf. Collodd rhieni eu swyddi o ganlyniad i smacio eu plant. Gwelsom ni rieni'n cael eu gwahanu oddi wrth eu plant, gan achosi'r math o niwed yr ydym ni wedi clywed sy'n gallu ddigwydd mewn sefyllfaoedd o'r fath. Wrth edrych ar yr enghreifftiau hynny a'r ffaith bod pobl yn dal i smacio eu plant yn Seland Newydd—mae tua thraean o rieni, yn ôl arolygon, yn dal i smacio eu plant er gwaethaf y gwaharddiad—rydym ni'n gallu gweld nad yw hyn yn gweithio mewn gwirionedd. Felly, yn hytrach na newid y gyfraith yn ddiangen, byddwn i'n annog y Llywodraeth i ddefnyddio'i hadnoddau, i ddefnyddio'r dawn sydd yn adran y Llywodraeth, i ddarparu cymhellion cadarnhaol i helpu rhieni i fagu eu plant mewn ffordd lle nad oes rhaid iddyn nhw smacio neu smacio yn llai aml.
Gallai'r costau hyn, wrth gwrs, gynyddu y tu hwnt i reolaeth. Nid oes gennym ni unrhyw syniad beth ydyn nhw; ni fu amcangyfrif yn y rhannau ariannol o'r memorandwm esboniadol. Byddai'n anghyfrifol, a dweud y gwir, i ni eistedd yn y fan yma ar adeg pan fo cyllidebau'n dynn i ganiatáu i'r darn hwn o ddeddfwriaeth fynd rhagddo pan nad oes pris ynghlwm wrtho. Ac rwy'n credu bod angen i ni fyfyrio ar hynny a meddwl am farn ein hetholwyr, y bydd y mwyafrif llethol ohonyn nhw yn gwrthwynebu'r Bil hwn, cyn i ni bleidleisio arno heddiw.
Wel, rwyf i'n cefnogi'r Bil hwn yn llawn ac yn frwd, Dirprwy Lywydd. Rwy'n credu ei bod hi'n hen bryd rhoi terfyn ar yr amddiffyniad o gosb resymol a darparu mwy o eglurder drwy sicrhau bod plant yn gydradd ag oedolion. Ac mae'n hen bryd hefyd o ran bod yn gyson â'n rhwymedigaethau rhyngwladol o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ac mae'n hen bryd rhoi mwy o amddiffyniad i'n plant a sicrhau bod eu hurddas, mewn gwirionedd, yn cael ei pharchu a'i gwerthfawrogi'n briodol.
Siawns na fyddwn i ar fy mhen fy hun, Dirprwy Lywydd, yn gweld adleisiau o ddadleuon blaenorol yn y ddadl yr ydym wedi'i chlywed heddiw. Rwy'n cofio'n dda pan es i i'r ysgol—a siawns bod Aelodau eraill yn bresennol yn y Siambr hon heddiw a gafodd brofiadau tebyg—roedd y gansen, roedd y pren mesur, roedd y daps, roedd offer eraill i daro plant gyda nhw, a phan gafwyd cynnig i ddiddymu cosb gorfforol mewn ysgolion, cafwyd protest a gwnaeth llawer o wleidyddion y pwyntiau rwy'n credu ein bod ni wedi'u clywed heddiw, y byddai hyn yn tanseilio disgyblaeth, y byddai'n wrthgynhyrchiol, nad oedd yn angenrheidiol, y dylai fod yn fater i'r ysgolion ac, yn wir, barn y cyhoedd i benderfynu beth oedd yn digwydd yn ein hysgolion. Nawr, diolch byth ddywedwn i, mae ein hysgolion yn lleoedd gwahanol iawn i'r ffordd yr oedden nhw bryd hynny, a byddwn i'n dweud y bu'n newid er gwell o lawer. Cyflawnir disgyblaeth erbyn hyn mewn ffyrdd llawer mwy cadarnhaol.
Ac mae ysgolion, yn wir, heddiw yn ceisio meithrin parch yn eu disgyblion tuag at blant eraill a phobl yn gyffredinol. Dywedir wrthyn nhw am fod â dwylo caredig, i beidio â defnyddio grym corfforol i geisio cael plant eraill i wneud yr hyn y maen nhw eisiau iddyn nhw ei wneud. Maen nhw'n cael eu dysgu'n glir ac yn gyson iawn nad yw defnyddio grym corfforol yn iawn, nad yw bwlio yn iawn. Fel y dywedodd y Dirprwy Weinidog yn gynharach, mae'r syniad y gall person mawr daro person bach a bod hynny'n deg ac yn iawn yn neges bryderus iawn i'w rhoi i'n plant, yn fy marn i, pan ein bod yn ceisio mynd i'r afael â bwlio yn yr ysgol ac, yn wir, bwlio yn gyffredinol.
Mae'n rhaid i mi ddweud, yn fy marn i, os ydych chi'n caniatáu taro yn y cartref yn y ffordd a ganiateir ar hyn o bryd gydag amddiffyniad o gosb resymol, mae'n tanseilio'r negeseuon hynny y mae ysgolion yn ceisio eu cymell yn ein disgyblion. Ac rwy'n credu bod y negeseuon hynny y maen nhw'n eu hanfon drwy addysg heddiw yn bwysig iawn yn wir o ran y ffordd y mae ein cymdeithas yn gyffredinol a'r amddiffyniad a ddaw yn sgil hynny, nid yn unig i blant mewn ysgolion heddiw, ond pan fyddan nhw'n tyfu'n oedolion, yr amddiffyniad y bydd yr oedolion hynny'n ei fwynhau hefyd, oherwydd bydd plant yn ystyried grym corfforol mewn ffordd wahanol iawn.
Felly, i mi, mae'n fesur blaengar iawn. Byddai'n sicrhau mwy o gysondeb â'n rhwymedigaethau hawliau dynol, y ffordd y mae ein hysgolion yn datblygu eu haddysg a'u dulliau addysgu.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Fe wnaf ildio i Darren Millar.
Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am ildio. Roeddwn i eisiau sôn am y mater o gysondeb â rhwymedigaethau hawliau dynol. Wrth gwrs, mae Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn yn sôn am drais corfforol a meddyliol, nid trais corfforol yn unig. O gofio ein bod ni wedi clywed, ac mae pawb i'w weld yn derbyn, y dystiolaeth bod cyfyngu plentyn i ystafell neu weiddi a sgrechian yn ei wyneb neu anwybyddu'r plentyn hefyd yn gallu achosi niwed i blentyn, pam nad yw'r Llywodraeth yn deddfu ar hyn, yn eich barn chi? Nid oes unrhyw gysondeb, nac oes?
Rwy'n credu bod y Llywodraeth wedi dweud y byddai pecyn o fesurau i gefnogi'r ddeddfwriaeth hon, ac mae'n ymwneud â rhianta cadarnhaol a sicrhau y bydd y cyngor a'r cymorth a'r arweiniad ar gael i sicrhau'r rhianta cadarnhaol hwnnw, ac rwy'n credu y byddai hynny'n mynd i'r afael â'r materion hynny yr ydych chi'n eu codi hefyd.
Mae dros 50 o wledydd, fe wyddom, eisoes wedi gwneud y newid hwn ac yn gweld y manteision. Ar y cyfan, mae'n brofiad cadarnhaol, ac rwyf i'n dymuno gweld plant yng Nghymru, teuluoedd yng Nghymru a rhieni yng Nghymru yn cael y profiad cadarnhaol hwnnw hefyd. Rwyf i yn credu bod angen i ni anfon y negeseuon cywir a bydd y newid hwn yn anfon y negeseuon cywir hynny. Mae angen i ni newid disgwyliadau rhieni. Yr uned deuluol yw'r bloc adeiladu hanfodol mewn cymdeithas. Dylai fod yn uned gariadus, gynnes a chefnogol, mor gariadus, cynnes a chefnogol â phosibl. Dylai alluogi personoliaethau plant i ddatblygu a ffynnu. Bydd rhianta cadarnhaol yn caniatáu hynny. Mae'n ffordd well o osod ffiniau na tharo, ac mae'n rhan bwysig o feithrin, yn fy marn i, y math o deuluoedd cariadus yr ydym ni'n dymuno eu gweld yma yng Nghymru. Felly, rwy'n croesawu'r Bil blaengar hwn yn fawr iawn ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i'w gyflwyno.
David Melding.
Diolch am alw arnaf i siarad yn y ddadl wirioneddol bwysig hon. Rydym ni wedi bod yn trafod hyn ers y Cynulliad cyntaf, ac fe wnaeth ychydig ohonom ni, rwy'n credu, gymryd rhan mewn sawl dadl a gawsom yn y Cynulliad cyntaf, rwy'n credu, ac rwy'n dal i fod o'r farn bod gwaharddiad yn briodol. Mae'n rhaid i ni fod yn ofalus o ran sut y caiff ei weithredu. Yn wahanol i'r Cynulliad cyntaf, rwy'n ofni na fydd gennyf ddau o'm cyd-Aelodau yn fy nghefnogi, ond rwy'n cofio i dri allan o naw o'r grŵp Ceidwadwyr yn y Cynulliad cyntaf gefnogi newid yn y gyfraith.
Yn ôl bryd hynny, ar ddechrau'r 2000au, dim ond llond dwrn o wledydd oedd wedi gwahardd smacio mewn gwirionedd, ac, fel y dywedodd John wrthym ni gynnau, mae 56 o wledydd wedi gwneud hynny bellach, gan ddechrau â Sweden yn 1979, a heddiw gan gynnwys y rhan fwyaf o wledydd Ewrop—Prydain yw un o'r ychydig i gadw'r amddiffyniad—ac maen nhw'n cynnwys yr Almaen, Iwerddon, Ffrainc, Malta a gwladwriaethau'r Baltig. Rwy'n credu bod yr ystod honno, dim ond yn y fan honno, fel sampl, yn dangos i chi cymaint y mae symud i sefyllfa gliriach ar gael gwared ar gosb gyfreithiol fel amddiffyniad wedi'i normaleiddio bellach. Ac ymhellach i ffwrdd, mae gwledydd fel Israel, sy'n ddiwylliant gwahanol eto, wedi symud yn gryf ac wedi gweld newid sylweddol o ran ymddygiad yn dilyn eu newid yn y gyfraith i wahardd smacio.
Mae dull cyffredin iawn yn y gwledydd hyn, ac nid yw hynny'n golygu troi rhieni'n droseddwyr. Ac rwy'n derbyn, yn ein system cyfraith gyffredin, gyda'n pwyslais ar y system gyfreithiol—nid oes gennym god sifil, fel sydd ganddyn nhw mewn gwledydd fel Ffrainc—mae gennym ni fwy o her yn y fan yma, ac mae angen i ni fod yn ymwybodol o hynny, ac mae'r pwyntiau hynny wedi'u gwneud yn dda. Ond mae'r newid yn y sefyllfa gyfreithiol yn y gwledydd hyn wedi bod yn llwyddiannus oherwydd ei fod yn canolbwyntio ar gefnogi rhieni, ac mae angen i ni ganolbwyntio ar hynny y prynhawn yma.
Mae ein safbwynt cyfreithiol ein hunain yn dyddio'n ôl i 1860, a'r newidiadau yn agweddau'r cyhoedd at gosbi corfforol—wyddoch chi, gallech chi gael eich chwipio yn y lluoedd arfog, heb sôn am mewn carchardai, a chael eich curo mewn ysgolion, yn ddifrifol, bryd hynny. A bu newid enfawr a chyson i wahardd yr arferion hyn. Nawr, yn amlwg, nid yw smacio yn gosb ddifrifol o gwbl, ond credaf ei fod yn rhan o'r continwwm hwn, o ran sut yr ydym ni'n gweld eraill, ac yn parchu eraill, ac yn cydnabod eu hawliau, ac yn annog pobl i fabwysiadu ymddygiad gwell. Ac mae disgyblaeth briodol, wrth gwrs, bob amser yn ofynnol—ac mae'n rhaid i mi ddweud, nid wyf i'n siarad fel rhiant, felly rwy'n credu mai arweiniad Dr Melding i rianta yw hyn yn y fan yma. Ond nid ydych chi'n rhoi unrhyw fantais i blant os nad ydych chi'n eu disgyblu nhw—mae'n swyddogaeth bwysig iawn, iawn.
Felly, rwyf i'n dymuno canmol, yn arbennig, gwaith y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Rwy'n credu ei fod yn un o'r adroddiadau gorau a gynhyrchwyd erioed yng Nghyfnod 1, o ran ei ystod, ei gydbwysedd, a chan ddyfynnu tystiolaeth nad yw'n gwbl gyson—mae'n deg i'r rhai hynny sydd â barn wahanol. A dyna yn bendant y ffordd gywir o fynd i'r afael â hyn, oherwydd gall calonnau hael arddel barn wahanol iawn ar y mater hwn—ac mae'n rhaid i mi ddweud bod Mandy wedi mynegi hynny â huodledd anhygoel. Ond rwy'n argyhoeddedig bod cydbwysedd y dystiolaeth ac arferion rhieni, sy'n rhywbeth arwyddocaol iawn, yn dangos yn gryf bod angen diwygio.
Hoffwn ddweud llawer mwy, ond rwyf eisiau gorffen yn arbennig gyda'r argymhellion, a oedd, yn fy marn i, yn rymus iawn yn adroddiad y pwyllgor. Argymhelliad 3—ymgyrch wybodaeth a gweithredu cymesur. Fy nealltwriaeth i yw y bydd smacio yn cael ei ystyried yn drosedd ddibwys. Ni fyddai'n briodol ar gyfer ymchwiliad troseddol neu gosb lawdrwm. Dim ond pe byddai'n cael ei hailadrodd a'i hailadrodd a'i hailadrodd y byddai trosedd ddibwys yn denu'r lefel honno o sylw gan y llysoedd, yn fy marn i. Dyna yr ydym ni'n ei ystyried.
Argymhelliad 4—canolbwyntio ar gefnogi rhieni nid eu cosbi. Argymhelliad 5—canllawiau clir ar gyfer awdurdodau gorfodi'r gyfraith. Rwy'n credu bod hynny'n gwbl hanfodol. Argymhelliad 7—gwasanaethau cymorth i rieni. Rwy'n gwybod bod hynny eisoes wedi'i drafod. Ac yn olaf, rwy'n credu ei bod yn ddoeth iawn—argymhelliad 13—i ryw fath o waith craffu ar ôl deddfu gael ei wneud gan y weithrediaeth. Efallai y dylem ni wneud hynny hefyd. Oherwydd bydd yn bwysig gweld sut y mae'r newid hwn yn y gyfraith yn gweithio yn ymarferol.
Ond rwy'n falch o weld y Bil hwn gerbron y Cynulliad o'r diwedd. Rwyf wir yn dymuno y byddai hynny wedi digwydd 20 mlynedd yn ôl. Roedd rhesymau pam na allai, yn enwedig gan nad oedd gennym bwerau deddfu. Ond byddaf yn cefnogi egwyddorion cyffredinol y Bil hwn yn frwd.
Diolch yn fawr iawn. Rydym ni wedi mynd heibio'r amser a neilltuwyd ar gyfer y ddadl hon, ond gan fod yn ymwybodol o'r hyn a ddywedodd y Llywydd pan ddechreuodd y ddadl, bwriadaf yn awr—. Mae gen i nifer o siaradwyr ac rwy'n bwriadu gofyn iddyn nhw yn awr i gyfyngu eu cyfraniadau i dair munud er mwyn sicrhau nad oes rhaid i mi ddweud wrth rywun, 'Chewch chi ddim siarad'. Felly, tair munud o hyn ymlaen, ac yna bydd y Gweinidog yn ymateb a byddwn ni'n gweld sut y byddwn ni'n mynd o'r fan honno. Caroline Jones.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Byddwn ni'n pleidleisio yn erbyn y Bil hwn heddiw. Rwyf wedi cael llwyth o alwadau a negeseuon e-bost gan rieni pryderus sy'n ofni y byddan nhw'n cael eu troi'n droseddwyr o ganlyniad i gynigion Llywodraeth Cymru.
Nid wyf i'n dadlau o blaid ymosod ar blant ar raddfa eang. Yn wir, fel athro ac fel rhywun a ofalodd am ddau blentyn am flynyddoedd lawer, gallaf gadarnhau na chafon nhw erioed eu ceryddu'n gorfforol. Mae'r amddiffyniad cosb resymol yn caniatáu i riant cariadus roi smac ysgafn iawn i'w blentyn. Nid yw'r amddiffyniad yn caniatáu i riant guro ei blentyn nes ei fod yn gleisiau drosto. Nid yw cerydd rhesymol yn gam-drin. Y modd o ddisgyblu gan riant cariadus ydyw. Penderfyniad y rhiant cariadus yw pa un a ddylid defnyddio cosb resymol ai peidio, ac nid penderfyniad y wladwriaeth i'w gwahardd.
Mae cefnogaeth aruthrol ymhlith rhieni i'r safbwynt hwn. Roedd tri chwarter y rhieni a holwyd o'r farn na ddylid troi smacio yn drosedd. Bydd troseddoli rhieni cariadus hefyd yn rhoi mwy o straen ar ein gwasanaethau cyhoeddus. Mae Llywodraeth Cymru yn cynnig annog y cyhoedd i roi gwybod i awdurdodau os ydyn nhw'n credu eu bod wedi gweld neu wedi cael gwybod bod plentyn yn cael ei gosbi'n gorfforol.
Yn hytrach nag ymchwilio i achosion gwirioneddol o gam-drin, bydd adnoddau'n cael eu dargyfeirio i ymchwilio ac erlyn rhieni sydd wedi tapio neu smacio eu plentyn yn ysgafn. Bydd gan y rhieni hynny gofnod troseddol a bydd y canlyniadau'n enbyd. Byddan nhw'n cael eu hatal rhag gweithio gyda phlant. Mae Llywodraeth Cymru yn derbyn y gallai fod cannoedd o achosion o'r fath bob blwyddyn, ond eto nid yw'n siŵr pa effaith y bydd hyn yn ei chael ar wasanaethau cymdeithasol, y llysoedd teulu, yr heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Nid oes angen y ddeddfwriaeth hon o gwbl. O dan y gyfraith bresennol, os yw rhiant yn smacio ei blentyn mor galed fel ei fod yn gadael marc sylweddol, mae'r rhiant yn wynebu dirwy, gorchymyn cymunedol, neu hyd at bum mlynedd mewn carchar. Gadewch i ni adael y gyfraith fel y mae hi, ond efallai cynnig gwybodaeth i rieni am ffyrdd eraill o geryddu eu plant, drwy weithio gyda'n gilydd fel gwleidyddion ac nid pechu yn erbyn rhieni cariadus. Mae'n rhaid i ni ganiatáu i rieni benderfynu ar y ffordd orau o ddisgyblu eu plentyn, gan eu haddysgu ar yr un pryd am ddewisiadau eraill, a chanolbwyntio'n llwyr ar erlyn y rhai hynny sy'n cam-drin eu plant yn gorfforol.
Nid wyf i'n cefnogi smacio, ond nid wyf i ychwaith yn cefnogi dweud wrth rieni eraill sut i fagu eu plant. Nid Bil llesiant plant yw hwn. Rwy'n gwybod oherwydd fy mod i wedi ceisio ei ddiwygio ond nid oedd yn bosibl. Fy mhrif bryder â'r Bil hwn yw fy mod i o'r farn, os y bydd yn dod yn gyfraith, y gallai ei gwneud yn haws i gam-drin plant.
Rwy'n ymgyrchu i sicrhau bod lleisiau plant yn cael eu clywed mewn achosion pan fyddan nhw'n honni eu bod yn cael eu cam-drin, ond nad oes neb yn gwrando arnyn nhw, ac nid wyf i'n ffyddiog, yn sefyll yma heddiw, bod pob achos o gam-drin honedig yn cael ei ymchwilio'n iawn. Mae gennyf gyfarfod gyda phennaeth diogelu'r cyhoedd yn ne Cymru cyn bo hir, oherwydd ceir achosion pan fo plant yn honni eu bod wedi cael eu cam-drin, ond nid ydyn nhw wedi cael eu cyfweld mewn mannau diogel, ac nid ydyn nhw wedi cael eu cyfweld i ffwrdd oddi wrth y camdriniwr honedig. Mae'r rhain yn bryderon mawr.
Mae'r system yn fwy na gwegian. Mae'n fwy na gwegian. Ac mae'n wir nad oes digon o adnoddau gan yr heddlu. Mae unrhyw achos o gam-drin yn cymryd llawer iawn o amser. Llawer iawn. Os daw'r Bil hwn yn gyfraith, yna mae'n bosibl y bydd yn rhaid i'r heddlu ymchwilio i nifer fawr o achosion. Ni all y Llywodraeth hyd yn oed ddweud faint ohonyn nhw. Felly, gallem ni o bosibl weld nifer dirifedi o rieni parchus yn cael eu gollwng i mewn i'r system cyfiawnder troseddol, a gallai hynny olygu bod y rhai sy'n cael eu cam-drin yn manteisio ar y ffaith y byddai gan yr heddlu gyn lleied o adnoddau a bod gormod o waith ganddyn nhw. Felly, gallai fod gennych chi bobl allan yna nad ydyn nhw'n cael eu herlyn oherwydd nad oes digon o adnoddau ar gael.
Rwyf eisiau dyfynnu'r uwch swyddog heddlu sy'n dal i wasanaethu a ysgrifennodd atom ni i gyd, a dywedodd ef nad oes angen—. Wel, ef neu hi, mewn gwirionedd; nid wyf i'n gwybod. Mae wedi'i ddilysu. Mae ef neu hi yn ddienw, ond wedi'i ddilysu.
Nid oes angen gwaharddiad ar smacio. Mae'r deddfau presennol yn gweithio'n dda. Mae plant eisoes yn cael eu hamddiffyn rhag cam-drin a niwed corfforol. Fel swyddogion rydym ni'n gwybod ble mae'r llinell yn cael ei thynnu ac mae'r cyhoedd yn gyffredinol yn gwybod hynny. Dim ond y math ysgafnaf o smacio y mae'r amddiffyniad cosb resymol yn ei gwmpasu. Mae'n atal rhieni rhag cael eu trin fel troseddwyr heb unrhyw reswm da.
Mae'r swyddog yn parhau:
Ychwanegwch hyn at y risg o honiadau ffug gan blant anfodlon neu ŵr neu wraig sy'n ceisio pardduo enw da wrth fynd drwy ysgariad ac mae gennych chi ffordd sicr o greu llanastr.
Oherwydd mae unrhyw un sy'n gwneud unrhyw beth ym maes cyfraith teulu yn gwybod pan geir gwrthdaro ceir hefyd lawer o honiadau ffug—mae'n rhan o'r gêm cyfraith deuluol, ond bydd hyn yn golygu y caiff rhieni eu troseddoli, a'r plant fydd yn talu'r pris am hynny, yn emosiynol, yn fy marn i, hefyd. Mae hon yn gyfraith wael. Mae'n gyfraith wael a byddaf i'n pleidleisio yn ei herbyn.
Rwy'n rhiant i chwech o blant, pob un ohonyn nhw bellach yn oedolion cyfrifol a gofalgar. Rwy'n rhiant bedydd, yn daid, yn ewythr ac yn hen ewythr. Nid wyf i wedi siarad ag unrhyw berson y tu allan i'r swigen ym Mae Caerdydd sy'n cefnogi'r Bil hwn. Fel y dywedais wrth siarad yn nadl yr Aelodau yn y fan yma yn 2011 ar ddod â chosb gyfreithlon i ben, roedd adran 58 o Ddeddf Plant 2004 yn cyfyngu ar y defnydd o'r amddiffyniad cosb resymol fel na allai gael ei ddefnyddio bellach pan fo pobl yn cael eu cyhuddo o droseddau yn erbyn plentyn, megis achosi gwir niwed corfforol neu greulondeb. Gan ddyfynnu Gwasanaeth Erlyn y Goron, dywedais
ar gyfer mân ymosodiadau a gyflawnir gan oedolyn ar blentyn sy'n arwain at anafiadau megis crafiadau, cripiadau, mân gleisio, chwyddo, toriadau arwynebol neu lygad ddu, y cyhuddiad priodol fel arfer fydd gwir niwed corfforol ac nid yw'r amddiffyniad "cosb resymol" ar gael ar ei gyfer mwyach. Fodd bynnag, os nad yw'r anaf yn ddim mwy na chochi'r croen, a bod yr anaf yn fyrhoedlog ac yn bitw...mae'r amddiffyniad cosb resymol ar gael o hyd.
Fel y deuthum i gasgliad wedyn, yn hytrach na throseddoli
rhieni cariadus sy'n defnyddio smacio o bryd i'w gilydd, mae'n rhaid i ni gydnabod y gwahaniaeth amlwg rhwng smacio a cham-drin plant.
Clywsom, funud yn ôl, am uwch swyddog profiadol mewn heddlu o Gymru a ddywedodd:
Rwy'n cael fy rhwystro rhag siarad yn gyhoeddus, ond mae'n rhaid i mi wneud rhywbeth i geisio annog y Cynulliad i beidio â chefnogi cynlluniau i wahardd smacio plant.
Dywedodd:
Dim ond y math ysgafnaf o smacio y mae'r amddiffyniad cosb resymol yn ei gwmpasu...Bydd dileu'r amddiffyniad yn dileu unrhyw ddisgresiwn sydd gennym ni. Bydd yn arwain at drawma i deuluoedd parchus.
Mae gohebiaeth helaeth a dderbyniwyd gan etholwyr am hyn i gyd wedi gofyn i mi wrthwynebu'r Bil hwn. Mae gweddill fy araith felly yn dod yn gyfan gwbl o'u geiriau nhw, a dyfynnaf ohonynt.
Mae saith o bob 10 o bobl yn gwrthwynebu Bil smacio Llywodraeth Cymru. Nid wyf i'n gweld y byddai er lles rhieni, plant nac unrhyw un arall mewn cymdeithas i wneud smacio'n drosedd. Byddai cam o'r fath yn anfon y neges gwbl anghywir i rieni sy'n cael trafferthion wrth fagu eu plant. Rwy'n tybio bod y rhan fwyaf ohonom wedi cael ein smacio fel plant, nid gan rieni sy'n droseddwyr, ond gan rieni cariadus, gofalgar, a oedd ddim ond yn dymuno sicrhau ein lles, ein diogelwch a'n dysgu ni yr hyn sy'n iawn a'r hyn nad yw'n iawn. Ni fyddem yn cyhuddo ein rhieni o gam-drin neu'n credu eu bod yn droseddwyr. Mewn gwirionedd, y rhai hynny a fyddai'n galw hyn yn drosedd sydd mewn perygl o gam-drin plant ac o niweidio eu buddiannau yn y dyfodol a rhai'r gymdeithas yn gyffredinol.
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Gwnaf.
Ydych chi'n credu y dylai cam-drin domestig fod yn gyfreithlon os caiff ei wneud gan bartner cariadus?
Na, yn bendant—
Beth yw'r gwahaniaeth, felly?
—ac rwyf eisoes wedi gwneud y pwynt y dylem wahaniaethu'n bendant rhwng yr hyn yr ydym wedi bod yn sôn amdano heddiw ac arswyd cam-drin domestig, boed yn gorfforol neu fel arall.
Yr un yw'r pŵer. Mae'r anghydbwysedd o ran pŵer yr un fath.
Mae gwahaniaeth enfawr, ac, fel rhiant, rwy'n gwybod hynny'n dda iawn.
Nawr, mewn gwirionedd, y rhai sy'n ei alw'n drosedd sydd mewn perygl o gam-drin plant. Mae'r gyfraith, fel y mae hi ar hyn o bryd, yn gam diogelu digonol rhag cam-drin corfforol afresymol. Byddai plant sy'n dioddef cam-drin go iawn yn wynebu mwy o risg oherwydd bod yr heddlu a'r gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu llethu gan adroddiadau amherthnasol ac mae'n drueni mawr y caniateir i leiafrif uchel eu cloch ddylanwadu ar hyn.
Diolch i'r Gweinidog am gyflwyno'r ddadl heddiw. Nawr, rwy'n sylweddoli bod angen amddiffyn plant rhag cael eu cam-drin yn gorfforol, ac rwy'n siŵr bod pawb yn y fan yma yn cytuno ar hynny. Ond mae gennym gyfreithiau sydd wedi bod ar waith ers amser hir sydd eisoes yn darparu'r diogelwch hwn, felly rwy'n rhyfeddu at yr angen i greu deddfwriaeth newydd i fynd i'r afael â throsedd y gellir ymdrin â hi'n iawn eisoes o dan y Deddfau presennol.
Pan gododd y Gweinidog fater y gwaharddiad ar smacio mewn datganiad yma ym mis Mawrth, dywedodd
nid denu mwy o bobl i'r system cyfiawnder troseddol yw ein bwriad ni.
Pe byddai hynny'n wir, efallai y gellid ystyried y Bil arfaethedig hwn yn ddarn eithaf diniwed o ddangos ein bod yn rhinweddol. Fodd bynnag, rwy'n poeni na fydd hyn yn wir mewn gwirionedd. Rwy'n poeni mai'r hyn a allai ddigwydd yw y byddwn ni'n gweld pobl nad ydyn nhw yn cam-drin eu plant yn cael eu hymchwilio, a'u bywydau efallai'n cael eu chwalu o ganlyniad i ryw gŵyn annilys yn eu herbyn, efallai hyd yn oed cwyn faleisus.
Dirprwy Lywydd, mae'r hyn sydd gan yr heddlu ar hyn o bryd yn rhyw lefel o ddisgresiwn. Os derbynnir cwyn, nad ydyn nhw'n teimlo nad oes llawer o gyfiawnhad iddi, yna mae ganddyn nhw'r disgresiwn i beidio â chynnal ymchwiliad llawn. Mae yna amddiffyniad o gosb resymol. Nawr, nid yw'r Gweinidog wedi cyflwyno unrhyw dystiolaeth bod oedolion sydd wir yn cam-drin yn dianc rhag eu cosb haeddiannol oherwydd yr amddiffyniad hwn. Yn wir, ni fydd y Bil newydd yn gwneud dim byd ystyrlon i ychwanegu at bŵer yr heddlu yn y maes hwn. Ond yr hyn y bydd yn ei wneud yw dileu disgresiwn yr heddlu fel y bydd yn rhaid iddyn nhw yn y dyfodol ymchwilio'n llawn i bob cwyn a wneir, hyd yn oed os yw'n un y maen nhw eu hunain yn ei gredu ei bod yn ddi-sail, yn faleisus neu hyd yn oed yn flinderus. Bydd hyn yn arwain yn anochel at lwyth gwaith trymach i'r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron, sydd eisoes yn methu ag ymchwilio'n iawn i droseddau difrifol fel y mae hi oherwydd y llwyth gwaith sydd ganddyn nhw eisoes.
Rwy'n sicr y bydd hefyd yn arwain at erlyn pobl hollol ddiniwed. Ac er na fydd llawer ohonyn nhw, yn y pen draw, yn cael eu collfarnu, ni fydd yr holl rigmarôl o gael eu cyfweld gan yr heddlu, ac mewn llawer o achosion, o ymddangos yn y llys, yn brofiad pleserus.
Os caf droi at atodiad 7 o'r memorandwm esboniadol, gallwn weld bod hwn yn dyfynnu enghraifft Seland Newydd, ac eglurir mai'r dystiolaeth yn Seland Newydd oedd, ar ôl i'r ddeddfwriaeth gael ei phasio, y byddai nifer yr achosion y byddai'r heddlu'n gorfod ymchwilio iddyn nhw yn dyblu mewn gwirionedd. Yng Nghymru, os cymerwn yr amcanestyniad hwnnw, mae'n golygu ein bod yn mynd o tua 274 o achosion y flwyddyn i tua 548 o achosion. Felly, mae'r syniad hwn nad ydym ni'n mynd i droseddoli pobl drwy basio'r ddeddfwriaeth hon, a'n bod ni'n helpu pobl i gael eu cyfeirio tuag at rianta cadarnhaol, yn gwbl ffug. Os ydym ni'n dymuno cyfeirio pobl at rianta cadarnhaol, gallwn ni gael rhaglen wario sy'n ymrwymo i'r perwyl hwnnw. Nid oes angen i ni greu ton newydd o erlyniadau.
Rwy'n credu bod hon yn ddeddfwriaeth annoeth iawn a fydd yn cael effaith andwyol ar fywyd teuluol yng Nghymru, ac yn y pen draw bydd yn arwain at fwy o bobl ddiniwed yn cael eu tynnu i mewn i ymchwiliadau troseddol. Ni fydd yn amddiffyn yr un plentyn ychwanegol rhag cael ei gam-drin yn gorfforol, gan ei fod eisoes wedi'i ddiogelu dan gyfreithiau presennol. Felly, byddaf yn pleidleisio yn erbyn y ddeddfwriaeth hon.
Rwy'n falch iawn o gael siarad o blaid egwyddorion cyffredinol y Bil hwn, gan gyd-fynd â barn y mwyafrif o aelodau'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg, a gyflwynodd adroddiad trwyadl a chytbwys. Mae'r pwyllgor wedi archwilio'r dystiolaeth, ysgrifenedig a llafar, y gwersi rhyngwladol a gwersi eraill fel y bo'n briodol, ac wedi dod i'r casgliad drwy fwyafrif clir ei bod yn bryd dileu'r amddiffyniad o gosb resymol o'r llyfr statud, ac fe'u cefnogir gan lawer o bobl o ran y casgliad hwnnw.
Dadl yw hon heddiw, wrth gwrs, ar yr egwyddorion cyffredinol, a bydd llawer i'w drafod yn fanwl wrth i'r adroddiad fynd ymlaen i'r pwyllgor. Mae'n siŵr y bydd y manylion yn cynnwys yr angen i ddefnyddio a, phan fo angen, adeiladu ar brofiad helaeth ac arbenigedd rhaglenni rhianta cadarnhaol sydd eisoes wedi'u sefydlu yng Nghymru; yr angen i bob partner gynnal ymgyrchoedd codi ymwybyddiaeth am y dulliau cadarnhaol o rianta hynny, yr ydym yn parhau i'w hehangu yng Nghymru, gan dynnu ar yr arferion a'r dystiolaeth ryngwladol orau; yr angen i roi digon o adnoddau i'r gwahanol fentrau rhianta cadarnhaol sydd ar waith ledled Cymru, gan sicrhau eu bod yn hygyrch, yn ôl y gofyn, ym mhob cymuned ac i bob teulu; yr angen i barhau'r gwaith dwfn sydd eisoes yn mynd rhagddo rhwng y Gweinidog a'r heddlu a Gwasanaeth Erlyn y Goron, ac i gyd-gysylltu ag adrannau Llywodraeth y DU yn ôl yr angen i roi canllawiau effeithiol ar waith ar gyfer swyddogion rheng flaen a gwasanaethau rheng flaen eraill gweithwyr proffesiynol, gan adeiladu, mae'n rhaid i mi ddweud, ar eu profiad a'u harbenigedd sydd eisoes yn helaeth o ran gwneud penderfyniadau arbenigol a gwybodus mewn sefyllfaoedd domestig ac ar sail aml-asiantaeth, yn enwedig gyda'r gwaith presennol sydd ar y rhaglen profiadau niweidiol yn ystod plentyndod hefyd; yr angen i ymchwilio ymhellach i'r potensial ar gyfer cynlluniau dargyfeiriol i helpu rhieni sydd angen y cymorth ychwanegol, pan na ystyrir bod erlyniad yn briodol nac y ffordd fwyaf effeithiol ymlaen ar gyfer y teulu na'r plentyn; a'r angen i osgoi rhuthro cychwyn y Bil hwn ar ôl y Cydsyniad Brenhinol er mwyn caniatáu digon o amser i sicrhau bod gwybodaeth a chymorth yn cael eu darparu i rieni, i godi ymwybyddiaeth o'r newidiadau ac i ddiweddaru, yn ôl yr angen, yr hyfforddiant a'r arweiniad. Nawr, rwy'n siŵr bod y Gweinidog yn ymwybodol o'r holl faterion hyn, fel yr awgrymodd hi yn ei sylwadau agoriadol.
Pan gyhoeddais, wythnosau i mewn i fy nghyfnod fel Gweinidog, y byddai Llywodraeth Cymru, gyda chymorth y Cabinet, wir yn symud ymlaen i ddileu'r amddiffyniad cosb resymol, ymddangosai bod hyn wedi bod yn annisgwyl i lawer o bobl. Eto i gyd, mewn gwirionedd, nid yw hyn yn syndod o gwbl mewn sawl ffordd. Mae'n dilyn y dystiolaeth orau sydd ar gael am fanteision gydol oes dulliau rhianta cadarnhaol ar gyfer plant wrth iddyn nhw dyfu i fod yn oedolion. Mae'n dilyn y gwaith yr ydym ni wedi bod yn ei hyrwyddo yng Nghymru ynglŷn â rhianta cadarnhaol ers blynyddoedd lawer. Mae'n dilyn newidiadau mewn dulliau rhianta dros flynyddoedd lawer, nad yw'n feirniadaeth o'n rhieni na'n teidiau a'n neiniau, ond mae'n gydnabyddiaeth syml ein bod wedi esblygu dros y blynyddoedd ein dull o bennu'r ffiniau a'r ddisgyblaeth honno, gan roi cosb corfforol i'r naill ochr a hybu rhianta cadarnhaol. Ac mae'n dilyn yr esiampl a osodwyd mewn llawer o wledydd eraill, sydd â systemau cyfreithiol a chymdeithasol gwahanol iawn, mae'n rhaid cyfaddef, sydd eisoes wedi newid i ddilyn y dystiolaeth.
Felly, gadewch i ni wneud yn siŵr bod yr holl gymorth, y canllawiau a'r adnoddau sydd eu hangen ar rieni a gweithwyr proffesiynol rheng flaen ar gael. Ond, ar yr egwyddor gyffredinol o ddileu'r amddiffyniad o gosb resymol, apeliaf at yr holl gyd-Aelodau yn y fan yma heddiw i gefnogi'r Bil hwn, nad yw'n creu unrhyw drosedd newydd ond sy'n dileu anomaledd hanesyddol o'r llyfr statud, a gadewch i ni ddyblu ein hymdrechion ar yr hyn sy'n wirioneddol bwysig: rhianta cadarnhaol a'r dylanwad buddiol y gall hynny ei gael ar y genhedlaeth hon a chenedlaethau o blant yng Nghymru yn y dyfodol.
Diolch yn fawr iawn. A gaf i yn awr alw ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i ymateb i'r ddadl? Julie Morgan.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd, a diolch i bawb a gyfrannodd at y ddadl hon. Rwy'n ddiolchgar iawn i Gadeiryddion y pwyllgorau ac aelodau'r pwyllgorau sydd wedi siarad yn y ddadl heddiw, ac rwy'n diolch iddyn nhw eto am eu hadroddiadau manwl iawn. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gyda nhw wrth i'r Bil barhau. Yn amlwg, oherwydd y cyfyngiadau amser, nid wyf yn mynd i allu ymateb i' r nifer helaeth o bwyntiau sydd wedi'u gwneud heddiw, ond rwy'n diolch i chi am eich holl gyfraniadau rhesymegol a meddylgar. Mae yna raniad barn ar draws y Siambr, ond rwyf i'n teimlo ein bod wedi gallu cyflwyno ein pwyntiau, ar y cyfan, mewn ffordd wâr, ystyriol, ac rydym wedi gallu trafod y materion hyn mewn ffordd adeiladol, gan ystyried i ble y byddwn yn symud ymlaen o hyn.
Fel rwy'n dweud, nid wyf i'n mynd i allu ymateb i bwyntiau unigol, ond byddwn yn hapus iawn i'w trafod gydag Aelodau unigol. Hoffwn orffen drwy wneud rhai pwyntiau cyffredinol. Mae llawer o bwyntiau wedi'u gwneud am droseddoli rhieni, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i ni gofio bod gennym gefnogaeth i'r ddeddfwriaeth hon gan yr heddlu, gan brif gwnstabliaid yr heddlu, gan y comisiynwyr heddlu a throseddu, ac rydym yn gweithio'n agos iawn gyda nhw i sicrhau bod y ddeddfwriaeth hon yn foddhaol. Hoffwn hefyd ailadrodd, gan ei fod wedi ei godi unwaith eto yn y ddadl heddiw, na fydd yr heddlu ddim ond yn gweithredu er budd y cyhoedd ac er budd y plentyn dan sylw, ac ar sail tystiolaeth. A chredaf mai'r holl dystiolaeth sydd gennym o'r ddeddfwriaeth hon sy'n cael ei chyflwyno mewn gwledydd eraill yw nad oes cynnydd mawr mewn erlyniadau ac nad yw rhieni'n cael eu tynnu i mewn i'r system cyfiawnder troseddol ac, mewn gwirionedd, roedd tystiolaeth a roddwyd i'r pwyllgor plant ac phobl ifanc gan yr heddlu yn dweud:
rydym yn gwneud llawer mwy o'n gwaith drwy bresenoldeb gwirfoddol a chyfweliadau, ac mae'n debyg y byddai llawer o'r achosion y byddem yn eu dychmygu o dan y newid deddfwriaethol hwn yn berthnasol i hynny.
Ac un o'r prif gwnstabliaid oedd hwnnw.
A wnewch chi dderbyn ymyriad? Diolch yn fawr iawn. Clywaf yr hyn yr ydych yn ei ddweud ac nid oes gennyf amheuaeth nad ydych chi o ddifrif yn dymuno i bobl gael eu dal gan bwysau'r gyfraith yn ddiangen, ond nid yw'r hyn yr ydych chi newydd ei ddweud yn wir, wrth gwrs, oherwydd os edrychwch chi ar rai o'r enghreifftiau eraill, gan gynnwys Seland Newydd, a nodwyd gennyf yn gynharach, rydych chi wedi gweld pwysau'r gyfraith yn gwahanu teuluoedd, rydych chi wedi ei weld yn erlyn rhieni cariadus, ac rydych chi wedi gweld, o ganlyniad i hyn, bod llawer o rieni yn cael cofnodion troseddol sydd wedyn wedi arwain at golli eu swyddi ac, yn wir, methu â theithio dramor i rai gwledydd. Nid dyna'r math o sefyllfa yr ydym ni eisiau ei gweld yn datblygu yng Nghymru, felly byddwn yn erfyn arnoch chi i roi'r gorau i'r ddeddfwriaeth hon ac yn hytrach ystyried y pethau eraill hyn y gall y Llywodraeth eu gwneud heb ddeddfwriaeth er mwyn hybu ffyrdd priodol o fagu plant ledled Cymru.
Wel, mae'r dystiolaeth y mae Darren Millar yn ei chyflwyno o Seland Newydd yn wahanol iawn i'r dystiolaeth yr wyf wedi'i darllen, ac mae'r adroddiadau uniongyrchol yr wyf i wedi'u cael am yr hyn sydd wedi digwydd yn Seland Newydd yn nodi ei fod wedi bod yn brofiad cadarnhaol iawn, bod 10 mlynedd wedi arwain at ddarn llwyddiannus iawn o ddeddfwriaeth y maen nhw'n falch ohono. Felly, rwy'n credu eich bod chi'n edrych ar rywbeth gwahanol iawn i'r hyn yr wyf i'n ei weld.
Felly, o ran yr heddlu, fel yr wyf yn ei dweud, mae gennym eu cefnogaeth lwyr ac rydym yn cydweithio'n agos iawn â nhw. Thema arall sydd wedi codi yw'r pwysau sydd ar y gwasanaethau cymdeithasol, yn arbennig, ac ar y staff rheng flaen. Ac, unwaith eto, rydym ni wedi cael llawer o drafodaethau a dadlau gydag aelodau'r gwasanaethau cymdeithasol a gwn eu bod nhw wedi rhoi tystiolaeth, eto, i'r pwyllgor plant a phobl ifanc, ac, unwaith eto, mae'n rhaid i mi ailadrodd bod y gwasanaethau cymdeithasol yn llwyr gefnogi'r ddeddfwriaeth hon. Mae'r holl weithwyr proffesiynol sy'n gweithio ar y rheng flaen, sy'n gweithio gyda phlant, sy'n helpu rhieni, yn dymuno i'r ddeddfwriaeth hon fynd trwodd, gan ei bod yn gwneud eu gwaith nhw gymaint yn haws gan eu bod yn glir o ran yr hyn y gallan nhw ei wneud, sut y gallan nhw helpu, a sut y gallan nhw gynghori rhieni. Felly, mae gennym ni'r holl bobl hynny yr ydych chi'n poeni amdanyn nhw, am y gwasanaethau cymdeithasol a'r baich—maen nhw yn gwbl gefnogol. Felly, rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn ystyried hynny, bod yr holl weithwyr proffesiynol sy'n ymwneud â gweithio ar y rheng flaen mewn modd proffesiynol yn cefnogi'r ddeddfwriaeth hon.
Ac yna'r trydydd pwynt yr hoffwn i ei wneud, mewn gwirionedd, yw'r mater ynghylch y gefnogaeth ar gyfer y Bil. Roedd y sylwadau i'r pwyllgor plant a phobl ifanc: sefydliadau cymorth proffesiynol, yn gwbl gefnogol. Ond roedd ymatebion unigol gan rieni, ar y cyfan, yn negyddol. Rydym wedi gwneud arolygon cynrychioliadol o rieni ac o'r cyhoedd o'r Llywodraeth ac yn sicr mae'n ymddangos bod tuedd bod llawer mwy o bobl yn derbyn y ddeddfwriaeth hon a llawer mwy o'r farn mai dyma'r cyfeiriad iawn i fynd iddo. Ymhlith pobl iau, mae'n gryf iawn, iawn, oherwydd mae 60 y cant o'r rhai hynny sydd rhwng 16 a 35 oed yn credu nad oes angen smacio plentyn, ac mae hynny'n bobl iau, ac yn enwedig rhieni sydd â phlant o dan saith oed. Ac felly rwy'n meddwl mai dyma—. Rydym ni'n cyd-fynd â'r oes; mae pethau'n symud.
Clywsom mewn cyfraniadau i'r ddadl fod yna adeg pan oeddem ni'n credu ei bod yn gwbl anghywir i—roeddem ni'n credu ei bod yn iawn i blant gael eu taro mewn ysgolion; roedd yna stŵr ynghylch cael gwared ar gosb gorfforol. Nawr, rydym ni'n symud ymlaen i'r cam nesaf. Gwn fod y Dirprwy Lywydd yn dweud wrthyf i fod yn rhaid imi orffen, ond rwyf eisiau gorffen, a dweud y gwir, drwy ddweud diolch, i chi i gyd, am eich holl gyfraniadau, pa ochr bynnag yr oeddech chi arni, oherwydd rwy'n credu—. Rwy'n gobeithio y byddwn ni'n llwyddo i gael y bleidlais yma heddiw i fwrw ymlaen â hyn, oherwydd rwy'n credu bod hwn yn ddarn pwysig o ddeddfwriaeth a byddaf yn falch iawn o'r ddeddfwriaeth os bydd y Senedd Cymru hon yn ei phasio.
Diolch. Y cynnig yw ein bod yn derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, byddwn yn gohirio'r pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Eitem 10 ar ein hagenda yw cynnig i dderbyn y penderfyniad ariannol sy'n ymwneud â'r Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru). Galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y cynnig hwnnw. Julie Morgan.
Cynnig NDM7131 Julie Morgan
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, at ddibenion unrhyw ddarpariaethau sy’n deillio o’r Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru), yn cytuno i unrhyw gynnydd mewn gwariant o’r math y cyfeiriwyd ato yn Rheol Sefydlog 26.69, sy’n codi o ganlyniad i’r Bil.
Cynigiwyd y cynnig.
Cynnig yn ffurfiol.
Cynnig yn ffurfiol. Diolch. Nid oes gennyf siaradwyr. A chan fod y bleidlais ar egwyddorion cyffredinol Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) wedi ei gohirio tan y cyfnod pleidleisio, gohiriaf y bleidlais ar y penderfyniad ariannol tan y cyfnod pleidleisio hefyd.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Daw hynny â ni at y cyfnod pleidleisio. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, byddaf yn symud ymlaen at y bleidlais. Iawn. Felly, y bleidlais gyntaf heno yw'r ddadl ar dasglu'r Cymoedd. Galwaf am bleidlais ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 51, neb yn ymatal, a neb yn erbyn, felly mae gwelliant 1 wedi'i dderbyn.
NDM7129 - Gwelliant 1: O blaid: 51, Yn erbyn: 0, Ymatal: 0
Derbyniwyd y gwelliant
Galwaf am bleidlais ar welliant 2 yn enw Darren Millar. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 23, neb yn ymatal, 28 yn erbyn, felly, ni dderbyniwyd gwelliant 2.
NDM7129 - Gwelliant 2: O blaid: 23, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Galwaf am bleidlais ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 23, neb yn ymatal, 28 yn erbyn, felly, ni dderbyniwyd gwelliant 3.
NDM7129 - Gwelliant 3: O blaid: 23, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Galwaf am bleidlais ar welliant 4, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 23, neb yn ymatal, 28 yn erbyn, felly, ni dderbyniwyd gwelliant 4.
NDM7129 - Gwelliant 4: O blaid: 23, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Galwaf am bleidlais ar welliant 5, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 23, neb yn ymatal, 28 yn erbyn, felly, ni dderbyniwyd gwelliant 5.
NDM7129 - Gwelliant 5: O blaid: 23, Yn erbyn: 28, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Galwaf yn awr am bleidlais ar welliant 6, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig wyth, un yn ymatal, 42 yn erbyn, felly ni dderbyniwyd gwelliant 6.
NDM7129 - Gwelliant 6: O blaid: 8, Yn erbyn: 42, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y gwelliant
Galwaf am bleidlais ar welliant 7, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 10, pump yn ymatal, 36 yn erbyn, felly, ni dderbyniwyd gwelliant 7.
NDM7129 - Gwelliant 7: O blaid: 10, Yn erbyn: 36, Ymatal: 5
Gwrthodwyd y gwelliant
Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig fel y'i diwygiwyd.
Cynnig NDM7129 fel y'i diwygiwyd.
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi mai'r ffordd orau o wella bywydau a chymunedau'r rhai sy'n byw yn y Cymoedd yw drwy ddarparu cyfleoedd cyflogaeth hirdymor o safon, grymuso pobl i gyflawni eu potensial a chymryd perchenogaeth yn eu cymunedau eu hunain.
2. Yn nodi’r diweddariad ar Y Tasglu Gweinidogol ar gyfer Cymoedd y De a gyhoeddwyd ar 18 Gorffennaf.
3. Yn croesawu’r saith maes blaenoriaeth, sydd wedi eu diweddaru, ac ehangiad cwmpas y Tasglu i gynnwys Cwm Gwendraeth a Dyffryn Aman.
4. Yn croesawu’r cynllun grant cartrefi gwag a gaiff ei gyflwyno i bob awdurdod lleol yn ardal y Tasglu yn ystod y flwyddyn ariannol hon.
Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig wedi'i ddiwygio 28, saith yn ymatal, 16 yn erbyn, felly, derbynnir y cynnig wedi'i ddiwygio.
NDM7129 - Cynnig wedi'i ddiwygio: O blaid: 28, Yn erbyn: 16, Ymatal: 7
Derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd
Symudwn yn awr i bleidleisio ar egwyddorion cyffredinol Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru). Galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Julie Morgan. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 36, neb yn ymatal, 15 yn erbyn, felly, derbynnir y cynnig.
NDM7130 Egwyddorion Cyffredinol y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) Cymru: O blaid: 36, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Galwaf yn awr am bleidlais ar y cynnig—. Mae'n ddrwg gen i. Symudwn yn awr i bleidleisio ar y penderfyniad ariannol yn ymwneud â Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru). Galwaf am bleidlais ar y cynnig, a gyflwynwyd yn enw Julie Morgan. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y cynnig 36, neb yn ymatal, 15 yn erbyn, felly, derbynnir y cynnig.
NDM7131 Cynnig i gytuno ar y penderfyniad ariannol mewn perthynas a'r Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru): O blaid: 36, Yn erbyn: 15, Ymatal: 0
Derbyniwyd y cynnig
Daw hynny â thrafodion heddiw i ben. Diolch.
Daeth y cyfarfod i ben am 20:04.