Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
25/06/2019Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn.
Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Prif Weinidog, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan John Griffiths.
1. Beth yw effaith polisi Llywodraeth Cymru o ran lleihau nifer y bobl sy'n cysgu allan yng Nghymru? OAQ54119
Llywydd, nid yw effaith cyni cyllidol hirfaith yn fwy amlwg mewn unrhyw fan nag yn y cynnydd yn nifer y bobl sy'n cysgu ar y stryd. Gellir gweld effaith polisïau Llywodraeth Cymru o ran atal, darparu gwasanaethau newydd a mwy o weithio mewn partneriaeth ledled Cymru.
Prif Weinidog, mae Cymru wedi dioddef cyni cyllidol Llywodraeth y DU ers tua naw mlynedd erbyn hyn, ac mae ei effaith gyfunol ar ein cymunedau a'r gwasanaethau cyhoeddus yr ydym ni'n dibynnu arnyn nhw yn fwy a mwy niweidiol flwyddyn ar ôl blwyddyn. Mae ciwiau mewn banciau bwyd a phobl sy'n cysgu ar y stryd mewn pebyll a drysau yn dangos y dioddefaint a achosir. Mae llawer o'm hetholwyr i wedi dychryn ac yn ddig mai dyma gyflwr y wlad pan fo'r DU yn dal i fod yn un o'r economïau mwyaf yn y byd. Prif Weinidog, cyn y newid y mae ei angen yn ddirfawr i Lywodraeth y DU, a Jeremy Corbyn yn Brif Weinidog, beth mwy y gall Llywodraeth Cymru ei wneud [Torri ar draws.] i fynd i'r afael â sefyllfa lle mae cysgu ar y stryd yn mynd yn fwy a mwy cyffredin, a hynny'n cynnwys pobl â diagnosis ac anghenion cymorth cymhleth, a allai fod wedi cael eu methu gan y system eisoes?
Llywydd, hoffwn ddiolch i John Griffiths am hynna a chytuno'n llwyr ag ef ynghylch natur frawychus yr effeithiau y mae cyni cyllidol yn eu hachosi yn ein cymunedau erbyn hyn. Ailddarllenais dros y penwythnos, Llywydd, yr adroddiadau y mae pwyllgor John Griffiths wedi eu llunio ar ddigartrefedd, ac maen nhw'n cynnig manylion manwl iawn am yr effaith y mae toriadau i fudd-daliadau a thoriadau i wasanaethau yn ei chael ym mywydau pobl ledled Cymru. Fel Llywodraeth, byddwn yn cymryd cyngor y grŵp gweithredu sydd wedi ei sefydlu, dan gadeiryddiaeth prif swyddog gweithredol Crisis, i sicrhau bod gennym ni bopeth y gallwn ni ei wneud ar waith wrth i ni fynd i mewn i ail hanner y flwyddyn hon. Byddwn yn parhau i fuddsoddi'r £20 miliwn ychwanegol yr ydym ni wedi ei ganfod yn ein cyllidebau sy'n crebachu'n barhaus i wneud mwy ym maes digartrefedd. Byddwn yn hyrwyddo Tai yn Gyntaf fel model, sy'n tynnu ynghyd y ddwy agwedd a nodwyd gan John Griffiths yn ei gwestiwn atodol—yr angen am fwy o lety, ond, ar yr un pryd, am y gwasanaethau cymorth sy'n ymateb i'r anghenion cymhleth y mae llawer o bobl sy'n canfod eu hunain yn cysgu ar ein strydoedd wedi eu caffael yn ystod y daith anhygoel o anodd honno. Bydd yr holl bethau hynny yn cael eu gwneud gan y Llywodraeth Cymru hon yma yng Nghymru er mwyn lliniaru effaith cysgu ar y stryd ar draws ein gwlad.
Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb i John Griffiths ynglŷn â digartrefedd. Efallai y byddwch yn ymwybodol fy mod i wedi codi'r mater hwn o'r blaen yn y Siambr hon, ynghylch sut y gallai podiau digartref leihau cysgu ar y stryd yng Nghymru. Ym mis Chwefror eleni, gosodwyd podiau i ddarparu llety brys dros nos i bobl ddigartref yng Nghasnewydd gan yr elusen Amazing Grace Spaces. Ers hynny, maen nhw wedi helpu chwech o bobl ddigartref oddi ar y strydoedd ac wedi cael eu canmol fel achubwyr bywydau. A ydych chi'n cytuno, Prif Weinidog, bod y podiau hyn yn cynnig ateb arloesol sydd wedi helpu i achub bywydau yng Nghasnewydd, ac y dylid eu darparu ar gyfer y bobl ddigartref hynny nad ydyn nhw, am ba reswm bynnag, yn dymuno defnyddio hosteli? Mae gennym ni bron i 2,000 o bobl ddigartref yng Nghymru ar hyn o bryd—llai na 2,000—felly mae'n rhaid i ni wneud rhywbeth i gynnig llety iddyn nhw, ac rwy'n siŵr y bydd eich Llywodraeth chi yn chwilio am atebion yn y Siambr hon yn hytrach nag ar yr ochr arall i'r sianel.
Diolchaf i'r Aelod am hynna, ac yn wir rwy'n cydnabod ei fod wedi codi'r materion hyn o'r blaen ar lawr y Cynulliad. Fel Llywodraeth, rydym ni wedi ymrwymo i ddulliau arloesol o fynd i'r afael â phroblem digartrefedd, ond y llwybr ar gyfer digartrefedd yw'r angen i ddarparu mwy o gartrefi parhaol ledled Cymru. Ac er y gall atebion arloesol fod o gymorth yn y presennol, yr ateb hirdymor i fynd i'r afael â'r problemau tai yr ydym ni'n eu hwynebu ar draws y wlad yw mwy o gartrefi parhaol, buddsoddiad yn y cartrefi newydd hynny, diogelu ein stoc tai cymdeithasol, a gwneud yn siŵr bod gan bob teulu gartref gweddus lle y gallan nhw ffynnu.
Prif Weinidog, ai polisi Llywodraeth Cymru yw cymryd yr eiddo bydol oddi wrth pobl ddigartref, gan eu gadael heb ddim o gwbl ac yn agored i'r elfennau? Ac, os nad dyna'r polisi, a wnewch chi gondemnio eich cydweithwyr yn y Blaid Lafur yng Nghyngor Caerdydd am wneud yn union hynny?
Nid dyna bolisi'r Llywodraeth hon, Llywydd, ac nid dyna bolisi Cyngor Caerdydd ychwaith.
2. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am dryloywder o fewn Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wrth ymdrin ag ymholiadau'r cyhoedd? OAQ54134
Diolch i Llyr Gruffydd. Am bob un ymholiad oddi wrth y cyhoedd sy'n mynegi pryderon neu'n cwyno, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn derbyn bron i dair neges yn mynegi diolch neu werthfawrogiad. Rwy'n disgwyl i bob bwrdd iechyd fod yn agored ac yn ymatebol i bob math o ymholiad, beth bynnag ei natur.
Nôl ym mis Hydref, fe wnaeth un o'ch Gweinidogion chi ysgrifennu at ddyn sydd wedi colli ei fam ar ôl iddi fod ar uned iechyd meddwl Hergest ym Mangor. Mi ddywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ei fod e'n disgwyl y byddai'r ymateb i'r ymchwiliad gan y bwrdd iechyd yn, a dwi'n dyfynnu o'i lythyr e:
yn broses ymchwilio dryloyw a thrylwyr.
Nawr, yn ysbryd eich ateb chi i fy nghwestiwn cychwynnol i, mae'r ymchwiliad yna yn parhau, ond mae pryderon gan y teulu fod y bwrdd iechyd yn gwrthod bod yn agored a thryloyw ynglŷn ag ateb cwestiynau. Mae'r bwrdd, er enghraifft, yn cael ei gyhuddo o guddio y tu ôl i adran 42 y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000, sy'n caniatáu iddyn nhw wrthod rhannu gwybodaeth os ydyn nhw wedi derbyn cyngor cyfreithiol i weld a ydyn nhw wedi torri'r gyfraith. Nawr, ydych chi'n derbyn—eto, yn sgil yr hyn ddywedoch chi foment yn ôl—fod defnyddio'r rhesymeg yma yn golygu bod bwrdd iechyd yn medru osgoi rhannu gwybodaeth, i fab, wrth gwrs, yn y cyd-destun yma, sy'n ceisio cael cyfiawnder yn sgil marwolaeth ei fam mewn uned iechyd meddwl? Ydych chi'n cytuno, felly, nad yw sefyllfa o'r fath yn deg, ac ydych chi o'r un farn â fi y dylid edrych o'r newydd ar y cymal yma, sydd yn caniatáu i'r bwrdd osgoi bod yn dryloyw, er mwyn sicrhau bod y broses yn fwy agored yn y dyfodol?
Llywydd, dwi'n edrych i bob bwrdd iechyd i fod yn agored ac yn dryloyw pan fyddan nhw'n ymateb i gwyno. Ambell waith mae pethau yn gymhleth. Dwi ddim yn gyfarwydd â'r manylion yn yr achos y mae Llyr Gruffydd wedi cyfeirio ato y prynhawn yma. Ambell waith mae pethau nad ydym ni'n eu gwybod, a dim ond pobl sy'n delio â'r manylion sy'n ddigon cyfarwydd â beth sydd wedi mynd ymlaen i ddod i gasgliadau. Fel mae'r Aelod wedi ei ddweud, mae'r Gweinidog wedi ysgrifennu ato fe yn barod am yr achos, ac, os oes mwy i'w ddweud, dwi'n siŵr y bydd ymateb arall ar ei ffordd iddo fe ar ôl y cwestiwn y prynhawn yma.
Hoffwn ddiolch i Llyr Gruffydd AC ac ategu'r union bryderon y mae wedi eu codi yn y fan yma. Prif Weinidog, yn y datganiad a wnaed gennych pan oeddech chi yn y swydd flaenorol, ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a oedd yn destun mesurau arbennig, ar 9 Mehefin 2015, dywedasoch,
mae’r bumed flaenoriaeth, a'r olaf, yr wyf i wedi’i nodi yn dibynnu ar ailgysylltu'r cyhoedd â’r bwrdd, ac ar i'r bwrdd adennill ffydd y cyhoedd.
Nawr, yn fy nhyb i, i fod â ffydd, mae angen proses dryloyw arnoch chi. Nawr, mae'r Gweinidog yn gwbl ymwybodol o achos yr wyf i wedi bod yn ymdrin ag ef, sydd wedi gweld etholwr a oedd—gadewch i ni ddim ond dweud ei fod yn un o'r sefyllfaoedd lle'r aeth rhywbeth o'i le, o'i le'n ofnadwy, yn y bwrdd iechyd. Nawr, mae wedi bod yn aros am oddeutu wyth mis am ymateb i adolygiad o ddigwyddiad difrifol. Nawr, ar ôl cymaint o oedi, byddech chi wedi disgwyl i'r holl ymchwiliadau gael sylw, ac y byddai pen llinyn tryloyw drwy'r holl bwyntiau gwirioneddol a godwyd gan yr etholwr a'i deulu. Fodd bynnag, ar ôl cael ymateb nad yw'n un da iawn, mae'r teulu, a minnau, wedi gorfod troi erbyn hyn at Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru, i sicrhau bod modd cael rhyw fath o gamau unioni i'r teulu hwn yr aeth pethau o'i le iddo mewn ffordd drist dros ben. Dylai arwydd o'r fath fod yn arwydd i chi, Prif Weinidog, nad yw eich pumed blaenoriaeth, a'r olaf, yn cael ei chyflawni o hyd. Felly, a wnewch chi esbonio felly pa fesurau y gwnewch chi eu cymryd i sicrhau bod mwy o dryloywder ac, yn wir, mwy o atebolrwydd wrth ymdrin ag unrhyw gŵyn sy'n cael ei gwneud am ansawdd y gofal iechyd y mae claf wedi ei gael mewn bwrdd iechyd yr ydych chi, yn dechnegol, gan mai chi yw'r Prif Weinidog, yn gyfrifol amdano?
Wel, Llywydd, nid wyf i'n credu ei bod hi byth yn ddoeth ceisio darllen gwersi cyffredinol o achosion penodol. Mae'r Aelod yn iawn fy mod i'n gyfarwydd â'r achos y mae hi wedi tynnu fy sylw ato, ac mae wedi bod yn achos anodd. Os yw'r teulu'n credu mai cyfeirio at yr ombwdsmon yw'r ffordd orau o weithredu sy'n agored iddyn nhw, yna, wrth gwrs, mae hwnnw'n gam gweithredu sydd ar gael i gleifion ac i deuluoedd yma yng Nghymru. Credaf fod cyflwr y berthynas rhwng y bwrdd a'r boblogaeth y mae'n ei gwasanaethu yn wahanol i sut yr oedd hi pan aethom ni i mewn i fesurau arbennig. Mae'r bwrdd ei hun wedi gwneud ymdrechion gwirioneddol yn hynny o beth—presenoldeb staff uwch y bwrdd iechyd mewn digwyddiadau cyhoeddus, gweithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru a chomisiynydd Deddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol i ddod o hyd i ffyrdd newydd ac arloesol o ymgysylltu â'r cyhoedd. Pan gyhoeddwyd, yr wythnos diwethaf, ganlyniadau ymatebion cyhoeddus i wasanaethau cyhoeddus yma yng Nghymru, roedd cyfraddau bodlonrwydd gyda gwasanaethau iechyd yn Betsi Cadwaladr—gyda 93 y cant o drigolion Betsi Cadwaladr yn dweud eu bod yn fodlon â'r gwasanaethau a ddarparwyd ac a gafwyd ganddyn nhw ym maes gofal sylfaenol, a 95 y cant o'r boblogaeth leol honno yn dweud eu bod nhw'n fodlon â'r gwasanaethau a gawsant ym maes gofal eilaidd—yn uwch na'r cyfartaledd cenedlaethol, a chredaf eu bod nhw'n adlewyrchu'r ymdrech gyffredinol y mae'r bwrdd wedi ei gwneud i ail-gadarnhau'r berthynas sydd ganddo â'i gyhoedd.
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau. Arweinydd yr wrthblaid, Paul Davies.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, chwe wythnos yn ôl, dywedasoch na fyddai eich Gweinidog yn cael unrhyw anhawster yn cyhoeddi'r adroddiad ar Kukd.com. Er gwaethaf eich sicrwydd i'r Siambr hon, nid yw'r adroddiad wedi cyrraedd fy nwylo i, gan fod eich Gweinidog yn dweud nad yw'r caniatâd priodol wedi ei roi. Beth yw'r caniatâd y mae angen ei roi, a phryd y bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi?
Wel, mae'r adroddiad ar y camau olaf o gael y caniatâd hwnnw. Llywydd, wrth gwrs, mae'n rhaid i adroddiadau sy'n mynd i'r parth cyhoeddus yn y pen draw gael caniatâd. Mae'n rhaid sicrhau eu bod nhw'n gywir. Mae'n rhaid i wasanaethau cyfreithiol eu cymeradwyo i sicrhau nad oes rhwystrau cyfreithiol i gyhoeddi. Dyna weithdrefnau arferol ac anochel Llywodraeth mewn unrhyw ran o'r Deyrnas Unedig. Dilynwyd y weithdrefn honno ers i mi siarad ar lawr y Cynulliad ddiwethaf. Rydym ni'n agos at ddiwedd y broses honno, ac, ar ôl iddi gael ei chwblhau, bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi.
Wel, mae hyn wedi bod ar y gweill ers tair blynedd erbyn hyn, Prif Weinidog, a dylem ni gael gweld yr adroddiad hwnnw cyn gynted â phosibl.
A thra ein bod ni'n sôn am ddefnydd Llywodraeth Cymru o arian trethdalwyr, fel y gwyddoch, Prif Weinidog, mae gan gronfa fuddsoddi gwyddorau bywyd Cymru darged buddsoddiad o £100 miliwn i ddenu a thyfu busnesau gwyddor bywyd sydd wedi'u lleoli, neu a fydd yn cael eu lleoli, yma yng Nghymru. Rwy'n cytuno'n llwyr bod y gronfa hon yn arloesol ac yn helpu i ddod â swyddi crefftus i Gymru. Fodd bynnag, gobeithiaf y gwnewch chi ymuno â mi, Prif Weinidog, yn fy mhryder ynghylch sut y mae'r gronfa yn cael ei rheoli. Ers 2016, rheolwyd y Gronfa gan gwmni rheoli cronfeydd a redir gan Arix Bioscience plc, sydd wedi gwneud naw buddsoddiad hyd yma. Fodd bynnag, adroddwyd bod chwech o'r buddsoddiadau hynny wedi eu gwneud i gwmnïau lle mae Neil Woodford yn gyfranddaliwr. Mae'n peri pryder hefyd fod Mr Woodford yn un o brif gyfranddaliwr Arix Bioscience, gyda chyfran o 24 y cant yn y cwmni. Prif Weinidog, a ydych chi'n cytuno ei bod hi'n annerbyniol i bobl fod yn gyfranddalwyr yn y cwmni sy'n rhannu arian trethdalwyr ac yn y cwmnïau sy'n elwa? Ac a ydych chi'n rhannu fy mhryderon bod yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol yn ymchwilio i'r unigolyn hwn erbyn hyn? A pha gamau y byddwch chi'n eu cymryd i sicrhau bod arian trethdalwyr Cymru yn cael ei fuddsoddi'n briodol?
Wel, Llywydd, gadewch i mi ddechrau trwy groesawu'r hyn a ddywedodd Paul Davies am natur a phwrpas y gronfa. Mae'r gronfa wedi bod yn arloesol ac, oherwydd ei bod yn arloesol, mae hi wedi bod yn destun gwaith craffu rheolaidd a sylweddol iawn—adolygiad llawn gan Swyddfa Archwilio Cymru, adolygiad canol tymor annibynnol, cyfres o adroddiadau ar gynnydd a dewisiadau gan Fanc Datblygu Cymru. Mae hefyd, wrth gwrs, yn gronfa reoledig; mae'n cael ei rheoleiddio gan yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Nawr, os oes gan arweinydd yr wrthblaid bryderon penodol, dylai eu codi. Ac os ydyn nhw yn bryderon penodol, byddwn yn ymchwilio iddynt. Os ydyn nhw yn bryderon cyffredinol, sy'n taflu baw gan gysylltu enwau unigolion, pethau blaenorol sydd wedi digwydd a phethau nad oes a wnelon nhw ddim â'r gronfa, yna nid wyf i'n credu bod unrhyw beth yn yr hyn a ddywedodd heddiw y gallaf i weld ei fod yn ddigon penodol i ymchwilio iddo. Os oes ganddo bryderon penodol, rydym ni'n agored i glywed y rheini wrth gwrs, ac, wrth gwrs, bydden nhw'n cael eu hymchwilio. Mae ymddygiad cyffredinol y gronfa bob amser wedi bod yn destun craffu annibynnol gan y sefydliadau sydd gennym ni yma yng Nghymru ac ar lefel y DU, ac nid yw'r Awdurdod Ymddygiad Ariannol erioed wedi mynegi pryder am ymddygiad y gronfa.
Prif Weinidog, mae hyn yn ymwneud â bod yn agored ac yn dryloyw a sut y mae eich Llywodraeth yn gwneud yn siŵr bod gwybodaeth ar gael i'r cyhoedd a bod arian ein trethdalwyr yn cael ei fuddsoddi'n briodol. Mae'n gwbl eglur i mi bod eich Llywodraeth wedi methu â gwrando ar adroddiad Swyddfa Archwilio Cymru yn 2016. Dair blynedd yn ôl, dywedodd yr archwilydd cyffredinol, am gronfa fuddsoddi gwyddorau bywyd Cymru, bod
agweddau ar ei sefydlu, ei llywodraethu, ei goruchwylio a'i gweithrediad cynnar yn ddiffygiol ac wedi eu cofnodi'n wael
ynghylch gwrthdaro buddiannau'r cwmni blaenorol a oedd yn rheoli buddsoddiad, gan anfon arian at gwmnïau yr oedd Syr Chris Evans hefyd yn gyfranddaliwr ynddynt.
Prif Weinidog, unwaith eto, mae'n ymddangos i mi bod eich Llywodraeth yn methu â bod yn dryloyw gyda phobl Cymru. Pam, felly, yn dilyn adroddiad yr archwilydd cyffredinol, y gwnaeth eich Llywodraeth ganiatáu i Arix Bioscience gymryd trosodd y rheolaeth o fuddsoddiadau gwyddorau bywyd? A pham na wnaeth Cyllid Cymru ddysgu ei wers a chraffu'n drylwyr ar fuddsoddiadau yn y dyfodol? Oherwydd mae'n ymddangos i mi bod eich Llywodraeth yn gwneud yr un camgymeriad unwaith eto.
Wel, Llywydd, mae'r Aelod yn cwyno am fod yn agored ac yn dryloyw ac yna'n bwrw ymlaen i ddyfynnu dogfen a gyhoeddwyd yn gyhoeddus mewn modd mor agored a thryloyw ag y gallwch chi fod. Ac esboniais wrtho'n gynharach y nifer fawr o wahanol ffyrdd y mae'r gronfa honno, mewn ffordd agored, wedi ei harsylwi, wedi bod yn destun adroddiadau a'r gwersi a ddysgwyd yn ystod ei chynnydd. Mae'r holl bethau hynny ar gael i'r cyhoedd. Mae angen i arweinydd yr wrthblaid benderfynu pa gwestiwn y mae eisiau ei ofyn. Dechreuodd drwy ofyn cwestiwn am fod yn dryloyw ac yn agored ac yna dyfynnodd o ddogfen sydd ar gael i'r cyhoedd, felly nid wyf i'n gweld beth yw ei broblem yn hynny o beth. [Torri ar draws.] Yna mae'n awgrymu—gallaf glywed ei ffrind y drws nesaf iddo yn gwneud ei orau i'w helpu i ddod o hyd i'r cwestiwn cywir i'w ofyn. Yna, mae'n credu mai'r cwestiwn cywir i'w ofyn oedd am wersi a ddysgwyd. Derbyniodd Llywodraeth Cymru bob argymhelliad a wnaed yn yr adroddiad hwnnw gan Swyddfa Archwilio Cymru, ac nid yw gweithrediad y gronfa ers yr adeg honno erioed wedi cael ei feirniadu gan yr FCA—yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol. Felly, fel y dywedais, os oes gan yr Aelod anawsterau penodol gyda'r gronfa y mae'n credu y dylid ymchwilio iddyn nhw, byddan nhw yn cael eu hymchwilio. Os mai'r cwbl y mae'n dymuno ei wneud yw defnyddio awgrymiadau cyffredinol sy'n seiliedig ar ddim byd ond adroddiadau mewn papurau newydd bod rhywbeth wedi mynd o'i le, nid oes dim byd i ymchwilio iddo ac nid oes dim i gefnogi'r sylwadau y mae ef wedi eu gwneud y prynhawn yma.
Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price.
Diolch, Llywydd. Prif Weinidog, pam wnaeth y tasglu a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru i achub Ford Pen-y-bont ar Ogwr ym mis Hydref 2017 gyfarfod 10 gwaith yn ystod 10 mis cyntaf ei fodolaeth ac yna gyfarfod dim ond unwaith yn ystod yr 11 mis diwethaf, ym mis Mawrth eleni, bron i ddeufis ar ôl i'r cwmni gyhoeddi colli 1,000 o swyddi? Sut y gwnaethoch chi symud o un cyfarfod y mis ar gyfartaledd i oddeutu un cyfarfod y flwyddyn? Nawr, rwy'n deall y ddadl bod llawer mwy o ymgysylltu'n digwydd gyda'r cwmni y tu allan i gyfarfodydd y tasglu. Felly, a allwch chi ddweud yn ystod 2018, yn y cyfnod cyn y cyhoeddiad ym mis Ionawr, sawl gwaith y gwnaeth Gweinidogion gyfarfod gyda swyddogion Ford?
Wel, mae'r Aelod yn garedig yn ateb y cwestiwn yn ogystal â'i ofyn. Ei gwestiwn cyntaf i mi oedd pam y gwnaeth gyfarfod 10 gwaith yn gyflym ac yna gyda bwlch rhwng y cyfarfod nesaf. Mae'r cliw, Llywydd, yn y teitl. Tasglu oedd hwn; roedd ganddo dasg ac aeth ati i'w chyflawni'n gyflym, a chyfarfu'n rheolaidd iawn a chynnwys yr holl bobl yr oedd angen iddyn nhw fod yn rhan o'r gwaith o gyflawni ei gylch gorchwyl. Datblygodd gynnig ar gyfer lle gwag ar y safle, a daeth pob un o bartïon y tasglu i'r casgliad wedyn y byddai'n well bwrw ymlaen â'r cynigion hynny y tu allan i'r tasglu ei hun. Dyna'n union yr hyn a ddigwyddodd. Cefais gyfarfod â Ford yn ystod yr wythnosau cyntaf ar ôl dod yn Brif Weinidog, a chefais gyfarfod â'r undebau llafur a chyfarfod gyda rheolwyr lleol ar y safle hefyd. Bwriwyd ymlaen â chasgliadau'r tasglu hwnnw mewn cyfres o ffyrdd ac mae ymgysylltu rhwng Llywodraeth Cymru, y gweithlu lleol a'r cwmni wedi bod yn gyson drwy'r adeg.
Yn eich rhestr eich hun o apwyntiadau a chyfarfodydd gweinidogol y llynedd, dim ond un cyfarfod sydd wedi'i restru yno gyda Ford yn ystod yr holl flwyddyn hollbwysig honno. Nawr, pan ofynnais yn gynharach y mis hwn a fyddech chi'n hedfan allan i bencadlys y Ford Mortor Company yn Michigan, dywedasoch mai'r cynllun gweithredu yr oeddech chi'n ei ffafrio oedd cyfarfod yn fuan iawn ag uwch wneuthurwyr penderfyniadau Ford Europe, gan mai penderfyniad Ford Europe oedd hwn. A ydych chi wedi cyfarfod wyneb yn wyneb â'r cynrychiolwyr hynny o Ford Europe erbyn hyn? Ac a allwch chi ddweud pam yr ydych chi'n anghytuno â Len McCluskey o Unite pan ddywed bod y penderfyniadau ynghylch Ford UK yn cael eu gwneud yn y pen draw o amgylch y bwrdd yn ystafell y bwrdd yn Detroit?
Llywydd, nid yn unig yr wyf i wedi cael sgwrs uniongyrchol gyda Ford Europe, ond rwyf i hefyd wedi cael sgwrs uniongyrchol gyda chynrychiolwyr Ford yn yr Unol Daleithiau hefyd. Ac roedd honno'n sgwrs a oedd yn cynnwys nid yn unig y staff uchaf ar lefel UDA a'r staff uchaf ar y lefel Ewropeaidd, ond roedd hefyd yn cynnwys Ford UK hefyd. Gall yr Aelod fod yn gwbl sicr bod y Llywodraeth hon yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud ein gorau i roi gyrfaoedd pobl sy'n gweithio yn Ford ar frig ein hagenda, a bod popeth yr ydym ni'n ei wneud yn ymroddedig i ganfod ffyrdd ymlaen lle gall y gweithlu ymroddgar, teyrngar a medrus hwnnw weld dyfodol iddyn nhw eu hunain a'u teuluoedd.
O ran yr hyn a fydd yn digwydd nawr, a ydych chi wedi astudio datblygiadau diweddar yn ymwneud â'r ffaith bod Ford wedi cau ei ffatri yn Blanquefort yn Ffrainc a gyhoeddwyd y llynedd, gan golli 850 o swyddi? Canfuwyd prynwr gan Lywodraeth Ffrainc a luniodd becyn buddsoddi, ond rhwystrodd y Ford Motor Company y gwerthiant ar sail fasnachol, gan arwain at golli'r 850 o swyddi hynny. A fyddech chi'n cefnogi polisi o wladoli dros dro os bydd Ford yr un mor rhwystrol yma? Ac er ein bod ni'n gobeithio bod y tasglu newydd a sefydlwyd gennych erbyn hyn yn gallu darbwyllo mwy ar Ford nag yr oedd yr hen dasglu yn gallu ei wneud, pa neges yr hoffech chi ei hanfon at gydbwyllgor negodi cenedlaethol undeb llafur Ford sydd yn cyfarfod heddiw, rwy'n credu, i ystyried gweithredu streic ledled y DU?
Llywydd, bydd Ford yn aelod allweddol o'r grŵp yr ydym ni wedi ei sefydlu i weithio ar yr hyn sy'n digwydd o ganlyniad i'r cyhoeddiad a wnaed. Byddan nhw'n rhan o'r gwaith hwnnw—ac fe roesant y sicrwydd pendant hwn y bydden nhw'n chwarae rhan fawr ac adeiladol o ran helpu i sicrhau beth bynnag y gallwn ar gyfer dyfodol y gweithlu hwnnw. Fy neges i i'r undebau llafur yw'r un yr wyf i eisoes wedi ei rhoi iddyn nhw pan gefais gyfarfod â nhw wyneb yn wyneb—y byddwn yn sefyll ochr yn ochr â nhw i sicrhau bod eu dyfodol yn flaenllaw ym mhopeth yr ydym ni'n ei wneud. A phan fyddaf yn siarad â'r gweithwyr Ford hynny, byddaf yn rhoi sicrwydd iddyn nhw mai eu gyrfaoedd nhw sydd bwysicaf i ni yn hyn i gyd a bod gennym ni fwy o ddiddordeb, yn wahanol i'r Aelod gyferbyn, mewn sicrhau eu gyrfaoedd nhw nag mewn datblygu ei yrfa ei hun.
Arweinydd Plaid Brexit, Mark Reckless.
Prif Weinidog, cyhoeddodd eich Gweinidog sy'n Ddemocrat Rhyddfrydol ddatganiad ddydd Iau yn gwanhau atebolrwydd ysgolion yng Nghymru ymhellach. Bydd ei mesurau newydd yn dileu'r pwyslais ar y mesur lefel 2 cynhwysol ar gyfer TGAU, er bod y ffin honno rhwng gradd C a D mor bwysig ar gyfer yr ysgol a'r brifysgol, yn enwedig mewn mathemateg a Saesneg, pan fydd pobl yn ystyried cyflogaeth yn y dyfodol. Bydd targedau â mesuriad penodol yn cael eu dileu ac, yn hytrach, bydd ysgolion yn pennu eu targedau amhenodol eu hunain. Dywedir wrthym fod eich Llywodraeth chi, neu'r elfen Democratiaid Rhyddfrydol o leiaf, yn credu y bydd y newidiadau hyn yn rhoi mwy o ymreolaeth i ysgolion wella eu hunain. Onid ydyn nhw hefyd yn rhoi mwy o gyfle i ysgolion ddirywio heb i rieni allu eu dwyn i gyfrif?
Wel, nid yw hynny'n wir o gwbl, Llywydd. Mae'r cynlluniau y mae'r Llywodraeth hon wedi eu datblygu, ac a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Addysg yr wythnos diwethaf, yn ymwneud â sicrhau bod y ffordd yr ydym ni'n asesu perfformiad ysgol yn cynrychioli perfformiad yr ysgol honno yn ei holl agweddau—ein bod ni'n rhoi mwy o ymddiriedaeth i'r gweithwyr proffesiynol sydd yno yn yr ystafell ddosbarth ac yn arwain yr ysgolion hynny i nodi'r materion sydd bwysicaf yn y cyd-destun lleol hwnnw. Wrth gwrs, bydd gennym ni atebolrwydd o'r tu allan hefyd, ond pobl ar lawr gwlad, yn ein barn ni, sydd yn y sefyllfa orau i wneud y penderfyniadau unigol hynny am y ffordd y gellir gwneud y gwahaniaeth mwyaf i boblogaethau eu hysgolion. Mae'r cynlluniau sydd gennym ni ar waith yn gwneud hynny, ac nid ydyn nhw am eiliad yn camu yn ôl oddi wrth ein penderfyniad i sicrhau bod addysg i bob un o'n plant yng Nghymru y gorau y gall fod.
Ond os na fyddwch chi'n cyhoeddi'r canlyniadau, os byddwch chi'n trin tablau cynghrair fel ymadrodd budr, os byddwch chi'n dweud wrth bob ysgol i fesur beth bynnag y mae'n dymuno a dwyn eu hunain i gyfrif, sut ar y ddaear y mae rhieni yn mynd i farnu'r hyn y mae ysgolion yn ei gyflawni a gwneud penderfyniadau ynghylch ble maen nhw eisiau i'w plant fynd i'r ysgol? Y ffaith amdani yw bod mesurau atebolrwydd yng Nghymru—. Gadewch i ni ystyried ysgolion cynradd, Kirsty Williams. Trafodwyd hyn gennym ddwy neu dair blynedd yn ôl pan ddywedais fod y mesurau a oedd ar gael i gymharu ysgolion cynradd yn llawer yn llai nag yr oedden nhw yn Lloegr, ac fe wnaethoch dynnu fy sylw, a hynny'n briodol, at y ffaith, mewn gwirionedd, ers 2014, bod Estyn wedi cynyddu'r atebolrwydd hwnnw ac wedi rhoi lefelau 4 a 5 ar gyfer cyfnod allweddol 2 yn ei adroddiad. Yn anffodus, ers diwedd 2017 o leiaf, mae'n ymddangos bod hynny, unwaith eto, wedi peidio â digwydd, ac mae'r mesurau atebolrwydd wedi mynd tuag at yn ôl.
Felly, mae pobl yn dibynnu fwyfwy ôl ar y Rhaglen Ryngwladol Asesu Myfyrwyr, lle mae'r cymariaethau'n hollol erchyll. Rydym ni ymhell islaw'r cyfartaledd o ran bob un o'r tri chymharydd, tra bod Lloegr yn uwch na'r cyfartaledd. Rydym ni'n 478 o ran mathemateg, 490 yw'r cyfartaledd ac mae'n 493 ar gyfer Lloegr. O ran darllen, rydym ni ar 477, 493 yw cyfartaledd y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, ac mae'n 500 yn Lloegr—ac yn debyg o ran mathemateg. Onid yw'n wir, o dan arweinyddiaeth y Democratiaid Rhyddfrydol, bod addysg yng Nghymru wedi dirywio ymhellach? Mae'n fwy a mwy anodd i unrhyw un ei ddwyn i gyfrif gan na wnewch chi gyhoeddi'r wybodaeth i ganiatáu iddyn nhw wneud hynny. Onid yw'n risg y bydd pethau'n dirywio ymhellach fyth, gan fod Kirsty Williams yn caniatáu i ysgolion farcio eu gwaith cartref eu hunain?
Diolch, Llywydd. Wel, edrychaf ymlaen at gyfres ddarlithoedd yr Aelod, lle gallwn fwynhau ei farn ar sail fwy hirfaith fyth. Wrth gwrs, mae'n gwneud dau gamddealltwriaeth sylfaenol yn ei gwestiwn. Y cyntaf yw nad oes ganddo unrhyw syniad sut y mae Llywodraeth Cabinet gyfunol yn gweithio. Mae pob aelod o'r Cabinet hwn yn aelod cyfartal o'r Cabinet, ac yr un mor ymrwymedig iddo. Mae ei aelodaeth led-wahanedig o lawer o bleidiau o gwmpas y Cynulliad hwn yn ei roi mewn sefyllfa wael iawn o ran deall yr egwyddor sylfaenol honno.
A bradychodd ei hun, beth bynnag, yn ei frawddegau cyntaf. Bradychodd ei hun gyda'r frawddeg gyntaf honno, oherwydd yr hyn y mae'n credu ynddo, Llywydd, yw marchnadeiddio addysg. Mae'n credu yn y dull tabl cynghrair hwnnw o ymdrin ag addysg lle'r ydym ni'n trin addysg fel nwydd, lle'r ydym ni'n deall dim am ei gwerth, lle nad ydym yn deall o gwbl y ffordd y mae gan rieni ddealltwriaeth well o lawer o'r hyn sy'n digwydd yn eu hysgolion nag y bydd ganddo ef fyth ar eu rhan.
Pan edrychwch chi ar y canlyniadau a gyhoeddwyd yr wythnos diwethaf, nid yn unig o ran y gwasanaeth iechyd a gwerthfawrogiad y cyhoedd o wasanaethau iechyd yng Nghymru, byddwch yn gweld yn y fan honno barn rhieni yng Nghymru ar yr addysg y mae eu plant yn ei chael. Mae'n ddarlun hollol wahanol i'r un y mae ef yn ceisio ei bortreadu, ac mae hynny oherwydd, Llywydd, yn y pen draw, nad oes gan yr Aelod ddim math o syniad o'r ffordd y mae pobl yng Nghymru yn gwerthfawrogi gwasanaethau cyhoeddus, wedi pleidleisio o blaid y dull gweithredu sydd gennym ni ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus. Daw ef â meddylfryd hollol wahanol. Wythnosau'n unig sydd wedi mynd heibio ers iddo fy ngwahodd, yn eistedd mewn gwahanol blaid yn y fan yna, i ymuno ag ef i ddathlu bywyd a gwaith Margaret Thatcher—[Torri ar draws.] Wel, rwyf i'n ei gofio.
Pryd oedd hynny?
Rwy'n cofio'r cwestiwn yn dda iawn, hyd yn oed os nad yw ef.
Ar y newid yn yr hinsawdd.
Os nad yw'n deall beth fu'r etifeddiaeth honno yma yng Nghymru, os nad yw'n deall yn union pa mor bell y mae ei farn ar y ffordd y dylid gwneud pethau ar wahân i rai pobl yng Nghymru, nid yw'n syndod i mi ei fod wedi gwneud camgymeriadau mor sylfaenol yn y cwestiynau a ofynnodd i mi y prynhawn yma.
3. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog a chefnogi tyddynwyr yng Nghymru? OAQ54136
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna. Mae tyddynwyr yn chwarae rhan bwysig o ran gofalu am ein tirwedd a chyfrannu at ein heconomi. Maen nhw'n gymwys ar gyfer ein gwasanaeth cyngor Cyswllt Ffermio, yn ogystal â chynllun y taliad sylfaenol ac amrywiaeth o gymorth arall gan Lywodraeth Cymru, fel y grant busnes fferm.
A gaf i ddiolch i'r Prif Weinidog am yr ateb yna? Mae'n siŵr y bydd eisiau ymuno â mi i longyfarch Tyddynwyr Morgannwg, a gynhaliodd arddangosfa ardderchog yn y Senedd yr wythnos diwethaf, yn arddangos holl ystod eu gwaith a pha mor arloesol ydoedd, a hefyd, rwy'n credu, am y tro cyntaf, Llywydd—gyda'ch caniatâd chi rwy'n siŵr—daethant â rhai anifeiliaid i'r ystâd. Aeth llawer o Aelodau yno a'u gweld wrth ochr y Pierhead.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn cofio rhan mor hanfodol o'r economi amaethyddol yw tyddynwyr, a'r angen i'r Llywodraeth ymgynghori â nhw a chydnabod eu harloesedd, a'u cynnwys yn y gwaith o ddatblygu polisïau, yn enwedig ar ôl Brexit. Cyfeiriasoch at gynllun y taliad sylfaenol. Wrth gwrs, mae hwnnw wedi ei bennu ar gyfer maint lleiaf o 5 hectar neu 12.4 erw yng Nghymru. Mae hwnnw'n rhywbeth a allai, wrth i ni symud at gydnabod nwyddau cyhoeddus, fod yn briodol i annog tyddynwyr i ddarparu gwasanaethau fel ymweliadau ysgol ac effeithiau amgylcheddol eraill y gallan nhw eu gwneud hefyd. Mae hwn yn sector na ddylem ni ei anghofio. Mae'n wirioneddol bwysig i ffyniant bywyd gwledig.
Diolchaf i David Melding am hynna ac rwy'n ei longyfarch ar noddi'r digwyddiad Tyddynwyr Morgannwg yr wythnos diwethaf. Roeddwn i, fy hun, yn bresennol mewn rhai digwyddiadau a gynhaliwyd ganddyn nhw yn y fan yma yn y gorffennol, ac maen nhw'n gyfle, bob amser, i arddangos ffermio Cymru, bwyd o Gymru, a'r ymrwymiad sydd gan y sector i'r safonau uchaf. Roedd yn braf gweld y daethpwyd ag anifeiliaid yma, hefyd, o Forgannwg—rwy'n siŵr bod anifeiliaid o rannau eraill o Gymru ar gael hefyd, Llywydd, i ymweld â ni yn y fan yma. Ond rydym ni eisiau parhau fel Llywodraeth i gefnogi tyddynwyr Cymru.
Mae gan Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ŵyl tyddynnod a chefn gwlad, y mae Llywodraeth Cymru yn helpu i'w noddi, ac roedd y prif filfeddyg ac eraill yn bresennol yno. Mae Cyswllt Ffermio yn cynnig cyfres o ddigwyddiadau o'r enw 'Byw oddi ar 10 erw', sydd wedi eu hanelu'n benodol iawn at y sector tyddynnod. Er bod yn rhaid i dyddynwyr fod â 5 hectar fel isafswm maint i fod yn gymwys ar gyfer cynllun y taliad sylfaenol, nid oes cyfyngiad maint ar y grant busnes fferm yma yng Nghymru, ac rydym ni'n annog tyddynwyr sydd â diddordeb mewn arallgyfeirio, wrth ddarparu nwyddau cyhoeddus o'r math a ddisgrifiodd David Melding, i wneud cais am y grant hwnnw fel y gallwn barhau i'w helpu i arloesi ac arallgyfeirio.
Mae'r rhan fwyaf o dyddynnod yn fusnesau sy'n cael eu rhedeg gan deuluoedd, sydd angen ategu eu hincwm gyda ffynonellau eraill fel twristiaeth. Maen nhw'n gwneud cyfraniad mawr at ein heconomïau gwledig. Maen nhw hefyd yn tueddu i werthu'n lleol, gan leihau milltiroedd bwyd a bod yn llesol i'n hamgylchedd. Yn fy marn i, mae cyflenwi a bwyta bwyd cartref yn nes at adref yn gwneud synnwyr perffaith. Prif Weinidog, beth all eich Llywodraeth chi ei wneud i annog mwy o gynhyrchu bwyd yn lleol?
Llywydd, gadewch i mi gytuno â'r hyn y mae'r Aelod wedi ei ddweud am bwysigrwydd tyddynnod i'w heconomïau lleol; y ffordd y bu'n rhaid i arallgyfeirio fod yn rhan o'r hyn y mae'n rhaid i berchennog tyddyn feddwl amdano erioed, oherwydd ar ei ben ei hun, mae'n annhebygol o allu cefnogi teulu. Yn ogystal â'r pethau y soniais amdanyn nhw yn fy ateb i David Melding, bydd Cyswllt Ffermio yn cynnal sioe arloesi ac arallgyfeirio ar 26 Medi eleni. Bydd yn gyfle i ddod â thyddynwyr o bob cwr o Gymru ynghyd. Mae'n sicr y bydd pwyslais ar gynhyrchu bwyd a chynhyrchu bwyd yn lleol, ac i gefnogi'r sector yn yr ymdrechion y mae'n eu gwneud i ddarparu'r cynhyrchion hynny y gellir eu gwerthu'n lleol ond y mae ganddyn nhw farchnad ymhellach i ffwrdd yn aml hefyd.
A gaf innau hefyd ganmol David am ddigwyddiad ardderchog, yn cynnal cymdeithas Tyddynwyr Morgannwg? Edrychwn ymlaen at ei weld yn dod yn ôl y flwyddyn nesaf yn fwy ac yn well eto. Ond a gaf i ofyn i'r Prif Weinidog: beth yw ei weledigaeth, ar gyfer tyddynwyr a rheolwyr tir eraill mewn sefyllfa ôl-Brexit? Dim ond ychydig flynyddoedd yn ôl y dathlwyd hanner canmlwyddiant y polisi amaethyddol cyffredin, ac roedd hwnnw'n mynd i newid pa un a oeddem ni'n aros yn yr UE ai peidio, ond rydym ni mewn sefyllfa wahanol iawn erbyn hyn. Felly, yn y dyfodol, a all ef gyflwyno'r weledigaeth honno am ba mor wahanol yw'r dyfodol hwnnw mewn sefyllfa ôl-Brexit, a pha gyfleoedd, os oes rhai, a fyddai ar gyfer gwahanol fath o reoli tir?
Diolchaf i Huw Irranca-Davies am hynna. Cefais gyfle i siarad yng nghyfarfod blynyddol cyffredinol Undeb Amaethwyr Cymru yr wythnos diwethaf yn Aberystwyth, a dyma'n union oedd y pwynt trafod yn y cyfarfod hwnnw. Os bydd y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, yna bydd cymorthdaliadau uniongyrchol o dan y PAC yn dod i ben, a dyna pam mae cymaint o ymdrech wedi ei gwneud yng Nghymru, drwy 'Brexit a'n tir', i ddechrau cymryd ein dyfodol i'n dwylo ein hunain. Cawsom ymateb gwych i'r ymgynghoriad hwnnw, dros 12,000 o ymatebion iddo, ac rydym ni ar fin cyhoeddi cyfres o gynigion olynol pryd y byddwn yn dysgu o'r ymgynghoriad hwnnw ac yn cyflwyno cynigion ar gyfer ffermio cynaliadwy lle bydd cynhyrchu bwyd yn gynaliadwy a defnydd cynaliadwy o'r tir, stiwardiaeth amgylcheddol y tir, yn dod ynghyd i ddarparu'r dyfodol cynaliadwy hwnnw. Edrychaf ymlaen at gael trafodaethau pellach gyda buddiannau ffermio a rheolwyr tir eraill ym maes coedwigaeth ac yn y blaen i ganfod ffyrdd, cyn belled â bod yr adnoddau gennym ni yma yng Nghymru yr ochr arall i'r PAC, ac rydym ni'n ymrwymedig i ddefnyddio'r adnoddau hynny i barhau i gefnogi cymunedau gwledig ac amaethyddol, i wneud hynny mewn ffordd sy'n gwobrwyo ffermwyr gweithgar am y gwaith y maen nhw'n ei wneud ym maes cynhyrchu bwyd, ond hefyd am y gwaith y maen nhw'n ei wneud o ran sicrhau nwyddau cyhoeddus y mae'r cyhoedd yn barod i wneud buddsoddiad ynddyn nhw.
4. A wnaiff y Prif Weinidog amlinellu cynlluniau Llywodraeth Cymru i ddiogelu adeiladau rhestredig yng Nghymru? OAQ54139
Mae adeiladau rhestredig yn rhan bwysig o'n treftadaeth ac yn cael gwarchodaeth arbennig mewn deddfwriaeth, a atgyfnerthwyd yn ddiweddar gan Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru), a basiwyd yma yn y Cynulliad Cenedlaethol hwn yn 2016. Yn ystod yr hydref hwn, bydd Cadw yn lansio rhaglen hyfforddi ar gyfer timau cadwraeth awdurdodau lleol, gan ganolbwyntio ar swyddogaeth camau gorfodi i ddiogelu adeiladau rhestredig.
Ie, diolch am hynna, ac edrychaf ymlaen at weld adroddiadau ar gynnydd gan Cadw. Cawsom bwyslais ychydig yn wahanol gennych chi pan oeddech chi'n ateb cwestiwn gan Nick Ramsay yn ddiweddar am fater cynllunio penodol yn ei ardal ef. Dywedasoch bryd hynny eich bod yn ystyried adolygu'r rheolau yn ymwneud ag apeliadau cynllunio. Roedd y cwestiwn yn ymwneud ag adeiladau rhestredig, felly yng ngoleuni'r ymateb hwnnw, a gaf i ofyn i chi am fwy o fanylion am hynny ac am unrhyw amserlen ar gyfer cynnydd yn hynny o beth?
Llywydd, gadewch i mi fod yn eglur ynghylch natur y drafodaeth a gefais gyda Nick Ramsay yr wythnos diwethaf. Roedd Nick yn cyfeirio at Troy House yn ei etholaeth ef, adeilad rhestredig lle mae ymdrechion diweddar i ddod o hyd i ddyfodol iddo wedi bod yn anodd. Gofynnodd Nick Ramsay gwestiwn i mi am y ffordd y mae rheolau cynllunio naill ai'n cefnogi neu'n rhwystro defnydd hyfyw a chynaliadwy o'r adeiladau hynny. Ymgymerais i wneud yn siŵr ein bod ni'n edrych ar y llyfr rheolau cynllunio fel bod y system gynllunio, pan fydd gan adeilad rhestredig ddefnydd hyfyw a chynaliadwy, yn cymryd ei statws fel adeilad rhestredig i ystyriaeth. Oherwydd yn y pen draw, Llywydd, nid yw rhestru ar ei ben ei hun yn ddigon.
Mae gennym ni dros 30,000 o adeiladau sydd wedi eu rhestru yma yng Nghymru, ac nid yw rhestru ar ei ben ei hun yn sicrhau dyfodol i'r adeilad hwnnw. Mae'n rhaid i'r adeilad gael dyfodol y tu hwnt i'w restru ac mae hynny'n golygu dod o hyd i ddefnydd iddo yn y dyfodol a fydd yn rhoi'r defnydd ymarferol hwnnw iddo a'r dyfodol hirdymor hwnnw iddo. Dyna yr ydym ni eisiau ei ddarparu yma yng Nghymru. Rydym ni'n darparu cymorth ariannol i asedau cymunedol hanesyddol, neuaddau cymunedol, addoldai hanesyddol ac yn y blaen. Mae mwyafrif yr adeiladau rhestredig mewn dwylo preifat, ac mae'n rhaid i berchenogion preifat chwarae eu rhan hefyd i ddod o hyd i'r defnyddiau hynny a fydd yn rhoi dyfodol hirdymor i'r adeiladau hynny.
Roeddwn i'n falch o'ch clywed chi'n cyfeirio at addoldai nawr, Prif Weinidog. Un o'r cymunedau a fu'n fywiog iawn yng Nghymru ar un adeg ac, yn wir, a oedd â chymunedau ffydd ar draws y wlad, oedd y gymuned Iddewig. Yn anffodus, mae nifer y bobl yn y gymuned Iddewig ledled Cymru wedi gostwng yn y blynyddoedd diwethaf, ac maen nhw fwy neu lai wedi eu cyfyngu i Gaerdydd, Abertawe a Llandudno yn y gogledd erbyn hyn. Yn aml iawn, serch hynny, mae'r addoldai hynny wedi eu colli i genedlaethau'r dyfodol. A gwn fod Dawn Bowden, wrth gwrs, wedi bod yn ymgyrchu'n frwd, a hynny'n gwbl briodol, dros synagog ffantastig yn ei hetholaeth ei hun. Ond, yn anffodus, rwyf i wedi colli mannau yn fy etholaeth i, mewn lleoedd fel Bae Colwyn, lle'r oedd synagog ers talwm. A allwch chi ddweud wrthym ni beth yr ydych chi'n ei wneud fel Llywodraeth i ddiogelu'n arbennig yr olion olaf, os mynnwch chi, o dreftadaeth y gymuned Iddewig yma yng Nghymru, o gofio pwysigrwydd hyn i wead a hanes cyfoethog ein gwlad?
Diolchaf i Darren Millar am y cwestiwn yna. Mae'n hollol iawn i dynnu sylw at y newidiadau yn natur y gymuned Iddewig yma yng Nghymru, a'r etifeddiaeth gyfoethog, yn yr amgylchedd adeiledig, ond hefyd mewn llawer o ffyrdd eraill, y mae'r gymuned honno yn ei chynnig. Yn fy etholaeth fy hun, ceir ffryntiad rhestredig i synagog y bydd Aelodau wedi sylwi arno ar Cathedral Road yn y fan yma. Ceir gweithgareddau lleol. Gofynnodd Darren Millar i mi yr wythnos diwethaf am hanes lleol, ac rwy'n siŵr y bydd wedi gweld arddangosfa leol ym Mangor a gynhaliwyd yn gynharach eleni a oedd yn olrhain hanes pobl Iddewig yn y rhan honno o Gymru. Ac arddangosfa hynod ddiddorol oedd hi hefyd.
Rwyf i wedi bod yn gweithio gyda rhai grwpiau buddiant Iddewig i weld pa un a allem ni gael arddangosfa yma yn y Cynulliad Cenedlaethol, yn tynnu sylw at hanes pobl Iddewig yma yng Nghymru. Ac mae'r Gweinidog Addysg yn cyfarfod â phobl ynghylch hynny yr wythnos nesaf hefyd. Felly, mae camau y mae angen i ni eu cymryd, rwy'n cytuno, ar yr adeg hon yn hanes y gymuned honno, i wneud yn siŵr bod pobl yn ymwybodol o'r dreftadaeth hynod gyfoethog honno. A phan fo pethau y gellir eu gwneud i'w chadw ac i dynnu sylw'r cyhoedd yn ehangach ati, bydd Llywodraeth Cymru yn awyddus i chwarae ein rhan yn hynny.
5. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am gynnydd bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd? OAQ54105
Diolchaf i Hefin David am hynna. Mae bargen ddinesig prifddinas-ranbarth Caerdydd yn parhau i wneud cynnydd o ran camau allweddol, fel ei metro gwerth £30 miliwn ynghyd â chynigion ym maes trafnidiaeth, cronfa buddsoddi mewn tai i helpu i gyflwyno safleoedd heriol sydd wedi arafu, a'i chynllun arloesol i raddedigion sy'n lleoli graddedigion mewn busnesau preifat mewn ardaloedd twf.
Er mwyn mynd i'r afael â phroblemau ceisiadau cynllunio ar hap ar hyd llain yr M4 ar dir â galw uchel amdano, mae'n rhaid i ni weithio gyda'n gilydd ar sail drawsbleidiol, ac mae angen i bleidiau o bob lliw gydweithio i geisio datrys y problemau hyn. Y peth cyntaf a wneuthum pan gefais fy ethol yn 2016 oedd galw ar Lywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol i ddatblygu cynllun datblygu strategol ar gyfer y de-ddwyrain, a darparwyd ar gyfer hynny yn y gyfraith gan Ddeddf Cynllunio (Cymru) 2015, yr oedd Llywodraeth Cymru wedi ei chyflwyno yn 2015.
Mae'n rhaid ei wneud ar sail drawsbleidiol, ac rwy'n falch o weld bod 10 awdurdod lleol y brifddinas-ranbarth yn cydweithio erbyn hyn i lunio'r cynllun rhanbarthol hwnnw ar gyfer y de-ddwyrain a fydd yn galluogi awdurdodau lleol i weithio ar draws ffiniau yng Nghymru nad yw cynlluniau datblygu lleol yn ei ganiatáu. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd gyda'r cynllun datblygu strategol, a hefyd amlinellu'r hyn y mae ef a Llywodraeth Cymru yn ei wneud i dargedu'r angen am dai yn yr ardaloedd lle mae angen i ni adeiladu tai, nid y rhai lle mae'r galw mwyaf, a'r hyn y mae'n ei wneud i frwydro'r datblygwyr mawr nad ydyn nhw'n poeni o gwbl am gymunedau lleol—y datblygwyr cartel, cwmnïau fel Redrow?
Diolchaf i'r Aelod am y cwestiwn yna, a gwn y bydd yn falch o gael cydnabyddiaeth o'r ffaith bod cyd-gabinet bargen ddinesig prifddinas Caerdydd wedi cytuno erbyn hyn i ddatblygu cynllun datblygu strategol ar gyfer y rhanbarth. A, Llywydd, mae hwnnw'n gam sylweddol ymlaen, gan ei fod yn golygu bod pob un o'r 10 cyngor sy'n cyfrannu wedi cytuno'n unigol i ddirprwyo'r cyfrifoldeb hwn i'r lefel ranbarthol honno. Nid oedd datblygu cynllun datblygu strategol yn rhan o'r cydgytundeb gwreiddiol a sefydlodd y fargen ddinesig ac rwy'n credu ei fod yn arwydd gwirioneddol o'r uchelgais sydd gan arweinyddion y fargen eu bod wedi gallu dod at ei gilydd fel hyn. Felly, rwy'n llongyfarch pawb sydd wedi cymryd yr awenau yn y mater, enwebwyd cynghorau Bro Morgannwg a Chaerffili, rwy'n credu, i arwain y broses, ac, wrth gwrs, edrychwn ymlaen at weld canlyniad hynny yma.
Bydd yn rhan o'r ymdrech gyffredinol honno yr ydym ni'n ei gwneud fel Llywodraeth i wneud yn siŵr bod yr angen hwnnw am dai yn ogystal â'r galw am dai yn cael eu cydnabod yn y ffordd yr ydym ni'n cyflawni ein cyfrifoldebau, wrth hyrwyddo adeiladu, fel y dywedais mewn ateb i gwestiwn cynharach, yn y ffordd yr ydym ni'n diogelu tenantiaid yn y sector rhentu preifat, yn y ffordd yr ydym ni wedi atal gwerthu tai cyngor, sy'n lleihau'r stoc tai. Mae'r rheini i gyd yn fesurau y mae'r Llywodraeth hon yn eu cymryd i roi'r pwyslais ar angen yn ogystal â galw, a chredaf y bydd y camau sy'n cael eu cymryd nawr gan gabinet prifddinas Caerdydd yn gyfraniad pwysig iawn at hynny yn y rhan hon o Gymru.
Prif Weinidog, rwy'n ddiolchgar iawn o gael gwrando ar yr ateb yna a'r model gweithio mwy cydweithredol sy'n bodoli yn y cysyniad bargen ddinesig. Un peth sydd wedi newid yw polisi'r Llywodraeth, yn eithaf sylweddol, yn yr ychydig wythnosau diwethaf gyda'r datganiad o argyfwng newid yn yr hinsawdd, gwahanol safbwyntiau a wnaed gan y Gweinidog ar aer glân, er enghraifft, mae gennym ni lleihau carbon y prynhawn yma, ac arwyddion o ddeddfwriaeth yn y dyfodol a allai gael ei chyflwyno yn ystod y ddwy neu dair blynedd nesaf. Sut mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda bwrdd y fargen ddinesig i sicrhau bod nodau ac uchelgeisiau'r hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio ei gyflawni drwy ei chynigion deddfwriaethol a'i safbwyntiau polisi yn hysbysu'r penderfyniadau ar lefel bwrdd y fargen ddinesig, a fydd, yn amlwg, yn gyfrifol am weithredu llawer o hyn ar lawr gwlad, yn enwedig o ran prosiectau adfywio ac adnewyddu?
Llywydd, a gaf i adleisio'r pwynt y mae Hefin David ac Andrew Davies wedi ei wneud am bwysigrwydd gallu cynghorau i weithio ar draws nid dim ond ffiniau daearyddol ond ffiniau gwleidyddol hefyd? Credaf fod hwnnw wedi bod yn un o gryfderau bargen prifddinas Caerdydd—ei bod wedi cael pleidiau o wahanol argyhoeddiad gwleidyddol a heb un sydd wedi llwyddo i ddod at ei gilydd ar agenda gyffredin. Felly, cytunaf â'r ddau gyfraniad o ran pwysleisio pwysigrwydd hynny. Gellir gweld y cyfraniad y gall y fargen ei wneud o ran y newid yn yr hinsawdd mewn cyfres o gamau y mae eisoes yn eu cymryd. Cyfeiriais at y rhaglen metro a mwy gwerth £30 miliwn y mae'r fargen ddinesig wedi ei chytuno, ac mae hynny'n golygu trafnidiaeth integredig yn ogystal â mathau newydd o drafnidiaeth. Mae'n gwneud yn siŵr bod pobl yn gallu gwneud defnydd mor hawdd â phosibl o'r cyfleusterau trafnidiaeth gyhoeddus yr ydym ni fel Llywodraeth Cymru a'r gwahanol awdurdodau lleol yn eu cefnogi yn eu hardaloedd. Mae hefyd yn golygu, i ddychwelyd at gwestiwn Hefin David, pwyslais newydd ar adeiladu a safonau adeiladu mewn datblygiadau newydd. Rydym ni'n gwybod, fel Llywodraeth ac fel cenedl, bod gennym ni her wirioneddol o ran ôl-ffitio tai a adeiladwyd yn y gorffennol heb gydymffurfio â'r safonau cywir, a lle, er mwyn sicrhau niwtraliaeth garbon, y mae'n rhaid i ni fynd yn ôl a chyflwyno mesurau newydd yno. Ni allwn fforddio bod yn adeiladu heddiw y genhedlaeth nesaf o dai y bydd angen eu hôl-ffitio yn y dyfodol. Mae gwaith cabinet y fargen ddinesig o wneud yn siŵr bod y gwaith y mae'n ei wneud ym maes tai a chynllunio yn adeiladu tai a fydd yn para ar gyfer y dyfodol ac yn chwarae eu rhan i fynd i'r afael â'r newid yn yr hinsawdd yn rhywbeth yr wyf i'n siŵr y byddan nhw'n ymwybodol iawn ohono.
6. A wnaiff y Prif Weinidog ddatganiad am hyrwyddo defnyddio'r Gymraeg wrth ddarparu gwasanaethau cyhoeddus? OAQ54109
Diolchaf i Helen Mary Jones am hynna. Mae Safonau'r Gymraeg yn darparu'r sail ar gyfer ehangu'r defnydd o'r Gymraeg mewn gwasanaethau cyhoeddus. Mae 125 o gyrff yn ddarostyngedig i'r safonau hynny ar hyn o bryd.
Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am ei ateb. Yng nghyd-destun y ddadl a gawsom ynghylch y materion hyn yr wythnos diwethaf yn y Siambr, hoffwn wahodd y Prif Weinidog i gofnodi ei ddealltwriaeth eglur iawn nad yw'r ddarpariaeth o wasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg ym maes gofal iechyd a gofal cymdeithasol ddim ond yn golygu bod pobl yn gallu manteisio ar eu hawliau iaith yn unig, mae hefyd yn arwain at ganlyniadau clinigol gwell—mae pobl yn gwella'n gyflymach—ac mae hyn yn arbennig o wir am rai o'n dinasyddion mwyaf agored i niwed fel pobl hŷn â dementia.
O gofio bod 90 y cant o'n gofal iechyd yn digwydd yn y sector sylfaenol, a yw'r Prif Weinidog yn derbyn bod angen i'w Lywodraeth fod yn fwy uchelgeisiol nawr o ran yr hyn a ddisgwylir gan ddarparwyr sector sylfaenol, gan dderbyn bod llawer o'r rheini yn ddarparwyr annibynnol a bod perthynas ei Lywodraeth â nhw rywfaint yn wahanol i'r berthynas â'r byrddau iechyd? Ac a allai ymrwymo heddiw efallai i gael sgwrs bellach gyda'r Gweinidog iechyd a Gweinidog y Gymraeg i weld a oes unrhyw beth y gellir ei wneud i gyflymu'r ddarpariaeth o ofal sylfaenol drwy gyfrwng y Gymraeg i'r holl gleifion hynny yng Nghymru sydd ei eisiau, lle bynnag y maen nhw'n byw?
Llywydd, rwy'n falch iawn o gofnodi fy nghred bod darparu gwasanaethau drwy gyfrwng yr iaith y mae'r defnyddiwr yn teimlo'n fwyaf cyfarwydd â hi nid yn unig yn fantais o ran ein dymuniad i weld y Gymraeg yn cael ei hymestyn, ond ym maes iechyd a gofal cymdeithasol, ei fod hefyd yn cael effaith ar ansawdd y gwasanaeth a ddarperir. Ac rydym ni wedi trafod yn y fan yma lawer gwaith ar lawr y Cynulliad hwn pa mor bwysig yw hynny, er enghraifft, mewn gofal seiciatrig, lle mae'r angen i chi fynegi eich meddyliau a'ch teimladau trwy gyfrwng iaith nad yw'n un y byddech chi'n ei defnyddio fel rheol yn ychwanegu lefel wahanol o anhawster i'r canlyniadau diagnostig i'r claf hwnnw. Felly, rwy'n hapus iawn i roi hynny ar y cofnod.
Rwy'n credu bod y safonau y cytunwyd arnyn nhw yr wythnos diwethaf yn gam sylweddol ymlaen mewn gofal sylfaenol. Mae Helen Mary Jones yn llygad ei lle i ddweud nad oes gennym ni'r un berthynas uniongyrchol; proffesiynau contractwyr yw'r rhain. Mae'n rhaid i ni ddefnyddio perswâd yn ogystal â dulliau eraill i ddod â'n cydweithwyr ar y daith hon gyda ni, ac rydym ni eisiau gwneud mwy i annog a chefnogi'r arferion hynny sy'n cydnabod pwysigrwydd gwasanaethau ieithyddol sensitif. Ond a gaf i ychwanegu un peth arall at yr hyn a ddywedodd Helen Mary Jones? Mae adroddiad diwethaf Comisiynydd y Gymraeg hefyd yn dweud bod gennym ni dasg i'w chyflawni gyda defnyddwyr, oherwydd nid yw pawb sy'n gallu defnyddio'r Gymraeg yn dewis defnyddio gwasanaeth Cymraeg pan fydd ar gael, ac mae mwy i ni ei wneud o ran ceisio deall pam y gallai hynny fod. Ai diffyg gwybodaeth, ai diffyg hyder, ai diffyg profiad o ddefnyddio'r Gymraeg yn y mathau hynny o gyd-destunau? Felly, wrth i ni ehangu'r amrywiaeth o wasanaethau sydd ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg, mae angen i ni felly weithio gyda siaradwyr Cymraeg i wneud yn siŵr eu bod nhw'n hyderus i fanteisio ar y cyfleoedd hynny sydd ar gael iddyn nhw, ac yna byddwn yn creu cylch hynaws lle bydd y galw am wasanaethau yn tyfu, lle bydd y ddarpariaeth o wasanaethau yn tyfu ochr yn ochr â hynny, a byddwn yn gweld y mathau o ganlyniadau a oedd ymhlyg yng nghwestiwn Helen Mary Jones.
7. A wnaiff y Prif Weinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru i gyflwyno terfyn cyflymder o 20 milltir yr awr ar bob ffordd drefol yng Nghymru? OAQ54133
Llywydd, polisi Llywodraeth Cymru yw ymestyn terfynau cyflymder 20 milltir yr awr mewn ardaloedd preswyl ledled Cymru. Sefydlwyd grŵp gweithredu i fwrw ymlaen â'r polisi hwn yn ystod gweddill tymor y Cynulliad hwn.
Diolch, Prif Weinidog, am yr ateb yna. Mae'r cynnig yn codi cwestiwn ynghylch beth yw ardal drefol. Os edrychwn ni ar y rhan fwyaf o'r Rhondda, gellid dweud bod Blaenrhondda i Donyrefail, neu Maerdy i'r Porth, neu hyd yn oed Pontypridd, yn gyfystyr ag ardal drefol, o ystyried y ffaith bod y rhain yn gytrefi llinellol. A awgrymir y dylai rhywun deithio o Flaenrhondda i Bontypridd ar 20 milltir yr awr? Ac yn y lleoedd, Prif Weinidog, y mae'r terfynau cyflymder cyffredinol hyn wedi cael eu cyflwyno, fel gogledd-ddwyrain Gwlad yr Haf a Chaerfaddon, mae marwolaethau ac anafiadau difrifol wedi cynyddu mewn gwirionedd. Mae dinas Manceinion wedi atal ei chyflwyniad o barthau 20 milltir yr awr, ac mae'r Adran Drafnidiaeth wedi dweud bod parthau 20 milltir yr awr wedi bod yn aneffeithiol. O gofio bod gogledd-ddwyrain Gwlad yr Haf wedi gwario £870,000 ar gyflwyno parthau, faint y mae'r Prif Weinidog yn amcangyfrif y bydd cyflwyniad o'r fath yn ei gostio yng Nghymru, ac i ba effaith?
Wel, wrth gwrs, Llywydd, nid wyf i'n cytuno â'r Aelod yn ei amheuon ynghylch effeithiolrwydd parthau 20 milltir yr awr. Nid wyf i'n credu bod unrhyw amheuaeth bod y dystiolaeth yn dangos eu bod nhw'n gwella diogelwch ar y ffyrdd a bod ganddyn nhw ran i'w chwarae o ran gwella ansawdd aer a lleihau allyriadau carbon, ac maen nhw hefyd, yn hollbwysig, yn lleihau'r hyn a elwir yn 'wahanu cymunedau o bobtu'r ffordd'—y ffaith na all cymunedau weithredu gyda'i gilydd oherwydd bod ganddyn nhw draffig yn gyrru drwyddynt mewn ffordd sy'n gwahanu pobl oddi wrth ei gilydd. Nawr, byddwn yn gallu manteisio ar y profiad yma yng Nghaerdydd, lle y mae cyngor y ddinas, rwy'n credu, wedi cynnal rhaglen uchelgeisiol a blaengar iawn o ehangu parthau 20 milltir yr awr, yn ardal fewnol y ddinas i gychwyn ond wedyn i weddill y ddinas hefyd. Mae ganddi gyfres o feini prawf y mae'n eu defnyddio i ateb y cwestiwn a ofynnodd David Rowlands i mi—sut ydych chi'n penderfynu ym mhle y dylid cyflwyno parth 20 milltir yr awr. Byddwn yn gallu defnyddio eu profiad, yn ogystal â phrofiadau mewn mannau eraill.
Diben bod â grŵp gweithredu yw gallu sicrhau y gallwn ni ateb rhai o'r cwestiynau sy'n codi'n anochel ynghylch sut yr ydych chi'n mynd ati i weithredu, sut yr ydych chi'n ymdrin â chostau gweithredu a sut yr ydych chi'n gwneud yn siŵr y gallwn ni wireddu'r manteision gwirioneddol a ddaw yn sgil y polisi hwn. A, Llywydd, mae'n boblogaidd ymhlith y cyhoedd hefyd. Yng Nghaerdydd, lle'r oedd rhai cynghorwyr yn amheus i ddechrau ynghylch parthau 20 milltir yr awr, ceir pwysau erbyn hyn gan bawb sydd eisiau i'w rhan nhw o Gaerdydd gael ei symud i fyny'r rhaglen, gan eu bod nhw'n gwybod bod y cyhoedd yn gwerthfawrogi'r manteision y mae'r polisi yn eu cynnig.
Ac, yn olaf, cwestiwn 8—Leanne Wood.
8. Beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod y gofal iechyd gorau posibl yn cael ei ddarparu i bobl yn y Rhondda? OAQ54141
Diolch i Leanne Wood am y cwestiwn yna. Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi mewn cyfres o fesurau i roi'r gofal gorau posibl i bobl y Rhondda. Dwy enghraifft yn unig sy'n dangos ein bod yn benderfynol yw'r buddsoddiad o £6 miliwn mewn canolfan ddiagnostig i leihau amseroedd aros a'r bartneriaeth £2 miliwn gyda Macmillan i wella gofal lliniarol.
O'm rhan i, a miloedd lawer o bobl eraill sy'n byw yn y Rhondda, yr ydym ni'n cael ein gwasanaethu orau drwy gael adran ddamweiniau ac achosion brys 24 awr o dan arweiniad ymgynghorydd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Fel yr ydym ni wedi'i weld gyda chanoli gwasanaethau mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, nid yw'n ateb i'r holl broblemau dwfn y mae GIG Cymru yn eu hwynebu, sef prinder staff a staff yn cael eu gorweithio.
Gyda chanoli gwasanaethau pediatrig wedi'i roi o'r neilltu ar hyn o bryd, siawns y golyga hyn fod yr arbrawf Llafur hwn bellach ar ben. Dywedwyd wrthyf yr wythnos diwethaf y byddai datganiad gan y Gweinidog iechyd ar 2 Gorffennaf ar adroddiad y grŵp gorchwyl a gorffen ar ofal critigol yn adeg briodol i godi mater dyfodol adran ddamweiniau ac achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg. Mae arnaf i ofn fy mod i, a phobl y Rhondda, heb sôn am y staff pryderus sydd wedi dod ataf, eisiau cael sicrwydd—nid dim ond sicrwydd, ond gwarant—cyn hynny, bod ein hadran ddamweiniau ac achosion brys agosaf yn mynd i aros lle y mae, ac ni fydd yr un peth yn digwydd iddi hi a ddigwyddodd i'r adran famolaeth. A wnewch chi roi'r sicrwydd hwnnw nawr i'm hetholwyr i yn y Rhondda?
Diolch i'r Aelod am hynna. Rwyf i wedi cael y fantais o weld ei llythyr at y Gweinidog iechyd, a gallaf ddweud hyn wrth yr Aelod: nid oes unrhyw ymgynghorwyr adrannau achosion brys wedi cael eu symud o Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ac nid oes swyddi ymgynghorol o'r fath wedi eu symud o'r ysbyty ar unrhyw adeg. Mae pedair swydd ymgynghorydd cyfwerth ag amser llawn yn parhau yn adran achosion brys Ysbyty Brenhinol Morgannwg. A phan fydd pobl yn symud ymlaen, ac mae pobl yn cael swyddi newydd ac yn mynd ymhellach yn eu gyrfaoedd, bydd swyddi eraill yn cymryd eu lle, swyddi parhaol, gobeithio, ac mae nifer o ddatganiadau o ddiddordeb ar gyfer swyddi gwag yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg eisoes wedi'u derbyn ac yn cael eu hystyried gan y bwrdd iechyd. Os bydd yn rhaid inni lenwi'r swyddi hynny dros dro drwy benodi meddygon locwm, dyna a wnawn. Dyna'r dyfodol i'r adran achosion brys honno, ac rwy'n falch iawn fy mod wedi cael y cyfle i gofnodi hynny yn y fan hon y prynhawn yma.
Diolch i'r Prif Weinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Cwnsler Cyffredinol mewn perthynas â'i gyfrifoldebau fel swyddog cyfreithiol. Dwi'n galw ar y cwestiwn cyntaf, sydd gan Helen Mary Jones.
1. Pa sylwadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u gwneud ar ran Llywodraeth Cymru mewn perthynas â'r achos ymgyfreitha yn erbyn yr Adran Gwaith a Phensiynau am yr honiad o gamdrafod codi oedran pensiwn y wladwriaeth ar gyfer menywod a anwyd yn y 1950au? OAQ54098
Ni wnaeth Llywodraeth Cymru ymyrryd yn y trafodion eu hunain gan nad ydym ni ar hyn o bryd yn gweld sail statudol i wneud hynny. Cyn y gwrandawiad, yr oeddem ni wedi mynegi ein pryderon i Lywodraeth y DU ynghylch menywod y codwyd eu hoed pensiwn gwladol heb hysbysiad effeithiol na digonol ac mae ein safbwynt wedi cael ei gydnabod gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau mewn gohebiaeth.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb. Yn ddiau, yr oedd ef yr un mor siomedig ag yr oeddwn i yn yr ymateb a gafwyd, a gwn ein bod ni, ar feinciau'r wrthblaid, yn ddiolchgar iawn am y ffaith bod y Llywodraeth wedi rhannu'r ymateb hwnnw â ni.
O ran yr ymgyfreithiad, os bydd yn ein harwain at sefyllfa apêl, sy'n debygol os bydd y llys yn dyfarnu o blaid y menywod, a gaf i ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol edrych eto i weld a fyddai'n bosibl ai peidio i Lywodraeth Cymru gymryd rhan yn yr ymgyfreithiad hwnnw? Byddwn i'n awgrymu iddo ef y byddai'r effaith gyffredinol ar economi Cymru yn sgil y menywod hynny yn peidio â chael yr arian y mae ganddyn nhw yr hawl i'w ddisgwyl yn sail posibl i hynny. Credaf y gallai fod yn fwy cymhleth ceisio cyflwyno'r achos ynghylch yr effaith ar wasanaethau cyhoeddus Cymru, er enghraifft, pan fydd rhaid i fenywod barhau mewn swyddi nad ydyn nhw bellach yn ddigon heini i'w cyflawni oherwydd y newidiadau hyn, ond credaf y dylai'r effaith ar yr economi gael ei hystyried. Ac os bydd yn ailystyried ac yn dod i'r casgliad nad yw'n gallu gwneud sylwadau o'r fath, a wnaiff ymrwymo i gyhoeddi'r sail ar gyfer y cyngor hwnnw, fel y bydd y menywod sy'n obeithiol o gael cefnogaeth fwy pendant gan Lywodraeth Cymru, er eu bod nhw'n gwerthfawrogi cefnogaeth Llywodraeth Cymru, mewn egwyddor, yn fawr i'r mater hwn, nad yw'n ddatganoledig—? Byddai'n ddefnyddiol gweld, os nad yw ef yn gallu cymryd unrhyw gamau pendant, ar ba sail y mae ef yn dod i'r casgliad na all wneud hynny.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn atodol hwnnw. Cefais y fraint o'i chlywed hi'n cyflwyno'r ddadl honno yn y Siambr ychydig wythnosau'n ôl, ac ystyriais ymhellach yn sgil hynny a oedd wedi effeithio ar fy nyfarniad ar y cwestiwn hwn. Ac mae gen i ofn nad yw hwnnw wedi newid, yn anffodus, ni welaf unrhyw sail statudol i'r pŵer i ymyrryd y mae hi yn fy ngwahodd i'w ddefnyddio. Fodd bynnag, mae fy swyddogion wedi bod mewn cysylltiad â'r llys i ganfod y trefniadau ar gyfer rhoi'r dyfarniad, ac, hyd yma, o'r ohebiaeth ddiweddaraf, nid oes dyddiad wedi'i bennu eto ar gyfer hynny.
Ond hoffwn i ei sicrhau hi ein bod yn parhau i adolygu hynt ymgyfreitha, ac, yn yr un modd, hoffwn ei gwneud yn glir, er nad wyf i'n gweld sail statudol i'r Cwnsler Cyffredinol ymyrryd yn yr ymgyfreitha ei hun, nid yw hynny'n golygu nad oes sail y gall Gweinidogion Cymru ei ddefnyddio, ac y gallant barhau i'w ddefnyddio i gyflwyno sylwadau i Lywodraeth y DU. Ac, yn wir, ers yr ymateb gan Amber Rudd, mae'r Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip wedi'i gylchlythyru rhwng yr Aelodau, mae hi wedi ymateb i'r llythyr hwnnw, ac rwy'n sicr y bydd Aelodau yn gyffredinol yn teimlo ei fod yn ymateb cwbl annigonol i ymgais ddifrifol iawn i ymgysylltu â Llywodraeth y DU a chyflwyno sylwadau ar ran menywod Cymru am resymau ynghylch anghyfiawnder personol ac o'r safbwynt ehangach y mae'r Aelod yn ei nodi yn ei chwestiwn. Ac yn y llythyr hwnnw, nododd Jane Hutt yr anghyfiawnder parhaus y mae menywod yn ei deimlo—menywod sydd yn aml wedi profi anghydraddoldeb rhwng y rhywiau drwy gydol eu bywydau, fel gweithwyr ac fel gofalwyr—gan nodi'n syml iawn bod ymateb Llywodraeth y DU, wrth geisio cyfeirio pobl at gyfleoedd cyflogaeth yn ddiweddarach mewn bywyd, wedi methu'n llwyr ag adlewyrchu gwirionedd bywydau'r menywod hyn mewn llawer o achosion. A gwn hefyd, ers hynny, fod gohebiaeth wedi bod rhwng Prif Weinidog Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig. Felly byddaf i'n glir y byddwn ni'n parhau i gyflwyno sylwadau, o fewn ffiniau ein gallu, ar ran menywod Cymru yr effeithir arnyn nhw gan yr anghyfiawnder difrifol hwn.
Diolch, Cwnsler Cyffredinol, am yr ateb hwnnw, oherwydd yr oeddech chi a minnau'n bresennol yn y rali ym Mhort Talbot, lle mynegodd menywod eu rhwystredigaeth a'u dicter tuag at yr ymateb hwnnw a oedd wedi dod i law Llywodraeth Cymru, sef un a oedd, yn y bôn, yn fy marn i, yn ffiaidd ac ni ddylai fod wedi'i ysgrifennu gan Ysgrifennydd Gwladol o'r fath, gan adlewyrchu ymagwedd anghwrtais. Roedden nhw wedi dirmygu'r menywod yn yr ymateb hwnnw ac yr oedd yn annerbyniol. Ond, fel y nododd Helen Mary, mewn gwirionedd, credaf y gallwch edrych ar agenda'r gwasanaethau cyhoeddus o ran hyn, oherwydd y gwasanaethau sydd eu hangen ar y menywod hyn yn sgil y ffaith na allant ymddeol, methu ymgymryd â'r gwasanaethau gofal neu'r cyfleoedd gofal y bydden nhw'n eu cynnig i'w hwyrion neu i rieni hŷn ac yn y blaen—bydd hyn yn syrthio ar ysgwyddau Llywodraeth Cymru. Felly, a ydych chi wedi gwneud dadansoddiad cyfreithiol o gost ariannu'r gwasanaethau ychwanegol, a'r atebolrwydd ar gyfer y cyllid hwnnw, oherwydd bydd hynny'n rhoi pwysau ychwanegol ar gyllideb Llywodraeth Cymru, o ganlyniad i benderfyniad gan Lywodraeth y DU, oherwydd iddyn nhw fethu ag ymgynghori â'r unigolion hynny a rhoi digon o rybudd iddyn nhw allu ysgwyddo goblygiadau'r newidiadau o ran pensiynau? Ac, felly, a wnewch chi edrych yn ofalus ar hynny i weld beth y gallwch chi ei ddefnyddio fel dull i fynd i mewn i'r ddadl hon, yn enwedig gan ei bod yn golygu bod rhaid i Lywodraeth Cymru nawr gymryd cyfrifoldebau y mae Llywodraeth y DU yn eu gorfodi arni?
Mae'r Aelod yn iawn, felly hefyd Helen Mary Jones, i ddisgrifio effaith ehangach y newidiadau ar fenywod eu hunain, ond hefyd ar economi Cymru a gwasanaethau cyhoeddus Cymru. Rwyf i wedi ystyried hynny wrth edrych ar bwerau Llywodraeth Cymru o ran hyn. Rwyf eisiau tawelu meddwl yr Aelod, er mai rôl y Cwnsler Cyffredinol yw sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gweithredu o fewn ei chymhwysedd bob amser, mae hefyd yn rhan o'i swyddogaeth o bryd i'w gilydd, i sicrhau bod y Llywodraeth yn gweithredu hyd eithaf ei gallu i sefyll dros bobl Cymru. Rwyf wedi gwneud hynny yn y dadansoddiad hwn, a byddaf yn parhau i wneud hynny.
Cwnsler Cyffredinol, fel menyw WASPI fy hun, gallaf i ddweud wrthych chi na chefais i wybod erioed am y newidiadau yn fy mhensiwn i, a chefais i wybod dim ond o ganlyniad i sylw ffwrdd-â-hi gan ffrind. Nid yw fy achos i yn unigryw o bell ffordd, ac mae cannoedd o fenywod Cymru yn yr un cwch. Roeddwn i hefyd yng nghyfarfod Port Talbot, ynghyd â chi a David Rees. Roedd y cyfarfod hwnnw'n dyst i faint o bobl oedd yno. Ni chawsom ni unrhyw lythyr, dim pecyn gwybodaeth, dim esboniad. Felly, Cwnsler Cyffredinol, a fyddwch chi yn llais i fenywod Cymru a siomwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau a Llywodraeth y DU? Diolch.
Diolch i'r Aelod am roi'r myfyrdod personol hwnnw o'i phrofiad ei hun, sy'n ein hatgoffa, yn fy marn i, mai profiadau unigol yw'r rhain, yn ogystal â rhannau o ymgyrch ehangach a mudiad cyhoeddus, os mynnwch chi. Dylwn i hefyd gydnabod bod Dai Lloyd hefyd yn y digwyddiad ddydd Sadwrn ychydig wythnosau'n ôl. A gallaf i roi sicrwydd i'r Aelod y byddwn ni'n cymryd pob cam posibl o fewn ein pwerau, ac yn parhau i wneud sylwadau ar ran menywod Cymru.
Cwnsler Cyffredinol, fe wnes i gwrdd â chynrychiolwyr Menywod yn Erbyn Anghydraddoldeb Pensiwn y Wladwriaeth, sy'n parhau i ymgyrchu ar y mater tyngedfennol hwn yn stoïcaidd ac yn gadarn. Pa sicrwydd, yn ychwanegol at yr hyn yr ydych chi eisoes wedi ei roi i ni, allwch chi ei roi y bydd Llywodraeth Lafur Cymru, yn rhinwedd ei swydd, yn parhau i wneud pob cynrychiolaeth gyfreithiol bosibl ac yn parhau i ddadlau'r achos gyda Llywodraeth Dorïaidd y DU, honno yn unig sydd â'r gallu i unioni'r anghyfiawnder amlwg hwn ac, wrth wneud hynny, gallai dynnu miloedd o fenywod allan o dlodi, lleihau'r bwlch anghydraddoldeb rhwng y ddau ryw a galluogi menywod, fel y dywedwyd, i fyw'r bywyd y maen nhw wedi'i gynllunio o'r dechrau?
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn pellach hwnnw. Fel y soniais yn gynharach, yn ddiweddarach ysgrifennodd fy nghyd-Aelod Jane Hutt at Lywodraeth y DU yn adleisio'r pwyntiau a gafwyd eu gwneud yn ei gohebiaeth gynharach o ran y dystiolaeth a chanfyddiadau rapporteur arbennig y Cenhedloedd Unedig ar dlodi eithafol, Philip Alston, ond hefyd cyfeiriodd Llywodraeth y DU at ganfyddiadau papur y Sefydliad Astudiaethau Cyllid, sy'n meintioli effaith yr anghyfiawnder hwn mewn termau economaidd ar fenywod y mae hyn yn berthnasol iddyn nhw. A byddaf i'n siarad â Jane Hutt ac yn gofyn iddi hi a fydd hi'n barod i rannu'r ohebiaeth honno, fel y mae hi wedi'i wneud â'r ohebiaeth flaenorol, fel y gall yr Aelodau weld yn llawn pa gynrychiolaeth—mae hi'n awgrymu yn ddefnyddiol ei bod yn barod i wneud hynny—fel y gall yr Aelodau weld yn llawn pa ohebiaeth yr oeddem ni'n ymgysylltu â hi ar y mater pwysig hwn gyda Llywodraeth y DU wrth gyflwyno ein hachos.
2. Pa sylwadau y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'u gwneud ar ran Llywodraeth Cymru yng ngoleuni adroddiadau na chafodd dinasyddion yr UE yng Nghymru yr hawl i bleidleisio yn yr etholiad diweddar i Senedd Ewrop? OAQ54099
Er nad oes gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldebau ffurfiol am etholiadau Ewropeaidd, rydym ni'n bryderus iawn, wrth gwrs, nad oedd dinasyddion yr UE yn gallu arfer eu hawl i bleidleisio. Rydym ni'n barod i gyfrannu'n weithredol at unrhyw adolygiad gan y cyrff cyfrifol, h.y. Llywodraeth y DU, y Comisiwn Etholiadol, a swyddogion canlyniadau.
Rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei ateb, ac yn falch o glywed y Llywodraeth yn sefyll yn barod i ymateb. Tybed a fydd yn barod i ystyried cyflwyno achos i awgrymu y dylai'r cyrff hynny gynnal adolygiad rhagweithiol. Rwyf wedi gweld ffigurau, er enghraifft, sy'n awgrymu mai llai na 19 y cant o ddinasyddion cymwys yr UE ym Mhowys a oedd wedi gallu pleidleisio, mewn gwirionedd, gan fod y system a gyflwynwyd iddyn nhw mor gymhleth—roedd pobl yn credu eu bod wedi cofrestru i bleidleisio, roeddent heb sylweddoli eu bod yn gorfod anfon ffurflen arall, ac ati. Dydyn ni ddim wrth gwrs yn gwybod, Llywydd, a fydd etholiadau eraill pryd y bydd dinasyddion yr UE yn gymwys i bleidleisio. Yn anffodus, ni fyddant yn gymwys i bleidleisio yn yr is-etholiad sydd i ddod ym Mrycheiniog a Sir Faesyfed. Ond gallwn obeithio y bydd etholiadau eraill o'r fath. A byddwn yn gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol efallai y byddai'n briodol i Lywodraeth Cymru fod yn rhagweithiol wrth geisio unioni'r cam hwn rhag ofn y bydd amgylchiadau felly yn codi.
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn hwnnw. Rydym yn amlwg yn ystyried—neu yn hytrach fe fyddwn yn ystyried—y dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg o'r broses honno fel bod ein sylwadau yn y dyfodol yn cael eu profi'n llawn yn hynny o beth. Mae hi'n iawn i ddweud, wrth gwrs, y byddai hyn yn her i unrhyw etholiadau yn y dyfodol, ond bydd hefyd yn cofio bod problem debyg wedi codi yn 2014, pan nad oedd llawer o ddinasyddion yr UE yn gallu pleidleisio yn yr etholiadau Ewropeaidd hynny. Felly mae materion pwysig yma, o bosibl, y mae angen edrych arnynt yn ofalus iawn, a byddwn yn edrych ymlaen at adolygu'r dystiolaeth honno a gwneud pa bynnag sylwadau y teimlwn sy'n briodol ar ran pobl y mae'r mater hwn yn effeithio arnynt yng Nghymru.
3. Pa asesiad y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i wneud o'r effaith a gaiff deddfau mewnfudo Llywodraeth y DU ar y ffordd y mae'r gyfraith yn gweithredu mewn cysylltiad â ffoaduriaid yng Nghymru? OAQ54101
Mae integreiddio pobl sy'n chwilio am noddfa yn gyfrifoldeb a rennir, er nad yw'r cyfrifoldeb dros y gyfraith fewnfudo ei hun, wrth gwrs, wedi'i ddatganoli i Gymru. Rydym yn gweithio'n agos gyda Llywodraeth Leol a'r trydydd sector yng Nghymru i fonitro effeithiau ac rydym yn codi materion sy'n effeithio ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches gyda Llywodraeth y DU yn rheolaidd.
Diolch am yr ateb hwnnw. Rwyf wedi cael cyswllt gan fenywod sy'n methu caffael arian cyhoeddus o ganlyniad i'r cyfreithiau mewnfudo. Mae'r Gweinidog, Jane Hutt, yn dweud y gall pobl wneud cais am gonsesiwn trais domestig, ond mae hwnnw ar gyfer pobl sydd ar fisas person priod cyfnod byr yn unig, ac nid yw'n addas i bawb. Oherwydd yr achos penodol hwn, mae llawer o fenywod, mewn rhai achosion, yn cael gwrthod budd-dal tai a chymorth arall. Ac mae sefydliadau fel Cymorth i Fenywod a BAWSO wedi dweud wrthyf fod y deddfau hyn yn ei gwneud hi'n anodd, yn amhosib hyd yn oed, iddynt gefnogi menywod mewn argyfwng, gan gynnwys gwraig yr wyf wedi sôn amdani yn y Siambr hon o'r blaen. Gan nad oedd yn gwybod beth oedd ei statws yn y wlad hon, roedd yn golygu na allai gael mynediad ar unwaith i ganolfan loches ar ôl ffoi oddi wrth ei gŵr oedd yn ei cham-drin. Mae arnaf ofn y bydd hyn yn rhoi mwy o fenywod mewn perygl ac y gallai llawer ohonynt fod mewn sefyllfa argyfyngus iawn hyd yn oed.
Felly, beth ydych chi'n mynd i'w wneud i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn codi'r pryderon hyn gyda Llywodraeth y DU, yn enwedig gyda'r bwlch yn y sefyllfa fewnfudo yr wyf wedi'i amlinellu i chi o ran y consesiynau? A sut y byddwch yn gallu unioni'r cam hwn mewn cysylltiad â chyllideb Llywodraeth Cymru—h.y. a fyddech yn gallu ariannu llochesau yng Nghymru yn fwy fel nad oes raid iddynt gwestiynu o ble y daw'r wraig pan fydd yn cyrraedd y foment dyngedfennol honno pan fydd yn ffoi o berthynas gamdriniol?
Diolch i'r Aelod am dynnu sylw at fater sy'n amlwg yn bwysig iawn. Rydym am sicrhau, fel Llywodraeth Cymru, bod y rhai y gwrthodir lloches iddynt yn cael cyngor cyfreithiol a tho uwch eu pennau wrth iddynt chwilio am ateb cynaliadwy mewn amgylchiadau a sefyllfaoedd sy'n amlwg yn eithriadol o anodd. Gall hynny gynnwys cynrychiolaeth gyfreithiol, a allai efallai arwain at hawliad newydd, neu ymwneud â phroses o ddychwelyd ffurflenni gwirfoddol. Rydym wedi comisiynu rhywfaint o waith ymchwil yn ddiweddar i ffyrdd o broffesiynoli ac ehangu'r sector cynnal yng Nghymru i wella mynediad ac i wella diogelu yn y cyd-destun hwnnw.
Mae'n sôn yn ei chwestiwn am y cyllid y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i BAWSO yn benodol er mwyn galluogi menywod a merched duon a lleiafrifoedd ethnig i gael y cymorth sydd ei angen arnynt. Bwriad hynny yw sicrhau na fydd unrhyw ddioddefwyr yn cael eu troi i ffwrdd. Gwn fod y Dirprwy Weinidog wedi bod yn gohebu â'r Aelod a bod y materion hyn, fel rhan o'r ohebiaeth reolaidd rhwng y Dirprwy Weinidog a'r Swyddfa Gartref, yn sicr yn faterion y bydd yn parhau i'w codi gyda nhw i sicrhau bod hyn yn parhau ar ein hagenda ni ond hefyd ar un Llywodraeth y DU.
Diolch i'r Cwnsler Cyffredinol.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad a chyhoeddiad busnes a dwi'n galw ar y Trefnydd i wneud ei datganiad—Rebecca Evans.
Diolch, Llywydd. Mae un newid i fusnes yr wythnos hon. Mae'r Pwyllgor Busnes wedi cytuno y bydd cynnig i atal Rheolau Sefydlog yn cael ei gynnig er mwyn caniatáu newid yr Aelod sy'n arwain y ddadl fer yfory. Mae'r busnes drafft ar gyfer y tair wythnos nesaf wedi'i osod yn y datganiad a chyhoeddiad busnes, y gellir ei weld ymhlith y papurau sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
Gweinidog, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad gan y Gweinidog iechyd, yn gyntaf ar yr argyfwng recriwtio yn GIG Cymru? Yn ôl Coleg Brenhinol y Ffisigwyr, nid yw traean o'r swyddi ymgynghorwyr a hysbysebir yn cael eu llenwi ac mae absenoldeb salwch hefyd yn cynyddu. Yn ôl y coleg mae ysbytai Cymru yn brin o staff a dan ormod o bwysau, ac maent wedi gwneud 16 o argymhellion ar gyfer gwella i fynd i'r afael â'r problemau hyn. A fyddai modd imi gael datganiad gan y Gweinidog ar ei ymateb i'r pwyntiau a godwyd gan Goleg Brenhinol y Ffisigwyr? Dyna un. A'r ail yw: faint o feddygon sydd wedi'u disgyblu am eu hymddygiad yn GIG Cymru, a beth yw'r gyfran rhwng y meddygon gwyn a'r meddygon nad ydynt yn wyn yn hyn o beth? Diolch.
Diolch ichi am godi'r materion hyn. Fe gofiwch i'r Gweinidog iechyd ddarparu datganiad ar yr ymgyrch 'Hyfforddi. Gweithio. Byw.' yn ddiweddar iawn, pan amlinellodd nifer y meddygon sy'n cael eu recriwtio i'r GIG a gwnaeth sylwadau ar recriwtio'n ehangach. Ac wrth gwrs, cawsom y newyddion da yr wythnos diwethaf fod Llywodraeth Cymru yn cadw'r fwrsariaeth i staff nyrsio. Felly, mae recriwtio a chadw staff yn amlwg yn un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru.FootnoteLink
Gofynnaf i'r Gweinidog roi ateb i'ch cwestiwn ynglŷn â'r gweithdrefnau disgyblu, oherwydd nid yw'r wybodaeth honno gennyf ar hyn o bryd, ond gwnaf yn siŵr eich bod yn ei chael.FootnoteLink
Trefnydd, yr wythnos diwethaf dywedodd arweinydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell-nedd Port Talbot, y Cynghorydd Rob Jones, ei fod yn credu ei bod bellach yn bryd ' troi'r drafodaeth yn gyflenwi ' gyda bargen dinas bae Abertawe. Byddwch yn cofio inni drafod yn y Siambr hon y mis diwethaf sut yr oedd y cyngor hwnnw mewn gwirionedd wedi bygwth tynnu allan o fargen y ddinas. Felly, mae'r ffaith yr ymddengys eu bod yn newid eu meddwl yn sicr yn gam i'r cyfeiriad cywir. Nawr, fel y dywedais ar y pryd, ni allaf weld sut y gallai unrhyw gyngor anwybyddu cyllid o £68 miliwn gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, yn enwedig pan fo'r arian hwnnw wedi'i ddyrannu i roi hwb i'r economi leol. Yn wir, byddai gwneud hynny, yn fy marn i, yn gyfystyr ag esgeuluso dyletswydd. Nawr, mae'n amlwg bod pryderon yn lleol nad yw rhai o'r prosiectau cychwynnol sy'n cael eu cynnig gan Gyngor Castell-nedd Port Talbot wedi datblygu i'r un graddau â rhai o brosiectau eraill bargen y ddinas. Yr hyn yr ydym am ei weld yw Cyngor Castell-nedd Port Talbot yn datblygu eu hachosion busnes diwygiedig cyn gynted â phosib.
Mae yna bryderon tebyg ymysg yr awdurdodau lleol a phartneriaid ym margen y ddinas am yr oedi parhaus wrth gymeradwyo'r cynlluniau busnes presennol, ac o ran anrhydeddu'r ymrwymiadau a wnaed i brosiectau sydd eisoes ar waith, megis Yr Egin yn Sir Gaerfyrddin, a datblygiad glannau Abertawe. Dylai bargen y ddinas fod yn gwneud cyfraniad hanfodol i economi'r De-orllewin, ac ni fydd pobl y rhanbarth yn deall nac yn maddau i lywodraethau ar bob lefel os yw diffyg cydgysylltu neu gytundeb yn arwain at fethiant y prosiectau neu'r fargen gyffredinol. Felly, yn dilyn ymyriad y Cynghorydd Rob Jones yr wythnos y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gyda Chyngor Castell-nedd Port Talbot er mwyn datblygu eu hachosion busnes lleol, ac a ydych yn fodlon â'r cynnydd ar eu cynlluniau diwygiedig? A gaf i ofyn hefyd pa fesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i sicrhau bod unrhyw ôl-groniad o ran cymeradwyaethau a thaliadau yn cael eu datrys ar frys?
Diolch ichi am godi'r mater hwn, a gallaf gadarnhau mai bwriad Ken Skates yw gwneud cyhoeddiad ar hyn yn fuan iawn.
Gweinidog, deallaf y byddwch yn gwneud datganiad ar 16 Gorffennaf ar y rhagolygon ar gyfer gwariant cyhoeddus yn y dyfodol. Byddwn yn ddiolchgar pe gallech egluro, neu a fyddech yn gallu cynnal datganiad arall i edrych ar rai o'r materion y byddwn yn eu hwynebu o ran cylch y gyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Treuliais i ac aelodau'r Pwyllgor Cyllid beth amser yn yr Alban bythefnos yn ôl, gan edrych ar y ffordd y caiff cylch y gyllideb ei reoli yno. Un o'r materion allweddol a ddysgwyd yno, credaf ei bod yn deg dweud, yw pwysigrwydd cael sgyrsiau cynharach am ffurf y gyllideb. Ac rwy'n sicr yn credu y byddai'r lle hwn yn elwa o gyfle cynnar i dynnu sylw at rai blaenoriaethau ar gyfer gwariant o ran y cylch cyllideb canlynol. Felly, byddwn yn ddiolchgar pe gallech egluro hynny.
Yn ail, sylwaf o'r datganiad nad oes datganiadau wedi'u rhaglennu inni gael gwybod am ddiwedd yr ymgynghoriad ar wasanaethau bysiau ac am y Papur Gwyn ar drafnidiaeth a gynhaliodd Gweinidog yr economi yn gynharach yn y flwyddyn. Credaf y bydd llawer ohonom am wybod pryd y gallwn ragweld cyfleoedd pellach i drafod canlyniadau'r ymgynghoriad a phroses y Papur Gwyn. Byddai hynny yn ein galluogi i ddeall y broses a'r math o flaenoriaethau y bydd y Gweinidog yn bwrw ymlaen â nhw ar gyfer deddfwriaeth.
Gobeithio hefyd y bydd y Llywodraeth, ar yr un pryd, yn gallu neilltuo amser i gael cyfle i drafod yr effaith a gaiff hyn ar wasanaethau tacsis hefyd. Gwn fod llawer o yrwyr tacsi yn bryderus iawn ar hyn o bryd am y gystadleuaeth gynyddol gan sefydliadau fel Uber, a byddant am weld cyfleoedd i sicrhau y bydd busnesau—microfusnesau a busnesau lleol—yn cael y cyfle i gael eu gwarchod, os mynnwch, rhag effaith y busnesau rhyngwladol hyn. Felly gobeithio, cyn inni gyrraedd y toriad, y gallwn gael sgwrs ar flaenoriaethau gwariant cyhoeddus yn y dyfodol ac ar flaenoriaethau'r dyfodol ar gyfer deddfwriaeth trafnidiaeth.
Diolch ichi am y ddau gais hynny. Fel y dywedwch, byddaf yn gwneud datganiad ar y rhagolygon ar gyfer gwariant cyhoeddus yng Nghymru yn y dyfodol ar 16 Gorffennaf. Fel y gŵyr yr Aelodau, nid oes gennym gyllideb eto ar gyfer y flwyddyn nesaf. Ond nid yw hynny'n golygu nad ydym yn dechrau o ddifrif gyda'n trafodaethau i nodi ein blaenoriaethau cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf, a dyna pam yr wyf eisoes wedi cael fy nghylch cyntaf o gyfarfodydd gydag phob un o'm cyd-Weinidogion i drafod y pwysau o fewn eu portffolios ond hefyd eu huchelgeisiau ar gyfer y flwyddyn nesaf. Felly, mae'r trafodaethau hynny wedi dechrau eisoes.
Rwyf hefyd yn awyddus i gael cyfres o ymweliadau dros yr haf lle byddaf yn edrych ar ein blaenoriaethau fel y'u gosodwyd gan y Llywodraeth yn ein rhaglen lywodraethu—felly, gan edrych er enghraifft, yn benodol ar yr hyn y gallwn fod yn ei wneud ynghylch datgarboneiddio, iechyd meddwl, tai, ac yn y blaen. Rwy'n credu y byddai hynny'n ddefnyddiol iawn i'n helpu ni i benderfynu ar y ffordd ymlaen. Yn sicr, y flaenoriaeth fwyaf ar hyn o bryd yw ein bod ni'n cael rhywfaint o eglurder gan Lywodraeth y DU o ran lle'r ydym yn sefyll gyda'n cyllideb y flwyddyn nesaf. Mae Prif Ysgrifennydd y Trysorlys wedi awgrymu na fydd adolygiad cynhwysfawr o wariant cyn toriad yr haf, felly mae hynny'n awgrymu i mi y gallem fod yn edrych, o bosibl, ar gyllideb dreigl, a fyddai'n siomedig iawn. Ond mae angen eglurder arnom cyn gynted ag y bo modd. Yn y cyfamser, byddwn yn parhau i gael trafodaethau am flaenoriaethau. Yn amlwg, byddaf yn rhoi cyfle i'r Aelodau gael y trafodaethau hynny. Ond, fel y dywedais, byddaf yn gwneud datganiad ar 16 Gorffennaf, sy'n gyfle perffaith i Aelodau, yn y lle cyntaf, siarad â mi ynglŷn â'u blaenoriaethau ar gyfer cyllideb y flwyddyn nesaf.
Mae'r ymgynghoriad wedi dod i ben yn awr o ran y ddeddfwriaeth arfaethedig yn ymwneud â gwasanaethau bysiau. Gallaf ddweud wrthych fod y Gweinidog a'i dîm yn dadansoddi'r ymatebion hynny ar hyn o bryd ac yn amlwg, bydd yn sicrhau bod yr Aelodau'n cael yr wybodaeth ddiweddaraf maes o law.
Trefnydd, a gaf i ofyn am dri datganiad, os gwelwch yn dda, os oes modd? Yn gyntaf, hoffwn weld a chlywed beth yw ymateb y Llywodraeth i'r Dirprwy Weinidog dros yr economi pan ddywedodd mewn araith ym mwyty'r Clink, wrth sôn am berfformiad economaidd y Blaid Lafur mewn Llywodraeth,
'Ers 20 mlynedd rydym wedi cymryd arnom ein bod yn gwybod beth rydyn ni'n ei wneud gyda'r economi—ond y gwir amdani yw, dydyn ni ddim...Mae pawb yn ei wneud i fyny wrth fynd ymlaen'.
Rwyf yn ei gymeradwyo am ei araith ddidwyll, ei sylwadau a'r nodiadau a roddodd yn y cyfarfod hwnnw. Ond credaf ei bod yn bwysig, gan gofio bod y Llywodraeth, mi dybiaf, yn cael ei hategu gan bolisi—'Ffyniant i Bawb', er enghraifft, sy'n ddogfen y cyfeirir ati'n gyson—ac yma mae gennych chi'r Dirprwy Weinidog yn dweud, o ran yr economi, fod y Llywodraeth hon a'i rhagflaenwyr wedi bod yn ei wneud i fyny wrth iddynt fynd yn eu blaenau. Mae hynny'n peri pryder mawr, a dweud y lleiaf.
Yn ail, a allaf i bwyso arnoch, fel Gweinidog cyllid, i gyflwyno datganiad ynglŷn â'r sefyllfa ariannol yn ymwneud â'r argyfwng newid hinsawdd a'r mentrau a fydd yn deillio o hynny a'r safbwyntiau polisi y bydd y Llywodraeth yn eu cymryd. Cymeradwyaf y Gweinidog am yr hyn y mae wedi'i wneud yn hyn o beth, ond credaf fod angen inni ddeall beth fydd y sefyllfa ariannol a beth fydd nifer y swyddi hefyd. Mae'r Trysorlys yn Llundain wedi darparu ffigurau penodol ar gyfer y Llywodraeth, sef cyfanswm o £1 triliwn i gyfarfod â'r cyfraniad sero net erbyn 2050. Credaf ei bod yn ddyletswydd ar y Llywodraeth hon, os yw'n cyflwyno safbwyntiau polisi sy'n ceisio symud oddi wrth hen swyddi carbon i rai newydd, gwyrdd, i sicrhau ein bod yn deall beth y bydd hynny'n ei olygu mewn termau ariannol a pha rwymedigaethau fydd yn cael eu rhoi ar bob adran a'u cyllid. Mae'n siŵr bod gennych chi, fel Gweinidog cyllid, elfen o'r wybodaeth honno wrth law, a phe bai hynny'n cael ei gynnwys mewn datganiad, byddai hynny, byddwn yn awgrymu, yn llywio'r ddadl yn y dyfodol yn fawr iawn ar y pwnc hwn.
Y trydydd pwynt yr hoffwn fwrw ymlaen ag ef, os oes modd, yw a allwn ni gael datganiad gan y Gweinidog dros drafnidiaeth, neu hyd yn oed y Gweinidog dros yr economi—gwn mai'r un person ydynt ond credaf ei fod wedi'i drosglwyddo i'r dirprwy, yr wyf yn credu, ond efallai fy mod yn anghywir yn hynny o beth—mewn cysylltiad â'r gwaith ffordd yng nghyffordd Sycamore Cross ym Mro Morgannwg? Bum mlynedd yn ôl yn unig, gwariodd y Llywodraeth £2 filiwn ar uwchraddio'r gyffordd benodol honno i statws cefnffordd. Mae unrhyw un sydd wedi teithio ar y rhan honno o'r ffordd dros yr ychydig wythnosau diwethaf wedi gweld y ffordd yn cael ei phalu'n systematig eto, goleuadau dros dro newydd yn cael eu gosod, gan achosi anhrefn i'r traffig. A'r hyn na all llawer o bobl ei ddeall yw, os gwariodd Llywodraeth Cymru £2 filiwn bum mlynedd yn ôl yn rhoi trefn ar y gyffordd honno, pam mae'r cyfan bellach yn cael ei rwygo—ac mae'n cael ei rwygo'n llythrennol—a'r holl welliannau hynny a wnaed dim ond pum mlynedd yn ôl yn cael eu datgymalu. Rwy'n tybio y bydd rhyw fath o ailadeiladu yn digwydd yn ystod yr wythnosau nesaf, ond mae braidd yn anodd trio rhagweld beth fydd hynny, o ystyried mai'r cyfan sydd gennych yw tyllau yn y ddaear ar hyn o bryd. Felly, pe gallem ofyn am ddatganiad gan y Gweinidog er mwyn gallu ymhelaethu ar hynny i'r holl fodurwyr, defnyddwyr beiciau a cherddwyr hynny sy'n cael eu llesteirio gan y gwaith ar y gyffordd benodol honno, credaf y byddai hynny'n ymarfer buddiol iawn.
Diolch yn fawr iawn am godi'r materion amrywiol hynny. I unrhyw un sy'n teimlo'n ddryslyd ynghylch agwedd Llywodraeth Cymru at yr economi, bydd y Gweinidog Ken Skates yn gwneud datganiad ar fater y cynllun gweithredu economaidd a'n mesurau datblygu economaidd ar 2 Gorffennaf.
O ran yr argyfwng newid hinsawdd, wrth gwrs mae gennym y datganiad nesaf y prynhawn yma gan y Gweinidog amgylchedd a fydd yn siarad â ni am y mesurau y mae Llywodraeth Cymru yn eu rhoi ar waith. Yn amlwg, mae'n rhaid inni edrych ar hynny drwy sôn am beth fydd cost y mesurau a beth fydd y manteision. Ym mhob un o'r cyfarfodydd a gefais gyda'm cyd-Aelodau, y soniais amdanynt wrth Alun Davies, rwyf hefyd wedi bod yn gwneud hynny o fewn cyd-destun yr argyfwng hinsawdd a chael trafodaethau penodol gyda nhw am yr argyfwng hinsawdd a hefyd ein hymateb i Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015. Felly, mae hynny'n amlwg iawn ac yn ganolog i'r broses o bennu cyllideb.
Ar fater y gwaith ffordd yn Sycamore Cross, efallai yn y lle cyntaf y byddai'n ddoeth codi'r mater yn uniongyrchol gyda'r Gweinidog Trafnidiaeth a bydd ef yn gallu rhoi'r cyngor sydd ei angen arnoch.
Fe'm brawychwyd dros y penwythnos gan y sylw yn y cyfryngau a rhywfaint o'r ymateb i'r ffrae rhwng un o'r ddau ymgeisydd Torïaidd am y Brif Weinidogaeth a'i bartner yn ei fflat. Pardduwyd y cymdogion a roddodd wybod am y digwyddiad. Nawr, nid yn unig y mae gan y cyhoedd yr hawl i wybod am gymeriad rhywun a allai fod yn arwain y DU mewn ychydig wythnosau, ond, yn fwy na hynny, mae gan bobl y ddyletswydd i roi gwybod i'r heddlu am ddigwyddiadau lle credant fod rhywun mewn perygl er mwyn sicrhau diogelwch. A ydych yn cytuno â mi ei bod yn anghyfrifol iawn i gondemnio'r ffaith fod yr heddlu wedi cael eu hysbysu am ddigwyddiad o'r fath?
Mae dwy fenyw yn cael eu lladd bob wythnos gan bartner cyfredol neu gyn-gymar yng Nghymru a Lloegr, ac mae un fenyw o bob pedair yn profi trais domestig yn ystod ei hoes. Gall ymyrraeth gynnar olygu'r gwahaniaeth rhwng byw a marw. Yn unol ag ymgyrch eich Llywodraeth eich hun, 'Paid Cadw'n Dawel', a wnewch chi gyfleu neges ddiamwys nad mater preifat yw cam-drin yn y cartref, ni ddylid ei gadw yn y teulu a thu ôl i ddrysau caeedig? Ac a wnewch chi annog pobl i ffonio 999 os ydynt yn poeni am ddiogelwch cymydog? A allwch hefyd sicrhau bod popeth yn cael ei wneud i wneud yn siŵr bod pobl yn ymwybodol o linell gymorth Cymru Byw Heb Ofn ar gyfer unrhyw un sydd angen help neu sydd â phryder ynghylch cam-drin domestig posib, gan gynnwys cam-drin seicolegol, corfforol, emosiynol a rhywiol, ymddygiad rheolaeth trwy orfodaeth, bygythiadau a brawychu, cam-drin economaidd ac aflonyddu? Diolch yn fawr.
Diolch yn fawr iawn i Leanne Wood am godi hyn, ac rwyf yn cytuno'n llwyr â'r cyfan y mae wedi'i ddweud y prynhawn yma. Fel y dywedwch, mae gan Lywodraeth Cymru ymgyrch a gefnogir gan Gymorth i Fenywod yng Nghymru, 'Paid Cadw'n Dawel', ac rwyf o'r farn mai dyma yw'r union beth i'w ystyried o ran bod pob un ohonom yn gymdogion da, yn ffrindiau da ac yn gyd-weithwyr da ac yn cefnogi pobl a allai, yn ein tyb ni, fod yn dioddef trais yn y cartref, ond hefyd i roi gwybod i'r heddlu os oes gennym unrhyw bryderon am unrhyw un o'n cymdogion. Rwy'n credu ei fod yn ffiaidd bod pobl sydd yn galw'r heddlu'n ddidwyll, am eu bod yn wirioneddol bryderus am rywun arall, yn cael eu pardduo yn y papurau newydd yn y modd hwn. Ni ddylai pobl byth orfod mynd drwy hynny, ac ni ddylai pobl byth boeni am godi'r ffôn ychwaith. Felly, fy mhryder am y ffordd y mae'r mater hwn wedi cael ei gyflwyno yn y wasg yw y gallai wneud i bobl beidio â mynegi eu pryderon. Felly, rwy'n credu ei bod yn amser da iawn i roi mwy o hwb i'n llinell gymorth rhad ac am ddim, Byw Heb Ofn Cymru. Byddaf yn sicrhau ein bod yn hybu hynny ar y cyfryngau cymdeithasol, a gwn y bydd fy nghyd-aelodau'n awyddus i wneud hynny hefyd.
A gaf i ofyn i'r Trefnydd yn gyntaf am ddatganiad gan y Llywodraeth ynghylch Virgin Media, sydd i fod i gau yn Abertawe ar 30 Mehefin? Hoffwn gael datganiad gan y Llywodraeth yn cynnwys nifer y bobl a oedd yn gweithio yno sydd bellach wedi cael gwaith arall, y nifer sy'n dal i gael eu cynorthwyo gan Lywodraeth Cymru, a pha ddefnydd a wneir o'r safle yn y dyfodol.
Hoffwn ofyn wedyn am ddau ddatganiad sy'n deillio o ddeisebau a gafodd y Cynulliad, ac yr ymchwiliwyd iddynt ar ôl hynny gan y Pwyllgor Deisebau, a ddilynwyd gan ddadleuon yn y Siambr—ac ymatebion cadarnhaol iawn gan y Llywodraeth i'r deisebau hynny. Yn gyntaf, y ddeiseb gan Whizz-Kidz ynghylch mynediad i drafnidiaeth gyhoeddus i bobl anabl, ac yn ail, yr un gan Talking Hands am y ddarpariaeth iaith arwyddion. A allwn ni gael datganiadau yn awr yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am y camau a gymerodd y Llywodraeth? Gan eu bod i gyd wedi cael croeso da iawn yn y Siambr, a chawsant eu croesawu'n dda iawn gan y Llywodraeth, cafodd llawer o bethau cadarnhaol iawn eu dweud, ac ar ôl siarad â Whizz-Kidz a Talking Hands, hoffent weld yn awr pa gamau sy'n mynd i gael eu cymryd.
Diolch ichi am y cwestiynau hynny. Ar fater Virgin Media, sydd, fel y dywedwch, i fod i gau'n derfynol yn Abertawe, llwyddais i ddarparu, ychydig wythnosau'n ôl, ddiweddariad ynglŷn â nifer y staff a oedd, bryd hynny, wedi dod o hyd i waith pellach, a byddaf yn gwneud yn siŵr eich bod yn cael y ffigur terfynol hwnnw. Hefyd, gwn fod Virgin Media ar fin penodi asiant o ran defnyddio'r safle yn y dyfodol, ac mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cysylltu i holi sut mae hynny'n datblygu. Rydym yn aros am yr wybodaeth ddiweddaraf ganddynt am y mater penodol hwnnw.
Ac eto, gyda'r dadleuon a gawsom—credaf mai deiseb Talking Hands y buom yn siarad yn benodol amdani yn y Siambr. Fel y dywedwch, cafodd dderbyniad da iawn. Ond yn awr mae angen inni sicrhau bod y camau sy'n deillio o'r ddadl honno'n cael eu gweithredu. Felly, mae'r Gymdeithas Genedlaethol i Blant Byddar wedi ysgrifennu'n ddiweddar at y Pwyllgor Deisebau, gyda'r wybodaeth ddiweddaraf o'u safbwynt nhw, a gallaf gadarnhau bod swyddogion bellach wedi trefnu cyfarfod â nhw i drafod unrhyw gamau pellach sydd eu hangen ôl trafod y ddeiseb.
Yn gyntaf oll, a gaf i ddechrau drwy gefnogi cais Dai Lloyd am ddatganiad ar fargen y ddinas? Mae'n ddwy flynedd a chwarter ers cyhoeddi hwnnw ar gyfer dinas-ranbarth bae Abertawe, a'r teimlad cyffredinol yw nad ydym wedi mynd fawr pellach ac rydym yn dal i fod yn y cyfnod siarad.
Hoffwn, os caf, ofyn am ddau ddatganiad yn amser y Llywodraeth—cyn diwedd y sesiwn hwn, os oes modd. Bydd yr Aelodau yn ymwybodol o'r newyddion trist iawn am gau Jistcourt, cyflogwr mawr, eto, yn fy rhanbarth i, ar adeg pan ydym eisoes wedi cael cryn dipyn o newyddion drwg ym maes cyflogaeth, gyda Ford a Dawnus hefyd. Ac wrth gwrs, yn debyg iawn i Dawnus, mae'r newyddion drwg hyn wedi teithio i Bowys, sydd ddim yn fy rhanbarth i, ond sydd, serch hynny, yn gwneud imi ddechrau pendroni â phryder gwirioneddol yn awr ynghylch diwydrwydd dyladwy. Nawr, rwy'n sylweddoli na all pob trefniant ddod i ben yn llwyddiannus, ond rydyn ni wedi cael y fath rediad o'r hyn sy'n ymddangos i fod yn benderfyniadau peryglus yn ddiweddar. Hoffwn gael datganiad, nid yn unig i drafod y gwaith y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i helpu Jistcourt a'r teuluoedd ar yr amser anodd hwn, ond hefyd pwy sydd yn y sefyllfa orau— ai Llywodraeth Cymru neu gorff gwahanol; yr Awdurdod Ymddygiad Ariannol neu gorff tebyg i hwnnw—i gynnig arweiniad bellach ar yr hyn sy'n gyfystyr â diwydrwydd dyladwy da. Oherwydd ymddengys bod yna batrwm o edrych ar daenlenni a meddwl bod hynny'n ddigon o ystyriaeth i benderfynu ar fenthyg llawer o arian. Ac wrth gwrs, yn yr achos diweddaraf, mae Banc Datblygu Cymru wedi cael ei feirniadu ar y mater hwnnw.
Yn ail, tybed a oes modd inni gael datganiad gan Weinidog yr Iaith Gymraeg am y gwaith y mae ei swyddogion yn ei wneud i fonitro'r gwaith yn erbyn strategaeth 2050. Efallai y bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod dau gyngor yn fy rhanbarth i— Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr a Chyngor Castell-nedd Port Talbot—wedi cyhoeddi syniadau'n ddiweddar sydd, i bob golwg, yn gwrthddweud blaenoriaethau polisi'r Llywodraeth hon. Yn achos Cyngor Pen-y-bont ar Ogwr, ymddengys fod effaith y CDLl a'r ddarpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg wedi arwain at yr hyn sy'n edrych fel gostyngiad ym maint y cynnig y byddent yn gallu ei roi i deuluoedd ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Ac wrth gwrs, ynglŷn â'r sefyllfa yng Nghastell-nedd Port Talbot, mae'n debyg eich bod wedi clywed eu bod yn cynnal ymgynghoriad ar fysus, a fydd yn cynnwys cynigion—ac yn amlwg, mae'r ymgynghoriad yn dal i fynd rhagddo—gallai hynny wneud niwed difrifol i allu pobl sydd wedi cael addysg cyfrwng Cymraeg allu barhau gyda hynny ar ôl 16 oed. Rwyf yn deall yr holl ddadleuon ariannol ynglŷn â hyn, ond yn wir, byddai hynny'n gymaint o ergyd mewn sir sy'n gwneud llawer yn well na Phen-y-bont ar Ogwr o ran yr hyn y gall ei gynnig o ran addysg cyfrwng Cymraeg.
Diolch ichi am godi'r materion hynny. O ran colli swyddi Jistcourt, mae'n amlwg y bydd hyn yn newyddion torcalonnus i'r 66 o weithwyr a'u teuluoedd, a byddwn yn awr yn canolbwyntio ar helpu'r gweithwyr hynny i ddod o hyd i gyflogaeth leol arall. Mae'r gweithlu yno'n arbennig o dalentog, ac mae gan ein rhaglen ReAct record gref o gefnogi unigolion sydd wedi colli swyddi. Byddwn yn sicrhau bod y cymorth hwn ar gael cyn gynted â phosib, ynghyd â chymorth cydgysylltiedig gan bartneriaid a sefydliadau lleol, gan gynnwys Gyrfa Cymru a'r Ganolfan Byd Gwaith. O ran eich pryder ehangach am y mesurau datblygu economaidd y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, wrth gwrs, mae'r datganiad hwnnw gan Ken Skates ddydd Mawrth nesaf, a allai fod yn gyfle i archwilio'r materion yn ehangach.
Llwyddais i ymateb i Dai Lloyd yr wythnos diwethaf—i'w gwestiwn ynghylch darpariaeth trafnidiaeth Castell-nedd Port Talbot i'r rhai sy'n dymuno cael addysg Gymraeg. Fel y dywedwch, mae'n destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, ond byddem yn bryderus petai'r rheini sy'n dymuno cael eu haddysg yn Gymraeg dan anfantais. Yn amlwg, byddem yn ceisio sicrhau bod pob ymdrech yn cael ei gwneud i sicrhau nad oes anfantais yno. Byddaf yn gofyn i Weinidog y Gymraeg roi'r wybodaeth ddiweddaraf ichi am y camau sydd wedi'u cymryd tuag at y targed o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Clywsom gan y BBC y bydd yr ardal 50 mya, ym Mhort Talbot, a fu'n gyfnod prawf o gwmpas cyffordd 31, ac sydd wedi cael ei hymestyn, yn cael ei gwneud yn barhaol. Ac yn ôl y BBC, mae'n dweud y bydd yn parhau mewn grym i gynnal safonau ansawdd aer. Nawr, heb unrhyw ddatganiad gan y Llywodraeth, mae'n anodd iawn inni wybod beth y mae'r safonau ansawdd aer hynny wedi'i gyflawni a sut y gallwn fod yn sicr mai dyma'r ateb i'r broblem llygredd yn yr ardal benodol honno. Mae etholwyr wedi gofyn imi dros y penwythnos am yr wybodaeth a arweiniodd at benderfyniad gan y Llywodraeth yn y cyswllt hwn a byddwn yn croesawu'r wybodaeth honno. Oherwydd, os nad yw'r wybodaeth ddim gennym, bydd llawer o ddyfalu ynghylch pam y gwnaed y penderfyniad a pham y bydd darn penodol o ffordd yn cael ei gadw ar 50 mya. Nid wyf yn anghytuno ag ef, ond mae angen inni wybod pam y gwnaed y penderfyniad hwnnw ac mae angen inni fodloni ein hetholwyr hefyd. Felly, byddai datganiad yn cael ei groesawu.
Hoffwn hefyd ystyried y mater a godwyd gan Suzy Davies mewn cysylltiad â Jistcourt. Dwi wedi cael ambell i e-bost am hyn hefyd. Unwaith eto, byddwn yn croesawu datganiad gan Lywodraeth Cymru i ACau—nid wyf wedi gweld dim yn fy mewnflwch oherwydd mae angen inni wybod beth sy'n digwydd, mae angen inni wybod sut y mae'r gweithwyr yn cael eu cefnogi, ac mae angen inni ddeall pa sgyrsiau a gafodd Llywodraeth Cymru a'r sgyrsiau a allai fod wedi digwydd dan amgylchiadau eraill gyda cholli swyddi yn Ne Cymru. Rwy'n credu ei bod yn fater o barch fod pob Aelod yn cael gwybod. Ni allwn gael clywed gwybodaeth sensitif, ond siawns y gallwn gael gwybod pan fydd swyddi'n mynd i gael eu colli, fel nad ydym mewn sefyllfa lle nad oes gennym unrhyw wybodaeth i'w rhoi i bobl. Felly, byddai datganiad ar hynny o fudd mawr.
Diolch ichi am godi'r ddau fater hynny. Rwy'n credu bod Gweinidog yr amgylchedd wedi darparu rhywfaint o'r wybodaeth yr ydych yn gofyn amdani mewn datganiad ar awyr iach yr wythnos diwethaf. Felly, byddwn yn eich cyfeirio at hynny, ond os nad yw'r atebion yr ydych yn eu ceisio yn y cyswllt hwnnw, yna rwy'n siŵr y byddai'n gallu cysylltu â Ken Skates i roi'r wybodaeth honno ichi.
Ac ar fater Jistcourt, gofynnaf i'r Gweinidog, unwaith eto, roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y trafodaethau a gafwyd a'r gefnogaeth y gallwn ei rhoi i gyflogwyr. Credaf fod yn rhaid inni fod yn synhwyrol, a dweud y gwir, o ran yr hyn sy'n bosib yng nghyswllt colli swyddi, oherwydd fel y dywedodd Ken Skates yr wythnos diwethaf, mae tua 2,000 o swyddi'n cael eu colli bob un wythnos yng Nghymru, ond ar yr un pryd, mae dros 2,000 o swyddi'n cael eu creu. Felly, mae ffynhonnell gyson o swyddi. Ond wedi dweud hynny, lle ceir cyflogwyr o faint sylweddol, gallaf ddeall yn llwyr pam y byddai'r Aelodau lleol yn dymuno cael hysbysiad mor gynnar â phosib er mwyn cefnogi eu hetholwyr yn y ffordd orau.
A gaf i ailadrodd fy ngalwad am ddatganiad amserol— ar yr adeg briodol—i roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni am y gwaith ar Ford a'r tasglu'n benodol? Byddai'n caniatáu inni, felly, godi'r mater o hyd at 25 o weithwyr yn Ford, y mae rhai ohonynt yn etholwyr imi, a dderbyniodd becyn diswyddo sylfaenol ddechrau mis Mai, ac a geisiodd sicrwydd gan Ford ar y pryd nad oedd unrhyw gynlluniau i gau'r gwaith yn y dyfodol agos. Wrth wneud hynny, a derbyn y pecyn sylfaenol hwnnw, mae'n debyg eu bod, gyda'u teuluoedd, bellach ar eu colled o hyd at £50,000, £60,000, £70,000 neu fwy, ar ôl cael sicrwydd gan Ford nad oedd unrhyw gynlluniau cau yn fuan iawn. Bedair wythnos yn ddiweddarach, cyhoeddodd Ford ei gynigion ar gyfer cau. Nawr, bydd Ford yn dadlau fod eu proses yn dal dŵr ar hyn oherwydd bod y gweithwyr hynny wedi llofnodi cytundeb ac wedi derbyn y telerau. Ond roedd y gweithwyr hynny hefyd wedi gofyn am sicrwydd clir gan Ford nad oedd cynlluniau ar y gorwel i gau'r gwaith. Felly, efallai fod eu proses yn dal dŵr yn gyfreithiol, ond byddwn i'n dweud bod eu hymddygiad yn codi cwestiynau moesol. Felly, byddai datganiad yn caniatáu i bryderon y gweithwyr hynny gael eu clywed yn glir yma, ond gallai hefyd roi sicrwydd inni y bydd Ken Skates, Gweinidog yr economi, dwi eisoes wedi codi'r mater hwn gydag ef, yn codi hyn gyda Ford hefyd, oherwydd credaf fod gan Ford achos moesol i'w ateb ynghylch pam y dywedwyd wrth eu gweithwyr 'Does dim cynlluniau i gau. Cymerwch y pecyn sylfaenol. Dyma'r gorau y gallwch ei wneud.' Yna, bedair wythnos yn ddiweddarach, fe sylweddolodd y gweithwyr eu bod yn cael eu gadael gyda thwll anferth yn eu pocedi.
Fel y dywedodd Huw Irranca-Davies, roedd y gweithwyr hynny'n derbyn y pecyn yn ddidwyll ar adeg pan gawsant sicrwydd nad oedd cynlluniau ar y gorwel i gau'r gwaith. Diolch ichi am godi'r mater hwnnw'n uniongyrchol gyda Gweinidog yr economi. O ganlyniad, mae'n ysgrifennu heddiw i ofyn i Ford ystyried eu safbwynt ar y mater hwn ac i ymchwilio i'r posibilrwydd o wella'r pecyn gwahanu y cytunir arno â'r gweithwyr yr effeithir arnynt, ac felly nad ydynt dan anfantais o'u cymharu â'u cydweithwyr.
Hoffwn ofyn i'r Trefnydd am dri datganiad gan y Llywodraeth, os gwelwch yn dda. Yn gyntaf, hoffwn ofyn iddi gyflwyno sylwadau i'r Gweinidog Addysg am ddatganiad ynghylch cynaliadwyedd ariannol y sector addysg uwch yng Nghymru. Gofynnaf hyn yng ngoleuni'r pryderon sydd wedi dod i'r amlwg am y posibilrwydd o golli swyddi ar gampws Llanbedr Pont Steffan, Prifysgol Cymru'r Drindod Dewi Sant. Nawr, yn amlwg, mae colli swyddi bob amser yn destun pryder, ac mae colli swyddi mewn addysg uwch yn destun pryder, ond mae'n anodd gorbwysleisio pwysigrwydd campws Llanbedr Pont Steffan i'r dref fach honno. Felly byddwn yn ddiolchgar iawn o glywed pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd, ar y cyd â'r sector—o glywed yr hyn y mae Gweinidogion bob amser yn ei ddweud am y rhain fel sefydliadau unigol, annibynnol—i geisio diogelu'r swyddi hynny mewn cymuned y mae arnynt eu hangen yn ddirfawr.
Byddwn yn gofyn ymhellach i Weinidog yr Economi—datganiad ysgrifenedig o bosib, o ystyried y pwysau amser—i wneud datganiad ynglŷn â'r colledion swyddi arfaethedig yng Nghwmni Bwyd GRH ym Minffordd. Nawr, fel y bydd y Trefnydd yn gwybod, mae hwn yn gwmni sy'n bwysig iawn i'w economi leol. Efallai mai dim ond 90 o swyddi a fydd yn cael eu colli, nifer cymharol fach, ond byddwn yn dweud wrth y Trefnydd, o'r 2,000 o swyddi hynny y cyfeiriodd atynt yn awr a grëir yng Nghymru, nid oes digon ohonynt yn cael eu creu yn y Gogledd-orllewin ac felly mae colli'r 90 swydd hynny'n arwyddocaol iawn i'r gymuned honno. Gwn y bydd Gweinidog yr amgylchedd yn deall yn llawn arwyddocâd y posibilrwydd o golli'r capasiti prosesu hwnnw i'r economi wledig ehangach. Felly, a gaf i ofyn am ddatganiad ysgrifenedig? Ac efallai y bydd rhywfaint o le i Weinidog yr Amgylchedd, gan wisgo'i het cefnogi ffermio, gyfrannu rhywfaint at y datganiad hwnnw.
Yn olaf, ymhellach i'r sylwadau a wnaed eisoes gan Andrew Davies, credaf fod gan y Cynulliad hwn yr hawl i ddisgwyl i Ddirprwy Weinidog yr Economi ddod ger ein bron i egluro pam y mae wedi dweud—a dyfynnaf eto—
'Ers 20 mlynedd rydym wedi cymryd arnom ein bod yn gwybod beth rydyn ni'n ei wneud ar yr economi—a'r gwir amdani yw nad ydyn ni'n gwybod yn iawn beth rydyn ni'n ei wneud ar yr economi.'
Efallai mai sylwadau a wnaed yn ysgafn oedd y rhain—nid wyf ond wedi'u gweld yn ysgrifenedig, nid wyf wedi'u gweld yn eu cyd-destun—ond rwyf yn credu—. A chlywais yr hyn a ddywedodd y Trefnydd am y datganiad gan Weinidog yr Economi ei hun, ond credaf fod yn rhaid i'w ddirprwy roi cyfrif i'r fan hon am yr hyn y mae'n ei olygu wrth y sylwadau hynny, sydd yn eithriadol o ddifrifol os ydynt yn wir, a hefyd, yn bwysicach efallai, pa swyddogaeth y mae'n bwriadu ei chwarae i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn penderfynu beth y mae'n ei wneud ar yr economi. Nid yw'n ddigon da iddo guddio y tu ôl i'w Weinidog yn unig; rhaid iddo roi cyfrif am y sylwadau hynny, oherwydd gwn yn sicr na fydd ei etholwyr yn Llanelli yn dawel eu meddwl oni bai ei fod yn barod i'w hegluro.
O ran y mater cyntaf, a oedd yn ceisio datganiad am sefydlogrwydd ariannol y sector addysg, fel y dywedwch, mae prifysgolion yn gyrff annibynnol ac ymreolaethol, ac nid yw Llywodraeth Cymru yn ymwneud â'u materion gweinyddol. Fodd bynnag, gallaf gadarnhau bod y Gweinidog dros addysg wedi cael cyfarfod â Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru yn ystod yr wythnos diwethaf, lle'r wyf yn sicr y trafodwyd y materion sy'n ymwneud â Phrifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yn Llanbedr Pont Steffan.
O ran Cwmni Bwyd GRH, yn amlwg, unwaith eto, bydd hyn yn rhagor o newyddion trychinebus i'r gweithwyr yno, ac mae'n rhaid canolbwyntio nawr ar ddod o hyd i bob ffordd o chwilio am swyddi diogel ar gyfer y gweithwyr hynny. Gallaf gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn cyfarfod ar frys gyda'r gweinyddwyr i weld beth arall y gallwn ei wneud i'r gweithlu, ond hefyd i'r gadwyn gyflenwi ehangach honno, y cyfeiriasoch ati yn eich datganiad.
Ac ar y cwestiwn olaf, yn y lle cyntaf rwy'n credu y byddaf yn cael sgwrs gyda'r Dirprwy Weinidog.
Diolch i'r Trefnydd.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig ar ddarparu Cymru carbon isel. Dwi'n galw ar y Gweinidog i wneud ei datganiad. Lesley Griffiths.
Diolch, Llywydd. Llynedd, cawsom rybudd llym gan y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd, sy'n dangos ei bod y tu hwnt i amheuaeth fod ein hinsawdd yn cynhesu a bod y dystiolaeth am effaith hynny ar y ddynoliaeth hyd yn oed yn fwy cadarn. Yng Nghymru, mae gennym ymrwymiad cryf i weithredu ar newid hinsawdd, drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016. Ym mis Rhagfyr 2018, pennwyd ein nodau interim deddfwriaethol cyntaf a'r ddwy gyllideb garbon gyntaf, gan roi eglurder a chyfeiriad.
Ar ôl pennu ein cyllideb garbon gyntaf ym mis Mawrth eleni, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru 'Ffyniant i bawb: Cymru Carbon Isel', sy'n cynnwys proffiliau allyriadau manwl yn ôl y sector, a 100 o bolisïau a chynigion i gyflawni ein cyllideb garbon gyntaf a Chymru carbon isel. Mae'r cynllun wedi cael ei rannu yn ôl y portffolio, sy'n dangos ymrwymiad y Cabinet cyfunol i'r newid. Mae'n dwyn 76 o ddarnau polisi ynghyd o bob rhan o Lywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a'r Undeb Ewropeaidd, a 24 o gynigion i'w gweithredu yn y dyfodol. Mae gweithredu'r polisïau yn y cynllun yn hollbwysig i gyrraedd ein nod interim a'n cyllideb garbon gyntaf, ac mae'r cynigion yn gosod y sylfaen ar gyfer datgarboneiddio yn fwy eang.
Mae'r data diweddaraf yn dangos ein bod yn gwneud cynnydd, gydag allyriadau carbon 25 y cant yn is yn 2017 o'u cymharu â 1990. Er hynny, ni ddylem fychanu'r heriau yr ydym yn eu hwynebu yng Nghymru. Daw bron 60 y cant o'n hallyriadau yn sgil cynhyrchu ynni a diwydiant. Yn y sector ynni, cynyddodd yr allyriadau 44 y cant rhwng 1990 a 2016, tra bod allyriadau cyffredinol y DU o'r sector wedi gostwng 60 y cant yn ystod yr un cyfnod. Mae hyn yn adlewyrchu penderfyniadau hanesyddol Llywodraeth y DU i leoli gorsafoedd ynni tanwydd ffosil yng Nghymru. Mae Cymru, o ganlyniad, yn allforio trydan i system ynni'r DU.
Mae angen inni fod yn rhan o system ynni newydd lle gallwn reoli'r canlyniadau yr ydym yn eu dymuno i Gymru—canlyniadau sy'n fuddiol o ran ein heconomi, yr adnoddau naturiol y mae pob un ohonom yn dibynnu arnyn nhw, a'n cymunedau ni. Dyma pam, yn y cynllun, mae gennym ni gynnig nid yn unig i ddatblygu ein polisi ar losgi tanwyddau, ond i ganolbwyntio hefyd ar fwy o berchnogaeth leol ar gynhyrchu ynni adnewyddadwy. Mae Cymru eisoes yn cynhyrchu trydan o ffynonellau adnewyddadwy sy'n cyfateb i 48 y cant o gyfanswm ein defnydd.
Mae'r cynllun yn cynnwys camau i leihau allyriadau yn sgil diwydiant, a bydd yn rhaid i hynny ganolbwyntio ar gydweithredu, ymchwil a datblygu. Byddwn yn sefydlu grŵp un pwrpas dan arweiniad y diwydiant i ystyried y cyfleoedd a'r heriau arbennig sy'n dod gyda datgarboneiddio sectorau diwydiannol a busnesau yng Nghymru. I wneud hynny bydd yn rhaid sicrhau amgylchedd busnes cynaliadwy a chystadleuol, gan fanteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd i arloesi a ddaw gyda datgarboneiddio diwydiant.
Byddwn yn datgarboneiddio ein system drafnidiaeth drwy ganolbwyntio ar annog newid moddol tuag at deithio mwy cynaliadwy, a chefnogi'r defnydd o gerbydau allyriadau isel. Byddwn yn datgarboneiddio ein hadeiladau drwy raglenni ôl-ffitio estynedig, sydd nid yn unig yn helpu i leihau allyriadau ond yn mynd i'r afael â thlodi tanwydd hefyd ac yn meithrin sgiliau lleol. Fis nesaf, byddwn ni'n derbyn argymhellion ar sut y gellid cyflawni hyn gan ein grŵp cynghori allanol.
Byddwn hefyd yn cynyddu ein storfeydd carbon drwy ehangu'r gorchudd coed a chyda gweithgareddau i greu coetiroedd. Dyma un o'r rhesymau am gael coedwig genedlaethol newydd i Gymru, a byddaf i'n lansio ymgynghoriad hefyd ar gam nesaf ein polisi rheoli tir y mis nesaf, cyn y Sioe Frenhinol.
Mae'n rhaid inni sicrhau bod ein trawsnewidiad yn seiliedig ar degwch a chyfiawnder, heb adael neb ar ôl, ac rwy'n falch o weld y tynnwyd sylw at hyn hefyd yng nghyngor diweddar Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd, yr oedd ei nod o 95 y cant yn seiliedig ar gadw'r sail ddiwydiannol sydd gennym ni a'i datgarboneiddio, yn hytrach nag anfon ein hallyriadau dramor. Mae hyn yn bwysig nid yn unig o ran diogelu ein swyddi lleol ond o ran sicrhau ein bod hefyd yn gyfrifol yn fyd-eang. Byddwn hefyd yn sefydlu grŵp cynghori ar gyfiawnder hinsoddol i gynghori'r Llywodraeth ar symud oddi wrth economi sy'n seiliedig ar danwydd ffosil, gyda thegwch yn ganolog i'n camau gweithredu.
Rwyf wedi bod yn glir bob amser, ni fydd gweithredu gan y Llywodraeth yn ddigonol ynddo'i hunan. Ni allwn gyflawni hyn heb i bawb chwarae eu rhan. Bydd gweithio mewn ffordd amgen i ddatblygu sgiliau, arloesi, newid ymddygiad a chydweithio yn hanfodol os ydym i gyflawni ein huchelgais. Felly, bydd angen i'n cynllun nesaf fod yn gynllun ar gyfer Cymru gyfan, a fydd yn adlewyrchu'r angen i gydnabod cyfraniadau pawb i ymateb i her newid hinsawdd a diogelu'r manteision mwyaf posib i les Cymru drwy drawsnewid i fod yn economi carbon isel.
Yn fuan ar ôl cyhoeddi'r cynllun, datganodd Llywodraeth Cymru argyfwng hinsawdd i ysgogi camau gweithredu. Wedi hyn y Cynulliad Cenedlaethol oedd y senedd gyntaf yn y byd i bleidleisio o blaid datganiad o'r fath. Yn gynharach y mis hwn, ac yng ngoleuni ein datganiad ni, fe wnes i gadarnhau fy mod yn derbyn cyngor y Pwyllgor ar y Newid yn yr Hinsawdd i leihau allyriadau 95 y cant erbyn 2050, ac yn ein hymrwymo ni i fynd ymhellach na hynny hyd yn oed a sicrhau dileu allyriadau net yn llwyr erbyn 2050 fan bellaf. Dyma gyfraniad teg Cymru i ymrwymiadau'r DU yn ôl cytundeb Paris.
O ganlyniad i hyn, y flwyddyn nesaf byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth i fabwysiadu nod i leihau carbon 95 y cant, sy'n cynrychioli newid enfawr o ran uchelgais o'n nod presennol o 80 y cant; a chyn diwedd 2021, byddwn yn nodi ein cynllun nesaf yn cyfateb i gyfnod y gyllideb o 2021 i 2025. Gofynnir i bob Gweinidog adolygu ei gamau gweithredu yn y cynllun i nodi lle y gallwn lwybro ymhellach ac yn gyflymach i fodloni'r uchelgais uwch a osodwyd gennym ni ein hunain.
Fodd bynnag, bydd yn rhaid inni barhau i ganolbwyntio ar y cam cyntaf. Mae 'Cymru Carbon Isel' yn disgrifio sut y byddwn ni'n cwrdd â'n cyllideb garbon gyntaf ac yn gosod sylfaen hanfodol hefyd ar gyfer yr ymdrechion mwy caled o'n blaen, nid yn unig gan y Llywodraeth, ond gan Gymru benbaladr. Os nad awn ni i'r afael â'r meysydd sy'n cael eu hamlinellu yn y cynllun, ni fyddwn yn y pen draw yn cyrraedd ein cyllideb garbon gyntaf na'r her sylfaenol o fynd i'r afael â newid hinsawdd.
Bydd cyrraedd ein nodau yn golygu y bydd pobl yn cydweithio ar draws y Llywodraeth, y sectorau preifat, cyhoeddus a gwirfoddol, ac yn cynnwys y gymdeithas yn ei chyfanrwydd, ac rwy'n falch o weld bod rhywrai eraill eisoes wedi dilyn wrth ddatgan argyfwng hinsawdd. Mae hon yn her aruthrol, ond yn un yr wyf i'n hyderus y gall Cymru ymateb iddi.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Mae'n ymddangos bod gan y rhai sy'n llefarwyr yr amgylchedd a'r Gweinidog slot parhaol ar ddydd Mawrth y dyddiau hyn gyda'r datganiadau amrywiol—datganiadau pwysig, hoffwn i ychwanegu, ac yn briodol iawn i'w gwneud.
Os caf ddechrau drwy ofyn yn gyntaf—ac fe ofynnais i yn ystod y datganiad busnes i'r Gweinidog cyllid—am economeg hyn i gyd. Rwyf i'n cyd-fynd yn llwyr â'r nod a'r amcanion yr ydych yn sôn amdanyn nhw, ond mae rhyw deimlad gennyf i nad yw economeg hyn i gyd a sut y caiff ei gyflawni wedi ei ddeall gan y Llywodraeth. Os ydyw wedi ei ddeall, a oes modd inni gael yr wybodaeth honno? Rwy'n cyfeirio at ddadansoddiad y Trysorlys o'r gost y bydd rhai o'r cynlluniau hyn yn ei olygu i'r economi yn y pen draw ac yn ei gynhyrchu i'r economi hefyd, o ran swyddi ac o ran yr arian y bydd angen i'r Llywodraeth ddod o hyd iddo. Mae Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru wedi tynnu sylw at y ffaith mai dim ond 1 y cant o gyllideb Llywodraeth Cymru sy'n cael ei wario ar ddatgarboneiddio ar hyn o bryd. A wnewch chi, y prynhawn yma, roi syniad inni o leiaf o'r cyfanswm y credwch chi y gallai'r ffigur hwnnw fod ymhen pum mlynedd, fel canran? Mae'n rhaid bod niferoedd fel hyn wedi cael eu dadansoddi â chrib mân o fewn y Llywodraeth. Fel arall, os na fydd cyllid yn dilyn y polisi, ni chaiff y polisi ei gyflawni. Rwy'n gobeithio y byddech chi'n derbyn y rhesymeg honno.
Hefyd, o ran yr elfen ynni yn y datganiad yr ydych chi wedi tynnu sylw ato'r prynhawn yma, Gweinidog, rydych chi wedi tynnu sylw at benderfyniadau blaenorol i leoli rhai gorsafoedd ynni yng Nghymru—mae Aberddawan yn un sy'n dod i'r meddwl, sydd yn fy rhanbarth etholiadol i. Ac fe wyddom ni, erbyn 2025, y bydd yr orsaf bŵer honno'n dod at ddiwedd ei hoes, o gofio, yn amlwg, ei bod hi'n orsaf sy'n llosgi glo. Ond rydych chi wedi dweud o'r blaen y dylem ni, fel patrwm o gynhyrchu ynni, fod yn edrych yn fwy ar gynhyrchu digon o ynni ar gyfer ein defnydd ni ein hunain, a pheidio ag allforio unrhyw ynni sydd dros ben. A wnewch chi ddweud wrth y Siambr heddiw sut yr ydych chi'n credu y gellir cyflawni hynny, neu, yn wir, ai polisi gweithredol y Llywodraeth yw darparu'r capasiti ynni o fewn Cymru a fydd yn ateb y galw yng Nghymru, yn hytrach na cheisio allforio'r ynni a gynhyrchwn ni y tu draw i'n ffiniau?
Ac a ydych chi'n gweld unrhyw ran i danwyddau ffosil yn y gymysgedd ynni yma yng Nghymru? Oherwydd yn y strategaeth ddatgarboneiddio, yn amlwg, mae gennym ni'r orsaf ynni nwy yn Sir Benfro, er enghraifft. Mae gennyf ryw syniad ei bod hi'n un o'r gorsafoedd pŵer nwy mwyaf cyfoes, os nad y fwyaf cyfoes, yn Ewrop. Ac, felly, o safbwynt cydbwyso, fel y deallwn gydag ynni adnewyddadwy, ni allwch chi ond cyrraedd rhyw swm, oherwydd nid yw ynni adnewyddadwy, ar adegau arbennig o alw brig a rhai adegau yn y nos, yn benodol, yn gweithio. A thechnoleg batris ar hyn o bryd—. Dyweder, yn y de, er enghraifft, os ydych chi'n dymuno rhoi technoleg batri ar y grid, mae'n amhosib i'w roi ar y grid oherwydd bod moratoriwm gan Western Power. Felly, a allaf i ddeall beth yw eich polisi ynni chi, a sut fydd hwnnw'n cael ei ddatblygu yn ystod y 10 mlynedd nesaf, ac yn enwedig a oes unrhyw le o fewn y cymysgedd ynni y mae'r Llywodraeth yn ei ragweld i Gymru ar gyfer gorsafoedd sy'n defnyddio nwy fel yn Sir Benfro?
Credaf fod eich pwynt am anfon pethau dramor yn wirioneddol bwysig. Un peth yw cael cydwybod glir yng Nghymru, ond nid yw'r cydwybod glir honno yn golygu dim os mai'r cyfan a wnaethom oedd anfon y busnesau hynny dramor. Rwy'n credu, os edrychwch chi ar benderfyniad Ford, er enghraifft, nid wyf yn credu bod Mecsico wedi datgan argyfwng newid hinsawdd, ac rwy'n eithaf sicr nad yw rhai o'r amodau amgylcheddol—a byddwn i'n hapus i gael fy nghywiro yn hyn o beth—mor gadarn â'r amodau yn Ewrop o bosib, ac rwy'n siŵr y gallai hynny fod wedi chwarae ei ran. Ac rydym yn siarad am yr injan hylosgi yma. Felly, unwaith eto, hoffwn i'n fawr gael deall sut y bydd y gweithgor newydd y byddwch chi'n ei sefydlu yn cynghori'r Llywodraeth ynghylch sut y gallwn ni gadw'r fantais gystadleuol i fusnes a diwydiant yng Nghymru. Oherwydd heb i'r busnesau a'r diwydiannau hynny yng Nghymru greu'r swyddi a'r cyfoeth y mae arnom ni eu hangen ar gyfer ein heconomi yn gyffredinol, bydd y cyhoedd yn symud oddi wrth yr agenda polisi arbennig hwn cyn hir oherwydd, yn y pen draw, fe fyddan nhw'n dweud eu bod nhw'n colli eu swyddi o'r herwydd.
Mae'r sector coedwigaeth, fel y mae'r pwyllgor ar newid hinsawdd wedi tynnu sylw ato, wedi llithro'n sylweddol oddi wrth nod y Llywodraeth ei hun o blannu 100,000 hectar erbyn 2030. Rwy'n cred, fwy na thebyg, bod hwnnw'n derm haelfrydig y gallwn i ei ddefnyddio, oherwydd yn amlwg mae'r nod hwnnw'n parhau, ond methwyd y nodau o ran plannu o un flwyddyn i'r llall yn y blynyddoedd diwethaf. Unwaith eto, byddai'n werthfawr ceisio datrys gyda'r Gweinidog sut yr ydych chi am gael hynny'n ôl ar y trywydd iawn. Ac yn benodol, mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi tynnu sylw at linell cyllideb o tua £16 miliwn sydd ei angen i ailfywiogi'r fenter benodol hon. A yw'r Gweinidog wedi ystyried cyllid o'r fath yn ei setliad hi? Ac os felly, a wnaiff hi ymrwymo i'r llinellau hynny y tynnodd comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol sylw atyn nhw?
Hoffwn hefyd gynnwys adeiladu tai yn yr hafaliad hefyd, oherwydd os ydym ni'n sôn am leihau allyriadau carbon, mae adeiladu tai, yn arbennig, yn cynnig potensial enfawr inni ennill manteision yn hyn o beth—boed hynny'n ôl-ffitio neu'n safonau adeiladu newydd. Ac o safbwynt y Ceidwadwyr ar dai, a gyflwynodd fy nghydweithiwr David Melding y llynedd, polisi'r Ceidwadwyr yw cael tai di-garbon erbyn 2026. A yw'r Llywodraeth yn cefnogi safonau o'r fath a nod o'r fath oherwydd, yn amlwg, chi sydd yn y gadair i wneud y penderfyniad hwn ar hyn o bryd? Rwy'n credu ei bod braidd yn anffodus bod y datgysylltiad hwn yn yr adran, gan fod tai a chynllunio bellach yn rhan o bortffolio arall, tra eu bod yn hanesyddol yn rhan o'ch portffolio chi. Mae cysylltu'r amgylchedd a'r amcanion amgylcheddol â'r rheoliadau adeiladu a'r system gynllunio, yn amlwg, yn gofyn am lawer o gydweithredu gydag adrannau eraill, Ond daeth i'r amlwg, o enghreifftiau blaenorol, bod diffyg ystyriaeth gydgysylltiedig weithiau yn rhywfaint o'r datblygiad polisi hwn.
A'm pwynt olaf i, os caf i, ynglŷn â hyn, yw eich bod chi wedi cyhoeddi heddiw eich bod wedi sefydlu dau grŵp newydd i'ch cynghori ar y mater. Rwy'n cofio pan ddaeth Gweinidog yr economi i'w swydd ac iddo dynnu sylw at y ffordd yr oedd gan ei adran ef ar ei phen ei hun fwy na 40 o grwpiau amrywiol yn ei gynghori ar bolisi economaidd. A fyddech chi—ac rwy'n sylweddoli nad yw'r ffigur hwn o bosib gyda chi heddiw—yn nodi'n union faint o grwpiau sy'n gweithio yn yr adran, oherwydd nid oes llawer o ddatganiadau a gawn ni lle nad oes yna grŵp neu waith gorchwyl a gorffen newydd wedi ei sefydlu i roi cyngor ynglŷn â'r mater hwnnw? Ac rwy'n credu mai da o beth fyddai deall sut yn union y mae'r holl grwpiau hyn, wrth wneud gwaith da iawn, siŵr o fod, yn llywio'r drafodaeth ac, yn bwysig, yn llunio'r polisi i'w gyflawni ar gyfer cyrraedd y nodau uchelgeisiol. Ac yn glod i'r Llywodraeth, mae ganddyn nhw nodau uchelgeisiol, ond ni fydd y nodau'n cael eu cyflawni oni bai eich bod chi'n cael y cyfan i weithio mewn cytgord.
Diolch am y cyfraniad hwnnw. Rwy'n credu bod Andrew R.T. Davies wedi siarad yn hwy nag a wnes i gyda'r datganiad cychwynnol—[Chwerthin.]—ond mi geisiaf ateb ei holl gwestiynau.
Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn, pan fyddwn ni'n ystyried cost bosib unrhyw newid, nad ydym ni'n colli golwg ar y cyfleoedd economaidd y gellir eu gwireddu. Rwy'n credu ein bod ni'n canolbwyntio'n rhy aml, efallai, ar golli swyddi. Rwyf i o'r farn y gallwn ni ddysgu gwersi. Os edrychwch chi ar y diwydiant glo yn ôl yn yr 1980au, a'r newidiad o hynny, rwy'n credu bod llawer o wersi i'w dysgu, a llawer o bethau y dylem ni eu hosgoi. Ond rwy'n credu bod yn rhaid inni fod yn ddigon dewr i arwain y ffordd yn hyn o beth.
Rydych chi'n holi am y gost ariannol, ac mae yna rywbeth yr ydym ni'n edrych arno; rwy'n credu bod y Trefnydd wedi ateb yn ei datganiad busnes, gyda'i Gweinidog cyllid, ei bod yn amlwg bod datgarboneiddio yn rhywbeth y mae'n holi pawb amdano wrth inni ddechrau ar broses y gyllideb—wel, rydym wedi ei dechrau, rydym wedi cael y cyfarfod dechreuol, ac, yn amlwg, caiff hyn ei ddwysáu yn ystod toriad yr haf. Rwy'n mynd yn ôl at yr hyn yr oeddwn i'n ei ddweud yn fy natganiad gwreiddiol: mae'n rhaid i bob Gweinidog edrych ar ei bolisïau a'i gynigion o ran datgarboneiddio a newid hinsawdd, ac, yn amlwg, bydd yn rhaid symud arian o fewn portffolio pob Gweinidog.
Rwy'n credu hefyd, pan dderbyniais i gyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd ynglŷn â'r nod o 95 y cant—mae hynny'n dibynnu ar gadw'r sail ddiwydiannol sydd gennym a'i datgarboneiddio, yn hytrach na symud yr allyriadau dramor, ac rwy'n falch eich bod chi'n croesawu hynny, oherwydd credaf ei bod yn bwysig iawn bod yn gyfrifol yn fyd-eang.
Roeddech chi'n sôn am gynllun 10 pwynt argyfwng hinsawdd Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a'r penawdau. Yn amlwg, cawsom yr adroddiad hwnnw'r wythnos diwethaf. Credaf i ni ei gael tua 24 awr cyn iddo gael ei wneud yn gyhoeddus, ac, yn sicr, mae hi o'r un farn â ni, ac rwy'n croesawu ei chyfraniad hi i'r ddadl hon yn fawr. Rwy'n credu y byddai hyn yn beth da i bob corff cyhoeddus. Rwyf wedi bod yn falch iawn, ers inni gyhoeddi'r argyfwng hinsawdd, ers inni ddatgan yr argyfwng hinsawdd, fod cynifer o awdurdodau lleol wedi ymuno â ni. Ac maen nhw'n dweud mai'r rheswm am hynny yw bod Llywodraeth Cymru wedi arwain y ffordd y maen nhw wedi ei dilyn.
Ddydd Iau diwethaf, aeth y Prif Weinidog a minnau i swyddfeydd Cyfoeth Naturiol Cymru yma yng Nghaerdydd ar gyfer cyflwyniad ar yr hyn y maen nhw wedi ei wneud ers i Lywodraeth Cymru gyhoeddi a datgan yr argyfwng hinsawdd. Ac roedden nhw'n dweud bod hynny wedi gwneud iddyn nhw edrych ar yr hyn y maen nhw'n ei wneud mewn gwirionedd. Maen nhw wedi arwain y ffordd o ran y prosiect Carbon Positif. Nid wyf yn gwybod a yw fy nghydweithwyr yn ymwybodol ohono; mae'n werth edrych arno. Felly, rwy'n credu ei bod yn galondid gweld cyrff cyhoeddus yn arbennig felly yn edrych ar yr hyn y gallan nhw ei wneud, a hefyd y sector preifat a busnesau. Ac rwy'n credu mai yn y datganiad ddydd Mawrth diwethaf y soniais i fy mod i wedi mynd at y cyngor economaidd a gaiff ei gadeirio gan fy nghydweithiwr Ken Skates, oherwydd roedd busnes yn gofyn yn benodol a fyddwn i'n fodlon mynd, iddyn nhw gael siarad am eu hymateb i'r argyfwng hinsawdd a newid hinsawdd.
Roeddech chi'n gofyn cryn dipyn o gwestiynau ynghylch cynhyrchu ynni, a chyn hynny, pan oedd cynllunio yn fy mhortffolio i—ac rwyf i o'r farn bod fy mhortffolio i'n ddigon mawr, a chredaf mai da o beth yw fy mod i'n gallu gweithio ar y cyd â Julie James fel Gweinidog tai a chynllunio. Llywodraeth fach sydd gennym ac rydym ni'n cydweithio'n dda iawn ar draws y Llywodraeth. Ond un o'r pethau olaf a wnes i cyn i gynllunio gael ei hepgor o'r portffolio hwn oedd ystyried gwneud yn siŵr bod cymwysiadau a thrwyddedau tanwydd ffosil ar waelod isaf yr hierarchaeth ynni, a'n bod ni'n canolbwyntio i raddau helaeth ar brosiectau ynni adnewyddadwy. Erbyn hyn, mae mwy na 67,000—cefais fy synnu'n fawr gan y nifer—o brosiectau ynni adnewyddadwy yma yng Nghymru. Ac, erbyn hyn, mae 22 y cant o'r trydan—wel, yn ôl yn 2017 yw hyn—yng Nghymru wedi ei gynhyrchu o ffynonellau adnewyddadwy. Ac rydych chi'n gofyn a ddylem ni warchod ein hynni ein hunain, ynteu a ddylem ni fod yn ystyried allforio. Rwy'n credu, wrth inni symud ymlaen, efallai y gwelwn ni wahaniaeth ac addasiad o ran hynny.
Roeddech chi'n sôn am goedwigaeth, ac nid wyf eisiau amddiffyn ein diffygion o ran plannu coed. Nid ydym yn plannu digon o goed. Rwyf wedi gwneud hynny'n glir iawn—fod angen i ni fod yn edrych ar hynny—ac, eto, bydd yn rhaid imi ddod o hyd i arian yn fy nghyllideb i, ac, yn sicr, rwy'n credu, unwaith eto, rwyf wedi sôn o'r blaen yn y Siambr fy mod i'n ystyried gyda Chyfoeth Naturiol Cymru, gan fod ganddyn nhw dir sy'n barod i'w ailgoedwigo, pa gyllid y gallwn ni ei roi. Fe fyddwch chi'n ymwybodol o ymrwymiad y Prif Weinidog yn ei faniffesto i goedwig genedlaethol, ac rwyf i newydd weld rhai dewisiadau heddiw, a dweud y gwir, y mae angen imi edrych arnyn nhw. Ond, yn amlwg, mae coedwigaeth yn elfen bwysig o'n polisi i reoli tir fel y byddwn ni wedi Brexit, ac fe fyddwch yn ymwybodol y bydd ymgynghoriad ddechrau mis Gorffennaf.
Rwy'n credu eich bod chi'n iawn o ran adeiladu tai. Hoffwn i ehangu ein cynlluniau a'n rhaglenni ôl-ffitio. Rydym wedi cyflawni rhai datblygiadau a gwneud cynnydd sylweddol o ran nifer y tai yr ydym wedi eu hôl-ffitio. Ond unwaith eto, y gyllideb yw'r gyllideb, ac rydym yn rhoi tua £250 miliwn rwy'n credu, ar gyfer ôl-ffitio a'n rhaglenni effeithlonrwydd ynni ni yn ystod oes y Llywodraeth hon. Yr hyn sy'n wirioneddol bwysig yn fy marn i—a chredaf fod y Prif Weinidog wedi crybwyll hyn yn ei gwestiynau ef—yw nad ydym ni'n adeiladu tai nawr y bydd angen eu hôl-ffitio ymhen 25 mlynedd neu 20 mlynedd.
Roeddech chi'n sôn am yr adroddiad yr wyf yn credu i David Melding ei gyflwyno. Ac fe wnes i siarad â David ar ôl datganiad yr wythnos diwethaf i ddweud y byddai'n dda iawn gennyf gael clywed ei gynigion ef ar dai di-garbon, ac rwy'n gobeithio y gallwn ni gael cyfarfod yn y dyfodol agos.
Roeddech chi'n holi am y ddau grŵp sy'n cael eu sefydlu. Ni allaf ddweud wrthych chi faint o grwpiau sydd gennyf. Yn sicr, nid oes gennyf 40; nid oes gennyf lawer o grwpiau. Ond rwy'n credu, wrth symud ymlaen, ein bod ni wedi datgan yn glir iawn bod angen i'r cynllun nesaf yr ydym yn ei gyflwyno'r flwyddyn nesaf fod yn un ar gyfer Cymru gyfan, ac mae angen inni gynnwys pawb. Ac, wrth gwrs, mae arbenigwyr ar gael sy'n gallu ein helpu ni yn hyn o beth. Rwyf bob amser yn falch iawn o'r ffaith fod cymaint o bobl yn barod iawn i roi o'u hamser i'n helpu ni yn y Llywodraeth. Roeddwn i'n cyfeirio at y grŵp diwydiant. Mae swyddogion eisoes wedi bod yn ddiwyd wrth eu gwaith yn ymgysylltu â rhanddeiliaid diwydiannol, ac roeddwn i'n sôn am y cyngor economaidd—roedd aelodau'r bwrdd hwnnw wedi gofyn imi fynd yno i siarad am yr heriau a'r cyfleoedd. Felly, mae swyddogion eisoes yn ystyried sefydlu'r grŵp hwnnw. Nid yw wedi cael ei sefydlu eto—fe gaiff ei sefydlu eleni, a bydd yn weithgor ar gyfer Cymru gyfan.
Bydd y grŵp cynghori ar gyfiawnder hinsoddol, a gyhoeddwyd pan lansiodd y Prif Weinidog y cynllun cyflenwi carbon, yn ein cynghori ni ar y trawsnewid o economi sy'n seiliedig ar danwydd ffosil, gan sicrhau—ac mae hyn yn wirioneddol bwysig i'r Llywodraeth ac i minnau—pontio teg a chyfiawn ar gyfer ein cymdeithas gyfan, ac mae hynny'n cynnwys ein holl weithwyr a'n cymunedau.
A gaf i ddiolch i'r Gweinidog am ei datganiad y prynhawn yma? Dwi wedi mynegi safbwynt ar 'Cymru Carbon Isel', y ddogfen sydd wedi cael ei chyhoeddi, wrth gwrs, a'r elfen o rwystredigaeth dwi'n ei theimlo mai beth yw honno yw casgliad o gyhoeddiadau sydd wedi cael eu gwneud yn flaenorol i raddau helaeth. Ac ers hynny, wrth gwrs, rŷn ni wedi datgan argyfwng newid hinsawdd, ac mae'n dda bod y Gweinidog, wrth gwrs, wedi gofyn i'w swyddogion edrych eto ar yr ymrwymiadau yn y ddogfen honno, ond byddwn i yn lico clywed gan y Gweinidog y bydd y ddogfen ddiwygiedig yn llawer mwy uchelgeisiol, ac yn llawer mwy pellgyrhaeddol na'r hyn rŷn ni wedi ei gael, er mwyn adlewyrchu yr her hinsawdd sydd o'n blaenau ni, ac yn union pryd, wrth gwrs, y byddwn ni'n gweld y ddogfen honno. Gan ein bod ni wedi datgan ei bod hi'n argyfwng, byddai rhywun yn tybio bod y gwaith yna yn symud yn gyflym.
Rŷch chi'n sôn yn eich datganiad am rôl diwydiant, am rôl trafnidiaeth, a rôl y sector adeiladu. Ac mi fyddwn i'n cytuno bod ganddyn nhw gyfraniad allweddol i'w wneud. Ond mae yna eironi fan hyn, wrth gwrs, oherwydd, brin dair blynedd yn ôl, mi wnaeth y Llywodraeth ymgynghori ar ddiwygio Rhan L, y rheoliadau adeiladu sy'n ymwneud ag effeithlonrwydd ynni mewn tai newydd—ymgynghori ar gryfhau hynny i 25 y cant neu 40 y cant, ac wedyn setlo am 8 y cant. A phan roedden ni ym Mhlaid Cymru yn gwrthwynebu hynny, mi bleidleisioch chi ni i lawr, gan ddweud mai 8 y cant roeddech chi'n mynd amdano fe. A nawr, wrth gwrs, rŷch chi'n dweud, 'O, mae'n rhaid inni wneud mwy i sicrhau bod tai newydd yn fwy ynni effeithiol.' Wel, ble ŷch chi wedi bod ers tair blynedd? Ac felly fe fyddwn i'n gofyn ichi ystyried hynny, ond dyw hynny ddim yn rheswm, wrth gwrs, i beidio â thrio mynd ymhellach ac yn gynt, ac fe fyddwn i'n awyddus i'ch gweld chi'n gwneud hynny.
Ond yn eich datganiad chi, rŷch chi'n iawn yn dweud bod pob Gweinidog am adolygu eu gweithredoedd, a byddwn i'n croesawu hynny. Beth ŷch chi ddim yn dweud, wrth gwrs, yw erbyn pryd y byddan nhw'n gwneud hynny—beth yw eu hamserlen nhw? Rŷn ni mewn argyfwng, felly a fyddwn ni yn disgwyl datganiadau gan bob Gweinidog cyn toriad yr haf? Dwi ddim yn gweld dim byd yn y datganiad busnes sy'n awgrymu y bydd hynny'n digwydd. Ac felly, ar y cynharaf, rŷn ni'n sôn am efallai ganol i ddiwedd Medi, a dyna ni, bedwar, pum mis ar ôl datgan argyfwng hinsawdd yng Nghymru, dal ddim yn gwybod beth yw ymateb y rhan fwyaf o Weinidogion y Llywodraeth yma.
Rŷch chi'n datgan y byddwch chi'n gwneud mwy i ddatgarboneiddio adeiladau sydd eisoes yn bodoli, drwy ehangu rhaglenni retroffitio, a dwi'n croesawu hynny'n fawr. Fe fyddwn i yn lico clywed gennych chi fwy o fanylion ynglŷn â sut rŷch chi'n bwriadu gwneud hynny. Beth fydd scale y rhaglen newydd? Faint o gyllideb fydd gennych chi i wario ar y gwaith yma, oherwydd mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, fel rŷn ni'n gwybod, wedi cyhoeddi cynllun 10 pwynt wythnos diwethaf a oedd yn awgrymu rhwng £200 miliwn a £300 miliwn y flwyddyn ar retroffitio? Dyna'r math o ffigur roedd ganddi hi mewn golwg. Pa fath o ffigur sydd gennych chi mewn golwg? Ac rŷch chi wedi cyffwrdd ar y cynllun 10 pwynt mewn ymateb cynharach, ond, wrth gwrs, her o safbwynt cyllideb Llywodraeth Cymru yw honno yn benodol. Rŷch chi'n dweud bod y comisiynydd ar yr un ochr â chi—wel, dwi'n siwr bod hynny yn wir ond yr her yw, wrth gwrs, £1 billiwn i fuddsoddi ar yr agenda yma. Felly, pa achos rŷch chi, fel Gweinidog, yn ei wneud gyda'r Gweinidog cyllid, oherwydd byddwn i wedi disgwyl, er enghraifft, yn y gyllideb atodol a gyhoeddwyd wythnos diwethaf, y byddai ymateb y Llywodraeth i'w weld yn glir yn hwnnw i'r argyfwng newid hinsawdd? Ond beth dŷn ni wedi cael? Dim. Hynny yw, busnes fel arfer, i bob pwrpas. Felly, mi fyddwn ni'n edrych â diddordeb mawr ar y gyllideb atodol nesaf pan ddaw hi, yn ogystal, wrth gwrs, â'r gyllideb ddrafft ar gyfer y flwyddyn nesaf, a fydd yn cael ei chyhoeddi gan y Llywodraeth yn yr hydref.
Yn olaf—a manylyn bychan yw e, ond dwi'n meddwl ei fod e'n arwyddocaol iawn, iawn—rŷch chi'n dweud yn eich datganiad y prynhawn yma y byddwch chi'n lansio eich ymgynghoriad ar eich polisi rheolaeth tir yn Sioe Frenhinol Cymru. Ar 15 Mai, mi ddywedoch chi, yn y Siambr yma, a dwi'n dyfynnu:
'rwyf wedi ymrwymo i gychwyn ail ymgynghoriad cyn Sioe Frenhinol Cymru.'
Un gair yw e, ond dwi'n meddwl bod yna wahaniaeth sylfaenol, oherwydd dwi eisiau deall pam y newid? Pam yr oedi? Achos mae e'n siomedig. Byddwn i yn tybio, oni fyddai cyhoeddi yr ymgynghoriad cyn y sioe yn rhoi cyfle i chi fel Llywodraeth, i chi fel Gweinidog, ac i'r gweddill ohonon ni gael trafodaeth lawer mwy ystyrlon, lle bydd budd-ddeiliaid a'r cyhoedd yn ehangach wedi cael cyfle i ystyried a chysidro yr hyn sydd yn y ddogfen honno yn nigwyddiad mwyaf y calendr gwledig yng Nghymru, yn hytrach na'ch bod chi yn troi lan, yn cyhoeddi bod y datganiad yn digwydd, ac wedyn ein bod ni ddim yn cael yr un cyfle i wyntyllu'r mater allweddol yma yn y digwyddiad allweddol hwnnw.
Rwy'n dechrau gyda'r cwestiwn olaf hwnnw gan Llŷr, ac fe fyddwn i'n awgrymu, gyda pharch, fod hynny ar waelod y datganiad llafar a roddwyd i chi fel llefarydd, y mae'n dweud 'gwirio y caiff ei gyflawni'. Pan oeddwn i'n darllen y datganiad ar lafar, fe ddywedais i y byddwn i'n lansio'r ymgynghoriad cyn Sioe Frenhinol Cymru. Felly, mae'n ddrwg gennyf i os na chlywsoch chi fi'n dweud hynny, ond os edrychwch chi ar y Cofnod, fe ddywedais i hynny'n bendant. Ac fe wnaf i—rwy'n parhau i fod wedi ymrwymo i lansio'r ymgynghoriad ar reoli tir cynaliadwy ddechrau'r mis nesaf. Felly, gallaf dderbyn pam roeddech chi'n credu hynny, ond, fel rwy'n dweud, mae'n dweud 'gwirio y caiff ei gyflawni'.
O ran Comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol, rwy'n credu bod yr wybodaeth a anfonodd hi yn ei chynllun 10 pwynt yn ddefnyddiol iawn. Nid yw'n dweud o ble y dylem ni gael y £1 biliwn. Nid wyf i'n gwybod o ble y gallwn ni gael y £1 biliwn. Ond, yn amlwg, pan fydd Gweinidogion yn adolygu eu polisïau a'u cynigion, fel y mae'n rhaid iddyn nhw ei wneud, nid oes amheuaeth ein bod ni bellach yng nghyfnod y gyllideb garbon gyntaf, er enghraifft—mae'n rhaid inni edrych ar bethau'n wahanol. A bydd y trafodaethau hynny'n parhau. Rydych chi wedi clywed y Trefnydd yn dweud yn ei datganiad busnes ei bod wedi dechrau cynnal y trafodaethau hynny eisoes.
Bob rhyw chwe wythnos rwy'n cadeirio is-bwyllgor Cabinet y Gweinidogion ar Ddatgarboneiddio, a byddwn yn cyfarfod yfory. Byddaf i'n gofyn i'r Gweinidogion beth y maen nhw wedi ei wneud o ran adolygu eu polisïau a'u cynigion. Roeddech chi'n gofyn am derfyn amser, ac fe roddais y briff i'r lobi y bore yma ar ran Llywodraeth Cymru pryd y gofynnwyd y cwestiwn hwnnw imi, a chredaf ei fod yn gwestiwn teg iawn. Ni allwn gyflawni hyn cyn toriad yr haf, a byddwn yn tybio, ar ôl inni gael yr adolygiad hwn o'n holl gynigion a'n polisïau, y gallai gymryd misoedd lawer i ddod â'r cyfan at ei gilydd. Ond nid yw hynny'n golygu nad oes gwaith yn mynd rhagddo, oherwydd mae'n amlwg fod hynny'n digwydd. Ond yn y cyfnod hwn o gyni a'r holl alwadau sydd ar gyllideb Llywodraeth Cymru, mae dod o hyd i £1 biliwn mewn blwyddyn yn hollol afrealistig yn fy marn i.
Ac rwy'n credu bod hynny'n un o'r pethau allweddol am y cynllun cyflawni carbon isel. Mae'n uchelgeisiol, ond mae'n realistig. A chytunodd Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd, pan wnes i gyfarfod â nhw cyn iddyn nhw roi'r cyngor inni—rwy'n credu mai dau gyfarfod yn ôl oedd hynny fwy na thebyg—fod y cynllun cyflawni ar gyfer carbon isel yn uchelgeisiol a phe gallem ni gyflawni'r holl bolisïau a chynigion ynddo, fe fyddem ar y trywydd iawn i gyrraedd ein nodau. Rwy'n credu, o edrych ar y cynlluniau effeithlonrwydd ynni, ein bod ni wedi cynyddu nifer y tai yr ydym wedi eu hôl-ffitio o safbwynt effeithlonrwydd ynni. Wrth gwrs, nid yw hynny'n effeithio'n unig ar ein hallyriadau, ond mae'n helpu pobl sy'n dioddef o dlodi tanwydd hefyd, ac roeddwn i'n falch iawn o weld y data a gyflwynwyd yn ymwneud â hynny'r wythnos diwethaf neu'r wythnos cyn hynny, ac fe fyddwn i'n annog yr Aelodau i edrych ar hynny.
Mae'r cynllun cyflawni ar gyfer carbon isel yn nodi'r holl adrannau amrywiol sector wrth sector ar draws y Llywodraeth a'r hyn sy'n ofynnol ganddyn nhw. Ddim ond ym mis Mawrth y cafodd ei lansio, ac rwy'n deall bod y byd wedi symud, oherwydd y cyngor yr ydym wedi ei gael, nid yn unig oddi wrth y Panel Rhynglywodraethol ond hefyd gan Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd. Gofynnais i Bwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd pam nad oedden nhw'n rhoi 100 y cant i ni, wyddoch chi, y gostyngiad net di-garbon, oherwydd ni oedd yr unig wlad na chafodd hynny, ac maen nhw'n dweud yr un peth ag yr wyf i—mae'n rhaid i'r nodau fod yn realistig. Ond rwyf wedi dweud ei bod yn uchelgais gennym i leihau ein hallyriadau carbon 100 y cant erbyn 2050 a chredaf mai dyna'r peth iawn i'w wneud. Mae'n bwysig nawr ein bod ni'n gweithio gyda'r grwpiau yr oeddwn i'n eu crybwyll yn fy ateb i Andrew R.T. Davies i sicrhau ein bod ni'n gweithio gyda rhanddeiliaid i gyflawni hynny.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog, am eich datganiad. Rwy'n cymryd diddordeb yn y ffaith eich bod chi'n dweud yn gwbl agored fod y Llywodraeth—ceir rhai materion sydd y tu hwnt i'ch rheolaeth chi. Felly, mae gorsaf bŵer Aberddawan yn amlwg—ni allwn ei chau; mae'n rhaid i ni aros nes y bydd Llywodraeth y DU yn gwneud y peth iawn. Ond mae'n dda clywed bod 48 y cant o'n hynni ni eisoes yn dod o ffynonellau adnewyddadwy, ac mae'n amlwg y byddai'n ardderchog inni gael gweld llawer mwy o brosiectau yn cael eu harwain gan gymunedau.
Rwy'n awyddus i ddeall sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu annog pobl i ddefnyddio cerbydau allyriadau isel, oherwydd bob tro y byddaf i'n dianc ar wyliau mae angen imi fynd ar hyd yr A470 ac mae angen imi allu dod yn ôl o'r gogledd. Mae llawer o leoliadau hwylus ar hyd y A470 ar gyfer gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan, ond hyd y gwn i nid oes unrhyw un ar hyn o bryd, sy'n golygu na allaf i ddibynnu ar y math hwn o drafnidiaeth ac na allaf i fuddsoddi mewn cerbyd trydan. Rwy'n falch iawn hefyd o weld nad yw Cymru yn bwriadu gwella ei chyflwr amgylcheddol yn y wlad hon drwy daflu'r baich ar wledydd tlawd, gan leihau ein hallyriadau ni trwy eu hanfon dramor. Credaf fod hyn yn gwbl hanfodol.
O ran garddwriaeth, mae Brexit yn golygu ein bod yn gorfod rhoi mwy o'n sylw i'r cwestiwn o ble rydym yn mynd i brynu'r llysiau a'r ffrwythau yr ydym yn eu mewnforio ar hyn o bryd. Nid wyf yn or-awyddus i glywed bod llysiau mewn tuniau neu lysiau wedi eu rhewi yn cymryd lle llysiau ffres, ond mae hynny'n well na dim. Ond mae'n amlwg bod angen inni dyfu mwy o'n llysiau ni ein hunain. Yn y grŵp trawsbleidiol ar fwyd, fe glywsom fod Castell Howell, un o'r prif ddosbarthwyr bwyd, ond yn prynu 18 y cant o'u cyflenwadau gan gynhyrchwyr Cymru. Felly, rwy'n credu bod llawer y gallwn ni ei wneud i gyfyngu ar ein milltiroedd bwyd, o ran materion diogelwch bwyd sy'n cael eu codi gan Brexit a'r bygythiad o Brexit 'heb gytundeb', ond hefyd er mwyn gwella'n cyflwr amgylcheddol. Os oes gennym fwyd sy'n cael ei gynhyrchu'n lleol, rydym yn amlwg yn mynd i fod yn defnyddio llawer llai o garbon. Felly, tybed a allai'r Llywodraeth ddweud ychydig mwy am y ffordd yr ydym ni'n mynd i wneud hynny.
Diolch i chi, Jenny Rathbone. Rydych chi'n hollol iawn am Aberddawan. Felly, mae Llywodraeth y DU yn bwriadu cau Aberddawan yn 2025; nid oes gennym ni'r pŵer i wneud hynny'n gynharach. Roedd y gostyngiad sylweddol a gawsom ni yn 2017 o allyriadau carbon, sef 25 y cant, yn deillio o beidio â defnyddio glo i gynhyrchu trydan, gan nad oedd Aberddawan yn cael ei defnyddio, ar gymaint o ddyddiau ag yn y flwyddyn flaenorol. Ond rwy'n credu eich bod chi'n iawn am fod yn gyfrifol yn fyd-eang. Mae angen glo arnom ni i gynhyrchu dur. Fe allem ni fewnforio dur o wledydd eraill, ond wedyn ni fyddai hynny'n gyfrifol yn fyd-eang yn fy marn i. Roeddech chi'n llygad eich lle i ddweud bod 48 y cant o'n trydan ni'n deillio o ynni adnewyddadwy. Felly, unwaith eto, rydym ni wedi cyrraedd y nod a osodais i o 70 y cant erbyn 2030—rwy'n credu imi osod y nod hwnnw yn ôl ym mis Rhagfyr 2017—ac mae'r gwasanaeth ynni lleol sydd gennym ni'n gweithio'n galed iawn gydag unigolion, gyda chymunedau, i geisio cyflwyno rhagor o brosiectau ynni adnewyddadwy.
O ran cerbydau allyriadau isel, rwy'n gweithio'n agos gyda Ken Skates yn y maes hwn. Mae dros 600 o bwyntiau gwefru sy'n hygyrch i'r cyhoedd yng Nghymru ar hyn o bryd, ac rwy'n gwybod o'm trafodaethau i gyda'r Gweinidog fod yna gynlluniau ar y gweill i'r sector preifat, yn sicr, nawr, i gynyddu nifer y pwyntiau gwefru hynny sy'n hygyrch i'r cyhoedd. Ond, rydych chi'n gwbl gywir, mae angen i bobl fod â'r hyder i brynu car trydan, gan wybod y gallan nhw fynd o Gaerdydd i Wrecsam neu unrhyw ran arall o Gymru. Felly, rwy'n credu bod hyn yn bwysig iawn. Ond rydym ni'n rhagweld y bydd y sector preifat yn darparu'r rhan fwyaf o'r pwyntiau gwefru cerbydau trydan, a gwn fod y Gweinidog, sydd newydd ddod i mewn i'r Siambr, yn gweithio gyda darparwyr pwyntiau gwefru i gael cipolwg ar eu blaenoriaethau buddsoddi nhw a sicrhau y gellir annog y ddarpariaeth ledled Cymru.
Garddwriaeth—gwn fod yr Aelod yn frwdfrydig iawn ynglŷn â garddwriaeth, ac mae'n cynrychioli—credaf ei fod yn llai nag 1 y cant o'n sector amaethyddol, felly mae cyfleoedd enfawr i arddwriaeth yn ein polisïau tir cynaliadwy ôl-Brexit, ac mae'n rhywbeth yr wyf i'n bersonol yn awyddus iawn i'w weld. Ymwelais â fferm arddwriaethol, os mai dyna yw'r term cywir, yn y gorllewin y llynedd ac roedd hi'n wych cael gweld y cynnyrch o Gymru a oedd ar gael. Ac, fel y dywedwch chi, os gallwn ni leihau ein milltiroedd bwyd yn y ffordd yr awgrymwch chi, bydd hynny o fudd i bawb.
A gaf i groesawu'r datganiad yn fawr iawn? Rwy'n falch iawn ein bod ni'n trafod unwaith eto'r hyn sydd, yn fy marn i, yn fater o bwys sy'n ein hwynebu yng Nghymru. Fe allwn ni naill ai ddatgarboneiddio neu chwilio am fyd newydd i fyw ynddo, oherwydd, os na wnawn ni hynny, ni fydd y byd hwn yn gallu cynnal bywyd dynol. Rydym yn wynebu argyfwng difrifol o ran newid hinsawdd, ac mae'n rhaid inni fynd i'r afael ag ef.
Mae gennyf i dri chwestiwn, a'r un cyntaf yw'r pwysicaf, mae'n debyg : technoleg batri. Mae nifer ohonom wedi ymweld â Thŷ Solcer, ac roedden nhw'n defnyddio batris ceir i storio trydan. Gwyddom y byddai pobl yn hoffi defnyddio ceir trydan, ond bydden nhw'n hoffi defnyddio ceir trydan sydd â batris y gellir eu gwefru'n hawdd ac yn gyflym iawn, neu gallech chi gael system dau fatri, gan amnewid y batri i ddefnyddio un, a gadael y llall yn gwefru gartref, a'u cyfnewid nhw wedyn. Pa gynnydd sy'n cael ei wneud o ran technoleg batris? Oherwydd, gyda cheir a thai fel ei gilydd, oni bai ein bod ni'n llwyddiannus o ran technoleg batri, yna ni fyddwn ni'n cael y datgarboneiddio yr ydym yn dymuno ei gael.
Yr ail gwestiwn yw: beth sy'n cael ei wneud i sicrhau bod yr hydrogen a gynhyrchir ar gyfer cerbydau yn cael ei gynhyrchu gan ddefnyddio ynni adnewyddadwy? Rwy'n clywed pobl yn sôn am hydrogen fel ynni sy'n adnewyddadwy—ond mae'n cymryd ynni i greu'r hydrogen yn y lle cyntaf. Felly, os ydych chi'n mynd i ddefnyddio gorsafoedd pŵer nwy i gynhyrchu'r trydan ar gyfer cynhyrchu'r hydrogen, rydych chi mewn gwirionedd yn gwneud rhywbeth sy'n llai buddiol i'r amgylchedd. Mae pawb yn dweud, 'Hydrogen yw hwn, mae'n rhaid ei fod yn beth da'—sut y cewch chi'r hydrogen yw'r peth. Ac, os ydych chi'n defnyddio electrolysis, mae angen llawer o drydan arnoch i rannu'r hydrogen a'r ocsigen, neu'r hydrogen a'r nitrogen, neu'r hydrogen a pha elfennau bynnag yr hoffech eu defnyddio.
Y trydydd pwynt yw: mwy o goed. Nid wyf i'n credu y gallwch chi byth gael gormod o goed, ac rwyf i o'r farn y dylem ni gael llawer mwy o goetir nag sydd gennym ar hyn o bryd. Ond a yw Llywodraeth Cymru wedi cael unrhyw syniadau ynghylch ceisio creu cyfres o goedwigoedd trefol o amgylch ardaloedd trefol, fel yr un ym Maesteg y mae Huw Irranca-Davies yn canu ei glodydd? Ceir llawer o ardaloedd eraill, gan gynnwys rhai o gwmpas Dwyrain Abertawe, lle mae gennym ardaloedd y gellid yn rhwydd eu gorchuddio â choed er mwyn yr amgylchedd. Hefyd, rydym ni'n siarad am goedwigaeth—menter fasnachol yw coedwigaeth. Rydym ni'n siarad am roi cymhorthdal i goedwigaeth—mae coedwigaeth i lawer o bobl yn golygu ffordd o wneud arian. Mae'n sicr y gall Cyfoeth Naturiol Cymru, hyd yn oed, wneud arian o goedwigaeth.
Diolch i chi, Mike Hedges. Rydych chi'n gwbl gywir; newid hinsawdd yw'r bygythiad mwyaf yr ydym ni'n ei wynebu. Y cyngor a gawn ni yw bod gennym 12 mlynedd i drawsnewid y sefyllfa, ac mae'n bosib mai ni yw'r genhedlaeth olaf all wneud hynny, ac mae'n bwysig iawn ein bod ni'n manteisio ar y cyfle ac nad yw ein plant, na phlant ein plant, yn gallu troi a dweud wrthym 'Pam na wnaethoch chi rywbeth ynglŷn â'r peth pan oeddech chi'n gallu?'
Mae Mike Hedges yn codi pwynt pwysig iawn, rwy'n credu, ynghylch technoleg batris. Rwyf innau wedi bod yn Nhŷ Solcer—tua dwy flynedd a hanner yn ôl erbyn hyn, ac rwy'n cofio meddwl bod y batris yr oedden nhw'n eu defnyddio bryd hynny'n fawr iawn. Yn amlwg, mae llawer o waith ymchwil a datblygu yn digwydd i sicrhau bod y batri sy'n cael ei storio yn mynd yn llai, oherwydd ni fydd gan bobl ddigon o le i gadw'r batris mawr hynny. Mae hyn yn wir hefyd am hydrogen—rwy'n credu ei bod yn hollbwysig nad ydym yn cyflwyno technolegau na all pobl eu defnyddio'n rhwydd. Felly, mae batris yn enghraifft loyw. Mae angen inni sicrhau hefyd bod y seilwaith ar gael. Mae angen atgyfnerthu'r Grid Cenedlaethol mewn rhannau o Gymru—y canolbarth yn sicr—a mater i Lywodraeth y DU yw sicrhau bod hyn yn digwydd, ac rwy'n cael y trafodaethau hynny gyda'r Grid Cenedlaethol ac mae swyddogion wedi codi hyn gyda Llywodraeth y DU hefyd.
Yn ddiweddarach yr wythnos hon, byddaf yn mynd i'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, ynghyd â'r Prif Weinidog, ac ynni fydd y pwnc yn y fan honno. Felly, rwy'n edrych ymlaen yn fawr at siarad â chydweithwyr o bob rhan o Lywodraeth y DU, y gweinyddiaethau datganoledig, ac, wrth gwrs, dibyniaethau'r Goron ar yr hyn y maen nhw'n ei wneud. Rwy'n siŵr y bydd llawer y gallwn ei ddysgu.
Coed—rwyf am fynd yn ôl at yr ateb a roddais i Andrew R.T. Davies: nid ydym yn plannu digon o goed. Rydych chi'n hollol iawn; ceir buddiannau masnachol hefyd. Nid mater i'r Llywodraeth yn unig yw plannu coed; mae llawer o sefydliadau a all ein helpu ni. Yn sicr, fe ddylai Cyfoeth Naturiol Cymru fod yn plannu mwy o goed, ac rwyf wrthi'n ystyried, fel y dywedais yn fy ateb i Andrew R.T. Davies, y cymorth y gallwn eu rhoi iddynt o ran cyllid.
Rwyf i o'r farn eich bod chi'n gwneud pwynt da iawn am goedwigoedd trefol. Roedd ymrwymiad maniffesto'r Prif Weinidog o ran coedwig genedlaethol—rwy'n credu, ar y dechrau, pan oeddem ni'n trafod coedwig genedlaethol, roeddwn i'n meddwl am goedwig. Ond, yn amlwg, mae'r dewisiadau yr wyf i wedi gofyn i'r swyddogion weithio arnyn nhw yn dangos y gellir uno llawer mwy o goedwigoedd llai o faint o gwmpas Cymru, ond heddiw'n unig y cefais i'r dewisiadau hynny. Bydd angen imi eu trafod nhw ymhellach gyda'r Prif Weinidog, ond credaf fod cyfleoedd ar gael i gysylltu'r coedwigoedd â llwybr yr arfordir, er enghraifft, i sicrhau y bydd pobl yn sylweddoli beth ydyn nhw a beth yw eu pwrpas nhw.
Mae gennym nifer o gynlluniau. Byddwch chi'n ymwybodol o gynllun Maint Cymru. Erbyn hyn, rydym ni ar gyfradd o ddwywaith maint cynlluniau Maint Cymru, gyda'r nifer o goed yr ydym wedi eu plannu. Ac, wrth gwrs, cafodd ein cynllun Plant! ei sefydlu yn ôl yn 2008 i blannu coeden i bob plentyn a aned ac a fabwysiadwyd yng Nghymru—ers 2014, rydym wedi plannu coeden yng Nghymru ac rydym hefyd wedi plannu coeden yn Uganda.
Rydych chi'n dweud yn eich datganiad, Gweinidog, yn y fersiwn ysgrifenedig o leiaf, eich bod wedi ymrwymo i fynd ymhellach hyd yn oed, o ran sicrhau dim allyriadau o gwbl a hynny erbyn 2050 fan bellaf. Eto i gyd, roeddech chi'n dweud wrth ateb Llyr Gruffydd fod hynny wedi cael ei israddio'n uchelgais, a'n bod ni'n deddfu ar gyfer toriad o 95 y cant yn unig, nid ar gyfer sero net. Ym mha ystyr, felly, ydych chi wedi ymrwymo i sero net yn lle'r gostyngiad o 95 y cant? A wnewch chi hefyd —? Gwn nad oeddech chi'n gallu gwneud hynny'r wythnos diwethaf ac, os na allwch chi nawr, a fyddech o bosib yn gallu rhoi amserlen i mi o ran pryd y gallwch wneud hyn—beth yw eich polisi chi o ran gwrthbwyso rhyngwladol? A fydd hyn yn cael ei ganiatáu ac, os felly, a fydd terfyn yn cael ei osod arno?
Credaf fod eich datganiad heddiw yn amserol iawn, ar ôl y bleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin—neu dim pleidlais yn Nhŷ'r Cyffredin neithiwr; aeth drwodd heb bleidlais hyd yn oed—i newid y gostyngiad o 80 y cant hyd at y swm llawer uwch hwn. Tybed beth fydd cost hynny. Mae gennym o leiaf amcangyfrifon lled-swyddogol o £50 biliwn neu £70 biliwn y flwyddyn, ac rwy'n credu ei bod yn llawer mwy synhwyrol canolbwyntio ar y gost flynyddol na'i hychwanegu dros gyfnod anhysbys i gael rhifau brawychus o £1 triliwn a throsodd. Ond, os yw hyn yn £50 biliwn neu £70 biliwn y flwyddyn, yna rwy'n croesawu'r broses hon o bennu cyllidebau carbon, o edrych ar oblygiadau hyn, oherwydd credaf ei bod yn hawdd iawn i wleidyddion wneud ymrwymiadau mawr am amser maith yn y dyfodol i lunio etifeddiaeth i Theresa May neu beth bynnag fo'r cymhellion eraill. Ond dim ond pan wneir y gwaith o edrych ar beth yw goblygiadau hyn, beth yw'r costau, pa gyfaddawdu fydd, yr ydych chi, mewn gwirionedd, yn ymwneud â pholisi gwirioneddol. Ac rwy'n credu, gyda gostyngiad o 40 y cant mewn allyriadau carbon deuocsid ledled y DU ers 1990, roeddem ni'n arwain y byd ac yn cymryd camau gwirioneddol sylweddol yn y maes hwn. Rwy'n gofidio, drwy wthio hynny o 80 y cael datgysylltiad eto rhwng uchelgais a'r diriaethol, neu'r hyn y byddai ein hetholwyr ni'n barod i'w dderbyn yn y maes hwn, o gofio'r cyfaddawdu dan sylw.
Roeddech chi'n sôn bod angen glo ym Mhort Talbot i wneud dur. Sut, felly, fyddwn ni'n datgarboneiddio'r broses honno wrth gadw'r diwydiant? Beth yw'r bwriad o ran boeleri nwy? Er mwyn dod yn agos ati, mae'n rhaid ichi gael gwared ar foeleri nwy pawb. A ydych chi'n bwriadu eu disodli nhw gyda rhai trydan—sy'n costio deirgwaith yn fwy ar hyn o bryd—neu a fyddech chi'n cael hydrogen yn lle hynny, ac, os felly, sut ar y ddaear y bydd rhywun yn cyrraedd sefyllfa lle mae rhywun yn torri'r cyflenwad nwy ac yn rhoi hydrogen rhyw dro yn ei le? Sut ydych chi am gyd-drefnu boeleri pobl ar gyfer hynny?
Ac a gaf i ofyn ichi, yn olaf, egluro ychydig ymhellach y pwynt hwn am gynhyrchu trydan? Beth yw eich rhagdybiaeth chi o ran yr hyn sy'n mynd i ddigwydd gydag Aberddawan B sydd mor enfawr ei oblygiadau yn y maes hwn, ac a ydych chi'n dweud hynny fel polisi gan Lywodraeth Cymru yr hoffech chi weld mwy o bwyslais ar hunan ddigonolrwydd a llai o allforio trydan i Loegr? Beth sydd o'i le ar allforio ynni i Loegr? A yw hynny'n beth drwg? Os felly, beth ydych chi'n bwriadu ei wneud yn ei gylch?
Diolch i chi, Mark Reckless, am y cwestiynau hynny. Fe wnaethom ni dderbyn cyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd ynghylch 95 y cant o ostyngiad. Roedd hynny'n gynnydd sylweddol o'r 80 y cant a ddywedasant y llynedd, ac rwyf i wedi ymrwymo i ddeddfu'r flwyddyn nesaf i gynyddu ein nod o leihau allyriadau o 80 y cant o leiaf i 95 y cant erbyn 2050. Mae hynny, wrth gwrs, yn cyd-fynd â'r DU yn derbyn nod o sero net. Ond fe wnes i arwyddo uchelgais i ddatblygu nod o sero net, ac mae angen inni weithio nawr—ac rwy'n credu imi amlinellu hyn yn fy ateb i Llŷr Huws Gruffydd—mae angen inni weithio nawr gyda Phwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd—os wyf i'n poeni o gwbl, fe ofynnaf am gyngor pellach—a rhanddeiliaid eraill i nodi'r ffyrdd y gellid cyrraedd nod mwy uchelgeisiol. Pe byddem wedi dweud y byddem ni dim ond yn derbyn 100 y cant—fel y mae nawr, drwy fod â'r uchelgais hwnnw, rydym ni'n mynd ymhellach nag unrhyw Lywodraeth arall yn y DU.
Rwy'n credu mai'r hyn y mae cyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd yn ei wneud yw ei fod yn cydnabod bod angen inni fynd ati ar y cyd ledled y DU, gyda phawb yn chwarae eu rhan. Felly, rwy'n credu ei bod hi'n bwysig iawn, os mai yn nwylo Llywodraeth y DU y mae'r ysgogiadau, fy mod i'n annog gweithredu ganddyn nhw. O ran y gost, mae'n rhaid inni gydnabod y gost o beidio â gwneud hyn, ac mae'n arwyddocaol iawn o ran costau ariannol ac, yn amlwg, o ran y gost i fywyd dynol. Effeithiwyd yn wael eisoes ar Gymru gan y newid hinsawdd, ac mae'n iawn ein bod ni'n cymryd hyn o ddifrif. Ac rwy'n mynd yn ôl at y cynllun cyflawni carbon isel; mae'n bwysig bod pob Gweinidog yn adolygu ei bolisïau a'i gynigion i wneud hynny.
Nid wyf i'n siŵr a ydych wedi darllen y cynllun cyflawni carbon isel gan eich bod wedi gofyn yr un cwestiwn i mi, ond byddwn yn eich annog chi i wneud hynny, ac fe welwch chi'r ffordd yr ydym ni'n nodi'r allyriadau a sut yr ydym yn eu cael nhw, a sut yr ydym ni'n sicrhau ein cyfrifoldebau byd-eang. Felly, fe ddywedais i fod angen glo arnom o hyd i wneud dur ac fe allem ni fewnforio dur. Ond, i mi, ni fyddai hynny'n gyfrifol yn fyd-eang. Felly, mae'n bwysig ein bod ni'n gweithio gyda Tata a busnesau eraill i sicrhau eu bod nhw'n edrych ar ffyrdd arloesol o sicrhau nad ydyn nhw'n dibynnu cymaint ar danwydd ffosil yn y blynyddoedd i ddod.
Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gweld cynnydd yng nghefnogaeth Llywodraeth y DU i ymchwil a datblygu sy'n gysylltiedig â dur, nid yma yng Nghymru yn unig ond ledled y DU. Ac rwyf i o'r farn, yn rhan o'r strategaeth ddiwydiannol, y dylem ni fod yn galw am fwy o arian ar gyfer hyn. Credaf ei bod yn bwysig hefyd fod Llywodraeth y DU yn lleihau'r gwahaniaeth sylweddol o ran prisiau ynni sy'n dal i fod gennym ni, a bod diwydiannau dwys o ran ynni yn y DU, sy'n cynnwys dur, yn parhau i dalu mwy am eu hynni nhw na'u cystadleuwyr Ewropeaidd.
Ai peth drwg yw allforio trydan i Loegr? Nage, ond rydych chi'n deall mai penderfyniadau Llywodraeth y DU sydd wedi rhoi llawer mwy o gynhyrchu â thanwydd ffosil yng Nghymru, a dyna pam mae ein hallyriadau ni'n uwch o lawer yng Nghymru.
Ac yn olaf, Joyce Watson.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n awyddus i dynnu sylw at y mater ynglŷn â choetiroedd, sef mai 15 y cant y mae coetir yn ei gynrychioli o orchudd tir yng Nghymru, o'i gymharu â 37 y cant sy'n gyfartaledd yn yr UE. Felly, er mwyn dal i fyny, byddai'n rhaid inni gael gorchudd coetir o 22 y cant yn ychwanegol. Rwy'n nodi hynny oherwydd rydych chi wedi rhoi llawer o atebion. Ond mae yna ffactor arall hefyd yn hyn i gyd. Mae bwrdd cynghori Llywodraeth y DU wedi awgrymu y gallai'r glaswelltir a ddefnyddir i roi anifeiliaid i bori arno gael ei leihau 25 y cant erbyn 2050 i helpu i leihau allyriadau carbon. Ac mae pawb yn gwybod bod cynhyrchu cig coch yn cynyddu allyriadau carbon mewn gwirionedd ar sawl lefel a bod yn rhaid inni ystyried yr hyn yr ydym ni'n ei wneud, a dweud y gwir. A hynny o ran pawb yn chwarae ei ran, fel y dywedasoch yn eich datganiad. Fe wnes i alw am ddewis yn seiliedig ar blanhigion ar gyfer prydau ysgol yr wythnos o'r blaen. Felly, o bosib, gallem ddechrau edrych ar gydbwyso'r pethau hyn. Nid wyf i'n llysieuwr, nid wyf i'n fegan, ac, ydw, rwy'n bwyta cig coch fy hunan, ond rwy'n bwyta llai ohono nawr a dyna'r pwynt yr wyf i'n ceisio ei wneud.
Y peth arall y credaf y gallem edrych arno mewn gwirionedd: o dan Ddeddf llesiant cenedlaethau'r dyfodol, mae'n ddyletswydd arnom i beidio â chreu canlyniad i wlad arall. Felly, pan fyddwn ni'n edrych—ac rwy'n golygu ni fel llywodraethau a chyrff cyhoeddus yn ehangach—ar brynu deunyddiau, boed hynny ar gyfer y desgiau yr ydym yn pwyso arnyn nhw neu'r cadeiriau yr ydym yn eistedd arnyn nhw, fe ddylem ni wneud yn siŵr eu bod nhw'n tarddu o goedwigaeth gynaliadwy, ac nad ydym ni'n mewnforio a helpu i greu problem i rywun arall. Mae hynny'n amlwg iawn yn Neddf cenedlaethau'r dyfodol a llesiant—nad ydym ni'n peri difrod yn rhywle arall.
Fy mhwynt olaf yma yw: efallai eich bod chi'n ymwybodol o'r ymgyrch sy'n digwydd ar hyn o bryd i geisio arbed fferm Trecadwgan yn Solfach ar gyfer y cyhoedd. Y cyngor sy'n berchen ar y tyddyn arbennig hwn a cheir llawer o dyddynnod sy'n eiddo i gynghorau eraill ledled Cymru. Unwaith eto, rwy'n gofyn ichi ystyried cynghori awdurdodau lleol, a chael cyngor i ni ein hunain, pan fyddwn yn ystyried cael gwared ag unrhyw dir, fod angen meddwl am ei roi yn ôl i'r gymuned i ddechrau, er mai eiddo'r gymuned ydyw yn y lle cyntaf mewn gwirionedd. Oherwydd nid yw'r cyngor neu unrhyw gorff cyhoeddus yn berchen ar unrhyw beth mewn gwirionedd; y trethdalwr sy'n berchen arno, a'r trethdalwr ddylai gael y dewis cyntaf o geisio gwneud rhywbeth cynhyrchiol gydag ef.
Diolch, Joyce Watson, am y gyfres o gwestiynau ac arsylwadau. Gan sôn am dyddynnod, pan ddechreuais ar fy mhortffolio dair blynedd yn ôl, roeddwn i'n awyddus iawn i wneud darn o waith gydag awdurdodau lleol ynglŷn â nifer y tyddynnod a oedd yn cael eu gwerthu. Roeddwn ar ddeall bod hyn yn digwydd yn weddol aml oherwydd pwysau ariannol, ond pan gaiff y tyddyn hwnnw ei golli, caiff ei golli am byth, yn enwedig os caiff ei werthu, yn amlwg, er mwyn adeiladu tai, er enghraifft. Felly, rwy'n credu ein bod wedi gweld lleihad yn nifer y tyddynnod sy'n cael eu gwerthu. Nid wyf i'n ymwybodol o'r un yr oeddech chi'n sôn amdano'n benodol, ond yn sicr fe fyddaf i'n ymchwilio i hynny.
Rwy'n credu bod y pwynt a godwyd gennych ynglŷn â mewnforio—. Fe roddais i'r enghraifft o fewnforio glo i gynhyrchu dur a sut y byddai'n anghydnaws inni, fel gwlad â chyfrifoldeb byd-eang, fewnforio dur. Ond credaf ichi ddod â hynny i lawr at lefel yr unigolyn, sy'n bwysig iawn yn fy marn i, a'r dewisiadau a wnawn ni o ran yr hyn a brynwn ni, er enghraifft. Credaf mai un o'r rhesymau dros ddatgan argyfwng hinsawdd oedd er mwyn ysgogi pobl i weithredu ac nid llywodraethu oedd yr unig fater, nid awdurdodau lleol yn unig, nid busnesau yn unig oedd hyn; roedd yn cynnwys unigolion hefyd. Rwy'n credu eich bod wedi rhoi enghraifft dda iawn o sut mae pobl, pan maen nhw'n prynu rhywbeth, yn gwneud hynny o safbwynt cynaliadwy.
Roeddech chi'n sôn am goetir, a dangoswyd bod plannu coed newydd yn cynnig manteision sylweddol o ran dal a storio carbon, a dyna pam yr ydym ni bellach wedi ymrwymo i blannu 2,000 hectar y flwyddyn rhwng 2020 a 2030. Rydym hefyd wedi cysylltu ein cymorth Glastir i greu coetiroedd â'r cod carbon coetir. Mae Prifysgol Caergrawnt yn cynnal ymchwil arwyddocaol iawn ar hyn o bryd i ymchwilio i atebion technolegol i heriau sy'n ymwneud â newid hinsawdd, ac mae hynny'n canolbwyntio ar y swyddogaeth gadarnhaol y gall coetiroedd ei chyflawni. Yn sicr, er fy mod i'n sylweddoli y gall gymryd cryn amser i goed aeddfedu—a sgwrs yw hon yr wyf i wedi ei chael gyda ffermwyr, sy'n gyndyn weithiau i blannu mwy o goed oherwydd eu bod nhw'n gwybod y bydd darn o dir yn cael ei glymu am flynyddoedd lawer iawn. Efallai eich bod chi'n ymwybodol bod Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr wedi dweud mewn gwirionedd y byddan nhw'n niwtral o ran carbon erbyn 2040. Mae hyn yn anhygoel o uchelgeisiol, ac felly rwy'n credu bod y sector amaethyddol yn awyddus iawn, iawn ac yn cymryd eu swyddogaeth o ddifrif. Yn amlwg, gallwn edrych ar hyn fel rhan o'n polisi i reoli tir yn gynaliadwy ar ôl Brexit.
Diolch yn fawr iawn, Gweinidog.
Eitem 5 ar yr agenda y prynhawn yma yw Rheoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2019, a galwaf ar y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig y cynnig hwnnw—Julie Morgan.
Cynnig NDM7078 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru; yn unol â Rheol Sefydlog 27.5
Yn cymeradwyo bod y fersiwn ddrafft o Reoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) (Diwygio) 2019 yn cael ei llunio yn unol â’r fersiwn ddrafft a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 4 Mehefin 2019.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig. Mae'r offeryn statudol sydd ger eich bron heddiw yn gwneud mân ddiwygiadau i Reoliadau Gwasanaethau Eirioli Rheoleiddiedig (Darparwyr Gwasanaethau ac Unigolion Cyfrifol) (Cymru) 2019. Y bwriad yw y bydd y Rheoliadau diwygio hyn yn dod i rym ar 1 Gorffennaf 2019. Nawr, mae'r gwelliannau hyn wedi'u cyflwyno yn ymateb i faterion y soniodd y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol amdanyn nhw yn eu hadroddiad craffu technegol ar reoliadau'r gwasanaethau eirioli rheoleiddiedig. Diben y rheoliadau diwygio yw cywiro ac nid ydynt ond yn ceisio mynd i'r afael â'r mân faterion a godir yn yr adroddiad. Nid ydynt yn gwneud unrhyw newidiadau sylweddol i'r rheoliadau gwasanaethau eirioli.
Mae'r diwygiadau yn gwneud y newidiadau canlynol: cywiro cyfeiriad yn rheoliad 6(4)(c) fel ei fod yn darllen 'Rhan 2' yn lle 'Rhan 3', yn cywiro cyfeiriad yn rheoliad 7(3)(c) fel ei fod yn darllen 'Rhan 2' yn lle 'Rhan 3', ac yn cywiro cyfeiriad yn rheoliad 15(1)(d) fel ei fod yn darllen 'comisiynwyr gwasanaethau' yn hytrach nag 'awdurdodau comisiynu'. Cafodd y rheoliadau gwasanaethau eirioli rheoleiddiedig eu hunain eu cyflwyno yn rhan o'n pecyn deddfwriaethol i weithredu gofynion Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 yn llawn. Eu nod yw sicrhau bod darparwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol sy'n cael eu rheoleiddio yn cyflawni'r safon ofynnol o ofal a chymorth fel bod lles a diogelwch pobl yn cael eu cynnal.
Mae'r gofynion yn y rheoliadau gwasanaethau eirioli yn sicrhau bod pobl yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth ddiweddaraf am y gwasanaethau sy'n gysylltiedig â nhw a bod y gwasanaethau hyn yn canolbwyntio ar y person. Mae'r rheoliadau hefyd yn nodi'r gofynion o ran diogelu, staffio a llywodraethu'r gwasanaethau sy'n cael eu darparu. Mae'r rheoliadau diwygio sydd ger eich bron yn gwneud mân gywiriadau technegol angenrheidiol i reoliadau'r gwasanaethau eirioli er mwyn iddyn nhw weithredu'n llawn yn unol â'r bwriad, a gofynnaf i Aelodau eu cefnogi.
Diolch. Nid oes gennyf siaradwyr ar gyfer y ddadl, ac felly y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Detholwyd y gwelliannau canlynol: gwelliannau 1 a 5 yn enw Caroline Jones, gwelliannau 2, 3 a 4 yn enw Darren Millar, a gwelliant 1 yn enw Rhun ap Iorwerth.
Eitem 6 ar ein hagenda y prynhawn yma yw'r ddadl ar goridor yr M4 o amgylch Casnewydd, a galwaf ar y Gweinidog dros yr Economi a Thrafnidiaeth i gynnig y cynnig hwnnw—Ken Skates.
Cynnig NDM7097 Rebecca Evans
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn nodi adroddiad yr Arolygydd Cyhoeddus a’r llythyr o benderfyniad a gyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ddydd Mawrth 4 Mehefin, gan gynnwys datganiad llafar yn ddiweddarach y diwrnod hwnnw, ynghylch prosiect coridor yr M4 o amgylch Casnewydd.
2. Yn nodi’r camau nesaf a amlinellwyd gan Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth gan gynnwys sefydlu Comisiwn o arbenigwyr o dan arweiniad yr Arglwydd Terry Burns.
3. Yn cydnabod y problemau sylweddol o ran tagfeydd ar rwydwaith yr M4 ger Twnelau Brynglas a’u heffaith ar Gasnewydd a’r economi ehangach
4. Yn nodi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu ac ariannu atebion cynaliadwy ac effeithiol i broblemau tagfeydd fel rhan o system drafnidiaeth integredig, aml-ddull a charbon isel.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Mae'n bleser cael cyflwyno'r ddadl hon y prynhawn yma, yn wir. Mae'r Aelodau eisoes wedi gallu cyflwyno rhai o'u safbwyntiau yn ystod dadl ddiweddar gan Blaid Cymru, ond rwy'n credu bod hwn yn bwnc anhygoel o bwysig ac nid yw ond yn briodol, felly, i Aelodau gael y cyfle i gyfrannu'n llawn.
Fel y mae Aelodau a'r holl randdeiliaid eraill sydd â diddordeb yn ymwybodol, penderfynodd y Prif Weinidog beidio â bwrw ymlaen â'r prosiect coridor M4 o amgylch Casnewydd, a elwir fel arall y llwybr du. Ac, ie, fel Llywodraeth, rydym ni'n ymwybodol, o ran yr M4 o amgylch Casnewydd, mai ein cynnig ni oedd y llwybr du a dyna'r oeddem ni'n gweithio arno a'r hyn yr oeddem ni'n ei hyrwyddo. Fodd bynnag, rwyf yn cydnabod bod pethau wedi newid ers i'r llwybr du gael ei lunio. Pan fydd pethau'n newid a phan fydd heriau newydd yn cael eu cyflwyno y peth cyfrifol i lywodraethau ei wneud yw ymateb yn briodol a gweithredu mewn ffordd fwy hyblyg, a dyna'n union yr ydym ni wedi'i wneud.
Gallaf sicrhau pob Aelod ein bod yn cydnabod bod yn rhaid rhoi sylw i'r her hon. Nid yw 'gwneud dim' yn ddewis o gwbl. Y cwestiwn i ni yw sut y gallwn ni ymateb, gan gynllunio rhai o'r dewisiadau amgen mewn ffordd a fydd yn lleihau neu'n dileu tagfeydd. Credaf y gallwn ni sicrhau lleihad mewn tagfeydd ar yr M4 drwy Gasnewydd mewn ffordd sy'n cynnig gwerth am arian ac yn lleihau'r gost i bwrs y wlad.
Rwy'n falch y bydd yr Arglwydd Terry Burns yn cadeirio'r comisiwn arbenigol i wneud argymhellion ar y camau nesaf ar gyfer y rhwydwaith trafnidiaeth yn y de-ddwyrain, a chyhoeddwyd cylch gorchwyl y comisiwn ochr yn ochr â'm datganiad ysgrifenedig diweddar. Bydd y comisiwn yn fach a bydd iddo bwyslais penodol. Bydd yn ystyried barn yr holl randdeiliaid, fel Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol Cymru, comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol, grwpiau busnes, partneriaid cymdeithasol, grwpiau amgylcheddol, grwpiau defnyddwyr trafnidiaeth a chynrychiolwyr gwleidyddol lleol a chenedlaethol. Credaf fod yn rhaid i berfformiad cymdeithasol ac economaidd fod yn ganolog i'r gwaith hollbwysig hwn. Bydd y comisiwn felly'n sicrhau bod eu barn yn cael ystyriaeth lawn yn ei waith.
Nawr, mae gwaith y comisiwn eisoes wedi dechrau. Rwyf wedi cael trafodaethau anhygoel o adeiladol gyda'r Arglwydd Burns am y gwaith sy'n cael ei wneud hyd yma gan Lywodraeth Cymru a sut y bydd ef a'i gomisiwn yn bwrw ymlaen â'r gwaith. Rydym ni'n archwilio'r holl fesurau tymor byr sydd ar gael i liniaru tagfeydd. Rwy'n falch ein bod yn gallu cyflwyno gwasanaethau patrolio ychwanegol a gwasanaethau achub cerbydau sydd wedi torri. Ni fydd y rhain yn dod heb gost, wrth gwrs; mae'r rhain yn wasanaethau drud, ond bellach maen nhw wedi'u profi. Cawsant eu defnyddio gyntaf ar y A55 yn rhan o waith cydnerthu'r A55, ac erbyn hyn profwyd eu bod yn gweithio.
Rhaid imi ychwanegu nad yw'r holl arian a ddyrannwyd i'r llwybr du ar gael i greu datrysiad ar gyfer y ffordd yn unig nac ar gyfer ymyriadau ar yr M4 yn unig oherwydd, wrth gwrs, un o'r rhesymau pam y penderfynodd y Prif Weinidog beidio â rhoi'r Gorchmynion oedd oherwydd y byddai wedi sugno cyfalaf o seilweithiau cymdeithasol eraill hynod bwysig. Fodd bynnag, mae'r Prif Weinidog eisoes wedi bod yn glir y bydd yr argymhellion a gyflwynir gan y comisiwn yn cael eu blaenoriaethu o ran cyllid a neilltuir gan Lywodraeth Cymru i ddatrys y problemau a welwn ni ar y rhan honno o'r rhwydwaith ffyrdd.
Ond rydym ni hefyd wedi bod yn glir gyda'r Aelodau bod yn rhaid i'r atebion hynny fod yn werth da am arian. Mater i'r comisiwn fydd ystyried pob posibilrwydd. Ni fyddwn yn ystyried unrhyw hoff brosiectau, fel y dywedais yn fy natganiad ysgrifenedig, y tu allan i waith y comisiwn. Er y bydd galwadau am gyllid yn cystadlu â'i gilydd bob amser, rydym ni'n glir bod sicrhau atebion cynaliadwy ar gyfer yr heriau sylweddol ar hyd y coridor trafnidiaeth hwn yn brif flaenoriaeth, a gallaf sicrhau Aelodau na chaiff yr arian a wariwyd ers 2013 yn datblygu'r cynigion ar gyfer prosiect yr M4 ei wastraffu ac y caiff ei ddefnyddio'n effeithiol gan y comisiwn, gan sicrhau ei fod yn gwbl wybodus o ran modelu trafnidiaeth, o ran arolygon amgylcheddol a'r holl ffactorau eraill sydd ar waith ledled y rhanbarth.
Rwy'n cydnabod bod y ffigur sydd ynghlwm wrth gost datblygu'r llwybr du arfaethedig yn un sylweddol, ond mae'n cynrychioli rhywbeth fel 6 y cant yn unig o'r gost gyffredinol a amcangyfrifwyd ar gyfer y prosiect. Ac mae hynny, fel y dywedais eisoes yn y Siambr hon, yn cymharu'n ffafriol iawn â phrosiectau eraill ledled y DU. Yr unig beth sydd angen i chi ei wneud yw edrych ar gostau datblygu prosiectau fel HS2 i werthfawrogi na allwch chi gyflawni prosiect seilwaith mawr yn y byd gorllewinol heb orfod ysgwyddo costau datblygu sylweddol.
Rydym ni hefyd wedi bod yn glir iawn wrth bwysleisio bod y prosiect hwn yn gwbl unigryw o ran y raddfa ac o ran yr effaith ar y safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig, ac felly, mae'n rhaid ei ystyried ar ei ben ei hun. Ers inni gyflwyno achos grymus iawn, rwy'n credu, bu datganiad o argyfwng hinsawdd, gwell dealltwriaeth a gwerthfawrogiad bod angen inni weithredu nawr, bod angen inni fod yn fwy ymatebol ac yn fwy cyfrifol, ac, felly, mae'r disgwyliadau yn fwy.
Rwy'n gwybod bod cynlluniau eraill wedi cael eu hamlygu'n ddiweddar ac mae ofn na fyddant yn gweld golau dydd o ganlyniad i'r ffaith y caiff hyn ei weld fel rhywbeth sydd wedi gosod cynsail. Nid yw hynny'n wir o gwbl; bydd y rhaglenni hynny i gyd yn mynd rhagddynt. Yn wir, mae ffordd osgoi Caernarfon-Bontnewydd yn mynd rhagddi. Rydym ni'n bwrw ymlaen ag ymgynghoriadau ar welliannau i'r A483 y mis hwn. Bydd gwaith ar goridor yr A55/A494 yn Sir y Fflint yn mynd yn ei flaen yr haf hwn gyda rhagor o waith modelu, gwaith ar ganllawiau arfarnu trafnidiaeth Cymru ac ymgynghoriadau a chyfarfodydd pellach gyda rhanddeiliaid lleol. Mae prosiectau ffyrdd eraill ar hyd a lled Cymru yn dal ar y gweill i'w darparu, ac nid yw hyn yn newid ein safbwynt ar y rheini.
Mae gennym ni hefyd gynlluniau hynod o gyffrous a beiddgar ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus yma yng Nghymru: o'r cynllun £5 biliwn a ddatblygwyd gennym ni, drwy Trafnidiaeth Cymru, ar gyfer y fasnachfraint rheilffyrdd a'r metro newydd fydd yn trawsnewid pethau'n llwyr; i ddeddfwriaeth o bwys a fydd yn ein helpu i ail-reoleiddio'r rhwydwaith bysiau; ac, wrth gwrs, y buddsoddiad mwyaf i ni ei wneud erioed ym maes teithio llesol. Mae llawer iawn o waith cyffrous yn mynd rhagddo ledled Cymru a fydd, rwy'n credu, yn ysbrydoli, yn annog ac yn fodd i bobl newid sut maen nhw'n teithio, sydd mor bwysig. Dirprwy Lywydd, rydym ni wedi ymrwymo i fynd ati mewn modd cynhwysol a chydweithredol er mwyn canfod atebion arloesol, fforddiadwy a chynaliadwy yn yr amser byrraf posib, ac edrychwn ymlaen at weithio gydag Aelodau a rhanddeiliaid ar y cyd, wrth gwrs, â'r comisiwn, i ddiwallu'r angen hwnnw.
Diolch. Rwyf wedi dethol y chwe gwelliant i'r cynnig a galwaf ar David Rowlands i gynnig gwelliannau 1 a 5, a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones.
Gwelliant 1—Caroline Jones
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn gresynu bod Llywodraeth Cymru wedi methu â chadw at ei haddewid i ddarparu ffordd liniaru'r M4.
Gwelliant 5—Caroline Jones
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig;
Yn cydnabod bod tagfeydd o amgylch Casnewydd wedi bod yn llesteirio economi Cymru dros y ddau ddegawd diwethaf ac yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw fesurau lleddfu, yn absenoldeb ffordd liniaru, yn cael eu rhoi ar waith cyn gynted â phosibl.
Cynigiwyd gwelliannau 1 a 5.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf yn ffurfiol welliannau 1 a 5 a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones, ac rwyf eisiau cadarnhau ar hyn o bryd y byddwn yn cefnogi gwelliannau 2, 3 a 4, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar.
Cynigiaf welliant 1 gan ddweud yn syml mai addewid maniffesto'r Blaid Lafur oedd cyflwyno ffordd liniaru ar gyfer traffordd yr M4 yng Nghasnewydd. Gan gynnig gwelliant 5, mae arnaf ofn ei bod hi'n ddyletswydd ar bob plaid yn y Siambr hon i drafod, mewn ffordd gynhyrchiol a chydweithredol, unrhyw gynigion a dewisiadau cadarn a gynigir gan unrhyw Aelod neu blaid yn y Siambr hon. Mae'r sefyllfa yng Nghasnewydd mor enbyd erbyn hyn fel bod yn rhaid inni i gyd roi gwleidyddiaeth bleidiol o'r neilltu, er mwyn pobl Casnewydd ac er mwyn economi Cymru'n gyffredinol.
Hyd yn oed y bore yma, gwelais, am 6.45 y bore, dagfa echrydus o'r twneli i gyffordd 28, ac ymhellach, ddydd Gwener diwethaf, roedd tagfa o gyfnewidfa Llaneirwg yr holl ffordd i'r twneli. Unwaith eto, nid wyf ond eisiau gwneud y sylw fod cyfyngiadau cyflymder o gyfnewidfa Parc Tredegar yn gwaethygu'r broblem, oherwydd roedd maint y traffig gwirioneddol a oedd yn llifo drwy'r twnnel yn eithaf isel.
Hoffwn gadarnhau ein bod yn cefnogi pob ymdrech i ddarparu ar gyfer pobl sydd ar drafnidiaeth gyhoeddus, a chredwn y bydd hyn yn ffactor hollbwysig o ran lleihau faint o draffig sydd ar y ffordd honno nawr, ac rwy'n gwbl sicr y bydd y metro'n helpu'n fawr iawn ac yn lleihau'r traffig hwnnw. Ond, fel y gŵyr Gweinidog y Cabinet, rhaid rhoi llawer mwy o bwyslais ar yr hyn sy'n digwydd ar draffordd yr M4, ac edrychaf ymlaen at weld cynigion y Comisiwn ynghylch eu hatebion arfaethedig. Diolch.
Daeth y Llywydd i’r Gadair.
Galwaf ar Russell George i gynnig gwelliannau 2, 3 a 4, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Russell George.
Gwelliant 2—Darren Millar
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 1 ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i gyhoeddi adroddiad yr Arolygydd Cyhoeddus Annibynnol cyn 4 Mehefin 2019.
Gwelliant 3—Darren Millar
Ychwanegu pwynt newydd ar ôl pwynt 3 ac ail-rifo yn unol â hynny:
Yn gresynu ymhellach at fethiant un Llywodraeth Lafur ar ôl y llall yng Nghymru i ddatrys y tagfeydd ar yr M4 hyd yn hyn.
Gwelliant 4—Darren Millar
Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i dderbyn argymhelliad yr arolygydd cyhoeddus annibynnol ac adeiladu ffordd liniaru'r M4.
Cynigiwyd gwelliannau 2, 3 a 4.
Diolch, Llywydd. Cynigiaf y gwelliannau yn enw fy nghyd-Aelod Darren Millar.
Ar 23 Hydref, dywedodd Julie James, arweinydd y tŷ ar y pryd, a oedd yn cyflenwi ar ran y Prif Weinidog ar y pryd, wrth siarad ar ran y Llywodraeth, y byddai gennym ni bleidlais orfodi yn amser y Llywodraeth ar brosiect ffordd liniaru'r M4. Rwy'n credu ei bod hi'n siomedig nad yw'r ymrwymiad hwn wedi cael ei anrhydeddu. Chwe blynedd ers dechrau'r prosiect hwn, mae'r ymchwiliad wedi cymryd bron i ddwy flynedd i archwilio cynigion Llywodraeth Cymru ei hun a 28 o ddewisiadau eraill ar gost o'r hyn yr ydym ni'n ei wybod bellach sy'n £114 miliwn. Dim ond, wrth gwrs, i'r Prif Weinidog gael gwared ar y cynllun yn llwyr.
Rwy'n siomedig bod Llywodraeth Cymru yn awr wedi bod yn llusgo traed unwaith eto, drwy greu comisiwn arbenigol newydd, a gafodd ei lunio i ddod i gasgliadau newydd o fewn chwe mis. Does dim sicrwydd, wrth gwrs, na fydd y Prif Weinidog, ar ddiwedd y broses honno, yn anwybyddu argymhellion yr Arglwydd Burns, fel y gwnaeth wrth wrthod casgliadau manwl adroddiad yr arolygydd cyhoeddus annibynnol.
Mae Llywodraeth Cymru yn iawn yn ei chynnig bod y problemau sylweddol o ran tagfeydd ar yr M4 yn effeithio ar economi Casnewydd a'r economi ehangach. Ond mae'n ddigon hawdd rhoi hynny mewn cynnig heddiw; mae Llywodraeth bresennol Cymru yn rhan o'r broblem yn hytrach nag yn rhan o'r ateb.
Nid yw "clytio a thrwsio" yn ddewis polisi cynaliadwy mwyach i ddiwallu anghenion hirdymor Cymru.
Nid fy ngeiriau i; dyna eiriau Gweinidog yr economi o ran yr M4. Ers 20 mlynedd, mae'r Llywodraeth Lafur wedi cymryd arnyn nhw eu bod nhw'n gwybod beth maen nhw'n ei wneud â'r economi, ond mae gen i ofn eu bod yn dyfeisio'r cwbl wrth fynd yn eu blaenau. Ers gwrthod casgliadau'r arolygydd, nid oes gan y Llywodraeth unrhyw gynllun, unrhyw dargedau, unrhyw atebion ymarferol a fydd yn datrys y problemau tagfeydd sy'n dal economi Casnewydd yn ôl, ac yn mygu economi ehangach Cymru.
Ni allwn ni ar y meinciau hyn gefnogi cynnig nad yw'n cydnabod methiant Llywodraeth Cymru dros yr 20 mlynedd diwethaf, er gwaethaf dau ddegawd o drafod ac ymgynghori. Mae'r manteision economaidd yn amlwg. Mae Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi cydnabod hyn o'r blaen, ac fe'i dyfynnaf yma:
Dros y cyfnod arfarnu 60 mlynedd, mae mwy na £2 o fudd ar gyfer pob punt a werir ar y cynllun, heb sôn am y buddiannau economaidd ehangach sy'n debygol o ddeillio o'r cynllun, megis canfyddiad cryfach o Gymru fel lle i fuddsoddi ynddo, na ellir ei fesur.
Ni allwn i grynhoi hynny'n well fy hun, Llywydd, ac, wrth gwrs, dywedodd yr arolygydd cynllunio hefyd y byddai pob £1 a fuddsoddwyd yn talu £1.56 yn ôl i'r genedl. Yn y cyfamser, fel mae pethau yn awr, mae lefelau traffig yn cynyddu ac nid ydym ni'n llwyddo i adeiladu seilwaith a rhwydwaith ffyrdd a fyddai'n denu mewnfuddsoddiad. Amcangyfrifwyd bod yr effaith economaidd o beidio â mynd ymlaen yn £134 miliwn y flwyddyn i Gaerdydd a £44 miliwn y flwyddyn i Gasnewydd.
Mae gennyf bryderon a chwestiynau gwirioneddol ynghylch effaith amgylcheddol cynigion y Llywodraeth ei hun, ond roedd hi'n bwysig dros ben bod yr ymchwiliad cyhoeddus yn clywed barn rhanddeiliaid, yn archwilio'r cynigion amgen a oedd yn cael eu cyflwyno ac yn archwilio, yn fanwl, y goblygiadau amgylcheddol y soniwyd amdanyn nhw. Fy marn i a barn y meinciau hyn oedd y dylid parchu canlyniad yr ymchwiliad cyhoeddus, ar ôl archwilio a phwyso a mesur yr holl dystiolaeth.
I fod yn glir, Llywydd, rydym ni ar y meinciau hyn yn galw ar i Lywodraeth Cymru dderbyn argymhellion yr arolygydd cyhoeddus ac adeiladu ffordd liniaru'r M4 ar frys. Llywydd, terfynaf â dyfyniad o eiriau Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth Llywodraeth Cymru ei hun, a ddywedodd:
nad yw'r seilwaith presennol ar y M4 o amgylch Casnewydd yn addas at y diben ... Mae gwelliannau tameidiog a defnyddiol wedi cael eu gwneud dros amser, a fydd yn gwella'r sefyllfa ... ond nid ydynt ond wedi gohirio'r mater. Mae angen i'r darn hwn o seilwaith gael ei uwchraddio'n sylweddol yn y tymor hir.
Rwy'n cytuno ag ef.
Rhun ap Iorwerth i gynnig gwelliant 6.
Gwelliant 6—Rhun ap Iorwerth
Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:
Yn galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod unrhyw gynnig newydd yn rhan o becyn buddsoddi mewn seilwaith ar gyfer Cymru gyfan.
Cynigiwyd gwelliant 6.
Diolch. Gadewch imi sôn am ddwy stori gyferbyniol. Mae un ohonyn nhw'n wir, ac un yn bortread o'r hyn a allai fod wedi bod. Yn gyntaf, felly, yn 2011, mae Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i ddilyn y llwybr du bondigrybwyll i'r de o Gasnewydd. Yn 2019, wyth mlynedd yn ddiweddarach, wyth mlynedd o roi'r holl wyau mewn un fasged anghynaladwy, ac mae Llywodraeth Cymru yn gorfod cyfaddef bod y prosiect yn anghynaladwy yn ariannol ac yn amgylcheddol. Mae'r M4 yn dal i fod yn orlawn ac yn llawn tagfeydd, ac nid oes unrhyw ddewisiadau eraill ar y gweill.
Neu, yn 2011, mae Llywodraeth Cymru yn sylweddoli mai'r unfed ganrif ar hugain yw hon, nid yr ugeinfed, bod yn rhaid gwella cydnerthedd ffyrdd, oes, ond ar y cyd â buddsoddi helaeth mewn trafnidiaeth gyhoeddus a newid moddol. Yn 2019, wyth mlynedd yn ddiweddarach, mae rhaglen gwella ffyrdd sylweddol yn mynd yn ei blaen i liniaru'r pwysau ar yr M4, ac mae poblogaeth Casnewydd a'r cyffiniau eisoes yn mwynhau ffrwyth cyntaf y buddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus sylweddol carbon isel, fel yr addawyd pan ddynodwyd Casnewydd yn gynllun braenaru ar gyfer arloesi mewn trafnidiaeth.
Nawr, dywedais fod yr ail fersiwn honno yn un llawn dychymyg, ond nid oes rhaid iddi fod nawr, os ydym yn newid y dyddiadau ac yn dechrau'r cloc o hyn ymlaen. Rydym ni wedi aros ac wedi gwastraffu wyth mlynedd, a bydd yr etholwyr yn mynegi eu barn mewn etholiadau yn y dyfodol, mae'n siŵr, am y cyfleoedd y mae'r Llywodraeth Lafur hon wedi'u colli, ond rhaid inni dorchi llewys nawr.
Dyma rywbeth arall a allai fod wedi digwydd yn yr ail sefyllfa honno: roedd Llywodraeth Cymru, drwy gomisiwn seilwaith cenedlaethol, yn gallu datblygu'r mentrau ffyrdd a thrafnidiaeth gyhoeddus arloesol hynny ar gyfer Casnewydd a'r de-ddwyrain yn rhan o strategaeth seilwaith drafnidiaeth newydd i Gymru gyfan. Yn Wrecsam a'r gogledd-ddwyrain, Abertawe, Caerdydd a'r Cymoedd, gwelwyd cynlluniau trafnidiaeth gyhoeddus yn datblygu'n gyflymach oherwydd profiad Casnewydd. Arweiniodd yr hyder a gafwyd o weld ymateb Casnewydd i'r cynnig trafnidiaeth gyhoeddus newydd, a aeth â thraffig oddi ar y M4, wrth gwrs, at feddylfryd newydd o ran datblygu ac adfer cysylltiadau trafnidiaeth newydd fel cysylltiad rheilffordd arfordir y gorllewin.
Mae hyn i gyd, rwy'n gwbl grediniol, yn bosib, a byddai wedi bod yn bosib. Yr hyn y mae'n rhaid inni ei wneud, serch hynny, nawr yw sicrhau mai 2019 yw'r man cychwyn ar gyfer y math hwnnw o ddull newydd o gynllunio trafnidiaeth i'r de-ddwyrain ac i Gymru gyfan.
Nawr, crybwyllais y comisiwn seilwaith cenedlaethol, a bydd y Gweinidog wedi fy nghlywed yn gofyn o'r blaen, 'Pam sefydlu comisiwn newydd i edrych ar fater yr M4 yng Nghasnewydd? Onid oes gennym ni gyfrwng yn y comisiwn seilwaith cenedlaethol cymharol newydd a ddylai fodoli i wneud hynny'n union?' Ac o'r gorau, nid y comisiwn cenedlaethol yw'r union beth yr oeddem ni ym Mhlaid Cymru yn galw amdano—nid mor gryf—ond roeddem yn ei groesawu fel cam i'r cyfeiriad cywir o leiaf, ac oni fyddai rhoi'r prosiect hwn iddo, y dasg amlwg hon o ymateb i'r penderfyniad ynglŷn â'r M4, yr union beth sydd ei angen i adael iddo dyfu o ran ei statws ac i fagu hyder? Ac, ar yr un pryd, onid yw cael comisiwn dim ond ar gyfer mater yr M4 yr union beth nad ydym ei eisiau os ydym ni o ddifrif ynghylch datblygiadau trafnidiaeth ar gyfer Cymru gyfan? Edrychwch ar bwynt 4 yng nghynnig y Llywodraeth, sy'n nodi:
'ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddatblygu ac ariannu atebion cynaliadwy ac effeithiol i broblemau tagfeydd fel rhan o system drafnidiaeth integredig, aml-ddull a charbon isel.'
Nawr, hoffwn feddwl bod y Llywodraeth, yn hynny o beth, yn golygu system drafnidiaeth i Gymru gyfan, yn yr un ffordd ag yr ydym ni yn galw amdano yn ein gwelliant am ymrwymiad i becyn buddsoddi mewn seilwaith i Gymru gyfan. Efallai y gall y Gweinidog gadarnhau hynny. Byddai rhoi'r dasg yn nwylo'r comisiwn seilwaith cenedlaethol yn gwarantu'r cyd-destun ehangach hwnnw—ie, mynd i'r afael â'r mater dan sylw ynglŷn â Chasnewydd fel blaenoriaeth, ond gweld sut y gallai'r cyfan gydblethu â'i gilydd, efallai fel y rhagwelais yn fy amserlen amgen.
Felly, beth ydy'r atebion? Does gen i mo'r fantais o fod mewn Llywodraeth. Y Llywodraeth sydd wedi colli cyfle yr wyth mlynedd ddiwethaf. Nhw sydd yn y sefyllfa freintiedig rŵan o allu dechrau cynllunio o rŵan ymlaen. Ond wrth i gomisiwn y Llywodraeth ddechrau ar ei waith, mi fyddwn ninnau ym Mhlaid Cymru yn gwneud ein gwaith ein hunain, yn siarad efo rhanddeiliaid yn lleol, ac arbenigwyr trafnidiaeth ac arbenigwyr economaidd eraill, i edrych am gynigion amgen. Dwi'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn hapus i'r gwaith hwnnw gael ei gyflwyno i'r comisiwn er ystyriaeth. Rydyn ni'n dechrau ar y gwaith hwnnw yn syth.
Ac mae yna gyfleoedd gennym ni rŵan. Mae yna elfennau gwleidyddol i'r hyn sydd angen digwydd nesaf. Mae angen sicrwydd y bydd pwerau gwariant a benthyca yn dal i fod ar agor i Lywodraeth Cymru. Does yna ddim cyfiawnhad dros adael i Lywodraeth Prydain reoli beth ddylai fod yn flaenoriaethau i ni yng Nghymru. Dwi'n gobeithio clywed y Gweinidog yn cytuno â hynny. Dŷn ni'n gwybod bod Llywodraeth Cymru wedi bod ar fai i gytuno i'r trefniadau hynny, ond rŵan mae'n rhaid gweld y Llywodraeth yma yng Nghymru yn brwydro dros gael cadw'r pwerau benthyg. Ac wrth ateb problem y de-ddwyrain a Chasnewydd, sydd yn flaenoriaeth, mae'n rhaid sicrhau bod Cymru gyfan yn elwa.
Problem i Gymru, nid un yn ymwneud â Chasnewydd, fel y'i portreadir yn aml, yw'r broblem yn ymwneud â thwneli Bryn-glas. Fodd bynnag, credaf, heddiw, ei bod hi'n bwysig imi ganolbwyntio yn fy sylwadau ar yr hyn y mae'n ei olygu i Gasnewydd.
Rwy'n gwybod fy mod i mewn sefyllfa freintiedig. Rwyf wedi cael fy rhoi yn y Siambr hon gan bobl Gorllewin Casnewydd i gynrychioli fy ninas enedigol—y man lle cefais fy ngeni, fy magu a lle rwy'n byw. At ddibenion y ddadl heddiw, mae'n rhoi cipolwg i mi o'r hyn yw byw mewn dinas sydd â thraffordd yn rhedeg drwyddi. Nid yw'n fy ngwneud i yn arbenigwr ar drafnidiaeth, ond mae'n rhoi dealltwriaeth imi o'r problemau y mae pobl sy'n byw yng Nghasnewydd yn eu hwynebu bob dydd.
Yr M4, sy'n rhannu Casnewydd, yw'r ffordd a ddefnyddir fwyaf yng Nghymru. Mae'n rhan o'r rhwydwaith ffyrdd traws-Ewropeaidd ac mae'n hanfodol i economi Cymru. Mae'r ffordd yn rhoi mynediad i ddiwydiant, porthladdoedd, meysydd awyr, ac mae'n hanfodol i dwristiaeth. Dyma'r brif ffordd i Loegr ac i weddill Ewrop. Yn ei adroddiad, mae'r arolygydd yn disgrifio'r M4 fel y ffordd bwysicaf yng Nghymru. Nid yw darn Casnewydd o'r M4 yn bodloni gofynion modern. Noda'r adroddiad, a dyfynnaf:
'ceir tystiolaeth glir bod yr M4 yn cael ei llethu gan nifer annormal o uchel o ddigwyddiadau anrhagweladwy ac nad ydynt yn cael eu cofnodi, sy’n rhwystro neu’n atal trwybwn y draffordd gan achosi oedi, rhwystredigaeth, niwed economaidd, llygredd, anghyfleustra, amgyffrediad negyddol i’r ardal a dargyfeirio i ffyrdd trefol anaddas'
yng Nghasnewydd drefol. Yn ystod yr wythnosau diwethaf yn unig rydym ni wedi gweld digwyddiadau pwysig yn cael eu cynnal yng Nghaerdydd. Mae'r rhain yn bethau y dylem ni i gyd fod yn falch ohonyn nhw ac yn awyddus i'w denu. Fodd bynnag, gall pawb sy'n byw yng Nghasnewydd edrych i lawr ar y draffordd a gweld y tagfeydd y mae hyn yn ei achosi—nid tagfeydd yn cael eu hachosi gan drigolion Casnewydd yn unig. Gall hyd yn oed y ddamwain leiaf, heb sôn am unrhyw beth arall, gymryd oes i'w chlirio. Mae hyn wedi dwysáu ers i'r tollau gael eu dileu. Bob tro y bydd damwain neu dagfeydd difrifol wrth dwneli Bryn-glas, caiff traffig y draffordd ei wthio i ffyrdd lleol. Mae hyn yn creu tagfeydd, yn tagu'r ddinas ac yn mynd â mygdarth gwenwynig yn nes at gartrefi ac ysgolion.
Cefais fy magu mewn ardal sy'n dioddef yn ddifrifol o lygredd aer a achosir gan yr M4. Mae pedair ysgol dafliad carreg i ffwrdd. Mae plant yn cerdded wrth ochr y draffordd a thros y pontydd i gyrraedd eu hysgolion, gan anadlu'r llygredd aer a achosir gan y traffig segur rheolaidd. Mae topograffeg yr ardal yn gwneud hyn yn waeth, sy'n golygu na all tocsinau o'r draffordd wasgaru'n hawdd.
Mae'r ddadl heddiw yn rhoi cyfle arall imi fod yn glir ynghylch yr hyn yr wyf yn ei ddisgwyl gan y comisiwn. Rwy'n sylweddoli ei fod yn benderfyniad anodd, ac rwy'n parchu gwrthwynebiadau ecolegwyr. Fodd bynnag, fel y dywedais wrth ymateb i ddatganiad y Prif Weinidog, rhaid inni beidio â mynd yn ôl i'r cam cyntaf un. Byddaf yno bob cam o'r ffordd, yn craffu ac yn sicrhau bod barn pobl sy'n byw yng Nghasnewydd yn flaenllaw yng ngwaith y comisiwn. Mae'n hollbwysig y caiff yr arian a roddwyd o'r neilltu ei wario ar atebion i'r union beth hwnnw: i fynd i'r afael â'r mater penodol hwn yn ardal Casnewydd. Rhaid peidio â gwastraffu'r arian ar brosiectau ledled y wlad. Rhaid i'n dinas beidio â chael ei thagu gan dagfeydd.
Ni fydd syniadau megis cau cyffyrdd ar ddarn Casnewydd o'r M4 yn ateb. Bydd cau unrhyw gyffordd ar yr M4 yn gwneud bywyd yn anoddach i'm hetholwyr ac i'r rhai yng Nghaerffili, Torfaen a Rhisga, ymysg rhai eraill. Byddem yn croesawu trafnidiaeth gyhoeddus llawer gwell yn ardal Casnewydd, ac eto mae angen newidiadau radical a sylweddol. Er y byddwn yn annog y comisiwn i edrych ar ffyrdd newydd o wella ein system drafnidiaeth, ar y draffordd ac yng Nghasnewydd a'r cyffiniau, ni all ein dinas fod yn gyfrwng prawf yn unig. Mae angen inni weld gwahaniaeth pendant a chynaliadwy. Rydym ni wedi bod yn aros am ddegawdau am ateb i ffordd nad yw'n addas i'r diben.
Roedd adroddiad yr arolygydd yn manylu ar beryglon peidio â chael ffordd liniaru ar gyfer yr M4 i Gasnewydd a'r cyffiniau. Dyna pam y byddaf yn ymatal heddiw ar welliant 4. Rwy'n awyddus i gwrdd â'r comisiynydd ac i gyfleu barn a syniadau fy etholwyr. Gan fod penderfyniad wedi'i wneud erbyn hyn, rhaid i'r Llywodraeth fod yn benderfynol y gellir gwneud pethau nawr. Rhaid peidio â cholli golwg. Mae'r her yn fawr.
Mae'r achos dros ffordd liniaru ar gyfer yr M4 o amgylch Casnewydd yn dal yn gryf, Gweinidog. Cafodd ei gynnig gyntaf yn ôl ym 1991, ac aeth i'r afael â phroblem tagfeydd nad yw wedi cael sylw priodol erioed. Yr M4 yw cyswllt strategol Cymru â gweddill y DU ac Ewrop, ond cawn ein gwasanaethu drwy ffordd ddeuol dila sy'n methu â chyrraedd safonau traffyrdd modern. Yn ystod y ddwy flynedd ddiwethaf gorfodwyd y darn hwn o ffordd i gau dros 100 o weithiau; mae 100,000 o gerbydau a mwy yn teithio ar yr M4 o amgylch Casnewydd bob dydd. Mae hyn yn cynyddu pan gaiff digwyddiadau mawr fel cyngherddau a gemau rygbi, pêl-droed a chriced eu cynnal, a bydd hynny'n digwydd eto pan gaiff y ganolfan gynadledda newydd yng Ngwesty'r Celtic Manor ei chwblhau. Wedi'i chyfyngu gan y twneli traffordd hynaf yn y Deyrnas Unedig, mae'r darn hwn o'r ffordd yn achosi cynnydd mewn allyriadau cerbydau, ansawdd aer gwael a damweiniau o amgylch Casnewydd.
Treuliodd arolygydd cynllunio'r Cynulliad Cenedlaethol ei hun fwy na blwyddyn yn ystyried yr achos dros lwybr M4 newydd i'r de o Gasnewydd. Gweinidog, ceir chwe chyffordd sydd mewn gwirionedd yn mynd i Gasnewydd, o amgylch Casnewydd, ac nid traffordd yw'r draffordd—mae'n debyg i ffordd igam-ogam o'i hamgylch. Mae'n draffordd araf; mae'n faes parcio o'i hamgylch. Roedd yr arolygydd yn gefnogol iawn o'r cynnig. Yn ei adroddiad, mae'n sôn yn fanwl am fanteision economaidd, amgylcheddol ac iechyd y prosiect. Eto i gyd, gwrthodwyd ei argymhelliad gan y Prif Weinidog. Roedd y penderfyniad hwn yn destun siom, dicter a rhwystredigaeth ymhlith y diwydiant a grwpiau busnes yng Nghymru. Dywedodd Cydffederasiwn Diwydiant Prydain, a'u dyfyniad yw:
Mae hwn yn ddiwrnod tywyll i economi Cymru...Ni all tagfeydd a llygredd ffyrdd o amgylch Casnewydd ond cynyddu. Bydd twf economaidd yn cael ei fygu, bydd hyder yn y rhanbarth yn gwanhau a bydd cost ffordd liniaru yn y pen draw yn codi.
Dywedodd y Sefydliad Trafnidiaeth Cludo Nwyddau, yn eu dyfyniad:
Mae'r M4 yn ddarn hanfodol o seilwaith sydd â phwysigrwydd economaidd rhyngwladol, ond mae tagfeydd trwm yn ei ddifetha.
Dyfyniad arall ganddynt yw:
Mae'n rhwystredig y collwyd y cyfle i gyflawni'r buddsoddiad hanfodol hwn yn seilwaith de Cymru.
Ni all y sefyllfa ond gwaethygu. Mae Llywodraeth Cymru yn rhagweld problemau gweithredol difrifol o ran tagfeydd o amgylch Casnewydd erbyn 2020. Mae dileu tollau pontydd Hafren, y rhagwelir hefyd y bydd yn chwistrellu dros £100 miliwn o weithgareddau economaidd i Gymru, wedi cynyddu tagfeydd. Dengys amcanestyniadau gan yr Adran Drafnidiaeth y disgwylir i draffig ar hyd yr M4 gynyddu bron 38 y cant dros y 30 mlynedd nesaf. Nid yw methu â gweithredu yn ddewis, Gweinidog. Mae angen inni edrych eto ar y dewisiadau eraill yn lle'r llwybr du.
Un dewis a ystyriwyd oedd gwella'r A48 presennol drwy uwchraddio'r gyffordd bresennol ar y llwybr sy'n amharu ar lif rhydd y traffig. Byddai hyn yn golygu pontydd a thanffyrdd newydd. Roedd cost y dewis hwn gryn dipyn yn llai na'r llwybr du. Oni allem ni edrych eto ar ddefnyddio cyfuniad o ffordd ddosbarthu ddeheuol yr A48 a ffordd yr hen waith dur i greu ffordd ddeuol o safon uchel a fyddai'n cael ei galw'n llwybr glas?
Mae llawer o'r traffig yn cael ei achosi gan gymudwyr yn mynd i neu o'r gwaith. Mae cynnig metro de Cymru yn gynllun uchelgeisiol i gael mwy o gymudwyr ar ein rheilffyrdd, ond mae'n gynllun hirdymor a fydd yn cymryd rhwng 10 a 15 mlynedd i'w gyflawni. Mae arnom ni angen dewisiadau ar gyfer y rheilffyrdd nawr. Mae arnom ni angen cysylltiad uniongyrchol rhwng Casnewydd a Glynebwy, Gweinidog. Mae angen inni sicrhau bod mwy o gymunedau, megis Magwyr a Gwndy, yn cael gorsafoedd rheilffordd.
Rwy'n gwybod y bydd y comisiwn a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru yn cyflwyno adroddiad ar ei ganfyddiadau dros dro gydag argymhellion ar gyfer ymyriadau ymarferol uniongyrchol o fewn chwe mis i'w ffurfio. Anogaf y Gweinidog i gadw at ei amserlen. Mae pobl y de-ddwyrain wedi aros yn ddigon hir am fynd i'r afael â phroblem tagfeydd ar yr M4. Nawr yw'r amser. Gweinidog, roedd hi'n wych eich clywed yn dweud ei bod hi'n bryd newid. Sut, pryd a pha ben o Gasnewydd? Ac rwy'n siŵr y byddwch yn gwneud eich gorau i sicrhau bod tagfeydd yn cael eu lliniaru, bod yr ochr amgylcheddol yn cael sylw a bod y wers wedi'i dysgu dros yr wyth neu'r naw mlynedd diwethaf o wastraffu amser ac arian yn yr ardal. Diolch.
Rwy'n deall y rhwystrau lled-farnwrol y bu'n rhaid i Lywodraeth Cymru fynd drwyddynt er mwyn dod i'w phenderfyniad, a fyddai wedi'i gwneud hi'n anodd iawn cael cynllun B wrth gefn, oherwydd byddai hynny wedi cael ei weld fel rhywbeth a oedd yn rhagfarnu'r penderfyniad a wnaeth y Prif Gweinidog. Felly, anghytunaf â Rhun ap Iorwerth fod yn rhaid inni, rywsut, droi'r holl broblem hon yn system drafnidiaeth newydd i Gymru. Mae'n amlwg bod arnom ni angen system drafnidiaeth ar ei newydd wedd ar gyfer Cymru, ond mae angen inni ganolbwyntio ar y sefyllfa sydd ohoni o ran y tagfeydd sydd gennym ni o amgylch Casnewydd. A gwrandewais yn astud iawn ar y problemau a ddisgrifiodd Jayne Bryant, ac rwyf wedi eu profi fy hun. Ni fyddwn eisiau byw yn union ger y draffordd honno—
Diolch yn fawr i chi am ildio. Dydw i ddim yn credu fy mod i'n awgrymu y dylem ni droi'r hyn a oedd gennym ni o'r blaen yn rhaglen i Gymru gyfan. Mater ydyw o ddatblygu ateb i broblem Casnewydd fel blaenoriaeth, fel y gwneuthum hi'n glir, ynghyd ag, ac yn rhan o strategaeth drafnidiaeth newydd, arloesol i Gymru gyfan.
Iawn. Ond yn y dyfodol, bydd gennym ni seilwaith 5G a fydd yn ein galluogi i gynllunio manylion miloedd o deithiau dyddiol a defnyddio'r system drafnidiaeth gyhoeddus i ateb y galw hwnnw. Ond mae gennym ni dipyn o ffordd i fynd cyn cyrraedd hynny. Felly, rhaid inni mewn difrif calon fwrw ymlaen â'r materion a fydd yn lliniaru'r tagfeydd heddiw.
Felly, hoffwn bwyso ar y Llywodraeth am yr amserlen ar gyfer y pethau a gyhoeddodd y Gweinidog ar 5 Mehefin, sy'n hwyluso'r broses o adfer cerbydau mewn ardal lle mae problemau ar y ffordd honno, y dyddiad ar gyfer darparu swyddog traffig ychwanegol gydag oriau estynedig, yr wybodaeth am amser teithio byw ar yr arwyddion ar ochr y ffordd—sy'n swnio ychydig yn fwy anodd ei ddarparu ar unwaith—ac ymgyrch arferion gyrwyr i leihau'r digwyddiadau hyn sy'n peri bod yn rhaid anfon draw rhagor o swyddogion traffig.
Gallwn ddefnyddio'r gofod ffyrdd yn wahanol drwy, mewn mannau penodol, gael lle ar y ffyrdd sydd wedi'u dynodi ar gyfer bysiau a'r rhai sydd â mwy nag un teithiwr yn y car. Ond mae gwir angen i ni ganfod dewisiadau eraill yn lle'r broblem o draffig cymudo—cymudo'n bennaf. Felly, rwyf yn gobeithio y bydd Comisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru yn ystyried, er enghraifft, sicrhau bod teithio ar fysiau yng Nghasnewydd a'r cyffiniau yn rhad ac am ddim i ddenu pobl allan o'u ceir ac ar fysiau sydd eisoes yn teithio'r ffordd honno. Gwyddom fod diddymu'r tollau ar y bont wedi arwain at gynnydd o 20 y cant yn y traffig ar yr M4; mae'n siŵr mai ystryw fwriadol yw hon gan Ysgrifennydd Gwladol presennol Cymru i geisio cael y penderfyniad ar y ffordd liniaru, ond gadewch inni wyrdroi hynny: beth am ailgyflwyno tollau ar adegau prysur ar y darn o'r M4 lle mae'r anawsterau mwyaf?
Felly, wrth edrych ar brosiectau trydaneiddio metro de Cymru, gobeithiwn y byddwn yn gweld newid mawr yn amlder a chapasiti'r rheilffyrdd hynny sy'n teithio drwy'r Cymoedd o'r gogledd i'r de i mewn i Gaerdydd, ond mae hyn yn fater o deithio o'r gogledd i'r de; nid yw gwasanaethau rheilffyrdd y dwyrain-gorllewin wedi'u datganoli, maen nhw'n cael eu rhedeg gan GWR ar hyn o bryd. Felly, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cael gydag (a) Llywodraeth y DU, (b) Network Rail a (c) GWR ynglŷn â defnyddio'r pedair llinell rhwng Caerdydd a Chasnewydd a thu hwnt yn fwy effeithiol? Dim ond dwy sydd angen inni eu neilltuo ar gyfer gwasanaethau cyflym pellter hir. Pam nad yw'r ddwy linell arall ar gael ar gyfer trenau maestrefol?
Fis diwethaf, euthum ar daith ddirgel hud ar fws trydan, a gafodd ei gynhyrchu gan Alexander Dennis yn Scarborough, ac rwy'n ffyddiog bod Cyngor Caerdydd nawr yn mynd i brynu rhai ohonyn nhw—neu, os nad y rhai hyn, bysiau trydan eraill—i'w defnyddio mewn rhannau o Gaerdydd. Felly, mae hynny'n beth da, ond beth am gael rhai o'r bysiau trydan hyn o amgylch Casnewydd hefyd? Oherwydd maen nhw'n llawer mwy cyfforddus na'r bysiau sy'n cylchredeg ar hyn o bryd—y bysiau budr sy'n cylchredeg ar hyn o bryd—gallwch wefrio eich ffôn arnynt, ac mae'n ymddangos i mi yn sicr iawn mai dyma fydd y dyfodol.
Ond mae angen i mi nodi hefyd bod y 12 miliwn o deithiau a wnaed ar feic yng Nghaerdydd y llynedd yn golygu bod dros 11,000 o geir yn llai ar y ffordd nag a fuasai fel arall. Felly, credaf fod llawer o bethau y gallwn ni eu gwneud, a chytunaf yn llwyr â Jayne Bryant fod gan Gyngor Caerdydd ddyletswydd a chyfrifoldeb i sicrhau bod ffyrdd gwahanol o gyrraedd y digwyddiadau mawr hyn sy'n digwydd yng Nghaerdydd, ac mae hynny'n golygu cyflwyno pethau mewn gwirionedd i'w gwneud hi'n llai manteisiol i bobl deithio i Gaerdydd mewn car pan fydd dulliau eraill o drafnidiaeth ar gael, cyn belled ag y gallwn ni eu goruchwylio.
A minnau'n Aelod rhanbarthol dros Ddwyrain De Cymru, rwy'n ymwybodol iawn o'r angen i fynd i'r afael â'r problemau tagfeydd o amgylch Casnewydd. Oherwydd y rhoddwyd y farwol i'r ffordd liniaru bellach, yr ydym ni wedi ei groesawu, mae angen inni edrych ar ffyrdd amgen o fynd i'r afael â'r materion penodol hynny, ynghyd ag uwchraddio ein seilwaith trafnidiaeth i'w wneud yn addas i ni fel cenedl Ewropeaidd yn yr unfed ganrif ar hugain. Ydy, mae'n resyn nad oedd cynllun B wedi'i gyflwyno gan y Llywodraeth, ond nid oes unrhyw fudd o rygnu ymlaen ynghylch hynny—gwell o lawer yw edrych i'r dyfodol. Rhaid i beth bynnag a wneir nesaf fod yn seiliedig ar feini prawf clir ac ar ddatganiad o argyfwng hinsawdd gan y genedl hon. Dylai cynlluniau ar gyfer y dyfodol hefyd arddel egwyddorion Deddf cenedlaethau'r dyfodol. Fel y mae'r comisiynydd ei hun wedi ei ddweud, yn hanesyddol, mewn achosion fel y rhain, nid yw hi wedi bod yn anghyffredin rhoi blaenoriaeth i fanteision economaidd cynigion, ond dyma un o'r rhesymau pam yr oedd angen deddfwriaeth i unioni'r fantol. Felly, beth am wneud defnydd da o'r Ddeddf honno.
Byddai'r llwybr du wedi methu ar y meini prawf hyn, gan y byddai wedi croesi pedwar safle o bwysigrwydd amgylcheddol a gwyddonol. Byddai wedi bygwth cynefin y garan gyffredin, sydd wedi nythu yn ddiweddar yng ngwastadeddau Gwent am y tro cyntaf ers yr ail ganrif ar bymtheg, a byddai wedi rhyddhau dros 500,000 o dunelli o garbon deuocsid i'r atmosffer. I ychwanegu at hyn, byddai'n amlwg wedi arwain at gynnydd sylweddol mewn cerbydau ar y ffyrdd, ar adeg pan rydym ni eisiau sicrhau gostyngiad mewn allyriadau trafnidiaeth.
Felly, mae'n amlwg nad ateb sy'n canolbwyntio'n unig ar hwyluso mwy o ddefnyddio ceir yw'r ateb. Rydym ni ym Mhlaid Cymru o'r farn y dylid dilyn strategaeth gyfun, sy'n cynnwys dewisiadau trafnidiaeth aml-ddull, gyda'r bwriad o fynd i'r afael ag anghenion pobl ledled Cymru. Gallai'r strategaeth gyfun hon gyfuno syniadau arloesol megis traffyrdd rheoledig, lle rydym ni'n defnyddio technoleg i ddylanwadu ar lif y traffig; lonydd dyranedig ar gyfer cerbydau amlfeddiannaeth, megis bysiau, y gellir hefyd eu defnyddio fel lôn ar gyfer ceir gyda mwy na nifer penodol o deithwyr; mae angen i ni hefyd ystyried defnyddio ein seilwaith presennol yn ddoethach yn yr ardal. Er enghraifft, mae'r Athro Mark Barry wedi awgrymu patrymau gweithio hyblyg er mwyn helpu i leihau'r tagfeydd yn ystod yr oriau brig traddodiadol. Wedi'r cyfan, fel yr ydym ni wedi clywed lawer gwaith yn y Siambr hon o'r blaen, dim ond 10 y cant o'r traffig dyddiol ar y llwybr dan sylw sy'n achosi'r gwir broblem. Gall cydgrynhoi nwyddau—symud nwyddau i'r rheilffyrdd, neu symud nwyddau yn ystod y cyfnodau tawel—hefyd liniaru ychydig yn ystod y cyfnod hwn o dagfeydd. Fel y gwnaethom ni grybwyll yn ein dadl ein hunain bythefnos yn ôl, gellir dysgu gwersi oddi wrth yr enghraifft yn yr Alban, lle mae Llywodraeth yr Alban yn talu grantiau i gwmnïau sy'n penderfynu cludo nwyddau ar drên, oherwydd mae symud nwyddau oddi ar y ffyrdd yn lleihau nid yn unig tagfeydd, ond hefyd damweiniau traffig ar y ffyrdd.
Nawr, mae cynifer o syniadau arloesol yn cael eu cyflwyno gan aelodau o bob plaid yn y ddadl hon, a dyna'r hyn y dylem ni fod yn canolbwyntio arno nawr; dylem ni fod yn canolbwyntio ar y dyfodol. Dros yr wythnosau nesaf, bydd Plaid Cymru yn sefydlu gweithgor i edrych ar atebion i'r mater hwn ac, fel y mae fy nghyd-Aelod, Rhun, wedi'i ddweud eisoes, byddem yn croesawu'r cyfle i gyflwyno'r canfyddiadau hynny maes o law. Nawr, mae'n amlwg o gyfraniadau o bob rhan o'r Siambr na ellir caniatáu i'r sefyllfa fynd yn waeth—er lles pobl Casnewydd, ond er lles pobl ledled Cymru. Rhaid inni weithio gyda'n gilydd ar hyn. Diolch.
Amser maith yn ôl, pan oeddwn i mewn lle arall, mewn Siambr arall, yn ôl yn 2015, roeddwn yn cadeirio Pwyllgor Archwilio Amgylcheddol San Steffan, ac fe wnaethom ni edrych ar fater maes awyr Heathrow. Ac ar y pwyllgor hwnnw roedd ystod o safbwyntiau—roedd yn bwyllgor cryf o 17—o amheuwyr newid hinsawdd digyfaddawd i ecolegwyr ac amgylcheddwyr digyfaddawd. Ond daethom i gasgliad diddorol ynglŷn â chynigion y Llywodraeth bryd hynny ynglŷn â Heathrow, sef, gallai, fe allai Heathrow fynd ymlaen, ond dim ond gyda'r newid moddol enfawr mwyaf digynsail—nid yn unig o ran teithwyr newydd yn teithio i Heathrow ond o ran teithwyr presennol, ac nid yn unig o amgylch Heathrow, ond yn yr ardal honno o orllewin Llundain—gan symud pobl allan o'u ceir, o'u dibyniaeth ar geir, i osgoi llygredd aer, ansawdd aer, cynhesu'r hinsawdd, ac ati, ac ati, ac ati. Felly, gallwch, fe allwch chi fwrw ymlaen, mae'n gyfle, ond rhaid ichi wneud hyn ar raddfa na welwyd ei math erioed o'r blaen. Mae'n rhyfedd, bellach, fod y Llywodraeth mewn gwirionedd yn dechrau arddel y ffordd honno o feddwl, dair blynedd yn ddiweddarach.
Sut mae hyn yn berthnasol yn y fan yma? Mae Jayne yn hollol gywir yn ei chyfraniad heddiw bod yn rhaid i waith y Gweinidogion ganolbwyntio'n bennaf ar Gasnewydd ei hun—beth a ellir ei wneud yn y dyfodol agos. Ac roedd datganiad y Gweinidog wrth wneud y penderfyniad ar hyn yn ei gwneud hi'n glir bod angen canfod atebion uniongyrchol o ran rheoli traffig, o ran gorfodi a chanfod ffyrdd o wneud yr hyn sy'n briodol, nawr. Ond dylai'r tasglu ei hun, yn y dyfodol, ganolbwyntio'n wir ar Gasnewydd, ar ardal ehangach Casnewydd. Ac mae'r cylch gorchwyl wedi ei lunio.
Ond mae yna fater pwysicach yma, a dydw i ddim yn credu y dylem ni gyfuno'r ddau. Dyna fyddwn i'n ei ddweud wrth Rhun ar hyn o bryd. Mae yna broblem fwy, yn ddi-os. Mae hwn yn fater sy'n ymwneud â Chymru gyfan. Mae'r hyn sy'n digwydd yng Nghasnewydd, o amgylch twnelau Bryn-glas, yn y parthau hynny o Gymru ar hyn o bryd, yn rhywbeth yr ydym ni'n mynd i'w weld fwyfwy. Rydym ni'n gweld hynny nawr, ym mhob man rhwng Pont Abraham a Phort Talbot. Dyna ble bydd y twf enfawr mewn tagfeydd—y rhai nesaf. Rydym ni'n mynd i weld tagfeydd yn y fan yna os nad ydym ni'n ymateb mewn modd craff iawn i'r heriau hynny. Bydd hynny hefyd yn wir yn y gogledd; bydd yn wir ym mhob rhan o Gymru. Nawr, mae hynny'n cynhyrchu—os mai dyna'r cwestiwn yr ydym ni'n ei ofyn, rydym ni'n dechrau meddwl am atebion gwahanol. Rhaid imi ddweud eu bod yn atebion sydd yn cynnig heriau, ond cyfleoedd economaidd mawr hefyd, os ydym yn dewis bwrw ymlaen â nhw.
Felly, yn gyntaf oll, mae hwn yn fater i Gymru gyfan—rhoddodd Jayne bwyslais mawr ar hynny. Mae'r M4 dan ei sang; mae llawer o rannau eraill o'n rhwydwaith ffyrdd felly hefyd. Felly, ai'r ateb yw adeiladu mwy a mwy a mwy a mwy o ffyrdd, ynteu ai'r ateb yw canolbwyntio mewn difrif calon ar y modd y gwnawn ni'r newid moddol anferth, digynsail hwnnw? Dydw i ddim yn sôn am agwedd rhyw hipi mewn sandalau 'oni fyddai hi'n wych pe byddem ni i gyd yn teithio ar feic?', er fy mod i wrth fy modd yn teithio ar fy meic.
Cawsom gyfarfod o'r grŵp teithio llesol y diwrnod o'r blaen yn y Senedd. Rhoddodd un o weithwyr Iechyd Cyhoeddus Cymru gyflwyniad diddorol. Dywedodd petai chi'n rhoi powlen o ffrwythau o flaen pobl yn un o'r derbyniadau hyn y byddwn yn mynd iddynt yn aml yn y parthau hyn—dim ond powlen o ffrwythau gydag afalau a beth bynnag—ni fyddai'r rhan fwyaf o bobl yn eu dewis o gwbl. Fodd bynnag, petaech yn torri'r afalau'n ddarnau ac yn ei gwneud hi'n haws i bobl eu bwyta, byddent yn diflannu ar eu hunion.
Mae rhywbeth yn y fan yma sydd mor bwysig am y gwyddorau ymddygiadol ag ydyw am ddatblygiadau a newidiadau technolegol. Sut mae ei gwneud hi mor hawdd, mor atyniadol i bobl, fel eu bod yn codi'r afal hwnnw ac yn ei fwyta? Sut mae cyflwyno ac addasu ein trafnidiaeth gyhoeddus, ein cynnig newid moddol, fel ei fod yn hawdd ei ddefnyddio? Nawr, mae peth o hynny'n rhan o'r darlun ehangach hwnnw o feddwl, ac mae angen inni wneud hynny nawr yn ogystal â chanfod atebion ar unwaith ar gyfer Casnewydd a thwnelau Bryn-glas.
Felly, fe wnaf i gyflwyno rhai ohonyn nhw yn y fan yma, a phenderfynwch chi. Ar hyd coridor yr M4—holl goridor yr M4, nid twnelau Bryn-glas yn unig—pam na fyddem ni eisiau bod yn un o'r rhai cyntaf sy'n edrych mewn gwirionedd ar ddechrau cludo nwyddau ysgafn ar y rheilffyrdd ar raddfa enfawr, lle'r ydych chi mewn gwirionedd yn llwytho cynnyrch ar baledau? Felly, byddem yn cymryd cynnyrch Amazon o Abertawe a lle maent yn cael eu dosbarthu a byddem yn rhoi'r mecanweithiau cywir ar waith fel y gallwn ni symud faniau gwyn—ac mae lliwiau eraill ar gael, yn ôl a ddeallaf—oddi ar y rhwydwaith hwnnw. Rydym yn rhyddhau capasiti.
Pam na wnawn ni edrych ar leoedd ar hyd yr M4 cyfan ac allan i Avon a Bryste hefyd, lle nad parcio a theithio sydd gennych chi yng ngwir ystyr y gair, ond parcio a theithio ar gyfer rhannu ceir, fel bod pobl sy'n mynd i Gaerdydd, i Gasnewydd, o Ben-y-bont ar Ogwr, sy'n defnyddio'r twnelau hynny bob dydd, yn gwneud y dewis gweithredol, y dewis hawdd fel gyda'r afal—y darnau bach sydd wedi eu torri y gallwch chi eu rhoi yn eich ceg yn ddidrafferth—i eistedd yn y car gyda rhywun arall a sgwrsio wrth iddyn nhw fynd, neu, fel yr wyf fi yn ei wneud, i fynd ar y trên a gweithio wrth i chi wneud hynny? Sut allwn ni gael y dewisiadau hawdd hynny?
Bobl bach, roedd mwy gennyf i'w ddweud, ond mae fy amser wedi dod i ben yn barod. Ond dyna, rwy'n credu, yw'r hyn y mae angen i ni fod yn meddwl amdano nawr. Ar fyrder, rhaid inni ymdrin â thwnnel Bryn-glas yng Nghasnewydd, ond a ydym ni'n barod i wneud rhywbeth mor uchelgeisiol ag y mae comisiynydd cenedlaethau'r dyfodol wedi'i ddweud, a symud ein cyllid i'r meysydd lle gallwn ni ddylanwadu ar y newid moddol hwnnw—gwyddorau ymddygiadol hefyd ynghyd ag arloesedd trafnidiaeth? Dyna ein her yng Nghymru, ond mae'n gyfle hefyd, a gallwn greu swyddi wrth wneud hynny.
Addawodd maniffesto'r Blaid Lafur adeiladu ffordd liniaru ar gyfer yr M4. Nawr, Prif Weinidog, i ddefnyddio'r iaith y gwnaethoch chi ei defnyddio o'r blaen, rydych chi wedi bradychu'r ymrwymiad hwnnw. [Torri ar draws.] Ie, dyna beth a wnaethoch chi ddweud yn gynharach, onid e—'bradychu'? Dyna yr ydych chi wedi'i wneud. Efallai mai hwn oedd y prosiect seilwaith mwyaf pwysig a'r un mwyaf arwyddocaol a welwyd erioed yng Nghymru—
Ar fater o drefn—
Na, nid oes angen i chi ar hyn o bryd—byddwch yn cael eich galw yn nes ymlaen yn y ddadl. Ewch ymlaen, Mark Reckless.
Dydw i ddim yn siŵr a oeddech chi yma, Alun, ond dyna oedd iaith y Prif Weinidog i mi yn gynharach yn ystod y cwestiynau i'r Prif Weinidog, a dyma'r iaith briodol ar gyfer yr hyn yr ydych chi wedi'i wneud mewn cysylltiad â'ch ymrwymiad i'r prosiect cwbl hanfodol hwnnw yn eich maniffesto. Mae popeth yr ydych chi'n ei ddweud yn awr yn esgusodion dros hynny—y gymhareb budd yn erbyn cost dros ddwy ar gyfer hynny. Nawr, byddwn yn edrych ar brosiectau eraill. Mae gennych chi eich comisiwn; byddwn yn gweld faint o amser y bydd hynny'n ei gymryd i adrodd yn ôl. Ond y ffaith yw yr argymhellodd yr arolygydd ffordd liniaru i'r M4 y byddai ei budd yn amlwg iawn yn llawer mwy na'i chost—cawn weld a yw hynny'n wir o hyd am yr ymrwymiadau gwariant sylweddol mewn cysylltiad â'r comisiwn hwn. Yn ddiau, mae rhai prosiectau llai costus sy'n synhwyrol i'w gwneud, fel cymorth am ddim i gerbydau diffygiol—pam nad ydych chi wedi gwneud hynny o'r blaen, nid wyf yn glir.
Dydw i ddim yn deall y syniad hwn na ddylen nhw fod wedi bod yn ystyried dewisiadau eraill—y byddai'n niweidiol cael cynlluniau wrth gefn pe na bai'r arolygydd wedi ei gymeradwyo neu pe baen nhw wedi penderfynu yn erbyn penderfyniad yr arolygydd. Siawns na fyddai gan Lywodraeth synhwyrol gynlluniau wrth gefn. Dydw i ddim yn derbyn y syniad y byddai'n golygu y gellid herio'r penderfyniad yn gyfreithiol pe bai unrhyw un yn y Llywodraeth yn meddwl, 'beth wnawn ni os na chytunir ar hyn?' Mae'n drefniant cynllunio cwbl synhwyrol.
Mae gennym ni ein gwelliannau ein hunain—gwelliannau 1 a 5—yr eglurodd David eu diben. Byddwn yn gwrthwynebu gwelliant 6. Roeddwn yn gwrando ar Delyth Jewell, ond yng ngwelliant 6 mae Plaid Cymru'n dweud, yn lle'r hyn y mae Llafur yn ei gynnig i guddio eu cywilydd eu hunain am fradychu'r ymrwymiad maniffesto hwnnw, sydd o leiaf yn ceisio canolbwyntio'r gwariant ar Gasnewydd a'r de-ddwyrain, ar y rhai sy'n dioddef fwyaf o'r methiant a'r tor-addewid hwnnw—mae Plaid yn hytrach eisiau gwario'r arian yn gyffredinol ledled Cymru. Nawr, mae hynny'n dweud cyfrolau am y flaenoriaeth gymharol y mae Plaid Cymru yn ei rhoi i Gasnewydd a'r de-ddwyrain, a byddwn yn gwrthwynebu'r gwelliant hwnnw. Fe wnaf i ildio.
Ac os ildiwch chi, byddech yn cydnabod fy mod wedi defnyddio'r term 'blaenoriaeth' mewn cysylltiad â Chasnewydd a mynd i'r afael â'r problemau yno.
Ond mae'n llai o flaenoriaeth nag y mae'r Llywodraeth Lafur hyd yn oed—sydd wedi torri'r ymrwymiad yn ei maniffesto—yn bwriadu ei roi iddi.
Fe'm syfrdanwyd gan gyfraniad Jenny Rathbone. Dywedodd y bu cynnydd o 20 y cant mewn traffig—mae hynny'n uwch na'r hyn a welais mewn astudiaethau eraill o hyn—ac mae'n disgrifio cael gwared ar y tollau fel ystryw fwriadol gan Ysgrifennydd Gwladol Cymru er mwyn gwneud i Lywodraeth Cymru adeiladu ffordd liniaru hon ar gyfer yr M4. Hoffwn, fel y gwneuthum o'r blaen, roi rhywfaint o glod i'r Ysgrifennydd Gwladol, oherwydd bu'n glir iawn ynghylch adeiladu'r ffordd liniaru hon. Ac yn y cynnig hwn heddiw sylwaf fod y grŵp Ceidwadol yma hefyd yn dweud y dylid derbyn argymhelliad yr arolygydd cyhoeddus annibynnol:
ac adeiladu ffordd liniaru'r M4.
Mae hwnnw'n ddatganiad clir iawn. Mae rhai aelodau o'r grŵp wedi gwneud sylwadau eraill yn gyhoeddus; sylwaf nad yw Nick Ramsay yn ei sedd. Gawn ni weld a fydd yma ar gyfer y bleidlais yn nes ymlaen. Ond rwy'n gwerthfawrogi'r ymrwymiad clir iawn, gan y grŵp Ceidwadol a chan yr Ysgrifennydd Gwladol, i wneud hynny. Mae bron mor glir â'r ymrwymiad a roddodd y Blaid Lafur yn ei maniffesto, y maen nhw nawr, mae arnaf ofn dweud, wedi ei dorri. Dywedodd y Gweinidog yn gynharach nad oes ots am yr holl arian sydd wedi'i wario ar y costau a wastraffwyd—neu efallai y bydd yn llwyddo i wneud yn siŵr nad yw rhai yn cael eu gwastraffu, ond rwy'n amau y bydd y cyfan yn osgoi cael eu gwastraffu—mae'n dweud na fydd yn gwastraffu cymaint o arian ag y maen nhw ar HS2. Dydw i ddim yn hollol siŵr a yw hynny'n argymhelliad digon da.
A allwn ni hefyd gael eglurder ar y terfynau 50 mya hyn? Clywais gan eich cyd-Aelod Lesley Griffiths yr wythnos diwethaf pan ofynnais am hyn. Pam cafodd y terfynau 50 mya hyn mewn chwe safle ynghylch llygredd aer eu gwneud yn rhai parhaol? A gafodd y rhai dros dro eu hystyried, ac a oedd y dystiolaeth yn cefnogi hynny? A dywedodd hi wrthyf fod y dystiolaeth yn gymysg ac yn amhendant. Felly, pam mae'r terfynau hyn yn cael eu gwneud yn barhaol? Mae mor bwysig o ran twneli Bryn-glas, yr M4, a'r hyn sy'n digwydd gyda thagfeydd, bod pobl yn gwybod mai'r mesurau a weithredir yw'r rhai sy'n dilyn y cyngor gorau i geisio cyfyngu a lliniaru'r tagfeydd hynny, pan fo'r Llywodraeth wedi torri ei haddewid i adeiladu'r ffordd liniaru hon. A ydyn nhw yno i wneud hynny, ynteu a ydyn nhw yno am resymau llygru a drafodwyd yr wythnos diwethaf gan eich cyd-Aelod? Diolch.
Llywydd, fel y clywsom o'r blaen pan roeddem ni'n trafod y materion hyn, credaf fod cytundeb eang ar natur ddybryd a brys y problemau ar goridor yr M4 o amgylch Casnewydd, er bod gwahanol awgrymiadau ynghylch y ffordd orau o fynd i'r afael â nhw, gyda safbwyntiau cryf ar y ddwy ochr o ran a ddylai'r ffordd liniaru fod wedi'i hadeiladu ai peidio. Adlewyrchir hynny yn y negeseuon e-bost yr wyf wedi'u cael fel cynrychiolydd lleol, a'm barn i fy hun yn gryf iawn yw bod y ffactorau amgylcheddol yn ogystal â'r costau yn cefnogi'r penderfyniad y mae'r Prif Weinidog wedi'i wneud. Rydym ni wedi datgan argyfwng yn yr hinsawdd, ac rwy'n credu bod yn rhaid i ni ddangos syniadau newydd. Credaf y byddai ffordd liniaru'r M4 wedi bod yn ateb ddoe i broblemau heddiw ac yfory, ac mae gwell ffyrdd. Rhaid gwarchod gwastadeddau Gwent sydd mor werthfawr ac sy'n adnodd gwych i bobl leol ac i Gymru gyfan. Mae'n rhaid gwarchod y safle o ddiddordeb gwyddonol arbennig hwn, ac mae'n rhaid gwarchod yr ansawdd bywyd y mae'r ardal honno'n ei roi i bobl leol.
Rhaid inni gefnu ar y model rhagweld a darparu, Llywydd, lle ceir amcangyfrif o dwf traffig yn y dyfodol ac yna adeiladu ffyrdd newydd i ddarparu ar gyfer yr amcangyfrifon hynny. Mae'n rhaid inni gael ateb trafnidiaeth integredig, nid ein cryfder ni yn y DU, ond mae angen inni fod yn well o lawer yn hynny o beth, ac yn well o lawer yn gyflym iawn. Croesawaf yn fawr y sicrwydd a gefais gan y Prif Weinidog fod y gallu benthyca o tua £1 biliwn ar gyfer coridor yr M4 o amgylch Casnewydd lle mae'r problemau, a lle mae pobl leol yn dioddef canlyniadau tagfeydd ar y rhan honno o'r draffordd ac ar ffyrdd lleol, y llygredd aer a'r sŵn dyddiol. Rhaid gwario'r arian i leihau a mynd i'r afael â'r problemau hynny'n sylweddol.
O ran yr awgrymiadau a glywsom ni eto heddiw, Llywydd, sef bod y llwybr glas, fel y'i gelwir, yn ateb i'r problemau hyn, byddwn yn gwrthod a gwadu hynny'n llwyr, a tybed a yw'r rhai sy'n gwneud yr awgrymiadau hynny wedi gyrru ar y ffordd honno erioed, gyda'i chylchfannau, ei goleuadau traffig a'i chyffyrdd. Pe byddent yn gwneud hynny, byddent yn gwybod bod y llwybr hwnnw yn mynd drwy galon llawer o gymunedau gyda miloedd lawer o bobl yn byw yno, ac nad ydynt eisiau wynebu mwy o draffig, cyflymder uwch y traffig, a fyddai'n dod â phroblemau llygredd aer a sŵn i'r cymunedau hynny yn eu sgil. Mae hefyd yn anymarferol iawn, o ystyried y cylchfannau, goleuadau traffig a'r cyffyrdd hyn. Wyddoch chi, mewn gwirionedd, y dylai pawb gydnabod y realiti hwnnw.
Llywydd, pan fyddwn yn sôn am drafnidiaeth integredig, mae, rwy'n credu, rhai ffyrdd eithaf amlwg o fynd ati sydd wedi'u datblygu gan bobl leol ac eraill dros gyfnod o amser. Un o'r rheini yw'r cynnig ar gyfer gorsaf newydd ym Magwyr, gorsaf gerdded, sy'n aros, gobeithio, am arian gan Lywodraeth Cymru ar gyfer cam nesaf proses gorsafoedd newydd Llywodraeth y DU i fynd â'r broses ymlaen i'r lefel nesaf. Mae'r cyswllt trên i deithwyr rhwng Casnewydd a Glynebwy y mae dyheu mawr amdano yn enghraifft dda arall, ac i'r dwyrain o Gasnewydd, ceir gorlenwi enbyd ar wasanaethau i Fryste a llwybrau eraill. Mae arnom ni angen llawer mwy o fuddsoddiad gan Lywodraeth y DU i wella capasiti ac mae angen cam 3 y metro arnom ni i fynd i'r afael â'r materion hynny sy'n ymwneud â dwyrain Casnewydd.
O ran gweithredu'n fuan, Llywydd, hoffwn ategu'r hyn a ddywedodd Jenny Rathbone bod gennym ni amserlen glir ar gyfer y gwasanaeth gwell newydd hwnnw i ymdrin â damweiniau ar yr M4, er enghraifft, lle gellid dod o hyd i le er mwyn i'r gwasanaeth adfer symud cerbydau iddo. Oherwydd bod y problemau annisgwyl hynny'n eithriadol o anodd o ran yr anhrefn y maen nhw'n ei greu ar yr M4 ac yn wir ar ffyrdd lleol. I ryw raddau, gall pobl newid eu harferion teithio ar gyfer yr hyn y byddai pobl yn ei ystyried yn dagfeydd arferol, ond, yn amlwg, o ran damweiniau, nid yw hynny'n wir. Mae llawer ohonyn nhw'n ddamweiniau cymharol fach, wyddoch chi, a gellid eu clirio'n eithaf cyflym gyda gwasanaeth gwell.
Y peth arall y byddwn yn ei grybwyll yw'r cyfnod hebrwng plant i'r ysgol ac oddi yno, sydd eto, rwy'n credu, yn arwyddocaol iawn o ran tagfeydd lleol. Gallem drefnu bod mwy o fysiau ysgol ar gael i ymdrin â'r materion hynny. Gallem hefyd roi hwb llawer cryfach i deithio llesol o ran y cyfnod hebrwng, yn wir, yn gyffredinol. Soniais, yr wythnos diwethaf, yn y Cynulliad fod un o'm hysgolion cynradd lleol wedi llwyddo i gael cynnydd o 40 y cant mewn teithio llesol—defnyddio sgwteri, cerdded a beicio—i'r ysgol mewn cyfnod o ddim ond blwyddyn. Credaf fod hyn yn dangos yr hyn sy'n bosib, Llywydd, gyda'r egni cywir a'r dychymyg cywir.
Mae'n ymddangos yn rhyfeddol ac yn anghyson mai dim ond ychydig wythnosau sydd ers i'r lle hwn gefnogi galwadau i ddatgan argyfwng hinsawdd, y senedd gyntaf yn y byd i wneud hynny, ac eto mae rhai Aelodau yma yn galw am adeiladu ffordd fawr newydd am resymau economaidd. Er gwaethaf sut y gwnaethoch chi bleidleisio yn y ddadl frys ar newid yn yr hinsawdd, ni allwch chi wadu y byddai adeiladu ffordd o'r maint hwn yn achosi llawer iawn o ddifrod i'r amgylchedd ac yn annog mwy o ddefnydd o geir a fyddai, pa un a fyddant yn cael eu pweru gan drydan neu danwydd ffosil, yn cynyddu llygredd. Rwy'n deall bod tagfeydd eu hunain yn cynyddu llygredd, ond ni fyddai'r ffordd liniaru hon yn aros yn rhydd o dagfeydd yn hir, ac wedyn beth? Adeiladu ffordd arall ac un arall ar ôl hynny. Ble mae'r diwedd?
Nid prinder ffyrdd yng Nghymru yw'r broblem. Y broblem yw bod gormod o deithiau mewn car mewn rhai mannau ar rai adegau. Rydym ni i gyd yn derbyn bod tagfeydd yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Ond nid yw'r rhwydwaith ffyrdd yn crebachu, y ddibyniaeth gynyddol ar ddefnyddio ceir sy'n achosi'r problemau. Nid yw'n gymhleth iawn i ganfod beth sy'n achosi'r broblem. Fodd bynnag, mae angen meddwl o'r newydd ynghylch sut i ddatrys y broblem. Mae'n ddrwg gen i, ond rwy'n siŵr nad oes unrhyw fanteision economaidd sy'n cyfiawnhau colli ardaloedd amgylcheddol pwysig am byth, y duedd barhaus i darmacio ar draws Cymru a difetha'r wlad i genedlaethau'r dyfodol. Mae angen i unrhyw un sy'n galw am adeiladu'r ffordd hon ddweud wrth y cyhoedd yng Nghymru faint o fudd economaidd y maen nhw'n ei hystyried yn ddigonol i gondemnio cenedlaethau'r dyfodol i fyw mewn jyngl concrid a tharmac llawn llygredd lle na allan nhw anadlu'r aer na gweld unrhyw goed na chlywed adar yn canu.
Nid wyf yn amau na all y Llywodraeth hon wneud llawer mwy i leihau tagfeydd, boed hynny drwy fuddsoddi mewn trafnidiaeth gyhoeddus, sicrhau bod cysylltiadau digidol cyflym iawn yn cael eu cyflwyno'n briodol, cymell cwmnïau i fabwysiadu trefn weithredu wasgarog ac ati, ond nid yw'r methiant i wneud hynny hyd yma yn cyfiawnhau galwadau i fynd ati'n ddiddychymyg i adeiladu mwy o brif ffyrdd. Pan adeiledir ffyrdd i liniaru tagfeydd, am gyfnod byr bydd yn gweithio'n iawn, ond nid yw cynllunwyr yn ddigon dygn wrth archwilio dewisiadau eraill i fynd i'r afael â thagfeydd. Mae gwrthod adeiladu mwy o ffyrdd sy'n costio gormod, yn ariannol ac yn amgylcheddol, yn golygu y bydd yn rhaid dod o hyd i ddewisiadau mwy synhwyrol a chynaliadwy, ac mae llawer o arian ar gael i ymchwilio i'r dewisiadau mwy synhwyrol a fydd yn helpu i leihau ein hôl troed carbon, dewisiadau na fyddant angen llurgunio ein tir hardd yn barhaol.
Mae'n bryd rhoi terfyn ar anrheithio tirwedd ein gwlad a'n hamgylchedd naturiol, dinistrio ein bywyd gwyllt a llygru ein haer yn sgil prosiectau adeiladu anferth pan allai'r problemau gael eu datrys mewn ffyrdd eraill. Felly, rwy'n cefnogi penderfyniad diweddar Llywodraeth Cymru i ddiystyru ffordd liniaru'r M4. Mae rhai yma, fodd bynnag, a fyddai, pe baent yn cael eu ffordd yn dymuno gweld ffordd yn cael ei hadeiladu nad oes fawr o gyfiawnhad drosti ac a fyddai'n achosi niwed anadferadwy i amgylchedd Cymru dim ond i sgorio ychydig o bwyntiau gwleidyddol. Rwy'n gobeithio y bydd Llywodraeth Cymru nawr yn mabwysiadu agwedd fwy synhwyrol tuag at adeiladu ffyrdd.
Ar nodyn terfynol, mae Americanwyr brodorol yn dweud mai dim ond pan fydd yr afon olaf wedi'i gwenwyno a'r goeden olaf wedi ei thorri y bydd pobl yn sylweddoli na allwch chi fwyta arian. Felly, meddyliwch yn ddwys cyn dechrau siarad am adeiladu ffyrdd ychwanegol. Diolch.
Rwy'n gobeithio ac rwy'n credu bod y prynhawn yma yn nodi dadl ar yr M4 ble buom ni'n trafod atebion iddi mewn gwirionedd ac nid dim ond yn ailadrodd dadleuon ynghylch a fyddem yn cefnogi un ai'r llwybr du ynteu'r llwybr glas. Os meddyliaf yn ôl i'r dadleuon yr wyf wedi cymryd rhan ynddynt ac wedi gwrando arnynt yn y lle hwn dros y degawd diwethaf, yn y bôn buont yn ddadleuon, nid ar y materion sy'n wynebu trafnidiaeth coridor yr M4 yn ne-ddwyrain Cymru ond dadleuon ar y llwybr du, a chredaf fod y dadleuon hynny wedi mynd i'r afael â'r materion anghywir. Cytunaf â'r rheini yn y ddadl hon—cytunaf â Jayne Bryant a chyda Huw Irranca-Davies, sydd wedi dweud bod y problemau sydd gennym ni'n sicr wedi eu canolbwyntio ar Gasnewydd a'r cyffiniau, ond mae'n rhaid i'r atebion ganolbwyntio ar Gasnewydd ac o amgylch Casnewydd a mannau eraill. Ac yn sicr, wrth edrych ar rai o'r materion hyn, mae'n amlwg i mi nad yw'n ddigon i gyfeirio at yr M4 ei hun yn unig, pwyntio bys at y tagfeydd traffig, a dweud, 'Dyna'r broblem.' Credaf fod y broblem yn mynd ymhellach na hynny.
Deallaf a chytunaf nad yw'r M4 presennol yn addas at y diben bellach, ond eto nid yw'r seilwaith rheilffyrdd yn yr ardal chwaith, na chwaith y rhwydwaith cefnffyrdd na'r system drafnidiaeth gyhoeddus sy'n gwasanaethu cymunedau yn y de-ddwyrain nac yn galluogi pobl i deithio drwy'r ardal yn rhan o daith hirach. Felly, mae angen mynd i'r afael â'r materion penodol hyn ond mewn ffordd llawer ehangach. Felly, rwy'n croesawu'r cyhoeddiad gan y Prif Weinidog ynghylch sefydlu'r comisiwn i edrych ar ymateb ehangach a mwy sylweddol, a gobeithiaf y bydd y Gweinidog, wrth ymateb i'r ddadl heddiw, yn gallu rhoi rhagor o wybodaeth inni am yr amserlen a'r gyllideb sydd ar gael i'r comisiwn hwn. Fe sylwais yn ei sylwadau agoriadol yn gynharach iddo ddweud na fyddai'r £1.4 biliwn ar gael i'r comisiwn, ond credaf fod angen inni ddeall faint o arian sydd ar gael i'r comisiwn, ac mae angen inni ddeall hefyd beth yw'r amserlen ar gyfer ei atebion.
Ond pan edrychwn ni ar y sefyllfa a fu dros y blynyddoedd diwethaf, mae gennym ni ddadansoddiad cynhwysfawr o gapasiti, nid yn unig y system draffyrdd, cefnffyrdd a rhwydwaith lleol a rhanbarthol ond hefyd capasiti'r rhwydwaith rheilffyrdd, ac mae gennyf i, Llywydd, rai pryderon gwirioneddol ynghylch gallu'r rhwydwaith rheilffyrdd i gyflawni'r swyddogaeth y disgwylir iddo ei chyflawni gan lawer, sef darparu dewis arall yn lle trafnidiaeth ffyrdd. Ac rwyf wedi clywed beth sydd wedi cael ei ddweud y prynhawn yma, ond dydw i ddim wedi fy narbwyllo bod gennym ni'r rhwydwaith rheilffyrdd yn y rhan hon o'r wlad sy'n gallu gwireddu'r uchelgeisiau a'r gweledigaethau sydd wedi'u hamlinellu heddiw ac ar adegau eraill. Rwy'n gobeithio, Gweinidog, y byddwch yn gallu perswadio'r Arglwydd Burns i siarad â Keith Williams ynghylch pwysigrwydd a brys datganoli buddsoddi yn y seilwaith rheilffyrdd, a buddsoddi mewn signalau, mewn gorsafoedd, a sicrhau bod gennym ni'r gwasanaethau y mae arnom ni eu hangen ar y seilwaith y mae ei arnom ni ei angen. Ac, wrth wneud hynny, rwy'n gobeithio y byddwn ni hefyd yn gosod rhai amcanion clir iawn wrth ddatrys y problemau hyn ac yn sefydlu rhwydweithiau trafnidiaeth amgen.
Un o'r rhesymau pam roeddwn yn gwrthwynebu'r llwybr du oedd yn sicr oherwydd y niwed amgylcheddol ac ecolegol rhyfeddol y byddai wedi'i achosi, ac er budd beth? Pan edrychais ar y mapiau gwres economaidd hynny, a gwelais yr effaith ar Flaenau Gwent, fe oerodd fy ngwaed oherwydd roeddem ni'n mynd i wario £1.4 biliwn ar ffordd na fyddai'n cael unrhyw effaith o gwbl ar yr economi a'r tlodi yn un o ardaloedd tlotaf Cymru. A pham fyddem ni'n gwneud hynny? Pan edrychaf ar y materion dan sylw, a phan edrychaf ar yr atebion y bydd y Comisiwn yn eu darparu ac yn eu datblygu, byddaf yn ystyried yr effaith economaidd ar y rhanbarth cyfan ac nid dim ond edrych ar effaith gyfyng iawn ar hyd coridor yr M4 yng Nghaerdydd, Casnewydd a Bryste. Os ydym ni'n gwneud buddsoddiadau o'r math hwn, credaf fod yn rhaid cael effaith economaidd ehangach.
Y pwynt olaf yr hoffwn ei wneud yn y ddadl hon heddiw yw hwnnw am gysylltedd rhanbarthol ac ar integreiddio gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus. Rydym ni'n canolbwyntio yn y ddadl hon, ac rydym ni'n canolbwyntio'n rhy aml yn ein dadleuon, ar y seilwaith caled, ar y buddsoddiad yn y rheilffordd neu ar ffordd, neu le bynnag y mae'n digwydd bod. Ond rwyf eisiau ein gweld ni'n buddsoddi hefyd yn y gwasanaethau a fydd yn galluogi trafnidiaeth gyhoeddus i fod yn ddewis realistig i bobl yn union fel y disgrifiodd Huw Irranca-Davies yn gynharach. Yn rhy aml o lawer ym Mlaenau Gwent rydym ni'n gweld llai o wasanaethau bysiau ac nid mwy o wasanaethau bysiau. Nid ydym ni'n gweld yr un brys o ran buddsoddi mewn gwasanaethau rheilffyrdd ychwanegol y mae rhannau eraill o rwydweithiau'r Cymoedd yn ei weld. Ac o'r herwydd, mae llawer o'r bobl yr wyf yn eu cynrychioli yn gwrando ar areithiau am deithio llesol ac yn gwneud y dewisiadau hyn gydag ymdeimlad o anghrediniaeth oherwydd, yn syml, nid yw'r gwasanaethau hynny ar gael i ni.
Felly, gobeithiaf y gwelwn ni'r buddsoddiad y mae ei angen arnom ni yn y seilwaith, a fydd yn rhoi ateb mwy o lawer ac ateb gwell i'r cwestiynau yr ydym ni'n eu hwynebu. Ond gobeithiaf hefyd, wrth fuddsoddi yn y seilwaith, y byddwn hefyd yn buddsoddi mewn gwasanaethau bysiau, yn buddsoddi mewn gwasanaethau rheilffyrdd, a hefyd, Gweinidog, yn manteisio ar y ddeddfwriaeth yr ydych chi'n ei hystyried ar hyn o bryd o ran rheoleiddio trafnidiaeth gyhoeddus i sicrhau bod gennym ni awdurdod teithio neu weithrediaeth yn y de-ddwyrain wedi ei sefydlu drwy statud i reoli'r broses o integreiddio gwasanaethau trafnidiaeth gyhoeddus.
Bydd pobl yn gwybod fy mod yn anghytuno â diddymu Cynghrair Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru pan ddigwyddodd hynny ar y pryd, a chredaf ers hynny ein bod wedi gweld gostyngiad gwirioneddol yng nghysylltedd y gwasanaethau trafnidiaeth sy'n gwasanaethu cymunedau'r de-ddwyrain. Ac os ydym ni am gyflawni'r uchelgeisiau yr wyf yn cytuno â hwy ac a gafodd eu rhannu y prynhawn yma, yna mae angen i ni reoli'r gwasanaethau trafnidiaeth hynny yn ogystal â dymuno'u cael nhw. Diolch.
Credaf ei fod yn gam pwysig i'r Llywodraeth ddod â'r ddadl hon gerbron heddiw. Fel y nodwyd sawl gwaith yn ystod y pythefnos diwethaf, mae'r cwestiwn hwn o sut i ddatrys problem yr M4 wedi plagio pob plaid wleidyddol a phob haen o Lywodraeth ers degawdau. Yn amlwg, mae angen inni nawr greu ateb a all ennill cefnogaeth y rhan fwyaf o bobl yn y Siambr a'r rhan fwyaf o bobl ledled Cymru.
Mae tri phrawf rwy'n credu y bydd angen i ddull o'r fath eu pasio cyn y gallwn ni adfer hygrededd llawn y broses hon, ac mae'r rhain yn dri phrawf y mae angen i ni eu hystyried os ydym ni eisiau canfod ateb sy'n cael cefnogaeth fwyafrifol ac y gellid ei gyflawni. Rhif un, y prawf Brexit; rhif dau, ystyried hon yn broblem i Gymru, nid problem i Gasnewydd; ac yn olaf, rhif tri, ymdrin â'r byd fel y gwelwn ni ef heddiw nid fel y byd dymunem iddo fod.
Rwyf eisiau dechrau gyda'r pwynt olaf yn gyntaf gan ei fod yn ymdrin â phryderon gweithwyr a chyflogwyr fel ei gilydd yn fy etholaeth ac mewn bwrdeistrefi cyfagos sydd, fel minnau, yn cael eu dal yn rheolaidd mewn traffig ar yr M4 neu o'i hamgylch. Mae'r Prif Weinidog wedi dweud hyd yn oed pe bai wedi cymeradwyo'r llwybr du, ni fyddai unrhyw liniaru ar unwaith, efallai nid am bum mlynedd. Mae hyn wedi ei wyntyllu'n huawdl, ond mae hefyd yn tanlinellu'r angen am newidiadau a all sicrhau effaith barhaus a chyflym, lle y bo hynny'n bosib, ar siwrneiau pobl sydd angen defnyddio'r ffordd hon. A dyna yr wyf yn ei olygu wrth ymdrin â'r byd fel y mae heddiw, nid fel yr hoffem iddo fod. Mae angen i bobl ddefnyddio'r ffordd hon ddydd ar ôl dydd, oherwydd nid oes dewis arall ar gael i filoedd o bobl sy'n ennill bywoliaeth ac yn ceisio cael bywyd teuluol. Nid yw effaith gwastraffu oriau yn sgil problem seilwaith fwyaf aneffeithlon Cymru yn un economaidd yn unig, mae'n cael effaith ar iechyd meddwl, lles ac amser teuluol hefyd. Dyma'r prawf i'r comisiwn newydd: darparu atebion sydd, ie, yn ymdrin â phryderon amgylcheddol, ond hefyd yn cyflawni newid yn gyflym, newid sy'n cydnabod y penderfyniadau mewn bywyd go iawn a'r diffyg dewis sy'n wynebu pobl sy'n defnyddio'r llwybr hwn. Byddem ni i gyd yn hoffi gweld ateb glân, gwyrdd, aml-foddol i broblemau trafnidiaeth Cymru, ond mae hynny'n ddegawdau o waith, nid pum mlynedd. Felly, beth yw'r ateb uniongyrchol?
Yn ail, mae wedi bod yn rhy hawdd o lawer i bobl wfftio'r angen dybryd i leihau tagfeydd yn yr ardal hon fel problem yng Nghasnewydd, neu os ydynt yn hael iawn, problem yng Ngwent. Credaf fod hon yn ffordd afiach iawn o ymdrin â'r ddadl oherwydd, yn y bôn, gan mai hon yw ein gwythïen drafnidiaeth fwyaf hanfodol i gysylltu â gweddill y byd, mae hon yn broblem i Gymru, nid problem Casnewydd. Byddwch wedi clywed yr ystadegau fil o weithiau, felly ni wnaf i eu hailadrodd nhw nawr. Ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd y llwybr hwn i economi ein gwlad. Ond mae problem arall ynghylch y math hwn o ymagwedd, sef y cynsail y mae'n ei osod. Cynulliad Cenedlaethol Cymru yw hwn—Cymru gyfan. Nid welwch chi wleidyddion yn neidio i fyny ac i lawr yn wfftio pwysigrwydd y ffordd osgoi £135 miliwn rhwng Caernarfon a'r Bontnewydd gan mai problem i Wynedd yn unig ydyw, neu'r degau o filiynau a werir ar ffordd osgoi Llandeilo gan mai problem Sir Gaerfyrddin yn unig ydyw, ond mae wedi bod yn dderbyniol i rai wfftio hon fel problem Casnewydd a chredaf fod hynny'n anghywir. Mae'n rhy hawdd cyflwyno honiad ynglŷn â rhagfarn ddaearyddol o blaid enillion gwleidyddol lleol, boed hynny'n ymwneud â gogledd-de, dwyrain-gorllewin, neu wledig-drefol, mae gwleidyddion o bob plaid yn gwneud hyn ac nid yw o gymorth o gwbl. Mae gwahaniaeth rhwng ymladd dros eich ardal a gosod cymunedau yn erbyn ei gilydd. Pobl o Gasnewydd a Gwent yw'r rhai sy'n dioddef fwyaf oherwydd y tagfeydd, ond nid yw hynny yr un fath ag edrych ar hyn fel blaenoriaeth ranbarthol. Yn ddiamau, mae'n flaenoriaeth genedlaethol. Ac i'r perwyl hwnnw, gobeithiaf y bydd y Comisiwn Seilwaith Cenedlaethol yn chwarae rhan fawr yn y camau nesaf.
Yn olaf, mae'n rhaid i'r cynigion newydd basio'r prawf Brexit. Mae gwahanol sectorau yn ein heconomi'n cael eu hymestyn mewn gwahanol ffyrdd yn sgil y posibilrwydd o adael yr UE, efallai hyd yn oed gadael heb gytundeb. Mae hyn yn cael ei deimlo o ddifrif yn y sector modurol eisoes, lle mae danfon dim-ond-mewn-pryd yn rhan hanfodol o'r gwaith llwyddiannus. Mae'r diwydiant ceir a gweithgynhyrchu yn fwy cyffredinol yn chwarae rhan enfawr yng nghyfansoddiad economaidd a chymdeithasol Torfaen ac rydym wedi brwydro am flynyddoedd i wneud hynny'n gynaliadwy yn wyneb heriau newydd, yn lleol ac yn fyd-eang. Ni allwn ni fforddio gadael i ragor o rwystrau gael eu gosod yn y sector hwn. Mae angen inni dawelu meddwl ein gweithgynhyrchwyr, yn ogystal â'n cymudwyr drwy ddatgan ein bod yn barod i weithredu i gyflawni'r tri phrawf hyn: bod yn arloesol, bod yn gyflym a rhoi anghenion seilwaith y genedl hon uwchlaw plwyfoldeb a phleidgarwch. Diolch.
Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Llywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn am gyfraniadau pawb i'r ddadl hon heddiw, ac rwy'n falch o nodi bod un ffaith bwysig yr ydym i gyd yn gytûn yn ei chylch, sef, wrth gwrs, na all gwneud dim fod yn ddewis. Cafwyd llawer o gyfraniadau gwerthfawr yn ystod y ddadl hon, ac mae nifer o Aelodau wedi cynnig rhai syniadau creadigol y byddaf yn sicrhau eu bod yn cael eu hystyried gan y comisiwn.
Penderfyniad yw hwn, nid ynghylch mynd yn ôl i'r cychwyn, Llywydd, mae'n ymwneud â darn o waith cyflym gan gomisiwn arbenigol a fydd yn cyflwyno cynigion ymarferol i ddatrys rhai o'r problemau sy'n wynebu trigolion Casnewydd yn 2019 a 2020, ychydig o flynyddoedd cyn y gallai ffordd fod wedi'i hadeiladu a'i hagor ar gyfer traffig yn y pen draw. Gallaf sicrhau'r Aelodau ein bod yn deall y broblem nawr ac y byddwn yn mynd i'r afael â hi yn llawer cynharach nag y byddai'r llwybr du wedi'i wneud. Gallaf hefyd gytuno â'r Aelodau, fel y mae Lynne Neagle newydd ddweud, fod hon yn broblem sy'n effeithio ar ranbarth cyfan. Wrth gwrs, caiff ei theimlo ddwysaf yng Nghasnewydd, ond dylai'r holl Aelodau, beth bynnag fo'r etholaethau neu'r rhanbarthau y maen nhw'n eu cynrychioli, gydnabod bod hwn yn fater o arwyddocâd cenedlaethol ac, felly, ni ddylent geisio gosod rhannau gwahanol o Gymru yn erbyn ei gilydd. O ran hynny, rwy'n cytuno'n llwyr.
Hoffwn droi at sawl sylw a wnaed. Yn gyntaf oll, cwestiwn y gymhareb cost a budd a'r llwybr du. Oedd, roedd cymhareb cost a budd y llwybr du yn ffafriol, yn enwedig mewn cysylltiad â'r llwybr glas sydd wedi'i feirniadu'n hallt. Fodd bynnag, barnwyd bod yr elfen gost yn rhy uchel, yn enwedig mewn cefndir o gyni a diffyg adolygiad cynhwysfawr o wariant, ac, wrth gwrs, yr angen i ddarparu seilwaith cymdeithasol hanfodol bwysig, gan gynnwys ysbytai, ysgolion a thai y gellid bod wedi'u haberthu pe bai'r llwybr du wedi mynd yn ei flaen.
O ran y cyfyngiadau cyflymder 50 mya nid dim ond ar yr M4 ond ar gefnffyrdd eraill yng Nghymru, wrth gwrs, mae hyn i leihau'r gwenwyn sy'n cael ei ollwng ac sy'n cael ei anadlu gan fodau dynol. Mae hwn yn fesur y profwyd ei fod yn gweithio. Rhaid lleihau lefelau nitrogen deuocsid—
A wnaiff yr Aelod ildio?
Gwnaf yn sicr.
Mae'n dweud y profwyd bod y mesur hwn yn gweithio, ond dim ond yr wythnos diwethaf y dywedodd ei gyd-Weinidog fod y dystiolaeth yn gymysg ac yn amhendant. Pa un sy'n iawn?
Na, nid dyna a ddywedodd y Gweinidog o gwbl. Edrychwch, siawns eich bod yn cydnabod, os byddwch yn gyrru car ar 50 mya, fod eich car yn cynhyrchu llai o nitrogen deuocsid nag y byddai yn ei wneud ar 80 mya, pe byddai pobl yn cadw at y terfyn hwnnw. Nawr, yr her y mae'r Gweinidog wedi tynnu sylw ati yw nad yw rhai pobl yn cadw at y cyfyngiad hwnnw ac, felly, wrth gwrs, bydd y canlyniadau'n gymysg. Nid oes amheuaeth nad oes rhaid inni fynd i'r afael â'r broblem hon. Gofynnaf ichi ddatgan a ydych chi'n cytuno y dylem ni geisio lleihau'r lefelau o nitrogen deuocsid a gaiff eu hanadlu gan fodau dynol, ac os ydych chi yn cytuno, rhaid ichi gytuno ar y dull mwyaf profedig o wneud hynny, sef cyflwyno terfyn is ar gyflymder.
A gaf i—?
Ar fater y llwybr glas, y gwn i fod yr Aelod wedi'i gefnogi yn y gorffennol—. Wrth gwrs fe wnaf ildio.
Hoffwn ofyn cwestiwn braidd yn ymylol ond perthnasol. Mae gennym ni derfynau cyflymder amrywiol eisoes ar draffyrdd yn dibynnu ar y math o gerbyd—gwahanol derfynau cyflymder ar gyfer faniau, lorïau a cheir. A allai cerbydau trydan deithio ar gyflymder uwch gan ystyried nad ydynt yn llygru'r amgylchedd?
Yn wir, gallent deithio ar wahanol gyflymder. Y pwynt yw, nid oes gennym ni gymaint â hynny o geir trydan ar y ffordd eto, ac felly, yn y dyfodol, wrth gwrs, gallent, fe allent deithio ar gyflymder uwch. Y fantais arall, serch hynny, sy'n deillio o gyflwyno terfynau cyflymder gostyngol o 50 milltir yr awr yw y profir bod traffig yn teithio'n fwy cyson, fel nad ydych chi'n cael effaith traffig sy'n aros ac yn cychwyn am yn ail, sy'n cyfrannu'n sylweddol at allyriadau.
O ran y llwybr glas, dylwn mewn difrif calon roi sylw i fater yr ateb penodol hwn y mae rhai Aelodau'n dal i'w gofleidio. Cafodd y llwybr glas ei ddiystyrru gan yr arolygydd, ac os nad yw'r Aelodau wedi cael y cyfle i ddarllen adroddiad yr arolygydd, byddwn yn eu hannog i wneud hynny ac, yn arbennig o ran y tudalennau'r llwybr glas 457 i 459. Yn ystod yr ymchwiliad, nodwyd y byddai'r llwybr glas yn annigonol, na fyddai'n gynaliadwy, y byddai'n costio tua £1 biliwn, o'i gymharu â'r £350 miliwn yr oedd cefnogwyr yn ei hyrwyddo, ac y byddai'n cyfrannu mwy o ran allyriadau—nitrogen deuocsid yn benodol—i'r bobl hynny yr effeithir yn wael arnyn nhw eisoes gan y rhwydwaith ffyrdd presennol. Nid yw'r llwybr glas yn ddewis o gwbl.
Rwy'n credu ein bod wedi ymdrin â'r cwestiwn maniffesto nifer o weithiau, nid dim ond heddiw, ond cyn heddiw. Roedd y maniffesto a luniwyd gennym ni, wrth gwrs, wedi'i lunio yn yr amgylchiadau a oedd yn amlwg bryd hynny, ar sail y dystiolaeth a oedd ar gael inni. Mae nifer o Aelodau yn y Siambr hon wedi newid eu safbwynt ar y llwybr du a'r llwybr glas yn seiliedig ar y dystiolaeth a gyflwynwyd gan yr arolygydd.
Wrth gwrs, ers 2016, mae'r amseroedd wedi newid yn eithaf cyflym. Credaf fod gennym ni bellach ddealltwriaeth a dealltwriaeth well o'r argyfwng hinsawdd. Rwy'n credu, hefyd, ein bod wedi gosod y safon yn uwch o ran sut rydym ni'n ymateb i hyn. Rydym ni'n datblygu strategaeth drafnidiaeth i Gymru a fydd yn ceisio cofleidio technoleg newydd ac sy'n datblygu, ac ymateb i her fwyaf ein hoes, sef lleihau allyriadau a gwrthdroi'r newid yn yr hinsawdd. Credaf fod Huw Irranca-Davies wedi crynhoi'n wych yr hyn y dylai'r strategaeth geisio'i gyflawni. Dylai sicrhau y gall pobl fod yn fwy symudol fel y dymunant fod, ond nid ar draul ein hamgylchedd a buddiannau cenedlaethau'r dyfodol. Credaf fod nifer o Aelodau wedi crybwyll yn briodol y rhan sydd gan reilffyrdd i'w chwarae o ran lleihau'r ddibyniaeth ar gerbydau, ac o ran cwestiynau a godwyd gan Jenny Rathbone ac Alun Davies, credaf ei bod hi'n gwbl briodol bod y Comisiwn yn gallu galw ar Lywodraeth y DU, nid yn unig o ran gwelliannau i'n seilwaith rheilffyrdd, ond hefyd o ran gwelliannau i wasanaethau a allai leihau'r ddibyniaeth sydd gan bobl ar y car a'r M4 yn benodol. Er enghraifft, gallai'r adran drafnidiaeth ddileu'r gwrthwynebiad i'r Grand Union Trains weithredu gwasanaethau cyflym rhwng Abertawe, Caerdydd, Bryste a Llundain, gan eto gynorthwyo a lleihau tagfeydd ar yr M4. Rwyf wedi bod yn glir iawn â'r comisiwn na ddylai ofni gofyn am hynny gan Lywodraeth y DU yn ogystal â chan Lywodraeth Cymru.
Gallaf ddweud wrth yr Aelodau heddiw, o ran—
A wnewch chi dderbyn ymyriad ar y mater hwnnw?
Gwnaf wrth gwrs.
Rwy'n ddiolchgar ichi am eich geiriau ynghylch hynny. Roedd fy mhwynt yn un pendant—y dylem fod yn ceisio datganoli'r materion hyn, nid dim ond galw ar Lywodraeth y DU i weithredu ar y materion hyn. Os ydym o ddifrif ynghylch cael trafnidiaeth gyhoeddus integredig, dim ond Llywodraeth Cymru sydd mewn sefyllfa i allu gwneud penderfyniadau, ar seilwaith y rheilffyrdd ac ar feysydd eraill o seilwaith, a all wneud trafnidiaeth gyhoeddus integredig yn realiti.
Fe wnaf i ddatblygu'r pwynt hwnnw ymlaen un cam ymhellach hefyd a dweud nad mater o ddatganoli arian a chyfrifoldeb a phwerau ar gyfer seilwaith rheilffyrdd yn unig yw hyn—er bod taer angen am hynny yn amlwg ac fe wnaethom ni gyflwyno ein hachos i Keith Williams—mae hefyd yn ymwneud â bod â chyfrifoldeb am y trenau sy'n gweithredu ar y cledrau yn ein gwlad. Ar hyn o bryd, rydym ni mewn sefyllfa hurt lle gellir ymgynghori â Llywodraeth y DU a hwythau'n rhoi cyngor inni ar wasanaethau sy'n gweithredu yng Nghymru, a masnachfraint Cymru a'r Gororau, ac eto, o ran y gwasanaethau y maen nhw'n gyfrifol am eu caffael, sy'n gweithredu ar ein rheilffyrdd yng Nghymru, nid oes gennym ni lais, ac ni ellir caniatáu i hynny barhau, oherwydd, fel y profwyd gan ymagwedd Grand Union Trains tuag at Lywodraeth y DU, pe gallem ni gyflwyno mwy o wasanaethau i'r rheilffyrdd sy'n bodoli yng Nghymru, gallem leihau'r ddibyniaeth ar geir.
Gallaf ddweud wrth yr Aelodau heddiw, ynghylch yr amserlen ar gyfer llunio a gwahodd y comisiwn i adrodd, y gwelwn aelodau'n cael eu penodi—fe gytunir ar y rheini, Llywydd, rhwng y cadeirydd a minnau—cyn toriad yr haf. Bydd eu gwaith yn dechrau ar unwaith, ac rwyf eisoes wedi cwrdd â'r cadeirydd i drafod y gwaith ac adroddiad yr arolygydd, a'r asesiad a'r dadansoddiad a gynhaliwyd hyd yn hyn. Yn y cyfamser, mewn ymateb uniongyrchol i'r pwynt a godwyd gan Jenny Rathbone, rydym yn bwrw ymlaen, ar unwaith, â mesurau i leihau tagfeydd ar yr M4 mewn achosion o ddamweiniau, ac mae contractau'n cael eu llunio ar hyn o bryd i gael gwasanaethau patrôl ychwanegol a gwasanaethau adfer ar y ffordd. O'r comisiwn, disgwyliaf adroddiad interim o fewn chwe mis, ond rwyf wedi bod yn awyddus ac yn glir iawn wrth ddweud wrth y cadeirydd a'r cyhoedd os gall y comisiwn gyflwyno awgrymiadau ymarferol y gellir eu cyflwyno mewn cyfnod byrrach, neu hyd yn oed ar unwaith, yna dylai wneud hynny o fewn y cyfnod chwe mis.
Llywydd, mae trafnidiaeth yn faes lle mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau beiddgar ac uchelgeisiol ar gyfer y dyfodol: efallai'r cytundeb masnachfraint rheilffyrdd gorau yn y DU, y mae ei werth yn £5 biliwn—fel y dywedais yn gynharach, buddsoddiad digyffelyb mewn teithio llesol; datblygu strategaeth drafnidiaeth newydd i Gymru; ac, yn ôl pob tebyg, yr ailwampio mwyaf radical ar ddeddfwriaeth a'r ailwampio mwyaf radical ar wasanaethau bysiau a fydd yn gwella bywydau a chysylltedd ledled Cymru.
Mae datrys y problemau o ran tagfeydd yng nghyffiniau'r M4 yn rhan bwysig o'r cynlluniau hynny, a gallaf sicrhau Jayne Bryant, ac rwyf yn cydymdeimlo'n llwyr â hi, mai'r alwad gyntaf am arian drwy ganslo'r llwybr du'r M4 fydd i gomisiynu atebion i ddatrys y broblem benodol honno yng Nghasnewydd a'r cyffiniau. Gwn fod llawer o Aelodau a phleidiau eisoes wedi cyflwyno syniadau ynghylch sut y gellir gwario'r arian hwnnw, nid dim ond yng Nghasnewydd, nid yn unig yn y de-ddwyrain, ond ar hyd a lled Cymru. Rwyf wedi bod yn cadw rhestr o'r prosiectau hynny; maen nhw'n gyfystyr â rhestr dymuniadau gwerth mwy na £3.5 biliwn. Caiff yr arian hwnnw a ddyrannwyd, y dyraniad gwreiddiol ar gyfer y ffordd liniaru £1 biliwn, ei ddefnyddio'n gyntaf oll i ddatrys y dagfa benodol honno yng Nghasnewydd. Nawr rwy'n barod i hwyluso cyfarfodydd rhwng Aelodau lleol yn arbennig a'r comisiwn, ond os oes gan unrhyw Aelod yn y Siambr hon awgrym ar gyfer sut i ddatrys tagfeydd ar y rhan benodol honno o'r M4, a fyddech cystal â'i gyflwyno a bydd y comisiwn yn falch o'i dderbyn.
Credaf ei bod hi'n werth dweud, fel y gwelsom ni o adroddiad yr arolygydd, nad oes unrhyw atebion hawdd na diwrthwynebiad yn bodoli o ran y tagfeydd sydd wedi plagio'r M4 o amgylch Casnewydd, ond rydym ni wedi ymrwymo i fynd ati mewn modd cydweithredol i ddod o hyd i ddulliau fforddiadwy, arloesol ac, yn bwysicaf oll, yn anad dim, Llywydd, atebion cynaliadwy yn yr amser byrraf posib. Rwy'n edrych ymlaen yn ddiffuant at weithio gydag eraill i wireddu'r uchelgais hwnnw.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriaf y bleidlais tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Ac rŷn ni yn cyrraedd y cyfnod pleidleisio ar gyfer y ddadl ar goridor yr M4 o gwmpas Casnewydd. Felly, mae'r bleidlais gyntaf ar welliant 1, a gyflwynwyd yn enw Caroline Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 14, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1.
NDM707 - Gwelliant 1: O blaid: 14, Yn erbyn: 37, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 2 sydd nesaf. Galwaf am bleidlais ar welliant 2, a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, mae gwelliant 2 wedi'i wrthod.
NDM707 - Gwelliant 2: O blaid: 24, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Mae'r bleidlais nesaf ar welliant 3 a gyflwynwyd yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 24, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 3.
NDM707 - Gwelliant 3: O blaid: 24, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 4 yw'r nesaf, a gyflwynwyd, eto, yn enw Darren Millar. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 13, dau yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 4.
NDM7097 - Gwelliant 4: O blaid: 13, Yn erbyn: 36, Ymatal: 2
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 5 yw'r nesaf, yn enw Caroline Jones. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 15, naw yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 5.
NDM707 - Gwelliant 5: O blaid: 15, Yn erbyn: 27, Ymatal: 9
Gwrthodwyd y gwelliant
Gwelliant 6—galwaf am bleidlais ar welliant 6, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 19, un yn ymatal, 31 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 6.
NDM707 - Gwelliant 6: O blaid: 19, Yn erbyn: 31, Ymatal: 1
Gwrthodwyd y gwelliant
Mae'r bleidlais olaf, felly, ar y cynnig heb ei ddiwygio. Felly, pleidlais ar y cynnig. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 27, 14 yn ymatal, 10 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i dderbyn.
NDM707 - Dadl ar Goridor yr M4 o amgylch Casnewydd: O blaid: 27, Yn erbyn: 10, Ymatal: 14
Derbyniwyd y cynnig
Dwi'n gohirio'r sesiwn nawr am bum munud. Fe fyddwn ni'n ailddechrau am 5.45 p.m. Gohiriaf y sesiwn.
Ataliwyd y Cyfarfod Llawn am 17:39.
Ailymgynullodd y Cynulliad am 17:45, gyda'r Dirprwy Lywydd yn y Gadair.
Os gallaf alw'r Aelodau i drefn, yna byddaf yn bwrw ymlaen â Chyfnod 3 o Fil Deddfwriaeth (Cymru).
A symudwn i grŵp 1, ac mae'r grŵp cyntaf o welliannau yn ymwneud â'r diffiniadau yn Rhan 1 y Bil. Y prif welliant yn y grŵp hwn yw gwelliant 13, a galwaf ar Dai Lloyd i gynnig a siarad am y prif welliant a'r gwelliannau eraill yn y grŵp hwn—Dai.
Cynigiwyd gwelliant 13 (Dai Lloyd).
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Gan ddyfynnu geiriau memorandwm esboniadol y Bil yma:
'Diben y Bil Deddfwriaeth (Cymru) yw gwneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch, clir a syml i'w defnyddio.'
Ac, wrth gwrs, hygyrchedd ein deddfwriaeth ydy ysbrydoliaeth y gwelliant sydd wedi'i osod gerbron yn fy enw i y prynhawn yma.
Bu inni drafod nifer o welliannau tebyg o dan Gyfnod 2, a derbyniwyd eu hysbryd gan y Cwnsler Cyffredinol bryd hynny, ac ers Cyfnod 2 mae swyddogion a chyfreithwyr galluog y Llywodraeth yma wedi fy nghynorthwyo i i ddiwygio fy ngwelliannau blaenorol i'r gwelliannau sydd wedi'u gosod gerbron heddiw. Mae yna newidiadau sylfaenol i beth wnaethom ni ei gyflwyno o flaen Cyfnod 2.
Felly, yn y gwelliant yma, yn olrhain ystyr hygyrchedd cyfraith Cymru ydy'r graddau y mae ar gael yn hwylus i aelodau'r cyhoedd yn y Gymraeg a'r Saesneg, fod cyfraith Cymru wedi'i chyhoeddi ar ei ffurf diweddaraf yn y ddwy iaith, sy'n dangos a yw deddfiadau mewn grym ac yn corffori unrhyw ddiwygiadau a wnaed iddynt, fod cyfraith Cymru wedi'i threfnu'n glir ac yn rhesymegol o fewn deddfiadau yn ogystal â rhwng deddfiadau, a bod cyfraith Cymru yn hawdd ei deall ac yn sicr ei heffaith.
Dwi'n falch iawn i'r Cwnsler Cyffredinol a'i swyddogion am bob cymorth wrth drefnu hyn i gyd. Achos dŷn ni'n sefyll yn y Senedd yma, dŷn ni yn gallu deddfu dros bobl Cymru nawr, dŷn ni hefyd yn gallu codi trethi. Mae'r ddeddfwriaeth yma i'w chroesawu'n fawr ac rydym yn llongyfarch y Cwnsler Cyffredinol ar ei weledigaeth a'i fenter. Wrth gwrs, i'r unigolyn ar y stryd ac i gyfreithwyr mewn llys barn fel ei gilydd, mae deddfwriaeth yn gallu bod yn hynod gymhleth, gyda chyfuniad o ddeddfau Prydeinig, deddfau Cymru a Lloegr, a nawr wrth gwrs deddfau Cymru yn unig, yn y Gymraeg a'r Saesneg, i gyd yn weithredol yma yng Nghymru.
Ac, o gofio maint sylweddol y ddeddfwriaeth—yn ei gwahanol ffurf; deddfwriaeth sylfaenol, is-ddeddfwriaeth, offerynnau statudol ac yn y blaen—sydd ar gael, heb anghofio wrth gwrs fod yr holl wahanol ddeddfwriaeth yma hefyd yn gallu cael ei diwygio a'i hail-wneud yn gyson dros y blynyddoedd mewn gwahanol ffyrdd ac mewn gwahanol lefydd, yna mae'r tirlun deddfwriaethol yn gallu bod yn anodd hyd yn oed i'r mwyaf medrus, ac, wrth gwrs, heb sôn am y toriadau i gefnogaeth ariannol i alluogi unigolyn i gael mynediad i gyfraith yn y lle cyntaf, gyda mwy o unigolion yn dewis amddiffyn eu hunain, wrth gwrs, achos prinder y gefnogaeth ariannol. Yna mi allwch fod yn sôn am storm berffaith o gynnydd mewn cymhlethdod y gyfraith yn cael ei gyplysu efo llai o allu i gael gafael ar y gyfraith honno ar ran yr unigolyn yn y stryd. Dyna bwysigrwydd y ddeddfwriaeth yma gerbron.
Mae'r memorandwm esboniadol yn nodi bod y Cynulliad Cenedlaethol wedi pasio 59 o Fesurau neu Ddeddfau ers 2007, a bod Gweinidogion Cymru wedi gwneud tua 6,000 o offerynnau statudol ers 1999. Mae'r bwriad codeiddio, i drefnu deddfwriaeth fesul pwnc mewn un lle, i'w groesawu'n fawr, a hefyd y cyfle i arloesi wrth greu deddfwriaeth yn y Gymraeg sydd efo'r un statws â deddfwriaeth yn y Saesneg, ac mae creu deddfau dwyieithog o'r dechrau yn creu deddfau gwell, fel dywedodd tystion wrthym pan oeddem yn craffu ar y Bil yn y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Mae yna heriau a mwynhad wrth ddehongli materion cyfreithiol yn y ddwy iaith yn gydradd, ochr yn ochr, ac rydym yn croesawu'r bwriad arloesol yma yn y Bil.
I gloi, ni allwn anghofio ein hanes. Efallai rwyf wedi crybwyll o'r blaen waith arloesol Hywel Dda wrth greu deddfau i Gymru, gan gynnwys hawliau i fenywod, nôl yn y flwyddyn 909 oed Crist. Roedd honno'n flwyddyn fawr. Gyda chytuno a phasio Bil Deddfwriaeth (Cymru), gall 2019 fod yn flwyddyn fawr, hefyd.
Rwy'n hapus i ddweud y byddwn ni'n cefnogi gwelliant 13, fel y gwnaethom gyda gwelliant tebyg iawn yng Nghyfnod 2, pan aeth i bleidlais gyfartal. Un o'r anghysonderau gyda'r Bil drafft, yn fy marn i, oedd methiant i ddiffinio cysyniadau allweddol, a oedd yn fy nharo fel ychydig yn anffodus pan oeddem ni'n sôn am Fil sy'n ymwneud â gwneud cyfraith Cymru, yn y ddwy iaith, yn haws dod o hyd iddi, yn haws ei dilyn, yn haws ei gwahaniaethu oddi wrth cyfreithiau eraill a all fod yn berthnasol yng Nghymru yn unig ac, wrth gwrs, yn haws ei defnyddio.
Yn ogystal â hygyrchedd, cysyniad allweddol yn y Bil hwn oedd codeiddio cyfraith Cymru. Ac, fel y nodwyd yma yn y ddadl ragarweiniol rai misoedd yn ôl, nid yw'n air a ddeallir yn hawdd mewn bywyd bob dydd, ac mae ganddo hefyd ystyron gwahanol o fewn defnydd cyfreithiol. Felly, defnyddiwyd geiriad nodiadau esboniadol y Llywodraeth ei hun er mwyn llunio diffiniad yng Nghyfnod 2, ac yna defnyddiwyd tystiolaeth lafar y Cwnsler Cyffredinol yn y cyfnod hwnnw i ailddrafftio gwelliant ar gyfer y cyfnod hwn. Gan fod disgwyl datganiad gan y Llywodraeth ynglŷn â chydgrynhoi yr haf hwn, roeddwn yn credu bod pob rheswm i ddisgwyl iddyn nhw fod mewn sefyllfa i ddiffinio codeiddio. Rwy'n falch iawn bod y Cwnsler Cyffredinol yn barod i drafod newidiadau cymedrol i'r ail-ddrafftio hwnnw gyda'r bwriad o'i gefnogi heddiw, yn yr un ysbryd, mae'n ymddangos, ag yn achos gwelliant 13.
Nid oes angen addasu gwelliannau a gyflwynir gan y Senedd bob tro ac yna eu hailgyflwyno yn enw'r Llywodraeth, fel sy'n digwydd yma efallai ychydig yn rhy aml, ac felly diolchaf i'r Cwnsler Cyffredinol am y parch y mae wedi'i ddangos at y ddeddfwrfa hon a'r trafodion. Diolch.
Hoffwn gefnogi'r gwelliant yn enw Suzy Davies. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn gwneud popeth o fewn ein gallu i wneud cyfraith Cymru yn hygyrch, er mwyn hwyluso a chefnogi ein dadleuon ein hunain, ond, o leiaf yr un mor bwysig, i'r rheini sydd allan yn ymdrin yn ymarferol â'r gyfraith hon, sef proffesiwn cyfreithiol Cymru a Lloegr o hyd. Ac mae gennym Gomisiwn ar Gyfiawnder i Gymru, wedi'i gadeirio mor fedrus gan yr Arglwydd Thomas, ac rwyf wedi bod yn falch, wrth gadeirio'r grŵp cyfreithiol trawsbleidiol, o gytuno i ymgysylltu'n sylweddol â'r comisiwn hwnnw. Ac un mater allweddol y maen nhw'n credu, o ran unrhyw wahaniaeth mewn awdurdodaethau, yw ystyried cyfreithwyr sydd wedi'u hyfforddi yng Nghymru a Lloegr fel un peth—a ydyn nhw'n ystyried rhannu hynny o ran y modd y caiff cyfreithwyr eu rheoleiddio, neu a ydych yn chwilio am y gofynion o ran cymhwysedd, o ran datblygiad proffesiynol a chymhwysiad, na ddylai cyfreithwyr ond gweithredu mewn maes y maen nhw'n gymwys ac yn wybodus ynddo? A chredaf, os byddwn yn cydgrynhoi cyfraith Cymru ac yn ei gwneud yn glir beth yw corff cyfraith Cymru mewn ffordd hygyrch, y bydd yn golygu y bydd llawer mwy o gyfreithwyr yn gymwys ac yn gallu ymwneud â hynny, heb fod yn arbenigol iawn ac yn gorfod treulio cyfran uchel o'u bywyd gwaith yn ymdrin â materion sy'n benodol i Gymru. Ac rwy'n credu, yn enwedig o ran cyfraith landlordiaid a thenantiaid, sy'n faes cymhwysedd mor fawr, bydd hyn yn arbennig o bwysig. Felly, rwy'n cefnogi'n gryf yr hyn y mae Suzy yn galw amdano.
Hoffwn roi sylw i un achos o sensitifrwydd o ran pwy sy'n gwneud y gwaith hwn. Cynulliad Cenedlaethol Cymru ydym ni, ni sy'n pasio'r Deddfau hyn—beth yw ein swyddogaeth ni a beth yw ein statws o ran sicrhau bod y gyfraith hon yn hygyrch, yn hytrach na'r Llywodraeth? Nawr, mae gan y Llywodraeth lawer mwy o ran cyfreithwyr yn gweithio iddi a'r capasiti i wneud y gwaith hwn, ond mae'n bwysig, mewn rhywbeth sydd yn hygyrch ac yno ar gyfer bobl Cymru ac eraill, mai gwaith a chorff y Cynulliad hwn ydyw, ei gwneud yn hygyrch a'r ffordd y gwneir hynny, siawns na ddylem ni fel Cynulliad oruchwylio'r broses honno'n iawn, a beth yw'r ffordd orau i'r Cynulliad weithio gyda'r Llywodraeth i sicrhau bod y gyfraith honno'n hygyrch ac yn ystyrlon er mwyn i bawb ei defnyddio?
A wnewch chi dderbyn ymyriad?
Na, mae e' wedi eistedd i lawr. Mae e' wedi gorffen. Mae'n ddrwg gen i. [Torri ar draws.] Na, na, mae'n ddrwg gen i. Mae e'n eistedd i lawr. Mae'n ddrwg gen i. A gaf i alw'r Cwnsler Cyffredinol?
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Hoffwn i ddiolch yn gyntaf i Dai Lloyd a Suzy Davies am egluro'r meddylfryd sydd y tu ôl i'r gwelliannau y mae'r ddau wedi eu cynnig. Dechreuaf i drwy ddweud fy mod i'n ystyried bod y gwelliannau hyn yn gwella Rhan 1, felly byddaf i yn cefnogi'r ddau welliant.
Gan droi yn gyntaf at welliant 13, fel yr eglurwyd, bydd hyn yn mewnosod diffiniad o hygyrchedd i adran 1 at ddibenion Rhan 1. Mae hygyrchedd y gyfraith yn elfen sylfaenol o reolaeth y gyfraith, ac yn amcan polisi sylfaenol o’r Bil hwn hefyd. Os ydyw am fod yn hygyrch, mae’n rhaid i gyfraith Cymru fod yn glir ac yn sicr o'i heffaith, a hefyd rhaid iddo fod yn hawdd i’w ddefnyddio.
Rwy'n fodlon bod y gwelliant a gynhigiwyd gan Dai Lloyd heddiw yn rhoi diffiniad sy'n mynd i’r afael â'r pedair elfen allweddol hyn o hygyrchedd ac sy'n gynhwysfawr yn y ffordd y mae'n mynegi'r elfennau hynny. Mae'n adlewyrchu'r statws cyfartal i holl ddibenion deddfwriaeth ddwyieithog ac yn darparu prawf ystyrlon i ni ei ddilyn wrth ystyried a yw deddfwriaeth yn hygyrch ai peidio.
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol o uchelgais hirdymor y Llywodraeth hon i godeiddio cyfraith Cymru. Bwriad cyfundrefnu yw dod â threfn i'r llyfr statud, ac mae'n cynnwys trefnu a chyhoeddi deddfwriaeth drwy gyfeirio at ei chynnwys, a mabwysiadu system lle mae deddfwriaeth yn cadw ei strwythur yn hytrach na chadw i dyfu.
Fel y gall yr Aelodau weld, mae gwelliant 14 a gynhigiwyd heddiw gan Suzy Davies yn mynd i’r afael ar y ddwy agwedd bwysig hyn ar y syniad o godeiddio, ond heb gyfyngu ar ei gwmpas. O'i fframio yn y ffordd honno, rwy'n cytuno bod y gwelliant yn darparu diffiniad defnyddiol i'w gynnwys yn adran 2 o'r Bil.
Os caiff y Bil ei basio, rwy'n bwriadu cyhoeddi datganiad sefyllfa yn nes ymlaen yn yr haf ar gydgrynhoi, codeiddio a strwythur cyfraith Cymru yn y dyfodol. Bydd hyn yn ehangu ar y diffiniad a gynhigir yn awr a bydd yn ategu'r hyn a ddwedwyd yn y drafft tacsonomeg ar gyfer codau cyfraith Cymru a gyhoeddais i pan gyflwynwyd y Bil.
Rwyf felly'n falch o gefnogi'r ddau welliant ac rwy'n annog Aelodau eraill i wneud yr un peth.
Diolch. A gaf i yn awr alw ar Dai Lloyd i ymateb i'r ddadl?
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. A allaf i ddiolch i Suzy a Mark a hefyd i'r Cwnsler Cyffredinol am eu sylwadau ar y gwelliannau? Dwi ddim yn bwriadu siarad eto yn y drafodaeth yma chwaith, felly, yn ogystal â chydnabod unwaith eto fod yna gryn dipyn o gydweithio wedi bod yn mynd ymlaen y tu ôl i'r llenni i addasu'r gwelliannau yma sydd gerbron, mi fuaswn i'n dymuno gweld pasio'r gwelliant yn fy enw i, sydd yn pwysleisio ac yn diffinio hygyrchedd, fel y mae'r Cwnsler Cyffredinol wedi'i olrhain.
Diolch i bawb am ei sylwadau cefnogol, a diolch i'r Cwnsler Cyffredinol hefyd am ei gefnogaeth. Byddwn ni hefyd yn cefnogi'r gwelliannau eraill, ond rwyf hefyd yn gwthio hwn i bleidlais ac yn dymuno gweld pawb yn cefnogi pasio'r gwelliant sydd yn fy enw i. Diolch yn fawr.
Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 13. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36, caiff gwelliant 13 ei dderbyn.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Grŵp 2—mae'r grŵp nesaf o welliannau yn ymwneud â rhaglen i wella hygyrchedd cyfraith Cymru. Y prif welliant a'r unig welliant yn y grŵp hwn yw gwelliant 1, a galwaf ar Suzy Davies i gynnig a siarad am y gwelliant hwnnw—Suzy.
Cynigiwyd gwelliant 1 (Suzy Davies).
Diolch, Dirprwy Lywydd. Cynigiaf welliant 1. Rwy'n gobeithio—i ryw raddau, beth bynnag—y byddaf yn gallu ateb sylwadau Mark Reckless yn ystod y grŵp hwn. Cyflwynwyd y gwelliant hwn ar ôl trafod gwelliant tebyg yng Nghyfnod 2. Roedd y Bil gwreiddiol yn caniatáu i'r rhaglen wella hygyrchedd cyfraith Cymru i gael ei diwygio o bryd i'w gilydd. Roedd gwelliant y Llywodraeth yng Nghyfnod 2, ac rwyf yn diolch i'r Cwnsler Cyffredinol am hynny, yn cyflwyno dyletswydd i adrodd yn flynyddol ar y rhaglen honno. Rwy'n credu efallai fod cyfrifoldeb ar y Senedd hon bellach i ystyried sut yn union y dylem ni graffu ar yr adroddiadau hynny.
Ond mae'r gwelliant hwn yn mynd gam ymhellach, ac mae'n galw am yr adolygiad canol tymor ffurfiol o effeithiolrwydd y rhaglen, sydd, yn fy marn i, yn dweud rhywfaint am yr hyn yr oedd Mark Reckless yn sôn amdano. Felly, nid yw'n adolygiad ychwanegol—gellir ei gyfuno â'r adolygiad blynyddol—ond mae'n rhywbeth sydd â mwy o sylwedd iddo, ac yn rhywbeth yr wyf i'n gobeithio y byddwn ni'n gallu dylanwadu arno yn y modd y byddaf yn ei ddisgrifio nawr.
Ar hyn o bryd, nid yw cynnwys yr adroddiad blynyddol wedi ei ragnodi. I mi, roedd yn bwysig bod y Senedd hon yn cael rhywfaint o ddweud o ran yr hyn yr adroddwyd arno fel nad oeddem yn cael ein cyflwyno gyda dim ond manylion helaeth am weithgarwch yr oedd y Llywodraeth wedi bod yn ymwneud ag ef heb unrhyw syniad o ba un a oedd ein hetholwyr yn gweld bod cyfraith Gymru yn fwy hygyrch o ganlyniad i hynny—a dyna pam mae'r gair 'effeithiolrwydd' wedi ei gynnwys yn y gwelliant hwn.
Rydym ni wedi wedi gweld y broblem hon o'r blaen, sef bod Llywodraeth Cymru yn cynnal adolygiadau ar gynnydd ei pholisi ei hun heb i'r Senedd hon gael unrhyw ddylanwad dros y cwestiynau y gellid eu holi yn y broses honno. Daethom wyneb yn wyneb â chryn wrthwynebiad oddi wrth y Llywodraeth wrth i'r Bil isafbris alcohol fynd rhagddo, er enghraifft, pan wrthodwyd gwelliant er ei fod yn nodi cwestiynau yr oeddem ni'n credu y byddai ein hetholwyr yn dymuno cael ateb iddynt.
Felly, y tro hwn, mae'r gwelliant yn caniatáu amser i drafod beth y dylai adolygiad ei gyflawni a sut y gellid mesur effeithiolrwydd. Unwaith eto, rwy'n ddiolchgar i'r Cwnsler Cyffredinol am ei barodrwydd i weithio gyda'r Senedd hon ac am ei lythyr at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar 18 Mehefin, sydd wedi symud y drafodaeth ymlaen ryw gymaint.
A gaf i alw ar y Cwnsler Cyffredinol?
Diolch yn fawr, Llywydd.
Rwyf yn ddiolchgar i Suzy Davies am gyflwyno'r gwelliant hwn, gan ei fod yn rhoi cyfle arall i mi gadarnhau fy ymrwymiad i adolygu gweithrediad y ddeddfwriaeth, er, ar ôl derbyn ei gwelliant cynharach, rwy'n ofni fy mod am ei siomi drwy beidio â chefnogi'r gwelliant hwn yn y pen draw.
Pan gyflwynais y Bil ym mis Rhagfyr, roedd adran 2 yn nodi y byddai'r Cwnsler Cyffredinol yn gosod adroddiad gerbron y Cynulliad o bryd i'w gilydd ar y cynnydd a wnaed o dan y rhaglenni i wella hygyrchedd. Yn ystod Cyfnod 1, cafodd y pwyllgor dystiolaeth gan randdeiliaid ynghylch adolygu ac adrodd ar y ddeddfwriaeth, a daeth y pwyllgor i'r casgliad y gellid yn wir cryfhau'r gofyniad i gyflwyno adroddiad, gan argymell y dylai'r Cwnsler Cyffredinol lunio adroddiad blynyddol, fel y gwnaeth Suzy Davies grybwyll yn ei sylwadau. Roedd hwn yn safbwynt yr oeddwn i'n cytuno ag ef yng ngoleuni'r dystiolaeth, ac roeddwn i'n falch bod y pwyllgor wedi cytuno ar fy ngwelliant arfaethedig i adran 2(7) yng Nghyfnod 2. Ac, fel y cydnabu Suzy Davies, mae'r Bil erbyn hyn yn darparu ar gyfer llunio adroddiadau blynyddol o ganlyniad i hynny.
Fe wnaeth rhanddeiliaid hefyd gydnabod potensial Rhan 1 i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch, clir a hawdd ei defnyddio, sy'n safbwynt a gefnogwyd yn gryf gan y pwyllgor. Cydnabu'r pwyllgor y dylai deddfwriaeth arloesol o'r fath gael ei gwerthuso'n gadarn, ac argymhellodd y dylai'r Llywodraeth ymrwymo i adolygu gweithrediad y Bil hanner ffordd drwy'r tymor Cynulliad cyntaf y bydd Rhan 1 y Bil, neu'r Ddeddf maes o law, yn dod i rym.
Fe wnaeth y Pwyllgor Cyllid hefyd gydnabod pwysigrwydd adolygiad ôl-weithredu, ac roedd yn awyddus i sicrhau bod adnoddau a goblygiadau ariannol yn cael eu hystyried yn rhan o'r adolygiad hwnnw. Mewn gohebiaeth ar ôl cyhoeddi'r adroddiadau ac yn ystod Cyfnod 2, rhoddais ymrwymiad clir a manwl i adolygu'r ddeddfwriaeth hanner ffordd drwy'r Cynulliad nesaf, h.y. erbyn diwedd 2023. Fe wnes i hefyd nodi sut yr wyf yn rhagweld y byddai'r adroddiadau blynyddol yn cael eu gwneud. Bydd yr Aelodau'n gweld yr ymrwymiadau hyn yn cael eu hadlewyrchu ym memorandwm esboniadol diwygiedig y Bil, a gyflwynwyd cyn y trafodion hyn.
Gan adleisio'r pwynt a wnaed gan Mark Reckless yn gynharach, yn ystod Cyfnod 2 cefais wahoddiad gan Suzy Davies i ysgrifennu at y pwyllgor, fel y cydnabu, gyda'm barn ynghylch sut y gallai Aelodau'r Cynulliad ddylanwadu ar gynnwys yr adolygiad canol tymor, ac mae hynny'n rhywbeth yr wyf i wedi ei wneud erbyn hyn. Rwy'n sylweddoli bod Aelodau sydd yma heddiw nad ydyn nhw wedi cael cyfle i ddarllen yr ohebiaeth honno, felly, Dirprwy Lywydd, gyda'ch caniatâd chi hoffwn grynhoi'r hyn yr wyf i wedi ei ddweud. Rhagwelaf y byddai'r adolygiad canol tymor yn gwneud dau beth yn bennaf. Yn gyntaf, byddai'n adrodd ar y cynnydd o ran gweithredu'r rhaglen i wella hygyrchedd cyfraith Cymru ac i ystyried pa un a ddylid newid ei chynnwys arfaethedig. Yn ail, ac yn fwy cyffredinol, bydd yn darparu gwaith craffu ôl-ddeddfu ar y Bil ei hun, gan gynnwys Rhannau 2 a 3. Bydd yr Aelodau'n gwerthfawrogi bod yr agwedd honno'n mynd ymhellach na'r gwelliant sy'n cael ei gynnig gan Suzy Davies yn y fan yma heddiw.
Byddaf hefyd yn sicrhau bod fy swyddogion ar gael i'r Pwyllgor i ddeall yr hyn y byddai aelodau'r Pwyllgor yn ei ystyried yn bwysig ac i gael dealltwriaeth lawnach o'r modd y gallai Aelodau ragweld y bydd Cynulliad yn y dyfodol yn ymwneud â phroses yr adolygiad canol tymor. Rwy'n gobeithio y gallai sgyrsiau o'r fath helpu i lunio unrhyw farn y bydd y pwyllgor eisiau ei throsglwyddo i'w olynydd tuag at ddiwedd y tymor Cynulliad hwn. Os oes unrhyw Aelod yma heddiw nad yw'n aelod o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol hefyd yn dymuno rhannu ei syniadau ynghylch sut y dylai'r Aelodau gymryd rhan yn yr adolygiad canol tymor, rwy'n fodlon iawn estyn gwahoddiad iddynt hwythau hefyd i gwrdd â'm swyddogion i drafod hynny; dim ond rhoi gwybod i'm swyddfa sydd angen iddyn nhw ei wneud a bydd trefniadau'n cael eu gwneud.
Credaf fod ymrwymiad y Llywodraeth i adolygiad canol tymor wedi ei nodi'n glir, ac mae'n ymrwymiad sy'n ymdrin â phob rhan o'r Bil, nid Rhan 1 yn unig. Nid wyf i, felly, yn ystyried bod angen diwygio'r Bil i sicrhau bod yr adolygiad yn digwydd. Ac felly, er fy mod i'n ddiolchgar i Suzy Davies am godi'r mater fel y mae hi wedi ei wneud, ac eto yma heddiw, a rhoi cyfle i mi nodi ymrwymiad clir y Llywodraeth i adolygiad canol tymor, rwy'n gobeithio ei bod yn deall pam na fyddaf yn cefnogi'r gwelliant ei hun.
Diolch. Suzy Davies i ymateb i'r ddadl.
Diolch, Dirprwy Lywydd, ac a gaf i ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol? Roeddwn i'n credu bod ei lythyr at y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn ddefnyddiol iawn mewn gwirionedd. Mae bob amser yn galonogol cael ymrwymiadau gweinidogol i unrhyw weithgaredd a hyrwyddir yn y fan yma gan Aelodau'r Cynulliad eu hunain, ond, unwaith eto, mae'n rhaid i mi ofyn, fel y byddwn bob amser yn ei wneud o dan yr amgylchiadau hyn, os ydych chi mor barod i ymrwymo, pam nad ymrwymo i'r ddyletswydd i wneud hyn.
Yr unig reswm yr oeddwn i'n gofyn am hyn, mewn gwirionedd, oedd oherwydd pan fydd rhywbeth ar wyneb y Bil, mae'n peri'r posibilrwydd y bydd rheoliadau o dan yr is-ddeddfwriaeth yn cael eu codi ar sail hynny, a phan fydd hynny'n digwydd, mae'n gyfle arall i Aelodau'r Cynulliad graffu ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn gobeithio ei wneud. Felly, er fy mod i, wrth gwrs, yn croesawu'r ymrwymiad yr ydych chi wedi ei roi, rwy'n credu y gallwn i fod wedi rhoi ychydig bach mwy o bwysau ar ennill eich ffafr a gofyn i chi dderbyn hyn. Diolch.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 1. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, symudwn ymlaen at bleidlais electronig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid gwelliant 24, neb yn ymatal, 27 yn erbyn. Felly, gwrthodwyd gwelliant 1.
Gwelliant 1: O blaid: 24, Yn erbyn: 27, Ymatal: 0
Gwrthodwyd y gwelliant
Suzy Davies, gwelliant 14.
Cynigiwyd gwelliant 14 (Suzy Davies).
Ie os gwelwch yn dda.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 14. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir gwelliant 14 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Symudwn ymlaen i grŵp 3. Mae'r grŵp nesaf hwn o welliannau yn ymwneud ag effeithiau'r darpariaethau yn Rhan 2 o'r Bil. Y prif welliant yn y grŵp hwn yw gwelliant 3. Galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol i gynnig a siarad am y prif welliant a'r gwelliannau eraill yn y grŵp. Cwnsler Cyffredinol.
Cynigiwyd gwelliant 3 (Jeremy Miles).
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'r gwelliannau yn y grŵp hwn yn gwneud gwelliannau drafftio technegol i'r hyn yr ydym wedi'i alw'n 'ddarpariaethau bwriad i'r gwrthwyneb' yn Rhan 2 o'r Bil. Dyna'r darpariaethau sy'n sicrhau ei bod yn bosibl i ddarnau unigol o ddeddfwriaeth wyro oddi wrth y rheolau dehongli cyffredinol yn Rhan 2 lle bo'n briodol. Maen nhw'n adlewyrchu'r ffaith mai bwriad Rhan 2 yw darparu set o ddarpariaethau dehongli diofyn, ond nid i gyfyngu ar ein deddfwriaeth.
Fel y dywedais yn ystod trafodion Cyfnod 2 gerbron y Pwyllgor, rydym bob amser yn chwilio am ffyrdd i wella'r ffordd y caiff Biliau eu drafftio, hyd yn oed ar ôl iddyn nhw gael eu cyflwyno yn y Cynulliad. Mae'r gwelliannau hyn yn deillio o'r broses honno a byddant yn golygu bod y Bil yn ymdrin â mater bwriad i'r gwrthwyneb yn syml ac yn gyson. Nid ydynt yn newid effaith gyfreithiol y Bil.
Mae'r gwelliannau yn effeithio ar adrannau 10, 27 a 32 o'r Bil. Mae pob un o'r adrannau hynny yn nodi Rheol ddehongli ddiofyn, ond mae'n dweud y gellir diystyru'r rheol drwy ddarparu darpariaeth benodol i'r gwrthwyneb. Effaith gyfunol y gwelliannau yn y grŵp hwn yw disodli'r darpariaethau bwriad i'r gwrthwyneb ar wahân yn adrannau 10, 27 a 32 ag un ddarpariaeth gyffredinol yn adran 4.
Mae'r gwelliannau hefyd yn golygu bod y Bil yn ymdrin â'r mater o fwriad i'r gwrthwyneb yn fwy cyson. Mae adrannau 10, 27 a 32 yn ymdrin â'r mater mewn ffordd ychydig yn wahanol ar hyn o bryd, gan adlewyrchu'r gwahaniaethau yn y darpariaethau presennol y maent yn seiliedig arnynt. Ond, ar ôl ystyried y rhain ymhellach, nid ydym yn credu bod angen cynnal y gwahaniaethau.
Yn benodol, mae adrannau 27 a 32 ond yn sôn am y posibilrwydd y gallai darpariaeth ddatganedig i'r gwrthwyneb gael ei chanfod yn y Ddeddf Cynulliad benodol neu'r is-offeryn sy'n cael ei ddehongli. Fodd bynnag, mae'n bosibl y gall fod darpariaeth benodol i'r gwrthwyneb mewn darn arall o ddeddfwriaeth, fel y Ddeddf y mae is-offeryn Cymreig yn cael ei wneud oddi tani. Mae eisoes yn wir y byddai unrhyw derfynau a bennir gan y rhiant-ddeddf yn cael blaenoriaeth dros y rheolau diofyn yn Rhan 2 o'r Bil, ond mae'r gwelliannau yn sicrhau na ellir darllen adrannau 27 a 32 fel pe baent yn awgrymu fel arall.
Dylai'r gwelliannau hefyd leihau'r posibilrwydd o unrhyw gamddealltwriaeth ynghylch a fyddai adrannau 27 ac 32 yn cael eu gweld yn effeithio ar allu Senedd y DU i ddeddfu ar gyfer Cymru. Bydd yr Aelodau'n gwybod bod y cyfreithiwr cyffredinol ar y pryd wedi ysgrifennu ataf yn ystod Cyfnod 2, yn gwrthwynebu'r ffaith bod Rhan 2 o'r Bil yn gymwys i is-ddeddfwriaeth a wneir yng Nghymru gan ddefnyddio'r pwerau a roddwyd gan Ddeddfau Senedd y DU. Nid oes unrhyw beth yn llythyr y Cyfreithiwr Cyffredinol wedi newid fy marn bod y Bil o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Cynulliad, a byddaf yn ymateb yn fanwl yn fuan iawn. Ond mae'r llythyr yn awgrymu efallai fod Llywodraeth y DU wedi ffurfio camargraff fod Rhan 2 yn effeithio ar ddeddfau a basiwyd yn San Steffan. I fod yn glir, nid yw'n gwneud hynny. Rwy'n gobeithio y bydd y gwelliannau hyn yn helpu i osgoi unrhyw gamddealltwriaeth.
Fel y dywedais, bwriad y gwelliannau hyn yw gwella symlrwydd, cywirdeb a chysondeb darpariaethau penodol yn Rhan 2 o'r Bil. Felly, maent yn adlewyrchu nodau cyffredinol y Bil i wella eglurder a hygyrchedd yng nghyfraith Cymru, ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau yn eu cefnogi.
Diolch. Nid oes gennyf siaradwyr, felly y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 3. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cwnsler Cyffredinol, gwelliant 4.
Cynigiwyd gwelliant 4 (Jeremy Miles).
Yn ffurfiol.
Wedi'i gynnig yn ffurfiol. Diolch. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 4. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbynnir gwelliant 4 yn unol â'r Rheolau Sefydlog.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Mae'r grŵp olaf o welliannau'n ymwneud â chyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE. Y prif welliant yn y grŵp hwn yw gwelliant 5, a galwaf ar y Cwnsler Cyffredinol i gynnig ac i siarad am y prif welliannau a gwelliannau eraill yn y grŵp hwn. Cwnsler Cyffredinol.
Cynigiwyd gwelliant 5 (Jeremy Miles).
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Mae'r gwelliannau yn y grŵp hwn yn ymwneud ag ymadael â'r UE, ond nid ydynt mor ddadleuol ag y mae'r pwnc yn ei awgrymu. A dweud y gwir, maent i gyd yn dechnegol iawn.
Bwriedir i welliannau 5 a 6 sicrhau bod Rhan 2 o'r Bil yn adlewyrchu'n llawn y newidiadau cyfreithiol y mae Senedd y DU eisoes wedi'u gwneud mewn cysylltiad â gadael yr UE. A bwriad gwelliannau 7, 10, 11 a 12 yw darparu, yn syml er budd trefn dda, ar gyfer y posibilrwydd y gall Rhan 2 o'r Bil ddod i rym bellach cyn ymadael o gofio'r ansicrwydd parhaus ynghylch ein dyddiad ymadael.
O dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018, bydd deddfwriaeth sy'n uniongyrchol berthnasol i'r UE, megis rheoliadau a phenderfyniadau, yn cael ei chadw yng nghyfraith ddomestig y DU ar y diwrnod ymadael. Gall deddfwriaeth ddomestig arall ddiwygio'r gyfraith Ewropeaidd honno fel y mae'n gymwys o'r diwrnod ymadael, ac yn ystod y misoedd diwethaf mae Aelodau wedi gweld sawl cyfres o reoliadau a fydd yn gwneud yr union beth hwnnw. Y canlyniad yw, o'r diwrnod ymadael, bydd dwy fersiwn o ddeddfwriaeth uniongyrchol Ewropeaidd: y fersiwn sydd wedi'i hymgorffori mewn cyfraith ddomestig yn y DU, a'r fersiwn Ewropeaidd sy'n parhau i fod yn gymwys yn aelod-wladwriaethau'r UE.
Mae gwelliant 5 yn mewnosod adran newydd yn y Bil sy'n egluro, ar ôl ymadael â'r UE, y bydd unrhyw gyfeiriad at ddarn o ddeddfwriaeth yr UE sy'n uniongyrchol gymwys yn gyfeiriad at y fersiwn a gedwir mewn cyfraith ddomestig, nid y fersiwn sy'n gymwys yn yr UE. Dyna'r hyn y byddem yn ei ddisgwyl beth bynnag, ond bwriad yr adran newydd yw osgoi dadleuon, yn union fel llawer o'r adrannau presennol yn Rhan 2 o'r Bil. Mae hefyd yn adlewyrchu newidiadau tebyg a wnaed i'r Deddfau dehongli sy'n berthnasol i rannau eraill o'r DU.
Mae gwelliant 6 yn ymwneud â gwelliant 5 ac yn mewnosod darpariaeth i egluro'r berthynas rhwng yr adran newydd ac adrannau 22 i 24 o'r Bil sy'n bodoli eisoes, sy'n ymdrin â chyfeiriadau at ddeddfwriaeth ddomestig.
Mae'r gwelliannau eraill yn y grŵp hwn yn ymdrin â'r ffaith y bydd ystyr rhai cyfeiriadau eraill at ddeddfwriaeth yr UE yn newid ar ddiwedd y dydd, o ganlyniad i Ddeddf yr UE (Ymadael) a'r rheoliadau a wnaed oddi tani.
Pan gafodd y Bil hwn ei gyflwyno, cafodd ei ddrafftio ar y dybiaeth y byddai'r DU wedi gadael yr Undeb Ewropeaidd cyn i'r Bil ddod yn Ddeddf, oherwydd, bryd hynny, roedd disgwyl i'r diwrnod ymadael fod ar 29 Mawrth. Wrth gwrs, mae'r diwrnod ymadael wedi'i ohirio ers hynny fwy nag unwaith, a bydd ar ôl yr adeg pan fyddwn yn disgwyl i'r Bil gael Cydsyniad Brenhinol. Ac os byddai unrhyw oedi pellach, efallai na fyddai'r diwrnod ymadael yn digwydd tan ar ôl i Ran 2 ddod i rym yn llawn. Nid ydym yn credu y gellir diystyru'r posibilrwydd hwnnw, felly rydym ni'n credu y dylai Rhan 2 ddarparu o leiaf ar gyfer y sefyllfa cyn y diwrnod ymadael yn ogystal ag ar ei ôl.
Mae gwelliant 7 yn mewnosod is-adran newydd yn adran 25 o'r Bil, sy'n ymwneud â chyfeiriadau at offerynnau'r UE. Os bydd adran 25 yn dod i rym cyn y diwrnod ymadael, bydd ei heffaith yn cael ei newid gan reoliadau sydd wedi'u gwneud o dan Ddeddf yr UE (Ymadael), felly mae'r gwelliant yn mewnosod arwyddbost i dynnu sylw darllenwyr at ddarpariaethau perthnasol y rheoliadau hynny.
Mae gwelliannau 10, 11 a 12 yn gwella'r diffiniadau yn Atodlen 1 i'r Bil sy'n ymwneud â deddfwriaeth Ewropeaidd. Bydd y gwelliannau yn ei gwneud yn glir y bydd y diffiniadau'n newid ar ôl y diwrnod ymadael. Bydd y newidiadau sy'n dod i rym ar y diwrnod ymadael yn adlewyrchu newidiadau sydd hefyd wedi'u gwneud i'r Deddfau dehongli sy'n berthnasol i weddill y DU.
Ni fwriedir i'r gwelliannau hyn gyflawni canlyniad gwahanol i'r hyn a nodir yn y Bil ar hyn o bryd, ond bwriedir iddynt sicrhau bod y Bil yn adlewyrchu'r ystod lawn o senarios posibl o ran amseriad ymadael â'r UE. Maent yn gwneud rhai o ddarpariaethau'r Bil ychydig yn fwy cymhleth, ond, yn anffodus, mae hynny'n adlewyrchu'r newidiadau cyfreithiol a ddaw yn sgil ymadael â'r UE. Credwn mai gwneud y gwelliannau hyn yw'r ffordd fwyaf diogel o symud ymlaen, felly anogaf yr Aelodau i gefnogi'r gwelliannau.
A, gan fy mod ar fy nhraed, hoffwn, os caf, gyda'ch caniatâd, Dirprwy Lywydd, ddiolch i'r Aelodau am eu gwaith yma heddiw a'r ystyriaeth ofalus a manwl a roddwyd i'r gwelliannau a gyflwynwyd a gwaith y ddau bwyllgor ar y Bil hwn.
Diolch. Suzy Davies. Na? Iawn. Diolch.
Gan nad oes siaradwyr ac felly nad oes angen ymateb i'r ddadl, y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 5. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbyniwyd gwelliant 5.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cwnsler Cyffredinol, gwelliant 6.
Cynigiwyd gwelliant 6 (Jeremy Miles).
Yn ffurfiol.
Yn ffurfiol. Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 6. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbyniwyd gwelliant 6.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cwnsler Cyffredinol, gwelliant 7.
Cynigiwyd gwelliant 7 (Jeremy Miles).
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 7. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbyniwyd gwelliant 7.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cwnsler Cyffredinol, gwelliant 8.
Cynigiwyd gwelliant 8 (Jeremy Miles).
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 8. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbyniwyd gwelliant 8.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cwnsler Cyffredinol, gwelliant 9.
Cynigiwyd gwelliant 9 (Jeremy Miles).
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 9. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbyniwyd gwelliant 9.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cwnsler Cyffredinol, gwelliant 10.
Cynigiwyd gwelliant 10 (Jeremy Miles).
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 10. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbyniwyd gwelliant 10.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cwnsler Cyffredinol, gwelliant 11.
Cynigiwyd gwelliant 11 (Jeremy Miles).
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 11. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbyniwyd gwelliant 11.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Cwnsler Cyffredinol, gwelliant 12.
Cynigiwyd gwelliant 12 (Jeremy Miles).
Yn ffurfiol.
Y cwestiwn yw a ddylid derbyn gwelliant 12. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Na. Felly, derbyniwyd gwelliant 12.
Derbyniwyd y gwelliant yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
Rydym wedi dod i ddiwedd ein hystyriaeth Cyfnod 3 o Fil Deddfwriaeth (Cymru). Rwy'n datgan y bernir bod pob adran ac atodlen o'r Bil wedi'u derbyn. Daw hynny â thrafodion Cyfnod 3 i ben, ac mae hefyd yn dod â thrafodion heddiw i ben. Diolch.
Barnwyd y cytunwyd ar bob adran o’r Bil.
Daeth y cyfarfod i ben am 18:16.