Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd
Plenary - Fifth Senedd
22/05/2019Cynnwys
Contents
Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair.
Galw'r Aelodau i drefn.
Hoffwn hysbysu'r Cynulliad, yn unol â Rheol Sefydlog 26.75, fod y Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) wedi cael Cydsyniad Brehinol heddiw, a hwnnw, wrth gwrs, y Bil cyntaf i'w gyflwyno gan un o bwyllgorau'r Cynulliad yma sydd wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol.
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni wedyn yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Michelle Brown.
1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gydag awdurdodau lleol ynghylch sut y gellir defnyddio'r broses o gasglu ardrethi busnes a'r broses o ddyfarnu rhyddhad ardrethi busnes yn ôl disgresiwn er mwyn gwella'r stryd fawr yng Nghymru? OAQ53915

Rydym wedi gweithio'n agos gydag awdurdodau lleol i wella’r gwaith o weinyddu ardrethi annomestig a rhyddhad ardrethi a byddwn yn parhau i wneud hynny. Trafododd y Gweinidog llywodraeth leol a minnau hyn gydag arweinwyr llywodraeth leol yn yr is-grŵp cyllid y bore yma.
Diolch am eich ymateb, Weinidog. Defnyddir rhyddhad ardrethi mewn ffyrdd dychmygus iawn i wneud canol trefi yn lleoedd gwell i fod. Er enghraifft, yn Sir y Fflint, maent wedi cynnig gostyngiad mewn ardrethi i fusnesau sy'n caniatáu mynediad cyhoeddus i'w toiledau. Ffordd arall y gellid defnyddio rhyddhad ardrethi a'r system ardrethi busnes yw i gymell twf busnesau sy’n creu swyddi dros y rheini nad ydynt yn gwneud hynny, er enghraifft, drwy roi cyfnod heb ardrethi i fusnesau newydd, neu drwy gynnig disgownt i fusnesau os ydynt yn creu swyddi. A ydych yn cytuno â mi y dylid diwygio'r system ardrethi busnes i dargedu'r system yn strategol er mwyn hybu buddsoddiad busnes a chreu swyddi newydd?
Diolch am godi mater pwysig ardrethi annomestig y prynhawn yma. At ei gilydd, mae £210 miliwn o ryddhad yn cael ei ddarparu yn 2019-20 i gefnogi busnesau ledled Cymru gyda'u biliau, ac mae'r rhyddhad hwn ar gael i'r holl dalwyr ardrethi sy’n gymwys, gan gynnwys y rheini ar y stryd fawr sy'n bodloni'r meini prawf. Ond fel y dywedwch, rydym wedi darparu £23.6 miliwn yn ychwanegol o gymorth i wella ein cynllun rhyddhad ardrethi’r stryd fawr, ac mae hwnnw wedi'i ymestyn yn awr am flwyddyn arall hyd at 2019-20. Ond credaf mai un o'r pethau pwysicaf rydym wedi’u cyflwyno yw'r £2.4 miliwn ychwanegol i awdurdodau lleol fel y gallant gynnig rhyddhad ardrethi yn ôl disgresiwn i fusnesau a phobl eraill sy'n talu ardrethi. Ond credaf ei bod yn bwysig fod hynny’n parhau i fod ar sail disgresiwn yn yr ystyr ehangach gan mai awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i ddeall ble mae'r pwysau lleol a ble mae'r cyfleoedd lleol i wneud gwahaniaeth. Rydych wedi rhoi enghraifft eisoes am y ffordd y mae Sir y Fflint yn defnyddio eu hardrethi i geisio darparu mwy o fynediad i doiledau cyhoeddus yng nghanol y dref. Felly, holl bwynt ei wneud ar sail disgresiwn yw er mwyn i awdurdodau lleol allu bod yn hyblyg ac ymateb i anghenion lleol.
Weinidog, mae gwahaniaeth rhwng edrych ar rywbeth fel rhyddhad ardrethi yn ôl disgresiwn, a rhywbeth y dylid ei guddio rhag y cyhoedd mewn gwirionedd. Yn fy rhanbarth i, ymddengys bod rhywfaint o ddryswch ynghylch sut y caiff hyn ei ddyfarnu, gyda dau o'r cynghorau yn fy rhanbarth, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn mynd ati'n rhagweithiol i chwilio am fusnesau a allai elwa o hyn, gan eu cynghori ac yna gweinyddu'r arian lliniaru mewn ffordd eithaf syml. Serch hynny, ymddengys nad yw un arall yn dweud wrth lawer iawn o bobl am hyn—yn bendant, ceir diwylliant lle mae busnesau’n gorfod mynd ati'n rhagweithiol i ganfod a yw hyn ar gael iddynt ai peidio, ac o ganlyniad, mewn un cyngor penodol, traean yn unig o'r rhai sy'n gymwys i gael y rhyddhad hwn sy'n ei gael.
Felly, tybed a oes gennych unrhyw syniad pam nad yw Pen-y-bont ar Ogwr, yn ôl pob golwg, yn dilyn yr hyn a glywaf sy’n arfer da yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Bro Morgannwg a Chaerdydd, i sicrhau bod pobl ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cael y manteision yn y ffordd roeddech yn bwriadu iddynt eu cael. Ac os nad oes gennych unrhyw syniad pam eu bod yn gwneud hynny, a allwch egluro pam? Efallai y gallech fod yn trafod hynny yng nghyfarfodydd yr is-grŵp rydych yn eu cael.
Felly, fel y dywedaf, cyfarfu'r is-grŵp cyllid y bore yma, lle cefais gyfle i ddiolch i awdurdodau lleol am y gwaith y maent wedi'i wneud ar gyflwyno'r cynlluniau newydd. Fel y dywedwch, rydych wedi rhoi rhai enghreifftiau o ble y credwch fod gwaith da’n digwydd, ac mae Abertawe yn un o'r rheini. Yn sicr, byddaf yn codi'r mater gydag arweinydd cyngor Pen-y-bont ar Ogwr i ddeall beth yw'r sefyllfa yno, ac i weld a yw'n adlewyrchu'r canfyddiad nad yw'r rhyddhad ardrethi yn ôl disgresiwn yn cael ei hyrwyddo.
Weinidog, gyda’r gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr â'n cyrchfannau siopa yng Nghymru yn parhau i achosi cur pen i fanwerthwyr, a chyda lefelau siopau gwag ymhlith yr uchaf yn y DU, mae arnom angen gweithredu ar frys. Gallaf weld eich bod yn dilyn Llywodraeth yr Alban ar nifer o bethau, ac mae ymgyrchwyr yn fy ardal wedi cysylltu â mi gydag enghraifft Llywodraeth yr Alban, sydd wedi cyflwyno cynnydd is na chwyddiant mewn ardrethi busnes. A yw Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod y diwydiant manwerthu yn wynebu cyfnod anodd a pha gymorth y byddwch yn ei ddarparu?
Bydd Llywodraeth Cymru bob amser yn gwneud penderfyniadau ar sail yr hyn sydd orau i bobl yng Nghymru ac i fusnesau yng Nghymru, ond mae gennym ymagwedd hael tuag at ryddhad ardrethi yng Nghymru. Mae ein gwerth ardrethol cyfartalog yn wahanol i'r un yn Lloegr a bydd yn wahanol i’r un yn yr Alban. Felly, mae'n bwysig ein bod yn gwneud y penderfyniadau ar sail y rhyddhad ardrethi sy'n iawn i Gymru ac sy'n adlewyrchu ein cyd-destun Cymreig.
Mae ein cynllun gwell eleni yn mynd yn llawer pellach nag yn y blynyddoedd blaenorol. Rydym yn darparu cefnogaeth i dros 15,000 o fusnesau manwerthu ledled y wlad. Caiff ei ariannu'n llawn gan Lywodraeth Cymru ac mae'n darparu cymorth o hyd at £2,500 tuag at filiau ardrethi annomestig ar gyfer eiddo manwerthu â gwerth ardrethol o hyd at £50,000. Mae'r cynllun yn lleihau biliau ardrethi i ddim ar gyfer eiddo manwerthu â gwerth manwerthol o hyd at £9,100. Felly, mae'n sicr yn gynnig hael, ond mae'n rhaid i ni gofio bod ardrethi annomestig, ynghyd â'r dreth gyngor, yn chwarae rhan bwysig iawn wrth ganiatáu i'n hawdurdodau lleol barhau i ddarparu'r math o wasanaethau y mae pob un ohonom yn dibynnu arnynt.
Weinidog, mae Llywodraeth Lafur Cymru wedi bod yn rhagweithiol ar fater rhyddhad ardrethi’r stryd fawr ac mae'n amlwg fod stryd fawr brysur a chynhyrchiol yn hanfodol bwysig i fy etholaeth, gan gynnwys trefi Coed-duon, Rhisga, Trecelyn, Crosskeys a llawer o rai eraill ledled Islwyn.
Yn wir, pan oedd yn Ysgrifennydd y Cabinet dros gyllid ym mis Rhagfyr y llynedd, cyhoeddodd y Prif Weinidog ddatganiad i gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru yn ymestyn cynllun rhyddhad ardrethi'r stryd fawr am flwyddyn arall ac yn ymestyn y rhyddhad sydd ar gael drwy'r cynllun i fusnesau, gyda £2.4 miliwn yn ychwanegol i'w ddyrannu i awdurdodau lleol i ddarparu rhagor o ryddhad ardrethi yn ôl disgresiwn i fusnesau lleol a phobl eraill sy'n talu ardrethi. Felly, onid yw hyn yn dystiolaeth bellach fod Llywodraeth Lafur Cymru ar ochr busnesau lleol?
Yn bendant, a diolch i Rhianon Passmore am ei chyfraniad. Wrth gwrs, mae ein gwaith ar ardrethi annomestig yn rhan o’r pecyn o ffyrdd rydym yn cefnogi ein gwaith o adfywio canol trefi a chefnogi’r stryd fawr yng Nghymru.
Wrth gwrs, mae gennym ein rhaglen targedu buddsoddiad mewn adfywio, ac rydym yn buddsoddi hyd at £100 miliwn o gyllid cyfalaf ynddi dros gyfnod o dair blynedd. Mae hynny'n cyd-fynd â'r gwaith a wnawn ar hyrwyddo ardaloedd gwella busnes. Felly, ym mis Hydref, yn fy mhortffolio blaenorol, cyhoeddais gyllid pellach o £262,000 er mwyn datblygu 10 ardal gwella busnes arall i ychwanegu at y 13 sydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth mewn canol trefi ledled Cymru.
2. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael am yr opsiynau sydd ar gael i ddatrys y broblem fod perchnogion ail gartrefi yn osgoi talu trethi? OAQ53910
Fel yr amlinellwyd yn ein cynllun gwaith polisi trethi, mae swyddogion yn gweithio gyda chydweithwyr awdurdodau lleol i adolygu'r defnydd o'u pwerau disgresiwn i weithredu premiymau’r dreth cyngor a sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn gweithredu fel y bwriadwyd.
Mi fyddwch chi'n ymwybodol bod naw o gynghorau Cymru wedi awgrymu datrysiad syml i'r broblem gynyddol o ail gartrefi yn cael eu heithrio rhag talu unrhyw fath o drethi o gwbl i'r pwrs cyhoeddus. Maen nhw'n dadlau fod gan Lywodraeth Cymru'r grym i addasu adran 66 Deddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988 drwy ddeddfwriaeth eilradd. Yn sylfaenol, mae angen cael gwared ar faen prawf presennol, sy'n cael ei nodi yn adran 66, sy'n ymwneud ag unedau hunanddarpar, gan ei ddisodli efo egwyddor fod pob eiddo sydd wedi ei ddefnyddio fel eiddo domestig yn aros yn eiddo domestig waeth beth ydy ei ddefnydd. Ydych chi'n cytuno bod angen addasu'r Ddeddf yma, ac a fydd eich Llywodraeth chi yn bwrw ymlaen yn ddiymdroi i wneud hynny?
Rwyf wedi cael yr union sgwrs hon gydag arweinwyr awdurdodau lleol yn ein his-grŵp cyllid y bore yma, lle buom yn trafod y mater penodol hwn o ran pryderon ynghylch unigolion sy'n penderfynu newid statws eu heiddo i symud eu hunain allan o'r dreth gyngor ac i mewn i ardrethi annomestig, lle gallent wedyn elwa, o bosibl, o’n cynlluniau rhyddhad ardrethi.
Felly, fel y gwyddoch, gan ein bod wedi cael rhai trafodaethau ynglŷn â hyn eisoes, a gwn y byddwch yn cyfarfod â fy swyddogion gyda Llyr Gruffydd ar 4 Mehefin i drafod y mater ymhellach, sefydlwyd gweithgor o ymarferwyr awdurdodau lleol er mwyn trafod mater premiymau a gostyngiadau’r dreth gyngor ac i ystyried y sefyllfa bresennol ledled Cymru. Cynhelir cyfarfod pellach ddechrau mis Mehefin, ac rwy’n fwy na pharod i gyfarfod â chi wedi’r cyfarfod hwnnw i drafod ei gasgliadau. Mae hwn yn fater rydym yn ymwybodol iawn ohono, ac rydym yn awyddus iawn i sicrhau bod y rheini sy'n gallu talu’r dreth cyngor ac a ddylai fod yn talu'r dreth gyngor yn sicr yn gwneud hynny oherwydd, fel rwyf wedi’i amlinellu, mae'n eithriadol o bwysig o ran gallu cefnogi ein hawdurdodau lleol i wneud yr holl waith rydym yn gofyn iddynt ei wneud. Ond rydym yn gwbl ymwybodol o'r mater hwn a chafwyd trafodaethau mor ddiweddar â'r bore yma.
Weinidog, mae'n gyfreithlon cael ail gartref. Fodd bynnag, nid yw ond yn deg eich bod yn gwneud cyfraniad i'r gymuned rydych ynddi, yn enwedig mewn cyfnod pan fo cyllid a thai yn brin. Mae angen i ni sicrhau hefyd nad ydym yn creu cymhellion gwrthnysig i bobl ailddynodi anheddau domestig. Felly, credaf ei bod yn bryd cael golwg gynhwysfawr ar hyn a gweld sut y gallwn gael polisi mwy cyson sy'n rhoi'r negeseuon cywir i bobl, os ydynt yn ddigon breintiedig i gael ail gartref, fod rhwymedigaethau ynghlwm wrth hynny.
Hoffwn roi sicrwydd i David Melding fod hyn yn rhywbeth rydym yn edrych yn fanwl iawn arno. Wrth gwrs, Cymru yw'r unig ran o'r DU sydd wedi cyflwyno rheolau i ganiatáu i awdurdodau lleol godi'r premiymau hynny ar ail gartrefi. Rydym yn casglu data ar hyn o bryd i archwilio i ba raddau y mae awdurdodau lleol wedi codi premiymau neu weithredu disgowntiau, gan y gallant wneud hynny hefyd mewn perthynas ag ail gartrefi. Wrth gwrs, cafodd y pwerau disgresiwn hynny eu cyflwyno er mwyn helpu awdurdodau lleol i ddod ag eiddo nad oes digon o ddefnydd arno yn ôl i ddefnydd a mynd i'r afael â materion cyflenwad tai. Nid oeddent o reidrwydd yn bŵer codi refeniw, ond serch hynny, croesewir unrhyw refeniw a godir gan awdurdodau lleol, yn amlwg.

Mae gan CThEM set glir o reolau i sicrhau nad yw cartrefi gwyliau ond yn elwa o'u triniaeth fwy ffafriol o ran trethi pan gânt eu defnyddio o ddifrif fel busnesau, a dywed eu rheolau, sydd wedi'u profi, fod yn rhaid i'r cartref fod ar gael i'w osod am 210 diwrnod y flwyddyn ac wedi'i osod am o leiaf 105 diwrnod. A fyddai o unrhyw werth pe bai swyddogion o leiaf yn ystyried a ellid defnyddio'r diffiniad hwnnw i leihau'r osgoi trethi sy'n amlwg wedi bod yn digwydd yn y maes hwn?
Yng Nghymru, er mwyn bod yn llety hunanddarpar cymwys, mae'n rhaid i annedd fod ar gael i'w gosod am o leiaf 140 diwrnod mewn cyfnod o 12 mis, ac mae'n rhaid ei gosod am 70 diwrnod, a nodwyd y diffiniad hwnnw yng Ngorchymyn Ardrethu Annomestig (Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2010. Credaf ei bod yn bryd adolygu'r ffigurau hynny, ac yn sicr, buaswn yn edrych ar y gwaith y mae CThEM yn ei wneud yn y maes hwn yn ogystal â model posibl, ond mae hyn oll yn rhan o'r trafodaethau a gawn ynglŷn â rhyddhad ardrethi, yn enwedig mewn perthynas ag ail gartrefi, cartrefi gwyliau ac ati.
Wel, hoffwn ychwanegu trydydd awgrym, heb anghytuno â'r ddau gyntaf. Y broblem yw bod gennym gynllun rhyddhad ardrethi cyffredinol, ac ni chredaf y dylai tai fod yn rhan o gynllun rhyddhad ardrethi cyffredinol. Felly, pam na all Llywodraeth Cymru eithrio tai rhag rhyddhad ardrethi a gwrthod derbyn tai fel busnesau, ac eithrio mewn pentrefi gwyliau dynodedig, fel y byddai'n rhaid iddynt dalu'r dreth gyngor ar yr adeiladau hynny? Mae'r ffaith bod pobl yn ailddynodi eu hail gartrefi yn gartrefi gwyliau heb dalu unrhyw dreth gyngor yn rhywbeth sy'n cythruddo'r mwyafrif helaeth o bobl yn yr ystafell hon heddiw.
Rydym wedi bod yn ceisio casglu tystiolaeth fod eiddo wedi'u trosglwyddo o restr y dreth gyngor i restrau ardrethi annomestig a bod hynny wedi digwydd yn amhriodol. Hyd yma, nid ydym wedi cael unrhyw dystiolaeth o hynny, ond deallwn, yn sicr yn anecdotaidd, ei fod yn rhywbeth y mae pobl yn credu ei fod yn digwydd, ac rydym wedi gofyn i awdurdodau lleol eto mor ddiweddar â'r bore yma i roi'r dystiolaeth i ni. Cafwyd rhai ymrwymiadau yn y cyfarfod hwnnw i ddarparu tystiolaeth o'r fath. O ran dynodi pentrefi gwyliau, gallai hynny ychwanegu lefel o gymhlethdod i'r mater, ac yn sicr, credaf ei fod yn rhywbeth y byddai'n rhaid i ni ei ystyried yn iawn o ran yr hyn y gallai hynny ei olygu i dwristiaeth ac unrhyw effaith y gallai ei chael ar y farchnad wyliau.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Paul Davies.

Diolch, Lywydd. Weinidog, a allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am adnoddau a chynllun gwaith uned Dirnad Economi Cymru sydd bellach yn rhan o Fanc Datblygu Cymru, a fydd, wrth gwrs, yn chwarae rhan mewn unrhyw gynigion treth yn y dyfodol?
Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn. Yn anffodus, mae Banc Datblygu Cymru yn rhan o bortffolio Gweinidog yr economi, felly ni allaf roi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi heddiw, ond byddaf yn bendant yn sicrhau ei bod ar gael cyn gynted â phosibl.
Wel, Weinidog, mae'n sicr y bydd gan uned Dirnad Economi Cymru rôl i'w chwarae mewn unrhyw gynigion treth yn y dyfodol, ac felly mae'r uned hon yn bwysig i'ch portffolio chi hefyd. Mae angen gwybodaeth economaidd effeithiol er mwyn rhoi sylfaen briodol i wneuthurwyr polisi cyhoeddus er mwyn sicrhau bod mesurau polisi a weithredir gan y Llywodraeth wedi'u targedu, yn effeithiol a bod pobl yn eu deall. Yn ddelfrydol, dylid cwblhau'r gweithgarwch hwn o dan un to, a chan gorff arbenigol. Mae Cymru wedi bod yn brin o'r gallu hwn ers blynyddoedd lawer ac mae'n dal i fod braidd yn anffodus ei bod wedi cymryd cymaint o amser i roi'r capasiti hwn ar waith o'r diwedd. Fodd bynnag, bydd uned newydd Dirnad Economi Cymru ym Manc Datblygu Cymru yn cwblhau gwaith pwysig yn awr ar ddadansoddi economi Cymru. Gan fod uned Dirnad Economi Cymru mor hanfodol ar gyfer polisi treth, ac felly ar gyfer eich briff yn ei gyfanrwydd, Weinidog, a gaf fi ofyn i chi eto felly beth yw cynllun gwaith yr uned hon yn y dyfodol, a sut rydych yn rhagweld y bydd yr uned newydd hon yn effeithio ar eich cynigion eich hun ar gyfer trethi yng Nghymru yn y dyfodol?
Wel, rwyf wedi cael rhai trafodaethau ynglŷn ag effaith gwaith yr uned ar edrych ymlaen a nodi busnesau sy'n wynebu risg bosibl, felly mae hyn yn rhywbeth y mae'n ei fonitro'n rheolaidd o ran cynghori Llywodraeth Cymru ar y mathau o fuddsoddiadau y mae'n awyddus i'w gwneud. Cefais y trafodaethau hynny yng nghyd-destun caffael, sy'n golygu sicrhau, pan fo Llywodraeth Cymru yn caffael, ei bod yn gwneud hynny gyda gwybodaeth dda am gynaliadwyedd, mae'n debyg, y busnesau y mae'n ymgysylltu â hwy.
Weinidog, yr hyn sy'n hanfodol, wrth gwrs, yw bod Cymru'n defnyddio'r pwerau treth newydd sydd ar gael iddi i hybu economi Cymru, a chredaf fod datganoli pwerau treth incwm, er enghraifft, yn gyfle newydd cyffrous i gefnogi a thyfu economi Cymru. Felly, pa waith ymchwil neu fodelu y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud i asesu effaith y newidiadau i gyfraddau treth incwm yma yng Nghymru ar refeniw treth, ac yn wir, ar berfformiad economi Cymru yn ei chyfanrwydd. Ac efallai, yn y dyfodol, y bydd hyn yn rhywbeth y gallai uned Dirnad Economi Cymru fod yn rhan ohono hefyd.
Diolch am godi hynny. Mae Llywodraeth Cymru wedi gwneud gwaith sylweddol, ar y cyd â'r prif economegydd a Chanolfan Polisi Cyhoeddus Cymru, ar fapio ein sylfaen drethu bresennol ac yna edrych ar sut y gallai ein sylfaen drethu yng Nghymru fod yn y dyfodol pe baem yn cyflawni gwahanol ymyriadau. Mae gwahanol ddewisiadau y gallwn eu gwneud o ran cyfraddau treth incwm Cymru, ond hefyd o ran tyfu ein sylfaen drethu, mae angen i ni edrych ar sut y defnyddiwn y dulliau sydd ar gael inni yn yr adran dai, er enghraifft, ym maes addysg, a sut i ddenu'r math cywir o bobl i Gymru a fydd yn gallu gwneud cyfraniad da a chryf i'n heconomi drwy dyfu ein sylfaen drethu yma.
Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
Diolch, Llywydd. Mi wnaeth Deddf yr Alban 2016 baratoi'r ffordd at ddatganoli'r cyfrifoldeb dros 11 o fudd-daliadau i Lywodraeth yr Alban. Mae asiantaeth lles newydd wedi cael ei sefydlu yn yr Alban erbyn hyn. Mi wnaeth adroddiad diweddar gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru adrodd y gallai datganoli elfennau o'r wladwriaeth les i Gymru ar yr un model â hynny rhoi hwb o ryw £200 miliwn i'r pwrs cyhoeddus yng Nghymru. Mae o'n swm sylweddol iawn. Ydy'r Gweinidog yn cytuno efo'r dadansoddiad hwnnw gan y ganolfan llywodraethiant, ac os ydy hi, onid ydy hi felly yn flaenoriaeth i fwrw ymlaen i chwilio am y pwerau yma ar fyrder?
Wel, fel y nododd y Prif Weinidog yn ei lythyr at Leanne Wood yn gynharach y mis hwn, roedd yn awyddus i sicrhau y caiff yr adroddiad gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru ei ystyried fel rhan o'r gwaith rydym eisoes wedi'i amlinellu yn y Cyfarfod Llawn ar 5 Chwefror, mewn perthynas â'r broses o ystyried yr achos dros ddatganoli'r gwaith o weinyddu rhannau o'r system les. Wrth gwrs, mae'r Prif Weinidog wedi cytuno y bydd asesiad o'r achos dros newid gan Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru yn garreg filltir gynnar yn y broses hon, a byddant yn gwneud hynny fel rhan o'u rhaglen waith ar gyfer 2019-20. Ac mae wedi gofyn i Ganolfan Polisi Cyhoeddus Cymru gyfarfod â Leanne Wood yn ei rôl fel llefarydd, a deallaf fod y cyfarfod hwnnw wedi'i drefnu ar gyfer y mis nesaf.
Ac yn sicr ar ôl blynyddoedd o fy mhlaid yn ymgyrchu dros ddatganoli'r gwaith o weinyddu lles, roeddwn yn falch o glywed synau cadarnhaol gan y Llywodraeth, ac rwy'n falch ein bod ar bwynt lle mae hyn yn cael ei ystyried. Ond y gwir yw bod hwn yn ddewis amlwg, yn enwedig pan fo adroddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru wedi dweud yn glir fod elfennau o les y gallwch eu rhagweld yn ddiogel, na fydd amrywiad, neu ormod o amrywiad, yn y blynyddoedd i ddod, lle gallwn ddweud yn hyderus iawn nad oes risg wirioneddol i bwrs y wlad yng Nghymru. Felly, unwaith eto, efallai fod Llywodraeth Cymru wedi penderfynu aros am adroddiad gan bwyllgor yn y Cynulliad hwn, ond wrth gwrs, rydym wedi cael dau adroddiad pwyllgor eisoes sydd wedi awgrymu y dylem symud yn ein blaenau tuag at ddatganoli lles. Pam nad yw'r Llywodraeth wedi gallu hyd yn oed ystyried hyd at y pwynt hwn, a pham y dylem gredu eich bod yn barod yn awr, pan nad ydych wedi bod yn barod yn y gorffennol, i gymryd y cam hynod synhwyrol hwn y dengys y dystiolaeth yn gwbl glir bellach fod modd i ni ei wneud er mwyn diogelu'r rhai mwyaf agored i niwed yng Nghymru?
Yn amlwg, byddem yn awyddus i fabwysiadu ymagwedd sy'n seiliedig ar dystiolaeth tuag at y mater hwn, felly po fwyaf y bydd y sylfaen dystiolaeth yn tyfu, y mwyaf y bydd yn ein helpu i benderfynu ar y ffordd ymlaen. Ond credaf ei bod yn deg dweud, fel y casgla'r papur y cyfeiriwch ato, fod yr ansicrwydd parhaus ar y cam cymharol gynnar hwn o'r broses o ystyried y budd y gallai datganoli budd-daliadau ei ddarparu yn golygu y bydd y syniad yn cael ei drin gyda phryder y gellir ei gyfiawnhau. Credaf ei bod yn rhesymol trin y mater hwn yn ofalus ac yn wybodus, gan y ceir risgiau mawr o bosibl i Lywodraeth Cymru o fabwysiadu cyfrifoldeb am wahanol fudd-daliadau.
Pryder a gofal, ie, ond rydym yn gweld tystiolaeth sy'n gwbl glir bellach y gallai gwneud hyn arwain at warged o £200 miliwn i bwrs Cymru, ac mae hwnnw'n £200 miliwn y gellir ei ddefnyddio i liniaru effeithiau gwaethaf cyni, sydd wedi ei orfodi gan y Ceidwadwyr a'r Democratiaid Rhyddfrydol cyn hynny yn San Steffan. Mae hwn yn gyfle nad yw Llywodraeth Cymru wedi manteisio arno hyd yma. Nawr, gyda'r dystiolaeth sydd gennym o'n blaenau, ac wrth i ni ddathlu 20 mlynedd o ddatganoli, onid yw'n bryd dweud bellach y byddwn mewn sefyllfa am yr 20 mlynedd nesaf, drwy ymgymryd â'r cyfrifoldebau hyn yn hyderus, i allu lliniaru a helpu'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau yng Nghymru, fel y gwnânt yn yr Alban?
Wrth gwrs, nid yw hwn yn fater y gellir ei ddatrys yn gyflym iawn fel y credaf fod yr Aelod yn awgrymu, oherwydd wrth gwrs, mae'r adroddiad y cyfeirioch chi ato yn y cwestiwn cyntaf yn cyfeirio at yr hyn a elwir yn 'S-benefits', sef y set benodol o fudd-daliadau sydd wedi'u datganoli i'r Alban, ac mewn gwirionedd, megis dechrau eu taith i reoli ac integreiddio'r budd-daliadau hynny y mae Llywodraeth yr Alban. Felly, credaf fod yr awgrym fod hyn yn rhywbeth a allai ddigwydd dros nos bron â bod, yn afrealistig, ond mae'n rhywbeth y mae Llywodraeth Cymru o ddifrif yn ei gylch ac edrychwn ymlaen at weithio'n gadarnhaol, gobeithio, gyda Phlaid Cymru a phobl eraill â buddiant wrth inni ddatblygu ein syniadau ar yr agenda hon.
3. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch y cyllid cyfalaf a ddarperir i awdurdodau lleol? OAQ53924
Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a minnau'n cyfarfod yn rheolaidd i drafod ystod eang o faterion ariannol. Heddiw, cyfarfu'r Gweinidog a minnau â chynrychiolwyr llywodraeth leol yn yr is-grŵp cyllid, lle buom yn trafod amrywiaeth o faterion gan gynnwys ein buddsoddiad mewn tai cymdeithasol.
Weinidog, o ran mynd i'r afael â newid hinsawdd a hyrwyddo trafnidiaeth gynaliadwy, mae gan awdurdodau lleol rôl allweddol i'w chwarae, yn naturiol. O fewn y datganiad ar y gronfa trafnidiaeth leol yr wythnos diwethaf, dim ond ychydig o awdurdodau lleol a gafodd cyllid ar gyfer datblygu pwyntiau gwefru cyflym ar gyfer cerbydau trydan. Roeddwn i'n siomedig nad oedd unrhyw ddatblygiadau wedi'u henwi yng Nghastell-nedd Port Talbot, na chwaith ym Mhen-y-bont, yn fy rhanbarth i. A ydych chi'n cytuno bod angen i Lywodraeth Cymru wneud mwy, ar y cyd ag awdurdodau lleol, i ddatblygu rhwydwaith ledled Cymru? A sut ydych chi'n mynd i gyflawni hynny?
Mae ein cynlluniau ar gyfer y gyllideb, a gymeradwywyd gan y Cynulliad ym mis Ionawr, yn darparu ar gyfer mwy na £375 miliwn o fuddsoddiad cyfalaf mewn llywodraeth leol rhwng 2019-20 a 2020-21. Ac fel rhan o'n hadolygiad hanner ffordd o'r cynllun buddsoddi yn seilwaith Cymru, cytunwyd i roi £78 miliwn i'r gronfa trafnidiaeth lleol dros dair blynedd. Felly, credaf ei bod yn bwysig cydnabod lefel y cymorth a roddir i'r agenda drafnidiaeth drwy awdurdodau lleol.
Wrth gwrs, yn ein cytundeb cyllidebol, mae gennym ymrwymiad Plaid Cymru-Llafur i fuddsoddi £2 filiwn mewn pwyntiau gwefru trydan, ac mae'r gwaith hwnnw'n mynd rhagddo. Byddwch wedi clywed gan y Gweinidog trafnidiaeth ddoe yn y Cynulliad fod y £2 filiwn yn caniatáu inni ddenu hyd yn oed mwy o arian i fuddsoddi yn yr agenda hon. Ond yn amlwg, credaf fod cryn dipyn o fomentwm yn adeiladu bellach y tu ôl i gerbydau trydan a byddem yn awyddus i fanteisio ar hynny.
Nododd datganiad ysgrifenedig Llywodraeth Cymru ar y setliad llywodraeth leol terfynol ar gyfer 2019-20 gyllid cyfalaf ar gyfer llywodraeth leol yng Nghymru, yn cynnwys cyllid cyfalaf cyffredinol o £193 miliwn, gan ostwng i £183 miliwn yn y flwyddyn ganlynol, ond gan gynnwys £20 miliwn ar gyfer y grant adnewyddu priffyrdd cyhoeddus. Gŵyr pob un ohonom fod tywydd garw wedi effeithio ar dyllau yn y ffyrdd ledled Cymru, ac mae hynny, yn ôl pob tebyg, yn ystyriaeth wrth i Lywodraeth Cymru ddarparu'r cyllid hwn, ond pa asesiad gwirioneddol a wnaed gan Lywodraeth Cymru o'r lefel gyfan o angen i weithredu ar dyllau yn y ffyrdd ledled Cymru? A sut y bydd yn sicrhau bod yr arian sydd ar gael yn cael ei dargedu lle mae ei angen fwyaf?
Wel, yn ddiweddar, cefais drafodaethau gyda chyd-Aelodau ar draws y Llywodraeth ynglŷn â'r cydbwysedd rydym yn ei daro rhwng cynnal a chadw ffyrdd a seilwaith, ac yna'r buddsoddiad y gallem fod yn awyddus i'w wneud mewn seilwaith newydd, gan ei bod yn bwysig inni ofalu'n iawn am y seilwaith sydd gennym eisoes. O ran lefel y cyllid y gallai fod ei angen i fynd i'r afael â'r holl dyllau ffordd sydd gennym ledled Cymru ar hyn o bryd, buaswn yn sicr yn archwilio hynny gyda fy nghyd-Aelod sy'n gyfrifol am hynny—Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth.
4. Pa ystyriaeth y mae'r Gweinidog yn ei rhoi i ariannu tai parod wrth ddyrannu cyllideb Llywodraeth Cymru? OAQ53918
Mae dros £1.7 biliwn yn cael ei fuddsoddi yn nhymor y Cynulliad hwn tuag at ein targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy. Mae'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol yn cefnogi prosiectau tai modiwlar a thai parod drwy'r rhaglen dai arloesol dair blynedd o hyd a gwerth £90 miliwn, sydd ar hyn o bryd yn ei thrydedd blwyddyn ac ar y trywydd iawn i ddarparu 2,000 o gartrefi newydd.
Weinidog, efallai eich bod wedi gweld cyhoeddiad yr wythnos diwethaf y bydd cwmni adeiladu tai mwyaf Japan yn ymuno â marchnad dai’r DU ar unwaith ar ôl taro bargen gwerth miliynau o bunnoedd a fydd yn golygu y byddant yn gweithio gyda Homes England ac Urban Splash i ddarparu miloedd o gartrefi newydd ledled Lloegr. Mae'r cytundeb £90 miliwn yn cynnwys cyfanswm o £55 miliwn o fuddsoddiad newydd ym musnes datblygu tai’r cwmni adfywio Urban Splash. Ac mae'n rhoi hwb sylweddol i ddiwydiant tai modiwlar y DU a bydd yn helpu i gyflymu'r broses o gynhyrchu cartrefi newydd mawr eu hangen. Soniaf am hyn fel enghraifft o sut y gall y llywodraeth a'r sector preifat weithio gyda'i gilydd, a tybed a ydych yn edrych ar rai o'r ffyrdd arloesol hyn, ac efallai y gallech gael trafodaethau gyda'r darparwr o Japan hefyd, gan y credaf y byddai Cymru'n lle gwych i wneud busnes hefyd.
Wel, mae'r adolygiad o'r cyflenwad tai fforddiadwy, a gyhoeddais yn fy mhortffolio blaenorol, wedi adrodd yn ôl yn ddiweddar. Ac wrth gwrs, roedd yn cynnwys ffrwd waith benodol a edrychai ar botensial gweithgynhyrchu oddi ar y safle a dulliau adeiladu modern. Ac o ganlyniad i hynny, bydd ymgynghoriad ffurfiol yn cael ei gynnal cyn bo hir ar y strategaeth cartrefi rhent cymdeithasol a gynhyrchir oddi ar y safle, ac mae’r ymgynghoriad hwnnw wedi’i ddatblygu ar y cyd â sector tai Cymru a darparwyr masnachol. Bydd yn nodi’r disgwyliadau gweinidogol ar gyfer dylunio a safon cartrefi a weithgynhyrchwyd. Felly, rydym yn sicr yn awyddus i weithio ar draws y sectorau i hyrwyddo'r agenda benodol hon, gan ein bod yn credu y bydd y buddsoddiad a wnawn drwy ein rhaglen dai arloesol yn ein helpu i nodi dau neu dri math, o bosibl, o dai modiwlar a mathau o weithgynhyrchu oddi ar y safle a fydd yn gweithio orau ar gyfer y cyd-destun Cymreig, a bydd modd inni eu rhoi ar waith wedyn ar raddfa fawr oherwydd, yn amlwg, rydym am weld tai o'r fath yn cael eu prif ffrydio, yn hytrach na phrosiect newydd y mae pob un ohonom yn cyffroi yn ei gylch.
Nid mor bell â Japan, ond mewn gwirionedd yn fwy lleol o lawer, roeddwn yn falch iawn, David, o gael ymuno â'r Gweinidog Tai Julie James ddydd Llun ar ymweliad â phrosiect o dan arweiniad Cymoedd i’r Arfordir a'r arbenigwyr ar adeiladu modiwlar, Wernick Buildings, sy’n darparu wyth cartref modiwlar newydd yn Sarn a Thondu, ar ôl cael cyllid gan grant tai arloesol £90 miliwn Llywodraeth Cymru a chefnogaeth gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr.
Mae'r cartrefi hyn, fel y dywedodd David, yn cynnwys modiwlau unigol, a gynhyrchir ymlaen llaw yn ffatri Wernick yn ystâd ddiwydiannol Cynffig—felly, swyddi lleol, buddion economaidd lleol—cyn cael eu cydosod ar y safle i wneud tŷ cyflawn. Roedd yn cymryd cyn lleied â thair wythnos i gynhyrchu'r modiwlau hyn, a oedd yn cyrraedd ar y safle gyda pheiriannau cegin, gwres a thrydan wedi’u gosod yn barod, gan gyflymu’r broses o gyflenwi tai yn sylweddol.
Felly, fy nghwestiwn i'r Gweinidog cyllid yw hwn: gyda'r amseroedd cynhyrchu hynny 50 y cant yn gyflymach, sy’n lleihau costau, effeithiau amgylcheddol a tharfu ar drigolion lleol, sut y gallwn wneud hynny ar raddfa fwy, y tu hwnt i'r grantiau arloesi ac yn y blaen? Sut y gallwn wneud hynny ar raddfa lle daw hyn yn ffordd arferol, brif ffrwd o adeiladu tai?
Credaf fod rhan o'r ateb yn ymwneud â bwrw ymlaen ag argymhellion yr adolygiad tai fforddiadwy a'r gwaith rwyf newydd ei amlinellu i David Melding. Credaf fod gwaith i'w wneud o ran disgwyliadau defnyddwyr a dealltwriaeth defnyddwyr o fanteision dulliau modern o adeiladu, ac mae gwaith i’w wneud gyda'r diwydiant ariannol hefyd o ran rhoi'r sicrwydd sydd ei angen arnynt i allu rhoi morgeisi ar gyfer y mathau hyn o eiddo ac ati, a fydd yn sicr yn sefyll prawf amser.
Rydych wedi rhoi un enghraifft wych o'r hyn a gyflawnwyd drwy'r rhaglen dai arloesol. Llwyddais i ymweld â Wernick fy hun. Buaswn yn cynghori neu'n annog unrhyw gyd-Aelodau nad ydynt wedi gweld dulliau adeiladu modern ar waith i fynd yno i weld yr hyn sy’n cael ei gyflawni â’u llygaid eu hunain.
Ychydig o enghreifftiau eraill: mae gennym y cyfleuster gofal ychwanegol yn Aberaman sy'n cael ei adeiladu gan ddefnyddio cydrannau modiwlar a gynhyrchir yn y Drenewydd, ac yn amlwg, mae hynny’n arbed amser a chost o gymharu ag adeiladu traddodiadol ar y safle, ac mae'n caniatáu adeiladu drwy gydol y flwyddyn ac ati. Hefyd, mae gennym nifer o gynlluniau'n cael eu hadeiladu i'r Tŷ Solar, cartrefi fel gorsafoedd pŵer a safonau goddefol, ac maent oll yn darparu effeithlonrwydd ynni uchel iawn yn adeiladwaith yr adeilad. A hefyd, ceir integreiddio deallus rhwng ynni adnewyddadwy a gwres, gan leihau allyriadau carbon a lleihau biliau ynni eu deiliaid. Mae’r gwaith cyffrous hwn yn darparu cymaint o fanteision.
5. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ymdrechion Llywodraeth Cymru i wneud y dreth gyngor yn decach? OAQ53913
Fel y nodais yn fy natganiad ysgrifenedig ar 18 Mawrth, rydym yn parhau i wneud cynnydd gyda'n rhaglen waith i wneud y dreth gyngor yn decach. Rwy'n ddiolchgar i gydweithwyr llywodraeth leol a'n partneriaid eraill sy'n cefnogi'r gwaith pwysig hwn.
Gyda chynnydd diweddar yn y dreth gyngor mewn rhai ardaloedd awdurdodau lleol, rwy'n siŵr y caiff hynny ei groesawu gan lawer iawn o unigolion a'u teuluoedd sydd eisoes yn ei chael hi'n anodd yn ariannol. Mae cynllun gostyngiadau'r dreth gyngor yn darparu cymorth i bron i 300,000 o aelwydydd yng Nghymru gyda'u biliau treth gyngor. Mae eithrio rhai sy'n gadael gofal rhag gorfod talu'r dreth gyngor hyd at 25 oed yn darparu rhywfaint o gymorth pendant i rai o'r bobl fwyaf agored i niwed ar yr adeg fwyaf bregus yn eu bywydau. Bydd y cyngor sy'n cael ei ddatblygu yn gymorth mawr i'r rheini sy'n gymwys wrth gwrs. Weinidog, a wnewch chi roi diweddariad rheolaidd ar sut y mae'r nifer sy'n manteisio ar y cynllun hwn a chynlluniau eraill yn datblygu, er mwyn sicrhau y gallwn helpu a chynorthwyo lle gallai fod angen hynny yn ein hardaloedd ein hunain?
Diolch yn fawr iawn am godi'r materion pwysig hyn. Cytunaf yn llwyr fod codi ymwybyddiaeth o'r gefnogaeth sydd ar gael yn gwbl hanfodol. Mae gennym gynllun cenedlaethol gostyngiadau'r dreth cyngor, fel y dywedodd Joyce Watson, ac mae hwnnw'n cynnal hawl aelwydydd incwm isel i gymorth. Mae Llywodraeth Cymru'n darparu £244 miliwn i leihau'r biliau treth gyngor i rai o'r aelwydydd ledled Cymru sy'n ei chael hi’n fwyaf anodd. Mae ein penderfyniad i gynnal yr hawliau llawn hynny'n sicrhau bod oddeutu 300,000 o aelwydydd agored i niwed ac aelwydydd incwm isel yng Nghymru yn parhau i gael eu diogelu rhag cynnydd yn eu biliau treth gyngor, ac wrth gwrs, ni fydd oddeutu 220,000 o’r aelwydydd hynny'n talu unrhyw beth o gwbl. Roeddwn wrth fy modd ein bod wedi gallu sicrhau nad yw'r dreth gyngor bellach yn cael ei chodi ar bobl sy'n gadael gofal hyd at 25 oed, ac rwy'n falch iawn gyda’r arweinyddiaeth a ddangoswyd gan awdurdodau lleol wrth benderfynu gwneud hyn ar sail wirfoddol, gan eu bod yn gweld y gwerth y gallai hynny ei gynnig. Ond rwy’n fwy na pharod i roi unrhyw ddiweddariadau a allaf o ran sicrhau bod pobl yn cael y cymorth y mae ganddynt hawl i’w gael.
Yn ddiamau, mae system y dreth gyngor yn un drom. Ym maniffesto Cynulliad diwethaf Plaid Cymru, fe gynigiom ni ddiwygio'r system, a fyddai wedi arbed hyd at £400 y flwyddyn i'r rheini sydd ar fandiau isaf y dreth gyngor, a byddai'r polisi wedi golygu y byddai unrhyw un sy'n byw mewn eiddo ym mand A i D yn talu llai. Byddai’r enghraifft hon o ailddosbarthu cyfoeth wedi cael ei hariannu gan y rheini sy'n byw yn yr eiddo drytaf. Yng ngoleuni'r ffigurau damniol diweddaraf ar dlodi plant yng Nghymru, sy'n dangos mai ni yw'r unig genedl yn y DU lle gwelwyd cynnydd mewn tlodi plant yn y flwyddyn ddiwethaf, onid ydych yn cytuno ei bod yn bryd rhoi’r gorau i siarad am ddiwygio’r dreth gyngor a bod angen rhoi camau ar waith ar unwaith mewn perthynas ag ailddosbarthu cyfoeth?
Tynnaf sylw'r Aelod at y ffaith mai ychydig iawn o eiddo sydd yn y band uchaf, band I, mewn gwirionedd—felly 5,400 yn unig ohonynt ledled Cymru gyfan—ac mae'r rheini wedi'u gwasgaru’n anwastad, felly ychydig o fuddion yn unig a fyddai'n deillio o greu band uwch ychwanegol neu dreth plastai, neu ryw fath o dreth ychwanegol ar yr eiddo hwnnw heb newidiadau i'r system ehangach. Felly, rydym yn edrych ar y system ehangach.
Ym mis Hydref, fe gyhoeddom ni ddiweddariad manwl ar ddiwygiadau i drethi lleol a chyllid llywodraeth leol yng Nghymru, ac rwy'n bwriadu cyhoeddi diweddariad pellach ar hyn yn yr hydref. Ond rydym yn archwilio opsiynau ar gyfer diwygio trethi lleol yn y tymor canolig i'r tymor hwy er mwyn sicrhau eu bod wedi'u cynllunio yn y ffordd orau i ddiwallu anghenion pobl Cymru. Ac yn amlwg, byddwn yn awyddus i fabwysiadu ymagwedd flaengar a theg a thryloyw tuag at drethu lleol, sy'n darparu cyllid ar gyfer gwasanaethau lleol.
Felly, i roi blas i chi o'r math o waith rydym yn ei wneud, rydym yn cyflawni prosiect ymchwil sylweddol gan ddefnyddio arbenigedd allanol i ddeall effaith credyd cynhwysol ar gynllun gostyngiadau'r dreth gyngor, patrymau dyledion ac ôl-ddyledion rhent yng Nghymru, ac mae'r ymchwil hwn yn hanfodol ar gyfer llywio ein deddfwriaeth sy'n cefnogi talwyr y dreth gyngor yn y blynyddoedd i ddod. Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn cynnal asesiad manwl o'r effaith y gallai'r ymarfer ailbrisio ac ailfandio ei chael ar sylfaen drethu eiddo domestig Cymru, pe bai un yn cael ei gynnal, a thrwy hyn, bydd modd inni ddeall hyfywedd gwneud strwythur y band yn fwy blaengar. Ond yn sicr, ni allwn wneud hynny heb y math o wybodaeth a fyddai'n ein galluogi i wneud penderfyniadau gwybodus.
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddull Llywodraeth Cymru o fonitro a rheoli cyllidebau? OAQ53923
Mae Gweinidogion unigol yn gyfrifol am fonitro a rheoli cyllidebau o fewn eu portffolios eu hunain, ond rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda chyd-Aelodau o’r Cabinet drwy gydol y flwyddyn ac yn derbyn adroddiadau ariannol misol. Caiff y sefyllfa gyllidebol ei monitro'n fisol hefyd gan bwyllgor gweithredol Llywodraeth Cymru.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog, oherwydd gan mai chi sy'n goruchwylio hyn, rwy'n siŵr y byddwch yn cofio y dylai penderfyniadau cyllidebol ystyried egwyddorion cydraddoldeb, a chofio wrth gwrs am y targed o 1 filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. Felly, a allwch ddweud wrthyf pa drafodaethau a gawsoch gyda'r Gweinidog Addysg ynglŷn â chymorth ariannol i'r rheini sy'n gallu darparu'r cymhwyster gofal plant newydd mewn lleoliadau meithrin nas cynhelir drwy gyfrwng y Gymraeg, yn enwedig gan fod y rheini sy'n ceisio ac sy’n darparu'r cymwysterau yn fwy tebygol o fod yn fenywod?
Diolch am godi'r mater hwn. Wrth gwrs, mae cydraddoldeb a'n cyfrifoldebau i bobl sy'n dewis cyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg yn ogystal â’n rhwymedigaethau o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ganolog yn y trafodaethau a gawn gyda’n cyd-Aelodau. Rwyf wedi bod yn cael fy rownd gyntaf o gyfarfodydd dwyochrog ar y gyllideb dros yr wythnosau diwethaf ac rwy'n sicr ac yn ofalus iawn i gynnwys materion sy’n ymwneud ag asesiadau effaith yn y trafodaethau hynny, ac yn archwilio hefyd sut y mae Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol yn llywio penderfyniadau a wneir gan Weinidogion unigol, sut y maent yn ymateb i’r argyfwng hinsawdd yn ogystal â sut y maent yn ysgwyddo'u cyfrifoldebau datgarboneiddio a bioamrywiaeth ac ati. Ond nid wyf wedi cael unrhyw drafodaethau penodol gyda'r Gweinidog ynghylch cymorth ariannol i unigolion sy'n ymgymryd â’r cynnig gofal plant. Byddaf yn trafod gyda hi i weld a yw'n bwysau y mae wedi'i nodi yn ei chyllideb.
Tynnwyd cwestiwn 7 [OAQ53901] yn ôl, felly cwestiwn 8—Delyth Jewell.
8. A wnaiff y Gweinidog roi'r wybodaeth ddiweddaraf am ddyrannu cyllid yn y gyllideb ar gyfer llwybr du arfaethedig yr M4? OAQ53922
Er bod y gwaith o gwblhau'r broses o wneud penderfyniadau statudol wedi arwain at gostau cymedrol, nid oes unrhyw gyllid wedi’i ddyrannu hyd yma o gronfeydd wrth gefn cyllideb 2019-20 ar gyfer adeiladu prosiect yr M4. Cedwir arian mewn cronfeydd wrth gefn hyd nes y ceir penderfyniad ynglŷn ag a ddylid gwneud y gorchmynion sy'n angenrheidiol er mwyn i'r prosiect fynd rhagddo.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Os, yn ôl y disgwyl, y bydd y Prif Weinidog yn penderfynu peidio â bwrw ymlaen â'r llwybr du yn dilyn datganiad eich Llywodraeth ar yr argyfwng hinsawdd, a allwch gadarnhau y bydd yr arian a glustnodwyd ar gyfer y prosiect ar hyn o bryd—a chyfeiriaf yn benodol at yr arian sydd ar gael drwy bwerau benthyca—ar gael i'w ddefnyddio ar gyfer prosiectau seilwaith amgen? Rwy'n edrych am gadarnhad y byddai modd i Lywodraeth Cymru ddefnyddio'r arian hwn i fuddsoddi mewn prosiectau trafnidiaeth werdd, fel metro de Cymru a gwella cysylltiadau bysiau a threnau ledled y wlad?
Mae arnaf ofn na allaf gael fy nhynnu i mewn i ddyfalu ynglŷn ag ymateb y Prif Weinidog i'r penderfyniad sy'n rhaid iddo ei wneud ar ffordd liniaru'r M4 a’r hyn a allai ddigwydd ai peidio i gyllid ar ôl hynny. Mae'r Prif Weinidog wedi nodi y bydd yn gwneud y penderfyniad cyn bo hir. Gwn ei fod wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig a oedd yn nodi ei amserlen ar gyfer hynny, felly credaf y byddai trafodaethau pellach yn fwy priodol ar ryw adeg yn y dyfodol.
Does bosibl, Weinidog, chi yw'r Gweinidog cyllid—. Rydym ni ar y meinciau hyn yn dymuno gweld ffordd liniaru’r M4 yn cael ei chyflawni cyn gynted â phosibl, ond os na fydd hynny'n digwydd, mae'n rhaid bod cynllun wrth gefn ar gael. Dylech chi, fel y Gweinidog cyllid, fod yn ymwybodol o beth yw eich cynllun wrth gefn.
 phob parch, nid wyf am gael fy nhynnu i mewn i unrhyw ddyfalu ynghylch penderfyniad y Prif Weinidog ynglŷn â ffordd liniaru'r M4.
9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am ddyrannu arian cyfalaf ar gyfer Gogledd Cymru? OAQ53926
Ym mhortffolio Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth yn unig, mae dros £600 miliwn yn cael ei fuddsoddi mewn gwelliannau i'r seilwaith trafnidiaeth, gan gynnwys ffordd osgoi £135 miliwn Caernarfon i Bontnewydd a gwelliannau i'r A55 a'r A494.
Diolch i mi—diolch i chi am eich ateb, yn hytrach na diolch i fi am y cwestiwn. [Chwerthin.] Diolch i chi am eich ateb. Mae'n ddiddorol eich bod chi'n cyfeirio at Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, oherwydd mi wnaeth y Gweinidog, yn gynharach yr wythnos yma, gyhoeddi dyraniadau cronfa trafnidiaeth leol Cymru, sy'n gronfa o bron i £33 miliwn. Dim ond £3.6 miliwn sy'n cael ei ddyrannu i brojectau yng ngogledd Cymru, a fy nghwestiwn i, mewn gwirionedd, yw: oes yna bolisi gan y Llywodraeth o sicrhau bod cronfeydd fel hyn yn cael eu defnyddio mewn modd sy'n dod â budd i bob rhan o Gymru?
Dylai’r holl gyllid gan Lywodraeth Cymru gael ei ddefnyddio mewn ffordd sy'n cydnabod angen lleol. Felly, credaf y byddai'n werth edrych yn ôl dros y gronfa trafnidiaeth lleol ac edrych ar y cyllid a ddyrannwyd dros y blynyddoedd diwethaf. Rwy’n siŵr y byddwch yn gweld cyllid sylweddol i ogledd Cymru yno. Yn amlwg, ni wyddom pa brosiectau a gyflwynwyd i'r cynllun hwnnw hefyd, felly credaf ei bod yn annheg, yn ôl pob tebyg, ffurfio trosolwg o fuddsoddiad Llywodraeth Cymru yng ngogledd Cymru ar sail un cylch ceisiadau yn unig.
Ond unwaith eto, ym mhortffolio'r Gweinidog, mae gennym £20 miliwn ym Mharc Gwyddoniaeth Menai, sef y cyntaf o'i fath yng Nghymru; mae gennym wasanaeth rheilffordd newydd Cymru a'r gororau, a fydd yn darparu mwy o wasanaethau ar y rheilffordd rhwng Wrecsam a Bidston, gwasanaethau uniongyrchol i Lerpwl yn ogystal â buddsoddiad mewn gorsafoedd; agorwyd yr uned gofal dwys newydd gwerth £18 miliwn i fabanod newydd-anedig ar gyfer gogledd Cymru yn Ysbyty Glan Clwyd ym mis Medi; rydym wrthi’n ymgynghori â'r cyhoedd ar hyn o bryd ar yr opsiwn a ffafrir gennym ar gyfer codi pont newydd yr A494 dros Afon Dyfrdwy; ac wrth gwrs, mae'r cynlluniau ar gyfer trydedd bont dros y Fenai yn parhau i ddatblygu.
Un o'r rhesymau pam na chaiff arian ei ddyrannu i wahanol awdurdodau lleol yn aml, wrth gwrs, yw diffyg ymagwedd ragweithiol mewn ceisiadau a gyflwynir gan yr awdurdodau lleol hynny pan fo arian Llywodraeth ar gael i'w ddosbarthu. Pa waith y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod awdurdodau lleol a phartneriaid eraill yn gwneud ceisiadau am gyllid pan fydd yr arian hwn ar gael? Pan fydd Llywodraeth Cymru yn clustnodi arian, gwn nad yw’n cael ei ddefnyddio weithiau am na wnaed ceisiadau digonol. Felly, beth rydych yn ei wneud i weithio gydag awdurdodau lleol i sicrhau, lle mae arian ar gael, eich bod yn dyrannu cymaint ohono â phosibl?
Yn sicr, rydym yn awyddus i weithio gydag awdurdodau lleol i nodi pa gyllid sydd ar gael iddynt. Unwaith eto, cawsom drafodaethau yn yr is-grŵp cyllid y bore yma ynglŷn â phwysigrwydd grantiau. Hefyd, cafwyd neges gref i Lywodraeth Cymru gan lywodraeth leol ynghylch pwysigrwydd darparu’r grantiau cyn gynted â phosibl yn y flwyddyn ariannol.
Yn amlwg, mae awdurdodau lleol dan bwysau ar hyn o bryd. Ceir pwysau enfawr a phroblemau capasiti ar draws llywodraeth leol. Ond credaf ei bod yn bwysig inni sicrhau ein bod yn gwneud y broses o gyflwyno ceisiadau am grantiau a cheisiadau am arian Llywodraeth Cymru mor hawdd â phosibl i awdurdodau lleol er mwyn sicrhau bod hynny’n cymryd cyn lleied o amser â phosibl ac yn mynd â chyn lleied â phosibl o adnoddau oddi wrth eu cyfrifoldebau o ddydd i ddydd.
Diolch i'r Gweinidog.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Dai Lloyd.
1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am hyrwyddo'r Gymraeg yng Ngorllewin De Cymru? OAQ53925

Wrth gwrs. Rŷn ni'n cydweithio â lot fawr o bartneriaid lleol a chenedlaethol i hyrwyddo’r Gymraeg ar draws rhanbarth Gorllewin De Cymru er mwyn gwireddu ein gweledigaeth 'Cymraeg 2050'.
Mae'n destun siom yn fy rhanbarth i fod cyngor Castell-nedd Port Talbot heb agor un ysgol gynradd Gymraeg newydd yn y sir ers ad-defnu'r llywodraeth leol ym 1996. Fyddech chi'n cytuno bod record cyngor Castell-nedd yn y maes yma wedi bod yn wan, a beth ydych chi'n ei wneud mewn partneriaeth gyda'r cyngor i newid y sefyllfa?
Diolch. Wrth gwrs, mae gyda ni strategaeth mewn lle—cynlluniau strategol addysg Gymraeg, WESPs—ac mae hynny yn golygu ei bod hi'n ofynnol i bob un o'r awdurdodau lleol ar draws Cymru sicrhau eu bod nhw yn darparu mwy o gyfleoedd i bobl ddysgu trwy gyfrwng y Gymraeg. Dwi'n falch o ddweud bod ysgol newydd yn mynd i—ysgol gynradd newydd yn mynd i agor yn ardal Neath Port Talbot, ac, wrth gwrs, rŷn ni'n awyddus iawn i weld cynnydd. Wrth gwrs, bydd hynny nawr yn cael ei drafod pan fyddwn ni'n gweld y WESPs newydd. Felly, bydd y strategaeth yna yn cael ei chyflwyno yn ystod y dyddiau nesaf i edrych ar beth rŷn ni'n bwriadu ei wneud dros y tymor hir.
Weinidog, ddeufis yn ôl, wnes i ofyn i chi am eich 20 swyddog Cymraeg i fusnes a'ch llinell cymorth cyfieithu. Ateboch eich bod yn—quote—meddwl bod angen i ni wneud mwy o farchnata yn y maes hwn, ac rwy'n cytuno 100 y cant, yn arbennig yn fy rhanbarth i. Mae'n flwyddyn ariannol newydd, felly faint o waith newydd ydy'r swyddogion hynny'n ei wneud a sawl ymholiad newydd ydy'r llinell cymorth wedi'i gael o ganlyniad i farchnata gwell?
Wel, un o'r pethau byddwn ni'n ei wneud yn ystod yr wythnosau nesaf yw sicrhau bod adran Llywodraeth Cymru a swyddfa'r comisiynydd yn cydweithredu'n lot gwell i sicrhau bod pobl yn gwybod ble i fynd o ran y ddarpariaeth. Rŷn ni'n gobeithio bydd y llinell gyswllt yna—bydd mwy o bobl yn cael eu harwain at y llinell gyswllt yna a byddwn ni'n gweld wedyn well defnydd o'r llinell gyswllt yna yn y dyfodol. Ond jest yn dechrau mae'r sefyllfa yna.
Credaf mai'r ffordd orau o gael plant i ddysgu'r Gymraeg yw dechrau'n ifanc. A wnaiff y Gweinidog amlinellu'r cymorth sy'n cael ei roi i Ti a Fi a Mudiad Meithrin yn Abertawe?
Wel, diolch yn fawr, Mike, unwaith eto, am ddyfalbarhau a defnyddio'r Gymraeg yn y Siambr. Dwi'n meddwl ei bod hi'n hanfodol ein bod ni'n gweld bod mwy o ddarpariaeth o ran cael pobl i ddechrau eu haddysg nhw yn ifanc iawn, a dyna pam rŷn ni wedi rhoi £1 miliwn i ysgolion meithrin trwy Gymru i gyd. Wrth gwrs, rŷn ni'n cael trafodaethau gydag awdurdodau lleol, yn cynnwys Abertawe—a gydag ardaloedd eraill—i ddatblygu 14 cylch meithrin newydd. Mae yna sefyllfa arbennig yn Abertawe achos, yn draddodiadol, y cyngor sydd wedi bod yn darparu addysg meithrin yn yr ysgolion, ond rŷn ni yn gobeithio bydd y cynnig childcare newydd yn caniatáu i ni weld mwy o gynnydd yn y ffaith bydd mwy o ddarpariaeth o ran Ti a Fi. Dyna dwi'n meddwl yw'r llwybr i sicrhau bod pobl yn mynd ymlaen i wedyn ehangu a sicrhau eu bod nhw yn ymwneud ag addysg Gymraeg trwy yr ysgolion meithrin.
2. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo twristiaeth yng ngorllewin Cymru? OAQ53885

Diolch yn fawr, Paul. Mae'r ymchwil sydd gyda ni yn dangos bod y gorllewin wedi cael ymweliadau cryf iawn dros y Pasg, ac, wrth gwrs, y mae'r gorllewin—a'r de-orllewin yn arbennig—yn rhan allweddol o farchnata yng nghynlluniau Croeso Cymru, yn arbennig yn y Deyrnas Unedig, yn Iwerddon, ac yn yr Almaen. Rŷn ni hefyd yn cefnogi partneriaid lleol er mwyn marchnata o fewn y rhanbarth ac o fewn Cymru.
Dwi'n gwybod bod y Dirprwy Weinidog yn gwerthfawrogi pa mor bwysig mae twristiaeth i'n hetholaeth i, a dwi'n cytuno gyda fe, ar ôl gweld y ffigurau diweddar, mae'r ffigurau diweddar yn dangos bod busnesau yng ngorllewin Cymru wedi cael Pasg da. Fel bydd y Dirprwy Weinidog yn ymwybodol, roedd wythnos diwethaf yn Wythnos Twristiaeth Cymru, ac, fel rhan o'r dathliadau, fe ymwelais i â busnes ffantastig o'r enw Hampton Court Holiday Park yn sir Benfro. Fe welais i sut mae Peter Russ a'i deulu'n rhedeg busnes arbennig sy'n cynnig gwyliau cynhwysol i bobl anabl. Mae'r busnes yn edrych i ehangu, ond, yn anffodus, fe gymerodd y busnes rhyw 10 mlynedd, rhwng popeth, i gael caniatâd cynllunio. Nawr, mae'n bwysig ein bod ni i gyd yn gwneud popeth y gallwn ni i gefnogi busnesau fel hyn. Felly, all y Dirprwy Weinidog ddweud wrthym ni pa gefnogaeth benodol mae Llywodraeth Cymru'n ei rhoi i fusnesau twristiaeth sydd yn darparu ar gyfer pobl anabl?
Dwi'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn atodol yna. Yn anffodus, medraf i wneud dim byd ynglŷn â hawliau cynllunio, ond, fel Aelod Cynulliad—yn hytrach na siarad fel Gweinidog am gwbl o frawddegau—dwi yn ymwybodol o'r pwysau sydd yna ynglŷn â chynllunio mewn parciau cenedlaethol ac ardaloedd o harddwch neilltuol. Ond beth fedraf i ei wneud ydy cynnig, os bydd o ar gael, ein bod ni'n dau'n ymweld â'r busnes yma fel medraf i gael sgwrs bersonol gyda nhw, gweld beth yw eu hanghenion nhw, adrodd yn ôl, a gweld beth allwn ni ei wneud ymhellach.
I ddatblygu ychydig ar y thema y mae'r Gweinidog eisoes wedi ymateb i Paul Davies yn ei chylch, mae pobl anabl a’u teuluoedd, wrth gwrs, yn farchnad allweddol, o bosibl, i dwristiaeth yng ngorllewin Cymru a ledled y wlad. Gan adeiladu ar y math o fusnes y mae Paul Davies newydd gyfeirio ato, pa gamau pellach y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod gennym y wybodaeth orau bosibl ar gael i bobl anabl a'u teuluoedd ynghylch pa gyfleusterau sydd ar gael yn ein cymunedau? Rwy'n meddwl yma am lety, ond rwyf hefyd yn meddwl am weithgareddau hamdden a fyddai'n addas. A oes camau, er enghraifft, y gallai'r Gweinidog eu cymryd, gan weithio gyda sefydliadau fel Anabledd Cymru, i sicrhau ein bod yn defnyddio eu rhwydweithiau, er mwyn sicrhau bod pobl anabl yn ymwybodol o'r cyfleoedd rhagorol sydd ar gael iddynt, ond hefyd i sicrhau ein bod yn gwneud y defnydd gorau o'r farchnad honno, o gofio, yn sicr yng Nghymru, ein bod yn gwybod bod gan un o bob chwech o'n dinasyddion anabledd o ryw fath?
Diolch yn fawr am y cwestiwn atodol yna. Pan fyddwn ni yn cyllido datblygiadau twristiaeth, rydyn ni, wrth gwrs, yn annog datblygiadau sydd yn creu cyfle cyfartal i'w defnyddio, ond, gan fod y cwestiwn penodol yna wedi'i ofyn â chyfeiriad yn arbennig at Anabledd Cymru, rydw i'n fodlon iawn i gwrdd ag Anabledd Cymru ac i drafod y mater o geisio hyrwyddo gwyliau yng Nghymru i bobl gydag anghenion teithio neu anghenion anabl o unrhyw fath, oherwydd mae mwynhau tirwedd Cymru ar gyfer gwyliau'n bwysig i bawb yng Nghymru a'r tu fas ac i bawb o bob cyrhaeddiad ac o bob gallu.
A yw'r Dirprwy Weinidog—? A yw'n credu ei bod o fudd fod gorllewin Cymru wedi dod yn fwy cystadleuol o ran cost o gymharu â chyrchfannau tramor, gyda chyfradd gyfnewid is ers refferendwm yr UE, a pha gynigion sydd ganddo i fanteisio ymhellach ar y posibilrwydd, o leiaf, y gwelwn y fantais hon?
Nid wyf am gael fy nenu i drafod polisi cyllidol. Byddaf yn cyfyngu fy hun i oblygiadau newidiadau rhyngwladol ar dwristiaeth, a chredaf ei bod yn hanfodol ein bod yn marchnata Cymru, o ran y cynnig, i bob rhan o'r farchnad. Nid gwyliau rhad yn unig mohono. Nid gwyliau drud yn unig mohono. Mae'n ddewis addas i bobl ar wahanol lefelau incwm fel y gallant fwynhau llety priodol a chyfleusterau priodol.
Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Delyth Jewell.
Diolch, Lywydd. Weinidog, ceir consensws cyffredinol nad yw Cymru'n gwneud digon i ymgysylltu â Chymry alltud. Mae'n debygol fod degau o filiynau o bobl o dras Cymreig yn byw ledled y byd, gan gynnwys dros 10 miliwn o bobl yn yr Unol Daleithiau'n unig, yn ôl astudiaeth a wnaed yn 2006. Gallai ymgysylltu'n well â Chymry alltud gynyddu proffil Cymru, darparu arbenigedd, denu buddsoddiad a hybu allforion. Mae arweinwyr byd ar ymgysylltu â phoblogaethau alltud yn cynnwys menter Kea yn Seland Newydd a Global Scot yn yr Alban. Mae'r ddwy fenter yn manteisio ar arbenigedd cymunedau alltud er budd mentrau lleol. Weinidog, a fydd eich strategaeth 'Cymru a'r Byd’, a fydd yn cael ei chyhoeddi cyn bo hir, yn cynnwys cynllun gweithredu penodol i ymgysylltu'n well â Chymry alltud, ac a ydych yn cytuno â mi y dylai'r gwaith hwn gael ei arwain gan y Llywodraeth, gan weithio ar y cyd, wrth gwrs, â’r gwaith rhagorol a wneir ar hyn o bryd gan sefydliadau fel GlobalWelsh?
Diolch. Credaf y ceir cydnabyddiaeth fod angen i ni wneud mwy i ymgysylltu â Chymry alltud. Credaf fod y ffigur o 10 miliwn yn eithaf uchelgeisiol, ac mae'n amheus a fyddai modd inni gyrraedd pob un o'r 10 miliwn o bobl sydd â rhyw fath o gysylltiad â Chymru. Ond credaf mai'r bobl orau i adrodd ein stori yw pobl sy’n teimlo angerdd dros ein cenedl. Rydym eisoes wedi edrych ar fodelau Seland Newydd a'r Alban, ac rydym wedi bod yn edrych ar yr hyn y maent yn ei wneud o ran arferion gorau. Felly, rydym yn edrych ar sut a beth yw'r model gorau mewn perthynas â'n gweithgareddau ninnau. Ond hefyd, gan gydnabod, mewn gwirionedd, fod eraill eisoes yn y maes hwn, mae angen i ni sicrhau nad ydym yn camu ar draed ein gilydd, fel ein bod yn parchu meysydd ein gilydd. Ond ceir meysydd clir lle bydd angen i Lywodraeth Cymru gymryd yr awenau, ac wrth gwrs, cyfeirir at hyn yn y strategaeth ryngwladol.
Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae ymgysylltu â Chymry alltud hefyd yn hollbwysig er mwyn hybu proffil Cymru ar y llwyfan rhyngwladol, fel y dywedoch. Mae memyn poblogaidd ar-lein ar hyn o bryd sy’n dangos cwpl o Americanwyr—nid wyf am geisio dynwared eu hacen, ond maent yn gofyn i'w ffrind a yw'n dod o Loegr neu Gymru, a phan fydd yn ateb, 'Dim un; rwy’n Gymro', maent yn edrych yn ddryslyd ac yn gofyn iddo, 'Felly, a yw'r fan honno yn Lloegr neu yn Iwerddon?' Nawr, jôc yw hi, ond mae'n adlewyrchu gwirionedd trist, sef nad yw Cymru mor adnabyddus â chenhedloedd eraill Ynysoedd Prydain. Does bosibl nad yw'n bryd i Gymru ddod yn un o'r is-wladwriaethau mwyaf adnabyddus yn y byd.
Mae'n rhaid i'ch strategaeth fyd-eang, felly, gynnwys cynllun i gynyddu presenoldeb Llywodraeth Cymru dramor, o’r 15 swyddfa bresennol mewn saith gwlad i lawer mwy na hynny. A wnewch chi ymrwymo i hyn? Gellid ystyried atebion deallus fel rhan o'r gwaith hwn, fel edrych ar gydleoli â Swyddfeydd Tramor a Chymanwlad, ac mae angen gwneud mwy hefyd i ddod â digwyddiadau mawr proffil uchel i Gymru. Roedd cynnal rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr yng Nghaerdydd yn llwyddiant diamod. Felly, a wnewch chi roi ystyriaeth ddifrifol i ddod â Gemau'r Gymanwlad i Gymru cyn gynted ag sy'n ymarferol bosibl, yn ogystal ag edrych ar ba ddigwyddiadau diwylliannol, diwydiannol a diplomyddol pwysig eraill y gellid eu denu yma?
Diolch. Credaf eich bod yn llygad eich lle fod angen i ni godi proffil Cymru yn rhyngwladol. Yr hyn sy'n amlwg yw ein bod yn cael ein hadnabod yn wahanol iawn mewn gwahanol farchnadoedd—felly, mewn ardaloedd lle ceir traddodiad rygbi sylweddol, rydym yn eithaf adnabyddus, ond ceir ardaloedd a rhannau eraill o'r byd lle nad oes gennym fawr ddim cefndir hanesyddol yn gyffredin, ac mae’r ardaloedd hynny’n llawer anos eu cyrraedd, a dyna pam, yn fy marn i, fod angen i ni ddychwelyd at Gymry alltud. Ond credaf hefyd fod angen inni gydnabod na fydd modd inni wneud popeth â chyllideb gyfyngedig. Felly, rhan o'r hyn y mae angen i ni ei wneud yn y strategaeth ryngwladol yw cydnabod y bydd angen i ni ganolbwyntio ar rai pethau ac na allwn wneud popeth. Wrth gwrs, mae gennym yr 20 swyddfa honno ledled y byd ar hyn o bryd. Mae eu hangen arnom i sicrhau eu bod yn llwyddo i godi'r proffil hwnnw, i ddenu mewnfuddsoddiad, ac wrth gwrs, ar hyn o bryd, mae’r mwyafrif helaeth ohonynt wedi'u cydleoli gyda'r Swyddfa Dramor a Chymanwlad.
O ran digwyddiadau mawr, ydy, mae hyn bob amser yn gyfle i ni gael sylw byd-eang i’n cenedl fach. Mae hynny wedi gweithio'n dda iawn o ran pêl-droed yn y gorffennol. Wrth gwrs, os ydym am ddenu'r digwyddiadau hyn, mae angen cyllideb i gyd-fynd â hynny. Mae Gemau'r Gymanwlad yn gyllideb eithaf sylweddol, felly mae angen i ni edrych ar y cyfyngiadau sydd gennym yn yr oes hon o gyni, ond wrth gwrs, ni ddylem fod yn brin o uchelgais. Yn y cyfamser, credaf fod yn rhaid i ni sicrhau ein bod yn manteisio ar bob cyfle—er enghraifft, gyda phethau fel Cwpan Rygbi'r Byd yn Japan—i ddefnyddio hynny fel platfform i ni fownsio oddi arno a sicrhau ein bod yn cael ein cydnabod ledled y byd, nid yn unig mewn perthynas â chwaraeon, ond defnyddio hynny hefyd fel cyfle i gynyddu mewnfuddsoddiad.
Hoffwn droi yn awr at gysylltiadau masnach, sydd, wrth gwrs, yn hanfodol er mwyn sicrhau iechyd economaidd Cymru, yn enwedig o ran allforion. Nodais gyda diddordeb eich taith ddiweddar i'r Unol Daleithiau, lle buoch yn dadlau’r achos dros fewnfuddsoddi drwy werthu Cymru fel lle deniadol i wneud busnes. Roedd hwnnw’n gam calonogol. Ond tybed a yw polisi Brexit eich Llywodraeth yn tanseilio'ch strategaeth adeiladu cysylltiadau masnach yn llwyr. Ar hyn o bryd, mae gennym y berthynas fasnachu orau bosibl gyda'r UE, gan gynnwys cytundebau masnach â gwledydd trydydd parti. Onid yw aros yn yr UE, neu o leiaf yn y farchnad sengl, yn gwbl hanfodol er mwyn osgoi dadwneud popeth rydych yn ceisio'i gyflawni gyda masnach? Ac os felly, sut rydych chi'n cyfiawnhau polisi eich Llywodraeth o fod eisiau gadael y ddau ohonynt?
Diolch. Wel, yn amlwg, mae gennym uchelgais i gynyddu mewnfuddsoddiad, ac mae hynny'n anodd pan nad yw buddsoddwyr yn gwybod beth fydd y berthynas honno â'n marchnad fwyaf—500 miliwn o bobl—yn y dyfodol. Felly, credaf y ceir toriad o ran buddsoddi, er, os edrychwch ar y ffigurau absoliwt, rydym mewn gwirionedd yn perfformio'n dda iawn ar hyn o bryd. Ond os edrychwch ar pam fod pobl wedi dod yma yn draddodiadol, yn aml iawn byddent yn dod yma fel safle lansio ar gyfer cael mynediad at y farchnad honno o 500 miliwn o bobl. Dyna pam rydym yn newid ein pwyslais i raddau ar hyn o bryd i ganolbwyntio'n iawn ar allforion, gan fod hynny'n sylweddol; rydym wedi gweld twf sylweddol yn y maes hwnnw dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Felly, rydym am wneud mwy yn y gofod hwnnw. Ond hefyd, yr hyn y byddwn yn ei wneud yw canolbwyntio ar y meysydd hynny sy'n ymwneud â mewnfuddsoddi na fydd Brexit yn effeithio arnynt mewn ffordd mor sylweddol. Felly, mae angen i ni ystyried hynny pan fyddwn yn edrych ble i ganolbwyntio yn y strategaeth ryngwladol newydd.
Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar.
Diolch yn fawr, Lywydd. Weinidog, a gaf fi ofyn i chi am y berthynas rhwng Cymru a Japan? Rydych eisoes wedi crybwyll y ffaith y bydd Cwpan Rygbi'r Byd yn cael ei gynnal yn nes ymlaen eleni. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd eisoes i baratoi ar gyfer ymgysylltu yn ystod Cwpan Rygbi'r Byd yn Japan?
Rydym eisoes wedi gwneud cryn dipyn o drefnu. Yn wir, yn ddiweddarach y prynhawn yma, byddaf yn cyfarfod â'n swyddog sydd wedi’u lleoli yn Japan, ac sydd wedi dod yn ôl i drafod yr union fater hwn. Credaf ei bod yn bwysig inni gydnabod y berthynas hirsefydlog rhwng Cymru a chwmnïau o Japan sydd wedi bod yn dod yma ac yn buddsoddi yma dros y 30 mlynedd diwethaf. Rydym am i'r berthynas honno barhau. Mae arnaf ofn fod Sony a Panasonic eisoes wedi symud eu pencadlys Ewropeaidd o'r Deyrnas Unedig. Felly, o ran y bobl sy'n dweud na fydd yn cael effaith, credaf fod angen i chi edrych ar hynny. Ond nid yw hynny'n golygu, mewn gwirionedd, fod y cysylltiadau sydd gennym yng Nghymru, lle ceir gwir hoffter a chariad tuag at Gymru yn Japan—mae’r gymdeithas hiraeth yn eithaf enwog. Ac un o'r pethau y byddwn yn eu gwneud, wrth gwrs, yw gweld beth y gallwn ei wneud—. Nid ydym yn aros tan gwpan y byd; rydym eisoes yn bownsio i mewn i'r marchnadoedd hynny yn awr. Gwn fod Lesley Griffiths yn gwneud llawer iawn o waith ar hyrwyddo bwyd a diod i Japan. Felly, mae'r cyfleoedd hynny yno, a'r hyn y byddwn yn ei wneud yn awr yw canfod beth yn union rydym yn ceisio'i gyflawni yn ystod cyfnod cwpan y byd, gan fod hwn yn safle lansio nid yn unig ar gyfer Japan, ond ar gyfer y gymuned Asiaidd ehangach hefyd yn fy marn i.
Rydych eisoes wedi sôn am y ffaith bod gennym y cyfleoedd hynny yn ddiweddarach eleni. Wrth gwrs, mae gennym Dymor Diwylliant y DU-Japan, sydd hefyd ar y ffordd, gan gynnwys digwyddiadau a gynhelir yma yng Nghymru. Un o'r pethau eraill sy'n gyffredin rhyngom a Japan wrth gwrs yw bod gan y ddwy wlad deuluoedd brenhinol, ac rwy'n siŵr y byddech yn awyddus i longyfarch yr Ymerawdwr Naruhito a'r Ymerodres Masako ar orseddiad diweddar yr Ymerawdwr ar yr Orsedd yr Eurflodyn, rhywbeth rydym ni ar feinciau'r Ceidwadwyr yn ei groesawu'n fawr iawn. A wnewch chi fanteisio ar bob cyfle i wneud yr hyn a allwch i weithio ar y cysylltiadau da sydd gennym eisoes â Japan, o ystyried y cysylltiadau hanesyddol hynny, o gofio'r digwyddiadau mawr sydd wedi digwydd yn Japan, a'r digwyddiadau chwaraeon a digwyddiadau eraill sydd ar y gorwel eleni? Gwyddom fod dros 6,500 o swyddi yng Nghymru yn ddibynnol ar fuddsoddiad o Japan, a gwyddom fod cwmnïau o Japan yn dal i fuddsoddi yn y DU, er gwaethaf peth o'r ansicrwydd ynghylch Brexit. Yn ddiweddar, gwelsom fuddsoddiad sylweddol gan Toyota a Nissan yn y DU. Ond ymddengys nad yw Cymru'n cael llawer o'r arian hwnnw. Felly, a allwch ddweud wrthym yn benodol, o ran strategaeth fasnachu â Japan, sut rydych chi'n mynd i sicrhau bod Cymru'n gwneud yn well na’r disgwyl, fel y gwnaeth o dan y Llywodraethau Ceidwadol yn y 1990au?
Diolch. Wel, roeddwn yn credu ei fod yn fawreddog iawn—gorseddiad yr Ymerawdwr—ond credaf mai'r hyn sy'n bwysig, fodd bynnag, yw ein bod yn edrych ar sut y gallwn adeiladu ar y cysylltiadau hynny, fel yr awgrymoch chi. Bydd llysgennad Japan yn dod i Gymru am gyfnod o ddeuddydd ym mis Mehefin. Byddaf yn cynnal derbyniad gydag ef ac yn croesawu llawer o'r cwmnïau o Japan sydd wedi ymgartrefu yma yng Nghymru. Credaf fod yn rhaid inni fod yn realistig o ran y cysylltiadau masnach. Mae'n rhaid i chi gofio bod yr UE newydd arwyddo cytundeb masnach â Japan a bydd gennym fynediad at y cytundeb masnach hwnnw cyhyd ag y byddwn yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd. Ond yr eiliad y byddwn yn gadael, yna bydd yn rhaid i ni ddechrau datblygu ein perthynas fasnach ein hunain, ac yn amlwg pan fyddwch negodi cytundeb masnach ar ran 60 miliwn o bobl, mae hynny'n wahanol iawn i drafod cytundeb masnach gyda 500 miliwn o bobl eraill. Felly, credaf fod yn rhaid i ni fod yn realistig, ond credaf fod y ffaith bod gennym draddodiad hirsefydlog a bod gennym y cysylltiadau agos sydd wedi datblygu dros flynyddoedd lawer—. Gwn fod rhai o bobl Japan yn hoff iawn o gastell Conwy yng ngogledd Cymru, er enghraifft. Felly, credaf fod cyfleoedd gwych i’w cael inni fanteisio ymhellach ar y berthynas honno, ond yn anad dim, i ddatblygu’r cyfeillgarwch rhwng ein dwy genedl.
Rwy'n falch iawn o glywed am y croeso llysgenhadol y byddwch yn ei roi yn ddiweddarach ym mis Mehefin, gan y credaf fod y cysylltiadau hyn yn hynod o bwysig i godi proffil Cymru, nid yn unig yn Japan ond ledled Asia a ledled y byd, fel y sonioch. Fe fyddwch yn ymwybodol fod coed ceirios yn cael eu plannu ledled Cymru ar hyn o bryd, fel rhan o’r fenter rhwng Japan a’r DU. Yn wir, rydym yn cael mwy o goed ceirios, yn ôl yr hyn a ddeallaf, nag unrhyw genedl arall yn y DU, o ran ein maint.
Un o'r pethau y mae Llywodraeth Cymru wedi’u gwneud yn hanesyddol i hyrwyddo cysylltiadau rhwng Cymru a gwahanol wledydd ledled y byd yw archwilio'r syniad o femoranda dealltwriaeth. Deallaf fod y cyntaf o'r rhain wedi’i arwyddo gyda Gweriniaeth Latfia flynyddoedd lawer yn ôl, ond ymddengys nad yw'r memoranda hynny'n cael llawer o sylw bellach. Tybed a yw hwn yn offeryn y gallech ei ddefnyddio a'i ddwyn i sylw Llywodraeth Japan fel ffordd ymlaen i hyrwyddo cysylltiadau rhwng Cymru a Japan ac edrych ar y meysydd penodol lle mae gennym berthynas dda, a gweithio ar y rheini lle gallem gael perthynas well byth yn y dyfodol. Felly, fe’ch cyfeiriaf at y memorandwm dealltwriaeth rhwng Latfia a Llywodraeth Cymru fel rhywbeth y gellid ei efelychu gyda llawer o wledydd eraill, gan gynnwys Japan, yn y dyfodol. Ac a wnewch chi hefyd roi gwahoddiad i'r Ymerawdwr newydd ymweld â Chymru ar y cyfle cyntaf?
Mawredd, bydd yn rhaid i ni osod y carped coch bryd hynny, oni fydd? Ond diolch yn fawr iawn. O ran memoranda dealltwriaeth, credaf fod gwahanol wledydd yn hoffi eu defnyddio mewn gwahanol ffyrdd. Mae rhai gwledydd yn hoff iawn ohonynt; nid yw eraill mor awyddus i’w defnyddio a byddai’n well ganddynt gynlluniau gweithredu. Felly, credaf fod yn rhaid i ni chwilio am yr hyn sy’n addas, a gweld beth sy'n gweithio orau ar gyfer ein dwy wlad, yn hytrach na rhedeg o gwmpas yn arwyddo memoranda dealltwriaeth. Os ydym am arwyddo memoranda dealltwriaeth, rwy'n awyddus iawn i sicrhau eu bod yn gyfrwng ar gyfer cyflawni yn hytrach na pherthynas gyfeillgar yn unig. Felly, un o'r pethau allweddol rwy’n awyddus iawn i'w gwneud yw canolbwyntio a chael mwy allan o bethau. Felly, nid wyf yn awyddus iawn i deithio’r byd yn arwyddo memoranda dealltwriaeth gyda phob gwlad yn y byd. Nid dyna'r ymagwedd y byddwn yn ei mabwysiadu yn y strategaeth ryngwladol.
3. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i annog chwaraeon cymunedol a gweithgareddau hamdden egnïol? OAQ53914
Diolch yn fawr iawn, Jayne. Mae sicrhau bod ein cymunedau'n fwy egnïol yn gorfforol yn parhau i fod yn flaenoriaeth, ac yn wir, mae'n gyfrifoldeb arnaf fel hyrwyddwr gweithgarwch corfforol ar ran Llywodraeth Cymru. Y llynedd, drwy Chwaraeon Cymru, buddsoddwyd dros £10.9 miliwn gennym mewn awdurdodau lleol ledled Cymru er mwyn cefnogi datblygiad chwaraeon cymunedol a gweithgareddau hamdden egnïol a helpu i ddiwallu anghenion lleol. Edrychaf ymlaen at ymuno â chi ddydd Sadwrn mewn lleoliad pwysig iawn, a phob dymuniad da i glwb pêl-droed Casnewydd.
Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.
Diolch, Ddirprwy Weinidog. Rwy'n falch iawn eich bod wedi crybwyll CPD Casnewydd. Mae Cerdded Casnewydd yn fy etholaeth yn enghraifft ardderchog o fanteision iechyd a lles gweithgareddau hamdden egnïol. Wedi'u trefnu a'u harwain gan wirfoddolwyr, maent yn arwain teithiau amrywiol yng Nghasnewydd a'r ardal ehangach ddwywaith yr wythnos. Gyda dros 100 o aelodau, maent yn trefnu teithiau undydd ac maent wedi bod yn gweithredu’n llwyddiannus ers blynyddoedd lawer. Mae cyfranogiad yn y grŵp wedi cael effaith hynod gadarnhaol, gan fynd i'r afael ag unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol ac mae'r manteision i iechyd corfforol yn amlwg. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan yn cyfeirio cleifion cardiaidd at y grŵp, gan gynorthwyo pobl sy'n byw gyda chyflyrau iechyd hirdymor i gadw'n heini mewn ffordd hamddenol a phleserus. Mae grwpiau fel y rhain yn wirioneddol werthfawr ac yn rhan fawr o'r agenda ataliol. Yn anffodus, mae'r dyraniad bach o arian a gâi’r grŵp wedi’i ddiddymu, sydd wedi peri cryn bryder. A allai'r Dirprwy Weinidog ymchwilio i weld beth arall y gellir ei wneud i sicrhau bod grwpiau fel Cerdded Casnewydd yn cael cydnabyddiaeth a chyllid i barhau?
Diolch am eich cwestiwn atodol. Yn wir, rwyf wedi ymuno â nifer o grwpiau cerdded yn ddiweddar. Credaf mai rhodwyr Treorci oedd y diwethaf. Wrth gwrs, mae'n cyfuno gweithgarwch corfforol mewn amgylchedd prydferth, naturiol—ac fel rhywun a gerddodd ar hyd gwastatir Gwent y dydd Sul o'r blaen, gwn pa mor bwysig yw'r amgylchedd yng Nghasnewydd. Felly, gan fentro gwahodd fy hun i bob man, rwy’n fwy na pharod i gyfarfod â Cerdded Casnewydd i drafod. Drwy ein rhaglen heneiddio'n iach gydag Age Cymru, rydym yn darparu rhaglen i gynyddu gweithgarwch corfforol, yn enwedig ymhlith pobl hŷn ledled Cymru, ac rydym yn edrych, yn y Llywodraeth, am ganllawiau newydd gan y prif swyddog meddygol ar weithgarwch corfforol, a fydd yn nodi pwysigrwydd annog mwy o’r boblogaeth i symud. Fel y dywedais o'r blaen yn y Siambr, nid yw oddeutu 30 y cant o boblogaeth Cymru yn gwneud unrhyw beth—unrhyw weithgarwch corfforol, hynny yw—a chredaf ei bod yn bwysig inni fod yn esiampl yn ogystal ag annog pobl.
Weinidog, gobeithio y byddwch cystal ag ymuno â mi i longyfarch clwb pêl-droed Prifysgol Met Caerdydd, sy'n dathlu’r ffaith mai hwy yw’r brifysgol gyntaf i gyrraedd Cynghrair Europa UEFA ar ôl gêm ail gyfle gyffrous yn erbyn Y Bala ddydd Sul—rwy'n ymddiheuro—pan wnaethant ennill 3-1 ar giciau o’r smotyn. Golyga hyn y bydd Met Caerdydd yn mynd ymlaen i'r rowndiau rhagarweiniol, gan ymuno â chlybiau o Lwcsembwrg, San Marino, Ynysoedd Ffaro, Andorra, Kosovo, Gibraltar a Gogledd Iwerddon. Credaf mai'r pwynt pwysig yma yw bod hon yn gamp anhygoel i glwb prifysgol a bydd yn ysbrydoli llawer o'r myfyrwyr yn y brifysgol nad ydynt yn athletwyr elitaidd i gymryd rhan mewn chwaraeon egnïol. Felly, a wnewch chi longyfarch Met Caerdydd?
Wel, fel yr Aelod Cynulliad dros y Bala—er nad wyf yn cefnogi’r Bala yn rheolaidd, ac eithrio ar adegau—mae’r Bala wedi cael eu moment yn Ewrop, fel Bangor ac eraill. Ond mae'n gyfle gwych i glwb Met Caerdydd, ac rwy'n eu llongyfarch yn ddiffuant. Rwy'n elwa o fyw yn agos atynt pan wyf yma yng Nghaerdydd, a chredaf ei bod yn bwysig inni bwysleisio sut y mae gweithgarwch gwyddor chwaraeon a'r ysbrydoliaeth sy'n deillio o astudio chwaraeon ar sail academaidd yn treiddio drwy holl ddiwylliant y brifysgol. Ceir rhywbeth pwysig, yn fy marn i, yn y cylch bywyd yma: y bydd disgyblion o oedran ysgol, yn aml iawn, yn egnïol iawn yn gorfforol, ond dim ond y rheini sy'n ymwneud â chlybiau sy'n tueddu i barhau â'u gweithgarwch yn ystod eu harddegau ac fel myfyrwyr. A chredaf ei bod yn bwysig ein bod yn dathlu diwylliant o lwyddiant mewn chwaraeon a diwylliant o glybiau llwyddiannus ym mhob rhan o’n system addysg bellach ac addysg uwch.
Rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog yn cytuno â mi mai un o'r heriau mwyaf yw annog menywod a merched i barhau i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol, yn enwedig, fel y dywedodd yn ei ymateb i David Melding, ar ôl oedran gadael ysgol. Ymhlith y grŵp hwnnw, mae menywod o gymunedau lleiafrifoedd ethnig yn arbennig o agored i niwed ac yn aml wedi'u heithrio'n benodol. A wnaiff y Gweinidog ymrwymo heddiw i gael trafodaethau pellach gyda'r Gweinidog cydraddoldeb i weld beth arall y gellir ei wneud i annog cyfleusterau awdurdodau lleol i fynd ati’n rhagweithiol i annog menywod a merched o gymunedau lleiafrifol i gymryd rhan? Buaswn hefyd, yn y cyd-destun hwnnw, yn awgrymu y dylid sicrhau parhad o ran darparu cyfleusterau i fenywod yn unig ar gyfer rhai gweithgareddau, fel nofio, oherwydd i rai menywod o rai o'r cymunedau hynny, nid oes modd iddynt gymryd rhan pan fydd dynion yn bresennol oherwydd eu diwylliant? Credaf fod hyn yn arbennig o bwysig yng nghyd-destun darparu cyfleusterau newid priodol hefyd, gan fod tuedd gynyddol i gael cyfleusterau agored, ac er y gallant fod o fudd i deuluoedd, efallai nad ydynt yn addas i fenywod, yn enwedig menywod â rhesymau penodol dros warchod eu preifatrwydd corfforol.
Diolch am hynny. Rwy'n fodlon iawn i gytuno'n ffurfiol y dylem gyfarfod i drafod y mater hwn yn benodol, ond rwy'n falch o ddweud, ymhlith y prif chwaraeon rydym yn eu hyrwyddo, pêl-rwyd, gweithgaredd a gyflawnir yn bennaf, ond nid yn gyfan gwbl, gan ferched a menywod, yw'r bedwaredd brif gamp rydym yn ei hariannu. Ac felly, credaf ei bod yn hanfodol ein bod bob amser yn darparu ar gyfer cydraddoldeb rhywiol hyd eithaf ein gallu mewn perthynas â chyfranogiad mewn chwaraeon. Mae hynny'n rhannol drwy annog rygbi menywod a phêl-droed menywod, ond hefyd drwy annog cyfleoedd ar wahân, yn wir, i bobl gymryd rhan ar adeg sy'n gyfleus ac yn addas ac yn dderbyniol iddynt, a byddwn yn cael y drafodaeth hon, ac yn ddiau, byddwn yn adrodd yn ôl i chi.
4. Sut y mae Llywodraeth Cymru yn cynyddu ymgysylltiad diwylliannol yng Ngogledd Cymru? OAQ53889
Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod ymgysylltiad diwylliannol yn cael effaith gadarnhaol ar les ac yn ceisio cynyddu argaeledd yr arlwy diwylliannol drwy wahanol ffyrdd, gan gynnwys cefnogi ymgysylltiad â chymunedau yn lleol ac ar y dreftadaeth a'r diwylliant sy'n bwysig i weithgarwch yn y rhanbarth.
Ar ôl i Lywodraeth Cymru gomisiynu astudiaeth ddichonoldeb ar gyfer amgueddfa bêl-droed genedlaethol, dywedais yma ddwy flynedd yn ôl fod pobl gogledd Cymru yn haeddu cael amgueddfa bêl-droed genedlaethol ar garreg eu drws. Fel roeddwn wedi’i ddweud yma yn y Cynulliad blaenorol,
'Mae gan Wrecsam amgueddfa leol ardderchog... Ond un yn unig o saith safle Amgueddfa Genedlaethol Cymru lle y ceir mynediad am ddim y gall pobl yng ngogledd Cymru ymweld â hi o fewn cwmpas realistig o 60 milltir o bellter teithio, lle y gall pobl yng Nghaerdydd ac Abertawe ymweld â chwech o fewn y pellter hwnnw.'
Wrth gefnogi amgueddfa bêl-droed genedlaethol yn Wrecsam, cyfeiriais hefyd at hanes trawiadol Cae Ras Wrecsam,
'ble y chwaraewyd y gêm ryngwladol gyntaf yng Nghymru; lle y lleolir y cae rhyngwladol hynaf yn y byd; lle y ffurfiwyd Cymdeithas Bêl-droed Cymru; a chartref… un o glybiau pêl-droed hynaf y byd'
—CPD Wrecsam. Fe gyhoeddoch chi ddatganiad ysgrifenedig 12 diwrnod yn ôl ar flaenoriaethau ar gyfer y dyfodol mewn perthynas â'r astudiaethau dichonoldeb ar gyfer amgueddfa chwaraeon ac oriel gelf gyfoes, ac er bod clwb pêl-droed Wrecsam, sy'n eiddo i gefnogwyr, eisoes wedi galw am leoli amgueddfa bêl-droed genedlaethol yn y Cae Ras, dywedasoch fod adroddiad yr ymgynghorwyr wedi dod i’r casgliad,
'mai datblygu cyfleusterau newydd yn Amgueddfa Wrecsam fyddai'r dewis gorau ar gyfer arddangos treftadaeth bêl-droed Cymru’,
a hefyd,
'[nad] cyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yn unig fydd hyn, ac… mae trafodaethau wedi dechrau gyda'r partneriaid allweddol.'
Cyfeiriasoch hefyd at argymhelliad gan yr ymgynghorwyr y dylid gwneud hyn mewn partneriaeth ag Amgueddfa Cymru. Felly, fe ofynnaf fy nghwestiwn—mae'n ddrwg gennyf am siarad am gymaint o amser—sut y bydd cyfraniad Amgueddfa Cymru, yn eich barn chi, yn gweithio? A ydych yn argymell bod hyn yn dod yn rhan o Amgueddfa Genedlaethol Cymru, neu a yw'n sefydliad partner hyd braich? A sut y bydd hyn yn effeithio ar y ddarpariaeth ffisegol yn amgueddfa Wrecsam—amgueddfa wych, ond yn eithaf bach o ran maint? Felly, a ydych yn ystyried adleoli neu ehangu, neu sut y gallech fynd i'r afael â hyn?
Y bwriad yw y dylai fod amgueddfa chwaraeon gref yn Wrecsam. Mae’r cwestiwn ynghylch ei lleoliad yn fater i'w drafod gydag amgueddfa bresennol Wrecsam ac awdurdod lleol Wrecsam. Mae'r trafodaethau hynny'n mynd rhagddynt. Yr hyn rwy’n awyddus i'w sicrhau yw bod gweithgarwch chwaraeon Cymru yn cael ei gynrychioli yn rhanbarthau Cymru. Felly, yng ngogledd Cymru, byddai hynny’n digwydd yn Wrecsam. Yn fy marn i, ceir cyfle i ddathlu treftadaeth chwaraeon ymhellach yn Sain Ffagan, ar wahân i'r amgueddfa genedlaethol, ond dylai'r berthynas rwy’n ei rhagweld, a chyda chytundeb yr amgueddfa genedlaethol, fod yn berthynas lle mae'r amgueddfa genedlaethol ar ei saith neu wyth safle, os ydym yn cynnwys Trefforest, yn berthnasol i'r amgueddfeydd rhanbarthol a lleol ac yn cefnogi eu gweithgareddau, a phan fydd gennym gasgliadau cenedlaethol, fod yr amgueddfeydd o ansawdd digonol—ac mae hyn yr un mor berthnasol i gelf gyfoes ag i arteffactau chwaraeon—fod yr orielau a'r amgueddfeydd o safon ddigonol i allu derbyn y casgliad cenedlaethol. A bydd hynny'n golygu buddsoddiad pellach. Felly, rwy'n parhau i ddatblygu ein cynllun gweithredu mewn perthynas ag amgueddfa chwaraeon ac amgueddfa gelf gyfoes mewn ffordd sy'n sicrhau y ceir model dosbarthu a fydd yn gweithio i alluogi cymaint o bobl yng Nghymru â phosibl i weld y trysorau cenedlaethol.
5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael yn ddiweddar gyda'r Gweinidog Addysg ynghylch darparu cyrsiau prifysgolion drwy gyfrwng y Gymraeg? OAQ53903
Rwy'n cael cyfarfodydd rheolaidd gyda'r Gweinidog Addysg lle rydym yn trafod materion sy'n ymwneud ag addysg cyfrwng Cymraeg. Mae sicrhau darpariaeth cyrsiau cyfrwng Cymraeg mewn prifysgolion yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru, ac wrth gwrs, mae rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn hanfodol i sicrhau'r nod hwn.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ei hateb, ac eiliaf yr hyn a ddywed am rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae'n dechrau cyflawni trawsnewidiad. Fodd bynnag, mae etholwr wedi dweud wrthyf—ac nid wyf am enwi’r brifysgol dan sylw gan fod yr unigolyn ifanc yn pryderu am gael ei datgelu—pan gododd y posibilrwydd o wneud rhan o gwrs drwy gyfrwng y Gymraeg, cafodd ymateb anghymwynasgar a diystyriol iawn, ac roedd yn gwbl bosibl iddi wneud hynny gan fod tiwtor ar gael a allai fod wedi darparu rhan o'r cwrs hwnnw. Mae hyn yn adlewyrchu pryder a fynegwyd wrthyf gan eraill fod rhai rhannau o'n prifysgolion yn dal i fod yn ddiwylliannol wrthwynebol i hyn, ac nad ydynt o’r farn fod darparu cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg, yn enwedig efallai mewn pynciau anhraddodiadol, yn rhywbeth ar eu cyfer hwy. Pa gamau pellach y gall y Gweinidog eu cymryd, gan weithio gyda'r Gweinidog Addysg, ac yn amlwg, gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ond hefyd gyda Chyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru i helpu i herio’r hyn sy’n weddill o’r diwylliant negyddol hwn, ac yn fy marn i, diwylliant sy’n lleiafrifol bellach yn rhai o'n prifysgolion, a phwysleisio nad oes gan brifysgol unrhyw beth i’w golli a phopeth i’w ennill drwy sicrhau bod y ddarpariaeth hon ar gael?
Diolch. Credaf eich bod yn llygad eich lle fod trawsnewidiad wedi digwydd o ganlyniad i sefydlu'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, ond mae'n weddol newydd o hyd, ac felly mae gwir angen i’r gwreiddio diwylliannol hwnnw gyflawni o hyd. Mae'n cyflawni'n dda iawn o ran modiwlau mewn rhai pynciau penodol, ond rydych yn llygad eich lle fod pocedi i’w cael lle mae hynny'n anos nag mewn mannau eraill. Yr hyn y byddwn yn parhau i'w wneud, wrth gwrs, yw gweithio drwy'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sy'n derbyn swm sylweddol o arian, oherwydd, mewn gwirionedd, nid yw hyn yn ymwneud yn unig â'r cyrsiau a wnânt; mae'n ymwneud â'u cyfle i fyw ac i weithio ac i siarad yn Gymraeg. A'r hyn a welsom yw cwymp enfawr pan fydd pobl yn gadael eu hysgolion Cymraeg. Felly, oni bai ein bod yn darparu'r cyfle hwnnw i barhau, hyd yn oed os yw hynny ar sail modiwlau'n unig, sy’n rhywbeth y mae'r Aelod yn ei gydnabod—nid ydym yn sôn am gyrsiau cyfan yma—. Credaf fod yn rhaid i hynny fod yn gam rydym yn parhau i'w ddatblygu, ond rwy’n ymrwymo i drafod hynny ymhellach gyda'r Gweinidog addysg.
Mae myfyrwyr rhwng tair a 18 oed yn cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Maent yn dysgu'r holl eiriau technegol drwy gyfrwng y Gymraeg, ac felly nid ydynt yn gwybod y geiriau technegol yn Saesneg. Nid ydynt yn methu siarad Saesneg, ond mae'r geiriau technegol yn eiriau sy'n benodol i'r pynciau—dim ond y fersiynau Cymraeg y maent yn ei wybod. A wnewch chi weithio gyda'r Gweinidog addysg a phrifysgolion Cymru i gynhyrchu map i gynyddu nifer y pynciau sydd ar gael mewn prifysgolion yng Nghymru drwy gyfrwng y Gymraeg, yn enwedig y pynciau poblogaidd iawn hynny y mae pob prifysgol yn eu cynnig?
Mae cynnydd enfawr wedi bod yn barod, felly mae gennym oddeutu 6,800 o fyfyrwyr bellach sydd eisoes yn astudio rhan o'u gradd drwy gyfrwng y Gymraeg. Wrth gwrs, yr hyn a wnaethom yw gwella'r cynnig y tu hwnt i addysg uwch yn awr; mae'n cynnwys addysg bellach, sy'n hanfodol yn fy marn i. Ond yr hyn sydd hefyd yn bwysig—. Credaf fod dadl i'w chael o ran yr iaith dechnegol a sicrhau bod pobl yn deall y termau technegol yn ddwyieithog. Credaf fod honno'n drafodaeth y mae angen ei chael, yn enwedig os yw pobl, wrth gwrs, yn mynd ymlaen i astudio mewn prifysgolion y tu allan i Gymru, felly bydd angen sicrhau eu bod yn barod ar gyfer hynny. Ond yr hyn sy'n bwysig, yn fy marn i, yw ein bod yn parhau i ddilyn y trywydd hwn y mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi bod yn ei ddarparu, ond gadewch i ni edrych yn awr ar sut y gallant gyflawni yn y sector addysg bellach.
6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gysylltiadau Llywodraeth Cymru â Thwrci? OAQ53908
Mae gan Gymru a Thwrci berthynas dda sy'n canolbwyntio ar addysg, masnach a chysylltiadau diwylliannol. Ymwelodd llysgennad Twrci yn y DU â Chymru yn y flwyddyn newydd, a'r wythnos diwethaf, fe groesawom ni ddirprwyaeth o weinyddiaeth addysg Twrci.
Diolch, Weinidog. Fe fyddwch yn ymwybodol fod Imam Sis, dinesydd Cwrdaidd sydd bellach yn byw yng Nghymru, wedi bod ar streic newyn ers 157 diwrnod. Gwn eich bod yn ymwybodol ohono gan y gwn fod y gymuned yn gwerthfawrogi eich ymweliad preifat i siarad ag ef. Ond tybed pa gynnydd, os o gwbl, a wnaed o ran perswadio Llywodraeth Twrci i roi terfyn ar ynysu’r arweinydd Cwrdaidd Abdullah Öcalan, sef y rheswm pam fod Imam Sis yn agosáu at farw dros yr achos y mae’n teimlo cymaint o angerdd yn ei gylch. Gan nad yw hwn yn fater datganoledig—cyfrifoldeb Llywodraeth y DU a Senedd y DU yw materion tramor i raddau helaeth—a ydych wedi gallu canfod beth y mae'r AS lleol, Jessica Morden, wedi gallu ei wneud yn Senedd y DU, a beth oedd ymateb Jeremy Hunt i sefyllfa enbyd ein dinesydd, gan y gwn fod hyn yn achos cryn bryder ymhlith fy etholwyr a llawer o bobl eraill?
Diolch. Wrth gwrs, rydym yn bryderus iawn ynghylch cyflwr Imam Sis, a dyna pam yr ysgrifennais, ychydig wythnosau yn ôl, at yr Ysgrifennydd Tramor yn gofyn iddo ystyried y sefyllfa a'r pryderon a fynegwyd yma yn y Cynulliad. Wrth gwrs, rydym yn cydnabod bod materion tramor yn faes a gedwir yn ôl, ond mae'n bwysig, pan fydd pobl yn teimlo'n gryf am faes penodol, ein bod yn gallu cyfathrebu hynny i'r Ysgrifennydd Tramor. Fe wnaethom hynny. Rwy'n dal i ddisgwyl ymateb gan yr Ysgrifennydd Tramor ar y mater, ond yr hyn y gallaf ddweud wrthych yw fy mod yn gwybod bod Llywodraeth y DU wedi codi achos Öcalan gydag awdurdodau Twrci a llysgennad Twrci yr wythnos diwethaf. Gwn fod Öcalan wedi cael mynediad at gyfreithwyr, ar 2 Mai, ac mai dyna oedd y tro cyntaf mewn sawl blwyddyn i hynny ddigwydd, ond mae hefyd wedi gofyn i'r streicwyr newyn beidio â pharhau heibio'r pwynt lle mae'n peryglu eu hiechyd neu mewn perygl o farw. Felly, rydym yn bryderus iawn ynghylch sefyllfa Imam Sis.
Rwy'n siŵr y byddwch, fel finnau, yn awyddus i ddiolch i Lywodraeth y DU am fynegi pryderon ynghylch camweddau hawliau dynol yn Nhwrci. Fe ddywedoch, yn gwbl gywir, fod hwn yn fater sydd heb ei ddatganoli, ond un peth am Twrci yw ei bod yn amlwg fod gennym boblogaeth Dwrcaidd alltud sylweddol yma yng Nghymru, a chredaf ei bod yn bwysig ein bod yn defnyddio'r cyfleoedd sydd ar gael o ran y cysylltiadau hynny â'r boblogaeth Dwrcaidd alltud a'u cysylltiadau ag adref i hyrwyddo perthynas gadarnhaol â Thwrci, lle gall Cymru gael effaith gadarnhaol ar agweddau cymdeithasol yn y wlad honno. Felly, a gaf fi ofyn i chi pa waith penodol rydych chi a'ch swyddogion yn ei wneud gyda'r boblogaeth Dwrcaidd alltud i hyrwyddo'r cysylltiadau hynny â'r gymdeithas sifil, er mwyn newid rhai o'r agweddau tuag at hawliau dynol a materion eraill yn Nhwrci nad ydynt o bosibl yn cyd-fynd â'n gwerthoedd cymdeithasol yma yng Nghymru?
Diolch. Wel, soniais i gychwyn am y ffaith ein bod yn canolbwyntio ar addysg, masnach a chysylltiadau diwylliannol â Thwrci. Yn wir, Twrci yw'r wlad lle rydym yn anfon—. Dyma'r farchnad allforio fwyaf ond deg i ni, felly nid yw'n genedl ansylweddol yn yr ystyr hwnnw. Wrth gwrs, rydym yn awyddus i sicrhau ein bod yn parhau â'n deialog â chymdeithas sifil, a golygai’r ymweliad gan lysgennad Twrci ei fod wedi gallu mynd i siarad â rhai cwmnïau o Dwrci sydd wedi'u lleoli yma ac sydd wedi buddsoddi yma yng Nghymru.
7. Pa asesiad y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o effaith y Cytundeb Partneriaeth Economaidd rhwng yr UE a Japan ar Gymru? OAQ53892
Mae Japan yn parhau i fod yn bartner masnach allweddol i Gymru ac mae'n bwysig bod cwmnïau o Gymru'n gallu parhau i fasnachu â Japan yn y dyfodol. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau i asesu a monitro effaith y bartneriaeth economaidd ar Gymru.
Diolch i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw, ac rwy'n siŵr y bydd yn cytuno â mi ei bod yn bwysig i ni gwblhau cytundeb olynol i gytundeb yr UE cyn gynted â phosibl pan fyddwn yn gadael. Dywedodd yn gynharach, mewn ymateb i Darren Millar, ei bod yn haws creu cytundeb masnach pan fo gennych 450 miliwn o bobl na gwneud hynny gyda 50 miliwn o bobl. Nid wyf yn siŵr a oes unrhyw dystiolaeth hanesyddol i gyfiawnhau'r honiad hwnnw, ond mae’n wir ei bod yn haws cwblhau cytundeb os ydych yn negodi ar ran un wlad nag ar ran 28 o wledydd, fel y dangosodd cynnydd cytundeb masnach Canada a’r UE yn glir iawn.
A yw hi'n cytuno bod masnachu â Japan yn bwysig iawn, yn enwedig i'r diwydiant modurol, oherwydd gwelwyd cynnydd o 25 y cant yn y galw am geir a wnaed ym Mhrydain yn Japan y llynedd? Gan fod economi Prydain yn gwneud yn eithaf da yn rhyngwladol, mae pob rheswm dros ddisgwyl y byddwn yn gallu cynyddu ein masnach gyda Japan yn sylweddol. Mae'r ffigurau cynnyrch domestig gros diweddaraf ar gyfer y DU yn dangos cynnydd o 0.5 y cant, cynnydd o 0.5 y cant mewn buddsoddiad busnes a chynnydd o 2.2 y cant mewn gweithgynhyrchu, o'i gymharu â 0.4 y cant yn yr UE, ac mae Llywodraeth yr Almaen wedi lleihau ei rhagolygon twf ar gyfer eleni o 2.1 y cant i 0.5 y cant, felly, bod ar y tu allan i'r UE, a masnachu gydag 85 y cant o'r economi fyd-eang nad yw yn yr UE sy’n cynnig y cyfle gorau i Brydain lwyddo yn y dyfodol.
Wel, rydym yn clywed y brefu parhaus hwn eto: 'Gadewch i ni wneud y cytundebau masnach hyn gyda phobl ar hyd a lled y byd.' Y ffaith amdani yw bod 50 y cant o'n hallforion yn mynd i'r UE. Ni allwch—[Torri ar draws.] O ran masnachu nwyddau, yng Nghymru, mae oddeutu 50 y cant, sy'n wahanol i'r DU, sydd oddeutu 40 y cant.
Rwy'n credu mai'r hyn sy'n bwysig yw ein bod yn deall na allwch lofnodi'r cytundebau masnach hyn dros nos. Weithiau maent yn cymryd blynyddoedd i’w datblygu, fel y gwyddom o ymgais yr Unol Daleithiau i ffurfio cytundeb masnach â'r Undeb Ewropeaidd. Felly rydym yn gwybod y bydd hyn yn anodd iawn, a gwyddom ein bod yn debygol o gael cytundeb gwell fel aelod o grŵp lle gallwch brynu a gwerthu nwyddau gyda 500 miliwn o bobl.
Nawr, credaf ei bod yn bwysig nad ydym yn colli ffydd nac yn colli gobaith. Rwy'n credu bod gennym berthynas gref â'r Japaneaid, ac mae angen i ni adeiladu arni a sicrhau ein bod yn datblygu'r berthynas ddwyochrog honno i barhau â'r buddsoddiad y gobeithiwn y byddant yn parhau i'w wneud yn ein gwlad, ond hefyd ein bod yn manteisio ar y cyfle i gynyddu ein hallforion i Japan, ac mae hwnnw'n sicr yn rhywbeth y gobeithiwn ei wneud yn ystod cwpan y byd.
Yn gynharach yn y sesiwn gwestiynau, roedd pobl yn trafod Cwpan Rygbi'r Byd yn Japan a'r cysylltiadau masnach hirsefydlog sydd gennym â Japan, Weinidog. Pa feincnodau rydych wedi'u gosod ar gyfer llwyddiant gyda'r gwahanol deithiau masnach a fydd yn cael eu trefnu i Japan yn sgil cwpan y byd? Yn hytrach na mynd ati i’w fesur mewn cwpaneidiau o goffi a yfir a chacennau cri a fwyteir, mae'n bwysig ein bod yn gallu mesur gwir lwyddiant pan fydd cwpan y byd yn dod i ben, a bod proffil Cymru a threiddiad marchnad Japan yn llawer mwy na phan ddechreuodd cwpan y byd.
Credaf eich bod yn hollol gywir. Mae angen i ni weld ffigurau cyflawni pendant iawn. Dyna pam fod gennyf gyfarfod yn syth ar ôl hyn gyda’n cynrychiolydd yn Japan, sydd wedi dychwelyd i Gymru i drafod hyn, er mwyn penderfynu beth yn union rydym yn ceisio’i ennill o ganlyniad i’r cyfle hwn, y cyfle unigryw hwn sydd gennym, i arddangos ein gwlad ar lwyfan rhyngwladol. Nid wyf yn credu y dylem gyfyngu ein hunain i Japan. Credaf fod cyfle i ni ddangos ein hunain yn fwy eang yn y dwyrain pell. Rwy’n credu, os edrychwch ar feincnodau ar gyfer llwyddiant, buaswn yn sicr yn gobeithio y byddwn yn gweld cynnydd yn y pen draw yn y bwyd a diod y gallwn ei allforio, er enghraifft. Ac wrth gwrs, rydym yn edrych i weld yn benodol a allwn agor y farchnad cig oen yno a sicrhau y gallwn lamu i'r farchnad honno yn sgil cwpan y byd.
Diolch yn fawr iawn, Weinidog.
Eitem 3 ar yr agenda y prynhawn yma yw’r cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad. Bydd y cwestiwn cyntaf y prynhawn yma yn cael ei ateb gan y Llywydd. Janet Finch-Saunders.
1. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am gyfranogiad y Cynulliad yn Eisteddfod yr Urdd 2019? OAQ53898
Mae'n bleser gweld Eisteddfod yr Urdd yn cael ei hadeiladu o'n cwmpas yn y bae yma. Yr wythnos nesaf, caiff yr arddangosfa celf, dylunio a thechnoleg ei chynnal yn y Senedd, ac yno hefyd bydd aelodau o Senedd Ieuenctid Cymru yn hyrwyddo eu gwaith nhw drwy'r wythnos. Bydd cyfle i ymwelwyr ddysgu am waith y Cynulliad a thynnu llun yn y Siambr yma yn ystod yr wythnos. Bydd pafiliwn y dysgwyr yn defnyddio'r Pierhead. Ac os caf i gymryd y cyfle i ddymuno’n dda i'r Urdd ac i'r holl bobl ifanc hynny fydd yn cystadlu ac yn cymryd rhan yma yn Eisteddfod yr Urdd ym Mae Caerdydd yr wythnos nesaf.
Diolch yn fawr. Rwy'n credu mai dyna'r tro cyntaf i mi ofyn cwestiwn yn y Cynulliad hwn lle nad wyf wedi teimlo bod angen gofyn cwestiwn atodol oherwydd rydych wedi mynd i'r afael â llawer o'r pwyntiau mewn gwirionedd.
Ond hoffwn longyfarch a diolch i bawb sy’n cymryd rhan. Yn amlwg, dyma fydd calon Eisteddfod yr Urdd yr wythnos nesaf, a bydd y sefydliad hwn sy'n cynrychioli democratiaeth Gymreig yn gartref i'r arddangosfa gelf, dylunio a thechnoleg. Ac rwy'n credu ei bod yn wych nodi y bydd dros 100,000 o ymwelwyr yma, a bydd llawer ohonynt yn ymweld â'r adeilad hwn, a byddant yn dysgu am y gwaith rydym yn ei wneud.
Y cwestiwn roeddwn am ei ofyn, beth bynnag: o gofio bod yr Eisteddfod yn digwydd ar adeg ugeinfed pen blwydd y Cynulliad, pa ystyriaeth y mae'r Comisiwn wedi'i roi i goffáu’r digwyddiad hwn yn y Senedd, megis drwy archwilio'r posibilrwydd o gynnal arddangosfa gelf neu wahodd mynychwyr i greu darn o waith creadigol y gellid ei arddangos yma? Diolch.
Diolch am y cyfraniad yna a'r cwestiwn o ran beth yw hirhoedledd presenoldeb yr Urdd wedi digwyddiadau'r wythnos nesaf. Fe fydd yna gynnwrf yr wythnos nesaf ym Mae Caerdydd. Fe fydd yna bobl ifanc o bob cwr o Gymru, o bob etholaeth yng Nghymru, yn cystadlu ac yn cymryd rhan yma, ac mae hynny i'w groesawu'n fawr iawn. A dwi'n gobeithio y bydd cymaint o Aelodau â phosibl yn gallu gweld hynny ar waith hefyd. Ond, wrth gwrs, fe fyddwn ni'n sicrhau bod y cyhoedd sy'n ymweld â'n Senedd ni yma, efallai am y tro cyntaf hyd yn oed, yn cael y cyfle i ddysgu rhywfaint am y gwaith, yr hyn rŷm ni wedi'i gyflawni dros yr 20 mlynedd ddiwethaf wrth inni fod yn cydnabod hyn. Ac, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni gofio bod gwersyll yr Urdd drws nesaf i ni yn barhaol fan hyn hefyd, ac mae aelodau o'r Urdd wastad yn cael eu croesawu yma i'r Senedd—eu Senedd nhw—fel pawb o bobl ifanc Cymru.
Diolch. Cwestiwn 2, sydd i'w ateb gan y Comisiynydd Siân Gwenllian. Dai Lloyd.
2. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad yn amlinellu'r camau sy'n cael eu cymryd i sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn gosod dogfennau gerbron y Cynulliad yma yn y Gymraeg? OAQ53911

Diolch yn fawr am y cwestiwn. Mae'r Swyddfa Gyflwyno yn gwirio pob dogfen a osodir. Os na ddarparwyd fersiwn dwyieithog o'r ddogfen, bydd aelod o'r staff yn cysylltu i ofyn a oes fersiwn ar gael. Yn unol â Rheol Sefydlog 15.4, fe ganiateir i ddogfennau gael eu gosod yn uniaith os nad yw'n briodol o dan yr amgylchiadau, neu yn rhesymol ymarferol i ddarparu fersiwn ddwyieithog. Mae Llywodraeth Cymru yn ddarostyngedig i'r Rheol Sefydlog hon.
Wrth gasglu'r ystadegau ar gyfer yr adroddiad blynyddol ar gynllun ieithoedd swyddogol y Comisiwn y llynedd, fe welwyd nad oedd cyfran sylweddol o'r dogfennau sy'n cael eu gosod gan Lywodraeth Cymru yn cael eu gosod yn ddwyieithog. Memoranda esboniadol oedd y rhan fwyaf o'r dogfennau yma, a'r rheswm dros beidio â'u cyflwyno'n ddwyieithog yn ôl y Llywodraeth oedd nad oedd yn ymarferol gallu gwneud hynny. Doeddwn i ddim yn hapus efo hynny, ac yn rhinwedd fy swydd fel y Comisiynydd â chyfrifoldeb am ieithoedd swyddogol, mi wnes i ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes am arweiniad pellach. Ac fe ofynnodd y Pwyllgor Busnes i swyddogion drafod y mater. Cyfarfu swyddogion Comisiwn y Cynulliad â swyddogion Llywodraeth Cymru ym mis Mawrth. Yn ystod y cyfarfod, trafodwyd sut y byddai modd i Lywodraeth Cymru wella nifer y dogfennau a osodir yn ddwyieithog, a'r posibilrwydd o bennu targedau ar gyfer y cynnydd hwn, gyda'r nod yn y pen draw o gyflwyno'u holl ddogfennau yn ddwyieithog.
Diolch yn fawr i'r Comisiynydd am ei hymateb. Cefndir y cwestiwn hwn yw bod y Gweinidog iechyd a'i adran wedi gosod rheoliadau ar gyfer rhoi dyletswyddau o ran y Gymraeg ar ddarparwyr gofal iechyd sylfaenol, yn ogystal â memorandwm esboniadol, yn y Swyddfa Gyflwyno ar 9 Mai eleni. Roedd y memorandwm esboniadol a osodwyd yn uniaith Saesneg. Mae hyn yn syfrdanol yn fy marn i, yn enwedig o ystyried pwnc y ddogfen. Roedd aelodau'r pwyllgor materion cyfansoddiadol yn rhannu fy mhryderon am hyn, a byddwn ni'n ysgrifennu at y Llywodraeth i rannu'r pryderon hynny. Rydw i hefyd wedi derbyn cyngor gan Gomisiynydd y Gymraeg, sydd fwy neu lai yn cadarnhau bod y Llywodraeth yn torri safon yn yr achos yma. Os nad ydy'r Llywodraeth yn meddwl ei bod yn rhesymol i sicrhau y gallwn ni fel Aelodau sy'n cynrychioli'r cyhoedd weld dogfen o'r math yma yn Gymraeg, pa gamau pellach all y Comisiwn eu cymryd i sicrhau nad oes modd i'r Llywodraeth weithredu'n groes i ysbryd y Ddeddf ieithoedd swyddogol ac i'w safonau iaith ei hunan wrth gyflwyno busnes gerbron y Cynulliad hwn?
Diolch yn fawr i Dai Lloyd am y cwestiwn atodol yna ac am dynnu sylw at y broblem yma. Yn y lle cyntaf, gaf i ddweud fy mod i yn rhannu eich siomedigaeth chi fod y Llywodraeth wedi methu â darparu fersiwn Gymraeg o'r memorandwm esboniadol i'r rheoliadau penodol yma yn ymwneud â'r Gymraeg mewn gwasanaethau gofal sylfaenol pan osodwyd y memorandwm? Dydy o ddim yn cydymffurfio ag ysbryd y cynllun. Dwi yn deall bod swyddogion y Comisiwn wedi mynd yn ôl i ofyn i'r Llywodraeth a oedd bwriad i ddarparu fersiwn ddwyieithog o'r memorandwm, a chafwyd cadarnhad nad oedd bwriad i ddarparu fersiwn Gymraeg.
Mae'r Comisiwn yn disgwyl i Lywodraeth Cymru barchu hawl ein Haelodau i weithio yn eu dewis iaith, a dydy hi ddim yn bosib i Aelodau arddel y dewis hwnnw wrth baratoi at drafodion os nad ydy'r dogfennau arwyddocaol o'r fath ar gael. Dŷn ni'n disgwyl hefyd i Lywodraeth Cymru gyflwyno dogfennau yn y ddwy iaith ar yr un pryd. Nid yw'n dderbyniol i'r sawl sy'n dymuno darllen dogfennau yn Gymraeg orfod aros yn hirach—yn hir iawn weithiau—ar gyfer y fersiwn Gymraeg.
Fel y dywedais i, dwi eisoes wedi ysgrifennu at y Pwyllgor Busnes am hyn ac rwy'n deall bod y trafodaethau rhwng swyddogion Llywodraeth Cymru a Chomisiwn y Cynulliad, ar gais y Pwyllgor Busnes, wedi bod yn rhai positif. Ond, er hynny, mae'r achos penodol yma yn awgrymu bod angen cymryd rhagor o gamau eto, ac mi fyddaf i'n gofyn i swyddogion edrych ar ba gamau pellach allwn ni eu cymryd.
Diolch. Mae cwestiwn 3 i'w ateb gan y Comisiynydd David Rowlands. Huw Irranca-Davies.
3. A wnaiff y Comisiwn ystyried y posibilrwydd o ddefnyddio beiciau cargo ar gyfer danfoniadau i'r Cynulliad? OAQ53888

Mae'n rhaid i mi gyfaddef, pan ystyriais y cwestiwn hwn am y tro cyntaf, cefais ddelwedd syfrdanol o lynges gyfan o feiciau Granville yn ymddangos y tu allan gyda'u basgedi’n llawn, ond wrth gwrs, mae'r rhain yn gerbydau pwrpasol. Mae'r Comisiwn yn cytuno bod ganddynt botensial i leihau effaith cerbydau dosbarthu mewn amgylchedd trefol, yn enwedig ar gyfer y 'filltir olaf' o daith ddosbarthu. Yn unol â hyn, rwy'n falch o adrodd ein bod eisoes yn defnyddio cludwyr ar feiciau i gludo dogfennau ar draws Caerdydd. Yn ogystal â hyn, gallaf gadarnhau ein bod wedi siarad am y posibilrwydd o ddefnyddio beiciau cargo gyda’r cludwyr rydym yn eu defnyddio amlaf, ond o ystyried y pellter o'u depo a'r ffaith eu bod angen parhau i fod yn gystadleuol yn economaidd, nid yw hwn yn opsiwn ymarferol iddynt ar hyn o bryd. Fodd bynnag, byddwn yn adolygu'r sefyllfa hon gyda hwy a'n holl gyflenwyr.
Rwy'n croesawu'r ateb hwnnw a'r optimistiaeth sydd ynddo. Fel y gwyddoch, David, nid yw'r beiciau cargo hyn yn bethau arbenigol, rhyfedd, maent i'w gweld yn llawer o brifddinasoedd Ewrop bellach. Maent wedi dod yn rhan sylfaenol o ddosbarthu 'milltir olaf' mewn dinasoedd ac ardaloedd trefol. Nid oes rhaid iddynt ymdopi â thocynnau parcio. Nid oes rhaid iddynt ymdopi â phroblemau tagfeydd. Cyhyd â bod seilwaith beicio da, gallant gyrraedd lleoedd yn gyflymach na faniau dosbarthu ac ati. Felly, gyda'r nodyn anogol hwnnw rwyf newydd ei glywed, tybed a gaf fi ofyn i'r Comisiwn weithio gyda Llywodraeth Cymru—a sylwaf fod ein Gweinidog teithio llesol yma hefyd—i edrych ar botensial cyfunol y Comisiwn a Llywodraeth Cymru i gefnogi cynnydd mewn dosbarthiadau beiciau cargo ledled Caerdydd—Parc Cathays i’r lle hwn, i'r pumed llawr, a gwaith y Comisiwn hefyd—a gweld a allwn adeiladu'r achos economaidd a fydd yn ysbrydoli darparwr annibynnol neu'r cwmni beiciau cargo cydweithredol cyntaf yng Nghymru, efallai, yma yng Nghaerdydd, i sbarduno'r mecanwaith dosbarthu hwnnw yn ein prifddinas.
Wel, nodais yn y papurau ac yn y cefndir i hyn eich bod wedi sôn am lori'n cyrraedd y tu allan i gatiau'r lle hwn gydag un parsel yn y cefn, a drwy gyd-ddigwyddiad, roeddwn yn dyst i hynny fy hun a gallaf eich sicrhau ei fod yn barsel unig iawn mewn lori enfawr. Ond wrth gwrs, mae’n fwy na thebyg mai hwnnw oedd y parsel olaf oedd gan y lori honno yn ei hamserlen ddosbarthu. Ond gallaf eich sicrhau ein bod yn archwilio pob ffordd o annog cludwyr a chwmnïau dosbarthu i roi ystyriaeth bellach i’r posibilrwydd o ddosbarthu, yn enwedig, fel y dywedasom, y filltir olaf honno, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Rydym mewn cysylltiad cyson â'r rheini sy'n dosbarthu i'r ystâd ac rydym wedi dweud wrthynt, pe baent yn ystyried cychwyn gwasanaeth o'r fath yn y dyfodol, y byddai gennym ddiddordeb mawr mewn bod yn rhan o wasanaeth o'r fath.
Nid yn unig un parsel yn troi i fyny mewn fan, ond yn aml iawn mae yna un aelod o staff neu un—
Maddeuwch i mi, Llyr. Collais y rhan gyntaf o’r hyn a ddywedoch chi.
Nid dim ond un parsel yn troi i fyny mewn cerbyd, ond yn aml iawn mae yna unigolion yn troi i fyny mewn cerbydau, boed yn staff neu Aelodau yma hefyd. A gaf i ofyn, felly, yng ngoleuni'r ffaith bod y Cynulliad yma wedi datgan argyfwng newid hinsawdd, fod y Comisiwn yn edrych ar bolisïau cludiant ehangach yn y lle yma ac yn gwneud mwy i annog mentrau sydd nid yn unig yn annog Aelodau i ddefnyddio dulliau mwy amgylcheddol-gyfeillgar o drafnidiaeth ond hefyd mwy o ymdrech i sicrhau ein bod ni'n rhannu cerbydau pan fo cyfle i wneud hynny?
Ie, mewn cwestiynau yn y gorffennol, rwy'n siŵr ein bod wedi nodi bod y Comisiwn o ddifrif ynghylch y materion hyn. Yn amlwg, gyda darpariaeth parcio ar gyfer beiciau ac ati, mae hwnnw’n un o'r pethau y buom yn edrych arnynt ac wrth gwrs, unwaith eto, rydym yn edrych ar osod pwyntiau gwefru trydanol; cyn gynted ag y bydd y lleoedd ar gael, byddwn yn manteisio ar hynny hefyd. Felly, mae'r Comisiwn wedi ymrwymo'n gadarn i leihau ôl-troed carbon y Cynulliad hwn yn gyffredinol.
Diolch. A chwestiwn 4—Helen Mary Jones—a fydd yn cael ei ateb gan y Llywydd.
4. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am hygyrchedd y Senedd i aelodau'r cyhoedd? OAQ53912
Mae'r Comisiwn wedi ymrwymo i sicrhau bod aelodau'r cyhoedd yn ddiogel wrth ddod i ystad y Cynulliad. Rhan hanfodol o wireddu'r ymrwymiad yma yw cynnal adolygiadau parhaus o'r gweithdrefnau diogelwch i sicrhau eu bod yn ein galluogi i gael cydbwysedd rhwng ein dymuniad i groesawu'r cyhoedd ar yr ystad a'n dyletswydd i gadw pawb yn ddiogel a sicrhau y gall busnes y Cynulliad barhau heb ymyrraeth.
Wel, rwy'n ddiolchgar i'r Llywydd am yr ateb hwnnw ac yn amlwg, mae angen cydbwysedd rhwng diogelwch a mynediad, ond bydd y Llywydd yn ymwybodol o ddigwyddiad ar 1 Mai eleni, pan gafwyd gwrthdystiad digon heddychlon a hwyliog gan brotestwyr newid hinsawdd y tu allan i'r adeilad hwn, pan oedd y Siambr yn trafod a fyddem yn mabwysiadu'r polisi ynghylch argyfwng newid hinsawdd ai peidio. Roedd y protestwyr hynny eisiau dod i mewn i weld y ddadl o'r oriel gyhoeddus. Roedd yr oriel gyhoeddus ar y pryd yn wag at ei gilydd, a gwrthodwyd mynediad i lawer ohonynt i'r adeilad. Nid wyf mewn sefyllfa i ddweud y naill ffordd neu'r llall, ond yn sicr roedd rhai o’r bobl hynny o dan yr argraff eu bod wedi cael eu gwrthod oherwydd eu hymddangosiad, oherwydd nad oeddent yn cael eu hystyried yn ddigon parchus. Nawr, mae’n rhaid i mi ddweud wrth y Llywydd bod rhai o’r menywod a gafodd fynediad wedi bod yng Nghomin Greenham gyda mi yn yr 1980au a go brin eu bod yn barchus, ond rwy’n siŵr fod rhai o'r bobl iau a waharddwyd yn ddinasyddion parchus iawn yn ôl pob tebyg.
Ond o ddifrif, rwy'n awyddus iawn i sicrhau nad ydym yn cyffredinoli. Nid wyf yn deall pam fod unrhyw ofn y byddai'r bobl a waharddwyd wedi creu unrhyw fath o risg. Roedd yr oriel bron â bod yn hollol wag, roeddent wedi dod i fynegi barn i'r lle hwn ar fater roedd y lle hwn yn ei drafod. Rwyf fi, ac Aelodau eraill ar y fainc hon yn sicr, yn teimlo ei bod yn anffodus iawn na roddwyd mynediad iddynt, ac os oes unrhyw bolisi sy’n dweud, os ydych yn protestio un funud, na allwch ddod yn aelod o'r cyhoedd i arsylwi ar y trafodion y funud nesaf, hoffwn geisio sicrwydd y Comisiwn y bydd y polisi hwnnw'n cael ei newid.
Diolch am y cwestiwn. Rydw i'n cofio'r achlysur. Wrth gwrs, fe wnaeth rhai Aelodau ddwyn sylw at y ffaith ar y dydd fod yna brotestwyr sydd hefyd yn aelodau o'r cyhoedd yn awyddus i ddod mewn yn ystod y drafodaeth yna a bod yr oriel gyhoeddus â digon o le ynddi i bobl fedru gwneud hynny.
Fel y nodais i yn yr ateb cychwynnol, mae hyn yn fater o gydbwysedd, wrth gwrs, rhwng materion diogelwch a'r angen i ganiatáu i bobl Cymru fedru ymweld â ni ac i wneud hynny'n ddiogel, ac i fedru gwrando ar ein trafodaethau ni fan hyn. Mae yna god ymddygiad clir i ymwelwyr, ac un sy'n ymdrin hefyd â phrotestiadau. Mae'r cod yn nodi, er mwyn sicrhau diogelwch, mai dim ond chwe chynrychiolydd o grŵp protest sy'n cael bod y tu mewn i'r adeilad ar unrhyw adeg. O ganlyniad, yn yr achos yma, cafodd chwe chynrychiolydd fynediad i'r ystad, ond ni roddwyd mynediad i weddill y grŵp, fel ŷch chi wedi nodi yn eich cwestiwn.
Ar yr achlysur yma, yn ystod y trafodaethau, fe wnaethpwyd penderfyniad strategol i ganiatáu mwy o brotestwyr i ddod mewn i'r Neuadd, ond, wrth gwrs, mi oedd hynny wrth i'r prynhawn fynd yn ei flaen a'r ddadl wedi'i chwblhau.
Mae profiad yr hyn a ddigwyddodd y diwrnod hwnnw—y ffaith bod nifer o Aelodau wedi dwyn ein sylw ni at yr hyn a oedd yn digwydd a nawr eich cwestiwn chi—. Rydyn ni wedi—rydw i wedi gofyn am adolygiad o'r polisi fel y mae'n bodoli ar hyn o bryd, ac fe fydd y Comisiwn yn edrych ar hynny maes o law. A gaf i ofyn i chi, fel Aelodau yn y Siambr yma, ddwyn i sylw'r Comisiynwyr o'ch pleidiau chi'ch hunain yr hyn ŷch chi'n credu sydd yn gydbwysedd iawn i'w daro wrth inni fod yn adolygu'r polisi yma?
Os caf i eich sicrhau chi, Helen Mary Jones, rŷm ni'n gwneud hynny—rŷm ni'n gwneud ein gwaith o ran diogelwch mewn ffordd sydd yn trin pawb yn gyfartal, ac rŷm ni, byddwn i'n dweud, ar y cyfan, yn weddol o lwyddiannus yn cydbwyso hynny rhwng diogelwch a chaniatáu i bawb fedru ymweld â'n Senedd ni fan hyn. Os ydyn ni wedi ei gael e'n anghywir yn y gorffennol, yna mae'n rhaid inni ddysgu o'r profiad hynny, ac rwy'n edrych ymlaen at drafod y materion yma ymhellach, fel y gallwn ni sicrhau ein bod ni'n lle diogel—yn lle diogel i bobl ymweld ag ef, yn ogystal ag i ni'n hunain a'n staff, ond hefyd ein bod ni'n lle sy'n agored, a bod ein horiel gyhoeddus ni mor llawn ag y gallith hi fod ar bob achlysur posib.
Diolch am y sylwadau rydych wedi’u gwneud hyd yn hyn, Lywydd. Gan nad oedd unrhyw dor-cyfraith o gwbl pan ddigwyddodd yr holl brotestiadau yn Llundain yn gynharach yr wythnos honno, roedd yn ymddangos yn hurt i ragdybio y byddent yn torri’r heddwch mewn rhyw fodd oherwydd eu bod yn aelodau o Extinction Rebellion.
Un o'r pethau nad oes gennym yn y Senedd hon sydd ganddynt yn Senedd y DU yw hawl i’r Aelodau gael ymwelwyr personol, oherwydd ceisiais ofyn i'r bobl ddiogelwch am ganiatâd i wahodd sawl aelod roeddwn yn eu hadnabod yn bersonol, sy’n aelodau o fy etholaeth, i fynychu'r ddadl. Ni chefais ganiatâd—yn bendant, dywedasant, 'Na, rydym wedi cael gwybod mai dim ond chwech o bobl sy’n cael dod i mewn ac maent hwy eisoes wedi cael eu gadael i mewn.'
Rwy'n falch eich bod wedi cytuno i'n gwahodd i roi sylwadau ar y Rheol Sefydlog benodol hon, ond ymddengys i mi y dylem fod yn ymrwymo i sicrhau bod y Senedd hon mor agored â phosibl, ac mae'n debygol fod gan y rheini sy'n protestio ar y grisiau ddiddordeb yn y ddadl sy'n mynd rhagddi ar y mater hwnnw.
Oes, yn sicr. Os caf fi ailadrodd, lle ceir protest, mae’r polisi presennol yn datgan mai chwech o bobl o'r brotest honno sy’n cael dod i mewn i’r Cynulliad, naill ai i siarad â phwy bynnag y maent angen siarad â hwy neu i fynychu unrhyw ddadl yma. Mae'r rhif chwech yn y polisi—nid yw'n ymwneud ag Extinction Rebellion nac unrhyw grŵp protest, nac unrhyw un o unrhyw le yng Nghymru sy'n protestio ar ein grisiau. Ond yn amlwg, byddwn yn dysgu o'r profiad ac rwy'n eich gwahodd unwaith eto i wneud yn siŵr fod y Comisiynwyr yma sy'n eich cynrychioli yn gwbl ymwybodol o sut rydych eisiau i ni sicrhau’r cydbwysedd yn briodol yn y dyfodol.
Eitem 4 ar yr agenda y prynhawn yma yw'r cwestiynau amserol, a bydd y cwestiwn amserol y prynhawn yma yn cael ei ateb gan y Dirprwy Weinidog a'r Prif Chwip. Leanne Wood.
1. A wnaiff Llywodraeth Cymru ddatganiad am yr effaith a gafwyd ar gydlyniant cymunedol yn sgil y ffaith bod Llywodraeth y DU wedi gwrthod y diffiniad o Islamoffobia? 315

Yn y fforwm cymunedau ffydd y bore yma, tynnodd y Prif Weinidog sylw at ystyriaeth Llywodraeth Cymru o'r diffiniad o Islamoffobia. Rydym mewn trafodaethau gyda Llywodraeth yr Alban, gyda golwg ar fabwysiadu'r diffiniad. Mae angen i ni sydd mewn grym wneud safiad dros bobl sy'n cael eu stigmateiddio neu’n cael eu cam-drin.
Rwy'n siŵr eich bod yn rhannu fy siom ynghylch methiant y Torïaid yn San Steffan i gymeradwyo’r diffiniad hwnnw, sy'n seiliedig ar ddiffiniad y Cenhedloedd Unedig o wahaniaethu hiliol a diffiniad Runnymede. Tybed a oes ganddo unrhyw beth i'w wneud ag unigolyn penodol yn y ras am yr arweinyddiaeth, a’i sylwadau difrïol yn erbyn Mwslimiaid, gyda sylwadau am fenywod yn edrych fel blychau llythyrau yn un enghraifft yn unig o anoddefgarwch yr unigolyn hwnnw.
Efallai hefyd y byddwch eisiau llongyfarch y Cymry ifanc a ymddangosodd yn rhaglen y BBC, Young, Welsh and Pretty Religious, ac yn arbennig, gwaith yr ymgyrchydd gwrth-Islamoffobia, Sahar Al-Faifi, sydd wedi dioddef llawer o gamdriniaeth a bygythiadau am siarad am yr angen am y diffiniad hwn o Islamoffobia, yn enwedig gan sylwebyddion asgell dde ar y cyfryngau cymdeithasol yr wythnos ddiwethaf.
Mae Plaid Cymru fel plaid wedi ymrwymo i gydnabod y diffiniad hwn o Islamoffobia, ac rwy'n croesawu'r datganiad rydych newydd ei wneud, Weinidog, sef bod Llywodraeth Cymru yn barod i’w ystyried hefyd. A wnewch chi longyfarch Sahar a'r lleill sy'n ymladd hiliaeth ac Islamoffobia ac ymrwymo i amddiffyn pobl o bob ethnigrwydd a chrefydd pan fyddant yn wynebu gwahaniaethu, camdriniaeth a chael eu bychanu'n ddyddiol? Ac a wnewch chi ymuno â mi hefyd i gondemnio'r bobl sy'n pedlera’r wleidyddiaeth atgas, ‘chwiban y ci’ honno sy'n arwain at weithredoedd o'r fath?
Rwy’n ddiolchgar i Leanne Wood am gyflwyno’r cwestiwn hwn i'n galluogi i fod yn glir iawn ynglŷn â'n sefyllfa. Mae Llywodraeth Cymru yn gwrthwynebu Islamoffobia a phob math o droseddau casineb crefyddol yn ddiamwys. Mae'n rhaid i ni gymryd cyfrifoldeb am mai ni sydd mewn grym.
Mae'n drist, mewn ffordd, o ran y sefyllfa a ddaeth i'r amlwg mewn perthynas â Llywodraeth y DU, oherwydd mai grŵp seneddol hollbleidiol a luniodd adroddiad a gyflwynai ddiffiniad o Islamoffobia. Felly, rwy'n gobeithio y daw Llywodraeth y DU i dderbyn y diffiniad hwn. Mae'n ddiffiniad nad yw'n gyfreithiol rwymol o Islamoffobia sydd wedi cael ei wrthod gan Lywodraeth y DU ar y cam hwn, ond deallaf ei fod wedi cael ei fabwysiadu gan y Blaid Lafur, y Democratiaid Rhyddfrydol, a Phlaid Geidwadol yr Alban. Felly, mae'n amlwg yn cael ei drafod gan grwpiau gwleidyddol. Deallaf fod yr ymchwiliad wedi’i gynnal gan y Grŵp Seneddol Hollbleidiol ar Fwslimiaid Prydeinig, a gynhaliodd yr ymchwiliad hwn mewn sawl dinas yn Lloegr, lle clywsant am ystod o brofiadau Islamoffobig, gan gynnwys cam-drin corfforol a geiriol.
Yr hyn sy'n glir yw bod yn rhaid i ni edrych ar ein cyfrifoldebau yng Nghymru yn awr. Roeddwn yn drist iawn o glywed am brofiad Sahar oherwydd rwy'n credu ei bod yn un o naw o gredinwyr ifanc sy'n disgrifio eu bywydau ar raglen BBC Wales, Young, Welsh and Pretty Religious. Nid dyna'r Gymru rydym eisiau i Fwslimiaid ifanc, nac unrhyw un o unrhyw ffydd, ei phrofi.
Rwy'n credu bod y pryderon yn awr—fe'u trafodwyd y bore yma yn ein fforwm cymunedau ffydd, ac edrychasom ar y ffyrdd yr awn i'r afael â throseddau casineb. Mae'n ddiddorol, o ran cam-drin ar-lein, fod Prifysgol Caerdydd yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a'r heddlu i edrych ar ffyrdd y gallwn adnabod troseddau casineb a cham-drin ar-lein ar y cyfryngau cymdeithasol, rhywbeth a fydd yn galw am wahanol fathau o fecanweithiau adrodd, oherwydd mae hyn yn rhan o'n rhaglen ar gyfer mynd i'r afael â throseddau casineb. O ran y sylwadau a wneir—nid wyf am roi mwy o sylw iddynt mewn gwirionedd, o ran sylwadau Boris Johnson, ond credaf ei bod yn bwysig iawn inni nodi mai’r corff gwarchod cydraddoldebau, y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol, a ddywedodd fod sylwadau Boris Johnson ar y burka yn ymfflamychol a chynhennus.
A gaf fi ymuno â chi yn y Siambr hon i gondemnio Islamoffobia ac anoddefgarwch crefyddol o unrhyw fath yn llwyr? Oherwydd mae’n treiddio drwy ein cymdeithas, yn anffodus, ac mae'n digwydd; rydym yn ei weld, ac mae'n gwbl annerbyniol. Rwy'n credu mai un mater sy’n rhaid inni ei ystyried gyda’r diffiniad penodol hwn wrth gwrs yw nad yw wedi’i fabwysiadu’n eang eto, a chredaf fod yna ddadl ynglŷn ag a fyddai diffiniad gweithredol arall yn well diffiniad i gyrff sector cyhoeddus a Llywodraethau allu ei ddefnyddio. A gaf fi gofnodi nad oes gennym safbwynt eto fel Ceidwadwyr Cymreig ar y mater hwn, ond rydym wrthi’n ystyried cynnig y grŵp hollbleidiol? Nid wyf yn dweud ar hyn o bryd ein bod am ei wrthod neu ei dderbyn, ond rwy’n credu bod angen inni feddwl ymhellach yn ei gylch, yn syml oherwydd bod cynifer o leisiau, côr o leisiau, wedi bod yn mynegi pryderon am oblygiadau posibl defnyddio hwn fel diffiniad gweithredol. Ac rwy'n dweud hynny oherwydd ein bod i gyd yn gwybod, wrth gwrs, fod y diffiniad gweithredol o wrth-semitiaeth a gyflwynwyd gan Gynghrair Rhyngwladol Cofio'r Holocost wedi'i fabwysiadu’n eang heb unrhyw broblem, heblaw’r Blaid Lafur ar y pryd, wrth gwrs, a gymerodd fwy o amser i allu ei fabwysiadu. Felly, a oes gennych unrhyw bryderon? Beth fyddai eich ymateb i'r rheini sydd wedi mynegi pryderon ynghylch y goblygiadau posibl i’w harferion gweithio pe bai'r diffiniad penodol hwn yn cael ei fabwysiadu? Oherwydd, yn ôl yr hyn a ddeallaf, roedd dros 40 o unigolion wedi cyd-lofnodi'r llythyr, gan gynnwys academyddion, awduron, ymgyrchwyr yn erbyn anoddefgarwch crefyddol, Mwslimiaid eu hunain, ac wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Cartref i ddweud bod y diffiniad penodol hwn—er eu bod yn condemnio Islamoffobia o unrhyw fath, roedd y diffiniad hwn y anaddas i’r diben a gallai ei fabwysiadu ar frys arwain at waethygu tensiynau cymunedol, yn hytrach na’u lleihau.
Diolch i Darren Millar am nodi eich cefnogaeth a’r ffaith fod eich grŵp yn mynd i ystyried y diffiniad hwn. Dywedais mewn ymateb i’r cwestiwn ein bod yn gweithio ar hyn gyda chymheiriaid yn Llywodraeth yr Alban, oherwydd credaf fod hwn yn rhywbeth lle rydym yn ysgwyddo cyfrifoldeb. Ond yn ffodus iawn, mae gennym fforwm cymunedau ffydd yma yng Nghymru, ac mae'n dda ein bod heddiw, y bore yma, wedi cael cynrychiolwyr nid yn unig o blith Mwslimiaid—roedd gennym gynrychiolwyr o blith y Sikhiaid, Iddewon, Hindŵiaid, Bwdhyddion, Bahá'í, yr Eglwys Gatholig, yr Eglwys yng Nghymru, Eglwysi Ynghyd; roedd pawb o gwmpas y bwrdd, dan gadeiryddiaeth y Prif Weinidog a minnau, ac roeddem yn trafod y materion hyn. A chawsom drafodaeth am droseddau casineb, ac mae troseddau casineb yn hiliol, ond maent hefyd yn droseddau yn erbyn ffydd a chrefydd, ac wrth gwrs, maent yn anghyfreithlon o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010.
Felly, mae angen i ni edrych ar y diffiniad hwn o Islamoffobia. Rhaid i ni fod yn glir iawn ein bod yn mynd i'r afael â hyn, fel rydym yn glir iawn yn y ffordd rydym yn mynd i’r afael â gwrth-semitiaeth. Felly, mae'n rhaid i’r Llywodraeth sefyll yn gadarn a gwneud y pwynt hwn, ac rwy'n ddiolchgar unwaith eto, fel y dywedais, fod Leanne Wood wedi rhoi cyfle inni ymateb heddiw. Mae'n rhywbeth rydym yn sefyll yn gadarn drosto ac mae angen inni fwrw ymlaen ag ef.
Diolch i Leanne Wood am godi'r mater a hefyd am gyfraniadau Darren Millar. Mae'n ymddangos i mi fod amseru Llywodraeth y DU yn anffodus yng nghyd-destun ymdrechion gan y dde eithafol i ysgogi casineb at wahaniaeth ar yr adeg hon. Ac felly, nid oes gennyf safbwynt ar y geiriad; mae'n rhaid i ni gofio y gall ein geiriau gael effaith y tu hwnt i’r tŷ hwn. Ac rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn sylweddoli pa mor bwysig yw eu crefydd i Fwslimiaid ar adeg bwysig Ramadan. Ar ôl ymweld â sawl mosg i helpu i gynorthwyo i dorri ympryd ar adeg machlud haul, mae ymlyniad Mwslimiaid i’w ffydd, yn ogystal â’u hymrwymiad i roi’n elusennol tuag at achosion da, wedi creu cymaint o argraff arnaf. Felly, er enghraifft, mae bwyd wedi cael ei rannu ddwy waith o flaen Neuadd y Ddinas yng Nghaerdydd gyda’r gymuned ddigartref, a darparu nwyddau iddynt yn ogystal â bwyd. Felly credaf fod angen inni sicrhau ein bod yn hyrwyddo parch tuag at wahaniaeth, a dathlu cyfoeth ac amrywiaeth y diwylliannau a'r crefyddau sydd gennym yng Nghymru.
Diolch i chi, Jenny Rathbone, a siaradodd ein Prif Weinidog y bore yma am yr Iftar a fynychodd nos Sul o flaen Neuadd y Ddinas. Siaradodd am bwysigrwydd Ramadan yr wythnos hon ac am y cyfraniad a wnaed gan y gymuned Fwslimaidd. Dyma adeg pan ydym yn nodi 20 mlynedd ers datganoli. Nos Lun, roedd rhai ohonom mewn darlith a roddwyd gan Aled Edwards, sy’n arloesi—a gwn fod llawer yma yn y ddarlith honno—sydd wedi cael y fath effaith yn datblygu’r ddeialog ryng-ffydd hon. Ac roedd ef—. Ond fe ddywedasom, ac mewn gwirionedd, fe ddywedais mewn ymateb iddo fod gennym, yn anffodus—roedd ei ddarlith yn ysbrydoledig iawn—mae gennym sŵn rhagfarn, hiliaeth, geiriau casineb ac eithafiaeth sy’n swnllyd iawn ar hyn o bryd. A siaradodd y Prif Weinidog am fygythiad yr eithafiaeth a welwn yn awr o’r asgell dde, oherwydd mae hwnnw nawr yn eithafiaeth y mae’r heddlu yn mynd i’r afael ag ef. Felly, rydym am wneud yn siŵr fod pobl Cymru’n cydnabod bod gennym y gwerthoedd hynny rydym wedi bod yn eu harddel ynghylch cymuned, tegwch, gobaith a thosturi, a dyna pam rydym yn genedl noddfa—ffaith a gafodd ei chydnabod yn ddiweddar iawn gan NBC News a ddywedodd, ‘Diolch byth, mae Cymru yn genedl noddfa'—neges o’r Unol Daleithiau.
Diolch i Leanne, Darren, Jenny a’r Gweinidog hefyd, am o leiaf ddeall mai problem yn ymwneud ag Islamoffobia yw hon. Weinidog, mae ystod amrywiol o 44 ymgyrchydd—academyddion, awduron a phobl gyhoeddus eraill—wedi llofnodi llythyr agored yn beirniadu’r modd, ac rwy'n dyfynnu, 'anfeirniadol ac annymunol' y mabwysiadwyd y diffiniad arfaethedig hwn o Islamoffobia. Aethant yn eu blaen i ddweud bod y diffiniad, ac rwy’n dyfynnu, yn
cael ei fabwysiadu heb graffu digonol nac ystyriaeth briodol o’i ganlyniadau negyddol i ryddid mynegiant, a rhyddid academaidd neu newyddiadurol.
Cau’r dyfyniad. Byddai mabwysiadu’r diffiniad hwn—rwy’n dyfynnu eto—‘yn gwaethygu tensiynau cymunedol’ ac
yn cyfyngu ar ryddid i lefaru ar faterion o bwys sylfaenol.
Cau’r dyfyniad. Mae’r rhai a lofnododd y llythyr hwn yn cynnwys pobl o bob crefydd, neu heb grefydd, megis Richard Dawkins, Peter Tatchell, yr arweinydd LHBT, yr arglwydd Democrataidd Rhyddfrydol, Arglwydd Alton, yr Esgob Michael Nazir-Ali, a sylfaenydd Quilliam International, Maajid Nawaz. Maent oll yn bobl o fri ac yn bobl bwysig sy’n siarad am gysylltiadau cyhoeddus yn fyd-eang.
Dywedodd cadeirydd Cyngor Cenedlaethol Prif Swyddogion yr Heddlu y gallai mabwysiadu'r diffiniad hwn—
A wnewch chi ofyn cwestiwn, os gwelwch yn dda?
—rwystro ymdrechion gwrthderfysgaeth. A yw'r Dirprwy Weinidog yn cydnabod y bydd mabwysiadu’r diffiniad amwys a helaeth hwn heb graffu digonol nac ystyriaeth briodol o’i ganlyniadau negyddol yn tanseilio cydlyniant cymdeithasol ac yn tanio’r union ragfarn yn erbyn Mwslimiaid y’i lluniwyd i’w hatal? Diolch yn fawr.
Wel, Mohammed Asghar, credaf fod Darren Millar wedi dweud y byddwch yn ystyried y diffiniad hwn yn eich—bydd y Ceidwadwyr Cymreig yn ei ystyried, ac rwy’n ddiolchgar am hynny. Rydym ni'n ystyried—mae Llywodraeth Cymru yn ei ystyried—gyda Llywodraeth yr Alban. Felly, mae'r ystyriaeth hon hefyd yn mynd i gynnwys pwyntiau a wnaed ar faterion gweithredol, yn amlwg. Ond buaswn yn gobeithio y gallem orffen y ddadl hon, o ran ymateb i’r cwestiwn pwysig hwn heddiw, drwy uno ar draws y Siambr, fel y gwnaethom ychydig wythnosau yn ôl, pan weithiasom gyda’n gilydd ar gynnig, wedi’i gefnogi gan y tair prif blaid yn y Cynulliad hwn, i lwyr ddiwreiddio hiliaeth ac ideoleg hiliol ac ymdrechu i greu Cymru fwy cyfartal, gan fynd i'r afael â phob math o anghydraddoldeb hiliol. Ac rwy’n gwybod mai dyna y credaf yw'r neges y byddem yn awyddus i’w chyfleu y prynhawn yma—rydym ni, gyda'n gilydd, ac nid Llywodraeth Cymru’n unig, yn gwbl wrthwynebus i Islamoffobia a phob math o droseddau casineb crefyddol.
Diolch yn fawr iawn.
Eitem 5 yw'r datganiadau 90 eiliad a daw’r cyntaf yr wythnos hon gan Jayne Bryant.
Yr wythnos hon yw Wythnos Gweithredu Dementia—wythnos sy’n uno unigolion, gweithleoedd a chymunedau i weithredu a gwella bywydau pobl sy'n byw gyda dementia. Bob tri munud bydd rhywun yn datblygu dementia, a rhagwelir, erbyn 2055, y bydd dros 100,000 o bobl yng Nghymru'n byw gyda dementia. Ein cyfrifoldeb ni yw gwneud Cymru’n genedl sy'n deall dementia ac sy'n cynorthwyo pobl i fyw'n dda o fewn eu cymunedau cyhyd ag sy’n bosibl.
Yn y cyfrifiadau diweddaraf, ceir bron i 150,000 o ffrindiau dementia ledled Cymru. Yn fy etholaeth i yng Ngorllewin Casnewydd, mae gwirfoddolwyr ymroddedig, fel Ray Morris, wedi cyflwyno'r hyfforddiant i gannoedd o bobl mewn ysgolion a cholegau ar draws y ddinas. Mae penderfyniad Ray i adeiladu cymunedau sy'n deall dementia yn ysbrydoliaeth.
Y llynedd, atgoffais y Cynulliad ein bod wedi addunedu i ddod i ddeall dementia yn 2015, ac ar y pwynt hwn flwyddyn yn ôl, roedd 26 ohonom yn ffrindiau dementia. Rwy'n falch o ddweud bod 42 ohonom bellach wedi dod yn ffrindiau dementia. Fodd bynnag, nid yw hynny'n ddigon. Mae angen i'r 60 ohonom ddod yn ffrindiau dementia er mwyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru ddod yn Senedd gyntaf y byd sy’n deall dementia. Mae'n gyflym ac yn hawdd i'w wneud, ac eto mae ei effaith yn enfawr, ac yn cynyddu dealltwriaeth ac ymwybyddiaeth o ddementia. Fy her i i chi yw dod yn gyfaill dementia cyn gynted â phosibl os nad ydych wedi gwneud hynny. Gadewch i ni wneud y Cynulliad hwn yn un sy’n deall dementia.
Diolch yn fawr. Leanne Wood.
Roeddwn wrth fy modd yn darganfod bod gwobr Pennaeth y Flwyddyn Cymru eleni wedi’i hennill gan bennaeth o'r Rhondda. Rhian Morgan Ellis o Ysgol Gyfun Cymer Rhondda a enillodd y wobr, ac yn fy marn hi, mae’n mwy na’i haeddu.
Cafodd Rhian ei magu ym Mhont-y-gwaith a Phen-rhys yn y Rhondda. Rhagorodd yn Ysgol Gyfun Rhydfelen, ac yn ddiweddarach graddiodd o Brifysgol Aberystwyth. Bu'n dysgu yn Llanhari, cyn ymuno ag Ysgol Gyfun Cwm Rhondda, lle bu'n dysgu am y tri degawd diwethaf. Yn ystod y cyfnod hwnnw, dringodd y rhengoedd a daeth yn bennaeth ar adeg anodd iawn i’r ysgol, ac mae ei dylanwad fel pennaeth wedi trawsnewid yr ysgol. Nid yn unig ei bod hi'n hyrwyddwr mawr dros ragoriaeth mewn addysg, mae hi hefyd yn hyrwyddwr mawr dros y Gymraeg. Rydym yn ffodus i’w chael yn y Rhondda ac yn Ysgol Gyfun Cymer Rhondda, fel y mae llawer o'i disgyblion yn y gorffennol wedi nodi wrth ddweud llongyfarchiadau wrthi.
Nid oes unrhyw amheuaeth na fyddai Rhian yn dweud na fyddai ei gwobr wedi bod yn bosibl heb gymorth ei staff a gwaith caled ei disgyblion a’u rhieni. Dyma nodweddion pennaeth da. Mae codi'r rhai o’ch cwmpas yn elfen hanfodol o arweinyddiaeth ac mae Rhian yn rhagori ar hyn. Fel rhiant i blentyn yn yr ysgol honno, ond hefyd ar ran y Rhondda a’r cyn-ddisgyblion i gyd, hoffwn ddweud: diolch am bopeth, Rhian.
Diolch. Rhun ap Iorwerth.
Diolch. Dwi'n falch o gael tynnu sylw at reid feic elusennol ryfeddol sydd yn tynnu at ei therfyn, ac i longyfarch y tri o'n etholwyr i sydd wedi bod yn seiclo'n ddiwyd ers diwedd mis Mawrth.
Aeth Andy Fowell, Steve MacVicar a Roger Thomas ar gefn eu beiciau yn Istanbwl ar 28 Mawrth, ac ers hynny maent wedi bod yn beicio 65 milltir y dydd ar gyfartaledd, 5,500 milltir i gyd, drwy bedair cadwyn o fynyddoedd ar yr hyn a elwir yn lwybr beicio’r llen haearn. Nawr, mae'r daith yn gorffen yng Nghaergybi yfory. Roeddwn wedi gobeithio beicio'r rhan olaf gyda nhw. Mae busnes y Cynulliad yn golygu na fyddaf yn gallu gwneud hynny—[Torri ar draws.] Ond rwy'n falch o allu ymrwymo i’r weithred lawer llai egnïol o anfon y neges hon o gefnogaeth atynt.
Rwyf wedi gwneud ambell daith feicio i godi arian fy hun. Yn anffodus, diolch i Andy, Steve a Roger, nid yw fy nheithiau beicio 200 milltir o Ynys Môn i Gaerdydd yn ymddangos yn sylweddol bellach. Ond rwy'n gwybod fod codi arian at achosion da yn y ffordd hon yn gallu ffocysu’r meddwl a’r corff ar y dasg mewn ffordd drawiadol iawn.
Maent wedi codi dros £13,000 ar gyfer dwy elusen. Rwy'n gwybod y bydd Cymdeithas Clefyd Niwronau Motor yn eithriadol o ddiolchgar i chi, a bydd pawb ohonom sy’n cefnogi Hosbis Dewi Sant wrth ein boddau’n gweld cyfraniad mor sylweddol yn cael ei wneud, gan eu bod yn bwriadu agor canolfan newydd yng Nghaergybi.
Nawr, bydd y tri anturiaethwr yn croesi pont grog y Fenai o gwmpas un o’r gloch yfory, gan gyrraedd Caergybi tua phump o'r gloch. Felly, ewch amdani, ewch i’w cefnogi ar eu ffordd, chwiliwch am 'Asia to Anglesey' ar Facebook neu Just Giving i ychwanegu at eu cyfanswm. Ac ar ran pawb, diolch i chi—ac rwy'n gobeithio y byddwch chi'n mwynhau eich bath poeth hir iawn, iawn nos yfory.
Diolch yn fawr iawn.
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw'r cynnig i ethol Aelod i bwyllgor a galwaf ar aelod o’r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig yn ffurfiol.
Cynnig NDM7056 Elin Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 17.13(ii), yn ethol Caroline Jones (Plaid Brexit) yn aelod o’r Pwyllgor Busnes.
Cynigiwyd y cynnig.
Rwy'n cynnig.
Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gohiriwn y bleidlais o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Gohiriwyd y pleidleisio tan y cyfnod pleidleisio.
Mae eitem 6 ar ein hagenda wedi cael ei thynnu'n ôl.
Felly, symudwn ymlaen at eitem 7, sef dadl ar adroddiad y Pwyllgor Deisebau, 'Deiseb P-05-784 Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu—adnabyddiaeth a chefnogaeth', a galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig. Janet Finch-Saunders.
Cynnig NDM7053 Janet Finch-Saunders
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Deisebau ar Ddeiseb P-05-784 Dibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn ac effeithiau diddyfnu—adnabyddiaeth a chefnogaeth, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 21 Mawrth 2019.
Cynigiwyd y cynnig.
Diolch. Diolch, Ddirprwy Lywydd. Mae'n bleser gennyf agor fy nadl gyntaf fel Cadeirydd y Pwyllgor Deisebau. Hoffwn ddiolch i'r tîm clercio, y tîm cyfreithiol, ac aelodau gwych fy mhwyllgor am yr holl gefnogaeth a'r cymorth a gefais yn fy swydd fel Cadeirydd. Hoffwn ddiolch hefyd i'r rhai sy'n dal i anfon deisebau gwych i'r pwyllgor hwn.
Mae'r ddadl heddiw'n ymwneud â deiseb a gyflwynwyd gan Stevie Lewis, sy'n galw am well adnabyddiaeth a chefnogaeth i bobl a niweidiwyd gan ddibyniaeth ar feddyginiaeth presgripsiwn. Hoffwn ddiolch yn bersonol i Stevie Lewis am gyflwyno'r ddeiseb. Rhoddodd dystiolaeth bwerus—a hynod o bersonol yn aml—i gefnogi'r ddeiseb, ac rydym yn ddiolchgar iawn. Hefyd, hoffwn ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth i ni. Roedd y rhain yn cynnwys ein byrddau iechyd, cyrff proffesiynol fel Cymdeithas Fferyllol Frenhinol Cymru a nifer o bobl â phrofiad personol o ddibyniaeth ar gyffuriau presgripsiwn a diddyfnu. Roedd yr holl dystiolaeth yn amhrisiadwy i'r pwyllgor a dylanwadodd ar ymateb eithaf addawol gan y