Y Cyfarfod Llawn - Y Bumed Senedd

Plenary - Fifth Senedd

06/03/2019

Cyfarfu’r Cynulliad am 13:30 gyda’r Llywydd (Elin Jones) yn y Gadair. 

1. Cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd

Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Nick Ramsay.

Portffolio Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Roeddwn yn meddwl am eiliad fod Lynne Neagle yn mynd i fod yn ateb y cwestiynau.

1. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am y dyraniadau cyllidebol i'r portffolio iechyd a gwasanaethau cymdeithasol? OAQ53510

Diolch. Mae cyllideb 2019, a gymeradwywyd gan y Cynulliad ym mis Ionawr, yn darparu £7.4 biliwn ar gyfer cyllid craidd y GIG, sy'n lefel uwch nag erioed o fuddsoddiad yn y GIG yng Nghymru.

Diolch, Weinidog. Yn y datganiad ddoe, gofynnais i chi ynglŷn â’r ffordd y mae deddfwriaeth llesiant cenedlaethau’r dyfodol yn cael ei hymgorffori yn y gyllideb. Maes arall y ceir pryder yn ei gylch ac a feirniadwyd gan Gomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol Cymru yw symud ffocws gofal iechyd tuag at yr agenda ataliol, rhywbeth nad yw wedi digwydd bob amser yn y gorffennol, ac mae’n amlwg bod angen inni wneud hynny yn y dyfodol, gydag adnoddau prin. Felly, a allwch ddweud wrthym, gyda'r gyllideb atodol, ac yn wir, prif gyllideb y llynedd, pa drafodaethau a gafwyd ar ymestyn yr agenda ataliol honno fel y gallwn sicrhau bod gan y gwasanaeth iechyd yng Nghymru sylfaen fwy cynaliadwy yn y dyfodol, gan y gwyddom mai cynyddu yn unig y bydd y costau'n ei wneud?

Diolch yn fawr iawn am godi hyn, ac am eich diddordeb yn y ffordd rydym yn gwireddu Deddf cenedlaethau’r dyfodol drwy'r penderfyniadau cyllidebol a wnawn yma yng Nghymru. Cefais gyfarfod yn ddiweddar gyda chomisiynydd cenedlaethau’r dyfodol i archwilio sut y gallwn ymgorffori'r Ddeddf yn well o fewn ein penderfyniadau cyllidebol cyn gynted ag y bo modd. Ac yn sicr, mae'n un o'r meysydd y byddaf yn eu trafod gyda fy nghyd-Weinidogion wrth inni ddechrau ar ein cylch cyllidebol nesaf. Ond wrth edrych yn ôl, byddwn yn cynnal cyfarfod bwrdd crwn gyda'r comisiynydd a nifer o uwch swyddogion cyllid cyn bo hir i gynnal ymarfer gwersi a ddysgwyd er mwyn archwilio'r hyn a wnaethom yn dda’r tro hwn wrth ystyried y Ddeddf, ond hefyd sut y gallwn wella pethau yn y dyfodol.

Buom yn gweithio'n agos iawn gyda chomisiynydd cenedlaethau’r dyfodol i gytuno ar ddiffiniad o wariant ataliol, ac mae hynny wedi llywio llawer o'n syniadau. Felly, mae peth o'r cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd ar gyfer gwasanaethau iechyd a chymdeithasol yn 2019-20, er enghraifft, yn sicr yn rhan o’r agenda ataliol honno. Mae'r £192 miliwn ar gyfer rhoi ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, 'Cymru Iachach', ar waith yn rhan o hynny, gan fod y gwaith hwnnw o ddifrif yn ceisio ailffocysu ein hymdrechion ar yr ochr ataliol i bethau. Oherwydd gwyddom, yn y tymor hir, yn amlwg, fod hynny'n well i bobl, ond yn amlwg, o ran ein cyllidebau, nid yw'n pentyrru problemau ar gyfer y dyfodol.

Adfywio'r Stryd Fawr yng Nghymru

2. Pa arian y mae'r Gweinidog wedi'i ddyrannu i'r portffolio tai a llywodraeth leol mewn perthynas ag adfywio'r stryd fawr yng Nghymru? OAQ53526

Rydym yn buddsoddi yn ein stryd fawr drwy ystod o fesurau, gan gynnwys hyd at £100 miliwn dros dair blynedd drwy'r rhaglen i dargedu buddsoddiad mewn adfywio, £26 miliwn y flwyddyn nesaf i ddarparu rhagor o ryddhad ardrethi busnes i fusnesau ledled Cymru, a £31.5 miliwn ar gyfer cynllun benthyciadau canol trefi.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Mae Syr John Timpson, cadeirydd cadwyn Timpson, wedi dweud y bydd sicrhau bod canol trefi yn fwy cyfeillgar i fodurwyr yn atal y stryd fawr rhag dirywio. Nid yw'n arddel y rhagdybiaeth or-syml fod y stryd fawr yn marw o ganlyniad i fanwerthu ar-lein—'Ni allwch dorri allweddi ar-lein', meddai—ond y rheswm pennaf yw bod modurwyr yn dewis mynd i rywle sy’n hwylus iddynt fynd yno yn y car. Dyna pam y dywed Timpson fod 40 y cant o'u masnach yn digwydd y tu allan i'r dref, a disgwylir i’r ffigur hwnnw godi i 70 y cant dros y 10 mlynedd nesaf. Flwyddyn neu ddwy yn ôl, agorodd Timpson 95 o siopau newydd, siopau sy'n darparu gwasanaethau na ellir eu prynu ar-lein, ond serch hynny, pedair yn unig o'r siopau newydd a oedd ar y stryd fawr—mae'r gweddill mewn archfarchnadoedd y tu allan i'r dref, neu gerllaw. Y rheswm dros hyn, meddai, yw bod awdurdodau lleol yn lladd y stryd fawr drwy wneud siopa'n anghyfleus i'r modurwr. Mae mwy o fasnachu ar y stryd fawr yn arwain at well lefelau cyflogaeth ac ardrethi busnes uwch i awdurdodau lleol. Felly, a wnewch chi addo y byddwch yn helpu i ariannu gwaith dad-bedestreiddio mewn canol trefi sy'n marw ledled Cymru?

Diolch yn fawr iawn am eich cwestiwn. Ac mae'n bwysig iawn ein bod yn gweithio'n galed iawn i gynyddu nifer yr ymwelwyr yng nghanol ein trefi ledled Cymru, ac mae sawl ffordd y gallwn wneud hynny, gan gynnwys drwy'r buddsoddiad a wnawn mewn teithio llesol, ond hefyd drwy sicrhau bod gennym well rhyng-gysylltedd rhwng ein gwahanol drefi a chymunedau. Felly, credaf nad yw'r ateb yma yn un syml. Mae'n ymwneud â defnyddio’r buddsoddiad sydd gennym drwy raglen Adeiladu ar gyfer y Dyfodol, i sicrhau bod gennym swyddi yng nghanol y ddinas, a'r buddsoddiad a wnawn drwy ein rhaglen dai i sicrhau ein bod yn troi rhai o'n heiddo gwag yn gartrefi yn ein trefi a chanol ein dinasoedd.

Felly, mae’r ateb i sicrhau bod y stryd fawr yn ffynnu yn y dyfodol yn un amlweddog, a bydd angen gwaith ar draws y Llywodraeth, ac rydym yn ymgymryd â’r gwaith hwnnw. Mae'r cynllun i dargedu buddsoddiad mewn adfywio, er enghraifft, yn enghraifft wych o'r ffordd rydym yn adfywio’r stryd fawr ledled Cymru, ond hefyd yn rhoi'r grym a'r gallu i wneud penderfyniadau yn nwylo awdurdodau lleol fel y gallant ddod at ei gilydd a nodi beth yw eu blaenoriaethau lleol penodol eu hunain, ac yna byddwn yn eu cynorthwyo i'w cyflawni.

13:35

Drefnydd, credaf fod ardaloedd gwella busnes yn ffordd dda o sicrhau bod busnesau a chynghorau cymuned lleol yn gweithio gyda'i gilydd, ac mae'n fodel da, yn fy marn i, ac mae'r Drenewydd yn mynd drwy'r broses honno ar hyn o bryd. Ai’r bwriad yw y bydd unrhyw elw ariannol o gynnig posibl yn cael ei sianelu drwy gynghorau tref a chymuned fel y gallant weithio ar ran eu cymunedau i ddylanwadu ar ganlyniadau cynigion eraill? A hefyd, a wnewch chi ystyried, ynghyd â'ch cyd-Aelodau, wrth gwrs, darparu rhagor o gyllid i ymestyn y model hwn i drefi eraill ledled Powys drwy ddyrannu’r arian i gynlluniau gwella ardaloedd penodol, gan y credaf eu bod yn fuddiol iawn, er enghraifft, o ran gwella twristiaeth yng nghanol y dref?

Diolch yn fawr iawn. Rhannaf eich brwdfrydedd ynglŷn ag ardaloedd gwella busnes fel mecanwaith sy'n dod â busnesau lleol a rhanddeiliaid eraill ynghyd gyda'r nod o wella eu hamgylchedd masnachu, ac unwaith eto, sicrhau bod siopa yn brofiad llawer mwy dymunol i'r bobl sy'n defnyddio'r ardaloedd busnes hynny ac i ddenu mwy o ymwelwyr i'r ardaloedd hynny. A dyna un o'r rhesymau pam fod gennym gyllideb refeniw o £620,000 yn 2019-20 i gefnogi ymdrechion adfywio cymunedol ehangach, sy'n cynnwys ymestyn rhaglenni ardaloedd gwella busnes i gynnwys ardaloedd eraill. Yn sicr, pe bai ardaloedd eraill ym Mhowys a fyddai’n awyddus i archwilio sut y gallai ardaloedd gwella busnes weithio ar eu cyfer hwy, gwn y byddai swyddogion Llywodraeth Cymru yn fwy na pharod i ddatblygu'r cynigion hynny gyda hwy.

Weinidog, fe fyddwch yn ymwybodol fod cyllid wedi'i fuddsoddi i geisio adfywio Stryd Fawr Abertawe. Fodd bynnag, er y cafwyd rhai gwelliannau, rydym yn dal i wynebu rhes o hen adeiladau adfeiliedig ac anghyfannedd yn yr ardal honno, fel y gwyddoch. Yn eu plith, mae gennym safle hanesyddol Theatr y Palas, sydd bellach wedi tyfu'n wyllt, ac yn dal i ddominyddu'r ardal, sy'n adlewyrchiad trist ar y ddinas. A wnewch chi, felly, ymrwymo Llywodraeth Cymru i gael trafodaethau pellach gyda Chyngor Abertawe a darparu'r cyllid angenrheidiol er mwyn mynd i'r afael â'r adeiladau diolwg eraill ar hyd y porth allweddol hwn i'n dinas?

Diolch am godi mater Stryd Fawr Abertawe. Yn sicr, mae'n ardal rwy'n gyfarwydd â hi, ac rwyf wedi gweld y gwelliannau mawr sydd wedi dechrau digwydd yno dros y blynyddoedd diwethaf yn arbennig, a gwn fod gan Gyngor Abertawe gynlluniau arbennig o uchelgeisiol ar gyfer y ddinas yn ei chyfanrwydd. Rwyf wedi fy nghyffroi gan y gwaith adfywio yn seiliedig ar ddatblygu tai sy'n digwydd ar Stryd Fawr Abertawe. Credaf fod hwnnw'n fodel da i rannau eraill o Gymru ei efelychu, o ran sicrhau bod mwy o bobl yn byw yng nghanol ein trefi fel bod yr ymwelwyr yno wedyn i fanteisio ar holl gaffis a siopau'r dref ac yn y blaen. Buaswn yn sicr yn fwy na pharod i gael sgyrsiau pellach gydag Abertawe i archwilio sut y gallwn gefnogi'r ymdrechion i adfywio’r Stryd Fawr.

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.  

Diolch yn fawr. Mae gennyf rai cwestiynau ynglŷn â chyllid ôl-Brexit. Fe fyddwch yn ymwybodol iawn o'r gronfa ôl-Brexit £1.6 biliwn ar gyfer trefi Lloegr. A allwch roi’r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â’r cyllid canlyniadol y gallwn ei ddisgwyl yng Nghymru o ganlyniad i hwnnw?

Diolch yn fawr. Roedd y cyhoeddiad hwn yn gwbl annisgwyl i ni ac rydym yn dal i geisio deall gyda Llywodraeth y DU i ba raddau y mae'r arian hwn yn arian newydd. Deallaf fod oddeutu £1 biliwn ohono yn arian newydd, o bosibl. Felly, credaf ein bod yn edrych ar gyllid canlyniadol o oddeutu £50 miliwn, os cadarnheir ein bod wedi deall yn iawn. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, byddai trefi yn gwneud cynigion am y £600 miliwn arall, a byddai modd i ninnau wneud cynigion am yr arian hwnnw, neu gael cyllid canlyniadol ohono, o bosibl, ond yn anffodus, mae’n anodd iawn cael eglurder gan Lywodraeth y DU ynglŷn â hyn. Rwy'n gweld hyn fel llwgrwobr i drefi ledled Lloegr. Nid yw'n cynnig unrhyw beth yn debyg i'r math o arian y byddem, yng Nghymru yn sicr, wedi'i ddenu o'r Undeb Ewropeaidd—£350 miliwn y flwyddyn. Nid yw’r cyllid canlyniadol o £50 miliwn yn ddim o gymharu â hynny, os yw'r ffigur hwnnw’n gywir.

13:40

Ac wrth gwrs, cytunaf y bydd yn anodd iawn inni gynnal y math o lefelau ariannu rydym wedi elwa ohonynt yn sgil ein haelodaeth o'r Undeb Ewropeaidd. Mae cronfeydd eraill i’w cael hefyd. Cyhoeddwyd pecyn cyllido yn ddiweddar ar gyfer awdurdodau lleol yn Lloegr sydd â phorthladdoedd. Cyhoeddwyd £140 miliwn ar gyfer Gogledd Iwerddon yn ddiweddar. A allwch roi'r diweddaraf inni ar y cyllid canlyniadol i Gymru yn sgil hynny?

Gallaf, o ran cyllid y porthladdoedd, ein dealltwriaeth ni yw nad yw’r cyllid hwnnw’n arian newydd; dim ond arian a ailgyhoeddwyd. Felly, ni fydd unrhyw gyllid canlyniadol yn dod i Lywodraeth Cymru yn sgil hynny.

O ran y £140 miliwn a ddarparwyd i gyllideb Gogledd Iwerddon yn 2019-20, mae hwnnw'n achos cryn bryder i Lywodraeth Cymru gan fod gennym gytundeb clir â Llywodraeth y DU o ran ein datganiad polisi cyllid. Mae ein datganiad polisi cyllid yno i gynnig cyllid teg ar draws y gwledydd, ac yn sicr, nid yw hyn yn cydweddu â'i ysbryd na'i eiriad.

Byddai Llywodraeth Cymru wedi disgwyl oddeutu £246 miliwn o gyllid canlyniadol am yr arian ychwanegol a roddwyd i Ogledd Iwerddon. Codwyd y mater penodol hwn gennym yn nhermau tegwch y cyllid a roddwyd i Ogledd Iwerddon yn ystod ein cyfarfod pedairochrog ar gyllid. Mae Gweinidogion yr Alban yn teimlo’r un mor rhwystredig â ninnau, ac rydym yn parhau i bwyso mewn perthynas â'r mater hwn. Ysgrifennais at Brif Ysgrifennydd y Trysorlys yr wythnos hon, yn mynegi ein pryder mawr ac yn cynnig cyfle i'r Canghellor ddefnyddio datganiad y gwanwyn i gywiro rhywbeth sy'n amlwg yn anghywir.

Rwy'n cydymdeimlo â rhwystredigaeth Llywodraeth Cymru, yn amlwg, ond mae cymaint o hyn yn ymwneud â Llywodraeth Cymru yn bod yn adweithiol. Y cwestiwn yma yw: pwy sy’n bod yn rhagweithiol wrth geisio sicrhau cytundebau cyllido i Gymru, ar ôl Brexit, neu ar hyn o bryd o ran hynny? Cynhaliais drafodaethau gyda rhai unigolion y bore yma ynglŷn â’r syniad o barthau rhydd ar gyfer masnachu neu borthladdoedd rhydd. Lle mae'r cynigion yn cael eu paratoi i Gymru allu manteisio ar y mathau posibl hyn o fodelau newydd? Mae gogledd-ddwyrain Lloegr wedi paratoi cynnig eisoes er mwyn manteisio ar y posibilrwydd o ddatblygu ardaloedd porthladdoedd rhydd newydd.

Y cwestiwn yw: ar bwy y gallwn ddibynnu i ymladd dros Gymru? Ymddengys i mi na allwn ddibynnu ar Ysgrifennydd Gwladol Cymru, gan fod swyddfa Ysgrifennydd Gwladol Cymru wrthi’n ailddiffinio'i hun yn llais Llywodraeth y DU yng Nghymru yn hytrach na chynrychiolaeth Cymru yng Nghabinet y DU. Felly, mae'n rhaid inni ddibynnu ar Lywodraeth Cymru i geisio sicrhau cytundebau ar ein cyfer. Ymddengys i mi fod gan 10 Aelod o un blaid wleidyddol yng Ngogledd Iwerddon fwy o ddylanwad na Llywodraeth ein gwlad. Felly, pryd y gallwn ddisgwyl gweld Llywodraeth Cymru'n gwneud mwy o ymdrech i fod yn fwy rhagweithiol wrth gynllunio a dadlau’r achos dros gyllid ychwanegol i Gymru yn y cyfnod cwbl allweddol hwn wrth inni wynebu ansicrwydd Brexit?

Buaswn yn gwrthod unrhyw awgrym nad yw Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n gyflym a chydag egni gwirioneddol ar y mater penodol hwn ers peth amser bellach. Cynhelir nifer o gyfarfodydd rhwng y Prif Weinidog, Prif Weinidog y DU, y Gweinidog Brexit a'i gymheiriaid a rhwng fy nghydweithwyr a minnau, a phob Gweinidog sydd â diddordeb portffolio penodol yn y maes hwn.

Yn ystod y cyfarfod pedairochrog ar gyllid, buom yn siarad yn benodol ynglŷn â’r posibilrwydd o Brexit 'dim bargen'. Fe ddywedasom yn glir iawn, pe ceid Brexit 'dim bargen', y dylid darparu cyllid ychwanegol i Gymru er mwyn ein cynorthwyo i fynd i’r afael â chanlyniad a fyddai’n drychinebus. Mae’r Canghellor wedi dweud eisoes y gallai datganiad y gwanwyn a fydd yn digwydd yr wythnos nesaf fod yn ddigwyddiad ariannol llawn, ond eto, dywed Prif Ysgrifennydd y Trysorlys wrthym na fydd datganiad y gwanwyn yn ddim mwy na digwyddiad gweinyddol nad yw hyd yn oed yn gwarantu galwad ffôn i Lywodraeth Cymru gan na fydd yn cynnwys unrhyw feysydd o ddiddordeb penodol i'r gwledydd datganoledig.

Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio'n galed i sicrhau y caiff llais Cymru ei glywed ac y caiff difrifoldeb y materion sy'n ein hwynebu ei glywed. Ond nid yw hynny'n golygu nad ydym yn defnyddio'r arian sydd gennym i ddatblygu syniadau arloesol er mwyn mynd i'r afael â'r perygl o Brexit ‘dim bargen’, ond hefyd yr heriau a achosir yn sgil Brexit o unrhyw fath, a dyna pam, wrth gwrs, fod gennym ein cronfa bontio Ewropeaidd gwerth £50 miliwn, sy'n gwneud dyraniadau ar draws y bywyd Cymreig er mwyn sicrhau ein bod yn barod iawn ar gyfer Brexit—yn barod iawn i fanteisio i'r eithaf ar unrhyw gyfleoedd a allai godi, ond yn barod iawn hefyd i ymdopi â thrychineb posibl Brexit ‘dim bargen’.

13:45

Diolch, Lywydd. Weinidog, hoffwn eich holi ynglŷn â chaffael. A allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â chynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a chaffael cyhoeddus yng Nghymru yn gyffredinol?

Gallaf, yn sicr. Byddwch wedi clywed datganiad y Prif Weinidog pan oedd yn gyfrifol am y portffolio cyllid yn ôl ym mis Medi, a amlinellai'r ffaith ein bod yn mabwysiadu ymagwedd newydd tuag at gaffael yng Nghymru, ac y byddwn yn gweithredu uned lai gyda mwy o ffocws o lawer, gan leihau nifer y contractau mawr o oddeutu 60 i oddeutu 30, er mwyn sicrhau bod gennym ymagwedd â mwy o ffocws, ac ymagwedd sy'n rhoi mwy o ystyriaeth i fuddiannau lleol a rhanbarthol, sef yr hyn y dywedodd ein rhanddeiliaid wrthym eu bod ei eisiau o'r drefn gaffael pan ofynasom iddynt tuag at ddiwedd y llynedd.

Diolch, Weinidog. Pan ofynnais i'ch rhagflaenydd—fe gyfeirioch chi at y datganiad—sy’n eistedd ar eich llaw chwith yn awr—yn eistedd yno beth bynnag—ynglŷn â chynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol—yn gorfforol, hynny yw—ym mis Hydref 2018, dywedodd wrthyf fod cwsmeriaid yn teimlo

'y byddai ymagwedd gyfunol at gaffael cyhoeddus yng Nghymru yn cael ei sicrhau'n well drwy haen ranbarthol gryfach'—

rydych newydd gyfeirio at hynny—

'yn hytrach na chyflawni pethau ar lefel genedlaethol.'

Ac o ganlyniad,

'Ni fydd y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol yn parhau ar ei ffurf bresennol, a bydd yn newid i fod yn sefydliad gyda phresenoldeb rhanbarthol a lleol cryfach, ac yn sefydliad sydd mewn gwell sefyllfa i sicrhau bod y sefydliadau hynny ledled Cymru sy'n gwario arian cyhoeddus mewn sefyllfa dda i ymateb i'r cyfleoedd newydd'

sydd i ddod. Weinidog, yn benodol, sut y gwelwch y drefn gaffael gyhoeddus yng Nghymru yn gweithio yn y dyfodol ar y sail ranbarthol rydych newydd ei chrybwyll? Sut y bydd y sail ranbarthol honno’n cael ei chefnogi, a sut y bydd y cynlluniau hynny’n cyd-fynd â'r ymagwedd newydd tuag at ddatblygu economaidd rhanbarthol, fel yr amlinellir yng nghynllun gweithredu economaidd Llywodraeth Cymru?

Diolch yn fawr iawn. Felly, wrth inni symud i drosglwyddo timau'r Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol a Gwerth Cymru i swyddogaethau newydd, byddwn yn sicr yn ystyried ymchwiliad diweddar y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus i gaffael, a ddaeth i ben ym mis Chwefror. Byddwn yn ystyried y sylwadau y mae'n rhaid i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus eu gwneud o ran ein cynorthwyo i lywio ein ffordd ymlaen. Ond rydym wedi ymgysylltu â chymorth y Ganolfan Strategaethau Economaidd Lleol i helpu i lunio ein dulliau o weithredu yn y dyfodol, ac rydym yn awyddus iawn i ddysgu o'u profiadau penodol, a hwythau wedi gweithio ar fentrau caffael ledled y DU a ledled yr UE. Mae enghraifft Preston yn aml yn cael ei chrybwyll fel un sydd wedi bod yn hynod o lwyddiannus o ran sicrhau bod caffael o fudd i'r gymuned leol.

Byddwn hefyd yn edrych ar y gwaith rydym wedi bod yn ei wneud drwy ein rhaglenni peilot Swyddi Gwell yn Nes Adref. Credaf eu bod yn cynnig cyfleoedd arbennig inni sicrhau cymaint o fudd â phosibl o'n buddsoddiad, nid yn unig o ran sicrhau bod arian yn cylchredeg o fewn yr economi leol, ond ei fod yn darparu budd i bobl sydd allan o waith ar hyn o bryd, er enghraifft, y bobl sydd bellaf oddi wrth y farchnad gyflogaeth ar hyn o bryd, yn ogystal ag ystyried beth arall y gallwn ei wneud i ddefnyddio caffael fel ysgogiad o ran ein hagenda ddatgarboneiddio.

Diolch. Rwyf wrth fy modd bob tro y bydd Gweinidogion yn cyfeirio at ymchwiliadau cyfrifon cyhoeddus, gan wisgo fy het fel Cadeirydd y pwyllgor hwnnw wrth gwrs. Ar wahân i'r gwaith a wnaed gan y gyfrifon cyhoeddus yn y maes hwn, yn ôl cwestiwn ac ateb ysgrifenedig diweddar yn y Cynulliad yn 2018, aeth 22 y cant o'r gwariant ar gaffael gan Lywodraeth Cymru ar gontractau adeiladu gwerth dros £500,000 i gwmnïau y tu allan i Gymru—rydych newydd grybwyll y mater hwnnw. Mae'r golled honno yn cynrychioli cyfle a gollwyd i fuddsoddi yng nghadwyni cyflenwi Cymru, ac o ganlyniad, cyfleoedd a gollwyd i gryfhau economi Cymru ymhellach. Nawr, pan ydym wedi sôn am hyn yn y Siambr yn y gorffennol, gwn eich bod chi a'ch rhagflaenwyr wedi dweud bod problemau'n codi, wrth gwrs, o ran rhoi contractau i gwmnïau o Loegr. Wrth gwrs, mae hynny'n rhan hanfodol o economi'r DU hefyd, ond rwy'n siŵr y byddai pob un ohonom yn awyddus i weld mwy o gymorth, mwy o gyfleoedd i gwmnïau Cymru a chwmnïau lleol.

Rydych wedi sôn am y sail ranbarthol a'r ymchwiliad cyfrifon cyhoeddus. Heb achub y blaen ar eich ymateb i hwnnw, a allwch ddweud wrthym sut yn eich barn chi y bydd y cynllun gweithredu economaidd ac agweddau eraill ar bolisi Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod cwmnïau Cymru, cwmnïau lleol, yn cael cyfran deg o'r gacen pan fydd contractau caffael yn cael eu dosbarthu yng Nghymru yn y dyfodol?

Diolch yn fawr am hynny, ac rwy'n siŵr fod y gwaith a wnawn o ran gwella a chynyddu'r manteision cymunedol o ganlyniad i'n buddsoddiad yn un ffordd y gallwn sicrhau bod cwmnïau lleol a phobl leol yn elwa. Felly, erbyn diwedd mis Rhagfyr, roedd 519 o brosiectau wedi creu 2,465 o gyfleoedd gwaith, gyda dros 102,000 o wythnosau o hyfforddiant wedi eu darparu hefyd. Felly, yn sicr, mae llawer o waith y gallem fod yn ei wneud o ran budd cymunedol, a llawer iawn o waith y gallem fod yn ei wneud hefyd o ran y cod ymarfer moesegol i sicrhau bod y bobl hynny ym mhob rhan o'r gadwyn gyflenwi, boed wedi'u lleoli yng Nghymru neu yn rhywle arall, yn cael eu trin yn dda, yn cael eu talu'n dda, ac yn amlwg, fod eu hawliau yn y gwaith yn cael eu parchu.

Felly, credaf fod caffael yn faes sy'n barod iawn am ffocws gwirioneddol gan Lywodraeth Cymru o ran sicrhau y gallwn gylchredeg cymaint o'r arian a fuddsoddwn, sicrhau ei fod yn parhau i gylchredeg yma yng Nghymru, ond edrych hefyd ar yr ystod eang o fuddion eraill y gallwn eu sicrhau yn sgil caffael.

13:50

Diolch yn fawr, Lywydd. Rwyf wedi bod yn edrych ar restr y Gweinidog o gyfrifoldebau ac maent yn cynnwys, ymhlith llawer o bethau, cyfeiriad strategol a rheoli adnoddau Llywodraeth Cymru, buddsoddi strategol, cyfrifyddu ac archwilio ariannol, a gwerth am arian ac effeithiolrwydd.

Yn ddiweddar, cyhoeddodd Swyddfa Archwilio Cymru adroddiad o'r enw 'Cymorth Ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer Busnesau', a hoffwn ofyn ychydig o gwestiynau sy'n deillio o hynny. Y brif feirniadaeth a oedd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn yr adroddiad hwnnw oedd nad oedd Llywodraeth Cymru

'wedi trosi’n llwyr ei gweledigaeth ar gyfer adnewyddu’r economi yn rhaglen gydgysylltiedig o gymorth ariannol i fusnesau',

a bod y Llywodraeth

'wedi monitro prosiectau unigol ar wahân, ond nid yw wedi llwyddo i reoli cymorth ariannol i fusnesau fel rhaglen'.

Rydym wedi gweld sawl ffiasgo, a restrir yn yr adroddiad, gan gynnwys: ffiasgo enwog Griffin Place Communications, y grant sefydlu o £600,000 ar gyfer 127 o swyddi, a gollwyd i gyd; Oysterworld, datblygwr gemau cyfrifiadurol, a gafodd gyfanswm o £1.5 miliwn; Mainport Engineering, cwmni saernïo a pheiriannu; a Kancoat, wrth gwrs—achos enwog arall—llinell gynhyrchu ar gyfer araenu coiliau metel. Mae'r rhain yn fenthyciadau a grantiau amrywiol iawn a roddwyd. Tybed a all y Gweinidog ddweud wrthyf pa gamau y mae wedi eu cymryd a pha drafodaethau y gall fod wedi'u cael yn y Llywodraeth ers cyhoeddi'r adroddiad hwnnw ychydig fisoedd yn ôl, i sicrhau nad yw unrhyw gymorth i fusnesau gan Lywodraeth Cymru yn y dyfodol yn gybolfa dameidiog o grantiau, ond yn rhaglen gydgysylltiedig gyda gweledigaeth glir a rheolaeth briodol.

Buaswn yn anghytuno â'r disgrifiad o'r ffordd y mae Llywodraeth Cymru yn darparu cymorth ar gyfer busnesau, ond mae hwn yn faes sydd wedi bod o ddiddordeb i mi ers dod i'r portffolio, ac rwy'n archwilio beth arall y gallem ei wneud i fodloni ein hunain pan gaiff grantiau eu rhoi, ac yn wir, pan gaiff benthyciadau busnes eu rhoi, y gallwn fod yn sicr ein bod yn buddsoddi yn y cwmni iawn ac yn ymgymryd â'r lefel gywir o risg gyda'r cwmnïau hynny.

Felly, un peth y gallem geisio'i sicrhau o bosibl yw bod gennym swyddogion penodol yn ymdrin â phrosiectau penodol, ac y gall Gweinidogion gyfarfod â hwy'n rheolaidd i oruchwylio'r benthyciadau hynny. Mae'n rhaid imi ddweud bod strwythur archwilio enfawr eisoes ar waith yn Llywodraeth Cymru o ran sicrhau y gwneir buddsoddiadau cywir a da â'r arian a fuddsoddwn.

Nid wyf yn gwbl argyhoeddedig ein bod yn gwneud llawer o gynnydd eto o'r ateb hwnnw, sy'n ei ystyried yn waith sy'n mynd rhagddo. Ond mae argymhellion yr archwilydd cyffredinol ynghylch gwaith rheoli risg Llywodraeth Cymru yn bwysig hefyd. Dywed fod

'Tîm Sectorau a Busnes Llywodraeth Cymru yn asesu risgiau ar gyfer prosiectau unigol yn unig, a hynny ar wahân, ac nid oes ganddo archwaeth risg ddiffiniedig ledled ei raglenni ar gyfer darparu cymorth ariannol i fusnesau.'

Mae hwnnw'n bwynt cyffredinol ynglŷn â'r strwythur yn ei gyfanrwydd neu'r sail ddamcaniaethol y seilir cymorth ariannol Llywodraeth Cymru ar gyfer busnesau arni. Rwyf wedi edrych drwy Gofnod o Drafodion y Cynulliad ac ar wefan Llywodraeth Cymru, ac ychydig iawn sydd yno i gadarnhau beth yw'r ymagwedd tuag at reoli risg ac archwaeth risg. Felly, beth yn union y mae'r Gweinidog yn ei wneud yn Llywodraeth Cymru i sicrhau y ceir ymagwedd glir a chadarn tuag at gymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru? Oherwydd rydym yn ymdrin â symiau sylweddol o arian yma, sy'n golygu, wrth gwrs, os cânt eu peryglu, na allwn eu gwario ar bethau eraill gwerth chweil.

Diolch. Pan fydd Llywodraeth Cymru yn gwneud buddsoddiad neu'n cynnig grant neu fenthyciad o swm penodol o arian, rwy'n goruchwylio hynny a fy mwriad yw ystyried pob un o'r penderfyniadau hynny a wneir gan fy nghyd-Aelodau. Ac rwy'n darparu her i fy nghyd-Aelodau, gan eu holi ynglŷn â fforddiadwyedd, ynglŷn â phroffiliau talu, ynglŷn â gwerth am arian a gwariant effeithlon, ac archwilio i ba raddau y mae'r penderfyniadau ariannu hynny a wneir, neu'r penderfyniadau grant hynny a wneir, yn cynrychioli gwerth am arian o ran eu bod yn cyd-fynd â blaenoriaethau trosfwaol Llywodraeth Cymru fel y'u nodir yn ein rhaglen lywodraethu. Felly, yn sicr, mae gennyf lefel o ddiddordeb personol yn hyn o beth, ond yn amlwg, mae'n rhaid i benderfyniadau ariannu unigol gan Weinidogion unigol gael eu gwneud yng nghyd-destun eu rheolaeth gyllidebol eu hunain hefyd.

13:55

Rwy'n cydnabod bod hwn yn bwnc sydd o gryn ddiddordeb i'r Gweinidog, ac mae hynny'n galonogol, ond credaf ein bod ymhell o fod yn argyhoeddedig y bydd hyn yn cynhyrchu unrhyw ganlyniadau ymarferol. Dywedodd yr archwilydd cyffredinol hefyd yn yr adroddiad nad yw Llywodraeth Cymru

'wedi rhoi systemau a phrosesau ar waith i gynhyrchu gwybodaeth ar gyfer llunio adroddiadau cyhoeddus ynghylch a yw ei gymorth ariannol ar gyfer busnesau, yn gyffredinol, wedi cyfrannu at gyflawni ei chanlyniadau bwriadedig.'

Mewn geiriau eraill, adroddiad cynnydd ar ba mor llwyddiannus y mae'r prosiect wedi bod yn gyffredinol.

Bu'n rhaid cael gafael ar lawer o'r wybodaeth, mewn rhai achosion, nid o gyhoeddiad rhagweithiol Llywodraeth Cymru ei hun o'r wybodaeth, ond bu'n rhaid i newyddiadurwyr a gwrthbleidiau gwleidyddol gael gafael arni drwy geisiadau rhyddid gwybodaeth. Er enghraifft, cafodd y gwasanaeth archebu bwyd ar-lein, kukd.com, £1 miliwn, a methu â chreu'r 100 o swyddi a addawyd; a Bad Wolf—achos enwog wrth gwrs—rhoddwyd £4 miliwn i'r cwmni, gyda bron i hanner y ffigur hwnnw'n cael ei dalu i'r prif weithredwyr eu hunain. Yn y pen draw, gwnaeth y cwmni golled o £3.1 miliwn. Felly, mae'r rhain yn achosion lle mae'r trethdalwr wedi'i flingo heb unrhyw fantais o gwbl. Mewn achosion o'r fath, does bosib ei bod yn hanfodol bwysig, er mwyn sicrhau hyder y cyhoedd yn y ffordd y gwerir arian cyhoeddus, fod Llywodraeth Cymru yn bod mor onest ac agored â phosibl.

Felly, a all roi sicrwydd i mi, o ran gwerth am arian ac effeithiolrwydd, y bydd yr adroddiadau cyhoeddus ar arian grant i fusnesau yn gwella yn y dyfodol?

Diolch am godi hynny, ac yn sicr, byddaf yn rhoi ystyriaeth bellach i ba gamau y gellid eu cymryd o ran cynyddu tryloywder, ond o fewn cyfyngiadau sensitifrwydd masnachol, yn amlwg, i'r busnesau dan sylw yn ogystal ag o fewn cyd-destun adroddiad yr archwilydd cyffredinol.

Cyllid Llywodraeth Leol

3. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch y pwysau cyllido mewn llywodraeth leol? OAQ53523

4. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cynnal gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ynghylch cyllidebau awdurdodau lleol? OAQ53482

Diolch. Deallaf, Lywydd, eich bod wedi caniatáu i gwestiynau 3 a 4 gael eu grwpio. Gyda'n gilydd, cyfarfu'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol a minnau â chynrychiolwyr llywodraeth leol yn yr is-grŵp cyllid ar 23 Ionawr, lle buom yn trafod amrywiaeth o faterion, gan gynnwys yr heriau cyllid sy'n wynebu llywodraeth leol.

Diolch, Weinidog. Ddoe, o ganlyniad i gyni Torïaidd, bu'n rhaid i gyngor Torfaen godi'r dreth gyngor 5.9 y cant er mwyn diogelu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol, yn enwedig ysgolion a gofal cymdeithasol. Rwy'n falch iawn o gynrychioli cyngor Llafur sy'n brwydro mor galed i ddiogelu gwasanaethau lleol, ac er fy mod yn croesawu'r cyllid ychwanegol a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer llywodraeth leol ar ôl y gyllideb ddrafft, heb os, mae awdurdodau lleol yn wynebu pwysau ariannol enfawr, yn enwedig mewn perthynas ag addysg a gofal cymdeithasol.

O ran addysg, efallai eich bod yn ymwybodol fod y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn cynnal ymchwiliad ar hyn o bryd i gyllid ysgolion yng Nghymru, ac mae'n rhaid imi ddweud bod y dystiolaeth rydym wedi'i chael hyd yn hyn gan athrawon ac arweinwyr ysgolion yn peri cryn bryder.

A gaf fi ofyn pa drafodaethau y bydd y Gweinidog yn eu cael gyda'r Gweinidog Addysg a'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, a pha sicrwydd y gallwch ei roi fod sicrhau cyllid digonol ar gyfer ein hysgolion yn flaenoriaeth i chi?

Diolch am godi hyn, ac mae'n syfrdanol clywed pobl yn gweiddi 'cwestiwn da' a 'clywch, clywch' ar feinciau'r Ceidwadwyr pan fydd cyllid fesul y pen o'r boblogaeth ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus datganoledig dydd i ddydd, megis ysgolion yng Nghymru, 7 y cant yn is y flwyddyn nesaf na'r hyn ydoedd ddegawd yn ôl o ganlyniad i gyni. Rhwng 2010-11 a 2019-20, bydd cyllideb Cymru wedi gostwng 5 y cant mewn termau real, pan fydd cyllid ad-daladwy wedi'i eithrio. Felly, mae hynny'n cyfateb i £850 miliwn yn llai i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus bob blwyddyn, ond serch hynny, rydym yn rhoi blaenoriaeth glir i'r GIG, rydym yn blaenoriaethu addysg, ac rydym yn blaenoriaethu gwasanaethau cymdeithasol.

Felly, o ran ysgolion yn benodol, rydym yn rhoi'r cyfan o'r £23.5 miliwn a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU fis Medi diwethaf i awdurdodau lleol er mwyn ariannu dyfarniad cyflog athrawon ysgol yn 2018-19 a 2019-20. Ac yn ychwanegol at hyn, rydym wedi mynd ymhellach ac wedi cyhoeddi £15 miliwn ychwanegol o arian a fydd yn cael ei roi dros y flwyddyn ariannol hon a'r nesaf i gynorthwyo awdurdodau lleol i ymdopi â'r pwysau ariannol sy'n gysylltiedig â chyflogau athrawon yn benodol.

Fodd bynnag, rwy'n llwyr gydnabod y pwysau enfawr sydd ar awdurdodau lleol ar hyn o bryd. Rydym wedi rhoi'r setliad gorau posibl, ond rydym yn gwbl ymwybodol fod hynny'n golygu dewisiadau anodd ar gyfer ein cymheiriaid mewn llywodraeth leol.

14:00

Weinidog, un o ganlyniadau'r cyni Torïaidd yw nid yn unig fod gan y Cynulliad lai o arian, ond golyga hefyd fod llai o arian gan lywodraeth leol. Ac wrth gwrs, un elfen sydd o dan bwysau yw'r canolfannau hamdden a ddarperir, sydd o werth cyhoeddus sylweddol i'n cymunedau. Rydym eisoes yn gweld canolfannau hamdden yn gorfod cau neu gael eu trosglwyddo i ymddiriedolaethau. Gofynnaf ichi ystyried hyn, Weinidog: drwy gael gwared ar y rhwymedigaeth mewn perthynas â'r dreth gyngor i ganolfannau hamdden awdurdodau lleol, ceir cyfle i sicrhau chwarae teg rhyngddynt a'r ymddiriedolaethau. Byddai hynny'n arbed, yn sicr yn fy nghyngor i yn Rhondda Cynon Taf, oddeutu £800,000 y flwyddyn. Os oes rhaid i'r awdurdodau hyn gau neu drosglwyddo'r canolfannau hamdden hynny i ymddiriedolaeth, rydym yn colli'r arian hwnnw beth bynnag. Felly, credaf y byddai hon yn ffordd greadigol o gefnogi ein canolfannau hamdden cymunedol sy'n eiddo i'r cyhoedd lle rydym yn talu cyflog gweddus—amodau gweddus, yn atebol i'r gymuned. A thrwy gael gwared ar y rhwymedigaeth a sicrhau chwarae teg, gallem wneud llawer i'w hamddiffyn ac i warchod yr elfen hon o wasanaeth cyhoeddus.

Diolch yn fawr iawn, a gwn eich bod wedi codi'r mater penodol hwn gyda mi yn y Siambr wythnos neu ddwy yn ôl, ac yn sicr, rwyf wedi cael mwy o gyfle i archwilio'r mater ymhellach. Credaf mai'r hyn sy'n rhaid inni ei gofio yw bod holl refeniw ardrethi annomestig yng Nghymru yn cael ei ddosbarthu i awdurdodau lleol i helpu i ariannu gwasanaethau lleol. Felly, bydd y mwyafrif helaeth o awdurdodau lleol yng Nghymru yn cael mwy o ganlyniad i dalu ardrethi annomestig nag y gwelant yn cael ei dalu allan yn eu hardaloedd eu hunain. Gallai rhoi rhyddhad ardrethi neu esemptiadau i gynghorau neu gyrff cyhoeddus eraill ystumio'r gystadleuaeth a'r marchnadoedd, gan roi mantais annheg i gyfleusterau cyhoeddus dros y rhai preifat, a gallai hynny arwain at oblygiadau mewn perthynas â chymorth gwladwriaethol, yn ôl yr hyn a ddywedwyd wrthyf. Ond yn amlwg, gwn fod hwn yn faes sydd o ddiddordeb arbennig i chi; rwy'n fwy na pharod i barhau â'r sgwrs honno.

Weinidog, mae talwyr y dreth gyngor yn ne-ddwyrain Cymru yn wynebu cynnydd aruthrol yn eu biliau diolch i setliad llywodraeth leol annigonol Llywodraeth Cymru. Mae pobl sy'n byw yng Nghasnewydd, Torfaen a Merthyr Tudful yn wynebu cynnydd o bron i 6 y cant yn eu biliau, ac mae cyngor Caerffili ar fin cael cynnydd o bron i 7 y cant. O gofio mai ymarfer cysylltiadau cyhoeddus yn unig oedd cap 5 y cant Llywodraeth Cymru yn fy marn i, pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'i chyd-Aelodau ynghylch yr effaith ddinistriol y bydd y codiadau anferth hyn yn ei chael ar deuluoedd sydd dan bwysau, yn aml yn y rhannau tlotaf o Gymru?

Credaf fod yr haerllugrwydd ar feinciau'r Ceidwadwyr yn eithaf anhygoel y prynhawn yma. Pe bai gwariant cyhoeddus wedi cadw i fyny â thwf yn yr economi, byddai gennym £4 biliwn yn ychwanegol i'w wario y flwyddyn nesaf, a dychmygwch pa mor hael y gallem fod tuag at awdurdodau lleol pe ba hynny wedi digwydd. Ond mae'n rhaid imi ddweud wrth y Ceidwadwyr, os yw'r Ceidwadwyr yn dymuno cael mwy o arian ar gyfer unrhyw ran o'r bywyd Cymreig, boed yn awdurdodau lleol neu'r GIG neu unrhyw le arall, byddai'n rhaid iddynt ddweud wrthym lle dylid gwneud y toriadau.

Weinidog, mae Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru yn ymbil bob amser ar Lywodraeth Cymru i leihau faint o grantiau penodol wedi'u neilltuo a ddyrennir i gynghorau ar sail flynyddol. Yn amlwg, maent yn dadlau y dylid darparu'r cyllid hwn yn uniongyrchol drwy'r grant cynnal refeniw yn lle hynny, gan roi cymaint o ryddid â phosibl i awdurdodau lleol ymateb i angen lleol. Nawr, a ydych yn cydnabod yr alwad hon, ac o gofio cyflwr presennol cyllid llywodraeth leol, a wnewch chi ymrwymo i wrando ar arweinwyr awdurdodau lleol mewn perthynas â'r pwynt hwn yn ystod y broses o bennu'r gyllideb nesaf?

Diolch yn fawr. Mae bob amser yn wir, yn amlwg, yr hoffai awdurdodau lleol gael cymaint o'r arian â phosibl yn y grant cynnal refeniw, ac rydym wedi cymryd camau, ar sail flynyddol rwy'n credu, i ystyried beth arall y gallwn ei wneud er mwyn rhoi'r math o hyblygrwydd sydd ei angen arnynt i awdurdodau lleol. Bydd yr is-grŵp cyllid yn cyfarfod eto cyn bo hir, ac rwy'n fwy na pharod i gael y sgwrs honno yno.

14:05

Er bod mwy o bwysau ariannol ar yr holl awdurdodau, mae'n hysbys iawn ledled Cymru bellach, o ran gofal cymdeithasol, fod gennym fom sy'n tician. Ni all awdurdodau lleol reoli eu cyllidebau gofal cymdeithasol. Gwyddom bellach, wedi protest yng ngogledd Cymru dros y penwythnos, a thrwy siarad ag undebau a phobl, athrawon ac arweinwyr yn ein maes addysgol, fod gennym argyfwng cyllido addysg yn ein hawdurdodau lleol.

Nawr, mae'n rhaid eich bod yn ymwybodol fod awdurdodau lleol fel Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy eisoes wedi ymdrechu i wneud arbedion ariannol sylweddol: £15.6 miliwn eleni yn unig. Felly, nid oes unrhyw beth ar ôl iddynt ei dorri. Nawr, o ganlyniad i hynny, cynnydd o 9.6 y cant yn y dreth gyngor yng Nghonwy, 9.5 y cant ar Ynys Môn ac 8.75 y cant yn sir y Fflint. Serch hynny, mae llawer o awdurdodau lleol, a'r rheini gyda dros £100 miliwn mewn cronfeydd wrth gefn—maent wedi cael cynnydd yn eu cyllid. Pryd y bydd Llywodraeth Lafur Cymru yn edrych ar Gymru gyfan ac yn darparu'r cyllid ariannol sydd ei angen ar sail angen demograffig, a rhoi'r gorau i'r ystumio gwleidyddol o wobrwyo awdurdodau lleol dan arweiniad Llafur? Ac i fod yn onest, rydych yn gwneud tro gwael ag awdurdodau lleol yng ngogledd Cymru, yn enwedig yn fy ardal i yn Aberconwy.

Wel, edrychwch, nid yw'n wir o gwbl fod gwleidyddiaeth yn cael unrhyw le yn y fformiwla ariannu llywodraeth leol. Datblygir y fformiwla ariannu llywodraeth leol ar y cyd â llywodraeth leol. Mae'r Gweinidog llywodraeth leol a minnau wedi dweud yn glir iawn wrth lywodraeth leol, os ydynt am gynnig ffordd wahanol o rannu cyllid ymhlith awdurdodau lleol, y byddem yn fwy na pharod i gael y sgyrsiau hynny, ond nid oes syniad neu gynigion o'r fath wedi cael eu cynnig eto.

Brexit heb Gytundeb

5. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda Gweinidogion y DU ynghylch yr angen am gyllideb frys rhag ofn y bydd Brexit heb gytundeb yn digwydd? OAQ53515

Cyfarfûm â Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys ar 15 Chwefror a phwysais am eglurder ynghylch materion ariannol sy'n ymwneud â Brexit, gan gynnwys y posibilrwydd o gyllideb frys. Roedd y neges yn glir: nid oes digwyddiad ariannol llawn ar yr agenda, ac mae hynny'n ychwanegu at yr ansicrwydd sy'n ein hwynebu.

Croesawaf y ffaith bod y Gweinidog o'n blaenau a'r Gweinidog cyfatebol yn yr Alban ill dau wedi codi'r mater yn uniongyrchol gyda Liz Truss, y Gweinidog perthnasol, yn eu trafodaethau, ond rwy'n siomedig iawn gyda'r ymateb. Yn ôl ar 28 Hydref y llynedd, dywedodd Philip Hammond, y Canghellor, yn glir mewn ymateb i gyfweliad y byddai angen cyllideb frys yn wir pe ceid Brexit 'dim bargen'. Oherwydd bod disgwyl i'r economi grebachu—ni wyddom faint, ond bydd yn crebachu—bydd angen cyllideb ehangol. Nid cyllideb Cymru a ddylai ysgwyddo'r baich hwnnw; Trysorlys y DU a ddylai ysgwyddo'r baich hwnnw. Nawr, os teimla Philip Hammond—ac yn sicr, ef a fyddai'n gwybod, er y sylwaf fod Rhif 10 wedi'i roi yn ei le o fewn 24 awr—yna, fel rhan o'r cynlluniau ar gyfer 'dim bargen', gallai'r ffaith bod Llywodraeth y DU, y Trysorlys, Gweinidogion ac eraill yn gorfod ystyried opsiynau 'dim bargen' olygu hefyd fod yn rhaid iddynt bwmpio arian i mewn i'r economi. Mae'n ymddangos yn chwerthinllyd nad ydynt yn ystyried y posibilrwydd hwnnw.

Diolch, a chytunaf yn llwyr â phob gair a ddywedwch, a buaswn yn arswydo pe na baent yn ystyried pob posibilrwydd o ran y camau y gallai Llywodraeth y DU eu cymryd i gefnogi'r economi pe ceid Brexit 'dim bargen' trychinebus. Rydym wedi dweud yn glir, dro ar ôl tro—ac rwy'n ddiolchgar am gefnogaeth y Pwyllgor Cyllid, ac i chi ac i Aelodau'r Cynulliad sydd wedi bod yn dadlau'r achos gyda Llywodraeth y DU—fod yn rhaid cael cyllideb frys, fod yn rhaid cael cyllid ychwanegol, pe ceid Brexit 'dim bargen' trychinebus.

Wel, Weinidog, mae'n rhaid imi ddweud eich bod braidd yn rhagrithiol yn rhybuddio am y trychinebau a fyddai'n deillio o Brexit 'dim bargen'. Cytunaf y byddai pethau'n datgymalu ac ni wyddom i ba raddau, ac ni fuaswn i byth yn cymryd y risg honno, ond yr unig ffordd o atal hynny yw cael cytundeb. Un cytundeb yn unig a negodwyd gan Lywodraeth Prydain a—cofiwch—gan yr Undeb Ewropeaidd, ac os nad yw'r cytundeb hwnnw'n cael ei dderbyn, bydd y math o drychineb rydych yn ei ragweld yn dod yn fwy ac yn fwy tebygol. Eich dyletswydd chi yw cefnogi Llywodraeth y DU ar hyn o bryd, a sicrhau bod y cytundeb hwn yn cael ei dderbyn.

14:10

Gyda phob parch, credaf mai ein dyletswydd ni fel Llywodraeth Cymru yw sicrhau'r dyfodol gorau posibl i bobl Cymru. Yn sicr, nid Brexit 'dim bargen' yw hynny. Gweithiodd Llywodraeth Cymru, ochr yn ochr â Phlaid Cymru, yn gyflym iawn wedi'r refferendwm i nodi beth fyddai'r Brexit gorau posibl i bobl Cymru yn 'Diolgelu Dyfodol Cymru'. Ychydig iawn o'r hyn a nodwyd gennym fel y ffordd orau ymlaen sydd wedi'i sicrhau gan Lywodraeth y DU, ac mewn gwirionedd, mae ein cynllun wedi parhau i fod yn eithriadol o gadarn o ran y mathau o heriau sy'n ein hwynebu a'r trafodaethau y credaf y byddai'r Undeb Ewropeaidd wedi bod yn agored i'w cael, pe bai Llywodraeth y DU wedi bod â'r synnwyr i ddilyn ein cynllun.

Ariannu Gofal Cymdeithasol

6. Pa drafodaethau diweddar y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ynghylch ariannu gofal cymdeithasol? OAQ53488

Mae ariannu gofal cymdeithasol yn ffocws allweddol i'r grŵp rhyngweinidogol ar dalu am ofal cymdeithasol, grŵp y mae'r Gweinidog a'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol a minnau yn aelodau ohono, gyda'r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol. Cyfarfu'r grŵp ddiwethaf ar 7 Chwefror, a byddant yn ymgynnull unwaith eto yr wythnos nesaf.

Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am eich ateb, Weinidog. A allwch roi unrhyw syniad o'r amserlen y disgwylir i'r grŵp hwnnw gyflwyno'i adroddiadau? Oherwydd yn sicr, dywedir wrthyf ein bod, mewn rhai rhannau o Gymru, yn wynebu argyfwng gofal cymdeithasol, ac un o'r materion mawr yw recriwtio staff. Wrth gwrs, ceir elfen Brexit i hynny o beth, ond yng nghyd-destun y cwestiwn hwn heddiw, un o'r prif faterion eraill yw diffyg cydraddoldeb cyflog yn ogystal â pharch cydradd rhwng y rheini sy'n gwneud swyddi yr un fath yn y gwasanaeth iechyd a'r rhai sy'n gwneud yr un swyddi yn union yn y sector gofal, lle mae'r gwaith yn llai sicr, lle mae'r telerau ac amodau yn llai ffafriol. A dywed darparwyr gofal wrthyf yn gyson eu bod yn hyfforddi staff ac yna'n eu colli i'r GIG gan fod yr amodau gymaint yn well yno.

A yw'r gweithgor rydych newydd ei grybwyll yn mynd i'r afael â'r materion sy'n ymwneud â chydraddoldeb cyflog? Os nad yw'n gwneud hynny ar hyn o bryd, a gaf fi ofyn ichi ymrwymo i wneud hynny? Oherwydd, yn y pen draw, mae ansawdd ein gwasanaethau gofal, fel ein gwasanaethau iechyd, yn gwbl ddibynnol ar y bobl sy'n eu darparu. Gallwch wneud popeth arall, ond oni bai fod gennych y bobl gywir, mewn gwirionedd, ni allwch ddarparu'r gwasanaeth sydd ei angen ar bobl, yn enwedig mewn perthynas â gofalu am yr henoed. Os oes gennych drosiant staff cyson, mae effaith hynny ar ansawdd gofal ac ar les unigolion, eu lles emosiynol, yn ddinistriol.

Felly, a gaf fi ofyn am amserlen a gofyn i'r gweithgor fynd i'r afael â'r materion hynny? Rydym yn clywed llawer am barch cydradd rhwng iechyd a gofal, ond diwedd y gân yw'r geiniog, ac ni chredaf fod pobl sy'n gweithio mewn gofal yn poeni gymaint am barch ag y maent am yr hyn sydd yn eu pecynnau cyflog.

Diolch yn fawr iawn am godi hynny. Prif ffocws y grŵp rhyngweinidogol yw'r her o dalu am ofal, a byddai hynny'n cynnwys edrych ar sut y telir am ofal yn y dyfodol, i raddau helaeth iawn yng nghyd-destun adroddiad Holtham ar dalu am ofal ac adroddiad y Pwyllgor Cyllid ar gost gofalu am boblogaeth sy'n heneiddio. Wedi dweud hynny, fodd bynnag, mae hyn yn ymwneud â sawl ffrwd waith, gydag un ohonynt yn gwbl ariannol; mae'r llall yn ymwneud â beth yw'r cynnig.

Felly, os gofynnwn i bobl dalu yn y dyfodol, o bosibl drwy ardoll gofal cymdeithasol—dyna un o'r syniadau a gynigiwyd gan Gerry Holtham, ond nid dyna'r unig syniad, ond serch hynny, bydd angen i bobl wybod beth yw'r cynnig, beth fydd yno iddynt hwy. Credaf fod rhan o'r sgwrs honno yn sicr yn ymwneud ag ansawdd a chymwysterau'r staff a fyddai'n gofalu amdanynt yn y dyfodol. Felly, rydym ar ddechrau'r daith mewn perthynas â'r gwaith hwn. Mae'n waith pellgyrhaeddol iawn. Buaswn yn disgwyl iddo lywio syniadau pob un ohonom wrth inni agosáu at yr etholiad nesaf o ran beth y gallem ei gynnig i bobl. Rwy'n fwy na pharod i gael cyfarfod pellach gyda chi i drafod yr hyn rydym wedi'i ddysgu hyd yn hyn drwy ein trafodaethau a'r math o gwestiynau mawr rydym yn eu harchwilio.

Nid yw Neil McEvoy yma i ofyn cwestiwn 7 [OAQ53494]. Cwestiwn 8, felly, Jenny Rathbone. 

'Pwysau Iach: Cymru Iach'

8. Pa adnoddau y mae'r Gweinidog wedi'u dyrannu i'r portffolio iechyd a gofal cymdeithasol i weithredu'r polisi 'Pwysau Iach: Cymru Iach'? OAQ53518

Roedd ein cyllideb ar gyfer 2019-20 yn cynnwys dyraniad ychwanegol o £192 miliwn i roi 'Cymru Iachach' ar waith, sef ein cynllun hirdymor ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Mae penderfyniadau ynglŷn â dyrannu cyllid er mwyn cyflawni polisïau yn fater i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Mae £192 miliwn yn swnio fel llawer o arian, ond mae maint y broblem yn enfawr. Mae gennym bron i 7,000 o bobl dan 25 oed gyda diabetes math 2 ac mae 1,500 ohonynt o dan 19 oed. Mae hwnnw'n ystadegyn difrifol iawn. Felly, ymddengys i mi y bydd angen inni ddarparu cyngor priodol i bob rhiant newydd ledled Cymru ar ddiddyfnu, yn ogystal â dosbarthiadau coginio yn ein holl ysgolion i sicrhau nad yw pobl yn bwyta pethau sy'n llythrennol yn eu lladd. Felly, rwy'n sylweddoli nad yw'r ymgynghoriad wedi dod i ben eto, ond mae'n debyg—pe bai'r Gweinidog iechyd yn nodi anghenion ychwanegol uwchlaw'r £192 miliwn hwnnw, a oes unrhyw bosibilrwydd y gallai honno fod yn sgwrs y byddech yn barod i'w hystyried?

14:15

Diolch am godi'r ymgynghoriad. Fel y dywedwch, nid yw wedi dod i ben eto, ond gwn y bydd yr ymgynghoriad hwnnw'n awyddus iawn i glywed eich barn. Mae'r Cabinet wedi cytuno ar rai mesurau uniongyrchol, oherwydd, fel chi, rydym yn cydnabod bod hwn yn un o'r materion na all aros. Felly, byddai'r camau cychwynnol arfaethedig y byddem yn eu cymryd, er enghraifft, yn ymwneud â chynyddu gweithgareddau dyddiol drwy amgylchedd ysgolion. Felly, ar hyn o bryd mae gennym 303 o ysgolion sydd wedi ymrwymo i gyflawni'r filltir ddyddiol ledled Cymru, ac os byddwn yn gweld bod hyn yn effeithiol, a deallaf ei fod, byddwn yn ceisio dyblu nifer yr ysgolion sy'n cymryd rhan erbyn 2021.

Fel y gwyddoch, rydym hefyd yn awyddus i gefnogi mwy o deithio llesol a chael gwared ar y rhwystrau sy'n atal pobl rhag cerdded a beicio. Rydym hefyd wedi ymrwymo i adolygu'r gwaith ar gyflawni'r cynllun cenedlaethol i atgyfeirio cleifion i wneud ymarfer corff ac i weithio gyda phartneriaid i ehangu cyfleoedd ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol a darparu mentrau i ymgysylltu â phobl sy'n wynebu rhwystrau lluosog ar hyn o bryd rhag gwneud gweithgarwch corfforol. Un arall o'r camau uniongyrchol, cychwynnol roeddem am eu cymryd yw creu benthyciadau a grantiau newydd ar gyfer busnesau a chlybiau bach sy'n gysylltiedig â gweithgarwch corfforol, ac mae Busnes Cymru a Banc Datblygu Cymru yn ymchwilio i hyn ar hyn o bryd. Maes arall yr hoffem ei ddatblygu yw i Chwaraeon Cymru ddarparu mwy o gyngor cynllunio rhagweithiol. Felly, rydym am gryfhau a gwella eu gallu i ymgysylltu'n rhagweithiol â datblygwyr ac awdurdodau lleol mewn perthynas â'u cynlluniau datblygu lleol, a hefyd gyda datblygwyr, prifysgolion, ysgolion a cholegau er mwyn ymgorffori gweithgarwch corfforol ar ddechrau'r broses gynllunio honno mewn ffordd lawer mwy strategol. Felly, er bod yr ymgynghoriad yn mynd rhagddo ar hyn o bryd, rydym wedi rhoi rhai cynlluniau cychwynnol ar waith.

Cyllidebu Aml-flwyddyn

9. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am bolisi Llywodraeth Cymru o ran cyllidebu aml-flwyddyn? OAQ53522

Ein huchelgais bob amser yw darparu eglurder hirdymor ynghylch cyllidebau lle bo modd. Fodd bynnag, mae'n rhaid cydbwyso hyn â rhagdybiaethau cynllunio realistig a synhwyrol. Mae agenda gyni Llywodraeth y DU, ynghyd â'r ansicrwydd ynghylch Brexit, yn cyfyngu ar ein gallu i wneud hyn.

Diolch am eich ateb. Fe fyddwch yn gwybod, wrth gwrs, ac rydym wedi clywed heddiw am y pryderon difrifol a fynegir bellach ynghylch cyllid ysgolion, ac un o'r pethau a glywn yw y gall ysgolion fod yn derbyn arian ychwanegol heb fawr o rybudd ar ddiwedd y flwyddyn ariannol, sy'n ei gwneud yn anodd iawn iddynt ei wario'n effeithiol o fewn y flwyddyn. Mae hefyd yn arwain at y canlyniad anfwriadol o chwyddo cronfeydd wrth gefn yn artiffisial ar ddiwedd y flwyddyn.

Nawr, rwy'n derbyn nad bai Llywodraeth Cymru yn llwyr yw amseriad yr arian ychwanegol hwn gan ei fod yn dibynnu i raddau ar ba bryd y bydd Llywodraeth y DU yn trosglwyddo'r arian, ond ceir peth oedi o hyd sy'n gwaethygu'r broblem. Pum mlynedd yw hyd tymor y Cynulliad. Mae ffigur bloc Cymru yn codi mewn termau real bob blwyddyn. A oes unrhyw beth deddfwriaethol sy'n eich atal rhag caniatáu i ysgolion gynllunio ar gylchoedd dwy flynedd gyda ffigur dangosol ar gyfer y drydedd flwyddyn mewn cylch a fyddai'n eu helpu i ddatrys problem arian ychwanegol a ddarperir yn hwyr, gan gynorthwyo ysgolion i gynllunio'n well, a diogelu eu harian rhag cael ei ysbeilio gan gynghorau i ddiwallu anghenion eraill?

Diolch yn fawr iawn am godi'r mater. Fe edrychaf ar y cwestiwn penodol a godoch gyda fy nghyd-Weinidog y Gweinidog Addysg. Buaswn yn dweud ein bod yn cydymdeimlo'n fawr â galwadau gan y sector cyhoeddus i gyllidebu dros gyfnod hwy lle bo modd er mwyn cael proses gynllunio ariannol fwy syml. Fodd bynnag, mae'r ansicrwydd parhaus sy'n ein hwynebu ar hyn o bryd yn peri cryn dipyn o bryder. Bydd yr adolygiad cynhwysfawr o wariant yn cael ei gynnal yn nes ymlaen eleni. Ar hyn o bryd, rydym yn dal i fod heb gael gwybod ar ba gyfnod y bydd yr adolygiad cynhwysfawr o wariant yn edrych hyd yn oed. Er hyn, rydym wedi sicrhau bod adroddiad y prif economegydd, a gyhoeddwyd ochr yn ochr â'r gyllideb ddrafft, yn darparu dadansoddiad o'r amcanestyniadau ariannol tymor canolig, felly mae'n debyg y bydd yn darparu rhywfaint o'r wybodaeth sydd ei hangen arnom er mwyn inni allu rhagweld hyd eithaf ein gallu wrth symud ymlaen rywfaint o'r senarios a ddisgrifiwyd gennych fel rhai sy'n ddefnyddiol ar gyfer addysg. Ond, o ran eich cwestiwn penodol, byddaf yn trafod gyda'r Gweinidog.

2. Cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol

A'r eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i Weinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol, ac mae'r cwestiwn cyntaf gan Janet Finch-Saunders.

14:20
Miliwn o Siaradwyr Cymraeg erbyn 2050

1. Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda'r Gweinidog Addysg ynghylch rôl ysgolion o ran cyrraedd y targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050? OAQ53496

Rwy'n cael trafodaethau rheolaidd gyda fy nghyd-Weinidog y Gweinidog Addysg i sicrhau, fel Llywodraeth, ein bod yn gweithio gyda'n gilydd i greu system addysg i gynyddu'r nifer o siaradwyr Cymraeg sy'n cefnogi ac yn annog y defnydd o'r Gymraeg mewn ysgolion, mewn cymunedau ac mewn gweithleoedd.

Diolch. Yn ôl Llywodraeth Cymru, addysg drochi cyfrwng Cymraeg yw'r prif ddull o sicrhau y gall plant ddatblygu eu sgiliau iaith Gymraeg a chreu siaradwyr Cymraeg newydd. Nawr, rwy'n cytuno â'r pwysigrwydd a roddir i addysg cyfrwng Cymraeg, fodd bynnag, gwelwn nifer yr ysgolion cyfrwng Cymraeg yn disgyn o 434 yn 2013 i 389 yn 2018. Yn ychwanegol at hynny, er bod nifer y plant sy'n cael eu haddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg wedi cynyddu, mae llawer bellach yn poeni nad yw effaith cau ysgolion cyfrwng Cymraeg wedi'i hystyried yn llawn. Felly, pa asesiad a wnaethoch o effaith yr achosion parhaus hyn o gau ysgolion a'r effaith ar y defnydd o'r Gymraeg—sut y mae hyn yn effeithio ar y defnydd o'r Gymraeg a sut, yn y pen draw, y bydd yn effeithio ar y nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050?

Wel, diolch, a diolch am eich diddordeb yn y maes hwn. Credaf mai'r hyn sydd angen inni ei wneud yw cadw golwg ar y darlun mawr, sef sut rydym yn cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg yn ein hysgolion. A'r hyn sy'n bwysig, felly, yw nifer y disgyblion, yn hytrach na nifer yr ysgolion. A dyna pam rydym yn canolbwyntio i raddau helaeth ar gynyddu nifer y disgyblion sy'n cael eu haddysg yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg o 20 y cant i 40 y cant erbyn 2050. A'r hyn sydd gennym yw trywydd clir iawn o ran y modd yr ydym yn mynd i sicrhau bod hynny'n digwydd. Dyna pam rydym wedi dyrannu £46 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol i agor ysgolion newydd, i adeiladu estyniadau mewn ysgolion sy'n bodoli eisoes, gan fod y galw yno. Yr hyn rydym yn ei wneud yw creu, er enghraifft, 2,800 o leoedd ysgol ychwanegol gyda'r arian ychwanegol hwnnw rydym wedi'i ddarparu. Mae hynny'n 41 o brosiectau ychwanegol. Felly, credaf mai'r peth allweddol, hyd y gwelaf, yw cadw golwg nid yn unig ar ateb y galw, ond yr hyn rydym yn ceisio'i wneud yn awr yw achub y blaen ar y galw. Dyna pam rydym wedi creu'r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg fel ein bod yn gofyn i gynghorau greu'r galw, yn hytrach nag ateb y galw'n unig. Ac mae'n athroniaeth wahanol iawn ac yn ymagwedd wahanol. A'r peth gwych yw bod hyn wedi trawsnewid y ffordd y mae llywodraeth leol yng Nghymru yn meddwl mewn perthynas â darpariaeth addysg cyfrwng Cymraeg.

Weinidog, yn ddiweddar, cyfarfûm â phenaethiaid yr ysgolion cyfrwng Cymraeg o fwrdeistref sirol Pen-y-bont ar Ogwr, ac roeddent yn pryderu ynghylch yr effaith roedd toriadau yn ei chael ar addysg cyfrwng Cymraeg. Wrth ymweld ag Ysgol Gyfun Gymraeg Llangynwyd, cefais fy synnu gan gyflwr gwael yr adeilad ac adnoddau'r ysgol. Weinidog, pa asesiad a wnaethoch o'r effaith y mae toriadau awdurdodau lleol yn ei chael ar y gallu i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r effaith a gaiff hynny ar y nod ehangach o greu miliwn o siaradwyr Cymraeg?

Diolch. Rwy'n siŵr fod yr Aelod yn ymwybodol, mewn gwirionedd, yn wahanol i Loegr, ein bod wedi rhoi chwistrelliad enfawr o arian er mwyn trawsnewid darpariaeth ystadau ysgolion yng Nghymru. Mae'n rhywbeth sy'n destun cenfigen i weddill y Deyrnas Unedig. Felly ni chredaf fod gennym unrhyw beth i fod â chywilydd ohono y maes hwn.

Nawr, wrth gwrs, ceir rhai ysgolion o hyd lle mae angen inni sicrhau ein bod yn gwella'r cyfleusterau, ac mae rhaglen waith yn mynd rhagddi. Trefnir y blaenoriaethau ar sail cyflwr yr ysgolion i raddau helaeth. Ond fel y dywedaf, yr hyn rydym wedi'i wneud yn ddiweddar yw darparu'r arian ychwanegol hwn yn benodol ar gyfer ysgolion cyfrwng Cymraeg gan fod y galw'n cynyddu. Felly, credaf y dylem fod yn falch iawn o'r ffaith nad yw'r gwariant cyfalaf hwnnw'n bodoli yn Lloegr, a'i fod yn trawsnewid nid yn unig ein sefydliadau addysgol ond hefyd mae'n effeithio ar yr economi yn yr ardal gan fod gennym bobl leol yn adeiladu'r ysgolion hynny, prentisiaid. Felly, mae llawer y dylem fod yn falch ohono yn fy marn i.

14:25
Miliwn o Siaradwyr Cymraeg

2. A wnaiff y Gweinidog roi diweddariad ar gyflawniad Cynllun Gweithredu 2018-19 Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr? OAQ53484

Mae cynllun gweithredu 2018-19 strategaeth Cymraeg 2050 yn seiliedig ar raglen waith 2017-21. Byddwn yn adrodd ar y cynnydd yn erbyn yr amcanion yn yr hydref wedi i ni gasglu a dadansoddi’r data. Mae’r amcanion yn canolbwyntio ar greu galw, cynyddu'r niferoedd a chynyddu defnydd.

Diolch. Edrychwn ymlaen at y diweddariad yna, felly. Yn ôl eich rhagflaenydd, Alun Davies, un o ddibenion Bil y Gymraeg oedd, a dwi'n dyfynnu,

‘creu sefydliad o'r radd flaenaf a rhyngwladol ei fri a fyddai'n dwyn ynghyd y màs critigol o dalent ac arbenigedd i arwain cynllunio ieithyddol i lefel newydd ehangach a mwy soffistigedig.’

Er bod y Bil wedi mynd erbyn hyn, ydych chi'n cytuno ein bod ni'n parhau i fod angen corff hyd braich o Lywodraeth, yn ychwanegol at y comisiynydd, i wneud y gwaith cynllunio iaith y mae Alun Davies a minnau'n credu sy'n angenrheidiol i lwyddiant eich strategaeth miliwn o siaradwyr? 

Wel, dwi'n derbyn bod angen i ni wneud lot mwy yn y maes cynllunio ieithyddol. Dwi wedi gofyn i'r swyddogion ddod ymlaen â syniadau ataf fi ynglŷn â lle fyddai'r lle mwyaf priodol i osod hynny. Dwi'n awyddus i drafod gydag arbenigwyr yn y maes i weld ble yw'r lle gorau. Mae rhai yn credu dylai fe fod yn hyd braich o'r Llywodraeth. Mae rhai eraill yn dweud, 'Actually, mae'n rhaid iddo fe fod yn rili agos at y Llywodraeth achos dyna ble mae'r levers i gael i wneud y newidiadau.' Felly, dwi'n awyddus i weld beth yw'r opsiynau yn gyntaf cyn gwneud penderfyniad ar ble ddylai'r sefydliad neu'r arbenigwyr newydd yma fod o fewn y system, ai tu fewn y system neu led braich. 

Un nod i'r cynllun yw, wrth gwrs, cynyddu darpariaeth dysgu Cymraeg ar ôl 16 i helpu pobl i ddefnyddio mwy o Gymraeg yn y gweithle, ac rwyf fi'n falch—rwy'n credu fy mod i'n falch anyway—i weld syniadau fel llinell ffôn cymorth i helpu darparu gwasanaethau cyfieithu am ddim i fusnesau bach ac elusennau, er enghraifft, ond cam bach iawn, iawn yw hynny tuag at darged 2050. Beth ydych chi'n ei ddweud wrth fusnesau bach tebyg, sydd ddim wedi clywed am neu gan eich swyddogion Cymraeg i fusnes am sut i fanteisio ar adnoddau bach fel y llinell ffôn cymorth, heb sôn am gymryd y naid i fod yn cymryd o ddifrif y ffaith bod gyda nhw rhywbeth i wneud i helpu creu'r nifer o bobl sy'n siarad Cymraeg i gyrraedd y targed? 

Diolch yn fawr. Dwi'n meddwl bod lot o waith yn cael ei wneud yn y maes yma, ac mae'r rhan fwyaf o'r gwaith yna'n cael ei wneud gan Lywodraeth Cymru. Un o'r pethau rŷn ni wedi gwneud, wrth gwrs, yw cael hyd i tua 12 o bobl sy'n mynd o gwmpas Cymru i roi cyngor i bobl ym maes busnes ynglŷn â sut maen nhw'n gallu ehangu defnydd o'r Gymraeg tu fewn i'r gweithle. Wrth gwrs, mae hefyd gyda ni ddarpariaeth i bobl ddysgu Cymraeg yn y gweithle, a dwi'n awyddus iawn i sicrhau bod pobl yn gwybod am y gwasanaethau hyn, a dyna'r sialens nawr. Nawr, rŷn ni eisoes yn gwneud lot i sicrhau bod pobl yn gwybod am y llinell ffôn. Dwi'n meddwl bod rhaid i ni wneud mwy o fasnach yn y maes yma i sicrhau—. Mae hynny yn digwydd eisoes, ond, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni drio gwneud mwy i godi'r profile fel bod pobl yn ymwybodol bod y gwasanaeth yma'n bodoli. 

Cwestiynau Heb Rybudd gan Lefarwyr y Pleidiau

Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Darren Millar. 

Diolch, Lywydd. Weinidog, a gaf i ofyn—? Wrth i 29 Mawrth agosáu, yn amlwg, ceir rhai cyfleoedd i Gymru yn ogystal â rhai o'r pryderon a godwyd. Un o'r cyfleoedd hynny yw'r cyfle i'r Deyrnas Unedig lunio ei chytundebau masnach ei hun â gwledydd eraill ledled y byd. Beth a wnewch fel Llywodraeth Cymru i sicrhau y gall Cymru fod ar flaen y gad o ran y penderfyniadau masnach hynny a'r cyfleoedd y gallent eu cynnig?

14:30

Wel, rydym eisoes yn cael trafodaethau helaeth gyda'r Gweinidog cyfrifol yn yr Adran Masnach Ryngwladol ynglŷn â sut y gallwn gymryd rhan yn y broses. Felly, rydym wrthi'n sefydlu strwythur ffurfiol iawn, fel y gallwn nid yn unig gyfrannu at yr hyn a ddylai fod yn feysydd blaenoriaethol i Lywodraeth Cymru, o ran y gwledydd a fydd yn cael effaith—ac ni fyddant bob amser yr un peth â gweddill y Deyrnas Unedig, o reidrwydd. Mae'r Unol Daleithiau, er enghraifft, ar frig y rhestr ar gyfer y Deyrnas Unedig; nid dyna lle byddai ein blaenoriaeth ni o reidrwydd ar hyn o bryd. Felly, rydym am allu dylanwadu, yn gyntaf oll, ar bwy rydym yn llunio cytundebau masnach â hwy, ond yna dylanwadu ar y ddadl, a'r cwestiwn wedyn yw i ba raddau y gallwn ddylanwadu arni—a allwn fod wrth y bwrdd, sef wrth gwrs, yr opsiwn a ffafrir gennym? Os na allwn, pa mor agos y gallwn fod i'r broses o negodi? Ond rydym wedi dweud un peth yn hollol glir, sef y byddem yn disgwyl bod yn rhan o unrhyw drafodaeth ynglŷn ag unrhyw faes lle ceir cyfrifoldeb datganoledig cyn iddynt ddechrau trafod ag unrhyw wlad arall.

Rwy'n falch iawn o weld eich bod wedi cydnabod yr angen i fod wrth y bwrdd, a bu'n ddiddorol gweld y synau a wnaed gan Busnes Cymru, sy'n amlwg wedi bod yn annog a hyrwyddo masnach mewn ffordd wahanol iawn i'r mathau o negeseuon a glywsom yn y Siambr hon gan y Prif Weinidog ac aelodau o'r Cabinet ar brydiau, negeseuon sydd wedi bod yn negyddol iawn ar y cyfan ynghylch Brexit a'r cyfleoedd y gallai eu cynnig. Nawr, wrth gwrs, mae fy mhlaid i wedi awgrymu y dylid cael cynrychiolwyr masnach mewn sawl rhan wahanol o'r byd, yn hyrwyddo Cymru, yn cymryd rhan yn y trafodaethau, yn gweithio'n agos iawn gyda llysgenadaethau Prydain mewn gwahanol wledydd lle ceir cyfleoedd masnach i fusnesau Cymru. Pa ystyriaeth a roddwyd gennych fel Llywodraeth Cymru nid yn unig i gefnogi'r seilwaith sydd gennych eisoes yn swyddfeydd Llywodraeth Cymru yn y gwahanol wledydd, ond i gefnogi'r seilwaith o fewn llysgenadaethau Prydain hefyd, i sicrhau bod llais Cymru—llais arbennig Cymru—yn cael ei glywed?

Diolch, Darren. Nid wyf am i chi fod o dan yr argraff fy mod yn awyddus i wneud cytundebau masnach â gwledydd eraill er ei fwyn ei hun yn unig. Rwy'n gwbl argyhoeddedig mai blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yw sicrhau bod y berthynas fasnach bwysicaf—ein perthynas gyda'r Undeb Ewropeaidd, lle'r aiff 60 y cant o'n nwyddau—y dylai honno fod yn flaenoriaeth uwch na'r holl flaenoriaethau eraill. A chredaf ei bod yn warthus ein bod lai na 30 diwrnod i ffwrdd o sefyllfa lle gallem fod yn gadael yr UE heb unrhyw syniad o gwbl sut beth yw'r berthynas honno. Felly, mae gennyf bryderon enfawr ynglŷn â'r berthynas honno. Ond yn y cyfamser, rydym yn deall bod Llywodraeth y DU yn cael trafodaethau, ac nid ydym am gael ein gadael allan ohonynt. Felly, hoffwn sicrhau bod hynny'n gwbl glir.

O ran cynrychiolwyr masnach, credaf eich bod yn llygad eich lle—mae cyfle go iawn i'w gael. Un o'r pethau rwy'n argyhoeddedig yn eu cylch, mewn gwirionedd, yw bod gennym bobl o Gymru ledled y byd sydd ag arbenigedd gwych mewn sawl maes, ac mae angen inni ddefnyddio'r arbenigedd hwnnw mewn ffordd lle na all rhai o'n swyddogion cyffredinol ein rhoi mewn cysylltiad â'r cwmnïau ar y lefel uchaf. Ond os oes gennym bobl â chysylltiadau, gallant ein rhoi mewn cysylltiad â'r bobl ar frig y sefydliadau hyn. Felly, byddwn yn gweithio ar sut y gallwn ddatblygu strategaeth ddiaspora—beth yw ein perthynas. Ond rwy'n gwbl argyhoeddedig y dylai'r diaspora, a'r cynrychiolwyr masnach, ar ba ffurf bynnag—felly, gall fod yn rhywbeth answyddogol iawn, gall fod yn rhywbeth ychydig yn fwy ffurfiol; nid ydym wedi mapio sut y gallai hynny edrych eto—yn gwbl allweddol.

Ond y peth arall a nodwch, a chytunaf yn llwyr ag ef, yw bod gennym rwydwaith o lysgenadaethau Prydeinig ym mhob cwr o'r byd, lle mae ganddynt adnoddau aruthrol, ac mae angen inni sicrhau eu bod yn gwneud llawer mwy o waith ar ein rhan. Felly, byddwn yn gwneud llawer o waith i geisio rhoi llawer mwy o arweiniad iddynt o ran yr hyn rydym yn ei ddisgwyl ganddynt fel Llywodraeth Cymru.

Yn amlwg, Weinidog, ceir busnesau yng Nghymru sydd eisoes yn masnachu â gweddill y byd, hyd yn oed yn absenoldeb cytundebau masnach penodol gyda llawer o'r gwledydd hynny. Pa waith y bwriadwch ei wneud i fanteisio ar y cyfleoedd a ddaw yn sgil hynny, lle mae pobl eisoes wedi cael troed ar yr ysgol, os mynnwch, wrth fasnachu gyda rhai economïau sylweddol iawn ledled y byd lle nad oes cytundebau masnach ar waith yn barod? Rwy'n meddwl yn benodol am Awstralasia a rhannau eraill o farchnad Gogledd America. Clywais yr hyn a ddywedoch ynglŷn â'r syniad na fydd Gogledd America yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru yn y dyfodol. Credaf fod hynny'n siomedig iawn mewn gwirionedd, gan y credaf fod cyfleoedd enfawr i fusnesau Cymru yng Ngogledd America. Wrth gwrs, mae'n rhaid inni sicrhau bod unrhyw gytundebau masnach yn y dyfodol yn rhai da ac yn rhai priodol i fod o fudd i Gymru, ond mae'n amlwg bod cyfleoedd i'w cael oherwydd cysylltiadau busnes presennol. Pa drafodaethau a gafodd Llywodraeth Cymru gyda Chydffederasiwn Diwydiant Prydain, gyda'r Ffederasiwn Busnesau Bach, gyda Sefydliad y Cyfarwyddwyr, i sicrhau ein bod yn manteisio ar y cysylltiadau sydd yno eisoes, nid yn unig o ran y diaspora, ond o ran y trafodaethau sy'n mynd rhagddynt eisoes a'r cysylltiadau masnach sydd eisoes ar gael i ni?

14:35

Wel, ni chredaf fod angen cytundeb masnach arnoch bob amser er mwyn cael cysylltiadau masnach cryf iawn. Un enghraifft o hynny yw'r Unol Daleithiau. Felly, mae gennym fwy o fuddsoddiad yng Nghymru o'r Unol Daleithiau nag unrhyw wlad arall yn y byd. Nid wyf yn dweud na ddylem fasnachu gyda'r Unol Daleithiau; rwy'n dweud nad ydym o reidrwydd o'r farn fod cael cytundeb masnach yn flaenoriaeth. Yr hyn y credaf y gallwn ei wneud, a'r hyn rydym yn ei wneud eisoes, yw rhoi cwmnïau o Gymru sydd â diddordeb mewn ehangu i mewn i farchnad yr Unol Daleithiau mewn cysylltiad â gweithredwyr yn y farchnad honno sydd eisoes yno ac sydd â chysylltiadau Cymreig, a all sicrhau eu bod yn cyrraedd lefel o drafodaeth a dadl o ran sut i gael mynediad at y farchnad, a'r hyn sy'n rhaid inni ei wneud yw efelychu hynny ledled y byd. Felly, rhan o'r hyn sydd angen inni ei wneud dros yr ychydig fisoedd a blynyddoedd nesaf yw sicrhau bod y gronfa ddata honno o gysylltiadau yn effeithiol iawn fel ein bod yn gwybod pwy yn union sy'n gweithredu yn lle a phwy sydd â'r awydd i'n cynorthwyo fel cenedl.

Diolch, Llywydd. Rwy'n siwr bod cefnogwyr ar hyd a lled y wlad wedi bod yn dilyn datblygiadau ym myd rygbi Cymru'r wythnos hon gyda chymysgedd o ddryswch, cyffro, gobaith ac ofn. Bydd trigolion y gogledd yn siwr o fod wrth eu boddau bod posibiliad y byddan nhw'n cael rhanbarth proffesiynol o'r diwedd, a fyddai'n golygu bydd rygbi yn gwbl broffesiynol ar lefel genedlaethol gan ysgogi cyfleon ar gyfer datblygu chwaraewyr ifanc ar gyfer y dyfodol. Ond, daeth ymateb chwyrn gan gefngwyr y Scarlets a'r Gweilch, gyda phryderon y bydd y cynlluniau yn dinistrio hunaniaeth y timau maen nhw wedi eu dilyn ers amser maith, ac yn niweidio'r gêm ar lefel llawr gwlad. Hoffwn ofyn i'r Dirprwy Weinidog pa drafodaethau sydd wedi eu cynnal rhwng Llywodraeth Cymru ac Undeb Rygbi Cymru ynghylch y cynlluniau ac a oes gwirionedd y tu ôl i'r adroddiadau bod yr undeb wedi gofyn am gymorth ariannol gan y Llywodraeth er mwyn bwrw'r cynlluniau yn eu blaen.

Gaf i yn gyntaf ateb rhan ola'r cwestiwn? Does yna ddim unrhyw gais am gymorth ariannol ychwanegol wedi dod i Lywodraeth Cymru eleni gan yr undeb rygbi. Rydym ni wedi cyfrannu i'r undeb y swm arferol, £880,000—£853,000, mae'n ddrwg gen i—eleni. Dŷn ni hefyd wedi cyfrannu tuag at Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy, lle rydw i yn digwydd byw—mae'n well i mi ddatgan didddordeb felly—ar gyfer gwaith i ddatblygu Parc Eirias. Mae hwnna'n fuddsoddiad cyfalafol. 

Dwi'n siarad yn gyson â'r undeb rygbi, fel rydw i'n siarad â Chymdeithas Bêl Droed Cymru a nifer o fudiadau chwaraeon a thimau a chymdeithasau o bob math, ac, wrth gwrs, Chwaraeon Cymru. Ond does yna ddim trafodaethau wedi bod, a byddwn i ddim yn disgwyl trafodaethau, gan ei bod yn amlwg i fi nad yw'r undeb rygbi unwaith eto na'r rhanbarthau wedi cytuno beth maen nhw'n dymuno ei wneud. Fel un sydd yn cofio'r trafodaethau a fu o'r blaen, yn ôl yn nechrau 2003 yn arbennig, dwi'n meddwl ei bod yn bwysig iawn bod y trafodaethau yma yn cael eu cynnal rhwng y clybiau ac, wrth gwrs, y bwrdd proffesiynol newydd fel y gallan nhw ganfod ffordd ymlaen cyn eu bod nhw yn ystyried unrhyw fath o gyllid. Dwi'n dymuno'n dda iddyn nhw yn y broses o wneud hynny, oherwydd dwi eisiau gweld cryfhau'r gêm. Ond, mae eisiau ei chryfhau hi drwy Gymru, ac rydw i'n dal i edrych ar lwyddiant Iwerddon—y sefyllfa ddiddorol yno—lle mae'r timoedd rhanbarthol yn cael eu perchnogi gan yr undeb rygbi. Dyw e ddim yn lle i fi, fel Gweinidog chwaraeon, i argymell unrhyw lwybr o'r natur yna yng Nghymru, ond mae yna fodelau gwahanol o gefnogaeth yn bosib.

14:40

Rwy'n diolch i'r Dirprwy Weinidog am ei ateb. Hoffwn droi y nawr at y maes darlledu. Yr wythnos diwethaf, clywsom y bydd darllediadau boreol Cymreig ar orsafoedd Heart a Capital yn cael eu dirwyn i ben, gyda darllediad Prydeinig yn cael ei ddarparu yn eu lle. Yn amlwg, roedd llawer o bobl yn siomedig tu hwnt â'r cyhoeddiad hwn. Y rheswm pam bod y cwmni rhiant Global wedi gallu sgrapio’r rhaglenni hyn yw bod Ofcom yn ddiweddar wedi llacio rheolau er mwyn lleihau y nifer gofynnol o ddarllediadau sydd wedi eu creu yn lleol. 

Yn ogystal, mae llawer o sylw wedi bod i'r rhaglen BBC Cymru newydd, Pitching In—rhaglen wedi ei hysgrifennu yn Lloegr, o bersbectif Saesnig, gyda hunaniaeth Ynys Môn, lle mae'r rhaglen wedi ei lleoli, yn cael ei neilltuo'n llwyr. Yn wir, mae'r prin gymeriadau Cymreig ar y rhaglen ag acenion y Cymoedd ac mae’r rhaglen yn portreadu darlun o'r gogledd-orllewin sy'n gwbl ddieithr i drigolion yr ardal. Mae Ofcom hyd yma wedi gwrthod gosod rheoliadau o ran gorfodi cynhyrchwyr rhaglenni o'r fath i gastio'n lleol. Petai hyn yn digwydd, byddai'n osgoi llanast o'r fath rhag digwydd eto gan y byddai lleisiau lleol yn cael eu clywed o'r dechrau. Dro ar ôl tro, mae rheoleiddwyr Llundeinig yn blaenoriaethu buddiannau cwmnïau masnachol cyfoethog yn hytrach na lles dinasyddion Cymru. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cymryd hyd yma i roi pwysau ar Ofcom i ystyried lles cynulleidfaoedd a'r sector greadigol Gymreig wrth wneud penderfyniadau, a pha gamau rydych chi'n bwriadu eu cymryd yn y dyfodol er mwyn dadwneud y niwed hwn a cheisio sicrhau y bydd blaenoriaethau Cymru yn cael gwell gwrandawiad yn y dyfodol?

Mae gan Ofcom gynrychiolydd o Gymru ar fwrdd Ofcom yn ganolog. Mae gan Ofcom hefyd bwyllgor ymgynghorol sy'n cynrychioli Cymru. Rwy'n gobeithio y bydd y materion yma yn cael eu trafod yn y ffordd briodol o fewn y cyrff yna.

Fel mae'n digwydd, mae gen i un o fy nghyfarfodydd rheolaidd efo Ofcom yn digwydd yn ystod y pythefnos sydd yn dod ac mi fyddaf i'n sicr yn gwrando i gael gwybod yn fanylach sut y mae Ofcom yng Nghymru yn ceisio dylanwadu ar Ofcom yng ngweddill y Deyrnas Unedig. Dwi ddim yn meddwl bod y drefn sydd gyda rheoleiddio darlledu yn drefn sydd yn gweithredu er lles darlledu Cymreig ar ei orau, ac felly dwi'n awyddus i weld unrhyw argymhellion sy'n bosib eu gwneud i gryfhau'r sefyllfa. Ac os yw hi'n wir—i ateb yr ail gwestiwn neu'r trydydd cwestiwn—fod y lleihad mewn deunydd Cymraeg a dwyieithog—a gwnaf orffen nawr mewn dau funud—neu nifer yr achlysuron darlledu Cymraeg a dwyieithog ar radio masnachol lleol wedi lleihau oherwydd penderfyniad gan Ofcom, yna dwi'n meddwl bod hwn yn fater y dylem ni allu ei drafod yn fanwl gydag Ofcom. 

Mae gen i rywfaint o brofiad yn y maes yma fel cyn-gyfarwyddwr cwmni Marcher a greodd yr orsaf radio nid anenwog yn ei ddydd, Champion FM, yng Nghaernarfon. A dyma'r pwynt roeddwn i am ei wneud: bwriad yr orsaf honno oedd darlledu yn ddwyieithog. Hynny yw, darlledu yn Gymraeg ac yn Saesneg mewn brawddegau gwahanol ond agos at ei gilydd gan gynnwys, wrth gwrs, lawer iawn o gerddoriaeth yn y ddwy iaith er mwyn creu radio masnachol dwyieithog y byddai pobl mewn cymdeithas lle mae'r iaith yn cael ei newid yn gyson ar draws yr ardal—bod yr ieithoedd yna yn cael eu gwrando fel bod mwy o bobl yn gwrando ar Gymraeg nad sydd efallai yn gwrando ar ddarllediadau Cymraeg yn benodol, fel rydym ni'n eu cael gan y BBC, gan Radio Cymru.

Felly, dwi'n meddwl bod yna lawer mwy o waith i'w wneud yn y maes yma ynglŷn â sut ydym ni'n cynyddu'r dwyieithrwydd sydd yn ein darlledu ni mewn ffordd sydd yn sicrhau bod y gynulleidfa, sydd yn raddol gynyddu o bobl ddwyieithog, yn gallu defnyddio'r cyfrwng a manteisio a chlywed y Gymraeg a Saesneg Cymreig—mae hynna'n bwysig hefyd—yn hawdd.

14:45

Daeth y Dirprwy Lywydd (Ann Jones) i’r Gadair.

Rwy'n diolch i’r Dirprwy Weinidog am ei ateb eto, ond mae’n ymddangos i fi bod hyn yn achos o gau drws y stabl wedi i’r ferlen adael, os maddeuwch i mi am ddefnyddio idiom Saesneg. Y gwirionedd amdani yw mai’r unig ffordd o sicrhau bod lles cynulleidfaoedd Cymreig a’r sector greadigol Gymreig yn cael eu gwarchod yw trwy ddatganoli darlledu i Gymru.

Byddai datganoli darlledu yn ein galluogi ni fel cenedl i adrodd ein straeon ni o’n safbwynt ni, gan roi gwell dealltwriaeth i’n dinasyddion o’n cyfoeth diwylliannol, o realiti bywyd yn y Gymru fodern. Dyma fyddai’r ffordd fwyaf effeithiol o fynd i’r afael â’r diffyg democrataidd gan fod tystiolaeth ddiweddar yn dangos bod o ddeutu hanner y boblogaeth yn dal i gredu mai yn San Steffan mae ein gwasanaeth iechyd yn cael ei reoli, er bod y pŵer wedi’i ddatganoli ers 20 mlynedd. Mae gan hyn effeithiau difrifol ar atebolrwydd gan ei fod yn anodd i etholwyr ddwyn gwleidyddion i gyfrif os nad ydynt yn sicr pwy sy’n gyfrifol am redeg gwahanol wasanaethau cyhoeddus.

Yn y dystiolaeth a gafodd ei darparu ar gyfer y comisiwn Silk, roedd 60 y cant o ymatebwyr o blaid datganoli darlledu, ac mae arolygon barn yn darganfod dro ar ôl tro bod cefnogaeth eang dros fwy o ddatganoli i Gymru. Gan ei fod yn amlwg bod Llywodraeth San Steffan yn methu yn ei chyfrifoldeb tuag at ddarlledu Cymreig, a bod cefnogaeth eang dros roi mwy o bwerau i‘r Senedd hon, a yw’r Dirprwy Weinidog yn cytuno ei bod hi bellach yn angenrheidiol bod darlledu yn cael ei ddatganoli i Gymru cyn gynted â phosib?

Wel, nac ydy, oherwydd dwi’n meddwl ei bod hi’n bwysig iawn yn y maes yma ein bod ni’n edrych nid jest ar ddarlledu ond ar yr holl gyfryngau cyfathrebu digidol. Yr hyn sy’n bwysig i mi yw bod y Gymraeg a’r Saesneg Cymreig yn ymddangos ar y mwyaf posib o gyfryngau, ac y mae hynny’n cynnwys, yn arbennig, y cyfryngau cymdeithasol a’r cyfryngau drwy’r sgriniau yma y mae pobl yn cysylltu â nhw’n gyson, nid jest edrych ar faes darlledu. Ac mi fyddai ceisio rheoleiddio darlledu ar ei ben ei hun, ar wahân i unrhyw ddulliau eraill o gyfathrebu a mathau eraill o ddiwylliant clywedol a gweledol—. Fe fyddai hwnna yn gamgymeriad, dwi’n meddwl, oherwydd nac ydyn ni, mewn gwirionedd—os ydych yn sôn am y ceffyl yn dianc o'r stabl, wel, mae hynny'n sicr—. Mi fyddai mynd ati i geisio datganoli darlledu yn unig ar hyn o bryd yn gam gwag, yn fy marn i.

Ond, wrth gwrs, mae polisi diwylliant yn gorfod cynnwys dealltwriaeth o gyfathrebu. Mae gen i drosolwg o ddarlledu, er nad ydy darlledu—gan nad ydy o ddim wedi’i ddatganoli—ddim yn fater sy’n perthyn i’n hadran ni, ond rydyn ni’n cael trafodaethau defnyddiol a chyson gyda’r darlledwyr Cymreig. Beth fuaswn i’n annog ydy i chithau, ac i Aelodau eraill, drafod y materion yma, bob cyfle y cewch chi, gyda’r darlledwyr, gyda’r cyrff, fel yr enwais i yn yr ateb cyntaf, sydd yn gyfrifol am fynegi barn ymgynghorol i’r awdurdodau—yn yr achos yna, Ofcom—ac, yn yr un modd, mae yna drefniadau tebyg ym maes darlledu ac ym maes teledu, fel bod y gynulleidfa, a barn y gynulleidfa, yn cael ei hadlewyrchu gennych chi fel Aelodau etholedig i’r cyrff sydd yn gyfrifol am ddarlledu.

Dwi’n meddwl—. Dŷn ni ddim yn defnyddio digon ar y strwythurau atebolrwydd datganoledig sydd gyda ni, ac, yn sicr, dwi’n ceisio manteisio ar bob cyfle i wneud hynny er mwyn cael trafodaeth ffurfiol ac anffurfiol. Mae yna le arbennig gan bwyllgorau’r Cynulliad, wrth gwrs, fel mae’r pwyllgor diwylliant wedi bod yn ei wneud yn ddiweddar yn yr astudiaeth ar radio ac ar bethau eraill, i ddilyn y cyfeiriad yna. Diolch yn fawr.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Weinidog, mae'n Ddiwrnod y Llyfr yfory, fel y gwyddoch, mae'n debyg. A allwch roi'r wybodaeth ddiweddaraf inni ynglŷn â pha waith newydd a pha brosiectau newydd y bydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn eu cyflawni yn y flwyddyn sydd i ddod?

Mae gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru brif weithredwr newydd, ac rwy'n siŵr y bydd y prif weithredwr newydd, dros yr ychydig fisoedd nesaf, yn nodi rhaglen o weithgareddau, a gobeithiaf y bydd hynny'n cynnwys cydnabyddiaeth o rôl menywod ym mywyd Cymru.

Diolch. Diolch am eich ateb, ac edrychaf ymlaen at y rhaglen newydd pan fydd y prif weithredwr newydd yn gwneud y cyhoeddiad hwnnw. A ydych yn cytuno—? Mae'r llyfrgell genedlaethol wedi'i lleoli yn Aberystwyth, wrth gwrs, am resymau da, ond wrth gwrs, nid yw'n hygyrch iawn i bobl mewn llawer o rannau eraill o Gymru, felly mae'n bwysig fod y llyfrgell genedlaethol yn cyflawni prosiectau allanol fel y gall pobl ledled Cymru fanteisio ar ein treftadaeth ddiwylliannol. A ydych o'r farn ei bod yn bwysig sicrhau, yn y dyfodol, fod y llyfrgell genedlaethol yn cyflawni rôl allanol?

14:50

Ydw, ond credaf mai'r hyn sy'n fwy arwyddocaol ac yn bwysicach yw i'r llyfrgell genedlaethol sicrhau eu bod yn digidoleiddio eu hadnoddau ac yn eu gwneud yn hygyrch i bobl Cymru. A gwn fod Llyfrgell Genedlaethol Cymru wedi bod yn ymgymryd â'r dasg honno dros y blynyddoedd diwethaf. Gwnaed cryn dipyn o waith ar gyflawni'r dasg honno, a bellach, rwy'n credu mai dyna sut y bydd y rhan fwyaf o bobl yn cael mynediad at yr adnodd gwerthfawr hwnnw, sy'n un o drysorau pwysicaf Cymru.

Ie, rwy'n cytuno y bydd y dechnoleg ar-lein yn hollbwysig hefyd. Nawr, un ffactor rydym wedi'i wynebu dros y blynyddoedd diwethaf, gyda chyllid llywodraeth leol o dan bwysau, yw'r canlyniad anffodus fod nifer o lyfrgelloedd lleol, ymysg cyfleusterau lleol eraill, wedi cau. Mae Cymru wedi colli llawer o lyfrgelloedd—credaf fod un o bob chwech o lyfrgelloedd Cymru wedi cau ers 2010. Felly, gan gofio eich ateb blaenorol ynghylch digidoleiddio—yn amlwg, bydd hynny'n helpu i liniaru'r broblem i ryw raddau, os caiff y rhaglen honno ei chyflwyno'n effeithiol—a oes ffyrdd eraill y gall y llyfrgell genedlaethol helpu i liniaru'r broblem fod cymunedau'n colli eu llyfrgelloedd lleol?

Wel, credaf ei bod yn drychinebus ein bod yn colli cymaint o'n llyfrgelloedd ledled Cymru, ac wrth gwrs, mae hynny'n digwydd o ganlyniad i'r cyni a orfodwyd ar ein gwlad dros y 10 mlynedd diwethaf. Wrth gwrs, gŵyr pob un ohonom mai'r meysydd anstatudol yw'r rhai cyntaf i wynebu toriadau, a dyna pam fod llyfrgelloedd wedi dioddef yn fawr mewn rhai o'n cymunedau lleol dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf. Ceir rhai modelau da iawn, yn fy marn i, lle mae cymunedau'n dod at ei gilydd er mwyn sicrhau y gallant barhau i ddarparu llyfrgell, a chredaf fod llawer y gallwn ei wneud i ddysgu gan ein gilydd ledled Cymru ynglŷn â sut y gallwn sicrhau y gellir cadw'r ddarpariaeth honno ar gyfer y cyhoedd lle bo modd. Wrth gwrs, y gwir ateb i hyn yw bod angen cael gwared ar y cyni a orfodwyd ar ein gwlad ers cymaint o amser.

Cyswllt Gyda Gwledydd y tu allan i'r UE

3. Pa gysylltiad y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud â gwledydd y tu allan i'r UE yn y cyfnod cyn ymadael â'r UE? OAQ53525

Wel, ers datganoli, rydym wedi gweithio'n galed i ddatblygu cysylltiadau â gwledydd ledled y byd. Y llynedd, fel rhan o'r gwaith parodrwydd ar gyfer Brexit, agorwyd dwy swyddfa newydd gennym—un yn Qatar ac un arall yng Nghanada. Fe wnaethom gwblhau 10 o deithiau masnach i wledydd nad ydynt yn yr UE, ac wrth gwrs, rydym yn cynnal cysylltiadau diplomyddol cryf â chonswliaid a llysgenadaethau y tu allan i'r UE.

Diolch am eich ateb, Weinidog. Dengys adroddiad diweddar yn y cyfryngau fod cyllid cyhoeddus yn gwella, gyda gwarged iach ym mis Ionawr ar dderbyniadau trethi sylweddol. Mae cyflogaeth—[Torri ar draws.] Darllenwch y papurau. Mae cyflogaeth ar ei lefelau uchaf erioed gyda thwf cyflog go iawn ar ei lefel uchaf ers dwy flynedd. Er gwaethaf arafu byd-eang, cynyddodd Prydain 1.4 y cant y llynedd, gyda diweithdra ar 4 y cant yn unig. Serch hynny, mae'r Almaen a Ffrainc ar drothwy dirwasgiad, mae economi'r Eidal yn crebachu ac mae diweithdra yn ardal yr ewro ddwywaith mor uchel. Mae'n amlwg bod dymuniad y Blaid Lafur i aros yn yr UE yn groes i ddymuniadau mwyafrif pleidleiswyr Cymru yn ddiffygiol yn economaidd. Er na allwn ymrwymo i gytundebau masnach ar wahân i weddill y DU, gallwn ffurfio cysylltiadau parhaol a chynhyrchiol sy'n arwain at fewnfuddsoddiad gan wledydd sy'n gwella, gan gynnwys y rheini yn y Gymanwlad. Felly, beth yw eich asesiad o'r posibilrwydd o fasnachu a buddsoddi rhwng Cymru ac economïau allweddol yn y Gymanwlad?

Wel, credaf fod hon yn un o'r hen straeon diflas y mae aelodau o UKIP a phobl Brexit eraill wedi eu gwthio dros y blynyddoedd. Maent am ddychwelyd at y ddelfryd o adeg pan oedd Prydain yn fawr ac roeddem yn rheoli'r byd ac roedd gennym ymerodraethau, ac mewn gwirionedd, mae'r byd wedi newid ers hynny. Yr hyn sydd gennym bellach yw byd cwbl ryng-gysylltiedig lle rydym yn gwbl ddibynnol ar ein gilydd. A gallwch weld mai'r hyn sydd wedi digwydd dros yr wythnosau diwethaf yw bod cwmnïau fel Honda wedi cydnabod, oherwydd y cysylltiadau a'r gadwyn gyflenwi na ellir ei thorri, y bydd cydgysylltedd a'r ffaith na fydd gennym gydgysylltedd os ydym yn gadael yr Undeb Ewropeaidd yn achosi problemau ac yn achosi diweithdra. Ac rydych yn llygad eich lle: credaf y dylem fod yn falch o'r lefelau uchaf erioed o gyflogaeth sydd gennym yng Nghymru ar hyn o bryd, ond mae gennym broblemau o hyd mewn perthynas â chyflogau isel, a dyna pam mai'r hyn rydym yn ei wneud yn awr yw ceisio canolbwyntio ar geisio creu swyddi newydd sy'n swyddi medrus ar gyflogau uchel, ac rwy'n credu bod yn rhaid i mi ddweud wrthych, wrth geisio siarad yn ddiweddar â mewnfuddsoddwyr, mai'r broblem go iawn yw sut i gadw pobl sydd wedi buddsoddi yma eisoes a hwythau'n gwybod, mewn gwirionedd, y gallai fod rhwystrau i fasnach yn y dyfodol. Mae'n neges anodd dros ben inni ei gwerthu ar hyn o bryd. Rwy'n hyderus, mewn gwirionedd, fod gennym y sgiliau, y gallu a'r doniau yng Nghymru i sicrhau y bydd pobl yn parhau i fuddsoddi yn ein gwlad, ond mae'n rhaid imi ddweud wrthych na fydd Brexit yn gwneud hynny'n haws.

14:55

Weinidog, yn y strategaeth ryngwladol rydych yn ei datblygu, gwn y byddwch yn rhoi sylw i 'Gwerthu Cymru i'r Byd', adroddiad Pwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau, a chredaf ei bod yn hynod bwysig, wrth ddatblygu'r strategaethau allforio hyn, ein bod yn sylweddoli, yn ogystal â'r cwmnïau mawr—maent yn bwysig iawn—fod BBaChau ym maes gweithgynhyrchu uwch gwerth uchel a'r diwydiannau digidol yn allweddol, mewn gwirionedd, i'n twf yn y dyfodol. A gobeithiaf, pan fyddwch yn dewis teithiau masnach, y byddwch yn rhoi cydnabyddiaeth lawn i anghenion a dyheadau ac argymhellion BBaChau mewn perthynas â marchnadoedd a allai fod yn fwy agored i fasnachu â Chymru.

Credaf eich bod yn llygad eich lle, ac os ydym am greu argraff yn fyd-eang yn awr, credaf y bydd angen inni ddysgu arbenigo go iawn. Dyna sut y gallwn greu argraff wirioneddol fyd-eang, a chredaf fod eich pwyslais ar y maes digidol yn hollbwysig. Rwy'n credu bod angen inni fynd hyd yn oed yn fanylach mae'n debyg—. Hoffwn yn bendant ein gweld yn arbenigo ym maes seiberddiogelwch, er enghraifft—a bwrw iddi go iawn mewn maes o'r fath, gan sicrhau bod y sgiliau ar gael gennym mewn colegau a phrifysgolion yma fel y gallwn fynd ati o ddifrif i ddenu cwmnïau. Mae a wnelo hyn â mwy na denu cwmnïau yma sy'n gwmnïau uwch-dechnoleg medrus iawn a all fod yn hyblyg ac yn gyflym—y BBaChau hynny—ond mewn gwirionedd, rydym yn awyddus i'n BBaChau werthu eu sgiliau ledled y byd. A chredaf eich bod yn llygad eich lle: credaf mai'r hyn y bydd angen inni ei wneud yn y dyfodol efallai fydd canolbwyntio, nid ar deithio o amgylch y byd ar hap ar deithiau masnach, ond canolbwyntio go iawn ar y meysydd rydym yn awyddus i wneud argraff ynddynt, mynd i ffeiriau masnach lle gallwch gyfarfod â llu o gwmnïau gwahanol ar yr un pryd, ond mynd ar drywydd y cwmnïau arbenigol wedyn yn y meysydd hynny. Felly, yn sicr, mae hynny'n rhywbeth rwy'n ei archwilio yng nghyd-destun y strategaeth ryngwladol newydd.

Weinidog, credaf ei bod yn bwysig inni edrych y tu hwnt i'r UE o ran lle fydd ein marchnadoedd nesaf, a gobeithio y bydd eich strategaeth yn blaenoriaethu'r gwledydd hynny'n bendant iawn. Neithiwr, yng nghyfarfod y grŵp trawsbleidiol ar STEM, daeth Newport Wafer i siarad â ni am eu harbenigedd, eu sgiliau a faint o wledydd tramor a staff oedd yn awyddus i weithio gyda hwy yma yn y DU ac yng Nghymru. Nawr, dyna'r math o ymagwedd y dylem ei mabwysiadu. A fyddwch chi felly yn cyfarfod â'n busnesau yma yng Nghymru i weld y gwledydd y maent yn siarad â hwy, y gwledydd y maent yn gweithio â hwy, fel y gallwn sicrhau ein bod yn targedu'r meysydd cywir ar gyfer cyflogaeth a swyddi medrus iawn yma yng Nghymru?

Mewn perthynas a'r Gymanwlad, cawsom gyfarfod â llysgennad Seland Newydd pan oeddem ym Mrwsel ychydig wythnosau yn ôl, ac roedd yn eithaf amlwg bod ganddynt agendâu gwahanol hefyd, gan eu bod yn cydnabod y pellter rhyngom a Seland Newydd, ac mae ganddynt agenda sy'n canolbwyntio i raddau mwy ar wledydd y Môr Tawel. Felly, mae'n amlwg bod angen inni ganolbwyntio ar y busnesau sydd am ddod yma, y busnesau sy'n gweithio gyda busnesau Cymru, ond hefyd, ar farchnadoedd sydd wrth law er mwyn sicrhau, pan fyddwn eisiau gwerthu nwyddau, yn enwedig nwyddau amaethyddol, fod gennym fusnesau i'w gwerthu iddynt.

Credaf fod y marchnadoedd hyn ychydig yn wahanol. Mewn rhai meysydd, mae'n amlwg mai'r hyn sydd angen inni ei wneud yw peidio â cholli'r gyfran sydd gennym o farchnad Ewrop ar hyn o bryd. Mae 60 y cant o'n masnach â'r Undeb Ewropeaidd, ac nid ydym am golli hynny. Felly, rhan o'r hyn sydd angen inni ei wneud dros yr ychydig wythnosau a misoedd nesaf yw sicrhau'r berthynas honno, ni waeth beth fydd yn digwydd mewn perthynas â Brexit. Mae'n rhaid i hynny fod yn un o'r blaenoriaethau. Ond dychwelaf at hyn: beth yw'r cwmnïau lle mae gennym arbenigedd gwirioneddol, arbenigaeth wirioneddol—fel y dywedoch, y gweithgarwch lled-ddargludyddion sydd gennym yma—sydd ar y blaen yn fyd-eang? Nid yw'n ymwneud o reidrwydd â mynd i wlad benodol. Mae'n ymwneud, efallai, â chysylltu â chwmnïau perthnasol, prifysgolion, ymchwilwyr yn y meysydd hynny. A chredaf fod yn rhaid inni newid ein ffordd o feddwl i raddau mae'n debyg, gan nad wyf yn siŵr a yw'n mynd i ymwneud bob amser â dewis gwlad y credwn y bydd yn tyfu yn y dyfodol o bosibl. Credaf fod yn rhaid inni ddeall bod y byd yn dod yn llawer mwy arbenigol, ac os ydym am greu argraff, mae angen i ninnau arbenigo hefyd. Mae lled-ddargludyddion, ar wahân i seiberddiogelwch—dyna ddwy o'r prif flaenoriaethau pendant y mae angen inni ganolbwyntio arnynt yn fy marn i.

15:00
Denu Buddsoddiad

5. A wnaiff y Gweinidog amlinellu sut y mae Llywodraeth Cymru yn ceisio denu buddsoddiad i Islwyn o Unol Daleithiau America? OAQ53519

Diolch. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn ymwybodol fy mod newydd ddychwelyd o ymweliad llwyddiannus â'r Unol Daleithiau lle roeddwn yn hyrwyddo manteision Cymru fel cyrchfan dda i gwmnïau Americanaidd fewnfuddsoddi ynddi, ac rwy'n siŵr y byddwch yn falch o glywed bod cwmnïau o'r Unol Daleithiau wedi gwneud oddeutu 168 o fuddsoddiadau yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae tua 10 y cant ohonynt yn Islwyn, byddwch yn falch o glywed.

Ar wahân i’r bloc masnachu anferth sy'n bodoli eisoes gyda'r Undeb Ewropeaidd a pha mor hollbwysig yw hwnnw i fusnes Cymru ac economi Cymru, fel y dywedwch, Weinidog, fe wnaethoch ymweld ag Unol Daleithiau America yn ddiweddar yn sgil eich penodiad ar fasnach ryngwladol i Gymru. Yn ystod yr ymweliad pedwar diwrnod hwnnw lle roeddech yn hyrwyddo Cymru yn rhagweithiol, credaf eich bod wedi cynnal cyfarfodydd, fel y dywedoch chi, â chwmnïau o’r Unol Daleithiau sydd â phresenoldeb yng Nghymru, neu sy'n ystyried ehangu i Gymru. Felly, a allwch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad Cenedlaethol ynglŷn â sut y mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu dilyn y cyfarfodydd rhagweithiol penodol hynny a dargedwyd a’r gwaith pwysig hwn? Ac a allwch chi amlinellu yn awr sut y gall Llywodraeth Cymru gyflwyno busnesau yr Unol Daleithiau i’r gweithluoedd medrus a ffyddlon a geir yng nghymunedau Islwyn, ar ben yr ystadegau rydych wedi'u dyfynnu, a fyddai'n rhoi croeso cynnes Cymreig i fusnesau o’r Unol Daleithiau sy’n
dymuno ymsefydlu ymhellach yng Nghymoedd Gwent?

Diolch yn fawr. Byddaf yn cynhyrchu datganiad ysgrifenedig ar fy ymweliad yn ystod y dyddiau nesaf, ond hoffwn egluro mai un o'r sectorau roeddwn yn ei dargedu ac yn edrych arno yn ofalus iawn oedd y sector seiberddiogelwch lle mae gennym lawer o arbenigedd eisoes. Un o'r pethau rwy’n awyddus iawn i'w gwneud i ddilyn hynny yw siarad â'n sefydliadau addysg uwch a'n sefydliadau addysg bellach i weld beth yn union y maent yn ei gynnig o ran y cyrsiau y maent yn eu darparu i bobl.

Roedd y neges a gawsom yn glir iawn, sef bod prinder gwirioneddol o bobl â sgiliau seiberddiogelwch, felly os cynhyrchwn y sgiliau seiberddiogelwch hynny yma yng Nghymru, bydd y cwmnïau’n dod yma. Gwnaethant hynny'n gwbl glir i ni felly yr hyn sydd angen i ni ei wneud yn awr yw sicrhau bod y mathau o gyrsiau rydym yn eu cynnig yn gwbl berthnasol i'r hyn y mae’r farchnad a busnesau'n chwilio amdano. Felly, mae honno'n sgwrs y byddaf yn ei chael yn ystod yr wythnosau nesaf, a dod at ein gilydd, deall yn union beth sy’n digwydd, a gweld a oes lle i ehangu'r cyfle hwnnw. Ac rwy'n gobeithio y bydd rhai o golegau’r Cymoedd yn cymryd rhan yn y datblygiad hwnnw hefyd, oherwydd mae yna fyd cyfan allan yno sy'n edrych am sgiliau yn y maes hwn, ac mae'n rhaid i ni gofio bod pobl ifanc Cymru yr un mor ddisglair, clyfar a galluog ag unrhyw un arall yn y byd. Mae angen iddynt gredu hynny ac mae angen i ni gynnig cyrsiau lle gallant ddatblygu'r arbenigedd hwnnw.

Weinidog, ym mis Gorffennaf 2017, lansiodd Llywodraeth UDA a Llywodraeth y Deyrnas Unedig grŵp masnach a buddsoddi UDA-DU i ddarparu dilyniant masnachol i fusnesau, gweithwyr a chwsmeriaid yn y ddwy wlad wrth i'r DU adael yr UE, ac i archwilio ffyrdd o gryfhau cysylltiadau masnach a buddsoddi rhwng y ddwy wlad. Pa astudiaeth y mae'r Gweinidog wedi'i wneud o'r manteision buddsoddi posibl i Islwyn, de-ddwyrain Cymru a rhannau eraill o Gymru yn sgil y camau cadarnhaol hyn gan Lywodraeth y DU a'r Unol Daleithiau, yn enwedig o gofio na allai Mr Morgan werthu Cymru i America beth amser yn ôl, ond rwy'n eithaf siŵr y bydd eich talentau chi'n llwyddo i wneud hynny ac y bydd ein heconomi yn cael hwb yn ne-ddwyrain Cymru?

Diolch. Credaf fod y berthynas honno rhwng y DU a'r UDA yn hanfodol. Rwy'n credu bod gennym lawer iawn yn gyffredin eisoes. Un o'r pethau rwy’n awyddus iawn i’w gwneud yw manteisio ar yr Adran Fasnach a Buddsoddi i raddau mwy nag nag y gwnawn ar hyn o bryd. Mae ganddynt rwydwaith helaeth. Felly, er bod gennym 20 o wahanol swyddfeydd ledled y byd, mae ganddynt gannoedd, yn llythrennol, gyda miloedd o bobl yn gweithio ynddynt. Felly, os gallwn roi neges glir iawn iddynt ynglŷn â'r hyn rydym yn ei ddisgwyl ganddynt o ran Llywodraeth y DU, rwy'n credu y dylem allu manteisio ar yr arbenigedd sy'n bodoli o fewn Llywodraeth y DU. Ac rwy'n credu, unwaith eto, mai’r hyn sydd angen i ni ei wneud yw dod yn ôl at yr arbenigedd, a’i gwneud yn hollol glir: beth rydym yn ceisio ei werthu? Beth rydym ei eisiau o ran mewnfuddsoddiad i Gymru? Ond mae'n rhaid i mi ddweud wrthych, unwaith eto, fod hwn yn gyfnod anodd iawn o ran buddsoddi—pan nad oes gennym syniad o gwbl sut berthynas sydd gennym â gweddill y byd o ran masnach. Mae hwnnw'n rhywbeth gwirioneddol anodd i’w werthu ar hyn o bryd.

15:05
Digwyddiadau Chwaraeon Mawr

6. A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am geisiadau yn y dyfodol ar gyfer digwyddiadau chwaraeon mawr? OAQ53501

Wel, rydym wedi ymrwymo i adeiladu ar lwyddiant diweddar Cymru wrth gynnal digwyddiadau chwaraeon mawr, ac rydym yn gweithio'n rhagweithiol gyda phartneriaid yng Nghymru, y DU ac yn rhyngwladol—gan gynnwys nifer o berchnogion hawliau a ffederasiynau chwaraeon rhyngwladol—er mwyn nodi a mynd ar drywydd cyfleoedd newydd ar gyfer denu digwyddiadau chwaraeon mawr i bob rhan o Gymru.

Diolch am yr ateb hwnnw, Weinidog. Mae Cymru wedi bod yn gymharol lwyddiannus dros y blynyddoedd diwethaf wrth wneud cais am lu o ddigwyddiadau, o golff i'r rasys môr yma ym Mae Caerdydd, i ddigwyddiadau pêl-droed mawr. Un o'r camgymeriadau, fodd bynnag, oedd penderfyniad y Gweinidog blaenorol i beidio â pharhau â chais am Gemau'r Gymanwlad. Tybed a ydych wedi cael cyfle i asesu a fydd Cymru mewn sefyllfa i wneud cais am Gemau'r Gymanwlad yn y dyfodol, neu i ystyried sefydlu partneriaeth i wneud cais am Gemau'r Gymanwlad, o gofio bod dinasoedd yn Lloegr yn barod i gyflwyno ceisiadau, ond ar hyn o bryd, nid ydym ni fel gwlad yn gallu paratoi cais a fyddai, yn y pen draw, yn llawn bri i Gymru ac yn fuddiol wrth hyrwyddo'r gwerth sydd gennym yma yng Nghymru.

Diolch. Wel, mae hwn yn gwestiwn roeddwn yn ei drafod gyda fy swyddogion yn gynharach yn yr wythnos. Credaf mai rhan o'r broblem yma yw y byddai'r gost o gynnal Gemau'r Gymanwlad yn enfawr, yn rhannol oherwydd nad oes gennym y seilwaith yma yng Nghymru, yng Nghaerdydd—gadewch i ni fod yn onest, dyna'r unig le y gallem eu cynnal. Nid oes gennym y seilwaith yng Nghaerdydd hyd yn oed i gynnal yr holl ddigwyddiadau y byddai angen i chi eu cynnal mewn perthynas â Gemau'r Gymanwlad. Mae'n rhaid i chi gael pyllau nofio o faint penodol ac mae'n rhaid i chi gael llwybrau beicio a hyn, llall ac arall. Felly, rwy'n credu bod y seilwaith—rwy'n credu y byddai'r gost o ddatblygu'r seilwaith yn ein rhwystro fel Llywodraeth ar hyn o bryd. Efallai ei fod yn rhywbeth y byddwn yn gallu ei ystyried pan ddaw cyni i ben.

3. Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad

Eitem 3 ar yr agenda yw'r cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad. Bydd yr holl gwestiynau y prynhawn yma yn cael eu hateb gan y Llywydd. Cwestiwn 1, Dai Lloyd.

Gwleidyddion yn Newid Pleidiau

1. Pa asesiad mae’r Comisiwn wedi’i wneud o’r effaith ar ymgysylltiad democrataidd pan fo gwleidyddion yn newid pleidiau? OAQ53486

Dim asesiad. Mae'r Comisiwn yn darparu'r eiddo, y staff a'r gwasanaethau sydd eu hangen at ddibenion y Cynulliad, waeth beth fo ymlyniad gwleidyddol Aelodau unigol yn y Cynulliad yma.

Diolch yn fawr iawn am yr ateb yna. Nawr, yn naturiol, yn ddiweddar, wrth ymateb i'r ffaith bod Aelodau Seneddol Llafur wedi gadael y blaid honno yn Llundain a'u grŵp seneddol, dywedodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford, a dwi'n dyfynnu:

os ydych chi'n cael eich ethol yn gynrychiolydd plaid benodol ac eich bod chi'n penderfynu nad ydych am wneud hynny yn y dyfodol, dylech fynd yn ôl at y bobl sydd wedi eich rhoi chi yno a gadael iddynt hwy gael y dewis hwnnw eto.

Dyfyniad uniongyrchol o eiriau Mark Drakeford. Nawr, dwi'n cytuno efo'r farn honno yn llwyr, ac oherwydd ein bod ni wedi gweld symudiadau tebyg yma yn y Senedd yma, pa asesiad, felly, mae'r Comisiwn am ei wneud o'r posibilrwydd o ddatblygu deddfwriaeth a fyddai'n gorfodi Aelod sy'n gadael plaid wleidyddol i wynebu is-etholiad? Neu ynte ydyn ni ddim ond i ddibynnu ar gynsail beth sydd wedi digwydd yn y gorffennol ac felly yn amddifadu pobl o gynrychiolydd o'r blaid y gwnaethon nhw bleidleisio drosti hi yn y lle cyntaf?

Wel, fel y dywedais i yn fy ateb i, does yna ddim asesiad wedi ei wneud hyd yn hyn o'r mater yma. Mae Bil Senedd ac Etholiadau (Cymru) wedi cael ei gyflwyno yn yr wythnosau diwethaf. Doedd yna ddim mandad o'r Cynulliad yma, unrhyw un o'i bwyllgorau, na chwaith oedd y mater yma wedi cael ei gynnwys yng nghylch gorchwyl adroddiad annibynnol Laura McAllister. Ond mae'n fater, wrth gwrs. Mae'n cael ei godi fan hyn o bosib am y tro cyntaf, neu un o'r troeon cyntaf. Mae'n fater efallai y bydd y pwyllgor sy'n scrwtineiddio'r Mesur sydd ar hyn o bryd o flaen y Cynulliad eisiau ei ystyried o bosib, neu mae'n fater i Aelodau yn y lle yma nawr fod y pwerau gan y lle yma ers Deddf Cymru 2017 i ni fod yn deddfu ar ein systemau etholiadol ein hunain. Felly, gaf i annog, os oes yna ddiddordeb yn y lle yma, i chi fod yn trafod hyn a dod ag unrhyw gynigion gerbron? Ond, tan i'r cynigion hynny ddod gerbron, fydd yna ddim mandad gan y Comisiwn i fod yn symud ymlaen â deddfwriaeth i'r perwyl yma. 

15:10
Senedd Ieuenctid Cymru

2. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am y camau nesaf ar gyfer Senedd Ieuenctid Cymru? OAQ53489

Cefais y fraint anhygoel o gadeirio cyfarfod cyntaf ysbrydoledig Senedd Ieuenctid Cymru yn y Siambr yma ychydig dros wythnos yn ôl. Efallai bydd yr Aelodau yn ymwybodol fod y Senedd Ieuenctid honno wedi cytuno'n ffurfiol ar dri mater blaenoriaethol i fynd ar eu trywydd: cymorth ar gyfer iechyd emosiynol ac iechyd meddwl oedd un o'r rheini; sbwriel a gwastraff plastig yn un arall; a sgiliau bywyd yn y cwricwlwm yn un arall. Bydd staff y Comisiwn a'r 60 Aelod o Senedd Ieuenctid Cymru yn cyfarfod yn y rhanbarthau nesaf ym mis Ebrill i lunio cynllun i ymgysylltu â phobl ifanc ledled Cymru ar y materion blaenoriaethol a ddewiswyd ganddyn nhw.

Diolch i chi, Lywydd. Mae'n ddrwg gennyf am golli'r cyfarfod cyntaf. Roeddwn yn bwriadu bod yma ond cefais fy rhwystro gan argyfwng teuluol. Rwyf wedi bod yn edrych ar rai o'r areithiau ar-lein, fel llawer o Aelodau eraill rwy'n siŵr, ac mae ansawdd, dyfnder a gonestrwydd y cyfraniadau a wnaed gan y bobl ifanc wedi gwneud argraff fawr arnaf. Rwy'n falch iawn o weld bod y ffrydiau gwaith a ddewiswyd ganddynt yn cael eu datblygu mor gyflym. Pa ystyriaeth a roddir i ffurfio rhyw fath o gysylltiad mwy ffurfiol rhwng y Senedd Ieuenctid a phwyllgorau'r Cynulliad? Gwn fod llawer o'r Aelodau'n cyfarfod â chynrychiolwyr unigol ein Senedd Ieuenctid, ond ymddengys i mi y gallai fod cyfle i'r bobl ifanc ein helpu i osod rhai o'n hagendâu yn ein gwaith pwyllgor ac yn ein gwaith o graffu ar Lywodraeth Cymru.

Gwn fod trafodaethau wedi bod yn ystod y penwythnos preswyl a oedd yn cynnwys cyfarfod ffurfiol Senedd Ieuenctid Cymru ar sut roedd y bobl ifanc eisiau cael effaith ar y blaenoriaethau polisi roeddent wedi pleidleisio arnynt. Mater iddynt hwy yw penderfynu sut y maent eisiau sicrhau'r effaith honno, ond yn sicr mae yna ffordd hawdd iawn o sicrhau hynny mewn perthynas â rhywfaint o'r gwaith pwyllgor sy'n cael ei wneud yn y lle hwn, a allai'n hawdd adlewyrchu rhai o'r blaenoriaethau a ddewiswyd gan y bobl ifanc—sef ein bod yn hwyluso, fel rhan o'n gwaith parhaus gyda'r 60 o seneddwyr ifanc, y ffordd y gallant wneud y cysylltiadau pwysig hynny er mwyn cyfrannu at y gwaith go iawn o lunio polisi drwy'r pwyllgorau, ac yn y pen draw, Llywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol.

Credaf ei bod yn anodd i unrhyw beidio â chael ei ysbrydoli, mewn gwirionedd, gan yr hyn a welsom y penwythnos hwnnw. Roedd yn llwyddiant ysgubol a hanesyddol ac roeddwn yn arbennig o falch fod dau o'r meysydd a nodwyd fel blaenoriaethau—sgiliau bywyd yn y cwricwlwm ac iechyd emosiynol a meddyliol plant a phobl ifanc—yn faterion y mae'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg eisoes wedi dangos diddordeb brwd ynddynt ac yn eu blaenoriaethu ein hunain. Wrth gwrs, mater i'r bobl ifanc yw penderfynu sut y maent eisiau bwrw ymlaen â'u rhaglen waith, ac rwyf hefyd yn ymwybodol o'ch ateb i Helen Mary Jones, ond mewn meysydd lle mae'r pwyllgorau eisoes yn gweithio ar bynciau penodol, pa ystyriaeth arbennig a roddwyd i sicrhau y gall y pwyllgorau ac Aelodau'r Senedd Ieuenctid weithio gyda'i gilydd os ydynt yn dymuno gwneud hynny?

Pan oeddwn yma yn cadeirio'r drafodaeth ar iechyd meddwl a phobl ifanc, yn ystod y cyfraniadau ysbrydoledig gan gynifer o'r seneddwyr ifanc ar y mater hwnnw, cefais fy atgoffa wrth gwrs o'r gwaith roedd eich pwyllgor chi, Lynne, wedi'i wneud ar faterion iechyd meddwl. Mae perthynas gynnar glir iawn yno felly gallant gyfrannu at barhad eich gwaith fel pwyllgor. Felly, credaf fod fy swyddogion eisoes yn ystyried creu'r berthynas rhwng y seneddwyr ifanc, yn enwedig y rheini sydd eisiau gweithio ar y mater penodol hwn, a'ch pwyllgor chi, ac mae honno'n berthynas naturiol iawn. Rwy'n gwbl argyhoeddedig y bydd eich pwyllgor yn elwa o'r profiadau bywyd go iawn y mae'r hyrwyddwyr ifanc hyn eisiau eu datblygu.

15:15
Hedfan Baneri ar Ystâd y Cynulliad

3. A wnaiff y Comisiwn ddatganiad am y polisi ynghylch hedfan baneri ar ystâd y Cynulliad ar ôl i'r DU ymadael yr Undeb Ewropeaidd? OAQ53507

Mae gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru brotocol baneri. Mae'n amlinellu'r trefniadau arferol ar gyfer arddangos baneri ar ein hystâd, a'r gweithdrefnau ar gyfer amgylchiadau eraill. Gall hyn gynnwys dyddiau arwyddocaol blynyddol a digwyddiadau nad oes modd eu rhagweld. Mae'r protocol yn nodi'r baneri sydd yn cael eu harddangos yn ddyddiol, ac mae'r rhain yn cynnwys baner yr Undeb Ewropeaidd. Bydd ein protocol yn cael ei ddiweddaru os cytunir ar ddyddiad i'r Deyrnas Unedig ymadael â'r Undeb Ewropeaidd.

Diolch am yr ateb hwnnw. Wrth gwrs, mae yna ansicrwydd, ond mae'n bosibl y byddwn yn gadael ymhen ychydig wythnosau, felly rwy'n falch o glywed, Lywydd, fod yna gynlluniau i ddiweddaru'r weithdrefn, ac edrychaf ymlaen at eu gweld maes o law, ac yn fuan iawn gobeithio.

Nid wyf yn siŵr a oes cwestiwn i mi ymateb iddo, ond mae Brexit yn ymwneud â llawer mwy na lliw pasbortau a chwifio baneri yn fy marn i. Mae'n bosibl y bydd yna bolyn heb faner, naill ai ymhen ychydig wythnosau, ymhen ychydig o flynyddoedd, neu efallai ddim o gwbl. Os bydd hynny'n digwydd, efallai eich bod wedi gweld, yn ystod yr wythnos neu ddwy ddiwethaf, fod y Ddraig Goch, mewn arolwg barn byd-eang, wedi dod i'r brig fel y faner ryngwladol orau, a chredaf ei bod yn hen bryd i ni gael o leiaf dwy o'r baneri hynny'n hedfan y tu allan i'n hadeilad, os nad pedair.

Fel y Llywydd, rwy'n falch iawn o faner Cymru, ac yn falch iawn o weld ei bod wedi cyrraedd yn uchel iawn mewn arolwg barn rhyngwladol. Baner arall sy'n hynod o boblogaidd yng Nghymru wrth gwrs, yn enwedig ar ddydd Gŵyl Dewi, yw baner Dewi Sant, baner ein nawddsant. Nid yw'n gyfarwydd iawn o amgylch y byd, mae arnaf ofn, yn wahanol i groes Andreas a baner San Siôr. A gaf fi annog y Comisiwn i ystyried chwifio baner Dewi Sant ar sail barhaol ar ystâd y Cynulliad er mwyn hyrwyddo'r rhan bwysig hon o Gymru a'n hunaniaeth?

Mae arnaf ofn fy mod wedi dechrau cystadleuaeth yn awr o ran baner pwy yw'r ffefryn. Fe ailadroddaf yr hyn a ddywedais: os yw'r byd yn credu mai'r Ddraig Goch yw'r faner orau ar y ddaear, rwy'n credu y dylem ei chwifio gyda balchder.

Coffâd Parhaol ar gyfer Aelodau'r Cynulliad

4. A oes gan y Comisiwn unrhyw gynlluniau i sefydlu coffâd parhaol ar gyfer Aelodau'r Cynulliad a fu farw yn y swydd? OAQ53502

Nid oes gan y Comisiwn gynlluniau ar gyfer cofeb o'r natur hon. Yn ddiweddar, rydym wedi cytuno ar bolisi sy'n nodi'r broses y bydd y Comisiwn yn ei dilyn i ystyried cynigion ar gyfer cofebion a phenderfynu arnynt. Mae'r polisi ar gael ar wefan y Cynulliad.

Diolch i chi am yr ateb hwnnw, Lywydd. Edrychaf ymlaen at gael golwg ar y wefan. Nid oeddwn yn ymwybodol fod yna bolisi, felly edrychaf ymlaen at weld hwnnw. Ond rwy'n credu bod hwnnw'n ddarn o bensaernïaeth sydd ar goll ar ystâd y Cynulliad. Diolch byth, nid oes llawer o Aelodau wedi marw yn y swydd, ond dros y blynyddoedd mae o leiaf bedwar neu bump, rwy'n credu, wedi marw yn y swydd, ac rwy'n credu y dylem, fel Senedd, goffáu eu gwasanaeth a'r gwasanaeth y maent wedi'i roi, oherwydd eu bod wedi cyflawni cymaint fel Aelodau Cynulliad, a chyda threigl amser, byddai'n anghywir i ni anghofio am eu gwaddol, os mynnwch. Gan mai hwn oedd eu cartref yn eu bywyd gwaith, credaf y byddai honno'n weithred haelfrydig ar ran y Comisiwn, a buaswn yn erfyn ar y Comisiwn i wneud trefniadau i greu coffâd o'r fath.

Rwy'n eich annog i edrych ar y polisi. Cytunwyd arno yn ddiweddar gan y Comisiwn, felly efallai nad oes llawer o'r Aelodau yn gwbl ymwybodol ohono eto. Cafodd ei sefydlu er mwyn sicrhau bod fframwaith ar gael ar gyfer penderfynu ar osod unrhyw gofeb neu blac i unrhyw unigolyn neu ddigwyddiad ar yr ystâd hon. Cofiwn yn annwyl am y cyd-Aelodau a gollwyd a chofiwn bob dydd am nifer o'r agweddau a'r blaenoriaethau a gyfrannwyd ganddynt i'n trafodaethau yn y Siambr hon. Buaswn yn eich annog, os yw'r Aelodau'n cefnogi menter fel hon, i weithio gyda theuluoedd a ffrindiau'r Aelodau a gollwyd—i weithio ar draws y pleidiau gwleidyddol i wneud cynnig i'r Comisiwn, a bydd y Comisiwn yn edrych ar hwnnw pan ddaw ger ein bron.

15:20
4. Cwestiynau Amserol

Eitem 4 yw'r cwestiynau amserol. Un cwestiwn a ddaeth i law y prynhawn yma, i'w ateb gan y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth. Andrew R.T. Davies.

Rygbi Cymru

1. Pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gydag Undeb Rygbi Cymru yng ngoleuni adroddiadau ynghylch ailwampio mawr ar y gêm broffesiynol yng Nghymru? 284

Diolch yn fawr iawn. Fe fyddwch wedi fy nghlywed yn ateb yn gryno, yn fyr, ynglŷn â'n perthynas mewn ymateb i gwestiwn cynharach, felly gallaf gadarnhau fy mod wedi cael cyfarfodydd rheolaidd gydag Undeb Rygbi Cymru ac yn wir wedi trafod eu cynlluniau datblygu a'u model busnes gyda hwy, gan gynnwys ailstrwythuro rhanbarthol. Fodd bynnag, hoffwn bwysleisio nad yw'n fwriad gennyf yn y Llywodraeth, nac yn fwriad gan weddill y Llywodraeth o ran hynny, oherwydd rydym wedi trafod hyn yn helaeth—nid oes gennym fwriad o gwbl i gymryd rhan uniongyrchol mewn unrhyw un o'r trafodaethau presennol, ac ni ddylem wneud hynny. Credaf ei bod yn bwysig iawn ein bod, mewn materion sy'n ymwneud â diwylliant a chwaraeon, yn cynnal yr egwyddor hyd braich, sy'n caniatáu i fusnesau annibynnol a sefydliadau annibynnol, boed yn y maes chwaraeon neu ddiwylliant, i gyflawni eu busnes fel y gwelant orau.

Rwy'n cytuno'n llwyr â'r hyn rydych yn ei ddweud Weinidog. Mae'r gwaith o lywodraethu'r gêm yng Nghymru yn nwylo Undeb Rygbi Cymru yn llwyr, fel y dylai fod. Ond rwy'n credu bod llawer o gefnogwyr yn bensyfrdan yn dilyn rhai o'r datblygiadau sydd wedi digwydd, ac ychydig funudau yn ôl, gwelais adroddiad newyddion yn dweud nad yw'r posibilrwydd o uno dan ystyriaeth mwyach. Ond o rygbi llawr gwlad i fyny i'r lefel ryngwladol, ceir pryder difrifol ynglŷn â'r cynigion cyfredol a gyflwynwyd—a fyddant yn barhaol, a fyddant yn wydn. Unwaith eto, rwy'n ailadrodd y pwynt: nid wyf yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddangos ei bod wedi cymryd rhan yn y trafodaethau hyn, ond buaswn wedi meddwl y byddai gan Lywodraeth Cymru farn ynglŷn â sut y byddent yn hoffi gweld y gêm yng Nghymru'n datblygu o ystyried cryfder rygbi llawr gwlad, ac yn amlwg, y goblygiadau o ran nifer o'r negeseuon y mae Llywodraeth Cymru yn eu cyfleu ynglŷn â chwaraeon a chynwysoldeb. Ac felly, gan fod Llywodraeth Cymru wedi rhoi £853,000, rwy'n credu, tuag at y gêm, a allwch roi sicrwydd i ni y byddwch yn cadw llygad ar y mater penodol hwn? Yn eich ateb cynharach, fe nodoch fod gennych syniadau ynglŷn â'r model Gwyddelig; a yw'r rheini'n syniadau personol neu a ydynt yn syniadau a ddatblygwyd gan y Llywodraeth fel ateb posibl i rai o'r heriau y mae'r gêm yng Nghymru yn eu hwynebu?

Na, roedd y rheini'n sicr yn syniadau personol. Hefyd, ac mae hwn yn amlwg yn syniad personol, hoffwn weld rygbi proffesiynol yng ngogledd Cymru, ac rwyf wedi dymuno gweld hynny'n digwydd ers blynyddoedd lawer. Rwyf bellach yn gorfod cadw hyd braich oddi wrthyf fy hun a'r safbwynt penodol hwnnw, ond ni fydd hynny'n syndod i chi. Ond hoffwn ddweud nad oes unrhyw drafodaethau wedi bod, ond mae ein huwch-swyddogion wedi bod yn gweithio'n agos iawn i sicrhau ein bod yn hollol ymwybodol o oblygiadau'r hyn y mae Undeb Rygbi Cymru yn ei drafod. Ond yn amlwg, byddai'n rhaid cael—. Rydym wedi cael trafodaeth, dylwn ddweud, gyda Nigel Short o'r bwrdd rygbi proffesiynol ac eraill, felly rydym yn ymwybodol o'u bwriadau, ond nid oes gan Lywodraeth Cymru ran mewn unrhyw ganlyniadau ar y cam hwn. Ond fel y nodais yn y drafodaeth gynharach, credaf efallai y bydd angen defnyddio ein hadnoddau, fel rydym wedi'i wneud yn y gorffennol, i fuddsoddi mewn seilwaith mewn ardaloedd a fyddai'n elwa o hynny er mwyn datblygu rygbi yn ogystal â chwaraeon eraill. Er enghraifft, rydym wedi buddsoddi'n sylweddol, fel y nodais, mewn cyfleusterau 3G a chaeau pob tywydd yn y gogledd, ac rydym wedi gwneud hynny yn Wrecsam yn ogystal ag ym Mharc Eirias.

Weinidog, diolch i chi am yr ateb rydych newydd ei roi. Yn amlwg, y neges a gawn yn awr yw nad yw uno'n ystyriaeth mwyach, ond rydym yn aml yn siarad am y ddau dîm rygbi, y Gweilch a'r Scarlets, a meddyliwn am y ddau dîm, ond mae llawer mwy'n digwydd y tu ôl i'r llen na'r ddau dîm a welwn ar y caeau. Mae'r Gweilch wedi croesawu'r cysyniad rhanbarthol yn gynnes ac maent yn gweithio gyda'n cymunedau lleol. Mae ganddynt Gweilch yn y Gymuned, maent yn mynd i gyfarfod ag ysgolion, maent yn gweithio gyda grwpiau a sefydliadau gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg i hyrwyddo STEM a llwybrau gyrfa eraill. Mae llawer mwy'n digwydd. Mewn gwirionedd, maent yn un o'r goreuon yn y maes mewn perthynas â rygbi merched. Maent yn gwneud llawer mwy na'r hyn a welwn gyda'r 15 chwaraewr ar y cae. Ac maent yn faterion y dylai'r Llywodraeth ymwneud â hwy, ac mae'r arian rydych yn ei roi i Undeb Rygbi Cymru yn bwydo i mewn i hynny. 

Felly, credaf ei bod yn bwysig fod y Llywodraeth yn cael dweud ei dweud ar y mater hwn i sicrhau nad ydym yn colli'r gwasanaethau y mae'r Gweilch yn eu rhoi i'r cymunedau ar hyn o bryd. Oherwydd os bydd y Gweilch yn diflannu, bydd gan y Scarlets eu hymrwymiadau eu hunain eisoes. Nid oes ganddynt arian i wneud mwy na hynny, felly beth fydd yn digwydd i'n rhanbarth ni a'r gwasanaethau cymunedol hynny? Ac felly, bydd angen i'r Llywodraeth edrych yn ofalus iawn ar beth y mae hynny'n ei olygu i'r cymunedau lleol mewn gwirionedd—nid yn unig y cefnogwyr, ond y bobl sy'n byw yn yr ardal, y plant yn yr ardal, y plant ysgol sy'n eu cefnogi. Ac rwyf am ddatgan buddiant: mae fy wyres yn aml iawn yn mynychu gwersylloedd y Gweilch yn ystod y gwyliau. Mae pobl yn elwa'n helaeth o'r gwasanaethau hyn, a dylai Llywodraeth Cymru edrych ar beth fydd yn digwydd i'r rheini hefyd.

15:25

Daeth y Llywydd i’r Gadair.

Diolch yn fawr am fynegi hynny mewn ffordd mor rymus, David. Yn sicr, rydym, fel Llywodraeth, yn bwriadu sicrhau y bydd unrhyw raglenni sy'n cynnwys ymgysylltiad cymunedol, unrhyw raglenni sy'n datblygu rygbi merched, rygbi o dan 20 oed, rygbi ieuenctid—mae'r holl ymrwymiadau hynny'n ymrwymiadau a wnaed i ni gan Undeb Rygbi Cymru, yn ganolog, ac Undeb Rygbi Cymru, felly, sy'n gyfrifol am gyflawni'r ymrwymiad hwnnw ar hyn o bryd. A byddaf yn sicr yn siarad gyda hwy am hyn oherwydd, yn amlwg, os bydd unrhyw wahaniaethau, unrhyw ddatblygiadau yn strwythur y rhanbarthau, er mai mater i'r rhanbarthau ei drafod yw hwnnw, lle gwnaed ymrwymiadau a lle buddsoddwyd arian cyhoeddus yn Undeb Rygbi Cymru drwy Chwaraeon Cymru, gallaf roi sicrwydd i chi y byddwn yn parhau i sicrhau bod yr ymrwymiad hwnnw'n cael ei gyflawni.

Yn yr un modd, mewn gwirionedd—hoffwn ddatgan buddiant fel deiliad tocyn tymor y Gweilch. Fel y dywedodd David Rees, mae'r Gweilch yn fwy na 15 o chwaraewyr ar y cae. Mae ymbarél cyfan o dimau, o'r tîm o dan wyth oed i fyny, i ferched a bechgyn, menywod a dynion, yn chwarae drwy'r amser, nid yn unig yn ystod hanner amser gemau cartref y Gweilch. Mewn gwirionedd, mae'n ddigwyddiad cymunedol enfawr, sy'n adlewyrchiad llwyr o fy rhanbarth. Hynny yw, fe'i gelwir yn Gorllewin De Cymru yn y lle hwn; 'Ospreylia' ydyw mewn gwirionedd. Yr un ffin yw hi. Felly, rydym wedi bod drwy un proses ad-drefnu boenus, a grybwyllwyd gennych yn eich ateb cynharach, yn 2002, pan fu'n rhaid i ni, fel cefnogwyr Abertawe, oresgyn ein gelyniaeth naturiol tuag at gefnogwyr Castell-nedd, ac yn nes ymlaen fe ymunodd Pen-y-bont ar Ogwr yn ogystal. Felly, rydym wedi bod drwy broses boenus, a phryder o safbwynt cymunedol ydyw yn bennaf, fel yn awr. Mae pobl mewn cyflwr o ddryswch a siom fod hyn wedi digwydd. Rhanbarth y Gweilch yw'r rhanbarth mwyaf llwyddiannus—nid yn unig yng Nghymru, ond y rhanbarth mwyaf llwyddiannus o ran Pro12, Pro14, ar ôl dod yn fuddugol mewn pedair pencampwriaeth. Dyna pam fod pobl yn teimlo mor ofnadwy a siomedig ei fod wedi digwydd mor ddirybudd. Oherwydd bydd pawb ohonom, mewn wythnos neu ddwy, yn dathlu gogoniant Camp Lawn arall i dîm rygbi Cymru, felly pam fod angen hyn yn awr pan fo'r bechgyn ar eu ffordd i'r Alban ar gyfer y gêm nesaf—gallwn wneud heb hyn. Mae'n newyddion sy'n ysgytwad mawr i Alun Wyn Jones—o'r Gweilch—Justin Tipuric—Gweilch—Adam Beard—Gweilch—George North—Gweilch—a fydd yn chwarae ddydd Sadwrn—

Mae pob un ohonom yn gwybod pwy yw aelodau'r tîm. Nid oes angen eu hailadrodd yma.

Ac fel y bydd y Llywydd yn cofio, pan drechodd Cymru dîm Lloegr yn Twickenham am y tro cyntaf mewn 20 mlynedd yn 2008, roedd 13 o'r 15 chwaraewr ar y cae y diwrnod hwnnw yn chwarae i'r Gweilch. Felly, rwyf am ei gadael yn y fan honno o ran—. Ond byddai'n werth i chi fynegi'r pryder cymunedol mawr hwn ynglŷn â chynlluniau dinistriol posibl i uno—boed wedi'u tynnu'n ôl ai peidio—mewn unrhyw ymgynghoriadau a gewch gydag Undeb Rygbi Cymru. Ac yn arbennig, y pryder hirdymor bob amser yw bod diffyg arian aruthrol yng Nghymru o gymharu â Ffrainc, o gymharu â Lloegr. Rydym yn gwybod hynny. Beth y gallwn ei wneud ynglŷn â hynny yw'r cwestiwn. A pham fod hyn yn digwydd yn awr yn ystod pencampwriaeth chwe gwlad hanfodol bwysig? Diolch yn fawr.

Diolch i chi, unwaith eto, am y cyfraniad grymus hwnnw. Gwneuthum gymhariaeth ag Iwerddon am yr union resymau a godwyd gennych yn y drafodaeth honno. Mae angen i ni edrych o ddifrif ar ba strwythur sydd ei angen i wneud rygbi yng Nghymru, ar ba lefel bynnag—ar lefel y gymuned, ar lefel ieuenctid, ar lefel menywod rwy'n eu hannog yn gadarn yn amlwg, ond hefyd ar y lefel ryngwladol, y chwe gwlad—rydym yn gwneud yn dda iawn ar y lefel honno yn awr. Yn amlwg, dymunaf yn dda iddynt yn yr Alban—nad yw bob amser yn lle hawdd i chwarae gêm yn yr ymgyrch am y Gamp Lawn. Ond oherwydd bod Aelodau yn y Siambr wedi mynegi'u pryderon mor glir—rwy'n ymwybodol iawn o bryder y cyhoedd—rwyf am sicrhau fy mod yn cael cyfle yn fuan i siarad yn ffurfiol ag Undeb Rygbi Cymru ynglŷn â'r mater hwn. Ond credaf y byddai'n well i mi aros hyd nes y bydd y trafodaethau sy'n mynd rhagddynt ar hyn o bryd yn cael eu datrys, os cânt eu datrys, a gobeithiaf y bydd hynny'n digwydd yn fuan iawn.

15:30

A gaf fi gytuno â phopeth a ddywedodd Dai Lloyd a David Rees? Hoffwn ychwanegu hefyd, wrth gwrs, fod y Gweilch yn safle 75 ar y rhestr o'r cwmnïau mwyaf yn rhanbarth SA. Mae'r Scarlets yn safle 84 ar y rhestr o'r cwmnïau mwyaf yn rhanbarth SA. Rydym yn sôn am gyflogwyr mawr. Mae llawer o fy etholwyr wedi bod yn poeni, ers i hyn gael ei drafod, na fydd ganddynt swydd. A buaswn yn awgrymu nad yw adleoli i ogledd Cymru i fod yn werthwr tocynnau yn debygol mewn gwirionedd, a bydd gan Lanelli fwy nag y byddant eu hangen os byddant yn uno beth bynnag. Felly, yr hyn a ddywedaf yw: a wnaiff Llywodraeth Cymru edrych ar hyn o safbwynt economaidd, yn hytrach nag o safbwynt chwaraeon—ac mae fy niddordeb mewn chwaraeon yn hysbys iawn, rwy'n credu, i bron bob un ohonoch yn yr ystafell hon, ond o safbwynt economaidd, yn ogystal â'r budd economaidd i fy etholaeth, o gael stadiwm Liberty yno, o'r digwyddiadau sy'n cael eu cynnal yno, o'r gemau rygbi sy'n cael eu cynnal yno, yr 8,000 i 10,000 o bobl sy'n mynychu, sy'n dod ag arian i'r ardal er budd ein heconomi leol? Nid yw ein heconomi leol yn Abertawe yn gallu fforddio colli swyddi, ni all fforddio colli'r bobl sy'n ymweld â'r lle ac yn gwario arian. A wnaiff Llywodraeth Cymru edrych ar hyn o safbwynt economaidd? Rwy'n ddigalon iawn o safbwynt chwaraeon, ac yn ofidus iawn, fel y mae David Rees, o safbwynt darparu cymorth o fewn y gymuned, ond rwy'n poeni mwy am bobl yn colli eu gwaith, a cholli swyddi a cholli arian yn fy etholaeth.

Diolch yn fawr iawn i chi am hynny. Gallaf gadarnhau bod y swyddog a fu'n gweithredu ar fy rhan yn y maes hwn yn amlwg yn deall y goblygiadau economaidd, oherwydd mae'r pennaeth chwaraeon hefyd yn chwarae rhan mewn datblygu rhanbarthol—nid yn yr un ardal yn union, ond yn ne Cymru. Felly, rwyf am ail-bwysleisio, mewn trafodaethau pellach gyda swyddogion eraill yn y Llywodraeth, a chydag ef, ac yn fy nhrafodaethau i ddod ag Undeb Rygbi Cymru, y dylid rhoi sylw priodol i'r materion hyn. Ac mae'n ymwneud wrth gwrs â'r hyn a ofynnodd David yn gynharach mewn perthynas â'r rhaglen gymdeithasol a'r rhaglen gymunedol. Mae rygbi yn fath o ddiwylliant, yn ogystal ag un o'r prif chwaraeon yng Nghymru, yn amlwg, ac felly mae'n rhaid i ni edrych ar bob agwedd ar yr hyn a wnawn. Oherwydd, ar y naill law, ni allwn sôn am fudd chwaraeon i'r gymuned a chaniatáu ar yr un pryd i'r gymuned gael ei hamddifadu o beth o'r budd uniongyrchol hwnnw pan fo newidiadau fel hyn yn cael eu hystyried. Hoffwn pe bai'r mathau hyn o drafodaethau—fel y mae llawer o'r Aelodau wedi nodi—yn digwydd ar adeg arall, ac nid ar anterth y tymor rygbi ar hyn o bryd.

5. Datganiadau 90 Eiliad

Yr eitem nesaf yw'r datganiadau 90 eiliad, ond ni chafodd unrhyw ddatganiad ei dderbyn heddiw.

6. Cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Ombwdswmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru)

Felly, yr eitem ganlynol yw'r cynnig i amrywio'r drefn ystyried ar gyfer gwelliannau Cyfnod 3 y Bil Ombwdsman Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru). Dwi'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig—Rhun ap Iorwerth.

Cynnig NDM6981 Elin Jones

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru, yn unol â Rheol Sefydlog 26.36:

Yn cytuno i waredu'r adrannau a'r atodlenni i'r Bil Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus (Cymru) yng Nghyfnod 3 yn y drefn a ganlyn:

a) Adran 2;

b) Atodlen 1;

c) Adrannau 3-14;

d) Atodlen 2;

e) Adrannau 15-30;

f) Atodlen 3;

g) Adrannau 31-41;

h) Atodlen 4;

i) Adrannau 42-74;

j) Atodlen 5;

k) Adrannau 75-80;

l) Adran 1;

m) Teitl hir.

Cynigiwyd y cynnig.

Y cwestiwn felly yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Derbynnir y cynnig, felly, yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

7. Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol: Cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru

Y ddadl nesaf yw'r ddadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar y cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—Mick Antoniw.

Cynnig NDM6983 Mick Antoniw

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, sef Cytundeb cysylltiadau rhyng-sefydliadol rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 31 Ionawr 2019.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch i chi, Lywydd. Rwy'n falch o agor y drafodaeth hon. Roedd yn bwysig i'r pwyllgor fod y cytundeb hwn a gyrhaeddwyd, sy'n gyfansoddiadol o ran ei natur, ac yn ymwneud â chraffu ar y Cynulliad, wedi'i gyflwyno ar lawr y Siambr fel bod yr Aelodau'n dod yn ymwybodol ohono, fel bod aelodau o'r cyhoedd yn dod yn ymwybodol ohono, oherwydd, yn y cyfnod anodd rydym yn gweithredu ynddo ar hyn o bryd, mae tryloywder a chraffu yn eithriadol o bwysig, ac mae hwn yn gytundeb unigryw a gynlluniwyd i geisio mynd i'r afael â hynny.

Yn Chwefror 2018, cyhoeddasom ein hadroddiad 'Llywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd', a diben hwnnw oedd archwilio'r cysylltiadau rhynglywodraethol presennol i weld a ydynt yn addas i'r diben ac asesu a oes angen eu newid. Cynhaliwyd ein hymchwiliad nid yn unig yng nghyd-destun 20 mlynedd ers datganoli, ond hefyd, o gofio bod y DU yn gadael yr Undeb Ewropeaidd, a'n hawydd i sicrhau nad yw buddiannau Cymru yn cael eu gwthio i'r cyrion yn y trefniadau cyfansoddiadol a fydd yn ymddangos yn y DU o ganlyniad. Argymhelliad olaf ein hadroddiad oedd bod Llywodraeth Cymru yn ymrwymo i gytundeb cysylltiadau rhynglywodraethol gyda'r pwyllgor i gefnogi ei waith craffu ar weithgarwch Llywodraeth Cymru yn y maes hwn.

Rwy'n falch felly o fod mewn sefyllfa heddiw i groesawu'n ffurfiol ein hymrwymiad i gytundeb o'r fath, sydd wedi'i gynnwys yn yr adroddiad byr sydd gerbron y Cynulliad heddiw. Mae'r cytundeb yn ddogfen bwysig iawn. Bydd y berthynas sy'n bodoli rhwng Llywodraethau yn y DU yn newid os byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd. Bydd yn hanfodol, felly, i bwyllgorau'r Cynulliad a'r Cynulliad Cenedlaethol allu craffu ar sut y mae Llywodraethau'n gweithio gyda'i gilydd er budd ein dinasyddion ar draws y sbectrwm polisi ac mewn perthynas â sefydlu fframweithiau polisi cyffredin. Credwn y bydd y cytundeb rhyngsefydliadol sydd ger ein bron heddiw yn helpu i hwyluso'r broses honno.

Mae'r cytundeb yn mabwysiadu'r un dull o weithredu sy'n bodoli mewn cytundeb rhwng Llywodraeth yr Alban a Senedd yr Alban. Mewn adroddiad a gyhoeddwyd gan Bwyllgor Datganoli (Pwerau Pellach) Senedd yr Alban yn 2015:

Bydd effeithiolrwydd y Senedd wrth graffu ar gysylltiadau rhynglywodraethol yn dibynnu'n rhannol ar ei gallu i gael gwybodaeth am y deunydd pwnc ac amserlen y trafodaethau rhwng llywodraethau.

Roedd y safbwynt hwnnw'n canu cloch gyda ni, ac yn benodol, ein cred fod angen tryloywder mewn perthynas â chysylltiadau rhynglywodraethol a'r mecanweithiau i'w hwyluso. Rydym yn credu bod y cytundeb yn cyflawni'r pwyntiau hyn, ac rwyf am roi amlinelliad byr iawn o'i ofynion, sy'n amlwg wedi'u nodi'n fwy manwl yn y ddogfen hon, sydd gerbron yr Aelodau.

Mae'r cytundeb yn sefydlu tair egwyddor a fydd yn rheoli'r berthynas rhwng Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Llywodraeth Cymru mewn perthynas â chysylltiadau rhynglywodraethol. Y tair egwyddor yw tryloywder, atebolrwydd, a pharch tuag at, a chydnabyddiaeth i’r rhan y mae trafodaethau cyfrinachol yn ei chwarae rhwng Llywodraethau, yn enwedig wrth ddatblygu polisi. Mae’r cytundeb yn berthnasol i'r rhan y bydd Gweinidogion Cymru yn ei chwarae mewn strwythurau rhynglywodraethol ffurfiol, gan gynnwys Cyd-bwyllgor y Gweinidogion ym mhob un o'i fformatau gweithredu, y fforwm gweinidogol ar y berthynas yn y dyfodol rhwng y DU a’r UE, y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig a fforymau rhyngweinidogol ad hoc amrywiol o statws cyffelyb sy'n bodoli'n barod neu a allai gael eu sefydlu.

Mae'n darparu dwy fantais bwysig ar gyfer gwaith y pwyllgorau. Yn gyntaf, bydd fy mhwyllgor ac eraill, yn derbyn, cyn belled ag y bo'n ymarferol, o leiaf un mis o rybudd mewn perthynas â materion agenda a materion allweddol i'w trafod cyn cyfarfodydd perthnasol a drefnwyd, oni bai bod cyfranogiad Llywodraeth Cymru yn digwydd ar fyr rybudd. Bydd hyn yn galluogi pwyllgor i fynegi barn ar y pwnc ac os yn briodol, i wahodd y Gweinidog cyfrifol i fynychu cyfarfod o'r pwyllgor cyn y cyfarfod rhynglywodraethol.

Yn ail, ar ôl pob cyfarfod gweinidogol rhynglywodraethol o fewn cwmpas y cytundeb, bydd Llywodraeth Cymru yn darparu crynodeb ysgrifenedig o'r materion a drafodwyd yn y cyfarfod i'r pwyllgorau perthnasol cyn gynted ag y bo'n ymarferol, ac o fewn pythefnos os yn bosibl. Bydd crynodeb o'r fath yn cynnwys unrhyw ddatganiad ar y cyd a ryddhawyd ar ôl y cyfarfod ac unrhyw wybodaeth sy'n ymwneud â'r cyfarfod, gan gynnwys amlinelliad o'r safbwyntiau a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru.

Er mwyn monitro cynnydd, bydd Llywodraeth Cymru yn paratoi adroddiad blynyddol ar gysylltiadau rhynglywodraethol. Bydd yn cael ei osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol a'i gyflwyno i fy mhwyllgor. Bydd yr adroddiad blynyddol yn crynhoi'r allbynnau allweddol o weithgaredd sy'n ddarostyngedig i ddarpariaethau'r cytundeb hwn, gan gynnwys unrhyw adroddiadau a gyhoeddir gan fforymau rhynglywodraethol perthnasol. Bydd hefyd yn gwneud sylwadau ar yr ystod ehangach o waith cysylltiadau rhynglywodraethol a wnaed yn ystod y flwyddyn, gan gynnwys datrys anghydfodau, sy'n mynd i fod yn bwysig iawn.

Fel y dywedais pan gawsom ddadl ar ein hadroddiad 'Llywodraethiant yn y DU ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd' ychydig dros flwyddyn yn ôl erbyn hyn, mae'r DU yng nghanol un o'r diwygiadau cyfansoddiadol mwyaf pwysig a heriol y mae wedi'u hwynebu erioed, gyda goblygiadau hirdymor i weithrediad a llywodraethiant y DU a gwledydd a rhanbarthau unigol y DU. Bydd yn rhaid i'r DU addasu ei threfniadau mewnol er mwyn sicrhau na fydd gadael yr UE yn arwain at fwy o ganoli grym yn Llundain. Mae'r cytundeb hwn yn gam pwysig yn y ffordd y byddwn ni yn y Cynulliad yn craffu ar y broses honno wrth iddi ddatblygu.

Cyn cloi, hoffwn fynegi fy niolch i'r Prif Weinidog, y Cwnsler Cyffredinol a'u swyddogion am y ffordd gadarnhaol y maent wedi cymryd rhan yn natblygiad y cytundeb hwn. Os byddwn yn parhau yn yr un modd, rwy'n siŵr y bydd y cytundeb hwn yn esgor ar fanteision, nid yn unig i'r Cynulliad a'r Llywodraeth, ond hefyd i ddinasyddion Cymru, y genedl rydym yn ei gwasanaethu. Diolch.

15:40

Y cwestiwn i mi yw: sut y mae'r Cynulliad hwn yn dylanwadu ar sut y mae ein dwy Lywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod uniondeb y setliad datganoledig yn cael ei amddiffyn? Ac er nad oeddwn yn aelod o'r pwyllgor hwn pan oedd y gwaith yn cael ei wneud ar y cytundeb penodol hwn, mae'r gwaith rwyf wedi'i wneud ar y pwyllgor ers hynny wedi lliwio sut rwyf eisiau gosod fy nghyflwyniad i chi, felly rwy'n gobeithio y byddwch yn amyneddgar gyda mi wrth i mi ddilyn llwybr troellog braidd tuag at fy nghasgliad.

Deddf gwladwriaeth y DU sy'n ein galluogi i gadw cyfraith yr UE o fewn ffiniau ein gwladwriaeth, a'r un Ddeddf sy'n caniatáu creu is-ddeddfwriaeth, sy'n gwneud yr acquis hwnnw'n weithredol. Bydd rhywfaint o'r is-ddeddfwriaeth, a wnaed gan Senedd y DU, yn aml yn effeithio ar gymwyseddau datganoledig. Mae'r is-ddeddfwriaeth honno'n gallu ymwneud â rhywbeth mor annadleuol â gosod enw corff DU neu Gymreig yn lle enw sefydliad UE, neu gall fod mor bwysig â rhoi pwerau a chyfrifoldebau newydd i Lywodraeth Cymru nad ydynt wedi'u cael o'r blaen. Ac ochr yn ochr â hynny, mae gennym sefyllfa lle mae'r ddwy Lywodraeth yn gweithio gyda'i gilydd tuag at amrywiaeth o gytundebau a choncordatau, megis y fframweithiau DU gyfan, a dylid gallu cyflawni llawer drwy'r strwythurau rhynglywodraethol ffurfiol hynny, megis Cyd-bwyllgor y Gweinidogion a'r Cyngor Prydeinig-Gwyddelig ac ati.

Ond canlyniad anochel y gwaith hwn yw y gallai Gweinidogion Cymru gaffael pŵer a chyfrifoldeb eu hunain, neu'n wir, i'r gwrthwyneb, gallant ildio pŵer a chyfrifoldeb i Weinidogion y DU, a gofyn iddynt ar rai achlysuron i ddeddfu ar ran Cymru mewn meysydd datganoledig lle mae'n fanteisiol i wneud hynny. A dylai hynny'n unig wneud i ni dalu sylw, oherwydd, er ein bod eisoes yn gyfarwydd â'r syniad o gynigion cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer deddfwriaeth sylfaenol, nid ydym mor gyfarwydd â Senedd arall yn cyflwyno is-ddeddfwriaeth ar ein rhan, ac mewn perthynas ag is-ddeddfwriaeth sy'n ymwneud â Brexit, mae llawer iawn ohoni, ac mae Llywodraeth Cymru wedi cydsynio i lawer iawn ohoni yn uniongyrchol ar ein rhan.

Nawr, nid yw'r ddadl hon yn ymwneud ag is-ddeddfwriaeth yn unig, ond mae'n gymhariaeth ddefnyddiol â'r sefyllfa rydym yn ei thrafod, sef rôl y Cynulliad hwn yn craffu ar ran ein hetholwyr ar weithgareddau Llywodraeth Cymru yn yr holl ryngweithio y mae'n ei wneud â Llywodraethau eraill, ond yn enwedig pan fo'r camau gweithredu hynny'n arwain at ennill neu golli pwerau mewn ffyrdd heblaw drwy ganiatâd datganedig y Cynulliad hwn, neu pan fônt yn arwain at wneud penderfyniadau mewn meysydd datganoledig gan Lywodraeth arall, heb sôn am Senedd arall, heb inni eu craffu'n uniongyrchol.

Felly, yn amodol ar y mesurau diogelu disgwyliedig i ddiogelu cyfrinachedd neu ymgysylltu ar fyr rybudd, mae'n gwbl briodol fod y Cynulliad hwn wedi argymell—neu wedi mynnu, hyd yn oed, gan mai dyna sut y teimlai i mi—cael protocol rhyngom ni a Llywodraeth Cymru lle mae Llywodraeth Cymru yn rhoi gwybod i ni am gyfarfodydd rhynglywodraethol mewn da bryd. Mae hynny'n galluogi pwyllgorau'r Cynulliad hwn i alw Gweinidogion i mewn cyn y cyfarfodydd hynny er mwyn rhoi gwybod iddynt beth yw'r safbwynt a ffafrir gan y Cynulliad hwn ar y pwnc dan sylw cyn eu bod yn mynychu cyfarfod rhynglywodraethol o'r fath. Yna, rhaid i Lywodraeth Cymru adrodd yn ôl i'r pwyllgorau, fel y clywsom, gydag adroddiadau cynnydd neu fanylion unrhyw gytundebau a wnaed neu unrhyw newidiadau i'r trefniadau presennol, ac mae hynny yn ei hun yn caniatáu i'r Aelodau yma graffu ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru wedi'i wneud—ychydig bach yn rhy hwyr efallai o ran newid yr hyn a allai fod wedi'i wneud, ond o leiaf gellir dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif am ei dewisiadau ar ein rhan.

A dyna pam y dechreuais y cyfraniad hwn drwy siarad am yr hyn sy'n ymddangos fel mater digyswllt, sef is-ddeddfwriaeth, oherwydd credaf y gellir rhagweld y bydd rhai cytundebau rhynglywodraethol—nid pob un ohonynt—yn arwain at Senedd y DU yn cyflwyno deddfwriaeth sylfaenol ac yn craffu arni yno. Mae angen i ni fod yn sicr yma fod Gweinidogion Cymru wedi cymryd camau priodol cyn hyn i ddiogelu budd gorau Cymru cyn drafftio unrhyw beth, yn enwedig os bydd yr hyn a fydd yn cael ei ddrafftio yn ymdrin â materion datganoledig.

Mae proses y cynnig cydsyniad deddfwriaethol sy'n dilyn yn darparu lefel o graffu a dylanwad ar gyfraith o'r fath yn y DU i'r Aelodau yma, a chafwyd synau calonogol o natur Sewel o du Llywodraeth y DU mewn perthynas â hynny. Ond mewn perthynas â'r is-ddeddfwriaeth a fydd yn deillio o'r gyfraith honno, a fydd ei hun wedi'i llunio ar sail Cymru a Lloegr, bydd ein gallu i graffu arni fel y dylem fod eisiau craffu arni yn cael ei herio'n fawr, ac mae'n cael ei herio'n fawr yn barod, gydag is-ddeddfwriaeth o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018.

Ychydig wythnosau'n ôl yn unig, buom yn siarad ynglŷn â pha mor anodd oedd hi i Lywodraeth Cymru baratoi memoranda esboniadol digon manwl, a gwelsom yr un broblem gyda datganiadau Rheol Sefydlog 30. Er ein bod yn cydnabod bod Llywodraeth Cymru dan bwysau mawr i drefnu a chrynhoi hyn, mae camgymeriadau neu wybodaeth anghyflawn yn amharu ar ein gallu i ymddiried yn eu gwaith craffu rhagarweiniol ar yr hyn y maent yn ei dderbyn gan y DU.

Felly, nid yw'n ymddangos bod y protocolau ar gyfer hynny'n gweithio'n gwbl foddhaol, a dyna pam fod y protocol rhwng y Cynulliad hwn a Llywodraeth Cymru, sy'n darparu ar gyfer hysbysu ac adrodd, ac sy'n rhoi cyfle i fynd yn groes i'r llif a dylanwadu ar drafodaethau Llywodraeth Cymru gyda'r DU, mor bwysig, oherwydd, ar ôl mynd drwy broses ddeddfwriaethol, ni chawn lawer o gyfle i graffu neu ddylanwadu'n gyson, a dylai hynny beri pryder i ni. Diolch.

15:45

Dwi'n falch iawn o gyfrannu at y ddadl yma, fel aelod o'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol. Allaf i longyfarch y Cadeirydd am grynodeb gwych o'r sefyllfa, achos mae'r cytundeb yma yn hanfodol bwysig? Cytundeb sydd gyda ni fan hyn rhyngom ni, fel y ddeddfwrfa, a'n Llywodraeth ni yn y fan hyn i wneud yn siŵr ein bod ni'n gwybod beth sy'n mynd ymlaen er mwyn hyrwyddo'r broses o graffu.

Wrth gwrs, yn enwedig gyda'r cefndir Brexit dŷn ni wedi clywed amdano fo, achos beth wnaeth hybu datblygiad yr adroddiad yma oedd y ffaith bod y broses Brexit ar fynd heibio, mae yna dyndra naturiol. Dŷn ni wedi bod yn siarad amdano fo nifer o droeon—y tyndra rhwng posibilrwydd o golli pwerau o fan hyn i San Steffan, ond hefyd mae yna dyndra arall, fel oedd Suzy Davies yn sôn amdano, o bwerau'n cael eu sugno o'r ddeddfwrfa yma i'r Llywodraeth yma. Mae yna dyndra mewn dwy ffordd, o golli pwerau o'r ddeddfwrfa i'n Llywodraeth ein hunain a hefyd i'r Llywodraeth arall i fyny ar ben arall yr M4.

Felly, dyna pam mae'r cytundeb yma yn hanfodol bwysig, achos dŷn ni wedi gweld colli pwerau. Dwi ddim yn mynd i ailadrodd hanesion ynglŷn â Deddf Cymru 2017, ond, wrth gwrs, yn y pwyllgor bob dydd Llun rŵan, fel y mae Suzy wedi cyfeirio, dŷn ni'n gweld toreth o ddeddfwriaeth gynradd ac eilradd yn dod ein ffordd ni achos ymadael ag Ewrop.

Wrth gwrs, mae yna bwysau amser ac mae yna bwysau gwaith affwysol ar swyddogion yn y lle yma, a hefyd, i fod yn deg, yn San Steffan, i gael popeth yn ei le mewn amser. Ond, wrth gwrs, dŷn ni hefyd yn gweld bod yna botensial, o leiaf, fel y mae Suzy wedi'i ddweud, ein bod ni yn gallu colli pwerau. Dŷn ni wedi gweld pethau fel—cawsom ni drafodaeth yr wythnos yma ar y defnydd o'r gair 'national' i olygu 'Prydeinig', yn lle national yn golygu 'Cymru'. Wel, roeddwn i'n credu ein bod ni wedi bod drwy hynna. Hynny yw, yn nhermau deddfwriaeth, dŷn ni nôl i fod yn region. Wel, nid dyna beth mae'n anthem genedlaethol ni, y byddwn ni yn ei chanu ddydd Sadwrn, yn ei dweud. Dŷn ni'n dweud, 'Gwlad. Gwlad.'—dŷn ni ddim yn canu, 'Rhanbarth. Rhanbarth', sori. Mae pethau fel yna yn bwysig. Mae pobl yn dweud, 'Dim ond geiriau—', ond eto mae pob cyfreithiwr yn dweud, 'Wel, y geiriau sydd yn bwysig ar ddiwedd y dydd.'

Hefyd, wrth gwrs, pan fo San Steffan yn deddfu drosom ni, dŷn ni'n hoff iawn o'u haelioni nhw, wrth gwrs, yn naturiol, yn deddfu drosom ni, yn enwedig mewn meysydd sydd eisoes wedi'u datganoli i ni ers dros 20 mlynedd, ond mi fuasem ni hefyd yn licio gweld y ddeddfwriaeth honno yn ddwyieithog, achos mae gennym ni iaith swyddogol yn y fan hyn a enwir y Gymraeg, ac mae yna ambell esiampl dŷn ni wedi'i nodi yn y pwyllgor dros yr wythnosau diwethaf pan dŷn ni'n cael deddfau uniaith Saesneg sydd yn mynd i chwarae allan yma yng Nghymru.

Mae pethau fel yna—. Mae pobl yn dweud, 'O, pwysau amser—nid oes eisiau mynd ar ôl y manylion, Dai, a chreu trwbl', ac ati, ac ati. Ond, dyna sut mae pethau—anghysondebau—yn gallu digwydd. Hefyd, drwy ddefnyddio'r esgus, 'Mae'n rhwyddach, wrth gwrs, efo'r holl staff ac egni sydd yn San Steffan, iddyn nhw wneud popeth drosom ni nawr, hyd yn oed mewn meysydd sydd eisoes wedi’u datganoli i ni'—. Wel, mae yna beryg yn hynna achos dylen ni fod yn deddfu mewn meysydd sydd wedi’u datganoli drosom ni ein hunain; dylai fod yna Fil amaeth Cymru, nid dibynnu ar Fil Amaeth Prydain Fawr. Dylai fod yna Fil pysgodfeydd Cymru, dim Bil Pysgodfeydd Prydain Fawr.

Gwelsom ni LCM ddoe ynglŷn â llesiant anifeiliaid—yr animal welfare LCM—buom ni'n ei drafod ddoe. Buasai’n ddigon hawdd fod wedi gwneud y Ddeddf yna yma yng Nghymru achos dau gymal oedd hi. Dau gymal oedd hi, ond chawsom ni ddim cyfle i graffu arni yn fan hyn nes bod y peth wedi digwydd. Roedd e’n fait accompli, i ddefnyddio iaith arall. Hynny yw, mae’r gallu yma a dylai fod yna reidrwydd inni fod yn datblygu ein deddfwriaeth ein hunain yn fan hyn gan fod y pwerau gyda ni rŵan, a dim defnyddio’r ffaith ein bod ni’n gadael Ewrop, mae popeth ar frys, does yna byth digon o amser, mae’n rhaid inni wneud pethau’n gyflym, a San Steffan sy’n gwneud popeth er ein mwyn ni, ond mae yna bethau yn gallu cael eu colli yn hynna.

Gwelsom ni efo’r LCM ar international healthcare arrangements fod yna bosibilrwydd real yn fan yna, nes i San Steffan newid eu meddwl, eu bod nhw’n mynd i ehangu eu pwerau yn y maes iechyd mewn maes sydd wedi’i ddatganoli fan hyn ers 20 mlynedd. Dydy hynna ddim yn iawn. Beth oedd eisiau oedd jest trosglwyddiad o functions syml. Gwnaeth San Steffan drio ychwanegu at eu pwerau nes i ni yn fan hyn ddarganfod hynna, er tegwch i bawb. Felly, mae’n rhaid bod yn wyliadwrus, ac mae’r protocol hyn yn hanfodol i hynna. Diolch yn fawr iawn ichi.

15:50

Nid oeddwn yn bwriadu siarad yn y ddadl hon oherwydd yn amlwg, rwy'n deall ei bod yn ddadl sy'n ymwneud ag egwyddorion, ond credaf ei bod yn bwysig deall nad mater cyfansoddiadol yw hwn, ond mater ar gyfer y Cynulliad cyfan a phwyllgorau amrywiol, a chredaf ei bod yn bwysig cydnabod hynny. Rwy'n siomedig o bosibl nad oes gennym gymaint â hynny o gyd-Aelodau yn y Siambr i ddeall hynny mewn gwirionedd.

Fel y dywedodd Suzy Davies, mae nifer yr offerynnau statudol sy'n mynd—. Nawr, ddydd Llun diwethaf, roedd y polisi pysgodfeydd cyffredin yn offeryn statudol o dan Reol Sefydlog 30C, lle mae Llywodraeth Cymru wedi ildio'r penderfyniad i Lywodraeth y DU gyflawni'r gwaith hwnnw mewn gwirionedd. Pan fyddwch yn darllen yr offerynnau statudol hyn, byddwch yn gweld eu bod yn dechnegol, mae'n wir, yn rhoi'r Deyrnas Unedig yn lle'r undeb, ond wedyn maent yn rhoi'r Ysgrifennydd Gwladol yn lle'r comisiwn. Felly, mewn gwirionedd, yr Ysgrifennydd Gwladol sy'n gwneud penderfyniadau, ac yn aml iawn, mae hefyd yn rhoi pwerau cydredol i Weinidogion, sy'n golygu y gall Gweinidogion y DU wneud penderfyniadau ar feysydd datganoledig yn ogystal. Felly, mae angen i ni ddeall beth y mae'r rhain yn ei olygu i Gymru mewn gwirionedd.

Rwy'n croesawu'r cytundeb hwn rhwng y Cynulliad a Llywodraeth Cymru oherwydd mae'n hollbwysig ein bod yn cael cyfle cyn iddynt fynd. Ac rwyf am gynnwys cafeat yma, pan fyddant yn cael yr agendâu, oherwydd yn aml iawn, pan fyddwn yn codi'r mater, nid yw'r Gweinidogion yn cael yr agendâu tan y diwrnod cyn iddynt fynd, ac weithiau, ni fyddant yn eu cael cyn iddynt gyrraedd. Mae rhaid bod hynny'n annerbyniol, ac efallai fod honno'n ffordd y gallwn ni, fel Cynulliad, roi pwysau ar ein cymheiriaid seneddol yn San Steffan drwy ddweud, 'Rhowch drefn ar bethau a sicrhewch fod eich Gweinidogion yn rhoi'r agendâu hyn yn eu lle,' oherwydd sut y gallwn eu dwyn i gyfrif pan na fydd y papurau ganddynt, oherwydd bod rhyw Senedd arall, Llywodraeth arall, yn eu cadw'n ôl? Ond pan fyddwn yn eich dwyn i gyfrif, a wnewch chi ddod yn ôl a dweud wrthym amdano? Ond rydym eisiau dylanwadu arno mewn gwirionedd; rydym eisiau eich dwyn i gyfrif a dweud, 'Pam y gwnewch hyn? Beth ydych chi'n ceisio ei gyflawni? A phan ddowch yn ôl, a wnaethoch ei gyflawni? Pam nad ydych wedi'i gyflawni? Beth oedd y problemau?' Felly, mae'n hollbwysig fod y Cynulliad yn cael y cyfle hwnnw, a bod y cytundeb hwn yn rhoi proses ffurfiol ar waith i alluogi hynny i ddigwydd, a byddem yn gwerthfawrogi hynny'n fawr iawn.

Ond yr hyn sy'n rhaid i ni geisio ei wneud yn awr yw mynd ar drywydd hyn ymhellach oherwydd rydym wedi bod yn gwneud hyn, yn aml iawn, dan bwysau Brexit. Pan fyddwn yn gadael—ac rwy'n credu y byddwn yn gadael yr Undeb Ewropeaidd—bydd y strwythur cyfan o fewn y DU yn newid. Rydym angen cydnabod y bydd y trafodaethau y bydd ein Llywodraeth yn eu cael gyda Llywodraeth San Steffan yn hollbwysig ar gyfer y polisïau yma yng Nghymru. Mae gennym fframweithiau y gwyddom y byddant ar waith mewn perthynas ag amaethyddiaeth. Mae'n bur bosibl y bydd fframweithiau eraill ar waith, ac rydym eisiau lleisio barn a dylanwadu fel Cynulliad ar yr hyn sy'n cael ei ddweud yn y trafodaethau hynny. Felly, rwy'n croesawu'r cytundeb hwn yn fawr iawn, Lywydd, ac rwy'n gobeithio y byddwn yn sicrhau y bydd yn gweithio i ni mewn gwirionedd, ac y gallwn bwyso ar Lywodraeth y DU i roi digon o amser i ni allu craffu.

Diolch yn fawr, Llywydd, a dwi’n falch o gadarnhau bod Llywodraeth Cymru yn cefnogi’r cynnig ac yn falch o adrodd ein bod ni wedi gweithio’n agos iawn gyda’r pwyllgor i ddatblygu’r cytundeb sydd o’n blaenau ni. Nawr, cyn gwneud unrhyw sylwadau am y cytundeb ei hun, dwi am osod hyn yng nghyd-destun ehangach yr heriau sy'n ein hwynebu ni o ganlyniad i Brexit a dweud, unwaith eto, beth yw safbwynt Llywodraeth Cymru ar y ffordd y dylai'r berthynas rhwng Llywodraethau newid. Mewn rhai misoedd, byddwn ni'n dathlu 20 mlwyddiant Cyfarfod Llawn cyntaf y Cynulliad Cenedlaethol. Mae'r Llywodraethau a'r deddfwriaethau datganoledig bellach yn rhan sefydlog a pharhaol o gyfansoddiad y Deyrnas Unedig, ond mae'r ffaith bod y Deyrnas Unedig yn ymadael â'r Undeb Ewropeaidd yn arwain at heriau cwbl newydd i'r berthynas rhwng y gwledydd ac i drefniadau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig. A rhaid cofio ac ystyried bod y systemau sydd yn eu lle eisoes yn gwegian, ymhell cyn y bleidlais i ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Does, yn bendant, dim modd iddyn nhw gynnal y pwysau ychwanegol y mae proses Brexit wedi'i rhoi arnyn nhw. 

Felly, mae Llywodraeth Cymru wedi bod ar flaen y gad yn galw am ddiwygio, ac ategwyd ein galwadau gan adroddiadau pwyllgor, yma ac yn Senedd y DU.

Nawr, fe wnaethom osod ein safbwynt ar y materion hyn yn 'Brexit a Datganoli', a gyhoeddwyd gennym yn ystod haf 2017. Roedd 'Brexit a Datganoli' yn dadlau o blaid mecanwaith rhynglywodraethol sefydlog a allai negodi a gwneud penderfyniadau rhwymol ar faterion o ddiddordeb cyffredin ledled y DU. Fe wnaethom argymell sefydlu cyngor o Weinidogion y DU, er mwyn datrys anghydfodau drwy gymrodeddu annibynnol, yn ogystal ag argymell y dylai'r mecanwaith gael ei gynnal gan ysgrifenyddiaeth annibynnol newydd.

Mae'r Cyd-bwyllgor Gweinidogion presennol, yn ei amrywiol weddau, yn gorff ymgynghorol heb gyfrifoldebau gwneud penderfyniadau. Mae ei weithrediadau wedi bod yn ddarostyngedig i reolaeth Llywodraeth y DU, a hynny'n amhriodol, yn hytrach na'n seiliedig ar gyfranogiad cydradd, sef yr egwyddor y buom yn chwilio amdani.

Nawr, pan gyhoeddwyd 'Brexit a Datganoli' gennym, roeddem yn cydnabod y byddai rhai o'n cynigion yn heriol, yn enwedig i Lywodraeth y DU, ac nid ydym erioed wedi honni ein bod yn gwybod yr atebion i gyd. Rydym wedi bod yn glir fod angen i bob un o'r pedair gweinyddiaeth yn y Deyrnas Unedig weithio gyda'i gilydd i ddatblygu consensws ynglŷn â sut y dylid cynnal y cysylltiadau rhwng Llywodraethau'r Deyrnas Unedig yn y dyfodol. Felly, rydym yn croesawu'r cytundeb a gafwyd yng nghyfarfod llawn Cyd-bwyllgor y Gweinidogion ym mis Mawrth 2018, sef y dylai'r Llywodraethau gynnal adolygiad ar y cyd o gysylltiadau rhynglywodraethol.

Nawr, yng nghyfarfod diweddaraf Cyd-bwyllgor y Gweinidogion ar 19 Rhagfyr, pwysleisiodd Prif Weinidog Cymru wrth y Prif Weinidog fod Llywodraeth Cymru wedi gobeithio am fwy o gynnydd ar yr adolygiad erbyn hyn. Wedi dweud hynny, rydym yn cydnabod, er bod y gwaith hwn yn hanfodol bwysig, ei fod yn anodd iawn hefyd. Mae angen i ni gyrraedd consensws ystyrlon ar gyfer newid sylweddol rhwng pob un o bedair gwlad y DU. Nawr, mae gan bob un o'r Llywodraethau hynny eu safbwyntiau gwleidyddol eu hunain a'u safbwyntiau unigryw eu hunain, ynglŷn â sut y dylai Llywodraethau weithio gyda'i gilydd ac ar statws cyfansoddiadol ehangach y DU. Ac fe fyddwch yn deall, wrth gwrs, fod Gweinidogion a swyddogion ar draws yr holl weinyddiaethau angen lle i gynnal trafodaethau cyfrinachol mewn perthynas â'r adolygiad. Ond byddwn ni, fel Llywodraeth, yn sicrhau bod y Cynulliad a'i bwyllgorau yn cael y wybodaeth ddiweddaraf am yr adolygiad cyn belled ag y bo modd, gan barchu'r angen hwnnw am gyfrinachedd. Rydym yn bwriadu darparu'r wybodaeth ddiweddaraf yn fwy ffurfiol i'r Aelodau cyn gynted ag y gallwn.

Roedd y cyfarwyddyd gwreiddiol o gyfarfod llawn Cyd-bwyllgor y Gweinidogion yn galw am adroddiad ar gynnydd ar gyfer cyfarfod Cyd-bwyllgor y Gweinidogion ym mis Mawrth eleni. Nawr, rwy'n siŵr na fyddwch yn synnu clywed nad oes dyddiad wedi'i bennu ar gyfer cyfarfod o'r fath. Ond buaswn yn gobeithio y byddwn mewn sefyllfa i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf pan gynhelir y cyfarfod hwnnw.

Nawr, er bod cynnydd ar yr adolygiad ffurfiol wedi bod yn arafach nag y byddem wedi'i ddymuno, mae yna ddatblygiadau calonogol yn fwy cyffredinol. Rydym yn sicrhau newid graddol o ran parodrwydd adrannau Whitehall i ymgysylltu'n ffurfiol gyda'r gweinyddiaethau datganoledig mewn ffordd ystyrlon lle ceir cyd-ddibyniaeth gref rhwng cymhwysedd datganoledig a chymhwysedd nad yw'n ddatganoledig—lle ceir grym amgylchiadol, mewn gwirionedd, o ganlyniad i Brexit. Mae yna gydnabyddiaeth gynyddol, er enghraifft, pan fo trafodaethau rhyngwladol yn debygol o arwain at newid polisi mewn meysydd sydd o fewn cymhwysedd datganoledig, fod rhaid ymgysylltu'n llawn ac yn briodol gyda'r sefydliadau datganoledig cyn, yn ystod ac ar ddiwedd negodiadau o'r fath er mwyn atal gwrthdaro cyfansoddiadol dilynol.

Credaf fod angen i ni fod yn realistig yma. Os ceisiwn fynnu bod yn rhaid i ni gael feto dros gytundebau rhyngwladol—rhywbeth nad yw'n digwydd mewn systemau hollol ffederal fel Awstralia a Chanada hyd yn oed—ni fyddwn yn llwyddo i wneud unrhyw gynnydd. Yn hytrach, fel Llywodraeth, byddwn yn parhau i ddadlau'n rymus am rôl ystyrlon mewn negodiadau ac am ymrwymiadau na fydd Llywodraeth y DU fel arfer yn ceisio gweithredu newdiadau yn uniongyrchol neu'n anuniongyrchol i ddeddfwriaeth o fewn cymhwysedd datganoledig nad ydym yn cytuno â hwy, ac am fecanweithiau i sicrhau, lle nad ydym yn cytuno, fod y Senedd yn cael gwahoddiad i ystyried ein gwrthwynebiadau yn llawn cyn awdurdodi cam gweithredu o'r fath.

Un peth sy'n arbennig o berthnasol i'n trafodaeth heddiw yw cytundeb yr Adran Masnach Ryngwladol i sefydlu fforwm gweinidogol ar fasnach, ac rwy'n cynrychioli Llywodraeth Cymru yn fforwm hwnnw. Fe fyddwch yn gwybod bod hwn yn fater a drafodwyd gyda'r pwyllgor materion allanol ddydd Llun yr wythnos hon. Ond mae'r ddadl hon yn canolbwyntio ar y cytundeb a gyflwynwyd gan y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, a fydd yn nodi'r wybodaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn ei darparu i'r Cynulliad ynglŷn â'r modd y mae'n cynnal ei chysylltiadau â gwledydd eraill y Deyrnas Unedig.

Yn y bôn, mae'r cytundeb yn cynnwys dwy brif elfen. Yn gyntaf, mae'n nodi sut y byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Cynulliad ar weithgaredd rhynglywodraethol ffurfiol fel y mae'n digwydd, fel petai, sy'n golygu y byddwn yn darparu gwybodaeth i'r Cynulliad am gyfranogiad Gweinidogion Cymru mewn strwythurau rhynglywodraethol anffurfiol. Mae hyn yn cynnwys trafodaethau a chytundebau ar fformatau amrywiol yng Nghyd-bwyllgor y Gweinidogion—er enghraifft, ei gyfarfod llawn, fformat penaethiaid Llywodraethau, negodiadau'r UE Cyd-bwyllgor y Gweinidogion, Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Ewrop) a'r fforwm gweinidogol ar y berthynas rhwng y DU â'r UE yn y dyfodol—ond mae hefyd yn cynnwys y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig, a bydd yn cynnwys fforymau rhyngweinidogol amlochrog a dwyochrog sefydlog neu ad hoc eraill o statws cyffelyb sy’n bodoli eisoes neu a allai gael eu sefydlu yn y dyfodol. Byddai hynny'n ymgrynhoi'r cyfarfodydd pedairochrog gweinidogol ffurfiol sy'n bodoli ar gyfer cyllid ac amaethyddiaeth, yn ogystal â fforymau newydd sy'n dod i'r amlwg ar draws nifer o feysydd portffolio.

Nawr, ar gyfer y fforymau hyn, mae'r cytundeb yn mynnu ein bod yn darparu hysbysiad ysgrifenedig i'r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol fis ymlaen llaw, a thestunau perthnasol, lle bo hynny'n bosibl. Byddwn yn sicr yn bodloni'r gofyniad hwnnw lle y gallwn, ond fel y mae Aelodau eraill wedi nodi heddiw, anaml y byddwn ni fel Llywodraeth yn cael cymaint â hynny o rybudd ynghylch dyddiad y cytunwyd arno ar gyfer fforymau o'r fath ein hunain. Felly, yn dilyn y cyfarfod, byddwn yn darparu crynodeb ysgrifenedig o'r materion a drafodwyd yn y cyfarfod o fewn pythefnos i'r cyfarfod hwnnw.

Mae ail elfen y cytundeb yn ymwneud â chynhyrchu adroddiad blynyddol. Bydd hwn yn crynhoi allbynnau allweddol o weithgarwch yn amodol ar ddarpariaethau'r cytundeb, ac yn rhoi sylwadau ar waith ehangach ar gysylltiadau rhynglywodraethol a gyflawnir yn ystod y flwyddyn honno.

16:00

Daeth y Dirprwy Lywydd i’r Gadair.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau tryloywder yn ei pherthynas gyda Llywodraethau eraill yn y Deyrnas Unedig. Rŷm ni'n cytuno y bydd darparu'r wybodaeth sydd wedi ei nodi yn y cytundeb hwn yn helpu'r Cynulliad yn ei rôl hollbwysig yn craffu ar waith Gweinidogion Cymru gyda'u swyddogion cyfatebol ar draws y Deyrnas Unedig. Rŷm ni'n croesawu'r ffaith bod y cytundeb hwn yn cydnabod ac yn parchu'r angen am drafodaethau cyfrinachol rhwng Llywodraethau. Rŷm ni wedi ymrwymo i rannu cymaint o wybodaeth ag sy'n briodol gyda'r Cynulliad, ond mae angen caniatáu lle ar gyfer trafodaethau preifat a chyfrinachol, ac rwy’n gwybod bod yr Aelodau yn deall hynny. Rŷm ni’n credu bod y cytundeb hwn wedi llwyddo i sicrhau'r cydbwysedd cywir rhwng yr angen am dryloywder, i helpu’r Cynulliad i gyflawni ei rôl craffu, a chyfrifoldebau’r Llywodraeth dros ei pherthynas gyda gweinyddiaethau eraill y Deyrnas Unedig, ac rydym ni’n croesawu’r ffaith ein bod ni’n cydnabod y materion ymarferol sy’n dylanwadu ar sut a phryd y gellir rhannu’r wybodaeth. Felly, rŷm ni’n falch o gadarnhau unwaith eto bod y Llywodraeth yn cefnogi’r cynnig heddiw. Diolch.

16:05

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar iawn am y cyfraniadau manwl a wnaed gan aelodau'r pwyllgor a chan Dai Rees, Cadeirydd y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol, a hefyd am yr ymateb manwl iawn gan y Llywodraeth.

Nid wyf yn twyllo fy hun, ac nid wyf yn credu bod yr un ohonom yn twyllo ein hunain, fod y trefniadau cyfansoddiadol a strwythurol hyn yn ennyn diddordeb enfawr ymhlith y cyhoedd, ac yn aml iawn, pan fyddaf yn edrych o amgylch y Siambr, nid yw'n ennyn diddordeb Aelodau'r Siambr chwaith. Felly, gallaf ddweud wrthych fod yr wyth munud a 30 eiliad sydd gennyf yn weddill i gau'r ddadl hon—ni fyddaf yn defnyddio'r cyfan ohono. Nid wyf am wneud i chi oddef hynny. Nid wyf yn meddwl fy mod erioed wedi curo drws lle mae aelod o'r cyhoedd wedi dod i'r drws ac wedi dweud wrthyf, 'A allwch ddweud wrthyf beth yw'r sefyllfa ddiweddaraf gyda'r trefniadau sefydliadol rhynglywodraethol a'r cydgyngor Gweinidogion, os gwelwch yn dda?' Ond natur y pethau hyn yw eu bod yn bwysig oherwydd eu bod yn creu'r fframwaith lle mae'r pŵer a arferwn yn y Siambr hon ar ran pobl Cymru yn cael ei ddwyn i gyfrif mewn gwirionedd—y ffordd yr ydym ni yn y Cynulliad hwn yn dwyn y Llywodraeth i gyfrif mewn amgylchedd lle rydym wedi gweld cryn dipyn o drosglwyddo pwerau.

Dyma yw'r union faterion sydd wedi arwain at ddatblygiad pwysig y trefniadau rhyngseneddol, lle'r ydym yn cyfarfod yn rheolaidd gyda'n pwyllgorau cyffredin ar gyfiawnder, materion cyfansoddiadol—gyda San Steffan, Tŷ'r Arglwyddi a'r Alban. Wynebwn yr un problemau yn union oherwydd, fel y gwyddom, cafwyd trosglwyddo pwerau sylweddol—pwerau Harri'r VIII—pwerau a oedd yn aml yn cael eu harfer heb fawr iawn o graffu. A chredaf y byddai pawb yn cytuno nad yw honno'n sefyllfa iach mewn Senedd ddemocrataidd, mewn cymdeithas ddemocrataidd, ond mae'n ganlyniad i'r hyn sy'n digwydd mewn perthynas â Brexit, a chrëwyd y fframweithiau hyn er mwyn manteisio i'r eithaf ar y cyfle sydd gan Aelodau etholedig i ddwyn y pwerau hynny i gyfrif. A'r hyn sydd wedi bod yn bwysig iawn o fewn y broses hon—ac rwy'n canmol y Llywodraeth am hyn—yw bod cydnabyddiaeth ar bob llaw ein bod mewn amgylchedd lle mae'n rhaid cael atebolrwydd, rhaid cael cymaint o dryloywder â phosibl, a dyna mae'r cytundeb hwn yn ceisio'i gyflawni.

Yn ddi-os ceir llawer o heriau ar hyd y ffordd, ac nid wyf yn bychanu'r heriau sy'n wynebu'r Llywodraeth o fewn hynny. Ein gwaith ni fel pwyllgor a'n gwaith ni fel Cynulliad yw dwyn y Llywodraeth i gyfrif—y ffordd mae'r Llywodraeth yn arfer ei phwerau—a cheir rhai rhesymau pwysig iawn pam y mae'n rhaid i hynny ddigwydd. Er enghraifft, ym maes cytundebau rhyngwladol yn awr, maes y gwn fod cyrff seneddol eraill yn edrych arno, yn ddiweddar wrth gwrs cawsom ddyfarniad yr Alban ym mater y ddeddfwriaeth barhad a aeth i'r Goruchaf Lys, lle mae'n amlwg yn gydnabyddedig fod cytuniadau rhyngwladol yn faterion a gedwir yn ôl i Lywodraeth y DU, ond mae gweithredu'r cytuniadau hynny mewn meysydd datganoledig yn faterion ar gyfer y Llywodraethau datganoledig ac i'r cyrff a etholir i ymgymryd â hynny. Felly, lle mae Llywodraeth bellach yn gorfod ymgysylltu â—a gwelwn hyn yn gyson bellach mewn Biliau sy'n cael eu cyflwyno o ganlyniad i Brexit—. Felly, lle mae Llywodraethau'n gorfod cymryd rhan mewn trafodaethau ac ymgynghoriadau dros y cyfnodau a fydd yn arwain at gytundebau sy'n rhwymo, ac i bob pwrpas yn rhwymo'r Cynulliad hwn i ddeddfwriaeth, yr unig gyfle a gawn mewn gwirionedd yw drwy gytundebau fel hyn a fydd yn ein galluogi i gael mynediad er mwyn gweld beth sy'n cael ei gynnig, pa gynigion sy'n cael eu datblygu, i'n galluogi i graffu ar hynny mewn gwirionedd, i roi mewnbwn, ac i roi llais i bobl Cymru drwy'r Cynulliad hwn yn y prosesau hynny.

Felly, mae a wnelo ag atebolrwydd o ran arfer pŵer, ac mae'r cytundeb hwn gerbron y Cynulliad heddiw i sicrhau ei fod wedi'i gofnodi, ei fod wedi'i gydnabod yn ffurfiol am yr hyn ydyw ac mai dyna'r fframwaith y bydd y Llywodraeth hon a'r Cynulliad hwn yn gweithredu o'i fewn dros y misoedd anodd, a'r blynyddoedd anodd yn ddi-os, sydd i ddod. Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd.

16:10

Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

8. Dadl Plaid Cymru: Adeiladu Tai Cymdeithasol yng Nghymru

Symudwn ymlaen at eitem 8, sef dadl Plaid Cymru ar adeiladu tai cymdeithasol yng Nghymru, a galwaf ar Leanne Wood i wneud y cynnig.

Cynnig NDM6978 Rhun ap Iorwerth

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn credu bod angen cynnydd sylweddol yn y raddfa adeiladu tai cymdeithasol yng Nghymru.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch. Rwy'n falch o agor y ddadl ar gynnig na ddylai fod yn un dadleuol. Rwyf am ddechrau drwy ailadrodd rhywbeth a ddywedais yn nadl y Ceidwadwyr ar dai ychydig fisoedd yn ôl. Rhwng 1997 a 2007, 825 yn unig o unedau newydd o dai cymdeithasol a adeiladwyd bob blwyddyn, ac nid yw hynny ond yn cynyddu i 850 bob blwyddyn yn y 10 mlynedd diwethaf. Ond mae Sefydliad Polisi Cyhoeddus Cymru yn amcangyfrif bod angen rhwng 3,300 a 4,200 o unedau ychwanegol o dai cymdeithasol arnom bob blwyddyn—850 o gartrefi yn unig a ninnau angen dros 4,000. Mae'r bwlch yn gwbl syfrdanol. Nid oedd neb yn anghytuno â'r ffigurau hynny ar y pryd ac nid wyf yn disgwyl i unrhyw un anghytuno â'r ffigurau hynny heddiw. Felly, yn hytrach, mae fy nghyd-Aelodau a minnau am ganolbwyntio ar y rhesymau pam nad ydym wedi gallu cyflawni dyhead yr ymddengys bod pawb ei eisiau.

Yn gyntaf oll, credaf fod angen rhywfaint o eglurhad ynglŷn â beth yn union rydym yn siarad amdano. Yn rhy aml, rydym wedi gweld y term 'tai fforddiadwy' yn cael ei ddefnyddio i olygu 'tai cymdeithasol', a honiad Llywodraeth Cymru yn sgil hynny ei bod ar y trywydd iawn i ddarparu 20,000 o gartrefi fforddiadwy. Ar hyn o bryd, rydym mewn sefyllfa lle caiff 'fforddiadwy' ei ddiffinio yng nghyd-destun nodyn cyngor technegol 2. Mae'r diffiniad hwn hefyd yn cynnwys cartrefi a berchnogir drwy gynlluniau rhannu ecwiti, gan gynnwys Cymorth i Brynu. Ers yr etholiad yn 2016 pan gyflwynwyd y targed o 20,000 o gartrefi fforddiadwy, golyga hyn y bydd y 3,458 o gartrefi a werthwyd drwy gyfrwng Cymorth i Brynu yn cael eu cyfrif tuag at y targed hwnnw. Nawr, mae hon yn broblem go iawn pan ystyriwn fod 1,390 o'r cartrefi hyn—sef 40 y cant o'r cartrefi hynny—wedi gwerthu am dros £200,000. Mae'n amlwg felly fod y term 'fforddiadwy' yn cael ei gamddefnyddio. Faint o brynwyr tro cyntaf a all gynilo a fforddio prynu cartref gwerth £200,000? Felly, dyna pam rydym wedi argymell creu targed ar gyfer 20,000 o gartrefi tai cymdeithasol newydd mewn tymor o Lywodraeth Plaid Cymru, i wahanu tai cymdeithasol oddi wrth y sector preifat. Rydym eisiau gwneud tai sector preifat yn fwy fforddiadwy i bobl sy'n rhentu ac i'r rhai sydd am brynu wrth gwrs, ac mae ein papur ar dai yn cynnwys llawer o syniadau ar gyfer gwneud yn union hynny. Ond heddiw, rwy'n canolbwyntio ar dai cymdeithasol yn ystyr briodol y term i gyfeirio at gartrefi sy'n eiddo i gymdeithasau tai ac awdurdodau lleol. Ac mae gwir angen rhagor arnom.

Mae'r cynnydd mewn digartrefedd dros y degawd diwethaf yn rhywbeth a nodwyd yn y Senedd hon ar sawl achlysur. Rydym wedi trafod yr angen am bolisi tai yn gyntaf wrth gwrs i sicrhau bod pawb yn cael cartref ac y gallwn roi diwedd ar gysgu allan. Ac wrth gwrs, mae Crisis eisoes wedi ysgrifennu cynllun cynhwysfawr ar gyfer gwneud hynny. Mae'r cynllun hwnnw'n dibynnu ar adeiladu rhagor o dai cymdeithasol, a'r realiti er hynny yw bod polisïau cyni wedi llesteirio gallu'r sector i adeiladu mwy o dai cymdeithasol. Mae toriadau i nawdd cymdeithasol, ac effaith gronnol y newidiadau i fudd-daliadau tai yn benodol, wedi newid model busnes cymdeithasau tai. Maent wedi wynebu llai o incwm o rent, sydd o bosibl wedi peryglu buddsoddiad mewn rhagor o gartrefi. Hefyd maent wedi gorfod wynebu cynnydd yn y costau gweinyddol o ymdrin â mwy o ddyledion, ac wrth gwrs, y costau sylweddol yn sgil ailgartrefu pobl yr effeithiwyd arnynt gan y dreth ystafell wely. Yn wir, mae cymdeithasau tai yn dweud bod y gost o ymdrin â dim ond y bobl anabl yr effeithiwyd arnynt gan y dreth ystafell wely yn £40 miliwn. Nid yw'n syndod na chawsom y buddsoddiad roedd ei angen arnom mewn tai cymdeithasol.

Ond mae cyni'n effeithio ymhellach ar argaeledd tai yn ogystal, ac mae hynny wedi ei gwneud yn llawer anos cynllunio'r gwasanaethau cyhoeddus angenrheidiol ar gyfer gwasanaethu datblygiadau tai newydd. Gadewch i ni ddychmygu bod dau gynnig ar gyfer datblygu yn cael eu cyflwyno i gymuned leol. Mae'r cyntaf ar gyfer ystâd o dai wedi'i chynllunio'n briodol gyda chymysgedd o dai cymdeithasol a thai sector preifat. Gyda'r cais, daw buddsoddiad sylweddol mewn trafnidiaeth, mannau gwyrdd, a chaiff ei gefnogi gan ysgol newydd a meddygfa. Mae'r ail gynnig ar gyfer ystâd a adeiladir gan un o'r datblygwyr mawr, gyda chwota bach wedi'i gadw yn ôl ar gyfer 'tai fforddiadwy' ac adran 106 sy'n jôc; ni cheir fawr o fannau gwyrdd, ac mae perfformiad blaenorol y datblygwr—na ellir ei ystyried yn fater perthnasol mewn cyfraith gynllunio, wrth gwrs—yn awgrymu y gallai'r ystâd fod heb ei chwblhau am flynyddoedd, gyda rhannau ohoni'n safle adeiladu mwdlyd a ffyrdd heb eu mabwysiadu, a bydd yn rhaid i'r gwasanaethau cyhoeddus presennol yn y gymuned ymdopi, oherwydd nid oes arian i'w fuddsoddi ar gyfer y gymuned newydd. Yn eich tyb chi, pa un o'r cynigion hyn fydd yn denu cefnogaeth y gymuned—

16:15

—a pha un o'r cynigion fydd yn ennyn gwrthwynebiad? A oeddech am ddweud rhywbeth?

Oeddwn, diolch. Hyd yn oed os yw'r cytundeb 106 yn dda iawn ar y dechrau, yr hyn a welwch yn aml, neu bron bob amser, yw'r datblygwr yn dod yn ôl a dweud, 'Nid wyf yn mynd i wneud digon o arian gyda'r cytundeb 106 hwn—a gawn ei newid? A gawn ni leihau nifer y tai fforddiadwy ac a gawn ni beidio ag adeiladu'r pethau hyn, oherwydd ni allwn ei fforddio, oherwydd mae'n debyg y bydd ein helw i lawr i £75,000 yr eiddo?'

Rwy'n cytuno, a dyna'n union pam y disgrifiais y cytundebau adran 106 hyn fel jôc lwyr. Dyna'n union pam y maent yn jôc.

Ein pwynt, hefyd, yw bod cyni wedi golygu ein bod wedi gweld mwy fyth o'r enghreifftiau a roddais yn yr ail enghraifft dros y degawd olaf nag a welsom o'r enghraifft gyntaf, gyda chanlyniadau rhagweladwy a diffyg ymddiriedaeth cynyddol rhwng cymunedau a chynllunwyr lleol. Dengys yr ystadegau ar adeiladu tai nad yw wedi darparu mwy o dai cymdeithasol. Nawr, nid yw'r system gynllunio bresennol a'r cyllid cyfyngedig sydd ar gael i awdurdodau lleol yn cyflawni'r hyn sydd ei angen arnom. Bydd fy nghyd-Aelodau yn ymhelaethu ar hyn ymhellach, ond mae'n eithaf amlwg nad yw dibynnu ar ymrwymiadau tai fforddiadwy, neu'r cytundebau adran 106 chwerthinllyd gyda datblygwyr tai, yn mynd i gyflawni'r hyn rydym ei angen. Felly, rhaid inni dynnu'r hualau oddi ar gymdeithasau tai ac awdurdodau lleol, a rhaid inni adael iddynt fenthyg yn fwy sylweddol er mwyn creu tai newydd.

Benthyca ar gyfer cyllid tai newydd yw un o'r mathau o ddyled sector cyhoeddus sy'n creu'r lleiaf o risg, ac mae'n well na bod ein cronfeydd pensiwn yn buddsoddi mewn, dyweder, tanwyddau ffosil, er enghraifft. Ond rhaid inni hefyd osgoi camgymeriadau'r gorffennol, a chreu getos o dai cymdeithasol sydd ar wahân i fathau eraill o dai. Felly, rydym yn argymell y dylid cynnal archwiliad o ddatblygiad y broses gynllunio. Ar hyn o bryd mae gennym broses o neilltuo safleoedd ar gyfer datblygu, ac agwedd laissez-faire wedyn tuag at bwy sy'n eu hadeiladu, heb unrhyw ystyriaeth i'r mathau o wasanaethau cyhoeddus a seilwaith sydd eu hangen i wneud cymunedau'n gynaliadwy ac i weithio'n iawn. Rwy'n parhau i ddweud mai jôc yw cytundebau adran 106, ac mae'r rhan fwyaf o ystadau'n parhau i fod yn llanastr am nifer o flynyddoedd, gyda ffyrdd heb eu mabwysiadu a gwaith anorffenedig—hunllef i'r bobl sy'n byw o'u cwmpas. Dyma ddull o weithredu sy'n aml yn dieithrio cymunedau o'r broses ac yn datblygu problemau ar gyfer y dyfodol, yn enwedig o ystyried y cyfnod maith o gyni rydym wedi'i gael.

Felly, rydym yn argymell dull gwahanol o weithredu. Rydym yn argymell dull cydweithredol o ymdrin â chynllunio lle dylai datblygwyr, cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol weithio'n gydweithredol ar ddatblygiadau newydd a phroses y cynlluniau datblygu lleol yn ei chyfanrwydd, gan nodi lleoliadau addas a'r gwasanaethau cyhoeddus y bydd eu hangen i wneud i gymunedau weithio. Bydd targed i sicrhau bod 40 y cant o unrhyw ddatblygiadau tai newydd yn dai cymdeithasol. Nawr, wrth hynny, nid ydym yn golygu 'Gosod y tai cymdeithasol ar un ochr i'r ffordd a'r tai sector preifat ar yr ochr arall'. Rydym yn golygu cymuned wirioneddol gymysg, wedi'i chynnal gan wasanaethau cyhoeddus da. Mae arnaf ofn ei fod yn ddull o weithredu sy'n anghydnaws â chyni, ond mae'n un sy'n gydnaws â diwallu anghenion tai go iawn Cymru, nid anghenion y datblygwyr yn unig.

Yn gyntaf, a gaf fi groesawu'r ddadl hon? Dyma'r ail ddadl i ni ei chael ar dai ers y Nadolig. A gaf fi ddweud pa mor falch wyf fi o ddechrau sôn am dai? Oherwydd credaf ei fod yn un o'r pethau pwysicaf. Ar ôl bwyd a diod, y peth pwysig nesaf i fywydau pobl yw tai. Felly, rwy'n credu ei bod yn wirioneddol bwysig inni ddechrau siarad am hyn. Gobeithio y bydd y ddadl nesaf yn ymwneud â strategaeth adeiladu tai Llywodraeth Cymru, i gynnwys adeiladu nifer fawr o dai cyngor.

Mae tai yn her fawr sy'n wynebu Prydain gyfan, gan gynnwys Cymru. Gellir rhannu'r cyfnod ar ôl y rhyfel yn ddau gyfnod o ran adeiladu tai. Yn gyntaf, y cyfnod o 1945 i 1980—yn ystod y cyfnod hwnnw, gwelsom dwf enfawr yn nifer yr ystadau o dai cyngor ac adeiladu nifer fawr o ystadau newydd mewn ardaloedd trefol. Hefyd, gwelsom dwf perchen-feddiannaeth a dechrau adeiladu ystadau preifat mawr, yn bennaf eto yn yr ardaloedd trefol mwy o faint.

Mae niferoedd tai cyngor wedi crebachu yn sgil gwerthu nifer fawr o dai a'r methiant i adeiladu rhai newydd. Cafwyd cynnydd sylweddol hefyd mewn eiddo cymdeithasau tai, ond nid yw'n ddigon i wneud iawn am y dirywiad mewn adeiladu tai cyngor. I'r bobl sydd â diddordeb dwfn mewn gwleidyddiaeth ac etholiadau, os edrychwch ar 'The British General Election of February 1974', y llyfr gan Butler a Kavanagh, fe welwch ei fod yn edrych ar nifer y tai a oedd yn dai cymdeithasol—neu 'dai cyngor' oedd y term a ddefnyddient bryd hynny, gan mai dyna oedd yr holl dai bron—a cheid nifer fawr o etholaethau lle'r oedd dros hanner y tai yn dai cyngor, ac yn yr Alban, roedd gennych etholaethau lle roedd rhwng 80 y cant a 90 y cant o'r tai yn dai cyngor. Dyna oedd y norm.

Mae niferoedd tai cyngor wedi crebachu—gwerthu niferoedd mawr a'r methiant i adeiladu rhai newydd. Cafwyd cynnydd sylweddol mewn eiddo cymdeithasau tai, ond nid hanner digon i lenwi'r bwlch a ddaeth yn sgil y dirywiad mewn adeiladu tai cyngor. O ganlyniad i newidiadau i fudd-daliadau, mae'r galw wedi cynyddu am gartrefi llai o faint. Ers 1980, rydym wedi gweld diwedd bron yn llwyr ar adeiladu tai cyngor, twf perchen-feddiannaeth, sydd i'w weld fel pe bai wedi arafu bellach, a thwf cymdeithasau tai yn landlordiaid pwysig. I'r bobl sy'n cofio nôl, arferai cymdeithasau tai fod yn sefydliadau bach, lleol a ddarparai dai. Nawr, mae un yn ymestyn o Gasnewydd i lawr i sir Benfro, mae un yn ymestyn o Gaerdydd i lawr at ymyl Cymru, ac mae un yn cwmpasu bron y cyfan o ogledd Cymru a chanolbarth Cymru.

Rydym wedi gweld gostyngiad yn nifer yr oedolion sy'n byw ym mhob eiddo ar gyfartaledd. Bu cynnydd mawr yn nifer yr aelwydydd un person a lleihad mawr ym maint teuluoedd. Cafodd gwerthu tai cyngor effaith ddifrifol ar y farchnad dai. Lleihaodd y cyflenwad o dai cyngor a chynyddodd y galw am eiddo cymdeithasau tai ac am eiddo rhent preifat. Mae hynny wedi creu cylch dieflig. Mae arian i'w wneud drwy ddarparu llety rhent preifat: mae pobl yn ei brynu, mae'n gwthio prisiau tai i fyny, mae'n gwneud pobl yn llai tebygol o allu cael cartref.

Cafwyd dau gyfnod yn yr ugeinfed ganrif pan oedd y cyflenwad tai yn llwyddo'n lled dda i fodloni'r galw a'r angen am dai. Y cyfnod cyntaf oedd rhwng y ddau ryfel byd, pan oedd dinasoedd yn ehangu'n llorweddol i ddatblygu maestrefi o gaeau glas a thrwy gymorth cymhellion y Llywodraeth, gallai adeiladwyr gynnig perchentyaeth fforddiadwy i bobl ar incwm canolig i isel. Pe baem am wneud yr un peth, byddai'n golygu rhoi diwedd ar yr holl reolau cynllunio. Nid wyf yn credu y byddai neb yn yr ystafell hon eisiau gweld diwedd ar yr holl reolau cynllunio.

Yr ail oedd y degawdau ar ôl yr ail ryfel byd, pan oedd bron hanner yr holl gartrefi a adeiladwyd yn dai cyngor a gâi eu hariannu gan gyllid cyhoeddus. Y sefyllfa sydd gennym yn awr yw bod angen inni ddychwelyd at hynny—at adeiladu nifer fawr o dai cyngor. Nid yw cymdeithasau tai yn mynd i lenwi'r bwlch. Pan fydd pobl yn sôn am dai cymdeithasol, yn rhy aml maent yn siarad am gymdeithasau tai. Mae angen inni gael cynghorau i adeiladu tai. Rydym wedi gweld hynny'n dechrau mewn mannau fel Abertawe. Cafwyd peth datblygu tai cyngor ar raddfa fach, ond heb fod yn agos at yr hyn a oedd yn digwydd rhwng 1945 a 1979. Nid wyf yn credu bod yr hyn sy'n cyfateb i flwyddyn o ddatblygu yn Abertawe wedi'i adeiladu yng Nghymru gyfan mewn unrhyw flwyddyn dros y 10 mlynedd diwethaf.

Mae adfywiad y gwaith o adeiladu tai cyngor yn wynebu rhwystrau mawr, gan gynnwys yr un amlwg, sef arian. Dywedodd Claire Bennie, pensaer a datblygwr tai, gynt o gymdeithas dai Peabody, y dylid caniatáu i gynghorau fenthyca mwy yn erbyn gwerth hirdymor eu datblygiadau, a chytunaf yn llwyr â hi. Dyna'r hyn a wnawn. Pan ewch i brynu tŷ, rydych yn benthyca yn erbyn gwerth hirdymor eich tŷ, a dyna beth yw morgais. Pam na ellir caniatáu i gynghorau wneud yr un peth?

Oni chawn adeiladu tai cyngor ar raddfa fawr, ni fyddwn yn datrys yr argyfwng tai. Bydd prisiau tai yn codi. Mae'n fanteisiol i ddatblygwyr beidio ag adeiladu digon o dai, oherwydd ei fod yn cadw prisiau'n uchel. Gall cymdeithasau tai helpu i ddatblygu tai cymdeithasol, a hoffwn weld rôl i gymdeithasau tai yn ailddechrau defnyddio eiddo gwag. Ond mewn gwirionedd, nid oes ond un ateb: adeiladu tai cyngor ar lefel sylweddol.

16:25

Ers blynyddoedd bellach, yr hyn a dderbynid yn gyffredinol oedd y byddai tai ar gyfer y farchnad a adeiledid gan ddatblygwyr yn sicrhau'r tai fforddiadwy sydd eu hangen i ateb y galw. Nawr, ar y meinciau hyn rydym am herio hynny, oherwydd, er yr holl addewidion a wnaed a'r targedau a osodwyd, nid yw'r cyflenwad wedi darparu'r niferoedd y mae galw amdanynt. Yn wir mae'r cyflenwad—fel y clywsom gan Leanne, nid yw'r cyflenwad o dai fforddiadwy yn cyfateb i'r niferoedd y rhoddwyd caniatâd ar eu cyfer dros y degawd diwethaf. Mae Stats Cymru yn dweud bod awdurdodau lleol wedi rhoi caniatâd cynllunio ar gyfer 13,355 o dai fforddiadwy, ond 6,746 yn unig a adeiladwyd mewn gwirionedd—ychydig dros 50 y cant. Mewn rhai awdurdodau, roedd y ffigur hyd yn oed yn waeth. Yn Wrecsam, er enghraifft, 16 y cant yn unig o'r rhai y rhoddwyd caniatâd cynllunio ar eu cyfer a gafodd eu darparu.

Mae cynghorau sydd â llai a llai o adnoddau yn dibynnu ar ddatblygwyr preifat i gyrraedd targedau ar gyfer tai fforddiadwy. Felly, pam fod cyn lleied o'r tai fforddiadwy hyn yn cael eu cyflenwi? Mewn rhai achosion, fel y clywsom, nid oes unrhyw amheuaeth fod datblygwyr yn ceisio camu'n ôl rhag gorfod cyflenwi tai fforddiadwy, sef 25 y cant fel arfer ar ddatblygiadau mwy o faint, drwy honni nad ydynt yn hyfyw yn ariannol. Byddant yn honni, a chânt eu cefnogi gan arolygwyr cynllunio, fod angen elw o 15 i 20 y cant er mwyn gwneud tai yn ariannol hyfyw. Rwy'n siwr y byddai llawer o ddiwydiannau eraill wrth eu bodd yn gallu dangos elw o 15 i 20 y cant.

Mewn achosion eraill, ni adeiladir tai ar gyfer y farchnad, ac felly ni adeiladir tai fforddiadwy mawr eu hangen, gan adael miloedd o bobl yn gaeth i restrau aros am dai mewn llety gorlawn neu wynebu digartrefedd cudd. Mewn rhai achosion, mae cymalau ynghlwm wrth dai fforddiadwy yn gofyn am flaendaliadau mawr er mwyn eu gwneud yn anfforddiadwy i'r union bobl y cawsant eu llunio ar eu cyfer. Mae'n amlwg o'r ystadegau rwyf newydd eu dyfynnu nad yw'r mecanwaith cyflenwi a ffafrir ar hyn o bryd ar gyfer tai fforddiadwy fel y'u gelwir yn gweithio. Nid tai ar y farchnad agored yw'r ffordd o gyflenwi tai fforddiadwy.

Mae hefyd yn amlwg bod dibynnu ar ddatblygwyr i arwain ar dai yn golygu bod cymunedau yn aml yn ôl-ystyriaeth yn ein proses gynllunio. Dylai cynlluniau datblygu lleol ymwneud â datblygiadau dan arweiniad y gymuned, nid cymunedau dan arweiniad datblygwyr. Dylent hefyd sicrhau bod y seilwaith cymunedol angenrheidiol, fel y dywedodd Leanne—boed yn ffyrdd, ysgolion, darpariaeth iechyd a darpariaeth gymdeithasol—yn cael ei ddatblygu ochr yn ochr ag unrhyw ddatblygiad ar raddfa fawr, ac nid fel ôl-ystyriaeth os o gwbl. Nid yw byrddau iechyd yn ymgyngoreion statudol hyd yn oed ar faterion cynllunio, er gwaethaf yr effaith enfawr y byddai poblogaethau newydd yn amlwg yn ei chael ar feddygfeydd meddygon teulu, ar adrannau damweiniau ac achosion brys ac ar wasanaethau ysbyty sydd oll o dan bwysau. Unwaith eto, heb y ddarpariaeth gywir, gall adeiladu cartrefi newydd fod yn drychinebus mewn rhai ardaloedd. Golyga cyfyngiadau ar y grant tai cymdeithasol a phwysau ariannol arall nad yw cymdeithasau tai yn darparu tai fforddiadwy fel yr arferent ei wneud.

Un llygedyn o oleuni yw bod rhai cynghorau yng Nghymru, am y tro cyntaf mewn cenhedlaeth, fel y clywsom, yn dechrau adeiladu tai cyngor unwaith eto. Mae sir Gaerfyrddin, Abertawe, sir y Fflint a Wrecsam, ymhlith eraill, wedi dechrau ailgyflenwi stociau tai sydd wedi crebachu, ond ar ôl degawdau heb unrhyw adeiladu newydd, mae'n broses boenus o araf, ac nid yw'n ateb yr angen dirfawr am dai yn llwyr mewn llawer o'n cymunedau. Hefyd nid yw'n mynd i'r afael â'r ffaith nad oes gan hanner ein hawdurdodau unrhyw dai cyngor bellach, oherwydd y polisi o drosglwyddo stoc a fabwysiadwyd dros ddegawd yn ôl. Tybed sut y mae'r cynghorau a drosglwyddodd eu stoc yn teimlo bellach gyda'r gallu i adeiladu tai newydd ar gael i'r rhai a gadwodd eu stoc dai. Un nodwedd bwysig, er na chaiff ei gwerthfawrogi'n llawn, yw'r ffaith nad rhaglen adeiladu yn unig yw hon: mae hi hefyd yn rhaglen prynu'n ôl, fel bod tai a oedd yn dai cyngor yn flaenorol yn cael eu prynu'n ôl i berchnogaeth cyngor.

Mewn rhai ardaloedd ni cheir cronfeydd digonol i adnewyddu tai. Ceir miloedd o gartrefi gwag ar draws Cymru, gyda llawer ohonynt yn eiddo i bobl heb fodd o adnewyddu fel y gellir eu gosod neu eu gwerthu. Mae cynllun ar raddfa fach yn bodoli lle mae cynghorau'n darparu benthyciadau o hyd at £50,000 i wneud y math hwn o waith. Caiff y benthyciad ei ad-dalu pan werthir y tŷ neu wrth ei osod, felly cedwir y pot, ond mae hyn yn galw am swyddogion i bwyso ar berchnogion tai a chysylltu â hwy i sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud, a chydag adnoddau cyfyngedig, nid yw'r math hwn o waith yn digwydd yn ddigon cyflym os o gwbl.

Felly, mae'n amlwg y ceir mwy nag un ffordd o fynd i'r afael â'r argyfwng tai cymdeithasol, ond mae angen inni gynyddu'r arian sydd ar gael i sicrhau bod mentrau'n cyflawni. Rwy'n ategu'r alwad heddiw am fwy o fuddsoddi mewn tai cymdeithasol, tai cyngor, i ateb y galw yn ein cymunedau ac i unioni'r cydbwysedd yn ein stoc dai. Mae'r degawd diwethaf wedi gweld cynnydd dramatig mewn tai rhent preifat, ac yn yr achosion gwaethaf nid yw'r rhain fawr gwell na landlordiaid slymiau yn gosod ystafelloedd am £90 i £100 yr wythnos. Mae diffyg tai o ansawdd da, fforddiadwy wedi caniatáu i'r mathau hyn o landlordiaid elwa ar drueni pobl. Nid adeilad yn unig yw cartref. Mae'n rhoi to uwch bennau pobl. Mae'n darparu sicrwydd a diogelwch. Mae cartref diogel yn galluogi teuluoedd i gynllunio ar gyfer y dyfodol, mae'n lleihau straen a dibyniaeth ar wasanaethau iechyd a gwasanaethau cymdeithasol. Mae angen inni weld y tu hwnt i frics a morter a deall effaith ehangach tai fforddiadwy o ansawdd da yn ein gwlad.

16:30

Rwy'n falch iawn fod y ddadl hon yn cael ei chynnal prynhawn yma a diolch i Blaid Cymru am ei chyflwyno, ac rwy'n meddwl bod angen inni ddatgan bod tai cymdeithasol yn elfen hanfodol o'r cyflenwad tai sydd ei angen arnom. Mae'n aml wedi arwain arloesi gwych yn ein hanes, wedi rhyddhau pobl a rhoi cartrefi addas iddynt allu byw ynddynt, ac mae'n bryd inni ailddatgan gwerth yr egwyddor o dai cymdeithasol. Croesawaf hefyd y raddfa y mae Plaid Cymru yn sôn amdani o ran beth fydd ei angen arnom yn y dyfodol, oherwydd mae'n agos iawn at ein hamcanestyniadau ni a'r hyn rydym ni wedi galw amdano yn y 2020au.

Rydym yn adeiladu ar y gyfradd isaf, yn wir, ers y 1920au. Rydym ymhell o dan—[Torri ar draws.] Fe ildiaf mewn eiliad. Rydym ymhell o dan y duedd hanesyddol, ac efallai nad ydym fawr dros ei hanner hyd yn oed. Ychydig dros chwarter y nifer o gartrefi a adeiladwyd gennym yn ymgyrchoedd adeiladu tai mawr y 1950au a'r 1960au a adeiladir gennym, felly mae angen inni siarad am raddfa ac adeiladu llawer iawn mwy o gartrefi cymdeithasol a chartrefi yn gyffredinol. Fe ildiaf.

Diolch. Rwy'n croesawu eich sylwadau ynglŷn â graddfa, ac fe ddywedoch fod y ffigurau rydym yn sôn amdanynt yn cyfateb yn fras i'ch ffigurau chi. A allwch egluro a yw eich ffigurau'n cyfeirio at dai fforddiadwy, neu a ydym yn sôn am dai cymdeithasol?

Yn gyntaf oll, mae'r dystiolaeth allan yno, felly nid yw'r rhain yn ffigurau rwyf wedi'u creu o ddim byd, neu eich bod chi wedi gwneud hynny. Gwn eich bod chi hefyd wedi cael eich dylanwadu'n fawr, fel y cefais i dair blynedd yn ôl, gan adroddiad yr Athro Holmans. Fy asesiad bras yw bod angen tua 40 y cant o gartrefi nad ydynt ar gyfer y farchnad a 60 y cant ar gyfer y farchnad, ac mae'n ymddangos mai dyna rydych chi'n galw amdano drwy gyd-ddigwyddiad—fe ddywedoch chi 20,000 o gartrefi cymdeithasol mewn tymor o bum mlynedd pe bai Plaid Cymru yn cael eu hethol yn yr etholiad nesaf, ac yn ôl fy nghyfrifiad i, mae hynny'n gadael 30,000 i gael eu darparu gan y farchnad, a bydd peth o hynny hefyd drwy gymorth y gwahanol gynlluniau. Ond mae'n well gennyf siarad am ddarpariaeth y farchnad a darpariaeth nad yw ar gyfer y farchnad. Tai cymdeithasol yn amlwg yw'r elfen nad yw ar gyfer farchnad o hynny, ond mae rhaniad 40:60 i'w weld i mi yn amcangyfrif rhesymol. Ac fel y nododd Mike yn gynharach, cafwyd adegau yn wir pan ydym wedi adeiladu mwy o dai heb fod ar gyfer farchnad na thai ar gyfer y farchnad. Felly, mae angen atebion; nid oes unrhyw ddiben dilyn ideoleg yn ddall. Mae angen cartrefi y gall pobl eu fforddio, boed yn eu prynu neu'n eu rhentu.

Efallai fy mod yn anghytuno â pheth o'ch pwyslais, er nad wyf yn credu bod hyn yn ein gwahanu o gwbl, yn yr ystyr fy mod yn meddwl bod yr hen fodel o ganiatáu i gynghorau adeiladu ystadau enfawr—er tegwch i chi, fe ddywedoch nad oeddech yn meddwl bod hwnnw'n fodel priodol a'ch bod am gael deiliadaeth gymysg a chynlluniau llai o faint mae'n debyg. Ond rwy'n credu bod angen i chi edrych ar gymdeithasau tai, am mai dyna'r prif adnodd sydd gennym ar hyn o bryd, ond hefyd cofiwch fod yna lawer o bobl bellach na fyddant yn cael y cartref gorau neu'r cartref y maent yn ei haeddu, y cartref sydd ei angen ar eu teuluoedd a'r gofod y bydd ei angen ar eu plant. Ni chânt hynny, er eu bod, o safbwynt hanesyddol, ymhell uwchben y trothwy ar gyfer tai cymdeithasol, am fod y farchnad wedi gwthio prisiau tai i fyny i'r fath raddau fel bod gennym bobl bellach sydd ar yr hyn y byddem mewn gwirionedd wedi eu hystyried yn gyflogau eithaf uchel, ac mae'r bobl hynny, rwy'n credu, yn mynd i fod angen modelau eraill. Mae modelau cydweithredol yn bwysig iawn yn fy marn i, a chânt eu defnyddio'n rhyngwladol. Soniodd Leanne am gronfeydd pensiwn yn buddsoddi yn y math hwn o ddarpariaeth, mae'n bur debyg—fflatiau mwy o faint ar gyfer bywyd teuluol, ond wedi'u rhentu'n hirdymor fel nad ydych, bob dwy neu dair blynedd, yn poeni a ydych yn mynd i gael aros yn eich cartref. Felly, mae angen llawer iawn o ddulliau o fynd i'r afael â hyn.

Ond un peth rwy'n credu sy'n wirioneddol bwysig yw ein bod yn symud tuag at gonsensws. Rydym wedi bod yn dadlau am hyn yn rhy hir, ac nid oes gan Lywodraeth Cymru hanes gwych o adeiladu tai—dylwn sibrwd y tamaid hwn yn awr ac rwy'n gobeithio nad yw fy nghyd-Aelodau'n gwrando—ond nid oes gan Lywodraeth y DU hanes gwych ar hyn chwaith. Ers yr argyfwng ariannol yn y DU, buaswn yn dweud nad ydym wedi bod yn adeiladu digon o dai, ac mae angen inni ddechrau gwneud hynny.

A gaf fi orffen drwy ddweud bod rhai methiannau yn y farchnad, heb unrhyw amheuaeth? Nid yw'r farchnad at ei gilydd wedi rhoi'r holl atebion sydd eu hangen arnom, ac mae rhai datblygwyr gwael i'w cael, ond nid ydynt i gyd yn wael. Mae'r syniad hwn fod yr holl ystadau preifat newydd hyn rywsut yn flotyn ar y dirwedd, nad oes ganddynt seilwaith da, ac nad yw'r awdurdodau cynllunio wedi cynnwys darpariaeth ysgol: hynny yw, nid yw hynny'n nodweddiadol o'r math o ddatblygiad a gawn yn y DU ac yng Nghymru o dan ddwy Lywodraeth. Mae gennym system gynllunio sydd wedi'i llunio'n dynn iawn ac mae'n cyflawni at ei gilydd, ond rwy'n derbyn y pwynt fod achosion wedi bod lle gwelwyd arferion gwael iawn, ac yn sicr mae angen mwy o ddatblygwyr, busnesau bach a chanolig i ddefnyddio safleoedd llai o faint, a mwy o gefnogaeth gymunedol fel bod pobl yn sylweddoli bod eu cymunedau hwy'n mynd i elwa drwy fod pobl yn cael mynediad at dai gweddus. Diolch ichi eich amynedd, Ddirprwy Lywydd.

16:35

Diolch yn fawr. Mae hi'n hollol glir i ni ym Mhlaid Cymru ein bod ni angen mwy o dai cymdeithasol neu dai cyngor—beth bynnag dŷn ni'n mynd i'w galw nhw, dŷn ni'n gwybod am beth dŷn ni'n siarad. Yn fy ardal i, mae 2,000 o deuluoedd ar y rhestr aros yng Ngwynedd am dai cymdeithasol. Mae fy nghymorthfeydd i'n llawn o bobl sy'n byw mewn amodau annerbyniol, mewn tai rhent preifat, sy'n damp, sy'n rhy fach, sy'n ddrud i'w gwresogi gan greu tlodi tanwydd, neu mae teuluoedd yn dod ataf i sy'n gorfod rhannu cartref efo'u rhieni neu berthnasau neu ffrindiau. Mae gormod o bobl mewn tai sy'n rhy fach i'w hanghenion, ac mae hyn, yn ei dro, yn effeithio ar eu lles cyffredinol nhw ac mae addysg plant y teuluoedd yma'n dioddef.

Dwi'n mynd i ganolbwyntio ar ddwy agwedd y prynhawn yma. Mae gennym ni system gynllunio yng Nghymru sydd yn gweithio o blaid buddiannau datblygwyr tai mawr. Oes, mae angen iddyn nhw ymrwymo i godi ychydig o dai fforddiadwy dan gytundebau 106, a dŷn ni wedi clywed am y rheini yn barod ac fel mae datblygwyr yn gallu dod i ffwrdd o'r ymrwymiad beth bynnag, ond hyd yn oed os ydyn nhw'n cadw at yr ymrwymiad, ychydig o dai ychwanegol sydd yn cael eu codi yn sgil y cymhwyster yna. Mae angen cyfundrefn gynllunio yng Nghymru sy'n rhoi anghenion lleol—anghenion tai pobl leol yn ganolog i'r polisïau. Mae Plaid Cymru'n ddiweddar wedi mabwysiadu set gynhwysfawr o bolisïau fyddai'n gwneud yn union hynny: yn rhoi'r angen i godi tai addas yn y llefydd addas fel blaenoriaeth.

Yn Ngwynedd, mae'r bobl sydd â'r angen mwyaf am dai yn aml ar gyflogau isel a chyflogaeth ansicr. Mae hyn, wrth gwrs, yn rhwystr anferth ac yn un na ellir ei oresgyn drwy ddatrysiadau syml, sef jest drwy gynyddu'r cyflenwad o dai yn sylweddol. Mae'n rhaid i'r cyflenwad fod o'r math cywir, ac mae'n rhaid i'r tai fod yn y llefydd cywir.

Mae gormodedd o dai mawr, drudfawr mewn rhai ardaloedd yn golygu bod teuluoedd lleol yn cael eu prisio allan o'r farchnad, ac mae gan hyn, wrth gwrs, oblygiadau i'r iaith Gymraeg yn fy ardal i, wrth i bobl ifanc lleol orfod symud allan. Ar y llaw arall, mae prinder tai o'r math cywir hefyd yn golygu bod pobl leol dan anfantais.

Mae cynnydd mewn nifer ail gartrefi hefyd yn prisio pobl leol allan o'r farchnad mewn nifer cynyddol o gymunedau. Er mwyn ceisio taclo'r broblem yma, mae wyth awdurdod lleol bellach yn codi premiwm treth cyngor ar ail gartrefi. Daeth hyn yn bosib o dan Ddeddf Tai (Cymru) 2014. Ond, yn anffodus, mae bron i 800 o'r perchnogion ail gartrefi hyn—yng Ngwynedd yn unig—wedi canfod ffordd i osgoi talu unrhyw drethi i'r pwrs cyhoeddus. Maen nhw'n cofrestru eu hail gartrefi fel busnesau bach, ac, yn sgil yr anomali yn y system, does dim rhaid iddyn nhw dalu'r un geiniog o dreth am eu bod nhw'n gallu cael rhyddhad ardrethi busnes. Dwi wedi galw hyn yn sgandal. Dwi wedi bod yn codi'r broblem yma efo'r Llywodraeth ers amser. Dwi yn deall bod yna adolygiad ar y gweill gan y Llywodraeth, a dwi yn gofyn ichi gynnwys yn yr adolygiad yma'r loophole yma, fel ein bod ni yn canfod ffordd o ddatrys y broblem yma.

16:40

Diolch. Y cyfan sydd ei angen mewn gwirionedd yw i'r Llywodraeth ddiddymu rhyddhad ardrethi ar dai i fusnesau bach.

Wel, mae hynna'n un ffordd. Ers imi godi'r mater yma, mae wedi fy rhyfeddu i faint o bobl sydd wedi cysylltu efo fi ac sydd wedi cynnig gwahanol ffyrdd o ddatrys y broblem. Dŷch chi wedi sôn am un ffordd—mae yna bobl yn cynnig ffyrdd eraill. Mae yna ffordd o sortio hyn allan. Beth sydd angen ydy ewyllys gan y Llywodraeth i sortio'r broblem, a'r Llywodraeth ddylai fod yn arwain y ffordd i ganfod yr ateb. Hyd yma, dydy'r ewyllys yna ddim wedi bod yn amlwg i mi, ond dwi yn gobeithio yn fawr iawn y gallwn ni gael trafodaethau manwl ynglŷn â beth yn union ellid ei wneud.

Mae yna rywbeth yn hollol anghywir mewn sefyllfa lle mae 2,000 o bobl yn byw mewn amodau gwael, tra bod 800 o'r 5,000 o berchnogion ail gartrefi yn yr un sir yn chwarae'r system i'w mantais eu hunain ac yn osgoi talu trethi cyngor. Mi allai'r arian hwnnw—cyfanswm o dros £1 miliwn y flwyddyn—ynghyd â'r premiwm tai cyngor, a fyddai'n dod â miliynau eraill, fod yn gyfraniad pwysig tuag at adeiladu mwy o dai addas i bobl leol yng Ngwynedd.

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n croesawu'r ddadl hon, er fy mod wedi taflu fy mhapurau dros y llawr yn y modd mwyaf anweddus, felly rwy'n ymddiheuro am hynny. [Chwerthin.] Diolch i chi, Vaughan.

Rydym yn gwbl ymroddedig yn Llywodraeth Cymru i ddarparu tai cymdeithasol gan gynghorau yn ogystal â landlordiaid cymdeithasol cofrestredig. Gwyddom fod angen brys am dai ychwanegol ar gyfer rhentu cymdeithasol ledled Cymru. Nid wyf am hollti blew ynglŷn â'r ffigurau. Gwyddom fod angen llawer, a'u bod yn y miloedd ac nid y cannoedd, felly yn hytrach na dadlau ynghylch niferoedd unigol mae'n bendant yn y miloedd, ac yn sicr rydym am gydnabod hynny. I fod yn gwbl glir, mae darparu tai cymdeithasol ychwanegol yn flaenoriaeth sylfaenol i'r Llywodraeth hon, a dyna pam rwy'n hapus iawn i gefnogi cynnig Plaid Cymru heddiw.

Rwy'n croesawu'r cyfraniadau gan yr holl Aelodau heddiw. Mae pob un ohonom—'y rhan fwyaf ohonom' sydd gennyf wedi'i ysgrifennu yma, ond mewn gwirionedd, rwy'n falch o allu dweud y bydd pob un ohonom yn rhannu'r nod o greu mwy o dai cymdeithasol i'w rhentu. Mae yna gwestiynau pwysig ynglŷn â sut i sicrhau'r cyllid iawn, y cynllun iawn a'r lleoliad iawn, ac yn sicr rwyf wedi bod yn hynod o awyddus i wrando ar y cyfraniadau'n ofalus yn y ddadl heddiw er mwyn nodi'r holl syniadau a gwneud yn siŵr y gallwn eu datblygu. Rwy'n hapus iawn i ddweud nad wyf wedi clywed unrhyw beth yn y ddadl heddiw nad wyf yn hapus i'w gefnogi, a buaswn yn croesawu trafodaethau manwl gyda phob un ohonoch ynglŷn â sut y gallwn ddatblygu rhai o'r syniadau hyn.

Rwyf wedi gweld, a gwn fod pawb yn y Siambr wedi gweld drostynt eu hunain, yr effaith y gall cael man diogel a fforddiadwy o ansawdd da i fyw ynddo ei chael ar rywun, yn enwedig rhywun a allai fod yn agored i niwed neu sy'n cael trafferth i ymdopi â heriau gwahanol o bosibl, ond mewn gwirionedd, yr effaith y gall hynny ei chael ar bawb—mae'n angen sylfaenol, ac rwy'n credu mai Mike Hedges a ddywedodd fod arnom angen bwyd, diod a lle i fyw, ac mae hynny'n hollol gywir.

Gall tai cymdeithasol ddarparu nid yn unig cartrefi o ansawdd, ond y cymorth sydd ei angen i sicrhau y gall pobl gynnal tenantiaeth a ffynnu ynddi. Gall effeithio'n gadarnhaol ar iechyd, iechyd meddwl ac addysg, a dyna pam, yng Nghymru, nad ydym erioed wedi symud oddi wrth gymorth ar gyfer tai cymdeithasol, byth ers i'r Cynulliad ddod i fodolaeth, a chyn hynny yn wir. Dyna pam ein bod wedi gosod targed ar gyfer darparu cartrefi fforddiadwy yn ystod y tymor llywodraeth blaenorol, a llwyddasom i gyrraedd y targed hwnnw, ac rydym wedi ymestyn y targed i 20,000 o gartrefi yn y tymor hwn.

Fel y dywedodd Leanne Wood, mae'r targed o 20,000 yn cynnwys cynlluniau gyda'r nod o helpu pobl i brynu cartrefi, yn bennaf y cynlluniau Cymorth i Brynu a Rhentu i Brynu, ond hefyd mae'n cynnwys cyfran fawr iawn o gartrefi rhent cymdeithasol. Efallai y bydd yn syndod i Leanne Wood weld nad wyf yn anghytuno â fawr o'r hyn a ddywedodd. Rydym wedi cynnwys Cymorth i Brynu oherwydd bod cael mynediad at berchentyaeth wedi dod yn anodd iawn ei gyflawni i lawer o bobl yn y 15 i 20 mlynedd diwethaf. Soniodd David Melding am rymoedd y farchnad yn ysgogi rhywfaint o hynny, a bu'n rhaid inni ymateb i hynny.

Ond cartrefi rhent cymdeithasol yw'r gyfran fwyaf o bell ffordd o'r targed o 20,000, a buaswn yn awyddus iawn i weld y targed hwnnw'n cael ei ymestyn gan fod gennym amodau ychydig yn wahanol ar waith bellach. Rwy'n hyderus y byddwn yn cyflawni'r ymrwymiad hwnnw mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig, sydd wedi gwneud buddsoddiad mwy nag erioed o £1.7 biliwn mewn tai yn ystod tymor y Cynulliad hwn, sy'n swm sylweddol ac sy'n cael effaith enfawr ar y cyflenwad o dai cymdeithasol.

Yn 2017-18, cafodd dros hanner y cartrefi fforddiadwy newydd a adeiladwyd yng Nghymru eu darparu drwy grant cyfalaf gan Lywodraeth Cymru. Roedd y mwyafrif helaeth o'r rheini yn wir ar gyfer rhent cymdeithasol, ac rydym yn argyhoeddedig mai dyna'r flaenoriaeth gywir. Hefyd, mae angen cyfradd uwch o gymhorthdal cyhoeddus ar gyfer cartrefi rhent cymdeithasol na mathau eraill o dai fforddiadwy, ond maent yn hanfodol er mwyn diwallu amrywiaeth o anghenion tai ar draws ein cymunedau, ac mae hwnnw'n amlwg yn safbwynt a rennir yn y Cynulliad, ac rwy'n falch iawn ynglŷn â hynny.

Gellir gwneud rhai tai'n fwy fforddiadwy i rai pobl drwy roi cymhorthdal ar gyfer tai sydd ar werth, ac mewn gwirionedd, mae ein cynllun Cymorth i Brynu yn wahanol iawn i'r proffiliau a welwch yn Lloegr. Felly, mae llawer mwy ohono ar gyfer prynwyr tro cyntaf—tua 80 y cant, mewn gwirionedd. Yn fwriadol, mae gennym bolisi sy'n caniatáu i bobl gael y tai y maent eu heisiau. Mae pris y tai hynny'n fater diddorol, ac nid wyf yn anghytuno'n sylfaenol â'r hyn roedd Leanne Wood yn ei ddweud ynglŷn â sut i fesur hynny. Ond yr hyn sydd angen inni ei wneud mewn gwirionedd yw adeiladu llawer iawn mwy o dai cymdeithasol. Felly, rydym yn falch iawn o weld bod Llywodraeth y DU wedi dod at ei choed o'r diwedd ac wedi sylweddoli nad yw cael cap artiffisial ar y swm o arian y gallwch ei fenthyg i adeiladu tai yn beth synhwyrol i'w wneud. Credaf y byddai David Melding yn cytuno â mi, mewn gwirionedd, y byddai cael gwared ar y cap er mwyn galluogi cynghorau i fenthyca er mwyn buddsoddi mewn tai yn beth da. Credaf eich bod chi fwy neu lai wedi dweud hynny yn eich araith. Yn amlwg, mae Llywodraeth y DU wedi gweld y goleuni, os mynnwch, ar hynny o'r diwedd.

Felly, rydym yn bwriadu gweithio'n galed iawn gyda'n cynghorau ledled Cymru i adeiladu tai cyngor ar raddfa fawr, a lle mae'r cyngor wedi allanoli ei stoc dai, i helpu eu landlordiaid cymdeithasol cofrestredig gyda'u benthyca darbodus.

16:45

Rwy'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am dderbyn ymyriad. A fyddech yn cytuno ei bod yn hanfodol fod yr adeiladau newydd hyn o ansawdd uchel a'n bod wedi gweld rhai tai cymdeithasol o ansawdd isel iawn yn cael eu hadeiladu yn ail hanner y ganrif ddiwethaf, tai nad oeddent yn ddymunol i neb fyw ynddynt? Rwy'n credu bod hynny hefyd wedi cyfrannu at y stigma ynghylch rhentu, a chredaf y byddai pawb ohonom yn cytuno bod angen inni gael gwared ar hynny. Mae angen inni adeiladu tai cymdeithasol o ansawdd digon da i bobl allu teimlo'n falch eu bod yn byw ynddynt fel cartrefi gydol oes.

Yn hollol, ac wrth wneud hynny, gallwn gael gwared ar nifer o broblemau eraill. Fel y dywedais, gallwn gael gwared ar broblemau iechyd, problemau iechyd meddwl, gallwn gael gwared ar broblemau tlodi tanwydd, problemau dyled ac ati drwy adeiladu tai o'r safon iawn. Ac a dweud y gwir, gallwn gyfrannu at beidio â lladd ein planed drwy adeiladu tai sy'n gollwng gwres allan i'r aer heb reswm ac ati. Felly, mae nifer o bethau y gallwn eu gwneud gyda thai o ansawdd da, ac mae angen inni ymgymryd â'r gwaith hwnnw. Gan fod Llywodraeth y DU bellach wedi newid rhai o'r paramedrau ar gyfer cynhyrchu cyfalaf inni allu gwneud hynny, mae angen inni fwrw ati i'w wneud yn gyflym ac ar raddfa fawr. Mae Hannah Blythyn a minnau wedi teithio o gwmpas y cynghorau, fel sy'n draddodiadol i bobl sy'n ymgymryd â'r portffolio llywodraeth leol, ac ym mhob cyngor y buom yn cyfarfod â hwy hyd yma, ac yng Nghymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, cawsom ein cyfarch yn frwd iawn ar draws y sbectrwm gwleidyddol i fwrw ymlaen ag adeiladu tai cymdeithasol yn gyflym ac ar raddfa fawr. Felly, mater i ni yw sicrhau bod y set iawn o reolau ar waith mewn perthynas â rheoli asedau a'r defnydd o dir ac ati i alluogi hynny i ddigwydd.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n falch iawn o ddweud wrth y Cynulliad ein bod yn gweithio'n galed iawn, er enghraifft, ar newid y rheolau ynghylch defnyddio tir cyhoeddus ar gyfer tai cymdeithasol ar draws Cymru. Efallai y bydd rhai ohonoch yn gyfarwydd ag astudiaeth ym mwrdd iechyd Cwm Taf a gomisiynwyd gan y Prif Weinidog pan oedd mewn swydd flaenorol—ni allaf gofio pa un; gwasanaethau cyhoeddus, rwy'n credu—sy'n defnyddio porth GPS Lle y Llywodraeth i fapio tir cyhoeddus ar draws ardal y bwrdd iechyd. Rydym yn edrych ymlaen at gyflwyno hwnnw ar draws Cymru fel y gallwn weld pa dir cyhoeddus sydd ar gael er mwyn cael gwared ar rywfaint o'r gost gyfalaf o allu cyflwyno tai cymdeithasol—a mathau eraill o ddeiliadaeth.

Mae amryw o bobl o amgylch y Siambr heddiw, Ddirprwy Lywydd, wedi sôn am fathau eraill o ddeiliadaeth, ac rydym yn awyddus iawn i weld hynny. Maddeuwch i mi; ni allaf gofio pa Aelod Cynulliad a ddywedodd hyn, ond holl bwynt hyn yw gwneud cymuned gynaliadwy. Felly, peidio â chael getos o ardaloedd lle nad oes ond un math o ddeiliadaeth ond cael deiliadaethau cymysg cyflawn, cymunedau cynaliadwy, ac yn gymysg o'u mewn yn ogystal. Credaf mai Leanne Wood a ddywedodd, 'Heb ffordd yn eu rhannu yn y canol ond cymuned gymysg gynaliadwy'. Ac yn hynny o beth, mae gennym sawl math arall o waith yn mynd rhagddo. Felly, er enghraifft, rydym yn gwario £90 miliwn ar ein rhaglen tai arloesol, yn edrych ar ffyrdd newydd o ddarparu cartrefi. Mae'r gronfa gofal integredig gwerth £105 miliwn yn dechrau cefnogi atebion a arweinir gan ystyriaethau'n ymwneud â llety i ofal cymdeithasol ochr yn ochr â rhaglenni tai ac iechyd, ac wrth gwrs, mae gennym £134 miliwn eleni yn ein rhaglen grant tai cymdeithasol. A'r hyn rwyf am ei bwysleisio drwy hynny, Ddirprwy Lywydd, yw nad ydynt yn rhaglenni ar wahân—maent yn rhaglenni a gynlluniwyd i gynhyrchu gwahanol fathau o dai, ond nid oes dim i rwystro'r rhain rhag bod mewn cymuned gynaliadwy gyda'i gilydd.

Ac mae gennym ein rhaglen hunanadeiladu arloesol hefyd. Gwnaeth yr hyn a ddywedodd Siân Gwenllian am bobl leol yn cael eu gyrru allan gan berchnogaeth ail gartrefi argraff fawr arnaf, ac rydym yn awyddus iawn i sicrhau y gall awdurdodau adeiladu tai cymdeithasol ar blotiau bach mewn ardaloedd anheddu pentrefol ac ati, a fyddai'n galluogi pobl i gael mynediad at dai cymdeithasol, a thai ar yr ysgol dai hefyd os mynnwch—eu helpu i gael troed ar yr ysgol i wneud hynny.

16:50

Os caf roi darlun o ddifrifoldeb y sefyllfa, amcangyfrifir bod traean y tai a werthwyd yn fy etholaeth i yn y flwyddyn ddiwethaf wedi'u gwerthu fel ail gartrefi. Mae hynny'n cael effaith glir a niweidiol ar y farchnad dai leol.

Ydy, yn wir. Gall ail gartrefi ddod â chyfoeth yn eu sgil yn ogystal, ond mae angen inni sicrhau hefyd y gall pobl leol gael cartrefi gweddus i fyw ynddynt. Rwy'n awyddus iawn i weithio gyda chi ar nifer o'r pethau a godwyd heddiw—nid af drwy bob un ohonynt neu fe fydd y Dirprwy Lywydd yn sicr o golli amynedd gyda mi. Ond yn amlwg, mae'r ddadl hon wedi dangos bod nifer fawr o bethau arloesol y gallem eu gwneud i gael ein cynghorau a'n landlordiaid cymdeithasol i ddechrau darparu'r tai cymdeithasol sydd cymaint o'u hangen ar Gymru, a hynny'n gyflym ac ar raddfa fawr. Diolch.

Diolch i bawb. Diolch i bawb am eu cyfraniadau, yn enwedig y rheini sy'n cefnogi hanfod ein dadl. Rwy'n arbennig o ddiolchgar i'r Gweinidog am fod mor agored i gynifer o'n hawgrymiadau. Rwyf hefyd yn croesawu'r awgrym ynglŷn â defnyddio'r system ardrethi busnes i fynd i'r afael â phroblem ail gartrefi. Nid yw'n anodd, ac mewn gwirionedd mae'n rhywbeth y gellid ei wneud ar unwaith.

Nawr, yn ogystal â chynyddu niferoedd tai cymdeithasol, rydym yn cynnig y dylid defnyddio pedair ffynhonnell gyflenwi arall a argymhellwyd gan ein papur ar dai er mwyn helpu i gynyddu'r stoc dai yn y sectorau preifat a chymdeithasol, a gobeithiaf fod hynny'n profi nad mater o ideoleg yw hyn i ni.

Yn gyntaf, i gydnabod yr heriau demograffig a fydd yn wynebu ein system gofal cymdeithasol ac iechyd, rydym yn argymell y dylid creu system o bentrefi gofal cymdeithasol Sgandinafaidd a fydd yn darparu gofal cymdeithasol ac yn helpu pobl i fyw'n annibynnol mewn cartrefi addas. Unwaith eto, mae ariannu hyn yn ddefnydd da o bwerau benthyca a bydd hefyd yn ysgogi'r economi sylfaenol.

Yn ail, rydym eisiau annog modelau tai mwy cydweithredol y gellid eu defnyddio, yn arbennig, fel tai canolradd neu dai ar gyfer grwpiau penodol o bobl fel rhan o fodel o fath tai yn gyntaf.

Yn drydydd, dylem annog hunanadeiladu ar raddfa lai a datblygiadau o fath ecogartrefi, a rhoi hwb i'r hyn sy'n mynd i fod yn ddiwydiant a fydd yn tyfu yn y dyfodol. Unwaith eto, mae'n werth cymharu a chyferbynnu ansawdd a safonau tai mewn ecobentrefi â'r arferion gwael a welsom mewn rhai o'r ystadau newydd y cyfeiriwyd atynt y prynhawn yma.

Yn olaf, rydym eisiau gweld llawer mwy o ymdrech i ailddechrau defnyddio eiddo gwag. Mae'n ymddangos bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi'r gorau i'w gwneud hi'n ofynnol i awdurdodau lleol adrodd ar hyn, gan fod y ffigurau diweddaraf ar hyn ar gyfer 2016, ond maent yn dangos bod 26,500 eiddo'n wag, ac mae'r duedd ar gynnydd. Eto i gyd, er bod ganddynt bwerau i orfodi premiymau treth gyngor ar gartrefi gwag, o ganlyniad i Ddeddf tai 2014, canfu ein cwestiynau ysgrifenedig mai naw yn unig o'r 22 o awdurdodau lleol sy'n bwriadu gosod premiwm ar gartrefi gwag. Yn wir, dangosodd ein cwestiynau ysgrifenedig hefyd fod 14 o awdurdodau lleol—mwy na'u hanner—yn bwriadu darparu disgownt treth gyngor ar gartrefi gwag.

Nawr, efallai y bydd y rhai sylwgar yn eich plith wedi nodi bod hynny'n gwneud 23 awdurdod lleol, sy'n golygu naill ai bod Llywodraeth Cymru wedi darparu gwybodaeth anghywir ar ein cyfer, neu fod yna awdurdod lleol yn rhywle sy'n rhoi disgownt ar gyfer cartrefi gwag ac yn codi tâl premiwm ar gartrefi gwag, sy'n ymddangos braidd yn rhyfedd, er ei fod yn gyfreithiol bosibl, mae'n debyg, yn dibynnu ar faint o amser y bydd adeilad yn wag. Ond mae'n dangos nad yw'r pwerau hyn yn cael eu defnyddio, ac yn ôl y wybodaeth sydd gennym, weithiau nid yw swyddogion yn ymwybodol hyd yn oed eu bod yn cael gosod premiwm treth gyngor.

Felly, mae'n amlwg bod yna broblem cyfathrebu yma ac yn amlwg, mae yna broblem o ran cyflenwi yn ogystal, o ystyried sut y mae amryw o Weinidogion tai wedi addo mynd i'r afael â phroblem cartrefi gwag. Mae hyn ar gyfer polisi nad yw'n costio unrhyw arian a gellid ei wneud yfory, felly os yw'r Llywodraeth yn methu cyflawni hynny, sut ar y ddaear y gellir ymddiried ynddi i gyflawni prosiectau drud a thrawsnewidiol?

16:55

Diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

9. Dadl ar ddeiseb P-05-849 Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy'r GIG at y profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad

Symudwn ymlaen yn awr at eitem 9, sef dadl ar ddeiseb P-05-849, 'Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy'r GIG at y profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad'. Galwaf ar Gadeirydd y pwyllgor i wneud y cynnig—David Rowlands.

Cynnig NDM6982 David J. Rowlands

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

Yn nodi’r ddeiseb ‘P-05-849 Dylai pob dyn yng Nghymru gael mynediad drwy'r GIG at y profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad’ a gasglodd 6,345 o lofnodion.

Cynigiwyd y cynnig.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Bydd y ddadl heno yn canolbwyntio ar ddeiseb a gyflwynwyd gan Stuart Davies, sy'n byw yn etholaeth De Clwyd. Mae'n galw am sicrhau bod pob dyn yng Nghymru yn cael mynediad drwy'r GIG at y profion diagnostig gorau posibl ar gyfer canser y prostad. Ceir 6,345 o lofnodion ar y ddeiseb, ac mae'r Pwyllgor Deisebau yn ddiolchgar am y cyfle i gyflwyno'r ddeiseb hon i'r Cynulliad heddiw, o dan y broses lle mae'r pwyllgor yn ystyried rhinweddau cynnal dadl ar ddeiseb sy'n denu mwy na 5,000 o lofnodion.

Mae'n werth nodi yma mai canser y prostad yw'r canser mwyaf cyffredin ymhlith dynion yng Nghymru, gyda mwy na 2,500 o ddynion yn cael diagnosis ohono yng Nghymru bob blwyddyn. Mae deiseb Mr Davies yn galw am sicrhau bod y dechnoleg ddiweddaraf ar gyfer sgrinio'r prostad ar gael i bob dyn lle ceir amheuaeth o ganser y prostad. Yn benodol, sgan MRI amlbaramedr yw'r dechnoleg honno, neu mpMRI. Mae'n cyfuno hyd at dri math o sgan er mwyn darparu darlun cliriach o'r chwarren brostad. Mae'n wahanol i sgan MRI arferol, sy'n aml heb fod yn ddigon clir i hwyluso diagnosis hyderus o ganser y prostad ar gam cynnar.

Hyd yma, mae dynion fel arfer wedi gorfod cael biopsi er mwyn gallu gwneud diagnosis o ganser y prostad. Mae'r driniaeth yn ymyrrol ac yn boenus, a gall y sgil-effeithiau posibl gynnwys haint a gwaedu. Gall hefyd fethu canfod hyd at un o bob pump canser y prostad, oherwydd nad yw union leoliad y canser yn hysbys pan gyflawnir y biopsi. Ochr yn ochr â biopsi, mae'r profion mwyaf cyffredin a ddefnyddir ar gyfer gwneud diagnosis o ganser y prostad yn cynnwys prawf gwaed ac archwiliad corfforol o'r prostad.

Canfu astudiaeth a gyhoeddwyd yn Chwefror 2017, astudiaeth o'r enw PROMIS, y gallai defnyddio sgan mpMRI leihau nifer y triniaethau biopsi diangen a gwella'r modd o ganfod canser sy'n glinigol arwyddocaol. Mae'r ddeiseb hon yn galw am fynediad at sganiau mpMRI i bob dyn yng Nghymru fel mater o flaenoriaeth, er mwyn gwella diagnosis a lleihau nifer y dynion sy'n gorfod cael biopsi. Mae Prostate Cancer UK hefyd yn ymgyrchu dros gynyddu mynediad at mpMRI ar draws y Deyrnas Unedig.

Ar hyn o bryd, mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, NICE, wrthi'n adolygu eu canllawiau mewn perthynas â diagnosis o ganser y prostad a'r dull o'i drin. Mae'r adolygiad hwn yn cynnwys asesiad o'r dystiolaeth ddiweddaraf, gan gynnwys yr astudiaeth PROMIS. Ym mis Rhagfyr, cyhoeddodd NICE ganllawiau drafft newydd ar gyfer ymgynghori. Mae'n cynnwys argymhelliad y dylid defnyddio sganiau mpMRI fel dull cam cyntaf o archwilio ar gyfer pobl yr amheuir bod canser y prostad arnynt, fel y mae'r ddeiseb yn galw amdano.

Mae'r canllaw'n argymell y dylai cleifion ddal i gael prawf gwaed i gychwyn, a defnyddio mpMRI fel dull gwell o ganfod canser sy'n glinigol arwyddocaol mewn dynion yr amheuir bod canser y prostad arnynt. Dywed NICE y gall y sgan helpu clinigwyr i ddeall lleoliad y canser a thargedu'r biopsi'n uniongyrchol, gan leihau'r amser y mae'n gymryd i adnabod y canser yn fanwl a'r angen am biopsïau lluosog. Felly, disgwylir y bydd mwy o ddefnydd o mpMRI yn profi'n gosteffeithiol drwy ei fod yn lleihau nifer y triniaethau biopsi a gyflawnir a'r angen am ragor o driniaeth, gan fod canserau'n fwy tebygol o gael eu canfod a'u hadnabod yn gynharach. Disgwylir i'r canllaw terfynol gael ei gyhoeddi ddiwedd mis Ebrill.

Mae'r deisebydd a Prostate Cancer UK yn dadlau bod y sefyllfa bresennol yn annheg. Mae nifer o ardaloedd eisoes yn cynnig mynediad at sganiau mpMRI. Yng Nghymru, mae byrddau iechyd Cwm Taf ac Aneurin Bevan yn darparu sganiau mpMRI fel mater o drefn ar gyfer dynion yr amheuir bod canser y prostad arnynt. Mae un arall, bwrdd iechyd Caerdydd a'r Fro, yn cynnig sganiau MRI cyn-biopsi, ond nid y ddarpariaeth lawn a dargedir gan yr ymgyrch. Mae hyn yn golygu na all cleifion yn y gorllewin, y gogledd a rhannau o dde Cymru gael mynediad at y profion ar hyn o bryd, tra bo cleifion ym Mhowys at ei gilydd yn cael eu cyfeirio i fannau eraill. Mewn ardaloedd lle nad yw'r sganiau ar gael, dywed y deisebydd ei fod ef a dynion eraill y ceid amheuaeth fod canser y prostad arnynt wedi wynebu gorfod talu £900 i gael eu sganio'n breifat. Nododd fod treial wedi'i gyflawni'n flaenorol yn Ysbyty Maelor Wrecsam, ond nid yw'r sganiau ar gael ar hyn o bryd o dan y GIG yng ngogledd Cymru.

Ledled y DU, mae Prostate Cancer UK wedi canfod nad yw hanner y dynion yr amheuir bod canser y prostad arnynt yn cael cynnig sganiau mpMRI o'r safon uchaf cyn cael biopsi. Os caiff ei gadarnhau, dylai'r canllaw NICE newydd newid hyn. Fodd bynnag, mae'r Pwyllgor Deisebau wedi dysgu ei bod yn debygol y bydd nifer o heriau i weithredu hyn yn gyflym yng Nghymru. Yr her fwyaf amlwg yw mynediad at y sganwyr eu hunain. Mae sganiau mpMRI o ansawdd uchel yn dibynnu ar fod sganwyr MRI wedi'u cyflunio mewn modd penodol ac yn gyffredinol, mae gofyn iddynt fod yn llai na 10 oed. Mae'r galw presennol am sganwyr yn her arall bosibl oherwydd y galw uchel am eu defnydd ar draws ystod eang o gyflyrau. Rhwystr pellach o bosibl yw nifer y radiolegwyr, yn enwedig radiolegwyr sydd wedi cael yr hyfforddiant angenrheidiol i allu cofnodi canlyniadau sganiau'n gywir a'u defnyddio i allu dweud yn bendant nad oes canser yn bresennol mewn rhai cleifion.

Mae'r rhain yn heriau y mae byrddau iechyd a Llywodraeth Cymru yn debygol o fod angen eu hwynebu pan gyhoeddir y canllawiau terfynol gan NICE. Mae'r Gweinidog wedi dweud ei fod yn disgwyl i bob bwrdd iechyd ystyried canllawiau newydd a newid eu llwybrau gofal yn unol â hynny. Mae hefyd wedi dweud wrth y pwyllgor ei fod yn disgwyl gweld mwy o gysondeb o ran y ddarpariaeth o wasanaethau ar ôl i'r canllaw NICE gael ei ddiweddaru.

Deallwn fod sawl gweithdy eisoes wedi'u cynnal, dan arweiniad bwrdd wroleg Cymru, i asesu'r newidiadau y bydd eu hangen ac i helpu byrddau iechyd i gynllunio ar eu cyfer. Pwysleisiodd y Gweinidog hefyd nad oes angen i fyrddau iechyd aros am y canllawiau terfynol i benderfynu pa newidiadau sydd eu hangen yn lleol.

Mae'r deisebydd yn pwysleisio fod amser yn brin ac y gallai unrhyw oedi yn y broses hon achosi problemau o ran sicrhau diagnosis i gleifion unigol. Mae'n galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod y safonau newydd yn cael eu gweithredu'n gyflym ac i sganiau mpMRI fod ar gael ledled Cymru cyn gynted â phosibl. Yn y cyfamser mae'r deisebydd wedi dadlau y dylai Llywodraeth Cymru ariannu trefniadau dros dro er mwyn sicrhau y byddai'r GIG yn talu i gleifion allu cael mynediad at sganiau preifat er mwyn gwneud yn siŵr fod pob claf a allai elwa o dechnoleg mpMRI yn cael gwneud hynny.

Ddirprwy Lywydd, rwy'n siŵr y bydd y Gweinidog ac Aelodau eraill yn dymuno gwneud sylwadau pellach ar y materion hyn drwy weddill y ddadl y prynhawn yma. Diolch yn fawr.

17:00

Mae uned wroleg Ysbyty Maelor Wrecsam yn un o 11 o unedau ledled Cymru a Lloegr a gymerodd ran yn nhreial astudiaeth ddelweddu'r prostad MRI PROMIS i ganfod ffyrdd gwell o wneud diagnosis o ganser y prostad. Dangosodd y canlyniadau nad oedd angen i 27 y cant o'r dynion a gafodd mpMRI negyddol gael biopsi o gwbl, ond yn hollbwysig, cafodd 93 y cant o ganserau ymledol eu canfod drwy ddefnyddio'r sgan mpMRI i gyfeirio'r biopsi, o'i gymharu â dim ond 48 y cant lle gwnaed biopsi prostad uwchsain trawsrefrol—TRUS—yn unig. Pan godais hyn yn y Siambr fis Mawrth diwethaf, dyfynnais gyngor iechyd cymuned gogledd Cymru a groesawodd ymrwymiad y Gweinidog iechyd i ddisgwyl i fyrddau iechyd adolygu eu llwybrau diagnostig i ymgorffori'r sganiau hyn, os câi hynny ei argymell gan y Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Rhagoriaeth mewn Iechyd a Gofal, neu NICE, mewn canllawiau diwygiedig ar ôl Ebrill 2019, ond gan fynegi pryder hefyd y byddai hyn yn rhy hwyr ac y byddai cleifion yng ngogledd Cymru yn parhau i gael eu gadael ar ôl a bod eu trafodaethau gydag wrolegwyr yng ngogledd Cymru yn awgrymu bod angen inni ddatblygu'r gwasanaeth er mwyn paratoi ar gyfer achrediad NICE.

Gan nodi bod canllawiau NICE eisoes yn datgan y dylid ystyried sganiau mpMRI ar gyfer dynion sydd wedi cael biopsi uwchsain trawsrefrol 10 i 12 craidd negyddol i benderfynu a oes angen biopsi arall, cyfeiriais at etholwyr yng ngogledd Cymru a oedd yn bodloni'r meini prawf hyn, ond y bu'n rhaid iddynt dalu tua £900 wedyn i dalu am y sganiau hyn oherwydd nad oeddent yn cael eu darparu neu eu hariannu gan y bwrdd iechyd yng ngogledd Cymru. Ysgrifennodd tri o fy etholwyr at y Gweinidog wedyn i gadarnhau eu bod wedi gorfod talu ac yn datgan eu bod wedi gwylio hyn ac wedi ei weld, rwy'n dyfynnu, 'yn cilwenu a chwerthin ar eu pennau'. Ar ôl codi hyn eto gyda'r Gweinidog iechyd fis Ebrill diwethaf, dywedasant wrthyf ei bod yn amlwg nad yw ei ddatganiad i'r Senedd fod y ddarpariaeth yn GIG Cymru yn cyd-fynd â chanllawiau NICE yn wir, fel y dangosodd eich cwestiwn.

Dywedodd claf arall wrthyf fod y cyhoeddiad fis Mawrth diwethaf gan GIG Lloegr ei fod yn lansio gwasanaeth un stop gan ddefnyddio technegau MRI i chwyldroi triniaeth canser y prostad a thorri'r amser a gymerai i wneud diagnosis yno yn newid sylfaenol ac na ddylai cleifion ledled Cymru gael eu gadael ar ôl. Fis Rhagfyr diwethaf, cyhoeddodd NICE ganllawiau drafft newydd yn argymell mpMRI cyn-biopsi lle ceir amheuaeth o ganser y prostad, gyda'r canllawiau terfynol i ddod y mis nesaf. Ym mis Ionawr, ysgrifennodd y Gweinidog iechyd at yr Aelodau'n nodi ei fod wedi gofyn i bob bwrdd iechyd weithio gyda bwrdd wroleg Cymru er mwyn sicrhau bod ganddynt gynlluniau gweithredu llawn o fewn un mis i hynny. Yn yr un llythyr, dywedodd fod byrddau iechyd wedi cadarnhau eu bod, ar hyn o bryd, yn darparu gofal yn unol â chanllawiau NICE presennol. Ailadroddodd cleifion yng ngogledd Cymru wedyn nad oedd gofal yn cael ei ddarparu yn unol â chanllawiau NICE cyfredol yn eu hachos hwy.

Dywedodd cyngor iechyd cymuned gogledd Cymru fod y bwrdd iechyd wedi gwrthod cynhyrchu prawf yn gyson eu bod yn cyflawni unrhyw sganiau ar gyfer dynion gyda lefel gynyddol o antigen penodol y prostad yn dilyn biopsi negyddol, a'u bod yn cyd-drefnu ad-daliadau i'w holl gleientiaid na chafodd sganiau yn unol â chanllawiau 2014. Maent hefyd yn dweud nad yw eu gohebiaeth â'r Gweinidog iechyd yn rhoi unrhyw gysur iddynt y bydd yn ymyrryd os byddant yn gwneud yr un penderfyniad ar y canllawiau mpMRI cyn-biopsi.

Mae noddwr y ddeiseb hon, Stuart Davies, yn datgan y dylid rhoi trefniadau dros dro ar waith yn awr fel nad yw dynion yn peryglu eu bywydau; mai'r gost i'r GIG yn ysbyty Spire Wrecsam yw £365 yn unig er y bydd cleifion yn talu tua £900; a bod dynion sy'n cysylltu â'r ymgyrch yn dweud eu bod naill ai'n aros iddo ddod am ddim neu'n cael benthyciadau i dalu am eu sgan. Fis Rhagfyr diwethaf, bûm mewn cyfarfod gyda Mr Davies, y bwrdd iechyd a'r cyngor iechyd cymuned, lle ymddiheurodd y bwrdd iechyd a chynnig ad-dalu'r arian a dalodd y dynion am eu sganiau. Fodd bynnag, yr wythnos hon, cafodd etholwr lythyr gan y bwrdd iechyd yn dweud,

er bod cyngor clinigol presennol yn awgrymu y gall y defnydd o mpMRI diagnostig llawn fod yn fuddiol...nid yw NICE wedi cefnogi hyn eto.

Gan nodi, fodd bynnag, fod NICE bellach wedi cefnogi sganiau mpMRI fel dull archwilio llinell gyntaf costeffeithiol, mae Tenovus Cancer Care wedi galw ar Lywodraeth Cymru i sicrhau bod mpMRI ar gael ledled Cymru, gan ddweud nad yw ar gael yn Betsi Cadwaladr, Hywel Dda na bae Abertawe, ac nid yw ar gael ar lefel safonau PROMIS yng Nghaerdydd a'r Fro. Fel y dywed Prostate Cancer UK, mae mpMRI yn chwyldroi diagnosis canser y prostad, felly gadewch i ni wrando ar yr arbenigwyr sydd â phrofiad byw ohono. Mae'r dynion hyn wedi bod yn dweud y gwir o'r cychwyn cyntaf.

17:05

Pan mae hi'n dod at ganser, rŷn ni'n gwybod mai un o'r agweddau pwysicaf er mwyn gwella'r siawns o oroesi ydy sicrhau diagnosis cyflym. Weithiau mae'n haws dweud na gwneud, ond efo canser y brostad yn benodol, mae yna ddull profi sydd wir yn symleiddio ac felly'n cyflymu'r broses o roi diagnosis, a'r prawf hwnnw ydy sgan mpMRI. Does yna ddim modd o gael diagnosis canser y brostad drwy brawf llawfeddygol non-invasive. Er bod prawf PSA ar gael, dim ond adnabod a oes angen profion pellach mae hwnnw. Mae'r profion pellach yn cynnws biopsies ac mae'r rheini'n cael eu gwneud drwy ddulliau llawfeddygol, sy'n brofiad annymunol i'r claf ac yn brofiad mae cleifion yn dymuno'i osgoi os ydy hynny yn bosib. Dydy profion eraill ddim yn gwbl ddibynadwy chwaith. Maen nhw'n gallu methu canser—rhoi'r argraff bod y claf yn glir. Mi allai hynny arwain, wrth gwrs, at y claf yn anwybyddu symptomau a mynd heb eu trin o ganlyniad. Maen nhw hefyd yn gallu awgrymu bod canser yn y corff pan nad oes yna, gan arwain at driniaeth sy'n gallu arwain at sgileffeithiau gydol oes.

Mae'r sgan mpMRI yn cynnig llwybr llawer mwy addawol ar gyfer diagnosis mwy cywir. Yn syml iawn, mae o'n rhoi darlun cliriach o'r hyn sy'n digwydd yn y brostad. Ac mae'r dystiolaeth sydd yn dod i'r amlwg—a dwi'n diolch i Tenovus yn benodol am un briff sydd gen i—yn dangos bod gan sgan mpMRI y gallu i fod llawer mwy sensitif na biopsies eraill wrth adnabod canser clinigol arwyddocaol. Felly, mae o yn llawer llai tebygol o gynhyrchu canlyniadau negyddol ffug. Er hynny, dydy o ddim yn dileu'r posibilrwydd o ganlyniad positif ffug, felly pan fo'r prawf yn adnabod canser posib, mae'n rhaid i'r claf fynd drwy brawf pellach, sef biopsi. Felly, nac ydy, dydy o ddim yn berffaith, ond mae NICE wedi cefnogi'r defnydd o mpMRI fel gwelliant sylweddol ar yr hen system ac wedi cyhoeddi'r canllawiau i'r perwyl hwnnw.

Y cwestiwn, felly, sydd gennym ni o'n blaenau ydy nid o ddeiseb yn galw am rywbeth lle nad ydy'r dystiolaeth ddim yno eto i'w gefnogi fo—rŷn ni'n gofyn: pam fod yna ddim eto fynediad cyson i brofion sydd wedi cael eu profi i fod yn werthfawr yn yr amgylchiadau priodol?

Mae'r ddeiseb ei hun yn nodi'r cyfyngiadau ar bwy a ble yng Nghymru ac ym mha fyrddau iechyd y gellir cael y profion, lle y gwneir defnydd llawn o'r profion, a'r diffyg cysondeb hwn oedd yn arbennig o annerbyniol i'r deisebydd. A hoffwn achub ar y cyfle hwn i ddiolch i Stuart Davies a'r rhai a drefnodd y ddeiseb hon am y gwaith a wnaethant yn dwyn y mater i'r Senedd. O ganlyniad i'r ymgyrch, gwn eu bod wedi cael llawer iawn o ohebiaeth gan ddynion eraill sydd wedi methu cael mynediad at sganiau mpMRI o dan y GIG: dynion nad oedd eu meddygon yn ymwybodol eto o bosibl o wir fanteision yr offeryn diagnostig hwn; dynion sydd wedi talu i gael y prawf yn breifat o ganlyniad i hynny; a dynion sydd wedi gorfod benthyca arian er mwyn ariannu'r sgan, gan nad oedd ar gael yn rhwydd iddynt ar y GIG. Ac rwy'n ddiolchgar i Mr Davies am roi'r wybodaeth ddiweddaraf imi am beth o'r cysylltiad a gafodd â dynion eraill ym mhob rhan o Gymru.

Nawr, mae rhai cleifion yn ardal bwrdd iechyd prifysgol Betsi Cadwaladr wedi cael ad-daliad bellach am y ffioedd preifat a dalwyd ganddynt am sganiau. Roeddent yn ei dalu am eu bod yn gwybod ei fod yn effeithiol. Roedd ganddynt dystiolaeth ei fod yn gweithio. Roedd y dystiolaeth yn eithaf clir fod hwn yn ddull effeithiol, sy'n fy arwain i ofyn yma yn awr: pam fod GIG Cymru, unwaith eto, yma, wedi bod yn araf i fabwysiadu technolegau a thriniaethau newydd lle'r oedd y dystiolaeth yn eithaf clir, ac wedyn, pan roddwyd sêl bendith gan NICE? Y rheswm y cyflwynodd Llywodraeth Cymru y gronfa triniaethau newydd oedd oherwydd na allai GIG Cymru gyflawni ei rwymedigaethau cyfreithiol i sicrhau bod triniaethau newydd ar gael o fewn tri mis i gael cymeradwyaeth NICE. Felly, mae'r pwynt hwnnw wedi ei gyfaddef eisoes, ac rydym ar hyn o bryd mewn sefyllfa lle mae NICE wedi cymeradwyo'r dechnoleg i'w defnyddio ar gyfer gwneud diagnosis ond nid yw'n cael ei wneud ar draws Cymru, felly 'pam?' yw'r cwestiwn.

Felly, i gloi, rydym yn gwybod bod mynediad at brofion diagnostig yn gyffredinol wedi bod yn broblem ers blynyddoedd yma yng Nghymru. Yn fy marn i, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn hunanfodlon a heb wthio'r mater hwn. Dyna pam ein bod ni ym Mhlaid Cymru wedi cefnogi'r egwyddor o gyflwyno targedau uwch ar gyfer profion diagnostig, a chafodd hynny ei wrthod dro ar ôl tro. Felly, ni ddylai fod angen y ddeiseb hon. Rydym angen GIG rhagweithiol sy'n gallu mabwysiadu arferion gorau yn dilyn dyfarniad gan NICE, a nodi'r technegau a'r triniaethau newydd sy'n gweithio go iawn i gleifion yng Nghymru, fel mpMRI.

17:10

Hoffwn ddiolch i'r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno'r ddadl hon a diolch yn arbennig i'r deisebydd, Stuart Davies, am gyflwyno'r ddeiseb i'r Cynulliad. Ddoe ddiwethaf bu'n rhaid i fy ngŵr fynychu Ysbyty Castell-nedd Port Talbot am biopsi poenus iawn ar ei brostad. Felly, mae hwn yn bwnc sy'n agos at fy nghalon. Mae'r ffaith y gallai fy ngŵr a channoedd o ddynion tebyg iddo gael llwybr cyflymach a llai poenus gyda llai o risg at ddiagnosis, ond fod hynny'n cael ei wrthod iddynt, yn annerbyniol.

Mae gan MRI amlbaramedr botensial i drawsnewid y llwybr canser y prostad, ond nid yw ar gael i bawb. Gorfodir dynion i dalu dros £1,000 am sgan mpMRI oherwydd nad yw ar gael o dan y GIG yn eu rhan hwy o Gymru. Nid yw fy mwrdd iechyd lleol yn cynnig y gwasanaeth hwn. Pe baem yn byw 15 milltir i'r gogledd-ddwyrain, byddai fy ngŵr wedi cael sgan mpMRI gyda chyferbyneddau deinamig estynedig, a fyddai wedi rhoi'r manylion gorau posibl a mwyaf cynhwysfawr i'w dîm oncoleg am iechyd y prostad. Byddai hyn o bosibl wedi dileu'r angen am y biopsi poenus ac ymyrrol a gafodd ddoe. Gallai fod wedi golygu na fyddai'n rhaid iddo dreulio dyddiau, wythnos neu ddwy efallai, mewn poen tra'i fod yn gwella. Efallai y gallai fod wedi osgoi'r angen i fyw gyda sgil-effeithiau'r moddion gwrthfiotig pwerus y bu'n eu cymryd, ac y bydd yn parhau i'w cymryd, i osgoi'r bygythiad o sepsis.

Dros y ffin yn Lloegr, mae'r GIG wedi ei gwneud hi'n orfodol i fabwysiadu MRI amlbaramedr erbyn 2020. Rydym yn gwneud rhywfaint o gynnydd yng Nghymru, ond mae'n araf oherwydd diffyg radiolegwyr hyfforddedig. Rwy'n croesawu'r arian y mae Llywodraeth Cymru wedi'i roi tuag at wella'r ddarpariaeth MRI ledled Cymru, yn ogystal â sefydlu Academi Ddelweddu Cymru. Ond nid yw hyn yn helpu heddiw. Mae angen i Lywodraeth Cymru sicrhau'r defnydd mwyaf posibl o'n capasiti MRI. Lle na all bwrdd iechyd gynnig mpMRI gyda chyferbyneddau deinamig estynedig, dylai atgyfeirio at fyrddau iechyd eraill neu'r sector preifat. Ni ddylid gorfodi dynion i ddod o hyd i £1,000 i ariannu sganiau MRI preifat oherwydd eu bod yn digwydd byw mewn rhan o Gymru nad yw'n cynnig y llwybr canser y prostad chwyldroadol hwn. Gwasanaeth iechyd gwladol sydd i fod gennym, nid saith gwasanaeth iechyd rhanbarthol. Rhaid rhoi terfyn ar y loteri cod post heddiw. Rhaid inni gynnig y llwybr triniaeth gorau, cyflymaf a mwyaf effeithiol sydd ar gael heddiw. Rwy'n cefnogi'r ddeiseb a'r cynnig sydd ger ein bron heddiw, ac rwy'n annog fy nghyd-Aelodau i wneud yr un peth. Diolch yn fawr.

17:15

A gaf fi ddweud faint yw fy ngwerthfawrogiad o'r broses o gyflwyno deiseb? Yn y Cynulliad hwn, mae gennym Bwyllgor Deisebau arbennig o gryf a deisebau diddorol iawn yn cael eu cyflwyno. Rwy'n llongyfarch y ffordd yr amlinellodd David yr achos mewn modd grymus iawn. Mae'n iawn ein bod yn trafod y materion hyn y mae ein hetholwyr yn teimlo eu bod yn arbennig o bwysig a gofyn i'n hunain a ydynt wedi gweld rhywbeth mewn ymarfer cyfredol neu batrwm gwasanaeth y mae gwir angen rhoi sylw iddo.

Yr hyn sy'n fy nharo yw y gall fod rhywfaint o ddiffyg cysylltiad os nad ydym yn defnyddio'r technegau diagnostig mwyaf cyfredol ac sydd ar gael yn rhwydd, a goresgyn rhwystrau dyrys canlyniadau negyddol anghywir, canlyniadau positif anghywir, fel y dywedodd Rhun, a thriniaeth biopsi pur anghyfforddus, a phoenus o bosibl. Felly, credaf ei bod hi'n bwysig iawn ein bod yn ceisio symud ymlaen ac yn bod yn gyson, yn enwedig pan fo cymaint o ymgyrchu cyhoeddus, er tegwch i'r Llywodraeth, allan yno i fod yn ymwybodol o'ch corff, i fod yn ymwybodol o rai o'r newidiadau a all fod yn digwydd, ac yna i gael profion.

Felly, o ran ein hymgysylltiad ni â'r cyhoedd, a dweud pam ein bod yn caniatáu dulliau penodol ond nid rhai eraill, ac yn enwedig pan fo'n dameidiog, fel y byddwch yn cael y dechnoleg MRI ddiweddaraf os ydych yn byw mewn rhan benodol o Gymru, ond nid mewn man arall, credaf fod angen inni fod yn glir iawn ynglŷn â hynny.

Rwy'n credu ei bod hi'n bryd i ni gael rhyw fath o asesiad a datganiad ar sgrinio yn gyffredinol mae'n debyg, gan fod y cyhoedd yn cael negeseuon go gymysg weithiau ynglŷn â'i effeithiolrwydd a'r rôl y mae NICE wedi'i chwarae. Rydych yn cael eich annog i ofalu amdanoch eich hun a bod yn effro i unrhyw newid, ond wedyn nid yw'n eglur bob amser beth ddylai ddilyn wedyn. Roedd yn fy atgoffa o'r polisi sydd gennym ar sgrinio'r coluddyn. Ar hyn o bryd, caiff y pecynnau profi eu hanfon i unrhyw un rhwng 50 a 74 sydd eu heisiau, ond pan fyddwch yn cyrraedd 75 oed, daw i ben. Gofynnodd etholwr imi pam oedd hyn yn digwydd, a cheisiais ddarganfod y rheswm pam, ac nid oedd yn ymddangos yn glir iawn i mi fod yna reswm hollbwysig pam fod hynny'n digwydd.

Felly, credaf fod darlun mwy cynhwysfawr o sgrinio—. A nodir effeithiolrwydd sgrinio ar gyfer cyflyrau canser eraill hefyd weithiau. Gyda gwyddoniaeth feddygol yn datblygu, ceir mwy a mwy o offer ar gael i ni. Felly, rwy'n gobeithio y bydd y Gweinidog yn rhoi sylw i'r pryderon a godwyd, ac y bydd yn rhoi'r claf yn gyntaf: gwybodaeth glir, ac yna gwasanaethau diagnostig cyflym sydd mor dda ac mor gyfforddus â phosibl. Rwy'n credu ei fod yn wirioneddol bwysig oherwydd, fel y clywsom, mae'r prognosis yn gwella'n aruthrol po gynharaf y canfyddir y canserau hyn. Felly, unwaith eto, credaf y dylem fod yn ddiolchgar iawn i'r gŵr bonheddig a gyflwynodd y ddeiseb hon, ac i'r gwaith da y mae'r Pwyllgor Deisebau yn ei wneud yn mynnu ein bod yn dadlau ynglŷn â'r materion hyn yn y Siambr. Diolch.

17:20

Diolch ichi, Ddirprwy Lywydd. A gaf fi ddechrau drwy ddiolch i'r deisebwr a'r Pwyllgor Deisebau am gyflwyno'r mater hwn ar gyfer y ddadl y prynhawn yma? Ar y cychwyn, hoffwn gydnabod effaith canser y prostad, yn gorfforol ac yn emosiynol, ar ddynion a'u teuluoedd. Hefyd rwy'n cydnabod bod rhai o'r profion diagnostig, fel y clywsom, megis biopsïau, yn gallu bod yn annifyr ac ychwanegu at y pryder a'r straen y mae dynion eisoes yn ei brofi. Rwyf wedi cael cryn dipyn o ohebiaeth gan Aelodau, cleifion, teuluoedd a chlinigwyr am argaeledd neu fel arall y prawf a elwir yn mpMRI cyn-biopsi. Nawr, rydych wedi clywed beth yw hwnnw sawl gwaith yn ystod y ddadl heddiw, felly nid wyf am ailadrodd y manylion ynglŷn â beth yw delweddu cyseinedd magnetig amlbaramedr, ond wrth gwrs—gwnaed y pwynt hwn droeon—mae'n gyfle diagnostig llai ymyrrol na'r prawf diagnostig safonol a argymhellir ac sydd ar gael ar hyn o bryd. Nawr, o gofio bod y posibilrwydd o brawf llai ymyrrol a mwy cywir ar y gorwel yn llythrennol—ddyddiau i ffwrdd, ac rydym yn disgwyl i NICE gadarnhau hynny—mae'n gwbl ddealladwy fod pobl am weld y weithdrefn honno ar gael cyn gynted â phosibl ar draws Cymru.

Hefyd rwy'n deall yn iawn pam y ceir pryder ynghylch argaeledd presennol y prawf rhwng gwahanol fyrddau iechyd. Mae'r treialon cychwynnol a gynhaliwyd, gan gynnwys yma yng Nghymru, yn cynnwys rhai yng ngogledd a gorllewin Cymru, wedi bod yn gadarnhaol, gan ddangos effeithiolrwydd mpMRI, ac mae'r cyhoedd a'r clinigwyr wedi'u calonogi, ac eisiau ei weld yn cael ei gyflwyno hefyd. Fel y clywsom, ar sail y dystiolaeth sy'n dod i'r amlwg a'r canllawiau drafft a gyhoeddwyd gan NICE ym mis Rhagfyr y llynedd, mae rhai byrddau iechyd yng Nghymru yn dechrau darparu'r prawf eisoes. Wrth gwrs nid yw'n anarferol i driniaethau newydd gael eu treialu mewn gwahanol rannau o'r gwasanaeth iechyd, ond rwy'n deall pam fod hynny'n peri pryder yn y rhannau o Gymru lle nad yw'r prawf ar gael yn rheolaidd eto. Ond mae yna bwynt, pan ystyriwn bob cynnydd posibl ym maes gofal iechyd, ynglŷn â beth a wnawn fel system gyfan, ac wrth wneud penderfyniadau, ac ystyried y dystiolaeth ar gyfer yr ymyrraeth orau a cheisio mabwysiadu ymagwedd genedlaethol gyson tuag at ei ddarparu pan fo'r sylfaen dystiolaeth honno'n gadarn ac wedi'i derbyn. Felly, mae NICE wedi ymrwymo i gyhoeddi eu canllawiau diwygiedig ym mis Ebrill. Cyn hynny, fel y clywsom—ac rwy'n falch fod hyn wedi'i gydnabod—rwyf wedi cyfeirio GIG Cymru, drwy'r bwrdd wroleg, i weithio drwy a chytuno'r consensws clinigol hwnnw. Ac rydych wedi gweld, o'r ohebiaeth a roddais i'r Pwyllgor Deisebau ac eraill, fod hynny'n cael ei baratoi ar gyfer rhoi'r canllawiau ar waith. Nid ydym yn aros; nid ydym yn cicio'n sodlau ac yn aros tan rywbryd ym mis Ebrill pan ddisgwyliwn y bydd canllawiau terfynol ar gael.

Ac mae'n hanfodol nad yw'r bwrdd wroleg wedi'i gyfansoddi o weision sifil, nad yw wedi'i lunio o bobl rwy'n eu cyfarwyddo o ran yr hyn y gallant neu y dylent ei wneud; mae'r bwrdd wroleg wedi'i gyfansoddi o gynrychiolwyr clinigol ar draws y byrddau iechyd yng Nghymru, a cheir cytundeb ynglŷn â sut y bydd GIG Cymru—nid os, ond sut y bydd GIG Cymru—yn pontio o'r dulliau diagnosis presennol i un sy'n cynnwys y prawf mpMRI. Ond nid yw cyflwyno elfen newydd i'r llwybr gofal byth yn mynd i fod yn fater mor syml ag y caiff ei ddisgrifio weithiau. Bydd yna bob amser nifer o bethau i'w datrys. Rhaid edrych ar ffactorau megis y capasiti delweddu, fel y gweithlu a hyfforddiant, a mynd i'r afael â'r materion hyn a'u cyflawni. Rwyf bob amser wedi bod yn glir ac wedi datgan ar goedd sawl gwaith, os yw NICE, fel y mae pawb ohonom yn ei ddisgwyl, yn argymell mpMRI cyn-biopsi, yna rwy'n disgwyl i bob bwrdd iechyd newid eu llwybrau yn unol â hynny.

Mae'r gwaith a wneir gan fwrdd wroleg Cymru yn cynorthwyo ein gwasanaeth iechyd i fod mewn sefyllfa i allu darparu'r profion hyn yn gyson ac yn deg yn unol â'r dystiolaeth. Bydd hynny'n ein helpu i sicrhau gwell profiad a chanlyniadau mewn gofal fel y mae pawb ohonom am ei weld ym mhob rhan o Gymru. Rwy'n hapus i gadarnhau'r ymrwymiadau rwyf eisoes wedi'u rhoi i ddarparu'r wybodaeth ddiweddaraf ar gyfer yr Aelodau maes o law ar y cynnydd a wnaed ac ar y targedau sydd gennym ac amserlenni i wneud yn siŵr fod y gwasanaeth a'r prawf y disgwyliwn iddo gael ei argymell ar gael ledled y wlad.

17:25

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyntaf, a gaf fi ddiolch i'r Aelodau sydd wedi cyfrannu at y ddadl hon? Ac os caf fynd drwy ychydig o'r pwyntiau a wnaeth rhai ohonynt, nododd Mark Isherwood y canlyniadau gwell a geir gan sganiau mpMRI na'r hyn a geir gan sganiau MRI arferol, a dywedodd nad oedd digon o ddata'n cael ei ddarparu gan y byrddau iechyd, yn enwedig yng ngogledd Cymru.

Nododd Rhun ap Iorwerth yr angen i adnabod canser—fel y mae pawb ohonom yn deall—mor gynnar ag y bo modd ac mae llawer o'r profion amgen yn lle mpMRI yn israddol iawn i'r sgan mpMRI ei hun. A gofynnodd y cwestiwn: pam nad yw'r profion ar gael fel mater o drefn?

Rhoddodd Caroline Jones dystiolaeth bersonol ynghylch effaith y profion eraill ymyrrol ar gyfer canser y prostad a'r effeithiau y gallent eu cael ar deuluoedd. A nododd y gwahaniaethau a'r anghysondeb rhwng ardaloedd yng Nghymru, lle mae un math o brawf ar gael ac nid un arall.

Holodd David Melding eto pam nad ydym yn defnyddio technoleg ddiagnosis o'r radd flaenaf lle bynnag a phryd bynnag y bo modd yng Nghymru. A gofynnodd am y dulliau, a hefyd holodd am y gwahaniaeth rhwng rhanbarthau.

Os caf ddod at y Gweinidog a'i gydnabyddiaeth o'r hyn sydd wedi bod yn digwydd, yn gyntaf oll, cydnabu effaith canser y prostad, ac mae pawb ohonom yn deall hynny. I ddynion fy oed i, mae'n un o'r hunllefau hynny sy'n ein hwynebu, mae'n debyg, yn ddyddiol—y gallai ddigwydd i unrhyw un ohonom. Cytunodd hefyd fod mpMRI yn llai ymyrrol, a chredaf iddo gydnabod yn ogystal ei fod yn ffordd well o'i wneud na thrwy biopsi. Soniodd am brofion a chreu cronfa ddata a fyddai'n cadarnhau effeithiolrwydd triniaethau newydd, a gallwn i gyd ddeall bod hynny'n wir, ond rwy'n credu bod digon o dystiolaeth ar gael i ddangos bod mpMRI yn ffordd lawer gwell o benderfynu a oes canser y prostad ar rywun, a buaswn yn annog y Gweinidog i wneud yn siŵr fod pob un o'n hawdurdodau iechyd lleol, cyn gynted â phosibl, yn defnyddio mpMRI yn eu triniaethau. Rwy'n cydnabod bod yna broblem gydag addysgu pobl i allu defnyddio'r diagnosis y gallai'r mpMRI ei roi mewn modd priodol, ac mae honno'n broblem, ac mae'n bur bosibl y bydd oedi wrth gael y bobl hynny wedi eu hyfforddi ac yn eu lle.

Felly, a gaf fi ddiolch eto i'r Aelodau am eu cyfraniadau i'r ddadl ac i'r deisebydd, unwaith eto, am gyflwyno'r ddeiseb? Rwyf am orffen drwy ddiolch i Stuart Davies a'r rhai a lofnododd y ddeiseb am ddod â'r mater i sylw'r Cynulliad drwy'r broses ddeisebau, a bydd y Pwyllgor Deisebau yn ystyried y ddeiseb eto yng ngoleuni'r cyfraniadau a wnaed yn ystod y ddadl y prynhawn yma, ac ymateb y Gweinidog iddi wrth gwrs. Diolch.

17:30

Diolch. Y cynnig yw nodi adroddiad y pwyllgor. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes. Felly, derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.

10. Cyfnod Pleidleisio
11. Dadl Fer: Gwastatir Gwent: Tirwedd Unigryw a Hanesyddol

Felly, symudwn at eitem 11, sef y ddadl fer, a galwaf ar John Griffiths i siarad ar y pwnc y mae wedi ei ddewis. John.

Diolch, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle heddiw i ddathlu tirwedd unigryw a hanesyddol gwastatir Gwent. Mae'n un o'r ardaloedd mwyaf o arfordir a gorlifdir pori yn y DU, yn cynnwys clytwaith cyfoethog o wahanol gynefinoedd a thirwedd yn rhedeg ar hyd arfordir aber yr Hafren, o Gaerdydd a Chasnewydd, heibio i'r ail bont Hafren a thu hwnt. Mae rhan sylweddol o'r gwastatir yn dod o fewn ffiniau Dwyrain Casnewydd—safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig ac ardal o harddwch naturiol ag iddi werth amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd sylweddol iawn i ranbarth de-ddwyrain Cymru a Chymru gyfan.

Defnyddiwyd y tir a'r môr gan bobl o leiaf ers yr oes Fesolithig. Mae olion traed ac arteffactau cynhanesyddol o Oes yr Iâ a'r Oes Efydd sydd wedi goroesi ym mwd aber yr Hafren yn dal i ddatgelu cliwiau gyda phob llanw newydd ynglŷn â sut y defnyddiwyd y dirwedd hon. Yn wir, mae'r forwedd yn llawn o gliwiau daearegol am ei gorffennol a'r oes cyn i bobl wneud defnydd ohoni. Mae'r clogwyni coch sy'n codi o'r morfeydd heli yn Black Rock yn llawn o ffosiliau plesiosoriaid a phryfed o'r adeg pan drawsnewidiwyd yr ardal o fod yn anialwch poeth a sych i fod yn fôr cynnes trofannol, tua 200 miliwn o flynyddoedd yn ôl.

Yn archeolegol, mae'r gwastatir llaid rhynglanwol wedi datgelu olion aneddiadau o'r Oes Efydd fel y gwelir wrth yr olion troed dynol, y darganfyddiadau caregaidd, esgyrn anifeiliaid wedi'u cigydda, llwybrau prysgwydd a thai crwn. Canfuwyd darganfyddiadau o'r Oes Haearn yn Allteuryn, gydag adeiladau pren hirsgwar, llwybrau, a thrapiau pysgod ar silff o fawn cors.

Datgelwyd tystiolaeth o arwyddocâd morwrol yr ardal hefyd. Darganfu archeolegwyr dameidiau o gwch o'r Oes Efydd ger castell Cil-y-coed sy'n dyddio o tua 1,800 Cyn Crist, a darganfuwyd olion cwch Celtaidd-Rufeinig Fferm Barland o'r bedwaredd ganrif ger Magwyr, mewn cyflwr rhyfeddol o gyflawn, cwch a rannai rai o nodweddion cychod o dde-orllewin Llydaw a ddisgrifiwyd gan Iwl Cesar yn 56 CC.

Mae'r darganfyddiadau pwysig hyn, i enwi ond ychydig ohonynt, yn pwysleisio cyflwr cadwraethol nodedig y deunydd archeolegol ar y gwastatir ac o'i gwmpas. Mae cofnodion hanesyddol yn datgelu llawer o straeon dynol am yr ymdrech galed a chorfforol oedd ei hangen er mwyn cynnal y dirwedd unigryw hon dros ganrifoedd lawer. Câi llawer ohono ei ddraenio â llaw gan ddefnyddio offer sylfaenol tan mor ddiweddar â'r 1960au. Mae cymeriad cymunedau lleol yn adlewyrchu'r cysylltiad hynafol rhwng pobl ac aber yr Hafren. Blodeuodd pwysigrwydd yr aber i fasnach forol o'r cyfnod canoloesol ymlaen, ac yn enwedig yn dilyn y chwyldro diwydiannol a drawsnewidiodd Gaerdydd i fod yn un o borthladdoedd glo mwyaf y byd. Câi cymunedau yn Allteuryn, Redwick, Llanrhymni a Llan-bedr Gwynllŵg eu gwasanaethu gan y mannau glanio bach, traddodiadol ar gyfer masnachu ar draws y sianel. Bydd llawer o bobl leol yn cofio'r basgedi llanw ysgerbydol traddodiadol a ddefnyddid i ddal eogiaid. Mae olion y strwythur cynhaliol yn amlwg o hyd ar y glannau ar adeg llanw isel. Heddiw, pysgotwyr Black Rock yw'r rhai olaf i ddefnyddio rhwydi golchi yng Nghymru. Trosglwyddwyd y traddodiad i lawr drwy'r cenedlaethau a bellach mae'r pysgotwyr wrthi'n weithredol yn hyrwyddo treftadaeth y bysgodfa fel atyniad i dwristiaid yn rhan o'u nod i gadw hanes ac arferion yn fyw i genedlaethau'r dyfodol eu mwynhau. Mae'r ardal yn dirwedd a luniwyd yn bendant iawn â llaw gan y cymunedau a fu'n byw yno ers ei hadfer o'r aber, gwaith a ddechreuodd yn y cyfnod Rhufeinig, a dylid dathlu'r straeon hyn am gysylltiadau pobl â'u hamgylchedd.

Ni fu'r berthynas rhwng yr ardal isel hon a'r môr heb ei thrasiedi. Dangosir yr elfen o densiwn a pherygl yn fwyaf amlwg gan lifogydd trychinebus 1607. Rhoddodd ymchwydd llanw—tswnami yn ôl rhai—ardaloedd mawr o dan y dŵr ar ddwy ochr Môr Hafren. Amcangyfrifir bod 2,000 neu fwy o bobl wedi boddi, a thai a phentrefi wedi'u hysgubo ymaith pan aeth oddeutu 200 milltir sgwâr o dir amaethyddol o dan ddŵr, a lladdwyd da byw, gan chwalu economïau lleol. Dywedwyd bod arfordir Dyfnaint a Gwastatir Gwlad yr Haf cyn belled i mewn i'r tir ag Ynys Wydrin, 14 milltir o'r arfordir, wedi'u heffeithio. Mae'r trychineb hwn a nifer o ddigwyddiadau llifogydd dilynol yn tynnu sylw at yr angen parhaus i reoli amddiffynfeydd rhag llifogydd, lefelau dŵr a'r system ddraenio yn ofalus, ond hefyd maent yn ein hatgoffa pam na ddylem byth anghofio ein straeon lleol. Bydd ymweliad ag Eglwys Mair Magdalen yn Allteuryn neu Eglwys y Santes Fair yn Nhre'ronnen yn dangos placiau a marciau wal sy'n cofnodi'r llifogydd ac uchder y dŵr.

Ac wrth gwrs, Ddirprwy Lywydd, mae mwy na gwerth hanesyddol y gwastatir yn unig i'w ddathlu. Mae ei ecoleg yn aruthrol o arwyddocaol, yn cynnal amrywiaeth fawr o fywyd gwyllt. Mae'r ffosydd a'r corsydd yn darparu llu o gyfleoedd i rywogaethau gwahanol, o'r planhigion fasgwlaidd blodeuol lleiaf yn y byd a'r chwilen blymio fwyaf i ysglyfaethwyr uchaf fel nadredd y gwair, crehyrod bach copog a dyfrgwn. Cadarnhawyd bod nifer o rywogaethau gwarchodedig Ewrop a'r DU yn bresennol, gan gynnwys pathewod, nadredd y gwair, rhai rhywogaethau ystlumod, y fadfall ddŵr gribog a llygoden bengron y dŵr. Mae'r llygoden bengron y dŵr garismatig—un o fy ffefrynau, gan fy mod yn hyrwyddwr rhywogaeth llygod pengrwn y dŵr yr Ymddiriedolaeth Natur—wedi diflannu'n lleol, ond bellach ceir cannoedd ohonynt ac mae eu niferoedd yn cynyddu, diolch i raglen ailgyflwyno a rheoli mincod a reolir gan Ymddiriedolaeth Natur Gwent.

Mae gwarchodfa a chanolfan ymwelwyr yr RSPB, a grëwyd fel modd o wneud iawn am golli cynefin wrth datblygu morglawdd Bae Caerdydd, yn baradwys i bobl sy'n gwylio adar. Dyma'r unig le yng Nghymru y gallwch weld y crychydd godidog yn nythu am y tro cyntaf ers 400 mlynedd, ac mae hefyd yn gartref i rywogaethau prin eraill yng Nghymru megis y titw barfog, adar y bwn a bodaod tinwen. Mae'r amodau arbennig a grëir gan y gwahanol gyfundrefnau ar gyfer rheoli lefelau dŵr a llystyfiant yn cyfrannu at yr amgylchedd cyfoethog hwn. Ceir wyth safle gwlyptir o ddiddordeb gwyddonol arbennig sy'n gartref i adar prin a bregus a rhywogaethau amrywiol â chynefinoedd cymhleth.

Mae'r ardal yn meddu ar yr amrediad llanw mwyaf ond un yn y byd, gyda 15m wedi'i gofnodi rhwng y llanw uchaf a'r llanw isaf. Mae'n ardal hynod ag iddi werth mawr i Gymru, ei phreswylwyr, ei phoblogaethau lleol ac ymwelwyr posibl, yn enwedig ymwelwyr o ardaloedd trefol gerllaw. Mae ganddi lawer iawn i'w gynnig, ond mae ei stori a'i thirwedd yn gynnil ac yn amlach na pheidio, ni chânt eu gwerthfawrogi'n llawn.

O ystyried gwerth amgylcheddol, cymdeithasol, diwylliannol ac economaidd y lle, mae'n galonogol gweld gwaith ar y gweill i gydnabod a dathlu'r pwysigrwydd hwn yn well. Mae ein planed, yr hinsawdd, yr amgylchedd, bioamrywiaeth a bywyd gwyllt o dan fygythiad ac mewn perygl, ac yn anffodus, nid yw pobl erioed wedi bod mor bell oddi wrth y byd naturiol yn eu bywydau bob dydd ag yr ydym heddiw. Mae angen dimensiwn dynol cryf i greu mwy o ymdeimlad o ddealltwriaeth a gwerthfawrogiad o'r gwlyptiroedd hyn a dyma lle mae prosiect Lefelau Byw, sydd ar y gweill ar hyn o bryd, wedi camu i'r adwy. Daeth eu partneriaeth dirweddol ynghyd i gyflwyno rhaglen waith a fydd yn hyrwyddo ac yn ailgysylltu pobl â'r hanes, y bywyd gwyllt a'r harddwch gwyllt. Mae'n werth tua £4 miliwn ac yn cael ei hariannu gan gronfa dreftadaeth y loteri, a'i harwain gan y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar. Y nod yw gwarchod ac adfer nodweddion treftadaeth naturiol pwysig yr ardal, i ddatblygu gwerthfawrogiad llawer cryfach o werth y dirwedd, ac i ysbrydoli pobl i ddysgu am ei threftadaeth ac i gymryd rhan ynddi. Mae'n golygu ailgyflwyno perllannau afalau, cysylltu ag ysgolion lleol, gwaith ar y cyd â Chyngor Dinas Casnewydd i fynd i'r afael â thipio anghyfreithlon, a phoblogrwydd caffis a bwytai yn Allteuryn a chanolfan gwlyptiroedd yr RSPB. Ceir cyfle newydd yn awr i ddatblygu'n gynaliadwy a defnyddio rhyfeddod y gwastatir.

Ddirprwy Lywydd, rhaid inni annog rhagor o bobl i ymweld â'r ardal arbennig hon a mwynhau'r hyn sydd ganddi i'w gynnig. Bydd cerdded, beicio, archwilio a phrofi yn sicrhau gwell dealltwriaeth ynglŷn â pham y dylid gofalu amdani a'i gwarchod. Mae'n hafan o heddwch a llonyddwch tawel, sy'n gymorth i hybu lles ac iechyd. Braf yw gweld canolfan yr RSPB ac Ymddiriedolaeth Natur Gwent yng ngwarchodfa natur cors Magwyr yn croesawu miloedd o ymwelwyr bob wythnos, gan gynnwys llawer iawn o blant ysgol sy'n cyflawni gweithgareddau ac yn mwynhau dysgu am natur.

Wrth gwrs, mae'n gyfnod heriol, ac mae'r dirwedd yn wynebu peryglon yn ogystal â chynnig cyfleoedd. Mae llwybr ffordd liniaru arfaethedig yr M4 ar draws y gwastatir yn fygythiad mawr a fyddai'n achosi difrod sylweddol a pharhaol os yw'r cynllun yn mynd rhagddo, tra bo Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 a Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 gyda'i gilydd yn creu fframwaith ar gyfer rheoli adnoddau naturiol Cymru mewn ffordd fwy cynaliadwy, yn gydweithredol ac ar raddfa fawr.

Mae buddsoddiad mawr drwy lwybr arfordir Cymru a llwybrau beicio'r rhwydwaith cenedlaethol wedi cynyddu potensial yr ardal i wasanaethu nifer gynyddol o breswylwyr ac ymwelwyr sy'n chwilio am gyfleoedd hamdden o'r dinas-ranbarth ac ymhellach i ffwrdd. Rhaid sicrhau mwy o werthfawrogiad a buddsoddiad er mwyn gwneud yn siŵr fod yr ardal, ei bywyd gwyllt, ei hanes a'r bobl y mae wedi'i chysylltu wrthynt yn gynhenid yn cael eu cynnal ar gyfer Cymru a chenedlaethau'r dyfodol. Mae'r dirwedd yn eiconig ond yn fregus, a rhaid inni weithio gyda'n gilydd i adeiladu dyfodol mwy gwydn. Bydd deall treftadaeth, hanes a bioamrywiaeth ein cymunedau yn sicrhau ein bod i gyd yn teimlo perchnogaeth dros eu cadwraeth.

Felly, hoffwn annog pawb i ymweld â'r lle arbennig iawn hwn yn ne-ddwyrain Cymru. Boed drwy syllu ar ryfeddod haid o ddrudwennod ar wlyptiroedd Casnewydd, gwylio llygod pengrwn y dŵr ar gors Magwyr, cymryd rhan mewn un o'r nifer o weithdai diddorol a gynhelir gan brosiect Lefelau Byw, neu gerdded ar hyd y wal fôr yn Allteuryn i chwilio am ddarganfyddiad cynhanesyddol, y ffordd orau o ddysgu am y rhan unigryw a rhyfeddol hon o Gymru yw dod yno i'w mwynhau, a dysgu drwy wneud hynny pam y mae'r gwastatir yn haeddu cael ei ddiogelu a'i gynnal ar gyfer heddiw a chenedlaethau'r dyfodol.

Diolch yn fawr.

17:40

Diolch. A gaf fi alw yn awr ar y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth i ymateb i'r ddadl?

Diolch yn fawr i'r Dirprwy Lywydd.

A gaf fi ddweud un peth am y cyfansoddiad ac am y broses yma, oherwydd dyma'r tro cyntaf i mi gael y fraint o ymateb i ddadl fer, ac yn wir i gymryd rhan mewn dadl fer o gwbl? Pan oedden ni'n sefydlu Rheolau Sefydlog yn y lle yma, flynyddoedd maith yn ôl, roeddem ni'n meddwl bod y ddadl fer yn bwysig iawn, oherwydd nid dadl ydy hi mewn gwirionedd, ond cyfle i Aelod neu Aelodau gyfrannu ar fater neu bwnc sydd o ddiddordeb iddyn nhw, ac maen nhw'n teimlo y dylai fo gael ei wrando arno yn gyhoeddus. A gallwn i ddim meddwl am enghraifft well, John, o ddefnyddio'r ddadl yma i'r pwrpas na'r hyn rydym ni wedi ei glywed y prynhawn yma.

Mae'n bwysig inni gael ein hatgoffa, rydw i'n credu, fod tirwedd Cymru—wel, tirwedd pobman yn y byd, ond y dirwedd rydym ni'n gyfreithiol gyfrifol amdano fo yn y lle hwn yr ydym ni'n siarad amdano fo'r prynhawn yma—mae tirwedd Cymru yn nodedig ac yn unigryw. A'r elfen arall amdano fo, wrth gwrs, ydy pan mae yna newidiadau yn cael eu gwneud i dirwedd am ba resymau bynnag—mae John wedi sôn, ac mi wnaf innau sôn am rai o'r digwyddiadau hanesyddol dros gyfnod, a digwyddiadau yn ymwneud efo hinsawdd—ond mae unrhyw newid fel yna yn aml iawn yn newid na allwch chi ei droi nôl; mae'n ddiwrthdro. Does dim modd ichi ymyrryd yn ôl, a dyna ydy natur y greadigaeth, natur y byd rydym ni'n byw ynddo fo. 

Ac mae'r amrywiaeth yma o dirwedd yn cyfrannu tuag at ansawdd bywyd mewn ffordd sydd yn anfesuradwy, mewn gwirionedd, ac fel rydym ni wedi'i glywed yn glir iawn gan John yn ei gyflwyniad, mae yma filoedd o flynyddoedd o effaith y natur ddynol ac o bobl ar dirwedd arbennig. Mae'r dirwedd yma yn nodweddiadol gan ei bod hi yn dirwedd llawn ymyrraeth—mae'n dirwedd artiffisial iawn ar un ystyr, er bod peth o'r gweithgarwch artiffisial yna wedi cael ei wneud gan natur a thywydd. Mae hynny yn rhoi diddordeb hanesyddol eithriadol iddi hi, a diddordeb o ran adloniant ac amwynder a mwynhad. 

Mae'n bwysig cofio hefyd fod y dirwedd bob amser yn dirwedd fyw. Hynny yw, nid rhywbeth wedi ei gosod ar un amser yn y gorffennol; mae'r dirwedd yn dal i ddatblygu. A beth sydd wedi fy nharo i bob tro y byddaf i'n cerdded lefelau Gwent ydy bod gennych chi anferthedd pwerdai ac adeiladau diwydiannol ar un ochr, ac anferthedd yr Hafren ei hun—Môr Hafren fel rydym ni'n ei alw fo yn y Gymraeg, wrth gwrs—anferthedd natur ac anferthedd adeiladau dynol yn cyfosod â'i gilydd. Mae cael natur mor ddwys â hynna mewn ardal ddiwydiannol yn rhywbeth arbennig iawn, dwi'n meddwl, i Gymru ac i ymwelwyr â Chymru, oherwydd mae o'n dangos sut ydym ni'n gallu achub a chadw a diogelu a chynnal tirwedd naturiol nodedig, er ein bod ni'n cael datblygiadau hanesyddol a datblygiadau cysylltiadau o bob math yn effeithio ar ein hamgylchedd ni. 

Mae John wedi sôn dipyn am yr amgylchiadau hanesyddol, ac mae'r rhain yn wir o ddiddordeb mawr. Wrth gwrs, fuaswn i ddim yn Weinidog sy'n cynrychioli Cadw yn y lle hwn heblaw fy mod i'n sôn am y darganfyddiadau archaeolegol cyffrous mae John hefyd wedi cyfeirio atyn nhw—yr olion traed dynol mesolithig 8,000 o flynyddoedd oed, y cwch o'r Oes Efydd y clywson ni amdano fo, adeiladau a llwybrau yr Oes Haearn, a'r cyfan sydd wedi goroesi o'r cyfnod Rhufeinig a'r cyfnod canoloesol. Dwi ddim yn meddwl bod yna unrhyw amgylchedd arall yng Nghymru lle rydych chi'n gallu darllen hanes Cymru o’ch cwmpas jest wrth edrych. Does dim rhaid ichi gael llyfr, dŷch chi'n gweld—fe allwch chi gael llyfr neu, o hyn ymlaen, fe allwch chi fynd ag araith John a’r ychydig o ymatebion gen i fan hyn fel rhyw fath o arweinlyfr i weld beth sydd o’ch cwmpas chi—y mae hanes yn adrodd ei hun, fel petai, yn yr amgylchedd yma.

Ac mae’n debyg y gallech chi ddadlau mai’r Rhufeiniad sydd yn bennaf gyfrifol am y strwythur hanfodol yma, fel rydw i’n ei ddeall, oherwydd yr adennill a wnaed o’r ardal o’r môr a gosod rhai caeau sy’n cael eu defnyddio hyd heddiw. A bob tro roedd y môr yn gorlifo dros yr ardal wedyn, roedd yna ymdrech i ailwladychu'r ardal, ac rŷm ni wedi clywed sôn am yr unfed ganrif ar ddeg fel yr amser y digwyddodd hynny. I mi, mae yna ddiddordeb mawr yn yr ymdrechion cyfreithiol a chadwraethol i reoli yr ardal yma. Roeddwn i â diddordeb mawr yn llys carthffosydd sir Fynwy, er enghraifft, a oedd yn ymdrech i sicrhau bod y rhwydwaith o ddraeniau a morgloddiau yn cael eu cynnal a’u cadw. Er bod gorlif mawr y cyfeiriodd John ato fo ar ddechrau’r unfed ganrif ar bymtheg, fe barhawyd i adfer yr ardal a’r patrwm cymhleth yma o ddraeniau a ffosydd draenio. Roeddwn i’n gyfarwydd â’r math yma o beth mewn rhai ardaloedd ar fae Ceredigion, megis dyffryn Dysynni, ond does yna ddim byd yn nyffryn Dysynni sydd yn debyg i’r cymhlethdod o ddraeniau a’r hierarchaeth o ffosydd draenio a dyfrffosydd ar gyfeiliorn a’r cyfan rhyfeddol yma sydd yn cael eu cyfosod â’i gilydd.

Felly, fe garwn i grynhoi drwy ddiolch i bawb sydd wedi gofalu am y tirlun yma, ac yn arbennig Partneriaeth Lefelau Byw. Mae’r rhaglen yma’n ailgysylltu pobl â chymunedau a thirwedd lefelau Gwent ac yn helpu i ddarparu dyfodol cynaliadwy i’r ardal. Mi garwn i, yn arbennig, nodi cyfraniad y Gymdeithas Frenhinol er Gwarchod Adar, yr RSPB—mi ddylwn i ddatgan diddordeb fel aelod ers blynyddoedd o’r gymdeithas yma. Dwi’n hoff iawn o’r modd y mae’r gymdeithas yn gweithio mewn partneriaeth—gweithio’n agos efo cymunedau lleol—ac mae’r ganolfan sydd gyda nhw ar y gwastadeddau, ar lefelau Gwent, yn cymharu’n ffafriol iawn, yn fy ngolwg i, i’r ganolfan sydd ar lan yr Afon Conwy. Mae’r gwaith sydd yn cael ei wneud gan y gymdeithas yma yn tynnu sylw at bob math o fywyd gwyllt, ac mae’n rhaid imi gael yr esgus fan hyn i ddefnyddio’r gair Cymraeg am water vole—llygoden bengron y dŵr. Mae hwnna yn un o’r disgrifiadau—mae’r pen crwn ac mae’r clustiau, a dyna’r cyfan mae rhywun yn ei weld o’r anifeiliaid rhyfeddol yma pan maen nhw’n dod allan o dyllau o fewn corsydd ac ar lannau afonydd. Mae’r gwaith sy’n cael ei wneud i warchod y creaduriaid prin yma hefyd yn rhan allweddol o warchod yr amgylchedd.

Wel, fe wnaeth John gyfeirio yn gynnil at rai o’r bygythiadau sydd yn wynebu ardal fel hyn, fel y maen nhw yn wynebu sawl ardal o gadwraeth arall. Mae hi’n amlwg bod yn rhaid inni fod yn ystyriol iawn o’r anghenion amgylcheddol os ydym ni yn ystyried ymyrryd mewn unrhyw ffordd ar y dirwedd nodedig yma. Mi fydd John yn gwbl ymwybodol bod y Prif Weinidog bellach wedi cael yr adroddiad, sydd bron yn 550 o dudalennau, ar brosiect yr M4, ac mi fydd hwn—does dim rhaid imi ddweud o yma ar ran y Prif Weinidog—yn cael ystyriaeth gyfan gwbl drwyadl. Ac mi fydd yr agweddau amgylcheddol yn cael eu pwyso'n llawn, ac yn sicr, mae hwn yn ymrwymiad sydd yn werth ei ailadrodd.

Ond mae’r prosiect tirlun y lefelau byw a’r rhaglen maen nhw’n ei gwneud ar lefelau Gwent yn enghraifft wych o sut mae modd cydweithio er mwyn diogelu treftadaeth nodedig Cymru. Dwi am, yn olaf, ddiolch i John am ei gyfraniad fo’i hun, drwy arwain a datblygu’r polisi ddaeth yn Ddeddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016. Mae hyn wedi rhoi Cymru ar y blaen o ran diogelu treftadaeth yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt, ac mae’n dda gen i, felly, ddiolch i John am ei gyfraniad ac ailadrodd ei alwad o am i ni gyd fynd i chwilio am lygoden bengron y dŵr ar lefelau Gwent. Diolch yn fawr.

17:55

Daeth y cyfarfod i ben am 17:56.